gwasg gofal - vale of glamorgan · 2017. 8. 22. · gwasg gofal - mawrth 2014 2 2 gwasg gofal -...

12
1 Gwasg Gofal Cylchlythyr Gofalwyr Bro Morgannwg Mawrth 2014 Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 Y thema yn 2013 oedd “Hawliau, Cyngor, Cymorth.” Er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau: Stondin Gofalwyr yn Ysbyty Felindre - Yn ystod y clinig prysur a gynhelir bob bore dydd Mercher yn Felindre, darparwyd gwybodaeth a chynhaliwyd gweithgarwch er mwyn hyrwyddo hawliau Gofalwyr. Bu modd i ofalwyr ofyn cwestiynau a chael gwybodaeth. Stondin Gofalwyr yn Llyfrgell Y Barri – roedd Nigel Hughes o Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd a’r Fro ar gael trwy gydol y diwrnod i ateb cwestiynau gofalwyr ac i annog gofalwyr i gael asesiad o’u hanghenion. Bu hwn yn ddiwrnod llwyddiannus. Anfonwyd gwybodaeth at holl gyflogeion Cyngor y Fro ynghylch Polisi Gofalwyr sy’n Gweithio y Fro, yn ogystal â gweithgarwch cyfeirio ar gyfer y staff er mwyn eu helpu yn eu rôl(au) gofalu. Roedd Hyrwyddwyr Gofalwyr ar gael mewn rhai meddygfeydd er mwyn ateb unrhyw ymholiadau a oedd gan ofalwyr. Gwybodaeth Ymlaen Llaw: Cynhelir yr Wythnos Gofalwyr ar 9-15 Mehefin 2014. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.

Upload: others

Post on 24-Feb-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

1

Gwasg GofalCylchlythyr Gofalwyr Bro Morgannwg Mawrth 2014

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2013Y thema yn 2013 oedd “Hawliau, Cyngor, Cymorth.” Er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau:

Stondin Gofalwyr yn Ysbyty Felindre - Yn ystod y clinig prysur a gynhelir bob bore dydd Mercher yn Felindre, darparwyd gwybodaeth a chynhaliwyd gweithgarwch er mwyn hyrwyddo hawliau Gofalwyr. Bu modd i ofalwyr ofyn cwestiynau a chael gwybodaeth.

Stondin Gofalwyr yn Llyfrgell Y Barri – roedd Nigel Hughes o Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd a’r Fro ar gael trwy gydol y diwrnod i ateb cwestiynau gofalwyr ac i

annog gofalwyr i gael asesiad o’u hanghenion. Bu hwn yn ddiwrnod llwyddiannus.

Anfonwyd gwybodaeth at holl gyflogeion Cyngor y Fro ynghylch Polisi Gofalwyr sy’n Gweithio y Fro, yn ogystal â gweithgarwch cyfeirio ar gyfer y staff er mwyn eu helpu yn eu rôl(au) gofalu.

Roedd Hyrwyddwyr Gofalwyr ar gael mewn rhai meddygfeydd er mwyn ateb unrhyw ymholiadau a oedd gan ofalwyr.

Gwybodaeth Ymlaen Llaw: Cynhelir yr Wythnos Gofalwyr ar 9-15

Mehefin 2014. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn.

Page 2: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

22

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

3

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn, cynhaliodd Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro lansiad swyddogol y rhifyn diweddaraf o’n canllaw poblogaidd, Where You Stand.

Yn ystod y digwyddiad, bu Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid yn Llywodraeth Cymru, yn sôn am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfeirio at gymorth priodol i deuluoedd sy’n cynnwys perthynas anabl.

Yn ogystal, bu Dawn Gullis o Mencap Cymru yn pwysleisio pa mor werthfawr yw canllaw o’r fath er mwyn helpu teuluoedd ac unigolion i fanteisio ar y cymorth y mae ganddynt yr hawl i’w gael.

Ynddo, nodir manylion ynghylch sut i fanteisio ar wasanaethau, ble i gael ffynonellau cymorth a chyngor a ble i gael cymorth amgen, ynghyd â manylion cyswllt cannoedd o grwpiau a sefydliadau defnyddiol.

Mae modd gweld copi o’r canllaw ar-lein trwy droi at www.whereyoustand.org neu mae ar gael

yn rhad ac am ddim i bob gofalwr a theulu sy’n cynorthwyo rhywun y mae ganddynt anabledd dysgu ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, mae’r Ffederasiwn Rhieni yn cydlynu amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ofalwyr.

Os oes gennych chi anabledd dysgu neu os ydych yn gofalu am rywun y mae ganddynt anabledd dysgu, cysylltwch â’r Ffederasiwn Rhieni ar 02920 227800 neu anfonwch e-bost atom, [email protected] i gael eich copi am ddim.

Lansio canllaw Gwybodaeth i Ofalwyr o’r enw Where You Stand

EXTEND yn The Gathering Place, Sain TathanMae EXTEND yn helpu i annog pobl o bob siâp a maint i wella’u hiechyd cyffredinol ac i gynnal eu hannibyniaeth a’u symudedd mewn awyrgylch pleserus! Dyma rai o’r manteision:

• gwella ansawdd bywyd trwy barhau i fod yn egnïol

• gwella cydbwysedd ac ystwythder

• mwy o symud a symudedd

• gwell ystum corff a chydsymud

• cymorth gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol cymwys

• gweithgarwch cymdeithasol pleserus a gwerth chweil

• hwyl a chyfeillgarwch

Bydd dosbarth Extend newydd yn cychwyn ym mis Chwefror 2014 rhwng 2 a 3pm yn The Gathering Place, Sain Tathan. Dilynir y dosbarthiadau gan baned a sgwrs. Mae cyfleusterau ar gyfer yr anabl ar gael yn The Gathering Place ac mae croeso i bobl mewn cadair olwyn gan bod pob dosbarth yn cynnwys o leiaf 20 munud o ymarferion yn eistedd.

Os oes gennych chi unrhyw gyfyngiadau corfforol, rhowch wybod i ni. Rydym wedi cael ein hyfforddi i sicrhau eich bod yn gwneud ymarfer corff o fewn eich cyfyngiadau. Rydym yn darparu ymarferion haws, amgen neu yn eistedd pryd bynnag y bo hynny’n briodol. Y Gost fydd £3.00 y sesiwn, er y bydd y dosbarth cyntaf am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Shirley: 01446 751077 [email protected]

Page 3: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

22

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

3

Datblygu Cymorth Adfer ym Mro Morgannwg!

Roedd Ymgynghoriad 2013 ynghylch Gwasanaethau i Ofalwyr wedi dangos bod gofalwyr y maent yn wynebu problemau gyda chyffuriau ac alcohol yn awyddus i gael gwybod am yr help a’r cymorth sydd ar gael. Yn ddiweddar, mae Recovery Cymru wedi sicrhau eiddo yn Y Barri, ac yn yr erthygl hon, byddant yn amlinellu’r help sydd ar gael i ofalwyr trwy’r prosiect newydd hwn.

Cymuned adfer hunangymorth newydd, a arweinir gan gymheiriaid!

Mae Recovery Cymru yn elusen gofrestredig sy’n cynorthwyo pobl sy’n adfer neu y maent yn ceisio adferiad yn dilyn problemau cyffuriau ac alcohol, a phroblemau cysylltiedig. Mae gennym gymuned adfer lewyrchus yng Nghaerdydd ac rydym yn teimlo’n gyffrous am y ffaith ein bod yn datblygu ein gweithgareddau ym Mro Morgannwg.

Caiff ein holl grwpiau a’n gweithgareddau eu datblygu a’u rhedeg gan bobl y mae ganddynt brofiad o adfer ac eiriolwyr adfer. Rydym yn cynnal amrediad o grwpiau, gweithgareddau a digwyddiadau, yn ogystal â chanolfan gymunedol adfer lewyrchus. Ein nod yw datblygu Recovery Cymru ym Mro Morgannwg ar sail ein hegwyddorion sylfaenol, ond mewn ffordd sy’n caniatáu i bobl Bro Morgannwg gyfrannu at, cynllunio a rhedeg gweithgareddau sydd fwyaf addas i’w hanghenion a’u buddiannau. Mewn geiriau eraill, ‘i roi eu stamp nhw arnynt’!

Mae’n hathroniaeth yn gadarnhaol ac yn gynhwysol, gan rymuso a pheidio barnu - er bod ein grwpiau

cymorth ar gyfer pobl y mae ganddynt neu y maent wedi cael problemau gyda chyffuriau a/neu alcohol yn benodol, mae’n grwpiau gweithgarwch yn agored i ffrindiau, teulu a phobl sy’n adfer yn dilyn problemau eraill, cynorthwywyr adfer - yn wir, unrhyw un sy’n hoffi’r hyn yr ydym yn ei wneud. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fanteision gwirfoddoli i’r ddwy ochr, ac rydym yn cynnig amrediad o gyfleoedd i bobl sy’n adfer ac sy’n ceisio adferiad, ffrindiau, aelodau teuluol ac eiriolwyr adfer.

Yn ddiweddar, rydym wedi sicrhau safle yn 232 Heol Holton, Y Barri, a fydd yn gweithredu fel canolfan gychwynnol ein cymuned sy’n tyfu. Rydym wedi dechrau cyfarfod gofalwyr, gan nodi anghenion a buddiannau, a byddwn yn sefydlu grwpiau ac yn gwneud gwaith i adnewyddu’r adeilad. O’r ganolfan hon, ein nod yw datblygu grwpiau lloeren ar draws y Fro. Mae’r cam cynnar hwn o ddatblygu’r prosiect yn amser creadigol, prysur a chyffrous iawn i aelodau, gwirfoddolwyr a staff, ac rydym yn dymuno gweld cymaint o ofalwyr ag y bo modd yn cymryd rhan ym mhob cam! Yn ogystal, bydd ‘Cymuned RC y Fro’ yn manteisio ar gymorth llawn ‘Cymuned RC Caerdydd’ ac rydym yn dymuno i’r rhain fod yn gysylltiedig ym mha bynnag ffyrdd ag y bo modd.

Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am eich hun yr hoffech ei rhannu neu os hoffech drefnu cyfarfod a thrafod unrhyw beth arall, cysylltwch â ni. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae modd i chi ein ffonio neu anfon neges destun atom ar 07767 113705 neu droi at y wefan www.recoverycymru.org.uk

Recovery Cymru

Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg Arolwg Ar-lein - Manteisio ar eich Meddygfa

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cynnal arolwg cenedlaethol er mwyn casglu safbwyntiau cleifion am y ffyrdd y mae modd iddynt fanteisio ar eu Meddygfa.

Mae’r arolwg yn gofyn pa mor hawdd/anodd yw hi i gleifion gael apwyntiad ar gyfer materion iechyd brys ac arferol.

Yn ogystal, mae’r arolwg yn gofyn a fydd cleifion yn cael eu cyfyngu i drafod un mater iechyd fesul apwyntiad ac a ydynt yn teimlo bod hyn yn peri unrhyw anhawster wrth roi sylw i’w pryderon

iechyd cyffredinol.

Mae’r arolwg ar gael ar wefan CIC ac mae modd troi ato trwy’r ddolen arolwg a welir ar dudalen hafan CIC: www.communityhealthcouncils.org.uk

Os nad oes modd i chi droi at y rhyngrwyd, mae modd i chi fynegi eich barn o hyd trwy gysylltu â Swyddfa CIC ar 02920 377407 a gofyn am gopi papur yn y post.

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 31 Mawrth 2014.

Page 4: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

44

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

5

Dewch i feicio ar Drac Stadiwm Parc Jenner. Bydd Clwb Beicio Ymaddasol Y Fro yn cyfarfod bob dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 12 a 4pm, gan gychwyn ym mis Mawrth 2014. Mae gennym feiciau, treiciau a beiciau tandem ymaddasol arbenigol ac ati, sy’n galluogi plant ifanc, pobl ifanc ac oedolion y mae ganddynt anableddau amrywiol i fanteisio ar ac i fwynhau’r pleser o fynd ar gefn beic. Ceir rhodd awgrymedig fesul awr o £2.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cliff Hayes, Ffoniwch 01446 420533, anfonwch neges destun at:

07594 459940 neu anfonwch e-bost at [email protected]

Rhaglen Hunanreoli Cyflyrau Cronig/Gofalu amdanaf i - Cyrsiau i ofalwyrOs ydych yn Ofalwr ar gyfer ffrind neu berthynas ac os oes unrhyw rai o’r symptomau canlynol yn rhai cyfarwydd i chi: Straen • blinder • poen • cyhyrau tynn • iselder • bod yn fyr eich anadl • emosiynau anodd • gofid

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp am 2½ awr bob wythnos dros 6 wythnos neu am un gweithdy 3 awr neu gwrs iechyd a lles 1.5 awr er mwyn helpu gyda’r symptomau hyn.

Cynhelir cwrs chwe wythnos nesaf y Rhaglen Hunanreoli Clefydau Cronig (6 wythnos) yn: Neuadd Gymunedol Penarth Isaf gan gychwyn ar ddydd Mawrth 29 Ebrill 2014, rhwng 10.00am a 12.30pm

Cynhelir y cwrs Cyflwyniad i Hunanreoli (3 awr) nesaf yn: Llyfrgell Y Barri ar 7 Ebrill 2014 rhwng 13.30 a 16.30

Cynhelir y Gweithdai Iechyd a Lles (1.5 awr) nesaf yn : Llyfrgell Y Barri ar 1 Ebrill a 6 Mai 2014, y ddau rhwng 10.30 a 12.00

Arweinir y cyrsiau gan diwtoriaid hyfforddedig y mae ganddynt gyflwr iechyd eu hunain neu y maent yn gofalu am rywun y mae ganddynt gyflwr iechyd. Am wybodaeth bellach neu os hoffech archebu lle ar gwrs, cysylltwch ag EPP Cymru ar 02920 556028

A oes gennych chi blentyn y mae ganddynt anghenion ychwanegol?Trwy gofrestru gyda’r Fynegai Anabledd, byddwch yn cael gwybodaeth reolaidd am wasanaethau, grwpiau, gweithgareddau a chymorth ar gyfer eich plentyn. Rydym yn cynhyrchu cylchlythyr chwarterol ‘Y Fynegai’, lle y byddwn yn hysbysebu’r cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau a’r Cynllun Anabledd i Bobl Ifanc yn eu Harddegau, yn ogystal ag unrhyw glybiau chwaraeon, gwasanaethau a digwyddiadau newydd ar gyfer yr anabl. Mae modd i chi gysylltu â ni os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau hefyd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gweinyddwr ein Mynegai, Lee Parry: 01446 704736, e-bost: [email protected] a throwch at ein gwefan lle y mae modd i chi lawrlwytho ffurflen gofrestru: www.valeofglamorgan.gov.uk/disabilityindex

Mae’r Fynegai Anabledd yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Y Fro - siop gwybodaeth a chyngor un stop i rieni y mae ganddynt blant 0-20 oed: www.valeofglamorgan.gov.uk/fis

Clwb Beicio Ymaddasol

Y Froyn Stadiwm Parc Jenner

Y Barri, CF63 1NJ

Page 5: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

44

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

5

Chwaraeon Anabledd ym Mro MorgannwgFy enw i yw Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Bro Morgannwg. Rydw i’n gweithio yn Adran Hamdden a Thwristiaeth Cyngor Bro Morgannwg.

Fy nod yw trefnu cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws Bro Morgannwg.

Ar hyn o bryd, mae 36 o glybiau chwaraeon yn cynnig cyfleoedd chwaraeon i bobl anabl ar draws y Fro, gyda’r mathau o chwaraeon yn amrywio o bêl-droed, tenis a gymnasteg i Boccia, beicio a saethu laser. Cynhelir y clybiau trwy gydol yr wythnos ac maent oll yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a hwyliog sy’n addas fel chwaraeon i’r anabl.

Mae modd gweld manylion yr holl glybiau chwaraeon cymunedol yng Nghyfeiriadur Chwaraeon Anabledd Bro Morgannwg; mae modd i chi droi at hwn trwy gyfrwng y gwefannau canlynol, www.disability-sport-wales.org neu www.valeofglamorgan.gov.uk.

Os hoffech roi cynnig ar fath penodol o chwaraeon ac os nad yw’n cael ei gynnwys yng Nghyfeiriadur Chwaraeon Anabledd y Fro, mae modd i mi weithio gyda chlybiau chwaraeon prif ffrwd er mwyn eu helpu i fod yn gynhwysol.

Yn ogystal, rydw i’n cynorthwyo’r clybiau chwaraeon anabledd sy’n bodoli eisoes er mwyn eu helpu i hyrwyddo’u clybiau, fel bod modd iddynt gynyddu eu haelodaeth.

Rydw i’n gweithio ar brosiect cenedlaethol hefyd o’r enw ‘insport’, sy’n ceisio sicrhau bod chwaraeon yn

fwy cynhwysol ar draws Cymru. Os bydd clybiau chwaraeon cymunedol yn llwyddo i gyflawni’r gwahanol lefelau o fewn insport, mae modd i’r cynllun ddangos i ddarpar

bobl sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon pa glybiau sydd wedi bodloni’r safon.

Nid yw Chwaraeon Anabledd yn y Fro yn ymwneud â chymryd rhan yn unig, a byddaf wastad yn cadw golwg am wirfoddolwyr a hyfforddwyr posibl i helpu gyda’r clybiau chwaraeon cymunedol. Mae modd i weithgarwch gwirfoddoli amrywio o gynorthwyo hyfforddwr yn ystod sesiwn, cynorthwyo cyfranogwyr, cyflawni rôl gweinyddwr chwaraeon neu hyd yn oed yrru bws mini ar gyfer tîm pan fyddant yn teithio. Amser rhywun yw’r rhodd mwyaf gwerthfawr y gallant ei roi er mwyn helpu chwaraeon anabledd, felly gwerthfawrogir unrhyw amser y bydd rhywun yn dymuno’i roi yn fawr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Anabledd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â mi ar 01446 704728 neu [email protected] Mawr obeithiaf y byddaf yn clywed wrthych cyn bo hir

Bydd gwasanaeth bws hyblyg newydd, G1, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:15am a 6:15pm, gan gynnig gwasanaeth ar gyfer Llanilltud Fawr, y Bont-faen, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a’r pentrefi cyfagos. Ceir llwybrau awgrymedig bob dydd, y maent yn hyblyg gan ddibynnu ar y galw. Derbynnir cardiau teithio rhatach ar y gwasanaethau, gan alluogi deiliaid cardiau i deithio am ddim. Codir ffioedd am blant ar gyfer y gwasanaethau hyn hefyd. Ni fydd angen i chi fod yn aelod o Greenlinks er mwyn manteisio ar y gwasanaethau bws wythnosol.

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud erbyn 12:00 (canol dydd) o leiaf un diwrnod gwaith cyn y bydd

angen y cludiant. Hysbysir teithwyr o’r amser pan fyddant yn cael eu casglu o leoliadau y cytunir arnynt un diwrnod gwaith cyn teithio. Sylwer y gallai’r amser casglu amrywio gymaint â hyd at 10 munud y naill ochr i’r amser casglu y cytunwyd arno.

I wneud cais am sedd ar y gwasanaeth hwn, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 294 1113 rhwng 09:00 a 13:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. (Os na cheir unrhyw geisiadau, ni fydd y gwasanaeth yn rhedeg).

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth trwy droi at: www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/regeneration/rural_regeneration/greenlinks.aspx

Gwasanaeth Bws Wythnosol Greenlinks

Page 6: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

66

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

7

Problemau wrth Dorri eich Ewinedd eich hun

Mae gofal traed da yn hanfodol er mwyn helpu pobl hŷn i barhau i fod yn egnïol ac yn annibynnol. Ond mae nifer o ofalwyr yn ei chael hi’n anodd gofalu am eu traed o ganlyniad i nam ar eu golwg neu arthritis, neu’n syml, ni allant gyrraedd eu traed er mwyn torri ewinedd eu traed. Ni all bron i 1 o bob 3 person hŷn dorri ewinedd eu traed.

Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn datblygu gwasanaethau ewinedd (trwy Ymgynghori gyda BILl Caerdydd a’r Fro) er mwyn darparu gwasanaethau gofal traed sylfaenol i bobl hŷn Caerdydd a’r Fro.

Darparir y gwasanaeth gan ein cynorthwywyr torri ewinedd, y maent yn cael eu hyfforddi trwy gyfrwng cwrs hyfforddi a ddatblygwyd gan wasanaeth trin traed GIG sydd wedi ennill gwobrau, er mwyn cynorthwyo pobl i ofalu am eu hewinedd ac i ddarparu cyngor sylfaenol ynghylch gofal traed.

Darparu Gwasanaeth • Yn ystod yr apwyntiad cychwynnol, asesir y

cleient er mwyn gweld a ydynt yn apwyntiad / cyfeiriad priodol, ac os nad ydynt, caiff cyfeiriad ei wneud i’r gwasanaeth trin traed.

• Os bernir bod yr apwyntiad / cyfeiriad yn briodol, bydd y cleient yn llofnodi ffurflen a

fydd yn rhestru eu statws iechyd presennol a’u meddyginiaeth, ac a fydd yn rhoi eu caniatâd i’r driniaeth gofal traed a gynigir.

• Caiff hanes meddygol / meddyginiaeth y cleient ei archwilio yn ystod pob ymgynghoriad er mwyn sicrhau nad yw wedi newid.

• Bydd sesiwn torri ewinedd 15 / 20 munud yn costio £10 ar gyfer ewinedd traed neu ewinedd yn unig, neu £15 ar gyfer y ddau.

• Defnyddir torwyr ewinedd untro er mwyn bodloni gofynion hylendid.

Cymorthfeydd Torri Ewinedd Byddwn yn darparu cymorthfeydd rheolaidd yn y Barri yng Nghanolfan Feddygol Parc Highlight, Lakin Drive, Parc Highlight, CF62 8GP.

Yr hyn na allwn ei ddarparuGwasanaeth syml er mwyn torri ewinedd yw hwn. Ni allwn ddarparu:

• Help gyda phroblemau gofal traed fel cyrn neu chwyddau

• Gwasanaeth torri ewinedd ar gyfer unrhyw un y mae ganddynt gyflwr meddygol fel methiant yr arennau, problemau gyda chylchrediad y gwaed, hanes o friwiau neu y maent yn cymryd steroidau

• Gwasanaeth ar gyfer y rhai y mae ganddynt ddiabetes neu y maent yn cymryd warfarin, oni bai bod y feddygfa wedi asesu eu bod yn peri risg isel. (Mae gennym lythyr y bydd modd i chi ei gyflwyno i’ch meddyg).

Yn yr achosion hyn, rydym yn eich cynghori i ymweld â chiropodydd cofrestredig.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i fanteisio ar ein gwasanaeth, byddwn yn fodlon trafod hynny gyda chi. Am ragor o wybodaeth neu os hoffech wneud apwyntiad, ffoniwch 029 2056 0952.

Page 7: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

66

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

7

Cymdeithas Frenhinol y Lluoedd Awyr - Cyfeillgarwch, help, cymorthFel Swyddog Lles Mygedol ar gyfer Cymdeithas Frenhinol y Lluoedd Awyr yn y Fro, byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser i ddechrau yn ymweld â chyn-filwyr yr Awyrlu Brenhinol a / neu eu partneriaid, ar ôl cael cais i alw heibio i’w gweld. Yn ystod y sgyrsiau niferus yr ydw i wedi eu cael, mae hyn wedi arwain at ddarparu help mewn sawl maes. Fy hoff ffordd o esbonio hyn yw dweud bod yr ymweliadau hynny fel agor “Blwch Pandora”, lle y mae modd nodi sawl ffynhonnell o ran cymorth.

Ceir tîm o dri Swyddog Lles mygedol yng Nghangen RAFA Y Barri, y maent yn gweithio ar draws Bro Morgannwg ac y maent yn barod ac yn fodlon i ymweld â’r cyn-filwyr hynny o’r Awyrlu Brenhinol yn ein cymuned leol. Ein problem fwyaf yw rhoi gwybod i bobl ein bod yno i helpu. Mae fy nghydweithwyr yn y Lleng Brydeinig Frenhinol yn fodlon ymweld pan fydd angen disodli un o’r nwyddau gwyn hyn (eitemau fel: oergell, rhewgell, peiriant golchi dillad neu gwcer sydd wedi torri), a thalu amdanynt o’r casgliadau a wneir yn ystod casgliadau blynyddol y “Pabi”, ar gyfer y sawl a fu’n gwasanaethu yn unrhyw rai o’r Lluoedd Arfog.

Mewn achosion a welwyd yn ddiweddar, ceisiwyd cyllid elusennol er mwyn disodli matres blinedig iawn yr oedd rhywun yn cysgu arno, cadair godi a gogwyddo ar gyfer gŵr oedrannus, ac arweiniodd

gwaith trwsio toiled at geisio cyllid elusennol gan sawl elusen wahanol a oedd yn gysylltiedig gyda chyflogaeth blaenorol yr unigolyn penodol hwnnw. Mae amrywiaeth yr achosion y rhoddir sylw iddynt yn ddi-ben-draw ac rydw i ar ben arall y ffôn.

Yn ystod 2013, bu Cangen y Barri yn bwrw golwg balch yn ôl wrth iddi ddathlu ei Phen-blwydd yn 75 oed yn y gymuned. Agorodd Maer y Fro, Cynghorydd Margaret Wilkinson, nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd, yr oeddent yn dwyn sylw’r cyhoedd at waith Cangen y Barri o Gymdeithas yr Awyrlu Frenhinol, a’r gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau bod ein cyn-filwyr o’r Awyrlu Brenhinol a / neu eu partneriaid yn ymwybodol o’r ffaith bod help ar gael iddynt. Wrth i 2014 gychwyn, byddwn yn ceisio lledaenu’r neges yn y gymuned am y gwaith a wnawn. Dyma fy manylion cyswllt: ffôn: 01446 740522 neu e-bost: [email protected]

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Gyfamod Lluoedd Arfog y Fro trwy droi at: www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/armed_forces/Armed%20Forces%20Covenant.aspx

Mae’r wefan hon yn cynnig mecanwaith er mwyn sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt, yn lleol ym Mro Morgannwg ac yn fwy eang.

Hyfforddiant BywydRydym yn cynnig cyfle Hyfforddiant Bywyd gyda hyfforddwyr cymwys, a ariannir yn llawn, a fydd yn gallu eich helpu i...

• feithrin hyder• gwneud rhywbeth gwahanol• ail-ysgogi• meithrin sgiliau newydd

• helpu i oresgyn straen a gofid• cael diben newydd• teimlo’ch bod yn cael eich

gwerthfawrogi

I gael gwybod mwy, cysylltwch â: Phrosiect Cyngor Anabledd Ffôn: 01633 485865 e-bost: [email protected] www.dapwales.org.uk/life_coaching.htm

A ydych chi’n chwilio am ail gyfle ar ôl bod yn gofalu am un o’ch anwyliaid? A ydych chi’n gofalu am rywun o hyd ac yn teimlo bod angen i chi gael rhywbeth newydd yn eich bywyd? A ydych yn teimlo’n flinedig ac a oes angen help arnoch i ddelio gyda rhwystrau emosiynol a meddyliol?

Page 8: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

88

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

9

Gwastraff Clinigol

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw i gael ailasesiad o’m hanghenion ymataliaeth?Gan gymryd bod hyn ar gyfer claf unigol, yr unigolyn hwn fyddai’r Nyrs Ardal (NA). Mae modd i’r NA ailasesu anghenion sy’n newid o ran cyflenwadau ymataliaeth, gan gynnwys amsugnedd cynhyrchion, sut y maent yn ffitio, sut i’w storio a’r cynnyrch gorau ar gyfer y sefyllfa benodol. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu cynnydd o ran y ddarpariaeth, ond cynhyrchion mwy addas er mwyn rhoi sylw i ofynion clinigol. Ceir uchafswm o bedwar cynnyrch bob 24 awr.

A oes modd i chi ddweud wrthyf pryd/pam y dylwn i gysylltu â’m Nyrs Ardal a sut fyddwn yn gwneud hyn? Mae modd cysylltu â’r NA os bydd anghenion neu amgylchiadau’r claf yn newid. Gofynnir i’r holl gleifion ffonio’r Ganolfan Gyfathrebu gydag unrhyw ymholiadau ynghylch nyrsys ardal, a byddant yn anfon eich ymholiad ymlaen i’ch nyrs ardal. Y rhif ffôn ar gyfer y Ganolfan Gyfathrebu yw 029 20444501.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwastraff clinigol a gwastraff hylendid?Mae gwastraff clinigol yn cynnwys gwastraff meddygol a allai beri bygythiad i iechyd y cyhoedd oni bai ei fod yn cael ei waredu mewn ffordd gywir. Mae’n gategori o fewn gwastraff peryglus, ac mae’n rhaid ei gasglu dan amodau a reolir yn llym a’i waredu trwy ei losgi neu thrwy gyfrwng triniaeth wres amgen. Nid oes modd ei roi gyda gwastraff cartref arferol. Caiff y broses ei gorfodi mewn ffordd gyfreithiol gan Reoliadau llym gan y Llywodraeth.

Mae gwastraff clinigol yn cynnwys pedwar prif gategori:

• Meinwe, gwaed neu hylifau corfforol dynol neu anifeiliaid, neu garthion

• Gorchuddion neu swabiau

• Meddyginiaethau a chynhyrchion fferyllol eraill diangen

• Chwistrelli, nodwyddau a llafnau wedi’u defnyddio (‘eitemau miniog halogedig’)

Mae gwastraff hylendid yn wastraff meddygol domestig nad yw’n beryglus, sy’n deillio o fân anafiadau neu fân salwch, a chewynnau, padiau anymataliaeth a chadachau misglwyf. Dylid rhoi’r rhain mewn cwdyn du cryf ac yna, mae modd eu rhoi mewn cadi hylendid (gweler isod)

Pwy sy’n cyflenwi bin eitemau miniog?Bydd eich meddygfa (e.e. nyrs practis) yn darparu ‘blwch eitemau miniog’ nad oes modd ei dyllu

A oes modd i chi ddweud wrthyf beth sy’n cael ei roi mewn gwastraff clinigol a beth sy’n mynd allan mewn gwastraff hylendid?Mae gwastraff hylendid yn cynnwys eitemau megis cewynnau, padiau anymataliaeth a chadachau misglwyf. Mae modd i Gyngor y Fro ddarparu cadi cloadwy am ddim a bagiau du er mwyn storio’r math hwn o eitem hylendid ynddo. Ni ddylech ddefnyddio bagiau siopa er mwyn dal eitemau yn eich cadi.

A oes modd i chi ddweud wrthyf pwy sy’n casglu gwastraff clinigol a sut y mae modd i mi drefnu casgliad?Mae’ch Nyrs Ardal yn gyfrifol am lenwi ffurflen gyfeirio er mwyn trefnu casgliadau gwastraff clinigol. Bydd angen i chi ffonio Contractwr y Bwrdd Iechyd Prifysgol - SRCL – 0333 2404009, a hefyd, os ydych ar fin mynd ar eich gwyliau, dylech gysylltu ag SRCL i ganslo’ch casgliad. Nid yw Cyngor y Fro yn casglu gwastraff clinigol mwyach.

Pwy sy’n casglu gwastraff hylendid?Cesglir gwastraff hylendid gan Gyngor y Fro ar yr un diwrnod ag y bydd eich sbwriel (bagiau du) yn cael ei gasglu. Mae’r Fro yn darparu cadi hylendid

Rhaid i ofalwyr y maent yn delio gydag anwyliaid y mae ganddynt broblemau anymataliaeth ymdopi gyda nifer o wahanol bethau. Mae rhai gofalwyr wedi cysylltu â Gwasg Gofal yn gofyn am wybodaeth ynghylch y broses o gasglu gwastraff clinigol. Mae rhai o’r cwestiynau cyffredin wedi cael eu dwyn ynghyd, a rhoddir atebion byr iddynt.

Page 9: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

88

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

9

ond mae angen rhoi bag du cadarn yn hwn ac mae angen ei roi allan wrth ymyl y ffordd erbyn 7am ar y diwrnod pan gesglir bagiau sbwriel du. Dylech glymu’r cwdyn du cyn ei adael allan i’w gasglu.

A sut mae modd i mi gael cadi hylendid?Bydd angen i chi ffonio Contact One Vale 01446 700111 neu anfon e-bost at [email protected]

Ble mae modd i mi gael rhagor o wybodaeth?Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am gasgliadau gwastraff hylendid ar wefan Bro Morgannwg: www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/environment/recycling_and_waste/resident_

information/hygiene_caddies.aspx

Trwy droi at wahanol wefannau y byddai modd iddynt ddarparu gwybodaeth am ofal y bledren a neu ofal y coluddyn, sy’n benodol i anghenion yr unigolyn, megis:

www.ageconnectswales.org.uk www.bladderandbowelfoundation.org - elusen gyffredinol ar gyfer anghenion ymataliaethwww.dementiauk.org/what-we-do/admiral-nurseswww.eric.co.uk - plant ac enwresiswww.mssociety.org.uk www.promocon.co.uk - cyngor a chynhyrchion / cymhorthion ymataliaeth www.shinecharity.org.uk - spina bifidawww.spinal.co.uk - anafiadau i’r cefn

ABCD CymruKirstin Hampton yw gweithiwr achos newydd ABCD Cymru, elusen sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc Duon ac o leiafrifoedd Ethnig (BME) sy’n anabl a/neu sy’n dioddef salwch angheuol. Mae ABCD, a sefydlwyd ym 1991, yn gweithio gyda dros 400 o deuluoedd o 20 o wahanol gefndiroedd ethnig ac y maent yn siarad 30 o wahanol ieithoedd rhyngddynt.Mae ABCD yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl a’u rhieni a’u gofalwyr, y mae ganddynt bob math o namau gan gynnwys namau corfforol, anableddau dysgu, awtistiaeth, ADHD a salwch hirdymor.

Astudiaeth achos 1Nid oedd teulu (a gyfeiriwyd atom gan ddarparwr Teuluoedd yn Gyntaf) yn siŵr ynghylch pa fudd-daliadau y maent yn gymwys i’w cael, ac roedd angen cymorth arnynt. Mae gan y plentyn nychdod myotonig cynhenid. Nid oedd y teulu yn ymwybodol o’r ffordd y gallai’r gwasanaethau cymdeithasol helpu, a gwnaethom gysylltu â Rachel Salmon (cynghorydd cymorth i deuluoedd nychdod cyhyrol). Yn ogystal, gwnaethom gynghori’r teulu i gysylltu â’r Tîm Iechyd Plant ac Anabledd ynghylch gofal seibiant.

Roeddent yn dymuno gwybod pwy y dylent gysylltu â nhw er mwyn cael beic tair olwyn ar gyfer eu plentyn. Gwnaethom eu cynghori i gysylltu â Caudwell Children, a roddodd £1014 tuag at y gost. Bu sefydliadau eraill yn gysylltiedig, sef

Ymddiriedolaeth Goffa Joseph Patrick, lifeline4kids ac action4kids, a wnaeth helpu i godi’r swm ariannol a oedd yn weddill.

Gwnaethom roi cyngor a chymorth ynghylch y budd-daliadau y maent yn gymwys i’w cael gan nad oeddent yn ymwybodol o’r gostyngiad yr oedd modd iddynt fanteisio arno ar eu bil gan Ddŵr Cymru. Yn ogystal, gwnaethom helpu i sicrhau bod y wybodaeth ynghylch eu hawl i gael budd-daliadau yn gywir (sicrhawyd gwybodaeth gan Gyngor ar Bopeth) ond hefyd, ei bod yn y ffurf a’r iaith briodol er mwyn i’r teulu ei deall. Buom yn trafod gofal seibiant a dewisiadau tai gyda nhw (gan eu bod yn dymuno gwneud cais am gartref mwy priodol i’w plentyn) a gwnaethom eu cyfeirio at Snap Cymru am help a chymorth pellach gydag anghenion addysgol y plentyn a chymorth un i un yn yr ysgol.

Cawsant yr arian i brynu’r beic tair olwyn ac mae’r fam wedi dweud ei fod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd eu plentyn.

Roedd modd i’r fam gyfarfod rhieni eraill a oedd yn siarad yr un iaith ac a oedd yn dod o’r un cefndir crefyddol â hi. Roedd hyn wedi ei helpu i deimlo’n llai unig, gan wella’i gallu i ofalu am ei theulu, gan ei bod wedi bod yn dioddef iselder o ganlyniad i allgáu cymdeithasol a diffyg system gymorth. Llwyddodd i feithrin yr hyder i fynd â’i phlant allan yn gymdeithasol trwy gael cyswllt gyda’r cydlynydd Chwarae a Digwyddiadau yn ABCD Cymru. Gwnaethant oll fynychu digwyddiadau cymdeithasol

Page 10: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

1010

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

11

ABCD Cymru fel teulu, gan wella perthnasoedd teuluol a lles emosiynol y brodyr a’r chwiorydd nad ydynt yn anabl.

Rydym yma i helpu ac rydym yn cydweithio’n agos gyda gwasanaethau statudol a sefydliadau eraill mewn perthynas ag iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, hyfforddiant a chyflogaeth a meysydd cysylltiedig eraill.

Yn ogystal, rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol, sy’n cynnwys teithiau i Fyd Cadbury, Longleat ac yn fwyaf diweddar, aethom â grŵp o blant i’r pantomeim yng Nghaerdydd er

mwyn gweld Jac a’r Goeden Ffa. Rydym yn gwybod bod y digwyddiadau hyn yn rhan bwysig o fywydau teuluoedd pan fyddant yn teimlo fel pe baent ar eu pen eu hunain neu’n dioddef allgáu cymdeithasol.

Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg ac os ydych yn teimlo y gallech gael budd o’n gwasanaethau, neu os ydych yn cael anhawster i ddeall gwybodaeth oherwydd rhwystr ieithyddol, cysylltwch â ni- mae modd i ni helpu.

Cysylltwch ag ABCD Cymru ar 02920 250055 a siaradwch gyda Kirstin neu aelod o’r Tîm www.abcdcymru.org.uk

Gweithiwr Cymorth Dementia Cymdeithas Alzheimer y Fro

Fy enw i yw Katherine Davies a fi yw Gweithiwr Cymorth Dementia Cymdeithas Alzheimer y Fro ar gyfer ardal Gorllewin y Fro.

Beth mae hyn yn ei olygu?• Mae fy rôl yn ymwneud â darparu cymorth a

gwybodaeth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, gan gynnwys gofalwyr, aelodau teuluol a phobl y maent wedi cael diagnosis bod ganddynt ddementia.

• Yn ogystal, byddaf yn rhedeg Caffi Dementia, sy’n cynnig awyrgylch cyfeillgar ac ymlaciol i ofalwyr a phobl y mae ganddynt ddementia i gyfarfod ac i fwynhau’r cyfle i ddal i fyny a rhannu profiadau. Cynhelir y caffi ar ddydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 2 a 4 p.m. yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel, yr Hen Fans, Stryd Durrel, Llanilltud Fawr. CF61 1AD.

Pa wybodaeth a ddarparir?• Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion penodol y

sawl sy’n gwneud yr ymholiad, gan amrywio o wasanaethau a ddarparir gan Gymdeithas Alzheimer, Taflenni Ffeithiau, gwasanaeth

cyfeirio at sefydliadau perthnasol eraill a chymorth emosiynol, a llawer mwy.

Sut mae modd i mi fanteisio ar y gwasanaeth?• Gallwch ffonio Llinell Gymorth Cymdeithas

Alzheimer Caerdydd a’r Fro o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9 a.m. a 5 p.m., ac ar ddydd Gwener rhwng 9 a.m. a 4.30 p.m. (mae peiriant ateb ar gael), a byddant yn cysylltu â mi. Ffôn: 02920 434 960 Anfonwch e-bost ataf, [email protected] – dylech deipio “Cyfeiriad” yn llinell y testun.

Beth yw’r maen prawf er mwyn manteisio ar y gwasanaeth?• Mae’r 2 faen prawf hanfodol er mwyn manteisio

ar y gwasanaeth fel a ganlyn:

1. Diagnosis dementia.

2. Mae gofalwr (pan fo hynny’n berthnasol) wedi cael asesiad gofalwr neu’n cytuno ymgymryd ag asesiad gofalwr.

A ydych yn teimlo’n ansicr ynghylch cysylltu? Os bydd unrhyw rai o’r elfennau uchod yn berthnasol i chi, eich partner neu’ch cymar, rhywun yr ydych yn eu hadnabod neu aelod o’r teulu ac os hoffech gael gwybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â mi am sgwrs anffurfiol ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw ymrwymiad. Edrychaf ymlaen at glywed gennych. Katherine

Page 11: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

1010

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

11

Seibiant ar gyfer GofalwyrBob hyn a hyn, mae’n helpu’r gofalwr a’r sawl sy’n cael y gofal i gael seibiant haeddiannol. Mae gofal seibiant yn datblygu i fod yn angen cynyddol yn y gymuned, ond nid yw bob amser yn rhywbeth y bydd pobl yn ei ddeall, felly dyma esboniad byr:

“Seibiant yw gofal tymor byr a ddefnyddir fel dewis amgen i drefniadau gofal arferol rhywun. Mae’n cyfeirio at yr unigolyn sy’n cael gofal neu berthynas neu ffrind sy’n gofalu am rywun arall.

Wrth i fwy a mwy o deuluoedd ymrwymo i gynorthwyo perthnasau i barhau i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned, mae modd i’r pwysau gronni o ganlyniad i anghenion cynyddol yr unigolyn sy’n derbyn gofal a’r ddibyniaeth y bydd hyn yn ei greu.

Mae egwyl seibiant yn rhoi rhywbeth i’r henoed neu unigolyn y mae ganddynt anableddau rywbeth i edrych ymlaen ato: mae patrymau dyddiol yn gallu mynd yn ddiflas, yn enwedig os bydd gan yr unigolyn dan sylw feddwl sionc ac os ydynt wedi bod yn unigolyn egnïol trwy gydol eu bywyd. Mae mynd ar wyliau yn ffordd wych o roi rhywbeth i’r unigolyn edrych ymlaen ato a chynllunio ar ei gyfer. Mae Gwasg Gofal wedi cael gwybodaeth am dri chyfleuster seibiant posibl, ond mae’n werth nodi na all Cyngor Bro Morgannwg argymell lleoliad ac ni all dalu unrhyw dreuliau a fydd yn codi. Sampl yw’r rhain o ddewisiadau seibiant amgen ac fe allai fod nifer o rai eraill ar gael.

The New MayfairSefydliad yn Blackpool yw The New Mayfair ac maent yn darparu llety ar gyfer pobl anabl a’u gofalwyr. Gallant gynnig lle i ymwelwyr y maent wedi cael diagnosis dementia hefyd. www.thenewmayfair.co.uk

Gwesty Merton HouseMae Gwesty Merton House yn dŷ Georgaidd wedi’i leoli yn nhref farchnad brydferth Ross-on-Wye yn Nyffryn hyfryd Gwy. Mae’r Golygfeydd o’r ardd o Afon Gwy a Mynyddoedd Duon Cymru yn odidog. Merton House yw’r gwesty delfrydol i’r gwesteion hynny y maent yn teimlo’r angen i fynd ar wyliau i amgylchedd lle y mae’r staff yn meddu ar fwy o ddealltwriaeth o’u hanghenion amrywiol.Mae Merton House yn Brosiect Gwasanaeth Cymunedol di-elw ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gwesteion mewn cadair olwyn. www.mertonhouse.org/home

Gwesty Royal GlamorganMae Gwesty Glamorgan Holiday yn westy seibiant sefydledig ar lan y môr ym Mhorthcawl. Lleolir y gwesty gyferbyn â’r harbwr/marina ac mae’n cynnig golygfeydd godidog o Fôr Hafren ac aber afon Ogwr, ac mae modd cerdded oddi yno i’r siopau yng nghanol y dref mewn ychydig funudau ar dir gwastad. Mae modd trefnu cludiant i’r gwesty ac o’r gwesty i’r cartref mewn bws mini wedi’i addasu (codir cost am hyn).

Mae’r gwesty yn cynnig cyfleusterau seibiant fforddiadwy ar ffurf gwyliau neu seibiant byr ar gyfer pobl leol a’r rhai sy’n byw ymhellach i ffwrdd yn rhanbarth De Cymru ac y maent yn oedrannus neu’n anabl.

Mae Gwesty Glamorgan Holiday ym Mhorthcawl yn darparu cyfleusterau seibiant o fewn amgylchedd gwesty fel dewis amgen i gartref gofal neu nyrsio. Mae’n cynnwys 39 o ystafelloedd gwely cyffyrddus ar gyfer yr henoed a phobl y mae ganddynt anableddau. Mae tîm o staff gofal profiadol ar gael 24/7 i ddarparu cymorth i westeion trwy gydol eu hymweliad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwesty Glamorgan Holiday ar: 01656 785375 www.glamorganholidayhotel.com neu anfonwch e-bost at [email protected]

Page 12: Gwasg Gofal - Vale of Glamorgan · 2017. 8. 22. · Gwasg Gofal - Mawrth 2014 2 2 Gwasg Gofal - Mawrth 2014 3 Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2013 ac er mwyn dathlu’r diwrnod hwn,

Gwasg Gofal - Mawrth 2014

1212

Mae prosiect newydd Marie Curie, Gofalu am Ofalwyr, yn datblygu ac yn cyflwyno cyfres o sesiynau ymwybyddiaeth am ddim er mwyn helpu Gofalwyr ar draws Cymru.

Arweinir y prosiect tair blynedd, a ariannir gan y Gronfa Loteri Fawr, gan Reolwr y Prosiect, Susan Court.

Dywedodd Susan: “Rydym yn dymuno cynorthwyo gofalwyr sy’n gofalu am berthnasau neu ffrindiau y mae ganddynt salwch angheuol. Trwy alluogi gofalwyr yn y fath ffordd, byddai’n fwy tebygol y bydd y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn aros yn y man lle y byddai’n well ganddynt gael gofal - gartref. Seiliwyd ein sesiynau ar wybodaeth ymarferol ac anghenion cymorth gofalwyr, gan roi sgiliau a hyder iddynt yn eu rôl gofalu”

Amcangyfrifir bod 370,000 o ofalwyr yng Nghymru a bod dros 345 o bobl yng Nghymru yn ymgymryd â rôl gofalu newydd bob dydd. Gyda mwy o bobl yn byw’n hirach gyda salwch mwy cymhleth, mae’r ffigurau hyn yn debygol o godi. Fodd bynnag, rydym yn gwybod hefyd bod gofalu am rywun sy’n dioddef salwch angheuol gartref yn rhoi straen corfforol ac emosiynol aruthrol ar ofalwyr.

Sut fydd y prosiect yn helpu gofalwyrEr mwyn cyflawni’r prosiect, bydd Susan yn gweithio mewn partneriaeth gyda Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol a Mudiadau Gwirfoddol ar draws Cymru.

Dywedodd Susan: “Byddaf yn gweithio gyda gwasanaethau cymorth i Ofalwyr eraill hefyd yng Nghymru, er mwyn bodloni anghenion mwy o ofalwyr”.

“Bydd ein sesiynau yn ystyried amrediad o bynciau sy’n ymwneud â symptomau, gofal ymarferol a chymorth emosiynol”.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, nod Susan yw darparu sesiynau yng Nghaerdydd a’r Fro, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac yng Ngogledd Cymru. Bydd y gwaith o ddarparu sesiynau ymwybyddiaeth yn ehangu i ardaloedd y saith bwrdd iechyd yn ystod oes y prosiect.

Os hoffech chi:

• gael gwybod mwy am y prosiect

• ein cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect yn eich cymuned leol

• rhannu eich profiad a’ch safbwyntiau gyda ni

• darganfod sut y mae modd i chi fynychu un o’n digwyddiadau

Cysylltwch â Susan Court yn Marie Curie: E-bost: [email protected] rhif ffôn 02920 426000

Gofalu am Ofalwyr yng Nghymru

Grwp Cymorth Parkinson newydd Bro MorgannwgYn ddiweddar, mae Grwp Cymorth newydd wedi cychwyn yn Ninas Powys ar gyfer pobl, gofalwyr a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan glefyd Parkinson. Byddwn yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd hefyd. Ymunwch â ni er mwyn cyfarfod pobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan glefyd Parkinson. Mae’r Grwp yn cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 2 a 4pm yn y Three Horse Shoes, Dinas Powys. Y cydlynydd yw Barry Lakin.

02920 512724 [email protected] www.parkinsons.org.uk/local-support-groups/regions/vale-glamorgan-support-group