croesi trothwyau cr esi dr thwyau ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/crossing... ·...

14
TROTHWYAU CR ESI Croesi Trothwyau Gweinidogaeth Drwyddedig Merched yn yr Eglwys ngh Nghymru: 1884-2014 Yr aelodau cyfredol yw: Llanelwy Mrs Sue Last Mrs Diane McCarthy Y Parchedig Lynette Norman Y Parchedig Mary Stallard Bangor Y Canon Caroline Evans Y Tra Pharchedig Ddr Susan Jones Y Parchedig Angela Williams Tyddewi Mrs Gaynor Ford Y Parchedig Ann Howells Y Parchedig Ddr Rhiannon Johnson Y Canon Siân Jones Llandaf Mrs Helen Biggin Y Parchedig Jan Gould Yr Hybarch Peggy Jackson Y Canon Jennifer Wigley Mynwy Dr Sue Greening Y Canon Jennifer Mole Y Parchedig Ddr Jean Prosser MBE Abertawe ac Aberhonddu Y Parchedig Sue Knight Y Parchedig Janet Russell Dr Gill Todd Llywydd Taleithiol UM Mrs Ann Gill Staff Taleithiol Y Canon Carol Wardman Paratowyd y cyhoeddiad hwn gan aelodau Grŵp Sant Deiniol, i ddathlu’r ffaith arwyddocaol fod merched yn gallu croesi’r trothwy i’r esgobaeth. Ein gobaith yw y bydd yn ysbrydoli ac yn annog y genhedlaeth nesaf o ferched yn y weinidogaeth yng Nghymru i gamu ymlaen, gwireddu eu potensial a chynnig eu doniau i’r Eglwys. Ein gobaith didwyll yw y bydd rhywun yn cael ei ysbrydoli i’r fath raddau fel y bydd am ysgrifennu hanes llawny merched y mae eu bywydau a’u gweinidogaethau yn cael eu hadlewyrchu yma. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â phrosiect o’r fath, cysylltwch ag unrhyw aelod o Grŵp Sant Deiniol. Grŵp Sant Deiniol Grŵp o ferched ‘uwch’ yn yr Eglwys yng Nghymru yw Grŵp Sant Deiniol, merched lleyg ac ordeiniedig, sy’n cyfarfod ddwywaith neu deirgwaith y flwyddyn i fyfyrio ar weinidogaeth merched yn yr Eglwys yng Nghymru a’i chynorthwyo. Er nad oes gan y grŵp gyfansoddiad ffurfiol, mae ganddo aelodaeth wadd, a nifer cyfyngedig o aelodau. Ein nod yw datblygu cymorth i weinidogaeth merched yn yr ystyr ehangaf, gwella cynrychiolaeth merched ar bob lefel o fywyd yr Eglwys, a llunio strategaethau i wella bywydau merched. Mae’r gair ‘uwch’ yn adlewyrchu ein dyhead i aelodau fod yn ferched sydd â barn a safbwynt taleithiol ar faterion yr Eglwys, naill ai drwy flynyddoedd o brofiad, a/neu drwy gyfrifoldeb neu ddiddordeb.

Upload: doannhi

Post on 06-Mar-2018

237 views

Category:

Documents


4 download

TRANSCRIPT

Page 1: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

THRESHOLDS CR SSING This publication has been brought together by the members of 

the St Deiniol’s Group, to mark the significant threshold of the episcopate being open to women. Our hope is that it will inspire and encourage a future generation of women in ministry in Wales to step forward, realise their potential, and offer their gifts to the Church. Our fond hope is that someone might be so inspired as to want to write the full history of the women whose lives and ministries are reflected here. If you have an interest in joining such a project, please contact any member of the St Deiniol’s Group. 

The St Deiniol’s Group We are a group of ‘senior’ women in the Church in Wales, lay and ordained, who meet two or three times a year to reflect on, and assist, the ministry of women within the Church in Wales.  While not being formally constituted, the group has an invited membership, with limited numbers. Our aim is to develop support for women’s ministry in the widest sense, improve the representation of women at all levels of Church life, and devise strategies for improving women’s lives. The word ‘senior’ reflects our intention that each member would be someone who, either by years of experience, and / or by responsibility or inclination, has a provincial viewpoint and perspective on Church affairs. 

Crossing Thresholds

The Licensed Ministry of Women

in the Church in Wales: 1884-2014

Current membership is: St Asaph Mrs Sue Last Mrs Diane McCarthy Reverend Lynette Norman Reverend Mary Stallard 

Bangor Canon Caroline Evans Very Revd Dr Susan Jones Reverend Angela Williams 

St Davids Mrs Gaynor Ford Reverend Ann Howells Reverend Dr Rhiannon Johnson Canon Sian Jones 

 

 

Llandaff Mrs Helen Biggin Reverend Jan Gould Venerable Peggy Jackson Canon Jennifer Wigley 

Monmouth Dr Sue Greening Canon Jennifer Mole Reverend Dr Jean Prosser MBE  

Swansea & Brecon Reverend Sue Knight Reverend Janet Russell Dr Gill Todd 

MU Provincial President Mrs Ann Gill 

Provincial Staff Canon Carol Wardman  

TROTHWYAU CR ESI Croesi Trothwyau

Gweinidogaeth Drwyddedig Merched

yn yr Eglwys ngh Nghymru: 1884-2014

Yr aelodau cyfredol yw: Llanelwy Mrs Sue Last Mrs Diane McCarthy Y Parchedig Lynette Norman Y Parchedig Mary Stallard 

Bangor Y Canon Caroline Evans Y Tra Pharchedig Ddr Susan Jones Y Parchedig Angela Williams 

Tyddewi Mrs Gaynor Ford Y Parchedig Ann Howells Y Parchedig Ddr Rhiannon Johnson Y Canon Siân Jones 

 

 

Llandaf Mrs Helen Biggin Y Parchedig Jan Gould Yr Hybarch Peggy Jackson Y Canon Jennifer Wigley 

Mynwy Dr Sue Greening Y Canon Jennifer Mole Y Parchedig Ddr Jean Prosser MBE  

Abertawe ac Aberhonddu Y Parchedig Sue Knight Y Parchedig Janet Russell Dr Gill Todd 

Llywydd Taleithiol UM Mrs Ann Gill 

Staff Taleithiol Y Canon Carol Wardman 

Paratowyd  y  cyhoeddiad  hwn  gan  aelodau  Grŵp  Sant  Deiniol,  i ddathlu’r ffaith arwyddocaol fod merched yn gallu croesi’r trothwy i’r esgobaeth. Ein gobaith  yw  y bydd  yn  ysbrydoli  ac  yn  annog  y genhedlaeth  nesaf  o  ferched  yn  y weinidogaeth  yng  Nghymru  i gamu  ymlaen,  gwireddu  eu  potensial  a  chynnig  eu  doniau  i’r Eglwys. Ein gobaith didwyll yw y bydd rhywun yn cael ei ysbrydoli i’r fath raddau fel y bydd am ysgrifennu hanes  llawn y merched y mae eu bywydau a’u gweinidogaethau yn cael eu hadlewyrchu yma. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â phrosiect o’r fath, cysylltwch ag unrhyw aelod o Grŵp Sant Deiniol. 

Grŵp Sant Deiniol Grŵp  o  ferched  ‘uwch’  yn  yr  Eglwys  yng Nghymru  yw Grŵp  Sant Deiniol, merched  lleyg ac ordeiniedig,  sy’n cyfarfod ddwywaith neu deirgwaith y flwyddyn i fyfyrio ar weinidogaeth merched yn yr Eglwys yng Nghymru a’i chynorthwyo. Er nad oes gan y grŵp gyfansoddiad ffurfiol, mae ganddo aelodaeth wadd, a nifer cyfyngedig o aelodau. Ein  nod  yw  datblygu  cymorth  i weinidogaeth merched  yn  yr  ystyr ehangaf,  gwella  cynrychiolaeth  merched  ar  bob  lefel  o  fywyd  yr Eglwys, a  llunio strategaethau  i wella bywydau merched. Mae’r gair ‘uwch’  yn  adlewyrchu  ein dyhead  i  aelodau  fod  yn  ferched  sydd  â barn  a  safbwynt  taleithiol  ar  faterion  yr  Eglwys,  naill  ai  drwy flynyddoedd o brofiad, a/neu drwy gyfrifoldeb neu ddiddordeb. 

Page 2: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

1884

WOMEN WHO HAVE SERVED IN WALES IN LICENSED ANGLICAN MINISTRIES 1884 – 2014  

SERVED AS DEACONESSES (*LATER AS DEACONS / PRIESTS): ELEANOR CARBONELL (1884); EDITH THOMPSON (1893); ALICE ELEANOR OSWALD (1893); FLORENCE ELIZABETH BROUGH (1896); FLORENCE CAROLINE LLEWELLYN (1901); SOPHIA GANDERTON (1918); ELSIE KATE SKINNER (1918); ELSIE HEDLEY (1958); IRENE ALLEN (1961); PHOEBE PETO WILLETTS (1966); MARGARET CLAIRE HARVEY (1968)*; BARBARA JOHN (1967)*; ANGELA MARGERY GRAY (1973)*; SALLY BRUSH (1976)*; LINDA MARY EDWARDS (1976)*; CLARICE MARY SMITH (1977)*; JOANNA SUSAN PENBERTHY (1984)*; SHEILA PATRICIA TOMS (1991)*.

SERVED AS CHURCH ARMY SISTERS (*LATER AS DEACONS / PRIESTS): JULIE MICHELLE BARRELL*; JEAN CADE; AVIS DENNIS; FIONA FISHER; NIKKI FOSTER-KRUCZEK; ANNIE GRIFFITHS JONES; DONNA HAYLER; CHRISTINE HINDS; CELIA LYNN JONES*; A REASON; BARBARA RICHARDS; WENDY CHRISTINE TAYLER*; SYBIL WHETTON.

SERVED AS DEACONS / PRIESTS: CELIA ADAMS; THELMA NAOMI ADEY-WILLIAMS; MARILYN ANN ADSETTS; JESSICA-JILL STAPLETON AIDLEY; ROSEMARY ALDIS; JANE ROSEMARY ALLEN; JENNIFER MARY ANNIS; SARAH ARNDT; LUCYANN ASHDOWN; VICTORIA LESLEY ASHLEY; ELAINE ATACK; SUSAN FLORENCE ATKINSON-JONES; LORRAINE-GWYNETH-BADGER-WATTS; BETHAN BAILEY; JANE ROME BAILEY; LINDA ROSEMARY BAILY; SALLY BAIRD; ALICIA MARY BAKER; HEATHER ELIZABETH BAKER; JEAN MARGARET BAKER; JULIE ANN LOUISE BAKER; SUSANNAH BALE; ANNE CHRISTINA BALLARD; MARIAN BARGE; SASKIA GAIL BARNDEN; LINDA BATT; STEPHANIE KATHLEEN NORA BEACON; CHARMAIN PATRICIA BEECH; TONI ELIZABETH BENNETT; PETRA MAY ELIZABETH BROOM BERESFORD-WEBB; SUE BEVERLY; SHIRLEY ANNE BIRCH; ELSPETH JOYCE BIRKIN; MARGARET BLAKE; SHERRY LESLEY BLOOMER; GERALDINE ANNE BLYTH; MARY VERONICA BOLT; JANET MARY BONE; CHRISTINE MARY BONNEYWELL; ROSEMARY BOOKLESS; DELYTH BOWEN; SARA BOWIE; ALICE TERESA BOYLAND; MADELAINE MARGARET BRADY; CHRISTINE ELAINE BREWSTER; JENNIFER BRITTON; ISABEL MARY BROTHERSTON; JANICE ELIZABETH BROWN; SUSAN GERTRUDE BROWN; PATRICIA ANN BRYANT; JAYNE ELIZABETH BUCKLES; VIRGINIA ANN BURTON; BETTY BUTLER; HEATHER CALE; PATRICIA ADELE CAMPION; CAMILLA ANNE CAMPLING-DENTON; JESSIE MARGUERITE TARIE CARLYON; JACQUELINE ANN CARTER; LORRAINE CAVANAGH; HELENA MARIA ALIJA CERMAKOVA; LYNN CHAMBERS; MARY CECILIA CHARLES; ANNETTE MARIE CHURCH; SYBIL COLEMAN; SUSAN LYNNE COLLINGBOURNE; KATHRYNE BRONCY COLLINS; CHRISTINE COLTON; SYBIL MARGARET CONSTABLE; LESLIE ELIZABETH COOKE; MARGARET DOROTHY COOLING; GWENDA COOPER; MELIA LAMBRIANOS COPE; LYNDA COWAN; GILLIAN MARGARET DALLOW; GAYNOR ELIZABETH DANIEL-LOWANS; CAROL ANN DAVIES; EDNA NANSI MARGARET DAVIES; EVERLYN DOROTHY DAVIES; JACQUELINE ANN DAVIES; RACHEL HANNAH EILEEN DAVIES; REBECCA JANE DAVIES; SARAH ISABELLA DAVIES; SUSAN ANNE DAVIES; HEIDI MARIA DE GRUCHY; DENISE SUSAN DEMPSEY; CAROLINE REBECCA DOWNS; MARIAN IVY ROSE DOWSETT; JEAN DRAPER; MARY ELIZABETH DUNN; ROSEMARY CARMEN DYMOND; JEAN MIRIAM ELLIS; SARAH ERRINGTON; ANN ELIZABETH MARY EVANS; CAROLINE MARY EVANS; CLAIRE ELIZABETH EVANS; FRIEDA MARY ANN EVANS; GILLIAN EVANS; HEATHER RHIANNON EVANS; HILARY MARGARET EVANS; JENNIFER EVANS; LINDA JOYCE EVANS; MARINA ANNE EVANS; PAT EVANS; CAROL ELIZABETH FARRER; HEATHER FENTON; KATHLEEN FERGUSON; VALERIE ANNE FERNANDEZ; ANN NESWYN FIRTH; JANET FLETCHER; LINDEN ELIZABETH FLETCHER; ADRIANA MARIA (MARJA) FLIPSE; PAULINE BARBARA FLORANCE; WENDY FOULGER; ANNETTE FRANCIS; JUDITH ROSALIND GAVIN; SALLY ANN GAZE; SARAH JANE GEACH; SHARON LOUISE GOBLE; PATRICIA ANNE GOLLEDGE; DOROTHY GRACE GOSLING; JANET GOULD; JANE ELIZABETH GOUPILLON; PAULETTE ROSE-MARY DE GARIS GOWER; ALEXANDRA GRACE; MARION MCKENZIE GRAHAM; ALISON MARY GREEN; CLARE GRIFFITHS; ELIZABETH LEIGH GRIFFITHS; LINDA BETTY GRIFFITHS; PAMELA VERLEY GRIFFITHS; SHIRLEY THELMA GRIFFITHS; CAROLYN RUTH HALL; HELEN CONSTANCE PATRICIA MARY HALL; LINDA CHARLOTTE HALL; VAL HAMER; VITTORIA RUTH HANCOCK; KATHLEEN JOYCE HARMAN; ELAINE SARAH HARRIS; SIAN ELIZABETH HARRIS; J P M H; ROSALIND MARY HAWKEN; CATHERINE MARY HAYNES; CYNTHIA HEBDEN; DAWN YVONNE LORRAINE HELLARD; JANET HENDERSON; SARAH FRANCES HILDRETH; CAROL ANN HILL; NORA HILL; ELAINE HILLS; CHRISTINE HELEN HOCKEY; VALERIE IRENE HODGES; PATRICIA SUSAN HOLLINS; CAROLINE ELIZABETH HOLMES; JENNIFER LOUISE HOOD; VANESSA ANNE HOPE-BELL; NATALIE DELIA HOWARD; ELIZABETH ANN HOWELLS; SANDRA JANE HOWELLS; ANNE-MARIE (ANNA) HUMPHREYS; SUSAN MARY HUYTON; MARILYN ELIZABETH IVEY; FRANCES ANNE (PEGGY) JACKSON; MARGARET ELIZABETH JACKSON; JANE EVA JAMES; GILLIAN MARY JAMES; MANON CERIDWEN JAMES; MARGARET JUNE JEFFORD; AUDREY JOAN JENKINS; TANYA LOUISE JENKINS; ELAINE JENKYNS; CAROLINE VICTORIA JOHN; KATHRYN ANN JOHNSON; RHIANNON MARY MORGAN JOHNSON; SUSAN ELAINE JOHNSON; ALISON JONES; BRENDA JONES; ELIZABETH JONES; KATHY LOUISE JONES; MAIR JONES; MARY VALERIE JONES; SALLY JENNIFER JONES; SIAN EIRA JONES; SUSAN HELEN JONES; VICTORIA KAY JONES; TRACEY JANE JONES; ALICE MARINA KENNARD; ELIZABETH KERL; ZOE ELIZABETH KING; SUSAN MARGARET KNIGHT; UNA MARGARET PATRICIA KROLL; ELIZABETH MARGARET LE GRICE; ANN THEODORA RACHEL LEWIS; CHERYL IRENE LEWIS; MARY CAROLA MELTON LEWIS; RACHEL VERONICA CLARE LEWIS; ALISON SUSAN LITTLER; URSULA ANN LIVENS; CHRISTINE ANN LLEWELLYN; CAROLINE ANDREA MANSELL; GILLIAN KATHRYN MARSHALL; MARGARET JENNIFER MAUND; ALEXIER OWEN MAYES; CHRISTINA ELIZABETH MCCREA; IRIS EVELYN MCINTYRE DE ROMERO; BETTY MCNIVEN; SULIN MILNE; JENNIFER VERA MOLE; ENID MAY MORGAN; ENID MORRIS ROBERTS MORGAN; KATHARINE MORGAN; MARIAN KATHLEEN ELEANOR MORGAN; SUE MARGARET MORIARTY; BETI ELIN MORRIS; CATHARINE MARY MORRIS; HERMIONE JANE MORRIS; NIA WYN MORRIS; JUDITH MORTON; RUTH ELAINE MOVERLEY; BEATRICE MUSINDI; SHELAGH NAYLOR; LINDA ELIZABETH NEWMAN; LYNETTE DIANNE NORMAN; MARIANE LILY-MAY OSBORNE; HELEN MARY O'SHEA; CAROLINE OWEN; CHRISTINE ROSE OWEN; HANNAH MAIR OWEN; SUSAN MARGARET OWEN; PATRICIA MARGARET OWENS; MARILYN MARIE PARRY; OLWEN MARGARET PARRY; JENI PARSONS; CAROLINE ELIZABETH ALICE PASCOE; ELIZABETH PAYNE; GLENYS PAYNE; JANET ELIZABETH PEARCE; LYNN JANICE PERRY; JOANNA VERA PERCIVAL; JUDITH MARY PHILLIPS; BEATRICE ANNE PITT; VALERIE ISABELLE DAWN FRANCES PLUMB; CAROLE MARGARET POOLMAN; ELEANOR ANN POWELL; PAMELA POWELL; SUSAN AVERINA PRATTEN; ALISON MARY PRICE; MARI JOSEPHINE PRICE; CAROLINE HEIDI ANN PRINCE; MELANIE AMANDA PRINCE; GILLIAN MARGARET PROSSER; JEAN PROSSER; JUDITH ANN PRUST; SHIRLEY CHRISTINE RAYNER; BEVERLY JANE REANEY; MARION REDWOOD; EMMA LOUISE REES; ELIZABETH MARY REES; HELEN REES; SALLY ELIZABETH REES; SUSAN MARY REES; DELYTH ANN RICHARDS; YVONNE LORRAINE RICHMOND; FREDA MARGARET ROBARTS; JANET CAREY ROBBINS; CAROL SUSAN BUTLER ROBERTS; ELIZABETH ROSE ROBERTS; SANDRA JUNE ROBERTS; JEAN ROCK; KATHLEEN ANNE ROGERS; PATRICIA GLADYS SYLVIA ROGERS; SALLY JEAN ROGERS; SARAH ANN ROGERS; INGRID ELIZABETH ROSE; SARAH CAROLINE ROWLAND JONES; VALERIE CHRISTINE ROWLANDS; JANET MARY RUSSELL; SUSAN SARAPUK; HILARY LINDA SAVAGE; BETHAN LYNNE SCOTFORD; JAYNE SHAW; RACHEL VICTORIA SIMPSON; NICOLA RACHAEL SKIPWORTH; JANE ALISON SLENNETT; BEVERLEY ANNE SMITH; PAULINE PATRICIA SMITH; MARY KATHLEEN ROSE STALLARD; MARGARET ALISON STARK; NAOMI ERNESTINE STARKEY; NICOLA GAIL STARTIN; CORALIE MARY STEEL; JEAN STEPHENS; REBECCA CLAIRE STEVENS; SUSAN ANN STEVENS; HAZEL STIBBE; MARIAN ELIZABETH STURROCK; SHARON JUANITA SWAIN; REBECCA JANE SWYER; SUSAN MARY TAYLOR; SYLVIA MARY TEMPLE; CHRISTINE TEN WOLDE; DOROTHY LUCILLE THOMAS; IRIS THOMAS; JUDITH THOMPSON; MARY KATHLEEN THORLEY; MARGARET ELEANOR THRALL; DAWN CAROLINE TILT; KATHERINE JOAN TILTMAN; BRONWEN DORIS TIMOTHY; CHRYS EVNATH TRISTAN TREMTHTHANMOR; KATHRYN RUTH TRIMBY; GILLIAN TUCK; GAYNOR TYLER; MARGARET JEAN UNDERDOWN; ARIADNE ROLANDA MAGDALENA VAN DEN HOF; HELEN VAN KOEVERING; JULIE WAGSTAFF; JOAN WAKELING; PAULINE ANN WALKER; JANE WALLMAN-GIRDLESTONE; PATRICIA WARD; CAROL WARDMAN; KATHERINE IRENE WARRINGTON; GWYNETH WATKINS; LORNA ANN FRANCES CHARLES WATKINS; JENNIFER WELSH; SIAN HILARY WIGHT; JENNIFER WIGLEY; JANICE JOY WILKINS; MARY FRANCES WILKINSON; P A S W; ANGELA WILLIAMS; CATHERINE LOIS WILLIAMS; GILLIAN JEAN RICHELDIS WILLIAMS; KIMBERLEY VICTORIA WILLIAMS; NIA CATRIN WILLIAMS; PAULINE MARY WILLIAMS; SUSAN WILLIAMS; SUSAN MERRILYN MARSH WILLIAMS; DENISE ANN WILLIAMS; AMANDA CLARE WILLIAMS-POTTER; BARBARA ANN WOOD; CAROLYN MARIE THERESE WOOD; JANE WOOD; ANITA MARIE WOODWELL; PAMELA ANNE WRIGHT; ESTHER CHRISTINE YATES. Information as available from published sources only; excludes Lay Readers.

1884

MERCHED SYDD WEDI GWASANAETHU YNG NGHYMRU MEWN GWEINIDOGAETHAU ANGLICANAIDD TRWYDDEDIG 1884 – 2014  

GWASANAETHU FEL DIACONESAU (*FEL DIACONIAID / OFFEIRIAID YN DDIWEDDARACH): ELEANOR CARBONELL (1884); EDITH THOMPSON (1893); ALICE ELEANOR OSWALD (1893); FLORENCE ELIZABETH BROUGH (1896); FLORENCE CAROLINE LLEWELLYN (1901); SOPHIA GANDERTON (1918); ELSIE KATE SKINNER (1918); ELSIE HEDLEY (1958); IRENE ALLEN (1961); PHOEBE PETO WILLETTS (1966); MARGARET CLAIRE HARVEY (1968)*; BARBARA JOHN (1967)*; ANGELA MARGERY GRAY (1973)*; SALLY BRUSH (1976)*; LINDA MARY EDWARDS (1976)*; CLARICE MARY SMITH (1977)*; JOANNA SUSAN PENBERTHY (1984)*; SHEILA PATRICIA TOMS (1991)*.

GWASANAETHU FEL CHWIORYDD BYDDIN YR EGLWYS (*FEL DIACONIAID/OFFEIRIAID YN DDIWEDDARACH): JULIE MICHELLE BARRELL*; JEAN CADE; AVIS DENNIS; FIONA FISHER; NIKKI FOSTER-KRUCZEK; ANNIE GRIFFITHS JONES; DONNA HAYLER; CHRISTINE HINDS; CELIA LYNN JONES*; A REASON; BARBARA RICHARDS; WENDY CHRISTINE TAYLER*; SYBIL WHETTON.

GWASANAETHU FEL DIACONIAID / OFFEIRIAID: CELIA ADAMS; THELMA NAOMI ADEY-WILLIAMS; MARILYN ANN ADSETTS; JESSICA-JILL STAPLETON AIDLEY; ROSEMARY ALDIS; JANE ROSEMARY ALLEN; JENNIFER MARY ANNIS; SARAH ARNDT; LUCYANN ASHDOWN; VICTORIA LESLEY ASHLEY; ELAINE ATACK; SUSAN FLORENCE ATKINSON-JONES; LORRAINE-GWYNETH-BADGER-WATTS; BETHAN BAILEY; JANE ROME BAILEY; LINDA ROSEMARY BAILY; SALLY BAIRD; ALICIA MARY BAKER; HEATHER ELIZABETH BAKER; JEAN MARGARET BAKER; JULIE ANN LOUISE BAKER; SUSANNAH BALE; ANNE CHRISTINA BALLARD; MARIAN BARGE; SASKIA GAIL BARNDEN; LINDA BATT; STEPHANIE KATHLEEN NORA BEACON; CHARMAIN PATRICIA BEECH; TONI ELIZABETH BENNETT; PETRA MAY ELIZABETH BROOM BERESFORD-WEBB; SUE BEVERLY; SHIRLEY ANNE BIRCH; ELSPETH JOYCE BIRKIN; MARGARET BLAKE; SHERRY LESLEY BLOOMER; GERALDINE ANNE BLYTH; MARY VERONICA BOLT; JANET MARY BONE; CHRISTINE MARY BONNEYWELL; ROSEMARY BOOKLESS; DELYTH BOWEN; SARA BOWIE; ALICE TERESA BOYLAND; MADELAINE MARGARET BRADY; CHRISTINE ELAINE BREWSTER; JENNIFER BRITTON; ISABEL MARY BROTHERSTON; JANICE ELIZABETH BROWN; SUSAN GERTRUDE BROWN; PATRICIA ANN BRYANT; JAYNE ELIZABETH BUCKLES; VIRGINIA ANN BURTON; BETTY BUTLER; HEATHER CALE; PATRICIA ADELE CAMPION; CAMILLA ANNE CAMPLING-DENTON; JESSIE MARGUERITE TARIE CARLYON; JACQUELINE ANN CARTER; LORRAINE CAVANAGH; HELENA MARIA ALIJA CERMAKOVA; LYNN CHAMBERS; MARY CECILIA CHARLES; ANNETTE MARIE CHURCH; SYBIL COLEMAN; SUSAN LYNNE COLLINGBOURNE; KATHRYNE BRONCY COLLINS; CHRISTINE COLTON; SYBIL MARGARET CONSTABLE; LESLIE ELIZABETH COOKE; MARGARET DOROTHY COOLING; GWENDA COOPER; MELIA LAMBRIANOS COPE; LYNDA COWAN; GILLIAN MARGARET DALLOW; GAYNOR ELIZABETH DANIEL-LOWANS; CAROL ANN DAVIES; EDNA NANSI MARGARET DAVIES; EVERLYN DOROTHY DAVIES; JACQUELINE ANN DAVIES; RACHEL HANNAH EILEEN DAVIES; REBECCA JANE DAVIES; SARAH ISABELLA DAVIES; SUSAN ANNE DAVIES; HEIDI MARIA DE GRUCHY; DENISE SUSAN DEMPSEY; CAROLINE REBECCA DOWNS; MARIAN IVY ROSE DOWSETT; JEAN DRAPER; MARY ELIZABETH DUNN; ROSEMARY CARMEN DYMOND; JEAN MIRIAM ELLIS; SARAH ERRINGTON; ANN ELIZABETH MARY EVANS; CAROLINE MARY EVANS; CLAIRE ELIZABETH EVANS; FRIEDA MARY ANN EVANS; GILLIAN EVANS; HEATHER RHIANNON EVANS; HILARY MARGARET EVANS; JENNIFER EVANS; LINDA JOYCE EVANS; MARINA ANNE EVANS; PAT EVANS; CAROL ELIZABETH FARRER; HEATHER FENTON; KATHLEEN FERGUSON; VALERIE ANNE FERNANDEZ; ANN NESWYN FIRTH; JANET FLETCHER; LINDEN ELIZABETH FLETCHER; ADRIANA MARIA (MARJA) FLIPSE; PAULINE BARBARA FLORANCE; WENDY FOULGER; ANNETTE FRANCIS; JUDITH ROSALIND GAVIN; SALLY ANN GAZE; SARAH JANE GEACH; SHARON LOUISE GOBLE; PATRICIA ANNE GOLLEDGE; DOROTHY GRACE GOSLING; JANET GOULD; JANE ELIZABETH GOUPILLON; PAULETTE ROSE-MARY DE GARIS GOWER; ALEXANDRA GRACE; MARION MCKENZIE GRAHAM; ALISON MARY GREEN; CLARE GRIFFITHS; ELIZABETH LEIGH GRIFFITHS; LINDA BETTY GRIFFITHS; PAMELA VERLEY GRIFFITHS; SHIRLEY THELMA GRIFFITHS; CAROLYN RUTH HALL; HELEN CONSTANCE PATRICIA MARY HALL; LINDA CHARLOTTE HALL; VAL HAMER; VITTORIA RUTH HANCOCK; KATHLEEN JOYCE HARMAN; ELAINE SARAH HARRIS; SIAN ELIZABETH HARRIS; J P M H; ROSALIND MARY HAWKEN; CATHERINE MARY HAYNES; CYNTHIA HEBDEN; DAWN YVONNE LORRAINE HELLARD; JANET HENDERSON; SARAH FRANCES HILDRETH; CAROL ANN HILL; NORA HILL; ELAINE HILLS; CHRISTINE HELEN HOCKEY; VALERIE IRENE HODGES; PATRICIA SUSAN HOLLINS; CAROLINE ELIZABETH HOLMES; JENNIFER LOUISE HOOD; VANESSA ANNE HOPE-BELL; NATALIE DELIA HOWARD; ELIZABETH ANN HOWELLS; SANDRA JANE HOWELLS; ANNE-MARIE (ANNA) HUMPHREYS; SUSAN MARY HUYTON; MARILYN ELIZABETH IVEY; FRANCES ANNE (PEGGY) JACKSON; MARGARET ELIZABETH JACKSON; JANE EVA JAMES; GILLIAN MARY JAMES; MANON CERIDWEN JAMES; MARGARET JUNE JEFFORD; AUDREY JOAN JENKINS; TANYA LOUISE JENKINS; ELAINE JENKYNS; CAROLINE VICTORIA JOHN; KATHRYN ANN JOHNSON; RHIANNON MARY MORGAN JOHNSON; SUSAN ELAINE JOHNSON; ALISON JONES; BRENDA JONES; ELIZABETH JONES; KATHY LOUISE JONES; MAIR JONES; MARY VALERIE JONES; SALLY JENNIFER JONES; SIAN EIRA JONES; SUSAN HELEN JONES; VICTORIA KAY JONES; TRACEY JANE JONES; ALICE MARINA KENNARD; ELIZABETH KERL; ZOE ELIZABETH KING; SUSAN MARGARET KNIGHT; UNA MARGARET PATRICIA KROLL; ELIZABETH MARGARET LE GRICE; ANN THEODORA RACHEL LEWIS; CHERYL IRENE LEWIS; MARY CAROLA MELTON LEWIS; RACHEL VERONICA CLARE LEWIS; ALISON SUSAN LITTLER; URSULA ANN LIVENS; CHRISTINE ANN LLEWELLYN; CAROLINE ANDREA MANSELL; GILLIAN KATHRYN MARSHALL; MARGARET JENNIFER MAUND; ALEXIER OWEN MAYES; CHRISTINA ELIZABETH MCCREA; IRIS EVELYN MCINTYRE DE ROMERO; BETTY MCNIVEN; SULIN MILNE; JENNIFER VERA MOLE; ENID MAY MORGAN; ENID MORRIS ROBERTS MORGAN; KATHARINE MORGAN; MARIAN KATHLEEN ELEANOR MORGAN; SUE MARGARET MORIARTY; BETI ELIN MORRIS; CATHARINE MARY MORRIS; HERMIONE JANE MORRIS; NIA WYN MORRIS; JUDITH MORTON; RUTH ELAINE MOVERLEY; BEATRICE MUSINDI; SHELAGH NAYLOR; LINDA ELIZABETH NEWMAN; LYNETTE DIANNE NORMAN; MARIANE LILY-MAY OSBORNE; HELEN MARY O'SHEA; CAROLINE OWEN; CHRISTINE ROSE OWEN; HANNAH MAIR OWEN; SUSAN MARGARET OWEN; PATRICIA MARGARET OWENS; MARILYN MARIE PARRY; OLWEN MARGARET PARRY; JENI PARSONS; CAROLINE ELIZABETH ALICE PASCOE; ELIZABETH PAYNE; GLENYS PAYNE; JANET ELIZABETH PEARCE; LYNN JANICE PERRY; JOANNA VERA PERCIVAL; JUDITH MARY PHILLIPS; BEATRICE ANNE PITT; VALERIE ISABELLE DAWN FRANCES PLUMB; CAROLE MARGARET POOLMAN; ELEANOR ANN POWELL; PAMELA POWELL; SUSAN AVERINA PRATTEN; ALISON MARY PRICE; MARI JOSEPHINE PRICE; CAROLINE HEIDI ANN PRINCE; MELANIE AMANDA PRINCE; GILLIAN MARGARET PROSSER; JEAN PROSSER; JUDITH ANN PRUST; SHIRLEY CHRISTINE RAYNER; BEVERLY JANE REANEY; MARION REDWOOD; EMMA LOUISE REES; ELIZABETH MARY REES; HELEN REES; SALLY ELIZABETH REES; SUSAN MARY REES; DELYTH ANN RICHARDS; YVONNE LORRAINE RICHMOND; FREDA MARGARET ROBARTS; JANET CAREY ROBBINS; CAROL SUSAN BUTLER ROBERTS; ELIZABETH ROSE ROBERTS; SANDRA JUNE ROBERTS; JEAN ROCK; KATHLEEN ANNE ROGERS; PATRICIA GLADYS SYLVIA ROGERS; SALLY JEAN ROGERS; SARAH ANN ROGERS; INGRID ELIZABETH ROSE; SARAH CAROLINE ROWLAND JONES; VALERIE CHRISTINE ROWLANDS; JANET MARY RUSSELL; SUSAN SARAPUK; HILARY LINDA SAVAGE; BETHAN LYNNE SCOTFORD; JAYNE SHAW; RACHEL VICTORIA SIMPSON; NICOLA RACHAEL SKIPWORTH; JANE ALISON SLENNETT; BEVERLEY ANNE SMITH; PAULINE PATRICIA SMITH; MARY KATHLEEN ROSE STALLARD; MARGARET ALISON STARK; NAOMI ERNESTINE STARKEY; NICOLA GAIL STARTIN; CORALIE MARY STEEL; JEAN STEPHENS; REBECCA CLAIRE STEVENS; SUSAN ANN STEVENS; HAZEL STIBBE; MARIAN ELIZABETH STURROCK; SHARON JUANITA SWAIN; REBECCA JANE SWYER; SUSAN MARY TAYLOR; SYLVIA MARY TEMPLE; CHRISTINE TEN WOLDE; DOROTHY LUCILLE THOMAS; IRIS THOMAS; JUDITH THOMPSON; MARY KATHLEEN THORLEY; MARGARET ELEANOR THRALL; DAWN CAROLINE TILT; KATHERINE JOAN TILTMAN; BRONWEN DORIS TIMOTHY; CHRYS EVNATH TRISTAN TREMTHTHANMOR; KATHRYN RUTH TRIMBY; GILLIAN TUCK; GAYNOR TYLER; MARGARET JEAN UNDERDOWN; ARIADNE ROLANDA MAGDALENA VAN DEN HOF; HELEN VAN KOEVERING; JULIE WAGSTAFF; JOAN WAKELING; PAULINE ANN WALKER; JANE WALLMAN-GIRDLESTONE; PATRICIA WARD; CAROL WARDMAN; KATHERINE IRENE WARRINGTON; GWYNETH WATKINS; LORNA ANN FRANCES CHARLES WATKINS; JENNIFER WELSH; SIAN HILARY WIGHT; JENNIFER WIGLEY; JANICE JOY WILKINS; MARY FRANCES WILKINSON; P A S W; ANGELA WILLIAMS; CATHERINE LOIS WILLIAMS; GILLIAN JEAN RICHELDIS WILLIAMS; KIMBERLEY VICTORIA WILLIAMS; NIA CATRIN WILLIAMS; PAULINE MARY WILLIAMS; SUSAN WILLIAMS; SUSAN MERRILYN MARSH WILLIAMS; DENISE ANN WILLIAMS; AMANDA CLARE WILLIAMS-POTTER; BARBARA ANN WOOD; CAROLYN MARIE THERESE WOOD; JANE WOOD; ANITA MARIE WOODWELL; PAMELA ANNE WRIGHT; ESTHER CHRISTINE YATES. Gwybodaeth yn ôl yr hyn sydd ar gael o ffynonellau cyhoeddedig yn unig; nid yw’n cynnwys gwybodaeth am Ddarllenwyr Lleyg.

Page 3: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Pan  fyddwn  yn  croesi  trothwy,  nid  dim  ond mynd  i mewn  i  le  newydd  y byddwn,  ond  cychwyn  hefyd  ar  gyfnod  newydd  yn  ein  bywyd. Mae’n  gam mawr, sy’n awgrymu newid sylweddol, cychwyn newydd. Heddiw, cysylltir yr ymadrodd  yn  fwyaf  cyffredin  â  phriodas,  a’r  traddodiad  bod  gŵr  yn  cario’i wraig  newydd  ‘dros  drothwy’  eu  cartref  cyntaf,  i  nodi  dechrau  eu  bywyd newydd gyda’i gilydd. 

Ni fu dim cario ar ferched dros drothwy gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, fodd  bynnag.  Yn  hytrach,  fe’u  baglwyd;  rhoddwyd  rhwystrau  ar  eu  ffordd; caewyd drysau yn eu hwynebau. Trothwy yw hwn y maent wedi ei groesi eu hunain, a gwnaethant hynny trwy ffydd, dewrder, gweledigaeth, penderfyniad a synnwyr o gyfiawnder. 

Bu’n  daith  hir  ac  anodd,  pan  fu’n  rhaid  i  genhedlaeth  o  ferched  oddef anghydraddoldeb  a  rhagfarn  wrth  iddynt  wasanaethu  yn  ddiaconiaid  i ddechrau,  ac  yna’n  offeiriaid,  cyn  torri  o’r  diwedd  trwy’r  nenfwd wydr  lliw i gael caniatâd i’w hordeinio’n esgobion. 

Hwy  yw’r  arloeswyr;  ac  arloeswyr,  gydol  y  canrifoedd,  a  adeiladodd  ein heglwys a  llunio ein  ffydd. Hwy yw’r  rhai  sy’n gwir ddilyn esiampl Crist  trwy wrthod plygu i draddodiad nac awdurdod ar draul cyfiawnder, parch a chariad at ei gilydd. 

Diolch  iddynt  hwy,  mae’r  Eglwys  o’r  diwedd  wedi  dal  i  fyny  â  gweddill cymdeithas trwy gydnabod y gall merched gyfrannu cymaint â dynion, a’u bod o’r un gwerth, ym mhob cylch ar  fywyd. Mae pobl  ifainc heddiw wedi  tyfu  i fyny i weld gweinidogaeth merched mewn eglwysi ledled Cymru yn beth cwbl naturiol. Edrychaf ymlaen at yr amser pan ellir dweud yr un peth am ferched sy’n esgobion, pan fydd yr holl syniad o wrthod eu hordeinio i unrhyw swydd yn  ymddangos mor  ffôl  a  hen‐ffasiwn  â  chario  gwragedd  dros  drothwy’r  tŷ a’u clymu wrth sinc y gegin. 

Rhagair

1976 1980 2014

1993 1997 2008

Y Parchedicaf Ddr. Barry Morgan Archesgob Cymru 

Page 4: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

1884 1889 1890

1893

1897

Eleanor Carbonell oedd y ferch gyntaf o Anglican yng Nghymru i’w thrwyddedu yn ddiacones. Cafodd ei hordeinio yn ddiacones ym 1884,  i weithio ym mhlwyf Brynbuga, ac yno y bu am ddeng mlynedd ar hugain. Esgobaeth Llandaf, o dan ei hesgob newydd, y Dr. Richard Lewis, oedd un o’r esgobaethau cynharaf yn Eglwys  Loegr  i  fabwysiadu  gweinidogaeth  ffurfiol  merched  fel  diaconesau, wedi’u trwyddedu’n uniongyrchol gan yr esgob  I weithio mewn plwyfi. Roedd eu  rôl  i  fod  yn  gyfwerth  â  rôl  diacon  mewn  gweinidogaeth  blwyf,  a’u gwasanaeth ordeinio yn debyg i’r ddefod ar gyfer diaconiaid.  

Ordeiniwyd dwy ferch arall – y ‘Chwaer’ Edith Thompson ym 1889, a’r ‘Chwaer’ Alice Oswald ym  1890 –  i weithio ym mhlwyf Treganna, Caerdydd, gan  fyw yn Nhŷ’r Eglwys i ddechrau, a oedd wedi’i ddodrefnu gan ddodrefn y gwnaed cais amdanynt  i’r plwyfolion. Ym mis Mehefin  1893, penodwyd y Chwaer Edith a’r Chwaer Alice, a dwy arall, gan yr esgob  i sefydlu Sefydliad newydd Diaconesau Esgobaeth Llandaf . Symudwyd i dŷ ym Mhenarth, a ddaeth yn lleoliad preswyl i’r diaconesau ac  yn gartref  i hyfforddi merched  ym mhob  cangen o waith  yr Eglwys.  Yn  ogystal  â  hynny,  a’u  dyletswyddau  yn  y  plwyf,  ailddechreuwyd  ar y gwaith o adfer yr hen Dŷ Trugaredd. Ym 1897 penodwyd Alice Oswald yn Brif Ddiacones, swydd y bu’n ei chyflawni nes y meddiannwyd yr adeilad ym Mhenarth a’i hawlio ar gyfer yr ymdrech ryfel ym 1941, gan gau Sefydliad y Diaconesau. 

Hyd y datgysylltwyd yr Eglwys ym 1920, dim ond tair diacones arall sydd wedi’u cofnodi fel rhai trwyddedig, i gyd yn Llandaf. Ar ôl 1920, mae’r cofnodion yn brin, ac nid oes enwau merched  i’w gweld, nes  i  Irene Allen ymddangos ym  1961 a Phoebe Willetts ym 1966 – yn Llandaf unwaith eto. Daeth dwy ferch o Loegr  i weithio yng Nghymru: Elsie Hedley i Dyddewi a Barbara John i Fynwy. Margaret Harvey oedd y ddiacones gyntaf i’w thrwyddedu y tu allan i Landaf, yn Llanelwy ym 1968. 

Cludwyd fflam gweinidogaeth diaconesau ffurfiol yng Nghymru am gyfanswm o 96  o  flynyddoedd  gan  lai  nag  ugain  o  ferched,  o  1884  nes  croesi  trothwy hanesyddol  ym  1980.  Cafodd  y  pum  diacones  a  oedd  yn  parhau  i  fod mewn gweinidogaeth  weithredol  bryd  hynny  eu  hordeinio’n  ddiaconiaid,  ynghyd  â phedair merch  arall,  a  gafodd  eu  hordeinio’n  uniongyrchol  o  hyfforddiant  i’r ddiaconiaeth. Yng ngeiriau’r Esgob Richard Lewis, roedd y diaconesau yn mynd i fod  yn  griw  o  ferched  duwiol  a  ddylai,  ar  ôl  iddynt  gael  eu  hordeinio,  fynd ymlaen a gweithio ym mhlwyfi mwyaf poblog yr Esgobaeth. Dyna fu eu hanes am ddegawdau, gan wneud hynny gydag ymroddiad a sêl. Mae’r rheini ohonom sydd wedi eu dilyn i’r weinidogaeth yn fawr ein dyled iddynt.   

Yr Hybarch Peggy Jackson 

Y Diaconesau

1920 1961

1966

1968 1980

Elizabeth Ferard, Diacones gyntaf Eglwys Loegr  

SEFYDLIAD Y DIACONESAU, LLANDAF.

Page 5: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Chwiorydd Byddin yr Eglwys

1882 1887

1914

1920s 2007

Sefydlwyd  Byddin  yr  Eglwys  gan  Wilson  Carlile  ym  1882.  Cafodd  chwiorydd cenhadol  cyntaf  Byddin  yr  Eglwys  eu  comisiynu  ym  1887,  dan  oruchwyliaeth Marie Carlile, a fu’n gyfrifol am waith menywod am yr hanner canrif nesaf. 

Dywed  Adroddiad  Blynyddol  Byddin  yr  Eglwys  1887/8:  “A Mission  Nurse  finds access  to every house and a cordial welcome within. She can  speak  to women, sympathise  with  them,  win  their  confidence,  and  gain  an  insight  into  their characters,  far more  appropriately  and  successfully  than  anyone  of  the  other sex could do, especially anyone who was above them  in education and position, both social and official, which a clergyman is.” 

Yn ystod y blynyddoedd cynnar dechreuwyd gweithio’n gymdeithasol yn y slymiau, mewn  carchardai  a  charafanau  cenhadu.  Erbyn  1914,  roedd mentrau newydd  yn cynnwys cenadaethau pebyll arloesol, a chenhadu ar draethau, sef gwaith cyntaf chwiorydd Byddin yr Eglwys yng Nghymru mae’n debyg. Erbyn y 1920au roeddynt yn  gweithio’n  ddiwyd  yn  Esgobaeth  Llandaf  –  ym mhlwyf  Caerau  a  Threlái,  gan weithio o’r neuadd genhadaeth, a oedd yno cyn Eglwys yr Atgyfodiad. 

Yr Hybarch Peggy Jackson 

Daeth  y  Parchedig  Chwaer  Wendy  Sanderson  (Tayler  yn  ddiweddarach)  CA  i Gaerdydd  i gael ei thrwyddedu fel Caplan Clybiau Nos ac Efengylwr  Ieuenctid yn 2003. Yn ddiweddarach, hyfforddodd  i gael ei hordeinio ac mae’n gwasanaethu mewn gweinidogaeth blwyf ar hyn o bryd: 

“Mae Byddin yr Eglwys wedi mynd â fi  i bob rhan o’r byd, dwi wedi profi golau  llachar  camerâu’r  cyfryngau a  chorneli  tywyllaf bywydau pobl. Dwi wedi siarad mewn cynadleddau mor bell  i ffwrdd â Sweden, wedi eistedd gyda  rhywun  sy’n  aros  am  ganlyniadau  prawf  HIV,  wedi  ymweld  â throseddwyr ifanc yn y carchar, wedi gweithio gyda phobl ifanc ddigartref, sy’n hunan‐niweidio,  sy’n wynebu  trais domestig ac  sy’n gaeth  i wahanol bethau, wedi gweddïo gyda phobl sy’n unig ac sy’n galaru, wedi gweithio i ddatrys  argyfwng  am  2  a  3  o’r  gloch  yn  y  bore,  gan  barhau  i  bregethu, cynnal gwasanaethau ysgol a helpu  i arwain gwasanaethau yr un pryd. Yn 2007 hefyd, ro’n i’n un o’r rhai a sefydlodd Eglwys ‘Cysur’, mewn bar. 

Mae Byddin yr Eglwys yn parhau  i’m dysgu bod y Parchedig Wilson Carlile yn  gwybod  beth  oedd  gwir  ystyr  y  geiriau  ‘cenhadu’  ac  ‘efengylu’,  pan fyddwn  ni’n  torchi  llewys  ac  yn  ymlafnio  ynghanol  llanast  ac  elfennau tywyllaf bywyd… yno y bydd ein calonnau’n torri gan mai yno y byddwn yn dod o hyd i Dduw!” 

Marie Carlile, fu’n gyfrifol am waith menywod Byddin yr Eglwys o 1888 

Y Chwaer Wendy Sanderson CA, yn iwnifform Byddin yr Eglwys 

Yn yr eglwys gynnar, roedd merched yn cyfrannu at arwain yr addoliad, fel y gwelir yn yr Ysgrythurau, a hynny fel  ‘Darllenwyr’ o bosibl. Fodd bynnag, wrth  i amser fynd yn ei flaen, daeth yn rôl a gyflawnid gan ddynion  yn  bennaf.  Ganol  yr  16eg  ganrif,  cafodd swydd  y  Darllenydd  ei  hadfer  am  gyfnod  byr,  pan awdurdodwyd Esgob Bangor i ordeinio pum ‘llithwr’, ond ni chafwyd llawer ohonynt erioed. 

Ym  1866,  cafwyd  ail  adferiad    ffurfiol.  Roedd  hi’n bosibl  rhoi  trwydded, ond byddai hon yn dod  i ben, a  byddai’n  rhaid  ei  hadnewyddu,  wrth  i  beriglor newid. Ym 1884, cyflwynwyd arholiad i brofi haeddiant rhywun  i  gael  y  swydd  ac  estynnwyd  y  drwydded  i ganiatáu anerchiadau mewn adeiladau anghysegredig. Bum mlynedd  yn  ddiweddarach,  roedd  trwyddedau darllenwyr  yn  caniatáu  iddynt  gyflawni’r  swydd mewn  plwyfi  eraill  yn  ogystal  â’u  plwyf  eu  hunain. Ym 1904, estynnwyd y drwydded fel y gallai Darllenwyr bregethu mewn eglwysi, ac ym 1921 adferodd y gyfraith eglwysig swydd y Darllenydd yn llawn. 

Yn  dilyn  datgysylltu’r  eglwys,  fodd  bynnag,  mae’n ymddangos  na  wnaeth  Esgobion  Cymru  dderbyn unrhyw  Ddarllenwyr  eraill  tan  1930,  1952  a  1954. Yn  dilyn  symudiad  yn  Lloegr  ym  1969,  roedd  hi’n ddechrau’r 1970au cyn i Gymru dderbyn y darllenwyr benywaidd cyntaf. Hyd yn oed wedyn, dim ond gŵn academaidd  a  sgarff  y  câi  menywod  Esgobaeth Tyddewi  eu  gwisgo;  doedden  nhw  ddim  yn  cael gwisgo casog tan 1983. 

Heddiw, merched yw bron hanner y Darllenwyr yng Nghymru, ac maent yn cael eu derbyn ar y cyfan gan leygwyr  a  chlerigion.  Ond  maent  yn  dal  i  wynebu achosion  o  wahaniaethu  gan  y  ddwy  ochr,  sy’n golygu  bod  y merched  yn  teimlo  bod  rhaid  iddynt brofi eu gallu i wneud swydd o’r fath yn yr Eglwys.  

Gaynor Ford (Darllenydd) 

Byddwn yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Gweinidogaeth Darllenwyr yn y Cymundeb Anglicanaidd yn 2016. Ond nid oedd cyfraith eglwysig yn caniatáu i ferched fod yn Ddaillenwyr tan 1969. 

Gweinidogaeth Darllenwyr

1983 1930 1969

2016 1976

Trwyddedu Rhiannon Rowley gan yr Esgob Wyn (Tyddewi), 

gyda Gaynor Ford (dde) 

Page 6: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Ro’n  i wedi  sôn wrth  fy offeiriad plwyf  syn  am  yr  ymdeimlad o  alwad  i’r offeiriadaeth oedd yn  fy mhoeni  tua  1971, ac  fe drefnodd  i mi weld Esgob Bangor. Doedd ganddo ef ddim syniad beth  i’w wneud ond awgrymodd y gallen ni fod yn ‘Ddarllenydd Lleyg’. Nid dyna ro’n i’n gofyn amdano, ond o leiaf roedd rhywfaint o hyfforddiant ar gael... 

…roedden nhw am i mi gymryd gwasanaethau yn yr esgobaeth, ond gan fod gen i dri o blant bach ar y pryd, nid fi oedd yr ymgeisydd delfrydol am urddau mae’n rhaid dweud!  

Fe wnaethon ni symud i Esgobaeth Tyddewi ym 1973, gan fyw mewn plwyf gwledig bychan  ac  fe geisiais helpu heb  fod  yn  fygythiad  – amhosibl!  Yn  y  pen  draw,  ysgrifennais  at  yr  Esgob  ar  y  pryd,  yn gofyn a allwn i gael fy nhrwyddedu’n Ddarllenydd, gan fy mod wedi cwblhau’r cwrs ym Mangor... 

Cefais  fy nhrwyddedu gan yr Esgob yng Nghapel yr Esgob yn hen Balas  yr  Esgob,  Abergwili.  Ar  y  dechrau,  roeddwn  i’n  cymryd  y Gosber  yn  eithaf  rheolaidd  yn  y  Capel  Esmwythâd  yng Nghomins Coch, a oedd yn gysylltiedig â phlwyf Llanbadarn Fawr... 

…O tua  1971  i  1978 fi oedd golygydd papur wythnosol Cymraeg yr Eglwys,  ‘Y Llan’, ac yn raddol,  fe  sylweddolais  fy mod  i  wedi  dewis  llwybr  anodd.  Gydag  anogaeth  yr  Esgob George Noakes dechreuais ar radd mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn y Coleg Diwinyddol Presbyteraidd: ‘Os ydych chi am fod o unrhyw ddefnydd i’r Eglwys mae’n rhaid  i  chi  gael  addysg  ddiwinyddol.’  Ar  y  pryd,  dim  ond  offeiriaid  roedd  Coleg  San Mihangel Llandaf yn eu hyfforddi. 

1976 1984 1993

Atgofion Cafodd Enid Morgan ei derbyn yn Ddarllenydd yn Esgobaeth Tyddewi ym 1976. Mae’n ysgrifennu: 

1997

Cyfarwyddwr Cenhadu

Tua  1995,  awgrymodd  Ysgrifennydd  Cyffredinol  yr  Eglwys  yng Nghymru  na ddylwn i gymryd rhan mewn trafodaethau am ordeinio merched yn offeiriaid. Dywedodd  y  dylai  Swyddog  Taleithiol  fod  yn  niwtral.  Gofynnais  iddo  sut  y gallwn i fod yn niwtral, gan fod fy mhenodiad i swydd Cyfarwyddwr Cenhadu (teitl  gwirion)  wedi’i  frolio  fel  ‘cam  ymlaen’  yn  natblygiad  gweinidogaeth merched. Drwy  fod yno,  roeddwn  i’n brawf y gallai merched gael eu derbyn mewn  swyddi  a  oedd  yn  gofyn  am  rywfaint  o  gymhwysedd  mewn diwinyddiaeth, ac arweinyddiaeth hyd yn oed. 

Ond roedd hi’n anodd camu o  fod yn Ddiacon mewn Gofal (croesosodiad) o bedwar plwyf gwledig bychan ger Aberystwyth,  i weithio gyda  chwe  thîm  /llwyth esgobaethol, anghymarus yn aml, a chyda Mainc yr Esgobion, oedd yn lletchwith, hyd yn oed yn  swil ar adegau, ac  roedd y  swydd wedi’i diffinio’n wael.  Canolbwyntiais  ar  geisio  datblygu  tîm  lle  byddai  swyddogion  mewn gwahanol arbenigeddau yn ystyried bod eu gwaith yn gysylltiedig â’i gilydd a bod  eu perthynas  â’i  gilydd  yn  dyst o’u  ffydd. Ar  y  sail  hon  yr  aethom  ati  i ddatblygu  ‘Prosiectau  Anogaeth’  yn  yr  esgobaethau,  lle  rhannwyd  yr egwyddor  o  gydweithio  gyda  thimau  esgobaeth  a  phlwyfi.  Ac  roedd  yn gweithio weithiau! Ond mae bod yn  ‘Frenin’ ar eich castell eich hun yn reddf ac arfer clerigol ers cyn cof. 

Gan weithio o’r egwyddor honno, roedd cyfarfod ar y cyd rhwng Byrddau Cenhadu yr Eglwys Anglicanaidd a Bwrdd y Genhadaeth, Eglwys  Bresbyteraidd  Cymru  yn  ddigwyddiad  nodedig;  ac  fe wnes  i  fwynhau  adrodd  yn  ôl  i’r  Corff  Llywodraethol  ar  rai  o’r cynadleddau  eglwysig  rhyngwladol  nodedig  a  gynhaliwyd. Roedd yn ymgais wirioneddol i rannu rhywfaint o fywiogrwydd y ffydd mewn gwahanol  lefydd gyda’r eglwysi. Rwy’n  falch hefyd os  llwyddodd  fy  nghyfnod  fel  arweinydd  am  saith  mlynedd  i roi  rhywfaint  o  sylw  i’r  posibilrwydd  o  ferched  yn  cael mwy  o gyfrifoldeb  yn  yr  eglwys  ac  i  annog  merched  ifanc  i  fynd  i’r weinidogaeth. 

Croesodd y Parchedig Enid Morgan drothwy arwyddocaol pan gafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cenhadu yr Eglwys yng Nghymru, y ferch gyntaf i’w phenodi i swydd swyddog taleithiol.

Y Parchedig Ganon Enid Morgan

Y Parchedig Enid Morgan, mewn cyfarfod ar y cyd rhwng Bwrdd Cenhadu yr Eglwys yng Nghymru a Bwrdd y Genha‐daeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Llandudno, 1997. Mae’n sefyll rhwng y Parchedig Dafydd Owen, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyt‐eraidd Cymru ar y pryd a’r Archesgob Alwyn Rice Jones. 

Page 7: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Ar 19 Hydref 1984 daeth  llond  llaw o  ferched a oedd yn ddiaconiaid yn yr Eglwys yng Nghymru ynghyd ym Mharc Carafanau Dolfor ger y Drenewydd, ar gyfer y cyfarfod  taleithiol cyntaf o  ferched wedi’u hordeinio yng Nghymru.  Trefnwyd  y  cyfarfod gan  y Parchedig Sally  Brush  o  Esgobaeth  Llanelwy.  Dyma  ddechrau taith a fyddai’n arwain at gydnabyddiaeth ehangach i ferched ordeiniedig yng Nghymru.  

Sefydlodd  yr  arhosiad dros nos  yn Nolfor  fodel  sy’n dal  i  fod  ar  waith  hyd  heddiw  –  cyfarfod  tebyg  i gynhadledd  dros  nos,  gan  ddechrau  ar  y  prynhawn cyntaf  a  gorffen  y  prynhawn  canlynol.  Mae’n  rhoi amser  i  rannu  gobeithion  ac  ofnau  ac  i  dderbyn cefnogaeth gan ferched sydd mewn sefyllfa debyg – roedd  yr elfen olaf hon  yn hanfodol  i’n parhad  yn  y dyddiau cynnar pan oedd rhagfarn yn gyffredin. 

O’r  cyfarfod  cyntaf  hwn  ym  1984,  gwahoddwyd  un cynrychiolydd  o  bob  Esgobaeth  i  fynychu  cyfarfod Mainc  yr  Esgobion  yng Nghaerdydd. Ym mis Hydref 1986  cawsom  gyfarfod  â’r  Fainc  eto,  ac  eto  ym mis Tachwedd  1987. Ar  17  Ebrill  1986  cafodd merched  a oedd yn offeiriad a diaconiaid ym mhob cwr gyfarfod 

gydag  Archesgob  Caergaint ym  Mhalas  Lambeth,  a deuddydd  yn  ddiweddarach cynhaliwyd Cymun Dathlu yn Eglwys  Gadeiriol  Caergaint. Trefnwyd  y  penwythnos hwn o ddigwyddiadau gan y Mudiad  Ordeinio  Merched (MOW). Fel  cynrychiolydd o Gymru  (ac  yn  gwisgo  coler gron)  ro’n  i’n  rhyfeddu  pan gefais  fy  nhywys  i  ystafell y ‘clerigion tramor’! 

Erbyn  mis  Tachwedd  1988,  roedd  Sally  wedi trosglwyddo’r gwaith o drefnu’r Grŵp Merched sy’n Ddiaconiaid  taleithiol  i  mi  ac  fe  gawsom  gyfarfod taleithiol  arall  yn  Nhrefeca.  Dros  y  blynyddoedd, cynhaliwyd  cyfarfodydd  yn  Nolfor  eto  (ond  yn  y chalets  pren  y  tro  hwn!),  Canolfan  Encil  Llangasty Tal‐y‐llyn  ac  Amwythig  –  yn  yr  Hostel  Ieuenctid,  er mawr  ddifyrrwch  i’r  staff!  Pan  bleidleisiwyd  o  blaid dechrau’r  broses  ddeddfwriaethol  ar  gyfer  ordeinio merched yn offeiriaid ym mis Medi  1991, derbyniodd llawer o  ferched  a oedd  yn ddiaconiaid  lythyrau  cas gan  glerigion  a  oedd  yn  gwrthwynebu’r  syniad. Yn  sgil  hyn,  mynychodd  rhai  merched  a  oedd  yn ddiaconiaid  Ddiwrnod  Tawel  ym  Mhen‐y‐bont  ar Ogwr gyda pheriglorion a oedd yn cydweithio â nhw. 

Ers  y  ‘dyddiau  tywyll’  hynny,  mae’r  gefnogaeth  i ferched  mewn  grwpiau  taleithiol  ac  esgobaethol wedi  dod  yn  rhan  o’n  bywyd  a’n  gweinidogaeth  i’n gilydd.  Nawr  ceir  ymdeimlad  pendant  o  symud ymlaen  ac  mae  llawer  o  glwyfau’r  gorffennol  yn gwella gyda threiglad amser, diolch byth. 

Grŵp Diaconiaid Merched

1984 1986 1988 1991

Y Parchedig Ganon Jennifer Mole

Cyfarfod o’r Grŵp Merched sy’n Ddiaconiaid yn Nhrefeca ar ddiwedd yr 1980au. Mae’r Parchedig Jennifer Mole yn y cefn ar y dde 

Ar 15 Tachwedd 1988

trwyddedwyd y Parchedig

Jennifer Mole i fod yn Ficer Tîm yng Nghyn-coed,

Caerdydd.

Hi oedd y ferch gyntaf yng

Nghymru i gael y teitl ‘Ficer Tîm’

Grŵp Merched yn y Weinidogaeth

1980s 1986 1987

Grŵp  eciwmenaidd  a  rhyng‐grefyddol  a  drefnwyd  gan  Helena  Williams  a Joan  James  oedd  Merched  yn  y  Weinidogaeth,  a  oedd  yn  cyfarfod  yng Nghaplaniaeth  Prifysgol  Caerdydd  ym Mhlas  y  Parc  yn  yr  1980au.  Roedd  y grŵp yn cyfarfod bob mis ac yn gweithredu fel grŵp cymorth a grŵp symbylu. Roedd  yn  lle  i  drafod,  gweddïo  a  rhannu  i  ferched  a  oedd  yn  rhan  o’r weinidogaeth  drwyddedig  a  swyddogol  mewn  gwahanol  draddodiadau, ac  roedd  y grŵp  yn  cynnwys  rabi diwygiedig. Ond,  yn  fwy na hynny,  roedd yn  agored  i  unrhyw  un  a  oedd  yn  awyddus  i  annog  gweinidogaeth merched mewn unrhyw fodd a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i gefnogi cydraddoldeb, urddas a diogelwch merched a’n cyfraniad yn y byd cyhoeddus.  

Roedd Helena yn gaplan cynorthwyol yn y Brifysgol ac am gael ei derbyn  i’r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, ac  roedd Joan, a oedd yn aelod o blwyf Sant Denys, Llys‐faen ar y pryd, yn cymryd  rhan mewn gweinidogaeth iacháu ac yn frwd o blaid cydraddoldeb  i ferched yn gyffredinol. Roedd Joan wedi gweld â’i llygaid ei hun yr anawsterau yr oedd Linda Mary Evans (Edwards erbyn  hyn)  yn  eu  profi  yn  esgobaeth  Llandaf,  fel  diacones  yn  Llanisien  a Llys‐faen, ac roedd hi’n benderfynol o wneud rhywbeth ynghylch y peth. 

Roedd Merched yn y Weinidogaeth yn werddon o dderbyniad, yn lle i orffwys ac ymwroli o’r newydd ac i ymroi i ddal ati, doed a ddêl. Ym 1986, bu’n destun rhaglen  ddogfen  ar  y  teledu  fel  rhan  o’r  gyfres  ‘Wales  on  Sunday’, a  gynhyrchwyd  gan  John  Holdsowrth,  a  oedd  yn  offeiriad  plwyf  gyda’r Eglwys yng Nghymru yn Abertawe. Roedd pobl yn dod i’r Grŵp o bob cwr o’r de ac roedd yn cyflawni rôl hanfodol i ferched, yn sefyll dros urddas i ferched mewn diwylliant a oedd yn cael ei weld yn rhyfedd neu’n danseiliol yn aml. 

Roedd  Grŵp Merched  yn  y Weinidogaeth  yn  arbennig  o  bwysig  i  ferched a  oedd  am  gael  eu  hordeinio  yn  esgobaeth  Llandaf,  nad  oedd  yn  barod  i dderbyn rhagor o ferched i urdd diaconesau, nac i ordeinio unrhyw ferched yn ddiaconiaid rhwng 1981 ac 1987 (er bod gan y rhai a drwyddedwyd eisoes hawl i barhau  i wasanaethu).  I mi, a oedd yn dod o Loegr ac eisoes yn ddiacones, ond dim ond nawr yn cael caniatâd  i wasanaethu,  roedd cefnogaeth y Grŵp Merched  yn  y  Weinidogaeth  yn  achubiaeth  o  chwerthin  a  gobaith,  ac  yn ffynnon a lwyddodd i feithrin llawer o alwedigaethau. 

“roedd cefnogaeth

Merched yn y

Weinidogaeth yn achubiaeth o chwerthin a gobaith”

Caplaniaeth Anglicanaidd Prifysgol Caerdydd yn 61 Plas y Parc, Caerdydd, lle roedd Grŵp Merched yn y Weinidogaeth yn cyfarfod yn yr 1980au 

Y Parchedig Ganon Jo Penberthy

Page 8: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Ar 6 Ebrill 1994, wythnosau yn unig ar ôl i’r ferch gyntaf gael ei hordeinio i’r offeiriadaeth yn Eglwys Loegr, cafodd y Bil i ordeinio merched i’r offeiriadaeth yng Nghymru ei wrthod o leiafrif bychan gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn Nhŷ’r Clerigion, ar ôl i leygwyr ei basio o fwyafrif llethol ac i’r Esgobion ei basio’n unfrydol. 

Ni allai neb fod wedi rhagweld faint o dristwch y byddai hyn wedi’i achosi ledled Cymru, yn yr Eglwys a thu hwnt. Bu  yn  y penawdau newyddion  am ddyddiau  ar deledu  a  radio  yng Nghymru  ac  yn  y papurau newydd Cymreig. Roedd  llythyrau protest yn  llifo  i swyddfeydd yr Esgobion. O fewn ychydig wythnosau, cynhaliwyd cyfarfod yn fy 

mhlwyf  i yn y canolbarth,  lle penderfynodd Anglicaniaid o bob cwr o Gymru  sefydlu sefydliad ymgyrchu o’r enw ‘Merched  yn Offeiriad  yng Nghymru’, a  chefais  fy ethol yn  Ysgrifennydd!  Symudodd  pethau’n  gyflym  wedi hynny, ac o fewn ychydig wythnosau roeddwn i’n cael fy nghyfweld  yn  fyw  gan  Jenni  Murray  ar  raglen  radio ‘Woman’s Hour’ y BBC. 

Dyma  ddechrau  dwy  flynedd  a  hanner  o  waith  caled iawn,  ar  ben  fy  ngwaith  llawn  amser  fel  llyfrgellydd a’m  cyfrifoldebau  yn  y  plwyf.  Cynhaliwyd  cyfarfodydd a  threfnwyd deiseb, a dderbyniodd filoedd o enwau ac fe’i  cyflwynwyd  i’r  Esgobion.  Ymunodd  pobl  (lleyg  a chlerigion), gan wisgo bathodynnau, ysgrifennu llythyrau a  chynhyrchu  cyhoeddiadau,  codi  arian,  cynnal gwylnosau  a  gwasanaethau  a  gweddïo’n  daer,  gan wrthod gadael i’r mater ddiflannu. 

Bu  nifer  o  gefnogwyr  yr  ymgyrch  (yn  cynnwys  fi)  yn sefyll  mewn  etholiad  ar  gyfer  Corff  Llywodraethol  yr Eglwys  ac  yn  cymryd  rhan  yn  ei  drafodaethau  dros  y blynyddoedd  nesaf.  Yn  y  pen  draw,  ar  19  Medi  1996 (mae’r dyddiad wedi’i gerfio ar fy nghof) pasiwyd y Bil  i ganiatáu ordeinio merched i’r offeiriadaeth ar ei drydydd darlleniad  a’i  ddarlleniad  olaf  yn  y  tri  Thŷ  ac  roedd  y ffordd ar agor o’r diwedd. 

Y Parchedig Kathy Ferguson 

Y Bleidlais Aflwyddiannus ar Ordeinio Merched yn Offeiriaid

1996 1994

Merched yn Offeiriad yng Nghymru

Y Parchedigion Jenny Wigley, Pat Ward, Mary Stallard yn protestio yn y Corff Llywodraethol ym 1995. Roedd y faner 'Consider My Call' yn y blaen yn her ymwybodol i’r Eglwys, a oedd wedi datgan blwyddyn o alwedigaeth dan y teitl 'Ystyriwch eich Galwad' 

Darn o araith a roddwyd gan y Gwir Barchedig Roy Davies, Esgob Llandaf, ym mis Medi 1995, yn eilio’r bil a fyddai’n caniatáu ordeinio marched i’r offeiriadaeth ac yn egluro pam iddo newid ei bleidlais o ‘na’ i ‘ie’:

1997

Plwy’n eilio’r cynnig i’r bil i alluogi ordeinio marched yn offeiriaid gael ei ddarllen yr ail waith… alla i ddim parhau i ddweud ‘Na’, gan na all pethau barhau fel ag y maen nhw. Allwn ni ddim mynd ymlaen fel pe na bai dim wedi digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd y bleidlais bryd hynny yn cyfeirio at gonsensws cynyddol. Dyna lle mae bod yn Anglican yn cyfrif. Y perygl gyda sefyllfa o fethu symud ymlaen ymhellach yw ein bod ni’n gadael i’r mater hwn reoli ein bywydau ar draul ein cenhadaeth ehangach.”

Newid Meddwl

Yn  y  cyfnod  yn  arwain  at  y  Bleidlais  Aflwyddiannus ym mis  Ebrill  1994,  ni  fu  braidd  ddim  ymgyrchu  gan gefnogwyr  ordeinio  merched  –  roedd  yr  esgobion wedi  gofyn  i  ni  beidio,  ac  felly  wnaethon  ni  ddim. Roedd sioc y profiad hwnnw, o fod mewn cyfarfod lle pleidleisiodd mwyafrif  llethol  yr  aelodau  o  blaid ond bod y bil wedi’i wrthod oherwydd mai dim ond(!) 61% o glerigion a oedd o blaid, yn newid popeth. 

Cerddais  allan  o’r  neuadd  yn  Llanbedr  Pont  Steffan, a mynd draw at y camera teledu agosaf a gwneud fy araith ymgyrchu gyntaf. O fewn pythefnos, sefydlodd Kathy  Ferguson,  curad  Llanidloes,  gyfarfod  i  roi  trefn arnom ni: sefydlwyd Merched yn Offeiriad yng Nghymru, gyda Kathy fel ysgrifennydd ac Eric Owen yn gadeirydd (byddai  ef  a  minnau  yn  dod  yn  gyd‐gadeiryddion yn ddiweddarach) a phwyllgor bychan i drefnu cyfarfodydd, ymdrin â chyhoeddusrwydd a chynhyrchu deunyddiau ymgyrchu. 

Cyn  belled  ag  yr  oedd  pobl  Cymru  yn  y  cwestiwn, a’r rhan fwyaf o’r cyfryngau yn wir, roedd y peth mor amlwg:  roedd  ‘Yr Eglwys’  yn  anghywir,  a ni oedd  yn iawn!  Cawsom  ein  calonogi’n  fawr  gan  eu  hymateb, 

ac  roedd  y  ddwy  flynedd  nesaf  yn  gyfnod  grymusol a  llawen  iawn  yn  aml  – hyd  yn oed pan oedden ni’n cyfarfod ar brynhawn dydd Sadwrn gwlyb yn neuadd yr eglwys yn Llanidloes!  

Cafwyd  arwydd  fod  pethau’n  newid  yn  yr  Eglwys hefyd pan ddatganodd Roy, a oedd yn Esgob Llandaf ar  y  pryd,  ei  fod wedi  bod  yn  anghywir  i  bleidleisio ‘na’ – roedd hi’n amlwg bod yr Eglwys o blaid ordeinio merched i’r offeiriadaeth. Roedd hyn yn golygu bod yr esgobion    nawr  yn  unfrydol  yn  eu  cefnogaeth  ac  fe alwom ni ar y Fainc  i gyflwyno bil newydd gerbron y Corff  Llywodraethol  cyn  gynted  â  phosibl.  Roeddynt yn amharod i ddechrau – ofn methu eto – ond roeddem ni,  fel  ymgyrch,  ac  yn  enwedig  y  rhai  ohonom  ni ferched  a  oedd  yn  ddiaconiaid,  yn  teimlo  ein  bod ni’n  barod  i  gymryd  y  risg.  Roedd  angen  i’r Eglwys gael ei gweld yn unioni ei chamgymeriad – a hynny’n fuan.  

Cafodd y bil ei basio o’r diwedd ar 19 Medi 1996, naw mlynedd  i’r diwrnod y cefais  fy ordeinio’n ddiacon, a chefais  i  a  thua  70  o  fy  chwiorydd  ein  hordeinio’n offeiriaid ar 11 Ionawr 1997. 

Y Parchedig Ganon Jenny Wigley

Page 9: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Ar ôl dwy flynedd o waith ymgyrchu gan y mudiad Merched yn Offeiriad yng Nghymru, o’r  diwedd  pasiwyd  y  bil  a  fyddai’n  caniatáu  i  ferched  ddod  yn  offeiriaid.  Ddydd  Iau, 19 Medi 1996 oedd hi; naw mlynedd i’r diwrnod y bu i minnau gael fy ordeinio’n ddiacon.  

Cymaint  oedd  y  diddordeb  yn  y  bil  fel  bod  cyswllt  fideo wedi’i  drefnu  yn  Theatr  Cliff Tucker  ar  gampws  Prifysgol  Llanbedr  Pont  Steffan.  Roedd  llawer  ohonom  wedi ymgynnull  yno  i  aros  a  gwylio,  felly  pan  gyhoeddwyd  y  ffigurau  pleidleisio  cafwyd cymeradwyaeth frwd dros ben.  

Tawelwyd llawenydd yr ymgyrchwyr o blaid cael merched yn offeiriaid  pan  gyhoeddwyd  bod  y  Fainc  yn  bwriadu  penodi ‘Esgob Cynorthwyol Taleithiol’.  

Cysegrwyd y Canon David Thomas o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn esgob bythefnos cyn ordeinio’r diaconesau i’r offeiriadaeth. 

Yn  y  Corff  Llywodraethol,  dosbarthwyd  dogfen  yn  cynnwys ‘canllawiau bugeiliol’ er gwybodaeth cyn cymryd y bleidlais. Mae’r rhan hollbwysig fel a ganlyn: 

‘Mae’r  Esgobion  yn  unfryd  yn  eu  hymrwymiad  i  sicrhau  lle parhaus  ym  mywyd  yr  Eglwys  i’r  sawl  na  allant  ar  sail 

cydwybod dderbyn y sefyllfa newydd a grëwyd trwy ordeinio merched  i’r offeiriadaeth. Eu dymuniad yw cadw’r undod gorau posibl yn yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.  Gan  gadw  hyn mewn  cof,  eu  bwriad  yw  penodi  esgob  a  fydd,  ymhlith dyletswyddau eraill, yn gyfrifol am oruchwyliaeth fugeiliol y sawl na all dderbyn merched yn  offeiriaid  yn  y  Dalaith,  gan  gynrychioli  eu  barn  yng  nghynghorau’r  Eglwys  yng Nghymru.  Bydd  ef  yn  Esgob  Cynorthwyol, wedi’i  benodi  gan  un  esgob  a’i  awdurdodi ganddynt  i gyd  i weinyddu yn eu hesgobaethau, a bydd yn rhannu cyfrifoldebau colegol gydag esgobion esgobaethol yn y Dalaith.’ 

Y Bleidlais Lwyddiannus

1996

…Pleidleisiodd Tŷ’r Clerigion 85 o blaid a 40 yn erbyn (roedd angen 84 o bleidleisiau i sicrhau mwyafrif gan ddwy ran o dair)…

…roedd y Lleygion ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif o dri chwarter...

…a phleidleisiodd y chwe Esgob o blaid.

Y Parchedig Ganon Jenny Wigley

Offeiriaid newydd eu hordeinio, Cadeirlan Bangor, 11 Ionawr 1997 

Yr Esgob Christina Odenberg (Esgobaeth Lund, Sweden) yn dawnsio gyda’r Esgob Tony Crockett,  Esgob Bangor, 

yng nghorff Cadeirlan Llandaf: y gwasanaeth i ddathlu’r 10fed pen‐blwydd yn 2007  

Ar  11  Ionawr  1997, ordeiniwyd  saith  deg o ferched, a hwy oedd y  merched  cyntaf  i gael  eu  hordeinio  i’r offeiriadaeth  yn  yr Eglwys  Anglicanaidd 

yng Nghymru.  Roedd  pob  sedd  yn  llawn  yn  y  chwe chadeirlan  yng  Nghymru  wrth  i’n  teuluoedd  a’n cynulleidfaoedd  lenwi’r  corau  i  dystio  i’r  achlysur cysegredig,  hanesyddol,  hynod  lawen  hwn.  Cefais innau  fy  ordeinio  yng  Nghadeirlan  Bangor  yng nghwmni  fy  holl  deulu,  a  llond  bws  o  blwyfolion  a chyfeillion  lleol  a  wnaeth  ymdrech  lew  i  fod  yn bresennol i’m cefnogi ac i gydlawenhau â mi. 

Erbyn  i mi  a’m hwyth  cyd‐ddiacon  (yn  amrywio o  27 i  68  oed)  gyrraedd  cadeirlan  Bangor  ar  y  bore hanesyddol  hwnnw,  roeddem  wedi  aros  am gyfnodau’n  amrywio  o  2  i  14  blynedd.  Yn  awr,  o’r diwedd,  roedd yr alwedigaeth yr oeddem  i gyd wedi bod  yn  ymwybodol  ohoni  ers  cyhyd  yn mynd  i  gael ei gwireddu, ac ni allaf ddod o hyd  i eiriau  i ddisgrifio sut deimlad oedd hwnnw.  

Ac os nad oedd diwrnod yr ordeinio ei hun yn ddigon, drannoeth  roeddem  i  gyd wedi  dychwelyd  adref  i’n plwyfi, gan weinyddu am y tro cyntaf erioed ym mhrif wasanaeth  yr  Eglwys,  yr  Ewcharist  neu’r  Cymun Bendigaid. Roedd fy Ewcharist cyntaf yn gyd‐ddathliad i gynulleidfaoedd  ein  dwy  eglwys,  a  chyffro  a llawenydd  yr  awyrgylch  yn  drydanol  bron.  Cefais  y 

pleser o ddewis yr emynau a’r caneuon, a phregethodd y  ficer  y  diwrnod  hwnnw  ar  fy  rhan wedi’i wisgo  fel diacon i’m cynorthwyo innau, fel yr oeddwn innau wedi ei gynorthwyo yntau ar hyd yr amser. 

Gallaf  gofio popeth bron  am  y bore hwnnw,  hyd  yn oed y ffordd yr oedd fy nhu mewn yn corddi wrth i mi ganu  rhan offeiriadol  y gwasanaeth  am  y  tro  cyntaf. Roedd gweinyddu’r cymun wedi cymryd mwy o amser nag  arfer  oherwydd  bod  y  cymunwyr  mor  niferus. Yna, ar ôl y gwasanaeth buom yn tynnu lluniau a chael parti  yn  neuadd  yr  eglwys,  gyda  chacen  hardd  i ddathlu’r ordeinio, a llond gwlad o sgwrsio a chwerthin.  

Wedyn, y  foment a  fu’n goron ar y cyfan  i mi, oedd pan  gyflwynodd  y  ficer,  gyda  gwên  lydan  ar  ei wyneb,  lestri  cymundeb  arian  hardd  i  mi  eu defnyddio  yn  y  cartref.  Dyma  oedd  anrheg  y plwyfolion  i  mi  i  nodi’r  achlysur.  Rwyf  wedi  eu defnyddio  lawer  gwaith  dros  y  blynyddoedd  ac yn  dal  i’w  trysori,  fel  cofnod  o  benwythnos bythgofiadwy  ac  arwydd gweladwy  o  gyfeillgarwch cariadus  sydd  wedi  fy nghefnogi  a’m  hannog gydol  fy  ngweinidogaeth yn  y  plwyfi  hyn.  Braint  o’r mwyaf yw bod yn offeiriad, ac rwy’n diolch  i Dduw am y fraint a’r llawenydd dwfn a  pharhaus  a  gefais  yn  ei sgil. 

Ordeinio Merched yn Offeiriaid

1997

Er  2006,  mae  gwaith  datblygu  pwysig  wedi’i  wneud  gan  Goleg  Mihangel  Sant  dan arweinyddiaeth  y  Prifathro,  y  Parchedig  Ddr  Peter  Sedgwick,  a  grŵp  o  ferched  sy’n cynrychioli pob un o’r chwe esgobaeth. Trefnwyd cynhadledd ganddynt, ‘Dathlu’r gorffennol, dychmygu’r  dyfodol’,  gyda merched  o  fyd  y  cyfryngau,  busnes  ac  iechyd  a’r  Hybarch  Joy Tetley, yr Athro Mary Grey a’r Esgob Christina Odenberg (Esgobaeth Lund, Sweden). Roedd y digwyddiad hwn yn dathlu degfed pen‐blwydd ordeinio merched yn offeiriaid. Llwyddodd  i adfywio rhwydweithiau a helpu cefnogwyr i bennu blaenoriaethau. 

2007

Y Parchedig

Kathy Ferguson

Y Parchedig Kathy Ferguson (ail o’r chwith), Cadeirlan Bangor 

Page 10: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Yn 2008, pleidleisiodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn erbyn  ordeinio  merched  yn  esgobion  o  fwyafrif  bychan  yn  Nhŷ’r Clerigion. Bu hyn yn drobwynt pwysig i’n Heglwys.  

Roedd  ein hesgobion wedi  cyhoeddi  eu bwriad  i  godi mater ordeinio merched yn esgobion,  i bob diben fel mesur sengl (heb ddeddfwriaeth wahaniaethol, ychwanegol) yn y Corff Llywodraethol. Roeddem yn falch eu  bod mor  ddewr  â  gwneud  hyn.  Yn  y  dadleuon  dilynol,  cynigwyd llawer  o  ddiwygiadau  a  chafwyd  pleidlais  ar  ddarparu  Esgob Cynorthwyol  Taleithiol  arall  i  ofalu  am  y  gwrthwynebwyr.  Collwyd  y bleidlais honno, ond o ddim ond tair pleidlais yn Nhŷ’r Clerigion. 

Y newyddion da oedd bod mwyafrif clir o blaid merched yn esgobion yn Nhŷ’r  Lleygion.  Rhoes  gyfle  hefyd  i’r  sawl  a  oedd  yn wrthwynebwyr cydwybodol  i weinidogaeth gyfartal gymryd  cyfrifoldeb  am  eu  safiad: ar  ôl  ennill  y  bleidlais,  ni  allai’r  sawl  a  oedd  yn  gwrthwynebu gweinidogaeth  esgobaethol  gynhwysol  bellach  honni  eu  bod  yn ddioddefwyr, nad oedd neb yn gwrando ar eu llais. 

Rhoes y sefyllfa hon hwb pellach  i gefnogwyr gweinidogaeth gyfartal  i fod yn drefnus a gweithio tuag at newid diwylliannol mewn Eglwys lle’r oedd gan gefnogwyr gweinidogaeth (wrywaidd) anghynhwysol ffocws, arian, trefn a chefnogaeth brif ffrwd. Ystyrid gweinidogaeth gynhwysol  merched o hyd fel rhywbeth ar y cyrion, gwirfoddol i raddau helaeth, llai trefnus a chyda llawer llai o gefnogaeth. 

Tasg  fawr  oedd  ail‐hawlio  ‘traddodiad’  fel  rhywbeth  sy’n  fyw, a hyrwyddo dealltwriaeth o’r gair  ‘catholig’ fel rhywbeth cynhwysol ac o’r  gair  ‘efengylaidd’  i  olygu  newyddion  da  i  bawb.  Yn  2008  roedd  y dasg  o’n  blaenau’n  ymddangos  yn  llafurus,  ond  yn  y  gynhadledd ddathlu  yn  2007  roedd  yr  Esgob  Christina wedi  ein  hannog  i  gael  ein harwain gan ras y sawl sy’n ymaddasu  i waith yr Ysbryd, yn hytrach na bod yn Eglwys sy’n addasu i’r rhai sy’n dal pawb arall yn ôl. 

Merched yn Esgobion – y Cynnig Cyntaf

Bil cyntaf merched yn esgobion (methu) 2008

Cefnogwyd y Bil yn unfrydol gan Dŷ’r Esgobion, a’i basio gan Dŷ’r Lleygion, ond methwyd â sicrhau mwyafrif o ddwy ran o dair yn Nhŷ’r Clerigion. Methodd y Bil pan wrthodwyd gwelliant a fyddai wedi cynnig goruchwyliaeth esgobaethol wahanol i’r sawl na fyddai’n gallu derbyn gweinidogaeth esgob a oedd yn ferch.

Yn ôl y gwelliant hwnnw, fel y’i cynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol, byddai ‘Mainc yr Esgobion yn darparu gofal bugeiliol a chymorth trwy Esgob neu Esgobion Cynorthwyol i’r sawl na all dderbyn ordeinio merched yn offeiriaid ac esgobion ar sail cydwybod’. Mewn gwirionedd, nid oedd holl aelodau’r Pwyllgor Dethol yn cytuno y dylai’r gwelliant ddarparu ar gyfer y sawl na allai dderbyn merched yn esgobion.

Y Bleidlais “o hyn ymlaen y gall dynion a merched yn yr Eglwys yng Nghymru gael eu hordeinio yn Esgobion”: Tŷ’r Lleygion O blaid: 52 Yn erbyn: 19 Ymatal: 1 Tŷ’r Clerigion O blaid: 27 Yn erbyn: 18 Ymatal: 1 Tŷ’r Esgobion O blaid: 4 Yn erbyn: 0 Ymatal: 0

2008 2006

Y Parchedig

Mary Stallard

Daeth  yr  hwb  i  adolygu  rôl  merched  yn  yr  Eglwys yng  Nghymru  o’r  tu  hwnt  i’r  Dalaith.  Yn  2006  bu’r Parchedig Joanna Penberthy a’r Parchedig Ganon Mary Stallard  yn  cynrychioli’r  Eglwys  yng  Nghymru  yng Nghynhadledd  y  Cenhedloedd  Unedig  ar  Statws Merched  yn Efrog Newydd gan  adrodd  yn ôl  i’r Corff Llywodraethol.  Eu  hargymhelliad  oedd  bod  Corff Llywodraethol  yr  Eglwys  yng  Nghymru  yn  cydnabod Nod Datblygu’r Mileniwm,  sef  cynrychiolaeth  gyfartal i  ferched  wrth  wneud  penderfyniadau  ar  bob  lefel, ac  ymrwymiad  y  Cyngor  Ymgynghorol  Anglicanaidd  i ymdrechu  i  gyflawni  hyn  yn  yr  holl  daleithiau Anglicanaidd. Felly, ym mis Medi 2006, penderfynwyd sefydlu  gweithgor  i  adolygu  cynrychiolaeth  merched yng  ngwaith  a  strwythur  yr  Eglwys  yng  Nghymru  a gwneud  argymhellion  am  y  ffordd  y  gallai’r  Dalaith weithio tuag at gyflawni Nodau Datblygu’r Mileniwm. 

Bu’r  Gweithgor  yn  pwyso  a  mesur  materion cydraddoldeb a chynrychiolaeth merched yn yr Eglwys yng  Nghymru’n  ofalus  gan  ddod  i’r  farn  y  bydd  yr Eglwys mewn gwell  lle  i gwblhau ei chenhadaeth pan fydd  ei  holl  aelodau  wedi’u  galluogi  i  gydnabod  yn llawn eu doniau a’u dyletswyddau, ac arfer eu talentau unigryw  a’u  galwedigaethau  fel  unigolion.  Nododd  y Gweithgor  nifer  o  bryderon:  patrwm  defnyddio merched  ordeiniedig  mewn  plwyfi;  diffyg  unrhyw benodiadau  uwch  i  ferched  yn  yr  Eglwys;  parhau  i 

ordeinio’r  sawl  sy’n  gwrthwynebu  ordeinio merched. Daethant  yn  ymwybodol  o  fodolaeth  diwylliant  o wahaniaethu, bwlio ac allgau bwriadol ar sail  rhyw yn rhai o  adrannau’r Eglwys. Nododd  y Gweithgor hefyd ddiffyg  mawr  o  ran  cynrychiolaeth  merched  ar bwyllgorau ac ar lefel esgobaethol a diffyg ymrwymiad i fynd i’r afael â materion cydraddoldeb rhywiol. 

Derbyniwyd  argymhellion  y  Gweithgor  i  fynd  i’r  afael â’r  anghydraddoldebau  a  nodwyd.  Yn  2011,  cyfarfu’r Gweithgor i adolygu cynnydd ac roedd yn falch o weld ymrwymiad  parhaol  yr  Eglwys  yng  Nghymru  i  fynd i’r  afael  ag  anghydraddoldeb  a  chynrychiolaeth merched  dros  y  tair  blynedd  o  2008  i  2011,  fel  y gwelwyd yn sgil y cynnydd sylweddol a wnaed. 

Dr Gill Todd 

Cynrychiolaeth Merched yn yr Eglwys yng Nghymru

Adolygu Rôl Merched

2013

Fodd  bynnag,  yn  niwedd  2013,  er  bod  yr  Eglwys wedi  cymeradwyo  penodi merched  yn  esgobion,  teimlwyd  bod materion  cydraddoldeb  wedi  llithro  i  lawr  yr  agenda,  wrth  i’r  Eglwys  fynd  ati  i  weithredu’r  Arolwg  Taleithiol (Harries). Mae cynnydd tuag at wneud newidiadau sylfaenol mewn diwylliant sefydliadol yn aml yn broses anghyson, ond cytunwyd  i adolygu’r sefyllfa yn drylwyr. Roedd canfyddiadau cynnar yn 2014 yn dangos bod materion megis gweithredu ardaloedd gweinidogaeth, y nifer  fach o  ferched mewn  swyddi uwch, a’r diffyg cynrychiolaeth gyda’i gilydd  yn  cyfrannu  at  leihad  yn  rôl  merched  yn  yr  Eglwys  yng  Nghymru,  sy’n  destun  siom,  a  bydd  angen arweinyddiaeth gadarn i unioni’r sefyllfa. 

2009 2011

Yr Hybarch Peggy Jackson (chwith), yn cael ei sefydlu’n Archddiacon Llandaf, 2009; Y Tra Pharchedig Ddr Sue Jones (de), yn cael ei sefydlu’n Ddeon Bangor, 2011 

Page 11: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Yn Ddiacones Wrth  weithio  fel  athrawes  yn  yr  1960au  penderfynais archwilio  a  fyddai  modd  i  ferch  weinidogaethu  yn  yr Eglwys yng Nghymru. Ar ôl ychydig o ddryswch, gan nad oedd  gennyf  syniad  sut  i  fynd  yn  fy mlaen,  gwelais  yr Esgob Bartlett yn Llanelwy, a dywedodd yntau ‘Rhaid i ni ddechrau yn rhywle, felly dewch i ni ddechrau yma!’ 

Yn Lloegr ar y pryd, roedd yn rhaid i ferch dreulio o leiaf ddwy  flynedd  fel  gweithwraig  blwyf  cyn  y  gellid  ei hystyried ar gyfer gweinidogaeth diacones, ond nid oedd hyn  yn  wir  yng  Nghymru!  Penderfynodd  yr  Esgob Bartlett  ‘Gallwn  ni  wneud  yn  well  na  hyn!’  Addasodd y  Drefn  i  Ddiaconiaid  ac  ym mis  Hydref  1968  cefais  fy sefydlu’n Ddiacones ar unwaith. 

I’r merched  a  oedd wedi  hyfforddi  gyda mi  ac  a  oedd wedi mynd yn Weithwyr Plwyf yn Lloegr,   y cwestiwn a ofynnwyd  oedd  a  fyddent  yn  cael  caniatâd  i  bregethu. Pan ofynnais i Reithor y Fflint a oedd yn fodlon i mi  bregethu,  atebodd,  “Ydw,  wrth  gwrs. I  ba  ddiben  ydych  chi’n meddwl  rydych chi’n  dod  yma?”  Felly  dechreuais bregethu  gyda’r  nos  ar  fy  Sul  cyntaf, ar ôl cael fy sefydlu’n Ddiacones yn y bore! “Felly, beth ydych  chi am  i mi ei wneud?”  gofynnais  drannoeth  i’r Rheithor ar ôl y Weddi Foreol. “Wel, fy  merch,”  atebodd,  “edrychwch o’ch cwmpas  i weld beth sydd angen ei wneud. Peidiwch â gwneud dim byd gwirion.  A  dywedwch  wrtha’i  beth rydych chi wedi’i wneud wedyn.” 

Yn Ddiacon Nid  oedd  cael  fy  ordeinio’n  offeiriad  ar  yr  agenda mewn  gwirionedd,  ond  ym  1980  pleidleisiodd  y  Corff Llywodraethol  o  blaid  caniatáu  i  ferched  gael  eu hordeinio’n  Ddiaconesau.  Ar  ôl  bod  yn  ddiacones  am ddeuddeg mlynedd,  fe’i  cefais  yn  anodd  egluro  i bobl (ac  i mi  fy  hun)  beth  fyddai’r  gwahaniaeth.  Yn  1986, symudais  i  Gorwen  a  gofynnodd  yr  Esgob  Alwyn  i mi fod  yn  ‘Ddiacon  â Gofal’  ym Mryneglwys.  I  ddechrau, roeddwn  i’n  ofalus  ynghylch  defnyddio  gwin  a  bara wedi’u cysegru ymlaen  llaw ar gyfer Ewcharist y plwyf, ond sylweddolais mai gwledd Duw ydoedd, ac y gallwn adael iddo Ef drin y cymhlethdodau! Fy swydd i yn syml oedd caru ei bobl. 

Roedd  y  blynyddoedd  fel  Diacon  â  Gofal  yn werthfawr  iawn  ond  weithiau’n  rhwystredig.  Roedd y  blynyddoedd  o  ddadlau  a  thrafod,  llythyrau  a 

phleidleisiau  yn  y  Corff  Llywodraethol weithiau’n arwain  at  ddiflastod  a  phenbleth.  Serch 

hynny,  roeddent  yn  gyfle  i  bwyso  a mesur  ystyr  ‘offeiriadaeth’  a’r Ewcharist,  ac  yn  dangos  yr  angen i  ddatblygu  gweithredoedd  a meddyliau  creadigol;  yn  ystod  y cyfnod  roedd  yn  ddefnyddiol  bod rhywun  wedi  disgrifio  tasg  yr offeiriad  fel  ‘datblygu  cynulleidfa offeiriadol’. 

Margaret  Harvey  oedd  y  ddiacones gyntaf  i gael ei thrwyddedu y tu hwnt  i 

Landaf. 

Ar Daith Y Parchedig

Margaret Harvey

1960s 1986 1968 1980 1997

Y rhan fwyaf cyffrous o’r penwythnos ordeinio ym 1997 oedd yr hyn a ddigwyddodd drannoeth. Yn fy mhlwyf i, ar ôl y Cymun fore Sul, roedd pobl yn dweud, 

“Doedden ni ddim yn meddwl y byddai dim byd yn wahanol ‐ ond roedd yn wahanol! Nawr rydyn ni’n deall beth rydych chi wedi bod yn ei ddweud. 

Nid eich swper chi ydyw ‐ ond ein swper ni!” 

Yn Offeiriad 

Merched gyda’i gilydd – agenda flaengar Y  tro  cyntaf  i  ni  gyfarfod  –  dim  ond  chwech  ohonom,  lleyg  ac  ordeiniedig  – oedd ym mis Awst 2010, am 24 awr yn Llangasty Tal‐y‐bont: grŵp o ‘ferched blaenllaw’, yn pryderu am rolau merched yn yr Eglwys yng Nghymru. Buom yn addoli gyda’n gilydd, yn  rhannu storïau, problemau a phryderon, ac yn gofyn beth y gallem ac y dylem ni ei wneud i helpu’r Eglwys yng Nghymru a merched yr  Eglwys  i wireddu  eu  llawn botensial  ar  gyfer  y weinidogaeth. Nodwyd  tir cyffredin gennym, ac aethom ati i osod agenda flaengar i ni ein hunain – siarad a gweithio gyda’r esgobion, gyda strwythurau’r Eglwys, a rhwydweithio’n lleol â  niferoedd  ehangach  o  ferched  yn  y  weinidogaeth.  Y  prif  faterion  oedd: grwpiau cymorth i ferched, merched mewn swyddi uwch, eglurder o safbwynt strwythurau’r  eglwys,  rolau  merched  yn  arwain  newid  strwythurol  a diwylliannol ac anghenion hyfforddiant cysylltiedig. 

Yn  dilyn  yr  ail  gyfarfod  ym mis  Ionawr  2011,  ym Mhenarlâg,  penderfynwyd ar enw (o Lyfrgell Deiniol Sant) a strwythur lled ffurfiol – sef y dylem gyfyngu ar ein rhifau i ddim ond pedwar aelod o bob esgobaeth, a hynny drwy wahoddiad o  blith  pobl  leyg  ac  ordeiniedig,  ynghyd  â  llywydd  cenedlaethol  Undeb  y Mamau  yng  Nghymru  ac  unrhyw  swyddogion  gweinidogaethol  taleithiol benywaidd  a  oedd  mewn  swydd.  Parhawyd  â’r  drefn  hon  gan  gyfarfod ddwywaith y flwyddyn ar gyfartaledd,  i drafod a gweddïo, a cheisio clywed a chryfhau lleisiau merched yn yr Eglwys yng Nghymru. 

Diolch  yn  gyntaf  i  Gorff  y  Cynrychiolwyr  ac  yna  i Ymddiriedolaeth  Isla  Johnston,  fe  lwyddwyd  i  drefnu  dwy gynhadledd ddeuddydd, i groesawu holl ferched ordeiniedig y dalaith  i gynorthwyo â’u hanghenion datblygu penodol yn y cyfnod hwn o newid. Darparwyd adnoddau, cefnogaeth ac anogaeth  i’r sawl a   gymerodd ran yn y ddadl ar ferched yn esgobion  yn  y  Corff  Llywodraethol,  ac  yn  y  trafodaethau dilynol ar God Ymarfer Esgobion. 

Ym mis Medi 2014, cynhaliwyd Cynhadledd ‘Croesi’r Trothwy’ yn  Llandaf,  i  ddathlu  a  nodi’r  trothwy  hynod  bwysig  – 12 Medi 2014 – pan ddaeth marched, o’r diwedd, yn gymwys, ar delerau cyfartal â dynion,  i fod yn esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru. 

“Dyma’r cyfle gwirioneddol

cyntaf a gefais i gwrdd â merched

ordeiniedig a lleyg o bob cwr o’r dalaith, ers

dyddiau’r grŵp Merched yn

Offeiriaid yng Nghymru.”

Grŵp Deiniol Sant

2010 2014 2011 2013

Yr Hybarch Peggy Jackson

Cyfarfod Grŵp Deiniol Sant, Llyfrgell Gladstone, 2014  

Page 12: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

Ar ôl methiant y Bil cyntaf yn 2008, cyflwynodd Mainc yr Esgobion  Fil  newydd  i’r  Corff  Llywodraethol  yn  2012  a oedd yn cynnig proses dau gam: (1) byddai cytundeb ar yr  egwyddor  o  ganiatáu  i  ferched  gael  eu  hordeinio’n esgobion;  (2)  ni  ddigwyddai  hynny  tan  y  byddai darpariaeth wedi’i  chytuno  ar  gyfer  y  sawl  a  oedd  yn wrthwynebus. 

Ni  allai  nifer  o’r  rhai  a  oedd  wedi  ymgyrchu  o  blaid merched  yn  esgobion  gefnogi’r  posibilrwydd  o ‘ddeddfwriaeth’  ar  gyfer  y  sawl  na  fedrai  dderbyn merched  yn  esgobion.  Roeddem  hefyd  yn  bryderus ynghylch  y posibilrwydd o oedi di‐ben‐draw. Daeth  tair ohonom ynghyd – Canon Jennifer Mole, yr Archdddiacon Peggy  Jackson  a minnau  –  i  lunio  gwelliant  ar  gyfer  y Pwyllgor  Dethol  a  oedd  yn  archwilio’r  Bil.  Cawsom y  syniad  o  gadw’r  camau  –  ond  gydag  amserlen benodedig.  Yn  sgil  hynny,  yng  ngham  dau  byddai’r  Bil yn  dod  i  rym  ar  ôl  blwyddyn  heb  unrhyw  rag‐amodau. Ac  yr  0eddem  yn  gwbl  benderfynol  pa  ddarpariaeth bynnag a wneid, y byddai ar lun côd ymarfer, yn hytrach nag yn rhan o gyfraith yr eglwys. 

O’r diwedd, ysgrifennwyd a chyflwynwyd y gwelliant yn fy enw  i a Peggy, gan nad oedd Jenny Mole bellach ar y Corff Llywodraethol. Roeddem yn bendant o’r  farn bod angen  codi  ymwybyddiaeth  o’r  materion  y  tu  hwnt  i ffiniau  cyfarfod y Corff Llywodraethol,  felly  cyflwynwyd cwestiwn ffurfiol gennym yn y cyfarfod ym mis Ebrill yn gofyn  pa welliannau  yr  oedd  y  Pwyllgor Dethol wedi’u derbyn.  O  ganlyniad  i  hynny,  roedd  ein  gwelliant  yn awr  yn  wybodaeth  gyhoeddus  –  cam  cwbl  hanfodol, oherwydd  roedd  y  Pwyllgor Dethol wedi  ei  ystyried  ac wedi gwrthod ei dderbyn.  

Yr  unig  ffordd  ymlaen  oedd  i  ni  ein  hunain  fynd  ati i’w  gyflwyno,  fel  gwelliant  i  Fil  yr  Esgobion  yn  ystod  y cyfnod  Pwyllgora,  pan  ddaeth  y  Bil  gerbron  y  Corff Llywodraethol ym mis Medi 2013. Roedd hyn yn dipyn o 

fenter! Aethom ati i e‐bostio llythyr yn egluro ein hachos at bob aelod clerigol ac eithrio’r rhai y gwyddem eu bod yn sicr yn wrthwynebus, gan ofyn iddynt ei anfon ymlaen at  unrhyw  aelodau  lleyg  y  gwyddent  amdanynt.  Beth bynnag  fyddai’r  canlyniad,  o  leiaf  byddai  gan  bobl  yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Cyfarfu’r  Corff  Llywodraethol  yn  Llanbedr  Pont Steffan  ddydd Mercher  11  a  dydd  Iau  12 Medi.  Noswyl y  bleidlais,  estynnwyd  gwahoddiad  i  unrhyw  un  a hoffai  drafod  y materion  i  gyfarfod agored  yn  un  o ystafelloedd seminar y  coleg.  Bu’r  trin a’r  trafod  yn  faith. Roedd  llawer  yn poeni  y  byddai  hyn yn  chwalu’r  cyfle gorau a oedd gennym o  gael  merched  yn  esgobion,  gan  ddweud  y  dylem gefnogi’r  Bil  yn  hytrach  nag  atal  ein  pleidlais  pe  bai’r gwelliant yn methu. Ond roedd sylwedydd yn bresennol ar ran Eglwys Loegr – a dywedodd yntau os oeddem yn credu  bod  y  Bil  yn  anghywir  y  dylem  yn  syml  ddigon bleidleisio ‘na’. 

Noson  ddi‐gwsg  a  gafodd  llawer  ohonom  y  noson honno,  ond  rhoes  Peggy  a minnau  ar  ddeall  i  bawb  y byddem yn pleidleisio ‘na’ pe na bai’r gwelliant yn cael ei dderbyn. Roedd gofid mawr – a  llawer o bwysau arnom i ildio. Os oedd pethau’n anodd nos Fercher, roedd bore Iau yn anos byth. Cynigodd Peggy y gwelliant, ac eiliais innau.  Pleidleisiodd  y  cyfarfod. Dim  ond mwyafrif  syml oedd ei angen arnom a chafwyd hynny’n hawdd. 

Pan  bleidleisiwyd  yn  ôl  ‘tai’  ar  welliant  y  Bil  i  alluogi ordeinio merched  yn  esgobion,  roedd  y mwyafrifoedd o blaid yn anferth. 

Merched yn Esgobion – Yr Ail Gyfle

2012 Tŷ’r Lleygion Tŷ’r Clerigion Tŷ’r Esgobion

O blaid: 57 Yn erbyn: 14 Ymatal: 2 O blaid: 37 Yn erbyn: 10 Ymatal: 0 Unfryd

Y Parchedig Ganon Jenny Wigley

GAN NAD YW Cyfraith a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru hyd yma wedi caniatáu ordeinio merched yn Esgobion 

A CHAN EI BOD yn awr yn briodol yn yr Eglwys yng Nghymru bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob 

A  CHAN  MAI  bwriad  yr  Eglwys  yng  Nghymru  yw  parhau  gweinidogaeth  yr eglwys  gyffredinol  yn  ei  thair  urdd  o  Esgobion,  Offeiriaid  a  Diaconiaid  a pharhau’n rhan o’r Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolig 

A  CHAN  FOD  yr  Eglwys  yng  Nghymru,  yn  ddarostyngedig  i  ddarpariaethau’r gyfraith sifil ar gydraddoldeb a materion perthnasol eraill, yn dymuno parchu’r rhai hynny na allant o gydwybod dderbyn bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob 

 

DEDDFER TRWY HYN YMA fel a ganlyn: 

  1.  O  hyn  allan  yn  yr  Eglwys  yng  Nghymru  bydd  yn  gyfreithlon cysegru merched yn esgobion. 

  2.  Lle bynnag yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw  drefn  gwasanaeth  a  awdurdodwyd  yn  gyfreithlon  i’w defnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru y cyfeirir at esgob, ystyrir bod y cyfeiriad yn cynnwys merched a gysegrwyd yn esgobion. 

  3.  Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r Canon hwn. 

  4.  Wrth  gymeradwyo’r  Canon  hwn, mae’r  Corff  Llywodraethol  yn ymddiried i Fainc yr Esgobion i gytuno yn ddi‐oed ar Gôd Ymarfer a  fydd  yn  rhwymo’r  Fainc  i wneud darpariaethau  i  sicrhau  holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys y  rhai hynny  sy’n gwrthwynebu o gydwybod ddarpariaeth Adran  1,  fod yr Eglwys yng Nghymru yn eu derbyn a’u gwerthfawrogi. 

Yr Eglwys yn dweud ‘Ie’!

2013

CANON I ALLUOGI CYSEGRU MERCHED YN ESGOBION (Cyhoeddwyd 12 Medi 2013) 

Page 13: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

2014

4 Medi 2014 

Yn dilyn y bleidlais hanesyddol ym mis Medi 2013 pan basiodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru y Bil a fyddai’n galluogi bod swydd Esgob yng Nghymru yn agored  i bawb sy’n cael eu galw  i’r weinidogaeth, waeth  beth  fo’u  rhyw,  croeswyd  y  trothwy  terfynol flwyddyn  yn  ddiweddarach  pan  ddaeth  y  Bil  yn Gyfraith.  I  nodi’r  achlysur,  cynhaliwyd  cynhadledd yng  Ngholeg  Mihangel  Sant,  yn  Llandaf  dan  y  teitl ‘Croesi’r Trothwy’. 

Cymerodd  nifer  o  ferched  blaenllaw  o  daleithiau, enwadau  a  gyrfaoedd  eraill  ran  allweddol  yn  y gynhadledd,  gan  rannu  eu  profiadau  amrywiol  o arwain, fel y gallem ni yng Nghymru ddysgu ganddynt wrth groesi’r  trothwy  i arweinyddiaeth gwbl newydd yn  ein  Heglwys  ein  hunain.  Derbyniwyd  neges  o ewyllys  da  a  bendith  oddi  wrth  yr  Esgob  Victoria Matthews o Dunedin, yr Esgob Catherine Roskam a’r Esgob  Sue  Moxley  o  UDA,  gan  ein  cysylltu  â thaleithiau  eraill  y  Cymundeb  Anglicanaidd.  Y  prif siaradwyr  oedd  yr  Esgob  Geralyn  Wolf  (cyn‐Esgob Rhode Island, UDA) a’r Parchedig Brebend Jane Tillier (un  o’r  wyth  merch  yn  Eglwys  Loegr  a  oedd  bryd hynny  wedi’u  hethol  i  fynychu  cyfarfodydd  Tŷ’r Esgobion). Cafwyd hanes teimladwy eu  llwybrau yn y weinidogaeth  a  arweiniodd  at  eu  sefyllfaoedd presennol. 

 

Yna  rhannwyd  y  mynychwyr  yn  grwpiau,  i  fyfyrio ar  gwestiynau  allweddol:  wrth  i’r  Bil  ddod  yn gyfraith,  beth  yw  ein  gobaith  am  a  ddaw?  ... ein  hofnau?  ...  a’n  disgwyliadau?  Gan  ddefnyddio ymatebion y grwpiau, aed ati yn y prynhawn  i gynnal panel  trafod  dan  gadeiryddiaeth  y  Parchedig  Mary Stallard  a  oedd  yn  cynnwys,  yn  ogystal  â’r prif  siaradwyr,  y  Gwir  Barchedig  Gayle  Harris (Esgob cynorthwyol Massachusetts); y Parchedig Ddr Jennie  Hurd  (Cadeirydd  Synod  y  Methodistiaid Cymru);  Barwnes  Eluned  Morgan;  a’r  Dr  Gill  Todd (Cadeirydd Gweithgor  Cydraddoldeb Rhywiol  y  Corff Llywodraethol). Cafwyd trafodaeth fywiog ar brydiau wrth i siaradwyr ddwysbigo’r teimladau hynod ddwys a feddai rhai o’r mynychwyr. 

Parhaodd  y  sgwrsio  dros  swper,  cyn  i  bawb  symud ymlaen i wasanaeth y Cymun yng Nghadeirlan Llandaf, gyda’r Esgob Geralyn yn  llywyddu a’r Parchedig Mary Stallard  yn  pregethu’n  deimladwy  ac  eto’n  heriol. Daeth y gwasanaeth i ben, fel y gwasanaeth i ddathlu degfed pen‐blwydd merched yn offeiriaid, gyda phobl yn dawnsio yng nghorff yr eglwys, a rhai yn eu dagrau, yn  amlwg wedi’u  symud  gan  yr  Ysbryd.  Cynhaliwyd parti yng Ngholeg Mihangel Sant i roi clo ar y diwrnod, gyda  theisen  arbennig  ar  siâp  meitr  yn  gwmpeini  i wydraid o win pefriog! 

1884

Cynhadledd Croesi’r Trothwy

Yr Esgob Gayle Harris a’r Esgob Geralyn Wolf yn y Gynhadledd 

Y Parchedig

Jan Gould

Esgob o UDA yn gwneud hanes yn Llandaf Tra oedd yr Arlywydd Barack Obama’n mwynhau swper yng Nghastell Caerdydd ar ôl diwrnod yn uwchgynhadledd NATO, cwta filltir i ffwrdd yng Nghadeirlan Llandaf, roedd ei gydwladwraig, yr Esgob Geralyn Wolf, cyn-Esgob Rhode Island, yn gwneud hanes, trwy fod yr esgob Anglicanaidd benywaidd cyntaf i arwain gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf (4 Medi). Roedd y gwasanaeth cyhoeddus yn rhan o ddigwyddiad o’r enw ‘Croesi’r Trothwy’, a gynhaliwyd i ddathlu’r ddeddfwriaeth newydd sydd ar gychwyn yng Nghymru sy’n caniatáu ordeinio merched yn esgobion.

Daeth esgob arall o’r Unol Daleithiau i ymuno â hi – yr Esgob Gayle Harris, Esgob Cynorthwyol Massachusetts, a wnaeth hanes ddydd Sul trwy fod yr esgob Anglicanaidd benywaidd cyntaf i lywyddu mewn gwasanaeth yng Nghymru gyfan pan ymwelodd â chadeirlan Llanelwy. Mae’r ddeddfwriaeth i ordeinio merched yn esgobion yng Nghymru’n dod i rym ar 12 Medi, flwyddyn union ar ôl ei phasio gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

Datganiad i’r Wasg

Yr Esgob Geralyn

 Wolf yn siarad yng 

Nghynhadledd ‘C

roesi’r Trothwy’ 

 y Parchedig Brebend Jane Tillier yn siarad yng Nghynhadledd ‘Croesi’r Trothwy’ 

Parti’r Seintwar, gwasanaeth dathlu Cadeirlan Llandaf 

Sesiwn y panel yn y Gynhadledd. Chwith i’r dde: 

Yr Esgob Gayle Harris, y Farwnes Eluned Morgan, 

y Dr Gill Todd,  y Parchedig Mary Stallard 

(Cadeirydd),  y Parchedig Ddr Jennie Hurd, 

yr Esgob Geralyn Wolf, y Parchedig Brebend Jane Tillier  

Y cwestiwn sy’n parhau o hyd ar ôl y diwrnod hynod ysbrydoledig hwnnw i bawb a oedd yno yw ...

pryd y gwelwn ni ein hesgob benywaidd cyntaf yng Nghymru?

Gwasanaeth dathlu Cadeirlan Llandaf, 4 Medi 2014. Y Gwir Barchedig Geralyn Wolf yn llywyddu, y Canon Jennifer Mole yw’r diacon 

Page 14: Croesi Trothwyau CR ESI Dr THWYAU Ocinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing... · lynn chambers; mary cecilia charles; annette marie church; sybil coleman; susan

(Ch) Llun papur newydd o’r Ddiacones Joanna Legg (yn ddiweddarach, y Parchedig Ganon Jo Penberthy). (L) Deaconess Joanna Legg (later Revd Canon Jo Penberthy) press cutting 

(Ch)  Y Parchedig Jenny Wigley ar ôl ei hordeinio’n offeiriad yng Nghadeirlan Tyddewi, 1997 

(L) Revd Jenny Wigley after ordination as a priest at St David's Cathedral, 1997 

(Uchod) Degfed pen‐blwydd ordeinio merched yn offeiriaid am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Tyddewi, 2007. 

(Above) 10th anniversary of the first ordination of women priests,  St David’s Cathedral, 2007 

Cydnabyddiaeth Mae Grŵp Deiniol Sant yn cydnabod yn ddiolchgar yr anogaeth a’r cymorth a gafwyd gan y canlynol: 

Ymddiriedolaeth Isla Johnston  am y grant i alluogi cyhoeddi’r llyfryn hwn 

Y Parchedig Chwaer Teresa White CSA  am wybodaeth werthfawr ar hanes diaconesau cynnar 

Y Parchedig Jonathan Durley am wybodaeth am chwiorydd Byddin yr Eglwys 

Mr David Lambert a Mrs Harriet Morgan am gymorth archifol 

Cathy Grove am sgiliau golygyddol proffesiynol a hir amynedd 

Staff Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru  yn enwedig Ritchie Craven am ddylunio a chynhyrchu’r llyfryn 

  

ISBN 978‐0‐85326‐070‐7 

Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan Gyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru Cyfieithwyd gan Testun Cyf, www.testun.co.uk  Hawlfraint 2014: Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 

(Dde) Yr Esgob Gayle Harris (Esgob Cynorthwyol, Massachusetts), yr esgob benywaidd cyntaf i lywyddu a phregethu mewn Cadeirlan yng Nghymru, Llanelwy, 31 Awst 2014 

(R) Bishop Gayle Harris (Suffragan Bishop, Massachusetts) becomes the first woman bishop to preside and preach in a Welsh Cathedral, St Asaph, 31st August 2014 

(Ch) Yr Esgob Gayle Harris (Esgob Cynorthwyol, Massachusetts) yng Nghapel Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, Awst 2014 

(L) Bishop Gayle Harris (Suffragan Bishop, Massachusetts) in the Chapel at Gladstone's Library, Hawarden, August 2014 

(Ch) Siambr Atsain Cadeirlan Gwynllyw, Casnewydd, lle canwyd y Chwarter Caniad i ddathlu derbyn merched yn esgobion 

(L) Ringing Chamber of St Woolos Cathedral, Newport, where Quarter‐Peal was rung to celebrate the opening of the Episcopate to women