ar-lein heddiw: dechrau eich taith ar-lein - rnib · 2017. 3. 2. · gweithio gyda’n gilydd....

36
Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein Cyflwyniad i fynd ar-lein os oes colled golwg gennych Gweithio gyda’n gilydd

Upload: others

Post on 14-Mar-2021

6 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-leinCyflwyniad i fynd ar-lein os oes colled golwg gennych

Gweithio gyda’n gilydd

Page 2: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

Cynnwys4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg

9 Sain: Eich canllaw i gymorth sain

13 Hygyrchedd: Eich canllaw i nodweddion hygyrchedd gweledol

17 Y Rhyngrwyd: Eich canllaw i’r Rhyngrwyd

21 Ystumiau: Eich canllaw i ystumiau technoleg

25 Apiau: Eich canllaw i apiau

29 Taclo trafferthion: Eich canllaw i daclo trafferthion

33 Archwilio: Eich canllaw i chwilio’r rhyngrwyd

“ Mae hyn wedi newid fy mywyd o ddydd i ddydd yn aruthrol. Gallaf ddefnyddio’r calendr, y cysylltiadau a nodiadau atgoffa i enwi rhai yn unig. Rwy’n teimlo fy mod yn fwy trefnus a does dim ofn yr ipad na’r iphone arna i mwyach.” Steve Radmore

Page 3: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

3

Beth yw Ar-lein Heddiw?

Gall technoleg wneud bywyd yn haws pan fydd problemau golwg neu glyw arnoch, ond nid yw gwybod ble i ddechrau bob amser yn hawdd.

Mae’r rhyngrwyd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. O’r ffordd rydyn ni’n siopa, yn cyfathrebu gyda phobl ac yn dysgu am yr hyn sy’n digwydd o amgylch y byd ac yn ein cymuned, i’r ffordd rydyn ni’n darllen llyfrau, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn archebu bwrdd yn ein hoff fwyty.

Mae technoleg yn parhau i symud yn ei blaen ar raddfa gynyddol gyflym a bydd yn parhau i ddylanwadu ar y ffordd rydyn i’n gweithio a byw o ddydd i ddydd. Mae’n ein galluogi i fyw’n annibynnol, teimlo’n bod yn

gysylltiedig â’r byd a byw bywydau cyfoethog a boddhaol.

Nid yw colled golwg a chlyw yn rhwystr i gyrchu, defnyddio a mwynhau’r manteision sydd ar gael drwy fod ar-lein. Gyda’r dyfeisiau sydd ar gael ar y farchnad heddiw, gall unrhyw un gydag unrhyw fath o nam ar y synhwyrau eu defnyddio.

Ac mae Ar-lein Heddiw yn gallu helpu, drwy gynnig cymorth ar draws y DU o gynnal ymweliadau cartref gan ein gwirfoddolwyr i drafod opsiynau neu ddangos i rywun sut i ddefnyddio’u cyfarpar yn gywir, i sesiynau grŵp a gynhelir yn lleol, hyfforddiant neu gymorth un i un.

I glywed mwy am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch â 029 2082 8518

Page 4: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

4

Enwau:Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg

Page 5: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

5

Enwau

Ar y sgrîn gyffwrdd siâp hirsgwar, mae’r rheolyddion yn aml wedi’u harddangos fel siapiau sgwâr a bysellfwrdd â llythrennau. Mae dau brif fath o ddyfeisiau ar-lein ar gael: ffonau clyfar a llechi.

Ffonau clyfarFfôn symudol yw ffôn clyfar sy’n perfformio llawer o weithrediadau cyfrifiadur neu lechen, sydd hefyd yn gallu gwneud galwadau ffôn. Fel gyda’r llechen, mae gan y ffôn clyfar sgrîn gyffwrdd ac mae’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd drwy Ddarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd.

Gall dysgu enwau newydd gymryd amser a gall hyn deimlo’n anghyfarwydd i ddechrau. Dyma rai termau sylfaenol technoleg i’ch helpu i lywio’ch ffordd o amgylch y rhyngrwyd.

Y RhyngrwydGrŵp o gyfrifiaduron yw’r rhyngrwyd sydd wedi’u cysylltu o amgylch y byd ac sy’n cynnwys toreth aruthrol o wybodaeth o bob math. Gall y rhyngrwyd gynnig llyfrgelloedd, darllediadau radio, cerddoriaeth, newyddion, siopa, fideo a llawer mwy ar-lein.

Drwy gysylltu â’r rhyngrwyd, neu drwy “fod ar-lein”, gallwch wedyn gyrchu’r wybodaeth yn gyflym gyda’ch dyfais ar-lein ddewisol.

Beth yw dyfais ar-lein?Cyfrifiadur tenau rydych yn ei ddal yn eich llaw y gallwch ei gysylltu â’r rhyngrwyd yw dyfais ar-lein. Ymhlith y mathau amlwg mae Apple ac Android, ac mae systemau gweithredu a rheolyddion gwahanol i bob un.

Page 6: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

6

Darparwr Gwasanaethau RhyngrwydDarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd yw’r cwmni sy’n darparu eich cysylltiad rhyngrwyd. Gall hyn fod naill ai drwy signal ffôn symudol neu flwch (a elwir yn llwybrydd neu hwb) yn eich cartref y gallwch gysylltu ag ef drwy Wi-Fi.

Wi-Fi neu Ddi-WifrWi-Fi yw’r ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu sy’n caniatáu i’ch dyfais ar-lein gysylltu â’r rhyngrwyd yn ddi-wifr gan ddefnyddio tonfeddi radio. Nid oes angen gwifren na chebl. Yn aml mae Wi-Fi ar gael am ddim mewn llefydd cyhoeddus, fel siopau coffi neu ar fysiau. Yr opsiwn amgen i ddefnyddio Wi-Fi yw defnyddio cysylltiad ffôn symudol.

LlechiCyfrifiadur maint llaw yw llechen sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd. Mae sgriniau cyffwrdd ar gael mewn gwahanol feintiau ac maen nhw’n fwy na ffonau clyfar.

Page 7: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

7

Cysylltiad ffôn symudolMae cysylltiadau ffôn symudol yn cynnwys 3G neu 4G a gallwch dalu am wasanaethau nad ydynt yn dibynnu ar signal Wi-Fi na’r angen am flwch (llwybrydd) yn eich cartref. Mae hyn hefyd yn defnyddio dull di-wifr o drosglwyddo gwybodaeth ddigidol.

Y We Fyd-EangY We Fyd-Eang yw’r wybodaeth a gedwir ar y rhyngrwyd ac mae’n cyfeirio at y gwahanol lefydd ar y rhyngrwyd, sy’n cael eu galw’n wefannau. Enghraifft o hyn fyddai gwefan RNIB, sy’n defnyddio’r cyfeiriad www.rnib.org.uk.

Gallwch ymweld â gwefan o’ch dewis drwy deipio’r cyfeiriad gwe i borwr gwe.

“ Ni allwn fod wedi defnyddio’r iphone heb yr help a’r anogaeth a gefais i.”Susan Anderson, yn trafod sut roedd hi’n teimlo ar ôl cael cymorth drwy wasanaeth gwirfoddolwyr Ar-lein Heddiw.

Page 8: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

8

Porwr neu Borwr Gwe Y porwr gwe yw’r meddalwedd cyfrifiadurol y gellir ei ddefnyddio i chwilio am wybodaeth a’i gweld ar y rhyngrwyd. Mae llawer o wahanol fathau o borwr, ond maen nhw’n gweithio mewn ffyrdd tebyg. Bydd y porwr yn dechrau gyda safle dewisol, sef eich hafan dudalen, a gall hyn fod yn dudalen rydych chi’n ymweld â hi’n aml. Er enghraifft,

Google, sef peiriant chwilio sy’n caniatáu i chi deipio geiriau allweddol neu gwestiynau i mewn. Yna byddwch yn gallu gwylio neu wrando ar y wefan gan ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd.

Hygyrchedd Mae’r nodweddion hygyrchedd sain a gweledol sydd ar gael ar y ddyfais ar-lein yn cynnig cymorth ymarferol i’ch helpu i ddefnyddio’ch dyfais, fel darllen testun ar goedd neu chwyddo tudalennau ar y rhyngrwyd. Byddwn yn trafod y gweithredoedd hyn ymhellach yn y ddwy adran nesaf yn y canllaw hwn ac mae’r rhain i’w cael ar eicon y gosodiadau ar ddyfais ar-lein.

Eicon Y llun bach sgwâr ar y sgrîn gyffwrdd sy’n gallu agor gweithred neu ap gydag un bys.

Ap Gair byr am ‘gymhwysiad’ (neu ‘application’ yn Saesneg) yw Ap. Rhaglen gyfrifiadurol yw hon sy’n rhedeg ar ddyfais ar-lein.

Drwy’r canllaw hwn byddwn yn ailadrodd y termau hyn lawer o weithiau. Gadewch i ni symud ymlaen nawr i drafod Sain.

Page 9: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

9

Eich canllaw i gymorth sain

Sain:

Page 10: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

10

Sain

Mae’r cymorth sain yn y nodweddion hygyrchedd yn helpu pobl â golwg gwan neu heb olwg i archwilio’r tudalennau a’r llefydd ar y rhyngrwyd gan ddefnyddio geiriau llafar.

Gwrando ar eich dyfaisNodwedd yw darllenydd sgrîn sy’n caniatáu i chi gyffwrdd â’r sgrîn a chlywed yr hyn sydd o dan eich bys. Bydd enwau’r Darllenwyr Sgriniau hyn yn amrywio o ddyfais i ddyfais, er enghraifft, ar ddyfeisiau Apple, Voiceover yw hyn, ac ar ddyfeisiau Android, Talkback yw ei enw.

Llais synthetig yw darllenydd sgrîn sy’n darllen y dudalen i chi. Nid oes ganddo’r un ansawdd â llais person go iawn, fel a geir mewn llyfr sain sy’n cael ei ddarllen, ond mae’n caniatáu i chi gyrchu llyfrau, papurau newydd a chylchgronau cyn gynted ag y maen nhw ar gael.

Page 11: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

11

Gallwch arafu cyflymder siarad y llais pan fyddwch chi’n dechrau dysgu’r rheolyddion yn gyntaf.

Yn ogystal â’r nodweddion hygyrchedd sain, gall eich dyfais ar-lein fod yn ffordd wych o wrando ar ystod eang o gyfryngau llafar. Mae detholiad o lyfrau sain ar gael drwy wasanaethau Llyfrau Llafar RNIB, sy’n rhad ac am ddim, neu gallwch wrando ar y radio, naill ai’n fyw neu drwy recordiadau sain o’r enw Podlediadau (podcasts yn Saesneg).

Siarad â’ch dyfaisGallwch siarad â’ch dyfais a recordio memos llais. Gallwch hefyd ei defnyddio fel dictaffon a throi eich geiriau’n destun ar y sgrîn. Gallwch ddefnyddio hyn i deipio negeseuon neu nodiadau atgoffa. Ffordd arall o siarad â’ch dyfais yw drwy ddefnyddio’r Cynorthwy-ydd Llais.

araf cyflym

Page 12: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

12

Holi ac ateb

Nodwedd yw’r cynorthwy-ydd llais sy’n caniatáu i chi siarad â’ch dyfais ar-lein a gofyn cwestiynau neu roi cyfarwyddiadau.

Er enghraifft gallech ofyn, “where is the nearest supermarket?” (cofiwch mai cyfarwyddiadau Saesneg yn unig y bydd Siri yn eu deall) a chael ateb. Gall y Cynorthwy-dd Llais fod o gymorth wrth droi eich nodweddion hygyrchedd ymlaen neu i ffwrdd ac mae ystod o leisiau i gyd-fynd â’ch clyw.

Gadewch i ni symud ymlaen nawr i’r adran materion Gweledol. Os nad yw hyn yn berthnasol, dylech symud ymlaen i adran y Rhyngrwyd.

Page 13: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

13

Eich canllaw i nodweddion hygyrchedd gweledol

Hygyrchedd:

Page 14: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

14

Gweledol

Os oes rhywfaint o olwg gyda chi, mae sawl ffordd y gallwch wella’r dangosydd ar eich dyfais drwy ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd gweledol.

Defnyddio’r ddyfais fel chwyddwydrMae camera mewnol yn y llechen neu’r ffôn clyfar a fydd yn gallu tynnu llun o ansawdd uchel.

Mae apiau a fydd yn troi eich dyfais ar-lein yn chwyddwydr neu’n darllen geiriau llythyr ar goedd. Mae llawer o apiau am ddim ac mae rhai enghreifftiau ar dudalen 27.

Gallwch ddethol yr ap perthnasol a phwyntio’r ddyfais ar-lein at wrthrych. Yna gallwch chwyddo mewn neu allan o’r ddelwedd.

Page 15: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

15

Chwyddo’r sgrîn

Yn ogystal â chwyddo’r hyn sydd o flaen y ddyfais ar-lein, gallwch chwyddo’r wybodaeth ar y sgrîn, boed hynny’n wefan, yn neges ysgrifenedig neu’n llun. Mae llawer o apiau’n gadael i chi chwyddo mewn neu allan ar eitem benodol.

Mae ffyrdd o chwyddo’r sgrîn gyfan neu ddefnyddio chwyddwydr rhithwir. Bydd maint y sgrîn rydych yn teimlo’n gyfforddus yn ei defnyddio’n dylanwadu ar y math o ddyfais y byddwch yn ei dewis, boed hynny’n llechen neu’n ffôn clyfar sy’n llai o faint.

“Nid yw fy meddwl yn gweithio mewn ffordd dechnegol, ond nid yw’n gwneud i imi deimlo’n dwp. Mae’n rhoi hyder i mi. Mae ganddo amynedd di-ben-draw. Mae’n gwrando. Mae’n ceisio esbonio. Alla i ddim ei feirniadu mewn unrhyw ffordd. Mae’n wych.”

Margaret Vintner, yn trafod ei phrofiad hi o weithio gydag un o wirfoddolwyr Ar-lein Heddiw RNIB.

Page 16: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

16

Gwella’r dangosydd gweledol

Mae llawer mwy o nodweddion hygyrchedd gweledol y gallwch roi cynnig arnyn nhw.

Pan fyddwch yn dechrau eich dyfais ar-lein am y tro cyntaf, bydd yn fater o ddarganfod yr hyn sy’n gweithio orau i’ch golwg chi. Gallwch ddewis testun mwy o faint neu destun bras a fydd yn cynyddu maint y testun ar draws y ddyfais.

Mae’r nodwedd Lliwiau Gwrthdro (Invert Colours) yn cyfnewid y lliwiau ar eich sgrîn a gall wella’r dangosydd. Bydd gweithredu’r Raddfa Lwyd (Grayscale) yn atal lliwiau rhag ymddangos a gallai hyn wella’r golwg i rai pobl. Gellir gweld yr holl nodweddion hyn yn yr eicon gosodiadau (settings) ar y ddyfais ar-lein.

Page 17: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

17

Eich canllaw i’r Rhyngrwyd

Y Rhyngrwyd:

Page 18: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

18

Y Rhyngrwyd

Dysgu am y byd ar-lein a sut gallwch gysylltu â’r rhyngrwyd.

Cael mynediad i’r rhyngrwydMae dwy brif ffordd o gysylltu eich dyfais ar-lein â’r rhyngrwyd. Mae cysylltiad di-wifr neu signal ffôn symudol.

Mae llawer o gwmnïau sy’n gallu darparu cysylltiad â’r rhyngrwyd, boed hynny drwy gysylltiad gartref neu signal ffôn symudol. Gelwir y rhain yn Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd.

Bydd cwmnïau cyfryngau amlwg yn cynnig cynigion cystadleuol. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu ychwanegu cysylltiad â’r rhyngrwyd i gontract ffôn gartref/teledu sydd gyda chi eisoes.

Page 19: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

19

Cysylltu eich dyfais

Mae’n bosibl y bydd angen cymorth arnoch i gysylltu â’r rhyngrwyd am y tro cyntaf.

I gysylltu â’r blwch (neu’r llwybrydd) Wi-Fi (Di-wifr) eich cartref, bydd angen i chi roi cyfrinair.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â Wi-Fi eich cartref, bydd eich dyfais yn cofio enw eich cysylltiad rhyngrwyd a’ch cyfrinair ac yn cysylltu pan fydd o fewn cyrraedd y signal.

Mae gwirfoddolwyr Ar-lein Heddiw ar gael i’ch cynorthwyo gyda hyn a gallwch drefnu ymweliad â’ch cartref unwaith i chi brynu eich dyfais ac wedi trefnu darparwr.

Page 20: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

20

Aros yn ddiogel ar-lein

Mae’n bwysig bod yn ochelgar ond ddim yn rhy bryderus am y rhyngrwyd.

Fel dechreuwr, mae’n bosibl y byddwch am gadw at y gwefannau y gellir ymddiried ynddynt, fel RNIB, BBC neu sefydliadau mawr eraill. Byddwch yn ochelgar rhag clicio ar ddolenni anghyfarwydd, er enghraifft, ebyst neu negeseuon sy’n honni mai cystadlaethau ydyn nhw neu rai sy’n honni i chi ennill gwobr.

Cadwch gyfrineiriau a manylion mewngofnodi yn ddiogel ac wedi’u diogelu. Adnodd defnyddiol yw getsafeonline.org.uk

10 awgrym i gadw’n ddiogel 1. Sicrhewch fod meddalwedd

diogelwch rhyngrwyd cyfoes gyda chi ar eich cyfrifiadur a’i fod yn weithredol.

2. Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol.

3. Cadwch gopi wrth gefn o’r data sydd ar eich cyfrifiadur a’ch ffôn clyfar neu’ch llechen.

4. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrinair na’ch PIN pan ofynnir i chi wneud hyn drwy ebost neu dros y ffôn.

5. Sicrhewch fod eich rhwydwaith di-wifr yn ddiogel bob amser.

6. Byddwch yn ofalus i bwy rydych yn gwerthu neu’n prynu wrtho ar wefannau ocsiwn.

7. Dewiswch gyfrineiriau cadarn, newidiwch nhw’n rheolaidd a pheidiwch â dweud wrth neb beth ydyn nhw.

8. Wrth siopa, talu neu fancio ar-lein, sicrhewch bob amser bod y wefan yn ddiogel.

9. Cofiwch lawrlwytho’r meddalwedd diweddaraf a’r diweddiaradau i’r system weithredu pan gewch eich atgoffa i wneud hyn.

10. Cofiwch fod eich ffôn clyfar hefyd yn darged ar gyfer feirysau ac ysbïwedd.

Page 21: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

21

Eich canllaw i ystumiau technoleg

Ystumiau:

Page 22: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

22

Ystumiau

Cyffwrdd â’r sgrîn a’i thapio gyda’ch bysedd i reoli eich dyfais ar-lein.

Beth yw ystum?Mae ystumiau’n cynnwys cyffwrdd â’r sgrîn a’i thapio gyda’ch bysedd i reoli eich dyfais ar-lein. Yr ystum neu’r rheolydd mwyaf sylfaenol yw i gyffwrdd yn ysgafn â’r sgrîn gyda’ch bys a dethol ap neu weithred benodol.

Beth am ymarfer yr ystumiau hyn a dysgu pa reolyddion y byddwch yn gallu eu cyflawni?

Page 23: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

23

Tapio, sweipio a phinsio

Mae tapio, sweipio a phinsio oll yn fathau o ystum neu reolydd.

Gall y rheolyddion tapio fod yn rhai sengl, rhai dwbl neu’n rhai triphlyg, a gellir eu cyflawni gydag un, dau neu dri bys. Mae gwahanol reolydd i bob ystum.

Mae sweipen yn golygu symud (neu “sweipio”) eich bys yn gyflym ar draws sgrîn gyffwrdd.

Mae ystumiau mwy cymhleth a gaiff eu hesbonio yn y canllaw nesaf sy’n benodol ar gyfer eich dyfais chi.

Gall pinsio’r sgrîn rhwng eich bys bawd a’ch bys gynyddu a gostwng maint y dudalen we.

Page 24: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

24

Gall yr ystumiau hyn fod yn anghyfarwydd i lawer o bobl.

Bydd rheoli’r ddyfais drwy gyffwrdd â’r sgrîn yn cymryd amser ac ymarfer. Ar yr adeg hon mae’n bwysig ystyried pa faint sgrîn fyddai’n addas i chi.

I rai defnyddwyr, gallai sgrîn y ffôn clyfar fod yn rhy fach, a gallai fod yn well gan gwsmeriaid sgrîn fwy y llechen. Mae’n werth rhoi cynnig ar ddyfeisiau, efallai mewn siop neu mewn digwyddiad Ar-lein Heddiw.

Rhowch amser i chi’ch hun ddod yn gyfarwydd â’r ystumiau a’r rheolyddion. Gallai eich deheurwydd wella dros amser.

Mae’r dyfeisiau Android yn gallu defnyddio meddalwedd sydd ar gael am dâl o’r enw Synaptic sy’n helpu i symleiddio’r rheolyddion ac yn cynnig cymorth i bobl sydd o bosibl yn cael trafferthion gyda’u deheurwydd.

Ymarfer

Page 25: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

25

Eich canllaw i apiau

Apiau:

Page 26: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

26

Apiau

Caiff apiau (neu apps/applications yn Saesneg) eu dangos fel eiconau a gallant ei gwneud yn haws dod o hyd i’ch hoff fannau ar y rhyngrwyd neu gyflawni tasgau penodol.

Beth yw ap?Darn bach o feddalwedd yw ap sydd ar eich dyfais ac sy’n ychwanegu gweithred. Mae apiau’n edrych fel eiconau sgwâr ar eich sgrîn. Bydd sawl un wedi’u cynnwys gyda’r ddyfais ar-lein pan fyddwch yn ei phrynu ac mae’n bosibl y byddwch am ychwanegu rhagor.

Er enghraifft, os ydych yn ymweld yn aml â gwefan Newyddion y BBC yn www.bbc.co.uk/news mae’n bosibl y byddwch am gael yr ap, a fyddai, wrth dapio’r sgrîn gyffwrdd, yn eich tywys i gynnwys y wefan. Enghreifftiau o eiconau apiau yw Siop Apiau Apple, yr Apple Store (delwedd o ben ysgrifennu a brwsh) a siop Apiau Google Play (delwedd o fag gyda saeth amryliw):

Page 27: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

27

Llyfrgelloedd apiau

Gallwch drosglwyddo (lawrlwytho/download yw’r enw am hyn) apiau i’ch dyfais ar-lein. Mae llawer, llawer iawn o apiau ar gael o lyfrgell ar-lein boed hynny ar gyfer Apple neu Android.

Gallwch bori drwy’r apiau sydd ar gael ar gyfer eich dyfais yn ôl categori. Mae rhai apiau am ddim ac mae angen talu am eraill. Gallwch ddethol apiau i’w gosod ar eich dyfais. Er mwyn cael yr apiau, bydd angen i chi sefydlu cyfrif.

credyd: ymgerman / Shutterstock.com

Apiau defnyddiol• Moovit: yr ap mwyaf blaenllaw

yn y byd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus

• CrowdViz: ap iOS sy’n eich cysylltu â chynorthwywyr â golwg y gallwch ymddiried ynddyn nhw

• KNFB Reader: er mwyn sganio a darllen amrywiol ddogfennau ar eu iPhone 5 neu fersiwn diweddarach

• TapTapSee: tynnu llun o unrhyw beth a chlywed disgrifiad ohono

• Overdrive: gwasanaeth llyfrgell sain ddigidol gludadwy, er mwyn lawrlwytho a gwrando ar lyfrau llafar, cylchgronau llafar a phodlediadau.

Page 28: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

28

Enghreifftiau o apiau

Ar yr adeg hon, mae’n bwysig ystyried y cyfleoedd y gall apiau eu cynnig. Pan fyddwch wedi dewis dyfais, awn ymlaen i apiau penodol.

Gall apiau eich helpu i ddarllen llyfrau, siopa ar-lein, gwrando neu wylio’r teledu, chwarae ffilmiau, cyrchu’r newyddion, anfon negeseuon at bobl, a llawer mwy. Mae llawer o apiau sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer pobl sy’n ddall ac â golwg rhannol.

Gall y rhain helpu i droi eich dyfais ar-lein yn chwyddwydr neu byddant yn adnabod gwrthrychau a lliwiau. Bydd apiau eraill yn tynnu llun o ddogfen, fel llythyr, ac yn darllen y geiriau ar goedd.

Page 29: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

29

Eich canllaw i daclo trafferthion

Taclo trafferthion:

Page 30: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

30

Taclo trafferthion

Rhai awgrymiadau cynorthwyol am anawsterau cyffredin.

Ydy’r Rhyngrwyd yn eich drysu?I ddechrau mae’n bosibl na fyddwch yn cofio’r holl enwau neu syniadau.

Mae’n bosibl bod iaith ar-lein yn newydd i chi. I ddechrau, ceisiwch gofio’r pethau syml, fel hygyrchedd (accessibility), ystumiau (gestures – sef rheolyddion eich dwylo), ac apiau (apps).

Mae’r adrannau Sain a Gweledol yn ffyrdd pwysig o ddysgu sut i reoli eich dyfais ar-lein. Ewch ati i ymgyfarwyddo â’r syniadau hyn a dysgu’r rhannau mwy cymhleth yn ddiweddarach. Nid oes brys ar y daith hon. Mae’n bwysicach o lawer eich bod yn cyrraedd y pwynt rydych am ei gyrraedd.

Page 31: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

31

Ansicr pa ddyfais ar-lein i’w chael neu pa Ddarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd i’w ddewis?Mae digwyddiadau Ar-lein Heddiw yn eich ardal leol yn ffordd wych o gael profiad o ddyfeisiau ar-lein. Bydd staff a gwirfoddolwyr yn arddangos y dechnoleg, yn dangos nodweddion allweddol, ac yn ateb unrhyw gwestiynau am y rhyngrwyd.

Cewch chi gyfle hefyd i ddal a defnyddio gwahanol ddyfeisiau a chanfod pa fath sydd hawsaf i chi ymdrin ag ef.

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth un i un yn eich cartref eich hun neu drwy ein tîm cymorth technegol gwirfoddol.

Cael trafferth rheoli’r ddyfais?Mae’n bosibl eich bod yn cael problemau’n rheoli dyfais ar-lein sydd gennych yn barod neu yn ystod arddangosiadau. Os ydych chi’n cael trafferth gyda rhai rheolyddion, er enghraifft defnyddio tri bys i dapio neu ddwbl-dapio’r sgrîn gyffwrdd, yna gallai hyn helpu i bennu pa ddyfais i’w dewis.

“ Aeth Henry ddim yn rhy gyflym pan oedd yn fy nysgu. Mae’n well gen i gymorth un i un; rwy’n ei chael yn anodd cadw i fyny mewn grwpiau. Mae cymorth o’r math hwn yn ateb fy holl anghenion ac mae wedi’i deilwra i’r hyn rwyf am ei gael allan ohono.”Farhat Khan

I glywed mwy am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch â 029 2082 8518

Page 32: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

32

Ymhlith yr awgrymiadau ymarferol, mae tapio’r sgrîn yn ysgafn a ddim yn rhy galed. Mae’n bwysig aros i’ch dyfais ymateb a pheidio ag ailadrodd y rheolyddion yn rhy gyflym. Gallai tapio gyda’ch ewinedd neu ongl eich llaw atal eich ystumiau rhag cofnodi ar y sgrîn gyffwrdd.

Os ydych chi’n poeni am eich deheurwydd a’ch gallu i reoli’r ddyfais gyda’ch dwylo, mae opsiynau ar gael. Cymorth yw Synaptic ar gyfer llechi Android a ffonau clyfar sydd wedi’i ddylunio ar gyfer pobl ddall neu â golwg rhannol. Mae Synaptic yn cynnig testun cyferbyniad uchel print bras ynghyd ag adborth llais i ganiatáu mynediad syml i’r ddyfais Android.

Ar gynnyrch Apple, mae nodweddion pellach hefyd, a fydd, dros amser, yn helpu gwella’ch defnydd.

Page 33: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

33

Eich canllaw i chwilio’r rhyngrwyd

Archwilio:

Page 34: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

34

Archwilio

Chwilio’r rhyngrwyd a’ch camau nesaf.

Rhoi cynnig arni cyn prynuBeth am roi cynnig ar ddyfeisiau ar-lein? Mae llawer o siopau’n arddangos ffonau clyfar a llechi. Sicrhewch eich bod yn rhoi cynnig arni cyn prynu a dod o hyd i’r ddyfais ar-lein sydd fwyaf addas i chi.

Apple ac Android yw’r mathau amlycaf o ddyfais ar-lein.

Caiff Android ei gefnogi gan amrywiaeth eang o frandiau ac mae’n werth cael profiad o wahanol ddyfeisiau o wahanol brisiau. Gallech roi cynnig ar y meddalwedd Synaptic a allai ddarparu rheolyddion syml i lawer o nodweddion y rhyngrwyd rydyn ni wedi’u trafod.

Page 35: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

35

Digwyddiadau Ar-lein Heddiw

Mae Ar-lein Heddiw yn darparu cymorth mewn llawer o ffyrdd ar draws y DU. I gael gwybod a oes digwyddiadau’n cael eu cynnal yn eich ardal chi, neu i ofyn am ymweliad â’ch cartref, ffoniwch 029 2082 8518 am wybodaeth bellach.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn swyddfeydd RNIB ac Action for Blind People, llyfrgelloedd lleol, Cymdeithasau i Bobl Ddall a lleoliadau eraill. Bydd staff a gwirfoddolwyr yn arddangos y gwahanol ddyfeisiau ar-lein a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau am y nodweddion.

Dechrau eich Taith Ar-leinGobeithio bod y canllaw hwn wedi bod o gymorth ac anogaeth i chi barhau â’ch taith ar-lein. Gall bod ar-lein wneud gwahaniaeth anferth i’n bywydau, ar lefel ymarferol ac emosiynol.

Rydyn ni wedi llunio’r canllaw hwn fel teclyn cyfeirio i gynorthwyo eich dysgu, pan fydd yn gyfleus i chi. Caiff yr wybodaeth ei chyflwyno mewn modiwlau y gallwch eu cwblhau ar wahân a thros amser.

Rydyn ni’n dymuno pob lwyddiant i chi wrth i chi barhau ar eich taith.

“ Mae hwn gyda’r gwasanaethau cymorth gorau mae RNIB erioed wedi’u cynnig, yn fy marn i. Mae wir wedi rhoi hwb i’m hyder i gael fy hun ar-lein”Steve Radmore

Page 36: Ar-lein Heddiw: dechrau eich taith ar-lein - RNIB · 2017. 3. 2. · Gweithio gyda’n gilydd. Cynnwys 4 Enwau: Eich canllaw i dermau sylfaenol technoleg 9 Sain: ... O’r ffordd

Siaradwch â ni heddiwOs oes angen help arnoch chi i fynd ar-lein, neu os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch dyfais, cysylltwch â ni heddiw. Does dim unrhyw broblem yn rhy fach!

029 2082 8518

Nid yw galwadau’n costio mwy na chost galwad cyfradd safonol i rif 01 neu 02, ac maen nhw’n cyfrif tuag at funudau cynhwysol yn yr un modd â galwadau 01 a 02. Mae pris galwadau’n amrywio rhwng gwahanol ddarparwyr, gan gynnwys rhwng cwmnïau ffonau tir a ffonau symudol, felly dylech wirio gyda’ch darparwr os nad ydych yn sicr.

(h) RNIB elusen gofrestredig rhifau 226227 a SC039316, Ynys Manaw – RNIB elusen gofrestredig rhif 1173 Action for Blind people elusen gofrestredig rhifau 205913 a SC040050