prifysgol abertawe - prospectws i israddedigion 2014

111
Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, DU Ffôn: +44 (0)1792 205678 www.abertawe.ac.uk Meithrin meddyliau mawr israddedigion 2014 #arfrigydon Drws i ddyfodol disglair Israddedigion 2014 SWAN S93 Prifysgol Abertawe

Upload: swansea-university

Post on 08-Nov-2014

337 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

TRANSCRIPT

Page 1: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, DU Ffôn: +44 (0)1792 205678

www.abertawe.ac.uk

Meithrin meddyliau mawr

israddedigion 2014

#arfrigydonDrws i ddyfodol disglair

Isradd

ed

igio

n 2014

SW

AN

S93

Prifysgo

l Ab

ertaw

e

Page 2: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Rydym wedi bod yn arfogi myfyrwyr ar gyfer cyflawniad personol a phroffesiynol eithriadol ers 1920. Mae ein hanes hir o gydweithio’n agos â diwydiant yn sicrhau bod ein graddau yn diwallu anghenion cyflogwyr, a bod ein ymchwil o’r radd flaenaf yn cael effaith wirioneddol ar iechyd, cyfoeth, diwylliant, a lles ein cymdeithas.

Mae astudio mewn prifysgol a arweinir gan ymchwil hefyd yn golygu y gallwch fanteisio ar wybodaeth a sgiliau academyddion o fri rhyngwladol ar frig eu meysydd.

Byddwch yn elwa o ddull modern o ddysgu, a gefnogir gan gyfleusterau ardderchog a safonau uchel o addysgu a gafodd 5 seren yng ngraddfa prifysgol byd-eang QS. Mae ein hystod eang o raddau Anrhydedd Sengl a Chydanrhydedd yn rhoi hyblygrwydd i chi gymryd y pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.

Mae gradd yn bwysig ar gyfer cael swydd wych, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Mae ennill profiadau a datblygu sgiliau wrth i chi astudio ac yn ystod cyfnodau gwyliau yn rhoi mantais gystadleuol i chi.

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe yn eich helpu i ennill profiad a datblygu sgiliau er mwyn eich rhoi ar flaen y gad.

Byddwn hefyd yn eich annog i roi cynnig ar bynciau newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd i gael profiad o wledydd a diwylliannau eraill lle bynnag y bo’n bosibl. Maw gan y Brifysgol hon weledigaeth gyffrous ar gyfer y dyfodol.

Bydd ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer datblygu’r campws yn ein galluogi i ddyblu ein maint a darparu mwy eto o gyfleusterau a fydd yn gwella profiad ein myfyrwyr, profiad sydd wedi ennill gwobrau.

Bydd y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd yn harneisio’r cryfderau ymchwil rhyngwladol sydd ym Mhrifysgol Abertawe gan hybu twf clystyrau o gwmnïau uwch-dechnoleg, ac yn creu amgylchedd dysgu unigryw sy’n gwella rhagolygon gyrfaol ein myfyrwyr.

Hanes balch gweledigaeth gyffrous

Rydym yn credu y dylai addysg prifysgol ymwneud ag archwilio a darganfod, dylai fod yn gyffrous ac yn rhoi boddhad, a bob amser yn ysbrydoledig.

Prif_Abertawe Prifysgol AbertaweFfôn: +44 (0)1792 295784 www.abertawe.ac.uk/ar-frig-y-don

#arfrigydon

Mae 92% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio.92%{

1

Diwrnodau Agored

29 Mehefin 2013

5 Hydref 2013

2 Tachwedd 2013

Page 3: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Croeso

Yr Athro Richard B. Davies Is-ganghellor

Mae cymuned y brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod, ac yn cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil gwych, i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Ewch ar rith daith o amgylch y campws ac edrychwch ar rai o’n cyfleusterau

2 3

Mae Prifysgol Abertawe yn uchelgeisiol ar gyfer ei myfyrwyr, ei staff, a’r sefydliad ei hunan. Rydym yn parhau i wneud cynnydd cyflym tuag at wireddu’n dyhead i fod ymhlith y 200 o brifysgolion gorau’r byd cyn ein canmlwyddiant yn 2020. Mae cymuned y brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod, ac yn cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil gwych, i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae’r sefydliad hwn wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer ein myfyrwyr brofiad Cymraeg a Chymreig mewn prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol. Mae’r brifysgol yn falch o’i thraddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Un agwedd o’r cyfraniad yw’r ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg sydd wedi chwyddo yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gan gefnogi y gymuned academaidd sydd ar y campws bywiog hwn. Trwy waith Academi Hywel Teifi, canolfan y brifysgol sy’n arwain ar y datblygiadau

hyn, a’n partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd unigryw a chyffrous a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lewyrchus yng Nghymru a thu hwnt.

Ein nod yw darparu profiad ardderchog i fyfyrwyr a rhoi i chi atgofion fydd yn para oes i gyd-fynd â chyrsiau sy’n dysgu sgiliau lefel uchel ac yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd.

Mae’r momentwm yr ydym wedi’i greu fel un o brifysgolion ymchwil mwyaf uchelgeisiol y DU wedi ein gwneud yn ddewis naturiol i nifer fawr o fyfyrwyr talentog, ac mae’r cynnydd mewn ceisiadau i astudio yma’n arwydd clir o’n llwyddiant.

Credaf ein bod wedi cael y cydbwysedd iawn rhwng addysgu rhagorol ac ymchwil, gydag ansawdd byw gwych, a bydd ein cynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu’r campws yn esgor ar gyfnod newydd i’r Brifysgol.

Gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni ac y byddwch yn manteisio ar y gymuned Gymraeg sydd yma.

Page 4: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Cynnwys

Cyrsiau

Coleg y Celfyddydau a’r DyniaethauAlmaeneg 70Astudiaethau Americanaidd 72Astudiaethau Canoloesol 74Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE) 76Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (PPL) 78Cyfathrebu Gwleidyddol – Gwleidyddiaeth a Chyfryngau 88Cymraeg 92Eidaleg 100Ffrangeg 104Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol 112Hanes 128Iaith a Chyfathrebu – Iaith Saesneg a’r Cyfryngau 130

Iaith Saesneg a TEFL 132Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd 136 Llenyddiaeth Saesneg 138Rhyfel a Chymdeithas 178Sbaeneg – Astudiaethau Sbaenaidd 180Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg 188

Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith

Yr Ysgol Busnes ac Economeg Economeg 96Rheoli Busnes 174

Ysgol y GyfraithTroseddeg 186Y Gyfraith 196

Y Coleg PeiriannegGwyddor Chwaraeon a Pheirianneg 116Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff 126Peirianneg – Amgylcheddol 150Peirianneg – Awyrofod 152Peirianneg – Cemegol 154Peirianneg – Cynlluniau Blwyddyn Sylfaen Integredig 156Peirianneg – Defnyddiau 158Peirianneg – Defnyddiau Chwaraeon 160Peirianneg – Dylunio Cynnyrch 162Peirianneg – Mecanyddol 164

Peirianneg – Meddygol 166Peirianneg – Sifil 168Peirianneg – Trydanol ac Electronig 170

Coleg y Gwyddorau Dynol ac IechydBydwreigiaeth 86Gwaith Cymdeithasol 110Gwyddor Gofal Iechyd – Clywedeg 120Gwyddor Gofal Iechyd – (Ffisioleg Gardiaidd) a (Gwyddorau Anadlu a Chwsg) 122 Gwyddor Gofal Iechyd – (Meddygaeth Niwclear) neu ( Ffiseg Radiotherapi) 124Gwyddor Parafeddygol 114Iechyd a Gofal Cymdeithasol 134Nyrsio 144Osteopatheg 148

Polisi Cymdeithasol 172Seicoleg 182Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau 194

Y Coleg MeddygaethBiocemeg Feddygol a Biocemeg 80Geneteg Feddygol a Geneteg 106Meddygaeth – Meddygaeth i Raddedigion MB BCh 142

Y Coleg GwyddoniaethBioleg a’r Gwyddorau Biolegol 82Bioleg y Môr 84Cyfrifiadureg 90Daearyddiaeth 94

Ffiseg 102Geo-wybodeg 108Gwyddor Ffisegol y Ddaear 118Mathemateg 140Swoleg 184

Yr Adran Addysg Barhaus i OedolionDyniaethau 192

Croeso i Abertawe 2Astudio a byw ar lan y môr 6Llety 14Ble i fwyta? 20Gofalu am eich lles 22Undeb y myfyrwyr 24Chwaraeon Abertawe 28Darpariaeth cyfrwng Cymraeg 34 Ymchwil o’r radd flaenaf 40Datblygu’r campws 46 Y llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth 52Cwestiynau cyffredin astudio 54Gyrfau, sgiliau a chyflogadwyedd 56Astudio a gweithio tramor 60Ffioedd Dysgu, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau 64Gwneud cais a’r swyddfa dderbyn 198Mapiau 204Mynegai 208Hanes a threftadaeth 214Cyn-fyfyrwyr 216

4 5

Page 5: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Pan fyddwch yn dewis astudio mewn prifysgol, rydych yn cychwyn ar antur newydd, ac ar brofiad a fydd yn agor y drws ar yrfa lewyrchus i chi – ac yn newid eich bywyd. Mae dewis eich cwrs yn rhan fach o ddewis y lle y byddwch yn byw, yn astudio ac yn ei alw’n gartref am y tair neu’r pedair blynedd nesaf. Roeddem ni 38 safle yn uwch yn nhabl Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2012, ac roedd 87% o fyfyrwyr yn fodlon yn gyffredinol – sy’n uwch na chyfartaledd Cymru a’r DU.

Astudio a byw ar lan y môr

Yn mwynhau yr awyr agored

6

Page 6: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Dewch i weld:Rhaid gweld i gredu – felly beth am gymryd golwg fanylach? Bydd ein Diwrnodau Agored yn rhoi syniad i chi o fywyd campws a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r profiad yn Abertawe. Am fanylion ein Diwrnodau Agored ar gyfer mynediad yn 2014 gweler isod:

29 Mehefin 2013 5 Hydref 2013 2 Tachwedd 2013

Anfonwch: SWANSEA mewn neges destun at 61122 www.abertawe.ac.uk/arfrigydon

Mae ein ffordd o fyw ar y campws yn meithrin cymuned groesawgar, gosmopolitan sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Mae ein lleoliad yn cynnig y gorau o bob byd: mae’r campws wedi’i leoli mewn parcdir Cymreig eang sy’n wynebu’r traeth, ac o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Abertawe.

Pan fyddwch yn dewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe, rydych yn dod yn rhan o sefydliad uchelgeisiol sy’n cael ei arwain gan ymchwil a byddwch hefyd yn elwa o fyw yn un o ranbarthau naturiol mwyaf prydferth Cymru a’r DU. Nid yw’n syndod bod llawer o’n graddedigion yn dewis aros yma’n bell ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae astudio yn Abertawe yn cynnig sawl cyfle i chi fwydo eich ochr greadigol a diwylliannol. Yng nghalon ein campws mae Canolfan Celfyddydau Taliesin, lleoliad bywiog sy’n cynnal rhaglen eang o ddramâu, dawns, jazz a cherddoriaeth fyd fyw, a ffilmiau sinema. Mae Taliesin hefyd yn gartref i Oriel Ceri Richards, sy’n arddangos gwaith gan artistiaid sy’n dechrau dod i’r amlwg yn ogystal ag artistiaid sefydledig, a’r Ganolfan Eifftaidd, galeri deulawr sy’n arddangos dros fil o wrthrychau o’r Hen Aifft yn dyddio yn ôl o gyn 3,500CC i AD500.

Fel dinas fywiog i fyfyrwyr, mae gan Abertawe rywbeth i bawb. O fywyd diwylliannol a diwylliant chwaraeon ffyniannus i fywyd nos gwefreiddiol, golygfeydd arfordirol syfrdanol i barciau heddychlon, a siopa gwych i’r gorau o fywyd modern y ddinas, Abertawe yw’r lle delfrydol i adeiladu eich dyfodol.

Does dim syndod bod 96% o’n myfyrwyr yn cytuno bod Prifysgol Abertawe yn lle da i fod

Abertawe {chwa o awyr iach}

(Baromedr Myfyrwyr i-graduate, Hydref 2011).

8 9

Page 7: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

O gwmpas y lleByddwch yn darganfod bod Abertawe a’r Gwyr yn cynnig y gorau o bob byd, mae yma gydbwysedd o gyffro a bwrlwm y ddinas a pharadwys naturiol o fewn tafliad carreg i’ch drws blaen. Mae ein campws ynghanol Parc Singleton a Gerddi Botanegol Singleton.

Byddwch hefyd ddim ond ychydig gamau i ffwrdd o’r môr…

Mae’r ardal gyfagos hefyd werth ei gweld. O fewn ychydig filltiroedd yn unig, gallwch ddod o hyd i:

• Sir Gaerfyrddin – “Gardd Cymru”

• “Gwlad y Rhaeadrau” – Dyffryndir Afan a Nedd

• prydferthwch gwyllt, mynyddig Bannau Brycheiniog

• cestyll canoloesol a henebion hanesyddol

• Cynhelir “Dianc i’r Parc” blynyddol ym Mharc Singleton

Os hoffech grwydro oddi ar y campws, gallwch:

• ymweld â Chanolfan Dylan Thomas, sy’n cynnal Gwyl flynyddol Dylan Thomas, nosweithiau barddoniaeth cyson a pherfformiadau ar gyfer pawb

• manteisiwch ar Adain Gelfyddydau Theatr y Grand, Abertawe, lleoliad poblogaidd ar gyfer comedi a jazz, â dwy ardal arddangos, bar a chaffi ar y to, ac ardal berfformio 120 sedd

• archwiliwch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n cadw etifeddiaeth ddiwydiannol a morwrol cyfoethog Cymru, neu amgueddfa hynaf Cymru, Amgueddfa Abertawe sy’n ymgartrefu trysorau o orffennol Abertawe

HANNER AWR I FFWRDD

Dyfarnwyd Pen Pyrod yn Rhosili “y lle mwyaf rhamantaidd i weld yr haul yn machlud yn y DU” gan ddarllenwyr cylchgrawn Country Living

Penrhyn Gw yrMae Penrhyn Gwyr 19 milltir o arfordir dramatig a darluniadwy – yn ddelfrydol pan fo angen saib o’r darlithoedd a’r llyfrgell

MWMBWLS

Abertawe

Mae ein campws wedi’i leoli ar barcdir ger traeth tair milltir Bae Abertawe

Mae pentref pysgota’r Mwmbwls ar gyrion deheuol Bae Abertawe yn drysor go iawn – ymlaciwch yn un o dafarndai poblogaidd y pentref neu blaswch yr hufen iâ arobryn lleol

BRAS AMCAN O’R BOBLOGAETH:

225,000

Pen Pyrod yn Rhosili

Bae’r Tri Chlogwyn

Cyrhaeddodd Bae’r Tri Chlogwyn rowndiau terfynol rhaglen deledu ITV “Britain’s Best View”

PYMTHEG MUNUD I FFWRDD

mae peth o syrffio gorau’r DU gerllaw, ac mae canolfan chwaraeon dwr 360 newydd ond ychydig o dro o’r campws ar droed

traethau glân, arobryn – gan gynnwys pum traeth “Baner Las” – sydd wedi ymddangos ar ymgyrchoedd teledu cenedlaethol

SiR GAERfyRddiN“GARdd CyMRu”

10 11

Page 8: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

heb ei hail am gynnyrch ffres a bwyd môr lleol

DyDych chi byth yn bell i ffwrDD o unrhyw le

Tesco, Co-op, Lidl a Sainsbury’s sydd agosaf i’r Brifysgol yng Nghanol y Ddinas

Lleoliad braf ar gyfer golygfeydd o’r marina, hwylio, arddangosfeydd, tafarndai a llefydd bwyta

Caffis, diwylliant {a chefn gwlad a fydd yn eich syfrdanu}

Yn fodern a chosmopolitan, ac iddi ddatblygiad glan y mor, ardaloedd caffi a phoblogaeth ffyniannus o fyfyrwyr, mae dinas Abertawe hefyd yn un sy’n llawn traddodiad, diwylliant a chymeriad.

Os ydych yn byw ar neu oddi ar y campws, dydych chi byth yn bell o gyfleusterau hamdden gwych y Ddinas a’i bywyd nos byrlymog. Ceir dewis o dafarndai, clybiau a bariau ar Stryd y Gwynt enwog Abertawe, mwynhewch yr awyrgylch yng nghyfadeilad hamdden £6 miliwn y ddinas, Oceana, neu ceir profiad mwy daearol yn un o’r lleoliadau cerddoriaeth fyw ardderchog – fydd hi ddim yn cymryd yn hir i chi deimlo yn rhan o fywyd cymdeithasol Abertawe.

Mae datblygiadau newydd o bwys, yn cynnwys yr adeilad talaf yng Nghymru, yn rhoi syniad gwirioneddol o bwrpas a gweledigaeth i’r lle, tra bod golygfeydd syfrdanol yr ardal gyfagos yn golygu y byddwch yn astudio yn un o leoliadau mwyaf prydferth y DU.

O ran hamdden a difyrrwch, mae lleoliadau lleol yn cynnwys yr LC2, cartref y Boardrider, y peiriant tonnau sefyll dwr dwfn cyntaf yn y byd. Mae Stadiwm Liberty a’i 20,000+ o seddi yn gartref i bêl-droed a rygbi proffesiynol yn y Ddinas, a hefyd yn cynnal cyngherddau roc a phop mawr.

Ac os ydych yn mwynhau ffilmiau, does dim rhaid mynd ymhellach na chyfleuster 12-sgrin newydd sbon sinema Vue a chyfadeilad Sinema Odeon, sydd â lôn bowlio deg hefyd.

Cartref i ystod eang o arwerthwyr annibynnol a phrif siopau’r stryd fawr. Mae’r datblygiad diweddaraf, prosiect adwerthol gwerth £30 miliwn, yn addo hyd yn oed mwy o ddewis i siopwyr

canol y DDinas a chanolfan siopa’r cwaDrant

ceir hefyD...

y prif archfarchnaDoeDD i gyD:

yr arDal forwrol

Ceir gwasanaeth bws rheolaidd, rhwydwaith estynedig o lwybrau seiclo di-draffig, a chysylltiadau bws, rheilffordd a thraffordd da

y twrAdeilad talaf Cymru gyda tafarn yn goron arno!

marchnaD Dan Do enwog abertawe

Drws i

ddyfodol

disglair

12 13

Page 9: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

14

Pan fyddwch chi’n dechrau yn y brifysgol, rydych yn dechrau ar antur fawr, profiad a fydd yn newid eich bywyd ac yn ehangu’ch gyrfa. Mae dewis eich cwrs yn rhan fach o ddewis y lle y byddwch yn byw, yn astudio ac yn ei alw’n gartref am y tair neu’r pedair blynedd nesaf.

Eich bywyd y ffordd yr hoffech chi ei fyw

1afyn y DU ar gyfercymorth swyddfa lety { Arolwg Baromedr Myfyrwyr i-graduate™, Hydref 2011

14

Page 10: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, a dyna pam yr ydym eisiau i chi gael rhywfaint o dawelwch meddwl pan ddaw hi at eich llety. Rydym yn credu ei fod yn bwysig i chi ddewis preswylfa sy’n siwtio eich gofynion chi orau, a’ch bod yn edrych ar eich llety yn y brifysgol fel cartref i ffwrdd o gartref go iawn.

P’un ai os ydych chi eisiau byw yng nghalon campws y Brifysgol, yn ein Pentref Myfyrwyr, neu mewn un o’r tai preifat cyfagos a reolir gan ein hasiantaeth gosod Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS), mae Gwasanaethau Preswyl yn darparu ystod o opsiynau i chi ddewis o’u plith.

Byw ar y campwsMae byw mewn un o’n naw neuadd gampws yn eich gosod reit yng nghanol bywyd y brifysgol.

Mae ein llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, ystafelloedd en suite ac ystafelloedd safonol â chegin ac ardal fwyta wedi’u rhannu – yn ddelfrydol i’ch helpu i ymgyfarwyddo â bywyd myfyriwr yn gyflym ac yn hwylus.

Mae ein llety arlwyedig yn cynnig gwerth am arian ardderchog. Mae’n cynnwys costau arlwyo hyd at £25 yr wythnos yn y ffioedd preswyl – cewch gerdyn bwyta gyda chredyd arno i ddefnyddio mewn unrhyw rai o gyfleusterau arlwyo’r Brifysgol ar y campws.

Mae cyfleusterau’r campws hefyd yn cynnwys:

Byw yn y Pentref MyfyrwyrTua dwy filltir o’r campws mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan.

Mae’r pentref yn cynnig llety hunan arlwyo a chyfleusterau wedi’u rhannu ar gyfer oddeutu 1,600 o fyfyrwyr, mewn fflatiau a thai ar gyfer rhwng pedwar a deg o fyfyrwyr.

Os ydych yn dewis byw yn y Pentref, bydd gennych eich ystafell eich hun am rent fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety sector preifat. Mae bywyd myfyrwyr yn y Pentref yn gymdeithasol ac yn gefnogol a byddwch yn manteisio ar:

• The Wonky Sheep, y bar ar y safle

• siop gyfleustra

• gwasanaeth bws rheolaidd yn ystod y tymor

• cae chwarae arwynebedd caled

Llety Cymraeg – PenmaenMae gyda ni lety wedi’i neilltuo ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau byw gyda myfyrwyr Cymraeg eraill. Ceir llety hunanarlwyo, en suite yn neuadd Penmaen ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, ar gontract 40 wythnos.

Caiff myfyrwyr sy’n dychwelyd i’r Brifysgol ymgeisio am y llety hwn hefyd. I’r rhai

ohonoch sy’n dymuno byw ym Mhentref y Myfyrwyr, mae llety wedi’i neilltuo yno hefyd – am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan.

Y cyfan sydd ei angen i chi ei wneud ydy nodi yn glir ar eich ffurflen gais am lety eich bod yn dymuno byw gyda myfyrwyr Cymraeg eraill.

Llety ar gyfer teuluoedd – Ty BeckMae gennym nifer o fflatiau teuluol yn ein preswylfa dawel ddynodedig, Ty Beck, oddeutu milltir o’r campws yn ardal Uplands sy’n boblogaidd â myfyrwyr. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae’r llety hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol yn bennaf.

Dod o hyd i’r lle perffaith yn y sector preifatOs byddai’n well gennych fyw oddi ar y campws, byddwch yn falch o wybod bod cyflenwad da o dai a fflatiau sector preifat o safon yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth gosod, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr, yn rheoli dros 120 o dai yn ardaloedd Brynmill, Uplands, a Sgeti sy’n boblogaidd â myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy filltir i’r campws ac yn agos i siopau lleol, bariau a chyfleusterau prydau parod. Mae modd chwilio ein cronfa ddata ar-lein, Studentpad, i ddod o hyd i dai sydd ar gael yn yr ardal ac mae’n declyn gwerthfawr sy’n arbed ymdrech wrth edrych am dai.

• siopau• canolfan iechyd• deintyddfa• bariau

• swyddfa bost• bwytai• siop lyfrau

Teimlwch yn gartrefol

• mae neuadd benodol â stafelloedd en suite sydd wedi eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn rhugl a rhai sy’n dysgu

• mae gan ein hystafelloedd ryngrwyd ddiwifr rhad ac am ddim i gael mynediad at rwydwaith y Brifysgol*

• ceir rhwydwaith o fyfyrwyr sy’n byw yn y preswylfeydd ac sy’n eich cynrychioli o’u gwirfodd

• mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ac eithrio fflatiau teulu Ty Beck)

• mae ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth

• Wardeniaid Lles Preswyl*

• cyfleusterau golchdy 24/7

*ac eithrio tai SAS

pwyntiau pwysig i’w nodi yngly n â’n preswylfeydd:

Cysuron cartref i’w cael

16 17

Page 11: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Ydych chi’n gwarantu lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol?Ydyn – os ydych chi’n fyfyriwr israddedig newydd, llawn amser sy’n cwrdd â gofynion cynnig pendant ar gyfer lle yn Abertawe, a’ch bod yn gwneud cais am lety erbyn 30 o Fehefin. Lle bo hynny’n bosib, gwnawn ein gorau i ehangu’r cynnig hwn i fyfyrwyr dewis Yswiriant a Chlirio.

Pryd y dylwn wneud cais ar gyfer llety?Gorau po gyntaf! Os ydych wedi derbyn cynnig pendant o le, cewch ymgeisio am lety ym mis Ebrill – byddwch yn derbyn manylion am ymgeisio ar-lein gyda’ch cynnig academaidd neu’ch cynnig o’r brifysgol. Rydym yn eich cynghori i wneud cais yn gynnar, yn enwedig ar gyfer y llety en suite poblogaidd tu hwnt.

Faint y bydd hyn yn ei gostio?Mae’r rhent y byddwch yn ei dalu’n dibynnu ar y breswylfa a’r ystafell y byddwch yn ei dewis.

* Mae’r ffioedd hyn ar gyfer sesiwn academaidd 2012/13. Sylwer bod rhentu ar gyfer mynediad 2014 dan arolygaeth ar hyn o bryd ac yn debygol o godi. Fe’ch cynghorir i edrych ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.

** Lle bo hynny’n berthnasol, mae prisiau ar gyfer llety Campws Safonol yn cynnwys y ffi arlwyo wythnosol.

Oes modd imi fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill?Oes – os ydych yn siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd. Os oes diddordeb gennych, nodwch hynny’n glir ar eich ffurflen gais, gan esbonio ym mha safle yr hoffech chi fyw – ar y campws (Penmaen) neu yn y pentref myfyrwyr (Hendrefoelan).

Pryd y byddaf yn gwybod os ydw i wedi cael cynnig lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol?Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr fel arfer yn derbyn eu cynnig o lety yn fuan ar ôl derbyn eu graddau Safon Uwch.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n gwneud cais drwy Glirio? Os ydych yn gwneud cais i astudio yn Abertawe drwy Glirio, anfonir manylion yr opsiynau llety sydd ar gael i chi ar ôl i chi dderbyn cadarnhad o fynediad i’r Brifysgol.

Pa gymorth sydd ar gael yn y preswylfeydd?Rydym yn gosod cryn bwyslais ar les myfyrwyr. Yn ogystal â staff diogelwch 24-awr, mae ein Wardeiniaid Lles ar gael i’ch helpu i ymlacio ac i gynnig cymorth bugeiliol. Mae swyddog heddlu dynodedig ar y campws hefyd.

Am faint o hyd y gallaf rentu’r ystafell?Bydd gennych gontract llety am y flwyddyn academaidd lawn.

Ydw i’n gallu byw ar y campws ar ôl fy mlwyddyn gyntaf?Rydym yn neilltuo rhywfaint o ystafelloedd yn ein preswylfeydd ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd. Dewis poblogaidd gan ein myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yw byw gyda ffrindiau mewn ty a reolir gan Wasanaethau Llety Myfyrwyr, neu mewn llety sector preifat.

Am ragor o fanylion yngly n â’n preswylfeydd, a’r cymorth yr ydym yn ei gynnig i’ch helpu i ymgartrefu’n gyflym, ewch i’n gwefan:

Ffôn: +44(0)1792 295101 E-bost: [email protected]

preswylfa math o ystafell rhent wythnosol*

Pentref Myfyrwyr Safonol £73 – £82

Campws En suite

Safonol

£99 – £115

£94– £116.50**

Ty Beck

Safonol

En suite

Fflat teuluol

£79 – £84

£96 – £105

£140 – £172.00

Tai a reolir gan y Brifysgol

Safonol £65 – £75

www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/llety

Llety {Cwestiynau Cyffredin}

Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2011

llety wedi’i enwebu yn 3ydd

yn safleoedd prifysgolion y Du

18 19

Page 12: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae gennym ystod o fannau arlwyo o gwmpas y campws. Mae gan bob un ddelwedd a math o fwyd arbennig, o brydau ysgafn a ‘baguettes’ i luniaeth Prydeinig traddodiadol, prydau Indiaidd, Mecsicanaidd, a Tsieineaidd, a phasta deniadol.

Mae gan bob un o’n mannau arlwyo ddewis ar gyfer llysieuwyr hefyd. Cadwch lygad ar agor am ein nosweithiau thema, ein gwyl fwyd Cymreig, a’n fersiwn o Ready Steady Cook! Felly, pan fyddwch wedi cael digon o goginio a golchi llestri, ewch i:

• Blas – nwdls ffres, brechdanau mewn amrywiaeth o fathau o fara, a detholiad gwych o saladau a diodydd

• JCs – bwydlen tafarn gastro newydd gyda’r holl ffefrynnau yn cael eu coginio yn ôl eich archeb

• Y Venue (Ty Fulton) – pasta, cig a physgod, saladau ffres a llysiau, pwdinau cynnes ac oer, a’n bargeinion pryd dyddiol

• Caffi Fusion (Ty Fulton) – brecwast traddodiadol ac iach, bwyd cynnes ac oer drwy gydol y dydd. Cadwch lygad ar agor am nosweithiau thema poblogaidd Fusion

• Canolfan Celfyddydau Taliesin – Dewis gwych ar gael yma o gawl cartref i gyri, pizza, a swshi; am rywbeth ysgafnach ceir dewis o dortillas a brechdanau, quiche, neu ginio gwerinwr

• Costa@Café Hoffi Coffi (Llyfrgell) – lle gwych i ymlacio gyda’ch ffrindiau dros baned a myffin blasus. Dyma’r lleoliad cymdeithasu ar gyfer Cymry Cymraeg y campws

• Café Glas (y Sefydliad Gwyddor Bywyd) – siop goffi Starbucks® sydd hefyd yn cynnig cacenni arbenigol ardderchog

• Callaghan’s (adeilad James Callaghan) – siop goffi Starbucks® â detholiad blasus o fara arbenigol wedi’u llenwi â chynhwysion cyfoes

• Costa@Emily Phipps (Hendrefoelan) – yn cynnig dewis eang o fwydydd cynnes ac oer â detholiad o goffi arbenigol a diodydd oer

• Mae digonedd o beiriannau gwerthu bwyd o gwmpas y campws sy’n cynnig diodydd poeth ac oer, melysion a byrbrydau

“Abertawe oedd y brifysgol Masnach Deg gyntaf yng Nghymru. Byddwch yn dod o hyd i gynnyrch Masnach Deg yn y cyfan o’n mannau arlwyo, sy’n helpu i sicrhau prisiau gwell, amodau gwaith gweddus, a thelerau teg i ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol.”

Ble i fwyta? Nosweithiau

thema

arbennig

ar gael

a wyddoch chi? Mae Cerdyn Arlwyo Hyblyg y Brifysgol yn ffordd syml ddi-ffws o dalu am eich prydau bwyd mewn unrhyw un o’n mannau arlwyo. Mae modd i chi roi arian ar y cerdyn unrhyw bryd, ac mae eich credyd yn gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

arlwyo cydwybodol Abertawe oedd y brifysgol Masnach Deg gyntaf yng Nghymru. Byddwch yn dod o hyd i gynnyrch Masnach Deg yn y cyfan o’n mannau arlwyo, sy’n helpu i sicrhau prisiau gwell, amodau gwaith gweddus, a thelerau teg i ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol.

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo’n bosibl, gan sicrhau cynaliadwyedd i fusnesau’r rhanbarth. Hefyd, rydym yn tyfu’n perlysiau’n hunain, sy’n cael eu casglu a’u defnyddio’n ddyddiol.

Cawsom gymeradwyaeth y Gymdeithas Llysieuwyr, a dyfarnwyd ein bod ar y lefel uchaf ar gyfer diogelwch bwyd gyda chymeradwyaeth lawn yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ein polisïau Cynaliadwyedd a Masnach Deg, ewch i’n gwefan:

www.swansea.ac.uk/catering

20

Page 13: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, problem benodol, neu os ydych chi eisiau siarad am bethau, mae derbynfa Gwasanaethau Lles i Fyfyrwyr yn lle da i ddechrau. Rydym yn cynnig siop-un-stop i ddarparu’r wybodaeth, y cyngor, a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr.

y swyddfa anableddau

Cefnogi Myfyrwyr ag AnableddOs oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu ofynion arbennig eraill, does dim rheswm pam dylai eich profiad yn y brifysgol fod yn wahanol i brofiad unrhyw un arall, ac rydym yn croesawu eich cais i astudio yn Abertawe.

Cyn i chi wneud cais, dylech:• gysylltu â staff y Swyddfa Anableddau ymhell cyn cyflwyno eich

cais i adael i ni wybod pa bwnc yr ydych yn gobeithio ei astudio a pha anghenion arbennig y gallai fod arnoch. Gallwn esbonio sut y bydd y Brifysgol yn eich cynorthwyo, a gallwn drefnu taith dywys breifat o’r campws ar eich cyfer

• datgan eich anabledd, cyflwr neu angen arbennig cyn gynted â phosib – mae lle ar gael ar y ffurflen UCAS i ddarparu’r wybodaeth berthnasol. Os ydyw’n well gennych beidio â chyflwyno gwybodaeth yn y modd hwn, a wnewch chi ysgrifennu’n uniongyrchol at y Swyddfa Anableddau

Yn ystod y broses ymgeisio, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad anffurfiol â staff y Swyddfa Anableddau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni asesu eich anghenion a chynllunio ar gyfer eich derbyn, a bydd modd i chi weld dros eich hun os mai Abertawe yw’r lle cywir i chi.

Cymorth proffesiynol, pan fo ei angen arnochRydym wedi sefydlu amrediad eang o fesuriadau i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch drwy gydol eich astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Yn benodol rydym yn:

• gweithio gyda chi i deilwra rhaglen gymorth hyblyg sy’n addas at eich anghenion

• trefnu pobl i gymryd nodiadau, mentoriaid, darllenwyr a thiwtoriaid arbenigol

• cysylltu â’r Swyddfa Arholiadau os oes angen amser neu gymorth ychwanegol i gwblhau asesiadau

• mae gennym dîm o diwtoriaid arbenigol, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor, yn ogystal ag arweiniad yngly n â sgiliau astudio ac ymlacio

• mae gennym Ganolfan Asesu wedi’i dylunio at y pwrpas sy’n cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i adnabod ac asesu eich anghenion

• gallu’ch helpu i geisio am gyllid oddi wrth eich corff cyllido lleol, Gwasanaethau Cymdeithasol, neu sefydliadau eraill

Mae rhan fwyaf yr adeiladau ar ein campws cryno, gymharol wastad yn fodern ac wedi’u cyfarparu’n dda â rampiau, lifftiau a thai bach hygyrch. Mae palmant botymog wedi’i osod ar bob prif lwybr, ac mae nifer sylweddol o’r ystafelloedd gwely astudio yn neuaddau preswyl y campws wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr a phroblemau symud. Mae larymau tân ar gyfer pobl â nam ar eu clyw hefyd wedi’u mewnosod.

Cysylltwch â niAm ragor o wybodaeth yngly n â’r cymorth yr ydym yn ei gynnig, cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau: Ffôn: +44 (0)1792 602000 Ffacs: +44 (0)1792 295090 E-bost: [email protected]

Cyfleusterau meddygolMae meddygfa’r GIG a deintydd ar agor i fyfyrwyr ar y campws. Os ydych yn byw mewn llety Prifysgol, bydd raid i chi gofrestru â Meddyg Teulu Abertawe o fewn pythefnos ar ôl cyrraedd.

Os nad ydych chi’n byw mewn llety Prifysgol, byddwn yn eich cynghori i gofrestru â meddyg teulu yn Abertawe pan gyrhaeddwch.

Gwasanaethau LlesFel myfyriwr, mae’n bosib y byddwch yn ei chael hi’n anodd rheoli’r pwysau a straen newydd sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol tra’ch bod yn ceisio addasu i newidiadau yn eich ffordd o fyw a’ch amgylchedd ar yr un pryd. Mae Gwasanaethau Lles yn cefnogi myfyrwyr sy’n dioddef o straen o ganlyniad i broblemau seicolegol, emosiynol, neu iechyd meddwl, ac mae ar gael i’ch cefnogi ar unrhyw adeg ar eich taith academaidd. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys: sesiynau galw heibio i gychwyn, i drafod eich pryderon; grwpiau a gweithdai (e.e. pryder am wneud cyflwyniad); cefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl a chynghori. Mae sawl myfyriwr sydd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yn y gorffennol wedi ei chael hi’n ddefnyddiol cysylltu â’r gwasanaeth cyn gynted â phosib ar ôl iddynt gyrraedd y campws.

Mae’r cymorth a gynigir yn hyblyg ac wedi’i ddylunio i ymateb i’ch anghenion arbennig chi. Efallai y byddwch am i rywun gydlynu â’ch meddyg teulu, neu’ch Tîm Cymunedol Iechyd Meddwl, neu’ch Coleg/Ysgol Academaidd i helpu sicrhau unrhyw addasiadau rhesymol ac addas. Efallai y bydd o gymorth i chi fynychu gweithdy, neu i dderbyn cyngor er mwyn archwilio pryderon neu broblemau penodol. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y cewch gynnig mentor proffesiynol i’ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn. Mae’r gwasanaeth a gynigir yn gyfrinachol, yn gyfeillgar, ac yn broffesiynol.

Ffôn: +44 (0)1792 295592 E-bost: [email protected]

Eich ffydd Mae gan Ganolfan Caplaniaeth y campws dîm o chwe chaplan, sy’n dod o’r Eglwys Anglicanaidd (Eglwys Cymru), Eglwys y Bedyddwyr, yr Eglwys Uniongred Roegaidd, Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys Gatholig, a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi bywyd ysbrydol cymuned y Brifysgol, pa bynnag hil, statws neu ffydd.

Rydym yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU â mosg ar ein campws, ac roeddwn yn falch o ennill gwobr Darpariaeth Mosg Orau’r DU gan Ffederasiwn y Myfyrwyr Islamaidd.

Sicrhau cyfle cyfartalMae Prifysgol Abertawe yn gymuned campws cosmopolitan sy’n annog ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Fel myfyriwr, gallwch fod yn hyderus eich bod yn byw ac yn astudio mewn amgylchedd addysgol sy’n cefnogi cyfleoedd cyfartal i bawb, ac na fyddwch yn destun camwahaniaethu nac aflonyddu o unrhyw fath. Rydym yn gofyn i’n staff, ein myfyrwyr a’n cyflenwyr gydweithio er mwyn helpu i hybu cydraddoldeb. Rydym yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gosod gofyniad arnom i ddileu camwahaniaethu anghyfreithlon ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a pherthynas da rhwng pobl o wahanol grwpiau.

I sicrhau ein bod yn cwrdd â’r gofynion hyn:

• mae gennym Bwyllgor Cyfle Cyfartal, Gweithgor Cydraddoldeb Hil a Chrefydd, Gweithgor Cydraddoldeb Anabledd, a Gweithgor Cydraddoldeb Rhyw a Rhywioldeb, sydd yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn.

• mae gennym Ymgynghorydd Cyfle Cyfartal ym mhob Coleg/Ysgol Academaidd.

• rydym yn adolygu’n Cynllun Strategol ar gyfer Cydraddoldeb 2012-2016.

• rydym yn cyhoeddi llawlyfr Cysylltiadau Hiliol a Chi, sy’n amlinellu’r polisïau a’r ymddygiad a ddisgwylir gan bob un o’n staff a’n myfyrwyr i sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau i gynnig amgylchedd academaidd heb gamwahaniaethu nac aflonyddu.

Gofalu am eich lles

Gwasanaethau eraill• Mae’r cyfleusterau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn eithriadol.

Rydym yn cynnig hyfforddiant symud ac mae Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe yn gallu darparu myfyrwyr ag anableddau â deunydd (yn y prif ieithoedd Ewropeaidd) mewn amrediad o fformatau gwahanol, gan gynnwys Braille, sain, print mawr, testun electronig a diagramau botymog ar gyfer myfyrwyr anabl. Mae’r Ganolfan yn un o bum gwasanaeth trawsgrifio prifysgol yn unig yn y DU, a’r unig un yng Nghymru

• Cynghorir myfyrwyr ag anghenion gofal personol i gysylltu â’r Swyddfa Anableddau i drafod eu hanghenion

• Mae gan y Llyfrgell dîm o lyfrgellwyr pwnc wrth law i’ch helpu i fanteisio’n llawn ar eich astudiaethau, ac yn cynnig gwasanaeth “caffael o’r silff”, darllen wyneb yn wyneb, a chyfleusterau TG arbenigol, gan gynnwys hyfforddiant ar y pecyn meddalwedd cyfrwng Cymraeg, Cysgliad, a sut i ddefnyddio’ch cyfrifiadur i’r eithaf yn yr iaith Gymraeg

• Mae pob Cyfrifiadur Personol ar rwydwaith y Brifysgol yn rhoi mynediad at feddalwedd arbenigol, megis SuperNova ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg a myfyrwyr dall, a meddalwedd Mapio Meddwl Inspiration, a Text Help Read and Write Gold ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol

a wyddoch chi? Mae’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’i hachredu fel un sy’n bodloni’r Safon Ansawdd Matrics ar gyfer cyngor gwybodaeth a gwasanaethau cynghori.

22 23

Page 14: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

aikido pêl-droed americanaidd

saethyddiaeth badminton

pêl-fasged corff-fyrddio paffio

canw io codi hwyl criced

marchogaeth pêl-droed

cleddyfaeth golff heicio hoci

jitsu judo gwibgartio karate

cicfocsio syrffio barcud lacrós

achub bywydau beicio mynydd

mynydda pêl-rwyd pw l rhwyfo

rygbi’r gynghrair rygbi’r undeb

rhedeg hwylio sgïo/eirafyrddio

sboncen campau tanddwr

syrffio nofio tae kwon do tenis

triathlon ffrisbi eithafol bordhwylio

Y clybiau chwaraeon a gynigir gan Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd yw:

Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wrth wraidd eich profiad myfyriwr o’r foment y byddwch yn cyrraedd hyd at y diwrnod y byddwch yn graddio.

Mae gan bawb syniadau gwahanol o fywyd myfyriwr ond mae pawb yn cytuno ar un peth: chi sy’n ei reoli. Gallwch fod yn hyderus y bydd yr Undeb yn gweithio’n galed i gynrychioli eich llais, i ddarparu’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch ac i warchod eich diogelwch a’ch lles fel myfyriwr. Mae hefyd yn dod â myfyrwyr ynghyd drwy gyfrwng y calendr cymdeithasol gwych y byddwch yn ei ddisgwyl mewn cymuned mor fywiog.

Pan fyddwch yn dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, sy’n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Arweinir yr Undeb gan fyfyrwyr ac mae’n meddu ar hanes cryf o ddod â myfyrwyr ynghyd ar faterion o bwys.

Mynnwch eich llais Mae gan Undeb y Myfyrwyr saith swyddog etholedig llawn amser, a nifer o swyddogion etholedig gwirfoddol i’ch cynrychioli ar bob lefel, o gyfarfodydd pwyllgorau’r Brifysgol i wrthdystiadau cenedlaethol.

Bydd digon o gyfleoedd gyda chi hefyd i ddweud eich dweud drwy ein papur newydd bob pythefnos Waterfront, cylchgrawn yr Ents, ein gwefan, a’n gorsaf radio ein hunain:

Cymerwch ranMae gan Undeb y Myfyrwyr dros gant o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon. O Amnest ac Akido i Gwrw Go Iawn a Rhwyfo. Byddwch yn sicr o ddod o hyd i rywbeth sy’n mynd â’ch bryd, a byddwch yn bendant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan mewn bron i unrhyw beth dan yr haul.

Mae cymryd rhan mewn cymdeithasau hefyd yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd: gall y sgiliau yr ydych yn eu hennill wrth gynnal digwyddiadau, trefnu pobl, dal swyddi sydd â chyfrifoldeb, neu reoli cyllidebau ychwanegu gwerth go iawn i’ch CV. Gallwch hefyd gynrychioli eich cyd-fyfyrwyr yn Gynrychiolydd Cwrs. Eto, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr y bydd cyflogwyr yn eu cydnabod.

Abertawe CymdeithasolYdych chi’n hoffi’r syniad o nosweithiau gwych allan yng nghalon ardal clybio Dinas Abertawe? Beth am Ddawns Flynyddol yr Haf, y Ddawns Nadolig, ein digwyddiadau Dydd Gwyl Dewi, yn ogystal â nosweithiau thema a nosweithiau chwaraeon wedi’u trefnu? Mae UMPA yn gosod pwyslais ar sicrhau eich bod yn cael amser da, p’un ai’n noson allan yn y dref neu yn ein clwb nos ar y campws, neu’n ymlacio yn ein bariau myfyrwyr a’n siopau coffi, byddwch yn dod o hyd i rywle i siwtio’ch hwyl.

Eich cefnogi chiMae cefnogi chi, eich diogelwch a’ch lles yn hanfodol bwysig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg canolfan gyngor sy’n cynnig arweiniad ar faterion megis arian, tai, diogelu defnyddwyr ac anawsterau yn ymwneud â’ch cwrs.

Meithrinfa DdyddMewn lleoliad cyfleus ar y campws, mae Meithrinfa Undeb y Myfyrwyr yn darparu gofal plant proffesiynol am bris cymorthdaledig i fyfyrwyr. Gall y Feithrinfa gynnig llefydd i blant o dri mis oed i saith mlwydd oed.

Ffôn: +44 (0) 1792 513151 E-mail: [email protected]

Hoffi chwaraeon?Mae chwaraeon yn rhan enfawr o brofiad myfyrwyr yn Abertawe, ac mae’n cynnig llawer i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan, boed am hwyl neu er mwyn cystadlu.

Mae Swyddog Chwaraeon a thîm gweinyddol ymroddedig iawn yn gweithio i ddiwallu anghenion unrhyw fyfyriwr sy’n mwynhau ei chwaraeon. Ar ben hynny, mae gan y Brifysgol gyfleusterau gwych i’w cynnig.

Ar hyn o bryd, mae gennym dros 40 o dimoedd yn cystadlu yn y gynghrair BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) ar ddydd Mercher, gan deithio ar draws Cymru a Lloegr, ac mae gennymryw 30-40 o glybiau’n cystadlu mewn twrnameintiau a digwyddiadau rheolaidd BUCS.

www.swansea-union.co.uk

www.abertawe.ac.uk/israddedig/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/childcare

Y llywydd sy’n arwain gwaith yr Undeb wrth ymgyrchu a gweithredu er mwyn amddiffyn ac ehangu hawliau myfyrwyr Abertawe. Mae Tom yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dweud eu dweud yn yr Undeb a’n cynorthwyo i arwain ein ymgyrchoedd. Y mae hefyd yn brysur yn cadeirio bwrdd yr ymddiriedolwyr a gweithio ochr yn ochr â swyddogion eraill er mwyn datblygu polisi yr Undeb.

www.xtreme.org

Eich Undeb: Yn gweithio drosoch chi

Tom Upton, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

24 25

Y Gymdeithas GymraegGlesni Morgan, Llywydd y Gym Gym

“Yn ystod fy nhair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf wedi bod yn aelod ffanatig o’r Gymdeithas Gymraeg. Wrth ymaelodi yn fy mlwyddyn gyntaf a gwneud ffrindiau gyda Chymry eraill y brifysgol roeddwn yn teimlo’n gartrefol yn y ddinas, yn enwedig gan fy mod yn dod yn wreiddiol o bentref bach yng ngorllewin Cymru. Yn sicr mae’r Gym Gym yn gysur i mi a’m ffrindiau ac mae wedi rhoi profiadau sydd wedi gwneud fy amser yn y brifysgol yn fythgofiadwy.

“Rydw i bellach yn fy nhrydedd flwyddyn ac rwyf wedi cael y fraint o fod yn llywydd ar y Gym Gym. Yr unig nod sydd gen i yw sicrhau bod gweddill yr aelodau’n cael yr un faint o hwyl a breintiau ac y ces i, gan gadw ein henw da am fod yn un o gymdeithasau mwyaf cyfeillgar a chymdeithasol Prifysgol Abertawe!”

Bydd yn rhan o’r bwrlwm!

Page 15: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Proffiliau Myfyrwyr

26 27

“ Credaf fod Ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, yn medru ehangu eich gorwelion ac agor drysau i chi yn y dyfodol. Mae treulio blwyddyn dramor yn orfodol os ydych yn astudio Iaith Dramor Fodern. Clywais fod gan Abertawe bartneriaeth efo prifysgol ym Marcelona a threuliais amser gorau fy mywyd yno. Dwi wastad yn cymharu a defnyddio fy mhedair iaith wrth drio dysgu rhywbeth, ac yn aml iawn mae’r Gymraeg yn medru fy helpu i ddeall a dyfalu geiriau Ffrangeg a Sbaeneg yn fwy na’r Saesneg.

“ Fel siaradwr ail iaith, fe wnes i ddewis y Gymraeg fel pwnc gradd er mwyn sicrhau y byddaf yn rhugl yn y Gymraeg. Yn awr, gallaf gymdeithasu yn y Gymraeg gyda siaradwyr iaith gyntaf ac ail iaith heb unrhyw drafferth. Mae’n gwrs ymarferol iawn sy’n rhoi sgiliau gwaith a chyfathrebu sydd yn addas ar gyfer swyddi yn y byd sydd ohoni.

“Y peth gorau am y cwrs yw’r cyfle i fynd allan gyda’r nyrsys a dysgu trwy ymarfer. Rydw i’n mynd allan gyda’r nyrsys cymunedol yng Ngw yr ar hyn o bryd, ac mae’n braf cael defnyddio’r iaith Gymraeg gyda’r bobl leol wrth i ni ymweld â nhw.

”“ Dewisais astudio Hanes ym Mhrifysgol Abertawe gan mai

dyma un o ddinasoedd mwyaf bywiog Cymru gydag amryw o

adnoddau ar gael y tu hwnt i gampws y Brifysgol, o Ganolfan

Chwaraeon arbennig i draeth a golygfeydd prydferth. Y peth

gorau am astudio yn Abertawe yw’r adnoddau defnyddiol, er

enghraifft mae Archifau Richard Burton yn llyfrgell y brifysgol

ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yng nghanol y ddinas,

mae cael mynediad at adnoddau’r rhain yn hanfodol ar gyfer

fy ngradd Hanes!

26 27

Sioned, Nyrsio (Oedolion)

Alys , BA Hanes

“Mae lleoliad Abertawe’n wych i mi am fy mod yn ddigon agos i adref, ond yn ddigon pell imi fod yn

annibynol oddi wrth fy rhieni. Dewisais y Gyfraith fel cwrs gradd gan fod cynnwys y radd yn swnio’n ddiddorol

iawn. Gan ein bod yn gwneud yr holl fodiwlau craidd yn ystod blwyddyn un a dau, rwy’n gallu teilwra fy

mlwyddyn olaf i’m diddordebau fy hun.

” Nel, LLB Y Gyfraith

Heulwen, BA Ffrangeg a Sbaeneg

“ Yn sicr, y manteision o astudio’r Gymraeg yn Abertawe yw bod nifer o gyfleoedd i ymarfer yr iaith, sydd yn berffaith i mi. Hefyd, mae’r darlithoedd bywiog a’r sylw rydym yn ei dderbyn gan ddarlithwyr a thiwtoriaid yn golygu bod digon o amser i drafod ac esbonio pethau’n fanylach.

”Nia , BA Cymraeg (Iaith gyntaf)

Christian, BA Cymraeg (Ail iaith)

Page 16: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

...Meddyliwch AbertaweMeddwl am Chwaraeon...

Prifysgol Chwaraeon

Hwyl

Iechyd a lles

Rygbi

Fars

ity Cy

mru

o ddifrifathletau

Y Gweilch

Chwaraeon elît

campfa

Yr Elyrch

Pwysau

Chw

arae

on D

wr

Môr

Hwylio

syrf

fio

Beicio mynydd

Pêl-Rwyd

badminton

Tan-ddwr

Rhwyfo

Crefftau ymladd

Sboncen

Pêl droed

Timau

daw

n na

turiol

cefn

ogi

Bal

chde

r Sgarlets

HamddenFfrindiau

Cae bob-tywydd

Parc

cyfleusterau

rhagolygon gyrfa

Pw

ll C

ened

laet

hol

Cym

ru

partneriaid balch

cyfr

ano

giad

Dawn

pêl fasged

Ysgo

loria

eth

Trad

do

dia

d

nofio

www.swansea.ac.uk/sport

28

golff

Mae Prifysgol Abertawe yn ymfalchïo yn ei hymroddiad a’i hymrwymiad i chwaraeon a byw’n actif. Mae adran chwaraeon y brifysgol, Chwaraeon Abertawe, yn cwmpasu’r holl feysydd chwaraeon a hamdden, gan groesawu pob lefel o allu mewn chwaraeon.

Mae’r darlun o’r Alarch yn hedfan yn benodol ac unigryw i Abertawe ei hun. Yn ogystal ag awgrymu symudiad, hedfan a chynnydd, sydd i gyd yn rhan o natur y byd chwaraeon, mae’r alarch yn atseinio gyda’r ddinas ei hun, gan sicrhau fod yr hunaniaeth yn un y bydd pobl yn ei chysylltu ag Abertawe. Mae tri lliw yr alarch yn cynrychioli tri sector Chwaraeon Abertawe – elît, hamdden ac iechyd a lles.

Ffocws Chwaraeon Abertawe yw traddodiad, cystadlu, llwyddiant a phenderfyniad. Mae’r brand yn anelu at ysbrydoli a chysylltu gyda myfyrwyr.

Abertawe yw prifddinas Cymru ar gyfer Chwaraeon ac mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn brifysgol sydd o ddifrif am chwaraeon. P’un ai ydych yn cysegru’ch bywyd i chwaraeon neu’n ei fwynhau yn ystod eich amser hamdden, mae Prifysgol Abertawe yn annog gweithgareddau chwaraeon ar bob lefel.

Mae ein hamgylchedd naturiol heb ei ail a’r cyfleusterau diweddaraf yn gwneud Abertawe yn ddewis amlwg ar gyfer ffitrwydd a lles ochr yn ochr â’ch astudiaethau.

Page 17: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

(GG) – Gemau’r Gymanwlad

Prifysgol Chwaraeon o DdifrifCHWARAEON I BAWB Mae gan Abertawe dros 50 o glybiau chwaraeon i fyfyrwyr. Ein nod yw sicrhau bod cymaint â phosibl o’n myfyrwyr yn weithgar ac yn mwynhau chwaraeon, a bod ein chwaraeon yn hygyrch i’n holl gymuned. O glybiau chwaraeon, i gyfleusterau hamdden, i ddosbarthiadau ymarfer corff, mae bob amser rhywbeth ar gael i’ch cadw’n weithgar!

Mae ein cyn-fyfyrwyr chwaraeon yn cynnwys:

• Daniel Caines – Athletau, Prydain Fawr

(Gemau Olympaidd)

• Jo Crerar – Lacrós, Lloegr

• Adrian Dale – Criced, Lloegr

• Martyn Davies – Nofio, Cymru (GG)

• Tim Dolton – Hwylio (Her y Byd)

• Tim Dykes – Golff, Cymru

• Steven Evans – Nofio, Cymru (GG)

• Renee Godfrey – Syrffio

• Victoria Hale – Nofio, Cymru (GG)

• Emma James – Hoci, Cymru (GG)

• Alun-Wyn Jones – Rygbi, Cymru a’r Llewod

• Daniel Jones – Hoci, Cymru

• Robert Howley – Rygbi, Cymru a’r Llewod

• Katherine Lenaghan – Rygbi, Merched Cymru

• Katrina Lowe – Karate, Lloegr

• Sarah Powtle – Hoci, Cymru (GG)

• Phillipa Roles – Athletau, Prydain Fawr

(Gemau Olympaidd)

• Paul Thorburn – Rygbi, Cymru

• Stephanie Watson – Nofio, yr Alban (GG)

Gosod eich her

“Symudais i Abertawe ar gyfer y rhaglen radd gymaint ag ar gyfer y cyfleusterau, ond wrth gwrs roedd hi’n ddelfrydol bod mor agos at Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Roedd y Brifysgol yn gefnogol tu hwnt wrth fy helpu i gydbwyso fy astudiaethau gyda’m hyfforddiant a’m cystadlu.

”Enillodd y nofiwr Liz Johnson Fedal Aur yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing. Graddiodd o Abertawe mewn

Rheoli Busnes a Chyllid yn 2007

30 31

Page 18: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

“Rydw i wrth fy modd â bywyd yn Abertawe, fedra i ddim meddwl am unrhyw le arall yr hoffwn fod. Dwi’n dwlu ar y lle!

”Nathan, BSc Gwyddor Chwaraeon

Cartrefrhagoriaeth

mewn chwaraeon

Cyfleusterau ChwaraeonMae ein Pentref Chwaraeon gwerth £20 miliwn yn gartref i:

• Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe – pwll nofio 50-metr a phwll “cynhesu” 25-metr

• campfa’r UniGym sydd wedi’i chyfarparu’n llawn â dros 80 o orsafoedd ffitrwydd

• canolfan hyfforddi dan do

• wal ddringo

• ystafell ffisiotherapi a chyfleusterau tylino chwaraeon

• neuadd chwaraeon amlbwrpas

• caeau rygbi

• caeau pêl-droed

• sgwariau criced

• cyrtiau tenis

• caeau pob tywydd

• cyrtiau pêl droed pump bob ochr

• cae lacrós

• trac athletau wyth lôn.

Ar ben hynny, mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch o’i Chanolfan Chwaraeon Traeth a Dwr newydd, a’r cyfleusterau hyfforddi pêl-droed a rennir gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe, tîm sydd yn Uwch-gynghrair Barclays.

“Mae’r gêm Farsity yn ddigwyddiad enfawr bob blwyddyn sy’n denu cefnogaeth gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Mae hanes llwyddiannus Abertawe yn y gêm hyd yma yn dystiolaeth o’r gwaith paratoi a’r angerdd y mae’r Brifysgol yn eu

dangos ym mhob un o gemau’r her Farsity”Alun-Wyn Jones, chwaraewr rygbi dros Gymru a’r Gweilch a raddiodd o Abertawe

2013

Ysgoloriaethau Mynediad ChwaraeonBob blwyddyn mae’r brifysgol yn cynnig sawl ysgoloriaeth mynediad chwaraeon i fyfyrwyr rhagorol yn eu maes chwaraeon. Mae pob ysgoloriaeth yn werth £1000 y flwyddyn ac yn adnewyddadwy dros dair blynedd. Mae myfyrwyr yn cael manteisio hefyd ar becyn sy’n ceisio cynnal cydbwysedd rhwng gwaith academaidd a gweithgarwch chwaraeon. Cynigir defnydd cyfleusterau am ddim, cymorth cryfder a ffitrwydd, cymorth Gwyddor Chwaraeon, a llawer mwy.

Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r sbectrwm eang o dalent sydd gan bobl ifanc mewn chwaraeon unigol a thîm. Rydym yn edrych am fyfyrwyr sy’n bodloni’r gofynion academaidd arferol ar gyfer mynediad ond sydd hefyd wedi dangos gallu eithriadol yn y maes chwaraeon o’u dewis. Yn ymarferol, yn sgil y gystadleuaeth ddwys ar gyfer y gwobrau hyn, mae hyn fel arfer yn golygu y byddant wedi cyrraedd lefel o ragoriaeth a gydnabuwyd yn genedlaethol.

Rhagoriaeth mewn ChwaraeonMae’r Brifysgol yn adeiladu enw i’w hun fel canolfan naturiol ar gyfer rhagoriaeth mewn chwaraeon, a bu ein cyfleusterau’n allweddol wrth helpu athletwyr i wireddu eu breuddwydion yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, a thu hwnt. Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiad cryf â sgwad nofio Prydain Fawr trwy’r Ganolfan Hyfforddi Dwys ar safle’r Brifysgol, â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe sydd â’i faes hyfforddi yn y Brifysgol hefyd, ac â rhanbarthau rygbi proffesiynol y Gweilch a’r Sgarlets.

Mae sawl athletwr Olympaidd a Pharalympaidd, yn ogystal ag athletwyr Pencampwriaethau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau’r Byd, wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae rhai ohonynt wedi manteisio ar ein cynllun ysgoloriaeth “Athletwyr Elitaidd” israddedig; mae eraill wedi cynyddu eu potensial o ganlyniad i’r amgylchedd cystadleuol a chefnogol yma yn Abertawe.

www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-chwaraeon/

Gemau’r PrifysgolionHer Farsity Cymru yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Farsity Prifysgolion Prydain, y tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt.

Yn ystod Her Farsity’r Prifysgolion mae prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn dros 25 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Mae’r gystadleuaeth yn cyrraedd uchafbwynt â’r gêm rygbi fawr, a chwaraewyd yn 2012 o flaen torf o 16,000 yng nghartref rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae sawl myfyriwr wedi symud ymlaen i gynrychioli ac ennill contractau gyda chlybiau lled-broffesiynol a phroffesiynol yn dilyn perfformiadau gwych yn Gêm Farsity Cymru. Mae timoedd blaenorol Prifysgol Abertawe wedi cynnwys chwaraewyr rhyngwladol Cymru Alun-Wyn Jones, Richie Pugh a Dwayne Peel.

Mae Abertawe wedi ennill deg allan o’r un gêm ar bymtheg sydd wedi’u chwarae hyd yma, gydag un gêm gyfartal rhwng y ddau dîm.

www.welshvarsity.com

32 33

Page 19: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Meddwl am Prifysgol Abertawe? Siarad Cymraeg? Beth am astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog?

Mae astudio rhywfaint o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu cynnig manteision i chi fel myfyriwr:

Cam naturiol: Mae nifer sylweddol o’n myfyrwyr wedi astudio’n Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol neu’r coleg, felly mae’n gam naturiol i astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol hefyd.

Mantais i’ch CV:Byddwch hefyd yn dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio terminoleg arbenigol yn y Gymraeg sy’n gallu bod yn fantais wrth i chi chwilio am swydd ar ôl graddio. Bydd nodi’r sgil hon yn ychwanegiad atyniadol iawn ar eich CV a hithau’n fyd o gystadlu brwd am swyddi. Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd yn meddu ar allu mewn mwy nag un iaith.

Mwy o sylw:Yn aml iawn, mae’r dosbarthiadau’n llai sy’n golygu mwy o sylw gan ddarlithwyr a thiwtoriaid sy’n dod i’ch nabod chi’n well.

Mantais ariannol:Mewn rhai meysydd mae modd i fyfyrwyr dderbyn arian trwy ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg penodol. Mae cyfle i chi astudio rhywfaint o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y meysydd canlynol:

* ysgoloriaeth ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am astudio’r cyfan neu rywfaint o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ysgoloriaethau eraill ar draws y pynciau ar gael gan y Brifysgol i rai sydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lynsey Thomas, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

01792 602912 neu [email protected]

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Siwan, BA Cymraeg a’r Cyfryngau

Mae sawl elfen wahanol i fy nghwrs. Mae’n

canolbwyntio ar bethau fel agweddau amrywiol o

gyfathrebu, hanes yr iaith Gymraeg, sut mae

seiniau’n newid mewn iaith lafar a sut i drawsgrifio

iaith lafar. Hoffais y profiad o ddadansoddi sut yn

union mae’r iaith yn cael ei defnyddio gan bobl, y

defnydd o’r wyddor seinegol, a’r defnydd o iaith

mewn bywyd pob dydd ac ym myd y cyfryngau.

Dewisais astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf

oherwydd ei bod yn iaith gyntaf imi ac hefyd gan

fod y darlithwyr yn ddiddorol, ac yn frwdfrydig am

eu pynciau. Y peth gorau am Brifysgol Abertawe

yw’r lleoliad ardderchog, gyda’r traeth o fewn pum

munud o’r ystafell wely ar y campws ac mae yma

awyrgylch gwych! Rydw i’n aelod brwd o’r Gym

Gym ac wedi cael sawl noson i’w chofio yng

nghwmni’r aelodau eraill a hynny ar Stryd y Gwynt,

Abertawe ac ym Mharis!

• Almaeneg• Astudiaethau Busnes• Astudiaethau Iaith a Chyfieithu• Cyfryngau*• Astudiaethau Iechyd• Biowyddorau*• Cymraeg*• Cysylltiadau Cyhoeddus• Daearyddiaeth*• Ffrangeg*

• Gwaith Cymdeithasol• Gwyddorau Chwaraeon

ac Ymarfer Corff• Hanes• Mathemateg*• Meddygaeth• Nyrsio*• Peirianneg• Sbaeneg*• Y Gyfraith*

34 35

Barn

myfyriwr

Page 20: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Sefydlwyd Academi Hywel Teifi gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae’r Academi yn ganolbwynt ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a thrwy amrywiol weithgareddau mae’n cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Y mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi:Dysgu – mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, ac yn ganolfan sy’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau a gaiff eu dysgu yn y brifysgol;

Datblygu – mae’n gweithio i sicrhau lle amlycach i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd y brifysgol a rhanbarth de-orllewin Cymru gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dathlu – mae’n dathlu hanes a diwylliant Cymru yn ogystal â chyfraniad unigryw Yr Athro Hywel Teifi Edwards i’r diwylliant hwnnw, gan sichrau bod Prifysgol Abertawe yn rhan weithredol o fywyd diwylliannol Cymraeg Cymru. Mae’r Academi hefyd yn ymfalchïo yn a dathlu llwyddiannau cyn-fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Tra bod yr Academi’n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r 2,300 o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. At hynny, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru a Changen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’u lleoli o fewn yr Academi.

Caiff myfyrwyr a ddaw yma o bob cwr o Gymru a thu hwnt elwa ar adnoddau sefydliad o statws a pharch cenedlaethol. Y nod yw sicrhau y bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael y gorau o ddau fyd – profiad Cymreig mewn prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol.

Cysylltwch â ni er mwyn dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael yma, neu dewch i’n gweld ym mhabell GwyddonLe Eisteddfod yr Urdd, neu stondin Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Academi Hywel Teifi

36

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg. Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r prifysgolion yng Nghymru. Mae gan y Coleg ganghennau ym mhob un o brifysgolion Cymru sy’n aelod o’r Coleg ac mae Cangen Prifysgol Abertawe wedi’i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Fel aelod o’r Coleg, byddwch chi hefyd yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe.

Mae nifer o ddatblygiadau addysg cyfrwng Cymraeg cyffrous yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’r ddarpariaeth

yn datblygu’n gyflym. Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi wrth i chi astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydyn ni’n cynnal pob math o weithgareddau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau i ysgolion, digwyddiadau croeso i las fyfyrwyr, digwyddiadau i fyfyrwyr Cymraeg, cyfarfodydd ffurfiol, fforymau trafod a digwyddiadau cymdeithasol!

Mae drws y gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol.

Cangen Prifysgol Abertawe, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

“ Mae Prifysgol Abertawe yn hygyrch dros

ben ac yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau.

Dewisais astudio Daearyddiaeth oherwydd fy

mod yn medru teithio, rwy’n hoff iawn o hynny!

Y peth gorau am y cwrs yw’r cynnwys. Mae yna amrywiaeth enfawr

ac mae rhywbeth yn y cwrs at ddant pawb. Rwy’n mwynhau’n fawr yn

Abertawe, oherwydd rwyf wedi cwrdd â nifer enfawr o ffrindiau newydd

y byddaf yn cadw mewn cysylltiad â nhw am amser hir rwy’n siwr!

Mae yna ddigon o gefnogaeth i chi os ydych chi’n dymuno astudio

trwy’r Gymraeg. Mae pedwar darlithydd ar y cwrs Daearyddiaeth

sy’n siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â staff Academi Hywel Teifi sydd

ar gael os oes gennych broblem.

Mae astudio yn y Gymraeg yn rhoi sgil dwyieithog i chi. Mae’n dangos

i gyflogwyr eich bod yn wahanol a’ch bod yn medru dysgu’r pwnc o

ddau ongl gwahanol. Mae hynny’n werthfawr iawn!

Derbyniodd Gareth Taylor Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg i astudio Daearyddiaeth. Mae’n gobeithio gweithio mewn maes amgylcheddol, un sy’n caniatáu iddo deithio!

Proffil Myfyriwr

37

Am wybodaeth bellach, gweler tudalennau’r Coleg Cymraeg ar wefan Academi Hywel Teifi

neu ar dudalennau’r Myfyrwyr ar wefan y Coleg Cymraeg

Manylion Cyswllt 01792 602912 [email protected]

www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

www.colegcymraeg.ac.uk

Page 21: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Rydw i’n darlithio ar fodiwlau sy’n ymwneud â thechnegau

maes, sgiliau academaidd daearyddol, cynaliadwyedd, a hamdden.

Mae fy ngwaith ar hamdden yn tynnu ar fy niddordebau ymchwil

ar sut rydyn ni’n profi’r ddinas trwy ein cyrff, ac yn canolbwyntio’n

arbennig ar Parkour a Rhedeg Rhydd (Freerunning). Mae gen i

ddiddordeb mewn chwaraeon a sut mae pobl yn defnyddio gofodau

arbennig yn eu gweithgareddau hamdden, ac rwy’n ffodus iawn i

allu rhannu fy niddordebau hamdden a’m gwaith academaidd. Ar

hyn o bryd rwy’n edrych ar botensial y we a thechnoleg fodern, ac

yn arbennig ar ‘flogio’, fel cyfrwng i ddatblygu gwaith ar afonydd

a’r perthnasau rhwng pobl ac afonydd trefol.

Rwy’n darlithio mewn Hanes, gan gynnig modiwlau i

fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn Abertawe a phrifysgolion eraill

Cymru. Un rhan o’m gwaith yw dysgu Hanesyddiaeth, sef

hanes y ddisgyblaeth Hanes, ac rwyf hefyd yn darlithio ar

bynciau fel effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru, cyfraniad y Cymry

at yr Ymerodraeth Brydeinig a hanes y cymunedau Cymraeg y

tu allan i Gymru. Bydd dilyn y cwrs yma yn darparu sgiliau

dadansoddi ac ymchwil ardderchog i fyfyrwyr, sy’n elfen

atyniadol iawn ar eich CV i ddarpar-gyflogwyr!

”Dr Gethin Matthews, Darlithydd Hanes

Dr Kate Evans, Darlithydd Daearyddiaeth

“ Rydw i’n dysgu modiwlau Astudiaethau Sbaeneg trwy

gyfrwng y Gymraeg ac yn gwneud ymchwil ar ddiwylliant a

hunaniaeth Patagonia. Rydw i hefyd yn cyfrannu at ysgol haf

ieithoedd y brifysgol sy’n cynnig cyfle i ddarpar fyfyrwyr brofi

dysgu ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel addysg uwch.

Gall hwn olygu gostyngiad iddyn nhw yn y cyfanswm o bwyntiau

UCAS sydd eu hangen er mwyn cael lle ar gwrs ieithoedd. Mae

hefyd cyfle heb ei ail gan fyfyrwyr sy’n dilyn Sbaeneg trwy’r

Gymraeg yn Abertawe i ymweld â Phatagonia yn ystod y cwrs

a phrofi a rhannu diwylliant Cymraeg a Chymreig dramor.

”Dr Geraldine Lublin, Darlithydd Sbaeneg

3938

Ein Gofod Dysgu ni! Agorwyd gofod dysgu newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn swyddogol ym Mhrifysgol Abertawe gan Lowri Morgan, y gyflwynwraig deledu o Dregw yr, yn ystod digwyddiad cyntaf y Gangen yn y Brifysgol. Mae’r gofod hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg fod yn rhan o weithgareddau’r Coleg ar draws Cymru. Mae’r ystafell ddysgu amlbwrpas hon yn adnodd defnyddiol i chi ac yn eich galluogi i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn gwahanol sefydliadau drwy dechnolegau e-ddysgu.

Ysgoloriaethau’r Coleg CymraegMae gan Brifysgol Abertawe dros bump ar hugain o gyrsiau sy’n gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg a thros ddeugain o gyrsiau sy’n gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg.

Mae’r Coleg yn cynnig dau gategori o ysgoloriaethau israddedig, sef Prif Ysgoloriaethau sy’n werth £1,000 y flwyddyn, ac Ysgoloriaethau Cymhelliant, gwerth £500 y flwyddyn. Edrychwch ar gynnwys adran cyrsiau y prosbectws hwn i weld os yw eich cwrs gradd dewisiol chi yn gymwys ar gyfer un o’r ysgoloriaethau.

Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y ColegMae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill cymhwyster sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel aelod o’r Coleg bydd gennych gyfle i ennill y cymhwyster hwn.

Pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi yn y dyfodol, felly, bydd gennych:

• dystiolaeth (a gydnabyddir gan y sector addysg uwch a chan gyflogwyr) o lefel eich sgiliau iaith Gymraeg

• ffordd o ddangos eich gallu i gyfathrebu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd.

Am fanylion pellach, ewch i

www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/tystysgrifsgiliauiaith

Proffiliau Staff

Page 22: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn herio’r ffiniau o ran meddwl gwyddonol ac academaidd – gan ymgymryd ag ymchwil ac iddo arwyddocâd byd-eang, sy’n cyffwrdd â phob agwedd o gymdeithas, gan gynnwys diwylliant, newid hinsawdd, busnes, peirianneg, gwyddoniaeth iechyd a lles.

Mae nifer o’n hymchwilwyr yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu cyfraniadau i’w maes. Rydym yn arbennig o falch o’n cysylltiadau cydweithredol llewyrchus â byd diwydiant, sydd ymhlith y gorau yn y DU.

yn gyrru potensialDwyn y blaen

www.abertawe.ac.uk/ymchwil

Mae prosiect SPECIFIC (Canolfan Peirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenennau Diwydiannol Pwrpasol Arloesol) yn fenter pum mlynedd a arweinir gan Brifysgol Abertawe a Tata Steel.

Mae’n ceisio troi adeiladau’n ‘orsafoedd pwer’ trwy ddefnyddio haenennau ar ddur a gwydr i ddal ynni, i storio ynni, ac i ryddhau ynni. Bydd yn creu dulliau arloesol, glân, diogel, ac adnewyddadwy o gynhyrchu ynni. Caiff yr haenennau hyn eu

gweithgynhyrchu, a byddant ar gael yn fasnachol, o fewn oes y prosiect.

Bydd y cynnyrch arloesol hwn yn trawsnewid y sector adeiladu, a’r nod strategol yw cynhyrchu dros un rhan o dair o darged ynni adnewyddadwy’r DU erbyn 2020, gan ddileu 6 miliwn o dunelli’r flwyddyn o allyriadau CO2; a chan greu swyddi newydd yn y sector gweithgynhyrchu.

Ymateb i Heriau Gofal Iechyd Mae’r Ganolfan NanoIechyd, menter ar y cyd rhwng y Coleg Peirianneg a’r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn wynebu rhai o’r heriau mwyaf i ddyfodol gofal iechyd; i ymyrryd ynghynt er mwyn canfod clefydau; ac i nodi triniaethau meddygol neu lawfeddygol yn gyflym a’u rhoi ar waith yn aml mewn lleoliad y tu allan i’r ysbyty, megis y cartref, clinig cymunedol, neu feddygfa leol.

Mae gan Nanodechnoleg rôl gynyddol bwysig a strategol wrth ymateb i’r her hon, a chyda datblygu biofarcwyr yn rhan o ymchwil biofeddygol Sefydliad Gwyddor Bywyd y Coleg Meddygaeth, gallai arwain at ddatblygu teclynnau, prosesau, a synwyryddion newydd y gellid eu defnyddio i ganfod clefydau ynghynt ac i drin cleifion mewn ystod o leoliadau.

Mae ASTUTE yn helpu i adfer yr economiAmcan prosiect ASTUTE (Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy) yw ceisio hyrwyddo twf y diwydiant gweithgynhyrchu yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd trwy ddefnyddio dylunio a thechnolegau gweithgynhyrchu mwy blaengar, ac, ar yr un pryd ceisio gwella cynaliadwyedd trwy leihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae ASTUTE yn bartneriaeth rhwng wyth prifysgol. Mae’n rhoi eu harbenigedd o ran peirianneg, gwyddoniaeth, a busnes ar waith, ac yn targedu’r sectorau awyrofod a cherbydau, yn ogystal â chwmnïau technoleg uchel eraill, gyda’r bwriad o greu nwyddau a gwasanaethau o werth uwch a dod â hwy i farchnad fyd-eang.

Mae’r prosiect wedi cydweithio’n llwyddiannus â chwmnïau ar draws ystod o sectorau gwahanol gan gynnwys Mustang Marine (Wales) yn Noc Penfro, EBS Automation yn Llanelli, a Silverwing (UK) yn Abertawe.

40 41

Yn meithrin meddyliau mawr

Page 23: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

42

Dyddiaduron Richard Burton

Rhoi Plant yn Gyntaf Mae ymchwil yn y Ganolfan Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc yn canolbwyntio ar wella bywydau plant a phobl ifanc, ac yn ceisio rhoi llais iddynt.

Pedwar prif faes yr ymchwil yw:

• iechyd plant, gan gynnwys gordewdra, ffactorau risg cardiofasgwlaidd, diabetes mellitus, syndrom metabolig, diffyg gweithgarwch, hybu iechyd, iechyd meddwl, gofal lliniarol, gofal amenedigol, tueddiadau, a chyflyrau cronig

• lles plant, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, cam-drin plant, esgeuluso plant, plant â dyslecsia a phlant ag anabledd, anghydraddoldebau, chwarae, a digartrefedd

• hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys cydnabod hawliau, hyrwyddo hawliau, a diogelu hawliau

• plant a phobl ifanc ac ymfudo, gan gynnwys hunaniaethau, iechyd, ceisio lloches, a gwrthdaro

Ymchwil SMART ar anifeiliaidMae Tîm Ymchwil Anifeiliaid sy’n Symud yn ymchwilio i symudiadau anifeiliaid yn yr ystyr ehangaf.

Mae ei gwaith byd-arweiniol yn cynnwys edrych ar rôl yr amgylchedd mewn symud a dosbarthiad anifeiliaid, gan ddefnyddio technolegau newydd i gael mynediad at rywogaethau sy’n anodd eu trin. Mae astudio ymddygiad anifeiliaid yn allweddol ar gyfer disgyblaethau yn amrywio o hwsmonaeth anifeiliaid i seicoleg. Er bod dulliau cynnar yn defnyddio dulliau arsylwi syml, mae dull mwy diweddar yn defnyddio mesurwyr cyflymiad tri-echelinol sydd ynghlwm wrth dagiau ar yr anifeiliaid, i gofnodi pob agwedd o fywyd bob dydd yr anifail, waeth lle y gallai deithio. Gan fod y synwyryddion yn cofnodi symudiad, dylai fod yn bosibl i ddefnyddio’r data a gofnodwyd i ddadansoddi ymddygiad.

Cyfrol academaidd Gymraeg ym maes y GyfraithDerbyniodd Prifysgol Abertawe grant gan y Coleg Cymraeg i alluogi’r Athro R. Gwynedd Parry i neilltuo cyfnod sabothol ar gyfer cwblhau’r gyfrol Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. Mae hwn yn adnodd pwysig ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith, a phynciau eraill megis Gwleidyddiaeth, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydliad Ymchwil Hywel DdaMae Sefydliad Ymchwil Hywel Dda yn ganolfan ymchwil sydd yn hybu dealltwriaeth o’r heriau cyfreithiol sy’n wynebu Cymru o ganlyniad i ddatganoli, ac o’r syniad o Gymru fel endid cyfreithiol. O dan arweiniad Yr Athro Gwynedd Parry, mae’r Sefydliad yn cyfrannu i drafodaeth gyhoeddus trwy gyhoeddi ymchwil, cynnal darlithoedd, cyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriadau, a chynnig ei harbenigedd i fudiadau a chyrff perthnasol.

Archif Richard BurtoniveMae cyhoeddi The Richard Burton Diaries, a olygwyd gan Chris Williams, Athro Hanes Cymru a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wedi denu sylw a chlod ledled y byd, ac mae wedi datgelu ochr wahanol iawn i wyneb cyhoeddus yr actor byd-enwog.

Mae’r gyfrol yn ffrwyth gwaith ymchwil diwyd yn seiliedig ar y dyddiaduron sydd yn llawysgrif Richard Burton; dyddiaduron y bu Burton yn eu cadw ers 1939. Daliodd i’w hysgrifennu tan ychydig cyn iddo farw ym 1984, ac fe’u rhoddwyd i Brifysgol Abertawe yn 2005 gan ei weddw, Sally.

Adnabyddir y dyddiaduron, gyda phapurau personol eraill, fel Casgliad Richard Burton, ac erbyn hyn mae’n rhan ganolog o Archifau Richard Burton, gwerth £1.2 miliwn, yn Llyfrgell y Brifysgol.

Dewiswch

lwybr

gwahanol

42 43

Gwyddoniaeth heddiw’n datgelu cyfrinachau’r gorffennol Mae prosiect unigryw am long ryfel Harri VIII, y Mary Rose, a suddodd ym 1545, yn datgelu gwybodaeth newydd am oes y Tuduriaid, diolch i dechnoleg yr 21ain ganrif.

Mae gwyddonwyr o’r Coleg Peirianneg a’r Coleg Gwyddoniaeth yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Mary Rose i daflu goleuni ar fywyd cwmni elitaidd o saethwyr proffesiynol oedd ar y llong.

Mae gwyddonwyr yn archwilio eu hesgyrn i chwilio am newidiadau o ganlyniad i weithgarwch, a gall samplau DNA ddatgelu mwy am ymddangosiad y saethwyr, eu tarddiad, a’u ffordd o fyw. Bydd hyn i gyd yn helpu i ail-greu darlun o fywyd ar y llong ryfel enwog ymron i 500 mlynedd ar ôl iddi suddo.

Ailsefydlu v AtgwympoMae’r Ganolfan ar gyfer Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg wedi datblygu prosiect sy’n mynd i’r afael ag ail-droseddu neu atgwympo gan bobl ifanc ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar.

Mae’r prosiect wedi llunio ‘rhestr wirio ailsefydlu’, gyda mewnbwn uniongyrchol oddi wrth Dimoedd Troseddau Ieuenctid, Carchardy Parc ym Mhenybont-ar-Ogwr, a charcharorion ifainc eu hunain mewn ymdrech i leihau’r raddfa atgwympo, sy’n 80% ar hyn o bryd.

Mae’r rhestr wirio’n golygu bod gan y bobl ifanc, yn ogystal â staff y carchar a staff Timoedd Troseddau Ieuenctid, gynllun ailsefydlu clir, a rhestr o dasgau a fydd yn hyrwyddo llwyddiant y broses ailsefydlu.

Page 24: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Y Car Uwchsonig BLOODHOUND yw’r car sy’n gobeithio cynyddu record presennol y byd am gyflymder ar y tir a hynny o 30% i 1,000mya erbyn 2013. Gweledigaeth deiliaid record presennol y byd am gyflymder ar y tir, Syr Richard Noble a’r Asgell-gomander Andy Green, a aeth â’r record i 763mya yn eu car uwchsonig THRUST SSC, yw’r antur wyddoniaeth a pheirianneg bum mlynedd hon.

Prif rôl Prifysgol Abertawe ym mhrosiect BLOODHOUND yw datblygu’r dechnoleg Dynameg Hylifol Cyfrifiannol (CFD) arloesol a ddefnyddiwyd i ddylunio’r car uwchsonig THRUST SSC yn aerodynamig. Mae’r dechnoleg CFD hynny wedi’i datblygu ymhellach erbyn hyn ac wedi’i haddasu i fynd i’r afael â heriau uchelgeisiol a phenodol BLOODHOUND SSC mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg.

www.bloodhoundssc.com

{ar gyflymder o 1,000mya}Antur peirianneg

4544

Dr Ben Evans yw modelwr CFD y prosiect BLOODHOUND. Mae’n astudio aerodynameg y car er mwyn deall sut y bydd yn ymddwyn.

Mae ei fodelau cyfrifiannu wedi dylanwadu ar ddyluniad BLOODHOUND, gan gynnwys cyfluniad ei olwynion blaen, siâp y trwyn, a mewnlif y peiriant jet.

Mae’r gwaith o fodelu’r CFD yn parhau i fod yn un o’r prif offerynnau a ddefnyddir i ddatblygu geometreg arwynebol BLOODHOUND.

Page 25: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

ddatblygu’r campws Cynlluniau cyffrous i

Mae Prifysgol Abertawe yn gyrru ei chynlluniau cyffrous ar gyfer Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi gwerth £250 miliwn yn eu blaen. Bydd y campws newydd ar safle yn Ffordd Fabian, ac adfywio’r campws presennol ym Mharc Singleton, yn creu cyfleusterau ymchwil, arloesi, ac addysg o’r radd flaenaf yn Abertawe.

Mae’r prosiect yn tanlinellu’n huchelgais i fod ymhlith 200 prifysgol orau’r byd. Bydd yn ein galluogi i ddenu mewnfuddsoddi i Gymru, a hyrwyddo twf clystyrau technoleg

uchel. Bydd yn sefydlu’r rhanbarth yn lleoliad bywiog ar gyfer cwmnïau modern, technoleg uchel, gan greu effaith fwy o lawer yn y pendraw.

Bydd y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi yn galluogi’r Brifysgol i dorri’n rhydd o’i chyfyngiadau ystadau cyfredol. Bydd yn darparu gofod ar gyfer twf ac yn galluogi cydweithio cynyddol gyda diwydiant. Bydd yn darparu Parc Gwyddoniaeth cenhedlaeth nesaf gan ddwyn ynghyd ymchwilwyr, myfyrwyr ac academyddion Prifysgol a diwydiant.

£250m

Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi

www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/safon-fyd-eang/rhaglenailddatblygurcampws

Gweler fideo o’r campws newydd arfaethedig

4746

Page 26: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

48

Addysgu a Dysgu Ysbrydoledig

Rydyn ni’n credu y dylai addysgu roi pleser yn ogystal ag ysgogi a herio.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn gradd 5 seren ar gyfer ansawdd ei haddysgu{ gan y system

graddio prifysgolion byd-eang Sêr QS.

48

Page 27: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Elwa o’n hymchwil o safon fyd-eangMae ein staff academaidd yn ymchwilio yn gyson sydd yn helpu i gadw ein dysgu yn fyw, yn berthnasol ac yn gyfredol. Gall fod yn brofiad cofiadwy ac yn ysbrydoledig iawn i dderbyn eich addysg gan y bobl sydd wedi ysgrifennu testunau allweddol ar gyfer eich cwrs. Mae hefyd yn golygu eich bod yn dysgu am ddamcaniaethau a thechnolegau newydd wrth iddynt gael eu datblygu a’u rhoi ar waith.

Dysgu ac addysgu arloesolRydym bob amser yn chwilio am ddulliau arloesol i ychwanegu gwerth at eich profiad o ddysgu drwy ddefnyddio arfer gorau i wella ansawdd ein haddysgu ac i roi mwy o gyfle i chi ddweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl o sut rydych chi’n cael eich addysgu.

Rydym eisoes yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau a thechnolegau, megis efelychiadau senario, blogiau, podlediadau, fodlediadau, a rhwydweithio cymdeithasol, yn ogystal â chyflwyno darlithoedd rhyngweithiol gan ddefnyddio systemau ymateb cynulleidfa a adnabyddir fel ‘clicwyr’.

Byddwch hefyd yn gwneud defnydd rheolaidd o Blackboard, ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sy’n hwyluso dysgu ac addysgu ar-lein. Drwy Blackboard, cewch fynediad at ddeunyddiau cwrs, taflenni a nodiadau darlith, yn ogystal ag ardal gyffredin ar gyfer gwaith grwp , trafodaethau ar-lein a chyfnewid syniadau gyda’ch cyd-fyfyrwyr.

Sefydlwyd Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn 2009 i gynnig y cyngor a’r arweiniad strategol angenrheidiol i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig profiad dysgu ardderchog, a’n bod yn gwneud y gorau o dechnolegau addysgu newydd.

Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010 a’i nod hi yw arwain ac arloesi ym maes addysg cyfrwng Cymraeg trwy hybu gweithgarwch nifer o staff academaidd brwd. Mae’r Academi yn cefnogi’r pynciau a gynigir o fewn y brifysgol i gynnig ystod eang o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddarparu cefnogaeth gref a safonol i’r myfyrwyr sy’n dewis astudio trwy’r Gymraeg.

Cewch eich ysbrydoli

Mae astudio mewn prifysgol a arweinir gan ymchwil hefyd yn golygu eich bod yn elwa o wybodaeth a sgiliau academyddion penigamp o glod rhyngwladol.

Yn meithrin meddyliau

mawr

50 51

Page 28: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae ein llyfrgell mewn man canolog ar y campws a cheir yno amrywiaeth eang o adnoddau i’ch helpu i gael y gorau o’ch astudiaethau.

Ni hefyd sydd â’r oriau agor hiraf o blith holl lyfrgelloedd prifysgolion Cymru. cyfrifiadur i chi eu defnyddio pan

fo’r Llyfrgell ar agoragor

Rydym ar agor am dros 110 awr yr wythnos yn ystod y tymor, gan gynnwys dydd Sul

Mae gennym dros 800,000 o lyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a deunyddiau argraffedig eraill, yn ogystal â fideos, DVDau ac amrywiaeth eang o gymwysiadau meddalwedd.

Dros 800,000

450

Adnoddau dysguGallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael gwasanaeth gwych – rydym ymhlith nifer fechan o lyfrgelloedd a gwasanaethau TGCh yn y DU sydd wedi derbyn gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Rheolir y llyfrgell gan Wasanaethau Gwybodaeth a Systemau, sydd hefyd yn rheoli’r rhwydwaith TG y byddwch yn ei ddefnyddio trwy gydol eich cyfnod yn Abertawe, yn cynnwys y rhwydwaith diwifr sydd ar gael yn y rhan fwyaf o’r adeiladau ar gampws Singleton a’n holl lety myfyrwyr (yn cynnwys Hendrefoelan a Thy Beck).

Mae system gyfrifiadurol y campws wedi’i chysylltu â’r byd tu allan trwy gyfrwng y rhwydwaith cyflym JANET. Ar sawl golwg, rydym ar flaen y gad wrth archwilio gallu rhwydweithiau o’r fath i ddarparu technolegau amlgyfrwng, fideo a thechnolegau eraill sy’n fwyfwy annatod i arferion dysgu ac addysgu modern.

Os ydych yn berchen ar eich gliniadur eich hun gallwch ei gysylltu â rhwydwaith diwifr y Brifysgol. Mae gennym hefyd tua 100 gliniadur i’w llogi.

Mae’n rhwydwaith myfyrwyr yn rhoi’r canlynol i chi:• mynediad am ddim i’r Rhyngrwyd

• cyfrif e-bost a storfa ffeiliau bersonol

• mynediad at gatalog y llyfrgell ar-lein

• y cyfle i ail-fenthyg ac archebu llyfrau

• mynediad at filoedd o erthyglau cyfnodolion ar-lein

• cyfleuster i chwilio cronfeydd data gwybodaeth wedi’u rhwydweithio

• ffordd hawdd i gadw mewn cysylltiad â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill.

• mynediad at Amgylchedd Dysgu Rhithiol (Blackboard)

• mynediad rhwydd at swyddogaethau gweinyddol gan gynnwys cofrestru

www.abertawe.ac.uk/ggs

Am ragor o wybodaeth, ewch

i’n gwefan yn:

Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth

ar hyn o bryd rydym yn darparu:

• cefnogaeth unigol i gysylltu eich gliniadur neu’ch cyfrifiadur i’n rhwydwaith diwifr

• cyfleusterau hunanwasanaeth i fynd ag eitemau allan a’u dychwelyd eich hun i arbed amser i chi

• amrywiaeth o ardaloedd astudio tawel ac ardaloedd ar gyfer astudio grwp• cyfleusterau penodol ar gyfer

myfyrwyr ag anghenion arbennig• cyngor ac arweiniad manwl gan staff cyfeillgar a pharod eu cymorth

Mae hynny tua un i bob chwe myfyriwr

Mae dros 1,800 o gyfrifiaduron ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio ym Mhrifysgol Abertawe.

Rydym ar agor am 24 awr yn ystod cyfnodau arholiadau a thymor yr Haf.24 awr

• llungopiwyr, sganwyr ac argraffwyr• cyrsiau ar sut i wneud y defnydd gorau o’n

gwasanaethau a’n hadnoddau – gan gynnwys arweiniad ar sut i ddefnyddio’r pecyn iaith Gymraeg, Cysgliad, a Microsoft Office yn y Gymraeg

52 53

Page 29: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Beth yw rhaglen radd?Casgliad o fodiwlau yw rhaglen radd sy’n cyfuno i ffurfio cyfanwaith sy’n dderbyniol yn academaidd. Pan fyddwch yn ymrestru, byddwch yn derbyn llawlyfr sy’n rhoi manylion strwythur eich rhaglen radd ac yn dweud wrthych ba fodiwlau sy’n orfodol neu’n ddewisol, a ph’un a ydych yn gallu gwneud unrhyw fodiwlau dethol.

Beth yw modiwl? Modiwlau yw blociau adeiladu eich gradd. Unedau annibynnol ydyn nhw fel arfer, yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gwaith ymarferol. Byddwch fel arfer yn cael cyfle i ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, ynghyd â modiwlau craidd gorfodol sy’n ofynnol ar gyfer eich gradd.

Mae gan bob modiwl ei faes llafur, ei ganlyniadau dysgu a’i ddulliau asesu unigryw ei hun, a byddwch yn cael cyngor gan eich tiwtoriaid i’ch helpu i ddewis y modiwlau fydd o’r budd mwyaf i chi. Byddwch yn derbyn pwyntiau credyd am bob modiwl y byddwch yn ei gwblhau.

Modiwlau dethol yw modiwlau nad ydynt yn rhan o’ch prif raglen radd. Er enghraifft, os ydych yn astudio Peirianneg ac yn dymuno astudio Iaith Fodern, efallai y byddwch yn gallu dewis modiwl dethol yn eich dewis iaith. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan eich Coleg neu eich Ysgol Academaidd.

Beth yw pwyntiau credyd?Mae pob modiwl gwerth nifer penodedig o bwyntiau credyd. Bydd disgwyl i chi astudio’r hyn sy’n cyfateb i 12 modiwl deg credyd ar bob Lefel (blwyddyn astudio), gan roi cyfanswm o 360 credyd ar ôl cwblhau gradd dair blynedd (480 ar gyfer graddau pedair blynedd).

Oes modd i mi astudio modiwlau yn Gymraeg?Oes. Os ydych chi’n siarad Cymraeg fel mamiaith neu ail iaith, neu os aethoch i ysgol gyfrwng Gymraeg gallwch astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd fel y Cyfryngau, Daearyddiaeth, y Gyfraith, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Biowyddorau, Hanes, Gwyddor Iechyd a Gwyddor Chwaraeon. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected] neu ewch i bori yn llyfryn modiwlau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi: www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

Gaf i gyflwyno asesiadau a chael fy arholi yn Gymraeg?Cewch. Cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod i ni o flaen llaw, gallwch gyflwyno gwaith i’w asesu yn Gymraeg beth bynnag eich pwnc. Yr unig eithriadau yw asesiadau sy’n seiliedig ar eich gwybodaeth o iaith arall. Os hoffech gyflwyno eich papurau arholiad, eich gwaith asesedig neu draethodau hir yn Gymraeg, bydd angen i chi roi gwybod i’ch Coleg/Ysgol Academaidd o fewn pedair wythnos i gofrestru ar y modiwl(au), neu wrth gofrestru os ydyw’r modiwl yn llai na phedair wythnos o hyd. Bydd y Coleg/Ysgol Academaidd yn anfon eich cais ymlaen at y Gofrestrfa Academaidd a fydd yn gwneud y trefniadau cyfieithu priodol. Cysylltwch â: [email protected] am ragor o wybodaeth.

Beth yw tiwtor personol?Mae’n hollol amlwg bod lefel y gefnogaeth a gewch yn cyfateb i faint y byddwch yn elwa o’ch astudiaethau. Dyna pam ein bod yn clustnodi tiwtor personol ar eich cyfer all drafod eich cynnydd academaidd a phersonol bob cam o’r ffordd. Gall tiwtora personol ychwanegu gwerth gwirioneddol at brofiad prifysgol, yn enwedig yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf o fywyd prifysgol.

Sut mae fy nghynnydd yn cael ei fonitro?Bydd eich tiwtoriaid yn cwrdd â chi’n rheolaidd i wneud yn siwr eich bod yn gwneud cynnydd boddhaol o ran presenoldeb, perfformiad mewn arholiadau ac mewn unrhyw aseiniadau y mae disgwyl i chi eu gwneud.

Sut mae fy ngradd yn cael ei dosbarthu?Bydd y radd y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dyfarnu gan Brifysgol Abertawe. Mae ein graddau Anrhydedd yn cael eu dosbarthu fel Dosbarth Cyntaf, Ail Ddosbarth (Adran Un neu Ddau) neu Drydydd Dosbarth, a gradd Basio.

Ydw i’n gallu trosglwyddo pwnc?Efallai y byddwch yn cael newid cyfuniad y modiwlau rydych yn eu hastudio cyn belled â bod y trosglwyddo’n digwydd o fewn y derfyn amser a bennwyd.

Efallai y bydd hi hefyd yn bosibl newid eich rhaglen radd ar ôl i chi gael eich derbyn i’r Brifysgol os oes lle gwag yn yr Ysgol berthnasol ac os ydych yn meddu ar y cymwysterau priodol i astudio’r rhaglen newydd. Fel arfer bydd angen i unrhyw drosglwyddo gael ei gymeradwyo erbyn y diwrnod cyntaf o wythnos addysgu gyntaf Lefel Dau.

Ydw i’n gallu astudio’n rhan-amser?Rydym yn annog agwedd hyblyg tuag at astudio, beth bynnag yw eich amgylchiadau, ac yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr rhan-amser posibl. Mae ein Hadran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) yn rheoli ein darpariaeth dysgu gydol oes a hefyd yn ystyried pob cais gan fyfyrwyr hy n yn eu rhinwedd eu hunain.

Mae modd gwneud y rhan fwyaf o’n graddau yn rhan-amser, gan eich galluogi i astudio ar gyflymder sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw. Os ydych am gael manylion pellach am astudio am radd yn rhan-amser, cysylltwch â Swyddog Derbyniadau’r cwrs.

Efallai bod gennych ddiddordeb yn ein gradd ran amser yn y Dyniaethau, Saesneg, Hanes a Hen Hanes – gweler tudalen 94 am ragor o fanylion. Am ragor o wybodaeth am astudio gydag AABO, ewch i’n gwefan:

neu ffoniwch: +44 (0)1792 295499.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch y llawlyfr academaidd ar-lein:

Dyma ein canllaw cyflym

i’r ffordd y caiff eich

gradd ei strwythuro.

Modiwlau?

Credydau?

Rhaglenni?

Astudio {Cwestiynau Cyffredin}

www.swansea.ac.uk/registry/academicguide/

www.swansea.ac.uk/dace

54 55

Page 30: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Meddwl am eich dyfodol

96%o fyfyrwyr yn fodlon ar arbenigeddau darlithwyr{ Arolwg Baromedr Myfyrwyr i-graduate™, Hydref 2011

Cymorth gan gyrff proffesiynolMae llawer o gyrsiau’r Brifysgol wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, yn cynnig lleoliadau gwaith â diwydiannau, ac yn darparu cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth mewn gosodiadau ymarferol. Ewch i’r wefan i weld rhai o’r achrediadau:

www.abertawe.ac.uk/israddedig/gyrfaoedd%20a%20chyflogadwyedd/seliau%20bendith

Po fwyaf cynnar yr ydych yn dechrau cynllunio ymlaen, y mwyaf parod y byddwch chi i afael yn y cyfleoedd swyddi rydych am eu cael.

56

Mae

Page 31: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae ein Desg Gymorth yn y Llyfrgell ac mae gennym adnoddau gwybodaeth helaeth i helpu i gynllunio eich dyfodol. Mae Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi arweiniad ar unrhyw fater yn ymwneud â gyrfaoedd, a bydd ein gwefan o ddefnydd i chi hefyd. Mae www.swansea.ac.uk/careers yn cael ei diweddaru’n ddyddiol a cheir yno lawer o wybodaeth a dolenni defnyddiol. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd a mynychu digwyddiadau Gyrfaoedd.

Cadw golwg ar eich datblygiadMae’r tîm Gyrfaoedd yn gweithio ochr yn ochr â’n staff academaidd i ddarparu cynllunio datblygu personol i bob myfyriwr, gan sicrhau bod eich cyflogadwyedd yn gwella’n barhaus drwy gydol eich amser yn Abertawe.

Byddwn yn eich helpu i adnabod a datblygu amrywiaeth o sgiliau fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol, ac i gael yr hyn rydych yn dymuno ei gael o’ch gyrfa. Byddwch wedyn yn creu ac yn cynnal e-bortffolio sy’n cofnodi’r sgiliau y byddwch yn eu caffael, y nodweddion personol y byddwch yn eu datblygu a’r profiadau sy’n rhoi bywyd i’ch CV, o’ch cyfranogiad mewn chwaraeon a chymdeithasau i’r rolau mwy ffurfiol y cewch chi mewn lleoliadau gwaith a gwirfoddoli.

Symbylu mentergarwchYn ystod eich cyfnod yn Abertawe gallwch gymryd mantais o’r amryw gyfleoedd i ddysgu ac i ymarfer sgiliau busnes a mentergarwch allweddol.

Gallwch:

• gymryd rhan mewn seminarau a gweithdai i glywed siaradwyr gwadd ysbrydoledig o’r sector preifat

• mynychu dosbarth meistr i weld sut mae’r entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus yn rhedeg ac yn tyfu eu busnesau

• astudio modiwlau mentergarwch a chyflogadwyedd mewn meysydd pwnc megis Astudiaethau Plentyndod, Peirianneg, Astudiaethau Rheoli ac Ieithoedd Modern

• mwynhau rhaglen Ysgol Haf am wythnos a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau menter megis cynllunio busnes, cyllid a chyfraith busnes

Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad hefyd i ‘Myfyrwyr mewn Menter Rydd’ (SIFE), sefydliad nid er elw sy’n weithredol mewn dros 1,500 o brifysgolion mewn 47 gwlad. Mae SIFE yn canolbwyntio ar economeg marchnadoedd, sgiliau llwyddiant, mentergarwch, llythrennedd ariannol, cynaliadwyedd amgylcheddol a moeseg fusnes. Gallai cymryd rhan gyda SIFE roi hwb gwirioneddol i’ch gyrfa. Ac os oes syniad gwych gennych am fenter newydd, gallwch siarad â ni am ein cyllid cam cynnar a’n cefnogaeth cynllunio busnes i helpu graddedigion i sefydlu eu busnesau eu hunain.

Gwneud eich gradd yn berthnasol o gwmpas y bydMae cyflogwyr yn y DU yn deall gwerth gradd o brifysgol ym Mhrydain, ond os ydych yn penderfynu gweithio yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd, sut gallwch fod yn siwr y bydd eich gradd yn cael ei chydnabod ble bynnag yn y byd y byddwch yn mynd?

Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau, byddwch yn derbyn Atodiad Diploma, sy’n rhoi disgrifiad manwl o natur, lefel, cyd-destun, cynnwys a statws eich cwrs. Mae’n amlygu’r sgiliau deallusol ac ymarferol yr ydych wedi’u hennill, gan alluogi cyflogwyr i weld yn syth yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni.

Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r Atodiadau Diploma, sydd wedi’u datblygu gan y Comisiwn Ewropeaidd. Nid rhywbeth i gymryd lle eich CV yw’r rhain, ond yn sicr maent yn ychwanegu gwerth ato.

Discovery – Myfyrwyr Abertawe yn GwirfoddoliYdych chi am ennill sgiliau rhyngbersonol, arweinyddiaeth, cymdeithasol a mentergarwch gwerthfawr gan helpu pobl eraill i gyflawni eu potensial ar yr un pryd?

Mae Discovery yn elusen gofrestredig sydd wedi ei sefydlu ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi gannoedd o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau ar draws Dinas Abertawe.

Mae mentrau Discovery dan arweiniad myfyrwyr yn dod â phrofiadau a chyfleoedd newydd i rai o grwpiau mwyaf difreintiedig y rhanbarth, ac yn helpu ein myfyrwyr i werthfawrogi ac i wella’u datblygiad personol eu hunain. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Adeiladu eich rhwydweithiau rhyngwladolAr ôl i chi raddio, byddwch yn dod yn aelod o’n Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith werthfawr o 55,000 o aelodau gweithgar sy’n rhannu profiadau cyffredin a chariad tuag at Abertawe.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio ar bob lefel o fewn diwydiant, masnach, chwaraeon a’r sector cyhoeddus, yng Nghymru, yn y DU a thramor, sy’n golygu y byddwch yn canfod cyfeillion a chydweithwyr o’r un tueddfryd â chi lle bynnag y byddwch yn y byd.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn manteisio’n broffesiynol ac yn gymdeithasol o berthnasau y maent wedi’u ffurfio drwy’r Gymdeithas. Mae llawer wrthi’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yng Nghymru, yn y DU a thramor, ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynghylch beth i’w astudio a sut y gall y profiad o fod yn fyfyriwr yn Abertawe gael effaith ar eu gyrfaoedd a fydd yn trawsnewid eu bywydau.

Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn dewis dod yn llysgenhadon dros y Brifysgol. Ble bynnag y byddwch chi yn y byd, gallwch helpu Abertawe drwy sefydlu cangen leol o’r Gymdeithas i alluogi hen ffrindiau i gadw mewn cysylltiad. Gallwch hefyd helpu i hyrwyddo’r Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr yng Nghymru, yn y DU, yn Ewrop neu’n rhyngwladol. Am wybodaeth yngly n â’n Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr, ewch i:

www.swansea.ac.uk/discovery

Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at eich addysg. Mae gradd yn bwysig er mwyn sicrhau swydd dda, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Rydyn ni’n gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym ba sgiliau a phrofiadau maen nhw’n gofyn amdanynt o’u gweithwyr graddedig, ac rydyn ni’n teilwra ein cyrsiau i sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau proffesiynol a lefel uchel fydd yn eich galluogi chi i ffynnu yn y byd cynyddol gystadleuol cyfoes.

Caiff llawer o’n cyrsiau eu hachredu gan gyrff proffesiynol. Maent yn cynnig lleoliadau prosiect mewn diwydiant, ac yn gyfle i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn lleoliad ymarferol. Wedi’r cyfan, dim ond un rhan yn unig o’r hyn yr ydym yn ei wneud yw datblygu eich sgiliau academaidd a’ch hoffter o ysgolheictod. Byddwn hefyd yn eich annog i ennill cymaint o brofiad ymarferol ag sy’n bosibl. Bydd sicrhau profiad gwaith a datblygu sgiliau wrth astudio ac yn ystod y gwyliau yn eich gwneud yn fwy abl i gystadlu am swyddi.

Dyna pam mae pob disgrifiad cwrs yn y prosbectws hwn yn dweud wrthych chi’n glir beth y bydd y radd yn eich hyfforddi chi i’w wneud a pha sgiliau y bydd yn eich helpu i’w hennill.

Rydyn ni hefyd wedi arloesi’r cynllun lleoliad gwaith GOWales, sy’n helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau lleol bach a

chanolig eu maint yn ogystal â sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan roi cyfle i chi wella’ch sgiliau a’ch rhagolygon gyrfaol.

Mae Academi Hywel Teifi hefyd wedi datblygu modiwl cyfrwng Cymraeg newydd sydd yn agored i fyfyrwyr Lefel 2 pa bynnag fo’u cwrs gradd, ac sydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar leoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch [email protected]

Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu academi newydd sy’n cefnogi myfyrwyr sydd am gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd, sef Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Ewch i www.abertawe.ac.uk/academicyflogadwyedd am fwy o wybodaeth.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddOs nad ydych chi wedi penderfynu beth i’w wneud ar ôl y brifysgol, peidiwch â phryderu. Os oes gennych ddiddordeb mewn chwilio am swydd, astudiaethau ôl-raddedig, gwaith gwirfoddol, neu gymryd blwyddyn i ffwrdd, mae ein ymgynghorwyr hyfforddedig wrth law i roi’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.

Gallwn ni eich helpu i:

• ddatblygu portffolio o sgiliau a gwybodaeth berthnasol, a phrofiad ymarferol

• cael y gorau o leoliadau swydd a gwaith gwyliau

• dod o hyd i swyddi rhan amser yn ystod y tymor a chyfleoedd eraill i ddatblygu eich sgiliau

• cwblhau ceisiadau swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau

• sicrhau cyflogaeth addas neu gyfleoedd astudio pellach ar ôl graddio

a wyddoch chi?Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi’i achredu’n allanol dan y safon Ansawdd Matrics ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Fel rhan o Wasanaethau Systemau Gwybodaeth, mae hefyd wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth am Wasanaeth Cwsmeriaid, sef safon gwasanaeth cwsmeriaid y Llywodraeth. www.abertawe.ac.uk/cynfyfyrwyr

58 59

Page 32: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae Prifysgol Abertawe’n cydnabod na fu gwella cyflogadwyedd ei darpar raddedigion erioed mor bwysig. Wrth i fwy a mwy o fusnesau recriwtio o gronfa talent fyd-eang, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn cael pob cyfle i’w gwahaniaethu eu hunain. Mae cyflogwyr yn cydnabod gwerth profiad rhyngwladol. Mae myfyrwyr sy’n astudio neu’n gweithio tramor yn datblygu ac yn dangos y rhinweddau a’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt: mae’r rhain yn cynnwys ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a byd-eang, aeddfedrwydd, hyder a’r gallu i addasu i amgylchiadau a heriau newydd. Gall dysgu iaith arall fod yn un o’r heriau hyn – gan eich bod eisoes yn ddwyieithog, beth am fynd ymhellach trwy ddysgu iaith arall? Gall hyn gynyddu’ch cyflogadwyedd yn sylweddol o fewn amrywiol yrfaoedd ac mewn nifer o wledydd. Mae dros ugain mlynedd o brofiad o astudio a gweithio tramor wedi dangos i ni fod myfyrwyr sy’n manteisio ar y fath gyfleoedd yn ennill y sgiliau bywyd gwerthfawr hyn.

Gyda chysylltiadau â thros gant o brifysgolion a sefydliadau partner mewn cyrchfannau cyffrous ar draws y byd, a chydag ystod o ddewisiadau gan gynnwys blwyddyn dramor, semester dramor, a rhaglenni haf, mae Prifysgol Abertawe yn ceisio cynnig cyfle i bob myfyriwr israddedig astudio neu weithio dramor.

Astudio TramorBydd yr opsiynau sydd ar gael i chi’n dibynnu ar eich rhaglen radd. Gweler y wefan am fanylion:

Blwyddyn dramor: Os yw eich cynllun gradd yn cynnig blwyddyn ryngosodol dramor (cynllun gradd pedair blynedd), efallai y cewch gyfle i astudio mewn sefydliad partner yn eich trydedd flwyddyn. Mae treulio blwyddyn dramor mewn un o’n sefydliadau partner yn eich galluogi i astudio mewn awyrgylch academaidd gwahanol a heriol, ac i ennill profiad amlddiwylliannol cyffrous.

Semester dramor: Mae rhai cynlluniau gradd yn caniatáu i chi dreulio semester dramor yn eich ail flwyddyn fel rhan o’r cynllun gradd tair blynedd. Mae semester dramor yn ffordd ddelfrydol o ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr.

Gweithio DramorOs ydych yn dilyn rhaglen radd bedair blynedd, efallai y bydd modd i chi dreulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith yn hytrach nag astudio mewn prifysgol bartner. Cysylltwch â Thiwtor Derbyn y cwrs sydd o ddiddordeb i chi i drafod y cyfleoedd am weithio dramor fel rhan o’ch gradd. Hyd yn oed os nad ydych ar raglen bedair blynedd, mae’n bosibl y bydd modd i chi weithio dramor yn ystod yr haf.

Dyma rai o’r ffyrdd o gael profiad gwaith rhyngwladol trwy Brifysgol Abertawe:

• Lleoliadau gwaith Erasmus

• Gweithio i’r Cyngor Prydeinig fel Cynorthwyydd:

• Interniaeth gyda chwmnïoedd rhyngwladol yn India

• Mae argaeledd yn amrywio bob blwyddyn. Ewch i’r wefan am fanylion llawn:

Meddwl byd-eang – rhaglenni haf sy’n ehangu ar eich astudioMae ein portffolio o raglenni haf yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill profiad gwerthfawr dramor yn ystod gwyliau’r haf. Mae rhaglenni cyfredol yn cynnwys rhaglenni astudio, gweithio, a gwirfoddoli yn Affrica, America, Asia, ac Ewrop, ac maent yn agored i fyfyrwyr a ydynt yn astudio neu’n gweithio dramor yn rhan o’u rhaglen radd ai peidio.

Mae rhaglenni a lleoliadau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.Gweler y wefan am fanylion presennol:

ErasmusOs byddwch yn dewis astudio neu weithio yn Ewrop, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn grant o dan gynllun Erasmus, rhaglen addysgol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch. Mae nifer o leoliadau lle y dysgir drwy gyfrwng y Saesneg, felly nid yw’n angenrheidiol i chi allu siarad ail iaith. Am ragor o fanylion am ein cynllun Erasmus, ewch i:

Ewch Ymhellach... Astudio a gweithio dramor

i ble y gallaf fynd?

• Awstralia• Awstria• Canada• Tsieina• Denmarc• Y Ffindir• Ffrainc• Yr Almaen

• Portiwgal• Sbaen• Sweden• Y Swistir• UDA• Zambia

• Hong Kong• Hwngari• India• Yr Eidal• Yr Iseldiroedd• Seland Newydd• Norwy• Patagonia

Dewch i gwrdd â’n Myfyrwyr sy’n blogio Cewch flas ar y profiad o fyw ac astudio yn Abertawe: studentblogs.swansea.ac.uk

www.swansea.ac.uk/summerprogrammes

www.britishcouncil.org/languageassistants.htm

www.swansea.ac.uk/workabroad

www.swansea.ac.uk/erasmus

www.swansea.ac.uk/studyabroad

“Mae mynd dramor yn agor drysau i bobl... Roeddwn i wedi gosod amcanion cyn i fi fynd, a dwi’n credu i mi lwyddo i’w cyflawni i gyd: gwneud ffrindiau newydd, bod yn ddigon ymwthgar, cyfrif o un i ugain yn Tsieinëeg, a dysgu o leiaf tair ffaith newydd am Tsieina.

”Mae Alice yn astudio BA Hanes, a chymrodd ran yn ein rhaglen haf yn Weihai, Tsieina:

Dilynwch ni:

www.facebook.com/GOFurtherSwanseaUniversity

Twitter/swanseaIDO

“Fy hoff brofiad, mae’n debyg, oedd gweithio gyda fy nghydweithwyr a gwneud ffrindiau yn India. Es i yno ar fy mhen fy hun, gan lwyddo i wneud ffrindiau, a dwi’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw. Bellach, dwi ym mlwyddyn olaf f’astudio, ac yn ceisio am swyddi ar gynlluniau graddedig. Dwi’n gobeithio y bydd fy mhrofiad gwaith yn gwahaniaethu rhyngof i a’r dyrfa.

”Astudiodd Pradita BSc Economeg Ariannol, a derbyniodd interniaeth yn Thomson Reuters, Mumbai, India

“Heb os nac oni bai, dyna oedd profiad gorau fy mywyd. Roedd mor werthfawr o ran twf personol, adeiladu hyder a sgiliau byw, yn ogystal â bod yn flwyddyn o hwyl ddi-dor!”

”Astudiodd Jennifer am BA Astudiaethau Americanaidd,a threuliodd ei blwyddyn dramor ym Mhrifysgol San

Francisco State

“Gall y syniad o fyw mewn gwlad dramor godi ofn ar rywun. Fodd bynnag, gallaf ddweud o brofiad y dylai unrhyw un sy’n cael cyfle i wneud hynny gydio yn y cyfle, a dysgu ohono. Treuliais i fy mlwyddyn dramor yn gynorthwyydd Saesneg mewn ysgol uwchradd ym Madrid. Byddaf yn onest; ces i rai o’r amserau gorau ac anosaf fy mywyd!

”Astudiodd Hannah BA Sbaeneg a Ffrangeg. Gweithiodd dramor am flwyddyn, yn Gynorthwyydd Dysgu gyda’r Cyngor Prydeinig mewn

ysgol uwchradd ym Madrid

60 61

Page 33: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Os ydych yn dymuno gweithio, astudio, neu deithio tramor, gall sgiliau iaith eich helpu. Pan fyddwch yn ceisio am swyddi, gall sgiliau iaith fod yn fonws, gan eich gosod ar wahân i’r ymgeiswyr eraill.

Mae’r rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi ennill sgiliau iaith sylfaenol tra’ch bod yn ennill credydau tuag at eich gradd, pa raglen bynnag y byddwch yn ei hastudio.

Ieithoedd i bawb

www.swansea.ac.uk/artsandhumanities/artsandhumanitiesadmissions

Ar frig y don

62 63

Pa ieithoedd y gallaf eu hastudio?Mae modiwlau Ieithoedd i Bawb ar gael yn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, a’r Gymraeg. Hefyd, mae’r modiwlau Ffrangeg a Sbaeneg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?Bydd modiwl Ieithoedd i Bawb yn rhoi gwybodaeth sylfaenol o ran darllen, ysgrifennu, gwrando, a siarad yn yr iaith o’ch dewis, ac o ran defnyddio’r iaith mewn modd effeithiol mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Pwy gaiff astudio modiwlau Ieithoedd i Bawb?Mae modiwlau Ieithoedd i Bawb ar gael i fyfyrwyr Lefel Un, Lefel Dau, a Lefel M ar unrhyw raglen radd ar draws y Brifysgol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Dwyieithrwydd a chiMae gallu mewn mwy nag un iaith yn fantais sylweddol wrth chwilio am waith. O ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg byddwch hefyd yn dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio terminoleg arbenigol yn y Gymraeg, sy’n gallu bod yn fantais wrth ichi chwilio am swydd ar ôl graddio – gallwch gynnig mwy i gyflogwyr ar adeg pan mae cystadleuaeth frwd am swyddi.

Page 34: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae mynd i’r Brifysgol yn fuddsoddiad ariannol sylweddol. Mae rheoli eich arian yn ofalus yn rhan hanfodol o’r profiad myfyriwr.

Rheoli eich arian

i bob myfyriwr sy’n ennill tair gradd A ar lefel Safon Uwch neu gyfwerth { {

64

£3,000Ysgoloriaethau Rhagoriaeth

Page 35: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

* Mae pob ffigwr yn cyfeirio at y swm ar gyfer 2013, gyda’r bwriad o roi braslun yn unig. Mae Ffioedd Dysgu’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, a chyhoeddir y lefelau newydd ar ein gwefan mor fuan ag y byddant yn hysbys: www.swansea.ac.uk/israddedig/ffioedd-a-chyllid/ffioedd-dysgu

Ysgoloriaethau a bwrsariaethauFfioedd dysgu ar gyfer mynediad yn 2014Codir Ffioedd Dysgu Israddedig ar bob myfyriwr bob blwyddyn, a byddant yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r swm y bydd disgwyl i chi ei dalu’n amrywio, gan ddibynnu ar ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.

Incwm blynyddol Incwm wythnosol Ad-daliad benthyciad wythnosol

£21,000 £404 £0

£25,000 £480 £6.92

£30,000 £577 £15.58

£35,000 £673 £24.23

Myfyrwyr o GymruBydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os ydych yn preswylio yng Nghymru, ac yn astudio ar gyfer eich gradd gyntaf, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd ymlaen llaw.

Rydych yn gymwys i dderbyn:• Grant ffioedd dysgu o £5,535 y flwyddyn oddi wrth

Lywodraeth Cymru (mae amodau a thelerau ar y grant hwn)• Benthyciad ffioedd dysgu o £3,465 y flwyddyn, y mae’n rhaid

ei ad-dalu• Benthyciad cynhaliaeth o hyd at £4,745 (£3,673 os ydych yn

byw yng nghartref eich rhieni) i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich aelwyd)

• Grant Dysgu’r Cynulliad, ar sail prawf moddion, o hyd at £5,000 i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich aelwyd)

• Caiff y ddyled, hyd at £1,500, o’ch Benthyciad Cynhaliaeth ei dileu unwaith y byddwch yn dechrau ad-dalu

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Myfyrwyr o weddill y DUBydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os ydych yn preswylio yn Lloegr, ac yn astudio ar gyfer eich gradd gyntaf, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd ymlaen llaw.

Rydych yn gymwys i dderbyn:

• Benthyciad ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn, y mae’n rhaid ei ad-dalu

• Benthyciad cynhaliaeth o hyd at £5,500 (£4,375 os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni) i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich aelwyd)

• Grant Cynhaliaeth, ar sail prawf moddion, o hyd at £3,250 i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich aelwyd

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Ad-daluNid oes rhaid dechrau ad-dalu benthyciadau tan eich bod wedi gorffen astudio ac yn ennill dros £21,000 y flwyddyn. Atalir y taliadau os bydd eich cyflog yn cwympo o dan y trothwy hwn. Maint yr ad-daliadau yw 9% o’r incwm ar ôl £21,000. Er enghraifft, byddai rhywun sy’n ennill £25,000 y flwyddyn yn talu 9% o £4,000 (oddeutu £30 y mis). Dilëir unrhyw ddyled sydd yn weddill ar ôl 30 o flynyddoedd. Nid oes rhaid ad-dalu unrhyw grant (yn amodol ar y telerau a’r amodau).

www.direct.gov.uk

www.studentfinancewales.co.uk

Incwm eich aelwyd Bwrsariaeth Bwrsariaeth Pwnc Blaenoriaeth Cyfanswm Posibl y Fwrsariaeth

<£15,000 £3,000 £1,500 £4,500

£15,001 – £25,000 £2,000 £1,500 £3,500

£25,001 – £30,000 £1,000 £1,500 £2,500

Ysgoloriaeth RhagoriaethRydym yn cynnig Ysgoloriaeth Rhagoriaeth gwerth £3,000 i bob myfyriwr newydd o’r DU/UE sy’n ymgeisio am gwrs lle mae angen talu ffioedd, ac sy’n derbyn AAA ar Lefel Uwch neu gyfwerth (gan eithrio Lefel Uwch Astudiaethau Cyffredinol).

Ysgoloriaeth TeilyngdodRydym yn cynnig Ysgoloriaeth Teilyngdod gwerth £2,000 i bob myfyriwr newydd o’r DU/UE sy’n ymgeisio am gwrs lle mae angen talu ffioedd, ac sy’n derbyn AAB ar Lefel Uwch neu gyfwerth (gan eithrio Lefel Uwch Astudiaethau Cyffredinol).

Bydd ysgoloriaethau ar gael ym mhob maes pwnc (anrhydedd sengl, cyd-anrhydedd ac anrhydedd gyfunol), heblaw Gwaith Cymdeithasol, cyrsiau yn y Gwyddorau Iechyd, Meddygaeth i Raddedigion a chyrsiau lle y telir bwrsariaethau gan y cyrff proffesiynol priodol.

Ysgoloriaethau ChwaraeonMae ein hysgolorion chwaraeon yn athletwyr o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i fod o safon fyd-eang. Bob blwyddyn, rydym yn cynnig deg ysgoloriaeth mynediad israddedig gwerth £1,000 y flwyddyn i helpu ein hathletwyr nodedig â’u costau hyfforddi, cit, ffioedd trac a theithio.

Bwrsariaethau ar Sail IncwmBydd cymorth ariannol ychwanegol sylweddol ar gael i fyfyrwyr o gefndir incwm isel yn ystod cyfnod y cwrs:

(Y pynciau blaenoriaeth yw: Peirianneg, Mathemateg, Cyfrifiadureg, Biowyddoniaeth, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern, a’r Gyfraith).

Cyllid AdrannolMae sawl un o’n Colegau ac Ysgolion Academaidd wedi gosod cronfeydd i’r neilltu, neu wedi derbyn grantiau, i wobrwyo cyraeddiadau academaidd myfyrwyr. Mae’r gwobrau yn amrywio o ran gwerth i hyd at £2,500.

Ceir manylion llawn ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau i gyd ar ein gwefan yn:

Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg CenedlaetholCynigir dau gategori o ysgoloriaethau israddedig, sef Prif Ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau gradd lle mae modd i fyfyrwyr astudio o leiaf 80 credyd ymhob blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac Ysgoloriaethau Cymhelliant, lle mae modd i fyfyrwyr astudio o leiaf 40 credyd ymhob blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Prif Ysgoloriaethau yn werth £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) ac mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant yn werth £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd).

Gellir canfod manylion llawn gan gynnwys rhestr o’r cyrsiau gradd sy’n gymwys ym Mhrifysgol Abertawe drwy ymweld â:

www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/cyllid/

66 67

Mae’r tabl yn dangos faint yw’r swm wythnosol y gall myfyriwr ddisgwyl ei dalu.

Page 36: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

68 69

Drws i

ddyfodol

disglair

Page 37: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

7170

Lefel 3• Iaith Almaeneg Gyffredinol 3*• Fienna dan y Ddaear: Golwg

Tanddaearol ar Ddinas yr Ugeinfed Ganrif

• P wer a’r Personol: Hunaniaethau Newidiol yn y Diwylliant Almaeneg Modern

• Gweithdy Cyfieithu• Traethawd Hir*

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae Prifysgol Abertawe yn arwain yng Nghymru o ran cynnig Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darpariaeth cyfrwng y Gymraeg ar gael mewn Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg. Cyflwynir graddau cyd-anrhydedd Ffrangeg a Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae darpariaeth a chyfleoedd newydd yn cael eu datblygu bob blwyddyn, a gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe elwa o rannu adnoddau ac arbenigeddau sydd mewn prifysgolion eraill yn Nghymru. Mae cyfres o fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael ar bob lefel ac mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng

addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys profion dosbarth, traethodau asesedig ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Co

dau U

CA

S

Siaredir Almaeneg gan dros gan filiwn o bobl ac mae’n brif iaith i fusnes, gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Gyda’r economi fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth arwain y ffordd o ran mewnforio ac allforio, mae’r Almaen yn cynnig nifer o gyfleoedd i’r sawl sy’n siarad yr iaith.

Mae astudio Almaeneg yn Abertawe yn caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth o iaith bwysig fyd eang gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ac i ymgolli yn yr hanes a’r diwylliant cyfoethog sy’n diffinio’r Almaen, Awstria a’r Swistir.

Bydd ein graddau Almaeneg yn:• dysgu’r sgiliau ieithyddol sydd eu

hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich mentergarwch eich hun

• eich dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Yn ogystal â modiwlau iaith dwys lefel uchel, rhan allweddol o’r graddau hyn yw’r cyfle i astudio modiwlau ar yr agweddau amrywiol o gymdeithas a diwylliant y gwledydd hynny lle siaredir Almaeneg.

Rhwng Lefelau 2 a 3, byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Almaeneg, naill ai fel myfyriwr yn astudio mewn prifysgol neu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol. Efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith arall yn yr Almaen, Awstria neu’r Swistir.

Mae pob modiwl iaith a rhai modiwlau diwylliannol yn cael eu dysgu mewn grwpiau bychain drwy gyfrwng Almaeneg. Dysgir ein modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau rhyngweithiol, a byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio cyfarpar ieithyddol a chyfleusterau dysgu cyfrifiadurol sylweddol ein labordai iaith.Mae ein Canolfan Llenyddiaeth Almaeneg Gyfoes yn cynnal rhaglen Awduron Preswyl poblogaidd, sydd wedi denu awduron mwyaf enwog yr Almaen i

Abertawe ac sy’n rhoi cyfle unigryw i chi gyfarfod â rhai o awduron y testunau y gallwch eu hastudio yn ystod eich gradd.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau. Amlygir y modiwlau sydd ar gael i’w hastudio trwy’r Gymraeg, yn ogystal â thrwy’r Saesneg, gyda *:

Lefel 1• Iaith Almaeneg Gyffredinol neu Iaith

Almaeneg i Ddechreuwyr*• Almaeneg at Ddibenion Proffesiynol 1• Cyflwyniad i Ddiwylliant Almaeneg• Ffuglen Ewropeaidd Fodern: Testunau a

Chynnwys• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel 2• Iaith Almaeneg Gyffredinol 2*• Almaeneg at Ddibenion Proffesiynol 2• Gweithdy Cyfieithu • P wer a’r Personol: Hunaniaethau

Newidiol yn y Diwylliant Almaeneg Modern

• Ffasgaeth Ewropeaidd• Fienna dan y Ddaear: Golwg

Tanddaearol ar Ddinas yr Ugeinfed Ganrif

BA Anrhydedd SenglR220 u AlmaenegR2N1 u Almaeneg (gyda Busnes)

BA Cyd-Anrhydedd Almaeneg aPR32 u Y Cyfryngau

QR52 u Cymraeg

LR72 u Daearyddiaeth

LR12 u Economeg

RR23 u Eidaleg

RR12 u Ffrangeg

QR82 u Gwareiddiad Clasurol

LR22 u Gwleidyddiaeth

RV21 u Hanes

VR12 u Hanes yr Henfyd

QRJ2 u Iaith Saesneg

QR32 u Llenyddiaeth Saesneg

RR24 u Sbaeneg

RX23 u TEFL

LLB Cyd-AnhrydeddMR12 u Almaeneg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Almaeneg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn iaith fodern ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen: 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

“Yn ystod trydedd flwyddyn fy ngradd derbyniais interniaeth deg

mis o hyd yn adran gyfieithu Siemens ym Munich. Roedd symud i wlad

arall i weithio mewn awyrgylch Almaeneg yn gam mawr, ac yn dipyn

o her, ond roeddwn i’n falch o wybod bod gen i dîm o ddarlithwyr yn

Abertawe i fy nghefnogi. Roedd yr interniaeth yn brofiad ardderchog,

a dwi’n ddiolchgar iawn amdano, gan iddo agor y drws i mi weithio i

Siemens pan gefais swydd yno fel Rheolwr Cyfieithu llawn-amser ar ôl i

mi raddio. Diolch i’r berthynas hir rhwng Adran Almaeneg Abertawe a

Siemens Sprachendienst, dwi wedi cael cyfle i groesawu nifer o

israddedigion Abertawe sydd hefyd wedi dewis gwneud interniaeth

gyda Siemens ym Munich – maen nhw wastad yn dod â’r newyddion

diweddaraf o Abertawe gyda nhw!” Ula Mitchell, BA Almaeneg Rheolwr Cyfieithu, Siemens

Os oes gennych gymhwyster Safon Uwch mewn Almaeneg neu gymhwyster Almaeneg UG gyda graddau A neu B, gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os nad oes gennych y cymwysterau yma, ond bod gennych Safon Uwch neu safon UG mewn iaith fodern arall, efallai y bydd modd i chi ddilyn Almaeneg ar lefel dechreuwr.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 90% o raddedigion Ieithoedd Modern mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Alm

aene

g

7170

Page 38: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

BA Amrhydedd SenglT701 s Astudiaethau AmericanaiddT700 u Astudiaethau Americanaidd

BA Cyd-Anrhydedd Astudiaethau Americanaidd a QT57 s Cymraeg (ail iaith)QT5B s Cymraeg (iaith gyntaf)LT2R u Cysylltiadau RhyngwladolTL77 s DaearyddiaethLT77 u DaearyddiaethLT27 s GwleidyddiaethTL72 u GwleidyddiaethVT17 s HanesTV71 u HanesQT37 s Llenyddiaeth SaesnegTQ73 s Llenyddiaeth Saesneg

LLB Cyd-Anrhydedd Astudiaethau Americanaidd aMT17 s Y GyfraithMT1R u Y Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Astud

iaethau A

me

ricanaidd

American Studies

Lefelau 2 a 3Gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau mewn Astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys:

• Arweinyddiaeth Arlywyddol• Hil ac Ethnigrwydd• Rhyfel Cartref America• Iaith America – Delwedd America• Creu America’r Trawsatlantig• Diwylliant Brodorion America• Hanes Affricanaidd-Americanaidd• Ffuglen Americanaidd Gyfoes• Rhanbarth Deheuol America• Materion mewn Gwleidyddiaeth

Americanaidd• Llenyddiaeth a Diwylliant Affricanaidd-

Americanaidd• Rhyfel UDA yn erbyn Cyffuriau• Technoleg Cyfathrebu yn UDA• Gorllewin America

Sylwer y gall modiwlau newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

Mae 87% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

“Rwy’n sefyll yma yn gwybod bod fy stori yn rhan o stori fwy America, bod arna i ddyled i bawb a ddaeth cyn fi, ac na fyddai fy stori i hyd yn oed yn bosib mewn unrhyw wlad arall ar y Ddaear.”

Barack Obama, Gorffennaf 2004

Mae Unol Daleithiau America yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau pob un ohonom. Mae’n dylanwadu ar ein diwylliant, ein heconomi a’n hagwedd wleidyddol. Mae Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe yn gynllun gradd eang a rhyngddisgyblaethol sy’n eich galluogi i werthfawrogi natur, diwylliant, hanes a thraddodiadau gwleidyddol UDA.

Bydd ein graddau Astudiaethau Americanaidd yn:

• eich arfogi â’r sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys addysg, cyfrifeg, gweinyddu busnes, TG, y cyfryngau, y Gwasanaeth Sifil, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol y cwrs hwn yw’r cyfle i archwilio agweddau tuag at UDA ledled y byd a’r rhesymau dros yr agweddau hynny, sydd felly’n rhoi persbectif rhyngwladol unigryw i chi. Mae dros 250 o fyfyrwyr Americanaidd yn astudio yn Abertawe bob blwyddyn, sydd felly’n rhoi mynediad i chi at rwydwaith parod o gysylltiadau yn ymestyn ar draws UDA.

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan lyfrgell sy’n llawn adnoddau gweledol. Os byddwch yn dewis un o’r rhaglenni gradd pedair blynedd, byddwch yn treulio blwyddyn dramor, yn astudio naill ai mewn Prifysgol yn America neu yn Ewrop (os dewiswch wneud Astudiaethau Americanaidd gydag iaith). Os byddwch yn dewis cynllun tair blynedd, byddwch fel arfer yn treulio’ch holl amser yn Abertawe ond bydd yr opsiwn gennych o astudio yn UDA am un semester.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1Byddwch yn dilyn tri modiwl gorfodol sydd wedi’u cynllunio i roi cyflwyniad i chi i’r amryw ddisgyblaethau y mae Astudiaethau Americanaidd yn ymdrin â hwy:

• Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Americanaidd, o’r Cyfansoddiad i’r Arlywyddiaeth

• Diwylliant Americanaidd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’r Ugeinfed Ganrif

• Golwg gryno ar Hanes America

Gellir dewis modiwlau opsiynol o blith ystod o fodiwlau a gynigir mewn Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol ac yn ehangach yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys Rhyfel a Heddwch yn yr Oes Niwclear, Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm a Phortreadau o Ryfel.

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Astudiaethau Americanaidd

“Dwi’n Ymgynghorydd Ymchwil i Russell Reynolds Associates, un

o’r pedwar cwmni mwyaf yn y byd ym maes chwilio am bobl i lenwi

swyddi uchel. Dim ond graddedigion mae Russell Reynolds yn eu

cyflogi i wneud ymchwil, ac felly heb fy ngradd ni fyddwn wedi cael fy

nerbyn i’r cynllun. Roedd y ffaith i mi wneud yn dda yn fy ngradd yn

helpu hefyd, gan eu bod yn hoffi cyflogi pobl gyda chymhelliad, ac

mae’n anodd profi hynny ar y dechrau. Hefyd, mae’r ffaith fy mod

wedi treulio blwyddyn yn astudio yn UDA o gymorth mawr yn fy

ngwaith dydd i ddydd.” Amy Tindale, BA Astudiaethau Americanaidd

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

7372

Page 39: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Roedd y byd canoloesol yn gyfnod sifalri a’r Croesgadau, cyfnod geni prifysgolion ac eglwysi cadeiriol Gothig gwych a rhai o chwedlau serch boneddigaidd pwysicaf ein hoes. Mae Astudiaethau Canoloesol yn archwilio’r etifeddiaeth gyfoethog o bron i fil o flynyddoedd o hanes a diwylliant Ewropeaidd i ddangos sut y bu i’r Canol Oesoedd lunio ein cymdeithas fodern.

Mae Astudiaethau Canoloesol yn Abertawe yn un o’r ychydig gynlluniau o’i fath ym Mhrydain ac yn cynnig safbwynt unigryw ar un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes y gwareiddiad Gorllewinol.

Bydd ein graddau Astudiaethau Canoloesol yn:• eich dysgu’r sgiliau angenrheidiol

ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys rheoli, gweinyddiaeth, dysgu, newyddiaduraeth, y gyfraith a’r gwasanaeth sifil

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• gosod llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth o themâu a phynciau yn ymdrin â bron i fileniwm (c500AD i c1500AD) ym mhrofiad hanesyddol cymdeithasau yng Ngorllewin Ewrop.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau sy’n annog trafodaethau ar themâu a phynciau allweddol. Mae’r traethawd hir y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel 3 yn rhoi cyfle i chi ymchwilio pwnc sydd o’r diddordeb mwyaf i chi. Mae rhai traethodau diweddar wedi ymdrin ag adeiladu cestyll yn Lloegr, breninesiaeth Ganoloesol a Vlad y Polionwr.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1Gallwch astudio amrywiaeth o bynciau mewn Hanes, Saesneg, y Clasuron, Ffrangeg, Eidaleg, Lladin neu yn y Gymraeg ar y cyd â thri modiwl craidd:

• Ewrop Ganoloesol: cyflwyniad• Cymdeithas a dysgu yn Ewrop yr

Oesoedd Canol• Creu Hanes

Lefelau 2 a 3Gallwch ddewis o amrywiaeth o fodiwlau gan gynnwys:• Addasiadau Arthuraidd

• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd Eingl-normanaidd

• Fenis y Dadeni• Chaucer, Rhyw a Rhywioldeb yn

yr Oesoedd Canol• Pechod, Rhyw, y Gwrywaidd a’r

Gwrthun yn yr Oesoedd Canol• Magna Carta• Y Cathariaid a’r Croesgadau

Albigensaidd• Byw a marw yn dilyn y Pla

Du yn Lloegr Ganoloesol• Traethawd Hir

Noder y gall y modiwlau newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ymMhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaithi’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg bethbynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwlhwnnw heblaw am yn achos modiwlauieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaithdan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu, arholiadau ysgrifenedig a thraethawd hir ar Lefel 3. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

BA Cyd-anrhydedd Astudiaethau Canoloesol aQVM1 s Cymraeg (ail iaith)QV5D s Cymraeg (iaith gyntaf)QVV1 s Gwareiddiad ClasurolV130 s HanesV115 s Hanes yr HenfydQVH1 s Llenyddiaeth Saesneg

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Astudiaethau Canoloesol

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Mae Abertawe yn brifysgol dda iawn ac mewn lleoliad hynod o

brydferth. Mae’r cyrsiau yn ddiddorol, mae’r darlithwyr yn wych ac

mae’r myfyrwyr yn hwyl. Mae’n anodd meddwl am brofiad gwell i

fyfyriwr – rwy’n ystyried fy hun yn hynod ffodus fy mod wedi astudio

yn Abertawe. ” Jess Ranthum, BA Astudiaethau Canoloesol

Astud

iaethau C

anolo

eso

l

Er bod cymhwyster Safon Uwch mewn Hanes yn fantais, nid yw’n angenrheidiol. Yn yr un modd, gan fod Astudiaethau Canoloesol yn cynnwys rhywfaint o astudiaethau llenyddol, byddai Safon Uwch mewn Saesneg, Cymraeg, Eidaleg, Sbaeneg neu Ffrangeg yn ddelfrydol, ond nid yn angenrheidiol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

7574 7574

Page 40: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL0V0 s ■ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth

ac Economeg

s cynllun 3 blynedd

Prin y bu’r gallu i ddeall sylfeini a chymhwyso meddwl athronyddol, gwleidyddol ac economaidd erioed mor bwysig. Mae PPE yn darparu cyflwyniad integredig i athroniaeth fodern, gwleidyddiaeth ac economeg o Weriniaeth Plato i’r argyfwng diweddaraf mewn cyfalafiaeth fyd eang a chynnwrf economaidd.

Mae gradd PPE Abertawe – y cyntaf yng Nghymru – wedi’i dylunio i ddarparu’r offer dadansoddol sydd eu hangen i wella’ch dealltwriaeth o brif draddodiadau meddwl gwleidyddol, economegol ac athronyddol.

Bydd y radd Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yn:

• eich helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad o ddulliau meintiol ac economeg, a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod o feysydd amrywiol, gan gynnwys llywodraethu a gwleidyddiaeth ryngwladol, ganolog a lleol, gwasanaethau cyhoeddus, rheoli busnes, addysgu, a’r cyfryngau

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol o’r radd arloesol hon yw’r cyfle i archwilio a gwerthuso prif draddodiadau meddwl athronyddol, gwleidyddol ac economegol, eu hymddangosiad a’u datblygiad dilynol, a’r rhyngweithio a’r rhyngberthynas sydd rhyngddynt.

Byddwch yn cael eich dysgu yn bennaf drwy gyfrwng darlithoedd a grwpiau seminar bach, ac yn ystod Lefel 3 bydd cyfle i chi gwblhau traethawd hir neu interniaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel 1Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau gorfodol a modiwlau dewisol, fydd yn rhoi sylfaen cryf mewn:• Athroniaeth• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Etholiadol• Gwleidyddiaeth Ryngwladol• Dulliau Meintiol• Ystadegau• Theori Meicro/macro-economaidd

Lefel 2Byddwch yn dilyn tri modiwl sylfaenol orfodol a modiwlau sy’n cydweddu â hwy:• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern:

Descartes i Kant• Micro-economeg Ganolradd• Economeg Wleidyddol Fyd-eang: o

Fercantiliaeth i Neo-ryddfrydiaeth

Byddwch hefyd yn dewis opsiynau o ystod eang o fodiwlau, sy’n caniatáu i chi astudio agweddau arbennig o wleidyddiaeth, economeg ac athroniaeth mewn mwy o ddyfnder. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau megis:• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Prydain ac America• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd• Hil-laddiad• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Athroniaeth Foesol• Penderfyniadau a Chyfrifoldeb:

Y Dewis Trasig• Gweriniaeth Plato• Macro Economeg Ganolradd• Masnach• Economeg Ddatblygu• Economeg yr UE

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE)

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: Fel arfer, bydd cynnig yn seiliedig ar ABB neu gyfwerth. Fodd bynnag, gwneir cynigion hyblyg ar sail adolygu’r ffurflen gais, ar ôl ystyried y pynciau a astudiwyd, y graddau a ragwelir neu a gafwyd, y geirda, a’r datganiad personol.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Athro

niaeth, G

wle

idyd

diae

th ac Econo

me

g (PPE)

Lefel 3Mae’r opsiynau’n cynnwys pynciau megis:• Athroniaeth y Gwyddorau Cymdeithasol• Athroniaeth Crefydd a Gwyddoniaeth• Athroniaeth Gymhwysol• Athroniaeth Ddigidol• Gweledigaethau Democratiaeth• Y Gyfraith, Cyfiawnder, Awdurdod

a Chymdeithas• Globaleiddio• Astudiaethau Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol• Economeg Wleidyddol Gyfoes• Dadansoddi Economeg Estynedig• Economeg Ariannol• Economeg Fathemategol• Economeg Gymhwysol• Masnach Ryngwladol• Economeg Llafur• Dewis Cyhoeddus• Polisi Ariannol

Sylwer y gall modiwlau newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei fonitro a’i werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Os nad oes gennych gymhwyster Safon Uwch Economeg a/neu Fathemateg, byddwch, yn Lefel 1, yn dilyn modiwlau Economeg a Dulliau Meintiol gwahanol fel bo’n berthnasol, er mwyn eich paratoi i astudio Economeg ymhellach yn Lefel 2.

Hefyd, ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Mae astudio PPE yn Abertawe wedi bod yn brofiad syfrdanol. Mae cynnwys y pwnc yn amrywiol ac yn ddiddorol, ac er y gall y llwyth gwaith fod yn drwm ar adegau, mae’r persbectif gwahanol a geir o bob pwnc yn amhrisiadwy. Mae’r tri phwnc yn rhyngweithio ac yn cyfuno i roi dealltwriaeth fwy dwys a mwy cyflawn o faterion mewn modd unigryw, sydd yn aml yn arwain myfyrwyr PPE i farn newydd ac arloesol. Mae’r darlithwyr yn hynod o frwd am eu pwnc a bob amser yn hapus i siarad a chynorthwyo gydag unrhyw broblemau. Mae’r rhaglen yn darparu dewis ardderchog o fodiwlau sy’n eich caniatáu i’w theilwra i’ch diddordebau penodol. Os ydych yn fodlon gweithio’n galed, mae gan PPE lawer i’w gynnig, ac mae Abertawe’n lle gwych i’w astudio. Mae’r opsiwn am interniaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol yn unigryw i Abertawe, ac yn amhrisiadwy i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio gyrfa wleidyddol. Mae’r lleoliad yn wych gyda thraeth trawiadol; bywyd cymdeithasol heb ei ail, a Gwyr gerllaw. Byddwn yn argymell Abertawe i bawb, a PPE i bawb sydd â diddordeb o ddifrif mewn rhyngweithio cenhedloedd, grym, pobl, ac adnoddau. ”Joe Wilson,

BA Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg

Mae 87% o raddedigion Gwleidyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

7776 7776

Page 41: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglVLM0 s Athroniaeth, Gwleidyddiaeth

a’r Gyfraith

s cynllun 3 blynedd

Mae’r BA PPL yn seiliedig ar, ac wedi’i datblygu o, radd hir sefydledig Abertawe PPE, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Mae PPL yn datblygu’r gallu i ddeall sylfeini a chymhwyso meddwl athronyddol, gwleidyddol a chyfreithiol i broblemau’r byd heddiw. Mae PPL yn darparu cyflwyniad integredig i athroniaeth, gwleidyddiaeth a’r gyfraith fodern, o Weriniaeth Plato hyd at argyfwng diweddaraf cyfalafiaeth fyd-eang a’r her i ddiogelu Hawliau Dynol a Sifil.

Mae gradd PPL Abertawe – un o ddim ond tair yn y DU – wedi’i dylunio i ddarparu’r offer dadansoddol sydd eu hangen i wella’ch dealltwriaeth o brif draddodiadau meddwl gwleidyddol, cyfreithiol ac athronyddol.

Bydd y radd Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith yn:

• eich helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad o feddwl a dadansoddi gwleidyddol; o ddulliau a hanes athroniaeth; ac o gyfraith gyfansoddiadol, cyfraith trosedd a chyfraith yr UE, a dealltwriaeth o ryngberthynas gwleidyddiaeth, athroniaeth a’r gyfraith

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod o feysydd amrywiol, gan gynnwys llywodraethu a gwleidyddiaeth ryngwladol, ganolog a lleol, gwasanaethau cyhoeddus, addysgu, a’r cyfryngau

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol o’r radd arloesol hon yw’r cyfle i archwilio a gwerthuso prif draddodiadau meddwl athronyddol, gwleidyddol a chyfreithiol, eu hymddangosiad a’u datblygiad dilynol, a’r rhyngweithio a’r rhyngberthynas sydd rhyngddynt.

Cewch eich addysgu yn bennaf drwy ddarlithoedd a seminarau grwpiau bach, ac yn ystod Lefel Tri bydd cyfle gennych i gwblhau traethawd hir ar bwnc o’ch dewis, neu interniaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1Byddwch yn cymryd chwe modiwl gorfodol, a fydd yn darparu sail gadarn mewn:• Athroniaeth• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Etholiadol• Gwleidyddiaeth Ryngwladol• Cyfraith Gyhoeddus• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Lefel 2Byddwch yn dilyn tri modiwl sylfaenol ac integredig gorfodol:

• Materion Sylfaenol Athroniaeth Foesol• Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus

Prydain• Cyfraith Trosedd

Byddwch hefyd yn dewis opsiynau o ystod eang o fodiwlau, sy’n caniatáu i chi astudio agweddau arbennig o wleidyddiaeth, y gyfraith ac athroniaeth mewn mwy o ddyfnder. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau megis:

• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Prydain ac America

• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng Ngwleidyddiaeth y Byd

• Hil-laddiad• Economeg Wleidyddol Fyd-eang: o

Fercantiliaeth i Neo-ryddfrydiaeth

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (PPL)

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: Fel arfer, bydd cynnig yn seiliedig ar ABB neu gyfwerth. Fodd bynnag, gwneir cynigion hyblyg ar sail adolygu’r ffurflen gais, ar ôl ystyried y pynciau a astudiwyd, y graddau a ragwelir neu a gafwyd, y geirda, a’r datganiad personol.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Athro

niaeth, G

wle

idyd

diae

th a’r Gyfraith (PPL)

• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern:

Descartes i Kant• Athroniaeth Foesol• Penderfyniadau a Chyfrifoldeb:

Y Dewis Trasig• Gweriniaeth Plato• Gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol

a De Asia• Pwer• Cyfraith Teulu• Cyfraith Hawliau Dynol y DU• Materion Cyfreithiol mewn Gofal

Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol

Lefel 3Mae’r opsiynau’n cynnwys pynciau megis:• Athroniaeth y Gwyddorau Cymdeithasol• Athroniaeth Crefydd a Gwyddoniaeth• Athroniaeth Gymhwysol• Athroniaeth Ddigidol• Gweledigaethau Democratiaeth• Y Gyfraith, Cyfiawnder, Awdurdod a

Chymdeithas• Globaleiddio• Astudiaethau Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Gwleidyddiaeth a Datblygu

Rhyngwladol• Economeg Wleidyddol Gyfoes• Cymdeithaseg y Gyfraith

• Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol• Cyfraith Amgylcheddol• Cyfraith Hawliau Dynol y DU• Cyfraith Teulu• Terfysgaeth: yr ymateb cyfreithiol• Ymddygiad Gwrthgymdeithasol:

Cyfraith, Polisi ac Ymarfer• Cyfraith Chwaraeon

Sylwer y gall modiwlau newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei fonitro a’i werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Hefyd, ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 87% o raddedigion Gwleidyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

7978

“Fel rhan o’m cwrs cefais gyfle unigryw i ddewis modiwl lleoliad

gwaith yn gweithio yng Nghynulliad Cymru, a oedd yn gyfle i mi gael

cipolwg ‘tu ôl i’r llenni’ ar wleidyddiaeth Cymru; roedd hi’n brofiad

ardderchog – ac eithaf dadlennol!” Jo Edwards, BA Gwleidyddiaeth

7978

Page 42: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Roedd y prosiect ymchwil biocemeg yn gyfle gwych i mi

ddatblygu fy hun, gan fy ngalluogi i ddysgu mwy am gymhlethdodau

biocemeg ac yn fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn

gwyddoniaeth ac ymchwil. ” Alun Newsome, BSc Biocemeg Feddygol

Mae Biocemegwyr a Biocemegwyr Meddygol yn datblygu syniadau a chynnyrch newydd sy’n cael eu cymhwyso i’r heriau iechyd mwyaf yr ydym yn eu hwynebu heddiw. Maent yn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys meddygaeth, amaethyddiaeth, cynnyrch fferyllol, gwyddor fforensig a milfeddygaeth. Mae Biocemegwyr yn ein helpu i ddeall hanfod bywyd ei hun.

Mae Biocemeg, sef astudio sut mae celloedd yn gweithio ar y lefelau moleciwlar ac is-foleciwlar, wedi’i disgrifio fel sylfaen meddygaeth fodern. Cyfeirir ati hefyd fel bioleg gemegol, bioleg celloedd moleciwlar a bioleg y gell fyw.

Bydd ein graddau Biocemeg Feddygol a Biocemeg yn:

• eich hyfforddi i weithio mewn meysydd megis ymchwil canser, datblygu cyffuriau a datblygu cnydau ac agrocemegau newydd

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach sy’n eich galluogi i ymgymryd â swyddi ymchwil ym myd diwydiant

• eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio yn y diwydiannau fferyllol, biotechnoleg, agrocemegol a bwyd

• eich dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Bydd y radd Biocemeg Feddygol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi i ddilyn gyrfa mewn labordai meddygol. Mae Biocemeg Feddygol yn rhoi sylfaen da i fyfyrwyr sydd eisiau parhau i astudio i fod yn feddyg. Mae nifer o’n myfyrwyr sydd wedi dewis y llwybr gyrfa hwn wedi mynd ymlaen i astudio Meddygaeth Ôl-raddedig yn Abertawe.

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol. Gallwch hefyd ddefnyddio’r pecynnau hunan-ddysgu a’r meddalwedd efelychu sy’n rhoi’r profiad i chi o dechnegau na fyddant fel arfer ar gael ar lefel israddedig.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil o dan oruchwyliaeth gwyddonydd ymchwil proffesiynol. Trwy weithio fel ymchwilydd annibynnol, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau effeithiol ac yn derbyn hyfforddiant i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o blith ystod o fodiwlau’n ymwneud â phynciau sy’n perthyn i gryfderau ein staff mewn biocemeg foleciwlaidd, biocemeg famalaidd a biocemeg ficrobaidd.

Os byddwch yn dewis astudio Biocemeg Feddygol, byddwch yn elwa ar arbenigedd staff yn y Coleg Meddygaeth. Byddwch hefyd yn cymryd modiwlau mewn pynciau arbenigol ym maes mecanweithiau moleciwlaidd afiechydon a geneteg feddygol.

Lefel 1• Geneteg a Phrosesau Esblygu• Egni a Metaboledd: Adweithiau Bywyd• Macromoleciwlau: Ffurf a Swyddogaeth• Rheolaeth Fetabolig a Ffisioleg

Foleciwlar• Datblygu Sgiliau Biocemegol• Cemeg Bywyd• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Cemeg Organig Grwpiau

Swyddogaethol• Strwythur Atomig a Chyfnodoldeb

Cemegol• Bioleg Gellog a Microbaidd

BSc Anrhydedd SenglC700 s BiocemegC741 s Biocemeg Feddygol

BSc Cyd-AnrhydeddCC47 s Biocemeg a Geneteg

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Meddygaeth

Biocemeg Feddygol a Biocemeg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegmeddygaeth/

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn Biocemeg Feddygol a Biocemeg: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295668

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBB – ABB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 – 33

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Bydd angen cymhwyster safon uwch Cemeg arnoch ac o leiaf un pwnc gwyddoniaeth arall, Bioleg fel arfer.

Bio

cem

eg

Fed

dyg

ol a B

ioce

me

g

Byddwch yn datblygu sgiliau a phrofiad mewn dulliau dadansoddol, prosesu data, ac ysgrifennu adroddiadau trwy ddysgu’n seiliedig ar gyfrifiaduron a dosbarthiadau ymarferol cysylltiedig.

Lefel 2• Metaboledd Carbohydrad a

Glycobioleg• Asidau Amino, Lipidau, a Steroidau• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol• Sbectrometreg Mas Biomoleciwlar a

Dadansoddi Proteomig• Rheoli Metabolaidd: Ensymau a

Throsglwyddo Signalau• Datblygu Sgiliau Biocemeg II• Technegau Biomoleciwlar• Geneteg Ddynol a Meddygol• Geneteg Microbaidd• Mynegiant Genynnau• Mecanwaith Moleciwlar Afiechydon a

Diagnosteg• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg

Mae dosbarthiadau ymarferol yn eich galluogi i ymestyn y sgiliau a enillasoch ar Lefel 1 ac i ddatblygu cymwyseddau newydd.

Lefel 3• Prosiect Ymchwil Biomoleciwlar• Biocemeg Cynnyrch Naturiol• Pilennau a Throsi Egni

• Asidau Niwclëig: Cydrannau, Metaboledd ac Addasu

• Cludo Pilenni• Agweddau ar Fiocemeg Synhwyraidd

Ddynol a Metabolig • Trin Genynnau• Geneteg Feddygol• Biotechnoleg a Pheirianneg Protein• Mwtaniadau ac Iechyd Dynol• Geneteg Canser• Adolygiad o Lenyddiaeth Fiocemeg

a Chyfathrebu

Gradd Gyd-Anrhydedd Biocemeg a GenetegMae’r radd gyd-anrhydedd Biocemeg a Geneteg yn cynnig modiwlau o’r ddwy radd Anrhydedd Sengl ac yn ymdrin ag amrywiaeth ehangach o bynciau ym meysydd biocemeg, geneteg a bioleg foleciwlar. Yr amcan yw tanlinellu agweddau’r ddwy ddisgyblaeth sy’n gorgyffwrdd.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau a gwaith ymarferol. Mae’r prosiect y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel 3 yn rhan bwysig o’r rhaglen radd sy’n eich cynorthwyo i gael profiad gwerthfawr o greu, cynllunio a rhoi prosiect ymchwil ar waith.

Mae 96% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

8180

Cynhwysir y graddau hyn yn y pynciau blaenoriaeth ar gyfer bwrsariaethau ychwanegol yn seiliedig ar incwm – gweler tudalen 69.

8180

Page 43: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB-BBB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32, gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adranybiowyddorau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: YGallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

BSc Anrhydedd SenglC104 s BiolegC100 s Gwyddorau Biolegol (gan

ohirio’ch dewis o arbenigedd)

BSc Cyd-Anrhydedd Gwyddorau Biolegol aCL17 s Daearyddiaeth

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigC101 u Bioleg

Am raddau perthynol, gweler Bioleg y Môr (tudalen 84) a Swoleg (tudalen 184).

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

“ Ar ôl i mi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bioleg yn

2010, rydw i nawr yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil yn y labordy

microbioleg yn Zoobiotic lle rydw i’n gyfrifol am brofi cynnyrch. Mae’n

swydd heriol ond roeddwn yn barod iawn amdani oherwydd roedd fy

nhraethawd hir yn cynnwys meithrin cynrhon a phrofi eu secretiadau

pwysig o safbwynt meddygol.” ” Mark Martin, BSc Bioleg Cynorthwyydd Ymchwil Zoobiotic Ltd

Bio

leg

a’r Gw

ydd

orau B

iole

go

l

Mae 92% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

Mae Biolegwyr yn rhannu diddordeb yn y byd naturiol, p’un ai a ydynt yn ceisio deall y grymoedd sy’n penderfynu sut mae cell yn datblygu, y ffyrdd y mae organebau’n rhyngweithio â’u hamgylcheddau, neu gymhlethdodau’r genom dynol.

Mae graddau Abertawe mewn Bioleg a Gwyddorau Biolegol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio organebau byw yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.

Bydd ein graddau Bioleg a’r Gwyddorau Biolegol yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa â chanolbwynt ar waith maes a/neu waith labordy mewn meysydd yn cynnwys addysg, cadwraeth, monitro amgylcheddol, amaethyddiaeth ac ymchwil prifysgol

• rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o organebau byw a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â’r amgylchedd

• eich dysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adnabod rhywogaethau a chynnal arolygon amgylcheddol

• darparu hyfforddiant arbenigol a’r sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr posibl yn chwilio amdanynt

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol a chyrsiau maes poblogaidd. Byddwch hefyd yn elwa ar gael cyfleusterau addysgu ardderchog ar gyfer astudiaethau ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd.

Bydd astudiaethau maes yn caniatáu i chi weithio mewn cyfoeth o gynefinoedd lleol o ansawdd ardderchog megis ecosystemau arfordirol morol, amgylcheddau dwr croyw / tir gwlyb a chynefinoedd tirol ysblennydd Penrhyn Gwyr, ardal genedlaethol o harddwch naturiol eithriadol.

Mae ein Labordy Dysgu newydd yn gyfleuster sydd wedi’i ddiweddaru’n sylweddol i ddysgu lefel uwch o sgiliau a thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr; mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clyweled sy’n gallu darlledu i sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr fideo/ DVD, ac unedau delweddu / camera.

Yn ystod Lefel 3, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n llwyr ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu fel ymchwilydd annibynnol. Wrth wneud hynny, byddwch

yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

• Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:ystafelloedd newydd gwerth £4.2 miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dysgu

• ystod helaeth o offer dadansoddi modern

• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer amrywiaeth o organebau

• ystafelloedd tymheredd cyson ac ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

• yr Amgueddfa Swolegol

• llong ymchwil arfordirol 12.5m a ddyluniwyd yn arbennig, yr RV Noctiluca

Pa fodiwlau sydd ar gael?I ddechrau, rydym am i chi ennill elfennau angenrheidiol hyfforddiant ac addysg fiolegol eang a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i feysydd mwy arbenigol ar Lefelau 2 a 3. I sicrhau hyn, mae’r cwrs Lefel Un yn cynnig modiwlau gorfodol yn bennaf. Yna, ar Lefelau 2 a 3 mae’r cwrs yn cynnig rhai modiwlau dewisol sy’n eich galluogi i addasu’ch profiad dysgu. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel 1• Ysgrifennu Gwyddoniaeth a Sgiliau

Gyrfaol• Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr Biolegol• Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf, a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad• Geneteg a Phrosesau Esblygu

Lefel 2• Sut i Ymchwilio yn y Gwyddorau

Biolegol• Ecoleg Foleciwlaidd• Adolygiad Llenyddiaeth Fiolegol• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg• Infertebrata Tirol a Pharasitiaid• Fertebrata• Ymddygiad anifeiliaid mewn

cadwraeth a lles• Ecoleg arfordir morol• Cefnforeg• Plancton Morol ac Infertebrata Cefnforol • Geneteg Ddynol a Meddygol• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol

Lefel 3• Prosiect Ymchwil • Cwrs Maes Ecoleg Dirol NEU Gwrs

Maes Ecoleg Anifeiliaid• Adolygiad Llenyddiaeth mewn Bioleg • Ymchwil gyfredol mewn bioleg – mae’r

holl aelodau staff yn cyflwyno modiwl ar eu diddordebau ymchwil penodol eu hun (ar ystod o bynciau) y byddwch yn dewis pump o’u plith ar gyfer asesu

Gohirio’ch dewis o arbenigeddOs ydych yn ansicr pa radd yr ydych am ei hastudio, gallwch ddewis gohirio dewis eich cynllun gradd tan ddiwedd Lefel 1. Y cynlluniau sydd ar gael yw Bioleg, Swoleg a Bioleg y Môr.

Am ragor o fanylion, gweler Bioleg y Môr (tudalen 84), a Swoleg (tudalen 184).

Graddau Cyd-AnrhydeddOs byddwch yn dewis y radd Daearyddiaeth a Gwyddorau Biolegol, byddwch yn gallu manteisio ar gryfderau staff yn y gwyddorau biolegol a daearyddiaeth ffisegol.

Am ragor o wybodaeth, gweler Daearyddiaeth (tudalen 94).

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigRydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel 1. Ar ddiwedd y Flwyddyn Sylfaen, caiff ymgeiswyr symud ymlaen i BSc Bioleg.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg? Mae sawl modiwl Biowyddorau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws lefelau 1-3 a mwy’n cael eu datblygu’n flynyddol. Wrth

ddewis astudio elfen o radd Bioleg, Swoleg neu Bioleg y Môr drwy gyfrwng y Gymraeg cewch fanteisio ar y gorau o ddau fyd. Cewch gyfle i gymdeithasu a gweithio gyda myfyrwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd fel rhan o’r prif ddarlithoedd cyfrwng Saesneg a gweithio’n agos mewn dosbarthiadau llai wrth wneud pethau penodol yn y Gymraeg. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Mae’r gallu i weithio mewn dwy iaith yn sgil hanfodol i nifer o gyflogwyr ym maes y biowyddorau, megis Cyngor Cefn Gwlad (CCW) ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Rhaid cofio hefyd fod sgiliau dwyieithrwydd yn adlewyrchu’n dda os ydych yn bwriadu dilyn gyrfa mewn maes rhyngwladol fel biowyddorau.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau/Mae hefyd ysgoloriaethau ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk

Y Coleg Gwyddoniaeth

Bioleg a’r Gwyddorau Biolegol

8382

Page 44: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Mae gan iechyd ein cefnforoedd ddylanwad uniongyrchol ar iechyd ein planed. Drwy astudio’r bywyd yn ein moroedd, ein haberoedd a’n gwlyptiroedd, mae biolegwyr y môr yn medru diogelu bioamrywiaeth y byd a diogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad. Maent hefyd yn helpu i ddatblygu ffynonellau cynaliadwy o fwyd y môr a ffynonellau ynni amgen.

Mae Bioleg y Môr yn Abertawe yn gwrs hynod ymarferol. Lleolir y Brifysgol mewn lle delfrydol ar gyfer gwaith maes bioleg y môr a gwaith ar gwch – mae Penrhyn Gwyr cyfagos yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd i’w hastudio, o draethau caregog agored a chlogwyni serth i faeau cysgodol a thwyni tywod, morfeydd heli ac aberoedd morydol.

Bydd ein graddau Bioleg y Môr yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ymchwil y môr, ymgynghori amgylcheddol, a chadwraeth

• rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o organebau’r môr a’u perthynas â’r amgylchedd

• eich galluogi i werthfawrogi effaith a dylanwad organebau’r môr ar newid hinsawdd byd eang

• darparu gwybodaeth i chi am agweddau masnachol o fioleg y môr, megis asesu effaith amgylcheddol a dyframaeth

• eich galluogi i ddatblygu sgiliau gwaith maes a gwaith ar gwch

• eich dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol. Byddwch yn datblygu sgiliau fel biolegydd maes drwy gyflawni gwaith cwch ar ein cwch ymchwil, yr RV Noctiluca, a gwaith maes ar lannau lleol.

Pan fyddwch yn mynychu cwrs maes preswyl ar Ynys Cumbrae, yn yr Alban, byddwch yn derbyn hyfforddiant ar amrywiaeth o dechnegau samplu ac arolygu o’r llong, ac yn ennill profiad o adnabod amrywiaeth eang o greaduriaid infertebrata a physgod sy’n byw ar wely’r môr. Mae ein Labordy Dysgu newydd yn gyfleuster sydd wedi’i ddiweddaru’n sylweddol i ddysgu lefel uwch o sgiliau a thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr. Mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clyweled sy’n gallu darlledu i sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr fideo/ DVD, ac unedau delweddu/camera.

Yn ystod Lefel 3, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n llwyr ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu fel ymchwilydd annibynnol.

Wrth wneud hyn, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:• ystafelloedd newydd gwerth £4.2

miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dysgu

• ystod helaeth o offer dadansoddi modern

• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer amrywiaeth o organebau

• ystafelloedd tymheredd cyson ac ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

• yr Amgueddfa Swolegol• llong ymchwil arfordirol 12.5m a

ddyluniwyd yn arbennig, yr RV Noctiluca

Yn ystod Lefel 3, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil deg wythnos. Gallwch ddewis prosiect yn seiliedig ar waith maes, ar waith ar gwch a/neu ar waith

BSc Anrhydedd SenglC160 s Bioleg y Môr

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigC101 u Bioleg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Bioleg Y Môr

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adranybiowyddorau

Cysylltwch â’r Tiwtoriaid Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32, gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

Bio

leg

Y M

ôr

yn y labordy gan wneud defnydd o’r safleoedd astudio gwerthfawr sydd o amgylch Abertawe a’r Gwyr. Fel arall, mae’n bosibl y cewch leoliad yn rhywle arall yn y DU neu dramor. Ewch i’n gwefan i weld enghreifftiau o brosiectau blaenorol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Ar Lefelau 1 a 2, mae’r cwrs wedi’i ragosod, ond ceir modiwlau dewisol ar Lefel 3 a fydd yn eich galluogi i addasu eich profiad dysgu. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel 1• Ysgrifennu Gwyddoniaeth a Sgiliau

Gyrfaol • Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr

Biolegol• Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf, a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad• Geneteg a Phrosesau Esblygu

Lefel 2• Sut i Ymgymryd ag Ymchwil mewn

Gwyddor Fiolegol• Ecoleg Foleciwlar• Adolygiad Llenyddiaeth Bioleg y Môr

• Plancton Morol ac Infertebrata Cefnforol

• Fertebrata• Ecoleg forol arfordirol• Cefnforeg• Technegau mewn bioleg y môr

Lefel 3• Prosiect Ymchwil Bioleg y Môr • Cwrs Maes Bioleg y Môr• Adolygiad Llenyddiaeth Bioleg y Môr • Ymchwil gyfredol mewn Bioleg y Môr

– mae pob aelod o staff yn cyflwyno modiwl ar ei ddiddordeb ymchwil penodol (ar ystod o destunau), a byddwch yn dewis pum modiwl i’w hasesu.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae sawl modiwl Biowyddorau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws lefelau 1-3 a mwy’n cael eu datblygu’n flynyddol. Wrth ddewis astudio elfen o radd Bioleg, Swoleg neu Bioleg y Môr drwy gyfrwng y Gymraeg cewch fanteisio ar y gorau o ddau fyd. Cewch gyfle i gymdeithasu a gweithio gyda myfyrwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd fel rhan o’r prif ddarlithoedd cyfrwng Saesneg a gweithio’n agos mewn dosbarthiadau llai wrth wneud pethau penodol yn y Gymraeg. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu

trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Mae’r gallu i weithio mewn dwy iaith yn sgil hanfodol i nifer o gyflogwyr ym maes y biowyddorau, megis Cyngor Cefn Gwlad (CCW) ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Rhaid cofio hefyd fod sgiliau dwyieithrwydd yn adlewyrchu’n dda os ydych yn bwriadu dilyn gyrfa mewn maes rhyngwladol fel biowyddorau.

Sut y caf fy asesu? Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethauMae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid ar gyfer cwblhau rhai astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Biowyddorau yn Abertawe yn gymwys ar gyfer y cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant, y mae ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn ar gael. Mae manylion ar gael oddi wrth www.colegcymraeg.ac.uk

“ Dwi wedi treulio pedair blynedd yn fyfyriwr yn Abertawe, a gallaf ddweud yn onest i mi gael amser bendigedig trwy gydol y cyfnod! Trwy f’astudiaethau israddedig des i ddeall pa mor anhygoel o amrywiol yw’r ecosystem forol, ond hefyd pa mor hawdd yw ei niweidio, ac i ba raddau mae’n cael ei hecsbloetio. Roedd hynny’n fy symbylu i wneud y MSc, a oedd yn ehangu fy ngwybodaeth o sawl agwedd o gadwraeth a phroblemau amgylcheddol o gwmpas y byd yn y môr ac ar y tir. Gyda’r profiad a’r arbenigedd a enillais trwy astudio yn Abertawe, dwi wedi cael swydd yn gweithio gyda WWF Cymru yng Nghaerdydd, yn Swyddog Polisi Morol, lle dwi’n

helpu gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i amgylchedd morol Cymru. ”David Parker, BSc Bioleg y Môr a MSc Bioleg Amgylcheddol:

Cadwraeth a Rheoli Adnoddau

Mae 92% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

84

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig Rydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel Un. Ar ddiwedd y Flwyddyn Sylfaen, caiff ymgeiswyr symud ymlaen i BSc Bioleg y Môr.

858584

Page 45: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Syrthiais mewn cariad ag Abertawe yn syth pan ddes i am fy

nghyfweliad. Roedd yr adran mor groesawgar.

Rydw i eisoes wedi cynorthwyo â genedigaeth 13 o fabanod ac wedi

cyfrannu at iechyd a lles llawer mwy o fenywod a’u babanod. Mae’r

staff i gyd yn gefnogol, boed yn y Brifysgol neu allan ar leoliad. Nawr

fy mod i wedi gorffen fy mlwyddyn gyntaf, ni allaf feddwl am wneud

yrfa wahanol.” Lauren Vizard, BMid Bydwreigiaeth

Cydnabyddir bydwraig fel unigolyn proffesiynol atebol a chyfrifol sy’n cydweithio mewn partneriaeth â menywod gan roi’r gefnogaeth, y gofal a’r cyngor angenrheidiol iddynt yn ystod beichiogrwydd, esgor a’r cyfnod ôl-enedigol.

Mae’r gofal hwn yn cynnwys hyrwyddo iechyd, hyrwyddo genedigaeth naturiol, canfod cymhlethdodau gyda’r fam a’r plentyn, a chyfeirio at ofal meddygol neu gymorth arall perthnasol pan fo’n briodol.

Mae gan y fydwraig rôl bwysig o ran cynghori ac addysg, nid yn unig ar gyfer y fenyw, ond hefyd o fewn y teulu a’r gymuned. Dylai’r gwaith yma gynnwys addysg gyn-geni a pharatoi ar gyfer magu plant, a gall hefyd gynnwys iechyd y fenyw, iechyd rhyw neu iechyd cenhedlu a gofal plant.

Bydd astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i chi ar gyfer gyrfa wobrwyol fel bydwraig.

Bydd ein gradd Bydwreigiaeth yn:

• eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r cymwyseddau angenrheidiol i fod yn fydwraig

• cynnig cymorth i chi gael profiad ymarferol eang ar draws amrywiaeth o leoliadau mamolaeth

• darparu sylfaen gadarn i chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn perthynas ag ymarfer, rheoli, ymchwil ac addysg bydwreigiaeth

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn pynciau sy’n berthnasol i Fydwreigiaeth ar lefel gradd a lefel Meistr.

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, grwpiau trafod, chwarae rôl, ac ymarferion efelychu. Mae 50% o’r radd yn seiliedig ar waith theori, a 50% yn seiliedig ar waith ymarfer.

Mae hwn yn gynllun tair blynedd, llawn amser sy’n cychwyn bob mis Medi.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Bydd gofyn i chi gael:

• Gwiriad Heddlu Manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Cyflwyniad i Fydwreigiaeth Broffesiynol• Biowyddoniaeth ar gyfer Bydwreigiaeth• Iechyd yn ystod Beichiogrwydd• Sgiliau Astudio ar gyfer Bydwreigiaeth• Sylfeini Ymarfer Bydwreigiaeth

Lefel 2• Agweddau Seicogymdeithasol

Beichiogrwydd• Heriau yn ystod Beichiogrwydd• Cymhlethdodau yn ystod Beichiogrwydd• Datblygu Ymarfer Bydwreigiaeth

BMid Anrhydedd SenglB720 s Bydwreigiaeth

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

BydwreigiaethB

ydw

reig

iaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBB – BBC neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Hefyd, bydd angen o leiaf pump TGAU arnoch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg, a phwnc gwyddoniaeth ar radd A i C. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Lefel 3• Bydwreigiaeth ar sail Tystiolaeth• Rheolaeth mewn Bydwreigiaeth• Optimeiddio Bydwreigiaeth• Ymarfer Bydwreigiaeth Effeithiol

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol, mae’r Coleg wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Gwyddorau Gofal Iechyd, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau ac aseiniadau ysgrifenedig.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf neu wedi derbyn ‘Caniatâd i Aros’ yma:a) nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalu b) bydd myfyrwyr newydd yn derbyn

grant heb brawf incwm o £1000c) a Bwrsariaeth Prawf Incwm o hyd

at £4395d) mynediad at gymorth ychwanegol ar

ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio). (Cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân)

Yn ogystal â’r bwrsari prawf incwm sylfaenol, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion dibynnol a phlant.

Mae’r wybodaeth hon yn dod gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru. Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael ar www.wales.nhs.uk

Nid yw’r Brifysgol, felly, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.

Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i gael mynediad i’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd site: www.nliah.wales.nhs.uk

Sylwer: Rydym yn argymell bod ceisiadau’n cael eu cyflwyno cyn 15 Ionawr 2014.Sylwer nad ydym yn gallu ystyried ceisiadau ar gyfer mynediad a ohirir.

Mae 100% o raddedigion Gwyddor Iechyd mewn cyflogaeth lawn-amser neu’n dilyn astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (Data HESA 2010-11)

8786 8786

Page 46: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL220 s Cyfathrebu Gwleidyddol

s cynllun 3 blynedd

Ydych chi’n edrych ar y diwylliant cyfryngau yn y byd sydd ohoni, ac yn meddwl am beth sydd y tu ôl i’r ormodiaith? Ydy gweithgarwch y dewin delwedd yn rhan anorfod o wleidyddiaeth bleidiol fodern? Ydy golygyddion papurau newydd yn rheoli ein democratiaeth mewn gwirionedd? Sut gall pleidiau gwleidyddol gyfleu eu syniadau a’u polisïau’n well i etholwyr sy’n gynyddol amheugar? Sut mae llywodraethau’n defnyddio teledu, radio, a phapurau newydd y wladwriaeth i lywio’r farn gyhoeddus? Sut ydyn ni’n gwybod beth sy’n wir a beth sy’n bropaganda? Pa rôl a chwaraewyd gan y cyfryngau newydd mewn protestiadau diweddar, o’r gwrthdystiadau yn erbyn treth danwydd ym Mhrydain yn 2001 i’r gwrthryfel yn yr Aifft yn 2011? Os yw’r cwestiynau hyn o ddiddordeb i chi, rydych chi o ddiddordeb i ni.

Mae ein staff ymroddedig yn yr adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol yn arbenigwyr sy’n arbenigo mewn gwleidyddiaeth, y cyfryngau, a chyfathrebu gwleidyddol. Rydym yn ymchwilwyr gweithgar sy’n adnabyddus ar draws y byd, ac rydym yn dysgu ystod gyffrous o bynciau sy’n delio ag ystod eang o faterion. Gallwn eich tywys ar daith hunan-ddarganfod, gan agor eich meddwl i ddulliau meddwl newydd, a

chan eich arfogi â’r sgiliau fydd yn gwella’ch cyfleoedd cyflogaeth pan fyddwch yn graddio. Dilynwch eich diddordeb yn y cyfryngau a gwleidyddiaeth, gan astudio gradd sy’n berthnasol i’r ffordd yr ydym yn byw heddiw.

Bydd ein gradd Cyfathrebu Gwleidyddol yn:

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd megis gwleidyddiaeth, y cyfryngau, a chyfathrebu

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol y cwrs hwn yw’r cyfle i gynnal astudiaeth fanwl o’r cysyniadau a’r materion allweddol a fydd yn eich helpu i wneud synnwyr o’r cyfryngau a gwleidyddiaeth.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Beth yw Gwleidyddiaeth a

Chysylltiadau Rhyngwladol?• Gwleidyddiaeth a’r Bobl• Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau• Rhyfel a Heddwch mewn Oes Niwclear

Lefelau 2 a 3• Y Wladwriaeth a Sefydliadau

Gwleidyddol• Anarchiaeth a Threfn: (Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd)• Rhyfel Digidol• Yr Ymerodraeth yn Taro Nôl• Hil-laddiad• Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus

Prydain• Gwleidyddiaeth y Cyfryngau Newydd• Polisi a Rheoleiddio’r Cyfryngau• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Theori’r Cyfryngau• Economeg Wleidyddol Ryngwladol

Yn eu blwyddyn olaf, mae gan fyfyrwyr opsiwn o ysgrifennu traethawd hir dan oruchwyliaeth arbenigol ar bwnc o’u dewis. Maent hefyd yn cael cyfle i astudio ein modiwl gwaith tîm unigryw a phoblogaidd, sef Ymchwilio Gwleidyddiaeth, sy’n cynnwys opsiynau ar gyfathrebu gwleidyddol. Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn cydweithio ar

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cyfathrebu Gwleidyddol – Gwleidyddiaeth a Chyfryngau

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hefyd, ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Dewisais fy nghwrs yn Abertawe oherwydd ei bod yn un o’r

ychydig brifysgolion oedd yn cynnig gradd integredig gwleidyddiaeth,

y cyfryngau, a chyfathrebu gwleidyddol. Fel rhan o’r radd, dilynais y

modiwl interniaeth, yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, rhywbeth

wnaeth newid fy mywyd. Cefais gyfle i weld sut mae gwleidyddion yn

gweithio y tu ôl i’r llenni, a sut maen nhw’n cyfleu eu neges i’r cyhoedd,

a gwnaeth fy ngalluogi hefyd i dynnu ar y wybodaeth a’r sgiliau a

ddysgais yn y brifysgol, a’u defnyddio yn y byd go iawn. Bedair

blynedd yn ddiweddarach, gallaf ddweud yn bendant yr oedd astudio

Cyfathrebu Gwleidyddol yn sylfaen dda i mi o ran gwleidyddiaeth ac

astudiaethau’r cyfryngau. Roedd hefyd yn fy mharatoi am yrfa yn

gweithio mewn bywyd cyhoeddus yn ymchwilydd gwleidyddol ac yn

ymgynghorydd cyfathrebu. ” Neil Ronconi-Woollard, BA Cyfathrebu Gwleidyddol,

Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

bwnc arbenigol ac yn dysgu sut i ysgrifennu adroddiadau, rheoli cyfarfodydd, a rhoi cyflwyniadau cyhoeddus lefel uchel.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ymMhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaithi’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg bethbynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwlhwnnw heblaw am yn achos modiwlauieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaithdan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfathre

bu G

wle

idyd

do

l – G

wle

idyd

diae

th a Chyfryng

au

Mae 87% o raddedigion Gwleidyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

8988 8988

Page 47: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Lefel 3• Gweithredu Prosiect a Thraethawd Hir• Manylebu a Datblygu Prosiectau• Ysgrifennu ‘Apps’ Symudol• Graffeg Gyfrifiadurol II: Modelu a

Throsiad• Cysyniadau Ieithoedd Rhaglennu• Systemau Cywirdeb Uchel• Cryptograffeg a Diogelwch TG• Delweddu Data• Cyfrifiadura’r Rhyngrwyd• Cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial• Adeiladu Cymwysiadau Dibynadwy i’r

Rhyngrwyd• Dylunio Rhyngweithiol Symudol• Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn

C/C++• Profi Meddalwedd• Systemau Wedi’u Mewnosod• Patrymau Cynllunio a Rhaglennu

Generig• Rhesymeg ar gyfer Cyfrifiadureg• Golwg Cyfrifiadurol ac Adnabod

Patrymau• Addysgu Cyfrifiadureg trwy Leoliad

Ysgol

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigRydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel Un. Ar ddiwedd y Flwyddyn Sylfaen, caiff ymgeiswyr symud ymlaen i BSc Cyfrifiadureg.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a phrosiect yn ystod eich Lefel olaf.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae nifer o fwrsariaethau gennym – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

BSc Anrhydedd SenglG400 s CyfrifiaduregG4GC s Mathemateg ar gyfer CyfrifiaduregG600 s Peirianneg Meddalwedd

MEng Anrhydedd SenglG403 u Cyfrifiadureg

BSc Cyd-AnrhydeddCyfrifiadureg aFG34 s FfisegGF48 s Geo-wybodegGG41 s Mathemateg Bur

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigG401 u Cyfrifiadureg s cynllun 3 blynedd

u cynllun 4 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Cyfrifiadureg

Mae Cyfrifiadureg yn effeithio ar bob agwedd o’n bywyd, gan roi pwyslais cynyddol ar addysg, busnes, a diwydiant i sicrhau fod gweithlu’r dyfodol yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn yr Oes Ddigidol. Mae Cyfrifiadureg yn Abertawe wrth wraidd yr arloesi technolegol sy’n ailddiffinio’r ffordd yr ydym yn byw, yn dysgu ac yn gweithio.

Mae ein prif raglenni gradd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadura Prydain, sy’n caniatáu i chi ymuno â’r gymdeithas ar lefel graddedig.

Bydd ein graddau Cyfrifiadureg yn:

• eich hyfforddi ar gyfer mynediad lefel uchel i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys datblygu meddalwedd, systemau Rhyngrwyd, a datblygu technolegau symudol.

• dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys broblemau, ac i fesur pa mor effeithiol yw’r datrysiadau hynny

• eich dysgu sut i astudio ac asesu systemau, a chynllunio rhai newydd

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Hefyd, gall cysylltiad diwydiannol yr Adran gydag IT Wales eich helpu i ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant drwy gyfrwng lleoliad gwaith wedi’i dalu.

Beth yw strwythur y radd?Fel myfyriwr, bydd gennych ddefnydd o’r labordai cyfrifiadurol un pwrpas sy’n cynnwys ystod eang o gyfrifiaduron Windows, Linux ac Apple modern a soffistigedig.

Byddwch yn cael eich dysgu yn bennaf drwy gyfrwng darlithoedd, gwaith labordy, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial. Bydd gwaith ymarferol mwy sylweddol yn cael ei gyflawni yn ystod ymarferion gwaith cwrs grwp, ac ar brosiectau unigol. Byddwch yn dysgu sut i raglennu gan ddefnyddio Java ac ieithoedd rhaglennu eraill yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Rhaglennu• Modelu Systemau Cyfrifiadurol• Cysyniadau Cyfrifiadureg• Materion Proffesiynol 1: Cyfrifiaduron a

Chymdeithas• Materion Proffesiynol 2: Datblygu

Meddalwedd

Lefel 2• Cydredeg• Rhaglennu Datganiadol• Graffeg Gyfrifiadurol 1: Prosesu a

Synthesis Delweddau• Systemau Cronfa Ddata• Automata a Damcaniaeth Iaith Ffurfiol• Algorithmau• Peirianneg Meddalwedd

Cyfrifiad

ureg

Mae Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg/Astudiaethau Cyfrifiaduron yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Mae B mewn TGAU Mathemateg yn angenrheidiol ar gyfer pob gradd ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, ond bydd angen Safon Uwch Mathemateg arnoch os ydych yn dewis astudio Cyfrifiadureg a Chyfathrebu, Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadureg, neu Gyd-Anrhydedd gyda Mathemateg.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

Pa raddau rydw i eu hangen?

MEngSafon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

BScSafon Uwch: ABB – BBB

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

“ Rhaid bod Prifysgol Abertawe ymhlith y prifysgolion gorau yn y

DU i astudio Cyfrifiadureg. Mae yna gymorth ardderchog i fyfyrwyr,

awyrgylch ffantastig, ac mae’n lleoliad gwych i astudio. Mwynheais

y modiwlau, y prosiect terfynol a chwmni fy nghyd-fyfyrwyr drwy

gydol y rhaglen gyfan, yn ogystal â chefnogaeth fy nhiwtoriaid, fy

narlithwyr a’m goruchwylwyr.” Dhanarai Jayapalan, BSc Cyfrifiadureg Datblygwr Graddedig,

Thomsons Online Benefits

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adrancyfrifiadureg/

Cysylltwch â Derbyniadau: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Mae 90% o raddedigion Cyfrifiadureg mewn cyflogaethlawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

9190

Page 48: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ560 s Cymraeg (llwybr ail iaith) Q561 s Cymraeg (llwybr iaith gyntaf) Q5R1 u Cymraeg (gyda Ffrangeg)*Q5R4 u Cymraeg (gyda Sbaeneg)* Q5R2 u Cymraeg (gydag Almaeneg)*

BA Cyd-anrhydedd Cymraeg (iaith gyntaf) aQR52 u AlmaenegQT5B s Astudiaethau AmericanaiddQV5D s Astudiaethau CanoloesolQP53 s Y Cyfryngau*FQ85 s Daearyddiaeth*QR51 u Ffrangeg*QQ85 s Gwareiddiad ClasurolLQ2N s Gwleidyddiaeth

QV5C s Hanes*VQ1N s Hanes yr HenfydQQ3M s Iaith Saesneg QQ3N s Llenyddiaeth Saesneg QR54 u Sbaeneg*QX51 s TEFL

BA Cyd-anrhydedd Cymraeg (ail iaith) aQR52 u AlmaenegQT57 s Astudiaethau AmericanaiddQVM1 s Astudiaethau CanoloesolPQ53 s Y CyfryngauLQ75 s DaearyddiaethQR51 u Ffrangeg QQ85 s Gwareiddiad ClasurolLQF5 s GwleidyddiaethQV51 s Hanes

VQ15 s Hanes yr HenfydQQ35 s Iaith SaesnegQQH5 s Llenyddiaeth SaesnegQR54 u SbaenegQX53 s TEFL

BSc Cyd-anrhydedd Cymraeg (iaith gyntaf) aGQ1N s Mathemateg*

BSc Cyd-anrhydedd Cymraeg (ail iaith) aGQ15 s Mathemateg

LLB Cyd-Anrhydedd MQ15 u Cymraeg a’r Gyfraith*

Cymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop. Mae’n cael ei defnyddio’n eang ym myd masnach, diwydiant, addysg, y cyfryngau a llywodraeth leol ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr gan gyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Trwy astudio’r Gymraeg yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn gwella’ch sgiliau yn yr iaith, yn dysgu i werthfawrogi’r traddodiadau llenyddol a hanesyddol sy’n annwyl i Gymru, ac yn ennill y profiad sydd ei angen i weithio drwy gyfrwng iaith fywiog, fyw.

Bydd ein graddau yn y Gymraeg yn:

• eich arfogi â’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrediad eang o rolau, yn cynnwys cyfieithu, llywodraeth leol, y cyfryngau, bancio, busnes ac addysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• darparu profiad gwerthfawr o ddiwylliant Cymru a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi.

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r radd hon yw’r cyfle i ddilyn modiwlau ar sawl agwedd wahanol o lenyddiaeth Gymraeg a’r iaith Gymraeg. Caiff myfyrwyr ddewis rhwng cynllun gradd tair blynedd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf, a chynllun gradd tair blynedd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ail iaith, sy’n cynnwys rhaglen o oriau cyswllt dwys o natur arbenigol.

Os mai’r Gymraeg yw’ch iaith gyntaf, byddwch yn astudio tri modiwl gorfodol yn Lefel Un, a dewis modiwlau eraill o ystod sy’n ystyried yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Os nad Cymraeg yw’ch iaith gyntaf, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gramadeg, llafar, llenyddiaeth, a diwylliant a addysgir trwy raglen dysgu dwys newydd, sy’n effeithiol dros ben. Byddwch yn derbyn cymorth unigol tra’ch bod yn dysgu mewn dosbarth bach. Yn Lefelau Dau a Thri, addysgir myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith gyda’i gilydd, ac maent wedi’u hintegreiddio’n llawn mewn cymuned gynnes a bywiog.

Addysgir pob modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg (ac eithrio’r rhai ar Lefel Un i ddechreuwyr). Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a gweithdai rhyngweithiol, â chefnogaeth lawn trwy gyfrwng amrywiaeth o adnoddau dysgu ar-lein. Rydym yn pwysleisio dysgu rhyngweithiol a’r angen i gyfrannu yn y dosbarth.

Mae’r BA Cymraeg yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith cyffrous, gan greu cyfle i chi ennill profiad o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Bydd cyfle i chi gael eich gosod mewn amgylchedd lle cynhelir busnes yn Gymraeg, gan gynnwys mewn ysgolion, cwmnïau teledu, gweisg, a chwmnïau cyfieithu.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau, ac mae rhai ohonynt yn orfodol:

Lefel 1 (iaith gyntaf) • Sgiliau Iaith: Cyflwyno • Sgiliau Beirniadol• Testun a Chyd-destun

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cymraeg

“Mae Academi Hywel Teifi yn

lle unigryw i fyfyriwr Cymraeg

ddatblygu ei wybodaeth a’i

sgiliau gan fod y staff yn

gefnogol, yn gyfeillgar, ac yn

barod i helpu ar unrhyw adeg.

Dwi wedi mwynhau bob munud o

f’amser yn Abertawe. Yn ogystal â

hynny, mae’r cyfleoedd o fewn y

cwrs i gael profiad gwaith yn

werthfawr dros ben, a byddant yn

eich helpu i ddwyn y blaen pan

ddaw’n amser ymgeisio am

swyddi. ”Hannah Sams, BA Cymraeg, Bellach yn astudio ar gyfer

PhD yn Academi Hywel Teifi

Sut gaf i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606890/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC neu gyfwerth, gyda B yn y Gymraeg

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Cym

raeg

s cynllun 3 blynedd u cynllun 4 blynedd

* Ar gael yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae 83% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2001-11)

9392

Lefel 1 (ail iaith yn unig) • Cyflwyno’r Seiliau• Cymraeg Ysgrifenedig • Cadarnhau’r Seiliau• Llenyddiaeth Gyfoes • Llafar• Golwg ar Gymru

Lefel 2 • Sgiliau Iaith: Cadarnhau• Gweithio mewn Dwy Iaith• Creu a Chyflwyno Testunau • Profiad Gwaith

Lefel 3 • Sgiliau Iaith: Meistroli • Ysgrifennu Creadigol • Traethawd Estynedig • Cyfieithu

Modiwlau Dewisol Lefelau 2 a 3 • Cymru a’i Sefydliadau • Cerddi’r Ugeinfed Ganrif • Beirdd a Thywysogion • Cymraeg i Oedolion • Llais yr Awdures • Dafydd ap Gwilym• Rhyddiaith Ddiweddar • Crefft y Cyfarwydd • Delweddu’r Cymoedd• Iaith a Chymdeithas

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, traethawd hir, prosiectau grwp, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Yn ogystal ag Ysgoloriaethau Rhagoriaeth a Theilyngdod y Brifysgol, mae myfyrwyr ar y cwrs BA Cymraeg (anrhydedd sengl a chyd-anrhydedd mewn rhai pynciau) yn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (gwerth dros £3,000 dros dair blynedd). Ewch i wefan Academi Hywel Teifi am ragor o fanylion.

9392

Page 49: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL700 s Daearyddiaeth L720 s Daearyddiaeth Ddynol

BSc Anrhydedd SenglF800 s DaearyddiaethF8R9 u Daearyddiaeth (gydag

Astudiaethau Ewropeaidd)F840 s Daearyddiaeth FfisegolFF86 s Gwyddor Ffisegol y Ddaear

BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth aLR72 u AlmaenegLT77 s Astudiaethau AmericanaiddTL77 u Astudiaethau AmericanaiddLQ75 s Cymraeg (ail iaith)FQ85 s Cymraeg (iaith gyntaf)

LL17 s EconomegLR73 u EidalegLR71 u FfrangegLV71 s HanesLQ73 s Llenyddiaeth SaesnegLL47 s Polisi CymdeithasolLR74 u Sbaeneg

BSc Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth aLL71 s EconomegF830 s Geo-wybodeg CL17 s Gwyddorau Biolegol

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigFL87 u Daearyddiaeth

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Daearyddiaeth yw astudiaeth y byd yr ydym yn byw ynddo. Mae Daearyddiaeth yn ein helpu i ddeall sut y mae tirwedd yn cael ei llunio, sut y mae poblogaethau’n symud ac yn rhyngweithio, a sut mae newid hinsawdd yn effeithio arnom i gyd.

Mae cryfderau dysgu ac ymchwil Daearyddiaeth yn Abertawe’n cynnwys newid amgylcheddol a hinsawdd; ymfudo a hunaniaeth genedlaethol; rhewlifeg a deinameg llenni iâ; modelu amgylcheddol byd eang ac arsylwi’r Ddaear; a damcaniaeth gymdeithasol a gofod trefol.

Bydd ein graddau Daearyddiaeth yn:• darparu dealltwriaeth o’r byd dynol, yr

amgylchedd naturiol, a rhyngweithio rhyngddynt

• darparu’r sgiliau ymarferol, rhifedd a chyfrifiannol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod eang o feysydd yn cynnwys rheoli amgylcheddol, cadwraeth, asiantaethau cymorth a datblygu, awdurdodau lleol, addysg, cynllunio ariannol, cyfrifiadureg, rheoli busnes a manwerthu, cynllunio rhanbarthol ac adnoddau, ac asesu risg yswiriant

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn daearyddiaeth, gwyddorau’r ddaear, neu’r gwyddorau cymdeithasol

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Byddwch yn archwilio pwnc daearyddol arloesol ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Rydym yn gosod pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn agos i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog, gorllewin Cymru wledig a thirweddau dinesig a diwydiannol De Cymru.

Mae myfyrwyr gradd Anrhydedd Sengl yn gwneud cwrs maes tramor yn Lefel 2. Mae’r cyrchfannau ar hyn o bryd yn cynnwys Maiorca, gyda’r gost wedi’i chynnwys yn y ffioedd dysgu, neu Efrog Newydd, Awstria neu Fancwfer, am dâl ychwanegol.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau Dau a Thri yn rhoi cyfleoedd ychwanegol am waith maes yn India, UDA, neu Borneo ac yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr yn cyfrannu tuag at gostau’r gwaith maes yn y modiwlau dewisol.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio meddalwedd sy’n benodol ar gyfer Daearyddiaeth, gan gynnwys meddalwedd ystadegol gyda chymwysiadau ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol, yn ein labordy cyfrifiaduron personol.

Byddwch hefyd yn elwa o gyfleusterau dysgu rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd newydd gwerth £4.2 miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dysgu; labordy cyfrifiaduron perfformiad uchel ar gyfer

prosesu a dehongli data o loerennau a data GIS; sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomataig.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1Mae’r modiwlau yn darparu sylfaen gref mewn daearyddiaeth ddynol a ffisegol a dulliau daearyddol: • Y Ddaear ar Waith (dewisol ar gyfer BA

Daearyddiaeth Ddynol)• Wyneb Newidiol y Ddaear (dewisol ar

gyfer BA Daearyddiaeth Ddynol)• Newid Amgylcheddol Byd Eang• Pobl, Lle, a Chenedl (dewisol ar gyfer BSc

Daearyddiaeth Ffisegol)• Symudiadau Byd Eang: Tuag at Drefn Byd

Newydd? (dewisol ar gyfer BSc Daearyddiaeth Ffisegol)

• Cynaliadwyedd mewn byd bregus• Sgiliau daearyddol, astudiaeth ymarferol,

sesiynau tiwtorial a gwaith maes

Rydych hefyd yn dewis modiwlau ychwanegol ar Lefel 1, a all gynnwys:• Daeareg (gorfodol ar gyfer BSc

Daearyddiaeth Ffisegol)• Daearyddiaeth Ddynol Ychwanegol (gorfodol

ar gyfer BA Daearyddiaeth Ddynol)

Lefelau 2 a 3Mae modiwlau gorfodol i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn cynnwys:• Dulliau ymchwil (mewn gwyddor

amgylcheddol neu gymdeithasol)

Y Coleg Gwyddoniaeth

Daearyddiaeth

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adrandaearyddiaeth

Cysylltwch â’r Tiwtoriaid Derbyn E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (Gan gynnwys 5 mewn Daearyddiaeth Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Nid yw cymhwyster Safon Uwch mewn Daearyddiaeth yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

• Dadansoddi Data• Cwrs Maes Tramor • Dulliau Daearyddiaeth Ffisegol neu

Ddynol• Traethawd Hir a Chymorth ar gyfer

Traethawd Hir

Mae’r Modiwlau Dewisol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:• Y Ddaear o’r gofod: Monitro Newid

Amgylcheddol Byd Eang• Cyflwyniad i Wyddoniaeth Gwybodaeth

Ddaearyddol (GIS)• Y Ddaear Beryglus: Deall a Byw gyda

Pheryglon Naturiol• Afonydd• Newid amgylcheddol• Cofnod Daearegol o newid

amgylcheddol• Hydroddaeareg Gymhwysol• Daearyddiaeth yr Ymylon• Tirweddau Modernedd• Cynllunio a Pholisi Economaidd Rhanbarthol• Esblygiad dinasoedd y Trydydd Byd• Ffiniau a Chysylltiadau yn

Naearyddiaeth Gymdeithasol• Ffiniau Ymchwil Daearyddol• Lleoliad Gwaith Daearyddol• Prydain Wledig Gyfoes• Llefydd Diwydiannol Newydd• Daearyddiaeth Hunaniaeth Genedlaethol• Daearyddiaeth Ymfudo Gorfodol a Lloches• Y Dychymyg Dinasol• Dinasoedd y Byd• Amgylchedd a Chymdeithas yn

Sikkim (cwrs maes)• Rhewlifeg

• Ail-lunio Amgylcheddau Cwaternaidd• Amgylcheddau a Thirweddau Trofannol Llaith• Hinsawdd y 1,000 o flynyddoedd diwethaf• Modelu amgylcheddol• Tectoneg Platiau a Geoffiseg Fyd-eang

Gallwch ddewis gymryd hyd at draean o’ch modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel.

Yn achos graddau Cyd-Anrhydedd, mae’r ymrwymiad i Ddaearyddiaeth gan amlaf yn hanner eich amser, â hanner yn y pwnc arall.

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigRydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel 1. Ar ddiwedd y Flwyddyn Sylfaen, mae myfyrwyr yn symud ymlaen i’r rhaglen BSc Daearyddiaeth.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae sawl modiwl ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Daearyddiaeth ar draws lefelau 1-3. Yn lefel 1 ceir GEC106 – Cynaladwyedd Mewn Byd Bregus, GEC109 – Methodoleg Maes, GEC110 – Amgylchedd Cymru a GEC111 – Sgiliau Ysgrifenedig Daearyddol A Chynllunio Datblygiad Personol.

Ar lefel 2 mae modiwl GEC249 – Hamdden, Cymdeithas a Gofod, a thiwtorialau ar gyfer modiwlau Saesneg GEC261 (Ymdrin â Daearyddiaeth Ddynol) neu GEC262 (Ymdrin â Daearyddiaeth Ffisegol). Ar lefel 3 mae cyfle i gyflwyno Traethawd Hir (GEG331) yn

y Gymraeg, yn ogystal â chyfleon profiad gwaith perthnasol i’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg (GEC334).

Yn ogystal, Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r modiwlau uchod a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, gweler ein llyfryn Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Israddedig ar wefan Academi Hywel Teifi.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir yn Lefel 3 (dewisol ar gyfer myfyrwyr Cyd-Anrhydedd).

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm hefyd. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn gymwys ar gyfer y cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant, ac mae ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn ar gael dan y cynllun. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

Dae

arydd

iaeth

“ Mwynheais i bob eiliad o’m cwrs. Roedd y darlithoedd yn

ddiddorol, ac roedd y darlithwyr yn eu gwneud nhw’n gyffrous, ac

roedd y daith i Vancouver yn yr ail flwyddyn yn fendigedig. Gwnaeth

y cwrs fy ngalluogi i wneud MA mewn Cynllunio Gofodol ac mae

gradd mewn Daearyddiaeth wedi agor llawer o ddrysau i mi wrth

chwilio am swyddi. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i adran eiddo

Archfarchnadoedd Sainsbury’s yn y tîm cynllunio trefol.”Laura Gray, BA Daearyddiaeth Tîm Cynllunio Trefol, Archfarchnadoedd Sainsbury’s

Mae 89% o raddedigion Daearyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio (Data HESA 2010)

9594 9594

Page 50: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Bydd astudio Economeg yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i ddiogelu gyrfa sy’n talu’n dda. Bydd hefyd yn eich helpu i gael dealltwriaeth lawnach o’r byd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddo.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol Bodlonrwydd Myfyrwyr yn dweud yn gyson bod Economeg yn Abertawe yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol (91% yn yr Arolwg diweddaraf), ac rydym wedi ennill mwy o wobrwyon am addysgu ysbrydoledig oddi wrth Rwydwaith Economeg yr Academi Addysg Uwch nag unrhyw Brifysgol arall yn y DU.

Mae ein holl staff academaidd yn ymchwilio yn gyson sydd yn helpu cadw ein dysgu yn fywiog, yn berthnasol ac yn gyfredol. Yn ystod yr Ymarferiad Asesu Ymchwil diweddaraf, aseswyd bod 100 y cant o’n hymchwil o safon ryngwladol, gyda % wedi ei raddio’n arloesol yn fyd eang (4*) neu o safon ryngwladol ragorol (3*).

Mae dimensiwn rhyngwladol cryf i Economeg yn Abertawe, gyda myfyrwyr sy’n hanu o dros 30 o wledydd a llawer o gyfleoedd i astudio dramor yn yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Seland Newydd, neu Ewrop.

Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r myfyrwyr sy’n graddio yn sôn cymaint iddyn nhw fwynhau eu cyfnod yn Abertawe a sut y mae’r sgiliau y maent wedi’u datblygu yn Abertawe wedi’u galluogi i elwa o gyfleoedd gyrfa rhagorol yn y sector preifat a chyhoeddus.

Bydd ein graddau Economeg yn:

• eich hyfforddi i weithio fel economegydd proffesiynol, neu yn y sectorau cyllid neu gyfrifeg

• eich galluogi i roi eich sgiliau ar waith fel dadansoddwr, ymchwilydd neu gynghorydd llywodraeth

• eich paratoi am swydd sy’n talu’n dda mewn rheolaeth neu ymgynghoriaeth reoli

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd amrywiaeth o ddulliau addysgu’n cael eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau yn Abertawe gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol gan ddefnyddio ein cyfleusterau cyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn cael gwaith darllen mewn meysydd penodol ac yn cymryd

rhan mewn gwaith prosiect fel tîm. Gallwch ddisgwyl 10 i 12 awr o ddarlithoedd ac un neu ddau ddosbarth tiwtorial yr wythnos. Mae dosbarthiadau ymarferol hefyd yn rhan annatod o rai modiwlau.

Os ydych yn dewis y radd BSc neu BA Anrhydedd Sengl Economeg neu Economeg Fusnes â blwyddyn dramor, gallwch fanteisio ar y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn yn yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Seland Newydd neu Ewrop er mwyn datblygu eich gwybodaeth arbenigol a’ch sgiliau ymhellach ac i gynyddu eich apêl i ddarpar gyflogwyr.

Os ydych yn cofrestru ar gyfer gradd Gyd-Anrhydedd yn Lefel 1, gallwch ddewis i drosglwyddo i radd Anrhydedd Sengl yn un o’r ddau bwnc Cyd-Anrhydedd ar ddechrau Lefel 2. Mae’r mwyafrif o raddau Cyd-Anrhydedd wedi eu rhannu’n gyfartal ar draws y ddwy adran bartner, er bod modiwlau’r Gyfraith yn cynnwys y rhan fwyaf o’r LLB yn y Gyfraith ac Economeg ar Lefel 1.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Os ydych yn astudio unrhyw un o’n graddau BSc neu BA Anrhydedd Sengl, byddwch yn astudio modiwlau craidd yn y canlynol:

BA Anrhydedd SenglL104 s EconomegL105 u Economeg (gyda blwyddyn dramor)L113 s Economeg BusnesL115 u Economeg Busnes

(gyda blwyddyn dramor)

BA Cyd-Anrhydedd Economeg aLL17 s DaearyddiaethLR13 u EidalegLL12 s GwleidyddiaethLV11 s Hanes

BSc Anrhydedd SenglL100 s EconomegL101 u Economeg (gyda blwyddyn dramor)L111 s Economeg AriannolL1NK s Economeg Ariannol

(gyda Chyfrifeg)L112 s Economeg BusnesL160 u Economeg Busnes RhyngwladolL114 s Economeg Busnes

(gyda blwyddyn dramor)

BSc Cyd-Anrhydedd Economeg aLL71 s DaearyddiaethGL11 s MathemategNL21 s Rheoli Busnes

LLB Cyd-AnhrydeddML11 s Economeg a’r Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Yr Adran Economeg

EconomegEco

nom

eg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/busnes-gyfraith

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295168

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Nid oes angen cymwysterau Safon Uwch neu UG mewn Economeg na Mathemateg, ond mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn angenrheidiol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan

Egwyddorion Economeg: mae Egwyddorion Economeg yn archwilio’r economi ar waith ar y lefelau micro a macro. Bydd darlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial ar wahân ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd heb astudio Economeg o’r blaen.

Economi Prydain: mae’n ymdrin â materion polisi megis cystadleuaeth ddiwydiannol a rheoli monopolïau, ymfudo, pris diweithdra a chwyddiant, deddfwriaeth isafswm cyflog a pholisi ariannol.

Materion Cyfredol Economeg: mae’n ymchwilio i faterion cyfredol, gan gynnwys rheoli llygredd, taliadau tagfeydd traffig, ffioedd dysgu atodol, ac economeg terfysgaeth.

Dulliau Ystadegol: mae’n rhoi cyflwyniad i ddulliau sylfaenol cyflwyno a dadansoddi data, gyda rhywfaint o bwyslais ar eu defnyddio ym maes economeg, busnes, a rheoli.

Sgiliau Academaidd, Proffesiynol, ac Entrepreneuriaeth: mae’n eich arfogi ag ystod o sgiliau astudio, TG, a datblygu personol a fydd o ddefnydd i chi yn eich astudiaethau academaidd ac yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Dulliau Meintiol: mae wedi’i ddylunio i gyflwyno myfyrwyr i ddefnydd dulliau meintiol ar gyfer problemau busnes ac economeg. Cynigir darlithoedd ar wahân i fyfyrwyr sydd heb astudio Mathemateg ar lefel Safon Uwch a’r rheiny sydd wedi’i astudio. Fel gyda’r modiwl Egwyddorion Economeg, mae hyn yn ein galluogi i roi sylw manwl i anghenion penodol y ddau grwp o fyfyrwyr.

Mae modiwlau ar gyfer graddau eraill yn amrywio yn ôl rhaglen y cwrs – ceir manylion llawn ar ein gwefan.

BSc a BA Economeg

Lefel 1• Economi Prydain• Materion Cyfredol Economeg• Egwyddorion Economaidd• Sgiliau Academaidd, Proffesiynol,

ac Entrepreneuriaeth• Dulliau Meintiol• Dulliau Ystadegol

Lefelau 2 a 3Yn Lefelau 2 a 3, mae pob rhaglen radd yn raddol yn fwy arbenigol. Mae’r ddwy lefel yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol ond gyda llawer mwy o ddewis na Lefel 1. Gallwn gynnig amrywiaeth o fodiwlau a fydd yn eich galluogi i lunio eich gradd yn ôl eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa.

Mae’r Modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:• Economeg Ddatblygu• Economeg Reoli• Economeg Ariannol• Masnach Ryngwladol• Polisi a Sefydliadau Ariannol• Dewis Cyhoeddus• Materion Economeg Gyfoes• Economeg Ryngwladol ac

Economi Ewrop• Economeg Llafur• Effeithlonrwydd y Marchnadoedd

Ariannol

Wrth i chi astudio, bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu mewn grwpiau bychain a fydd yn caniatáu i chi fod yn rhan o drafodaethau a dadleuon ac yn helpu i adeiladu eich hyder. Bydd hefyd yn creu cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol a sgiliau cyflwyno sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.

BSc a BA Economeg Busnes, BSc Economeg Busnes Rhyngwladol: mae’r graddau yma yn eich galluogi i archwilio arbenigedd busnes a rheoli gan ganolbwyntio ar gyd-destun economaidd gwneud penderfyniadau mewn busnes rhyngwladol.

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

96 97

Page 51: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Yr Adran Economeg

Economeg

BSc Economeg Ariannol: llwyfan ardderchog ar gyfer gyrfa yn y byd ariannol, bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn Economeg, ac agweddau ar Gyllid megis cyllid corfforaethol a marchnadoedd arian.

BSc Economeg Ariannol gyda Chyfrifeg: dewis delfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn mesur perfformiad, gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd mewn busnes, cyllid neu’r sector cyhoeddus.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, arholiadau a thraethawd hir ar bwnc o’ch dewis. Mae gofyn i chi basio’r flwyddyn gyntaf cyn parhau i’r ail flwyddyn. Bydd eich gradd derfynol yn gyfartaledd o’r marciau a enilloch yn ail flwyddyn a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau.

CyflogadwyeddMae cyflogadwyedd ein graddedigion mor bwysig i ni ag yw e i chi, ac o’r funud y byddwch yn cyrraedd Abertawe, byddwn yn gweithio gyda chi i helpu adeiladu’ch sgiliau a gwella’ch cyflogadwyedd. Mae gennym dîm Cyflogadwyedd penodol sy’n trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys siaradwyr allanol, gweithdai CV, a gemau busnes megis ein ‘Her £50’. Cewch gyfle hefyd i ymgeisio am un o interniaethau tramor y Brifysgol, i ymwneud â’r cynllun gwobrwyedig ‘Myfyrwyr mewn Menter Rydd’, ac i gadw’n gyfredol â’r swyddi a chyfleoedd diweddaraf i raddedigion trwy ein tudalen Facebook.

Cyrchfannau diweddar ein graddedigion

• Dadansoddydd Cefnogi Masnachu Deilliadau Cynwydd, Royal Bank of Scotland

• Masnachwr Deilliadau, Kondor Trading• Economegydd, Sefydliad Brenhinol y

Syrfewyr Siartredig • Dadansoddydd Ariannol, Standard

Bank of South Africa• Dadansoddydd Ariannol, Royal Bank

of Scotland• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant

– Bancio, HSBC• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant

– Masnach, Morrisons• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant

– Personél, Waitrose• Ymgynghorydd TG, JP Morgan• Masnachwr Deilliadau Rhyngwladol,

OSTC• Cyfrifydd dan Hyfforddiant,

PriceWaterhouseCoopers• Econometrydd dan Hyfforddiant,

Obel Publications

“Mae astudio yn Abertawe wedi helpu adeiladu fy sgiliau fel economegydd a’i roi i mi ar y ‘rhestr ar eisiau’

gyda ychydig o gwmnïau mawr. Mae cael gradd mewn Economeg yn dweud i gyflogwyr eich bod âr gallu i

feddwl mewn ffordd benodol a dadansoddi a threfnu llawer o wybodaeth. Mae’n dweud wrthynt eich bod yn

gallu troi eich sgiliau i fwy neu lai unrhyw beth. Ar ôl graddio dechreuais weithio i Hyder Consulting yn Abu

Dhabi, ac ers hynny, rwyf wedi gweithio yn Oman, Qatar a Seland Newydd. Ni allaf ond annog darpar fyfyrwyr

i ddewis Economeg yn Abertawe – nid yn unig y mae staff a chyfleusterau gwych, ond byddwch hefyd yn cael

addysg gyflawn gyda chwaraeon a bywyd cymdeithasol gwych.” Stephen Board, Rheolwr Masnachol, Contractwyr MACE, Abu Dhabi

98 99

Page 52: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Mae’r Eidal yn un o fannau geni gwareiddiad Gorllewinol. O’r Etrwsgiaid a’r Rhufeiniaid, y Dadeni, uno a ffasgiaeth hyd at ddemocratiaeth a Berlusconi a’r tu hwnt, mae’r Eidal wedi chwarae rôl bwysig yn hanes Ewrop. Mae ei hetifeddiaeth ddiwylliannol a’i chryfder economaidd yn sicrhau bod yr Eidal yn un o bartneriaid masnachu pwysicaf y byd.

Bydd astudio Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i gyfuno gwybodaeth eang am etifeddiaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth gymdeithasol gyfoes yr Eidal gyda sgiliau iaith lefel uchel. Mae’r radd yn agored i ddechreuwyr yn ogystal â’r rheiny sydd â gwybodaeth flaenorol o’r iaith.

Bydd y graddau hyn yn:• dysgu’r sgiliau ieithyddol sydd eu

hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich mentergarwch eich hun.

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Rhan allweddol o’r radd yw’r cyfle i astudio modiwlau ar agweddau amrywiol cymdeithas a diwylliant yr Eidal.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiadura sydd wedi’u cyfarparu’n dda.

Rhwng Lefelau Dau a Thri, byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn yn yr Eidal, naill ai fel myfyriwr ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig gyda phrifysgolion yr Eidal, neu ynteu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol Eidalaidd ar raglen cynorthwywyr y Cyngor Prydeinig. Neu, efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith yn yr Eidal.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, yn cynnwys:

Lefel 1• Iaith Eidaleg Gyffredinol neu Iaith

Eidaleg i Ddechreuwyr• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol• Ffuglen Ewropeaidd: Testunau a

Chyd-destunau• Cyflwyniad i Ddiwylliant yr Eidal• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel 2• Iaith Eidaleg Gyffredinol II• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol II• Gweithdy Cyfieithu Eidaleg • Darllen Ffuglen Eidaleg Fodern I a II• Ffasgaeth Ewropeaidd

Lefel 3• Iaith Eidaleg Gyffredinol III• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol III• Theatr Fodern: Dario Fo• Ysgrifennu Modern yr Eidal I a II• Gweithdy Cyfieithu Eidaleg • Traethawd Hir

BA Anrhydedd SenglQ910 u Ieithoedd Modern, Cyfieithu

a Chyfieithu ar y Pryd

BA Cyd-anrhydedd Eidaleg aRR23 u AlmaenegRVH1 u Astudiaethau CanoloesolPR33 u Y Cyfryngau QRM3 u CymraegLR73 u DaearyddiaethLR13 u EconomegRR13 u FfrangegLR23 u GwleidyddiaethRV31 u HanesQRJ3 u Iaith Saesneg QR33 u Llenyddiaeth Saesneg

RR34 u SbaenegRX33 u TEFL LLB Cyd-Anhrydedd MR13 u Eidaleg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

EidalegEid

aleg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn iaith fodern ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

“ Mwynheais i gwrdd â ffrindiau newydd yn Abertawe.

Roedd yr holl brofiad yn y brifysgol yn caniatáu i mi dyfu fel

unigolyn, ac wedi fy helpu i gyrraedd lle’r ydw i heddiw. Bellach,

dwi’n gweithio i Yahoo!, fel Swyddog Gweithredol Cynllunio a

Strategaeth yn y Tîm Gwerthu Byd Eang, sy’n helpu cefnogi a rhoi

diweddariadau i reolwyr gwerthu am gynnyrch newydd, ac sy’n

ymateb i friffiau sy’n cyrraedd gan gwsmeriaid. ”Alex Giacon, BA Eidaleg Swyddog Gweithredol Cynllunio a Strategaeth, Yahoo!

Sut y caf fy asesu?Bydd eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cael eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys aseiniadau, traethodau wedi’u hasesu, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er na chynigir Eidaleg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe eto, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Os oes gennych Safon Uwch mewn Eidaleg gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os oes gennych gymhwyster UG neu TGAU mewn Eidaleg, neu os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o’r iaith, fel arfer mae angen Safon Uwch neu gymhwyster UG mewn iaith fodern arall. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 92% o raddedigion Ieithoedd Modern mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

101100 101100

Page 53: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglF300 s FfisegF302 u Ffiseg (gyda blwyddyn dramor)F390 s Ffiseg (gyda Nanotechnoleg)F3F5 s Ffiseg (gyda Ffiseg Gronynnau

a Chosmoleg)F341 s Ffiseg Ddamcaniaethol

MPhys Anrhydedd SenglF303 u FfisegF340 u Ffiseg DdamcaniaetholF304 l Ffiseg (gyda blwyddyn dramor)

BSc Cyd-Anrhydedd Ffiseg aFG34 s CyfrifiaduregFG31 s Mathemateg

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigF301 u Ffiseg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

“ Dewisais y cynllun MPhys am

fy mod i’n awyddus i gynyddu fy

siawns o gael swydd yn ffisegydd.

Ers graddio, rydw i wedi bod yn

ddigon ffodus i gael lle ar gynllun

hyfforddiant i raddedigion Tanwydd

Niwclear Prydain. ”Sharon Bean, MPhys

Y Coleg Gwyddoniaeth

Ffiseg

Mae ffisegwyr yn ceisio ateb y cwestiynau mawr: A oes modd ail-greu’r amodau oedd yn bodoli ychydig eiliadau ar ôl y Glec Fawr yn y labordy? Sut mae cydrannau elfennol mater, megis cwarciau a leptonau’n rhyngweithio? Sut y dechreuodd y Bydysawd? Sut y gallwn greu a harneisio gwrthfater? A sut y gallwn ddeall beth y mae gofod ac amser wedi’u gwneud ohono?

Drwy wneud hyn, mae ffisegwyr wedi newid y ffordd yr ydym yn byw. Mae eu gwaith wedi arwain at ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd, gan gynnwys llawer o bethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol bellach, megis ffonau symudol, sganwyr MRI, a hyd yn oed y We Fyd-eang!

Bydd ein gradd Ffiseg yn:

• eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd gwobrwyol, o wyddoniaeth niwclear, meteoroleg a ffiseg feddygol, i gyllid, peirianneg a chefnforeg

• eich hyfforddi i ddefnyddio offer a chyfleusterau o’r radd flaenaf i archwilio problemau gwyddonol cymhleth

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, megis gweithio mewn tîm, cyfathrebu a rhoi cyflwyniadau, yn ogystal â sgiliau neilltuol o ran datrys problemau, yn ddadansoddol ac yn fathemategol.

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy ddarlithoedd, gwaith labordy, dosbarthiadau enghreifftiol, a dosbarthiadau bach wythnosol yn datrys problemau. Cefnogir yr addysgu gan labordai wedi’u cyfarparu’n dda, â chyfleusterau yn cynnwys y labordy positron, microsgopau sganio twnelu, cyfleuster telesgop cysylltu-o-bell, a mynediad at uwch-gyfrifiaduron.

Mae aelodau’r staff addysgu o fri rhyngwladol, ac wedi gweithio gynt mewn sefydliadau blaenllaw megis CERN, Sefydliad Princeton ar gyfer Astudiaethau Uwch, MIT a Havard.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae ystod o fodiwlau ar gael, gan gynnwys:

Lefel 1• Dynameg I a II• Cyflwyniad i Seryddiaeth a Chosmoleg• Mater a Meysydd I a II• Tonnau ac Opteg• Y Byd Cwantwm• Dulliau Meintiol mewn Ffiseg• Ffiseg Labordy I• Calcwlws i Ffisegwyr• Mathemateg i Wyddonwyr II• Algebra i Ffisegwyr

Lefel 2• Ffiseg Ystadegol a Thermol• Cyflwyniad i Efelychu Ffiseg• Mecaneg Gwantwm I• Dulliau Mathemategol mewn Ffiseg I a II• Ffiseg Mater Cywasg I• Ffiseg Labordy a Phrosiectau

Grwp A a B• Electromagnetedd a Pherthynoledd

Arbenigol I• Electromagnetedd II• Ffiseg Gronynnau I• Sylfeini Astroffiseg• Archwilio’r Raddfa Nano/

Nanotechnoleg• Modiwl dewisol o Fathemateg/

Cyfrifiadureg Lefel Tri

Lefel 3• Mecaneg Gwantwm II• Ffiseg Atomig I• Ffiseg Mater Cywasg II• Prosiect• Arbrofion Opsiwn• Prosiect Ffiseg Ddamcaniaethol• Sylfeini Astroffiseg• Ffiseg Ddisgyrchol• Cosmoleg• Ffiseg Atomig ac Opteg Gwantwm II• Ffiseg Gronynnau II• Ffiniau Newydd Ffiseg Niwclear• Ffiseg Hinsawdd• Modelu Systemau Ffisegol

Rhagarweiniol

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adranffiseg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? MPhys

Safon Uwch: AAB-ABB neu gyfwerth gan gynnwys Ffiseg a Mathemateg

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (o leiaf 4 mewn Mathemateg)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

BSc

Safon uwch: ABB – BBB

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Ffiseg

• Dulliau Mathemategol mewn Ffiseg III• Nanotechnoleg• Dyfeisiau Cwantwm a Chymeriadu• Un modiwl dewisol o Fathemateg

Lefel M (MPhys)• Theori Maes Cwantwm• Cymwysiadau Ffiseg Gwantwm• Systemau Laser Modern• Ffiseg Atomig ac Opteg Gwantwm III• Mecaneg Ystadegol• Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg• Prosesu Gwybodaeth Gwantwm• Prosiect Ymchwil*• Prosiect Ymchwil Damcaniaethol*

*Gwneir y prosiect ymchwil yn un o’n grwpiau ymchwil yn yr Adran, neu mewn lleoliad allanol cymeradwy, megis CERN, Genefa.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys arholiadau, asesu parhaus, gwaith labordy, a phrosiectau ymchwil.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gennym offer o’r radd flaenaf ac arbenigedd ymchwil sy’n ychwanegu gwerth enfawr at eich addysg israddedig a’ch profiad dysgu. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

• Ystafelloedd newydd gwerth £4.2m yn cynnwys labordai Gwyddoniaeth, TG, ac ystafelloedd dysgu

• Systemau microsgopeg chwiliwr sganio (SPM)

• Systemau microsgopeg optegol sganio maes agos (SNOM)

• Systemau spectrosgopeg laser yn seiliedig ar fflwroleuedd a spectrosgopeg Raman

• Cysodi microsgopeg epi-fflwroleuedd

• Microsgopau biolegol grym atomig o radd ymchwil (AFM)

• Clwstwr cyfrifiaduron Beowulf, gyda 130 o greiddiau CPU wedi’u cysylltu gan rwydwaith band anfeidrol cuddni isel

• Telesgop Schmidt-Cassegrain 16 modfedd â galluoedd delweddu a spectrosgopeg

• Cyfle i fyfyrwyr MPhys gwblhau prosiect ymchwil yn CERN yn eu blwyddyn olaf

O ganlyniad i’n rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol mae gan fyfyrwyr prosiect fynediad hefyd, er enghraifft, at gyfleusterau paratoi samplau biolegol ar y campws.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i gychwyn rhaglen BSc yn syth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Gan amlaf bydd angen cymhwyster Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg arnoch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 94% o raddedigion Ffiseg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

103102 103102

Page 54: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Ffrangeg yw un o’r ieithoedd mwyaf arwyddocaol o ran diwylliant yn y byd. Fe’i siaredir gan dros 200 miliwn o bobl, ac ar bob cyfandir. Mae hanes Ffrainc wedi’i glymu â hanes gwareiddiad Gorllewinol, ac mae ei diwylliant cyfoethog, bywiog wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl ers bron i fil o flynyddoedd.

Mae astudio Ffrangeg yn Abertawe yn eich annog i archwilio Ffrainc a’r byd Ffrangeg ei iaith mewn amgylchedd cyffrous a chefnogol.

Bydd ein graddau Ffrangeg yn:

• dysgu’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich mentergarwch eich hun.

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn gyfle i chi ddod yn rhugl yn Ffrangeg drwy astudio cyfres o fodiwlau iaith perthynol, wedi’u hategu gan amrediad eang o fodiwlau ar hanes llenyddiaeth, sinema, a diwylliant Ffrainc a’r iaith Ffrangeg. Bydd eich astudiaethau yn canolbwyntio ar dir mawr Ffrainc, ond hefyd yn cynnwys ei threfedigaethau blaenorol â’r byd ehangach Ffrangeg ei iaith.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiadura, sydd wedi’u cyfarparu’n dda.

Rhwng Lefelau 2 a 3 byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg, naill ai fel myfyriwr ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig â Phrifysgolion Ffrengig, neu fel cynorthwyydd iaith Saesneg mewn ysgol unrhyw le yn y byd Ffrangeg ei iaith ar

raglen swyddi cynorthwyol Cyngor Prydain. Fel arall, mae’n bosibl y byddwch eisiau cwblhau lleoliad gwaith arall mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau, llawer ohonynt y mae modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Amlygir y modiwlau sydd ar gael i’w hastudio trwy’r Gymraeg, yn ogystal â thrwy’r Saesneg, gyda *:

Lefel 1• Iaith Ffrangeg Gyffredinol 1* • Iaith Ffrangeg i Ddechreuwyr*• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol 1*• Cyflwyniad i Astudiaethau Diwylliannol

Ffrengig* • Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop• Ffuglen Ewropeaidd: Testunau a

Chyd-destunau

Lefel 2• Iaith Ffrangeg Gyffredinol 2* • Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol 2*• Gweithdy Cyfieithu* • Paris• Sinema Ffrengig ers yr Ail Ryfel Byd• Hanes yr Iaith Ffrangeg*• Polisi Iaith*

BA Anrhydedd SenglR101 u Ffrangeg R1N1 u Ffrangeg (gyda Busnes)Q910 u Ieithoedd Modern, Cyfieithu

a Chyfieithu ar y Pryd

BA Cyd-Anrhydedd Ffrangeg aRR12 u AlmaenegPR31 u Y Cyfryngau QR51 u Cymraeg LR71 u DaearyddiaethLR11 u EconomegQR81 u Gwareiddiad ClasurolLR21 u GwleidyddiaethRV11 u HanesVR11 u Hanes yr HenfydQRJ1 u Iaith Saesneg

QR31 u Llenyddiaeth SaesnegRR14 u SbaenegRX13 u TEFL LLB Cyd-AnhrydeddMR11 u Ffrangeg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Ffrangeg

“ Mae Prifysgol Abertawe yn awyrgylch gwych i astudio ar lefel

uchel. Mae’r lleoliad yn hardd, ac mae’r Brifysgol yn buddsoddi at y

dyfodol ar raddfa fawr. Mae fy nghwrs yn cynnig ystod eang o

opsiynau i astudio iaith, diwylliant, cymdeithas, a hanes, gyda

phwyslais ar ddarllen o gwmpas y pwnc a’r cyfle i ddilyn diddordebau

arbennig. Hefyd, mae gradd iaith yn cynnig cyfle unigryw i dreulio

blwyddyn mewn gwlad dramor. Roeddwn i’n ffodus i dreulio blwyddyn

yn Nice, yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu ac yn byw gyda theulu

lleol. Roeddwn i’n mwynhau fy mlwyddyn dramor yn fawr iawn; alla i

ddim gor-bwysleisio’r manteision. Mae astudio iaith dramor yn agor y

drws i fyd newydd llawn posibiliadau newydd, ac ni ddylid tanbrisio

eu gwerth yn y farchnad swyddi. ” Sophie Williams, BA Ffrangeg a Sbaeneg

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn iaith fodern ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Ffrange

g

Lefel 3• Iaith Ffrangeg Gyffredinol 3* • Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol 3*• Gweithdy Cyfieithu* • Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd: Goresgyn,

Cydweithio a Gwrthsefyll*• Cariad, Chwant ac Ystyr Bywyd:

Thema mewn Llenyddiaeth Ffrangeg• Traethawd hir*

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae Prifysgol Abertawe ar y blaen yng Nghymru o ran cynnig Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darpariaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg. Cyflwynir graddau cyd-anrhydedd Ffrangeg a Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, datblygir darpariaeth a chyfleoedd newydd bob blwyddyn, a gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe elwa o rannu adnoddau ac arbenigedd prifysgolion eraill Cymru. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg a yw’r modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.

A oes unrhyw ysgoloriaethauneu fwrsariaethau?Yn ogystal ag Ysgoloriaethau Rhagoriaeth a Theilyngdod y Brifysgol, mae nifer o’n cyrsiau Ieithoedd Modern yn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth ac Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys profion dosbarth, traethodau asesedig ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Mae 90% o raddedigion Ieithoedd Modern mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

105104

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hefyd, ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

105104

Page 55: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Taniodd fy ngradd israddedig mewn Geneteg awydd ynof i

fod yn wyddonydd proffesiynol a rhoddodd sail i mi ddilyn gradd

ôl-raddedig (hefyd yn Abertawe) a sefydlu gyrfa ymchwil mewn

mwtaniad genynnol moleciwlaidd a charsinogenesis yng Ngholeg

Imperial, Llundain, cyn ymuno â’r diwydiant fferyllol fel

tocsicolegydd geneteg. Rydw i nawr yn bennaeth ar yr uned

tocsicoleg eneteg yn GlaxoSmithKline, rôl sy’n cyfrannu at ddatblygu

meddyginiaethau newydd i ddiwallu anghenion cleifion na ddiwellir

ar hyn o bryd ym maes sawl clefyd. ” Anthony Lynch, BSc Geneteg

Mae gan Eneteg rôl bwysig o ran gwneud diagnosisau o afiechydon dynol a datblygu triniaethau a chynnyrch fferyllol newydd. Mae’n taflu goleuni ar esblygiad dynol ac effaith newid amgylcheddol ar organebau byw, ac yn gallu ein helpu i warchod bioamrywiaeth y blaned.

Mae’r radd Geneteg Feddygol yn darparu hyfforddiant ardderchog i fyfyrwyr sy’n dymuno ymgymryd ag astudiaeth bellach i fod yn feddyg. Mae nifer o’n myfyrwyr sydd wedi dewis y llwybr gyrfa hwn wedi mynd ymlaen i astudio Meddygaeth Ôl-raddedig yn Abertawe.

Bydd ein graddau Geneteg yn:

• eich paratoi ar gyfer rôl mewn ystod eang o broffesiynau, gan gynnwys y diwydiant fferyllol, gwyddor fforensig a bioleg gadwraeth

• rhoi profiad i chi o dechnegau dadansoddi mynegiadau genynnol, rhyngweithiadau protein, strwythur a niwed i DNA, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch

• eich paratoi ar gyfer hyfforddiant i raddedigion i fod yn feddyg, yn ddeintydd, neu’n athro, neu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig neu ddoethur

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich addysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bychain, e-ddysgu, a gwaith labordy ymarferol. Darperir yr addysgu gan staff geneteg yng nghyfleuster ymchwil y Coleg, y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Ceir cyfraniadau hefyd gan staff yn y Coleg Meddygaeth, llawer ohonynt yn feddygon neu’n ymgynghorwyr mewn ysbytai lleol.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol. Trwy weithio fel ymchwilydd annibynnol, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau effeithiol ac yn derbyn hyfforddiant i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Gallwch newid rhwng cynlluniau gradd, er enghraifft o Eneteg Feddygol i Eneteg, neu i radd gyd-anrhydedd gyda Biocemeg, yn dibynnu ar sut y mae eich diddordebau’n datblygu yn ystod y cwrs.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dadansoddiad Geneteg I• Geneteg a Phrosesau Esblygu• Egni a Metaboledd: Adweithiau Bywyd• Macromoleciwlau: Ffurf a Swyddogaeth• Rheolaeth Fetabolaidd a Ffisioleg

Foleciwlaidd• Cemeg Bywyd• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Organig Grwpiau

Swyddogaethol• Strwythur Atomig a Chyfnodoldeb

Cemegol• Sgiliau Gwyddoniaeth• Planhigion ac Algâu: Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad

Lefel 2• Dadansoddi Geneteg II• Technegau Biofoleciwlaidd• Geneteg Ddynol a Meddygol• Geneteg Microbaidd• Mynegiant Genynnau• Bioystadegau a Dylunio Arbrofol• Mecanwaith Moleciwlaidd Afiechydon

a Diagnosteg• Metaboledd Carbohydrad a

Glycobioleg

Y Coleg Meddygaeth

Geneteg Feddygol a Geneteg

BSc Anrhydedd SenglC400 s GenetegC431 s Geneteg Feddygol

BSc Cyd-AnrhydeddCC47 s Biocemeg a Geneteg

s cynllun 3 blynedd

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegmeddygaeth

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn Geneteg Feddygol a Geneteg: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295668

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBB – ABB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 – 33

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ar gyfer y radd BSc Geneteg, bydd angen cymhwyster Safon Uwch Bioleg arnoch, ac ar gyfer y radd BSc Geneteg Feddygol bydd angen cymwysterau Safon Uwch Bioleg a Chemeg arnoch.

• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol• Sbectrometreg Mas Biomoleciwlaidd

a Dadansoddi Proteomig• Rheoli Metabolaidd: Ensymau a

Throsglwyddo Signalau• Ecoleg Foleciwlaidd• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg

Lefel 3• Geneteg Feddygol• Prosiect Ymchwil Biomoleciwlaidd• Trin Genynnau• Esblygiad Moleciwlaidd• Datblygiad Anifeiliaid• Biotechnoleg a Pheirianneg Protein• Dadansoddi Geneteg III• Mwtaniadau ac Iechyd Dynol• Geneteg Canser• Asidau Niwclëig: Cydrannau,

Metaboledd ac Addasu• Cludo Pilenni• Agweddau ar Fiocemeg Synhwyraidd

Ddynol a Metabolaidd

Graddau Cyd-Anrhydedd mewn Biocemeg a GenetegMae’r radd gyd-anrhydedd Biocemeg a Geneteg yn cynnig modiwlau o’r ddwy radd Anrhydedd Sengl ac yn ymdrin ag amrywiaeth ehangach o bynciau ym meysydd biocemeg, geneteg a bioleg foleciwlaidd. Yr amcan yw tanlinellu agweddau’r ddwy ddisgyblaeth sy’n gorgyffwrdd.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’r Coleg Meddygaeth yn cynnig mentora, tiwtorialau, a sesiynau galw heibio trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes microbioleg a chlefydau heintus. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Bydd llawer o fyfyrwyr israddedig yn cwblhau prosiectau ymchwil yn labordai’r Coleg Meddygaeth, a byddant yn cael eu goruchwylio gan grwpiau ymchwil y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Mae’r cyfleusterau all ychwanegu at eich profiad dysgu o ran ymchwil yn cynnwys:

• Canolfan EPSRC y DU ar gyfer Sbectrometreg Mas

• Y Ganolfan NanoIechyd• Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd• Labordai Ymchwil Gwybodeg Iechyd • Cyfleuster Ymchwil Clinigol ac Ystafell

Ddelweddu

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau a gwaith ymarferol. Mae’r prosiect y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn rhan bwysig o’r rhaglen radd sy’n eich cynorthwyo i gael profiad gwerthfawr o greu, cynllunio a rhoi prosiect ymchwil ar waith.

Ge

nete

g Fe

dd

ygo

l a Ge

nete

g

Mae 96% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

107106

Cynhwysir y graddau hyn yn y pynciau blaenoriaeth ar gyfer bwrsariaethau ychwanegol yn seiliedig ar incwm -– gweler tudalen 69.

107106

Page 56: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dai U

CA

S

“ Mae gan staff yr Adran gymaint o wybodaeth a brwdfrydedd,

mae’n dangos! Mae’r gwaith maes yn llawer o hwyl ac yn wych ar

gyfer eich CV. Rwy’n edrych ymlaen at yrfa fel tirfesurydd ac yn

teimlo’n gwbl gymwys ar gyfer y swydd. ” Michael Brown, BSc Geo-wybodeg a Mathemateg

Mae’r astudiaeth o fesur tir a chreu mapiau wedi’i chwyldroi gyda datblygiad y systemau cyfrifiadurol mwyaf diweddar ar gyfer caffael, dadansoddi, a chyflwyno gwybodaeth geo-ofodol. Adnabyddir y ddisgyblaeth bellach fel Geo-wybodeg.

Rydym yn byw mewn oes wybodaeth ac economi wybodaeth ac mae geo-wybodeg yn un o’r cydrannau allweddol. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd yn mwynhau cyfrifiadura, mathemateg neu ddaearyddiaeth ac sydd â diddordeb mewn data gofodol.

Bydd ein graddau Geo-wybodeg yn:

• eich hyfforddi i fod yn wyddonydd gwybodaeth ddaearyddol

• dysgu’r sgiliau ymarferol, rhifedd a chyfrifiannol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol ym meysydd megis geo-wybodeg, mapio a chartograffeg, cynllunio ariannol, rheoli busnes, addysg, cyfrifiadura, cadwraeth, dadansoddi amgylcheddol, ac asesu risg yswiriant.

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn tirfesur, cartograffeg, synhwyro o bell neu Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Beth yw strwythur y radd?Dysgir Geo-wybodeg ym Mhrifysgol Abertawe fel gradd Gyd-Anrhydedd, sy’n caniatáu i chi astudio modiwlau mewn Daearyddiaeth, Cyfrifiadureg, neu Fathemateg. Nid yw’r cynlluniau Cyd-Anrhydedd o reidrwydd yn dilyn trefn rhaniad 50/50 ac efallai y bydd modd i chi ddilyn modiwlau dewisol i gynyddu eich gwybodaeth mewn maes penodol.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Bydd gennych fynediad at adnoddau dysgu ardderchog, sy’n cynnwys labordai ar gyfer cartograffeg, systemau gwybodaeth ddaearyddol a synhwyro o bell.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio meddalwedd sy’n benodol ar gyfer Daearyddiaeth, gan gynnwys meddalwedd ystadegol gyda chymwysiadau ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol drwy gyfrwng ein labordy cyfrifiaduron personol.

Byddwch hefyd yn elwa o gyfleusterau dysgu rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd newydd gwerth £4.2 miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd cyfrifiadurol, ac ystafelloedd dysgu; labordy cyfrifiaduron perfformiad uchel am brosesu a dehongli data o leorennau a data GIS; sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomatig.

Rydym yn gosod pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog, gorllewin Cymru wledig a thirweddau dinesig a diwydiannol De Cymru.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau 2 a 3 yn rhoi cyfleoedd ychwanegol am waith maes ym Mallorca, Awstria, Efrog Newydd, Vancouver ac India, ac yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Ni chaiff costau gwaith maes ar gyfer myfyrwyr cyd-anrhydedd eu cyllido.

BSc Cyd-AnrhydeddGeo-wybodeg aGF48 s CyfrifiaduregF830 s DaearyddiaethGF18 s Mathemateg

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Geo-wybodegG

eo

-Wyb

od

eg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adrandaearyddiaeth

Cysylltwch â’r Tiwtoriaid Derbyn E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys 5 mewn Daearyddiaeth Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn pwnc mathemategol yn ddelfrydol, ond nid yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel 1Byddwch yn dilyn modiwlau mewn Daearyddiaeth a naill ai Cyfrifiadureg neu Fathemateg, yn dibynnu ar gyfuniad eich gradd. Gweler Daearyddiaeth (tudalen 94), Cyfrifiadureg (tudalen 90) a Mathemateg (tudalen 140) am ragor o wybodaeth am y modiwlau sydd ar gael.

Lefelau 2 a 3Mae’r modiwlau Geo-wybodeg sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:• Y Ddaear o’r gofod: Monitro Newid

Amgylcheddol Byd Eang• Cyflwyniad i Wyddoniaeth

Gwybodaeth Ddaearyddol • Modelu amgylcheddol• Traethawd Hir / Prosiect (Lefel Tri)

Byddwch yn dilyn modiwlau ychwanegol mewn Daearyddiaeth, Cyfrifiadureg a Mathemateg, yn dibynnu ar gyfuniad eich gradd.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Gall ddisgyblion sy’n dilyn y cwrs yma fanteisio ar y ddarpariaeth Gymraeg o’r cwrs Daearyddiaeth a/neu’r cwrs Mathemateg. Gweler y tudalennau priodol ar gyfer mwy o wybodaeth.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Efallai y byddwch yn ysgrifennu traethawd hir / gwneud prosiect yn Lefel Tri, gan ddibynnu ar eich dewis rhaglen.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm hefyd. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i wneud rhywfaint o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn gymwys ar gyfer y cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant, ac mae ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn ar gael dan y cynllun. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

Mae 89% o raddedigion Daearyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio (Data HESA 2010-11)

108 109109108

Page 57: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglL500 s Gwaith Cymdeithasol

s cynllun 3 blynedd

Mae Gwaith Cymdeithasol yn ymwneud â chefnogi datblygiad cymdeithasol unigolion, grwpiau, a chymunedau lleol. Mae hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn ddwy elfen allweddol sy’n tanategu gwaith cymdeithasol. Mae gweithwyr cymdeithasol yn aml yn gweithio mewn timoedd amlddisgyblaethol ar y cyd â gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg.

Bydd ein gradd Gwaith Cymdeithasol yn:

• sicrhau i chi gymhwyster proffesiynol sy’n cael ei gydnabod yng Nghymru a Lloegr

• eich galluogi i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru

• eich hyfforddi i weithio mewn gwahanol feysydd gwaith cymdeithasol boed yn y sector cyhoeddus neu yn y sector gwirfoddol

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy datrys problemau a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae gradd Gwaith Cymdeithasol yn gynllun tair blynedd. Mae ymarfer yn rhan bwysig o’r rhaglen gyda 50% o’r cwrs yn y Brifysgol a 50% yn y maes ymarfer gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol mewn amryw leoliadau.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial. Yn ystod Lefel Un, byddwch yn meddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i ymarfer gwaith cymdeithasol a byddwch yn mynd ar leoliad byr am 20 diwrnod.

Yn Lefelau Dau a Thri bydd astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan ddau leoliad gwaith un am 80 diwrnod a’r llall am 100 diwrnod gydag asiantaethau gofal cymdeithasol, lle byddwch yn cael eich goruchwylio a’ch asesu gan staff cymwysedig.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Cyd-destun Gwaith Cymdeithasol

Cyfredol• Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol

mewn Cymdeithas Amrywiol• Deall Gwybodaeth: Defnyddio,

Ymchwilio a Chofnodi Gwybodaeth Gwaith Cymdeithasol

• Tyfiant a Datblygiad Dynol• Cyflwyniad i Gyfraith Gwaith

Cymdeithasol• Gwaith Cymdeithasol ar Waith I• Dysgu Trwy Ymarfer I

Lefel 2• Theorïau a Dulliau mewn Ymarfer

Gwaith Cymdeithasol• Gwaith Cymdeithasol ar Waith II• Dysgu Trwy Ymarfer II• Materion Cyfreithiol mewn Gofal

Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol

Lefel 3• Ymarfer Critigol Gofal Plant• Ymarfer Critigol Gofal Oedolion yn

y Gymuned• Lleoliad Ymarfer III• Defnyddio Gwybodaeth i Wella

Ymarfer

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwaith Cymdeithasol

“ Yr hyn a fwynheais fwyaf am y cwrs oedd dyfnder yr wybodaeth a

ddarparwyd yn y darlithoedd a’r cyfle i ddysgu gwybodaeth ymarferol

gan siaradwyr gwadd sy’n gweithio yn y maes. ”Alun John Rees, BSc Gwaith Cymdeithasol Gweithiwr Cymdeithasol, Cyngor Sir Benfro

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd/israddedig

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602942

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BCC

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 28

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae’n ofynnol, wrth ymgeisio, fod gan ymgeiswyr radd C neu uwch ar lefel TGAU Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg (neu gyfwerth, er enghraifft

Gw

aith Cym

de

ithasol

Sgiliau Allweddol 2: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif).

Ar ben hynny, bydd raid i ganolwr gadarnhau eich bod wedi cyflawni lleiafswm o 210 o oriau gwaith gofal cymdeithasol perthnasol pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais.

Bydd eich sgiliau personol a’ch potensial i gwrdd â gofynion y cwrs yn cael eu gwerthuso trwy gyfweliad. Byddwch dim ond yn cael cynnig lle ar y rhaglen ar ôl i chi gofrestru’n llwyddiannus â Chyngor Gofal Cymru fel gweithiwr cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys datganiad personol ynghyd â gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a datgeliad iechyd.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o draethodau, cyflwyniadau dosbarth, adroddiadau myfyriol a gwaith portffolio.

A oes cymorth ariannol ar gael?Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth ar gyfer eich ffioedd dysgu. Cysylltwch â Chyngor Gofal Cymru (ccwales.org.uk) a Chyllid Myfyrwyr Cymru (cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk) am ragor o wybodaeth.

Mae 94% o raddedigion Gwaith Cymdeithasol mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

111110 111110

Page 58: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL254 s Cysylltiadau RhyngwladolL2R2 u Cysylltiadau Rhyngwladol

(gydag Almaeneg)L2RD u Cysylltiadau Rhyngwladol

(gyda Ffrangeg)L2R4 u Cysylltiadau Rhyngwladol

(gyda Sbaeneg) L220 s Cyfathrebu Gwleidyddol L200 s Gwleidyddiaeth

BA Cyd-Anrhydedd Cysylltiadau Rhyngwladol aLT2R u Astudiaethau AmericanaiddLV2C s Hanes Modern

BA Cyd-Anrhydedd Gwleidyddiaeth aLR22 u Almaeneg LT27 s Astudiaethau AmericanaiddTL72 u Astudiaethau AmericanaiddLQF5 u Cymraeg (ail iaith)LQ2N s Cymraeg (iaith gyntaf) LL12 s Economeg LR21 u FfrangegLV21 s Hanes VL1F u Hanes (gyda blwyddyn dramor)VL12 s Hanes yr HenfydLQ23 s Llenyddiaeth SaesnegLL42 s Polisi CymdeithasolLR24 u Sbaeneg

LLB Cyd-AnhrydeddLM21 s ■Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae gwleidyddiaeth yn golygu mwy nag astudio sefydliadau llywodraethol a chysylltiadau rhyngwladol. Mae’n ddisgyblaeth sydd wedi archwilio gweledigaethau gwahanol ar gyfer cymdeithas fwy teg ers miloedd o flynyddoedd, ac eto’n mynd i’r afael â heriau mwyaf y byd cyfoes.

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn ymchwilio i faterion megis terfysgaeth, hil-laddiad, argyfyngau ariannol, rôl y cyfryngau, a dyfodol gwleidyddiaeth Prydain. Mae’n gofyn o ble y daw’r bygythiadau i’n cymdeithas ac a oes modd i ni eu hatal.

Bydd ein graddau Gwleidyddiaeth yn:

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd gwahanol, yn cynnwys y gwasanaeth sifil a’r gwasanaethau cudd, llywodraeth leol a chenedlaethol, rheoli, cyllid, dysgu a newyddiaduraeth

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Rhan allweddol o’r cyrsiau hyn yw’r cyfle i fynd i’r afael ag ymchwil cymhleth a datrys problemau sy’n darganfod lle mae’r dylanwad a sut mae’r dylanwad hwnnw yn cael ei ddefnyddio ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial a thrafodaethau grwp bach. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth annibynnol fanwl ar eich pen eich hun neu fel rhan o grwp.

Yn ystod Lefel 3, cewch gyfle i fod yn rhan o’n cynllun llwyddiannus ac arloesol, sef Cynllun Interniaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i wneud interniaeth gyda chyflogwyr cyhoeddus, preifat, ac elusennol lleol, a hefyd i gwblhau traethawd hir dan oruchwyliaeth ar bwnc arbenigol o’ch dewis.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Beth yw Gwleidyddiaeth a

Chysylltiadau Rhyngwladol?• Rhyfel a Heddwch mewn Oes Niwclear• Gwleidyddiaeth a’r Bobl

Lefel 2• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd

• Hil-laddiad• Y Wladwriaeth a Sefydliadau

Gwleidyddol• Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus

Prydain: O Ryddfrydiaeth i Lafur Newydd

• Yr Ymerodraeth yn Taro Nôl: Bygwth a Defnyddio Grym Milwrol.

• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern• Traethawd Estynedig (Gwleidyddiaeth)• Cyfathrebu Gwleidyddol• Economeg Wleidyddol Fyd-eang

Lefel 3• Traethawd Hir• Cynllun Interniaaeth Cynulliad

Cenedlaethol Cymru• Ymchwilio Gwleidyddiaeth I a II• Rhyfel Cyffuriau UDA: Gwleidyddiaeth y

Gwaharddiad• Arlywyddiaeth America: Arweinyddiaeth

a Phwer• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Diogelwch Cyfoes• Polisi a Rheoleiddio’r Cyfryngau• Technolegau Sgrin Newydd• Economeg Wleidyddol Gyfoes• Gwleidyddiaeth a Datblygu

Rhyngwladol• Interniaeth Astudiaethau Gwleidyddol

a Diwylliannol• Gweledigaethau Democratiaeth

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Gw

leid

ydd

iaeth a C

hysylltiadau R

hyngw

lado

l

• Globaleiddio• Dulliau Meintiol mewn Dadansoddi

Gwleidyddol a Chymdeithasol

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei fonitro a’i werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“ Roedd penderfynu astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn

Abertawe yn un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed. Mae wedi

fy ngalluogi i archwilio’r byd yr ydym yn byw ynddo, ac i ddeall y

pynciau llosg pwysicaf ym materion y byd. O achosion gwrthdaro i’r

atebion i ddod â heddwch, mae’r cyfleoedd astudio o fewn y radd

hon yn ddi-ben-draw. Roedd y modiwlau gorfodol yn y ddwy

flwyddyn gyntaf yn gosod sylfaen sylweddol o wybodaeth o ran

damcaniaeth ac ymarfer. Roedd y sylfeini hyn yn fy ngalluogi i

ddatblygu fy niddordebau penodol, a dwi wedi cael cyfle i arbenigo

yn y rhain yn fy mlwyddyn olaf. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau

dysgu yn ystod y cwrs gan ganiatáu datblygu set gwerthfawr o sgiliau

i hwyluso astudiaeth fwy annibynnol ar lefel tri. Cyflwynir y cwrs gan

academyddion blaenllaw yn y maes, pob un ohonynt yn gyfeillgar ac

yn barod i roi cymorth pan fo angen. Dwi’n teimlo bod modd i mi

ddilyn pa drywydd bynnag y byddaf yn ei ddewis, ond dwi’n credu,

o ganlyniad i’r cyfleoedd a gynigiwyd i mi o fewn y rhaglen radd

hon, y byddaf yn dewis aros ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol.”Joanna Halbert, BA Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae 87% o raddedigion Gwleidyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

113112 113112

Page 59: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Parafeddygon yn aml yw’r cyntaf o’r gwasanaethau brys i gyrraedd lleoliad y ddamwain. Yn rheolaidd yng nghanol sefyllfaoedd dryslyd, llawn anhrefn a pherygl, mae parafeddygon wedi’u haddysgu i ddarparu cymorth achub bywyd a gofal trawma i gleifion yn yr amgylcheddau mwyaf heriol, a’u sefydlogi ar gyfer eu trosglwyddo i’r ysbyty. Yn ogystal â hyn, mae parafeddygon yn ymateb i gleifion ag anghenion cymdeithasol ac yn helpu’r cleifion hyn naill ai i symud i’r ysbyty neu drwy gynnig ymyriadau i helpu pobl aros yn eu tai eu hunain.

Trwy astudio Gwyddor Barafeddygol yn Abertawe, byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn caniatáu i chi wneud cais i gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HCPC) ac ymarfer fel parafeddyg.

Bydd ein cwrs Gwyddor Barafeddygol yn:

• eich dysgu i fod yn barafeddyg

• eich paratoi ar gyfer byd dynamig, ansicr ac anrhagweladwy ymarfer parafeddygol mewn gwasanaeth iechyd sy’n moderneiddio

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Sylwer: mae’r teitl “Parafeddyg” wedi’i ddiogelu gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001. Yn unol â’r gyfraith, rhaid i unrhyw un sydd am ymarfer gan ddefnyddio teitl a ddiogelir gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 fod ar gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd (HCPC). Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn: www.hpc-uk.org

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:

• Gwiriad Heddlu Manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

• trwydded yrru lawn y DU (Categori B gydag uchafswm o dri phwynt cosb) – nid yw trwydded yrru dros dro’n ddigonol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Sylwer: mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru’n mynnu bod gan ei barafeddygon drwydded yrru sy’n

caniatáu iddynt yrru cerbydau categori C1. Felly, ystyrir bod trwydded categori C1 yn fantais wrth ymgeisio, ond nid yw’n hanfodol i chi gael eich derbyn ar y cwrs hwn. Ni fydd Prifysgol Abertawe yn eich darparu â thrwydded o’r categori hwn fel rhan o’r cwrs.

Beth yw strwythur y cwrs?Nodwedd allweddol o’r cwrs hwn yw’r cyfle i dreulio 50% o’ch amser yn ennill profiad ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cyfleusterau Ymddiriedolaethau’r GIG, lleoliadau clinigol o fewn y GIG yng Nghymru, ac o fewn y gymuned mewn ambiwlansiau gweithredol. Byddwch yn treulio gweddill eich amser ar gampws Prifysgol Abertawe.

Tra byddwch ar leoliad, byddwch yn trin cleifion dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwys a chewch eich cefnogi drwy gydol y cwrs gan Addysgwyr Lleoliadau Ymarfer. O ganlyniad, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o ofal iechyd, yn ogystal â chyfle heb ei ail i ymarfer a datblygu sgiliau perthnasol. Er mwyn defnyddio’r ystod eang o fathau o leoliadau ambiwlans, gall myfyrwyr ddisgwyl lleoliadau clinigol ar draws Cymru.

Mae hwn yn gwrs llawn-amser, dwy flynedd. Bob blwyddyn, byddwch yn

Diploma mewn Addysg Uwch (DIPHE)Gwyddor Barafeddygol: Gwyddor Barafeddygol

: 2 flwyddyn llawn amser (45 wythnos y flwyddyn)

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Barafeddygol

“ Mae’r cwrs yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng dysgu academaidd

a dysgu’n seiliedig ar ymarfer. Mae gweithio gyda Pharafeddygon ar

leoliad gwaith yn cynnig mewnweliad i’r swydd ac yn ffordd drylwyr o

ymarfer y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn y Brifysgol. Mewn gwirionedd,

y rhan o’r cwrs a fwynheais i fwyaf oedd bod ar leoliadau ymarferol. Mae

myfyrwyr yn cael eu derbyn a’u croesawu ac rwy’n teimlo’n rhan o’r tîm.

Mae bod â’r lefel o gyfrifoldeb a phwrpas ar y cwrs yn adlewyrchu bywyd

gwaith go iawn. ” Jack Wood, DipHE Gwyddor Barafeddygol

Gw

ydd

or B

arafed

dyg

ol

Pa raddau rydw i eu hangen? Bydd angen lleiafswm o ddau gymhwyster Safon Uwch (ar radd B neu uwch); byddai Safon Uwch mewn gwyddoniaeth o fantais. Caiff ymgeiswyr gyda thri lefel A ar radd C neu uwch eu hystyried, gan ddibynnu ar broffil eu cais.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk /y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: Mr Howard Griffiths E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Cewch gyflwyno cais yn uniongyrchol i Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd (gweler uchod).

astudio modiwlau gorfodol wedi’u dylunio i sicrhau y bydd gennych y theori a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i sicrhau eich datblygiad deallusol a phroffesiynol.

Lefel 1Byddwch yn ennill gwybodaeth gadarn o gysyniadau sylfaenol ynghylch gofal cleifion, ac yn:

• datblygu gwybodaeth o brif systemau’r corff a phatholeg berthynol

• perfformio asesiadau cleifion ac yn adnabod afiechydon sy’n bygwth bywyd

• ymarfer cymorth achub bywyd a diffibrilio

• dysgu sut i ddehongli arsylwadau clinigol er mwyn trin a rheoli cleifion

• dysgu am egwyddorion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol

• datblygu sgiliau myfyrio ynghylch ymarfer

Lefel 2Byddwch yn:• datblygu eich gwybodaeth o anatomi a

ffisioleg ymhellach• dysgu am y ffactorau sy’n dylanwadu

ar iechyd a salwch• ymarfer cymorth achub bywyd uwch ac

ymyriadau parafeddygol• dysgu am egwyddorion a

pherthnasedd ymchwil• datblygu sgiliau myfyrio ynghylch

ymarfer ymhellach

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Bydd myfyrwyr Gwyddor Parafeddygol yn cael cyfleoedd amrywiol i ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Coleg a Chanolfan Cenedlaethol Hyfforddiant Ambiwlans Cymru ar gyfer profiadau realistig yn y gweithle. Mae ein hadnoddau ar y safle dysgu yn cynnwys:

• Clinigol a thechnegol sgiliau canolfan adnoddau

• Cyfleusterau ymarfer clinigol ffug

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn

Os ydych yn breswylydd yn y DU, wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf neu wedi derbyn ‘Caniatâd i Aros’ yma:

a) nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalu b) bydd myfyrwyr newydd yn derbyn

grant heb brawf incwm o £1000

c) a Prawf Modd Bwrsariaeth o hyd at £4395

d) mynediad at gymorth ychwanegol ar ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio). (Cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân)

Yn ogystal â’r bwrsari prawf incwm sylfaenol, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion dibynnol a phlant.

Mae’r wybodaeth hon yn dod gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru. Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael ar www.wales.nhs.uk

Nid yw’r Brifysgol, felly, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.

Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i gael mynediad i’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd site: www.nliah.wales.nhs.uk

Bydd angen lleiafswm o 5 TGAU arnoch ar radd C neu uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys Cymraeg/Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Yn ogystal bydd cymwysterau eraill megis Diploma BTEC Cenedlaethol (MMM) neu gyfwerth yn cael eu hystyried.

Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 18 oed pan fydd y cwrs yn dechrau.

Mae’n bosibl y bydd y Coleg yn gallu ystyried cymwysterau eraill sydd gennych, gan ddefnyddio Achredu Dysgu Blaenorol (APL). Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 100% o raddedigion Gwyddor Iechyd mewn cyflogaeth lawn-amser neu’n dilyn astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

115114

Co

dau U

CA

S

115114

Page 60: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglCH61 s Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

MEng Anrhydedd SenglCH6C u Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

O bêl-droed a rygbi proffesiynol i nofio rhyngwladol yn y Gemau Olympaidd, mae’r amgylchedd chwaraeon modern yn gofyn am fwy gan athletwyr nag erioed o’r blaen. Wrth i ffiniau cryfder a dygnwch dynol gael eu hestyn a’u profi i’r eithaf, mae Gwyddonwyr Chwaraeon a Pheirianwyr yn fwyfwy canolog i’r gwaith o helpu athletwyr i lwyddo yn y byd chwaraeon.

Mae Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg yn golygu cymhwyso egwyddorion allweddol i heriau chwaraeon. Mae’r cynllun gradd newydd hwn wedi’i ddylunio i ddatblygu’ch gwybodaeth graidd mewn dylunio, dadansoddi mecanyddol a strwythurol, defnyddiau a modelu cyfrifiadurol. Mae hefyd yn darparu mewnwelediad i ffisioleg, biomecaneg, seicoleg, ymarfer a gwyddor chwaraeon.

Gan fod hwn yn gynllun newydd, mae’r holl raddau Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn aros am achrediad gan y Sefydliad Peirianneg Mecanyddol (IMechE).Bydd ein gradd Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg yn:

• rhoi’r wybodaeth a’r profiad technegol i chi sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym meysydd chwaraeon a

ffisioleg ymarfer, biomecaneg chwaraeon, seicoleg a maetheg ddynol, dadansoddi a dylunio peirianneg a pheirianneg chwaraeon

• eich cyflwyno i dechnegau modern ar gyfer datrys problemau cyfrifiadurol a rhoi cyflwyniadau

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Mae’r rhaglen hon hefyd yn rhoi’r gorau o bob byd i chi gan y byddwch yn rhyngweithio gyda myfyrwyr ar y rhaglen MEng a BEng Peirianneg Fecanyddol a Dylunio Cynnyrch. Byddwch hefyd yn rhannu brwdfrydedd a heriau chwaraeon gyda myfyrwyr ar y rhaglen BSc mewn Gwyddor Chwaraeon.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r BEng yn rhaglen dair blynedd sy’n integreiddio darlithoedd, sesiynau tiwtorial, gwaith labordy ymarferol, aseiniadau dylunio a dysgu gyda chymorth cyfrifiadur i ddarparu hyfforddiant mewn agweddau allweddol ar beirianneg a gwyddoniaeth.

Ar Lefelau 1 a 2, byddwch yn ennill gwerthfawrogiad trylwyr o ddylunio, mecaneg, offeryniaeth a rheoli, defnyddiau, dadansoddi peirianneg, ffisioleg a biomecaneg, anthropometreg, metaboledd ymarfer, systemau niwro-gyhyrysgerbydol dynol a seicoleg chwaraeon. Mae cyfran sylweddol o’r modiwlau biomecaneg a ffisioleg yn waith labordy.

Mae Lefel 3 wedi’i dylunio i ehangu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am reoli peirianneg, dylunio â chymorth cyfrifiadur gyda dealltwriaeth bellach o fiomecaneg, seicoleg, maetheg ddynol a ffisioleg. Byddwch yn ennill profiad o offer sganio tri dimensiwn a phrototeipio cyflym o’r radd flaenaf i gynorthwyo’r broses ddylunio. Yn y prosiect yn y flwyddyn olaf, byddwch yn defnyddio’ch sgiliau peirianneg mewn prosiect sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

Mae’r MEng yn rhaglen bedair blynedd, ac mae’r tair blynedd gyntaf yr un peth â’r radd BEng. Ar Lefel M, byddwch yn ehangu ac yn dyfnhau’ch gwybodaeth am themâu allweddol, gan gynnwys: biomecaneg, ymarfer a ffisioleg chwaraeon, deallusrwydd cyfrifiadurol a dadansoddi data, dadansoddi elfennau cyfyngedig a modelu cyfrifiadurol, dylunio prosiectau a rheoli ac entrepreneuriaeth.

Y Coleg Peirianneg

Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg).

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig

ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB (gan gynnwys Mathemateg).

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg

Gw

ydd

or C

hwarae

on a Phe

irianneg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Sylwer bod cyfle i drosglwyddo o’r rhaglen BEng i’r rhaglen MEng hefyd ar ôl diwedd Lefel 2. Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel 1• Mecaneg Hylif I• Dylunio Peirianneg I• Sgiliau Peirianneg• Cryfder Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I a II• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Ffisioleg Ddynol• Offeryniaeth a Rheoli• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Systemau Niwro-gyhyrysgerbydol

Dynol

Lefel 2• Anthropometreg• Trosglwyddo Gwres• Mecaneg Beirianegol• Dynameg I• Dadansoddi Straen I• Seicoleg Chwaraeon I• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Dylunio Peirianneg II• Metaboledd Ymarfer Corff• Seicoleg Chwaraeon I

Lefel 3• Polymerau, Defnyddiau a Phrosesu• Dylunio Cynnyrch drwy gymorth

Cyfrifiadur• Dylunio Peirianneg III• Prosiect Unigol• Ffisioleg Ymarfer Corff• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol• Seicoleg Chwaraeon II

Lefel 4 (MEng yn unig)• Deallusrwydd Cyfrifiadurol mewn

Peirianneg• Prosiect Grwp• Traethawd Hir Ymchwil• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Dadansoddi Cyfrifiadurol Elfennau

Cyfyngedig• Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Biomecaneg Chwaraeon

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes Gwyddor Chwaraeon. Fodd bynnag, mae hawl gan bob myfyriwr i gyflwyno asesiadau yn y Gymraeg. Rhowch wybod i’r adran o flaen llaw inni allu gwneud y trefniadau priodol.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich sgiliau a’ch gwybodaeth eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes cymorth ariannol ar gael?Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig Ysgoloriaeth Chwaraeon Mynediad Israddedig i fyfyrwyr â dawn neilltuol. Gweler tudalen 185 am ragor o wybodaeth.

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

117116

Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“Mae’r Gemau Olympaidd yn

profi cryfder a dygnwch dynol i’r

eithaf. Mae deall sylfeini Gwyddor

Chwaraeon a chymhwyso

gwybodaeth am Beirianneg yn

gallu helpu athletwyr i fynd

ymhellach. ” Dr Ransing, Tiwtor Derbyn

117116

Page 61: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Rhoddodd y cwrs Daearyddiaeth yn Abertawe ddechreuad

ardderchog i mi wrth ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudiaeth

ôl-raddedig yn ogystal â gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gwybodaeth

ddaearyddol. Mae sawl un o’r modiwlau, megis modelu amgylcheddol,

synhwyro o bell, a systemau gwybodaeth ddaearyddol, yn dysgu

amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n addas ar gyfer gweithle

technolegol heddiw. Yn bwysicaf oll, roedd yr adran yn cynnig

amgylchedd cyfeillgar a chefnogol tu hwnt i ddysgu ynddo. ”Will Tompkinson, BSc Daearyddiaeth, (nawr yn Wyddonydd Ymchwil Graddedig i Arolwg Ordnans)

BSc Anrhydedd SenglFF86 s Gwyddor Ffisegol y Ddaear

s cynllun 3 blynedd

Mae Gwyddor Ffisegol y Ddaear yn cyfuno astudio tirweddau ac amgylcheddau naturiol mewn daearyddiaeth ffisegol ag agweddau o ddaeareg i archwilio’r prosesau ffisegol sy’n llunio ein planed a’r newidiadau sydd wedi effeithio ar amgylcheddau dros gyfnodau o ganrifoedd i gannoedd o filiynau o flynyddoedd.

Bydd ein gradd Gwyddor Ffisegol y Ddaear yn:

• darparu dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol a sut y mae wedi newid ar hyd amser

• dysgu’r sgiliau ymarferol a rhifedd sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn meysydd megis rheoli amgylcheddol, cadwraeth, awdurdodau lleol, addysg, cyfrifiadureg, neu asesu risg yswiriant

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn daearyddiaeth ffisegol neu wyddor y Ddaear

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Byddwch yn archwilio pwnc gwyddor y ddaear arloesol ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog a gorllewin Cymru, lle byddwch yn ymgymryd â chwrs maes tridiau yn ystod Lefel 2.

Byddwch yn dilyn cwrs maes tramor yn Lefel 2. Mae’r cyrchfannau ar hyn o bryd yn cynnwys Awstria neu Maiorca, gyda’r gost wedi’i chynnwys yn y ffioedd dysgu, neu Fancwfer, am dâl ychwanegol.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau 2 a 3 yn darparu cyfleoedd ychwanegol am waith maes yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr yn cyfrannu tuag at gostau’r gwaith maes yn y modiwlau dewisol.

Cewch ddewis ymchwil daearegol yn seiliedig ar waith maes yn Llwyfandir Colorado, UDA, tuag at eich traethawd hir yn Lefel 3.

Cewch fynediad at feddalwedd sy’n benodol i’r pwnc yn ein labordy cyfrifiadurol personol. Byddwch hefyd yn elwa o gyfleusterau dysgu rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd newydd gwerth £4.2 miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dysgu; labordy cyfrifiadura perfformiad uchel am brosesu a dehongli data o leorennau a data GIS; sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomataidd.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1Mae’r modiwlau’n darparu sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol a daeareg: • Cyflwyno’r Ddaear: trosolwg o

ddaeareg • Y Ddaear ar Waith• Wyneb Newidiol y Ddaear• Newid Amgylcheddol Byd Eang• Cynaliadwyedd mewn Byd Bregus• Dulliau Daearyddol, Astudiaeth

Ymarferol, Sesiynau Tiwtorial a Gwaith Maes

Gwyddor Ffisegol Y DdaearY Coleg Gwyddoniaeth

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/geography

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon uwch: ABB – BBB neu gyfwerth, gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 gan gynnwys 5 yn Naearyddiaeth Lefel Uwch

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Lefelau 2 a 3Mae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Dulliau Ymchwil Gwyddor

Amgylcheddol• Cwrs Maes Tramor• Cofnod Daearegol o Newid

Amgylcheddol (darlithoedd a dosbarthiadau maes)

• Ymagweddau at Ddaearyddiaeth Ffisegol

• Traethawd Hir a Chymorth ar gyfer Traethawd Hir

Byddwch yn dewis modiwlau dewisol o ddaearyddiaeth ffisegol a daeareg. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys:

• Hydroddaeareg Gymhwysol• Afonydd• Newid amgylcheddol• Y Ddaear Beryglus: Deall a Byw gyda

Pheryglon Naturiol• Y Ddaear o’r Gofod: Monitro Newid

Amgylcheddol Byd Eang• Cyflwyniad i Wyddoniaeth

Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)• Tectoneg Platiau a Geoffiseg Fyd-eang• Ail-lunio Amgylcheddau Cwaternaidd• Hinsawdd y fileniwm ddiwethaf• Rhewlifeg• Amgylcheddau a Thirweddau

Trofannol Llaith• Modelu Amgylcheddol

• Ffiniau Ymchwil Daearyddol• Lleoliad Gwaith Daearyddol

Cewch ddewis dilyn modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ymMhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaithi’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg bethbynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwlhwnnw heblaw am yn achos modiwlauieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaithdan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir yn Lefel Tri.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm hefyd. Ceir manylion yn www.abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i wneud rhywfaint o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn gymwys ar gyfer y cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant, ac mae ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn ar gael dan y cynllun. Ceir manylion ar wefan: www.colegcymraeg.ac.uk

Gw

ydd

or Ffise

go

l Y D

dae

ar

Mae 89% o raddedigion Daearyddiaeth mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010-11)

119118

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

119118

Page 62: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Dwi’n hoff iawn o’r cyfuniad o ymarfer clinigol a gwaith academaidd gan fod y profiad clinigol yn sefyll allan ar eich CV. Rydym yn cael gweithio mewn hyd at saith ysbyty gwahanol sydd wir yn helpu i fireinio eich gwybodaeth a’ch sgiliau, gan eich bod yn gweld sut y gall yr un peth gael ei wneud yn wahanol iawn rhwng canolfannau. Rwyf hefyd yn llawer mwy hyderus gyda’m sgiliau cyfathrebu a chleifion pan rydw i allan ar leoliad, yn enwedig ar ôl derbyn bocs o siocledi M&S ffansi gan glaf fel diolch! Ar ôl yr holl waith caled yr wyf wedi sicrhau swydd hanner blwyddyn cyn graddio, a

oedd yn un o’r prif resymau dewisais cwrs mor arbenigol. ”Josh Roberts,

BSc Gwyddor Gofal Iechyd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Mae clywedegwyr yn ofalwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i wneud diagnosis am, a rheoli, nam clywedol cleifion ac anhwylder balans ac anhwylderau perthynol, ac i brofi, gosod, ac addasu cymhorthion clyw. Gallant weithio yn y GIG neu yn y sector preifat, a gallant fod yn ymarferwr iechyd. Mae llawer o’r cleifion a welir yn Clywedeg yn oedrannus, fodd bynnag mae’n bosib arbenigo mewn gwaith pediatrig, sy’n gofyn dulliau gwahanol wrth asesu.

Trwy astudio Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg) yn Abertawe, byddwch yn ennill gradd â ffocws clinigol, gyda phwyslais ar ddysgu trwy ymarfer.

Achredir y radd gan Academi Clywedeg Prydain (BAA) a chan ‘Medical Education England’ (MEE). O raddio gyda’r radd hon, byddwch yn gymwys i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol gyda’r Cyngor Cofrestru Ffisioleg Glinigol, ac i gael eich Rheoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (yn amodol ar gymeradwyo’r rhaglen).

Bydd ein gradd Clywedeg yn:

• eich arfogi â’r sgiliau a’r gallu angenrheidiol i ddod yn Glywedegydd cofrestredig

• eich arfogi i ddiwallu anghenion gofal y cyhoedd yn y maes hwn o Glywedeg

• eich hyfforddi i ddefnyddio offer soffistigedig a chyfleusterau gofal iechyd

• eich helpu i ennill profiad ymarferol helaeth a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Rhaglen dair blynedd llawn amser yw’r rhaglen hon. Bydd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys elfennau o glywedeg, niwroffisioleg, ac ophthalmeg a gwyddor golwg. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn arbenigo yn nisgyblaeth clywedeg.

Yn ystod eich tair blynedd o astudio yn y Brifysgol, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol yn y labordy sgiliau clywedeg. Wedyn, byddwch yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon a datblygu sgiliau a chymwyseddau clinigol ar leoliadau clinigol mewn adrannau clywedeg ysbytai ar draws Cymru. Yn y lleoliadau hyn, byddwch yn gweithio wrth ochr clywedegwyr proffesiynol i ddatblygu’ch sgiliau clywedeg, ond hefyd i ddatblygu’r ymagwedd a’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i weithio gyda’ch cleifion ac i

ddiwallu eu hanghenion mewn modd gofalgar a chefnogol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Lefel 1• Ymarfer Proffesiynol I• Anatomi a Ffisioleg ar gyfer Gwyddor

Gofal Iechyd • Pathoffisioleg ar gyfer Gwyddor Gofal

Iechyd • Sylfeini Mathemateg a Ffiseg ar gyfer

Gwyddor Gofal Iechyd• Anatomi Niwrosynnwyr, Ffisioleg, a

Phathoffisioleg• Gwyddor Niwrosynnwyr • Mesur a Thriniaeth Glinigol

Niwrosynnwyr

Lefel 2• Ymarfer Proffesiynol II• Dulliau ac Ystadegau Ymchwil• Offeryniaeth, Prosesu Signalau a

Delweddu• Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd I • Gwyddor Clywedeg I• Cymhorthion Synhwyro I• Asesiad a Rheolaeth Cynteddol• Y Person sy’n Datblygu

Lefel 3• Ymarfer Proffesiynol III• Prosiect Ymchwil Gwyddor Gofal

Iechyd

BSc Anrhydedd SenglB610 s Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)

s cynllun 3 blynedd

Gwyddor Gofal Iechyd – (Clywedeg)

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBB gyda o leiaf un o’r rhain mewn pwnc gwyddoniaeth (Mathemateg, Ffiseg, Bioleg, Cemeg).

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hefyd, bydd angen TGAU Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg a gwyddoniaeth ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Gw

ydd

or G

ofal Ie

chyd –

(Clyw

ed

eg

)

• Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd II

• Gwyddor Clywedeg II• Cymhorthion Synhwyro I• Cyflwyniad i Gloch Fach

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol Thechnegol, cyfleusterau efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg yn ddiweddar wedi agor Swît AneurinBevan. Mae’r 10 ystafell uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd. Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer

diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn:

Os ydych yn breswylydd yn y DU yna nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalu. Bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant heb brawf incwm o £1,000 yn ogystal â bwrsariaeth yn seiliedig ar incwm o hyd at £4,395. Cewch fynediad at gymorth ychwanegol ar ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio – cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân)

Yn ogystal â’r bwrsari sylfaenol sy’n seiliedig ar brawf incwm, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion a phlant dibynnol.

Mae’r wybodaeth hon wedi ei darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru. Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael trwy: www.wales.nhs.uk

Ni all y Brifysgol, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.

Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol o Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk.

Sylwer, os gwelwch yn dda, bod nifer y llefydd a ariennir yn gyfyngedig i’r nifer a gomisiynwyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o lefydd ychwanegol nas ariennir. Yn achos y rhain, bydd disgwyl i’r myfyrwyr dalu ffioedd dysgu ac, o bosibl, costau eraill lleoliadau. Cyhoeddir gwybodaeth am lefydd nas ariennir ar wefan y Brifysgol.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:• Gwiriad Heddlu Manylach gan y

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol.

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

120 121

Mae 100% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

121120

Page 63: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Bydd y rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Ffisegol) yn eich addysgu i fod yn Ffisiolegwyr Cardiaidd neu’n Ffisiolegwyr Gwyddor Anadlu a Chwsg. Mae’r rhain yn weithwyr proffesiynol medrus tu hwnt sy’n monitro, yn mesur, ac yn dadansoddi gweithrediad y galon a’r ysgyfaint mewn amgylcheddau clinigol. Maen nhw’n gwella ansawdd bywyd cleifion drwy wneud diagnosisau o glefyd ac yn darparu gwybodaeth ynghylch cynllunio’r driniaeth.

Wrth astudio Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Ffisiolegol) yn Abertawe, byddwch yn ennill gradd sy’n canolbwyntio ar waith clinigol, gyda phwyslais ar ddysgu trwy ymarfer, a fydd, pan fyddwch yn graddio, yn eich cymhwyso i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol a gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Fel Ffisiolegydd Gwyddor Gofal Iechyd, bydd bywydau yn aml yn dibynnu ar eich sgiliau.

Bydd ein gradd Gwyddor Gofal Iechyd yn:• arwain at gymhwyster cydnabyddedig a

fydd yn eich galluogi i fod yn Ffisiolegydd Cardiaidd neu’n Ffisiolegydd Gwyddor Anadlu a Chwsg

• dysgu’r sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio yn y GIG a’r sector preifat

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol, gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, datrys problemau, a dadansoddi er mwyn eich galluogi i ddarparu gofal o’r safon uchaf i gleifion.

Beth yw strwythur y radd?Rhaglen dair blynedd llawn amser yw’r rhaglen hon. Mae’r flwyddyn gyntaf yr un peth ar gyfer Ffisioleg Gardiaidd a Ffisioleg Gwyddorau Anadlu a Chwsg. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cael addysg arbenigol yn y ddisgyblaeth o’ch dewis, sef Ffisioleg Gardiaidd neu Ffisioleg Gwyddorau Anadlu a Chwsg (gweler y modiwlau a astudir).

Ffisioleg GardiaiddFel Ffisiolegydd Cardiaidd, byddwch yn cyfuno asesu cleifion â defnyddio offer arbenigol i wneud diagnosisau ac i ddarparu cyfarwyddyd ynghylch rheoli afiechyd y galon. Byddwch hefyd yn ymwneud â thrin abnormaleddau rhythm y galon.

Mae Ffisiolegwyr Cardiaidd yn perfformio ystod o archwiliadau, yn cynnwys:• Electrocardiograff Gorffwys (ECG)• Monitro’r gallu i gerdded• Profi goddef ymarfer (ETT)• Cathetreiddio Cardiaidd• Ecocardiograffeg• Rheolwyr Calon Parhaol a Diffibrilwyr

Mewnosodol

Ffisioleg Anadlu a Gwyddorau CwsgFel Ffisiolegydd Anadlu, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau i fesur a monitro gweithred anadlu cleifion, ac yn gwneud diagnosisau, ac yn rhoi gwybodaeth i gleifion am driniaethau ar gyfer clefydon yr ysgyfaint. Byddwch hefyd yn gwneud

diagnosis a thrin rhai anhwylderau anadlu’n ymwneud â chysgu a rheoli gofal cleifion.

Mae Ffisiolegwyr Anadlu yn perfformio ystod o archwiliadau, yn cynnwys: • Cyfeintiau ysgyfaint a llif allananadlu

gorfodol• Cyfnewid nwyon resbiradol• Nwyon y gwaed• Ymateb i driniaeth• Anadlu yn ystod cwsg• Triniaeth CPAP• Profion ar gyfer alergeddau• Ymateb ffisiolegol i ymarfer corff

Pa fodiwlau sydd ar gael?Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau. Mae’r modiwlau i gyd yn fodiwlau craidd, a rhaid llwyddo yn y cyfan i ennill gradd. Dyluniwyd y modiwlau i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd.

Lefel 1• Ymarfer Proffesiynol I• Anatomi a Ffisioleg ar gyfer Gwyddor

Gofal Iechyd • Pathoffisioleg ar gyfer Gwyddor Gofal

Iechyd • Sylfeini Mathemateg a Ffiseg ar gyfer

Gwyddor Gofal Iechyd• Cyflwyniad i Wyddor Gardiofasgwlaidd• Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Llwybrau Cleifion y CVRS, a Hyfforddiant

yn y Gweithle.

BSc Anrhydedd SenglB1B8 s Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd)B121 s Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Anadlu a Chwsg)

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Gofal Iechyd – (Ffisioleg Gardiaidd) a (Gwyddor Anadlu a Chwsg)

“ Mae gallu cael profiad ymarferol a rhoi’r hyn rydych wedi dysgu

wrth waith yn wych. Cewch ymweld ag ysbytai ledled Cymru, cyfarfod

pobl newydd a rhoi eich hun allan yna ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae’r ystod eang o gleifion a welwch yn agoriad llygad, gan efallai’n

dod ar draws achosion neu amodau penodol unwaith mewn gyrfa. ”Linsey Haggett, BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: Lleiafswm o BBB, gan gynnwys Bioleg.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

For full details of other acceptable qualifications, please see page 203

Hefyd, bydd angen o leiaf 5 TGAU Mathemateg, gan gynnwys Saesneg, neu Gymraeg a Gwyddoniaeth Ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd:E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau AgoredHow to apply: Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

AccreditationThese programmes are accredited by the: • Addysg Feddygol Lloegr • Bwrdd Gwyddor Gofal Iechyd

(MEE HCSPB)• Y Cyngor Cofrestru Ffisioleg

Glinigol (RCCP).

Gw

ydd

or G

ofal Ie

chyd –

(Ffisiole

g G

ardiaid

d) a (G

wyd

do

r Anad

lu a Chw

sg)

Lefel 2• Ymarfer Proffesiynol II• Dulliau ac Ystadegau Ymchwil• Offeryniaeth, Prosesu Signalau a Delweddu• Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd I• Pathoffisioleg Cyflyrau Cardiofasgwlaidd

ac Anadlu Cyffredin• Mesur Perfformiad Cardiofasgwlaidd

Gorffwys NEU• Ffisioleg Anadlu a Chwsg – Ymyriadau

Diagnostig• Ffisioleg Anadlu II: Ffisioleg

Lefel 3• Ymarfer Proffesiynol III• Prosiect Ymchwil Gwyddor Gofal Iechyd • Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd II• Cathetreiddio Cardiaidd• Diagnosis a Rheolaeth ArhythmiaNEU• Ffisioleg Anadlu a Chysgu – Nwyon y

Gwaed a Methu Anadlu• Ffisioleg Anadlu a Chysgu – Profion

Heriol ac Ymarfer Corff

Felly, wrth raddio bydd gennych yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i gychwyn yn y proffesiwn ac i ymarfer yn eich arbenigedd.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob

myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol Thechnegol, cyfleusterau i efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r 10 ystafell ymarfer uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn ymarferion clinigol cyn mynd ar leoliad.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn:

Os ydych yn breswylydd yn y DU yna nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalu. Bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant heb brawf incwm o £1,000 yn ogystal â bwrsariaeth yn seiliedig ar incwm o hyd at £4,395. Cewch fynediad at gymorth ychwanegol ar ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio – cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân.)

Yn ogystal â’r bwrsari sylfaenol sy’n seiliedig ar brawf incwm, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion a phlant dibynnol.

Mae’r wybodaeth hon wedi ei darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru. Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael trwy: www.wales.nhs.uk

Ni all y Brifysgol, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol o Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk.

Sylwer, os gwelwch yn dda, bod nifer y llefydd a ariennir yn gyfyngedig i’r nifer a gomisiynwyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o lefydd ychwanegol nas ariennir. Yn achos y rhain, disgwylir i fyfyrwyr dalu’r ffioedd dysgu a chostau eraill y lleoliadau. Cyhoeddir gwybodaeth am lefydd nas ariennir ar wefan y Brifysgol.

Mae100% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

123122

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:• Gwiriad Heddlu Manylach y

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig a wneir yn amodol ac yn amodol i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

123122

Page 64: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“Rwyf wrth fy modd gyda’r cymysgedd rhwng ymarfer clinigol a gwaith

academaidd ac mae’r profiad clinigol yn sefyll allan ar eich CV. Rydym yn cael

gweithio mewn hyd at saith ysbyty gwahanol sydd wir yn helpu i fireinio eich

gwybodaeth a’ch sgiliau, wrth i chi ddod i weld sut y gall yr un peth gael ei

wneud yn wahanol rhwng canolfannau gwahanol. Rwyf hefyd yn llawer mwy

hyderus gyda’m sgiliau cyfathrebu â chleifion pan fyddaf allan ar leoliad, yn

enwedig ar ôl derbyn bocs o siocledi M&S ffansi gan glaf fel diolch! Ar ôl yr

holl waith caled yr wyf wedi sicrhau swydd hanner blwyddyn cyn graddio, a

oedd yn un o’r prif resymau dewisais gwrs o’r fath arbenigedd.”Josh Roberts, BSc Gwyddor Gofal Iechyd

Gradd dair blynedd llawn amser yw Technoleg Ffiseg Feddygol. Wrth raddio, cewch naill ai BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear) neu BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi).

Mae gan Dechnolegwyr Ffiseg Feddygol rôl ganolog yn system gofal iechyd technolegol soffistigedig heddiw. Mae’r rhan fwyaf o weithredoedd diagnostig clinigol, a llawer o weithredoedd therapiwtig, yn defnyddio technegau yn seiliedig ar ffiseg, gan gynnwys defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Mae Technolegwyr Ffiseg Feddygol yn gweithredu systemau i ddal delweddau, a phrosesu delweddau, ac maent yn ymwneud yn agos â sicrhau ansawdd yr holl offer yn ymwneud â phelydr X ac ymbelydredd gama. Mae radiotherapi’n gofyn am dargedu ymbelydredd yn fanwl gywir i drin tiwmorau heb niweidio meinwe iach.

Bydd astudio Technoleg Ffiseg Feddygol yn Abertawe yn eich darparu â gwybodaeth sylfaenol o brif feysydd ymarfer Technoleg Ffiseg Feddygol, sef meddygaeth niwclear, radiotherapi, a diogelu rhag ymbelydredd. Dilynir hyn gan hyfforddiant arbenigol pellach mewn naill ai meddygaeth niwclear neu ynteu radiotherapi. Wrth i chi raddio, byddwch yn barod i gychwyn ymarfer a gweithio yn y maes yr ydych wedi dewis arbenigo ynddo.

AchrediadDyluniwyd y cwrs i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd ac mae wedi’i achredu gan ‘Medical Education England’ a chan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth. Felly, pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol, ac i weithio yn y GIG neu mewn amgylchedd gwaith arall fel ymarferwr annibynnol.

Beth yw strwythur y radd?Yn ystod tair blynedd eich gradd, byddwch yn rhannu’ch astudio rhwng y brifysgol, lle cewch ddealltwriaeth ddamcaniaethol, ac ysbytai ar draws Cymru, lle byddwch yn ymarfer wrth ochr Technolegwyr Ffiseg Feddygol proffesiynol i ddatblygu a mireinio’ch sgiliau clinigol.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel 1• Ymarfer Proffesiynol II• Anatomi a Ffisioleg ar gyfer Gwyddor

Gofal Iechyd • Pathoffisioleg ar gyfer Gwyddor Gofal

Iechyd • Sylfeini Mathemateg a Ffiseg ar gyfer

Gwyddor Gofal Iechyd• Sail Wyddonol Ffiseg Feddygol • Gwybodeg ac Ystadegau

Lefel 2• Ymarfer Proffesiynol II• Dulliau ac Ystadegau Ymchwil• Offeryniaeth, Prosesu Signalau a

Delweddu• Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd I • Delweddu Meddygol • Ymarfer Diogelu rhag Ymbelydredd• Cylchred Oes Offer Meddygol• Ymbelydredd Anïoneiddiol a

Mesuriadau Ffisiolegol

Meddygaeth Niwclear Lefel 3• Ymarfer Proffesiynol III• Prosiect Ymchwil Gwyddor Gofal

Iechyd • Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd II• Mynegiad Clinigol, Patholeg, a Gofalu

am Gleifion • Ffiseg ac Offeryniaeth

Ffiseg Radiotherapi Lefel 3• Ymarfer Proffesiynol III• Prosiect Ymchwil Gwyddor Gofal

Iechyd • Lleoliad Gwaith Gwyddor Gofal Iechyd II• Radiofioleg a Ffiseg Radiotherapi

Clinigol• Ymarfer Ffiseg Radiotherapi

BSc Anrhydedd SenglB1F3 s Gwyddor Gofal Iechyd

(Ffiseg Radiotherapi)B990 s Gwyddor Gofal Iechyd

(Meddygaeth Niwclear)

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Gofal Iechyd – (Meddygaeth Niwclear) a (Ffiseg Radiotherapi)

Gw

ydd

or G

ofal Ie

chyd –

(Me

dd

ygae

th Niw

clear) A

(Ffiseg

Rad

iothe

rapi)

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: Lleiafswm o BBB, gan gynnwys naill ai Mathemateg ynteu Ffiseg.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hefyd, bydd angen TGAU Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg a gwyddoniaeth ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Thiwtor Derbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol Thechnegol, cyfleusterau efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r 10 ystafell uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd. Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn:

Os ydych yn breswylydd yn y DU yna nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalu. Bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant heb brawf incwm o £1,000 yn ogystal â bwrsariaeth yn seiliedig ar incwm o hyd at £4,395. Cewch fynediad at gymorth ychwanegol ar ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio – cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân.)

Yn ogystal â’r bwrsari sylfaenol sy’n seiliedig ar brawf incwm, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion a phlant dibynnol.

Mae’r wybodaeth hon wedi ei darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru. Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael trwy: www.wales.nhs.uk

Ni all y Brifysgol, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.

Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol o Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk

Sylwer, os gwelwch yn dda, bod nifer y llefydd a ariennir yn gyfyngedig i’r nifer a gomisiynwyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o lefydd ychwanegol nas ariennir. Yn achos y rhain, bydd disgwyl i’r myfyrwyr dalu ffioedd dysgu ac, o bosibl, costau eraill lleoliadau. Cyhoeddir gwybodaeth am lefydd nas ariennir ar wefan y Brifysgol.

125124

Gofynion YchwanegolOs ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:• Gwiriad Heddlu Manylach gan y

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae 100% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

125124

Page 65: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglC600 s Gwyddor Chwaraeon

BSc Cyd-Anrhydedd Gwyddor Chwaraeon aGC16 s Mathemateg

HND006C ; Gwyddor Chwaraeon*

* Trwy ryddfraint â Choleg Gwyr Abertawe, lle addysgir y cwrs.

; cynllun 2 flynedd s cynllun 3 blynedd

Mae Gwyddonwyr Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn helpu athletwyr i wella eu perfformiad; i fod yn fwy ffit, yn gryfach ac yn barod yn feddyliol. Maent yn defnyddio gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth i helpu timoedd ac unigolion i ennill mantais gystadleuol amlwg dros eu gwrthwynebwyr ac mae galw cynyddol ar eu harbenigedd ym maes ymarfer corff (e.e. adferiad cardiaidd) ac mewn chwaraeon perfformiad uchel.

Mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe’n rhaglen berthnasol o safbwynt proffesiynol, ac mae’n astudio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyfranogiad a pherfformiad mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r staff i gyd yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gysylltiadau gwych yn y byd chwaraeon a gwyddor ymarfer corff.

Bydd ein graddau Gwyddor Chwaraeon yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff

• agor cyfleoedd gyrfaol gwobrwyol mewn rolau megis cryfder a chyflyru, hyfforddi chwaraeon, addysgu a darlithio, hyrwyddo iechyd ac astudiaethau ôl-raddedig

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r cwrs hwn yw’r cyfle i archwilio theori ac ymarfer Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff drwy weithgaredd chwaraeon ymarferol a gwaith labordy cyffrous. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gwaith grwp a dosbarthiadau tiwtorial, yn ogystal ag ymarferion yn y labordai fydd yn cynnwys anthropometreg, ffisioleg, biomecaneg, seicoleg a dadansoddi symudiad.

Mae’r cwrs dwy flynedd Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Gwyddor Chwaraeon trwy rhoi rhyddfraint i Goleg Gwyr Abertawe. Mae’n darparu cymhwyster Addysg Uwch ar ei ben ei hun, yn ogystal â chyfle i fyfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BSc Gwyddor Chwaraeon.

Os ydych yn dewis y rhaglen HND, byddwch yn dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gymwys i chwarae i’n timoedd chwaraeon.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol • Ffisioleg Ddynol• System Ddynol Niwrocyhyrysgerbydol• Hyfforddiant Ffitrwydd ar gyfer

Chwaraeon• Gwyddor Hyfforddi• Seicoleg Chwaraeon I• Metaboledd Ymarfer Corff• Moeseg Chwaraeon• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Dulliau Ymchwil mewn Gwyddor

Chwaraeon

Lefel 2• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol• Maetheg Ddynol• Seicoleg Chwaraeon II• Ffisioleg Ymarfer Corff• Cinanthropometreg• Gwyddor Hyfforddi II• Dulliau Ymchwil mewn Gwyddor

Chwaraeon II

Lefel 3• Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd• Seicoleg Chwaraeon• Gwyddor Hyfforddi III• Traethawd Hir• Biomecaneg Chwaraeon• Chwaraeon, Diet a Chlefyd

Y Coleg Peirianneg

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

• Seicoleg Chwaraeon III• Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer• Gwyddor Hyfforddi

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes Gwyddor Chwaraeon. Fodd bynnag, mae hawl gan bob myfyriwr i gyflwyno asesiadau yn y Gymraeg. Rhowch wybod i’r adran o flaen llaw inni allu gwneud y trefniadau priodol.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich sgiliau a’ch gwybodaeth eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes cymorth ariannol ar gael?Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig Ysgoloriaeth Chwaraeon Mynediad Israddedig i fyfyrwyr â dawn neilltuol. Gweler tudalen 185 am ragor o wybodaeth.

“ Roedd y llwybr academaidd a ddewisais yn fy ngalluogi i

ddatblygu fy ngwybodaeth mewn Ffisioleg Ymarfer Corff, Dadansoddi

Perfformiad /Nodiannol, Cinanthropometreg a Maetheg Chwaraeon,

ac mae’r rhain yn feysydd yr wyf yn eu defnyddio yn ddyddiol. Roedd

yn hawdd mynd at y darlithwyr ac roeddent yn rhoi cyngor a

gwybodaeth i mi ar fy niddordeb mewn Cryfhau a Chyflyru, a

gwnaethon nhw hefyd fy helpu i ennill profiad ymarferol (lleoliad

gyda thîm rygbi’r Gweilch). Roedd fy nhair blynedd yn Abertawe yn

anghredadwy ac wedi fy nghynorthwyo, heb os, i gyrraedd y man

lle’r wyf heddiw. ” Eamon Swift, BSc Gwyddor Chwaraeon Prif Wyddonydd Chwaraeon gydag West Ham United

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol, neu Seicoleg). Ystyrir pynciau eraill, a’r cynnig arferol fyddai ABB. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol yn gymhwyster Safon Uwch. Fel arfer, byddwn yn gofyn am DDD mewn disgyblaeth wyddonol (sy’n cynnwys Gwyddor Ymarfer Corff a Gwyddor Chwaraeon, ond yn eithrio Astudiaethau Chwaraeon) gan fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol BTEC. Yn achos myfyrwyr sy’n astudio AVCE, byddwn yn derbyn dyfarniadau dwbl yn rhan o’r proffil cyfan. Bydd y penderfyniad a ystyrir y

Gw

ydd

orau C

hwarae

on ac Y

marfe

r Co

rff

cymhwyster hwn yn bwnc gwyddonol ai peidio yn dibynnu ar gynnwys yr AVCE a astudir.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hefyd rhaid eich bod wedi llwyddo mewn o leiaf pum pwnc ar lefel TGAU, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Er mwyn astudio’r cwrs HND bydd angen un cymhwyster Safon Uwch neu gyfwerth a phedwar cymhwyster TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) arnoch.

Mae 86% o raddedigion Gwyddor Chwaraeon mewn cyflogaeth lawn-amserneu’n dilyn astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (Data HESA 2010)

127126 127126

Page 66: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Mae hanes yn golygu deall diwylliannau dynol y gorffennol a’r presennol, a gwerthfawrogi amrywiaeth a newid mewn cymdeithasau dynol. Rydym yn byw mewn cyfnod globaleiddio cyflym a heddiw – yn fwy nag erioed – mae angen i ni ddeall sut y daethom i fodoli fel hyn, a sut y mae diwylliannau dynol wedi rhyngweithio’n hanesyddol gan adael etifeddiaeth gymhleth ond pwerus i’r dyfodol.

Mae astudio hanes yn golygu meddwl ynglyn â sut i gynrychioli, cadw a choffau’r gorffennol mewn dulliau sy’n adlewyrchu ein cydgyfrifoldeb am y byd yr ydym yn byw ynddo. Yn Abertawe, fe’ch anogir i astudio’r gorffennol er mwyn ymateb i heriau’r byd cyfoes, a chyfrannu at lunio’r dyfodol. Mae ein cynlluniau gradd wedi’u creu i ymateb i’r her hon, ac i arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn eu gosod ar lwybr gyrfa llwyddiannus.

Mae graddau Hanes yn Abertawe yn archwilio’r prif gyfnodau a gwareiddiadau o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Bydd y graddau hyn yn:

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys dysgu, cyfrifeg, bancio, yswiriant, y cyfryngau, marchnata, rheoli personél, a gwaith amgueddfa a threftadaeth

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• dysgu’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Rydym yn cynnig ystod eang o raddau wedi’u cynllunio i roi cyfle i chi arbenigo yn y pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Ceir gwybodaeth bellach am ein cyrsiau ar ein gwefan.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau gyda phwyslais ar ddysgu rhyngweithiol a chyfrannu yn y dosbarth.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau, llawer ohonynt y mae modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Lefel 1• Ewrop Ganoloesol: Cyflwyniad• Hanes y Byd, 1500-1800• Ewrop Eithafol, 1789-1989• Creu Hanes

Lefel 2• Ymarfer Hanes: Yr Amrywiol Ffynonellau• Twf Gwyddoniaeth Fodern: o Athens i

Los Alamos

• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd Eingl-normanaidd

• Cyflwyniad i Fyd Dante• Cyflwr yr Eglwys yn Ewrop Ganoloesol

Ddiweddarach• Prydain Ganoloesol: c.1250-1520• Dadeni’r Oesoedd Canol• Cyfnod Aur Iberia, 1450-1700• Byd Prydeinig yr Iwerydd, c.1550-1760• O Resymu hyd at Ramantiaeth: Ewrop

1650-1800• Rhyfel a’r Gymdeithas Brydeinig, c.

1688-1815• Ewrop Chwyldroadol a Napoleon,

1789-1815• Yr Ymerodraeth Brydeinig ers 1800:

Awdurdod a Phryder• Y Ganrif Gymreig: Gwleidyddiaeth,

Cenedligrwydd a Chrefydd,1847-1947• Y Deyrnas Unedig, 1801-1922• Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwleidyddiaeth,

Cymdeithas a Diwylliant 1870-1933• Ffasgiaeth Ewropeaidd• Ewrop Natsïaidd Feddianedig:

Cydweithio, Gwrthsafiad, Hil-laddiad• Adluniad Ôl-ryfel: Ewrop 1945-1956

Lefel 3• Bod yn Groesgadwr: Marchog a’i Stori

o’r Groesgad Gyntaf• Y Cathariaid a’r Croesgadau

Albigensaidd• Cylch Bywyd yn Ewrop Ganoloesol

Ddiweddarach, 1300-1500

BA Anrhydedd SenglV100 s Hanes V101 u Hanes (gyda blwyddyn dramor)V116 u Hanes yr Henfyd a’r

Oesoedd Canol

BA Cyd-Anrhydedd Hanes aRV21 u Almaeneg VT17 s Astudiaethau Americanaidd TV71 u Astudiaethau Americanaidd V130 s Astudiaethau Canoloesol V191 u Astudiaethau Canoloesol (gyda

blwyddyn dramor)QV51 u Cymraeg (ail iaith)QV5C u Cymraeg (iaith gyntaf)LV71 s DaearyddiaethLV11 s Economeg

RV31 u Eidaleg RV11 u Ffrangeg QV81 s Gwareiddiad ClasurolQV8C u Gwareiddiad Clasurol (gyda

blwyddyn dramor)LV21 s GwleidyddiaethVL1F u Gwleidyddiaeth (gyda blwyddyn

dramor)LV2C s Hanes Modern a

Chysylltiadau RhyngwladolV110 s Hanes yr Henfyd V190 u Hanes yr Henfyd QV61 u Lladin QV31 s Llenyddiaeth SaesnegQV3C u Llenyddiaeth Saesneg (gyda

blwyddyn dramor) LV43 s Polisi Cymdeithasol

RV41 u Sbaeneg LLB Cyd-AnhrydeddMVC1 s Hanes a’r Gyfraith

s cynllun 3 blynedd u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Hanes

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gan gynnwys B mewn Hanes ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Hane

s

• Y Dadeni yn Fenis, 1380-1520• Celf a Chymdeithas y Dadeni Cynnar

yn yr Eidal• Tywysogion, Pabau a Phrotestaniaid:

Y Diwygiad yn Lloegr yng nghyfnod y Tuduriaid ac Ewrop

• Teulu, Rhyw ac Agosrwydd ym Mhrydain Fodern Gynnar

• Diwylliant Argraffu a Hanes y Llyfr• Y Daith Fawr, c.1500-1800• Ymerodraethau Ewropeaidd yn y

Dwyrain• Gwyddoniaeth a Natur yn Ewrop

Fodern Gynnar• Masnachwyr a Rhyfeddodau: Teithiau

Hirbell yn y Byd Modern Cynnar• America Chwyldroadol, 1760-1791• O Machiavelli i Mussolini: Llywodraeth

a Chymdeithas o fewn Syniadaeth Wleidyddol y Gorllewin

• Cefndir i Gymru I: Tarddiad Cymru hyd 1800 (myfyrwyr tramor yn unig)

• Cefndir i Gymru II: 1800 hyd heddiw (myfyrwyr tramor yn unig)

• Yr Almaen Weimar• Ymfudwyr Gwyddelig ym Mhrydain

yng nghyfnod Fictoria • Hanes cymdeithasol y Pwll Glo yn

Ne Cymru• Caethwasiaeth a’r Chwyldro

Americanaidd• Ailfeddwl y Dref Gymreig, 1780-1850 • Rhyfel Prydain, 1939-1945: Y Ffrynt

Gartref

• Carcharorion Rhyfel yng Ngwrthdrawiadau’r Ugeinfed Ganrif

• Llywodraethu’r Eidal I: Rheolaeth y Wlad yn yr Eidal Ryddfrydol a Ffasgaidd, 1861-1940

• Chwaraeon a’r Gymdeithas Brydeinig 1860-1960

• Y Cyfryngau a Chymdeithas yn y 1930au

• Ffasgiaeth hyd at y Weriniaeth: Yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Sylwer y gall modiwlau newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Yn lefel 1 cynigir seminarau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y modiwlau gorfodol cyfrwng Saesneg canlynol: HIH121 – Europe Of Extremes, 1789-1989 a HIH122 – Making History. Yn Lefel 2 mae HIH237 – Dehongli’r Gorffennol, HIH264 – Hanes ar y Teledu, HIH266W – Ymchwilio A Chyflwyno’r Gorffennol a MLF240W – Rhyfel Algeria. Yn ogystal, os oes galw bydd seminarau Cymraeg ar gael ar gyfer pedwar modiwl arall – HIH226: Post-War Reconstruction; HIH255: First World War; HIH258 Nazi-Occupied Europe a HIH253: Welsh Century.

Ar lefel 3 mae cyfle i gyflwyno Traethawd Hir (HIH3300) yn y Gymraeg, yn ogystal â HIH300W – Concro’r Byd: Twf A Chwymp

Ymerodraethau Prydain A Ffrainc.Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r modiwlau uchod a’r darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, gweler ein llyfryn Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Israddedig ar wefan y brifysgol.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu ac arholiadau ysgrifenedig. Mae’r traethawd hir y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn cael ei asesu fel darn o waith cwrs ysgrifenedig a thrwy arholiad llafar. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

A oes cymorth ariannol ar gael?Rydym yn cynnig pedair ysgoloriaeth flynyddol i’n myfyrwyr israddedig mwyaf addawol yn Lefel Un, ar sail cymwysterau academaidd. Byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig ar gyfer y wobr unwaith i chi ddechrau astudio yma gyda ni.

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig yColeg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnigcyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfainto’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyrsiau cyd-anrhydedd Hanes gyda Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg am fanylion www.colegcymraeg.ac.uk

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn hanes yn ddymunol ond nid o reidrwydd yn hanfodol. Os ydych yn dymuno astudio’r rhaglen Hanes Ewropeaidd, fel arfer mae angen Safon Uwch mewn iaith addas, serch hynny, gydag Eidaleg, Sbaeneg a Chymraeg efallai y bydd modd i chi ddysgu’r iaith fel dechreuwr os oes gennych ddawn ieithyddol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 87% o Hanes raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

129128 129128

Page 67: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

O areithiau gwleidyddol i hysbysebu a newyddiaduraeth, o gysylltiadau cyhoeddus i negeseuon testun a’r cyfryngau newydd, mae iaith a chyfathrebu yn diffinio sut yr ydym yn rhyngweithio gyda’r byd o’n cwmpas. Wrth werthfawrogi sut y mae iaith yn gweithio gallwn ddeall sut mae’n dylanwadu ar ein hymateb i wahanol sefyllfaoedd, a sut mae’n amlygu gwir gymhelliad, uchelgais a gobeithion pobl.

Mae Iaith a Chyfathrebu yn Abertawe yn archwilio’r gwahanol dechnegau o ddisgrifio a dadansoddi iaith, ac yn cyflwyno gwahanol theorïau am gyfathrebu.

Bydd y radd hon yn:

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd megis newyddiaduraeth neu ddarlledu

• gosod llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn ieithyddiaeth neu theori cyfathrebu

• rhoi gwybodaeth ddatblygedig i chi o sut mae iaith yn gweithio

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd astudio’r radd hon yn eich galluogi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o sawl ffactor sy’n llunio arferion cyfathrebu ar draws amrywiaeth eang o gyd-destunau. Yn benodol, byddwch yn archwilio sut mae iaith yn gweithio mewn sefydliadau, yn y newyddion a gwleidyddiaeth, ac mewn perthynas â diwylliannau byd-eang, hunaniaeth unigol a chyfun, a chydberthnasau rhyng-ddiwylliannol.

Cewch eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau seminar a dosbarthiadau tiwtorial. Yn ystod Lefel Tri byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol neu brosiect cyfathrebu ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Yn ogystal â’r modiwlau a gynigir, gallwch hefyd ddewis dilyn modiwlau mewn iaith dramor. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Lefel 1Modiwlau Gorfodol• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith• Iaith Bywyd Bob Dydd• Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau• Cyfathrebu ac Ymarfer Creadigol

Modiwlau Dewisol• Astudio’r Iaith Saesneg• Y Gymdeithas Gymreig Gyfoes• Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm

Lefel 2Modiwlau Gorfodol• Dadansoddi Mynegiant• Astudio Tafodieithoedd• Damcaniaethu’r Cyfryngau• Y Diwylliant Gweledol ac Astudiaethau’r

Cyfryngau

Modiwlau Dewisol• Corpora a Chydgordio• Seicoieithyddiaeth• Darllen y Sgrin• Gwleidyddiaeth y Cyfryngau Newydd

Lefel 3• Iaith yn y Cyfryngau

Modiwlau Dewisol• Traethawd Hir• Cynhyrchu Fideos• Technolegau Sgrin Newydd• Caffael Iaith Gyntaf

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

BA Anrhydedd SenglPQ91 s Iaith a Chyfathrebu

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Iaith a Chyfathrebu – Iaith Saesneg a’r CyfryngauIaith a C

hyfathreb

u – Iaith S

aesne

g a’r C

yfryngau

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn Iaith Saesneg neu yn y Safon Uwch gyfun Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Yr hyn sydd wedi fy ysbrydoli fwyaf yma yn Abertawe yw

ymrwymiad yr holl ddarlithwyr. Dydyn nhw byth yn rhy brysur i’ch

helpu! Dwi wedi mwynhau pob munud o bob modiwl yn ystod fy

astudiaethau.” Amy Bowen, BA Iaith a Chyfathrebu

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’r modiwl ENAW101 – Sgiliau Astudio ar Gyfer Iaith yn ymdrin â meysydd craidd yn y Gymraeg: dosbarthiadau geiriau, gramadeg, rhannau ymadrodd, dadansoddi brawddegau a morffoleg. Dyma fodiwl defnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n astudio iaith neu ieithoedd gan y bydd yn addysgu’r “meta iaith” sy’n hanfodol ar gyfer astudio iaith ei hun. Bydd yn cyflwyno gwybodaeth ddisgrifiadol sylfaenol am iaith ac yn rhoi i fyfyrwyr yr offer angenrheidiol ar gyfer dadansoddi iaith y byddant eu hangen er mwyn astudio iaith.

Sut y caf fy asesu?Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau. Wrth i chi ddilyn eich cwrs gradd, rhoddir mwy o bwyslais ar waith cwrs. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Mae 91% o’n graddedigion Y Gyfraith mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

131130

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

131130

Page 68: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ310 s Iaith Saesneg Q311 u Iaith Saesneg (gyda

blwyddyn dramor)QX33 s Iaith Saesneg a TEFLPQ91 s Iaith a Chyfathrebu

BA Cyd-AnrhydeddIaith Saesneg a QRJ2 u AlmaenegQQ35 u Cymraeg (ail iaith)QQ3M s Cymraeg (iaith gyntaf)QRJ1 u FfrangegQQ38 s Gwareiddiad ClasurolQQ31 s Llenyddiaeth SaesnegQRJ4 u Sbaeneg

BA Cyd-Anrhydedd Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor aRX23 u AlmaenegQX53 s Cymraeg (ail iaith)QX51 s Cymraeg (iaith gyntaf) RX33 u EidalegRX13 u FfrangegQXH3 s Llenyddiaeth SaesnegRX43 u Sbaeneg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae pob un ohonom yn defnyddio iaith, ac mae pob un ohonom â barn ar yr hyn sy’n gwneud Saesneg dda neu wael. Ond prin iawn y byddwn yn cymryd yr amser i feddwl am sut a pham y mae iaith yn gweithio: sut y mae geiriau’n cyfuno i’n hysbrydoli a chael effaith arnom, yn ein perswadio, ein hannog a’n diddanu – neu hyd yn oed sut rydym yn caffael iaith yn y lle cyntaf.

Mae graddau Iaith Saesneg Abertawe wedi’u dylunio i ymdrin â theori ac ymarfer ieithyddol mewn ffordd gytbwys a chryno, gan sicrhau bod gan fodiwlau’r cwrs berthnasedd galwedigaethol i ddefnyddio iaith ac ieithyddiaeth yn y byd go iawn.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich arfogi â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd megis dysgu, addysg, cyfathrebu a’r cyfryngau, cyhoeddi, rheoli, hysbysebu, a chysylltiadau cyhoeddus

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• rhoi gwybodaeth ddatblygedig i chi o sut mae iaith yn gweithio

• gosod llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Yn ystod Lefel Un, byddwch yn meistroli’r dulliau sylfaenol, yr egwyddorion a’r eirfa ar gyfer disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith a defnydd iaith. Ar Lefel Dau, bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o iaith yn cael eu datblygu, ac yn ystod Lefel Tri, cewch eich annog i ymgymryd â gwaith mwy annibynnol ac arbenigol, a fydd yn eich galluogi i archwilio’r maes astudiaethau iaith cymhwysol sy’n eich diddori fwyaf.

Ym Mlwyddyn Dau, mae gan fyfyrwyr BA Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor gyfle i sefyll arholiad Tystysgrif Caergrawnt: Dysgu’r Iaith Saesneg i Oedolion, cymhwyster proffesiynol, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ar gyfer athrawon Saesneg fel Iaith Dramor. Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig, gan ddibynnu ar gynnydd academaidd, a bydd raid i fyfyrwyr fynd trwy broses gyfweld sy’n debyg i gyfweliad TAR. Fel arfer, y gost yw £1,200, ond nid oes raid i fyfyrwyr Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor dalu mwy na’r ffi arholiad, sef £167 ar hyn o bryd.

Os byddwch yn penderfynu cyfuno’ch gradd ag Iaith Ewropeaidd byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor. Gallwch weithio naill ai fel athro cynorthwyol Saesneg mewn ysgol Ewropeaidd neu gallwch astudio yn un o’n prifysgolion partner

cyn dychwelyd i Abertawe ar gyfer eich blwyddyn olaf.

Cewch eich addysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gwaith grwp.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, ac mae rhai ohonynt yn orfodol.

Lefel 1• Gramadeg ac Ystyr • Seiniau’r Saesneg • Iaith Bywyd Bob Dydd• Astudio’r Iaith Saesneg• Datblygiad yr Iaith Saesneg• Dulliau Dysgu Iaith

Lefel 2• Sylfeini Caffael Iaith• Dadansoddi Mynegiant• Astudio Tafodieithoedd• Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor • Corpora a Chydgordio• Ieithyddiaeth Gymdeithasol

Lefel 3Prosiect Ymchwil (40 credyd/modiwl blwyddyn gyfan)• Caffael Iaith Gyntaf• Caffael Ail Iaith• Iaith yn y Cyfryngau• Materion yn ymwneud ag Addysgu’r

Iaith Saesneg• Cynhanes, Hanes ac Iaith

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Iaith Saesneg a TEFL

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn Saesneg ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 203 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Sut y caf fy asesu?Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau. Wrth i chi ddilyn eich cwrs gradd, rhoddir mwy o bwyslais ar waith cwrs. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Iaith Sae

sneg

a TEFL

Mae 91%o raddedigion Saesneg mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

133132

“ Dwi’n cofio fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Abertawe...

yr hyn a’m tarodd yn syth oedd lleoliad trawiadol y campws, yn swatio

ym mharc hyfryd Singleton, ac yn edrych dros Fae Abertawe. Lleoliad i

godi’r ysbryd, yn wir! Roeddwn i hefyd yn dwlu ar y syniad o gampws

sengl gyda’r holl wasanaethau a phopeth sydd ei angen arnoch yn yr

un lle – ac ar yr un pryd, yn ddigon bach fel bod popeth wrth law. Pan

ddechreuais ar fy rhaglen, ni ches fy siomi o gwbl: roedd y darlithwyr i

gyd yn wybodus, yn ddymunol, yn gyfeillgar, a phob amser yn barod i

helpu. Bydd gan Abertawe le arbennig yn fy nghalon am byth. Roedd yr

awyrgylch cynnes, croesawgar yma, yn ogystal â safon uchel y dysgu,

wedi helpu i sicrhau mai’r tair blynedd ddiwethaf oedd y cyfnod

hapusaf, llawnaf, a mwyaf gwobrwyol yn fy mywyd. ”Alessandra Cingi, BA Iaith Saesneg a Lladin

Athro Iaith Saesneg

“ Mae’r posibiliadau a’r

cyfleoedd y mae gradd mewn

TEFL yn eu cynnig yn ddiddiwedd.

Unwaith i chi gymhwyso mae’r byd

i gyd yn agor o’ch blaen. ”Joyce Jones, BA TEFL a Saesneg

133132

Page 69: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Mae astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdrin ag ystod eang o faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles cymdeithas, o heneiddio a salwch i bolisi cymdeithasol, seicoleg a rheoli iechyd cyhoeddus. Mae’r radd yn berthnasol tu hwnt yn y sectorau gwirfoddoli ac annibynnol, ac i sefydliadau elusennol mawr â chanolbwynt ar iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd ein gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn:• paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi

gweinyddol a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

• darparu dealltwriaeth hanfodol o bolisi, theori ac ymarfer mewn iechyd a gofal

• eich paratoi i weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol gan annog perthnasau rhwng gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth a chydweithio rhyngbroffesiynol

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Yn fwy na dim, bydd y radd hon yn eich galluogi i adnabod ac asesu natur a phwysigrwydd y materion sy’n ymwneud

â rheoli iechyd cyhoeddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r radd hon yn ddelfrydol i unigolion sy’n gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel gyrfa ddeniadol ond nad ydynt am ddilyn gyrfaoedd proffesiynol mewn meddygaeth, nyrsio neu waith cymdeithasol.

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn dilyn amrywiaeth o bynciau yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys seicoleg, cymdeithaseg, anatomi a ffisioleg ddynol, rheoli ac arweinyddiaeth a sgiliau ymchwil. Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi trosolwg o strwythur a threfniadaeth iechyd a gofal cymdeithasol y DU, ac yn ymdrin â phrif bolisïau’r DU a Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd Lefel 1 yn eich paratoi i ddatblygu sgiliau astudio ac yn cyflwyno’r cysyniadau o iechyd, salwch, lles cymdeithasol, polisi cymdeithasol a seicoleg. Ceir rhagarweiniad i anatomi a ffisioleg hefyd.

Bydd Lefel 2 yn adeiladu ar y cysyniadau hyn, gan ystyried modelau polisi cymdeithasol, diogelu a lles plant, ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, ac iechyd ac economeg. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn, cewch ddewis dau fodiwl 10-credyd gorfodol a fydd yn eich galluogi i ddewis y meysydd astudio sydd fwyaf perthnasol i’ch diddordebau chi, ac yn berthnasol i’ch anghenion datblygu arbennig.

Mae’r testunau a drafodir yn Lefel 3 yn cynnwys: heneiddio mewn cymdeithas; iechyd cyhoeddus ac epidemioleg; rheoli; arweinyddiaeth; a moeseg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y flwyddyn olaf bydd disgwyl i chi gwblhau traethawd hir 8,000 o eiriau.

BSc Anrhydedd SenglL510 s Iechyd a Gofal Cymdeithasol

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Iechyd a Gofal CymdeithasolIe

chyd a G

ofal C

ymd

eithaso

l

Pa raddau rydw i eu hangen? TGAU: A-C Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth

Safon Uwch: Lleiafswm o BBC

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Lefel 1• Sgiliau Astudio a Gwybodeg Iechyd• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol;

Problemau Cymdeithasol a Sefydliadau Lles

• Sylfeini Anatomi a Ffisioleg Ddynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Cyflwyniad i Seicoleg, Iechyd, Salwch a Meddygaeth

• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch• Cyflwyniad i Ymchwil Iechyd a Gofal

Cymdeithasol• Cyflwyniad i Bolisi Cyhoeddus yn y

Cyfnod Modern• Ymarfer Gwasanaeth Iechyd

Lefel 2• Iechyd ac Economeg• Modelau Polisi Cymdeithasol • Diogelu a Lles Plant• Ymchwil a Gwerthusiad Beirniadol • Hyrwyddo Iechyd ac Addysg Iechyd• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch II• Gwahaniaeth a Chyfiawnder• Arferion Gofal Iechyd a Chyfreithiol• Seicoleg, Iechyd a Salwch

Lefel 3• Polisi Cymdeithasol mewn Cymdeithas

sy’n Heneiddio• Seicoleg Gymhwysol• Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg• Rheoli ac Arweinyddiaeth mewn Iechyd

a Gofal Cymdeithasol• Moeseg mewn Iechyd a Gofal

Cymdeithasol• Traethawd Hir

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Caiff cynnydd ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau a phrosiectau), aseiniadau, papurau ateb byr ac arholiadau ffurfiol.

Er nad yw’n hanfodol, byddai’n ddefnyddiol pe bai myfyrwyr wedi astudio’r Dyniaethau, yn enwedig cymdeithaseg neu seicoleg, cyn ymgymryd â’r radd hon. Mae profiad o astudio bioleg ddynol a’r biowyddorau hefyd yn ddymunol.

Dylech ddangos diddordeb mewn gweithio gyda phobl a’r gallu i gyfathrebu’n dda, yn ogystal â’r potensial i ddatblygu’r rhinweddau personol sy’n ddefnyddiol ar gyfer gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a rheoli.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

135134

Mae 100% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

135134

Page 70: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ910 u Ieithoedd Modern, Cyfieithu

a Chyfieithu ar y Pryd

u cynllun 4 blynedd

Mae’r galw byd eang am wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn cynyddu yn gyflym wrth i gwmnïau, sefydliadau, a phobl ar draws y byd ddisgwyl prynu nwyddau a defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.

Mae cyfieithwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Gallant weithio gartref yn llawrydd, yn gyfieithwyr mewnol gydag asiantaethau sefydledig neu weithio mewn adrannau cyfieithu cwmnïau neu sefydliadau mawr, megis yr Undeb Ewropeaidd sydd â 23 iaith swyddogol.

Mae’r radd BA mewn Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant ieithyddol lefel uchel mewn dwy iaith ac yn rhoi arbenigedd galwedigaethol i chi ar theori ac ochr ymarferol cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Bydd ein gradd Cyfieithu yn:• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y

farchnad waith lewyrchus ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd cymwysedig

• dysgu’r cymhwysedd ieithyddol i ymdrin â dwy iaith ynghyd â’r sgiliau a’r mewnwelediad a ddisgwylir gan gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol

• gosod sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a fydd yn datblygu ymhellach eich sgiliau cyfieithu a dehongli

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig y radd hon yw’r cyfle i astudio dau bâr iaith wedi eu llunio o’r ddwy iaith “ffynhonnell” yr ydych yn eu dewis yn ogystal â’ch iaith gyntaf.

Yn ystod Lefel Un byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol ym mhob un o’ch ieithoedd ffynhonnell.

Ar gyfer yr iaith (ieithoedd) lle mae gennych gymhwyster Safon Uwch, byddwch yn dilyn modiwlau sy’n seiliedig ar destun penodol, ymarferion gramadegol, ac ymarferion llafar, yn ogystal â modiwlau arbenigol sy’n datblygu eich sgiliau wrth gyfieithu deunydd technegol i’r Saesneg. Os ydych yn ddechreuwr yn un o’ch ieithoedd ffynhonnell, byddwch yn dilyn dau fodiwl iaith dwys yn eu lle.

Byddwch fel arfer yn cwblhau blwyddyn dramor rhwng Lefelau Dau a Thri. Fe’ch anogir i dreulio amser mewn dwy wlad ac i gymryd mantais ar y cytundebau sydd

gennym gyda rhai o’r ysgolion cyfieithu enwocaf yn Ewrop. Efallai y bydd modd i chi gael profiad gwaith yn ystod un o’r ddau semester y byddwch dramor.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfieithu i safon broffesiynol, a byddwch yn archwilio sut i ddehongli, rheoli terminoleg a chyfieithu â pheiriant, yn ogystal â’r agweddau ymarferol o weithio fel cyfieithydd proffesiynol.

Mae pob un o’n modiwlau iaith a rhai modiwlau academaidd yn cael eu dysgu yn yr iaith yr ydych yn ei hastudio. Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bychain ac mewn seminarau, a gefnogir gan ddeunyddiau amlgyfrwng, deunyddiau’r rhyngrwyd ac ymarferion yn defnyddio pecynnau meddalwedd cyfoes a ddefnyddir gan gyfieithwyr proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Iaith Ffrangeg Gyffredinol• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol• Iaith Almaeneg Gyffredinol• Almaeneg at Ddibenion Proffesiynol 2 • Iaith Eidaleg Gyffredinol• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol• Iaith Sbaeneg Gyffredinol• Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol• Iaith Gymraeg Gyffredinol• Llenyddiaeth Gymraeg ac

Astudiaethau Maes

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

“ Fe wnes i raddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfieithu ar ôl astudio Eidaleg a Rwsieg. Roedd y cwrs yn hyblyg iawn, ac astudiais i lenyddiaeth, hanes, technegau cyfieithu gyda chyfrifiadur, ieithyddiaeth, a geiriadureg. Dewisais i’r BA Cyfieithu yn hytrach na gradd iaith yn unig gan i fi deimlo y byddai’n arwain yn fwy uniongyrchol at yrfa, ac yn gwella fy nghyflogadwyedd. Bellach, mae gen i a chyn-fyfyrwraig arall fusnes cyfieithu llwyddiannus, ac yn 2010, bu i’r cwmni ennill Gwobr Busnes Rhyngwladol HSBC. Y penderfyniad i wneud y radd oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed; fe’m dysgodd i fod yn broffesiynol ac yn astud ym mhopeth a wnaf, a rhoddodd i mi’r

hyder i fynd allan a chyrraedd y nod. ”

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980 / 606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC neu gyfwerth gyda B mewn Iaith Fodern yw ein cynnig arferol. Fodd bynnag, gwneir cynigion hyblyg ar sail adolygu’r ffurflen gais, ar ôl ystyried y pynciau a astudiwyd, y graddau a ragwelir neu a gafwyd, y geirda, a’r datganiad personol.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ieitho

ed

d M

od

ern, C

yfieithu a C

hyfieithu ar y Pryd

• Cyflwyniad i Ddiwylliant Ffrengig• Cyflwyniad i Ddiwylliant Almaenig• Cyflwyniad i Ddiwylliant yr Eidal• Cyflwyniad i Ddiwylliant Sbaenaidd

Lefel 2• Cyflwyniad i Theori Cyfieithu• Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur• Iaith Ffrangeg Gyffredinol• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol• Almaeneg Ganolradd neu Uwch• Almaeneg at Ddibenion Proffesiynol • Iaith Eidaleg Gyffredinol• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol• Sbaeneg Ganolradd neu Uwch• Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol• Gweithdy Cyfieithu• Modiwlau Diwylliannol yn eich ieithoedd• Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor

Lefel 3• Rheoli Terminoleg• Cyfieithu ar y pryd (Dewis rhwng

Iechyd a Llywodraeth Leol)• Profiad Gwaith Cyfieithu Prosiect

Cyfieithu• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol• Gweithdy Cyfieithu (Ffrangeg /

Almaeneg / Sbaeneg / Eidaleg fel bo’n berthnasol – Saesneg)

• Almaeneg at Ddibenion Proffesiynol • Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol• Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol • Traethawd Hir ar gyfer Astudiaethau

Cyfieithu

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae Prifysgol Abertawe ar y blaen yng Nghymru o ran cynnig Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darpariaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg. Cyflwynir graddau cyd-anrhydedd Ffrangeg a Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, datblygir darpariaeth achyfleoedd newydd bob blwyddyn, a gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg

Abertawe elwa o rannu adnoddau ac arbenigedd prifysgolion eraill Cymru. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg a yw’r modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich datblygiad yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o ddulliau gan gynnwys traethodau wedi’u hasesu ac arholiadau ysgrifenedig. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae 90% o raddedigion Cyfieithu mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

137136

Yn unol â safonau proffesiynol Ewrop, isafswm cymhwyster ieithyddol cyfieithydd yw, ar wahân i’r iaith gyntaf, hyfedredd rhagorol mewn ail iaith a hyfedredd da mewn trydedd iaith. Fel arfer, Cymraeg neu Saesneg fydd eich iaith gyntaf, felly bydd angen Safon Uwch Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg neu Gymraeg (ail iaith) fel eich ail iaith. Gallwch ddechrau ar iaith newydd ar gyfer eich trydedd iaith, allan o’r pump a gynigir, heb wybodaeth flaenorol o’r iaith dan sylw.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan. Os oes gennych gymhwyster o’r DU, fel arfer Saesneg yw eich iaith gyntaf felly bydd angen cymhwyster Safon Uwch Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg neu Gymraeg fel eich ail iaith. Gallwch ddechrau ar iaith newydd ar gyfer eich trydedd iaith, allan o’r pump a gynigir, heb ddealltwriaeth flaenorol o’r iaith dan sylw.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

Rachel Bryan, Astudiaethau Cyfieithu

137136

Page 71: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ300 s Llenyddiaeth SaesnegQH20 u Llenyddiaeth Saesneg

(gyda blwyddyn dramor) Q3L3 s Saesneg a’r RhywiauQHL3 u Saesneg a’r Rhywiau

(gyda blwyddyn dramor)

BA Cyd-Anrhydedd Llenyddiaeth Saesneg aQR32 u AlmaenegQT37 s Astudiaethau AmericanaiddTQ73 u Astudiaethau AmericanaiddQVHI s Astudiaethau CanoloesolQP33 s Y Cyfryngau a Chyfathrebu QQH5 u Cymraeg (ail iaith)QT3N s Cymraeg (iaith gyntaf)

LQ73 s DaearyddiaethQR33 u EidalegQR31 u FfrangegQQ83 s Gwareiddiad ClasurolLQ23 s GwleidyddiaethQV31 s HanesQV3C u Hanes (gyda blwyddyn dramor) VQ13 s Hanes yr HenfydQQ31 s Iaith Saesneg QQ3D s Iaith Saesneg (gyda blwyddyn dramor)QR34 u SbaenegQXH3 s TEFL

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Paham nad oes ond rhai llyfrau sy’n cael eu galw’n ‘llenyddiaeth’? Beth allwn ei ddysgu o ysgrifennu’r gorffennol a’r byd cyfoes? Sut mae astudio iaith a llenyddiaeth yn ein helpu i ddeall ein diwylliant? Ym mha ffyrdd mae rhyw yn effeithio ar arferion darllen ac ysgrifennu?

Mae Llenyddiaeth yn un o’r disgyblaethau mwyaf amrywiol, ysgogol, a heriol. Mae’n meithrin meddwl beirniadol a sensitifrwydd tuag at iaith tra ei bod yn ceisio ateb rhai cwestiynau heriol. Yn fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe, byddwch nid yn unig yn dadansoddi amrediad o destunau llenyddol o amryw gyd-destunau a chyfnodau hanesyddol, byddwch hefyd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a hanes.

Bydd y graddau hyn yn:• eich arfogi â’r sgiliau llafar ac

ysgrifenedig datblygedig sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod eang o swyddi, gan gynnwys darlledu, newyddiaduraeth, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, rheoli neu addysgu

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy eraill y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi megis gweithio mewn tîm, cyfathrebu a rhoi cyflwyniadau

• gosod sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Mae’r cyrsiau BA Saesneg, BA Saesneg gyda’r Rhywiau a’r cyrsiau Cyd-Anrhydedd yn ymdrin â’r amrywiaeth gyfan o lenyddiaeth Saesneg o’r cyfnod Canoloesol cynnar hyd at heddiw ac yn datblygu eich dealltwriaeth o theori feirniadol a’r amryw ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth.

Mae opsiynau ar gael gydag Ysgrifennu Creadigol (mae ein tîm o athrawon ysgrifennu creadigol ymhlith y cryfaf yn y DU); Astudiaethau’r Rhywiau; a phob agwedd o astudiaethau ieithyddiaeth ac iaith.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, a sesiynau grwpiau bach. Rydym yn anelu at gadw ein dosbarthiadau seminar mor fach â phosib – fel arfer dan 20 – i hyrwyddo’r amgylchiadau gorau posib ar gyfer dysgu ac addysgu.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Angenfilod a thrawsnewidiadau:

cyflwyniad i ffuglen a theori• Drama Drasig a Cherddi Telynegol:

cyflwyniad i’r genre• Agweddau at y Rhywiau mewn

Llenyddiaeth Saesneg• Cyflwyniad i Lenyddiaeth a

Diwylliant America• Ffuglen Ewropeaidd Fodern• Cymdeithas a dysgu yn Ewrop

yr Oesoedd Canol• Astudio’r Iaith Saesneg• Damcaniaethau ac Angenfilod:

Frankenstein, Dracula, Beirniadaeth• Trawsnewid Ffuglen• Study Skills for Language• Sgiliau Astudio Ar Gyfer Iaith

Lefel 2• Barddoniaeth Affricanaidd

Americanaidd• Iaith America – Delwedd America• Blake• Breuddwydio am Galiffornia• Ysgrifennu Ffeithiol Creadigol• Ysgrifennu Creadigol: Mynegiant

Naratif, Dramatig, a Barddonol I a II• Ysgrifennu Creadigol: Genres Ffuglen• Testunau Trafod: Damcaniaeth mewn

Llenyddiaeth• Archwilio’r Siambr Waedlyd: O’r

Canoloesol i’r Ôl-fodern

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Llenyddiaeth Saesneg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606890/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau ydw i angen?Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol gyda B mewn Saesneg ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

• Y Rhywiau a Genre• Y Gothig a’r Ffantastig• Thomas Hardy• Calonnau Cudd: Hardy a Hopkins yn

Feirdd Arloesi• Cyflwyniad i Lenyddiaeth Saesneg

Cymru• Dulliau Dysgu a Methodolegau Iaith • Gornestau Canoloesol• Moderniaeth a Modernedd• Barddoniaeth yn yr Ugeinfed Ganrif• Llenyddiaeth Ôl-wladychol• Ffuglen Ôl-fodernaidd• Hil ac Ethnigrwydd: Safbwyntiau

Americanaidd• Dramâu Shakespeare• Astudio Tafodiaith• Ysgrifennu ar y Corff

Lefel 3• Llenyddiaeth Affricanaidd

Americanaidd 1910-1940: Dadeni Harlem

• Chaucer• Ffuglen Americanaidd Gyfoes• Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu

Ysbryd Lle • Ysgrifennu Creadigol: Barddoniaeth

ar Daith• Ysgrifennu Creadigol: Ysgrifennu

Ffuglen• Ysgrifennu Creadigol: Ysgrifennu ar

gyfer Perfformio

• Darganfod Saesneg Hen • Traethawd Hir• Dwyreinioldeb Rhamantaidd Erotig

ac Egsotig• Ffuglen a Drama Ewropeaidd• Rhamantwyr Eironig: Austen a Byron• Llenyddiaeth a’r Metropolis: Portreadu

Bywyd Llundain 1900-1939• Ffuglen Wyddelig Fodern yn Saesneg• Ffuglen Neo-fictoraidd• Cynhanes, Hanes ac Iaith• P wer a Pherfformiad 1590-1740• Rhamantiaeth, Chwyldro a Realaeth• Shakespeare ac Eraill• Pechod, Rhyw, y Gwryw• Damcaniaethu Testunau: Shakespeare,

Shelley, Bronte, Joyce• Dylan Thomas• Llefydd Rhyfedd a Seibrofodau:

Y Rhywiau a’r Ffantastig• Cymru: Enw Unigol, Profiad Lluosog• W. B. Yeats• Astudio Dramor

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys arholiadau, traethodau hir, cyflwyniadau llafar, a gwaith cwrs. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Llenyd

diae

th Sae

sneg

Mae 91% o raddedigion Saesneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

139138

Bydd angen cymhwyster Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth/Iaith Saesneg arnoch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

139138

Page 72: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

FG31 s FfisegGR11 u Ffrangeg GF18 s Geo-wybodeg GC16 s Gwyddor Chwaraeon GR14 u Sbaeneg

s rhaglen 3 blyneddu rhaglen 4 blynedd

MMath Anrhydedd SenglG103 u Mathemateg

BSc Anrhydedd SenglG100 s MathemategG190 s Mathemateg ar gyfer CyllidG110 s Mathemateg BurG120 s Mathemateg GymhwysolG101 u Mathemateg (gyda Blwyddyn

Sylfaen Integredig)

BSc Cyd-Anrhydedd Mathemateg aGR12 u Almaeneg GG41 s CyfrifiaduregGQ15 s Cymraeg (ail iaith)GQ1N s Cymraeg (iaith gyntaf)GL11 s Economeg

Mae Mathemateg yn bwnc sy’n hynafol ac yn fodern. Hwn yw’r pwnc mwyaf rhyngwladol o’r holl bynciau, a’r sail y mae’r byd modern wedi’i adeiladu arni. Mae gwyddoniaeth a busnes yn dibynnu ar seiliau mathemategol, ac mae ein graddau’n adlewyrchu hynny.

Wrth astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn ymdrin â’r theori rhifau a astudiodd Pythagoras, y Fathemateg Ariannol y mae gwyr busnes Wall Street yn dibynnu arni, a chyfoeth o destunau eraill sy’n adlewyrchu ein rhagoriaeth ymchwil o ran tebygolrwydd, dadansoddi, hafaliadau differol rhannol anlinellol, geometreg ddi-gymudol, a thopoleg algebraidd.

Bydd ein graddau Mathemateg yn:

• eich hyfforddi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ym myd busnes yn ogystal â chyfrifiadura a dysgu

• gosod sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae ein cynlluniau gradd wedi’u strwythuro i gynnig hyblygrwydd a chaniatáu i chi addasu eich gradd i weddu i’ch amcanion gyrfaol a’ch diddordebau.

Ar gyfer y rheiny sydd am ddilyn gyrfa dra mathemategol mae ein gradd MMath flaenllaw yn gwrs pedair blynedd gyda’r bwriad o roi gwybodaeth drylwyr ym mhob agwedd ar Fathemateg i fyfyrwyr sy’n arbennig o dalentog.

Mae ein cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl tair blynedd yn cynnwys yr amrywiaeth gyffredinol o ddeunydd mathemategol ac yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar un agwedd o’r pwnc (Pur, Cymhwysol neu Gyllid), neu i gynnwys amrywiaeth o ddeunydd o fewn y radd Fathemateg.

Mae ein rhaglenni gradd Cyd-Anrhydedd yn cyfuno Mathemateg â phynciau eraill megis Economeg, Geo-wybodeg, neu Wyddor Chwaraeon. Os ydych yn astudio Mathemateg gydag iaith dramor, byddwch yn treulio blwyddyn intercalaraidd yn astudio Mathemateg dramor, drwy gyfrwng yr iaith briodol.

Rydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel 1.

Mae ein dulliau addysgu wedi’u strwythuro ar y ddealltwriaeth fod Mathemateg yn rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud, nid ei weld neu ei glywed yn unig. Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn cael ei gyflwyno

mewn darlithoedd pum deg munud pan fydd y darlithwyr yn disgrifio’r ffeithiau allweddol a’r theori, gan egluro’r rhain gydag enghreifftiau, taflenni neu drwy ddefnyddio cyfrifiadur. Yna, byddwch yn profi eich gwybodaeth ac yn gwella’ch dealltwriaeth gyda thaflenni ymarfer cyson a dosbarthiadau sy’n trafod enghreifftiau. Mae Ystafell Ddarllen Aubrey Truman yn gartref poblogaidd ar gyfer y math hwn o waith. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd gennych hefyd diwtor academaidd personol a fydd yn cyfarfod â chi, a phump neu chwe myfyriwr arall, am oddeutu awr bob wythnos.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae pob rhaglen gradd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, sy’n darparu’r deunydd craidd ar gyfer y rhaglen benodol honno, a chyfres o fodiwlau opsiynol sy’n caniatáu ychydig o ddewis personol.

Yn ystod blwyddyn olaf y rhan fwyaf o raglenni gradd byddwch yn cwblhau modiwl traethawd hir, pan fydd cyfle gennych i archwilio cangen o Fathemateg sydd o ddiddordeb arbennig i chi, neu fynd i fwy o fanylder ar bwnc yr ydych eisoes wedi’i ddysgu. Mae’r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:

Y Coleg Gwyddoniaeth

MathemategM

athem

ateg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adranmathemateg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295098

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Lefel 1• Calcwlws Rhagarweiniol• Dadansoddi Rhagarweiniol• Sylfeini Algebra• Cyflwyniad i Algebra Llinellog• Dulliau mewn Algebra a Chalcwlws• Geometreg Glasurol• Mecaneg Glasurol (gronynnau)• Tebygolrwydd Elfennol ac Ystadegau• Dulliau Cyfrifiadurol (gyda Mathemateg)

Lefel 2• Dadansoddi Gwirioneddol a

Gofodau Metrig• Calcwlws Fector a Theori Mesur• Gofodau Fector• Grwpiau a Chylchoedd• Dulliau Algebra a Chalcwlws Pellach• Geometreg Uwch• Mecaneg Glasurol (o wrthrychau anhyblyg)• Tebygolrwydd Damcaniaethol ac Ystadegau• Dulliau Rhifiadol (gyda Mathematica)

Lefel 3 ac M (MMath)• Dadansoddi Gweithredol• Dadansoddi Fourier• Theori Gyfnewidiol Gymhleth• Hafaliadau Differol• Geometreg Ddifferol• Hafaliadau Differol Rhannol• Algebra Uwch• Topoleg• Grwpiau ‘Lie’ ac Algebrâu ‘Lie’

• Theori Rhifau • Theori Codio Algebraidd• Prosesau Stocastig• Calcwlws Ito a Hafaliadau Differol Stocastig• Theori Black-Scholes• Dadansoddi Rhifiadol• Rhifeg Hafaliadau Differol a Hafaliadau

Differol Rhannol• Deinameg Ddadansoddol• Electromagneteg• Mecaneg Ystadegol• Prosiect

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’r cwrs Mathemateg a Chymraeg yn para tair blynedd i fyfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf, a phedair blynedd i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith. Ar lefel 1 ceir y modiwl MAW-101 – Cyflwyniad i Galcwlws, MAW-111 – Sylfeini Algebra, MAW-102 – Cyflwyniad i Ddadansoddi a MAW-112 – Cyflwyniad I Algebra Llinol.

Yn lefel 2 mae hefyd MAW-201 – Dadansoddiad Real a Gwagleoedd Metrig, MAW-211 – Gwagleoedd Fector, MAW-202 – Calcwlws Fector a Theori Mesur a MAW-212 – Grwpiau a Chylchoedd.

Yn Lefel 3, ceir cyfle i wneud eich prosiect diwedd flwyddyn trwy’r Gymraeg yn y modiwl MAW-300. Mae hefyd modiwl MAW-301 – Newidynnau Cymhlyg.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r modiwlau uchod a’r darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, gweler ein llyfryn Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Israddedig ar wefan Academi Hywel Teifi.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro’n bennaf drwy arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, ac mae gan lawer o fodiwlau gydran asesu parhaus o oddeutu 20%.

A oes cymorth ariannol ar gael?Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau yn amrywio o ran gwerth hyd at £3,000. Dyfernir y rhain ar sail arholiadau cystadleuol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig yColeg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnigcyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfainto’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o’r cyrsiau Mathemateg (sengl a chyd-anrhydedd) yn gymwys ar gyferYsgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg am fanylion www.colegcymraeg.ac.uk

Pa raddau rydw i eu hangen? MMath

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg).

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33-22

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

BSc (ac eithrio G101)

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg).

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33-32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys y gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

Mae 86% o raddedigion Mathemateg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis ar ôl graddio (Data HESA 2010-11)

140 141141140

Page 73: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Heb os, meddygon sydd ag un o’r swyddi mwyaf gwobrwyol y gellid dychmygu. Trwy gymhwyso eu gwybodaeth o’r corff dynol, maen nhw’n gallu cael effaith drawsffurfiol ar ein hiechyd a’n lles. Maen nhw’n defnyddio gwyddoniaeth i ddeall sut i’n trin pan fyddwn yn sâl, a waeth pa agwedd o feddygaeth y maen nhw’n dewis ei dilyn, eu prif ddiddordeb yw ein lles.

Ers ei lansiad yn 2004, mae Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Abertawe wedi sefydlu ei hun yn radd neilltuol sy’n caniatáu i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth ddysgu’r egwyddorion gwyddonol a chlinigol sy’n ymwneud â Meddygaeth, ac i ystyried ei hagweddau moesol.

Bydd ein gradd Meddygaeth yn:

• eich paratoi i fod yn feddyg

• eich cyflwyno i ymarfer proffesiynol gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf a dulliau dysgu sydd ar flaen y gad

• eich paratoi i astudio ymhellach yn feddyg Sylfaen

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, ac ymchwil

Beth yw strwythur y radd?Mae’r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn rhaglen bedair blynedd hollol annibynnol a seilir yn bennaf yn Abertawe a Gorllewin Cymru. Rydym wedi dylunio cwricwlwm meddygaeth integredig, lle dysgir y gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus, patholeg, moeseg, a materion seicogymdeithasol o ran rheoli cleifion. Bydd hynny, gyda phwyslais trwm ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, yn rhoi popeth fydd ei angen arnoch i ymarfer meddygaeth yn gymwys ac yn hyderus.

Yn fwriadol, nid yw’r cwricwlwm, gyda’i wythnosau dysgu a’i leoliadau clinigol, wedi’i strwythuro mewn modd confensiynol ar sail ‘systemau’r corff’. Yn hytrach, mae wedi’i ddylunio i adlewyrchu’r ffordd y mae clinigwyr yn delio â chleifion, a sut mae cleifion yn eu cyflwyno eu hunain i feddygon.

Bydd yr ymagwedd arloesol hon yn eich helpu i ddatblygu ffordd o feddwl ac o ymwneud â gwybodaeth sy’n efelychu ymarfer clinigol. Wrth i chi weithio trwy’r wythnosau dysgu, y lleoliadau clinigol, a’r sesiynau ymarferol, byddwch yn ennill gwybodaeth ac adeiladu’ch repertoire o ddealltwriaeth a sgiliau clinigol. Bydd themâu a llinynnau, sy’n rhedeg trwy gydol y rhaglen, yn eich helpu i wneud y

cysylltiadau gyda’r agweddau eraill yr ydych yn dysgu amdanynt, a chyda phethau y byddwch wedi’u hystyried o’r blaen, yn ogystal â sut mae hyn oll yn berthnasol i ymarfer clinigol.

Os ydych yn siarad Cymraeg, bydd cyfle i chi wella eich geirfa dechnegol yng nghyd-destun yr ymgynghoriad clinigol. Os nad ydych yn siarad Cymraeg, byddwn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r iaith a’i gwreiddiau, ac yn eich annog i edrych ar gyflwyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymwybyddiaeth iaith yng ngofal iechyd, ‘Iechyd Da!’.

Mae dau Gyfnod i’r rhaglen: Cyfnod I (Blynyddoedd un a dau) a Chyfnod II (Blynyddoedd tri a phedwar), ac mae wedi’i fapio ar ‘Meddygon Yfory’ y GMC, 2009, gyda thri modiwl -– Ysgolhaig a Gwyddonydd, Ymarferwr, a Meddyg Proffesiynol – yn adlewyrchu deilliannau TD09. Mae’n dilyn cwricwlwm troellog integredig sydd wedi’i strwythuro o gwmpas chwe ‘thema’ systemau’r corff – ymddygiad, amddiffyn, datblygu, symud, maeth, cludiant.

Yn ystod y pedair blynedd, cyflwynir 96 o achosion clinigol mewn 65 ‘wythnos ddysgu’ a 31 ‘diwrnod dysgu’. Ar ben hynny, mae lefel uchel o gyswllt clinigol yn cynnwys:

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegmeddygaeth

Cysylltwch â’r Cydlynydd Derbyniadau: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602618

MB BChA101 u Meddygaeth

u cynllun 4 blynedd

Ymwelwch â’r Brifysgol: Rydym yn cynnal dau ddiwrnod agored bob blwyddyn ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. Yn 2013: Mercher 6 Mawrth Mercher 26 Mehefin

I gofrestru ar gyfer ein diwrnod agored nesaf, ewch i’n gwefan: www.gemedicine.swansea.ac.uk

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Sylwer: rhaid cyflwyno ceisiadau i UCAS erbyn 15fed Hydref 2013

Y Coleg Meddygaeth

Me

dd

ygae

th – M

ed

dyg

aeth i R

add

ed

igio

n MB

BC

h

Pa raddau rydw i eu hangen? I ymgeisio am y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, rhaid:

• eich bod wedi graddio, neu y rhagwelir y byddwch yn graddio, gyda gradd anrhydedd ail ddosbarth uchaf neu ddosbarth cyntaf mewn unrhyw bwnc* NEU fod gennych radd ail ddosbarth isaf o leiaf, ond bod gennych hefyd (neu rhagwelir y bydd gennych) radd Meistr neu radd uwch arall

• eich bod â TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg ar radd C neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth)

• 45 wythnos o brentisiaethau clinigol pan gewch eich ymgorffori mewn tîm gofal iechyd i weithio wrth ochr staff eraill, ac ennill profiad o rôl y meddyg. Mae’r cyntaf o’r rhain ym Mlwyddyn Un, ac mae’r tri ‘chynorthwyyddiaeth’ olaf yn eich galluogi i weithio ar lefel meddyg Sylfaen

• 35 wythnos o leoliadau arbenigol, gan gynnwys un ‘diwrnod dysgu’ yr wythnos, ac yn ystod y rhain byddwch yn astudio anghenion iechyd grwp penodol o gleifion (e.e. cleifion seiciatrig)

• 11 wythnos o ddysgu yn y gymuned mewn canolfan gofal sylfaenol i weld cleifion a phrofi gwaith yr ymarferwyr cyffredinol a’u cydweithwyr clinigol

• cyfnod dewisol o chwe wythnos ym Mlwyddyn Tri, sy’n caniatáu i chi ymweld â bron i unrhyw ran o’r byd i ddilyn prosiect a gymeradwyir

• cyfnod chwe wythnos “cysgodi” terfynol sy’n eich galluogi i hogi eich sgiliau cyn i chi ddechrau gwaith fel meddyg cymwysedig

• gwaith prosiect ym mhob blwyddyn sy’n rhoi y cyfle ichi weithio gyda phroffesiynau eraill ac archwilio dysgu rhyngbroffesiynol.

Ar ôl i chi raddio, byddwch yn gymwys i ymgeisio am flwyddyn gylchdroadol ar

Raglen y Flwyddyn Sylfaen yng Nghymru, ac wedi hynny, dylech fod wedi’ch cymhwyso’n llawn â’r priodoleddau angenrheidiol a fydd yn eich cynorthwyo drwy weddill eich addysg feddygol ôl-raddedig a hynny mewn maes meddygaeth sy’n eich cyffroi fwyaf.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’r Coleg Meddygaeth yn cynnig mentora, tiwtorialau, a sesiynau galw heibio trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes microbioleg a chlefydau heintus. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Cynhelir yr wythnosau dysgu a’r diwrnodau dysgu yn Adeilad Grove y Coleg Meddygaeth, sydd â labordai o’r radd flaenaf ar gyfer anatomi a dulliau clinigol, dwy ddarlithfa sydd newydd eu hadnewyddu, ac ystafelloedd dysgu, gan gynnwys labordy cyfrifiadura gyda’r holl offer angenrheidiol at ddefnydd y myfyrwyr.

Byddwch hefyd yn astudio mewn nifer o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac yn benodol yn

Nhreforys, Singleton, a Chefn Coed. Mae gan y rhain unedau dysgu sydd wedi’u hadeiladu’n ddiweddar ar gyfer y Coleg Meddygaeth, gyda labordai sgiliau clinigol, cyfleusterau TG, a llyfrgell sy’n cynnwys llyfrau arbenigol a chylchgronau meddygol. Byddwch yn gweithio mewn ysbytai a chymunedau ledled Gorllewin Cymru, er enghraifft o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ac mewn ystod o leoliadau metropolitan, gwledig, ac anghysbell.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac arholiadau sgiliau clinigol, a thrwy bortffolio o’ch profiadau clinigol. Rhennir yr asesu rhwng tri modiwl: Y Meddyg yn Ysgolhaig ac yn Wyddonydd, y Meddyg yn Ymarferwr, a’r Meddyg Proffesiynol.

A oes cymorth ariannol ar gael?Os ydych yn dod o Loegr neu o Gymru, rydych yn gymwys ar gyfer benthyciad i fyfyrwyr yn Lefel 1. Mae bwrsariaethau ar sail prawf moddion ar gael gan Uned Grantiau Myfyrwyr y GIG o Lefel 2 ymlaen.

• bod gennych rywfaint o brofiad o Fioleg neu Gemeg ar lefel uwch na TGAU (dymunol, ond nid yn hanfodol)

• bod gennych sgôr o 50 neu fwy yn ei grynswth, gydag isafswm o 50 yn adran tri (rhesymu yn y gwyddorau biolegol a ffisegol) yn GAMSAT eleni neu’r llynedd

• nad ydych wedi astudio gradd meddygaeth MB o’r blaen, yn llawn neu’n rhannol, mewn ysgol meddygaeth arall.

*Os oes gennych fwy nag un radd Baglor, y canlyniad o’ch gradd ddiweddaraf gaiff ei ystyried.

Mae pob cynnig a wneir gan y Brifysgol yn dibynnu ar Wiriad Cofnodion Troseddol boddhaol, a phrawf Iechyd Galwedigaethol.

Mae’r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ar agor i ddinasyddion y DU a’r UE yn unig.

Meddygaeth – Meddygaeth i Raddedigion Mb BCh

143142 143142

Page 74: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Mae Nyrsys yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, ac mewn ystod o amgylcheddau gwahanol, i ddarparu ymarfer nyrsio ac ymyriadau diogel a gofalgar sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae Nyrsio’n alwedigaeth unigryw, sy’n heriol ond yn wobrwyol tu hwnt. A chyda moderneiddio cyfredol yn y sector gofal iechyd hefyd, ni fu erioed cyfnod mwy cyffrous i ymuno â’r proffesiwn.

Bydd ein gradd Nyrsio yn:

• eich paratoi’n addysgol i weithio fel nyrs gofrestredig mewn gosodiad ysbyty neu osodiadau yn y gymuned

• eich paratoi at fodloni anghenion meddyliol a chorfforol hanfodol pobl o bob oed a chyflwr yn ogystal â rhoi i chi’r wybodaeth benodol a’r sgiliau i ymarfer yn eich maes dewisedig

• gosod sylfaen ar gyfer eich datblygiad proffesiynol a phersonol i’ch galluogi i weithio ym meysydd nyrsio a rheoli gofal iechyd, ymchwil, addysg, neu rolau nyrsio arbenigol

• eich helpu i ennill profiad ymarferol helaeth a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, datrys problemau, dadansoddi, a gwneud penderfyniadau.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r rhaglen wedi’i datblygu i gefnogi Safonau Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Addysg Nyrsio Gyn-gofrestru 2010.

Felly, byddwch yn elwa o gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol a phrofiad nyrsio ymarferol wedi’u hintegreiddio’n ofalus. Mae 50% o’r radd yn seiliedig ar theori ac yn cael ei gyflwyno ar y campws, a chaiff y 50% arall ei gyflwyno trwy gyfleoedd dysgu trwy ymarfer gydag un o’r Byrddau Iechyd sy’n bartneriaid i ni, neu mewn lleoliad gofal iechyd neu ofal cymdeithasol preifat ar draws ardal ddaearyddol y Coleg. Mae’n bosib hefyd y bydd cyfle i chi gwblhau lleoliad gwaith tri mis dramor â sefydliad gofal iechyd Ewropeaidd arall drwy gynllun ERASMUS.

Fe’ch addysgir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, dysgu ar sail tystiolaeth, seminarau, e-ddysgu, a thiwtorialau, wedi’u cyflenwi â gwaith ymarferol yn y labordy biowyddoniaeth a’n hystafelloedd ymarfer clinigol.

Mae’r radd yn hyrwyddo addysg oedolion, a bydd yn eich annog i feddwl yn annibynnol. Bydd cyfnodau o astudio hunan-gyfeiriedig ochr-yn-ochr â dysgu dan arweiniad darlithwyr. I gefnogi’ch datblygiad personol a phroffesiynol, bydd gennych diwtor personol ar gyfer tair blynedd y rhaglen. Mae pob tiwtor personol yn nyrs gofrestredig.

Sylwer: Mae’n bosibl astudio Nyrsio Oedolion ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin. Mae Nyrsio Plant ac Iechyd Meddwl ar gael ar gampws Abertawe yn unig. Os ydych yn dewis astudio yng Nghaerfyrddin, gellir trefnu lleoliadau gwaith clinigol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro. Gall lleoliadau Nyrsio Plant ac Iechyd Meddwl fod unrhyw le yn Ne a De-orllewin Cymru.

Mae’r radd anrhydedd hon yn gwrs tair blynedd, llawn-amser sy’n dechrau ym mis Medi 2014. Derbynnir carfan ychwanegol ar gyfer Nyrsio Oedolion ar gampws Prifysgol Abertawe bob mis Chwefror hefyd fel arfer.

Pa feysydd y gallaf arbenigo ynddynt?

Nyrsio OedolionYn y maes hwn o nyrsio, byddwch yn profi’r continwwm o ofal oedolion.

BSc Anrhydedd Sengl AbertaweB702 s Nyrsio (Oedolion)B703 s Nyrsio (Plant)B704 s Nyrsio (Iechyd Meddwl)

CarmarthenB740 s Nyrsio (Oedolion)

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

NyrsioN

yrsio

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: lleiafswm o BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 – 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Er nad ydym yn gofyn am bynciau penodol Safon Uwch, mae’n ddefnyddiol i astudio cyrsiau’n ymwneud ag iechyd neu wyddoniaeth. Hefyd, bydd angen o leiaf pump TGAU arnoch gan gynnwys Mathemateg,

Addysgir i chi’r sgiliau i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal ar sail tystiolaeth i hybu iechyd a lles oedolion â chyflyrau acíwt a chronig.

Nyrsio PlantYn nyrs i blant, byddwch yn ymdrin â phlant a phobl ifainc o 0–16 oed o ystod eang o gefndiroedd diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol. Byddwch yn dysgu i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio i gwrdd â gofynion holistig plant, pobl ifainc a’u teuluoedd.

Nyrsio Iechyd MeddwlFel nyrs iechyd meddwl, rydych yn debygol o ymdrin â phobl o bob oedran ac o ystod eang o gefndiroedd. Wrth i’ch gyrfa ddatblygu, gallwch ddewis arbenigo mewn meysydd megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu weithio gyda throseddwyr.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae pob modiwl yn orfodol. Bydd y rhaglen yn cynnwys dysgu ar y cyd ar draws y meysydd yn ogystal â modiwlau penodol ar gyfer y meysydd unigol.

Lefel 1• Sylfeini Ymarfer Nyrsio • Dysgu Sut i Ddysgu mewn Addysg

Uwch ac Ymarfer Clinigol

• Beth yw Nyrsio? • Datblygu Gwybodaeth Nyrsio• Portffolio: Cyflwyniad i Ymarfer

Proffesiynol (Nyrsio)

Lefel 2 • Iechyd Cyhoeddus• Gofal Acíwt• Gofal Parhaus a Lliniarol• Portffolio: Datblygu Ymarfer Nyrsio

Lefel 3• Rheoli Gofal mewn Sefyllfa Newidiol

Dros Ben • Ymestyn Ymarfer Nyrsio Proffesiynol• Arweinyddiaeth a Rheoli• Portffolio: Atgyfnerthu Ymarfer Nyrsio

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’n bosibl i ddau modiwl cyntaf y BSc Nyrsio Oedolion, y BSc Nyrsio Plant a y BSc Nyrsio Iechyd Meddwl cael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac rydym hefyd yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Gall nyrsys dan hyfforddiant gael eu cefnogi yn y Coleg gyda thiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg ac yn y maes clinigol â Mentoriaid sy’n siarad Cymraeg. Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys portffolio, asesiadau ysgrifenedig, ac arholiadau. Bydd angen i chi gwblhau cymwyseddau clinigol yn yr amgylchedd dysgu ymarfer, ac fe’ch asesir hefyd ar eich agwedd a’ch ymddygiad proffesiynol.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

Mae Swît Aneurin Bevan y Coleg yn Abertawe yn gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern, yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Gwyddorau Iechyd, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Ceir cyfleusterau a thechnoleg arloesol hefyd ar gampws Caerfyrddin. Drwy weithio’n agos â Byrddau Iechyd GIG lleol, mae’r cyfleusterau ymarfer clinigol wedi’u dylunio i weithredu fel gosodiad ysbyty neu gymunedol go iawn.

Saesneg neu Gymraeg, a Gwyddoniaeth Ddwbl ar radd A i C.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol? Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:

• Gwiriad Heddlu Manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol

ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

• geirda cymeriad boddhaol

• bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru

Noder: Nid oes unrhyw fantais o wneud cais i godau UCAS Abertawe a Chaerfyrddin, ac rydym yn argymell yn gryf i wneud cais i’ch lleoliad dewisol.

Mae 100% o raddedigion Gwyddor Iechyd mewn cyflogaeth lawn-amser neu’n dilyn astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (Data HESA 2010-11)

145144 145144

Page 75: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Nyrsio

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae cymorth ariannol ar gael fel a ganlyn:

Os ydych yn breswylydd yn y DU, wedi bod yn byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf neu wedi derbyn ‘Caniatâd i Aros’ yma:a) nid oes unrhyw ffioedd dysgu i dalub) bydd myfyrwyr newydd yn derbyn

grant heb brawf incwm o £1000c) a Bwrsariaeth Prawf Incwm o hyd

at £4395d) mynediad at gymorth ychwanegol ar

ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 yn y flwyddyn olaf o astudio). (Cofiwch fod yn ymwybodol bod hwn yn gais ar wahân)

Yn ogystal â’r bwrsari sylfaenol sy’n seiliedig ar brawf incwm, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr anabl a chefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion a phlant dibynnol.

Mae’r wybodaeth hon wedi ei darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau ariannol ar gyfer myfyrwyr ar gwrs ariannu gan y GIG yng Nghymru.

Y mae llyfryn gan y Llywodraeth ar gyllid myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru, ar gael trwy: www.wales.nhs.uk

Ni all y Brifysgol, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau i’r wybodaeth hon.

Am ragor o wybodaeth am fwrsariaethau GIG, ewch i wefan NLIAH. Cynghorir myfyrwyr hefyd i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol o Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig yColeg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnigcyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfainto’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs Nyrsio yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

“ Fe wnes i fwynhau pob munud o fy nghwrs, yn enwedig fy ward

a lleoliadau yn y gymuned lle cwrddais cleifion gwahanol o wahanol

lefel o’r gymdeithas. Yr wyf yn awr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol

Abertawe Bro Morgannwg, lle yr wyf fi’n nyrs gofrestredig yn yr uned

Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Treforys.”Rodolfo Badilla, BN Nyrsio (Oedolion)

146 147147146

Page 76: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“Mae’r cwrs hwn mor ddiddorol. Nawr fy mod yn fy ail flwyddyn

mae gennym llawer mwy o waith ymarferol gyda’r claf, ac yn dysgu am

gyflyrau diddorol ochr yn ochr ag anatomeg manwl. Mae’n wirioneddol

foddhaol i weld sut y mae’r holl darlithoedd a thechnegau rydym yn

dysgu yn y dosbarth yn cydweddu mewn triniaeth ac ymarfer i roi

rhyddhad rhag poen i bobl. ” Sian George, M.Ost

Gradd Gychwynnol Uwch mewn Osteopatheg (M.Ost)B310 u Osteopatheg

u cynllun 4 blynedd

Mae Osteopatheg yn broffesiwn a gydnabyddir yn eang ac a seilir ar dystiolaeth sy’n cwmpasu agwedd gyfannol a chydol oes tuag at ddarparu gwasanaethau diagnostig, asesu, ac adfer. Mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn diffinio osteopatheg fel modd o ganfod, trin, ac atal anhwylderau sy’n effeithio ar y system cyhyrysgerbydol, sef cyhyrau, gewynnau, nerfau, a chymalau, ac adfer iechyd pobl sy’n dioddef ohonynt, mewn modd cyfannol a seilir ar wyddoniaeth. Mae hwn yn gynllun pedair blynedd, llawn amser sy’n cychwyn bob mis Medi.

Mae’r radd hon yn gwrs pedair blynedd llawn amser, sy’n cychwyn ym mis Medi bob blwyddyn. Bydd y cwrs yn:

• gosod sail addysgol a’r profiad ymarferol i’ch galluogi i ennill y sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i ymgeisio i gael eich cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC).

• eich helpu i ddatblygu hunanhyder

• dangos i chi sut i ddefnyddio gwybodaeth i ymarfer o fewn awyrgylch diogel

• eich darparu ag addysg a phrofiad clinigol o fewn y clinigau osteopatheg perthynol

• hybu ymarfer ar sail tystiolaeth, datblygiad personol a phroffesiynol yn ogystal â chyflwyniad i reoli busnes i’ch paratoi ar gyfer ymarfer preifat

Beth yw strwythur y radd?Bydd darlithoedd yn helpu myfyrwyr i ddiffinio ehangder a dyfnder y ddealltwriaeth sydd ei hangen. Bydd seminarau a arweinir gan fyfyrwyr, sesiynau myfyrio strwythurol a dysgu trwy brofiad ynghyd â’r defnydd o efelychu sgiliau clinigol yn y labordy sgiliau clinigol yn galluogi myfyrwyr i fagu hunan hyder a chymhwyso gwybodaeth ar gyfer ymarfer mewn amgylchedd diogel.

Yn ogystal â hyn, bydd yr holl fyfyrwyr yn derbyn addysg a phrofiad clinigol o fewn y clinig osteopatheg perthynol, lle bydd myfyrwyr yn ennill profiad o gymhwyso’u sgiliau clinigol gyda chleifion dan oruchwyliaeth broffesiynol. Yn ystod y rhaglen bedair blynedd, bydd gan yr holl fyfyrwyr leiafswm o 1200 awr o ymarfer clinigol sydd eu hangen arnynt i gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC). Mae’r lleoliadau clinigol wedi’u cynnwys yn yr amserlen wythnosol drwy gydol y flwyddyn academaidd o’r flwyddyn gyntaf hyd at y flwyddyn olaf.

Achrediad*Mae’r Cyngor OsteopathigCyffredinol (GOsC) wedi cytunocydnabod y cymhwyster MeistrOsteopatheg (M.Ost), a roddir ganGoleg y Gwyddorau Dynol ac Iechydym Mhrifysgol Abertawe, wedi’igymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor, yngymhwyster cydnabyddedig i gofrestruar gyfer, ac i ymarfer, Osteopatheg.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Bydd y rhaglen yn cynnwys y modiwlau canlynol a fydd yn archwilio strwythur a gweithrediadau’r corff dynol (yn cynnwys seicoleg), ac yn cymhwyso hyn â chyflwyniad clinigol ac egwyddorion osteopatheg:

• Anatomi, Pathoffisioleg a Therapiwteg• Sgiliau Osteopathig• Ymarfer ar sail Tystiolaeth• Datblygiad Personol a Phroffesiynol• Rheoli Busnes• Seicoleg Gymhwysol a Chymdeithaseg/

Seicoleg Iechyd• Biomecaneg Glinigol a Delweddu• Rheoli Poen• Portffolio Clinigol

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Osteopatheg – Gradd Gychwynnol Uwch *(M.Ost)O

steo

pathe

g –

Grad

d G

ychwynno

l Uw

ch *(M.O

st)

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBB

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Fel arfer, bydd angen tri chymhwyster Safon Uwch arnoch ar radd B neu uwch, yn cynnwys gwyddor fiolegol (e.e. Bioleg Ddynol). Bydd angen hefyd leiafswm o bum pwnc TGAU yn cynnwys Cymraeg neu Iaith Saesneg a Mathemateg ar radd C neu uwch

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: (gweler uchod)

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wedi agor swît o ystafelloedd yn ddiweddar, sy’n gweithredu’n llawn fel clinig osteopatheg. Mae gan Glinig Osteopatheg Prifysgol Abertawe dîm o ymarferwyr arbenigol yn ogystal â myfyrwyr osteopatheg yn arsylwi neu’n ymarfer dan oruchwyliaeth. Bellach, mae’r clinig ar agor i staff, myfyrwyr, a’r cyhoedd. Gweler: www.targetpain.co.uk am ragor o fanylion.

Mae cyfleusterau arall o’r radd flaenaf yn y Coleg yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Gwyddorau Iechyd, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer a magu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.

Mae100% o raddedigion Gwyddor Iechyd mewn cyflogaeth lawn-amserneu’n dilyn astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (Data HESA 2010-11)

149148

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:• gwiriad Heddlu Manylach y

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• gwiriad Iechyd Galwedigaethol –rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

• geirda cymeriad boddhaol

149148

Page 77: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH834 s Peirianneg Amgylcheddol H2G0 u Peirianneg Amgylcheddol

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH836 u Peirianneg Amgylcheddol H2F0 l Peirianneg Amgylcheddol

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Mae Peirianneg amgylcheddol yn helpu i optimeiddio defnydd adnoddau naturiol a datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan ddarparu atebion i rai o broblemau mwyaf difrifol ein planed. Â disgwyl i boblogaeth y byd gyrraedd naw biliwn yn 2050, mae gwneud yn siwr y bydd gan genedlaethau’r dyfodol ddigon o fwyd a dwr, aer, a thir glân yn sialens enfawr.

Tra bod llawer o raddau peirianneg amgylcheddol wedi’u seilio ar Beirianneg Sifil, Peirianneg Amgylcheddol yn Abertawe yw un o’r graddau arbenigol prin sy’n dilyn y trywydd Cemegol a Biobrosesu. Mae hyn yn datblygu’r sgiliau dadansoddi a chreadigol sydd eu hangen ar gyfer dylunio, gweithredu a rheoli cyfleusterau prosesu yn economaidd ac yn ddiogel.

Achredir ein graddau Peirianneg Amgylcheddol gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3). Rydym yn disgwyl achrediad gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE).

Bydd ein graddau Peirianneg Amgylcheddol yn:

• eich hyfforddi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gwobrwyol mewn sefydliadau diwydiannol a chyhoeddus, a’r sectorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Cewch eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, a gwaith prosiect. Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol, megis.

Mae Lefelau Un a Dau yn gyffredin i’n holl gynlluniau gradd, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi drosglwyddo rhwng rhaglenni BEng a MEng ar ddiwedd Lefel Dau. Yn ystod Lefel Tri byddwch yn ymweld â rhai o’n partneriaid ym myd diwydiant ac yn

cwblhau prosiectau ymchwil a dylunio â pherthnasedd uniongyrchol i reoli adnoddau cynaliadwy. Yn y cynllun MEng, mae’r prosiect dylunio wedi’i ohirio tan Lefel Pedwar.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Egwyddorion Prosesau Cemegol• Labordy Peirianneg Gemegol ac

Amgylcheddol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Dadansoddi Peirianneg I• Mecaneg Hylifau I• Dadansoddi Peirianneg II• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Gwyddor Peirianneg Gemegol• Cynaliadwyedd mewn byd bregus

Modiwlau dewisol:• Adnoddau Defnyddiau• Cemeg Sylfaenol

Lefel 2• Trosglwyddo Gwres• Prosesau Gwahanu• Dylunio Adweithyddion• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Cemeg Amgylcheddol Ymarferol• Peirianneg ar gyfer cynaliadwyedd

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Amgylcheddol

Pa raddau rydw i eu hangen?BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig

ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg, ystyrir marciau uchel ym Mathemateg Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

“ Mae Peirianneg

Amgylcheddol yn Abertawe’n

wych!! Mae’n cynnwys pob

agwedd o beirianneg, ac mae’r

cyfuniad o sesiynau ymarferol a

darlithoedd yn ei gwneud yn

radd hynod o berthnasol a

diddorol i’w hastudio. Mae

chwaraeon yn boblogaidd yn

Abertawe hefyd, ac mae cymryd

rhan mewn chwaraeon yn ffordd

arbennig o gymdeithasu a

chystadlu ar lefel uchel. Mae

gwisgo gwyrdd a gwyn ar gyfer

y gystadleuaeth rhyng-brifysgol

blynyddol yn bendant yn

uchafbwynt y flwyddyn. ”Daniel Course, MEng Peirianneg

Amgylcheddol

• Mecaneg Hylifau II• Egwyddorion Peirianneg Fiocemegol I• Dadansoddi a Dylunio Prosesau

Cemegol• Pwer ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant

a’r cartref• Gweithredoedd Proses a Pheiriannau

Amgylcheddol• Dadansoddi Data

Lefel 3• Diogelwch ac Atal Colledion• Peirianneg Dwr a Dwr Gwastraff• Ymarfer Peirianneg Amgylcheddol• Cyflwyniad i Gyfraith yr Amgylchedd

ar gyfer Peirianwyr• Systemau Gronynnol• Rheoli Peirianneg• Technolegau Ynni a Charbon Isel• Modelu amgylcheddol• Prosiect Dylunio Peirianneg

Amgylcheddol

Lefel 4 (MEng)• Technoleg Pilenni• Technegau Ailgylchu Defnyddiau• Dadansoddi a Deddfwriaeth

Amgylcheddol• Cyflwyniad i Gyfraith yr Amgylchedd

ar gyfer Peirianwyr• Dihalwyno• Moeseg, Diogelwch a Rheoliadau

• Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol• Prosiect Ymchwil• Arferion Peirianneg Ddiwydiannol

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Peirianne

g –

Am

gylche

dd

ol

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosibl y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

150 151

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

151150

Page 78: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Pa raddau rydw i eu hangen?BEng

Safon Uwch: BBB Safon Uwch (gan gynnwys Mathemateg).

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle

BEng Anrhydedd SenglH400 s Peirianneg AwyrofodH402 u Peirianneg Awyrofod (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH403 u Peirianneg AwyrofodH404 l Peirianneg Awyrofod (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

O’r ffwrnais yng nghraidd tyrbin nwy i ganolfan gyfrifiadurol sedd y peilot, mae awyrennau modern yn mynnu’r beirianneg fwyaf diweddar. Mae graddau peirianneg awyrofod yn rhoi i fyfyrwyr olwg unigryw ar yr atmosffer, y cosmos a’r dechnoleg sydd ei hangen i’w harchwilio.

Mae ymchwil awyrofod safon byd Abertawe wedi cyfrannu at sawl prosiect cyffrous, gan gynnwys dylunio’r uwch-jet deulawr, Airbus A380, a’r aerodynameg ar gyfer Thrust SSC a dorrodd record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir. Mae peirianwyr Abertawe nawr yn dylunio’r BLOODHOUND SSC, â’r bwriad o gynyddu record cyflymder tir y byd i 1,000 m.y.a.

Achredir ein graddau Awyrofod gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol (RAeS), a Sefydliad y Dylunwyr Peirianegol (IED).

Bydd ein graddau Peirianneg Awyrofod yn:

• dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau lefel uchel yn y sector peirianneg awyrofod rhyngwladol

• eich hyfforddi ar gyfer dylunio, dadansoddi, profi a hedfan cerbydau awyrofod gan gynnwys awyrennau wedi’u gyrru gan bropelar neu eu pweru gan jetiau, hofrenyddion a gleidrau

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant awyrofod

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan ymweliadau safle â rhai o’n partneriaid diwydiannol, sawl un ohonynt yn sefydliadau rhyngwladol mawr ac yn enwau o bwys.

Byddwch yn gwneud gwaith labordy yn ein twnnel gwynt a’n stondin profi peiriant jet ar y campws, ac yn ennill profiad hedfan ymarferol gyda’n hefelychydd hedfan blaen y gad Merlin MP521X a gwersi hedfan mewn maes awyr lleol.

Byddwch hefyd yn cwblhau cwrs profi hedfan mewn perfformiad, sefydlogrwydd a rheolaeth awyrennau yn Adran Hedfan Cranfield. Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I• Cyflwyniad i Beirianneg Awyrofod• Cryfder Defnyddiau• Systemau Deinamig• Mecaneg Hylif I• Thermodynameg I• Dylunio Peirianneg I• Dadansoddi Peirianneg II

Lefel 2• Mecaneg Strwythurol IIa• Dadansoddi Cylchedau• Thermodynameg II• Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur• Aerodynameg• Mecaneg Hedfan• Systemau Rheoli• Dynameg I• Dylunio Peirianneg II• Astudiaethau Arbrofol• Strwythurau Cyrff Awyrennau

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Awyrofod

bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg Lefel Uwch). Ystyrir sgoriau uchel ym Mathemateg Lefel Sylfaenol hefyd.

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg,

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Peirianne

g –

Aw

yrofo

d

“Rwyf wastad wedi

mwynhau Ffiseg a Mathemateg

felly roedd Peirianneg yn

ddilyniant naturiol. Hefyd,

mae’r ffaith bod y cwrs wedi’i

achredu gan y Gymdeithas

Awyrennol Frenhinol ac IMechE

yn atyniad mawr. Fe wnes i

fwynhau’r profiad ymarferol yn

hedfan yn y flwyddyn gyntaf

ynghyd â gwaith ymarferol gan

ddefnyddio’r efelychydd hedfan

a twnnel gwynt am ei fod roedd

yn wych i weld sut mae’r

ddamcaniaeth yn cael ei

defnyddio yn ogystal ag ennill

profiad ymarferol. ”

Lefel 3• Dynameg Nwyon• Dynameg II• Dadansoddi Peirianneg III• Rheoli Peirianneg• Gyriad• Defnyddiau Perfformiad Uchel

a’u Dewis• Prosiect Ymchwil• Dylunio Peirianneg Awyrofod III

Lefel 4 (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Dynameg a Rheolaeth Hedfan• Cynllunio Prosiectau Strategol• Dulliau Rhifiadol ar gyfer Hafaliadau

Differol Rhannol• Awyrennau Asgell Gylchdro• Rhyngweithio Strwythur-Hylifau• Dynameg Hylifau Gyfrifiadurol• Proseict Grwp • Traethawd Estynedig ar Ymchwil

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosibl y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel 2 os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel 1. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 (gan gynnwys 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Co

dau U

CA

S

Cat Kearney, BEng Peirianneg Awyrofod

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

153152

Page 79: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae peirianwyr cemegol yn chwarae rhan bwysig wrth bennu ein safon byw ac ansawdd bywyd. Maen nhw’n cymhwyso eu gwybodaeth i faterion sylfaenol, megis sut yr ydym yn caffael ac yn gwneud defnydd o’n hadnoddau naturiol, a sut yr ydym yn eu hailddefnyddio, yn eu hailgylchu ac yn eu gwaredu yn effeithlon.

Mae Peirianneg Gemegol yn Abertawe yn darparu gwybodaeth o brosesu ffisegol, cemegol a biolegol, gan ysgogi datblygu’r sgiliau dadansoddi a chreadigol sydd eu hangen ar gyfer dylunio, gweithredu a rheoli cyfleusterau prosesu yn ddiogel.

Mae ein graddau wedi’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE).

Bydd ein graddau Peirianneg Cemegol yn:

• eich hyfforddi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gwobrwyol mewn sefydliadau diwydiannol a chyhoeddus, a’r sectorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethuriaeth, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Erbyn i chi gwblhau Lefel Dau bydd y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol gyda chi i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, os ydych yn dymuno. Yn yr un modd, mae’r radd MEng yn cynnwys canran sylweddol o waith prosiect diwydiannol.

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, a seminarau, ac mae ein cyrsiau i gyd wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu ar eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol. Mae Lefelau Un a Dau yn gyffredin i’n holl gynlluniau gradd, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi drosglwyddo rhwng rhaglenni BEng a MEng ar ddiwedd Lefel Dau.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Egwyddorion Prosesau Cemegol a

Biocemegol• Labordy Peirianneg Gemegol• Trosglwyddo Gwres• Mecaneg Hylifau I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Dadansoddi Peirianneg I• Dadansoddi Peirianneg II• Dadansoddi a Dylunio Prosesu Cemegol• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Gwyddor Peirianneg Gemegol• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr

Lefel 2• Prosesau Gwahanu• Dylunio Adweithyddion• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Llif Hylifau• Technegau Ystadegol mewn Peirianneg• Egwyddorion Peirianneg Fiocemegol I• Dylunio ac Efelychu Prosesau• Thermodynameg Dylunio Prosesau• Modelu Prosesu• Gweithredoedd Proses a Pheiriannau

Amgylcheddol• Gweithredoedd Offer Prawf

BEng Anrhydedd SenglH831 s Peirianneg GemegolH832 u Peirianneg Gemegol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH801 u Peirianneg GemegolH890 l Peirianneg Gemegol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Cemegol

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar

sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg a Chemeg Lefel Uwch, ystyrir marciau uchel mewn Mathemateg a Chemeg Lefel Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg,

“ Rhoddodd fy amser yn Abertawe i mi bedair blynedd o

brofiadau gwych sydd wedi bod o fudd i mi yn amgylchedd heriol

y diwydiant olew. Nid yn unig rhoddodd Abertawe i mi’r sgiliau

peirianneg eu hangen i symud ymlaen gyda gyrfa yn y diwydiant

olew, ond hefyd llawer o sgiliau bywyd allweddol. ”Delyth Williams, Peiriannydd proses Phillips 66 Purfa Olew Humber

Peirianne

g –

Ce

me

go

l

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Lefel 3• Diogelwch ac Atal Colledion• Prosesau Gwahanu II• Dylunio Peiriannau Prosesu• Peirianneg Broses Gymhwysol• Ymarfer Peirianneg Amgylcheddol• Systemau Gronynnol• Dylunio Adweithyddion II• Rheoli Peirianneg• Technolegau Ynni a Charbon Isel• Prosiect Dylunio Peirianneg Gemegol

Lefel 4 (MEng)• Hylifau a Llifoedd Cymhleth• Optimeiddio• Egwyddorion Peirianneg Fiocemegol II• Moeseg, Diogelwch a Rheoliadau• Technoleg Pilenni• Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol• Prosiect Dylunio MEng• Prosiect Ymchwil MEng• Arferion Peirianneg Ddiwydiannol

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y

Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg a Chemeg Lefel Uwch)

Co

dau U

CA

S

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

155154

Page 80: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH101 u Dewis wedi’i Ohirio

(yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen)H405 u Peirianneg Awyrofod

gyda Blwyddyn SylfaenH835 u Peirianneg Gemegol

gyda Blwyddyn SylfaenH205 u Peirianneg Sifil

gyda Blwyddyn SylfaenH605 u Peirianneg Drydanol ac Electronig

gyda Blwyddyn SylfaenH837 u Peirianneg Amgylcheddol

gyda Blwyddyn SylfaenJ505 u Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

gyda Blwyddyn Sylfaen H307 u Peirianneg Fecanyddol gyda

Blwyddyn Sylfaen

Nid oes gan bob myfyriwr y gofynion mynediad sydd eu hangen i astudio Peirianneg, a’r unig ffordd i rai o beirianwyr mwyaf talentog heddiw gael eu graddau oedd trwy’r cyfle a gawsant i astudio cyrsiau a oedd yn cynnwys blwyddyn sylfaen.

Mae gradd Peirianneg bedair blynedd Abertawe gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig wedi’i dylunio er mwyn darparu mynediad ehangach i raddau Anrhydedd achrededig, gan roi’r cyfle i fwy o fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a dilyn gyrfaoedd gwobrwyol mewn peirianneg.

Mae ein graddau wedi’u hachredu gan:• Cydbwyllgor y Cymedrolwyr• Sefydliad y Peirianwyr Dylunio• Y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau, a

Mwyngloddio• Sefydliad y Peirianwyr Cemegol• Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg• Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol• Y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol

Bydd y Flwyddyn Beirianneg Sylfaen yn:

• eich galluogi i symud ymlaen i un o raddau peirianneg Prifysgol Abertawe, gan eich arfogi â rhai neu’r cyfan o’r wybodaeth danategol, y ddealltwriaeth, a’r sgiliau i allu cofrestru yn y diwedd yn Beiriannydd Ymgorfforedig (IEng) neu’n Beiriannydd Siartredig (CEng).

• darparu dealltwriaeth eang o themâu ac egwyddorion craidd peirianneg

Beth yw strwythur y radd?Mae ein graddau Blwyddyn Sylfaen Integredig wedi’u dylunio i’ch arfogi â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i astudio Peirianneg ar lefel Baglor neu Feistr. Maen nhw’n ymdrin ag ystod o bynciau sy’n gyffredin i’n holl raddau peirianneg.

Tra bod rhai myfyrwyr yn datgan ar eu ffurflenni cais pa raglen radd y byddant yn hoffi ei dilyn ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen, mae sawl myfyriwr yn dewis ei gynllun gradd yn ystod y flwyddyn sylfaen ei hun gan nad oes angen gwneud y penderfyniad terfynol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Mae’r flwyddyn astudio gyntaf ar Lefel 0, ac fe’i haddysgir drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau. Gallwch symud ymlaen i radd BEng ar Lefel 1 ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen, ac efallai gallwch drosglwyddo i rai cynlluniau MEng penodol ar ddiwedd Lefel 2.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 0 (Sylfaen)• Datblygu Sgiliau Allweddol i Beirianwyr• Trydan a Magnetedd• Sylfeini Defnyddiau

• Mecaneg• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia• Mecaneg Thermo-hylifau• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ib• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol IIa• Cemeg Sylfaenol• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol IIb• Gwyddor Peirianneg

Mae’r modiwlau sydd ar gael i chi yn y Lefelau dilynol yn dibynnu ar eich dewis o radd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr wybodaeth am y cyrsiau ar gyfer y graddau yr ydych yn eu hystyried.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Cynlluniau Blwyddyn Sylfaen Integredig

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: Rydym yn derbyn pobl o ystod eang o gefndiroedd i’r Flwyddyn Sylfaenol Peirianneg. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol, gan ddibynnu ar gefndir addysgol a phrofiad gwaith yr ymgeisydd.

Ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio Safon Uwch neu’r Fagloriaeth Ryngwladol ac sydd am i ni eu hystyried ar gyfer y cwrs sylfaen, yw Safon Uwch CCC neu Fagloriaeth 26.

Hefyd, disgwylir i bob ymgeisydd fod â TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) ym Mathemateg a’r holl Wyddorau ar radd B neu uwch.

Ystyrir myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad gwaith perthnasol, neu sydd wedi cwblhau cwrs mynediad gyda chynnwys da o ran mathemateg a gwyddoniaeth, hefyd ac efallai y bydd angen cyfweliad.

Hefyd, anogir myfyrwyr sy’n astudio BTEC neu gymhwyster galwedigaethol arall i geisio am le ar y rhaglen hon, hyd yn oed os na fydd ganddynt y cefndir mathemategol angenrheidiol am fynediad ar lefel 1. Y gofyniad gan fyfyrwyr BTEC yw DDM.

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Peirianne

g –

Cynlluniau B

lwyd

dyn S

ylfaen Inte

gre

dig

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes cymorth ariannol ar gael?Gweler tudalen 67 am ragor o wybodaeth ynglyn ag ysgoloriaethau’r Brifysgol.

Bydd eich awdurdod addysg lleol yn y DU yn ariannu’r pedair blynedd o astudio sy’n angenrheidiol am radd BEng integredig, ac mae’n bosib y bydd hefyd yn barod i ariannu’r flwyddyn ychwanegol os ydych yn dewis gwneud y radd MEng.

“ Roedd y flwyddyn sylfaen wedi fy ngalluogi i gychwyn ar y cwrs

BEng gyda dealltwriaeth o sut mae’r Coleg Peirianneg yn gweithio a

beth oedd y disgwyliadau ohonof i fel myfyriwr Peirianneg.

Cefais mai’r drydedd flwyddyn o fy nghwrs Baglor oedd y gorau,

oherwydd y rhyddid i ddilyn prosiect yn y flwyddyn olaf. Roedd fy

mhrosiect yn y Ganolfan Nanotechnoleg Amlddisgyblaethol, a roddodd

awydd i mi ddilyn MSc mewn Nanotechnoleg i Nanowyddoniaeth.

Gan fy mod wedi cael fy noddi, roedd gan fy mhrosiect MSc gysylltiad â

diwydiant oherwydd y cyllid, ac roeddwn i’n gweithio gyda chwmni o’r

enw Enfis. Roedd hyn yn fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau masnachol a

thechnegol rhagorol mewn awyrgylch diwydiannol go iawn. O’r fan

honno, roedd modd i mi drosglwyddo fy ngwybodaeth i Ganolfan

Golau Uwch-effeithiol Cymru yn y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio tuag at Ddoethuriaeth Peirianneg, EngD.”Jonathan Davies, BEng Peirianneg Drydanol ac Electroneg 2009,

a MSc Nanotechnoleg, 2010 Peiriannydd Ymchwil Lefel 1, Tata Steel

157156

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, ond bod gennych brofiad diwydiannol perthnasol neu gymwysterau eraill, cysylltwch â ni i drafod eich cais yn fanwl.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

HBC9 u Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen

H157 u Peirianneg Dylunio Cynnyrch gyda Blwyddyn Sylfaen

u cynllun 4 blynedd

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

157156

Page 81: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglJ500 s Gwyddor Defnyddiau a PheiriannegJ510 u Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn dramor) J502 u Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglJ504 u Gwyddor Defnyddiau a PheiriannegJ503 l Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Mae Peirianwyr Defnyddiau yn arwain datblygiadau technolegol y byd. Maen nhw’n gweithio o’r lefel atomig hyd at lefel cydrannau graddfa eang a dulliau gweithgynhyrchu i ddatblygu prosiectau arloesol newydd ym mhob sector, o’r sectorau awyrofod a moduro, i chwaraeon a thechnolegau ecogyfeillgar.

Mae Abertawe yn un o brif ganolfannau’r DU am addysgu defnyddiau ac mae ganddi enw da ar raddfa ryngwladol am ei hymchwil. Mae ein graddau i gyd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Bydd ein graddau Peirianneg Defnyddiau yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol mewn ystod o sectorau peirianneg, yn cynnwys awyrofod, moduro, gweithgynhyrchu, chwaraeon a generadu ynni

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• creu sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Mae Peirianneg Defnyddiau yn Abertawe wedi’i chefnogi gan ystod o bartneriaethau ym myd diwydiant, gan gynnwys Rolls-Royce, Airbus, a Tata Steel.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol, yn cynnig hyfforddiant mewn agweddau craidd gwyddor a pheirianneg defnyddiau. Byddwch yn ennill profiad ymarferol drwy archwiliadau labordy yn defnyddio’r offer diweddaraf, yn ogystal â chymwysiadau cyfrifiadura a modelu defnyddiau. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil neu ddylunio sylweddol yn ystod Lefel Tri (BEng) neu Bedwar (MEng).

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Adnoddau Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Rhinweddau Mecanyddol Defnyddiau• Gwaith Ymarferol ar Ddeunyddiau I• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol IIa• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Astudiaethau Achos Defnyddiau

Modiwlau Dewisol:• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Cemeg Sylfaenol• Gwyddor Peirianneg

Lefel 2• Defnyddiau Ymarferol a Smart• Esblygu a Rheoli Microstrwythurau• Technegau Ystadegol mewn Peirianneg• Gwaith Ymarferol ar Ddeunyddiau IIa• Trefn ac Anhrefn mewn Defnyddiau• Modelu ac Efelychu Defnyddiau• Cryfder Defnyddiau• Polymerau: Strwythur a Phrosesu• Defnyddiau Cyfrifiadurol I• Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Technoleg Gweithgynhyrchu II• Gwaith Ymarferol ar Ddeunyddiau IIb

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Defnyddiau

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Lefel 3• Defnyddiau Cyfrifiadurol II• Hollt a Lludded• Microstrwythurau a Chymeriadaeth• Meteleg Ffisegol Dur• Serameg • Polymerau: Priodweddau a Dylunio• Rheoli Peirianneg• Metelau: Gweithgynhyrchu Uwch a

Diogelu• Defnyddiau Cyfansawdd• Prosiect Ymchwil

Lefel 4 (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Cynllunio Prosiectau Strategol• Peirianneg Defnyddiau Awyrofod• Systemau Generadu Pwer• Technegau Ailgylchu Defnyddiau • Dadansoddi a Deddfwriaeth

Amgylcheddol• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Cadernid Strwythurol Metelau

Awyrofod• Prosiect Grwp• Traethawd Hir Ymchwil

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes cymorth ariannol ar gael?O ganlyniad i’n cysylltiadau cryf â byd diwydiant, rydym yn gallu cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrwyon ar Lefel Un, gan gynnwys ysgoloriaethau mynediad i’r sawl sydd â graddau uchel ar lefel Safon Uwch. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Peirianne

g –

De

fnydd

iau

159158

bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

159158

Page 82: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae cyfarpar chwaraeon ar ben blaen datblygiad defnyddiau newydd ac mae’r synergedd rhwng gwyddor chwaraeon a pheirianneg defnyddiau yn cynyddu’n gyflym. O raddio yn y radd hon, byddwch yn arbenigo mewn dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, a defnyddio defnyddiau ac offer chwaraeon mewn meysydd megis chwaraeon moduro, seiclo, chwaraeon dwr, chwaraeon raced, amddiffyn rhag trawiadau, arwynebau synthetig, ac offer prosthetig.

Datblygwyd y radd hon o gryfderau hirdymor y Brifysgol mewn Peirianneg Defnyddiau a Gwyddor Chwaraeon, ac mae ganddi achrediad gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Bydd ein gradd Defnyddiau Chwaraeon yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn peirianneg a thechnoleg sy’n berthnasol i chwaraeon mewn amrediad eang o sectorau, gan gynnwys offer, cerbydau, dillad ac arwynebau chwaraeon

• darparu’r hyfforddiant angenrheidiol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg defnyddiau i ganiatáu i chi ddilyn gyrfa mewn sectorau peirianneg mwy prif ffrwd, megis awyrofod, moduro, adeiladu ac ynni

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Mae gan Beirianneg Defnyddiau yn Abertawe hanes gwych o gydweithio â phartneriaid o bwys ym myd diwydiant sydd bellach yn cael ei ehangu i faes Defnyddiau Chwaraeon.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, prosiectau grwp ac astudiaethau achos. Bydd y rhain yn eich hyfforddi mewn agweddau craidd peirianneg defnyddiau, biomecaneg, a thechnegau mesur. Byddwch yn ennill

profiad ymarferol drwy wneud archwiliadau labordy gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf yn ogystal â chymwysiadau cyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil sylweddol, a fydd yn caniatáu i chi archwilio maes o’ch dewis yn fwy manwl, gyda’r rhan fwyaf o’r prosiectau yn gysylltiedig â’n hymchwil diwydiannol parhaus.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau I• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia a IIa• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Y System Niwrocyhyrysgerbydol Ddynol• Astudiaethau Achos Defnyddiau• Defnyddiau: Ymarferol I

Lefel 2• Esblygu a Rheoli Microstrwythurau• Polymerau: Strwythur a Phrosesu• Technoleg Gweithgynhyrchu II• Sesiynau Ymarferol IIa ac IIb• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol

BEng Anrhydedd SenglJ400 s Defnyddiau Chwaraeon

s cynllun 3 blynedd

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng Safon Uwch: BBB

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth / Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Defnyddiau Chwaraeon

“ Mae’r sector chwaraeon a hamdden yn un sy’n dibynnu fwyfwy

ar ddatblygiadau technolegol, yn enwedig ym maes defnyddiau.

Mae gweithgarwch economaidd yn y sectorau hyn yn sylweddol ac

yn cynyddu, yn y DU ac ar draws y byd. Gyda’n harbenigedd

hirdymor mewn Defnyddiau, a’r penderfyniad diweddar i gynnwys

Gwyddor Chwaraeon yn y Coleg Peirianneg, rydym yn gyffrous iawn

i gyflwyno’r cwrs israddedig newydd hwn i gwrdd â’r galw cynyddol

am raddedigion â sgiliau peirianneg technegol ynghyd â

gwybodaeth o wyddor chwaraeon a’r diwydiant chwaraeon. ”Dr Amit Das, Derbyn

Peirianne

g –

De

fnydd

iau Chw

araeo

n

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

• Cinanthropemeteg• Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Dulliau Ystadegol ym Mheirianneg

Lefel 3• Prosiect• Serameg• Polymerau: Priodweddau a Dylunio• Rheoli Peirianneg• Defnyddiau Cyfansawdd• Biomecaneg Chwaraeon• Is-strwythr a Nodweddu• Technoleg Mewnblannu a Phrostheteg

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes cymorth ariannol ar gael?O ganlyniad i’n cysylltiadau cryf â byd diwydiant, rydym yn gallu cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrwyon ar Lefel 1, gan gynnwys ysgoloriaethau mynediad i’r sawl sydd â graddau uchel ar lefel Safon Uwch. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

161160

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, gallwch gael eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Co

dau U

CA

S

161160

Page 83: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH150 s Peirianneg Dylunio CynnyrchH154 u Peirianneg Dylunio Cynnyrch

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH155 u Peirianneg Dylunio CynnyrchH156 l Peirianneg Dylunio Cynnyrch

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Mae Peirianneg Dylunio Cynnyrch yn gyrru’r gwaith o ddatblygu, profi a gweithgynhyrchu cysyniadau a chynhyrchion newydd. Mae’n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau, ac mae wrth wraidd rhai prosiectau ysbrydoledig tu hwnt, megis “Antur Peirianneg” y BLOODHOUND SSC, sy’n ceisio codi record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir i 1,000mya.

Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau Dylunio Cynnyrch wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am barhau i astudio Dylunio a Thechnoleg ar ôl Safon Uwch. Mae’r cyrsiau wedi’u strwythuro i’ch addysgu ynglyn â sut i gymryd cynnyrch o gam y cysyniad a’r dylunio gwreiddiol i fyny hyd at gynhyrchu a gweithgynhyrchu.

Prif themâu’r cwrs yw Dylunio Cynnyrch, Dylunio Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur, Dadansoddi Peirianegol, Gwyddor Defnyddiau, Gweithgynhyrchu, a gwaith prosiect â chymhwysiad diwydiannol.

Mae ein gradd Peirianneg Dylunio Cynnyrch wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianegol (IED)

Bydd ein graddau Dylunio Cynnyrch yn:

• eich hyfforddi i ddatblygu cynnyrch o gam y cysyniad a’r dylunio gwreiddiol hyd at gynhyrchu a gweithgynhyrchu

• rhoi’r gallu i chi ddisgrifio cynhyrchion newydd gan ddefnyddio brasluniau cysyniadol a dylunio technegol drwy gymorth cyfrifiadur

• rhoi’r gallu i chi ddeall egwyddorion sylfaenol peirianneg, gan gynnwys sut i werthuso data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau technegol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau,

wedi’u hategu gan sganio 3D o’r radd flaenaf ac offer prototeipio cyflym. Yn Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect dylunio grwp amlddisgyblaethol ar raddfa fawr.

Os ydych yn dewis y radd MEng, byddwch yn ennill gwerthfawrogiad ehangach o offer dylunio uwch a chysyniadau rheoli. Mae hyn yn darparu sgiliau technegol a dadansoddol ychwanegol i wella’r broses ddylunio a datblygu cynhyrchion gwell.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Cynaliadwyedd Peirianneg• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I• Cryfder Defnyddiau• Gweithdy Dylunio Cynnyrch I• Dylunio Peirianneg I• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Dadansoddi Peirianneg II

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Dylunio Cynnyrch

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar

sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg Lefel Uwch, ystyrir marciau uchel ym Mathemateg Lefel Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg

Peirianne

g –

Dylunio

Cynnyrch

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Rydw i wir yn mwynhau

astudio Dylunio Cynnyrch yn

Abertawe gan fod y cwrs yn

ymdrin ag amrywiaeth mor eang

o ddisgyblaethau sy’n arwain at

brofiad dysgu eang ac amrywiol.

Mae’r cwrs yn her ond hefyd yn

wobrwyol tu hwnt. Rydw i’n

hapus dros ben fy mod i wedi

dewis astudio yma. ”Stephen Wright, BEng Dylunio Cynnyrch

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosibl y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Lefel 2• Dadansoddi Cylchedau• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Gwerthuso Cynnyrch• Dylunio Elfennau Peiriannau• Technegau Ystadegol mewn Peirianneg• Mecaneg Hylif I• Thermodynameg I• Dadansoddi Straen I• Dylunio Peirianneg II• Technoleg Gweithgynhyrchu II• Gweithdy Dylunio Cynnyrch II

Lefel 3• Dylunio Cynnyrch drwy gymorth

Cyfrifiadur• Dull Elfennau Cyfyngedig• Optimeiddio Gweithgynhyrchu• Dylunio Peirianneg III• Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Rheoli Peirianneg• Defnyddiau Perfformiad Uchel a’u

Dewis• Prosiect Ymchwil• Gweithdy Dylunio Cynnyrch III

Lefel 4 (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Cynllunio Prosiectau Strategol• Systemau Generadu Pwer• Technegau Ailgylchu Defnyddiau• Dadansoddi a Deddfwriaeth

Amgylcheddol

• Optimeiddio• Defnyddiau Cyfansawdd• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Prosiect Grwp• Traethawd Hir Ymchwil

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

163162

Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

163162

Page 84: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH300 s Peirianneg Fecanyddol H305 u Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH304 u Peirianneg Fecanyddol H306 l Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Mae Peirianwyr Mecanyddol yn gweithio ym mhob agwedd ar y diwydiant peirianneg i drosi syniadau’n ddyfeisiau. Maen nhw’n dylunio ac yn datblygu cynhyrchion arloesol newydd, o ddyfeisiau biofeddygol ffurf fechan a lloerennau cyfathrebu pwrpasol, i gludiant awyr milwrol a sifil, cynhyrchu ynni, systemau ailgylchu, ac offer chwaraeon.

Mae Peirianwyr Mecanyddol felly ar flaen y gad ym maes technoleg ac o bosib, nhw yw’r mwyaf amryddawn a gwerthadwy o blith y proffesiynau peirianneg.

Achredir ein cynlluniau gradd Peirianneg Fecanyddol gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianegol (IED).

Bydd ein graddau Peirianneg Mecanyddol yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth eang o sectorau peirianneg, yn cynnwys peirianneg fodurol, awyrofod a chynhyrchu pwer

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, â dylunio peirianneg yn agwedd integredig ganolog drwy gydol y radd. Yn Lefel tri, datblygir eich sgiliau dylunio a dadansoddi ymhellach drwy brosiect dylunio grwp a phrosiect unigol yn gysylltiedig â diwydiant neu ymchwil.

Mae’n bosib i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng a MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd – mae’r MEng yn cyflwyno sgiliau rheoli ac entrepreneuriaeth uwch sy’n darparu sbringfwrdd i’r swyddi gorau mewn Peirianneg.

Cewch fanteisio ar gyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant cyn dychwelyd i Abertawe i gwblhau Lefel 3.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Cynaliadwyedd Peirianneg• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I• Cryfder Defnyddiau• Mecaneg Hylif I• Thermodynameg I• Dylunio Peirianneg I• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Dadansoddi Peirianneg II

Lefel 2• Trosglwyddo Gwres• Llif Hylifau• Dadansoddi Cylchedau• Thermodynameg II• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Dylunio Elfennau Peiriannau• Systemau Deinamig• Dynameg II

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Mecanyddol

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys 4 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig

ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys Mathemateg ar lefel uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

“ Mynychais gwrs yn ystod

gwyliau haf blwyddyn 12 o’r

enw Cynllun Addysg Beirianneg

Cymru, a oedd yn cynnig

cyflwyniad i beirianneg. Roedd

y cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth

eang o weithgareddau

peirianneg, o adeiladu a phrofi

dyfeisiau bach, i rocedi a darlith

gan gynrychiolydd o gwmni

Airbus UK. Gwnaeth y cwrs fy

annog i wneud peirianneg yma

yn Abertawe yn sicr. ”Sarah-Jane Rees, BEng Peirianneg

Fecanyddol

Peirianne

g –

Me

canydd

ol

• Dadansoddi Straen I• Dylunio Peirianneg II• Astudiaethau Arbrofol• Technoleg Gweithgynhyrchu II

Lefel 3• Dull Elfennau Cyfyngedig• Dynameg II• Optimeiddio Gweithgynhyrchu• Dadansoddi Peirianneg III• Dylunio Peirianneg III• Systemau Rheoli• Mecaneg Hylifau III• Rheoli Peirianneg• Arfer Peirianneg Fecanyddol• Prosiect Ymchwil

Lefel 4 (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Monitro Cyflwr a Gweithredu Cyfarpar• Cynllunio Prosiectau Strategol• Mecaneg Hylifol Uwch• Optimeiddio• Defnyddiau Cyfansawdd• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Systemau Rheoli Modern• Prosiect Grwp• Traethawd Hir Ymchwil

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes cymorth ariannaol ar gael?Gweler tudalen 67 am ragor o wybodaeth ynglyn ag ysgoloriaethau’r Brifysgol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

165164

AAB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

165164

Page 85: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglHB18 s Peirianneg Feddygol

MEng Anrhydedd SenglHB1V u Peirianneg Feddygol

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae Peirianneg Feddygol yn ddisgyblaeth ar flaen y gad sy’n pylu’r ffiniau rhwng y gwyddorau ffisegol a biofeddygol. Mae’n cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol yn ogystal ag at yr offeryniaeth sydd wrth wraidd meddygaeth fodern.

Mae astudio Peirianneg Feddygol yn Abertawe yn darparu cyfle cyffrous i archwilio ystod eang o faterion yn fanwl, o ddylunio dyfeisiau prosthetig a defnyddiau biogydnaws newydd i ymddygiad biomoleciwlau cymhleth a hylifau yn y corff.

Achredir y radd Peirianneg Feddygol gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Fe’i haddysgir yng Ngholegau Peirianneg a Meddygaeth y Brifysgol, ac mae’n ymgorffori tair thema peirianneg:

• Biomecaneg a defnyddiau – datblygu a dadansoddi defnyddiau o ran cryfder a biogydnawsedd

• Offeryniaeth – technegau diagnostig a therapiwtig uwch

• Bioprosesau – y prosesau ffisegol a chemegol sy’n digwydd o fewn y corff dynol

Bydd ein graddau Peirianneg Meddygol yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o sectorau, yn cynnwys dylunio a gweithgynhyrchu offeryniaeth a dyfeisiau meddygol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant meddygol (dyfeisiau ac offerynnau)

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Caiff eich astudiaethau academaidd eu hategu gan y thema glinigol gref sy’n rhedeg trwy holl ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau’r cwrs. Ar Lefel Tri, byddwch yn canolbwyntio ar gymhwyso peirianneg i’r corff dynol, ac yn cwblhau prosiect ymchwil unigol estynedig yn gysylltiedig â’r Coleg Meddygaeth neu ysbytai GIG lleol.

Mae’n bosibl y bydd modd i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng a MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd – mae’r MEng yn edrych tuag at ddyfodol peirianneg feddygol mewn meysydd fel Bio-nanotechnoleg a Pheirianneg Meinweoedd a Biomecaneg Gyfrifiadurol, yn tynnu ar arbenigedd a’r offer o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y Colegau Peirianneg a Meddygaeth.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dadansoddi Peirianneg I a II• Cyflwyniad i Beirianneg Feddygol• Offeryniaeth a Rheoli• Mecaneg Hylif• Cryfder Defnyddiau

Lefel 2• Bioleg Celloedd a Mecaneg Celloedd

i Beirianwyr• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Technegau Diagnostig Meddygol

Detholedig• Modelu Prosesau

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Meddygol

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig

ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 ym Mathemateg Lefel Uwch, ystyrir marciau uchel ym Mathemateg Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB (gan gynnwys Mathemateg)

How can I find out more?Sut ga i wybod rhagor? Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Lefel 3• Technoleg Mewnblaniadau a

Phrosthetig• Dylunio Cynnyrch drwy gymorth

Cyfrifiadur• Prosiect Grwp: Dylunio Peirianneg

Feddygol • Prosiect Ymchwil Unigol

Lefel 4 (MEng)• Delweddu Meddygol• Biomecaneg Gyfrifiadurol• Moeseg, Diogelwch, a Rheoleiddio

mewn Peirianneg• Prosiect gyda’r Diwydiant Meddygol

neu’r GIG

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Peirianne

g –

Me

dd

ygo

l

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosibl y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

167166

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 ym Mathemateg Lefel Uwch)

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

“ Mae ansawdd ac argaeledd y labordy a’r systemau TG gymaint

yn well nag unrhyw beth rydw i wedi’i weld mewn unrhyw brifysgol

arall, yn enwedig yr amrediad o offer yn y labiau electroneg.”Luke Burke, BEng Medical Engineering

167166

Page 86: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

BEng Anrhydedd SenglH200 s Peirianneg SifilH202 u Peirianneg Sifil (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH201 u Peirianneg SifilH204 l Peirianneg Sifil (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 blynedd

Mae peirianwyr sifil yn llunio ac yn diogelu’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Maen nhw’n dylunio, yn adeiladu, ac yn cynnal prosiectau isadeiledd mawr, megis systemau trafnidiaeth, cyflenwi dwr, ac adeiladau, ac maen nhw’n datblygu ffyrdd newydd i gwrdd â heriau peirianneg mwyaf y byd.

Mae Abertawe yn gyson ymysg y prifysgolion uchaf o ran Peirianneg Sifil yn y DU ac mae ei pheirianwyr wrth wraidd prosiectau gwirioneddol ysbrydoledig, gan gynnwys “Antur Peirianneg” BLOODHOUND SSC, sy’n bwriadu cynyddu record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir i 1,000mya. Graddiwyd Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn 2il yn y DU yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil diweddaraf yn 2008.

Achredir ein rhaglenni gradd MEng a BEng Peirianneg Sifil gan Gydbwyllgor y Cymedrolwyr (JBM).

Bydd y graddau hyn yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn peirianneg sifil, strwythurol, dinesig a meysydd peirianneg perthynol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail

cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan ymweliadau safle â rhai o’n partneriaid diwydiannol, sawl un ohonynt yn sefydliadau rhyngwladol mawr ac yn enwau o bwys.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol

Mae’n bosibl y bydd modd i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng ac MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd. Os ydych yn penderfynu

astudio’r radd BEng neu MEng â blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn treulio blwyddyn ar leoliad diwydiannol â chwmnïau lleol neu genedlaethol cyn i chi ddychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau Lefelau Tri a Phedwar. Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog ein myfyrwyr i ennill profiad ymarferol ym myd diwydiant a byddwn yn eich cefnogi os ydych yn penderfynu gwneud lleoliad diwydiannol deuddeg mis.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Labordy Sifil I• Cynaliadwyedd Peirianneg• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I• Cryfder Defnyddiau• Tirfesur• Dylunio Cysyniadol• Labordy Sifil II• Mecaneg Hylif I• Dadansoddi Peirianneg II

Lefel 2• Mecaneg Strwythurol IIa• Dylunio Concrit Cyfnerthedig• Mecaneg Bridd Sylfaenol• Dylunio Dur• Technegau Ystadegol mewn Peirianneg

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Sifil

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig

ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (o leiaf 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch. Ystyrir marciau uchel ym Mathemateg Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

Peirianne

g –

Sifil

“ Mae peirianneg yn

Abertawe yn wych. Mae safon yr

addysgu’n ardderchog ac mae

yna rywun bob amser wrth law i

gynnig cymorth ychwanegol.

Mae’r prosiectau yr wyf wedi

cymryd rhan ynddynt hyd yn hyn

yn cynnwys: gwneud pont ddur;

dysgu sut i ddefnyddio

meddalwedd fel Matlab, CAD a

rucksack; dylunio a chymysgu

eich concrit eich hun; a thaith

maes tri diwrnod i dirfesur yng

nghanolbarth Cymru.”Rosie Jay, MEng Peirianneg Sifil

• Daeareg Ragarweiniol i Beirianwyr• Mecaneg Hylifau II• Mecaneg Strwythurol IIb• Labordy Sifil III• Dynameg I• Rheoli Peirianneg• Ymarfer Dylunio Peirianneg Sifil I

Lefel 3• Geomecaneg• Dull Elfennau Cyfyngedig• Dylunio Peirianneg Tir a Dwr• Dylunio Uwch-strwythurau• Prosesau a Pheirianneg Arfordirol• Mecaneg Strwythurol III• Peirianneg Sylfeini• Hydroleg a Llif Ansefydlog• Ymarfer Dylunio Peirianneg Sifil II• Prosiect Ymchwil

Lefel 4 (MEng)• Dadansoddi Cyfrifiadurol Elfennau

Cyfyngedig• Dadansoddi Strwythurol Uwch• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Peirianneg Arfordirol• Dadansoddi Dynameg a Byrdymor• Dylunio Strwythurol Uwch• Rhyngweithio Strwythur-Hylifau• Plastigrwydd Cyfrifiadurol• Modelu ac Efelychu Cronfeydd• Prosiect Grwp

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, fe allwch gael eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

AAB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Co

dau U

CA

S

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

169168

Page 87: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

BEng Anrhydedd SenglH602 s Peirianneg Electronig a ThrydanolH603 u Peirianneg Electronig a Thrydanol

(gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

H613 s Peirianneg Electroneg gyda Nanotechnoleg

MEng Anrhydedd SenglH606 u Peirianneg Electronig a ThrydanolH600 l Peirianneg Electronig a Thrydanol

(gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

H614 u Peirianneg Electroneg gyda Nanoelectroneg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd l cynllun 5 blynedd

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Trydanol ac Electronig

Pa raddau rydw i eu hangen? BEng

Safon Uwch: BBB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

BBB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas, e.e. ‘300 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 100 mewn Mathemateg’.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32 (gan gynnwys 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch, ystyrir marciau uchel ym Mathemateg Sylfaenol hefyd)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB (gan gynnwys Mathemateg)

Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw: Ffiseg, Mathemateg Bellach, Cemeg, Technoleg Dylunio, Technoleg Gwybodaeth/Cyfrifiadura, Bioleg

AAB – ABB yw ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy’n astudio tri phwnc Safon Uwch, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegpeirianneg

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Peirianne

g –

Trydano

l ac Electro

nig

Mae peirianneg drydanol yn diffinio’r byd o’n cwmpas. O chwaraewyr MP3 i’r Rhyngrwyd, o rwydweithiau ffonau symudol byd eang i ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae’n llywio’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.

Mae peirianneg drydanol yn cynnig cyfle i weithio ar draws y byd cyfan, o gyffro byd Fformwla Un ac “Antur Peirianneg” y BLOODHOUND SSC, i’r cyflymydd gronynnau enfawr yn CERN yn y Swistir. Mae Nanotechnoleg, agwedd newydd ar Beirianneg sy’n torri tir newydd, yn sbarduno’r broses o ddatblygu cyfrifiaduron tra chyflym a biosynwyryddion uwch-sensitif, sy’n chwyldroi’r diwydiannau electroneg a meddygol, ac yn y pendraw, yn newid y ffordd rydym yn byw.

Mae ein graddau Peirianneg Drydanol ac Electronig wedi’u hachredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae Prifysgol Abertawe’n Bartner Academaidd Uwch i IET. Mae’r radd Peirianneg Drydanol gyda Nanotechnoleg wedi’i chyflwyno ar gyfer achredu.

Bydd ein graddau Peirianneg Trydanol ac Electronig yn:• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn

peirianneg drydanol, electronig a nanopeirianneg mewn ystod eang o sectorau diwydiannol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant electronig

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• gosod sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Mae sawl un sydd wedi graddio mewn peirianneg drydanol ac electronig o Abertawe wedi symud ymlaen i fod yn uwch swyddogion gweithredol mewn cwmnïoedd rhyngwladol a hyd yn oed entrepreneuriaid sydd wedi troi’n filiwnwyr trosodd a throsodd.

Beth yw strwythur y radd?Rydym yn gweithio gyda chwmnïau blaenllaw’r byd yn cynnwys Agilent, BT, Siemens ac Auto Glass i sicrhau bod eich astudiaethau wedi’u hategu gan ymarfer cyfredol, perthnasol i fyd diwydiant ac ymchwil gydnabyddedig ar raddfa ryngwladol.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau labordy. Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn astudio testunau lefel uwch wedi’u teilwra i’ch disgyblaeth arbennig ac yn cwblhau prosiect unigol sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae prosiectau yn amrywio o brofi syniadau newydd mewn offeryniaeth i ddylunio dyfeisiau electronig newydd gydag un o’n grwpiau ymchwil blaenllaw.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol.

Nodwedd allweddol y radd Peirianneg Drydanol gyda Nanotechnoleg yw’r cyfle i weithio ar flaen y gad gydag un o dechnolegau mwyaf cyffrous y byd, a hynny mewn amgylchedd ymarferol. Cewch eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a sesiynau labordy, a byddwch yn cael manteisio ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein Peiriannu Systemau a Phrosesau.

Ar Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect sy’n datblygu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes defnyddiau a dyfeisiau trydanol ar y raddfa nano, gan gynnwys gweithgynhyrchu a nodweddu ar y raddfa nano gan ddefnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y Ganolfan. Ar gyfer y MEng, cewch gynnig ystod o

opsiynau uwch ym maes datblygu nanoelectroneg, gan gynnwys ymchwilio ar y raddfa nano, a strwythurau a dyfeisiau ar y raddfa nano.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1• Dylunio Digidol• Micro-reolyddion• Dadansoddi Cylchedau• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Dadansoddi Peirianneg I• Defnyddiau Ymarferol a Smart• Offeryniaeth a Rheoli• Systemau Deinamig• Arwyddion a Systemau• Dylunio Analog• Dadansoddi Peirianneg II• Peirianneg Bwer I

Lefel 2• Defnyddiau a Dyfeisiau Electronig• Peirianneg Meddalwedd• Cyfathrebu• Electromagneteg• Cylchedau Electronig• Systemau Rheoli• Peirianneg Bwer II• Antenau a Lledaenu• Arwyddion a Systemau• Technoleg Lled-ddargludyddion• Cylchedau Ymarferol• Ymarfer Dylunio Grwp

Lefel 3• Electroneg Dylunio• Cylchedau Microdonnau ac Antena• Cyfathrebu Llafar a Delwedd• Dyfeisiau Cwantwm• Dylunio Cylchedau Integredig• Electroneg Pwer• Cyfathrebu Digidol• Rheoli Peirianneg• Nanoelectroneg• Prosiect Ymchwil

Lefel 4 (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Electroneg Pwer Uwch a Gyriannau• Technolegau Electroneg Ynni Effeithlon• Electroneg Gap Band Eang• Systemau Rheoli Modern• Prosiect Grwp• Modiwlau dewisol:• Arwyddion a Systemau• Cyfathrebu Digidol• Cyfathrebu Optegol• Chwilio ar y raddfa Nano• Nanotechnoleg Feddal• Strwythurau a Dyfeisiau ar y

Raddfa Nano• RF a Microdonau• Systemau Cyfathrebu Symudol• Cyfathrebu Diwifr

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Er nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar gael ym maes Peirianneg ar hyn o bryd, cynigir darpariaeth anffurfiol ar gyfer myfyrwyr. Yn Lefel 1, cynigir dosbarthiadau problemau yn y Gymraeg fel rhan o’r cyrsiau mathemateg ac mae modd hefyd gwneud rhan o’r gwaith cwrs sy’n gysylltiedig â’r modiwl sgiliau yn y Gymraeg. Darperir tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â’r opsiwn o dderbyn goruchwyliaeth prosiect ymchwil Lefel 3 yn Gymraeg. Cynigir darpariaeth mwy ffurfiol yn y dyfodol agos.

At hynny, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosibl y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 102).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ar gyfer y graddau blwyddyn yn Ewrop, rhaid cael iaith berthnasol ar lefel TGAU gradd B neu uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

170 171

Co

dau U

CA

S

Mae 91% o raddedigion Peirianneg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

171170

Page 88: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

“ Ar ôl colli rhan o’m golwg a dod yn fam, roeddwn am wneud

rhywbeth i mi fy hun a chyflawni fy amcanion. Ers dechrau yn y brifysgol

dwy flynedd yn ôl, mae gennyf fwy o hunan hyder, ac rwy’n mwynhau

dysgu am bynciau newydd sy’n effeithio ar bawb, bob dydd. Mae

Abertawe wedi cwrdd â’m disgwyliadau. ” Carly Burgess, BSc Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe

BSc Anrhydedd SenglL400 s Polisi Cymdeithasol

BA Cyd-Anrhydedd Polisi Cymdeithasol aLL41 s EconomegLL42 s GwleidyddiaethLV43 s Hanes Cymdeithasol

BSc Cyd-Anrhydedd Polisi Cymdeithasol aLL47 s Daearyddiaeth MLF4 s Troseddeg

s cynllun 3 blynedd

Mae Polisi Cymdeithasol yn bwnc academaidd ac yn faes cymhwysol. Mae’n ein helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mwyaf brys yr oes, trwy ddeall sut a pham mae cymdeithasu’n newid, a sut mae polisïau’n cael eu llunio i ymateb i’r newidiadau hyn.

Mae Polisi Cymdeithasol yn ystyried materion megis hawliau cymdeithasol dinasyddion, materion cydraddoldeb a thegwch, pa bethau y dylid eu tybio’n anghenion dynol sylfaenol, sut y dylid cwrdd â’r anghenion hynny a phwy sy’n gyfrifol am hynny. Mae hefyd yn rhoi persbectif beirniadol ar faterion megis trosedd, tlodi, ac anghyfartaledd rhyw ac iechyd, gan asesu effaith bob un o’r rhain ar unigolion ac ar y gymdeithas gyfan.

Bydd ein rhaglen israddedig yn eich cyflwyno i’r problemau a’r cwestiynau hyn, ac yn eich annog i ddatblygu ymagwedd feirniadol tuag at weld sut mae llywodraethau a sefydliadau eraill yn ymateb i anghenion cymdeithasol newidiol mewn cyd-destun cynyddol fyd-eang. Mae’r rhaglen yn dod â ffocws cenedlaethol a rhyngwladol i Bolisi Cymdeithasol, trwy gadw’n gyfredol â’r ffyrdd y mae globaleiddio, mudiadau cymdeithasol, yr Undeb Ewropeaidd, a llywodraethau datganoledig yn y DU yn llunio polisïau yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd ein gradd Polisi Cymdeithasol yn:

eich helpu i ddatblygu:

• ymwybyddiaeth feirniadol o drawsnewidiadau gwladwriaeth les

• gwybodaeth ddwys am wahanol agweddau lles, megis iechyd a gofal cymdeithasol, nawdd cymdeithasol, tai, trosedd, heneiddio, a dinasyddiaeth

• dealltwriaeth o’r maes o safbwynt damcaniaethol a safbwynt cymhwysol

• ymwybyddiaeth o safbwyntiau rhyngwladol a chymharol tuag at les cymdeithasol

darparu:• yr wybodaeth a’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa yn y sector cyhoeddus, yn cynnwys llywodraeth leol a chanolog, y system cyfiawnder troseddol, sefydliadau gwirfoddol a’r sector preifat.

eich arfogi ar gyfer:• hyfforddiant proffesiynol a

galwedigaethol pellach ym meysydd megis y gyfraith, dysgu, rheoli tai, iechyd a gofal cymdeithasol, eiriolaeth, neu waith gwirfoddol

eich paratoi ar gyfer:• astudio ôl-raddedig neu ymchwil tuag

at yrfa academaidd

eich dysgu:• ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan

gynnwys dadansoddi, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, astudiaeth annibynnol a gweithio fel rhan o dîm yn ogystal â sgiliau ysgrifenedig, cyflwyno a sgiliau cyfathrebu eraill

Beth yw strwythur y radd?Mae’r Rhaglen yn cynnig cyfle i ddilyn naill ai Gradd Anrhydedd Sengl mewn Polisi Cymdeithasol neu Radd Gyd-Anrhydedd gyda phynciau eraill yn Abertawe, gan gynnwys Troseddeg. Mae pob gradd yn cynnig modiwlau sy’n cyfuno hyfforddiant dadansoddi beirniadol a sgiliau ymchwil sylfaenol ag astudio pynciau llosg cyfoes o ran lles.

Cewch eich dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau gweithdy, sesiynau cymorth, a sesiynau un-i-un. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau cryf gyda gweithwyr proffesiynol yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a’r sector gwirfoddol sydd yn aml yn cyfrannu i’n Rhaglen fel darlithwyr gwadd.

Os ydych yn penderfynu dilyn gradd Cyd-Anrhydedd byddwch fel arfer yn dilyn 50% o’ch modiwl ym Mholisi Cymdeithasol a 50% yn y pwnc arall. Ceir manylion pellach am ein cyrsiau gradd ar ein gwefan.

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Polisi Cymdeithasol

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606726

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBB

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Mae cymwysterau Safon Uwch mewn pynciau llenyddol megis Saesneg, Hanes, Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, y Gyfraith neu Seicoleg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Pa fodiwlau sydd ar gael?I gwblhau’ch gradd, bydd raid i chi ennill 120 o gredydau ar bob lefel.

Lefel 1Modiwlau gorfodol ar gyfer Graddau Anrhydedd Sengl a Chyd-Anrhydedd• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol I:

Problemau Cymdeithasol• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol II:

Y Cyfnod Modern• Sgiliau Astudio mewn Troseddeg a

Pholisi Cymdeithasol• Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder

Troseddol

Modiwlau gorfodol ar gyfer y Radd Anrhydedd Sengl• Darpariaeth Lles: Ein Hetifeddiaeth

Fictoraidd• Cysyniadau, Syniadau ac Ideolegau

mewn Polisi Cymdeithasol: Cyflwyniad

Modiwlau eraill• Troseddeg, Trosedd a Chymdeithas• Cyflwyniad i’r Gyfraith• Dioddefwyr a Dioddefoleg• Y Dychymyg Troseddegol

Cewch ddewis hefyd o fodiwlau dewisol sydd ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o ystod o raglenni ar draws y Brifysgol.

Lefel 2 (modiwlau gorfodol ar gyfer y Radd Anrhydedd Sengl)• Modelau Polisi Cymdeithasol• Ymdriniaeth Gymharol o’r

Wladwriaeth Les

Lefel 3 (modiwlau gorfodol ar gyfer y Radd Anrhydedd Sengl)• Egwyddorion Polisi Cymdeithasol• Traethawd Hir ar Bolisi Cymdeithasol

Yn ystod Lefelau Dau a Thri, cewch hefyd ddewis o ystod o fodiwlau Polisi Cymdeithasol dewisol er mwyn cyrraedd 120 o gredydau ar bob lefel, gan gynnwys:

• Polisi Anabledd• Polisi Iechyd• Polisi’r Teulu• Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a

Dinasyddiaeth• Polisi Cymdeithasol yn Ewrop• Polisi Tai• Polisi Nawdd Cymdeithasol: Ymateb y

Wladwriaeth i Anghenion Ariannol

Cewch hefyd ddewis o fodiwlau Troseddeg dewisol, gan gynnwys:• Achosion Troseddu• Troseddau Rhywiol• Trosedd, Cyffuriau ac Alcohol• Camwahaniaethu, Gormes, Trosedd

a’r Cyfryngau

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw heblaw am yn achos modiwlau ieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaith dan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau a phrosiectau), aseiniadau ac arholiadau.

Yn ystod Lefel Tri, bydd cyfle gennych i gwblhau traethawd hir Polisi Cymdeithasol, oddeutu 10,000 o eiriau ar fater cymdeithasol neu bwnc polisi perthnasol o’ch dewis.

Polisi C

ymd

eithaso

l

Mae 87% o raddedigion Polisi Cymdeithasol mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

173172

Co

dau U

CA

S

173172

Page 89: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

BA Anrhydedd SenglN101 s Rheoli BusnesN2M1 s Rheoli Busnes (gyda blwyddyn

dramor)NN12 u Rheoli Busnes gyda’r GyfraithN127 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith)

BSc Anrhydedd SenglNN43 s Cyfrifeg a ChyllidNN4H u Cyfrifeg a Chyllid

(gyda blwyddyn dramor)N100 s Rheoli BusnesNN13 u Rheoli Busnes

(gyda blwyddyn dramor)N1N4 s Rheoli Busnes (Cyfrifeg)N1N3 s Rheoli Busnes (Cyllid)

N1G5 s Rheoli Busnes (Systemau Gwybodaeth)

N1N5 s Rheoli Busnes (Marchnata)N122 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith)

BSc Cyd-anrhydeddNL21 s Rheoli Busnes ac Economeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae rheoli’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a chael y gorau gan bobl ar bob lefel ym mhob math o sefydliad. Mae’n rhyngddisgyblaethol: mae gan ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol, seicolegol, economaidd a thechnegol rolau pwysig i’w chwarae.

Mae Ysgol Busnes Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod o raglenni gradd sy’n galluogi myfyrwyr i ddewis gradd Rheoli Busnes cyffredinol neu raglen fwy arbenigol gyda mwy o ffocws ar un o bynciau creiddiol y ddisgyblaeth.

O fewn yr Ysgol, ceir ffocws ar theori ac ymarfer gan staff academaidd sydd ar flaen y gad o ran ymchwil yn eu meysydd, a staff sydd â phrofiad o’r ‘byd go iawn’. Mae hyn yn rhoi profiad addysgol eithriadol ac sy’n creu sylfaen ardderchog ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, ac mae gan yr Ysgol record dda o osod graddedigion gyda chwmnïau blaengar amlwladol.

Mae gan yr Ysgol Busnes ddimensiwn rhyngwladol cryf ac mae llawer o’n cynlluniau gradd yn cynnig dewis cyfnewid am flwyddyn, yn astudio mewn sefydliad academaidd yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd, neu mewn Prifysgol Saesneg yn Ewrop. Mae’r rhagolygon gyrfaol yn arbennig o dda, ac

mae’r Ysgol wedi’i hachredu gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys:

• Y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)• Y Sefydliad Cyfrifwyr Rheoli Siartredig

(CIMA)• Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig

Siartredig (ACCA)

Mae’n bosibl y bydd yr achrediadau hyn yn golygu na fydd angen i chi sefyll arholiadau rhai cyrff proffesiynol ar ôl i chi raddio.

Bydd ein graddau Rheoli Busnes yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheoli mewn sectorau megis manwerthu, gweithgynhyrchu, cyllid, cyfrifeg, a’r sector cyhoeddus

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi er mwyn gwella’ch cyflogadwyedd

• cyfuno safbwyntiau damcaniaethol ac ymarferol i sicrhau addysg fusnes fwy cyflawn

Entrepreneuriaeth a Chyflogadwyedd Mae ein myfyrwyr yn cael amrediad o gyfleoedd i ennill profiad perthnasol trwy’n modiwlau Mentergarwch dewisol, trwy brosiectau’n gysylltiedig â diwydiant, a

thrwy interniaethau. Mae gennym dîm Cyflogadwyedd penodol sy’n trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys siaradwyr allanol, gweithdai CV, a gemau busnes megis ein ‘Her £50’. Cewch gyfle hefyd i ymwneud â ‘Myfyrwyr mewn Menter Rydd’, trefnu lleoliad gwaith, neu gael blas pwrpasol ar waith trwy ein partneriaid, Go Wales, a chadw’n gyfredol â’r swyddi a’r cyfleoedd diweddaraf i raddedigion trwy ein tudalen Facebook.

Beth yw strwythur y radd?Gallwch ddewis dilyn rhaglen astudio gyffredinol neu gallwch arbenigo mewn maes arbennig. Mae ein hystod eang o fodiwlau yn rhoi’r rhyddid i chi ddilyn y pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Mae nifer o’r modiwlau’n gyffredin i bob un o’r graddau Rheoli Busnes, ond bydd modiwlau gorfodol yn amrywio yn ôl y cwrs yr ydych yn dewis ei ddilyn.

Gallwch arbenigo mewn Marchnata, Cyfrifeg, Cyllid, neu Systemau Gwybodaeth, neu gallwch ddewis cynllun sy’n cynnwys blwyddyn dramor, lle cewch gyfle i astudio yn un o’n 40 prifysgol neu ysgol fusnes partner yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd neu Ewrop.

Yr Ysgol Fusnes

Rheoli Busnes

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/business

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295601

Ymwelwch â’r Brifysgol: : Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB – BBB

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Bydd ein cynigion yn cydnabod cwblhau craidd Y Fagloriaeth Gymreig

Gan fod ein modiwlau Lefel Un yn gyffredin i’r rhan fwyaf o’r rhaglenni gradd, mae ein cyrsiau wedi’u strwythuro i roi’r hyblygrwydd sydd ei angen arnoch i gwrdd â’ch amcanion a’ch nodau addysgol. Er enghraifft, gallwch fel arfer newid rhwng rhaglen tair blynedd a rhaglen pedair blynedd, rhwng BA a BSc, neu rhwng gradd gyffredin a rhaglen astudio fwy penodol.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Graddau Rheoli Busnes:Lefel 1Mae’r modiwlau’n ymdrin â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i astudio Rheoli Busnes, gan gynnwys:

• Marchnata • Pobl a Sefydliadau• Cyfrifeg Ariannol a Rheoli • Economeg• Sgiliau Academaidd, Proffesiynol, ac

Entrepreneuriaeth• Dulliau Ystadegol • Dulliau Meintiol

Mae fersiynau amgen o fodiwlau Lefel Un ar gael i fyfyrwyr â chefndiroedd mathemategol gwahanol, ac i fyfyrwyr sy’n meddu ar gymhwyster Safon Uwch mewn Economeg a’r rheiny sydd heb.

Lefel 2Ar Lefel Dau, bydd pob rhaglen radd yn gynyddol arbenigol. Bydd myfyrwyr yn astudio cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol ond gyda mwy o ddewis o fodiwlau nag ar Lefel Un.

Mae’r graddau BSc Rheoli Busnes yn canolbwyntio mwy ar agweddau meintiol y pwnc, megis Cyllid Corfforaethol a Rheoli Gweithredol, tra bod y graddau BA yn canolbwyntio mwy ar bynciau sy’n ymwneud â threfniadaeth a phobl, megis Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadau.

Ar Lefel Dau, mae oddeutu traean o’ch modiwlau yn agored i ddewis, ac yn cynnwys pynciau megis cyfrifeg, cyllid, entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, cyfraith busnes, gwneud penderfyniadau, systemau gwybodaeth, economeg, ac opsiwn i astudio iaith Ewropeaidd.

Lefel 3Bydd rhai modiwlau’n orfodol, o ganlyniad i’ch dewis gradd, ond ar y lefel hon cewch ddewis oddeutu hanner eich modiwlau o’r dewisiadau sydd ar gael. Bydd y rhain yn caniatáu i chi archwilio pynciau newydd, yn ogystal â datblygu’ch gwybodaeth o’r pynciau a astudiwyd ar Lefel Dau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

• Ymddygiad Defnyddwyr• Ymchwil Marchnata• Cyfathrebu Marchnata• Gwasanaethau Ariannol• Arloesi Ariannol a Rheoli Risg• E-fasnach• Entrepreneuriaeth• Rheoli Amgylcheddol• Cyfraith Busnes• Rheoli Adnoddau Dynol• Moeseg Fusnes• Strategaeth Reoli• Rheoli Prosiectau• Systemau Gwybodaeth• Ymddygiad Cyfundrefnol

Cyfrifeg a Chyllid: mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau cyllid a chyfrifeg megis Cyfrifeg Ariannol, Cyfrifeg Rheoli, Cyllid Corfforaethol, a Threthiant ar Lefelau 2 a 3. Bydd myfyrwyr ar y cynllun hwn yn cael eu heithrio o rai arholiadau proffesiynol CIMA a holl arholiadau proffesiynol lefel sylfaenol yr ACCA.

Rhe

oli B

usnes

Ar gyfer pob un o’n cyrsiau, bydd angen TGAU Mathemateg ac Iaith Gymraeg neu Iaith Saesneg ar radd C neu uwch arnoch.

Os ydych yn dewis astudio un o’n rhaglenni gradd Rhyngwladol (iaith), fel arfer bydd angen cymhwyster Safon Uwch arnoch mewn iaith briodol, er y gallai cymhwyster TGAU mewn Eidaleg neu Sbaeneg fod yn dderbyniol ar gyfer graddau gyda’r ieithoedd hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 92% o raddedigion Busnes mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

175174

Page 90: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Rheoli Busnes (Marchnata): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefelau Un a Dau, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau marchnata megis Ymddygiad Defnyddwyr, Cyfathrebu Marchnata Integredig, Ymchwil Marchnata, a Marchnata Strategol Byd-eang ar Lefel Tri. Mae’r rhaglen wedi’i chydnabod gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, a chaiff graddedigion y rhaglen hon eu heithrio o rai cymwysterau cynnar y Sefydliad, a chânt fynd yn syth i Ddiploma Marchnata Proffesiynol y Sefydliad.

Rheoli Busnes (Cyllid): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau megis Cyfrifeg Ariannol, Arloesi Ariannol a Rheoli Risg, Gwasanaethau Ariannol, a Cyllid Corfforaethol ar Lefelau 2 a 3.

Rheoli Busnes (Cyfrifeg): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel 1, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau megis Cyfrifeg Rheoli, Cyfrifeg Ariannol, Trethiad, a Gwasanaethau Ariannol ar Lefelau 2 a 3.

Rheoli Busnes (Systemau Gwybodaeth): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau Systemau Gwybodaeth megis, E-fasnach, Systemau Bas-data, a Chynllunio a Rheoli Systemau Gwybodaeth ar Lefelau 2 a 3.

Rheoli Busnes gyda’r Gyfraith: mae hyn yn dilyn strwythur y rhaglen Rheoli Busnes, gyda thraean o’ch credydau yn cael eu hastudio mewn modiwlau o Ysgol y Gyfraith. Mae rhaglen LLB Y Gyfraith gyda Busnes ar gael hefyd – gweler tudalen 196 am fanylion.

Rheoli Busnes ac Economeg: mae’n dilyn y rhaglen Rheoli Busnes, gydag oddeutu hanner eich credydau yn dod o fodiwlau Economeg.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’r modiwl EBP302W – Entrepreneuriaeth – Menter Newydd, gwerth 20 credyd yn rhedeg yn ystod semestr 1 a 2 yn y drydedd flwyddyn. Mae’r modiwl hwn yn archwilio defnydd ymarferol o egwyddorion busnes i baratoi ar gyfer sefydlu menter busnes newydd. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Cyrchfannau diweddar ein graddedigion

• Ymgynghorydd Modelu Dadansoddol Blaengar, AC Neilsen

• Dadansoddwr Busnes, Bloomberg• Graddedig Masnachol, Tata Steel

• Dadansoddwr Ariannol, Cable and Wireless Worldwide

• Graddedig Ariannol dan Hyfforddiant, Tate & Lyle

• Graddedig Ariannol, Ford Motor Company

• Archwilydd Ariannol, PriceWaterhouseCoopers

• Rheolwr Ariannol dan Hyfforddiant, L’Oreal• Masnachwr Arian Tramor, HSBC• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant,

Enterprise Rent-a-Car• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant,

Barclays• Bancwr Buddsoddi, Julian Hodge• Ymgynghorydd TG, Cap Gemini• Ymgynghorydd Rheoli, Accenture• Rheolwr dan Hyfforddiant, Marks

and Spencer• Rheolwr dan Hyfforddiant, Shell UK• Ymgynghorydd Recriwtio, Microsoft• Masnachwr Cyfranddaliadau, OSTC• Cyfrifydd dan Hyfforddiant, Deloitte• Archwilydd dan Hyfforddiant,

PriceWaterhouseCoopers

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac asesu parhaus o’ch gwaith mewn darlithoedd, gwaith ymarferol, aseiniadau grwp, seminarau a thiwtorialau.

“ Y peth gorau am fy nghwrs oedd yr amrywiaeth. Cymerais modiwlau mewn pynciau fel

marchnata cyfrifyddu, e-fasnach, entrepreneuriaeth a rheolaeth amgylcheddol. Dysgodd fy ngradd imi

sgiliau hanfodol megis ysgrifennu academaidd a sut i feddwl yn ddadansoddol ac rwy’n defnyddio’r

holl sgiliau hyn yn y gweithle. Ar ddiwedd fy ngradd, cynigwyd llefydd imi ar gynlluniau hyfforddi

graddedigion Nationwide a Fujitsu, ac yr wyf newydd ddechrau gweithio yn Nationwide. Cyn imi

ddechrau yn Abertawe doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl, ond yr oedd y tu hwnt i’r hyn

breuddwydiais amdano.” Steven Begbie, BSc Rheoli Busnes 2012 Graddedigion Corfforaethol, Arbenigwr Dosbarthu, Cymdeithas Adeiladu Nationwide

Yr Ysgol Fusnes

Rheoli Busnes

177176

Page 91: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL252 s Rhyfel a Chymdeithas

s cynllun 3 blynedd

Mae rhyfel wedi bod yn gatalydd treisgar ar gyfer newid drwy gydol hanes y ddynolryw, o’r gwrthdrawiadau yn yr henfyd i’r rheiny yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n peri dioddefaint enbyd a dirywiad, ac eto yn ysgogi ac yn ysbrydoli dewrder ac arwriaeth.

Er mwyn deall profiad pa mor gymhleth ac amlochrog yw rhyfel, rhaid ei ddadansoddi’n llawn mewn cyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, technolegol, hanesyddol a milwrol ac yng nghyd-destun y cyfryngau.

Mae Rhyfel a Chymdeithas yn Abertawe yn croesi’r ffiniau academaidd traddodiadol er mwyn archwilio rhyfel ar hyd yr oesoedd. Mae’n defnyddio cryfderau’r Brifysgol o ran Astudiaethau Americanaidd, Hanes yr Henfyd, y Clasuron, Eifftoleg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â Llenyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau.

Bydd ein gradd Rhyfel a Chymdeithas yn:

• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd mor amrywiol â rheoli, gweinyddu, addysgu, newyddiaduraeth a’r lluoedd arfog

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• gosod llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Bydd y radd hon yn rhoi cyfle dihafal i chi ddatblygu eich dealltwriaeth hanesyddol, wleidyddol a milwrol o ryfel, ac i archwilio’i gysylltiad â’r gymdeithas drwy ystyried sut mae’r profiad o ryfel wedi llunio cynnyrch diwylliannol.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, a seminarau, gyda chefnogaeth deunyddiau llyfrgell amlgyfrwng da sy’n cynnwys amrywiaeth eang o ffilmiau a rhaglenni dogfen sy’n berthnasol i wahanol fodiwlau.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, yn cynnwys:

Lefel 1• Theorïau Rhyfel• Portreadau o Ryfel• Rhyfel a Rhyfela yn y Byd Modern

Lefel 2• Rhyfel Digidol• Rhyfel a Rhyfela yn yr Henfyd• Rhyfel Cartref America• Rhyfel Algeria• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd

Eingl-normanaidd

• Hil-laddiad• Yr Ymerodraeth yn Taro Nôl

Lefel 3• Rhyfel Cyffuriau UDA: Gwleidyddiaeth

y Gwaharddiad• Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Hynafiaeth Hwyr: Trawsnewidiad y Byd

Rhufeinig, AD 250-600• O Ffasgaeth i’r Weriniaeth: Yr Eidal yn

ystod yr Ail Ryfel Byd• Atgofion o Ryfel• America Chwyldroadol• Rhyfel Cartref Sbaen• Canlyniadau Rhyfel

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Yn lefel 1. cynigir seminarau cyfrwng Cymraeg ar gyfer nifer o fodiwlau cyfrwng Saesneg megis: HIH121 – Europe Of Extremes, 1789-1989 a HIH122 – Making History. Yn Lefel 2 mae HIH237 – Dehongli’r Gorffennol, HIH264 – Hanes ar y Teledu, HIH266W – Ymchwilio A Chyflwyno’r Gorffennol a MLF240W – Rhyfel Algeria. Yn ogystal, os oes galw bydd seminarau Cymraeg ar gael ar gyfer pedwar modiwl arall – HIH226: Post-War Reconstruction; HIH255: First World War; HIH258

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Rhyfel a Chymdeithas

“ Mae Rhyfel a Chymdeithas yn gwrs heriol iawn ond gwerth chweil.

Rwyf wedi cyfuno astudio Hanes, Gwleidyddiaeth, y Clasuron ac

Astudiaethau Americanaidd. Mae fy amser yn Abertawe wedi bod yn

wych, mae’r Brifysgol yn groesawgar iawn ac mae staff bob amser wrth

law i helpu. ” Rebecca Thomas, BA Rhyfel a Chymdeithas

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/ y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Rhyfe

l a Chym

de

ithas

Nazi-Occupied europe a HIH253: Welsh Century.

Ar lefel 3 mae cyfle i gyflwyno Traethawd Hir (HIH3300) yn y Gymraeg, yn ogystal â HIH300W – Concro’r Byd: Twf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r modiwlau uchod a’r darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, gweler ein llyfryn Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Israddedig ar wefan y brifysgol.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu ac arholiadau ysgrifenedig. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg a yw’r modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.

“ Roeddwn i’n mwynhau yn arbennig yr amrywiaeth eang o

fodiwlau sydd ar gael ar gyfer y cwrs, yn rhychwantu popeth o hanes

rhyfela hynafol hyd at ryfela’r byd modern. Roedd y nifer bychan o

bobl ar y cwrs yn ein galluogi i gael perthynas lawer mwy personol â’n

cyd-fyfyrwyr, yn ogystal â gyda thiwtoriaid a chyfarwyddwr y cwrs.

Roedd y cwrs hefyd wedi rhoi cyfle i mi wneud rhaglen interniaeth am

un mis yn Oklahoma, gyda’m cyd-fyfyrwyr. ” Adam Barnes, BA Rhyfel a Chymdeithas

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amserneu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

179178 179178

Page 92: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

BA Anrhydedd SenglR410 u SbaenegR4N1 u Sbaeneg (gyda Busnes)

BA Cyd-Anrhydedd Sbaeneg aRR24 u Almaeneg PR34 u Y Cyfryngau QR54 u CymraegLR74 u DaearyddiaethLR14 u EconomegRR34 u EidalegRR14 u FfrangegQR84 u Gwareiddiad Clasurol LR24 u GwleidyddiaethRV41 u HanesVR14 u Hanes yr HenfydQRJ4 u Iaith Saesneg

QR34 u Llenyddiaeth SaesnegRX43 u TEFL

LLB Cyd-AnhrydeddMR14 u Sbaeneg a'r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Siaredir Sbaeneg gan dros 350 miliwn o siaradwyr brodorol ar draws y byd ac mae’n dod yn fwy pwysig wrth i economi’r gwledydd datblygol yn America Ladin gryfhau a dod i amlygrwydd. Dyma iaith Cervantes a Picasso, enillwyr gwobrau Nobel Gabriel García Márquez a Vargas Llosa, ac Antonio Banderas a Penelope Cruz. Mae Sbaeneg yn iaith swyddogol mewn 21 o wledydd.

Bydd ein graddau’n eich galluogi i archwilio ystod eang o bynciau ieithyddol a diwylliannol.

Bydd ein graddau Sbaeneg yn:

• dysgu’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich mentergarwch eich hun.

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r graddau hyn yw’r cyfle i astudio modiwlau ar amryw o agweddau cymdeithasol a diwylliannol o fewn y gwledydd lle siaredir Sbaeneg yn Ewrop ac America Ladin.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiadura sydd wedi’u cyfarparu’n dda.

Rhwng Lefelau Dau a Thri byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg, naill ai fel myfyriwr ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig gyda phrifysgolion Sbaeneg, neu ynteu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol Sbaeneg neu America Ladin ar raglen cynorthwyydd y Cyngor Prydeinig. Neu, efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau, llawer ohonynt y mae modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg (wedi’u hamlygu gyda *), gan gynnwys:

Lefel 1• Iaith Sbaeneg Gyffredinol neu Sbaeneg

i Ddechreuwyr*• Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol I*• Cyflwyniad i Ddiwylliant Sbaenaidd*• Ffuglen Ewropeaidd Fodern: Testunau a

Chyd-destunau• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel 2• Iaith Sbaeneg Gyffredinol II (Uwch/

Canolradd)*• Gweithdy Cyfieithu • Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol II• Esblygiad yr Iaith Sbaeneg• Barcelona / Buenos Aires*• Ffasgaeth Ewropeaidd• Polisi Iaith*

Lefel 3• Iaith Sbaeneg Gyffredinol III*• Sbaeneg at Ddibenion Proffesiynol II• Gweithdy Cyfieithu• Cariad, Anrhydedd a Hunaniaeth yn

Theatr a Ffilm Sbaenaidd• Hunaniaethau Sbaenaidd*• Traethawd Hir*

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Sbaeneg – Astudiaethau SbaenaiddS

bae

neg

– A

studiae

thau Sb

aenaid

d

“ Pen ddes i Abertawe, roeddwn i’n siarad Sbaeneg yn barod, a

chymhelliad cryf oedd y cyfle i astudio iaith arall ar lefel dechreuwr.

Yn ystod fy ngradd, roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i ddod o hyd i

leoliad yn Chile, ac i fyw gyda thri theulu gwahanol yno. Gwnaeth y

flwyddyn honno fy ysbrydoli cymaint, a gwneud i mi feddwl am bethau

na fyddai wedi croesi fy meddwl o’r blaen. Des i mewn i’r Brifysgol

trwy un drws, ond mae nifer y drysau y mae Prifysgol Abertawe wedi’u

hagor i mi – ac mae’n dal i’w hagor – yn anhygoel. ”Vicki Jade Stevenson, BA Sbaeneg a TEFL

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/ y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon uwch: Ein cynnig arferol yw BBC/BBB neu gyfwerth gyda B mewn Iaith Fodern, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Sut y caf fy asesu?Bydd eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cael eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys traethodau wedi’u hasesu, traethodau hir, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae Prifysgol Abertawe ar y blaen yng Nghymru o ran cynnig Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darpariaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg. Cyflwynir graddau cyd-anrhydedd Ffrangeg a Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, datblygir darpariaeth a chyfleoedd newydd bob blwyddyn, a gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe elwa o rannu adnoddau ac arbenigedd prifysgolion eraill Cymru. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg a yw’r modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Yn ogystal ag YsgoloriaethauRhagoriaeth a Theilyngdod y Brifysgol,mae nifer o’n cyrsiau Ieithoedd Modernyn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth ac Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

Os oes gennych gymhwyster Safon Uwch Sbaeneg, neu radd A neu B ar lefel Uwch Gyfrannol gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os nad oes gennych y cymwysterau yma, ond bod gennych gymhwyster Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol mewn unrhyw iaith fodern arall, efallai bydd modd i chi astudio Sbaeneg ar lefel dechreuwr.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 90% o raddedigion Ieithoedd Modern mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010)

181180

Co

dau U

CA

S

181180

Page 93: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

“ Mae’r radd hon yn pwysleisio nid yn unig yn dysgu’r hyn sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes Seicoleg, ond hefyd ar ddysgu sut i ddarganfod gwybodaeth newydd ein hunain. Yr wyf yn awr yn cymhwyso’r medrau hyn yn fy mywyd bob dydd ac yn teimlo’n chwilfrydig am bopeth o’m hamgylch. Rwyf eisoes yn rhoi ar waith y sgiliau trosglwyddadwy rwyf wedi dysgu trwy chwilio am wybodaeth a datrys problemau mewn ffyrdd newydd. ”Yvonne Tsui,

BSc Seicoleg

BScAnrhydedd SenglC800 s Seicoleg

BSc Cyd-AnrhydeddMC28 s Troseddeg a Seicoleg*

*Caiff y cod UCAS ei gyhoeddi ar ein gwefan pan mae ar gael

s cynllun 3 blynedd

Datgloi cyfrinachau’r meddwl dynol yw un o heriau mwyaf gwyddoniaeth fodern. Mae Seicoleg, yr astudiaeth o ymddygiad dynol, yn ein helpu i wneud synnwyr o sut yr ydym yn deall y byd, beth sy’n gwneud i ni chwerthin neu grio, pam yr ydym ni’n ymwybodol, a pham yr ydym yn gwneud y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

Dilysir y radd Seicoleg gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, ac mae’n eich cymhwydo ar gyfer Aelodaeth Raddedig y Gymdeithas, ac am Sail Raddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig. Dyna’r cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.*

Bydd ein gradd Seicoleg yn:• dysgu’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa

mewn amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys addysgu, nyrsio, rheoli personél ac ymgynghoriaeth

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth neu ymchwil ôl-raddedig

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Os ydych yn dymuno ymarfer fel seicolegydd mewn meysydd megis Seicoleg Glinigol, Addysgol, Fforensig neu Alwedigaethol, bydd rhaid i chi

ymgymryd ag astudiaeth bellach ar lefel ôl-raddedig neu ddoethurol.

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith mewn grwpiau bychain (tiwtorialau), prosiectau, aseiniadau a gwaith ymarferol yn y labordy. Rydym yn gosod pwyslais arbennig ar gyfranogiad a rhyngweithio myfyrwyr, sy’n eich annog i wneud cysylltiadau rhwng y syniadau allweddol a drafodir mewn modiwlau gwahanol.

Bydd dosbarthiadau ymarferol yn ystod Lefelau Un a Dau yn eich dysgu i ddylunio, cynllunio a chynnal arbrofion, ysgrifennu adroddiadau ymarferol, a chynnal dadansoddiadau ystadegol. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ffordd ddelfrydol i’ch paratoi ar gyfer y prosiect ar Lefel Tri.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Lefel 1 Mae modiwlau craidd yn cynnwys:• Seicoleg Wybyddol• Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol• Seicoleg Fiolegol• Seicoleg Unigol ac Annormal• Ystadegau a Seicoleg Arbrofol• Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

Mae modiwlau Lefel Un yn orfodol, ac yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i’r pwnc. Mae’r modiwlau’n cynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer astudiaeth ddamcaniaethol ac arbrofol o Seicoleg a’r modd y mae’n cael ei defnyddio.

Lefel 2• Cof, Sylw a Dysgu• Canfyddiad, Meddwl a Rhesymu• Seicoleg Gymdeithasol• Datblygiad Iaith a Hyd Oes• Yr Ymennydd ac Ymddygiad• Gwahaniaethau Unigol• Dulliau Arbrofol ac Ystadegau

Mae modiwlau Lefel Dau yn orfodol, ac yn dilyn y pynciau a astudiwyd yn Lefel Un yn fwy dwys, yn ogystal â phynciau eraill.

Lefel 3Gall myfyrwyr Anrhydedd Sengl ddewis pum modiwl o restr helaeth o fodiwlau dewisol. Gall y modiwlau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae’r modiwlau ar hyn o bryd yn cynnwys:• Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol• Cyffuriau ac Ymddygiad• Esblygiad ac Ymddygiad Dynol• Seicoleg Fforensig• Seicoleg Iechyd• Pynciau Llosg Niwrowyddoniaeth

Wybyddol• Niwroseicoleg

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

SeicolegS

eico

leg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295278

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: Anrhydedd Sengl: AAB – ABB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33

Safon Uwch: Cyd-Anrhydedd: ABB – BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Nid yw’n angenrheidiol eich bod wedi astudio Seicoleg ar lefel Safon Uwch.

• Maeth ac Ymddygiad• Seicopatholeg Bwyta a Delwedd Corff• Seicopatholeg• Cwsg a Breuddwyd• Seicoleg Gwaith• Traethawd Hir

Byddwch hefyd yn gwneud prosiect ymchwil gorfodol dan oruchwyliaeth.

Ar y radd Cyd-Anrhydedd, byddwch yn ennill hanner eich credydau yn Seicoleg a’r hanner arall ym mhwnc arall y Cyd-Anrhydedd.

*Ar yr amod eich bod yn derbyn Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran Dau.

BSc (Anrh) Seicoleg gyda blwyddyn dramor Bydd gan fyfyrwyr sy’n cychwyn y Rhaglen BSc Seicoleg tair blwyddyn gyfle, yn ail flwyddyn eu hastudiaethau, i wneud cais i drosglwyddo i’r Rhaglen pedair blynedd Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ymMhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaithi’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg bethbynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwlhwnnw heblaw am yn achos modiwlauieithoedd lle mae meistrolaeth o’r iaithdan sylw yn un o feini prawf yr asesiad.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Byddwch yn elwa ar dechnoleg o’r radd flaenaf, gydag 20 ystafell ymchwil gyffredinol a nifer o labordai arbenigol sy’n cynnwys:

• labordy mesur seicoffisiolegol EMG/ECG

• labordy arsylwi cymdeithasol gydag offer aml-gamera ac aml-fonitor

• labordy cwsg gyda dwy ystafell wely• labordy gwyddoniaeth wybyddol• labordy canfod• labordy EEG• labordy olrhain symudiadau’r llygaid

Hefyd, mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth ar gyfer casglu data arbrofol ar gyfrifiaduron.

Sut y caf fy asesu?Ar Lefel 1, byddwch yn cael eich asesu drwy arholiad amlddewis ac atebion byr, arholiad ystadegau, a thraethodau cwrs. Gofynnir i chi hefyd ysgrifennu cyfres o adroddiadau ynglyn â’r gwaith arbrofol yr ydych yn ei wneud.

Ar Lefelau 2 a 3, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig a gwaith cwrs. Eto, bydd adroddiadau o waith ymchwil yn rhan annatod o’ch asesiad.

Ar gyfer ymgeiswyr Anrhydedd Sengl sy’n cynnig o leiaf un o’r pynciau canlynol ar Safon Uwch: Seicoleg, Bioleg, Cemeg, Mathemateg, neu Ffiseg, y cynnig arferol fydd ABB.

Hefyd rhaid bod gennych TGAU Mathemateg gradd C neu’n well.

Nid yw Safon Uwch Astudiaethau Cyffredinol yn cael ei gynnwys fel arfer yn ein cynigion.

Cysylltwch ag adran y pwnc arall i wirio a oes ganddynt unrhyw ofynion mynediad ychwanegol, neu os ydynt yn gofyn am bynciau penodol ar Safon Uwch.

Mae 92% o raddedigion Seicoleg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010)

183182 183182

Page 94: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd SenglC300 s Swoleg

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigC101 u Bioleg

Am raddau cysylltiedig, gweler Bioleg a Gwyddorau Biolegol (tudalen 82), a Bioleg y Môr (tudalen 84).

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae Swoleg yn gangen o fioleg sy’n canolbwyntio’n benodol ar anatomi, esblygiad, ecoleg a ffisioleg anifeiliaid. Mae’n ein helpu hefyd i ddeall ymddygiad anifeiliaid ac i nodi dulliau effeithiol o wella lles anifeiliaid. Mae gan swolegwyr rôl bwysig i’w chwarae mewn rheolaeth amgylcheddol a chadwraeth ond maent hefyd yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiadau mewn sectorau eraill, megis amaethyddiaeth, bioleg y môr, meddygaeth, iechyd cyhoeddus, a milfeddygaeth.

Mae Swoleg yn Abertawe yn cynnig ystod eang o bynciau i’w hastudio yn y labordy ac yn y maes.

Bydd ein gradd Swoleg yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth eang o swyddi ecolegol ac amgylcheddol (e.e. amaethyddiaeth, lles anifeiliaid, cadwraeth, y cyfryngau, llygredd, ac iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid)

• rhoi i chi gwybodaeth a phrofiad addas ar gyfer gyrfa mewn dysgu bioleg neu wyddoniaeth yn ogystal â darparu cyfle i geisio am swyddi yn y diwydiannau milfeddygol a biotechnoleg.

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae Swoleg yn Abertawe yn rhoi cyfle heb ei ail i chi astudio ymddygiad anifeiliaid, ecoleg a chadwraeth mewn amrywiaeth o amgylcheddau naturiol ar draws Bae Abertawe a Phenrhyn Gwyr hyfryd. Byddwch hefyd yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau maes, megis Canolfan Gwlypdir Cenedlaethol Cymru (CGCC), Parc Margam a Sw Bryste a byddwch yn cwblhau cwrs maes mewn ecoleg anifeiliaid yn eich blwyddyn olaf. Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, gwaith maes, a dosbarthiadau ymarferol. Mae ein labordai yn llawn offer ar gyfer astudiaethau ymddygiad, cadwraeth anifeiliaid, ecoleg, imiwnoleg, entomoleg, ac ymagweddau moleciwlar a geneteg tuag at Swoleg.

Mae ein Labordy Dysgu newydd yn gyfleuster sydd wedi’i ddiweddaru’n sylweddol i ddysgu lefel uwch o sgiliau a thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr; mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clyweled sy’n gallu darlledu i sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr fideo/ DVD, ac unedau delweddu / camera.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n bur ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu fel ymchwilydd annibynnol.

Wrth wneud hynny, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:

• ystafelloedd newydd gwerth £4.2 miliwn, sy’n cynnwys labordai Gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dysgu

• ystod helaeth o offer dadansoddi modern

• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer amrywiaeth o organebau

• ystafelloedd tymheredd cyson ac ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

• yr Amgueddfa Swolegol

• llong ymchwil arfordirol 12.5m a ddyluniwyd yn arbennig, yr RV Noctiluca

Y Coleg Gwyddoniaeth

Swoleg

“ Mae cael eich dysgu gan amrywiaeth o academyddion gwybodus

a brwdfrydig ym Mhrifysgol Abertawe yn fraint. Mae eu meysydd

arbenigedd unigol yn amrywiol dros ben ac yn darparu sbectrwm eang

o opsiynau o ran yr hyn y gallwch ei astudio ar gyfer eich gradd.

Roedd gwrando ar ddarlithoedd gan aelodau staff o safon byd eang

wedi codi awydd arnaf i ehangu fy niddordebau ac i dreulio amser yn

darllen am bynciau nad oeddent o ddiddordeb i mi o’r blaen. ”Lily Green, BSc Swoleg

Pa raddau rydw i eu hangen?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32, gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys gofynion am fynediad i’n rhaglen gyda blwyddyn sylfaen integredig, ar ein gwefan.

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/coleggwyddoniaeth/adranybiowyddorau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Bydd ein cysylltiadau cryf â sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol megis Cymdeithas Mamaliaid Prydain, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, The Vincent Wildlife Trust ac Ysbyty Adar y Gwyr yn ychwanegu at werth eich astudiaethau.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Rydym yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel 1• Ysgrifennu Gwyddonol a Sgiliau Gyrfaol• Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr Biolegol• Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf, a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad• Geneteg a Phrosesau Esblygu

Lefel 2• Sut i Ymchwilio yn y Gwyddorau Biolegol• Ecoleg Foleciwlaidd• Parasitoleg• Adolygiad o Lenyddiaeth Swoleg• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg• Infertebrata Daearol• Fertebrata• Ymddygiad Anifeiliaid mewn

Cadwraeth a Lles

• Ecoleg Forol Arfordirol• Cefnforeg• Plancton Morol ac Infertebrata Cefnforol• Geneteg Ddynol a Meddygol• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol

Lefel 3• Prosiect Ymchwil Swoleg• Cwrs Maes Ecoleg AnifeiliaidNEU Gwrs Maes Ecoleg Ddaearol• Adolygiad o Lenyddiaeth Swoleg• Ymchwil gyfredol mewn swoleg – mae

pob aelod o staff yn cyflwyno modiwl ar ei ddiddordeb ymchwil penodol (ar amrywiaeth o bynciau), a byddwch yn dewis pum modiwl i’w hasesu.

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigRydym hefyd yn cynnig rhaglen Anrhydedd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Lefel 0) sy’n addas i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cefndir angenrheidiol i gychwyn ar Lefel Un. Ar ddiwedd y Flwyddyn Sylfaen, caiff ymgeiswyr symud ymlaen i BSc Swoleg

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Wrth ddewis astudio elfen o radd Bioleg, Swoleg neu Bioleg y Mor drwy gyfrwng y Gymraeg cewch fanteisio ar y gorau o ddau fyd. Cewch gyfle i gymdeithasu a gweithio gyda myfyrwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd fel rhan o’r

prif ddarlithoedd cyfrwng Saesneg a gweithio’n agos mewn dosbarthiadau llai wrth wneud pethau penodol yn y Gymraeg. Mae’r gallu i weithio mewn dwy iaith yn sgil hanfodol i nifer o gyflogwyr ym maes y biowyddorau, megis Cyngor Cefn Gwlad (CCW) ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Rhaid cofio hefyd fod sgiliau dwyieithrwydd yn adlewyrchu’n dda os ydych yn bwriadu dilyn gyrfa mewn maes rhyngwladol fel biowyddorau.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae’r Brifysgol yn rhoi nifer o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Teilyngdod, ac Ar Sail Incwm. Ceir manylion yn www.swansea.ac.uk/scholarships

Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig yColeg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnigcyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfainto’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyrsiau yma yn gymwys ar gyfer yrYsgoloriaethau Cymhelliant. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg am fanylion www.colegcymraeg.ac.uk

Swo

leg

Mae 92% % o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2010-11)

185184

“Gradd Swoleg yn Abertawe

yw Rhif Un y DU”(UNISTATS 2012)

185184

Page 95: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir y modiwlau Troseddeg i gyd bron drwy gyfrwng traethodau ac aseiniadau ysgrifenedig. Os ydych yn fyfyriwr Anrhydedd Sengl, byddwch yn cwblhau traethawd hir 10,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis yn ystod Lefel 3.

Troseddeg yw astudio pam y mae pobl yn cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon; sut – a pham – yr ydym yn cymeriadu trosedd y ffordd yr ydym, a sut y mae’r System Cyfiawnder Troseddol yn gweithio. Mae’n cwmpasu ystod o feysydd academaidd, gan gynnwys hanes, polisi cymdeithasol, gwleidyddiaeth, a chymdeithaseg, i gynnig golwg ar droseddu o safbwynt cymdeithasol ac unigol, ac mae’n edrych yn feirniadol ar sut y mae’r system ddedfrydu yn gweithio.

Mae Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn meysydd megis cyfiawnder ieuenctid, troseddu, cyffuriau ac alcohol, trosedd gorfforaethol a throsedd rywiol.

Bydd ein graddau Troseddeg yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol yn y system cyfiawnder troseddol, megis gwasanaethau’r heddlu, y carchardai a’r gwasanaethau prawf

• dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn meysydd megis cyfiawnder ieuenctid, cymorth i ddioddefwyr, diogelwch cymdeithasol ac atal troseddu

• gosod sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd graddau Troseddeg yn rhoi dealltwriaeth gritigol i chi o’r hyn sy’n achosi troseddu ac ymateb cymdeithas iddo, a chewch eich annog i gymhwyso’ch gwybodaeth o drosedd a chyfiawnder troseddol yng nghyd-destun ehangach problemau cymdeithasol eraill ac ymateb y llywodraeth iddynt. Cewch eich addysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gwaith grwp.

Os ydych yn fyfyriwr Cyd-Anrhydedd, byddwch fel arfer yn astudio’r ddau fodiwl Troseddeg craidd ar Lefel Un (ond dim ond y modiwl Dychymyg Troseddegol os ydych yn dewis Cyd-Anrhydedd gyda’r Gyfraith). Byddwch hefyd yn astudio unrhyw fodiwlau sydd eu hangen ar gyfer eich pwnc Cyd-Anrhydedd. Ar Lefel Dau a Thri, rhannir eich astudiaethau yn gyfartal rhwng y ddau bwnc.

Gellir hefyd astudio’r radd Anrhydedd Sengl a’r radd Cyd-Anrhydedd gyda Pholisi Cymdeithasol yn rhan-amser.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae’r modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel 1• Troseddeg, Trosedd a Chymdeithas• Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder

Troseddol (modiwl craidd)• Y Dychymyg Troseddegol• Sgiliau Astudio mewn Troseddeg a

Pholisi Cymdeithasol• Prosiect Troseddeg • Y Gyfraith, Cyfiawnder Troseddol a

Hawliau Dynol• Gyrfaoedd ar gyfer Troseddegwyr

Lefel 2• Achosion Troseddu• Penydeg a Chosb• Trosedd, Cyffuriau ac Alcohol• Dulliau Ymchwil mewn Troseddeg• Troseddeg Feirniadol a Diwylliannol• Deall Plismona• Dulliau Ymchwil Cymhwysol mewn

Troseddeg

Lefel 3• Troseddwyr Ifanc a Chyfiawnder Ieuenctid• Troseddau Corfforaethol a Choler Gwyn• Troseddau Rhywiol • Troseddoli Rhyw• Traethawd Hir (myfyrwyr Anrhydedd

Sengl yn unig)• Trosedd Ddifrifol a Niwed Cymdeithasol• Amrywiaeth, Trosedd a Chyfiawnder

Troseddol

BSc Anrhydedd SenglM2L4 s Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

BSc Cyd-Anrhydedd Troseddeg aMLF4 s Polisi CymdeithasolMC28 s Seicoleg

LLB Cyd-Anhrydedd Troseddeg aMM19 s Y Gyfraith

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith

Troseddeg

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/law/criminology/undergraduatecourses

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602441

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Mae cymwysterau Safon Uwch mewn Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, y Gyfraith, neu Seicoleg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“Mae Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn gwrs hynod o

ddiddorol na ddylech ei gymryd oni bai eich bod o ddifrif am

astudio pob agwedd o droseddu. Mwynheais bob modiwl a byddwn

yn argymell eraill i brofi’r cwrs. Gallwch ddysgu am bethau nad

ydych yn clywed amdanynt o ddydd i ddydd, a chael dealltwriaeth

gyflawn o sawl agwedd o droseddu. ” Amy Hopkin BSc Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Trose

dd

eg

Mae 81% o raddedigion Troseddeg mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

187186

Page 96: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

BA Anrhydedd SenglQ800 s ClasuronV410 s EifftolegV116 s Hanes yr Henfyd a Hanes

CanoloesolV112 s Hanes yr Henfyd Q820 s Gwareiddiad Clasurol

BA Cyd-anrhydedd Hanes yr Henfyd aVR12 u AlmaenegV115 s Astudiaethau CanoloesolVQ15 s Cymraeg (ail iaith) VQ1N s Cymraeg (iaith gyntaf)VR11 u FfrangegVQ17 s GroegVL12 s Gwleidyddiaeth

V190 u Hanes (gyda blwyddyn dramor)VQ16 s LladinVQ13 s Llenyddiaeth SaesnegVR14 u Sbaeneg

BA Cyd-AnrhydeddGwareiddiad Clasurol aQR82 u AlmaenegQVV1 s Astudiaethau CanoloesolQQ8H s Cymraeg (iaith gyntaf)QQ85 u Cymraeg (ail iaith)QR81 u FfrangegQQ78 s GroegQV81 s HanesQV8C u Hanes (gyda blwyddyn dramor)QQ38 u Iaith Saesneg QQ86 s LladinQQ83 s Llenyddiaeth Saesneg

BA Cyd-Anrhydedd Eifftoleg aVQ48 s Gwareiddiad ClasurolVV41 s Hanes yr Henfyd

BA Cyd-Anrhydedd Lladin aQV61 s Hanes

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg

Rhyfela, Gwleidyddiaeth, y Rhywiau. Dyma oedd materion allweddol yr henfyd, yn union fel y maent heddiw. Goresgyniadau Rameses II, Alecsander, a’r Cesariaid; gwrthryfel Buddug a barddoniaeth Sappho; ac ysgrifennu Homer, Virgil, a’r dramodwyr a’r athronyddion Clasurol – mae’r rhain i gyd wedi ein swyno ers miloedd o flynyddoedd, ac yn parhau i wneud.

Mae’r Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys hanes a llenyddiaeth, archaeoleg a chelf, a diwylliant ac athroniaeth i daflu goleuni ar y gwareiddiadau hynafol sydd wedi llunio ein byd modern.

Bydd ein graddau Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg yn:

• eich arfogi â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd amrywiol, gan gynnwys rheoli, gweinyddiaeth, newyddiaduraeth a’r gwasanaeth sifil neu yrfaoedd mwy arbenigol mewn meysydd megis addysgu, rheoli treftadaeth a gwaith amgueddfa.

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu prisio, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau cyflwyno, datrys problemau a sgiliau dadansoddol

• gosod sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Fel myfyriwr y Clasuron, Hanes yr Henfyd neu Eifftoleg, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy’n ymdrin â phob agwedd ar yr henfyd. Yn ogystal, bydd myfyrwyr Eifftoleg yn manteisio’n sylweddol o ddefnyddio Canolfan Eifftaidd y Brifysgol, amgueddfa unigryw wedi’i lleoli ar y campws gyda thua 3000 o wrthrychau archeolegol o Gasgliad Hynafiaethau Eifftaidd Wellcome. Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn adnodd amhrisiadwy, yn enwedig yn ystod Lefel Tri, os ydych yn penderfynu cyflawni prosiect amgueddfa ar bwnc o’ch dewis.

Gallwch astudio Groeg, Lladin neu iaith yr Aifft fel rhan o’n rhaglenni gradd i gyd, gyda chyrsiau i ddechreuwyr ar gael ym mhob un ohonynt. Os oes profiad blaenorol gennych o Roeg neu Ladin, mae’n bosibl y bydd modd i chi astudio’r rhain ar lefel uwch.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau gyda phwyslais ar ddysgu rhyngweithiol a chyfrannu yn y dosbarth.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae Hanes yr Henfyd yn canolbwyntio ar hanes gwleidyddol a chymdeithasol y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig. Mae Gwareiddiad Clasurol yn ymdrin â llenyddiaeth a diwylliant y bydoedd

Groegaidd a Rhufeinig. Mae’r Clasuron yn astudio ieithoedd a llenyddiaeth glasurol Groeg a Lladin. Mae Eifftoleg yn cynnwys iaith, hanes, llenyddiaeth, diwylliant ac archaeoleg yr Hen Aifft. Mae astudiaethau Groegaidd yn cynnwys iaith Roeg glasurol yn ogystal ag agweddau o hanes a gwareiddiad Groegaidd, ac mae Lladin yn cynnig astudiaeth o Ladin clasurol yn ogystal ag agweddau o hanes a gwareiddiad Rhufeinig.

Mae myfyrwyr Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad Clasurol, wrth arbenigo mewn naill ai hanes neu lenyddiaeth a diwylliant yr henfyd, yn dewis o blith detholiad cyffredinol o fodiwlau sy’n ymdrin â phob agwedd ar hynafiaethau. Ychydig iawn o’r modiwlau sy’n orfodol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddilyn eu diddordebau eu hunain o fewn gofynion eu cynllun gradd dewisol.

Lefel 1• Dehongli’r Henfyd• Athens Clasurol• Rhufain Awgwstaidd• Rhyw, Marwolaeth, a Thrawsnewid:

Myth ym Metamorphoses Ovid• Cyflwyniad i Hanes a Gwareiddiad yr

Aifft Hynafol 1• Cyflwyniad i Hanes a Gwareiddiad yr

Aifft Hynafol 2• Cyflwyniad i Athroniaeth (Plato)• Cychwyn ar Ladin• Cychwyn ar Roeg• Iaith yr Aifft

Y C

lasuron, H

anes yr H

enfyd

ac Eifftole

g

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Os ydych am astudio am radd yn y Clasuron, Groeg, neu Ladin, mae’n rhaid eich bod wedi astudio Groeg neu Ladin i lefel Safon Uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC – BBB neu gyfwerth yw ein cynnig arferol, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Lefelau 2 a 3Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad Clasurol• Ysgrifennu Hanes yr Henfyd (gorfodol ar

gyfer Anrhydedd Sengl, argymhellir ar gyfer Cyd-Anrhydedd Hanes yr Henfyd)

• Darllen Gwareiddiad Clasurol (gorfodol ar gyfer Anrhydedd Sengl, a Chyd-Anrhydedd Gwareiddiad Clasurol)

• Rhufain a Môr y Canoldir 264-146 CC• Diwedd y Weriniaeth Rufeinig

133-44 CC• Yr Ymerodraeth Rufeinig, AD 14-238• Byddinoedd a Gelynion Rhufain yr

Ymerodraeth• Hanes ac Archaeoleg Prydain Rhufeinig• Cyflwyniad i Archaeoleg Cymru• Paganiaid, Cristnogion, ac

Ymerodraeth yn yr Henfyd Hwyr• Etifeddion Rhufain: Adeiladu’r

Gwledydd Cred, Caergystennin, ac Islam 400-800

• Groeg Hynafol• Taleithiau Dinasoedd Groeg• Alecsandr Fawr a’r Byd Helenistaidd• Athens i Los Alamos: Twf Gwyddoniaeth• Hanes Technoleg a Pheirianneg yr

Henfyd• Hanes Ailgylchu• Eureka! Arloesi a Chwyldroadau

Technegol mewn Hanes• Alecsandria: Metropolis

Amlddiwylliannol yr Henfyd• Chwaraeon, Gemau ac Adloniant yn y

byd Groegaidd a Rhufeinig

• Homer ac Arwriaeth: Iliad Homer• Trasiedi Groegaidd: Penderfyniadau a

Chyfrifoldeb• Haneswyr Groegaidd: Hanes fel

Llenyddiaeth• Gweriniaeth Plato• Diweirdeb a Chymysgaredd: Menywod

yn Aristophanes a Plato• Rhamant Roegaidd: Môr, Haul a Rhyw• Y Nofel Ddigri Rufeinig • Y Clasuron yn y Sinema• Modiwl Taith Astudio: Y Peloponesos• Traethawd hir

ClasuronMae gradd y Clasuron yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar astudio ieithoedd Groeg a Lladin, a llenyddiaeth y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig yn eu hieithoedd gwreiddiol. Byddwch hefyd yn dewis modiwlau dewisol o’r rhai a gynigir ar gyfer y graddau Gwareiddiad Clasurol a Hanes yr Henfyd.

Eifftoleg• Iaith Eifftaidd (gorfodol ar gyfer

Anrhydedd Sengl, argymhellir ar gyfer Cyd-Anrhydedd)

• Cyflwyniad i Archaeoleg yr Aifft• Credoau ac Arferion Crefyddol yr

Hen Aifft• Cyflwyniad i Hen Eifftoleg• Oes Amarna• Hud a Defod yn yr Hen Aifft

• Alecsandria: Metropolis Amlddiwylliannol yr Henfyd

• Diwylliant a Dylanwad Diwylliannol yn yr Aifft Hynafol

• Celf a Phensaernïaeth yr Aifft• Practicwm y Casgliad Eifftaidd• Temlau’r Aifft yn y Cyfnod Groeg-

rufeinig• Darllen Testunau Eifftaidd Datblygedig• Rhyw a Chenedl yn yr Aifft Hynafol• Chwe Throedfedd o dan y Ddaear:

Diwylliant Angladdol yr Aifft Hynafol• Taharqo a Chyfnod Napatan yr Aifft

a Niwbia• Yr Hyksos yn yr Aifft a’r tu hwnt• Ramesses III: Ymerodraeth,

Goresgyniad, a Chynllwyn• Bywyd Preifat yn yr Aifft Hynafol• Traethawd Hir neu brosiect amgueddfa

Nodwch y gall modiwlau newid, ac nid yw pob modiwl ar gael bob blwyddyn.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau gwaith cwrs a thraethawd hir neu brosiect amgueddfa.

Mae 87% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

Co

dau U

CA

S

189188

Page 97: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

“ Ar ôl tair blynedd gyffrous yn cael fy BA Astudiaethau’r Cyfryngau a

blwyddyn yn astudio MA Newyddiaduriaeth Gymharol ym Mhrifysgol Abertawe,

roedd gen i gydbwysedd da o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau

newyddiaduriaeth ymarferol. Roedd hynny’n fy ngalluogi i fynd ati i ysgrifennu

newyddion ac erthyglau mewn modd effeithiol, ac i ddatblygu portffolio gwaith

cryf. Roedd yr ymagwedd fyd-eang tuag at newyddiaduriaeth yn fy helpu i

ddatblygu golwg ehangach o gyfryngau’r byd, a deall pwysigrwydd technolegau

cyhoeddi newydd. Roedd hynny’n ddefnyddiol iawn, gan fy mod i’n gweithio

bellach yn Shanghai, Tsieina, yn olygydd y we ar gyfer cylchgrawn Time-Out. ”Claire Siobodian, BA Astudiaethau’r Cyfryngau

O’r cyfryngau print a darlledu i sinema a theledu, cyhoeddi digidol, rhwydweithio cymdeithasol, a chysylltiadau cyhoeddus, mae’r cyfryngau yn dylanwadu fwyfwy ar y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â’n cymdeithas. Mae’n llunio’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain ac eraill, a gall fod yn arf bwerus ar gyfer newid cymdeithasol, er gwell neu er gwaeth.

Mae gan y Cyfryngau a Chyfathrebu yn Abertawe olwg alwedigaethol, ddamcaniaethol a rhyngwladol eang sy’n adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd mewn byd llawn cyfryngau.

Bydd ein graddau Cyfryngau a Chyfathrebu yn:

• datblygu dealltwriaeth ddofn o hanes, theori ac ymarfer y cyfryngau, ffilm, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduraeth

• dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau ym maes y cyfryngau

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr gan gynnwys y cyfryngau newydd, gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau dadansoddi

• rhoi mantais gystadleuol i chi ym marchnad swyddi a diwydiannau y byd cyfoes

Beth yw strwythur y radd?Mae gan ein gradd BA Anrhydedd Sengl Y Cyfryngau a Chyfathrebu flwyddyn sylfaen gyffredinol ac mae’n ymgorffori llwybrau gwahanol yn y cyfryngau, ffilm, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth a chyfryngau ymarferol ar Lefelau Dau a Thri, gan eich galluogi i addasu eich gradd at eich anghenion, eich diddordebau a’ch dyheadau eich hun.

Mae’r radd hon yn darparu rhaglen gyfunol o hanes, theori ac ymarfer sy’n ymgorffori sgiliau a thechnegau sy’n berthnasol i’r diwydiannau cyfryngau, ffilm a chysylltiadau cyhoeddus modern.

Yn ogystal â chael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a thiwtorialau grwp bach, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, gweithdai, a dysgu ar-lein. Yn lefel Tri, byddwch yn cwblhau traethawd hir, a fydd yn rhoi cyfle i chi archwilio’r pwnc sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.

Yn dibynnu ar y radd yr ydych yn ei dewis, mae’n bosibl y bydd cyfle i chi hefyd ddangos eich sgiliau o ran ymarferion y cyfryngau, er enghraifft drwy

ddylunio gwefan, gwneud fideo, neu gyflwyno portffolio newyddiaduraeth. Gall y radd hefyd gynnwys lleoliadau gwaith cystadleuol.

Ar ben hynny, mae llwybrau dysgu BA Astudiaethau’r Cyfryngau yn gosod sylfaen clir i chi symud ymlaen at MA mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth Gymharol, Cyfryngau Digidol, neu Gyfathrebu Rhyngwladol a Datblygu.

Ceir manylion llawn ar ein gwefan.

Pa fodiwlau sydd ar gael?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau, llawer ohonynt y mae modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg:

Lefel 1• Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau• Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm• Cyflwyniad i Gysylltiadau Cyhoeddus• Cyfathrebu ac Ymarfer Creadigol• Hanes Propaganda• Ffilm Ewropeaidd Gyfoes• Hanes a Theori Ffilm• Cyfryngau Ddoe a Heddiw

BA Anrhydedd SenglP300 s Y Cyfryngau a ChyfathrebuL220 s Cyfathrebu GwleidyddolPQ91 s Iaith a Chyfathrebu

BA Cyd-Anrhydedd Y Cyfryngau aPR32 u Almaeneg QP53 s Cymraeg (ail iaith) QP5H s Cymraeg (iaith gyntaf)PR31 u FfrangegQP33 s Llenyddiaeth SaesnegPR34 u Sbaeneg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/celfyddydauardyniaethau

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: BBC neu gyfwerth yw ein cynnig arferol, ond rydym yn cydnabod natur unigol pob cais, ac felly ni ddylid tybio bod y cynnig safonol yn fwy na chanllaw. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud cynnig gwahanol neu gynnig ar sail pwyntiau lle bo’n addas. Rydym yn gofyn am DMM o dan y cymhwyster BTEC.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 30

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Lefel 2• Damcaniaethu’r Cyfryngau• Sgriptio Ffilmiau• Sgiliau Ymarfer y Cyfryngau• Y Diwylliant Gweledol ac

Astudiaethau’r Cyfryngau• Damcaniaeth Cysylltiadau Cyhoeddus• Ymarfer Cysylltiadau Cyhoeddus• Hanes Animeiddio’r Sgrin• Rhyfel a Gwrthdaro mewn Ffilm

Ewropeaidd• Darllen y Sgrin: Syniadau a

Syniadaethau ar y Sgrin• Busnes ac Entrepreneuriaeth• Y Cyfryngau Newydd• Cymdeithas a’r Cyfryngau• Testunau Trawsgyfryngol• Sgiliau Cyfryngau Ymarferol

Lefel 3• Paratoi ar gyfer y Traethawd Hir• Traethawd hir• Newyddiaduriaeth Ar-lein• Cynhyrchu Fideos• Cynhyrchu Radio• Strategaeth, Marchnata a Brandio• Llofnodi’r Sgrin: Awduriaeth Ffilm a

Theledu• Ffilm a Theledu Cyfoes• Cynhyrchu Radio• Creu Fideo• Drama a Dogfen ar y Sgrin• Iaith a’r Cyfryngau

• Athroniaeth Ddigidol: Gwreiddiau’r Rhithwir

• Noder y gall y modiwlau fod yn agored i’w newid.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gofynion cyflogwyr yn y diwydiant yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod o fodiwlau dewisol yn y Cyfryngau, a gaiff eu dysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn cynnig cynllun Cyd-Anrhydedd gyda’r Gymraeg. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, datblygir darpariaeth a chyfleoedd newydd bob blwyddyn, a gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Abertawe elwa o rannu adnoddau ac arbenigedd prifysgolion eraill Cymru. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe hawl i gael ei asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

A oes unrhyw ysgoloriaethauneu fwrsariaethau?Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o’r cyrsiau cyd-anrhydedd yma yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant

y Coleg Cymraeg. Ceir manylion ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro a’i asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau, arholiadau ysgrifenedig, ymarfer y cyfryngau, cyfraniadau i seminarau, prosiectau grwp, dylunio gwefannau, cyflwyniadau, cyfraniadau ar-lein, traethawd hir ac adolygiadau ffilm beirniadol.

Seilir oddeutu 60 y cant o ddosbarthiad eich gradd derfynol ar y gwaith cwrs y byddwch yn ei gwblhau yn ystod eich astudiaethau.

Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Y C

yfryngau a C

hyfathreb

u

Mae 90% o raddedigion Y Cyfryngau mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

191190

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Co

dau U

CA

S

191190

Page 98: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BA Anrhydedd Sengll Y Dyniaethaun Y Dyniaethaun Hanesn Llenyddiaeth Saesneg

l cynllun 5 mlyneddn cynllun 6 blynedd

Mae’r rhaglen radd ran amser hon wedi’i chynllunio’n bwrpasol ar gyfer y sawl sy’n dewis astudio rhan amser oherwydd ymrwymiadau gwaith, ymrwymiadau teuluol, neu ymrwymiadau eraill, a daw ein myfyrwyr o lawer o wahanol gefndiroedd. Mae hyblygrwydd a strwythur y rhaglen wedi’u galluogi i astudio ac i gyflawni eu hamcanion tra bod eu bywydau prysur yn parhau fel arfer.

Beth bynnag fydd eich rhesymau dros ddewis astudio rhan amser ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn graddio gyda theimlad o gyflawniad a balchder.

Bydd y rhaglen radd Dyniaethau rhan amser yn:

• eich galluogi i raddio gyda gradd Anrhydedd o fewn chwe blynedd

• datblygu’ch sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, ymchwil, trefnu, rheoli amser, TG, a dadansoddi. Caiff myfyrwyr fynediad at gyngor a chyfarwyddyd a chânt fynychu gweithdai cyflogadwyedd trwy gydol eu cyfnod astudio.

• rhoi mynediad at ystod eang o gymorth sgiliau astudio

• creu sylfaen ar gyfer astudio ôl-raddedig.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd ran-amser yn rhaglen hyblyg sy’n galluogi myfyrwyr i ddewis astudio ystod o gyrsiau ar y campws a/neu mewn lleoliadau cymunedol ar amserau gwahanol o’r dydd.

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau grwp bach lle anogir trafodaeth grwp. Mae cymorth academaidd ar gael i helpu myfyrwyr i ymgartrefu ym myd Addysg Uwch.

Fel arfer, byddwch yn astudio modiwlau cyfwerth â 60 credyd y flwyddyn hyd nes i chi gyrraedd 360 credyd (120 yr un ar Lefel 1, 2 a 3). Mewn rhai achosion, bydd modd i chi gael gradd o fewn pum mlynedd drwy gwblhau dim ond 60 credyd ar Lefel 3. Cysylltwch â ni os ydych am archwilio’r opsiwn yma ymhellach.

Cynigir y rhaglen radd ran amser yn: • Rhydaman• Banwen• Brynaman• Clydach• Abergwaun• Glyn-nedd• Hwlffordd• Llanelli• Arberth

• Castell-nedd• Doc Penfro• Port Talbot• Campws Singleton Abertawe• Townhill, Abertawe

Pa bynciau sydd ar gael?Mae amrediad eang o bynciau ar gael, gan gynnwys:

Lefel 1• Hanes yr Henfyd• Cwnsela• Llenyddiaeth Saesneg• Hanes• Ieithyddiaeth• Athroniaeth a Moeseg• Gwleidyddiaeth• Seicoleg• Gwyddoniaeth a Chymdeithas• Polisi Cymdeithasol• Cymdeithaseg• Ystadegau

Lefelau 2 a 3• Hanes yr Henfyd• Cwnsela• Llenyddiaeth Saesneg• Hanes• Athroniaeth• Gwleidyddiaeth• Seicoleg• Polisi Cymdeithasol• Cymdeithaseg

Y Dyniaethau (Rhaglen Radd Rhan Amser)Adran Addysg Barhaus Oedolion

Y D

yniaethau (R

hagle

n Rad

d R

han Am

ser)

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/dace

Cysylltwch â’r Adran Addysg Barhaus Oedolion: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295499/ 01792 295395

Ymwelwch â’r Brifysgol: Ewch i’n gwefan am fanylion ein Diwrnodau Agored ar y campws ac yn y gymuned.

Sut i wneud cais: Gweler ein manylion cyswllt uchod

Pa raddau rydw i eu hangen? Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch i astudio’r radd ran amser gan ein bod yn ystyried yr holl geisiadau yn ôl eu haeddiant. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad swyddogol.

Nid oes rhaid i chi ymgeisio trwy UCAS. Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i ofyn am ffurflen gais a manylion llawn y rhaglen.

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Nid oes modiwl ar y rhaglen radd ran amser ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai myfyrwyr sy’n dymuno tiwtorialau neu fentoriaid Cymraeg, neu sydd am gyflwyno eu gwaith cwrs yn Gymraeg, gysylltu â ni i drafod eu hanghenion.

Sut y caf fy asesu? Fel arfer, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, prosiectau, adroddiadau, a chyflwyniadau. Asesir rhai modiwlau trwy arholiad.

A yw’r cymwysterau sydd gennyf eisoes yn cael eu cydnabod?Efallai y byddwch yn cael eich eithrio o ran o’r rhaglen radd os oes gennych gymwysterau yn barod yr ydym yn eu hystyried yn addas. Nodwch fod yn rhaid cyflwyno cais am eithrio credydau cyn 31 Awst 2014 ac na chaiff y cais ei ystyried oni bai eich bod wedi derbyn eich cymwysterau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Ysgoloriaethau a BwrsariaethauMae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod lawn o gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr rhan amser, gan gynnwys grantiau i helpu talu am y ffioedd dysgu, llyfrau, teithio a chostau eraill, yn ogystal â grantiau ar gyfer dibynyddion a gofal plant, Lwfans Dysgu i Rieni, Lwfans Myfyrwyr Anabl, a Chronfa Ariannol Wrth Gefn. Ewch i cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk am ragor o wybodaeth.

193192

“ Roedd ennill gradd yn rhywbeth nad oeddwn erioed wedi credu

y gallwn ei wneud. Roedd y rhaglen radd ran amser yn brofiad

cadarnhaol iawn, ac roedd astudio mewn lleoliadau cymunedol megis

DOVE a YMCA Port Talbot yn caniatáu’r hyblygrwydd i astudio tra

roedd fy ngwaith a fy mywyd teuluol yn parhau. Roeddwn i wedi

mwynhau astudio’r radd ran amser yn fawr iawn. Roedd y darlithwyr

a’r darlithoedd yn ysbrydoledig.” Denise Lewis, BA Dyniaethau 2012

193192

Page 99: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglBV95 s Y Gwyddorau Meddygol

a’r Dyniaethau

s cynllun 3 blynedd

“Mae’n bwysicach gwybod pa fath o berson sydd â chlefyd na pha fath o glefyd sydd gan berson.” Hippocrates

Mae’r radd arloesol, ryngddisgyblaethol hon yn adlewyrchu dealltwriaeth meddygaeth gyfoes o salwch, iechyd ac ymyriadau gofal iechyd o safbwynt cleifion ac o safbwynt bio-seico-gymdeithasol. Mae’r rhaglen yn astudio rhychwant eang o bynciau sy’n cwmpasu gwyddor a chrefft meddygaeth.

“Nid creu system yw fy nod na gweld cleifion fel systemau, ond yn hytrach creu darlun o fyd, amrywiaeth o fydoedd – y dirwedd o fodolaeth lle mae’r cleifion hyn yn byw.” Oliver Sacks

Bydd ein gradd Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau yn:

• darparu dealltwriaeth eang o feddygaeth a gofal iechyd, ac ein profiad ohonynt fel cymdeithas

• dysgu sgiliau dadansoddi critigol a gwerthuso allweddol, gwybodaeth a phrofiad a werthfawrogir gan gyflogwyr y sector rheoli gofal iechyd, ac yn y sectorau rheoli preifat a chyhoeddus yn gyffredinol

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau dadansoddi uwch

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn caniatáu i chi archwilio ochr wyddonol ac ochr ddynol meddygaeth a gofal iechyd. Mae wedi’i dylunio i ddarparu persbectif cynhwysfawr wedi’i seilio ar ystod eang o bynciau a dynnir o’r Gwyddorau Meddygol, y Gwyddorau Dynol a’r Dyniaethau.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae dysgu gyda chymorth cyfrifiadur yn elfen greiddiol o fodiwlau penodol.

Gellid categoreiddio’r modiwlau a astudir fel a ganlyn:

Y Gwyddorau Biolegol – sy’n archwilio sut y mae gwybodaeth o systemau biolegol ar y lefel foleciwlaidd, lefel y gell a lefel yr organeb yn ategu meddygaeth glinigol.

Y Gwyddorau Clinigol – sy’n canolbwyntio ar y sgiliau astudio a dysgu allweddol mewn meddygaeth a gofal iechyd, yn enwedig dadansoddi beirniadol o ybodaeth hanfodol meddygaeth ar sail tystiolaeth, y materion sy’n ymwneud â rhoi ymyriadau

cyhoeddus ar waith, ac integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol mewn rhyngweithiadau â chleifion.

Athroniaeth Meddygaeth – sy’n archwilio materion moesegol a chysyniadol sy’n llunio natur ac amcanion meddygaeth, yn cwestiynu problemau bywyd a marwolaeth yn fanwl, anhwylder amlbersonoliaeth, a chysyniadau ynghylch salwch meddyliol.

Y Gwyddorau Cymdeithasol a Meddygaeth – sy’n cynnwys y dimensiynau economaidd, seicolegol a chymdeithasegol sy’n tanategu’r profiad o feddygaeth a gofal iechyd, a hefyd faterion costio a darparu gwasanaeth dros hyd oes.

Hanes Meddygaeth – sy’n darparu golwg beirniadol ar ryngweithio rhwng ffactorau deallusol a chymdeithasol wrth ddatblygu theori ac ymarfer ac wrth broffesiynoli meddygaeth, a rôl gyffredinol meddygaeth yng nghreadigaeth cymdeithas fodern ers 1500.

Llenyddiaeth a Meddygaeth – sy’n cyferbynnu barn doctoriaid a chleifion o afiechyd drwy archwilio naratif gofal iechyd a salwch.

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

“ Rwyf hoffi’n fawr fod y radd hon mor unigryw ac amrywiol. Mae’n

rhychwantu athroniaeth clefydau i hanes meddygaeth i adeiledd celloedd

a DNA. Mae’n caniatáu i chi weld meddyginiaeth a gofal iechyd o

gymaint o safbwyntiau, nid dim ond yn wyddonol. Mae ansawdd y staffio

yn rhagorol a darlithoedd yn hwyl! Mae’r cyfleusterau wedi cael eu

huwchraddio yn ddiweddar ac mae’n bleser i ddefnyddio’r neuaddau

darlithio a labordai. ” Kate McGinley, BSc Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/colegygwyddoraudynolaciechyd

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon uwch: ABB neu gyfwerth

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 33

Y Fagloriaeth Gymreig: yn cyfrif fel 120 pwynt UCAS – neu radd A Safon Uwch Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Nid oes angen Safon Uwch mathemateg neu wyddoniaeth (er eu bod yn sylfaen defnyddiol iawn). Ond rydym yn gofyn am o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys TGAU

Pa fodiwlau sydd ar gael?Mae’r Modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel 1• Sylfeini Mathemateg a Ffiseg

Systemau Byw• Bioleg Ddynol Gymhwysol• Cyflwyniad i Gyfraith Iechyd• Cyflwyniad i Athroniaeth Meddygaeth• Cyflwyniad i Seicoleg, Iechyd, Salwch

a Meddygaeth• Anatomi a Ffisioleg Ddynol I• Sgiliau Astudio • Cyflwyniad i Hanes Meddygaeth• Cyflwyniad i Lenyddiaeth a

Meddygaeth• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch

Lefel 2• Dulliau ac Ystadegau Ymchwil• Y Gyfraith ac Ymarfer Iechyd• Athroniaeth Iechyd, Afiechyd a Salwch• Pobl, Poblogaethau a Gofal

Meddygol: Safbwyntiau Athronyddol• Meddyginiaeth Fwyaf Effeithlon a

Chymdeithas c.1300-2000• Anatomi a Ffisioleg Ddynol II

Dewisiadau mewn• Economeg Iechyd• Cymdeithaseg Iechyd a Meddygaeth II• Seicoleg, Iechyd, Salwch a

Meddygaeth II• Pathoffisioleg• Geneteg

Lefel 3• Cymhwyso Gwybodaeth mewn

Meddygaeth• Pobl a Salwch: Safbwyntiau

Athronyddol• Ysbytai mewn Hanes c.1700-1948• Ffisioleg Systemau a Phatholeg

Gyffredin• Traethawd Hir (testun meddygaeth/

gofal iechyd o’ch dewis)• Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg

Dewisiadau mewn• Patholeg a Therapiwteg• Geneteg Uwch

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Rydym yn cynnig modiwl o’r enw Cymraeg yn y Gweithle, (sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw bwnc). Mae pob myfyriwr hefyd yn derbyn llyfryn o dermau defnyddiol i ddefnyddio wrth ofalu trwy’r Gymraeg ar ddechrau’r tymor. Mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau, a thraethawd hir. Mae cydbwysedd da rhwng gwaith cwrs ac arholiadau.

Y G

wyd

do

rau Me

dd

ygo

l a’r Dyniae

thau

Cymraeg (neu Saesneg) a Mathemateg. Mae cymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl TGAU, neu Ffiseg a Chemeg, yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan.

Mae 100% o’n graddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

195194

Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau

195194

Page 100: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Co

dau U

CA

S

O gwmnïau cyfreithiol bychain i Lys Cyfiawnder Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, mae’r proffesiwn cyfreithiol yn llunio pob agwedd o’n cymdeithas, ein gwleidyddiaeth, a’n heconomïau. Mae’r Gyfraith yn rheoleiddio prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau, a sut yr ydym yn llywodraethu ein hunain. Mae’n diffinio sut yr ydym yn erlyn ac yn amddiffyn, a sut yr ydym yn diogelu hawliau pobl nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain.

Mae cyrsiau LLB Abertawe i gyd yn raddau ymgymhwyso yn y Gyfraith.

Bydd ein graddau yn y Gyfraith yn:

• gosod sylfaen gref ar gyfer gyrfa yn y gyfraith

• eich hyfforddi i gymhwyso cysyniadau cyfreithiol mewn amgylchedd ymarferol

• dysgu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau ymchwil a dadansoddi

Yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil diweddaraf, yn 2008, cydnabuwyd bod 95% o’n hymchwil o safon ryngwladol, sy’n golygu y cewch eich addysgu gan staff profiadol iawn sy’n weithgar ym meysydd ymchwil. Mae lefel bodlonrwydd

myfyrwyr yn gyson uchel. Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2012, cafodd Abertawe’r sgôr uchaf o holl Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, a dywedodd 94% o fyfyrwyr LLB Y Gyfraith yn Abertawe eu bod yn fodlon.

Beth yw strwythur y radd? Mae ein dull arloesol o addysgu yn caniatáu i chi deilwra eich gradd yn unol â’ch diddordebau, eich cynlluniau ar gyfer eich gyrfa, a’ch cryfderau. Gan fod y modiwlau sylfaen gorfodol sydd eu hangen ar gyfer gradd ymgymhwyso yn y gyfraith i gyd yn cael eu cwblhau ar Lefelau Un a Dau, bydd cyfle gennych i ddewis o ystod eang o fodiwlau dewisol yn eich blwyddyn olaf sy’n ddefnyddiol tu hwnt os ydych yn dymuno arbenigo mewn maes arbennig o’r gyfraith.

Cewch eich annog yn gryf i ychwanegu at eich astudiaethau academaidd drwy ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol. Bydd ein Tiwtor Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn cwmnïau cyfreithiol lleol a darparwyr gwasanaethau cyfreithiol eraill megis Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd.

Cewch eich addysgu mewn awyrgylch dysgu cyfeillgar a chefnogol, drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith grwp ac ymchwil dan oruchwyliaeth. Byddwch hefyd yn ennill profiad ymarferol o ddadlau achosion mewn awyrgylch llys yn ein Ffug Lys. Mae ein Llyfrgell Gyfreithiol wedi’i chyfarparu’n dda ac yn cynnig cyfleusterau ardderchog yn ogystal â chymorth drwy gydol eich astudiaethau. Mae ein casgliad sylweddol yn y llyfrgell wedi’i ategu gan ystod helaeth o ddeunydd cyfreithiol electronig.

Pa fodiwlau sydd ar gael?

Anrhydedd Sengl LLBLefel 1Mae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Cyfraith Gyhoeddus• Cyfraith Camweddau• Cyfraith Contract• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Lefel 2Mae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Tegwch ac Ymddiriedolaethau• Cyfraith Tir• Cyfraith Trosedd

Mae amrywiaeth o fodiwlau opsiynol hefyd ar gael.

LLB Prif Bwnc/Pwnc LleiafM1N1 s Y Gyfraith a Busnes

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

LLB Anrhydedd SenglM100 s Y GyfraithMM12 s Y Gyfraith (Trosedd a

Chyfiawnder Troseddol)

LLB Cyd-Anrhydedd: Y Gyfraith aMR12 u AlmaenegMT17 s Astudiaethau AmericanaiddMT1R u Astudiaethau AmericanaiddMQ15 u CymraegML11 s EconomegMR13 u EidalegMR11 u FfrangegLM21 s GwleidyddiaethMVC1 s HanesMR14 u SbaenegMM19 s Troseddeg

Ysgol y Gyfraith

Y Gyfraith

“ O edrych yn ôl, rhaid i mi ddweud

mai dewis astudio yn Abertawe oedd y

penderfyniad gorau a wnes i erioed. Dwi

wedi mwynhau astudio’r Gyfraith yma yn

fawr iawn. Mae pawb, o’r darlithwyr i’r

derbynyddion yn Ysgol y Gyfraith wedi

bod o gymorth mawr, ac maen nhw’n

gwneud eu gorau glas i roi’r cymorth

angenrheidiol i chi.”Kimberly Rupik, LLB Y Gyfraith

Sut ga i wybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/y-gyfraith

Cysylltwch â’r Tiwtoriaid Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295831

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 200 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau rydw i eu hangen? Safon Uwch: AAB – BBB neu gyfwerth. Efallai y bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau Cyd-Anrhydedd fynychu cyfweliad ac mae’n bosibl y gwneir cynigion ar sail hynny.

Y Fagloriaeth Ryngwladol: 34

Y Fagloriaeth Gymreig: Gweler tudalen 203

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 203

Y G

yfraith

Lefel 3Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, megis:• Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: Polisi

ac Arfer Cyfreithiol• Cyfraith Masnach Gymhwysol• Cyfreitheg Gymhwysol• Cyfraith Masnach• Cyfraith Cystadlu• Rheoleiddio Troseddol Corfforaethol• Tystiolaeth Drosedd• Cyfiawnder Troseddol a

Hawliau Dynol• Seibr-drosedd• Traethawd Hir• Cyfraith E-fasnach• Cyfraith Cyflogaeth• Cyfraith Amgylcheddol• Cyfraith Teulu• Sylfeini Ymarferiad y Gyfraith• Cyfraith a Pholisi Tai• Cyfraith Hawliau Dynol• Cyfraith Eiddo Deallusol• Cyfraith Ryngwladol• Cyfraith a Llywodraethu Aml-lefel• Cyfraith Olyniaeth• Hanes Cyfreithiol Cymru• Materion Cyfreithiol mewn Gofal

Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol• Cynllunio a Chadwraeth Natur• Cyfraith Chwaraeon• Olyniaeth • Terfysgaeth: Yr Ymateb Cyfreithiol• Themâu mewn Cyfreitheg

Cynlluniau LLB Cyd-AnrhydeddMae myfyrwyr Cyd-Anrhydedd i gyd yn dilyn yr un strwythur sylfaenol, er bod y radd prif bwnc/pwnc lleiaf yn y Gyfraith gyda Busnes wedi’i phwyso o blaid y Gyfraith. Astudir y modiwlau gorfodol Lefel Un a Lefel Dau fel modiwlau 30 credyd ar y cynllun Anrhydedd Sengl, ac fel modiwlau 20 credyd ar y cynlluniau Cyd-Anrhydedd, i gymryd i ystyriaeth y modiwlau ychwanegol y mae myfyrwyr Cyd-Anrhydedd yn eu hastudio o’r pwnc partner.

Lefel 1• Cyfraith Gyhoeddus• Contract• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd• Cyfraith Camweddau• Modiwlau o’r pwnc partner

Lefel 2• Cyfraith Trosedd• Eiddo• Tegwch ac Ymddiriedolaethau• Modiwl dewisol• Modiwlau o’r pwnc partner

Lefel 3• Modiwlau dewisol (yn berthnasol i’r

radd ymgymhwyso yn y Gyfraith)• Modiwlau o’r pwnc partner

Beth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?Mae’n bosib astudio hyd at 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Gyfraith trwy seminarau. Hefyd, mae hawl gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i’w asesu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag yw cyfrwng addysgu’r modiwl hwnnw.

A oes cymorth ariannol ar gael?Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid i fyfyrwyr sydd am astudio rhywfaint o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o gyrsiau’r Gyfraith (sengl a chyd-anrhydedd) yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant. Ceir manylion ar wefan: www.colegcymraeg.ac.uk

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ysgrifenedig, asesu parhaus, aseiniadau a thraethodau hir/estynedig.

Mae angen ail iaith berthnasol arnoch ar gyfer y radd Gyd-Anrhydedd yn y Gyfraith ac Ieithoedd. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 92% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2010-11)

197196 197196

Page 101: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Camau nesafRhaid gweld i gredu – felly beth am gymryd golwg fanylach? Bydd ein Diwrnodau Agored yn rhoi syniad i chi o fywyd campws a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r profiad yn Abertawe

Bydd cyfle gennych i:

• gwrdd â’r Tiwtoriaid Derbyn

• mynd ar deithiau tywys drwy’r adrannau academaidd a dysgu rhagor am eu cyrsiau

• cwrdd â staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi a dysgu mwy am y ddarpariaeth a’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

• archwilio ein campws cyfeillgar a chwrdd â rhai o’n myfyrwyr

• gweld sut y bydd y Ganolfan Gyrfaoedd yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl astudio

• archwilio ein cyfleusterau TG a llyfrgell

• trafod unrhyw ofynion arbennig â’r Swyddfa Anableddau / Gwasanaethau Myfyrwyr

• profi’r arlwyo ar y campws yn ein bwytai a’n caffis

• gweld sut y mae ein myfyrwyr yn byw drwy ymweld â rhai o’n preswylfeydd

29ain Mehefin 20135ed Hydref 20132il Tachwedd 2013{ Cynhelir ein Diwrnodau Agored ar gyfer mynediad yn 2013 ar: Gallwch chi hefyd ddod o hyd i ni ym mhabell Gwyddonle Eisteddfod yr

Urdd a stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ewch i www.abertawe.ac.uk/israddedig/diwrnodau-agored-ac-ymweliadau am ragor o fanylion neu ffoniwch +44 (0)1792 295784.

199198

Page 102: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Y Fagloriaeth GymreigCroesewir ceisiadau gan fyfyrwyr Diploma Uwch Y Fagloriaeth Gymreig â phynciau dewisol perthnasol. I gydnabod bod y cymhwyster yn paratoi ar gyfer ein cynlluniau gradd yn ardderchog, bydd ein cynigion yn cydnabod cwblhau’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Craidd yn llwyddiannus.

Rydym hefyd yn croesawu amrediad eang o gymwysterau eraill, megis y Fagloriaeth Ryngwladol neu Ewropeaidd, Diploma Uwch, BTEC, neu gwrs neu ddiploma mynediad. Rydym wrthi o hyd yn adolygu derbynioldeb cymwysterau newydd, felly os ydych yn sefyll arholiadau nad ydynt wedi’u rhestru, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn.

Darpariaeth cyfrwng CymraegCofiwch hefyd bod cyrsiau ar gael yn rhannol neu’n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a bod cyfleoedd cyllido trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi. Os ydych chi’n teimlo y byddwch chi’n elwa o astudio rhan o’ch cwrs trwy’r Gymraeg, anfonwch e-bost at [email protected] er mwyn cael mwy o wybodaeth, neu edrychwch ar dudalennau gwe Academi Hywel Teifi:

Dyddiadau a dyddiadau cau

• Mae modd i chi gyflwyno’ch cais i UCAS o 1 Medi 2013 (ar gyfer mynediad yn yr hydref 2014)

• Y dyddiad cau cyntaf yw 15 Hydref 2013 os ydych yn astudio Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth

Byddwn yn eich argymell i gyflwyno’ch cais cyn gynted â phosib. Er bod modd gwneud cais ar ôl y dyddiad cau, nid ydym yn gallu gwarantu y byddwn yn ei ystyried yn yr un modd â cheisiadau a gyflwynir ar amser.

Pan fyddwn yn derbyn eich cais gan UCAS, bydd y Tiwtoriaid Derbyn ar gyfer y cwrs o’ch dewis yn:

• gwirio eich bod yn bodloni’r gofynion mynediad, yn ogystal ag unrhyw ofynion meddygol a di-academaidd eraill sydd eu hangen

• gwirio bod gennych chi’r profiad a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudio’r pwnc

• edrych am dystiolaeth o’ch ymrwymiad a’ch cymhelliad, a thalu sylw i’ch llwyddiannau

• ystyried eich geirda ac unrhyw asesiadau gan seicolegwyr addysg neu ymarferwyr meddygol

• sicrhau bod unrhyw adnoddau a chyfleoedd dysgu y bydd eu hangen arnoch ar gael

Os ydyn o’r farn bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i astudio gyda ni, mae’n bosibl y byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad er mwyn dod i’ch adnabod yn well. Mae cwrdd â darpar fyfyrwyr mewn cyfweliadau a Diwrnodau Agored yn aml yn caniatáu’r hyblygrwydd i ni deilwra ein cynigion at gryfderau pob unigolyn.

Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu anhawster dysgu penodol, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i Swyddog Anabledd neu Gyfarwyddwr Iechyd Galwedigaethol y Brifysgol eich cyfweld fel y bydd modd i ni sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch drwy gydol eich astudiaethau.

Cofiwch: mae gennym ddiddordeb mewn pobl a fydd yn manteisio ar y cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, a fydd yn elwa fwyaf o’r profiad yn Abertawe. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn pobl a fydd yn ychwanegu gwerth at

chwaraeon, diwylliant, a bywyd cymdeithasol ein cymuned.

Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn cynnig lle i chi ac os oes unrhyw amodau arbennig. O bryd i’w gilydd, gall aelod o staff y Coleg neu Ysgol Academaidd sydd o ddiddordeb i chi awgrymu y byddwch yn derbyn cynnig, ond nid yw hyn yn ymrwymiad terfynol – arhoswch am gynnig ffurfiol gan UCAS.

Os yw eich cynnig yn amodol ar ganlyniad eich arholiadau, ni fyddwn yn rhoi cadarnhad terfynol ein bod yn derbyn eich cais hyd nes y bydd y canlyniadau wedi’u cyhoeddi. Os ydych yn derbyn ein cynnig amodol yn gadarn ond ddim yn llwyddo i gael y graddau arholiad sydd eu hangen arnoch, bydd ystyried eich perfformiad ar y cyfan o bosibl yn rhoi’r hyblygrwydd i ni fedru cadarnhau eich cynnig.

Bob blwyddyn, rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau i astudio gyda ni na nifer y llefydd sydd ar gael, ac mae sawl cwrs yn gordanysgrifio’n gyflym. Yn anochel felly, mae’n rhaid i ni siomi rhai o’n hymgeiswyr. Os nad ydych yn cael lle yn Abertawe, a’ch bod yn meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, gallwch ofyn i ni ailystyried eich cais. Cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn am ragor o fanylion.

UCASRhaid gwneud pob cais ar gyfer gradd israddedig llawn-amser a Diploma Cenedlaethol Uwch drwy UCAS, Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Dylech hefyd ddefnyddio UCAS os ydych yn dymuno trosglwyddo o un brifysgol i brifysgol arall. Y ffordd symlaf o wneud cais yw ar-lein yn:

www.ucas.ac.uk

Sylwer bod UCAS yn codi ffi ymgeisio o £22 ar gyfer dau i bum dewis prifysgol, neu £11 ar gyfer dim ond un dewis. (Mae’n bosibl y bydd y tâl yn cynyddu ar gyfer mynediad yn 2013.) Ceir manylion pellach ar wefan UCAS.

Beth sydd ei angen arnoch?I astudio yn Abertawe mae’n rhaid eich bod chi’n cwrdd â’n gofynion mynediad cyffredinol yn ogystal â’r graddau mynediad gofynnol ar gyfer eich rhaglen radd ddewisol. (Yn ymarferol, os ydych yn cwrdd â gofynion y cwrs, byddwch fel arfer yn cwrdd â’n gofynion cyffredinol.)

Mae ein gofynion cyffredinol yn cynnwys:

• TGAU Iaith Saesneg neu Iaith Gymraeg gradd C neu uwch

• lleiafswm o ddau gymhwyster Safon Uwch gradd E neu uwch, neu un cymhwyster Safon Uwch a dau gymhwyster safon UG gradd E neu uwch, neu

• gymhwyster cyfwerth (gweler y tabl ar dudalen 203)

I wneud cais ar gyfer cynllun Diploma Cenedlaethol Uwch, bydd angen arnoch:

• TGAU Iaith Saesneg neu Iaith Gymraeg gradd C neu uwch

• o leiaf un cymhwyster Safon Uwch (neu ddau gymhwyster safon UG) gradd E neu uwch

Mae’n bosibl y cewch eich esgusodi o’r gofynion cyffredinol os yw’r Coleg neu Ysgol Academaidd yr ydych yn gwneud cais iddo/iddi yn argymell eich bod wedi cwrdd â’r safon mynediad angenrheidiol.

Sut ydyn ni’n dewis ein myfyrwyr

201200

www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

Page 103: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Safon Uwch (pwyntiau tariff)

BTEC 18 Uned Diploma Cenedlaethol

Bagloriaeth Ewropeaidd

Bagloriaeth Ffrainc

Abitur yr Almaen

Bagloriaeth Ryngwladol

Pwyntiau Tystysgrif Gadael Iwerddon

MynediadCenedlaethol

AAA (360) DDD 85% 16 1.2-1.4 36 40533 Rhagoriaeth, 9 teilyngdod

AAB (340) 80% 15 1.5-1.7 34 39027 Rhagoriaeth, 15 teilyngdod

ABB (320) DDM 77% 14 1.8-2.1 33 37524 Rhagoriaeth, 15 teilyngdod

BBB (300) 75% 13 2.2-2.4 32 36018 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

BBC (280) DMM 73% 12 2.5-2.7 30 34515 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

BCC (260) 70% 11 2.8-3.0 28 33012 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

CCC (240) MMM 64% 10 3.1-3.3 26 3156 Rhagoriaeth, 33 teilyngdod

CCD (220) 60% 9 3.4-3.6 24 300 27 teilyngdod

NodiadauCyfartaledd Cyffredinol

Cyfartaledd Cyffredinol

Cyfartaledd Cyffredinol

Cyfanswm Pwyntiau BR

O bwyntiau Tystysgrif Gadael Iwerddon (nid tariff). Rhaid i hyn gynnwys o leiaf 3 pas B1 mewn papurau uwch/ anrhydedd/

Yn cyfeirio at gredydau lefel 3

Oes angen gradd lwyddo Gyffredinol

OES OES OES OES OESDdim yn berthnasol

OES

Cynigion cyffredin

Beth Pryd Ticiwch

Dewis y cwrs yr ydych am ei astudio (tudalennau 70 – 197) Nawr

Gwirio’r graddau sydd eu hangen arnoch Nawr

Gwirio os bydd angen unrhyw gymwysterau eraill arnoch Nawr

Ymwelwch â ni – yn annibynnol neu’n rhan o Ddiwrnod Agored (gweler tudalen 198)

Unrhyw bryd

Gwneud Cais! Erbyn 15 Ionawr 2013 (gan amlaf)s)

Os ydych yn cael gwahoddiad, dod am gyfweliad Rhwng Hydref a Gorffennaf

Derbyn ein cynnig Rhwng Hydref a Gorffennaf

Casglu eich canlyniadau Awst 2014

Get final confirmation of your offer from us Awst 2014

Derbyn eich pecyn cofrestru a dechrau paratoi ar gyfer bywyd fel myfyriwr

Medi 2014

Dechrau astudio yn Abertawe! Medi 2014

Rhestr wirio eich cais

Ein Polisi DerbynMae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau ac ymholiadau gan bawb waeth beth fo’u hoed, hil neu darddiad ethnig neu genedlaethol, credoau crefyddol neu wleidyddol, cenedl, tueddfryd rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldebau teuluol, ac anabledd corfforol neu synhwyraidd, oni bai fod y gweithgareddau hynny’n anghyfreithlon neu’n groes i bolisi’r Brifysgol.

Mae’r Brifysgol yn trin pob ymgeisydd ar ei haeddiant unigol ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ag ystod o gymwysterau.

Cofiwch!

• Gwnewch gais ar-lein yn www.ucas.ac.uk

• Ein henw a’n cod sefydliad UCAS yw SWAN S93

• Y dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau yw 15 Ionawr 2014

• Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected], neu ffonio +44 (0)1792 295111

• Ceir rhagor o wybodaeth ar www.abertawe.ac.uk

• Cewch ymuno â ni ar Facebook – www.facebook.com/UGAdmissions

• Cewch ein dilyn ar Twitter – twitter.com/SwanseaUniApply

• UCAS YouGo – yougo.co.uk/login.aspx

203202

Page 104: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Cofrestrfa Adnoddau Cyfryngau 3Adnoddau Dynol 2Adran Gyllid 1Adran Ymchwil ac Arloesi 8.2Adran Ystadau 18Banc 32Bariau 17, 18, 32Canolfan Llyfrgell a Gwybodaeth 7Canolfan Drawsgrifio 15Canolfan Feddygol 17Canolfan y Gaplaniaeth 17Cofrestrfa Academaidd 2.1Crèche / Meithrinfa 30

Deintyddfa 23Discovery – Gwirfoddoli Myfyriwr 17Ffreutur 17Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr 3.1Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr 23Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol 3.1Gwasanaethau Lles 23Gwasanaethau Preswyl 22Gweinyddiaeth Ganolog 2Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd 7Iechyd Galwedigaethol a Chanolfan Argyfwng 22

Llyfrgell y Gyfraith 5Marchnata 2Mosg 6Oriel Gelf 32Peiriannau Arian Parod 17, 18, 32Siop Deithio 17Siop Lyfrau 32Siopau 17, 18Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr 2Swyddfa Dderbyn 2Swyddfa Ryngwladol 2.1 Swyddfa Arlwyo 17Swyddfa Gynadleddau 17

Swyddfa Anableddau / Anghenion Arbennig 3.1Swyddfa Anableddau – Canolfan Asesu a Hyfforddi 13Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol 3.1Swyddfa Ôl-raddedigion 2.1Swyddfa’r Post 17Y Ganolfan Eifftaidd 32.1Theatr (Taliesin) 32Undeb y Myfyrwyr 18Uned Datblygu Staff 13

Ardaloedd AcademaiddAddysg Barhaus Oedolion 11.1Almaeneg 3Astudiaethau Americanaidd 4Astudiaethau Plentyndod 11.2Astudiaethau Sbaenaidd 3Busnes 16Cyfrifiadureg 8.1, 8.2Cyfryngau a Chyfathrebu 3Cymraeg 3Daearyddiaeth 9Dyframaeth 34

Map o’r campws

Economeg 14Eidaleg 3Ffiseg 11.2Ffrangeg 3Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol 4Gwyddorau Biolegol 9, 9.4, 11.2Gwyddor Chwaraeon 11.2, 11.3Gwyddor Iechyd 11.1Hanes 4Mathemateg 8.3

Meddygaeth 12, 33Peirianneg 8.1, 8.2Polisi / Gwaith Cymdeithasol 11.2Rhyfel a Chymdeithas 4Saesneg 3Seicoleg 11.2Troseddeg 11.2Y Clasuron, Hanes yr Henfyd, ac Eifftoleg 3Y Gyfraith 14

Llety MyfyrwyrCaswell 27Cefn Bryn 21Horton 23Kilvey 19.1Langland 26Oxwich 25Penmaen 22Preseli 20Rhossili 21.2, 21.3

205204

Ewch ar rith daith o amgylch y campws ac edrychwch ar rai o’n

cyfleusterau

Gwasanaethau / Cyfleusterau

Page 105: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

ABERTAWE

CAERDYDD

BRYSTE LLUNDAIN

PLYMOUTHSOUTHAMPTON

DOFR

CAERGRAWNT

LEEDS

CAEREDIN

ABERDEEN

BELFAST

DULYN

CAERGYBI

LERPWL

MANCEINION

BIRMINGHAM

Aberystwyth 73

Bangor 160

Birmingham 126

Bryste 85

Caerdydd 40

Caeredin 383

Glasgow 426

Leeds 227

Lerpwl 168

Llundain 203

Manceinion 187

Merthyr Tudful 31

Newcastle 319

Wrecsam 138

Y Bala 126

Birmingham 3awr 15mun

Bryste 2awr

Caerdydd 55mun

Lerpwl 4awr 40mun

Llundain 3awr

Manceinion 4awr 30mun

Pellter teithio i Abertawe (milltiroedd) Ar y trên i Abertawe

TO M4A 4 8 3

A4

06

7

A 4 8 3

A4

06

7

C A N O L F A N D D I N E S I G

S G E T I

G O R S A F B Y S I A U

U P L A N D S

B R Y N M I L L

T O W N H I L L

I B E N R H Y N G Ŵ Y R

S T T H O M A S

D O C I A U

I ’ R M W M B W L S

A4

21

6

A 4 1 1 8

M 4

C O C Y D

B 4 4 3 6

A 4 0 6 7

Y S B Y T Y S I N G L E T O N

M 4C y f f o r d d 4 2 4 M I L L T I R

P

P

S T A D I W ML I B E R T Y

B A E A B E R T A W E

C A N O L F A N H A M D D E N

C y f f o r d d 4 7 3 M I L L T I R P A R C I O A T H E I T H I O G L A N D Ŵ R

G O R S A F T R E N A U ’ R S T R Y D F A W R

P A R C I O A T H E I T H I O F F O R D D F A B I A N

A R C H F A R C H N A D S A I N S B U R Y

M A E S C H W A R A E O N S A N H E L E N

P R I F Y S G O L A B E R T A W E

C A N O L F A N C H W A R A E O N Y B R I F Y S G O L A P H W L L N O F I O C E N E D L A E T H O L

C Y M R U A B E R T A W E

HE

OL

CO

CY

D

F F O R D D F A B I A N

Ymweld ag Abertawe

Prifysgol – cyffredinolFfôn: +44 (0)1792 205678Ffacs: +44 (0)1792 295048E-bost: [email protected]

Gwasanaethau RheilfforddFfôn: +44 (0)8457 484950www.nationalrail.co.uk

Ymholiadau Bws a ChoetsFfôn: +44 (0)8705 808080www.nationalexpress.comwww.firstcymru.co.uk

TravelineFfôn: +44 (0)8706 082608www.cymraeg.traveline-cymru.infowww.traveline.org.uk

Canolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr, Abertawe Ffôn: +44 (0)1792 468321E-bost: [email protected]/tourism

Swyddfa Anableddau’r BrifysgolFfôn: +44 (0)1792 513000Minicom/testun: +44 (0)1792 513100Ffacs: +44 (0)1792 513200E-bost: [email protected]/cy/israddedig/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/swyddfaanableddau/

Rhifau Ffôn a Manylion Cyswllt Defnyddiol:

207206

Page 106: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

D

94 Daearyddiaeth (gydag Astudiaethau Ewropeaidd), F8R9 (BSc)

94 Daearyddiaeth a Almaeneg, LR72 (BA)

94 Daearyddiaeth a Astudiaethau Americanaidd, LT77 (BA), TL77 (BA)

94 Daearyddiaeth a Cymraeg (ail iaith), LQ75 (BA)

94 Daearyddiaeth a Cymraeg (iaith gyntaf), FQ85 (BA)

94 Daearyddiaeth a Economeg, LL17 (BA)

94 Daearyddiaeth a Economeg, LL71 (BSc)

94 Daearyddiaeth a Eidaleg, LR73 (BA)

94 Daearyddiaeth a Ffrangeg, LR71 (BA)

94 Daearyddiaeth a Geo-wybodeg, F830 (BSc)

94 Daearyddiaeth a Gwyddorau Biolegol, CL17 (BSc)

94 Daearyddiaeth a Hanes, LV71 (BA)

94 Daearyddiaeth a Llenyddiaeth Saesneg, LQ73 (BA)

94 Daearyddiaeth a Polisi Cymdeithasol, LL47 (BA)

94 Daearyddiaeth a Sbaeneg, LR74 (BA)

94 Daearyddiaeth Ddynol, L720 (BA)

94 Daearyddiaeth Ffisegol, F840 (BSc)

94 Daearyddiaeth, F800 (BSc)

94 Daearyddiaeth, (gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig) FL87 (BSc)

94 Daearyddiaeth, L700 (BA)

160 Defnyddiau Chwaraeon, J400 (BEng)

E

96 Economeg (gyda blwyddyn dramor), L101 (BSc)

96 Economeg (gyda blwyddyn dramor), L105 (BA)

96 Economeg a Daearyddiaeth, LL17 (BA)

96 Economeg a Daearyddiaeth, LL71 (BSc)

96 Economeg a Eidaleg, LR13 (BA)

96 Economeg a Gwleidyddiaeth, LL12 (BA)

96 Economeg a Hanes, LV11 (BA)

96 Economeg a Mathemateg, GL11 (BSc)

96 Economeg a Rheoli Busnes, NL21 (BSc)

96 Economeg a’r Gyfraith, ML11 (LLB)

96 Economeg Ariannol (gyda Chyfrifeg), L1NK (BSc)

96 Economeg Ariannol, L111 (BSc)

96 Economeg Busnes Rhyngwladol, L160 (BSc)

96 Economeg, L100 (BSc)

96 Economeg, L104 (BA)

96 Economeg Busnes, L113 (BA)

96 Economeg Busnes (gyda blwyddyn dramor), L115 (BA)

96 Economeg Busnes, L112 (BSc)

96 Economeg Busnes (gyda blwyddyn dramor), L114 (BSc)

100 Eidaleg a TEFL, RX33 (BA)

100 Eidaleg a Almaeneg, RR23 (BA)

100 Eidaleg a Astudiaethau Canoloesol, RVH1 (BA)

100 Eidaleg a Cymraeg, QRM3 (BA)

100 Eidaleg a Daearyddiaeth, LR73 (BA)

100 Eidaleg a Economeg, LR13 (BA)

100 Eidaleg a Ffrangeg, RR13 (BA)

100 Eidaleg a Gwleidyddiaeth, LR23 (BA)

100 Eidaleg a Hanes, RV31 (BA)

100 Eidaleg a Iaith Saesneg, QRJ3 (BA)

100 Eidaleg a Llenyddiaeth Saesneg, QR33 (BA)

100 Eidaleg a Sbaeneg, RR34 (BA)

100 Eidaleg a Y Cyfryngau, PR33 (BA)

100 Eidaleg a’r Gyfraith, MR13 (LLB)

188 Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol, VQ48 (BA)

188 Eifftoleg a Hanes yr Henfyd, VV41 (BA)

188 Eifftoleg, V410 (BA)

F 102 Ffiseg a Cyfrifiadureg, FG34 (BSc)

102 Ffiseg a Mathemateg, FG31 (BSc)

102 Ffiseg Ddamcaniaethol, F340 (MPhys)

102 Ffiseg Ddamcaniaethol, F341 (BSc)

102 Ffiseg (gyda blwyddyn dramor), F302 (BSc)

102 Ffiseg (gyda blwyddyn dramor), F304 (MPhys)

102 Ffiseg (gyda Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg), F3F5 (BSc)

102 Ffiseg (gyda Nanotechnoleg), F390 (BSc)

102 Ffiseg, F300 (BSc)

102 Ffiseg, F301 (gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig) (BSc)

102 Ffiseg, F303 (MPhys)

104 Ffrangeg (gyda Busnes), R1N1 (BA)

104 Ffrangeg a Almaeneg, RR12 (BA)

104 Ffrangeg a Cymraeg, QR51 (BA)

104 Ffrangeg a Daearyddiaeth, LR71 (BA)

104 Ffrangeg a Economeg, LR11 (BA)

104 Ffrangeg a Gwareiddiad Clasurol, QR81 (BA)

104 Ffrangeg a Gwleidyddiaeth, LR21 (BA)

104 Ffrangeg a Hanes yr Henfyd, VR11 (BA)

104 Ffrangeg a Hanes, RV11 (BA)

104 Ffrangeg a Iaith Saesneg, QRJ1 (BA)

104 Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg, QR31 (BA)

104 Ffrangeg a Sbaeneg, RR14 (BA)

104 Ffrangeg a TEFL, RX13 (BA)

104 Ffrangeg a Y Cyfryngau, PR31 (BA)

104 Ffrangeg a’r Gyfraith, MR11 (LLB)

104 Ffrangeg, R101 (BA)

G 106 Geneteg Feddygol, C431 (BSc)

106 Geneteg, C400 (BSc)

108 Geo-wybodeg a Cyfrifiadureg, GF48 (BSc)

108 Geo-wybodeg a Daearyddiaeth, F830 (BSc)

108 Geo-wybodeg a Mathemateg, GF18 (BSc)

110 Gwaith Cymdeithasol, L500 (BSc)

188 Gwareiddiad Clasurol a Almaeneg, QR82 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Astudiaethau Canoloesol, QVV1 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Cymraeg (ail iaith), QQ85 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Cymraeg (iaith gyntaf), QQ8H (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Ffrangeg, QR81 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Groeg, QQ78 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Hanes, QV81 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Hanes (gyda blwyddyn dramor), QV8C (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Iaith Saesneg,

QQ38 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Lladin, QQ86 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol a Llenyddiaeth Saesneg, QQ83 (BA)

188 Gwareiddiad Clasurol, Q820 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Almaeneg, LR22 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Astudiaethau Americanaidd, LT27 (BA), TL72 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Cymraeg (ail iaith), LQF5 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Cymraeg (iaith gyntaf), LQ2N (BA)

Mynegai

A

70 Almaeneg (gyda Busnes), R2N1 (BA)

70 Almaeneg (gyda Busnes), R2N1 (BA)

70 Almaeneg a Cymraeg, QR52 (BA)

70 Almaeneg a Daearyddiaeth, LR72 (BA)

70 Almaeneg a Economeg, LR12 (BA)

70 Almaeneg a Eidaleg, RR23 (BA)

70 Almaeneg a Ffrangeg, RR12 (BA)

70 Almaeneg a Gwareiddiad Clasurol, QR82 (BA)

70 Almaeneg a Gwleidyddiaeth, LR22 (BA)

70 Almaeneg a Hanes yr Henfyd, VR12 (BA)

70 Almaeneg a Hanes, RV21 (BA)

70 Almaeneg a Iaith Saesneg, QRJ2 (BA)

70 Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg, QR32 (BA)

70 Almaeneg a Sbaeneg, RR24 (BA)

70 Almaeneg a TEFL, RX23 (BA)

70 Almaeneg a Y Cyfryngau, PR32 (BA)

70 Almaeneg a’r Gyfraith, MR12 (LLB)

70 Almaeneg, R220 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Cymraeg, QT5B (BA), QT57 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Cysylltiadau Rhyngwladol, LT2R (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Daearyddiaeth, LT77 (BA), TL77 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, LT27 (BA), TL72 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Hanes, VT17 (BA), TV71 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg, QT37 (BA), TQ73 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd a Y Gyfraith, MT17 (LLB), MT1R (LLB)

72 Astudiaethau Americanaidd, T700 (BA)

72 Astudiaethau Americanaidd, T701 (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Cymraeg (ail iaith), QVM1 (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Cymraeg (iaith gyntaf), QV5D (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Gwareiddiad Clasurol, QVV1 (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Hanes yr Henfyd, V115 (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Hanes, V130 (BA)

74 Astudiaethau Canoloesol a Llenyddiaeth Saesneg, QVH1 (BA)

78 Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (PPL), VLM0 (BA)

76 Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE), L0V0 (BA)

B

80 Biocemeg a Geneteg, CC47 (BSc)

80 Biocemeg Feddygol, C741 (BSc)

80 Biocemeg, C700 (BSc)

84 Bioleg y Môr, C160 (BSc)

82 Bioleg, C101 (gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig) (BSc)

82 Bioleg, C104 (BSc)

82 Bioleg a Daearyddiaeth, CL17 (BSc)

86 Bydwreigiaeth, B720 (BMid)

C 188 Clasuron, Q800 (BA)

88 Cyfathrebu Gwleidyddol, L220 (BA)

174 Cyfrifeg a Chyllid (gyda blwyddyn dramor), NN4H (BSc)

174 Cyfrifeg a Chyllid, NN43 (BSc)

90 Cyfrifiadureg a Ffiseg, FG34 (BSc)

90 Cyfrifiadureg a Geo-wybodeg, GF48 (BSc)

90 Cyfrifiadureg a Mathemateg Bur, GG41 (BSc)

90 Cyfrifiadureg, G400 (BSc)

90 Cyfrifiadureg, G403 (MEng)

90 Cyfrifiadureg, (gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig) G401 (BSc)

92 Cymraeg (ail iaith) a Almaeneg, QR52 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Astudiaethau Americanaidd, QT57 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Astudiaethau Canoloesol, QVM1 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Iaith Saesneg, QQ35 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Y Cyfryngau, PQ35 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Daearyddiaeth, LQ75 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Ffrangeg, RQ15 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Gwareiddiad Clasurol, QQ85 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Gwleidyddiaeth, LQF5 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Hanes yr Henfyd, VQ15 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Hanes, QV51 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Llenyddiaeth Saesneg, QQH5 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Iaith Saesneg, QQ35 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a Mathemateg, GQ15 (BSc)

92 Cymraeg (ail iaith) a Sbaeneg, QR54 (BA)

92 Cymraeg (ail iaith) a TEFL, QX53 (BA)

92 Cymraeg (gyda Ffrangeg), Q5R1 (BA)

92 Cymraeg (gyda Sbaeneg), Q5R4 (BA)

92 Cymraeg (gydag Almaeneg), Q5R2 (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Almaeneg, QR52 (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Astudiaethau Americanaidd, QT5B (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Astudiaethau Canoloesol, QV5D (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Iaith Saesneg, QQ3M (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Y Cyfryngau, QP5H (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Daearyddiaeth, FQ85 (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Ffrangeg, QR51 (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Gwareiddiad Clasurol, QQ8H (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Gwleidyddiaeth, LQ2N (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Hanes yr Henfyd, VQ1N (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Hanes, QV5C (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Llenyddiaeth Saesneg, QQ3N (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg, GQ1N (BSc)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a Sbaeneg, QR54 (BA)

92 Cymraeg (iaith gyntaf) a TEFL, QX51 (BA)

92 Cymraeg (llwybr ail iaith), Q560 (BA)

92 Cymraeg (llwybr iaith gyntaf), Q561 (BA)

92 Cymraeg a’r Gyfraith (ail iaith), MQ15 (LLB)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Ffrangeg), L2RD (BA)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda Sbaeneg), L2R4 (BA)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol (gydag Almaeneg), L2R2 (BA)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol a Astudiaethau Americanaidd, LT2R (BA)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Modern, LV2C (BA)

112 Cysylltiadau Rhyngwladol, L254 (BA)

209208

Page 107: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

138 Llenyddiaeth Saesneg a Eidaleg, QR33 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, QR31 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Gwareiddiad Clasurol, QQ83 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Gwleidyddiaeth, LQ23 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Hanes yr Henfyd, VQ13 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, QV31 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Hanes (gyda blwyddyn dramor), QV3C (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Iaith Saesneg, QQ31 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Iaith Saesneg (gyda blwyddyn dramor), QQ3D (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Sbaeneg, QR34 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a TEFL, QXH3 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg, Q300 (BA)

M 140 Mathemateg (gyda Blwyddyn Sylfaen

Integredig), G101 (BSc)

140 Mathemateg a Almaeneg, GR12 (BSc)

140 Mathemateg a Cyfrifiadureg, GG41 (BSc)

140 Mathemateg a Cymraeg (ail iaith), GQ15 (BSc)

140 Mathemateg a Cymraeg (iaith gyntaf), GQ1N (BSc)

140 Mathemateg a Economeg, GL11 (BSc)

140 Mathemateg a Ffiseg, FG31 (BSc)

140 Mathemateg a Ffrangeg, GR11 (BSc)

140 Mathemateg a Geo-wybodeg, GF18 (BSc)

140 Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon, GC16 (BSc)

140 Mathemateg a Sbaeneg, GR14 (BSc)

140 Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadureg, G4GC (BSc)

140 Mathemateg ar gyfer Cyllid, G190 (BSc)

140 Mathemateg Bur, G110 (BSc)

140 Mathemateg Gymhwysol, G120 (BSc)

140 Mathemateg, G100 (BSc)

140 Mathemateg, G103 (MMath)

142 Meddygaeth (Meddygaeth I Raddedigion), A101 (MB BCh)

N 144 Nyrsio (Iechyd Meddwl), B704 (BN)

144 Nyrsio (Oedolion), B702 (BN)

144 Nyrsio (Oedolion), B740 (BN)

144 Nyrsio (Plant), B703 (BN)

O 148 Osteopatheg, B310 (M.Ost)

P 152 Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn

Sylfaen, H405 (BEng)

154 Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn Sylfaen, H835 (BEng)

168 Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, H205 (BEng)

156 Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda Blwyddyn Sylfaen, H605 (BEng)

150 Peirianneg Amgylcheddol gyda Blwyddyn Sylfaen, H837 (BEng)

156 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen, J505 (BEng)

166 Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, HBC9 (BEng)

164 Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Sylfaen, H307 (BEng)

162 Peirianneg Dylunio Cynnyrch gyda Blwyddyn Sylfaen, H157 (BEng)

156 Peirianneg – Dewis wedi’i Ohirio (yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen), H101 (BEng)

150 Peirianneg Amgylcheddol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H2F0 (MEng)

150 Peirianneg Amgylcheddol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H2G0 (BEng)

150 Peirianneg Amgylcheddol, H834 (BEng)

150 Peirianneg Amgylcheddol, H836 (MEng)

152 Peirianneg Awyrofod (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H402 (BEng)

152 Peirianneg Awyrofod (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H404 (MEng)

152 Peirianneg Awyrofod, H400 (BEng)

152 Peirianneg Awyrofod, H403 (MEng)

162 Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H154 (BEng)

162 Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H156 (MEng)

162 Peirianneg Dylunio Cynnyrch, H150 (BEng)

162 Peirianneg Dylunio Cynnyrch, H155 (MEng)

170 Peirianneg Electroneg gyda Nanotechnoleg, H613 (BEng)

170 Peirianneg Electroneg gyda Nanotechnoleg, H614 (MEng)

170 Peirianneg Electronig a Thrydanol (gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant), H603 (BEng)

170 Peirianneg Electronig a Thrydanol

(gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America,

Awstralia, neu Ddiwydiant), H600 (MEng)

170 Peirianneg Electronig a Thrydanol, H602 (BEng)

170 Peirianneg Electronig a Thrydanol, H606 (MEng)

164 Peirianneg Fecanyddol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H305 (BEng)

164 Peirianneg Fecanyddol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H306 (MEng)

164 Peirianneg Fecanyddol, H300 (BEng)

164 Peirianneg Fecanyddol, H304 (MEng)

164 Peirianneg Feddygol, HB18 (BEng)

164 Peirianneg Feddygol, HB1V (MEng)

154 Peirianneg Gemegol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H832 (BEng)

154 Peirianneg Gemegol (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H890 (MEng)

154 Peirianneg Gemegol, H801 (MEng)

154 Peirianneg Gemegol, H831 (BEng)

90 Peirianneg Meddalwedd, G600 (BSc)

168 Peirianneg Sifil (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H202 (BEng)

168 Peirianneg Sifil (gyda blwyddyn mewn diwydiant), H204 (MEng)

168 Peirianneg Sifil, H200 (BEng)

168 Peirianneg Sifil, H201 (MEng)

172 Polisi Cymdeithasol a Daearyddiaeth, LL47 (BSc)

172 Polisi Cymdeithasol a Economeg, LL41 (BA)

172 Polisi Cymdeithasol a Gwleidyddiaeth, LL42 (BA)

172 Polisi Cymdeithasol a Hanes Cymdeithasol, LV43 (BA)

172 Polisi Cymdeithasol a Troseddeg, MLF4 (BSc)

172 Polisi Cymdeithasol, L400 (BSc)

R 174 Rheoli Busnes (Cyfrifeg), N1N4 (BSc)

174 Rheoli Busnes (Cyllid), N1N3 (BSc)

174 Rheoli Busnes (Marchnata), N1N5 (BSc)

174 Rheoli Busnes (Systemau Gwybodaeth), N1G5 (BSc)

174 Rheoli Busnes ac Economeg, NL21 (BSc)

174 Rheoli Busnes (gyda blwyddyn dramor), NN12 (BA)

174 Rheoli Busnes (gyda blwyddyn dramor), NN13 (BSc)

174 Rheoli Busnes gyda’r Gyfraith, N2M1

112 Gwleidyddiaeth a Economeg, LL12 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Ffrangeg, LR21 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Hanes (gyda blwyddyn dramor), VL1F (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Hanes yr Henfyd, VL12 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Hanes, LV21 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Saesneg, LQ23 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Polisi Cymdeithasol, LL42 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a Sbaeneg, LR24 (BA)

112 Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith, LM21 (LLB)

112 Gwleidyddiaeth, L200 (BA)

114 Gwyddor Barafeddygol (DIPHE)126 Gwyddor Chwaraeon a Mathemateg,

GC16 (BSc)

116 Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg, CH61 (BEng)

116 Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg, CH6C (MEng)

126 Gwyddor Chwaraeon, 006C (HND)

126 Gwyddor Chwaraeon, C600 (BSc)

158 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg (gyda blwyddyn dramor), J510 (BEng)

158 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant), J502 (BEng)

158 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant), J503 (MEng)

158 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg, J500 (BEng)

158 Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg, J504 (MEng)

118 Gwyddor Ffisegol y Ddaear, FF86 (BSc)

120 Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), B610 (BSc)

124 Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi), B1F3 (BSc)

124 Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear), B990 (BSc)

122 Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), B1B8, (BSc)

122 Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Anadlu a Chwsg), B121 (BSc)

82 Gwyddorau Biolegol (gan ohirio’ch dewis o arbenigedd), C100 (BSc)

82 Gwyddorau Biolegol a Daearyddiaeth, CL17 (BSc)

H 128 Hanes (gyda blwyddyn dramor),

V101 (BA)

128 Hanes a Almaeneg, RV21 (BA)

128 Hanes a Astudiaethau Americanaidd, VT17 (BA), TV71 (BA)

128 Hanes a Astudiaethau Canoloesol (gyda blwyddyn dramor), V191 (BA)

128 Hanes a Astudiaethau Canoloesol, V130 (BA)

128 Hanes a Cymraeg (ail iaith), QV51 (BA)

128 Hanes a Cymraeg (iaith gyntaf), QV5C (BA)

128 Hanes a Daearyddiaeth, LV71 (BA)

128 Hanes a Economeg, LV11 (BA)

128 Hanes a Eidaleg, RV31 (BA)

128 Hanes a Ffrangeg, RV11 (BA)

128 Hanes a Gwareiddiad Clasurol (gyda blwyddyn dramor), QV8C (BA)

128 Hanes a Gwareiddiad Clasurol, QV81 (BA)

128 Hanes a Gwleidyddiaeth (gyda blwyddyn dramor), VL1F (BA)

128 Hanes a Gwleidyddiaeth, LV21 (BA)

128 Hanes a Hanes Modern a Chysylltiadau Rhyngwladol, LV2C (BA)

128 Hanes a Hanes yr Henfyd, V110 (BA), V190 (BA)

128 Hanes a Lladin, QV61 (BA)

128 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg (gyda

blwyddyn dramor), QV3C (BA)

128 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg, QV31 (BA)

128 Hanes a Polisi Cymdeithasol, LV43, (BA)

128 Hanes a Sbaeneg, RV41 (BA)

128 Hanes a’r Gyfraith, MVC1 (LLB)

188 Hanes yr Henfyd a Almaeneg, VR12 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Astudiaethau Canoloesol, V115 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Cymraeg (iaith gyntaf), VQ1N (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Cymraeg (ail iaith), VQ15 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Ffrangeg, VR11 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Groeg, VQ17 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Hanes (gyda blwyddyn

dramor), V190 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Gwleidyddiaeth, VL12 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol, V116 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Lladin, VQ16 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Llenyddiaeth Saesneg, VQ13 (BA)

188 Hanes yr Henfyd a Sbaeneg, VR14 (BA)

188 Hanes yr Henfyd, V112 (BA)

128 Hanes, V100 (BA)

I 130 Iaith a Chyfathrebu, PQ91 (BA)

132 Iaith Saesneg (gyda blwyddyn dramor), Q311 (BA)

132 Iaith Saesneg a Almaeneg, QRJ2 (BA)

132 Iaith Saesneg a Cymraeg (ail iaith), QQ35 (BA)

132 Iaith Saesneg a Cymraeg (iaith gyntaf), QQ3M (BA)

132 Iaith Saesneg a Ffrangeg, QRJ1 (BA)

132 Iaith Saesneg a Gwareiddiad Clasurol, QQ38 (BA)

132 Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg, QQ31 (BA)

132 Iaith Saesneg a Sbaeneg, QRJ4 (BA)

132 Iaith Saesneg a TEFL, QX33 (BA)

132 Iaith Saesneg, Q310 (BA)

134 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, L510 (BSc)

136 Ieithedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Q910 (BA)

L 188 Lladin a Hanes, QV61 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Y Cyfryngau a Chyfathrebu, QP33 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg (gyda

blwyddyn dramor), QH20 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Almaeneg, QR32 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Astudiaethau Americanaidd, QT37 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Astudiaethau Americanaidd, TQ73 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Astudiaethau Canoloesol, QVH1 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Cymraeg (ail iaith), QQH5 (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Cymraeg (iaith gyntaf), QT3N (BA)

138 Llenyddiaeth Saesneg a Daearyddiaeth, LQ73 (BA)

211210

Mynegai

Page 108: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Ychydig o bethau a allai fod o ddiddordeb i chiBwriad yr wybodaeth yr ydym wedi’i chyhoeddi yn y prosbectws hwn yw rhoi cyfarwyddyd i ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013. Nid yw’n rhan o unrhyw gytundeb, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod popeth yr ydym wedi’i gynnwys yn fanwl gywir ac yn gyfredol ar adeg argraffu. Mae gan Brifysgol Abertawe’r hawl i newid ein ffioedd, ein rheoliadau, a’n gwasanaethau, ac i addasu, tynnu’n ôl neu ychwanegu cyrsiau a chynlluniau gradd newydd ar unrhyw adeg, a hynny heb rybudd.

Mae’r prosbectws hwn wedi’i argraffu ar bapur a wnaed o bwlp a gynhyrchwyd o ffynonellau cynaliadwy gan ddefnyddio inciau o fas llysiau.

Cynhyrchwyd gan Academi Hywel Teifi, ynghyd â’r Adran Farchnata, Prifysgol AbertaweDyluniad: Icon Creative Design, www.iconcreativedesign.com Delweddau ar dudalennau 8,11,13,166 © Crown Copyright (2007) Visit Wales

Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig. Rhif 01138342 © Prifysgol Abertawe 2012

When you have finished with this prospectus, please pass it on or recycle

174 Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith), N122 (BSc)

174 Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith), N127 (BA)

174 Rheoli Busnes, N100 (BSc)

174 Rheoli Busnes, N101 (BA)

178 Rhyfel a Chymdeithas, L252 (BA)

S 184 Swoleg, C300 (BSc)

138 Saesneg a’r Rhywiau (gyda blwyddyn dramor), QHL3 (BA)

138 Saesneg a’r Rhywiau, Q3L3 (BA)

180 Sbaeneg (gyda Busnes), R4N1 (BA)

180 Sbaeneg (gyda Chyfrifiadureg), R4G4 (BA)

180 Sbaeneg a Almaeneg, RR24 (BA)

180 Sbaeneg a Astudiaethau Canoloesol, RVK1 (BA)

180 Sbaeneg a Cymraeg, QR54 (BA)

180 Sbaeneg a Daearyddiaeth, LR74 (BA)

180 Sbaeneg a Economeg, LR14 (BA)

180 Sbaeneg a Eidaleg, RR34 (BA)

180 Sbaeneg a Ffrangeg, RR14 (BA)

180 Sbaeneg a Gwareiddiad Clasurol, QR84 (BA)

180 Sbaeneg a Gwleidyddiaeth, LR24 (BA)

180 Sbaeneg a Hanes yr Henfyd, VR14 (BA)

180 Sbaeneg a Hanes, RV41 (BA)

180 Sbaeneg a Iaith Saesneg, QRJ4 (BA)

180 Sbaeneg a Llenyddiaeth Saesneg, QR34 (BA)

180 Sbaeneg a TEFL, RX43 (BA)

180 Sbaeneg a Y Cyfryngau, PR34 (BA)

180 Sbaeneg a’r Gyfraith, MR14 (LLB)

180 Sbaeneg, R410 (BA)

182 Seicoleg, C800 (BSc)

T 132 TEFL a Almaeneg, RX23 (BA)

132 TEFL a Cymraeg (ail iaith), QX53 (BA)

132 TEFL a Cymraeg (iaith gyntaf), QX51(BA)

132 TEFL a Eidaleg, RX33 (BA)

132 TEFL a Ffrangeg, RX13 (BA)

132 TEFL a Llenyddiaeth Saesneg, QXH3 (BA)

132 TEFL a Sbaeneg, RX43 (BA)

186 Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, M2L4 (BSc)

186 Troseddeg a Polisi Cymdeithasol, MLF4 (BSc)

186 Troseddeg a Y Gyfraith, MM19 (LLB)

186 Troseddeg a Seicoleg, MC28 (BSc)

190 Y Cyfryngau a Almaeneg, PR32 (BA)

190 Y Cyfryngau a Chyfathrebu, P300 (BA)

190 Y Cyfryngau a Cymraeg (ail iaith), PQ53 (BA)

190 Y Cyfryngau a Cymraeg (iaith gyntaf), QP5H (BA)

190 Y Cyfryngau a Ffrangeg, PR31 (BA)

190 Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, QP33 (BA)

190 Y Cyfryngau a Sbaeneg, PR34 (BA)

192 Y Dyniaethau (Rhaglen Radd Rhan Amser), (BA)

194 Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau, BV95 (BSc)

196 Y Gyfraith (Trosedd a Chyfiawnder Troseddol), MM12 (LLB)

196 Y Gyfraith a Almaeneg, MR12 (LLB)

196 Y Gyfraith a Astudiaethau Americanaidd, MT17 (LLB), MT1R (LLB)

196 Y Gyfraith a Busnes (LLB Prif Bwnc/Pwnc Lleiaf), M1N1

196 Y Gyfraith a Cymraeg, MQ15 (LLB)

196 Y Gyfraith a Economeg, ML11 (LLB)

196 Y Gyfraith a Eidaleg, MR13 (LLB)

196 Y Gyfraith a Ffrangeg, MR11 (LLB)

196 Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, LM21 (LLB)

196 Y Gyfraith a Hanes, MVC1 (LLB)

196 Y Gyfraith a Sbaeneg, MR14 (LLB)

196 Y Gyfraith a Troseddeg, MM19 (LLB)

196 Y Gyfraith, M100 (LLB)

213212

Pan nad oes ei angen arnoch bellach, cewch basio’r prosbectws ymlaen neu ei ailgylchu

Mynegai

Page 109: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

{

Y Brifysgol yn derbyn ei Siarter Frenhinol; Brenin Siôr y Pumed yn gosod y garreg sylfaen

{ Abertawe yn dathlu ei 90ain pen-blwydd

2010

Prifysgol Abertawe yn cael ei hannibyniaeth o Brifysgol Cymru

2007

Y Brifysgol yn cael pwerau i ddyfarnu ei graddau ei hun

Y Brifysgol yn sefydlu Academi Hywel Teifi

20062010

Yr Athro Olek Zienkiewicz yn chwyldroi peirianneg gyda chyhoeddi ‘The Finite Element Method for Solid and Structural Mechanics’

1967

2011

Gwaith yn cychwyn ar bentref myfyrwyr newydd yn Hendrefoelan

1971

1920

Y Coleg Herodrau yn rhoi arfbais

1921J S Fulton yn amlinellu ei weledigaeth o “gymuned brifysgol gyflawn”, yn paratoi’r ffordd i Abertawe ddod yn gampws prifysgol cyntaf y Deyrnas Unedig

1948

Penodi’r Arglwydd Callaghan, y cyn Brif Weinidog, yn Llywydd

Cyfnod Dau’r Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £28.8 miliwn yn agor

20071921

Neuadd Beck yn agor fel y neuadd breswyl gyntaf

1925

Yr Athro Mary Williams yn dod y fenyw gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael cadair prifysgol

Dug Caint yn agor y llyfrgell, a gynlluniwyd gan Vernon Owen Rees

1937

1954Kingsley Amis yn ysgrifennu Lucky Jim tra oedd yn darlithio yn Abertawe

Agor neuaddau preswyl cyntaf y campws

1961

Agor yr adeilad Mathemateg a Ffiseg (Ty Vivian) a Thy’r Coleg (Ty Fulton)

1965

Y Brifysgol yn derbyn ei chyfrifiadur digidol cyntaf, IBM1620

1962

Gosododd y Brenin Siôr V garreg sylfaen y Brifysgol ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (gan gynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno. Ym 1921 penodwyd Dr Mary Williams yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, y fenyw gyntaf i’w phenodi’n Athro mewn prifysgol yn y DU. Erbyn mis Medi 1939, roedd 65 aelod staff a 485 o fyfyrwyr.

Ym 1947 dim ond dau adeilad parhaol oedd ar y campws: Abaty Singleton a’r llyfrgell. Roedd y Pennaeth, J S Fulton, yn cydnabod bod angen ehangu’r ystâd ac roedd ganddo weledigaeth o gymuned hunangynhaliol, â chyfleusterau preswyl, cymdeithasol ac academaidd ar un safle. O’i weledigaeth cafwyd prifysgol campws cyntaf y DU.

Erbyn 1960 roedd rhaglen ddatblygu ar raddfa fawr ar waith a welodd adeiladu’r neuaddau preswyl newydd, y Twr Mathemateg a Gwyddoniaeth, a Thy’r Coleg (a ailenwyd yn Dy Fulton yn ddiweddarach). Dechreuodd y gwaith ar bentref y myfyrwyr yn Hendrefoelan ym 1971, sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973, ac agorodd Canolfan Celfyddydau Taliesin ar y campws ym 1984.

Trosglwyddodd yr Ysgolion Nyrsio Rhanbarthol i Abertawe ym 1992, ac agorodd yr Ysgol Feddygaeth yn 2001, gan nodi cynnydd sylweddol yng ngallu Cymru o ran hyfforddi meddygon ac ymgymryd ag ymchwil arloesol.

Yn 2003, gosododd y Brifysgol amcanion a gynlluniwyd i sicrhau ei dyfodol tymor hir fel sefydliad a arweinir gan ymchwil o ansawdd rhyngwladol. Agorodd y Technium Digidol yn 2005, a phrin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorodd y

Brifysgol ei Sefydliad Gwyddor Bywyd, sy’n masnacheiddio canlyniadau ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Feddygaeth. Dechreuwyd gwaith ar ail Sefydliad Gwyddor Bywyd yn 2009. Yn 2010, sefydlwyd Academi Hywel Teifi, canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ac ar gyfer hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau. Sefydlwyd yr Academi er cof am gyn-Athro’r Gymraeg y Brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Ym mis Rhagfyr 2011, agorwyd

Sefydliad Gwyddor Bywyd II, canolfan o’r radd flaenaf am gynnal ymchwil meddygol.

Mae Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd yn mwynhau cyfnod o dwf parhaus a arweinir gan ymchwil, ac yn parhau i weithio er lles y ddinas, ei phobl a’i diwydiannau. Ceir rhagor o wybodaeth ynglyn â’n hanes a’n hetifeddiaeth ar ein gwefan:

www.abertawe.ac.uk/y-brifysgol

{

{

{ {

{ {

{

Theatr Taliesin yn agor ar y campws

1984

{

1985

{ Coleg Prifysgol Abertawe yn dod yn Brifysgol Cymru Abertawe

1996

{

{ {

{ {

Casgliad Richard Burton yn dod i Abertawe

2005

Sefydliad Gwyddor Bywyd £50 miliwn yn agor

Sefydlu Ysgol Feddygaeth (ysgol glinigol i ddechrau)

2001 {

Hanes a Threftadaeth

214 215

Page 110: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sicrhau y gallwch gadw cysylltiad agos â’r Brifysgol ymhell ar ôl i swn y cymeradwyo yn eich seremoni graddio bylu. Mae’n holl raddedigion yn dod yn aelodau oes yn awtomatig o’r Gymdeithas, sy’n gymuned gynnes, groesawgar o raddedigion sy’n cael eu huno gan eu profiad o astudio yn Abertawe.

Mae’r Gymdeithas yn rhwydwaith bywiog o 55,000 o aelodau gweithgar sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector

cyhoeddus. Mae rhai yn arwain adrannau cwmnïau rhyngwladol, ond mae eraill yr un mor debyg o fod yn rheoli’r busnesau llai, mentrus sy’n gyrru’r economi, neu’n darparu gofal iechyd mewn ysbytai, neu’n dysgu mewn ysgolion. Y mae hefyd cymuned gynyddol fawr o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n golygu y byddwch yn dod o hyd i gyfeillion a chydweithwyr o’r un anian lle bynnag ewch chi yn y byd. Gwnewch y gorau o’r rhwydwaith hwn. Pwy a wyr pa ddrysau allai agor i chi yn y DU neu’n dramor o ganlyniad i’r perthynas a grëwyd trwy fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe?

Trwy’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr, gellwch gadw’n gyfredol â’r newyddion, gwasanaethau, a chynnyrch diweddaraf o’r Brifysgol, mynychu cyfarfodydd aduno, a chadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau trwy ddefnyddio’r Bwrdd Cyfeillion ar-lein.

Mae’r cyfan am ddim. Ewch i: http://www.swansea.ac.uk/cy/cynfyfyrwyr/ am ragor o fanylion. Byddwch mewn cwmni da.

Eich Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr

twitter.com/Swansea_AlumniSwanseaUniversiyAlumniAssociation

216

Mae’n cyn-fyfyrwyr yn cynnwys::

• Annabelle Apsion, actores

• Yr Athro Ron Bordessa, Cyn-Lywydd ac Is-Ganghellor Sefydliad Technoleg Prifysgol Ontario

• Yr Athro Y.K. Cheung, Athro enwog a wnaeth ei PhD gyda’r blaenllaw Athro Zienkiewicz

• Liam Dutton, daroganwr tywydd y BBC

• Richey Edwards a Nicky Wire, cerddorion, Manic Street Preachers

• Dr Lyn Evans CBE, Arweinydd Prosiect, Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, CERN

• Dr Hywel Francis AS

• Renee Godfrey, pencampwr syrffio, cyflwynydd teledu

• Sylvia Heal AS, Dirprwy Lefarydd Ty’r Cyffredin (2000-10)

• Andy Hopper CBE FRS, cyd-sylfaenydd Acorn Computers Ltd

• Rob Howley, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain

• Liz Johnson, enillydd medal aur am nofio yn y Gemau Paralympaidd

• Alun-Wyn Jones, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain

• Simon Jones, cricedwr Swydd Caerwrangon a Lloegr

• Sir Terry Matthews OBE, biliwnydd cyntaf Cymru

• Jason Mohammad, cyflwynydd radio a theledu

• Nia Parry, tiwtor iaith a chyflwynydd teledu

• Colin Pillinger CBE, gwyddonydd planedol

• Penny Roberts, Prif Ohebydd y BBC

• Yr Anrhydeddus. Pehin Jock Lim Seng, Gweinidog Materion Tramor a Masnach II o Brunei Darussalam

• Urien Wiliam, nofelydd a dramodydd Cymraeg

Page 111: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2014

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sicrhau y gallwch gadw cysylltiad agos â’r Brifysgol ymhell ar ôl i swn y cymeradwyo yn eich seremoni graddio bylu. Mae’n holl raddedigion yn dod yn aelodau oes yn awtomatig o’r Gymdeithas, sy’n gymuned gynnes, groesawgar o raddedigion sy’n cael eu huno gan eu profiad o astudio yn Abertawe.

Mae’r Gymdeithas yn rhwydwaith bywiog o 55,000 o aelodau gweithgar sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector

cyhoeddus. Mae rhai yn arwain adrannau cwmnïau rhyngwladol, ond mae eraill yr un mor debyg o fod yn rheoli’r busnesau llai, mentrus sy’n gyrru’r economi, neu’n darparu gofal iechyd mewn ysbytai, neu’n dysgu mewn ysgolion. Y mae hefyd cymuned gynyddol fawr o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n golygu y byddwch yn dod o hyd i gyfeillion a chydweithwyr o’r un anian lle bynnag ewch chi yn y byd. Gwnewch y gorau o’r rhwydwaith hwn. Pwy a wyr pa ddrysau allai agor i chi yn y DU neu’n dramor o ganlyniad i’r perthynas a grëwyd trwy fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe?

Trwy’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr, gellwch gadw’n gyfredol â’r newyddion, gwasanaethau, a chynnyrch diweddaraf o’r Brifysgol, mynychu cyfarfodydd aduno, a chadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau trwy ddefnyddio’r Bwrdd Cyfeillion ar-lein.

Mae’r cyfan am ddim. Ewch i: http://www.swansea.ac.uk/cy/cynfyfyrwyr/ am ragor o fanylion. Byddwch mewn cwmni da.

Eich Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr

twitter.com/Swansea_AlumniSwanseaUniversiyAlumniAssociation

216

Mae’n cyn-fyfyrwyr yn cynnwys::

• Annabelle Apsion, actores

• Yr Athro Ron Bordessa, Cyn-Lywydd ac Is-Ganghellor Sefydliad Technoleg Prifysgol Ontario

• Yr Athro Y.K. Cheung, Athro enwog a wnaeth ei PhD gyda’r blaenllaw Athro Zienkiewicz

• Liam Dutton, daroganwr tywydd y BBC

• Richey Edwards a Nicky Wire, cerddorion, Manic Street Preachers

• Dr Lyn Evans CBE, Arweinydd Prosiect, Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, CERN

• Dr Hywel Francis AS

• Renee Godfrey, pencampwr syrffio, cyflwynydd teledu

• Sylvia Heal AS, Dirprwy Lefarydd Ty’r Cyffredin (2000-10)

• Andy Hopper CBE FRS, cyd-sylfaenydd Acorn Computers Ltd

• Rob Howley, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain

• Liz Johnson, enillydd medal aur am nofio yn y Gemau Paralympaidd

• Alun-Wyn Jones, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain

• Simon Jones, cricedwr Swydd Caerwrangon a Lloegr

• Sir Terry Matthews OBE, biliwnydd cyntaf Cymru

• Jason Mohammad, cyflwynydd radio a theledu

• Nia Parry, tiwtor iaith a chyflwynydd teledu

• Colin Pillinger CBE, gwyddonydd planedol

• Penny Roberts, Prif Ohebydd y BBC

• Yr Anrhydeddus. Pehin Jock Lim Seng, Gweinidog Materion Tramor a Masnach II o Brunei Darussalam

• Urien Wiliam, nofelydd a dramodydd Cymraeg