llwybr minffordd, cader idris llwybr mynyddig anodd...llwybr minffordd, cader idris llwybr mynyddig...

3
www.eryri-npa.gov.uk Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF Ffôn: 01766 770274 Llwybr Minffordd - tudalen 1 o 3 © Hawlfraint y Goron 2017 OS 100022403 Mae’n debyg mai hwn yw’r llwybr byrraf i ben Cader Idris - tua thair milltir; er mai hwn yw’r esgyniad mwyaf (2,850tr/869m). Nid oes unrhyw un yn sicr o ble mae’r enw Cader Idris yn tarddu. Mae rhai yn dweud bod Idris yn arwr cenedlaethol, a laddwyd wrth frwydro yn erbyn y Sacsoniaid oddeutu 630 A.D. Mynna eraill ei fod yn gawr, tra bo eraill yn ei gysylltu â chwedl Arthur Mae Cwm Cau, gyda’i lyn, yn enghraifft glasurol o ‘gwm’ neu ‘beirian’. Cafodd y bowlen enfawr hon a amgylchynir gan graig ei chafnu wrth i rew falurio ei ffordd i lawr o gapan iâ enfawr. Mae Cwm Cau yn adnabyddus am ei ddaeareg, sy’n amrywiol iawn, yn rhannol o ganlyniad i weithgaredd folcanig hynafol. Mae’r amrywiaeth wedi cael effaith fawr ar fywyd planhigion ac anifeiliaid yn y clogwyni, ac mae terfyn deheuol sawl planhigyn arctig-alpaidd yma. Mae dyffryn Talyllyn yn gyfran o’r 30 milltir o hyd Bala Fault ffurfio 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cwm Cau Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl) Esgyniad: 2,585 troed - 788 metr Amser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl) Gradd: Llwybr Mynyddig Anodd Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116) Parcio: Maes Parcio Dôl Idris wrth gyffordd A487 & B4405 Côd Post: LL36 9AJ Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid) Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd

Upload: others

Post on 25-Jan-2020

11 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd...Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth,

www.eryri-npa.gov.uk

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF Ffôn: 01766 770274

Llwybr Minffordd - tudalen 1 o 3

© Hawlfraint y Goron 2017 OS 100022403

Mae’n debyg mai hwn yw’r llwybr byrraf i ben Cader Idris - tua thair milltir; er mai hwn yw’r esgyniad mwyaf (2,850tr/869m).Nid oes unrhyw un yn sicr o ble mae’r enw Cader Idris yn tarddu. Mae rhai yn dweud bod Idris yn arwr cenedlaethol, a laddwyd wrth frwydro yn erbyn y Sacsoniaid oddeutu 630 A.D. Mynna eraill ei fod yn gawr, tra bo eraill yn ei gysylltu â chwedl ArthurMae Cwm Cau, gyda’i lyn, yn enghraifft glasurol o ‘gwm’ neu ‘beirian’. Cafodd y bowlen enfawr hon a amgylchynir gan graig ei chafnu wrth i rew falurio ei ffordd i lawr o gapan iâ enfawr. Mae Cwm Cau yn adnabyddus am ei ddaeareg, sy’n amrywiol iawn, yn rhannol o ganlyniad i weithgaredd folcanig hynafol. Mae’r amrywiaeth wedi cael effaith fawr ar fywyd planhigion ac anifeiliaid yn y clogwyni, ac mae terfyn deheuol sawl planhigyn arctig-alpaidd yma.Mae dyffryn Talyllyn yn gyfran o’r 30 milltir o hyd Bala Fault ffurfio 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cwm Cau

Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)Esgyniad: 2,585 troed - 788 metrAmser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl)Gradd: Llwybr Mynyddig AnoddDechrau/Diwedd: Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116) Parcio: Maes Parcio Dôl Idris wrth gyffordd A487 & B4405Côd Post: LL36 9AJMap Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd

Page 2: Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd...Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth,

www.eryri-npa.gov.uk

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF Ffôn: 01766 770274

Llwybr Minffordd - tudalen 2 o 3

Ewch trwy’r giât fochyn ym mhen pella’r maes parcio ger y toiledau, a throwch i’r dde i fyny’r llwybr, sydd â choed aeddfed ar bob ochr. Ewch i’r chwith ar hyd y llwybr graeanog, trwy giât fochyn arall, a dilynwch y llwybr hyd nes y gallwch droi i’r dde trwy giât ac i mewn i’r goedwig dderw oroesol, sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Wedi dringfa serth, mae’r llwybr yn mynd heibio afon fechan. Ewch yn eich blaen hyd nes i chi gyrraedd wal gerrig sy’n nodi diwedd y goedwig. Ewch trwy giât fechan (caewch os gwelwch yn dda) ac i’r mynydd agored.

Mae’r llwybr yn ymdroelli’n serth uwchben y goedwig dderw. Cadwch yr afon ar eich llaw dde. Mae’r llwybr yn gwastatáu ychydig, a daw llethrau Mynydd Moel (2,768tr/863m) i’r golwg, wedi eu gorchuddio gan sgrïau hir a thyfiant trwchus o rug. Ewch heibio adfeilion ar y chwith wrth i chi ddringo’n araf i Gwm Cau.

CofiwchMae’r llwybr yn arwain dros dir fferm preifat. Dylid cadw cw^n dan reolaeth glos, gorau oll os yw ar dennyn pan fyddwch yn agos i dda byw, ac ar dennyn byr trwy’r amser rhwng Mawrth y 1af a Gorffennaf 31ain er mwyn gwarchod adar sy’n nythu ar y ddaear.

© Hawlfraint y Goron 2017 OS 100022403

Nodwch: Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Page 3: Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd...Llwybr Minffordd, Cader Idris Llwybr Mynyddig Anodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth,

www.eryri-npa.gov.uk

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF Ffôn: 01766 770274

Llwybr Minffordd - tudalen 3 o 3

Wrth i glogwyni trawiadol Craig Cau ddod i’r golwg, mae’r ffordd yn mynd yn anodd i’w dilyn. Mae’r tir yn welltog a’r llwybr yn aneglur. Ewch i’r chwith o amgylch yr ardal gorsiog sydd o’ch blaen, a gwnewch yn siwr wrth ddychwelyd eich bod yn dilyn yr un llwybr yn ôl, ac nid y fforch i’r dde sy’n arwain at dir serth iawn a allai fod yn beryglus i’r amhrofiadol.

Ar ôl mynd heibio’r cafn, fe welwch glogfeini mawr di-drefn ar y chwith i chi. Bu’r rhain yn sownd mewn rhew rhewlifol, ac fe’u gollyngwyd ar hap wrth iddo doddi.

Cyn bo hir byddwch yn cyrraedd carnedd fawr, amlwg lle mae’r llwybr yn gwahanu. Bydd y fforch ar y dde yn mynd â chi i Lyn Cau. I fynd ymlaen i’r copa, cymerwch y fforch i’r chwith.

Mae’r llwybr yn ymdroelli’n serth i fyny, ac mae wedi ei nodi’n amlwg gan garneddi bychain. Cyn bo hir fe welwch ddyfroedd Llyn Cau ar y dde. Parhewch i ddringo hyd nes i chi gyrraedd ardal fechan wastad lle gallwch fwynhau golygfa dda o’r llyn a’r clogwyni o amgylch. Mae Cwm Cau, gyda’i lyn, yn enghraifft glasurol o ‘gwm’ neu ‘beirian’.

Bydd dringfa fer yn awr yn mynd â chi at ochr orllewinol y clogwyn, a’r golygfeydd prydferth ar yr ochr arall. Mae modd gweld blaen Llyn Mwyngil yn y dyffryn, a gellir gweld y ffordd o Gorris i Fachynlleth dros y ffordd. Mae Bryniau Tarren yn y pellter ar y dde.

Mae’r llwybr, sydd wedi ei nodi’n dda gan garneddau yn ymdroelli’n serth at i fyny, gan fynd heibio i fand o garreg risial gwyn yn y graig ar y dde i chi. Bydd gwyriad byr oddi ar y llwybr i’r chwith yn rhoi golygfa dda i chi o Fwlch Tal-y-llyn a’r llyn.

Mae’r llwybr, sydd yn gwastatáu ychydig wrth i Gwm Amarch ddod i’r golwg ar y chwith a Bryniau Tarren yn gefndir bendigedig iddo. Mynydd Pencoed yw’r grib hir gron o’ch blaen.

Mae’r llwybr a nodir yn dda gan garneddau sy’n mynd i ben Craig Cau yn serth a rhydd. Dylid bod yn ofalus iawn ar y rhan hon, yn enwedig yn y gaeaf, gan fod cornisiau eira weithiau’n ffurfio dros ymylon y clogwyni ar y dde i chi.

Mae dwy ffordd i lawr i Fwlch Cau o ben Craig Cau. Mae un yn glynu’n dynn wrth ymyl y clogwyn ac mae’r llall yn gwyro i’r chwith oddi wrtho. Yr ail yw’r ffordd fwyaf diogel. Cofiwch am y cornisiau eira yn y gaeaf. Wrth gyrraedd Bwlch Cau, edrychwch ar hyd y rhigol garegog ar y dde yn Llyn Cau ymhell oddi tanoch.

Wrth gychwyn eich taith yn ôl, gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn y llwybr sy’n gwyro i’r chwith oddi wrth ymyl y clogwyn, 50m o’r copa. Os na wnewch chi hyn, byddwch yn dilyn llwybr Pilin Pwn, Ty^ Nant i lawr ochr ogleddol y mynydd. Os yw’n niwlog, cymerwch ofal i beidio gwyro i’r dde wrth esgyn Craig Cau yn ôl.

Mae’r llwybr nawr yn dringo’n serth am y tro olaf. Mae’r rhan hon yn llithrig, yn rhydd, ac yn dioddef yn enbyd gan erydiad. Cadwch at y llwybr os gwelwch yn dda. Mae rhan igam-ogam fer yn dod â chi yn y diwedd at garnedd y copa. Mae cysgodfan yn ymyl sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.