chapter chwefror mawrth

36
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 22-Mar-2016

268 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Chapter Chwefror Mawrth

TRANSCRIPT

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol ryngwladol sy’n adnabyddus am wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn canolbwyntio ar gelfyddyd a chynulleidfaoedd ac ar greu mannau artistig a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar ein ffyrdd o feddwl, ein syniad o’r hyn ydym a’r hyn yr hoffem fod. Rydym yn mwynhau risg a her. A mwynhad ynddo’i hun. Rydym yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth ac arloesi. Gallwch hefyd ddod i Chapter i ymlacio a sgwrsio, mewn awyrgylch cartrefol a chroesawgar.

ChapterHeol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

Croeso

Matt BeereSwyddog Cyfranogi ac Addysg Ar y cyd â’n holl ddigwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd, mae Chapter hefyd yn trefnu rhaglen addysgol gynhwysfawr. Mae’r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys cyrsiau Ffilm a Llythrennedd Ffilm i bobl ifainc yng Ngharchar y Parc (Pen-y-bont), gweithdai gwneud ffilmiau i Dîmau Troseddwyr Ifainc Castell-nedd Port Talbot a Chaerdydd, a chymorth addysgol i’r sinema gymunedol yn Nyffryn Afan. Mae’r prosiect yn Nyffryn Afan yn fenter 3 blynedd o hyd a fydd yn cynnwys 36 gweithdy i ysgolion, 36 gweithdy cymunedol a bydd hefyd yn arwain at greu dwy academi ffilm rhyng-genedliadol er mwyn caniatáu i bobl ifanc a’u perthnasau hŷn ddysgu gyda’i gilydd ac i ddeall sut mae ffilmiau’n cael eu gwneud, pa brosesau creadigol sy’n cael eu defnyddio, a sut i siarad yn feirniadol am y ffilmiau a welant. Mae fy swydd yn galluogi i mi weld bob dydd sut mae gwaith Chapter yn estyn y tu hwnt i’r adeilad ei hun ac yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau. Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf am ein gwaith cyfranogi ac addysg yn y rhifyn nesaf o’r llyfryn ac ar wefan www.chapter.org

Croeso02 chapter.org

Oriel tudalennau 4–8

Bwyta, Yfed, Llogitudalen 9

Theatr tudalennau 9–17

Chapter Mix tudalennau 16–17

Sinematudalennau 20–35

Gwybodaeth tudalen 36

Amserlen & sut i archebutudalennau 37–40

Cefnogwch ni tudalen 41

03Uchafbwyntiauchapter.org

CYMRYD RHAN

Delwedd y clawr: HIDE, t.11. Llun gan John Collingswood.

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cerdyn ChapterGallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C.Cerdyn Sengl: £20/£10Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref)Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Oriel04 029 2030 4400

Oriel

Oriel

Joanne Tatham a Tom O’Sullivan: A tool for the making of signsGwener 7 Rhagfyr — Sul 24 ChwefrorMae’r ddeuawd gydweithredol Joanne Tatham a Tom O’Sullivan yn creu gwaith pryfoclyd a heriol sy’n ymwneud yn aml â photensial chwedlonol celfyddyd. Trwy gyfrwng cerflunwaith, paentio, pensaernïaeth, delweddau hap-gael, perfformio, llenyddiaeth, beirniadaeth sefydliadol a churadu, mae’r artistiaid yn creu llwybrau, dadleoliadau a gwyriadau er mwyn ail-lwyfannu ac ail-gyflwyno geirfaoedd delweddol, ymadroddion a ffurfiau sy’n rhan o hanes cyffredin; offer ar gyfer archwilio byd celfyddyd a chyfriniaeth gyfun o ffurfiau, gwrthrychau a hanes.Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys nifer o elfennau sy’n herio dehongliadau, gan gynnwys y motiff cartŵn sy’n ymddangos ar y blwch golau a llyfryn yr arddangosfa, yn ogystal â theitl y gwaith: A tool for the making of signs.Yn yr Oriel, mae strwythur sylweddol wedi’i leoli’n lletchwith rhwng dwy ystafell, a hynny’n creu datgysylltiad corfforol a syniadol. Mae’r strwythur ei hun yn defnyddio symbol y ‘ddraig’ — wedi’i chyflwyno mewn ffordd sy’n nodweddiadol o arddull Tatham ac O’Sullivan. Mae’n archwilio adleisiau penodol mewn hunaniaeth Gymreig ond yn cynnwys hefyd botensial ar gyfer ystyron lluosog, cysefin. Mae’r strwythur yn gweithredu fel cymhariaeth a gwrthbwynt i’r ffaith bod yr arddangosfa hefyd yn cynnwys dau waith gan yr arlunydd a’r bardd modernaidd David Jones. Trwy integreiddio ei waith ef â’r strwythur ei hun, mae’r artistiaid yn gofyn i ni ystyried y modd y mae artistiaid cyfoes yn edrych yn ôl ar waith blaenorol ac yn ymgorffori’r diddordeb hwnnw mewn trafodaethau cyfredol.

05chapter.org

Joanne Tatham a Tom O’Sullivan, A tool for the making of signs, 2012. Llun: Megan Price, delwedd trwy garedigrwydd yr artistiaid a The Modern Institute / Toby Webster Cyf.

Bywgraffiad Byr Bu Joanne Tatham a Tom O’Sullivan yn cydweithio ers 1995. Mae eu prosiectau a’u harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Stiwdio Voltaire, Llundain (2012); Oriel Collective (oddi ar y brif safle), Caeredin a Tramway, Glasgow (y ddwy yn 2011); CCA, Glasgow (2010); La Salle de Bains (2009). Fe’u cynrychiolir gan y Modern Institute/Toby Webster, Glasgow; Galerie Francesca Pia, Zurich a Campoli Presti, Llundain/Paris.

Oriel ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar dydd Llun

Oriel06 029 2030 4400

Sioned Huws: Prosiect Aomori 2013Cyfnod Preswyl Llun 25 Mawrth — Gwener 12 EbrillDangosiad o waith ar y gweill Sadwrn 13 Ebrill 6.30pm Gyda’r dawnswyr Reina Kimura, Elena Jacinta a Agnese Lanza

Yn ystod mis Mawrth/Ebrill bydd yr Oriel a’r Theatr yn Chapter yn uno i gynnig cyfnod preswyl unigryw i Sioned Huws. Bydd hi’n gweithio yn yr Oriel gyda nifer o ddawnswyr i ddatblygu ei gwaith parhaol, Prosiect Aomori.Cychwynnwyd Prosiect Aomori yn 2008 fel ymateb i amodau Arctig Gogledd Japan. Ers y cyfnod hwn, mae’r prosiect wedi bodoli ar wahanol ffurfiau ac wedi datblygu i gynnwys amrywiaeth eang o artistiaid a pherfformwyr. Bob blwyddyn caiff naratif newydd ei ffurfio ac fe gaiff hwn ei addasu ar gyfer perfformwyr, cyd-destunau a phensaernïaeth amrywiol. Yn ystod y cam nesaf, bydd Prosiect Aomori yn archwilio’r cymhlethdodau strwythurol a’r berthynas rhwng y llorweddol a’r fertigol. Trwy greu systemau sy’n caniatáu i bob perfformiwr symud i mewn ac allan o gyfnodau cyfansoddiadol gwahanol, mae Prosiect Aomori yn ceisio cyfosod systemau a chreu cydbwysedd ar y ffin denau rhwng trefn ac anhrefn, bod a diddymdra.

Cefnogir gwaith Ymchwil a Datblygu Prosiect Aomori gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Oriel 07chapter.org

Celfyddyd yn y Bar Thomas Goddard Gwener 11 Ionawr — Sul 10 MawrthMae Thomas Goddard yn gweithio ag ystod eang o gyfryngau gan gynnwys arlunio, animeiddio, print, perfformio a gwaith cymdeithasol. Mae ei waith diweddar yn archwilio’r berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, rôl y ffug-wybodaeth a gyflwynir gan y cyfryngau a’i heffeithiau ar ddiwylliant cyfoes o ganlyniad i awgrym a thadogi.Crëir gweithiau sy’n manylu ar ddifaterwch, dadrithiad, credoau paradocsaidd, pŵer, gwrthiant, hanes, y dyfodol, gormodedd a phryder a hynny yng nghyd-destun byd cyfoes sy’n llawn o ailadrodd obsesiynol a dewisiadau sy’n ymddangos yn ddi-ben-draw.

Mae bywgraffiad llawn ar gael ar www.chapter.org

www.ohmygodtom.com www.cerbyd.org www.beatenblackblueredgreengold.tumblr.com www.beastofbala.com

Delwedd: From Ape to Adam to Apocalypse 1954Darluniau, inc ar bapur.

Catherine AngleSwyddog y Rhaglen — Celfyddydau Gweledol a BywMae rhaglen Oriel Chapter wastad wedi f’ysbrydoli. Pan oeddwn i’n fyfyrwraig yn Abertawe teithiwn i Gaerdydd yn aml er mwyn gweld yr arddangosfeydd diweddaraf. Yn awr, dw i wrth fy modd yn gallu dweud wrth bobl fy mod i’n gweithio yma. Dw i’n edrych ymlaen at osodiad newydd Celfyddyd yn y Bar gan yr artist Tom Goddard. Mae ei luniadau manwl yn ddogfennau tywyll a doniol o bob blwyddyn rhwng 1898 a 1999.

Oriel08 029 2030 4400

Chapter ar daith The Future’s Not What it Used to BeSusan Hiller, Vernon Ah Kee, Tony Albert, Jeremy Millar, Amie Siegel, Patricia Piccinini, Darren Almond a Matt BryansSadwrn 9 Chwefror — Sadwrn 13 Ebrill yn The Exchange, Penzance Sadwrn 16 Chwefror — Sadwrn 27 Ebrill yn Oriel NewlynBydd yr arddangosfa i’w gweld yn y ddau leoliad ar yr un pryd.Rydym wrth ein bodd bod ein arddangosfa grŵp, The Future’s Not What It Used To Be, yn teithio i Gernyw ac y caiff ei chyflwyno mewn dau ofod o bwys: Oriel Newlyn a The Exchange, Penzance.Mae’r arddangosfa nodedig hon — a gynhyrchwyd gan Chapter, ac a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn yr Oriel llynedd — yn cynnwys gwaith gan artistiaid rhyngwladol sy’n archwilio’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Ar gyfer y daith i Gernyw, mae Chapter wedi gweithio gyda’r curadur Deborah Smith er mwyn datblygu’r sioe a’r detholiad o artistiaid fel eu bod yn gweddu i’r ddau leoliad penodol.Gan ddefnyddio ystod eang o gyfryngau, mae’r artistiaid yn cyflwyno safbwyntiau lluosog ar y byd — fel yr oedd, fel y mae ac fel y gallai fod. Maent yn annog gwylwyr i ddiffinio ac ailddiffinio eu perthynas eu hunain â’u hamgylchfyd. Oriel Newlyn, New Road, Newlyn, Penzance TR18 5PZ The Exchange, Princes Street, Penzance TR18 2NL www.newlynartgallery.co.uk

Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth gan Sefydliad Henry Moore a Llywodraeth Queensland trwy gyfrwng Asiantaeth Marchnata ac Allforio’r Celfyddydau Brodorol (QIAMEA). Darparwyd nawdd ychwanegol gan GB-Sol a City Satellite.

NODWCH Y DYDDIAD!Art Car Bootique 2013Sul 14 EbillCyflwynir gan Chapter a Something CreativesYr arwerthiant cist car gorau erioed! Detholiad o stondinau celfyddydol, perfformiadau, arwerthwyr vintage a phrosiectau wedi’u curadu. Mwy o wybodaeth yn rhifyn nesaf y cylchgrawn ac ar www.chapter.org

Delwedd: Patricia Piccinini, The Long Awaited (Portread), 2008. Silicôn, gwydr ffibr, gwallt dynol, lledr, pren haenog, dillad. Gyda chaniatâd yr artist, Haunch of Venison ac Oriel Roslyn Oxley9.

Bwyta, Yfed, Llogi 09chapter.org

Bwyta, yfed, llOgi

Pythefnos Masnach DegLlun 25 Chwefror — Sul 10 MawrthMae Chapter yn gefnogwr brwd i fudiad Masnach Deg. Mae pob un o’n diodydd poeth a’n siwgr yn gynhyrchion masnach deg, sy’n golygu bod ffermwyr a gweithwyr difreintiedig mewn gwledydd datblygol yn cael dêl well ar gyfer eu cynhyrchion. Yn ystod Pythefnos Masnach Deg, byddwn yn cydweithio â’r siop Fasnach Deg leol a gwych, Fair Dos — cadwch lygad ar www.chapter.org am fwy o fanylion.www.fairdos.com

Perrantide — Gŵyl Pastai a PheintMawrth 5 — Sadwrn 9 MawrthGŵyl Sant Piran (Cernyweg: Gool Peran) yw diwrnod cenedlaethol Cernyw a gynhelir yn flynyddol ar 5 Mawrth. Mae’r diwrnod wedi’i enwi ar ôl Sant Piran, nawddsant y mwyngloddwyr tun. I ddathlu, rydym yn cynnal ein Gŵyl Cwrw Cernywaidd gyntaf a fydd yn cynnwys detholiad o fwy na 30 cwrw go iawn o fragdai bychain ac annibynnol Cernyw fel Blue Anchor, Coastal, Cornish Cough, Driftwood, Frys, Harbour, Hogswood, Keltek, Lizard, Penpont, Rebel a Tintagel. Os byddwch chi awydd tamaid i’w fwyta ar ôl eich peint, bydd y caffi’n cynnig pasteiod blasus a phrydau arbennig eraill drwy gydol wythnos yr ŵyl. Bydd yna lu o weithgareddau Cernyweg eraill hefyd gydol yr wythnos, felly cadwch lygad ar www.chapter.org am fwy o wybodaeth.

Mae cysylltiad di-wifr rhad ac am ddim ar gael yng Nghaffi Bar Chapter.

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwefan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld beth sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, cynnal ymarferion neu weithgareddau tîm, mae ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi, Lex, hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at [email protected] .

Pop Up ProduceBob dydd Mercher 4-7pmMae ein Marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Bara Mark yn cynnig detholiad o fara arbenigol ac fe fydd Get Ffresh! yn cyflwyno saladau organig a llysiau ffres ynghyd â llu o eitemau blasus a chrefftus eraill. Bydd Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau — wedi’u halltu a’u mygu — o Brydain, De Ewrop a Gogledd America a Sebon Soaps yn cynnig amrywiaeth o sebon wedi’i wneud â llaw yn y ffyrdd mwyaf naturiol posib, heb olewau palmwydd.

Theatr10 029 2030 4400

theatr

“ Mae Deborah Light yn artist sydd wedi dod o hyd i lais unigryw. Mae’r cynhyrchiad hwn yn ddatganiad hyderus o safon uchel iawn.” Adolygiad gan Angelica

Hide

Theatrchapter.org 11

Deborah Light: HIDEIau 21 — Sadwrn 23 Chwefror 8pm (+ Iau 21 Chwefror 6pm)Mae teitl y sioe, Hide, yn chwarae ar amrywiol ystyron y gair Saesneg — gweler y diffiniadau geiriadurol isod.

Hide¹vb to keep out of sight; conceal from view.n a shelter for watching wildlife.Hide²n the skin of an animal.

Mae’r coreograffydd gwobrwyol, Deborah Light, yn dod â thri dawnsiwr hynod at ei gilydd, Rosalind Haf Brooks, Jo Fong a Eddie Ladd. Cynllunio gan Neil Davies a sain gan Siôn Orgon.

Maen nhw’n ffurfio, yn trawsffurfio ac yn ailffurfio.

R’yn ni’n eu gwylio.

Ydyn nhw’n eu datgelu’u hunain? Neu’n cymryd rhan mewn sioe?

Mae HIDE yn delio â themâu fel ymddangosiad a diflaniad. Mae’n treiddio dan yr wyneb i ddatgelu bydoedd mewnol ac amrywiaeth hynod y natur ddynol. Mae’r perfformwyr yn eu hail-greu eu hunain â haenau o symudiad, delwedd, sain a thestun.

£12/£10/£8

www.deborahlight.com

PubLIc REcoRDIngs canaDa aR y cyD â DancE4 a cHaPtER

the Most together We’ve Ever beenIau 7 Mawrth 8pm Cyfres ddiddiwedd o ddechreuadau. Cyfarchiad parhaol. Rydym yn ymdopi â’r angen i weld rhywbeth yn digwydd, tra’n croesawu’r gwacter o beidio â chyrraedd unman. Gadewch i ni ddychmygu am eiliad y byddwn yn byw yma am byth, ar fin cyrraedd yn barhaol ond heb weld diwedd y daith. Mae’n bosib bod y perfformwyr yn gymeriadau, neu’n ddim ond pobl sy’n chwarae rhannau’r perfformwyr. D’yn nhw ddim yn teimlo’n hollol gartrefol ond ddim cweit wedi’u dadleoli chwaith – maen nhw’n eu cael eu hunain ar lwyfan drosodd a throsodd, mewn perfformiad, o flaen cynulleidfa. Maen nhw’n gadael ac yn cyrraedd y llwyfan ar flaenau’u traed fel pe baen nhw eisiau osgoi sylw. Ond mae hynny’n eu gwneud nhw’n od o weladwy ac yn fwy ymwybodol o’r hyn ydyn nhw.Y bobl iawn yn y lle anghywir neu’r bobl anghywir yn y lle iawn. Mae The Most Together We’ve Ever Been yn ddeuawd a grëwyd ac a berfformir gan Ame Henderson (Canada) a Matija Ferlin (Croatia). Cafodd y prosiect ei ddatblygu yn ystod cyfnod preswyl yn Tanz Quartier Fiena ac INK-Pula (Theatr Genedlaethol Istria) yn Croatia. Fe’i cyd-gynhyrchwyd gan Public Recordings a Ferlin.Mae Ferlin a Henderson yn datod posibiliadau coreograffig y weithred o gyrraedd a gadael llwyfan neu ofod. Yn hudolus, digri’ a dwys, mae’r darn yn un corfforol (a chynnil) ac mae’r sgôr yn fwy tebyg i berfformiad nag i ddawns draddodiadol. Ond y mae’n waith coreograffig yn ei hanfod. Drwy gydol y darn, mae’r perfformwyr yn rhoi sylw penodol i bresenoldebau’i gilydd a’r gynulleidfa wrth iddyn nhw archwilio’r tensiynau dramatig o ddau gorff a dau ffrind yn mynd ac yn dod.£12/£10/£8

The

Mos

t To

geth

er W

e’ve

Eve

r Bee

n. L

lun

gan

Sand

ra B

élan

ger

andGo yn cyflwynoConfusions gan Alan AyckbournIau 31 Ionawr — Sadwrn 2 Chwefror 8pm (a Sadwrn 2 Chwefror 3pm)Mae mam yn treulio cymaint o amser ar ei phen ei hun gyda’i phlant fel ei bod yn trin pawb fel plant... mae ei gŵr, gwerthwr yn ôl ei alwedigaeth, yn eistedd mewn bar mewn gwesty ac yn chwilio am fwy na diod... mae gweinydd yn clustfeinio ar berthnasau problematig ciniawyr... mae cynghorydd lleol yn derbyn gwahoddiad i agor ffair bentref... mae pum dieithryn yn eistedd ar eu pennau’u hunain ac yn siarad — ond a fydd unrhyw un yn gwrando?Mae cyfres ddyfeisgar Ayckbourn o vignettes comig yn gipolwg ar ddyhead, obsesiwn ac unigrwydd y tu ôl i lenni swbwrbia.£10/£8

andGo Youth yn cyflwynoDisney’s Alice in Wonderland Jr.Gwener 1 Chwefror 6pm + Sadwrn 2 Chwefror 1pm + 6pmYmunwch ag Alice wrth iddi ddilyn y Gwningen Wen, rasio’r Dodo, ymwneud â’r Tweedles, rapio gyda Phry Genwair a churo Brenhines y Calonnau!Mae’r addasiad llwyfan hwn o’r stori boblogaidd yn cynnwys trefniannau newydd o ganeuon Disney clasurol fel “I’m late,” “The Un-birthday song” a “Zip-A-Dee-Doo-Dah.”£5

Act One — Cymdeithas Ddrama Prifysgol CaerdyddHeart of a DogMawrth 5 Chwefror — Sadwrn 9 Chwefror 7.30pmMae Sharik yn fwngrel strae, yn llwgu ac ar fin marw pan gaiff ei achub gan y therapydd byd-enwog, yr Athro Philip Philipovich. Mae Sharik yn dysgu bod bywyd yn gi i ŵr bonheddig yn fywyd da, ond mae gan yr athro gynlluniau eraill. Ysgrifennwyd Heart of a Dog gan Mikhail Bulgakov yn sgil y rhyfel cartref yn Rwsia. Mae hi’n stori alegorïaidd am beryglon peirianneg cymdeithasol ac fe’i hystyriwyd hi’n rhy chwyldroadol i gael ei chyhoeddi yn Rwsia cyn 1987.£8/£7

Lansio Llyfr: D.E. OpravaGwener 1 Chwefror 7pm‘Quotidian Joe vs The Quantum Letterbox’ yw chweched casgliad y bardd lleol nodedig D.E. Oprava ac fe gaiff ei lansio â ffanffer yn Chapter. Mae’r casgliad hwn, yn wahanol i unrhyw un arall, yn arwain y darllenydd ar hyd y bydysawd at galonnau ‘aliens’ caredig sy’n darllen ein bywydau fel pe baen nhw’n llythyrau a daniwyd o deipiaduron ein heneidiau. Dyma ddyfyniad o un o’r cerddi, “A childhood circles the garden/ He’s wearing a cowboy birthday suit/ The sky sharpens his tomahawk/ a sunset has her supper/ A bull counts chickens before the matador/ Each one stalks the same conundrum/ All the cowboy knows is naked/ and the detonation of life around him.” Y gyfrol hon, mewn argraffiad cyfyngedig clawr caled, yw cyhoeddiad cyntaf Gwasg Black Bocs, gwasg breswyl newydd Chapter. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth fyw, gwin a gwamalrwydd i gyd-fynd â’r darlleniad. Dewch un ac oll.RHAD AC AM DDIM www.deoprava.com

Theatr12 029 2030 4400

D. E

. Opr

ava

Theatr 13chapter.org

Premiere Prydeinig

Who Killed The elephant? / deialogIau 7 — Sadwrn 9 Chwefror 8pmNoson o synau, perfformiadau a ffilmiau newydd wedi’u seilio ar gyflwyniad o ddrama lwyfan Vee Leong, Who Killed the Elephant? — gwaith sy’n cwestiynu systemau gwladwriaeth heddlu o weithredu yn erbyn teimladau ac atgofion unigol. Mae’r prosiect yn broses o ddatblygu parhaol ac yn archwilio syniadau o le ac o gyfieithu rhwng Hong Kong a Chymru. Bydd Jennie Savage (DG) a Remus (Hong Kong) yn cyflwyno ffilm fer yr un — cofnodion o deithiau trwy ddinasoedd Llundain a Hong Kong. Bydd James Tyson, gyda Vee Leong, yn cyflwyno ‘deialog’, wedi’i berfformio gyda Rico Wu o Hong Kong, sy’n archwilio themâu daearyddiaeth, cyfieithu a stori. Bydd Matt Cook yn parhau â’i waith ymchwil cydweithredol yn Hong Kong yn ddiweddar trwy gyflwyno gwaith sain yn rhan o Who Killed the Elephant? a gyfieithwyd o’r Gantoneg dan gyfarwyddyd Mathilde Lopez. Mae cast y ddrama’n cynnwys Valmai Jones, Rebecca Knowles, Rebecca Smith-Williams a Rico Wu. £10/£8/£6 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl — gweler tudalen 17)

Prosiect gan Between Text and Performance (Hong Kong — Cymru) gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Theatr Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Datblygu Celfyddydau y Swyddfa Materion Cartref, Llywodraeth Rhanbarth Weinyddol Arbennig Hong Kong, Intangible Studio a Gweithdy Theatr On & On (Hong Kong).

+ ymunwch â ni am sgwrs ynglŷn â’r gwaith cyn y perfformiad ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror am 6pm.

Tymor HoNG KoNG

Theatr14 029 2030 4400

Edition Records yn cyflwynoIvo NeameIau 14 Chwefror 8.30pmMae Ivo Neame wedi recordio a pherfformio, ar y piano a’r sacsoffon, gydag artistiaid jazz blaenllaw ledled y byd ac mae’n perfformio yng nghlybiau jazz pennaf Llundain gyda’i grwpiau ei hun. Derbyniodd ei albwm diweddar ‘Yatra’ glod uchel ac fe’i disgrifiwyd gan BBC Music fel albwm sy’n “llawn o egni eithriadol a threfnus, sydd hefyd yn byrlymu gan angerdd ymenyddol”. Gallwch ddisgwyl cyflwyniad o allu ac egni rhyfeddol wrth i Neame arddangos ei feistrolaeth o gyfansoddi ensemble a byrfyfyrio gyda grŵp sy’n cynnwys rhai o gerddorion jazz gorau Llundain.£12/£10/£8

Simon Munnery: Fylm-MakkerGwener 15 Chwefror 8pmMae Simon Munnery yn arbrofi â chamera bach a sgrin fawr er mwyn bod yn ‘Fylm-Makker’. Mae Munnery yn cyflwyno cymysgedd hyfryd o frasluniau gweledol, gwaith animeiddio â llaw, cerddoriaeth a stand-up: caiff y cyfan ei berfformio’n fyw gan Simon a’i gynorthwy-ydd cerddorol — sy’n eistedd yn y gynulleidfa gydol y sioe — a’i daflunio ar sgrin wedi hynny.£12/£11/£10

“Un o’r perfformwyr mwyaf cyson wreiddiol a chraff yn y busnes.” The Guardian

The Wyrd CupidSadwrn 16 Chwefror 7pm Ymunwch â ni am wledd o gerddoriaeth werin ei naws. Bydd Sproatly Smith o Swydd Henffordd yn gwneud ymddangosiad prin yma yn Chapter. Yn lleisiau cyfarwydd ar raglen Radio 3, ‘Late Junction’, mae eu cerddoriaeth yn tynnu ar lên a thraddodiadau a chwedlau gwerin. Mae cerddoriaeth swynol ac ingol Robin a Bina Williamson yn gyfuniad o harmonïau’r Dwyrain a’r Gorllewin, a synau’r telyn, y ‘psaltry’ ac amrywiol offerynnau eraill. Mae Matthew Joseph o Gaerdydd yn canu caneuon sensitif, sentimental a myfyrgar, mae Jemma Roper yn cyflwyno trysorau celfyddydol, idiosyncratig ac mae Idsercus yn cynnig cyfuniad rhyfedd o ganu gwerin barddonol a gothig.£8/£6 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl — gweler tudalen 17)

www.myspace.com/jmjoseph www.jemmaroper.bandcamp.com www.soundcloud.com/idsercus www.pigswhiskermusic.co.uk www.sproatlysmith.bandcamp

James Acaster: Prompt Mercher 20 Chwefror 8pmMae James Acaster, a enwebwyd am Wobr Gomedi Caeredin 2012 ar daith â sioe sy’n llawn dop o gomedi ac adolygiadau ffafriol. Byddwch yn barod am noson o syniadau ac ystumiau ac ambell i newid tempo. Mae un peth yn sicr – r’ych chi’n siŵr o ffoli...£9/£8/£7

“... mae’n chwalu agwedd y ‘lad’ mewn arddull sy’n atgoffa rhywun o Stewart Lee neu Richard Herring, ond mae yma ddigon o’i bersonoliaeth ei hun hefyd i’r cyfan deimlo’n ffres a miniog” The Independent

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Ivo

Nea

me,

Idse

rcus

Theatr 15chapter.org

Beyond The Border yn cyflwynoThe Kingdom of the Heart Iau 21 Chwefror 8pmCyfuniad o gerddoriaeth soddgrwth aruchel Bach a Britten a straeon rhyfeddol o’r Weriniaeth Tsiec mewn noson ysbrydoledig o chwedleua a cherddoriaeth i oedolion, gyda Katy Cawkwell a’r sielydd Sarah Llewellyn-Jones. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu darn gweledol wych o chwedleua cerddorol. Ymunwch â brenin aflonydd, ceffyl sy’n siarad, gwraig y berllan a’r ieuengaf o ddeuddeg mab ar daith fythgofiadwy i Deyrnas y Galon.£10/£8

www.beyond theborder.com www.adversecamber.org/new-tour-the-kingdom-of-the-heart

Newsoundwales + Gŵyl Gwobr Iris yn cyflwyno:Bright Light Bright Light + Golden FableGwener 22 Chwefror 7.30pm Daeth Bright Light Bright Light i Chapter ddiwethaf yn 2010 ac ers hynny maen nhw wedi rhyddhau albwm – “Make Me Believe in Hope” – a enwyd ar restr fer Gwobr Cerddoriaeth Gymreig 2012. Maen nhw wedi bod ar daith gyda’r Scissor Sisters, ac fe ddywedodd Elton John amdanynt eu bod yn un o’r grwpiau gorau yn y DG ar hyn o bryd. £10/£8 Tocynnau ar gael ymlaen llaw gan www.wegottickets.com/event/198844

Born To Be Alive: The True Confessions of Johnny ReviveChapter 1, y 70au — Sadwrn 23 Chwefror 8pmChapter 2, yr 80au — Gwener 22 Mawrth 8pm Mae Johnny Revive, a anwyd yng Nghaerdydd, wedi cael bywyd liwgar. Cododd o reoli bandiau pync yn y saithdegau hwyr i reoli ei gwmni ffilm ei hun yn yr wythdegau — dywedodd Mrs Thatcher amdano ei fod yn enghraifft loyw i entrepreneuriaid ifanc. Efallai nad oedd hi’n sylweddoli bod ei lwyddiant yn seiliedig ar flacmel a thwyll. Neu efallai ei bod hi — roedden ni yn yr wythdegau wedi’r cyfan! Heb fod yn hir wedyn, bu’n rhaid iddo adael Prydain i osgoi’r gyfraith. Nawr, ar ôl ugain mlynedd yn byw yn anialwch y Joshua Tree, mae Johnny yn ôl i rannu gwersi ei fywyd gyda thrigolion ei dref enedigol.

Mae John Williams yn awdur deg o lyfrau, gan gynnwys Trioleg Caerdydd, ac yn gyd-sylfaenydd Gŵyl Penwythnos Talacharn a nosweithiau cerddoriaeth a llenyddiaeth In Chapters. Fel y rhan fwyaf o awduron, mae e’n fwy o sylwedydd nag o berfformiwr. Ond nawr mae e wedi penderfynu byrfyfyrio nofel yn fyw ar lwyfan. Dyw e ddim y math o beth y mae John Williams yn ei wneud fel arfer. Felly mae e wedi galw ar ei alter ego newydd, Johnny Revive, am help llaw. £8/£6 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl – gweler tudalen 17)

Noson Gysur: KraftwerkGwener 1 Mawrth 8pmI’r miloedd siomedig na lwyddodd i gael gafael ar docynnau i sioeau Kraftwerk yn y Tate Modern ym mis Chwefror, dyma gysur i chi: noson o ganeuon Kraftwerk wedi’u dehongli a’u perfformio’n fyw gan ddetholiad o ensembles gwahanol.Yn cynnwys amrywiaeth o gerddorion Caerdydd, rhai anhysbys ac adnabyddus fel ei gilydd, bydd y digwyddiad yn ddathliad o ysbryd yr arloeswyr electronig o’r Almaen, eu ffraethineb a’u dyfeisgarwch, ac fe ddylai hynny helpu i leddfu’r siom o fethu â’u gweld nhw yn Llundain.Dewch â’ch robotiaid eich hun.£7/£5

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Brig

ht L

ight

Brig

ht L

ight

, Joh

nny

Revi

ve

Christopher Rees & Band gyda Miraculous Mule & John Lewis Sadwrn 2 Mawrth 7.30pm Mae Christopher Rees yn dychwelyd i Chapter i lansio’i chweched albwm, ‘Stand Fast’. Fel y mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gwaith yn llawn gobaith ac egni, yn canolbwyntio ar y syniad o fod yn herfeiddiol a phendant ac yn dathlu argyhoeddiad â phŵer cerddorol amrwd. Ar ôl ‘soul’ dwfn ei albwm diwethaf, mae Rees yn dychwelyd at y banjo a dwyster ei waith blaenorol ac mae drymiau, bas, harmonica a sgrech ei gitâr Gretsch yn creu sain mor nerthol a deniadol â phwnc yr albwm ei hun.£10/£8

www.christopherrees.co.uk

Sgwrs (good cop bad cop vs cleverbot)...Sadwrn 9 Mawrth 4pm-10pmYn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn Experimentica, mae good cop bad cop yn dychwelyd i ofyn cwestiynau pellach am ddeallusrwydd artiffisial. Yn gweithio fel ‘tîm tag’, bydd Richard Huw Morgan a John Rowley yn ymwneud â’r ap ‘cleverbot’ mewn sesiwn chwech awr o sgwrsio, creu a dinistrio naratifau. Bydd y cyfan yn arwain at ganlyniadau dwys, annifyr a doniol.£8/£6 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl — gweler tudalen 17)+ Gwener 8 Mawrth — Good Cop Bad Cop ‘Beating the Path’ — dangosiad o waith ar y gweill. Am fwy o fanylion anfonwch e-bost at [email protected]

Theatr Everyman Hamlet Mawrth 12 — Sadwrn 16 Mawrth 7.30pm (+ Sadwrn 16 Mawrth 2pm)(cyflwyniad cyn-y-sioe yn dechrau am 7pm/1.30pm)Drama fyd-enwog o statws digamsyniol; cafodd ei gwahardd o’r diwrnod cyntaf un pan ofynnwyd i’r bardd ailfeddwl ... Ystyrid y ddrama’n waith anfoesol a gwleidyddol sarhaus – mae yna olygfeydd o gladdedigaethau am hanner nos a chytundebau sy’n nodweddiadol o wladwriaeth dotalitaraidd ynghyd ag anogaeth i gyflawni teyrnladdiad.Wedi’i llwyfannu gan Everyman gyda grŵp o actorion teithiol gwyllt o wledydd amrywiol sy’n torri i mewn i’r farchnad yn Elsinore.£10 (£8 pris gostyngol Sadwrn 2pm yn unig)

Beyond The Border yn cyflwyno....The Company of Storytellers: The Three Snake LeavesSul 17 Mawrth 8pmMae’r goedwig yn lle rhyfedd lle mae rhyfeddodau’n disgleirio yn y cysgodion a’r dail neidr dirgel yn arwain at drawsnewidiadau ... Ddau gan mlynedd ar ôl i’r Brodyr Grimm gyhoeddi eu casgliad cyntaf o straeon tylwyth teg, mae tri o feistri’r byd chwedleua cyfoes, Ben Haggarty, Sally Pomme Clayton a Hugh Lupton, wedi ail-weithio rhai o’r chwedlau llai adnabyddus ynghyd ag ambell i chwedl i oedolion; maen nhw’n datod cwlwm cyfoethog o straeon doniol, creulon a theimladwy ac yn ein harwain ar siwrne hudolus trwy goedwig y brodyr Grimm.Mae’r ‘remix’ hwn o straeon clasurol bellach yn cynnwys perfformiad cerddorol byw gan ddau o gerddorion pennaf Cymru — Dylan Fowler (gitâr, clarinét) a Gill Stevens (crwth, fiolau).£10/£8 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl — gweler tudalen 17)

www.beyondtheborder.com

Theatr16 029 2030 4400

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Chr

isto

pher

Ree

s, g

ood

cop

bad

cop

Theatr 17chapter.org

Get the Blessing Llun 18 Mawrth 8pmCyflwyniad ar y cyd â Jazz AberhondduAnaml iawn y mae band yn siglo’r sîn jazz i’r fath raddau â Get the Blessing. Yn enillwyr Gwobr Jazz y BBC yn 2008 am eu halbwm cyntaf, “All Is Yes”, mae Get The Blessing yn un o fandiau byw mwyaf cyffrous y DG. Ffurfiwyd y grŵp yn 2000 pan ymunodd y gitarydd bas Jim Barr a’r drymiwr Clive Deamer o Portishead â chyrn a seiniau electronig y sacsoffonydd Jake McMurchie a’r trwmpedwr Pete Judge. Ers hynny, mae GTB wedi creu sain unigryw sy’n gwyrdroi pob diffiniad amlwg – ond yn cynnwys hefyd alawon bywiog, curiadau heintus ac ysbryd o greu digymell.£10 (Rhan o gynnig Archebion Dwbl — gweler tudalen 17)

+ Cadwch lygad yn agored am fwy o jazz gwych yn Chapter cyn Gŵyl Jazz Aberhonddu ym mis Awst.

Phil McIntyre Entertainment yn cyflwynoMark Thomas: Manifesto Warm UpsIau 21 Mawrth 8pmCyn y gyfres newydd sbon o’r rhaglen ar Radio 4 a enillodd Wobr Sony iddo, mae Mark Thomas yn mynd ar daith i roi ei syniadau newydd ar gyfer polisïau chwyldroadol ar brawf – ac i wahodd sylwadau gan y gynulleidfa. Mae angen rhywun arnom i’n harwain ni allan o’r llaca! Deunydd newydd a ‘stand up’ gan un o ddigrifwr gwleidyddol gorau’r DG.£10/£9/£8

CynnIG ArBEnnIG Archebion DwblMae yna ddigonedd o ddewis y mis hwn felly, er mwyn gwneud pethau ychydig yn haws i chi, rydym yn cynnig disgownt arbennig. Archebwch docynnau ar gyfer unrhyw ddwy sioe o’r rhestr isod ac fe gewch chi ail docyn am hanner y pris!Dewiswch un o’n deuawdau ni neu gallwch greu eich cyplau eich hun.Gweler y telerau a’r amodau perthnasol. Bydd y disgownt yn gymwys ar gyfer y tocynnau rhataf.

LlwyfanWho Killed The Elephant? / Deialog (Iau 7 – Sadwrn 9 Chwefror) t13Sgwrs (good cop bad cop vs cleverbot)... (Sadwrn 9 Mawrth) t16

StraeonBorn To Be Alive: The True Confessions of Johnny Revive (Sadwrn 23 Chwefror + Gwener 22 Mawrth) t15The Company of Storytellers: The Three Snake Leaves (Sul 17 Mawrth) t16

CaneuonThe Wyrd Cupid (Sadwrn 16 Chwefror) t14Get the Blessing (Mercher 20 Mawrth) t17

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Mar

k Th

omas

, Get

the

Ble

ssin

g

Chapter Mix18 029 2030 4400

The

Third

Unc

les

CHAPTER MIXMusic Geek MonthlyIau 24 Ionawr 8pm & Sadwrn 9 Chwefror 3.30pmIau 28 Chwefror 8pm + Sadwrn 9 Mawrth 3.30pmIau 28 Mawrth 8pm + Sadwrn 13 Ebrill 3.30pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn.RHAD AC AM DDIM

www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 3 Chwefror 8pmStraeon ar Dro’r Tymhorau — Straeon a Chaneuon TymhorolSul 3 Mawrth 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — bydd yna groeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Clonc yn y CwtchBob dydd Llun 6.30-8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM

Ar y cyd â Menter Caerdydd.

Dydd Iau Cyntaf y misIau 7 Chwefror + Iau 7 Mawrth 7.30pmNoson lenyddol fisol Seren a Llenyddiaeth Cymru sy’n dathlu ffuglen, gweithiau ffeithiol a barddoniaeth. Dewch draw i gwrdd ag awduron gwych ac i’w clywed nhw’n darllen o’u gwaith; neu gallwch gymryd rhan yn y sesiwn ‘meic agored,’ sy’n rhoi cyfle i awduron newydd ddarllen cerdd neu dudalen o ryddiaith.£2.50

Clwb Comedi The DronesGwener 1 + Gwener 15 Chwefror + Gwener 1 + Gwener 15 Mawrth 8.30pmClint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr ‘stand-up’ newydd gorau.£3.50 (wrth y drws)

Bwrw’r Sul â Gêmau BwrddSul 10 Chwefror + Sul 10 Mawrth 5.30pmYmunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar yn y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gemau bwrdd neu dewch yn waglaw a benthycwch gêm am y noson.RHAD AC AM DDIM

Cwmni Theatr Welsh FargoOn The EdgeTymor Ian Rowlands Mae pob un o’r dramâu yn nhymor y gwanwyn yn ymwneud yn agos â gwaith Ian Rowlands. Mae’r ddrama sydd ganddo ar y gweill ar hyn o bryd, Horizons, yn cael ei hysgrifennu’n benodol ar gyfer On The Edge, ar y cyd â’r dramodydd Jeroen Van Den Berg o’r Iseldiroedd.

A Nice Drink gan Jude GarnerMawrth 12 Chwefror 8pmEnillodd A Nice Drink wobr Drama Un Act Cymdeithas Ddrama Cymru 2012 — ac Ian Rowlands oedd y beirniad. Mae hi wedi cael ei throi’n ddrama hir bellach gan Gwmni Theatr Welsh Fargo.£4

The Way of Water gan Caridad SvichMercher 20 Mawrth 8pmCyflwynwyd y ddrama hon yn Theatr y Lark, Efrog Newydd, ynghyd â Desire Lines gan Ian Rowlands. Mae’n delio ag effeithiau’r olew a arllwyswyd ym Mae Mecsico yn 2010 a’r ffordd y mae’r trychineb wedi effeithio ar fywydau pobl sy’n byw ar yr arfordir. Mae’r ddrama’n dod â chast a chyfarwyddwr Kick for Touch gan Peter Gill at ei gilydd unwaith eto — roedd y ddrama honno’n un o lwyddiannau mawr On The Edge 2011.£4

Darlithoedd SWDFASThe Story of St Pancras, Launce GribbinIau 14 Chwefror 2pmYr olaf o’r gorsafoedd mawrion i gael ei hadeiladu. Roedd Euston yn orsaf Roegaidd, King’s Cross yn orsaf Rufeinig — ond arddull Gothig Scott a ddewiswyd ar gyfer y gwesty mawr a fyddai’n ffasâd i St Pancras. Fe’i hesgeulusir weithiau ond mae’r orsaf yn un o uchafbwyntiau peirianyddol Oes Fictoria.£6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

Thomas Moran — The Turner of the American West, Roger Mitchell Iau 14 Mawrth 2pmMae’r tirluniwr mawr yn haeddu bod mor adnabyddus yng Nghymru ag y mae yn America. Mae ei baentiadau mawrion, a brynwyd gan y Gyngres, yn dangos lliw a mawredd y Gorllewin. Maen nhw’n helpu Americanwyr i ddeall a gwerthfawrogi eu treftadaeth.£6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

www.swdfas.org.uk

Chapter Mix 19chapter.orgO’

r Chw

ith

i’r D

de: S

prin

g Aw

aken

ing,

Priv

ate

Eye

Dete

ctiv

e

CHAPTER MIXGweithdai Barddoniaeth WWF Awr y DdaearSadwrn 16 Chwefror10am-1pm Gweithdy i blant a phobl ifainc2-5pm Gweithdy i oedolion Ydych chi’n caru barddoniaeth? Mae WWF Cymru yn eich gwahodd i weithdy ysgrifennu gyda’r bardd Susan Richardson i ddathlu Awr y Ddaear ac i ddangos eich cefnogaeth i ynni adnewyddadwy. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond gofynnwn i chi wneud cyfraniad bychan i WWF. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch mewn da bryd. E-bostiwch [email protected].

Hadau ar ddydd Sadwrn Gyda Gardd Gymunedol Chapter a Chyngor CaerdyddSadwrn 23 Chwefror 11am — 2pmDewch draw i gyfnewid, rhannu neu brynu hadau a phlanhigion at y gwanwyn. Croeso i grwpiau o randiroedd, grwpiau gerddi cymunedol, clybiau garddio ac unigolion. Gofynnwch am gyngor gan arddwyr profiadol a dewch â’ch offer garddio diangen, potiau ac ati. Bydd cyngor ar gael am berma-ddiwylliant a garddio organig, gweithdy ar gyfer hogi offer, planhigion ar werth neu i’w cyfnewid a chyfle i gyfnewid potiau hefyd.Am wybodaeth bellach cysylltwch â: [email protected]

Jazz ar y SulSul 24 Chwefror + Sul 31 Mawrth 9pmNoson o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM

Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna Mercher 6 Mawrth 5-7pmYdych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol ond yn ansicr sut mae’r holl beth yn gweithio? Neu sut y gallan nhw fod o fudd i chi neu eich grŵp? Dewch draw i’r Cwtsh yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol, anffurfiol. Perffaith ar gyfer dechreuwyr neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol eisiau magu hyder. RHAD AC AM DDIM @cantonsms

Dance ShortsGwener 15 Mawrth 7pmDeng munud o ddawnsio newydd a chyffrous yn y cyntedd gan Tanja Råman o TaikaBox.

Awr y Ddaear WWF 2013Sadwrn 23 Mawrth 8.30pm Mae Awr y Ddaear WWF yn ffenomen flynyddol unigryw sy’n hoelio sylw’r byd ar ein planed ryfeddol a’r angen i’w diogelu. Am 8.30pm ar 23 Mawrth bydd Chapter, ynghyd â channoedd o filiynau o bobl ledled y byd, yn diffodd y goleuadau am awr mewn gweithred symbolaidd fyd-eang o gefnogaeth.

NATIONAL THEATR LIVE:Cynyrchiadau theatr o safon byd wedi’u darlledu’n fyw o Lundain.Os hoffech chi archebu diod ymlaen llaw ar gyfer yr egwyl, gwnewch hynny yn ein caffi/bar cyn y perfformiad.

PeopleDrama newydd gan Alan BennettIau 21 Chwefror Drysau’n agor am 6.30pm, dangosiad byw yn dechrau am 7pm yn unionMae’r awdur arobryn Alan Bennett yn cydweithio eto â’r cyfarwyddwr Nicholas Hytner a’r actores Frances de la Tour (enillydd gwobr Olivier) — gweithiodd y tri gyda’i gilydd ar The History Boys a The Habit of Art.Mae pobl yn difetha pethau; mae cynifer ohonyn nhw — a’r peth olaf mae rywun ei eisiau yw iddyn nhw lusgo’u traed drwy’r tŷ. Ond â’r parc yn debycach i jyngl a bath ar y bwrdd biliards, beth allwch chi’i wneud? Mae Dorothy (Frances de la Tour) yn meddwl taw arwerthiant atig fydd yr ateb. £15/£10

Peop

le

Sinema20 029 2030 4400

SiNeMa

“...campwaith mewn sy’n cyflwyno cyfres ddiddiwedd o ddelweddau hudolus ... Mae Life of Pi yn greadigaeth ryfeddol ac yn gamp sinematig heb ei hail...” Total Film

Life

of P

i

Sinema 21chapter.org

Les Miserables Gwener 25 Ionawr — Iau 7 ChwefrorDG/2012/152mun/12A Cyf: Tom Hooper. Gyda Hugh Jackman, Russell Crowe, Anne Hathaway, Amanda Seyfried.

Mae Jean Valjean, Ffrancwr a garcharwyd am ddwyn bara, wedi torri telerau ei barôl ac mae’n rhaid iddo ffoi rhag yr Arolygydd Javert. Mae’r ymlid yn cael effaith ar fywydau’r ddau ddyn fel ei gilydd ac, ar ôl dau ddegawd o ffoi, mae Valjean yn ei gael ei hun yn faer ar dref fechan yn Ffrainc ar adeg Gwrthryfel mis Mehefin 1832 ym Mharis. Mae Hooper [The King’s Speech, The Damned United] wedi creu addasiad ffilm newydd o’r nofel boblogaidd â chast ensemble disglair. Enwebwyd am Oscar y Ffilm Orau 2013

Life Of Pi Gwener 1 — Iau 14 ChwefrorUDA/2012/127mun/PG Cyf: Ang Lee. Gyda: Suraj Sharma, Gerard Depardieu, Tobey Maguire, Irrfan Khan a Tabu.

Mae enillydd Gwobr yr Academi am gyfarwyddo, Ang Lee, yn dod â nofel Yann Martel — a enillodd wobr Man Booker — i’r sgrin fawr. Mae Pi Patel yn fab i geidwad sw sy’n byw yn Pondicherry, India. Mae ei deulu’n penderfynu symud i Ganada oherwydd caledi ariannol ac maen nhw’n bachu lifft ar long sy’n cludo anifeiliaid prin a gwerthfawr. Yn ystod y daith, mae storm ddifrifol yn llongddryllio Pi gan ei adael ar ei ben ei hun gydag orang-wtan, hiena, sebra wedi clwyfo a theigr Bengal — a phob un ohonynt yn ymladd am eu bywydau. Mae Ang Lee yn sicrhau bod Life of Pi yn brofiad sinematig a fydd yn apelio at bobl o bob oed; mae’n gyflwyniad trawiadol ac mae’r effeithiau gweledol yn syfrdanol. Enwebwyd am Oscar y Ffilm Orau 2013

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Les

Mis

erab

les,

Bul

lhea

d

Bullhead Gwener 1 — Iau 7 ChwefrorGwlad Belg/2012/124mun/TICh Cyf: Michael R Roskam. Gyda Matthias Schoenaerts, Jeroen Perceval.

Stori ddirdynnol am ddialedd, prynedigaeth a ffawd. Mae’r ffermwr gwartheg gormesol, Jacky Vanmarsenille, sy’n ei bwmpio’i hun yn llawn steroidau a hormonau, yn gwneud dêl amheus â masnachwr cig llai nag onest. Pan gaiff un o asiantau’r awdurdodau ffederal ei lofruddio, ac ar ôl i wraig o orffennol trawmatig Jacky ailymddangos, rhaid iddo wynebu canlyniadau pellgyrhaeddol ei benderfyniadau.

McCullin Gwener 1 — Iau 7 ChwefrorDG/2012/91mun/15 Cyf: David Morris, Jacqui Morris.

Mae Don McCullin yn un o gewri newyddiaduraeth ffotograffig – oherwydd ei luniau rhyfel bythgofiadwy ac hefyd am ei waith ar argyfyngau dyngarol fel y newyn yn Biaffra. Mae delweddau dirdynnol McCullin yn cyfleu penawdau a gwrthdaro o bedwar ban byd ac enillodd wobrau niferus am ei waith – ond cafodd ei feirniadu hefyd gan lywodraethau yn fyd-eang am iddo geisio tynnu sylw at yr erchyllterau sy’n dilyn gwrthdaro arfog.Dyw hon ddim yn ffilm i’r gwangalon; mae hi’n cwmpasu gyrfa McCullin yn ei chyfanrwydd ac er bod y delweddau eu hunain yn ingol, y cyfweliad hir gyda’r dyn ei hun sy’n gwneud y gwaith hwn mor deimladwy. + Come Along Do – Sul 3 ChwefrorWedi’i gadeirio gan Gill Nicol, mae’r digwyddiad hwn ar ôl y dangosiad yn defnyddio McCullin a’i waith fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth fanwl a bywiog o gelfyddyd a ffilm. £2.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch mewn da bryd. Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân.)

Gwyl FFilm Cymru un Byd

Sinema22 029 2030 4400

Wadjda Sawdi Arabia/Yr Almaen/2012/97mun/isdeitlau/TICh. Dir: Haifaa Al Mansour. Gyda: Reem Abdullah, Waad Mohammed, Abdullrahman Al Gohani.

Â’i berfformiad canolog ingol, mae’r ffilm hynod ddeniadol hon yn gipolwg prin ar fywyd bob dydd yn Sawdi Arabia. Mae’r tomboi Wadjda — merch glyfar a phenderfynol — yn ei chael ei hun mewn trafferth byth a hefyd wrth iddi frwydro yn erbyn cyfyngiadau ei bywyd, ond mae hi’n benderfynol o ennill digon o arian i brynu beic. Mae saethu ffilm mewn gwlad lle mae sinemâu eu hunain wedi eu gwahardd ers dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddigon o gamp — a phan fo’r cyfarwyddwr yn digwydd bod yn fenyw, mewn gwlad lle mae hi’n anghyfreithlon i fenywod yrru, heb sôn am gyfarwyddo, mae’r gamp honno hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

Mama AfricaY Ffindir/De Africa/2011/90mun/15. Cyf: Mika Kaurismaki Gyda: Miriam Makeba, Hugh Masekela, Harry Belafonte.

Dathliad hynod ddifyr o fywyd yr eicon cerddorol carismatig, Miriam Makeba, cantores alltud ac ymgyrchydd gwrth-apartheid o Dde Affrica a deithiodd i bedwar ban byd i ledaenu neges o obaith i Affrica. Fe’i halltudiwyd o Dde Affrica am 27 mlynedd am ganu mewn ffilm a oedd yn feirniadol o’r drefn hiliol. Symudodd i Efrog Newydd lle bu’n cymysgu gyda’r sêr, dan adain Harry Belafonte, a lle’r anerchodd hi’r Cenhedloedd Unedig er mwyn annog boicot o Dde Affrica. Daeth yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad gwrth-apartheid ac yn rhan o’r frwydr ehangach dros ymwybyddiaeth. Roedd yn wraig i Hugh Masekela a Stokely Carmichael a hi oedd yr artist cyntaf i boblogeiddio cerddoriaeth De Affrica ledled y byd. “Dydw i ddim yn canu am wleidyddiaeth, dw i’n canu’r gwir,” meddai. Ar ôl dioddef boicot yn yr Unol Daleithiau (o ganlyniad i’w phriodas â Carmichael), symudodd i Guinea, cyn dychwelyd yn y pen draw i Dde Affrica ar gais personol Nelson Mandela. Gyda chanu gwych, blas go iawn o’r frwydr

Ban-Affricanaidd dros ryddid yn y 70au, a hanes ei thrychinebau personol, mae’r ffilm yn bortread gwych ac yn agoriad llygad go iawn.

The Sun-Beaten Path Tibet/2011/89mun/isdeitlau/PG. Cyf: Sonthar Gyal Gyda: Yeshe Lhadruk, Lo Kyi

Yn llawn o dirweddau anghyfannedd, eang, a golygfeydd breuddwydaidd, mae’r trysor sinematig hwn yn bortread dilys o’r Tibet gyfoes. Tra’n cerdded adref i ran anghysbell o Tibet drwy’r mynyddoedd a’r gwastadeddau gwyntog, mae hen ddyn yn ymuno â Nyma — ac mae ei ddaioni naturiol yn cymell Nyma i ddatgelu ambell beth amdani’i hun yn raddol bach. Stori syml, wedi’i hadrodd mewn ffordd freuddwydiol, sy’n dangos cyflwr Tibet heddiw — bysus Tsieineaidd smart yn gwibio heibio i gyplau o Tibet ar y llain galed yr holl ffordd i Lhasa.

Viva CubaCiwba/2005/79mun/isdeitlau/PG Cyf: Juan Carlos Cremata. Gyda: Malu Tarrau Broche, Jorgito Milo Avila, Larisa Vega Alamar

Golwg swynol a difyr ar y Giwba fodern trwy lygaid dau blentyn ifanc, Malu a Jorgito, sy’n teithio hyd a lled yr ynys er mwyn dod o hyd i dad Malu. Mae mam Malu yn snob crefyddol sy’n ei gwahardd hi rhag chwarae gyda Jorgito, sy’n fab i sosialwyr tlawd ond balch. Mae mam Jorgito yn gwylltio ac nid yw’r naill fam na’r llall yn sylweddoli pa mor gryf yw’r berthynas rhwng eu plant. Mae’r ffilm yn gwneud defnydd ardderchog o olygfeydd godidog Ciwba ac yn ennyn perfformiadau ardderchog gan y ddau blentyn y mae eu perthynas ddigymell yn trosgynnu gwahaniaethau teuluol, cymdeithasol a gwleidyddol wrth iddyn nhw ddarganfod yr ynys a’i swyn. Enillydd Gwobr y Ffilm Orau i Blant yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2005

+ Bydd y cyfarwyddwr Juan Carlos Cremata yn bresennol ar gyfer sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad yn Aberystwyth — caiff y sesiwn ei Sgeipio i Chapter fel y gall y gynulleidfa yng Nghaerdydd gymryd rhan hefyd.

Gwener 15 — Mer 20 Mawrth

Mae Gŵyl Ffilm Cymru Un Byd yn dychwelyd i Chapter â’i detholiad eclectig arferol o ffilmiau o bedwar ban byd i chi’u mwynhau. Unwaith eto, dewiswyd amrywiaeth eang o ffilmiau i’ch cludo i fannau gwych ac anghysbell – fel ehangder Tibet yn The Sun-Beaten Path, pentrefan anghysbell yng ngogledd pell yr Ynys Las yn The Village at the End of the World, a’r ffilm anhygoel War Witch, sy’n adrodd hanes milwr bychan yn y Congo. Fe’i henwebwyd am Oscar ac enillodd Wobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm Caergrawnt.Caiff y rhaglen lawn ei chadarnhau yn nes at yr amser felly cadwch lygad ar wefan Chapter a gwefan WOW www.wowfilmfestival.comPasport WOW — gallwch arbed £££oedd! Gallwch weld cymaint o ffilmiau WOW ag y dymunwch am ddim ond £30/£25. Gofynnwch i staff y swyddfa docynnau am fwy o fanylion.

ˆ

Sinema 23chapter.org

The Village at The End of the World Yr Ynys Las/2012/78mun/isdeitlau/PG. Cyf: Sarah Gavron Gyda: Lars yr arddegwr, Karl yr heliwr, llanngauq, Annie yr henadur

Mae bywyd y pentref yn gydweithredol ac mae pethau hudolus yn digwydd yn Niaqornat, pentrefan anghysbell yng ngogledd pell yr Ynys Las, sy’n gartref i 59 o bobl a 100 o gŵn. Clywn gyfres o sgyrsiau onest â Lars, arddegwr sy’n hoff o hip-hop a Man Utd ac sy’n chwilio am gariad ar Facebook; Karl, yr heliwr sy’n gobeithio ailagor y ffatri bysgod fel ‘co-op’, Ilanngauq, y ffigwr ymylol ac Annie, yr henadur sy’n cofio dulliau’r Shaman; mae’r cyfan yn cydblethu â delweddau gwych o newidiadau tymhorol y rhew a’r eira. Mae’r ffilm yn gipolwg optimistaidd ar y modd y mae’r pentrefwyr yn addasu i effeithiau newid hinsoddol a globaleiddio ar ‘ffordd o fyw sy’n diflannu’.

Post Tenebras Lux Mecsico/Ffrainc/Yr Almaen/Yr Iseldiroedd/2012/120mun/isdeitlau/18. Cyf: Carlos Reygadas Gyda: Adolfo Jiménez Castro, Nathalia Acevedo, Willebaldo Torres

Ffilm hardd a chymhleth gan un o gyfarwyddwyr mawr y byd; mae’n gofyn i bob gwyliwr ddod o hyd i’w ffordd ei hun drwy’r straeon ac i brofi’r cwbl â llygaid plentyn. Mae Juan a Natalia wrth galon y plot aflinol — maen nhw’n gwpwl dosbarth canol dadleugar a chanddynt ddau blentyn bach hyfryd (plant Reygadas ei hun). Mae’r ‘ffilmiau cartref’ o amser bwyd a phartïon, a bywyd bob dydd, yn dyner a theimladwy ac yn cyferbynnu â golygfeydd od a mwy dramatig o gymeriadau lleol amrywiol. Fel David Lynch domestig, mae Reygadas yn gyfarwyddwr unigryw sy’n plethu ei ddulliau naratif arbrofol â delweddau trawiadol er mwyn creu ffilmiau breuddwydiol sy’n ymddangosiadol syml ond yn esgor ar fyfyrdodau dyfnion.Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2012

War Witch Canada/2012/90mun/isdeitlau/15. Cyf: Kim Nguyen Gyda: Rachel Mwanza, Alain Bastien, Serge Kanyinda

Stori dylwyth teg hardd a grymus am gariad; fyddwch chi ddim wedi gweld ffilm fel hon o’r blaen. Mae Komona, milwr bychan yn y Congo, yn adrodd stori’i bywyd rhyfeddol wrth ei phlentyn yn y groth: sut y cafodd hi’i chipio a dod yn ddewines a chwympo mewn cariad wedi hynny ag albino. Mae hon yn stori am ryfel ac am ddod o hyd i heddwch mewnol. Yn ôl rhai, roedd hi’n ffilm ‘rhy anodd i’w gwerthu’ ond mae hi wedi ennyn ymateb brwdfrydig gan gynulleidfaoedd ledled y byd. Ffilm aml-haenog sy’n cynnwys perfformiad teimladwy ac annisgwyl, gan actores amatur, a fydd yn aros yn y cof am gryn amser.Enillydd Gwobr y Gynulleidfa Gŵyl Ffilm Caergrawnt 2012 Enillydd yr Arth Aur (Gwobr yr Actores Orau) Gŵyl Ffilm Berlin 2012 Enwebwyd am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau 2013

O’r t

op: W

adjd

a, V

iva

Cuba

, Mam

a Af

rica,

War

Wit

ch

Clwb Ffilmiau Gwael:RATS!Sul 3 Chwefror Ar ôl i’r ffilm falu offer Chapter adeg y Nadolig, mae Nicko a Joe’n temtio ffawd mecanyddol trwy ddangos Rats!Mae hi’n 2230 ac mae rhyfel niwclear wedi dinistrio’r byd. Mae grŵp o feicwyr modur yn chwilio am fwyd pan ddaw miloedd o lygod mawr mwtant i ymosod arnynt a cheisio bwyta’u cnawd. Gyda chymorth amrywiol arfau, rhaid i’r beicwyr frwydro yn erbyn y creaduriaid blewog er mwyn goroesi ...

Sgwrs: Dickens a ThroseddLlun 4 ChwefrorGydag Adrian Wootton

Wrth i ni nesu at ben-blwydd y nofelydd Charles Dickens yn 201 oed, mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o’i ddylanwad sylweddol nid yn unig ar iaith sinematig ond hefyd ar ddatblygiad genres poblogaidd, yn enwedig genre y nofel dditectif. Yn ei sgwrs esboniadol, bydd Adrian Wootton (Prif Weithredwr Film London a chyd-Gyfarwyddwr Dickens 2012) yn edrych ar ddiddordeb Dickens ei hun mewn troseddu — gan gynnwys ei sylwadau ar y gyfraith, diwygio’r gyfundrefn gosbi a datblygu plismona modern — a’r modd y defnyddiodd y genre ditectif yn ei waith, proses a arweiniodd yn y pen draw at gydweithio â Wilkie Collins, “Tad y Nofel Dditectif.” Bydd y sgwrs (sy’n cynnwys detholiad hael o glipiau ffilm/teledu a sleidiau) hefyd yn archwilio’r modd y mae gwneuthurwyr ffilm wedi trin yr elfennau o drosedd yng ngwaith Dickens a sut y cyfrannodd ei nofelau at esblygiad y ‘thriller’ cyfoes a ‘film noir’.

Chapter MovieMakerLlun 4 ChwefrorSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM

NoGwener 8 — Iau 14 ChwefrorChile/2012/118mun/15 Cyf: Pablo Larrain. Gyda Jane Fonda, Gael Garcia Bernal, Christopher Reeve

Dan bwysau o du’r gymuned ryngwladol, mae’r unben milwrol Augusto Pinochet yn galw refferendwm ym 1988 a allai bennu ei hawl i aros mewn grym am byth ond mae arweinwyr yr wrthblaid yn perswadio swyddog hysbysebu beiddgar ac ifanc – René Saavedra – i arwain eu hymgyrch. Ag adnoddau prin, a than lygad craff y llywodraeth ormesol, mae Saavedra a’i dîm yn datblygu cynllun beiddgar i ennill yr etholiad ac i ryddhau eu gwlad o ormes yr unben.Enwebwyd am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau 2013

Django Unchained Gwener 8 — Iau 21 ChwefrorDG/2012/165mun/18 Cyf: Quentin Tarantino. Gyda Jamie Foxx, Don Johnson, Leonardo DiCaprio, Samuel L Jackson

Mae cyn-ddeintydd, Dr King Schultz, yn prynu rhyddid caethwas o’r enw Django ac yn ei hyfforddi gyda’r bwriad o’i wneud yn ddirprwy ‘bounty hunter’ iddo. Yn lle hynny, caiff ei arwain at wraig Django, sydd dan orthrwm Calvin Candie – gŵr creulon sy’n berchen ar blanhigfa ym Mississippi.Enwebwyd am Oscar y Ffilm Orau 2013

Sinema24 029 2030 4400

Oliv

er (S

gwrs

: Dic

kens

a T

hros

edd)

Sinema 25chapter.org

The SessionsGwener 8 — Iau 21 ChwefrorUDA/2012/95mun/15 Cyf: Ben Lewin. Gyda Helen Hunt, William H Macy, John Hawkes.

Yn 36 oed, mae Mark O’Brien, bardd a barlyswyd o’i wddf i lawr o ganlyniad i polio, yn penderfynu ei fod eisiau caru am y tro cyntaf. Gyda chymorth ei therapydd a’i offeiriad, mae e’n cysylltu â Cheryl Cohen-Greene, ‘surrogate’ rhyw proffesiynol sydd hefyd yn ‘soccer mom’ Americanaidd nodweddiadol a chanddi dŷ, morgais a gŵr. Wedi’i seilio ar stori wir, The Sessions, mae’r ffilm yn dilyn y berthynas hynod sy’n datblygu rhwng Cheryl a Mark wrth iddi ei arwain ar daith i fod yn ddyn.

Roman Holiday Iau 14 + Sul 17 ChwefrorUDA/1953/118mun/U Cyf: William Wyler. Gyda Gregory Peck, Audrey Hepburn, Eddie Albert.

Wedi diflasu ar ei bywyd cysgodol a phrotocol brenhinol, mae’r Dywysoges Anne yn dianc rhag ei gwarchodwyr i’r Ddinas Dragwyddol. Ar ôl cael ei ffeindio gan y newyddiadurwr Americanaidd Joe Bradley (Gregory Peck) a’r ffotograffydd Irving Radovich, mae’r tri’n cychwyn ar daith ramantus ac anturus — ond a fydd cariad yn ddigon i atal Joe rhag cyhoeddi ei stori fawr? Gyda pherfformiadau swynol a charismatig gan ddau o sêr ffilm mwyaf America (enillodd Hepburn ei Oscar cyntaf am y rôl), mae hon yn gomedi Hollywood ramantus, ddiamser.+ Gweler y cynigion arbennig sydd ar gael yn y Caffi Bar ar ddydd San Ffolant ar www.chapter.org

Zero Dark ThirtyGwener 15 — Iau 28 ChwefrorUDA/2012/157mun/15 Cyf: Kathryn Bigelow. Gyda Chris Pratt, Edgar Ramirez, Jessica Chastain, Mark Strong.

Mae Tîm o SEALs y Llynges Americanaidd yn chwilio am Osama bin Laden. Mae Bigelow yn cyflwyno fersiwn onest a real o’r ymgyrch i ddod o hyd i’r terfysgwr — sydd yn cyd-fynd yn agos, fel mae’n digwydd, â’r modd y digwyddodd pethau yn y dychymyg poblogaidd. Yn weledol, mae’r digwyddiadau’n datblygu fel ‘mash-up’ o gysgodion symudol a fflachiadau ‘night vision’ gwyrdd. Yn raddol, mae pŵer y ffilm yn cynyddu cyn dod i uchafbwynt o gyffro digamsyniol.Enwebwyd am Oscar y Ffilm Orau 2013

Mae hon yn ffilm newyddiadurol sy’n clecio ac yn brathu. Mae’n crynhoi naratif degawd cyfan ac yn ei ffurfio’n ergyd solet o eglurder.” — Time

Everyday Gwener 15 — Iau 21 ChwefrorDG/2012/106mun/15. Cyf: Michael Winterbottom. Gyda Shirley Henderson, John Simm, Shaun Kirk.

Mae’r ffilm hon yn cofnodi’r berthynas rhwng dyn wedi’i garcharu am smyglo cyffuriau a’i wraig a’i blant. Fe’i saethwyd hi dros gyfnod o bum mlynedd, ychydig wythnosau ar y tro.+ Mae hon yn un o ffilmiau’r New British Cinema Quarterly felly cadwch lygad ar ein gwefan i weld manylion sesiwn holi-ac-ateb gyda gwestai arbennig ar ôl un o’r dangosiadau

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Rom

an H

olid

ay, E

very

day

Sinema26 029 2030 4400

Tymor o FFilmiau Cymreig

The Last Days Of DolwynSul 3 + Mawrth 5 ChwefrorDG/1949/95mun/U Cyf: Emlyn Wiliams Gyda: Richard Burton, Emlyn Williams, Edith Evans.

Yn seiliedig ar stori wir, mae hon yn stori am ddyn a alltudiwyd o’i bentref am ddwyn ond a ddychwelodd wedi hynny, o Lundain, i ddial. Mae’r gŵr yn bwriadu prynu’r ardal gyfan yn rhan o brosiect i adeiladu cronfa ddŵr — ond mae hen wraig a’i llysfab yn amharu ar ei gynlluniau. Daw dialedd, llofruddiaeth, anobaith a chariad at ei gilydd yn y ffilm deimladwy hon. Mae Richard Burton yn serennu yn ei rôl gyntaf ar y sgrin, ar ôl gyrfa fel actor llwyfan a chyfnod yn y Llu Awyr Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

+ Ffilm fer: Tryweryn, hanes dyffryn, 1965“Mae’r pentref bychan — sy’n gartref i 74 o eneidiau hoff — wedi’i ddedfrydu i farwolaeth... Cyn hir, bydd y capel – a’r fynwent ei hun — dan ddaear a bydd y bywyd gwledig hamddenol wedi dod i ben.” Dyma fyrdwn geiriau’r adroddwr mewn fersiwn wedi’i golygu o’r ffilm ingol a wnaed gan staff a bechgyn Ysgol y Friars, Bangor, am un o ddigwyddiadau mwyaf emosiynol a gwleidyddol ddadleuol yr 20fed ganrif yng Nghymru — boddi dyffryn Tryweryn a phentref Capel Celyn, ger y Bala, er mwyn darparu dŵr i bobl a diwydiannau Lerpwl.

Burton: Y Gyfrinach? Gwener 8 + Sadwrn 9 MawrthCymru/2011/76mun/12A/Cymraeg gydag isdeitlau Saesneg.Cyf: Dylan Richards. Gyda Richard Harrington a Dafydd Hywel.

Drama bryfoclyd sy’n gofyn beth allai fod wedi digwydd ar adeg dyngedfennol ym mywyd un o sêr mwyaf y 60au, Richard Burton. Mae deuawd agos-atoch Dylan Richards yn dangos Burton a’i frawd hŷn, Ifor Jenkins, ar ôl angladd yn y Swistir. I Burton, roedd yr achlysur yn gyfle i ail-gysylltu â’r ffigwr tadol a gollodd yn dilyn ei garwriaeth â’i gyd-seren yn y ffilm Cleopatra, Elizabeth Taylor. I Jenkins, roedd yn gyfle i fyfyrio ar y gorffennol ac i edrych tua’r dyfodol. Arweiniodd yr aduniad lletchwith, alcoholig at uchafbwynt dramatig a damwain ysgytwol pan barlyswyd Ifor yn ei wddf a thrwy weddill ei gorff.

Valley Of SongSul 10 + Mawrth 12 ChwefrorDG/1953/80mun/U. Cyf: Gilbert Gunn Gyda: Mervyn Johns, Clifford Evans, Maureen Swanson.

Pan gaiff Messiah Handel ei ddewis yn ddarn prawf, mae trigolion tref fach Gymreig yn cychwyn ar gystadleuaeth ffyrnig i ennill lle yn y côr lleol. Mae teuluoedd y Lloydiaid a’r Daviesiaid yn dadlau ynglŷn â phwy ddylai fod yn gontralto ac mae’r anghydfod yn bygwth troi’n ymladd go iawn – a’r pentref cyfan yn danbaid o blaid neu yn erbyn penderfyniad yr arweinydd. Mae yma berfformiad hyfryd gan Rachel Thomas fel Mrs Lloyd, gwraig tŷ sydd wedi cael cam, ac ymddangosiad cyntaf gan Rachel Roberts fel Bessie the Milk.

+ Ffilm fer: Samba Paloma, 1998 Ah, yr hen ‘Gythrel Canu’ — yr awydd hwnnw i ganu’n gystadleuol sy’n troi cenedl o heddychwyr yn eithafwyr rhonc! Ac nid dim ond pobl sy’n ildio i’r ysfa, fel y dengys y ffilm fer hon wedi’i hanimeiddio gan Gerald Conn a Chris Elliott. Mae grŵp o golomennod anniddig yn creu eu hofferynnau eu hunain er mwyn cystadlu â grŵp Samba dynol yn Yr Aes yng Nghaerdydd. Gwnaed y ffilm ar gyfer Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Caerdydd ac fe’i dangoswyd yng Ngŵyl Cinekids, yn Amgueddfa Guggenheim, Efrog Newydd.

Sul 3 Chwefror — Sadwrn 9 MawrthGadawodd y diwydiant glo graith ddofn ar gefn gwlad ac yng nghalon ddiwylliannol Cymru — a gadael hefyd waddol o ffilmiau naratif a dogfen hyfryd. Bydd ein tymor o ffilmiau Cymreig yn cynnwys rhai perlau o Gymru sy’n cyfleu’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a ysbrydolwyd o lwch, budreddi a baw.

Sinema 27chapter.org

Proud ValleySul 17 + Mawrth 19 ChwefrorDG/1940/76mun/PG. Cyf: Pen Tennyson Gyda: Paul Robeson, Rachel Thomas, Edward Chapman.

Mae Paul Robeson yn arwain cast nodedig yn rhan David, taniwr du sy’n chwilio am waith ym mhyllau glo Cymru. Mae’n dod ar draws y glöwr Dick Parry, ond mae ganddo fe lai o ddiddordeb yng ngallu David i weithio nag yn ei lais bariton cadarn. Mae Parry’n gyfrifol am gôr y glowyr lleol, ac mae’n gobeithio ennill cystadleuaeth genedlaethol gyda chymorth llais melfedaidd David. Ond mae trychineb annisgwyl yn rhoi terfyn ar y freuddwyd honno ac yn bygwth dyfodol ariannol Parry, ei deulu a’i holl ffrindiau hefyd. Mae David yn achub y dydd â gweithred drawiadol, Feseianaidd bron o hunan-aberth.

+ Ffilm fer: Caneuon y Meysydd Glo — The Best Little Doorboy, 1957Roedd y Mining Review, cylchgrawn sinema’r NCB, a gyhoeddwyd rhwng 1947 ac 1983, yn cyflwyno newyddion a straeon am gymunedau ym meysydd glo Prydain i fynychwyr sinemâu ymhobman. Mae’r Mining Review 9 Tenth Year — Stories from Denbighshire / Northumberland / Nottinghamshire yn gorffen gyda fersiwn gan ganwr, gitarydd a chwaraewr consertina o “faled o Gymoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i gosod i alaw draddodiadol”. Mae’r delweddau sy’n cyd-fynd â’r faled yn dangos bechgyn yn y gwaith ac yn ystod eu horiau hamdden — yn cludo glo, yn gwylio dyn y lamp wrth ei waith, yn edrych ar ganeri yn ei gawell, yn bwyta’u brechdanau ...

Y Chwarelwr Sul 24 + Mawrth 26 Chwefror Cymru/1935/40+10 munud/Dim Tyst. Cyf: Ifan ab Owen Edwards. Gyda Robert Jones.

Mae Y Chwarelwr yn dangos gwahanol agweddau ar fywyd chwarelwr llechi ym Mlaenau Ffestiniog. Fe’i cynhyrchwyd ym 1935 — y ffilm Gymraeg gyntaf erioed. Cafodd y print gwreiddiol ei ddifrodi ac fe gollwyd rhai o’r riliau, gan gynnwys y diweddglo mawreddog, am byth.Ond yn 2006 aeth Ifor ap Glyn o Gwmni Da ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ati i adfer y ffilm. Aeth Cwmni Da ati wedyn i ail-greu rhan olaf y ffilm, gan ychwanegu lleisiau, effeithiau sain a thrac sain newydd i gymryd lle’r deunydd a gollwyd.+ Bydd Ifor ap Glyn yn ymuno â ni i gyflwyno’r dangosiad ar ddydd Sul 24 Chwefror

O’r t

op: P

roud

Val

ley,

Try

wer

yn, T

he Q

uarr

yman

, Bur

ton:

Y G

yfrin

ach?

Sinema28 029 2030 4400

This Working Life: sTeeL Sul 3 Mawrth — Mawrth 2 EbrillWedi’i chyflwyno gan Archif Genedlaethol y BFI, mae This Working Life: Steel yn gyfle i weld delweddau prin o’n treftadaeth ddiwydiannol. Gyda chymorth Archif y BFI ac archifau partner eraill, gan gynnwys Archif Sain Cymru, mae’r rhaglen hon o ffilmiau yn gofnod hynod o ddiwydiant a oedd ar un adeg yn un o ddiwydiannau pennaf Prydain; mae ffilmiau o bob cwr o’r DG i’w gweld, yn estyn dros gyfnod o bron i ganrif. Fel cofnod o adeg pan allai Prydain honni’n gyfiawn ei bod hi’n un o gynhyrchwyr dur mwyaf a phwysicaf y byd, mae dirywiad diweddar y diwydiant yn ymddangos yn fwy trist fyth. Mae pob un o’r ffilmiau yn datgelu agwedd arall ar y gwaith o gynhyrchu dur, y gweithlu medrus a rhai o’r gorchestion syfrdanol a gyflawnid yn ddyddiol.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Win

gs o

f Mys

tery

, Ste

el in

Sou

th W

ales

, Har

d St

eel

SteelSul 24 + Mawrth 26 MawrthDG/1945/35mun/Dim Tyst Cyf: Ronald Riley.

Wedi’i lleisio gan John Laurie a’i ffilmio gan Jack Cardiff, mae Steel yn rhoi sylw i’r crefftwyr medrus a fu’n gwasanaethu cwmni Dur Prydain ers cenedlaethau.

+ Steel in South WalesDG/Dim Tyst

Ffilm yn dangos dulliau cynnar o rolio dalen o ddur mewn melinau, y broses o ymchwilio i’r defnydd o dun er mwyn gorchuddio arwynebau a’r gwaith o adeiladu melin rolio stribedi poeth newydd Margam. Sylwebaeth gan lais lleol.+ Ffilm fer: Ingot Pictorial No. 27

Ships, Planes and Automobiles Sul 31 Mawrth + Mawrth 2 EbrillCasgliad o ffilmiau byrion sy’n dathlu rhyfeddodau trafnidiaeth. Mae Steel yn ddogfen hyfryd am y gwahanol ddefnyddiau o ddur ac mae Mastery of Steel yn dangos datblygiad y paneli dur a ddefnyddid i adeiladau ceir Morris Motors. Mae River of Steel yn animeiddiad ffraeth sy’n dangos yr anffodion a ddaw o ganlyniad i fyw mewn byd heb ddur, a Fair Oriana yn ddathliad o’r llong deithwyr fwyaf yn Lloegr ar y pryd. Mae Workers’ Weekend yn dangos awyren fomio Wellington yn cael ei hadeiladu mewn dim o dro gan weithlu benywaidd.

Sinema 29chapter.org

Men of Steel Sul 3 + Mawrth 5 MawrthDG/1932/71mun/PG.Cyf: George King. Gyda John Stuart, Benita Hume.

Melodrama mewn gwaith dur yn y gogledd-ddwyrain sy’n dilyn dyn ifanc uchelgeisiol a llwyddiannus sy’n dyfeisio proses newydd ar gyfer cynhyrchu dur ac yn cael gwersi areithyddiaeth (‘elocution’). Ond mae ceisio gwella’i hun yn arwain at newidiadau pwysig...

+ Ffilm fer: Mrs Worth goes to WestminsterDG/1949/25mun.

Mae Mrs Worth a’i meddwl chwim yn dysgu am rinweddau dur.

Hard Steel Sul 10 + Mawrth 12 MawrthDG/1942/86mun/PG. Cyf: Norman Walker. Gyda Wilfrid Lawson, Betty Stockfeld, John Stuart.

Mae gweithiwr dur (Wilfrid Lawson) yn codi drwy’r rhengoedd tan iddo ddod yn rheolwr tair melin ddur. Ond mae uchelgais didostur yn arwain at ei ddinistr; mae e’n digio’i gyd-weithwyr, yn dieithrio’i wraig ac, yn anuniongyrchol, yn achosi marwolaeth un o’r gweithwyr. ‘Mae arogl Sheffield yn dew drwy’r ffilm hon — ac mae hynny’n beth campus!’

+ Ffilm fer: The Ten Year PlanDG/1945/17mun.

Charles Hawtrey yn sôn am ryfeddodau’r ‘prefab’ dur.

Wings of Mystery Sul 17 + Mawrth 19 MawrthDG/1963/55mun/U.Cyf: Gilbert Gunn Gyda Judy Geeson, Hennie Scott, Richard Carpenter.

Mae’r cynhyrchiad llawn cyffro hwn — sy’n llawn o ddelweddau hyfryd hefyd — wedi’i osod yn Sheffield ac yn adrodd hanes lladrad aloi dur arbennig — a haid o golomennod rasio o’r radd flaenaf sy’n achub y dydd!

+ Ffilm fer: Merched y DurDG/1984/27mun.

Cipolwg prin ar rôl merched yn y diwydiant dur yn ystod y rhyfel yn Sheffield.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Ste

el in

Wal

es, S

hips

, Pla

nes

and

Auto

mob

iles

Sinema30 029 2030 4400

Hitc

hcoc

k

HitchcockGwener 1 — Iau 14 MawrthUDA/2012/98mun/12A Cyf: Sacha Gervasi. Gyda Anthony Hopkins, Danny Huston, Helen Mirren, Scarlett Johansson, Toni Collette.

Mae Hitchcock yn stori garu am un o wneuthurwyr ffilmiau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf, Alfred Hitchcock, a’i wraig a’i bartner, Alma Reville. Mae’r ffilm yn dangos Hitchcock yn ystod y broses o ffilmio’i waith arloesol, Psycho, y ffilm arswyd ddadleuol a ddaeth i fod yn un o’r gweithiau mwyaf enwog a dylanwadol yng ngyrfa’r gwneuthurwr ffilmiau.

Megan PriceRheolwr MarchnataAr ôl ei pherfformiad hardd yn sioe wych Caroline Sabin, A Curious Zoo, dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith newydd Deborah Light, HIDE. Â chast o ddawnswyr gwych, mae’n addo bod yn noson hudolus.Dw i hefyd yn edrych ymlaen at weld portread Anthony Hopkins o Hitchcock, un o blith nifer o ffilmiau pwysig a fydd i’w gweld ym mis Mawrth. Bydd taflen arbennig ychwanegol, i’w chyhoeddi ym mis Chwefror, yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol!

chapter.org 31Sinema

Hyde Park On Hudson Gwener 22 Chwefror — Iau 7 Mawrth DG/2012/94mun/12A Cyf: Roger Michell. Gyda Bill Murray, Laura Linney, Olivia Williams, David Walliams.

Ym mis Mehefin 1939, mae’r Arlywydd Franklin Delano Roosevelt a’i wraig Eleanor yn gwahodd Brenin a Brenhines Lloegr i dreulio penwythnos yn eu cartref yn Hyde Park on Hudson ym mhen uchaf talaith Efrog Newydd. Hwn oedd yr ymweliad cyntaf erioed gan frenin neu frenhines Lloegr ag America. Â Phrydain yn wynebu rhyfel â’r Almaen, mae’r Teulu Brenhinol yn erfyn ar FDR am gymorth. Ond mae’n rhaid i faterion rhyngwladol gael eu cydbwyso â chymhlethdodau domestig FDR, wrth i’w wraig, ei fam a’i feistres ddod at ei gilydd i wneud y penwythnos brenhinol yn un gwirioneddol fythgofiadwy. Wedi’i weld trwy lygaid cymydog a chyfaill agos i Daisy Franklin, mae’r penwythnos yn arwain nid yn unig at berthynas arbennig rhwng dwy genedl fawr ond at ddealltwriaeth ddyfnach i Daisy — ac i ni hefyd o’r herwydd — o ddirgelion cariad a chyfeillgarwch.

+ Chapter ac Ystafelloedd Tywyll yn cyflwynoNoson Bill Murray Sadwrn 2 Chwefror 8pmDathliad sinematig o’r dyn mawr, gyda ffilmiau byrion, ffilmiau prin a Quick Change, yr unig ffilm iddo’i chyfarwyddo. Datgelir yr union leoliad yn nes at ddyddiad y dangosiad. Gweler www.darkenedrooms.com am fwy o fanylion neu dilynwch @darkenedrooms ar Twitter/Facebook.

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Hyd

e Pa

rk O

n Hu

dson

, Wha

t Ri

char

d Di

d

What Richard Did Gwener 22 — Iau 28 ChwefrorIwerddon/2012/88mun/15. Cyf: Lenny Abrahamson. Gyda Jack Reynor

Ffilm gyffrous a gwych am fachgen ifanc mewn ysgol fonedd yn Iwerddon; mae e’n gwneud un camgymeriad ofnadwy a fydd yn newid ei fywyd am byth. Mae Richard yn chwaraewr rygbi dosbarth canol sy’n addo pethau mawr tan i funud o drais difeddwl ei droi o fod yn seren yn ffigwr ymylol, euog. Yn wyneb y pwysau cynyddol i ildio i’r heddlu, mae ei rieni a’i ffrindiau’n ceisio’i warchod ond mae euogrwydd yn ei blagio. Gwaith cynnil a hardd nad yw’n gwastraffu’r un ddelwedd.

Lincoln Gwener 22 Chwefror — Iau 7 MawrthUDA/2012/150mun/12A. Cyf: Steven Spielberg. Gyda Daniel Day Lewis.

Mae Lincoln yn ddrama dadlennol sy’n canolbwyntio ar fisoedd olaf cythryblus yr 16eg Arlywydd. Mewn cenedl sydd wedi’i hollti gan frwydro ac ysbryd o newid pellgyrhaeddol, mae Lincoln yn ceisio rhoi terfyn ar y rhyfel, uno’r wlad a diddymu caethwasiaeth. Yn llawn moesoldeb a phendantrwydd, bydd ei ddewisiadau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn newid cwrs hanes i genedlaethau cyfain.Enwebwyd am Oscar y Ffilm Orau 2013

Caesar Must Die Gwener 1 — Iau 7 MawrthYr Eidal/2012/76mun/TICh. Cyf: Paolo a Vittorio Taviani.

Bob blwyddyn mae carcharorion – sydd dan glo am droseddau’n ymwneud â’r Mafia gan mwyaf – yng ngharchar uwch-ddiogel Rebibbia yn Rhufain yn llwyfannu drama. Mae’r brodyr Taviani profiadol yn dilyn ymarferion a pherfformiad o ddrama Shakespeare, Julius Caesar, drama lle mae cynllwynion a brad yn adleisio gorffennol a phresennol y carcharorion. Daw’r actorion yn garcharorion unwaith eto wrth iddyn nhw gael eu cludo yn ôl i’w celloedd. Fel y dywed un o’r carcharorion/actorion tua diwedd y ffilm, “Ers i mi ddarganfod celfyddyd, mae fy nghell wedi troi’n garchar”. Ffilm hynod ddifyr gan gyfarwyddwyr chwedlonol Padre Padrone.

Clwb Ffilmiau Gwael: Piranha 3DDSul 3 Mawrth Ydych chi’n cofio gymaint o hwyl oedd Piranha 3D — ffilm nad oedd hi mewn 3D o gwbl? Wel, mae hi’n amser nawr am y dilyniant i’r ffilm honno, 3DD — a dyw hon ddim mewn 3D chwaith! Ar ôl eu helyntion yn ystod ‘spring break’, mae’r pysgod llofruddiol enfawr yn nofio i fyny’r afon ac yn stopio i gael ychydig o hwyl mewn parc dŵr — ac i achosi trafferth i unrhyw un sy’n mynd yn eu ffordd. Pwy all eu stopio nhw? Bydd yn rhaid i chi weld y ffilm i wybod yr ateb.

Chapter MovieMakerLlun 4 MawrthSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM

Sinema32 029 2030 4400

Call Me KuchuMawrth 26 ChwefrorUganda/UDA/2012/87mun/12A.

Yn Uganda, mae deddf newydd yn bygwth cosbi cyfunrhywiaeth â marwolaeth. Mae David Kato — dyn agored hoyw cyntaf Uganda — a’i gyd-ymgyrchwyr yn gweithio yn erbyn y cloc i drechu’r ddeddfwriaeth a brwydro yn erbyn erledigaeth ofnadwy. Gyda’r ffilm ddogfen ddewr a gafaelgar hon, mae Lavender Screen yn dathlu Mis Hanes LGBT ar y cyd ag Amgueddfa Cymru — atgoffâd amserol o frwydr y gymuned LGBT yn Uganda am yr hawl i garu ac i fyw. + Trafodaeth ar ôl y ffilm gan Lavender Screen dan arweiniad siaradwr o Amgueddfa Cymru, yn rhan o Fis Hanes LGBT

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Cal

l Me

Kuch

u, C

aesa

r Mus

t Di

e

To The WonderGwener 8 — Iau 21 MawrthUDA/2012/112mun/PG Cyf: Terence Malick. Gyda Ben Affleck, Rachel McAdams, Michael Sheen, Javier Bardem.

Ar ôl ymweld â Mont Saint-Michel, mae Marina a Neil yn dod i Oklahoma, lle mae problemau yn eu perthynas yn dod i’r wyneb. Mae Marina’n cyfarfod ag offeiriad a chyd-alltud, sy’n dioddef o ganlyniad i’w alwedigaeth, tra bod Neil yn dod i gysylltiad o’r newydd â Jane, ffrind o’i blentyndod.

LoreGwener 8 — Iau 14 MawrthYr Almaen/2012/109mun/isdeitlau/15. Cyf: Cate Shortland. Gyda Saskia Rosendahl.

Mae’r stori synhwyrus a chymhleth hon am ddod-i-oed yn archwilio’r treialon sy’n wynebu pobl ifainc yn yr Almaen yn sgil yr Ail Ryfel Byd. Pan gaiff eu rhieni — a oedd yn aelodau o’r Schutzstaffel — eu cymryd i’r ddalfa gan luoedd y Cynghreiriaid, mae pump o frodyr a chwiorydd yn gorfod gofalu amdanyn nhw eu hunain. Mae Lore, sydd yn ei harddegau, yn trefnu iddyn nhw ymuno â’u mam-gu yn Hamburg, 500 milltir i ffwrdd. Ar y ffordd yno, mae’r plant yn cyfarfod â phobl sy’n dioddef o effeithiau’r rhyfel tra’n ceisio gwadu hanes ac, am y tro cyntaf, mae’r plant yn gweld goblygiadau gweithredoedd eu rhieni. Â bwyd yn brin, a’r daith yn fwyfwy llafurus, mae’r teulu’n cwrdd â Thomas, Iddew ifanc a oroesodd y rhyfel, sy’n eu harwain nhw i ben y daith.

Robot and FrankGwener 15 — Iau 28 Mawrth UDA/2012/89mun/TICh Cyf: Jake Schreier.Gyda Frank Langella, Liv Tyler, Peter Sarsgaard, Susan Sarandon.

Ffilm wedi’i gosod yn y dyfodol agos. Mae Frank yn lleidr sydd wedi ymddeol ac mae ei ddau o blant, sy’n oedolion, yn poeni na fydd yn gallu parhau i fyw ar ei ben ei hun. Maen nhw’n ystyried ei roi mewn cartref nyrsio tan i fab Frank ddewis ail opsiwn: yn erbyn dymuniadau’r hen ddyn, mae’n rhoi anrheg i Frank: robot sy’n cerdded, yn siarad ac wedi’i raglennu i dendio i ofynion corfforol a meddyliol yr hen ddyn. + Mae SciSCREEN yn dychwelyd â phanel ar ôl y dangosiad ar ddydd Mercher 20 Mawrth. Archebwch docyn am ddim trwy’r Swyddfa Docynnau. Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân. www.cardiffsciscreen.blogspot.com

Gwaith grymus, cynnil, mentrus a chrefftus.” — TIME Magazine

chapter.org 33SinemaO’

r Chw

ith

i’r D

de: T

o Th

e W

onde

r, L

ore

Sinema34 029 2030 4400

I Wish Gwener 22 — Iau 28 Mawrth Japan/2011/128mun/isdeitlau/12A. Cyf: Hirokazu Koreeda.

Mae dau frawd ifanc yn cael eu gwahanu gan ysgariad eu rhieni ac yn byw ar ochrau gwahanol i un o ynysoedd mwyaf Japan. Ond maen nhw’n dyfeisio cynllun cyfriniol i weld ei gilydd eto. Maen nhw’n penderfynu teithio i’r fan lle bydd dau drên Bwled o gyfeiriadau gwahanol yn pasio’i gilydd. Os gallan nhw wneud eu dymuniad yn ystod yr union ennyd honno, maen nhw’n credu y caiff ei wireddu. Mae Koreeda yn cyflwyno portread deniadol a chymhleth o fywyd teuluol yn y Japan gyfoes, y cyfan wedi’i weld trwy lygaid dau fachgen ifanc arbennig iawn.

ShellGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillDG/2012/90mun/15. Cyf: Scott Graham. Gyda Chloe Pirrie, Joseph Mawle.

Un o ‘Sêr Yfory’ UK Screen International, hon yw ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr o’r Alban, Scott Graham. Mae hi’n ddrama eithriadol am ddod-i-oed ac yn edrych ar y berthynas rhwng tad a’i ferch yn Ucheldiroedd anghysbell yr Alban. Mae Shell (Chloe Pirrie) yn rheoli gorsaf betrol ddiarffordd gyda’i thad, Pete (Joseph Mawle). Ar wahân i’r ychydig o gwsmeriaid rheolaidd (sy’n cynnwys yr ardderchog Michael Smiley), mae Shell a Pete yn cael y nesaf peth i ddim cysylltiad â’r byd y tu allan. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd am bopeth; ac mae’r anghenion hynny’n datblygu i fod yn gynyddol annifyr...

Beyond The HillsGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillRwmania/2012/150mun/TICh. Cyf: Cristian Mungiu Gyda Cosmina Stratan, Cristina Flutur, Valeriu Andriuţă.

Treuliodd dwy fenyw ifanc, Alina a Voichita, eu plentyndod gyda’i gilydd mewn cartref i blant amddifad, ac fe ddatblygodd cwlwm tynn rhyngddynt. Pan adawodd Alina Rwmania i geisio gwneud bywyd iddi hi’i hun yn yr Almaen, aeth Voichita i fod yn lleian mewn eglwys Uniongred mewn rhan fynyddig ac anghysbell o’r wlad. Nawr, mae angen help ei ffrind ar Alina i drefnu dogfennau ond mae hi hefyd eisiau aros gyda’r unig berson yn y byd y mae hi wedi’i charu. Mae hi’n disgwyl i Voichita adael yr eglwys a dychwelyd gyda hi i’r Almaen. Ond mae Voichita – sy’n byw gyda grŵp o fenywod crediniol, mewn cymuned o geidwadaeth ddofn – wedi dod o hyd i’r fath ddefosiwn fel bod gorfod dewis rhwng cariad Alina a chariad Duw yn brofiad gwirioneddol ingol. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae’r ddrama ddiweddaraf hon gan Cristian Mungiu (4 Months, 3 Weeks & 2 Days) yn stori garu heb ei hail sy’n cadarnhau ei statws fel un o feistri sinema fodern.

“Mae Mungiu yn ddigymar am greu gweithiau ffurfiol, bwriadus — a hynod gyffrous.”— AV Club

Beyo

nd T

he H

ills

Carry On Screaming!Bod dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming! yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill.Edrychwch ar y calendr i gael manylion y dangosiadau arbennig hyn, i bobl â babanod iau na blwydd oed.Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad heb fabi!

The Life Of PiSadwrn 2 ChwefrorUDA/Tsieina/2012/127mun/PG Cyf: Ang Lee. Gyda: Suraj Sharma, Irrfan Khan, Tabu.

Yn y chwedl hudolus a chyfriniol hon, mae dyn ifanc sy’n goroesi trychineb ar y môr yn ei gael ei hun ar daith epig yn llawn antur a darganfyddiad. Mae e’n ffurfio cyfeillgarwch annisgwyl ag un o’i gyd-oroeswyr, teigr Bengal arswydus.Gweler t21 am fanylion pellach.

The Hobbit: An Unexpected JourneyGwener 8 — Iau 14 ChwefrorSeland Newydd/UDA/2012/169mun/12A Cyf: Peter Jackson. Gyda: Martin Freeman, Ian McKellan, Richard Armitage.

Mae Gandalf y dewin yn annog Hobbit ifanc o’r enw Bilbo Baggins i gychwyn allan ar daith annisgwyl i’r Lonely Mountain. Gyda grŵp bywiog o Gorachod yn gwmni iddo, rhaid iddyn nhw adennill eu cartref mynyddig ar ôl i ddraig o’r enw Smaug ei ddwyn. Dewch i weld pennod gyntaf taith epig arall i Middle Earth.

BraveSadwrn 16 ChwefrorUDA/2012/100mun/PG Cyf: Brenda Andrews, Mark Chapman, Steve Purcell Gyda: Kelly McDonald, Billy Connelly.

Yn benderfynol o droedio’i llwybr ei hun trwy fywyd, mae’r Dywysoges Merida yn herio traddodiad ac mae hynny’n achosi anhrefn yn ei theyrnas. Ar ôl cael y cyfle i gael gwireddu un dymuniad yn unig, rhaid i Merida ddibynnu ar ei dewrder a’i sgiliau saethyddiaeth er mwyn dadwneud melltith ddychrynllyd.

Bydd manylion am ragor o Ffilmiau Teuluol ym mis Chwefror a mis Mawrth i’w gweld ar ein gwefan.

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

35chapter.orgO’

r Chw

ith

i’r D

de:T

he H

obbi

t, B

rave

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan

Info

How

to g

et to

Cha

pter

Yo

u’ll

find

us in

Can

ton

to th

e w

est o

f the

city

cen

tre.

M

arke

t Roa

d, C

anto

n, C

ardi

ff C

F5 1

QE

By F

oot

We’

re ju

st a

20

min

ute

slow

ish

wal

k fr

om th

e

city

cen

tre.

By B

us

Bus

num

bers

17,

18

and

33 s

top

clos

e by

and

leav

e ev

ery

five

min

utes

from

the

city

cen

tre.

By B

ike

Th

ere

are

plen

ty to

bik

e ra

cks

at th

e fr

ont o

f the

bu

ildin

g.

Park

ing

We

have

a c

ar p

ark

to th

e re

ar o

f the

bui

ldin

g an

d lo

cal c

ar p

arks

are

mar

ked

on th

e m

ap a

bove

. Ple

ase

resp

ect o

ur n

eigh

bour

s an

d av

oid

park

ing

on n

earb

y st

reet

s.

Acce

ss fo

r all

Chap

ter w

elco

mes

dis

able

d vi

sito

rs.

If yo

u ha

ve a

ny s

peci

fic a

cces

s re

quire

men

ts o

r que

stio

ns p

leas

e co

ntac

t our

box

off

ice

on 0

29 2

030

4400

, min

icom

029

203

1 34

30.

Asso

ciat

ed C

ompa

nies

and

Art

ists

Ch

apte

r is

hom

e to

thea

tre

com

pani

es, d

ance

co

mpa

nies

, ani

mat

ion

stud

ios,

prin

tmak

ers,

po

tter

s, g

raph

ic d

esig

ners

, mot

ion

desi

gner

s,

com

pose

rs, f

ilmm

aker

s, m

agaz

ine

publ

ishe

rs,

man

y in

divi

dual

, ind

epen

dent

art

ists

and

mor

e.

Head

to w

ww

.cha

pter

.org

for m

ore

deta

ils.

Wor

ksho

ps a

nd C

lass

es

We

host

a w

ide

varie

ty o

f dai

ly w

orks

hops

and

cl

asse

s ru

n by

inde

pend

ent p

ract

ition

ers

incl

udin

g ba

llet,

zum

ba, y

oga,

mar

tial a

rts,

bab

y m

assa

ge,

child

ren’

s m

usic

, pila

tes,

tang

o, fl

amen

co, c

reat

ive

writ

ing,

mus

ic le

sson

s an

d m

ore.

Hea

d to

w

ww

.cha

pter

.org

for m

ore

deta

ils.

Myn

edia

d i b

awb

Mae

Cha

pter

yn

croe

saw

u ym

wel

wyr

an

abl.

Os o

es g

enny

ch u

nrhy

w

angh

enio

n m

yned

iad

peno

dol f

foni

wch

ei

n sw

yddf

a do

cynn

au a

r 029

203

0 44

00, m

inic

om 0

29 2

031

3430

.

Gwyb

odae

thSu

t i g

yrra

edd

Chap

ter

Fe d

dew

ch c

hi o

hyd

i ni

yn

Nhre

gann

a, i’

r go

rllew

in o

gan

ol y

ddi

nas.

He

ol y

Far

chna

d, T

rega

nna,

Cae

rdyd

d CF

5 1Q

E

Ar D

roed

M

ae h

i’n d

aith

ger

dded

ham

dden

ol o

ryw

20

mun

ud o

ga

nol y

ddi

nas.

Ar F

ws

Mae

bys

us rh

if 17

, 18

a 33

yn

aros

ger

llaw

ac

yn

gada

el b

ob p

um m

unud

o g

anol

y d

dina

s.

Ar F

eic

M

ae d

igon

o ra

ciau

bei

c ar

flae

n yr

ade

ilad.

Parc

io

Mae

gen

nym

faes

par

cio

yng

nghe

fn y

r ade

ilad

ac m

ae

mey

sydd

par

cio

lleol

era

ill w

edi e

u no

di a

r y m

ap u

chod

. Go

fynn

wn

i chi

bar

chu

ein

cym

dogi

on o

s gw

elw

ch y

n dd

a dr

wy

osgo

i par

cio

mew

n st

rydo

edd

cyfa

gos.

Cwm

nïau

ac

Artis

tiaid

Cys

yllti

edig

M

ae C

hapt

er y

n ga

rtre

f i g

wm

nïau

thea

tr, c

wm

nïau

da

wns

, stiw

dios

ani

mei

ddio

, gw

neut

hurw

yr p

rintia

u,

croc

henw

yr, d

ylun

wyr

gra

ffeg

, dyl

unw

yr d

euny

dd

sym

udol

, cyf

anso

ddw

yr, g

wne

uthu

rwyr

ffilm

iau,

cy

hoed

dwyr

cyl

chgr

onau

, art

istia

id a

nnib

ynno

l a

llaw

er ia

wn

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o fa

nylio

n.

Gwei

thda

i a D

osba

rthi

adau

Ry

dym

yn

cynn

al a

mry

wia

eth

eang

o w

eith

dai d

yddi

ol

a do

sbar

thia

dau

gyda

g ym

arfe

rwyr

ann

ibyn

nol,

gan

gynn

wys

bal

e, z

umba

, iog

a, c

reff

t ym

ladd

, mas

sage

i fa

bano

d, c

erdd

oria

eth

i bla

nt, p

ilate

s, ta

ngo,

ff

lam

enco

, ysg

rifen

nu c

read

igol

, gw

ersi

cer

ddor

iaet

h a

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o fa

nylio

n.

Market Road / Heol y Farchnad

Cow

brid

ge R

oad

East

H

eol D

dwyr

eini

ol y

Bon

t Fae

n

Church Rd.

Llandaff Road

Leckwith Road

Al

bert

St.

W

ellin

gton

Str

eet

Severn Road

Gl

ynne

St.

Sprin

gfie

ld P

l. Orch

ard

Pl.

Gr

ay St.

Gray

St.

Gray Lane

King’s Road

Mar

ket P

l.

Library St. Penllyn Rd.

Maj

or R

oad

Ear

le P

l.

Ham

ilton

St

Talb

ot S

t

Wyndam Crescent

Harvey Str

eet

To C

ardi

ff

City

Cen

tre

/I G

anol

Din

as

Caer

dydd

Cant

on

from

6pm

o

6pm

P —

free

car

par

ks m

eysy

dd /

par

cio

rhad

ac

am d

dim

bus

sto

p /

safle

bw

s—

cyc

le ra

ck /

rac

feic

s