ansawdd, datblygu ac arweinyddiaeth - gwersi i'w dysgu gan ......tachwedd 2011 ailargraffwyd rhagfyr...

22
1 ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011 Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping Y prif awduron: Dr David Gozzard, Aelod o Gyfadran 1000 o Fywydau a Mwy Dr Alan Willson, Cyfarwyddwr 1000 o Fywydau a Mwy Gyda diolch arbennig i: Göran Henriks, Prif Weithredwr Dysgu ac Arloesi, Qulturum, Cyngor Sir Jönköping Cyd-awduron: Mr Kamal Asaad, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Bro Taf Dr Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre Dr Jane Harrison, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Hywel Dda Andrew Lewis, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Jill Newman, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dadansoddi Perfformiad, Gwella, Trawsnewid a Chefnogi Darpariaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Grant Robinson, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Cyhoeddwyd: Tachwedd 2011 Ailargraffwyd Rhagfyr 2011 Cyfres Papurau Gwyn Gwella Gofal Iechyd - Rhif 4

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    1

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    Y prif awduron: Dr David Gozzard, Aelod o Gyfadran 1000 o Fywydau a Mwy Dr Alan Willson, Cyfarwyddwr 1000 o Fywydau a Mwy Gyda diolch arbennig i: Göran Henriks, Prif Weithredwr Dysgu ac Arloesi, Qulturum, Cyngor Sir Jönköping Cyd-awduron: Mr Kamal Asaad, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Bro Taf Dr Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre Dr Jane Harrison, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Hywel Dda Andrew Lewis, Cyfarwyddwr Arloesi a Gwella, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Jill Newman, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dadansoddi Perfformiad, Gwella, Trawsnewid a Chefnogi Darpariaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Grant Robinson, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Cyhoeddwyd: Tachwedd 2011 Ailargraffwyd Rhagfyr 2011

    Cyfres Papurau Gwyn Gwella Gofal Iechyd - Rhif 4

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    2

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    “... yn ein hysbrydoli ac yn ein herio.” "Mae'r ddogfen hon yn ein hysbrydoli ac yn ein herio. Mae'n ein hysbrydoli drwy sôn am y ffordd nodedig y mae Cyngor Sir Jönköping wedi mynd ati'n ddygn i ddarparu ei wasanaethau gofal iechyd. Mae'n ein herio am ei bod yn dangos faint o amser, egni a chysondeb sy'n ofynnol er mwyn i ni sicrhau GIG sy‟n cael ei arwain gan yr awydd i wella ansawdd a diwallu anghenion pobl.

    "Mae gwaith Jönköping wedi'i seilio ar agenda sy'n canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch ac sy‟n rhoi'r dinesydd wrth wraidd ei wasanaethau. Canlyniad hyn yw bod pawb, o'r uwch-reolwyr i'r rheng flaen, wedi ymroi o ddifrif i'r gwaith a bod gan y rhai sy'n defnyddio'i wasanaethau ac yn cael budd ohonynt gysylltiad go iawn â'r gwasanaethau hynny.

    "Nid ail-greu Jönköping yng Nghymru yw bwriad y ddogfen hon - ond yn hytrach ein bod yn dysgu yn sgil eu profiadau hwy a'n bod yn rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith. A fyddech cystal ag ystyried argymhellion y papur hwn o ddifrif - gallent fod o gymorth i newid y ffordd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau, a chodi i‟r heriau a ddisgrifir yn „Together for Health‟.”

    David Sissling Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr, GIG Cymru

    "Mae model Jönköping yn pwysleisio'r rôl strategol sydd gan iechyd cyhoeddus o ran gwella iechyd a lles poblogaeth. Yr ymrwymiad i sicrhau bod methodoleg gwella ansawdd yn bwrw gwreiddiau a bod anghenion poblogaethau lleol yn cael eu diwallu yw prif flaenoriaethau pob sefydliad. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

    "Mae llawer y gallwn ei ddysgu - a llawer y mae'n rhaid inni ei ddysgu - yn sgil y gwersi y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarparwn. Mae Jönköping wedi cynnig gweledigaeth, y cyfeiriad a ffordd i gyflawni'r hyn sy'n bosibl."

    Yr Athro Syr Mansel Aylward CB Cyd-gadeirydd, 1000 o Fywydau a Mwy a Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

    “Cymeradwyaf y papur hwn am ei weledigaeth a‟i ymarferoldeb. Dengys yn glir yr hyn y gellir ei gyflawni mewn cymuned gwasanaeth iechyd sy‟n rhoi pobl a gwella canlyniadau wrth wraidd y cyfan a wna. Mae ei argymhellion yn gosod llwybr i ni ei ddilyn yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwella ansawdd yn dod yn rhan o fywyd bob dydd pawb ohonom.”

    Dr Chris Jones Cyd-gadeirydd, 1000 o Fywydau a Mwy a Chyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru "Mae'n amlwg mai ymrwymiad Jönköping i weithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, gan gynnig llwybr di-fwlch fwy neu lai i gleifion yw un o'r llu o resymau dros ei lwyddiant ac mae'n ymrwymiad y dylem fod yn ceisio'i efelychu.

    "Rheswm arall yw'r ffordd y mae cleifion a dinasyddion yn ymwneud yn frwd â rhaglenni gwella ansawdd ar bob lefel. Dylai pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru fod yn gweithio tuag at ymrwymiad go iawn i wrando, i ddeall ac i weithredu ar eu syniadau ar gyfer gwella ac ailgynllunio gwasanaethau.”

    Dr Jo Farrar Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont Ar Ogwr

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    3

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping Cynnwys

    1. Crynodeb Gweithredol ... ... ... ... ... 4

    2. Cyflwyniad .. ... ... ... ... ... 4

    3. Ymgyrch i wella Ansawdd o Flwyddyn i Flwyddyn ... 6

    4. Ymagwedd Strategol at Ansawdd ... ... ... ... 9

    5. Yr Achos Busnes o Blaid Ansawdd ... ... ... ... 11

    6. Cleifion a'r Agenda Ansawdd ... ... ... ... 13

    7. Trawsnewidiad Strategol - Iechyd Cyhoeddus ... ... 14

    8. Trawsnewidiad Strategol - Gofal Sylfaenol ... ... ... 15

    9. Hyfforddiant ... ... ... ... ... ... ... 17

    10. Argymhellion ... ... .. ... ... ... ... 18

    Gwella gofal, sicrhau ansawdd Rhaglen genedlaethol o welliannau yw 1000 o Fywydau a Mwy sy'n cynorthwyo sefydliadau ac unigolion i ddarparu'r gofal iechyd mwyaf diogel o'r radd flaenaf i bobl Cymru. www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk

    http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    4

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    1. Crynodeb Gweithredol Wrth i GIG Cymru barhau i anelu at sicrhau gofal cynaliadwy o safon uchel, mae gwersi mawr y gall ei ddysgu gan wledydd eraill – er y gallai fod gwahaniaethau strwythurol, gwleidyddol ac ariannol. Mae gan system gofal iechyd Cyngor Sir Jönköping yn Sweden enw da'n rhyngwladol am ei rhagoriaeth ac mae'n cynnig cyfle unigryw i ni ddysgu am syniadau y dangoswyd eu bod yn gwella gofal iechyd a rhoi‟r syniadau hynny ar waith. Mae tabl cynghrair o 22 o Gynghorau Sir Sweden yn cynnwys amrywiaeth o ddangosyddion iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n dangos bod Jönköping yn darparu gofal iechyd o safon am gost gymharol isel. Mae'n cyflawni amcanion 'Nod Triphlyg' y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd, sef gwell gofal iechyd i'r unigolyn, gwell iechyd i'r boblogaeth a chost is y pen. Mae'r cysylltiad rhwng Jönköping a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd yn Boston wedi pontio 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, maent wedi bod yn gyson o ran eu nod, sef chwilio am syniadau arloesol ym maes gofal iechyd, seilwaith hyfforddi lleol cefnogol ac uwch-reolwyr yn ailadrodd yr un neges yn barhaus, sef "dyma sut y byddwn ni'n gwneud pethau yn Jönköping". Nod y papur hwn yw rhoi cyflwyniad i‟r llwybr y mae Cyngor Sir Jönköping wedi'i ddilyn wrth ddarparu gofal iechyd. Mae hefyd yn dechrau ymchwilio i‟r hyn y gellir ei ddysgu a'i roi ar waith er mwyn gwella gofal iechyd yng Nghymru. Yn benodol mae‟n amlinellu sut y gall 1000 o Fywydau a Mwy helpu GIG Cymru.

    2. Cyflwyniad Mae‟r „Rhaglen Lywodraethu‟1 yn amlinellu sut y caiff ymrwymiadau ym maniffesto Llywodraeth Cymru eu cyflawni a‟r manteision i bobl Cymru. Mae‟n crisialu gweledigaeth o ganlyniadau iechyd gwell drwy wasanaethau mwy diogel o ansawdd gwell, mynediad gwella a gwell profiad i gleifion gan atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae „Together for Health‟2 yn canolbwyntio ar newidiadau gwirioneddol y mae‟n rhaid eu cyflawni o fewn pum mlynedd yng nghyd-destun nifer o heriau - mwy o alw, disgwyliadau cynyddol gan gleifion, cyfyngiadau ariannol ac anawsterau recriwtio. Amlinella lle y mae‟n rhaid i‟r newid ddigwydd – pam a sut – mewn saith prif faes:

    1. Gwella iechyd yn ogystal â thrin salwch. 2. Un system ar gyfer iechyd. 3. Ysbytai ar gyfer y 21ain ganrif fel rhan o rwydwaith gofal integredig wedi‟i

    gynllunio‟n dda. 4. Anelu at ragoriaeth ym mhobman. 5. Tryloywder llwyr o ran perfformiad. 6. Partneriaeth newydd gyda‟r cyhoedd. 7. Sicrhau bod pob ceiniog yn cyfrif.

    1 Llywodraeth Cymru, Hydref 2011, Rhaglen Lywodraethu

    http://wales.gov.uk/docs/strategies/110929fullen.pdf 2 Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2011, Together for Health

    http://wales.gov.uk/docs/strategies/110929fullen.pdf

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    5

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Er mwyn trawsnewid gwasanaethau, rhaid i GIG Cymru ddangos eglurder o ran ei ddiben, ymgysylltu‟n onest gyda phartneriaid, cyfathrebu‟n gyson ac yn glir, a mynd ar drywydd ei uchelgais yn ddiflino. “Dylai pawb gael mynediad haws i ystod eang o wasanaethau diogel, effeithiol ac integredig sy‟n cael eu rhedeg yn dda, sy‟n gynaliadwy yn yr hirdymor ac sy‟n

    wasanaethau y gall Cymru ymfalchïo ynddynt.”3 Mae‟r angen hwn am newid wedi‟i wreiddio mewn cyfleoedd hefyd. Dylai GIG Cymru dynnu ar ei wreiddiau ond dylai hefyd edrych ar wledydd eraill a dysgu o‟u profiadau er mwyn galluogi ansawdd o safon fyd-eang a hynny ar sail gadarn ac yn yr hirdymor. Rhai o'r pethau sy'n debyg rhwng Jönköping a rhanbarthau Cymru yw bod gan y naill a'r llall system gofal iechyd integredig, bod gan y ddau ffocws cryf ar iechyd cyhoeddus a bod gan y ddau draddodiad sydd ar y cyfan yn un sosialaidd. Dylai hyn olygu bod modd trosglwyddo rhywfaint o'r gwersi a ddysgwyd i helpu Cymru i wneud ymdrech gadarn i gyflawni‟r camau hyn. System gyfun sy'n cael ei hariannu o'r pwrs cyhoeddus yw system gofal iechyd Sweden. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei pherfformiad, ei thegwch a'i harloesed. Gan sylweddoli bod i ofal mewn ysbyty ei derfynau, roedd Sweden ymhlith y gwledydd cyntaf i ymrwymo'n genedlaethol i ofal sylfaenol a gwasanaethau ataliol 4 Er bod amrywiadau mawr o fewn y system, llwyddir i sicrhau gwell mynediad at wasanaethau a gwell canlyniadau meddygol a hynny gydag adnoddau a chostau cymedrol5. Mae system Sweden yn system hynod ddatganoledig a'i nod yw cyflawni ei hamcanion drwy berchnogaeth gyhoeddus yn ogystal â thrwy ddemocratiaeth, gweithredu ac atebolrwydd lleol a rhanbarthol. Ers 1982, mae cyrff gwleidyddol etholedig rhanbarthol a elwir yn Gynghorau Sir, sydd fel rheol yn cynnwys sawl bwrdeistref, wedi bod yn ariannu, yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau gofal iechyd. Maent yn seilio'u gwaith ar egwyddorion cyffredinol sy'n tywys eu gwaith cynllunio a'u darpariaeth yn ogystal ag ar nodau ansawdd a bennir gan y llywodraeth ganolog. Gofal Iechyd yw prif ffocws y Cynghorau Sir; maent yn gwario dros 70 y cant o'u hadnoddau arno. (Maent hefyd yn gyfrifol am weithgareddau diwylliannol, cludiant cyhoeddus a datblygu rhanbarthol). Mae‟r Cynghorau Sir yn talu am eu gwariant ar ofal iechyd drwy godi treth incwm gyfrannol. (Yn ogystal â'r refeniw a godir drwy drethu, bydd y wladwriaeth hefyd yn rhoi grantiau i ariannu gofal iechyd a chodir tâl ar ddefnyddwyr). Maent yn cynllunio gofal iechyd, gofal deintyddol, addysg ac ymchwil ar gyfer yr ardal y maent yn gyfrifol amdani ac yn dyrannu adnoddau ar eu cyfer. Nhw hefyd biau eu holl gyfleusterau gofal iechyd a nhw sy'n eu gweithredu ac yn contractio gyda darparwyr gofal iechyd. Mae‟r Cynghorau'n cyflogi ffisigwyr gofal sylfaenol yn y gymuned. Wedi dweud hynny, yn y ddwy flynedd diwethaf, mae wedi bod yn bosibl i bractisau preifat ennill contractau. Bydd yr ysbytai, sydd ym mherchnogaeth y Cyngor Sir ac sy'n cael eu gweithredu ganddo, yn cyflogi ffisigwyr i weithio yn yr ysbytai. O safbwynt gwleidyddol, mae'r Cynghorau Sir yn gymharol annibynnol oddi ar y llywodraeth ganolog o ran gwneud penderfyniadau. Y Cyngor Sir fydd yn penderfynu ynglŷn â'r cyllidebau, ond mae'r rheini wedi'u gwreiddio mewn system lle bydd y llywodraeth ganolog yn arddel agwedd 'Twm Siôn Cati' sy'n golygu bod y siroedd mwy cefnog yn cyfrannu cyfran sylweddol o'u cyllideb i'r cynghorau tlotach, a dibynnu ar gyfres o ddangosyddion.

    3 Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2011, Together for Health

    4 Glenngärd, A. H., F. Hjalte, M. Svensson, A. Anell a V. Bankauskaite. 2005. Health Systems in Transition: Sweden. Health Systems in Transition: Sweden. Copenhagen: Sefydliad Iechyd y Byd. 5 Organisation for Economic Co-operation and Development. 2005. OECD Health Data 2005: How Does Sweden Compare? Paris.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    6

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Mae Cyngor Sir Jönköping 330 cilomedr i'r de orllewin o Stockholm yn nhalaith ddeheuol Småland. Mae ganddo dri ysbyty a 51 o ganolfannau gofal (gan gynnwys clinigau gofal sylfaenol, gwasanaethau meddygol arbenigol, cyfleusterau ymadfer a fferyllfeydd), a gweithlu cyfun o fwy na 9,900 ar draws 13 o fwrdeistrefi.6 Ar y Cyngor, mae 81 o aelodau etholedig, gan gynnwys cadeirydd, a chynhelir etholiadau bob pedair blynedd. Bydd Cyngor Sir Jönköping yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus bedair gwaith y flwyddyn, lle y trafodir penderfyniadau ynglŷn â chyfraddau trethi a gwasanaethau gyda'r cyhoedd ac aelodau'r gwrthbleidiau. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r rhanbarth wedi bod yn wleidyddol sefydlog. Mae Cyngor Sir Jönköping yn falch o'i gysylltiad cryf â'i gymunedau a'i weledigaeth: a datblygwyd "bywyd da mewn Sir ddeniadol" ar ôl 400 awr o ddeialog gydag arweinwyr a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth. Ymysg y themâu yng ngwaith Jönköping mae:

    Integreiddio dull o wella ansawdd gofal iechyd o'r brig i'r bôn. Mae‟r bwrdd yn cael adroddiadau am berfformiad drwy systemau sy'n cael eu gweithredu gan staff sydd wedi'u hyfforddi i reoli newid, staff ag ethos cryf o wella ansawdd a bod hynny'n rhywbeth a ddisgwylir ganddynt yn eu swydd.

    Ymagwedd gorfforaethol tuag at wella systemau sy'n galluogi datblygu prosesau trawsadrannol lle bydd clinigwyr a rheolwyr yn amlwg yn cydweithredu.

    Ymagwedd egnïol a hollgynhwysol tuag at hyfforddiant ac addysg sy'n sicrhau bod gan bob aelod o'r gweithlu y sgiliau a'r ddealltwriaeth i wybod bod gwella ansawdd yn rhan allweddol o rôl pob unigolyn.

    Cydlyniad a chysondeb rhwng darparu gofal iechyd ac iechyd cyhoeddus a pholisi cymdeithasol.

    Cyfres gref o werthoedd y cytunwyd arnynt ac sy'n amlwg ar bob lefel o'r gwaith, arweinyddiaeth glir sydd wedi glynu wrth y gwerthoedd hynny a sefydlogrwydd sydd wedi golygu bod yr arferion a'r sgiliau gofynnol wedi gallu bwrw gwreiddiau.

    Cysylltiad cryf rhwng datblygu systemau a'r adroddiadau ariannol y bydd gofyn amdanynt yn sgil unrhyw newid yn y drefn adrodd a allai ddeillio o'r gwaith gwella ansawdd. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y ffordd y cyflwynwyd y gwaith ar feicrosystemau clinigol.

    3. Ymgyrch i Wella Ansawdd o Flwyddyn i Flwyddyn Canolbwynt yr ymgyrch i wella ansawdd yn Jönköping yw Qulturum. Fe'i sefydlwyd yn uned 14 blynedd yn ôl ac yn 'dŷ' ddwy flynedd a hanner wedi hynny. Mae gan y ganolfan gyllideb flynyddol o £1.4m (0.002% o'r gyllideb gofal iechyd, 2011) ac mae'n cyflogi 20 o staff. Mae'r

    6 Bojestig, M., G. Henriks a T. Nolan. 2006. Lessons learned from Pursuing Perfection: Or, How to Solve Tomorrow’s Problem Today. Cyflwyniad yn yr 11fed Fforwm Ewropeaidd ar Wella Ansawdd Gofal Iechyd, Prague, y Weriniaeth Tsiec.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    7

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    tu allan a'r tu mewn i'r adeilad yn ddeniadol, ac maent wedi rhoi sylw manwl i batrwm yr ystafelloedd er mwyn hwyluso'r gwaith dysgu a gwella ansawdd. Mae'n cynnig rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau ym maes arweinyddiaeth ac ansawdd ac ni chodir tâl am ddefnyddio'r cyfleuster yn fewnol. Disgrifir datblygiad strategol Qulturum ar ei gwefan.7 Yn 1992, mabwysiadodd Jönköping strategaeth fusnes yn seiliedig ar ansawdd a honno wedi'i seilio ar Wobr Malcolm Baldridge dan yr enw QUL (Ansawdd - Datblygu - Arweinyddiaeth). Mae Qulturum yn chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi'r strategaeth hon. Cyfrwng pwysig i sicrhau bod y staff clinigol yn cyfrannu at y strategaeth yw'r 'Ddeialog Datblygu'. Dechreuwyd ei defnyddio yn 1994 i ddisgrifio llif y gweithgareddau sy'n digwydd mewn perthynas â‟r claf ac i weld a oedd unrhyw anawsterau neu oedi. Gofynnir i bob un o adrannau'r ysbyty a'r canolfannau gofal sylfaenol o'i gwmpas ddisgrifio'u prif grwpiau cleifion yn ôl eu hanghenion, ac, ar gyfer pob grŵp o gleifion a chanddynt anghenion tebyg, bydd uwch glinigydd yn arwain y gwaith. Drwy'r sefydliad cyfan, mae gwella ansawdd yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad, yn hytrach na chost. Un o lwyddiannau mawr y rhaglen arwain yw bod pob gweithiwr iechyd wedi cael ei addysgu i ddefnyddio'r un iaith a'r un systemau a'i bod yn dwyn clinigwyr a rheolwyr ynghyd yn rheolaidd drwy gydol eu datblygiad. Hyd yn hyn, mae bron 10,000 o unigolion wedi mynychu digwyddiadau hyfforddi yn y Qulturum. Jönköping oedd y sir gyntaf yn Sweden i fabwysiadu'r Cerdyn Sgorio Cytbwys a gyflwynwyd yn 1997-99. Fe'i defnyddir wrth baratoi adroddiadau ar y gyllideb ac adroddiadau blynyddol ar bob lefel. Mae'r 'Cwmpawd Gwerth Clinigol' a 'Nod Triphlyg' y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd wedi cynnig strwythur pwysig wrth fynd ati i wella ansawdd, ac er 2002, mae ffocws cryf wedi bod ar syniadau Edwards Derning ynglŷn â meddwl trwy systemau, amrywiadau, gwybodaeth yn seiliedig ar ddysgu a seicoleg newid. Defnyddir cylchoedd Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu (PDSA) yn helaeth fel cyfrwng ar gyfer gwella ansawdd a defnyddir Dangosfyrddau Ansawdd ar lefel unedau a wardiau. Anogir pob aelod o'r staff i sylweddoli bod ganddo ddwy swydd: gwneud ei waith a gwella ansawdd. Seilir yr athroniaeth hon ar y syniad mai canlyniad cyfuno gwybodaeth broffesiynol (gwybodaeth arbenigol, gwerthoedd, sgiliau, moeseg) a gwybodaeth am wella ansawdd (system, amrywiad, seicoleg, methodoleg) fydd gwerth ychwanegol i'r claf. Canolbwyntir ar

    7 www.lj.se/info_files/infosida31736/historik_version_feb2007.pdf

    http://www.lj.se/info_files/infosida31736/historik_version_feb2007.pdf

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    8

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    ddarparu gwasanaeth y mae cleifion yn dymuno'i gael, gwasanaeth y mae ei angen arnynt, yn hytrach nag ar wasanaeth y mae gweithwyr proffesiynol yn meddwl y dylent ei gael. Gwneir defnydd helaeth o hyfforddiant personol fel offeryn datblygu, ac yn fwy diweddar, defnyddiwyd y dull symudiad cymdeithasol i greu newid ar raddfa fawr. Er na ddechreuwyd darparu hyfforddiant personol yn ffurfiol tan ddwy flynedd a hanner yn ôl, erbyn hyn mae'n rhaglen eang gydag hyfforddwyr personol yn hyfforddi aelodau eraill o'r tîm i ddod yn hyfforddwyr personol eu hunain ac "edrych ar bethau drwy lensys newydd'. Er 2004, mae cysyniadau systemau micro, meso a macro Paul Batalden, Marjorie Godfrey, Gene Neslon a'r ysgol feddygol yn Dartmouth yn yr Unol Daleithiau8 wedi cael eu mabwysiadu. Y system ficro yw lle bydd cleifion a darparwyr gofal iechyd yn cyfarfod i greu gwerth ar gyfer y claf. Mae‟r system feso'n cydlynu ac yn hwyluso'r systemau micro sy'n gysylltiedig â hi a'r system facro yw'r fframwaith rheoli a phennu blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer gofal iechyd. Rhydd y Qulturum gryn bwyslais yn ei waith ar systemau micro ac erbyn hyn mae wedi addysgu 3,000 o weithwyr ym maes datblygu systemau micro. Mae‟r Qulturum yn defnyddio diffiniad Paul Batalden o ficrosystemau clinigol: "System feicro yw grŵp bychan o bobl sy'n cydweithio'n rheolaidd i ddarparu gofal ar gyfer isboblogaethau penodol o gleifion. Mae ganddi nodau clinigol a busnes, prosesau cysylltiedig, ac mae'n rhannu amgylchedd gwybodaeth, gan gynhyrchu canlyniadau perfformiad." 9

    Er mwyn sicrhau bod ffocws ar y claf yng ngwaith yn y systemau micro, bydd y Qulturum yn hyrwyddo dull y 5 elfen:

    Maent wedi mynd ati'n ofalus iawn i gyfleu neges gyson ynglŷn â gwella ansawdd yn Jönköping. Ethos y Qulturum yw osgoi dod ag 'arbenigwyr' i mewn o'r tu allan lle bynnag y bo modd. Mae'n well ganddi ddefnyddio'i phobl ei hun, a thrwy hynny, mae'n sicrhau cysondeb wrth i staff mewnol rannu a deall gwerthoedd. Athroniaeth Qulturum yw gweithio gyda'r timau hynny sy'n dod ati i geisio'i help, ond mae'n ceisio gweithio hefyd gyda thimau eraill nad ydynt wedi ymwneud â hi o'r blaen. Bob deufis, cynhelir cyfarfodydd gofal Iechyd y 'Grŵp Mawr', lle bydd 14 o gadeiryddion y grwpiau clinigol yn cyfarfod â'r grŵp arwain (sy'n cyfarfod 18 diwrnod y flwyddyn) er mwyn cael darlun o'r gofal a ddarperir yn y system drwyddi draw ac er mwyn atgyfnerthu'r ymrwymiad corfforaethol i ansawdd.

    5,9 Nelson, E.C., Batalden, P.B., Godfrey, M.M. (Eds), 2007 Quality By Design: A Clinical Microsystems Approach

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    9

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Sefydlwyd chwaer sefydliad iddi yn 2004, sef Futurum. Mae'n cydlynu hyfforddiant i israddedigion yn y sir ac mae'n gyfrifol hefyd am lywio, gweinyddu ac ariannu gwaith ymchwil clinigol. Mae Qulturum a Futurum yn cydweithio'n glos, ac maent wedi datblygu gwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd a datblygu gofal iechyd. Mae addysgu myfyrwyr ynglŷn â gwella ansawdd bellach wedi bwrw gwreiddiau dwfn yng nghwricwla israddedigion y proffesiynau gofal iechyd ac mae'r Futurum hefyd yn cefnogi 25 o fyfyrwyr PhD ar hyn o bryd. Er 2000, ceir dealltwriaeth y bydd gwleidyddion Cyngor Sir Jönköping yn cyfyngu eu diddordeb i berfformiad ariannol ac i ystod gyfyngedig o ddangosyddion lefel uchel, gan roi cryn annibyniaeth i'r tîm rheoli. Serch hynny, nid oes fawr o amheuaeth na ddaw'r trefniant hwn, a'r system gofal iechyd yn Jönköping yn gyffredinol, dan bwysau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal ag anawsterau cyffredinol sy'n ymwneud â demograffeg a thechnoleg iechyd, mae pwysau ariannol hefyd wrth i adnoddau gael eu hailddosbarthu rhwng siroedd Sweden, ac oherwydd bod refeniw trethi'n gostwng yn sgil yr arafu ariannol byd-eang. Mae'r llywodraeth ganolog hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno elfen o farchnadeiddio i ofal iechyd. Felly, efallai y daw bygythiad hefyd i'r sefydlogrwydd rheolaethol a gwleidyddol, sef un o nodweddion pwysig llwyddiannau Jönköping o ran gwella ansawdd.

    4. Ymagwedd Strategol tuag at Ansawdd

    Un o'r nodweddion mwyaf trawiadol yn Jönköping yw'r arweiniad cyson a gafwyd gan yr un unigolion dros y ddau ddegawd diwethaf. Y tri gŵr pwysig yn hyn o beth oedd Sven Olof Karlsson (y Prif Swyddog Gweithredol a ymddeolodd yn 2008), Mats Bojestig (y Cyfarwyddwr Meddygol) a Göran Henriks (y Cyfarwyddwr Dysgu ac Arloesi). Er bod yr ymagwedd strategol tuag at ansawdd wedi esblygu dros ddau ddegawd i gyd-fynd â'r gwelliannau

    yn y sefydliad a'r datblygiadau mewn gwybodaeth dechnegol am fethodoleg gwella ansawdd drwy'r byd, maent wedi glynu wrth yr un gwerthoedd craidd a'r un ymrwymiad i wella ansawdd. Mae'n amlwg bod y 13 o werthoedd craidd ar gyfer y system gofal iechyd yn 'werthoedd byw' sydd bob amser yn cael eu cadw wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â gwaith gwella ansawdd, ailgynllunio gwasanaethau a dyrannu adnoddau. Enghraifft o hyn yw bod Göran Henriks, yn ôl pob sôn, bob amser

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    10

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    yn cadw copi o‟r 13 o werthoedd ym mhoced ei grys. Mae'r cyfuniad o dîm rheoli gofal iechyd sefydlog a natur wleidyddol sefydlog y Cyngor wedi golygu y bu modd meithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth dros flynyddoedd lawer, gan roi'r amser i arweinwyr y system gofal iechyd sicrhau bod eu gweledigaeth strategol yn bwrw gwreiddiau. Cryfhawyd yr ymddiriedaeth hon yn sgil perfformiad rhagorol Jönköping, o'i gymharu â'r 20 o Gynghorau Sir eraill yn Sweden, mewn cyfres o ddangosyddion lefel uchel. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd a chydnabyddiaeth eang i lwyddiant Jönköping yn y tabl dangosyddion hwn ar lefel genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn sgil hyn, mae'r cyhoedd yn ymddiried yn y gwasanaeth gofal iechyd ac mae'r gwleidyddion yn ymddiried yn y tîm sy'n arwain y gwasanaeth hwnnw. Bydd y strwythur rheoli'n weddol gyfarwydd i bobl yn y DU, er nad oes gan y byrddau rheoli aelodau annibynnol, ac y dibynnir ar y Cyngor Sir i wneud y gwaith craffu a herio annibynnol. Mae gan bob un o'r tri ysbyty dîm rheoli gweithredol, dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol, a hwnnw wedyn yw Bwrdd yr Ysbyty. Bydd y tri bwrdd ysbyty hyn yn adrodd i Fwrdd y Prif Swyddog Gweithredol sy'n cynnwys arweinwyr proffesiynol (cyfarwyddwr meddygol, cyfarwyddwr nyrsio), cyfarwyddwr cyllid a chyfarwyddwr dysgu ac arloesi. Bydd Bwrdd y Prif Swyddog Gweithredol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Cyngor Sir drwy gyfrwng y Prif Swyddog Gweithredol. Rhennir gwybodaeth am wasanaethau drwy gyfrwng dangosfyrddau, a dangosir y data ar fformat goleuadau traffig traddodiadol. Y tu ôl i'r goleuadau traffig ar y system electronig, ceir data sy'n caniatáu i rywun graffu'n fwy manwl. Mae'r ffigur isod yn dangos y data ar gyfer yr adran llawfeddygaeth.

    Mae Qulturum a'i harweinwyr hefyd wedi manteisio ar ysbrydoliaeth o bob cwr o'r byd ac mae hynny'n elfen bwysig. Mae'n amlwg bod y Sefydliad Ewropeaidd er Rheoli Ansawdd (EFQM) wedi dylanwadu ar eu strategaeth fusnes ac maent wedi ymdrechu i ddysgu yn sgil 'meddwl yn ddarbodus‟ ac yn sgil busnesau llwyddiannus yn Sweden (Scania) a thramor (Toyota) er mwyn trosglwyddo'r dysg i faes gofal iechyd.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    11

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Rhoddir blaenoriaeth i waith gwella ansawdd yn Qulturum a defnyddir amrywiaeth o ddulliau i ddethol prosiectau. Mae nifer fawr o brosiectau posibl ac felly ni wastreffir ymdrechion ar brosiectau nad ydynt yn debygol o gael llawer o effaith, neu sy'n debygol o fethu. Maent hefyd yn buddsoddi amser mewn aelodau brwd ac ymroddedig o'r staff. Ymgysylltir â chlinigwyr unigol drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau clinigol, ond caiff hyn ei feithrin yn raddol yn hytrach na'i orfodi. Defnyddir data'n fewnol yn bennaf fel sail i newid yn lleol, gan roi llai o bwyslais ar fonitro allanol. Mae methodoleg gwella ansawdd wedi dod yn ail natur i bob gweithiwr proffesiynol ac mae wedi bwrw gwreiddiau yn eu harferion gweithio. Un elfen hollbwysig yw bod rhwydd hynt i dimau newid pethau yn eu hadrannau eu hunain a'u bod yn cael eu hannog i gynnig syniadau ynglŷn ag arferion da y maent wedi'u gweld mewn mannau eraill er mwyn codi safonau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae oddeutu 80 o 'Gofrestri Ansawdd Cenedlaethol' wedi'u datblygu, gan arbenigwyr ysbytai'n bennaf, ac felly maent yn tueddu i ganolbwyntio ar glefydau penodol (h.y. clefyd y galon, diabetes, ac ati). Ar hyn o bryd, caiff Cynghorau Sir ac arbenigwyr ddewis cyfrannu data i'r cofrestri neu beidio, er bod matrics cymharol yn cael ei gynhyrchu o dro i dro sy'n cynnwys gwybodaeth am bob dangosydd ar ffurf 'goleuadau traffig'. Gadewir 'blwch gwag' ar gyfer arbenigwyr a Chynghorau Sir sydd heb gyfrannu, a'r teimlad yw y bydd mwy'n cyfrannu at y broses casglu data ac yn eu rhannu â'r cofrestri canolog wrth i amser fynd heibio, ac wrth iddynt ddod o dan bwysau i wneud hynny gan eu cydweithwyr. Anogir staff yn frwd i ysgwyddo rolau newydd ac i weithio'n wahanol er budd y claf. Gwelwyd enghreifftiau o hyn wrth i ysgrifenyddion meddygol ysgwyddo gwaith mesur ansawdd a dangos gwaith gwella ansawdd ar ffurf weledol, wrth i staff alluogi cleifion i fod yn gyfrifol am eu dialysis eu hunain, ac wrth ddatblygu rôl hyfforddwyr iechyd personol i'r henoed.

    5. Yr Achos Busnes dros Ansawdd Nid oes yn rhaid i'r Qulturum gyfiawnhau'n benodol y budd a ddaw yn sgil y gost flynyddol o‟i rhedeg, sef £1.4m. Asesir y budd ar lefel uchel o ran:

    Canlyniadau cyffredinol y sefydliad gofal iechyd (mae mynegai ansawdd/cost Jönköping yn well o lawer na mynegai unrhyw un o'r 20 sefydliad arall yn Sweden ac mae ei berfformiad tua brig y Dangosyddion Perfformiad Allweddol cenedlaethol).

    Y nifer fawr iawn o staff sydd wedi'u hyfforddi ym maes methodoleg gwella ansawdd (10,000 o staff).

    Dylanwad cryf iawn Qulturum o ran sicrhau bod diwylliant gwella ansawdd parhaus yn bwrw gwreiddiau ym mhob rhan o'r sefydliad gofal iechyd.

    Bydd bwrdd prosiectau gwella ansawdd yn y Qulturum yn cofnodi nifer y prosiectau gwella ansawdd sydd ar waith ym mhob wythnos o'r flwyddyn.

    Sicrheir bod y diwylliant gwella ansawdd parhaus yn bwrw gwreiddiau o‟r cychwyn pan fydd rhywun yn ymuno â'r sefydliad am y tro cyntaf. Bydd myfyrwyr o bob disgyblaeth broffesiynol yn dod at ei gilydd yn ystod eu tymor cyntaf ac yn ystod eu pumed tymor i astudio modiwl gwella ansawdd. Mae'r modiwl hwn yn ofyniad cyfreithiol. Disgwylir i bob aelod o'r staff gynnig o leiaf chwe syniad ar gyfer gwella ansawdd bob blwyddyn. Atgyfnerthir y diwylliant gan delerau ac amodau gwaith staff ac yn y contract gofal sylfaenol lle bydd dau y cant o'r taliad yn gysylltiedig â chyflawni prosiectau gwella ansawdd. Roedd tystiolaeth o'r diwylliant hwn yn

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    12

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    amlwg iawn ac yn cynnwys hyfforddiant i gyfrifwyr sy'n sicrhau bod cysylltiad llawer mwy clos rhyngddynt a'r gwasanaethau ac mai rôl cyfrifyddu rheolaethol yn hytrach na rôl cyfrifyddu ariannol sydd ganddynt.

    Mae ansawdd wedi bwrw gwreiddiau fel rhan o'u strategaeth fusnes:

    Mae tystiolaeth dda hefyd o nifer o sbardunau cenedlaethol sydd yn amlwg wedi arwain at ddefnyddio adnoddau'n well, ac er nad yw'r rhain o reidrwydd yn rhai y gellid eu trosglwyddo, maent yn haeddu rhagor o sylw:

    Mae'r llywodraeth yn rheoli ysmygu ac alcohol yn llym iawn ac ychydig iawn o ddamweiniau ceir sydd (llai yn defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol a llai'n cael eu derbyn i'r ysbyty).

    Bydd dinasyddion yn talu'r £180 cyntaf am feddyginiaeth, £15 am bob ymgynghoriad gofal sylfaenol/eilaidd hyd at uchafswm o £120 ac £8 am bob diwrnod y byddant yn ei dreulio yn yr ysbyty. Bydd y tâl am alwadau y tu allan i oriau swyddfa'n uwch nag am alwadau yn ystod oriau swyddfa. Y farn yw bod hyn yn arwain at lai o ragnodi amhriodol a llai o bobl yn dod i geisio gofal sylfaenol ac EU heb fod angen, a'i fod yn sbardun i ryddhau pobl o'r ysbyty'n gynt.

    Rhaid i ofal cymdeithasol dalu am ofal iechyd cleifion sy'n feddygol iach i'w rhyddhau ond nad oes modd eu rhyddhau oherwydd diffyg capasiti gofal cymdeithasol. Ar gyfartaledd, bydd cleifion meddygol yn aros yn yr ysbyty am 4.4 diwrnod, o'i gymharu â 10 i 10.5 diwrnod ar gyfartaledd yng Nghymru.

    Un system glir ar gyfer achredu ansawdd gwasanaethau. Yn olaf, mae'n ddiddorol nodi mai gwariant y sefydliad gofal iechyd ar Reoli Gwybodaeth a Thechnoleg, yn ôl ei adroddiad, oedd 3.4 y cant o'r gyllideb (mae hyn yn cymharu ag oddeutu un y cant yng Nghymru ar gyfartaledd). Ar lefel y sir mae'r cyfrifoldeb am y strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg er bod modd iddynt ddewis cydweithredu ar rai prosiectau mawr.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    13

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    6. Cleifion a'r Agenda Ansawdd Mae gan system gofal iechyd Jönköping hanes hir o gynnwys cleifion a'r cyhoedd yn y gwaith o gynllunio gofal iechyd lleol. Mae pwyslais cryf ar ganolbwyntio ar gleientiaid ac enghreifftiau niferus o waith i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu gweld 'drwy lygaid y cleifion'. Efallai mai'r mwyaf trawiadol o'r rhain yw 'Prosiect Esther'. Yn Höglandssjukhuset, ail ysbyty mwyaf y sir, y dechreuwyd y prosiect hwn. Mae'n annog pawb i weld ei waith o safbwynt menyw hŷn, Esther, ac i weithio i sicrhau bod y gofal iechyd a roddir iddi mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl. Dechreuodd Prosiect Esther yn 1997, ac mae'n cynnwys poblogaeth o 110,000 o drigolion. Ei nod yw sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo'n ddiogel ac yn iach, a bod ansawdd eu bywyd yn well. Crynhoir yr ethos yn eu datganiad o'u gweledigaeth: "Does dim ots ble - byddwn ni yno." Llwyddodd y prosiect i sicrhau bod clinigwyr yn canolbwyntio ar y claf, ac mae hynny'n dal i ddigwydd hyd heddiw. Er mai pobl rithiol oedd yr 'Esthers' cyntaf, yn y blynyddoedd diwethaf mae Höglandet wedi mynd ati'n rhagweithiol i recriwtio cleifion oedrannus (sydd eu hunain yn hoffi cael eu galw'n Esther) i fod yn "llais yn yr ystafell". Dyma'r prosiectau cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar Esther:

    Datblygu sefydliad hyblyg sy'n canolbwyntio ar werth y claf.

    Cynllunio gwell trefniadau rhagnodi a meddyginiaeth sy'n fwy effeithlon

    Creu ffyrdd o addasu dogfennu a chyfathrebu gwybodaeth ar gyfer y ddolen nesaf yn y gadwyn ofal.

    Datblygu cymorth TG effeithlon drwy'r gadwyn ofal gyfan.

    Datblygu a chyflwyno system ddiagnosis ar gyfer gofal yn y gymuned.

    Datblygu canolfan gymhwysedd rithiol er mwyn trosglwyddo cymhwysedd yn well drwy'r gadwyn ofal a gwella‟r cymhwysedd hwnnw.

    Gwelwyd y gwasanaeth yn gwella'n aruthrol yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf Prosiect Esther a hwnnw'n wasanaeth mwy effeithlon, yn enwedig o ran mynediad at wasanaethau yn sgil ailgynllunio'r gwasanaeth ar sail anghenion y cleifion.

    Llyfr a ysgrifennwyd gan un o gleifion Jönköping yw 'Taste of Water'. Cwympodd y claf i'r llawr un diwrnod a thybiwyd ei bod yn marw. Ar ôl iddi wella, cofnododd ei phrofiadau o ofal iechyd gan bwysleisio pwysigrwydd y staff yn yr ystafell achosion brys. Dyma'i chyngor - "Siaradwch â fi, nid ata'i". Prosiect diogelwch cleifion yw 'Tillsammans' (Gyda'n Gilydd). Mae'n ystyried ac yn cynnig syniadau ac atebion i'w rhoi ar waith, gan roi'r claf yng nghanol y broses ailgynllunio. Mae'r prosiect hwn wedi bod ar waith ers dwy flynedd ac mae wedi dylanwadu ar ddatblygiadau ym maes dialysis (mae uned hunanddialysis sydd wedi'i chynllunio ar y cyd bellach yn darparu gwasanaeth ar gyfer 55 o gleifion dialysis yr arennau a dialysis peritoneol a disgwylir i hyn gynyddu i 75 y cant), yr Uned Gofal Dwys / Llawfeddygaeth a'r Adran Achosion Brys. Cychwynnwyd ar brosiect trosglwyddo cleifion o'r Uned Gofal Dwys i'r adran

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    14

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    lawfeddygol yn benodol er mwyn ymateb i feirniadaeth cleifion eu bod yn teimlo'n ddibynnol ar ofal yr uned gofal dwys wrth iddynt gael eu trosglwyddo a bod hynny'n achosi pryder iddynt. Bydd grwpiau o gleifion yn aml yn cael eu hwyluso drwy 'gaffis dysgu' lle bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal mewn awyrgylch mwy anffurfiol. Ffordd arall o fynd ati gyda'r cleifion yw defnyddio system meddwl de Bono10 sef y chwe het meddwl. Mae hyn wedi bod o gymorth arbennig i drafodaethau grŵp ym maes iechyd meddwl ac mae wedi llwyddo i ddatblygu cardiau cyswllt symudol i weithwyr er mwyn sicrhau gweithdrefnau derbyn/rhyddhau gwell.

    7. Trawsnewid y Gwasanaeth: Iechyd Cyhoeddus Mae'n amlwg bod iechyd cyhoeddus wedi bod yn uchel ar yr agenda wleidyddol a'r agenda gofal iechyd yn Jönköping ers 20 mlynedd. Llwyddwyd i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd mwyaf heriol o ran iechyd y boblogaeth gan gynnwys ysmygu, alcohol a damweiniau ar y ffyrdd drwy ddeddfwriaeth: mae treth uchel ar sigaréts, rheoli'r mynediad at alcohol a system drafnidiaeth sydd wedi'i chynllunio'n dda i gyd wedi bod yn llwyddiannus o ran gwella canlyniadau iechyd yn y meysydd hyn. Mae polisïau'r llywodraeth wedi annog gweithgareddau 'gwyrdd' i'w dinasyddion, gan gynnwys gwersylla, ac mae llwybrau cerdded a beicio'n cael ei dylunio'n benodol wrth gynllunio trefi er mwyn hyrwyddo'r gweithgareddau hynny. Mae'r tai a godir ledled Sweden yn rhai o safon uchel o ran eu manyleb - mae cael cartref o safon a safonau byw uchel yn bwysig iawn i'r dinasyddion. Mae hanes perchnogaeth tir a rhaglen adeiladu'r 1930-40au, pan oedd hi'n nod gan y llywodraeth i ddarparu tai digonol i bob teulu, wedi arwain at gyfraddau uchel o berchnogaeth tai a pharch mawr at gartrefi. Roedd y cyfraddau cyflogaeth yn dda tan ddechrau'r 1990au pan ddechreuodd argyfyngau ariannol frathu ond drwy gryfhau atebolrwydd ariannol bryd hynny, llwyddwyd i sicrhau bod y Kroner yn gallu gwrthsefyll y problemau bancio byd-eang presennol ac mae cyflogaeth wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyfraddau ysgaru'n debyg i'r hyn a welir mewn rhannau eraill o'r byd gorllewinol, ond mae lles plant yn dal yn ganolog i werthoedd cymdeithas. Rhoddir gwerth ar gyfrifoldebau rhieni a rhoddir cefnogaeth iddynt, e.e. drwy hawliau mamolaeth a thadolaeth. Mae iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau cymunedol yn sail i'r rhaglenni gwaith yn system gofal iechyd Jönköping. Bydd grwpiau o arbenigwyr a chleifion yn rhoi gwybod i'r Cynghorau Sir am anghenion iechyd y boblogaeth leol a throsir y rhain yn ddangosyddion sy'n sail i'r holl waith gwella ansawdd ar draws maes gofal sylfaenol a meysydd clinigol arbenigol. Mae hyn yn sicrhau bod cysylltiad cryf rhwng nodau strategol y sir a phrosesau a pherfformiad clinigol. Mae gwerthoedd y sefydliad wedi bwrw gwreiddiau dwfn yn y systemau gofal iechyd, mewn arferion gweithio ac wrth recriwtio staff. Dangosir pwysigrwydd tegwch ar lefel genedlaethol yn y ffordd y caiff refeniw ei ailddosbarthu rhwng y siroedd, ar lefel trefniadaethol lle y gwelir nifer fawr o fenywod yn uwch-reolwyr, ac ar lefel unigolion drwy gynnig dewis i gwsmeriaid a'u cynnwys wrth wella ac ailgynllunio gwasanaethau. Mae urddas cleientiaid a'r parch a ddangosir atynt yn rhan hanfodol o bob agwedd ar y gofal

    10

    www.debonogroup.com/six_thinking_hats.php

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    15

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    ac mae hyn i'w weld yn glir yn y ffordd y canolbwyntir ar y claf mewn rhaglenni gofal a gwella ansawdd beunyddiol. Defnyddir hanesion cleifion yn helaeth er mwyn cynnwys cleientiaid a gwella'u gofal. Rhaglen a gynlluniwyd i annog pobl oedrannus i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros fyw'n iach yw 'Passion for Life', a hwythau'n dal yn egnïol. Sefydlir rhwydweithiau cymdeithasol mewn 'Caffis Byw' lle bydd grwpiau'n dod at ei gilydd i ddysgu am themâu Sefydliad Iechyd y Byd megis byw'n iach, cymdeithasu, gweithgareddau corfforol a diogelwch. Mae gan y rhwydweithiau 'arweinwyr cylch' sy'n gefn i'r grwpiau, yn grymuso'r cleientiaid i wella drwy ddefnyddio cylchoedd PDSA ac yn recriwtio negeseuwyr i rannu syniadau a gwybodaeth. Cedwir y negeseuon yn glir ac yn syml, ac fe'u hailadroddir gan annog cleientiaid i atgyfnerthu eu cynlluniau ar gyfer gwella ansawdd drwy eu rhoi ar glawr. Nid yw strwythur y grwpiau'n rhy ffurfiol oherwydd gwelwyd bod hyn yn rhwystr rhag grymuso'r aelodau. Defnyddir holiadur syml i werthuso'r drefn, gan ofyn tri chwestiwn am effaith y rhaglen ar eu bywyd. Cafwyd llwyddiant mawr yn denu aelodau newydd drwy hysbysebu'r rhaglen ar y teledu. Mae rhaglen newydd wedi'i chynllunio ar sail yr un fethodoleg er mwyn lleihau'r nifer sy'n torri eu clun drwy ganolbwyntio ar gryfhau nerth y cyhyrau a gwella cydbwysedd drwy ddeiet, ymarfer corff a newid ffordd o fyw. Mae llwyddiant yr agenda iechyd cyhoeddus i bob golwg yn deillio o sawl ffactor, ac un o'r ffactorau allweddol yn hyn o beth yw pa mor bwysig yw'r gymuned a dinasyddion unigol o ran gwella'u hiechyd a'u lles hwy eu hunain. Mae gweithwyr proffesiynol yn falch iawn o'u gwlad ac o'r systemau y maent wedi'u sefydlu, a'r egwyddorion tegwch a pharch sy'n llifo drwy'r rhaglenni gwaith. Defnyddir cyfeiriad gwleidyddol a deddfwriaeth i sbarduno system iechyd sydd wedi'i seilio ar anghenion cymunedau, a defnyddir dangosyddion sydd wedi'u teilwra i adlewyrchu'r anghenion hyn. Ffactorau pwysig eraill sydd wedi helpu i newid ffordd o fyw pobl yn sylweddol yw bod y negeseuon yn glir ac yn syml, bod ganddynt ymdeimlad cryf o bwrpas a'u bod yn ailadrodd y neges ar wahanol fformatau ac mewn gwahanol fforymau ym mhob rhan o'r gymuned. Defnyddir gwahanol gyfryngau, yn enwedig y teledu, yn effeithiol i ledaenu gwybodaeth ac i hybu'r agenda lles, gan annog unigolion i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am eu hiechyd. Atgyfnerthir pwysigrwydd ffordd iach o fyw yn y byd o'u cwmpas drwy‟r amgylchedd ac yn y ffordd y caiff pethau eu dylunio ar gyfer bywyd bob dydd.

    8. Trawsnewid Gwasanaethau: Gofal Sylfaenol Mae seilwaith gofal sylfaenol Sweden yn debyg i'r seilwaith a geir yn y Deyrnas Unedig. Gellir cymharu'r canolfannau gofal yn y gymuned yno â'n meddygfeydd teulu ni. Bydd meddygon teulu'n gweithio gyda chymorth therapyddion, cwnselwyr a nyrsys ardal ac mae'r rhan fwyaf ohonynt (80 y cant) yn cael eu cyflogi. Mae'n anodd denu meddygon teulu'n lleol yn Jönköping a chaiff nifer sylweddol o'r meddygon eu recriwtio o'r tu allan i'r ardal. Ar gyfartaledd, mae gan bob meddyg teulu 2,000 o gleifion ac mae 51 o bractisau'n

    gwasanaethu Jönköping a'i 350,000 o drigolion. Ariennir 31 practis drwy drethi'r sir ac mae 20 o bractisau preifat wedi'u sefydlu'n ddiweddar a'r rheini wedi'u hadeiladu gydag arian preifat yn unig. I bob golwg mae statws y practisau preifat hyn yn debyg i statws contractwyr annibynnol yn y DU. Nod y Cyngor Sir, o bosibl, wrth hyrwyddo'r agenda

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    16

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    preifateiddio yw cynyddu cystadleuaeth, codi safonau a hwyluso dewis i gleifion. Nid oes cyfyngiad ar ble y codir canolfannau gofal ac nid oes gofynion cyfreithiol sy'n mynnu bod yn rhaid iddynt fod yn agos at fferyllfa. Mae'r canolfannau gofal ar agor rhwng 8am a 5pm yn ystod yr wythnos a rhwng 10am a 2pm ar ddydd Sadwrn. Darperir gofal y tu allan i oriau rhwng 5pm a 10pm drwy drefniant cydweithredol rhwng meddygon teulu; rhwng 10pm a 8am bydd cleifion yn mynd i ystafell achosion brys yr ysbyty. Yr un rhif ffôn a ddefnyddir i gleifion gael gafael ar wasanaethau yn ystod y dydd ac yn ystod y nos, a bydd galwadau y tu allan i oriau'n cael eu trosglwyddo'n awtomatig. Gall cleifion symud yn rhwydd o'r naill bractis i'r llall, ond ni chânt gofrestru â mwy nag un practis ar y tro. Anogir parhad yn y gofal, a bydd cleifion yn cofrestru gyda meddyg teulu yn hytrach na chyda phractis er bod y system hon yn cael ei drysu weithiau pan fydd cleifion yn trefnu apwyntiadau ar-lein. Os bydd rhywun yn gwneud cais i weld meddyg, bydd nyrs practis yn y Ganolfan yn brysbennu yn gyntaf. Pan fydd cleifion yn trefnu apwyntiad ar lein, byddant yn amcangyfrif faint o amser y bydd angen iddynt ei dreulio gyda'r meddyg (15-30 munud, a 45 munud am apwyntiad iechyd meddwl). Bydd canolfannau gofal yn wynebu'r un problemau gyda'u hamserau aros am apwyntiad ag a wynebir yng Nghymru, ac yn aml, bydd yn rhaid i bobl aros rhwng wythnos a phythefnos. Cafodd trefniadau gofal sylfaenol eu trosglwyddo'n llwyr i system gyfrifiadurol yn yr 1990au ac erbyn 1996 roedd gan bob practis yr un system TG. Sefydlwyd system newydd ym mhob rhan o rwydwaith gofal iechyd Sir Jönköping yn ddiweddar, gyda'r nod o sicrhau gwell cysylltedd a defnyddio'r un codau ar draws rhyngwyneb gofal sylfaenol/ysbytai. Mae problemau difrifol wedi codi gyda'r system ers ei chyflwyno ac mae'n amlwg yn creu diflastod i bractisau gofal sylfaenol. Ariennir y canolfannau gofal drwy system trethi'r cyngor sir, gydag 86 y cant o'r taliadau'n cael eu gwneud ar sail nifer y cleifion a'u hoedran a'r Mynegai Anghenion Gofal (sy‟n seiliedig ar nifer o fynegeion cymdeithasol). Telir symiau ychwanegol am gydymffurfio â dangosyddion diogelwch, mynediad ac ansawdd a chaiff y rhain eu monitro drwy ymweld â'r practisau ddwywaith y flwyddyn. Bydd cleifion yn talu £15 am bob ymweliad â'r meddyg yn ystod oriau gwaith, ac mae'r tâl yn cynyddu i £30 pan fyddant yn ymweld y tu allan i oriau neu'n ymweld â'r adran achosion brys. Ni chodir tâl ar bobl ddi-waith, gan fod y rheini'n cael gofal am ddim yn y man y‟i darperir. Bydd pob archwiliad a thriniaeth ar gael am ddim ar ôl talu'r tâl cychwynnol hwn. Seilir y pwyslais ar ansawdd ym maes gofal sylfaenol ar y 'Llyfr Rheolau' sy'n nodi bod angen prosiectau gwella ansawdd yn ystod y flwyddyn. Defnyddir cylchoedd PDSA fel tystiolaeth o welliannau er mwyn sicrhau tâl bychan (dau y cant) ar gyfer y gwaith gwella ansawdd hwn. Defnyddir cyfres o ganllawiau clinigol tebyg i NICE fel tystiolaeth ar gyfer gofal clinigol. I bob golwg, nid yw gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol wedi'u cydblethu'n glos yn y canolfannau gofal ac nid yw gweithwyr cymdeithasol yn rhan hanfodol o'r tîm ymarfer. Fodd bynnag, mae integreiddio rhwng asiantaethau drwy'r grwpiau cymunedol sydd wedi'u sefydlu i hybu byw'n iach ac mae ffocws ar ofal cymdeithasol yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant Prosiect Esther. Mae cartrefi preswyl, i bob golwg, yn debyg o ran eu patrwm i'r hyn a welir yn y DU ac maent yn wynebu'r un anawsterau o ran cynnal safonau a sicrhau bod gwelyau ar gael. Mewn un practis preifat yn Jönköping ceir tri meddyg teulu a Phrif Swyddog Gweithredol. Cynhelir cyfarfodydd tîm am 7.45 bob bore gyda phob aelod yn bresennol i gynllunio gwaith y dydd. Anogir gweithwyr proffesiynol i ddeall rolau ei gilydd ac i weithio fel timau. Mae'n ofyniad i bob gweithiwr ddatrys problemau sy'n codi ac arddel agwedd

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    17

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    gadarnhaol. Mae'r gofal yn canolbwyntio'n gryf ar y claf, a rhoddir blaenoriaeth amlwg iawn i alwadau sy'n dod i mewn. Ni chaniateir i gyfarfodydd mewnol darfu ar amser y cleifion. Mae'r practis wrthi'n ymestyn ei oriau drwy agor y feddygfa bum noson yr wythnos yn hytrach na thair er mwyn denu rhagor o gleifion ar ei llyfrau. Yng Nghyngor Sir Jönköping mae ymgyrch ar waith i wella mynediad ac i ddarparu mwy o ofal yn y gymuned. Yn y gorffennol, hwyluswyd symud gofal pediatrig oddi wrth glinigau a gwelyau mewn ysbytai drwy benodi arbenigwyr pediatrig ym maes gofal sylfaenol a thrwy roi strategaethau egnïol ar waith i atal clefydau cronig rhag gwaethygu a throi'n rhai aciwt - yn enwedig felly asthma. Ar hyn o bryd, mae meddygon teulu‟n dod dan fwy a mwy o bwysau i gynnal profion llawn ar bob claf sy'n cael ei gyfeirio atynt, er mai prin yw'r adnoddau labordy ac adnoddau radiolegol y tu allan i'r ysbyty. Mae'n anochel y bydd dadleuon yn codi ynglŷn â pha sector a ddylai dalu am waith o'r fath yn sgil marchnadeiddio. Gwahoddir practisau gofal sylfaenol i gyfarfodydd Grŵp Mawr Qulturum sy'n trafod gwella gwasanaethau a gallant ddefnyddio'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael, ond mae'r ffaith bod Qulturum wedi'i lleoli yn yr ysbyty a bod adnoddau bellach yn cael eu gwahanu'n golygu ei bod yn rhaid i ofal sylfaenol dalu am adnoddau dysgu. Gallai hyn olygu na fydd gweithwyr gofal sylfaenol yn ymwneud â'r drefn i'r un graddau â'u cydweithwyr arbenigol.

    9. Hyfforddiant Elfen ganolog o hyfforddiant ym maes gwella ansawdd yw parhau i ychwanegu gwerth ar gyfer cleifion. Seilir system egwyddorion y sefydliad ar gyfuno gwybodaeth broffesiynol â gwybodaeth ynglŷn â gwella ansawdd er mwyn gwella triniaethau, gofal, systemau a phrosesau ac ychwanegu gwerth ar gyfer cleifion. Mae hanesion cleifion ynghyd â mesuriadau amser real yn bwysig i sbarduno rhaglenni gwella ansawdd ac i sicrhau bod staff yn ymrwymo i ddangos gwelliant parhaus a'u bod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am hynny. Mae hyfforddiant gwella ansawdd wedi'i integreiddio i bob agwedd ar y system iechyd fel rhan o'r trefniadau darparu gwasanaethau arferol. Ar lefel israddedigion, mae hyfforddiant gwella ansawdd yn rhan o'r cwricwla ffurfiol ac fe'i hatgyfnerthir drwy gydol lleoliadau'r 11 tymor y bydd pob darpar feddyg yn eu cwblhau. Mae dau dymor yn ystod hyfforddiant i israddedigion yn rhai cwbl amlddisgyblaeth, ac mae hyn yn sefydlu'r diwylliant ar gyfer hyfforddi timau amlddisgyblaeth ym maes gwella ansawdd wrth ddarparu gofal ar ôl graddio. Mae hyfforddiant sy'n seiliedig ar dimau amlddisgyblaeth yn rhoi'r arfau a'r sgiliau i staff wella ansawdd ond darperir hyfforddiant personol yn gefn i hynny hefyd. Mae hyfforddiant personol yn bwysig er mwyn annog gwelliant parhaus. Defnyddir hyfforddiant personol, nid dim ond gyda staff, ond i gynnwys cleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy raglenni megis Passion for Life. Mae‟n ofynnol i hyfforddwyr gefnogi staff mewn gwaith gwella ansawdd am 20 awr bob chwe mis ac mae'r adnodd hwn yn gymharol rad am eu bod yn gwneud hyn fel rhan o'u rôl arferol. Mae parhad yr hyfforddiant hefyd yn cynnwys mecanwaith adborth parhaus i hyfforddwyr er mwyn gwella'u technegau hyfforddi o hyd. Bydd hyfforddwyr yn sylweddoli pwysigrwydd

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    18

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    datblygu staff i hyfforddi eraill, a defnyddio pobl sydd wedi bod yn amheus o'r drefn i hyrwyddo'u cynnydd i eraill. Bydd hyfforddi arweinwyr a hyfforddiant gwella ansawdd yn mynd law yn llaw a sefydlwyd y Qulturum er mwyn darparu'r ddau. Ystyrir bod y dimensiwn dynol a hyfforddiant ar agweddau seicolegol gwella a newid yr un mor bwysig â darparu sgiliau. Anogir staff yn frwd i ysgwyddo rolau newydd ac i weithio mewn ffordd wahanol er budd y claf. Wrth ddarparu hyfforddiant ac anogaeth er mwyn gwella ansawdd, defnyddir methodoleg gyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n sylweddoli pa mor bwysig yw defnyddio iaith mewn ffordd gyson i atgyfnerthu negeseuon ar bob lefel a chyda phob tîm drwy'r sefydliad. Mae cysylltiad clos rhwng yr iaith a ddefnyddir a 13 o werthoedd y sefydliad gan sicrhau mai'r un gwerthoedd, yr un pwrpas, a'r un iaith a arddelir gan bawb a bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o'r un peth. Defnyddir amrywiaeth eang o gyfryngau i ledaenu'r neges gwella ansawdd: gwefannau, ymgyrchoedd ar y teledu, sesiynau holi ac ateb, hanesion cleifion, data amser real, siartiau dilyniant, cyflwyniadau, anogaeth, meithrin tîm ac ati. Canolbwyntir ar ddarparu gwasanaeth y mae cleifion yn dymuno'i gael a gwasanaeth y mae ei angen arnynt, yn hytrach nag ar y gwasanaeth y mae gweithwyr proffesiynol yn meddwl y dylent ei gael. Mae Cyngor Sir Jönköping wedi trefnu hyfforddiant i raddedigion sy‟n cynnwys myfyrwyr Doethuriaeth yn astudio technegau a methodoleg gwella ansawdd. Yn 2009, ymunodd y Cyngor â Phrifysgol Jönköping a‟r 13 o ranbarthau dinesig yn y sir i greu Academi Gwella Iechyd a Lles Jönköping, a sylfaenwyd i „hybu iechyd a lles drwy ddarparu a helpu i ddefnyddio gwybodaeth am wella ansawdd ac arweinyddiaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Academi Jönköping yn gwneud gwaith ymchwil ac addysg drwy gydweithio rhwng y brifysgol a phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.‟ Ar y cyd â Sefydliad Ymarfer Clinigol a Pholisi Iechyd Dartmouth, a phartneriaid eraill, mae Academi Jönköping wedi datblygu rhaglen Meistr amlbroffesiwn ar Wella Ansawdd ac Arweinyddiaeth mewn Gwasanaethau Iechyd a Lles. Gan ddenu 100 o weithwyr proffesiynol erbyn 2011, yn cynnwys gweithwyr Cyngor Sir Jönköping - meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, staff cyllid, y mae llawer ohonynt hefyd yn rheolwyr - nod y rhaglen yw „cryfhau gallu‟r cyfranogwyr i arwain a chyflawni gwelliannau i iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â defnyddio adnoddau‟n ddarbodus.‟ Mae‟r Cyngor Sir hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid academaidd eraill, yn cynnwys y Gyfadran Gwyddorau Iechyd yn Linköping a‟r rhaglenni proffesiynau iechyd i israddedigion yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Jönköping.

    10. Argymhellion Er nad oes modd trosglwyddo popeth sydd gan Jönköping i'w ddysgu i ni i gyd-destun Cymru, mae'n cadarnhau gwerth canolbwyntio ar ansawdd ac mae'n cefnogi ac yn dangos y camau gweithredu hynny sy'n briodol i Gymru. Mewn ambell achos, bydd hyn yn golygu y bydd gofyn ad-drefnu adnoddau sydd ar gael eisoes. Gan mwyaf, mae a wnelo'r argymhellion hyn â'r rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy. Sylweddolwn fod llawer o‟r arbenigedd, o ran cyflawni'r nodau hyn, yn nwylo ein cyrff partneriaid yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at gydweithio er mwyn llwyddo.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    19

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    (i) Pawb yn arddel yr un ymagwedd gyson tuag at wella ansawdd (a) Mae angen iaith gyson sydd wedi'i safoni ar gyfer gwella ansawdd yng Nghymru. Y fethodoleg gwella ansawdd parhaus a ddefnyddir gan 1000 o Fywydau a Mwy yw'r model y dylid ei ddefnyddio a'i addysgu mewn gwaith gwella ansawdd ledled Cymru. Mae honno ar hyn o bryd i'w gweld yn 'Y Canllaw Gwella Ansawdd' a'r canllawiau gwella ansawdd sy'n cyd-fynd â hwy, a gyhoeddwyd gan 1000 o Fywydau a Mwy. Bydd angen i Fwrdd Rhaglen Genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy (neu ei olynydd) gymeradwyo datblygu'r model hwn ac ychwanegu ato ar sail cyngor Cyfadran 1000 o Fywydau a Mwy. Mae angen cryfhau Cyfadran 1000 o Fywydau a Mwy Cymru gyfan a rhoi mwy o gefnogaeth i'w haelodau. Dylai rôl y Gyfadran hon barhau i gynnwys arwain y gwaith o addysgu pobl ym maes gwella ansawdd a chyhoeddi canllawiau i ategu‟r gwaith hwnnw. (b) Rhaid i raglenni cydweithredol cenedlaethol adlewyrchu blaenoriaethau GIG Cymru a chysylltu ag agendâu'r bwrdd Seilir rhaglen waith 1000 o Fywydau a Mwy ar dystiolaeth o'r angen a'r potensial i gyflawni newid. Caiff ei chymeradwyo a'i monitro gan fwrdd rhaglen genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy o dan arweiniad clinigol y Gyfadran. Yn y dyfodol, dylai gael ei chadarnhau gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG a dylid cyflwyno adroddiad ynglŷn â'i chynnydd i'r sefydliadau hynny o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod gwella ansawdd yn cael ei weld yn arf ganolog i wireddu'r agenda ad-drefnu. (c) Dylai'r cysylltiad rhwng gwaith 1000 o Fywydau a Mwy ac iechyd cyhoeddus fod yn agosach. Rhaid cyflymu'r gwaith presennol i gysylltu datblygiad rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy a mapio canlyniadau iechyd a gofal iechyd. Mae'r mecanwaith yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau cytundeb gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyfarwyddwyr gweithredol lleol iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Dylai‟r rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy gynnwys o leiaf un prosiect sy'n targedu iechyd y boblogaeth bob tro. Rhaid sicrhau bod cysylltiad rhwng hyn a gwasanaethau sy'n mynd ati'n frwd i hyrwyddo negeseuon ynglŷn â ffyrdd iach o fyw drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau er mwyn sicrhau eu bod yn ategu'r neges. (ch) Dylai fod mwy o ffocws ar ymchwil a gwerthuso i gefnogi effeithiolrwydd gwaith gwella ansawdd yng Nghymru Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn cryfhau‟r cysylltiadau gydag adrannau academaidd ledled Cymru i ysgogi a chysoni gwaith ymchwil a gwerthuso er mwyn cefnogi ein gwaith gwella ansawdd. Bydd yn adeiladu ar brofiad llwyddiannus diweddar o lunio ceisiadau ar y cyd am arian ymchwil.

    (ii) GIG yng Nghymru sy'n cael ei sbarduno gan y cleifion (a) Mae angen modelau a dulliau newydd ar GIG Cymru sy'n rhoi pobl wrth wraidd eu hiechyd a'u gofal iechyd eu hunain Bydd y rhaglen yn ehangu ei ffocws presennol i gynnwys amrywiaeth o ddulliau a ffyrdd o fynd ati megis Prosiect Esther a'r rhaglen Together a fydd yn cynnig arfau newydd er mwyn cydgynllunio a galluogi cleifion a phoblogaethau. Drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, bydd yn pennu cwmpasu rhaglen newydd ar gyfer 2012-13 i adlewyrchu polisïau'r llywodraeth ynglŷn â mesur a gwella profiad y claf.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    20

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    (b) Rhaid i ganllawiau gwella ansawdd adlewyrchu egwyddor canolbwyntio ar y claf Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn adolygu'r holl ganllawiau gwella ansawdd presennol er mwyn sicrhau ymagwedd gyson a chryfach, sy'n adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd gan Jönköping ac o fannau eraill - yn enwedig gyda golwg ar ganolbwyntio ar y claf a hyrwyddo urddas a pharch. Fel sy'n wir am Brosiect Esther, mae angen annog unigolion, a hynny ar frys, i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am eu hiechyd hwy eu hunain ac am reoli cyflyrau. I ategu hynny, mae angen darparu gwybodaeth glir a chyson ynglŷn â sut mae cyflawni hyn. Mae'n hollbwysig bod GIG Cymru yn defnyddio grwpiau cleifion a grwpiau cymdeithasol yn y gymuned yn adnodd allweddol i sicrhau bod profiad y defnyddiwr yn sail i unrhyw ailgynllunio gwasanaethau.

    (iii) Datblygu capasiti a gallu yn awr - ac yn y dyfodol (a) Rhaid i raglen 1000 o Fywydau a Mwy chwarae rhan frwd yn natblygiad trefniadaeth GIG Cymru er mwyn sicrhau trawsnewidiad Dylai'r berthynas rhwng 1000 o Fywydau a mwy a chyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygilad Sefydliadol pob sefydliad fod yn berthynas agosach. Mae gofyn gwneud gwaith hefyd i ddwyn ynghyd ddulliau busnes GIG Cymru a'r agenda gwella ansawdd. Dylid manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod rhaglenni newid yn cefnogi staff gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned i osgoi gofal aciwt diangen neu gynnydd yn eu hangen am driniaeth. (b) Mae gofyn cael gweithlu medrus i adeiladu GIG sy'n cael ei sbarduno gan yr awydd i wella ansawdd Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn gweithio gyda'r byrddau a'r ymddiriedolaethau iechyd i gytuno ar gynllun i hyfforddi 25 y cant o'r gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol neu gontracwyr yn y fethodoleg gwella ansawdd yn barhaus (ar y lefel sylfaenol, ar lefel arbenigwyr neu ar lefel arweinwyr) erbyn diwedd mis Mawrth 2014. Yn y cyfnod hwn, cyflawnir hyn ar sail partneriaeth a bydd yn cynnwys hyfforddi tiwtoriaid lleol achrededig (oddeutu 20 ym mhob sefydliad). Bydd y cynllun yn cynnwys cynigion i gynnal y gyfradd wedyn drwy gyflawni hyn ar lefel byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol. (c) Bydd angen i'r gwaith mesur fod yn briodol ac ar raddfa eang Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn gweithio gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, yr Uned Cynorthwyo a Datblygu a Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddi 'Mesur i Reolwyr'. Bydd hyn yn gyson â'r 'Cynllun Cyflawni Ansawdd' arfaethedig a gynigir ac a ddarperir ar gyfer pump y cant o weithlu GIG Cymru o leiaf erbyn diwedd mis Mawrth 2014 (gan ganolbwyntio ar reolwyr cyllid, rheolwyr busnes a rheolwyr swyddogaethol). Mae angen i staff GIG Cymru gael systemau data amser real sy'n ategu‟r ymdrechion gwella ansawdd. Mae'r rhain yn nodweddion cryf o waith presennol 1000 o Fywydau a Mwy ond megis dechrau datblygu y mae'r gwaith ar hyn o bryd. Mae'r gwaith sydd ar y gweill gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i ddatblygu'r Matrics Gofal, ac ym maes gofal sylfaenol gydag Audit Plus, yn cynnig posibilrwydd y gallwn symud oddi wrth arfau unigol sydd wedi'u teilwra'n benodol a symleiddio'r ymdrechion. (ch) Rhaid cefnogi a dathlu arloesedd ymysg timau lleol Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn cefnogi arloesedd lleol drwy ei rhaglenni cydweithredol, ei methodoleg, ei chanllawiau „sut i‟ ac adnoddau eraillar y we yn ogystal ag yn ei gwaith

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    21

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    gyda chyfadrannau lleol. Bydd yn parhau i weithio‟n agos gyda “Improvement on Line” a Gwobrau blynyddol y GIG i sicrhau bod arferion arloseol yn hygyrch ac yn cael eu dathlu. (d) Rhaid i raglen 1000 o Fywydau a Mwy weithio ar sail egwyddor sybsidiaredd Rhaid gwneud ymdrech barhaus i sicrhau bod 1000 o Fywydau a Mwy yn ysgogi ac yn cefnogi gwaith byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn GIG Cymru. Ni ddylid gwneud dim gwaith na chadw dim adnoddau ar lefel Cymru gyfan pan fyddai'n fwy priodol gwneud hynny'n lleol. Gwneir hyn drwy sicrhau'r canlynol:

    Cefnogaeth frwd i ddatblygu cyfadrannau lleol, gan addasu model Qulturum i amgylchiadau lleol. Dylai pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru ystyried sefydlu canolfan neu ganolfannau go iawn neu rai rhithiol, ar gyfer gwella gwasanaethau, mannau lle y gall arweinwyr gwasanaethau gyfarfod, rhannu syniadau ac elwa o gymorth methodolegol. Gellid eu defnyddio'n adnodd i ddwyn staff cymuned a staff yr ysbyty ynghyd mewn amgylchedd dysgu ar y cyd.

    Cydbwysedd rhwng staff craidd a defnyddio staff y byrddau a'r ymddiriedolaethau iechyd i dreulio cyfnod dros dro'n arwain neu'n cefnogi prosiectau unigol drwy Gymru gyfan.

    Cymorth pendant i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wrth iddynt gynllunio a chynnal cynlluniau cyfathrebu egnïol i gefnogi nifer y prosiectau lleol a lledaenu ymdrechion i wella ansawdd, dulliau a chanlyniadau.

    Hwyluso grwpiau cysylltiol i Gymru gyfan megis Cyfarwyddwyr Meddygol Cysylltiol ar gyfer Ansawdd.

    Cysylltiadau brwd â sefydliadau gwella gofal iechyd y tu hwnt i ffiniau Cymru.

    Cefnogaeth ac anogaeth i bobl leol ymgeisio am wobrau ac am le mewn cynadleddau, gan gynnwys Gwobrau Cyfnodolyn GIG Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd a'r Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd.

    Rhaglen frwd o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau ynglŷn â dysgu ar lefel Cymru gyfan

    (dd) Mae angen i raglen 1000 o Fywydau a Mwy ddatblygu amrywiaeth ehangach o ddulliau addysgu er mwyn lledaenu ewyllys a gallu Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn ymchwilio i rôl bosibl anogaeth, dulliau symudiad cymdeithasol, a thechnegau seiliedig ar ddatrysiadau ynghyd â thechnegau eraill dan arweiniad dysgwyr yn y dyfodol er mwyn cyflymu'r ddarpariaeth ddysgu ar gyfer staff GIG Cymru a'i gleifion. (e) Dylai GIG Cymru fanteisio ar bob cyfle sicrhau bod adnoddau academaidd ac addysgu'n mynd law yn llaw â'i gilydd Bydd 1000 o Fywydau a Mwy yn parhau i weithio gyda phrifysgolion a cholegau i gefnogi cynllunio a darparu hyfforddiant gwella ar gyfer hyfforddi israddedigion ac ôl-raddedigion gan ddefnyddio'r un iaith ar gyfer GIG Cymru. Dylid ehangu Cymdeithas Myfyrwyr 1000 o Fywydau a Mwy a darparu rhagor o adnoddau ar ei chyfer. Gwahoddir bwrdd y rhaglen genedlaethol i reoli adolygiad o gysylltiadau â hyfforddiant i ôl-raddedigion er mwyn cryfhau'r cysylltiadau â gwelliannau sy'n seiliedig ar wasanaethau drwy gyfadrannau lleol ac ar lefel Cymru gyfan.

  • Ansawdd, Datblygu ac Arweinyddiaeth - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping

    22

    ©1000 o Fywydau a Mwy, 2011

    Gwybodaeth am yr awduron

    Bu'r Dr David Gozzard yn gweithio yng Ngogledd Cymru rhwng 1988 a 2011 a hynny fel haematolegydd ymgynghorol. Ymddeolodd yn ddiweddar i ganolbwyntio ar ei wasanaeth ymgynghorol annibynnol ym maes gwella ansawdd gofal iechyd. Bu'n gyfarwyddwr meddygol ar Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, ac yna ar Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru rhwng 2002 a 2009, gan arwain ei rhaglen moderneiddio ac arloesi.

    Ac yntau'n arweinydd gweithredol clinigol yn y fenter, gwnaeth ei ymddiriedolaeth gyfraniad llwyddiannus at raglen beilot y Claf Mwy Diogel, pan welwyd gostyngiad o 66 y cant yn nifer y digwyddiadau anffafriol.

    Treuliodd gyfnod sabothol o dan nawdd y Sefydliad Iechyd yn astudio gyda'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd, Boston yn 2007-8 a defnyddiodd llawer o'r hyn a ddysgodd o'r newydd yno yn ei swydd yng Nghyfadran 1000 o Fywydau a Mwy. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ym maes datblygu Academi Ansawdd Haematoleg yn Denmarc ac mae'n gweithio gyda byrddau gweithredol fel un o aelodau cyfadran yr Academi Ansawdd Gweithredol.

    Mae'r Dr Alan Willson yn un o gydgyfarwyddwyr rhaglen genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy, yn gyfarwyddwr yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru, yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Gwadd yn Ysgol Fferylliaeth Llundain

    Mae wedi cyfarwyddo sawl cynllun cydweithredol cenedlaethol gan gynnwys ym maes gofal critigol, meddyginiaethau, gwasanaethau iechyd meddwl ac yn fwyaf diweddar, gwasanaethau strôc. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae rheoli meddyginiaethau a lledaenu gwelliannau. Cyhoeddodd bapur yn ddiweddar am y sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwella effeithiolrwydd meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol.

    Enillodd Alan gymhwyster fferyllydd gan weithio fel uwch fferyllydd ac yna fel rheolwr cyffredinol yn Llundain cyn dod i Gymru. Cwblhaodd PhD a oedd yn archwilio'r rhesymau dros y cyfraddau rhagnodi uchel yng Nghymru.

    Ansawdd, Datblygu ac Arwain - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping. Hawlfraint © 2011, 1000 o Fywydau a Mwy Cedwir pob hawl. Caiff unigolion lungopïo'r deunyddiau hyn at ddibenion addysgol nad ydynt yn gwneud elw, ar yr amod nad yw'r cynnwys yn cael ei newid mewn unrhyw fodd a bod cyfeiriad priodol at ffynhonnell y cynnwys, sef 1000 o Fywydau a Mwy. Ni cheir atgynhyrchu'r deunyddiau hyn at ddefnydd masnachol er mwyn gwneud elw ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd na'u hailgyhoeddi o dan unrhyw amgylchiadau, heb ganiatâd ysgrifenedig 1000 o Fywydau a Mwy. Sut mae dyfynnu'r papur hwn: Gozzard, D a Willson, A, Ansawdd, Datblygu ac Arwain - Gwersi i'w dysgu gan Jönköping, 1000 o Fywydau a Mwy, 2011. Cydnabyddiaeth: Hoffai'r awduron ddiolch yn arbennig i Göran Henriks, Prif Weithredwr Dysgu ac Arloesi, Qulturum, Cyngor Sir Jönköping am ei gymorth gyda'r papur hwn. I gael cop wedi‟i argraffu, cysylltwch â: 1000 o Fywydau a Mwy, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9LJ Ffôn: 029 2022 7744, E-bost: [email protected] Rydym yn ddiolchgar i'r Sefydliad Iechyd am ei gefnogaeth wrth gynhyrchu'r papur hwn.

    mailto:[email protected]