canllaw cam wrth gam i’r system cymorth bwrsariaeth ar ... · mae hwn yn pdf rhyngweithiol. er...

48
Partneriaeth Cydwasanaethau Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr Shared Services Partnership Student Awards Services Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i adran benodol gan ddefnyddio’r bar offer o fewn y ddogfen Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar-lein (SCBA)

Upload: others

Post on 20-Jul-2020

6 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

PartneriaethCydwasanaethauGwasanaethau Dyfarniadau MyfyrwyrShared Services PartnershipStudent Awards Services

Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i adran benodol gan ddefnyddio’r bar offer o fewn y ddogfen

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar-lein (SCBA)

Page 2: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

2

ContentsNodiadau i’ch arwain

Creu cyfrif SCBA Llenwi’r Ffurflen Manylion y Myfyriwr – Manylion y Cyfrif

Gair i gall Manylion y Myfyriwr – Manylion Personol

Manylion y Myfyriwr – Manylion y Cwrs

Manylion y Myfyriwr – Manylion Noddi neu Secondiad

Manylion y Myfyriwr – Cymhwysedd Personol

Manylion y Myfyriwr – Cymhwysedd Personol: Statws Mewnfudo

Manylion y Myfyriwr – Cymhwysedd Personol: Absenoldeb Dros Dro

Manylion y Myfyriwr - Lwfans Dibynnydd

Manylion y Myfyriwr - Lwfans Dibynnydd:Manylion Plant Dibynnol Manylion y Myfyriwr - Lwfans Dibynnydd:Manylion Priod, Partner neu Bartner Sifil Manylion y Myfyriwr - Lwfans Dibynnydd:Manylion Incwm a Threuliau Priod, Partner neu Bartner Sifil Manylion y Myfyriwr - Lwfans Dibynnydd: Datganiad

Manylion y Myfyriwr – Lwfans Gofal Plant

Manylion y Myfyriwr – Gofal Plant: Darparwr Gofal Plant

Manylion y Myfyriwr – Statws Dyfarniad Myfyrwyr

Manylion y Myfyriwr – Incwm a Threuliau’r Myfyriwr

Manylion y Myfyriwr – Manylion Banc

Manylion y Myfyriwr – Datganiad y Myfyriwr

Manylion y Myfyriwr – Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1

Manylion y Myfyriwr – Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1: Incwm a Threuliau

Manylion y Myfyriwr – Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1: Plant Dibynnol Eraill

Manylion y Myfyriwr – Datganiad Person 1

Manylion y Myfyriwr – Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2

Manylion y Myfyriwr – Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2: Incwm a Threuliau

Manylion y Myfyriwr – Datganiad Person 2

Manylion y Myfyriwr – Beth sy’n Digwydd Nesaf?

Cyflwyno eich tystiolaeth gefnogol Amserlenni asesu eich hawliau bwrsariaeth

3

4

5

5

6

7

9

11

12

14

15

16

17

18

20

23

24

25

27

29

32

33

34

36

38

39

41

42

44

45

46

47

Page 3: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

3

Bwriad y canllaw hwn yw eich tywys trwy’r broses o wneud cais am fwrsariaeth GIG ar y System Cymorth Bwrsariaeth Ar-lein (SCBA), cam wrth gam.

Os oes gennych ymholiadau am fwrsariaeth y GIG, gweler y manylion cyswllt ar y wefan:

• Dylai’r ffurflen gais gymryd rhwng 30-45 munud i’w llenwi, ar gyfartaledd.

• Nid oes rhaid i chi lenwi’r cais cyfan mewn un sesiwn. Gallwch gadw’r ffurflen gais ar ei hanner trwy glicio ar ‘cadw’/’save’ (ar waelod pob tudalen ar bob cam o’r cais).

• Nid yw’r system ar gael rhwng 2am a 6am GMT, o ganlyniad i waith cynnal a chadw. Mae’n bosibl y bydd unrhyw geisiadau a diweddariadau heb eu cadw yn cael eu colli.

• Mae’r cymhwysiad yn gydnaws â’r porwyr canlynol (ni ellir gwarantu cydnawsedd â phorwyr eraill):

• Internet Explorer (fersiwn 8 ymlaen)• Mozilla Firefox (fersiwn 23 ymlaen)• Google Chrome (fersiwn 29 ymlaen)• Apple Safari (fersiwn 5.1 ymlaen)

Nodiadau i’ch arwain

Page 4: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

4

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Creu cyfrif SCBA

Bydd angen i chi greu cyfrif SCBA un waith yn unig. Dilynwch y camau canlynol isod.

1. Creu cyfrif SCBA trwy glicio ar y botwm ‘Cofrestru’/’Register’.

2. Llenwi eich manylion personol a chreu enw defnyddiwr a chyfrinair.

3. Ateb y cwestiwn sy’n gofyn a ydych chi’n cwblhau cwrs er mwyn dod yn feddyg neu’n ddeintydd.

4. Darparu atebion i’r cwestiynau diogelwch.

5. Os dewisoch ‘Nac ydw’ ar gyfer ‘Ydych chi’n cwblhau cwrs er mwyn dod yn feddyg neu’n ddeintydd?’ bydd angen i chi ateb mwy o gwestiynau am fwrsariaethau neu fenthyciadau i fyfyrwyr.

6. Ticiwch eich bod wedi darllen a deall y datganiad ar rannu gwybodaeth o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

7. Pwyso’r botwm ‘Cofrestru’/’Register’, ac aros am e-bost. Peidiwch ag anghofio edrych yn eich ffolder sbam/sothach.

8. Ar ôl i chi dderbyn yr e-bost hwn, rhaid i chi agor eich cyfrif o fewn 72 awr, neu bydd yn dod i ben.

Pan fyddwch wedi creu’r cyfrif hwn, ni ddylech greu cyfrif arall. Dylech ymgeisio eto ym mhob blwyddyn academaidd trwy’r un cyfrif, gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi presennol.

Creu cyfrif SCBA

Page 5: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

5

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Llenwi’r ffurflen

Gallwch weld atebion y cwestiynau cyffredin ar ein gwefan, a fydd yn eich helpu i lenwi pob adran o’r cais SCBA.

Os nad ydych yn siŵr am unrhyw agwedd o’r cais yn SCBA, mae awgrymiadau ar gael i’ch helpu (wrth hofran eich llygoden dros y symbol ‘?’).

Cofiwch, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir, a bod gennych yr holl ddogfennau angenrheidiol i’w chefnogi.

Rhaid i geisiadau ar gyfer Bwrsariaeth GIG, gan gynnwys eich holl dystiolaeth gefnogol, gael eu derbyn o fewn chwe mis o ddiwrnod cyntaf eich blwyddyn academaidd. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hasesu, ac ni fydd eich bwrsariaeth yn cael ei dalu.

Bydd eich enw dewisol yn wag os na fyddwch yn darparu un pan fyddwch yn cofrestru eich cyfrif SCBA.

Bydd gweddill y meysydd yn cael eu llenwi’n awtomatig â’r manylion rydych wedi eu darparu.

Cliciwch ar y ddolen: ‘ymgeisio/ailymgeisio am fwrsariaeth myfyriwr GIG’ dan yr adran ‘Beth ydych chi eisiau ei wneud?’ er mwyn dechrau eich cais.

Darllenwch y Nodiadau i’ch Arwain (sy’n cael eu hamlinellu yn y llyfryn hwn ar dudalen 4), ac yna chlicio ar ‘PARHAU.’

Darllenwch y wybodaeth bwysig sydd ar y dudalen nesaf yn ofalus.

Cliciwch ar ‘NESAF’’ er mwyn cadarnhau eich bod yn cytuno â’r wybodaeth a ddarperir.

Manylion Myfyriwr - Manylion Cyfrif

Llenwi’r ffurflen

Page 6: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

6

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Gair i Gall

Dylech...

• Dylech sicrhau bod y data rydych yn ei ddarparu yn gywir cyn cyflwyno, gan y bydd camgymeriadau bach (e.e. meysydd cyfenw ac enw cyntaf yn cael eu nodi yn y drefn anghywir) yn arwain at gywiro â llaw cyn y gellir asesu’r cais, a all arwain at oedi wrth dalu.

• Dylech fod yn ofalus iawn wrth ddewis eich prifysgol, cwrs a’ch cymhwyster, gan y bydd dewis y rhai anghywir yn arwain at oedi wrth asesu.

• Dylech gyflwyno cais am Fwrsariaeth GIG, gan gynnwys eich holl dystiolaeth gefnogol o fewn chwe mis o ddiwrnod cyntaf eich blwyddyn academaidd, neu bydd yn annilys.

• Dylech sicrhau eich bod yn ailymgeisio am fwrsariaeth ym mhob blwyddyn academaidd – nid yw’r fwrsariaeth yn parhau yn awtomatig i’r flwyddyn academaidd nesaf.

Peidiwch â...

• Peidiwch â meddwl bod cyflwyno’r ffurflenni SCBA yn ddigon – dangos diddordeb yn unig yw hyn. Ar ôl cyflwyno, byddwch yn derbyn neges e-bost yn rhoi manylion am y dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn cefnogi eich cais. Ni ystyrir eich cais yn gyflawn nes y byddwn yn derbyn eich holl dystiolaeth gefnogol.

• Peidiwch â cholli allan ar y grant o £1000 nad yw’n dibynnu ar brawf modd (i fyfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny yn unig). Rhaid i chi wneud cais am fwrsariaeth er mwyn derbyn hwn (ar sail pro rata ar gyfer myfyrwyr rhan amser).

• Peidiwch â chreu cyfrif SCBA newydd pan fyddwch yn ailymgeisio pob blwyddyn academaidd. Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi presennol a chlicio ar y ddolen ‘ymgeisio/ailymgeisio’, gan ddewis y flwyddyn academaidd yr hoffech wneud cais amdani.

• Peidiwch ag anghofio bod angen i’ch rhiant/rhieni neu briod ateb ‘na’ i’r cwestiwn sy’n gofyn a ydynt eisiau datgan incwm os ydynt yn credu y bydd dros y trothwy i chi dderbyn bwrsariaeth, neu os nad ydynt eisiau ei ddatgelu.

Mae hyn yn golygu eich bod yn gwneud cais am fwrsariaeth ‘ffioedd yn unig’, lle byddwn yn talu’r cyfraniad ffioedd dysgu sylfaenol y cwrs, a’r grant o £1000 nad yw’n dibynnu ar brawf modd (i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau a ddechreuodd ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny yn unig). Ni fydd hawl gennych wneud cais am unrhyw elfennau o’r fwrsariaeth sy’n dibynnu ar brawf modd e.e. Lwfans Dibynnydd/Gofal Plant.

• Peidiwch ag ymgeisio am Lwfans Dibynnydd neu Ofal Plant ar gyfer plant sydd heb eu geni. Gallwch wneud cais am y rhain pan fydd y plentyn wedi ei eni trwy gyflwyno ffurflen newid amgylchiadau trwy eich cyfrif SCBA gyda dyddiad sy’n weithredol o ddyddiad geni’r plentyn.

Gair i Gall

Llenwi’r ffurflen

Page 7: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

7

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Bydd rhywfaint o’r adran hon yn cael ei lenwi’n awtomatig o’r wybodaeth rydych wedi ei ddarparu eisoes.

Wrth wneud cais am Fwrsariaeth GIG am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddarparu dau ddarn o dystiolaeth sy’n cadarnhau eich hunaniaeth, ac mae’n rhaid i un o’r rhain gynnwys ffotograff ohonoch. Fel arfer, tystysgrif geni a phasbort dilys.

Ni allwn asesu eich cais heb ddau ddull adnabod. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin priodol am ragor o wybodaeth yn ymwneud â pha dystiolaeth a dulliau adnabod y byddwn yn eu derbyn.

Teitl Rhaid i chi wirio bod y teitl rydych wedi ei ddarparu yn gywir. Os nad yw eich teitl wedi ei restru, dewiswch ‘Other’ a rhowch eich teitl yn y blwch testun sy’n ymddangos isod.

Enw cyntaf Rhaid i chi sicrhau bod eich enw(au) cyntaf a’ch cyfenw’n cael eu rhoi yn y drefn gywir.

Cyfenw Rhaid i chi sicrhau bod eich cyfenw a’ch enw(au) cyntaf yn cael eu rhoi yn y drefn gywir.

Enwau blaenorolRhowch unrhyw enwau blaenorol oedd gennych. Er enghraifft, unrhyw enwau cyn priodi. Os oes angen i chi roi mwy nag un enw, a fyddech cystal â rhoi coma rhwng pob enw.

Os nad oes gennych unrhyw enwau blaenorol, gadewch y maes hwn yn wag.

Statws Priodasol Rhaid i chi ddewis un o’r dewisiadau a ddarperir. Os ydych yn dewis Sengl, Gweddw, Wedi Ysgaru neu Wedi Gwahanu, bydd y cwestiwn canlynol yn ymddangos:-

Ydych chi’n byw gyda phartner fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil?Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os dewisoch Sengl, Gweddw, Wedi Ysgaru neu Wedi Gwahanu. Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Manylion Personol

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 8: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

8

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Manylion Personol

Rhif/enw tŷRhaid i chi roi rhif neu enw eich tŷ.

Llinell gyntaf eich cyfeiriadRhaid i chi roi llinell gyntaf eich cyfeiriad. Dyma fydd eich dewis cyfeiriad ar gyfer anfon yr holl ohebiaeth am eich bwrsariaeth.

Ail linell eich cyfeiriadRhowch ail linell eich cyfeiriad (os oes un gennych).

Tref/dinasRhaid i chi ddweud ym mha dref neu ddinas y mae eich cyfeiriad.

GwladRhaid i chi ddewis gwlad y cyfeiriad hwn o’r gwymplen.

Cod post/Zip

Rhaid i chi roi eich cod post.

Rhif ffôn symudol Rhaid i chi ddarparu rhif ffôn symudol.

Rhif cyswllt arallRhowch rif cyswllt arall os oes un gennych.

Os ydych wedi derbyn bwrsariaeth GIG yn y gorffennol, rhowch eich Cyfeirnod Bwrsariaeth Myfyrwyr (os yw’n hysbys)Rhowch unrhyw gyfeirnodau blaenorol sydd gennych gan Fwrsariaethau Myfyrwyr GIG.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais bwrsariaeth, cliciwch ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 9: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

9

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Manylion y Cwrs

Mae’r adran hon yn gofyn i chi lenwi manylion am y brifysgol a’r cwrs yr hoffech astudio arni. Os ydych wedi gwneud cais ar gyfer mwy nag un brifysgol, rhowch fanylion eich dewis cyntaf yn unig. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio er mwyn asesu eich hawl am fwrsariaeth.

Os ydych chi wedi penderfynu dewis cwrs neu brifysgol wahanol erbyn i ni dderbyn cadarnhad o’ch cofrestru gan y brifysgol, bydd eich hawl am fwrsariaeth yn cael ei hailasesu yn awtomatig, a gall hyn arwain at hawliad wedi’i addasu. Mae bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig lle wedi’i gomisiynu gan y GIG yn unig.

Os na restrir y cyfuniad o brifysgol a chwrs a fwriedir, gwiriwch â’r brifysgol bod y lle a gynigiwyd i chi yn cael ei ariannu gan y GIG.

Prifysgol/Coleg Os ydych yn fyfyriwr newydd, rhaid i chi ddewis y brifysgol (sef y Sefydliad Addysg Uwch – SAU) yr ydych yn fwyaf tebygol o fynychu.

Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau, rhaid i chi ddewis y brifysgol rydych yn ei mynychu ar hyn o bryd. Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau sy’n newid ei brifysgol, dewiswch eich prifysgol newydd.

CwrsDewiswch y cwrs rydych yn ei astudio. Os ydych yn fyfyriwr ar gwrs nyrsio, sicrhewch eich bod yn dewis y garfan gywir.Os ydych yn dewis cwrs meddygol/deintyddol, bydd rhagor o gwestiynau yn ymddangos. Darllenwch yr esboniadau’n ofalus cyn dewis eich atebion.

Ym mha flwyddyn y mae’r cyfnod ymgeisio hwn yn dechrau?Dewiswch y flwyddyn sy’n berthnasol i’r cais rydych yn ei wneud ar hyn o bryd. Os yw’r cais ar gyfer blwyddyn gyntaf eich cwrs, dylech ddewis blwyddyn dechrau’r cwrs. Fodd bynnag, os yw’r cais ar gyfer ail flwyddyn neu flwyddyn arall o astudio, sicrhewch eich bod yn dewis y flwyddyn y bydd y flwyddyn academaidd honno yn dechrau, yn hytrach na phan ddechreuodd eich blwyddyn gyntaf. Er enghraifft, os dechreuodd y flwyddyn academaidd honno rhwng 1 Ionawr 2016 a 31 Rhagfyr 2016, dewiswch ‘2016’.

A fyddwch yn byw gyda’ch rhieni yn ystod y tymor? Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’. Bydd yr ateb byddwch yn ei roi yma yn effeithio ar faint o fwrsariaeth y byddwch yn ei derbyn. A fyddech cystal â dweud wrthym ble fyddwch yn byw wrth astudio ar y cwrs prifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais amdani ac nid ble fyddwch yn byw pan fyddwch ar leoliad clinigol.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 10: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

10

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Manylion y Cwrs

Ydych chi’n cael eich cyllido gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar hyn o bryd?Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os dewisoch gwrs meddygol/deintyddol. Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Blwyddyn AstudioBydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os dewisoch gwrs meddygol/deintyddol. Dewiswch y flwyddyn astudio y byddwch yn ei dechrau ar gyfer y flwyddyn academaidd rydych yn ymgeisio iddi, gan gynnwys unrhyw flynyddoedd sy’n ailadrodd, blynyddoedd cynnwys a blynyddoedd sylfaen. Er enghraifft, gallwch fod ym mhumed flwyddyn eich cwrs meddygol, ond efallai mai dyma yw eich chweched flwyddyn astudio, felly dylech ddewis Blwyddyn 6

Dewiswch y flwyddyn cwrs sy’n berthnasol i’r cais hwnDewiswch y flwyddyn cwrs y byddwch yn ei dechrau.

Ydych chi’n dechrau eich blwyddyn gyntaf ar raglen APEL a ariennir gan y GIG, neu’n dechrau eich blwyddyn gyntaf ar gwrs Meddygol/Deintyddol y GIG? Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os dewisoch flwyddyn cwrs oni bai am Flwyddyn 1. Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Blynyddoedd BlaenorolBydd nifer y blychau sy’n ymddangos yn yr adran hon yn dibynnu ar ba Flwyddyn Astudio rydych wedi dweud eich bod yn dechrau e.e. os dewisoch ‘Blwyddyn 6’, bydd pum blwch yn ymddangos, a dylech roi hanes eich cwrs yma.

Er enghraifft, ym Mlwyddyn 1, dylech ddewis pa flwyddyn cwrs a astudioch yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio. Mae’r flwyddyn cwrs a’r flwyddyn astudio yn fwyaf tebygol o fod yn wahanol pan fyddwch wedi ailadrodd blwyddyn yn eich cwrs, neu os cymeroch flwyddyn gynnwys.

Pa opsiwn sy’n disgrifio cyfnod dechrau Blwyddyn 1?Dewiswch y datganiad sy’n disgrifio’r cyfnod pan ddechreuodd blwyddyn gyntaf eich cwrs, neu’r cyfnod y bydd yn dechrau. Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 11: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

11

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Manylion Noddi neu Secondiad

Mae angen i ni wybod a fyddwch yn derbyn nawdd gan gyflogwr yn ystod y flwyddyn academaidd rydych yn ymgeisio amdani, neu a ydych yn astudio ar y cwrs ar delerau secondiad h.y. parhau i dderbyn cyflog gan gyflogwr GIG am gyfnod o absenoldeb o’r gwaith. Ym mwyafrif yr achosion lle caiff myfyrwyr eu noddi neu secondiad, nid yw’r fwrsariaeth yn daladwy.

A fyddwch yn astudio ar y cwrs ar delerau secondiad? Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’.

Os ydych yn ateb ‘byddaf’ i’r cwestiwn hwn, ni fydd hawl gennych i barhau ymhellach â’r cais, gan nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid bwrsariaeth GIG.

A fyddwch yn derbyn nawdd gan eich cyflogwr?Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’.

Os ydych yn ateb ‘byddaf’, bydd dau gwestiwn arall yn ymddangos (gweler isod).

Faint o arian ydych chi’n disgwyl ei dderbyn trwy nawdd eich cyflogwr yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod?Rhowch y cyfanswm mewn £.

Enw a chyfeiriad y cyflogwr sy’n eich noddi.Rhowch yr enw a’r cyfeiriad yn llawn (gan gynnwys cod post).

Ar ddiwedd y dudalen, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Nawdd

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 12: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

12

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cymhywsedd PersonolLlenwch yr adran hon fel bod modd i ni wneud penderfyniad ynghylch a ydych yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth y GIG i fyfyrwyr.

CenedligrwyddDewiswch eich cenedligrwydd.

Os ydych yn ateb unrhyw beth oni bai am ‘Dinesydd y DU’, ar ôl i chi lenwi’r dudalen hon, byddwn yn gofyn i chi am eich hawl i fyw yn y DU.

Ydych chi wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw trwy gydol y tair blynedd cyn y dyddiad a gytunwyd (diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf)? Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Os ydych yn dewis ‘nac ydw’ ac rydych yn ddinesydd y DU, ar ôl i chi lenwi gweddill y dudalen hon, bydd angen i chi ateb rhagor o gwestiynau am eich absenoldeb o’r DU.

Os oedd pob un o’r tair blynedd o breswylio yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ni fydd hawl gennych dderbyn cymorth ariannol y GIG. Peidiwch â pharhau â’r cais SCBA os yw hyn yn berthnasol i chi.

Fodd bynnag, mae gennych hawl i gael lle hyfforddi wedi’i gomisiynu gan y GIG, a dylech ofyn i’ch Awdurdod Addysg Lleol am gyngor cyllid.

A fyddwch yn breswylydd fel arfer yn y Deyrnas Unedig (ac eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) ar y dyddiad a gytunwyd (diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf)? Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’.

Diffinnir ‘preswylio fel arfer’ fel preswylio arferol o ddewis ac yn sefydlog trwy gydol y cyfnod a gytunwyd, ac eithrio absenoldebau dros dro o bryd i’w gilydd.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 13: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

13

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cymhwysedd Personol Country of ResidenceRhowch fanylion am ble rydych wedi bod yn byw yn ystod y tair blynedd cyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs. Rhowch y wlad, y rheswm, y dyddiad dechrau a’r dyddiad terfyn ar gyfer pob cyfnod preswyl ar gyfer y tair blynedd cyn y dyddiad a gytunwyd (h.y. diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf).

Er enghraifft:Cymru – Ers genedigaeth - 22/06/1983 – 21/08/2015

Os mai un rhes yn unig o fanylion sydd gennych i’w llenwi, dylai eich dyddiad terfyn ddangos dyddiad dechrau eich cwrs. Os oes sawl rhes gennych i’w llenwi, dylai’r dyddiad terfyn ddangos pryd daeth y cyfnod hwnnw i ben (ac eithrio’r rhes fwyaf diweddar, a ddylai ddangos dyddiad dechrau eich cwrs).

Hanes Addysg Bellach/UwchRhowch fanylion unrhyw gyrsiau addysg bellach neu uwch yr ydych wedi eu mynychu yn y DU. Rhowch y coleg, y cwrs, dyddiad dechrau a dyddiad terfyn unrhyw gyrsiau addysg bellach neu uwch rydych wedi eu mynychu yn y DU.

Er enghraifft:Coleg Metropolitan Belfast - Mathemateg (Lefel A) - 10/09/2005 - 12/06/2006

Os ydych chi’n dal i astudio ar gwrs, dangoswch y dyddiad y bwriedir i’r cwrs ddod i ben yn y maes sy’n gofyn am y dyddiad terfyn.

Hanes Cyflogaeth yn y DURhowch fanylion eich hanes cyflogaeth. Os ydych wedi bod mewn cy-flogaeth yn ystod y tair blynedd cyn y dyddiad a gytunwyd, rhowch fanylion.

Er enghraifft:Bromley Tea House – 14 High Street, Bromley – Amser Llawn – 10/09/2003 - 21/04/2007

Dylai hyn gynnwys unrhyw gyflogaeth ran-amser ac amser llawn yn ystod y tair blynedd ddiwethaf o leiaf.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

CYMHWYSEDD PERSONOL

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 14: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

14

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cymhwysedd Personol: Statws Mewnfudo

Bydd yr adran hon yn cael ei dangos i fyfyrwyr sydd wedi datgan yn yr adran flaenorol nad ydynt yn ddinesydd y DU.

Dyddiad y cyrhaeddoch y Deyrnas Unedig am y tro cyntafDewiswch y dydd a’r mis cywir o’r gwymplen (a nodwch y flwyddyn yn y fformat BBBB) neu defnyddiwch y calendr a ddarperir i ddewis y dyddiad cywir.

Rheswm dros ddod i’r Deyrnas UnedigDarparwch esboniad llawn ar gyfer y rheswm y daethoch i’r Deyrnas Unedig ar y dyddiad a nodwyd uchod.

A yw eich statws yn y Deyrnas Unedig Dewiswch un o’r ddau opsiwn a ddarperir er mwyn dangos a yw eich statws mewnfudo yn eich enw chi, neu a ydych wedi eich enwi ar ddogfennau unigolyn arall. Os byddwch yn dewis ‘o ganlyniad i gyd-deithio ag aelod o’r teulu’, bydd angen i chi ateb tri chwestiwn arall (gweler isod).

Rhowch enw’r aelod o’r teuluRhowch ei enw llawn.

Perthynas â’r unigolynEsboniwch ei berthynas â chi e.e. mam.

Beth yw statws mewnfudo’r aelod o’r teulu?Dewiswch statws mewnfudo presennol yr aelod o’r teulu o’r gwymplen.

Sylwer: os oes ganddo statws mewnfudo ‘Ceisiwr Lloches’, ‘Fisa Myfyriwr’, neu ‘Ganiatâd Cyfyngedig’ (heb gynnwys ffoaduriaid), ni fyddwch yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth GIG na ffioedd dysgu. Peidiwch â llenwi gweddill y cais SCBA.

Beth yw eich statws mewnfudo?

Bydd angen i chi nodi eich statws mewnfudo os byddwch wedi nodi mai ‘yn eich hawl eich hun’ yw eich statws.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis. Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 15: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

15

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cymhwysedd Personol: Absenoldebau dros dro

Rhowch esboniad llawn ar gyfer y rheswm am eich absenoldeb o’r DU yn ystod y 3 blynedd cyn y dyddiad a gytunwyd (diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf)?Rhowch y rheswm am eich absenoldeb. Er enghraifft, os oeddech wedi eich cyflogi dros dro, neu os oeddech yn teithio yn ystod blwyddyn i ffwrdd ac ati.

Os oedd eich absenoldeb o ganlyniad i gael eich cyflogi dramor, neu gyflogaeth eich rhiant/priod/partner sifil, esboniwch natur y cytundeb.Esboniwch natur cytundeb y gyflogaeth. Er enghraifft, a oedd yn gytundeb parhaol neu dros dro, a oedd yn gymwys ar gyfer treth incwm y DU, neu o ganlyniad i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac ati.

Manylion yr AbsenoldebRhowch fanylion pob cyfnod o absenoldeb. Rhowch y wlad, y dyddiad dechrau a’r dyddiad terfyn ar gyfer pob cyfnod absenoldeb.

Er enghraifft:Cambodia 12/12/2013 - 14/01/2015

Ydych chi wedi cadw eich cartref yn y DU? Dewiswch ‘do’ neu ‘naddo’.

Amser a dreuliwyd yn y DU Nodwch fanylion unrhyw amser a dreuliwyd yn y DU yn ystod y cyfnod dramor.

Nodwch y rheswm, y dyddiad dechrau a’r dyddiad terfyn ar gyfer pob cyfnod a dreuliwyd yn y DU yn ystod yr absenoldeb.

Er enghraifft:Aduniadau teuluol 12/02/2014 - 14/03/2014

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 16: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

16

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd

A oes gennych briod/partner sifil/partner a fydd yn gyfan gwbl ddibynnol arnoch yn ariannol yn ystod eich hyfforddiant? Dewiswch ‘oes’ neu ‘nac oes’.

Sylwer bod angen i chi nodi bod priod/partner yn gwbl ddibynnol arnoch yn ariannol er mwyn gwneud cais am Lwfans Dibynnydd.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais am Lwfans Gofal Plant, rhaid i chi wneud cais am Lwfans Dibynnydd yn gyntaf.

Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os ydych wedi rhoi ‘oes’ fel ateb i’r cwestiwn uchod.

Os hoffech wneud cais am Lwfans Dibynnydd, dylech ddewis ‘oes’ fel ateb i’r cwestiwn hwn bob tro.

A oes gennych blentyn/plant a fydd yn gwbl ddibynnol arnoch yn ystod eich hyfforddiant?Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os byddwch wedi nodi bod gennych briod/partner yr ydych yn dymuno gwneud hawl am Lwfans Dibynnydd ar ei gyfer.

Dewiswch ‘oes’ neu ‘nac oes’.

Sylwer y bydd angen i chi nodi bod y plentyn/plant yn gwbl ddibynnol arnoch yn ariannol er mwyn gwneud cais am Lwfans Dibynnydd ar eu cyfer.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais am Lwfans Gofal Plant, rhaid i chi wneud cais am Lwfans Dibynnydd yn gyntaf.

A ydych yn dymuno hawlio Lwfans Dibynnydd ar gyfer eich plentyn/plant?Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os ydych wedi nodi ‘ydw’ fel ateb i’r cwestiwn sy’n holi a ydych yn rhiant sengl, neu ‘oes’ i’r cwestiwn ‘A oes gennych blentyn/plant a fydd yn gwbl ddibynnol arnoch yn ariannol yn ystod eich hyfforddiant?’

Os hoffech wneud cais am Lwfans Dibynnydd, dylech ddewis ‘ydw’ i’r cwestiwn hwn bob tro.

Ydych chi’n rhiant sengl? Dylech ateb y cwestiwn hwn os ydych wedi ateb ‘nac oes’ i’r cwestiwn sy’n holi a oes gennych briod/partner sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol.

Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Os byddwch yn nodi ‘nac ydw’ fel ateb, ni fyddwch yn cael eich ystyried ar gyfer Lwfans Dibynnydd, na chael opsiwn i wneud cais am Lwfans Gofal Plant.

Datganiad rhiant senglOs ydych yn ticio’r blwch, rydych yn cadarnhau eich bod yn rhiant sengl na fydd yn byw gyda phriod, neu unrhyw unigolyn fel priod. Os yw eich amgylchiadau’n newid yn ystod y cyfnod hwn, eich cyfrifoldeb chi yw ein hysbysu yn syth.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 17: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

17

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Plant Dibynnol Isod, rhowch fanylion yr holl blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Os ydych yn rhoi manylion plentyn sydd wedi gadael yr ysgol neu na fydd yn byw gyda chi yn ystod y tymor, rhowch y manylion hyn o dan ‘Gwybodaeth Ychwanegol’. Os yw eich plentyn/plant wedi’u cofrestru ar gwrs addysg bellach neu uwch, a fyddech cystal â darparu tystiolaeth ddogfennol atodol sy’n berthnasol i’r flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais amdani.

Pan fyddwch yn ein hysbysu o blentyn dibynnol am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n cadarnhau ei hunaniaeth (nid oes angen i chi anfon hon yn y blynyddoedd dilynol, hyd yn oed os yw’r neges e-bost tystiolaeth yn gofyn amdani). Fel arfer, tystysgrif geni hir neu basport dilys fydd hyn. Ni allwn asesu eich cais Lwfans Dibynnydd heb y dogfennau adnabod hyn.

Cyfenw Rhowch enw olaf/cyfenw’r plentyn fel y mae’n ymddangos ar ei ddogfennau adnabod.

Enw cyntaf Rhowch enw cyntaf y plentyn fel y mae’n ymddangos ar ei ddogfennau adnabod.

Dyddiad geni Gallwch ddewis y diwrnod a’r mis cywir gan ddefnyddio’r gwymplen (a nodi’r flwyddyn yn y fformat BBBB) neu defnyddiwch y calendr a ddarperir er mwyn dewis y dyddiad cywir.

Ei berthynas â chi Esboniwch natur eich perthynas â’r plentyn e.e. merch neu fab.

Gyda phwy y mae’r plentyn yn bywDewiswch o’r gwymplen. Os yw gwarchodaeth y plentyn wedi ei rhannu rhyngoch chi a thrydydd parti, dewiswch ‘Rhannu Trefniadau Byw’.

Incwm Net bras Nodwch faint o incwm y mae’r plentyn yn debygol o dderbyn yn ystod y flwyddyn academaidd rydych yn gwneud cais amdani e.e. cyflogaeth.

Peidiwch â chynnwys cyfanswm budd-dal plant, credydau treth na LCA wrth roi amcangyfrif o incwm net y plentyn.

Ychwanegu Plentyn ArallCliciwch ar y botwm hwn os hoffech wneud cais am Lwfans Dibynnydd ar gyfer plant ychwanegol. Gallwch ychwanegu cymaint o blant ychwanegol ag sydd angen.

Gwybodaeth ychwanegol Defnyddiwch yr adran hon er mwyn rhoi rhagor o fanylion am y plentyn/plant sy’n berthnasol i’r cais hwn yn eich barn chi.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 18: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

18

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Priod, Partner neu Bartner Sifil Isod, rhowch fanylion y priod, partner neu bartner sifil sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Pan fyddwch yn ein hysbysu o blentyn dibynnol am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n cadarnhau ei hunaniaeth (nid oes angen i chi anfon y dystiolaeth yn y blynyddoedd dilynol, hyd yn oed os yw’r neges e-bost tystiolaeth yn gofyn amdani). Fel arfer, tystysgrif geni hir neu basport dilys fydd hyn. Ni allwn asesu eich cais Lwfans Dibynnydd heb y dogfennau adnabod hyn.

Cyfenw Rhowch enw olaf/cyfenw eich priod, partner neu bartner sifil, fel y mae’n ymddangos ar ei ddogfennau adnabod.

Enw cyntafRhowch enw cyntaf eich priod, partner neu bartner sifil fel y mae’n ymddangos ar ei ddogfennau adnabod.

Enwau eraillDylech ateb y cwestiwn hwn os oes gen eich priod, partner neu bartner sifil unrhyw enwau eraill yr ydych yn dymuno rhoi gwybod i ni amdanynt e.e. enw cyn priodi neu enw cyfreithiol blaenorol.

Dyddiad geniDewiswch y dydd a’r mis cywir o’r ddewislen (a rhoi’r flwyddyn yn y fformat BBBB) neu defnyddiwch y calendr a ddarperir er mwyn dewis y dyddiad cywir.

CenedligrwyddDewiswch ei genedligrwydd o’r tri opsiwn.

A fydd eich priod, partner neu bartner sifil yn byw gyda chi yn ystod y tymor? Dewiswch ble fydd yn byw o’r tri opsiwn.

Ei berthynas â chi Dewiswch un o’r tri dewis yn y gwymplen.

Ticiwch y blychau sy’n berthnasol i’r unigolyn hwnDewiswch bob opsiwn sy’n berthnasol i’ch priod, partner neu bartner sifil.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 19: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

19

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Priod, Partner neu Bartner SifilA fydd eich priod, partner sifil neu bartner yn astudio ar gwrs addysg bellach neu uwch yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod? Dewiswch ‘bydd’ neu ‘na fydd’.

Os byddwch yn dewis ‘na fydd’, byddwch yn mynd i’r adran nesaf. Os byddwch yn dewis ‘bydd’, byddwn yn gofyn tri chwestiwn arall i chi.

Enw’r Coleg neu BrifysgolRhowch enw’r sefydliad addysg uwch neu addysg bellach y bydd eich priod, partner neu bartner sifil yn fyfyriwr ynddo.

Enw’r CwrsRhowch enw’r cwrs y bydd eich priod, partner neu bartner sifil yn ei astudio.

A fydd yr unigolyn hwn yn derbyn unrhyw gyllid wrth hyfforddi? Dewiswch ‘bydd’ neu ‘na fydd’.

Sylwer, mae’r cyllid sydd angen i ni wybod amdano yn cynnwys benthyciadau i fyfyrwyr, grantiau, cyllid ac ysgoloriaethau ac ati.

Os byddwch yn dewis ‘na fydd’, byddwch yn mynd i’r adran nesaf.

Os dewiswch ‘bydd’, bydd angen i chi ateb un cwestiwn arall (gweler isod).

Manylion unrhyw gyllid wrth hyfforddiRhowch fanylion penodol ynghylch trefniadau ariannol eich priod, partner neu bartner sifil. Er enghraifft, dylech roi gwybod o ble mae’r cyllid yn dod e.e. Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu Gyllid Myfyrwyr Cymru, Bwrsariaethau Myfyrwyr GIG ac ati.

Ar ddiwedd y dudalen, mae gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 20: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

20

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Incwm a Threuliau’r Priod, Partner neu Bartner SifilA fyddech cystal â gofyn i’ch priod, partner sifil neu bartner roi eu manylion incwm a threuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill.

Yn unol â rheolau Cynllun Bwrsariaeth GIG, diffinnir y flwyddyn ariannol fel blwyddyn dreth y DU sy’n dechrau ar 6 Ebrill, ac sy’n parhau am gyfnod o 12 mis.

Wrth ddatgan incwm, dylech sicrhau bod y ffigyrau rydych yn eu datgan yn cyd-fynd â’r hyn sy’n cael ei ddangos yn y dystiolaeth atodol y byddwch yn ei darparu. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich cais yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.

Incwm Trethadwy Gros ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar a ddaeth i ben ar 5 Ebrill

Incwm o Gyflogaeth Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o unrhyw gyflogaeth (cyflog/tâl ac ati). Gallwch weld y ffigwr hwn ar eich P60 neu slip cyflog mis Mawrth.

Lwfansau TrethadwyRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o lwfansau trethadwy neu fuddion ymarferol e.e. car y cwmni, yswiriant meddygol preifat ac ati. Gallwch weld y wybodaeth hon ar eich P2 neu P11D.

Unrhyw Incwm o Hunangyflogaeth neu fod yn Gyfarwyddwr CwmniRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o hunangyflogaeth neu fod yn Gyfarwyddwr ar Gwmni. Dyma’r ffigwr sy’n cael ei ddatgan ar y Ffurflen Hunanasesu Treth a gyflwynir i CThEM.

Pensiwn (cyn treth) (£)Rhowch eich incwm am y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o bensiwn (pensiwn y wladwriaeth, pensiwn preifat, pensiwn gweithwyr ac ati).

Llog Banc / Cymdeithas Adeiladu (£)Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o log banc neu gymdeithas adeiladu, yn cynnwys treth. Ni ddylech gynnwys manylion am unrhyw log di-dreth, fel ISA.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 21: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

21

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Incwm a Threuliau Priod, Partner neu Bartner SifilBudd-daliadau Trethadwy (£)Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o fudd-daliadau trethadwy (Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd ac ati). Sylwer nad yw Budd-daliadau Plant na Chredydau Treth Gwaith yn drethadwy (mae rhestr gyflawn o fudd-daliadau trethadwy a di-dreth ar gael ar wefan CThEM).

Incwm tir, eiddo neu lety â dodrefn (£)Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o dir, eiddo neu osodiadau neu lety â dodrefn.

Dyma fydd y ffigwr sy’n cael ei ddatgan ar y Ffurflen Hunanasesu Treth a gyflwynwyd i CThEM.

Incwm arall heb ei ennill (£)Rhowch unrhyw incwm arall heb ei ennill ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, gan gynnwys treth (difidend, cyfranddaliadau ac ati).

Rhowch y ffigwr gros, hynny yw, cyn tynnu unrhyw dreth incwm neu yswiriant gwladol.

Treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill

Treth Incwm o gyflogaeth a/neu Bensiwn (£)Rhowch eich treuliau treth incwm yn y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (£)Rhowch eich treuliau o gyfraniadau yswiriant gwladol yn y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Cyfraniadau Pensiwn Gweithwyr (£)Rhowch eich treuliau cyfraniadau pensiwn gweithwyr, os ydynt yn berthnasol, o’r flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Pensiwn Personol / Blwydd-daliadau Ymddeol (£)Rhowch eich treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o flwydd-daliadau ymddeol/pensiwn personol. Sylwer bod angen i’r rhain fod â gostyngiad yn y dreth – peidiwch â’u cynnwys fel arall.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 22: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

22

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Dibynnydd: Manylion Incwm a Threuliau Priod, Partner Sifil neu Bartner Premiwm Sicrwydd Bywyd (£)Rhowch eich treuliau o bremiwm sicrwydd bywyd ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Os yw hwn yn bolisi ar y cyd â’r myfyriwr (ac os yw’r myfyriwr wedi datgan rhywfaint o’i incwm yn ei adran o’r cais), nodwch hanner y treuliau yma a’r hanner arall yn eu hadran nhw.

Os nad ydynt wedi datgan unrhyw incwm, nodwch yr holl dreuliau yma.

Taliadau Morgais (£) Rhowch eich treuliau o daliadau morgais yn y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Dylech roi’r swm llawn y treuliau yma hyd yn oes os ydynt yn dreuliau ar y cyd â’r myfyriwr.

Os yw’r myfyriwr wedi datgan ei incwm ei hun yn ei adran o’r cais, mae angen iddo/iddi roi’r un swm llawn yn yr adran honno hefyd.

Rhent (£)Rhowch eich treuliau o daliadau rhent ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar. Dylech nodi swm llawn y treuliau yma, hyd yn oed os ydynt yn dreuliau ar y cyd â’r myfyriwr. Os yw’r myfyriwr wedi datgan rhywfaint o’i incwm ei hun yn ei adran ef/hi o’r cais, mae angen iddo/ iddi nodi’r un swm llawn yn yr adran honno.

Cyflog ar gyfer cymorth yn y cartref (cymorth o ganlyniad i ofalu am aelod o’r teulu sydd ag anabledd neu salwch) (£)Rhowch swm y cyflog yr ydych wedi ei dalu ar gyfer cymorth yn y cartref o ganlyniad i ofalu am aelod o’r cartref sydd ag anabledd neu salwch, yn y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 23: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

23

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Datganiad: Lwfans Dibynyddion

Mae’r datganiad hwn yn dangos bod yr holl wybodaeth a ddarperir ar gyfer eich cais am Lwfans Dibynnydd yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

Nawr, defnyddiwch y cyfle hwn i edrych dros yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr adran hon, ac i ddarllen yr arweiniad ar y dudalen ddatganiad hon yn ofalus cyn derbyn.

Os ydych yn penderfynu peidio â derbyn, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais am Fwrsariaeth GIG (gan gynnwys Lwfans Dibynnydd).

Derbyn y DatganiadTiciwch y bocs i ddangos eich bod yn cytuno â’r datganiad.

Dyddiad y Datganiad Cliciwch ar eicon y calendr a dewiswch ddyddiad heddiw.Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 24: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

24

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Lwfans Gofal Plant Mae rhagor o fanylion am y Lwfans Gofal Plant a’r costau i’w talu ar y wefan.

A fydd eich plentyn/plant yn derbyn gofal plant cofrestredig neu wedi’i gymeradwyo?Dewiswch ‘bydd’ neu ‘na fydd’.

Gall gofal plant cofrestredig gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfey-dd, grwpiau chwarae a chynlluniau chwarae dros y gwyliau sydd wedi’u cofrestru ag AGC/Ofsted.

Os byddwch yn dewis ‘na fydd’, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i dder-byn Lwfans Gofal Plant.

A fyddwch chi, eich priod, eich partner sifil neu eich partner, yn hawlio Credydau Treth Gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod? Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’.

Os byddwch yn dewis ‘byddaf’, bydd angen i chi ateb cwestiwn arall am hyn.

Os byddwch yn dewis ‘na fyddaf’, byddwn yn gofyn i chi a hoffech hawlio Lwfans Gofal Plant (gweler isod).

A fyddwch chi, eich priod, eich partner sifil neu eich partner yn hawlio’r elfen gofal plant o’r Credyd Treth Gwaith yn ystod y fl-wyddyn academaidd sydd i ddod? Byddwn yn gofyn y cwestiwn hwn i chi os ateboch ‘byddaf’ i’r cwestiwn uchod.

Dewiswch ‘byddaf’ neu ‘na fyddaf’.

Sylwer nad yw hyn yn cyfeirio at Gredydau Treth Plant. Os ydych yn dewis ‘byddaf’, ni fyddwch yn gallu hawlio Lwfans Gofal Plant, gan eich bod eisoes yn hawlio gan sefydliad arall.

Os ydych yn dewis ‘na fyddaf’, byddwn yn gofyn i chi os hoffech hawlio Lwfans Gofal Plant (gweler isod).

A ydych yn dymuno hawlio Lwfans Gofal Plant?Dewiswch ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 25: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

25

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Darparwr Gofal Plant

Bydd yr adran hon yn ymddangos os yw eich atebion yn yr adran flaenorol yn dangos eich bod yn gymwys i wneud cais i dderbyn Lwfans Gofal Plant, ac os ateboch ‘ydw’ i’r cwestiwn sy’n gofyn a ydych yn dymuno gwneud cais amdano.

A fyddech cystal â darparu manylion pob darparwr gofal plant cofrestredig. Lle bo’n bosibl, dylid darparu rhif cofrestru Arolygydd Gofal Cymru (AGC) neu gyfwerth. Os na ddarperir hyn, bydd hyn yn achosi oedi wrth asesu eich hawl i dderbyn Lwfans Gofal Plant.

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen ar-lein, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi Cais am Gymorth â Chostau Gofal Plant (Ffurflen CC1) o’n gwefan er mwyn rhoi mwy o fanylion i ni am eich costau gofal plant ac ati. Mae hon yn ffurflen gais ar bapur y dylid ei hargraffu o’r wefan, ei llenwi a’i llofnodi gennych chi a’ch darparw(y)r gofal plant.

Rhif cofrestru AGC/Ofsted neu rif cyfeirnod cyfwerth Rhowch rif cofrestru eich darparwr gofal plant (os oes gennych fwy nag un darparwr, nodwch un o’r rhifau yma a’r gweddill yn nes ymlaen, yn ôl y cyfarwyddiadau).

Dyddiad CofrestruNaill ai dewiswch y diwrnod a’r mis cywir o’r cwymplenni (a nodi’r flwyddyn yn y fformat BBBB) neu defnyddiwch y calendr a ddarperir er mwyn dewis y dyddiad cywir.

Dyddiad terfyn y cofrestriad (os yw’n hysbys)Naill ai dewiswch y diwrnod a’r mis cywir o’r cwymplenni (a nodi’r flwyddyn yn y fformat BBBB), neu defnyddiwch y calendr a ddarperir er mwyn dewis y dyddiad cywir.

Corff Cofrestru (os yw’n hysbys)Rhowch gorff cofrestru’r darparwr e.e. Arolygydd Gofal Cymru (AGC) ac ati.

Enw’r Darparwr Gofal PlantRhowch enw’r darparwr gofal plant. Gall hwn fod yn enw cwmni neu yn enw unigolyn, ond rhaid iddo gyd-fynd â’r rhif cofrestru a nodwyd.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 26: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

26

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Darparwr Gofal Plant Rhif/enw tŷ Rhaid i chi roi enw neu rif tŷ’r darparwr gofal plant yma.

Llinell gyntaf eich cyfeiriadRhaid i chi roi llinell gyntaf cyfeiriad y darparwr gofal plant yma.

Ail linell eich cyfeiriadRhowch ail linell cyfeiriad y darparwr gofal plant, os yw’n berthnasol

Tref/DinasRhaid i chi roi’r dref lle lleolir y darparwr gofal plant.

Cod post Rhaid i chi roi cod post y darparwr gofal plant.

Rhif ffôn Rhaid i chi sicrhau eich bod yn darparu rhif ffôn cyswllt ar gyfer y darparwr gofal plant.

Dewiswch y plentyn/plant a fydd yn derbyn gofal gan y darparwr hwn yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Sylwch fod angen i chi wneud cais i dderbyn Lwfans Dibynnydd ar gyfer y plentyn hwnnw cyn hawlio Lwfans Gofal Plant. Dewiswch y plant o’r rhestr a fydd yn mynd at y darparwr hwn yn ystod y flwyddyn academaidd yr ydych yn gwneud cais amdani.

Ychwanegu Darparwr Gofal Plant arallCliciwch ar y botwm hwn os hoffech ychwanegu darparwyr gofal plant ychwanegol at y cais hwn am Lwfans Gofal Plant. Gallwch ychwanegu cymaint o ddarparwyr gofal plant ychwanegol ag sydd eu hangen.

Bydd y meysydd i’w llenwi yr un fath â’r hyn a nodir uchod.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 27: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

27

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Statws Dyfarniad y Myfyriwr Er mwyn penderfynu a fydd eich dyfarniad yn cael ei asesu ar incwm eich rhieni, priod, partner sifil neu bartner, llenwch yr adran ganlynol.

Dim ond un waith y bydd angen i chi brofi eich statws annibynnol trwy ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol. Nid oes angen i chi anfon hwn yn y blynyddoedd canlynol, hyd yn oed os yw’r e-bost tystiolaeth yn gofyn am hynny.

Ar ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Academaidd sydd i ddod...Dewiswch un o’r ddau ateb i’r cwestiynau yn yr adran hon.

Byddwch yn gweld y cwestiynau un ar y tro a bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos os byddwch yn ateb ‘na’ i’r cwestiwn blaenorol.

Os byddwch yn ateb ‘byddaf/bydd’ i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, byddwch yn cael eich cyfrif fel ‘myfyriwr annibynnol’ (bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi hyn) a chaiff eich hawl i dderbyn bwrsariaeth ei hasesu ar sail incwm eich priod/partner/partner sifil (os oes gennych un).

Os byddwch yn ateb ‘na fyddaf/na fydd’ i’r holl gwestiynau yn yr adran hon, byddwch yn cael eich cyfrif fel ‘myfyriwr dibynnol’, a chaiff eich hawl i dderbyn bwrsariaeth ei asesu ar sail incwm eich rhiant/rhieni.

...a fyddwch yn briod, mewn partneriaeth sifil, wedi gwahanu, wedi ysgaru neu yn weddw? Os byddwch yn ateb ‘byddaf’, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn e.e. tystysgrif priodas, archddyfarniad amodol, tystysgrif marwolaeth ac ati.

...a fydd eich dau riant wedi marw?Os byddwch yn ateb ‘bydd’, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn h.y. tystysgrif marwolaeth.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 28: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

28

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Statws Dyfarniad y Myfyriwr ...a fyddwch yn gofalu am blentyn neu blant?Os ‘byddaf’ yw eich ateb, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o hunaniaeth y plentyn/plant e.e. tystysgrif geni hir neu basbort. Hefyd, bydd angen tystiolaeth mai chi sy’n gyfrifol amdanynt e.e. llythyr Budd-daliadau Plant neu lythyr Credyd Treth Plant.

...a fyddwch wedi bod yn cynnal eich hun o’ch enillion eich hun am gyfanswm o 36 mis gyda’i gilydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd gyntaf? Os ‘byddaf’ yw eich ateb, dylech lenwi’r tabl er mwyn darparu manylion 36 mis o hunangynhaliaeth. Sylwer na ddylech gyfrif unrhyw gyfnodau o addysg amser llawn.

Nid oes angen i’r 36 mis ddilyn ei gilydd h.y. gall fod bwlch yn y 36 mis, ond rhaid i gyfanswm yr hunangynhaliaeth fod yn 36 mis.

Y dystiolaeth sydd ei hangen arnom er mwyn cefnogi hyn fyddP60, slipiau cyflog, tystiolaeth o fudd-daliadau diweithdra ac ati.

...a fyddwch wedi ymddieithrio’n gyfan gwbl oddi wrth eich rhieniYstyrir unigolyn wedi ei ymddieithrio’n gyfan gwbl oddi wrth ei rieni os nad oes cyfathrebu wedi bod rhyngddynt am gyfnod o dros flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.

Os byddwch yn ateb ‘byddaf’ i’r cwestiwn hwn, sicrhewch eich bod yn gallu darparu llythyr gan drydydd parti proffesiynol nad yw’n perthyn, sy’n ymwybodol o’r amgylchiadau yn ymwneud â’r ymddieithrio. Gall trydydd parti perthnasol gynnwys gweision sifil, swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol neu feddygon teulu ac ati.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae gennych bedwar dewis.Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 29: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

29

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Incwm a Threuliau’r Myfyriwr

Llenwch yr adran hon er mwyn dangos beth fydd eich incwm a threuliau disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn, ni ddylid cyfrif unrhyw enillion o waith yn ystod y nosweithiau, dros y penwythnos neu yn ystod y gwyliau pan fyddwch yn dilyn y cwrs. Dylech nodi’r enillion hyn os ydych yn fyfyriwr rhan-amser yn unig.

Os nad ydych yn nodi unrhyw incwm yn yr adran hon, peidiwch â nodi unrhyw dreuliau e.e. rhent. Y rheswm am hyn yw ni allwn ystyried eich treuliau os nad oes incwm gennych er mwyn cymharu. Hefyd, bydd hyn yn arbed amser i chi, oherwydd na fydd angen i chi anfon tystiolaeth o hyn e.e. cytundeb rhent. Yr unig eithriad i’r rheol hon yw os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau sy’n symud o fyw gyda’i rieni i lety - yn yr achos hwn, bydd angen i chi nodi eich swm rhent/morgais ac anfon tystiolaeth o hyn.

Caiff yr holl dreuliau rydym yn eu hystyried eu diffinio’n glir yn yr adran hon (morgais, rhent, premiwm sicrwydd bywyd ac ati). Sylwer nad ydym yn ystyried unrhyw dreuliau nad ydynt yn cael eu diffinio’n glir yn yr adran hon, gan gynnwys biliau cartref ar gyfer treth cyngor, biliau cyfleustodau, trwydded deledu ac yswiriant ceir ac ati.

Sylwer y dylid rhoi’r holl incwm mewn punnoedd.

Wrth roi eich incwm, sicrhewch fod y ffigyrau a nodir yn cyd-fynd â’r hyn sy’n cael ei ddangos yn y dystiolaeth gefnogol y byddwch yn ei darparu. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.

Amcangyfrif o’ch incwm ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod

Nawdd / Ysgoloriaeth / Cadetiaeth (£)Esboniwch unrhyw drefniadau noddi gyda’ch cyflogwr/corff cyllido.

Unrhyw incwm gan eich cyflogwr (cyn treth) (£)Yn fras, rhowch yr incwm y byddwch yn ei dderbyn o gyflogaeth (cyflog/tâl ac ati). Sylwer nad oes angen i chi nodi’r incwm hwn os ydych yn dilyn cwrs amser llawn.

Unrhyw incwm o hunangyflogaeth (cyn treth) (£)Yn fras, rhowch unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o hunangyflogaeth (gan gynnwys Lwfans Gofalwyr Maeth). Sylwer nad oes angen i chi nodi’r incwm hwn os ydych yn dilyn cwrs amser llawn.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 30: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

30

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Incwm a Threuliau’r Myfyriwr

Pensiwn (cyn treth) (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o bensiwn (pensiwn y wladwriaeth, pensiwn preifat, pensiwn gweithwyr ac ati).

Llog Banc / Cymdeithas Adeiladu (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o log banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys treth.

Elw o osod llety (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o elw o ganlyniad i osod llety, gan gynnwys treth.

Incwm arall heb ei ennill (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm arall y byddwch yn ei dderbyn, gan gynnwys treth (difidend, cyfranddaliadau ac ati).

Budd-daliadau trethadwy (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o fudd-daliadau trethadwy (Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd ac ati). Sylwer nad yw Budd-daliadau Plant a Chredydau Treth Gwaith yn drethadwy (ceir rhestr gyflawn o fudd-daliadau trethadwy a di-dreth ar wefan CThEM).

Incwm cronfa ymddiriedolaeth (cyn treth)Rhowch amcangyfrif o unrhyw incwm y byddwch yn ei dderbyn o gronfa ymddiriedolaeth.

Amcangyfrif o’ch treuliau ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod

Treth incwm o gyflogaeth a/neu bensiwn (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer treth incwm.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 31: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

31

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Cyfraniadau Pensiwn Gwaith (£)Rhowch amcangyfrif o unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer cyfraniadau pensiwn gwaith.

Pensiwn Personol / Blwydd-daliadau Ymddeol (£)Rhowch amcangyfrif unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer cyfraniadau pensiwn personol. Sylwer y dylai’r rhain achosi gostyngiad yn y dreth – peidiwch â’u nodi os nad ydynt.

Premiwm Sicrwydd Bywyd (£)Rhowch amcangyfrif unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer premiwm sicrwydd bywyd. Os yw hwn yn bolisi ar y cyd â’ch priod, partner neu bartner sifil y byddwch yn gwneud cais Lwfans Dibynnydd ar ei gyfer, rhowch hanner y treuliau yma a’r hanner arall yn ei adran ef/hi

Taliadau Morgais (£)Rhowch amcangyfrif unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer taliadau morgais. Os yw’r rhain yn dreuliau ar y cyd â’ch priod, partner neu bartner sifil y byddwch yn gwneud cais Lwfans Dibynnydd ar ei gyfer, rhowch swm llawn y treuliau yma a’r un swm llawn yn ei adran ef/hi.

Rhent (£) Rhowch unrhyw dreuliau y byddwch yn eu talu ar gyfer rhent. Os yw’r rhain yn dreuliau ar y cyd â’ch priod, partner neu bartner sifil y byddwch yn gwneud cais Lwfans Dibynnydd ar ei gyfer, nodwch swm llawn y treuliau yma a’r un swm llawn yn ei adran ef/hi.

Cyflog ar gyfer cymorth yn y cartref (cymorth o ganlyniad i ofalu am aelod o’r cartref sydd ag anabledd neu salwch) (£)Rhowch amcangyfrif y cyflog y byddwch yn ei dalu ar gyfer help yn y cartref, o ganlyniad i ofalu am aelod o’r cartref sydd ag anabledd neu salwch. Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 32: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

32

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Manylion Banc Rhowch fanylion y banc neu’r gymdeithas adeiladu lle’r hoffech i’r fwrsariaeth gael ei dalu. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gallu derbyn taliadau Gwasanaeth Clirio Awtomatig i Fancwyr (BACS).

Os nad oes gennych fanylion y cyfrif yr hoffech i’r fwrsariaeth gael ei dalu, dylech gadw’r ffurflen gais am y tro, gan na fyddwch yn gallu parhau heb y manylion hyn. Pan fyddwch yn gwybod eich manylion, mewngofnodwch a llenwch yr adran hon. Sicrhewch fod y manylion rydych yn eu darparu yn gywir ac yn ddilys. Bydd peidio â darparu manylion dilys a chywir yn achosi oedi wrth dalu.

Enw’r Banc neu Gymdeithas AdeiladuRhowch enw eich banc neu gymdeithas adeiladu e.e. Barclays.

Cyfeiriad y Banc neu Gymdeithas AdeiladuRhowch gyfeiriad eich banc neu gymdeithas adeiladu gan gynnwys y cod post.

Enw deiliad y cyfrif Rhowch eich enw fel y mae’n ymddangos ar eich datganiad banc/cerdyn banc.

Cod didoli (Sort Code)Rhowch eich ateb mewn rhifau heb y dash (-) e.e. 112233.

Cadarnhau’r cod didoli Rhowch eich cod didoli eto er mwyn cadarnhau.

Rhif y cyfrif (Account number) Rhowch eich ateb mewn rhifau e.e. 1234567 neu 12345678.

Cadarnhau rhif y cyfrifRhowch rif y cyfrif eto er mwyn cadarnhau

A yw’r manylion hyn ar gyfer Cymdeithas Adeiladu?Dewiswch ‘ydyn’ neu ‘nac ydyn’.

Os ateboch ‘nac ydyn’, dyma yw diwedd y cwestiynau yn yr adran hon.

Os ateboch ‘ydyn’, byddwn yn gofyn dau gwestiwn arall i chi.

Cofrestrif/Rhif Cymdeithas Adeiladu Rhowch eich cofrestrif/rhif cymdeithas adeiladu fel sy’n cael ei ddangos ar eich datganiad.

Cadarnhau Cofrestrif/Rhif Cymdeithas AdeiladuRhowch eich cofrestrif/rhif cymdeithas adeiladu eto er mwyn cadarnhau.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych 4 dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 33: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

33

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Datganiad y Myfyriwr Mae’r datganiad hwn yn dangos bod yr holl wybodaeth rydych wedi ei darparu hyd yma yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

A fyddech cystal â defnyddio’r cyfle hwn i edrych dros yr holl wybodaeth rydych wedi ei darparu hyd yma yn yr adran ar-lein, a darllenwch yr arweiniad sydd ar y dudalen ddatganiad hon cyn derbyn.

Os byddwch yn penderfynu peidio â derbyn, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais am fwrsariaeth GIG.

Os ydych wedi ymgeisio fel myfyriwr annibynnol heb briod, partner neu bartner sifil, dyma ddiwedd eich cais am fwrsariaeth. Ar gyfer pob myfyriwr arall, bydd angen i’ch rhiant/rhieni neu eich priod/ partner/partner sifil lenwi rhagor o adrannau.

Derbyn y Datganiad Ticiwch y blwch er mwyn dangos eich bod yn cytuno â’r datganiad.

Dyddiad y Datganiad Cliciwch ar eicon y calendr a dewiswch ddyddiad heddiw.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 34: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

34

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Os ydych yn fyfyriwr dibynnol, gofynnwch i’ch rhiant/rhieni neu eich rhiant a’i briod/partner/partner sifil lenwi adrannau ‘Person 1’ a ‘Person 2’ yn eu tro.

Os ydych yn fyfyriwr annibynnol, gofynnwch i’ch priod/partner/partner sifil lenwi adran ‘Person 1’. Os ydych wedi datgan eich bod yn fyfyriwr sengl, annibynnol, ni fydd yr adran hon yn ymddangos ar eich cais am fwrsariaeth. A hoffech ddatgan eich incwm?Ticiwch ‘hoffwn’ neu ‘na hoffwn’.

Sylwer os ydych yn dewis ‘na hoffwn’ (dewis peidio â datgan eich incwm), bydd yr elfen sy’n dibynnu ar brawf modd o’r dyfarniad bwrsariaeth yn £0.00.

Os dewiswch ‘na hoffwn’, bydd y GIG yn dal i dalu’r cyfraniad ffioedd dysgu sylfaenol ar gyfer pob myfyriwr cymwys.

Teitl Dylech wirio bod y teitl rydych wedi ei ddarparu yn gywir. Os nad yw eich teitl wedi ei restru, dewiswch ‘Arall’ a nodwch eich teitl yn y blwch testun sy’n ymddangos oddi tano.

Cyfenw Rhowch eich enw olaf/cyfenw fel y mae’n ymddangos ar eich dogfennau adnabod.

Enw cyntaf Rhowch eich enw cyntaf fel y mae’n ymddangos ar eich dogfennau adnabod.

Perthynas â’r myfyriwr Esboniwch eich perthynas â’r myfyriwr e.e. tad.

Cyfeiriad e-bostRhowch eich cyfeiriad e-bost fel bod modd i ni gysylltu â chi ynglŷn â’r wybodaeth rydych wedi ei darparu yma, os yn bosibl.

Rhif/enw tŷ Rhaid i chi roi rhif neu enw eich tŷ.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 35: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

35

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Llinell gyntaf y cyfeiriadRhaid i chi roi llinell gyntaf eich cyfeiriad.

Ail linell eich cyfeiriadRhowch ail linell eich cyfeiriad (os oes gennych un).

Tref/Dinas Rhaid i chi nodi ym mha dref y mae’r cyfeiriad.

Gwlad Rhaid i chi ddewis gwlad y cyfeiriad o’r gwymplen.

Cod post/zip Rhaid i chi roi eich cod post. Rhif ffôn cartrefDylech ddarparu rhif ffôn cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi er mwyn cadarnhau unrhyw fanylion yr ydych chi wedi eu darparu. Rhif ffôn symudolDarparwch rif ffôn symudol fel dewis ar wahân i’r rhif cyswllt uchod.

Ticiwch y blychau sy’n berthnasol i chiDewiswch yr holl opsiynau sy’n berthnasol i chi. Rhaid i chi ddewis o leiaf un opsiwn.

Ydych chi’n rhiant sengl?Ticiwch ‘nac ydw’ neu ‘ydw’. Os ‘nac ydw’ oedd eich ateb, dyma ddiwedd yr adran i chi. Os ‘ydw’ oedd eich ateb, bydd angen i chi ateb un cwestiwn arall (gweler isod).

Rheswm Byddwn yn gofyn y cwestiwn hwn i chi os ‘ydw’ oedd eich ateb i’r cwestiwn uchod.

Dewiswch un o’r pedwar opsiwn: Wedi Ysgaru, Gweddw, Wedi Gwahanu, Di-briod.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 36: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

36

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Person 1 Asesiad Incwm a ThreuliauLlenwch fanylion eich incwm a threuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill.

Yn unol â rheolau Cynllun Bwrsariaeth GIG, diffinnir y flwyddyn ariannol fel blwyddyn dreth yn y DU, sy’n dechrau ar 6 Ebrill ac sy’n parhau am gyfnod o 12 mis.

Wrth ddatgan eich incwm, sicrhewch fod y ffigyrau rydych yn eu darparu yn cyd-fynd â’r hyn sydd yn y dystiolaeth gefnogol rydych yn ei darparu. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.

Person 1 – Incwm Trethadwy Gros ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill

Incwm o Gyflogaeth Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o unrhyw waith cyflogedig (cyflog/tâl ac ati). Gellir dod o hyd i’r ffigwr hwn ar eich P60 neu slip cyflog mis Mawrth.

Lwfansau TrethadwyRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o lwfansau trethadwy, neu ‘fuddion ymarferol’, e.e. car y cwmni, yswiriant meddygol preifat ac ati. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar eich P2 neu P11D.

Incwm o hunangyflogaeth neu gyfarwyddo cwmni Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o hunangyflogaeth neu gyfarwyddo cwmni. Dyma fydd y ffigwr sy’n cael ei ddatgan ar y ffurflen hunanasesu treth a gyflwynwyd i CThEM.

Incwm o dir, eiddo neu lety â dodrefnRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o elw llety neu osod tai, gan gynnwys treth. Dyma fydd y ffigwr sy’n cael ei ddatgan ar y ffurflen hunanasesu treth a gyflwynwyd i CThEM.

Pensiwn Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o bensiwn (pensiwn y wladwriaeth, pensiwn preifat, pensiwn gwaith ac ati).

Llog banc neu gymdeithas adeiladu (ac eithrio manylion unrhyw log di-dreth, fel ISA) Rhowch eich incwm am y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o log banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys treth.

Budd-daliadau trethadwyRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o fudd-daliadau trethadwy (Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-daliadau Analluogrwydd ac ati). Sylwer nad yw Budd-daliadau Plant na Chredydau Treth Gwaith yn drethadwy (mae rhestr gyflawn o fudd-daliadau trethadwy a di-dreth ar gael ar wefan CThEM).

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 37: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

37

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1: Incwm a Threuliau Incwm arall heb ei ennillRhowch unrhyw incwm arall heb ei ennill ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, gan gynnwys treth (difidend, cyfranddaliadau ac ati).

Rhowch y ffigwr gros, hynny yw, cyn tynnu unrhyw dreth incwm neu yswiriant gwladol.

Cod treth Rhowch eich cod treth, sydd i’w weld ar eich P60, slip cyflog mis Mawrth neu eich P2. Os nad oes cod treth gennych, a fyddech cystal â nodi ‘ddim yn berthnasol’.

Os ydych wedi dangos eich bod yn gyflogedig neu yn hunangyflogedig, ac heb nodi cyflog, tâl nac incwm hunangyflogaeth, darparwch rhagor o wybodaeth. Os dewisoch ‘Cyflogedig’ neu ‘Hunangyflogedig’ yn yr adran flaenorol, ac os rydych wedi datgan £0.00 fel eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, dylech roi esboniad dros pam fod gennych incwm o £0.00 e.e. hunangyflogedig ac wedi gwneud colled ar elw.

Person 1 – Treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben 5 Ebrill

Cyfraniadau Pensiwn GwaithRhowch eich treuliau cyfraniadau pensiwn gwaith, os yw’n berthnasol, ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Pensiwn personol/Blwydd-daliadau YmddeolRhowch eich treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o ran pensiwn personol/blwydd-daliadau ymddeol. Sylwer y dylai’r rhain achosi gostyngiadau yn y dreth, neu ni ddylech eu cynnwys.

Tanysgrifiadau proffesiynol ac unrhyw dreuliau eraill sy’n achosi gostyngiadau yn y dreth Rhowch eich treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweeddar o ran tanysgrifiadau proffesiynol a/neu unrhyw dreuliau eraill y gallwch hawlio gostyngiadau yn y dreth ar eu cyfer. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar eich ffurflenni P2 neu P11D.

Cyflog ar gyfer cymorth yn y cartref (cymorth o ganlyniad i ofalu am aelod o’r cartref sydd ag anabledd neu salwch)Rhowch swm y cyflog rydych wedi ei dalu am gymorth yn y cartref o ganlyniad i ofalu am aelod o’r teulu sydd ag anabledd neu salwch, yn y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 38: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

38

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1: Plant Dibynnol Eraill Rhowch fanylion unrhyw blant a fydd yn ddibynnol arnoch (ac eithrio’r myfyriwr sy’n gwneud cais yma) yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Os bydd unrhyw un o’ch plant eraill yn dilyn cwrs addysg uwch hefyd, ac yn derbyn dyfarniad wedi ei asesu ar sail incwm (o fenthyciad myfyriwr neu fwrsariaeth i fyfyrwyr) gan eich Awdurdod Lleol, Cyllid Myfyrwyr neu gorff cyllido arall, mae’n bosibl y gellir rhannu’r cyfraniad wedi’i asesu â nhw.

Er mwyn osgoi gordalu bwrsariaeth, a fyddech cystal â’n hysbysu yn syth os na fydd y plentyn/plant yn gymwys ar gyfer cyllid addysg uwch mwyach, ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd e.e. nid yw’r plentyn yn cofrestru, neu mae’n tynnu yn ôl o’r cwrs.

Enw’r plentyn Rhowch enw llawn y plentyn fel y mae’n ymddangos ar ei ddogfennau adnabod.

Dyddiad geni Dewiswch y diwrnod a’r mis cywir o’r gwymplen (a nodi’r flwyddyn yn y fformat BBBB) neu defnyddiwch y calendr a ddarperir er mwyn dewis y dyddiad cywir.

Addysg amser llawnDewiswch ‘ie’ neu ‘na’.

Sefydliad AddysgDewiswch un o’r pedwar opsiwn yn y gwymplen. Bydd angen i chi ateb un cwestiwn arall os byddwch yn dewis ‘Addysg Uwch’. Enw’r Awdurdod Ariannu (os yw’n sefydliad Addysg Uwch)Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos os dewisoch ‘Addysg Uwch’ fel ateb i’r cwestiwn diwethaf. Rhowch enw’r awdurdod ariannu e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ychwanegu plentyn arallCliciwch ar y botwm hwn os hoffech ddatgan mwy nag un plentyn a fydd yn ddibynnol arnoch yn ystod y flwyddyn academaidd. Gallwch ychwanegu cymaint o blant ychwanegol ag sydd eu hangen. Bydd y meysydd i’w llenwi yr un fath â’r uchod.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 39: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

39

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Datganiad Person 1 Mae’r datganiad hwn yn dangos bod yr holl wybodaeth rydych wedi ei darparu yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

Defnyddiwr y cyfle hwn i edrych dros yr holl wybodaeth rydych wedi ei darparu yn yr adran hon, a darllenwch yr arweiniad sydd ar y dudalen ddatganiad hon cyn derbyn.

Os ydych yn dewis peidio â derbyn, ni allwn brosesu cais y myfyriwr am Fwrsariaeth GIG.

Derbyn y DatganiadTiciwch y blwch i gadarnhau eich bod yn cytuno â’r datganiad.

Dyddiad y DatganiadCliciwch ar eicon y calendr a dewiswch ddyddiad heddiw.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 40: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

40

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2 Gofynnwch i’ch rhiant arall, neu ei briod/partner/partner sifil i lenwi’r adran hon.

Os ydych wedi dangos eich bod yn fyfyriwr annibynnol, ni fydd yr adran hon yn ymddangos ar eich cais am fwrsariaeth.

A hoffech ddatgan eich incwm?Ticiwch ‘hoffwn’ neu ‘na hoffwn’. Sylwer os byddwch yn dewis ‘na hoffwn’ (penderfynu peidio â datgan eich incwm), bydd yr elfen sy’n dibynnu ar brawf modd o’r dyfarniad bwrsariaeth yn £0.00. Os dewiswch ‘na hoffwn’, bydd y GIG yn dal i dalu’r cyfraniad ffioedd dysgu sylfaenol ar gyfer yr holl fyfyrwyr cymwys.

Myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2012, neu ar ôl hynnyBydd dewis ‘na’ yn golygu y bydd hawl gan y myfyrwyr hyn gael ad-daliad am unrhyw dreuliau ychwanegol sy’n codi wrth fynd i leoliad ymarfer h.y. teithio/llety, yn ogystal â derbyn grant o £1,000 nad yw’n dibynnu ar brawf modd (a fydd yn cael ei dalu ar sail pro rata i fyfyrwyr rhan-amser).

Teitl Rhaid i chi wirio bod y teitl rydych wedi ei ddarparu yn gywir. Os nad yw eich teitl yn ymddangos yn y rhestr, dewiswch ‘Arall’ a rhowch eich teitl yn y blwch testun sy’n ymddangos oddi tano.

Cyfenw Rhowch eich enw olaf/cyfenw, fel y mae’n ymddangos ar eich dogfennau adnabod.

Enw cyntaf Rhowch eich enw cyntaf fel y mae’n ymddangos ar eich dogfennau adnabod.

Perthynas â’r myfyriwr Esboniwch eich perthynas â’r myfyriwr e.e. tad.

Cyfeiriad e-bost Rhowch eich cyfeiriad e-bost fel bod modd i ni gysylltu â chi ynglŷn â’r manylion rydych wedi eu darparu yma, os bydd angen.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 41: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

41

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2 Rhif/enw tŷ Rhaid i chi roi rhif neu enw eich tŷ.

Llinell gyntaf eich cyfeiriadRhaid i chi roi llinell gyntaf eich cyfeiriad.

Ail linell eich cyfeiriadRhowch ail linell eich cyfeiriad (os oes gennych un).

Tref/dinas Rhaid i chi nodi ym mha dref y mae’r cyfeiriad hwn.

Gwlad Rhaid i chi ddewis gwlad y cyfeiriad o’r gwymplen.

Cod post/zip Rhaid i chi roi eich cod post.

Rhif ffôn cartrefv Darparwch rif ffôn cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi er mwyn cadarnhau unrhyw fanylion yr ydych wedi eu darparu.

Rhif ffôn symudolDarparwch rif ffôn symudol fel dewis ar wahân i’r rhif cyswllt uchod.

Ticiwch y blychau sy’n berthnasol i chiDewiswch yr holl opsiynau sy’n berthnasol i chi. Dylid dewis o leiaf un opsiwn.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar opsiwn.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 42: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

42

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2: Incwm a ThreuliauLlenwch fanylion eich incwm a threuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill.

Yn unol â Rheolau Cynllun Bwrsariaeth y GIG, diffinnir y flwyddyn ariannol fel blwyddyn dreth y DU, sy’n dechrau ar 6 Ebrill ac sy’n parhau am gyfnod o 12 mis.

Wrth ddatgan eich incwm, dylech sicrhau bod y ffigyrau rydych yn eu darparu yn cyd-fynd â’r hyn sy’n cael ei ddangos yn y dystiolaeth gefnogol rydych yn ei darparu. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cais yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.

Person 2 – Incwm trethadwy gros ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 Ebrill

Incwm o Gyflogaeth Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o unrhyw waith cyflogedig (cyflog/tâl ac ati).

Gellir dod o hyd i’r ffigwr hwn ar eich P60 neu slip cyflog mis Mawrth.

Lwfansau trethadwy Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o lwfansau trethadwy, neu fudd-daliadau ymarferol, e.e. car y cwmni, yswiriant meddygol preifat ac ati.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar eich P2 neu P11D.

Incwm o hunangyflogaeth neu gyfarwyddo cwmniRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o hunangyflogaeth neu gyfarwyddo cwmni. Dyma fydd y ffigwr sy’n cael ei ddatgan ar y ffurflen hunanasesu treth a gyflwynwyd i CThEM.

Incwm o dir, eiddo neu eiddo wedi’i ddodrefnu ar osodRhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o elw o lety neu osod tai, gan gynnwys treth.

Pensiwn Rhowch eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o bensiwn (pensiwn y wladwriaeth, pensiwn preifat, pensiwn gwaith ac ati).

Llog banc neu gymdeithas adeiladu (ni ddylech gynnwys manylion am unrhyw log di-dreth, fel ISA) Rhowch incwm y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o log banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys treth.

Budd-daliadau trethadwy Rhowch incwm y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar o fudd-daliadau trethadwy (Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-daliadau Analluogrwydd ac ati).

Sylwer nad yw Budd-daliadau Plant na Chredydau Treth Gwaith yn drethadwy (mae rhestr gyflawn o fudd-daliadau trethadwy a di-dreth ar wefan CThEM).

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 43: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

43

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 2: Incwm a Threuliau

Incwm arall heb ei ennillRhowch unrhyw incwm arall heb ei ennill a dderbynioch ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar (difidend, cyfranddaliadau ac ati). A fyddech cystal â rhoi’r ffigwr gros, hynny yw, cyn tynnu unrhyw dreth incwm neu yswiriant gwladol.

Cod trethRhowch eich cod treth, sydd i’w weld ar eich P60, slip cyflog mis Mawrth neu P2.

Os nad oes cod treth gennych, rhowch ‘ddim yn berthnasol’.

Os ydych wedi dangos eich bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig, a heb ddatgan cyflog, tâl nac incwm hunangyflogaeth, a fyddech cystal â darparu rhagor o wybodaeth.

Os dewisoch ‘Cyflogedig’ neu ‘Hunangyflogedig’ yn yr adran flaenorol, ac wedi datgan mai £0.00 oedd eich incwm yn y flwyddyn dreth flaenorol, rhaid i chi esbonio pam mai £0.00 oedd eich incwm e.e. hunangyflogedig ac wedi gwneud colled ar elw.

Treuliau ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, a ddaeth i ben ar 5 EbrillCyfraniadau Pensiwn Gwaith

Rhowch dreuliau eich cyfraniadau pensiwn gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar, os yw’n berthnasol.Pensiwn Personol / Blwydd-daliadau Ymddeol

Rhowch dreuliau’r flwyddyn ariannol fwyaf diweddar ar gyfer pensiwn

personol/blwydd-daliadau ymddeol. Sylwer y dylai’r rhain achosi gostyngiadau yn y dreth, fel arall, ni ddylech eu cynnwys.

Llog banc neu gymdeithas adeiladu (ni ddylech gynnwys manylion unrhyw log di-dreth, fel ISA)Rhowch incwm y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar a ddaeth o log banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys treth.

Budd-daliadau trethadwy Rhowch incwm y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar a ddaeth o fudd-daliadau trethadwy (Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd ac ati).

Sylwer nad yw Budd-daliadau Plant na Chredydau Treth Gwaith yn drethadwy (mae rhestr gyflawn o fudd-daliadau trethadwy a di-dreth ar gael ar wefan CThEM).

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 44: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

44

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Datganiad Person 2 Mae’r datganiad hwn yn dangos bod yr holl wybodaeth yr ydych wedi ei darparu yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

Nawr, defnyddiwch y cyfle hwn i edrych dros yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr adran hon, ac i ddarllen yr arweiniad sydd ar y dudalen ddatganiad hon cyn derbyn.

Os ydych yn penderfynu peidio â derbyn, ni fyddwn yn gallu prosesu cais y myfyriwr am Fwrsariaeth GIG.

Derbyn y DatganiadTiciwch y bocs i ddangos eich bod yn cytuno â’r datganiad.

Dyddiad y DatganiadCliciwch ar eicon y calendr a dewiswch ddyddiad heddiw.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis.

Os hoffech barhau â’ch cais am fwrsariaeth, cliciwch ar ‘NESAF’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 45: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

45

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Beth sy’n digwydd nesaf? Darllenwch y wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon.

Ar ddiwedd y dudalen hon, bydd gennych bedwar dewis. Dyma gam olaf eich cais Bwrsariaeth GIG.

Dylech sicrhau eich bod yn hapus â’r ffurflen gais ddrafft cyn ei hanfon. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno eich cais bwrsariaeth, cliciwch ar ‘CYFLWYNO’.

Manylion y Myfyriwr

Manylion Personol Manylion y Cwrs Manylion Noddi neu Secondiad Cymhwysedd Personol Lwfans Dibynnydd Lwfans Gofal Plant Darparwr Gofal Plant

Statws Dyfarniad Myfyrwyr Incwm a Threuliau’r Myfyriwr Manylion Banc Datganiad y Myfyriwr Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person 1 Datganiad Person 1

Cyfraniad wedi’i Asesu ar sail Incwm Person Datganiad Person 2 Beth sy’n Digwydd

Page 46: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

46

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Cyflwyno’r Dystiolaeth Gefnogol

Cyflwyno eich Tystiolaeth GefnogolPan fyddwch wedi cyflwyno eich ffurflenni ar-lein, byddwch yn derbyn neges e-bost gennym a fydd yn rhoi rhestr o’r holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom er mwyn asesu eich cais (hefyd, gallwch ddod o hyd iddo yn adran ‘Dogfennau’ eich cyfrif SCBA – dogfen o’r enw ‘EvidenceRequiredEmail’).

Os ydych wedi gwneud cais am Lwfans Gofal Plant, bydd y neges e-bost hon yn gofyn i chi lenwi ffurflen bapur er mwyn i chi ddarparu amcangyfrif o’ch costau ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Ni allwn asesu eich hawl am fwrsariaeth nes y byddwn yn derbyn eich holl dystiolaeth gefnogol.

Bydd cyngor ynghylch ble i anfon eich tystiolaeth yn y neges

‘EvidenceRequiredEmail’. Dylech anfon popeth atom trwy Ddosbarthu Arbennig, a hefyd, dylech gynnwys amlen ddychwelyd gyda’ch cyfeiriad arni, a gyda’r costau postio cywir wedi’u talu, fel bod modd i chi ddilyn trywydd eich dogfennau wrth i ni eu derbyn a’u dychwelyd pan fyddant yn ein gadael.

P’un a ydych yn defnyddio amlen bapur/cerdyn neu gwdyn Dosbarthu Arbennig blastig er mwyn anfon y dystiolaeth gefnogol, a fyddech cystal â chryfhau’r sêl gan ddefnyddio tâp. Hefyd, dylech sicrhau bod yr amlen a’r amlen ddychwelyd yn ddigon mawr i ddal yr holl ddogfennau.

Cyflwyno Tystiolaeth Gefnogol Rhywun ArallEfallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth rhywun arall, er enghraifft, tystiolaeth ariannol gan riant, priod neu bartner. Os ydynt yn dymuno cadw’r wybodaeth yn gyfrinachol oddi wrthych, dylech ofyn iddynt osod y dogfennau mewn amlen wedi’i selio a’i rhoi yn yr amlen sy’n cynnwys eich tystiolaeth gefnogol chi.

Peidiwch ag anfon tystiolaeth rhywun arall ar wahân i’ch tystiolaeth chi, gan y gall hyn achosi oedi wrth asesu eich cais.

Os yw’r unigolyn arall eisiau i ni ddychwelyd eu dogfen(nau) nhw at gyfeiriad gwahanol, rhaid iddynt gynnwys llythyr eglurhad yn nodi hyn, ac amlen gyda’r costau postio Dosbarthu Arbennig wedi eu talu ar ei gyfer, ac yn nodi’r cyfeiriad y dylwn ddychwelyd y dogfen(nau) ato.

Cyflwyno’r Dystiolaeth Gefnogol

Page 47: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

47

Llenwi eich cais Bwrsariaeth GIG

Amserlenni ar gyfer Asesu eich Hawl am Fwrsariaeth

Ceisiadau am FwrsariaethEin bwriad yw asesu eich cais am fwrsariaeth o fewn 30 diwrnod gwaith o dderbyn eich holl dystiolaeth gefnogol. Byddai hyn yn berthnasol pan fyddwn yn derbyn eich tystiolaeth ddau fis cyn dechrau eich cwrs.

SganioEin bwriad yw prosesu a dychwelyd eich dogfennau i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Derbyn eich taliadau bwrsariaethCaiff Bwrsariaethau GIG eu talu mewn rhandaliadau cyfartal misol. Byddwch yn derbyn y taliadau yn uniongyrchol gan eich Prifysgol. (Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr meddygol a deintyddol, a fydd yn cael eu talu trwy drefniadau ar wahân).

Amserlenni ar gyfer Asesu eich Hawl am Fwrsariaeth

Page 48: Canllaw cam wrth gam i’r System Cymorth Bwrsariaeth Ar ... · Mae hwn yn PDF rhyngweithiol. Er mwyn llywio, defnyddiwch y botymau saeth ar naill ochr y dudalen neu ddod o hyd i

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth neu i wneud ymholiadau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr.

Cyfeiriad: Gwasanaeth Dyfarniadau MyfyrwyrLlawr 4 Tŷ’r CwmnïauFfordd y Goron CaerdyddCF14 3UB

Ffôn: 029 2090 5380

E-bost: [email protected]

PartneriaethCydwasanaethauGwasanaethau Dyfarniadau MyfyrwyrShared Services PartnershipStudent Awards Services