canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol ar... · anfonwch e-bost at tyfu’n wyllt i...

18
The Royal Botanic Gardens Kew has exempt charitable status Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol Un, dau, hau!

Upload: hathien

Post on 21-Aug-2018

219 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

The Royal Botanic Gardens Kew has exempt charitable status

Canllawiau ar gyfer

gwneud cais am brosiect

cymunedol

Un, dau, hau!

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 2 o 18

growwilduk.com

1. Croeso Diolch yn fawr am eich diddordeb mewn ymuno â rhwydwaith prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt.

Mae Tyfu’n Wyllt yn rhoi cyllid o rhwng £1,000 a £4,000 i grwpiau cymunedol sy’n dymuno dod â phobl at ei gilydd i weddnewid man cymunedol trwy hadu a thyfu blodau brodorol o’r DU.

Os oes gan eich grŵp chi syniad a fydd yn ysbrydoli pobl i ymgysylltu â byd natur, yna gwnewch gais cyn 12pm ar 1 Rhagfyr 2015 i gael cyfle i ymuno â’n rhwydwaith bywiog.

Beth yw beth?

Rydym yn gobeithio ariannu o leiaf 60 o grwpiau yn 2016 ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae llawer o gefnogaeth ar gael gan ein tîm yn ystod y cyfnod ymgeisio o dri mis yn ystod hydref 2015.

Bydd y grwpiau a fydd yn derbyn arian yn cael gwybod ym mis Chwefror 2016 er mwyn gallu cychwyn eu prosiect ym mis Mawrth a’i gwblhau erbyn mis Hydref 2016. Mae pob grŵp yn rhannu eu taith ar-lein ar eu tudalen proffil eu hunain a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol a phapurau newydd. Mae Tyfu’n Wyllt yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r grwpiau a’u prosiectau bob cam o’r ffordd.

Yn ogystal â hyn, mae grwpiau sy’n cael ei hariannu’n ymuno â’r 60 grŵp a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt yn 2014 a’r 64 a ariannwyd yn 2015. Ochr yn ochr â’n ‘safleoedd blaenllaw’ ym mhob gwlad yn y DU a 45 o brosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc, mae Tyfu’n Wyllt yn datblygu rhwydwaith o bobl sy’n dod â lliw a bywyd gwyllt i fannau cyhoeddus eu cymuned.

Cael mwy o wybodaeth

Darllenwch y canllawiau hyn ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol Tyfu Wyllt. Mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn unrhyw gwestiynau ac i ofyn am ffurflen gais.

_Toc428879858

2. Rhestr wirio ac amserlen gwneud cais ................................................................. 3

3. Cymorth ar gyfer gwneud cais a manylion cyswllt ................................................ 5

4. Hyrwyddo a chael cyhoeddusrwydd i’ch prosiect ................................................. 7

5. Meini prawf ariannu prosiectau ............................................................................ 8

6. Sut i lenwi’ch ffurflen gais .................................................................................. 10

7. Gofyn am eich ffurflen gais. ................................................................................ 18

Cewch eich ysbrydoli gan brosiectau 2014 a 2015: ewch i’n map rhyngweithiol i ddarllen eu tudalennau proffil: growwilduk.com/community-projects

Darllenwch beth mae pobl eraill yn ei ddweud: ewch i’n cyfrif twitter https://twitter.com/GrowWildUK a’n blog growwilduk.tumblr.com

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 3 o 18

growwilduk.com

2. Rhestr wirio ac amserlen gwneud cais

Pethau i’w gwneud Pryd Beth Cwblhawyd

Datblygu prosiect cymunedol eich grŵp

Darllenwch y canllawiau hyn ar gyfer ymgeisio am brosiect cymunedol. Ysgrifennwch eich syniadau.

Ar unwaith Trafodwch gyda’ch grŵp a’r bobl leol a fyddai’n cymryd rhan ac yn elwa ar y prosiect.

Gofynnwch am ffurflen gais. Mae Tyfu’n Wyllt yn defnyddio ffurflen ar-lein a chewch deipio neu gopïo eich atebion arni ac atodi lluniau o’ch safle.

O 1 Medi 2015

Anfonwch e-bost at Tyfu’n Wyllt i ofyn am ddolen i’n ffurflen gais. Gweler y manylion cyswllt ar dudalen pump. Rhowch eich enw ac enw’ch grŵp, a nodi a hoffech chi gael galwad ffôn i drafod eich syniadau neu a ydych chi’n gymwys.

Cynlluniwch eich prosiect. Defnyddiwch y cwestiynau cais a restrir yn adran 6 y canllawiau hyn fel fframwaith. Mae’r rhain yn dechrau ar dudalen wyth.

O 1 Medi 2015

Trafodwch gyda’ch grŵp a’r bobl a fyddai’n cymryd rhan ac yn elwa.

Trafodwch eich prosiect â Tyfu’n Wyllt. Allwn ni ddim adolygu ffurflenni drafft, ond gallwn helpu i lunio’ch syniadau wrth fynd ymlaen.

O 1 Medi 2015

Anfonwch e-bost neu ffoniwch unrhyw bryd i drefnu i gael cyngor. Gweler tudalen pump.

Paratoi a chyflwyno’ch cais

Dilynwch y cwestiynau yn adran 6 wrth ddrafftio eich atebion i’r cwestiynau ar y ffurflen gais

Cyn gynted â phosibl

Drafftiwch eich atebion yn syth ar y ffurflen ar-lein, a chewch ddod yn ôl ati drwy ddefnyddio’r ddolen a ddarparwyd, neu gwnewch ddogfen ar wahân a’i chadw ar eich cyfrifiadur, ac yna copïo a gludo’ch atebion i’r ffurflen ar-lein

Dilynwch y canllawiau hyn wrth baratoi’r ffeiliau i gefnogi’ch cais, gan gynnwys lluniau, caniatâd perchennog y tir, yswiriant ac ati (Gweler C.2dd yn adran 6)

Cyn gynted â phosibl

Diweddarwch yr atebion a gadwyd ar eich cyfrifiadur neu yn y ffurflen gais.

Cywirwch eich atebion a’ch ffeiliau ar ôl i rywun sydd ddim yn gyfarwydd â’r prosiect eu hadolygu. Mae hyn yn brawf ar eich eglurdeb a’ch rhesymeg.

Ar ôl cwblhau drafft o’r cais.

Diweddarwch yr atebion a gadwyd ar eich cyfrifiadur neu yn y ffurflen gais*.

Cyflwynwch eich ffurflen gais ar ôl llenwi pob adran. Gweler y cwestiynau ar dudalen wyth.

Erbyn hanner dydd, 1 Rhagfyr 2015

Cadwch olwg am e-bost gennym ni yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais a’ch ffeiliau ategol.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 4 o 18

growwilduk.com

Er mwyn i Tyfu’n Wyllt dderbyn eich cais, llenwch yr adrannau i gyd a phwyswch y botwm cyflwyno ar y dudalen olaf. Ffoniwch ni ar 020 8332 5444 / 5445 os cewch drafferth â’r ffurflen.

Ar ôl i’ch grŵp gyflwyno’r ffurflen gais, bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn rhoi sgôr i’ch atebion yn ôl y meini prawf sy’n cael eu hamlinellu yn y canllawiau hyn (tudalen saith). Mae panel o arbenigwyr annibynnol yn ein helpu i benderfynu pa grwpiau i’w hariannu.

Os ydych yn llwyddo

Darllenwch eich pecyn dyfarniad prosiect cymunedol (a fydd yn cael ei anfon ar e-bost atoch gyda’ch llythyr cynnig).

Dechrau mis Chwefror 2016

Dilynwch y camau i gael eich arian, gan gynnwys dychwelyd copi wedi’i lofnodi o’r cytundeb dyfarniad.

Lluniwch dudalen proffil eich prosiect Tyfu’n Wyllt ac archebwch fflag neu faner Tyfu’n Wyllt.

Canol mis Chwefror 2016

Byddwch yn derbyn dolen er mwyn llunio’ch proffil a chyfarwyddiadau ar sut i’w sefydlu.

Cychwynnwch eich prosiect, a rhannwch ei hynt ar eich tudalen proffil a chodi eich fflag neu faner.

O ddechrau mis Mawrth 2016

Gweithio gyda’r gymuned, pobl ifanc, grwpiau eraill a thîm y wasg Tyfu’n Wyllt.

Trefnwch i ddod â’ch prosiect i ben yn ariannol gyda Tyfu’n Wyllt.

O ddiwedd mis Awst. Dim hwyrach na diwedd mis Hydref 2016

Anfonwch y cofnod gwariant (a gawsoch ar e-bost gyda’r pecyn dyfarniad) a derbynebau am gostau dros £300.

Cysylltwch â grwpiau prosiectau 2014 a 2015 Tyfu’n Wyllt.

Proses barhaus wrth ddiweddaru tudalennau proffil.

Mae hyn yn cynnwys mapio ar-lein i gael a chynnig help yn ogystal â chyfleoedd unigryw eraill.

Os nad ydych yn llwyddo

Darllenwch y llythyr oddi wrth Tyfu’n Wyllt yn egluro’r cam nesaf.

Dechrau mis Chwefror 2016

Cadw cysylltiad â rhwydweithiau Tyfu’n Wyllt.

Gofynnwch am sylwadau gan Tyfu’n Wyllt ynglŷn â’ch cais.

Mis Chwefror. Dyddiad i’w gyhoeddi.

Defnyddiwch y sylwadau i ymgeisio am gyllid gan sefydliadau eraill.

Tra byddwch yn aros, beth am gofrestru i gael pecynnau hadau Tyfu’n Wyllt i’w rhannu ag aelodau eich grŵp?

Cofrestrwch ar-lein am ddim yn growwilduk.com o fis Hydref 2015 hyd at ganol mis Chwefror 2016.

Mae digon o hadau ym mhob pecyn ar gyfer pump o bobl.

Mae digon o hadau ym mhob pecyn i weddnewid deg metr sgwâr, felly gallwch ei rannu â phobl i’w hau mewn mannau cyhoeddus, strydoedd, gerddi, balconïau a blychau ffenestr.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 5 o 18

growwilduk.com

3. Cymorth ar gyfer gwneud cais a manylion cyswllt

Ydych chi wedi cael syniad gwych ar gyfer prosiect a fydd yn ysbrydoli’ch cymuned, ac eisiau gwybod sut i wneud cais am arian?

Neu efallai bod arnoch eisiau gwybod mwy am brosiect sydd eisoes ar y gweill?

Mae tîm partneriaeth Tyfu’n Wyllt wedi’i leoli mewn swyddfeydd lleol ym mhob gwlad ac maen nhw yma i gynnig cyngor i chi yn ystod eich cais ac i drefnu cysylltiadau eraill. Allwn ni ddim adolygu ffurflenni drafft, ond gallwn drafod syniadau cyn i chi eu cyflwyno nhw.

Peidiwch â gadael i’r broses godi ofn arnoch. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr ynglŷn â’r hyn yr ydym yn gofyn i chi ei wneud.

growwilduk.com/meet-the-team

Eich tîm partneriaeth Tyfu’n Wyllt

Cysylltwch â’r rheolwr a restrir isod ar gyfer Tyfu’n Wyllt yn eich gwlad chi gydag unrhyw gwestiwn, ac i ofyn am ffurflen gais. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu amser ar gyfer datblygu’ch syniad.

Lloegr

Tim Owen

[email protected]

@GrowWildEngland

020 8332 3759 / 07827 847 490

Yr Alban

Claire Bennett

[email protected]

@GrowWildScot

0131 554 2561 / 07917 264 891

Gogledd Iwerddon

Stéphanie Baine*

[email protected]

@GrowWildNI

07920 477 553

Cymru

Maria Golightly

[email protected]

@GrowWildWales

07917 266 445

Y DU

Prif Reolwr Partneriaethau

Tim Owen

[email protected]

020 8332 3759 /07827 874490

Y DU

Swyddogion Ymgysylltu

Catherine Winrow / Kate Allardyce

[email protected] / [email protected]

020 8332 5444 / 020 8332 5445

*Rhan amser (pedwar diwrnod yr wythnos)

Yr Alban

Yn yr Alban, mae Tyfu’n Wyllt yn cydweithio â greenspace scotland (greenspacescotland.org.uk)

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 6 o 18

growwilduk.com

Cymorth parhaus drwy gydol y prosiect

Hyfforddiant, cymorth a chyhoeddusrwydd

Mae tîm Tyfu’n Wyllt yn hoffi datblygu perthynas glòs â phob un o’r grwpiau rydym ni’n ei ariannu. Rydym ni yma i helpu’ch tîm fynd i’r afael â’r her o gael pobl i ymroi i weithgareddau creadigol ynglŷn â phlannu a phlanhigion brodorol y DU.

Mae Tyfu’n Wyllt yn cynnig cefnogaeth ar y ffôn wrth ichi ymgeisio ac yn ymweld â grwpiau sy’n cael eu hariannu. Yn enwedig aelodau canlynol ein tîm:

1. Ein tîm o Reolwyr Partneriaethau a Swyddogion Ymgysylltu. Gweler y manylion cyswllt ar y dudalen flaenorol.

2. Ein tîm marchnata a chyfryngau cymdeithasol sy’n helpu i hyrwyddo eich grŵp a’ch prosiect. Mae grwpiau hefyd yn derbyn canllawiau cyfathrebu gyda manylion cyswllt llawn sy’n cynnwys ein hasiantaethau cysylltiadau cyhoeddus.

Cyngor gan grwpiau tebyg

Bydd Tyfu’n Wyllt yn rhoi eich grŵp mewn cysylltiad â grwpiau tebyg yr ydym ni’n eu hariannu er mwyn rhannu cyngor.

Ewch i growwilduk.com i chwilio ein map ar-lein o brosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt. Cewch hidlo prosiectau o ran lleoliad, math, gwlad neu air allweddol.

Mae ein prosiectau ar gyfer 2014 a 2015 eisoes yn defnyddio’u tudalennau proffil i ddenu cefnogaeth a chyllidwyr newydd. Bydd y swyddogaeth hon yn parhau gan nad yw’r proffiliau’n dod i ben, a gallwch barhau i’w defnyddio i gysylltu â phrosiectau yn lleol a ledled y DU.

Llunio dyfodol Tyfu’n Wyllt

Cymerwch ran yn astudiaethau cyffrous Tîm Gerddi Botaneg Brenhinol Kew ynglŷn â rhwydwaith prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt

Rydym yn awyddus i glywed y da a’r drwg gan grwpiau; a oedd eich prosiect o fudd ai peidio.

Cadwch olwg am ffyrdd i gymryd rhan yn ein gwerthusiad.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 7 o 18

growwilduk.com

4. Hyrwyddo a chael cyhoeddusrwydd i’ch prosiect

Tudalen Proffil eich Prosiect

Mae Tyfu’n Wyllt yn darparu tudalen

broffil benodol i’ch grŵp ar

growwilduk.com.

Fel amod o’ch ariannu gan Tyfu’n

Wyllt, bydd gofyn i chi gyhoeddi’r

diweddaraf am eich hynt a rhannu’ch

cyflawniadau ar dudalen proffil eich

prosiect. Dyma fydd y prif gyfrwng ar

gyfer adrodd am gyflawniad eich

prosiect gyda thîm Tyfu’n Wyllt.

Gofynnwn i chi ddiweddaru’r canlynol

yn rheolaidd:

1. Lluniau misol sy’n ysbrydoli o

weithgarwch y gwanwyn, yr

haf a’r hydref,.

2.Cofnodion bywiog, cryno o

ddigwyddiadau, sgyrsiau,

gweithgareddau plannu ac

unrhyw erthyglau yn y wasg

ayb.

3.Eich newyddion diweddaraf ar

Facebook, twitter a chyfryngau

cymdeithasol eraill, a bydd

Tyfu’n Wyllt yn sôn am hyn

wrth ein miloedd o ddilynwyr.

Mae cymorth ar gael os nad ydych yn

gyfforddus yn defnyddio proffiliau ar-

lein.

Gweler enghraifft o broffil isod ac ewch i growwilduk.com/project-map i gael gweld rhai eraill.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 8 o 18

growwilduk.com

5. Meini prawf ariannu prosiectau

Prosiectau y mae Tyfu’n Wyllt yn gobeithio eu hariannu

- Prosiectau sy’n ymgysylltu â rhai rhwng 12-25. Mae’r rhai gorau’n aml yn ystyried eu diddordebau.

- Prosiectau sy’n cynnwys y gymuned gyfan

- Prosiectau sy’n ysbrydoli drwy greadigrwydd a gweddnewid…

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 9 o 18

growwilduk.com

Meini Prawf

Mae pob maen prawf wedi’i rifo isod yn ymwneud â chwestiwn ar y ffurflen gais.

Ar ôl yr amlinelliad hwn, fe welwch gyngor manwl sy’n dechrau ar y dudalen nesaf ynglŷn â sut i ateb pob cwestiwn. Pan fyddwch wedi darllen y cyngor hwn, gofynnwch i Tyfu’n Wyllt am ffurflen gais.

1. Syniad sy’n ysbrydoli

Syniad sy’n tanio dychymyg y gymuned drwy weithgareddau cyffrous a chanlyniadau sy’n tynnu sylw, er mwyn dangos planhigion brodorol y DU ar eu gorau. Nid dim ond beth sy’n cael ei blannu sy’n bwysig, ond sut yr ydych yn denu pobl o bob rhan o’r gymuned i gymryd rhan, yn enwedig pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed. Byddwch yn greadigol, er enghraifft meddyliwch am gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau.

2. Grŵp credadwy, llawn egni

Dylai grŵp dielw sy’n gweithio er budd pobl leol arwain y prosiect. Rhaid i’r grŵp fod â’i gyfrif banc ei hun neu gael ei gefnogi gan grŵp sydd â chyfrif. Rhaid i’r prosiect Tyfu’n Wyllt fod ar wahân, er y caiff fod yn rhan o raglen o brosiectau cysylltiedig, ac ni chaiff gyflawni unrhyw ddyletswydd statudol.

3. Dal sylw’r gymuned

Mae croestoriad o bobl leol yn cymryd rhan, gan gynnwys pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed, trwy greu cyfleoedd gwirfoddoli i weddnewid man cymunedol â lliw a bywyd gwyllt planhigion brodorol y DU.

4. Hyrwyddo planhigion brodorol y DU

Tyfu planhigion sy’n frodorol i gynefin y prosiect, gan wneud pobl leol yn ymwybodol o’r natur yr ydym ni’n brysur ei golli, a rhoi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth am hynny. Does dim rhaid defnyddio blodau’n unig. Mae coed, llwyni a chnydau bwyd hefyd yn frodorol i ardaloedd lleol.

5. Man(nau) sydd ar gael

Man cymunedol (neu nifer o fannau’n agos at ei gilydd) ar gael i’w ddefnyddio, a hwnnw’n ddigon mawr ar gyfer syniad a chyllideb y prosiect. Rydym yn ariannu mannau trefol a maestrefol, h.y. lleoedd fydd ar gael i lawer o bobl eu defnyddio.

6. Proffil uchel Defnyddio straeon a dulliau hwyliog i rannu lluniau a gweithgareddau â chymaint o bobl a phobl ifanc rhwng 12 a 25 yn y gymuned â phosibl - yn ogystal ag ar-lein gyda Tyfu’n Wyllt trwy’r dudalen broffil benodol, y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg.

7. Gwerth am arian

Cyflawni rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2015, gyda rhywfaint o weithgarwch bob mis, a defnyddio’r holl arian a dderbyniwyd ar gostau’r prosiect (£1,000 - £4,000).

8. Parhad Mae buddiannau’n parhau gyda threfniadau i reoli’r man(nau) am o leiaf dair blynedd, yn ddelfrydol mewn partneriaeth â grwpiau lleol eraill. Dylai’r bobl sy’n rhan o’r prosiect, gan gynnwys pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed, deimlo cyfrifoldeb parhaus tuag at blanhigion brodorol y DU a’u pwysigrwydd.

Oeddech chi’n gwybod?

Bydd Tyfu’n Wyllt hefyd yn rhedeg rhaglen o weithgareddau arloesol a chreadigol i bobl ifanc rhwng 12 a 25 yn ystod hydref 2015. Mae hyn yn cynnwys rhoi grantiau o £500 i bobl ifanc i gyflawni prosiectau cyffrous sy’n gwneud pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd blodau gwyllt brodorol y DU. Gan mai pobl ifanc sy’n arwain y rhaglen, nhw fydd yn cynllunio, dethol a gwerthuso’r prosiectau ieuenctid. Cewch wybod mwy ar ein gwefan.

Mae Tyfu’n Wyllt hefyd yn dyfarnu £120,000 i bedwar safle blaenllaw (un ym mhob gwlad yn y DU) er mwyn creu man cyffrous a fydd yn gadael ôl parhaol. Agorodd ein safle blaenllaw yn yr Alban ym mis Mehefin 2014, a lansiwyd safle blaenllaw Lloegr ym mis Gorffennaf 2015. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon bydd cyfanswm o chwe phrosiect a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cymryd rhan mewn pleidlais gyhoeddus i benderfynu ar eu prosiectau blaenllaw. Bydd y bleidlais yn digwydd fis Hydref 2015, a byddwn yn cyhoeddi’r ennillwyr ym mis Tachwedd. Cewch wybod mwy ar ein gwefan.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 10 o 18

growwilduk.com

6. Sut i lenwi’ch ffurflen gais

Cadw eich cais ar-lein wrth fynd ymlaen

’Nid yw’r ffurflen gais yn faith, ond mae’n bosibl na fyddwch eisiau ei chwblhau i gyd ar unwaith. Felly cewch gadw’r ffurflen gais wrth i chi fynd ymlaen a dod yn ôl ati hynny o weithiau ag y dymunwch.

Er hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn y drefn isod i osgoi colli’ch gwaith a’ch galluogi i ddod yn ôl ato eto.

Sylwer – Er y gallwch ddrafftio’ch atebion yn uniongyrchol ar y ffurflen ar-lein, rydyn ni’n argymell eich bod yn drafftio atebion ar ddogfen ar wahân i’w chadw ar eich cyfrifiadur, ac yna copïo a gludo’ch atebion i’r ffurflen ar-lein.

1. Pan fyddwch yn dymuno cadw’ch atebion, cliciwch ‘cadw’r atebion a dod yn ôl eto’ (wedi’i gylchu). Byddwch yn gweld blwch yn gofyn a ydych eisiau gadael y ffurflen a dod yn ôl ati’n ddiweddarach, cliciwch ‘iawn’.

2. Yna byddwch yn cael yr hysbysiad isod. I fynd yn ôl at eich ffurflen ar-ei-hanner, bydd angen i chi gopïo’r ddolen las. Gallwch hefyd gael e-bostio’r ddolen hon i chi fel y dangosir. Os ydych chi’n gadael y dudalen hon cyn cofnodi’r ddolen, ni fyddwch yn gallu dod yn ôl i’r ffurflen gais a bydd yn rhaid i chi ailddechrau o’r dechrau.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 11 o 18

growwilduk.com

Canllawiau i’ch helpu i ateb bob cwestiwn

Mae’r cwestiynau isod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r ffurflen gais. Darllenwch y canllawiau isod i’ch helpu i gwblhau eich cais.

1. Syniad sy’n ysbrydoli

1a. Beth yw enw eich prosiect cymunedol?

Dewiswch enw prosiect a fydd yn tynnu sylw’r bobl yr ydych yn dymuno iddyn nhw gymryd rhan. Dewiswch enw byr hefyd, sy’n swnio’n hwyl, yn ddiddorol, ac sy’n disgrifio’r hyn rydych chi’n ei wneud; enw y byddai’r papur newydd a’r orsaf radio leol yn ei hoffi. Rhaid i enw’ch prosiect fod y wahanol i enw eich grŵp ac ni ddylai fod yn fwy na 50 o nodau.

1b. Beth yw eich syniad am brosiect cymunedol? 800 o nodau (tua 200 o eiriau)

Cyffrowch ni ynglŷn â’ch prosiect. Dywedwch y canlynol wrthym ni:

Problem/cyfle sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Yr hyn y bydd eich grŵp yn ei wneud.

Y gwahaniaeth y byddwch chi’n ei wneud i’r man a’r bobl sy’n cymryd rhan, yn enwedig pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed.

Cyngor ysgrifennu

Ewch yn ôl at eich ateb sawl gwaith wrth lenwi gweddill y ffurflen. Hwn yw un o’r cwestiynau pwysicaf yr ydym ni’n ei ofyn.

Rhowch brawf ar eich ateb trwy ei ddarllen ar lafar i rywun nad yw’n gyfarwydd â’ch prosiect. Rydym yn chwilio am grynodeb clir a chryno i’w sgorio ac, os cewch eich dewis, i’w ddefnyddio’n sail ar gyfer cyhoeddusrwydd.

2. Grŵp credadwy, llawn egni.

2a. Beth yw enw eich grŵp?

Dywedwch wrthym beth yw enw eich grŵp. Mae’n rhaid iddo fod yn wahanol i enw eich prosiect.

2b. Pwy yw prif berson cyswllt eich grŵp?

Rhowch enw, swydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad y person gorau i ni gysylltu ag ef/hi ar gyfer trafod eich cais.

2c. Pwy yw uwch berson cyswllt eich grŵp?

Rhowch fanylion cyswllt eich uwch berson cyswllt, er enghraifft arweinydd neu reolwr y grŵp. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau Tyfu’n Wyllt bod y cyllid yn mynd i grŵp sydd ag unigolyn sy’n addas i fod yn gyfrifol am yr arian. Ni chaiff yr unigolyn hwn fod yr un un â phrif berson cyswllt y grŵp.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 12 o 18

growwilduk.com

2ch. Pam mai eich grŵp chi yw’r gorau i arwain y prosiect hwn? 600 o nodau (tua150 o eiriau)

Yn gyntaf, dywedwch wrthym pa fath o grŵp ydych chi, gan gyfeirio at feini prawf Tyfu’n Wyllt isod, o ran pwy sy’n gymwys.

Wedyn, rhowch ffydd i ni y gallwch arwain a chyflawni’r prosiect hwn er budd pobl leol. Rydym yn awyddus i grwpiau geisio gwneud rhywbeth newydd, felly does dim problem os yw’r prosiect hwn yn wahanol i rai eraill.

Os ydych yn grŵp sy’n bodoli ers amser, dywedwch wrthym pam a rhowch enghreifftiau o’r hyn yr ydych chi wedi’i gyflawni. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am gael gweld eich cofnodion ariannol.

Os ydych chi’n grŵp newydd, esboniwch pam y cawsoch eich sefydlu a soniwch ychydig ynglŷn â phrofiad y bobl sy’n cymryd rhan. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu geirda gan grŵp sydd eisoes wedi’i sefydlu ac sy’n adnabod eich tîm.

Grwpiau sy’n gymwys i ymgeisio:

Grwpiau gwirfoddol, cymunedol neu ieuenctid.

Grwpiau a gyfansoddwyd, grwpiau dielw ac elusennau.

Cynghorau plwyf, cymuned a thref.

Ysgolion uwchradd.

Awdurdodau iechyd, byrddau iechyd a charchardai.

Grwpiau nad ydynt yn gymwys i arwain cais, ond sy’n cael cefnogi grŵp cymwys i gyflawni ei brosiect:

Awdurdodau lleol, fel cynghorau sir, cynghorau dosbarth, awdurdodau unedol a chynghorau trefi mawr a dinasoedd.

Ysgolion cynradd gan ein bod yn canolbwyntio ar bobl rhwng 12 a 25 oed.

2d. Rhestrwch unrhyw grwpiau eraill sy’n ymwneud â chyflawni eich prosiect? 600 o nodau (tua 150 o eiriau), os oes angen

Rhestrwch enw cyswllt, enw’r grŵp a swyddogaeth unrhyw bartneriaid, os o gwbl, sydd wedi ymroi i helpu’ch grŵp i gyflawni eich prosiect Tyfu’n Wyllt os byddwch yn cael cyllid.

Gallai’r rhain fod yn grwpiau a fydd yn helpu i gael pobl i gymryd rhan, er enghraifft clybiau neu hostelau ieuenctid; cyflawni elfennau creadigol, er enghraifft artistiaid; ac i ddal yr arian ar eich rhan os nad oes gennych gyfrif banc yn enw eich grŵp.

Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld llythyrau cefnogaeth oddi wrth y grwpiau a restrir.

Ni chaiff fod yr un grŵp â’r grŵp sy’n llenwi’r ffurflen, derbyn yr arian a rheoli’r prosiect.

Peidiwch â rhestru’r bobl yr ydych chi’n bwriadu prynu planhigion, deunyddiau ac ati ganddynt.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 13 o 18

growwilduk.com

2dd. Datganwch fod gan eich grŵp yr holl bolisïau ac arferion llywodraethu isod, a’i fod yn cadw atynt. Ticiwch y blwch

Nid oes angen inni weld y dogfennau hyn wrth i chi ymgeisio, ond gallem ofyn am gael eu gweld cyn, yn ystod neu ar ôl eich prosiect:

Cyfansoddiad neu ddogfen seml y mae eich grŵp wedi cytuno arni, yn amlinellu diben ac amcanion y grŵp.

Polisi cyfle cyfartal

Polisi diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed (yn ofynnol os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc dan 18 neu ag oedolion sy’n agored i niwed).

Polisi iechyd a diogelwch.

Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n addas ar gyfer y prosiect dan sylw.

Canllawiau gwirfoddoli – od ydyn nhw’n bwysig i’r prosiect.

Mae croeso i chi ein ffonio os hoffech drafod y polisïau ac arferion llywodraethu hyn. Mae manylion cyswllt ar dudalen pump.

2e. Lle clywsoch chi am gyllid prosiect cymunedol Tyfu’n Wyllt? Cwymplen

Dewiswch o blith cylchlythyr Tyfu’n Wyllt, cylchlythyr oddi wrth eich sefydliadau, argymhelliad, twitter, facebook neu ffynhonnell arall.

2f. Pe byddai eich cais yn llwyddiannus, rhestrwch unrhyw gymorth penodol yr hoffech ei gael gan Tyfu’n Wyllt. 200 o nodau (tua 50 o eiriau), os oes angen

Nid yw’r cwestiwn hwn yn cael ei sgorio gan Tyfu’n Wyllt, ond mae’n helpu ein tîm partneriaeth i gynllunio cymorth i’ch grŵp os cewch eich ariannu.

3. Dal sylw’r gymuned 3. Disgrifiwch sut y bydd eich prosiect yn cynnwys pobl leol wrth ei gyflawni. 1200 o nodau (tua 300 o eiriau)

Disgrifiwch sut yr ydych yn bwriadu cynnwys y gymuned yn y gwaith o gynllunio’ch prosiect, ei weithredu, gwneud penderfyniadau a’i ddefnyddio yn y dyfodol. Dylai’r gweithgareddau ymwneud â materion sy’n berthnasol i’r gymuned a chael effaith ar fywydau yn eich ardal.

Yn yr un modd, disgrifiwch sut yr ydych yn bwriadu cynnwys pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed. Yn ddelfrydol, dylai’r prosiectau roi hwb i'w dyheadau a rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb parhaol iddynt dros eu hamgylchedd ynghyd â darparu sgiliau a fydd ganddynt drwy gydol eu hoes.

Yn y ddau achos, dylech gynnwys tystiolaeth fod gan eich prosiect gefnogaeth eang. Er enghraifft, canlyniad arolwg lleol sy’n dangos y byddai pobl yn defnyddio’r man sy’n cael ei weddnewid i gymdeithasu, ymlacio a theimlo’n ddiogel yn yr awyr agored.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 14 o 18

growwilduk.com

4. Hyrwyddo planhigion brodorol y DU

4. Sut bydd eich grŵp yn cael gafael ar blanhigion brodorol y DU, ac yn eu tyfu a’u cynnal? 1200 nod (tua 300 o eiriau)

Mae planhigion brodorol yn deillio o wlad benodol (y DU yn yr achos hwn) ac yn tyfu’n naturiol yno, ac nid wedi eu cyflwyno o rywle arall gan bobl. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth fendigedig a lliwgar o goed, llwyni, blodau gwyllt a chnydau bwyd.

Dylid cael gafael ar y planhigion a ddewiswch o stoc frodorol. Er enghraifft, ar gyfer prosiectau yn yr Alban, mae’n rhaid cael gafael ar yr holl hadau a phlanhigion yn yr Alban o hadau brodorol yr Alban. ’Does dim gwahaniaeth os oes unrhyw blanhigion brodorol neu anfrodorol yn eich man cymunedol eisoes, cyn belled â bod y planhigion yr ydych chi’n eu hychwanegu yn rhai sy’n frodorol i’ch gwlad.

Gallwch holi sefydliadau fel y canlynol yn eich ardal ynglŷn â phlanhigion brodorol y DU:

Sefydliadau cadwraeth

Cyflenwyr hadau brodorol

Plantlife

Online Atlas of the British & Irish Flora

Y Comisiwn Coedwigaeth

Dewisydd planhigion y Gymdeithas Frenhinol Arddwriaethol

Asiantaethau’r amgylchedd

Grwpiau treftadaeth naturiol

Gofynnwch i bobl broffesiynol leol sy’n arbenigo mewn tyfu a chynnal planhigion brodorol y DU am gyngor a chymorth, yn enwedig os ydych yn bwriadu gwneud rhywbeth mwy anodd, fel symud neu brynu pridd.

Mae cyngor ar dyfu i’w gael ar-lein hefyd yn growwilduk.com.

5. Man(nau) sydd ar gael

5a. Dywedwch wrthym lle bydd y prosiect yn digwydd. Rhowch gyfeiriad

Rhowch gymaint â phosib o fanylion am eich man cymunedol, gan gynnwys y cyfeiriad, er mwyn i Tyfu’n Wyllt allu dod o hyd i’ch prosiectau. Rydym angen eich lleoliad am y rhesymau canlynol:

Mapio ar-lein.

Oherwydd ein bod yn ymweld â hyd at 50% o’r prosiectau a ariennir gennym, yn aml gyda newyddiadurwyr.

Os nad oes cod post ar gyfer eich man chi, dewiswch god post adeilad sy’n agos neu wrth ochr y man y, y gallwch fynd iddo neu cysylltwch â Tyfu’n Wyllt i drafod cyfeirnod map.

Os oes gan eich prosiect fwy nag un man, rhestrwch hyd at ddau gyfeiriad arall. Os oes gan eich prosiect fwy na thri man, cysylltwch â ni i drafod eich prosiect.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 15 o 18

growwilduk.com

5b. Anfonwch luniau o’ch man cymunedol atom ni. Lanlwytho ffeil

Lanlwythwch o leiaf dri llun, o wahanol onglau, ar gyfer pob man dan sylw gan gynnwys un yn dangos y man yng nghyd-destun yr ardal o’i gwmpas. Mae hyn yn ein helpu i ddeall y syniad ar gyfer eich prosiect. Lanlwythwch eich lluniau mewn fformat jpeg hyd at faint o 2MB. Mae’n bosibl y gallai Tyfu’n Wyllt ddefnyddio eich lluniau ar gyfer cyhoeddusrwydd, felly anfonwch ddelweddau y mae gennych hawl i’w rhannu yn unig.

5c. Datganwch fod gan eich grŵp ganiatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir, ynghyd ag unrhyw ganiatâd arall sy’n ofynnol i gwblhau eich prosiect. Ticiwch y blwch

Bydd arnoch angen caniatâd perchennog ar y tir cyn cyflwyno eich cais. Gallai hwn fod eich grŵp chi. Mae’n bosibl hefyd y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol a chydsyniad pobl a sefydliadau â buddiant yn y safle. Ni fydd angen inni weld y dogfennau hyn ar y cam hwn, ond mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am gael eu gweld cyn y caiff eich prosiect ddechrau.

6. Proffil uchel 6a. Esboniwch sut y byddwch yn rhoi cyhoeddusrwydd i’ch prosiect. 1200 o nodau (tua 300 o eiriau)

Dywedwch wrthym am y gweithgareddau yr ydych chi wedi’u trefnu er mwyn denu cymaint o’r gymuned â phosibl i gymryd rhan, yn enwedig pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed, gan ddefnyddio straeon a dulliau sy’n hwyl ac sy’n ysbrydoli.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amserlen fer yn dangos cerrig milltir pwysig y prosiect rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2016 er mwyn cael cymaint o sylw â phosibl yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch fod Tyfu’n Wyllt yn darparu tudalen broffil benodol am ddim ar growwilduk.com os cewch eich dewis, ynghyd â chymorth gan dîm y wasg.

Awgrym - Mae Tyfu’n Wyllt wedi ymuno â Do #SomethingBrilliant i gynyddu’r sylw i’r gwaith gwych y mae elusennau, cymunedau ac unigolion yn ei wneud ledled y DU.

Rydym am i chi rannu eich straeon difyr a deniadol i’n hysbrydoli i gyd i wneud y pethau ‘bychain’ gwych sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. Anfonwch e-bost i [email protected] yn nodi’r peth gwych y gall pobl ei wneud i helpu.’ Nid oes rhaid i chi dalu am hyn.

6b. Rhowch wybod i ni am weithgaredd ar-lein eich grŵp. Cyfeiriadau gwe.

Rhowch gyfeiriadau gwe (URLs) y mae eich grŵp yn eu defnyddio, os ydyn nhw ar gael, gan gynnwys eich gwefan/blog, twitter, facebook, YouTube ac Instagram. Bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn dilyn eich grŵp ar-lein ac, os cewch eich dewis, bydd y cyfeiriadau hyn yn ymddangos ar dudalen proffil eich prosiect.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 16 o 18

growwilduk.com

7. Gwerth am arian 7a. Rhowch wybod i ni am ba lefel o gyllid yr ydych chi’n gwneud cais. Cwymplen

Rydym yn cynnig arian ar dair lefel, felly dylai cyfanswm eich cyllideb (heb gynnwys unrhyw gyfraniad mewn nwyddau/ amser) gyfateb i un o’r isod:

- Lefel 1: £1,000

- Lefel 2: £2,500

- Lefel 3: £4,000

Mae Tyfu’n Wyllt yn talu’r swm llawn i’r grwpiau sy’n cael eu hariannu, ar ddechrau eu prosiect.

Pwysig

1. Mae prosiectau sydd â gwerth uwch yn debygol o weddnewid mannau cymunedol mwy a bod o fudd i fwy o bobl leol. Mae’n bosibl y bydd prosiectau o werth is yn cyrraedd llai o bobl.

2. Mae lefelau cyllid Tyfu’n Wyllt yn gosod terfyn penodol ar gyfer cost eich prosiect, er nad yw’n broblem os yw eich grŵp yn rhagweld y byddwch yn gwario llai na hynny. Bydd Tyfu’n Wyllt yn cydweithio gyda chi i wario’r arian ar eitemau sy’n ymwneud â’ch prosiect. Os nad yw’n bosibl gwario’r arian i gyd, byddwn yn trefnu i chi ad-dalu’r arian sydd dros ben.

3. Wrth ddod â’ch prosiect i ben yn ariannol, bydd angen i’ch grŵp anfon ffurflen ‘cofnod gwariant’ (wedi’i darparu gan Tyfu’n Wyllt) at eich swyddog grant ynghyd â chopïau o anfonebau a derbynebau ar gyfer eitemau dros £300.

4. Mae Tyfu’n Wyllt yn cynnig 100% o gost prosiectau. Nid ydym yn gofyn am arian cyfatebol nac yn sgorio ar gyfer hynny yn rhan o gais eich grŵp. Fodd bynnag, os oes gennych arian cyfatebol ar gyfer nifer o brosiectau cysylltiedig i weddnewid man cymunedol, yna mae’n rhaid i brosiect Tyfu’n Wyllt fod ar wahân ac yn flaenllaw.

Mae’r cwestiwn nesaf yn gofyn i chi anfon cyllideb syml atom sy’n cyd-fynd â lefel y cyllid yr ydych chi wedi’i dewis.

7b. Anfonwch gyllideb seml atom yn dangos yr eitemau sydd eu hangen i gyflawni’ch prosiect, a chost pob un ohonynt. Lanlwytho ffeil

Lanlwythwch ffeil – taenlen fyddai’r gorau gennym - yn cynnwys enw eich grŵp, enw eich prosiect, a thabl syml yn dangos yr eitemau sydd eu hangen i gyflawni eich prosiect a chost pob un ohonynt.

Mae’n rhaid i gyfanswm eich gwariant fod yn £1,000, £2,500 neu £4,000. Dylech ychwanegu wedyn amcangyfrif o gyfraniadau mewn nwyddau / amser, os oes rhai.

Gweler y dudalen nesaf am gyngor ar sut i gyfrifo eich cyllideb, ac enghraifft o fformat.

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 17 o 18

growwilduk.com

7b. Anfonwch gyllideb seml atom yn dangos yr eitemau sydd eu hangen i gyflawni’ch prosiect, a chost pob un ohonynt. Parhad

Sut i gyfrifo’ch cyllideb (Mae’r adrannau wedi’u rhifo yn cyfeirio at y tabl isod)

1. Eitem ar gyfer y prosiect

Caiff hyn gynnwys hadau, planhigion, pridd, deunyddiau, digwyddiadau,

costau gweithdai a chostau contractwyr.

Ni chaiff gynnwys costau staff parhaus ac eitemau nad ydynt yn gysylltiedig â’ch prosiect.

Dylech osgoi cyllidebau sydd ddim ond yn talu am isadeiledd ffisegol; meddyliwch hefyd am gostau cael pobl i gymryd rhan.

2. Cost eitem ar gyfer y prosiect

Defnyddiwch brisiau a gafwyd gan gyflenwyr a chontractwyr.

Dylech amcangyfrif costau eraill ar sail gwybodaeth leol a phrosiectau blaenorol.

Dim ond os na allwch ei hawlio’n ôl y dylech gynnwys TAW ar nwyddau a gwasanaethau.

3. Cyfraniad mewn nwyddau/amser

Cyfraniad at eich prosiect o’r ffynonellau canlynol. Nid arian go iawn yw hwn, ond mae’n dangos gwerth ariannol lawn eich prosiect.

4. Gwerth cyfraniad mewn nwyddau/amser

Amser sy’n cael ei gyfrannu’n ddi-dâl gan wirfoddolwyr. Codwch £10/awr wedi’i luosi gan amcangyfrif o nifer yr oriau yn ystod y prosiect.

Amser sy’n cael ei gyfrannu’n ddi-dâl gan arbenigwr neu sefydliadau lleol. Codwch £30/awr wedi’i luosi gan amcangyfrif o nifer yr oriau yn ystod y prosiect. Mae’n bosibl, er enghraifft, y bydd hyn yn cynnwys ecolegwyr, arweinwyr tîm â chymwysterau a/neu brofiad, ac amser gan grŵp arall.

Deunyddiau neu blanhigion a gafwyd am ddim. Codwch y gost lawn, neu’ch ‘amcangyfrif gorau’. Gall rhoddion gynnwys unrhyw bethau newydd neu ail-law (mewn cyflwr da) sy’n cael eu cynnig a’u defnyddio ar gyfer y prosiect e.e. deunyddiau wedi’u hadfer, offer, slabiau, pren, planhigion neu gyfrifiaduron.

Enghraifft o fformat cyllideb.

Mae’r adrannau wedi’u rhifo’n cyfeirio at y nodiadau uchod.

Enw’r Grŵp xxxxx

Enw’r Prosiect xxxxx

Eitem ar gyfer y prosiect 1 Cost yr eitem 2

Eitem un y prosiect gyda disgrifiad byr £xxx

Eitem dau y prosiect gyda disgrifiad byr £xxx

ayb £xxx

Is-gyfanswm £xxxx

Cyfraniad mewn nwyddau/amser3 Gwerth y cyfraniad4

Cyfraniad un gyda disgrifiad byr £xxx

Cyfraniad dau gyda disgrifiad byr £xxx

ayb £xxx

Is-gyfanswm £xxxx

Cyfanswm y prosiect (eitemau ar gyfer y prosiect a chyfraniadau mewn nwyddau/amser))

CYFANSWM £xxxx

Tyfu’n Wyllt – Canllawiau ar gyfer gwneud cais am brosiect cymunedol 2016 (DU) 18 o 18

growwilduk.com

8. Parhad 8. Sut byddwch chi’n cynnal buddiannau eich prosiect? 1200 o nodau (tua 300 o eiriau)

Esboniwch sut y bydd eich grŵp yn mynd ati i gynnal y man a grëwyd gan eich prosiect ac i gael y bobl i barhau i gymryd rhan. Er enghraifft, sut byddwch chi’n mynd ati i sicrhau’r canlynol:

• Buddiannau parhaus i bobl.

• Trefniadaeth cynnal a chadw.

• Cysylltiad hirdymor â byd natur trwy flodau gwyllt brodorol y DU.

• Darparu lle i’r gymuned a phobl ifanc fynd iddo.

• Rhwydweithiau sy’n parhau.

7. Gofyn am eich ffurflen gais.

Anfonwch e-bost at Tyfu’n Wyllt yn eich gwlad chi (manylion cyswllt ar dudalen pump) i ofyn am ddolen i’n ffurflen gais. Rhowch eich enw ac enw’r grŵp i ni a dywedwch a fyddech yn hoffi cael galwad ffôn ynglŷn â’ch syniadau neu i drafod a ydych chi’n gymwys.

Edrychwn ymlaen at glywed mwy am eich syniad ar gyfer prosiect cymunedol.

Diolch yn fawr iawn am eich ymdrechion hyd yn hyn,

Tîm Tyfu’n Wyllt Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr yn growwilduk.com

facebook.com/GrowWildUK

youtube.com/GrowWildUK

twitter.com/GrowWildUK Rydych yn gwneud cais i ymuno â rhwydwaith o brosiectau Tyfu’n Wyllt brwdfrydig ledled y DU sy’n dod â phobl at ei gilydd i wneud rhywbeth creadigol a chadarnhaol i’w cymuned a’r man lle maen nhw’n byw trwy hau blodau gwyllt brodorol. Cawn ein hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr a’n harwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew.