mae help ar y ffordd

16
MAE HELP AR Y FFORDD

Upload: nash

Post on 31-Jan-2016

54 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

MAE HELP AR Y FFORDD. Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei d ŷ. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: MAE HELP AR Y FFORDD

MAE HELP AR Y FFORDD

Page 2: MAE HELP AR Y FFORDD

Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei dŷ .

Page 3: MAE HELP AR Y FFORDD
Page 4: MAE HELP AR Y FFORDD

“Mae gen i ffydd y bydd Duw yn fy achub,” gwaeddodd y dyn ar bawb a oedd yn ymbil arno i adael a ffoi i dir uwch. Credai’r dyn yng ngrym gweddi ac roedd yn ymddiried y byddai Duw’n ei achub ryw ffordd.

Page 5: MAE HELP AR Y FFORDD

Wrth i’r dŵr orchuddio’r ffyrdd

fel na allai ceir a cherbydau fynd arnynt, gwaeddodd dyn mewn tryc ato “Dere gyda fi ac fe a i â ti i le diogel! Does dim llawer o amser gen ti.” Ond parhaodd y dyn i weddïo. Nid oedd yn fodlon gadael ei dŷ.

Page 6: MAE HELP AR Y FFORDD
Page 7: MAE HELP AR Y FFORDD

O fewn oriau, roedd y dŵr wedi codi sawl troedfedd gan orchuddio’i dŷ yn gyfan gwbl. Roedd yn dal i fwrw glaw. Dringodd y dyn ar ben ei fwrdd yn y gegin a pharhaodd i weddïo. Wrth i’r dŵr gyrraedd ei draed, daeth cwch hwylio at y dyn. Dyma’r dynion yn gweiddi arno, “Syr, dewch i mewn i’r cwch, byddwn yn eich cludo i le diogel”. “Na” gwaeddodd y dyn “Bydd Duw yn fy achub rhag y dilyw.”

Page 9: MAE HELP AR Y FFORDD

Aeth y dŵr yn ddyfnach ac yn fuan roedd yn rhaid i’r dyn ddringo ar do ei dŷ. Parhaodd i fwrw hen wragedd a ffyn. Tra oedd yn gweddio, clywodd sŵn hofrennyd yn troelli yn yr awyr uwchben. Edrychodd i fyny i weld yr hofrennydd yn hofran uwch ei dŷ. Roedd ysgol wedi ei gollwng o’r hofrennydd er mwyn iddo ddringo i’r hofrennydd.

Page 10: MAE HELP AR Y FFORDD
Page 11: MAE HELP AR Y FFORDD
Page 12: MAE HELP AR Y FFORDD

“Ewch i ffwrdd” gwaeddodd y dyn wrth yr hofrennydd.“Byddwch yn fy chwythu oddi ar fy nho! Bydd Duw yn fy achub! Ewch i achub rhywun arall.”

Nid oedd yr hofrennydd yn gallu aros am byth, felly gadawodd y dyn ar y to yn gweddïo.O’r diwedd, roedd y dŵr yn gorchuddio’r tŷ a bu farw’r dyn yn y dilyw.

Page 13: MAE HELP AR Y FFORDD

Pan gyrhaeddodd y dyn gatiau’r nefoedd, gofynnodd i Sant Pedr a allai siarad â Duw ac aeth Pedr ag ef i’w weld.

Page 14: MAE HELP AR Y FFORDD

“O Arglwydd, bum yn gweddïo’n daer am i’r glaw beidio ac i chi fy achub rhag y dilyw ond gadawsoch i mi foddi. Nid wyf yn deall.”

“Fy mhlentyn, clywais dy weddi. Anfonais gerbyd, cwch a hofrennydd. Pam yr anfonaist yr help oddi yno?”

Page 15: MAE HELP AR Y FFORDD
Page 16: MAE HELP AR Y FFORDD

Nid yw Duw yn ateb ein gweddïau yn y ffordd rydym yn ei ddisgwyl bob tro. Ond mae’n ateb. Mae Duw yn gweld y llun ehangach a gallwn ymddiried yn y ffaith na fydd yn ein gadael nac yn cefnu arnom. Dylem hefyd gofio bod Duw yn gweithredu trwy bobl gyffredin fel y bobl a oedd yn achub yn y stori. Pan rydym yn cynnig help neu weithredoedd o garedigrwydd i rywun arall, efallai ein bod yn ateb eu gweddïau.