unedau - qualifications.pearson.com

174
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys unedau ar gyfer Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth. Mae’r cymhwyster yma wedi'i gyfieithu i’r Gymraeg i gefnogi addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Beth sydd ar gael i bob uned yn Gymraeg? Yn achos pob uned, fe gewch yr wybodaeth angenrheidiol i addysgu’r cymhwyster BTEC hwn trwy gyfrwng y Gymraeg: cyflwyniad nodau dysgu meini prawf asesu arweiniad i athrawon. Ble galla i gael hyd i weddill y fanyleb? I gael gwybodaeth ac arweiniad ar y cymhwyster cyfan, gan gynnwys: strwythur a rhesymeg y cymhwyster a’r unedau cyflwyno’r rhaglen a recriwtio iddi asesu mewnol ac allanol sicrhau ansawdd graddio ac ardystio bydd angen i chi gyfeirio at y fanyleb Saesneg, sydd ar gael ar y wefan ochr yn ochr â’r ddogfen hon https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec- nationals/travel-and-tourism-2019.html. Gweler hefyd www.btec.co.uk/keydocuments am y rheolau asesu diweddaraf. Pa gefnogaeth sydd ar gael? Os bydd angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â’n timau gwasanaethau addysgu. Cewch hyd i’r holl fanylion cyswllt angenrheidiol yn qualifications.pearson.com/contactus. Unedau

Upload: others

Post on 16-Oct-2021

7 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Unedau - qualifications.pearson.com

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys unedau ar gyfer Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth.

Mae’r cymhwyster yma wedi'i gyfieithu i’r Gymraeg i gefnogi addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth sydd ar gael i bob uned yn Gymraeg? Yn achos pob uned, fe gewch yr wybodaeth angenrheidiol i addysgu’r cymhwyster BTEC hwn trwy gyfrwng y Gymraeg: ● cyflwyniad ● nodau dysgu ● meini prawf asesu

● arweiniad i athrawon.

Ble galla i gael hyd i weddill y fanyleb? I gael gwybodaeth ac arweiniad ar y cymhwyster cyfan, gan gynnwys: ● strwythur a rhesymeg y cymhwyster a’r unedau ● cyflwyno’r rhaglen a recriwtio iddi ● asesu mewnol ac allanol ● sicrhau ansawdd ● graddio ac ardystio bydd angen i chi gyfeirio at y fanyleb Saesneg, sydd ar gael ar y wefan ochr yn ochr â’r ddogfen hon https://qualifications.pearson.com/en/qualifications/btec-nationals/travel-and-tourism-2019.html. Gweler hefyd www.btec.co.uk/keydocuments am y rheolau asesu diweddaraf.

Pa gefnogaeth sydd ar gael? Os bydd angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â’n timau gwasanaethau addysgu. Cewch hyd i’r holl fanylion cyswllt angenrheidiol yn qualifications.pearson.com/contactus.

Unedau

Page 2: Unedau - qualifications.pearson.com
Page 3: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

1

Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Allanol Oriau dysgu dan arweiniad: 90

Crynodeb o’r uned

Mae’r uned hon yn darparu sylfaen i’r dysgwyr astudio unedau teithio a thwristiaeth eraill. Byddant yn archwilio elfennau allweddol a graddfa’r diwydiant, gan ddefnyddio data i ddadansoddi tueddiadau allweddol a’u heffaith.

Cyflwyniad i’r uned

Mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn y Deyrnas Unedig yn tyfu ac yn bwysig iawn i’r economi. Yn yr uned hon, byddwch chi’n datblygu’r sgiliau angenrheidiol i archwilio, dehongli a dadansoddi amrywiaeth o ystadegau sy’n mesur pwysigrwydd twristiaeth i’r Deyrnas Unedig. Mae llawer o ffactorau’n dylanwadu ar y diwydiant, ac mae’r rheiny’n newid yn barhaus. Mae rhai ohonynt o dan reolaeth sefydliadau teithio, tra bod eraill y tu hwnt i’w rheolaeth. Bydd angen i chi wybod sut mae sefydliadau’n ymateb i newidiadau a thueddiadau er mwyn penderfynu ar eu polisïau gweithredu yn awr ac yn y dyfodol.

Byddwch yn dod i ddeall cwmpas y diwydiant, ei derminoleg a’i elfennau allweddol. Mae teithio a thwristiaeth yn fusnes lle mae’r cwsmer yn y lle amlycaf. Mae gan wahanol fathau o sefydliadau rolau gwahanol ac maen nhw’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau i lawer o wahanol fathau o gwsmeriaid. Bydd angen i chi ddeall sut mae’r sefydliadau’n cydweithio er eu budd eu hunain a’u cwsmeriaid, a dylech fedru enwi enghreifftiau o’r prif sefydliadau ym mhob sector.

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu i yrfa yn y diwydiant teithio a thwristiaeth trwy ddatblygu eich gwybodaeth am sut mae dadansoddi data teithio a thwristiaeth a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

Crynodeb o’r asesu

Asesir yr uned hon trwy arholiad ysgrifenedig a gaiff ei osod a’i farcio gan Pearson.

Bydd yr arholiad yn 1.5 awr o hyd.

Nifer y marciau ar gyfer yr arholiad yw 75.

Bydd asesiad ar gael ym mis Ionawr a Mai/Mehefin bob blwyddyn. Y cyfle cyntaf i gael asesiad fydd Mai/Mehefin 2021.

Bydd deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael i helpu canolfannau i baratoi’r dysgwyr ar gyfer yr asesiad.

Page 4: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

2

Deilliannau asesu (DA)

DA1 Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant teithio a thwristiaeth, mathau o dwristiaeth a’r sefydliadau sy’n ymwneud â hynny

Geiriau gorchymyn: cwblhewch, disgrifiwch, rhowch, nodwch, amlinellwch

Marciau: yn amrywio o 2 i 4 marc

DA2 Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant teithio a thwristiaeth a ffactorau sy’n effeithio ar y diwydiant i sefyllfaoedd teithio a thwristiaeth bywyd go iawn

Geiriau gorchymyn: dadansoddwch, aseswch, cyfrifwch, disgrifiwch, trafodwch, gwerthuswch, esboniwch

Marciau: yn amrywio o 4 i 12 marc

DA3 Dadansoddi gwybodaeth a data o’r diwydiant teithio a thwristiaeth, gan nodi tueddiadau ac effaith bosibl gwahanol ffactorau ar y diwydiant a’i gwsmeriaid

Geiriau gorchymyn: dadansoddwch, aseswch, trafodwch, gwerthuswch

Marciau: yn amrywio o 6 i 12 marc

DA4 Gwerthuso sut gall y diwydiant teithio a thwristiaeth ddefnyddio gwybodaeth a data i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar sefydliadau a chwsmeriaid

Geiriau gorchymyn: dadansoddwch, aseswch, trafodwch, gwerthuswch

Marciau: yn amrywio o 6 i 12 marc

DA5 Creu cysylltiadau rhwng y ffactorau sy’n dylanwadu ar y diwydiant teithio a thwristiaeth a sut mae’r diwydiant yn ymateb er mwyn lleiafu’r effaith bosibl ar sefydliadau a chwsmeriaid

Geiriau gorchymyn: dadansoddwch, aseswch, trafodwch, gwerthuswch

Marciau: yn amrywio o 6 i 12 marc

Page 5: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

3

Cynnwys hanfodol

Cyflwynir y cynnwys hanfodol yn ôl meysydd cynnwys. Rhaid i’r dysgwyr roi sylw i’r holl gynnwys penodedig cyn yr asesiad.

A Mathau o deithio a thwristiaeth

Mae llawer o wahanol fathau o dwristiaeth a llawer o ddibenion ar gyfer teithio. Bydd y rhain yn amrywio yn ôl math o gwsmer a’i anghenion.

A1 Mathau o dwristiaeth

Twristiaeth – taith oddi cartref am un noson neu fwy:

• domestig – mynd ar wyliau neu daith yn y wlad lle rydych chi’n byw • i mewn – ymwelwyr o wledydd eraill yn dod i mewn i’r wlad • allan – twristiaid yn gadael y wlad lle maen nhw’n byw i deithio i wlad arall.

A2 Mathau o deithio • Teithio hamdden – teithio er pleser, mwynhad, i ymlacio neu ar gyfer diddordebau

arbennig: o egwyl fer – egwyl mewn dinas, egwyl yng nghefn gwlad, partïon dynion/benywod

cyn priodi o gwyliau – pecyn, annibynnol, mordeithiau o digwyddiadau arbennig – achlysuron chwaraeon pwysig, digwyddiadau tymhorol.

• Teithio corfforaethol – cysylltiedig â gwaith neu swydd, ond yn digwydd mewn man heblaw’r gweithle arferol. Gall gynnwys aros dros nos neu beidio. o Cyfarfodydd, cynadleddau, arddangosfeydd. o Hyfforddiant – i’ch hunan neu i eraill. o Contractau gwaith tymor byr – mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig neu

dramor. o Teithio cymhelliad – y diffiniad o hyn yw taith a gynigir yn wobr am berfformiad da

yn y gwaith. • Teithio arbenigol – mae hyn fel arfer yn gysylltiedig â diben y teithio – hobi, chwaraeon,

diddordeb, neu ddiwallu anghenion penodol y math o gwsmer: o antur o iechyd o addysg o treftadaeth, diwylliant o blwyddyn fwlch o cadwraeth, twristiaeth gynaliadwy, teithio cyfrifol o diddordebau arbennig/hobïau/chwaraeon o priodasau/gwyliau mis mêl.

• Ymweld â Ffrindiau a Pherthnasau (VFR): o gall fod yn daith ddomestig, i mewn neu allan o mae’n cynnwys aros dros nos, fel arfer yng nghartref ffrind neu berthynas o bydd yn cynnwys teithio o ardal neu ranbarth y cartref o gall olygu teithio i wlad arall o gallai fod at ddiben hamdden neu fusnes.

• Teithiau diwrnod – ymweliadau nad ydynt yn golygu aros dros nos: o atyniadau ymwelwyr o dinasoedd ar gyfer digwyddiadau neu siopa arbenigol o cefn gwlad ar gyfer ymlacio neu weithgareddau.

Page 6: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

4

A3 Mathau o gwsmer teithio a thwristiaeth • Unigolion a chyplau, teuluoedd amrywiol o ran oed a strwythur. • Grwpiau, addysgiadol, pensiynwyr, diddordeb arbennig. • Teithwyr corfforaethol. • Cwsmeriaid â gofynion penodol – ieithoedd neu ddiwylliannau gwahanol,

anghenion penodol – gweld, clywed neu symudedd.

B Y mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth, eu rolau a’r cynnyrch a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i gwsmeriaid

B1 Nodau perchnogaeth a gweithredu

Mae gan bob math o sefydliad wahanol nodau y mae angen iddo’u cyflawni. • Preifat:

o nodweddion – ym mherchnogaeth unigolyn/unigolion preifat neu gwmni, gallai fod yn gwmni cyfyngedig cyhoeddus (CCC) ar y farchnad stoc, yn gwmni mawr amlwladol, neu’n fenter bach a chanolig (BaCh), a bydd yr aelodau staff yn weithwyr cyflogedig

o nodau – ariannol fel arfer, sef gwneud elw, cynyddu cyfran o’r farchnad, cynyddu trosiant, gwella neu gynnal delwedd, cynyddu ac amrywio’r ystod o gynnyrch/wasanaethau a gynigir i gwsmeriaid

o sefydliadau – trefnwyr teithiau, asiantaethau teithio, y rhan fwyaf o sefydliadau a hybiau teithio, y rhan fwyaf o atyniadau mawr i ymwelwyr, y rhan fwyaf o ddarparwyr llety.

• Cyhoeddus: o nodweddion – ym mherchnogaeth y llywodraeth neu’n cael ei ariannu ganddi –

lleol neu genedlaethol, gydag aelodau staff sy’n weithwyr cyflogedig, ond gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr hefyd o bosib

o nodau – darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, defnyddio cyllid yn briodol, cynnal gwasanaeth o’r ansawdd gorau, adennill costau ariannol, sicrhau bod lefelau gwasanaeth yn cael eu cynnal er mwyn ailfuddsoddi elw i wella gwasanaethau

o sefydliadau – canolfannau croeso, byrddau croeso, rhai atyniadau llai i ymwelwyr, rhai sefydliadau trafnidiaeth lleol, y rhan fwyaf o gyrff rheoliadol, cyrff llywodraethol.

• Sector gwirfoddol: o nodweddion – ariannir gan grantiau, rhodd-daliadau, cymynroddion, ffïoedd

mynediad, gydag aelodau staff sy’n wirfoddolwyr, er bydd gan sefydliadau mwy hefyd weithwyr cyflogedig neu denantiaid, mae gan y mwyafrif statws elusennol

o nodau – diogelu neu warchod yr amgylchedd, adeiladau, nodweddion tirwedd; ymgyrchu neu lobïo yn erbyn datblygiadau amhriodol; cadwraeth; cynaliadwyedd

o sefydliadau – rhai atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys rhai naturiol; rhai trafnidiaeth; elusennau.

B2 Prif sectorau’r diwydiant teithio a thwristiaeth – elfennau eu rôl, a’r cynnyrch a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i wahanol fathau o gwsmeriaid

Bydd pob prif sector yn cynnwys ystod o sefydliadau, o gwmnïau bach, lleol i fusnesau mawr, amlwladol, a bydd angen darparu enghreifftiau o sefydliadau ar gyfer pob sector. Gall y cynnyrch a’r gwasanaethau fod yn ddiriaethol neu’n anniriaethol. • Prif ymarferwyr ym maes trafnidiaeth (transport principals):

o elfennau: – awyr – ar amserlen, siartredig, cost isel neu elfennol – môr – fferi, mordeithiau – ffordd – bws, coets, car hurio, car preifat, tacsi – rheilffordd – lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyflymdra uchel

o rôl – darparu trafnidiaeth rhwng cyrchfannau, sicrhau diogelwch o cynnyrch a gwasanaethau – trafnidiaeth ar gyfer teithwyr a bagiau, arlwyo, adloniant,

gwybodaeth, siopa.

Page 7: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

5

• Hybiau a phyrth trafnidiaeth: o elfennau:

– meysydd awyr – gorsafoedd rheilffordd a choetsys – porthladdoedd fferi a mordeithiau

o rôl – darparu mynediad at gludiant i deithwyr, sicrhau diogelwch o cynnyrch a gwasanaethau – desgiau cofrestru, gwybodaeth, arlwyo,

siopa, cyfleusterau lolfa. • Trefnwyr teithiau:

o elfennau: – marchnad dorfol, gwyliau pecyn – diddordeb arbennig, marchnad arbenigol, moethus – wedi’u teilwra, pecynnau deinamig

o rôl – rhoi gwyliau pecyn sy’n cynnwys dau gynnyrch neu wasanaeth neu fwy at ei gilydd a’u cynnig am bris cynhwysol. Yna gellir gwerthu’r pecynnau’n uniongyrchol neu trwy asiantaethau teithio

o cynnyrch a gwasanaethau – gwyliau pecyn, llety, trosglwyddiadau, alldeithiau, gwybodaeth am gyrchfannau, gwasanaeth cynrychiolydd mewn canolfannau gwyliau.

• Asiantaethau teithio: o elfennau:

– manwerthu neu stryd fawr, canghennau lluosog, nifer fach o ganghennau, annibynnol, masnachfraint, arbenigol

– ar-lein neu ar y we – canolfannau galwadau – busnes, cynhadledd a chymhelliad

o rôl – darparu cyngor ac arweiniad arbenigol; trefnu ac archebu gwyliau pecyn a thrafnidiaeth neu elfennau unigol ac eitemau ategol

o cynnyrch a gwasanaethau – gwybodaeth am gyrchfannau a thrafnidiaeth; llyfrynnau gwyliau; pob math o wyliau pecyn; elfennau sy’n cael eu harchebu’n unigol – pecynnau wedi’u teilwra; llety; hedfan yn unig; llongau fferi; mordeithiau; teithiau coets; trosglwyddiadau, yn y Deyrnas Unedig a thramor; gwibdeithiau; yswiriant gwyliau; cyfnewid arian tramor; pasbortau, fisâu a chyngor iechyd i deithwyr.

• Atyniadau ymwelwyr: o elfennau:

– ardaloedd naturiol – parciau cenedlaethol – nodweddion naturiol – traethau, ogofâu, clogwyni, mynyddoedd, bryniau, rhaeadrau,

ynysoedd, coedwigoedd – wedi’u hadeiladu at y diben neu wedi’u creu gan bobl – parciau thema, amgueddfeydd,

orielau celf – hanesyddol neu dreftadaeth – cestyll, waliau, adfeilion, tyrau, cofebau, safleoedd crefyddol,

tai, palasau – chwaraeon – gwylio, cyfranogi, teithiau stadiwm – digwyddiadau arbennig – marchnadoedd, gwyliau, gorymdeithiau, arddangosfeydd

o rôl – darparu adloniant, addysg, hamdden, lletygarwch, digwyddiadau arbennig, a chyfleusterau i ymwelwyr – parcio

o cynnyrch a gwasanaethau – reidiau, profiadau, dehongli, llawlyfrau, hysbysfyrddau, elfennau arddangos, teithiau tywys, sgyrsiau addysgiadol, lletygarwch, siopau anrhegion a chofroddion, arlwyo.

Page 8: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

6

• Llety: o elfennau – llety gydag arlwyo

– gwestai (gradd seren, sba, canolfannau golff) – gwely a brecwast, tai lletya, chalets (mewn canolfannau sgïo) – hosteli ieuenctid

o elfennau – llety hunanarlwyo neu heb arlwyo – bythynnod, rhandai, cychod, cabanau pren, chalets – motelau, gwestai rhandai (aparthotels) – carafanau, statig neu symudol – cartrefi modur – pebyll, gan gynnwys gwersylla moethus, yurtiau, tepees

o rôl – darparu gwahanol opsiynau llety yn ôl y math o gwsmer, anghenion a chyllideb o cynnyrch a gwasanaethau:

– gydag arlwyo – ystafell, derbynfa, bwyty a bar, cadw tŷ, cyfleusterau hamdden, campfa neu glwb iechyd, cyfleusterau cynadledda a busnes, adloniant

– hunanarlwyo – ystafelloedd, cegin, llain pabell neu garafan, adloniant, cyfleusterau chwaraeon, amwynderau fel golchdy a chawodydd.

• Cymdeithasau masnach, adrannau’r llywodraeth a chyrff rheoleiddio: o elfennau:

– ABTA, Y Gymdeithas Deithio – Cymdeithas y Cynrychiolwyr Swyddfeydd Twristiaeth Cenedlaethol (ANTOR) – Cymdeithas y Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) – Yr Awdurdod Hedfanaeth Sifil (CAA) sy’n cyflwyno Trwyddedau Trefnwyr

Teithiau Awyr (ATOL) – Cymdeithas Ryngwladol Trafnidiaeth Awyr (IATA) – Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) – Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO)

o rolau – darparu gwybodaeth a chefnogaeth i sefydliadau; diffinio, cymhwyso a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau a’r rheoliadau sy’n sicrhau gweithredu diogel; amddiffyn cwsmeriaid yn ariannol; sicrhau safonau uchel; lobïo’r llywodraeth ar ran cwsmeriaid a sefydliadau; dychwelyd teithwyr i’w gwledydd eu hunain

o cynnyrch a gwasanaethau – logos, siarteri, cytundebau, bondiau, trefniadau dychwelyd teithwyr i’w gwledydd, gwasanaeth cyflafareddu, cynlluniau iawndal.

• Darparwyr gwasanaeth gwybodaeth a hyrwyddo (dylid defnyddio’r enwau cyfredol ar adeg yr addysgu): o elfennau:

– Sefydliad Twristiaeth Fyd-eang y Cenhedloedd Unedig (UNWTO) – VisitBritain, VisitEngland, Tourism NI (Gogledd Iwerddon), VisitScotland, CroesoCymru – sefydliadau rheoli cyrchfannau (DMO) – rhanbarthol – canolfan croeso leol

o rôl – darparu gwybodaeth i sefydliadau a chwsmeriaid neu ddarpar gwsmeriaid; marchnata a hyrwyddo cyrchfannau a sefydliadau; gwerthu cynnyrch, nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r lleoliad; ymchwilio a chynhyrchu ystadegau

o cynnyrch a gwasanaethau – llyfrynnau, taflenni, gwefannau, rhestrau postio, nwyddau.

Page 9: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

7

B3 Rhyngberthynas a rhyngddibyniaeth yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

Mae perthynas rhwng sefydliadau mewn gwahanol sectorau, ac mae rhai sefydliadau mwy wedi integreiddio naill ai’n llorweddol a/neu’n fertigol. Mae manteision ac anfanteision posibl i hyn o safbwynt y sefydliadau a’u cwsmeriaid.

• Sianeli dosbarthu – yn uniongyrchol at y cwsmer, trwy gwmni cyfryngol. • Rhyngberthynas – y diffiniad yw ‘sefydliadau sy’n cydweithio er budd y ddau ohonynt’. • Rhyngddibyniaeth – y diffiniad yw ‘sefydliadau sy’n dibynnu ar ei gilydd i fedru darparu

gwell cynnyrch neu wasanaeth i’r cwsmer’. • Manteision posibl rhyngberthynas a rhyngddibyniaeth – rhannu costau a darbodion maint,

cynyddu gwerthiant, gwella delwedd, enw da, gofal cwsmeriaid, mwy o gwsmeriaid, mwy o incwm.

• Anfanteision posibl rhyngberthynas a rhyngddibyniaeth – colli delwedd unigol, llai o wasanaeth cwsmeriaid personol, rhannu’r comisiwn ar werthiant, gallai gwasanaeth gwael gan y naill sefydliad effeithio ar y llall.

• Integreiddio llorweddol – pan fydd sefydliad yn prynu sefydliad arall o’r un math, neu’n cyfuno ag ef er mwyn gallu cynnig amrywiaeth ehangach o gynnyrch a gwasanaethau.

• Integreiddio fertigol – pan fydd sefydliad yn prynu sefydliad arall o fath gwahanol neu’n cyfuno ag ef er mwyn gallu rheoli mwy o sectorau yn y farchnad.

B4 Technoleg ym maes teithio a thwristiaeth

Mae technoleg, gan gynnwys technoleg symudol a digidol, yn cael ei defnyddio gan wahanol sefydliadau yn y diwydiant, ac mae ei defnyddio yn creu manteision ac anfanteision posibl i fusnesau a’u cwsmeriaid. • Technoleg ar gyfer cyfathrebu, archebu a hyrwyddo:

o e-lyfrynnau a gwefannau o adolygiadau, blogiau, teithiau rhithwir, fideos o ymgyrchoedd postio, ffenestri naid, hysbysebion o creu archebion a’u cadarnhau o e-bostio tocynnau a thalebau o apiau ar gyfer dyfeisiau symudol a digidol.

• Technoleg benodol ar gyfer gwahanol sefydliadau: o atyniadau ymwelwyr – cyflwyniadau amlgyfrwng, animatroneg, dehongli,

tocynnau llwybr cyflym, gwe-gamerâu o hybiau a phyrth trafnidiaeth – cofrestru hunanwasanaeth, sganwyr corff a bagiau o llety, ar gyfer cofrestru, ar gyfer adloniant yn yr ystafell, ar gyfer gwybodaeth o asiantaethau teithio, prif ymarferwyr ym maes trafnidiaeth a threfnwyr teithiau –

ar gyfer e-docynnau, tocynnau ffôn (mtickets), systemau talu, arddangos argaeledd, dewis seddau.

Page 10: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

8

C Graddfa’r diwydiant teithio a thwristiaeth

Teithio a thwristiaeth yw un o’r diwydiannau mwyaf yn sector gwasanaeth y Deyrnas Unedig. Mae modd mesur graddfa’r diwydiant yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o safbwynt cyflogaeth, nifer ymwelwyr, incwm a gwariant, a dadansoddi tueddiadau, gan gynnwys sut mae’r rhain yn newid dros amser a’r rhesymau am y newidiadau.

C1 Pwysigrwydd y Deyrnas Unedig fel cyrchfan byd-eang • Nifer y twristiaid:

o safle yn y byd o twristiaid sy’n cyrraedd o prif ardaloedd sy’n eu cynhyrchu.

• Pwysigrwydd economaidd: o gwerth twristiaeth i mewn, derbyniadau twristiaeth a chyflogaeth o cyfraniad twristiaeth at gydbwyso taliadau’r Deyrnas Unedig a’r cynnyrch

mewnwladol crynswth (GDP) o rôl y Deyrnas Unedig ym maes twristiaeth ryngwladol.

C2 Cyflogaeth ym maes teithio a thwristiaeth

Mae modd mesur graddfa’r diwydiant teithio a thwristiaeth hefyd trwy ddefnyddio ystadegau ynghylch cyflogaeth a thueddiadau. Mae cyflogaeth yn cynnwys nifer y staff a pha fathau o staff a gyflogir yn uniongyrchol yn y diwydiant ar bob lefel, gan gynnwys swyddogaethau cynnal busnes. Bydd hefyd yn cynnwys cyflogaeth anuniongyrchol mewn diwydiannau y mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn dibynnu arnynt am gefnogaeth. Bydd angen rhoi enghreifftiau o rolau swyddi yn achos pob un.

• Cyflogaeth uniongyrchol ym maes teithio a thwristiaeth: o prif ymarferwyr ym maes trafnidiaeth o hybiau a phyrth trafnidiaeth o trefnwyr teithiau o asiantaethau teithio o atyniadau ymwelwyr o llety o cymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio o gwasanaethau gwybodaeth a hyrwyddo.

• Cyflogaeth anuniongyrchol mewn sefydliadau sy’n cefnogi teithio a thwristiaeth: o cwmnïau yswiriant o ymchwilwyr a gweithwyr cynnal llyfrynnau a chynnwys gwefannau o cyflenwyr manwerthu, arlwyo a lletygarwch o siopau a gweithgynhyrchwyr cofroddion o newyddiaduraeth teithio.

• Rolau: o delio’n uniongyrchol â’r cwsmer, gan gynnwys rolau dros y ffôn ac ar y we o cefnogaeth neu weinyddiaeth o rhaglenni i raddedigion neu hyfforddeion o rheolwyr a goruchwylwyr.

Page 11: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

9

C3 Niferoedd ymwelwyr

Mae modd mesur graddfa’r diwydiant trwy edrych ar nifer yr ymwelwyr, ac mae modd rhannu’r rhain yn ôl y mathau o dwristiaeth. Mae ystadegau sy’n dangos tueddiadau o ran y math o dwristiaeth yn ffordd dda o ddadansoddi twf a dirywiad.

• Nifer yr ymwelwyr yn ôl y math o dwristiaeth: o i mewn o allan o domestig o busnes o ymweld â theulu a pherthnasau (VFR) o teithiau diwrnod.

• Nifer yr ymwelwyr yn ôl ffactorau eraill: o math o drafnidiaeth o gwlad wreiddiol neu gyrchfan o math o lety o rhanbarth neu ddinas y buont yn ymweld â nhw o yn ôl y math o weithgareddau a wnaed.

• Tueddiadau: o ardaloedd gwreiddiol a chyrchfannau twf o newid diben ymweliad o math o drafnidiaeth a ddefnyddiwyd o hyd yr arhosiad o cynnydd a dirywiad ym mhoblogrwydd cyrchfannau, mathau o dwristiaeth.

C4 Incwm a gwariant

Gall incwm gyfeirio at sefydliadau unigol ac at incwm gwlad. • Incwm a throsiant:

o cyfraniad i’r cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) – y diffiniad o hyn yw gwerth economi gwlad

o gollyngiadau – y diffiniad o hyn yw incwm twristiaeth sy’n dod i mewn i wlad ond nad yw’n cael ei gadw gan y wlad honno

o effaith lluosydd – y diffiniad o hyn yw gwariant uniongyrchol gan dwristiaeth, sy’n cylchredeg drwy’r economi’n anuniongyrchol ar gynnyrch a gwasanaethau

o ffiniau elw a lefelau comisiwn.

Mae ystadegau ar lefel gwariant a’r hyn mae twristiaid yn gwario’u harian arno hefyd yn ddangosydd da ar gyfer gwerth twristiaeth i’r economi.

• Gwariant ar y canlynol: o llety yn ôl math o bwyd, diod, cofroddion yn ôl math o trafnidiaeth – yn lleol ac wrth gyrraedd o adloniant o ffïoedd mynediad i atyniadau.

Page 12: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

10

D Ffactorau sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Mae llawer o ffactorau sy’n effeithio ar dwf a gweithrediad sefydliadau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, fel y manylir isod. Bydd angen rhoi enghreifftiau o ddatblygu cynnyrch priodol.

D1 Datblygu cynnyrch ac arloesi

Y ffactorau hyn sydd wedi bod yn gyfrifol am dwf cyflym y diwydiant teithio a thwristiaeth o 1950 hyd heddiw, ac maen nhw’n arwyddocaol ar gyfer ei weithrediad yn awr ac yn y dyfodol.

• Datblygiad ac arloesedd: o trafnidiaeth sy’n gyflymach ac yn fwy; twf meysydd awyr; cyrchfannau mwy hygyrch;

cyfleusterau gwell ar drafnidiaeth ac mewn terfynfeydd, hybiau a phyrth o mwy o ddewis o lety a mwy o amrywiaeth o atyniadau o systemau archebu, cyfrifiaduron, ar-lein, symudol, twf canolfannau galwadau,

datblygiadau o ran System Archebu Gyfrifiadurol (CRS) a System Ddosbarthu Fyd-eang (GDS) i asiantaethau a chwmnïau, gwefannau cymharu

o technoleg, gan gynnwys hacwyr posibl a methiannau yn y system, a chynnal diogelwch data.

• Ffactorau yn y cyfryngau: o mwy o sylw ar y teledu, lleoliadau ffilm, hysbysebion o defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol gan sefydliadau a chwsmeriaid o dylanwad y cyfryngau cymdeithasol o ran ymchwil ac adolygiadau a barn cwsmeriaid o sylw i ddigwyddiadau yn y cyfryngau o pwysigrwydd rheoli – hanesion da a drwg, digwyddiadau, delwedd.

D2 Ffactorau eraill sy’n effeithio ar sefydliadau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

Mae dau fath o ffactor sy’n effeithio ar sefydliadau teithio a thwristiaeth. Un math o ffactor yw’r un allanol, sef ffactor y tu allan i reolaeth y sefydliad. Mae’r math arall o ffactor yn fewnol, sef ffactor sydd o dan reolaeth y sefydliad.

• Ffactorau economaidd: o dirwasgiad neu dwf o cyfraddau cyfnewid arian a’r amrywiadau ynddynt o yr incwm gwario sydd ar gael o ganlyniad i newidiadau i gyfraddau morgeisi,

chwyddiant a lefelau diweithdra o prisiau olew’r byd.

• Ffactorau cymdeithasol a ffordd o fyw: o strwythur newidiol y teulu, teuluoedd un rhiant o cynnydd yn y farchnad ‘lwyd’ – cyfradd uwch o bobl sydd wedi ymddeol o patrymau gwaith newidiol o ffasiynau a thueddiadau cyfredol o lwfans gwyliau a faint o wyliau gyda thâl sydd ar gael.

• Deddfwriaeth y llywodraeth yn y Deyrnas Unedig ac mewn cyrchfannau, mewn perthynas â’r canlynol: o iechyd a diogelwch o treth maes awyr/APD (treth teithwyr awyr) o gofynion pasbort a fisa o gofynion diogelu data.

• Diogelwch a diogeledd: o ymosodiadau brawychwyr o rhyfel, aflonyddwch sifil o mesurau diogelu – ar drafnidiaeth, mewn terfynfeydd, mewn cyrchfannau,

mewn digwyddiadau o trychinebau trafnidiaeth a damweiniau a phryderon diogelwch o iechyd – ymateb i achosion o glefydau ac amlygrwydd clefydau o e-ddiogelwch.

Page 13: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

11

• Amgylcheddol a hinsoddol: o y newid yn yr hinsawdd o pwysigrwydd cynaliadwyedd o digwyddiadau tywydd eithafol – llifogydd, tirlithriadau, corwyntoedd, seiclonau o trychinebau naturiol – llosgfynyddoedd yn echdorri, daeargrynfeydd, tswnami.

D3 Ymatebion sefydliadau teithio a thwristiaeth i ffactorau allanol a mewnol • Prisio cystadleuol. • Mwy o amrywiaeth a chynnyrch a gwasanaethau newydd i gyfateb i farchnadoedd newidiol

a rhai sy’n dod i’r amlwg. • Aelodaeth o sefydliadau masnach ar gyfer amddiffyniad ariannol a dychwelyd teithwyr

i’w gwledydd. • Taliadau ychwanegol am danwydd ar wyliau ac wrth hedfan. • Mwy o fesurau diogeledd er mwyn cadw data’n ddiogel ac atal hacio a methiant systemau. • Arallgyfeirio cynnyrch neu ddatblygu mewn modd arbenigol. • Mwy o ymchwil – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. • Diweddaru’r dechnoleg a’r hyfforddiant staff ynghylch deddfwriaeth, cydymffurfiaeth a

systemau newydd. • Rheoli cysylltiadau cyhoeddus. • Buddsoddi neu uwchraddio cyfleusterau, neu gyflwyno cyfleusterau newydd. • Oriau agor amrywiol a threfniadau staffio hyblyg. • Rheoli argyfyngau a chynllun ar gyfer digwyddiadau pwysig.

Page 14: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

12

Disgrifwyr graddau

I gyflawni gradd, mae disgwyl i’r dysgwyr arddangos y priodoleddau hyn ar draws cynnwys hanfodol yr uned. Bydd egwyddor cydweddiad gorau yn weithredol wrth ddyfarnu graddau.

Llwyddo ar Lefel 3

Bydd y dysgwyr yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o rychwant y diwydiant teithio a thwristiaeth, ei derminoleg a’i brif elfennau, y mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth, eu rolau a’r cynnyrch a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i gwsmeriaid. Gall y dysgwyr werthfawrogi’r heriau mae unigolion a sefydliadau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth yn eu hwynebu a sut mae tueddiadau wedi dylanwadu ar y rhain.

Bydd y dysgwyr yn gallu defnyddio data i ddangos dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y diwydiant. Bydd ganddynt ddealltwriaeth gadarn o raddfa’r diwydiant a’r ffactorau niferus sy’n effeithio ar dwf a gweithrediad sefydliadau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Rhagoriaeth ar Lefel 3

Bydd y dysgwyr yn cymhwyso egwyddorion ac yn gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth er mwyn penderfynu ar ffyrdd priodol o weithredu a’u dadansoddi. Gallant gymhwyso cysyniadau a modelau perthnasol er mwyn cyflwyno gwerthusiadau rhesymedig mewn sefyllfaoedd realistig. Mae’r dysgwyr yn gwneud dyfarniadau priodol ac yn cyflwyno argymhellion a gyfiawnhawyd yn llawn ar gyfer ffyrdd o weithredu, ar sail dadansoddi data a gwybodaeth i gyfiawnhau tueddiadau. Maen nhw’n gallu defnyddio data i gefnogi casgliadau a gyfiawnhawyd, a gwerthuso effaith bosibl y ffactorau niferus sy’n effeithio ar dwf a gweithrediad sefydliadau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Page 15: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

13

Geiriau allweddol a ddefnyddir yn nodweddiadol wrth asesu

Yn y tabl sy’n dilyn gwelir y geiriau allweddol a ddefnyddir yn gyson gan Pearson wrth asesu er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu gwobrwyo am arddangos y sgiliau angenrheidiol.

Sylwer: ni ddefnyddir y rhestr isod o reidrwydd ym mhob papur/sesiwn, a chanllaw yn unig ydyw.

Gorchymyn neu derm Diffiniad

Dadansoddi Mae’r dysgwyr yn cyflwyno canlyniad gwaith archwilio manwl a thrylwyr, naill ai trwy ddadansoddi: • thema, pwnc neu sefyllfa er mwyn dehongli ac astudio’r

berthynas rhwng y rhannau a/neu • gwybodaeth neu ddata i ddehongli ac astudio’r prif

dueddiadau a rhyngberthnasoedd.

Asesu Mae’r dysgwyr yn cyflwyno asesiad gofalus o amrywiol ffactorau neu ddigwyddiadau sy’n berthnasol i sefyllfa benodol, neu’n nodi’r rhai pwysicaf neu fwyaf perthnasol ac yn dod i gasgliad.

Cyfrifo Mae’r dysgwyr yn canfod ateb, fel arfer trwy adio, lluosi, tynnu neu rannu. Weithiau bydd gofyn defnyddio fformiwla.

Cwblhau Mae’r dysgwyr yn mewnbynnu’r wybodaeth neu’r data sy’n ofynnol i dabl neu ddiagram.

Disgrifio Mae gwaith y dysgwyr yn cyfleu’r ffeithiau’n glir a gwrthrychol yn eu geiriau eu hunain, gan ddangos eu bod wedi galw i gof y nodweddion a’r wybodaeth sy’n berthnasol ynghylch pwnc, ac mewn rhai achosion wedi eu cymhwyso.

Trafod Mae’r dysgwyr yn ystyried gwahanol agweddau ar: • thema neu bwnc; • y berthynas rhyngddynt; ac • i ba raddau maen nhw’n bwysig.

Nid yw’n ofynnol dod i gasgliad.

Gwerthuso Mae gwaith y dysgwyr yn defnyddio gwybodaeth, themâu neu gysyniadau amrywiol i ystyried agweddau megis: • cryfderau neu wendidau • manteision neu anfanteision • camau gweithredu amgen • perthnasedd neu arwyddocâd.

Dylai ymholiadau’r dysgwyr arwain at ddyfarniad a gefnogir sy’n dangos perthynas â’r cyd-destun. Bydd hyn yn aml ar ffurf casgliad.

Esbonio Mae gwaith y dysgwyr yn dangos manylion clir ac yn rhoi rhesymau a/neu dystiolaeth i gefnogi barn, safbwynt neu ddadl, neu i egluro sut deuir i gasgliadau. Mae’r dysgwyr yn dangos eu bod yn deall tarddiad, swyddogaethau ac amcanion testun, a’i addasrwydd at y diben.

Page 16: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 1: BYD TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

14

Gorchymyn neu derm Diffiniad

Rhoi Mae’r dysgwyr yn darparu enghreifftiau.

Nodi Mae’r dysgwyr yn nodi prif nodweddion neu ddiben rhywbeth trwy ei adnabod a/neu fedru canfod a deall ffeithiau neu briodweddau.

Amlinellu Mae gwaith y dysgwyr yn darparu crynodeb, trosolwg neu ddisgrifiad byr o rywbeth.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae hon yn uned ragarweiniol, ac yn cysylltu â’r holl unedau eraill yn y cymhwyster.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff teithio a thwristiaeth lleol.

Page 17: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

15

Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd

Lefel: 3

Math o uned: Allanol Oriau dysgu dan arweiniad: 120

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i wybodaeth ac yn ei dadansoddi ynghylch nodweddion ac atyniad cyrchfannau ar draws y byd, cynllunio teithio, a’r ffactorau a’r tueddiadau sy’n effeithio ar boblogrwydd newidiol cyrchfannau ar draws y byd.

Cyflwyniad i’r uned

Mae cyrchfannau ar draws y byd yn agwedd allweddol ar deithio a thwristiaeth, a dylanwadir yn fawr ar eu hatyniad gan ffactorau megis eu lleoliad, mynediad iddynt a thueddiadau newidiol.

Yn yr uned hon, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau i ymchwilio i leoliad a nodweddion cyrchfannau ar draws y byd ac esbonio’r nodweddion sy’n gwneud cyrchfannau mewn gwahanol rannau o’r byd yn ddeniadol ac yn cefnogi gwahanol fathau o dwristiaeth. Byddwch chi’n gwerthuso sut mae cynlluniau/llwybrau/amserlenni teithio yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Byddwch yn ymchwilio i dueddiadau defnyddwyr a’r rhesymau pam gall poblogrwydd cyrchfannau ar draws y byd newid.

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch trwy ddatblygu eich gwybodaeth am sut mae gwneud gwaith ymchwil a seilio penderfyniadau ar wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant teithio a thwristiaeth wrth i chi gymhwyso gwybodaeth ddaearyddol a gwerthuso data teithio a thwristiaeth er mwyn cyflawni brîff a roddwyd.

Crynodeb o’r asesu

Asesir yr uned hon o dan amodau goruchwyliaeth. Rhoddir gwybodaeth i’r dysgwyr bythefnos cyn y cyfnod asesu dan oruchwyliaeth er mwyn cyflawni gwaith ymchwil.

Bydd y cyfnod asesu dan oruchwyliaeth yn uchafswm o dair awr mewn sesiwn unigol, yn ôl amserlen Pearson. Yn ystod y sesiwn asesu dan oruchwyliaeth, rhoddir tasg osod i’r dysgwyr a fydd yn asesu eu gallu i esbonio nodweddion cyrchfannau ac argymell eu haddasrwydd i ddiwallu gwahanol anghenion cwsmer. Bydd y dysgwyr yn cael eu hasesu hefyd ar eu gallu i asesu cynlluniau teithio a chyfiawnhau sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmer. Bydd y dasg yn asesu gallu dysgwyr i werthuso atyniad a phoblogrwydd cyrchfannau.

Pearson fydd yn gosod ac yn marcio’r dasg.

Nifer y marciau ar gyfer yr uned yw 60.

Bydd asesiad ar gael ym mis Ionawr a Mai/Mehefin bob blwyddyn. Y cyfle cyntaf i gael asesiad fydd Mai/Mehefin 2021.

Bydd deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael i helpu canolfannau i baratoi’r dysgwyr ar gyfer yr asesiad.

Page 18: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

16

Deilliannau asesu (DA)

DA1 Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o leoliad, nodweddion ac atyniad cyrchfannau ar draws y byd

DA2 Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o’r nodweddion sy’n cyfrannu at atyniad cyrchfannau ar draws y byd a’r mathau o dwristiaeth a gweithgareddau maen nhw’n eu cefnogi

DA3 Gwerthuso gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch addasrwydd cynlluniau, llwybrau ac amserlenni teithio, er mwyn ymateb i anghenion cwsmeriaid penodol

DA4 Gallu gwerthuso ffactorau a thueddiadau defnyddwyr sy’n dylanwadu ar boblogrwydd ac atyniad cyrchfannau ar draws y byd, gan gyfuno syniadau a thystiolaeth i gefnogi argymhellion

Page 19: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

17

Cynnwys hanfodol

Cyflwynir y cynnwys hanfodol yn ôl meysydd cynnwys. Rhaid i’r dysgwyr roi sylw i’r holl gynnwys penodedig cyn yr asesiad.

A Ymwybyddiaeth ddaearyddol, lleoliadau a nodweddion sy’n gwneud cyrchfannau ar draws y byd yn atyniadol

Defnyddir termau a nodweddion penodol i ddisgrifio lleoliad cyrchfannau ar raddfa fyd-eang.

A1 Ymwybyddiaeth ddaearyddol • Graddfa ddaearyddol: hemisfferau, cyfandiroedd, gwledydd, rhanbarthau. • Lleoliad mewn perthynas â: o safle – arfordirol, mewndirol, ynysoedd, cefnforoedd, moroedd o prif afonydd, llynnoedd, aberoedd, cadwyni o fynyddoedd, coedwigoedd o uchder, uchder uwchben lefel y môr o lledred, y cyhydedd, y pegynnau, Trofan Cancr, Trofan Capricorn.

A2 Nodweddion ac atyniad cyrchfannau

Mae atyniad cyrchfannau ar draws y byd yn aml yn dibynnu ar y nodweddion sydd i’w canfod yno. • Atyniadau naturiol: hinsawdd, tirwedd a thopograffi, rhaeadrau, fflora a ffawna; ffenomena

naturiol – Goleuni’r Gogledd, llosgfynyddoedd, geiserau. • Tywydd: dehongli dyddodiad, siartiau tymheredd, oriau o heulwen, amrywiadau tymhorol. • Atyniadau adeiledig: treftadaeth ddiwylliannol, safleoedd hanesyddol, safleoedd crefyddol,

amgueddfeydd, parciau thema. • Cyfleusterau ac amwynderau i dwristiaid, eu hargaeledd a’u safonau: o cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu o mathau o lety – gyda gwasanaeth, hunanarlwyo o digwyddiadau, adloniant o diwylliant lleol, gan gynnwys bwyd a diod o cyfleusterau sy’n cael eu darparu ar gyfer gweithgareddau, ar gyfer busnes, hamdden.

• Cyfnod datblygiad fel cyrchfan i dwristiaid: cyfnodau ym model cylch bywyd ardal dwristiaeth Butler (TALC) – archwilio, ymwneud, datblygu, cyfnerthu, bod yn farwaidd, dirywio, adfywio; dod i’r amlwg, aeddfed

A3 Atyniad a mathau o dwristiaeth

Mae nodweddion cyrchfannau ar draws y byd yn cefnogi gwahanol fathau o dwristiaeth a gweithgareddau i dwristiaid. • Diwylliannol: digwyddiadau, seremonïau, gwyliau; aros gartref; twristiaeth gyfrifol;

twristiaeth dywyll; pererindod grefyddol. • Hamdden: ymlacio – nofio, torheulo; siopa, hobïau; gweld golygfeydd – teithiau,

mordeithiau, priodasau a gwyliau mis mêl. • Byd natur: mynd ar saffari, hirdeithio (trekking), gwylio adar; ecodwristiaeth; cadwraeth. • Chwaraeon: yn y dŵr – hwylio, plymio sgwba, hwylfyrddio, syrffio, pysgota; ar y tir –

beicio, cerdded, sgïo; gwylio chwaraeon – golff, tenis, beicio, rygbi, pêl-droed; digwyddiadau pwysig – y Gêmau Olympaidd (Olympics®), Cwpan y Byd FIFA™, Grand Prix™, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (Six Nations®).

• Antur: dringo creigiau, mynydda, rafftio dŵr gwyn, abseilio. • Bod yn iach: yoga, ysbrydol, detox, spa, encil; iechyd, ffitrwydd, ffordd o fyw,

corff a meddwl. • Busnes: cyfarfodydd, cymelliannau, cynadleddau a digwyddiadau (MICE). • Addysg: ymchwil, ymweliadau astudio, cyfnewid.

Page 20: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

18

B Manteision ac anfanteision posibl opsiynau teithio i gyrchfannau ar draws y byd

Mae cyrchfannau ar draws y byd wedi dod yn fwy hygyrch trwy rwydwaith o wahanol lwybrau a darparwyr trafnidiaeth. Bellach mae ystod eang o opsiynau teithio a thrafnidiaeth ar gael, ac mae manteision ac anfanteision i bob un ohonynt, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, sy’n cynnwys anghenion y cwsmer.

B1 Gwahanol fathau o byrth a hybiau trafnidiaeth a’u cyfleusterau • Pyrth rhyngwladol o bwys a rhai sy’n dod i’r amlwg a’u cyfleusterau: o awyr – meysydd awyr a chodau meysydd awyr o terfynfeydd trenau – terfynfeydd cysylltiadau rhyngwladol o porthladdoedd môr – porthladdoedd fferi, porthladdoedd mordeithiau.

• Hybiau trafnidiaeth: o systemau a gwasanaethau trafnidiaeth integredig.

B2 Manteision ac anfanteision posibl llwybrau teithio a darparwyr trafnidiaeth • Dulliau teithio, manteision ac anfanteision posibl – awyr, ffordd, rheilffordd, môr. • Llwybrau teithio – pyrth ymadael a chyrraedd, amserau teithio, cysylltiadau a

throsglwyddiadau. • Darparwyr trafnidiaeth, manteision ac anfanteision posibl: o cludwyr awyr – cludwyr baner genedlaethol, ar amserlen, siartredig, cost isel,

moethus, jet preifat o gweithredwyr fferi o cwmnïau mordeithiau – rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol, lleol, cefnfor, afon o gweithredwyr rheilffordd – ar amserlen, moethus, treftadaeth, pellter mawr o darparwyr teithio dros dir – gweithredwyr coetsys, cwmnïau bysiau, saffari, alldaith,

gwasanaethau trafnidiaeth lleol, tacsi.

C Cynllunio teithio, amserlenni teithio, costau a pharu addasrwydd ag anghenion y cwsmer

Mae cynllunio teithio yn galw am ymchwilio i lwybrau teithio, opsiynau trafnidiaeth a chostau. Mae’r wybodaeth hon yn aml yn cael ei chyflwyno ar ffurf amserlen neu gynllun teithio. Mae modd paru’r manteision a’r anfanteision posibl i sicrhau addasrwydd ar gyfer gwahanol fathau o gwsmeriaid.

C1 Cynllunio teithio a manteision ac anfanteision posibl opsiynau trafnidiaeth • Ffynonellau gwybodaeth ar gyfer cynllunio teithio: mapiau, atlasau, llyfrynnau, llawlyfrau

teithio, gwefannau, amserlenni, asiantaethau teithio, canolfannau ymwelwyr, byrddau croeso, cyngor y llywodraeth.

• Cyfleuster: gwasanaethau uniongyrchol, hyd y daith, cyfanswm cost y daith, trosglwyddiadau, cysylltiadau a chroesiad, nifer y newidiadau, amserau aros, egwyl newid awyren (layover), egwyl hir i newid awyren (stopovers).

• Amseriadau: cloc 24-awr, addasiadau ar gyfer teithio ar draws parthau amser, cyfeiriad y teithio (o’r dwyrain i’r gorllewin neu o’r gorllewin i’r dwyrain), Prime/Meridian Greenwich a’r Ddyddlinell (IDL).

• Gwasanaethau a lefel cysur: bwyd, diod, adloniant, cyfathrebu, dewis o ddosbarth teithio, seddau, lle i’r coesau.

• Diogelwch a diogeledd: dibynadwyedd, cofnod diogelwch, mesurau yn sgîl digwyddiadau blaenorol, hyfforddiant, trefniadau gwacáu (evacuations), gwirio bagiau, croesiad, teledu cylch cyfyng (CCTV), personél diogeledd.

• Asesiadau risg: nodi risgiau/peryglon posibl, cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO), atal damweiniau/anafiadau, cynlluniau wrth gefn.

Page 21: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

19

C2 Deall amserlenni teithio • Gwybodaeth gyffredinol sy’n cael ei chynnwys mewn amserlen teithio: o nifer yn y grŵp o dyddiadau a hyd y daith o cyfanswm costau, dadansoddiad o’r costau, eitemau ychwanegol, taliadau ychwanegol,

gofynion o ran arian cyfredol, yswiriant o gofynion mynediad a fisa, cyngor ar iechyd, brechiadau, meddyginiaethau o math o daith – un ganolfan, dwy ganolfan, taith dywys, annibynnol o manylion cyswllt y trefnydd teithio/yr asiantaeth deithio, manylion cyswllt

mewn argyfwng. • Manylion y daith allan – dyddiad ymadael, amser, teithio i’r man ymadael, dull teithio,

hyd y daith, darparw(y)r trafnidiaeth. • Trafnidiaeth o’r man ymadael: o gwasanaeth a archebwyd, codau, terfynfeydd o manylion byrddio, diogeledd, gwiriadau pasbort o trefniadau sedd, arlwyo, cymorth o amser teithio i borth y cyrchfan, addasiadau ar draws parthau amser, dull teithio,

hyd, darparwr. • Trefniadau teithio ymlaen: o hyd, dull teithio, darparw(y)r o amser cyrraedd y llety, lleoliad y llety, trefniadau ystafell a bwyd o gweithgareddau – alldeithiau a gynlluniwyd, teithiau, teithiau dydd, ychwanegiadau

dewisol, amser hamdden. • Manylion y daith yn ôl – dyddiad ymadael, amser, teithio i’r man ymadael, dull teithio,

hyd y daith, darparwr trafnidiaeth.

C3 Ffactorau cost • Cyfanswm y gost: fesul person, cyfanswm cost y grŵp, dadansoddiad o gostau’r

gwahanol elfennau. • Gostyngiadau: telerau ac amodau archebu, mathau o ostyngiadau, canrannau, archebu

ymlaen llaw, teithio integredig, lleoedd am ddim, cynlluniau gwobrwyo. • Taliadau ychwanegol: tanlenwi, cabanau/ystafelloedd â golygfa, costau bagiau, trefniadau

dyrannu seddau ymlaen llaw, lefel gwasanaeth, gordaliadau tanwydd, alldeithiau, trosglwyddiadau grŵp/preifat, ffïoedd bwcio, yswiriant.

• Cyfraddau cyfnewid, trosi arian cyfredol, rheoli amrywiadau, cyfyngiadau.

C4 Mathau o gwsmeriaid a’u hanghenion • Gwahanol fathau o gwsmeriaid: teuluoedd, pensiynwyr, cyplau, pobl ifanc, cwsmeriaid â

diddordebau arbennig, teithwyr corfforaethol, grwpiau, gwahanol oedrannau. • Anghenion cyffredinol: cyflymdra, cost, amser, hyd y daith. • Anghenion penodol: mynediad, symudedd cyfyngedig, defnyddwyr cadair olwyn, nam ar y

clyw, nam ar y golwg, meddygol, cyflyrau iechyd, iaith, plant heb eu hebrwng, plant bach, babanod, ffobiâu, teithio gyda chyfarpar chwaraeon a bagiau gorfaint.

• Diben y teithio: hamdden, Ymweld â Ffrindiau a Pherthnasau (VFR), busnes.

Page 22: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

20

D Tueddiadau defnyddwyr, ffactorau cymell a galluogi a’u heffaith bosibl ar boblogrwydd ac atyniad cyrchfannau ar draws y byd

Mae tueddiadau defnyddwyr yn ymwneud â sut gall barn, anghenion a gofynion cwsmeriaid newid dros amser, ac o ganlyniad gall rhai cyrchfannau ar draws y byd ddod yn fwy neu’n llai poblogaidd. Gall ffactorau cymell a galluogi hefyd ddylanwadu ar ddewisiadau cwsmeriaid.

D1 Tueddiadau defnyddwyr sy’n effeithio ar atyniad cyrchfannau ar draws y byd • Demograffeg newidiol – cymdeithas sy’n heneiddio – porwyr penwyn, pobl hŷn sy’n cael

blwyddyn fwlch (grey gappers), ceiswyr cyffro. • Newidiadau i strwythurau teulu – gwyliau rhwng y cenedlaethau, gweithgareddau rhieni

a phlant bach. • Ffordd o fyw yn newid – ‘nôl i’r hanfodion’, byw yn yr awyr agored, hiraethu am

y gorffennol. • Chwaeth yn newid – dyheadau, dylanwad sêr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, amser heb

gyswllt digidol, ffordd iachach o fyw, profiadau newydd, antur, dilysrwydd, gwirfoddoli. • Newidiadau i batrymau gwyliau – galw cynyddol am egwyliau byr, egwyliau canolig,

gwyliau ar hyd y flwyddyn. • Pryder cynyddol ynghylch cynaliadwyedd – lles y cymunedau sy’n croesawu, difrod i

amgylcheddau, ecsbloetio a moeseg.

D2 Ffactorau cymell a galluogi sy’n effeithio ar atyniad cyrchfannau ar draws y byd

• Ffactorau cymell – awydd i grwydro a mwynhau’r heulwen (wanderlust and sunlust – Gray 1970), ymlacio, dianc, cymdeithasu gyda ffrindiau, gorffwys, safle o fri, diben y teithio – iechyd, addysg, chwaraeon, diwylliant, antur, busnes, ymweld â ffrindiau a pherthnasau (VFR).

• Ffactorau galluogi: o bod â digon o amser ac arian, paradocs hamdden modern – digonedd o arian/

prinder amser o argaeledd teithio – hwylustod teithio/hygyrchedd, cysylltiadau trafnidiaeth a

chyfathrebu o argaeledd cynnyrch addas/math addas o wyliau o dylanwad marchnata’r cyrchfan o hyder y defnyddiwr.

E Ffactorau sy’n effeithio ar boblogrwydd ac atyniad cyrchfannau

Gall rhai cyrchfannau ar draws y byd sydd â nodweddion tebyg fod yn fwy poblogaidd nag eraill oherwydd nifer o ffactorau. Gall rhai o’r ffactorau hyn gael eu rheoli gan y cyrchfan ei hun, tra bod eraill allan o’i reolaeth.

E1 Ffactorau gwleidyddol • Deddfwriaeth, polisi twristiaeth, marchnadoedd targed a hyrwyddo, gofynion fisa,

hawlenni, trefniadau teithio cydweddus, rheoli cyrchfannau. • Diogelwch a diogeledd: sefydlogrwydd, rhyfel, aflonyddwch sifil, bygythiad ymosodiad

gan frawychwyr.

E2 Yr hinsawdd economaidd • Dirwasgiad byd-eang, incwm gwario, cyfraddau cyfnewid arian, amrywiadau mewn arian

cyfredol, cost ymweld.

E3 Hygyrchedd ac argaeledd • Seilwaith: pyrth, teithio a thrafnidiaeth, llwybrau newydd, trydan, dŵr a rheoli gwastraff. • Argaeledd cyfleusterau i dwristiaid, amwynderau ac atyniadau, gwyliau.

Page 23: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

21

E4 Delwedd a hyrwyddo • Cyhoeddusrwydd. • Teledu, ffilm, rhaglen ddogfen, lleoliad drama a hyrwyddo. • Digwyddiadau rhyngwladol, cynhadledd, arddangosfeydd, Marchnad Teithio’r Byd (WTM).

E5 Marchnadoedd newidiol • Marchnadoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. • Rhanbarthau sy’n dod i’r amlwg fel rhai sy’n denu twristiaid.

E6 Trychinebau naturiol • Llosgfynydd yn echdorri. • Daeargryn. • Tswnami. • Tirlithriad. • Eirlithriad (Afalans).

E7 Yr hinsawdd a’i ddylanwad ar deithio • Parthau hinsawdd y byd – Canoldirol, cyhydeddol, tymherus, crinsych, pegynnol, eira. • Dylanwad ar deithio – amrywiadau tymhorol; amharu posibl – monsŵn, perygl llifogydd,

iâ ac eira, tanau gwylltir, stormydd, corwyntoedd, teiffwnau a thornados.

Page 24: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

22

Disgrifwyr graddau

I gyflawni gradd, mae disgwyl i’r dysgwyr arddangos y priodoleddau hyn ar draws cynnwys hanfodol yr uned. Bydd egwyddor cydweddiad gorau yn weithredol wrth ddyfarnu graddau.

Llwyddo ar Lefel 3

Bydd y dysgwyr yn cymhwyso’u gwybodaeth am nodweddion cyrchfannau byd-eang i esbonio’u hatyniad a sut maen nhw’n cefnogi gwahanol weithgareddau twristiaeth. Bydd y dysgwyr yn paru trefniadau teithio ag anghenion cwsmeriaid, gyda rhai manylion perthnasol. Bydd y dysgwyr yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ffactorau a’r tueddiadau defnyddwyr sy’n gallu cyfrannu at boblogrwydd cyrchfannau byd-eang. Bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil ac yn ymchwilio i dueddiadau cyfredol defnyddwyr a’r ffactorau a allai ddylanwadu ar boblogrwydd ac atyniad cyrchfannau byd-eang.

Rhagoriaeth ar Lefel 3

Bydd y dysgwyr yn darparu gwerthusiadau manwl o addasrwydd trefniadau ac amserlenni teithio o ran diwallu anghenion cwsmeriaid. Gall y dysgwyr werthuso’r ffactorau a/neu’r tueddiadau defnyddwyr sy’n cyfrannu at boblogrwydd cyrchfannau byd-eang. Gall y dysgwyr wneud gwaith ymchwil dilys a dibynadwy a chyfuno gwybodaeth am dueddiadau a/neu ffactorau defnyddwyr a allai ddylanwadu ar boblogrwydd ac atyniad cyrchfannau byd-eang.

Page 25: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

23

Geiriau allweddol a ddefnyddir yn nodweddiadol wrth asesu

Yn y tabl sy’n dilyn gwelir y geiriau allweddol a ddefnyddir yn gyson gan Pearson wrth asesu er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu gwobrwyo am arddangos y sgiliau angenrheidiol.

Sylwer: ni ddefnyddir y rhestr isod o reidrwydd ym mhob papur/sesiwn, a chanllaw yn unig ydyw.

Gorchymyn neu derm Diffiniad

Dadansoddi Mae’r dysgwyr yn cyflwyno canlyniad gwaith archwilio manwl a thrylwyr, naill ai trwy ddadansoddi: • thema, pwnc neu sefyllfa er mwyn dehongli

ac astudio’r berthynas rhwng y rhannau a/neu

• gwybodaeth neu ddata i ddehongli ac astudio’r prif dueddiadau a rhyngberthnasoedd.

Erthygl Darn o ysgrifennu ar bwnc penodol sy’n addas ar gyfer cylchgrawn neu bapur newydd

E-bost Dull cyfathrebu sy’n rhoi gwybodaeth ac wedi’i ysgrifennu gan ddefnyddio technoleg briodol ar gyfer pwrpas penodol fel rhan o dasg neu weithgaredd.

Gwerthuso Mae gwaith y dysgwyr yn defnyddio gwybodaeth, themâu neu gysyniadau amrywiol i ystyried agweddau megis: • cryfderau neu wendidau • manteision neu anfanteision • camau gweithredu amgen • perthnasedd neu arwyddocâd.

Dylai ymholiadau’r dysgwyr arwain at ddyfarniad a gefnogir sy’n dangos perthynas â’r cyd-destun. Bydd hyn yn aml ar ffurf casgliad.

Esbonio Mae’r dysgwyr yn darparu manylion a rhesymau a/neu dystiolaeth i gefnogi barn, safbwynt neu ddadl.

Enghreifftio Mae’r dysgwyr yn cynnwys enghreifftiau a diagramau i ddangos beth sy’n cael ei olygu mewn cyd-destun penodol.

Cyfiawnhad Mae’r dysgwyr yn rhoi rhesymau neu dystiolaeth sy’n: • cefnogi barn a/neu benderfyniad • profi bod rhywbeth yn gywir neu’n rhesymol.

Adroddiad Dogfen ffurfiol sydd wedi’i strwythuro’n glir a’i hysgrifennu mewn iaith briodol i’r sector.

Cynllun teithio Dogfen deithio strwythuredig sy’n cynnwys amrywiaeth o fanylion a gwybodaeth, ynghyd â dyddiadau, amserau a lleoedd.

Page 26: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 2: CYRCHFANNAU AR DRAWS Y BYD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

24

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu ag: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 3: Egwyddorion Marchnata ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 9: Atyniadau Ymwelwyr.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • ymweliadau â sefydliadau teithio a thwristiaeth sy’n gweithredu mewn cyrchfannau

gwyliau a hybiau trafnidiaeth.

Page 27: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

25

Uned 3: Egwyddorion Marchnata ym Maes Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 90

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i’r defnydd o farchnata mewn sefydliadau teithio a thwristiaeth a sut mae cyflawni disgwyliadau cwsmeriaid er mwyn llywio ymgyrch hyrwyddo y maent wedi’i dylunio eu hunain.

Cyflwyniad i’r uned

Mae marchnata yn ffocws pwysig ar gyfer unrhyw sefydliad llwyddiannus ym maes teithio a thwristiaeth, lle mae cynnyrch, gwasanaethau a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid yn barhaus. Rhaid bod gan fusnes llwyddiannus strategaeth ar gyfer deall ei gwsmeriaid a’u targedu â chynnig proffidiol.

Yn yr uned hon, byddwch yn datblygu sgiliau marchnata trwy archwilio nodau ac amcanion penodol y swyddogaeth farchnata ac ymchwilio i anghenion a disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmeriaid. Byddwch yn datblygu eich gallu i gyfleu canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn. Byddwch yn defnyddio gwybodaeth am y farchnad i gynllunio a chynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth teithio a thwristiaeth newydd. Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd cyflawni disgwyliadau cwsmeriaid a chyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid. Byddwch yn ymchwilio i’r gwahanol gyfnodau mae sefydliad neu gyrchfan twristiaid yn mynd trwyddynt wrth farchnata eu cynnyrch neu eu gwasanaethau.

Dylid cwblhau’r asesiad ar gyfer yr uned hon ar ôl i chi gwblhau eich dysgu yn yr holl unedau eraill. Y rheswm am hynny yw y byddwch, wrth gwblhau eich ymchwil marchnad a’ch gweithgareddau hyrwyddo, yn dewis o’r dysgu ar draws eich cymhwyster, er enghraifft, cwmpas y diwydiant teithio a thwristiaeth, y mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth, eu rolau, y cynnyrch a’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i gwsmeriaid, a nodweddion cyrchfannau twristiaid.

Bydd yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen i addysg uwch, i amrywiaeth o gyrsiau lle mae gofyn gwybod am theori marchnata a dulliau ymchwil, a datblygu ac adolygu strategaethau marchnata, megis gradd mewn twristiaeth, trafnidiaeth neu hamdden. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwch yn yr uned hon hefyd yn helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Archwilio rôl gweithgareddau marchnata o ran dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion ym maes teithio a thwristiaeth

B Archwilio effaith gweithgareddau marchnata ar lwyddiant gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

C Cyflawni ymchwil marchnad er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth

D Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, i gyflawni amcanion a nodwyd.

Page 28: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

26

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Archwilio rôl gweithgareddau marchnata o ran dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion ym maes teithio a thwristiaeth

A1 Rhyngberthynas marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid mewn sefydliadau teithio a thwristiaeth

A2 Dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu anghenion

A3 Y gymysgedd farchnata a ddefnyddir gan sefydliadau teithio a thwristiaeth

A4 Effeithiau posibl y gymysgedd farchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid

Adroddiad neu gyflwyniad sy’n gwerthuso rhyngberthynas gweithgareddau marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu anghenion cwsmeriaid ac effaith gweithgareddau marchnata ar lwyddiant dau sefydliad teithio a thwristiaeth.

B Archwilio effaith gweithgareddau marchnata ar lwyddiant gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

B1 Rôl marchnata mewn gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

B2 Sut mae marchnata yn cyfrannu at lwyddiant sefydliadau teithio a thwristiaeth

B3 Dylanwadau ar weithgaredd marchnata

C Cyflawni ymchwil marchnad er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth

C1 Casglu data ymchwil marchnad

C2 Dadansoddi data ymchwil marchnad

C3 Defnyddio canlyniadau ymchwil i helpu i ganfod cynnyrch neu wasanaeth newydd

Ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd i sefydliad neu gyrchfan teithio neu dwristiaeth, ar sail cymhwyso data ymchwil marchnad, gan gynnwys cynhyrchu deunydd neu weithgaredd hyrwyddo. Ochr yn ochr â hyn gwerthusir i ba raddau mae modd cyflawni amcanion yr ymgyrch.

D Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, i gyflawni amcanion a nodwyd.

D1 Dylunio ymgyrch hyrwyddo i gyflawni amcanion a nodwyd

D2 Cynhyrchu deunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo

Page 29: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

27

Cynnwys

Nod dysgu A: Archwilio rôl gweithgareddau marchnata o ran dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion ym maes teithio a thwristiaeth

Mae gweithgareddau marchnata a diwallu anghenion cwsmeriaid yn gweithio law yn llaw i gyfrannu at lwyddiant sefydliadau. Mae rôl allweddol i farchnata wrth ddylanwadu ar gwsmeriaid i brynu cynnyrch teithio a thwristiaeth neu ddefnyddio gwasanaeth, gan arwain at ddisgwyliadau y mae angen eu cyflawni trwy wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

A1 Rhyngberthynas marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid mewn sefydliadau teithio a thwristiaeth

Bydd gweithgareddau marchnata a hyrwyddo llwyddiannus yn denu cwsmeriaid at sefydliad teithio a thwristiaeth. Fodd bynnag, gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid sy’n gyfrifol yn y pen draw am gyflawni’r gwerthiant ac annog y cwsmer i ddychwelyd. Mae’n hanfodol felly bod y gwasanaeth i gwsmeriaid y mae sefydliad teithio a thwristiaeth yn ei ddarparu yn cyflawni disgwyliadau cwsmeriaid ac yn rhagori arnynt.

• Egwyddorion marchnata a diffiniadau o farchnata. • Gweithgareddau marchnata a ddefnyddir i ddenu a chadw cwsmeriaid, e.e.

o nodi marchnadoedd targed priodol ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth teithio a thwristiaeth (segmentu’r farchnad)

o ymchwilio i anghenion a dewisiadau cwsmeriaid o canfod y galw am gynnyrch neu wasanaeth teithio a thwristiaeth. o gweithgareddau hyrwyddo i ddylanwadu ar ganfyddiadau allweddol cwsmeriaid, e.e.

– rhoi cyhoeddusrwydd i argraffiadau cyntaf cadarnhaol o’r sefydliad – creu argraff gadarnhaol o ddelwedd, enw da a dibynadwyedd – hysbysebu’r cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir, megis ansawdd canfyddedig a gwerth

am arian, cysondeb a dibynadwyedd y cynnyrch neu’r gwasanaethau, effeithlonrwydd sefydliadol, cyflymdra a chywirdeb y gwasanaeth, sut mae cysylltu â’r sefydliad, cael gafael ar wybodaeth neu gyngor a phrynu rhywbeth

o cyfathrebu â chwsmeriaid i ysgogi’r galw a’u darbwyllo i brynu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth

o casglu a dehongli adborth gan gwsmeriaid: – defnyddio cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o gyfryngau, erthyglau masnach,

holiaduron, adolygu lefelau boddhad, ceisio adborth a gweithredu ar ei sail, datrys cwynion a gweithredu yn eu cylch

– nodi gwelliannau o ganlyniad i gyfathrebu ac adborth cwsmeriaid, e.e. bylchau yn ansawdd y gwasanaeth, modelau rhagoriaeth.

• Mae cysylltiad rhwng nodau gwasanaeth i gwsmeriaid a marchnata, e.e. cynnal negeseuon marchnata.

• Rhyngberthynas, e.e. gweithgareddau marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cefnogi ei gilydd i gyflawni gwasanaeth o safon uwch i gwsmeriaid, rhagori ar ddisgwyliadau, hybu cyfraddau cadw cwsmeriaid/cwsmeriaid yn dychwelyd/atgyfeiriadau, datrys problemau a chwynion yn gyflym.

A2 Dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu anghenion

Mae gan wahanol fathau o gwsmeriaid resymau gwahanol dros benderfynu a ydynt am brynu cynnyrch neu ddefnyddio gwasanaeth. Mae marchnata llwyddiannus yn cymryd i ystyriaeth y ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau prynu ac yn sicrhau bod gweithgareddau a chyfathrebu’n rhoi sylw i anghenion cwsmeriaid. • Mathau gwahanol o gwsmeriaid, e.e. teuluoedd, unigolion, grwpiau, hamdden,

busnes, addysgiadol. • Pwysigrwydd canfod pwy sydd â dylanwad ar benderfyniadau prynu.

Page 30: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

28

• Ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid, e.e. y gymysgedd farchnata; awydd neu angen; hyder yn y sefydliad; ansawdd canfyddedig a gwirioneddol y cynnyrch/gwasanaeth; enw da/delwedd; cyfathrebu marchnata effeithiol; gwerth am arian; gwasanaeth i gwsmeriaid.

• Ystyried anghenion cwsmeriaid wrth gyflawni gweithgareddau marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys o anghenion y soniwyd amdanynt a rhai heb eu datgan o cwsmeriaid sydd ag anghenion diwylliannol a ieithyddol o anghenion arbennig, e.e. cyflyrau meddygol, symudedd o anghenion eraill, e.e. yn ymwneud ag oedran, rhywedd, grŵp sosio-economaidd,

amgylchiadau teuluol. • Cydbwyso boddhad cwsmeriaid â nodau ac amcanion y sefydliad, gan gynnwys

amcanion masnachol.

A3 Y gymysgedd farchnata a ddefnyddir gan sefydliadau teithio a thwristiaeth

Y gymysgedd farchnata yw cyfres o gamau gweithredu a ddefnyddir gan sefydliadau teithio a thwristiaeth i hyrwyddo brand, cynnyrch neu wasanaeth. Mae creu cymysgedd farchnata yn allweddol ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion sefydliadol, diwallu anghenion cwsmeriaid a chyflawni eu disgwyliadau. Mae cymysgedd farchnata nodweddiadol yn cynnwys 4 elfen – Cynnyrch, Pris, Hyrwyddo a Lle (y 4P yn Saesneg – Product, Price, Promotion and Place): • Cynnyrch, gan gynnwys:

o cylchoedd oes cynnyrch a phortffolios cynnyrch, e.e. rhinwedd gwerthu unigryw (USP), ystod o gynnyrch, gwahaniaethau chwaeth a ffasiwn rhwng ardaloedd daearyddol a grwpiau cymdeithasol dros amser

o brandio, e.e. creu ymwybyddiaeth o’r brand a’i leoli. • Pris, gan gynnwys:

o strategaethau prisio, e.e. prisiau treiddio, prisiau deinamig, prisiau rhad, prisiau premiwm, prisiau hyrwyddo, prisiau brig ac allfrig, prisiau cystadleuwyr

o tactegau, e.e. gostyngiadau, hyrwyddo gwerthiant, gwahaniaethau rhanbarthol o manteision ac anfanteision posibl strategaethau a thactegau prisio yn y tymor hir

a’r tymor byr, ffactorau i’w hystyried wrth osod prisiau, canfyddiadau cwsmeriaid o werth, prisio mewn marchnadoedd byd-eang.

• Hyrwyddo, gan gynnwys: o deunyddiau, gweithgareddau a sianeli hyrwyddo, e.e. hysbysebu, digidol, ffenestri

naid ar y cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo gwerthiant, marchnata uniongyrchol, marchnata digidol, nawdd, arddangosfeydd, taflenni/llyfrynnau, cysylltiadau cyhoeddus, datganiadau i’r wasg

o dethol cymysgedd hyrwyddo briodol ar sail ffactorau perthnasol fel y farchnad darged, delwedd y brand

o hyrwyddo mewn marchnadoedd byd-eang, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. • Lle, e.e. lleoliad ffisegol, sianeli dosbarthu, cadwyni cyflenwi, sianeli marchnata,

dosbarthu ar-lein, gwerthu wyneb yn wyneb.

A4 Effeithiau posibl y gymysgedd farchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid

Bydd cynnig cynnyrch y mae galw amdano sydd â phwynt prisio cywir, sy’n cael ei hyrwyddo trwy sianeli priodol, ei leoli’n gyfleus a’i gefnogi gan wasanaeth effeithiol i gwsmeriaid yn cael effaith gadarnhaol ar y cwsmer a’r sefydliad. Ar y llaw arall, gall cymysgedd farchnata nad yw’n ysbrydoli, o’i chyfuno â gwasanaeth gwael i gwsmeriaid, gael effeithiau negyddol pellgyrhaeddol. • Effeithiau cadarnhaol posibl, e.e. cadw cwsmeriaid yn fodlon, cadw cwsmeriaid presennol,

cynyddu teyrngarwch cwsmeriaid, sicrhau bod cwsmeriaid yn dychwelyd, denu cwsmeriaid newydd, sbarduno partneriaethau gyda darparwyr eraill, cynyddu gwariant cwsmeriaid, tyfu cynnyrch a gwasanaethau newydd, gwella delwedd sefydliad, rhagori ar gystadleuwyr, morâl y staff yn uchel.

• Effeithiau negyddol posibl, e.e. cwsmeriaid anfodlon, cwynion, cwsmeriaid ddim yn dychwelyd, colli enw da, cyhoeddusrwydd niweidiol, morâl y staff yn isel, colled ariannol.

Page 31: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

29

Nod dysgu B: Archwilio effaith gweithgareddau marchnata ar lwyddiant gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

B1 Rôl marchnata mewn gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

Proses reoli yw marchnata, ac mae’n gyfrifol am ganfod, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid mewn modd sy’n gwneud elw. Mae ganddo rôl allweddol wrth ddylanwadu ar gwsmeriaid i brynu rhywbeth neu ddefnyddio gwasanaeth. • Y broses farchnata mewn cyd-destun teithio a thwristiaeth, gan gynnwys deall y farchnad,

llunio cynllun marchnata, cynllunio gweithgareddau marchnata, meithrin perthynas gyda chwsmeriaid ac adolygu llwyddiant gweithgaredd marchnata.

• Nodau ac amcanion marchnata, gan gynnwys y cyfran o’r farchnad, proffidioldeb, teyrngarwch cwsmeriaid, pwysigrwydd pennu amcanion marchnata CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).

• Datblygu brand ac estyniadau i’r brand mewn cyd-destun teithio a thwristiaeth. • Goblygiadau maint y sefydliad ar gyfer gweithgaredd marchnata, e.e. cyfyngiadau

cyllidebol, argaeledd staff arbenigol. • Marchnad dorfol ac arbenigol, gan gynnwys diffiniadau, twf a dirywiad, perthynas

â chylchoedd oes cynnyrch mewn cyd-destun teithio a thwristiaeth.

B2 Sut mae marchnata yn cyfrannu at lwyddiant sefydliadau teithio a thwristiaeth • Twf, e.e. defnyddio Matrics Ansoff i helpu sefydliad i benderfynu ar ei strategaeth twf

marchnad a chynnyrch (treiddio i’r farchnad, datblygu cynnyrch, ehangu’r farchnad, arallgyfeirio), caffael.

• Cysylltiadau rhwng marchnata a chyflawni nodau ac amcanion sefydliad. • Dulliau gwahanol o ymdrin â gweithgareddau marchnata, gan gynnwys

o creu cymysgedd farchnata i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a chyflawni nodau ac amcanion y sefydliad

o dulliau gwthio a thynnu, rheoli’r berthynas â’r cwsmer (CRM), busnesau a’i gilydd (B2B), busnes a defnyddiwr (B2C).

• Effaith bosibl ar gwsmeriaid: o denu busnes newydd, e.e. marchnadoedd targed gwahanol, domestig neu ryngwladol

neu’r ddwy, denu cwsmeriaid oddi wrth gystadleuwyr o cadw cwsmeriaid/cwsmeriaid yn dychwelyd, e.e. cynyddu gwariant cwsmeriaid

cyfredol trwy annog mwy o fusnes premiwm neu brynu cynnyrch ychwanegol o meithrin a chadw teyrngarwch cwsmeriaid, e.e. casglu pwyntiau ar gynllun

cymhelliad, cryfhau brand y sefydliad o datblygu technegau CRM.

• Effaith bosibl ar y sefydliad: o datblygu cysylltiadau cliriach rhwng marchnata a nodau ac amcanion sefydliad,

e.e. i ddatblygu brand rhad/premiwm, denu demograffeg wahanol o datblygu brand ac estyniadau i’r brand, e.e. marchnadoedd arbenigol, perthynas

â chylchoedd oes cynnyrch lle caiff brand ei adfywio ar ôl dechrau colli tir o cynyddu’r elw, e.e. arwain at fwy o gyllideb ar gyfer gweithgareddau marchnata,

difidend mwy i gyfranddalwyr.

B3 Dylanwadau ar weithgaredd marchnata • Ffactorau allanol, e.e. o gwleidyddol, e.e. aflonyddwch, rhyfel, brawychiaeth, cysylltiadau gwleidyddol rhyngwladol o economaidd, e.e. dirwasgiad, cyfraddau cyfnewid, cyfraddau llog, incwm gwario cwsmeriaid o cymdeithasol, e.e. tueddiadau defnyddwyr a demograffeg, cynnydd yn y defnyddwyr

hŷn/iau, gostyngiad yn nifer y plant mewn teuluoedd, profiadau newydd, teithio cyfrifol, iechyd da

o technolegol, e.e. cyfryngau cymdeithasol, apiau, datblygu trafnidiaeth o ystyriaethau cyfreithiol a moesegol, e.e. deddfwriaeth gyfredol megis diogelu data a

defnyddwyr, safonau hysbysebu, codau ymarfer y sector o amgylcheddol, e.e. tywydd eithafol, trychinebau naturiol, ffocws ar dwristiaeth gynaliadwy.

Page 32: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

30

• Ffactorau mewnol, e.e. o maint y sefydliad o nodau ac amcanion sefydliadol o diwylliant y sefydliad, e.e. cyfrifoldeb cymdeithasol o cyllideb, e.e. elw busnes, cyllideb farchnata, newidiadau i brisiau cynnyrch,

buddsoddiad mewn technolegau marchnata newydd o adnoddau, e.e. technoleg, argaeledd ac arbenigedd staff arbenigol.

• Globaleiddio, gan gynnwys newidiadau yn yr amgylchedd cystadleuol, addasu gweithgaredd marchnata ar gyfer gwahanol farchnadoedd ym maes teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu C: Cyflawni ymchwil marchnad er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth

Bydd y dysgwyr yn cyflawni ymchwil marchnad er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ar gyfer cyrchfan neu sefydliad teithio a thwristiaeth go iawn, gan ddefnyddio’u dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae cynllunio gweithgareddau ymchwil marchnad yn effeithiol yn sicrhau bod y data a gesglir yn ddibynadwy ac yn ddilys, ac y bydd dehongli’r data yn adlewyrchu’n llawn weithrediad ymgyrchoedd hyrwyddo mewn sefydliadau teithio a thwristiaeth.

C1 Casglu data ymchwil marchnad • Paratoi ar gyfer gweithgaredd ymchwil marchnad, e.e. canfod nodau ac amcanion y

sefydliad, pennu amcanion ymchwil marchnad, dewis dulliau ymchwil sylfaenol ac eilaidd mewn perthynas â’r amcanion, grŵp targed yn ffocws ar gyfer yr ymchwil.

• Ffynonellau priodol ar gyfer ymchwil sylfaenol, e.e. arolwg, cyfweliad, arsylwi, treialon, holiaduron, grwpiau ffocws.

• Ffynonellau priodol ar gyfer ymchwil eilaidd, e.e. adroddiadau a gyhoeddwyd, adroddiadau diwydiant, data hanesyddol ar deithwyr neu dwristiaid blaenorol, adborth o’r cyfryngau cymdeithasol, data’r llywodraeth ar ystadegau poblogaeth, tueddiadau defnyddwyr, ymchwilio i gystadleuwyr.

• Pwysigrwydd data dilys, dibynadwy a chyfredol. • Data meintiol ac ansoddol, dulliau casglu, diben casglu.

C2 Dadansoddi data ymchwil marchnad • Defnyddio data ymchwil sylfaenol ac eilaidd i benderfynu a oes galw am y cynnyrch neu’r

gwasanaeth newydd. • Defnyddio data ymchwil sylfaenol ac eilaidd i benderfynu ar y farchnad darged, gan

gynnwys deall anghenion cwsmeriaid, paru anghenion â chynnyrch a gwasanaethau. • Dadansoddi cystadleuwyr, e.e. nodi cystadleuwyr cryf neu wan, penderfynu ar

gystadleuwyr agos a phell, nodi eu strategaethau marchnata. • Data, gan gynnwys

o meintiol, e.e. ffigurau cyllid, niferoedd cwsmeriaid o ansoddol, e.e. ymatebion i holiaduron, ymatebion grwpiau ffocws.

C3 Defnyddio canlyniadau ymchwil i helpu i ganfod cynnyrch neu wasanaeth newydd • Defnyddio data ymchwil i benderfynu ar farchnad darged a’i chyfiawnhau, a hefyd y galw

am y cynnyrch/gwasanaeth. • Defnyddio data ymchwil i helpu i ganfod dibenion a nodweddion hanfodol y cynnyrch

neu’r gwasanaeth. • Defnyddio data ymchwil i lywio nodau ac amcanion yr ymgyrch a dulliau cyfathrebu addas • Defnyddio data ymchwil i lywio’r gymysgedd farchnata (y 4 elfen), penderfynu ar

nodweddion y cynnyrch/gwasanaeth newydd a phriodweddau’r farchnad darged.

Page 33: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

31

Nod dysgu D: Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, i gyflawni amcanion a nodwyd.

Bydd y dysgwyr yn defnyddio’u dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant teithio a thwristiaeth i ddylunio ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, a hynny ar gyfer cyrchfan neu sefydliad teithio a thwristiaeth go iawn, gan gynhyrchu deunydd neu weithgaredd hyrwyddo i gyflawni amcanion a nodwyd.

D1 Dylunio ymgyrch hyrwyddo i gyflawni amcanion a nodwyd

Ffactorau allweddol i’w hystyried wrth ddylunio ymgyrch lwyddiannus.

• Nodau ac amcanion yr ymgyrch, e.e. cyflwyno cynnyrch neu wasanaeth newydd, cynyddu elw’r sefydliad, denu mwy o gwsmeriaid trwy ostyngiadau tymor byr, denu cwsmeriaid i ddigwyddiad penodol a luniwyd ar gyfer marchnad benodol.

• Sut mae’r ymgyrch hyrwyddo yn cyfrannu at amcanion y sefydliad, yn ategu ac yn cefnogi gwerthoedd y brand ac yn ychwanegu at gynaliadwyedd gweithgareddau marchnata.

• Nodi marchnad darged. • Gwybodaeth am y cynnyrch neu’r gwasanaeth, gan gynnwys Rhinweddau Gwerthu

Unigryw (USPs.) • Pris y cynnyrch neu’r gwasanaeth, gan gynnwys strategaethau, tactegau. • Lle, gan gynnwys sut a ble mae modd prynu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth. • Hyrwyddo, gan gynnwys amserlen i’r ymgyrch a rhesymeg ar gyfer y penderfyniad,

e.e. wythnos, mis, tymor i gynnal yr ymgyrch, e.e. yn ystod cyfnodau brig neu allfrig, y mathau o weithgareddau a deunyddiau hyrwyddo sydd i’w defnyddio a’r dulliau dosbarthu arfaethedig.

• Cyllideb yr ymgyrch. • Y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) y gellid eu defnyddio i farnu llwyddiant yr

ymgyrch hyrwyddo, e.e. refeniw gwerthiant, elw, cadw cwsmeriaid a chwsmeriaid newydd a enillwyd.

D2 Cynhyrchu deunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo

Er mwyn bod yn effeithiol, dylai deunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo gael eu cyflwyno’n broffesiynol, eu bwriadu’n amlwg ar gyfer y farchnad darged, cyflawni’r nodau a’r amcanion marchnata, a chynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. • Deunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo, e.e.

o taflenni, llyfrynnau, hongwyr drysau, taflenni bach, posteri, baneri, post/e-bost uniongyrchol, cefnogaeth ar eitemau cludadwy a dillad, cyflwyniadau, blogiau, vlogiau, hysbysebion, e.e. ar y teledu/radio, mewn cylchgronau neu ar-lein, arddangosiadau, siarad cyhoeddus, presenoldeb mewn ffeiriau masnach

o tudalen lanio (tudalen ar wefan sydd wedi’i neilltuo ar gyfer ymgyrch hyrwyddo benodol) a Galwad i Weithredu (CTA), yn gofyn i ddarpar gwsmeriaid fod yn rhan o ymgyrch, e.e. cais ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu llun sy’n cynnwys cynnyrch a #hashnod penodol, er mwyn cael gwobr.

• Ffactorau i’w hystyried, gan gynnwys amcanion allweddol y deunydd a’r gweithgareddau, y gweithgareddau/deunyddiau hyrwyddo mwyaf priodol i’w defnyddio, y gynulleidfa darged, dulliau neu lwyfannau priodol ar gyfer dosbarthu deunydd a chyfathrebu, yr wybodaeth i’w chyfleu (e.e. manylion y cynnyrch/gwasanaeth, pris, ble gellir ei brynu, dyddiadau’r digwyddiad), penawdau; delweddau; teipograffeg.

• Defnyddio dull Sylw, Diddordeb, Awydd, Gweithredu (AIDA – Attention, Interest, Desire, Action) i wirio y bydd deunydd hyrwyddo yn denu cwsmeriaid a’u hannog i brynu’r cynnyrch neu ddefnyddio’r gwasanaeth.

• Strategaeth Cadw Pethau’n Gryno ac yn Syml (KISS).

Page 34: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

32

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Archwilio rôl gweithgareddau marchnata o ran dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion ym maes teithio a thwristiaeth

A.Rh1 Gwerthuso effeithiau posibl y gymysgedd farchnata a sut mae marchnata effeithiol a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cydweithio i ddylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion.

A.Ll1 Esbonio sut mae marchnata effeithiol a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cydweithio mewn sefydliadau teithio a thwristiaeth i ddylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion.

A.Ll2 Esbonio effeithiau posibl y gymysgedd farchnata ar sefydliadau teithio a thwristiaeth a chwsmeriaid.

A.T1 Dadansoddi effeithiau posibl y gymysgedd farchnata a sut mae marchnata effeithiol a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cydweithio i ddylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion.

Nod dysgu B: Archwilio effaith gweithgareddau marchnata ar lwyddiant gwahanol sefydliadau teithio a thwristiaeth

B.Rh2 Gwerthuso effeithiau posibl y gwahanol ddulliau o ymdrin â gweithgareddau marchnata a ddefnyddir gan ddau sefydliad er mwyn cyflawni llwyddiant y sefydliad, gan gymryd ffactorau mewnol ac allanol i ystyriaeth a chyfiawnhau argymhellion ar gyfer gwelliant.

B.Ll3 Esbonio sut mae gweithgaredd marchnata yn cael ei gyflawni’n wahanol gan ddau sefydliad teithio a thwristiaeth er mwyn cyflawni amcanion y sefydliad, gan gymryd ffactorau mewnol ac allanol i ystyriaeth.

B.Ll4 Esbonio sut mae gweithgareddau marchnata yn cyfrannu at dwf dau sefydliad teithio a thwristiaeth a’u perthynas â chwsmeriaid.

B.T2 Dadansoddi’r gwahanol ddulliau o ymdrin â gweithgareddau marchnata a ddefnyddir gan ddau sefydliad teithio a thwristiaeth er mwyn cyflawni amcanion y sefydliad, gan gymryd ffactorau mewnol ac allanol i ystyriaeth.

Nod dysgu C: Cyflawni ymchwil marchnad er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth

C.Rh3 Canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, gan gyfiawnhau’r data a gafwyd o ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd.

C.Ll5 Canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth trwy ddefnyddio data o ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd.

C.T3 Canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth trwy ddadansoddi data o ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd.

Page 35: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

33

Nod dysgu D: Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, i gyflawni amcanion a nodwyd

D.Rh4 Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo gynhwysfawr ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, gan gynnwys deunydd neu weithgaredd hyrwyddo, a gwerthuso i ba raddau mae modd cyflawni amcanion yr ymgyrch.

D.Ll6 Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, gan gynnwys deunydd neu weithgaredd hyrwyddo, ac esbonio sut mae cyflawni amcanion yr ymgyrch.

D.T4 Cynhyrchu ymgyrch hyrwyddo fanwl ar gyfer cynnydd neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, gan gynnwys deunydd neu weithgaredd hyrwyddo, a dadansoddi sut mae cyflawni amcanion yr ymgyrch.

Page 36: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

34

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o ddau aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nodau dysgu: A a B (A.Ll1, A.Ll2, B.Ll3, B.Ll4, A.T1, B.T2, A.Rh1, B.Rh2)

Nodau dysgu: C a D (C.Ll5, D.Ll6, C.T3, D.T4, C.Rh3, D.Rh4)

Page 37: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

35

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at ystod o wybodaeth gyfredol am fusnesau teithio a thwristiaeth o wefannau a ffynonellau eraill perthnasol. Mae cysylltiadau â chyflogwyr yn ffynonellau gwybodaeth hanfodol, a hefyd ddata sy’n berthnasol ar gyfer cwblhau asesiad yn llwyddiannus; mae modd datblygu’r cysylltiadau hyn trwy weithgareddau fel ymweliadau addysgiadol a defnyddio siaradwyr gwadd.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nodau dysgu A a B

Dylai’r dysgwyr adeiladu ar eu tystiolaeth ar gyfer nodau dysgu A a B a gwneud cysylltiadau rhyngddynt a’r tasgau asesu ar draws eu rhaglen ddysgu sy’n ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth o fathau o deithio a thwristiaeth, a mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth. Byddant yn defnyddio enghreifftiau o ddau sefydliad teithio a thwristiaeth i ddangos eu dealltwriaeth o wahanol ddulliau o farchnata.

Er mwyn cyflawni nod dysgu B, rhaid i’r dysgwyr ddethol sefydliadau sy’n defnyddio dulliau cyferbyniol o farchnata. Dylai’r athrawon sicrhau bod y dull marchnata a ddefnyddir gan bob un o’r sefydliadau teithio a thwristiaeth a ddewiswyd yn darparu cwmpas digonol i’r dysgwyr gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud dyfarniadau cywir yn gyson ynghylch arwyddocâd gwahanol effeithiau’r gymysgedd farchnata a sut mae marchnata effeithiol a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cydweithio. Byddant yn dangos dealltwriaeth gywir o’r effeithiau penodol ac ehangach ac yn creu cysylltiadau rhesymegol, wedi’u gosod yn eu cyd-destun, rhwng marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth. Bydd y dysgwyr yn cynnig rhesymau sy’n darbwyllo ac enghreifftiau sy’n cyfiawnhau eu gwerthusiad ac yn rhoi casgliadau clir.

Bydd y dysgwyr yn gwerthuso effeithiau posibl y gwahanol ddulliau o ymdrin â gweithgareddau marchnata a ddefnyddir gan ddau sefydliad teithio a thwristiaeth, gan wneud defnydd cywir o wybodaeth amrywiol. Byddant yn ystyried perthnasedd y ffactorau mewnol ac allanol a’r gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd i gyflawni llwyddiant y sefydliad. Bydd y dysgwyr yn cynnwys enghreifftiau perthnasol, a ddewiswyd yn ddoeth, sy’n cefnogi’n llawn yr argymhellion ar gyfer gwelliant sy’n cael eu cyfiawnhau. Gallant ddefnyddio enghreifftiau o weithgareddau marchnata a gyflawnir gan sefydliadau eraill i gefnogi eu hargymhellion. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa a therminoleg cywir i gynnal ymateb meddylgar, sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn ystyried gwahanol agweddau ar effeithiau posibl y gymysgedd farchnata. Byddant hefyd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng marchnata effeithiol a gwasanaeth i gwsmeriaid o ran dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion. Bydd y dysgwyr yn cyfeirio at enghreifftiau o’r diwydiant i gefnogi canlyniadau eu harchwiliad manwl.

Bydd y dysgwyr yn dadansoddi agweddau unigol ar y gwahanol ddulliau o ymdrin â gweithgareddau marchnata a ddefnyddir gan ddau sefydliad teithio a thwristiaeth, er mwyn cyflawni amcanion y sefydliad. Bydd dadansoddiad y dysgwyr yn dangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth glir i ffactorau mewnol ac allanol. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

Page 38: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

36

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth realistig o sut mae marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid yn cydweithio i ddylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a diwallu eu hanghenion. Bydd tystiolaeth y dysgwyr yn cynnwys rhai enghreifftiau perthnasol o’r berthynas rhwng marchnata a gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn dylanwadu ar benderfyniad cwsmer i brynu rhywbeth ac i sicrhau bod anghenion y cwsmer yn cael eu diwallu.

Gwneir cyfeiriadau cyffredinol briodol at y gymysgedd farchnata o ran ei heffeithiau posibl ar sefydliadau a chwsmeriaid. Bydd y dysgwyr yn cyfeirio at effeithiau posibl strategaethau cymysgedd farchnata effeithiol ac aneffeithiol. Bydd pob un o’r 4 elfen (y 4P yn Saesneg), Cynnyrch, Pris, Hyrwyddo a Lle, yn cael eu harchwilio, gan ddarparu rhai manylion a pheth rhesymeg perthnasol. Dylid defnyddio enghreifftiau o sefydliadau teithio a thwristiaeth go iawn i gefnogi’r esboniadau.

Yn gyffredinol, bydd y dysgwyr yn rhoi manylion cywir ynghylch sut mae dau sefydliad teithio a thwristiaeth yn gwneud gweithgaredd marchnata yn wahanol er mwyn cyflawni amcanion y sefydliad. Bydd y dysgwyr yn cymryd rhai ffactorau perthnasol mewnol ac allanol i ystyriaeth ac yn dangos dealltwriaeth o sut mae gweithgareddau marchnata yn cyfrannu at dwf y sefydliadau hyn a’u perthynas â’u cwsmeriaid. Bydd y dystiolaeth yn dangos manylion a rhesymau i gefnogi’r esboniad neu’r farn a fynegwyd.

Nodau dysgu C a D

Wrth gwblhau’r gweithgaredd asesu ar gyfer nodau dysgu C a D, bydd y dysgwyr yn ystyried ac yn dethol cynnwys a fydd yn eu galluogi i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a gawsant ar draws yr unedau eraill mewn modd integredig. Bydd y dysgwyr, er enghraifft, yn defnyddio mathau priodol o ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd, megis arolygon ac adroddiadau o’r diwydiant, i ddangos sut mae cyfiawnhau’r gweithgaredd hyrwyddo ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd arfaethedig.

Trwy ddefnyddio ymchwil marchnad, dylai’r dysgwyr ganfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, a chynhyrchu ymgyrch hyrwyddo ar ei gyfer. Gallai hwn fod yn gynnyrch neu’n wasanaeth newydd ar gyfer sefydliad teithio neu dwristiaeth go iawn neu ar gyfer cyrchfan twristiaid. Bydd y dysgwyr yn defnyddio eu dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant teithio a thwristiaeth a thueddiadau defnyddwyr a/neu ffactorau a allai ddylanwadu ar atyniad y cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd i sefydliad teithio a thwristiaeth neu gyrchfan twristiaid.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn darparu cyfiawnhad manwl o’r data a gafwyd trwy ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd, a ddefnyddiwyd ganddynt i ganfod cynnyrch neu wasanaeth newydd gwerthfawr ym maes teithio a thwristiaeth.

Creir ymgyrch hyrwyddo gynhwysfawr sy’n darbwyllo ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth, ochr yn ochr â chynhyrchu o leiaf un darn hynod effeithiol o ddeunydd hyrwyddo neu weithgaredd hyrwyddo, a gynhyrchir at safon y diwydiant.

Bydd y dysgwyr hefyd yn darparu gwerthusiad sy’n darbwyllo ynghylch i ba raddau mae modd cyflawni amcanion yr ymgyrch trwy roi marchnata effeithiol ar waith. Bydd y gwerthusiad yn arwain at ddyfarniad a gefnogir sy’n dangos cysylltiadau rhesymegol, a roddir yn eu cyd-destun, rhwng agweddau perthnasol ar yr ymgyrch hyrwyddo a’r amcanion a fwriedir.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn darparu dadansoddiad clir a manwl o ddata a gafwyd trwy ffynonellau ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd addas ar gyfer sefydliad teithio a thwristiaeth go iawn neu gyrchfan twristiaid.

Bydd yr ymgyrch hyrwyddo ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd yn briodol, wedi’i hystyried yn ofalus ac yn fanwl, ochr yn ochr â chynhyrchu o leiaf un darn o ddeunydd hyrwyddo safon uchel neu weithgaredd hyrwyddo.

Bydd y dysgwyr yn darparu dadansoddiad gyda rhesymu da ynghylch sut mae cyflawni amcanion yr ymgyrch yn uniongyrchol o ganlyniad i farchnata effeithiol. Bydd y dadansoddiad yn dangos bod y berthynas rhwng yr ymgyrch arfaethedig a’r amcanion a fwriedir wedi cael ei hystyried yn gywir yn gyffredinol.

Page 39: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 3: EGWYDDORION MARCHNATA YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

37

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn dewis sefydliad teithio a thwristiaeth go iawn neu gyrchfan twristiaid ac yn gwneud ymchwil marchnad sylfaenol ac eilaidd, gan ddehongli data a gwybodaeth, er mwyn canfod cynnyrch neu wasanaeth newydd ym maes teithio a thwristiaeth i’w ychwanegu at bortffolio sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y dysgwyr yn defnyddio’r data a’r wybodaeth a gafwyd trwy eu gwaith ymchwil i lywio ymgyrch hyrwyddo gymwys, sy’n realistig ar y cyfan, ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd maen nhw wedi ei ddewis.

Bydd yr esboniad ar sut mae modd cyflawni nodau ac amcanion yr ymgyrch trwy farchnata effeithiol yn cynnwys rhai manylion perthnasol ar gyfer yr esboniad neu’r farn a fynegwyd. Er enghraifft, lle nodwyd ‘cynyddu elw’ fel amcan i’r ymgyrch, gallai’r dysgwr esbonio sut bydd y cynnyrch newydd yn cael ei hyrwyddo gyda golwg ar gynyddu gwerthiant ac felly gael effaith gadarnhaol ar elw cyffredinol y cwmni o ganlyniad.

Bydd yr ymgyrch hyrwyddo yn cynnwys nodi’r holl ddeunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo a gynlluniwyd. Yna bydd y dysgwyr yn cynhyrchu o leiaf un eitem realistig o ddeunydd hyrwyddo neu weithgaredd hyrwyddo er mwyn hysbysebu neu hyrwyddo’r cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd. Bydd y dysgwyr yn cyfathrebu’n gymwys, mewn Cymraeg priodol, gan ddefnyddio iaith dechnegol/alwedigaethol yn gywir.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â phob uned arall yn y fanyleb.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • dyluniadau a syniadau i’w cyfrannu at aseiniad yr uned, astudiaeth achos

a/neu ddeunyddiau prosiect • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff sefydliadau lleol.

Page 40: Unedau - qualifications.pearson.com

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

38

Page 41: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

39

Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 90

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i fedru rheoli profiadau cwsmeriaid mewnol ac allanol yn effeithiol er mwyn cynnal llwyddiant y sefydliad a chreu cynllun i fonitro a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid, yn unol ag amcanion y sefydliad.

Cyflwyniad i’r uned

Mae rheoli profiad y cwsmer yn effeithiol yn cynnal twf a datblygiad teithio a thwristiaeth, ac yn caniatáu i’r gwahanol sectorau yn y diwydiant gadw eu cwsmeriaid. Mae sefydliadau ym myd teithio a thwristiaeth yn dibynnu ar fedru darparu gwasanaeth a phrofiadau gwych i gwsmeriaid. Mae llwyddiant sefydliadau yn dibynnu ar allu canfod beth mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl a sut mae hynny’n newid, a datblygu strategaethau effeithiol ar gyfer cwsmeriaid.

Yn yr uned hon, byddwch yn ymchwilio i gyd-destun cyffredinol sut mae sefydliadau’n cyflwyno profiad i’r cwsmer. Byddwch yn defnyddio’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ac yn cymhwyso’ch dealltwriaeth o’r sector i gynllunio ar gyfer gwelliannau. Byddwch yn caffael sgiliau cadw cwsmeriaid trwy roi iddyn nhw ystod lawn o wasanaethau a phrofiadau ‘gwerth ychwanegol’, wedi’u targedu’n benodol ar gyfer eu hanghenion, gyda’r bwriad o ragori ar eu disgwyliadau. Byddwch yn cael cyfle i archwilio profiad y cwsmer mewn sefydliadau dethol, a byddwch hefyd yn datblygu ac yn arddangos sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddwch yn cynhyrchu cynllun i wella gwasanaeth sefydliad i gwsmeriaid, gan gymryd i ystyriaeth fonitro priodol, dadansoddi data ac amcanion y sefydliad.

Bydd yr uned hon yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau a’r ymddygiad personol a galwedigaethol i symud ymlaen tuag at rolau megis entrepreneur teithio a thwristiaeth, ymgynghorydd teithio hamdden a chorfforaethol, goruchwylydd atyniad i ymwelwyr, goruchwylydd profiad gwesteion, gweithredydd trefnu teithiau, gweithredydd gwerthu mordeithiau ac ymgynghorydd teithio personol.

Bydd y dasg alwedigaethol realistig yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar ddadansoddi data a sut defnyddir technoleg i wella perfformiad sefydliadol. Bydd hyn hefyd yn eich cefnogi i symud ymlaen i addysg uwch.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Archwilio sut mae gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid yn cyfrannu at lwyddiant sefydliad

B Arddangos gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd teithio a thwristiaeth

C Adolygu effeithiolrwydd eich perfformiad eich hun o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth

D Cynllunio ar gyfer monitro a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn cyflawni amcanion sefydliad.

Page 42: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

40

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Archwilio sut mae gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid yn cyfrannu at lwyddiant sefydliad

A1 Gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth

A2 Cyfathrebu, disgwyliadau a boddhad cwsmeriaid

A3 Effaith bosibl gwasanaeth i gwsmeriaid ar y sefydliad

Adroddiad neu gyflwyniad sy’n gwerthuso arwyddocâd darpariaeth gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n ardderchog ac yn cydymffurfio, ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid a phwysigrwydd rheoli disgwyliadau cwsmeriaid mewn sefydliad teithio a thwristiaeth a ddewiswyd.

B Arddangos gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd teithio a thwristiaeth

B1 Sgiliau ac ymddygiad gwasanaeth i gwsmeriaid

B2 Delio’n effeithiol gyda cheisiadau a chwynion gwasanaeth i gwsmeriaid

Arddangos sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid mewn dwy sefyllfa teithio a thwristiaeth wahanol: • un sefyllfa wyneb yn wyneb • un sefyllfa dros y ffôn. Ymateb ysgrifenedig i un o’r sefyllfaoedd cwsmeriaid, e.e. llythyr ffurfiol, gwefan neu bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi’i gefnogi gan ddogfennaeth broffesiynol sy’n arddangos gwybodaeth am gydymffurfio â rheoliadau neu bolisi gwasanaeth i gwsmeriaid. Hunanwerthuso sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a chynllun gweithredu er mwyn datblygu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid ymhellach. Bydd y cynllun yn esbonio sut bydd datblygu sgiliau yn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth.

C Adolygu effeithiolrwydd eich perfformiad eich hun o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth

C1 Gwerthuso perfformiad unigol

C2 Ychwanegu gwerth

D Cynllunio ar gyfer monitro a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn cyflawni amcanion sefydliad

D1 Sut mae sefydliadau’n ymchwilio, yn monitro ac yn dadansoddi gwasanaeth i gwsmeriaid

D2 Rôl technoleg ym mhrofiad y cwsmer

D3 Sut mae sefydliadau’n gwella profiad y cwsmer

D4 Creu sefydliad cwsmer-ganolog a rhoi safonau gwasanaeth ar waith i gyflawni amcanion y sefydliad

Cynllun ysgrifenedig sy’n cyflwyno argymhellion ynghylch sut mae sefydliad teithio a thwristiaeth a ddewiswyd yn ymchwilio ac yn monitro gwasanaeth i gwsmeriaid, ac yn gwella profiad y cwsmer. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfeiriadau at sut mae sicrhau teyrngarwch cwsmeriaid a chyflawni amcanion y sefydliad.

Page 43: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

41

Cynnwys

Nod dysgu A: Archwilio sut mae gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid yn cyfrannu at lwyddiant sefydliad

Mae sefydliadau teithio a thwristiaeth yn cyfathrebu â chwsmeriaid mewn amrywiaeth o ffyrdd – gallai unrhyw neges gan sefydliad gael ei dehongli fel un sy’n cyfleu agwedd y sefydliad at y cwsmer. Mae’n rhaid rheoli a monitro pob agwedd ar wasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys ymwneud y staff â chyflogeion ac ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir, er mwyn sicrhau gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a llwyddiant masnachol.

A1 Gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth • Diffiniad o gwsmeriaid mewnol a chwsmeriaid allanol. • Ystyried cwsmeriaid mewnol ac allanol ac a yw eu hanghenion a’u disgwyliadau’n wahanol. • Pwysigrwydd argraffiadau cyntaf y cwsmer mewn gwahanol gyd-destunau gwasanaeth i

gwsmeriaid, gan gynnwys gwedd allanol y sefydliad a’r staff; agwedd ac ymddygiad y staff yn bersonol, wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig neu ar y ffôn; y cynnyrch neu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig a’u fformat neu eu golwg; hwylustod pori, dibynadwyedd, argaeledd a dyluniad gwefan neu apiau ffôn symudol y sefydliad.

• Nodau sefydliadau cwsmer-ganolog, e.e. gosod gwerth ar bob cwsmer a’u parchu, bod yn sensitif i anghenion unigol, defnyddio menter a chreadigrwydd i ddatrys problemau’n effeithlon ac yn ddigynnwrf, parch cyfartal, darparu gwasanaeth cyson i bob cwsmer, beth bynnag yw eu hagwedd.

• Deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniad cwsmer ynghylch a yw am brynu rhywbeth neu ddefnyddio gwasanaeth neu ddarparwr, gan gynnwys: o gwybodaeth am y cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ystyried o sicrwydd y bydd y sefydliad yn ddibynadwy ac y bydd y cynnyrch neu’r gwasanaeth

yn cyflawni’r disgwyliadau, e.e. canfyddiadau ynghylch a fydd y sefydliad yn darparu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth yn gywir, yn effeithlon ac o fewn y terfyn amser cytunedig

o empathi a ddangosir gan staff gwasanaeth i gwsmeriaid trwy wrando ar y cwsmer, rhoi sylw i’w hanghenion a chyfleu’r neges bod y cwsmer yn bwysig

o effeithiolrwydd cyfathrebu â’r cwsmer, e.e. darparu gwybodaeth reolaidd i’r cwsmer mewn iaith ddealladwy, hwylustod cysylltu â’r sefydliad i’r cwsmer

o hygrededd y sefydliad, e.e. canfyddiad ynghylch a yw’r sefydliad yn haeddu ymddiriedaeth, yn onest ac yn ennyn hyder neu beidio

o canfyddiad o werth am arian, e.e. a yw’r cwsmer yn credu bod y cynnyrch neu’r gwasanaeth ar gael yn rhatach rywle arall, canfyddiadau ynghylch y gwerth ychwanegol mae’r cwsmer yn ei brynu.

• Pwysigrwydd gwaith tîm o ran helpu i sicrhau gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a mwyafu effeithlonrwydd a llwyddiant masnachol.

• Nodi rolau sy’n wynebu’r cwsmer yn y diwydiant teithio a thwristiaeth a gallu asesu disgwyliadau cwsmeriaid ar gyfer pob un o’r rolau hynny.

A2 Cyfathrebu, disgwyliadau a boddhad cwsmeriaid • Nodi’r cwsmer, e.e. mewnol, allanol, unigolion, grŵp teulu, parti priodas, taith a drefnwyd,

teithiwr rheolaidd, teithiwr dibrofiad, hanes prynu. • Deall anabledd, e.e. corfforol, synhwyraidd, deallusol/gwybyddol, iechyd meddwl,

emosiynol, gweladwy ac anweladwy, dros dro, ymgysylltu â phobl ag anableddau, creu amgylchedd hygyrch, dulliau cyfathrebu priodol sy’n addas ar gyfer yr anabledd, materion allweddol Deddf Cydraddoldeb 2010.

Page 44: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

42

• Cyfathrebu’n glir â’r cwsmer, gan ddangos parch: o ar lafar, e.e. gwrando gweithredol a iaith y corff, defnyddio cwestiynau agored fel

bod eich gwrandawr yn ymateb, osgoi jargon, bratiaith, acronymau, coegni neu hiwmor amhriodol

o yn ysgrifenedig, trwy sicrhau bod y cyfathrebu’n glir, yn defnyddio iaith briodol ac wedi’i gyflwyno’n dda, e.e. mewn gohebiaeth electronig (cyfathrebu ar-lein/cyfryngau cymdeithasol) a chopi papur, adroddiadau a thaenlenni a ddefnyddir i lunio amserlenni teithio yn ogystal â dyfynbrisiau costau, cyflwyniadau sleidiau, taflenni, llyfrynnau, apiau, gwefannau, mapiau a holiaduron.

• Deall meysydd allweddol disgwyliadau a boddhad cwsmeriaid, gan gynnwys: o rhagweld gwasanaeth da – dibynadwy, gwybodaeth neu wasanaeth cywir,

cynnig gwahanol opsiynau, effaith bosibl hysbysebion, enw da, geirda llafar, cael ei argymell gan eraill

o pwysigrwydd ymateb i anghenion y cwsmer a rhagori ar ddisgwyliadau’r cwsmer, e.e. darparu help a chymorth ychwanegol, delio gyda phroblemau’n brydlon, cynnig gostyngiadau, cynnig cynnyrch neu wasanaethau ychwanegol, darparu help a chymorth eithriadol ar gyfer cwsmeriaid â gofynion arbennig.

• Rheoli cwynion cwsmeriaid trwy weithredu’n unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gwybod pryd dylid troi at y rheolwr llinell, darparu gwybodaeth i’r cwsmer yn gyson.

• Goblygiadau peidio â rhoi sylw i gwynion cwsmeriaid, canllawiau/rheoliadau, Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

• Deall y risgiau posibl i’r sefydliad os na fydd problemau neu gwynion cwsmeriaid yn derbyn sylw priodol.

• Cydbwyso boddhad cwsmeriaid â nodau ac amcanion y sefydliad, gan gynnwys amcanion masnachol.

A3 Effaith bosibl gwasanaeth i gwsmeriaid ar y sefydliad • Gall y gwasanaeth a brofir gan gwsmeriaid sefydliad gael effeithiau cadarnhaol neu

negyddol i’r sefydliad mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: o adborth a gynhyrchir ar lafar, trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill o enw da a brand/delwedd o ffigurau gwerthiant o nifer y cwsmeriaid newydd, cwsmeriaid sy’n dychwelyd a theyrngarwch cwsmeriaid o hyder cwsmeriaid o boddhad cyflogeion yn y swydd a morâl yn y sefydliad.

• Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn y diwydiant teithio a thwristiaeth yn gweithredu oddi mewn i ofynion, safonau ac arferion rheoliadol a sefydliadol. Mae canlyniadau posibl os na ddilynir y gofynion, yr arferion a’r safonau hyn: o gweithredu safonau gwasanaeth seiliedig ar ISO 9001 (Boddhad Cwsmeriaid),

ISO 9004 (Rheoli er Cynnal Llwyddiant mewn Sefydliad), ISO 1002 (Boddhad Cwsmeriaid a Thrin Cwynion), ISO 1004 (Mesur Boddhad Cwsmeriaid)

o goblygiadau statudau a rheoliadau sy’n berthnasol i’r diwydiant teithio a thwristiaeth, e.e. deddfwriaeth diogelu data, Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015, Deddf Datblygu Twristiaeth 1969

o casglu a dehongli adborth gan gwsmeriaid a chyflogeion, e.e. cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill, erthyglau masnach, holiaduron

o nodi gwelliannau trwy ddefnyddio modelau a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid, e.e. bylchau yn ansawdd y gwasanaeth, model rhagoriaeth, astudiaethau achos.

Dylid defnyddio’r statudau a’r rheoliadau sy’n gyfredol adeg yr addysgu. Disgwylir dealltwriaeth fras yn unig.

Page 45: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

43

Nod dysgu B: Arddangos gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd teithio a thwristiaeth

B1 Sgiliau ac ymddygiad gwasanaeth i gwsmeriaid • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol:

o geiriol, e.e. wyneb yn wyneb, dros y ffôn, cyfarfod croesawu i ganolfan, cyflwyniadau o di-eiriau, e.e. llyfryn, gwefan, llythyr, e-bost, adroddiadau, hysbysebu, negeseuon

testun, cyfryngau digidol, gwybodaeth ar fap o adnabod a goresgyn rhwystrau i gyfathrebu, e.e. cwestiynau agored yn hytrach

na rhai caeedig, lefelau o empathi, dealltwriaeth a sensitifrwydd, geiriau neu ymadroddion priodol yn hytrach na rhai amhriodol, agwedd ddigynnwrf yn hytrach na bod yn ymosodol, iaith

o gwrando, traw a goslef y llais, iaith y corff, agwedd, ymddygiad, delwedd broffesiynol, personoliaeth, sgiliau sgwrsio, rhoi ymateb cyson a dibynadwy, empathi.

• Ymddygiad, e.e. datrys problemau, dangos parch, gallu i ddweud na.

B2 Delio’n effeithiol gyda cheisiadau a chwynion gwasanaeth i gwsmeriaid • Sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid:

o darparu gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau cywir a phriodol, hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau ychwanegol yn effeithiol, rhoi cyngor priodol, derbyn a throsglwyddo negeseuon yn gywir

o deall a gweithredu oddi mewn i derfynau eich rôl a’ch awdurdod eich hun, gan gadw cofnodion yn unol â pholisi a gofynion y sefydliad

o delio gyda phroblemau, trin cwynion ac ymddygiad cwsmeriaid, gosod mesurau adfer ar waith, dilyn y protocolau gofynnol mewn sefyllfaoedd brys, gan ddilyn polisi’r sefydliad ac unrhyw ofynion cyfreithiol.

Nod dysgu C: Adolygu effeithiolrwydd eich perfformiad eich hun o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth

C1 Gwerthuso perfformiad unigol • Cynnal archwiliad o sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid, ar sail sefyllfaoedd yn y gweithle neu

chwarae rôl. • Dadansoddiad SWOT personol (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) i asesu

unrhyw fylchau, e.e. sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu – iaith y corff, sgiliau gwrando, trin cwynion, gweithio gydag eraill.

• Creu cynllun gweithredu gyda nodau o ran gwendidau a datblygiad sy’n defnyddio targedau CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol) trwy: o nodi’r adnoddau a’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol ac ar gael i gyflawni’r amcanion o gosod dyddiadau adolygu o monitro’r cynllun i asesu cynnydd yn erbyn y targedau.

C2 Ychwanegu gwerth • Penderfynu sut bydd datblygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun a chynllunio

ar gyfer gwella sgiliau yn cyfrannu at lwyddiant busnes posibl sefydliad.

Page 46: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

44

Nod dysgu D: Cynllunio ar gyfer monitro a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn cyflawni amcanion sefydliad

D1 Sut mae sefydliadau’n ymchwilio, yn monitro ac yn dadansoddi gwasanaeth i gwsmeriaid

• Dadansoddi data, e.e. niferoedd ymwelwyr, cyfraddau defnydd. • Adborth ar-lein, adolygiadau, cyfryngau cymdeithasol, siopwyr cudd. • Data/gwybodaeth am gwsmeriaid o raglenni teyrngarwch, e.e. nosweithiau a arhoswyd,

lleoliadau. • Dadansoddi cystadleuwyr. • Dangosyddion perfformiad, e.e. data perfformiad ariannol a ffigurau gwerthiant, arolwg

boddhad, nifer y cwynion, data teyrngarwch cwsmeriaid, ffigurau cwsmeriaid newydd, adolygiad annibynnol.

D2 Rôl technoleg ym mhrofiad y cwsmer • Rôl technoleg:

o cwsmeriaid yn dethol/cymharu trwy’r rhyngrwyd, e.e. gwefannau adolygu, safleoedd cymharu

o cywirdeb gwybodaeth o adolygiadau ac adborth cwsmeriaid ac effaith bosibl hynny ar ddewis gwybodaeth o apiau ffonau symudol.

• Rôl y cyfryngau cymdeithasol: o cwsmeriaid hen a newydd yn ‘dilyn’ y sefydliad o rhannu gwybodaeth gadarnhaol a negyddol.

• Effaith bosibl ar gwsmeriaid sy’n cael trafferth cyrchu technoleg gyfredol neu newydd: o effaith bosibl e-docynnau a thocynnau ffôn (mtickets) ar y cwsmer o meddalwedd cysylltiadau cwsmer a ddefnyddir gan y sefydliad.

• Dibynadwyedd a dilysrwydd gwybodaeth neu ddata.

D3 Sut mae sefydliadau’n gwella profiad y cwsmer • Addasu gwerthoedd craidd, datganiad cenhadaeth, amcanion y sefydliad. • Ystod, addasrwydd, amrywiaeth cynnyrch, gwasanaethau a gynigir. • Partneriaethau â brandiau eraill cyfarwydd. • Marchnata a hyrwyddo.

D4 Creu sefydliad cwsmer-ganolog a rhoi safonau gwasanaeth ar waith i gyflawni amcanion y sefydliad

• Adolygu ac addasu’r datganiad cenhadaeth, y gwerthoedd craidd a’r amcanion i gynnwys datganiadau gwasanaeth i gwsmeriaid.

• Dadansoddi taith y cwsmer o’r dechrau i’r diwedd, gan nodi gwelliannau. • Cyfleu gwerthoedd craidd a nodi hyfforddiant ar gyfer cyflogeion. • Gwrando ar adborth a gweithredu yn ei sgîl, e.e. monitro safleoedd adolygu, cadw at

gytundebau lefel gwasanaeth (CLG) wrth drin cwynion.

Page 47: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

45

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Archwilio sut mae gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid yn cyfrannu at lwyddiant sefydliad

A.Rh1 Gwerthuso pa mor bwysig yw hi bod sefydliad teithio a thwristiaeth yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid sy’n cydymffurfio â rheoliadau’r Deyrnas Unedig.

A.Ll1 Esbonio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau cwsmeriaid yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A.Ll2 Esbonio effeithiau cadarnhaol posibl darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

A.Ll3 Esbonio pwysigrwydd rheoli disgwyliadau cwsmeriaid.

A.T1 Dadansoddi’r effeithiau posibl os na fydd sefydliad teithio a thwristiaeth yn ymateb yn effeithiol i gwsmer.

Nod dysgu B: Arddangos gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd teithio a thwristiaeth

BC.Rh2 Arddangos menter, cyfrifoldeb a phroffesiynoldeb yn gyson wrth ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol i ddiwallu anghenion y cwsmer yn llwyddiannus mewn dwy sefyllfa wahanol, gan werthuso pwysigrwydd y cynllun datblygiad personol o ran cyfrannu at ddatblygiad eich sgiliau eich hun a llwyddiant busnes posibl sefydliadau teithio a thwristiaeth.

B.Ll4 Arddangos yn gymwys sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol sy’n briodol ar gyfer diwallu anghenion cwsmer mewn dwy sefyllfa wahanol.

B.T2 Arddangos yn hyderus ac yn effeithiol sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol sy’n briodol ar gyfer diwallu anghenion cwsmer mewn dwy sefyllfa wahanol.

Nod dysgu C: Adolygu effeithiolrwydd eich perfformiad eich hun o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth

C.Ll5 Adolygu eich sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun a chynhyrchu cynllun gweithredu i ymdrin â meysydd lle gellid gwella, gan esbonio sut bydd datblygu sgiliau yn ychwanegu gwerth at sefydliadau teithio a thwristiaeth.

C.T3 Asesu sut gallai’r cynllun datblygiad personol wella eich perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid eich hun a helpu sefydliadau teithio a thwristiaeth i gyflawni eu nodau busnes.

Nod dysgu D: Cynllunio ar gyfer monitro a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn cyflawni amcanion sefydliad

D.Rh3 Cyflwyno cynllun cynhwysfawr gydag argymhellion ynghylch sut gallai sefydliad a ddewiswyd ddatblygu ei ddulliau monitro a defnyddio data i wella gwasanaeth i gwsmeriaid yn unol ag amcanion y sefydliad.

D.Ll6 Cyflwyno cynllun sylfaenol yn esbonio sut gallai sefydliad a ddewiswyd ddefnyddio dulliau monitro a defnyddio data i wella gwasanaeth i gwsmeriaid, yn unol ag amcanion y sefydliad.

D.T4 Cyflwyno cynllun manwl yn dadansoddi sut gallai sefydliad a ddewiswyd ddatblygu ei ddulliau monitro a defnyddio data i wella gwasanaeth i gwsmeriaid yn unol ag amcanion y sefydliad.

Page 48: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

46

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.Ll3, A.T1, A.Rh1)

Nodau dysgu: B ac C (B.Ll4, C.Ll5, B.T2, C.T3, BC.Rh2)

Nod dysgu: D (D.Ll6, D.T4, D.Rh3)

Page 49: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

47

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, bydd yn rhaid i’r dysgwyr gael mynediad i leoliad gwaith a fydd yn rhoi cyfle iddynt arsylwi’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir a hefyd, yn ddelfrydol, arddangos eu sgiliau cyfathrebu.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyflawni nod dysgu A, rhaid i’r dysgwyr ddewis sefydliad teithio a thwristiaeth addas fydd yn sicrhau bod y meini prawf asesu yn cael eu cwmpasu’n llawn. Dylai’r athrawon sicrhau bod y sefydliadau teithio a thwristiaeth a ddewisir gan y dysgwyr yn darparu digon o gyfleoedd i’w galluogi i gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad trylwyr o bwysigrwydd darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid sy’n cydymffurfio â rheoliadau a safonau’r Deyrnas Unedig. Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol, rhesymedig sy’n ymwneud ag amcanion y sefydliad a risgiau a manteision posibl darparu gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid, gan gydymffurfio â gofynion y rheoliadau ac arfer gorau. Bydd y dysgwyr yn cynnig rhesymau ac enghreifftiau sy’n darbwyllo i gyfiawnhau eu gwerthusiadau ac yn cyflwyno casgliadau clir.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi dadansoddiad cytbwys o’r effeithiau posibl i sefydliad teithio a thwristiaeth a ddewiswyd os nad yw’n ymateb yn effeithiol i gwsmer. Bydd y dadansoddiad yn ystyried effeithiau posibl sy’n berthnasol ac yn briodol ar gyfer y sefydliad a ddewiswyd. Bydd y dysgwyr yn cefnogi eu dadansoddiad â thystiolaeth berthnasol ar ffurf manylion penodol ac enghreifftiau o’r effeithiau posibl.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio’r ffactorau sy’n effeithio ar benderfyniadau cwsmeriaid ynghylch prynu cynnyrch neu wasanaethau teithio a thwristiaeth neu beidio. Bydd y dysgwyr hefyd yn esbonio’r effeithiau cadarnhaol posibl i sefydliad sy’n rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r ffactorau perthnasol, ond gall eu defnydd o dystiolaeth ategol ar gyfer eu hesboniadau fod yn gyfyngedig.

Rhaid i’r dysgwyr roi esboniad realistig ar gyfer y rhesymau pam dylai sefydliad reoli disgwyliadau cwsmeriaid. Gall yr esboniad am y rhesymau fod yn anghytbwys neu’n arwynebol a/neu’n gyffredinol mewn mannau.

Nodau dysgu B ac C

I gyflawni nodau dysgu B ac C, bydd y dysgwyr yn arddangos sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid mewn dwy sefyllfa wahanol, y bydd un ohonynt yn arwain at ymateb gwasanaeth i gwsmeriaid ysgrifenedig. Gallai’r sefyllfaoedd fod yn rhai gweithle teithio a thwristiaeth go iawn, y cafwyd tystiolaeth ohonynt mewn datganiadau tystion a datganiadau dysgwyr. Fel arall, gellir efelychu’r sefyllfaoedd trwy chwarae rôl. Rhaid i un sefyllfa gynnwys cyfathrebu wyneb yn wyneb, a rhaid i’r llall ddigwydd dros y ffôn. Yn ogystal â’r sefyllfa wyneb yn wyneb a’r sefyllfa dros y ffôn, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu ymateb ysgrifenedig sy’n ymdrin ag un o’r sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid oedd yn derbyn sylw. Rhaid i’r ymateb ysgrifenedig fod mewn fformat priodol ar gyfer y sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid, er enghraifft e-bost, gwefan neu bostiad cyfryngau cymdeithasol, neu lythyr ffurfiol.

Rhaid i un enghraifft gynnwys sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid heriol a rhaid i’r llall gynnwys sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid gymhleth. Sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid heriol yw un lle mae ymddygiad y cwsmer yn heriol neu’n anodd, ac mae gofyn bod yr asiant gwasanaeth i gwsmeriaid yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau priodol i ymdrin ag ymddygiad y cwsmer a’i reoli, deall natur problem y cwsmer a chyrraedd ateb y cytunir arno. Er enghraifft, cwsmer ymosodol neu mewn trallod sy’n cwyno am lety o safon wael mewn gwesty.

Page 50: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

48

Bydd sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid gymhleth yn cynnwys ffactorau niferus, sydd weithiau’n gymhleth, a/neu bartïon eraill. Mae gofyn bod yr asiant gwasanaeth i gwsmeriaid yn deall ac yn delio gyda ffactorau lluosog, y berthynas rhyngddynt a’u canlyniadau posibl i’r cwsmer a’r sefydliad teithio a thwristiaeth. Yn y sefyllfa hon, bydd angen i’r asiant gwasanaeth i gwsmeriaid gyfathrebu â phartïon eraill fel goruchwylydd a/neu gyflenwr trydydd parti er mwyn cael hyd i ateb y cytunir arno. Efallai mai’n anaml y bydd sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid cymhleth yn codi, ond mae methu â datrys y sefyllfa’n effeithiol yn debygol o arwain at broblemau pellach i’r sefydliad a/neu’r cwsmer.

Er enghraifft, sefyllfa lle mae cwsmer wedi cael ei daro’n wael neu wedi cael damwain oherwydd bod y sefydliad o bosibl wedi bod yn esgeulus.

Lle defnyddir sefyllfaoedd sy’n efelychu chwarae rôl, rhaid eu seilio ar sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid realistig yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Rhaid i’r sefyllfaoedd a’r cwsmeriaid a ddewisir fod yn wahanol ar gyfer pob chwarae rôl. Gallai’r cwsmeriaid dan sylw fod yn athrawon neu’n oedolion eraill, o bosibl o’r diwydiant teithio a thwristiaeth. Os bydd angen mwy o bobl i wneud sefyllfa chwarae rôl yn fwy realistig, er enghraifft ciw o gwsmeriaid, byddai’n dderbyniol i ddysgwyr eraill gymryd rhan.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, rhaid i’r dysgwyr arddangos menter, proffesiynoldeb a chyfrifoldeb yn gyson wrth ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol i ddatrys yn llwyddiannus yr holl sefyllfaoedd cwsmeriaid sy’n derbyn sylw a chynhyrchu ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr sy’n darbwyllo.

Yn achos pob sefyllfa, bydd y dysgwyr yn derbyn cyfrifoldeb amdani ac yn delio’n effeithiol gyda’r cwsmer i sicrhau ateb llwyddiannus, gan gynnwys unrhyw gamau dilynol sy’n ofynnol. Bydd y dysgwyr yn delio’n effeithiol gydag ymddygiad cwsmeriaid ac yn dangos lefel uchel o empathi. Oddi mewn i derfynau eu cyfrifoldeb eu hunain a’r canllawiau safonol, byddant yn arddangos menter yn gyson wrth ddeall a datrys problemau mewn sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau canlyniad effeithiol i’r cwsmer a’r sefydliad.

Bydd y dysgwyr yn arddangos agwedd broffesiynol a gwybodaeth gynhwysfawr am weithdrefnau perthnasol bob amser, gan gydbwyso buddiannau’r cwsmer â buddiannau a gofynion y sefydliad yn llwyddiannus. Byddant yn dangos eu gallu i ddeall a rheoli sefyllfaoedd yn effeithiol, ac yn cydymffurfio’n llawn â’r holl ofynion rheoliadol ac arfer da sy’n berthnasol.

Bydd yr ymateb ysgrifenedig gwasanaeth i gwsmeriaid wedi’i strwythuro’n dda ac yn ymdrin yn llawn â’r pwyntiau a godwyd yn y sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid sydd dan sylw. Bydd yr ymateb ysgrifenedig yn gwneud defnydd effeithiol o ddogfennau ategol ac yn arddangos gwybodaeth gynhwysfawr am gydymffurfio â rheoliadau neu bolisi gwasanaeth i gwsmeriaid perthnasol.

I gyrraedd safon teilyngdod, rhaid i’r dysgwyr ddangos bod ganddynt yr wybodaeth a’r sgiliau i ddelio’n hyderus ac yn effeithiol gyda chwsmeriaid mewn dwy sefyllfa wahanol sy’n ymwneud â chwsmeriaid, a darparu ymateb ysgrifenedig effeithiol mewn perthynas ag un o’r sefyllfaoedd.

Bydd y dysgwyr yn delio’n hyderus gydag ymddygiad cwsmeriaid mewn modd sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i broblemau neu gwynion i’r cwsmer a’r sefydliad. Byddant yn dangos dealltwriaeth glir o’r problemau neu’r cwynion ym mhob sefyllfa, yn ogystal â dealltwriaeth glir o deimladau’r cwsmer neu ei safbwynt. Bydd ymddygiad y dysgwyr ym mhob un o’r sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid yn gwbl briodol, a bydd eu gwybodaeth am ofynion ac ymarfer perthnasol gwasanaeth i gwsmeriaid yn gadarn.

Bydd yr ymateb ysgrifenedig gwasanaeth i gwsmeriaid wedi’i strwythuro ac yn ymdrin yn bennaf â’r pwyntiau a godwyd yn y sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid sydd dan sylw. Bydd yr ymateb ysgrifenedig yn gwneud defnydd clir o ddogfennau ategol a gwybodaeth am gydymffurfiaeth â rheoliadau neu bolisi gwasanaeth i gwsmeriaid.

Page 51: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

49

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn arddangos sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol priodol i ddiwallu anghenion y cwsmer mewn dwy sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid wahanol. Byddant hefyd yn cynhyrchu ymateb ysgrifenedig cymwys mewn perthynas ag un o’r sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd y dysgwyr yn cymhwyso’u gwybodaeth a’u sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid i ddelio’n gymwys â sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid a chyflawni canlyniad priodol a derbyniol i’r cwsmer a’r sefydliad. Ni fydd elfennau annerbyniol wedi’u hepgor yn yr wybodaeth a’r sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a welir gan y dysgwyr. Fodd bynnag, gallai’r dull o ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau fod yn gyfyngedig o ran cwmpas neu ddyfnder. Bydd y dysgwyr yn dangos empathi cyfyngedig at y cwsmer. Byddant yn arddangos dealltwriaeth o agweddau allweddol ar broblemau neu gwynion y cwsmer. Fodd bynnag, gallai dealltwriaeth y dysgwyr o’r agweddau allweddol hyn a chanlyniadau posibl peidio â’u datrys fod yn arwynebol mewn mannau.

Bydd yr ymateb ysgrifenedig gwasanaeth i gwsmeriaid wedi’i strwythuro ac yn ymdrin â’r pwyntiau pwysicaf a godwyd yn y sefyllfa gwasanaeth i gwsmeriaid sydd dan sylw. Bydd yr ymateb ysgrifenedig yn gwneud peth defnydd o ddogfennau ategol ac yn dangos peth gwybodaeth am gydymffurfio â rheoliadau neu bolisi gwasanaeth i gwsmeriaid. Fodd bynnag, ni fydd cynnwys yr ymateb ysgrifenedig yn fanwl, a gall fod yn anghytbwys, yn canolbwyntio’n bennaf ar foddhad y cwsmer neu ofynion y sefydliad yn hytrach na buddiannau’r cwsmer a’r sefydliad.

Bydd y dysgwyr yn defnyddio adborth priodol fel arsylwi gan athrawon/datganiadau tystion, datganiadau arsylwi gan gymheiriaid a fideos i werthuso’u perfformiad eu hunain yn y sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd y dysgwyr yn myfyrio ar eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eu hunain ac yn cynhyrchu cynllun datblygiad personol i roi sylw i feysydd lle gellid gwella. Byddant yn ystyried gwerth datblygu sgiliau a chynllun datblygiad personol i lwyddiant masnachol sefydliadau teithio a thwristiaeth.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr ddefnyddioldeb eu cynllun datblygiad personol i ddatblygu eu sgiliau eu hunain, yn unol â’r dystiolaeth yn eu hadfyfyrio trylwyr cynharach ar y sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddant yn gwerthuso’n drylwyr ddefnyddioldeb y cynllun o ran cyfrannu at lwyddiant busnes posibl sefydliadau teithio a thwristiaeth, gan greu cysylltiadau clir â gwerth eu sgiliau eu hunain i sefydliadau teithio a thwristiaeth fel cyflogwyr neu weithleoedd yn y dyfodol. Bydd y dysgwyr yn mynegi eu barn yn gryno ac yn rhugl, ac yn gwerthuso cysyniadau, syniadau a chamau gweithredu perthnasol er mwyn dod i gasgliadau rhesymedig, dilys. Byddant yn cyflwyno enghreifftiau penodol, dilys i gefnogi eu casgliadau.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi asesiad clir a chytbwys o sut gallai’r cynllun datblygiad personol wella’u perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid, yn unol â’r dystiolaeth yn eu hadfyfyrio cynharach ar y sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid a sut gallai eu sgiliau helpu sefydliadau teithio a thwristiaeth i gyflawni eu nodau busnes. Cefnogir yr asesiad gan dystiolaeth berthnasol, a gofnodwyd yn glir.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu adolygiad realistig o’u cryfderau a’u gwendidau. Rhaid cysylltu’r hunanasesiad yn benodol â’r hyn y bu’r dysgwyr yn ei wneud neu ddim yn ei wneud i ddatrys cwynion neu broblemau’r cwsmer. Gall adolygiadau’r dysgwyr fod yn anghytbwys neu gynnwys rhai mân wallau. Ar sail canlyniad yr adborth a’r adolygiad personol, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cynllun gweithredu priodol ar gyfer datblygu eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid eu hunain. Bydd y cynllun yn un realistig, ond gall fod yn arwynebol neu’n gyfyngedig mewn mannau. Bydd y dysgwyr yn cynnig esboniad realistig o werth eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr teithio a thwristiaeth, ond gall yr esboniad fod heb ddyfnder neu gynnig enghreifftiau cyfyngedig o sut gallai eu sgiliau fod yn ddefnyddiol.

Page 52: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 4: RHEOLI PROFIAD Y CWSMER YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

50

Nod dysgu D

Dylai’r dysgwyr ddewis sefydliad teithio a thwristiaeth i ymchwilio iddo er mwyn cwblhau cynllun ar wella gwasanaeth i gwsmeriaid.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud argymhellion sy’n argyhoeddi ynghylch dulliau effeithiol y gallai sefydliad a ddewiswyd eu defnyddio er mwyn adeiladu cronfa deyrngar o gwsmeriaid a gwella ansawdd y gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd y dysgwyr yn darparu tystiolaeth a ddewiswyd yn ddoeth ar gyfer eu cynllun cynhwysfawr i gyfiawnhau eu hargymhellion, gan ddangos eu bod wedi ymchwilio’n drylwyr i’r dulliau posibl, a chynnwys cyfeiriadau dilys at y defnydd o ddata a thechnoleg. Gall y dysgwyr gynnig atebion lluosog, a byddant yn ystyried dewisiadau amgen posibl, yn unol ag amcanion y sefydliad a ddewiswyd. Gellir defnyddio enghreifftiau o arfer da mewn sefydliadau neu gyd-destunau eraill i helpu i gyflawnhau’r argymhellion. Bydd yr holl argymhellion yn ddilys, wedi’u hystyried yn ofalus, ac yn arddangos dealltwriaeth fanwl o’r dulliau mwyaf effeithiol a ddefnyddir mewn gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gynnal ymateb pwyllog, a strwythurwyd yn dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad cytbwys o’r dulliau a ddefnyddir gan sefydliad a ddewiswyd, gyda chynllun manwl ar gyfer gwella safonau’r gwasanaeth i gwsmeriaid a chynyddu teyrngarwch cwsmeriaid.

Wrth wneud hyn, bydd y dysgwyr yn mynd ati’n drefnus i ymchwilio i’r dulliau gwasanaeth i gwsmeriaid, gan asesu eu haddasrwydd. Bydd hyn yn cynnwys arddangos dealltwriaeth glir o bwysigrwydd technoleg ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ac adolygu’r defnydd ohoni. Bydd y dysgwyr yn arddangos gwerthfawrogiad o arwyddocâd cymharol gwahanol ddulliau a ddefnyddir i fonitro ac adolygu gwasanaeth i gwsmeriaid ac amcanion y sefydliad a ddewiswyd. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon dda a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth gyffredinol o rai o’r prif ddulliau mae sefydliad a ddewiswyd yn eu defnyddio i fonitro ac adolygu gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddant yn cynhyrchu cynllun sylfaenol yn esbonio sut gallai’r sefydliad ddefnyddio dulliau monitro a data i wella safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a chynyddu teyrngarwch cwsmeriaid. Bydd hyn yn arddangos dealltwriaeth o’r defnydd o dechnoleg yn y sefydliad er mwyn gwella profiad y cwsmer, yn unol ag amcanion y sefydliad a ddewiswyd. Bydd cyfeiriadau at nodau gwella lefelau gwasanaeth i gwsmeriaid, ond gallant fod yn arwynebol mewn mannau. Gall y dystiolaeth fod yn gyfyngedig ei chwmpas neu wneud defnydd arwynebol o dystiolaeth ategol.

Cysylltiadau ag unedau eraill • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 3: Egwyddorion Marchnata ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 9: Atyniadau Ymwelwyr • Uned 13: Profiad Gwaith ym Maes Teithio a Thwristiaeth.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf:

• siaradwyr gwadd • profiad gwaith • bod yn rhan o gynulleidfa sy’n asesu chwarae rôl neu gyflwyniadau • cyfleoedd i ymweld â sefydliadau teithio a thwristiaeth a chael profiad ohonynt.

Page 53: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

51

Uned 5: Mentrau Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 90

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i wneud ymchwil a fydd yn canfod bwlch yn y farchnad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd, yn creu cynllun a strategaeth farchnata ac yn cynnig y syniad newydd er mwyn ennyn diddordeb.

Cyflwyniad i’r uned

Mae disgwyliadau twristiaid a theithwyr yn newid yn gyflym. Er mwyn ymateb i’r disgwyliadau hyn, mae’r sector teithio a thwristiaeth yn esblygu’n barhaus ac yn cynnig ystod ehangach o opsiynau ar gyfer demograffeg wahanol. Mae anghenion teithwyr busnes a hamdden fel ei gilydd yn amrywiol ac yn newid. Mae dewis eang, amrywiol o weithgareddau cysylltiedig â thwristiaid ar gael, o farcudfyrddio yn Sbaen i deithiau diwylliannol yng Nghroatia neu fwyta gyda phobl leol yn eu cartrefi. Mae proffil oed twristiaid sy’n dymuno rhoi cynnig ar wyliau mwy mentrus neu arbenigol hefyd yn newid. Mae entrepreneuriaid yn manteisio fwyfwy ar y tueddiadau hyn ac yn cynnig syniadau arloesol fydd yn gweddu i anghenion newidiol defnyddwyr.

Yn yr uned hon, byddwch yn ymchwilio i gyfleoedd teithio a thwristiaeth posibl ac yn datblygu cynllun cychwynnol a strategaeth farchnata cyn lansio’r fenter newydd. Byddwch yn datblygu sgiliau i gyflwyno sesiwn cynnig syniad fydd yn hyrwyddo eich cynllun ymhlith partïon â diddordeb er mwyn gweld eu hymateb i’r fenter bosibl. Wrth gwblhau’r tasgau asesu ar gyfer yr uned hon, byddwch yn dethol ac yn cymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau o bob rhan o’ch rhaglen.

Bydd yr uned hon yn rhoi i chi’r wybodaeth, a’r sgiliau a’r ymddygiad galwedigaethol i symud ymlaen at rolau fel entrepreneur teithio a thwristiaeth, ymgynghorydd gwerthu teithiau, cynllunydd digwyddiadau, cwnselydd teithio personol, a gweithio fel cyflogai/partner mewn busnesau sy’n cychwyn.

Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir yn yr uned hon yn eich helpu hefyd i symud ymlaen i Addysg Uwch.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Cyflawni ymchwil marchnad i ganfod syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

B Datblygu cynllun cychwynnol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

C Paratoi strategaeth farchnata i lansio’r fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr

D Cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer cynllun cychwynnol y fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn ennyn diddordeb ynddi.

Page 54: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

52

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Cyflawni ymchwil marchnad i ganfod syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

A1 Mathau o ymchwil marchnad

A2 Diben ymchwil marchnad A3 Dehongli canfyddiadau

ymchwil

Portffolio ymchwil unigol sy’n ymchwilio i’r cyfleoedd ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd.

B Datblygu cynllun cychwynnol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

B1 Agweddau cyfreithiol ar y fenter newydd

B2 Dichonoldeb ariannol y fenter newydd

B3 Adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y fenter newydd

B4 Dogfennau i gofnodi’r cynllun cychwynnol ar gyfer y fenter newydd

Cynllun cychwynnol unigol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd, ynghyd â strategaeth farchnata, i lansio’r fenter newydd. Gwerthusiad o ddichonoldeb y cynllun.

C Paratoi strategaeth farchnata i lansio’r fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr

C1 Y gymysgedd farchnata C2 Trosolwg o’r strategaeth

farchnata

D Cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer cynllun cychwynnol y fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn ennyn diddordeb ynddi

D1 Cyfleoedd i gyflwyno’r syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd i gynulleidfa

D2 Ystyried ffactorau wrth ddewis dull cyflwyno a lleoliad

D3 Adnoddau priodol ar gyfer sesiwn cyflwyno’r syniad

D4 Dogfennau ategol priodol ar gyfer sesiwn cyflwyno’r syniad

D5 Sgiliau cyflwyno sy’n briodol ar gyfer y dull a ddewiswyd o gyflwyno’r syniad

Tystiolaeth sain/fideo o ddysgwyr yn cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth i gynulleidfa mewn lleoliad priodol, gan ddefnyddio ystod o adnoddau i ennyn diddordeb yn y fenter newydd. Gellir cefnogi hyn â chofnodion arsylwi. Mae angen dogfennaeth ategol i gyd-fynd â hyn, gyda chofnod adfyfyriol yn dilyn ynghylch llwyddiant y fenter newydd a pherfformiad y dysgwr wrth gynnal sesiwn cyflwyno syniad.

Page 55: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

53

Cynnwys

Nod dysgu A: Cyflawni ymchwil marchnad i ganfod syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

A1 Mathau o ymchwil marchnad • Sylfaenol, e.e. holiaduron ac arolygon, gan gynnwys rhai wyneb yn wyneb, drwy’r post,

ar e-bost, dros y ffôn, grwpiau ffocws, paneli. • Eilaidd, e.e. y rhyngrwyd, adolygiadau cwsmeriaid, ystadegau’r llywodraeth, adroddiadau

cwmni, asiantaethau arbenigol fel Mintel, cyfnodolion masnach. • Meintiol: sy’n cael ei mesur a’i chyflwyno ar ffurf niferoedd. • Ansoddol: asesiadau sy’n cynrychioli barn unigolyn ar rywbeth.

A2 Diben ymchwil marchnad • Adolygu marchnad darged, e.e. pobl ifanc, teuluoedd, pensiynwyr, cyplau, grwpiau. • Canfod anghenion, e.e. twf mewn marchnadoedd, ffasiynau newidiol a thueddiadau. • Canfod bwlch yn y farchnad. • Canfod cystadleuwyr.

A3 Dehongli canfyddiadau ymchwil • Cyflwyno canfyddiadau, e.e. graffiau, siartiau. • Dilysrwydd a dibynadwyedd ymchwil neu ddata. • Dadansoddi ymchwil.

Nod dysgu B: Datblygu cynllun cychwynnol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

B1 Agweddau cyfreithiol ar y fenter newydd • Ffurf gyfreithiol, e.e. unig fasnachwr, partneriaeth, cwmni cyfyngedig preifat (Cyf). • Hawlfraint ac eiddo deallusol (IP). • Deddfwriaeth:

o cyflogaeth o iechyd a diogelwch o diogelu data o diogelu’r amgylchedd o diogelu defnyddwyr.

B2 Dichonoldeb ariannol y fenter newydd • Rhagamcanion costau: sefydlu, costau sefydlog ac amrywiol. • Penderfynu ar swm y cyllid sy’n ofynnol ar sail y rhagamcanion costau. • Cyfnod talu’n ôl. • Rhagamcanion elw/colled. • Pwynt adennill costau. • Llif arian a ragwelir.

B3 Adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y fenter newydd • Adnoddau ffisegol. • Adnoddau ariannol. • Adnoddau dynol.

B4 Dogfennau i gofnodi’r cynllun cychwynnol ar gyfer y fenter newydd • Cynllun busnes ffurfiol. • Llifsiart. • Adroddiad.

Page 56: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

54

Nod dysgu C: Paratoi strategaeth farchnata i lansio’r fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr

C1 Y gymysgedd farchnata • Cynnyrch/gwasanaeth: nodweddion, manteision, rhinwedd gwerthu unigryw (USP). • Strategaethau prisio: treiddiad, cost plws, ar sail cystadleuwyr, sgimio. • Hyrwyddo, e.e.:

o hysbysebu, e.e. papurau newydd, cylchgronau, radio, teledu, ar-lein, negeseuon yn yr awyr, byrddau hysbysebion

o cysylltiadau cyfryngau a chyhoeddus, e.e. y teledu a’r radio, marchnata ‘guerrilla’ o marchnata digidol, e.e. y rhyngrwyd; cyfryngau cymdeithasol fel Facebook®,

Twitter®, LinkedIn®, Instagram®; ffonau symudol; hysbysfyrddau electronig o sioeau masnach a defnyddwyr o taflenni.

• Lle – sianeli dosbarthu twristiaeth: o sianeli dosbarthu uniongyrchol, e.e. hysbysebu, dosbarthu llyfrynnau,

gwefan, cyfryngau cymdeithasol, atgyfeiriadau cleientiaid o sianeli dosbarthu anuniongyrchol, e.e. trwy drydydd parti fel asiant teithio

manwerthu, cyfanwerthwr neu drefnydd teithiau i mewn.

C2 Trosolwg o’r strategaeth farchnata • Cynnwys y neges farchnata. • Dethol cymysgedd briodol. • Dethol cyfrwng priodol. • Sut mae’r strategaeth i’w gwerthuso.

Nod dysgu D: Cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer cynllun cychwynnol y fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn ennyn diddordeb ynddi

D1 Cyfleoedd i gyflwyno’r syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd i gynulleidfa

• Cyfnodolion masnach, papurau newydd, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol. • Arddangosfeydd, e.e. Marchnad Teithio’r Byd, Sioe Gychod Llundain. • Cynadleddau, e.e. Cynhadledd y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth, Sioe Twristiaeth

a Theithio Prydain.

D2 Ystyried ffactorau wrth ddewis dull cyflwyno a lleoliad • Maint, e.e. y lle sydd ar gael ar gyfer cyflwyno’r syniad. • Asesiad risg, e.e. iechyd a diogelwch. • Cynllun wrth gefn. • Yswiriant. • Y gyllideb sydd ar gael. • Effaith weledol, e.e. defnydd effeithiol o arwyddion a graffeg.

D3 Adnoddau priodol ar gyfer sesiwn cyflwyno’r syniad • Adnoddau priodol, e.e. cyfarpar amlgyfrwng, silffoedd, rheseli llenyddiaeth, byrddau

arddangos paneli, stondinau arddangos posteri a graffeg, baneri, rhesi o faneri bach (bunting), byrddau gwyn.

D4 Dogfennau ategol priodol ar gyfer sesiwn cyflwyno’r syniad • Dogfennau ategol manwl sy’n ymwneud â chynllun y fenter unigol ac yn dangos

tystiolaeth o archwilio cwestiynau posibl gan aelodau’r gynulleidfa, e.e. risg, disgwyliadau o ran enillion.

• Dogfennau ategol eraill, e.e. posteri ar gyfer byrddau arddangos, taflenni/taflenni i’w dosbarthu, taflenni crynodeb o’r fenter, cyflwyniad amlgyfrwng i’w arddangos, llyfrynnau.

Page 57: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

55

D5 Sgiliau cyflwyno sy’n briodol ar gyfer y dull a ddewiswyd o gyflwyno’r syniad

Sgiliau cyflwyno priodol, e.e.: • cyflwyniad personol, ymddygiad ac agwedd y cyflwynydd • gwaith paratoi’r cyflwynydd a’i (g)wybodaeth am y pwnc • gallu i ddefnyddio adnoddau a chyfarpar yn ddiogel ac yn effeithiol • sgiliau cyfathrebu, e.e. gallu i esbonio syniadau mewn modd sy’n darbwyllo, gallu i

ymgysylltu â chynulleidfa, sgiliau gwrando, gallu i ateb cwestiynau’n glir ac yn gywir, gallu i gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig a gweledol mewn modd sy’n darbwyllo.

Page 58: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

56

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Cyflawni ymchwil marchnad i ganfod syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

A.Rh1 Gwerthuso pwysigrwydd cynnal ymchwil marchnad priodol a thrylwyr cyn cychwyn ar fenter teithio a thwristiaeth newydd.

A.Ll1 Esbonio’r gwahanol fathau o ymchwil marchnad sy’n gallu cael eu defnyddio i ganfod syniad newydd ar gyfer menter teithio a thwristiaeth.

A.Ll2 Gwneud gwaith ymchwil ynghylch syniad newydd ar gyfer menter teithio a thwristiaeth.

A.T1 Dadansoddi gwybodaeth ymchwil i lywio cynllun cychwynnol i syniad newydd ar gyfer menter teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu B: Datblygu cynllun cychwynnol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd a fydd yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr

BC.Rh2 Gwerthuso dichonoldeb y cynllun cychwynnol a’r strategaeth farchnata, gan gymryd unrhyw gyfyngiadau i ystyriaeth.

B.Ll3 Esbonio’r fenter teithio a thwristiaeth a gynigir.

B.Ll4 Cynhyrchu cynllun cychwynnol ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd.

B.T2 Dadansoddi dichonoldeb y cynllun cychwynnol ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd.

Nod dysgu C: Paratoi strategaeth farchnata i lansio’r fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr

C.Ll5 Esbonio pam mae elfennau’r gymysgedd farchnata yn bwysig wrth gynyddu ymwybyddiaeth o’r fenter teithio a thwristiaeth newydd.

C.Ll6 Paratoi strategaeth farchnata ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd.

C.T3 Asesu effeithiolrwydd posibl y strategaeth farchnata o ran cynyddu ymwybyddiaeth o’r fenter teithio a thwristiaeth newydd.

Nod dysgu D: Cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer cynllun cychwynnol y fenter teithio a thwristiaeth newydd er mwyn ennyn diddordeb ynddi

D.Rh3 Arddangos hunanreolaeth a menter unigol wrth gynnal sesiwn cyflwyno syniad lwyddiannus, o ansawdd uchel, sy’n ennyn diddordeb yn y fenter teithio a thwristiaeth newydd.

D.Ll7 Paratoi’r adnoddau a’r dogfennau sy’n angenrheidiol i gynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd i gynulleidfa a ddewiswyd.

D.Ll8 Cynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd i gynulleidfa a ddewiswyd.

D.T4 Cynllunio a chynnal sesiwn cyflwyno syniad ar gyfer y fenter teithio a thwristiaeth newydd, gydag argymhellion ar gyfer gwelliannau.

Page 59: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

57

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nodau dysgu: B ac C (B.Ll3, B.Ll4, C.Ll5, C.Ll6, B.T2, C.T3, BC. Rh2)

Nod dysgu: D (D.Ll7, D.Ll8, D.T4, D.Rh3)

Page 60: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

58

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Nid oes gofynion ychwanegol penodol ar gyfer yr uned hon.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Rhaid i’r dysgwyr ddewis syniad menter addas i sicrhau bod y meini prawf yn cael eu cwmpasu’n llawn. Mae’n rhaid i’r dysgwyr gynhyrchu cynllun cychwynnol, strategaeth farchnata a sesiwn i gyflwyno’r syniad newydd. Gall fformat cyflwyniad cynnig y syniad fod yn rhyngweithiol neu’n statig. Dylai athrawon sicrhau bod syniadau menter y dysgwyr yn rhoi digon o gyfle i’w galluogi i gwblhau’r asesiadau’n llawn.

Wrth gwblhau’r gweithgaredd asesu ar gyfer yr uned hon, bydd rhaid i’r dysgwyr ystyried a dewis cynnwys a fydd yn eu galluogi i gymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau o’r holl unedau eraill mewn modd integredig i sefyllfa waith realistig.

Nod dysgu A

Dylai’r dysgwyr greu cysylltiadau rhwng eu hymchwil marchnad ac asesu tasgau ar draws eu rhaglen o ddysgu mewn perthynas ag arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol: mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth, y rolau, y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael, tueddiadau cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth ac ymatebion y diwydiant i’r tueddiadau hyn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu portffolio manwl, cynhwysfawr o ymchwil, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau perthnasol. Bydd y ffynonellau gwybodaeth yn cynnwys ymchwil sylfaenol ac eilaidd ac yn ymchwilio’n drylwyr i dueddiadau cyfredol a chyfleoedd ar gyfer mentrau teithio a thwristiaeth newydd. Bydd y dysgwyr yn gwerthuso’r wybodaeth ymchwil i gyflawnhau’r dewis o syniad ar gyfer menter newydd. Bydd gwerthusiad manwl ynghylch pwysigrwydd cynnal ymchwil marchnad trylwyr a phriodol cyn cychwyn ar syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig/llafar o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn ymchwilio’n drefnus i’r tueddiadau cyfredol a’r cyfleoedd ar gyfer mentrau teithio a thwristiaeth newydd. Bydd y portffolios ymchwil yn fanwl ac yn cynnwys amrywiaeth o ffynonellau perthnasol, fydd yn cynnwys ffynonellau sylfaenol ac eilaidd. Bydd y dysgwyr yn dadansoddi dichonoldeb eu syniadau eu hunain ar sail canlyniad eu hymchwiliadau. Bydd y dysgwyr yn cyflwyno dadansoddiad clir, cywir a chytbwys sy’n arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon uchel.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio’r gwahanol fathau o ymchwil marchnad sy’n gallu cael eu defnyddio i ganfod syniad ar gyfer menter teithio a thwristiaeth newydd. Bydd esboniadau’r dysgwyr yn briodol ac yn cwmpasu’r holl fathau o ymchwil a restrir yng nghynnwys yr uned, ond gallai’r esboniadau fod yn gyfyngedig eu cwmpas neu’n arwynebol mewn mannau.

Bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil ar dueddiadau cyfredol a chyfleoedd ar gyfer mentrau teithio a thwristiaeth newydd gan ddefnyddio ffynonellau sylfaenol ac eilaidd o wybodaeth. Bydd tystiolaeth am ymchwil y dysgwyr mewn portffolio ymchwil priodol a realistig; ond gall yr ystod o ffynonellau gwybodaeth fod yn gyfyngedig, ac mae’n bosibl na fydd rhai yn berthnasol.

Nodau dysgu B ac C

Dylai’r dysgwyr greu cysylltiadau rhwng eu syniad menter teithio a thwristiaeth ac asesiad tasgau ar draws eu rhaglen ddysgu sy’n ymwneud ag arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r canlynol: mathau o sefydliadau teithio a thwristiaeth, y rolau, y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael, tueddiadau cyfredol o ran teithio a thwristiaeth ac ymatebion y diwydiant i’r tueddiadau hyn.

Page 61: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

59

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad o’r fenter teithio a thwristiaeth a gynigir. Bydd y dysgwyr yn cyfiawnhau’r syniad yn llawn gan ddefnyddio’u dadansoddiad ymchwil. Bydd cynllun cychwynnol y syniad yn gynhwysfawr ac yn cynnwys ystyriaeth drylwyr o’r goblygiadau cyfreithiol a sut gallai’r rhain effeithio ar eu cynnig. Bydd y dysgwyr yn darparu data ariannol cywir a pherthnasol i gefnogi’r fenter, ynghyd â nodi’r adnoddau sy’n ofynnol yn fanwl a chynhwysfawr. Bydd y dysgwyr yn trafod unrhyw gyfyngiadau a allai gael effaith ar ddichonoldeb eu syniad. Bydd y strategaeth farchnata yn cynnwys cymysgedd farchnata gytbwys ac yn dangos gallu’r dysgwyr i gymhwyso eu dealltwriaeth o bwysigrwydd elfennau o’r gymysgedd farchnata wrth gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr. Bydd y dysgwyr yn gwerthuso dichonoldeb y strategaeth farchnata, gan gymryd i ystyriaeth amserlen y strategaeth a’r gyllideb sydd ar gael. Bydd yr adroddiad yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel trwy eirfa dechnegol gywir a rhugl, i gefnogi ymateb pwyllog, wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir, cytbwys o’r fenter teithio a thwristiaeth a gynigir. Bydd y syniad yn cael ei gyfiawnhau ar sail canlyniadau eu gwaith ymchwil. Bydd y cynllun cychwynnol ar gyfer y syniad yn fanwl ac yn cynnwys ystyried y goblygiadau cyfreithiol a sut gallai’r rhain effeithio ar eu cynnig. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu data ariannol perthnasol i gefnogi’r fenter, ynghyd â nodi’r adnoddau sy’n ofynnol yn fanwl. Bydd y strategaeth farchnata yn cynnwys cymysgedd farchnata gadarn ac yn dangos dealltwriaeth y dysgwyr o bwysigrwydd elfennau o’r gymysgedd farchnata wrth gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr. Bydd y dysgwyr yn asesu effeithiolrwydd y strategaeth farchnata wrth gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr. Bydd y dysgwyr yn asesu effeithiolrwydd y strategaeth farchnata o ran cynyddu ymwybyddiaeth o’r syniad newydd. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad realistig o’r fenter teithio a thwristiaeth a gynigir. Byddant yn cynhyrchu cynllun cychwynnol sy’n rhoi peth ystyriaeth i’r goblygiadau cyfreithiol a allai effeithio ar y cynnig. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu data ariannol manwl a phriodol, a all gynnwys rhai mân wallau neu fod yn amherthnasol mewn mannau. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr wedi ystyried yr adnoddau sy’n ofynnol i sefydlu’r fenter, ond gallai’r dystiolaeth fod yn arwynebol neu’n gyfyngedig ei chwmpas. Bydd y dysgwyr yn cynnwys tystiolaeth o’u dealltwriaeth o brif elfennau’r gymysgedd farchnata, ac yn cynhyrchu strategaeth farchnata nad yw o reidrwydd yn gwbl gytbwys.

Nod dysgu D

Er mwyn cyflawni’r meini prawf asesu ar gyfer y nod dysgu hwn, rhaid i’r dysgwyr gynllunio a chynnal sesiwn cyflwyno syniad unigol i ennyn diddordeb yn y fenter teithio a thwristiaeth newydd. Bydd y dysgwyr yn dewis math o gyflwyniad sy’n briodol ar gyfer syniad y fenter a’r gynulleidfa. Gallai’r cyflwyniad ddefnyddio fformat statig, er enghraifft arddangosfa weledol neu gyflwyniad amlgyfrwng, neu un rhyngweithiol, er enghraifft cyflwyniad llafar gyda chefnogaeth deunyddiau clyweledol.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn dangos lefel uchel o fenter a hunanreolaeth wrth gynllunio a chyrchu’r adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer cyflwyno’r syniad. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr wedi cynnal asesiad risg manwl o’r lleoliad ac wedi cynhyrchu cynllun manwl wrth gefn. Bydd y dysgwyr, o fewn y gyllideb a ganiateir a chan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, yn cynhyrchu cyflwyniad unigol wedi’i ddylunio’n dda, sy’n arddangos lefel uchel o allu technegol unigol, sylw i fanylion, arloesedd a manwl gywirdeb. Bydd fformat y sesiwn cyflwyno syniad yn gwbl briodol ar gyfer y gynulleidfa arfaethedig neu ymwelwyr. Bydd y dogfennau ategol wedi’u strwythuro’n dda ac yn dangos tystiolaeth o gysylltiadau rhesymegol â’r ymchwil menter a wnaed cyn y sesiwn. Bydd y dogfennau’n cyflwyno’r fenter teithio a thwristiaeth yn effeithiol i’r gynulleidfa. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr wedi argymell gwelliannau y gellid eu gwneud i’r sesiwn gyflwyno. Cefnogir y dystiolaeth gan gofnodion arsylwi, datganiadau tystion a chyfryngau digidol.

Page 62: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 5: MENTRAU TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

60

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynllunio ac yn cyrchu’r adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer cyflwyno’r syniad. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr, fel rhan o’u cynllunio, wedi cynnal asesiad risg o’r lleoliad a chynhyrchu cynllun wrth gefn. Bydd y dysgwyr, o fewn y gyllideb a ganiateir a chan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, yn cynhyrchu cyflwyniad unigol clir, strwythuredig, sy’n ennyn diddordeb y gynulleidfa yn y sesiwn gyflwyno neu ymwelwyr â’r stondin. Bydd y dogfennau ategol yn fanwl ac yn dangos cysylltiadau â’r ymchwil am y fenter a wnaed cyn y sesiwn. Bydd y dogfennau’n cyflwyno’r fenter teithio a thwristiaeth yn glir i’r gynulleidfa. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dogfen yn esbonio pa argymhellion bydden nhw’n eu gwneud i wella’r sesiwn cyflwyno syniad, petaent yn ei chynnal eto. Cefnogir y dystiolaeth gan gofnodion arsylwi, datganiadau tystion a chyfryngau digidol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn darparu tystiolaeth o gynllunio realistig, gan gynnwys ystyried asesu risg a chynllunio wrth gefn ar gyfer y sesiwn cyflwyno syniad. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr wedi defnyddio gwahanol fathau o adnoddau i gynhyrchu’r sesiwn cyflwyno syniad, er na fydd yr holl adnoddau o reidrwydd yn gwbl berthnasol. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cyflwyniad unigol sy’n esbonio’r fenter teithio a thwristiaeth newydd yn gywir, ond a all fod yn arwynebol mewn mannau. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dogfennau priodol i ennyn diddordeb yn y fenter teithio a thwristiaeth newydd. Ni fydd hepgoriadau na gwallau hanfodol yn y dogfennau ategol, er na fydd cysylltiadau penodol bob amser yn amlwg o reidrwydd rhwng y dogfennau a syniad y fenter neu’r gwaith ymchwil a wnaed eisoes. Cefnogir y dystiolaeth gan gofnodion arsylwi, datganiadau tystion a chlipiau fideo.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Dylai’r asesu ar gyfer yr uned hon ddefnyddio gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a ddatblygwyd o’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth.

Byddai’r uned yn ymwneud â’r addysgu yn:

• Uned 10: Trafnidiaeth Teithwyr • Uned 11: Digwyddiadau, Cynadleddau ac Arddangosfeydd.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf siaradwyr arbenigol ac ymweliadau.

Page 63: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

61

Uned 6: Twristiaeth Arbenigol

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio ac yn dadansoddi graddfa, maint a chwmpas twristiaeth arbenigol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, gan gynnwys darparwyr arbenigol allweddol, tueddiadau diweddar a mathau o dwristiaeth arbenigol.

Cyflwyniad i’r uned

Mae twristiaeth arbenigol yn faes twf yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, gyda mwy o farchnadoedd arbenigol yn dod i’r amlwg o flwyddyn i flwyddyn.

Yn yr uned hon, byddwch yn ymchwilio i raddfa a chwmpas twristiaeth arbenigol a’i harwyddocâd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddwch yn nodi’r prif chwaraewyr a’u harbenigeddau, ac yn ystyried tueddiadau cyfredol penodol. Yn olaf, byddwch yn edrych ar arbenigeddau sefydledig a rhai sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u hatyniad a’u poblogrwydd ymhlith gwahanol farchnadoedd.

Bydd yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen i addysg uwch mewn amrywiaeth o gyrsiau sy’n galw am wybodaeth ynghylch marchnadoedd cwsmer arbenigol, er enghraifft gradd mewn twristiaeth, hamdden, astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwch yn yr uned hon hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Ymchwilio i’r amrywiaeth o ddewisiadau a darparwyr twristiaeth arbenigol

B Edrych ar raddfa, cwmpas a thwf twristiaeth arbenigol

C Archwilio gwydnwch ac effaith bosibl mathau allweddol o dwristiaeth arbenigol.

Page 64: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

62

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i’r amrywiaeth o ddewisiadau a darparwyr twristiaeth arbenigol

A1 Diffiniad o dwristiaeth arbenigol

A2 Trefnwyr teithiau annibynnol

A3 Trefnwyr teithiau marchnad dorfol sydd wedi dod i’r farchnad hon

A4 Cymdeithas y Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a’i haelodau

A5 Effaith asiantaethau teithio ar-lein (OTAs) ac archebu ar-lein ar dwristiaeth arbenigol

Adroddiad yn ymchwilio i’r amrywiaeth o ddarparwyr yn y sector twristiaeth arbenigol a’u gwahanol rolau. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar bedwar atyniad gwahanol (dau naturiol a dau a adeiladwyd), a hefyd yn ymchwilio i rôl OTAs ac archebu ar-lein yn y dewisiadau hyn.

B Edrych ar raddfa, cwmpas a thwf twristiaeth arbenigol

B1 Demograffeg cwsmeriaid sy’n mynd ar wyliau twristiaeth arbenigol

B2 Cynnydd yn y niferoedd o’r Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd cyfan (trwy’r 21ain ganrif) sy’n rhan o dwristiaeth arbenigol

B3 Mathau o wyliau a chyrchfannau mewn twristiaeth arbenigol

B4 Rôl safleoedd adolygu a chyfryngau wrth ddatblygu twristiaeth arbenigol

Cyflwyniad gyda mapiau, graffiau neu siartiau i gyd-fynd ag ef, sy’n ystyried tueddiadau demograffig, rôl y cyfryngau a safleoedd adolygu, ac yn nodi cyrchfannau allweddol ar gyfer twristiaeth arbenigol.

C Archwilio gwydnwch ac effaith bosibl mathau allweddol o dwristiaeth arbenigol

C1 Arbenigeddau sydd â gwydnwch a dewisiadau cyfoes o ran arbenigedd

C2 Hirhoedledd cyrchfan C3 Effaith bosibl twristiaeth

arbenigol ar gyrchfan

Cyflwyniad gyda nodiadau’n cyd-fynd i’r siaradwr, yn canolbwyntio ar wydnwch ac effaith bosibl mathau allweddol o dwristiaeth arbenigol ar gyrchfan mewn perthynas â thri maes arbenigol.

Page 65: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

63

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i’r amrywiaeth o ddewisiadau a darparwyr twristiaeth arbenigol

A1 Diffiniad o dwristiaeth arbenigol • Twristiaeth arbenigol yw darparu gweithgareddau twristiaeth wedi’u teilwra ar gyfer

diddordebau penodol grwpiau ac unigolion. Mae ystod aruthrol o dwristiaeth arbenigol, ac mae’n newid yn gyflym, e.e.: o antur, llinach, pensaernïol (architourism), celf a dylunio, sêr (astro), gwylio adar

(avitourism), meysydd brwydrau, diwylliannol, tywyll, eco, e-gêmau, gwyliau/digwyddiadau, ffilm, gamblo, blwyddyn fwlch, gastronomeg, daearyddol (hela stormydd, Aurora Borealis), safleoedd ysbrydion, iechyd a llesiant, treftadaeth, hanesyddol, lesbiaidd hoyw deurywiol trawsrywiol (LHDT), goleudy, ieithyddiaeth, meddygol, milwrol, natur, hiraeth am y gorffennol, ffotograffiaeth, eiddo, crefyddol, gwledig, saffari, pobl hŷn, safleoedd slymiau, sba/iechyd, gwylio chwaraeon/cymryd rhan mewn chwaraeon, safleoedd brawychiaeth, rhithwir, gwirfoddoli, priodas, bywyd gwyllt, gwin.

• Categorïau twristiaeth wedi’u teilwra: o archwilio o antur o dysgu.

• Atyniad a marchnadoedd targed, demograffeg cwsmeriaid. • Atyniadau ar draws y byd sy’n berthnasol i dwristiaeth arbenigol:

o atyniadau naturiol – safleoedd topograffig, e.e. mynyddoedd, traethau, dyffrynnoedd, ogofâu, ceunentydd,

llosgfynyddoedd, riffiau – safleoedd hinsoddol, e.e. mannau poeth, mannau oer, mannau llaith, mannau sych – safleoedd wedi’u diffinio yn ôl lleoliad, e.e. safleoedd canolog neu hygyrch, safleoedd ynysig

neu anodd eu cyrraedd – safleoedd lle mae mathau arbennig o blanhigion neu anifeiliaid yn byw, e.e. coedwigoedd,

jyngl, glaswelltir, dolydd, anialwch, gerddi botaneg – safleoedd hydrolegol, e.e. llynnoedd, afonydd, nentydd, rhaeadrau, ffynhonnau mwynol – digwyddiadau naturiol, e.e. diffyg ar y lleuad, digwyddiadau tymhorol fel anifeiliaid ac adar

yn mudo, echdoriadau folcanig, tymor glawog neu sych a newidiadau yn amodau’r môr o atyniadau a adeiladwyd

– cynhanes, e.e. henebion, paentiadau mewn ogofâu – hanesyddol, e.e. amgueddfeydd, cofebau, adeiladau treftadaeth a restrwyd, safleoedd

digwyddiadau arwyddocaol – safleoedd ag arwyddocâd crefyddol, e.e. safleoedd sanctaidd, safleoedd pererindod,

gwyliau crefyddol – arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol cyfoes, e.e. amgueddfeydd, orielau celf,

pensaernïaeth fodern, theatr, gwyliau, ffeiriau, arddangosfeydd, digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol

– atyniadau gwledig, e.e. ffermydd, gwindai, mwyngloddiau, rhanbarthau amaethyddol, technoleg amaethyddol neu amgueddfeydd.

A2 Trefnwyr teithiau annibynnol • Trefnwyr teithiau arbenigol sydd wedi ennill eu plwyf a’u marchnad arbenigol. • Trefnwyr teithiau arbenigol newydd a’u marchnad arbenigol. • Pwysigrwydd, manteision ac anawsterau cysylltiedig â threfnwyr teithiau annibynnol.

Page 66: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

64

A3 Trefnwyr teithiau marchnad dorfol sydd wedi dod i’r farchnad hon • Manteision posibl dod i’r farchnad dwristiaeth arbenigol ar gyfer trefnwyr teithiau

marchnad dorfol. • Yr anawsterau posibl sy’n codi i drefnwyr teithio annibynnol wrth i drefnwyr teithiau

marchnad dorfol ymuno â’r farchnad. • Manteision, pwysigrwydd ac anawsterau posibl sy’n codi i gwsmeriaid wrth i drefnwyr

teithiau marchnad dorfol ymuno â’r farchnad.

A4 Cymdeithas y Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a’i haelodau • Defnyddiau (gan gynnwys manteision a phroblemau posibl) i aelodau AITO. • Defnyddiau (gan gynnwys manteision a phroblemau posibl) i gwsmeriaid sefydliadau

teithio a thwristiaeth. • Rôl AITO yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A5 Effaith asiantaethau teithio ar-lein (OTAs) ac archebu ar-lein ar dwristiaeth arbenigol

Asiantaethau teithio ar-lein (OTAs) a chyfleusterau archebu ar-lein cyfredol a’u rôl mewn twristiaeth arbenigol:

• mathau o gyfleusterau archebu ar-lein • mathau o gwsmeriaid sy’n defnyddio OTAs • marchnata OTAs a’u cyfran o’r farchnad • tueddiadau o ran OTAs ac effaith bosibl hynny ar dwristiaeth arbenigol, gan gynnwys

defnydd o OTAs yn y dyfodol.

Nod dysgu B: Edrych ar raddfa, cwmpas a thwf twristiaeth arbenigol

B1 Demograffeg cwsmeriaid sy’n mynd ar wyliau twristiaeth arbenigol • Proffil cwsmeriaid. • Niferoedd teithwyr.

B2 Cynnydd yn y niferoedd o’r Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd cyfan (trwy’r 21ain ganrif) sy’n rhan o dwristiaeth arbenigol

• Rhesymau am y twf, e.e. y rhyngrwyd, newidiadau mewn incwm gwario, cynnydd teithiau awyr rhad, ymwybyddiaeth cwsmeriaid.

• Tueddiadau/datblygiadau posibl o ran twf maint/niferoedd: o poblogaeth a newid cymdeithasol o poblogaeth sy’n heneiddio, teulu fertigol, teuluoedd annhraddodiadol, cenhedlaeth

y bŵm babanod, cenhedlaeth y wasgfa (squeezed-middle) o gwyliau pontio’r cenedlaethau o proffil ethnig newidiol gwledydd.

B3 Mathau o wyliau a chyrchfannau mewn twristiaeth arbenigol • Gwyliau sy’n syrthio i gategori twristiaeth arbenigol. • Demograffeg cwsmeriaid:

o sut mae demograffeg cwsmeriaid yn dylanwadu ar y dewis o gyrchfan. • Prif gyrchfannau teithwyr arbenigol:

o diffiniad o brif gyrchfannau – y cyrchfannau mwyaf poblogaidd i deithwyr arbenigol o rhesymau pam mae prif gyrchfannau’n apelio.

• Prif ranbarthau tarddiad teithwyr arbenigol: o diffiniad o brif ranbarthau tarddiad – y rhanbarthau tarddiad mwyaf poblogaidd

i deithwyr arbenigol o rhesymau am boblogrwydd prif ranbarthau tarddiad.

Page 67: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

65

B4 Rôl safleoedd adolygu a chyfryngau wrth ddatblygu twristiaeth arbenigol

Safleoedd adolygu a chyfryngau cymdeithasol cyfredol, a’u rôl ym maes twristiaeth arbenigol: • mathau o gwsmeriaid sy’n defnyddio safleoedd adolygu a chyfryngau cymdeithasol • defnydd o safleoedd cyfryngau cymdeithasol gan gwsmeriaid a’r effaith bosibl ar

dwristiaeth arbenigol • defnydd o safleoedd adolygu gan gwsmeriaid a’r effaith bosibl ar dwristiaeth arbenigol • defnydd o safleoedd adolygu a chyfryngau cymdeithasol yn offeryn i farchnata twristiaeth

arbenigol i wahanol rannau o’r farchnad.

Nod dysgu C: Archwilio gwydnwch ac effaith bosibl mathau allweddol o dwristiaeth arbenigol

C1 Arbenigeddau sydd â gwydnwch a dewisiadau cyfoes o ran arbenigedd • Amrywiad yng ngwydnwch (hyd poblogrwydd) gweithgareddau twristiaeth arbenigol sy’n

darparu ar gyfer diddordebau penodol grwpiau ac unigolion. • Amrywiad yn yr effaith bosibl ar gyrchfannau twristiaid yn sgîl hyd poblogrwydd

gweithgareddau twristiaeth arbenigol.

C2 Hirhoedledd cyrchfan

Hyd poblogrwydd:

• pam mae cyrchfannau arbenigol yn boblogaidd am gyfnodau gwahanol • arbenigeddau sy’n boblogaidd am gyfnod hir • arbenigeddau amser-gyfyngedig • effaith bosibl hyd poblogrwydd/arbenigeddau amser-gyfyngedig.

C3 Effaith bosibl twristiaeth arbenigol ar gyrchfan

Effaith bosibl: • economaidd, e.e. hwb tymor byr a/neu hir i’r economi leol • datblygu seilwaith, e.e. yn sgîl digwyddiad fel y Gêmau Olympaidd • newidiadau sosio-economaidd a demograffig • ystod ddemograffig yr unigolion sy’n teithio i gyrchfannau • ecolegol neu amgylcheddol.

Page 68: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

66

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i’r amrywiaeth o ddewisiadau a darparwyr twristiaeth arbenigol

A.Rh1 Gwerthuso pwysigrwydd gwahanol fathau o ddarparwyr arbenigol yn y sector.

A.Ll1 Esbonio’r amrywiaeth o ddewisiadau twristiaeth arbenigol sydd ar gael i gwsmeriaid, gan gyfeirio at ddau atyniad naturiol a dau atyniad a adeiladwyd.

A.Ll2 Cymharu rolau gwahanol fathau o ddarparwyr twristiaeth arbenigol yn y sector.

A.T1 Dadansoddi’r dewisiadau twristiaeth arbenigol sydd ar gael i gwsmeriaid a rôl gwahanol fathau o ddarparwyr twristiaeth arbenigol.

Nod dysgu B: Edrych ar raddfa, cwmpas a thwf twristiaeth arbenigol

B.Rh2 Gwerthuso pwysigrwydd tueddiadau demograffig, safleoedd adolygu a chyfryngau a chyrchfannau allweddol yn nhwf un maes twristiaeth arbenigol.

B.Ll3 Esbonio tueddiadau demograffig mewn twristiaeth arbenigol a rôl safleoedd adolygu a chyfryngau wrth ddatblygu twristiaeth arbenigol.

B.Ll4 Nodi dau gyrchfan allweddol ar gyfer un maes twristiaeth arbenigol.

B.T2 Asesu datblygiad un maes twristiaeth arbenigol, gan gyfeirio at dueddiadau demograffig, rôl safleoedd adolygu a chyfryngau a chyrchfannau allweddol.

Nod dysgu C: Archwilio gwydnwch ac effaith bosibl mathau allweddol o dwristiaeth arbenigol

C.Rh3 Gwerthuso pwysigrwydd gwydnwch mewn perthynas ag effaith bosibl tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol ar gyrchfan.

C.Ll5 Asesu pam mae amrywiadau yng ngwydnwch gwahanol fathau o dwristiaeth arbenigol.

C.Ll6 Esbonio sut gallai gwydnwch tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol effeithio ar gyrchfan.

C.T3 Dadansoddi pam gallai gwydnwch tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol fod yn gyfyngedig a’u heffaith bosibl ar gyrchfan.

Page 69: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

67

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 70: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

68

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at y canlynol: • yr wybodaeth ddiweddaraf ar-lein, gan gynnwys ystadegau ynghylch niferoedd twristiaeth

arbenigol ac adnoddau i archwilio mathau niferus o weithgareddau twristiaeth fel y nodwyd yng nghynnwys yr uned

• gwybodaeth ar bapur, megis llyfrynnau o asiantaethau teithio, yn ogystal â mynediad at lyfrynnau ar-lein neu wefannau teithio a thwristiaeth

• mapiau ac atlasau.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr bwysigrwydd gwahanol fathau o ddarparwyr arbenigol yn y rhan hon o’r diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro’n rhesymegol ac yn defnyddio termau penodol i’r sector. Bydd yn cynnig gwerthusiad sy’n darbwyllo o gyfraniad y darparwr twristiaeth arbenigol a threfnwyr teithiau marchnad dorfol, gan ddarparu casgliadau ac argymhellion dilys. Bydd y dysgwyr yn dewis amrywiaeth o wyliau twristiaeth arbenigol cyferbyniol (cyfanswm o bedwar – dau atyniad naturiol a dau atyniad a adeiladwyd, mewn gwahanol ranbarthau daearyddol) ac yn rhoi gwerthusiad cynhwysfawr o bob un. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig/llafar o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi dadansoddiad clir o’r dewisiadau twristiaeth arbenigol sydd ar gael a rôl darparwyr twristiaeth arbenigol yn y rhan hon o’r diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd y dystiolaeth yn darparu esboniad trefnus o rôl y darparwr twristiaeth arbenigol a threfnwyr teithiau marchnad dorfol. Dewisir dau atyniad naturiol a dau a adeiladwyd, ond gallant fod yn eitha tebyg, er enghraifft mewn rhanbarthau daearyddol tebyg. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio’r amrywiaeth o ddewisiadau twristiaeth arbenigol sydd ar gael i gwsmeriaid ac yn cymharu rôl y gwahanol fathau o ddarparwyr twristiaeth arbenigol. Bydd y dystiolaeth yn cynnwys isafswm strwythur sy’n dderbyniol, ac yn darparu esboniad priodol ar rôl y darparwr twristiaeth arbenigol a threfnwyr teithiau marchnad dorfol. Dewisir dau atyniad naturiol a dau a adeiladwyd, ond mae’n bosibl mai sylw arwynebol fydd wedi’i roi i’r rhesymau am y dewis, ac ni fydd cyferbyniad amlwg rhwng y dewisiadau o reidrwydd. Gall esboniadau’r dysgwyr fod yn gyfyngedig, a gall fod diffyg ehangder i’r ffocws.

Nod dysgu B

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad dilys a thrylwyr o bwysigrwydd tueddiadau demograffig ym maes twristiaeth arbenigol, dylanwad safleoedd adolygu a chyfryngau ar ddatblygu twristiaeth arbenigol a dau gyrchfan allweddol i dwf maes twristiaeth arbenigol. Bydd y dystiolaeth a gyflwynir yn glir, yn broffesiynol, yn gywir ac yn gwbl briodol. Bydd y data a’r dystiolaeth arall a ddefnyddir i gefnogi’r gwerthusiad yn gwbl berthnasol, ac esbonnir y rhesymau am eu cynnwys yn llawn. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi asesiad clir a chytbwys o ddatblygiad twristiaeth arbenigol. Gwneir cyfeiriadau clir a pherthnasol i rolau tueddiadau demograffig ar safleoedd adolygu a chyfryngau, a dau gyrchfan allweddol ar gyfer maes teithio a thwristiaeth arbenigol. Bydd y data a’r dystiolaeth arall a ddefnyddir i gefnogi’r gwerthusiad yn berthnasol, ac esbonnir y rhesymau am eu cynnwys yn glir. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig neu lafar o safon uchel.

Page 71: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 6: TWRISTIAETH ARBENIGOL

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

69

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio tueddiadau demograffig ym maes twristiaeth arbenigol a rôl safleoedd adolygu a chyfryngau wrth ddatblygu twristiaeth arbenigol. Byddant yn nodi dau gyrchfan sy’n cyfrannu at dwf rhan benodol o’r sector teithio a thwristiaeth arbenigol. Bydd esboniadau’r dysgwyr o dueddiadau demograffig a rôl safleoedd adolygu a chyfryngau cymdeithasol yn dangos dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r ffactorau allweddol, ond gall fod yn arwynebol mewn mannau neu wneud defnydd cyfyngedig o ddata a thystiolaeth ategol arall.

Nod dysgu C

Wrth gynhyrchu tystiolaeth ar gyfer nod dysgu C, gall y dysgwyr ddewis cyrchfan gwahanol ar gyfer pob math o dwristiaeth arbenigol neu ddewis canolbwyntio ar gyrchfan unigol mewn perthynas â phob un o’r tri math o dwristiaeth arbenigol.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad cadarn o bwysigrwydd gwydnwch yn nhermau effaith bosibl tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol ar gyrchfannau a ddewiswyd. Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar effeithiau posibl gwydnwch pob math arbenigol o dwristiaeth ar y cyrchfannau a ddewiswyd. Bydd y dystiolaeth yn cwmpasu tri maes arbenigol ac yn gwerthuso’n glir effaith bosibl hyd poblogrwydd ar bob cyrchfan twristiaeth arbenigol, ei phwysigrwydd a’i gweithgareddau. Ymchwilir yn drylwyr i’r berthynas rhwng effeithiau posibl a’u cryfder neu eu cwmpas. Bydd y dysgwyr yn gwneud dyfarniadau effeithiol ynghylch pwysigrwydd cymharol gwydnwch yn y tri chyd-destun arbenigol gwahanol, gan ddefnyddio canlyniadau eu hymchwiliadau. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o ansawdd uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, a strwythurwyd yn dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn darparu dadansoddiad clir, cytbwys ynghylch pam gallai gwydnwch tri math gwahanol o weithgaredd twristiaeth arbenigol fod yn amser-gyfyngedig ac effaith bosibl gwydnwch ar y cyrchfannau maent wedi’u dewis. Bydd y dystiolaeth yn canolbwyntio ar dri maes arbenigol, gan ddarparu manylion clir ynghylch effaith bosibl hyd poblogrwydd y meysydd arbenigol hyn. Bydd yr effeithiau’n cael eu hystyried yn nhermau eu dylanwad ar bob un o’r cyrchfannau twristiaeth arbenigol, ei phwysigrwydd a’i gweithgareddau. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn asesu pam mae amrywiadau yng ngwydnwch tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol. Byddant yn esbonio sut gall gwydnwch y tri math gwahanol o dwristiaeth arbenigol effeithio ar bob cyrchfan a ddewiswyd. Bydd y dystiolaeth yn canolbwyntio ar dri maes arbenigol ac yn rhoi esboniad realistig ar effaith bosibl gwydnwch y tri maes arbenigol hyn ar bob un o’r cyrchfannau twristiaeth a ddewiswyd, ei phwysigrwydd a’i gweithgareddau. Gall yr esboniad ar yr effeithiau posibl ar y cyrchfannau fod yn anghytbwys, yn arwynebol neu’n gyffredinol mewn mannau. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r ffactorau, ond o bosibl yn gwneud defnydd cyfyngedig o dystiolaeth ategol ar gyfer eu hesboniadau.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae cysylltiad rhwng yr uned hon â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff teithio a thwristiaeth lleol.

Page 72: Unedau - qualifications.pearson.com

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

70

Page 73: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

71

Uned 7: Twristiaeth Gynaliadwy

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio ac yn dadansoddi effeithiau posibl twristiaeth yn economaidd, yn amgylcheddol, ac yn sosio-ddiwylliannol, a sut mae modd datblygu twristiaeth yn gynaliadwy mewn gwahanol fathau o gyrchfannau twristiaeth.

Cyflwyniad i’r uned

Yn yr uned hon, byddwch yn dysgu sut mae cynllunio, datblygu a rheoli twristiaeth yn gynaliadwy er mwyn cydbwyso anghenion y niferoedd cynyddol o dwristiaid ag amddiffyn cyrchfannau a chymunedau lletya.

Byddwch chi’n dysgu am egwyddorion twristiaeth gynaliadwy ac yn edrych ar sut mae cynaliadwyedd yn dylanwadu ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddwch yn ymchwilio i effeithiau posibl twristiaeth mewn gwahanol fathau o gyrchfannau, a hynny ar raddfa o’r lleol i’r byd-eang. Byddwch yn gwneud gwaith ymchwil ar enghreifftiau o gyrchfannau, rhanddeiliaid a mentrau sy’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy er mwyn i chi fedru asesu i ba raddau mae wedi ei chyflawni, a byddwch yn cyflwyno argymhellion ynghylch twristiaeth gynaliadwy.

Bydd y sgiliau ymchwil a ddatblygir yn yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i amrywiaeth eang o gyrsiau addysg uwch, fel gradd mewn twristiaeth, hamdden, trafnidiaeth, lletygarwch ac astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwch yn yr uned hon hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Edrych ar egwyddorion, twf a dylanwad twristiaeth gynaliadwy

B Archwilio effeithiau posibl twristiaeth mewn gwahanol fathau o gyrchfannau twristiaeth

C Ymchwilio i sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cyflawni twristiaeth gynaliadwy.

Page 74: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

72

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Edrych ar egwyddorion, twf a dylanwad twristiaeth gynaliadwy

A1 Diffiniad o dwristiaeth gynaliadwy a’i hegwyddorion

A2 Twf a phwysigrwydd twristiaeth gynaliadwy

A3 Y rhanddeiliaid a’r grwpiau sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth yn gynaliadwy

A4 Dylanwad cynaliadwyedd ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Cyflwyniad llafar neu ysgrifenedig/sioe sleidiau sy’n gwerthuso rolau ac amcanion y rhanddeiliaid sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth gynaliadwy a’r rhesymau am ei thwf a’i dylanwad.

B Archwilio effeithiau posibl twristiaeth mewn gwahanol fathau o gyrchfannau twristiaeth

B1 Gwahanol fathau o gyrchfannau

B2 Effeithiau posibl twristiaeth ar yr amgylchedd lletya

B3 Effeithiau posibl twristiaeth ar yr economi leol

B4 Effeithiau posibl twristiaeth ar gymdeithas a diwylliant y gymuned letya

Adroddiad ymchwiliol sy’n gwerthuso arwyddocâd gwahanol effeithiau posibl twristiaeth mewn un cyrchfan mewn gwlad sydd â datblygiad dynol canolig yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

C Ymchwilio i sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cyflawni twristiaeth gynaliadwy

C1 Dulliau a ddefnyddir i gyflawni twristiaeth gynaliadwy

C2 Ffactorau a all ddylanwadu ar lwyddiant cyrchfannau i gyflawni twristiaeth gynaliadwy

Erthygl gydag argymhellion sy’n cael eu cyfiawnhau ar gyfer cyflawni twristiaeth gynaliadwy mewn un cyrchfan a ddewiswyd mewn gwlad sydd â datblygiad dynol uchel iawn yn ôl mesuriad y Mynegai Datblygiad Dynol.

Page 75: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

73

Cynnwys

Nod dysgu A: Edrych ar egwyddorion, twf a dylanwad twristiaeth gynaliadwy

A1 Diffiniad o dwristiaeth gynaliadwy a’i hegwyddorion • Diffiniad: twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol

ac amgylcheddol posibl yn awr ac yn y dyfodol, gan roi sylw i anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau lletya.

• Egwyddorion twristiaeth gynaliadwy: o gwneud defnydd optimaidd o adnoddau amgylcheddol, gan gynnal prosesau ecolegol

a helpu i gadw treftadaeth naturiol a bioamrywiaeth o parchu dilysrwydd sosio-ddiwylliannol cymunedau lletya, gan gadw eu gwerthoedd

traddodiadol a’u treftadaeth ddiwylliannol fyw ac adeiledig, a chyfrannu at ddealltwriaeth a goddefgarwch rhyng-ddiwylliannol

o sicrhau gweithrediadau economaidd dichonadwy, tymor hir, gan ddarparu manteision sosio-economaidd sy’n cael eu dosbarthu’n deg i bob rhanddeiliad, gan gynnwys cyflogaeth sefydlog a chyfleoedd i ennill incwm a gwasanaethau cymdeithasol i gymunedau lletya, a chyfrannu at leddfu tlodi.

A2 Twf a phwysigrwydd twristiaeth gynaliadwy • Rhesymau am dwf twristiaeth gynaliadwy, e.e. tueddiadau defnyddwyr, twf poblogaeth

y byd, pwysau’r cynnydd yn nifer y twristiaid a’r teithiau awyr, ymwybyddiaeth gynyddol o effeithiau posibl twristiaeth, galw am wyliau moesegol.

• Manteision posibl, e.e. amgylchedd, economi, cymunedau lletya, etifeddiaeth/cenedlaethau’r dyfodol, cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer arbenigwyr teithio a thwristiaeth.

• Pwysigrwydd o ran graddfa: lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.

A3 Y rhanddeiliaid a’r grwpiau sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth yn gynaliadwy

Mae tri chategori o randdeiliaid a gydnabyddir yn gyffredinol, er nad ydynt bob amser yn gweithredu’n ynysig, ac mae’r duedd at weithio mewn partneriaeth ar gynnydd. • Rhanddeiliaid a grwpiau sector cyhoeddus:

o amcanion: anfasnachol yn bennaf – mwyafu cyfraniad economaidd i dwristiaeth yn lleol ac yn genedlaethol er budd cymunedau, cynaliadwyedd, e.e. annog llai o ddibyniaeth ar geir preifat wrth deithio

o rôl: – rheoli datblygiad trwy ddeddfwriaeth gynllunio, cymhellion treth, polisi twristiaeth,

e.e. i atal datblygu amhriodol, annog twf twristiaeth gynaliadwy – darparu grantiau a chyllid, denu buddsoddiad o’r sector preifat – trethi’n codi arian ar gyfer trafnidiaeth a datblygu cynaliadwy – hyrwyddo twristiaeth, darparu gwybodaeth a chreu partneriaethau.

• Rhanddeiliaid a grwpiau sector preifat: o amcanion: masnachol yn bennaf – gwneud elw, adenillion ar fuddsoddiadau,

cynyddu cyfran o’r farchnad, hefyd yn pryderu’n gynyddol am yr amgylchedd o rôl:

– lleihau’r adnoddau a ddefnyddir er mwyn lleihau costau – darparu amwynderau a chyfleusterau twristiaeth – darparu cyllid, grantiau a benthyciadau – darparu gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd – datblygu cysylltiadau a gwasanaethau trafnidiaeth, seilwaith a chyfathrebu.

Page 76: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

74

• Rhanddeiliaid a grwpiau sector gwirfoddol: o amcanion: cyfuniad o’r anfasnachol a’r masnachol – addysg, cynyddu

ymwybyddiaeth, masnachol o ran yr angen i gynnal eu hunain yn ariannol er mwyn goroesi

o rôl: – ymgyrchu a lobïo am newidiadau polisi – rhaglenni addysg – cynghori ar godi arian – gwaith elusennol.

• Partneriaethau rhwng gwahanol randdeiliaid. • Mathau o bartneriaethau allweddol rhwng gwahanol randdeiliaid:

o cyhoeddus a phreifat, e.e. canolfan croeso leol (cyhoeddus) yn hyrwyddo cynllun beiciau trydan lleol sydd yng ngofal sefydliad sector preifat

o cyhoeddus a gwirfoddol, e.e. y Comisiwn Coedwigaeth (cyhoeddus) yn darparu cyfleusterau ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Amddiffyn Adar (RSPB) (elusen) fel bod y cyhoedd yn cael gweld nythod adar ysglyfaethus prin.

A4 Dylanwad cynaliadwyedd ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Cyflwyno mentrau, cynlluniau a dyfarniadau gwyrdd, eu twf, eu costau, eu nodweddion a’u manteision a’u hanfanteision posibl ar gyfer sefydliadau teithio a thwristiaeth a’r amgylchedd ehangach.

• Mentrau, dyfarniadau a chynlluniau gwyrdd – yn fyd-eang, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol: o cyrchfannau o darparwyr trafnidiaeth a mathau amgen o drafnidiaeth o sefydliadau teithio a thwristiaeth.

• Ymateb gweithrediadau busnes teithio a thwristiaeth, e.e. mesur ôl-troed carbon, rhaglenni gwrthosod carbon (carbon offset), effeithlonrwydd ynni megis defnyddio ynni amgen ac ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff a defnydd o ddŵr, mentrau ‘brand personol’ a hyfforddiant.

• Tueddiadau posibl yng nghyd-destun twristiaeth genedlaethol a rhyngwladol. • Twf yn y cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig â chynaliadwyedd yn y diwydiant. • Effaith bosibl arferion cynaliadwy ar ddelwedd ac enw da.

Nod dysgu B: Archwilio effeithiau posibl twristiaeth mewn gwahanol fathau o gyrchfannau twristiaeth

Gall cyrchfannau twristiaeth a chymunedau lletya brofi amrywiaeth o effeithiau posibl yn sgîl twristiaeth. Mae modd ystyried effeithiau posibl twristiaeth o wahanol safbwyntiau, a gallant fod yn gymhleth o ran eu manteision neu eu hanfanteision posibl. Gall yr effeithiau posibl amrywio, yn ôl y cyrchfan.

B1 Gwahanol fathau o gyrchfannau

Lefel datblygiad dynol fel y mesurir ym Mynegai Datblygiad Dynol (HDI) y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys:

• datblygiad dynol lefel isel (LHD), e.e. Gambia, Cenya, Nepal, Papwa Gini Newydd • datblygiad dynol lefel ganolig (MHD), e.e. Bolifia, Ynysoedd y Pilipinas, De Affrica, Fietnam • datblygiad dynol lefel uchel (HHD), e.e. Brasil, Bwlgaria, Tsieina, Mecsico • datblygiad dynol lefel uchel iawn (VHD), e.e. Awstralia, Norwy, y Deyrnas Unedig, UDA.

Page 77: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

75

B2 Effeithiau posibl twristiaeth ar yr amgylchedd lletya

Gall twristiaeth greu effeithiau amgylcheddol sy’n gadarnhaol yn bennaf neu effeithiau amgylcheddol sy’n negyddol yn bennaf, neu hyd yn oed elfennau o’r ddau. • Effeithiau cadarnhaol posibl, e.e. cadwraeth, adferiad, creu cynefinoedd naturiol, gwella

asedau, tirweddu, adfywio ardaloedd sydd wedi adfeilio, addysg amgylcheddol i dwristiaid a chymunedau lletya.

• Effeithiau negyddol posibl, e.e. colli cynefinoedd bywyd gwyllt naturiol, llygredd (awyr, dŵr, gweledol, sŵn), lleihau bioamrywiaeth, erydiad, colli tir, dadgoedwigo, tagfeydd traffig, dwysáu defnydd o dir, straen ar adnoddau naturiol, diraddio amgylcheddol.

B3 Effeithiau posibl twristiaeth ar yr economi leol

Gall twristiaeth greu effeithiau economaidd sy’n bennaf yn gadarnhaol neu’n bennaf yn negyddol, neu hyd yn oed elfennau o’r ddau. • Effeithiau cadarnhaol posibl, gan gynnwys manteision effaith y lluosydd economaidd,

e.e. cynnydd mewn incwm domestig, manteision i’r economi leol, enillion cyfnewid tramor, cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol, buddsoddi mewn seilwaith, cyfraniad at refeniw’r llywodraeth.

• Effeithiau negyddol posibl, e.e. cymeriad tymhorol swyddi, ansicrwydd swyddi, cyflog isel, gollyngiad, newid o gyflogaeth draddodiadol, cynnydd mewn prisiau a chostau byw, cost datblygu seilwaith, dibyniaeth economaidd, problem cilfachau twristiaeth.

B4 Effeithiau posibl twristiaeth ar gymdeithas a diwylliant y gymuned letya

Gall twristiaeth greu effeithiau sosio-ddiwylliannol sy’n bennaf gadarnhaol neu effeithiau sosio-ddiwylliannol sy’n bennaf negyddol, neu hyd yn oed elfennau o’r ddau. • Diffinio cymdeithas a diwylliant. • Effeithiau cadarnhaol posibl, e.e. adfywio gwyliau a seremonïau, cadw arferion a chrefftau,

gwella seilwaith y gymuned letya, darparu cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus, lleddfu tlodi, gwella dealltwriaeth ddiwylliannol, balchder.

• Effeithiau negyddol posibl, e.e. dadleoli, gwrthdaro rhwng diwylliannau, colli neu newid hunaniaeth frodorol neu werthoedd (ffugio dilysrwydd, cynwyddoli, safoni, addasu i ofynion twristiaid), troseddu, twristiaeth rywiol, ymyrraeth, effaith arddangosiad.

Nod dysgu C: Ymchwilio i sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cyflawni twristiaeth gynaliadwy

C1 Dulliau a ddefnyddir i gyflawni twristiaeth gynaliadwy

Mae effeithiau posibl twristiaeth yn amrywio, ac mae nifer o wahanol ffyrdd o fynd ati i gyflawni twristiaeth gynaliadwy mewn cyrchfannau twristiaeth, er enghraifft:

• ehangu mynediad y gymuned letya i gyfleusterau • cadw gwariant ymwelwyr yn y cyrchfan • rhoi hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd am ddyrchafiad i bobl leol • buddsoddi incwm o dwristiaeth mewn prosiectau lleol/cymunedol/bywyd gwyllt • addysgu twristiaid a phobl leol • rheoli ymwelwyr a thraffig, e.e. fisâu, hawlenni, creu parthau, parcio a theithio • mesurau rheoli a deddfwriaeth cynllunio, trethiant a chymhellion treth, asesiadau effaith

amgylcheddol, archwiliadau amgylcheddol.

C2 Ffactorau a all ddylanwadu ar lwyddiant cyrchfannau i gyflawni twristiaeth gynaliadwy

Mae llawer o ffactorau yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys: • lleoliad daearyddol, nodweddion naturiol a’r math o gyrchfan • seilwaith presennol, hygyrchedd, adnoddau naturiol, darparu gwasanaethau cyhoeddus • maint a math y twristiaid a’u gweithgareddau • dylanwadau allanol, e.e. gwleidyddol, rhanddeiliaid, asiantaethau rhyngwladol • lefel datblygiad dynol fel y mesurir yn y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI) • cyfnod datblygiad twristiaeth – dod i’r amlwg, datblygu, llawn dwf ac yn dirywio.

Page 78: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

76

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Edrych ar egwyddorion, twf a dylanwad twristiaeth gynaliadwy

A.Rh1 Gwerthuso rolau ac amcanion rhanddeiliaid sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth yn gynaliadwy.

A.Ll1 Esbonio’r rhesymau am y twf mewn twristiaeth gynaliadwy.

A.Ll2 Esbonio rolau ac amcanion tri rhanddeiliad gwahanol sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth yn gynaliadwy.

A.Ll3 Esbonio sut mae cynaliadwyedd yn dylanwadu ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A.T1 Asesu manteision ac anfanteision posibl rhanddeiliaid yn cydweithio mewn partneriaethau i ddatblygu twristiaeth yn gynaliadwy.

Nod dysgu B: Archwilio effeithiau posibl twristiaeth mewn gwahanol fathau o gyrchfannau twristiaeth B.Rh2 Gwerthuso arwyddocâd

gwahanol effeithiau twristiaeth mewn un cyrchfan a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol (MHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

B.Ll4 Esbonio effeithiau cadarnhaol a negyddol twristiaeth mewn un cyrchfan a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol (MHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

B.T2 Dadansoddi effeithiau twristiaeth mewn un cyrchfan a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol (MHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

Nod dysgu C: Ymchwilio i sut mae cyrchfannau twristiaeth yn cyflawni twristiaeth gynaliadwy

C.Rh3 Argymell dulliau o gyflawni twristiaeth gynaliadwy ar gyfer un cyrchfan twristiaeth a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol (VHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

C.Ll5 Esbonio’r ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar allu cyrchfannau twristiaeth i gyflawni twristiaeth gynaliadwy.

C.Ll6 Esbonio’r dulliau a ddefnyddir i gyflawni twristiaeth gynaliadwy mewn un cyrchfan twristiaeth a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol (VHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI).

C.T3 Asesu arwyddocâd y ffactorau sy’n dylanwadu ar allu un cyrchfan twristiaeth a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol (VHD) yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI) i gyflawni twristiaeth gynaliadwy.

Page 79: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

77

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.Ll3, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 80: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

78

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, bydd yn rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at y canlynol: • astudiaethau achos am dwristiaeth a datblygu cynaliadwy mewn amrywiaeth o

gyrchfannau twristiaeth mewn gwledydd sydd â lefel ganolig, uchel ac uchel iawn o ddatblygiad dynol. Dylai’r astudiaethau achos gynnwys manylion fel y rhanddeiliaid sy’n ymwneud â thwristiaeth, graddfa twristiaeth a chynllunio a datblygu, yn ogystal ag effeithiau posibl twristiaeth a strategaethau datblygu cynaliadwy

• astudiaethau achos am sefydliadau teithio a thwristiaeth a chyrchfannau sy’n arwain y ffordd yng nghyswllt gweithrediadau cynaliadwy, arferion sefydliadol a masnachol, hyfforddiant, cyflogaeth, mentrau a dyfarniadau

• cyhoeddiadau ac adnoddau diweddar sy’n cynnwys manylion am bolisi a nodau twristiaeth gynaliadwy ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr sy’n darbwyllo sy’n ystyried rolau ac amcanion ystod eang o randdeiliaid sy’n cynrychioli pob un o’r tri chategori o randdeiliaid, gyda dau o leiaf o bob categori. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal ac â ffocws clir ar ddatblygiad cynaliadwy twristiaeth, heb elfennau amherthnasol. Bydd y rhanddeiliaid sy’n cael eu hystyried i gyd yn berthnasol o ran graddfa gweithrediad ar y lefel leol a rhanbarthol. Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol ynghylch rolau ac amcanion pob un o’r rhanddeiliaid, a bydd cysylltiad amlwg rhwng y manylion a thwristiaeth gynaliadwy. Mae’n debygol y bydd cyfeirio at ymgysylltiad rhanddeiliaid â chynlluniau a dyfarniadau sy’n ceisio gwella mewn modd cynaliadwy. Rhaid i’r dysgwyr fynegi eu dadleuon yn rhugl a’u barn yn gryno, gan werthuso mewn modd sy’n cyflwyno dyfarniadau dilys, rhesymegol.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu asesiad rhesymegol, cytbwys o fanteision ac anfanteision posibl rhanddeiliaid yn cydweithio mewn partneriaethau i ddatblygu twristiaeth yn gynaliadwy. Bydd y dysgwyr yn defnyddio’u dealltwriaeth o amcanion rhanddeiliaid ac yn cynnwys manylion gwaith partneriaeth priodol. Cefnogir asesiad y dysgwyr o bartneriaethau rhanddeiliaid ag enghreifftiau perthnasol. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad ar y rhesymau am dwf twristiaeth gynaliadwy. Byddant yn dewis nifer o wahanol ffactorau sy’n gysylltiedig â’r twf ac yn disgrifio’r cysylltiadau rhyngddynt. Fodd bynnag, bydd eu hesboniad ar dwf twristiaeth gynaliadwy yn gyfyngedig. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad ar rolau gwahanol randdeiliaid. Bydd peth manylder a bydd dealltwriaeth y dysgwyr o’r rolau i’w gweld. Mae’n bosib y bydd y dysgwyr yn dewis ystod gyfyngedig o randdeiliaid, na fyddant o reidrwydd yn cwmpasu pob un o’r tri chategori yng nghynnwys yr uned. Ni fydd perthnasedd rhai o’r rhanddeiliaid yng nghyswllt datblygu twristiaeth yn gynaliadwy bob amser yn glir o reidrwydd. Gall fod rhai mân elfennau anghyson o ran graddfa cyfranogiad. Bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad cyfyngedig ond realistig ar sut mae cynaliadwyedd yn dylanwadu ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Page 81: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

79

Nod dysgu B

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr o effeithiau twristiaeth. Efallai y byddant yn cyfeirio at effeithiau posibl neu at effeithiau hysbys/profedig, neu’r ddau. Bydd y berthynas rhwng effeithiau twristiaeth a’u cryfder/cwmpas yn destun ymchwiliad trylwyr. Bydd y cyrchfan a ddewisir yn gyrchfan twristiaeth priodol mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI). Bydd y dysgwyr yn dangos gallu i wahaniaethu o ran yr effeithiau posibl a ddewisir ar gyfer ymchwilio, a fydd yn briodol ar gyfer y cyrchfan a’i amgylchiadau arbennig. Bydd y dysgwyr yn dyfarnu’n effeithiol ynghylch pwysigrwydd cymharol gwahanol effeithiau, gan ddefnyddio canlyniadau eu hymchwiliadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth fanwl o’r ffactorau a all rwystro neu gefnogi nodau twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys cyfeirio at y data HDI. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl, i gefnogi ymateb pwyllog, wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir a manwl o effeithiau cadarnhaol a negyddol twristaeth ar gyrchfan mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol yn ôl y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI). Gall y dysgwyr gyfeirio at effeithiau posibl neu effeithiau hysbys/profedig, neu’r ddau. Bydd y dysgwyr yn dewis cyrchfan priodol sy’n rhoi cyfle i ddadansoddi’n fanwl. Bydd y dadansoddiad yn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol, a byddant yn berthnasol ac yn briodol i’r cyrchfan a ddewiswyd. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad gwrthrychol a beirniadol a gefnogir â thystiolaeth briodol ar ffurf manylion penodol ac enghreifftiau ac effeithiau. Bydd y dysgwyr yn arddangos dealltwriaeth o ganlyniadau’r effeithiau a’r berthynas rhyngddynt. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon dda a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad o effeithiau cadarnhaol a negyddol twristiaeth ar gyrchfan mewn gwlad sydd â lefel ganolig o ddatblygiad dynol. Gallant gyfeirio at effeithiau posibl neu at effeithiau hysbys/profedig, neu’r ddau. Bydd y dysgwyr yn dewis ystod o effeithiau, er na fydd rhai o reidrwydd yn gwbl briodol ar gyfer y cyrchfan a ddewiswyd. Mae’n bosibl na fydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol ar gyfer y cyrchfan a ddewiswyd. Gall yr esboniad ar ganlyniadau’r effeithiau fod yn anghytbwys neu’n arwynebol a/neu’n gyffredinol mewn mannau.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cyflwyno argymhellion ar sail rhesymeg gadarn ynghylch dulliau i ddatblygu twristiaeth yn gynaliadwy mewn un cyrchfan a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol. Bydd y cyrchfan a ddewisir yn briodol ar gyfer y dasg ac yn cynnwys cyfle i wella yng nghyswllt twristiaeth gynaliadwy. Bydd y dysgwyr yn rhoi tystiolaeth a ddewiswyd yn ofalus i gyfiawnhau eu hargymhellion, gan ddangos eu bod wedi ymchwilio’n drylwyr i’r problemau posibl a/neu gwirioneddol yn y cyrchfan. Gall y dysgwyr gynnig atebion lluosog a bod wedi ystyried dewisiadau amgen posibl. Gellir defnyddio enghreifftiau o arfer da mewn cyrchfannau eraill i helpu i gyfiawnhau’r argymhellion. Bydd pob un o’r argymhellion yn ddilys, wedi’u hystyried yn ofalus ac yn dangos dealltwriaeth fanwl o’r dulliau mwyaf effeithiol a ddefnyddir i reoli effeithiau posibl twristiaeth a chyflawni twristiaeth gynaliadwy. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu asesiad clir a manwl o arwyddocâd ffactorau sy’n dylanwadu ar allu un cyrchfan twristiaeth a ddewiswyd, mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol, i gyflawni twristiaeth gynaliadwy. Dewisir cyrchfan priodol. Bydd y dysgwyr yn asesu ffactorau sy’n berthnasol i’r cyrchfan o ran datblygu cynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y ffactorau a all rwystro a’r ffactorau a all gynorthwyo i gyflawni twristiaeth gynaliadwy. Bydd y dysgwyr yn arddangos gwerthfawrogiad o arwyddocâd cymharol gwahanol ffactorau a’r berthynas rhyngddynt. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel a defnydd o derminoleg briodol.

Page 82: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 7: TWRISTIAETH GYNALIADWY

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

80

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad ar y ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar allu gwahanol gyrchfannau i gyflawni twristiaeth gynaliadwy. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o’r rhan fwyaf o’r ffactorau ond yn gwneud defnydd cyfyngedig o’r dystiolaeth ategol. Rhaid i’r dysgwyr gynhyrchu esboniad o’r dulliau a ddefnyddiwyd i gyflawni twristiaeth gynaliadwy mewn un cyrchfan twristiaeth a ddewiswyd mewn gwlad sydd â lefel uchel iawn o ddatblygiad dynol. Bydd dealltwriaeth realistig o’r dulliau, er y gall cwmpas y dystiolaeth fod yn gyfyngedig. Gall fod rhai mân wallau.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae cysylltiad rhwng yr uned hon â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf y canlynol: • siaradwyr gwadd – darparwyr twristiaeth lleol o bob sector • ymweliadau â sefydliadau teithio a thwristiaeth a chyrchfannau poblogaidd i dwristiaid a

chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid • manylion cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth gynaliadwy.

Page 83: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

81

Uned 8: Profiad y Maes Awyr

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau logisteg a chynllunio wrth iddyn nhw ymchwilio i’r prosesau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae teithwyr i mewn ac allan yn dod ar eu traws yn y maes awyr.

Cyflwyniad i’r uned

Mae prosesu teithwyr wrth iddynt fynd trwy feysydd awyr yn bwysig ac yn gymhleth. Mae niferoedd cynyddol o deithwyr, lefelau uwch o ddiogeledd ac ystod ehangach o opsiynau cofrestru (check-in) i gyd yn rhoi pwysau ar y rhai sy’n ceisio trafod teithwyr mewn modd cystadleuol a sicrhau llif effeithlon o deithwyr.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ymchwilio i brosesau, gweithdrefnau a chyfleusterau maes awyr. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n ymwneud â gweithrediadau logisteg mewn amgylchedd rheoledig. Byddwch yn ystyried gweithdrefnau diogeledd a chymhlethdodau sicrhau llif effeithlon o deithwyr trwy’r terfynfeydd pan fo’r maes awyr yn gweithredu’n normal, a phan fydd amgylchiadau ansafonol neu afreolaidd.

Bydd yr uned hon yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch fel graddau mewn twristiaeth, hamdden neu drafnidiaeth trwy ddatblygu eich gwybodaeth am gynllunio logisteg a phrosesau cwsmeriaid. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir yn yr uned hon hefyd yn eich helpu o ran dilyniant gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Ymchwilio i brosesau, cyfleusterau a gwasanaethau trafod teithwyr hamdden a busnes i mewn ac allan mewn meysydd awyr

B Cyflawni prosesau trafod teithwyr yn rôl yr asiant gwasanaeth i deithwyr adeg cofrestru (check-in) ac wrth y gât

C Archwilio sut mae meysydd awyr yn sicrhau llif teithwyr effeithlon i mewn ac allan trwy feysydd awyr yn ystod gweithrediadau normal, ansafonol ac afreolaidd.

Page 84: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

82

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i brosesau, cyfleusterau a gwasanaethau trafod teithwyr hamdden a busnes i mewn ac allan mewn meysydd awyr

A1 Gwahanol fathau o deithwyr

A2 Trafod teithwyr sy’n mynd allan (ochr y tir)

A3 Trafod teithwyr sy’n mynd allan (ochr yr awyr)

A4 Trafod teithwyr sy’n dod i mewn (ochr yr awyr)

A5 Trafod teithwyr sy’n dod i mewn (ochr y tir)

Cynllun o faes awyr y mae’r dysgwyr wedi plotio taith teithwyr i mewn ac allan trwy’r derfynfa arno, yn achos teithwyr hamdden a chorfforaethol. Dylid ychwanegu neu gysylltu nodiadau neu elfennau ychwanegol at y cynllun i esbonio’r prosesau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau ar hyd y ffordd. Tystiolaeth gyflenwol ysgrifenedig neu lafar sy’n esbonio ac yn gwerthuso ymhellach sut mae’r prosesau allweddol yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol i sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn cael eu diogelu.

B Cyflawni prosesau trafod teithwyr yn rôl yr asiant gwasanaeth i deithwyr adeg cofrestru ac wrth y gât

B1 Prosesau cyfathrebu a thrafod teithwyr adeg cofrestru i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau a sicrhau diogelwch teithwyr

B2 Prosesau trafod teithwyr wrth y gât i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau a sicrhau diogelwch teithwyr

Adroddiad arsylwi athrawon am chwarae rôl gyda gwahanol deithwyr adeg cofrestru ac wrth y gât.

C Archwilio sut mae meysydd awyr yn sicrhau llif teithwyr effeithlon i mewn ac allan trwy feysydd awyr yn ystod gweithrediadau normal, ansafonol ac afreolaidd

C1 Mannau lle mae tagfeydd yn tueddu i ddigwydd yn ystod gweithrediadau normal

C2 Sefyllfaoedd sy’n achosi tagfeydd mawr neu gau a’u heffaith bosibl

C3 Mesurau i oresgyn problemau tagfeydd bach neu fawr a lleiafu’r effaith bosibl ar deithwyr

Adroddiad neu gyflwyniad gyda chymhorthion gweledol a chynllun maes awyr sy’n nodi ac yn plotio mannau lle mae tagfeydd yn tueddu i ddigwydd yn ystod gweithrediadau normal, gydag esboniadau cysylltiedig ar y mesurau mae modd eu rhoi ar waith i atal neu leiafu’r sefyllfaoedd hyn. Adroddiad neu gyflwyniad gyda chymhorthion gweledol yn gwerthuso sut gall sefyllfaoedd eraill achosi tagfeydd mawr neu hyd yn oed gau maes awyr, gydag esboniadau cysylltiedig ar y mesurau mae modd eu rhoi ar waith. Gwerthusiad pellach o sut gall sefyllfaoedd lle mae tagfeydd bach a mawr effeithio ar deithwyr ac a yw’r mesurau a roddwyd ar waith yn effeithiol.

Page 85: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

83

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i brosesau, cyfleusterau a gwasanaethau trafod teithwyr hamdden a busnes i mewn ac allan mewn meysydd awyr

A1 Gwahanol fathau o deithwyr • Hamdden, e.e. unigolion, grwpiau, teuluoedd, Ymweld â Ffrindiau a Pherthnasau (VFR),

rhai o dan oed ar eu pen eu hunain, rhai sydd angen cymorth. • Busnes, e.e. unigolion, grwpiau, rhai sydd angen cymorth. • Teithwyr blaenoriaeth, e.e. dosbarth cyntaf, dosbarth busnes.

A2 Trafod teithwyr sy’n mynd allan (ochr y tir) • Mynediad i feysydd awyr ar gyfer teithwyr, e.e. parcio a gollwng (ar y safle ac

oddi ar y safle), cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus, gwennol o westai’r maes awyr, cysylltiadau rhwng terfynfeydd i deithwyr, gan gynnwys teithwyr ar ganol taith (transit) a rhai sy’n trosglwyddo.

• Gwybodaeth i deithwyr, e.e. arwyddion, desgiau gwybodaeth, sgriniau ymadael, yn uniongyrchol i ddyfeisiau symudol trwy apiau.

• Prosesau cofrestru (check-in), e.e. cofrestru ar-lein a gollwng bagiau, gan gynnwys datblygiadau o ran technoleg ffonau clyfar, desgiau cofrestru a chiosgau hunanwasanaeth, cyfyngiadau o ran bagiau (cynnwys, maint a phwysau), trefniadau cymorth arbennig, gan gynnwys cymorth gyda chadeiriau olwyn a lifft i gerddwyr (ambulift).

• Rôl asiantau gwasanaeth i deithwyr, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a rheoliadol yr Awdurdod Awyrennu Sifil (CAA) mewn perthynas â bagiau teithwyr (bagiau llaw a bagiau sy’n mynd i grombil yr awyren).

• Diogeledd: o rôl heddlu/staff diogeledd y maes awyr yn y derfynfa ar ochr y tir, e.e. bagiau

a adawyd, monitro a delio gyda theithwyr anystywallt o asiantau gwasanaeth i deithwyr a staff diogeledd o cyfyngiadau (cyfreithiol a rheoliadol) sy’n ymwneud â bagiau llaw ac eiddo personol o gwiriadau UKVI mewn perthynas â theithwyr sy’n mynd allan.

A3 Trafod teithwyr sy’n mynd allan (ochr yr awyr) • Diogeledd (o ochr y tir i ochr yr awyr):

o gwiriadau diogeledd o ochr y tir i ochr yr awyr, gan gynnwys gwirio pasiau byrddio â llaw ac yn awtomatig, sgrinio a chwilio bagiau a phersonol.

• Cyfleusterau a gwasanaethau yn y derfynfa sy’n diwallu angen teithwyr am gysur a chyfleustra, e.e. lolfeydd maes awyr cyhoeddus a phreifat, cyfleusterau busnes, cysylltiad Di-Wifr, allfeydd arlwyo a manwerthu, cyfnewid arian, ystafelloedd meddygol, ystafelloedd gweddi, toiledau ac ystafelloedd ymolchi, ardaloedd cymorth.

• Gwasanaethau wrth y gât ac esgyn i’r awyren, e.e. trefniadau’r gât gan gynnwys byrddio blaenoriaeth, teithwyr hwyr, prosesu’r esgyn i’r awyren, gan gynnwys pont awyr, grisiau, bws i’r stondin.

• Rôl asiantau gwasanaeth i gwsmeriaid wrth y gât, gan gynnwys gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

A4 Trafod teithwyr sy’n dod i mewn (ochr yr awyr) • Teithwyr yn disgyn o’r awyren, e.e. pont awyr, grisiau neu fws i’r gât. • Gwybodaeth i deithwyr wrth gyrraedd, gan gynnwys gwybodaeth sydd ar gael i deithwyr

sydd ar ganol taith ac yn trosglwyddo, e.e. ar ddyfeisiau symudol, arwyddion, desgiau gwasanaeth i gwsmeriaid.

• Trefniadau pasbort/fisâu, cyllid a thollau a bagiau.

Page 86: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

84

• Diogeledd: o rôl UKVI a Llu’r Ffiniau, gan gynnwys gwirio dogfennau mewnfudo, gwirio pasbortau

â llaw ac yn awtomatig, cyllid a thollau o rôl heddlu/staff diogeledd y maes awyr yn achos teithwyr sy’n dod i mewn, e.e.

digwyddiadau difrifol ar yr awyren, mewnfudwyr anghyfreithlon, ceiswyr lloches o cyfleusterau meddygol ar gyfer teithwyr sy’n dod i mewn, gan gynnwys gofynion,

e.e. Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau a Llongau) 2007 a Chymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, Rheoliadau Iechyd Mewnol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) (2005).

A5 Trafod teithwyr sy’n dod i mewn (ochr y tir) • Ardaloedd cyrraedd a threfniadau teithio ymlaen, e.e. ardaloedd cwrdd a chyfarch,

ardaloedd casglu trafnidiaeth, desgiau rhentu ceir a lleoliad casglu ceir, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a gwybodaeth am hynny, gwenoliaid i’r meysydd parcio a gwestai’r maes awyr, desgiau gwybodaeth i dwristiaid.

Nod dysgu B: Cyflawni prosesau trafod teithwyr yn rôl yr asiant gwasanaeth i deithwyr adeg cofrestru ac wrth y gât

B1 Prosesau cyfathrebu a thrafod teithwyr adeg cofrestru i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau a sicrhau diogelwch teithwyr

• Cyfathrebu’n effeithiol â gwahanol fathau o deithwyr adeg cofrestru: o gofyn am wybodaeth, e.e. y maes awyr sy’n gyrchfan, y bagiau sydd ganddynt o gofyn cwestiynau i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau, e.e. cynnwys y bagiau

sy’n mynd i grombil yr awyren, cynnwys y bagiau llaw o darparu gwybodaeth am yr hediad, e.e. rhif y gât, amcangyfrif o’r amser ymadael o delio’n effeithiol â sefyllfaoedd heriol ac anodd, e.e. rhy hwyr i gofrestru, pasbort coll,

fisa anghywir, bagiau sy’n rhy drwm. • Prosesau trafod teithwyr adeg cofrestru:

o bod yn wyliadwrus ynghylch sefyllfaoedd diogelwch a diogeledd, e.e. eiddo personol o gwirio pasbortau a fisâu yn erbyn y trefniadau teithio o cyflwyno cardiau byrddio, argraffu tagiau diogelu bagiau a’u rhoi arnynt yn ddiogel.

B2 Prosesau trafod teithwyr wrth y gât i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau a sicrhau diogelwch teithwyr

• Agor y gât a gwneud cyhoeddiadau ynghylch y gât. • Gweithdrefnau byrddio, e.e. byrddio blaenoriaeth, teuluoedd â phlant ifanc a theithwyr

sydd â llai o symudedd. • Gwirio cardiau byrddio yn erbyn pasbortau a bod yn wyliadwrus ynghylch bagiau llaw

i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau. • Cau’r gât, gwneud cyhoeddiadau, corlannu teithwyr hwyr. • Delio’n briodol â sefyllfaoedd anodd a heriol, e.e. teithwyr hwyr, teithwyr sydd wedi

meddwi, bagiau caban sy’n rhy fawr, gormod o fagiau llaw, teithwyr sydd wedi colli’r awyren.

Nod dysgu C: Archwilio sut mae meysydd awyr yn sicrhau llif teithwyr effeithlon i mewn ac allan trwy feysydd awyr yn ystod gweithrediadau normal, ansafonol ac afreolaidd

C1 Mannau lle mae tagfeydd yn tueddu i ddigwydd yn ystod gweithrediadau normal • Ochr y tir wrth fynd allan, e.e. neuaddau cofrestru, gan gynnwys desgiau cofrestru

a gollwng bagiau, gwiriadau pasiau byrddio pan fydd sawl awyren yn ymadael. • Ochr yr awyr wrth fynd allan, e.e. gwiriadau diogeledd pan fydd sawl awyren yn ymadael,

yn y lolfeydd ymadael ar adegau prysur, wrth y gât. • Ochr yr awyr wrth ddod i mewn, e.e. mesurau rheoli a gwiriadau UKVI a Llu’r Ffiniau,

casglu bagiau.

Page 87: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

85

C2 Sefyllfaoedd sy’n achosi tagfeydd mawr neu gau a’u heffaith bosibl • Sefyllfaoedd, e.e. tywydd (iâ, eira, gwynt a llifogydd), problemau technegol, diogeledd yn

y maes awyr, peiriannau hanfodol yn torri i lawr, ymosodiad gan frawychwyr yn yr awyr neu yn y derfynfa.

• Effaith bosibl ar weithrediadau awyrennu, e.e. angen clirio’r iâ oddi ar awyrennau, clirio eira neu ddŵr gormodol oddi ar redfeydd, gohirio hediadau allan, canslo hediadau, trosglwyddo teithwyr i feysydd awyr eraill, hediadau’n cyrraedd yn hwyr o feysydd awyr eraill lle mae’r tywydd yn cael effaith, peiriannau’n torri i lawr gan achosi oedi wrth brosesu bagiau ac oedi gyda phrosesu diogeledd.

• Effaith bosibl tagfeydd mawr neu gau maes awyr ar deithwyr, e.e. colli cysylltiadau, canslo hediadau, angen llety dros nos, angen gwybodaeth, sefyllfaoedd llawn straen.

C3 Mesurau i oresgyn problemau tagfeydd bach neu fawr a lleiafu’r effaith bosibl ar deithwyr

• Mesurau i oresgyn tagfeydd bach ar ochr y tir ac ochr yr awyr a lleiafu’r effaith bosibl ar deithwyr, e.e. agor desgiau ychwanegol ar gyfer cofrestru neu ollwng bagiau ar adegau pan fydd sawl awyren yn ymadael, defnyddio asiantau ychwanegol gwasanaeth i gwsmeriaid i gynorthwyo teithwyr sy’n ciwio, darparu peiriannau cardiau byrddio awtomatig, annog teithwyr i fod yn barod ar gyfer sgrinio diogeledd, agor mwy o ardaloedd diogeledd ar adegau pan fydd sawl awyren yn ymadael, defnyddio staff ychwanegol UKVI a Llu’r Ffiniau i drafod teithwyr sy’n dod i mewn, darparu gatiau pasbort wedi’u hawtomeiddio, dadlwytho bagiau’n effeithlon o’r awyren i’r carwsèl.

• Mesurau i oresgyn problemau tagfeydd mawr a lleiafu’r effaith bosibl ar deithwyr, e.e. cadw teithwyr yn yr ardaloedd lolfa, symud teithwyr at y gât yn gynnar i leihau’r dagfa yn y lolfa, darparu gwybodaeth a defnyddio asiantau ychwanegol gwasanaeth i gwsmeriaid fel bod y teithwyr yn cael gwybodaeth reolaidd a thalebau bwyd/diod lle bo hynny’n berthnasol, monitro ardaloedd lle mae tagfeydd â CCTV neu arsylwi dynol, darpariaeth ar gyfer teithwyr sy’n gorfod aros dros nos yn nherfynfa’r maes awyr.

• Dadansoddiad wedi’r digwyddiad i atal neu leiafu achosion rheolaidd o hyn.

Page 88: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

86

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i brosesau, cyfleusterau a gwasanaethau trafod teithwyr hamdden a busnes i mewn ac allan mewn meysydd awyr

A.Rh1 Gwerthuso sut a ble mae prosesau trafod teithwyr yn sicrhau diogelwch a diogeledd y teithwyr, y criw ac eraill yn y maes awyr yn effeithiol.

A.Ll1 Amlinellu taith teithiwr sy’n mynd allan ac yn dod i mewn trwy faes awyr yn achos teithiwr hamdden a busnes, gan ddisgrifio’r prosesau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyd y ffordd.

A.Ll2 Esbonio sut mae prosesau allweddol adeg cofrestru, wrth fynd trwy ddiogeledd ac wrth y gât yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.

A.Ll3 Esbonio sut mae’r prosesau allweddol ar ôl disgyn o’r awyren yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.

A.T1 Dadansoddi’r dewisiadau sydd ar gael i deithwyr sy’n dod i mewn ac yn mynd allan wrth iddyn nhw fynd trwy’r prif brosesau trafod teithwyr mewn maes awyr, gan gynnwys defnydd posibl o dechnoleg newydd a sut gall y dewisiadau hyn wella profiad y teithiwr.

Nod dysgu B: Cyflawni prosesau trafod teithwyr yn rôl yr asiant gwasanaeth i deithwyr adeg cofrestru ac wrth y gât B.Rh2 Arddangos yn gyson

gyfrifoldeb unigol a hunanreolaeth effeithiol wrth ddelio’n effeithiol ac yn hyderus gyda theithwyr sy’n mynd allan mewn sefyllfa safonol a sefyllfa heriol, gan sicrhau diogelwch a diogeledd.

B.Ll4 Delio’n briodol gyda theithwyr sy’n mynd allan mewn sefyllfa safonol, gan sicrhau diogelwch a diogeledd.

B.Ll5 Delio’n briodol gyda theithwyr sy’n mynd allan mewn sefyllfa heriol, gan sicrhau diogelwch a diogeledd.

B.T2 Delio’n effeithiol gyda theithwyr sy’n mynd allan mewn sefyllfa safonol a sefyllfa heriol, gan sicrhau diogelwch a diogeledd.

Nod dysgu C: Archwilio sut mae meysydd awyr yn sicrhau llif teithwyr effeithlon i mewn ac allan trwy feysydd awyr yn ystod gweithrediadau normal, ansafonol ac afreolaidd

C.Rh3 Gwerthuso effeithiolrwydd mesurau i gynnal llif teithwyr diogel a saff yn ystod sefyllfaoedd lle ceir tagfeydd bach a mawr.

C.Ll6 Plotio ardaloedd llae mae tagfeydd yn bosibl yn ystod gweithrediadau normal, gan esbonio pam mae tagfeydd yn dueddol o ddigwydd yno a’r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i atal neu leihau tagfeydd.

C.Ll7 Esbonio sut gall sefyllfaoedd ansafonol ac afreolaidd achosi tagfeydd mawr neu gau maes awyr ac esbonio’r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i leihau’r tagfeydd a’r effaith bosibl ar gwsmeriaid.

C.T3 Dadansoddi’r effaith bosibl ar deithwyr sy’n profi sefyllfaoedd lle ceir tagfeydd bach a mawr.

Page 89: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

87

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.Ll3, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll4, B.Ll5, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll6, C.Ll7, C.T3, C.Rh3)

Page 90: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

88

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Nid oes gofynion ychwanegol penodol ar gyfer yr uned hon.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr sut mae’r prif brosesau trafod teithwyr sy’n mynd allan ac yn dod i mewn yn sicrhau diogelwch a diogeledd teithwyr, criw a phersonél eraill a’r cyhoedd mewn terfynfa ac o’i hamgylch. Gellir cynnwys y dystiolaeth yn gyfannol yn y gwaith, neu gall fod yn ddarn o waith ar wahân sy’n arddangos dealltwriaeth glir a chywir o sut mae cymhwyso’r holl brosesau trafod teithwyr, ynghyd â chydymffurfio’n llawn â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol, yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb. Bydd y gwerthusiad yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa dechnegol gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi dadansoddiad cadarn o’r dewisiadau sydd ar gael i deithwyr wrth iddyn nhw symud trwy’r prif brosesau trafod teithwyr sy’n mynd allan ac yn dod i mewn. Rhaid i’r dadansoddiad amlygu’r dewisiadau sydd ar gael, megis cofrestru ar-lein, archebu lolfa weithredol ymlaen llaw, sgrinio llwybr carlam, byrddio blaenoriaeth a chymorth i gadeiriau olwyn, cyfleusterau dosbarth cyntaf a dosbarth busnes a sut gall y dewisiadau hyn wella profiad y teithiwr. Bydd y dysgwyr yn cynnwys dadansoddiad o’r elfennau technolegol arloesol a ddefnyddiwyd, neu nad ydynt ar waith eto, a hwylustod cyffredinol trosglwyddo teithwyr o ochr y tir i ochr yr awyr, o ochr yr awyr i ochr y tir, ac i’r awyren ac oddi yno. Bydd y dadansoddiad yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn darparu amlinelliad realistig o daith teithwyr sy’n mynd allan ac yn dod i mewn ar gyfer teithwyr hamdden a chorfforaethol. Gallai’r amlinelliad fod yn ddarlun cywir o’r maes awyr gan y dysgwyr, neu gallent ddefnyddio cynllun o faes awyr a gyhoeddwyd. Bydd y dysgwyr yn dangos y llwybr a gymerir gan deithwyr sy’n mynd allan o’r fynedfa i’r derfynfa, trwy’r ardaloedd cofrestru a diogeledd, i mewn i’r ardaloedd ymadael ac yna at y gât. Byddant yn nodi’r llwybr a gymerir gan deithwyr sy’n dod i mewn o’r awyren i’r derfynfa, trwy’r ardal casglu bagiau, trwy’r ardal fewnfudo a thollau ac i allanfa’r derfynfa. Rhoddir disgrifiad realistig o’r prosesau y deuir ar eu traws ar hyd y llwybr yma, ynghyd â’r cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddefnyddir gan deithwyr. Bydd datblygiadau technolegol arloesol hefyd yn cael eu cynnwys, er enghraifft cyfleusterau pasbort wedi’u hawtomeiddio ar gyfer teithwyr ag eBasbort sy’n dod i mewn a pheiriannau sgrinio llawn ar gyfer teithwyr sy’n mynd allan. Gall yr esboniadau gael eu cyflwyno ar y cynllun neu ar wahân, wedi’u cysylltu â’r cynllun. Bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad cywir ar sut mae’r prosesau allweddol yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol. Bydd yr esboniad hwn yn cwmpasu cofrestru, er enghraifft cwestiynau diogeledd, mynd trwy’r gwiriadau diogeledd, er enghraifft cyfyngiadau ar fagiau llaw, ac wrth y gât, er enghraifft gwirio bod teithwyr mewn cyflwr priodol i fyrddio. Yn achos y teithwyr sy’n dod i mewn, bydd y dysgwyr yn cyfeirio at brosesau allweddol fel mewnfudo a thollau. Bydd y dysgwyr yn nodi’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â phob proses yn gywir. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu darluniad priodol ac esboniadau i gefnogi hynny, ond gall y dystiolaeth fod yn arwynebol mewn mannau, neu wneud defnydd cyfyngedig o enghreifftiau neu resymau.

Page 91: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

89

Nod dysgu B

I gyflawni nod dysgu B, bydd y dysgwyr yn arddangos sgiliau trafod teithwyr mewn dwy sefyllfa wahanol chwarae rôl; bydd un sefyllfa yn safonol, a’r llall yn heriol. Bydd y naill yn digwydd adeg cofrestru, a’r llall wrth y gât.

Sefyllfa safonol yw un sy’n digwydd yn fynych neu fel mater o drefn, lle nad oes angen esgaladu i’w datrys. Sefyllfa heriol yw un sy’n anodd oherwydd amgylchiadau a/neu ymddygiad teithwyr, er enghraifft teithwyr sydd wedi colli awyren neu sydd wedi meddwi.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, rhaid i’r dysgwyr ddelio’n hyderus ac yn effeithiol â theithwyr sy’n mynd allan, a hynny’n gyson yn y ddwy sefyllfa. Dylai’r sefyllfaoedd chwarae rôl fod yn rhai realistig, a dylai’r teithwyr sy’n ymwneud yn benodol â’r sefyllfaoedd fod yn athrawon neu’n oedolion eraill, o bosib o’r sector awyrennu. Os bydd realaeth yn galw am fwy o bobl, er enghraifft ciwiau o deithwyr, gall y dysgwyr eraill gymryd rhan. Bydd y dysgwyr yn arddangos gallu cyson i dderbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa a delio’n effeithiol gyda theithwyr i sicrhau diogelwch a diogeledd pawb, gan gynnwys y criw, teithwyr eraill, gweithwyr y maes awyr a’r cyhoedd. Byddant yn dangos menter a hyder wrth ddatrys problemau cysylltiedig â theithwyr a lefel uchel o empathi gyda’r teithwyr bob amser. Bydd y dysgwyr yn arddangos agwedd broffesiynol a gwybodaeth gadarn am y gweithdrefnau, gallu i reoli sefyllfaoedd yn effeithiol ac yn llawn, a chydymffurfio’n llawn â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol. Dylai lefel y perfformiad gyfateb i rywun sy’n gweithio fel asiant gwasanaeth i deithwyr mewn gwirionedd.

I gyrraedd safon teilyngdod, rhaid i’r dysgwyr ddelio’n effeithiol â theithwyr sy’n mynd allan yn y ddwy sefyllfa. Dylai’r sefyllfaoedd chwarae rôl fod yn rhai realistig, a dylai’r teithwyr sy’n ymwneud yn benodol â’r sefyllfaoedd fod yn athrawon neu’n oedolion eraill, o bosib o’r sector awyrennu. Os bydd realaeth yn galw am fwy o bobl, er enghraifft ciwiau o deithwyr, gall y dysgwyr eraill gymryd rhan. Bydd y dysgwyr yn arddangos gwybodaeth a gallu i ddelio’n briodol ac yn effeithiol gyda theithwyr er mwyn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb, gan gynnwys y criw, teithwyr eraill, gweithwyr y maes awyr a’r cyhoedd. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth glir o unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd y teithwyr, a dealltwriaeth glir o deimladau neu safbwynt y teithiwr.

I gyrraedd safon llwyddo, rhaid i’r dysgwyr ddelio’n briodol â theithwyr sy’n mynd allan yn y ddwy sefyllfa. Dylai’r sefyllfaoedd chwarae rôl fod yn rhai realistig, a dylai’r teithwyr sy’n ymwneud yn benodol â’r sefyllfaoedd fod yn athrawon neu’n oedolion eraill, o bosib o’r sector awyrennu. Os bydd realaeth yn galw am fwy o bobl, er enghraifft ciwiau o deithwyr, gall y dysgwyr eraill gymryd rhan. Bydd y dysgwyr yn arddangos gwybodaeth a chymhwysiad digonol i fedru delio’n gymwys â’r sefyllfaoedd, ochr yn ochr â sicrhau diogelwch a diogeledd pawb, gan gynnwys y criw, teithwyr eraill, gweithwyr y maes awyr a’r cyhoedd. Bydd y dysgwyr yn dangos peth empathi tuag at y teithwyr sy’n ymwneud â’r sefyllfaoedd. Ni fydd elfennau hollbwysig ar goll o’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’r dysgwyr yn dangos tystiolaeth ohonynt, ond gallai cwmpas eu cymhwysiad fod yn gyfyngedig.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn arddangos eu gallu i farnu effeithiolrwydd mesurau sydd i’w cymryd yn ystod gweithrediadau normal pan fydd tagfeydd bach, ac yn ystod sefyllfaoedd ansafonol ac afreolaidd pan fydd tagfeydd mawr. Bydd y dysgwyr yn gwerthuso sut mae’r mesurau’n helpu i gynnal llif teithwyr, ochr yn ochr â sicrhau diogelwch a diogeledd pawb yn y maes awyr. Bydd eu gwerthusiad yn cynnwys ystyried sut gall dadansoddiad ar ôl y digwyddiad helpu i atal neu wella sefyllfaoedd a allai godi eto. Rhaid i’r dysgwyr ddarparu adolygiad cywir, wedi’i resymu’n dda o’r canlyniadau, gan ystyried yr agweddau cadarnhaol a negyddol posibl.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn darparu dadansoddiad rhesymegol, trefnus o effaith bosibl tagfeydd bach a mawr mewn meysydd awyr ar deithwyr. Bydd y drafodaeth yn gytbwys ac yn cael ei chefnogi gan enghreifftiau clir, perthnasol. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

Page 92: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 8: PROFIAD Y MAES AWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

90

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn plotio’r ardaloedd lle gallai tagfeydd ddigwydd yn ystod gweithrediadau arferol ar gynllun o derfynfa maes awyr. Gall y rhain gynnwys ciwiau yn yr ardal gofrestru, i fynd trwy’r broses o wirio cardiau byrddio, trwy’r sgrinio diogeledd, yn y lolfeydd ymadael ac wrth y gât. Gall y cynllun fod yn derfynfa go iawn mewn maes awyr, neu’n derfynfa maes awyr nodweddiadol. Bydd y dysgwyr yn rhoi rhesymau pam mae’r ardaloedd hyn yn tueddu i ddatblygu tagfeydd, er enghraifft ar adegau pan fydd sawl awyren yn ymadael o fewn cyfnod byr, neu pan fu oedi gydag un hediad neu fwy.

Bydd y dysgwyr yn dangos eu bod yn deall ble mae tagfeydd yn digwydd yn ystod gweithrediadau normal, pam maen nhw’n digwydd, ac yn disgrifio rhai o’r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i’w lleiafu, er enghraifft, agor mwy o ddesgiau cofrestru a mwy o ardaloedd diogeledd. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae tagfeydd mawr neu gau meysydd awyr yn digwydd pan fydd sefyllfa ansafonol neu afreolaidd megis tywydd gwael yn achosi problemau ar y rhedfeydd, drwgdybiaeth ynghylch ymosodiad gan frawychwyr, neu gyfarpar hanfodol yn torri i lawr. Bydd y dysgwyr yn esbonio nifer o fesurau y mae modd eu rhoi ar waith ar adegau pan fydd tagfeydd mawr i liniaru sefyllfaoedd, megis rhoi gwybodaeth i’r teithwyr yn rheolaidd, symud y teithwyr i ardaloedd y gatiau er mwyn lleihau’r tagfeydd yn y lolfa ymadael, cynorthwyo teithwyr sy’n gorfod aros dros nos yn y derfynfa neu mewn gwesty yn y maes awyr. Bydd y dysgwyr yn cyfeirio at werth cynnal dadansoddiad ar ôl y digwyddiad i atal neu leihau sefyllfaoedd lle mae hyn yn digwydd yn rheolaidd.

Bydd y dysgwyr yn darparu gwybodaeth fanwl ond gall y dystiolaeth gynnwys rhai elfennau anghywir ac ystod gyfyngedig o enghreifftiau realistig.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 10: Trafnidiaeth Teithwyr.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • sgyrsiau gan weithwyr sy’n trafod awyrennau o’r ddaear (ground handlers),

sefydliadau sgrinio diogeledd a heddlu’r maes awyr • ymweliadau ag ardaloedd ochr y tir mewn maes awyr • arddangos gweithdrefnau cofrestru a gatiau • mynd ar daith adrodd fer mewn awyren o faes awyr lleol er mwyn profi gweithdrefnau

trafod teithwyr yn uniongyrchol fel teithiwr sy’n mynd allan ac yn dod i mewn.

Page 93: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

91

Uned 9: Atyniadau Ymwelwyr

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau dadansoddi wrth iddyn nhw ymchwilio i natur a rôl atyniadau adeiledig a naturiol i ymwelwyr, eu llwyddiant masnachol, eu hapêl, eu hymateb i anghenion amrywiol ymwelwyr, a phwysigrwydd cyflwyno profiad cofiadwy i ymwelwyr.

Cyflwyniad i’r uned

Gall atyniadau ymwelwyr ddenu ymwelwyr domestig a thramor trwy ddarparu cyfleoedd i ymlacio, cael adloniant ac addysg. Maen nhw’n ffynhonnell refeniw bwysig ar gyfer y diwydiant teithio a thwristiaeth, yn ogystal ag ar gyfer y Deyrnas Unedig a’r economi fyd-eang.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ymchwilio i atyniadau ymwelwyr a’r gwahanol ffyrdd o’u hariannu. Byddwch chi’n archwilio beth mae profiad yr ymwelydd yn ei olygu a sut mae atyniadau ymwelwyr yn datblygu, yn arallgyfeirio ac yn defnyddio technoleg er mwyn diwallu anghenion eu gwahanol fathau o ymwelwyr.

Trwy ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau wrth ymchwilio a gwerthuso effeithiolrwydd atyniadau ymwelwyr, bydd yr uned yn eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch megis graddau mewn twristiaeth, hamdden neu astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir yn yr uned hon hefyd yn helpu i hybu eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Ymchwilio i natur, rôl ac apêl atyniadau ymwelwyr

B Edrych ar sut mae atyniadau ymwelwyr yn cyflawni disgwyliadau amrywiol ymwelwyr

C Archwilio sut mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i gystadleuaeth ac yn mesur eu llwyddiant a’u hapêl.

Page 94: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

92

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i natur, rôl ac apêl atyniadau ymwelwyr

A1 Mathau o atyniadau ymwelwyr

A2 Graddfa, cwmpas ac apêl atyniadau ymwelwyr

A3 Sut mae atyniadau ymwelwyr yn cael eu hariannu

A4 Pwysigrwydd strategaethau cynhyrchu refeniw ychwanegol ar gyfer atyniadau ymwelwyr

Cyflwyniad, gyda nodiadau i’r siaradwr, sy’n edrych ar y gwahanol fathau o atyniadau ymwelwyr, gan ddangos pam maen nhw’n apelio i ymwelwyr, sut caiff yr atyniadau hyn eu hariannu, a gwerthuso pwysigrwydd atyniadau ymwelwyr i’r economi leol a chenedlaethol.

B Edrych ar sut mae atyniadau ymwelwyr yn cyflawni disgwyliadau amrywiol ymwelwyr

B1 Gwahanol fathau o ymwelwyr a’u disgwyliadau amrywiol

B2 Y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, gan gynnwys cyfleoedd cynradd ac eilaidd i wario

B3 Ffyrdd o gyflawni a rhagori ar ddisgwyliadau ymwelwyr

B4 Defnydd o dechnoleg a phwysigrwydd hynny ar gyfer atyniadau ymwelwyr

Erthygl sy’n archwilio sut mae dau atyniad cyferbyniol i ymwelwyr yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau ac yn defnyddio technoleg i gyflawni a rhagori ar ddisgwyliadau ymwelwyr.

C Archwilio sut mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i gystadleuaeth ac yn mesur eu llwyddiant a’u hapêl

C1 Strategaethau ar gyfer ymateb i gystadleuaeth

C2 Llwyddiant ac apêl, gan ddefnyddio dadansoddi data i fesur tueddiadau ymwelwyr a niferoedd ymwelwyr

Adroddiad sy’n archwilio sut mae dau fath gwahanol o atyniad ymwelwyr yn ymateb i gystadleuaeth a phwysigrwydd mesur eu llwyddiant a’u hapêl yn effeithiol.

Page 95: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

93

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i natur, rôl ac apêl atyniadau ymwelwyr

A1 Mathau o atyniadau ymwelwyr • Atyniadau adeiledig: parciau thema, amgueddfeydd, orielau, safleoedd treftadaeth,

cofebau cenedlaethol, treftadaeth ddiwylliannol, celfyddydau, lleoliadau chwaraeon, canolfannau ymwelwyr.

• Atyniadau naturiol: Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE), arfordiroedd, coedwigoedd, afonydd, camlesi, llynnoedd, parciau cefn gwlad, gerddi, harddleoedd.

• Digwyddiadau, e.e. gwyliau sy’n denu twristiaid, digwyddiadau chwaraeon sy’n denu twristiaid, Cyfarfodydd, Cymhellion, Cynadleddau a Digwyddiadau (Meetings, Incentives, Conferences and Events – MICE).

A2 Graddfa, cwmpas ac apêl atyniadau ymwelwyr • Graddfa:

o rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol, atyniadau lleol, e.e. Disney® World’s Magic Kingdom, Taj Mahal, Côr y Cewri, Robben Island, ZSL Whipsnade Zoo, RHS Garden Wisley, Llyfrgell Birmingham, Traeth Bleser Blackpool

o perchnogaeth: cyhoeddus, preifat, gwirfoddol/nid er elw o maint a chymhlethdod yr atyniadau o cyfraniad i’r economi leol a chenedlaethol: trydyddol, pedryddol, cynradd ac eilaidd,

a adlewyrchir yn yr effaith luosydd. • Cwmpas:

o datblygu, e.e. reidiau newydd, canolfannau ymwelwyr, amwynderau eraill o arallgyfeirio, e.e. arddangosfeydd, digwyddiadau arbennig, cadwraeth o ardaloedd adfywio, e.e. Dociau Albert yn Lerpwl, Bae Caerdydd, Canol Dinas

ac Amgueddfeydd Bilbao, Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd. • Apêl:

o hygyrchedd lleoliadau, gan gynnwys amserau agor, cysylltiadau trafnidiaeth, strategaeth brisio, cynigion arbennig, cyfleusterau o dan do ac yn yr awyr agored

o digwyddiadau arbennig o poblogrwydd, gan gynnwys tueddiadau, delwedd ac enw da, busnes eildro.

A3 Sut mae atyniadau ymwelwyr yn cael eu hariannu • Cyllid gan sefydliadau allanol:

o Adran y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon (DCMS), VisitBritain, Y Loteri Genedlaethol, Cyllid o’r UE

o Rhaglen Twf: grantiau ar gyfer yr economi wledig o ymddiriedolaethau, e.e. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth

y Loteri, Cadw, English Heritage, UNESCO, Cronfa Treftadaeth Fyd-eang. • Sefydliadau sy’n hunanariannu:

o ymddiriedolaethau elusennol, elusennau addysgiadol, e.e. Dynamic Earth, Winchester Science Centre a’r Planetarium

o atyniadau sy’n cael eu hariannu trwy incwm ymwelwyr yn unig, e.e. Sŵ Tropical Wings.

A4 Pwysigrwydd strategaethau cynhyrchu refeniw ychwanegol ar gyfer atyniadau ymwelwyr

• Ffynonellau incwm ychwanegol neu newydd, e.e. digwyddiadau ac arddangosfeydd sy’n cynnig newydd-deb, cynnig neu ehangu llety ar y safle, mentrau marsiandïaeth newydd, mentrau llogi safleoedd.

• Pwysigrwydd strategaethau cynhyrchu refeniw ychwanegol, e.e. darparu llif refeniw ychwanegol i gynyddu’r elw neu ganiatáu ehangu.

Page 96: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

94

Nod dysgu B: Edrych ar sut mae atyniadau ymwelwyr yn cyflawni disgwyliadau amrywiol ymwelwyr B1 Gwahanol fathau o ymwelwyr a’u disgwyliadau amrywiol • Gwahanol fathau o ymwelwyr – o’r Deyrnas Unedig a thramor:

o unigolion – oedolion, plant o teuluoedd o grwpiau – addysg o ymwelwyr tramor o twristiaid o’r Deyrnas Unedig sy’n ymweld ag atyniadau dramor o pobl ag anghenion penodol.

• Disgwyliadau amrywiol ymwelwyr, i gynnwys: o hygyrchedd o cost a chyfleustra o diogelwch a diogeledd o adloniant o addysg/gwybodaeth – darparu amgylchedd dysgu.

B2 Y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, gan gynnwys cyfleoedd cynradd ac eilaidd i wario

• Y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, e.e. reidiau, arddangosiadau, tirweddau, canolfannau gwybodaeth, mapiau.

• Gwasanaethau cefnogi, e.e. canolfan gwybodaeth i ymwelwyr, parcio, cyfleusterau parcio a theithio, gwenoliaid trosglwyddo, toiledau ac ystafelloedd gorffwys, cymorth cyntaf, crèche a chyfleusterau plant, arwyddion, diogeledd, glanhau.

• Cyfleoedd cynradd ar gyfer gwariant, e.e. mynediad, seddau, tocynnau arddangosfa. • Cyfleoedd eilaidd ar gyfer gwariant, e.e. siopau neu allfeydd manwerthu, nwyddau, arlwyo a

llety, teithiau tywys, canolfannau ymwelwyr, digwyddiadau, uwchraddio tocynnau i osgoi ciwio, uwchraddio tocyn diwrnod i gael pàs blwyddyn, pàs aml-fynediad i ystod o atyniadau.

B3 Ffyrdd o gyflawni a rhagori ar ddisgwyliadau ymwelwyr • Apêl y lleoliad a’r amgylchedd. • Hygyrchedd ac ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaethau presennol. • Datblygu cynnyrch/gwasanaethau newydd, e.e. reidiau newydd mewn parciau thema,

digwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig mewn amgueddfeydd, orielau neu safleoedd treftadaeth, darpariaeth lefel uwch ar gyfer ymwelwyr sydd â namau synhwyraidd.

• Arallgyfeirio cyfleusterau ac amwynderau, e.e. cyfleoedd cadwraeth, manwerthu, cynadleddau, arlwyo a llety,

• Delwedd, brandio a chynigion hyrwyddo, e.e. mynediad Di-Wifr am ddim, gostyngiadau i grwpiau, gostyngiadau am brynu ymlaen llaw, gostyngiadau trwy sefydliadau eraill fel byrddau croeso, trefnwyr teithiau neu ddarparwyr trafnidiaeth.

B4 Defnydd o dechnoleg a phwysigrwydd hynny ar gyfer atyniadau ymwelwyr • Systemau archebu, e.e. cyfleusterau ar y rhyngrwyd/cymwysiadau symudol, systemau

cadw lle, pwyntiau casglu tocynnau. • Systemau rheoli ymwelwyr, e.e. hysbysfyrddau/arwyddion electronig, gatiau a reolir,

rheoli llif ymwelwyr, cyfathrebu â’r staff – ffonau symudol/peiriannau galw/radio dwyffordd. • Nodweddion technolegol sy’n eilaidd i’r atyniad, er enghraifft:

o arddangosiadau rhyngweithiol/teithiau realiti rhithwir/teithiau sain o tywys a dulliau tywys – tywyswyr twristiaid (Bathodyn Gwyn, Gwyrdd, Glas),

dehongli personol, sgrinio fideo, actio, llawlyfrau ymwelwyr a llyfrynnau o apiau am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol o effeithiau arbennig, animeiddio ac efelychu, e.e. Canolfan Feicingiaid Jorvik yng

Nghaerefrog, Universal Studios Hollywood, Parc Cenedlaethol Uluru-Kata Tjuta. • Pwysigrwydd technoleg ar gyfer atyniadau ymwelwyr, i gynnwys:

o gwella ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig, e.e. modelau/ arddangosfeydd 3D digidol, reidiau efelychu, digwyddiadau technolegol

Page 97: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

95

o gwella hwylustod mynediad/archebu neu leihau amser ciwio, e.e. pasiau carlam electronig, systemau cadw lle/archebu ar-lein

o lleihau costau gweithredu, e.e. o ran staff, hyfforddiant, cynnal a chadw o gwella delwedd neu godi proffil yr atyniad ymwelwyr, e.e. safonau uchel o ran

hygyrchedd ac argaeledd y wefan, teithiau rhithwir o helpu i gynnal mantais gystadleuol trwy wella profiad cyffredinol ymwelwyr.

Nod dysgu C: Archwilio sut mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i gystadleuaeth ac yn mesur eu llwyddiant a’u hapêl

C1 Strategaethau ar gyfer ymateb i gystadleuaeth • Ymchwil marchnad ddibynadwy:

o deall ymwelwyr a’u hanghenion trwy adborth o ffynonellau priodol, e.e. safleoedd adolygu ac adborth cwsmeriaid, arolygon a gomisiynwyd

o dadansoddi’r math o ymwelwyr, niferoedd, tymoroldeb, busnes eildro. • Cynllunio a marchnata:

o cynllunio datblygiad yr atyniad yn effeithiol, gan gynnwys arallgyfeirio priodol a strategaethau marchnata

o marchnata wedi’i dargedu’n bersonol. • Darparu profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr:

o cynnig cynnyrch a gwasanaethau sy’n arwain at brofiad cofiadwy i ymwelwyr. • Meithrin teyrngarwch i’r brand:

o cynnal proffil neu gynyddu ymwybyddiaeth o’r atyniad o digwyddiadau rheolaidd/arbennig, e.e. Scarefest Alton Towers, ‘White Nights’

Port Aventura, Gorymdaith Diolchgarwch Macy’s yn Efrog Newydd o rheolaeth effeithiol ar dymoroldeb a datblygu cynnyrch.

C2 Llwyddiant ac apêl, gan ddefnyddio dadansoddi data i fesur tueddiadau ymwelwyr a niferoedd ymwelwyr

Dangosyddion llwyddiant ac apêl, i gynnwys:

• niferoedd ymwelwyr: o mathau o ymwelwyr, e.e. tramor, ymwelwyr domestig, cyfnewidfeydd diwylliannol o hyd yr arhosiad o gwariant cyfartalog fesul math o ymwelydd o ymwelwyr eildro

• data a gasglwyd gan gymdeithasau ymwelwyr: o Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Blaenllaw (ALVA) o Cymdeithas Parciau Hamdden, Pierau ac Atyniadau Prydain (BALPPA)

• dangosyddion eraill llwyddiant ac apêl, e.e.: o cynyddu cyflogaeth – tymhorol/ar hyd y flwyddyn o mwy o fuddsoddi/datblygu/seilwaith o adfywio ardaloedd, gwella gwasanaethau a chyfleusterau lleol

• dulliau a ddefnyddir i gyflwyno a dadansoddi data er mwyn mesur llwyddiant ac apêl, e.e.: o taenlenni/graffiau/siartiau cylch sy’n dangos niferoedd ymwelwyr, tueddiadau, gwariant o arolygon, holiaduron o dadansoddiad adennill costau o monitro trwy gatiau tro electronig o adroddiadau blynyddol

• pwysigrwydd mesur a dadansoddi llwyddiant ac apêl atyniadau ymwelwyr, e.e.: o lansio ymgyrchoedd marchnata, nawdd o adfywio o buddsoddi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd o cynnal delwedd ac enw da.

Page 98: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

96

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i natur, rôl ac apêl atyniadau ymwelwyr

A.Rh1 Gwerthuso apêl dau atyniad ymwelwyr gwahanol, sut maen nhw’n cael eu hariannu a’u cyfraniad i’r economi leol a chenedlaethol.

A.Ll1 Edrych ar apêl dau atyniad ymwelwyr gwahanol a sut maen nhw’n cael eu hariannu.

A.Ll2 Esbonio graddfa a chwmpas dau atyniad ymwelwyr gwahanol a’u cyfraniad i’r economi leol a chenedlaethol.

A.T1 Dadansoddi apêl dau atyniad ymwelwyr gwahanol, sut maen nhw’n cael eu hariannu a phwysigrwydd yr atyniadau ymwelwyr i’r economi leol a chenedlaethol.

Nod dysgu B: Edrych ar sut mae atyniadau ymwelwyr yn cyflawni disgwyliadau amrywiol ymwelwyr

B.Rh2 Gwerthuso addasrwydd y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ddau atyniad ymwelwyr gwahanol a’r defnydd o dechnoleg wrth gyflawni disgwyliadau amrywiol yr ymwelwyr.

B.Ll3 Esbonio sut mae dau atyniad ymwelwyr gwahanol yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau sy’n cyflawni disgwyliadau amrywiol yr ymwelwyr.

B.Ll4 Esbonio pwysigrwydd technoleg ar gyfer dau atyniad ymwelwyr gwahanol.

B.T2 Dadansoddi pwysigrwydd cynnyrch a gwasanaethau a gynigir gan ddau atyniad ymwelwyr gwahanol a’r defnydd o dechnoleg wrth gyflawni disgwyliadau amrywiol yr ymwelwyr.

Nod dysgu C: Archwilio sut mae atyniadau ymwelwyr yn ymateb i gystadleuaeth ac yn mesur eu llwyddiant a’u hapêl C.Rh3 Ar gyfer dau

atyniad ymwelwyr a ddewiswyd, gwerthuso effeithiolrwydd ymateb yr atyniad dan sylw i gystadleuaeth a’i ddull o ddefnyddio dadansoddi data i fesur ei lwyddiant a’i apêl.

C.Ll5 Esbonio sut mae dau atyniad ymwelwyr gwahanol yn ymateb i gystadleuaeth.

C.Ll6 Yn achos y ddau atyniad ymwelwyr a ddewiswyd, esbonio pwysigrwydd mesur llwyddiant ac apêl a rôl dadansoddi data.

C.T3 Ar gyfer dau atyniad ymwelwyr a ddewiswyd, dadansoddi pwysigrwydd ymateb i gystadleuaeth a mesur apêl yr atyniad, gan gynnwys rôl dadansoddi data.

Page 99: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

97

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 100: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

98

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at ystod o wybodaeth am atyniadau ymwelwyr, o ffynonellau sylfaenol fel ymweliadau a siaradwyr i ffynonellau eiladd fel gwefannau ac adnoddau printiedig.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

Er mwyn cyflawni’r meini prawf asesu ar gyfer y nod dysgu hwn, bydd y dysgwyr yn dethol ac yn gwneud gwaith ymchwil ar ddau atyniad ymwelwyr penodol, digon cyferbyniol. Dylid dewis y ddau atyniad ymwelwyr o blith gwahanol fathau o gategorïau o atyniadau ymwelwyr: adeiledig, naturiol a digwyddiadau. Dylai’r athrawon sicrhau bod y ddwy enghraifft a ddewiswyd gan y dysgwyr yn rhoi digon o gyfle iddyn nhw gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr apêl dwy enghraifft ddigon cyferbyniol o atyniad ymwelwyr, sut maen nhw’n cael eu hariannu trwy wahanol fathau o berchnogaeth, a chyfraniad yr atyniadau ymwelwyr hyn i’r economi leol a chenedlaethol. Bydd y dysgwyr yn dangos bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl o raddfa a chwmpas y ddau atyniad ymwelwyr cyferbyniol. Byddant yn defnyddio tystiolaeth briodol i gefnogi casgliadau a wnaed ar sail eu gwaith ymchwil. Gallai hyn gynnwys data ystadegol, os yw ar gael. Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol, a ddewiswyd yn gall, ynghylch pwysigrwydd yr atyniadau ymwelwyr i’r economi leol a chenedlaethol, ac yn darparu rhesymau wedi’u cyfiawnhau am eu casgliadau ym mhob achos. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal ac â ffocws clir ar arwyddocâd cymharol gwahanol ffactorau a’u rhyngddibyniaeth. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig/llafar o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cyflwyno dadansoddiad clir, cytbwys o apêl dwy enghraifft ddigon cyferbyniol o atyniad ymwelwyr, sut maen nhw’n cael eu hariannu trwy wahanol fathau o berchnogaeth, a phwysigrwydd y ddau atyniad ymwelwyr dan sylw i’r economi leol a chenedlaethol. Bydd yn amlwg o’r dadansoddiad bod y dysgwyr wedi ymchwilio’n fanwl i’w graddfa, eu cwmpas a’u hapêl, ac wedi deall hynny. Byddant yn rhoi manylion perthnasol am apêl, ariannu a chyfraniad y naill a’r llall o’r atyniadau ymwelwyr. Bydd y manylion yn ddilys ac wedi’u cysylltu’n glir â’u dadansoddiad. Defnyddir tystiolaeth gyffredinol berthnasol i gefnogi’r dadansoddiad. Gallai hyn gynnwys data ystadegol, os bydd ar gael. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu ysgrifenedig/llafar o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad priodol am ddwy enghraifft ddigon cyferbyniol o atyniad ymwelwyr, eu hapêl a sut maen nhw’n cael eu hariannu trwy wahanol fathau o berchnogaeth. Bydd yr esboniad hefyd yn cynnwys manylion priodol a realistig am raddfa, cwmpas ac apêl y gwahanol fathau o atyniad ymwelwyr a’u cyfraniad i’r economi leol a chenedlaethol. Gall y dystiolaeth fod yn fanwl ond yn anghytbwys mewn mannau, neu gael ei chefnogi gan ddefnydd arwynebol o esiamplau neu resymau.

Nod dysgu B

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad trylwyr sy’n darbwyllo o sut mae dau atyniad ymwelwyr gwahanol yn darparu cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer eu gwahanol fathau o gwsmeriaid er mwyn cyflawni a rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid. Bydd y gwerthusiad yn nodi’r ymwelydd ‘nodweddiadol’, eu gofynion a’r cyfleoedd ar gyfer gwariant cynradd ac eilaidd. Bydd y dysgwyr yn gwerthuso pa mor bwysig yw technoleg ar gyfer dau atyniad ymwelwyr gwahanol a ddewiswyd, sut defnyddir technoleg, a sut mae o fudd i’r atyniad a’r cwsmer sy’n mynd yno. Cyflwynir casgliadau ac argymhellion cadarn ar gyfer y ddau atyniad a ddewiswyd. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal ac yn canolbwyntio’n eglur ar addasrwydd gwahanol ffactorau a’u rhyngddibyniaeth. Bydd y dysgwyr yn arddangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel.

Page 101: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

99

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir, cytbwys o wahanol fathau o gynnyrch a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ddau atyniad ymwelwyr gwahanol a’r dechnoleg a ddefnyddir i ymateb yn effeithiol i anghenion eu cwsmeriaid. Bydd agweddau cadarnhaol a negyddol posibl cynnyrch, gwasanaethau a’r defnydd o dechnoleg yn derbyn sylw. Bydd y cyfeiriadau at effeithiau posibl yn benodol ac yn berthnasol. Bydd y dysgwyr yn darparu dadansoddiad cywir sy’n rhesymegol ac yn arddangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio’r cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan ddau fath gwahanol o atyniad ymwelwyr fel rhan o brofiad yr ymwelydd. Bydd y dysgwyr yn esbonio sut defnyddir technoleg i wella profiad yr ymwelydd, gan ddangos dealltwriaeth briodol, er ei bod yn arwynebol mewn mannau, o sut mae atyniadau ymwelwyr wedi defnyddio technoleg i gyflawni’r nodau hyn. Gallai’r ystod o enghreifftiau o gynnyrch, gwasanaethau a thechnoleg a roddir gan y dysgwyr fod yn gyfyngedig o ran cwmpas neu ddyfnder. Bydd eu hymchwiliad yn realistig ac yn briodol, ond gallai’r dystiolaeth gynnwys rhai ffeithiau anghywir. Bydd yr esboniadau’n cynnwys manylion a rhagolwg cyfyngedig.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu, ar gyfer dau atyniad ymwelwyr cyferbyniol, archwiliad manwl o bwysigrwydd ymateb i gystadleuaeth a mesur llwyddiant ac apêl. Byddant yn cyflwyno gwerthusiad cynhwysfawr sy’n darbwyllo o lwyddiant dau atyniad ymwelwyr gwahanol i ymateb i gystadleuaeth a mesur eu llwyddiant a’u hapêl. Bydd y dysgwyr yn gwneud cyfeiriadau cyson ddilys a chraff at bwysigrwydd dadansoddi data wrth fesur llwyddiant ac apêl y ddau atyniad i ymwelwyr. Gwneir cyfeiriadau penodol, manwl at y strategaethau a ddefnyddiwyd i ymateb i gystadleuaeth a’r rhesymau am eu llwyddiant neu eu diffyg llwyddiant. Bydd unrhyw gyfeiriadau at enghreifftiau o ddata cefnogi yn gyson gywir. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal ac yn canolbwyntio’n glir ar effeithiolrwydd cymharol gwahanol ffactorau a’u rhyngddibyniaeth. Bydd y dysgwyr yn mynegi eu dadleuon a’u barn yn gryno ac yn rhugl, gan werthuso cysyniadau, syniadau a chamau gweithredu er mwyn dod i gasgliadau dilys, wedi’u cyfiawnhau.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn dadansoddi’n rhesymegol, ar gyfer dau atyniad ymwelwyr cyferbyniol, bwysigrwydd ymateb i gystadleuaeth a mesur eu llwyddiant a’u hapêl. Gall y dysgwyr gynnwys cyfeiriadau cyffredinol gywir at ddata perthnasol i gefnogi eu dadansoddiad. Bydd y dysgwyr yn gwerthfawrogi arwyddocâd cymharol gwahanol ffactorau sy’n ymwneud ag ymateb i gystadleuaeth a mesur llwyddiant, a’r berthynas rhwng y ffactorau hyn. Bydd y dysgwyr yn gwneud cyfeiriadau clir, perthnasol at bwysigrwydd dadansoddi data wrth fesur llwyddiant ac apêl atyniadau ymwelwyr. Byddant yn rhoi dadansoddiad clir, cywir a chytbwys sy’n arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol a chywir.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad sylfaenol ar sut mae dau atyniad ymwelwyr cyferbyniol a ddewiswyd yn ymateb i gystadleuwyr. Byddant hefyd yn esbonio pam mae’n bwysig bod yr atyniadau ymwelwyr hyn yn mesur eu llwyddiant a’u hapêl a pham gallai’r atyniadau ymwelwyr ddefnyddio dadansoddi data wrth fesur eu llwyddiant a’u hapêl. Gall y dysgwyr wneud rhai cyfeiriadau cymwys at ddata i gefnogi eu hesboniadau, ond efallai na fydd peth o’r data cefnogi yn berthnasol. Bydd esboniadau’r dysgwyr yn realistig ac yn briodol, ond gall y dystiolaeth gynnwys rhai manylion anghywir, bod yn gyfyngedig mewn mannau, neu gael ei chefnogi gan ddefnydd cyfyngedig o enghreifftiau dilys.

Page 102: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 9: ATYNIADAU YMWELWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

100

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 11: Digwyddiadau, Cynadleddau ac Arddangosfeydd.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • profiad gwaith/cysgodi gwaith • ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr perthnasol • sgyrsiau gan siaradwyr arbenigol.

Page 103: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

101

Uned 10: Trafnidiaeth Teithwyr

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn dadansoddi newidiadau a thueddiadau o ran trafnidiaeth teithwyr ar y tir, ar y môr ac yn yr awyr, datblygiadau o ran cynnyrch a gwasanaethau, rôl technoleg a lleoliad hybiau trafnidiaeth allweddol.

Cyflwyniad i’r uned

Mae trafnidiaeth teithwyr wedi datblygu’n gyflym, yn unol â datblygiadau ym myd technoleg, yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae technoleg megis archebu ar-lein ac apiau ffonau clyfar wedi galluogi defnyddwyr i reoli eu hanghenion teithio yn gymharol hwylus ac wedi chwyldroi sut mae pobl yn defnyddio systemau trafnidiaeth.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n astudio teithio ar y rheilffordd, ar y ffordd, yn yr awyr ac ar y môr, yn ogystal â phrif hybiau trafnidiaeth ddomestig a rhyngwladol. Byddwch yn nodi’r cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd i ystod o deithwyr a sut mae technolegau modern wedi gwella argaeledd a hygyrchedd.

Gall trafnidiaeth gael ei hastudio ymhellach fel rhan o lawer o gymwysterau addysg uwch. Bydd yr wybodaeth am ddaearyddiaeth a seilwaith a geir yn yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i raddau mewn meysydd megis trafnidiaeth, twristiaeth, hamdden neu astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir yn yr uned hon hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Archwilio opsiynau a thueddiadau cyfredol o ran trafnidiaeth teithwyr

B Ymchwilio i leoliadau a chyfleusterau hybiau trafnidiaeth, gan gynnwys sut mae eu cynnyrch a’u gwasanaethau’n diwallu anghenion teithwyr

C Edrych ar rôl technolegau ar y we a sut maen nhw wedi dylanwadu ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth teithwyr i deithwyr.

Page 104: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

102

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Archwilio opsiynau a thueddiadau cyfredol o ran trafnidiaeth teithwyr

A1 Teithio yn yr awyr a chwmnïau awyrennau

A2 Teithio ar y môr a chwmnïau fferi

A3 Teithio ar y rheilffordd a chwmnïau trenau

A4 Teithio ar y ffordd A5 Pryderon amgylcheddol

Gwerthusiad o opsiynau a dulliau teithio ar sail tri phroffil cwsmer gwahanol a sut gallai eu dewisiadau trafnidiaeth gael effaith ar yr amgylchedd.

B Ymchwilio i leoliadau a chyfleusterau hybiau trafnidiaeth, gan gynnwys sut mae eu cynnyrch a’u gwasanaethau’n diwallu anghenion teithwyr

B1 Lleoliadau a chyfleusterau meysydd awyr

B2 Lleoliadau a chyfleusterau porthladdoedd teithwyr

B3 Rheilffyrdd a’r cyfleusterau cysylltiedig

B4 Y rhwydwaith ffyrdd a’r cyfleusterau cysylltiedig

Gwerthusiad o sut mae anghenion tri phroffil cwsmer cyferbyniol (sy’n derbyn sylw yn y briffiau cwsmer a roddwyd) yn cael eu diwallu gan wahanol gwmnïau trafnidiaeth, hybiau a therfynfeydd, ac i ba raddau mae’r cyfleusterau yn adlewyrchu’r galw gan gwsmeriaid a’u lleoliad.

C Edrych ar rôl technolegau ar y we a sut maen nhw wedi dylanwadu ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth teithwyr i deithwyr

C1 Tudalennau gwe ar-lein ac ar y rhyngrwyd

C2 Apiau ffonau clyfar C3 e-Docynnau C4 Y berthynas rhwng y math

o gwsmer a’r defnydd o dechnolegau ar y we

Cyflwyniad sioe sleidiau, gyda nodiadau i’r siaradwr, sy’n cymharu ac yn cyferbynnu defnydd ac effeithiolrwydd gwahanol dechnolegau ar y we a sut maen nhw wedi dylanwadu ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth ar gyfer grwpiau cyferbyniol o gwsmeriaid.

Page 105: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

103

Cynnwys

Nod dysgu A: Archwilio opsiynau a thueddiadau cyfredol o ran trafnidiaeth teithwyr

A1 Teithio yn yr awyr a chwmnïau awyrennau • Niferoedd teithwyr:

o y 10 maes awyr ar y brig ar draws y byd yn ôl niferoedd teithwyr o y 10 maes awyr ar y brig yn Ewrop yn ôl niferoedd teithwyr o newidiadau cyffredinol yn nifer y teithwyr ar draws y byd ers 2000 o newidiadau yn yr ardaloedd sy’n derbyn ac yn cynhyrchu teithwyr awyr ers 2000.

• Cerbydau awyr: o newidiadau ym modelau, maint a manylebau awyrennau.

• Cwmnïau awyr, eu cynnyrch a’u gwasanaethau: o diffiniad o hediadau a raglennwyd, rhai am bris gostyngol a hediadau siarter o sefydliadau sy’n rhedeg gwasanaethau i deithwyr awyr.

A2 Teithio ar y môr a chwmnïau fferi • Niferoedd teithwyr:

o y 10 porthladd ar y brig ar draws y byd yn ôl niferoedd teithwyr o y 10 porthladd ar y brig yn Ewrop yn ôl niferoedd teithwyr o newidiadau cyffredinol yn nifer y teithwyr ar draws y byd ers 2000 o newidiadau yn yr ardaloedd sy’n derbyn ac yn cynhyrchu teithwyr môr ers 2000.

• Cerbydau dŵr sy’n berthnasol i drafnidiaeth teithwyr: o newidiadau ym math, maint a manylebau fferïau o sefydliadau sy’n rhedeg gwasanaethau fferi.

A3 Teithio ar y rheilffordd a chwmnïau trenau • Prif linellau rheilffordd y Deyrnas Unedig. • Cysylltiadau rheilffordd dinasoedd, e.e. Rheilffordd Tanddaearol Llundain, tramiau ym

Manceinion, Nottingham, Caeredin. • Network rail a chwmnïau trenau’r Deyrnas Unedig. • Newidiadau yn hyd teithiau rheilffordd a chyflymder trenau rhwng 1945 a’r presennol. • Tueddiadau o ran nifer y teithau rheilffordd rhyngwladol yn Ewrop, eu pwrpas a’u cost. • Tueddiadau o ran nifer y teithiau rheilffordd cenedlaethol (yn y Deyrnas Unedig),

eu pwrpas a’u cost.

A4 Teithio ar y ffordd • Rhwydwaith ffyrdd y Deyrnas Unedig. • Newidiadau a thueddiadau ym mherchnogaeth ceir ers 1945. • Tueddiadau o ran niferoedd y teithiau coets rhyngwladol yn Ewrop, eu pwrpas a’u cost. • Tueddiadau o ran niferoedd y teithiau coets cenedlaethol (yn y Deyrnas Unedig),

eu pwrpas a’u cost.

A5 Pryderon amgylcheddol • Datblygu seilwaith trafnidiaeth ac effaith bosibl hynny ar yr amgylchedd. • Ôl-troed carbon gwahanol ddulliau trafnidiaeth. • Effaith bosibl trafnidiaeth teithwyr ar ansawdd bywyd a’r amgylchedd:

o mathau o lygredd o effaith bosibl ar gynefinoedd.

Page 106: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

104

Nod dysgu B: Ymchwilio i leoliadau a chyfleusterau hybiau trafnidiaeth, gan gynnwys sut mae eu cynnyrch a’u gwasanaethau’n diwallu anghenion teithwyr

B1 Lleoliadau a chyfleusterau meysydd awyr • Lleoliad meysydd awyr:

o lleoliad y 10 maes awyr prysuraf yn y byd o y 10 taith hir sydd â’r nifer uchaf o hediadau o hybiau, lleoliadau a llwybrau meysydd awyr pwysig yn Ewrop o meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig:

– lleoliad meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig – niferoedd teithwyr meysydd awyr yn Llundain a’r llwybrau rhyngwladol a domestig

mwyaf poblogaidd – niferoedd teithwyr meysydd awyr rhanbarthol a’r llwybrau rhyngwladol a domestig

mwyaf poblogaidd. • Cyfleusterau terfynfeydd meysydd awyr mewn hybiau rhyngwladol o bwys a meysydd

awyr rhyngwladol rhanbarthol: o y cyfleusterau maen nhw’n eu cynnig a sut maen nhw’n diwallu anghenion

cwsmeriaid, gan gynnwys technolegau sy’n gysylltiedig â diogeledd a dyfeisiau arbed amser/gwaith.

• Cwmnïau awyrennau: o gwahanol gynnyrch a gwasanaethau a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid

ar y llawr ac wrth hedfan, i gynnwys: – dosbarth cyntaf – dosbarth busnes – economi premiwm – economi.

B2 Lleoliadau a chyfleusterau porthladdoedd teithwyr • Lleoliad porthladdoedd:

o lleoliad y 10 porthladd teithwyr prysuraf yn y byd o porthladdoedd, lleoliadau a llwybrau pwysig yn Ewrop o porthladdoedd yn y Deyrnas Unedig:

– lleoliad porthladdoedd y Deyrnas Unedig – llwybrau pwysig rholio ymlaen/rholio i ffwrdd (ro-ro).

• Cyfleusterau porthladd (terfynfeydd fferi) mewn porthladdoedd rhyngwladol, porthladdoedd domestig a hybiau/cyfnewidfeydd trafnidiaeth: o cyfleusterau a gynigir a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid, gan gynnwys

technolegau sy’n ymwneud â diogeledd a dyfeisiau arbed amser/gwaith. • Cwmnïau fferi:

o gwahanol gynnyrch a gwasanaethau a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid ar y lan ac ar y môr, er enghraifft: – llety – arlwyo – adloniant – siopa.

B3 Rheilffyrdd a’r cyfleusterau cysylltiedig • Rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig:

o lleoliad gorsafoedd rheilffordd rhyngwladol a llwybrau i Ewrop o lleoliad y prif orsafoedd rheilffordd a’r llwybrau rhwng dinasoedd o rhwydweithiau oddi mewn i ddinasoedd.

• Cyfleusterau gorsafoedd mewn gorsafoedd rheilffordd rhyngwladol, hybiau/cyfnewidfeydd trafnidiaeth a phrif orsafoedd rheilffordd: o y cyfleusterau sy’n cael eu cynnig a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid,

gan gynnwys technolegau sy’n ymwneud â diogeledd a dyfeisiau arbed amser/gwaith.

Page 107: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

105

• Cwmnïau trenau: o gwahanol gynnyrch a gwasanaethau a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid

– yn yr orsaf – ar y trên – dosbarthiadau teithio.

B4 Y rhwydwaith ffyrdd a’r cyfleusterau cysylltiedig • Pwrpas traffyrdd a thollffyrdd. • Gwasanaethau ar y ffyrdd a sut maen nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid. • Gorsafoedd coetsys, hybiau/cyfnewidfeydd trafnidiaeth, eu cyfleusterau a sut maen nhw’n

diwallu anghenion cwsmeriaid. • Cwmnïau coetsys, y cyfleusterau a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, a sut maen

nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid.

Nod dysgu C: Edrych ar rôl technolegau ar y we a sut maen nhw wedi dylanwadu ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth teithwyr i deithwyr

C1 Tudalennau gwe ar-lein ac ar y rhyngrwyd • Trefnu archeb:

o cymharu prisiau o archebu ar unwaith o dewis sedd/caban o opsiynau uwchraddio o gwasanaethau ychwanegol ac ategol o gofynion o ran gwaith papur o gofynion diogeledd o cofrestru ar-lein.

• Adolygiadau teithwyr o gwmnïau teithio: o safleoedd adolygu ar-lein fel ffynhonnell gwybodaeth o safleoedd adolygu ar-lein fel ffynhonnell adborth.

• Safleoedd diweddaru teithio byw: o manylion am oedi a chanslo hedfan/hwylio/trenau o gwybodaeth deithio fyw am y rhwydwaith ffyrdd

(damweiniau, digwyddiadau a gwaith ar y ffyrdd) o cynllunio llwybr.

C2 Apiau ffonau clyfar • Llywio lloeren a chynllunio llwybr ar unwaith. • Archebu ar unwaith ar sail lleoliad (tacsis). • Gwybodaeth a chyfraddau cyfnewid ar gyfer arian tramor. • Cyfieithu ieithoedd/arwyddion tramor. • Archebu gwibdeithiau pan fyddwch dramor/cael cadarnhad. • Rhwydweithio cymdeithasol a rhannu profiad. • Amserlenni llwybrau a theithiau anhysbys. • Cyswllt/lleoliad/gwybodaeth mewn argyfwng.

C3 e-Docynnau • Cwmnïau awyrennau. • Rheilffyrdd. • Cwmnïau coetsys.

C4 Y berthynas rhwng y math o gwsmer a’r defnydd o dechnolegau ar y we • Defnydd oed-gysylltiedig o dechnoleg (plant y mileniwm, pobl hŷn). • Defnydd o dechnoleg sy’n gysylltiedig â lefel incwm neu addysg

(grwpiau sosio-economaidd).

Page 108: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

106

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Archwilio opsiynau a thueddiadau cyfredol o ran trafnidiaeth teithwyr

A.Rh1 Gwerthuso, ar gyfer tri grŵp cyferbyniol o gwsmeriaid, sut mae dewisiadau teithio’n amrywio yn ôl yr amser a gymerir, y pris, y lleoliad, argaeledd ac agweddau at yr amgylchedd.

A.Ll1 Esbonio’r dulliau teithio gall pobl eu dewis, gan awgrymu tueddiadau defnydd dros amser ar gyfer tri grŵp cyferbyniol o gwsmeriaid.

A.Ll2 Esbonio effaith bosibl datblygu seilwaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd, ac effaith barhaus bosibl defnydd o lwybrau trafnidiaeth a moddau trafnidiaeth.

A.T1 Asesu’r dewisiadau teithio mae pobl yn eu gwneud a’u heffaith bosibl ar yr amgylchedd yn achos o leiaf dri grŵp cyferbyniol o gwsmeriaid.

Nod dysgu B: Ymchwilio i leoliadau a chyfleusterau hybiau trafnidiaeth, gan gynnwys sut mae eu cynnyrch a’u gwasanaethau’n diwallu anghenion teithwyr

B.Rh2 Gwerthuso i ba raddau mae gwahanol gwmnïau a hybiau trafnidiaeth yn diwallu anghenion tri grŵp gwahanol o gwsmeriaid, ac i ba raddau mae’r cyfleusterau sy’n cael eu darparu yn ymateb i’r galw gan gwsmeriaid a’u lleoliad.

B.Ll3 Nodi llwybrau poblogaidd ar gyfer teithio yn yr awyr, ar y ffordd, ar y môr ac ar y rheilffordd ac esbonio pa gyfleusterau a ddisgwylir yn yr hybiau perthnasol (meysydd awyr, porthladdoedd, gorsafoedd coetsys a threnau a gwasanaethau ar y ffyrdd).

B.Ll4 Esbonio sut mae gwahanol fathau o gwmnïau trafnidiaeth yn darparu ar gyfer anghenion tri grŵp gwahanol o gwsmeriaid.

B.T2 Gan gyfeirio at dri grŵp gwahanol o gwsmeriaid, dadansoddi pam mae cwmnïau a hybiau trafnidiaeth yn darparu ystod eang o gynnyrch a gwasanaethau yn ôl lleoliad, llwybrau ac anghenion cwsmeriaid.

Nod dysgu C: Edrych ar rôl technolegau ar y we a sut maen nhw wedi dylanwadu ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth teithwyr i deithwyr C.Rh3 Cymharu a chyferbynnu

gwahanol dechnolegau ar y we, eu defnyddiau a’u heffeithiolrwydd a sut maen nhw wedi effeithio ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth ar gyfer grwpiau cyferbyniol o gwsmeriaid.

C.Ll5 Esbonio’r prif dechnolegau ar y we a’u heffaith bosibl o ran opsiynau trafnidiaeth ar gyfer gwahanol fathau o deithwyr.

C.Ll6 Esbonio’r berthynas bosibl rhwng y defnydd o dechnoleg ar y we a’r math o gwsmer.

C.T3 Dadansoddi rôl technolegau ar y we a’r effaith maen nhw wedi’i chael ar hygyrchedd opsiynau trafnidiaeth a’r dewisiadau mae gwahanol grwpiau o deithwyr yn eu gwneud.

Page 109: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

107

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 110: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

108

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at ystod o ystadegau teithwyr teithio a thwristiaeth cyfredol a gwybodaeth leoliadol (gan gynnwys map) o wefannau ac adnoddau printiedig.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

Bydd y dysgwyr yn dewis tri grŵp gwahanol o ran proffil cwsmeriaid. Gall y rhain fod yn gysylltiedig ag oedran, pwrpas teithio, neu unrhyw grwpiau eraill credadwy neu hawdd eu hadnabod, fel y nodir yng nghynnwys yr uned. Rhaid i’r dysgwyr sicrhau eu bod yn defnyddio ystod o opsiynau trafnidiaeth sy’n ymwneud â’r tir, yr awyr a’r môr, a dylen nhw eu cymhwyso i anghenion y tri phroffil cwsmer a ddewiswyd. Rhaid i’r dysgwyr ystyried sut gallai’r dulliau trafnidiaeth maen nhw wedi’u dewis effeithio ar yr amgylchedd.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad trylwyr, a gefnogir gan resymeg gadarn, o ddewisiadau teithio tri chwsmer gwahanol a sut dylanwadir ar eu dewisiadau gan yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd, pris, lleoliad ac argaeledd opsiynau teithio.

Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi asesiad clir, cytbwys o’r rhesymau sy’n sylfaen ar gyfer dewisiadau teithio tri grŵp o gwsmeriaid, a sut gallai’r dewisiadau hynny effeithio ar yr amgylchedd. Bydd yr asesiad yn dangos bod y dysgwyr yn deall cwmpas y dewisiadau teithio sydd ar gael a’u heffaith bosibl. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn esbonio’r dewis o ddulliau teithio ar gyfer tri grŵp gwahanol o gwsmeriaid ac yn rhoi rhesymau pam gallai’r dewisiadau fod yn wahanol dros gyfnod o amser mewn perthynas â ffactorau yn y sector.

Bydd y dysgwyr yn egluro’n benodol pa effaith gallai datblygu’r gwahanol fathau o drafnidiaeth ei chael ar yr amgylchedd, ac effeithiau parhaus posibl gwahanol fathau o drafnidiaeth. Bydd y dysgwyr yn darparu esboniadau priodol, realistig, ond gallai’r dystiolaeth fod yn anghytbwys neu wedi’i chefnogi gan ddefnydd cyfyngedig o esiamplau neu resymau.

Nod dysgu B

Wrth gyflawni nod dysgu B, gall y dysgwyr gyfeirio at yr un tri grŵp proffil cwsmeriaid y rhoddwyd sylw iddyn nhw yn yr aseiniad ar gyfer nod dysgu A. Bydd tystiolaeth y dysgwyr yn cyfeirio at un llwybr ar gyfer pob un o’r canlynol: ffordd, rheilffordd, môr ac awyr.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n gynhwysfawr a yw anghenion cwsmeriaid yn cael eu diwallu yn achos y tri grŵp gwahanol, ac i ba raddau mae lleoliad ac ymateb i anghenion cwsmeriaid yn gyrru’r cynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan hybiau a chwmnïau trafnidiaeth.

Bydd y dysgwyr yn mynegi eu barn yn gryno ac yn rhugl, gan werthuso cysyniadau, syniadau a chamau gweithredu perthnasol er mwyn dod i gasgliadau dilys sy’n cael eu cyfiawnhau.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi dadansoddiad rhesymegol a threfnus ynghylch pam mae hybiau a chwmnïau trafnidiaeth yn darparu eu cynnyrch a’u gwasanaethau yng nghyswllt lleoliad, llwybrau ac angen cwsmeriaid. Bydd y dystiolaeth yn dangos trafodaeth glir a chywir, a gefnogir gan dystiolaeth a ddogfennwyd yn dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn nodi (ar fapiau) un llwybr ar gyfer pob un o’r canlynol: ffordd, rheilffordd, môr ac awyr. Bydd y dysgwyr yn esbonio sut mae eu hybiau/ cyfnewidfeydd yn eu tro yn darparu ar gyfer anghenion eu grwpiau o gwsmeriaid. Dylai’r dysgwyr gynnwys meysydd awyr, porthladdoedd, gorsafoedd coetsys a rheilffordd a gwasanaethau ar y ffyrdd.

Page 111: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 10: TRAFNIDIAETH TEITHWYR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

109

Bydd esboniadau’r dysgwyr yn realistig ac yn cyfeirio’n benodol at sut mae anghenion tri grŵp gwahanol o gwsmeriaid yn cael eu diwallu gan wahanol fathau o gwmni trafnidiaeth. Gall yr esboniadau fod yn arwynebol neu’n gyfyngedig mewn mannau.

Nod dysgu C

Bydd y dysgwyr yn archwilio ac yn cyflwyno tystiolaeth ynghylch sut gallai technolegau ar y we fod o fantais a/neu sut gallen nhw achosi anfantais i wahanol ddefnyddwyr a sefydliadau ym maes trafnidiaeth teithwyr.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr, gwerthusol i gymharu a chyferbynnu gwahanol dechnolegau ar y we, eu defnyddioldeb, eu heffaith bosibl a’u heffeithiolrwydd ar gyfer gwahanol grwpiau o gwsmeriaid, ac yn eu tro sut maen nhw wedi gwneud dewisiadau trafnidiaeth o bosibl yn fwy neu’n llai hygyrch i’r defnyddiwr terfynol. Rhaid i’r dysgwyr werthuso’n drylwyr sut gallai hyn fod wedi effeithio ar sefydliadau trafnidiaeth teithwyr a sut maen nhw’n rhyngweithio â’u cwsmeriaid.

Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog a strwythurwyd yn dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir o rôl technolegau ar y we a sut maen nhw wedi newid hygyrchedd y dewisiadau trafnidiaeth mae gwahanol grwpiau o deithwyr yn eu gwneud, gartref ac wrth symud o gwmpas. Bydd y dysgwyr yn cynnwys detholiad realistig o enghreifftiau i gefnogi’r dadansoddiad. Rhaid iddynt ystyried y technolegau hynny sydd â sbectrwm eang er mwyn denu amrywiaeth o wahanol gwsmeriaid, yn ogystal â’r rhai sy’n targedu marchnad fwy penodol. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi esboniadau priodol, realistig ar yr ystod o dechnolegau ar y we ym maes trafnidiaeth teithwyr a sut gallai’r rhain effeithio ar wahanol fathau o deithwyr a sut maen nhw’n trefnu ac yn cyflawni eu teithiau. Bydd y dysgwyr yn esbonio ac yn cyflwyno sut mae gwahanol grwpiau o deithwyr yn defnyddio technoleg ar y we i’w helpu i gyflawni teithiau. Gall y dystiolaeth fod wedi’i chefnogi gan ddefnydd cyfyngedig o enghreifftiau perthnasol neu gall fod yn gyfyngedig ei chwmpas.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff teithio a thwristiaeth lleol.

Page 112: Unedau - qualifications.pearson.com

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

110

Page 113: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

111

Uned 11: Digwyddiadau, Cynadleddau ac Arddangosfeydd

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ym maes cynllunio ariannol ac adnoddau wrth iddyn nhw ddod i ddeall ystod eang o ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd sy’n berthnasol i’r diwydiant teithio a thwristiaeth.

Cyflwyniad i’r uned

Mae rheoli a chydlynu digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn faes deinamig a chyffrous sy’n berthnasol i nifer o sectorau. Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau creadigol, ariannol a threfniadol.

Byddwch yn archwilio amrywiaeth a graddfa digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd y mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn ymwneud â nhw. Byddwch yn ystyried cymhlethdod datblygu digwyddiadau ar raddfa fawr a graddfa fach, a all fod yn rhai lleol, cenedlaethol neu ryngwladol. Byddwch yn dod i ddeall y prosesau sy’n rhan o gynnal digwyddiad neu gynhadledd ac yn ystyried agweddau cyfreithiol, logisteg ac isgontractio.

Trwy ddatblygu eich sgiliau ymchwil, datrys problemau, ariannol a chyfathrebu, bydd yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir yn yr uned hon hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Archwilio cwmpas, graddfa ac effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

B Ymchwilio i’r sgiliau cynllunio, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa

C Datblygu ac adolygu cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol, i fodloni gofynion cleient.

Page 114: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

112

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Archwilio cwmpas, graddfa ac effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A1 Digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd

A2 Ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa

A3 Tueddiadau newidiol o ran digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd

A4 Effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd ar yr ardal sy’n eu cynnal

Adroddiad sy’n ymchwilio i’r ystod o ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd mae unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth yn ymwneud â nhw, tueddiadau cyfredol a’r ffactorau sy’n helpu i wneud digwyddiad yn llwyddiannus a’u heffaith ehangach bosibl ar ardaloedd sy’n eu cynnal.

B Ymchwilio i’r sgiliau cynllunio, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa

B1 Paratoi ar gyfer digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol

B2 Cefnogi’r cynadleddwyr B3 Tasgau i’w cyflawni ar ôl y

digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa

B4 Isgontractio

Cyflwyniad sioe sleidiau gyda nodiadau i’r siaradwr sy’n manylu ar y cyfnodau (ymlaen llaw, yn ystod ac wedyn), y sgiliau, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa ar raddfa leol, genedlaethol neu ryngwladol.

C Datblygu ac adolygu cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol, i fodloni gofynion cleient

C1 Cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa

C2 Offer cynllunio digwyddiad a rheoli cynadleddwyr

C3 Bodloni gofynion y cleient C4 Costio ariannol effeithlon C5 Casglu adborth C6 Adolygu’r cynnig, gan

gynnwys y costau ariannol

Cynnig manwl a chostau ariannol ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol i fodloni gofynion cleient, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwelliannau posibl.

Page 115: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

113

Cynnwys

Nod dysgu A: Archwilio cwmpas, graddfa ac effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

Mae llawer o ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn galw am lefelau amrywiol o gyfranogiad gan y diwydiant teithio a thwristiaeth, yn dibynnu ar gwmpas, graddfa a lleoliad y digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa sy’n cael eu cynllunio.

A1 Digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd • Digwyddiadau:

o digwyddiadau busnes, e.e. cyfarfod cyffredinol blynyddol (AGM)/cyfarfod cyffredinol anghyffredin (EGM) o’r rhanddeiliaid, nosweithiau gwobrwyo, dawnsfeydd, ciniawau ffurfiol, meithrin tîm

o digwyddiadau chwaraeon byd-eang a chenedlaethol, e.e. y Gêmau Olympaidd, y Gêmau Paralympaidd, Gêmau Olympaidd y Gaeaf, Gêmau’r Gymanwlad, Cwpan Rygbi’r Byd, Formula 1®, Great North Run, gêmau pêl-droed rhyngwladol, e.e. FIFA World Cup™, gêmau pêl-droed domestig, e.e. y Brif Gynghrair (Premier League), rasio ceffylau, e.e. y Grand National

o digwyddiadau adloniant ar raddfa fawr, e.e. sioeau blodau, ffeiriau bwyd rhanbarthol, cynnau goleuadau’r Nadolig

o diddordeb lleol, e.e. ffeiriau gwledig, rhediadau hwyl, ffeiriau pentref, ffeiriau casglwyr

o adloniant, e.e. gwyliau cerddoriaeth, cyngherddau, dramâu, Mardi Gras, digwyddiadau Balchder LHDT

o dathliadau, e.e. priodasau, nosweithiau prom, pen-blwyddi, gwyliau crefyddol, digwyddiadau brenhinol

o digwyddiadau menter gymdeithasol, e.e. ciniawau, digwyddiadau chwaraeon ac ocsiynau i godi arian at elusen.

• Cynadleddau: o natur amrywiol – gwahanol feintiau a nodau, e.e. digwyddiadau undydd, cynadleddau

dros nos, domestig a thramor, seminarau, sesiynau hyfforddi staff, cynadleddau mewnol cwmnïau, cynadleddau ar draws y diwydiant, ffeiriau masnach, cynadleddau gwleidyddol, sesiynau allweddol, sesiynau ymrannu’n grwpiau

o hyrwyddo cynnyrch, e.e. lansio cynnyrch, sioeau masnach, cynadleddau i’r wasg, styntiau cyhoeddusrwydd cysylltiedig, ymgyrchoedd teithiol.

• Arddangosfeydd: o arddangosfeydd mewn arenâu cenedlaethol – lleoliad canolog, cysylltiadau

trafnidiaeth da, cyfleusterau cwsmeriaid, cwmpas eang o ddylanwad, e.e. Ideal Home Show, The London Classic Car Show, The Clothes Show.

A2 Ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa • Ffactorau mewnol, e.e. newid dyddiad, digwyddiadau sy’n gwrthdaro, argaeledd siaradwyr,

adnoddau, lleoliadau, seilwaith a logisteg, salwch staff, cyllideb y cwmni, lefelau morâl y staff, ansawdd y sefydliad.

• Ffactorau allanol, e.e. gweithredu diwydiannol, newidiadau o ran argaeledd neu gost trafnidiaeth a llety, tywydd eithafol, brawychiaeth, trychinebau naturiol.

A3 Tueddiadau newidiol o ran digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd • Lleoliad, e.e. twf lleoliadau anghyffredin, poblogrwydd lleoliadau rhatach, galw am well

cyfleusterau, teithiau rhithwir. • Trefniadaeth, e.e. twf cwmnïau rheoli digwyddiadau, gwe-gynadledda, e-gyfarfod,

digwyddiadau arbenigol ac ar thema megis Comic Con, Glastonbury Festival. • Trafnidiaeth, e.e. arwyddocâd costau trafnidiaeth, lleihau ôl-troed carbon, agenda

cyfrifoldeb cymdeithasol a chorfforaethol busnes. • Gofynion diogeledd, e.e. sicrhau mynediad at leoliadau, y mathau o wiriadau sy’n ofynnol.

Page 116: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

114

A4 Effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd ar yr ardal sy’n eu cynnal

Gall amrywiaeth o effeithiau posibl ar yr ardal sy’n eu cynnal ddeillio o ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd, i gynnwys:

• effaith luosydd yn yr economi leol a chenedlaethol • effaith bosibl ar yr amgylchedd lleol a chenedlaethol ac ansawdd bywyd • effaith bosibl ar y seilwaith lleol a chenedlaethol • effaith bosibl cyhoeddusrwydd cysylltiedig â’r digwyddiad.

Nod dysgu B: Ymchwilio i’r sgiliau cynllunio, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa

Digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa sy’n llwyddiannus yw gweithgaredd a gynlluniwyd yn dda, sy’n manteisio ar sgiliau ac arbenigedd, ac yn defnyddio dulliau a phrosesau priodol i ddylunio a chydlynu’r digwyddiad.

B1 Paratoi ar gyfer digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol

• Pwrpas y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa: o nodau ac amcanion, maint y gynulleidfa, y gynulleidfa darged, lefel ffurfioldeb.

• Ystyriaethau o ran adnoddau: o dewis addas o leoliad, e.e. safle, maint, cynllun, argaeledd, mynediad, parcio,

capasiti, polisi canslo, llety dros nos (yn y lleoliad neu gerllaw), cysylltiadau trafnidiaeth

o cynllun y lleoliad a’r cyfarpar, e.e. cyfarpar clyweledol (AV), darpariaeth Ddi-wifr, pecynnau cynadleddwyr, trefniadau eistedd, lletygarwch, adloniant, gwasanaethau cefnogi, staffio

o gofynion adloniant sy’n rhan o’r digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa, e.e. siaradwyr gwadd, bandiau, consurwyr, comedïwyr

o gofynion adloniant y tu allan i’r digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa, e.e. darparu gwybodaeth am atyniadau gerllaw i ymwelwyr, teithiau dydd/nos, bariau/clybiau/casinos sy’n cael eu hargymell yn agos at y lleoliad.

• Ystyriaethau ariannol a chontractio: o cyllideb, gwariant a chostau sylweddol, e.e. llogi lleoliad, gwasanaeth cefnogi/ategol,

arlwyo, ffïoedd siaradwyr o cyfreithiol, e.e. diogelu data, rhagamcanion defnyddwyr, polisi canslo ac ad-dalu,

gofynion iechyd a diogelwch, atebolrwydd am esgeulustra, telerau ac amodau o gostyngiadau am archebu’n gynnar a chyfradd diwrnod i gynadleddwyr o isgontractio, e.e. arlwyo, cyfarpar, celfi o iechyd a diogelwch, e.e. cymorth cyntaf, plant coll.

• Ystyriaethau logisteg: o marchnata a chyfathrebu, e.e. marchnata’r digwyddiad, y gynhadledd a’r

arddangosfa, gan nodi’r farchnad darged, dosbarthu dogfennau/ffeiliau ategol, amlygu ffyrdd o ymuno, cymhellion ar gyfer archebion mawr, diweddaru’r amserlen

o trefniadau wrth gefn, e.e. atal a rheoli materion annisgwyl, asesu risg, diogeledd, cynlluniau wrth gefn, cyfathrebu effeithiol

o uchafswm capasiti, system rheoli cynadleddwyr (DMS), cofrestru o trafnidiaeth, cysylltiadau, hybiau ac amserlenni.

B2 Cefnogi’r cynadleddwyr • Cynghori cynadleddwyr os bydd materion annisgwyl yn codi, e.e. amodau tywydd gwael,

gweithredu diwydiannol gan ddarparwyr trafnidiaeth, canslo rhai agweddau ar y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa.

Page 117: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

115

• Cynghori cynadleddwyr ynghylch opsiynau teithio a thrafnidiaeth i’r lleoliad ac oddi yno, e.e. darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, trefnu trafnidiaeth i grwpiau, e.e. bws mini, coets, estyniadau i deithiau yn ymweld â chyrchfan gerllaw, archebu llety, cysylltiadau hedfan, trosglwyddiadau.

• Cynghori cynadleddwyr ynghylch opsiynau ar gyfer gweithgareddau ac atyniadau lleol ger y lleoliad, e.e. darparu gwybodaeth am weithgareddau ac atyniadau, archebu tocynnau, trefnu trafnidiaeth.

• Pwysigrwydd systemau rheoli cynadleddwyr cyfoes.

B3 Tasgau i’w cyflawni ar ôl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa • Gwerthusiad, e.e. dadfriffio, holiaduron i gynadleddwyr, adborth ar-lein, dadansoddi elw,

nodi problemau ac atebion, adolygu nodau ac amcanion, argymhellion ar gyfer gwelliant. • Tasgau eraill i’w cyflawni ar ôl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa, e.e. gwagio’r

lleoliad, dychwelyd neu ddiogelu deunyddiau a logwyd, coladu gwybodaeth gyswllt ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, dadansoddi data holiaduron, cymhellion i sicrhau adborth megis gwobrau neu gynnig gostyngiadau.

B4 Isgontractio • Mae modd defnyddio cwmnïau allanol i ddarparu:

o llety, e.e. cadwyni arbed costau, pris canolig, gwestai boutique moethus, hunanarlwyo, gwely a brecwast (G&B), prydau llawn, ystafell yn unig, gwobrwyon teyrngarwch

o arlwyo, e.e. bwyd cyflym, bwytai eistedd i mewn, bwyd stryd sydd ar gael dros dro, pecyn diodydd yn unig, arddull bwffe, ciniawau seigiau penodol, prydau rhyngwladol, bwyd lleol, gofynion deietegol

o cefnogaeth i ddigwyddiadau, e.e. sefydliadau sydd wedi’u hisgontractio i ddarparu gwasanaethau fel cael hyd i leoliad, brocera yswiriant, darpariaeth arbenigol i gynadleddau, e.e. cynadleddau meddygol, creu arddangosiadau, asiantaeth actio

o deunyddiau penodol i’r digwyddiad, e.e. cortynnau gwddf (lanyards), blodau, bathodynnau enw, deunyddiau ysgrifennu

o rhoddion corfforaethol, e.e. memorabilia personol o’r gynhadledd o adloniant i’r cynadleddwyr yn ystod y digwyddiad, e.e. asiantau cantorion,

cerddorion, grwpiau theatr, siaradwyr, storïwyr, perfformwyr syrcas, consurwyr, dawnswyr, darparwyr casino

o adloniant allanol, e.e. darparu tocynnau ar gyfer atyniadau lleol o marchnata, e.e. dylunio gwefannau, cynhyrchu taflenni, dylunio posteri,

ysgrifennu copi e-byst, rheoli cronfeydd data o gweithgareddau meithrin tîm, e.e. pledu peli paent, teithiau cerdded,

teithiau Segway, cyrsiau pobi. • Gweithio gydag isgontractwyr:

o dilyn cytundebau lefel gwasanaeth (CLGau), contractau, sianeli cyfathrebu.

Nod dysgu C: Datblygu ac adolygu cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol i fodloni gofynion cleient

C1 Cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa • Addasrwydd ar gyfer marchnad darged benodol a gofynion y cleient. • Yr adnoddau a’r trefniadau logisteg a chontractio sy’n ofynnol. • Terfynau amser. • Costau ariannol.

C2 Offer cynllunio digwyddiad a rheoli cynadleddwyr • Siartiau Gantt. • Dadansoddi llwybr critigol. • Offer ac apiau cyfoes ar gyfer cynllunio ar-lein.

Page 118: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

116

C3 Bodloni gofynion y cleient • Nodau ac amcan y digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa. • Pennu meini prawf ar gyfer mesur llwyddiant y digwyddiad, y gynhadledd

neu’r arddangosfa. • Penderfynu ar derfynau amser, rolau a chyfrifoldebau. • Gweithio yn ôl cyllideb gytunedig. • Cynlluniau wrth gefn. • Cyfathrebu â’r cleient i wirio pob agwedd ar y cynnig.

C4 Costio ariannol effeithlon

Bydd y mathau o eitemau sy’n cael eu cynnwys yn y costau yn dibynnu ar natur a graddfa’r digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa sy’n ofynnol gan y cleient: • costau cysylltiedig â llogi lleoliad • costau cwmnïau cyflenwi allanol a isgontractiwyd • costau staff mewnol, gan gynnwys goramser • costau cludiant, e.e. awyren, rheilffordd, coets, cludiant rhwng y maes awyr a’r lleoliad • costau llety, e.e. yn y lleoliad, mewn gwestai gerllaw neu gyflenwyr llety eraill • costau marchnata ar gyfer hyrwyddo’r digwyddiad, e.e. dylunio, argraffu a

dosbarthu gwahoddiadau • costau deunyddiau, e.e. addurno’r lleoliad, rhoddion, baneri, gwisgoedd • ffïoedd yswiriant a chostau cysylltiedig â bodloni gofynion iechyd a diogelwch.

C5 Casglu adborth • Adolygu’r cynnig ar gyfer gweithredu gydag eraill, e.e. rhanddeiliaid, arbenigwyr pwnc. • Casglu adborth, e.e. cyfweliadau, holiaduron, cyfarfodydd.

C6 Adolygu’r cynnig, gan gynnwys y costau ariannol • Adolygu’r adborth a gasglwyd a dod i gasgliadau. • Awgrymu gwelliannau a datblygiad pellach.

Page 119: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

117

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Archwilio cwmpas, graddfa ac effaith bosibl digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth A.Rh1 Ar gyfer pob ardal sy’n

eu cynnal, gwerthuso effaith bosibl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa ac effaith bosibl tueddiadau newidiol yn y sector digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd.

A.Ll1 Cymharu un digwyddiad, un gynhadledd ac un arddangosfa o ran eu cwmpas, eu graddfa a’u heffaith bosibl ar yr ardal sy’n eu cynnal.

A.Ll2 Esbonio’r tueddiadau newidiol yn y sector digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd.

A.T1 Ar gyfer pob ardal sy’n eu cynnal, dadansoddi effaith bosibl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa ac effaith bosibl tueddiadau newidiol yn y sector digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd.

Nod dysgu B: Ymchwilio i’r sgiliau cynllunio, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa

B.Rh2 Gwerthuso pwysigrwydd y sgiliau, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa a ddewiswyd yn llwyddiannus ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

B.Ll3 Cymharu’r cyfnodau cynllunio wrth baratoi un digwyddiad, un gynhadledd ac un arddangosfa ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

B.Ll4 Cymharu’r prosesau sy’n rhan o reoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

B.T2 Dadansoddi’r sgiliau, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa a ddewiswyd yn llwyddiannus ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Nod dysgu C: Datblygu ac adolygu cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol, i fodloni gofynion cleient

C.Rh3 Defnyddio adborth i werthuso effeithiolrwydd y cynnig a’r costau ariannol yn erbyn gofynion y cleient, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer mireinio posibl.

C.Ll5 Cynhyrchu cynnig a chostau ariannol ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol, i fodloni gofynion cleient.

C.Ll6 Defnyddio adborth i adolygu i ba raddau mae’r cynnig a’r costau ariannol yn bodloni gofynion y cleient.

C.T3 Cyfiawnhau’r dewisiadau a wnaed wrth ddatblygu’r cynnig a’r costau ariannol i fodloni gofynion y cleient.

Page 120: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

118

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 121: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

119

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid i’r dysgwyr gael mynediad at ystod o’r cyhoeddiadau, y gwefannau a’r deunydd ymchwil diweddaraf i gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd, a gallu arddangos defnydd o ddulliau ymchwil sylfaenol ac eilaidd.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

Er mwyn cyflawni’r meini prawf asesu ar gyfer y nod dysgu hwn, bydd y dysgwyr yn dethol ac yn ymchwilio i dair eitem: un digwyddiad, un gynhadledd ac un arddangosfa. Wrth ddethol digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa, rhaid i’r dysgwyr gwmpasu cyfanswm o un enghraifft o eitem ryngwladol, un enghraifft o eitem genedlaethol ac un enghraifft o eitem leol. Dylai’r athrawon sicrhau bod yr enghreifftiau a ddewisir gan y dysgwyr yn rhoi digon o gyfle iddyn nhw gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynnal gwerthusiad manwl, trylwyr o effaith bosibl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa a ddewiswyd ar yr ardal sy’n eu cynnal. Byddant yn myfyrio ar y tueddiadau newidiol o ran digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd, gan ystyried y goblygiadau posibl ar gyfer yr ardal sy’n eu cynnal. Bydd yr effeithiau sy’n cael eu hystyried i gyd yn berthnasol i’r digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa ac i’r ardal gynnal. Bydd graddfa effaith bosibl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa a graddfa effaith bosibl tueddiadau newidiol i gyd yn cael eu gwerthuso’n drylwyr ar lefel ryngwladol, genedlaethol neu leol.

Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol ynghylch effeithiau posibl y gynhadledd, y digwyddiad a’r arddangosfa ac effeithiau posibl tueddiadau newidiol; bydd y rhain yn cael eu cysylltu’n rhesymegol â’r gynhadledd, y digwyddiad neu’r arddangosfa ac â’r ardal gynnal ym mhob achos. Bydd y dysgwyr yn mynegi eu dadleuon yn rhugl a’u barn yn gryno, gan gyflwyno gwerthusiad sy’n dod i gasgliadau rhesymedig, dilys.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi dadansoddiad clir, cytbwys o effaith bosibl y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa a ddewiswyd ar yr ardal sy’n eu cynnal. Bydd y dadansoddiad yn ystyried goblygiadau posibl tueddiadau newidiol o ran digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd ar yr ardaloedd sy’n eu cynnal.

Bydd yr effeithiau sy’n cael eu hystyried i gyd yn berthnasol i’r digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa, ac i’r ardal sy’n eu cynnal, gyda thrafodaeth ar raddfa’r effaith bosibl ar lefel ryngwladol, genedlaethol neu leol.

Bydd y dysgwyr yn rhoi enghreifftiau penodol, perthnasol o effeithiau a thueddiadau posibl sy’n effeithio ar bob ardal gynnal. Bydd yr enghreifftiau’n ddilys a bydd cysylltiad clir â’u dadansoddiad. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon dda a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cymharu un digwyddiad, un gynhadledd ac un arddangosfa o ran eu cwmpas, eu graddfa a’u heffaith bosibl ar yr ardal sy’n eu cynnal, ar lefel sylfaenol. Bydd y rhan fwyaf o’r effeithiau fydd yn derbyn sylw yn berthnasol i’r digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa ac i’r ardal sy’n eu cynnal, gyda pheth dealltwriaeth o raddfa’r effaith bosibl ar lefel ryngwladol, genedlaethol neu leol.

Bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad priodol, realistig ar y tueddiadau newidiol mewn digwyddiadau, cynadleddau ac arddangosfeydd. Bydd y dysgwyr yn rhoi rhesymau am y newidiadau, ond gallai cwmpas yr esboniad a’r ystod o enghreifftiau a roddir fod yn gyfyngedig neu’n arwynebol mewn mannau.

Page 122: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

120

Nod dysgu B

Bydd y dysgwyr yn dethol ac yn gwneud gwaith ymchwil ar dair eitem i gynhyrchu tystiolaeth ar gyfer y nod dysgu hwn: un digwyddiad, un gynhadledd ac un arddangosfa. Wrth ddethol digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa, rhaid i’r dysgwyr gwmpasu cyfanswm o un enghraifft o eitem ryngwladol, un enghraifft o eitem genedlaethol ac un enghraifft o eitem leol.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr bwysigrwydd y sgiliau, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli’r digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa a ddewiswyd yn llwyddiannus ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth drylwyr o’r cysylltiad rhwng sgiliau a’r dulliau a’r prosesau sy’n rhan o baratoi ar gyfer digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa, y disgwyliadau yn ystod y gweithgaredd, a hefyd y tasgau sydd i’w cwblhau pan fydd y cyfan drosodd.

Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal a bydd ffocws clir ar arwyddocâd cymharol gwahanol ffactorau a’u rhyngddibyniaeth. Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion penodol sy’n ymwneud â sgiliau, dulliau a phrosesau; bydd cysylltiad amlwg rhwng y rhain a’r rolau a’r amcanion wrth gynllunio a rheoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa.

Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, sydd wedi’i strwythuro’n dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cyflwyno dadansoddiad clir o’r sgiliau, y dulliau a’r prosesau sy’n ofynnol wrth gynllunio a rheoli digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa a ddewiswyd ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth gadarn o’r prosesau sy’n rhan o baratoi ar gyfer digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa, y disgwyliadau yn ystod y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa, a hefyd y tasgau sydd i’w cwblhau pan fydd y cyfan drosodd.

Bydd y dystiolaeth yn rhesymedig ac yn gytbwys, ac yn cyfeirio’n glir at rôl sgiliau, dulliau a phrosesau perthnasol wrth gyflawni digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa sy’n llwyddiannus. Bydd y dystiolaeth wedi’i strwythuro, gyda chyfathrebu ysgrifenedig o safon dda a defnydd o derminoleg briodol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cymharu’r cyfnodau cynllunio a’r prosesau sy’n rhan o drefnu digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa. Bydd y dysgwyr yn esbonio sut mae’r anghenion cynllunio yn amrywio yn ôl ai digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa sydd yn y brîff, a beth yw graddfa’r digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa. Byddant yn cymharu’n gywir sut mae prosesau rheoli’r digwyddiad yn amrywio yn ôl ai digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa sydd yn y brîff, a’r amrywiadau posibl sy’n gysylltiedig â graddfa’r digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa.

Bydd cymariadau’r dysgwyr yn briodol ac yn realistig, ond gall rhai fân wallau ddigwydd ac efallai bydd y dystiolaeth yn arwynebol neu’n gyfyngedig o ran cwmpas yr amrywiadau a gaiff eu hystyried. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth realistig o’r prosesau sy’n rhan o baratoi ar gyfer digwyddiad, cynhadledd ac arddangosfa, y disgwyliadau yn ystod y digwyddiad, y gynhadledd a’r arddangosfa, a hefyd y tasgau sydd i’w cwblhau pan fydd y cyfan drosodd.

Nod dysgu C

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol sy’n bodloni gofynion cleient. Bydd y cynnig yn cynnwys costau ariannol ar gyfer y cynnig.

Bydd y dysgwyr yn derbyn adborth ar eu cynnig gan o leiaf ddau berson arall, a byddan nhw’n ei ddefnyddio i lywio’r adolygiad o’u cynnig.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwerthuso’n drylwyr effeithiolrwydd y cynnig a’r costau ariannol yn erbyn gofynion y cleient, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer mireinio posibl.

Rhaid i werthusiadau’r dysgwyr gael eu llywio gan yr adborth a gawsant ar y cynnig a ddatblygwyd. Bydd adolygiad y dysgwyr o’r cynnig, gan gynnwys y costau ariannol, yn rhesymedig ac yn darbwyllo. Byddant yn rhoi gwerthusiad rhesymedig o ffyrdd posibl o fireinio’r cynnig.

Page 123: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 11: DIGWYDDIADAU, CYNADLEDDAU AC ARDDANGOSFEYDD

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

121

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn rhoi cyfiawnhad clir ar gyfer y dewisiadau a wnaed wrth ddatblygu’r cynnig, gan gynnwys y costau dan sylw, er mwyn bodloni gofynion y cleient. Rhaid i’r dysgwyr roi cyfiawnhad clir, wedi’i resymu’n dda am y dewisiadau a wnaed yng nghyswllt cynllunio a chostio’r digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa. Byddant yn cyfeirio at adborth, y dewisiadau amgen y buon nhw’n eu hystyried, a’r rhesymau pam y gwrthodwyd y dewisiadau hynny.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn paratoi cynnig ar gyfer digwyddiad, cynhadledd neu arddangosfa sy’n digwydd yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Bydd y cynnig yn briodol ac yn bodloni’r rhan fwyaf o ofynion y cleient. Bydd y costau ariannol ar gyfer y digwyddiad, y gynhadledd neu’r arddangosfa yn gywir ac yn realistig, ond ni fyddant o reidrwydd yn rhoi sylw i bob agwedd ar ofynion y cleient. Bydd y dysgwyr yn adolygu’r cynnig a’r costau ariannol mewn perthynas â gofynion y cleient ac yn esbonio i ba raddau mae’r rhain wedi cael eu bodloni.

Bydd y dysgwyr yn casglu adborth gan o leiaf ddau berson arall ar y cynnig a’r costau ariannol maen nhw wedi’u datblygu. Wrth adolygu eu gwaith a’u hadborth gan eraill, bydd y dysgwyr yn ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol ar y canlyniadau terfynol mewn perthynas â’r gofynion a nodwyd gan y cleient. Gall yr adolygiad fod yn anghytbwys a/neu’n arwynebol.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 9: Atyniadau Ymwelwyr • Uned 10: Trafnidiaeth Teithwyr.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf:

• siaradwyr gwadd o fusnesau rheoli digwyddiadau • profiad gwaith • cefnogaeth fentora gan staff rheoli digwyddiadau lleol.

Page 124: Unedau - qualifications.pearson.com

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

122

Page 125: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

123

Uned 12: Gweithio Dramor

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau, yn cyfranogi mewn gweithgareddau gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n gysylltiedig â chyd-destun tramor, ac yn adolygu eu perfformiad eu hunain mewn sefyllfaoedd gwasanaeth i gwsmeriaid.

Cyflwyniad i’r uned

Mae archwilio rolau swyddi posibl a rhagolygon gyrfa yn agwedd bwysig ar gynllunio ar gyfer addysg uwch neu gyflogaeth.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau ac arwyddocâd cyfraniad cyflogeion i lwyddiant ariannol cyffredinol busnes ac o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddwch yn edrych ar bwysigrwydd sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chyflenwyr a gweithio’n effeithiol mewn fframwaith cyfreithiol. Mae’r uned yn rhoi cyfle i chi arddangos sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerthu trwy gyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Bydd yr uned hon yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch sy’n galw am wybodaeth ynghylch gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid, megis graddau mewn teithio a thwristiaeth, trafnidiaeth, hamdden, lletygarwch neu astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n cael eu datblygu yn yr uned hon hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau, rolau swyddi a chyfrifoldebau sy’n rhan o weithio dramor

B Arddangos y sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol sy’n ofynnol i weithio dramor

C Adolygu eich sgiliau, eich datblygiad a’ch perfformiad eich hun mewn sefyllfaoedd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Page 126: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

124

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau, rolau swyddi, a chyfrifoldebau sy’n rhan o weithio dramor

A1 Gwahanol fathau o drefnwyr teithiau a mathau o rolau swyddi sy’n berthnasol i weithio dramor

A2 Rolau a chyfrifoldebau swyddi cyffredinol sy’n berthnasol i weithio dramor

A3 Iechyd, diogelwch a diogeledd

A4 Rolau a chyfrifoldebau sy’n berthnasol i swyddi penodol wrth weithio dramor

A5 Pwysigrwydd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid i brofiad y cwsmer a llwyddiant y sefydliad

Adroddiad neu gyflwyniad sy’n gwerthuso pwysigrwydd rolau a chyfrifoldebau staff tramor wrth sicrhau gwasanaeth llwyddiannus i gwsmeriaid, gan gynnwys diogelwch cwsmeriaid a llwyddiant cyffredinol y sefydliad.

B Arddangos y sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol sy’n ofynnol i weithio dramor

B1 Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid

B2 Sgiliau gwerthu effeithiol B3 Dogfennaeth

Sefyllfaoedd chwarae rôl i arddangos sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol, proffesiynol, gan gwblhau’r dogfennau cysylltiedig.

C Adolygu eich sgiliau, eich datblygiad a’ch perfformiad eich hun mewn sefyllfaoedd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid

C1 Myfyrio ar eich perfformiad eich hun a’i adolygu

Gwerthuso perfformiad unigol a chynllun gweithredu gan ddefnyddio gwahanol ddulliau adborth i gyfiawnhau’r gwerthusiad.

Page 127: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

125

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau, rolau swyddi a chyfrifoldebau sy’n rhan o weithio dramor

A1 Gwahanol fathau o drefnwyr teithiau a mathau o rolau swyddi sy’n berthnasol i weithio dramor

• Brandiau integredig a chysylltiedig, arbenigol, annibynnol. • Cynrychiolydd canolfan – prif ffrwd, e.e.:

o cynrychiolydd gweithgareddau o cynrychiolydd sgïo o cynrychiolydd plant o cynrychiolydd ieuenctid o concierge o negesydd gwersyllfa.

A2 Rolau a chyfrifoldebau swyddi cyffredinol sy’n berthnasol i weithio dramor • Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda gwahanol fathau o gyflenwr,

gan gynnwys: o yr asiant lleol a chyflenwyr cysylltiedig, e.e. cwmnïau trafnidiaeth, perchnogion

gwestai a pherchnogion llety arall, rheolwyr a staff eraill, darparwyr gwibdeithiau. • Rolau a chyfrifoldebau cyn cyrraedd, gan gynnwys:

o defnyddio gwybodaeth archebu i osgoi problemau, e.e. gwirio’r cyfleusterau a archebwyd ymlaen llaw a cheisiadau arbennig

o gwirio’r llety o ran cynnal a chadw cyffredinol a glendid o gwirio’r trefniadau gyda staff y dderbynfa a’r perchnogion.

• Rolau a chyfrifoldebau yn ystod gwyliau’r cwsmer, gan gynnwys: o cwrdd â chwsmeriaid a chyflwyno gwybodaeth groesawu o darparu gwybodaeth gyflym a chywir mewn ymateb i ymholiadau cwsmeriaid o datrys problemau, e.e. pasbort coll, arian ychwanegol, cwtogiadau.

• Delio gyda chwynion, e.e. cyfathrebu’n effeithiol â’r cwsmer, cymryd nodiadau a llenwi ffurflenni, cael hyd i atebion, esgaladu neu atgyfeirio os bydd angen, ysgrifennu adroddiadau a chymryd camau dilynol.

• Gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid trwy werthu, gan gynnwys: o nodi a pharu dewisiadau ac anghenion cwsmeriaid â chynnyrch o hyrwyddo nodweddion a manteision o cwblhau gwerthiant o gwerthu i grwpiau a gwerthu un-i-un.

• Cyfrannu at amgylchedd diogel i gwsmeriaid, e.e. trwy wiriadau cyn y tymor, gwiriadau dirybudd ar hyd y tymor, gweithio gyda chyflenwyr i gynnal safonau gofynnol o ran iechyd a diogelwch.

• Cofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau, damweiniau a chwynion yn unol â pholisi’r sefydliad a gofynion cyfreithiol.

• Cyfrifoldebau ariannol, e.e. cyrraedd targedau, cynhyrchu refeniw, rhoi cyfrif am incwm a gwariant, cyfrifo gwerthiant y pen i gyrraedd targedau, cyfnewid arian a chyfrifo comisiwn staff.

A3 Iechyd, diogelwch a diogeledd • Gwiriadau cyn y tymor, e.e. gwiriadau dirybudd ar ystafelloedd ac ardaloedd cyhoeddus. • Cymryd camau i roi sylw i faterion iechyd, diogelwch a diogeledd yn unol â pholisi’r

sefydliad a gofynion cyfreithiol. • Pwysigrwydd cofnodi ac adrodd yn gywir am ddigwyddiadau iechyd a diogelwch,

yn unol â pholisi’r sefydliad a gofynion cyfreithiol.

Page 128: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

126

• Cyfrifoldebau cyfreithiol a deddfwriaeth, gan gynnwys Rheoliadau Pecynnau Teithio, Gwyliau Pecyn, a Theithiau Pecyn 1992 ac effaith bosibl y rhain ar y sefydliad a staff y ganolfan.

• Pwysigrwydd cysylltiadau â chymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio, e.e. Ffederasiwn Gweithrediadau Teithio (FTO), ABTA, Y Gymdeithas Deithio a’r Awdurdod Awyrennu Sifil (CAA).

• Cyflawni’r rôl ofynnol mewn sefyllfaoedd brys ac argyfyngau, yn unol â pholisi’r sefydliad a gofynion rheoliadol, e.e. os bydd ymosodiad gan frawychwyr, tân, trychineb naturiol, salwch yn torri allan.

• Pwysigrwydd cyflawni gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd a’r goblygiadau posibl pan na chyflawnir gofynion, e.e. salwch difrifol neu farwolaeth cwsmeriaid, camau cyfreithiol, sylw anffafriol yn y cyfryngau neu ar y cyfryngau cymdeithasol, colli cwsmeriaid newydd a phresennol, niwed i ddelwedd, brand neu hygrededd y sefydliad.

A4 Rolau a chyfrifoldebau sy’n berthnasol i swyddi penodol wrth weithio dramor • Mae rolau a chyfrifoldebau staff tramor yn amrywio yn ôl rôl benodol y swydd, e.e.

o cynrychiolydd plant yn trefnu gweithgareddau oed-briodol ac yn rheoli ymddygiad plant

o cynrychiolydd canolfan yn trefnu ymweliadau ag eiddo, yn trefnu cyfarfodydd croesawu, yn gwerthu cynnyrch a gwasanaethau, e.e. gwibdeithiau, llogi ceir

o cynrychiolydd sgïo yn trefnu pasiau a chyfarpar sgïo, yn rhedeg trosglwyddiadau o’r maes awyr ac yn trefnu gweithgareddau après-ski.

A5 Pwysigrwydd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid i brofiad y cwsmer a llwyddiant y sefydliad

Mae gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhan bwysig o weithio dramor ac yn gallu cael effaith sylweddol ar foddhad cwsmeriaid, buddion staff a llwyddiant cyffredinol y sefydliad.

• Bodloni a rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid er mwyn cyflawni lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid, teyrngarwch cwsmeriaid a busnes eildro.

• Effaith bosibl gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid ar ddelwedd ac enw da’r sefydliad a’r cyflogeion, e.e. trwy adborth ar-lein a safleoedd adolygu, yn y cyfryngau.

• Effaith ariannol bosibl ar y sefydliad, e.e. elw, prisiau cyfrannau, amser a chost ychwanegol delio gyda chwynion cwsmeriaid ynghylch gwasanaeth gwael.

• Effaith bosibl ar deyrngarwch a chymhelliad staff, e.e. lefel trosiant staff, caffael profiad a gwybodaeth, dyrchafu mewnol, manteision ariannol.

• Manteision posibl cyrraedd targedau i’r staff, e.e. ennill comisiwn, sicrhau cyflogaeth, cymhwysedd i gael dyrchafiad, hwb i forâl, amgylchedd gwaith cadarnhaol a llawn cymhelliad.

Nod dysgu B: Arddangos y sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol sy’n ofynnol i weithio dramor

B1 Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid • Agwedd ac ymddygiad cadarnhaol, priodol. • Gwybodaeth am y cynnyrch neu’r gwasanaeth. • Cyflwyniad personol. • Cyfathrebu ysgrifenedig sy’n broffesiynol ac yn glir, gyda defnydd cywir o sillafu

a gramadeg. • Cwblhau’r gwaith papur sy’n ofynnol. • Cyfathrebu wyneb yn wyneb, gan gynnwys llafar, goslef y llais, iaith y corff, gwrando

a holi, dangos empathi, meithrin cyd-ddealltwriaeth, datrys problemau, delio gyda chwynion, cymryd camau dilynol yn sgîl sefyllfaoedd.

B2 Sgiliau gwerthu effeithiol • Gwybodaeth am y cynnyrch, gan gynnwys nodweddion a manteision. • Deall y ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar benderfyniad cwsmer i brynu neu beidio,

e.e. canfyddiad o ddibynadwyedd y cynnyrch neu’r gwasanaeth, gwerth am arian, hygrededd y sefydliad a’r staff gwasanaeth i gwsmeriaid.

Page 129: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

127

• Adnabod eich cwsmer er mwyn nodi dewisiadau ac anghenion, e.e. trwy wrando a defnyddio cwestiynau’n effeithiol.

• Paru cynnyrch a gwasanaethau â dewisiadau ac anghenion cwsmeriaid. • Goresgyn gwrthwynebiadau, cwblhau’r gwerthiant ac uwchwerthu (upselling).

B3 Dogfennaeth • Gwaith papur gwasanaeth i gwsmeriaid, e.e. adroddiad gwasanaeth i gwsmeriaid,

adroddiadau damweiniau a digwyddiadau, adroddiadau cwtogi ac anfon adref. • Gwaith papur ariannol, e.e. tocynnau gwibdeithiau, crynodeb ariannol o incwm a gwariant.

Nod dysgu C: Adolygu eich sgiliau, eich datblygiad a’ch perfformiad eich hun mewn sefyllfaoedd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid

C1 Myfyrio ar eich perfformiad eich hun a’i adolygu • Adolygu gweithgareddau chwarae rôl. • Arfarniad unigol o’ch rôl eich hun wrth gyflawni sgiliau gwerthu a gwasanaeth

i gwsmeriaid effeithiol. • Adolygu sgiliau cyfathrebu. • Adolygu’r gallu i ddelio gyda chwynion yn effeithiol. • Adolygu eich perfformiad eich hun wrth i chi sicrhau gwerthiant. • Asesiad o sut mae’r sgiliau a gafwyd yn cefnogi datblygiad sgiliau cyflogadwyedd ar

gyfer gweithio dramor neu mewn sectorau eraill o’r diwydiant teithio a thwristiaeth. • Cynllun gweithredu i amlygu sut mae ymdrin â gwendidau a datblygu sgiliau,

gan gynnwys: o hunanwerthuso o defnyddio adborth o ffynonellau perthnasol, e.e. arsylwi cymheiriaid, fideos,

arsylwi gan athrawon neu daflenni tystion o awgrymiadau ynghylch sut mae rhoi sylw i unrhyw wendidau yn y set sgiliau.

Page 130: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

128

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i wahanol fathau o drefnwyr teithiau, rolau swyddi a chyfrifoldebau sy’n rhan o weithio dramor

A.Rh1 Gwerthuso pwysigrwydd rolau a chyfrifoldebau staff tramor wrth sicrhau profiad cadarnhaol i’r cwsmer a llwyddiant cyffredinol y sefydliad.

A.Ll1 Archwilio’r gwahaniaethau staffio rhwng dau fath gwahanol o drefnwyr teithiau sy’n gweithio dramor.

A.Ll2 Esbonio sut gallai rolau a chyfrifoldebau staff tramor effeithio ar iechyd, diogelwch a diogeledd dramor.

A.Ll3 Esbonio sut mae rolau a chyfrifoldebau staff tramor yn cyfrannu at werthu a gwasanaeth i gwsmeriaid llwyddiannus.

A.T1 Dadansoddi pwysigrwydd rolau a chyfrifoldebau staff tramor mewn perthynas â iechyd, diogelwch, diogeledd, gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Nod dysgu B: Arddangos y sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol sy’n ofynnol i weithio dramor B.Rh2 Arddangos cyfrifoldeb

unigol a hunanreolaeth effeithiol wrth ddatrys cwyn gan gwsmer yn llwyddiannus a chwblhau gwerthiant yn llwyddiannus, gan gwblhau’r ddogfennaeth gysylltiedig at safon broffesiynol.

B.Ll4 Arddangos sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid cymwys wrth ddatrys cwyn gan gwsmer, gwerthu gwibdaith, cynnyrch neu wasanaeth a chwblhau’r ddogfennaeth gysylltiedig.

B.T2 Datrys cwyn gan gwsmer yn hyderus ac yn effeithlon a chwblhau gwerthiant yn llwyddiannus, gan gwblhau’r ddogfennaeth gysylltiedig at safon broffesiynol.

Nod dysgu C: Adolygu eich sgiliau, eich datblygiad a’ch perfformiad eich hun mewn sefyllfaoedd gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid C.Rh3 Gwerthuso eich gallu

i ddatrys cwyn gan gwsmer yn llwyddiannus a chwblhau gwerthiant, a sut bydd datblygu eich sgiliau yn cyfrannu at eich llwyddiant yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

C.Ll5 Defnyddio adborth i adolygu eich gallu i ddatrys cwyn gan gwsmer yn llwyddiannus a chwblhau gwerthiant.

C.Ll6 Cynhyrchu cynllun datblygu sgiliau personol i gefnogi datblygiad eich sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid.

C.T3 Dadansoddi eich gallu i ddatrys cwyn gan gwsmer yn llwyddiannus a chwblhau gwerthiant, a phwysigrwydd y cynllun datblygu sgiliau personol.

Page 131: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

129

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.Ll3, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 132: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

130

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid i’r dysgwyr gael mynediad at: • ystod o wybodaeth gyfredol gan gwmnïau teithio a thwristiaeth tramor, megis gwefannau

ac adnoddau printiedig • adnoddau/cyfleusterau/cyfleoedd chwarae rôl priodol ac adborth.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn dangos dyfnder ac ehangder yn eu dealltwriaeth o’r gwahaniaethau yn nhrefniadau staffio dau wahanol fath o drefnydd teithiau sy’n gweithio dramor. Byddant yn rhoi sylw trylwyr a chywir i’r holl brif nodweddion sy’n ymwneud â gwahaniaethau yn y trefniadau staffio. Bydd y dysgwyr yn rhoi gwerthusiad cynhwysfawr o gyfraniad staff tramor i sicrhau llwyddiant cyffredinol profiad y cwsmer a llwyddiant sefydliadau teithio. Rhaid i’r dysgwyr ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol megis adolygiadau neu ddata i gefnogi’r gwerthusiad. Byddant yn canolbwyntio ar rolau a chyfrifoldebau sydd gan staff tramor yng nghyswllt gwella profiad y cwsmer trwy fynd ati’n rhagweithiol i atal problemau, datrys sefyllfaoedd a rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid, gan roi enghreifftiau dilys o sut mae’r staff yn gwneud hyn. Bydd ffactorau iechyd, diogelwch a diogeledd perthnasol yn cael eu hystyried yn fanwl, a’u cysylltu â rolau a chyfrifoldebau staff. Bydd canlyniadau posibl safonau gofal cwsmer gwael hefyd yn cael eu hystyried yn drylwyr. Bydd y dysgwyr yn dod i gasgliadau a gyfiawnheir wrth werthuso sut mae staff tramor yn cyfrannu at ddelwedd a llwyddiant ariannol cyffredinol y sefydliad. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o safon uchel.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn dadansoddi’n glir y prif wahaniaethau o ran strwythurau staffio rhwng dau wahanol fath o drefnydd teithiau sy’n gweithio dramor, gan ddangos ehangder dealltwriaeth. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir, cyffredinol berthnasol o bwysigrwydd staff tramor mewn perthynas â iechyd, diogelwch, diogeledd, gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd y drafodaeth yn gytbwys ac yn cael ei chefnogi gan enghreifftiau clir. Bydd yr enghreifftiau a roddir yn dangos bod y dysgwyr yn deall cwmpas rolau a chyfrifoldebau staff tramor mewn perthynas â’r meysydd hyn. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn archwilio’r gwahaniaethau o ran strwythurau staffio rhwng dau fath gwahanol o drefnwyr teithiau sy’n gweithio dramor. Bydd y dysgwyr yn gwneud cyfeiriadau realistig, priodol at y prif wahaniaethau o ran trefniadau staffio rhwng y gwahanol fathau o drefnwyr teithiau, ond gallai’r esboniad ar y gwahaniaethau fod yn gyfyngedig ei gwmpas.

Bydd y dysgwyr yn esbonio rolau a chyfrifoldebau staff tramor ac yn cynnwys gwybodaeth ynghylch iechyd, diogelwch a diogeledd cwsmeriaid sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth berthnasol a sefydliadau masnach. Byddant yn rhoi esboniad sylfaenol, ond cyffredinol gywir ar sut mae rolau a chyfrifoldebau staff tramor yn cyfrannu at werthu a gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth. Bydd y dysgwyr yn rhoi enghreifftiau realistig o drefnwyr teithiau penodol a mathau o swyddi i gefnogi eu hesboniadau. Bydd esboniadau’r dysgwyr yn gyffredinol briodol, ond gall y dystiolaeth fod yn arwynebol neu wedi’i chefnogi gan ddefnydd cyfyngedig o enghreifftiau neu resymau.

Nod dysgu B

Er mwyn cyflawni’r meini prawf asesu ar gyfer y nod dysgu hwn, bydd rhaid i’r dysgwyr gyfranogi mewn dwy sefyllfa chwarae rôl. Bydd un sefyllfa chwarae rôl yn gofyn bod y dysgwyr yn gweithredu fel cynrychiolydd trefnydd teithiau tramor sy’n delio gyda chwyn gan gwsmer. Bydd y sefyllfa chwarae rôl arall yn gofyn bod y dysgwyr yn gwerthu cynnyrch neu wasanaeth, er enghraifft gwibdaith, ar lefel un-i-un.

Page 133: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

131

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn delio’n hyderus ac yn effeithiol â chwyn gan gwsmer a gwerthu cynnyrch neu wasanaeth (megis gwibdaith) i gwblhau’r gwerthiant yn llwyddiannus. Byddant yn arddangos eu sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid, fel y rhestrwyd yng nghynnwys yr uned, mewn modd effeithiol iawn, gan dderbyn cyfrifoldeb am gael hyd i ateb a dylanwadu ar ganfyddiad y cwsmer o’r sefyllfa. Byddan nhw’n dangos menter a chreadigrwydd wrth ddatrys problemau’r cwsmer. Bydd y dysgwyr yn cwblhau’r sefyllfaoedd chwarae rôl a’r gwaith papur cysylltiedig at safon broffesiynol, gan arddangos cyfrifoldeb unigol a hunanreolaeth effeithiol wrth gwblhau’r holl waith papur sy’n ofynnol yn fanwl gywir.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn delio’n hyderus ac yn effeithlon â chwyn gan gwsmer, gan roi sylw mewn modd priodol i unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag ymddygiad neu agwedd cwsmer. Bydd y dysgwyr yn delio’n effeithlon â gwerthu cynnyrch neu wasanaeth (megis gwibdaith), gan gymhwyso sgiliau a gwybodaeth perthnasol i gwblhau’r gwerthiant yn llwyddiannus. Byddan nhw’n arddangos y sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid, fel y rhestrwyd yng nghynnwys yr uned, mewn modd cwbl briodol ac yn cwblhau’r gwaith papur cysylltiedig at safon broffesiynol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn delio’n gymwys â chwyn gan gwsmer ac yn gwerthu cynnyrch neu wasanaeth (megis gwibdaith) mewn modd priodol. Byddan nhw’n cwblhau’r holl waith papur cysylltiedig yn unol â’r gofynion a roddwyd, er y gallai rhai mân broblemau barhau. Bydd y dysgwyr yn delio gyda chwyn y cwsmer mewn modd cadarnhaol ac yn dilyn gweithdrefnau priodol, ond ni fyddant o reidrwydd yn arddangos dealltwriaeth lawn o bob agwedd ar gwyn y cwsmer. Ni fydd elfennau hollbwysig ar goll o’r sgiliau gwerthu a’r sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid mae’r dysgwyr yn dangos tystiolaeth ohonynt, ond gallai’r dull o gymhwyso’r sgiliau hynny fod yn arwynebol, yn gyfyngedig o ran cwmpas neu’n ddiffygiol o ran menter.

Nod dysgu C

Er mwyn cyflawni’r meini prawf asesu ar gyfer y nod dysgu hwn, mae’n rhaid i’r dysgwyr ddefnyddio adborth priodol megis arsylwi gan athrawon/datganiadau tystion, datganiadau arsylwi gan gymheiriaid a fideos i ystyried eu perfformiad eu hunain yn y sefyllfaoedd chwarae rôl.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn defnyddio adborth priodol i werthuso’u perfformiad eu hunain yn y sefyllfaoedd chwarae rôl. Byddan nhw’n gwneud arsylwadau beirniadol ar eu perfformiad eu hunain ar sail yr adborth a roddwyd gan eraill a, lle mae hynny’n bosibl, thrwy wylio’r fideo o’u perfformiad. Byddan nhw’n defnyddio’r adborth hwn i gyfiawnhau i ba raddau roedd sgiliau perthnasol, megis eu sgiliau cyfathrebu ac ymddygiad, yn effeithiol wrth ddatrys y gwyn a chwblhau’r gwerthiant. Bydd y dysgwyr yn ystyried sut gallai eu cynllun gweithredu adeiladol, personol gael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau er mwyn paratoi ar gyfer cynlluniau astudio neu gyflogaeth yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddan nhw’n darparu gwerthusiad cynhwysfawr o sut bydd datblygu sgiliau yn cefnogi eu llwyddiant, gan ddarparu enghreifftiau penodol, cadarn i gefnogi eu casgliadau.

Bydd y dysgwyr yn mynegi eu barn yn gryno ac yn rhugl ac yn gwerthuso cysyniadau, syniadau a chamau gweithredu perthnasol er mwyn dod i gasgliadau rhesymedig a dilys.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn defnyddio adborth priodol i ddadansoddi eu perfformiad eu hunain yn y sefyllfaoedd chwarae rôl. Bydd y dysgwyr yn cwblhau hunanwerthusiad i ddadansoddi eu gallu i ddatrys cwyn gan gwsmer yn llwyddiannus a chwblhau gwerthiant yn effeithiol. Byddan nhw’n dadansoddi arwyddocâd y cynllun gweithredu wrth gyfrannu at ddatblygu sgiliau a chysylltiadau â symud ymlaen. Bydd y dystiolaeth yn dangos dadansoddiad clir, cywir sy’n cael ei gefnogi gan dystiolaeth a ddogfennwyd yn dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn defnyddio adborth priodol i fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain yn y sefyllfaoedd chwarae rôl. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu adolygiad realistig o’u cryfderau a’u gwendidau. Rhaid i’r hunanasesiad gael ei gysylltu’n benodol â’r hyn wnaeth dysgwyr neu beidio i ddatrys cwyn y cwsmer a chwblhau gwerthiant y wibdaith. Gall adolygiadau’r dysgwyr fod yn anghytbwys neu gynnwys rhai ffeithiau anghywir.

Ar sail canlyniad yr adborth a’r adolygiad personol, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cynllun gweithredu priodol ar gyfer datblygu eu sgiliau gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid eu hunain. Bydd y cynllun yn realistig, ond gallai fod yn arwynebol neu’n gyfyngedig mewn mannau.

Page 134: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 12: GWEITHIO DRAMOR

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

132

Cysylltiadau ag unedau eraill Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 13: Profiad Gwaith ym Maes Teithio a Thwristiaeth.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf ymweliad preswyl tramor.

Page 135: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

133

Uned 13: Profiad Gwaith ym Maes Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 90

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn astudio manteision profiad gwaith mewn sefydliad teithio a thwristiaeth. Byddant yn cwblhau 40 awr o brofiad gwaith priodol, gan fyfyrio ar yr wybodaeth a’r sgiliau maen nhw wedi’u datblygu.

Cyflwyniad i’r uned

Mae dysgu cysylltiedig â gwaith yn agor eich llygaid i ystod o gyfleoedd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’n rhoi profiad ymarferol uniongyrchol i chi a chyfle i weld beth yn union sydd dan sylw mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys rhai na fuoch erioed yn eu hystyried o bosib. Bydd yn fodd i chi gofnodi profiad ymarferol, cynllunio ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, a myfyrio ar eich sgiliau eich hun.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n dysgu am wahanol fathau o ddysgu cysylltiedig â gwaith a’u manteision. Byddwch yn dysgu pa wybodaeth mae arnoch ei hangen cyn cychwyn ar y lleoliad, a sut gall y lleoliad eich helpu i ddatblygu cymwyseddau allweddol sy’n angenrheidiol i symud ymlaen i astudiaeth bellach neu gyflogadwyedd yn y dyfodol fel hunanreolaeth, gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfathrebu. Byddwch yn gwneud gwaith ymchwil ac yn ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol, ac yn gwerthuso eich perfformiad gan ddefnyddio dyddlyfr adfyfyriol.

Bydd cofnod o’ch profiad gwaith a’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u datblygu yn eich cefnogi i symud ymlaen i gyrsiau ac astudiaethau addysg uwch. Mae cyflogwyr hefyd yn gosod gwerth mawr ar brofiad gwaith ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ym maes teithio a thwristiaeth a diwydiannau eraill, gan eu bod yn awyddus i recriwtio’r rhai sydd â pheth gwybodaeth am fyd gwaith.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon byddwch chi’n:

A Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer dysgu cysylltiedig â gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

B Cyflawni profiad gwaith mewn modd priodol a diogel

C Myfyrio ar y profiad gwaith a wnaed a’i ddylanwad ar eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.

Page 136: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

134

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer dysgu cysylltiedig â gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A1 Dysgu cysylltiedig â gwaith A2 Deilliannau a manteision

profiad gwaith A3 Cynllunio ar gyfer

profiad gwaith

Portffolio o adnoddau, gan gynnwys manylion gwaith ymchwil ar gyfleoedd posibl ar gyfer profiad gwaith a gwerthusiad o fanteision paratoi ar gyfer profiad gwaith a’i gyflawni.

B Cyflawni profiad gwaith mewn modd priodol a diogel

B1 Cyfnod sefydlu B2 Rôl a thasgau B3 Gweithio’n ddiogel

Arsylwi dysgwyr ar brofiad gwaith yn cyflawni tasgau a gweithgareddau ac yn rhyngweithio â defnyddwyr gwasanaeth a staff, gyda thystiolaeth ar ffurf adroddiad arsylwi a lofnodwyd gan aseswr. Bydd dyddiadur/dyddlyfr/ cofnod/blog ar-lein a phortffolio yn cwmpasu’r tasgau a gyflawnwyd, faint o amser a dreuliwyd ar brofiad gwaith ac yn cyfeirio at unrhyw faterion iechyd a diogelwch perthnasol.

C Myfyrio ar y profiad gwaith a wnaed a’i ddylanwad ar eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun

C1 Dysgu o brofiad gwaith C2 Defnyddio adborth a

phennu nodau

Adfyfyrio a chynhyrchu portffolio datblygiad personol/proffesiynol (PDP), gan werthuso arwyddocâd eich profiad gwaith eich hun o ran cefnogi datblygiad gyrfa.

Page 137: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

135

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer dysgu cysylltiedig â gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A1 Dysgu cysylltiedig â gwaith (mae cyfanswm o 40 awr o leiaf yn ofynnol) • Cyfleoedd profiad gwaith, lleoliad gwaith: cyfnod o brofiad gwaith a drefnwyd gyda

chyflogwr yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, e.e. gwasanaethau teithio, cynadleddau, arddangosfeydd a digwyddiadau, atyniadau ymwelwyr, cwmnïau trafnidiaeth teithwyr, gwestai, llety a lletygarwch.

• Gwaith gwirfoddol – unrhyw fath o waith a wneir yn ddi-dâl. • Gwaith rhan-amser – gwaith am dâl neu ddi-dâl. • Gwaith llawn-amser – gwaith am dâl neu ddi-dâl. • Gwaith tymhorol a shifftiau.

A2 Deilliannau a manteision profiad gwaith • Sicrhau eglurder ynghylch nodau gyrfa tymor byr a hirdymor. • Dod i ddeall sut mae sefydliadau teithio a thwristiaeth yn gweithredu a’r heriau maen

nhw’n eu hwynebu. • Cynyddu profiad, sgiliau a gwybodaeth:

o sgiliau sector-benodol o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy a sgiliau personol.

• Rhwydweithio, datblygu cysylltiadau a meithrin enw da. • Deall swydd benodol neu ystod o swyddi yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. • Casglu canolwyr. • Mynychu cyrsiau hyfforddi mewnol.

A3 Cynllunio ar gyfer profiad gwaith • Cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith. • SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) personol, neu restr sgiliau

i’ch helpu i ganfod cyfleoedd sy’n fwyaf tebygol o gefnogi nodau gyrfa neu astudio. • Casglu gwybodaeth am y sefydliad, e.e. taflenni’r cwmni, llyfrynnau, gwefan, apiau,

dysgwyr a fu gynt ar leoliad gwaith yn yr un sefydliad, staff o’r sefydliad, sgwrs neu ohebiaeth gyda’r sefydliad.

• Gwybodaeth allweddol a disgwyliadau, e.e. oriau gwaith, gweithdrefnau absenoldeb, cofnodi absenoldeb gyda’r ysgol neu’r coleg, disgwyliadau gwisg, dilyn polisïau a gweithdrefnau gweithredu’r gweithle, gweithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm, defnyddio menter, gweithio oddi mewn i gyfyngiadau eich rôl eich hun, ystyriaethau ymarferol fel gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gwybodaeth iechyd a diogelwch, ymweliadau staff, ystyriaethau ynghylch y math o leoliad, megis o dan do, yn yr awyr agored neu ar draws sawl safle.

• Pennu nodau ac amcanion personol neu dargedau CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol) ar gyfer profiad gwaith.

• Paratoi ar gyfer cyfweliad neu gyfarfod cychwynnol. • Y broses o gyflwyno cais.

Nod dysgu B: Cyflawni profiad gwaith mewn modd priodol a diogel

B1 Cyfnod Sefydlu • Gwybodaeth am y sefydliad, e.e. strwythur, nodweddion, nodau, rolau allweddol,

cysylltiadau allweddol ac aelodau’r tîm. • Rolau profiad gwaith, e.e. disgwyliadau, cyfyngiadau eich cyfrifoldeb eich hun,

dyletswyddau penodol, atgyfeirio a/neu geisio help pobl eraill, dilyn polisïau a gweithdrefnau.

Page 138: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

136

• Cyfrifoldebau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd, e.e. gweithdrefnau gwacáu, gweithdrefnau cymorth cyntaf, adrodd am beryglon.

• Rhoi gwybod am absenoldeb a chyrraedd yn hwyr. • Parchu amrywiaeth, cydraddoldeb ac urddas yn y gweithle. • Cyfrinachedd. • Cysgodi ac arsylwadau.

B2 Rôl a thasgau • Cyflawni gweithgareddau a thasgau oddi mewn i gwmpas a therfynau eich rôl a’ch

cyfrifoldebau eich hun. • Cyflawni gweithgareddau i fodloni amcanion neu nodau. • Deall sut bydd y rôl yn datblygu’r cymwyseddau allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer

cyflogadwyedd, e.e. gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfathrebu. • Deall pwysigrwydd goruchwylio gweithgareddau a thasgau gwaith a dilyn cyfarwyddiadau. • Cyfathrebu ag eraill. • Hunanreolaeth.

B3 Gweithio’n ddiogel • Deall bod gan gyflogwyr a staff gyfrifoldebau sy’n ymwneud â iechyd a diogelwch yn

y gweithle. • Nodi risgiau a pheryglon posibl, e.e. llithro ar lawr gwlyb, baglu ar wifrau sy’n hongian,

defnyddio peiriannau, gweithio gyda thechnoleg, defnyddio cyfryngau cymdeithasol, sŵn uchel sy’n arwain at golli clyw.

• Ymddygiad diogel personol, e.e. cymhwyso gweithdrefnau’r sefydliad, dilyn a chynnal rheolau iechyd a diogelwch, codi diogel, cymhwyso canllawiau o’r llyfryn hyfforddi, dilyn disgwyliadau gwisg, cyfarpar diogelwch personol, egwyliau DSE (cyfarpar sgriniau arddangos), dilyn cyngor am ergonomeg.

Nod dysgu C: Myfyrio ar y profiad gwaith a wnaed a’i ddylanwad ar eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun

C1 Dysgu o brofiad gwaith • Myfyrio ar yr wybodaeth a gafwyd, e.e. gan gynnwys gwybodaeth am faes galwedigaethol

newydd neu faes diddordeb, cadarnhau a ydych am weithio ym maes teithio a thwristiaeth neu beidio, cael hyd i ragor o wybodaeth am yrfa, sector neu sefydliad penodol.

• Myfyrio ar sgiliau personol, e.e. cyfathrebu, datrys problemau, hunanhyder, gwydnwch, pendantrwydd, hyblygrwydd, agwedd gadarnhaol.

• Myfyrio ar sgiliau gwaith, gan gynnwys TG, gwaith tîm, cymryd nodiadau, presenoldeb, prydlondeb, ymwneud â phobl dros y ffôn, ymwybyddiaeth o gwsmeriaid a busnes, trafod ymholiadau a chwynion.

• Myfyrio ar y profiadau a gafwyd, gan gynnwys: o nodi beth aeth yn dda a beth allai gael ei wella o yr heriau a wynebwyd o problemau oedd yn codi a sut cawsant eu goresgyn neu eu datrys.

C2 Defnyddio adborth a phennu nodau • Adborth gan athrawon, goruchwylwyr, mentoriaid a chymheiriaid, e.e. nodi meysydd

adborth cadarnhaol ac adeiladol, amlygu meysydd ar gyfer gwelliant. • Asesu eich sgiliau eich hun, e.e. defnydd o ddadansoddiad SWOT. • Defnyddio profiad gwaith i helpu wrth bennu nodau datblygiad personol a phroffesiynol,

e.e. tymor byr, hirdymor, nodau personol a chysylltiedig â gwaith, datblygu sgiliau, y cymwysterau sy’n cael eu targedu.

Page 139: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

137

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer dysgu cysylltiedig â gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A.Rh1 Gwerthuso sut gall paratoi ar gyfer profiad gwaith gefnogi dealltwriaeth o’r gweithle a chyfleoedd gyrfa priodol.

A.Ll1 Cymharu tri chyfle realistig ar gyfer profiad gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth a sut gall pob un ohonynt gefnogi paratoi ar gyfer y gweithle.

A.Ll2 Esbonio’r gwaith paratoi ar gyfer cyfle profiad gwaith a ddewiswyd.

A.T1 Dadansoddi manteision profiad gwaith a sut gall gyfrannu at sicrhau dealltwriaeth realistig o’r cyfleoedd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu B: Cyflawni profiad gwaith mewn modd priodol a diogel

B.Rh2 Arddangos sgiliau cysylltiedig â gwaith yn fedrus, gan ddefnyddio menter i gyflawni gweithgareddau yn ôl eich cyfrifoldebau eich hun a gweithdrefnau’r lleoliad, a dethol sgiliau priodol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.

B.Ll3 Arddangos sgiliau cysylltiedig â gwaith i gyflawni’r amcanion a bennwyd ar gyfer tasgau profiad gwaith.

B.Ll4 Cynhyrchu llyfr log i gofnodi’r tasgau a’r gweithgareddau a wnaed yn y gweithle i gyflawni amcanion a bennwyd.

B.T2 Arddangos sgiliau cysylltiedig â gwaith yn hyderus ac yn fedrus er mwyn cyflawni amcanion mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Nod dysgu C: Myfyrio ar y profiad gwaith a wnaed a’i ddylanwad ar eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun

C.Rh3 Gwerthuso eich profiad gwaith eich hun, gan ddod i gasgliadau rhesymedig ynghylch sut gall gefnogi gyrfa.

C.Ll5 Adolygu eich cryfderau eich hun a’r meysydd i’w datblygu yn eich profiad gwaith.

C.Ll6 Nodi gwelliannau i’w gwneud i’ch sgiliau personol a phroffesiynol eich hun mewn ymateb i adborth o’ch profiad gwaith.

C.T3 Asesu eich perfformiad eich hun yn ystod profiad gwaith, gan gyflwyno argymhellion ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Page 140: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

138

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 141: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

139

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at leoliad profiad gwaith sy’n cyfateb i 40 awr mewn cyd-destun teithio a thwristiaeth.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil manwl ac yn cynnig tystiolaeth a ddewiswyd yn dda ynghylch cyfleoedd profiad gwaith priodol. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad a gefnogir yn llawn o fanteision profiad gwaith. Bydd y dystiolaeth yn dangos dyfarniadau dilys ynghylch manteision paratoi ar gyfer lleoliad profiad gwaith a ddewiswyd.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil cynhwysfawr i ddarparu dadansoddiad clir, cytbwys o fanteision profiad gwaith a sut gall eu cefnogi i sicrhau dealltwriaeth realistig o’r cyfleoedd ym maes teithio a thwristiaeth.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil i ddarparu sylfaen ddigonol ar gyfer cymharu cyfleoedd profiad gwaith perthnasol yn briodol. Bydd y dysgwyr yn esbonio sut buon nhw’n paratoi ar gyfer cyfle profiad gwaith a ddewiswyd. Bydd y dystiolaeth yn realistig, ond gall fod yn arwynebol mewn mannau neu wedi’i chefnogi gan ddefnydd cyfyngedig o enghreifftiau neu resymau.

Nod dysgu B

Bydd y dysgwyr yn cyfranogi mewn profiad gwaith mewn modd priodol a diogel. Byddant yn creu ac yn cynnal cofnodion strwythuredig o’u profiad gwaith a fydd yn golygu bod modd iddyn nhw fyfyrio ar gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau eu hunain a chasglu adborth ar eu perfformiad gan eraill ar gyfer nod dysgu C.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn dethol sgiliau ac ymddygiad priodol mewn perthynas â’r sefyllfa waith a’r canlyniadau a ddymunir, gan ddangos eu bod wedi datblygu eu sgiliau i sicrhau canlyniadau o ansawdd uwch yn ystod y lleoliad. Er enghraifft, rhaid iddynt gyfathrebu’n broffesiynol gan ddefnyddio dulliau priodol i’w cynulleidfa gyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Bydd y dysgwyr yn gwneud dyfarniadau dilys ynghylch risgiau a chyfyngiadau’r arferion a’r prosesau a ddefnyddir mewn perthynas â’r deilliannau a ddymunir.

Rhaid i’r dysgwyr ddangos menter wrth weithredu oddi mewn i’r cyfyngiadau disgwyliedig ac asesu eu cyfraniad i dasgau, gweithgareddau neu arsylwadau cysylltiedig â gwaith. Rhaid iddyn nhw gyfiawnhau unrhyw benderfyniadau a wnaed mewn perthynas â’u sefyllfa waith. Rhaid iddyn nhw reoli eu hunain yn llwyddiannus i flaenoriaethu gweithgareddau, gan fonitro’u cynnydd eu hunain ac ymateb i adborth neu awgrymiadau gan eraill.

Rhaid iddyn nhw ymgysylltu’n weithredol ag eraill a defnyddio eu menter eu hunain i gasglu adborth a chreu cyfleoedd ar gyfer gwelliant personol.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn gweithredu oddi mewn i gyd-destunau penodol cysylltiedig â gwaith i ddangos priodweddau gofynnol a defnyddio sgiliau ac ymddygiad priodol yn fwyfwy hyderus a medrus er mwyn cyflawni amcanion a bennwyd. Bydd y dysgwyr yn addasu eu sgiliau a’u gwybodaeth i gydweddu â gwahanol sefyllfaoedd a delio gyda datblygiadau annisgwyl. Er enghraifft, rhaid iddyn nhw ddethol a defnyddio dulliau cyfathrebu priodol i gydweddu â chynulleidfaoedd penodol, er enghraifft rhyngweithio â staff gwahanol neu gyfrannu at gyfarfod tîm. Rhaid iddyn nhw reoli eu hamser i flaenoriaethu gweithgareddau a symud tuag at y deilliannau gofynnol.

Page 142: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 13: PROFIAD GWAITH YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

140

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cyflawni tasgau a gweithgareddau’n llawn, yn gywir ac yn ddiogel i gyflawni’r canlyniadau sy’n ofynnol. Rhaid i’r dysgwyr ddethol sgiliau neu ymddygiad priodol mewn sefyllfaoedd a ddiffiniwyd ac adolygu llwyddiant y sgiliau a’r ffyrdd hyn o ymddwyn mewn perthynas â thasgau a gweithgareddau profiad gwaith. Rhaid iddynt nodi cyfrifoldebau staff yn y lleoliad a chysylltu’r wybodaeth honno â rolau galwedigaethol a strwythurau’r sefydliad. Rhaid iddynt gyfathrebu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ddefnyddio iaith alwedigaethol briodol ac ymateb i gyfathrebu gan eraill. Rhaid iddynt reoli eu hamser eu hunain yn effeithiol er mwyn cyflawni gweithgareddau gwaith a rheoli canlyniadau.

Bydd y dysgwyr yn defnyddio’u log i gofnodi eu rôl yn y profiad gwaith, gan ddangos dealltwriaeth briodol o’r disgwyliadau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r rôl. Bydd y dysgwyr yn rhoi esboniad realistig ar y tasgau a’r gweithgareddau a wnaed i gyflawni’r amcanion neu’r nodau y cytunwyd arnynt. Bydd y dystiolaeth yn cyfeirio’n briodol at nod neu amcanion y tasgau a’r gweithgareddau, ond gallai’r rhain fod yn arwynebol mewn mannau.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn myfyrio’n fanwl, mewn modd sy’n darbwyllo, ar eu profiad gwaith a’i fanteision i’w gyrfa. Bydd y dysgwyr yn dod i gasgliad rhesymedig, a gefnogir gan dystiolaeth berthnasol ac adborth gan eraill, ynghylch eu cryfderau a’u gwendidau, ac yn myfyrio ar y cyfleoedd i wella. Bydd y dystiolaeth yn arddangos cyfathrebu llafar/ysgrifenedig o safon uchel trwy ddefnyddio geirfa gywir a rhugl i gefnogi ymateb pwyllog, a strwythurwyd yn dda.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn myfyrio ar y sgiliau gweithle a ddangoswyd iddynt ac yn eu hasesu’n gywir, a’r sgiliau bydd arnynt eu hangen yn y gweithle, gan wrando ar adborth gan eraill. Bydd y dysgwyr yn cefnogi eu hasesiad yn glir trwy ddefnyddio offer megis dadansoddiad SWOT. Bydd y dystiolaeth yn defnyddio terminoleg briodol ac yn arddangos cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig o safon dda.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth briodol a realistig o’r sgiliau personol a phroffesiynol sy’n angenrheidiol yn y gweithle. Bydd y dysgwyr yn ystyried yr adborth a gafwyd i awgrymu nodau ar gyfer gwelliant, ond gall yr adolygiad fod yn anghytbwys neu’n gyfyngedig ei gwmpas.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r holl unedau eraill yn y fanyleb.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf:

• siaradwyr gwadd • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff teithio a thwristiaeth lleol.

Page 143: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

141

Uned 14: Y Diwydiant Mordeithiau

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i ddatblygiad y diwydiant mordeithiau, ei apêl i gwsmeriaid, ei gyfleoedd gyrfa, ac effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant.

Cyflwyniad i’r uned

Yn yr uned hon, byddwch chi’n edrych ar natur ddeinamig y diwydiant mordeithiau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ei boblogrwydd, ei dwf a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig.

Byddwch chi’n archwilio’r gwahanol ffyrdd y gall mordeithiau apelio at ystod eang o gwsmeriaid a’u hanghenion amrywiol. Byddwch yn archwilio llwybrau teithio, ardaloedd mordeithiau a chynnyrch a gwasanaethau ar fwrdd y llong ac ar y lan sy’n cyfrannu at brofiad cyffredinol y cwsmer. Byddwch chi’n ymchwilio i’r cyfleoedd a’r heriau posibl, yn ogystal â’r manteision a’r anfanteision, a geir yn y diwydiant mordeithiau er mwyn nodi ei effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol a negyddol.

Bydd yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i addysg uwch, er enghraifft i radd mewn teithio a thwristiaeth, hamdden, lletygarwch neu astudiaethau busnes. Hefyd, bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth rydych chi’n eu datblygu yn yr uned yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon, byddwch chi’n:

A Edrych ar ddatblygiad y diwydiant mordeithiau a’r cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig

B Archwilio ardaloedd, llwybrau teithio a phrofiadau o ran mordeithiau sydd ar gael i ddiwallu anghenion cwsmeriaid

C Ymchwilio i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau.

Page 144: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

142

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Edrych ar ddatblygiad y diwydiant mordeithiau a’r cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig

A1 Datblygiad a thwf y diwydiant mordeithiau

A2 Prif nodweddion y diwydiant mordeithiau yn yr 21ain ganrif

A3 Cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant mordeithiau

Portffolio o adnoddau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad, twf a nodweddion y diwydiant mordeithiau, ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y sector hwn.

B Archwilio ardaloedd, llwybrau teithio a phrofiadau o ran mordeithiau sydd ar gael i ddiwallu anghenion cwsmeriaid

B1 Llwybrau teithio mordeithiau

B2 Cynnyrch a chyfleusterau ar fwrdd y llong

B3 Profiad y cwsmer o’r fordaith

Adroddiad neu gyflwyniad ar lwybrau teithio dethol i fordeithiau sy’n diwallu anghenion mathau cyferbyniol o gwsmeriaid.

C Ymchwilio i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau

C1 Effeithiau posibl cysylltiedig â’r llong

C2 Effeithiau posibl cysylltiedig â’r lan

Cyflwyniad neu adroddiad ar effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau yng nghyd-destun y llong a’r lan.

Page 145: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

143

Cynnwys

Nod dysgu A: Edrych ar ddatblygiad y diwydiant mordeithiau a’r cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig

A1 Datblygiad a thwf y diwydiant mordeithiau • Trosolwg o’r diwydiant o ddiwedd yr 20fed ganrif (1970au, 1980au, 1990au),

gan gynnwys tarddiad, llwybrau, cwsmeriaid, prif gwmnïau, cyfleusterau. • Prif ffactorau sydd wedi sbarduno twf a datblygiad y diwydiant mordeithiau:

o tueddiadau cymdeithasol, e.e. faint o wyliau â chyflog sydd ar gael mewn gwahanol wledydd, cost a chyfleuster i gwsmeriaid, demograffeg newidiol, newid yn y galw

o galw cynyddol mewn ardaloedd lle mae mordeithiau wedi ymsefydlu a datblygu rhanbarthau newydd ar gyfer mordeithiau

o pryderon amgylcheddol, e.e. effeithlonrwydd tanwydd, twristiaeth gynaliadwy o gwahanol fathau o longau, cydsoddi a throsfeddiannu.

• Graddfa a chwmpas y diwydiant mordeithiau cyfredol, e.e. ystadegau twf, trosiant, niferoedd cwsmeriaid, elw, rhagolygon twf, amrywiad tymhorol yn y galw.

A2 Prif nodweddion y diwydiant mordeithiau yn yr 21ain ganrif • Cwmnïau mordeithiau presennol, gan gynnwys cwmnïau sefydledig, cwmnïau newydd,

cwmnïau sydd wedi cydsoddi. • Cysylltiadau â sectorau teithio a thwristiaeth eraill, gan gynnwys trafnidiaeth, asiantau

mordeithiau arbenigol ar y we. • Prif farchnadoedd cwsmeriaid ac anghenion cysylltiedig cwsmeriaid, e.e. teuluoedd,

teithwyr unigol, rhai wedi ymddeol, cyplau, oedolion ifanc, grwpiau diddordeb arbennig, achlysuron arbennig, grwpiau gwahanol oed, ffyrdd o fyw, grŵp cymdeithasol, arbed costau, premiwm.

• Rôl cyrff rheoliadol, gan gynnwys y Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO). • Cyngor Rhyngwladol Cwmnïau Mordeithiau (ICCL), Cymdeithas Ryngwladol Cwmnïau

Mordeithiau (CLIA). • Nodweddion llongau, gan gynnwys maint, tunelledd, cost, criw, math o long, cynlluniau’r

deciau, dyluniad. • Technoleg marchnata newydd, e.e. defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gwefan a ffyrdd

eraill o hyrwyddo ar-lein, archebu ar-lein.

A3 Cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant mordeithiau • Cyfleoedd am swyddi ar y llong, e.e. pyrser, diddanwr, stiward caban, llywiwr,

person trin gwallt, gweithiwr harddwch. • Cyfleoedd am swyddi ar y lan, e.e. staff ymuno â’r llong, tywyswyr teithiau,

asiantau gwibdeithiau. • Gwahaniaethau rhwng yr amgylchedd gwaith ar y llong ac ar y lan. • Nodweddion yr amgylchedd gwaith ar y llong, e.e. gwaith shifftiau, mathau o gontract,

llety ar y llong, telerau ac amodau cyflogaeth, buddion a chymhellion. • Gofynion mynediad a chyfleoedd i symud ymlaen, e.e. cymwysterau, profiad, sgiliau,

hyfforddiant, ieithoedd.

Page 146: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

144

Nod dysgu B: Archwilio ardaloedd, llwybrau teithio a phrofiadau o ran mordeithiau sydd ar gael i ddiwallu anghenion cwsmeriaid

B1 Llwybrau teithio mordeithiau • Y math o fordaith, e.e. mordaith hedfan, mordaith o amgylch y byd, mordaith fer,

mordaith afon, mordaith foethus, mordaith diddordeb arbennig, mordaith drawsiwerydd, llong hwyliau, hollgynhwysol, ffurfiol, anffurfiol.

• Ardaloedd mordeithiau, e.e. Gogledd America, Canolbarth America a’r Caribî, De America, Ewrop, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia, Awstralia, Ynysoedd y De, gan gynnwys ardaloedd gorllewinol a dwyreiniol y Caribî, ardaloedd gorllewinol a dwyreiniol Môr y Canoldir, Sgandinafia, Môr y Baltig, Alaska, Antarctica, y Dwyrain Pell, y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd Dedwydd, Panama, Afon Nîl, y Môr Du.

• Cyrchfannau sy’n dod i’r amlwg, llwybrau teithio mordeithiau yn erbyn cyrchfannau mordeithiau.

• Nodweddion penodol llwybrau teithio mordeithiau, e.e. pwynt ymuno â’r llong, yr hinsawdd mewn porthladdoedd, themâu arbennig, diwrnodau ar y môr, ymweliadau â chyrchfannau, cymhareb teithwyr a chriw (PCR), cymhareb gofod teithwyr (PSR), adloniant.

• Sut mae gwahanol lwybrau teithio yn diwallu anghenion gwahanol fathau o gwsmeriaid.

B2 Cynnyrch a chyfleusterau ar fwrdd y llong • Ystod o gyfleusterau, e.e. bwytai (gwasanaeth, hunanwasanaeth, tâl ychwanegol),

bariau, cyfleusterau chwaraeon, ardaloedd plant, sba, siopau, ardaloedd dec, mynediad i’r rhyngrwyd, golchi dillad, canolfan feddygol, derbynfa, rhaglen o ddigwyddiadau, priodi ar y môr, siaradwyr gwadd, adloniant.

• Ystod o lety, e.e. safonol yn y cabanau preifat mewnol, rhagorach yn y cabanau moethus allanol sydd â balconïau, cyfresi o ystafelloedd, ystafelloedd teulu.

• Elfennau arloesol ar fwrdd y llong, e.e. balconi rhithwir, parciau adloniant, microfragdai, wal ddringo, sgriniau rhyngweithiol, technoleg tonfedd radio ar gyfer cardiau allweddol/opsiynau talu.

• Cynnyrch a ddyluniwyd i ehangu’r farchnad, e.e. mordeithiau byr, mordeithiau â thema, mordaith ac aros, hwylus i deuluoedd.

• Gwibdeithiau ar y lan, e.e. gwasanaeth desg archebu, archebu ymlaen llaw ar-lein cyn teithio, bws camu i mewn ac allan ‘HoHo’ yn y porthladdoedd.

• Sut mae cynnyrch a chyfleusterau yn diwallu anghenion y gwahanol fathau o gwsmeriaid.

B3 Profiad y cwsmer o’r fordaith • Profiad archebu, e.e. trefnydd teithiau arbenigol, hwylustod defnyddio’r wefan, dulliau talu,

rhandaliadau, gwybodaeth a ddarparwyd, desg werthu ar y llong, safon y deunyddiau hyrwyddo.

• Anghenion y cwsmer ar fwrdd y llong, gan gynnwys arlwyo, llety, adloniant, mynediad i deithwyr ag anableddau, cyfleusterau oed-briodol, e.e. cyfleusterau plant a chyfleusterau oedolion yn unig.

• Darparu ar gyfer diddordebau penodol cwsmeriaid, e.e. ffitrwydd, hobïau, chwaraeon, dawnsio, gwyddoniaeth, cerddoriaeth.

• Agweddau cymdeithasol ar brofiad y cwsmer ar fwrdd y llong, e.e. moeseg, rhoi cildwrn, ffurfiol, anffurfiol, arddull rydd, cost uchel, cost isel.

• Profiad wedi’r fordaith, gan gynnwys delio gyda chwynion, arolygon boddhad, cwsmeriaid eildro.

• Sut mae profiadau mordeithiau yn diwallu anghenion gwahanol fathau o gwsmeriaid. • Ymchwil boddhad cwsmeriaid i fesur y profiad ar fwrdd y llong ac wedi’r fordaith,

e.e. arolygon, arsylwadau, taflenni adborth, rheoli cwynion. • Effaith bosibl boddhad a diffyg boddhad cwsmeriaid, gan gynnwys costau ariannol

(elw, ad-daliadau), enw da, sylw yn y cyfryngau, niferoedd teithwyr, safleoedd adolygu ac adborth, gweithdrefn gwynion, iawndal.

Page 147: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

145

Nod dysgu C: Ymchwilio i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau

Mae modd ystyried effeithiau posibl y diwydiant mordeithiau fel rhai cadarnhaol neu negyddol o wahanol safbwyntiau. Gall fod ystyriaethau cyfreithiol neu foesegol yn gysylltiedig â llawer o’r effeithiau. Gall yr effeithiau posibl amrywio, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis maint y llong, y porthladdoedd mae’n galw ynddynt a’r porthladdoedd mynediad yr ymwelwyd â nhw, a’r cyrchfannau dan sylw.

C1 Effeithiau posibl cysylltiedig â’r llong • Economaidd:

o cyfleoedd cyflogaeth o gwariant ar fwrdd y llong gan deithwyr y fordaith a’r criw o prynu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ar gyfer gweithrediadau’r fordaith,

megis tanwydd a bwyd o darparu cyfarpar, gwaith cynnal a chadw, diogelwch a diogeledd o logisteg y llwybr – sicrhau bod y llong yn dilyn y llwybr mwyaf cost-effeithiol

o ran pellter/ffïoedd porthladd, cystadleuaeth. • Cymdeithasol:

o mynediad cyfartal at gyfleusterau a gwasanaethau teithwyr o diogelwch a diogeledd, e.e. risgiau diogelwch cysylltiedig â thendro, bygythiadau

i ddiogeledd o diogelwch ar fwrdd y llong, salwch ar y llong, sicrhau yswiriant digonol ar gyfer

profiad gwyliau mordaith o effaith bosibl yr amodau gwaith ar y criw.

• Amgylcheddol: o llygru’r môr a’r aer o rheoli’r tanwydd a ddefnyddir mewn perthynas â’r tendr yn y porthladd, y llwybr

a ddewisir, pwysau’r llong o ôl-troed carbon a rheoli gwastraff, e.e. teithwyr yn hedfan i’r porthladd ymadael,

golchi dillad a defnyddiau, gwastraff bwyd, elifiant, cael hyd i fwyd, diod ac eitemau hanfodol eraill.

C2 Effeithiau posibl cysylltiedig â’r lan • Economaidd:

o incwm a gynhyrchir gan wasanaethau’r porthladdoedd a gwariant gan deithwyr y fordaith a’r criw

o cyfleoedd cyflogaeth eilaidd, e.e. mewn diwydiannau cyflenwi o cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg mewn gwahanol wledydd o goblygiadau amrywiadau yn y galw tymhorol, llawer o’r teithwyr ddim yn gadael y llong,

llongau niferus yn y porthladd yr un pryd, neu pan fydd llong yn gadael y porthladd o ehangu seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau, megis cyfleusterau tendro,

trafnidiaeth, allfeydd manwerthu, plismona. • Cymdeithasol:

o datblygu seilwaith o effaith ar draddodiadau ac ansawdd bywyd yn lleol o diogelwch mewn porthladdoedd o hyfforddiant ac ardystiad y rhai sy’n ymwneud â chyflogaeth cysylltiedig â mordeithiau

ar y lan o effaith bosibl safleoedd adborth ac adolygiadau ar-lein ar breswylwyr lleol y cyrchfan.

• Amgylcheddol: o rheoli niferoedd cynyddol o ymwelwyr o llongau niferus yn y porthladd yr un pryd o natur dymhorol rhai mordeithiau, defnyddio ‘pŵer o’r lan’ ar ôl docio o datblygu nodau cynaliadwy yng nghyswllt llygredd aer, tir a môr.

Page 148: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

146

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Edrych ar ddatblygiad y diwydiant mordeithiau a’r cyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig A.Rh1 Gwerthuso datblygiad

a thwf y diwydiant mordeithiau, gan gynnwys y gwahanol gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

A.Ll1 Esbonio datblygiad a thwf y diwydiant mordeithiau.

A.Ll2 Esbonio gwahanol gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant mordeithiau.

A.T1 Dadansoddi datblygiad a thwf y diwydiant mordeithiau, gan gynnwys y gwahanol gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

Nod dysgu B: Archwilio ardaloedd, llwybrau teithio a phrofiadau o ran mordeithiau sydd ar gael i ddiwallu anghenion cwsmeriaid

B.Rh2 Dewis llwybr teithio ar gyfer mordaith i ddau fath cyferbyniol o gwsmer, gan werthuso effeithiolrwydd pob llwybr teithio o ran diwallu anghenion y ddau fath o gwsmer.

B.Ll3 Ar gyfer dau fath cyferbyniol o gwsmer, dewis llwybr teithio priodol ar gyfer mordaith i ddiwallu anghenion pob cwsmer.

B.Ll4 Esbonio sut mae’r llwybrau teithio a awgrymir ar gyfer y mordeithiau yn diwallu anghenion y ddau fath gwahanol o gwsmer.

B.T2 Dewis llwybr teithio ar gyfer mordaith i ddau fath cyferbyniol o gwsmer, gan ddadansoddi sut mae pob llwybr teithio yn diwallu anghenion y cwsmer.

Nod dysgu C: Ymchwilio i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau

C.Rh3 Gwerthuso arwyddocâd effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl yng nghyd-destun y llong a’r lan.

C.Ll5 Esbonio effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau yng nghyd-destun y llong.

C.Ll6 Esbonio effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau yng nghyd-destun y lan.

C.T3 Dadansoddi effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol posibl y diwydiant mordeithiau, yng nghyd-destun y llong a’r lan.

Page 149: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

147

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nod dysgu: B (B.Ll3, B.Ll4, B.T2, B.Rh2)

Nod dysgu: C (C.Ll5, C.Ll6, C.T3, C.Rh3)

Page 150: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

148

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at y canlynol: • ystod o’r cyhoeddiadau, y gwefannau a’r deunydd ymchwil diweddaraf ynghylch

y diwydiant mordeithiau • mapiau er mwyn iddyn nhw fedru gweld y rhanbarthau mordeithiau ar draws y byd.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn defnyddio gwybodaeth amrywiol am y newid yn y diwydiant mordeithiau o’r 1970au hyd heddiw, gan ystyried rhyngberthynas y prif ffactorau sydd wedi sbarduno ei dwf a’i ddatblygiad.

Bydd y dysgwyr yn ystyried, yn fanwl, fanteision ac anfanteision cyflogaeth ar y llong ac ar y lan yn y diwydiant mordeithiau, a’r gwahaniaethau rhwng rolau ar y llong ac ar y lan. Bydd gwerthusiadau’r dysgwyr yn cyfeirio’n dreiddgar yn gyson at o leiaf un rôl ar y llong ac un ar y lan, gan gynnwys y posibilrwydd o symud ymlaen i rôl ddilynol. Bydd y gwerthusiadau’n arwain at ddyfarniad a gefnogir, yn dangos cysylltiadau dilys, yn eu cyd-destun, rhwng datblygiad, twf, nodweddion presennol a chyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant mordeithiau.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cyflwyno archwiliad trefnus a manwl o wybodaeth am y newidiadau yn y diwydiant mordeithiau o’r 1970au hyd heddiw, gan greu cysylltiadau perthnasol â meysydd allweddol sydd wedi dylanwadu ar ei dwf a’i ddatblygiad, a phrif nodweddion y diwydiant ar hyn o bryd.

Bydd y dysgwyr yn dangos sylw clir, manwl i gyflogaeth ar y llong ac ar y lan yn y diwydiant mordeithiau, gan gynnwys y gwahaniaethau rhwng rolau ar y llong ac ar y lan. Byddant yn gwneud cyfeiriadau clir, sy’n berthnasol gan mwyaf, at o leiaf un rôl ar y llong ac un ar y lan.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi rhesymau priodol i gefnogi barn ynghylch y newid yn y diwydiant mordeithiau o’r 1970au hyd heddiw, gan esbonio ffactorau pwysig sydd wedi dylanwadu ar ei dwf a’i ddatblygiad a phrif nodweddion y diwydiant ar hyn o bryd.

Bydd y dysgwyr yn dangos eu bod yn deall tarddiad a swyddogaethau cyflogaeth ar y llong ac ar y lan yn y diwydiant mordeithiau. Wrth archwilio’r gwahaniaethau rhwng yr amgylcheddau gwaith ar y llong ac ar y lan, bydd y dysgwyr yn cyfeirio’n briodol at o leiaf un rôl ar y llong ac un ar y lan.

Nod dysgu B

I fodloni’r gofynion tystiolaeth ar gyfer y nod dysgu hwn, bydd y dysgwyr yn astudio dau broffil cwsmer cyferbyniol. Byddant yn ymchwilio i’r pecynnau mordaith sydd ar gael ac yn argymell un fordaith a awgrymir ar gyfer pob proffil cwsmer. Rhaid i’r pecynnau mordaith a awgrymir gan y dysgwyr barhau am gyfnod gwahanol o amser. Er enghraifft, os bydd dysgwr yn argymell mordaith 10 noson ar gyfer un proffil cwsmer, rhaid iddynt argymell mordaith hyd gwahanol ar gyfer y proffil cwsmer arall. Fodd bynnag, dylai athrawon sicrhau bod y dysgwyr yn defnyddio proffiliau cwsmer digon cyferbyniol i’w galluogi i gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil i ddethol ac argymell mordaith ar gyfer pob proffil cwsmer. Byddant yn dethol eu gwaith ymchwil yn effeithiol ac yn ofalus er mwyn dewis opsiynau mordaith sy’n ymateb yn gynhwysfawr i anghenion y ddau fath cyferbyniol o gwsmer. Bydd y dysgwyr yn ystyried a fyddai modd rhagori ar ofynion y cwsmer. Byddant yn cyfeirio at amrywiaeth o ffactorau perthnasol wrth ystyried i ba raddau mae pob mordaith a argymhellir yn diwallu anghenion y math o gwsmer, gan wneud dyfarniadau effeithiol ynghylch pwysigrwydd cymharol gwahanol ffactorau wrth ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Byddant yn darparu rhesymau cyson ddilys i gefnogi casgliadau cywir mewn perthynas â manteision ac anfanteision y llwybr teithio, y cynnyrch, y cyfleusterau ar fwrdd y llong a phrofiad cyffredinol pob proffil cwsmer o’r fordaith.

Page 151: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 14: Y DIWYDIANT MORDEITHIAU

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

149

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil i ddethol ac argymell mordaith ar gyfer pob proffil cwsmer. Byddant yn dethol opsiynau mordaith sy’n ymateb yn effeithiol i anghenion y ddau fath cyferbyniol o gwsmer. Bydd y dysgwyr yn cyflwyno dadansoddiad gwrthrychol, beirniadol o sut mae’r mordeithiau a argymhellir yn diwallu anghenion cwsmeriaid, gyda chefnogaeth cyfeiriadau at enghreifftiau cyffredinol berthnasol. Byddant yn gwneud dyfarniadau dadansoddol rhesymedig sy’n cynnwys trafodaeth fanwl ar y llwybr teithio, y cynnyrch, y cyfleusterau ar fwrdd y llong a phrofiad cyffredinol pob proffil cwsmer o’r fordaith.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn gwneud gwaith ymchwil i ddethol ac argymell mordaith ar gyfer pob proffil cwsmer. Byddant yn dethol opsiynau mordaith sy’n ymateb yn ddigonol i anghenion y ddau fath cyferbyniol o gwsmer. Bydd y dysgwyr yn rhoi manylion a rhesymau neu esboniadau cyffredinol briodol i gefnogi barn ynghylch sut mae’r mordeithiau a argymhellir yn diwallu anghenion y cwsmeriaid. Byddant yn dangos dealltwriaeth realistig o addasrwydd y llwybr teithio, y cynnyrch, y cyfleusterau ar fwrdd y llong a phrofiad cyffredinol pob proffil cwsmer o’r fordaith.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn dewis a dethol amrywiaeth o wybodaeth i gefnogi barn ynghylch arwyddocâd cymharol effeithiau cadarnhaol a negyddol y diwydiant mordeithiau. Bydd gwerthusiadau’r dysgwyr yn dangos sylw cynhwysfawr i effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng nghyd-destun y llong a’r lan. Byddant yn gwneud dyfarniadau cyson effeithiol ynghylch pwysigrwydd cymharol gwahanol effeithiau, gan wneud defnydd cywir o ganlyniadau eu gwaith ymchwil i ddangos dealltwriaeth o’r effeithiau penodol ac ehangach, a chyfiawnhau eu casgliadau.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cyflwyno canlyniad archwiliad manwl a thrylwyr o wybodaeth i ddehongli agweddau allweddol, rhyngberthnasoedd a chanlyniadau ynghylch effeithiau cadarnhaol a negyddol y diwydiant mordeithiau ar fwrdd y llong ac ar y lan. Byddant yn cyflwyno dadansoddiad gwrthrychol, beirniadol o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng nghyd-destun y llong a’r lan, gyda chyfeiriadau at enghreifftiau cyffredinol berthnasol yn cadarnhau hynny. Bydd y dysgwyr yn gwneud dyfarniadau dadansoddol rhesymedig sy’n cynnwys cymharu, trafod neu gyfiawnhau amrywiol effeithiau yn eu dadansoddiad.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi manylion a rhesymau neu esboniadau cyffredinol gywir i gefnogi barn ynghylch effeithiau’r diwydiant mordeithiau ar fwrdd y llong ac ar y lan. Byddant yn gwneud cyfeiriadau priodol at yr effeithiau cadarnhaol a negyddol yn y ddau gyd-destun. Bydd y dysgwyr yn dangos dealltwriaeth realistig o darddiad a chanlyniadau ystod o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, gyda rhai cyfeiriadau at enghreifftiau priodol.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r holl unedau eraill yn y fanyleb.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd • profiad gwaith • deunyddiau enghreifftiol teithio a thwristiaeth • cefnogaeth fentora gan staff lleol.

Page 152: Unedau - qualifications.pearson.com

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

150

Page 153: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

151

Unit 15: Recriwtio a Dethol ym Maes Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 60

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn archwilio’r broses recriwtio a dethol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, gan gymryd rhan mewn cyfweliadau a myfyrio ar eu perfformiad er mwyn llywio eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Cyflwyniad i’r uned

Mae recriwtio’r bobl gywir yn hanfodol i lwyddiant y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’n hollbwysig bod y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â recriwtio a dethol yn diwallu anghenion y diwydiant ac yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol. Pan fydd proses recriwtio effeithiol yn ei lle, mae’n fwy tebygol o arwain at apwyntiadau llwyddiannus a fydd, yn eu tro, yn cynnal llwyddiant y sefydliad.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n edrych ar sut mae defnyddio proses recriwtio foesegol a chyfreithlon. Byddwch yn archwilio offer recriwtio a dethol, gan gynnwys defnydd mwy datblygedig o dechnoleg yn y broses ddethol. Trwy chwarae rôl, byddwch yn cyfranogi mewn gweithgareddau recriwtio a dethol, gan gyflawni rôl y cyfwelydd a’r cyfwelai. Byddwch yn datblygu, yn cymhwyso ac yn myfyrio ar wybodaeth a sgiliau mewn sefyllfa realistig, ac yn creu cynllun datblygu sgiliau personol.

Bydd yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i addysg uwch, i ymgymryd â gradd mewn maes megis teithio a thwristiaeth, hamdden, lletygarwch neu astudiaethau busnes. Trwy gwblhau’r gweithgareddau recriwtio yn yr uned hon, byddwch yn datblygu sgiliau y mae modd eu cymhwyso i sefyllfaoedd cyfweld yng nghyd-destun addysg uwch neu yng nghyd-destun gwaith.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon, byddwch chi’n:

A Edrych ar sut gall recriwtio a dethol effeithiol gyfrannu at lwyddiant sefydliad yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

B Cyflawni gweithgareddau recriwtio i arddangos y prosesau sy’n gallu arwain at gynnig swydd llwyddiannus mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

C Myfyrio ar eich perfformiad eich hun yn y broses recriwtio a dethol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

Page 154: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

152

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Edrych ar sut gall recriwtio a dethol effeithiol gyfrannu at lwyddiant sefydliad yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A1 Recriwtio staff A2 Y broses recriwtio a dethol A3 Ystyriaethau moesegol a

chyfreithiol yn y broses recriwtio

Gwerthusiad o rôl y broses recriwtio a dethol wrth gyfrannu at lwyddiant sefydliad teithio a thwristiaeth.

B Cyflawni gweithgareddau recriwtio i arddangos y prosesau sy’n gallu arwain at gynnig swydd llwyddiannus mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

B1 Ceisiadau am swyddi B2 Cymryd rhan mewn

cyfweliadau a defnyddio dogfennau cyfweliad

Chwarae rôl mewn gweithgareddau recriwtio a dethol, yn rôl y cyfwelydd a’r cyfwelai, gyda chymorth dogfennau i’w defnyddio yn y gweithgareddau recriwtio a dethol, a thystiolaeth adroddiad arsylwi a lofnodwyd gan yr aseswr. Log adfyfyriol yn gwerthuso eich perfformiad eich hun mewn gweithgareddau recriwtio a dethol, gan gynnwys argymhellion ar gyfer eich datblygiad eich hun mewn cyd-destun cysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

C Myfyrio ar eich perfformiad eich hun yn y broses recriwtio a dethol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

C1 Adolygu perfformiad personol

C2 Defnyddio adborth a chynllunio gweithredu

Page 155: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

153

Cynnwys

Nod dysgu A: Edrych ar sut gall recriwtio a dethol effeithiol gyfrannu at lwyddiant sefydliad yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A1 Recriwtio staff • Cynllunio’r gweithlu a rhesymau dros recriwtio staff newydd:

o twf y sefydliad – yn lleol, yn genedlaethol, yn fyd-eang o rolau swyddi newidiol o newid systemau o llenwi swyddi gwag newydd a grewyd gan fwy o le neu ddatblygu cynnyrch o swyddi gwag a achoswyd gan drosiant/staff yn ymadael neu gontractau tymhorol o dyrchafiadau mewnol o sylwi ar ddoniau.

• Defnyddio canolfannau gwaith ac asiantaethau, hysbysebion mewnol neu hysbysebion allanol, recriwtio ar-lein a dulliau traddodiadol.

• Sut mae’r broses recriwtio yn cysylltu â llwyddiant y sefydliad. • Sut mae proses recriwtio broffesiynol yn arwain at integreiddio staff yn effeithlon.

A2 Y broses recriwtio a dethol • Proses recriwtio:

o hysbysebu swydd – gosod yr hysbyseb, mewnol/allanol, cyfnodolyn/gwefan/ cyfryngau cymdeithasol

o dadansoddi swydd o disgrifiad swydd – cynnwys tasgau a chyfrifoldebau’r swydd o manyleb person i bennu’r sgiliau hanfodol a dymunol mae’r swydd yn galw amdanynt o CV neu ffurflenni cais o llythyr cais o recriwtio ar-lein a sut gall y broses o wneud cais fod yn gyflymach ac yn fwy

cost-effeithiol wrth ddefnyddio technoleg briodol o ceisiadau ar hap gan gyflogeion posibl.

• Dethol, gan gynnwys canolfannau asesu a phrofion seicometrig, cyfweliadau gweithgaredd tîm/grŵp, e.e. dros y ffôn, wyneb yn wyneb, galwad fideo, grŵp a phanel, cyflwyniadau mewn cyfweliadau, profion byr mewn cyfweliadau: o protocol cyfweliadau, y math o ddethol a sut mae’n cyfrannu at y broses – manteision

ac anfanteision o prosesau dethol cychwynnol gyda chyfweliadau sgrinio dros y ffôn neu brofion byr,

ar-lein o defnyddio technoleg yn y broses – ceisiadau ar-lein, lanlwytho CVs a fideos o defnyddio ceisiadau drwy’r post o cyfathrebu â darpar gyflogeion – a oes mynediad hwylus i’r sianeli, a oes modd

monitro’r broses o ansawdd y broses a’r dogfennau o mae gwahanol brosesau’n briodol ar gyfer gwahanol rolau mewn sefydliad o cysylltu’r broses ag effeithlonrwydd a llwyddiant sefydliad.

Page 156: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

154

A3 Ystyriaethau moesegol a chyfreithiol yn y broses recriwtio • Ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy’n berthnasol i’r ddeddfwriaeth gyfatebol yng

Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. • Pam mae rhaid i brosesau recriwtio fod yn foesegol a chadw at ddeddfwriaeth cyfle

cyfartal. Ystyriaethau moesegol, i gynnwys: o bod yn onest mewn hysbyseb o cynnal cyfrinachedd o sicrhau bod yr un cwestiynau’n cael eu gofyn i’r holl ymgeiswyr mewn cyfweliad o defnyddio’r un meini prawf i werthuso’r holl ymgeiswyr o datgelu os yw teulu neu ffrindiau’n gweithio i’r un sefydliad.

• Dilyn deddfwriaeth cyfle cyfartal gyfredol yng nghyswllt rhywedd, oed, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, ac isafswm cyflog.

• Deddfwriaeth cyfle cyfartal gyfredol a’r effaith bosibl ar y broses recriwtio, gan gynnwys ymwybyddiaeth y gallai problemau godi os na lynir at y gyfraith gyfredol yn llawn yn y maes hwn.

• Deddfwriaeth gyfredol hawl i weithio, gwirio dogfennau.

Nod dysgu B: Cyflawni gweithgareddau recriwtio i arddangos y prosesau sy’n gallu arwain at gynnig swydd llwyddiannus mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

B1 Ceisiadau am swyddi

Dethol rôl swydd sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth, a pharatoi’r holl ddogfennau perthnasol sy’n ymwneud â recriwtio: • hysbyseb swydd, yn rhoi enghreifftiau addas o ble gellid ei lleoli • dadansoddiad swydd • disgrifiad swydd • manyleb person • ffurflen gais • CV personol • llythyr cais.

B2 Cymryd rhan mewn cyfweliadau a defnyddio dogfennau cyfweliad • Sgiliau cyfathrebu sy’n ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd cyfweliad:

o sgiliau gwrando a iaith y corff o dulliau gweithredu proffesiynol o iaith broffesiynol o sgiliau ac agweddau’r cyfwelydd a’r cyfwelai o chwarae rôl o gwisg o osgo a goslef wrth ofyn neu ateb cwestiynau cyfweliad.

• Agweddau allweddol ar rôl y cyfwelydd: o llunio a defnyddio cwestiynau cyfweliad o llunio a defnyddio ffurflenni’r cyfwelydd, e.e. ffurflen adborth o adolygu ceisiadau gan gyfweleion.

• Agweddau allweddol ar rôl y cyfwelai: o cyflwyno cais i’r cyfwelydd (cyfwelwyr) o paratoi nodiadau cyfweliad a chwestiynau i’w gofyn am rôl y swydd a/neu’r sefydliad

sy’n cyflogi.

Page 157: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

155

• Arddangos cymhwysedd cysylltiedig â gwaith (wrth gyfweld a chael cyfweliad) a dadansoddi llwyddiant y gweithgaredd, er enghraifft: o a ofynnwyd y cwestiynau cyfweld cywir i gyflawni’r canlyniad a ddymunir o a arweiniodd yr hysbyseb, y disgrifiad swydd a’r fanyleb person at gwblhau’r

ffurflen gais a’r llythyr cefnogi â’r lefel gywir o wybodaeth o cydymffurfio â deddfwriaeth cyfle cyfartal.

• Gwerthuso’r dogfennau a gynhyrchwyd ar gyfer y broses i ganfod a oeddent: o yn cefnogi proses deg i’r holl bartïon dan sylw o wedi’u paratoi mewn modd oedd yn caniatáu dethol yr ymgeisydd mwyaf addas o yn helpu’r cyfwelai i baratoi’n effeithiol ar gyfer y cyfweliad o yn galluogi ymgeiswyr i arddangos eu sgiliau’n effeithiol, yn arbennig, a oedd

dogfennau proses y cyfweliad a chwestiynau’r cyfweliad yn effeithiol yn hyn o beth

o angen eu gwella o gwbl.

Nod dysgu C: Myfyrio ar eich perfformiad eich hun yn y broses recriwtio a dethol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

C1 Adolygu perfformiad personol • Arfarniad unigol o’ch rolau eich hun wrth gael eich cyfweld a rhoi cyfweliad. • Adolygu sgiliau cyfathrebu. • Gwerthuso eich perfformiad eich hun a sut roedd y dogfennau a baratowyd yn cefnogi

gweithgareddau’r cyfweliad. • Casglu adborth diduedd ar weithgareddau’r cyfweliad.

C2 Defnyddio adborth a chynllunio gweithredu • Dadansoddiad o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd, bygythiadau (SWOT) ar berfformiad

unigol yn y gweithgareddau chwarae rôl. • Nodi meysydd lle cafwyd adborth cadarnhaol ac adeiladol. • Amlygu meysydd ar gyfer gwelliant. • Myfyrio ar eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun mewn cyd-destun teithio

a thwristiaeth. • Creu cynllun gweithredu ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol. • Pennu nodau CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol,

Synhwyrol) a meini prawf llwyddiant ar gyfer datblygiad a gwaith.

Page 158: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

156

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Edrych ar sut gall recriwtio a dethol effeithiol gyfrannu at lwyddiant sefydliad yn y diwydiant teithio a thwristiaeth

A.Rh1 Gwerthuso sut mae’r broses recriwtio a dethol a ddefnyddir mewn sefydliad teithio a thwristiaeth yn cyfrannu at ei lwyddiant.

A.Ll1 Esbonio sut mae sefydliad teithio a thwristiaeth yn recriwtio ac yn dethol staff, gan roi rhesymau am eu proses.

A.Ll2 Esbonio sut mae sefydliad teithio a thwristiaeth yn dilyn proses recriwtio sy’n foesegol ac yn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth gyfredol.

A.T1 Dadansoddi pwysigrwydd y broses recriwtio a dethol a ddefnyddir mewn sefydliad teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu B: Cyflawni gweithgareddau recriwtio i arddangos y prosesau sy’n gallu arwain at gynnig swydd llwyddiannus mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

B.Rh2 Arddangos sgiliau’n fedrus, gan ddefnyddio eich menter yn ôl eich rôl eich hun a dewis technegau priodol i ymateb a holi mewn cyfweliadau recriwtio, gan gynhyrchu dogfennau perthnasol i’r cyfwelydd a’r cyfwelai.

C.Rh3 Adolygu canlyniadau’r dadansoddiad SWOT o’r gweithgareddau recriwtio, gan ystyried eich perfformiad eich hun, a chyfiawnhau cyfres o argymhellion i ddatblygu gyrfa mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

B.Ll3 Cynhyrchu dogfennau cyfwelydd a chyfwelai i’w defnyddio wrth recriwtio a dethol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

B.Ll4 Arddangos sgiliau, agweddau ac ymddygiad priodol sy’n ofynnol ar gyfer rôl swydd benodol yn y cyfweliadau dethol, fel cyfwelydd a chyfwelai.

B.T2 Arddangos sgiliau, agweddau ac ymddygiad yn fedrus er mwyn ymateb a holi mewn cyfweliadau recriwtio, gan gynhyrchu dogfennau perthnasol i’r cyfwelydd a’r cyfwelai.

Nod dysgu C: Myfyrio ar eich perfformiad eich hun yn y broses recriwtio a dethol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

C.Ll5 Cwblhau dadansoddiad SWOT o’ch perfformiad eich hun fel cyfwelydd a chyfwelai yn y gweithgareddau recriwtio.

C.Ll6 Cynhyrchu cynllun datblygu sgiliau personol ar gyfer gweithgareddau recriwtio yn y dyfodol mewn rôl sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

C.T3 Adolygu canlyniadau’r dadansoddiad SWOT o’r gweithgareddau recriwtio, gan ystyried eich perfformiad eich hun er mwyn llunio cynllun ar gyfer gwelliant.

Page 159: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

157

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o ddau aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nodau dysgu: B ac C (B.Ll3, B.Ll4, C.Ll5, C.Ll6, B.T2, C.T3, B.Rh2, C.Rh3)

Page 160: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

158

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Nid oes angen adnoddau arbennig ar gyfer yr uned hon.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

Mae angen i’r dysgwyr ymchwilio i sefydliad teithio a thwristiaeth mawr neu ganolig sy’n dilyn system recriwtio dryloyw, hygyrch. Efallai na fyddai’r broses recriwtio mewn sefydliadau llai yn galluogi’r dysgwyr i gyflawni’r gofynion asesu. Er mwyn sicrhau bod y deunydd mae arnynt ei angen ar gael, gallai’r dysgwyr ymchwilio i ambell sefydliad teithio a thwristiaeth cyn dewis un i’w astudio. Dylai’r athrawon sicrhau bod y sefydliad teithio a thwristiaeth a ddewiswyd gan y dysgwyr yn rhoi digon o gyfle i’w galluogi i gwblhau’r asesiadau’n llawn.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn defnyddio ystod eang o wybodaeth berthnasol i ystyried cryfderau a gwendidau y broses recriwtio a dethol yn y sefydliad, gan gynnwys ystyriaethau moesegol a chyfreithiol. Byddant yn ystyried yr effaith bosibl ar y sefydliad os bydd prinder staff neu os dewisir cyflogeion anaddas oherwydd proses recriwtio aneffeithiol. Bydd y dysgwyr yn cefnogi eu dyfarniad trwy ddefnyddio enghreifftiau penodol, dilys i ddangos y berthynas rhwng y broses recriwtio a’i chyfraniad at lwyddiant y sefydliad.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cyflwyno canlyniad archwiliad manwl a threfnus o’r wybodaeth i ddehongli rhyngberthnasoedd y broses recriwtio a ddefnyddiwyd yn y sefydliad teithio a thwristiaeth, gan gynnwys ystyriaethau moesegol a chyfreithiol, a’r ffactorau sy’n dangos arwyddocâd y broses i’r sefydliad.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn rhoi manylion ymarfer perthnasol wrth recriwtio a dethol staff yn y sefydliad teithio a thwristiaeth. Bydd y dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn deall tarddiad, swyddogaethau ac amcanion cydymffurfio moesegol a chyfreithiol yn y broses recriwtio, gan roi rhesymau priodol gan mwyaf ar gyfer pam mae’r broses yn cydymffurfio.

Nod dysgu B

Wrth gyflawni nod dysgu B, bydd y dysgwyr yn cyflawni rôl y cyfwelydd a’r cyfwelai ar gyfer rôl swydd sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth. Gall y rôl fod mewn sefydliad teithio a thwristiaeth neu mewn rôl sy’n gysylltiedig â’r diwydiant fel blogiwr neu awdur teithio. Bydd angen i’r aseswyr gwblhau datganiadau arsylwi/tystion, gan gofnodi cyfraniadau’r dysgwyr a chynnwys adborth y gall y dysgwyr ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu eu dadansoddiad SWOT.

Bydd y dysgwyr yn arddangos sgiliau cyfathrebu perthnasol, wrth gyfweld ac wrth gael eu cyfweld. Byddant hefyd yn cynhyrchu dogfennau addas ar gyfer eu cyfranogiad yn y ddwy rôl yn y gweithgareddau recriwtio a dethol.

Yn rôl y cyfwelydd, bydd y dysgwyr yn dylunio ac yn defnyddio cwestiynau cyfweliad sy’n amlwg yn gysylltiedig â rôl y swydd ac sy’n caniatáu asesu sgiliau a chymwyseddau. Byddant yn datblygu ac yn defnyddio system deg i fonitro atebion yn y cyfweliadau ac i ddethol yr ymgeisydd mwyaf priodol. Bydd y cyfwelwyr yn cynhyrchu tystiolaeth o’u defnydd o daflen gyfweld seiliedig ar gymhwysedd, disgrifiad swydd a manyleb person, neu ddogfennau tebyg.

Yn rôl y cyfwelai, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu nodiadau sy’n dangos tystiolaeth glir eu bod yn barod i gael cyfweliad am rôl y swydd, gan gynnwys eu CV personol a chwestiynau i’w gofyn i’r cyfwelydd (cyfwelwyr) ynghylch y swydd ac ynghylch agweddau eraill perthnasol o’r sefydliad sy’n recriwtio. Fel cyfwelai, byddant yn cyfranogi’n briodol yn y cyfweliad ac yn ateb cwestiynau perthnasol mewn modd sy’n caniatáu asesu sgiliau a chymwyseddau.

Page 161: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

159

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud dyfarniadau dilys ynghylch gwerth y dogfennau cynhwysfawr i’r cyfwelydd a’r cyfwelai a grewyd ganddynt i’w defnyddio yn eu gweithgareddau recriwtio a dethol. Byddant yn cysylltu eu barn â rôl dogfennau yng nghanlyniadau cyfweliadau ym mhob achos, ac yn natblygiad eu sgiliau cyfwelydd a chyfwelai. Wrth gyflawni’r gweithgareddau, bydd y dysgwyr yn gyson yn dethol sgiliau a thechnegau priodol sy’n addas ar gyfer sefyllfa’r cyfweliad, ac yn dangos eu bod wedi datblygu eu sgiliau i wella canlyniadau wrth gyflawni gweithgareddau’r cyfweliad. Er enghraifft, fel cyfwelydd a chyfwelai, byddant yn cyfathrebu’n broffesiynol gan ddefnyddio dulliau priodol ar gyfer eu cynulleidfa. Bydd y dysgwyr yn ymgysylltu’n weithredol ac yn effeithiol ag eraill yn sefyllfa’r cyfweliad. Byddant yn dangos menter, er enghraifft, trwy geisio dylanwadu ar gyfeiriad trafodaeth neu fynd ati’n weithredol i sicrhau eglurhad ar osodiadau a wnaed gan eraill.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dogfennau manwl, trylwyr i’w defnyddio yn rôl y cyfwelydd a rôl y cyfwelai. Wrth gyflawni rôl y cyfwelydd a’r cyfwelai, bydd y dysgwyr yn dethol ac yn defnyddio technegau a sgiliau priodol yn hyderus ac yn fedrus i gyflawni amcanion penodedig mewn gwahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, byddant yn dangos eu bod yn gallu dethol a defnyddio dulliau cyfathrebu priodol i fod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, megis rhyngweithio â chyfwelwyr neu gyfweleion.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dogfennau cymwys, realistig i’w defnyddio yn rôl y cyfwelydd a rôl y cyfwelai. Byddant yn cyflawni gweithgareddau’r cyfweliad yn llawn ac yn gywir, gan gynnwys creu dogfennau i’w defnyddio yn y gweithgareddau recriwtio a dethol yn rolau’r cyfwelydd a’r cyfwelai. Bydd y dysgwyr yn dethol technegau neu sgiliau priodol mewn sefyllfaoedd cyfweliad uniongyrchol, a ddiffiniwyd yn glir. Yn rolau’r cyfwelydd a’r cyfwelai, byddant yn cyfathrebu gan ddefnyddio lefel briodol o iaith. Byddant yn gwneud peth defnydd priodol o iaith alwedigaethol ac yn ymateb i gyfathrebu gan eraill.

Nod dysgu C

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn defnyddio ffynonellau perthnasol, amrywiol o wybodaeth i ddod i gasgliadau cadarn ynghylch canlyniad y broses recriwtio a dethol, a’u perfformiad eu hunain. Byddant wedi mynd ati i geisio adborth a chyfleoedd ar gyfer gwelliant personol. Bydd y dysgwyr yn ymateb yn effeithiol i adborth, gan arddangos dealltwriaeth ddilys o’r dadansoddiad SWOT o’u perfformiad. Byddant yn gwerthuso eu rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau a wneir yn eu gweithgareddau. Byddant yn dod â’r dysgu a’r profiadau a gafwyd ar draws y nodau dysgu ynghyd er mwyn gwneud argymhellion penodol, effeithiol ar gyfer datblygu eu sgiliau a symud eu gyrfa ymlaen yn y dyfodol. Bydd y dysgwyr yn arddangos dealltwriaeth wrth gynllunio eu datblygiad personol a phroffesiynol, gan roi cyfiawnhad rhesymegol am y cynllun a gynhyrchwyd.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu archwiliad manwl neu eang o ganlyniad y broses recriwtio a dethol. Byddant wedi myfyrio’n weithredol ar dystiolaeth ynghylch eu perfformiad, gan ddefnyddio adborth gan eraill a dangos ystyriaeth drefnus o ganlyniadau’r dadansoddiad SWOT o’u perfformiad. Bydd eu hadolygiad wedi’i seilio ar wybodaeth a gofnodwyd yn effeithlon o ystod eang o ffynonellau neu o ffynonellau arbennig o berthnasol. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth a gafwyd ar draws eu dysgu i gynhyrchu cynllun manwl, realistig ar gyfer datblygu eu sgiliau yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn dangos bod y dysgwyr yn gallu dethol atebion perthnasol ynghylch sut gall gweithgareddau recriwtio gefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad SWOT trwy wneud gwaith ymchwil trwy ddefnyddio dulliau chwilio a dadansoddi priodol. Byddant yn dangos dealltwriaeth gymwys o bob agwedd allweddol ar y broses recriwtio a dethol, a dyfarniad realistig ynghylch eu perfformiad eu hunain. Bydd y dysgwyr wedi cadw cofnodion o’u gweithgareddau, yn dangos sut bu iddyn nhw gynllunio cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a chasglu adborth ar eu perfformiad gan eraill. Bydd y dysgwyr yn cymhwyso’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth a gafwyd ar draws eu dysgu i archwilio sut gall gweithgareddau recriwtio gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd y cynllun datblygu sgiliau yn dangos gafael gyffredinol gywir ar y meysydd sydd i’w datblygu a’r camau sy’n angenrheidiol i gyflawni datblygiad personol a phroffesiynol.

Page 162: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 15: RECRIWTIO A DETHOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

160

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol: • Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 4: Rheoli Profiad y Cwsmer ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 5: Mentrau Teithio a Thwristiaeth • Uned 17: Rheoli Gwasanaethau Llety.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf: • siaradwyr gwadd, gan gynnwys dysgwyr blaenorol sydd wedi llwyddo i sicrhau cyflogaeth • profiad gwaith yn y diwydiant teithio a thwristiaeth • cyfranogiad mewn asesiad cynulleidfa o gyflwyniadau • dylunio/syniadau i’w cyfrannu ar gyfer aseiniadau unedau/astudiaethau achos/

deunyddiau prosiect • deunyddiau enghreifftiol • cefnogaeth fentora gan staff teithio a thwristiaeth lleol.

Page 163: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

161

Uned 16: Ymchwilio i Dueddiadau Teithio a Materion Allweddol Cyfredol ym Maes Teithio a Thwristiaeth

Lefel: 3

Math o uned: Mewnol Oriau dysgu dan arweiniad: 120

Crynodeb o’r uned

Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i dueddiadau teithio a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth. Byddan nhw’n datblygu sgiliau ymchwil fel rhan o gynnig ymchwil i ystyried tueddiad teithio a mater allweddol cyfredol.

Cyflwyniad i’r uned

Mae teithio a thwristiaeth yn ddiwydiant deinamig sy’n agored i ddylanwadau a phwysau allanol. Er mwyn parhau’n ddichonadwy, mae’n rhaid i’r diwydiant ragweld ffactorau a galwadau newidiol a hefyd addasu ac ymateb i’r newidiadau hynny.

Yn yr uned hon, byddwch chi’n defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gawsoch ar eich cwrs i ymchwilio i dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol, gan werthuso eu heffeithiau ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r dulliau a ddefnyddir i goladu gwybodaeth a’i defnyddio i gynllunio a diffinio cwmpas cynnig ymchwil ar ôl adolygu addasrwydd un duedd teithio ac un mater allweddol a ddewiswyd. Byddwch yn dadansoddi ac yn cyflwyno eich canfyddiadau. Yn olaf, byddwch yn myfyrio ar effeithiolrwydd y prosiect ymchwil.

Bydd y sgiliau ymchwil a ddatblygir yn yr uned hon yn eich cefnogi i symud ymlaen i amrywiaeth eang o gyrsiau addysg uwch, megis gradd mewn rheoli twristiaeth, hamdden, trafnidiaeth, lletygarwch neu astudiaethau busnes. Bydd yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth y byddwch yn eu datblygu yn yr uned hon yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodau dysgu

Yn yr uned hon, byddwch chi’n:

A Ymchwilio i wahanol fathau o dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

B Archwilio dulliau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ynghylch tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

C Datblygu cynnig ymchwil a gwneud y gwaith ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

D Edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

E Adolygu effeithiolrwydd y cynnig ymchwil o ran cyflawni ei nodau a’i dargedau.

Page 164: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

162

Crynodeb o’r uned

Nod dysgu Meysydd cynnwys allweddol

Dull asesu a argymhellir

A Ymchwilio i wahanol fathau o dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

A1 Mathau o dueddiadau teithio cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

A2 Mathau o faterion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

A3 Effeithiau posibl tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Erthygl ar gyfer cyfnodolyn teithio sy’n dangos ymchwiliad i ddau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fater allweddol cyfredol, gan roi gwerthusiad o’u heffeithiau posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

B Archwilio dulliau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ynghylch tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

B1 Dulliau ymchwil B2 Argaeledd a dilysrwydd

gwybodaeth ymchwil ynghylch tuedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol

Cynnig ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol, gyda nodau i ymchwilio iddynt, sy’n cynnwys: • y mathau o fethodoleg

ymchwil i’w defnyddio, gan ystyried terfynau amser a pharamedrau a’u cyfiawnhau mewn cynllun ymchwil unigol, annibynnol

• argymhellion wedi’u cyfiawnhau ar gyfer y dulliau ymchwil mwyaf effeithiol i ymchwilio i’r tueddiadau teithio a’r materion cyfredol.

C Datblygu cynnig ymchwil a gwneud y gwaith ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

C1 Datblygu cynnig ymchwil sy’n cynnwys cynllun

C2 Gwneud gwaith ymchwil annibynnol a dilyn y cynnig ymchwil

D Edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

D1 Dehongli canfyddiadau ymchwil

D2 Cyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn fformat priodol

D3 Cynnwys cyfeiriadau mewn gwaith a chyflwyno llyfryddiaeth

Adroddiad neu gyflwyniad, mewn fformat priodol, sy’n dangos dadansoddiad o duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol a ddewiswyd sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Erthygl yn dangos gwerthusiad o effeithiolrwydd y cynnig ymchwil. E Adolygu effeithiolrwydd

y cynnig ymchwil o ran cyflawni ei nodau a’i dargedau

E1 Gwerthuso effeithiolrwydd y cynnig ymchwil

E2 Argymell dulliau gweithredu i’w mabwysiadu mewn cynigion ymchwil yn y dyfodol

Page 165: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

163

Cynnwys

Nod dysgu A: Ymchwilio i wahanol fathau o dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

A1 Mathau o dueddiadau teithio cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

Gall tueddiadau teithio newid, ac yn aml maent yn adlewyrchu newid yn chwaeth, disgwyliadau, dyheadau ac amgylchiadau cwsmeriaid a’u ffordd o fyw. Gall ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a thechnolegol hefyd ddylanwadu ar dueddiadau. • Diffiniad o duedd: y cyfeiriad mae rhywbeth yn datblygu neu’n newid iddo;

gwelir tueddiadau’n bennaf fel datblygiadau sy’n creu cyfleoedd. • Graddfa a chwmpas dylanwad:

o sectorau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth o cyrchfannau twristiaeth o sefydliadau teithio a thwristiaeth.

• Mathau o dueddiadau teithio cyfredol, gan gynnwys y meysydd twf canlynol: o cyrchfannau newydd ar ffiniau Ewrop o cyrchfannau amgen o gwyliau pecyn/hollgynhwysol o moethusrwydd a chyfle i ddianc o taith bell cost isel o twristiaeth antur a diwylliant o mordeithiau afon o twristiaeth ddomestig y Deyrnas Unedig o adfywio cyrchfannau dwyrain Môr y Canoldir o mwy o deithwyr unigol o twristiaeth gyfrifol yn symud i mewn i’r brif ffrwd o iechyd actif o cynnydd yn yr economi rhannu/twristiaeth anffurfiol – gwasanaethau twristiaeth

a gynigir ymhlith cymheiriaid (rhwng cymheiriaid, P2P) trwy blatfformau rhannu.

A2 Mathau o faterion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

Mae’r gwahanol fathau o faterion allweddol sy’n dylanwadu ar y diwydiant teithio a thwristiaeth yn tueddu i syrthio i un neu fwy o’r meysydd canlynol: gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, technolegol. • Diffiniad o fater: problem barhaus y mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn ei hwynebu;

gwelir materion yn bennaf fel pethau sy’n achosi problemau. • Graddfa’r mater: rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang. • Cwmpas dylanwad: sectorau yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, cyrchfannau twristiaid,

sefydliadau, cwsmeriaid. • Mathau o faterion:

o bygythiadau brawychiaeth, diogeledd, diogelwch, annhrefn sifil o rhwystrau i deithio, e.e. cyfyngiadau mynediad, fisâu, pasbortau, ffïoedd, oedi o deddfwriaeth a rheoliadau o methiant busnesau o hawliadau salwch gwyliau ffug o seiberddiogelwch o amrywiad yng nghyfraddau cyfnewid arian o amrywiad ym mhris olew/tanwydd o newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol o effaith globaleiddio ar ddatblygiad twristiaeth o cynnal datblygiad cynaliadwy cyrchfan twristiaeth

Page 166: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

164

o ystyriaethau moesegol ac ecsbloetio o allyriadau carbon byd-eang a/neu ddifrod amgylcheddol a achosir gan deithio o technoleg symudol.

A3 Effeithiau posibl tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Gall effeithiau posibl materion cyfredol ar y diwydiant teithio a thwristiaeth amrywio o ran perthnasedd, natur a chwmpas.

• Newidiadau i niferoedd cwsmeriaid neu eu math, cwsmeriaid eildro. • Newidiadau i incwm a gwerthiant. • Gweithdrefnau ychwanegol neu lai wrth weithredu, e.e. costau ychwanegol neu arbedion. • Datblygu marchnadoedd, cyrchfannau, cynnyrch, gwasanaethau, gweithdrefnau neu

sefydliadau newydd. • Newidiadau neu addasiadau i gynnyrch, gweithdrefnau a gwasanaethau presennol. • Newidiadau i sianeli dosbarthu; cyfryngau marchnata a gwerthiant. • Sylw yn y cyfryngau a’r effaith bosibl ar ddelwedd ac enw da. • Effeithiau strategol a gweithrediadol. • Effeithiau tymor byr a hirdymor.

Nod dysgu B: Archwilio dulliau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ynghylch tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

Cyn gwneud unrhyw waith ymchwil, dylid ystyried yn ofalus addasrwydd gwahanol ddulliau ymchwil ac argaeledd, dilysrwydd a hygyrchedd gwahanol ffynonellau o wybodaeth ymchwil.

B1 Dulliau ymchwil • Ymchwil sylfaenol:

o arolygon – ar-lein, wyneb yn wyneb, drwy’r post o cyfweliadau – dros y ffôn o arsylwadau o grwpiau ffocws o treialon.

• Ymchwil eilaidd (wrth y ddesg): o mewnol, e.e. data sydd eisoes yn bodoli o gronfa ddata cwsmeriaid/gofnodion

gwerthu/ymchwil marchnad flaenorol o allanol, e.e. adroddiadau a gyhoeddwyd, erthyglau papur newydd/cyfnodolion

masnach, data’r llywodraeth ynghylch ystadegau poblogaeth a gwariant cwsmeriaid, adborth cyfryngau cymdeithasol.

B2 Argaeledd a dilysrwydd gwybodaeth ymchwil ynghylch tuedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol

• Pwysigrwydd dilysrwydd, dibynadwyedd, priodoldeb. • Data meintiol ac ansoddol, dulliau casglu, pwrpas casglu, pryd a ble defnyddir y data yma. • Digonoldeb a ffocws yr ymchwil, nodi ffynonellau gwybodaeth eraill a allai fod yn ofynnol. • Pwysigrwydd crynhoi gwybodaeth, gan nodi’r manylion a chofnodi ffynonellau ymchwil i’w

defnyddio wrth lunio cyfeiriadau ar gyfer yr adroddiad neu’r cyflwyniad terfynol.

Page 167: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

165

Nod dysgu C: Datblygu cynnig ymchwil a gwneud y gwaith ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

Ar ôl nodi dulliau a ffynonellau ymchwil, mae modd cynhyrchu cynnig ymchwil i amlinellu manylion y duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol yr ymchwilir iddynt a sut bydd yr ymchwil yn digwydd.

Mae cynnig ymchwil yn cynnwys cynllun y mae angen ei lunio er mwyn pennu targedau, monitro cynnydd a helpu i sicrhau bod nodau’r prosiect ymchwil yn cael eu cyflawni.

Dylai’r cynllun gael ei ddilyn, ei ddiweddaru a’i adolygu er mwyn helpu i sicrhau bod nodau’r cynnig ymchwil yn cael eu cyflawni.

C1 Datblygu cynnig ymchwil sy’n cynnwys cynllun • Cynhyrchu cynnig ymchwil:

o dethol tuedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol addas i ymchwilio iddyn nhw o sicrhau bydd yr wybodaeth sy’n ofynnol ar gael ac yn hygyrch o wahanol ffynonellau o pennu paramedrau ar gyfer ymchwil i’r duedd teithio gyfredol a’r mater cyfredol –

nodi’r cwmpas, yr ehangder, y dyfnder, yr ystod a’r terfynau o sefydlu prif ffocws y prosiect – nodi tri/pedwar nod ymchwil allweddol fel bod

modd dadansoddi’r duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol yn fanwl o pennu prif nodau ac amcanion penodol – gan gynnwys amserlenni a phwrpas

yr ymchwil o dyfeisio cynllun

– nodi dulliau ymchwil priodol, gan gynnwys meintiol ac ansoddol, yn ogystal â ffynonellau sylfaenol ac eilaidd yr wybodaeth ymchwil sydd i’w defnyddio

– cofnodi data, gwybodaeth, ffynonellau ymchwil, dyddiadau a phwrpas – ystyried amserlenni – cyfyngiadau amser, terfynau amser interim a therfynol,

canlyniadau disgwyliedig ar adegau penodedig, gan ddefnyddio targedau CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).

– cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl – cynllunio ar gyfer anawsterau/oedi/ rhwystrau posibl, eu rhagweld a’u goresgyn.

• Cymeradwyo’r cynnig ymchwil.

C2 Gwneud gwaith ymchwil annibynnol a dilyn y cynnig ymchwil • Dilyn y cynnig ymchwil, gan gynnwys cynllun yr ymchwil. • Diweddaru a newid y cynllun yn ôl y galw yn ystod y broses, gan fonitro ac adolygu’r

ymchwil a’r cynnydd, adolygu gan aseswyr. • Dethol a chasglu data, ymchwilio i wybodaeth, adolygu ffynonellau ymchwil o ran

perthnasedd, dilysrwydd a dibynadwyedd.

Nod dysgu D: Edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

D1 Dehongli canfyddiadau ymchwil

Caiff canfyddiadau’r ymchwil eu coladu, eu dehongli a’u cyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys: • Sut mae’r duedd teithio a’r mater allweddol cyfredol yr ymchwiliwyd iddynt yn effeithio

ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. • Defnyddio data i gefnogi canfyddiadau’r ymchwil, e.e. ystadegau, graffiau, tablau, siartiau. • Diweddglo yn nodi’r prif gasgliadau mae modd dod iddynt trwy ddadansoddi canfyddiadau’r

ymchwil, gydag argymhellion.

D2 Cyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn fformat priodol

Dylid cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil mewn fformat priodol sydd wedi’i strwythuro’n glir fel a ganlyn: • Wynebddalen: teitl, enw, dyddiad cyflwyno. • Crynodeb/crynodeb gweithredol: trosolwg o’r mater cyfredol, y fethodoleg ymchwil

a ddefnyddiwyd, canfyddiadau ac argymhellion.

Page 168: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

166

• Tabl o’r cynnwys: rhestr o’r adrannau wedi’u rhifo a rhifau’r tudalennau. • Cyflwyniad: amlinelliad o strwythur y ddogfen. • Corff y gwaith: penawdau ac is-benawdau sy’n adlewyrchu cynnwys pob adran,

gwybodaeth am y dull o gasglu data a dadansoddiad o’r canfyddiadau yng ngoleuni’r mater cyfredol, dehongli’r data, e.e. ystadegau, graffiau, tablau, siartiau i gefnogi’r prif ddadansoddiad ymchwil.

• Diweddglo: datgan y prif gasgliadau mae modd dod iddynt trwy ddadansoddi canfyddiadau’r ymchwil, gan gyflwyno argymhellion.

• Llyfryddiaeth, rhestr cyfeiriadau, dyfyniadau yn y testun, systemau cyfeiriadol, e.e. System Gyfeiriadol Harvard.

• Atodiad: gwybodaeth sy’n cefnogi’r dadansoddiad, ond nad yw’n hanfodol er mwyn ei esbonio.

D3 Cynnwys cyfeiriadau mewn gwaith a chyflwyno llyfryddiaeth • Cyfeiriadau safonol gan ddefnyddio System Gyfeiriadol Harvard. • Llyfryddiaeth a rhestr cyfeiriadau:

o rhestr fanwl o gyfeiriadau a ffynonellau o y gwahaniaeth rhwng dyfyniadau yn y testun a rhestr cyfeiriadau o cyfeirio at ffynonellau eilaidd o cyfeirio at wahanol fathau o wybodaeth, e.e. llyfrau, adroddiadau, data sylfaenol,

gwefannau, amlgyfrwng.

Nod dysgu E: Adolygu effeithiolrwydd y cynnig ymchwil o ran cyflawni ei nodau a’i dargedau

Wrth gwblhau a chyflwyno’r canfyddiadau, mae’n ddefnyddiol myfyrio ar lwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y cynnig ymchwil. Mae hyn yn golygu gwerthuso’r broses gyfan, y dulliau a ddefnyddiwyd a’r canlyniadau gwirioneddol a’r rhai a ragwelwyd. Mae modd defnyddio asesiad o effeithiolrwydd y prosiect ymchwil i lywio argymhellion a gyfiawnhawyd ar gyfer gwelliannau i brosiectau yn y dyfodol.

E1 Gwerthuso effeithiolrwydd y cynnig ymchwil • Dethol materion cyfredol, rhesymeg a pharamedrau a’u priodoldeb. • Dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd. • Hygyrchedd, dibynadwyedd, dilysrwydd, defnyddioldeb gwybodaeth ymchwil. • Cadw at y cynnig: terfynau amser a thargedau CAMPUS. • Amrywiadau i’r cynnig a rhoi mesurau wrth gefn ar waith. • Dehongli a dadansoddi’r canfyddiadau. • Cyflwyno’r canfyddiadau.

E2 Argymell dulliau gweithredu i’w mabwysiadu mewn cynigion ymchwil yn y dyfodol • Meysydd allweddol ar gyfer gwella ymchwil. • Gwersi a ddysgwyd – beth weithiodd yn effeithiol a beth na wnaeth.

Page 169: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

167

Meini prawf asesu

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu A: Ymchwilio i wahanol fathau o dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

A.Rh1 Gwerthuso effeithiau posibl dau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fater allweddol cyfredol ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A.Ll1 Esbonio dau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a allai effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A.Ll2 Esbonio dau fath gwahanol o fater allweddol cyfredol a allai effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

A.T1 Asesu effeithiau posibl dau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fater allweddol cyfredol ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu B: Archwilio dulliau ymchwil a ffynonellau gwybodaeth ynghylch tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol sy’n effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth

BC.Rh2 Cyfiawnhau argymhellion o ran y dulliau ymchwil a’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf priodol ar gyfer gwaith ymchwil i duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol.

B.Ll3 Cymharu’r dulliau ymchwil y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwilio i dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth.

B.T2 Asesu pwysigrwydd cael mynediad at wahanol ffynonellau gwybodaeth ar gyfer gwaith ymchwil i dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth.

Nod dysgu C: Datblygu cynnig ymchwil a gwneud y gwaith ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

C.Ll4 Cynhyrchu cynnig ymchwil sy’n cynnwys cynllun a luniwyd i gofnodi’r gwaith ymchwil a wnaed a monitro cynnydd.

C.Ll5 Esbonio cwmpas a nodau’r ymchwil, gan gynnwys y duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol i’w hymchwilio a’r paramedrau a bennwyd.

C.T3 Asesu’r cynnig ymchwil, gan gynnwys dewis o duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol.

Page 170: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

168

Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

Nod dysgu D: Edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil ar duedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol ym maes teithio a thwristiaeth

DE.Rh3 Gwerthuso effeithiolrwydd pob agwedd ar y cynnig ymchwil, gan gynnwys ei nodau.

D.Ll6 Cynhyrchu gwaith ymchwil sy’n esbonio effeithiau tuedd teithio gyfredol a ddewiswyd a mater allweddol cyfredol a ddewiswyd ar y diwydiant teithio a thwristiaeth.

D.Ll7 Cyflwyno ffynonellau ymchwil mewn llyfryddiaeth a rhestr cyfeiriadau, gan gyfeirio at y ffynonellau a ddefnyddiwyd ar hyd corff canfyddiadau’r ymchwil.

D.T4 Dadansoddi effeithiau’r duedd teithio a’r mater allweddol cyfredol a ddewiswyd ar y diwydiant teithio a thwristiaeth a chyflwyno’r dadansoddiad mewn fformat priodol.

Nod dysgu E: Adolygu effeithiolrwydd y cynnig ymchwil o ran cyflawni ei nodau a’i dargedau

E.Ll8 Esbonio’r dulliau a ddefnyddiwyd i gyflawni’r gwaith ymchwil, gan nodi cryfderau a gwendidau.

E.T5 Asesu’r ffynonellau ymchwil a ddefnyddiwyd i gasglu data a gwybodaeth mewn perthynas â nodau’r cynnig ymchwil.

Page 171: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

169

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer aseiniadau

Dangosir y strwythur asesu a argymhellir yn y crynodeb o’r uned, ynghyd â mathau addas o dystiolaeth. Mae Adran 6 yn cynnwys gwybodaeth am osod aseiniadau ac mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd uchafswm o dri aseiniad crynodol ar gyfer yr uned hon. Dyma’r berthynas rhwng y nodau dysgu a’r meini prawf:

Nod dysgu: A (A.Ll1, A.Ll2, A.T1, A.Rh1)

Nodau dysgu: B ac C (B.Ll3, B.T2, C.Ll4, C.Ll5, C.T3, BC.Rh2)

Nodau dysgu: D ac E (D.Ll6, D.Ll7, E.Ll8, D.T4, E.T5, DE.Rh3)

Page 172: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

170

Gwybodaeth bellach i athrawon ac aseswyr

Gofynion o ran adnoddau

Ar gyfer yr uned hon, mae’n rhaid bod gan y dysgwyr fynediad at y canlynol: • gwybodaeth am ystod o wahanol fathau o dueddiadau teithio a materion allweddol,

gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol ar hyn o bryd a’r rhai a all fod wedi effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth yn y gorffennol

• astudiaethau achos sy’n cynnwys ystod o fanylion megis y maes dylanwad o ran graddfa ac effaith bosibl ar sefydliadau teithio a thwristiaeth, cyrchfannau a sectorau yn y diwydiant

• cyhoeddiadau, adroddiadau, erthyglau ac adnoddau diweddar sy’n rhoi manylion ynghylch tueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer penderfyniadau asesu

Nod dysgu A

Y diffiniad o ‘cyfredol’ yw ‘o fewn y pum mlynedd diwethaf’. Ar gyfer y nod dysgu hwn, mae’n rhaid i’r dysgwyr ymchwilio i ddau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fath gwahanol o fater allweddol cyfredol. Mae’n rhaid i’r ddau fath gwahanol o duedd teithio a mater allweddol yr ymchwilir iddynt gael eu dethol o’r meysydd gwahanol a nodir yng nghynnwys yr uned. Rhaid i un o’r tueddiadau teithio cyfredol ac un o’r materion allweddol cyfredol a ddewisir ddarparu’r cyfleoedd helaeth sy’n angenrheidiol o ran ymchwil sylfaenol ac eilaidd ar gyfer asesiad y cynnig ymchwil, a bod ag effeithiau posibl ar raddfa genedlaethol neu ryngwladol.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr sy’n darbwyllo, gan roi sylw i ddau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fath gwahanol o fater allweddol cyfredol a’u heffeithiau posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddant yn gyson yn dangos dealltwriaeth gywir o’r berthynas a’r cysylltiadau rhwng ffactorau allweddol. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal ac yn canolbwyntio’n glir ar effeithiau penodol pob un o’r tueddiadau teithio cyfredol a’r materion allweddol cyfredol a ddewiswyd, heb elfennau amherthnasol.

Bydd y gwerthusiad yn cynnwys enghreifftiau sy’n gyson ddilys ac yn berthnasol i’r diwydiant teithio a thwristiaeth neu elfennau ohono. Bydd gwerthuso cwmpas dylanwad a graddfa’r ddwy duedd teithio a’r ddau fater allweddol yn cael ei gynnwys. Bydd y dysgwyr yn ystyried yr effeithiau posibl ar wahanol raddfeydd, gan gynnwys yn rhyngwladol.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu asesiad cytbwys a threfnus o effeithiau posibl dau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fath gwahanol o fater allweddol cyfredol a’u heffeithiau posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd y materion hyn yn dod o’r meysydd a nodwyd yng nghynnwys yr uned. Bydd y dysgwyr yn defnyddio eu dealltwriaeth o effeithiau posibl tueddiadau teithio a materion allweddol cyfredol i wneud dyfarniadau o ran graddfa, hirhoedledd a dylanwad yng nghyswllt datblygiad y diwydiant. Bydd dyfarniadau’r dysgwyr yn cael eu cefnogi gan enghreifftiau clir, perthnasol o effeithiau posibl ar y diwydiant.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad cymwys, realistig ar gyfer dau fath gwahanol o duedd teithio gyfredol a dau fater allweddol cyfredol a allai effeithio ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd yr esboniadau’n gyffredinol gywir, ond gallent fod yn anghytbwys a chanolbwyntio’n fwy ar yr effaith bosibl ar gwsmeriaid yn hytrach na’r diwydiant. Bydd y dysgwyr yn gwneud rhai cyfeiriadau perthnasol neu gyffredinol at enghreifftiau sy’n cefnogi eu barn ar y tueddiadau a’r materion cyfredol.

Page 173: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

171

Nodau dysgu B ac C

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cynnig ymchwil ar gyfer un duedd teithio gyfredol ac un mater allweddol cyfredol. Bydd y duedd a’r mater a ddewiswyd yn cynnig cyfle i wneud gwaith ymchwil sylfaenol ac eilaidd. Bydd y cynnig yn cynnwys nodau a chynllun ymchwil manwl fel y nodwyd yng nghynnwys yr uned.

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn gwneud defnydd dethol a chywir o wybodaeth amrywiol i gyflwyno argymhellion dilys, cynhwysfawr ynghylch y dulliau ymchwil mwyaf priodol ar gyfer y duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol. Bydd eu hargymhellion yn cael eu cyfiawnhau’n llawn a’u cefnogi â thystiolaeth berthnasol ategol.

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu archwiliad manwl o bwysigrwydd cyrchu ffynonellau cyferbyniol o wybodaeth ymchwil. Byddant yn gwneud dyfarniadau rhesymedig fydd yn cynnwys cymharu neu drafod amrywiol ffynonellau gwybodaeth.

Bydd y dysgwyr yn asesu eu cynnig ymchwil yn drefnus. Byddant yn rhoi asesiad cytbwys, rhesymedig o’u dewis o duedd teithio a mater allweddol cyfredol i ymchwilio iddynt, a’r dulliau ymchwil a ddewiswyd. Bydd y dysgwyr yn ystyried i ba raddau y cyflawnodd eu cynnig ei nodau ac yn esbonio sut cofnodwyd cynnydd a diweddariadau.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cymharu’r dulliau ymchwil y gellir eu defnyddio i ymchwilio i dueddiadau teithio cyfredol a materion allweddol cyfredol. Byddant yn dangos dealltwriaeth cyffredinol gywir o ddulliau ymchwil ac yn ystyried eu manteision a’u hanfanteision posibl.

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu cynnig ymchwil sy’n cynnwys cynllun ymchwil ar gyfer cofnodi eu gwaith ymchwil, monitro cynnydd a therfynau amser a chofnodi amrywiadau i’r cynllun. Bydd tystiolaeth bod y dysgwyr yn bwriadu cyflawni gwaith ymchwil sylfaenol ac eilaidd. Bydd y dysgwyr yn llunio cynllun addas, realistig sy’n cynnwys targedau CAMPUS. Byddan nhw’n cynhyrchu esboniad realistig gan mwyaf am gwmpas a nodau’r ymchwil, ac yn disgrifio’r duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol yr ymchwilir iddynt.

Nodau dysgu D ac E

I gyrraedd safon rhagoriaeth, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr sy’n darbwyllo o ganfyddiadau’r ymchwil i un duedd ac un mater allweddol cyfredol, a’u heffaith bosibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Cyflwynir y gwerthusiad mewn fformat priodol, gyda chyfeiriadau cywir, gan ddefnyddio systemau priodol a dyfyniadau yn y testun. Bydd y dystiolaeth yn cynnwys cyfeiriadau cywir i ddangos ffynonellau’r ymchwil a gyrchwyd. Bydd tystiolaeth i ddangos bod gwahanol fathau o ymchwil wedi cael eu defnyddio, gan gynnwys ymchwil sylfaenol ac eilaidd. Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio’n glir ar effaith benodol y mater cyfredol a ddewiswyd, heb unrhyw elfennau amherthnasol.

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr sy’n darbwyllo o effeithiolrwydd pob agwedd ar y cynnig ymchwil, gan gynnwys ei nodau. Bydd y gwerthusiad yn wrthrychol, gyda ffocws clir ar bob cyfnod, o’r cynllun ymchwil cychwynnol, y cynnig ymchwil a chwblhau a diweddaru’r cynllun ymchwil, i ddilysrwydd a dibynadwyedd y dulliau ymchwil a’r berthynas rhwng canlyniadau disgwyliedig a gwirioneddol y prosiect. Bydd y dysgwyr yn cyfeirio at yr heriau a wynebwyd a sut cawsant eu goresgyn. Byddan nhw’n mynegi eu barn yn glir ac yn gwneud dyfarniadau dilys, rhesymedig.

Page 174: Unedau - qualifications.pearson.com

UNED 16: YMCHWILIO I DUEDDIADAU TEITHIO A MATERION ALLWEDDOL CYFREDOL YM MAES TEITHIO A THWRISTIAETH

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 Cenedlaethol mewn Teithio a Thwristiaeth – Unedau – Argraffiad 2 – Rhagfyr 2020 © Pearson Education Limited 2020

172

I gyrraedd safon teilyngdod, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad clir, manwl o un duedd teithio gyfredol ac un mater allweddol cyfredol, a’u heffeithiau posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddan nhw’n dethol tuedd teithio gyfredol a mater allweddol cyfredol sy’n rhoi cyfle i ddadansoddi’n fanwl. Bydd y dadansoddiad yn rhoi sylw i effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Gellir ystyried effeithiau gwirioneddol a rhai posibl. Bydd tystiolaeth i ddangos bod gwahanol fathau o ymchwil wedi cael eu defnyddio, gan gynnwys ymchwil sylfaenol ac eilaidd gyda chyfeiriadau cywir gan mwyaf, sy’n defnyddio systemau priodol ac yn cynnwys dyfyniadau yn y testun. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu dadansoddiad gwrthrychol, beirniadol, a gefnogir gan gyfeiriadau at dystiolaeth briodol o ran manylion penodol ac enghreifftiau o effeithiau posibl ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Byddan nhw’n arddangos dealltwriaeth o ganlyniadau posibl y duedd teithio gyfredol a’r mater allweddol cyfredol, yn ogystal â’r berthynas rhwng gwahanol agweddau ar y diwydiant.

Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu asesiad cytbwys, rhesymedig o’r ffynonellau ymchwil a ddefnyddiwyd i gasglu data a gwybodaeth ymchwil. Cyflwynir y dystiolaeth mewn fformat priodol, gyda defnydd cymwys o eitemau ategol megis siartiau a graffiau sy’n adlewyrchu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae cyflwyno a dehongli data.

I gyrraedd safon llwyddo, bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad priodol, realistig am effeithiau un duedd teithio gyfredol ac un mater allweddol cyfredol a ddewiswyd ar y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd y dystiolaeth yn cynnwys manylion ffynonellau ymchwil a ddefnyddiwyd yn gyfeiriadol, llyfryddiaeth a rhestr cyfeiriadau; gall y manylion penodol fod ar goll neu wedi’u cyffredinoli a bydd yr ystod o ffynonellau a gyrchwyd yn gyfyngedig. Bydd y dysgwyr yn cynhyrchu esboniad cyffredinol gywir ar y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd.

Cysylltiadau ag unedau eraill

Mae’r uned hon yn cysylltu â’r canlynol:

• Uned 1: Byd Teithio a Thwristiaeth • Uned 2: Cyrchfannau ar draws y Byd • Uned 3: Egwyddorion Marchnata ym Maes Teithio a Thwristiaeth • Uned 6: Twristiaeth Arbenigol • Uned 7: Twristiaeth Gynaliadwy • Uned 18: Y Deyrnas Unedig fel Cyrchfan i Dwristiaid.

Cyfranogiad cyflogwyr

Byddai’r uned hon yn elwa o gyfranogiad cyflogwyr ar ffurf sgyrsiau ac ymweliadau gan siaradwyr arbenigol.