dinesydd tachwedd 2007

16
a’r artistiaid yn cyflwyno’u gwaith. Agorir yr Arddangosfa gan yr Arglwydd Dafydd ElisThomas. Yn ogystal, bydd llyfryn a chardiau cyfarch yn cynnwys y gweithiau i gyd, ynghyd â phrintiau cyfyngedig o waith Iwan Bala, William Brown, Anthony Evans a Lowri Davies ar werth ar y noson anrhegion Nadolig delfrydol ! Croeso mawr i bawb. Alun Guy 7DFKZHGG 3DSXU %UR 'LQDV &DHUG\GG DキU &\OFK 5KLI www.dinesydd.com Ddiwedd mis Medi daeth Côr Philharmonig Caerdydd ynghyd mewn noson arbennig iawn i ddathlu penblwydd y côr yn 30 oed. Roedd yn noson o hel atgofion, a diolch i Alun Guy am 30 mlynedd fel arweinydd – ef oedd yn arwain y Côr yn Eisteddfod Caerdydd 1977 ac o’r ‘Dinas ar Daf’ Iwan Bala ‘Caerdydd o’r Wenallt’ Anthony Evans ‘Gweld llais o glywed llun’ Pan gyflwynwyd yr her o godi £20,000 ar gyfer Eisteddfod 2008 i Bwyllgor Apêl Cyncoed, Penylan, Llanedern, Y Rhath, Pentwyn a Phontprennau aethpwyd ati i drefnu prosiect uchelgeisiol a fyddai nid yn unig yn chwyddo’r coffrau ond hefyd yn rhoi llwyfan amlwg i lenyddiaeth a chelf. Gwahoddwyd dau ar hugain o feirdd ac artistiaid a chanddynt gysylltiad agos â Chaerdydd i gydweithio fesul pâr a chynnig eu hargraffiadau o’r brifddinas, gan gynnwys Iwan Bala a Mererid Hopwood, Lowri Davies a Gillian Clarke, a Heledd Wyn ac Aled Gwyn. Aeth pob pâr ati mewn ffordd wahanol. Weithiau y gerdd a ddaeth gyntaf, weithiau y llun; bryd arall, bu cydgreu o’r cychwyn cyntaf gan gynhyrchu cywaith yng ngwir ystyr y gair. Erbyn hyn mae’r gwaith wedi’i Ray Gravell 1951 — 2007 West is best ... am unwaith, yn achos y cawr o Fynyddygarreg, mae'n anodd anghytuno hyd yn oed yma ym mhellafion dwyreiniol y wlad. Bydd yn chwith ar dy ôl, Grav. côr hwnnw y ffurfiwyd y côr presennol. Cyflwynwyd rhodd i Alun gan Gwynne Williams, Cadeirydd y Côr, fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad brwdfrydig. Diolchodd Alun i bawb gan ddweud iddo gael mwynhad o’r mwyaf yn arwain y Côr o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Mae’r Côr wrthi’n ymarfer ar gyfer perfformiad fis Ebrill nesaf o’r Offeren yn C gan Beethoven, ac yn ymarfer darnau ar gyfer Côr Eisteddfod Caerdydd 2008. Dymuna’r Dinesydd ddiolch i Alun Guy am ei gyfraniad enfawr i fywyd cerddorol Caerdydd a Chymru dros y blynyddoedd. Mae ei weithgarwch diflino yn parhau wrth iddo arwain Côr Eisteddfod 2008. Côr Philharmonig Caerdydd gwblhau a chynhelir arddangosfa o’r holl weithiau yng Nghanolfan y Mileniwm, rhwng Tachwedd 14eg ac Ionawr 6ed. Mae’r casgliad yn un cyffrous ac unigryw, casgliad y gall Caerdydd, a Chymru gyfan, ymfalchïo ynddo. Cynhelir Noson Lansio’r Arddangosfa Nos Iau, Tachwedd 22ain am 7.30 yn y Lanfa, Canolfan Mileniwm Cymru pan fydd y beirdd

Upload: y-dinesydd

Post on 11-Mar-2016

251 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Dinesydd Tachwedd 2007

a’r artistiaid yn cyflwyno’u gwaith. Agorir yr Arddangosfa gan yr Arglwydd Dafydd Elis­Thomas. Yn ogystal, bydd llyfryn a chardiau cyfarch yn cynnwys y gweithiau i gyd, ynghyd â phrintiau cyfyngedig o waith Iwan Bala, William Brown, Anthony Evans a Lowri Davies ar werth ar y noson ­ anrhegion Nadolig delfrydol ! Croeso mawr i bawb.

Alun Guy

Tachwedd 2007 Papur Bro Dinas Caerdydd a’r Cyl ch Rhif 323

www.dinesydd.com

Ddiwedd mis Medi daeth Côr Philharmonig Caerdydd ynghyd mewn noson arbennig iawn i ddathlu pen­blwydd y côr yn 30 oed. Roedd yn noson o hel atgofion, a diolch i Alun Guy am 30 mlynedd fel arweinydd – ef oedd yn arwain y Côr yn Eisteddfod Caerdydd 1977 ac o’r

‘Dinas ar Daf’ Iwan Bala ‘Caerdydd o’r Wenallt’ Anthony Evans

‘Gweld llais o glywed llun’

Pan gyflwynwyd yr her o godi £20,000 ar gyfer Eisteddfod 2008 i Bwyllgor Apêl Cyncoed, Pen­y­lan, Llanedern, Y Rhath, Pen­twyn a Phontprennau aethpwyd ati i drefnu prosiect uchelgeisiol a fyddai nid yn unig yn chwyddo’r coffrau ond hefyd yn rhoi llwyfan amlwg i lenyddiaeth a chelf. Gwahoddwyd dau ar hugain o feirdd ac artistiaid a chanddynt gysylltiad agos â Chaerdydd i gydweithio fesul pâr a chynnig eu hargraffiadau o’r brifddinas, gan gynnwys Iwan Bala a Mererid Hopwood, Lowri Davies a Gillian Clarke, a Heledd Wyn ac Aled Gwyn. Aeth pob pâr ati mewn ffordd

wahanol. Weithiau y gerdd a ddaeth gyntaf, weithiau y llun; bryd arall, bu cyd­greu o’r cychwyn cyntaf gan gynhyrchu cywaith yng ngwir ystyr y gair. Erbyn hyn mae’r gwaith wedi’i

Ray Gravell 1951 — 2007

West is best ... am unwaith, yn achos y cawr o

Fynyddygarreg, mae'n anodd anghytuno hyd yn oed yma ym mhellafion dwyreiniol y wlad. Bydd yn chwith ar dy ôl, Grav.

côr hwnnw y ffurfiwyd y côr presennol. Cyflwynwyd rhodd i Alun gan

Gwynne Williams, Cadeirydd y Côr, fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad brwdfrydig. Diolchodd Alun i bawb gan ddweud iddo gael mwynhad o’r mwyaf yn arwain y Côr o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Mae’r Côr wrthi’n ymarfer ar gyfer

perfformiad fis Ebrill nesaf o’r Offeren yn C gan Beethoven, ac yn ymarfer darnau ar gyfer Côr Eisteddfod Caerdydd 2008. Dymuna’r Dinesydd ddiolch i Alun

Guy am ei gyfraniad enfawr i fywyd cerddorol Caerdydd a Chymru dros y blynyddoedd. Mae ei weithgarwch diflino yn parhau wrth iddo arwain Côr Eisteddfod 2008.

Côr Philharmonig Caerdydd

gwblhau a chynhelir arddangosfa o’r holl weithiau yng Nghanolfan y Mileniwm, rhwng Tachwedd 14eg ac Ionawr 6ed. Mae’r casgliad yn un cyffrous ac unigryw, casgliad y gall Caerdydd, a Chymru gyfan, ymfalchïo ynddo. Cynhe l i r Nos on La ns i o ’ r

Arddangosfa Nos Iau, Tachwedd 22ain am 7.30 yn y Lanfa, Canolfan Mileniwm Cymru pan fydd y beirdd

Page 2: Dinesydd Tachwedd 2007

Y Dinesydd www.dinesydd.com

CYFRANNU'N ARIANNOL Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar r o d d i o n g a n u n i g o l i o n a chymdeithasau. Rydym yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch at: Trysorydd y Dinesydd, d/o Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd. CF14 2FG .

2

CYDNABYDDIR CEFNOGAETH

www.bwrdd­yr­iaith.org

ISSN 1362­7546

Golygydd y rhifyn hwn: Siân Parry­Jones

Golygydd y rhifyn nesaf: Hywel Jones

Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Rhagfyr 2007

erbyn 29 Tachwedd at: Hywel Jones,

4 Heol Heath Halt, Y Mynydd Bychan, Caerdydd. CF23 5QF

e­bost: [email protected] ffôn: 029 2021­1855

neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:

Peter Gillard, Tŷ Llwyd, Drope Rd., Sain Siorys, Bro Morgannwg CF5 6EP

(e­bost: [email protected]; ffôn: 01446­760007).

MANYLION CYSYLLTU Calendr y Dinesydd

Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ

([email protected]; 029­2062­8754) Hysbysebion

Siân Lewis, Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd CF14 2FG ([email protected]; 029­2056­5658)

Derbyn a dosbarthu copïau Ceri Morgan, 24 Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7HU

([email protected]; 07774­816­209) Rhoddion a thaliadau

Trysorydd y Dinesydd, d/o Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf,

Caerdydd CF14 2FG Noddi rhifynnau

ac ymholiadau cyffredinol Peter Gillard 01446­760007.

Cyhoeddir Y Dinesydd gan Bwyllgor Y Dinesydd.

Fe’i cysodir gan Penri Williams a’i argraffu gan

Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Aduniad Cynhelir aduniad i ddisgyblion dosbarth 1992 Ysgol Uwchradd Caerdydd ar 22 Rhagfyr am 18.30 ymlaen, ar y llawr gyntaf yn Nhafarn 3 Arches. Dewch i weld hen ffrindiau a chael noson i gofio! Am fanylion ymhellach, cysylltwch ag Elin Davies ar 07779 307446 neu e­ bostiwch: [email protected].

Aled James o Landaf a Jenny Garner o Birmingham ar eu priodas yn Tetbury ar 6 Hydref. Diolch i Gôr Meibion Taf, dan arweiniad Rob Nocholls, am greu awyrgylch mor hyfryd i’r achlysur. Mae’r pâr priod wedi ymgartrefu yn Wootton Bassett ger Swindon.

Lisa­Mair a Steven James ar enedigaeth Beca Haf ar Awst 17eg. Wyres i Arwel ac Eleri Peleg Williams a gor wyres i Mrs Mair Evans Maesglas, Dinas Powys.

Ken a Menna Yeomans ar enedigaeth wyres iddynt. Mae Mabli Hannah wrth ei bodd yn byw yng Nghaerfaddon gyda’i rhieni.

Gwenllian Lansdown ar ennill gradd doethuriaeth. Hefyd cafodd ei phenodi fel prif gyfarwyddwr Plaid Cymru, y ferch gyntaf i lenwi’r swydd.

Kelly Marie Angell, aelod o Gôr CF1, am ennill gwobr am ei gwaith ar y gyfres deledu ‘Dr Who’.

Anna Carling o Ysgol Bro Morgannwg parhau i fynd o nerth i nerth gyda’i golff. Mae Anna newydd gynrychioli Merched Cymru yn Oslo, Norwy ac yn aelod o dîm buddugol Pencampwriaeth Tîm Cymru.

Ifan ac Erin Hywyn ar achlysur eu bedydd yn Salem Treganna, plant i Ann a Rhys. Dymunwn yn dda iddynt fel teulu.

Becca Morgan ar ei phenodiad fel athrawes yn Ysgol Gynradd Pwll Coch. Dyma fydd ei swydd gyntaf fel athrawes.

Dorothy Blundell, Pantmawr, un o ffyddloniaid Yr Awr Hapus, Gwesty Pentref Coryton, boreau Llun, 11 ­ 12 o'r gloch. Mae Dorothy wedi ennill gwobr cylchgrawn Lingo Newydd am ddisgrifio ei hoff daith gerdded.

Megan Jones a Jesse Lipetz­Robic o Ysgol Mynydd Bychan am gael eu dewis i chwarae rygbi yn nhîm ‘dan 11 Caerdydd’.

Gwenno Mair Williams ar ei dyrchafiad i Swydd Pennaeth Grŵp C y l l i d P e a c o c k s . Cafodd Gwenno ei haddysgu yn ysgolion y Wern a Glantaf ac mae'n ferch i Ann a Wyn Williams.

Joshua Payne a Harri Symonds o Ysgol Pwll Coch ar gael eu dewis i chwarae i garfan ysgolion Caerdydd.

Ar y Ffin Croeso mawr i siop lyfrau newydd Borders yng nghanol y ddinas, sydd â dewis helaeth o lyfrau ac eitemau eraill Cymraeg. Wrth agor y siop dywedodd Rhodri

Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth bod e’n croesawu ymrwymiad Borders i’r Gymraeg. Meddai “Nid dim ond wrth

ddefnyddio'r Gymraeg yn helaeth ar arwyddion dwyieithog, ond mae dewis eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru hefyd ar werth. Drwy gydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, maent wedi gosod esiampl dda i gwmnïau eraill o ran croesawu a hyrwyddo' r ddwy ia ith yng Nghymru”

Llongyfarchiadau i ....

Page 3: Dinesydd Tachwedd 2007

3 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Eglwys Teilo Sant Sain Ffagan

Ar ddydd Sul, 14 Hydref agorwyd Eglwys Teilo Sant yn Amgueddfa Sain Ffagan gan Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Dr Rowan Williams. Mewn seremoni arbennig o dan

arweiniad yr Archesgob, dathlwyd llwyddiannau Amgueddfa Cymru i symud ac ail­godi’r ‘hen eglwys ar y gors.’ Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan

ar yr her o symud, ailgodi ac adfer yr eglwys ganoloesol o waith maen ­ un o’r projectau cyntaf o’i fath yn Ewrop. Fe gynigiodd yr Eglwys yng Nghymru’r adeilad i Amgueddfa Cymru pan ddechreuodd ddirywio’n arw ac roedd ymsuddiant, llifogydd achlysurol a lleoliad anghysbell yr eglwys wedi atal unrhyw ymgais i’w hadfer. Ar ôl symud yr adeilad garreg wrth

garreg o lannau afon Llwchwr i safle 100 erw’r Amgueddfa, mae seiri maen, seiri coed a pheintwyr yr amgueddfa wedi ailgodi ac addurno’r eglwys fel y byddai wedi bod yn y 1520au. Y prif reswm dros ddewis y cyfnod

hwn oedd bod y crefftwyr wedi ffeindio set o furluniau prin iawn o’r cyfnod ar y safle wrth ddatgymalu’r adeilad. Defnyddiwyd yr holl ddeunyddiau

gwreiddiol posib, ac ymchwiliwyd yn fanwl i unrhyw ddarnau coll er mwyn iddynt gael eu hatgynhyrchu gan arbenigwyr er mwyn sicrhau bod yr eglwys mor ddilys â phosibl. Mae’r adeilad yn cynnwys croglen wedi ei cherfio â llaw ac mae murluniau ar y waliau sy’n ail­greu’r rhai gwreiddiol a ganfuwyd ar y safle. Meddai'r Dr Williams bod hanes y

Canol Oesoedd yng Nghymru yn bwysig iawn, a theimlai fraint i gael agor Eglwys Teilo Sant, ac roedd yn llongyfarch y crefftwyr am y gwaith o ail godi'r Eglwys, sy’n siŵr o ddod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa.

Pont y Werin Da oedd gweld enw Cymraeg yn cael ei rhoi i bont newydd arfaethedig ym Mae Caerdydd. Bydd Pont y Werin, sef pont 140m dros Afon Elái, yn cysylltu Bae Caerdydd a Phenarth, gan greu cysylltiad pwysig i seiclwyr a cherddwyr rhwng y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a Cogan, a chwblhau'r llwybr o amgylch y Bae. Mae Pont y Werin yn rhan o

broject Connect2 Sustrans, sy'n cystadlu am nawdd gan raglen 'Creu Cof Byw: Miliynau'r Bobl' y Gronfa Loteri Fawr. Cynulleidfa rhaglen deledu arbennig ym mis Rhagfyr fydd yn penderfynu ar enillydd yr arian hwn. Cofrestrwch eich cefnogaeth i'r cynllun hwn drwy ymweld â www.sustransconnect2.org.uk neu anfonwch neges destun i 80010.

Côr CF1 Dechreuodd y tymor newydd ar nodyn uchel iawn gyda 70 o aelodau yn yr ymarfer cyntaf! Diolch i’r holl aelodau hen a newydd am eu brwdfrydedd ar ddechrau’r tymor fel hyn.Dros y mis nesaf mae’r dyddiadur

yn edrych yn llawn ac yn gyffrous iawn. Bydd y côr yn cystadlu am y tro cyntaf yn yr Ŵyl Cerdd Dant. Bu’r parti cerdd dant yn cystadlu yno ers rhai blynyddoedd bellach, ond braf iawn eleni yw cael mynd â chôr cymysg i gystadlu. Yna, ar y 25ain o Dachwedd, bydd y côr yn perfformio ‘Teilwng yw’r Oen’ yng Nghapel Salem Treganna. Ar yr 2il o Ragfyr, fe fyddwn yn canu yng Nghyngerdd ‘George Thomas Hospice Care’ gyda Dennis O’Neill, Laura Parfitt ac eraill yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr. Mae’r côr yn ymarfer bob nos Lun

am 7.00 o’r gloch yn Eglwys Dewi Sant, St Andrew’s Crescent. Croeso cynnes i aelodau hen a newydd. Am fwy o wybodaeth am y côr neu am wybodaeth ynglŷn â thocynnau ar gyfer unrhyw un o’n cyngherddau cysylltwch â [email protected] neu ewch i www.aelwydcf1.com

erbyn diwedd y mis at Ruth Nicholls, Rheolwraig Gweinyddiaeth, Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB, neu [email protected].

Cyfleoedd yn y Castell

Bydd lot o ddatblygiadau cyffrous yng Nghastell Caerdydd dros y misoedd nesa’ ac o ganlyniad bydd staff newydd yn cael eu recriwtio mewn sawl maes. Mae’r Castell yn awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg, ac ieithoedd eraill, ac mae cyfleoedd i staff tymhorol llawn amser, yn ogystal â gwaith parhaol. Os oes diddordeb gennych chi

danfonwch eich cv ynghyd â llythyr yn amlinellu’ch sgiliau a’ch profiad

Page 4: Dinesydd Tachwedd 2007

4 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Rali Cymru GB

Bydd Rali Cymru GB, rownd derfynol Pencampwriaeth Ralio'r Byd yr FIA 2007, yn dathlu ei phen­ blwydd yn 75 eleni, gyda'r achlysur yn addo cyfres o raglenni i ddathlu'r pen­blwydd diemwnt. Cynhelir y rali eleni eto yng

Nghaerdydd rhwng 29 Tachwedd a 2 Rhagfyr, gyda'r llwybr yn cynnwys cymalau ralio o'r radd flaenaf ar ffyrdd gro De a Gorllewin Cymru yn ogystal â llethrau milwrol cyffrous Epynt yng nghanolbarth Cymru. Bydd y Rali’n dechrau ar nos Iau

Tachwedd 30, tu fas i Neuadd y Ddinas, a daw cymal poblogaidd Stadiwm y Mileniwm nôl ar nos Sadwrn Rhagfyr 1, gyda rhaglen o adloniant i’r teulu. Ewch i www.walesrallygb.com i

brynu'ch tocynnau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae tocynnau hefyd ar gael o Ticketline ar Westgate Street, neu drwy ffonio 0870 060 1764

Llythyr at Y Golygydd

Annwyl Olygydd, Rwy’n ysgrifennu hanes Teledu

Cymru, y cwmni teledu annibynnol Cymreig a Chymraeg a sefydlwyd ym 1961 i ddarlledu i’r cyfan o dde­ orllewin a gogledd Cymru. Roeddwn yn Brif Gynhyrchydd y cwmni a dechreusom ddarlledu ym Medi 1962; ond aeth i’r wal erbyn Mai 1963, a throsglwyddwyd i gwmni TWW ei ddyledion, ynghyd â’i asedau ­ sef ei adeilad, ei offer, a’i holl ddeunydd rhaglenni a oedd ar ffilm neu mewn cyfrwng arall. Trist gorfod cofnodi i TWW ddewis distrywio popeth a ddaeth iddo o Deledu Cymru, a fu’n bennod bwysig yn hanes teledu yng Nghymru ar waetha’i wendidau a’i fethiant, ac yn garreg filltir ar y ffordd at sefydlu S4C chwarter canrif yn ôl. Tybed a oes gan rai o’ch

darllenwyr luniau (yn arbennig) neu hanesion am eu profiad yn cymryd rhan yn un o’n rhaglenni? Hoffwn yn fawr gael gweld rhai o’r olion hanes hyn a chael caniatâd i ddefnyddio rhai ohonynt os byddant yn addas at bwrpas y llyfr. Byddaf yn mynegi fy nyled i berchennog pob llun a ddefnyddiaf, gan anfon y lluniau yn ôl.Diolch yn fawr iawn. Havard Gregory,Erw Gornel, 51 Heol y Coed, Rhiwbina, Caerdydd CF14 6HQ. Ffôn ­ 029 2069 4667 e­bost: [email protected]

Merched y Wawr Bro Radur

Braf oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd yn ddiweddar i wylio a gwrando ar Sioned Mair yn paratoi bwydydd ffres a blasus. Elen Lewis oedd llywydd y noson a fe’n hatgoffodd am ddawn Sioned wrth ganu ac actio yn ogystal â choginio. Cyflwynodd dau rysáit, sef pate

sardîns ac olewydd a thomatos gyda pherlysiau. Roedd pawb wrth eu bodd wrth flasu'r rhain gyda bara Ffrengig, ond roedd gwell i ddod! Dangosodd Sioned i ni sut i wneud torth o siocled a gynhwysai cnau almwn, ‘mallows’ melys a ‘Turkish Delight’ ­ anrheg fendigedig a gwahanol. Anthony Evans, yr arlunydd o’r

Eglwys Newydd, fydd y gwestai nos Fercher gyntaf fis Tachwedd, yn yr un lle – capel y Methodistiaid, Heol Windsor, Radur. Dewch i ymuno â ni.

Cafwyd wythnos Fathemateg lwyddiannus iawn. Cafodd pawb gyfle i flasu gweithgareddau diddorol o fesur hyd yr iard i bwyso torth o fara! Cynhaliwyd cystadleuaeth arbennig ac enillydd y foronen hiraf (77cm) oedd William Phillips, blwyddyn 6, ynghyd â Daniel Monk, blwyddyn 1 oedd perchennog y daten drymaf oedd yn pwyso 1.109g! Hefyd, yn ystod yr wythnos daeth Paul Godding o Mathcymru i chwarae gemau gyda disgyblion blwyddyn 3 a 4.

Yn dilyn gwasanaeth am afiechyd gwahanglwyf Lepra, cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen. Codwyd swm anrhydeddus o dros £2,500. Diolch yn fawr i bawb am godi’r holl arian.

Daeth cwmni Happy Puzzle Company i gynnal gweithgareddau diddorol er mwyn datblygu sgiliau meddwl. Cafodd y plant lawer o hwyl yn cydweithio ac yn rhannu syniadau. Diolch yn fawr i’r Ffrindiau am ariannu’r diwrnod.

Mae’r clwb chwaraeon wedi ail ddechrau, a hefyd mae’r timoedd rygbi, pêl droed a phêl rwyd wedi eu dewis. Mae disgyblion blwyddyn 5 yn cael cyfle i ddysgu Sbaeneg mewn clwb newydd.

Ysgol y Berllan Deg

William Phillips a Daniel Monk

Gwasanaeth Nadolig

Cynhelir gwasanaeth eciwmenaidd yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Bryn Drain am 2 o’r gloch ar ddydd Sul Rhagfyr 9fed. Bydd casgliad er budd Hosbis Marie Curie ym Mhenarth a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi’r gwasanaeth. Croeso i bawb. Am ragor o wybodaeth am oriau

agor yr Amlosgfa a mynwentydd Cathays a Western ewch i wefan y Cyngor www.caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2062 3294.

Page 5: Dinesydd Tachwedd 2007

5 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Cerdd dantiwr brwd o Ben Llŷn ­ Owain Siôn Williams

­ sy’n cael ei holi’r mis yma...

O le wyt ti’n dod yn wreiddiol? Fe ges i fy ngeni yng Nghaerffili a byw yno am bum mlynedd a hanner cyn symud i Lwyndyrus ym Mhen Llŷn, ardal enedigol fy rhieni.

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti’n byw? Yn Grangetown.

Ers faint wyt ti’n byw yng Nghaerdydd? Ers chwe blynedd.

Beth fuest ti’n ei wneud cyn symud yma? Fe fûm i ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn astudio gradd yn y Gymraeg ac yna radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yno. Yn sgil y radd Meistr enillais Fedal Lenyddiaeth Gŵyl yr Urdd yn 2001 (blwyddyn Clwy’r Traed a’r Genau) ac y cefais weld fy nofel “Bwli” mewn print am y tro cyntaf.

T reu l ia is gyfnod wedyn yn gyfieithydd rhan­amser i Barc C e n e d l a e t h o l E r y r i y m Mhenrhyndeudraeth cyn penderfynu dilyn cwrs Ymarfer Dysgu TAR Uwchradd, eto ym Mangor.

Lle ti’n gweithio erbyn hyn? Rwy’n athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ers chwe blynedd. Rwy’n trio fy ngorau i wneud i blant Caerdydd siarad yn fwy gogleddol yn ogystal â stwffio cerdd dant i lawr corn gyddfau’r disgyblion, yr athrawon a chyfoedion!

Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden? Rwy’n aelod o adran denor Côr CF1, yr adran orau wrth gwrs (sydd byth yn gweiddi!), ac rwy’n Gadeirydd yr Aelwyd am eleni. Rwyf hefyd yn aelod o Gôr ‘n’ wal, côr cymdeithasol ardal Grangetown a enillodd wobr y côr gwledig (!) yn yr Ŵyl Ban Geltaidd y Pasg diwethaf. Canu a cher ddor i a e t h yw f y mhr i f ddiddordeb. Rwy’n aelod o Bwyllgor

PASPORT

Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ac yn ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd Dant Eisteddfod Caerdydd 2008. Rwy’n gosod cerdd dant ac yn hyfforddi unigolion a phartïon yn yr ysgol a’r aelwyd ar gyfer eisteddfodau yn ogystal â chystadlu fy hun. Rwy’n mwynhau cymdeithasu, dadlau, gwylio Lost (diolch i Andy Walpole am ei sky plus­io fo i fi), 24 a Heroes, chwarae’r piano, darllen a facebook!

Be sy’n gwneud i ti chwerthin? Rhaglenni teledu fel C’mon Midffîld (am ryw reswm dydy’r hwntws ‘ma ddim yn ei ddallt o!), cyfres deledu Friends, Ibiza Ibiza. Cwmni ffrindiau fel fy nghyd­weithwraig Bethan Thomas sydd wastad yn dweud pethau doniol! Rhai o’r pethau mae’r plant yn yr ysgol yn eu dweud ar lafar ac yn eu gwaith ysgrifenedig.

Lle ydi’r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd? Y Cornwall yn Grangetown yw’r dafarn leol ble mae Cymry’r ardal yn dod i gymdeithasu’n rheolaidd, Copa yn y dre, Terra Nova yn y Bae, Mochyn Du ar ôl ysgol ar nos Wener. Os am fwyd – Champers, Savastano’s, Mimosa, Plymouth Arms neu’r Riverside Cantonese.

Lle ti’n hoffi mynd am wyliau? Dydw i ddim yn un sy’n mynd dramor ar wyliau. Gwyliau i mi yw cael mynd nôl adre i Ben Llŷn i weld fy rhieni a fy nau frawd, Elis a Iorwerth. Rwy’n trio mynd mor aml ag sy’n bosib ac rwy’n gwybod fy mod i adref pan

wela i Gastell Cricieth. Trueni fod y ffordd mor wael o Gaerdydd i Lwyndyrus a’i bod yn cymryd cyhyd i deithio. Dwi hefyd yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol am wythnos bob blwyddyn. Rhaid dweud fy mod i wedi cael cyfleoedd drwy’r ysgol i fynd i amrywiol lefydd gyda’r disgyblion ­ Paris, Brwsel, Ypres, Llangrannog, Glan Llyn, Nant Gwrtheyrn ­ ond gwaith ydy hynny, nid gwyliau!

Petaet yn cael y cyfle i wella neu newid rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti’n ei wneud? Cael gwared â bob gwylan sy’n codi paent y car efo’u baw.

Lle ti’n gweld dy hun mewn deng mlynedd? Hoffwn i feddwl y byddaf i wedi cael swydd ddysgu Cymraeg yn nôl adref o gwmpas Pen Llŷn erbyn hynny, ond gyda’r hinsawdd byd addysg yno ar hyn o bryd dydw i ddim yn obeithiol iawn. Os na fydd hynny’n bosib, gobeithio y bydda i’n hapus o hyd yn dysgu Cymraeg, neu’n golygu neu baratoi deunyddiau adolygu ac addysgu ar gyfer athrawon. Ac yn dal i ganu a cherdd dantio!

CYNGERDD CÔR

MEIBION TAF Unawdwyr

ALED HALL a

IONA JONES

Capel Y Tabernacl, Yr Aîs, Caerdydd.

Nos Wener Tachwedd 23ain

am 7.30 y.h.

Tocynnau £7.50 gost. plant a phensiynwyr.

gan aelodau’r Côr a’r Capel, ac wrth y drws.

Page 6: Dinesydd Tachwedd 2007

6

www.mentercaerdydd.org 029 20565658

Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Bob Nos Fawrth Gwersi hanner awr rhwng

5pm a 6.30pm Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Cychwyn Nos Fawrth, Tachwedd 6 Addas i blant sy’n dysgu nofio

am y tro cyntaf. Am ffurflen gais cysylltwch â’r swyddfa neu ebostiwch

[email protected]

GROTO PLANED PLANT BACH

(Rhaid archebu o flaen llaw drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ­ 0870 600 4141)

Lluniaeth, Anrhegion Nadolig, Adloniant Byw a llawer mwy…

Clwb Nofio Dechreuwyr

i blant

Cwis Cymraeg Nos Sul, Tachwedd y 25ain yn y Mochyn Du am 8pm. Croeso cynnes i bawb.

Mae Cymdeithas Gwestai Caerdydd wedi cychwyn ymgyrch nawdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a’r Cylch 2008 drwy roi’r cyfraniad cyntaf o £5,000 tuag at yr ymgyrch. Hwn yw’r cyfraniad cyntaf o fyd busnes tuag at yr ŵyl. Trefnwyd cinio busnes er

hyrwyddo’r ŵyl a nodi’r cyfleoedd y daw i’r brifddinas o’i hymweliad. Mae’r Eisteddfod yn costio £3.4 miliwn i’w chynnal yn flynyddol ond dengys ymchwil annibynnol fod yr Eisteddfod yn cynhyrchu effaith economaidd gros o £6.4 miliwn ­ chwistrelliad arwyddocaol i’r economi lleol. Meddai Dermot Keegan, Cadeirydd

Cymdeithas Gwestai Caerdydd, “Rydym yn falch iawn i fod yn gysylltiedig â’r Eisteddfod. Gwêl y gymdeithas gyfle aruthrol gyda dyfodiad yr Eisteddfod i hyrwyddo’r brifddinas a’r cyfleoedd lletygarwch arbennig sydd yma.”

Arholiadau Gorsedd y Beirdd

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Gaerdydd y flwyddyn nesaf, beth am fynd ati dros fisoedd y gaeaf i baratoi ar gyfer sefyll arholiadau’r Orsedd, a thrwy hynny ddod yn aelod o’r Orsedd a chael cymryd rhan yn ei seremonïau a’i gorymdeithiau lliwgar ? Cynhelir yr arholiadau ar y Sadwrn

olaf yn Ebrill a gallwch ddewis o blith nifer o feysydd i arbenigo y n d d y n t : B a r d d o n i a e t h , Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, ynghyd â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr. Rhaid pasio dau arholiad yn eich maes dewisedig cyn cael eich urddo i’r Wisg Werdd, ond gallwch sefyll y ddau bapur yr un diwrnod, os dewiswch. Yna, ymhen blwyddyn wedyn, cewch sefyll yr arholiad terfynol i’ch urddo i’r Wisg Las.Os hoffech fwy o fanylion am yr

arholiadau, cysylltwch â Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon), Trefnydd Arholiadau Gorsedd y Beirdd, cyn gynted â phosib yn: Llys Cerdd, 80 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL, e­bost:

Gwestai Caerdydd yn cefnogi’r Eisteddfod

Penwythnos Teulu i Langrannog – Mawrth 28­30, 2008 Penwythnos penigamp i’r teulu cyfan. Cyfle i sgio, merlota, nofio, tramploin, go­karts, beiciau modur, cwrs rhaffau, trip i’r traeth, adloniant gan Heather Jones a llawer mwy….. Addas i rieni Cymraeg a Di­ Gymraeg. Pris y penwythnos yn cynnwys yr

holl weithgareddau, llety, pob pryd bwyd a meithrinfa. Nid yw’r Fenter yn gyfrifol am gludo teuluoedd i Langrannog. Cysylltwch am fwy o fanylion: [email protected]

MIR I D OLI G

Dydd Sul, Rhagfyr 9 Ysgol Gyfun Glantaf

12pm – 5pm

Richard Platts, Dermot Keegan (Cadeirydd Cymdeithas Gwestai Caerdydd), Huw Llewelyn Davies (Cadeirydd Eisteddfod Caerdydd)

Page 7: Dinesydd Tachwedd 2007

7

Caerdydd a’r Cylch 2008

Y DINESYDD TACHWEDD 2007

TOCYNNAU AR WERTH

Un arwydd o ddyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol yw cychwyn gwerthu tocynnau, ac ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 1af, fe fydd modd prynu tocyn wythnos ar gyfer holl ddigwyddiadau dyddiol y P a f i l i wn g a n g y n nw y s y cystadlaethau a holl seremonïau'r Orsedd Mae tocyn i’r Pafiliwn hefyd yn caniatáu ichi ddod ar y Maes.

Hefyd ar 1 Rhagfyr, bydd modd prynu tocyn mynediad i’r Maes ar gyfer diwrnodau unigol, sydd hefyd yn caniatáu i chi fynychu pob pafiliwn ar hyd y Maes gan gynnwys y brîf Bafiliwn. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau hwyrol yr Eisteddfod sef cyngherddau'r Pafiliwn a dramâu amrywiol, ar werth o Fawrth 1af 2008. Ond os ydych wedi prynu tocyn sedd wythnos yn y Pafiliwn, cewch gyfle i brynu tocynnau cyngherddau'r hwyr ychydig yn gynt. Mi fydd y llinell docynnau ar agor o Ragfyr 1af ymlaen : 0845 122 1176.

NWYDDAU Mae nwyddau newydd Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch ar werth o swyddfa’r Eisteddfod, Caban neu Siop y Felin. Yn ogystal â’r crysau T a beiros sydd eisoes ar werth erbyn hyn mae modd prynu mygiau a chardiau Nadolig Eisteddfod Caerdydd.

DYDDIADAU CAU CYSTADLAETHAU

Nodyn i atgoffa pawb sy’n bwriadu cystadlu yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen fod y dyddiad cau ar gyfer Eisteddfod 2008 yn prysur agosáu sef 1 Rhagfyr 2007. Eleni'r sialens ar gyfer y fedal Ryddiaith yw “Cyfrol ac iddi gefndir dinesig neu drefol heb fod dros 40,000 o eiriau” tra’r dasg yng Ngwobr Goffa Daniel Owen yw ysgrifennu nofel heb ei chyhoeddi

gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

PWYLLGORAU APÊL Mae mis Tachwedd eleni yn un o’r misoedd prysuraf hyd yn hyn yng nghalendr y pwyllgorau apêl felly gobeithio y bydd llawer o arian yn cael ei godi wedi holl waith diflino'r pwyllgorau.

Dydd Sadwrn y 10fed: Sioe Ffasiynau Kiros yng nghlwb golff Radur a bydd bws yn llawn siopwyr Nadol ig (cynna r !)yn ga dael Caerdydd am 8.30yb i fynd i Gaerfaddon am y dydd.

Nos Iau'r 15fed: arddangos a gwerthu gemwaith prydferth Mari Thomas a Nicola Palterman yng nghlwb y BBC ar gyda mynediad yn £3 fydd yn cynnwys tocyn raffl. Bydd cyfle i alw draw unrhyw bryd rhwng 6.30 a 10yh.

Nos Wener 16eg: arddangosfa o waith beirdd ac artistiaid blaenllaw'r ddinas – wele’r erthygl.

Nos Wener 16eg: Arwerthiant yn Neuadd Llanofer, Treganna gyda danteithion diri ar gael i’w prynu yno.

Nos Sul y 18fed: ‘Meseia i Bawb’ fydd y lluniaeth ar gael ar yng Nghapel Tabernacl gydag unawdwyr o Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd yn cymryd rhan. Bydd yn dechrau am 7.30yh gyda’r tocynnau yn £5.

Nos Wener y 23ain: Caryl a’r Band fydd yn diddanu'r gynulleidfa draw yn Ysgol Melin Gruffydd.

Nos Sadwrn y 24ain yn Neuadd y Pentref, Rhiwbeina. tro Mynediad am Ddim fydd hi i drigolion Rhiwbeina a’r cylch.

Felly fel y gwelwch mae digon ar gael at ddant pawb ac os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw ddigwyddiad yna cysylltwch â Siwan yn swyddfa’r Eisteddfod ar 029 2076 3777 neu ewch i’r wefan www.eisteddfod.org.uk

Carol, Cerdd a Chân

Bydd y gwasanaeth Nadoligaidd, Carol, Cerdd a Chân, yn yr Eglwys Gadeiriol ar 30 Tachwedd am 7.30yh, yn cael ei gyflwyno er cof am Alma Carter, a fu farw’n gynharach eleni. Trwy gysylltiadau Alma â’r Gadeirlan y trefnwyd Carol, Cerdd a Chân y llynedd i roi hwb i’r ymgyrch codi arian at Eisteddfod Caerdydd 2008. Bu honno’n noson gofiadwy; go brin y gallai neb fod wedi dychmygu y byddem wedi colli Alma erbyn y tro hwn. Edrychwn ymlaen at ddatganiadau

gwefreiddiol eleni eto gan Gôr Merched Canna, gyda Rob Nicholls wrth yr organ; yr unawdwyr eleni fydd Siân Meinir, Rhian Owen a Rhian Huws Williams. Ceir darlleniadau gan Frank Lincoln ac Elen Rhys. Cawn gyfle hefyd i wrando ar Fand Jazz Ysgol Gyfun Plasmawr, ac eitemau amrywiol gan yr ysgolion cynradd lleol, Pencae, Treganna a Choed y Gof. Bydd carolau cynulleidfaol, hefyd. Croeso cynnes i bawb.

Meseia i Bawb Un o’r campweithiau cerddorol sy’n cael ei gysylltu gyda’r Nadolig yw’r Meseia gan Handel a dyma gyfle i chi ddod i wybod y gwaith i gyd trwy ymuno mewn perfformiad yng Nghapel y Tabernacl ar Sul, Tachwedd 18ed. Bydd hwn yn berfformiad arbennig – cyfle i unrhyw un sydd am ganu’r Meseia ymuno gyda’r corws. Y cyfan sydd raid i chi wneud yw dod i’r Tabernacl erbyn 2pm gyda chopi o’r Meseia. Bydd ymarfer yn y prynhawn, a’r perfformiad yn y nos am 7.30pm. Daw’r unawdwyr o Academi L la i s Ryngwla do l Caerdydd gyda Tim Rhys­Evans yn arwain a Jeffrey Howard wrth yr organ. Os nad ydych am ymuno â’r Corws , dewch i fwynhau’r perfformiad trwy fod yn rhan o’r gynulleidfa. Bydd elw’r noson yn mynd t u a g a t E i s t ed d f o d Genedlaethol Caerdydd 2008.

Page 8: Dinesydd Tachwedd 2007

8 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Ysgol Mynydd Bychan

Bu dechrau flwyddyn academaidd yn fwy cyffrous nag arfer wrth i ni gyd­ weithio o dan arweinyddiaeth pennaeth a dirprwy newydd. Dymunwn yn dda i Siân Evans ein pennaeth newydd a Mai Giles ein dirprwy. Fel rhan o faes astudiaeth

Cerddoriaeth Byd Eang, daeth y cerddor Aaron Melly i gynnal gweithdy. ‘Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn arbrofi gyda’r gwahanol offerynnau taro, darganfod peth o hanes y gwledydd o ble y daethant. Cafodd disgyblion blwyddyn 4 a 5

y cyfle o weithio ar brosiect “Y Ffidil Goch”. Daeth y Bariton Jeremy Huw Williams a’r ffidilwraig Madeleine Mitchell i’r ysgol i gynnal gweithdy canu, a daeth yr artist Rosie Edwards i’n hatgoffa pa mor amlwg mae Cerddoriaeth wedi effeithio ar rai o artistiaid amlyca’r byd. Aeth y plant ati i greu Collage mewn ymateb i gerddoriaeth y Ffidil. Arddangoswyd eu gwaith yng nghanolfan y Mileniwm ar noson lansio “Gŵyl y Ffidil Goch”. Daeth y Parchg. Denzil John o’r

Tabernacl, Caerdydd atom i gynnal ein gwasanaeth Diolchgarwch eleni. Diolchwn iddo am ei neges dymhorol. Eleni, aeth y casgliad ariannol tuag at elusen Barnardos, a dymunem fel ysgol diolch i’r rhieni am eu cyfraniadau hael tuag at yr elusen haeddiannol hon.

Ysgol Pwll Coch Cynhaliwyd ‘wythnos eco’ yn ddiweddar gyda phob dosbarth yn gwneud tasgau trwy’r wythnos a oedd yn ymwneud â’r amgylchedd. Dysgodd y disgyblion lawer am yr amgylchedd trwy weithgareddau trawsgwricwlaidd, gan gynnwys gwneud gwaith celf allan o sbwriel, y s g r i f e n n u c e r d d i a m y r amgylchedd, dadansoddi data ym Mathemateg, teithiau natur a llawer mwy o weithgareddau diddorol. Derbynion ni'r newyddion cyffrous iawn yn ddiweddar ein bod wedi ennill y wobr arian yn y cynllun eco­ ysgolion ac rydym nawr yn awyddus iawn i symud ymlaen tuag at y wobr aur. Llongyfarchiadau i bawb ym Mhwll Coch.

Sefydlodd criw o rieni, gyda chymorth y Sir, fws cerdded o Bontcanna i’r ysgol bob bore. Mae hyn yn syniad gwych gan ei fod yn iachus, yn gymdeithasol i’r plant, ac yn lleihau traffig tu allan yr ysgol sy’n helpu’r amgylchedd a diogelwch.

Cynhaliwyd gwasanaeth Cynhaeaf yr ysgol ar ddydd Mawrth y 23ain o Hydref . Canodd pob adran ddetholiad o emynau diolch a chanodd côr yr ysgol hefyd. Mwynhaodd y disgyblion anerchiad bywiog a diddorol gan y Parch. Evan Morgan. Yn ogystal, aeth côr yr ysgol i Eglwys Sant Ioan, Treganna fel rhan o wasanaeth Cynhaeaf gan ysgolion lleol.

Croesawyd Aelod y Cynulliad dros ddiwylliant, Rhodri Glyn Thomas i’r ysgol i weld gweithgareddau di­ri yn yr adran Addysg Gorfforol dros un awr ginio arferol. Bu’r diwrnod yn rhan o ymweliad y Gweinidog ag ysgolion sydd wedi ymgymryd â’r cynllun 5x60 ­ sef y cynllun i gael pobl ifanc i wneud 5 awr o ymarfer corff yr wythnos. Yn ôl Mr Thomas ‘Mae’r cynllun yma yn un gwych ­ mae’n rhoi sgôp i ddisgyblion a rhyddid iddynt i wneud beth mae nhw’n ei fwynhau ac i gadw’n ffit ar yr un pryd.’

Gwahoddwyd yr holl Fro draw i’r ysgol yn ddiweddar i flasu bywyd yn yr ysgol. Cafwyd noson lwyddiannus dan ofal yr athrawon a’r disgyblion. Roedd pob math o weithgareddau ar y gweill. O arbrofion yn y labordai i gwrdd ag Elisabeth I yn yr adran Hanes. Roedd gwledd o adloniant ar gael hefyd o ddawnsio stryd i arddangosfeydd chwaraeon. Os na gawsoch gyfle i ymweld ar y noson, ewch draw i’n gwefan newydd sbon i gael rhith­daith drwy’r ysgol ­ www.yfro.org.uk.

Gwelwyd taith gyfnewid yr ysgol â Grünstadt yn yr Almaen yn torri tir newydd yn ddiweddar trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara i gael dolen gyswllt yn ystod yr wythnos rhwng y disgyblion â’u ffrindiau a’u teuluoedd adref. Gwnaethpwyd hyn ar ffurf blog dyddiol tair­ieithog. Mynnwch gip ar http://ygbmalmaen.blogspot.com i ddarllen ein holl hanesion – ac i weld lluniau difyr.

Ysgol Gyfun Bro Morgannwg

Cylch Meithrin Nant Lleucu

Mae Cylch Meithrin Nant Lleucu ym Mhenylan yn chwilio am gynorthwy­ ydd ar gyfer dydd Mercher 9.15­ 11.45 gan ddechrau ym mis Ionawr. Cymraeg yn hanfodol yn ogystal a phrofiad o ofal plant a chymhwyster addas. Cysylltwch a Lowri Mifsud ar 02920 902436 neu ar [email protected] am fwy o wybodaeth.

Page 9: Dinesydd Tachwedd 2007

9 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Swyddog Treftadaeth y Gymraeg yng Nghaerdydd (Rhan Amser) £24,000 Pro rata + Pensiwn 20 awr yr wythnos – Oriau Hyblyg + gweithio o adref

Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus weithio ar bedwar prosiect Treftadaeth y Gymraeg yng Nghaerdydd dros gyfnod o ddwy flynedd gan gynnwys; • Cynnal Gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith mewn

Ysgolion Uwchradd ail­iaith y Sir. • Creu Taflen Dwristiaeth am leoliadau hanesyddol

Cymraeg yng Nghaerdydd. • Ymchwilio dogfennau yn ymwneud gyda’r

Gymraeg yng Nghaerdydd • Recordio hanesion llafar nifer o drigolion

Cymraeg Caerdydd.

Swydd i gychwyn Ionawr 2008 Am wybodaeth pellach cysylltwch â Sian Lewis, Menter Caerdydd; (02920) 565658 neu [email protected] Dyddiad cau 19 Tachwedd 2007

AIL­HYSBYSEB

Mae blynyddoedd 5 a 6 yn ffodus iawn i dderbyn cyfres o weithdai hyfforddiant sgi liau rygbi gan chwaraewr proffesiynol. Hoffem ddiolch i Iestyn Williams o dîm rygbi Gleision Caerdydd yn fawr. ‘Rwyt ti wedi ysbrydoli’r plant a phwy a ŵyr efallai mai yng Nghoed y Gof mae dyfodol rygbi Cymru!

‘Rydym yn ddiolchgar hefyd i Nath Trevitt sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd am ei gynnig caredig i roi gwersi gitâr acwstig i blant yn yr ysgol.

Llangrannog

Ysgol Pencae Llwyddodd yr ysgol i ennill gwobr yr Academi i ddathlu’r diwrnod yng nghwmni Felicity Dahl mewn gweithdy ysgrifennu yn yr Eglwys Norwyaidd a Chanolfan y Mileniwm.

Daeth Caryl Parry Jones, Bardd Plant Cymru, i arwain gweithdy barddoniaeth gyda disgyblion Blwyddyn 4. Diolch iddi am ennyn y plant i fwynhau chwarae gyda geiriau ac i ysgrifennu barddoniaeth gwerth chweil.

Trefnwyd amrywiol weithgareddau ar ddiwedd Tymor yr Haf er mwyn hybu cadw’n iach. Cynhyrchwyd llyfr ryseitiau gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Pencae yn 2006. Dewisodd y plant brydau bwyd o’r llyfr er mwyn ein cogyddes eu paratoi yn ystod yr wythnos. Cyflwynwyd bar salad yn ychwanegol i’r cinio ysgol ac o ganlyniad mae mwy o blant nag erioed yn bwyta cinio ysgol.

Dyfarnwyd gwobr i ddisgyblion blwyddyn 6 am ennill cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2007 a’r wobr ariannol o £250 i’r ysgol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Diolch i Mr Cen Williams, un o gyfeillion yr ysgol, am gefnogi’r prosiect hwn.

Ysgol Coed y Gof

Mwynheuodd blwyddyn 6 eu hymweliad â Llangrannog eleni eto ac mae eu brwdfrydedd a’u mwynhad amlwg wrth drafod eu profiad wedi creu argraff dda ar blant eraill yr ysgol.

Bu b lwydd yn 1 yn f f e rm ‘Greenmeadow’ ar Hydref y 18fed yn edrych ar yr anifeiliaid mwynheuon nhw gael gweld buwch yn cael ei godro ond uchafbwynt y dydd medden nhw oedd cael mynd ar daith ar gefn treilar!

Page 10: Dinesydd Tachwedd 2007

10

Newyddion o’r Eglwysi Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Eglwys y Crwys

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Y Gymdeithas Ddiwylliannol o dan y teitl ‘Ar Lafar ac ar Gân’. Rhaglen amrywiol oedd hon wedi ei chydlynu gan Mrs Glenys Roberts a’i chyflwyno gan y Parch Gareth Reynolds. Roedd y rhaglen yn cynnwys eitemau gan gôr llefaru, corau lleisiol gan oedolion a phlant, unawdau offerynnol, darlleniadau, unawdau cerdd dant a chystadleuaeth limrig yn cael ei beirniadu gan Mallt Anderson.

Agorodd tymor y Gorlan ar Hydref y 3ydd pryd y cawsom gwmni Y Parch. Dafydd Henry Edwards i’n harwain at fwrdd y cymun. Cawsom gyfle i rannu ei brofiadau ar rai o’i deithiau yng ngwlad Israel. Bythefnos yn ddiweddarach trefnwyd taith i fro Pantycelyn a’r cylch. Fe’n harweiniwyd ar y daith honno gan yr Athro John Gwynfor Jones a chawsom ganddo sylwebaeth ddifyr o holl nodweddion cyfnod y meistri haearn ym Merthyr hyd at gefndir y Perganiedydd a’i gyfraniad unigryw i emynyddiaeth Cymru.

Dydd Sul Hydref 14eg bedyddiwyd Daniel Cynwil Burford gan ei dadcu y Parch. Cynwil Williams o flaen cynulleidfa ddigon teilwng oedd yn cynnwys ei famgu Carol Cynwil. Mae Daniel yn fab i Siriol a David Burford ac erbyn hyn mae gan Carol a Cynwil wyres ac ŵyr.

Minny Street, Caerdydd

Tabernacl, Yr Ais

Dechreuodd gweithgareddau’r Gymdeithas eleni gydag Oedfa’r Cynhaeaf Blynyddol. Yn dilyn hyn fe fwynhawyd y Cinio Cynhaeaf yn y festri ac unwaith eto paratowyd bwyd blasus gan ferched y Gymdeithas. Roedd y Penny Readings a gynhaliwyd ar yr 16eg o dan arweiniad arferol Bryn Evans yn llwyddiannus dros ben. Gwenallt Rees enillodd y Gadair. Cwis ardderchog o dan ofal Hywel Rees ac Alan Kemp oedd gweithgaredd olaf mis Hydref.

Yn ystod cyfnod y gwyliau bu nifer yn rhoi o’u hamser i beintio’r waliau a’r nenfwd cyn gosod gorchudd llawr pren newydd yno. Mae’n edrych yn fendigedig a gobeithio y gallwn fwrw ymlaen gyda’r festri isaf cyn hir.

Dymunodd merched Emlyn a Marion Davies sef Ann, Elizabeth a Sian, estyn rhodd i’r eglwys er cof am eu tad, drwy gyflwyno Beibl Saesneg at ddefnydd y pulpud. Hefyd cyflwynwyd sgrin wen ar gyfer gwaith taflunydd yn y festri. Bydd y ddwy rodd yn ddefnyddiol iawn.

Croeso i daflen newydd yr Ysgol Sul o dan olygyddiaeth Iona Hughes ac Elena Rhisiart. Mae ganddynt lawer o syniadau diddorol am hyrwyddo gwaith plant yn yr eglwys.

Salem, Treganna Trefnodd yr Ysgol Sul wasanaeth arbennig ym mis Hydref, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gynorthwyodd ac a gymerodd rhan. Hyfryd oedd clywed y plant bach yn canu a’r band taro wrthi, a chyfraniadau arbennig gan unigolion, yn ddarlleniadau, yn eitemau cerddorol ac yn gyflwyniad ar Sierra Leone. Gwnaed casgliad arbennig tuag at Sierra Leone. Cawsom baned wedi’r oedfa, a chyfle i brynu o’r stondin Masnach Deg.

Yn ystod y mis, cyfarfu’r Clwb Coffi, y Clwb Llyfrau, Clwb y Bobl Ifanc a hefyd y Clwb Brecwast.

Ar y 12fed o Hydref cynhaliwyd ocsiwn yn y Stiwt yn Llandaf, er mwyn codi arian tuag at estyniad Salem. Roedd yn noson hynod o lwyddiannus ar sawl lefel – yn gymdeithasol cafwyd noson hwyliog iawn, ac ar yr un pryd codwyd dros £2700 tuag at y gronfa. Rydym yn diolch i’r criw a drefnodd y noson a hefyd i Arfon Haines Davies am arwain y noson mor wych, ac i bawb a gyfrannodd wrth gynnig eitemau ac wrth brynu.

CÔR Y DATHLU – 30 GLANTAF (1978 – 2008) CYNGERDD – 1 AWST 2008

Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol

Rydym yn chwilio am aelodau ar gyfer y Côr uchod – yn gyn­ddisgyblion neu rhieni.

Croeso Mawr i chi! Bydd Cor y dathlu yn cwrdd yn fisol yn

Neuadd Ysgol Glantaf, Ystum Taf am 7pm ar y nosweithiau Mawrth canlynol;

Tachwedd 20. Rhagfyr 18. Ionawr 8. Chwefror 5. Mawrth 18. Ebrill 8. Mai 13. Mehefin 24. Gorffennaf 15

Os am sgwrs pellach cysylltwch Delyth Lloyd 02920 254468

Braint oedd cael tystio i fedydd Shani Llyr a Connor, plant Lona ac Owain Llyr Evans (Penylan), a Rhys Gwyn, mab Leisa ac Ian Latchford ym mis Hydref.

‘Roedd Sul cyntaf mis Hydref yn gyfle i ailgydio o ddifrif yng ngweithgarwch yr Eglwys a chysegru ein hunain o’r newydd i weithio dros Grist. Yn yr hwyr, manteisiwyd ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd i groesawu’n arbennig myfyrwyr ac ieuenctid i’n plith.

Bydd elusen yr eglwys eleni yn canolbwyntio ar waith a sefydliadau s y d d y n y m w n e u d â niwrofeddygaeth, ac yn arbennig, ymdrech Bishop Home Trust i sefydlu cartref arbenigol i oedolion ifanc gydag anabledd dwys yng Nghaerdydd.

Mae’r Gymdeithas bellach wedi ailgychwyn cyfarfod bob bythefnos ar nos Fawrth. Aled Gwyn yn sôn am ei arwyr oedd canolbwynt y noson gyntaf. Ar yn ail wythnos â’r Gymdeithas, cynhelir grwpiau tŷ, “Bethania” – cyfle i drafod mewn cyd­destun anffurfiol, cartrefol ar aelwydydd aelodau. Salm 23 yw sail trafodaethau'r grwpiau dros y misoedd nesaf. Mae’r cyfarfodydd “… ac ati”

hefyd wedi ailgychwyn wedi seibiant yr haf – cyfle i drafod agweddau o’r ffilm “Amazing Grace” ym mis Medi ac yna, ym mis Hydref, cafwyd cwmni’r Prifardd T. James Jones yn trafod ei awdl fuddugol, Ffin.

Page 11: Dinesydd Tachwedd 2007

11

Marwolaethau

Eglwys Dewi Sant Ebeneser, Heol Siarl Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Ar fore 7fed Hydref cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch y plant a chymerwyd rhan gan nifer ohonynt. Diolch i’r plant bob amser am eu parodrwydd i gymryd rhan ac ymateb mor dda. Daeth y plant â thuniau bwyd a chludwyd rheiny i Ganolfan Wallich Clifford. Aeth casgliad rhydd y Sul tuag at Cymorth i Rwmania.

Yn y cwrdd cymun wedyn yn oedfa’r nos pleser oedd cael derbyn aelod newydd i’n plith. Mae Alun Richards wedi bod yn ymuno â ni yn y gwasanaethau yn ffyddlon ers rhai misoedd. Croeso iddo i deulu’r eglwys.

Ers rhai misoedd bellach y mae dau gylch Beiblaidd wedi bod yn cyfarfod yn fisol. Cynhelir y cyfarfodydd hyn yng nghartrefi aelodau mewn awyrgylch anffurfiol. Gobeithiwn ychwanegu at y cylchoedd hyn i’r dyfodol.

Cynhaliwyd noson agoriadol y Gymdeithas ar 9fed Hydref. Alun Tudur gymerodd yr awenau wedyn gan fynd i un o’i hoff feysydd – geiriau a’u hystyr. Cawsom hwyl yn ceisio dyfalu ystyr ambell i air ac enw lle, cyn clywed cân ar dâp o ddyddiau coleg Alun pan oedd yn aelod o grŵp canu Cristnogol o’r enw ‘Manna’.

Testun diolch sydd gyda’r aelodau i Gronfa Treftadaeth y Loteri am y swm sylweddol a dderbyniwyd tuag at y gwaith costus o ail­doi’r adeilad ac i swyddogion yr eglwys am eu gwaith dyfal a manwl yn paratoi’r cais. Eto i gyd, nid yw’r ymdrechion codi arian ar ben.

Bu aelodau Cylch Dewi yn brysur yn gwisgo’r eglwys â gosodiadau trawiadol o flodau a ffrwythau a rheiny yn taflu gwawr o liwiau cyfoethog yr hydref o’n hamgylch w r t h i n n i d d a t h l u G ŵ y l Ddiolchgarwch. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid cyntaf gan Y Parchedig Dr Vernon Davies. Y Parchedig Athro Thomas Watkins fu’n gweinyddu’r Cymun Bendigaid a phregethu ganol y bore a phlant yr Ysgol Sul yn cyflwyno eu rhoddion i’r bobl llai breintiedig hynny sy’n cael cyfle i gyd­fyfyrio a chyd­fwyta yn neuadd ein heglwys bob yn ail Sadwrn.

Ac mewn ysbryd diolchgar a mwynhawyd ein Cinio Diolchgarwch yn y neuadd wedyn gyda’r paratoi a’r gweini i gyd dan ofalaeth brofiadol Catherine a Stuart Owen­Jones. Y Parchedig Athro Thomas Watkins a’n harweiniodd ac a bregethodd yn ein Hwyrol Weddi.

Ysgol Plasmawr Bu’r ysgol yn weithgar iawn yn codi arian i elusennau yn ystod mis Hydref. Cynhaliwyd Hwyl Ras i godi arian i elusennau llysoedd yr ysgol. Aeth holl ddisgyblion yr ysgol ati i redeg o amgylch yr ysgol mewn gwisgoedd ffansi. Llwyddodd y llysoedd i godi £2,703 yn gyfanswm. A bu grŵp Arlwyo blwyddyn 10 yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi amrywiaeth o gacennau ar gyfer bore coffi i’r athrawon. Codwyd £114 ar gyfer elusen Cancr Macmillan. Diolch i Steffan Thomas, Calum Martin, Manon Brierley a Catrin Jones am eu gwaith caled.

Bydd ein cynhyrchiad eleni, Jiwdas, yn cael ei berfformio yn neuadd yr ysgol ar Nos Fercher, Tachwedd 7fed tan Nos Wener y 9fed. Bydd tocynnau ar werth gan Mrs Sian Williams ar 029 20405499

Bydd disgyblion o flwyddyn 10 yr ysgol yn dechrau ar gyfrifoldebau pwysig wedi iddynt gael hyfforddiant ar wybodaeth sylfaenol am fwyd a maetheg yn y gymuned. Byddent yn mynychu cwrs arbennig am gyfnod o 10 wythnos o dan arweiniad Mrs Nia Rees Williams, deietwraig leol. Yn yr ysgol bydd y disgyblion hyn yn hybu eraill i fwyta'n iach a byddent yn cynnal sesiynau blasu yn ffreutur yr ysgol bob amser cinio.

Mae Y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol newydd, yn lansio cynllun cyffrous a chyfle unigryw i fusnesau Cymru. Mae wrthi’n sefydlu clwb arbennig i bobl busnes fydd yn eu galluogi i chwarae rhan allweddol yn y papur o’r cychwyn cyntaf. Bydd cannoedd o fusnesau Cymreig yn cael eu gwahodd i ymaelodi â Byd Busnes a manteisio ar nifer o fuddiannau unigryw. Ymysg y manteision i aelodau mae

disgownt ar hysbysebu yn Y Byd, gwahoddiad i ddigwyddiadau cyson yn arbennig i bobl busnes ymhob

Cydymdeimlir â … theulu’r diweddar Bet Hayes, Ystum Taf, a fu farw’n dawel yn 82 oed yn nhŷ ei mab yn Essex.

theulu’r Parch Morgan Mainwaring Cyn­weinidog Capel Pembroke Terrace a fu farw ym mis Medi yn 96 oed.

theulu Fred Adams, Cyfarwyddwr Addysg De Morgannwg rhwng 1973 a 1981, a fu farw yn Swydd Derby ar ôl cystudd hir.

rhan o Gymru ac aelodaeth o Glwb Gwin Y Byd, Y Byd yw'r papur dyddiol cyntaf

erioed yn Gymraeg a bydd yn lansio ar Fawrth y 3ydd, 2008. Bydd y papur yn cynnwys newyddion lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol, ac mi fydd yn rhoi blaenoriaeth ddyddiol i newyddion busnes yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am glwb Byd

Busnes cysylltwch â Guto Bebb, Partneriaeth Egin ar 01286 677 027 neu [email protected]. Gweler www.ybyd.com am ragor o fanylion am Y Byd.

Y Byd

Page 12: Dinesydd Tachwedd 2007

12 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Ysgol Glantaf Ers dechrau Tymor yr Hydref rydym wedi diwygio a chodi safon ein gwefan ysgol sydd nawr yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth gan gynnwys newyddion a hanes Glantaf. Yn ogystal, ceir yma gopïau o’r llythyron sydd yn cael eu danfon gartref â’r disgyblion ond sydd yn aml yn cael eu ‘bwyta’ gan ‘y bwystfil yn y bag’! Rydym yn ddiolchgar iawn am arbenigedd ac amser Mr Phil Davies o’r adran Dylunio a Thechnoleg sydd wedi gweithio’n galed i godi’r safon. Mae’r wefan i’w gweld yn www.glantaf.cardiff.sch.uk .

Llongyfarchiadau mawr iawn i Tomos Lloyd­Jones. Llwyddodd i ddod yn ail mewn cystadleuaeth ar gyfer awduron ifanc rhwng 12 a 15 ar draws Brydain gyfan am gyfansoddi stori fer yn Saesneg, er ei fod yn ddim ond 12 oed. Os hoffech ddarllen y stori fer hon mae i’w gweld ar wefan yr ysgol.

Ailgylchu’n dod yn haws

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref newydd wedi agor yn Bessemer Close ger Hadfield Road. Dyma’r adnod fwyaf yng

Nghaerdydd gyda lle i 70 o geir ar yr un pryd. Mae 38 o lefydd gollwng gwastraff, sy’n galluogi’r cwsmer i wahanu gwastraff o’r ardd, pren, metal scrap, gwastraff trydanol, asbestos, deunydd ailgylchu cymysg, gwydr, olew, tecstilau, esgidiau, poteli nwy a gwastraff cyffredinol. Y bwriad yw cyrraedd cyfradd ailgylchu a chompostio o 50% yn y lleoliad yma. Mae depo Waungron Road wedi

cau ac ar ôl ei hadnewyddu, bydd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Waungron Road yn agor erbyn diwedd mis Mehefin 2008.

Llwyddiant ar y Llethrau

Llongyfarchiadau i Jeni Mared Thomas am ennill teitl Sgïwr Cymraeg y Flwyddyn. Roedd Jeni yn un o bedair o ferched Ysgol Glantaf ddaeth yn ail ym Mhencampwriaeth S g ï o Ys go l i o n C ymr u yn Llangrannog. Doedd Nia Maclean, Jeni Thomas, Millie Walsh a Gwen Williams ddim ond 0.01 eiliad tu ôl i'r enillwyr o Ysgol y Bontfaen. Byddant nawr yn mynd ymlaen i g y n r y c h i o l i C y m r u y m Mhencampwriaeth Ysgolion Prydain Fawr ym Manceinion.

Trawswgwlad yr Urdd Cystadleuaeth llawn cyffro a mwynhad oedd Trawsgwlad yr Urdd, Caerdydd a’r Fro eleni. O’r unarddeg ysgol a fu’n cystadlu, Ysgol Llanishen Fach oedd yn fuddugol yn yr holl gystadlaethau tîm! Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu, a gwelwn ni chi eto'r flwyddyn nesaf!

Llwyddiant oedd wythnos i bedair o ysgolion Caerdydd yn Llangrannog ym mis Hydref. Cafodd y disgyblion gyfle i flasu holl weithgareddau’r gwersyll ynghyd a’r profiad o glywed straeon T.Llew Jones yng Nghaer Chwedlau a dysgu am hanes yr Ur dd a ’ r Gwer syl l yn Llangrannog. Diolch i chi gyd am ddod am sicrhau llwyddiant yr wythnos!

Taith Llangrannog

Mae'r ysgol yn nawr yn Academi Cisco. Mae gan raglen academi Cisco rhwydwaith o dros 10,000 academïau mewn dros 150 gwlad a bwriad y cyrsiau yw darparu myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y byd Technoleg Gwybodaeth. Glantaf ydy’r unig Academi yng Nghaerdydd a’r unig Ysgol Cymraeg eu hiaith syn darparu cyrsiau Cisco.

Llinell Gymorth Gymraeg

Cyngor Caerdydd 029 20872088

Page 13: Dinesydd Tachwedd 2007

www.dinesydd.com Cyfle i chi ddarllen

ôl­rifynnau o’r Dinesydd

Blwch arbennig i ddanfon newyddion/

straeon i’r Dinesydd

Rhestr o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd

Hysbysebwch yn

Cylchrediad eang yn y ddinas a’r cylch ac ar y we

www.dinesydd.com Ffôn: 029 20565658

13 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Operation Friendship

Gwahoddir unrhyw ieuenctid a garai gyfnewid gyda'u cymheiriaid o'r Unol Daleithiau i ymuno mewn cynllun cyfnewid yn ystod Mis Gorffennaf 2008. Byddant gyda ni am ryw bythefnos a'r flwyddyn ddilynol caiff ein hieuenctid ni'r cyfle o fynd i'r Amerig am gyfnod tebyg. Cysylltwch â Hanna Jones am wybodaeth bellach ar 029 2048 6374.

Murlun Arbennig Ar ôl cael hyfforddiant gan arbenigwr mewn gŵyl addysg a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae oedolion­arlunwyr dibrofiad wedi llwyddo i lunio celfyddydwaith trawiadol sy’n mynd i gael ei arddangos yn Sain Ffagan. Darlithydd mewn cerameg yn

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yw Kelly Campbell, a’i syniad hi oedd y murlun a gafodd ei lunio gan oddeutu deugain o wahanol bobl yn ystod y Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol yng Ngŵyl Addysg Caerdydd. Defnyddiodd Kelly amryw

ddelweddau haniaethol o Sain Ffagan i ddylunio’r templed cychwynnol ar gyfer y murlun terracotta a gafodd ei rannu’n oddeutu deugain darn. Cafodd pob darn ei lunio gan wahanol berson fel rhan o sesiwn rhagflasu celfyddyd geramig. A nawr bydd y murlun, sy’n

cynnwys rhestr o bawb a gyfrannodd at ei lunio, yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa.

O’r chwith i’r dde: Kelly Campbell,; Ffion Fielding, Swyddog Addysg Safle, Sain Ffagan; Kay Howells, Swyddog Ehangu Mynediad, UWIC ac Essex Havard.

Yn Galw Myfyrwyr UWIC

Mae Cymdeithas GymGym UWIC yn estyn croeso i fyfyrwyr yn y brifddinas. Mae'r gymdeithas yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau trwy'r flwyddyn sy'n cynnwys teithiau i lefydd fel y Ddawns Ryng­ gol yn Aberystwyth, yr Eisteddfod Ryng­gol, Iwerddon, a gigs di­ri. Ymunwch â grŵp facebook

g y m g y m u w i c h t t p : / / www.facebook.com/group.php? gid=2221368090 am y newyddion diweddaraf y gymdeithas.

Sgiliau Tecstilau Mae Cymdeithas Brodwaith Cymru yn cynnig Ysgoloriaeth hyd at £300 i fyfyriwr Cymraeg sy’n dilyn cwrs tecstilau mewn coleg. Dyma’r ail dro i ’ r Gymde i t ha s gynn i g yr ysgoloriaeth yma. Amcanion y Gymdeithas yw

hyrwyddo brodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a threfnir cyrsiau, darlithoedd, dosbarthiadau ac arddangosfeydd mewn ardaloedd ledled Cymru. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn ardduno trwy edau a nodwydd, a cheir amrywiaeth o dechnegau ar gyfer hyn. Ceir arddangosfa o waith yr a e l oda u yn yr E is t edd f od Genedlaethol bob blwyddyn. I wneud cais am yr ysgoloriaeth,

mae angen anfon cyfeiriad a manylion y cwrs ynghyd â lluniau o enghreifftiau o’ch gwaith at Eryl Evans, Y Ddôl, Llandre, Bow Street, Ceredigion. SY24 5BS. Y dyddiad cau yw 12 Ionawr 2008.

Seminarau Cynhelir nifer o seminarau yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd y tymor hwn. Ddydd Mawrth 13 Tachwedd bydd Dr Siwan Rosser yn trafod ‘Ynom mae y Clawdd?’­ croesi ffiniau llenyddol, ac ar ddydd Mawrth 11 Rhagfyr bydd seminar o’r enw ‘S4C and the future of Welsh broadcasting’ yng nghwmni’r Athro Justin Lewis. Cynhelir y seminarau am 5.15pm

yn ystafell 1.69, Ysgol y Gymraeg, Adeilad y Dyniaethau yn y Brifysgol. Mae croeso cynnes i bawb fynychu.

Page 14: Dinesydd Tachwedd 2007

14

Codi arian i’r Eisteddfod Gen. yng Nghaerdydd? Angen cyngor ar drefnu ac ar logi offer? Felly, Gwasanaethau 007

amdani ! PROFIAD HELAETH

YN Y MAES OFFER SAIN A GOLEUO DISGOS A TWMPATHAU

Cysylltwch a Ceri ar 07774 816209 029 20621634

[email protected] Ar gael dros Gymru benbaladr a thu hwnt

1 2 3 4 5 6 7

8

9

10

11 12 13 14

15 16

16 17 18

17 18 15 19

20 21

21 19 22 23

24

25

26

CROESAIR Rhif 79 gan Rhian Williams

Atebion i: 22, Heol Cae Rhys, Rhiwbeina, Caerdydd. CF14 6AN i gyrraedd erbyn 23

Tachwedd 2007.

Ar Draws 1. Adeg i weld ryw ymddangosiad (9) 8. Tenau yw’r pennaf yn Lloegr (4) 9. Dros y glog y syrthia’r blodyn. (4,1,4) 10. ‘F’enaid egwan, paid ag ____

Bod rhyw ddrygan mawr gerllaw (W.W) (4)

13. Un gwamal yw Norman mewn amgylchiadau cynddeiriog (5)

15 Cellwair ynghylch Siloam (6) 16 Canu am anap y loteri (6) 17 Dieisiau bod ag ofn yn Lloegr (6) 19 A oes cri i fynd adref? (6) 20. ‘Rwyf yn meddwl am yr ____

Caffwyf funud o’th fwynhau’ (W.W) (5) 21 Dawns y dail yn talu’r pwyth (4) 24. Helpu Dai y glo da i wneud archwiliad

(9) 25 Does dim yn y nen ond nwy (4) 26. ‘Ond wele’n llawn hudoledd

____ ___ yn crwydro’i fedd’ (6,3)

Atebion Croesair Rhif 78 Ar draws: 1 Canada. 5 Amnaid. 9 Trigle. 10 Arwres. 11 Odyn. 12 Camarfer. 14 Crachen. 16 Erglyw. 19 Fawr y nef. 21 Iddew. 22 Gadael. 23 Lafant. 24 Sylwedd. 25 Naddion.. I Lawr: 2 Athrodwr. 3 Amgenach. 4 Abercynon. 6 Morfa. 7 Amryfal. 8 Distryw. 13 Mae’r felin. 14 Cyfagos. 15 Anwadal. 17 Gwirfodd. 18 Ymegnio. 20 Y Bere.

Derbyniwyd 17 ymgais a’r oll yn hollol gywir. Danfonir y tocyn llyfr Juli Paschalis, Pencisely Rd, Caerdydd. Cafwyd yr atebion cywir eraill gan Mel Dusnford, Gwilym Edwards, Rhiannon Evans, Heledd Hall, Gwenda Hopkins, D Gwyn Jones, Eira Jones, Gethin Jones, Margaret Jones, Rhiain Phillips, Buddug Roberts, Catrin Rowlands, Eleri Sheppard, Huana Simpson, Delwyn Tibbott a James Wiegold.

I Lawr 2. Bydd yn ____, paid a llithro

Er mor dywyll yw y daith.’ (cyf B.D.) (4) 3. Pwll nofio i doli efallai (4) 4. Mae’r suro heb ddechrau dilyn llid heb ei

well (6) 5. Tro tra nam sydd ar lygad (6) 6. A oes yma ofn arth wyllt mewn llên (9) 7 ‘Dywaid afon ___ ___ ___ ,

Mae Efe sy’n trefnu’r daith (H.E.L) (2,2,5)

11. Gyrru ymlaen gyda’r aduno brys efallai (9)

12. Ai carfan ddoe sy’n byw yn y dref hon? (5)

13. Ffoi i mewn i encil i offeriaid (5) 14. Cael corau ar yn ail i gweryla (5) 18. Gwneud aderyn arall o’r dryw du (6) 19. Un sy’n tyngu fod cawr a bol gwag yn ei

ganol (6) 22. Mewn oriog o fyd da cael ceule yn y graig

(4) 23 ‘Mae fy nghalon brudd yn ____

O orfoledd dan fy mron (W.T) (4)

Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Nadolig yn y Bae Daw’r Nadolig i’r Bae ar ddydd Sadwrn Tachwedd 10fed. Bydd adloniant gan Red Dragon yn

Techniquest o 6pm, yna bydd gorymdaith llusern yn symyd drwy Cei’r Forforwyn, heibio’r Senedd a Chanolfan y Mileniwm, tuag at yr Eglwys Norwyaidd lle bydd yndigwyddiad yn dod i ben hefo carolau a sioe tân gwyllt ychydig cyn 8pm. Ar hyd y ffordd bydd goleuadau’r Bae yn cael eu cynnau – dewch i ymuno. Am ragor o wybodaeth, ac i weld beth

arall sy’n digwydd yn y Bae dros gyfnod y Nadolig, ewch i www.visitcardiffbay.info.

Sadwrn Siarad Dewch i ymarfer eich Cymraeg

9.30­1.00 Croeso i bobl o bob lefel.

Ddydd Sadwrn 17/11/07, 8/12/07, 12/1/08, 9/2/08

£6 (gostyngiad ar gael) Canolfan Palmerston, Cadog

Crescent, Y Barri Cysylltwch:

[email protected]

Llyfr newydd o Wasg Y Lolfa, hunangofiant yr arlunydd Aneurin Jones ynghyd a'i luniau eiconig. Cyhoeddir ddiwedd Tachwedd.

BYD ANEURIN

Page 15: Dinesydd Tachwedd 2007

Calendr y Dinesydd 15

Gwener, 9 Tachwedd Cinio Carnhuanawc yng Ngwesty Churchills, 7.00pm ar gyfer 7.30pm. Siaradwraig wadd: Caryl Parry Jones. Manylion pellach gan Nans Couch (029­2075­3625) neu Catherine Jobbins (029­2062­3275). Gwener, 9 Tachwedd Perfformiad o sioe Eddie Ladd, ‘Cof y Corff’, yn Theatr Sherman am 7.30pm.Tocynnau: 029­2064­6900. Gwener, 9 Tachwedd Hiroyasu Sasaki, perfformiwr meim enwocaf Siapan a disgybl i'r diweddar Marcel Marceau yn cyflwyno'i grefft a rhai o ganeuon traddodiadol ei wlad yng Nghanolfan Chapter. Sul, 11 Tachwedd Cantorion Ardwyn Caerdydd yn perfformio ‘Requiem’ Maurice Durufle ynghyd â darnau gan Vaughan Williams, John Tavener, Mendelssohn, Hubert Parry, Charles Villiers Stanford a Geraint Lewis. Yn Eglwys Martin Sant, Heol Albany, Caerdydd, am 7.30pm. Tocynnau: £10. Manylion pellach: www.cardiffardwynsingers.co.uk. Mawrth, 13 Tachwedd Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Y Prifardd Cyril Jones yn siarad am ‘Ddylife, Hen Bentre Diwydiannol’ am 7.30pm. Iau, 15 Tachwedd Cylch Cinio Merched Caerdydd yng Nghlwb Golff Radur am 7.30pm. Siaradwr gwadd: John Watkin. Manylion pellach: 029­2084­ 3275. Iau, Tachwedd 15 Gemwaith Mari Thomas a Nicola Palterman ar werth yng Nghlwb y BBC Llandaf o 6.30pm tan 10.00pm. Tocynnau £3, yn cynnwys tocyn raffl am ddarn o waith Mari a Nicola. Ffoniwch 07809­ 058134 neu cysylltwch ag aelodau o Bwyllgor Apêl Llandaf, Tyllgoed, Trelái, Caerau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Gwener, 16 Tachwedd Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Jones & Jones: Cerddi Cadair a Choron yr Wyddgrug’: Y Prifeirdd T. James Jones a Tudur Dylan Jones yn trafod eu cerddi arobryn, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cynabyddir nawdd yr Academi. Croeso cynnes i aelodau newydd. Gwener, 16 Tachwedd Cylch Cadwgan. Dr Christine James yn siarad ar y testun, ‘Golwg ar waith yr awdur’, ar Gampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys, am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig. Sadwrn, 17 Tachwedd Bore coffi i ddysgwyr yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan Lynne Davies ar yr emynydd, Dafydd Jones o Gaeo. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Llun, 19 Tachwedd Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd.

‘Olrhain ein dealltwriaeth o’r bydysawd: Ydyn ni’n deall mwy na’n cyndeidiau?’ gan Rhodri Evans (Prifysgol Morgannwg). Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Llun, 19 Tachwedd Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmn’r Athro Sioned Davies, yng nghapel Bethany am 7.30pm. Iau, 22 Tachwedd Noson lansio'r arddangosfa ‘Gair o Gelf’: arddangosfa o waith beirdd ac artistiaid blaenllaw, a fydd i’w gweld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 15 Tachwedd 2007 a 6 Ionawr 2008. Fe’i trefnir gan Bwyllgor Apêl Cyncoed, Pen­y­lan, Llanedern, Y Rhath, Pen­twyn a Phontprennau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Gwener, 23 Tachwedd Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Cwis Cenedlaethol Merched y Wawr. Yn ‘Old Church Rooms’, Radur, 7.30pm. Gwener, 23 Tachwedd Caryl a’r Band yn perfformio yn Neuadd Ysgol Melin Gruffydd, Yr Eglwys Newydd, am 8.00pm. Tocynnau (£10) o Siop y Felin (029­2069­2999) neu Swyddfa Menter Caerdydd (029­2056­5658). Trefnwyd gan Bwyllgor Apêl yr Eglwys Newydd ac Ystum Taf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Sadwrn, 24 Tachwedd Cynhelir Seithfed Gynhadledd Flynyddol Canolfan Uwchefrydiadau Cymry America ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd 2007, rhwng 10.15am a 4.00 pm. Thema’r gynhadledd: ‘Y Cymry a Brodorion America’. Siaradwyr: Hywel M. Davies, Jerry Hunter, Geraldine Lublin, Gethin Matthews, Fernanda Peñaloza, Siwan Rosser. Lleoliad: Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd. Manylion pellach: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd (029­2087­4843; ebost : [email protected]; gwefan : www.caerdydd.ac.uk/cymraeg/). Sadwrn, 24 Tachwedd Noson o adloniant yng nghwmni ‘Mynediad am Ddim’ yn Neuadd y Pentref, Rhiwbina. Trefnwyd gan Bwyllgor Apêl Llys­faen, Y Ddraenen a Rhydri Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Gwener, 30 Tachwedd Cymdeithas Eglwys y Crwys: Cyngerdd gyda Chôr Hamdden Caerdydd am 7.30pm. Tocynnau: £5. Yr elw at Apêl Sierra Leone. Gwener, 30 Tachwedd–Sadwrn, 1 Rhagfyr Cymdeithas y Cymod. Nos Wener, 6.00pm – Gwylnos ynghylch Academi Filwrol Sain Tathan yng Nghanolfan y Mileniwm. Bore Sadwrn, 10.30am – Oedfa yng nghapel Bethesda’r Fro dan ofal Dr Robin Gwyndaf; anerchir gan Dr E. Wyn James ar ‘Emynwyr Bethesda’r Fro’. Gwybodaeth bellach: 029­ 2056­6249. Sadwrn, 1 Rhagfyr Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Y Ffair Nadolig; Sul, 2 Rhagfyr Cymanfa Garolau yng Nghapel Minny Street am 7.30pm. Arweinydd: Rob Nicholls; Organydd: Helen Evans; eitemau gan Gôr

Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Meibion Taf a Chôr Plant y Berllan Deg. Trefnwyd gan Bwyllgor Apêl Cyncoed, Pen­ y­lan, Llanedern,Y Rhath, Pen­twyn a Phontprennau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rhaglen £4. Manylion pellach: 029­2075­5118. Llun, 3 Rhagfyr Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Gwasanaeth Carolau, dan ofal Cangen Tonysgubor iau . Yng Nghapel y Methodistiaid Saesneg, Windsor Road, Radur, am 7.30pm. Llun, 3 Rhagfyr Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30pm. Manylion pellach gan Tony Couch (029­2075­3625 neu [email protected]). Mawrth, 4 Rhagfyr Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Nerys Howells yn siarad am ‘Fwyd Nadoligaidd’ am 7.30pm. Mercher, 5 Rhagfyr Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Noson yng nghwmni Caryl Thomas a’i disgyblion dawnus. Yn festri Capel y Methodistiaid Saesneg, Windsor Road, Radur, am 7.30pm. Llun, 10 Rhagfyr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Swper Nadolig ac adloniant, yng nghapel Bethany am 7.00pm. Llun, 10 Rhagfyr Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. ‘Gwyddoniaeth y meddwl 1908 a 2008: A oes sail i optimistiaeth y ganrif bresennol?’ gan Wyn Bellin (Prifysgol Caerdydd). Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Mawrth, 11 Rhagfyr Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Gwyn Griffiths yn siarad am ‘Vosper, Salem a Llydaw’ am 7.30pm. Sadwrn, 15 Rhagfyr Bore coffi i ddysgwyr yn yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs am garolau plygain gan Dr E. Wyn James. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Mawrth, 18 Rhagfyr Cymdeithas y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd: Noson o ‘Gerddoriaeth Nadoligaidd’ dan ofal Rob Nicholls am 7.30pm; mins peis a phaned wedyn! Llun, 24 Rhagfyr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noswyl Nadolig dan ofal Rhys a Gwenda Morgan, yng nghapel Bethel am 11.00pm.

Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029­ 2062­8754; ebost: [email protected]).

Digwyddiadau’r Eisteddfod ar dudalen 7

Page 16: Dinesydd Tachwedd 2007

16 ISSN 1362­7546 Y DINESYDD TACHWEDD 2007

Bwletîn Gary Slaymaker yn cyflwyno Gêm banel hwyliog Radio Cymru

Y Mochyn Du, Caerdydd Nos Iau Tachwedd 22, 8.00yh

Mynediad yn rhad ac am ddim.

Am fwy o fanylion ffoniwch 08703 500 600

Os oes gan unrhyw un ofynion arbennig ynglŷn â mynediad cysylltwch efo ni.

C.R.I.C.C. Rhoddodd carfan < 11 ddechreuad rhagorol i`r tymor trwy ennill twrnamaint yn Llanidloes . Ar y ffordd trechwyd Yr Wyddgrug, a`r tîm cartref Llanidloes, gan gael gêm gyfartal yn erbyn Y Drenewydd. Yn y ffeinal cafwyd buddugoliaeth glir o 24 pwynt i 5 yn erbyn Aberystwyth. Gwobr mae`n siwr am ymdrechion Geraint Roberts a John Smith yr hyfforddwyr fu`n cynnal ymarferion ychwanegol ganol wythnos cyn y gystadleuaeth.

Mae rheswm arall gan CRICC fod yn fodlon ei fyd. Dyma`r tymor cyntaf yn ei hanes, mewn gêmau cystadleuol, i bob oedran fedru gwisgo crysau sydd wedi eu noddi . Hoffai pwyllgor CRICC ddiolch i’r cwmnïau canlynol am eu haelioni a’u cefnogaeth, sef Francis & Buck, ADT, HLN, Acorn Recruitment; Cwmni Siocled Cymreig; JD Group; Nolan ac Elgano.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cynnal diwrnod ymgynghori i glywed barn pobl am Strategaeth Chwarae gyntaf erioed y ddinas. Fe’i cynhelir yn Neuadd y Ddinas ddydd Llun 26 Tachwedd, rhwng 10am a 3pm. Mae drafft o’r Strategaeth Chwarae

wedi’i greu gan gynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae wedi’i ddrafftio er mwyn gweithredu Polisi Chwarae Cymru Llywodraeth y Cynulliad. Gwahoddir gweithwyr proffesiynol,

rhieni a phlant i’r diwrnod ymgynghori i adolygu’r drafft o’r Strategaeth. Dylai’r rheiny sydd â diddordeb mewn bod yn bresennol gofrestru gyda’r Cyngor cyn y digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth am yr

ymgynghoriad ac i gofrestru’ch diddordeb, cysylltwch â Becky Cole ar 2087 3958.

Strategaeth Chwarae ar gyfer Plant Caerdydd

Byd y Bêl a’r Bat Dyma’ch cyfle olaf i ymweld â’r arddangosfa ddifyr hon yn yr Hen Lyfrgell, sy’n cau ar Dachwedd 25. Mae’r arddangosfa yn archwilio sut mae chwaraeon wedi helpu i ffurfio hunaniaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a ffisegol y ddinas, a sut mae’n effeithio ar fywydau pobl leol. Mae hefyd yn cofio uchafbwyntiau ac

isafbwyntiau yn hanes chwaraeon y ddinas a gall ymwelwyr ychwanegu eu hatgofion eu hunain i’r stori, yn ogystal ag enwebu’u harwr o’r meysydd chwaraeon. Mae’r arddangosfa ar agor o ddydd

Llun i ddydd Sadwrn o 10am tan 5pm, ac o 10am tan 4pm ar ddydd Sul. Mae mynediad am ddim. Am ragor o fanylion ewch i www.amgueddfacaerdydd.com, neu ffoniwch 2087 3389.