cylchlythyr / newsletter ysgol llanbrynmair …kyffin williams. ar ddiwedd y gweithdai, yr oedd y...
TRANSCRIPT
CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER
YSGOL LLANBRYNMAIR
Tymor yr Haf/ Summer Term 2018
CROESO / WELCOME
Staffio / Staffing
Bydd Mrs Anwen Jarman yn parhau i ddysgu dosbarth
Blwyddyn 3 a 4 am dridiau (dydd Llun i ddydd Mercher)
o fis Medi ymlaen ac yr ydym wedi penodi Miss Manon
Evans i ddysgu dosbarth blynyddoedd 3 a 4 ddydd Iau a
Gwener. Yr ydym hefyd yn yn croesawu Mrs Teresa
Jones atom ym Medi fel ysgrifenyddes ac yn dymuno’n
dda i Mrs Angharad Jones yn ei menter newydd ac yn
diolch i Mrs Ekeanor Jones am lenwi’r bwlch yr hanner
tymor diwethaf.
Mrs Anwen Jarman will continue to teach years 3 and 4
Monday-Wednesday from September and we have
appointed Miss Manon Evans to teach years 3 and 4
for the remaining of the week. We have also appointed
Mrs Teresa Jones as our school secretary who will start
in September. We wish Mrs Angharad Jones all the
best with her new venture and thank Mrs Eleanor
Jones for her work during the last half term.
Llangrannog
Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 am dridiau yng
Ngwersyll yr Urdd Llangrnnog. Cafodd pob un amser da
yn marchogaeth, dringo’r wal, sgio, saethu, cwrs
rhaffau uchel ynghŷd â cherdded lawr i draeth
Llangrannog i gael hufen iâ haeddiannol ar ddiwedd y
daith. Mae hwn yn gyfle gwych i’r plant gael cyfarfod â
disgyblion eraill o’r rhanbarth a chael y cyfle i wneud
ffrindiau newydd. Dwi’n siwr bod pob un wedi cael
amser gwych ac yn methu aros i fynd yno eto.
Years 5 and 6 had three full days of horseriding,
climbing, sking, shooting with bow and arrow, high
ropes course and walking down to the beach in
Llangrannog. They had a fantastic time staying and
socialising with other children from the area.
Bag2School
Diolch i rieni a thrigolion y pentref am
glirio cypyrddau, droriau, y garej a’r atig am ddillad,
esgidiau a deunyddiau i’w hailgylchu. Llwyddwyd i godi
£204 at gronfa’r ysgol. Fe fydd casgliad arall yn fuan yn
nhymor yr Hydref, felly os oes gennych chi ddillad nad
ydych eu eisiau rhagor byddem yn ddiolchar petaech
yn dod â nhw draw i’r ysgol mewn bag du. Rydym yn
gwerthfawrogi pob cyfraniad. Rydym wedi llwyddo i
gasglu £366 yn ystod y flwyddyn.
Many thanks to the parents and friends of the school
for clearing their wardrobes, drawers, garage and attic
for clothes, shoes, and materials for us to re-cycle.
Together we raised £204 towards school funds. There
will be another collection early in the Autumn Term so
if you have any clothes, shoes etc that you no longer
need we would be grateful if you could bring them into
school in a black dustbin bag. We appreciate every
donation. This year we have raised £366 for school
funds.
Cadburys World
Aeth disgyblion dosbarth Miss Rowlands a Mrs Jarman
i Cadburys World am eu trip ‘hwyl’ haf. Yno cawsant
gyfle i ysgrifennu eu henw mewn siocled, blasu siocled,
gwylio ffilm 4D gyda chymeriadau Cadburys a chael
hanes y siocled o’r ffeuen i’r bwrdd. Roedd pawb wedi
mwynhau’r diwrnod yn fawr ac wedi blion’n lân ar ôl
diwrnod llawn.
Pupils from Miss Rowlands and Miss Jarmans’ class
went to Cadburys World for their school’ trip this
summer. During their time they wrote thei name in
chocolate, tasted some chocolate, watched a 4D film
with Cadburys characters and had an introduction of
‘From Bean to Barn’. Everyone had a great time after a
full day at Cadburys world.
Trip y Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase class trip
Aeth disgyblion dosbarth Miss Heledd i Bendigedig,
Bermo, ble bu pawb yn mwynhau chwarae pêl-fasged a
chwarae trwy’r bore cyn bwyta eu cinio yno. Yna,
aethpwyd ar y traeth lle bu pawb wrthi yn brysur yn
adeiladuu cestyll a chreu lluniau yn y tywod. Cafodd
pawb amser gwych cyn dod adref wedi blino’n lân.
Miss Heledd’s class went to Bendigedig in Barmouth.
They had a great time playing basketball and sliding
down the slide. After lunch, they went to the beach
where they had a chance to build and create pictures
with sand. Everyone had a fantastic day. Another
enjoyable trip.
Ysgol Iach / Healthy School
Llongyfarchiadau mawr i’r ysgol am ennill y bumed
ddeilen gydag Ysgolion Iach Powys. Bu’r disgyblion yn
brysur yn edrych ar amgylchedd yr ysgol gan gynnal
arolwg amgylcheddol o dir yr ysgol, bwyd a ffitrwydd
gan gynnwys dechrau gweithgaredd milltir y dydd a
diogelwch o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, yn yr haul
ac ar y dŵr. Da iawn chi.
Congatulations to the school for achieving the fifth leaf
with Powys Healthy Schools. The pupils have been busy
looking at the environment and carrying out an
environment survey, food and fitness and safety
including safety on the internet, sun safety and safety
on water. Congratulations for you hard work.
Trawsgwlad yr Urdd /
Urdd Cross Counrty Competition
Bu Charlie, Morgan,Deio, Archie, Siwan
and Heledd yn cystadlu yng
ngystadleuaeth trawsgwlad yr Urdd yn
Aberystwyth yn ddiweddar. Da iawn chi
am gymryd rhan a gobeithio nad oedd eich
coesau yn brifo gormod ar ôl y rhedeg.
Congratulations to Charlie, Morgan,Deio, Archie, Siwan
and Heledd for competing in the Urdd cross country
competition at Aberystwyth again this year.
Gweithdy Aml Ddiwylliant / Multicultural Workshop
Daeth Kissiwanda atom eto eleni i gynnal gweithdy
arbennig gyda holl ddisgyblion yr ysgol. Y tro yma
cafodd y plant ddysgu am fwyd Jamaica a chael cyfle i
goginio a blasu’r pryd.
We welcomed Kissiwanda back for another special
workshop for all the pupils. This year the children
learned about Jamaican food and had an opportunity
to help with the cooking and tasting the meal.
Hyfforddiant beicio / Bicycle course/training
Llongyfarchiadau i Iwan, Marvin, Euros, Erin, Manon a
Melina am gwblhau hyfforddiant beicio yn ddiweddar.
Conratulations to Iwan, Marvin, Euros, Erin, Manon a
Melina for completing their bicycle training this term.
Cwis Llyfrau / National Book Quiz Wedi llwyddiant yn y rownd ranbarthol aeth Deio, Morgan, Gethin a Siwan i gynrychioli Powys yn Aberystwyth ar gyfer y rownd genedlaethol. Roedd yn rhaid iddynt gyflwyno un llyfr a thrafod un arall. Cawsant feirniadaeth canmoladwy dros ben a bu’n brofiad gwerthfawr iawn iddynt. Da iawn chi am wneud gwaith ardderchog. Deio, Morgan, Gethin and Siwan went to Aberystwyth to represent Powys in the national book quiz competition. They had to present one book in a dramatic presentation and discuss another with the adjudicators. Congratulations on your fantastic work. Well done.
Ambiwlans St. John Ambulance
Cafwyd diwrnod arbennig pan ddaeth ambiwlans St
John i’r ysgol fel rhan o’u dathlaidau canmlwyddiant. Yr
oedd yn ddiwrnod llawn o chwarae rôl, dysgu am
gymorth cyntaf a chael eistedd yn yr hen ambiwlans. Yr
oedd yn ddiwrnod gwych a phawb wedi mwynhau a
dysgu llawer.
We had a special day when St John’s Ambulance came
to school as part of their centenary celebrations. It was
day of role playing, learning some basic first aid and
being able to sit in an old ambulance. It was a great day
which everyone enjoyed and learned new things.
Siarter Iaith Gymraeg / The Welsh Language Charter
Yr oedd yr ysgol gyfan yn dathlu yn ddiweddar pan gyflwynwyd y wobr efydd Siarter Iaith i ni. Y mae’r Criw Cymraeg (disgyblion blwyddyn 6) ynghŷd â gweddill y disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyrwedi bod yn gweithio’n galed tuag at y wobr yma. Nod y Siarter Iaith yw annog y plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Da iawn chi Griw Cymraeg am drafod a sgwrsio mor aeddfed a byrlymus am eich Gwaith gyda’r Siarter. The whole school was celebrating recently when it was presented with the bronze reward/prize for The Welsh Language Charter. The ‘Criw Cymraeg’ has been working hard with the rest of the pupils, staff, parents and governors towards this reward. The aim of the Welsh Language Charter is to encourage the children to speak Welsh within social situations. We congratulate everyone on their hard work.
Gweithdy Codio / Coding Workshop
Daeth Mr Robin Williams i’r ysgol i gynnal gweithdy
codio gyda disgyblion ca2. Roedd pawb wedi mwynhau
gweithio gyda’r gwahanol offer codio a chael
arbennigedd Mr Robin Williams i’w rhoi ar ben ffordd.
Mr Robin Williams came to cynnal a coding workshop
with ks2 pupils. Everyone enjoyed working with the
different coding apparatus/robots and having Mr
Williams’ expertise on the day.
Gweithdai Celf ac Animeiddio / Art and Animation Workshops
Bu disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yn ffodus iawn i gael cyfle unwaith eto i weithio gyda’r artist Catrin Williams. Bu pawb yn ddiwyd yn creu gan efelychu gawith Syr Kyffin Williams. Ar ddiwedd y gweithdai, yr oedd y disgyblion wedi creu ffilmiau animeiddiad byr mewn parau. Yr oedd hwn yn gyfle gwych i gyplysu sgiliau creadigrwydd gyda sgiliau digidol. Years 3 to 6 pupils were very fortunate to work with the Welsh artist, Catrin Williams once again. This time they created pieces emulating the work of Syr Kyffin Williams. At the end of the workshops, the children, in pairs, had created an animated film using their artwork. This was a great opportunity to use and develop their creative skills alongside their digital skills.
Gweithdy Creadigol / Creative Workshop
Bu disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ffodus iawn i dderbyn gweithdy ysgrifennu barddoniaeth a chelf gyda Nicky Ashcroft yn ddiweddar. Diolch yn fawr Nicky am fod mor barod I ddod I gynnal gweithdy gyda’r disgyblion. Years 3 and 4 were very fortunate to receive a poetry and art workshop with Nicky Ashcroft. It was an excellent opportunity for everyone to be able to be creative and they all had written a couplet to go with
their picture by the end of the workshop. Thank you Nicky for your expertise and input.
Dona Direidi Derbyniodd ddosbarth y Cyfnod Sylfaen syrpreis arbennig yn ddiweddar pan ddaeth Dona Direidi i’r ysgol. Bu Dona yn yr ysgol am ddeuddydd yn ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu ‘Dathlu ‘da Dona’. Rhaglen yw hon lle y mae Dona Direidi yn rhoi syrpreis i un disgybl, sef Gertrude Butler. Roedd ffrindiau Gertrude yn cynorthwyo Dona i baratoi parti penblwydd arbennig iddi. Cafwyd dau ddiwrnod anhygoel yng nghwmni Dona Direidi a daeth Twm Tisian a Cyw i ddathlu yn y parti hefyd. Diolch yn fawr iawn i’r holl griw teledu am y profiad anhygoel yma, i’r plant i gyd am gyd-ddathlu a pharatoi y parti ac i Twm Tisian a Cyw am ddod draw ac yn arbennig i Dona Direidi. Yn wir yng ngeiriau Gertrude “Dyma beth oedd profiad bythgofiadwy!” bydd y rhaglen yn cael ei darlledu fore Mawrth y 21ain o Awst am 07:45 ar Cyw ar S4C. The Foundation Phase had a big surprise when Dona Direidi (a Welsh Character) came to school to film for her television programme ‘Dathlu ‘da Donna’ (celebrating with Donna). It is a programme which gives a birthday surprise to a child, Gertrude Butler. Gertrude’s friends had to help Donna to prepare a special birthday party. During the party, Twm Tisian and Cyw (characters from S4C) came to celebrate. Everyone had a fantastic time. The programme will be shown on S4C on Tueasday, 4th of August at 07:45 on S4C.
Rownderi yr Urdd Rounders
Aeth disgyblion blynyddoedd 4 – 6 i chwarae rownderi
ym Machynlleth. Gweithgaredd yr Urdd oedd hwn a
daeth tîm yr ysgol I’r brig ar ddiwedd y diwrnod.
Llongyfarchiadau mawr ichi.
Years 4, 5 & 6 competed in the Urdd rounders
competition recently. Everyone enjoyed the day
especially when the team won at the end of the day.
Well done to everyone.
Sioe Na Nel Show
Aeth disgyblion Derbyn i flwyddyn 5 i Theatr Hafren yn ddiweddar i weld sioe Arad Goch “Na Nel”. Roedd yn berfformiad bywiog a phawb wedi mwynhau yn fawr. Mae rhai yn parhau i ganu rhai o’r caneuon a gafwyd yn y perfformiad. Reception to Year 5 pupils went Theatr Hafren to see ‘Na Nel’ show. It was a lively performance and they enjoyed it, with some still singing some of the songs from the show.
Mabolgampau / Sports Day
Llongyfarchiadau i Ebon am ennill y darian
mabolgampau eleni am y marciau uchaf fel unigolyn ac
i Twymyn am ennill y gwpan am y tîm gyda’r marciau
uchaf
Congratulations Ebon for winning the shield for the
most points scored during sports day and to Twymyn
for winning the cup for the team with the most points.
Gweithdy Gwerin / Folk Music Workshop
Daeth Sian James i gynnal gweithdy canu hwiangerddi gyda phlant y Cyfnod Sylfaen a disgyblion blynyddoedd 3 a 4. Roedd pawb wedi mwynhau cyd-ganu gyda hi gan werthfawrogi ei dawn yn chwarae’r delyn. Sian James came to sing Welsh nursery rhymes and folk songs with the Foundation Phase and years 3 and 4 pupils. Everyone had a great time singing and enjoyed watching and listening to Sian James playing the harp.
Cyfeillion yr Ysgol / Friends of the School Cynhaliwyd noson cwis yn nhafarn Y Wynnstay gan
Gymdeithas Cyfeillion yr Ysgol. Diolch i’r rhai
gyfrannodd at y gwobrau a’r raffl, i Fuz am drefnu a
chynnal y cwis ac i’r Wynnstay am adael i Gyfeillion yr
Ysgol gynnal y cwis yno. Cafwyd noson llwyddiannus
iawn. Yn dilyn ein mabolgampau eleni penderfynwyd
trefnu te mefus i godi arian i gronfa’ Cyfeillion yr Ysgol’.
Diolch yn fawr i Jo Whiteway am gydlynu’r te ac i bawb
gyfrannodd mewn unrhyw fodd ar gyfer y te mefus.
Yr ydym yn gwerthfawrogi ac yn diolch i bawb am
gefnogi gweithgareddau Cyfeillion yr ysgol.
We had a quiz night at the Wynnstay Armsorganised by
the Friends of the School. Thanks to everyone who
contributed towards the prizes, to Fuzz for preparing
and asking the questions on the night, and to the
Wynnstay for letting us use their premises to cynnal
the quiz night. Following on from our Sport’s day this
year the Friends of the School arranged a ‘strawberry
tea. Many thanks to Jo Whiteway for organising and
co-ordinating the event and to everyone who
contributed in any way towards the strawberry tea.
We appreciate and thank everyone for supporting
events organised by Friends of the School.
Diwrnod Chwaraeon Amrywiol / Multi Sports day
Cafodd disgyblion ca2 ddiwrnod o chwaraeon amrywiol yng Ngharno yn ddiweddar. Roedd y diwrnod wedi ei drefnu ar gyfer disgyblion ca2 y clwstwr. Roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau amrywiol ac roedd pawb wedi mwynhau y cyfle o gyd-chwarae gyda gweddill disgyblion y clwstwr. Ks2 pupils had a multi sports day in Carno. It was a fantastic opportunity for the pupils to mix and play with other pupils from the Bro Hyddgen cluster.
Cinio Ffrengig / French Themed Lunch Fel rhan o waith thema dosbarth y Cyfnod Sylfaen ar Baris, cafwyd cinio Ffrengig wedi ei baratoi gan Jane ein cogyddes. Yr oedd pob un yn canmol y bwyd gan ddweud ‘tres bien’ ar y diwedd. Diolch yn fawr iawn i Jane am addurno’r Neuadd a pharatoi gwledd Ffrengig blasus dros ben ar ein cyfer. Bendigedig. As part of the Foundation Phase work on Paris, Jane our cook, prepared a magnificent French lunch for the pupils. Everyone praised the food saying ‘tres bien’. Thank you, Jane for decorating the hall on top of preparing and cooking a delicious French feast.
Presenoldeb 100% Attendance Llongyfarchiadau mawr i Iwan, Euros, Arthur, Kyra, Ffion, Deio, Siwan, Gwion, Marvin, Caleb, Heledd, Gwenlli, William, Aria, Erin Morgan, Connor, Mali, Gertrude, Oska, Ioan, Eirian, Mabon, Fflori, Finley am fod yn bresennol yn yr ysgol pob diwrnod y tymor yma. Da iawn chi. Congratulations Iwan, Euros, Arthur, Kyra, Ffion, Deio, Siwan, Gwion, Marvin, Caleb, Heledd, Gwenlli, William, Aria, Erin Morgan, Connor, Mali, Gertrude, Oska, Ioan, Eirian, Mabon, Fflori, Finley for 100%attendance this term. Well done to you all.
Dyddiadau pwysig / Important dates
Gorffennaf 20 July - ysgol yn cau am wyliau haf/ school
closes for the Summer holidays
Medi 5 September - Ysgol yn ail agor / School re opens Bydd gwersi nofio yn dechrau : 15/09/2018
Swimming lessons will start : 15/09/2018
Bydd gwersi nofio ar brnhawn Iau AC NID fore dydd
Gwener o fis Medi ymlaen.
Swimming lessons will be held on Thursday afternoon
and NOT Friday morning from September.
Celf a Chrefft / Arts & Crafts
Daeth nifer o wobrau 1af, 2ail a 3ydd i
ddisgyblion yr ysgol yng nghystadlaethau Celf a Chrefft
rhanbarth Maldwyn yr Urdd eleni. Llongyfarchiadau i
bob un am eu gwaith. Aeth y cyntaf ymhob
cystadleuaeth ymlaen i’r Genedlaethol i gael eu
beirniadu. Dyma ganlyniadau Rhanbarth Maldwyn :
Numerous 1st, 2nd and 3rd prizes were awarded to
pupils for their arts and crafts work at the Maldwyn
Urdd Eisteddfod this year. The 1st in every competition
went to the National Eisteddfod to be adjudicate. Here
are the results for the Maldwyn Arts and Crafts
competitions:
Blynyddoedd 1 a 2 / Years 1 and 2
Print Monocrom print – 1af – Llinos
Print Lliw / Colour print– 1af – Llinos
Cyfres o Brintiau Monocrom/4 Monocrom prints – 1af
- Llinos
Argraffu / Printing– 1af – Gwenlli
Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau / Creative 2D Textiles –
1af – Gwenlli
Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau (Grŵp)/ Creative 2D
Textiles (Group) – 1af – Gertrude, Gwenlli, Erin, Ceinlys
Gwehyddu (Grŵp) / Weaving (Group)– 1af – Lola,
Llinos, Oscar, Eira
Pypedau (Grŵp) / Puppets (Group)– 2ail – Eirian, Aria,
Connor
Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 and 4
Gwaith Creadigol 2D (grŵp) / Creative 2D (Group) –
1af Caleb, Siwan, Gwion a Morgan
Gwaith Creadigol 2D (grŵp) / Creative 2D (Group) –
3ydd – Cadi, Heledd, Archie, Elliw, Tomos
Print Monocrom / Monocrom Print – 3ydd – Heledd
Cyfres o Brintiau Monocrom / 4 Monocrom Prints –
2ail - Heledd
Argraffu/Addurno Ffabrig / Printing/Decorating
Fabric– 2ail – Deio
1af - Caleb
Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau / Creative 2D Textiles–
1af - Deio
Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau (Grŵp) / Creative 2D
Textiles (Group) – 1af – Deio, Lisa, Felicity, Keira
Gwehyddu / Weaving– 2ail – Siwan
Pyped / Puppet– 2ail – Caleb
Pypedau (Grŵp) / Puppets (Group)– 1af – Kyle, Ethan,
Rosie
Blynyddoedd 5 a 6 / Years 5 and 6
Gwehyddu (Grŵp) / Weaving (Group)– 2ail – Ffion,
Kyra, Ebon, Iwan
Pypedau (Grŵp)/ Puppets (Group)– 1af- Erin, Manon,
Melina
LLONGYFARCHIADAU / CONGRATULATIONS
Daeth 4 gwobr i ddisgyblion yr ysgol yn yr Adran Gelf a
Chrefft yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn
Llanelwedd eleni. Llongyfarchiadau mawr i :
Caleb – 1af (Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau)
Llinos – 2ail (Print Monocrom)
Llinos – 3ydd – (Print Lliw)
Lisa, Deio, Felicity a Keira – 2ail (Gwaith Creadigol 2D
Tecstiliau)
Hefyd llongyfarchiadau mawr i Gwenlli ac Aria am
gystadlu yn y llefaru ac unawd Cerdd Dant i blant
blwyddyn 2 ac iau. Da iawn chi.
Four prizes were awarded to pupils at the National
Urdd Eisteddfod in Builth Wells this year for their Arts
and Crafts work. Congratulations to :
Caleb – 1st (2D Creative Textiles)
Llinos – 2nd (t Monocrom Prin)
Llinos – 3rd – (Colour Print)
Lisa, Deio, Felicity a Keira – 2nd (2D Creative Textiles)
Also congratulations to Gwenlli and Aria for competing
in the recitation and Cerdd Dant solo competition to
children year 2 and below.