prif swyddog meddygol cymru adroddiad blynyddol 2013-14 · prif swyddog meddygol cymru: adroddiad...

65
Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 Iachach, Hapusach, Tecach

Upload: doantuyen

Post on 16-Jun-2019

216 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol CymruAdroddiad Blynyddol 2013-14Iachach, Hapusach, Tecach

Page 2: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

WG21822 © Hawlfraint y Goron 2014ISBN 978-1-4734-2232-2

CydnabyddiaethHoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am gyfrannu at ddatblygu a golygu’r adroddiad hwn. Diolch yn arbennig i Helen Jones, Jill Nicholas ac Alice Margetson am reoli cynhyrchu’r adroddiad, a hefyd i’r Dr Chris Riley, y Dr Chris Jones, y Dr James Ansell, y Dr Karen Gully, y Dr Andrew Riley, Chris Brereton, Chris Newbrook, Cath Roberts, Alun Williams, Chantelle Meah. Hoffwn gydnabod hefyd gyfraniad cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu deunyddiau ac am eu cymorth yn adolygu’r adroddiad hwn.

Ffynhonnell: © Hawlfraint y Goron (2014) Croeso Cymru

Page 3: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Llythyr at Brif Weinidog Cymru Yn fy ail Adroddiad Blynyddol, rwy’n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau o bwys, gwybodaeth sydd ar gael o’r newydd, y cynnydd yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio, ac rwy’n cyfeirio at feysydd lle y gellid cymryd camau pellach.

Roedd adroddiad y llynedd yn edrych ar Gymru o safbwynt iechyd, hapusrwydd a thegwch. Gwneuthum argymhellion a fyddai’n help i wella ein cyflawni yn y tri maes hyn. Ym mhennod olaf yr adroddiad hwn, rwy’n disgrifio sut mae’r cynnydd wedi digwydd yn gyflymach mewn rhai meysydd na mewn meysydd eraill.

A throi at eleni, rwy’n tynnu sylw at feysydd penodol yng nghyswllt gwaith atal a gofal o ansawdd. Mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar ‘atal yr hyn y gellir ei atal’; gwella diogelwch ein gwasanaethau; ac ar egluro cyd-ddisgwyliadau unigolion a’r system iechyd. Rwy’n croesawu’r ffaith bod gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol wedi cael mwy o amlygrwydd eleni. Y gwasanaethau hyn yw sylfaen system iechyd effeithiol ac effeithlon ac rwy’n disgrifio’r swyddogaeth bwysig sydd ganddynt yn diwallu anghenion ein poblogaeth. Rwy’n pwysleisio hefyd y bydd angen datblygu’r gwasanaethau hyn eto er mwyn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaen. Mae lle i ehangu e-iechyd a hefyd mae angen sicrhau ein bod yn camu ymlaen i leihau anghydraddoldebau iechyd, a hynny i gyd yng nghyd-destun system sy’n cefnogi perthynas bersonol ac ymddiriedaeth rhwng clinigwyr a’u cleifion, sef yr hyn sydd wrth wraidd yr hyn a elwir yn system gofal iechyd ddarbodus.

Eleni, ymgynghorwyd ynghylch Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd. Ei nod yw cymryd camau ymarferol i fynd i’r afael â risgiau penodol i iechyd y cyhoedd. Mae’n eistedd ochr yn ochr â Bil Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol sy’n cynnig mecanwaith i ddylanwadu ar benderfyniadau ar draws pob maes polisi i sicrhau gwell iechyd a lles. Mae’n hanfodol inni fynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd afiechyd a bydd y datblygiadau deddfwriaethol arloesol hyn yn helpu i wneud hynny.

Mae meysydd penodol sy’n destun pryder o hyd, yn enwedig y niwed parhaus yn sgil tybaco. Er gwaethaf

arwyddion calonogol bod cyfraddau ysmygu wedi gostwng i 21 y cant, ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig y gwelir y patrwm ysmygu ar ei gryfaf o hyd. Mae dadl wedi bod ynghylch y cynnydd cyflym a welwyd yn y nifer sy’n defnyddio e-sigaréts ac rwy’n croesawu datganiad y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus am hyn sy’n cynghori y dylid bod yn ochelgar wrth eu hyrwyddo. Mae niwed yn sgil alcohol yn dal yn faes lle mae angen cymryd camau ac rwy’n gwbl gefnogol i gyflwyno lleiafswm pris fesul uned.

Agwedd arall ar ein ffordd o fyw sydd wedi tynnu rhagor o sylw yn ddiweddar yw’r lles mawr y mae gweithgarwch corfforol yn ei wneud i’n hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol. Mae’n dod yn fwyfwy clir y dylem hyrwyddo rhagor o weithgarwch corfforol ym mhob agwedd ar ein bywydau.

Yn olaf, mae gordewdra a diffyg maeth wedi cael sylw yn y wasg yng nghyswllt fforddiadwyedd bwyd a thwf y banciau bwyd, yn ogystal ag yn argymhellion drafft y Pwyllgor Cynghori Sefydlog ar Faeth ynghylch bwyta siwgr. Rhaid inni ystyried sut mae creu’r amgylchiadau lle mae deiet iach yn fforddiadwy ac ar gael i bobl. Gall hyn olygu bod angen cymryd camau gyda pholisïau sydd y tu hwnt i bwerau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys polisi trethiant a pholisi bwyd – dyma faes lle y mae angen gweithredu ar frys.

Y llynedd, daeth yr adroddiad i ben gyda thri phrif gasgliad– bod angen canolbwyntio’n ddigyfaddawd ar waith atal, ar ansawdd gofal iechyd ac ar ddod â’n hymdrechion i leihau afiechyd a thlodi’n nes at ei gilydd. Yr un nodau sydd flaenaf yn fy nghyngor eleni.

Yn gywir,

Dr Ruth Hussey OBE, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Page 4: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Rhestr o’r FfigurauFfigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn cael eu trin ar gyfer afiechydon neu gyflyrau penodol 7

Ffigur 2: Disgwyliad oes adeg geni yng Nghymru, 1991-93 tan 2010-12 8

Ffigur 3: Y bwlch o ran disgwyliad oes rhwng cwintel mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru 8

Ffigur 4: Disgwyliad oes iach adeg geni, a’r bwlch anghydraddoldeb, Cymru, 2005-09 a 2008-12 10

Ffigur 5: Hierarchaeth anghenion 11

Ffigur 6: Cyfraddau marwolaethau yn ôl yr hyn sy’n ei achosi yng Nghymru – pob oedran 13

Ffigur 7: Cyfraddau marwolaethau yn ôl yr hyn sy’n ei achosi yng Nghymru – o dan 75 oed 13

Ffigur 8: Marwolaethau osgoadwy, marwolaethau ataliadwy a marwolaethau o afiechydon triniadwy yng Nghymru 2001-2012 16

Ffigur 9: Pob marwolaeth osgoadwy, Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru, 2001-2012 16

Ffigur 10: Marwolaethau osgoadwy, cyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (MALIC 2011), Cymru 2008-10 17

Ffigur 11: Marwolaethau osgoadwy (nifer), yn ôl prif achosion manwl, 2001-2011, Cymru 17

Ffigur 12: Clefyd cardiofasgwlaidd: atal eilaidd (CHD08) 22

Ffigur 13: Yr ambarél llythrennedd iechyd 23

Ffigur 14: Y ffactorau niferus sy’n dylanwadu ar gyflenwad a galw ym maes gofal sylfaenol 27

Ffigur 15: Cofrestrau cyflyrau cronig 29

Ffigur 16: Marwolaethau ataliadwy, cyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (MALIC 2011), Cymru 2008-10 32

Ffigur 17: Cyfraddau Imiwneiddio yn y Deyrnas Unedig 35

Ffigur 18: Cyfradd y plant preswyl sydd wedi cael pob brechiad 36

Ffigur 19: Y nifer sy’n cael y brechlyn blynyddol rhag ffliw fesul tymor [1] 37

Ffigur 20: Staff y GIG sy’n cael Brechlyn Ffliw Tymhorol – Cyfraddau Imiwneiddio 38

Ffigur 21: Nifer yr Achosion a Chyfradd y Diciâu fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru, 2003-12 39

Ffigur 22: Nifer yr ymddygiadau iach a gofnodwyd gan oedolion, 2009 a 2010 43

Ffigur 23: D3MFT Cymedrig a phydredd dannedd plant deuddeg oed yng Nghymru 1998-99 i 2012-13 48

Ffigur 24: Oedolion sy’n Ysmygu yng Nghymru, 2003/04 i 2013 49

Ffigur 25: Marwolaethau o afiechydon triniadwy, cyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (MALIC 2011), Cymru 2008-10 53

Ffigur 26: Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol 54

Page 5: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

CynnwysPennod 1: Iechyd, hapusrwydd a thegwch 6 Y pethau sylfaenol 6Disgwyliad oes iach: y bwlch anghydraddoldeb 9Patrymau lles 10Patrymau marwolaethau 12Marwolaethau 12Marwolaethau osgoadwy 12Marwolaethau osgoadwy, ataliadwy a marwolaethau o achosion triniadwy yng Nghymru 16Argymhellion 18

Pennod 2: Gwasanaethau sylfaenol a chymunedol 19Sylfaen hanfodol gofal iechyd 19Her gweithgarwch bob dydd 20Sicrhau ansawdd da a gwell safonau 21Gweithio’n well gyda’r cyhoedd 22Cynnal a gwella mynediad 23Rheoli cymhlethdod drwy gydlynu 25Sicrhau bod y gweithlu’n ddigonol ac yn gynaliadwy y dyfodol 26Rhannu cyfrifoldeb 28Gwell gwaith tîm 28Argymhellion 29

Pennod 3: Osgoi niwed drwy atal yr hyn y gellir ei atal 32Amgylchiadau economaidd-gymdeithasol 32Ymyriadau Iechyd yr Amgylchedd 33Ansawdd aer yng Nghymru 33Carbon monocsid (CO) yng Nghymru 33Effaith Sŵn 34Newid yn yr Hinsawdd 34Atal Clefydau Trosglwyddadwy 35Brechu yng Nghymru 2013 35Y Frech Goch 2012-13 36Y Pas 37Brechu rhag ffliw tymhorol 37Ymwrthedd i Gyffuriau 38Y Diciâu (TB) 38

Firws Papiloma Dynol a Chanser yr Oroffaryncs 39Llid yr Ymennydd 40Brechlyn Meningococcaidd B 41Argymhellion 41

Pennod 4: Hybu ymddygiadau iach drwy atal yr hyn y gellir ei atal 43Gweithgarwch corfforol 45Maeth 46Gwella ymddygiad iechyd deintyddol plant 47Ysmygu 49Alcohol 51Argymhellion 52

Pennod 5: Osgoi niwed drwy ddarparu gofal iechyd o ansawdd da sy’n fwy diogel 53Gwella ansawdd 53Tryloywder 54Marwolaethau yn yr ysbyty – a yw hi’n fuddiol eu cyfrif? 55Gweithredu ar farwolaethau y gellir eu hosgoi 55Canser 56Clefyd y galon 57Gwneud gofal yn haws cael gafael arno 57Gofal iechyd darbodus 58Argymhellion 59

Atodiad: Edrych yn ôl ac edrych ymlaen 62Gwneud Cymru yn iachach, yn hapusach ac yn decach 62Amddiffyn iechyd y genedl 62Sicrhau iechyd a hapusrwydd drwy waith atal 63Creu gwasanaethau gofal iechyd diogel a chydnerth i’r 20ain ganrif 63Cymryd camau gyda golwg ar y berthynas rhwng iechyd a chyfoeth 63

Page 6: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Pennod 1

O ran tegwch, mae’r bwlch iechyd rhwng y grwpiau mwyaf difreintiedig a’r rhai lleiaf difreintiedig yn dal yn destun pryder, er bod pethau wedi gwella. Mae heriau pwysig yn ein hwynebu o hyd, fel y dengys dadansoddiad o batrwm marwolaethau yng Nghymru.

Y pethau sylfaenol

Yn adroddiad y llynedd, rhoddais olwg gyffredinol ar y tair elfen gydgysylltiedig sy’n dylanwadu ar les pobl - iechyd, hapusrwydd a thegwch. Mae rhagor o ddatblygiadau wedi bod yn y darlun cyffredinol:

• mae poblogaeth Cymru yn dal i dyfu ac yn byw’n hŷn – yn 2013, roedd oddeutu 3.1 miliwn o bobl yng Nghymru1, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i oddeutu 3.3 miliwn erbyn 20372.

• mae’r boblogaeth yn heneiddio – erbyn hyn mae mwy o bobl hŷn nag o blant yng Nghymru (mae 18 y cant o’r boblogaeth o dan 16 oed ac mae

19 y cant yn 65 oed ac yn hŷn3). Bydd hyn yn parhau a rhagwelir y bydd nifer y bobl sy’n 65 oed ac yn hŷn yn debygol o gynyddu 50 y cant rhwng 2012 a 2037 ac y bydd y nifer sy’n 85 oed yn dyblu a mwy4.

• yn gyffredinol, mae pobl yn gallu disgwyl byw’n hŷn o hyd, a’r oedran i ddynion yw 78.2 yn 2010-12 ac 82.2 i fenywod, sy’n dangos bod y bwlch yn cau rhwng dynion a menywod (Ffigur 2)5.

• mae’r rhan fwyaf o oedolion yn dweud bod eu hiechyd yn gyffredinol dda (80 y cant yn 2013)6. Dywedodd traean o’r oedolion hefyd fod eu gweithgareddau beunyddiol yn cael eu cyfyngu oherwydd problem iechyd neu anabledd tymor hir7, sy’n awgrymu, er bod pobl yn wynebu cyfyngiadau o ryw fath, eu bod serch hynny yn dal i feddwl eu bod yn dda eu hiechyd.

Iechyd, hapusrwydd a thegwch

Mae’r bennod hon yn cynnig golwg gyffredinol ar iechyd pobl yng Nghymru a chyflwyniad i’r adroddiad.

6

Ffynhonnell: © Hawlfraint y Goron (2014) Croeso Cymru

Page 7: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

7

• mae ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd yn gyffredin o hyd (gweler Tabl 1 ar dudalen 9), er bod ysmygu’n gostwng, a’r ganran wedi gostwng i 21 y cant ymhlith oedolion8.

• mae cyflyrau cronig yn dod yn fwy cyffredin, a’r rheini’n rhannol gysylltiedig â heneiddio, gyda thua hanner yr oedolion yn dweud eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am gyflwr megis pwysedd gwaed uchel (20 y cant), afiechyd resbiradol (14 y cant), arthritis (12 y cant), afiechyd meddwl (12 y cant), cyflwr ar y galon (wyth y cant), neu ddiabetes (saith y cant) (Ffigur 1), a thua chwarter yn cael eu trin am fwy nag un afiechyd9.

• nid oes fawr o newid wedi bod yn lefel y marwolaethau er bod y bwlch yn cau rhwng dynion a menywod am fod cyfradd marwolaethau dynion wedi gostwng yn gyflymach. Roedd 31,502 o farwolaethau yn 2012, ac roedd tua dwy ran o dair o’r rhain yn bobl 75 oed neu hŷn10.

Serch hynny, mae anghydraddoldebau i’w gweld o hyd:

• ni all y rheini sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl byw mor hen â’r rheini sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig; er bod y bwlch rhwng y cwintel mwyaf difreintiedig a’r cwintel lleiaf difreintiedig yn fwy yn 2010-12 nag yr oedd yn 2001-03, mae arwyddion cadarnhaol ei fod wedi bod yn sefydlogi’n ddiweddar: mae’r bwlch wedi bod yn sefydlog neu’n gostwng i ddynion ers tua 2005-07, ac i fenywod ers tua 2007-09 (Ffigur 3).

• roedd oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn llai tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn dda ac yn fwy tebygol o ddweud bod eu hafiechyd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru - SDR 77/2014

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

* Ac eithrio cyfyngiadau ar weithgareddau beunyddiol, mae’r ffigurau’n dangos canran yr oedolion sy’n dweud eu bod yn cael triniaeth ar y pryd.

Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn cael eu trin ar gyfer afiechydon neu gyflyrau penodol*

Page 8: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffigur 2: Disgwyliad oes adeg geni yng Nghymru, 1991-93 tan 2010-12

Yn defnyddio amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig, ac yn dyrannu'r amcangyfrifon i gwintelau MALIC ar ôl newid ffiniau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ar sail y data a echdynnwyd 11/12/2013

68

70

72

74

76

78

80

82

84

menywod

gwrywod

1991

-199

3Disg

wyl

iad

oes a

deg

geni

fesu

l bly

nydd

oedd

Blynyddoedd

1992

-199

4

1993

-199

5

1994

-199

6

1995

-199

7

1996

-199

8

1997

-199

9

1998

-200

0

1999

-200

1

2000

-200

2

2001

-200

3

2002

-200

4

2003

-200

5

2004

-200

6

2005

-200

7

2006

-200

8

2007

-200

9

2008

-201

0

2009

-201

1

2010

-201

2

Ffigur 3: Y bwlch o ran disgwyliad oes rhwng cwintel mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio data’r ONS

0

1

2

3

4

5

6

7

8

bwlch dynion

bwlch menywod

2001

-200

3

2002

-200

4

2003

-200

5

2004

-200

6

2005

-200

7

2006

-200

8

2007

-200

9

2008

-201

0

2009

-201

1

2010

-201

2

*ar sail sgoriau MALIC

Y bw

lch

o ra

n di

sgw

ylia

d oe

s, fe

sul b

lyny

ddoe

dd

Blynyddoedd

8

Page 9: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Tabl 1: Ymddygiadau sy’n peryglu iechyd oedolion, 2013

21% Wedi ysmygu

42% Wedi yfed mwy na’r canllawiau dyddiol yn yr wythnos flaenorol

26% Wedi goryfed mewn pyliau (ddwywaith gymaint â’r canllawiau dyddiol) yn yr wythnos flaenorol

67%Wedi bwyta llai na 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol

71% Wedi bod yn gorfforol egnïol ar lai na 5 niwrnod yn yr wythnos flaenorol

34% Heb fod yn gorfforol egnïol ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos flaenorol

58% Dros bwysau neu’n ordew

22% Yn ordew

Mae rhywfaint o wybodaeth newydd ar gael erbyn hyn ynghylch disgwyliad oes iach a lles.

Disgwyliad oes iach: y bwlch anghydraddoldebEr y gall byw’n hŷn fod yn beth i’w groesawu, mae’n bwysig bod y cyfnod hwnnw’n gyfnod o iechyd da.

Mae disgwyliad oes iach adeg geni’n cynrychioli nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl eu byw yn iach. Os bydd y boblogaeth yn cael ei grwpio’n bumedau (neu’n gwintelau) o ran lefelau amddifadedd cynyddol, gwelir bod bylchau sylweddol yn nisgwyliad oes iach pob cwintel, ac mae’r ardaloedd llai difreintiedig yn gwneud yn well o lawer.

Mae Ffigur 4 yn dangos y newid yn y bwlch anghydraddoldeb rhwng 2005-09 a 2008-12. Mae’n mesur y bwlch anghydraddoldeb o ran disgwyliad oes iach gan ddefnyddio’r Mynegai Anghydraddoldeb Llithr (SII), sy’n mesur y gwahaniaeth o ran Disgwyliad Oes Iach (mewn blynyddoedd) rhwng y mwyaf difreintiedig a’r lleiaf difreintiedig, gan ystyried y dosbarthiad ar draws pob cwintel amddifadedd. Mae’r siart yn dangos bod disgwyliad oes iach dynion wedi cynyddu 1.1 o flynyddoedd a disgwyliad oes menywod wedi cynyddu 0.8 o flynyddoedd. Nid yw’r bwlch anghydraddoldeb, fel y’i mesurir gan y Mynegai wedi newid fawr ddim. Mae’n 18.6 o flynyddoedd i ddynion ac yn 17.9 o flynyddoedd i fenywod.

Ffynhonnell: © Hawlfraint y Goron (2014) Croeso Cymru

9

Page 10: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffynhonnell: © Hawlfraint y Goron (2014) Croeso Cymru

10

Ffigur 4: Disgwyliad oes iach adeg geni, a'r bwlch anghydraddoldeb, Cymru, 2005-09 a 2008-12

Dynion

Menywod

Pawb

63.5

64.6

65.3

66.1

64.4

65.4

2005-20092008-2012

95% cyfwng hyderBwlch anghydraddoldeb (SII mewn blynyddoedd)

18.8

18.418.3

18.6

Cyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ADDE ac MYE (Swyddfa Ystadegau Gwladol), MALIC ac Arolwg Iechyd Cymru (Llywodraeth Cymru) SII – mynegrif y goleddf anghydraddoldeb

17.817.9

Patrymau llesNid yw lles yr un fath yn union â hapusrwydd, ond mae’n dylanwadu ar lawer o agweddau ar ein bywyd. Mae’n gysyniad cymhleth, ac yn cynnwys llawer o elfennau – lles corfforol a lles meddyliol a’r rhyngweithio rhyngddynt.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru11 yn cynnwys cwestiynau am les goddrychol yn gyffredinol, ac mae’n gofyn i oedolion sgorio i ba raddau y maent yn fodlon ar eu bywydau ar raddfa o sero (ddim yn fodlon o gwbl) i ddeg (cwbl fodlon). Yn 2013/14, y sgôr ar gyfartaledd oedd 7.7. Oedolion iau a hŷn

oedd y mwyaf bodlon (16-24 oed a 65 a throsodd) ar eu bywydau, ac roedd y rheini a oedd yn dda eu hiechyd yn fwy bodlon na’r rheini a oedd yn wael eu hiechyd. Mae Arolwg Iechyd Cymru yn dangos bod lles corfforol yn dirywio wrth i bobl heneiddio, bod lles meddyliol yn dirywio yn y blynyddoedd canol, sy’n gyson â chanfyddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ynglŷn â bodlonrwydd ar fywyd, bod lles corfforol a meddyliol menywod yn waeth na lles corfforol a meddyliol dynion a bod lles corfforol a meddyliol yn waeth yn yr ardaloedd mwy difreintiedig

Page 11: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Yr HunanGyflawniad

Hunan-barch – Hyder, Cyflawni, Urddas

Ffynnu

Lles

Anghenion Cymdeithasol – Cyfeillgarwch, Teulu, Perthynas, Cymuned

Diogelwch a Sicrwydd – Lloches, Arian, Swydd

Anghenion Ffisiolegol - Iechyd, Bwyd, Dŵr Glân, Aer Glân, Cwsg

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

11

Drwy ddadansoddi’r wybodaeth am les yn Arolwg Cenedlaethol Cymru12 yn fwy manwl, archwiliwyd natur a dosbarthiad lles yng Nghymru. Dynodwyd pedwar prif ‘fath’ o les ym mhoblogaeth Cymru:

• ‘nodweddiadol’ (43 y cant),

• ‘yn ffynnu’ (30 y cant),

• ‘yn straffaglu’ (14 y cant), a

• ‘gwerthfawr – pryderus’ - hynny yw pobl sydd â phatrwm lles cymysg (13 y cant).

Awgrymir y gall fod angen gwahanol bolisïau er mwyn cynyddu cyfran y boblogaeth sy’n dda eu lles neu i leihau’r gyfran sy’n wael eu lles. Awgrymir bod cynlluniau cymdogaeth, yn enwedig lle bydd y rheini’n gefn i asedau cymunedol, a chanolbwyntio ar urddas, parch ac ymgysylltu wrth ddarparu gwasanaethau, yn elfen ganolog o ran sicrhau bod pobl yn y categori ffynnu, gan fynd i’r afael ar yr un pryd ag anghenion unigol sylfaenol digonolrwydd – cael swydd, partner ac iechyd cyflawn – wrth wraidd gwella’r lefelau isaf o les. Mae hyn yn cyd-fynd â barn Maslow bod angen inni fodloni ein hanghenion sylfaenol yn gyntaf cyn inni allu sicrhau hunangyflawniad (Ffigur 5).

Ffigur 5: Hierarchaeth anghenion

Page 12: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffynhonnell: Marw gydag Urddas

12

Patrymau marwolaethauRoedd fy adroddiad blaenorol13 yn dweud bod modd categoreiddio llawer o farwolaethau yng Nghymru yn rhai y gellid eu hosgoi. Eleni, rwyf am ddweud rhagor am hynny, ond yn gyntaf, rwyf am nodi’r pwynt pwysig a godwyd yn gynharach yn 2014 ynghylch pa mor amharod yw llawer o bobl am y ffaith drist ond anochel ein bod i gyd am farw rywbryd. Mae’r data a gafwyd gan y Glymblaid Marw gydag Urddas yn anesmwytho rhywun a dylem i gyd eu hystyried. Mae’r arolwg o nifer fach o drigolion Cymru yn dangos y canlynol14.

• mae 85 y cant o bobl yn credu bod pobl yn anghyfforddus yn trafod marw a marwolaeth

• mae 46 y cant yn dweud nad ydynt yn gwybod beth yw dymuniadau diwedd-oes eu partner

• mae 29 y cant yn dweud eu bod wedi ysgrifennu ewyllys

• mae 30 y cant wedi cofrestru’n rhoddwyr organau neu mae ganddynt gerdyn rhoddi

• mae 28 y cant wedi rhoi gwybod i rywun am eu dymuniadau ar gyfer eu hangladd

• Dim ond dau y cant o bobl yng Nghymru - y gyfran isaf ym Mhrydain - sydd wedi ysgrifennu eu dymuniadau neu’r hyn a fyddai orau ganddynt o ran eu gofal yn y dyfodol, pe na allent wneud penderfyniadau drostynt eu hunain

• Mae 32 y cant yn dweud bod ffrae wedi codi yn y teulu ar ôl marwolaeth, ac mai arian neu eiddo oedd y prif reswm

Byddwn yn gwneud cynlluniau ar gyfer digwyddiadau mwyaf bywyd, genedigaethau, graddio, priodasau, eto i gyd, byddwn yn cuddio rhag y digwyddiad a allai gael yr effaith fwyaf

ar y rheini o’n hamgylch, a fydd yn dal yn fyw. Mae’n hollbwysig trafod diwedd oes a chynllunio a threfnu ar ei gyfer cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Dim ond drwy drafod yn agored ac yn onest y gall pobl wybod beth yw ein dymuniadau ac y gall rhywun gynllunio. Oherwydd nad ydym yn ddigon agored, mae hynny wedi effeithio ar ansawdd gofal ac ar ein gallu i fanteisio ar ystod o gymorth a gwasanaethau gofal sydd ar gael i gleifion ac i deuluoedd. Mae cynllunio ar gyfer diwedd oes yn fwy tebygol o sicrhau’r gofal, a maes o law y math o farwolaeth y byddai rhywun yn dymuno’u cael. Mae angen inni i gyd ystyried pum cam pwysig –

1. Ysgrifennwch eich ewyllys

2. Cofnodwch eich dymuniadau ar gyfer eich angladd

3. Cynlluniwch ar gyfer eich gofal a’ch cymorth yn y dyfodol

4. Gwnewch yn siŵr fod pobl yn gwybod beth yw eich penderfyniad ynglŷn â rhoi organau

5. Dywedwch wrth eich anwyliaid beth yw eich dymuniadau

Marwolaethau Clefydau’r cylchrediad a chanser yw’r prif bethau sy’n achosi marwolaethau, gan achosi bron chwech o bob deg marwolaeth. Afiechydon resbiradol yw’r achos mwyaf wedyn. Ymhlith pobl iau (o dan 45 oed), ffactorau allanol oedd prif achos marwolaeth (gan gynnwys hunanladdiad a damweiniau); ymhlith y rheini sydd o dan 75 oed (a gellir categoreiddio’r marwolaethau hynny’n gynamserol o safbwynt ystadegol), y prif achos oedd canser; ac ymhlith y rheini sy’n 75 oed neu’n hŷn (y grŵp oedran lle y bydd y rhan fwyaf o farwolaethau’n digwydd), y prif achos oedd clefydau’r cylchrediad. Gwyddom y gallwn osgoi marwolaethau mewn llawer o achosion (Ffigurau 6 a 7) - mae cyfraddau marwolaethau o glefydau’r cylchrediad wedi gostwng yn gyflym er 2001 (44 y cant), a marwolaethau o ganser yn fwy araf (13 y cant). Mae angen inni ystyried ymhle y gallwn wneud rhagor.

Marwolaethau osgoadwyYn fy adroddiad y llynedd, nodais fod tua chwarter y marwolaethu’n rhai y gellid eu ‘hosgoi’. Marwolaethau

Page 13: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

13

yw’r rhain oherwydd afiechydon y mae ymyriadau iechyd cyhoeddus neu ofal iechyd ar gael i’w trin. Yn 2012, gwelwyd 7,486 o farwolaethau o’r fath yng Nghymru. Disgrifiwyd cysyniad marwolaethau osgoadwy yn gyntaf yn yr 1970au gan grŵp o Ysgol Feddygol Harvard. Cyflwynwyd rhestr o’r cyflyrau meddygol hynny na ddylent arwain at farwolaeth petai gofal meddygol effeithiol yn cael ei ddarparu mewn pryd. Dewiswyd dros 90

Ffigur 6: Cyfraddau marwolaethau yn ôl yr hyn sy'n eu hachosi yng Nghymru – pob oedran

Ffynhonnell: Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn defnyddio data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

(cyflwynwyd rhai newidiadau wrth godio achos marwolaeth yn 2011 ac mae'n bosibl na ellir cymharu'r ffigurau'n uniongyrchol â'r blynyddoedd a fu)

0

50

100

150

200

250

300

cylchrediad

resbiradol

allanol

canser

2012

2008

2009

2010

2011

2007

2006

2005

2003

2004

2002

2001

Cyfra

dd w

edi'i

safo

ni y

n ôl

pob

10

0,00

0 o'

r bob

loga

eth

Blwyddyn

Ffigur 7: Cyfraddau marwolaethau yn ôl yr hyn sy'n eu hachosi yng Nghymru – o dan 75 oed

Ffynhonnell: Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn defnyddio data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

0

20

40

60

80

100

120

140

cylchrediad

resbiradol

allanol

canser

201220

08

2009

2010

2011

2007

2006

2005

2003

2004

2002

2001

Cyfra

dd w

edi'i

safo

ni y

n ôl

pob

10

0,00

0 o'

r bob

loga

eth

Blwyddyn(cyflwynwyd rhai newidiadau wrth godio achos marwolaeth yn 2011 ac mae'n bosibl na ellir cymharu'r ffigurau'n uniongyrchol â'r blynyddoedd a fu)

o gyflyrau yr ystyrid y gellid eu hosgoi a/neu eu trin. Bwriedid i hyn dynnu sylw at feysydd o ansawdd gofal iechyd y byddai o fudd eu gwella. Mae ymchwilwyr wedyn wedi cyflwyno cysyniadau ‘triniadwy’ ac ‘osgoadwy’ er mwyn categoreiddio’r rhesymau dros farwolaethau’n fanylach (Tabl 3). Mae’r tabl yn dangos bod rhai categorïau’n rhai ataliadwy, rhai’n driniadwy a bod rhai yn disgyn i’r ddau gategori.

Page 14: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

14

Tabl 3: Disgrifiad o farwolaethau ataliadwy, marwolaethau osgoadwy a marwolaethau o afiechydon triniadwy

Mesur Disgrifiad

Marwolaethau ataliadwy (iechyd y cyhoedd)

“Byddai modd osgoi pob marwolaeth neu’r rhan fwyaf ohonynt drwy gymryd camau ymyrryd iechyd y cyhoedd yn yr ystyr ehangaf”

Mae marwolaeth yn ataliadwy, os, yng ngoleuni’r ddealltwriaeth o’r penderfynyddion iechyd, y gellid osgoi pob marwolaeth o’r fath neu bron pob marwolaeth o’r fath o’r achos hwn (a dibynnu ar derfynau oedran os yw hynny’n briodol) drwy gymryd camau ymyrryd iechyd y cyhoedd yn yr ystyr ehangaf

Marwolaethau o afiechydon triniadwy (triniadwy)

“Gellid eu hosgoi drwy ddarparu gofal iechyd o ansawdd”

Mae marwolaeth yn driniadwy os, yng ngoleuni’r wybodaeth a’r dechnoleg feddygol sydd ar gael adeg y farwolaeth, y gellid osgoi pob marwolaeth neu’r rhan fwyaf o farwolaethau o’r achos hwnnw (a dibynnu ar derfynau oedran os yw hynny’n briodol) drwy ddarparu gofal iechyd o ansawdd da

Marwolaethau osgoadwy (ansawdd gofal iechyd)

“Yn ôl y diffiniad, mae’n farwolaeth y gellid ei hatal, neu’n farwolaeth o achos triniadwy, neu’r ddau ond dim ond unwaith y cofnodir pob marwolaeth”

Os bydd marwolaeth yn digwydd o fewn y diffiniad ataliadwy a thriniadwy bydd y marwolaethau hynny’n cael eu cyfrif yn y ddau gategori pan gânt eu cyflwyno ar wahân.

Tabl 4: Rhestr o’r cyflyrau sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yn y mesurau ar gyfer marwolaethau o achosion triniadwy ac ataliadwy

Cyflwr Oedran Triniadwy Ataliadwy

HEINTIAUDiciâu 0-74 + +

Heintiau dethol 0-74 +

Hepatitis C 0-74 + +

HIV / AIDS Y CYFAN + +

NEOPLASMAU / CANSERAUCanser malaen y wefus / ceudod y geg / ffaryncs 0-74 +

Canser malaen yr oesoffagws 0-74 +

Canser malaen y stumog 0-74 +

Canser malaen y colon a'r rectwm 0-74 + +

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Page 15: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Canser malaen yr iau 0-74 +

Canser malaen y tracea, y broncws, yr ysgyfaint 0-74 +

Canser malaen y croen 0-74 + +

Canser malaen y fron 0-74 + +

Canser malaen ceg y groth, y groth 0-74 + +

Canser malaen y bledren 0-74 + +

Canser malaen y thyroid 0-74 +

Clefyd Hodgkin 0-74 +

Lewcemia 0-44 +

Neoplasmau anfalaen 0-74 +

Mesothelioma 0-74 +

MAETHOL, ENDOCRIN A METABOLAIDDDiabetes mellitus 0-49 + +

ANHWYLDER DEFNYDDIWR CYFFURIAUClefyd cysylltiedig ag alcohol 0-74 +

Anhwylderau defnyddio cyffuriau anghyfreithlon 0-74 +

ANHWYLDERAU NIWROLEGOLEpilepsi ac epilepticws statws 0-74 +

CLEFYD CARDIOFASGWLAIDDClefyd rhiwmatig a chlefydau eraill ar falfiau'r galon 0-74 +

Clefyd gorbwysedd 0-74 +

Clefyd isgemia'r galon 0-74 + +

DVT ac emboledd ysgyfeiniol 0-74 +

Clefyd fasgwlaidd yr ymennydd 0-74 +

Anwrism a dyraniad aortig 0-74 +

CLEFYD RESBIRADOLFfliw 0-74 + +

Niwmonia 0-74 +

Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint 0-74 +

Asthma 0-74 +

ANHWYLDERAU’R SYSTEM DREULIOWlserau gastrig a duodenal 0-74 +

Llid acíwt yr Abdomen, llid y pendics, rhwystr coluddol, cholecystitis/lithiasis, pancreatitis, torgest

0-74 +

ANHWYLDERAU GENITOWRINOLNeffritis a nefrosis 0-74 +

Iwropathi Rhwystrol a hyperplasia prostatig 0-74 +

MAMAU A BABANODCymhlethdodau yn y cyfnod amenedigol Y CYFAN +

Camffurfiad cynhenid 0-74 +

ANAF ANFWRIADOLDamweiniau cludiant Y CYFAN +

Anaf damweiniol Y CYFAN +

ANAFIADAU BWRIADOLHunanladdiad a hunananafu Y CYFAN +

Llofruddiaeth / ymosodiad Y CYFAN +

Anffawd i gleifion yn ystod gofal llawfeddygol a meddygol Y CYFAN + +15

Page 16: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Mae’n galonogol gweld bod nifer y marwolaethau osgoadwy, y marwolaethau ataliadwy a’r marwolaethau o afiechydon triniadwy i gyd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn yng Nghymru er 2001 (Ffigur 8). Wrth gymharu’r data hyn yn genedlaethol, roedd cyfraddau marwolaethau osgoadwy’n uwch yng Nghymru nag yr oeddent yn Lloegr rhwng 2001

Marwolaethau osgoadwy, marwolaethau ataliadwy a marwolaethau o achosion triniadwy yng Nghymru

a 2011. Y rheswm dros hyn yn bennaf yw bod cyfraniad clefydau cardiofasgwlaidd a chanserau penodol yng Nghymru yn dal yn gymharol uchel. Serch hynny, wrth gymharu Cymru â gogledd Lloegr sydd â nodweddion economaidd-gymdeithasol eithaf tebyg o ran eu poblogaeth, mae’r lefel a’r duedd hefyd yn debyg (Ffigur 9).

Ffigur 8: Marwolaethau osgoadwy, marwolaethau ataliadwy a marwolaethau o afiechydon triniadwy yng Nghymru 2001-2012

(Sylwer: mae rhai marwolaeth osgoadwy'n cael eu categoreiddio'n ataliadwy ac yn driniadwy)

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

0

50

100

150

200

250

300

pob marwolaeth osgoadwy

marwolaethau o afiechydon triniadwy

marwolaethau ataliadwy

2008

2009

2010

2012

2011

2007

2006

2005

2003

2004

2002

2001

Cyfra

dd w

edi'i

safo

ni y

n ôl

pob

100

,000

o'r

bobl

ogae

th

Blwyddyn

Ffigur 9: Pob marwolaeth osgoadwy, Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru*, 2001-2012

•mae rhai marwolaeth osgoadwy'n cael eu categoreiddio'n ataliadwy ac yn driniadwy Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

0

50

100

150

200

250

350

300

Gogledd-ddwyrain Lloegr

Gogledd-orllewin Lloegr

Cymru

2008

2009

2010

2012

2011

2007

2006

2005

2003

2004

2002

2001

Cyfra

dd y

n ôl

pob

100

,000

o'r

bobl

ogae

th

Blwyddyn

16

Page 17: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Yng Nghymru, mae gwahaniaeth sylweddol yng nghyfraddau marwolaethau osgoadwy’r grwpiau economaidd-gymdeithasol lleiaf a mwyaf difreintiedig (Ffigur 10), ac mae’r cyfraddau ddwywaith yn uwch ymhlith y grwpiau mwyaf difreintiedig na’r lleiaf difreintiedig.

Mae llawer o ffactorau wrth wraidd marwolaethau osgoadwy. Y prif achosion yng Nghymru yw clefyd isgemia’r galon a chanser yr ysgyfaint (Ffigur 11). Pwysleisir cyfleoedd i fynd i’r afael â’r rhain mewn penodau diweddarach.

Ffigur 11: Marwolaethau osgoadwy (nifer), yn ôl prif achosion manwl 2001-2012, Cymru

Ffynhonnell: Cyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ADDE ac MYE (Swyddfa Ystadegau Gwladol), MALIC (Llywodraeth Cymru)

0

500

1000

1500

2000

2500

3000

Clefyd isgemia’r galon

Neoplasm – trachea, broncws a’r ysgyfaint

Anaf damweiniol

Anhwylder rhwystrol cronig yr ysgyfaint

Clefydau fasgwlaidd yr ymennydd

Neoplasm – colon a rectwm

Clefyd cysylltiedig ag alcohol

Hunanladdiad

Neoplasm – y fron

Arall

2008

2009

2010

2011

2012

2007

2006

2005

2003

2004

2002

2001

Nife

r y m

arw

olae

th

Blwyddyn

Ffigur 10: Marwolaethau osgoadwy, cyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (MALIC 2011), Cymru 2008-10

Ffynhonnell: Cyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ADDE ac MYE (Swyddfa Ystadegau Gwladol),MALIC (Llywodraeth Cymru)

MenywodGwrywod

Lleiaf difreintiedig

174 103 201 133 254 150 317 185 429 241

Mwyaf difreintiedigCanolig Lleiaf difreintiedig

wedyn

Mwyaf difreintiedig

wedyn

Cyfwng hyder 95%

Cwintelau amddifadedd

Cyfra

dd w

edi'i

safo

ni y

n ôl

pob

10

0,00

0 o'

r bob

loga

eth

17

Page 18: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Nid marwolaeth yw unig ganlyniad yr afiechydon hyn. Bydd llawer o bobl cyn iddynt farw’n wynebu cyfnod o afiechyd, poen ac annifyrrwch. Bydd mynd i’r afael ag achos marwolaeth yn lleihau’r niwed hwnnw hefyd ac mae gofyn gweithredu mewn dwy ffordd er mwyn gwneud hynny.

• canolbwyntio ar weithredu ar farwolaethau a niwed osgoadwy ym mhob rhan o’r gymdeithas, gan ddechrau gyda’r camau y gall unigolion eu cymryd;

• lleihau nifer y marwolaethau a’r niwed sy’n digwydd yn sgil afiechydon triniadwy drwy sicrhau bod gofal iechyd mor effeithiol â phosibl.

Bydd y penodau a ganlyn yn mynd i’r afael â’r ddau beth hyn. Hefyd, bydd angen inni, yn ein hymateb, ystyried yn ofalus oblygiadau’r ffaith nad yw marwolaethau a niwed wedi’u dosbarthu’n gyfartal. Mae angen inni sicrhau ein bod yn rhoi sylw i batrwm cymhleth afiechyd ac yn ceisio mynd i’r afael â’i wreiddiau.

Er mwyn gwneud hyn, bydd gofyn nid yn unig inni gynnwys arbenigwyr, ond unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae hyn yn golygu annog a helpu pobl i fabwysiadu’r arferion, y sgiliau a’r wybodaeth a fydd o fudd iddynt drwy gydol eu bywyd. Rhaid rhoi’r pwyslais ar helpu pobl i ddod yn fwy galluog i ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Yng Nghymru, rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â phob un o elfennau marwolaethau osgoadwy a drafodir ym mhenodau nesaf yr adroddiad hwn. Cyn cyflwyno’r gwaith hwn, mae’n fuddiol ystyried y cynnydd sydd ar y gweill ym maes gofal sylfaenol sy’n sail i’n system iechyd a’n hymdrechion i gynnwys y gymuned ehangach er mwyn gwella iechyd a lles.

Argymhellion6. Dylai’r BILlau ddefnyddio marwolaethau osgoadwy’n

ffordd o fesur effeithiolrwydd gwaith atal a gofal iechyd, ac yn enwedig, i gynllunio camau i fynd i’r afael â’r bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig.

Cyfeiriadau1. Llywodraeth Cymru. 2013 Amcangyfrifon Canol Blwyddyn o’r Boblogaeth [Ar lein] (Saesneg yn unig) 2014.

Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/mid-year-estimates-population/?skip=1&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

2. Llywodraeth Cymru. Amcanestyniadau Poblogaeth Cenedlaethol sail 2012 - [Ar lein] (Saesneg yn unig) 2013. Ar gael yn http://wales.gov.uk/statistics-and-research/national-population-projections/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

3. Llywodraeth Cymru. 2013 Amcangyfrifon Canol Blwyddyn o’r Boblogaeth [Ar lein] (Saesneg yn unig) 2014. Cit.

4. Llywodraeth Cymru. Amcanestyniadau poblogaeth Cenedlaethol sail 2012 [Ar lein](Saesneg yn unig) 2013. Ar gael yn http://wales.gov.uk/statistics-and-research/national-population-projections/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

5. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Life Expectancy at Birth and at Age 65 by Local Areas in the United Kingdom, 2006-08 to 2010-12 [Ar lein] 2014. Ar gael yn www.ons.gov.uk/ons/rel/subnational-health4/life-expec-at-birth-age-65/2006-08-to-2010-12/stb-life-expectancy-at-birth-2006-08-to-2010-12.html [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

6. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2013: prif ganlyniadau cychwynnol (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014. Ar gael yn http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

7. Ibid.

8. Ibid.

9. Ibid.

10. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mortality Statistics: Deaths Registered in England and Wales by Area of Usual Residence, 2012 [Ar lein] 2014. Ar gael yn www.ons.gov.uk/ons/publications/re-reference-tables.html?edition=tcm%3A77-332351 [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

11. Llywodraeth Cymru. Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013-14 [Ar lein] 2014. Ar gael yn http://wales.gov.uk/statistics-and-research/nationals-survey/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

12. Chanfreau J, Cullinane C, Calcutt E a McManus S, NatCen Social Research. Wellbeing in Wales: Secondary analysis of the National Survey for Wales 2012-13 [Ar lein] 2014. Ar gael yn http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/2014/140430-national-survey-wellbeing-wales-2012-13-en.pdf [Cyrchwyd: Awst 14th 2014]

13. Hussey R. Prif Swyddog Meddygol Cymru – Adroddiad Bynyddol 2012-13: Iachach, Hapusach, Tecach [Ar lein] 2013. Ar gael yn http://wales.gov.uk/topics/health/cmo/publications/annual/report-2013/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

14. ComRes. NCPC – Dying Matters Survey [Ar lein] 2014. Ar gael yn www.comres.co.uk/poll/1173/ncpc-dying-matters-survey.htm [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

18

Page 19: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Pennod 2Gwasanaethau Gofal Iechyd Sylfaenol a Chymunedol

Cydnabyddir pwysigrwydd yr ymagwedd bersonol ac fe dynnir sylw at ffactorau sy’n berthnasol i’r cleifion megis lefelau o ‘ysgogiad’ a ‘Llythrennedd Iechyd’. Mae’n bosibl mynd i’r afael â’r materion hyn drwy sicrhau digon o gymorth, lliniaru’r risg sy’n gysylltiedig â diffyg cydraddoldeb ym maes iechyd a gwella canlyniadau’n gyffredinol.

Rhaid cofnodi’r gweithgarwch ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol ac ansawdd y gwasanaethau hynny’n fwy clir, er mwyn i’r wybodaeth honno fod yn sail ar gyfer blaenoriaethau i wella gwasanaethau.

Sylfaen hanfodol gofal iechydMae’r flwyddyn 2014-15 wedi cael ei disgrifio gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Flwyddyn Gofal Sylfaenol, sy’n cynnig cyfle i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi’u gosod eisoes a mynd i’r afael â rhai o’r pryderon sy’n codi. Gwasanaethau gofal sylfaenol yw’r pwynt cyswllt cyntaf hanfodol i bobl y mae angen help a chymorth arnynt. Maent yn rheoli ystod eang o symptomau ac yn fan cychwyn

Yn y bennod hon, sonnir am amrywiaeth enfawr y cymorth helaeth a ddarperir gan wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys nyrsys, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr, optometryddion a thimau iechyd meddwl.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

19

ar gyfer cael gafael ar wasanaethau mwy arbenigol. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys meddygon teulu a’u staff, fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill megis ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal. Yn aml iawn, bydd gan dimau gysylltiadau cryf â’r gwasanaethau cymdeithasol a’r asiantaethau lleol eraill a byddant yn gwneud cyfraniad hollbwysig at fywydau pobl ac at helpu’r GIG i weithio’n dda’n gyffredinol.

Mae systemau gofal iechyd sydd â gofal sylfaenol cryf yn tueddu i fod yn gysylltiedig â gwell iechyd ymhlith y cyhoedd a thwf arafach yng nghostau gofal iechyd. Maent mewn sefyllfa dda hefyd i weld ar bwy mae angen gofal iechyd ac i sicrhau bod dulliau atal a gwasanaethau ar gael yn deg iddynt. Mae’r gwasanaethau hyn wedi datblygu’n fawr ers eu sefydlu gyntaf a nod y bennod hon yw egluro:

• maint a chwmpas gofal sylfaenol a chymunedol;

• rhai datblygiadau diweddar;

• sut mae ymateb i’r heriau a wynebir ganddynt;

• cynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau hyn.

Page 20: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Her gweithgarwch bob dyddMae gofal sylfaenol a chymunedol yn fawr ac yn gymhleth. Amcangyfrifir bod dros 90 y cant o gysylltiadau’r GIG yn cael eu darparu fel hyn. Bydd gofal sylfaenol yn ymdrin â llawer iawn o ofal a hwnnw’n parhau i dyfu a chynyddu o ran ei gymhlethdod. Mae’r ffigurau yn y blwch isod yn dangos hynny.

Strwythur • Mae 4701 o bractisau Gwasanaethau Meddygol

Cyffredinol yn darparu gofal ar 663 o safleoedd.

• Mae oddeutu 68 y cant o eiddo’r meddygon teulu yn eu perchnogaeth hwy.

• Roedd 2,026 o feddygon teulu unigol (ar 30 Medi 20132), neu 6.6 meddyg teulu ar gyfer pob 10,000 o bobl.

• Mae cyfran gynyddol o feddygon teulu’n fenywod – 47 y cant3 erbyn hyn.

• Roedd 712 o fferyllfeydd cymunedol (ar 31 Mawrth 20134).

• Darparwyd triniaeth dan y GIG gan 1,392 o ddeintyddion yn 2012-13, neu 4.5 deintydd ar gyfer pob 10,000 o bobl5.

• 773 o optometryddion ac wyth o ymarferwyr meddygol offthalmig (ar 31 Rhagfyr 20136), neu 2.5 o ymarferwyr offthalmig ar gyfer pob 10,000 o bobl.

Gwybodaeth, cyngor, triniaeth ac atgyfeirio • Gwnaethpwyd 300,000 o alwadau i rif 0845 Galw

Iechyd Cymru yn 2013-14 ac fe gafwyd mwy na thair miliwn o ymweliadau â gwefan Galw Iechyd Cymru y GIG yn ystod 2013-147.

• Bydd meddygon teulu’n cynnal oddeutu 17 miliwn o ymgynghoriadau bob blwyddyn.

• Dywedodd 17 y cant o oedolion yn Arolwg Iechyd Cymru eu bod wedi siarad â meddyg teulu am eu hiechyd eu hunain yn y pythefnos cyn hynny (2012)8.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

• Dywedodd 71 y cant o oedolion yn Arolwg Iechyd Cymru eu bod wedi defnyddio deintydd yn y 12 mis blaenorol (2012) ac roedd 48 y cant wedi defnyddio optegydd9.

• Cwblhawyd 2.35 miliwn o gyrsiau triniaeth unigol gan Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol yn 2012-13. Roedd hyn yn cynnwys 1.86 miliwn o archwiliadau10.

• Mewn dros 46,000 o’r cyrsiau triniaeth a ddarparwyd, rhoddwyd farnais fflworid neu seliwyd tyllau sy’n helpu i atal pydredd dannedd11.

• Cynhaliwyd bron 759,000 o brofion llygaid gan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol y GIG yn 2013-1412, sef 247 o bob 1,000 o bobl.

• Atgyfeiriwyd 785,400 o gleifion gan feddygon teulu i gael apwyntiad claf allanol yn 2013-1413, sy’n gynnydd o 19.9 y cant o’i gymharu ag yn 2005-06. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 1 o bob 4 yng Nghymru.

Imiwneiddio a sgrinio• Bob blwyddyn, bydd oddeutu 35,000 o blant yng

Nghymru yn cael brechiadau cychwynnol, a nifer debyg yn cael pigiad atgyfnerthu bob blwyddyn.

• Cafodd dros 400,000 o bobl dros 65 oed frechiad rhag ffliw yn 2012-13.

• Sgriniwyd dros 111,000 o gleifion gan y Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig yn 2013-1414.

Rheoli cyflyrau cronig • Mae’r nifer sy’n cael diabetes wedi cynyddu o

5 i 7 y cant yn y boblogaeth sy’n oedolion, yn y degawd diwethaf15, ac roedd dros 170,000 o gleifion ar y gofrestr diabetes yn 2011/1216.

20

Page 21: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

• Pwysedd Gwaed Uchel – mae’r ffactor risg hwn yn un sylweddol ar gyfer strôc a chlefydau cardiofasgwlaidd wedi cynyddu 11.1 y cant rhwng 2006-07 a 2012-13 – 49,000 o achosion newydd ychwanegol17.

Rhoi meddyginiaethau• Rhoddodd fferyllfeydd cymunedol Cymru 76.2

miliwn o eitemau dan bresgripsiwn yn 201318.

• Rhwng 2002-03 a 2012-13, cynyddodd nifer y

Ar hyn o bryd, prin yw’r wybodaeth sydd ar gael am weithgarwch yn y maes nyrsio cymunedol a gwasanaethau therapi. Mae System Wybodaeth Gymunedol newydd wrthi’n cael ei chaffael i gau’r bwlch hwn ac i fod yn sail ar gyfer llunio proffil iawn o wasanaethau cymunedol.

Mae gwasanaethau a dulliau newydd yn cael eu datblygu o hyd a’u nod yw cynorthwyo pobl a helpu i newid eu bywydau er gwell.

presgripsiynau a roddwyd gan feddygon teulu dros 52 y cant19.

• Roedd hanner yr holl eitemau a roddwyd dan bresgripsiwn yng Nghymru yn 2012-13 i drin y system gardiofasgwlaidd a’r system nerfol ganolog20.

• Darparwyd Adolygiadau Defnydd o Feddyginiaethau gan 676 o fferyllfeydd cymunedol, pob un ar gyfartaledd yn cynnal 256 o adolygiadau yn ystod 2012-1321.

HeriauMae’r ystod eang o wasanaethau a darparwyr sy’n rhan o’r gwasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol yn wynebu heriau lu, gan gynnwys –

• sicrhau ansawdd da a gwell safonau;

• gweithio’n well gyda’r cyhoedd;

• cynnal a gwella mynediad gan sicrhau parhad y gofal ar yr un pryd;

• rheoli cymhlethdod drwy gydlynu;

• sicrhau bod y gweithlu’n ddigonol ac yn gynaliadwy.

Sicrhau ansawdd da a gwell safonauMae rhoi sylw i ansawdd yn hollbwysig. Ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, gall hyn fod yn anodd ei fesur oherwydd cymhlethdod a natur bersonol gwasanaethau o’r fath24. Ym maes Practis Cyffredinol, bwriad y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yw dangos i ba raddau y mae practisau unigol yn llwyddo’n gyffredinol drwy ddefnyddio system bwyntiau. Bydd practisau’n adolygu eu perfformiad hwy eu hunain, yn eu cymharu eu hunain â’r gorau ar draws y system ac yn canfod ffyrdd o wella gofal.

Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â golwg wanAr hyn o bryd, mae 200 o ymarferwyr22 drwy Gymru wedi’u hachredu fel rhan o Wasanaeth Golwg Gwan Cymru, gwasanaeth adsefydlu gofal sylfaenol i bobl â nam ar eu golwg. Mae’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Gwasanaeth i bobl o bob oed yw hwn, er mai oedran y cleifion ar gyfartaledd yw 82. Er 2004, mae dros 48,000 o asesiadau golwg gwan wedi’u cynnal, a dros 120,00023 o gymhorthion golwg gwan unigol wedi’u rhoi dan bresgripsiwn ar fenthyciad tymor hir i gleifion sydd â’u hangen, eitemau megis chwyddwydrau llaw, lampau a setiau teledu arbennig. Mae’r gwasanaeth hefyd yn caniatáu ar gyfer treulio amser un-ac-un estynedig gyda chleifion i drafod cyflwr eu golwg ac mae’n bosibl cyfeirio pobl ymlaen at weithwyr proffesiynol gofal iechyd, gwasanaethau cymorth ac addysg yn ôl yr angen.

Ffynhonnell: Llywodraeth CymruFfynhonnell: Llywodraeth Cymru

21

Page 22: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Bydd Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) yn adolygu ansawdd y gofal a ddarperir, yn rhannu enghreifftiau o arferion da ac yn rheoli pryderon a chwynion.

Ar sawl agwedd, megis rheoli’r risgiau ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd, mae’r perfformiad ar lefel BILlau yn gyson uchel, er bod amrywiadau o hyd rhwng practisau unigol. Drwyddi draw, bydd colesterol wyth o bob deg claf sydd â chlefyd coronaidd y

galon yng Nghymru yn cael ei reoli’n unol â’r lefel darged a argymhellir ac mae pwysedd gwaed bron 90 y cant o’r cleifion sydd wedi cael strôc neu bwl o isgemia dros dro yn unol â’r lefel darged neu’n is na hynny. Serch hynny, er mwyn troi anghydraddoldebau iechyd ar eu pen, rhaid inni sicrhau bod pob claf yn gallu manteisio ar y gwasanaethau hyn.

Ffigur 12: Clefyd cardiofasgwlaidd: atal eilaidd (CHD08)Canran y cleifion yr oedd eu cyfanswm mesuriad colestrol diwethaf yn 5mmol/l neu lai

Canr

an y

cle

ifion

(gw

erth

oedd

can

olrif

ol)

Bwrdd Iechyd Lleol (BILl)

Ffynhonnell: SDR 154/2013: Datganiad Ystadegol Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau http://wales.gov.uk/statistics-and-research/general-medical-services-contact/?lang=cy

0%

20%

40%

60%

80%

100%2012-132011-12

Prifysgol Caerdydd

a'r Fro

Aneurin Bevan

Prifysgol Cwm Taf

Prifysgol Abertawe

Bro Morgannwg

Addysgu Powys

Prifysgol Hywel

Dda

Prifysgol Betsi

Cadwaladr

Cymru

Er y bernir bod y cynllun Fframwaith Canlyniadau Ansawdd wedi bod yn effeithiol o ran gwella ansawdd y gofal ar gyfer cyflyrau cronig ac i ryw raddau o ran gostwng anghydraddoldebau, mae pryder ei fod wedi hybu diwylliant ‘ticio blychau’ ac y gallai danseilio dealltwriaeth gynhwysfawr o bryderon cleifion unigol.

Yn fy adroddiad blaenorol, soniais am y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud i hybu ‘penderfynu ar y cyd’ – gan helpu gweithwyr proffesiynol a chleifion i siarad yn fwy agored am yr opsiynau a’r hyn sydd orau gan bobl o ran gwahanol driniaethau. Ym mis Ebrill 2014, symleiddiwyd y Fframwaith gan fynd ati o’r newydd i roi pwyslais ar farn broffesiynol.

Gweithio’n well gyda’r cyhoedd Mae penderfynu ar y cyd hefyd yn rhan o ‘ofal iechyd darbodus’ yng Nghymru gyda’r nod o sicrhau bod y gofal yn diwallu anghenion cleifion unigol yn well.

Mae’r dull hwn (a drafodir eto ym Mhennod 5) ac yn enwedig y canolbwyntio ar ‘gydgynhyrchu’ yn addas iawn ar gyfer gofal sylfaenol, oherwydd mewn gofal sylfaenol, bydd y berthynas rhwng pobl yn chwarae rhan bwysig wrth iddynt ddefnyddio’u gwasanaethau lleol. Bydd cleifion yn aml yn cyfeirio at ‘fy meddyg teulu’, ‘fy neintydd’, ‘fy nyrs’ neu ‘fy mhractis’. Ar gyfer cyflyrau tymor hir yn benodol, mae’r gallu i weld clinigydd cyfarwydd yn aml yn flaenoriaeth bwysig i gleifion a’u teuluoedd. Mae dulliau o fesur dilyniant gofal a boddhad cleifion yn bwysig er mwyn cael sail ar gyfer asesu ansawdd gwasanaethau gofal sylfaenol.

22

Page 23: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Mae gofal iechyd darbodus yn sicrhau bod pobl yn deall ac yn rheoli eu hiechyd a’u problemau iechyd yn well. Er mwyn gwneud hyn, mae angen eu helpu i gael gwybodaeth glir a chymorth priodol. Mae gan bob unigolyn wahanol anghenion a rhaid teilwra’r gofal mewn ffordd briodol.

Mae proses annog a chefnogi pobl i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder i reoli eu hiechyd a’u gofal iechyd hwy eu hunain ac i allu manteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt wedi cael ei galw’n ‘ysgogi25’. Mae unigolion sydd wedi’u ‘hysgogi’n fawr’ yn fwy tebygol o ymddwyn mewn ffordd iach, peidio â gorfod mynd i’r ysbyty ac ymateb yn well i driniaeth. Maent yn gallu cymryd mwy o ran wrth benderfynu ar y cyd ac maent yn gweithio’n dda gyda gweithwyr proffesiynol. Mae newidiadau o’r fath o fudd i gleifion ac i dimau clinigol a byddant yn bwysig er mwyn sicrhau bod y GIG yn defnyddio’i adnoddau’n effeithiol.

Term yw ‘Llythrennedd iechyd’ sy’n disgrifio’r gallu i ddarllen a deall gwybodaeth am iechyd a gweithredu ar sail hynny. Mae’r ‘ambarél’ llythrennedd iechyd yn dangos pwysigrwydd cydberthnasau, dealltwriaeth a phartneriaethau i hwyluso rhannu’r wybodaeth hon i sicrhau gwell iechyd.

Ffigur 13: Yr ambarél llythrennedd iechyd26

Mae asiantaethau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio’n glos gyda defnyddwyr gwasanaethau mewn sefyllfa dda i weld ymhle y mae angen esboniadau a chymorth ychwanegol ar y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae gwaith ymchwil gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu’n dangos nad yw 43 y cant o oedolion y Deyrnas Unedig yn

llwyr ddeall y wybodaeth sy’n cynnwys testun, megis arwyddion yn yr ysbyty, taflenni a chanllawiau iechyd, ac nad yw un o bob tri oedolyn yn deall gwybodaeth rifol a gyflwynir iddynt. Roedd yr Adroddiad Llythrennedd Iechyd hefyd yn sylweddoli bod gweithwyr proffesiynol weithiau’n goramcangyfrif llythrennedd iechyd eu cleifion, ac mae cleifion yn gallu teimlo’n rhy swil i ofyn cwestiynau. Hefyd, bydd meddygon yn aml yn ategu gwybodaeth lafar drwy roi taflen i bobl, gan gymryd bod pobl yn gallu ei darllen. Gall hyn arwain at boen meddwl a diffyg dealltwriaeth i gleifion27.

Mae angen edrych yn fwy systematig ar sut mae gwella gwybodaeth i gleifion. Ni fydd sôn mewn ffordd simplistig am ‘gyfeirio pobl at ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael’ yn ddigon i ymgysylltu’n llwyr â chleifion. Mae angen cymryd camau i ddatblygu sgiliau cydbenderfynu gweithwyr proffesiynol a chleifion er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu grymuso i gyflawni’r nodau sydd o’r pwys mwyaf iddynt.

Cynnal a gwella mynediad Un o egwyddorion sylfaenol y GIG oedd bod gwasanaethau iechyd ar gael i bawb yn deg. Mae sicrhau ei bod yn haws i bobl gael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol yn her o hyd wrth i’r angen am ofal iechyd gynyddu ac wrth i’r adnoddau brinhau yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013-14, dywedodd 62 y cant o bobl a oedd wedi gweld eu meddyg teulu yn y 12 mis blaenorol ei bod yn hawdd cael gafael ar apwyntiad hwylus, ond roedd 38 y cant wedi’i chael hi’n anodd28. Mae’r ffigwr olaf hwn yn uwch nag yn 2012-13 (33 y cant29) er bod cynlluniau ar waith mewn llawer o bractisau i wella mynediad a newid amserau agor a systemau apwyntiadau:

• Yn 2013, roedd 95 y cant (445 o bractisau) o bractisau meddygon teulu yn cynnig apwyntiadau unrhyw bryd rhwng 17:00 ac 18:30 ar ddau ddiwrnod yn ystod yr wythnos fan leiaf30, cynnydd bach o 94 y cant yn 2012.

• Yn 2013, roedd 76 y cant (356 o bractisau) ar agor ar gyfer oriau craidd dyddiol, (08:00 tan 18:30) neu o fewn awr i’r oriau craidd dyddiol, o ddydd Llun tan ddydd Gwener, sydd wedi cynyddu o 68 y cant yn 2012.

23

Page 24: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Yn ogystal â gallu cael gafael ar apwyntiad yn gyflym, bydd cleifion hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i gynllunio apwyntiadau dilynol a chynnal dilyniant gofal drwy weld gweithiwr proffesiynol cyfarwydd. Rhoddir gwerth penodol ar ‘barhad y berthynas’ hon lle bydd y gofal sydd ei angen yn gymhleth neu’n helpu rhywun â chyflwr cronig.

Mae enghraifft o newid trawsffurfiol i wella mynediad i’w weld ym maes gwasanaethau golwg gwan drwy symud gwasanaethau i bractisau optometreg cymunedol mewn 190 o leoliadau ar y stryd fawr ledled y wlad. Mae’r amser teithio er mwyn i bobl gyrraedd y darparwr gwasanaeth agosaf wedi’i gwtogi i 80 y cant o bobl ac mae sgoriau anabledd wedi gostwng yn sylweddol. Dywed 97 y cant o’r cleifion eu bod yn gweld trefniadau’r gwasanaeth newydd yn help31,32,33.

Yn 2013-14, roedd 95 y cant o gleifion deintyddol y GIG yn fodlon ar y gwasanaeth deintyddol a gawsant; ac roedd 90 y cant yn fodlon ar yr amser y bu’n rhaid iddynt ddisgwyl am apwyntiad34.

Mae pob BILl yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun lleol - Cynllun Iechyd y Geg sy’n cynnwys camau i ddatblygu gwasanaethau gofal deintyddol a geneuol yn y gwasanaethau gofal sylfaenol, canolraddol ac eilaidd, gan gynnwys mynediad at wasanaethau. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd (Rhagfyr 2013) yn dangos bod nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau deintyddol y GIG yn rheolaidd wedi cynyddu 36,000 o’i gymharu ag ym mis Rhagfyr 201035.

Mae angen i ddarparwyr gofal sylfaenol eu hunain adolygu prosesau i ddileu diffyg effeithiolrwydd. Dylent weithio gyda chleifion a sefydliadau partner, er enghraifft, gyda golwg ar ohirio a chanslo apwyntiadau, gwybodaeth hwyr ac anghyflawn wrth ryddhau cleifion, ac anhawster cael gafael ar farn arbenigol.

Rhaid moderneiddio gwasanaethau er mwyn sicrhau:

• bod modelau gofal yn gynaliadwy;

• mai gwaith amlddisgyblaeth yw’r norm;

• bod gwasanaethau ffôn, e-bost a Skype yn cael eu defnyddio’n rheolaidd;

• bod yr holl adnoddau sydd ar gael yn cyfateb yn well i anghenion.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Rhaid i BILlau sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn cael yr adnoddau priodol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol at ddiwallu anghenion eu poblogaeth a chyfrannu’n effeithiol at effeithlonrwydd y system drwyddi draw.

Mae sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn newis iaith y cleifion hefyd yn ddull allweddol o fesur mynediad o safon. Mewn ymchwiliad diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg36.

• cytunai 90 y cant o’r rheini a holwyd y dylai fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i’w mynegi eu hunain yn Gymraeg wrth ymwneud â’r gwasanaeth iechyd ym mha le bynnag y maent yn byw yng Nghymru;

24

Page 25: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

• cytunai 82 y cant y dylid cynnig gwasanaeth Cymraeg i siaradwyr Cymraeg a bod hynny’n rhywbeth y mae ganddynt yr hawl iddo;

• cytunai 83 y cant os oes gweithwyr megis meddygon, nyrsys, deintyddion a fferyllwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael, y dylid cynnig apwyntiadau Cymraeg i siaradwyr Cymraeg bob tro.

Rhaid i wasanaethau gydnabod pwysigrwydd pob agwedd ar gyfathrebu effeithiol ac effaith hynny ar ansawdd y gofal a gaiff pobl. Mae iaith a chyfathrebu’n hollbwysig er mwyn sicrhau gofal o ansawdd da.

Rheoli cymhlethdod drwy gydlynuWrth i ofal fynd yn fwy cymhleth, mae cydlynu effeithiol yn hollbwysig er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar nifer o lefelau:

• ar gyfer gofal i unigolion;

• rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau lleol sydd ar gael;

• rhwng ystod eang o wasanaethau cymunedol a gwasanaethau arbenigol mewn ysbytai er mwyn sicrhau gofal di-fwlch.

Mae gofal rhagweithiol sydd wedi’i gynllunio yn beth sy’n digwydd fel mater o drefn ym maes gofal sylfaenol ac mae nyrsys ymarfer a chynorthwywyr gofal iechyd yn chwarae rhan gynyddol wrth ddarparu a chydlynu’r gofal.

Er mwyn gwella’r cysylltiadau â gofal arbenigol, gellir defnyddio dulliau amgen, gan gynnwys defnyddio telefeddygaeth i sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael yn ddi-oed dros y ffôn, e-bost a Skype a helpu i ddarparu gofal mwy cymhleth yn y gymuned. Wrth i’r boblogaeth hŷn gynyddu, bydd gofyn i’r datblygiadau hyn ddigwydd ar raddfa fwy o lawer. Drwy ddulliau o’r fath, gellir mynd i’r afael yn gyflym ac yn effeithiol â phroblemau’n fuan, sy’n golygu bod llai o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty’n ddiangen a bod adnoddau’n gallu cael eu defnyddio’n ddarbodus. Mae gwasanaethau arbenigol ym maes cardioleg a dermatoleg, maes lle mae’r atgyfeiriadau wedi bod yn cynyddu, yn feysydd lle y gallai cynnal digwyddiadau

addysgol proffesiynol a chytuno ar lwybrau gofal gael y dylanwad mwyaf.

Mae datblygiadau Technoleg Gwybodaeth (TG) yn fwyfwy pwysig i sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael mewn gwahanol leoliadau gofal iechyd er mwyn helpu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Bydd meddygon teulu’n cadw cofnod clinigol y claf lle y bydd pob agwedd ar ofal yn cael eu tynnu ynghyd mewn un man. Gellir creu cofnod crynodol i fod yn gefn i’r gofal a ddarperir mewn lleoliadau eraill, gan sicrhau bod gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei gwarchod.

Cytunwyd i ddarparu arian ar gyfer gwell TG a chysylltedd ym maes optometreg, deintyddiaeth a fferylliaeth yn 201437 a bydd hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i rannu gwybodaeth yn ddiogel ac i gydweithio’n fwy clos â staff mewn ysbytai. Bydd hyn yn golygu llai o ymgynghoriadau diangen mewn ysbytai, yn gwella gwybodaeth sy’n berthnasol i gleifion yn y pwynt gofal ac yn lleihau’r amserau aros i’r cleifion hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf.

Drwy ddatblygu gwasanaethau yn y gymuned, gellir sicrhau gwelliant sylweddol wrth reoli problemau iechyd cyffredin megis iselder a gorbryder38.

Mae’n bosibl bod gan gleifion sydd i bob golwg yn dioddef o broblem gorfforol neu gymdeithasol broblem iechyd meddwl dan yr wyneb ac mae cyflwyno Timau Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol wedi bod yn ddatblygiad eithriadol o bwysig er mwyn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael cyngor o’r ansawdd gorau a’u bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau priodol. Bydd gwasanaethau lleol yn caniatáu i glinigwyr gyfathrebu’n rhwydd a sicrhau bod y gofal yn cael ei gydlynu.

25

Page 26: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Cynaliadwyedd y gweithlu ac anghydraddoldebau iechydBydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn wynebu her arbennig wrth geisio datblygu’r gweithlu O blith gweithlu o ychydig dros 2000 o feddygon teulu39:

• mae bron chwarter y gweithlu’n feddygon teulu sy’n 55 oed neu’n hŷn (23 y cant) ac mae’r gyfran honno’n cynyddu (cynnydd o 52 y cant yn y degawd diwethaf).

• mae mwy a mwy o adroddiadau am swyddi gwag mewn practisau a’r ymateb i gynlluniau recriwtio’n wael.

• practisau un meddyg yw 10 y cant o’r practisau yng Nghymru (48) a bydd y rhain mewn sefyllfa arbennig o fregus os bydd anawsterau recriwtio’n parhau.

Dylai dosbarthiad y gweithlu adlewyrchu anghenion y boblogaeth ond fel y nodwyd yn fy adroddiad blaenorol, mewn gwirionedd mae’r ‘Ddeddf Gofal Wrthgyfartal’ yn parhau. Mae llai o wasanaethau ar gael i lawer o’r ardaloedd mwyaf anghenus a’r gwasanaethau hynny’n fwy anodd cael gafael arnynt.

Mae camau ar waith i fynd i’r afael â hyn drwy gyfrwng Rhaglen Deddf Gofal Wrthgyfartal Llywodraeth Cymru sy’n treialu modelau gofal newydd. Dylai’r holl BILLau, drwy gyfrwng eu systemau cynllunio, flaenoriaethu camau i ddyrannu adnoddau i’r ardaloedd hynny lle mae’r angen am ofal iechyd ar ei fwyaf.

Mae’r Rhaglen40 yn adeiladu ar lwyddiant Rhaglen y Cymrodorion Academaidd, cynllun sydd wedi denu

meddygon teulu i weithio yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae Cynllun y Cymrodorion Academaidd yn datblygu gwelliannau o ran ansawdd ac arbenigedd ymchwil ac yn darparu cymorth er mwyn i bractisau roi syniadau ar waith i ddatblygu gwasanaethau lleol.

Er mwyn rheoli’r galw cynyddol am ofal iechyd, bydd yn bwysig defnyddio’r holl arbenigedd clinigol sydd mewn ardal leol hyd yr eithaf. Mae cynyddu’r gwasanaethau ymgynghorol sydd ar gael yn y gymuned, ei gwneud yn haws i glinigwyr gofal sylfaenol gael gafael ar gyngor arbenigol a datblygu modelau staffio newydd sydd wedi’u seilio ar lwybrau gofal sy’n canolbwyntio ar y claf yn flaenoriaethau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau lleol yn rhai cynaliadwy. Rhaid datblygu rhagor ar gynlluniau’r gweithlu a’u cryfhau i fanteisio i’r eithaf ar botensial gwaith amlddisgyblaeth, gan adlewyrchu enghreifftiau o arferion da sydd i’w gweld mewn mannau eraill.

Mae gwaith tîm wedi bwrw gwreiddiau da mewn practisau deintyddol a bydd newidiadau diweddar gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn cryfhau hyn eto drwy ganiatáu i gleifion fynd yn uniongyrchol at ddeintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol penodol. Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol dau o’r BILlau (Hywel Dda a Betsi Cadwaladr) yn treialu gwasanaethau mynediad uniongyrchol at therapyddion deintyddol. Mae hyn yn golygu bod modd i gleifion gael eu gweld heb iddynt weld deintydd yn gyntaf, ac mae’n help i sicrhau bod sgiliau’r tîm deintyddol yn cael eu defnyddio i’r eithaf.

Y dyfodol Wrth i glefydau cronig gynyddu ac wrth i anghenion a chyfleoedd eraill godi, bydd angen modelau gofal newydd er mwyn datblygu dull integredig sy’n help i atal, hunanofal a rheolaeth wedi’i chynllunio, er mwyn sicrhau bod y gofal yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys rôl fwy i arbenigedd arbenigol yn y gymuned er mwyn cryfhau’r trefniadau presennol.

Mewn adroddiad blaenorol41, nododd Ymddiriedolaeth Nuffield y llu o ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyth gwaith gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned:

26

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Page 27: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffigur 14: Y ffactorau niferus sy’n dylanwadu ar gyflenwad a galw ym maes gofal sylfaenol

Mae’n hanfodol bod y ffordd y bydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu yn y dyfodol yn mynd i’r afael â’r heriau hyn ac yn defnyddio tystiolaeth ac enghreifftiau o arferion da sy’n ymddangos yn rhyngwladol. Awgrymir modelau gofal sylfaenol a allai wynebu’r heriau’n well gan gynnwys42:

• unedau sy’n sylweddol fwy na’r practis meddygon teulu traddodiadol ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill gan gynnwys profion diagnostig, rheoli cyflyrau cronig, a gofal cymdeithasol;

• arbenigwr yn gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr gofal sylfaenol;

• dull sy’n blaenoriaethu gofal cyfannol i fynd i’r afael â holl anghenion y claf;

• dull iechyd cyhoeddus - sy’n edrych y tu hwnt i gleifion unigol at anghenion y gymuned drwyddi draw; ac

• ymagwedd fwy proffesiynol at reoli.

Ffynhonnell: © Nuffield Trust

Rhaglen NUKAUn enghraifft sy’n dangos potensial tîm gofal sylfaenol amlddisgyblaeth cryf i sicrhau gwelliannau dramatig o ran boddhad cleifion a’u gallu i gael gafael ar wasanaethau yw rhaglen NUKA Alaska, sydd wedi sicrhau gwelliannau sylweddol yn y gwasanaeth drwy ‘ganolbwyntio ar unigolion yn hytrach nag ar glefydau’. Drwy gyflwyno apwyntiadau ar yr un diwrnod ar gyfer gofal sylfaenol a chyngor arbenigol, gwelwyd y galw’n gostwng ac, wrth ehangu sgiliau a gallu’r tîm gofal sylfaenol, gwelwyd llai o gleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol. Mae’r drefn hon wedi llwyddo i sicrhau gostyngiadau sylweddol yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a llai o ymweliadau â’r ysbyty gan gleifion allanol43.

System gofal NUKA: Gwersi ar gyfer ailgynllunio gofal iechyd yng Nghymru – digwyddiad oedd hwn a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Llanelwy ym mis Chwefror a drefnwyd gan raglen Gwella 1000 o Fywydau, Llywodraeth Cymru a Grŵp Ymchwil Cofrestredig Diogelwch Cleifion ac Ansawdd Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd.

27

Page 28: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Serch hynny, mae’r cyd-destun yn hollbwysig; nid yw’r un drefn yn gweddu i bawb. Gall timau amlddisgyblaeth mawr ddarparu ystod eang o wasanaethau ond mewn ardaloedd gwledig a diarffordd, mae angen unedau llai i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dosbarthu’n briodol a bod yr un llwybr at ofal ar agor i bawb. A ninnau’n wynebu anawsterau cynyddol wrth recriwtio, gallwn ddysgu yn sgil modelau megis NUKE sydd wedi mynd ati’n frwd i gynnwys eu staff wrth ddatblygu gwasanaethau sy’n fannau da i weithio a lle bydd lefelau cadw staff a lefelau boddhad yn gyson uchel.

Mae’r enghreifftiau o arferion da’n dangos bod gwasanaethau sydd ar gael yn hwylus. sy’n bersonol, ac sy’n blaenoriaethu dilyniant mewn gofal, yn lliniaru’r pwysau sydd ar dîm y practis ac yn lleihau’r galw ar wasanaethau eraill, megis adrannau damweiniau ac achosion brys44.

Rhaid i dîm gofal sylfaenol yr 21ain ganrif gynnwys ystod o sgiliau i ddiwallu anghenion cleifion yn gyflym ac yn effeithiol. Mae nyrsio, iechyd meddwl, cyngor ynglŷn â phresgripsiynau a ffisiotherapi cymunedol yn enghreifftiau o’r arbenigedd sy’n ofynnol er mwyn cynnig atebion lleol yn ddi-oed i gleifion.

Rhannu cyfrifoldebMae gan unigolion ran fawr i’w chwarae. Byddant yn rhoi gwerth ar gyngor proffesiynol ond byddant hefyd yn gwneud dewisiadau am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys meddyginiaethau, deiet a gweithgarwch corfforol a bydd ffrindiau, y teulu a’r cyfryngau’n dylanwadu arnynt. Mae cydnabyddiaeth gynyddol o werth y wybodaeth a’r sgiliau sydd gan gleifion i’w cynnig er mwyn helpu i gydgynhyrchu atebion. Gall cleifion sydd â chyflyrau tymor hir yn benodol ddod yn arbenigwyr mawr ar eu gofal hwy eu hunain. Rhaid i dimau gofal sylfaenol weithio gyda chleifion i roi gwybodaeth, cyngor a help iddynt er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau. Y ffordd orau o ategu’r ymagwedd hon yw drwy gyfrwng timau bychain sy’n darparu gofal personol.

Yn yr un modd, er mwyn deall y canlyniadau’n iawn, rhaid inni ddeall sut y bydd cleifion ar eu helw a beth sy’n bwysig iddynt. Nid yw cyfrif pa wasanaethau sydd wedi’u darparu’n ffordd o fesur llwyddiant. Rhaid i hyn gynnwys gwell systemau adborth sy’n galluogi cleifion a gofalwyr i ddweud eu dweud er mwyn i hynny fod yn sail ar gyfer gwella gwasanaethau’n barhaus.

Mae cael system integredig wedi’i chynllunio yng Nghymru yn sylfaen gadarn ar gyfer datblygu rhagor ar ofal cynaliadwy o ansawdd da. Bydd hon yn system sydd ar gael yn hwylus, sy’n gynhwysfawr ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n hanfodol ymgysylltu’n broffesiynol â datblygu gwasanaethau lleol er mwyn sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r cyd-destun lleol.

Gwell gwaith tîmMae datblygu clystyrau o feddygon teulu yng Nghymru – grwpiau o bractisau meddygon teulu, sy’n cydweithio i adolygu a gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau’n lleol – yn adlewyrchu consensws barn cynyddol y dylid cynllunio gwasanaethau gofal sylfaenol a’u darparu ar lefel cymunedau lleol – tua 50,000 o bobl45.

Bydd timau’r practisau’n cael gwybodaeth i ddeall anghenion y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu. Trafodir y wybodaeth yn y practis ac yng nghyfarfodydd y Clwstwr. Cyhoeddwyd proffiliau clystyrau’r meddygon teulu, gan gynnwys:

• strwythur y boblogaeth (oedran a rhyw);

• ffactorau economaidd-gymdeithasol;

• dosbarthiad daearyddol;

• lefel clefydau cronig.

Mae’r tabl dros y dudalen yn enghraifft o’r wybodaeth sydd ar gael. Bydd Clinigwyr yn adolygu patrymau gwahanol o anghenion a’r gwasanaethau a ddarperir, gan gydweithio ag arbenigwyr lleol ac asiantaethau’r sector gwirfoddol perthnasol, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Rhaid rhoi pwyslais cryf ar fynd ati i ailgynllunio gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wrth weld beth yw anghenion cleifion.

28

Page 29: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Rhaid achub ar bob cyfle i sicrhau bod gwasanaethau’n gweithio fel timau effeithiol gan gydganolbwyntio ar anghenion unigolion a chymunedau lleol, sicrhau gwell iechyd i’r boblogaeth drwy gryfhau gofal sylfaenol a chymunedol mewn partneriaeth â’r rôl y mae’n rhaid i’r cyhoedd ei chwarae hefyd yn eu hiechyd a’u lles hwy eu hunain.

Argymhellion

1. Dylai BILlau weithio gyda’r holl sefydliadau statudol a gwirfoddol, a chyda’u cymunedau, i sicrhau bod yr adnoddau’n cael eu defnyddio i ddiwallu gwahanol anghenion eu poblogaeth.

29

Chronic condition registers

Figure 15 : Recorded and adjusted recorded burden of disease in Amman/Gwendraeth GP cluster,showing other GP clusters in Hywel Dda HB and Wales for comparison, 2012

Recorded burden of disease Adjusted recorded burden of disease

Indicator

Hypertension

Your Cluster :

count %

Other Cluster inyour Health Boardmin % max %

HealthBoard

Wales

% %

Your ClusterOther Clusters :

in your Health Boardin other Health Boards

Asthma

Diabetes

CHD

COPD

Epilepsy

Heart Failure

Produced by Public Health Wales Observatory, using Audit+ (NWIS) Lowest25%

Middle50%

Highest25%

9,510

4,430

3,590

3,040

1,490

500

590

16.4

7.7

6.2

5.3

2.6

0.9

1.0

13.6

5.7

4.1

3.5

1.5

0.7

0.9

17.9

7.7

6.2

5.3

2.6

0.9

1.2

16.2

6.6

5.5

4.4

2.0

0.7

1.0

15.3

6.7

5.2

4.0

2.1

0.7

0.9

Cofrestrau cyflyrau cronig Ffigur 15: Baich clefydau a gofnodwyd a rhai a gofnodwyd ac a addaswyd yng nghlwstwr meddygon teulu Cwm Aman/Cwm Gwendraeth yn dangos clystyrau meddygon teulu eraill ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ac yng Nghymru er mwyn eu cymharu, 2012

Mae Cymorth Iechyd Cyhoeddus Iechyd Cymru drwy ei Dîm Cynghori Meddygol Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Gwybodaeth ac Ansawdd Gofal Sylfaenol a’r Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer y gwaith hwn, gan gynnwys camau i liniaru effeithiau tlodi ac yn benodol i wrthdroi’r ‘Ddeddf Gofal Wrthgyfartal’.

2. Dylai’r BILlau, ar wahân a chyda’i gilydd, ddatblygu ffyrdd o helpu i ‘ysgogi’ pobl i ymddiddori yn eu hiechyd ac i ysgwyddo’r cyfrifoldeb drosto, gan adolygu opsiynau megis gweithio gyda chyrff sy’n cynorthwyo cleifion, datblygu trefniadau cydbenderfynu a gwella’r wybodaeth am iechyd.

Page 30: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Cyfeiriadau1. Llywodraeth Cymru. Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014.

Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/general-medical-practitioners/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

2. Ibid.

3. Ibid.

4. Llywodraeth Cymru. Gwasanaethau Fferyllol Cymunedol, 2012-13 (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/community-pharmacy-services/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

5. Llywodraeth Cymru. Gwasanaethau Deintyddol y GIG , 2012-13 (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/nhs-dental-services/?lang=en#/statistics-and-research/nhs-dental-services/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

6. Llywodraeth Cymru. General Ophthalmic Services, Workforce Statistics, England and Wales [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://www.hscic.gov.uk/catalogue/PUB13721 [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

7. Llywodraeth Cymru. Calls made to NHS Direct Wales, by service and month [Ar lein]. Ar gael yn: https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Health-and-Social-Care/NHS-Primary-and-Community-Activity/NHS-Direct-Wales/CallsMadeToNHSDirectWales-by-Service-Month [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

8. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2012 [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=en#/statistics-and-research/welsh-health-survey/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

9. Ibid.

10. Llywodraeth Cymru. Courses of Treatment and Units of Dental Activity (UDA) by local health board, treatment band and quarter [Ar lein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=en#/statistics-and-research/welsh-health-survey/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

11. Ibid.

12. Llywodraeth Cymru. Ystadegau am Ofal Llygaid 2013-14 (Saesneg yn unig [Ar lein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/eye-care/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

13. Llywodraeth Cymru. Atgyfeiriadau misol yn ôl bwrdd iechyd lleol (ardal y darparwr) [Ar lein] 2014. Ar gael yn: https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Health-and-Social-Care/NHS-Hospital-Activity/GP-Referrals/Referrals-by-LocalHealthBoard-Month [Cyrchwyd: Awst 18 2014]

14. Llywodraeth Cymru. Ystadegau gofal llygaid 2013-14 [Ar lein]. Ar gael o: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/eye-care/?lang=cy [cyrchwyd: Awst 18 2014]

15. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2013: prif ganlyniadau cychwynnol (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

16. Llywodraeth Cymru. Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol: Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau 2012-13 (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/general-medical-services-contract/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Medi 2 2014]

17. Ibid.

18. Llywodraeth Cymru. Presgripsiynau a ragnodir yn y gymuned [Ar lein] Ar gael o: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/prescriptions-dispensed-community/?lang=cy [Cyrchwyd Medi 2 2014]

19. Llywodraeth Cymru. Presgripsiynau gan Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yng Nghymru, (Saesneg yn unig) 2012-13 [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/prescriptions-general-medical-practitioners/?lang=en#/statistics-and-research/prescriptions-general-medical-practitioners/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

20. Ibid.

21. Llywodraeth Cymru. Gwasanaethau Fferyllol Cymunedol yng Nghymru, 2012-13 [Ar lein] 2013. Cit.

22. Llywodraeth Cymru. Ystadegau gofal llygaid 2013-14 [Ar lein]. Ar gael o: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/eye-care/?lang=cy [cyrchwyd: Awst 18 2014]

23. Gwybodaeth Rheoli gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru.

24. Stott N, Kinnersley P a Jones Elwyn G. Measuring general practice-based primary care: generic outcomes. Family Practice [Ar lein] 1997; 14 (6): 486-491. Ar gael yn: http://fampra.oxfordjournals.org/content/14/6/486.short

25. Hibbard J a Gilburt H. Supporting people to manage their health - An introduction to patient activation [Ar lein] 2014. The Kings Fund. Ar gael yn: www.kingsfund.org.uk/publications/supporting-people-manage-their-health [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

26. Davis C, McQuillen K, Rootman I, Gadsby L, Walker L, Niks M, Rivard C, Sze S, Hoviswith A a Protheroe J. The Health Literacy Umbrella [Ar lein] 2009. Health Literacy in Communities Prototype Faculty. Ar gael yn: http://www.phabc.org/modules.php?name=Presentations&pa=showpage&pid=184 [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

27. Rowlands G, Protheroe J, Price H, Gann B a Rafi I. Health Literacy - Report from an RCGP-led health literacy workshop [Ar lein] 2014. RCGP. Ar gael yn: http://www.rcgp.org.uk/news/2014/june/half-of-all-patients-find-health-advice-too-complicated.aspx [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

28. Llywodraeth Cymru. National Survey for Wales 2013-14 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/nationals-survey/?lang=en [Cyrchwyd: Awst 14th 2014]

29. Llywodraeth Cymru. Arolwg Cenedlaethol Cymru 2012-13 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/nationals-survey/?lang=en#/statistics-and-research/nationals-survey/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14th 2014]

30. Llywodraeth Cymru. Mynediad i Feddyg Teulu (Saesneg yn unig) 2013 [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/gp-access-wales/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

31. Margrain TH, Ryan B, Wild JM. A revolution in Welsh low vision service provision.Br J Ophthalmol 2005;89:933–4.

30

Page 31: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

32. Ryan B, White S, Wild J, et al. The newly established primary care based Welsh Low Vision Service is effective and has improved access to low vision services in Wales. Ophthalmic Physiol Opt 2010;30:358–64.

33. Court H, Ryan B, Bunce C, et al. How effective is the new community-based Welsh low vision service? Br J Ophthalmol 2011; 95:178–84.

34. Gwybodaeth Reoli a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Deintyddol

35. Llywodraeth Cymru. Cleifion y GIG a gaiff eu Trin ar gyfer Oedolion a Phlant yn ôl Bwrdd Iechyd [Ar lein]. Ar gael yn: https://statscymru.cymru.gov.uk/Catalogue/Health-and-Social-Care/General-Dental-Services/Current-Contract/NHSPatientsTreatedForAdultsAndChildren-by-LocalHealthBoard-PatientType Cyrchwyd: Awst 20th 2014]

36. Comisiynydd y Gymraeg. Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad Comisiynydd y Gymraeg i‘r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol [Ar lein] 2014. Ar gael yn: www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%20Llawn%20Ymholiad%20Iechyd.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

37. Llywodraeth Cymru. Datganiad i’r Wasg - Buddsoddi £9.5m mewn technoleg a theleiechyd i wella gofal y claf [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/newsroom/healthandsocialcare/2014/140425health-technologies-fund/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

38. Sefydliad Iechyd y Byd. Data and Statistics [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.euro.who.int/en/health-topics/noncommunicable-diseases/mental-health/data-and-statistics [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

39. Llywodraeth Cymru. Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yng Nghymru 2003 – 2013 (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/general-medical-practitioners/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

40. Prifysgol Caerdydd. Academic Fellows Programme [Ar lein]. Ar gael yn: http://medicine.cf.ac.uk/primary-care-public-health/about/clinical/academic-fellows-programme/ [Cyrchwyd on: Awst 19 2014]

41. Nuffield Trust. Primary care in Europe: can we make it fit for the future? [Ar lein] 2013. Ar gael yn: www.nuffieldtrust.org.uk/talks/slideshows/primary-care-europe-can-we-make-it-fit-future [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

42. Ibid.

43. Blash L, Dower C a Chapman S, Center for the Health Professions at UCSF. Research Brief - Southcentral Foundation—Nuka Model of Care Provides Career Growth for Frontline Staff [Ar lein] 2011. Ar gael yn: http://futurehealth.ucsf.edu/Content/11660/2011_09_Southcentral_Foundation-Nuka_Model_of_Care_Provides_Career_Growth_for_Frontline_Staff.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

44. Tankel J a Longman H. Access and Continuity transform patient service in Salford General Practice. Poster presentation, Society of Academic Primary Care. [Ar lein] 2012. Ar gael yn: http://gpaccess.uk/case-studies/practices/ [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

45. Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru. Proffiliau Clwstwr Meddygon Teulu (Saesneg yn unig) 2013 [Ar lein]. Ar gael yn: www.wales.nhs.uk/sitesplus/922/tudalen/67724 [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

31

Page 32: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Pennod 3Osgoi niwed drwy ‘atal yr hyn y gellir ei atal’

Mae gwaith ataliol o reidrwydd yn cynnwys ystod eang o ymyriadau a chamau diogelu, gan gynnwys mynd i’r afael â’r amgylchiadau economaidd-gymdeithasol sydd wrth wraidd afiechyd. Bydd y bennod hon yn canolbwyntio ar y canlynol:

• amgylchiadau economaidd-gymdeithasol

• ymyriadau iechyd yr amgylchedd;

• ymdrechion i atal clefydau trosglwyddadwy

a bydd y bennod wedyn yn ystyried materion sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw.

Amgylchiadau economaidd- gymdeithasolMae digon o dystiolaeth ar gael sy’n dangos bod

Yng ngoleuni’r penodau blaenorol, nid yw’n syndod efallai fod cysylltiad amlwg rhwng ffactorau economaidd-gymdeithasol a marwolaethau ataliadwy, sy’n adlewyrchu amgylchiadau economaidd-gymdeithasol ac ymddygiad gwahanol grwpiau yn y gymdeithas.

0

Ffigur 16: Marwolaethau ataliadwy, cyfradd Ewropeaidd wedi'i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (WIMD 2011), Cymru 2008-10

menywod gwrywod

Lleiaf di-freintiedig

146 83 169 106 213 119 265 149 364 194

Mwyaf difreintiedig CanoligLleiaf difreintiedig

wedyn

Mwyaf difreintiedig

wedyn

Cynhyrchwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ADDE ac MYE (Swyddfa Ystadegau Gwladol), MALIC ac Arolwg Iechyd Cymru (Llywodraeth Cymru)

cyfwng hyder 95%

Cyfra

dd w

edi’i

safo

ni y

n ôl

oed

ran,

fe

sul 1

00,0

00

Cwintelau amddifadedd

llawer o’r iechyd gwael a’r rhan fwyaf o’r afiechyd y bydd cymunedau difreintiedig yn dioddef mwy na’u siâr ohono, yn deillio o amgylchiadau bywyd beunyddiol pobl. Mae materion amgylcheddol, bod yn fwy agored i glefydau trosglwyddadwy a dewisiadau o ran ffordd o fyw i gyd yn chwarae eu rhan ond anfantais faterol a diffyg hunan-barch sydd wrth wraidd llawer o hyn.

Rhaid inni beidio â cholli golwg ar y cyd-destun ehangach drwy edrych ar feysydd penodol mwy cyfyng y gallem weithredu yn eu cylch. Dyna pam yr wyf yn gryf o blaid gweithredu i leihau a lliniaru effaith tlodi ac i wella cyfleoedd i bobl mewn bywyd. Heb inni fynd ati fel hyn, nid ydym yn debygol o sicrhau’r newid radical a fydd yn gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd yn fwy cyffredinol. Mae’r dull 32

Page 33: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

sy’n cael ei ddilyn yng Nghynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru1 a’r rhaglenni sy’n gysylltiedig â hi, yn elfen bwysig o’r ffordd hon o weithio yng Nghymru. Mae tystiolaeth gwaith ymchwil yn ei gwneud hi’n amlwg ei bod yn rhaid i’n polisïau ystyried sut mae cau’r bylchau economaidd-gymdeithasol ar bob lefel yn ein cymdeithas yn hytrach na chanolbwyntio ar grŵp penodol yn unig. Mae gan wasanaethau sylfaenol a chymunedol a deddfwriaeth iechyd cyhoeddus ran bwysig i’w chwarae yn cau’r bwlch anghydraddoldeb.

Ymyriadau Iechyd yr Amgylchedd

Ansawdd aer yng NghymruCasgliad adroddiad y llynedd oedd bod angen deall yn well yr effaith a gaiff llygredd aer ar iechyd a bod angen i gyrff lleol a chenedlaethol weithredu i fynd i’r afael â hynny.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2014, amcangyfrifwyd y gellid priodoli oddeutu 1,320 o farwolaethau yn 2010 yng Nghymru i’r ffaith bod pobl yn agored am gyfnod hir i fân ronynnau y gellir eu hanadlu’n ddwfn i’r ysgyfaint2. Ledled Cymru, yn yr un flwyddyn, roedd cyfran y marwolaethau yr amcangyfrifwyd eu bod wedi digwydd oherwydd bod pobl yn agored am gyfnod hir i PM anthropogenig 2.5 (gronynnau sy’n cael eu hachosi neu’n cael eu cynhyrchu yn sgil gweithgarwch dynol) yn amrywio o 3.1 y cant i 5.4 y cant. Mewn ardaloedd trefol megis Caerdydd a Chasnewydd yr oedd yr amcangyfrifon ar eu huchaf ac mewn ardaloedd gwledig megis Gwynedd a Cheredigion yr oeddent ar eu hisaf. Yng Nghymru drwyddi draw, collwyd 13,549 o flynyddoedd o fywyd i’r boblogaeth oherwydd y risg gynyddol o farw’n gynnar oherwydd llygredd aer yn 2010.

Mae’r gwaith hwn a gwaith arall sydd wedi’i wneud gan Fforwm Ansawdd Aer Cymru a grwpiau technegol eraill wedi cyflwyno’r ddadl dros wneud llygredd aer yn flaenoriaeth iechyd ar gyfer y boblogaeth leol, gan gynnwys adrannau Iechyd yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio Awdurdodau Lleol, asiantaethau iechyd y cyhoedd ac eraill.

Er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol, mae angen cymryd camau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol a’r ffordd orau o wneud hyn yw

targedu llygredd aer a gwella iechyd ar yr un pryd. Er enghraifft, mae defnyddio llai ar gerbydau modur ac annog pobl i gerdded a beicio’n cyflawni’r ddau nod. Mae coed yn amsugno llygryddion yn yr aer ac felly, drwy greu mwy o fannau gwyrdd, bydd hynny’n gwella’r amgylchedd ac yn lleihau llygredd yn ogystal â’i fod er lles ein hiechyd. Mae angen rhagor o gamau i fynd i’r afael â mwy o lygredd aer lleol a phroblemau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio ag asiantaethau cenedlaethol, yn ystyried effeithiolrwydd Monitro Ansawdd Aer Lleol o ran cydymffurfio â’r terfynau deddfwriaethol, lleihau effeithiau ansawdd aer gwael ar iechyd y cyhoedd a gwella’r sefyllfa.

Carbon monocsid (CO) yng NghymruCofnodir rhwng 40 a 50 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn sgil gwenwyno gan CO a bydd 200 o bobl eraill yn cael eu derbyn i’r ysbyty ledled y Deyrnas Unedig a 4,000 yn ymweld â’r Adran Achosion Brys. Mae’n debygol bod llawer o ddigwyddiadau CO eraill sydd heb eu cofnodi. Mae’r risgiau a’r effeithiau ar eu mwyaf cyffredin i bob golwg ymhlith pobl hŷn, yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd dyfeisiau gwresogi’n cael eu defnyddio’n amlach, ac ymhlith y bobl fwyaf difreintiedig. Mae un astudiaeth yn dangos bod tua un o bob pum teulu is eu hincwm o bosibl yn agored yn rheolaidd i lefelau CO sydd yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y digwyddiadau sy’n gysylltiedig â CO.

Er mwyn ymateb i hyn, mae Gweithgor Carbon Monocsid yng Nghymru wedi’i sefydlu (Chwefror 2014) sydd â chysylltiadau â gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes hwn drwy’r Deyrnas Unedig.3 Nod y grŵp yw cydlynu camau gweithredu, atal pobl rhag cael eu gadael yn agored i CO, gwella’r ymateb i ddigwyddiadau, gwella’r trefniadau rhannu gwybodaeth a chadw golwg ar ddigwyddiadau/effeithiau. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd yn cefnogi ymgyrch ddiogelwch rhag CO yn ystod haf 2014, yn rhoi mwy o amlygrwydd i ddigwyddiadau CO ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn cyhoeddi pecynnau gwybodaeth i awdurdodau lleol ac eraill.

Ffynhonnell: Y Gofrestr Nwy Diogel

33

Page 34: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Effaith Sŵn

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, sŵn yw’r ail beth pwysicaf sy’n cyfrannu at faich clefydau yn Ewrop, ar ôl llygredd aer amgylchynol4. Yn ei adroddiad yn 2011, amcangyfrifwyd bod miliwn o flynyddoedd o fywyd iach o leiaf yn cael eu colli yng Ngorllewin Ewrop bob blwyddyn yn sgil y ffaith bod pobl yn agored i sŵn amgylcheddol am gyfnod hir, a hynny’n bennaf oherwydd ei fod tarfu ar gwsg ac yn achosi blinder, ond hefyd ei fod yn cynyddu’r risg o glefyd y galon a namau gwybyddol ar blant.

Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fapiau’n dangos amcangyfrif o lefel y sŵn y tu allan i gartrefi pobl yn ein trefi a’n dinasoedd mwyaf ac yng nghyffiniau ein ffyrdd a’n rheilffyrdd prysuraf5. Mae’r rhain yn awgrymu bod cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru’n debygol o fod yn agored i lefelau sŵn traffig sy’n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn i Gymru 2013-20186 yn trafod pob math o sŵn, gan gynnwys sŵn yn y gwaith a sŵn yn y gymdogaeth. Mae’n cynnwys ymrwymiadau i ganolbwyntio ar y rheini sy’n dioddef y lefelau sŵn uchaf (pobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n flaenoriaeth ar gyfer cynllunio gweithredu ynghylch sŵn), i warchod a

34

gwella mannau gwyrdd heddychlon mewn trefi (gan gynnwys ardaloedd a ddynodir yn ardaloedd tawel) ac i adolygu a diweddaru canllawiau’n ymwneud â sŵn lle bydd angen gwneud hynny er mwyn sicrhau bod gan reoleiddwyr yr arfau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith.

Newid yn yr Hinsawdd

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd wedi rhyddhau tri adroddiad sy’n edrych ar wyddoniaeth ffisegol newid yn yr hinsawdd; yr effeithiau, ymaddasu a breguster; a’r camau lliniaru. Mae’r adroddiadau i gyd yn pwysleisio bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn awr, mai gweithgareddau dynol yw’r prif achos, a bod angen gweithredu dygn ar frys a hynny drwy’r byd i gyd er mwyn osgoi lefelau peryglus o newid yn yr hinsawdd ac er mwyn inni ymaddasu i’r newid hwnnw a ragwelir.

Er bod yr Panel yn tynnu sylw at y peryglon a’r camau gweithredu sydd eu hangen ar lefel fyd-eang ac yn Ewrop, mae gennym wybodaeth eisoes am yr effeithiau ar iechyd a lles yng Nghymru, yn adroddiad Cymru yr Asesiad Risg o Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd yn y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

34

Page 35: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn canfyddiadau’r Panel ac mae’n credu y dylid canolbwyntio ar sut orau y gallwn ni sbarduno camau cyflawni. Mae tywydd eithafol, megis y llifogydd arfordirol y gaeaf diwethaf yn ein hatgoffa am beryglon a risgiau peidio â gweithredu i liniaru bygythiadau’r hinsawdd.

Yn gynharach eleni, fel rhan o’r Wythnos Hinsawdd, lansiodd Llywodraeth Cymru nifer o becynnau ac adnoddau i helpu sectorau (gan gynnwys y sector iechyd) a sefydliadau i gynllunio a pharatoi ar gyfer canlyniadau newid yn yr hinsawdd. Mae’r pecynnau hyn yn ceisio helpu sectorau a sefydliadau i ddeall sut mae’r tywydd a’r hinsawdd bresennol yn fygythiad iddynt a hefyd i edrych ar sut y gallai’r tywydd yn y dyfodol effeithio ar y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau.

Ochr yn ochr â’r pecynnau a’r adnoddau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ganfyddiadau diweddaraf y Panel i dynnu sylw at fygythiadau a chyfleoedd yn y dyfodol i sectorau ledled Cymru.

Atal Clefydau Trosglwyddadwy

Ffynhonnell: © Hawlfraint y Goron (2014) Croeso Cymru

Brechu yng Nghymru 2013

Mae cyfraddau brechu plant yng Nghymru’n uwch na’r hyn gofnodwyd erioed o’r blaen, er bod yr achosion diweddar o’r frech goch a’r pas yn ein hatgoffa ei bod hi’n bwysig inni fod yn wyliadwrus o hyd.

Er bod pethau’n gwella, nid yw nifer y plant hŷn sy’n manteisio ar bigiadau atgyfnerthu gystal ag y byddem yn ei ddymuno.

Roedd bron un o bob pum plentyn a oedd wedi cael eu pen-blwydd yn bedair oed yn ystod 2012-13 heb gael pob un o’u pigiadau rheolaidd. Gwella’r sefyllfa hon oedd un o’r blaenoriaethau a osodwyd i’r GIG. Erbyn diwedd 2013, roedd cyfran y plant a oedd wedi cael pob pigiad rheolaidd wedi cynyddu o 83 y cant i 88 cant7, a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu eto.

Yn ystod 2013, ehangwyd trefniadau rheolaidd imiwneiddio plant yng Nghymru i gynnwys rotafirws a ffliw; ac erbyn hyn mae’n cynnig gwarchodaeth rhag 13 o glefydau heintus a allai fod yn ddifrifol.

O’u cymharu â’r cyfraddau imiwneiddio yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, mae’r cyfraddau yng Nghymru’n dda8,9,10, yn enwedig o ran nifer y plant dyflwydd sy’n cael un ddos o’r MMR, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig11 ar hyn o bryd a nifer y plant pum mlwydd oed sy’n cael dwy ddos, sef yr ail uchaf.

Ffigur 17: Cyfraddau Imiwneiddio’r Deyrnas Unedig

Cyfraddau Imiwneiddio yn y Deyrnas UnedigImiwneiddio 5 mewn 1 plant 1 oed*

Un ddos MMR plant dyflwydd*

Dwy ddos MMR plant pump oed*

Tair dos HPV merched Blwyddyn 8**

Cymru 96.5% 96.6% 92.6% 85.4%

Gogledd Iwerddon

97.2% 96.3% 92.5% 84.6%

Yr Alban 97.7% 95.6% 93.2% 82.0%

Lloegr 94.4% 92.9% 88.4% 86.1%

Y Deyrnas Unedig

94.8% 93.3% 89.1% –

* ystadegau UK COVER, Hyd – Rhag 2013

** Y nifer yn 2012-13, merched Blwyddyn 8 yng Nghymru, yr Alban a Lloegr; a’r cyfatebol ar gyfer 2010-11 yng Ngogledd Iwerddon (data diweddaraf a gyhoeddwyd).

35

Page 36: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

36

Er bod pethau wedi gwella’n ddiweddar o ran yr holl imiwneiddio yn ystod plentyndod, mae anghydraddoldebau i’w gweld o hyd o ran imiwneiddio rhag clefydau ataliadwy. Yn 2013, yn yr adroddiad cyntaf erioed am y nifer a oedd wedi’u himiwneiddio yn ôl lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol, dangoswyd bod cyfran y plant pedair

oed a oedd wedi cael eu holl bigiadau a oedd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (78 y cant) 9 y cant yn is na’r rheini a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (87 y cant) (Ffigur 18).

Mae’r anghydraddoldebau hyn yn cael eu targedu yn awr drwy nifer o ymyriadau gan gynnwys y rhaglen Dechrau’n Deg.

Y Frech Goch 2012-13

Yn 2012-2013, gwelwyd y nifer fwyaf o achosion o’r frech goch yng Nghymru ers cyflwyno cwrs dwy ddos y brechlyn ar gyfer y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rubella (MMR) yn 1988, a dyma un o’r brigiadau mwyaf o’r frech goch yn Ewrop. Cafwyd diagnosis ar gyfer 1,211 achos o’r frech goch a’u cofnodi gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cadarnhawyd 437 o’r achosion hyn mewn profion labordy, a derbyniwyd 64 i’r ysbyty’n dioddef o’r frech goch yn ystod y cyfnod. Digwyddodd un farwolaeth oherwydd y frech goch.

Digwyddodd yr achosion hyn oherwydd bod firws y frech goch wedi’i gyflwyno i gymunedau lle’r oedd pocedi mawr o blant a oedd heb gael eu brechiadau MMR rheolaidd ddiwedd yr 1990au a dechrau’r 2000au. Yn ystod yr ymgyrchoedd dal-i-fyny, rhoddwyd dros 77,000 o ddosau o MMR nad oeddent yn rhan o’r drefn reolaidd. Mae nifer y rhai sydd wedi cael un dos o MMR ar hyn o bryd yn uwch nag

erioed yng Nghymru a dyma’r lefel uchaf yn y Deyrnas Unedig. Wedi dweud hynny, roedd un o bob deg person ifanc 16 oed yn 2013 heb ei imiwneiddio’n llawn o hyd. Mae’n debygol y byddwn yn dal i weld achosion o firws y frech goch yn cael ei fewnforio i Gymru ac yn lledaenu’n lleol i ryw raddau am flynyddoedd lawer eto.

Chwaraeodd gwasanaeth labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru ran bwysig yn rheoli’r achosion o’r frech goch. Bydd yr Uned Ddiagnostig Molecwlar yn darparu gwasanaeth diagnostig a chyfeirio i’r BILlau drwy Gymru. Cyngor Sefydliad Iechyd y Byd yw y dylid cadarnhau unrhyw heintiad o’r frech goch drwy ddefnyddio profion diagnostig mewn labordy. Datblygodd yr Uned Ddiagnostig Molecwlar brawf Adwaith Cadwyn Polymeras (PCR) amser real i adnabod firws y frech goch gan alluogi’r rheini a oedd yn gyfrifol i gymryd camau ymyrryd priodol ar frys.

36

Ffigur 18: Cyfradd y plant preswyl sydd wedi cael pob brechiad

Cwintel 1 Ardal Gynnyrch Ehangach

Haen Is (lleiaf difreintiedig)

87% 83% 84% 81% 78%

Cwintel 5 Ardal Gynnyrch

Ehangach Haen Is (mwyaf difreintiedig)

Cwintel 3 Ardal Gynnyrch

Ehangach Haen Is

Plan

t syd

d w

edi c

ael p

ob b

rech

iad

yn 4

oed

(%)

Cwintel amddifadedd

Cwintel 2 Ardal Gynnyrch Ehangach

Haen Is

Cwintel 4 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

100%

0%

20%

40%

60%

80%

Page 37: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

37

Y pasYn ystod 2012, gwelodd pob ardal yn y Deyrnas Unedig gynnydd yn nifer yr achosion o’r pas (pertussis). Bydd yr haint yn brigo bob rhyw bedair blynedd. Y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yw babanod yn ystod misoedd cyntaf eu hoes, sef y rhai sy’n rhy ifanc i’w brechu. Mae imiwneiddio mamau beichiog yn gwarchod eu babanod newydd-anedig nes eu bod yn ddigon hen i gael eu himiwneiddio eu hunain. Mewn arolwg ymhlith menywod a gafodd fabi ym mis Ionawr 201312, gwelodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai 69 y cant o famau newydd oedd wedi’u himiwneiddio. Er bod nifer yr achosion o’r pas yng Nghymru a gadarnhawyd mewn labordy wedi gostwng o’i hanterth yn 2012, sef 343, mae’n uchel o hyd (211 yn ystod 2013) o’i gymharu â’r nifer mewn blynyddoedd blaenorol13. Gostyngodd nifer yr achosion wedi’u cadarnhau ymhlith y babanod hynny yng Nghymru sy’n wynebu’r risg fwyaf, sef y rhai iau na thri mis oed o 22 yn 2012 i chwech yn 2013, sy’n dangos pa mor bwysig ac effeithiol yw’r ymgyrch frechu hon.

Imiwneiddio rhag ffliw tymhorolMae’r nifer sy’n manteisio ar y brechiad blynyddol rhag ffliw tymhorol wedi codi hefyd yn y blynyddoedd diwethaf. Er na lwyddwyd i gyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion 65 oed a hŷn, neu’r rheini rhwng chwe mis a 64 oed sy’n wynebu risg, er 2008, gwelwyd cynnydd o wyth y cant a deg y cant yn y grwpiau hyn, yn y drefn honno. Mewn arolwg yn 2011-1214 nifer y cleifion 65 oed a hŷn a imiwneiddiwyd rhag ffliw tymhorol yng Nghymru oedd y bumed nifer uchaf yn Ewrop.

Ffigur 19: Y nifer sy'n cael y brechlyn blynyddol rhag fesul tymor[1]

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cleifion 65 oed a hŷn

59.5%

40.8%

68.3%

51.1%

Cleifion rhwng 6 mis a 64 oed sy’n wynebu risgCanr

an sy

dd w

edi m

ante

isio

(%)

Blynyddoedd2008-09

100%100%

80%

60%

40%

20%

0%2009-10 2010-11 2011-12 2012-13 2013-14

[1] Rhaglen Frechu yn erbyn clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y nifer sydd wedi manteisio ar frechlyn blynyddol rhag ffliw tymhorol yng Nghymru - 2013/14.

Er mwyn asesu faint yn union sy’n manteisio ar frechlynnau a gynigir yn ystod beichiogrwydd, cynhaliwyd arolwg ym mis Ionawr 201415. Y prif ganfyddiadau oedd bod 70.5 y cant o fenywod beichiog yn dweud eu bod wedi cael brechiad rhag ffliw, 61.9 y cant o fenywod beichiog yn dweud eu bod wedi cael brechiad rhag pertussis

a ffliw, a phedair o bob pump menyw’n cofio eu bod wedi cael cynnig y brechlynnau yn ystod eu beichiogrwydd.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae nifer staff rheng flaen y GIG sy’n cael eu brechlyn blynyddol rhag ffliw wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan gynyddu 30 y cant er 2009-10.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Page 38: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

3838

Blynyddoedd

Ffigur 20: Staff y GIG sy'n cael y Brechlyn Blynyddol rhag Ffliw Tymhorol – Cyfraddau Imiwneiddio

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

11.6%

40.6%

Canr

an a

fant

eisio

dd fe

sul t

ymor

2009-10

50%

0%

10%

20%

30%

40%

2010-11 2011-12 2012-13 2013-14

Ein nod yw pwyso ar ragor o staff i fanteisio ar hyn o’r naill flwyddyn i’r llall gyda’r nod o gael pob aelod o’r staff i gynnwys brechu’n rhan o’u dyletswyddau proffesiynol rheolaidd.

Yn ystod 2013, estynnwyd y rhaglen ffliw tymhorol am y tro cyntaf i gynnwys plant oedran blwyddyn saith a phob plentyn dwy a thair oed, gan ddefnyddio brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell i’r trwyn. Manteisiodd 68 y cant o’r plant ysgol ar y brechlyn ffliw a 38 y cant o blith grŵp y plant bach16. Blwyddyn gyntaf rhaglen yw hon a’r nod yn y pen draw fydd cynnig brechiad rhag ffliw i bob plentyn rhwng dwy ac 16 oed bob hydref.

Ymwrthedd i GyffuriauEr mai dim ond achosion achlysurol iawn sydd wedi bod yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’r microbau sydd ag ymwrthedd eithriadol o gryf i wrthfiotigau (microbau sy’n achosi problemau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig), mae ymwrthedd i wrthfiotigau’n cynyddu o hyd. Gwelir cyfraddau uchel o ymwrthedd wrth drin heintiau ymhlith yr henoed sy’n arwain at rai anawsterau wrth ddethol triniaethau gwrthfiotig.

Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddwyd strategaeth bum mlynedd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Ymwrthedd i Gyffuriau. Mae Iechyd Cyhoeddus

Cymru, Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddatblygu cynllun gweithredu i Gymru. Un dull allweddol o fynd i’r afael ag ymwrthedd yw drwy wella’r ffordd y defnyddir gwrthfiotigau pan fydd eu hangen. Yn y dyfodol bydd Grŵp Canllawiau Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan yn darparu canllawiau drwy’r GIG.

Y Diciâu (TB)Er mwyn rheoli’r Diciâu’n effeithiol yng Nghymru, mae angen cael diagnosis yn fuan a’i drin yn ddigonol yn ddi-oed, yn enwedig y ffurf heintus ar y clefyd (Diciâu’r ysgyfaint). Mae’n hanfodol hefyd adnabod pobl sydd wedi dod i gysylltiad â’r haint a sgrinio newydd-ddyfodiaid o wledydd lle mae TB yn gryf er mwyn rheoli’r clefyd. Mae gofyn i BILlau ddarparu gwasanaethau sicr eu hansawdd, hybu a chefnogi’r arferion clinigol gorau, a sicrhau bod cyfraddau uchel yn cwblhau eu triniaethau. Anfonwyd Dogfen Fframwaith Gweithredu ar Diciâu yng Nghymru at y BILlau yn 201217 ac mae wrthi’n cael ei gwerthuso18,19.

Mae nifer yr achosion o’r Diciâu yng Nghymru wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf20. Yn 2012, hysbyswyd yr awdurdodau o 136 o achosion. Mae cyfraddau’r Diciâu’n is o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr – 4.4 o’i gymharu â 15.2 /100,000 yn 2012.

Page 39: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

39

Ffigur 21: Nifer yr Achosion a Chyfradd y Diciâu fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, 2003-12

nifer yr achosioncyfradd fesul 100,000

2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012

164

5.6

188 186 182204

168

214

153130 136

6.4 6.3 6.1

6.9

5.6

7.1

5.1

4.2 4.4

Ffynhonnell: Iechyd y Cyhoedd Cymru CDSC

Nife

r yr a

chos

ion

Blynyddoedd

Cyfra

dd fe

sul 1

00,0

00 o

’r bo

blog

aeth

Mae’r achosion a gafwyd ddiwedd 2013 yn dangos pa mor bwysig yw mynd i’r afael â’r Diciâu drwy ddilyn systemau. Rhwng mis Mai a mis Medi, rhoddwyd gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru am dri achos o’r Diciâu yn Llanelli. Aethpwyd ati ar raddfa helaeth i ddilyn trywydd y cysylltiadau er mwyn gweld i bwy y dylid cynnig triniaeth ac er mwyn ceisio dod o hyd i ffynhonnell yr haint. Canfuwyd pedwar achos arall o’r Diciâu yn yr un ardal rhwng mis Medi 2013 a mis Mai 2014.

Roedd un o’r pedwar hynny’n gweithio mewn ysgol uwchradd leol ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd sgrinio’r plant a’r staff yn golygu ymdrech sylweddol i staff y BILl, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r ysgol. Sgriniwyd cyfanswm o 1,184 o blant a staff a chanfuwyd bod 15 ohonynt wedi’u heintio â bacteriwm y Diciâu. Er nad oedd yr un o’r rhain yn peri risg o gwbl i bobl eraill, drwy eu sgrinio, llwyddwyd i’w trin er mwyn lleihau’r risg iddynt gael y clefyd yn y dyfodol. Ers y sgrinio, mae 849 o ddisgyblion wedi’u brechu rhag y Diciâu hyd yn hyn.

Firws Papiloma Dynol a Chanser yr OroffaryncsEr nad yw’r rhan fwyaf o’r heintiadau gan y Firws Papiloma Dynol (HPV) yn achosi symptomau a’i fod yn hunangyfyngol, mae haint parhaus y mathau risg uchel o’r firws i’w gweld mewn mwy na 99 y cant o ganserau ceg y groth21. Canser ceg y groth

yw’r ail ganser mwyaf cyffredin ymhlith menywod drwy’r byd22. Mae cyflwyno rhaglen genedlaethol i sgrinio ceg y groth yn y Deyrnas Unedig wedi gwneud cyfraniad mawr at ostwng nifer yr achosion a’r gyfradd marwolaethau oherwydd y canser hwn. Gostyngodd y gyfradd marwolaethau tua 60 y cant rhwng 1974 a 200423.

Cyflwynwyd y rhaglen genedlaethol i imwineiddio rhag y firws ym mis Medi 2008 a chynigiwyd brechlyn rhag yr haint i bob merch ym mlwyddyn wyth yn yr ysgol (12 i 13 oed). Ers hynny, mae’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn yng Nghymru wedi aros yn gyson o gryf. Manteisiodd 89.6 y cant ar un ddos o’r brechiad rhag y firws yng ngrŵp blwyddyn ysgol wyth 2012-13 a’r gyfradd ar gyfer dwy a thair dos oedd 88.6 y cant ac 85.4 y cant yn y drefn honno. Yn ogystal â chanser ceg y groth, mae cysylltiad achosol rhwng y firws papiloma dynol a chanserau llai cyffredin hefyd24,25.

Mae gwaith wedi’i wneud yn ddiweddar yng Nghymru i edrych yn benodol ar ganserau’r geg a’r gwddw. Canserau’r geg a’r gwddw yw’r 20fed grŵp mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Bydd tua 700 o drigolion Cymru’n cael diagnosis o’r canserau hyn bob blwyddyn. Yn y gorffennol, y prif ffactorau risg oedd ysmygu tybaco ac yfed alcohol yn drwm. Mae effaith alcohol ac ysmygu yn rhyngweithio i gynyddu’r risg eto fyth. Er na fydd y rhan fwyaf o bobl sy’n

Page 40: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

4040

yfed ac yn ysmygu yn cael canser y geg neu’r gwddw, oherwydd bod ysmygu’n dal yn ffactor a bod pob ffurf ar yfed alcohol yn gyffredin, mae astudiaethau yn y Deyrnas Unedig wedi amcangyfrif mai ysmygu sy’n gyfrifol am fwy na hanner yr achosion a bod alcohol yn cyfrannu at fwy na’u traean. Mae’r canserau hyn sy’n gysylltiedig ac ysmygu ac alcohol yn tueddu i ddatblygu mewn pobl hŷn.

Mae haint y firws papiloma dynol yn y geg yn cael ei gweld yn ffactor risg cryf ar gyfer rhai mathau o ganser y geg a’r gwddw. Mae’r canserau hyn sy’n gysylltiedig a’r firws i bob golwg yn endid clefyd ar wahân. Mae cleifion yn tueddu i fod yn iau (40-50 oed fel rheol) ac yn aml iawn ni fydd y ffactorau risg arferol, sef ysmygu neu yfed llawer o alcohol yn berthnasol i’r achosion hyn. Canfu astudiaeth yn Lloegr fod nifer y canserau hyn a’r safleoedd anatomegol hyn sydd o bosibl yn gysylltiedig a’r firws wedi bod yn cynyddu’n gyflymach na safleoedd nad ydynt yn gysylltiedig ag ef yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig mewn gwrywod. Mae haint y firws papiloma dynol yn y geg yn gallu cael ei throsglwyddo drwy ryw. Mae ysmygu hefyd yn cynyddu’r risg o haint HPG16 yn y geg. Mae’r risg o ddatblygu canserau sy’n gysylltiedig â’r firws yn cynyddu os bydd gan rywun nifer uwch o bartneriaid rhyw ac os bydd cynnydd o ran ymddygiad rhywiol geneuol.

Yng Nghymru mae nifer y dynion sy’n cael y clefyd yn fwy na dwbl nifer y menywod sy’n ei gael. Mae’r gostyngiad a welwyd ers tro yn nifer y dynion 75+ yng Nghymru sy’n cael y clefyd, a hwnnw’n gysylltiedig â gostyngiad yn y nifer sy’n ysmygu, wedi’i atal. Mae’r cyfraddau ymhlith grwpiau o ddynion iau wedi cynyddu er 2001-11:gwelwyd y cynnydd mwyaf, sef 124 y cant ymhlith y grŵp 35-44 oed er bod hyn yn cyfeirio at nifer fach o achosion mewn gwirionedd, sef o wyth achos ar gyfartaledd mewn blwyddyn i 17 achos.

Yn wahanol i’r sefyllfa gyda dynion, mae nifer y canserau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ac yn

gynyddol ag alcohol mewn menywod hyn yn dal i gynyddu. Gwelwyd cynnydd canrannol hefyd yn ddiweddar mewn grwpiau iau o fenywod, ond nid cymaint o gynnydd ag a welwyd ymhlith dynion. Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion mewn grwpiau iau yn debygol o fod yn gysylltiedig ag HPV16, ac yn gyson â’r ffaith bod clinigwyr yn gweld rhagor o achosion sy’n gysylltiedig ag HPV16. Mae’n bosibl y gwelir nifer y canserau sy’n gysylltiedig â’r firws mewn menywod yn gostwng gydag amser wrth i gohortau gael eu brechu rhagddo yn y dyfodol.

Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd yn bwriadu rhoi cyngor yn y dyfodol agos am dargedu’r defnydd o frechlyn y firws papiloma dynol at ddynion syn cael rhyw gyda dynion (MSM) neu estyn y rhaglen reolaidd ar gyfer pobl ifanc i gynnwys glaslanciau. Bydd is-bwyllgor HPV y Cydbwyllgor yn cyfarfod yn ddiweddarach yn 2014 i ystyried y materion hyn eto, pan fydd rhagor o ddata ar gael.

Llid yr ymennyddMae baich a difrifoldeb llid yr ymennydd meningococcaidd a gwenwyn gwaed yn y Deyrnas Unedig yn ddigon hysbys. Ers cyflwyno rhaglen frechu gyfun reolaidd rhag meningococcaidd C ym mis Tachwedd 1999 gwelwyd gostyngiad o dros 90 y cant yn nifer yr achosion grŵp C capswlar a gofnodwyd ac a gadarnhawyd mewn labordy ym mhob grŵp oedran a imiwneiddiwyd 26, 27, 28. Erbyn hyn grŵp B Meningococcaidd (MenB) yw dros 80 y cant o’r achosion ers yr ymgyrch brechu rhag MenC. Yn y degawd diwethaf, roedd nifer y clefydau meningococcaidd ymledol (IMD) yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng oddeutu hanner i tua 25 o achosion o IMD wedi’u cadarnhau ym mhob 100,000 o blant o dan flwydd ac i lai na dau achos wedi’u cadarnhau ym mhob 100,000 o bobl o bob oed. Serch hynny, mae’n bosibl y gallai nifer yr achosion gynyddu eto oherwydd bod y nifer wedi amrywio am resymau nad ydym yn eu deall yn dda.

Page 41: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

41

Tabl 5. Nifer yr adroddiadau labordy* o Neisseria meningitidis, Math B a C, yng Nghymru: Data 1993-2012 (CSF a samplau gwaed yn unig)

Blwyddyn Cyfanswm achosion Neisseria

meningitides

Math B

Math C

1993 99 61 171994 72 30 71995 94 36 231996 106 40 281997 125 42 301998 98 41 251999 121 54 242000 114 62 162001 160 121 182002 129 100 62003 138 93 62004 104 59 22005 148 102 02006 103 68 02007 85 59 02008 43 17 02009 36 12 02010 43 14 02011 30 6 02012** 10 0 0

* Data wedi’u dadansoddi yn ôl dyddiad y sampl** Data 2012 hyd at wythnos 12 (wythnos yn gorffen 25/03/2012) Ffynhonnell: Data 1993 - 2012 o Fodiwl Labordy CoSurv (Canolfan Adolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Brechlyn Meningococcaidd B Yng Nghymru, yn ystod 2011, roedd 30 o achosion o glefyd meningococcaidd a oedd wedi’u cadarnhau mewn labordy ac roedd chwech o’r rhain wedi’u hachosi gan meningococcaidd B.

Ym mis Mawrth 2014, argymhelliad y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu oedd y dylid cyflwyno brechlyn MenB i’r drefn imiwneiddio genedlaethol, ar yr amod bod modd cael gafael ar y brechlyn am bris cost-effeithiol29.

Er mwyn rhoi’r rhaglen hon ar waith, bydd gofyn cael cymeradwyaeth y Gweinidog.

Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd â llid yr ymennydd yn arddangos symptomau neu arwyddion sydd ar y cyfan yn rhai amhenodol ac fe all fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y cyflyrau hyn a heintiau llai difrifol ond sy’n debyg o ran eu golwg. Mae angen o hyd inni adnabod y symptomau a’r arwyddion a rheoli’r achosion hyn ar frys. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i’r haint ymddangos yn llai aml. Mae nifer o bwyntiau y dylai gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fod yn ymwybodol ohonynt yng nghyswllt symptomau clinigol llid yr ymennydd:

• Bod yn effro i’r posibilrwydd o lid yr ymennydd bacteriol neu wenwyn gwaed meningococcaidd wrth asesu plant neu bobl ifanc sydd â salwch twymynol aciwt.

• Dylai gweithwyr proffesiynol gofal iechyd gofio nad yw arwyddion clasurol llid yr ymennydd bob tro i’w gweld mewn babanod sydd â llid yr ymennydd bacteriol.

• Dylid cofio bod y symptomau a’r arwyddion a welir mewn plant a phobl ifanc sydd â llid yr ymennydd bacteriol yn aml yn rhai amhenodol. Bydd rhai plant sydd â llid yr ymennydd bacteriol yn cael ffitiau.

Argymhellion1. Dylai Llywodraeth Cymru, gan gydweithio ag

asiantaethau lleol a chenedlaethol, adolygu’n llwyr sut mae Ansawdd Aer Lleol yn cael ei Reoli yng Nghymru o ran cydymffurfio â’r terfynau deddfwriaethol a lliniaru effeithiau ansawdd aer gwael ar iechyd y cyhoedd.

2. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weld buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd yn ein trefi a’n dinasoedd yn fuddsoddiad yn iechyd y cyhoedd oherwydd ei fod yn lliniaru llygredd aer, sŵn a ffactorau straen eraill sy’n gysylltiedig â bywyd cyfoes, a’i fod yn annog ac yn galluogi pobl i deithio mewn ffordd egnïol ac ymlacio ym myd natur. bacteriol yn cael ffitiau.

3. Dylai Llywodraeth Cymru asesu’r achos dros gyflwyno brechlyn meningococaidd B yng Nghymru.

Page 42: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Cyfeiriadau1. Llywodraeth Cymru. Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2012-2016 [Ar lein] 2012.

Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/tacklingpoverty/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

2. Gowers A M, Miller B G, Stedman J R, Public Health England. Estimating Local Mortality Burdens associated with Particulate Air Pollution [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://www.hpa.org.uk/Publications/Environment/PHECRCEReportSeries/PHECRCE010/ [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

3. www.wales.nhs.uk/sieplus888/news/32843

4. Sefydliad Iechyd y Byd. Environmental burden of disease (EBD) [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.euro.who.int/en/health-topics/environment-and-health/pages/evidence-and-data/environmental-burden-of-disease-ebd [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

5. Llywodraeth Cymru. Map Sŵn Cymru [Ar lein]. Ar gael yn: http://data.wales.gov.uk/apps/noise/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

6. Llywodraeth Cymru. Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn i Gymru 2013-18 [Ar lein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/noiseandnuisance/environmentalnoise/noisemonitoringmapping/noise-action-plan/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

7. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Quarterly COVER report No.109 [Ar lein]. Ar gael yn: http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/VaccinationsImmunisationProgsDocs.nsf/($All)/A8D17455D972871580257C86004E0C38/$File/Cov13q4%20(Report109%20version1).pdf?OpenElement [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

8. ISD yr Alban. Child Health Data Tables [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.isdscotland.org/Health-Topics/Child-Health/publications/data-tables.asp?id=1144#1144 [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

9. HSC Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon: Transmit, 2012: rhifyn 1. Ar gael yn: http://www.publichealthagency.org/directorate-public-health/health-protection/vaccination-coverage [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

10. Iechyd Cyhoeddus Lloegr. Quarterly COVER reports [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.hpa.org.uk/Topics/InfectiousDiseases/InfectionsAZ/VaccineCoverageAndCOVER/EpidemiologicalData/VaccineCoverageDataTables/ [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

11. Ibid

12. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Uptake of pertussis and influenza vaccination in pregnant women in Wales 2013-14 [Ar lein]. Ar gael yn: http://nww2.nphs.wales.nhs.uk:8080/VaccinationsImmunisationProgsDocs.nsf/3dc04669c9e1eaa880257062003b246b/60ef1206fc67dc0880257c9f004b1848/$FILE/Survey%20of%20vaccine%20uptake%20in%20pregnant%20women%20v%202a%2011th%20March%202014%20FINAL.pdf (mewnrwyd yn unig)

13. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pertussis in Wales 1998-2013 [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=457&pid=58100#data [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

14. VENICE II Consortium. Seasonal influenza vaccination in EU/EEA, influenza season 2011‐12 [Ar lein]. Ar gael yn: http://venice.cineca.org/VENICE_Seasonal_Influenza_2011-12_1.2v.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

15. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Seasonal Influenza Immunisation Uptake [Ar lein]. Ar gael yn: http://howis.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=474&pid=21303#In_season [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

16. Ibid

17. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Framework for action on tuberculosis in Wales 2012. Caerdydd: Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

18. Sefydliad Iechyd Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Tuberculosis: Clinical diagnosis and management of tuberculosis, and measures for its prevention and control – CG117 [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.nice.org.uk/nicemedia/live/13422/53642/53642.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

19. Clymblaid Cymorth Technegol ar gyfer y Diciâu. International standards for tuberculosis care [Ar lein] 2006. Ar gael yn: http://www.who.int/tb/publications/2006/istc_report.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

20. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Tuberculosis in Wales Annual Report 2013. Data hyd at ddiwedd 2012 [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/CommunitySurveillanceDocs.nsf/3dc04669c9e1eaa880257062003b246b/b1f02d3e7fa7432e80257c4600549b2b/$FILE/Wales2012AnnualTBReport_v1.pdf [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

21. Walboomers JM, Jacobs MV, Manos MM et al (1999) Human papillomavirus is a necessary cause of invasive cervical cancer worldwide. Journal of Pathology, 189: 12–19.

22. Munoz N, Castellsague X, de Gonzalez AB et al. (2006) Pennod 1: HPV in the etimology of human cancer. Vaccine 24 Suppl 3 S1-S10.

23. Peto J, Gilham C, Fletcher O et al. (2004) The cervical cancer epidemic that screening has prevented in the UK. Lancet 364(9430): 249-56.

24. Parkin DM a Bray F (2006) Pennod 2: The burden of HPV-related cancers. Vaccine 24 Suppl 3 S11-25.

25. Stanley M (2007) Prophylactic HPV vaccines: prospects for eliminating ano-genital cancer. Br J Cancer 96(9): 1320-3.

26. Campbell H, Andrews N, Borrow R et al. (2010) Updated postlicensure surveillance of meningococcal C conjugate vaccine in England and Wales: effectiveness, validation of serological correlates of protection and modelling predictions of the duration of herd immunity. Clin Vaccine Immunol 17(5): 840-7.

27. Miller E, Salisbury D a Ramsay M (2001) Planning, registration, and implementation of an immunisation campaign against meningococcal serogroup C disease in the UK: a success story. Vaccine 20 (Suppl 1): S58-67.

28. Trotter CL, Andrews NJ, Kaczmarski EB et al. (2004) Effectiveness of meningococcal serogroup C conjugate vaccine 4 years after introduction. Lancet 364(9431): 365-7.

29. Adran Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr Meningococcal B vaccine: JCVI position statement [Ar lein] 2014. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/meningococcal-b-vaccine-jcvi-position-statement [Cyrchwyd: Awst 19 2014]

42

Page 43: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Yn fy adroddiad blaenorol, soniwyd am y baich sy’n dod yn sgil ffyrdd afiach o fyw, o ran afiechyd, marwolaeth a chostau economaidd i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gwyddom nad yw’r baich hwn yn cael ei rannu’n gyfartal ond ei fod yn pwyso’n drymach ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Mae patrwm y marwolaethau osgoadwy’n awgrymu bod angen cymryd camau ym maes clefyd y galon a chanser yr ysgyfaint. Gwyddom hefyd fod lefel sylweddol o afiechyd sy’n gysylltiedig â chyflyrau cronig megis diabetes a salwch meddwl.

Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn a wyddom yn fwy cyffredinol, mai’r prif ymddygiadau sy’n peryglu iechyd o hyd yw ysmygu, yfed alcohol mewn ffordd niweidiol, diffyg gweithgarwch corfforol, deiet afiach a methu â chynnal pwysau iach.

Mae llawer o bethau y gall pobl ei wneud i gryfhau eu hiechyd. Mae’n bosibl bod amgylchiadau bywyd yn gwneud hyn yn anodd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i fyw bywyd iach ac osgoi’r gweithgareddau hynny a all fod yn niweidiol iddynt yn awr neu yn y tymor hwy.

Mae astudiaethau wedi archwilio effaith gyfun ymddygiadau iechyd gwael ar farwolaethau (gan ystyried gan amlaf ffactorau megis ysmygu, yfed alcohol, deiet, gweithgarwch corfforol, ac weithiau gordewdra), gan awgrymu y gall yr effaith fod yn sylweddol. Mae’r risg o farw’n codi wrth i nifer yr ymddygiadau iechyd gwael gynyddu. (Er enghraifft, Kvaavik et al, 2010; Loef & Walach, 2012).

Serch hynny, wrth ddadansoddi data Arolwg Iechyd Cymru o’r blaen, gwelwyd mai dim ond cyfran fach (chwech y cant) o oedolion a oedd wedi mabwysiadu’r pedair ffordd iach o fyw (dim ysmygu, dim yfed mwy na’r canllawiau, bwyta pump neu ragor o ddognau o ffrwythau a llysiau bob dydd, a bod yn gorfforol egnïol bum diwrnod yr wythnos fan leiaf)1.

Pennod 4Hybu ymddygiadau iach er mwyn atal yr hyn y gellir ei atal

43

Ffigur 22: Nifer yr ymddygiadau iach a gofnodwyd gan oedolion, 2009 a 2010

39% 23% 6%26%6%

Gwael Da

Pa gyngor mae pobl yn ei ddilyn

Gwneud 0 i wella’ch iechyd

Gwneud 1 peth i wella’ch iechyd

Gwneud 2 beth i wella’ch iechyd

Gwneud 3 pheth i wella’ch iechyd

Gwneud 4 peth i wella’ch iechyd

Gwneud pedwar peth i wella’ch iechyd

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Page 44: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Roedd oedolion a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ymddwyn mewn un o’r ffyrdd iach hyn. Ac roedd yr oedolion hynny a ddywedodd eu bod yn ymddwyn mewn nifer o ffyrdd iach hefyd yn dweud bod eu hiechyd a’u lles meddyliol yn well ac yn llai tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn weddol neu’n wael*2.

Mewn adroddiad diweddar, archwiliwyd astudiaeth Cohort Caerffili (astudiaeth sydd wedi dilyn grŵp o ddynion o Gaerffili ers dros 30 mlynedd) er mwyn crynhoi’r dystiolaeth ynglŷn â’r berthynas rhwng ffyrdd iach o fyw a chlefydau cronig penodol. Y casgliad oedd bod ffordd iach o fyw yn gysylltiedig â goroesi’n ddiglefyd ac â llai o namau gwybyddol, ond mai ychydig o bobl o hyd sy’n dilyn ffordd wirioneddol iach o fyw3.

Roedd dynion yng Nghaerffili a oedd yn dilyn pedwar neu bump o ymddygiadau iach yn wynebu llai o risg is o afiechydon cronig penodol a marwolaeth o’u cymharu â’r rheini nad oeddent yn dilyn yr un, gan gynnwys:

Diabetes – gostyngiad o 50 y cant Dementia – gostyngiad o 60 y cant Marwolaeth (pob achos) – gostyngiad o 60 y cant

Roedd Astudiaeth Caerffili yn dilyn cohort o ddynion canol oed am dros 30 mlynedd. Roedd ymddygiadau iach yn ymwneud ag ysmygu, màs y corff, bwyta ffrwythau a llysiau, gweithgarwch corfforol ac yfed alcohol.

Ffynhonnell: Healthy Lifestyles Reduce the Incidence of Chronic Diseases and Dementia: Evidence from the Caerphilly Cohort Study, Elwood et al, PLOS ONE, Rhagfyr 2013.

Felly, mae angen gwneud rhagor o waith i hybu ffyrdd iach o fyw drwy Gymru fel ffordd o fynd i’r afael â marwolaethau ataliadwy. Mae mynd i’r afael â hyn yn gyfrifoldeb ar y cyd i sefydliadau iechyd cyhoeddus, pobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus. Yn benodol, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ym maes iechyd yw un o’r prif heriau sydd yn wynebu pob gwlad ddatblygedig.

Yng Nghymru, rydym yn cefnogi’r dull 5 Ffordd at Les ac rydym wedi lansio’n cynllun newydd yn ddiweddar, sef ‘Ychwanegu at Fywyd’.

Enghraifft dda o feithrin cydnerthedd mewn pobl o bob oed yw’r 5 Ffordd at Les. Set o gamau seiliedig ar dystiolaeth yw’r 5 Ffordd at Les sydd wedi’u datblygu gan y New Economics Forum (NEF) gyda’r nod o hybu lles pobl. Dyma’r 5 ffordd: Cysylltu, Bod yn Fywiog, Bod yn Sylwgar, Dal ati i Ddysgu a Rhoi. Mae’r gweithgareddau hyn yn bethau syml y gall unigolion eu gwneud yn eu bywydau bob dydd.

Logo a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent. Addaswyd gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf

‘Ychwanegu at Fywyd’Cynllun asesu iechyd ar lein i ddinasyddion 50 oed a hyn yw hwn. Cynllun newydd ydyw i helpu unigolion i ddeall eu hiechyd eu hunain yn well a’r camau y gallant eu cymryd i wella’u hiechyd a’u lles, gan ddarparu gwybodaeth o safon a chyngor ar un wefan.

Ffynhonnell: Ychwanegu at Fywyd

Mae cyflwyno adnodd Ychwanegu at Fywyd wedi cael cefnogaeth gan dimau Cymunedau yn Gyntaf ac Age Cymru. Mae’r dull hwn wedi sicrhau bod defnyddwyr yn cael y lefel o gymorth sydd ei hangen arnynt ac i’r rheini sy’n llai hyderus yn eu sgiliau TG, bydd cymorth ar gael iddynt drwy gyfrwng gwefan.

44

Page 45: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Gweithgarwch corfforol

Mae manteision sylweddol yn deillio o weithgarwch corfforol, gan gynnwys gwneud chwaraeon ac ymarfer corff drwy gydol eich bywyd. Rhai o’r manteision yw llai o risg o glefyd cardiofasgwlaidd, llai o rai mathau o ganser a diabetes, gwella’r iechyd cyhyrsgerbydol a chadw pwysau’r corff dan reolaeth yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol ar ddatblygu iechyd meddwl a phrosesau gwybyddol. Mae gweithgarwch corfforol, fel y’i hargymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd yn bwysig i bob grŵp oedran.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai diffyg gweithgarwch corfforol yw’r pedwerydd ffactor risg pwysicaf o ran marwolaethau byd-eang gan achosi oddeutu 3.2 miliwn o farwolaethau drwy’r byd. Amcangyfrifwyd mai cost diffyg gweithgarwch corfforol yng Nghymru yw oddeutu £650 miliwn y flwyddyn5. Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd megis cerdded a beicio’n fuddiol iawn i iechyd gan gynnwys lleihau’r risg o glefydau cardiofasgwlar, diabetes, canser y colon a’r fron, ac iselder.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae Data Arolwg Iechyd Cymru 2013 yn dangos mai dim ond 29 y cant o’r boblogaeth sy’n gwneud digon o weithgarwch corfforol iddo fod o fudd i’w hiechyd. Y mesur ar gyfer hyn yw 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bum niwrnod o’r wythnos neu ragor. Nid oes fawr o newid i’w weld yn y data ers blynyddoedd blaenorol. Eleni rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol o ran sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon; mae’r Arolwg o Chwaraeon mewn Ysgolion gan Chwaraeon Cymru yn dangos nifer y bobl ifanc sy’n cymryd

GWEITHGARWCH CORFFOROL

29% (yn actif ar 5 diwrnod)

34% (yn actif ar 0 diwrnod)

Oedolion, nifer y diwrnodau yn yr wythnos ddiwethafyr oeddent yn actif am o leiaf 30 munud

45

2013

Page 46: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffynhonnell: Iechyd y Cyhoedd Cymru

rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r ganran wedi codi o 27 y cant yn 2011 i 40 y cant yn 2013; ac mae’r Arolwg Oedolion Egnïol yn dangos bod y 29 y cant o’r boblogaeth oedolion a oedd yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos yn 2008 wedi codi i 39 y cant yn 2012 – mae hynny’n 262,000 yn fwy o bobl, 34 y cant o gynnydd yn nifer y bobl sy’n mwynhau manteision lu chwaraeon. Efallai mai gwaddol Gemau Olympaidd 2012 yw hyn a ysbrydolodd lawer i ymwneud rhagor â gweithgareddau chwaraeon. Rwy’n gobeithio y caiff Gemau’r Gymanwlad yr un dylanwad cadarnhaol.

Er gwaethaf y wybodaeth gadarnhaol hon, mae 34 y cant o’r boblogaeth yn segur o hyd ac nid ydynt yn gwneud dim gweithgarwch corfforol. Lansiwyd Newid am Oes yn 2010 fel rhan o ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i helpu pobl i gadw at bwysau corff iach, i fwyta’n iach ac i fod yn gorfforol egnïol. Hyd yn hyn mae 67,624 wedi ymuno â’r rhaglen ac mae mwy na hynny wedi cael gafael ar gyngor oddi ar y wefan, Facebook a Twitter. Mae’n eithriadol o bwysig lleihau segurdod drwy gymryd camau i gyflwyno gweithgarwch corfforol i’n bywydau bob dydd.

Rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu opsiynau i gymell y bobl leiaf egnïol i wneud rhagor. Ffurfiwyd y Grŵp Gweithredol Gweithgarwch Corfforol dan arweiniad y Gweinidog yn 2014 i osod cyfeiriad newydd er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol. Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar newid ar raddfa fawr lle y dilynir gwahanol ddulliau, a dibynnu ar anghenion y gymuned.

Maeth Mae llawer o sylw wedi bod yn diweddar i siwgr a faint ohono rydym yn ei fwyta. Mae bwyta swm cymedrol ar siwgr yn rhan o ddeiet cytbwys, ond mae bwyta gormod o siwgr, ynghyd â gormod o fraster yn cyfrannu at ormod o galorïau sydd dros gyfnod yn arwain at ordewdra. Mae bwyta ac yfed bwydydd a diodydd melys hefyd yn gyfrannwr mawr at bydredd dannedd ym mhob sector o’r boblogaeth. Mae’r dystiolaeth yn ddiymwad bod angen inni fwyta llai o siwgr. Rydym yn ychwanegu mwy o siwgr at ein deiet na’r hyn a argymhellir sef dim mwy na deg y cant o’r holl egni sydd ei angen ac mae hynny’n wir am bob grŵp oedran yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn ar ei amlycaf ymhlith plant rhwng pedair a deg oed a rhwng 11 ac 18 oed lle mae’r cymeriant cymedrig yn darparu 14.7 ac 15.6 y cant6 o’u hegni bwyd, yn y drefn honno. Un peth sy’n destun pryder penodol yw faint o ddiodydd meddal (gan gynnwys diodydd egni) y bydd ein plant yn eu hyfed sy’n cyfrannu at y gyfran fwyaf o’u cymeriant siwgr ychwanegol.

Er ein bod fel poblogaeth yn bwyta mwy o siwgr na’r hyn a argymhellir, sylweddolir bod angen bod yn fwy clir ynghylch y cysylltiad rhwng siwgr a gordewdra.

At hynny, mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) wrthi’n adolygu’r dystiolaeth am siwgr yn y deiet a charbohydradau eraill. Ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei argymhellion drafft, bydd y Pwyllgor yn rhoi ei argymhellion terfynol i’r Llywodraeth yn fuan yn y flwyddyn newydd. Wedyn, bydd y Llywodraeth yn adolygu’r cyngor deietegol ac unrhyw argymhellion ynglŷn â bwydydd penodol yn unol â hynny.

Gallai’r diwydiant bwyd wneud llawer mwy i helpu pobl i fwyta llai o siwgr er enghraifft aifformwleiddio bwydydd a lleihau’r dognau. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn dal i bwyso i sicrhau camau cadarnhaol er mwyn lleihau cymeriant siwgr, gan gynnwys ystyried deddfwriaeth briodol ar lefel y DU.

Oedolion a oedd wedi bwyta 5 dogn neu fwy ar y diwrnod blaenorol

BWYTAFFRWYTHAU A LLYSIAU

33%

2013

46

Page 47: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Mae gordewdra’n ffactor o bwys sy’n achosi llawer o gyflyrau iechyd cronig ac, er bod figurau diweddaraf Arolwg Iechyd Cymru yn awgrymu gostyngiad bach o ran gordewdra yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae’n rhy fuan inni farnu ai arwydd bod y niferoedd yn sefydlogi yw hyn. Mae cyfran yr oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew wedi cynyddu o 18 y cant i 22 y cant yn ystod y degawd diwethaf.

Roedd data ail flwyddyn y Rhaglen Mesur Plant (2012/137) yn dangos bod dros chwarter (26 y cant) y plant rhwng pedair a phump oed dros eu pwysau neu’n ordew, a bod 11.3 y cant yn ordew. Roedd lefelau gordewdra’n uwch yn yr ardaloedd mwy difreintiedig.

Gordewdra a’r Diwydiant BwydMae gordewdra’n cyfrannu at lawer o afiechydon cronig gan gynnwys: diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlar, problemau gyda’r cymalau ac apnoea cwsg. Mae’r rhain i gyd yn lleihau disgwyliad oes ac ansawdd bywyd. Costiodd gordewdra £73 miliwn i GIG Cymru yn 2008/9. Mae gordewdra’n effeithio fwyaf hefyd ar y rhai mwyaf difreintiedig.

Pam mae hyn wedi digwydd? Mae pobl yn bwyta mwy o fwyd wedi’i brosesu a bwyd sothach. Mae siwgr yn aml ynghudd mewn bwydydd sydd wedi’u prosesu ac nid yw’n darparu dim gwerth o ran maeth, ond fe all arwain at ordewdra. Mae astudiaethau’n dangos y byddai trethu diodydd melys yn golygu gostyngiad rhwng 15 ac 16 y cant yn y diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr y byddwn yn eu hyfed; ac y byddai 180,000 yn llai o oedolion gordew yn y Deyrnas Unedig8. Plant a phobl ifanc sy’n yfed y nifer fwyaf o ddiodydd sy’n cael eu melysu â siwgr a nhw fyddai felly’n elwa fwyaf o’r dreth hon9.

Mae’r diwydiant hysbysebu’n bwerus iawn yn dylanwadu ar blant yn benodol i fwyta bwydydd afiach. Un cam a fyddai’n gweithio’n dda i gyfyngu ar y dylanwad hwn fyddai gwahardd hysbysebu pob bwyd sothach cyn y gwahanfur am 9pm, er mwyn i blant fod yn llai agored i’r math hwn o farchnata10.

Dylid gwahardd hysbysebion bwyd sothach drwy’r amser ar wasanaethau ‘ar alw’ ar y rhyngrwyd hefyd.

Mae cynllun newydd Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’ yn cynnig cyfle i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i sicrhau bod fformiwleiddiadau bwyd a diod yn iachach a bod cymhelliant i gynhyrchu bwydydd iach.

Gyda’n gilydd, gallwn frwydro yn erbyn gordewdra yng Nghymru.

GORDEWDRA PLANTPlant 4–5 oed

2012/13

11%yn ordew

26%Dros bwysauneu'n ordew

Gwella ymddygiad iechyd deintyddol plantMae’r arolwg diweddaraf o blant deuddeg oed yn dangos bod cyfran y plant sydd â phydredd dannedd yn gostwng yn gyson, a hefyd nifer y dannedd pwdr ar gyfartaledd sydd gan bob plentyn, gan gynnwys yn y grwpiau mwyaf difreintiedig. Mae’r tueddiadau tymor hir o ran pydredd dannedd

(wedi’i ddangos ar ffurf sgoriau cymedrig D3MFT) rhwng 1988-89 a 2012-13 yn awgrymu bod y gwella’n cyflymu ers dechrau’r ganrif. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod defnydd helaeth ar bast dannedd â fflworid yn parhau yn ogystal ag ymdrechion parhaus timau deintyddol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd ac addysgu yn helpu gyda gwaith ataliol.

47

Page 48: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffigur 23: D3MFT cymedrig a phydredd dannedd plant deuddeg oed yng Nghymru 1998-89 to 2012-13

Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru

Cyfartaledd D MFTCanran sydd wedi cael dannedd yn pydru

Canran sydd w

edi cael dannedd yn pydru

Blwyddyn

1988/89 1992/93 1996/97 2000/01 2004/05 2008/09 2012/13

3

Cyfa

rtal

edd

D M

FT3

0.00 0

0.20

0.40

0.60

0.80

2.00 70

60

50

40

30

20

10

1.80

1.60

1.40

1.20

1.00

Un o Raglenni Deintyddol y GIG a noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Cynllun Gwên11 ac mae’n helpu plant i gael dannedd iachach. Mae dwy elfen i’r Rhaglen Cynllun Gwên:

• Rhaglen ataliol i blant ysgolion Meithrin/Cynradd, sy’n cynnwys rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid i blant rhwng tair a phump oed yn yr ysgol/y feithrinfa gan helpu i sefydlu arferion da’n gynnar; hefyd bydd plant rhwng chwech ac un-ar-ddeg oed yn cael rhaglen Selio Tyllau yn ogystal â chyngor ataliol am sut mae gofalu am iechyd y geg.

• Rhaglen ataliol i blant o adeg eu geni tan eu bod yn dair oed.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn cynnwys 1,394 o feithrinfeydd ac ysgolion ledled Cymru. Mae cyfanswm o 87,318 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd dyddiol, sef 56.3 y cant o’r holl blant o’r cyfnod cyn-ysgol i Flwyddyn 2 yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys 1,047 o leoliadau a fu’n cymryd rhan yn elfen brwsio dannedd y rhaglen, 44 o leoliadau a gafodd yr elfen farnais fflworid a 303 o leoliadau eraill a gafodd y ddau12.

48

Page 49: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ysmygu

Ffigur 24: Oedolion sy'n Ysmygu yng Nghymru, 2003/04 – 2013

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru

0%

5%

10%

15%

20%

25%

30%26%

21%

2003

/04

Canr

an

2004

/05

2005

/06

2007

2008

2009

2010

2011

2012

2013

Blwyddyn

Mae’n braf gweld bod cyfraddau ysmygu ymhlith oedolion wedi bod yn gostwng er 2004 ac mae canlyniadau diweddar Arolwg Iechyd Cymru13 yn dangos bod canran yr oedolion a oedd yn ysmygu wedi gostwng o 23 y cant i 21 y cant rhwng 2012 a 2013. Mae hwn yn gam cadarnhaol.

Bydd y rheoliadau sy’n codi yn sgîl Deddf Plant a Theuluoedd y Deyrnas Unedig yn rheoleiddio prynu cynhyrchion tybaco ar ran plant ac yn gwahardd gwerthu e-sigarennau i’r rheini sydd o dan 18 oed. Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gall e-sigarennau fod yn help i ysmygwyr ysmygu llai neu roi’r gorau i’r arfer; ac mae defnyddio’r ddau fath yn beth cyffredin. Serch hynny, mae rhai’n poeni o hyd bod diffyg tystiolaeth ynglŷn ag effeithiau defnyddio e-sigarennau ar iechyd yn y tymor hir, ac yn waeth na hynny, ei fod yn ailnormaleiddio ysmygu. Mae’r effaith a gaiff o ran bod pobl iau’n dechrau ysmygu drwy ddechrau ar e-sigarennau hefyd yn destun pryder. Mae’r datblygiadau ymchwil yn y maes hwn o ddiddordeb mawr imi, yn enwedig yng nghyswllt Bil Iechyd y Cyhoedd sy’n ceisio atal defnyddio e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig.

Llwyddodd Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Stoptober am y tro cyntaf yn 2013. Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco yn cydnabod y gall ymgyrchoedd yn y cyfryngau torfol annog ysmygwyr i roi’r gorau iddi.

Her 28 diwrnod yw Stoptober sy’n cymell ac yn annog ysmygwyr i roi’r gorau i ysmygu ym mis Hydref. Mae wedi’i seilio ar waith ymchwil sy’n dangos bod ysmygwyr bum gwaith yn fwy tebygol o barhau’n ddi- fwg os byddant yn llwyddo i gyrraedd diwedd y pedair wythnos gyntaf heb ysmygu.

Y llynedd, rhoddodd dros 80 o fusnesau yng Nghymru gymorth i’w staff i roi’r gorau i ysmygu a bu fferyllfeydd a lleoliadau gofal iechyd drwy Gymru hefyd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.

YSMYGU

21%Oedolion sy'n ysmygu

POBL IFANC SY'N YSMYGU

Pobl ifanc 15–16 oed sy'n ysmygu'n wythnosol

11%(bechgyn)

(merched)16%

2013 2013/14

49

Page 50: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Hysbysebwyd Stoptober ledled Cymru ar y teledu, ar y radio ac fe ymddangosodd olwyn goch enfawr Stoptober ar gopa’r Wyddfa.

Darparwyd ystod eang o gymorth, canllawiau ac anogaeth am ddim gan Stoptober i ysmygwyr yng Nghymru y llynedd a hefyd fe’u cyfeiriwyd at y cymorth a’r cyngor a roddir gan raglen Tîm Smygu Cymru, fferyllfeydd lleol a meddygfeydd meddygon teulu.

Bydd Stoptober yn digwydd eto yng Nghymru yn 2014 ac rwy’n annog pawb sy’n ysmygu i gefnogi’r ymgyrch er mwyn cynorthwyo’i gilydd i roi’r gorau i ysmygu am 28 niwrnod.

Mae tua 70 y cant o ysmygwyr Cymru’n awyddus i roi’r gorau iddi, a thrwy ddarparu rhaglen 28 niwrnod gam-wrth-gam fanwl i’w helpu, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n annog cynifer o bobl â phosibl i roi’r gorau i ysmygu am 28 niwrnod.

Yn ystod ymgyrch Cychwyn Iach Cymru, hyrwyddwyd ceir di-fwg ar gyfer y rhai sy’n cludo plant gan dynnu sylw rhieni a phobl eraill at y risg y mae eu hysmygu yn ei pheri i iechyd plant.

Daeth yr ymgyrch i ben ar 31 Mawrth 2014 ac yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd, gwelwyd llawer o weithgarwch hyrwyddo ledled Cymru, gan ddosbarthu dros 37,000 o becynnau Cychwyn Iach i helpu ysmygwyr i’w gwarchod eu hunain a’u teuluoedd rhag mwg ail-law a’u helpu i roi’r gorau i ysmygu.

Ym misoedd olaf yr ymgyrch, canolbwyntiwyd ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Cymru gan adeiladu ar fomentwm gweithgarwch ymgyrchoedd blaenorol. Cynhaliwyd digwyddiadau mewn 23 o wahanol leoliadau ar y stryd fawr ac mewn archfarchnadoedd ac fe aeth Patch, mascot Cychwyn Iach i ymweld ag ysgolion cynradd i hyrwyddo ffilm yr ymgyrch “Killer Chemicals”. Bu Cychwyn Iach yn ymgysylltu â chyflogwyr hefyd, gan hyrwyddo’r ymgyrch yn y wasg leol ac ar y radio, drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar flogiau ar lein.

Mae canfyddiadau gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2014 yn dangos bod ysmygu mewn ceir wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf ond hefyd bod lleiafrif sylweddol o bobl ifanc yn dal i fod yn agored i fwg ail law mewn ceir.

Gallai gwahardd ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cludo plant o dan 18 oed warchod plant rhag y niwed sy’n gysylltiedig ag ysmygu goddefol. Gall hyn arwain at lu o glefydau cronig, a’r rheini i raddau helaeth yn rhai y gellid eu hosgoi. Mae’n ymddangos mai deddfu fyddai’r ffordd fwyaf priodol o gamu ymlaen i gael gwared ar y niwed hwn sy’n cael ei achosi gan fwg ail law a chau’r bwlch sy’n dal i fodoli. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ar 15 Gorffennaf 2014 yn cyhoeddi y caiff ymgynghoriad ei lansio cyn bo hir, yn unol â’r drefn arferol, ar gynigion i wahardd ysmygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant o dan 18 yn teithio ynddynt.

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

50

Page 51: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Alcohol

Mae prif ganlyniadau Arolwg Iechyd Cymru 201314 yn dangos bod 42 y cant o oedolion yn dweud eu bod wedi yfed mwy na’r canllawiau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn yr wythnos flaenorol, gan gynnwys 26 y cant a ddywedodd eu bod yn yfed dwywaith gymaint â’r canllawiau dyddiol. Mae data’r Arolwg rhwng 2008 a 2013 yn awgrymu bod canran yr oedolion sy’n yfed mwy na’r canllawiau dyddiol wedi gostwng ychydig, ond bod y patrwm yn ôl oedran yn amrywio - mae gostyngiad wedi bod ymhlith pobl ifanc, mae’r ffigurau ar gyfer pobl ganol oed yn amrywio, a’r ffigurau ar gyfer pobl hŷn wedi cynyddu, er bod pobl hŷn ar y cyfan yn dal yn llai tebygol o yfed mwy na’r canllawiau.

Mae pethau’n gwella o ran bod rhai grwpiau’n yfed llai o alcohol ond nid yw hyn yn wir am bob grŵp.

Bu farw 504 o bobl o achosion cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2012, y rhan fwyaf yn ddynion, er bod canran y cynnydd ymhlith menywod yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi bod yn fwy na’r cynnydd ymhlith dynion. Hefyd, cafodd oddeutu 15,500 o bobl eu derbyn i’r ysbyty yng Nghymru yn 2011/12 yn benodol oherwydd alcohol.

Roedd y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd ‘Gwrando arnoch chi - mae eich iechyd yn bwysig’ yn cynnwys cynnig i roi Isafswm Pris Uned o 50c ar waith yng Nghymru, gan ddefnyddio deddfwriaeth i ategu’r ystod o weithgarwch i fynd i’r afael â’r niwed i iechyd sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. Mae’r dystiolaeth yn

Oedolion sy'n yfed mwy na'r canllawiau dyddiol (neu fwy na dwywaith y canllawiau dyddiol ar gyfer goryfed mewn pyliau) yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

POBL IFANC SY'N YFED

15%(bechgyn)

(merched)13%42% yn fwy na'r

canllawiau

Pobl ifanc 15–16 oedsy'n yfed yn wythnosol

26%yn goryfed mewn pyliau

YFED

2013/14

Oedolion sy'n yfed mwy na'r canllawiau dyddiol (neu fwy na dwywaith y canllawiau dyddiol ar gyfer goryfed mewn pyliau) yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

POBL IFANC SY'N YFED

15%(bechgyn)

(merched)13%42% yn fwy na'r

canllawiau

Pobl ifanc 15–16 oedsy'n yfed yn wythnosol

26%yn goryfed mewn pyliau

YFED

2013/14

dangos bod pris alcohol yn cyfrif ac wrth i alcohol ddod yn sylweddol fwy fforddiadwy yn ystod y degawdau diwethaf, mae nifer y marwolaethau a’r afiechydon sy’n gysylltiedig ag ef wedi cynyddu hefyd. Byddai Isafswm Pris yr Uned yn effeithio ar y diodydd hynny sy’n cael eu gwerthu am bris annerbyniol o isel o’i gymharu â chynnwys yr alcohol sydd ynddynt, er enghraifft gwirodydd rhad a seidr gwyn. Byddai gorfodi Isafswm Pris yr Uned ar gyfer Alcohol yng Nghymru yn enghraifft o ofal iechyd darbodus oherwydd byddai’r polisi’n cyfrannu’n gryf at ein nodau o hybu iechyd, atal camddefnyddio alcohol a lleihau’r niwed a’r afiechyd sy’n gysylltiedig ag ef.

I gefnogi’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer Gymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith modelu penodol ar gyfer Cymru gan Brifysgol Sheffield ac arolwg ynglŷn ag agweddau’r cyhoedd at alcohol gan Beaufort Research. Adeg ysgrifennu fy adroddiad, nid oedd adroddiadau terfynol y naill gomisiwn na’r llall wedi’u cyhoeddi ond roedd y canfyddiadau cychwynnol yn ategu eto’r dadleuon o blaid cyflwyno isafswm pris yr uned yng Nghymru. Cafwyd cyngor annibynnol hefyd gan y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau sydd wedi adolygu’r llenyddiaeth am Isafswm Pris yr Uned yng nghyd-destun Cymru ac wedi argymell ei roi ar waith yma.

51

Page 52: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Argymhellion1. Dylai Byrddau Iechyd Lleol, Iechyd Cyhoeddus

Cymru a Llywodraeth Cymru asesu’r lefelau o weithgarwch corfforol mewn cymunedau ar draws Cymru a cheisio rhannu a defnyddio tystiolaeth o arferion da wrth hybu’r gweithgarwch hwn.

Cyfeiriadau1. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2013: prif ganlyniadau cychwynnol (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014.

Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 14 2014]

2. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2009 a 2010: combined health lifestyle behaviours of adults [Ar lein] 2012. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120522sb432012en.pdf [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

3. Elwood P, Galante J, Pickering J, Palmer S, Bayer A, et al. (2013) Healthy Lifestyles Reduce the Incidence of Chronic Diseases and Dementia: Evidence from the Caerphilly Cohort Study. PLoS ONE 8(12):e81877.doi:10.1371/journal.pone.0081877

4. GIG Cymru. Gwefan Ychwanegu at Fywyd [Ar lein]. Ar gael yn: https://addtoyourlife.wales.nhs.uk/ [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

5. Dringo’n Uwch – Llywodraeth Cymru. Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol [Ar lein]. Ar gael o: http://wales.gov.uk/topics/cultureandsport/sportandactiverecreation/climbing/?lang=cy [Cyrchwyd: Medi 4 2014]

6. Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r Asiantaeth Safonau Bwyd. National Diet and Nutrition Survey: results from Years 1 to 4 (combined) of the rolling programme for 2008 and 2009 to 2011 and 2012 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/national-diet-and-nutrition-survey-results- from-years-1-to-4-combined-of-the-rolling-programme-for-2008-and-2009-to-2011-and-2012 [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

7. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Mesur Plant 2012/2013 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/67941 [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

8. Briggs et al. Overall and income specific effect on prevalence of overweight and obesity of 20% sugar sweetened drinks tax in UK: econometric and comparative risk assessment modelling study. BMJ, 2013, Cyfrol 347:f6189.

9. Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. A duty on sugar sweetened beverages: position statement [Ar lein] 2013. Ar gael yn: www.fph.org.uk/uploads/Position%20statement%20-%20SSBs.pdf [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

10. Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol. Measuring Up: The medical profession’s prescription for the obesity crisis [Ar lein]. Ar gael yn: www.aomrc.org.uk/doc_details/9673-measuring-up [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

11. Prifysgol Caerdydd. Gwefan y Cynllun Gwên [Ar lein]. Ar gael yn: http://www.designedtosmile.co.uk/home_cym.html [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

12. Morgan M, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Data Gweithgarwch: Ebrill 2012 – Mawrth 2013 (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2013. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/health/cmo/professionals/dental/publication/information/smile-reports/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

13. Llywodraeth Cymru. Arolwg Iechyd Cymru 2013: prif ganlyniadau cychwynnol (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2014.Cit.

14. Ibid.

15. Llywodraeth Cymru. Arolygon Iechyd Cymru [Ar lein]. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/welsh-health-survey/?lang=en#/statistics-and-research/welsh-health-survey/?tab=previous&lang=cy [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

16. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Alcohol-related deaths in the United Kingdom, registered in 2012 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: www.ons.gov.uk/ons/dcp171778_353201.pdf [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

2. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso am gamau positif i leihau faint o siwgr mae pobl yn ei gymryd, gan gynnwys deddfwriaeth ar lefel y DU a gweithredu polisi ar lefel Cymru.

52

Page 53: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Pennod 5

Felly:

• rhaid canolbwyntio’n barhaus ar ansawdd iechyd gofal er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol;

• rhaid i bawb yng Nghymru allu cael gafael ar wasanaethau sydd o lefel debyg o ran eu hansawdd a’u diogelwch.

Osgoi niwed drwy ddarparu gofal iechyd o ansawdd da sy’n fwy diogel

Fel y disgrifiwyd mewn penodau blaenorol, mae osgoi marwolaethau’n cynnwys marwolaethau o afiechydon ‘triniadwy’ sef y rhai y gellid bod wedi’u hatal drwy ddarparu gofal iechyd effeithiol a phriodol.

Mae Ffigur 25 yn dangos bod marwolaethau o afiechydon triniadwy’n gysylltiedig â ffactorau cymdeithasol hefyd. Mae hyn yn ategu pa mor bwysig yw’r ddeddf gofal wrthgyfartal, sef sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn gallu cael gafael ar y gofal iawn.

Ffigur 25: Marwolaethau o afiechydon triniadwy, cyfradd wedi'i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, yn ôl cwintelau amddifadedd (MALIC 2011), Cymru 2008-10

Menywod Dynion

Lleiaf difreintiedig

86 57 96 73 122 79 147 98 188 117

Mwyaf difreintiedig

Canolig Lleiaf difreintiedig

wedyn

Mwyaf difreintiedig

wedyn

Cyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ADDE ac MYE (Swyddfa Ystadegau Gwladol), MALIC ac Arolwg Iechyd Cymru (Llywodraeth Cymru)

Cyfwng hyder 95%

Cyfra

dd w

edi'i

safo

ni y

n ôl

oed

ran

fesu

l 100

,000

Cwintelau amddifadedd

Gwella ansawdd Mae strategaeth Cymru ar gyfer gwella ansawdd ym maes gofal iechyd yn cynnwys ystod eang o faterion. Bydd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ychydig o’r rhain yn unig:

• sut mae Cymru yn canolbwyntio o’r newydd ar dryloywder er mwyn gwella gofal;

• y llwyddiant a gafwyd hyd yn hyn gyda rhaglenni i wella gwasanaethau penodol; gan ganolbwyntio’n arbennig ar ganser a chlefyd y galon oherwydd

mai’r rhain sy’n gyfrifol am gyfran helaeth o’r marwolaethau o afiechydon triniadwy yng Nghymru;

• potensial y dull ‘gofal iechyd darbodus’ newydd.

PRIF ACHOSION MARWOLAETH

Achosion allanol

Cylchrediad

Canser

Resbiradol

9296869446031172

Nifer y marwolaethau

53

Page 54: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Tryloywder Mae camau breision wedi’u cymryd dros y 12 mis diwethaf i wella tryloywder yn y GIG yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael erbyn hyn i’r cyhoedd nag erioed o’r blaen am sut mae’r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth hawdd cael gafael arni gan bob bwrdd iechyd yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am farwolaethau, amserau aros, lefelau staffio a chyfraddau heintio.

Mae gwybodaeth dda am gyfraddau heintio wedi sbarduno camau wedi’u targedu er mwyn gwella (gweler tudalen 56). Yn 2014, dangoswyd mwy o ddiddordeb yn y ffordd y caiff marwolaethau eu mesur a’u dehongli mewn ysbytai. Mae hwn yn fater cymhleth ac mae llu o wahanol newidynnau’n dylanwadu arno gan gynnwys iechyd y boblogaeth a gwasanaethau ysbytai unigol. Yn yr adran hon, trafodir y gwelliannau ym maes gwella tryloywder a mesur perfformiad, gan awgrymu hefyd pa gwaith y mae angen ei wneud eto.

I ryw raddau, o leiaf, mae’r cynnydd yn y diddordeb mewn tryloywder yn ganlyniad i Adroddiad Francis, lle y tynnwyd sylw at ansawdd gwael y gofal a ddarperid yng Nghanol Swydd Stafford1. Cyhoeddwyd sawl adroddiad wedyn a gafodd gryn amlygrwydd a’r rheini’n adleisio’r neges ei bod yn hanfodol gwella tryloywder drwy’r GIG. Mewn adroddiad diweddar gan yr Athro June Andrews a Mark Butler, Ymddiried mewn Gofal, tynnwyd sylw at fethiannau sylweddol yn y gofal a ddarperid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan ategu bod angen sicrhau system fwyfwy tryloyw – system y gellir craffu arni er mwyn sbarduno gwelliannau2. Gall hyn alluogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd i ddod yn fwyfwy atebol am y gofal y maent yn ei ddarparu ac yn y pen draw, i wella ansawdd y gwasanaethau hyn.

Ffactor arall yw pwysigrwydd helpu pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau iechyd i ddeall sut orau y gallant ymgysylltu â’u gwasanaethau iechyd a gofal iechyd - beth y gallant ei wneud i reoli eu hiechyd a’u lles hwy eu hunain ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb drostynt a sut mae ymddwyn yn gyfrifol gyda golwg

ar y GIG a defnyddio’r system er y lles gorau. Gall hyn hwyluso trafodaeth agored, rhannu penderfyniadau a galluogi tegwch rhwng staff gofal iechyd a’r rheini y maent yn eu gwasanaethu.

Y llynedd, gwelwyd y ffordd y mae gwybodaeth am berfformiad yn cael ei darparu ar gyfer y cyhoedd yn gwella. Erbyn hyn, bydd byrddau iechyd yn cyhoeddi “Datganiadau Ansawdd Blynyddol” sy’n tynnu sylw at gryfderau ac at wendidau eu gwasanaethau. Mae gan bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru bwyllgor ansawdd a diogelwch sy’n monitro ansawdd gwasanaethau eu sefydliadau’n ofalus. Mae systemau ar waith sy’n galluogi byrddau iechyd i fonitro gwybodaeth ar sawl gwahanol lefel yn eu systemau a chyhoeddi data cryno i’r byrddau adolygu’r canlyniadau a gweithredu ar eu sail.

Grŵp gorchwyl tryloywder a marwolaethau

Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd grŵp gorchwyl tryloywder a marwolaethau Llywodraeth Cymru sawl argymhelliad gan oruchwylio datblygu gwefan newydd o’r enw Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol, gyda’r nod o alluogi’r cyhoedd, staff y GIG ac eraill i ddod o hyd i wybodaeth ddiweddar am berfformiad y GIG. Mae’n cynnwys manylion am ysbytai, practisau cyffredinol a byrddau iechyd drwy Gymru. Mae hwn yn gam mawr ymlaen. Mae fformat a chynnwys y safle’n cael eu datblygu’n barhaus ac mae croeso i bobl roi sylwadau (ar yr e-ffurflen ar lein).

Ffigur 26: Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol3

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

54

Page 55: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Marwolaethau mewn ysbytai – a yw hi’n fuddiol eu cyfrif?Ystyriodd y grŵp gorchwyl y camau a ddefnyddir i adolygu perfformiad gwasanaethau iechyd. Un dull mesur o’r fath oedd marwolaethau mewn ysbytai. Yn gyffredinol, bydd edrych ar faint o bobl sy’n marw a pham yn helpu i esbonio iechyd cyffredinol unrhyw gymdeithas. Fel y dywedwyd eisoes, mae marwolaethau’n gyffredinol yn adlewyrchu dylanwad llawer o ffactorau gan gynnwys maeth, geneteg ac amgylchiadau cymdeithasol ac mae polisi a pherfformiad mewn meysydd megis addysg, yr economi, tai a lles cymdeithasol yn gallu dylanwadu hefyd.

Mae cyfradd marwolaethau grwpiau o gleifion mewn ysbyty yn gallu rhoi rhywfaint o wybodaeth inni hefyd, ond mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hynny. Yn ogystal â dweud rhywbeth am ansawdd y gofal a gaiff cleifion a sgiliau clinigol, bydd hefyd yn adlewyrchu ffactorau eraill, megis iechyd sylfaenol y cleifion, eu hoedran a’u hamgylchiadau cymdeithasol.

Gellir addasu cyfraddau’r marwolaethau er mwyn gweld yn fwy clir pa effaith mae ansawdd y gofal yn ei chael, ond nid yw addasu cyfraddau fel hyn yn waith syml ac mae’n bwnc eithaf dadleuol. Un mater yw pwy y dylid ei gynnwys yn y cyfrifiadau. Er enghraifft, a ddylid eithrio grwpiau sydd â phatrymau gwahanol o ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd a grwpiau sydd â risg is yn gyffredinol o farw neu’r rheini sy’n cael eu derbyn am gyfnod byr iawn? A ddylid cynnwys hosbisau neu gyfleusterau ymadfer os ydynt yn rhan o’r ysbyty?

Mater arall yw sut y bydd cyfnodau gofal cleifion yn cael eu cofnodi - y system godio. Bydd gwahanol systemau gofal iechyd yn defnyddio gwahanol systemau codio clinigol, ac mae materion eraill yn amrywio hefyd gan gynnwys y ffocws gwleidyddol, cymhellion ariannol, strwythur y drefniadaeth a’r diwylliant rheoli. Mae’r rhain i gyd yn golygu ei bod yn anodd cymharu gwahanol systemau â’i gilydd mewn ffordd syml ac fe all fod yn gamarweiniol.

Mae’r anawsterau hyn yn esbonio pam y comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Stephen

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Palmer, Athro Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd Mansel Talbot ym Mhrifysgol Caerdydd, i adolygu sut y mae data addasedig yn ôl risg am farwolaethau yn cael eu defnyddio mewn Ysbytai yng Nghymru. Bu’r adolygiad hwn yn ffordd fuddiol iawn o gael golwg gyffredinol ar sut mae data am ansawdd a diogelwch yn cael eu casglu, eu prosesu a’u dehongli drwy’r GIG yng Nghymru. Roedd ei adroddiad yn ategu bod angen prosesau cadarn i adolygu marwolaethau yn Ysbytai Cymru ac i ddysgu yn sgil achosion er mwyn sicrhau bod gennym system sy’n gwella o hyd.

Drwy adolygu nodiadau achos marwolaethau gellir sicrhau nad yw achosion lle mae cleifion wedi marw oherwydd nad oedd y gofal yn ddigon da yn digwydd heb i neb sylweddoli hynny. Mae hefyd yn gallu datgelu themâu sylfaenol sy’n berthnasol i ansawdd y gofal, er enghraifft, cyfathrebu gwael rhwng y staff, triniaeth, neu sefyllfaoedd lle nad yw’r claf wedi cael digon o urddas a pharch. Yn 2013, cyhoeddodd 1000 o fywydau4 ganllawiau am sut i gynnal yr adolygiadau hyn mewn ffordd safonol ac mae’r GIG yng Nghymru yn adeiladu sylfeini cadarn er mwyn rhoi adolygiadau systematig o farwolaethau a niwed ar waith mewn ffordd gynaliadwy.

Camau a gymerir gyda golwg ar farwolaethau y gellid eu hosgoi

MARWOLAETHAU OSGOADWY

Marwolaethau o achosion yr ystyrir y gellid eu hosgoi ym mhresenoldeb gofal iechydeffeithiol ac amserol neu ymyriadau iechyd cyhoeddus

7486

55

Page 56: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAI)

Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru wedi parhau i weithio i atal Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd y gellid eu hosgoi. Eleni, gwelwyd heriau sylweddol yn sgil heintiau sy’n hysbys inni eisoes, megis Clostridium difficile (C.diff), yn ogystal ag arwyddion o organebau newyddach ar y gorwel agos sy’n dangos ymwrthedd i wrthfiotigau.

Canser

Mae gan Gymru Gynllun Cyflawni ar gyfer Canser ac yn y ddau adroddiad blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd ynglŷn â’r cynllun ers ei lansio yn 2011, nodwyd bod y cynnydd yn dda. O blith pedair gwlad y Deyrnas Unedig, mae’r nifer sy’n goroesi canser yng Nghymru wedi gwella’n fawr, sy’n dangos bod y driniaeth a’r gofal yn effeithiol.

Ffordd arall o fesur ansawdd gofal yw drwy fesur profiad y claf. Yn yr arolwg o brofiad cleifion canser,

ddifrifol, cydlynwyd ymateb, a’r ymateb hwnnw’n cynnwys y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru a chleifion yn cydweithio i amddiffyn cleifion. Mae’r Bwrdd Iechyd hwnnw wrthi yn awr yn rhoi system wybodaeth ar waith er mwyn helpu i reoli achosion a brigiadau unigol yn fwy effeithiol ac mae’n dangos bellach bod modd sicrhau gostyngiadau sylweddol yn yr haint. Hefyd, mae GIG Cymru drwyddo draw wedi adnewyddu ei ymrwymiad i raglenni uchelgeisiol i leihau heintiau. Mae’n mynd i’r afael nid yn unig â C.diff ac MRSA ond mae’n parhau i leihau nifer yr heintiau ar safleoedd llawfeddygol, yn enwedig ym maes toriad Cesaraidd, yn ogystal â phob Haint arall sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd. Dangoswyd ymrwymiad i dryloywder ym maes Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd hefyd drwy gyhoeddi ffigurau C.diff ac MRSA gan bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth yn fisol ers mis Gorffennaf 2013.

Gwelwyd C.diff ac MRSA yn gostwng mewn llawer o ardaloedd, a chofnodwyd gostyngiad amodol yng Nghymru o 19 y cant mewn C.diff ar gyfer cleifion mewnol 66+ oed o’i gymharu ag yn 2012-13, ond rhaid i’r cynnydd hwn barhau a rhaid inni wneud yn well drwy Gymru gyfan, i gleifion a’u teuluoedd. Ar ôl i’r achosion C.diff mewn un Bwrdd Iechyd frigo’n

dywedodd 89 y cant o’r cleifion fod eu gofal yn ardderchog neu’n dda iawn a phan ychwanegir y categori ‘da’ mae’r ganran yn codi i 97%.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd lle nad yw’r cynnydd wedi bod cystal ag y byddem yn dymuno iddo fod. Yn benodol, yng nghyswllt lleihau marwolaethau y gellid eu hosgoi ac anghydraddoldebau, mae’n nodedig bod cyfraddau goroesi Cymru o ganserau sy’n gysylltiedig ag ysmygu (y stumog, yr ysgyfaint a’r arennau) yn is na chyfartaledd Ewrop. Er ein bod yn croesawu’r gostyngiad yn y nifer sy’n ysmygu, bydd angen amser i’r gostyngiad hwn arwain at gyfraddau canser is.

Mae’r gyfradd ganser 20 y cant yn uwch yn ardaloedd mwy difreintiedig Cymru, o’i chymharu â’r gyfradd yn yr ardaloedd llai difreintiedig – sef oddeutu 80 o achosion canser ychwanegol ar gyfer

56

Page 57: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

pob 100,000 o bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ysmygu yw’r ffactor risg mwyaf ar gyfer canser yr ysgyfaint, ac yn y cyswllt hwn, mae’r bwlch anghydraddoldeb yng Nghymru yn fwy byth. Nid oes modd derbyn y lefel hon o anghydraddoldeb.

Mae’r nifer sy’n goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn is nag yn y rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop a hynny’n rhannol oherwydd bod diagnosis cynnar yn broblem yma. Rwy’n poeni bod gennym gyfradd uwch o achosion sy’n cael diagnosis yn hwyr, sy’n golygu bod y gyfradd oroesi’n isel iawn. Mae’n broblem ym mhob rhan o Gymru oherwydd ychydig o wahaniaeth sydd rhwng ein hardaloedd lleiaf difreintiedig a’r rhai mwyaf difreintiedig yn ystod cam y diagnosis.

Rwy’n falch felly bod y Grŵp Gweithredu ar Ganser wedi blaenoriaethu rhaglen waith ar Ganser yr Ysgyfaint eleni. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau gan ein huned Gwybodaeth am Ganser yng Nghymru i edrych ar fanylion ynghylch sut ac ymhle y caiff pobl ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint, i edrych ar lwybrau a sgiliau proffesiynol ac i ystyried gwybodaeth i’r cyhoedd am symptomau.

Mae rhaglenni sgrinio’n gynlluniau iechyd cyhoeddus pwysig oherwydd eu bod yn golygu bod modd canfod clefyd yn gynnar a thrin problemau iechyd posibl.

Mae’r GIG yng Nghymru yn darparu tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser -– canser y fron, ceg y groth a’r perfedd. Darperir y rhaglenni ar ran Llywodraeth Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n bwysig bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglenni sgrinio hyn, a’u bod yn darparu gwybodaeth gytbwys sy’n helpu unigolion i wneud dewisiadau doeth am gymryd rhan yn y rhaglenni. Mae’n hanfodol cael diagnosis cynnar pan fydd canser ar glaf er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Clefyd y galon

Mae cyfanswm nifer y bobl sy’n byw gyda chlefyd coronaidd y galon yng Nghymru yn gostwng; mae’r cyfanswm yn 2012-13, sef 125,567 yn ostyngiad o 8,040 o bobl er 2006-07. Mae canran y cleifion sy’n byw gyda chlefyd coronaidd y galon ac sydd wedi’u cofnodi ar gofrestrau clefydau meddygon teulu wedi gostwng o 4.3 y cant yn 2006-07 i 3.9 y cant yn 2012-13.

Mae arwyddion bod gofal clinigol yn gwella. Mae’r gyfradd marwolaethau sy’n gysylltiedig â chlefyd coronaidd y galon wedi gostwng bob blwyddyn er 1980. Mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer y rhai sydd rhwng 35 a 74 oed wedi gostwng o 4.4 y cant ym mis Mehefin 2010 i 3.4 y cant ym mis Mehefin 2013.

Eto i gyd, er bod cyfraddau marwolaethau yng Nghymru o glefyd coronaidd y galon wedi bod yn gostwng dros y tri degawd diwethaf, maent yn amrywio’n sylweddol drwy Gymru. Mae’r gyfradd marwolaethau yn y cwintel wardiau mwyaf difreintiedig bron draean yn uwch nag yn y cwintel lleiaf difreintiedig7.

Gwneud gofal yn haws cael gafael arno

Mae dau fater ar wahân yn berthnasol i gael gafael ar ofal iechyd. Un yw a yw’r gwasanaethau iawn yn bodoli a’r llall yw sicrhau bod y gwasanaethau iawn ar gael i’r bobl iawn.

Un enghraifft dda yn ddiweddar o gamau i geisio sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn fwy helaeth yw ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl sydd ag angen organau’n gallu cael gafael arnynt gan y rhai sy’n eu rhoddi.

57

Page 58: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Rhoi Organau – Deddfwriaeth Newydd

Mae cynyddu cyfraddau rhoi organau’n faes sy’n flaenoriaeth o hyd. Yn 2012/13 yng Nghymru, bu farw 36 o bobl wrth ddisgwyl am drawsblaniad organ ac roedd dros 200 o bobl ar y rhestr aros. Llwyddwyd i wella’r gyfradd rhoi organau yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hynny’n bennaf oherwydd bod rhagor o staff a gwell seilwaith. Serch hynny, nid yw’r cyfraddau cydsynio i roi organ wedi newid fawr ddim ac mae llawer o roddion posibl yn cael eu colli ar y pwynt hwn. Felly, bydd system ymeithrio feddal newydd o gydsynio i roi organau’n cael ei chyflwyno yng Nghymru o 1 Rhagfyr 2015 ymlaen– mae hyn hefyd yn cael ei alw’n “gydsyniad tybiedig”. O dan y system newydd, bydd gan bobl sy’n byw yng Nghymru dri dewis – cofnodi penderfyniad i fod yn rhoddwr (dewis gwneud) cofnodi penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr (dewis peidio) neu ddewis gwneud dim ac wedyn fe dybir eu bod yn cydsynio.

Cynhelir ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am ddwy flynedd i roi gwybod i’r cyhoedd am y dewisiadau sydd ar gael iddynt ac i’w hannog i siarad â’u teulu a’u ffrindiau am eu penderfyniad ynglŷn â rhoi organau.

Disgwylir i’r newid sicrhau cynnydd o 25 y cant yn nifer y rhoddwyr organau, sy’n golygu tua 15 o roddwyr ychwanegol yng Nghymru a thua 45 yn rhagor o organau ar gael i’r rhai sy’n aros.

Un llinyn yn unig yw symud at gydsyniad tybiedig yn ein gobaith o wella’r gyfradd roi a thrawsblannu yng Nghymru. Bydd Cynllun Gweithredu Cymru – Trawsblannu Organau hyd at 2020 yn sbarduno gwella parhaus ym mhob agwedd ar roi organau a’u trawsblannu.

Mae angen inni gynnig mwy o wasanaethau o lawer mewn rhai ardaloedd oherwydd bod yr angen yno’n fwy. Disgrifiwyd cysyniad ‘Gofal Gwrthgyfartal’ gyntaf gan Julian Tudor Hart yn 1971. Mae’n dweud bod perthynas wrthdro’n tueddu i fod rhwng darparu gofal meddygol da a’r angen am y gofal hwnnw yn y boblogaeth a wasanaethir.

Mae rhaglen newydd sydd wedi’i chynllunio gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn bwriadu mynd i’r afael â’r cysyniad hwn ar gyfer ei boblogaeth. Bydd hyn yn canolbwyntio ar farwolaethau cynamserol o glefyd y galon mewn ardaloedd dan anfantais, a bydd yn targedu’n benodol y dynion a menywod hynny dros eu 40 oed sydd heb ymweld â’u meddyg teulu ers tair blynedd. Yn y lle cyntaf, bydd yn targedu pum cymdogaeth sydd â’r lefel amddifadedd uchaf, gan ddechrau yng Ngorllewin Blaenau Gwent ac mae’n bwriadu

sicrhau canlyniadau gweladwy ymhen pum mlynedd. Mae’r BILl wedi treialu rhaglen yn ddiweddar i wella’r ffordd y mae clefyd cardiofasgwlaidd yn cael ei adnabod a’i reoli ym Mlaenau Gwent. Roedd hyn yn cynnwys nifer o newidiadau gyda’r nod o gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun dwy ei gwneud hi’n haws cael apwyntiadau, meddalwedd clinigol i ysgogi’r staff, sgriniau i gleifion yn yr ystafell aros a chodi ymwybyddiaeth asiantaethau megis Cymunedau yn Gyntaf. Ym Meddygfa Pen y Cae (47 y cant yn gymwys ar gyfer y cynllun) bu 405 o gleifion yn mynychu clinigau i gael cyngor am ffordd o fyw, rheoli eu pwysau, rhoi’r gorau i ysmygu, cael eu cyfeirio i wneud ymarfer corff a gosod nodau personol.

Gofal Iechyd Darbodus

Wrth feddwl am ofal iechyd o safon, mae’r pwyslais yng Nghymru ar ‘ofal iechyd darbodus’ yn cynnig

58

Page 59: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

potensial sylweddol ar gyfer datblygu. Fersiwn ar raglen ryngwladol sydd wrthi’n datblygu mewn llawer o wledydd yw’r gofal iechyd darbodus sy’n cael ei roi ar waith yng Nghymru. Mae wedi datblygu yn sgil asesiadau diweddar o sut mae gwasanaethau iechyd wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf a beth yw eu rhagolygon. Mae’n bwysig, wrth farnu’r dyfodol ein bod yn ystyried cyflwr yr economïau drwy’r byd a’r newidiadau yn y strwythur demograffig. Yng Nghymru, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Nuffield ei hadroddiad am yr hyn y gallai degawd o lymder ei olygu i’r pwysau ariannol sydd ar y GIG tan 2025/2610.

Mae llawer o glinigwyr ac eraill wedi dechrau poeni bod diffyg cydbwysedd rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd a’r rheini y maent yn eu gwasanaethu. Mae meddygaeth fodern yn gallu cynnig mwy a mwy o atebion, neu ymyriadau fan leiaf, ond efallai fod y cynnydd hwn wedi creu sefyllfa lle mae mwy’n cael ei wneud nag y mae angen ei wneud neu fwy nag y dylid ei wneud. Bydd gweithwyr proffesiynol yn teimlo dan ddyletswydd i gynnig popeth i ddatrys problemau iechyd ac efallai fod y cyhoedd yn teimlo nad oes ganddynt wir lais yn hyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle nad yw’r cydbwysedd rhwng y peryglon a’r manteision yn glir. Gall arwain at ymyriadau diangen neu ymyriadau nad yw pobl yn dymuno’u cael a gwastraffu adnoddau. Gall hefyd olygu ein bod yn methu cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd ysgwyddo mwy o reolaeth a pherchnogaeth eu hunain. Mae gofal iechyd darbodus yn ail-bwysleisio’r ymagwedd fwy meddylgar a llai ymwthiol gan wasanaethau ac yn rhoi rôl fwy gweithredol i ddinasyddion.

Nid newid sydyn yw hwn. Yn hytrach mae’n ymateb i ymdeimlad cynyddol sy’n cyniwair yn y proffesiynau iechyd a’r tu hwnt. Mae’n awgrymu bod gofyn addasu rôl y clinigydd a’r claf ill dau. Gallai’r claf fod yn fwy gweithredol a chwarae mwy o ran yn meddwl am ei iechyd ac yn gweithredu yn ei gylch. Byddai’r clinigydd yn canolbwyntio mwy ar sicrhau cydbwysedd rhwng y dystiolaeth orau ac asesiad y claf wrth helpu i gytuno ar y nod gorau ar gyfer y cwrs o driniaeth a phenderfynu ar y cyd

ynghylch y rhesymau dros unrhyw ymyriad. Drwy roi rhagor o werth ar ganlyniadau i’r claf, nod gofal iechyd darbodus yw aildafoli’r GIG a chreu system sy’n canolbwyntio mwy ar y claf.

Seilir ymagwedd Cymru ar set o egwyddorion sy’n dweud y dylai unrhyw wasanaeth neu unrhyw un sy’n darparu gofal:

• beidio â gwneud dim niwed, ac felly bod angen dileu unrhyw ymyriadau sy’n niweidiol neu nad ydynt yn sicrhau budd clinigol;

• ymyrryd yn briodol heb wneud mwy nag sydd ei angen, felly dylai’r driniaeth ddechrau gyda’r profion a’r ymyriadau sylfaenol sydd wedi’u profi, a bydd y dwysedd yn amrywio yn ôl difrifoldeb y salwch a nodau’r claf;

• sicrhau bod y gweithlu wedi’i drefnu ar y sail hon; ‘dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi yn unig ei wneud’ felly dylai pawb sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru weithredu yn unol â’u cymhwysedd clinigol gorau un, ac ni ddylai neb er enghraifft gael ei weld fel mater o drefn gan ymgynghorydd pan fyddai modd delio â’i anghenion yn briodol gan, dyweder, uwch ymarferydd nyrsio;

• hyrwyddo tegwch, nes mai’r prif faen prawf ar gyfer triniaeth y GIG yw angen clinigol yr unigolyn;

• ailwampio’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cydgynhyrchu.

Y nod yng Nghymru yw clymu hyn â’r ymdrechion i gryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.

Dechreuwyd drwy geisio cael pobl i drafod y dull hwn, yr egwyddorion sylfaenol a’r goblygiadau o’i roi ar waith yn ymarferol. Roedd hyn yn golygu ei roi ar brawf gyda thimau clinigol mewn pedwar maes triniaeth – orthopedeg, rheoli poen, rhagnodi, a gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddw – er mwyn asesu’r effaith y gallai ei chael.

Mae angen trafod hyn rhagor er mwyn gweld sut y byddai’n gweithio orau ar lefel ymarferol, ond mae’r arwyddion cynnar yn addawol iawn.

59

Page 60: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Argymhellion

1. Dylai Llywodraeth Cymru a’r GIG adolygu a yw gwella tryloywder perfformiad y GIG drwy Gymru yn helpu i wella gwasanaethau a chymryd camau i sicrhau ei fod yn gwneud hynny.

2. Dylai Llywodraeth Cymru a’r BILlau gydweithio i sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ysgwyddo perchnogaeth a chyfrifoldeb dros gadw cofnodion clinigol cywir.

Casgliad

Yn fy mlwyddyn gyntaf, mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod a fydd yn cynnig gwelliannau go iawn ym maes iechyd a gwasanaethau iechyd yn y blynyddoedd nesaf.

Yn gyntaf, mae’r berthynas â’r cyhoedd yn newid. Y llynedd, disgrifiais y potensial ar gyfer ‘cydgynhyrchu’ - sef partneriaeth lawn rhwng y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus ar bob lefel. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gweld sut mae’r symudiad hwnnw’n tyfu, ac yn dechrau agor drysau yn y GIG i ddylanwadau newydd gan roi mwy o lais i bobl ledled Cymru dros eu gwasanaethau a mwy o ymdeimlad iddynt o’u galluoedd hwy eu hunain. Rwyf wedi gweld diddordeb a brwdfrydedd go iawn ymhlith fy nghydweithwyr clinigol a’r ffordd y mae’r meddylfryd yn newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Fel rhan o hynny, mae ymagwedd fwy tryloyw at yr hyn y mae’r GIG yn ei wneud wedi datblygu, fel y disgrifiwyd uchod. Hoffwn weld y strategaeth wybodaeth newydd i’r GIG yn cydnabod yn glir mai gwybodaeth yw’r elfen hanfodol o ran helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac o ran hwyluso perthynas fwy rhagweithiol a chynhyrchiol o lawer rhwng y GIG a’r rheini y mae’n eu gwasanaethau.

Yn ail, cyflwynir gofal iechyd darbodus fel ffordd newydd o feddwl am ofal iechyd ac fel cyfrwng i’w ailgynllunio er mwyn ddiwallu anghenion heddiw ac yn y dyfodol. Mae hyn yn adeiladu’n benodol ar gydgynhyrchu fel egwyddor graidd a bydd yn

help i gryfhau’r cwlwm ymddiriedaeth hwnnw rhwng clinigwyr a chleifion sydd wrth wraidd ein GIG, gan ddarparu llwyfan ar gyfer ymgysylltu ehangach o hyd ynghylch materion iechyd. Edrychaf ymlaen at weld y dull hwnnw’n lledaenu er mwyn dylanwadu ar ein gwasanaethau a’n hymdrechion i gyd i weithio gyda phobl er mwyn iddynt wella’u hiechyd eu hunain.

Yna, bydd cydgynhyrchu a gofal iechyd darbodus yn ffactorau o bwys o ran llunio profiad bywyd pobl a gwasanaethau iechyd yn y blynyddoedd a ddaw. Mewn pennod gynharach, pwysleisiwyd pwysigrwydd gofal sylfaenol a chymunedol a’r ymrwymiad cadarn sydd yng Nghymru i’w cryfhau fel sylfaen i’n GIG. Y llynedd, pwysleisiais y rôl y gall y GIG ei chwarae yn helpu i drechu tlodi ac i gefnogi ffyniant yng Nghymru. Rhaid tynnu’r elfennau hyn i gyd at ei gilydd yn un fframwaith er mwyn creu newid. Mae’r fframwaith hwnnw’n cael ei bennu gan y system gynllunio newydd yn y GIG. Mae ar waith bellach a bob blwyddyn bydd angen i’r GIG ddiweddaru ei gynlluniau ac ailosod ei amcanion i ddiwallu anghenion trigolion lleol yn well. Bydd y broses honno’n sicrhau bod y nodau hollbwysig ond cymhleth hyn i Gymru yn cael eu troi’n broses sy’n sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy i bawb a’r rheini’n wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion.

Y trydydd dyhead, ac yma rydym yn gweld syniad yn dechrau troi’n newid parhaus, yw dyhead Llywodraeth Cymru i weld gwlad sydd â’i gwreiddiau’n gadarn mewn egwyddorion datblygu cynaliadwy. Eleni, gwelwyd Bil newydd Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yn ymddangos. Yn ôl y gyfraith, bydd cyrff mawr yng Nghymru’n gorfod dangos eu hymrwymiad i’r egwyddor y bydd yr hyn y maent yn ei wneud yn awr yn gwella bywydau ein plant a’n hwyrion. Diffiniwyd iechyd mewn ffordd gofiadwy unwaith gan Sefydliad Iechyd y Byd sef lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol a bydd y Bil Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yn ein helpu i sicrhau bod hynny’n nod sydd wedi bwrw gwreiddiau yn Llywodraeth Cymru.

Rwy’n obeithiol iawn y gallwn sicrhau gwelliannau sylweddol ym maes iechyd y blynyddoedd a ddaw drwy gydweithio a thrwy ddefnyddio ein doniau i gyd.

60

Page 61: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Cyfeiriadau1. Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth GIG Sefydledig Canol Swydd Stafford. Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust [Ar lein] 2013.

Ar gael yn: http://www.midstaffspublicinquiry.com/report [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

2. Llywodraeth Cymru. Ymddiried mewn Gofal [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/care/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

3. Llywodraeth Cymru. Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol [Ar lein]. Ar gael yn: www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/fyngwasanaethiechydlleol [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

4. 1000 o Fywydau. Rhoi sicrwydd, canolbwyntio ar welliannau: Adolygiadau i ddysgu o farwolaethau a niwed yn GIG Cymru [Ar lein] 2013. Ar gael yn: www.1000livesplus.wales.nhs.uk/newyddion/25664 [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

5. Ibid.

6. Llywodraeth Cymru. Law yn Llaw at Iechyd, Cynllun Cyflawni GIG Cymru ar gyfer Canser hyd at 2016 [Ar lein] 2012. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/cancer/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

7. Llywodraeth Cymru. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon (Saesneg yn unig) [Ar lein] 2009. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/cardiac/?lang=en [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

8. Abadie A, Gay G, The impact of presumed consent legislation on cadaveric organ donation: A cross-country study, Journal of Health Economics, 2006. Atgynhyrchwyd y ffigur hwn mewn Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) 2012)

9. Llywodraeth Cymru. Trawsblannu Organau – ymlaen at 2020 – Cynllun Gweithredu Cymru [Ar lein] 2014. Ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/majorhealth/organ/guidance/transplant/?lang=cy [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

10. Nuffield Trust. A decade of austerity in Wales? The funding pressures facing the NHS in Wales to 2025/26 [Ar lein] 2014. Ar gael yn: www.nuffieldtrust.org.uk/publications/decade-austerity-wales [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

61

Page 62: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

Roedd fy adroddiad blaenorol yn cynnwys nifer o argymhellion gyda’r nod o helpu i greu’r amgylchiadau ar gyfer gwell iechyd, gwasanaethau iechyd mwy diogel a chydnerth a gwell ffyniant. Mae’r diweddaraf am y rhain isod.

AtodiadEdrych ymlaen ac edrych yn ôl

62

Gwneud Cymru’n iachach, yn hapusach ac yn decach

1.1. Cynyddu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar atal a chamau gweithredu sy'n cael eu cydlynu ar draws y llywodraeth.

Cyfleoedd i hyn fod yn rhan o roi Comisiwn Williams a Bil Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ar waith.

1. 2. Gwella'r ddealltwriaeth o hapusrwydd a lles yng Nghymru a chymryd camau i hybu lles

Mae'r wybodaeth ym mhennod 1.

1. 3. Cynnwys camau i leihau anghydraddoldebau iechyd ym mhob polisi a gwasanaeth gan ganolbwyntio ar newid cyfleoedd i blant gael bywydau iach.

Rydym yn gweithio ar Raglen newydd Y Plentyn Iach – mwy am hyn yn adroddiadau'r dyfodol.

Amddiffyn iechyd y genedl

2. 1. Canolbwyntio ar sicrhau bod cyfraddau brechu gystal ag y gallant fod er mwyn lleihau'r risg o achosion. Mae'r wybodaeth ym mhennod 3.

2. 2. Gostwng cyfraddau heintio, yn enwedig Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd.

Cynllun gweithredu cydunol yn cael ei roi ar waith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Byrddau Iechyd Lleol.

2. 3. Datblygu strategaeth i fynd i'r afael â mater ymwrthedd i gyffuriau.

Mae'r wybodaeth ym mhennod 3.

2. 4. Gwella'r ddealltwriaeth o faich iechyd yn sgil llygredd aer a chymryd camau i'w leihau.

Mae'r wybodaeth ym mhennod 3.

2. 5. Gwella cydnerthedd y gymuned a strategaethau cynghori ac adfer er mwyn ymateb i dywydd eithafol a digwyddiadau naturiol eraill.

Mae'r wybodaeth ym mhennod 3.

2. 6. Gwella'r ddealltwriaeth o sut mae'r risgiau yn sgil tywydd eithafol a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wasanaethau iechyd.

Mae'r wybodaeth ym mhennod 3

Page 63: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

63

Sicrhau iechyd a hapusrwydd drwy waith atal

3. 1. Sicrhau bod rhaglenni atal cynhwysfawr wedi'u teilwra ar gyfer pob cyfnod mewn bywyd. I blant, gweler nodyn 1.3 uchod.

3. 2. Gwella effaith gwaith ataliol ar raddfa fawr drwy ganolbwyntio i ddechrau ar hybu gweithgarwch corfforol a lleihau gordewdra ymhlith plant.

Gwaith ar y gweill yn y ddau faes hyn.

3. 3. Defnyddio technoleg i gefnogi iechyd da drwy helpu pobl i gael gwell gwybodaeth, rheolaeth a mynediad at gyngor a gwasanaethau.

Amgaeir y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen newydd Ychwanegu at Fywyd.

3. 4. Cynnwys ym mhob deddfwriaeth ystyriaeth ynglŷn â sut mae'n cyfrannu at well iechyd a lles.

Mae'r Bil Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cynnig cyfle i wneud hyn.

Creu gwasanaethau gofal iechyd diogel a chydnerth i’r 21fed ganrif

4. 1. Sicrhau canolbwyntio digyfaddawd ar ansawdd a diogelwch ac ar bwysigrwydd y berthynas rhwng y clinigydd a'r claf.

Mae'r wybodaeth ym mhennod 4.

4. 2. Sicrhau bod camau ym maes atal yn bwrw gwreiddiau drwy'r system gofal iechyd i gyd

Mae targedau newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith atal yn y GIG.

4. 3. Sicrhau bod gofal iechyd yn ymaddasu'n gyson i ddiwallu anghenion yr 21ain ganrif.

Dulliau newydd yn cael eu datblygu drwy'r Gronfa Technoleg Iechyd. Gweler y bennod am ofal sylfaenol a chymunedol

Cymryd camau gyda golwg ar y berthynas rhwng iechyd a chyfoeth

1. Gwella iechyd yn y gwaith drwy helpu pobl i gynnal ffordd iach o fyw a chynllunio gwasanaethau iechyd sy’n sicrhau bod llai o golli cynhyrchiant.

Dros 1,800 o gyflogwyr, sy’n cyflogi 27.9% o’r bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael cymorth drwy raglen Cymru Iach ar Waith.

Mae cynigion ar gyfer cais am arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop 2014-20 wedi cael eu datblygu. Nod y cais yw helpu pobl i aros mewn gwaith a chamu ymlaen drwy ddarparu llwybr yn ddi-oed at ymyriadau iechyd sy’n canolbwyntio ar waith.

2. Sicrhau arian gan Ewrop i gefnogi twf economaidd, i adfywio cymunedau ac i wella iechyd.

Mae dull wedi’i dargedu i sicrhau mwy o lwyddiant o ran denu cronfeydd Arloesi Ewrop yn cael ei ddatblygu.

3. Sbarduno datblygiad economaidd drwy sector gwyddorau bywyd cryf, a chanolbwyntio’r ymchwil ar wella gwaith ataliol a gofal o safon.

Mae Adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r GIG a’r diwydiant mewn ffordd newydd fwy penodol, i gefnogi twf yn y sector hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid ei phwyslais ym maes ymchwil a datblygu iechyd a gofal cymdeithasol i roi mwy o bwys ar effeithiolrwydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Page 64: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

64

4. Datblygu sector iechyd a lles economaidd penodol drwy ddatblygu sgiliau’n briodol a chysylltu hynny ag asedau lleol.

Drwy weithio gyda’r prif randdeiliaid, datblygwyd cynigion ar gyfer cysylltu gwella iechyd mewn ffordd systematig â gwerth economaidd. Mae dulliau trosglwyddo gwybodaeth, rheoli eiddo deallusol a masnacheiddio’n cael eu hadolygu.

Yn fy adroddiad y llynedd, awgrymais y gallem yn y dyfodol ddilyn trywydd cynnydd o ran gwella ansawdd a pherfformiad ac ymgysylltu â’r cyhoedd drwy edrych ar y materion hyn. Yng nghyswllt y tri maes y cyfeiriais atynt bryd hynny, a restrir isod, gallaf ddweud:

1. a yw pobl yn gallu cael gafael fwyfwy ar wybodaeth syml, glir am y gwasanaethau iechyd lleol sydd ar gael a’i berfformiad

Ym mis Medi 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru wasanaeth ar lein a elwir yn Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol1. Ers ei lansio, mae’r safle wedi darparu mynediad at ddata am bethau megis heintiau sy’n cael eu trosglwyddo drwy ofal iechyd, mynediad at feddygon teulu ac amserau aros. Ar lefel ysbytai a meddygon teulu, mae gwybodaeth ar gael hefyd am feysydd cyflyrau penodol megis clefyd y galon, dementia a diabetes. Yn 2014, ychwanegwyd data am roi’r gorau i ysmygu a marwolaethau yn yr ysbyty.

Dyma rai o’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol: ychwanegu ystadegau cryno ar gyfer pob bwrdd iechyd i roi golwg ddemograffig gyffredinol i’r defnyddiwr ar yr ardal lle mae’n byw; ac ychwanegu rhagor o wybodaeth am berfformiad i roi gwell golwg i gleifion ar berfformiad y darparwyr iechyd yn eu hardal.

2. a yw pobl yn gallu dweud eu dweud am y gofal a gânt Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cyflawni’r gofyniad yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ i gael mesur cenedlaethol ar gyfer boddhad y claf. Er mwyn cyflawni’r gofyniad yn y Cynllun Sicrhau Ansawdd i gael dull cenedlaethol o fesur profiad defnyddwyr gwasanaethau, datblygwyd ‘Y Fframwaith ar gyfer Gwella Profiadau Defnyddwyr Gwasanaethau’ gan y Grŵp Profiad Defnyddwyr Gwasanaethau Cenedlaethol a’i gyflwyno i’r GIG ym mis Mai 2013. Mae hyn yn ei wneud yn ofynnol i bob sefydliad GIG ddefnyddio’r Fframwaith pedrant i roi sicrwydd i’w Byrddau bod profiad defnyddwyr gwasanaethau wrth graidd darparu pob gwasanaeth. Rydym yn awr yn treialu dull systematig arall o gynhyrchu, dadansoddi ac ymateb i adborth cleifion, gan ddefnyddio llais y claf i drawsnewid gwasanaethau, gwella diogelwch a grymuso staff.

Page 65: Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2013-14 · Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Rhestr o’r Ffigurau Ffigur 1: Oedolion a ddywedodd eu bod yn

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14

65

Cyfeiriadau1. Llywodraeth Cymru. Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol [Ar lein].

Ar gael yn: www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/fyngwasanaethiechydlleol [Cyrchwyd: Awst 20 2014]

3. a yw safonau clinigol ledled Cymru’n gwella o hyd, drwy fesur gofal mwy diogel, a llai o heintiau a chamgymeriadau clinigol

Roedd un o brif ymrwymiadau Law yn Llaw at Iechyd yn ymwneud â thryloywder o ran perfformiad. Roedd y cynllun Sicrhau Ansawdd yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r GIG gyhoeddi Datganiad Ansawdd Blynyddol fel rhan o adroddiad blynyddol cyffredinol y sefydliad. Bydd hwn yn ffynhonnell wybodaeth gynhwysfawr, ac yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd am y camau sy’n cael eu cymryd yn barhaus i wella ansawdd gwasanaethau. Roedd y rhain yn rhoi sylw’n benodol i faterion fel y cynnydd o ran lleihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, camau sy’n cael eu cymryd i wella diogelwch, a’r cynnydd a’r dysgu a gafwyd o nodiadau achos adolygiadau o farwolaethau. Ym mis Medi 2013 cyhoeddodd Sefydliadau’r GIG eu Datganiadau Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2012/13.

Yn dilyn y cyhoeddiadau cyntaf bu’r holl sefydliadau’n cymryd rhan mewn adolygiad cymheiriaid o’u datganiadau i sicrhau dysgu a gwelliannau. Mae’r broses hon wedi arwain at gyhoeddi canllaw gan 1000 o Fywydau i helpu sefydliadau i ysgrifennu eu datganiadau mewn ffyrdd mwy hygyrch.