crynodeb gweithredol - home - community housing cymru · web viewsir gaerfyrddin £69.08...

79
Astudiaeth dichonolrwydd o'r syniad o ddatblygu model tai hyfyw ar gyfer rhai sydd ond â hawl i gyfradd llety a rennir Ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Mai 2016 Anna Clarke a Andrew Heywood

Upload: others

Post on 25-Apr-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Astudiaeth dichonolrwydd o'r syniad o ddatblygu model tai hyfyw ar gyfer rhai sydd ond â hawl i gyfradd llety a rennir

Ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mai 2016

Anna Clarke a Andrew Heywood

Page 2: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Crynodeb GweithredolComisiynwyd yr ymchwil hwn gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sefydlu'r hyn y gall Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru ei wneud i gynyddu darpariaeth llety fforddiadwy economaidd hyfyw ar gyfer pobl ifanc sengl dan 35 oed yn y sector tai cymdeithasol.

Bydd toriadau arfaethedig i Fudd-dal Tai yn gostwng taliadau i denantiaid cymdeithasol os yw eu rhenti’n uwch ar hyn o bryd na swm y Budd-dal Tai y byddent yn ei dderbyn yn y sector rhent preifat. I bobl sengl dan 35 oed mae hyn yn golygu y gosodir cap ar eu budd-dal tai ar y lefel a ddyfernir yn angenrheidiol i rentu ystafell mewn tŷ a rennir, a allai fod yn sylweddol is na rhenti ar fflatiau un ystafell wely tai cymdeithasol. Yn ychwanegol bydd rhai pobl ifanc 18-21 oed yn colli pob hawl i Fudd-dal Tai.

Defnyddiodd yr ymchwil arolwg o bobl ifanc yng Nghymru, grwpiau ffocws, cyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol a landlordiaid a dadansoddiad o ddata ar batrymau byw cyfredol.

Cyd-destun

O bobl ifanc (16-35 oed) yng Nghymru sy’n ffurfio aelwydydd annibynnol, mae 46% yn berchnogion cartrefi, 39% yn y sector rhent preifat a 15% mewn tai cymdeithasol.

Mae 13% o’r holl bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tai a rennir ar hyn o bryd, a chaiff bron y cyfan ohonynt eu darparu gan landlordiaid preifat. Ychydig iawn o dai a rennir a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol, heblaw yn y sector tai â chymorth.

Mae tai a rennir yn fwy cyffredin mewn awdurdodau trefol a gwledig yng Nghymru ac yn llai cyffredin yn y Cymoedd a mathau ‘arall’ o awdurdodau. Mae mwy na hanner y bobl ifanc wedi byw mewn tai a rennir ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae dynion a menywod yr un mor debyg o fod wedi byw mewn tai a rennir, ond mae dynion yn llawer mwy tebygol o fod yn gwneud hynny ar hyn o bryd.

Mae tua 8,700 o bobl ifanc sengl yng Nghymru yn hawlio budd-dal tai ar gyfer tai rhent cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar gyfraddau trosiant presennol gellir amcangyfrif, erbyn Ebrill 2018, na effeithir ar tua thraean o denantiaid cymdeithasol ar y dechrau oherwydd eu bod wedi dal eu tenantiaethau am fwy na dwy flynedd.

Yn y dyfodol caiff swm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o’r grŵp hwn ei hawlio ei gyfyngu, gyda diffygion cyfartalog o tua £21 yr wythnos rhwng eu hawl i fudd-dal tai a’u rhent (yn ogystal ag unrhyw daliadau gwasanaeth presennol). Mae

Page 3: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

pobl ifanc yn annhebygol iawn o fedru llenwi’r bwlch hwn o’u hincwm budd-daliadau neu enillion.

Mae tua 2,900 o bobl ifanc 18-21 oed heb blant dibynnol yn hawlio budd-dal tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw’n hysbys faint ohonynt fydd yn dal i fod yn gymwys am fudd-dal tai o Ebrill 2017 gan nad yw eto’n glir ym mha ffyrdd y penderfynir ar berygl dod yn agored i niwed. Mae darparwyr tai yn ystyried na all mwyafrif eu tenantiaid 18-21 oed fyw gyda’u rhieni felly dylent barhau fod yn gymwys am fudd-dal tai.

Canfyddiadau allweddol

Gall Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn helpu rhai pobl ifanc i fforddio rhenti sy’n uwch na’u cymhwyster i fudd-dal tai, ond maent yn annhebyg o fod yn ddigonol i helpu’r rhan fwyaf.

Mae gwahanol fodelau o sut y gellir strwythuro tenantiaethau o fewn tai a rennir:

o Mae tenantiaethau ar wahân yn cynnwys tenantiaid bob un yn rhentu ystafell ac yn defnyddio cyfleusterau a rennir yn uniongyrchol gan landlord. Mae cyfrifon rhent yn parhau ar wahân ond gall fod nad oes gan denantiaid unrhyw lais pwy arall sy’n byw yn eu cartref

o Gellir defnyddio tenantiaeth ar y cyd ar gyfer grŵp o denantiaid i rentu cartref ar y cyd. Mae pob un o’r tenantiaid yn gyfrifol am dalu’r rhent a gellir eu dal yn gyfrifol am rent sy’n ddyledus gan eu cyd-letywyr.

o Gall tenantiaid presennol is-osod ystafell wag yn eu cartref i letywyr neu is-denant.

Gall rheoliadau am Dai Aml-feddiannaeth (HMO) effeithio ar dai a rennir o bob daliadaeth gyda chyn lleied â dau o oedolion heb fod yn perthyn yn rhannu. Mae gwahanol ddiffiniadau o dai HMO ar gyfer dibenion trwyddedu, caniatâd cynllunio ac atebolrwydd am dreth gyngor ac mae angen i landlordiaid ddeall y rhain.

Mae tai a rennir wedi ennill eu plwyf yn y sector rhent preifat a gall landlordiaid cymdeithasol ddysgu llawer o ran sut i wneud i rannu weithio.

Mae'n well gan leiafrif fyw mewn tai a rennir. Ar gyfer y rhan fwyaf mae’n gyfaddawd rhwng yr hyn maent ei eisiau a’r hyn y gallant ei fforddio. Serch hynny mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cytuno fod tai a rennir yn ddatrysiad tai da ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Mae nodweddion sy’n gwneud tai a rennir yn fwy deniadol i bobl ifanc yn cynnwys rhent sy’n cynnwys biliau; mwy nag un ystafell ymolchi (neu

2

Page 4: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

gyfleusterau en suite); gallu dewis gyda phwy i fyw a chael gwiriadau cefndir ar gyd-letywyr

Mae rhai tenantiaid bregus yn cael tai a rennir yn fwy problemus. Mae hyn yn cynnwys rhai gyda phroblemau iechyd meddwl, profiad o drais domestig, defnydd cyffuriau neu alcohol, anawsterau dysgu a chyn-droseddwyr. Mae rhai o’r grwpiau hyn yn ei chael yn anodd rhannu tŷ, ac mae rhai yn anodd i bobl eraill fyw gyda nhw.

Mae enghreifftiau o gynlluniau tai a rennir llwyddiannus o fewn y sector cymdeithasol yn cynnwys rhai sy’n cynnig ychydig o gefnogaeth drwy brif denant neu gyd-letywr cefnogol; tai gydag ystafell i blant nad ydynt yn breswyl i aros pan fyddant ar ymweliad; cynlluniau i alluogi tenantiaid i ddewis pwy sy’n byw gyda nhw ond cadw tenantiaethau ar wahân a chynlluniau i hyrwyddo lletywyr neu baru lletywyr gyda deiliaid tai.

Roedd peth diddordeb gan randdeiliaid am adeiladu tai a rennir arbenigol tebyg i fodelau neuaddau preswyl, er bod y rhenti a godir ar fyfyrwyr yng Nghymru yn sylweddol uwch na’r rhai a fyddai’n fforddiadwy i bobl ifanc ar fudd-dal tai felly gall fod angen i lefel grantiau fod yn uchel er mwyn gwneud cynlluniau o’r fath yn fforddiadwy.

Mae addasu stoc presennol yn debyg o gynnig ffurf gyflymach o dai a rennir ar risg is.

Mae angen i systemau dyrannu ar gyfer tai a rennir gydbwyso’r angen i roi blaenoriaeth i angen cartref gydag angen tenantiaid presennol i gael rhyw lais ym mhwy sy’n byw gyda nhw. Mae systemau lle gall tenantiaid ddewis o restr fer a gymeradwywyd gan gymdeithas tai yn un ffordd o wneud hyn. Mae pryderon mwyaf pobl ifanc am dai a rennir yn ymwneud â ph’un a fyddant yn tynnu ymlaen gyda’r rhai sy’n byw gyda nhw, neu os gofynnir iddynt rannu gyda phobl gydag ymddygiad problemus.

Nid oes diwylliant o dai a rennir ym mhobman yng Nghymru, yn arbennig yn ardaloedd y Cymoedd. Hyd yn oed mewn trefi a dinasoedd myfyrwyr, mae disgwyliad y rhai ar restri aros tai cymdeithasol yn gyffredinol am unedau annibynnol.

Roedd rhai landlordiaid cymdeithasol yn barod i annog tenantiaid presennol i gymryd lletywr, ond ni fu hyn yn llwyddiannus iawn hyd yma.

Ni wnaeth yr ymchwil ddynodi unrhyw fodelau eraill o dai, heblaw tai a rennir, a allai ddod a rhenti o fewn terfynau’r Lwfans Tai Lleol heb gymhorthdal ychwanegol sylweddol. Byddai angen syniadau arloesol i greu cynnyrch o’r fath.

3

Page 5: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Nid yw cynyddu incwm pobl ifanc yn syniad newydd ac mae’n annhebyg o ddod yn hyfyw i bawb ond gall serch hynny fod yn ddatrysiad ar gyfer rhai pobl ifanc yng Nghymru

ArgymhellionMae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol (yn gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Er mwyn cynyddu darpariaeth economaidd hyfyw llety fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc dan 35 oed yng ngoleuni’r toriadau arfaethedig i fudd-dal tai, mae angen canolbwyntio ar:

Addysg a hyrwyddo tai a rennir fel y prif opsiwn economaidd hyfyw ar gyfer pobl ifanc ar incwm isel neu fudd-daliadau

Dileu rhwystrau i dai a rennir ar lefel y Deyrnas Unedig, lefel Cymru a’r lefel lleol

Cyllid ar gyfer datblygu a rheolaeth barhaus tai ar gyfer pobl ifanc sengl Arfer da wrth ddatblygu a rheoli tai a rennir

Addysg a hyrwyddo tai a rennirDylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig:

Sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau’n hysbysu pob person sengl sy’n derbyn unrhyw fath o fudd-dal ar hyn o bryd fel eu bod yn gwybod am y newidiadau, p’un ai ydynt yn derbyn Budd-dal Tai ar hyn o bryd ai peidio. Gall hyn eu hannog i ganfod gwaith a gall hefyd eu darbwyllo rhag gadael eu llety presennol yn y camsyniad y gallent hawlio Budd-dal Tai am fflat ar ben eu hunain.

Dylai Llywodraeth Cymru:

Gynnal neu gomisiynu ymchwil i lefelau’r galw a’r angen am dai a rennir gan y rhai ar restri aros am dai cymdeithasol, gan ystyried anghenion tai pobl a’u gallu i dalu am y cartref y byddent yn eu hoffi. Mae i ba raddau y mae’n well gan bobl ifanc dŷ a rennir neu eu bod angen tŷ a rennir a ddarperir gan landlord cymdeithasol (yn hytrach na phreifat) hefyd yn faes lle byddai ymchwil pellach yn ddefnyddiol.

Dylai awdurdodau lleol:

Sicrhau fod pobl ifanc yn cael gwybodaeth lawn am y newidiadau arfaethedig i Fudd-dal Tai pan gânt eu derbyn ar restri tai cymdeithasol

4

Page 6: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Addysgu pobl ifanc ymhellach gan esbonio opsiynau tai, Budd-daliadau Tai a rôl tai a rennir, e.e. drwy ddosbarthiadau ABGI, mewn ysgolion, tai neu staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymweld ag ysgolion, yn gweithio gydag ymadawyr gofal, darparwyr tai a chymorth, hostelau ac yn y blaen.

Dylai landlordiaid cymdeithasol:

Hysbysu tenantiaid presennol am y newidiadau arfaethedig, yn cynnwys plant mewn oed neu yn eu harddegau i denantiaid y gall y newidiadau effeithio arnynt yn y dyfodol.

Dylai pob lefel o lywodraeth a landlordiaid cymdeithasol

Wneud mwy i hyrwyddo tai a rennir fel ffordd dderbyniol ac arferol o fyw ar gyfer pobl ifanc – gan edrych i’r farchnad fyfyrwyr a’r farchnad gweithwyr proffesiynol ifanc am ysbrydoliaeth.

Dileu rhwystrauDylai Llywodraeth Cymru

Fynd i’r afael a’r gwrthdaro rhwng lefelau budd-dal tai is a chadw safonau tai (safonau gofod, cartrefi gydol oes ac yn y blaen). Mae angen un ai dderbyn fod angen i safonau yn y sector cymdeithasol ostwng i’r rhai yn y sector preifat, neu dderbyn fod angen i lefelau Budd-dal Tai/cyllid grant fod yn gyffredinol uwch yn y sector cymdeithasol. Gall methu mynd i’r afael â’r gwrthdaro yma olygu y bydd pobl ifanc yn canfod nad oes unrhyw lety o gwbl ar gael iddynt.

Dileu’r gofyniad am angen caniatâd cynllunio ar gyfer trosi o annedd (C3) i HMO bach (C4).

Dylai awdurdodau lleol:

(Yn absenoldeb yr uchod) Sicrhau ei bod mor gyflym, rhwydd a rhad ag sydd modd i wneud cais am ganiatâd cynllunio i drawsnewid eiddo i HMO bach os nad oes rhesymau lleol clir iawn dros beidio gwneud hynny. Dylid egluro wrth landlordiaid beth yw’r polisïau lleol am pryd y caiff neu na chaiff caniatâd ei roi i landlordiaid.

Cyllid a gweithreduDylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig:

Eithrio tai â chymorth o gapiau Lwfans Tai Lleol (LHA), neu gyflwyno cyllid digonol o ffynonellau eraill i lenwi’r bwlch sylweddol rhwng lefelau LHA a rhenti cyfredol yn y sector tai â chymorth. Ni ddynododd yr ymchwil yma unrhyw ddatrysiadau i gostau tai a chymorth ac ymddengys yn glir na fydd tai

5

Page 7: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

â chymorth yn hyfyw os na chânt eu heithrio o’r LHA neu fod cyllid sylweddol arall ar gael o ffynonellau eraill.

Cyhoeddi canllawiau clir am sut y diffinnir bod yn agored i niwed ar gyfer pobl ifanc 18-21 oed, gan sicrhau na chaiff na all fyw gyda’u rhieni neu berthnasau eraill ac na all eu cefnogi eu hunain ar hyn o bryd eu diffinio fel bod yn agored i niwed.

Adolygu sefyllfa rhai sy’n gadael gofal sydd ar hyn o bryd sy'n cael eithriad o gyfradd y LHA ar gyfer llety a rennir ond dim ond nes byddant yn 22 oed. Mae rhai sy’n gadael gofal yn draddodiadol wedi edrych ar dai cymdeithasol fel opsiwn hirdymor, ac yn aml rhoddir blaenoriaeth uchel iddynt, gan olygu efallai mai’r eithriad tymor byr oedd y cyfan oedd ei angen. Fodd bynnag, o 2018, cânt eu cyfyngu i’r gyfradd tai a rennir hyd yn oed mewn tai cymdeithasol unwaith y byddant yn cyrraedd 22 oed. Byddai caniatáu’r eithriad ar gyfer ymadawyr gofal hyd at 35 oed, neu fel arall ei ddileu yn llwyr yn bolisïau mwy cydlynol na’r un presennol sy’n caniatáu i bobl l orfod cael eu lle eu hunain, ac yna yn disgwyl iddynt symud yn ôl i dai a rennir (os nad oes ganddynt blentyn, partner neu swydd ar gyflog rhesymol erbyn hynny).

Ystyried p’un i a ddylid rhoi eithriadau o’r gyfradd llety a rennir ar gyfer grwpiau eraill yn cynnwys rhai gydag anawsterau iechyd meddwl, profiad o drais domestig, cyn-droseddwyr a fyddai’n achosi risg i gyd-letywyr, yn cynnwys rhai gyda hanes o ddefnyddio cyffuriau, pobl anabl sydd angen eiddo wedi’i addasu a rhai sy’n symud ymlaen o hostelau neu brosiectau tai a chymorth.

Dyrannu cyllid sylweddol ar gyfer datblygu neu addasu tai presennol i’w defnyddio fel tai a rennir yn y sector cymdeithasol.

Dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) i sicrhau y gall awdurdodau lleol liniaru effaith toriadau Budd-dal Tai ar gyfer rhai na all fforddio eu rhent o leiaf nes y gellir gweithredu datrysiadau tymor hwy eraill.

Ystyried p’un ai a ddylid addasu canllawiau fel y gellir defnyddio cyllid DHP ar gyfer pobl ifanc 18-21 oed nad ydynt yn gymwys am Fudd-dal Tai. Mae canllawiau presennol DHP yn dweud mai dim ond ar gyfer pobl sydd a hawl i Fudd-dal Tai y gellir defnyddio DHP.

Dylai Llywodraeth Cymru:

Ystyried os dylai cyfraddau grant uwch fod ar gael i hyrwyddo tai a rennir gan landlordiaid cymdeithasol.

Dylai awdurdodau lleol:

6

Page 8: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Llunio polisi ar gyfer DHP i ganolbwyntio ar y bobl ifanc sydd fwyaf o angen yr adnodd yma, a allai gynnwys:

o Rhai na allant weithio ar hyn o bryd ac y bernir eu bod yn anaddas ar gyfer byw mewn tai a rennir am resymau a all fod yn ymwneud ag iechyd meddwl neu fod yn agored i niwed mewn ffordd arall

o Pobl ifanc gydag angen brys am gartref ond na ellir canfod tai a rennir iddynt ar hyn o bryd, un ai yn y sector cymdeithasol na’r sector rhent preifat

o Rhai y mae’n debygol na fydd cyfradd llety LHA ond yn effeithio dros dro arnynt, er enghraifft oherwydd newid oedran, disgwyl babi, partner i symud (yn ôl) i mewn neu swydd ar fin dechrau.

o Tenantiaid mewn tai a rennir ar denantiaethau ar wahân a fyddai fel arall yn gymwys am gymhorthdal Treth Gyngor mewn sefyllfaoedd lle mae’r rhent yn uwch na’r cap LHA.

Arfer da mewn datblygu a rheoli datrysiadau taiDylai awdurdodau lleol

Lacio gofynion enwebu ar gyfer tenantiaid sy’n symud i dai a rennir. Mae galw uchel iawn am dai cymdeithasol annibynnol yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, felly mae angen ei ddogni i’r rhai y bernir eu bod mewn mwyaf o angen. Mae tystiolaeth ar lefelau galw am dai a rennir yn brin, gan fod cyn lleied ohono ar hyn o bryd, ond mae landlordiaid cymdeithasol sydd wedi’i gynnig yn gyffredinol yn sôn am lefelau galw isel. Mae hyn yn golygu y gall y dulliau sydd eu hangen i’w ddyrannu’ n effeithlon weithio’n wahanol gan y gall ymgeiswyr yn ymarferol ddethol eu hunain am p’un ai oes angen iddynt wneud cais am dŷ a rennir neu p’un allant gyflawni eu hanghenion tai mewn ffyrdd eraill. Mae nifer o ddulliau y gellir gwneud hyn yn effeithlon:

o Galluogi tenantiaid i wneud cais mewn grwpiau gyda ffrindiau a sicrhau fod y rhai sy’n gwneud hynny yn cael blaenoriaewth resymol am gartref cyhyd â’u bod yn cyflawni meini prawf sylfaenol ar gyfer bod mewn angen cartref (megis peidio bod yn berchen tŷ). Gall gweithio gyda thimau Gadael Gofal a darparwyr tai a chymorth neu gyrsiau hyfforddiant tenantiaeth helpu pobl ifanc i benderfynu gyda phwy yr hoffent fyw a gwneud cais mewn grwpiau. Gallai’r rhai sy’n gwneud cais fel grŵp gael tenantiaethau ar wahân neu denantiaeth ar y cyd gan fod rhai buddion y naill ffordd a’r llall. Pan mae tenant mewn tŷ o’r fath yn gadael, dylai’r rhai sy’n byw gydag ef/hi gael rhywfaint o ddewis dros pwy sy’n dod i fyw atynt. Gallai hyn fod drwy eu galluogi i ddewis

7

Page 9: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

unrhyw un sy’n diwallu meini prawf sylfaenol ar gyfer angen cartref, neu drwy ddewis o restr fer o ymgeiswyr a ddarperir gan landlord.

o Gweithredu cofrestr ar wahân o ymgeiswyr ar gyfer tai a rennir, neu ofyn i’r rhai ar y gofrestr tai gyffredinol i ddewis yn glir iawn i gael eu hystyried ar gyfer tai a rennir, er mwyn cadw rhestr gyfredol o bobl sydd yn wirioneddol yn edrych am dai a rennir.

o Os yw tenantiaid presennol i gael rhywfaint o ddewis dros gyd-letywyr newydd, yna dylid ystyried sut i helpu pobl sydd dro ar ôl tro ddim yn cael eu dewis gan denantiaid presennol, ond sydd ag angen difrifol am gartref ac yn dibynnu ar Fudd-dal Tai. Mae datrysiadau posibl yn cynnwys:

Eu rhoi i ddechrau mewn uned wag a chaniatáu iddynt ddewis person/pobl i fyw gyda nhw

Dyrannu tenantiaeth sengl iddynt mewn eiddo lle na chaiff tenantiaid unrhyw ddewis ar gyd-letywyr newydd

Ystyried eu bod yn anaddas ar gyfer tai a rennir ac edrych yn lle hynny os gallant ganfod ffordd o fforddio tai annibynnol drwy ganfod gwaith neu ddefnyddio taliadau DHP.

Datblygu ffyrdd o ddarparu tai a rennir ar y cyd gyda landlordiaid sector preifat. Gall hyn olygu landlordiaid preifat yn cytuno i gadw rhenti ar gyfraddau LHA a dyrannu cartrefi i bobl ifanc sengl ar y gofrestr tai yn ôl am reoli tenantiaeth a chefnogaeth gan ddarparwyr tai cymdeithasol. Neu gallai gynnwys defnyddio profiad y sector rhent preifat o reoli tai a rennir yn defnyddio is-osod gan landlordiaid cymdeithasol yn ôl am gynnig tenantiaethau i bobl ifanc o’r gofrestr tai.

Gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ymroi i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Nid yw cymdeithasau tai angen pobl ifanc er mwyn gosod eu stoc, felly gallant fod angen cefnogaeth neu gymhellion i wneud y newidiadau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Gall rhai sy’n bennaf yn lletya teuluoedd mewn tai dwy a thair ystafell wely mewn gwirionedd fod mewn sefyllfa well i gynnig tai a rennir na chymdeithasau y mae eu stoc yn fflatiau un ystafell wely yn bennaf.

Gweithio gyda’r rhai sy’n cynnig prentisiaethau i ystyried os gellid darparu llety ar gyfer rhai pobl ifanc sy’n methu byw gyda’u rhieni, tra’u bod yn gorffen y brentisiaeth.

8

Page 10: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Dylai landlordiaid cymdeithasol:

Gynnwys cartrefi addas fel tai a rennir mewn cynlluniau datblygu

Dechau trosi stoc presennol i dai a rennir yn unol â'r galw presennol am dai o’r fath, gan ragweld y bydd y galw yn cynyddu ar ôl Ebrill 2018.

Canolbwyntio ar dai a rennir bach. Mae tai mwy gyda chwech neu fwy o ystafelloedd yn annhebyg o fod mor rhwydd eu rheoli gyda chyfran uchel o denantiaid yn dibynnu ar fudd-daliadau heb fod mewn gwaith (ac felly adref am lawer o oriau yn y dydd), gyda ffyrdd gwahanol o fyw a gyda grŵp cleient sy'n agored iawn i niwed. Fodd bynnag, gall tai tair ystafell wely bod yn fwy economaidd hyfyw na thai dwy ystafell wely gan y gallai cyfanswm y rhent a godir fod 50 y cant yn uwch er nad yw costau adeiladu ond yn debyg o fod ychydig yn uwch. Gall fod angen cynnwys treth gyngor yn y rhent (os defnyddir tenantiaethau ar wahân) a gallai hyn ei gwneud yn anodd cadw rhenti ar gyfer tenantiaid sy’n rhannu tŷ dwy ystafell wely o fewn terfynau’r LHA.

Sicrhau y caiff materion yn ymwneud â chyfrifoldeb treth gyngor eu hystyried yn ofalus wrth ddatblygu cynlluniau busnes ar gyfer tai a rennir.

Ystyried yn ofalus iawn cyn adeiladu tai a rennir graddfa fawr pwrpasol gan y gall hyn fod yn risg uchel - oherwydd bod y galw yn ansicr yn y rhan fwyaf o leoliadau. Mae’n risg is gosod stoc presennol i grwpiau sy’n rhannu ar hyn o bryd ac yn fwy hyblyg i ddiwallu ar gyfer lefelau newidiol o alw. Mae hefyd bryderon am grynhoi pobl agored i niwed mewn llety a adeiladwyd yn bwrpasol; y farn gyffredinol yw bod dull gwasgaru yn well. Gall y model tai cymdeithasol gynnig rhai syniadau, ond mae’n annhebyg y gellir ei atgynhyrchu fel opsiwn fforddiadwy yn ei ffurf bresennol oherwydd bod rhenti yn nodweddiadol yn llawer uwch na therfynau LHA.

Cynnwys biliau cyfleustodau o fewn y rhent a godir ar denantiaid.

Sicrhau fod gan dai a rennir:

o Ystafell fyw gymunol, i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol;

o Cloeon ar ddrysau ystafelloedd gwely a chypyrddau’r gegin, y gellir eu defnyddio os dymunir

o Mwy nag un ystafell ymolchi, neu fan leiaf oll toiled ac ystafell ymolchi ar wahân neu (os yn ymarferol) gyfleusterau en suite mewn ystafelloedd gwely.

Sicrhau bod carpedi, llenni, nwyddau gwyn a dodrefn sylfaenol yn rhannau cymunol tai a rennir. Gall ymchwil bellach a chanllawiau arfer da helpu landlordiaid cymdeithasol amcangyfrif costau’r ddarpariaeth hon i sicrhau ei

9

Page 11: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

fod yn fforddiadwy o fewn eu cynlluniau busnes a chaiff rhenti eu gosod yn briodol.

Peidio bod yn rhy gaeth am y terfynau oedran ar gyfer tai a rennir os yw tenantiaid yn hapus i rannu gyda’i gilydd. Gall tai a rennir fod yn fwy fforddiadwy i rai dros 35 oed sydd mewn gwaith cyflog isel neu fyfyrwyr.

Ymchwilio ymhellach y posibiliadau ar gyfer mentrau tai cydweithredol a arweinir gan denantiaid a chynlluniau hunan-adeiladu i gynnig datrysiadau tai ar gyfer pobl ifanc gan gadw rhenti’n isel drwy i denantiaid wneud rhai o’r tasgau a fyddai fel arall yn cael eu gwneud gan landlordiaid neu gontractwyr, a chanfod datrysiadau dan arweiniad tenantiaid i heriau tai a rennir.

Cynnig yr opsiwn i bobl ifanc mewn tai a rennir o fflat un ystafell wely annibynnol unwaith y buont mewn cyflogaeth am gyfnod (e.e. blwyddyn) i'w cymell i weithio a sicrhau y gallant symud ymlaen o dai a rennir i alluogi eraill i fyw ynddo. Mae tystiolaeth o grwpiau ffocws/arolwg hefyd yn awgrymu fod tai a rennir yn fwy atyniadol pan y’i gwelir fel rhan o yrfa tai, yn hytrach na chyrchfan barhaol. Yn yr un modd, dylai’r rhai sy’n dymuno byw gyda phartner neu sy’n dod yn feichiog gael eu galluogi i symud ymlaen o dai a rennir.

10

Page 12: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Astudiaeth dichonolrwydd o'r syniad o ddatblygu model tai hyfyw ar gyfer rhai sydd ond â hawl i

gyfradd llety a rennir

Cynnwys1.

Crynodeb Gweithredol 1

Dulliau ymchwil.....................................................................................................12

2. Gosod y llwyfan: Lle mae pobl ifanc sengl yng Nghymru yn byw ar hyn o bryd?.14

3. Beth sy'n newid? Effaith diwygiadau lles arfaethedig yng Nghymru....................18

Cap ar y Budd-dal Tai sy'n daladwy i denantiaid cymdeithasol ar lefelau Lwfans Tai Lleol.................................................................................................................18

Dileu hawl Budd-dal Tai rhai 18-21 oed.................................................................23

4. Tuag at ddatrysiadau............................................................................................26

Taliadau tai yn ôl disgresiwn..................................................................................26

Darparu tai a rennir: y fframwaith cyfreithiol..........................................................26

Tai a rennir ar draws pob daliadaeth: Dysgu o'r sector rhent preifat.....................31

Barn pobl ifanc am dai a rennir..............................................................................33

Tai a rennir yn y sector cymdeithasol....................................................................40

Opsiynau heblaw tai a rennir.................................................................................47

5. Casgliadau............................................................................................................51

6. Cyfeiriadau............................................................................................................53

Atodiad 1: Cwestiynau a ofynnwyd i bobl ifanc yng Nghymru...................................54

Diolchiadau: Hoffai'r awduron ddiolch i'r bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwil hwn mewn grwpiau ffocws, cyfweliadau neu drwy lenwi'r arolwg, y rhanddeiliaid a gyfrannodd eu barn a'u profiadau a hefyd Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Dinas a Sir Abertawe am eu cymorth gyda'r trefniadau ymarferol ar gyfer y grwpiau ffocws.

11

Page 13: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

1. CyflwyniadComisiynwyd yr ymchwil hwn gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn canfod yr hyn y gall Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai yng Nghymru ei wneud i gynyddu darpariaeth llety fforddiadwy economaidd hyfyw ar gyfer pobl ifanc sengl dan 35 oed yn y sector tai cymdeithasol.

Bydd toriadau arfaethedig i Fudd-dal Tai yn gostwng taliadau i denantiaid cymdeithasol os yw eu rhent yn uwch ar hyn o bryd na'r swm o Fudd-dal Tai y byddent yn ei dderbyn yn y sector rhent preifat. I bobl sengl dan 35 oed mae hyn yn golygu y caiff eu budd-dal tai ei gapio ar y lefel y bernir sydd ei angen i rentu ystafell mewn tŷ a rennir, a all fod yn sylweddol is na rhenti ar fflatiau rhent cymdeithasol un ystafell wely. Yn ychwanegol, bydd rhai pobl ifanc 18-21 oed yn colli pob hawl i Fudd-dal Tai.

Mae'r newidiadau hyn yn digwydd ar adeg pan mae deddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd, a gyflwynwyd yng Nghymru ym mis Ebrill 2015, yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i gynorthwyo pob aelwyd sy'n ddigartref neu dan fygythiad digartrefedd. Dim ond i aelwydydd y bernir eu bod mewn 'angen blaenoriaeth' y mae dyletswyddau llawn digartrefedd yn weithredol, sy'n golygu bod pobl ifanc heb blant yn aml yn cael eu hallgau, ond mae yn awr ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i atal neu liniaru digartrefedd lle'n bosibl ac mae hynny'n ddyletswydd ar bob aelwyd beth bynnag eu statws angen blaenoriaeth. Nid yw'n rhaid i'r llety a sicrheir ar gyfer pobl ddigartref fod yn rhent cymdeithasol a gall gynnwys cynigion addas o lety yn y sector rhent preifat.

I gyflawni'r dyletswyddau hyn, mae angen i awdurdodau lleol fedru canfod llety sy'n fforddiadwy i bobl ifanc sengl, yn cynnwys y rhai sy'n dibynnu ar Fudd-dal Tai i dalu eu rhent. Mae hyn yn debygol o fod yn anos pan ddaw'r toriadau i Fudd-dal Tai i rym.

Mae'r adroddiad yn gyntaf yn nodi sefyllfa tai bresenol pobl ifanc yng Nghymru, yna'n ystyried effaith debygol diwygiadau lles ar anghenion tai pobl ifanc dan 35 oed yng Nghymru heb newid polisi, yn cynnwys y niferoedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt a maint eu diffygion Budd-dal Tai.

Mae'r adroddiad wedyn yn archwilio datrysiadau posibl, gan amlygu enghreifftiau o arfer da wrth ddiwallu anghenion pobl ifanc sengl yng Nghymru ar renti a fydd yn fforddiadwy iddynt pan gaiff lefelau Budd-dal Tai eu torri, ac yn ymchwiio dichonolrwydd cyflwyno modelau o'r fath yng Nghymru.

Dulliau ymchwilRoedd yr ymchwil yn cynnwys:

A. Dadansoddi polisi a data

Fe wnaethom ddadansoddi effaith diwygiadau lles arfaethedig ar anghenion tai pobl ifanc dan 35 oed yng Nghymru, gan ddefnyddio data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ystadegau tai Llywodraeth Cymru, a hefyd yn nodi'r cyd-destun polisi yn effeithio ar dai ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

12

Page 14: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

B. Cyfweliadau gyda rhanddeiliaid cenedlaethol a darparwyr tai

Cynhaliwyd cyfarfod cychwyn prosiect ym mis Mawrth 2016 gyda chynrychiolwyr o Cartrefi Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdod lleol Caerffili a Llamau. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda detholiad o randdeiliaid cenedlaethol ac ystod o ddarparwyr tai hefyd yn ystod Mawrth ac Ebrill 2016, sef:

Cymdeithas Tai Newydd

Grŵp Cynefin

Llamau

Awdurdod lleol Powys

Cartrefi Cymoedd Merthyr

Tai Siarter

Tai Cymunedol Bron Afon

Tai Cymoedd i Arfordir

Awdurdod lleol Caerffili

Awdurdod lleol Sir y Fflint

Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dinas a Sir Abertawe

Cynhaliwyd digwyddiad trafod hefyd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2016 a roddodd gyfle pellach ar gyfer trafodaeth gan amrywiaeth o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill.

C. Arolygu sampl gynrychioladol o bobl ifanc yng Nghymru

Er mwyn casglu data ar anghenion a dewisiadau tai pobl ifanc, buom yn gweithio gyda'r cwmni ymchwil marchnad Populus i gynnal arolwg o bobl ifanc 18-35 oed yng Nghymru. Derbyniwyd cyfanswm o 401 ateb. Cafodd y data ei bwysoli am oedran a rhyw i sicrhau ei fod yn gynrychioladol o bobl ifanc yng Nghymru.

Mae'r cwestiynau a ofynnwyd i'w gweld yn Atodiad 1.

D. Grwpiau ffocws gydag amrywiaeth o bobl ifanc

Trefnwyd tri grŵp ffocws yn y Fflint, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Roedd y rhai a fynychodd yn amrywio rhwng 18 a 34 oed ac er bod nifer o'r bobl ieuengaf yn byw ar hyn o bryd mewn unedau tai â chymorth, daeth y gweddill o amrywiaeth o fathau a daliadaethau tai. Lleiafrif o'r rhai a fynychodd oedd mewn cyflogaeth. Roedd 17 o bobl ifanc yn bresennol yn y Fflint ac 16 yn Abertawe. Canslwyd digwyddiad Pen-y-bont ar Ogwr ar y funud olaf oherwydd salwch ymysg y rhai a wahoddwyd i gymryd rhan; yn lle hynny, cafodd pedwar o'r rhai a wahoddwyd eu cyfweld dros y ffôn. Fel cymhelliant i ymatebwyr, a sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth am eu hamser, cynigwyd taleb rhodd o £20 i'r rhai a fynychodd, y gellid eu defyddio mewn amrywiaeth o fanwerthwyr y stryd fawr.

13

Page 15: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

2. Gosod y llwyfan: Lle mae pobl ifanc sengl yng Nghymru yn byw ar hyn o bryd?Casglodd cyfrifiad 2011 ddata ar drefniadau byw pawb yng Nghymru, ond yn anffodus ni chyhoeddwyd tablau yn dangos trefniadau byw pobl sengl dan 35 oed a heb blant dibynnol. Fodd bynnag mae'n dangos bod 734,296 o bobl 16-34 oed yn byw yng Nghymru yn 2011, gyda 97 y cant ohonynt yn byw mewn aelwydydd a dim ond dri y cant mewn sefydliadau cymunol (fel carchardai ac ysbytai).

Fodd bynnag gellir defnyddio dadansoddiad o ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru i edrych ar ddaliadaeth tai pob person ifanc 16-35 oed yng Nghymru:

Tabl 1 Pob person ifanc 16-35 oed yn byw yng Nghymru yn ôl daliadaeth

Perchen-feddiannydd Rhent cymdeithasol Rhent preifat

Cyfran pob person ifanc 16-36 oed 48% 19% 33%

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-15, pwysolwyd ar gyfer unigolion

Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n byw gyda'u rhieni neu o fewn aelwyd arall. Dim ond daliadaeth y rhai sy'n bennaeth aelwyd ac yn byw mewn aelwydydd heb blant dibynnol a ddangosir yn Nhabl 2 - y grŵp allweddol o ddiddordeb ar gyfer yr ymchwil yma.

Tabl 2 Aelwydydd yng Nghymru gyda pherson dan 35 oed yn bennaeth arnynt, dim plant dibynnol, yn ôl daliadaeth

Perchen-feddiannydd Tai cymdeithasol Rhent preifat

Cyfran pob aelwyd 46% 15% 39%

Cyfran rhentwyr - 27% 73%

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-15, pwysolwyd ar gyfer aelwydydd

Fel y gellir gweld, y daliadaethau mwyaf cyffredin ar gyfer aelwydydd heb blant gyda pherson dan 35 oed yn bennaeth arnynt yw perchen-feddiannaeth a rhentu preifat, gyda dim ond 15 y cant o aelwyddydd o'r fath yn rhentu eu cartref gan landlord cymdeithasol.

Medrir cael darlun llawnach o sefyllfa tai pobl ifanc o'r arolwg a gynhaliwyd ar gyfer yr ymchwil yma, gan ei fod yn defnyddio pobl (yn hytrach nag aelwydydd) fel y ffrâm samplo ac yn cynnwys y rhai yn byw gyda'u rhieni neu gydag aelwyd arall (Ffigur 1).

14

Page 16: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Ffigur 1: Sefyllfa fyw gyfredol pobl ifanc 18-35 oed yng Nghymru

Ffynhonnell: Arolwg Populus o bobl ifanc (18-34 oed yng Nghymru), Ebrill 2016, n=401

Gan fod tai a rennir yn ffocws neilltuol yn yr ymchwil yma, mae Tabl 3 yn dangos y gwahanol gyfraddau sy'n byw mewn tai a rennir yn ôl lleoliad a grŵp demograffig.

Tabl 1: Profiadau byw mewn tai a rennir: pobl ifanc 18-3 oed yng Nghymru

Mewn tŷ a rennir ar hyn o bryd

Wedi byw mewn tŷ a rennir ar ryw amser

Math awdurdod lleol1

Gwledig 17% 61%

Y Cymoedd 6% 39%

Trefol 19% 65%

Arall 6% 46%

Incwm aelwyd (gros)

Incwm isel (dan £28,000) 18% 53%

Incwm uchel (dros £28,000) 7% 60%

Heb ei nodi 24% 48%

Rhyw Gwryw 20% 56%

Benyw 7% 54%

Grŵp 18-19 15% 35%

1 Daw hyn o (Lywodraeth Cynuliad Cymru, 2008). Mae'r awdurdodau gwledig yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy. Mae awdurdodau'r Cymoedd yn cynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen. Mae awdurdodau trefol yn cynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. Mae awdurdodau 'eraill' yn cynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.

15

Page 17: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

oedran 20-24 24% 65%

25-29 9% 60%

30-35 5% 49%

Pawb 18-35 oed 13% 55%

Pawb 18-35 oed heb fod yn fyw gyda phlant neu bartner 25% 59%

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus)

Fel y gellir gweld, canfuwyd bod cyfanswm o 13 y cant o bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tai a rennir ar hyn o bryd, gyda mwy na hanner (55 y cant) â pheth profiad o fod wedi gwneud hynny. Mae tai a rennir yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol ac (efallai'n fwy o syndod) mewn ardaloedd gwledig, ac yn llai cyffredin yn y Cymoedd ac ardaloedd eraill. Roedd pobl ifanc ar incwm uwch ychydig yn fwy tebygol o fod wedi byw'n flaenorol mewn tai a rennir, ond yn llai tebygol o fod yn gwneud hynny ar hyn o bryd, yn adlewyrchu mae'n debyg fwy o debygrwydd fod y rhai ar incwm uwch wedi rhannu tai fel myfyrwyr. Roedd dynion a menywod yn yr un modd yn fwy tebygol o fod wedi byw mewn tai a rennir ar ryw adeg, ond roedd dynion bron deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai a rennir ar hyn o bryd, sy'n awgrymu y gall fod y profiad o fyw mewn tai a rennir yn hirach ar gyfer dynion. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd fod menywod fel arfer yn iau pan fyddant yn dechrau byw gyda partner, er y gallai rhai hefyd ddangos mwy o amharodrwydd ar ran menywod i aros mewn tai a rennir am gyfnod hirach.

Wrth edrych ar dai cymdeithasol yn unig, mae data gan Lywodraeth Cymru yn dangos y gyfran o stoc un ystafell wely annibynnol (Tabl 4).

Tabl 2: Cyfran anheddau anghenion cyffredinol rhent cymdeithasol un ystafell wely yng Nghymru yn ôl math

Fflatiau/tai un ystafell wely annibynnol

Bedsits annibynnol

Bedsits heb fod yn annibynnol

Hostelau heb fod yn annibynnol a thai a rennir

Ynys Môn 98% 2% 0% 0%

Gwynedd 99% 1% 0% 0%

Conwy 99% 1% 0% 0%

Sir Ddinbych 98% 2% 0% 0%

Sir y Fflint 96% 4% 0% 0%

Wrecsam 98% 2% 0% 0%

Powys 99% 1% 0% 0%

Ceredigion 96% 4% 0% 0%

Sir Benfro 94% 6% 0% 0%

Sir Gaerfyrddin 98% 2% 0% 0%

Abertawe 95% 5% 0% 0%

Castell-nedd Port 99% 1% 0% 0%

16

Page 18: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Talbot

Pen-y-bont ar Ogwr 98% 2% 0% 0%

Bro Morgannwg 91% 3% 0% 7%

Caerdydd 95% 5% 0% 0%

Rhondda Cynon Taf 100% 0% 0% 0%

Merthyr Tudful 94% 5% 2% 0%

Caerffili 100% 0% 0% 0%

Blaenau Gwent 100% 0% 0% 0%

Torfaen 87% 12% 0% 0%

Sir Fynwy 99% 0% 0% 1%

Casnewydd 98% 2% 0% 0%

Cymru 97% 3% 0% 0%

Ffynhonnell: Ystadegau Cymru 2014-15. Nid yw llety anghenion cyffredinol yn cynnwys llety â chymorth neu anheddau ar les dros-dro i gartrefu'r digartref. Mae manylion pellach ar gael yn https://statscymru.cymru.gov.uk

Mae'n glir fod unedau heb fod yn annibynnol yn brin iawn yn y sector rhent cymdeithasol, sy'n awgrymu fod mwyafrif helaeth y bobl ifanc y canfu ein harolwg eu bod yn byw mewn tai a rennir yn debygol o fod yn byw yn y sector rhent preifat.

Fe wnaeth cyfweliadau rhanddeiliaid gadarnhau canfyddiadau'r data mai ychydig iawn o dai a rennir sydd o fewn y sector rhent cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid oedd gan y rhan fwyaf o landlordiaid ddim o gwbl, neu gynllun bach iawn, yn aml ar gyfnodau peilot. Reodd gan rai nifer fach o anheddau oedd yn cael eu rhannu gan grwpiau o ffrindiau oedd wedi gwneud cais fel grŵp, ond nid oedd rhai gan y rhan fwyaf hyn neu ni wyddent os oedd ganddynt rai.

Yn gyffredinol ni wyddai pobl ifanc a fynychai'r grwpiau ffocws bod unrhyw dai a rennir o fewn y sector rhent cymdeithasol.

Un dull neilltuol o dai a rennir o fewn y sector cymdeithasol yw tenantiaid yn gosod ystafell sbâr i letywyr. Ychydig o ddata sydd ar nifer y tenantiaid sy'n rhentu ystafelloedd i letywyr o fewn y sector cymdeithasol; nid yw'r 38 y cant o denantiaid cymdeithasol sy'n rhentu gan awdurdod lleol angen caniatâd i wneud hynny (felly mae landlordiaid yn annhebyg o fod yn gwybod amdanynt) ac nid yw cymdeithasau tai yn casglu unrhyw ddata cenedlaethol ar y mater. Nid oedd gan y landlordiaid cymdeithasol y gwnaethom eu cyfweld unrhyw ddata ar gael ar faint o'u tenantiaid oedd â lletywyr.

17

Page 19: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

3. Beth sy'n newid? Effaith diwygiadau lles arfaethedig yng NghymruAr hn o bryd gall pobl ifanc sydd allan o waith (er enghraifft yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith) neu mewn swyddi cyflog isel hawlio Budd-dal Tai am hyd at 100 y cant o'u rhent. Lwfans Tai Lleol (LHA) yw'r math o Fudd-dal Tai ar gyfer y sector rhent preifat. Yn y sector rhent preifat, caiff y rhan fwyaf o bobl ifanc sengl dan 35 oed eu cyfyngu i'r gyfradd llety a rennir, sy'n golygu y caiff Budd-dal Tai ei gapio ar lefel y golygir iddo dalu am rent ystafell mewn tai a rennir2. Cafodd cyfraddau LHA eu gosod i ddechrau i dalu am gost cartref pris cymedrig (yn ôl maint) ond cawsant eu gostwng yn 2011 i dalu am gost y 30 y cant rhataf o gartrefi o fewn pob Ardal Marchnad Rentu Eang, er efallai nad yw'r cartrefi hyn ar gael ym mhob rhan o'r hyn sy'n aml yn ardal eithaf mawr. Yn ymarferol cawsant hefyd eu rhewi neu neu caniatawyd iddynt gynyddu ychydig bach yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan olygu efallai nad ydynt yn ddigon i dalu am y rhent mewn llawer o ardaloedd. Cyhoeddwyd penderfyniad yng Nghyllideb Haf 2015 i rewi cyfraddau LHA am bedair blynedd, sy'n debygol o waethygu'r sefyllfa yma. Mae'n rhaid i denantiaid lenwi unrhyw ddiffyg o'u budd-daliadau neu enillion.

Yn y sector rhent cymdeithasol byddai Budd-dal Tai fel arfer yn talu am holl rent cymwys fflat un ystafell wely ar gyfer pobl sengl o unrhyw oedran.

Mae dau doriad allweddol arfaethedig i Fudd-dal Tai fydd yn effeithio ar bobl ifanc:

Cap ar Fudd-dal Tai sy'n daladwy i denantiaid cymdeithasol ar LHA, yn cynnwys y gyfradd llety a rennir ar gyfer pobl sengl dan 35 oed

Dileu hawl awtomatig i Fudd-dal Tai ar gyfer pobl ifanc 18-21 oed heb blant dibynnol os na ddangosir eu bod yn agored i niwed

Mae'r bennod yn ymchwilio canlyniadau posibl y toriadau hyn i Fudd-dal Tai ar bobl ifanc dan 35 oed yng Nghymru heb newid polisi, yn cynnwys y niferoedd sy'n debygol y bydd eu diffyg Budd-dal Tai yn effeithio arnynt.

Cap ar y Budd-dal Tai sy'n daladwy i denantiaid cymdeithasol ar lefelau Lwfans Tai Lleol

Caiff Budd-dal Tai ar gyfer pob hawlydd mewn tai cymdeithasol ei gyfyngu i lefel Lwfans Tai Lleol (LHA), sef y lefel uchaf a dalir ar hyn o bryd i denantiaid yn y sector rhent preifat. Nid yw tai cymdeithasol yng Nghymru bob amser yn rhatach na thai rhent preifat gan olygu y gall llawer o denantiaid wynebu diffyg3. Mae pobl ifanc dan 35 oed sy'n byw mewn unedau tai cymdeithasol (megis fflatiau un ystafell wely) yn grŵp allweddol yr effeithir yn sylweddol

2 Mae eithriadau i'r gyfradd llety a rennir ar gyfer ymadawyr gofal dan 22 oed, rhai categorïau o gyn-droseddwyr a fyddai'n achosi risgiau mewn llety a rennir, pobl sydd wedi treulio tri neu fwy o fisoedd mewn hostel i'r digartref a phreswylwyr rhai categoriau o lety â chefnogaeth. Ar hyn o bryd mae gan y grwpiau hyn hawl i gyfradd un ystafell wely LHA.3 Mae'r rhai y mae'r newidiadau yn effeitho mwyaf arnynt yn cynnwys rhai mewn cartrefi Rhent Fforddiadwy lle mae rhenti'n uwch na lefelau LHA a phensiynwyr sy'n tan-ddefnyddio eu cartrefi, gan nad oes cyfyngiad ar hyn o bryd ar faint y cartref y gall pensiynwyr mewn tai cymdeithasol hawlio Budd-dal Tai amdano.

18

Page 20: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

arnynt, oherwydd mai dim ond i'r uchafswm LHA ar gyfer tai a rennir y bydd ganddynt hawl. Mae uchafsymiau LHA ar gyfer tai a rennir yn sylweddol is na rhenti cymdeithasol ar gyfer fflatiau un ystafell wely yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys yng Nghymru. Byddai'n rhaid i bobl ifanc ar Fudd-dal Tai lenwi'r diffyg yn eu rhent ond maent yn debyg o'i chael yn anodd gwneud hynny o gofio am lefel isel eu budd-dal a'r isafswm (£5) y caniateir iddynt ennill cyn colli hawl i fudd-dal. Bydd y diwygiadau hyn yn effeithio ar y rhai sy'n llofnodi tenantiaethau o fis Ebrill 2016, er nad ydynt yn dod i rym hyd 2018.

Gellir defnyddio data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i amcangyfrif nifer yr aelwydydd yng Nghymru yr effeithid arnynt pe byddai'r diwygiadau hyn yn dod i rym ar unwaith (gweler Tabl 5).

Tabl 3 Pobl sengl dan 35 oed mewn tai cymdeithasol sy'n derbyn Budd-dal Tai yng Nghymru

Nifer Cyfran

Cyfanswm nifer aelwydydd 8,712 100%

Oedran

16-17 196 2%

18-21 1,532 18%

22-24 1,390 16%

25-34 5,591 64%

RhywGwryw 5,118 59%

Benyw 3,563 41%

Amcangyfrif maint cartref4

Fflat 1 yst wely/bedsit 6,993 80%

2 ystafell wely 1,536 18%

3+ ystafell wely 190 2%

Statws cyflogaeth Mewn cyflogaeth 605 7%

Dim mewn cyflogaeth 8,105 93%

Anhysbys 18 0%

Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau 2015 data https://stat-xplore.dwp.gov.uk/

Fel y gellir gweld, mae dros 8,700 o bobl ifanc sengl yng Nghymru yn hawlio Budd-dal Tai ar gyfer tai rhent cymdeithasol ar hyn o bryd. O fis Ebrill 2018 bydd uchafswm LHA ystafell sengl hefyd yn weithredol ar gyfer rhai mewn amgylchiadau tebyg sy'n llofnodi tenantiaethau ar ôl 1 Ebrill eleni. I amcangyfrif y nifer y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn Ebrill 2018, mae angen i ni wybod pa mor hir mae pobl ifanc sengl yn aros mewn tenantiaethau tai cymdeithasol fel arfer. Mae' Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ymatebwyr pa mor hir y buont yn breswyl yn eu cyfeiriad presennol.

4 Amcangyfrifwyd hyn drwy ddefnyddio dangosydd ystafell sbâr yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fel arfer byddai aelwydydd un person gydag un ystafell sbâr yn cael dwy ystafell wely a byddai rhai gyda dwy neu fwy yn cael tair neu fwy o ystafelloedd gwely. Mae nifer fach o eithriadau i hyn lle gellir caniatau ystafell sbâr ar gyfer gofalwr dros nos, golygu y gall fod gorgyfrif bychan ar y rhai gydag un ystafell wely (sydd mewn gwirionedd â dwy ystafell wely, ond dim ohonynt yn sbâr).

19

Page 21: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Tabl 4: Cyfnod byw yn y cyfeiriad presennol: Aelwydydd person sengl dan 35 oed yng Nghymru, yn rhentu gan landlordiaid cymdeithasol

Cyfnod preswyliaeth Nifer CyfranLlai na 12 mis 32 44%

67%12 mis ond llai na 2 flynedd 17 23%

2 flynedd ond llai na 3 blynedd 8 11%

33%3 blynedd ond llai na 5 mlynedd 6 8%

5 mlynedd ond llai na 10 mlynedd 8 11%

10 mlynedd neu fwy 2 3%

Cyfanswm 73 100%

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-15

Mae maint y sampl yma yn fach, felly mae rhywfaint o gamgymeriad am y ffigurau hyn. Serch hynny, mae'r data yn awgrymu os yw patrymau dyraniad a chyfraddau trosiant yn parhau ar y lefel bresennol, bydd tua dau draean tenantiaid cymdeithasol ifanc yn Ebrill 2018 wedi llofnodi tenantiaethau ar ôl Ebrill 2016 ac felly bydd eu terfynau Budd-dal Tai yn gostwng yn unol â'r LHA.

Mae angen i ni hefyd ystyried sut mae'r lefelau rhent ar gyfer cartrefi rhent cymdeithasol un ystafell wely yn cymharu gyda lefelau LHA ar gyfer tai a rennir, a weithredir ar gyfer pobl ifanc dan 35 oed. Mae hyn yn anodd oherwydd mai dim ond ar lefel awdurdod lleol y mae data ar renti cymdeithasol ar gael tra gosodir lefelau LHA yn defnyddio Ardaloedd Marchnad Rentu Eang sy'n torri ar draws ffiniau awdurdod lleol. Mae Tabl 7 yn dangos amcangyfrif diffygion yn ôl awdurdodau lleol ac Ardaloedd Marchnad Rentu Eang ar gyfer pobl sengl dan 35 oed yn byw mewn tai rhent cymdeithasol un ystafell wely a gyfyngir i gyfradd tai a rennir y LHA..

Tabl 5: Cymharu rhenti cymdeithasol gyda chyfraddau tai a rennir y LHA

Awdurdod Lleol Rhent cymdeithasol un ystafell wely cyfartalog5

Ardal Marchnad Rentu Eang

Cyfradd tai a rennir LHA

Diffyg wythnosol

Ynys Môn £66.54Gogledd Orllewin Cymru £58.11

£8.43

Gwynedd £64.73

Gogledd Orllewin Cymru £58.11

£6.62

De Gwynedd £56.00 £8.73

Conwy £70.04 Gogledd Clwyd £55.12 £14.92

Sir Ddinbych £68.13 Gogledd Clwyd £55.12 £13.01

Wrecsam £65.65 £2.48

5 Y rhent wythnosol cyfartalog yw cyfartalog y rhent safonol a godir, cyn tynnu am lwfansau rhent, ac mae hefyd yn eithrio taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill ar gyfer amwynderau (e.e. gwres canolog, cyflenwad dŵr poeth neu olchi dillad) a threthi dŵr.

20

Page 22: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Sir y Fflint £71.43

Sir y Fflint £57.50 £13.93

Gogledd Clwyd £56.12 £15.31

Gorllewin Swydd Caer £64.48

£6.95

Wrecsam £63.79 Wrecsam £65.65 -£1.86

Powys £68.21

Brycheiniog a Maesyfed £45.90

£22.31

Castell-nedd Port Talbot £51.02

£17.19

Gogledd Powys £50.00 £18.21

Ceredigion £71.69 Ceredigion £62.50 £9.19

Sir Benfro £66.82Ceredigion £62.50 £4.32

Penfro £57.50 £9.32

Sir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08

Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85

Castell-nedd Port Talbot

£70.09Castell-nedd Port Talbot £51.02

£19.07

Pen-y-bont ar Ogwr £69.88 Pen-y-bont ar Ogwr £57.50 £12.38

Bro Morgannwg £74.74 Bro Morgannwg £52.30 £22.44

Caerdydd £72.20 Caerdydd £55.78 £16.42

Rhondda Cynon Taf £69.65Merthyr Cynon £48.67 £20.98

Taf Rhondda £48.67 £20.98

Merthyr Tudful £68.49 Merthyr Cynon £48.67 £19.82

Caerffili £68.15 Caerffili £53.50 £14.65

Blaenau Gwent £65.59 Blaenau Gwent £48.67 £16.92Torfaen £75.63 Torfaen £50.00 £25.63

Sir Fynwy £74.95 Sir Fynwy £54.60 £20.35

Casnewydd £72.82 Casnewydd £55.05 £17.77

Ffynonellau: Asiantaeth Swyddfa Prisiant, drwy DirectGov ac Ystadegau Cymru 2015-16

Dylid nodi nad yw'r rhenti cymdeithasol a roddir yma yn cynnwys taliadau gwasanaeth. Ni chyhoeddwyd data ar gyfer maint y taliadau gwasanaeth sy'n gymwys am Fudd-dal Tai yng Nghymru. Fodd bynnag, mae data gan landlordiaid cymdeithasol yn Lloegr yn awgrymu fod y tâl gwasanaeth wythnosol cyfartalog sy'n gymwys am Fudd-dal Tai yn Lloegr tua £6-7. Os

21

Page 23: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

yw taliadau gwasanaeth yn debyg yng Nghymru, bydd hyn yn cynyddu maint y diffyg yn sylweddol.

Mae diffygion - yn cynnwys amcangyfrif o £6 yr wythnos o dâl gwasanaeth - yn amrywio o £4 yr wythnos i dros £28. Lle mae awdurdodau yn croesi un neu fwy o Ardaloedd Marchnad Rentu Eang ni wyddom pa gyfran o'r tai cymdeithasol sy'n dod o fewn pob Ardal, sy'n golygu na allwn ganfod y diffyg cyfartalog ar gyfer Cymru neu hyd yn oed ar gyfer ardaloedd lle maent yn cwmpasu mwy nag un Ardal. Serch hynny, byddai amcangyfrif bras yn awgrymu y bydd diffyg nodweddiadol o tua £21 i gyd, yn seiliedig ar amcangyfrif o dâl gwasanaeth o £6 ynghyd â gwahaniaeth nodweddiadol o £15 rhwng rhenti cymdeithasol a chyfraddau tai a rennir LHA.

Mae mwyafrif tenantiaid sengl dan 35 oed yn debyg o'i chael yn anodd llenwi'r diffygion hyn, yn arbennig y rhai dan 25 oed sydd â lefelau budd-dal is. Cadarnhawyd hyn gan rai a fynychodd grwpiau ffocws a deimlai i gyd nad oedd talu'r math yma o ddiffyg o daliadau budd-dal yn opsiwn hyfyw.

Mae'r data yn seiliedig ar gyfraddau cyfredol LHA a rhenti cymdeithasol cyfredol. Cytunodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i gynnal y polisi presennol ar gyfer rhenti cymdeithasol am 2016/17, gan olygu y gall landlordiaid cymdeithasol gynyddu rhenti gan hyd at CPI +1.5% plws £2. Ar gyfer 2016/17, mae hyn yn gyfwerth â 1.4% + £2 gan fod CPI y mis Medi blaenorol yn -0.1%. Ar y llaw arall, cafodd lefelau LHA eu rhewi am bedair blynedd. Mae hyn yn golygu (yn wahanol i Loegr lle caiff rhenti cymdeithasol eu torri gan un y cant y flwyddyn), mae'n debyg y bydd y diffyg sy'n wynebu rhai sy'n hawlio Budd-dal Tai yng Nghymru yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn wrth i renti godi.

Roedd gan y staff cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a gyfwelwyd ddealltwriaeth dda yn gyffredinol o faint y diffyg fyddai'n wynebu pobl ifanc fel canlyniad i doriadau Budd-dal Tai. Dywedwyd fod fflatiau un ystafell wely yn rhentu am tua £80 yr wythnos, o gymharu â tua £50-£55 ar gyfer cyfraddau rhannu llety Lwfans Tai Lleol. Cydnabu yr holl ddarparwyr tai fod eu tenantiaid yn annhebygol iawn o fedru llenwi'r math yma o fwlch o'u budd-daliadau neu enillion isel:

Mae'r LHA gryn dipyn yn is na'n rhenti ... mae'n risg enfawr i ni. Nid oes unrhyw ffordd y gallai unrhyw rai o'n cwsmeriaid lenwi'r bwlch.

Ydi, mae ein rhenti tua £30 yr wythnos yn fwy. Wyddon ni ddim beth fyddwn yn ei wneud pan ddaw'r newidiadau budd-dal i rym.

Nid oedd y mater o reidrwydd yn un brys, oherwydd bod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn nodi cyfraddau trosiant uchel ar gyfer pobl ifanc sengl; roedd un gymdeithas fawr wedi dadansoddi ei ffigurau a chyfrif fod 90 y cant o'u tenantiaid sengl ifanc yn symud ymlaen o fewn dwy flynedd, gan olygu na fyddai capio Budd-dal Tai ar lefelau LHA yn effeithio ar y rhan fwyaf oedd yn llofnodi tenantiaethau ar hyn o bryd, neu o leiaf nid o fewn eu tenantiaeth bresennol. Roedd landlordiaid eraill yn dal i fod ar gamau cynnar sefydlu sut y gallai effeithio arnynt ac roeddent yn y broses o gasglu ffigurau i ddweud wrthynt faint o bobl sengl dan 35 oed yr oeddent yn eu lletya ar hyn o bryd a faint yr oeddent yn arfer eu lletya mewn blwyddyn.

Teimlai rhai cymdeithasau na fyddai llawer o effaith arnynt oherwydd eu bod yn canolbwyntio'n bennaf ar dai teulu gan fod eu stoc yn cynnwys tai tair ystafell wely yn

22

Page 24: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

bennaf. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf yn ystyried bod lletya pobl sengl ifanc yn rhan allweddol o'u gweithgareddau ac yn bryderus iawn sut y byddent yn lletya pobl ifanc na allai mwyach fforddio'r rhent am fflat un ystafell wely.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ymchwilio os oedd rhoi'r gorau i osod i bobl ifanc sengl yn debyg o arwain at eiddo anodd eu gosod. Yng nghyswllt stoc anghenion cyffredinol, teimlai landlordiaid yn gyffredinol nad oedd ganddynt unrhyw anawsterau mewn gosod eiddo ac nad hyn oedd eu prif gonsyrn. Yn hytrach, roeddent yn bryderus am lle byddai pobl ifanc yn byw, os nad yn eu stoc anheddau un ystafell wely.

Mae amserlen y diwygiadau hyn yn rhoi peth amser i landlordiaid cymdeithasol ystyried eu hopsiynau. Fodd bynnag, mae mwyafrif helaeth y bobl ifanc sengl sy'n byw mewn tai cymdeithasol ar hyn o bryd mewn unedau annibynnol, gan fod bedsits a thai a rennir yn brin yn y sector cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y byddai angen newid mawr mewn math cartrefi neu lefelau rhent pe byddai landlordiaid cymdeithasol yn parhau i gynnig llety i bobl sengl ifanc sy'n dibynnu ar Fudd-dal Tai i dalu eu rhent.

Nid oedd llawer o'r rhai a fynychodd y grwpiau ffocws yn gwybod (cyn mynychu'r drafodaeth) am y gostyngiadau arfaethedig i Fudd-dal Tai. Roedd y rhan fwyaf yn dibynnu ar Fudd-dal Tai, ond roeddent hefyd yn disgwyl symud i dai rhent cymdeithasol annibynnol ar ôl iddynt adael y cynllun tai â chymorth, rhywbeth sy'n annhebyg o fod yn fforddiadwy o Ebrill 2018. Teimlent i gyd y dylid gwneud mwy i sicrhau fod pobl ifanc fel nhw yn gwybod beth oedd yn digwydd a sut y byddai'n effeithio arnynt.

Tai â chymorthMae llawer o'r sector tai â chymorth eisoes yn cynnig tai a rennir, ond nid ar renti sydd hyd yn oed yn agos at gyfradd tai a rennir y LHA.

Dengys data o Ystadegau Cymru 2015-16 ar renti ar gyfer tai â chymorth (ac eithrio tai gwarchod) fod rhenti wythnosol cyfartalog yn amrywio rhwng £62 a £145, gyda chymedrig o tua £80-£90 yr wythnos. Mae hyn yn gadael diffyg mawr iawn rhwng capiau LHA a chyfraddau presennol Budd-dal Tai.

Roedd landlordiaid a gynigiai ddarpariaeth tai a rennir yn bryderus iawn am oblygiadau'r toriadau i Fudd-dal tai i lefelau LHA. Roedd mwyafrif helaeth tenantiaid tai â chymorth yn bobl sengl dan 35 oed yn dibynnu ar Fudd-dal Tai. Roedd yn amlwg na fydd cynlluniau tai â chymorth yn hyfyw os na weithredir terfynau LHA i denantiaid tai â chymorth, os nad oes cyllid ychwanegol sylweddol ar gael.

Dileu hawl Budd-dal Tai rhai 18-21 oed

Yng nghyllideb haf 2015 cyhoeddodd y Canghellor na fyddai elfen tai y Credyd Cynhwysol ar gael i bobl ifanc 18-21 oed o fis Ebrill 2017. Gwneir eithriadau ar gyfer rhai pobl ifanc 'agored i niwed' yn cynnwys y rhai na all fyw gyda'u rhieni, rhai sydd â phlant eu hunain a rhai a fu'n gweithio am chwe mis cyn hawlio. Ni chafodd bod yn agored i niwed ei ddiffinio a'i brofi hyd yma. Awgrymodd ymchwil gan Shelter fod 61 y cant o bobl ifanc 18-21 oed ar draws y Deyrnas Unedig sy'n hawlio Budd-dal Tai yn byw mewn tai cymdeithasol (Shelter, 2015).

23

Page 25: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Wrth i bobl symud i'r Credyd Cynhwysol, mae mesurau diogelu pontio ar gael i'r rhai a fyddai'n wynebu gostyngiad mewn hawliad (Adran Gwaith a Phensiynau 2012), sy'n golygu fod y toriad yn debygol o effeithio'n bennaf ar y rhai sy'n dechrau hawliad budd-daliadau newydd, neu rai y bydd eu hamgylchiadau yn newid ar ôl Ebrill 2017.

Mae data o wefan StatXplore yr Adran Gwaith a Phensiynau yn awgrymu fod ar hyn o bryd ychydig dan 3,000 o bobl ifanc 18 i 21 oed nad oes ganddynt blant dibynnol yn byw gyda nhw yn derbyn Budd-dal Tai (Tabl 8).

).

Tabl 6: Pobl ifanc 18-21 oed sy'n derbyn Budd-dal Tai yng Nghymru, dim plant dibynnol

Nifer Cyfran

Cyfanswm nifer hawlwyr 2,909 100%

Oed 18 578 20%

19 704 24%

20 766 26%

21 862 30%

Math aelwyd Gwryw sengl 1,368 47%

Benyw sengl 1,299 45%

Sengl, rhyw anhysbys 19 1%

Cwpl 219 8%

Daliadaeth Rhent cymdeithasol 1,624 56%

Rhent preifat 1,286 44%

Statws cyflogaeth

Mewn cyflogaeth 257 9%

Heb fod mewn cyflogaeth 2,636 91%

Anhysbys 13 0%

Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau, data Tachwedd 2015 https://stat-xplore.dwp.gov.uk/

Fel y gwelir, mae mwyafrif helaeth y bobl ifanc 18-21 oed heb blant dibynnol sy'n derbyn Budd-dal Tai yn bobl sengl, gyda nifer bras debyg o ddynion a menywod. Mae ychydig dros eu hanner yn byw mewn tai rhent preifat. Nid yw'r mwyafrif helaeth mewn cyflogaeth.

Nid yw'r data yma yn dangos i ba raddau y mae'r bobl ifanc hyn yn debygol o gael eu dosbarthu fel bod yn agored i niwed, ac yn dal i fod yn gymwys am Fudd-dal Tai, oherwydd nad yw'n hysbys eto beth yw'r diffiniad o fod yn agored i niwed.

Roedd landlordiaid ac awdurdodau lleol a gyfwelwyd am yr ymchwil yma yn dal i aros am fanylion pa bobl ifanc 18-21 oed fyddai'n gymwys am Fudd-dal Tai, oherwydd eu bod yn cael eu dosbarthu fel agored i niwed. Roeddent yn obeithiol y byddai llawer o'u tenantiaid, gan fod tenantiaid sengl yn y grŵp oedran yma yn aml yn gadael gofal neu'n symud allan o gynlluniau tai â chymorth.

24

Page 26: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Yr unig opsiynau a gredid oedd yn hyfyw ar gyfer rhai nas dyfarnwyd eu bod yn agored i niwed oedd iddynt ganfod cyflogaeth sefydlog, dychwelyd i fyw gyda'u rhieni (efallai gyda help cyfryngu gan yr awdurdod lleol) neu o bosibl dalu eu rhent yn defnyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn, ffynhonnelll y cydnabuwyd ei bod yn debygol o fod yn annigonol ar gyfer mwy na chyfran fach o bobl ifanc.

Roedd rhai a fynychodd y grwpiau ffocws â pheth ymwybyddiaeth o'r ffaith efallai na fyddai Budd-dal Tai ar gael i rai dan 21 oed yn y dyfodol gan y bu llawer mwy o gyhoeddurwydd i'r ffaith y caiff budd-daliadau eu cwtogi ar gyfer yr ifanc (gyda rhai dan 25 yn cael eu hawgrymu i ddechrau) na'r gostyngiadau i Fudd-dal Tai ar gyfer tenantiaid cymdeithasol dan 35 oed. Serch hynny, y bobl y mae'n fwyaf tebygol yr effeithir arnynt yw'r rhai sydd yn eu harddegau hwyr ar hyn o bryd nad ydynt eto wedi gadael cartref, felly efallai nad ydynt mor ymwybodol o newidiadau i gymhwyster Budd-dal Tai.

25

Page 27: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

4. Tuag at ddatrysiadauMae'r adran yma'n ymchwilio ffyrdd posibl o ddiwallu anghenion tai pobl ifanc o fewn y toriadau budd-dal arfaethedig a dichonolrwydd gwahanol fodelau ar gyfer diwallu'r anghenion hynny.

Taliadau tai yn ôl disgresiwn

Un ffordd bosibl o liniaru effaith y toriadau fyddai defnyddio Talaiadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) i ychwanegu at fudd-daliadau tenantiaid yr effeithir arnynt. Pan ddaw'r polisi i rym yn 2018, dim ond y rhai a lofnododd denantiaethau ers mis Ebrill y bydd yn effeithio arnynt i ddechrau. Os nad oes newid mewn ymarfer dyrannu, disgwylid i hyn gynyddu tuag at 8,700 dros gyfnod (nifer y bobl sengl dan 35 oed sy'n derbyn Budd-dal Tai ar hyn o bryd, gweler Tabl 5). Byddai ychwanegiad o £21 yr un ar gyfer yr 8,700 yma'n costio tua £180,000 yr wythnos, neu £9.5m y flwyddyn. Byddai'r costau dechreuol yn is gan mai dim ond tenantiaid a lofnododd denantiaethau yn y ddwy flynedd ddiwethaf yr effeithid arnynt, ond pe byddai cyfraddau trosiant a dibyniaeth ar Fudd-dal Tai yn aros ar y lefelau presennol (gweler Tabl 6), effeithir ar tua 5,800 o denantiaid i ddechru gyda chyfanswm diffyg rhent o tua £6.4m yn y flwyddyn gyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid ar gyfer DHP i'w helpu i ddiwallu diffygion y rhai y mae toriadau Budd-dal Tai i rai sy'n tan-ddefnyddio eu cartrefi yn effeithio arnynt, ond byddai angen swm sylweddol o gyllid ychwanegol i alluogi cronfeydd i liniaru effaith y toriadau arfaethedig hyn ar Fudd-dal Tai i bobl ifanc.

Darparu tai a rennir: y fframwaith cyfreithiolMae nifer o ffyrdd gwahanol o strwythuro tenantiaethau mewn tai a rennir i alluogi dau neu fwy o oedolion heb fod yn perthyn i'w gilydd i rentu cartref gyda'i gilydd.

Tenantiaethau ar wahânUn model - sy'n gyffredin yn y sector rhent preifat - yw rhoi tenantiaethau ar wahân ar bob ystafell o fewn yr eiddo - y cyfeirir atynt yn aml fel bedsits. Dyma hefyd y model arferol o gynnig tenantiaethau o fewn y sector tai â chymorth, yn cynnwys hostelau a darpariaeth tai a rennir â chymorth llai. Byddid yn aml yn cynnwys swm ar gyfer biliau cyfleustod yn y rhent dan y model hwn.

Prif fantais y model yma i denantiaid yw eu bod yn gyfrifol ar wahân am eu rhent eu hunain - os nad yw un tenant yn talu'r rhent neu'n torri eu tenantiaeth, nid yw hyn yn effeithio ar gyfrifon rhent neu denantiaethau eu cyd-letywyr. Yr anfantais yw nad oes gan denantiaid unrhyw hawliau dros bwy sy'n symud i'w cartref, os nad yw eu landlord yn penderfynu ymgynghori gyda nhw, gan mai mater i'r landlord i'w benderfynu gyda darpar denantiaid yw hynny.

O safbwynt landlord, mae'r model yma'n cynnig perthynas glir ac uniongyrchol gyda phob tenant ar wahân. Os nad yw tenant yn talu eu rhent neu'n torri eu tenantiaeth, gellir eu dadfeddiannu heb unrhyw effaith uniongyrchol ar y tenantiaid eraill. Mae landlordiaid hefyd

26

Page 28: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

yn cadw rheolaeth lwyr dros bwy sy'n byw yn eu heiddo. Yr anfantais yw na chollir incwm rhent yn ystod unrhyw gyfnodau gwag, a all fod yn aml gyda grŵp tenantiaid ifanc a symudol. Caiff y cyfrifoldeb am gydlynu gyda'r landlord a rhoi adroddiad am waith trwsio i ardaloedd cymunol ei rannu rhwng y tenantiaid, a all wneud cyfathrebu mwy dibynadwy yn anos.

Tenantiaethau ar y cydMae tenantiaethau ar y cyd yn gyffredin yn y sector rhent preifat a hefyd y sector cymdeithasol ar gyfer cyplau. Maent yn gyffredin hefyd ymhlith landlordiaid preifat (ac yn llai cyffredin ymhlith landlordiaid cymdeithasol) ar gyfer grwpiau o ffrindiau sydd eisiau rhannu cartref. Mae'r tenantiaid yn llofnodi un cytundeb tenantiaeth gyda'r landlord, sy'n golygu eu bod i gyd yn gyd-gyfrifol am dalu'r rhent ('atebolrwydd ar y cyd ac unigol'). Gellir terfynu'r denantiaeth ar ddiwedd cyfnod penodol neu (yn achos tenantiaethau cyfnodol) drwy i unrhyw un o'r tenantiaid roi rhybudd. Gall y landlord ychwanegu swm at y rhent ar gyfer biliau cyfleustodau neu gall y tenant rannu cyfrifoldeb am y costau hyn, fydd yn golygu y bydd yn rhaid i un tenant arwain a chael ei enwi ar filiau cyfleustodau.

Y fantais i denantiaid yw eu bod yn cadw peth rheolaeth dros bwy sy'n byw yn eu cartref. Ni all landlord newid un tenant gydag un arall heb i bob un ohonynt lofnodi cytundeb cyd-denantiaeth newydd. Yn ymarferol, bydd landlordiaid fel arfer yn caniatau i denantiaid argymhell ffrind i gymryd lle cyd-letywr sy'n gadael a chaiff tenantiaeth newydd wedyn ei llofnodi rhwng y landlord a'r grŵp newydd o denantiaid.

Gall landlordiaid fanteisio o gyd-atebolrwydd am dalu rhent, gan olygu os nad yw un tenant yn talu, y gellir adennill y golled yn gyfreithiol gan y tenantiaid eraill. Ni fydd fel arfer unrhyw golled rhent mewn sefyllfaoedd lle mae un tenant yn cael ei ddilyn gan un arall. Dan y model yma mae tenantiaid yn cadw rheolaeth dros bwy sy'n byw yn eu cartrefi, gan fod angen iddynt hwy a'r tenantiaid eraill lofnodi'r cytundeb cyd-denantiaeth. Yr anfantais yw bod y model yn dibynnu ar i denantiaid fedru dod ynghyd mewn grwpiau i lofnodi cyd-denantiaeth, a hefyd y caiff y cyfrifoldeb am gydlynu gyda'r landlord a hysbysu bod angen gwaith trwsio ei rannu rhwng y tenantiaid, a all wneud cyfathrebu yn anos. Bydd rhai landlordiaid yn enwebu 'prif denant'' (a gaiff yn aml yn ymarferol ei ddewis gan y tenantiaid) ar gyfer cyfathrebu gydag ef/hi ac yr aiff y rhent o'u cyfrif banc, a all leihau'r anawsterau hyn, er yn gyfreithiol mae'r landlord yn gosod y cartref i'r holl denantiaid yn gyfartal.

Tenant unigol ac is-osodDan y model yma, mae'r landlord yn gosod yr holl gartref i un tenant yn unig (y 'tenant unigol') sydd wedyn yn is-osod ystafell, neu ystafelloedd, sbâr yn eu cartrefi i letywyr neu is-denantiaid 6. Y tenant unigol sy'n talu rhent i'r landlord ac mae pob lletywr yn talu rhent i'r tenant unigol, eu landlord yn ôl y gyfraith.

Yn gyffredinol mae gan denantiaid cyngor hawl i gymryd lletywyr, ac nid ydynt angen caniatâd gan eu landlord. Gall tenantiaid cymdeithasau tai a thenantiaid preifat fod â hawl i gymryd lletywyr, yn dibynnu ar yr hyn a nodir yn eu cytundeb tenantiaeth, ac yn aml byddent angen caniatâd eu landlord yn gyntaf, er bod canllawiau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol

6 Y prif wahaniaeth rhwng is-denant a lletywr yw fod bod is-denantiaid yn meddu o leiaf un ystafell hunain. Ni all neb fynd i mewn i'r llety yma heb eu caniatâd, tra gall y landlord (yr unig denant yn yr achos yma) fynd i mewn i ystafell lletywr, er enghraifft i lanhau'r ystafell neu newid y gwely.

27

Page 29: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

yn awgrymu na ddylid gwrthod hyn yn afresymol7. Canfu ymchwil a gynhaliwyd gyda landlordiaid cymdeithasol ar draws Prydain yn ymchwilio ymarfer landlordiaid yn y maes yma yng nghyswllt toriadau Budd-dal Tai ar gyfer tan-feddianwyr y byddai mwyafrif helaeth landlordiaid cymdeithasol yn caniatau i denantiaid is-osod, cyn belled â bod ganddynt ystafell sbâr (Canolfan Caergrawnt ar gyfer Ymchwil Tai a Chynllunio ac Ipsos MORI, 2014). Mae'r tenant unigol yn parhau'n llwyr gyfrifol am dalu rhent i'r landlord, ac yn gyfrifol yn ei dro am osod y lefel rhent newydd a chasglu'r rhent gan eu lletywyr. Gall hyn apelio at rai tenantiaid cymdeithasol sydd ag ystafell wely dros ben, ond nid yw'n fodel o dai a rennir y byddai landlordiaid cymdeithasol fel arfer yn mynd ati i'w sefydlu ar y dechrau.

Y fantais i'r tenant unigol yw eu bod yn cadw rheolaeth dros bwy sy'n byw yn eu cartref ac y gallant ddewis eu lletywyr. Fodd bynnag, gall fod nad oes gan y lletywyr unrhyw lais ar bwy arall sy'n lletya yn yr un eiddo. Hefyd ychydig iawn o sicrwydd sydd gan letywyr a gellir gofyn iddynt adael heb fawr iawn o rybudd. Mae lletywyr yn dibynnu ar i'r tenant unigol dalu eu rhent eu hunain ac os methant wneud hynny mae'r lletywyr hefyd yn debygol o golli eu cartref. Byddai tenant unigol na all fforddio talu'r rhent am yr holl eiddo hefyd yn dibynnu ar i'r lletywyr dalu rhent yn rheolaidd. Pe byddai lletywr yn gadael, rhywbeth y gallent ei wneud heb fawr o rybudd, byddai angen i'r tenant unigol ei hunan ddod o hyd i rywun arall i gymryd eu lle.

I landlordiaid, mantais y model yma yw bod y berthynas yn glir a gydag un tenant yn unig. Mae'n amlwg mai'r tenant unigol sydd yn gyfrifol am bethau fel hysbysu bod angen gwaith trwsio. Fodd bynnag, nid oes ganddynt fawr o reolaeth dros bwy y mae eu tenantiaid yn penderfynu is-osod iddynt.

Canfu cyfweliadau gyda rhanddeiliaid fod llawer o landlordiaid wedi ystyried mater tenantiaid yn cymryd lletywyr mewn ymateb i'r 'dreth ystafell gwely'. Dywedodd pob un ohonynt fod tenantiaid fel arfer yn cael caniatâd i gymryd lletywyr, ond teimlai'r rhan fwyaf nad oedd hyn yn rhywbeth y dymunent gymryd gormod o ran ynddo. Nid oedd unrhyw ddiddordeb mewn cynlluniau i baru tenantiaid sengl gyda phobl yn edrych am letywyr oherwydd nad oedd landlordiaid yn dymuno cymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod naill ai'r lletywyr na'r aelwydydd oedd yn eu derbyn yn cael eu rhoi mewn risg drwy leoliadau anaddas.

Rheoliadau am Dai Amlfeddiannaeth (HMO)Mae HMO yn derm technegol ar gyfer categorïau penodol o dai a rennir lle caiff tŷ neu fflat ei feddiannu gan oedolion heb fod yn perthyn i'w gilydd sy'n rhannu cyfleusterau. Caiff diffiniadau sylweddol wahanol eu defnyddio yng nghyswllt trwyddedu, cynllunio a deddfwriaeth treth gyngor.

Mewn termau trwyddedu, diffinnir HMO fel adeilad neu ran o adeilad (megis fflat) lle caiff cyfleusterau megis ystafelloedd ymolchi neu geginau eu rhannu gan dri neu fwy o bobl yn ffurfio dwy neu fwy o aelwydydd8. Ystyrir bod pobl sy'n perthyn neu sy'n byw fel cwpl yn ffurfio un aelwyd, ond bod oedolion nad ydynt yn perthyn yn ffurfio aelwydydd ar wahân.

7 Gweler www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284440/oft356.pdf

8 Caiff adeiladau a gafodd eu trosi'n fflatiau lle mae rhai fflatiau'n defnyddio cyfleusterau tu allan i'r prif ddrws blaen ond sy'n annibynnol ond nad ydynt yn cyflawni Rheoliadau Adeiladu 1991 ac y caiff mwy na thraean y fflatiau eu defnyddio dan denantiaethau tymor byrr, hefyd eu cyfrif fel HMO.

28

Page 30: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Mae rhai HMO angen trwydded gan yr awdurdod lleol:

Mae HMO angen trwydded orfodol gan yr awdurdod lleol os oes ganddynt dri neu fwy o loriau ac y cânt eu meddiannu gan bump neu fwy o bobl yn perthyn i ddwy neu fwy o aelwydydd.

Gall awdurdodau lleol ddewis gosod trwyddedau ychwanegol ar gategorïau eraill o HMO nad ydynt angen trwyddedau gorfodol. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cymeradwyaeth gyffredinol i holl awdurdodau Cymru i wneud hyn.

Fodd bynnag, caiff HMO a gaiff eu rheoli gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu heithrio rhag gorfod cael trwydded, ond maent yn parhau'n HMO ar gyfer diben y System Tai, Iechyd a Threthi yn delio gyda pheryglon.

Mewn termau cynllunio, caiff HMO bach gyda thri i chwech o bobl sy'n dod o fewn y diffiniad o HMO yn y Ddeddf Tai ei ddosbarthu fel Dosbarth C4, gyda HMO mwy mewn gwahanol gategori cynllunio. Er bod HMO mwy bob amser wedi bod angen caniatâd cynllunio, ers Chwefror 2016 mae'r HMO llai (dosbarth C4) hefyd wedi bod angen caniatâd yng Nghymru. Gan y caiff cartrefi y mae landlordiaid cymdeithasol yn berchen arnynt eu heithrio rhag cael eu hystyried yn HMO, cânt hefyd eu heithrio rhag bod angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, ar gyfer landlordiaid preifat mae'r rheolau newydd wedi arwain at bryderon y gall ddod yn anos i landlordiaid gynnig y math yma o lety9 Caiff eiddo a feddiannir gan ddim ond dau denantiaid heb fod yn perthyn i'w gilydd (heb fod yn gwpl) eu heithrio rhag bod yn HMO ond fodd bynnag byddent yn dod o fewn y cwmpas pe byddai un o'r tenantiaid yn cael babi, gan achosi i nifer o bobl yn yr eiddo godi i dri. Gallai fod na fyddai gan landlord a oedd yn anfodlon neu'n methu cael caniatâd cynllunio ôl-weithredol mewn sefyllfa o'r fath unrhyw opsiwn heblaw dadfeddiannu un o'r tenantiaid. Yn Lloegr, yn wahanol, mae gan awdurdodau lleol y pŵer i benderfynu os oes angen caniatâd i newid defnydd eiddo i HMO bach (Dosbarth C4).

Ar gyfer dibenion y dreth gyngor, fel arfer caiff HMO eu diffinio fel eiddo lle mae aelwydydd ar wahân o fewn yr eiddo yn dal tenantiaethau ar wahân. Byddai dau denant yn rhannu fflat dwy ystafell wely gyda thenantiaethau ar wahân felly yn cael eu cyfrif fel HMO ar gyfer dibenion treth gyngor, hyd yn oed er nad yw'r eiddo yn diwallu'r meini prawf ar gyfer bod yn HMO ar gyfer unrhyw ddibenion eraill. Y landlord sy'n atebol am y dreth gyngor yn yr amgylchiadau hyn.

Canfu'r cyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol nad oedd llawer yn gwybod am ddeddfwriaeth HMO a'i hoblygiadau posibl iddynt wrth ddatblygu tai a rennir. Roedd gan y rhai oedd wedi datblygu mwy ar eu cynlluniau ar gyfer tai a rennir well dealltwriaeth o'r materion a theimlent fod y ddeddfwriaeth cynllunio newydd yn rhwystr ddifrifol i ddatblygu tai a rennir:

Mae'r gofynion newid defnydd a dosbarth newydd ar gyfer HMO yn drychineb. Mae'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc er gwaethaf bwriadau da. (Rhanddeiliad)

Roedd rhai'n cael eu hatal rhag datblygu nes y byddai ganddynt ddealltwriaeth well o ddeddfwriaeth trwyddedu HMO fyddai'n effeithio arnynt a chostau cydymffurfio.

Mae gennym anawsterau am ddiogelwch tân felly byddwn yn dechrau gydag un eiddo a'i wneud yn iawn.

9 Gweler er enghraifft www.rla.wales/policies-news/new-hmo-rules-in-wales

29

Page 31: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Mae gosod sbrincleri yn gost ychwanegol a chredwn fod hynny'n defnyddio gordd i hollti cneuen. Mae'r pethau hyn yn cynyddu costau.

Byddai angen i ni sicrhau fod ffordd dda o ddianc - byddai angen i ni fuddsoddi symiau sylweddol i gyflawni'r safonau hyn. Neu gallai fod yn syml, o bosibl. (Rhanddeiliaid)

Roedd eraill eisiau cadw eu tai a rennir i ddim ond dau denant yn rhannu, er mwyn osgoi deddfwriaeth HMO:

Rydym wedi cadw tai ar ddau o bobl er mwyn cadw dan reolau HMO, hyd yn oed er y byddai hynny'n golygu fod yn rhaid i ni chwalu wal i'w cadw'n rhai dwy ystafell wely. (Rhanddeiliad)

Rhwymedigaeth treth cyngor a chymorthdal Treth GyngorMae'r rhan fwyaf o denantiaid yn gyfrifol am eu bil treth gyngor eu hunain ac am hawlio unrhyw gymorthdal treth gyngor y mae ganddynt hawl iddo, ac mae hyn cynnwys rhai sy'n rhannu sydd â thenantiaeth ar y cyd. Fodd bynnag, caiff tai a rennir lle mae gan y tenantiaid gytundebau tenantiaeth ar wahân eu cyfrif fel HMO ar gyfer dibenion treth gyngor a'r landlord sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor. Yn yr amgylchiadau hyn ni all y tenantiaid hawlio cymhorthdal treth gyngor, er y gall y landlord gynnwys costau treth gyngor yn y rhent, a all wedyn gael ei gynnwys yn y Budd-dal Tai. Mae Crisis wedi cynhyrchu dalen ffeithiau sy'n esbonio'r sefyllfa a anelwyd at gynlluniau'n gweithio gyda landlordiaid preifat10.

Mae treth gyngor band D yn 2015-16 yn £1,328 ar gyfartaledd11. Pe rhennid hyn rhwng tri tenant yn rhannu tŷ byddai'n ychwanegu £8.51 i'r rhent wythnosol y byddai angen i landlord ei godi ar bob tenant. Gall hyn o bosibl ddod o fewn Budd-dal Tai, ond byddai'r capiau arfaethedig ar LHA yn weithredol ar gyfanswm y Budd-dal Tai a delid (yn cynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau'r dreth gyngor).

Caiff cynlluniau cymhorthdal treth gyngor eu cynllunio'n lleol ond mae rhai cyfyngiadau cyffredinol ar gymhwyster, gydag un ohonynt yn nodi mai dim ond ar gyfer eiddo y maent yn byw ynddo y gall pobl dderbyn cymhorthdal treth gyngor. Felly ni all awdurdod dalu cymhorthdal treth gyngor i landlord sy'n atebol am dreth gyngor ar ran unrhyw un o'u tenantiaid. Ni all y tenantiaid hyn ychwaith dderbyn cymhorthdal treth gyngor, oherwydd nad ydynt eu hunain yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Fodd bynnag gellid defnyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn yr amgylchiadau hyn i ychwanegu at daliadau Budd-dal Tai sy'n annigonol i dalu am y rhent.

Nid yw'r broblem yma'n codi gyda thai lle mae pawb sy'n byw ynddynt yn fyfyrwyr gan eu bod nhw - fel anheddau - wedi eu heithrio o'r dreth gyngor, p'un ai oes gan y myfyrwyr denantiaethau ar y cyd neu denantiaethau unigol.

Nid oedd y rhan fwyaf o staff cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a gyfwelwyd yn ymddangos i fod yn gwybod llawer am atebolrwydd treth gyngor ar gyfer tai a rennir. Roedd rhai yn ystyried trosi tai dwy ystafell wely i letya dau yn rhannu ar denantiaethau ar wahân a byddai hyn yn golygu nad oedd y tŷ yn HMO, ac felly'n credu (yn anghywir) mai'r tenantiaid

10 www.crisis.org.uk/data/files/Private_Rented_Sector/Council_Tax_Factsheet_24.02.2016.pdf?utm_source=Adestra&utm_medium=email&utm_term=&utm_content=factsheet%C2%A0explaining%20liability&utm_campaign=Sharers%27%20update%20March%20201611 http://gov.wales/statistics-and-research/council-tax-levels/?lang=en

30

Page 32: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

fyddai'n atebol am y dreth gyngor. Nid yw cartrefi a osodir i ddau denant ar denantiaethau ar wahân yn HMO mewn telerau cynllunio, nac o ran trwyddedu, ond maent yn cael eu cyfrif fel HMO yn nhermau atebolrwydd treth gyngor.

Yr unig ffordd i osgoi atebolrwydd treth gyngor rhag disgyn ar landlord, ac i alluogi tenantiaid incwm isel i hawlio cymhorthdal treth gyngor, yw gosod annedd gyfan ar denantiaeth ar y cyd, ond nid yw'n ymddangos bod llawer yn deall hyn.

Dim ond oedd ôl-ddyledion o dros £5,000 o dreth gyngor wedi grynhoi y canfuwyd hyn mewn un cynllun, a sefydlwyd gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, oherwydd nad oedd y landlord wedi sylweddoli eu bod yn atebol amdano. Nid oedd cynnwys y dreth gyngor o fewn y rhent yn rhywbeth yr oedd yn y gyllideb ar gyfer y cynllun, ac mae'n anodd codi rhenti yn nes ymlaen o fewn tai cymdeithasol gan y caiff cynnydd rhent eu rheoleiddio12.

Rheoliadau adeiladu a safonau gofodCododd rhai rhanddeiliaid fater gofynion ansawdd a safonau gofod a theimlent fod y rhain yn codi costau datblygu tai newydd addas ar gyfer tai a rennir. Soniwyd am faterion megis sicrhau nad oedd tro mewn grisiau yn enghreifftiau o ddeddfwriaeth a allai fod yn anaddas i ddatlbygu tai a rennir ar gyfer pobl ifanc, yn hytrach na 'chartrefi oes' i deuluoedd.

Tai a rennir ar draws pob daliadaeth: Dysgu o'r sector rhent preifat

Cymharol ychydig sy'n hysbys am arfer da mewn rheoli tai a rennir yn y sector cymdeithasol oherwydd mai ychydig o ddiddordeb a fu mewn degawdau diweddar. Fodd bynnag, mae peth profiad ar gael o'r sector rhrent preifat, yn arbennig cynlluniau sy'n anelu i gynyddu mynediad i grwpiau a allai fel arall obeithio cael mynediad i dai cymdeithasol. Gall hwyluso mynediad i'r sector rhent preifat ynddo'i hun fod yn rhan o'r datrysiad ar gyfer pobl ifanc a gyfyngwyd i gyfradd llety a rennir LHA.

Mae'r sector rhent preifat wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae bron dair o bob pedair aelwyd heb blant sy'n rhentu eu cartref yn byw yn y sector rhent preifat, gyda dim ond chwarter mewn tai rhent cymdeithasol 13. Bu dibyniaeth gynyddol ar y sector rhent preifat i ddarparu ar gyfer aelwydydd incwm isel na all gael mynediad i dai cymdeithasol a bu rheolau LHA yn cyfyngu pobl ifanc dan 35 oed i'r gyfradd ystafell sengl mewn grym ers 1996 ar gyfer rhai dan 25 ac ers 2012 ar gyfer grŵp oedran 25-35 (Wilson, 2014). Mae hyn yn golygu fod gan y sector rhent preifat brofiad sylweddol mewn lletya pobl ifanc, yn cynnwys rhai sydd wedi eu cyfyngu i gyfradd LHA tai a rennir. Dengys data'r Adran Gwath a Phensiynau ar bobl sengl dan 35 oed sy'n derbyn Budd-dal Tai fod 38 y cant o hawlwyr o'r fath yn byw yn y sector rhent preifat gyda thri chwarter ohonynt wedi eu cyfyngu i gyfradd LHA tai a rennnir (Tachwedd 2015, drwy Statxplore).

12 http://gov.wales/docs/desh/publications/150216-policy-for-social-housing-rents-en.pdf13 Roedd 74 y cant o aelwydydd yn rhentu gyda rhywun 35 oed yn bennaeth arnynt heb unrhyw blant dan 16 oed yn yr aelwyd yn rhentu gan landlord, o gymharu gyda 27 y cant oedd yn rentu gan landlord cymdeithasol.

31

Page 33: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Mae adroddiad diweddar gan Crisis (Batty et al, 2015) yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer cynlluniau sy'n anelu i gynorthwyo tenantiaid i gael mynediad i'r sector rhent preifat, sy'n debygol o fod o ddefnydd i landlordiaid cymdeithasol.

Ymestyn y defnydd o fflatiau hyfforddi, gydag asesiad manwl ymlaen llaw o'r cleient, hyfforddiant gorfodol a chyswllt rheolaidd gyda gweithiwr cefnogaeth. Dylid hyrwyddo hyfforddiant cyn-tenantiaeth a sicrhau fod cyrsiau'n ystyried materion yn ymwneud â tai a rennir.

Darparu enghreifftiau ymarferol o enillion ariannol posibl i landlordiaid osod ar y gyfradd tai a rennir, yn hytach nag unedau annibynnol.

Datblygu cynlluniau 'prif denant' gyda chymhellion priodol, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes fawr o ddiwylliant o rannu.

Sefydlu rhannu rhwng niferoedd bach o denantiaid, gan osgoi amgylcheddau mawr tebyg i hostel.

Annog lletya mewn tai cymdeithasol, ynghyd â recriwtio egniol am denantiaid i dderbyn lletywyr a chytundebau ysgrifenedig ar gyfer lletywyr.

Cynnwys biliau mewn un taliad rhent, gan ei gwneud yn haws i denantiaid drin eu harian.

Cefnogi tenantiaid yn eu cartrefi eu hunain, lle bo angen, yn hytrach na disgwyl iddynt fynd i swyddfa a datblygu cynlluniau mentor cymheiriaid megis yr un a gafodd ei dreialu gan The Crisis Housing Coach Service.

Cynnal 'gwiriad iechyd' o denantiaethau tai a rennir o leiaf unwaith bob dau fis.

Cyflogi glanhawr ar gyfer ardaloedd cymunol i helpu atal anghydweld am gyfrifoldebau glanhau ac i cadw'r eiddo mewn cyflwr da.

Barn pobl ifanc am dai a rennir

Aeth yr arolwg ati i archwilio'r hyn y mae pobl ifanc yng Nghymru ei eisiau o'u cartref ac yn neilltuol sut y gallai tai a rennir ddiwallu eu hanghenion a'u dewisiadau. Gofynnwyd i bobl am y sefyllfa fyw fyddai orau ganddynt (Ffigur 2):

Ffigur 2: Sefyllfa fyw fyddai orau gan bobl ifanc 18-35 oed yng Nghymru

32

Page 34: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus)

Fel y gwelir, dim ond i chwech y cant o bobl ifanc yr oedd tai a rennir yr opsiwn oedd orau gynddynt. Caiff sefyllfaoedd byw cyfredol pobl ifanc a'r rhai fyddai orau ganddynt ei ddangos yn Nhabl 9.

Tabl 7: Sefyllfa fyw gyfredol a'r sefyllfa fyw fyddai orau gan bobl ifanc yng Nghymru

Sefyllfa fyw gyfredol Cyfran y rhai mai hwn yw'r datrysiad byw fyddai orau ganddynt

Sefyllfa fyw fyddai orau gan y rhai nad ydynt mewn y sefyllfa fyw fyddai orau ganddynt

Gyda rhiant/rhieni (31%) 50% Uned annibynnol gyda phartner (38%)

Uned annibynnol ar ben eu hunain (33%)

Tai a rennir (21%)

Mewn tai a rennir(13%) 19% Uned annibynnol ar ben eu hunain (56%)

Uned annibynnol gyda phartner (19%)

Gyda rhieni (19%)

Mewn uned annibynnol: ar ben eu hun

74% *

Mewn uned annibynnol: gyda phartner (dim plant) (21%)

89% *

Mewn uned annibynnol (gyda partner a phlant (22%)

94% *

Mewn uned annibynnol: gyda phlant (dim oedolion eraill (3%)

92% *

33

Page 35: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Mewn rhyw fath arall o aelwyd (2%) 29% *

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus). *Cyfrif cell bach, llai na 5 ymateb

Gofynnwyd i'r rhai nad oedd yn byw yn y sefyllfa fyw fyddai orau ganddynt pam felly a dangosir yr ymatebion yn Nhabl 10. Dangoswyd union nifer yr ymtebion yma (wedi eu pwysoli) oherwydd bod y rhifau'n eithaf isel ar gyfer rhai opsiynau.

Tabl 10: Y sefyllfaoedd byw fyddai orau gan bobl ifanc yng Nghymru a'r rhesymau pam nad ydynt yn y sefyllfaoedd byw fyddai orau ganddynt

Sefyllfa fyw fyddai orau ganddynt

Rheswm pam nad ydynt yn y sefyllfa fyw fyddai orau ganddyntDiffyg tai addas yn yr ardal

Methu byw gyda rhieni - diffyg lle

Methu byw gyda rhieni - gwrth-daro teuluol

Diffyg incwm

Budd-dal ddim digon i dalu'r rhent

Cyfun-iad o'r uchod

Arall

Gyda rhiant/rhieni 0 3 0 * * 4 6

Mewn tŷ a rennir 0 * * 9 0 0 4

Mewn uned annibynnol: Ar ben eich hun

2 * * 28 1 15 3

Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner (dim plant)

0 * * 20 0 9 9

Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner a phlant

2 * * 4 0 1 5

Mewn uned annibynnol: Gyda'ch plant (dim oedolion arall)

0 * * 1 0 1 1

Mewn rhyw fath arall o aelwyd

0 * * 2 1 0 1

Ffynhonnell: Arolwg o bobl ifanc (18-34 oed yng Nghymru, Ebrilli 20916. Sylfaen = pawb nad ydynt yn y sefyllfa fyw fyddai orau ganddynt. n=131 (Populus)

O'r rhai yn byw mewn tai a rennir fyddai'n well ganddynt fod mewn opsiynau eraill, soniodd y rhan fwyaf am ddiffyg incwm dros ben fel y prif reswm pam eu bod yn methu byw'n annibynnol. Soniodd y rhai sy'n byw gyda'u rhieni y byddai'n well ganddynt fod yn byw mewn tŷ a rennir am yr un rheswm. Roedd y rhesymau eraill yn cynnwys bod mewn sefylfla a welir fel un dros dro - megis bod yn fyfyriwr neu gynilo ar gyfer symud - yn ogystal â ffactorau nad oedd yn gysylltiedig â thai, megis peidio bod â phartner i fyw gydag ef/hi neu fod yn methu cael plant.

Gofynnwyd wedyn i ymatebwyr p'un ai oeddent yn cytuno neu'n anghytuno gyda'r datganiad fod tai a rennir yn rhoi datrysiad tai da ar gyfer pobl ifanc sengl yng Nghymru. Drwyddi draw,

34

Page 36: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

roedd y mwyafrif helaeth un ai'n cytuno'n gryf (27 y cant) neu'n cytuno ychydig (46 y cant). Dim ond 11 y cant o bobl ifanc a anghytunai gyda'r datganiad (Ffigur 3).

Ffigur 3: Cytuno bod 'Tai a rennir yn ddatrysiad tai da ar gyfer pobl ifanc sengl yng Nghymru'

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus).

Roedd ymatebwyr yr un mor gadarnhaol mewn ardaloedd lle mae tai a rennir yn llai cyffredin, megis yn y Cymoedd. Fodd bynnag, roedd dynion yn sylweddol fwy tebygol o fod yn gadarnhaol am dai a rennir na menywod, a phobl iau yn fwy cadarnhaol na phobl hŷn gyda'r grŵp oedran 30-35 y lleiaf cadarnhaol.

Cynigiodd yr ymatebion i'r arolwg a'r grwpiau ffocws beth gwybodaeth bellach am y rheswm dros hyn. Teimlai rhai o'r ymatebwyr iau fod tŷ a rennir yn gam cadarnhaol a chyffrous allan o gartref eu rhieni:

Mae'n eich dysgu am fyw ar ben eich hun - i ddelio gyda'r dyfodol. (Aelod o grŵp ffocws)

O gymharu, roedd rhai mewn grwpiau oedran hŷn yn llai cadarnhaol ac yn teimlo nad oedd mwyach yn addas ar gyfer eu hamser bywyd:

Rwyf wedi troi'n ddeg ar hugain ac wedi byw'n annibynnol ers oeddwn yn 18 ... erbyn yr oedran hwnnw dydych chi ddim berson yn eich arddegau ddim mwy. (Aelod o grŵp ffocws)

Roeddwn yn teimlo mod i wedi tyfu allan ohono. Mae'r hyn dwi'n ei ystyried yn lefel ddigonol o lanweithdra yn wahanol i un yr holl bobl rydw i wedi rhannu gyda nhw erioed. (Ymatebydd i arolwg)

35

Page 37: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Rwy'n credu fod tai a rennir yn well ar gyfer pobl yn eu harddegau/ugeiniau cynnar. Mae pobl mwy aeddfed angen eu lle ei hunain. (Ymatebydd i aroilwg)

Nid oedd cyswllt ystadegol arwyddocaol rhwng sylwadau ar dai a rennir a ph'un ai oedd pobl yn byw mewn tai a rennir ai peidio, oherwydd eu bod wedi byw mewn tai a rennir erioed, incwm neu dderbyn Budd-dal Tai.

Gofynnwyd iddynt hefyd os oedd ganddynt unrhyw sylwadau eraill am dai a rennir ar gyfer pobl ifanc sengl dan 35 oed yng Nghymru. Dangosir y prif atebion islaw (Tabl 11):

Tabl 8: Sylwadau eraill am dai a rennir

Mater a godwyd Nifer a gododd y mater

Sylwadau niwtral

Dibynnu ar bwy sy'n byw gyda chi/ iawn gyda chyd-letywyr da/ gwael gyda chyd-letywyr gwael

10

Addas ar ryw bwynt mewn bywyd/ mewn rhai amgylchiadau / addas ar gyfer pobl ifanc 6

Mathau eraill o gartref yn rhy ddrud/ rhy ddrud i brynu/ rhent yn rhy uchel 5

Dylai fod yn haws canfod tai a rennir / dylai gael ei hysbysebu'n well 5

Diffyg tai a rennir / dim digon ar gael 3

Dibynnu / gallai fod yn opsiwn / gallai weithio yn dibynnu ar amgylchiadau / y person / dylid ei ystyried yn ofalus

3

Mae angen i'r tŷ fod yn addas / y maint cywir / y cyfleusterau cywir 3

Angen cynnal gwiriadau / cyfarfodydd gyda chyd-letywyr presennol / gwiriadau cefndir / tystiolaeth o gyfathrebu

2

Sylwadau niwtral eraill 5

Sylwadau negyddol

Mae'n beth gwael/ syniad gwael/ ni ddylai pobl orfod ei wneud 6

Dylai fod mwy o ddewis / opsiynau eraill / ni ddylai fod yr unig opsiwn ar gyfer pobl 5

Problemau gyda landlordiaid / dim yn cynnal a chadw / gofalu am eiddo 5

Tai ansawdd gwael / tai rhannu / eiddo'n aml mewn cyflwr gwael 4

Dim yn ei hoffi / fyddwn i ddim eisiau gorfod ei wneud 3

Anaddas ar gyfer llawer o bobl / amgylchedd anodd / ni fyddai llawer o bobl yn ei hoffi 3

Problemau am ddiogelwch / dim yn gwybod gyda phwy rydych yn byw / gallai pobl fod â chefndir troseddol, defnyddwyr cyffuriau ac ati

3

Cyd-letywyr gwael / anaddas / gwahanol flaenoriaethau / arferion / personoliaethau/ gwerthoedd

3

Angen llety mwy fforddiadwy 3

Mae'n ddrud / rhy ddrud / gwerth da am arian 2

36

Page 38: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Anaddas ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl / iselder / pryder 2

Sylwadau negyddol eraill 6

Dim sylw 328

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus)

Rhoddodd rhai pobl ifanc sylwadau negyddol am dai a rennir, yn bennaf na ddylai pobl gael eu gorfodi i rannu a'u bod yn ei gysylltu gyda thai mewn cyflwr gwael neu oedd yn cael eu cynnal a chadw yn wael. Roedd barn pobl eraill yn fwy cymysg a dywedent y teimlent y gallai weitho gyda'r cyd-letywyr iawn ar yr adeg iawn mewn bywyd.

Beth sy'n gwneud tai a rennir yn ddeniadol?Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i ymatebwyr i'r arolwg am ba ffactorau fyddai'n gwneud tai a rennir yn fwy neu llai deniadol iddynt, neu a fyddai wedi gwneud pe byddent yn sengl a heb blant.

Ffigur 4: Nodweddion sy'n gwneud tai a rennir yn fwy neu lai deniadol

Ffynhonnell: Arolwg pobl ifanc (18-34) oed yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus)

Y ffactorau pwysicaf i wneud tai a rennir yn ddeniadol i bobl ifanc oedd cael biliau a'r dreth gyngor wedi'i gynnwys yn y rhent, cael mwy nag un ystafell ymolchi a gallu dewis gyda phwy roeddent yn byw.

Cadarnhaodd y grwpiau ffocws y gwrthdaro ym mlaenoriaethau tenantiaid - roeddent yn hoffi tenantiaethau ar wahân a biliau'n cael eu cynnwys yn y rhent, ond roeddent hefyd eisiau llais ym mhwy oedd yn byw gyda nhw. Caiff y materion yn ymwneud â dyraniadau a dewis cyd-letywyr ei drafod yn nes ymlaen yn yr adroddiad yma.

37

Page 39: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Roedd y bobl ifanc a arolygwyd yn gyffredinol gadarnhaol am rannu gyda dim ond un neu ddau arall a chafodd y farn yma ei chefnogi i raddau helaeth gan y rhai yn y grwpiau ffocws a gan landlordiaid cymdeithasol. Ychydig iawn o awydd oedd ymysg y cynrychiolwyr o'r sector tai cymdeithasol a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil yma dros gynnig HMO mawr gyda phedwar neu fwy o denantiaid, gan y credid eu bod yn anos eu rheoli. Anaml hefyd mae maint y stoc tai cymdeithasol yn addas ar gyfer darpariaeth yn fath. Yn hytrach, roedd y rhai oedd yn ystyried tai a rennir yn edrych un ai ar ddau o bobl yn rhannu, neu uchafswm o dri, ac nid oedd unrhyw ddiddordeb mewn prynu neu adeiladu eiddo mawr oedd yn addas ar gyfer grwpiau mwy yn rhannu. Roedd argaeledd eiddo dwy a thair ystafell a oedd weithiau yn gymharol anodd eu gosod oherwydd effaith y galw ar y toriadau i Fudd-dal Tai ar gyfer tan-ddefnyddwyr (y 'dreth ystafelloedd gwely') yn dylanwadu ar landlordiaid, ar rai achlysuron.

Roedd pobl ifanc hefyd yn fwy cadarnhaol am dai a rennir os oedd mwy nag un ystafell wely, os oedd nodweddion diogelwch megis cloeon ar ystafelleodd gwely a chypyrddau cegin (Ffigur 4). Roedd ychydig o rai a gyfwelwyd yn ystyried p'un ai y gallai rai a rennir gynnwys ystafelloedd ymolchi en-suite, yn yr un modd â llawer o lety myfyrwyr. Soniodd y rhai gyda phrofiad o reoli tai a rennir yn gyffredinol fod ceginau yn ffynhonnell mwy o wrthdaro rhwng tenantiaid nag ystafelloedd ymolchi, a chytunodd aelodau grwpiau ffocws gyda'r farn yma'n gyffredinol, gyda rhai yn dweud y byddai cael peth offer cegin (megis oergell) yn eu hystafelloedd eu hunain yn helpu i ostwng y potensial ar gyfer anghydfod.

Roedd hefyd gefnogaeth gref dros gynnal gwiriadau cefndir ar gyd-letywyr. Roedd pobl ifanc yn llai sicr y byddent yn hoffi rhannu ystafell eistedd, er ei bod yn aneglur os oeddent yn meddwl am eu eu hystafell eistedd eu hunain, neu ddim ystafell eistedd o gwbl. Roedd aelodau grwpiau ffocws yn gyffredinol yn gadarnhaol iawn am rannu ystafell eistedd, gan ddweud fod hynny'n rhoi cyfle i denantiaid gymdeithasu ac y gallent wneud tai a rennir yn brofiad cadarnhaol.

Gofynnwyd cwestiwn agored i ymatebwyr yr arolwg am p'un ai oedd unrhyw nodweddion eraill a fyddai'n gwneud tai a rennir yn fwy deniadol iddynt (Tabl 12).

Tabl 12: Nodweddion eraill a fyddai'n gwneud tai a rennir yn fwy deniadol

Mater a godwyd Nifer a gododd y mater

Cyfleusterau en-suite/ystafell ymolchi bersonol 24

Cost y rhent/fforddiadwy/rhatach 13

Lleoliad da/ardal dda 11

Ardaloedd cymunol yn ddigon mawr ar gyfer nifer y tenantiaid / cegin / ystafell fyw/ ystafell ymolchi

6

Byw gyda phobl yr ydych yn eu hadnabod yn barod 6

Landlord da/ teg/ cyfeillgar / rhwydd cysylltu ag ef/hi / gweithredu ar geisiadau 6

Cyd-letywyr tebyg i chi / diddordebau / gwerthoedd / personoliaeth / ffordd o fyw / bywyd gwaith

6

Cyd-letywyr o'r un rhyw â chi 5

38

Page 40: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Cyfleusterau / rhyngrwyd / trwydded deledu am ddim 5

Tai ansawdd da / sicrhau ei fod o safon dda 4

Cloeon ar ddrysau ystafelloedd gwely 4

Bod yng ngofal pwy sy'n cymryd yr ystafelloedd eraill / medru dewis eich cyd-letywyr 4

Gardd 4

Eiddo mwy / mwy o ystafelloedd 3

Cyfleusterau parcio 3

Cynnwys biliau / biliau ynni 3

 pherson glanhau 3

Eich ystafell fyw eich hun 2

Cyfeillgarwch / cwmni pobl eraill 2

Gwiriadau cefndir/credyd ar gyd-letywyr 2

Digon o le i gadw bwyd a diod / oergell fawr / cwpwrdd 2

Contractau tymor byr / heb gloi i gontract hirdymor 2

Cymysgedd o denantiaid / oedran / rhyw 2

Cwrdd â chyd-letywyr cyn eich bod chi/nhw yn symud i mewn 2

Ystafelloedd gwely mwy / ystafelloedd dwbl 2

System ddiogelwch dda 2

Cloeon ar ofod storio arall 2

Addurno / addasu / adnewyddu i'ch chwaeth 2

Sicrhau y caiff pob bil eu talu / eu talu'n deg / cyfartal / neb yn gorfod gadael biliau pobl eraill

2

Atebion eraill 17

Ffynhonnell: Arolwg o bobl ifanc (18-34 oed) yng Nghymru, Ebrill 2016, n=401 (Populus)

Cael en-suite neu o leiaf ystafell ymolchi bersonol oedd y nodwedd y soniwyd amdani amlaf, gyda phris a lleoliad hefyd yn faterion allweddol a allai wneud i bobl ifanc ddewis tai a rannir.

Materion ar gyfer tenantiaid agored i niwedUn mater a godwyd yn aml yn yr ymchwil yma oedd yr anawsterau mwy a brofwyd gan denantiaid agored i niwed yn byw mewn tai a rennir. Dangosodd ymchwil bresenol hefyd y gall tenantiaid ddioddef os yw ymddygiad eu cyd-letywyr yn anodd, gyda sôn am broblemau troseddu, lladrad a thrais (Rugg, 2008; Shelter Scotland, 2009; Rugg, et all., 2001). Gall pobl sy'n dioddef o afiechyd meddwl fod yn agored i fwy o anawsterau mewn byw'n llwyddiannus mewn tai a rennir (Barratt, et al., 2012).

Soniodd y rhai a gyfwelwyd ar gyfer ymchwil yma am bryderon am amrywiaeth o grwpiau y credent eu bod yn debygol o brofi anawsterau neilltuol mewn tai a rennir. Mae hyn yn cynnwys:

39

Page 41: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Menywod yn ffoi rhag trais domestig a phobl ifanc sy'n profi trais o fewn cartref y rhieni sy'n neilltuol o ofnus o ddieithriaid ac yn bryderus am ddiogelwch o fewn y cartref

Rhai sy'n defnyddio cyffuriau ac anterthi cyfreithlon, y gwyddys eu bod yn broblem mewn rhai prosiectau tai â chymorth, a rhai gyda phroblemau alcohol. Gall tenantiaid rannu cyffuriau, gan achosi tenantiaid eraill i ddechrau cymryd cyffuriau, a gall defnyddwyr cyffuriau hefyd brofi llawer o ddicter pan fydd effaith cyffuriau yn dod i ben, gan arwain at drais tuag at denantiaid eraill.

Rhai gyda phroblemau iechyd meddwl - awgrymodd astudiaeth ddiweddar gan un darparydd tai â chymorth fod gan 86 y cant o'u tenantiaid broblem iechyd meddwl y medrid ei diagnosio, yn cynnwys anhwylder straen ôl-trawmatig yn aml o drawma plentyndod, er nad oedd y rhan fwyaf wedi cael diagnosis neu mewn cyswllt â gwasanaethau cefnogaeth addas.

Pobl gydag anawsterau dysgu ac awtistiaeth. Tenantiaid ifanc iawn yn eu harddegau hwyr sy'n brin o'r sgiliau i ymdopi gyda thai a

rennir. Troseddwyr Atodlen 1, a throseddwyr yn fwy cyffredinol sy'n achosi risg i oedolion.

Mae rhai o'r grwpiau hyn yn debygol o gael tai a rennir yn neilltuol o anodd tra gall eraill fod yn achosi risg i gyd-letywyr eraill. Gall rhai achosi risgiau i eraill a bod mewn risg eu hunain. Gall cefnogaeth helpu rhai tenantiaid agored i niwed i ymdopi gyda thai a rennir, ond i eraill gall lefelau'r gefnogaeth maent ei hangen fod yn uwch os ydynt mewn tai a rennir.

Cafodd y materion hyn hefyd eu codi gan denantiaid yn y grwpiau ffocws, gyda llawer ohonynt â phrofiadau o gynlluniau tai â chymorth lle'r oedd tenantiaid yn agored i niwed mewn gwahanol ffyrdd a gwahanol broblemau. Roedd pobl ifanc yn bryderus am y posibilrwydd o fyw gyda phobl yr oeddent yn eu hofni. Soniodd nifer lai o bobl ifanc am ochr gadarnhaol rhannu llety yn nhermau cael cefnogaeth anffurfiol gan gyd-letywyr.

Tai a rennir yn y sector cymdeithasol

Cymharol ychydig o dai a rennir sydd yn y sector cymdeithasol, ond mae enghreifftiau o gynlluniau blaengar sy'n cyfuno dyletswyddau landlord cymdeithasol gyda gofynion rheolaeth penodol y math hwn o dai.

Gall rhai landlordiaid sydd yn berchen ar stoc sy'n addas i'w ddefnyddio fel tai a rennir fod heb y sgiliau rheoli neu'r galluedd i reoli tai o'r fath. Mae trefniadau lle ceir rheolaeth tenantiaeth gan ddarparwyr eraill, neu lle caiff y sector ar les gan wahanol landlord hefyd yn cynnig potensial ar gyfer tai a rennir o fewn y sector tai cymdeithasol.

Ni fu datblygu tai a rennir yn y sector rhent cymdeithasol yn thema gref yng Nghymru hyd yma, nac ychwaith ar draws y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae'n faes o ddiddordeb cynyddol ac fe wnaeth cynllun cyllido gan DCLG yn Lloegr ymchwilio modelau a ddefnyddir yn bennaf yn y sector rhent cymdeithasol, ond yn cynnwys rhai o fewn tai cymdeithasol (Barry, et al., 2015). Mae nifer o amrywiadau ar y modelau tenantiaeth craidd (tenantiaethau sengl yn erbyn cyd-denantiaeth) neu sy'n anelu i gyfuno elfennau o fwy nag un model (megis galluogi tenantiaid i gael cyfrifon rhent ar wahân, ond hefyd ryw ddewis dros gyd-letywyr newydd).

40

Page 42: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Enghreifftiau blaengarMae enghreifftiau o arfer da ar draws y Deyrnas Unedig lle mae darparwyr tai cymdeithasol wedi llwyddo i ddarparu tai â rhennir ar gyfer pobl ifanc sengl. Mae hyn yn cynnwys:

- Cynllun prif denant - lle mae materion cymdeithasau tai yn rhoi tenantiaethau ar wahân ond yn enwebu un tenant i fod y prif denant, gan olygu eu bod yn gyfrifol am gydlynu gyda'r landlord am atgyweiriadau ac unrhyw faterion eraill yn y tŷ. Gall y prif denant gael gostyngiad yn eu rhent i gydnabod y rôl yma. Er enghraifft gweler cynllun landlord cymheiriad Commonweal. Dangoswyd fod cynlluniau o'r fath yn galluogi gwell cyfathrebu rhwng y rhai sy'n rhannu a landlordiaid (Batty, et al., 2015).

- Cynllun prif denant cefnogol - lle mae'r prif denant hefyd yn cynnig rhywfaint o gefnogaeth yn ogystal â sicrhau fod y tŷ yn rhedeg yn llyfn a chydlynu gyda'r landlord. Gallai hyn fod i ddiwallu anghenion pobl ifanc agored i niwed megis ymadawyr gofal. Gall y prif denant yn yr amgylchiadau hyn dderbyn tâl neu gael llety am ddim i gydnabod eu rôl, Er enghraifft, Ymddiriedolaeth Rock. Mae adroddiad Crisis yn amlygu gwerth y math yma o gynllun, ond mae'n nodi pwysigrwydd recriwtio'r bobl gywir gyda'r sgiliau a'r wybodaeth gywir iddo fod yn llwyddiannus, yn arbennig pan mae gwirfoddolwyr wedi symud o rôl y 'cleient' i 'ddarparydd cyngor'’ (Batty, et al., 2015).

- Tai a rennir a sefydlir i ddiwallu anghenion rhieni heb fod yn breswyl - lle caiff llety ei gyflunio i roi gofod i blant sy'n ymweld. Er enghraifft gweler CAB a WHABAC yng Nghaerwrangon/Worcester. Mae adroddiad Crisis (Batty, et al, 2015) yn nodi prinder llety o'r fath, er ei werth mewn galluogi rhieni nad ydynt yn breswyl (tadau yn aml) i gadw cyswllt eu plant dros gyfnod anodd.

- Cynlluniau i alluogi rhywfaint o ddewis i denantiaid am eu cyd-letywyr - lle mae cymdeithas tai yn cynnig tenantiaethau ar wahân o fewn tai a rennir, ond yn rhoi rhywfaint o ddewis i denantiaid am eu cyd-letywyr newydd drwy eu galluogi i ddewis o restr fer (a gymeradwywyd gan gymdeithas tai). I gael enghraifft gweler Menter Gydweithredol Stryd Argyle

- Rhoi gwybodaeth i helpu tenantiaid sydd eisiau cymryd lletywr - mae gwybodaeth ar wefannau landlordiaid cymdeithasol yn aml yn rhybuddio tenantiaid rhag cymryd lletywr, ond mae rhai yn rhoi trosolwg mwy cytbwys o'r manteision ac anfanteision ac yn helpu i esbonio'r goblygiadau ariannol. Gweler er enghraifft Tai Wales and West Housing.

- Cynlluniau i baru tenantiaid ifanc gyda deiliaid tai hŷn - er heb eu hanelu'n bennaf at denantiaid tai cymdeithsol, mae cynlluniau eraill sy'n anelu i baru pobl sengl ifanc sydd angen llety gyda deiliaid tai hŷn sydd angen help o amgylch y tŷ. Gweler er enghraifft y cynllun Homeshare. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi canfod mai effaith gyfyngedig a gafodd cynlluniau oedd yn anelu i gysylltu darpar denantiaid gyda thenantiaid cymdeithasol gydag ystafelloedd sbâr, er cyflwyno dileu'r cymhorthdal ystafell sbâr ('treth ystafell gwely') (Batty, et al., 2015). Priodolwyd hyn yn rhannol i amharodrwydd landlordiaid cymdeithasol i gymryd rhan a daethant i'r casgliad fod y dystiolaeth yn awgrymu fod perchenfeddianwyr yn aml mewn sefyllfa well ac yn fwy parod i gymryd

41

Page 43: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

lletywr. I ddatblygu'n llwyddiannus yn y sector cymdeithasol, daeth yr ymchwil i'r casgliad fod cynlluniau lletywyr angen:

o Partneriaethau gyda darparwyr tai cymdeithasol ac awdurdodau lleol

o Cefnogaeth ar gyfer y lletywr a hefyd y tenant sy'n cymryd y lletywr

o Cytundeb lletya teg i'r ddau barti

o Tenantiaid sy'n cymryd lletywyr sy'n deall yn llawn oblygiadau ariannol casglu rhent a'i effaith ar eu hawliadau Budd-dal Tai eu hun.

Adeiladu tai newydd, neu drawsnewid stoc presennol?Roedd rhai landlordiaid yn ystyried adeiladu tai addas ar gyfer pobl yn rhannu - yn aml yn edrych at neuaddau preswyl myfyrwyr a darpariaeth myfyrwyr sector preifat am ysbrydoliaeth. Un o fanteision adeiladu yw y gellid cynllunio stoc newydd o amgylch anghenion pobl sy'n rhannu gyda rhai rhanddeiliaid yn edrych ar fodelau llety myfyrwyr am ysbrydoliaeth:

Rwy'n meddwl fod yn rhaid i ni fynd y math o model neuaddau preswyl. Adeilad gyda 20 o unedau annibynnol bach iawn - staffio cyfyngedig iawn a rhad ond annnibynnol. (Rhanddeiliad)

Fodd bynnag, mae data ar gostau llety myfyrwyr yn awgrymu efallai nad yw hyn yn fodel mor rhad ag y gobeithid efallai; roedd cost gyfartalog llety a ddarperid gan brifysgolion yng Nghymru yn £94 yr wythnos yn 2012-13, yn codi i £104 ar gyfer darpariaeth sector preifat (Unipol a NUS, 2012). Codwyd y rhenti hyn dros 41-44 wythnos y flwyddyn ar gyfartaledd, ond mae'r cyfanswm blynyddol yn llawer uwch na lefelau LHA ar gyfer llety a rennir yn y sector preifat, hyd yn oed yng Nghaerdydd (Tabl 7).

Yn y drafodaeth bwrdd crwn ni wnaeth cymdeithasau tai wrthod adeiladu llety pwrpasol ar gyfer pobl yn rhannu, ond teimlent y byddai angen cyfraddau grant sylweddol uwch i wneud hynny nag sydd ar gael ar hyn o bryd.

Dywedwyd fod cael ystafelloedd gwely o faint tebyg yn nodwedd ddefnyddiol ar gyfer tai a rennir, gan ei gwneud yn haws i osod rhenti ac yn decach i denantiaid, er nad yw'n ymddangos fod diffyg ystafelloedd o faint cyfartal yn achosi unrhyw broblemau i landlordiaid preifat.

Fodd bynnag, codwyd dau brif fater o gonsyrn sylweddol gyda datblygu fel datrysiad i'r angen am dai a rennir. Un oedd bod yr amserlenni ar gyfer datblygu yn araf, ac na fyddai tai yn cael eu hadeiladu'n ddigon cyflym ar y niferoedd oedd eu hangen. Y llall oedd y gall fod yn anodd sicrhau fod tai a rennir yn ariannol hyfyw, yn arbennig mewn rhannau o Gymru lle mae cyfraddau LHA tai a rennir yn isel iawn (dan £50 yr wythnos mewn rhai lleoliadau).

Wrth edrych ar drosi stoc presennol, dywedodd rhai landlordiaid y byddent yn debygol o ganolbwyntio ar fflatiau dwy ystafell wely (yn hytrach na thai) gan eu bod yn anos eu gosod i deuluoedd gyda phlant.

DyraniadauGall landlordiaid preifat osod eu tai i ba bynnag a ddewisant (cyhyd â'u bod yn osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon, er enghraifft ar sail hil). Yn ymarferol, mae rhai'n dyrannu

42

Page 44: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

tenantiaid eu hunain ond mae llawer yn caniatau i grwpiau o denantiaid ddewis rhentu cartref gyda'i gilydd gyda thenantiaeth ar y cyd.

Mae'r sefyllfa'n wahanol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol. Maent yn cadw peth disgresiwn ond cânt hefyd eu rhwymo gan bolisïau dyrannu a chytundebau enwebu gydag awdurdodau lleol. Mae hyn yn debyg o roi pwysau arnynt i sicrhau eu bod yn cartefu y rhai sydd mewn mwyaf o angen, yn cynnwys pobl a fu'n ddigartref. Mewn tai a rennir mae heriau wrth geisio cydbwyso'r goblygiadau hyn gydag anghenion cyd-letywyr eraill.

Cydnabu rhanddeiliaid nad oedd y system dyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru wedi'i gerio i hyrwyddo tai a rennir, dynodi pobl bosibl i rannu neu gydbwyso'r gofyniad i ddiwallu anghenion tai gydag anghenion pobl eraill sy'n rhannu:

Mae'r broses bresennol o wneud cais am dai cymdeithasol yn broblem - nid oes digwyliad y bydd pobl ifanc yn gorfod rhannu. ni chafodd y prosesau eu sefydlu ar gyfer hyn. Mae cyfleuster i bobl ddweud y byddent yn barod i'w rhannu ond nid ydyn ni mewn gwirionedd yn eu paru'n dda. Mae'r ffocws ar yr angen am gartef. (Rhanddeiliad)

Roedd rhai landlordiaid cymdeithasol wedi gweithredu tai a rennir lle'r cyfan yr oeddent yn ei wneud oedd rhoi'r person ar frig y rhestr i unrhyw ystafell wag, ond dywedwyd nad oedd hyn wedi gweithio'n dda:

Mae wyth fflat ... sy'n ddwy ystafell wely ac ystafell fyw/cegin a gaiff ei rhannu .... nid yw wedi gweitho'n dda iawn. Un broblem yw'r ffordd y mae pobl yn gwneud cais. Maent yn gwneud cais ar wahân ac yn eu rhoi i mewn yno heb roi unrhyw sylw os byddant yn tynnu ymlaen. (Rhanddeiliaid)

Roedd landlordiaid cymdeithasol yn gyffredinol ar gam cymharol gynnar wrth benderfynu'r ffordd orau i gydbwyso'r gwahanol ofynion. Roedd un posibilrwydd a ymchwilir yn ymwneud â gweithio gyda sefydliadau oedd yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n debyg o fod yn agos at frig y gofrestr tai (megis darparwyr tai â chymorth, timau Gadael Gofal neu gyrsiau hyfforddiant tenantiaeth) i weld os gellid annog pobl ifanc i wneud cais gyda chyfaill neu ddau. Dywedwyd fod gan awdurdodau lleol gydymdeimlad cyffredinol gyda'r angen i ystyried llacio hawliau enwebu i alluogi cymdeithasau i wneud i dai a rennir weithio.

Roedd landlordiaid eraill yn ystyried os y medrent baru pobl yn llwyddiannus ar nodweddion megis oedran a rhyw, ond ni chanfuwyd unrhyw enghreifftiau ymarferol o'r system ar waith.

Roedd pobl ifanc a fynychodd y grwpiau ffocws bron yn unfrydol wrth gredu fod medru dewis cyd-letywyr yn fater hollbwysig iddynt wrth deimlo efallai na fyddai tai a rennir yn opsiwn. Roeddent yn gadarnhaol am y syniad o gynnal cyfweliadau tai ar gyfer dewis cyd-letywyr newydd:

Byddai'n well gen i ddewis. A fyddai ddim bwys gen i gael fy nghyfweld.

Dewch â nhw i'r tŷ. Os ydyn nhw'n tynnu ymlaen, maen nhw'n tynnu ymlaen. (Mynychwyr grŵp ffocws)

Fodd bynnag, roedd y rhai oedd yn gyfarwydd gyda dyraniadau tai cymdeithasol yn amheus sut y byddai hyn yn digwydd:

43

Page 45: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Fe hoffwn i ddewis ond dydw i ddim yn gweld hynny'n digwydd..

Pwy sy'n mynd i wneud y broses baru? (Mynychwyr grŵp ffocws)

Mae hyn yn dangos yr angen i landlordiaid cymdeithasol wneud i'r systemau dyrannu ar gyfer tai a rennir yn glir a chael eu hysbyebu'n dda i helpu darpar denantiaid i ddeall sut mae hyn yn wahanol i dai cymdeithasol confensiynol.

Roedd yn amlwg mai un o ofnau mwyaf tenantiaid oedd gorfod rhannu gyda dieithriaid neu bobl y gallent ei chael yn anodd tynnu ymlaen gyda nhw:

Mae gan bobl syniadau gwahanol iawn am yr hyn sy'n dderbyniol ac nad yw'n dderbyniol. Mae ganddyn nhw hefyd wahanol flaenoriaethau a all wneud rhannu'n anodd pan nad ydych yn ffrindiau cyn byw gyda'ch gilydd., Gallwch orffen lan yn gresynu llawer. (Ymatebydd arolwg)

Beth os ydyn nhw'n slob a chithau ag osbsesiwn am lanweithdra? (Mynychwr grŵp ffocws)

Roedd teimlad cryf ymysg mynychwyr grwpiau ffocws a hefyd staff cefnogaeth y byddai llwyddiant tai a rennir fel endid cymdeithasol ac fel profiad byw cadarnhaol ar gyfer cyfranogwyr unigol yn dibynnu ar fod elfen o ddewis.

Tenantiaethau ar wahân neu ar y cyd?Mae mater pwy sy'n dewis tenant yn gysylltiedig â'r math o denantiaeth a gynigir. Os yw landlord yn cynnig tenantiaethau ar wahân, yna gall y landlord ddewis i bwy i osod yr ystafell, er y gall ddewis caniatau i gyd-letywyr gael peth llais yn y penderfyniad. Teimlai'r rhan fwyaf o landlordiaid y byddai'n annheg disgwyl i denantiaid fod yn gyfrifol am ddyledion rhent ei gilydd, a bod llinellau cliriach o gyfrifoldeb os defnyddir tenantiaethau ar wahân.

Rydyn ni'n defnyddio tenantiaethau unigol ac rydyn ni'n talu'r biliau ac yn rhoi pris pendant iddyn nhw yn cynnwys treth gyngor. (Rhanddeiliad)

Fodd bynnag, teimlai ymatebwyr eraill y gallai tenantiaeth ar y cyd hyrwyddo aelwyd oedd yn gweithio'n well:

Y trefniant yw un denantiaeth ar gyfer pob ystafell, yn hytrach na rhannu tenantiaeth ar gyfer yr holl dŷ. Ac rwy'n credu fod hynny'n ailbwysleisio ar wahanrwydd, yn hytarch na'u bod yn gyd-gyfrifol. (Rhanddeiliad)

Un pryder am gynnig tenantiaethau ar y cyd oedd beth fyddai'n digwydd pe byddai tenant yn gadael. Byddai gweddill y tenantiaid yn dod yn gyfrifol am y rhent, ond gallent benderfynu cadw ystafell wely sbâr a thalu amdani, neu ganfod cyd-letywr newydd. Gwyddai landlordiaid na fyddai'n ddichonadwy gosod tenant newydd mewn amgylchiadau o'r fath ac y byddai angen caniatau i denantiaid ddewis cyd-letywr newydd, ond roeddent yn ansicr sut i wneud hyn gyda'u hoblygiadau eraill fel landlordiaid cymdeithasol:

Rydyn ni wedi bod yn trafod beth fyddai angen i ni wneud pe bai rhai o'r sawl sy'n rhannu yn symud allan. Byddai'r cyd-denantiaid eraill yn dod yn gyfrifol am y rhent. Rwy'n credu fod tai a rennir yn gweithio orau os yw'r bobl sy'n byw yno yn dod o hyd

44

Page 46: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

i'w cyd-denant eu hunain yn hytrach na gorfodi rhywun arnynt. Dydyn ni ddim wedi gweithio allan sut i wneud hyn eto. (Rhanddeiliad)

Hyrwyddo tai a rennir a rheoli disgwyliadauMae adroddiad Crisis yn nodi arwyddocâd diwylliant rhannu, sy'n llawer cryfach mewn rhai lleoliadau nag mewn eraill. Mewn trefi a dinasoedd gyda nifer fawr o fyfyrwyr, mae'n amlach cael diwylliant o rannu sy'n ymestyn i raddedigion diweddar a phobl ifanc eraill. Mewn ardaloedd eraill, y disgwyliadau cryf yw byw mewn unedau annibynnol ac mae hyn yn aml yn wir am y rhai sy'n gwneud cais am dai cymdeithasol (Betty, et al, 2015) Mae pwysigrwydd rheoli disgwyliadau felly'n allweddol wrth sefydlu cynlluniau tai a rennir o fewn tai cymdeithasol.

Roedd hon yn thema y soniodd rhanddeiliaid a gyfwelwyd amdani'n aml. Roedd y mater yn neilltuol o berthnasol mewn ardaloedd heb brifysgolion a lle'r oedd rhenti'n gymharol isel, gan olygu nad oedd unrhyw draddodiad o bobl ifanc yn rhannu tai.

Fodd bynnag, hyd yn oed mewn trefi a dinasoedd prifysgol, teimlid nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl oedd yn gwneud cais am dai cymdeithasol brofiad o fyw mewn tai a rennir fel myfyrwyr y disgwylient fod yn byw mewn unedau annibynnol, ac y gallant aros am hynny yn hytrach na bod yn fodlon i dderbyn tai a rennir. Wrth gwrs gall disgwyliadau newid pan ddaw toriadau i Fudd-dal Tai i rym, ond am hyn o bryd roedd yn anodd i landlordiaid cymdeithasol deimlo'n hyderus yn y galw am dai a rennir nad oedd yn amlwg hyd yma:

Hyd yn awr bu cwsmeriaid yn bendant iawn yn erbyn llety a rennir ... Ni fyddant yn hapus. Byddant yn pwyso arnom i'w symud ymlaen.

Dydi pobl yng nghymunedau'r Cymoedd wedi arfer â hynny.

Nid yw rhannu llety erioed wedi cael ei weld fel y peth i'w wneud yma. Mae llawer o waith i ni ei wneud i newid calonau a meddyliau. Mae'n rhywbeth mae angen i ni feddwl amdano, sut i hyrwyddo a gwerthu'r manteision i bobl. (Rhanddeiliaid)

Rodd ychydig o randdeiliaid yn gwybod fod angen i'r 'cynnig' tai a rennir fod yn wahanol i'r tŷ teulu anghenion cyffredinol heb ddodrefn. Roeddent yn cydnabod fod tenantiaethau yn debygol o fod yn rhai tymor byrrach ac y gall denantiaid ddisgwyl dodrefn, o leiaf mewn ardaloedd cymunol, ac efallai ar gyfer yr holl eiddo. Roedd hyn yn rhywbeth nad oedd landlordiaid cymdeithasol bob amser â phrofiad o'i ddarparu ac roedd rhai'n bryderus am gostau anhysbys y ddarpariaeth yma.

Rheoli tai a rennirSoniodd y rhan fwyaf o randdeiliaid fod gofynion rheoli uwch tai a rennir yn fater o gonsyrn sylweddol. Roeddent yn ansicr faint y byddai angen iddynt wneud wrth gymodi mewn anghydfod rhwng tenantiaid.

Roedd landlordiaid cymdeithasol yn bryderus bod eu tenantiaid yn neilltuol o debygol o fod yn agored i niwed a hefyd yn dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol. Caiff tai cymdeithasol fel arfer ei ddyrannu ar sail angen ac, er newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth digartrefedd, mae'n dal i fod yn brif gyrchfan aelwydydd a arferai fod yn rhai statudol ddigartref yng Nghymru, yn ogystal â chartrefu pobl yn symud ymlaen o dai â chymorth neu allan o ofal

45

Page 47: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

awdurdod lleol. Ar y llaw arall, caiff tai preifat eu dyrannu gan rymoedd y farchnad i'r rhai a all fforddio talu amdanynt. Mae'r gwahaniaethau hyn yn golygu fod proffil tenantiaid sy'n defnyddio'r ddau sector yn wahanol. Gall cyfran uwch o denantiaid gyda hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfran uwch o denantiaid agored i niwed gyda diffyg sgiliau ar gyfer ymdopi gydag ymddygiad o'r fath fod yn gyfuniad anodd.

Roedd hefyd yn glir fod llawer o'r pryderon yn ymwneud o leiaf yn rhannol ag ofnau a achoswyd gan ddiffyg profiad o reoli tai a rennir.

Mae cymdeithasau tai yn betrus am lety a rennir - mae'n wlad ddieithr iddyn nhw. (Rhanddeiliad)

Roedd awdurdodau lleol hefyd yn ymwybodol o'r angen i edrych ar dai a rennir fel opsiwn, oherwydd y dyletswyddau sydd ganddynt i aelwydydd digartref ac eraill ar y rhestr aros. Roedd cymdeithasau tai yn amlach yn hollol negyddol am y syniad o gynnig tai a rennir gydag anawsterau rheoli y problemau mwyaf a godwyd.

Fodd bynnag, dywedodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl fod trin ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o'r heriau mwyaf i landlordiaid preifat wrth reoli tai a rennir.

Awgrymwyd nifer o ffyrdd posibl o ostwng tebygrwydd anawsterau rheoli, yn cynnwys:

Galluogi tenantiaid i ddewis gyda phwy yr oeddent yn byw fel eu bod yn rhannu gyda phobl yr oeddent yn tynnu ymlaen gyda nhw.

Sicrhau fod eiddo yn gyffredinol yn cael ei osod i bobl gyda ffyrdd tebyg o fyw - megis myfyrwyr, pobl yn gweithio neu bobl ddiwaith a all fod â gwahanol oriau i'w gilydd ac felly'n achosi gwrthdaro os yn rhannu, er fod y bobl ifanc a gyfwelwyd yn llai sicr am hyn ac roedd rhai yn ffafrio mwy o gymysgedd o bobl yn gweithio a rhai heb fod yn gweithio. Roedd y dulliau y gallai landlordiaid sicrhau pethau o'r fath hefyd yn aneglur.

Ei gwneud yn ofynnol i denantiaid newydd gymryd rhan mewn cwrs hyfforddiant tenantiaeth, a allai gynnwys materion perthnasol i dai a rennir, er bod y bobl ifanc unwaith eto yn llai cadarnhaol am hyn, yn arbennig os oedd yn orfodol.

Rhoi cefnogaeth yn neilltuol ar ddechrau rhannu tai newydd, i helpu sefydlu tai sy'n rhedeg yn llyfn, efallai drwy ddefnyddio cyllid Cefnogi Pobl.

Sicrhau fod tenantiaid agored i niwed yn cael cefnogaeth dda gan asiantaethau eraill, megis gwasanaethau iechyd meddwl.

Defnyddio trwyddedau yn hytrach na thenantiaethau i sicrhau y caiff rheolau tŷ eu cadw ac y caiff meddianwyr eu troi allan yn gyflym os ydynt yn eu torri.

Cael ymagwedd dwylo ffwrdd at gymryd rhan mewn anghydfod rhwng tenantiaid, gan annog tenantiaid i ddatrys problemau eu hunain.

Defnyddio model prif denant lle gallai'r prif denantiaid helpu i ddatrys anghydfodau llai.

Gall fod disgwyliadau uwch ar landlordiaid cymdeithasol yng nghyswllt diogelu a sicrhau nad yw tenantiaid yn agored i gyd-letywyr fyddai'n achosi risg iddynt. Fel cyrff a gyllidir yn gyhoeddus, gall awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fel ei gilydd gael eu dal yn gyfrifol mewn ffyrdd na chaiff landlordiaid preifat. Teimlai rhai landlordiaid y byddai angen iddynt gynnal gwiriadau ar denantiaid newydd cyn cynnig tenantiaeth a rennir iddynt, er nad oeddent yn benodol beth fyddai'r gwiriadau hyn.

46

Page 48: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Gall cymunedau lleol a chymdogion hefyd fod â disgwyliadau uwch o landlordiaid cymdeithasol a gallant ddisgwyl y byddir yn ymgynghori â hwy os yw eiddo yn newid defnydd. Ni soniodd landlordiaid oedd yn syml wedi gosod eiddo i grŵp o bobl yn rhannu am broblemau, ond dywedodd y rhai y bu'n rhaid iddynt wneud cais am ganiatâd cynllunio (fel fydd yn digwydd yn gyffredinol yn y dyfodol) fod preswylwyr lleol wedi gwrthwynebu dyrannu'r eiddo i bobl ifanc a bod hyn wedi'i gwneud yn anodd i'r tenantiaid ifanc gan fod cymdogion eisoes yn wrthwynebus tuag atynt ac yn gyflym i fynd ati i edrych am unrhyw broblemau.

Opsiynau heblaw tai a rennir

Ni allodd unrhyw awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai y cyfwelwyd â nhw roi unrhyw enghreifftiau o arfer presennol tai a fyddai'n fforddiadwy i bobl sengl ifanc o fewn terfynau LHA, heblaw tai rhent preifat. Ni chanfuwyd unrhyw enghreifftiau o unedau annibynnol a fyddai'n fforddiadwy i'r rhai ar Fudd-dal Tai ac wedi cyfyngu i'r gyfradd rhannu tai. Yr unig opsiwn arall ar gyfer pobl ifanc nad oedd eisiau rhannu oedd iddynt gael swydd fel y gallent fforddio eu rhent heb fod angen Budd-dal Tai.

Awgrymwyd nifer o opsiynau eraill posibl fodd bynnag, er bod angen i unrhyw ddatrysiad fod yn fforddiadwy i bobl ifanc gyda'u hawl is i fudd-dal.

Cynyddu incwmYn gyffredinol, nid oes gan bobl ifanc dan 35 oed nad ydynt ar incwm isel unrhyw anghenion tai cymdeithasol a gallant rentu'r un stoc tai â gweddill y boblogaeth. Un ffordd bosibl ymlaen i rai pobl felly yw iddynt gynyddu eu hincwm fel y gallant fforddio unedau annibynnol heb orfod dibynnu ar Fudd-dal Tai. Mae llawer o landlordiaid eisoes yn rhoi help i gael tenantiaid i waith neu hyfforddiant, a chaiff rhai o'r cynlluniau hyn eu hehangu neu eu targedu ar bobl sengl dan 35 oed y byddai'r toriadau i Fudd-dal Tai yn effeithio arnynt.

Roedd un landlord cymdeithasol a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil yma, oedd wedi gwneud cryn dipyn o waith paratoi ar gyfer y toriadau arfaethedig i Fudd-dal Tai, yn cynnig 'dewislen' i denantiaid newydd yn cynnwys:

Fflat un ystafell wely os oeddent mewn gwaith ac yn gallu ei fforddio Fflat un ystafell wely os oeddent yn fodlon mynd i edrych am waith, gydag amodau ar y

denantiaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd rhan mewn rhaglen cyflogadwyedd Tenantiaeth mewn tŷ a rennir ar gyfer rhai nad oedd yn gallu neu'n fodlon gweithio.

Mae'r tri opsiwn yma'n gweithio ar hyn o bryd, oherwydd fod gan denantiaid bron ddwy flynedd i ddod o hyd i waith cyn Ebrill 2018 pan ddaw'r diwygiadau i rym. Mae'n amlwg y bydd yr opsiwn o gofrestru i edrych am waith yn anos ar ôl mis Ebrill 2018 pan fydd Budd-dal Tai yn annigonol i dalu am fflat un ystafell wely o'r dechrau. Serch hynny, mae'r dull yma'n cynnig y potensial i sicrhau fod pobl ifanc yn deall yr opsiynau sydd ar gael iddynt a gwerth cynyddu eu hincwm yn nhermau gwella eu sefyllfa tai.

Fodd bynnag, mae dyfarniad diweddar gan yr Uchel Lys yn arwyddocaol i ddatblygiad y mathau hyn o gynlluniau; ym mis Ebrill 2016 dyfarnodd yr Uchel Lys fod polisi Cyngor Ealing o neilltuo 20 y cant o'i osodiadau i bobl mewn gwaith yn wahaniaethol ac

47

Page 49: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

anghyfreithlon14. Roedd y sefyllfa yn yr achos hwn rywfaint yn wahanol gan nad oedd unrhyw awgrym nad oedd yr aelwydydd heb fod yn gweithio y gwahaniaethwyd yn eu herbyn yn methu fforddio'r llety (gyda Budd-dal Tai), ond mae serch hynny'n awgrymu y dylai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol fod yn ofalus i sicrhau na chaiff ymgeiswyr eu gwahardd o lety am resymau anghyfreithlon.

Roedd pobl ifanc yn y grwpiau ffocws yn gadarnhaol am bosibilrwydd cael gwaith, ond dywedent hefyd nad oedd hyn o reidrwydd yn syml gan fod llawer ohonynt yn byw mewn ardaloedd lle'r oedd swyddi'n brin:

Rydyn ni'n byw mewn diwylliant Jeremy Kyle lle mae pobl yn dweud y dylet ti gael gwaith ... ond dydi hi ddim yn rhwydd pan ydych chi'n cystadlu yn erbyn 50 i 60 o ymgeiswyr eraill.

Os oes digon o swyddi ar gael yna iawn, ond does yna ddim swyddi o gwmpas. (Mynychwyr grŵp ffocws)

Modelau blaengar o adeiladu tai newyddMae modelau blaengar newydd o ddarpariaeth tai, megis 'Ycube' neu 'fflatiau poced' yn anelu i wneud unedau annibynnol yn fforddiadwy drwy ddefnyddio dulliau adeiladu oddi ar y safle a/neu adeiladau unedau bach iawn15. Fodd bynnag, fel arfer caiff y cynlluniau hyn eu cynnal lle mae tir yn ddrud iawn a gellir cynyddu dwysedd drwy wneud defnydd clyfar o ofod, gan felly wneud tai ychydig yn fwy fforddiadwy. Maent yn targedu bwlch yn y marchnadoedd drud iawn yma rhwng tai ar y farchnad a rhenti cymdeithasol, bwlch yn y farchnad nad yw mor amlwg yng nghyd-destun Cymru. Mae cynllun Ycube a agorwyd yn ddiweddar yn Merton, Llundain, er enghraifft, yn cynnig rhenti ar £150 yr wythnos - cyfradd resymol o fewn cyd-destun prisiau uchel Llundain ond tua thair gwaith y terfyn LHA ar gyfer pobl dan 35 oed ar Fudd-dal Tai yng Nghymru. Mae'r cynllun hefyd yn edrych yn anaddas ar gyfer pobl ifanc sy'n dibynnu ar Fudd-dal Tai o Ebrill 2018, gan fod y cyfraddau rhannu llety Lwfans Tai Lleol ym Merton rhwng £82 a £94 yr wythnos, gryn dipyn yn is na'r rhent o £15016.

Cymharol ychydig o ddiddordeb oedd gan rhanddeiliaid yn y mathau hyn o gynlluniau. Dywedodd un rhanddeiliad eu bod wrthi'n ymchwilio opsiynau ac un arall eu bod wedi gwneud hynny ond wedi dod i'r casgliad na fyddent yn fforddiadwy i'w tenantiaid. Ymchwilwyd defnyddio cynwysyddion llongau fel llety ac ystyriwyd y gallent fod yn fforddiadwy ond nid oedd benthycwyr morgeisi yn barod i fenthyca ar y math yma o gartrefi. Roedd hefyd wrthdaro rhwng rhai o'r cynnyrch tai newydd mwy blaengar a safonau gofod ac adeiladu tai cymdeithsol, gan ei gwneud yn anodd bod yn flaengar.

Unedau annibynnol ar rent isMae darparwyr tai cymdeithasol wedi dangos peth diddordeb mewn gosod rhenti'n wahanol er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy i bawb. Awgrymwyd systemau sy'n eu gosod fel cyfran o incwm, er ei bod yn anodd gweithredu cynlluniau o'r fath yn ymarferol gan ei bod yn

14 www.bailii.org/ew/cases/EWHC/Admin/2016/841.html

15 Gweler www.ymcalsw.org/ycube or www.pocketliving.com i gael manylion

16 Cyfraddau LHA o https://lha-direct.voa.gov.uk/

48

Page 50: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

anodd rhagweld incwm rhent ac felly sicrhau cyllid ar gyfer datblygu. Fodd bynnag, roedd rhai'n ystyried os gallent osod rhenti'n wahanol ar gyfer pobl ifanc.

Mae ychydig o hyblygrwydd yng Nghymru - felly gallem osod rhenti ychydig yn wahanol. Ond dydyn ni ddim eisiau cloi eiddo i fod ar gyfer pobl ifanc yn unig. Felly fe fyddai'n well gennym osod rhenti yn ôl pwy sydd yn yr eiddo ar unrhyw un amser - byddai hyn yn gyffredinol yn rhoi mwy o hyblygrwydd i osod i bobl ifanc fyw yn yr un stoc tai â phobl eraill (Rhanddeiliad)

Fodd bynnag, roedd cynlluniau o'r fath, ar gam cymharol gynnar yn eu datblygiad. Teimlai eraill y byddai'n annheg ac anymarferol i drin pobl ifanc yn wahanol ac nad oedd yn bosibl o safbwynt ariannol i ostwng rhenti un ystafell wely i lefelau LHA.

Mynegodd rhanddeiliaid beth diddordeb mewn ymchwilio os y gellid darparu tai'n rhatach drwy ostwng costau gwasanaeth. Roedd hyn yn rhan o fater ehangach yn ymwneud â chymhwyster taliadau gwasanaeth dan y Credyd Cynhwysol, gan achosi landlordiaid i adolygu pa wasanaethau a ddarparant ac ystyried os gallent dorri rhai elfennau neu eu darparu'n rhatach. Roedd yr opsiynau a ystyrir yn cynnwys disgwyl i denantiaid gymryd mwy o gyfrifoldeb am bethau megis glanhau ffenestri cymunol, gostwng defnyddio fflatiau dros ben fel ystafelloedd cymunol a pheidio bod â chylchlythyr tenantiaid, gan edrych weithiau ar enghreifftiau o'r sector preifat neu gynlluniau tai myfyrwyr am ysbrydoliaeth:

Rwy'n credu fod angen i ni ostwng y lefel rhent .... ychydig yn fwy fel landlord preifat ... Mae angen i ni edrych eto ar yr hyn rydyn ni'n ei gynnig a chynnig rhywbeth gyda lefelau staffio is ac sy'n fwy addas ar gyfer pobl ifanc. Rydyn ni'n tueddu i edrych ar sut y gallwn eu helpu i gynnal eu tenantiaeth gyda llwythi o gefnogaeth a chyngor, ac yna'n methu deall pam fod y rhent yn £110 yr wythnos, pan mai'r hyn maen nhw ei angen mewn gwirionedd yw rhent sy'n £35 yr wythnos. (Rhanddeiliad)

Awgrymwyd hefyd fod sicrwydd daliadaeth mewn tai cymdeithasol yn golygu fod costau dadfeddiannu yn uchel, a bod hyn felly yn effeithio ar allu landlordiaid i gynnig rhenti isel. Gallai daliadaeth newydd gyda llai o sicrwydd ond rhenti is felly fod yn well, a theimlid yn gyffredinol fod pobl ifanc yn aml yn symud o amgylch ac nad oeddent o reidrwydd angen neu eisiau'r sicrwydd hirdymor y mae tai cymdeithasol yn ei gynnig ar hyn o bryd. Byddai'n ymddangos fod yr arolwg a'r grwpiau ffocws yn cefnogi'r farn yma gan mai prin y soniwyd am sicrwydd daliadaeth fel blaenoriaeth - roedd mynediad i gartrefi, rhent isel a landlord y gallent ymddiried ynddo yn flaenoriaethau uwch ar gyfer pobl ifanc.

Mewn gwirionedd, fodd bynnag, gall fod angen i ostwng taliadau gwasanaeth fod yn rhan o ddatrysiad, ond mae'n annhebyg o fod yn ddigon i ddod â rhenti ar fflatiau un ystafell wely i lefelau LHA y rhan fwyaf o Gymru, ac roedd rhanddeiliaid yn gyffredinol ymwybodol o hyn.

Mae rhai landlordiaid yn gweithredu cronfa caledi sy'n caniatau iddynt gyfrannu at renti tenantiaid penodol sydd mewn anawsterau, ar ôl defnyddio datrysiadau eraill sydd ar gael megis canfod gwaith, neu ar y cyd gyda chytundeb i roi cefnogaeth i ganfod gwaith. Ystyriai darparwyr gyda nifer cymharol fach o bobl ifanc fod hyn yn ddatrysiad posibl. Fel gyda DHP, gall hyn helpu ychydig o denantiaid sy'n dioddef yn neilltuol ond mae'n annhebyg o fod y prif ddatrysiad i lawer iawn, yn llwyr oherwydd na fyddai'n fforddiadwy.

49

Page 51: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Opsiynau eraillAwgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylid annog pobl ifanc i aros adref am fwy o amser, o bosibl gan ddefnyddio cyfryngu. Hyn, yn ynghyd â sicrhau cyflogaeth neu DHP, oedd yr unig ddatrysiad y credid oedd yn bosibl ar gyfer pobl 18-21 oed oedd wedi dod yn annilys am Fudd-dal Tai.

Awgrymwyd hefyd y dylid annog a hwyluso aelwydydd eraill - un ai denantiaid cymdeithasol neu berchenfeddianwyr - i gymryd lletywyr. Mae enghreifftiau o gynlluniau megis cynllun Nightstop Rock Trust yng Nghaeredin lle mae gwirfoddolwyr yn cynnig arhosiadau byr yn eu cartrefi i bobl ifanc mewn risg o ddod yn ddigartref i roi amser iddynt atgyweirio perthynas gyda'u teuluoedd neu ganfod datrysiadau eraill, er bod angen i gynlluniau o'r fath ganfod ffyrdd o asesu a thrin risgiau diogelwch i deuluoedd cynnal yn yr amserlenni byr iawn sydd eu hangen ar gyfer pobl ifanc sy'n ddigartref ar ôl argyfwng.

Cafodd hunan-adeiladu ei awgrymu gan un rhanddeiliaid, yn ogystal â phrosiectau lle mae cynlluniau tai dan arweiniad tenantiaid, megis mentrau cydweithredol, yn helpu i gadw rhenti yn isel a/neu ganfod datrysiadau i heriau tai a rennir. Awgrymwyd hefyd annog y rhai sy'n cynnig prentisiaethau i ystyried os medrent ddarparu tai cost isel i brentisiaid sy'n methu byw adref.

Cafodd llety gwyliau neu garafanau sefydlog hefyd eu hawgrymu gan randdeiliaid fel opsiynau posibl mewn rhai ardaloedd, er y gwyddent fod potensial y rhain wedi'i gyfyngu i raddau helaeth i fisoedd y gaeaf.

50

Page 52: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

5. CasgliadauYmddengys fod yr opsiynau tai ar gyfer pobl ifanc sengl dan 35 oed y bydd y toriadau arfaethedig mewn Budd-dal Tai yn effeithio arnynt yn gyfyngedig.

Os nad yw landlordiaid cymdeithasol yn dechrau cynnig tai a rennir ar renti o fewn y terfynau newydd, mae'n debygol mai'r sector rhent preifat fydd y prif ddewis ar gyfer pobl ifanc. Mae'r sector yma eisoes yn diwallu anghenion llawer o bobl ifanc sengl ac mae wedi tyfu'n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, er ei bod yn parhau'n aneglur faint o botensial pellach sydd ar gyfer ehangu i'r sector tai a rennir, yn arbennig o gofio'r rheoliadau diweddar am dai aml-feddianaeth. Mae landlordiaid sy'n ymuno â'r sector yn fwy tebygol o edrych am denantiaid hŷn, mwy cefnog, ac a all rentu eiddo cyfan.

Mae helpu pobl ifanc i waith, neu i waith ar gyflog gwell, yn cynyddu'r opsiynau tai sy'n fforddiadwy iddynt yn sylweddol, ac felly'n cyflwyno ffordd i rai pobl ifanc fforddio unedau annibynnol. Fodd bynnag, mae llawer o'r gwaith yma'n digwydd eisoes ac yn ymarferol mae'n annhebyg y gellid gwneud unrhyw beth i ddileu'r angen i bob person ifanc hawlio Budd-dal Tai o gwbl. Gallai Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn helpu ychydig ond bydd yn annigonol i lenwi diffyg rhent ar gyfer mwyafrif helaeth y bobl ifanc y mae'n debygol yr effeithir arnynt, gan olygu mai'r unig ddatrysiad ar gyfer y grŵp hwn yw bod rhenti'n dod o fewn terfynau'r Lwfans Tai Lleol.

Mae gan dai a rennir y potensial i gynnig tai rhatach i bobl sengl ifanc gan fod mwy nag un person yn cyfrannu at y cyfanswm rhent ar yr eiddo. Gall tai a rennir hefyd olygu biliau cyfleustod a biliau treth gyngor is i denantiaid, gan eu helpu i fforddio eu rhent p'un ai ydynt yn derbyn Budd-dal Tai a/neu mewn gwaith ai peidio. Gall gynnig un datrysiad posibl i rai dan 35 oed sy'n dibynnu ar Fudd-dal Tai y bydd y toriadau yn effeithio arnynt o Ebrill 2018, er nad yw'n ddatrysiad digonol ar gyfer y bobl ifanc 18-21 oed sy'n dod yn anghymwys am unrhyw Fudd-dal Tai os na allant ennill cyflog digonol i dalu eu rhent.

Mae'r fframwaith polisi cyfredol ar gyfer darparu tai a rennir yn anghydlynus. Ar y naill law, mae gan bobl ifanc hawl i lefelau Budd-dal Tai nad yw ond yn ddigon i dalu am lety a rennir, ac mae prinder cyffredinol o dai yn golygu mai tai a rennir yw'r unig ffurf sydd ar gael i lawer o bobl ifanc. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu rheoliadau ynghylch HMO gan roi'r pŵer i awdurdodau lleol i atal tai rhag diwallu anghenion pobl ifanc sydd angen tai a rennir. Mae'n glir o'r ymchwil yma y gall stigma yn erbyn tai a rennir, a phobl ifanc yn fwy cyffredinol, olygu y defnyddir y pwerau hyn i gyfyngu'r cyflenwad o dai a rennir ar yr adeg pan fo fwyaf ei angen.

Ar gyfer lleiafrif sylweddol o bobl ifanc sengl, tai a rennir yw'r datrysiad tai sydd orau ganddynt gyda manteision yn cynnwys arbed arian a chwmniaeth. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ifanc eraill, nid dyma'r opsiwn hirdymor sydd orau ganddynt, ond mae'n rhywbeth a ystyriant yn dderbyniol ar hyn o bryd. Ymddengys nad yw'r rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yn gyffredinol yn rhannu'r farn hon, sydd am amrywiaeth o resymau yn nerfus am reoli llety o'r fath. Mae hyn yn cynnwys profiadau'r gorffennol gyda grŵp cleientiaid agored iawn i niwed, diffyg sgiliau a phrofiad mewn rheoli tai a rennir mewn cyd-destun heb gefnogaeth, diffyg cymhellion ariannol a phryderon am ddyraniadau. Serch hynny, mae rheswm i fod yn galonogol oherwydd barn cadarnhaol gan fwyaf y bobl ifanc a gafodd eu harolygu.

51

Page 53: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Mae heriau sylweddol sydd angen eu trin er mwyn i dai a rennir weithio o fewn y sector cymdeithasol. Yn gyffredinol, mae angen i landlordiaid cymdeithasol ystyried tai a rennir fel cynnyrch tai newydd a gwahanol. Nid yw'n 'dai â chymorth ar gyllideb' lle caiff tenantiaid agored i niwed eu lletya mewn amgylcheddau tebyg i hostel ond heb yr adnoddau i roi cefnogaeth ddigonol. Ac nid yw ychwaith yn dai cymdeithasol confensiynol gyda chyfleusterau a rennir. Mae angen i'r system ddyrannu gael eu llunio'n ofalus; mae cyfraddau trosiant yn debyg o fod yn uwch ac mae felly'n debygol y bydd galw am lety sydd wedi ei ran-ddodrefnu o leiaf. Mae hyn i gyd yn golygu gwahanol set o sgiliau ac arferion rheoli.

52

Page 54: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Cyfeiriadau

Barratt, C., Kitcher, C., a Stewart, J. (2012). Beyond safety to wellbeing: How local authorities can mitigate the mental health risks of living in houses in multiple occupation. Journal of Environmental Health Research , 12(1), 39-50.

Batty, E., Cole, I., Green, Stephen, M. L., a Reeve, K. (2015). Evaluation of the Sharing Solutions Programme. Llundain: Crisis.

Canolfan Ymchwil Tai a Chynllunio Caergrawnt ac Ipsos MORI. (2014). Evaluation of Removal of the Spare Room Subsidy: Interim Report. Llundain: Adran Gwaith a Phensiynau.

Adran Gwaith a Phensiynau. (2016). Discretionary Housing Payments Guidance Manual: February 2016. Llundain: Adran Gwaith a Phensiynau

Rugg, J. (2008). A Route to Homelessness? A Study of Why Private Sector Tenants become homeless. Llundain: Shelter.

Rugg, J., Rhodes, D., a Wilcox, S. (2011). Unfair Shares: A Report on the Impact of Extending the Shared Accommodation Rate of Housing Benefit. Prifysgol Caerefrog a Crisis.

Shelter. (2015). Slipping through the Safety Net. What happens when you cut Housing Benefit for 18-21 year olds? Llundain: Shelter.

Shelter Scotland. (2009). Review of Research on Disadvantaged and Potentially Vulnerable Households in the Private Rented Sector. Glasgow: Consumer Focus Scotland.

Unipol a NUS. (2012). Accommodation Costs Survey. Llundain: Unipol ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr.

Unsain. (2014). A New Housing Benefit Deal for Young People. Llundain, Unsain.

Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2008). Statws Ystadegol ar Gymru Wledig. Caerdydd. Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Llywodraeth Cymru. (2015). Tai Aml-feddiannaeth: Adolygu a chasglu tystiolaeth. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Wilson, W. (2014). Housing Benefit: Shared Accommodation Rate. Llundain: Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin.

53

Page 55: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Atodiad 1: Cwestiynau a ofynnwyd i bobl ifanc yng NghymruMae Canolfan Ymchwil Tai a Chynlluno Caergrawnt wedi gofyn i ni ganfod mwy am farn pobl ifanc ar opsiynau tai yng Nghymru. Mae hyn er mwyn bod yn sail i ymchwil a gomisiynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru am opsiynau tai pobl ifanc. Mae tai a rennir yn un opsiwn a all fod yn realistig i lawer o bobl ifanc. Drwy dai a rennir rydym yn golygu tai o fflatiau lle mae gennych eich ystafell wely eich hun ond yn rhannu cyfleusterau megis cegin neu ystafell ymolchi gyda phobl nad ydynt yn perthyn i chi ac nad ydynt yn bartner i chi. Felly gallai gynnwys grwpiau o ffrindiau'n rhentu tŷ gyda'i gilydd neu fedsits a rentir ar wahân. Gydag 'uned annibynnol' rydym yn golygu llety na chaiff ei rannu gydag unrhyw un heblaw eich teulu agosaf.

GOFYN I BAWB

1. Pa un yw'r disgrifiad gorau o'ch sefyllfa fyw bresennol:UN COD

1. Gyda'ch rhiant/rhieni2. Mewn tŷ a rennir3. Mewn uned annibynnol: Ar eich pen eich hun4. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner (dim plant)5. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner a phlant6. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch plant (dim oedolion eraill)7. Mewn rhyw fath arall o aelwyd (nodwch ________________)

GOFYN I BAWB

2. Pa un o'r dilynol sy'n disgrifio orau pa sefyllfa byw fyddai orau gennych ar hyn o bryd:UN COD

1. Gyda'ch rhiant/rhieni2. Mewn tŷ a rennir3. Mewn uned annibynnol: Ar eich pen eich hun4. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner (dim plant)5. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch partner a phlant6. Mewn uned annibynnol: Gyda'ch plant (dim oedolion eraill)7. Mewn rhyw fath arall o aelwyd (nodwch ________________)

GOFYN I BAWB Y MAE EU HATEB YN C2 YN WAHANOL I'R ATEB YN C1

3. Beth yw'r prif reswm pam na allwch fyw yn y sefyllfa fyddai orau gennych? UN COD

1. Diffyg tai addas ar gael yn yr ardal (dim ond dangos os mai'r ateb i C2 yw a)2. Methu byw gyda rhieni oherwydd diffyg lle (dim ond dangos os mai'r opsiwn a

ffafrir i C2 yw a)3. Methu byw gyda rhieni oherwydd gwrthdaro teuluol (dim ond dangos os mai'r

opsiwn a ffafrir i C2 yw a)4. Diffyg incwm dros ben i fforddio byw sut wyf eisiau (dim ond dangos os mai'r

ateb i C2 yw a______________________________

54

Page 56: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

5. Nid yw fy mudd-daliadau yn ddigon i dalu am y rhent sydd ei angen i fyw sut rwyf eisiau (dim ond dangos os mai'r ateb i C2 yw a)

6. Cyfuniad o'r uchod7. Arall (noder) _____________________________

GOFYN I BAWB

4. Ydych chi erioed wedi byw mewn tŷ a rennir? UN COD

1. Do2. Na3. Dim yn gwybod

GOFYN I BAWB

5. I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda'r datganiad dilynol: 'Mae tai a rennir yn ateb tai da i bobl ifanc sengl yng Nghymru?UN COD

1. Cytuno'n gryf2. Cytuno ychydig3. Dim cytuno nac anghytuno4. Anghytuno ychydig5. Anghytuno'n gryf

GOFYN I BAWB

6. I ba raddau fyddai pob un o'r nodweddion dilynol mewn tai a rennir yn gwneud tai a rennir yn fwy neu llai deniadol i chi? Os nad ydych yn sengl a heb blant, dychmygwch os gwelwch yn dda pa nodweddion tai a rennir fyddai'n ddeniadol i chi pe byddech yn sengl a heb blant.

NEWIDIWCH DREFN YR OPSIYNAU AR HAP

Llawer mwy deniadol

Ychydig yn fwy deniadol

Dim gwahaniaeth

Ychydig yn llai deniadol

Llawer llai deniadol

Gallu dewis gyda phwy yr ydych yn byw

Nodweddion diogelwch - e.e. cloeon ar ystafelloedd gwely a chypyrddau cegin

Bod ag ystafell eistedd i'w rhannu

Bod â mwy nag un ystafell ymolchi

Rhannu gyda dim ond un neu ddau arall

Bod â rhywun diduedd ar gael i helpu datrys anghydfod gyda chyd-letywyr

Arbed o leiaf £20 yr wythnos mewn rhent

55

Page 57: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

Gwybod y cynhaliwyd gwiriadau cefndir ar gyd-letywyr

Rhent yn cynnwys biliau cyfleustod a'r dreth gyngor

GOFYN I BAWB

7. A meddwl am nodweddion tai a rennir a restrir yn y cwestiwn blaenorol, a oes unrhyw nodweddion eraill mewn tai a rennir a fyddai'n ei wneud yn fwy deniadol i chi?(Agor blwch testun)Dim sylwadau

GOFYN I BAWB

8. A oes gennych unrhyw sylwadau ar dai a rennir ar gyfer pobl sengl dan 35 oed yng Nghymru? (Agor blwch testun)Dim sylwadau

GOFYN I BAWB

9. Faint yw eich oed?

GOFYN I BAWB

10. A ydych chi'n…? 1. Gwryw2. Benyw

GOFYN I BAWB

11. Ym mhle yng Nghymru ydych chi'n byw?1. Blaenau Gwent2. Pen-y-bont ar Ogwr3. Caerffili4. Caerdydd5. Sir Gaerfyrddin6. Ceredigion7. Conwy8. Sir Ddinbych9. Sir y Fflint10. Gwynedd11. Ynys Môn12. Merthyr Tudful 13. Sir Fynwy 14. Castell-nedd Port Talbot15. Casnewydd 16. Sir Benfro17. Powys18. Rhondda Cynon Taf 19. Abertawe 20. Torfaen

56

Page 58: Crynodeb Gweithredol - Home - Community Housing Cymru · Web viewSir Gaerfyrddin £69.08 Caerfyrddin £50.00 £19.08 Abertawe £73.19 Abertawe £57.34 £15.85 Castell-nedd Port Talbot

21. Bro Morgannwg22. Wrecsam

GOFYN I BAWB

12. Beth yw cyfanswm incwm blynyddol eich aelwyd, cyn tynnu treth?1. Hyd at £7,0002. £7,001 i £14,0003. £14,001 i £21,0004. £21,001 i £28,0005. £28,001 i £34,0006. £34,001 i £41,0007. £41,001 i £48,0008. £48,001 neu fwy9. Dewis peidio ateb10. Dim yn gwybod

GOFYN I BAWB

13. Ydych chi (neu'ch partner, os yn berthnasol) yn hawlio unrhyw Fudd-dal Tai ar hyn i bryd i helpu talu eich rhent?

1. Ydw/Ydi2. Na3. Dewis peidio dweud4. Dim yn berthnasol (dim yn talu unrhyw rent)

57