gweithredu ar fwlio action on bullying. cefndir background mae’r adroddiad hwn yn archwilio...

24
Gweithredu ar fwlio Action on bullying

Upload: chastity-armstrong

Post on 18-Jan-2018

226 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth o ymweliadau â 21 ysgol. Roedd y sampl yn cynnwys wyth ysgol uwchradd, 12 ysgol gynradd ac un ysgol arbennig. Mae’r ysgolion yn cynrychioli ystod o ddeilliannau arolygu. Yn ychwanegol, darparwyd dogfennau perthnasol gan saith ysgol, gan gynnwys eu cynllun cydraddoldeb strategol a pholisïau yn gysylltiedig â bwlio. Ymwelodd arolygwyr ag un awdurdod lleol yn dilyn nodi astudiaeth achos arfer orau. This report is based on evidence from visits to 21 schools. The sample included eight secondary schools, 12 primary schools and one special school. The schools represent a range of inspection outcomes. In addition seven schools provided relevant documentation, including their strategic equality plan and policies related to bullying. Inspectors visited one local authority following the identification of a best practice case study.

TRANSCRIPT

Page 1: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Gweithredu ar fwlioAction on bullying

Page 2: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Cefndir Background• Mae’r adroddiad hwn yn

archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n benodol at fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig disgyblion, sef:

oedran anabledd ailbennu rhywedd priodas a phartneriaeth sifil beichiogrwydd a mamolaeth hil crefydd neu gred rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

• This report examines the effectiveness of action taken by schools to address bullying, with particular reference to bullying on the grounds of pupils’ protected characteristics:

age disability gender reassignment marriage and civil partnership pregnancy and maternity race religion or belief sex and sexual orientation.

Page 3: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Cefndir Background• Mae’r adroddiad hwn wedi’i

seilio ar dystiolaeth o ymweliadau â 21 ysgol. Roedd y sampl yn cynnwys wyth ysgol uwchradd, 12 ysgol gynradd ac un ysgol arbennig. Mae’r ysgolion yn cynrychioli ystod o ddeilliannau arolygu. Yn ychwanegol, darparwyd dogfennau perthnasol gan saith ysgol, gan gynnwys eu cynllun cydraddoldeb strategol a pholisïau yn gysylltiedig â bwlio. Ymwelodd arolygwyr ag un awdurdod lleol yn dilyn nodi astudiaeth achos arfer orau.

• This report is based on evidence from visits to 21 schools. The sample included eight secondary schools, 12 primary schools and one special school. The schools represent a range of inspection outcomes. In addition seven schools provided relevant documentation, including their strategic equality plan and policies related to bullying. Inspectors visited one local authority following the identification of a best practice case study.

Page 4: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Mae gormod o ddisgyblion yn dioddef o fwlio ar ryw adeg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Gall effeithiau cael eich bwlio fod yn rhai tymor byr neu dymor hir, yn seicolegol neu’n gymdeithasol, ac maent yn aml yn arwain at dangyflawni neu broblemau presenoldeb. Mae grwpiau penodol o ddisgyblion yn wynebu risg uwch na’r cyffredin o gael eu bwlio, gan gynnwys :

disgyblion ag anghenion arbennig neu anabledd;

disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; a

disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol neu grefyddol.

• Too many pupils suffer from bullying at some point during their time in school. The effects of being bullied can be short or long-term, psychological or social, and often result in underachievement or attendance problems. Certain groups of pupils are at a higher-than-average risk of being bullied, including:

pupils with special needs or a disability;

lesbian, gay, bisexual and transgender pupils; and

pupils from a minority ethnic or religious background.

 

Page 5: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Mae profiadau disgyblion o fwlio a’r ffyrdd y mae ysgolion yn delio ag ef yn amrywio’n eang. Mewn llawer o ysgolion uwchradd, gallai pa mor dda y mae staff yn delio â bwlio amrywio o fewn ysgol hefyd. Hyd yn oed mewn ysgolion sydd â strategaethau cadarn i fynd i’r afael â bwlio, yn aml, nid oes dealltwriaeth ar y cyd o bwysigrwydd y nodweddion gwarchodedig na’u goblygiadau cyfreithiol.

• Pupils’ experiences of bullying and the ways in which schools deal with it vary widely. In many secondary schools, how well staff deal with bullying may also vary within a school. Even in schools that have robust strategies to address bullying, there is often not a common understanding of the importance of the protected characteristics or their legal implications.

Page 6: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Mae disgyblion yn adrodd am lai o achosion o fwlio, yn gyffredinol ac ar sail y nodweddion gwarchodedig, mewn ysgolion lle ceir ethos cryf sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

• Ceir cyswllt agos rhwng y modd y mae disgyblion yn trin ei gilydd a pha mor dda y mae arweinwyr yn cyfleu disgwyliadau am ymddygiad disgyblion. Mae’r ysgolion gorau yn defnyddio dull rhagweithiol o atal bwlio a lliniaru ei effeithiau pan fydd yn digwydd.

• Pupils report lower instances of bullying, both generally and on the grounds of the protected characteristics, in schools where there is a strong ethos that promotes equality and diversity.

• There is a close link between how pupils treat one another and how well leaders communicate expectations about pupil behaviour. The best schools take a proactive approach to preventing bullying and to mitigating its effects when it occurs.

Page 7: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Ychydig iawn o ysgolion sy’n ymgynghori â grwpiau o ddisgyblion i gael darlun go iawn o raddau a natur bwlio yn yr ysgol. Mae’r ysgolion gorau yn defnyddio ystod o ddulliau i gasglu barn disgyblion, rhieni neu ofalwyr, a staff am fwlio.  

• Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd, nid oes gan staff ddarlun clir o raddau’r bwlio geiriol sy’n digwydd neu’r math o iaith a ddefnyddir yn rheolaidd fel ffurf o sarhad. Mewn lleiafrif o ysgolion uwchradd, nid yw staff yn trin sylwadau a all achosi tramgwydd yn ddigon difrifol.

• Very few schools consult with groups of pupils to gain a true picture of the extent and nature of bullying at the school. The best schools use a range of methods to collect the views of pupils, parents or carers, and staff about bullying.  

• In a minority of primary schools, staff do not have a clear picture of the extent of verbal bullying that takes place or the sort of language that is used routinely as a form of insult. In a minority of secondary schools, staff do not treat remarks that can cause offence seriously enough.

Page 8: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn yr arolwg yn cadw cofnodion o achosion ymddygiadol a chofnod penodol o achosion o fwlio. Ychydig iawn o ysgolion cynradd sy’n categoreiddio achosion yn unol â’r nodweddion gwarchodedig. O ganlyniad, nid oes ganddynt ddarlun clir o batrymau ymddygiad dros gyfnod y gallant ei ddefnyddio i lywio cynllunio gwrth-fwlio.

• Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwybod wrth bwy i ddweud os ydynt yn gweld rhywun yn cael ei fwlio neu’n cael eu bwlio eu hunain. Wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, maent yn mynd yn llai hyderus y bydd yr ysgol yn gallu datrys problemau bwlio.

• Most schools in the survey keep records of behavioural incidents and a minority keep a specific record of bullying incidents. Very few primary schools categorise incidents according to the protected characteristics. As a result, they do not have a clear picture of patterns of behaviour over time that they can use to inform anti-bullying planning.

• Most pupils know whom to tell if they witness or experience bullying. As pupils get older, they become less confident that the school will be able to resolve bullying issues.

Page 9: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Ni chynllunnir ar gyfer datblygu cadernid yn ddigon da yn y cwricwlwm ysgol yn gyffredinol. Mewn llawer o ysgolion, mae’r cwricwlwm yn dathlu gwahaniaethau unigol, ond mae’n aml yn osgoi’r agweddau y mae staff yn teimlo’n llai hyderus yn eu trafod, fel homoffobia ac ailbennu rhywedd.

• Mae lleiafrif o ysgolion yn bryderus ynghylch amlygu problemau amrywiaeth. Mae’r agwedd hon yn golygu eu bod ond yn mynd i’r afael â phroblemau wrth iddynt godi, yn hytrach nag adeiladu arnynt yn y cwricwlwm mewn modd rhagweithiol.

• Developing resilience is not planned for well enough in the school curriculum generally. In many schools, the curriculum celebrates individual differences, but often shies away from the aspects that staff feel less confident in discussing, such as homophobia and gender reassignment.

• A minority of schools are anxious about highlighting diversity issues. This attitude means that they only tackle issues as they arise, rather than building them into the curriculum proactively.

Page 10: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, mae disgyblion a staff yn pryderu am y cynnydd mewn bwlio seiber, yn enwedig mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig.

• Mae bwlio seiber wedi creu mathau newydd o fwlio nad yw rhai staff yn gyfarwydd â nhw.

• Yn yr arfer orau, mae staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau y mae disgyblion yn eu defnyddio ac yn deall y potensial i’w camddefnyddio yn yr ysgol a thu hwnt.

• In most secondary schools, pupils and staff are concerned about the rise in cyberbullying, particularly in relation to the protected characteristics.

• Cyberbullying has created new forms of bullying that are unfamiliar to some staff.

• In the best practice, staff keep up‑to‑date with the technologies that pupils use and understand their potential for misuse inside and outside school.

Page 11: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Nid yw llawer o gynlluniau cydraddoldeb strategol ysgolion yn rhoi digon o sylw i’r ystod lawn o nodweddion gwarchodedig.

• Mae rhai ysgolion wedi cyfuno polisïau ymddygiad a gwrth-fwlio mewn un ddogfen. Yn yr enghreifftiau gorau, caiff y polisïau hyn eu deall yn dda ac maent yn nodi disgwyliadau’r ysgol ynglŷn â’r modd y dylai aelodau o gymuned yr ysgol drin ei gilydd. Mae’r ysgolion hyn yn gweld bwlio o fewn continwwm ymddygiad ac yn tueddu i ddelio ag ef yn fwy llwyddiannus.

• Many school strategic equality plans do not pay enough attention to the full range of protected characteristics.

• A few schools have combined behaviour and anti-bullying policies into a single document. In the best examples, these policies are well understood and set out the school’s expectations about how members of the school community should treat each other. These schools see bullying within a continuum of behaviour and tend to deal with it more successfully.

Page 12: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• In drawing up strategic equality plans many schools consult pupils, parents and staff, but few ask the views of groups linked to the protected characteristics.

• In many schools, governing bodies review progress towards meeting the strategic equality plan annually. However, the quality of this monitoring and the information provided to governors varies too much and is generally unsatisfactory.

• Wrth lunio cynlluniau cydraddoldeb strategol, mae llawer o ysgolion yn ymgynghori â disgyblion, rhieni a staff, ond prin yw’r rhai sy’n gofyn barn grwpiau sy’n gysylltiedig â’r nodweddion gwarchodedig.

• Mewn llawer o ysgolion, mae cyrff llywodraethol yn adolygu cynnydd tuag at fodloni’r cynllun cydraddoldeb strategol bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae ansawdd y monitro hwn a’r wybodaeth a roddir i lywodraethwyr yn amrywio gormod ac mae’n anfoddhaol ar y cyfan.

Page 13: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Er bod awdurdodau lleol wedi rhoi cymorth cychwynnol i ysgolion gyda llunio cynlluniau cydraddoldeb strategol, nid yw pob un ohonynt yn rhoi cymorth a chyngor parhaus trwy fonitro priodoldeb amcanion strategol ysgolion neu’r cynnydd tuag at eu bodloni yn ddigon da.

• Mae ansawdd yr hyfforddiant i sicrhau bod llywodraethwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol i fonitro cynlluniau ac amcanion cydraddoldeb strategol yn amrywiol.

• Dim ond rhai clystyrau o ysgolion sy’n cydweithio i baratoi cynlluniau cydraddoldeb.

• Although local authorities provided schools with initial support when drawing up strategic equality plans, not all provide ongoing support and advice through monitoring the appropriateness of objectives or progress towards meeting them.

• The quality of training to ensure governors meet their statutory responsibilities to monitor strategic equality plans and objectives is variable.

• Only a few clusters of schools collaborate when preparing equality plans.

Page 14: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Prif ganfyddiadauMain findings

• Mae llawer o ysgolion yn rhoi hyfforddiant i staff ar fwlio, er bod yr hyfforddiant yn tueddu i fod yn gyffredinol ac nid yw’n ymwneud yn benodol â’r nodweddion gwarchodedig. Pan fydd staff yn cael hyfforddiant penodol, maent yn gweld hyn yn ddefnyddiol. Mae ysgolion yn dweud nad oes hyfforddiant wyneb yn wyneb o ansawdd uchel, yn enwedig mewn perthynas â materion trawsrywiol. Nid yw llawer o ysgolion yn ymwybodol o ganllawiau defnyddiol Llywodraeth Cymru ‘Parchu Eraill’.

• Many schools train staff on bullying, although the training tends to be general and does not relate specifically to the protected characteristics. Where staff receive specific training, they find this useful. Schools report an absence of high-quality face‑to‑face training, especially related to transgender issues. Many schools are unaware of the Welsh Government’s useful guidance ‘Respecting Others’.

Page 15: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

ArgymhellionRecommendations

Dylai ysgolion: • godi ymwybyddiaeth am fwlio ar sail

nodweddion gwarchodedig gyda disgyblion, rhieni, staff, a llywodraethwyr a defnyddio dull mwy rhagweithiol o atal a lliniaru ei effeithiau (gweler Atodiad 3 am restr wirio);

• ymgynghori â disgyblion, rhieni, a phobl eraill i nodi graddau a natur bwlio yn yr ysgol a chytuno ar gynnwys cynlluniau cydraddoldeb strategol;

• cynllunio cyfleoedd sy’n briodol i oedran yn y cwricwlwm i drafod materion yn ymwneud â’r nodweddion gwarchodedig a meithrin gallu disgyblion i wrthsefyll bwlio;

Schools should: • raise awareness of bullying on the

grounds of protected characteristics with pupils, parents, staff, and governors and take a more proactive approach to preventing and mitigating its effects (see Appendix 3 of report for a checklist);

• consult pupils, parents, and others, to identify the extent and nature of bullying in the school and to agree the contents of strategic equality plans;

• plan age‑appropriate opportunities in the curriculum to discuss issues related to the protected characteristics and to build pupils’ resilience to bullying;

 

Page 16: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

ArgymhellionRecommendations

• sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth glir o raddau a natur y bwlio a allai ddigwydd yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio seiber;

• gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod sut i ddelio ag achosion o fwlio a’u cofnodi;

• cofnodi a monitro achosion o fwlio mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig a defnyddio’r wybodaeth hon i adolygu amcanion cydraddoldeb strategol; a 

• gwneud yn siŵr bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

• ensure staff have a clear understanding of the extent and nature of bullying that may take place in school, including cyberbullying,

• make sure that staff know how to deal with and record incidents of bullying;

• record and monitor incidents of bullying in relation to the protected characteristics and use this information to review strategic equality objectives; and 

• make sure all policies and procedures meet the requirements of the Equality Act 2010.

Page 17: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

ArgymhellionRecommendations

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:• ddarparu hyfforddiant a chymorth i

staff ysgolion i wella eu dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i goblygiadau; 

• darparu hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr ysgol i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i fonitro cynlluniau ac amcanion cydraddoldeb strategol; a 

• monitro ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau cydraddoldeb strategol ysgolion yn agosach. 

Local authorities and regional consortia should:• provide training and support for

school staff to improve their understanding of the Equality Act 2010 and its implications; 

• provide training and support for school governors to enable them to fulfil their statutory responsibilities to monitor strategic equality plans and objectives; and 

• monitor the quality and effectiveness of schools’ strategic equality plans more closely. 

Page 18: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

ArgymhellionRecommendations

Dylai Llywodraeth Cymru: • roi cyhoeddusrwydd i ganllawiau

‘Parchu Eraill’

The Welsh Government should: • publicise the ‘Respecting Others’

guidance

Page 19: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Arfer orauBest practice

Mae Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe wedi codi ymwybyddiaeth am y nodweddion gwarchodedig gyda disgyblion a rhieni. Fe wnaeth yr ysgol gynnwys disgyblion yn llwyddiannus wrth esbonio’r nodweddion gwarchodedig i rieni ac aelodau o’r gymuned leol.Mae’r effaith yn cynnwys y canlynol:• mae dealltwriaeth glir o’r nodweddion

gwarchodedig gan lawer o ddisgyblion, rhieni ac aelodau o’r gymuned leol erbyn hyn.

• cymerodd llawer ohonynt ran yn yr ymgynghoriad cyn drafftio’r cynllun cydraddoldeb strategol.

• gall llawer o ddisgyblion drafod materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hyderus ac mae ganddynt ddealltwriaeth glir o wahaniaethu ar sail y nodweddion gwarchodedig.

• mae rhai disgyblion hŷn yn monitro achosion o fwlio ac effaith y cynllun cydraddoldeb strategol ac yn cyfrannu at ei adolygiad.

Hafod Primary School in Swansea has raised awareness of the protected characteristics with pupils and parents. The school successfully involved pupils in explaining the protected characteristic to parents and member of the local community.The impact includes:• many pupils, parents and members of the

local community now have a clear understanding of the protected characteristics.

• many participated in the consultation prior to drafting the strategic equality plan.

• many pupils can discuss issues of equality and diversity confidently and have a clear understanding of discrimination on the grounds of the protected characteristics.

• A few older pupils monitor instances of bullying and the impact of the strategic equality plan and contribute to its review.

Page 20: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

10 cwestiwn i ddarparwyr10 questions for providers

Ysgolion:• A ydym ni’n codi ymwybyddiaeth am fwlio

ar sail y nodweddion gwarchodedig gyda disgyblion, rhieni, staff, a llywodraethwyr ac a ydym yn rhagweithiol wrth atal a lliniaru ei effeithiau? (gweler Atodiad 3 yr adroddiad am restr wirio)

• A ydym ni’n ymgynghori â disgyblion, rhieni a phobl eraill, i nodi graddau a natur y bwlio yn yr ysgol a chytuno ar gynnwys cynlluniau cydraddoldeb strategol?

• A ydym ni’n cynllunio cyfleoedd sy’n briodol i oedran yn y cwricwlwm i drafod materion sy’n gysylltiedig â’r nodweddion gwarchodedig a magu cadernid disgyblion o ran bwlio?

Schools:• Do we raise awareness of bullying on the

grounds of protected characteristics with pupils, parents, staff, and governors and are we proactive in preventing and mitigating its effects? (see Appendix 3 of the report for a checklist)

• Do we consult pupils, parents, and others, to identify the extent and nature of bullying in the school and to agree the contents of strategic equality plans?

• Do we plan age‑appropriate opportunities in the curriculum to discuss issues related to the protected characteristics and to build pupils’ resilience to bullying?

 

Page 21: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

10 cwestiwn i ddarparwyr10 questions for providers

• A oes gan bob un o’r staff ddealltwriaeth glir o raddau a natur bwlio sy’n digwydd yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio seiber?

• A yw staff yn gyson yn y modd y maent yn delio ag achosion o fwlio ac yn eu cofnodi?

• Pa mor effeithiol ydym ni’n cofnodi ac yn monitro achosion o fwlio mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig ac a ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i adolygu amcanion cydraddoldeb strategol?

• A yw ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010?

• Do all staff have a clear understanding of the extent and nature of bullying that takes place in school, including cyberbullying?

• Are staff consistent in how they deal with and record incidents of bullying?

• How effectively do we record and monitor incidents of bullying in relation to the protected characteristics and do we use this information to review strategic equality objectives?

• Do all our policies and procedures meet the requirements of the Equality Act 2010?

Page 22: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

10 cwestiwn i ddarparwyr10 questions for providers

Awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol: • Pa mor effeithiol yw’r cymorth yr

ydym yn ei roi i staff a llywodraethwyr ysgol i wella eu dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i goblygiadau?

• A ydym ni’n monitro ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau cydraddoldeb strategol ysgolion yn ddigon da?

Local authorities and regional consortia: • How effective is the support we

provide to school staff and governors to improve their understanding of the Equality Act 2010 and its implications?

• Do we monitor the quality and effectiveness of schools’ strategic equality plans well enough?

Page 24: Gweithredu ar fwlio Action on bullying. Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion, gan gyfeirio’n

Cwestiynau...Questions…