intro dd welsh - electoral commission · 2019. 7. 1. · feddalwedd etholiad, rhaid gofalu eu bod...

92
Adran Dd Gweinyddu ac hyrwyddo

Upload: others

Post on 31-Jan-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Adran Dd Gweinyddu ac hyrwyddo

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    1 Defnyddiau ysgrifennu ac offer etholiad

    Cyflwyniad 1.1 Mae etholiadau yn galw am gyflenwadau enfawr o ddefnyddiau ysgrifennu, yn eitemau statudol fel papurau pleidleisio, hysbysiadau ac ati, ac eitemau cyffredinol, megis pinnau ysgrifennu, papur a dolenni ’lastig. Mae delio gyda’r defnyddiau hyn, sicrhau bod cyflenwadau digonol yn cael eu harchebu ar yr adeg iawn, dogni cywir a threfnu eu dosbarthu, yn bwysig a gall y gwaith fwyta llawer o amser gweinyddydd. Rhaid ystyried cyflenwyr defnyddiau ysgrifennu ac offer. 1.2 Mae etholiadau yn galw hefyd am lawer o offer. Denyddir hwn mewn etholiadau olynol ond caiff eitemau eu torri neu eu colli a rhaid cynnal lefel y stoc.

    Defnyddiau ysgrifennu ac offer sydd eu hangen 1.3 Gellir rhannu’r eitemau fydd eu hangen i’r categorïau a ganlyn: • defnyddiau ysgrifennu etholiad; • defnyddiau ysgrifennu ar gyfer y cyfrif; • defnyddiau ysgrifennu; ac • offer. Dyma enghreifftiau o ddefnyddiau ysgrifennu etholiad: • papurau enwebu a’r ffurflenni cysylltiol; • defnyddiau ysgrifennu i etholwyr absennol; a • rhagrybuddion etholiad; a byddai’r eitemau hynny byddai eu hangen mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys: • rhestrau etholwyr, a • phecynnau, ac ati a’r eitemau hynny byddai eu hangen yn y cyfrif, megis: • taflenni cyfrif; • taflenni cyfanswm; a • thaflenni datgan canlyniadau. 1.4 Mae eitemau defnyddiau ysgrifennu cyffredinol yn cynnwys y canlynol: • pinnau ysgrifennu arferol; • amlenni gweigion; • blu-tac; • siswrn;

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    • dolenni ’lastig; • clipiau papurau; a • chyfrifianellau; sydd i gyd yn cael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, yn y cyfrif ac yn swyddfeydd y gweinyddwyr etholiadau. Mae offer yn cynnwys blychau pleidleisio, offer stampio, celfi ar gyfer y cyfrif, stondinau pleidleisio, ac ati.

    Cyflenwyr 1.5 Mewn etholiadau, mae ffurflenni penodol i’w defnyddio ar adegau gwahanol o’r broses ethol, o bapurau enwebu i gofnodion costau etholiad. Gall cyflenwyr gael y ffurflenni statudol hyn gan gyflenwyr neu mewn sawl achos gall pecynnau meddalwedd etholiadau eu cynhyrchu. Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cyflenwi rhai ffurflenni a gellir eu cael o safwe’r Comisiwn ar www.comisiwnetholiadol.org.uk. 1.6 Mae ffurflenni’r Comisiwn Etholiadol yn gyfredol ac wedi eu seilio ar ddeddfwriaeth. Gall y bydd cynhyrchu ffurflenni yn fewnol yn rhatach na’u prynu yn allanol. Os yw’r gweinyddydd etholiadol yn cynhyrchu ffurflenni o system feddalwedd etholiad, rhaid gofalu eu bod yn unol â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Dylid hefyd defnyddio egwyddorion Cymraeg/Saesneg clir cyn belled â phosibl. Mae ambell awdurdod, gyda nifer sylweddol o boblogaethau o leiafrifoedd ethnig, wedi cynhyrchu deunydd etholiadol mewn ieithoedd eraill, er budd y pleidleiswyr lleol (er dylid pwysleisio nad yw hysbysebion o’r math hyn yn benodedig). 1.7 Ar gyfer offer, megis stondinau pleidleisio, blychau pleidleisio ac ati, yr unig ddewis realistig yw defnyddio cyflenwyr allanol. Mae dulliau gweithredu yn amrywio ymhlith awdurdodau felly nid oes dogfennaeth safonol ar gael a gan amlaf mae awdurdodau yn cynhyrchu eu dogfennau eu hunain. Gall defnydd da o feddalwedd etholiad helpu cynhyrchu hyn. Wrth gwrs, gellir archebu defnyddiau ysgrifennu cyffredinol gan gyflenwr arferol yr awdurdod.

    Archebu 1.8 Wrth archebu defnyddiau ysgrifennu, ffurflenni neu offer, rhaid bod yn ymwybodol o ba etholiad rydych yn delio â hi. Er enghraifft, bydd yn rhaid cydlynu gyda’r Swyddog Etholiad adeg etholiadau Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru neu etholiadau eraill sydd yn croesi ffiniau awdurdodau, i gynllunio sut i drefnu mae papurau pleidleisio, hysbysebion a defnyddiau ysgrifennu. Bydd ambell awdurdod yn gyfrifol am fwy o orsafoedd pleidleisio adeg etholiadau i’r Senedd nag adeg etholiadau lleol ac fel arall. Bydd y ffactorau hyn i gyd yn effeithio ar beth a faint fydd angen ei archebu neu ei gynhyrchu. 1.9 Mae hefyd yn syniad da i roi’r archebion mewn da bryd, ymhell cyn etholiadau arbennig. Mae cyflenwyr yn aml yn anfon allan ffurflenni ar gyfer etholiadau’r Senedd ymhell cyn galw’r etholiad nesaf, fel bo’r archebion yn eu lle pe digwyddid galw etholiad ar fyrder neu petai isetholiad. Os gosodir

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    archebion, yn enwedig ar gyfer etholiadau’r Senedd, mewn da bryd, mae’n bwysig cadw cofnodion manwl o’r gwariant er mwyn adfer y costau fel rhan o’r cais am ad-daliad yr etholiad. 1.10 Unwaith mae’r archeb wedi cyrraedd pen y daith dylid bwrw golwg dros y cynnwys cyn gynted â phosibl er mwyn cywiro unrhyw gamgymeriadau neu lenwi bylchau heb oedi. Argymhellir bod Swyddogion Etholiad yn gwirio’r blychau manion cyn diwrnod yr etholiad i sicrhau bod yr holl eitemau angenrheidiol ar gael. Hefyd, wrth archebu blychau o fanion, dylid sicrhau bod y cyflenwad yn cynnwys popeth byddech am i’r Swyddog Etholiad ei gael. Er enghraifft, mae rhai cwmnïau yn cyflenwi blychau â phedwar pensil pleidleisio er bod chwech neu fwy o stondinau pleidleisio mewn ambell orsaf, felly byddai angen ychwanegu pensiliau. 1.11 Mae’n arfer da ar ôl etholiad i wirio’r lefelau stoc ar gyfer yr etholiad nesaf a ddisgwylir, gan sicrhau bod digon o stoc ar gael ar gyfer unrhyw isetholiad na ellir, drwy ddiffiniad, ei ragweld. 1.12 Rhaid i weinyddwyr etholiadau ystyried anghenion pleidleiswyr sydd ag anabledd, yn ddall neu ag anawsterau gweld. Rhoddir arweiniad ar fynediad hafal ym mhapur 3 o’r rhan hwn, tra bod gwybodaeth ar gael ar ddiwedd y rhan ar beth sydd ei angen i wneud pleidleisio yn haws i bobl ddall a’r rhai hynny ag anawsterau gweld. Dylid cadw’r papurau hyn mewn cof wrth archebu defnyddiau ysgrifennu ac offer.

    Paratoi 1.13 Gellir gwneud llawer o waith cyn i’r etholiad ddechrau. Gall hyn gynnwys y canlynol: • coladu eitemau cyffredinol o ddefnyddiau ysgrifennu, e.e. pinnau

    ysgrifennu, pinnau, tâp gludo ac ati mewn bagiau ar gyfer y nifer o orsafoedd pleidleisio a ddefnyddir;

    • coladu hysbysebion ychwanegol e.e. arweiniad i bleidleiswyr, gorsaf bleidleisio, troseddau mewn etholiadau, saethau cyfeirio, llyfrynnau cyfarwyddiadau, ac ati mewn pecynnau ar gyfer y nifer o orsafoedd pleidleisio a ddefnyddir;

    • newid y nodau ar offer stampio (er bod y nod swyddogol yn rhan o drefniadaeth diogelwch yr etholiad a dylid cadw’r patrwm yn gyfrinach);

    • coladu’r setiau o bapurau enwebu ac unrhyw nodiadau arweiniad; • coladu’r ddogfennaeth ar gyfer dosrannu pleidleisiau drwy’r post. Gan

    gofio’r cynnydd aruthrol mewn pleidleisiau drwy’r post yn ddiweddar, gallai gwneud hyn yn gynnar lacio pwysedd yn nes at yr etholiad;

    • gall chwilio am ffynonellau eraillar gyfer rhai neu’r holl amlenni a ffurflenni i’w defnyddio i bleidleisio drwy’r post fod yn ddewis, os felly dylid cysylltu ag argraffwr addas; a

    • pharatoi rhagrybuddion o amseroedd agor y pleidleisiau drwy’r post, amser a lleoliad y cyfrif, apwyntio cynrychiolwyr pleidleisio a chyfrif a ffurflenni costau ymgeiswyr etholiadau.

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    1.14 Yn ogystal, unwaith bydd dyddiad yr etholiad yn wybyddus, gellir cwblhau’r gwaith a ganlyn: • argraffu a didoli cardiau pleidleisio; • dynodi papurau pleidleisio cynhwysol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio. At

    hyn, rhaid dosrannu digon o bapurau ar gyfer y pleidleisiau drwy’r post a ddisgwylir. Gan fod mwy o ddefnydd ar adnoddau pleidleisio drwy’r post bellach, yr argymhelliad yw paratoi ar gyfer niferoedd helaeth; a

    • chynhyrchu a choladu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio.

    Gorsafoedd pleidleisio 1.15 Yn y gorsafoedd pleidleisio defnyddir y rhan fwyaf o ddefnyddiau ysgrifennu a ffurflenni ac mae’n debyg mai’r llwyth gwaith trymaf yw coladu’r defnyddiau ysgrifennu ac offer angenrheidiol ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio yn y blwch pleidleisio neu fag manion cyn diwrnod pleidleisio a defnyddio’r blychau hyn i gludo popeth. 1.16 I ddilyn, ceir arweiniad i’r cynnwys i’w ddefnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod etholiad. Mae llawer o’r eitemau a restrir yn eu hegluro eu hunain ond cynhwysir manylion pellach ble bo angen.

    Rhestrau nodi 1.17 Does dim modd gorbwysleisio bod angen gwirio rhestr o gynnwys y blwch pleidleisio yn erbyn rhestr ddiffiniol gynted â phosibl er mwyn gwneud iawn am unrhyw beth na chafodd ei gynnwys. Mewn etholiadau awdurdodau lleol, gyda llawer o bleidleisiau gwahanol, rhaid gofalu bod y papurau pleidleisio a’r rhagrybuddion yn cyfeirio at yr ardal etholiadol gywir. Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio neu staff arolygu gael defnyddiau wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau ar y rhestrau nodi.

    Rhestr nodi un: eitemau hanfodol

    □ blwch pleidleisio – i gynnwys label adnabod. Rhaid bod modd cloi neu selio’r blwch pleidleisio;

    □ seliau a neu/glo ar gyfer y blwch pleidleisio; □ papurau pleidleisio – rhifau cynhwysol i gyfateb i’r rhifau a glustnodwyd ar

    gyfer yr orsaf bleidleisio. Defnyddir dwy set o bapurau pleidleisio, a ddylai fod ar bapurau o liwiau gwahanol, pan fyddir yn cyfuno etholiadau, ond mae’r rhifo yn debyg o fod yn wahanol;

    □ papurau pleidleisio a dendrwyd – y rhifau i gyfateb i’r dosbarthiad. Rhaid eu bod ar bapur o liwiau gwahanol i’w gwahanu rhag y papurau pleidleisio arferol. Mae’n syniad da i gynnwys, gyda’r papurau pleidleisio a dendrwyd, nodyn sy’n dweud rhywbeth megis ‘nid ydynt i’w defnyddio heb gyfeirio at y canllawiau ar ddosrannu papurau a dendrwyd’;

    □ papur pleidleisio print bras; □ cofrestr etholwyr – rhaid bod gan bob gorsaf bleidleisio ei chofrestr ei hun,

    yn berthnasol i’r orsaf honno;

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    □ rhestrau pleidleisio absenolion – pleidleiswyr drwy’r post, pleidleiswyr trwy ddirprwy a phleidleiswyr trwy ddirprwy drwy’r post. Os oes unrhyw anghysondeb rhwng y rhestrau pleidleisio absenolion a’r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio, rhaid derbyn y rhestrau pleidleisio absenolion yn derfynol;

    □ teclyn stampio – mae’n arfer da i roi offeryn stampio wrth gefn i bob gorsaf bleidleisio rhag ofn bod diffygion;

    □ cyfrif(on) papurau pleidleisio – gall bod angen dau neu fwy ar gyfer etholiadau ar y cyd neu gellir eu hymgorffori ar un ffurflen;

    □ ffurflenni – gan amlaf bydd y ffurflenni hyn wedi eu cynnwys ym mlwch manion y Swyddog Llywyddol:

    □ rhestr o bleidleiswyr ag anghenion corfforol; □ datganiad cymdeithion pleidleiswyr ag anghenion corfforol; □ rhestr o bleidleisiau a nodwyd gan y Swyddog Llywyddol; □ datganiad o bleidleisiau a nodwyd gan y Swyddog Llywyddol; □ rhestr o bleidleisiau a dendrwyd; □ cwestiynau statudol i bleidleiswyr;

    □ amlenni ardystiedig – gan amlaf bydd y rhain wedi eu cynnwys ym mlwch manion y Swyddog Llywyddol ac yn cynnwys amlenni ar gyfer:

    □ cyfrif y papurau pleidleisio; □ papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a phapurau

    pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a dendrwyd; □ copi wedi ei nodi o’r gofrestr a rhestr trwy ddirprwy; □ bonion papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a

    bonion papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a dendrwyd;

    □ pleidleisiau a dendrwyd, rhestrau o bleidleiswyr gydag anabledd corfforol a gynorthwywyd gan y Swyddog Llywyddol neu gydymaith, datganiadau gan gymdeithion, ac ati;

    □ papurau pleidleisio a dendrwyd; □ apwyntio staff pleidleisio;

    □ amlen i gynnwys papurau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd i’r orsaf bleidleisio;

    □ pensiliau pleidleisio a chortyn; a □ theclyn pleidleisio cyffyrddadwy i bleidleiswyr dall neu rannol ddall. Bydd gofyn cynnwys ffurflenni ac amlenni ychwanegol pan gyfunir etholiadau.

    Rhestr nodi dau: rhagrybuddion

    1.18 Dan Reolau Etholiadau Seneddol 1983, Rheol 29, yn ôl deddf gwlad yr unig rybuddion sydd angen eu harddangos y tu mewn i’r orsaf bleidleisio mewn etholiadau Seneddol yw papur pleidleisio print bras, rhybudd yn rhoi cyfarwyddiadau i bleidleiswyr sut i fwrw pleidlais ac, ymhob blwch pleidleisio unigol, arwydd yn nodi ‘Rhowch bleidlais i un ymgeisydd yn unig’. Mae’r un rheolau yn bodoli adeg etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ceir gofynion tebyg ar rybuddion yn Saesneg a Chymraeg yng Gorchymyn Llywodraeth Cynulliad Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 Atodiad 5. Yn yr achos hwn mae dau bapur pleidleisio, felly newidiwyd y rhybuddion yn gymwys ar gyfer etholiadau lleol dan Reol 23 o Reolau Etholiadau Lleol 1986.

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    1.19 Fodd bynnag, mae’n arferol nodi rhybuddion eraill megis ‘Rhybudd pleidleisio’, ‘Arferion llwgr ac anghyfreithlon’, ‘Troseddau adeg etholiadau’ ac eraill. Mae’r rhybuddion a ddangosir y tu mewn i’r gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys: □ cyfarwyddiadau i arwain pleidleiswyr (dau gopi – un i’w arddangos y tu

    mewn a’r llall y tu allan i’r orsaf bleidleisio) (gofynnol); □ cyfarwyddiadau i arwain pleidleiswyr, i’w dangos ymhob gorsaf bleidleisio

    (gofynnol); □ rhybudd etholiad (dau gopi – un i’w arddangos y tu mewn a’r llall y tu allan

    i’r orsaf bleidleisio); □ arferion llwgr ac anghyfreithlon; □ troseddau adeg etholiadau; □ rhybudd i bleidleiswyr am ddynwared; □ arwydd gorsaf bleidleisio; □ ffordd i mewn/ffordd allan/saethau cyfeirio; □ rhybudd gwnewch gais fan hyn am bapurau pleidleisio; ac □ arwyddion i ddangos mynediad i bobl gydag anabledd. 1.20 Dylai’r nifer o arwyddion ‘gorsaf bleidleisio’ a ‘ffordd i mewn/ffordd allan’ fod yn ddigonol i gynorthwyo mynediad ac allanfa, gyda rhai wrth gefn rhag ofn bod tywydd yn eu difetha neu bod rhai’n mynd ar goll. Mae llawer o’r rhybuddion uchod ar gael bellach wedi eu lamineiddio er mwyn gwrthsefyll y tywydd yn well a’u cryfhau. Bydd angen rhybuddion addas ar gyfer etholiadau ar y cyd.

    Rhestr nodi tri: ffurflenni eraill a rhybuddion

    1.21 Gellir cyflenwi Swyddogion Llywyddol â ffurflenni a rhybuddion eraill. Rhoddir enghreifftiau isod: □ llyfryn cyfarwyddiadau i staff gorsaf bleidleisio; □ cyfarwyddiadau lleol, gan gynnwys y canlynol:

    □ rhifau ffôn argyfwng; □ dulliau gweithredu pe torrai’r offer stampio; □ dulliau gweithredu pleidleisio; □ dulliau gweithredu i’w dilyn wrth becynnu ar ddiwedd y

    pleidleisio; □ cludo’r blychau pleidleisio i’r cyfrif;

    □ copi o fanylion cynrychiolwyr yr ymgeiswyr; □ manylion llogi’r orsaf bleidleisio; □ dadansoddiad o’r strydoedd a rennir fesul gorsaf bleidleisio; □ ffurflenni hawlio costau, fel y byddo’n addas; □ nodiadau arweiniad i’r rhifwyr; □ cyfarwyddiadau i gynrychiolwyr etholiad, os oes angen; □ trefn yr orsaf bleidleisio; □ rhestr o orsafoedd pleidleisio ar gyfer pob ardal etholaethol; □ tystysgrifau gwaith fel sy’n ofynnol gan staff y gorsafoedd pleidleisio (ac

    unrhyw swyddogion heddlu penodedig);

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

    □ apwyntiadau staff gorsafoedd pleidleisio; □ sticeri ceir etholiad. Mae’r rhain i’w defnyddio er mwyn eu hadnabod gan

    yr heddlu neu stiwardiaid yn lleoliadau’r cyfrif; □ rhestr o gywiriadau’r gofrestr; □ arweiniad iechyd a diogelwch; □ holiadur y Swyddog Llywyddol; □ rhestr nodi offer ac adnoddau; □ rhestr nodi ar gyfer materion hygyrchedd; a □ ffurflen asesiad risg y lleoliad pleidleisio. 1.22 Gall llawer o’r eitemau a restrwyd uchod, megis y ffurflenni sy’n rhestru cywiriadau’r gofrestr a’r asesiadau risg, gael eu hymgorffori mewn llyfr log. Gellir hefyd cofnodi ynddo unrhyw beth sydd yn digwydd ar ddiwrnod etholiad, fel bo un pwynt cyfeirio ar gael ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.

    Rhestr nodi pedwar: defnyddiau ysgrifennu amrywiol

    1.23 Gellir cyflenwi’r Swyddog Llywyddol â’r defnyddiau ysgrifennu hyn fel y bo angen: □ cerdyn A3 (ar gyfer hysbysebion ychwanegol neu gyfarwyddiadau); □ pinnau ysgrifennu, pensiliau, pen nodi, teclyn miniogi, rhwbiwr, pren

    mesur; □ blu-tac; □ canhwyllau/cwyrennau a matsis (os byddir yn defnyddio cwyr i selio); □ pinnau bawd; □ amlenni gweigion a phapur nodiadau; □ sachau plastig; □ dull o glymu’r sachau; □ siswrn; □ tâp gludo; □ cortyn; □ labeli; □ tâp gwyn; □ sêl ar gyfer y blwch pleidleisio/tagiau diogelwch ar gyfer blychau plastig; a □ chwyddwydrau.

    Cyfeiriadau statudol Deddfau Cynrychioli’r Bobl 1983, 1985 a 2000 Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (diwygiwyd 2001) Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (diwygiwyd 2001) Mae Atodiad Ffurflenni yn Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychioli’r Bobl 1983 (fel y diwygiwyd) yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i argraffu papurau pleidleisio, fel y gwna Atodiad Ffurflenni yn Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (fel y diwygiwyd).

  • Adran Dd, papur 1, Ionawr 2006

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    2 Cyhoeddusrwydd a’r cyfryngau

    Cyflwyniad 2.1 Mae cyhoeddusrwydd yn hanfodol fel bo etholwyr yn gwybod pryd mae etholiad yn cael ei chynnal, pa ymgeiswyr sy’n sefyll a phryd i wneud cais am bleidlais drwy’r post ac ati. I’r rhan fwyaf o etholwyr, eu hunig gyswllt gyda chofrestru etholiadol a’r gwasanaeth etholiadau yw’r ffurflen gofrestru flynyddol, y cerdyn pleidleisio achlysurol ac ymweliad byr â’r orsaf bleidleisio. Nid rhyfedd felly bod y broses, i lawer, yn ddirgelwch llwyr a bod camddealltwriaeth yn gyffredin. 2.2 Mae etholiadau yn denu sylw’r cyfryngau bob amser, felly gall gweinyddwyr etholiadau ddisgwyl bod eu gwaith dan y chwyddwydr cyfryngol. Fodd bynnag, gall y cyfryngau fod o ddefnydd wrth drosglwyddo gwybodaeth i’r etholwyr.

    Cyhoeddusrwydd 2.3 Mae cyhoeddusrwydd yn hanfodol: • i gwrdd ag anghenion statudol; • i roi sylw i ddigwyddiadau penodol megis y canfasiad blynyddol a

    phleidleisio absennol; • i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r broses etholiadol; • i hybu’r gwasanaeth o fewn yr awdurdod a’r gymuned ehangach; ac • i hybu a hyrwyddo unrhyw ddyfeisiadau newydd neu newidiadau sy’n

    deillio o gynlluniau peilot. 2.4 Er hyn, yn aml iawn caiff cyhoeddusrwydd ar gyfer gwasanaethau etholiadol, boed yn gofrestru neu yn etholiadau, ei weld fel atodiad ychwanegol i’w ddefnyddio yn unig pan fod arian ychwanegol ar gael. Mae’n wir nad oes yn rhaid wrth gyllideb hysbysebu enfawr i sicrhau ymgyrch fywiog leol. Gellir cyfuno’r arferion hyn gyda threfniadaeth gwaith y gwasanaethau etholiadol am ddim neu am y nesaf peth i ddim: • gellir addasu neu frandio defnyddiau ysgrifennu i roi manylion am

    gofrestru neu am ddyddiadau etholiad; • gellir gosod rhagrybuddion bach neu bosteri yn defnyddio’r un brandio yn

    ardaloedd cyhoeddus swyddfeydd y cyngor a hyd yn oed, o bosibl, is-swyddfeydd post a siopau lleol, a hyn am ddim;

    • gellir gosod stamp gyda’r neges gofrestru addas neu neges etholiadol ar lythyron anfonir gan y cyngor;

    • gall hysbysfyrddau electronig gario negeseuon allweddol; ac • mae safwe’r cyngor, neu ei newyddlen/papur yn lleoedd da i hybu’r

    gwasanaeth. 2.5 Er nad oes yn rhaid wrth gyllideb fawr ar gyfer cyhoeddusrwydd i sicrhau hybu effeithlon, argymhellir bod y gyllideb flynyddol ar gyfer y gwasanaethau etholiadol yn cynnwys canran wedi ei neilltuo ar gyfer cyhoeddusrwydd.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    Ymholiadau cyfryngol 2.6 Gall etholiadau fod yn ddigwyddiadau proffil uchel, yn denu llawer o sylw gan y cyfryngau, yn enwedig adeg etholiadau cyffredinol i’r Senedd ac isetholiadau. Mae’n debyg y bydd cynrychiolwyr o’r cyfryngau am fynychu achlysuron amrywiol, gan gynnwys cyfrif; gall rhai o’r rhain fod yn gadarnhaol, eraill yn llai felly. Golyga hyn bod sylw’r cyfryngau ar waith y gweinyddwyr etholiadol a’r Swyddogion Etholiad. Gall delio gyda’r cyfryngau fod yn gryn her ar adeg hynod o brysur. 2.7 Gan amlaf bydd etholiad mewn etholaeth Seneddol allweddol yn denu llawer mwy o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd, ac felly mwy o sylw gan y cyfryngau, nag y byddai isetholiad cyngor cymuned. Er hyn, gall hyd yn oed seddi gweigion achlysurol gael eu hun yn y newyddion a denu sylw’r cyfryngau, weithiau ar y funud olaf, yn enwedig os oes yna faterion lleol dadleuol. Gwell, felly, cynllunio ymhell o flaen llaw er mwyn cael dulliau gweithredu cyson mewn lle pryd bynnag bo angen ac i gynnwys swyddfa gwasg y cyngor yn y cynlluniau hyn. 2.8 Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol reolau ynglŷn â phwy gaiff siarad â gohebwyr a chynrychiolwyr y cyfryngau. Mewn rhai achosion, dim ond swyddogion y wasg a gweinyddwyr etholiadol ddylai sicrhau eu bod yn ymwybodol o ba bolisïau mae eu cynghorau yn gweithredu. Mae’n llawer haws i weinyddwyr os gall swyddog y wasg gymryd holl alwadau’r cyfryngau, ond dylai gweinyddwyr sicrhau bod y swyddogion hyn yn hollol gyfarwydd ymlaen llaw â phob agwedd ar unrhyw ymgyrch neu etholiad, e.e. dyddiadau allweddol, canlyniadau etholiadau blaenorol, yr ymgeiswyr sy’n sefyll ac ati. 2.9 Mae’n ddefnyddiol i weinyddwyr etholiadol ddatblygu perthynas dda gyda swyddfa gwasg y cyngor, sydd yn brofiadol wrth ddelio gyda chynrychiolwyr y cyfryngau. Gall defnyddio swyddfa gwasg y cyngor i ddelio gydag ymholiadau cyfryngol ysgafnhau’r baich ychwanegol ar staff etholiad ar adeg brysur.

    Anghenion statudol 2.10 Mae’r rheolau a’r rheoliadau yn gofyn am gyhoeddi rhybuddion a rhestrau amrywiol: • cyhoeddi cofrestr flynyddol ar 1 Rhagfyr; • cyhoeddi’r rhestrau misol o Ionawr hyd Fedi; • rhaid cyhoeddi ‘datganiad o fwriad’ os yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol

    yn penderfynu bod angen paratoi cofrestr newydd yn ystod blwyddyn oherwydd newidiadau pwysig o fewn y sir/bwrdeistref e.e. adolygiad o ffiniau neu ddatblygiadau adeiladu;

    • cyhoeddi’r rhif gwirio sydd gyfystyr â 10% (5% yn Lloegr) o’r nifer o etholwyr llywodraeth leol yn yr ardal (mae hyn ar gyfer deiseb i wneud cais am refferendwm maerol);

    • rhybuddion yn gysylltiedig ag etholiadau: – seddi gweigion achlysurol; – rhybudd o etholiad;

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    – datganiad y bobl a enwebwyd; – rhybudd o gyfrif; – datgan y canlyniadau; ac – archwilio cofnodion a datganiadau o gostau mewn etholiadau

    Seneddol ac Ewropeaidd.

    Papurau newydd yn cyngor 2.11 Os oes gan yr awdurdod lleol bapur newydd, gall fod yn lle da i gynnwys cyhoeddusrwydd am etholiadau. Fodd bynnag, rhaid wrth peth gofal a gall bod angen cyfyngu ar eitemau o wybodaeth gyhoeddus, dyddiadau a dyddiadau cau. 2.12 Mae Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 yn gyfyngiad cyffredinol ar awdurdodau lleol. ‘Ni chaiff awdurdod lleol gyhoeddi unrhyw ddeunydd sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol wedi ei gynllunio i effeithio ar gefnogaeth gyhoeddus i barti gwleidyddol.’ Mae’r cyfyngiadau yn tynhau wrth i etholiad nesau ac unwaith y cyhoeddir rhybudd o etholiad, ni ddylai’r awdurdod gyhoeddi ffotograffau na datganiadau gan gynghorwyr. Mae hyn yn amlwg yn faes aneglur a sensitif.1 Os oes unrhyw amheuaeth am gyfreithlondeb unrhyw gyhoeddusrwydd arfaethedig, dylid gofyn am gyngor gan dîm cyfreithiol yr awdurdod. 2.13 Mae Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (SDBW) wedi cynhyrchu Côd yr ymarfer a argymhellir ar gyhoeddusrwydd awdurdodau lleol, sydd yn cynnwys adran ar etholiadau, refferenda a deisebau. Mae hwn ar gael ar safwe SDBW. 2.14 Dylid cymryd gofal mawr bob amser i sicrhau cadw at amhleidioldeb gwleidyddol gweithrediad y gwasanaethau etholiadol mewn unrhyw gyhoeddusrwydd a dylid gwirio ac archwilio yr holl ddeunydd sydd yn cael ei gyhoeddi i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r deddfwriaeth.

    Paratoi ymgyrchoedd 2.15 Tra bod y ddeddfwriaeth yn gofyn bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol neu’r Swyddog Etholiadau yn cyhoeddi’r rhybuddion a’r rhestrau amrywiol, yn y rhan fwyaf o achosion penderfyniad y gweinyddydd etholiadol yw sut a lle i wneud hyn. Os oes cefnogaeth a chyngor arbenigol ar gael, e.e. swyddfa cysylltiadau cyhoeddus/marchnata, mae’n syniad da i’w defnyddio. Gallant gynnig awgrymiadau ar gyflwyniadau a ffurf a’r ffordd orau o ddefnyddio’r adnoddau ariannol prin sydd ar gael. Efallai y bydd yn addas buddsoddi mewn byrddau arddangos all gario eich brandio eich hun ac a ellir eu defnyddio mewn lleoedd amlwg i hybu ymgyrchoedd. Ceisiwch ymchwilio i fannau addas a grwpiau targed ac ystyriwch eich cynulleidfa h.y. pobl ifanc, grwpiau lleiafrifol ac ati a lle bo hynny’n addas defnyddiwch gyfieithiadau i ieithoedd eraill. 2.16 Argymhellir creu cyllideb, ei monitro a glynu ati. Gwnewch y defnydd gorau hefyd o gyhoeddusrwydd am ddim h.y. cyfweliadau radio, datganiadau i’r wasg ac erthyglau ym mhapur newydd lleol yr awdurdod.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    2.17 Cynlluniwch bob cam o unrhyw ymgyrch cyn i’r ymgyrch ddechrau. Byddwch yn ymwybodol o weithgareddau eraill gan y cyngor allai fod yn digwydd ar yr un pryd neu’n gorgyffwrdd â’ch ymgyrch chi, e.e. i gynyddu niferoedd ar y gofrestr a gwella presenoldeb yn yr etholiad, ac yn bennaf oll adolygwch y canlyniadau i gyd ar derfyn yr etholiad a pha elfennau arbennig o’r cynllun a weithiodd yn dda. 2.18 Pwyntiau i’w cofio wrth gynllunio deunydd hybu: • defnyddiwch iaith addas ar gyfer y gynulleidfa; • cynhyrchwch y deunydd mewn fformat hygyrch i’r gynulleidfa; • trosglwyddwch neges glir; • cynhyrchwch ddeunydd deniadol neu sy’n dal y llygad; • byddwch yn glir at bwy mae’r deunydd yn anelu; • dylai’r deunydd annog gweithgarwch ar ran y gynulleidfa; a • chwiliwch am thema sydd yn cysylltu’r cyhoeddusrwydd i gyd fel y gall pobl

    uniaethu ag ef yn hawdd e.e. logo neu ddefnydd o liwiau penodol. . 2.19 Mae’n bwysig cofio bod ardaloedd gwahanol yn meithrin nodweddion arbennig; golyga hyn nad yw’r deunydd hybu sydd yn gweithio’n dda mewn un ardal bob amser yn gweithio’n dda mewn ardal arall. Er enghraifft, gall hysbysebion ar fysus ac mewn gorsafoedd trên weithio’n dda mewn ardaloedd poblog, ond mewn ardal wledig lle nad oes llawer o drafnidiaeth gyhoeddus, byddent yn llawer llai effeithiol.

    Paratoi a lleoli posteri 2.20 Cyfrinach cyhoeddusrwydd effeithiol yw cadw’r neges yn syml, yn glir a chadarn yn ogystal ag agwedd addas tuag at gynulleidfa sydd wedi ei thargedu’n glir. Defnyddir delweddau trawiadol – mae llun gyfwerth â mil o eiriau – i sicrhau bod gan bosteri yr ergyd gryfaf. Dylid eu cynllunio mewn maint addas hefyd, yn dibynnu ar y lleoliadau ble cânt eu defnyddio, megis: • byrddau hysbysebu ac ardaloedd cyhoeddus mewn swyddfeydd cyngor; • llyfrgelloedd, gan gynnwys unrhyw wasanaethau symudol; • canolfannau dydd, clybiau cinio, cartrefi dan warchod, cartrefi gofal; • cludiant gwasanaethau cymdeithasol, cerbydau casglu sbwriel a

    thrafnidiaeth arall dan ofal y cyngor; • neuaddau eglwysi, canolfannau cymunedol, clybiau ieuenctid, ysgolion, yn

    enwedig y rhai hynny a ddefnyddir gan y gymuned; • ysbytai, clinigau, meddygfeydd; • swyddfeydd post; • swyddfeydd a siopau sefydliadau elusennol, canolfannau cynghori’r

    cyhoedd; a • chymunedau cyngor, a grwpiau trigolion, cymdogion a grwpiau diddordeb. At hyn, os yw’r gyllideb yn ddigonol: • gorsafoedd trenau a threnau tanddaearol;

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    • bysus, mannau disgwyl bysus a gorsafoedd bysus; ac • hysbysfyrddau masnachol.

    Paratoi a dosbarthu taflenni 2.21 Fel gyda’r ymgyrch bosteri, dylai’r taflenni ddefnyddio iaith glir ac osgoi jargon. Dylid eu cadw mor syml â phosibl ac ni ddylent gynnwys cymysgedd o negeseuon a delweddau. Dylai’r gweinyddydd etholiadol geisio cryfhau’r un themâu a chofio datgan yr amlwg, megis ‘Cofiwch ddychwelyd eich ffurflen’ neu ‘Cofiwch fwrw golwg dros y rhestr etholwyr’. 2.22 Gellir defnyddio taflenni at sawl pwrpas. Gellir eu defnyddio ar y cyd â’r ffurflenni cofrestru etholiadol, i atgoffa etholwyr bod yn rhaid iddynt gwblhau’r ffurflen os ydyn nhw am bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar y gorwel. Gellir eu dosbarthu gyda’r papurau rhad. Gellir defnyddio taflenni hefyd i roi neges benodol e.e. ‘Cadw eich pleidlais wrth symud tŷ’, ‘Pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy’ ac i ategu unrhyw gyhoeddiadau sydd ar gael eisoes.2 2.23 Gellir defnyddio taflenni mewn amrywiol sefyllfaoedd. Ar wahân i ddosbarthu o dŷ i dŷ, gellid, er enghraifft, eu defnyddio mewn arddangosfeydd statig mewn lleoedd megis llyfrgelloedd ac ardaloedd cyhoeddus mewn swyddfeydd cyngor. Gellid eu dosrannu mewn sioeau mewn canolfannau siopa, mewn canolfannau cymunedol neu golegau ac mewn unrhyw ddigwyddiadau arbennig cyhoeddus neu addysgiadol a drefnir gan y cyngor neu gyrff eraill. Os yw digwyddiadau o’r math hyn yn croesi ffiniau cynghorau, gellir, efallai, rhannu cost cyhoeddusrwydd drwy gynnig taflen ar y cyd sydd yn ateb gofynion y ddau awdurdod. 2.24 Gall dosbarthu i bob anheddle drwy’r gwasanaeth post neu ganfaswyr fod yn fater drud, felly dylech ystyried dulliau eraill o ddosbarthu yn eich awdurdod, megis: • llythyron parthed rhentu cartrefi/budd-daliadau/treth y cyngor; • grantiau/gwobrau i fyfyrwyr; • ateb ymholiadau i chwiliadau pridiannau tir; • newyddlenni i gymdeithasau sefydliadau trigolion; • newyddlenni adrannau addysg/ysgolion i rieni; • adroddiadau blynyddol cynghorau; • cyfeirlyfrau’r cyngor a chyfeirlyfrau masnachol; • gwasanaethau cymorth cartref a phryd ar glud; • clercod cymunedau; a • chyrff myfyrwyr ac undebau llafur.

    Cyfleoedd eraill cyfryngol 2.25 Mae’r wasg, radio a theledu lleol fel ei gilydd yn chwilio am straeon yn y newyddion. Os nad oes llawer yn digwydd yn unlle arall, efallai y byddant yn ymddiddori yn eich stori os soniwch amdani. Ond yn gyntaf rhaid ichi benderfynu ar eich neges allweddol a chreu stori o’i chwmpas. Peidiwch gadael

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    i ohebydd dynnu eich sylw. Cadwch at eich sgript. Efallai y byddant yn fwy o gymorth ichi os oes gyda chi arian i brynu gofod yn y papur, neu amser ar yr orsaf radio fel rhan o’r ymgyrch gyhoeddusrwydd. 2.26 Er y gall rhedeg hysbyseb ar y teledu brofi’n rhy ddrud i’ch cyllideb, mae sawl awdurdod lleol wedi cyfuno i redeg ymgyrch ar radio lleol am bris rhesymol. Mae gwasanaethau gwybodaeth cwmnïau teledu lleol yn dod yn fwy poblogaidd a gallai fod yn werth ymchwilio i’r rhain mewn rhai ardaloedd. 2.27 Erbyn hyn mae sawl cyngor yn cynhyrchu eu papurau newydd neu gylchgronau eu hunain yn rheolaidd ac yn gyffredinol caiff y rhain eu dosbarthu i bob cartref yn yr ardal. Gallent felly fod yn ddull llwyddiannus o roi neges, fel y gallai’r cysylltiadau gyda newyddlenni grwpiau cymunedol a phapurau newydd i’r deillion a phobl rhannol ddall, sef ychydig yn unig o’r grwpiau lleiafrifol y gellid eu targedu’n arbennig.

    Grwpiau i’w targedu 2.28 Penderfynwch pa adrannau arbennig o’r gymuned rydych am eu cyrraedd a datblygwch ymgyrch sydd yn gweddu orau i’r grŵp hwnnw. Galli enghreifftiau o grwpiau targed gynnwys y canlynol: • Yr henoed – dylid sianelu ymgyrchoedd drwy gynlluniau cartrefi dan

    warchod, cartrefi gofal, clybiau cinio neu gymdeithasol, grwpiau megis Cymorth i’r Henoed a Gofal am yr Henoed.

    • Yr ifanc – gellid datblygu cysylltiadau trwy ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid. Ystyriwch ddefnyddio newyddlenni rhieni a cholegau, grantiau myfyrwyr, ffeiriau cofrestru myfyrwyr a sioeau ar daith.

    • Mae cyflwyno addysg dinasyddiaeth yn gyfle gwych i awdurdodau lleol helpu ysgolion. Ystyriwch gynnig rhedeg ffug etholiadau, gan gynnig siaradwyr, gwybodaeth a deunydd etholiad.

    • Cymunedau lleiafrifoedd ethnig – gall Cyngor Cydraddoldeb Hiliol lleol a chyrff lles y cyhoedd neu gyrff cymdeithasol eraill helpu gweinyddwyr etholiadau i redeg ymgyrch gynhwysol.

    • Pleidleiswyr absennol – gellid targedu grwpiau gwahanol o bleidleiswyr absennol. Gellid cyrraedd y rhai hynny allai fod yn gymwys ar sail anabledd corfforol drwy swyddfeydd y gwasanaethau cymdeithasol, gweithlu cymorth cartref, y gwasanaeth pryd ar glud, cynlluniau cartrefi dan warchod, papurau newydd i’r anabl, swyddfeydd pario ‘bathodyn glas’, grwpiau i’r anabl, papurau newydd i’r deillion, meddygfeydd, canolfannau iechyd ac ysbytai. Gellid defnyddio undebau llafur a phrif gyflogwyr i’r etholwyr hynny a allai fod yn gymwys am bleidlais absennol am resymau gwaith. Gallai asiantau teithio gynnig ffurflenni cais i’r rhai hynny fydd ar wyliau ar ddiwrnod etholiad.

    • Pobl ddigartref – gall fod yn bosibl gysylltu â phobl ddigartref drwy werthwyr Big Issue neu wardeniaid canolfannau dydd, canolfannau galw heibio neu hosteli.

    • Pobl sydd angen gwybod am y newidiadau misol i’r gofrestr. Gellid defnyddio asiantau gosod neu asiantau gwerthu tai a chwiliadau pridiannau tir lleol i dargedu’r etholwyr sydd yn symud tŷ.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    2.29 Mae diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol am y broses etholiadol yn faen tramgwydd i ddemocratiaeth effeithiol. Dyma’r rheswm pam mae angen i bob awdurdod gadw llif cyhoeddusrwydd cyson i roi gwybodaeth ac i addysgu’r cyhoedd, gan ategu unrhyw ymgyrchoedd cenedlaethol gydag ymdrech ychwanegol sydd yn adlewyrchu’r amgylchiadau lleol.

    Enghreifftiau o gyhoeddusrwydd arfer da oddi wrth awdurdodau lleol Cymreig 2.30 Tynnwyd yr enghreifftiau canlynol o arfer da o adroddiad Y Comisiwn Etholiadol ar etholiadau llywodraeth leol yn 2004. • Cydweithiodd y rhan fwyaf o awdurdodau yng Ngogledd Cymru mewn

    ymgyrch bosteri ar y bysus (a rhai ar gerbydau sbwriel y cyngor). • Cyflwynodd Conwy gardiau pen-blwydd o’r gwasanaethau etholiadol i bobl

    18 oed. • Gosododd Mynwy hysbysebion mewn taflen ‘Adnabod eich cyngor’ ac

    anfonwyd gwybodaeth gyda biliau treth cyngor i bob cartref, yn hybu cofrestru cyfredol a’r angen i gofrestru erbyn 12 Ebrill 2004 er mwyn medru pleidleisio ar 10 Mehefin 2004.

    • Yn yr un modd anfonodd Bro Morgannwg ffurflenni cofrestru cyfredol i bawb oedd wedi symud tŷ, wrth iddynt gofrestru ar gyfer treth cyngor.

    • Hysbysebodd Torfaen gofrestru cyfredol ym mhapur newydd y cyngor yn gynnar yn y flwyddyn ac ar safwe’r cyngor, gyda ffurflen gofrestru y medrid ei lawr lwytho a phorth y gymuned yn cael ei lywyddu gan y cyngor.

    • Gosododd Ynys Môn hysbysebion ar fagiau plastig, mewn llyfrgelloedd lleol a dosbarthwyd taflenni Comisiwn Etholiadol i bob ysgol uwchradd leol.

    • Gosododd Castell Nedd Port Talbot hysbysebion mewn nifer o daflenni a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol.

    • Dosbarthodd Wrecsam ffurflenni cofrestru etholiadol arbennig i golegau lleol a dosbarthiadau’r chweched, a ategwyd gan ymgyrch bosteri wedi ei hanelu at ieuenctid rhwng 16 a 18. Cynhaliwyd diwrnod agored y cyngor i hybu cofrestru etholiadol. Gosodwyd hysbyseb yng nghylchgrawn y cyngor lleol yn Chwefror 2004 i hybu cofrestru cyfredol ac anfonwyd ffurflenni cofrestru cyfredol gyda phecynnau tenantiaid newydd y tai cyngor.

    Enghreifftiau o arfer da o Abertawe

    • Hysbysebwyd cofrestru etholwyr yn y papur lleol, papur newydd y cyngor a safwe’r cyngor.

    • Gosodwyd hysbysebion ar faneri ar bontydd a nodau llyfrau llyfrgell a aeth allan i ysgolion a llyfrgelloedd.

    • Gosodwyd hysbysebion mewn cylchgrawn a ddynodwyd i bobl iau a’u dosbarthu mewn sinemâu.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    • Anfonwyd gwybodaeth am gofrestru cyfredol gyda biliau treth y cyngor a phecynnau tenantiaid newydd y tai cyngor.

    • Ymwelwyd ag un ar hugain o ysgolion yn 2003/2004 i hybu cyfranogiad ieuenctid.

    • Ymwelwyd yn ystod ‘wythnos y glas’ ym Mhrifysgol Abertawe, i annog myfyrwyr i gofrestru.

    Ymgyrchoedd Y Comisiwn Etholiadol 2.31 Dan Ddeddf Partïon Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb statudol am ymwybyddiaeth pleidleiswyr yng Nghymru, Lloegr a thros y DU. 2.32 Mae’r Comisiwn yn rhedeg ymgyrchoedd i gefnogi’r canfas blynyddol ac etholiadau. Defnyddia’r rhain amrywiaeth o gyfryngau, megis posteri ar fyrddau, hysbysebion teledu a radio, yn ogystal â gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus arwyddocaol. Cynhyrchir deunydd cyhoeddusrwydd i’r ymgyrchoedd hyn i gyd ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i weinyddwyr etholiadol ei ddefnyddio yn eu hardaloedd eu hunain. Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Tîm Ymgyrchoedd ar 020 7271 0542 neu edrychwch ar eXtra am fanylion yr ymgyrch ddiweddaraf a pha ddeunyddiau sydd ar gael.

    Cyfeiriadau statudol Deddfau Cynrychioli’r Bobl 1983, 1985 a 2000 Deddf Llywodraeth Leol 1986 Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (diwygiwyd 2001) Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (diwygiwyd 2001) Deddf Partïon Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 Rheoliadau Awdurdod Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2003

    Cyfeiriadau eraill Making an impact – Y Comisiwn Etholiadol, Hydref 2002. Mae hwn yn archwilio effeithlonrwydd dulliau gwahanol o gyfathrebu a ddefnyddir mewn ymgyrchoedd cyhoeddus lleol. Mae’n anelu at dynnu sylw at a hybu arfer da ar lefel leol. Mae The shape of elections to come – Y Comisiwn Etholiadol 2003, yn edrych ar ddeunydd hybu a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot ym Mai 2003.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

    Nodiadau 1. Ceir gwybodaeth bellach, perthnasol i bapur newydd cyngor, ar ddiwedd yr

    adran hon. 2. Ceir taflenni gyda ffurflenni cais ar gyfer cofrestru cyfredol a phleidleisio

    drwy’r post. Gellir eu cael mewn nifer o ieithoedd, ar ddull Braille, ar dâp awdio a thrwy fideo iaith arwyddo Prydeinig. Gellir cysylltu â Prolog, sydd yn rhedeg canolfan ddosbarthu Y Comisiwn ar 0870 241 6479 (Llun–Gwe 8.30am–6pm), drwy ffacs ar 0870 241 6482 neu drwy e-bost [email protected] ar gyfer archebion.

  • Adran Dd, papur 2, Ionawr 2006

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    3 Mynediad cyfartal at weithdrefnau etholiadol

    Rhagarweiniad 3.1 Mae’r Comisiwn Etholiadol yn credu bod mynediad cyfartal at etholiadau yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach ac yn angenrheidiol i sicrhau’r lefelau uchel o gyfranogiad gan bleidleiswyr. 3.2 Cynhyrchwyd y canllaw arfer da hwn yn wreiddiol fel rhan o adolygiad y Comisiwn o fynediad cyfartal at weithdrefnau etholiadol. Cyhoeddir yr adroddiad llawn a’r argymhellion mewn perthynas â’r fframwaith gyfreithiol yn Equal access to democracy.1 Yn ogystal â newidiadau i ddeddf etholiadol, mae’r adroddiad hefyd yn argymell arfer da, y gellir ei gyflawni o fewn parametrau’r ddeddfwriaeth bresennol. Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar yr argymhellion arfer da a wnaed yn yr adroddiad ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau pellach ynglŷn ag arfer da.

    Cefndir deddfwriaethol 3.3 Mae rhywfaint o ddarpariaethau mewn deddfwriaeth gyfredol sydd wedi eu hanelu yn benodol at hwyluso cyfranogiad mewn etholiadau gan bobl anabl. Ond ychydig iawn o ddarpariaeth sydd mewn perthynas â mynediad i bobl gyda lefelau isel o lythrennedd neu sydd â Saesneg fel ail iaith iddynt – ac eithrio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Yn wir, mae llawer o ddeddfwriaeth gyfreithiol mewn perthynas ag etholiadau yn golygu defnyddio ffurflenni (a fformatau) sydd â phosibilrwydd o greu rhwystrau i fynediad ar gyfer y grwpiau hyn. Archwiliwn y ddeddfwriaeth gyfreithiol gyfredol yn fanylach isod.

    Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995

    3.4 Nid yw gweithdrefnau etholiadol yn cael eu crybwyll yn benodol yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Bu rhywfaint o ddadl ynghylch a ddylid ystyried bwth pleidleisio fel rhywbeth sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd. Ond mae’r rhan fwyaf o weinyddwyr etholiadol, y Comisiwn a’r Llywodraeth yn cefnogi’r farn fod y broses bleidleisio yn wasanaeth cyhoeddus. Os bydd awdurdodau lleol yn cytuno, rhaid iddynt beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl drwy ddarparu gwasanaeth gwaeth i rywun anabl nag y byddent i rywun nad yw yn anabl. 3.5 Ers Rhagfyr 1996 mae wedi bod yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn rhywun anabl. Mae gwahaniaethu yn cynnwys: • gwrthod darparu unrhyw wasanaeth i bobl anabl y mae’n ei ddarparu i

    aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn anabl; a • darparu safon gwasanaeth gwaeth i bobl anabl nag a ddarperir i bobl nad

    ydynt yn anabl. 3.6 Ers 1 Hydref 1999, bu’n rhaid i ddarparwyr gwasanaeth newid arferion, polisïau a gweithdrefnau sy’n ei gwneud yn amhosibl neu yn afresymol o anodd

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    i bobl anabl ddefnyddio gwasanaeth. Penderfynir ynghylch beth yw ‘rhesymol’ gan y llysoedd, ond hyd nes ceir corff o gyfraith achos, bydd hyn yn anodd ei ddiffinio. 3.7 Mae gan y Ddeddf amserlen tymor hir ar gyfer cyflwyno newidiadau neu ddileu rhwystrau ffisegol i fynediad. O 1 Hydref 2004, mae darparwyr gwasanaeth wedi gorfod gwneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol eu hadeiladau i oresgyn rhwystrau ffisegol i fynediad. Bydd hyn yn ymdrin â llawer o’r adeiladau a ddefnyddir fel bythau pleidleisio, oherwydd y byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o swyddogaethau eraill. Mae’r darpariaethau yn Rhan III, sy’n ymdrin â mynediad at nwyddau a gwasanaethau, yn berthnasol i wasanaethau etholiadol. Mae’n amheus iawn a fyddai system y bleidlais bost yn cael ei hystyried yn ‘ddewis amgen rhesymol’ i ddarparu gwasanaethau etholiad yn uniongyrchol.

    Ysgolion 3.8 Ar gyfer ysgolion, a ddefnyddir yn aml fel gorsafoedd pleidleisio, mae Deddf Anghenion Addysg Arbennig ac Anabledd 2001 yn diwygio Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 i greu dyletswyddau newydd i atal gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg. O Fedi 2002 mae awdurdodau addysg lleol ac ysgolion wedi bod o dan ddyletswydd i gynllunio yn gynyddol i wneud ysgolion yn fwy hygyrch i ddisgyblion anabl. Mae’n ofynnol i awdurdodau addysg lleol gynhyrchu strategaethau hygyrchedd sy’n ymwneud â’u hysgolion a gynhelir ac mae’n ofynnol i ysgolion gynhyrchu cynlluniau hygyrchedd unigol. Mae’r darpariaethau gwahaniaethu ar sail anabledd yn ymestyn at Gymru, Lloegr a’r Alban ac mae’r ddyletswydd cynllunio yn ymestyn i Gymru a Lloegr yn unig.

    Comisiwn Hawliau Anabledd 3.9 Ym 1999, daeth deddfwriaeth i rym i greu’r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA). Mae hwn yn gorff gorfodi sy’n debyg i’r Comisiwn Cyfle Cyfartal a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a all ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ac ymdrin â gwahaniaethu. Gall y CHA gefnogi pobl anabl mewn achosion cyfreithiol ble yr ystyriant y gwahaniaethwyd yn eu herbyn, er bod amheuaeth ynghylch a yw hyn yn ymestyn at wasanaethau etholiadol. Gellir cael gwybodaeth bellach am y CHA yn www.drc-gb.org.

    Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

    3.10 Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (DCB) 19832 yn rhoi rhwymedigaethau ar awdurdodau lleol, cyn belled ag sy’n rhesymol ac ymarferol, i ddynodi lleoedd sy’n hygyrch i bobl anabl fel lleoedd pleidleisio yn unig ac i roi i bob etholwr o fewn eu hardal pa gyfleusterau bynnag sy’n rhesymol ar gyfer pleidleisio ac sy’n ymarferol o dan yr amgylchiadau. Mae gofyniad hefyd i gadw’r mannau pleidleisio o dan adolygiad. Mae llawer o Swyddogion Canlyniadau eisoes yn cyflawni archwiliadau manwl o adeiladau y maent yn eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio. Maent yn aml yn defnyddio holiadur, y maent naill ai wedi ei ddyfeisio eu hunain neu wedi ei gael oddi wrth gyrff fel Scope – yr elusen anabledd genedlaethol. Yn ychwanegol, mae llawer o Swyddogion Canlyniadau yn gofyn i’w Swyddogion Llywyddu gwblhau arolwg

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    ar y diwrnod pleidleisio, yn tynnu sylw at unrhyw broblemau gyda mynediad sy’n codi yn ystod y dydd. Mae hyn yn gymorth i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phroblemau mynediad i staff pleidleisio ac yn ei gwneud yn bosibl i gamau gael eu cymryd i ddatrys unrhyw broblemau erbyn yr etholiad nesaf.

    Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000

    3.11 Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn ymdrin ag amrediad eang o faterion sy’n gysylltiedig â phleidleisio a chyflwynodd gyfrifoldebau statudol newydd ar swyddogion canlyniadau i sicrhau mwy o fynediad i’r broses etholiadol. Mae’r rhain yn cynnwys: • papur pleidleisio print bras y mae’n rhaid ei ddangos ym mhob gorsaf

    pleidleisio; • rhaid darparu dyfais ar gyfer pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg, fel y

    nodwyd, ym mhob gorsaf pleidleisio; • gall pob pleidleisiwr anabl a’r pleidleiswyr hynny na all ddarllen fod â

    chyfaill i’w cynorthwyo wrth bleidleisio; • gall unigolyn sy’n byw mewn ysbyty meddwl, p’run ai a yw yn cael ei gadw

    yno neu yno’n wirfoddol, ddefnyddio’r ysbyty fel cyfeiriad etholiadol a bod yn gymwys i bleidleisio;

    • mae pleidleisio drwy’r post bellach ar gael o wneud cais amdano i unrhyw un sy’n ei ddymuno, cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol. Nid oes raid i unrhyw un roi rheswm am ofyn am bleidlais bost. Mae pleidleisio drwy ddirprwy ar gael hefyd, ond mae’n rhaid i etholwyr roi rheswm ar eu ffurflen gais. Gellir rhoi pleidlais ddirprwy am gyfnod amhenodol yn unig am resymau meddygol neu resymau yn ymwneud â chyflogaeth neu i unrhyw un sy’n gorfod teithio yn yr awyr neu ar y môr i gyrraedd yr orsaf pleidleisio.

    Cynlluniau peilot

    3.12 Rhoddwyd blaenoriaeth uchel i faterion yn ymwneud â mynediad i bobl anabl gan y Comisiwn a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog wrth ystyried cynlluniau peilot a llunio’r gorchmynion sy’n caniatáu i’r cynlluniau peilot fynd rhagddynt. Mae’n bwysig nad oes unrhyw bleidleisiwr yn wynebu mwy o anawsterau wrth geisio pleidleisio mewn cynllun peilot nag mewn etholiad traddodiadol. Cytunwyd ar rai meini prawf ynglŷn â materion yn ymwneud â mynediad wrth asesu cynlluniau peilot: • Mewn etholiadau post i gyd, mae’r Llywodraeth wedi sicrhau bod yr holl

    Orchmynion Statudol yn cynnwys darpariaeth y bydd y Swyddog Canlyniadau, os gwneir cais am hynny, yn gwneud trefniadau i aelod staff fynychu ar adeg a lle a gytunwyd i gynorthwyo unrhyw bleidleiswyr sy’n gofyn am gymorth er mwyn gallu pleidleisio. Bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd, pan wneir cais am hynny, yn gwneud trefniadau ar gyfer dosbarthu i etholwr sydd â nam ar ei olwg, ar adeg a lle a gytunwyd, y ddyfais pleidleisio cyffyrddol a nodwyd. Gall y sawl sy’n dosbarthu’r ddyfais gynorthwyo’r etholwr hefyd, os gofynnir am hynny, a throsglwyddo’r bleidlais bost wedi ei chwblhau i’r Swyddog Canlyniadau.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    • Cyflwynwyd cynlluniau peilot yn ymwneud ag e-bleidleisio a dulliau eraill o bleidleisio hefyd i fodloni gofynion mynediad a ddiffiniwyd er mwyn cael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog wedi paratoi ‘Disability Access Standards for the Electoral Modernisation Pilot Project’.3 Lluniwyd y safonau hyn drwy ymgynghori gyda Scope, Sense ac RNIB. Maent yn diffinio isafswm y safonau hygyrchedd sy’n ofynnol ar gyfer pob llwyfan pleidleisio yn ogystal â safonau pellach y dylai cyflenwyr technoleg ddangos eu bod yn gweithio tuag atynt. Gellir adlewyrchu’r gofynion hyn yn y darpariaethau cyfreithiol o fewn Gorchmynion unigol y cynllun peilot.

    3.13 Mae’r Comisiwn yn gyfrifol o dan y ddeddf am werthuso’r holl gynlluniau peilot, ac mae wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau gwerthuso unigol. Yn ychwanegol, mae’r Comisiwn wedi cyllido Scope i wneud archwiliadau mynediad o gynlluniau peilot a gynhaliwyd ym Mai 2002, Mai 2003 a Mehefin 2004. Mae adroddiadau Scope ar gael ar wefan y Comisiwn.

    Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976

    3.14 Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn rhoi nifer o ddyletswyddau i awdurdodau lleol mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol. Y ddyletswydd gyffredinol a gyflwynir yn Adran 71(1) y Ddeddf a’r Cod Ymarfer Statudol ar y Ddyletswydd i Hyrwyddo Cydraddoldeb Hiliol4 yw rhoi ystyriaeth ddyledus i’r tri amcan canlynol: • dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon; • hyrwyddo cyfle cyfartal; a • hybu cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hil. 3.15 Mae’n ofynnol i gynghorau gyhoeddi cynllun cydraddoldeb hiliol. Mae hwn yn rhestru’r swyddogaethau a pholisïau y bernir sy’n berthnasol i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys esboniad o drefniadau ar gyfer monitro polisïau a gwasanaethau, ymgynghori yn eu cylch ac asesu eu heffaith ar gydraddoldeb hiliol ac ar gyfer monitro’r gweithlu ac arferion cyflogaeth allweddol. Dylai awdurdodau lleol ystyried cymryd y materion hyn i ystyriaeth wrth ystyried mynediad at y broses ddemocrataidd. Mae’r Comisiwn wedi darparu canllawiau pellach ynglŷn â’r defnydd o ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd etholiadau yng nghylchlythyr EC25/2004.

    Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

    3.16 Er nad yw Deddf yr Iaith Gymraeg yn gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at weithdrefnau etholiadol, mae’n rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol) i drin y Gymraeg a’r Saesneg ‘ar sail gyfartal’ wrth ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau etholiadol i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i bob math o etholiadau a gynhelir yng Nghymru. 3.17 Yn ymarferol, golyga hyn y gall y bydd yn rhaid i ddeunyddiau etholiad a gynhyrchir ac a gyhoeddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    cynhyrchu yn ddwyieithog. Dylai pob awdurdod lleol ymgynghori â’i gynllun Iaith Gymraeg statudol er mwyn penderfynu pa gyhoeddiadau neu ddeunyddiau y bydd angen eu cynhyrchu yn ddwyieithog. 3.18 Fel mater o arfer da, argymhellir bod yr holl gyhoeddiadau generig (e.e. ffurflenni enwebu, cardiau pleidleisio, ceisiadau am bleidleisio drwy’r post, pleidleisiau post ac ati) yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog. Mae agwedd o’r fath yn cynnig dewis o iaith i aelodau’r cyhoedd wrth ymdrin â’r awdurdod lleol ac yn atgyfnerthu’r egwyddor fod cydraddoldeb ieithyddol yn rhan hanfodol o’r agenda cydraddoldeb yng Nghymru.

    Iaith (Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill) 3.19 O dan y fframwaith gyfreithiol gyfredol, dim ond Cymraeg a Saesneg y gellir eu defnyddio ar ffurflenni swyddogol, gan gynnwys y cerdyn pleidleisio, y papur pleidleisio a hysbysiadau’r orsaf pleidleisio. Gellir gweld yr union eiriad i’w ddefnyddio (ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg) yn y rheoliadau perthnasol. 3.20 Awgrymir yng nghanllawiau’r Swyddfa Gartref i Swyddogion Canlyniadau (2001) na ddylai’r ffurflenni statudol gael eu cyfieithu i unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg:

    Awgryma’r ffaith fod fersiynau Cymraeg y ffurflenni statudol yn cael eu pennu mewn deddfwriaeth, lle bo ffurflen yn cael ei phennu yn y Saesneg, na ddylid ei chyfieithu i iaith arall oni bai fod cyfieithiad hefyd yn cael ei bennu.

    Swyddfa Gartref, 2001 3.21 Ond rhaid nodi y gall deunyddiau canllaw gael eu cynhyrchu mewn gwahanol ieithoedd fel ag y gall ffurflenni eraill nad ydynt yn cael eu pennu gan y ddeddf. Gall y rhain gael eu defnyddio ar y cyd â ffurflenni swyddogol, i gynorthwyo pobl i’w llenwi. 3.22 Mae Law and Conduct of Elections gan Parker, ffynhonnell gyfeirio allweddol i weinyddwyr etholiadol, yn crybwyll papurau enwebu yn benodol ac yn awgrymu pe bai papur enwebu yn cael ei gyflwyno mewn iaith na allai’r Swyddog Canlyniadau ac ymgeiswyr eraill ei ddarllen, y byddai hyn yn atal ymgeiswyr eraill rhag gwrthwynebu dilysrwydd yr enwebiad hwnnw a’r Swyddog Canlyniadau rhag penderfynu ar ei ddilysrwydd. Ond a fyddech gystal â nodi fod gan ymgeiswyr ac asiantau sy’n ymladd etholiadau yng Nghymru hawl yn wir i gyflwyno dogfennaeth (e.e. papurau enwebu neu ffurflenni treuliau’r ymgeiswyr) naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

    Ystyriaethau cyffredinol 3.23 Dylai materion sy’n ymwneud â mynediad gael eu cymryd i ystyriaeth ar gyfer yr holl weithdrefnau etholiadol, wrth gynllunio etholiad, ar y diwrnod pleidleisio ei hun ac yn ystod y broses o gofrestru etholiadol. Mae’n bwysig i’r Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol a Swyddogion Llywyddu

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    ddefnyddio eu barn eu hunain a’u synnwyr cyffredin wrth ddatrys problemau yn ymwneud â mynediad. Mae’n anodd iawn darparu canllawiau cyffredinol i weddu i bob achlysur gyda’r amrywiaeth o awdurdodau lleol a’r mathau o broblemau ynglŷn â mynediad y deuir ar eu traws.

    Ymgynghori ac ystyriaethau

    3.24 Wrth ystyried mynediad at weithdrefnau etholiadol, mae’n hanfodol meddwl am ddemograffeg eich ardal eich hun ac anghenion mynediad pleidleiswyr, ymgeiswyr ac asiantau. Yng Nghymru, mae mynediad at wasanaethau etholiadol nid yn unig yn golygu darparu gwasanaethau o’r fath yn ddwyieithog i’r graddau y mae hynny’n rhesymol o ymarferol, ond mae ystyriaethau pellach yn cynnwys penderfynu ar nifer y pleidleiswyr hŷn a ph’run ai a oes grwpiau penodol o ddinasyddion o leiafrifoedd ethnig ac, os felly, pa ieithoedd y maent yn eu siarad? Mae cymunedau yn amrywio’n sylweddol drwy Gymru, gyda gwahanol broffiliau demograffig a daearyddol. Mae’n bwysig iawn fod unrhyw newidiadau mewn perthynas â phroblemau mynediad yn dod â budd i bawb, yn hytrach nag ychydig ar draul eraill. Dylid gweld problemau yn ymwneud â mynediad yng nghyd-destun yr etholiad yn gyffredinol. 3.25 Wrth ystyried materion yn ymwneud â mynediad, mae’n ddefnyddiol bob amser siarad â chyrff lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau o leiafrifoedd ethnig. Mae’n bosibl y bydd ganddynt brofiadau uniongyrchol o weithdrefnau etholiadol ac efallai y gallant awgrymu lleoliadau amgen ar gyfer gorsafoedd pleidleisio neu ffyrdd y gellir gwella llenyddiaeth etholiadol. Mae’n bwysig fod sianeli ar gael i bleidleiswyr gysylltu â’u gwasanaethau etholiadol yn uniongyrchol, fel y gallant gyflwyno eu syniadau i’w hystyried. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i siarad â fforymau gweithwyr anabl neu swyddogion sy’n ymdrin â materion cyfle cyfartal ble maent yn bodoli o fewn awdurdodau lleol unigol. Gellir cael cyngor proffesiynol oddi wrth archwilydd mynediad. 3.26 Mae cynllunio ymlaen llaw yn hanfodol er mwyn sicrhau’r hygyrchedd mwyaf posibl. Dylai hyn gynnwys nid yn unig mynediad i’r orsaf pleidleisio, ond mynediad at y broses etholiadol gyfan, gwybodaeth i bleidleiswyr a’r diwrnod pleidleisio ei hun.

    Hyrwyddo materion etholiadol

    3.27 Mae angen rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw gyfleusterau neu ddarpariaethau ar gyfer pleidleiswyr anabl, y rhai hynny gyda lefelau isel o lythrennedd a rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddynt, os yw pobl i wybod eu bod ar gael. 3.28 Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ymchwil annibynnol i’r ystod o weithgareddau a gyflawnir gan gynghorau lleol y DU i hyrwyddo materion etholiadol. Mae’r adroddiad hwn Making an Impact5 yn argymell o gofio am yr amcanion cyfathrebu yn y gwaith lleol o hyrwyddo materion etholiadol – hyrwyddo’r broses gofrestru, codi ymwybyddiaeth a pherswadio pobl i weithredu – y dylai deunyddiau hyrwyddo da anelu at gyflawni’r canlynol:

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    • defnyddio iaith sy’n briodol ac yn hygyrch i’r gynulleidfa – yng Nghymru dylai deunyddiau gael eu cynhyrchu yn ddwyieithog;

    • bod wedi eu cynhyrchu ar ffurf sy’n hygyrch i’r gynulleidfa; • cyfleu neges glir; • bod yn ddeniadol neu yn atyniadol i’r llygad; • bod yn eglur ynghylch pwy yr anelir hwy atynt; a • hybu gweithredu ar ran y gynulleidfa. 3.29 Mae’n werth cadw hyn mewn cof wrth gynhyrchu llenyddiaeth i hyrwyddo materion etholiadol ymysg unrhyw sector o’r boblogaeth. Mae Making an Impact yn cynnwys gwybodaeth bellach a syniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i faterion etholiadol. 3.30 Mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, argymhellir fel mater o arfer da y dylai deunydd dwyieithog ysgrifenedig gael ei gyhoeddi fel dogfennau unigol yn hytrach nag fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Ond os cyhoeddir dogfennau Cymraeg a Saesneg ar wahân, rhaid iddynt gael eu cyhoeddi ar yr un pryd a bod yr un mor hygyrch â’i gilydd. I gael canllawiau pellach, edrychwch ar eich Cynllun Iaith Gymraeg eich hun. 3.31 Mae’n bwysig hefyd cyflawni ymarferiadau i weld pa mor effeithiol yw cyhoeddusrwydd a darganfod beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Unwaith eto nid yw un dull cyffredinol ar gyfer pawb yn briodol ac ni fyddai’r hyn sy’n effeithiol mewn, er enghraifft, ardal drefol o anghenraid yn effeithiol mewn ardal wledig fechan.

    Dulliau o ddarparu gwybodaeth

    3.32 Dyma rai enghreifftiau: • gellir darparu gwybodaeth ar wefan y Cyngor am wasanaethau etholiadol

    a’r cyfleusterau sydd ar gael i gynorthwyo pobl anabl; • darparu llinell gymorth am wasanaethau etholiadol gyda rhif penodol –

    gallai fod yn werth ystyried penodi staff dwyieithog os yn bosibl a fyddai hefyd yn gallu ateb ymholiadau yn yr iaith Gymraeg;

    • darparu taflen ar wasanaethau etholiadol yn benodol a fydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl;

    • rhoi gwybodaeth ynglŷn â dulliau eraill o bleidleisio h.y. pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy i bobl y byddai’n well ganddynt bleidleisio fel hyn;

    • dosbarthu taflenni, posteri ac erthyglau i bapurau newydd i amrywiaeth o gyrff sy’n gweithio gyda grwpiau penodol o’r gymuned fel y gallant ddosbarthu gwybodaeth – er enghraifft Age Concern, Papurau Llafar, Papurau Bro a grwpiau ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig;

    • cynhyrchu canllaw syml mewn Saesneg syml ar lenwi pleidleisiau post sy’n cynnwys symbolau i egluro sut i gwblhau a choladu’r gwaith papur angenrheidiol;

    • dylai cyhoeddusrwydd a strategaethau hysbysebu roi ystyriaeth i ystod y cymunedau lleol. Canfuwyd mai cyhoeddusrwydd trwy’r gair llafar sydd

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    fwyaf effeithiol, felly dylid defnyddio radio a theledu lleol pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Yn arbennig gyda dyfodiad darlledu digidol a chêbl, mae’n bosibl fod gorsafoedd radio neu deledu mewn iaith leiafrifol mewn ardaloedd lle ceir cymunedau mawr o leiafrifoedd ethnig; ac

    • mae erthyglau mewn papurau newydd lleol, gan gynnwys papurau newydd am ddim a phapurau cymunedol, a hysbysebion sydd wedi eu cyfieithu yn y wasg ar gyfer lleiafrifoedd ethnig i gyd yn ddefnyddiol.

    3.33 Rhaid nodi y dylai’r holl ddulliau o ddarparu gwybodaeth am etholiadau yng Nghymru gael eu paratoi yn ddwyieithog a hefyd y dylent roi ystyriaeth i unrhyw ieithoedd lleiafrifol a siaradir gan gymunedau lleol. 3.34 Dylid gwneud cyswllt uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol, gan gynnwys y rhai hynny ar gyfer yr henoed a phobl anabl, a siaradwyr Cymraeg (e.e. Mentrau Iaith). Mae’n bosibl fod rhwydwaith o gyhoeddusrwydd a chymorth o fewn y cymunedau yn bodoli’n barod.

    Defnydd o ieithoedd eraill

    3.35 Dyma enghreifftiau o arferion da ynglŷn â deunyddiau a chyhoeddusrwydd wedi eu cyfieithu ar gyfer cofrestru etholiadol: • cyhoeddwch daflenni i gyd-fynd â ffurflenni cofrestru etholiadol yn yr

    ieithoedd a siaradir gan y cymunedau lleol, yn egluro beth yw’r ffurf a sut i’w llenwi;

    • gall taflenni gyda lluniau ac sydd wedi eu hysgrifennu mewn iaith glir helpu amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anawsterau dysgu a lefelau isel o lythrennedd yn ogystal â’r rhai hynny sy’n siarad Saesneg fel ail iaith;

    • gellir dosbarthu hysbysiadau i atgoffa cartrefi nad ydynt yn ymateb mewn gwahanol ieithoedd hefyd;

    • ceisiwch recriwtio canfaswyr sy’n siarad yr ieithoedd a ddefnyddir yn y cymunedau ble byddant yn gweithio. Bydd hyn yn eu galluogi i ateb unrhyw gwestiynau y gall y bobl eu gofyn ar garreg y drws;

    • mae sesiynau hyfforddi i staff canfasio yn hanfodol a dylai hyn ymdrin â chofrestru pobl o gymunedau o leiafrifoedd ethnig;

    • dylid dosbarthu nodiadau canllaw i staff cofrestru etholiadol a fydd yn canfasio mewn ardaloedd lle ceir cymunedau o leiafrifoedd ethnig. Dylai hyn roi cyngor ynglŷn â chenedl a’r etholfraint gan sicrhau y cofrestrir unigolion priodol a sut i ymdrin â chwestiynau oddi wrth gartrefi o leiafrifoedd ethnig. Gellir dosbarthu cyhoeddiadau syml ynghylch sut i lenwi’r ffurflen gofrestru i staff canfasio yn Saesneg a’u cyfieithu i unrhyw ieithoedd eraill a ddefnyddir gan niferoedd mawr o bobl yn y gymuned;

    • efallai y bydd yn bosibl gofyn i’r tîm cyfieithiadau yn y cyngor (os oes un) i gysylltu ag unrhyw bobl yn eu cartrefi sy’n cael anawsterau gyda deall y ffurflen gofrestru;

    • dylid bod â chyhoeddusrwydd arbenigol ynghylch cofrestru treigl a’r angen i bobl gael eu cynnwys yn y gofrestr o etholwyr. Gellir cynnwys hyn mewn unrhyw bapurau newydd a gyhoeddir ymysg cymunedau o leiafrifoedd ethnig a hefyd ar orsafoedd radio lleol ac ym mhapur newydd y cyngor ei

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    hun. Gellid darparu posteri a thaflenni hefyd i ganolfannau yn y gymuned leol, meddygfeydd, temlau a mosgiau; a

    • dylid ystyried gosod y gofrestr o etholwyr mewn mannau sy’n cael eu mynychu gan aelodau o gymunedau o leiafrifoedd ethnig, gan gadw mewn cof y darpariaethau statudol ar gyfer arolygu’r gofrestr.

    3.36 Pwynt amlwg efallai, ond byddwch yn ymwybodol o’r gwahanol gymunedau ac ieithoedd yn eich ardal. Nid oes unrhyw bwynt mewn cynhyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd nad ydynt yn cael eu siarad yn eich ardal.

    Canllawiau a chyngor 3.37 Gellir cael canllawiau a chyngor ynglŷn â materion sy’n ymwneud â mynediad oddi wrth amrywiaeth o gyrff, a rhestrir rhai ohonynt isod. Yn ychwanegol, gallai grwpiau lleol ar gyfer pobl anabl a’r rhai hynny o gymunedau o leiafrifoedd ethnig gynnig cyngor a chymorth hefyd.

    Capability Scotland

    3.38 Mae Capability Scotland wedi cyhoeddi amrywiaeth o adroddiadau ar hygyrchedd etholiadau yn yr Alban. Mae hefyd wedi cynnal ‘Vote2004’, prosiect a gynhaliwyd i annog mwy o bobl anabl i bleidleisio yn etholiadau 2004. Gellir cael mwy o wybodaeth ar www.capability-scotland.org.uk.

    Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol

    3.39 Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CCH) yn gorff anllywodraethol a gyllidir yn gyhoeddus a sefydlwyd o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 i ymdrin â gwahaniaethu hiliol a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae’r CCH yn cyhoeddi codau ymarfer a safonau cydraddoldeb hiliol i helpu cyrff i ddatblygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion teg. Mae hefyd yn cynghori awdurdodau lleol ynghylch sut i osgoi gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.cre.gov.uk.

    Ymgyrch Saesneg Syml

    3.40 Mae’r Ymgyrch Saesneg Syml yn grŵp pwyso annibynnol sy’n anelu at sicrhau bod gwybodaeth gyhoeddus wedi ei hysgrifennu mewn Saesneg clir. Mae’r Ymgyrch yn cynnig gwasanaethau golygu yn ogystal â’r Nod Crisial i ddogfennau sydd wedi eu cymeradwyo. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.plainenglish.co.uk.

    RNIB

    3.41 Mae’r RNIB yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i bobl yn y DU sydd â nam ar eu golwg. Mae’r RNIB wedi cynhyrchu canllawiau print clir i wella mynediad i bobl ddall a rhai sy’n rhannol ddall. Mae crynodeb o’r canllawiau fel a ganlyn:

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    • mae dogfennau clir wedi eu hargraffu yn defnyddio isafswm o 12 pwynt, er bod RNIB yn argymell yn gryf y dylid defnyddio 14 pwynt i gyrraedd mwy o bleidleiswyr gyda phroblemau gyda’u golwg;

    • cadwch at ffontiau fel Arial y mae pobl yn arfer â hwy ac osgoi rhai hynod o addurniadol. Defnyddiwch lythrennau wedi eu tywyllu neu led-dywyllu yn hytrach na rhai ysgafn;

    • aleiniwch y testun i’r chwith a chadwch y gofod rhwngy llythrennau yn wastad;

    • sicrhewch fod gennych gyferbyniad da o ran lliw (e.e. teip du ar bapur gwyn neu felyn); a

    • defnyddiwch bapur heb fod yn loyw. 3.42 Gall yr RNIB gynnig canllawiau hefyd ynglŷn â chynhyrchu recordiadau tâp, Braille, e-destun a gwefannau hygyrch. Gellir cael gwybodaeth bellach yn www.rnib.org.uk am y materion hyn. Cynhwysir gwybodaeth bellach ynglŷn â mynediad at y broses bleidleisio i bobl ddall a rhai sydd â nam ar eu golwg ar ddiwedd yr adran hon.

    RNID

    3.43 Mae’r RNID yn cynrychioli pobl fyddar a thrwm eu clyw yn y DU. Gallant ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chyfathrebu gyda’r byddar. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.rnid.org.uk.

    Scope

    3.44 Mae Scope yn fudiad sy’n ymwneud ag anabledd yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, fe’i hadwaenir fel Scope Cwmpas Cymru. Ei nod yw i bobl anabl gael cyfartaledd. Mae Scope wedi cynnal yr ymgyrch ‘Polls Apart’, i wneud etholiadau yn hygyrch i bleidleiswyr anabl. Cynhyrchwyd adroddiadau ynglŷn â’r holl etholiadau cyffredinol ers 1992, a’r cynlluniau peilot a gynhaliwyd yn Mai 2002, Mai 2003 a Mehefin 2004. Gellir cael gwybodaeth bellach ar www.scope.org.uk.

    Bwrdd yr Iaith Gymraeg

    3.45 Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a’i brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd yn rheoleiddio Cynllun Iaith Gymraeg awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau cydymffurfiad blynyddol yn amlinellu pa mor llwyddiannus y buont o ran trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau etholiadol) i’r cyhoedd yn gyffredinol. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.welsh-language-board.org.uk.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    Y broses etholiadol

    Cofrestru etholiadol

    3.46 Mae gallu cofrestru fel etholwr yn sylfaenol i broses gyfan yr etholiad. Os nad yw etholwyr posibl yn medru llenwi eu ffurflenni a chofrestru am ba bynnag reswm, ni fyddant yn gallu pleidleisio ac felly byddant yn cael eu hatal rhag cael unrhyw fynediad pellach at y broses etholiadol. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i bobl gyda nam ar eu golwg sy’n eu hatal rhag darllen ffurflenni ac i’r bobl hynny sydd â lefelau isel o lythrennedd neu rai nad yw Saesneg yn famiaith iddynt. 3.47 Anfonir canfas blynyddol i bob cartref bob blwyddyn. Mae’n rhaid cynnwys llawer o wybodaeth ar ffurflenni cofrestru etholiadol ac oherwydd yr angen am ffurflenni dwyieithog yng Nghymru, mae hyn wedi golygu y defnyddiwyd print bach iawn, fel y gall yr holl wybodaeth gael ei chynnwys ar y ffurflen. Mae’r wybodaeth a gynhwysir wedi ei phennu yn ôl y ddeddf, sy’n golygu y gall ymddangos yn fiwrocrataidd ac yn anodd ei darllen i ddarllenwyr sy’n cael anawsterau wrth ddarllen neu ddeall Saesneg. 3.48 Gall pobl gael anawsterau wrth gwblhau’r ffurflenni cofrestru etholiadol am amrywiaeth o resymau. Efallai nad ydynt yn gallu gweld yr ysgrifen ar y ffurflenni neu ddeall y ffurflen. Mae hyn yn cynnwys pobl gyda lefelau isel o lythrennedd, yn ogystal â’r rhai hynny nad ydynt yn siarad Saesneg. Mae’n bosibl y bydd ar y bobl hyn angen cymorth ychwanegol wrth gwblhau’r ffurflenni neu gael canllawiau wedi eu cynhyrchu mewn ffurf wahanol os yn bosibl.

    Ffurflenni cofrestru etholiadol 3.49 Tra’n cydnabod cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth gyfredol, a’r anghenraid i gynhyrchu ffurflen i gyflawni’r hyn a nodwyd mewn rheoliadau, ble bo hynny’n bosibl dylai’r holl ffurflenni cofrestru etholiadol a ddosberthir yng Nghymru: • gael eu cynhyrchu yn ddwyieithog; • roi manylion am rif llinell gymorth y gall pobl ei ffonio os oes arnynt angen

    cymorth. Mae’n ddefnyddiol darparu rhif ffôn testun, cyfeiriad gwefan a chyfeiriad ebost hefyd;

    • cynnig cymorth gyda llenwi ffurflenni cofrestru i bobl sydd â nam ar eu golwg ac ar eu dysgu;

    • bod wedi eu hargraffu mewn ffont glir a defnyddio isafswm o 12 pwynt pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, er bod 14 pwynt yn haws ei ddarllen;

    • bod wedi eu hargraffu mewn inc du ar gefndir gwyn os yn bosibl; a • dylai fformatau eraill fod ar gael o wneud cais amdanynt. 3.50 Gall fod yn ddefnyddiol darparu nodiadau canllaw sy’n egluro sut i lenwi ffurflenni. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i’r holl etholwyr a gall ei gwneud yn bosib i gwtogi ar faint o destun sydd ar y ffurflen mewn gwirionedd. Dylai’r canllawiau fod ar gael hefyd yn ddwyieithog a chynnwys symbolau a lluniau. Bydd hyn yn helpu’r holl etholwyr, gan gynnwys y rhai hynny gyda lefelau isel o lythrennedd sydd â dealltwriaeth gyfyngedig o’r broses.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    3.51 Dylai fformatau eraill neu mewn ieithoedd lleiafrifol fod ar gael a dylid hysbysebu hyn ar y ffurflen. Gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnig cymorth hefyd i’r etholwyr hynny sy’n cael anawsterau wrth lenwi ffurflenni cofrestru etholiadol. 3.52 Mae rhai awdurdodau lleol wedi rhoi cynnig ar gofrestru ar y ffôn, i ganiatáu cadarnhau ar y ffôn mewn cartrefi lle na fu newid yn unrhyw rai o fanylion yr etholwyr. Wedi i’r manylion gael eu cadarnhau nid oes unrhyw ofyniad i’r ffurflen gael ei dychwelyd.

    Cofrestru treigl 3.53 Gellir rhoi cyhoeddusrwydd ar gyfer cofrestru treigl hefyd mewn unrhyw rai o’r ffyrdd a grybwyllwyd uchod. 3.54 Mae’r Comisiwn yn cynhyrchu ffurflenni dwyieithog ar gyfer cofrestru treigl, sydd hefyd ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformatau eraill. Mae’r rhain ar gael fel dogfennau PDF y gellir eu lawrlwytho ar wefan y Comisiwn a gellir eu harchebu hefyd. Mae manylion archebu ar gael ar ddiwedd yr adran hon.

    Pleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy

    3.55 Er bod yn well gan lawer o bobl, gan gynnwys pobl anabl, bleidleisio yn bersonol, mae’n fwy cyfleus i eraill bleidleisio drwy’r post neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan. Mae pleidleisio drwy’r post bellach yn agored i unrhyw un ac nid oes raid i unrhyw un roi rheswm am bleidleisio drwy’r post. 3.56 Oherwydd hyn dylid rhoi digon o gyhoeddusrwydd ynghylch pleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy, fel bod pobl yn ymwybodol o’r darpariaethau hyn ac yn gwybod sut i ymgeisio. Gellir gadael ffurflenni cais mewn amrywiaeth o leoedd fel bod gan bobl fynediad rhwydd atynt. Gellir cynhyrchu ffurflenni pleidleisio absennol mewn amrywiaeth o fformatau, i’w gwneud yn haws i bobl ymgeisio. 3.57 Mae’r Comisiwn yn cynhyrchu ffurflenni cais dwyieithog am bleidleisio drwy’r post a thaflenni i gyd-fynd â hyn ac maent ar gael hefyd mewn nifer o ieithoedd a fformatau eraill, gan gynnwys tâp sain, Braille a phrint bras ac maent ar gael am ddim. Mae’r taflenni ar gael hefyd fel dogfennau PDF y gellir eu lawrlwytho ar wefan y Comisiwn www.electoralcomission.org.uk. Mae manylion ynghylch eu harchebu ar gael ar ddiwedd yr adran hon. 3.58 Mae nifer cynyddol o bobl yn pleidleisio drwy’r post, oherwydd cynlluniau peilot yn ymwneud â phleidleisio post i gyd a’r ffaith y gall unrhyw un bellach ymgeisio. Mae llawer o Swyddogion Cofrestru Etholiadol bellach yn cynnwys nodiadau canllaw wrth anfon papurau pleidleisio drwy’r post. Darperir rhai o’r rhain ar ffurf ddarluniadol, a all fod yn ddefnyddiol i bob pleidleisiwr, gan gynnwys y rhai hynny gyda lefelau isel o lythrennedd.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    Cofrestru pobl gydag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl

    3.59 Cynhwysir canllawiau ynglŷn â chofrestru pobl gydag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl ar ddiwedd yr adran hon.

    Pŵer atwrnai

    3.60 Bu rhywfaint o ddryswch gan weinyddwyr etholiadol a phleidleiswyr ynghylch swyddogaeth y rhai hynny gyda phŵer atwrnai yn y broses etholiadol. Trafodir y mater hwn yn llawn ar ddiwedd yr adran hon.

    Cardiau pleidleisio

    3.61 Cardiau pleidleisio yw un o’r dulliau pwysicaf o gyfathrebu gyda phleidleiswyr. Mewn llawer o achosion, nid yw pleidleiswyr yn gwybod bod etholiad yn digwydd hyd nes bo cerdyn pleidleisio yn cael ei ollwng drwy eu blwch llythyrau. Oherwydd mai dyma’r sefyllfa, mae’n bwysig fod cardiau pleidleisio yn cael eu gwneud mor hawdd i’w darllen ac yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. 3.62 Pennir ffurf cerdyn pleidleisio (yn y Gymraeg a’r Saesneg) mewn deddfwriaeth. Gellir er hynny ddefnyddio ffurflen i gael yr un effaith. 3.63 Dyma awgrymiadau ar gyfer arfer da wrth gynhyrchu cardiau pleidleisio yng Nghymru: • dylid cynhyrchu cardiau pleidleisio yn ddwyieithog; • dylid cynhyrchu cardiau pleidleisio mewn print clir, mawr; • cynhwyswch rif llinell gymorth y gall pobl ei ffonio os oes ganddynt unrhyw

    ymholiadau a/neu gyfeiriad ebost; • ystyriwch gynnwys manylion ynghylch sut i ymgeisio am bleidlais drwy’r

    post neu bleidlais dirprwy ar y cerdyn pleidleisio a rhowch y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Mae’n amlwg fod hyn yn ddefnyddiol os anfonir cardiau pleidleisio allan ymhell cyn y dyddiad cau yn unig;

    • gall mapiau sy’n dangos lleoliad yr orsaf pleidleisio fod yn ddefnyddiol, yn arbennig os yw’r lleoliad wedi newid ers yr etholiad diwethaf. Os yw’r lleoliad wedi newid, mae’n bwysig tynnu hyn i sylw pleidleiswyr. Ni ddylai’r map fod mor fach fel bod etholwyr yn cael anhawster i’w ddarllen;

    • ystyriwch gynnwys unrhyw fanylion mynediad ar gardiau pleidleisio, gan roi ystyriaeth i faint y cerdyn pleidleisio i’w ddefnyddio. Er enghraifft gadewch i bobl wybod a yw’r orsaf pleidleisio yn hygyrch, fod ramp dros dro ar gael os oes angen, fod bythau isel a thempladau ar gyfer papur pleidleisio mewn print bras a thempladau pleidleisio cyffyrddol ar gael.

    Gorsafoedd pleidleisio

    3.64 Er gwaetha’r cynnydd mewn pleidleisio drwy’r post a chynlluniau peilot, mae mwyafrif yr etholwyr yn dal i bleidleisio’n bersonol mewn gorsafoedd pleidleisio. Felly, un o agweddau pwysicaf mynediad cyfartal yw sicrhau bod

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    gorsafoedd pleidleisio mor hygyrch â phosibl. Mewn byd delfrydol, byddai gan weinyddwyr etholiadol y dewis o ystod o adeiladau cwbl hygyrch, wedi eu lleoli yn gyfleus i etholwyr yn yr ardal, gyda pherchnogion yn barod i’w hurio fel gorsafoedd pleidleisio am bris isel. Yn anffodus, yn ymarferol, nid fel hyn y mae hi yn aml ac mewn llawer o ardaloedd, ychydig iawn o ddewis sydd ar gael. Yn yr un modd, nid yw’n ddymunol cau niferoedd mawr o orsafoedd pleidleisio ac amddifadu etholwyr o orsafoedd pleidleisio lleol cyfleus oherwydd bod problemau gyda mynediad. 3.65 Ond mewn llawer o ardaloedd gwnaed gwelliannau sylweddol gan weinyddwyr etholiadol i adeiladau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio i’w gwneud yn fwy hygyrch. Mae grantiau ar gael oddi wrth yr Adran Materion Cyfansoddiadol ar gyfer addasiadau dros dro i adeiladau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio ac er nad yw hyn yn ddelfrydol, gall hyn helpu mwy o bobl i fynd i mewn i orsaf pleidleisio nag a fyddai wedi gallu mynd fel arall. Mae manylion cyswllt ar gael ar ddiwedd yr adran hon. Wrth adolygu gorsafoedd pleidleisio, mae’n bwysig bod â rhestr o feini prawf a gytunwyd i’w hystyried.

    Arolwg o orsafoedd pleidleisio 3.66 Dylai adeiladau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio gael eu hadolygu yn rheolaidd. Mae’r Comisiwn yn argymell bod yr holl adeiladau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio yn cael eu hadolygu o leiaf bob pedair blynedd. Ond nid yw arolygon ynddynt eu hunain o lawer o ddefnydd os na weithredir o ganlyniad iddynt. 3.67 Mae rhai gweinyddwyr etholiadol wedi ei chanfod yn ddefnyddiol i ddefnyddio gwasanaethau swyddog mynediad y cyngor neu grwpiau lleol o bobl anabl wrth asesu adeiladau i’w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ddefnyddio arolygwyr adeiladu ac adnoddau ac arbenigedd iechyd a diogelwch y cyngor ei hun. Dylai Swyddogion Canlyniadau gysylltu â grwpiau o bobl anabl o’r ardal leol mewn arolygon, a dylai’r broses arolygu wedyn fod mor dryloyw ac mor agored â phosibl. Dylai arolygon gael eu gwneud yn gyhoeddus a dylid sefydlu rhaglen o waith trwsio a diweddaru i’r safleoedd mewn pryd ar gyfer y gyfres nesaf y gwyddys amdani o etholiadau.

    Rhestr o orsafoedd pleidleisio 3.68 Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cadw rhestr sy’n rhoi manylion am hygyrchedd eu gorsafoedd pleidleisio. Mewn un awdurdod, sicrheir bod y rhestr o orsafoedd pleidleisio ar gael i’r cyfryngau lleol, ymgeiswyr ac asiantau a hefyd i unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n gwneud ymholiadau. 3.69 Fel mater o arfer da, dylai Swyddogion Canlyniadau gadw rhestr o orsafoedd pleidleisio, yn disgrifio unrhyw broblemau gyda mynediad sy’n bodoli. Gallai hyn ddarparu sail ar gyfer rhestr o waith gwella. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd wrth ateb ymholiadau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd ynghylch a yw eu gorsaf pleidleisio eu hunain yn hygyrch. Gellir cyhoeddi’r rhestr hon, er enghraifft, drwy osod hysbysiad yn swyddfeydd y cyngor neu ei osod ar wefan y cyngor. Gellir sicrhau ei fod ar gael hefyd i’w archwilio’n gyhoeddus.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    Dewis adeiladau i’w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio 3.70 Yn draddodiadol, tuedda gorsafoedd pleidleisio i gael eu lleoli mewn adeiladau fel ysgolion, neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol. Ond nid oes unrhyw reswm pam na ddylid eu lleoli mewn adeiladau eraill, sydd â mynediad da ac sydd â lle addas sy’n caniatáu i etholwyr bleidleisio yn breifat. Mae adeiladau mor amrywiol â siopau pysgod a sglodion, tafarndai, temlau ac archfarchnadoedd wedi eu defnyddio’n llwyddiannus fel gorsafoedd pleidleisio. 3.71 Mae’n werth cadw llygad ar agor am unrhyw adeiladau newydd i ddarparu lleoliadau yn lle unrhyw orsafoedd pleidleisio sydd â phroblemau mynediad ynghlwm wrthynt. Mae’n bosibl fod adeilad cymunedol neu neuadd newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal a fyddai’n orsaf pleidleisio ddelfrydol. 3.72 Wrth ddewis adeiladau i’w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio i ddechrau neu wrth adolygu gorsafoedd pleidleisio presennol, dylid cymryd y ffactorau canlynol i ystyriaeth.

    Lleoliad yr adeilad 3.73 Mae lleoliad yr adeilad yn bwysig wrth ystyried a ddylai gael ei ddefnyddio fel gorsaf pleidleisio ai peidio. Os yn bosibl, mae angen iddo fod yn agos at ble mae pleidleiswyr yn byw a bod yn gwbl hygyrch. Dyma’r cwestiynau i’w gofyn: • A yw wedi ei leoli yn agos at ble mae’r rhan fwyaf o etholwyr yn yr ardal

    pleidleisio yn byw? • A yw ar frig neu ar waelod mynydd serth? • A oes mynediad addas ato o’r ffordd? • Os oes pafin, ac a oes palmant wedi ei ostwng yn agos? • A oes unrhyw gysylltiadau cyfleus o ran cludiant cyhoeddus?

    Cyfleusterau parcio 3.74 Mae llawer o etholwyr yn gyrru i’r orsaf pleidleisio, gan gynnwys pobl anabl, felly mae darparu lleoedd parcio yn bwysig mewn gorsafoedd pleidleisio. Dyma bwyntiau eraill i’w hystyried: • A oes cyfleusterau parcio digonol yn agos at fynedfa’r adeilad? • Os nad oes, a oes unrhyw le yn agos y gellid ei ddefnyddio ar gyfer parcio

    ar ddiwrnod pleidleisio yn unig? • Pa mor bell y mae etholwyr yn gorfod cerdded o’r maes parcio i’r orsaf

    pleidleisio? • A oes lle parcio wedi ei ddynodi ar gyfer yr anabl neu a ellid darparu un? • A oes palmant wedi ei ostwng o’r ardal barcio i’r orsaf bleidleisio?

    Llwybrau 3.75 Dylai’r ddynesfa o’r ffordd a’r lle parcio fod ag arwyneb caled, llyfn, na fyddai unrhyw un yn llithro arno, heb stepiau, tyllau na slabiau wedi torri ac ati. Ni ddylid bod ag unrhyw raddiannau serth yno a dylai’r ddynesfa fod wedi ei goleuo yn dda. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer etholiadau a gynhelir yn ystod misoedd y gaeaf, pan fo’r min nos a’r boreau yn dywyll a phan allai rhew fod o gwmpas. Gall arwynebau gyda graean arnynt fod yn anodd i ddefnyddwyr cadair olwyn.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    Mynedfa 3.76 Wrth gyrchu at y brif fynedfa i’r adeilad, dylid ystyried y canlynol: • A oes gan yr adeilad fynedfa wastad? • A oes unrhyw stepiau at y fynedfa i’r adeilad? • A yw’r grisiau wedi eu hamlygu mewn unrhyw ffordd? • A oes canllaw wrth y stepiau? • A ddarperir ramp parhaol? • Os nad oes un, a ellid darparu ramp dros dro yn ddiogel gyda graddiant

    addas, neu a oes mynedfa arall y gallai pobl anabl neu etholwyr eraill ei defnyddio?

    • A yw’r drws yn ddigon llydan i ddefnyddiwr cadair olwyn gael mynediad? • Pa mor drwm yw’r drysau i rywun bregus neu mewn oed ei agor? A fyddai

    angen iddynt gael eu dal ar agor?

    Y tu mewn i’r adeilad 3.77 Y tu mewn i’r adeilad, dylid ystyried y canlynol: • A oes unrhyw stepiau mewnol neu rwystrau i etholwyr? • A yw’r matiau wrth y drws yn wastad â’r llawr? Os nad ydynt a ellid eu

    symud? • A oes unrhyw beryglon eraill y gellid baglu drostynt? • A oes gorchudd llawr addas nad yw’n llithrig? A fyddai’n llithrig pan

    fyddai’n wlyb? • A oes unrhyw goridorau a allai fod yn anodd i unrhyw etholwyr sy’n

    defnyddio cadeiriau olwyn neu’r rhai hynny sy’n cael anhawster gyda cherdded eu tramwyo?

    • Ystyriwch gynllun yr offer pleidleisio yn yr ystafell sydd i gael ei defnyddio fel gorsaf pleidleisio. A oes digon o le yn yr ystafell i staff, offer pleidleisio a defnyddiwr cadair olwyn?

    • A oes digon o olau yn yr ystafell? Trowch y goleuadau i gyd sydd ar gael arnodd i brofi hyn. A oes angen unrhyw oleuadau ychwanegol?

    • Gall matiau symudol, llenni trwm sy’n llusgo ar y llawr, cymysgedd o garped a llawer pren gyda gwefusau rhyngddynt, a lloriau wedi eu sgleinio i gyd fod yn beryglon posibl. Os oes gan yr adeiladau unrhyw rai o’r nodweddion hyn, a ellid gwneud unrhyw beth i’w symud neu eu gwella?

    Gorsafoedd pleidleisio symudol 3.78 Weithiau, nid oes unrhyw ddewis arall ond defnyddio gorsaf pleidleisio symudol, fel portacabin. Mae dyluniadau mwy newydd yn fwy hygyrch, felly gallwch drafod hyn gyda’ch cyflenwr. Gallwch hefyd gysylltu â nifer o wahanol gyflenwyr i ddarganfod beth maent yn ei gynnig. 3.79 Gall generaduron uchel, a ddefnyddir weithiau mewn gorsafoedd pleidleisio symudol, achosi anawsterau i bobl fyddar, pan fônt yn pleidleisio, yn ogystal â bod yn annymunol i staff pleidleisio. Dylid osgoi defnyddio’r rhain os o gwbl yn bosibl.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    Gweithredu i wella gorsafoedd pleidleisio

    3.80 Cyn gynted ag y bo unrhyw broblemau wedi eu nodi, mae’n bwysig y gweithredir i’w goresgyn. 3.81 Argymhellwn y dylai gweinyddwyr etholiadol baratoi cynllun gweithredu i nodi gwelliannau a ffyrdd o’u gwneud. Gall gwelliannau parhaol i adeiladau fod o fudd i ddefnyddwyr drwy gydol y flwyddyn, yn hytrach na dim ond ar adeg etholiad. Ond mae gwelliannau parhaol yn anochel yn costio arian a gellir dadlau na ddylai’r Swyddog Canlyniadau fod yn gyfrifol am dalu am welliannau i adeilad a ddefnyddir ar gyfer etholiadau unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn unig, ond a ddefnyddir yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau eraill. 3.82 Mae rhai cynghorau wedi darparu grantiau mynediad i gyrff sy’n berchen ar adeiladau a ddefnyddir fel gorsafoedd pleidleisio, ar yr amod eu bod yn caniatáu i’r adeiladau gael eu defnyddio ar y diwrnod pleidleisio.

    Offer gorsafoedd pleidleisio

    3.83 Yn ogystal ag ystyried gorsafoedd pleidleisio, mae’n bwysig hefyd ystyried yr offer a ddefnyddir y tu mewn i’r orsaf pleidleisio ymhell cyn y diwrnod pleidleisio ei hun. 3.84 Dylai pob gorsaf pleidleisio fod â bwth pleidleisio isel i’w ddefnyddio gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae grantiau ar gael oddi wrth yr Adran Materion Cyfansoddiadol ar gyfer bythau pleidleisio i bleidleiswyr anabl. 3.85 Noda Atodiad B i’r Nodiadau Canllaw ar gyfer Treuliau Swyddogion Canlyniadau Gweithredol (Adran Materion Cyfansoddiadol, Chwefror 2005):

    Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau i’r pleidleisiwr gydag anableddau, ac er nad yw’r Uned Hawliadau Etholiadau fel arfer yn cymeradwyo cymorth grant i bryniadau sy’n fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol o ran y stoc y gellir ei ddefnyddio ar hyn o bryd, gwnaed darpariaeth ar gyfer sgriniau pleidleisio wedi eu haddasu’n arbennig. Gall yr Uned Hawliadau Etholiadau gymeradwyo cymorth grant hyd at uchafswm o un compartment unigol (sgrîn pleidleisio) ar gyfer pob gorsaf pleidleisio yn ychwanegol at eich cyflenwad presennol.

    Adran Materion Cyfansoddiadol

    3.86 Mae grantiau ar gael hefyd i ymdrin â 50% o gostau rampiau dros dro a dylid archebu’r rhain cyn y diwrnod pleidleisio. 3.87 Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu chwyddwydrau i etholwyr eu defnyddio wrth bleidleisio a gall hyn fod yn ddefnyddiol i gynorthwyo’r etholwyr hynny gydag namau ar eu golwg. Mae’n ddefnyddiol hefyd rhoi stribedi gwyn neu oleuog o amgylch y slotiau ar frig blychau pleidleisio, i’w gwneud yn haws i bobl weld ble i roi eu papurau pleidleisio.

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    3.88 Mae’n rhaid i bob gorsaf pleidleisio gael copi o’r ddyfais pleidleisio gyffyrddol. Dylid archebu’r rhain ymhell cyn y diwrnod pleidleisio. 3.89 Mae’n ofyniad cyfreithiol i arddangos o leiaf un fersiwn o’r papur pleidleisio print bras ym mhob gorsaf pleidleisio. Ond mae’n ddefnyddiol cyflenwi mwy nag un papur pleidleisio print bras. Gellir dangos un ar wal yr orsaf pleidleisio, mewn lle amlwg a gellir rhoi un neu ddau arall i bleidleiswyr fynd â nhw i’r bwth pleidleisio gyda nhw, i’w gymharu â’u papur pleidleisio eu hunain. Os yw’r rhain wedi eu lamineiddio, mae’n gymorth i’w hatal rhag cael eu rhwygo neu eu baeddu.

    Archebu gorsafoedd pleidleisio

    3.90 Mae cydweithrediad perchnogion adeiladau yn bwysig wrth sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch. Wrth archebu gorsafoedd pleidleisio, gall fod yn ddefnyddiol i atgoffa perchnogion adeiladau am y materion canlynol sy’n ymwneud â mynediad: • dylai unrhyw rampiau dros dro neu unrhyw gyfleusterau mynediad eraill

    gael eu rhoi yn eu lle ar gyfer y diwrnod pleidleisio; • os oes mynedfa ar wahân i’r adeilad ar gyfer pobl anabl, yna mae angen

    cadw hon ar agor ar gyfer y diwrnod pleidleisio; • os oes gan yr orsaf pleidleisio lawr wedi ei sgleinio ni ddylai hwn gael ei

    sgleinio cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn cadw’r perygl y bydd pleidleiswyr yn llithro i isafswm; a

    • dylid gofyn i berchnogion a ydynt yn ymwybodol o unrhyw broblemau arbennig ynglŷn â mynediad gyda’r adeilad a all achosi anawsterau ar y diwrnod pleidleisio.

    Staff gorsafoedd pleidleisio 3.91 Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio yw’r staff ar y llinell flaen y daw pleidleiswyr i gysylltiad â hwy; mewn llawer o achosion y rhain yw unig aelodau staff y Swyddog Canlyniadau y byddant yn eu cyfarfod yn bersonol. Mae’n bwysig felly fod staff yn cael eu hyfforddi i ymdrin yn effeithiol gyda gwasanaeth y cwsmer a materion yn ymwneud â mynediad. Dylai Clercod Pleidleisio, yn ogystal â Swyddogion Llywyddu, dderbyn hyfforddiant neu o leiaf briffiad ynglŷn â materion a gweithdrefnau mynediad. 3.92 Cydnabyddir yn llawn yr anawsterau a geir wrth recriwtio a hyfforddi staff pleidleisio digonol. Ond staff wedi eu hyfforddi’n dda a staff sy’n barod i estyn cymorth yw’r adnodd pwysicaf mewn gorsaf pleidleisio. Caiff staff pleidleisio eu recriwtio’n draddodiadol o blith staff y cyngor ac aelodau staff sydd wedi ymddeol. Ond pryd bynnag y bo hynny’n briodol, dylid gwneud ymdrechion i gyflogi staff pleidleisio a all gyfathrebu mewn un neu fwy o ieithoedd a ddefnyddir o fewn cymuned. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth ddarparu cymorth i etholwyr sy’n dymuno cyfathrebu yn y Gymraeg neu mewn iaith arall. Gall hyn olygu cyflogi technegau recriwtio y bwriedir iddynt annog ymgeiswyr o

  • Adran Dd, papur 3, Ionawr 2006

    amrediad eang o gymunedau. Yn yr un modd, mae’n bosibl y byddai rhai pobl anabl yn croesawu’r cyfle i wneud dyletswydd pleidleisio. 3.93 Mae rhai cynghorau yn darparu hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth am anabledd i’r holl staff pleidleisio. Gellir darparu hwn gan swyddog mynediad y cyngor neu gan grwpiau lleol o bobl anabl sydd â’r arbenigedd angenrheidiol. 3.94 Ond fel isafswm, dylai’r holl staff pleidleisio: • fod wedi eu hyfforddi i ddefnyddio templadau cyffyrddol a dylent fod yn

    ymwybodol o’r papur pleidleisio print bras; • fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cynllun yr orsaf