cdg 2007-2013: adfyw o cymunedol gwledig

26
Sir Gaerfyrddin Wledig

Upload: rdpsirgar

Post on 06-Apr-2016

225 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Sir Gaerfyrddin Wledig

Page 2: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Rhagair “Roedd Cynllun Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer 2007-2013yn rhan o strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’rUndeb Ewropeaidd. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael eigyllido drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer DatblyguGwledig a’r Rhaglen Gydgyfeirio, a’r Cynllun hwn yw prif ddullLlywodraeth Cymru o gynorthwyo cymunedau gwledig yngnghefn gwlad Cymru. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys mesurau ireoli’r amgylchedd a’r sector amaethyddol mewn modd sy’n fwycynaliadwy.

Ers 2008 mae Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru (sy’n rhano Gyngor Sir Caerfyrddin) wedi llwyddo i gael mwy nag £20miliwn er mwyn helpu i adfywio’r Sir Gaerfyrddin Wledig, acmae wedi datblygu cynlluniau cymorth a grantiau megisCynhwysiad Cymunedau Gwledig a Chymunedau Arloesol argyfer unigolion, ffermwyr, busnesau a grwpiau cymuned.

Mae rhaglen y Cynllun Datblygu Gwledig wedi cael effaithgadarnhaol ar gymunedau Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiectauwedi bod yn flaengar ac yn amrywiol a byddan nhw’n creuswyddi y mae gwir angen amdanyn nhw yn yr ardaloedd gwledig.

Ers dechrau’r rhaglen rwy’ wedi gweld ymrwymiad ac angerddgan unigolion, grwpiau cymuned, a swyddogion adfywiocymunedol, wrth iddyn nhw helpu eu cymunedau i fod yn fwycynaliadwy.

Mae’r bartneriaeth waith agos rhwng Cymunedau Gwledig aChyngor Sir Caerfyrddin yn hanfodol i dwf yr economi ac iddarparu gwasanaethau sylfaenol megis gofal plant, TGCh, amentrau trafnidiaeth.

Page 3: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Mae’r rhaglen ar gyfer 2007-2013 yn dirwyn i ben ym misRhagfyr 2014. Gan hynny hoffwn ddiolch i bawb sydd wedicyfrannu ati ac rwy’n edrych ymlaen at ddal ati â’r cynorthwyoa’r cydweithio, gan ragweld y bydd yr agweddau hynny’n cael eudatblygu ymhellach yn y rhaglen ar gyfer 2014-2020”, MerylGravell, Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio aHamdden, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Sylwadau ar themâu“Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer 2007-2013 wedi cyllido ystod eang o brosiectau gan roi pwyslaispenodol ar Ofal Plant, Trafnidiaeth, Bywyd Cymunedol,TGCh, ac Iechyd a Lles. Mae’r cyfle i helpu grwpiaugwirfoddol a sefydliadau cymunedol i ddarparu a chynnalgwasanaethau allweddol yn y Sir Gaerfyrddin Wledig wedigalluogi ein cymunedau i amlygu eu hymrwymiad, euhangerdd, a’u cyfraniad o ran cynnal cynaliadwyeddcymunedol.

Nod y rhaglen gyfredol oedd datblygu meysydd allweddolgan gynnwys twf economaidd, cydweithio, treialu syniadaunewydd a chynaliadwyedd amgylcheddol ledled y SirGaerfyrddin Wledig.

Nid yw llwyddiant cyffredinol y rhaglen wedi cael eigloriannu’n llawn eto ond does dim dwywaith nad yw wedicael effaith gadarnhaol ar lawer o’r prif heriau y mae einCymunedau Gwledig yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn euhwynebu er mwyn cynnal eu bywiogrwydd a’ucynaliadwyedd”, John Wilson, Rheolwr Adfywio Cymunedol,Cyngor Sir Caerfyrddin

Page 4: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Diogelu swyddiCreu

swyddi

Nifer

y prosiec

tau a gynor

thwywyd yn arian

nol = 60

Rhaglenni Cymunedol

Echel 3 – Cynhwysiad Cymunedau Gwledig Nod y prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledig yw mynd i’rafael â materion mynediad ac eithrio cymdeithasol yng nghefngwlad Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiect yn cynnwys pecyn cymortha gynlluniwyd i helpu rhagor o gyfleusterau a gwasanaethausylfaenol i fod ar gael ac yn haws eu cael mewn ardaloeddgwledig. Mae’r prosiect wedi gwneud hynny drwy:-

• Datblygu gwell cysylltiadau â’r ardaloedd lle mae mwy oboblogaeth drwy wella’r cysylltiadau band eang a thrafnidiaethgymunedol a thrwy ddatblygu dulliau o ddarparugwasanaethau o bell

• Datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau ganddefnyddio technolegau newydd

• Gwella’r lleoliadau cymunedol presennol er mwyn galludarparu gwasanaethau ychwanegol mewn ardaloedd diarffordd

• Mynd i’r afael ag eithrio ariannol drwy ddarparu gwybodaeth agwasanaethau ariannol h.y. gwella mynediad i wasanaethcynghori ynghylch dyledion a budd-daliadau

Datblygu 27gwasanaeth achynnyrch newydd

Page 5: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Nifer

y prosiec

tau a gynor

thwywyd yn arian

nol = 24

Echel 4 - Cymunedau Arloesol Nod y prosiect Cymunedau Arloesol oedd cynorthwyocymunedau yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin i arwain o ransyniadau arloesol a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn eu bro oran mynediad at wasanaethau. Nod Cymunedau Arloesol oeddbod yn gwbl rydd o ran meddwl am syniadau a threialu’rsyniadau newydd hynny a allai wella bywyd y gymuned. Mae’rrhain wedi cynnwys :-

• Rhoi cynlluniau prawf ar waith e.e. mentrau trafnidiaethgymunedol, mentrau iechyd gwledig, gofal plant arloesol

• Meithrin galluoedd/Hyfforddiant sgiliau• Gwaith adnewyddu hanfodol i adeiladau cymunedol sy’n rhanannatod o’r prosiect

• Astudiaethau Dichonoldeb

Datblygu 8gwasanaeth achynnyrch newydd

Creu swyddi

Page 6: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Clwb Hwyl a Sbri Bancyfelin Clwb gwyliau i blant rhwng 4 a 14 oed yw ClwbHwyl a Sbri Bancyfelin. Y nodau a’r amcanion ywdarparu gwasanaeth gofal plant fforddiadwy adibynadwy o safon yn ystod y gwyliau ysgol.

Hefyd mae’r cyfleuster wedi’i sefydlu i ddiwalluanghenion amrywiol y gymuned, i gynnig cyfle irieni weithio’n amser llawn, ac i leihau’r peryglony mae plant yn eu hwynebu os na chânt ofal digonol.

Mae’r clwb yn cael ei gynnal yn amgylchedd diogel a gofalgarYsgol Bancyfelin ac mae’n cynnwys y gweithgareddau canlynolsydd wedi’u teilwra’n unol ag amgylchedd cynhwysol: coginio,gemau cyfrifiadur, celf a chrefft, gweithgareddau awyr agored atheithiau. Mae’r clwb yn cynnig amrywiaeth o wobrau aphrofiadau cynlluniedig, fel bod y plant yn dysgu, yn chwarae, yncyflawni ac yn cael hwyl.

Cyllidwyd y costau cychwynnol gan y prosiect CynhwysiadCymunedau Gwledig, ac roedd y pwyslais ar offer chwarae awyragored. Cafodd y cyllid ei ddefnyddio i gael offer chwaraesefydlog a symudol, sy’n golygu y gellir cynnal y gweithgareddauo dan do os nad yw’r tywydd yn ffafriol.

Gofal PlantThem

au

Page 7: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Cylch Meithrin LlansawelMae Cylch Meithrin Llansawel wedi bod yn darparu gwasanaethi’r gymuned leol ers 40 o flynyddoedd, a daw plant yno o’rdalgylchoedd ysgol cyfagos. Mae’r Cylch Meithrin yn hybuaddysg a datblygiad plant rhwng 2 a 4 oed drwy gyfrwng yGymraeg. Mae’r Cylch wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofala Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gael hyd at 20 o blant acmae’n agored 4 bore’r wythnos yn ystod y tymor ysgol.

Cafodd y Cylch Meithrin gyllid gan y rhaglen CynhwysiadCymunedau Gwledig er mwyn gwella’r ddarpariaeth bresennoldrwy greu llecyn chwarae awyr agored, sy’n fan diogel achreadigol i’r plant chwarae ynddo, gan fodloni eu hangheniondatblygiadol yn ogystal. Hefyd roedd y cyllid wedi galluogi’r grwp i lunio deunydd marchnata ac arwyddion i hyrwyddo’rcyfleuster i ddarpar rieni yn yr ardal.

Mae cael lle chwarae awyr agored sydd â chyfleusterau gwell wedihelpu i ddenu rhieni newydd i gefnogi’r Cylch Meithrin, gan eifod wedi ychwanegu at yr hyn sydd gan ycyfleuster i’w gynnig yn gyffredinol felamgylchedd diogel i ddysgu ac i chwaraeynddo. Mae’r arwyddion a’r deunyddmarchnata wedi dwyn y cyfleuster i sylwcynulleidfa ehangach ac mae’r prosiectyn ei gyfanrwydd wedi rhoi hwb mawri’r cyfleuster presennol.

Gofal P

lant

Page 8: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Gofal Plant

Astudiaeth achos: Clwb Hwyl Pen-boyrCafodd Clwb Hwyl Pen-boyr ei sefydlu gan fod galw penodolamdano yn ardal Dre-fach Felindre. Clwb ar ôl Ysgol yw hwn iblant rhwng 4 ac 11 oed. Dangosodd yr ymchwil a wnaed nadoedd darpariaeth ar ôl ysgol gerllaw, gan fod y clybiau ar ôl ysgolagosaf sawl milltir i ffwrdd. Hefyd roedd yr ymchwil yn dangosbod cefnogaeth gref gan y gymuned leol i greu clwb ar ôl ysgol.

Er mwyn ei sefydlu, roedd angen i Glwb Hwyl Pen-boyr ddod ohyd i gyllid er mwyn cyflogi dau o staff. Bu’r clwb ynllwyddiannus yn ei gais i’r prosiect Cynhwysiad CymunedauGwledig am gyllid, a thrwy hynny roedd modd iddo gyllido’nrhannol gyflogau Uwch-weithiwr Cynllun Chwarae a GweithiwrCynllun Chwarae Cynorthwyol am 12 mis.

Mae’r cymorth y mae Clwb Hwyl Pen-boyr wedi ei gael yngolygu ei fod yn gallu darparu gofal plant dibynadwy afforddiadwy o safon i blant yr ardal leol. Mae’r clwb ar ôl ysgolyn cael ei gynnal yn Ysgol Pen-boyr ar ddydd Llun, dyddMawrth a dydd Mercher yn ystod y tymor ysgol ac mae’n agoredi holl blant ardal Dre-fach Felindre, gan gynnwys rhai nad ydyntyn mynychu Ysgol Pen-boyr o ddydd i dydd.

Page 9: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Dolen TeifiCafodd Dolen Teifi ei sefydlu er mwyn diwallu angheniontrafnidiaeth pobl Llandysul a Phont-tyweli, ac mae’r gwasanaethtrafnidiaeth gymunedol hwn wedi bod ar waith yn yr ardal ers2007. Mae Dolen Teifi, sy’n wasanaeth a arweinir ganwirfoddolwyr, yn fodd i bobl nad oes mynediad ganddynt idrafnidiaeth gyhoeddus oresgyn eu hanawsterau o rantrafnidiaeth.

Gan wybod bod diffyg trafnidiaeth gymunedol yn ardal ehangachDyffryn Teifi, roedd Dolen Teifi yn awyddus i ymestyn ygwasanaeth i grwpiau cymunedol y tu hwnt i’r ardal yr oedd yngweithredu ynddi ar y pryd. Drwy ymgynghori â grwpiau o’rfath, cafwyd cadarnhad bod diddordeb mawr ganddynt mewndefnyddio bws cymunedol fel dull trafnidiaeth a’u bod yngefnogol iawn o’r syniad.

Gwnaeth Dolen Teifi gais i’r prosiect Cynhwysiad CymunedauGwledig am gymorth i helaethu’r gwasanaeth bws cymunedol.Rhoddwyd cyllid i’r gwasanaeth er mwyn cynyddu oriau gwaith ycydgysylltydd o 20 awr yr wythnos i 30 awr yr wythnos, ynghyd âthalu am ddeunydd hyrwyddo ac arddangos i dynnu sylw at ygwasanaeth bws cymunedol estynedig.

Yn ogystal â diogelu a chynyddu oriau gwaithswydd y cydgysylltydd, drwy’r cymorth mae’rgwasanaeth wedi ei gael mae Dolen Teifi wedigallu cynyddu ymwybyddiaeth o’r bwscymunedol ymhlith grwpiau cymuned hen anewydd yn ardal ehangach Dyffryn Teifi. Hefydmae’r gwasanaeth wedi gallu cael ei ymestynbellach i ardaloedd eraill gan gynnwysLlanybydder, Llanllwni a Phencader.

TrafnidiaethThem

au

Page 10: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Trafn

idiaeth

Astudiaeth achos: CanolfanGanwio Padlwyr LlandysulCwmni dielw a sefydlwyd yn 1998 ywCanolfan Ganwio Padlwyr Llandysul,sy’n ceisio annog a helpu pobl, ynenwedig pobl ifanc, i hybu eu hiechyd,eu lles a’u haddysg, i ddatblygu euhunanddibyniaeth a’u hannibyniaeth, aci ddysgu mwy am gefn gwlad, eifwynhau’n fwy ac i fod yn fwy gofalgarohono.

Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r Ganolfan i gymryd rhan mewngweithgareddau wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ac yn sgilhynny mae’r angen a’r galw am drafnidiaeth i gludo cyfranogwyra staff i weithgareddau wedi cynyddu’n ogystal. Gan fod angenbws mini newydd er mwyn cludo grwpiau o bobl, yn enwedigpobl ifanc heb eu dull trafnidiaeth eu hunain, i weithgareddau’rGanolfan, cyflwynwyd cais llwyddiannus gan Ganolfan GanwioPadlwyr Llandysul i’r prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledigam gyllid tuag at brynu cerbyd newydd.

Mae’r bws mini pwrpasol 17 sedd a brynwyd gan y Ganolfanwedi ei galluogi i ddal ati i ddarparu trafnidiaeth i’r rhai sy’ndefnyddio ei chyfleusterau ar hyn o bryd, yn ogystal â thargedudefnyddwyr newydd nad ydynt wedi gallu cael mynediad i’wchyfleusterau yn y gorffennol o achos diffyg trafnidiaeth. Hefydmae’r Ganolfan wedi gallu trefnu rhagor o weithgareddau felrhan o’i chlwb gwyliau, yn ogystal ag ymgysylltu â rhagor oysgolion i’w hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôlysgol. Mae hyn oll wedi helpu i ddiogelu swyddi staff y Ganolfan.

Page 11: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Neuadd GymunedolLlanddeusant Saif Neuadd Gymunedol Llanddeusant ym mhlwyf Llanddeusant- un o gymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin yn ardal y MynyddDu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn dilyn caunifer o gyfleusterau cymunedol eraill, y neuadd yw’r unig fancyfarfod yn y cyffiniau bellach. Mae’r neuadd yn ganolbwynt ilawer o fentrau gwirfoddol yn yr ardal ac mae’n cael cefnogaethdda gan y gymuned leol. Mae sawl teulu newydd wedi symud i’rplwyf ac mae gweithgareddau’r neuadd wedi bod yn allweddol oran dod â’r hen aelodau a’r rhai newydd at ei gilydd.

Cafodd y Neuadd gyllid drwy’r prosiect Cynhwysiad CymunedauGwledig ar gyfer diweddaru ei chyfleusterau er mwyn cynyddu eiphotensial o ran denu defnyddwyr newydd a sicrhau bod dyfodoliddi yn y tymor hir. Penderfynwyd bod angen gwneudgwelliannau ar ôl ymgynghori â defnyddwyr y neuadd a phobl ygymuned. Gosodwyd cegin newydd a phrynwyd byrddau achadeiriau newydd.

Mae’r gwelliannau ffisegol wedi helpu i wella rhaglen gyfredol yneuadd ac wedi creu rhagor o incwm er mwyn helpu’r neuadd ifod yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae digwyddiadau cymunedolwedi cael eu hadfywio ac mae’r nifer sy’ndefnyddio’r neuadd yn rheolaidd wedicynyddu yn sgil gweithgareddaunewydd megisdosbarthiadaucoginio.

Bywyd Cymunedol

Them

au

Page 12: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Bywyd C

ymuned

olAstudiaeth achos:Canolfan Deulu LlanybydderMae Canolfan Deulu Llanybydder yncynnig gwasanaeth am ddim i deuluoeddlleol sydd â phlant cyn ysgol neu sy’ngofalu am blant cyn ysgol. Mae’rGanolfan yn darparu amrywiaeth oweithgareddau, gwasanaethau, a gwybodaethgyda golwg ar wella ansawdd bywyd teuluoedd ynLlanybydder a’r cyffiniau.

Un o’r swyddi allweddol yn y ganolfan yw’r GweithiwrAllgymorth, a gyflogir i weithio gyda theuluoedd ynysig acagored i niwed yn ardal Llanybydder y mae perygl na fyddant yncael mynediad i’r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Deulu.Ymhlith dyletswyddau’r Gweithiwr Cymorth y mae annog ahelpu teuluoedd i ddefnyddio gwasanaethau’r ganolfan, gangynnwys, lle bo’r angen, drefnu trafnidiaeth i’r ganolfan ac oddiyno a rhoi cymorth mentora i sicrhau y clustnodir anghenionpenodol ac yr ymatebir iddynt.

Cafodd Canolfan Deulu Llanybydder gyllid gan y prosiectCynhwysiad Cymunedau Gwledig i helpu i dalu cyflog yGweithiwr Allgymorth am y flwyddyn. Mae’r cymorth hwn wedigalluogi’r ganolfan i glustnodi achysylltu â theuluoedd ynysig sy’nanodd eu cyrraedd yn Llanybydder a’rardaloedd gwledig cyfagos, ynghyd âsicrhau bod gan y teuluoedd hynnyfynediad i’r ystod o wasanaethaucymunedol sydd ar gael iddynt.

Page 13: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Neuadd Cawdor Mae Neuadd Cawdor, yng nghanolCastellnewydd Emlyn, yn ganolbwynt i’r dref.Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn syddberchen y neuadd ac yn ei rheoli, a than ynddiweddar câi ei defnyddio i gynnalcyfarfodydd a gweithgareddau’r Cyngor, acmae Siambr y Cyngor ar y llawr cyntaf. Yn yblynyddoedd diwethaf mae’r neuadd wedi bod yn gartref igwmni theatr lleol ac i gymdeithas hanes, ac mae tair uned fusnesar gael i’w llogi yno.

Yn 2010 cafodd ymgynghoriad eang ei gynnal yn y dref ynghylchcynlluniau i wneud gwaith adnewyddu sylweddol i NeuaddCawdor. Roedd yr ymgynghoriad yn gyfrwng i’r gymuned leolfwrw golwg ar y cynlluniau a rhoi sylwadau arnynt.Ymgynghorwyd â darpar bartneriaid i sicrhau bod y prosiect ynfodd i gynyddu a gwella’r gweithgareddau a ddigwyddai yn ydref ar y pryd.

Bu Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn yn llwyddiannus yn ei gaisi brosiectau Cymunedau Arloesol a Chynhwysiad CymunedauGwledig. Roedd y grant gan Gymunedau Arloesol yn rhan oymagwedd arian cyfatebol i ddod o hyd i wahanol ffynonellaucyllid, er mwyn galluogi gwaith adeiladu ac adnewyddu (gwaithcyfalaf) yn Neuadd Cawdor. Cafodd y cyllid refeniw a gafwyddrwy’r prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledig ei ddefnyddio igreu swydd swyddog rhan-amser i reoli a datblygu’r prosiectadnewyddu.

Prif rôl y swyddog oedd rheoli’r broses o adfer NeuaddCawdor i’w hen ogoniant, ac roedd hynny’n cynnwysrheoli’r gwaith adnewyddu. Roedd adfer ycanopi Fictoraidd a chreu canolfan ddehongliyn rhan o’r gwaith hwnnw. Ymhlithdyletswyddau eraill y swydd oedd gweithredurhaglen o weithgareddau eang i hyrwyddotreftadaeth a diwylliant lleol CastellnewyddEmlyn er mwyn gofalu bod Neuadd Cawdoryn rhan ganolog o’r gymuned leol.

Bywyd C

ymuned

ol

Page 14: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth Achos: Rheilffordd GwiliRheilffordd stêm lydan ym Mronwydd (gerCaerfyrddin) yn Ne Cymru yw RheilfforddAger Gwili sef darn byr o’r hen reilfforddrhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Caewydy rheilffordd honno i deithwyr yn 1965 achodwyd y trac yn 1975. Yn ogystal âchynnig taith ar Drên Stêm, mae’r rheilffordd yncynnig profiad Gwledda, Cinio Dydd Sul, Te Hufen Prynhawnunigryw, a rheilffordd fechan a digwyddiadau tymhorol.

Mae swydd y Swyddog Marchnata a Datblygu, a gyllidwyddrwy’r prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledig, yn hanfodol isicrhau bod dyfodol gan yr atyniad unigryw hwn. Maedyletswyddau’r swydd yn cynnwys datblygu a marchnata’rdigwyddiadau amrywiol roedd y Rheilffordd yn eu cynnal,ynghyd â denu rhagor o ymwelwyr i ddod i fwynhau profiadRheilffordd Gwili.

Ers i’r Swyddog Marchnata fod yn ei swydd, mae niferoedd yteithwyr a’r ymwelwyr wedi cynyddu ers y llynedd, gan arwain atgynnydd yn yr arian a gymerir yn fisol. Bydd y cynnydd hwnmewn incwm yn cael ei fuddsoddi’n ôl yn y cwmni, er mwynmarchnata a datblygu rhagor o ddigwyddiadau agweithgareddau, a fydd yn galluogi’r sefydliad i fod yn fwycynaliadwy.

Bywyd C

ymuned

ol

Page 15: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Age CymruSir GârMae Age Cymru Sir Gâr yn cynnig ystodo wasanaethau i bobl 50+, gan helpu poblhyn ar draws Sir Gaerfyrddin i deimlo eu bod ynrhan o’u cymuned a bod ganddynt y grym a’r gallu i wneudy dewisiadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Ar ôl cynnal prosiect prawf llwyddiannus yng Nghaerfyrddin sefmenter cyfrifiaduron digidol i ddatblygu sgiliau TG hanfodolymysg pobl hyn, roedd Age Cymru Sir Gâr yn awyddus iehangu’r prosiect. Cafodd Castellnewydd Emlyn ei glustnodi’nardal lle roedd camau breision wedi cael eu cymryd yn ystod yflwyddyn a hanner diwethaf o ran mynediad band eang i’rrhyngrwyd, ac roedd arolwg o bobl leol yn dangos bod cyfranuchel o bobl hyn am ddysgu sut oedd cyrchu a defnyddio’rrhyngrwyd.

Gwnaed cais llwyddiannus gan Age Cymru Sir Gâr i’r prosiectCynhwysiad Cymunedau Gwledig am gyllid i ddatblygugwasanaeth galw heibio digidol yng Nghastellnewydd Emlyn.Defnyddiwyd y cyllid hwn i ariannu ac i ddiogelu swydd aelod ostaff er mwyn cydgysylltu, hyrwyddo a gweithredu’r gwasanaetham flwyddyn.

Mae’r sesiynau galw heibio, a gynhaliwyd ddwywaith yr wythnosmewn canolfan ddydd leol i gyd-fynd â chlwb cinio i bobl hyn,wedi galluogi pobl h�n o Gastellnewydd Emlyn i ddysgu’r pethausylfaenol o ran sut mae defnyddio cyfrifiadur, sut maedefnyddio’r rhyngrwyd a sut mae defnyddiodulliau cyfathrebu electronig megis e-bost aSkype.

TGCHThem

au

Page 16: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Dr M’z Canolfan galw heibio i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yw Dr M’z,sy’n cael ei gynnal gan Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin. Ers eiffurfio yn 1997 mae Dr M’z wedi datblygu drwy ychwanegu at eiwasanaethau, yn enwedig ym meysydd eiriolaeth, addysg awyragored, iechyd a lles, a chyfleoedd gwirfoddoli drwy’r prosiect‘Growing Green Teens’.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, yprif amcanion yw clustnodi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg,cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r ganolfan yn darparu cymorthychwanegol drwy sesiynau galw heibio a gweithdai, ac ar hyn obryd mae wrthi’n cynyddu ei gweithgareddau cyn-ymgysylltu.

Rhoddodd y prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledig gyllid iDr M’z brynu offer TG a rhwydwaith newydd. Bydd y cymorthyn helpu’r ganolfan i wella’r gwasanaeth TGCh presennol, yngalluogi pobl ifanc dan anfantais i barhau i wella eu sgiliau, ac yneu helpu i drosglwyddo o’r ysgol i hyfforddiant neu waith.

TGCH

Page 17: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Neuadd Les CarweMae Neuadd Carwe yn elusen gofrestredig a’i phrif nod ywparhau i wella ei chyfleusterau a’i gwasanaethau er mwyn diwalluanghenion y bobl leol.

Yn ogystal â’r brif neuadd sydd â lle i 130 o bobl i eistedd, maeyno ystafell gerddoriaeth sy’n cael ei defnyddio hefyd fel ystafellgyfarfod, cegin â chyfleusterau llawn, ac ystafellgyfrifiaduron/TG.

Mae’r neuadd yn gweithio gydaChanolfan Byd Gwaith a chynhelir clwbswyddi yno, sy’n arbed pobl rhag gorfodteithio i drefi cyfagos Llanelli aChaerfyrddin.

Mae’r prosiect Cymunedau Arloesolwedi rhoi cyllid i’r neuadd brynucyfrifiaduron ac argraffydd a fydd yngalluogi’r defnyddwyr i chwilio amswyddi, llunio CV a chwblhau unrhywgeisiadau am fudd-dal ar-lein. Yn ydyfodol gellir defnyddio’r cyfleusterhwn er mwyn i unigolion wneudcynnydd â’u hawliad credyd cynhwysol.

TGCH

Page 18: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Iechyda Lles

Astudiaeth achos: Pwyllgor Lles Meidrim Cafodd Pwyllgor Lles Meidrim gyllid drwy’r prosiectCynhwysiad Cymunedau Gwledig i greu llecynchwarae ym mhentref Meidrim. Hefyd mae’r grwpwedi elwa ar gymorth wrth Gyngor Sir Caerfyrddin,gan fod y Cyngor wedi cael arian o gronfeydd buddcymunedol sydd â chysylltiad â datblygu lleol ac agrëwyd yn benodol er budd cymunedau.

Cafodd offer newydd ei osod yn y parc gangynnwys gwifren gwibio, siglenni, cylchfannau,ac offer aml-chwarae sy’n addas i ystod eang ooedrannau, boed yn blant bach neu’n blant yneu harddegau. Plant ysgol lleol yn bennaf addewisodd yr offer, a hynny yn ystod digwyddiadymgynghori cymunedol a thrwy weithgareddau ynyr ysgol. Hefyd bu gwirfoddolwyr wrthi’n ddiflinoyn paentio ac yn adnewyddu ffensys, yr offerchwarae presennol, meinciau a chysgodfan.

Mae’r lle chwarae’n rhan o drawsnewidiad rhyfeddolyn y gymuned, gan fod y cyfleuster yn cael effaithgadarnhaol ar iechyd plant (yn gorffol ac yn feddyliol) ac yngolygu y gall y plant wynebu risgiau datblygiadol buddiol.

Them

au

Page 19: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: Old Mill FoundationElusen sy’n darparu cymorth corfforol ac emosiynol i bobl sy’nbyw â chanser yw’r ‘Old Mill Foundation’. Mae’r elusen wedi’illeoli ym Mhenclawdd, Abertawe ac mae’n denu defnyddwyrgwasanaeth o’r siroedd cyfagos. Gan nad oedd darpariaeth debygyn Sir Gaerfyrddin, daeth yn weledigaeth gan yr elusen iddatblygu a darparu gwasanaeth allgymorth i bobl yn yr ardalwledig.

Golygai cyllid o’r prosiect Cynhwysiad Cymunedau Gwledig fodyr elusen wedi gallu datblygu rhaglen allgymorth yn SirGaerfyrddin drwy gyflogi swyddog rhan-amser i sefydlu’rgwasanaeth yn Neuadd Goffa Gyhoeddus Llandybïe. Roedddyletswyddau’r swyddog yn cynnwys recriwtio gwirfoddolwyr,datblygu deunyddiau cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth, a gweithiogyda phartneriaid lleol i glustnodi defnyddwyr gwasanaeth. Maetherapyddion gwirfoddol wedi datblygu sesiynau cyfannol megisadweitheg, aromatherapi, reiki a chyngor ynghylch maeth, ynogystal â darparu sesiynau cwnsela i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae’r gwaith sydd wedi cael ei wneud drwy’r prosiect hwn wedicael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol a’r bobl syddwedi cael cymorth ar adeg anodd iawn yn eu bywydau.Gan edrych i’r dyfodol, mae’r elusen ‘TogetherAgainst Cancer’ wedi ymrwymo i ddal ati igyllido’r swyddog, a fydd yn galluogi’rgwasanaeth yn Llandybïe i barhauwrth i’r ‘Old Mill Foundation’ geisiodatblygu gwasanaethau allgymortheraill mewn ardaloedd newydd.

Iechyd a L

les

Page 20: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Astudiaeth achos: LlansteffanElusen gofrestredig yw Cymdeithas Chwaraeon Llansteffan Cyf.a’i nod yw darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden er mwynannog y gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddauhamdden a gweithgareddau iach eraill er budd trigolionLlansteffan a’r cyffiniau yn Sir Gaerfyrddin.

Fel rhan o’i hamcanion, ffurfiodd y Gymdeithas Chwaraeonbartneriaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ermwyn gweithredu prosiect prawf tri mis sef ‘Menter IechydWledig’.

Cafwyd arian gan Gymunedau Arloesol i gael 5 darn o offercampfa yn ogystal â chael myfyrwyr gradd â chymwysterauArholwr Campfa Lefel 2 o’r Brifysgol i weithio gydag aelodau’rgymuned oedd am ddefnyddio’r cyfleuster.Bu’r myfyrwyr yn dangos sut oedddefnyddio’r offer yn ogystal â rhoicyngor am iechyd a maeth.

Mae tua 80 o aelodaugweithredol gan y gampfabellach ers dechrau’rprosiect.

Iech

yd a Lles

Page 21: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Iechyd a L

les

Astudiaeth achos: Dyled a Budd-daliadau Mae’r gwasanaeth Dyled a Budd-daliadau wedi bod yn darparucymorth allgymorth yn yr ardaloedd canlynol: - Hendy-gwyn arDaf / Sanclêr, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Llanymddyfri/ Llandeilo a Chaerfyrddin.

Hyd yn hyn mae’r gwasanaeth wedi helpu 161 o bobl yn y SirGaerfyrddin wledig i gael cymorth ac wedi ymdrin â dylediongwerth £390,791.69. Mae natur y cymorth a roddwyd wedicynnwys gwirio’r hyn y mae gan rywun hawl ei gael, apeliadaubudd-daliadau domestig, cyllidebu a rheoli dyledion.

Yn ystod y 18 mis diwethaf mae nifer o newidiadau sylfaenolwedi cael eu gwneud i’r system budd-daliadau lles o ganlyniad i’rDdeddf Diwygio Lles, ac mae rhagor ar y gweill. Mae nifer osesiynau grwp wedi cael eu cynnal gyda sefydliadau megis PlantDewi er mwyn rhoi cyngor i’w defnyddwyr gwasanaeth a’uparatoi ar gyfer trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

“Mae’r gwasanaeth a roddwyd wedi bod yn hynod fuddiol. Maegan lawer o’n defnyddwyr gwasanaeth broblemau cymhleth o randyledion o achos effaith cam-drin domestig, ac maen nhw wedielwa’n fawr ar gael cymorth gan arbenigwr penodedig. I’r ungraddau mae newidiadau diweddar i’r system fudd-daliadau wediei gwneud yn anoddach i ddefnyddwyr gwasanaeth hawlio, ondmae cymorth gan arbenigwr o’r fath yn golygu y gellir sicrhaubod plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn cael cymaint oincwm â phosibl.” Gwasanaethau Cam-drin DomestigCaerfyrddin

Page 22: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Gofal Plant Cynllun Datblygu Gwledig Echel 3 Mynediad i WasanaethauClwb Ar Ôl Ysgol Aber-nant Hendy-gwyn/Sanclêr £15,826.56

Clwb Hwyl a Sbri Bancyfelin Hendy-gwyn/Sanclêr £4,747.70

Cylch Meithrin Cwrt-henri Llandeilo/Llanymddyfri £4,355.47

Clwb C�l Llanybydder Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £7,401.96

Cylch Meithrin Llanybydder Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £6,108.80

Cylch Meithrin Llansawel Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £2,726.12

Clwb Hwyl Hafodwenog Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £8,692.80

Clwb Hwyl Pen-boyr Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £6,552.00

Clwb Ar Ôl Ysgol Llanpumsaint Caerfyrddin £5,625.00

Cylch Meithrin Dre-fach Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £4000.00

Cynllun Datblygu Gwledig Echel 4 Mynediad i Wasanaethau trwy ArloeseddMeithrinfa Coleg Llanymddyfri Llandeilo/Llanymddyfri £25,000.00

TrafnidiaethCynllun Datblygu Gwledig Echel 3 Mynediad i WasanaethauDolen Teifi Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £9,928.00

Clwb Canwio Llandysul Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £17,434.96

Cynllun Datblygu Gwledig Echel 4 Mynediad i Wasanaethau trwy ArloeseddAstudiaeth Ddichonoldeb - RheilfforddDyffryn Teifi

Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £11,411.37

Page 23: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Bywyd Cymunedol

Cynllun Datblygu Gwledig Echel 3 Mynediad i WasanaethauCymdeithas Gymunedol Eglwys Gymyn Hendy-gwyn/Sanclêr £5,383.18

Cydgysylltydd Prosiectau a DigwyddiadauSanclêr

Hendy-gwyn/Sanclêr £15,690.00

Llecyn Cymunedol Llanddowror Hendy-gwyn/Sanclêr £7,411.48

Adnewyddu Neuadd Llanboidy Hendy-gwyn/Sanclêr £19,998.17

Trywydd Y sir gyfan £20,000.00

Neuadd Llanddeusant Llandeilo/Llanymddyfri £17,119.88

Neuadd y Pentref, Llansawel Llandeilo/Llanymddyfri £3,284.28

YMCA Llanymddyfri Llandeilo/Llanymddyfri £19,477.42

The Level Crossing Llandeilo/Llanymddyfri £16,800.00

Neuadd y Pentref, Pontargothi Llandeilo/Llanymddyfri £10,093.60

Swyddog Llanymddyfri Llandeilo/Llanymddyfri £16,464.00

Yr Hen Ysgol, Llanybydder Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £20,000.00

Offer Cyfieithu Cymunedol Y sir gyfan £5,372.16

Canolfan Deulu Llanybydder Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £10,955.20

Neuadd yr Hen Ysgol, Llanfihangel-ar-arth Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £10,750.08

Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £19,999.20

Neuadd y Ddraig Goch Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £12,000.00

Y Ganolfan, Capel Iwan Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £18,156.00

Datblygu Neuadd Sant Llawddog Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £19,999.80

Canolfan Deulu Ty Hapus Caerfyrddin £19,788.00

Canolfan Deulu Ty Hapus (2) Caerfyrddin £12,491.20

Swyddog Bro y Clybiau Ffermwyr Ifanc Y sir gyfan £15,272.30

Swyddog Bro y Clybiau Ffermwyr Ifanc(Estyniad)

Y sir gyfan £4,715.94

Plant Dewi Caerfyrddin £16,025.60

Clwb Cychod Tywi Caerfyrddin £15,979.34

Adnewyddu Neuadd Llangynog Caerfyrddin £1,040.00

Neuadd y Plwyf, Llangyndeyrn Caerfyrddin £5,829.40

Swyddog Datblygu a Marchnata Rheilffordd Gwili

Caerfyrddin £20,000.00

Page 24: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Bywyd CymunedolCynllun Datblygu Gwledig Echel 4 Mynediad i Wasanaethau trwy ArloeseddLlecyn Cymunedol Llanddowror Hendy-gwyn/Sanclêr £24,628.75

Adnewyddu Neuadd Llanboidy Hendy-gwyn/Sanclêr £25,000.00

The Level Crossing Llandeilo/Llanymddyfri £23,800.54

Astudiaeth Ddichonoldeb - Canolfan Dreftadaeth

Llandeilo/Llanymddyfri £9,965.00

Yr Hen Ysgol, Llanybydder Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £25,000.00 Man Cyfarfod Canolbwynt BusnesLlanymddyfri

Llandeilo/Llanymddyfri £5,000.00

Astudiaeth Ddichonoldeb - PorthdyCaerfyrddin

Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £11,453.05

Astudiaeth Ddichonoldeb - CanolfanAddysg Breswyl Glanyfferi

Caerfyrddin £13,646.80

Feranda Ystafell De Parc Caerfyrddin Caerfyrddin £17,000.00Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre £25,000.00Astudiaeth Ddichonoldeb - Oriel Myrddin. Caerfyrddin £9,650.00

TGCHCynllun Datblygu Gwledig Echel 3 Mynediad i WasanaethauTai Cantref Y sir gyfan £18,525.72

Age Sir Gar Cymru Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre£17,354.25

CRhA Ysgol y Ddwylan Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre£6,996.96

CRhA Ysgol Parc Waun Dew, Pod Dysgu Caerfyrddin £19,900.80

Dr M’z Caerfyrddin £4,156.00

Cynllun Datblygu Gwledig Echel 4 Mynediad i Wasanaethau trwy ArloeseddPecyn Amlgyfrwng Llanymddyfri Llandeilo/Llanymddyfri £4,950.00

Porth Rhyngweithiol Cymdeithas Ieuenctida Phlant Sir Gaerfyrddin (CYCA)

Caerfyrddin £25,000.00

Clwb Swyddi Neuadd Carwe Caerfyrddin £2,076.91

Page 25: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Iechyd a LlesCynllun Datblygu Gwledig Echel 3 Mynediad i WasanaethauRhwydwaith Tenantiaid Taf Myrddin Hendy-gwyn/Sanclêr £14,205.10

Llwybr Treftadaeth Talacharn Hendy-gwyn/Sanclêr £13,458.08

Parc Meidrim Hendy-gwyn/Sanclêr £19,998.00

Old Mill Foundation Llandeilo/Llanymddyfri £19,777.60

The Haven Llandeilo/Llanymddyfri £1,264.25

Swyddog Ystafell Iechyd Llandybïe Llandeilo/Llanymddyfri £17,925.44

Parc Bro Fana Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £10,144.66

Wellbeing Regeneration Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £20,000.00

Cae Cymunedol Pencader Llanbedr Pont Steffan / Llanybydder £19,997.45

Parc Saron Castellnewydd Emlyn/Dre-fachFelindre

£19,206.67

Relate Y sir gyfan £19,971.36

Towy Riders Caerfyrddin £20,000.00

Cae Chwarae Bronwydd Caerfyrddin £20,000.00

Tenovus Caerfyrddin £19,426.40

Xcel Bowl Caerfyrddin £2,135.66

Cynllun Datblygu Gwledig Echel 4 Mynediad i Wasanaethau trwy ArloeseddAstudiaeth Ddichonoldeb - Tyfwyr Llandeilo Llandeilo/Llandovery £4,860.00

Grwp Bwydo ar y Fron Castellnewydd Emlyn Castellnewydd Emlyn/Dre-fachFelindre

£5,000.00

Astudiaeth Ddichonoldeb - Maes AstrotyrffCastellnewydd Emlyn

Newcastle Emlyn/Drefach Felindre £12,000.00

Menter Iechyd Wledig Llansteffan Caerfyrddin £25,000.00

Relate Caerfyrddin £20,810.17

Rhwydwaith Tenantiaid Taf Myrddin Hendy-gwyn/Sanclêr £25,000.00

Gasebo Adloniant Caerfyrddin £25,000.00

Bancio Amser Gwendraeth Caerfyrddin £16,500.00

Page 26: CDG 2007-2013: Adfyw o Cymunedol Gwledig

Mae’r Biwro Cymunedol yn siop-un-stop i’r trydydd sector ac yngallu helpu i roi cyngor a gwybodaeth am gyllid.

Nod y Biwro yw datblygu cymunedau cynaliadwy yn y sir a’ucefnogi, a’r weledigaeth yw rhannu gwybodaeth a sicrhau bodcynifer o gyfleoedd cyllido â phosibl ar gael i gymunedau SirGaerfyrddin.

Gall y Biwro Cymunedol helpu grwpiau cymunedol, gwirfoddol,ac elusennol yn Sir Gaerfyrddin i gyrchu’r wybodaethddiweddaraf am gyllid, cymorth busnes defnyddiol, a chyngor.

Gall y Biwro Cymunedol helpu sefydliadau i gyflawni eupotensial a chynnig cymorth gan swyddog penodedig i ddatblyguprosiectau ymarferol a chynaliadwy.

Cysylltwch â’r Biwro Cymunedol drwy ffonio:01269 590216

Fel arall gallwch anfon neges e-bost i’r cyfeiriad canlynol:[email protected]

neu fynd i’n gwefan:www.sirgar.gov.uk/english/business/grants/pages/thecommunitybureau.aspx

A ydych yn grwp gwirfoddol, cymunedol neuelusennol y mae angen cymorth arnoch?

A oes gennych syniad nad ydych yn gwybodsut i’w ddatblygu?

A ydych yn chwilio am gyllid i roi eichprosiect ar waith?