darllen gyda’n gilydd

13
Darllen gyda’n gilydd. Reading Together.

Upload: dard

Post on 12-Jan-2016

68 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Darllen gyda’n gilydd. Reading Together. Y Rheolau Aur. Gwnewch ddarllen yn amser o fwynhad. Dysgwch i dderbyn ymdrech eich plentyn ac ymateb gyda chlod. Darllenwch lyfrau mae eich plentyn yn mwynhau a pheidiwch a gosod prawf iddynt. Canolbwyntiwch ar beth sy’n gywir yn hytrach nag anghywir. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Darllen gyda’n gilydd

Darllen gyda’n gilydd.

Reading Together.

Page 2: Darllen gyda’n gilydd

Y Rheolau Aur

Gwnewch ddarllen yn amser o fwynhad. Dysgwch i dderbyn ymdrech eich plentyn ac ymateb gyda

chlod. Darllenwch lyfrau mae eich plentyn yn mwynhau a

pheidiwch a gosod prawf iddynt. Canolbwyntiwch ar beth sy’n gywir yn hytrach nag

anghywir. Parhewch i ddarllen i’ch plentyn hyd yn oed ar ôl iddynt

lwyddo i ddarllen. Stopiwch pan gânt ddigon – nid cosb ydyw!

Page 3: Darllen gyda’n gilydd

Sut mae athrawon yn addysgu darllen?

Llawer o sylw yn y cyfryngau.

Ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau.

Mae plant gwahanol yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol.

Gweld a dweud – adnabod geiriau cyfan.

Ffonetig – adeiladu geiriau.

Llyfrau go iawn – rhannu storiau.

Page 4: Darllen gyda’n gilydd

Pa ddull o addysgu yw’r gorau?

Does dim ffordd orau. Plant gwahanol angen dulliau gwahanol. Cymysgedd o ddulliau yn cadw sylw a

brwdfrydedd. Gemau, caneuon, rhigymau, labeli, posteri

a.y.y.b yn gallu eu helpu i ddarllen.

Page 5: Darllen gyda’n gilydd

Sut allai helpu fy mhlentyn?

Dangoswch i’ch plentyn eich bod chi’n darllen hefyd.

Rhanwch lyfrau gyda hwy bob dydd.

Darllenwch brint yn eu hamgylchedd –arwyddion, posteri, labeli.

Gadewch iddynt ddarllen eich rhestr siopa.

Edrychwch am ragleni deledu yn y papur newydd.

Creu amgylchedd gywir ar gyfer darllen.

Trafodwch y lluniau cyn darllen.

Darllenwch hoff lyfrau drosodd a throsodd.

Darllenwch gymysgedd o ffuglen a ffeithiol.

Cerddi a chaneuon yn ddechrau da – gallant ymuno i mewn.

Page 6: Darllen gyda’n gilydd

Sut allai helpu fy mhlentyn?

Trafodwch ddechrau a diweddglo storiau.

Trafodwch y cymeriadau.

Trafodwch eich hoff lyfr.

Rhedwch eich bys o dan y geiriau.

Dywedwch y gair dros eich plentyn os nad yw’n ei wybod.

Ysgrifenwch nodyn / neges i’ch plentyn.

Page 7: Darllen gyda’n gilydd

Pryd yw’r amser gorau i ddarllen gyda fy mhlentyn?

Mae cyfleoedd i ddarllen yn codi bob dydd. Mae’n bwysig rhoi amser o’r neilltu i

ddarllen bob dydd – mae 5 munud bob dydd yn ddelfrydol.

Dewiswch amser sy’n gyfleus i chi a’r plentyn heb ymyrraeth.

Rhowch gymaint o ganmoliaeth a phosib. Os nad ydych yn mwynhau, stopiwch!

Page 8: Darllen gyda’n gilydd

Mae darllen yn hwyl!

Mae gemau bwrdd, cardiau (snap, loto) yn helpu eich plentyn i gyfatebu lluniau a geiriau.

Hwiangerddi- torrwch linellau unigol a’u gludo at ei gilydd..

Helfa drysor – creu cliwiau ysgrifenedig er mwyn dod o hyd i’r trysor!

Page 9: Darllen gyda’n gilydd

Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni.

Ni wneith fy mhlentyn ddarllen i mi. Beth allai wneud?

Peidwich a phoeni na creu ffws!

Siaradwch ag athro eich plentyn.

Parhewch i ddarllen a chwarae gemau gyda eich plentyn. Pwy fydd y cyntaf i ffeindio “ ……”?

Beth os yw’n mhlentyn yn gwneud camgymeriad?

Os yw’r “camgymeraid” yn gwneud synnwyr, gadewch i’ch plentyn barhau i ddarllen.

Os nad yw’r “camgymeriad “ yn gwneud synnwyr, ail ddarllenwch y darn.

Y peth pwysicaf yw bod yr ystyr yn eglur..

Page 10: Darllen gyda’n gilydd

.

Beth ddylwn i wneud os nad yw fy mhlentyn yn adnabod gair?

Camau cyntaf – dwedwch y gair i gadw ystyr.

Dwedwch y swn cyntaf wrth eich plentyn. Ydy’r plentyn yn gallu rhagfynegi’r gair?

Helpwch eich plentyn i adeiladu’r gair.

Dwedwch y gair wrth y plentyn.

A ddylwn i guddio’r lluniau?

Mae’n dibynnu ar y llyfr! Mae lluniau yn llawn o

gliwiau a chliwiau am ddigwyddiadau.

Anogwch eich plentyn I edrych ar y lluniau er mwyn rhagfynegi.

Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni.

Page 11: Darllen gyda’n gilydd

Cwestiynau a ofynnir yn aml gan rieni.

Sut allai helpu pan mae fy mhlentyn am ddarllen yn dawel?

Trafodwch eu barn am y stori neu arddull yr awdur / darlunydd.

Parhewch i ddangos diddordeb yn eu darllen ond parchwch eu hanibyniaeth cynyddol fel darllenwyr.

Darllenwch storiau eraill i’r plant pan mae cyfle.

Page 12: Darllen gyda’n gilydd

Rydw i’n siarad Saesneg. Sut allai helpu fy

mhlentyn i ddarllen Cymraeg?

Byddwch yn gefnogol o’r dechrau. Annog eich plentyn i ddarllen yn uchel yn y

ddwy iaith o’r dechrau. Edrych ar y llyfrau mewn llyfr Cymraeg a’u

trafod yn Saesneg – daw yr ystyr yn gliriach. Gofyn i’ch plentyn ddweud y gair Cymraeg am

bethau penodol – ceisio dod o hyd i’r gair Cymraeg yn y testun.

Page 13: Darllen gyda’n gilydd

Rhannu mwynhad yw’r ffactor bwysicaf.

Annogwch eich plentyn a dangoswch ddiddordeb.