cafcass cymru - 2019.07.16 - domestic abuse practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk...

31
Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Cyhoeddwyd v1 Mehefin 2019

Upload: others

Post on 18-May-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Cafcass Cymru

Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig

Cyhoeddwyd v1 Mehefin 2019

Page 2: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 1 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Cynnwys

Cyflwyniad .................................................................................................................. 2

Data Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Nghymru – 2017/18 .......... 4 Diffiniad o Gam-drin Domestig ................................................................................... 5

Yr Olwyn Grym a Rheolaeth ............................................................................................................... 8

Bod yn Ymwybodol o Drais Rhwng Cyplau sy’n gysylltiedig â Sefyllfa (TCS) .................................. 12

Os bydd dioddefwr rheolaeth drwy orfodaeth yn defnyddio trais a chamdriniaeth i'w amddiffyn ei hun, ni ddylid camddehongli hynny fel trais rhwng cwpl sy'n seiliedig ar sefyllfa. ............................ 13

Ffactorau Risg Sefydlog a Deinamig ........................................................................ 15 Cymhwyso’n Ymarferol a Phroses ........................................................................... 17

Barn y Plentyn ................................................................................................................................... 19

Marwoldeb ......................................................................................................................................... 20 Y Cais a’r Cam Ymholiadau Diogelu ........................................................................ 21 Apwyntiad Datrys Anghydfod y Gwrandawiad Cyntaf (FHDRA) ............................... 23 Wrth Orchymyn Adroddiad ....................................................................................... 25 Llunio eich Adroddiad ............................................................................................... 26 Cyfeiriadau ............................................................................................................... 28 Dolenni Defnyddiol ................................................................................................... 29 Diolchiadau .............................................................................................................. 30

Page 3: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 2 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Cyflwyniad

Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru

Mae Cafcass Cymru yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol sy'n rhoi'r prif sylw i blant, er mwyn diogelu plant a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru, fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud er eu budd pennaf. Bydd pob achos yr ydym yn gweithio arno wedi'i atgyfeirio o lys, a lles y plentyn yn y dyfodol fydd wrth wraidd unrhyw gyngor ac argymhelliad a wneir gan Cafcass Cymru. Rydym yn rhan o Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Rydym yn atebol i'r Gweinidog a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dyma ein swyddogaethau statudol:

Diogelu a hyrwyddo lles plant; Rhoi cyngor i unrhyw lys am unrhyw gais a gyflwynir iddo mewn achos o'r fath; Gwneud darpariaeth i blant gael eu cynrychioli mewn achosion o'r fath; Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant a'u teuluoedd. Yng nghyd-destun rhieni sydd wedi'u gwahanu ac sy'n anghytuno ynghylch trefniadau'n gysylltiedig â phlant, bydd cam-drin domestig yn nodwedd ym mywydau nifer fawr o blant a theuluoedd y mae Cafcass Cymru yn ymwneud â hwy. Gyda hyn mewn golwg, nod y canllawiau ymarfer hyn yw rhoi'r feddylfryd, yr ymchwil, y ddeddfwriaeth a'r cyd-destun cyfreithiol diweddaraf i ymarferwyr Cafcass Cymru, er mwyn sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn gwasanaeth o ansawdd da sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Datblygwyd y canllawiau ymarfer hyn ar y cyd ag ymarferwyr Cafcass Cymru a rhanddeiliaid allweddol oddi mewn ac oddi allan i Lywodraeth Cymru. Pwrpas y canllawiau hyn yw cynorthwyo a chefnogi eich meddylfryd yn gysylltiedig ag effaith cam-drin domestig ar blant, a dylid eu cymhwyso bob tro y byddwch yn ymwneud ag achos sy'n cynnwys cam-drin domestig. Nid yw'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i fod yn rhagnodol a dylid eu defnyddio fel cymorth wrth ymarfer; maent yn cynnwys argymhellion ar gyfer deunydd darllen pellach a sut i gymhwyso gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys Cyfarwyddyd Ymarfer 12J. Yn ogystal â hynny, maent yn disgrifio sefyllfaoedd lle gellir tynnu sylw'r llys at achos o gam-drin domestig, a pha ymyraethau y gellir eu gweithredu. Mae'n bwysig cofio bod cam-drin domestig yn bodoli ar sbectrwm, ac y bydd patholeg, dull asesu, llwybr a chanlyniad terfynol gwahanol i bob achos. Bydd yr effaith ar y plentyn yn amrywio, a'n gwaith ni yw gwylio am risgiau ac effeithiau ar y

Page 4: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 3 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

plentyn, ond byddwn hefyd yn ystyried ffactorau yn seiliedig ar gryfder a allai leihau'r risgiau a'r effeithiau posibl. Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un mewn perthynas agos. Mae'r canllawiau ymarfer hyn wedi'u datblygu i ystyried menywod a dynion sy'n dioddef cam-drin domestig. Mae gan Cafcass Cymru fframwaith clir gan ein bod yn gweithredu'n unol â Deddf Plant 1989, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rheolau Gweithdrefn i Deuluoedd yn ogystal â'n polisïau a'n gweithdrefnau manwl ein hunain sy'n creu'r sylfaen a'r strwythur ar gyfer ein gwaith. Mae angen inni ganfod y dull ymarfer cywir, ac ystyried anghenion unigol pob plentyn yn y cyd-destun hwnnw, ac effaith ei brofiad byw o gam-drin domestig. Mae'n bwysig nodi bod cam-drin domestig, gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth, yn cael effaith uniongyrchol ar blant, hyd yn oed os nad yw'n ymddangos mai hwy yw'r dioddefwr. Cydnabyddir bod cam-drin domestig yn cael effaith anghymesur ar fenywod a merched. Mae Cafcass Cymru a Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod y gall cam-drin domestig ddigwydd o fewn y gymuned LGBTQ+ ac y gall dioddefwyr gwryw gael eu cam-drin gan fenywod/merched. Er mwyn rhoi adlewyrchiad priodol o hyn, mae'r canllawiau wedi cael eu hysgrifennu i fod yn niwtral o ran rhywedd.

Pwyntiau ymarfer allweddol

Ystyriwch: Yr effaith ar blant a’r risg iddynt

Y gorffennol – Beth sydd wedi digwydd i’r plentyn yma? Y presennol – Beth sy’n digwydd nawr? Y dyfodol – Beth allai ddigwydd? Risg – Pa mor debygol yw hi y bydd hyn yn digwydd

eto? Yr effaith ar y plentyn – Pa mor ddifrifol fyddai’r effaith?

Page 5: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 4 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Data Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Nghymru – 2017/18

(Dyfynnwyd o Cyflwr y Sector: Adeiladu Gwasanaethau Arbenigol Cynaliadwy yng Nghymru (2018) gan Cymorth i Ferched Cymru)

Cofnodwyd 36,529 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â cham-drin domestig gan yr Heddlu yng Nghymru yn ystod 2017-18.1

Y gronfa ddata fwyaf o ddata a gesglir yng Nghymru yw ffurflenni data aelodau Cymorth i Ferched Cymru a ddychwelir yn chwarterol a blynyddol 2. Dyma grynodeb o'r galw am y gwasanaethau hynny yn 2017-18.

1https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/appendixtablesfocusonv iolentcrimeandsexualoffences 2 Adroddiad Blynyddol Cymorth i Ferched Cymru (2018) Data gan wasanaethau arbenigol yng Nghymru, 2017/18 Caerdydd: Cymorth i Ferched Cymru

Cafodd 12,166 o

oroeswyr gefnogaeth gan wasanaethau arbenigol yn

ystod y flwyddyn

Nid oedd y gwasanaeth yn gallu

cefnogi 431 o oroeswyr a atgyfeiriwyd i loches oherwydd diffyg adnoddau a

chapasiti (h.y. y gwasanaeth yn rhy lawn, yn methu bodloni/cefnogi eu hanghenion, diffyg hygyrchedd i oroeswyr anabl, neu brinder adnoddu i gefnogi menywod nad

ydynt yn gallu hawlio budd-daliadau). Ar ddiwedd mis Mawrth, roedd

292 (26% o atgyfeiriadau) o oroeswyr trais rhyw ar restrau

aros i dderbyn cymorth er mwyn ymdrin â’u profiadau o drais a chamdriniaeth rywiol

Bu cynnydd o’r naill flwyddyn i’r

nesaf o 14% yn nifer y plant sy’n

seiliedig ar loches. Mae hyn yn

gyfwerth â 266 o blant a phobl ifanc

mewn lloches bob chwarter

Mewn gwasanaethau cam-drin

domestig profodd, tri o bob pedwar goroeswr gamdriniaeth rheolaeth drwy orfodaeth gyda

74% o’r goroeswyr yn profi’r math

hwn o gamdriniaeth

Adroddodd un o bob pedwar goroeswr a gyrchodd wasanaethau

cam-drin domestig eu bod wedi dioddef stelcian neu aflonyddwch

Roedd 95% o’r goroeswyr yn teimlo’n fwy diogel ar ôl derbyn cymorth yn seiliedig ar loches

Bu’r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn ymdrin â

33,642 o gysylltiadau, sef cynnydd o 11% o gymharu â 2016/17

Page 6: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 5 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Diffiniad o Gam-drin Domestig

Diffinnir cam-drin donmestig fel a ganlyn yn Trais yn Neddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015:

I ddibenion achosion cyfraith teulu preifat mae’r diffiniad perthnasol o gam-drin domestig wedi’i nodi yn Cyfarwyddyd Ymarfer 12J – Trefniadau Plant a Gorchmynion Cyswllt: Cam-drin Domestig a Niwed

Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n cynnwys ymddygiad sy’n rheoli, yn gorfodi neu’n fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng unigolion dros 16 oed sydd yn, neu sydd wedi bod yn bartneriaid neu’n aelodau o’r un teulu, beth bynnag fo'u rhyw neu rywioldeb. Gall y gamdriniaeth gynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, ariannol neu emosiynol, ond nid yw'n gyfyngedig i hyn. Ymddygiad sy’n rheoli yw amrywiaeth o weithredoedd sydd wedi’u cynllunio i wneud i rywun deimlo’n israddol a/neu’n ddibynnol drwy eu hynysu rhag ffynonellau o gymorth, manteisio ar eu hadnoddau a’u galluoedd at ddibenion lles personol, eu hamddifadu o’u gallu i fod yn annibynnol, i wrthsefyll neu i ddianc a rheoli eu hymddygiad dyddiol. Ymddygiad sy’n gorfodi yw gweithred neu batrwm o weithredoedd o ymosod, bygwth, codi cywilydd neu fychanu neu unrhyw ffurf arall o gam-drin a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn eu dioddefwr.

"...mae cam-drin domestig yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n cynnwys ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu sy’n fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng unigolion dros 16 oed sydd yn, neu sydd wedi bod yn bartneriaid neu’n aelodau o’r un teulu, beth bynnag fo'u rhyw neu rywioldeb. Gall hyn gynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, ariannol neu emosiynol, ond nid yw'n gyfyngedig i hyn. Mae cam-drin domestig hefyd yn cynnwys mathau o gam-drin sy'n benodol i ddiwylliant, gan gynnwys, priodasau dan orfod, trais ar sail anrhydedd, cam-drin yn gysylltiedig â gwaddol a chefnu ar briodas ar draws ffiniau gwledydd".

Page 7: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 6 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Mae mathau eraill o drais sy'n seiliedig ar rywedd, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu menywod, trais a elwir yn drais 'ar sail anrhydedd' a phriodi dan orfod, yn is-adrannau penodol o drais yn erbyn menywod ac mae angen rhoi ystyriaeth arbenigol iddynt. Gall camdriniaeth ddomestig fod ar amryw o ffurfiau, a gall fod yn gynnil neu'n amlwg. Camdriniaeth gorfforol a rhywiol yw'r mathau y gellir eu hadnabod hawsaf fel camdriniaeth. Gall mathau mwy cynnil o gam-drin fod yr un mor niweidiol i ddioddefwr a chynnwys y canlynol (ymhlith eraill):

Camdriniaeth seicolegol fel galw enwau ar y dioddefwr, tanseilio hunan-barch neu gallineb y dioddefwr, gwneud i ddioddefwyr meddwl mai nhw sydd ar fai, bygwth eu lladd eu hunain

Dychryn a bygwth Camdriniaeth ariannol, gan atal y dioddefwr rhag gweithio, neu gyfyngu ar

fynediad at arian Rheolaeth orfodol Stelcian ac aflonyddu Ynysu dioddefwyr oddi wrth deulu a ffrindiau Cadw golwg ar symudiadau'r dioddefwr Defnyddio plant drwy gyswllt neu ddull arall o reoli'r dioddefwr; Llywio safbwyntiau plant ynghylch y dioddefwr Cam-drin y plant yn uniongyrchol, gan gynnwys cam-drin o flaen y plant Bygwth cymryd y plant Dengys ymchwil yn gysylltiedig â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod fod tyfu ar aelwyd lle ceir cam-drin domestig wedi’i gysylltu â'r posibilrwydd o ddeilliannau

Nodyn Ymarfer Mae'n bwysig cofio y gall camdriniaeth ddomestig hefyd gynnwys prif ddioddefwyr a dioddefwyr eilaidd, yn ogystal â phrif gyflawnwyr a chyflawnwyr dirprwyol. Mae'n bwysig nodi y gall camdriniaeth ddomestig effeithio ar blant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gall plant fod yn brif ddioddefwyr ac yn ddioddefwyr eilaidd, a gall y cyflawnwr hefyd eu defnyddio i ymddwyn mewn modd camdriniol ar ei ran. Prif ddioddefwyr a chyflawnwyr yw'r ddau unigolyn wedi'u cysylltu â'i gilydd. Dioddefwyr eilaidd yw'r rhai sydd yn derbyn y gamdriniaeth yn sgil y berthynas gamdriniol. Bydd angen i chi gofio y gall plant gael eu defnyddio fel ffordd o barhau'r gamdriniaeth yn erbyn y dioddefwr. Cyflawnwyr dirprwyol yw unigolion eraill y mae'r cyflawnwr wedi'u defnyddio i barhau â'r gamdriniaeth, er enghraifft ffrindiau a pherthnasau'r cyflawnwr, sy'n bygwth y dioddefwr neu ei deulu.

Page 8: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 7 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

gwael ar ôl tyfu'n oedolyn.3 Yn ystod plentyndod neu'r glasoed, gwyddom y gallai cyfnodau lle ceir lefelau uchel o straen arwain at ddiffygion niwrolegol o ran:

rheoli emosiynau a phrosesu problemau, datblygu agweddau sy'n cefnogi camdriniaeth o fewn perthnasoedd; diffyg ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n creu perthynas iach, cynnydd yn y camddefnydd o sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, arddulliau ymlynu ansicr, ac anawsterau wrth ymdopi â'u profiad o drawma.4

Cyflawnwyr Camdriniaeth Ddomestig Gall camdriniaeth ddomestig hefyd fod yn gysylltiedig â sefyllfa lle bydd y naill unigolyn yn camddefnyddio grym a rheolaeth dros unigolyn arall o ganlyniad i'r canlynol (ymhlith eraill): anhwylder personoliaeth cenfigen rhywiol anawsterau'n cyfathrebu'n effeithiol ymateb i drawma (h.y. PTSD)

3 ee, Roberts AL, McLaughlin KA, Conron KJ, Koenen KC. (2011) Adulthood stressors, history of childhood adversity, and risk of perpetration of intimate partner violence. American journal of preventive medicine. 40(2):128–38. 4 Bancroft, L., Silverman, J.G. & Ritchie, D. (2012). The batterer as a parent: Addressing the impact of domestic violence on family dynamics. Sage Publications Inc. http://dx.doi.org/10.4135/9781452240480

Page 9: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 8 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Dolenni Defnyddiol: Yr Olwyn Grym a Rheolaeth

Yr Olwyn Grym a Rheolaeth (Saesneg yn unig)* Datblygwyd yr Olwyn Grym a Rheolaeth gan y Prosiect Ymyrraeth Cam-drin Domestig yn Duluth, Minnesota. Mae'n dangos y tactegau y mae camdriniwr yn eu defnyddio yn erbyn ei ddioddefwr. Mae'r dioddefwr wedi'i amgylchynu'n barhaus â bygythiadau ac/neu gamdriniaeth gorfforol a rhywiol wirioneddol, wrth i'r camdriniwr geisio gorfodi grym a rheolaeth lwyr arno drwy ddefnyddio'r tactegau amrywiol sydd wedi'u rhestru yn segmentau’r olwyn.*addaswyd gan Jen Snider i fod yn niwtral o ran rhywedd, a chyda mân addasiadau nad oeddent wedi'u cynnwys yn y fersiwn wreiddiol.

Page 10: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 9 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

(Katz, 20155)

5 Katz. E (2016). Beyond the physical incident model: How children living with domestic violence are harmed by and resist regimes of coercive control. Child Abuse Review, 25, 46-59.

Nodyn Ymarfer: Rheolaeth drwy Orfodaeth (Katz, 2015) Negeseuon Allweddol i Ymarferwyr: Nid trais gorfforol a gyflawnir gan y naill riant yn erbyn y llall yn unig a all

effeithio ar blant sy'n profi trais domestig.

Gall ymddygiad camdriniol nad yw o natur gorfforol, ac sydd yn rhan gynhenid o drais domestig sy'n seiliedig a reolaeth drwy orfodaeth, effeithio ar blant. Mae hyn yn cynnwys monitro parhaus, ynysu a chamdriniaeth eiriol/emosiynol/seicolegol ac ariannol.

Dylid rhoi'r cyfrifoldeb ar y cyflawnwr (y tad/ffigur tad arfer) am yr effeithiau ar blant yn sgil trais yn y cartref sy'n seiliedig ar reolaeth orfodol, yn hytrach nag ar y rhiant sy'n cael ei erlid (y fam fel arfer).”

Page 11: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 10 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Nodyn Ymarfer Dylid gofalu bob amser eich bod wedi gwahaniaethu'n glir rhwng gwrthdaro rhwng cyplau a thrais rhwng cyplau sy'n gysylltiedig â sefyllfa, a sefyllfaoedd lle cafwyd patrwm o reoli drwy orfodaeth. Dylid asesu potensial y math hwn o ymddygiad i barhau o fewn achos llys, ac yn dilyn hynny, a'r modd y gallai hyn effeithio'n uniongyrchol ar y plentyn, neu effeithio arno gan fod ei rieni yn llai galluog i'w fagu. Mae'n bwysig cadw golwg ar y posibilrwydd y bydd yr ymddygiad yn parhau, ac effaith hynny. Er enghraifft: Mae gwrthdaro rhwng cwpl yn debygol o barhau nes datrys/ymdrin â'r

achosion sydd wrth wraidd y gwrthdaro. Mae trais rhwng cwpl sydd yn gysylltiedig â sefyllfa yn annhebygol o barhau

wedi i'r cwpl wahanu ac ar ôl i straen y gwahanu fynd heibio. Mae ymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli yn debygol o barhau gan ddwysau

o bosib ar ôl gwahanu, nes bo'r cyflawnwr yn cydnabod ei ymddygiad ac yn cytuno i ymdrin â hynny.

Bydd ystyried y ffactorau hyn yn allweddol er mwyn dadansoddi'r effaith gyfredol ar y plentyn a rhagweld yr effaith arno yn y dyfodol. Lle cafwyd Gwrandawiad Canfod Ffeithiau (gweler y canllawiau ar ganfod ffeithiau er gwybodaeth), mae'n ofynnol i'r llys ystyried y rhestr gwirio lles yn sgil unrhyw ganfyddiadau. Lle na chynhaliwyd gwrandawiad canfod ffeithiau, ni all staff Cafcass Cymru ganfod ffeithiau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i staff Cafcass Cymru ddefnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael, a'u barn ddeallus a phroffesiynol i argymell ffordd ddiogel a phriodol ymlaen i'r plentyn.

Page 12: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 11 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Nodyn Ymarfer: Ymddygiad sy’n Gorfodi

Ymddygiad sy’n gorfodi yw gweithred neu batrwm o weithredoedd o ymosod, bygwth, codi cywilydd neu fychanu neu unrhyw ffurf arall o gam-drin a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn eu dioddefwr

Mae ymddygiad sy’n gorfodi yn cynnwys tactegau ailadroddus, parhaus a bwriadol a ddefnyddir i gyfyngu ar ryddid y dioddefwr. Gallai'r tactegau hynny fod yn gorfforol, ond nid yw hynny'n rheidrwydd. Gallant fod yn rhywiol, yn ariannol, yn seicolegol, yn gyfreithiol, yn sefydliadol, neu bob un o'r rhain. Drwy ddefnyddio'r tactegau hyn gall y camdriniwr greu byd lle mae'r dioddefwr yn cael ei fonitro neu ei farnu'n barhaus, a lle caiff pob symudiad a gweithred eu gwirio.

Bydd dioddefwyr yn aml yn disgrifio rheolaeth drwy orfodaeth fel peidio cael 'caniatâd' neu orfod gofyn am ganiatâd, i wneud pethau bob dydd; ac ofni'n barhaus na fyddant yn bodloni disgwyliadau'r camdriniwr neu'n cydymffurfio â'i orchmynion. Maent yn aml yn dweud eu bod 'ar binnau'. Nid yw rheolaeth drwy orfodaeth yn amlwg ar adegau, a gall fod yn anodd i weithwyr proffesiynol a dioddefwyr sy'n oedolion neu'n blant adnabod hynny.

Mae angen inni fod yn arbennig o ofalus ein bod yn effro i faterion rheolaeth drwy orfodaeth hyd ddiwedd yr achos, o'r SER hyd at yr adroddiad terfynol, gan fod y math hwnnw o reolaeth o natur gynnil iawn. Lle bydd y naill barti neu'r llall yn gwneud honiad o reolaeth drwy orfodaeth, ni fyddwn yn annog y partïon i ddod ynghyd ar unrhyw gam yn yr achos, onid chytunwyd ar hynny, a bod hynny er budd pennaf y plentyn. Mae hyn yn cynnwys yn ystod y FHDRA a hyd y daw'r achos i ben.

Nodyn Ymarfer: Ymddygiad sy'n Rheoli Ymddygiad sy’n rheoli yw amrywiaeth o weithredoedd sydd wedi’u cynllunio i wneud i rywun deimlo’n israddol a/neu’n ddibynnol drwy eu hynysu oddi wrth ffynonellau o gymorth, manteisio ar eu hadnoddau a’u galluoedd at ddibenion lles personol, eu hamddifadu o’u gallu i fod yn annibynnol, i wrthsefyll neu i ddianc a rheoli eu hymddygiad dyddiol. Mae angen inni ofalu ein bod bob amser yn effro i'r posibilrwydd o ymddygiad sy'n rheoli, a'n bod bob amser yn ystyried y deinameg grym yn y berthynas wrth ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd. Cadwch olwg am reolaeth ariannol bosibl, ynghyd â chyfyngu ar 'le' y tu mewn a'r tu allan i'r cartref. Gallai camdriniaeth ariannol hefyd fod yn ffactor/ddangosydd o bwys os yw cyflawnwr (honedig neu dan amheuaeth) yn cyflwyno sawl deiseb gerbron y llys.

Page 13: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 12 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Bod yn Ymwybodol o Drais Rhwng Cyplau sy’n gysylltiedig â Sefyllfa (TCS) Trais rhwng cyplau sy'n gysylltiedig â sefyllfa nad yw'n rhan o batrwm cyffredinol o reolaeth drwy orfodaeth, ond sy'n digwydd pan fydd gwrthdaro rhwng cyplau yn troi'n ymosodol - wedi'i gyflawni gan ddynion a menywod. Gall TCS ddigwydd yn sgil digwyddiadau argyfyngus bywyd, a gall amrywio o ran amlder a dwyster, yn dibynnu ar ddeinameg y berthynas rhwng y cwpl. Er ei bod hi'n bwysig cydnabod y gallai TCS ddigwydd yn sgil ymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli, gall fod yn anodd gwahanu'r naill oddi wrth y llall. I'ch helpu gyda hyn, darllenwch Ganllawiau Ymarfer Cafcass Cymru ar Wrthdaro Niweidiol. Dolen: Cafcass Cymru – Canllawiau Ymarfer ar Wrthdaro Niweidiol Lle na cheir patrwm o reolaeth drwy orfodaeth, gellir gweld ymddygiadau ar ffurf digwyddiad neu batrwm perthynol. Dyma rai enghreifftiau o hynny isod (ymhlith eraill):

Cafwyd trais droeon, ac mae cyflawnwr y trais yn amrywio.

Cafwyd achos o drais nad yw'n rhan o batrwm ac a allai fod yn gysylltiedig â chyd-destun neu ddigwyddiad penodol.

Lefel uchel o gamdriniaeth eiriol, neu gamdriniaeth eiriol barhaus rhwng y naill a'r llall, trais a gychwynnir ac a gyflawnir gan y naill bartner a'r llall, gyda phatrymau rheolaeth yn amrywio.

Ni chyfyngir yn sylweddol ar y naill bartner na'r llall o ran dewisiadau, ac nid yw yr un ohonynt yn ofni'r llall yn ei fywyd bob dydd.

Nid yw'n amlwg bod yr effaith gorfforol ac emosiynol y naill bartner na'r llall yn anghymesur.

Weithiau gall trais ddwysau a throi'n gronig a difrifol.

Gall alcohol chwarae rhan bwysig mewn TCS fel ffynhonnell o wrthdaro ynddo ei hun, ac fel ffactor sy'n achosi i drais/gamdriniaeth ddwysáu.

Pwyntiau i'w Hystyried

Gall camdriniaeth/trais rhwng cyplau sy'n seiliedig ar sefyllfa fod yn risg isel neu uchel, gan fod angen asesu pa mor aml y bydd yn digwydd, pa mor ddifrifol ydyw, a beth yw'r effaith ar oedolion a phlant, ynghyd â'r cyd-destun. Gall yr effaith a'r risg yn sgil hynny fod ar unrhyw ran o gontinwwm difrifoldeb, o ddadleuon geiriol ac/neu fân weithredoedd treisgar gan y naill bartner a'r llall, hyd at 'frwydr rhwng y naill a'r llall' lle ceir trais difrifol rhwng y naill bartner a'r llall. Mae hi felly'n bwysig bod yn glir ynghylch mynychder a phatrwm y digwyddiadau yng nghyd-destun y berthynas.

Mae'n debygol y bydd camdriniaeth gyson 'nad yw'n ddifrifol' yn debygol iawn o achosi niwed emosiynol sylweddol i blant sydd yn gorfod byw gyda hynny, a gellir

Page 14: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 13 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

hefyd ddefnyddio trais a chanddo risg uchel o niwed difrifol mewn cyd-destun lle nad yw yr un partner (eto) wedi sefydlu patrwm o reolaeth dros y llall.

Mae menywod yr un mor debygol â dynion o gymryd rhan mewn TCS, ond mae'r effaith ar fenywod (pan gyflawnir y trais gan ddynion) yn fwy (oherwydd eu maint corfforol ac ati) o ran anafiadau corfforol a hefyd o ran ofn a chanlyniadau seicolegol.

Bydd rhai sy'n profi trais a chamdriniaeth gweddol ddifrifol yn gwadu eu statws fel dioddefwr gan nad ydynt am deimlo fel dioddefwr.

Cofiwch gyfeirio unigolion at wasanaeth arbenigol fel Byd Heb Ofn (dolen), a allai eu helpu, hyd yn oed os ystyrir mai TCS 'nad yw'n ddifrifol' yw'r materion dan sylw.

(Katz, 2015)6 Os bydd dioddefwr rheolaeth drwy orfodaeth yn defnyddio trais a chamdriniaeth i'w amddiffyn ei hun, ni ddylid camddehongli hynny fel trais rhwng cwpl sy'n seiliedig ar sefyllfa.

Ymateb i drais/rheolaeth drwy orfodaeth y cyflawnwr yw trais y dioddefwr.

Bydd y cyflawnwr yn cyflwyno hyn fel sefyllfa "chwech gan un a hanner dwsin gan y llall". Peidiwch â nodi pwy sy'n cychwyn ymosodiad, ond pwy sy'n ei ddiweddu, a phwy sydd â'r mwyaf o ofn ac sy'n wynebu'r mwyaf o risg.

Honiadau o drais gan riant, ond dengys gwybodaeth am gyd-destun yr ymosodiadau fod hyn wedi digwydd mewn cyd-destun o ofn a bygythiadau. Bydd y dioddefwr (menyw fel arfer) yn aml yn derbyn cyfrifoldeb a gall ei feio ei hun. Gall y math hwn o drais fod yn ddifrifol mewn sefyllfaoedd lle ceir bygythiad

6 Katz. E (2016). Beyond the physical incident model: How children living with domestic violence are harmed by and resist regimes of coercive control. Child Abuse Review, 25, 46-59.

Nodyn Ymarfer: Rheolaeth drwy Orfodaeth (Katz, 2015) Cydnabyddir yn gynyddol fod rheolaeth drwy orfodaeth yn wahanol i'r hyn a elwir gan Johnson (2008) yn 'drais rhwng cyplau sy'n seiliedig ar sefyllfa'; hynny yw, trais a sbardunir gan ffactorau'n gysylltiedig â sefyllfa, a lle na ystyrir rheolaeth fel prif gymhelliant (Myhill, 2015). Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn fath arbennig o niweidiol o drais domestig (Lehmann et al., 2012) sydd fel arfer yn cael ei gyflawni gan ddynion (Myhill, 2015; Hester, 2009). Gwyddys ei fod yn cynnwys ystod o dactegau a ddefnyddir i ddychrynu, bychanu, diraddio, ecsploetio, ynysu a rheoli (Stark, 2009). Mae'r rhain yn cynnwys camdriniaeth eiriol, emosiynol a seicolegol, rheoli amser, lle a symudiad, monitro parhaus, stelcian, trais corfforol, dychrynu a bygwth trais yn erbyn y dioddefwr/goroeswr, ei anwyliaid a'i eiddo, treisio, gorfodaeth rywiol a rheoli beichiogrwydd, camdriniaeth ariannol a chadw adnoddau'n ôl, ac ynysu oddi wrth ffynonellau cymorth.

Page 15: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 14 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

uniongyrchol neu barhaus i'r dioddefwr. Gallai gynnwys defnyddio arf i wneud iawn am y ffaith bod y cyflawnwr yn fwy o ran maint/yn gryfach.

Os yw'r dioddefwr wedi dioddef camdriniaeth rywiol a rheolaeth seicolegol, mae'n bosibl na fydd wedi'i ddatgelu felly bydd ymddygiad y dioddefwr yn ymddangos fel trais rhwng cwpl sy'n seiliedig ar sefyllfa, gan nad oes modd gweld y bygythiad cefndirol.

Nid yw bob amser yn hawdd pennu pwy yw cyflawnwyr a dioddefwyr camdriniaeth ddomestig, er enghraifft gallai dioddefwr ddefnyddio trais fel ffordd o'i amddiffyn ei hun, neu gall y ddau bartner (neu gyn-bartneriaid) ymddwyn yn ymosodol.

Page 16: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 15 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Gellir rhannu ffactorau risg yn y ddau grŵp:

Y cyngor ar sail ymchwil yw ffurfio barn ar sail y ffactorau risg sefydlog, wedyn defnyddio ffactorau risg deinamig (gan gynnwys ystyried ymddygiad presennol) er mwyn addasu rhywfaint ar y farn honno.

Effaith niewd

Amseru Po fwyaf diweddar yw digwyddiad neu achos o niwed i eraill, po uchaf yw'r risg bresennol. Mae ymosodiad gan riant ar blentyn yr wythnos hon yn creu risg uwch yn y presennol na'r un digwyddiad 5 mlynedd yn ôl.

Difrifoldeb

Po fwyaf difrifol yw digwyddiad, yr uchaf yw'r risg bresennol. O ran trais, mae'r canlynol yn ganllaw defnyddiol::

Minimol: Ni ellir canfod unrhyw anaf yn ei sgil (yn cyfateb ag ymosodiad cyffredin)

Cymedrol: Yn achosi cleisiau neu grafiadau neu fân archollion (yn cyfateb â gwir niwed corfforol)

Difrifol: Yn achosi anafiadau mawr gan gynnwys archollion mawr, toresgyrn, colli ymwybyddiaeth ac anafiadau sydd angen sylw meddygol (yn cyfateb â niwed corfforol difrifol)

Mynychder Po fwyaf mynych y ceir y digwyddiadau neu'r achosion o niwed yn erbyn eraill, y mwyaf yw'r risg gyfredol. Mae ymosodiadau parhaus ac ailadroddus ar eraill yn ddangosyddion cryf.

Patrwnm A oes patrwm rheolaidd i'r math o ddigwyddiad neu'r cyd-destun y mae'n digwydd ynddo?

Dwysau A yw'r achosion yn digwydd yn fwy aml neu'n troi'n fwy difrifol?

Ffactorau Risg Sefydlog a Deinamig

Ffactorau risg yw’r nodweddion sy’n gwneud canlyniad negyddol

yn fwy tebygol.

Beth yw ffactor risg?

Ffactorau Risg Sefydlog

Rhai sy’n seiliedig ar hanes yr unigolyn a’i ddemograffeg cefndirol. Mae’r rhain yn llai parod i newid.

Ffactorau sefydlog yw asgwrn cefn unrhyw asesiad credadwy o risg.

Gall y peryglon canlynol godi yn gysylltiedig â hyn: Gorbwyso – argraffiadau a gafwyd gan y

defnyddiwr gwasanaeth mewn cyfweliad, a Thanseilio – gwybodaeth am hanes ac

ymddygiad y person yn y gorffennol.

Ffactorau Risg Deinamig Rhai sy’n agored i newid drwy driniaeth, ymyraethau neu gydag amser.

Gellir mesur y rhain yn gysylltiedig â chryfderau ac anghenion: Beth yw cryfderau’r plentyn neu’r teulu? Pa anghenion sydd gan y plentyn neu’r

teulu?

…os caiff y rhain eu cywiro / gwella, gallant leihau’r risgiau a achosir.

Page 17: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 16 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Nodyn Ymarfer: Rheolaeth drwy Orfodaeth Mae'n bwysig cofio nad ar ffurf gorfforol yn unig y mae ffactorau risg yn eu

cyflwyno eu hunain. Bydd angen i chi hefyd ystyried effaith ymddygiad sy'n gorfodi neu'n rheoli, a

all greu canlyniadau difrifol a pharhaus i blant a'u prif ofalwr. Gall ymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli fod yn llawer mwy anodd ei adnabod

na chamdriniaeth gorfforol, ond mae'r ymddygiad hwnnw yr un mor ddifrifol. Er mwyn darllen ymhellach, edrychwch ar waith Emma Katz Beyond the physical incident model: How children living with domestic violence are harmed by and resist regimes of coercive control (dolen isod)

Dolen: Child Abuse Review Vol.25: 46 – 59 (2016)

Nodwch y ffactorau sefydlog a deinamig yn eglur yn yr adroddiad, yn dystiolaeth ar gyfer eich argymhellion proffesiynol.

Page 18: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 17 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 12J yn cynnwys sawl elfen allweddol, gan gynnwys:

Cyfeirir at 'gam-drin domestig' yn hytrach na 'thrais domestig', a rhoddir diffiniad 'llawn' (gweler CY12J, paragraff 3).

Amlinellir y gofynion gorfodol (gweler CY12J, paragraffau 8, 14, 15, 18, 22 a 29).

Hyrwyddir mesurau ychwanegol ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig honedig, er mwyn atal cyflawnwr honedig sydd heb gynrychiolaeth rhag croesholi'r unigolyn hwnnw (gweler CY12J, paragraff 28), yn ogystal â threfniadau ymarferol i amddiffyn y dioddefwr honedig tra bo yn y llys (paragraff 10).

Nodir yr egwyddorion cyffredinol ym mharagraffau 4-8; yn bennaf, nodir ym mharagraff 4:

Ym mharagraff 5 eir ymlaen i nodi bod yn rhaid i'r llys, ym mhob cam o'r achos, ac yn benodol yn Apwyntiad Datrys Anghydfod y Gwrandawiad Cyntaf (FHDRA), ystyried a yw cam-drin domestig yn cael ei godi fel mater, ac os felly, gweithredu'n briodol drwy:

nodi'r materion ffeithiol a lles dan sylw,

ystyried natur unrhyw honiad, cyfaddefiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth ddomestig, a'r graddau y byddai'n debygol o fod yn berthnasol wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn trefniadau ar gyfer y plentyn ac os felly, beth fyddai'r termau,

Mae cam-drin domestig yn niweidiol i blant ac/neu'n achosi risg o niwed i blant, p'un a ydynt yn derbyn camdriniaeth ddomestig eu hunain neu'n gweld un o'u rhieni'n bod yn dreisgar neu'n cam-drin y rhiant arall, neu os ydynt yn byw mewn cartref lle ceir camdriniaeth ddomestig (hyd y oed os nad yw'r plentyn yn ddigon hen i fod yn ymwybodol o'r ymddygiad). Gall plant ddioddef niwed corfforol, seicolegol ac/neu emosiynol uniongyrchol o fyw gyda chamdriniaeth ddomestig, ac ar ben hynny mae'n bosibl y byddant yn dioddef gan fod capasiti'r naill riant neu'r llall, neu'r ddau riant, yn llai pan fo camdriniaeth ddomestig yn bresennol.

Nodyn Ymarfer: Cyfarwyddyd Ymarfer 12J Pwrpas y Cyfarwyddyd Ymarfer yw nodi'r hyn y mae'n ofynnol i'r llys ei wneud mewn unrhyw achos lle ceir honiad neu gyfaddefiad, neu lle bo rheswm dros gredu, bod y plentyn neu barti wedi profi camdriniaeth ddomestig gan barti arall, neu fod risg o'r gamdriniaeth honno.

Cymhwyso’n Ymarferol a Phroses

Page 19: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 18 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

rhoi cyfarwyddiadau fel bo'n briodol,

sicrhau, lle bo cyfaddefiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth ddomestig, fod unrhyw orchymyn trefniadau ar gyfer y plentyn sydd yn weithredol yn sicrhau diogelwch a lles y plentyn a'r rhiant y mae'r plentyn yn byw gydag ef, ac nad yw'n achosi iddynt fod yn agored i risg o niwed pellach a;

sicrhau nad yw gorchymyn trefniadau ar gyfer y plentyn ond yn cael ei gyflwyno ar ôl dilyn y canllawiau a nodir yn y cyfarwyddyd ymarfer.

Ffactorau i'w Hystyried yn gysylltiedig â Cham-drin Domestig:

Mae trais a cham-drin domestig yn bodoli ar sbectrwm a bydd y nodweddion, y dull o ymarfer a'r canlyniad terfynol yn amrywio ym mhob achos.

Bydd yr effaith ar y plentyn yn amrywio yn ôl y ffactorau gwytnwch a gofid sy'n bresennol, a gallai hyn hefyd effeithio ar allu rhieni i fagu eu plant. Mae'r ddogfen hon (Yr effaith ar blant sy’n profi cam-drin domestig) o gymorth i ddeall effaith cam-drin domestig ar blant.

Chwilio am ffactorau risg sy'n gwaethygu'r sefyllfa yn yr wybodaeth a gasglwyd.

Chwilio am ffactorau'n seiliedig ar amddiffyn a chryfder a fydd yn lleihau'r risg.

A yw'n briodol cyflwyno ymyrraeth i'r plentyn? Ystyriwch ddefnyddio'r Rhestr Wirio Lles Plant a'r Glasoed (CAWAC) a gwerth gwneud hynny. Datblygwyd CAWAC gan yr Athro Gordon Harold mewn cydweithrediad â Cafcass Cymru i gynorthwyo ymarferwyr i asesu risg seicolegol i blant unigol sydd yn dod i gysylltiad, neu wedi dod i gysylltiad, â gwrthdaro ac/neu gam-drin domestig rhwng rhieni. Dylid nodi y dylid defnyddio CAWAC mewn achosion priodol yn unig, ac y caiff ymarferwyr ddefnyddio rhan o'r CAWAC neu'r cyfan ohoni (yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos dan sylw). Yn ôl y sylfaen ymchwil sy'n tanategu CAWAC, os bydd plant o unrhyw oed yn dod i gysylltiad ag achosion mynych a dwys o wrthdaro rhwng rhieni, heb i'r achosion hynny gael eu datrys yn foddhaol, mae mwy o risg iddynt ddioddef amrywiaeth o ddeiliannau seicolegol negyddol.

Nodyn Ymarfer: Ystyriwch gyfeirio'r dioddefwr/goroeswr i dderbyn cymorth lle bo'n briodol. Efallai y bydd dioddefwyr gwryw yn dymuno cael eu hatgyfeirio i wefan neu linellau ffôn Dyn Cymru a/neu Byw Heb Ofn. Mae Dyn Cymru yn rhoi cymorth i oroeswyr gwryw. Bydd Byw Heb Ofn yn cyfeirio pobl i'r gwasanaeth mwyaf priodol, a gall dynion a menywod ddefnyddio'r gwasanaeth. Dyn Cymru: www.dynwales.org Llinell gymorth Dyn Cymru, am gymorth a chyngor ar 029 2034 9970 (ar agor o

ddydd Llun i ddydd Gwener 10:00am - 4:00pm) BywHebOfn: www.livefearfree.gov.wales Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800

Page 20: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 19 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Barn y Plentyn

Ydych chi wedi creu darlun o brofiad y plentyn o fyw gyda'r gamdriniaeth ddomestig?

Dylid cydbwyso dymuniadau a theimladau â lles emosiynol y plentyn dros amser, wrth ystyried trefniadau cyswllt a threfniadau ar gyfer y plentyn.

Dylid taro cydbwysedd rhwng barn y plentyn â'r ffactorau effaith ac amddiffynnol er mwyn pennu'r risg i'r dyfodol a'r potensial am drefniadau cynaliadwy i'r plentyn.

Wrth ddewis rhwng trefnu cyswllt neu beidio, ystyriwch hunaniaeth a chydbwyso unrhyw risg o niwed o ran yr effaith ar y plentyn dros amser. Myfyriwch ar sensitifrwydd diwylliannol eich asesiad. A ydych wedi ystyried cyd-destun diwylliannol y plentyn a'i anghenion o ran hunaniaeth? Mae sicrhau bod y plentyn yn saff a diogel yn holl bwysig, felly sut y gellir bodloni ei anghenion o ran hunaniaeth gan sicrhau ei ddiogelwch ar yr un pryd?

Ar ddiwedd eich sesiwn gyda'r plentyn cymerwch amser i ddod â'r sgwrs yn ôl i lefel ddi-gynnwrf, yn ôl i faterion bob dydd er mwyn lleihau unrhyw ofid i'r plentyn.

Page 21: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 20 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

DS Canllawiau cyffredinol yw’r rhain yn unig. Bydd pob achos yn unigryw.

Marwoldeb

Bydd Rhestr Wirio Adnabod Risg DASH SafeLives (RIC) yn adnabod unrhyw ymddygiad marwol risg uchel - dylid defnyddio'r rhestr ar ôl nodi achos o gam-drin domestig. Mae'r rhestr ar gael mewn sawl iaith wahanol. Mae angen ystyried pa mor gyfredol yw'r gamdriniaeth i weld beth yw ei heffaith gyfredol, ac i sefydlu pa mor ddiweddar y mae wedi digwydd.

Dyma'r canllawiau ar ddefnyddio'r offeryn hwn.

Gweler y Gynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth (MARAC) lle bo'n briodol - mae angen caniatâd y llys. Ceir rhagor o wybodaeth am rôl Cafcass Cymru a MARACs yn y Ddogfen Weithredol.

Dylid asesu unrhyw ymddygiadau risg uchel gan gyfeirio at y risg uniongyrchol a'r risg i'r dyfodol, a chan roi sylw penodol i'r effaith ar y dioddefwr a'r plentyn. Cofiwch ystyried rheolaeth drwy orfodaeth fel ffactor risg uchel hefyd, nid trais corfforol yn unig sy'n berthnasol wrth ystyried pa mor farwol yw'r risg.

Wrth archwilio bygythiadau i ladd y dioddefwr ac/neu'r plentyn, gofynnwch i'r dioddefwr a yw'r bygythiad yn gredadwy o'i safbwynt ef. Dengys ymchwil y dylid ystyried canfyddiad y dioddefwr fod ei fywyd yn y fantol yn ddangosydd risg uchel.

Rydych yn ystyried a oes potensial i wneud trefniadau diogel a buddiol i'r plentyn, ac a allai unrhyw ymyrraeth leihau risg i raddau sylweddol er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Efallai mai na fydd yr ateb, ac os felly dylid argymell dim cyswllt neu gyswllt anuniongyrchol fel arfer, yn hytrach na chyswllt gyda chefnogaeth neu gyswllt oruchwyliedig.

Page 22: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 21 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Byddwn yn sgrinio am gamdriniaeth ddomestig wrth wneud cais er mwyn sefydlu a yw wedi'i godi fel mater, ac a roddwyd tic yn y bocs risg o niwed, ac ar ôl cwblhau'r Adroddiad Ymholiadau Diogelu (SER). Cewch ofyn cwestiynau fframio (gweler y ddolen isod) i'ch helpu gyda'ch ymholiadau yn y cam hwn. Dolen: Cwestiynau Fframio (Saesneg yn unig) Cofiwch gyfeirio'r naill barti neu'r llall (boed fenyw neu ddyn), lle bo camdriniaeth ddomestig wedi'i chodi fel mater i'r llinell gymorth Byw Heb Ofn (0808 801 0800) yn ystod yr alwad ffôn SER. Bydd y llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda goroeswyr. Efallai y bydd dioddefwyr gwryw yn dymuno cael eu hatgyfeirio i wefan neu linellau ffôn Dyn Cymru a/neu Byw Heb Ofn. Mae Dyn Cymru yn rhoi cymorth i oroeswyr gwryw. Bydd Byw Heb Ofn yn cyfeirio pobl i'r gwasanaeth mwyaf priodol, a gall dynion a menywod ddefnyddio'r gwasanaeth.

Dyn Cymru: www.dynwales.org Llinell gymorth Dyn Cymru, am gymorth a chyngor ar 029 2034 9970 (ar agor o ddydd

Llun i ddydd Gwener 10:00am - 4:00pm)

Weithiau bydd hi'n glir mai camdriniaeth ddomestig yw prif nodwedd yr achos, neu fod camdriniaeth yn nodwedd o bwys; mae'n bosibl y ceir collfarnau, gwybodaeth diogelu gan yr heddlu ac/neu'r awdurdod lleol neu honiadau.

O fewn y templed SER, fe'ch anogir i dynnu sylw at y materion hyn yn y llys ac awgrymu y gellid bod angen cynnal Gwrandawiad Canfod Ffeithiau er mwyn pennu'r ffeithiau, ond dim ond os oes honiadau sy'n destun dadl; fel hyn bydd modd i'r llys gael gweld yn fuan iawn pa mor sylweddol yw'r gamdriniaeth ddomestig, a gallai osgoi oedi i'r plentyn (DS - os sefydlir camdriniaeth, ee collfarnau, gallwch fynd yn eich blaen gan dybio nad oes angen canfod unrhyw ffeithiau pellach)

Yn ogystal â hynny, gallwch dynnu sylw'r llys yn yr adroddiad at unrhyw fesurau arbennig y gellid bod eu hangen ar gyfer y naill barti neu'r llall (hy, defnyddio mynedfa / allanfa ar wahân, ystafell aros ar wahân ac ati) o ganlyniad i gamdriniaeth ddomestig (CY12J Diwygiedig, paragraff 10).

Gallwch roi sicrwydd yn y cam hwn, os bydd camdriniaeth ddomestig wedi'i chodi gan y naill barti neu'r llall, ac nad yw'n dymuno eistedd mewn ystafell gyda'r unigolyn arall, neu os ydym yn tybio na fyddai hyn yn briodol (mewn achosion lle amheuir rheolaeth drwy orfodaeth / ymddygiad sy'n rheoli) NA FYDD sgwrs datrys

Y Cais a’r Cam Ymholiadau Diogelu

Page 23: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 22 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

anghydfod ar y cyd yn cael ei chynnal yn Apwyntiad Datrys Anghydfod y Gwrandawiad Cyntaf.

Weithiau bydd yr wybodaeth a gesglir yn y cam hwn yn dangos bod risg i'r plentyn ac/neu'r parti, ac y bydd angen hysbysu'r llys am hynny ar unwaith. Dylid defnyddio'r templed adroddiadau Asesu Risg 16a bryd hynny.

Os nodir pryderon diogelu uniongyrchol yng ngham yr SER, bydd angen i chi gyfeirio at weithdrefn ddiogelu Cafcass Cymru a dilyn y broses honno.

Cofiwch am y risgiau posibl i bartïon yn gysylltiedig â datgelu cyfeiriadau a darparu unrhyw wybodaeth (gan gynnwys drwy lythyrau) a allai ddangos lleoliad parti neu blentyn.

Dolen: Diogelu: Gweithdrefn Weithredol (Chwefror 2019) (Saesneg un unig)

Page 24: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 23 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Gallwch roi sicrwydd yn y cam hwn, os bydd camdriniaeth ddomestig wedi'i chodi gan y naill barti neu'r llall, ac nad yw'n dymuno eistedd mewn ystafell gyda'r unigolyn arall, neu os ydym yn tybio na fyddai hyn yn briodol (mewn achosion lle amheuir rheolaeth drwy orfodaeth / ymddygiad sy'n rheoli) NA FYDD sgwrs datrys anghydfod ar y cyd yn cael ei chynnal yn Apwyntiad Datrys Anghydfod y Gwrandawiad Cyntaf

Lle bo'r naill barti neu'r llall wedi codi neu dynnu sylw at faterion/honiadau o gamdriniaeth ddomestig, byddwch yn darparu dull 'o'r naill at y llall' o ddatrys yr anghydfod. Mae hyn yn golygu cadw'r ddau barti ar wahân a symud o'r naill i'r llall er mwyn canfod materion yr achos (CY 12J Diwygiedig, paragraff 9). Bydd diogelu'r plentyn/plant o'r pwys mwyaf i chi, ac os ceir pryderon diogelu uniongyrchol byddwch yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar lafar i'r llys, gan sicrhau blaenoriaeth i ddiogelwch pawb sy'n gysylltiedig â'r achos, ac yn cyfeirio at weithdrefn ddiogelu Cafcass Cymru. Gallai'r llys hefyd ofyn i'r awdurdod lleol lunio unrhyw adroddiad pellach sydd ei angen yn gysylltiedig â'r achos, os yw o'r farn mai'r awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny (gweler y protocol). Os ceir pryderon diogelu sylweddol neu hanes o bryderon diogelu yn gysylltiedig â cham-drin domestig, gallai'r llys ystyried gofyn i'r awdurdod lleol lunio adroddiad A37 er mwyn sefydlu a yw o'r farn fod angen gwneud cais am Orchymyn Gofal/Goruchwylio A31. Gallwch gyflwyno'r argymhellion hyn ar lafar i'r llys wrth i chi roi adborth ar ôl dilyn camau datrys anghydfod.

Yn yr FHDRA byddwch yn hysbysu'r llys a ydych o'r farn fod angen iddo ystyried cynnal Gwrandawiad Canfod Ffeithiau. Mater i'r llys fydd dod i benderfyniad ynghylch hynny. Os cynhelir gwrandawiad canfod ffeithiau, ni ddylai Cafcass Cymru lunio adroddiad nes bo'r ffeithiau yn yr achos wedi'u pennu (CY12J, paragraff 30). Os bydd y llys yn penderfynu peidio cynnal Gwrandawiad Canfod Ffeithiau, dylid cofnodi ei benderfyniad i beidio gwneud hynny'n glir ar glawr y gorchymyn.

Yn yr FHDRA ceir cyfleoedd i chi ymgysylltu â'r naill barti neu'r llall ac i dynnu sylw at faterion yn gysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig. Mae'n werth cofio na fydd pawb yn cydnabod eu bod yn dioddef camdriniaeth ddomestig, neu wedi dioddef hynny yn y gorffennol, ac efallai mai chi fydd yn nodi'r materion hyn ar ran y plentyn. Gallai'r naill barti neu'r llall fod wedi profi neu fod yn profi camdriniaeth ddomestig; yn yr un modd, gallai ddod i'r amlwg fod hynny'n nodweddu un o'r partïon yn ei berthynas gyfredol.

Gallwch bob amser ddarparu rhif ffôn llinell gymorth Byw Heb Ofn (0808 801 0800), mae staff y llinell gymorth wedi'u hyfforddi'n arbennig a gallant gyfeirio

Apwyntiad Datrys Anghydfod y Gwrandawiad Cyntaf (FHDRA)

Page 25: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 24 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

unigolion i'r gwasanaeth mwyaf priodol yn eu hardal. Mae'n werth nodi bod y llinell gymorth hon ar gyfer menywod a dynion.

Wrth ryngweithio a thrafod yn yr FHDRA, dewiswch eich geiriau a'ch arddull cwestiynu yn ofalus. Mae'n bwysig nad yw pobl sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig yn teimlo trawma o'r newydd, nac yn teimlo eu bod ar fai mewn unrhyw ffordd. Ymgyfarwyddwch ag enghreifftiau o gwestiynau sydd wedi'u hanelu at ddioddefwyr trawma.

DOLEN: Enghreifftiau o gwestiynau sydd wedi'u hanelu at ddioddefwyr trawma

Yn CY12J, nodir ym mharagraff 6 fod yn rhaid i'r llys fod yn fodlon bod yr holl

wiriadau diogelu wedi'u cwblhau cyn gwneud Gorchymyn Trefniadau ar gyfer Plentyn (CAO) drwy gytundeb/gydsyniad neu ganiatáu tynnu cais yn ôl. Os ydych chi'n ymwybodol yn y FHDRA fod gwiriadau diogelu heb eu cwblhau, dylech roi amlinelliad o'r gofyniad hwnnw i'r llys.

Cofiwch y dylai'r llys ohirio'r FHDRA ac na ddylid cyflwyno unrhyw orchmynion interim os yw'r wybodaeth ddiogelu yn anghyflawn (CY12J, paragraff 12).

Page 26: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 25 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Cofiwch am yr agweddau mwy cynnil sy'n gysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig, gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth a rheolaeth ariannol ac emosiynol. Bydd angen i'r llys ddatgan materion yr achos yn glir, a'r hyn y mae'n dymuno inni ei ystyried mewn unrhyw adroddiad pellach. Gall y llys roi gorchymyn inni lunio adroddiad yn unol ag Adran 7, mewn achosion lle bo'r llys yn fodlon nad oes angen gwrandawiad canfod ffeithiau. Gall ofyn inni atgyfeirio i ganolfan cyswllt goruchwyliedig am hyd at chwe sesiwn gyswllt, ond dim ond mewn achosion yr ydym wedi bod yn ymwneud â hwy. Nid yw cyswllt gyda chefnogaeth yn addas ar gyfer achosion sy'n cynnwys camdriniaeth ddomestig, neu lle bo pryderon ynghylch diogelu. Mewn amgylchiadau o'r fath, yn ôl CY12J, paragraff 38, mewn amgylchiadau lle tybiwyd bod risg i'r plentyn, a bod angen cynnwys trydydd parti i liniaru'r risg o niwed i'r plentyn ac/neu'r rhiant y mae'r plentyn yn byw gydag ef, dylai ymglymiad y trydydd parti hwnnw fod wedi'i oruchwylio mewn canolfan gyswllt oruchwyliedig. Yn CY12J, paragraff 35, nodir na ddylai Gorchymyn Trefniadau ar gyfer Plentyn achosi 'risg o niwed na ellir ei rheoli' i'r plentyn. Bydd angen i chi ystyried hyn o ran rhagweld trefniadau realistig i'r dyfodol os bydd y risgiau i'r plentyn yn uchel ac os oes angen goruchwyliaeth yn y tymor canolig/tymor hir. Bydd angen i hyn fod yn rhan o asesiad tymor hwy, ond gellir tynnu sylw at hyn yn yr FHDRA wrth orchymyn adroddiad neu waith pellach, ynghylch pa mor debygol y bydd cyswllt goruchwyliedig yn llwyddiannus neu er budd pennaf y plentyn os bydd y trefniant yn methu neu'n anodd ei gynnal oherwydd natur y problemau neu'r gamdriniaeth ddomestig. Yn CY12J, paragraff 14, nodir y bydd y llys yn cofnodi ar glawr unrhyw orchymyn a wneir a godwyd cam-drin domestig, ac a ystyrir hynny'n berthnasol i benderfyniadau yn gysylltiedig â lles plentyn a'r risg i'r plentyn/rhiant. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o hyn wrth ystyried gorchymyn sy'n deillio o'r FHDRA.

Wrth Orchymyn Adroddiad

Page 27: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 26 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

(Canllawiau: Yr Effaith ar Blant sy’n Profi Cam-drin Domestig)

Ystyriwch a gofynnwch i chi eich hun:

Beth sy'n digwydd o safbwynt y plentyn? Beth mae'r plentyn yn ei weld a'i glywed/wedi'i weld a'i glywed? Beth yw barn y plentyn? Dylid cydbwyso dymuniadau a theimladau â

lles emosiynol y plentyn dros amser, wrth ystyried trefniadau cyswllt a threfniadau ar gyfer y plentyn.

Dylid taro cydbwysedd rhwng barn y plentyn â'r ffactorau effaith ac amddiffynnol er mwyn pennu'r risg i'r dyfodol a'r potensial am drefniadau cynaliadwy i'r plentyn.

Wrth ddewis rhwng trefnu cyswllt neu beidio, ystyriwch hunaniaeth a chydbwyso unrhyw risg o niwed o ran yr effaith ar y plentyn dros amser - sut y gellir bodloni ei anghenion o ran hunaniaeth gan sicrhau diogelwch ar yr un pryd?

Efallai y byddwch yn penderfynu nad yw'n bosibl i blentyn dreulio amser wyneb yn wyneb â pharti, ond a ydych wedi ystyried opsiynau eraill er mwyn cadw cyswllt mewn modd diogel? Llythyrau, cardiau, penblwyddi, Nadolig ac ati, a sut y gellid rheoli hyn?

Ar ddiwedd eich sesiwn gyda'r plant, cymerwch amser i ddod â'r sgwrs yn ôl i lefel ddi-gynnwrf, yn ôl i faterion bob dydd er mwyn lleihau unrhyw ofid i'r plentyn

Pa offer y byddwch yn eu defnyddio? – Dolen i'r offer A oes unrhyw wybodaeth ffeithiol ar goll? A oes angen cynnal unrhyw wiriadau ychwanegol? A yw'r trefniadau cyfredol yn ddiogel? Pa asiantaethau eraill sy'n ymwneud â'r achos? A oes unrhyw orchmynion peidio ag ymyrryd neu aflonyddu yn

weithredol? Ystyriwch unrhyw gyhuddiadau, erlyniadau sydd ar ddod a chollfarnau

yn rhan o'ch asesiad.

Dechreuwch eich damcaniaeth:

A oes prif gyflawnwr? Chwiliwch am fylchau yn yr wybodaeth? Cynlluniwch eich cyfweliadau’n ddiogel a gofalus Diweddarwch y cynllun achos wrth i'r achos ddatblygu A oes rheolaeth drwy orfodaeth yn bresennol? Ystyriwch yr effaith ar y

plentyn.

Trefnwch eich dadansoddiad:

Rhoech grynodeb o natur, hyd a mynychder y gamdriniaeth ddomestig.

Cyfeiriwch at yr offer yr ydych wedi'u defnyddio, a disgrifiwch yr hyn y maent wedi dweud wrthych ynghylch y gamdriniaeth ddomestig.

Os nodwyd ymddygiadau marwol, disgrifiwch yn glir sut rydych wedi asesu'r rhain yng nghyd-destun risg barhaus.

Os na allwch argymell bod plentyn yn cadw cyswllt â rhiant, pa ymyraethau a allai wneud hynny'n ddiogel yn y dyfodol?

Beth yw'r risg benodol i'r partner a'r plentyn/plant? Cydbwyswch y risg yn erbyn y ffactorau amddiffynnol a ffactorau'n

ymwneud â gwytnwch. Beth yw'r risg weddilliol yng nghyd-destun y cais a'r trefniadau ar gyfer

y plentyn? Beth yw'r rhesymau am eich argymhellion?

Llunio eich Adroddiad

Page 28: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 27 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Anaml y bydd modd pennu categorïau heb asesiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth esboniadol, sy'n canolbwyntio ar risgiau ac effaith. Gan hynny, dylid ystyried unrhyw wrthdaro ar gontinwwm deinamig, gan ddefnyddio'r Matrics Adnabod Risg Trais Domestig i ystyried yr holl ffactorau perthnasol, er mwyn creu trosolwg gyfannol o'r risg. Wrth ystyried teipolegau cam-drin domestig, mae ymarferwyr wedi'u cael yn ddefnyddiol er mwyn canfod yr hyn a allai fod yn digwydd o fewn teulu. Er enghraifft, mae teulu yr effeithir arno gan drais rhwng cwpl sy'n seiliedig ar sefyllfa yn wahanol iawn i deulu lle mae'n amlwg bod cyflawnwr yn rheoli drwy orfodaeth. Gall deall y teipolegau hyn fod o gymorth i gyfiawnhau argymhelliad. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddynt, ac mae'n bwysig cynnal archwiliad llawn o ddeinameg y teulu dros amser (cyn ac ar ôl gwahanu) a bod yn ofalus rhag dod i gasgliadau byrbwyll. Dyma brif bwyntiau Johnson (2011) ar deipolegau:

Mae Holtzworth-Munroe & Stuart (1994) hefyd wedi cyflawni rhywfaint o ymchwil i deipolegau trais.

Mae Ymddygiad Rheoli drwy Orfodaeth yn cynnwys cyfuniad o drais corfforol ac/neu rywiol gydag amrywiaeth o dactegau rheoli anhreisgar, fel camdriniaeth ariannol neu emosiynol, defnyddio plant, bygwth a dychryn, galw ar freintiau gwrywaidd, monitro cyson, beio'r dioddefwr, bygythiadau, trais sy'n gwaethygu.

Gwrthwynebiad treisgar - gall llawer o'r rhai sy'n cael eu brawychu gan berthynas agos ymateb yn dreisgar eu hunain. I rai, mae hyn yn ymateb greddfol pan fydd rhywun yn ymosod arnoch chi, ac fe'i gelwir yn aml yn hunan-amddiffyn neu'n ymateb sy'n cynrychioli dewis olaf i'r fenyw sy'n dioddef.

Trais rhwng cyplau sy'n gysylltiedig â sefyllfa (TCS) - TCS nad yw'n rhan o batrwm cyffredinol o reolaeth drwy orfodaeth, ond sy'n digwydd pan fydd gwrthdaro rhwng cyplau yn troi'n ymosodol - wedi'i gyflawni gan ddynion a menywod. Gall TCS ddigwydd yn sgil digwyddiadau argyfyngus bywyd, a gall amrywio o ran amlder a dwyster, yn dibynnu ar ddeinameg y berthynas rhwng y cwpl. Dyma ddolen i ganllawiau pellach (dolen) a thabl dosbarthu TCS.

Trais neu Ymddygiad a Ysgogir gan Wahanu - yn ymwneud yn benodol â sefyllfa'r gwahanu. Gellid defnyddio'r cais i'r llys fel estyniad o'r gamdriniaeth honedig, a gallai rheolaeth drwy orfodaeth hefyd fod yn bresennol. Gall yr ymddygiad hwn fod yn bresennol am y tro cyntaf, neu droi'n fwy difrifol ar ôl gwahanu.

Nodyn ar Deipoleg

Page 29: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 28 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Dyma gyfeiriadau cyfoes ychwanegol y gallech fod am eu harchwilio ymhellach yn gysylltiedig â'r teipolegau hyn. Mae'r erthyglau'n dangos sut mae'r gwaith ymchwil wedi cael ei adolygu, gan barhau i gael ei ddefnyddio'n sail wrth ddatblygu ymyraethau ar gyfer cam-drin domestig. Johnson, M (2008). A typology of domestic violence: intimate terrorism, violent resistance and situational couple violence. Boston: MA: Northeastern University Press Carlson, R & Dayle Jones, K (2010). Continuum of conflict and control: a conceptualisation of intimate partner violence typologies. The Family Journal , 18(3), 248 – 254. Bender, K & Roberts, A. R (2011). Battered women versus male batterer typologies: same or different based on evidence-based studies? Aggression and Violent Behaviour 12(5), 519 – 530. Wray, A, Hoyt, T, Gerstle, M & Leitman, B (2015). Examining intimate partner violence types in a diverse sample of court-referred parenting dyads. Journal of Child Custody, 12(3 – 4), 248 – 272. Pitman, T (2017). Living with Coercive Control: Trapped Within A Complex Web of Double Standards, Double Binds and Boundary Violations. British Journal of Social Work 47, 143 – 161. Kelly, J & Johnson, M (2008). Differentiation among types of intimate partner violence: research update and implication for interventions. Family Court review, 46(3), 276 – 499. Katz. E (2016). Beyond the physical incident model: How children living with domestic violence are harmed by and resist regimes of coercive control. Child Abuse Review, 25, 46-59. Stark, E. (2007). Coercive control: How men entrap women in personal life. Oxford, UK: Oxford University Press. Jane Wangmann, Different Types of Intimate Partner Violence: An Exploration of the Literature (Australian Domestic and Family Violence Clearinghouse, Issues Paper 22, 2011), ar gael yn https://opus.lib.uts.edu.au/bitstream/10453/19466/1/2010006199OK.pdf

Cyfeiriadau

Page 30: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 29 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Ceir deunydd darllen pellach ac adnoddau ychwanegol drwy'r dolenni isod:

Cafcass Cymru: Adnoddau ac Offer Cam-drin Domestig

Yr Effaith ar Blant sy'n Profi Cam-drin Domestig

Cwestiynau Fframio (Saesneg yn unig)

Canllawiau Ymarfer - Gwrandawiadau Canfod Ffeithiau

Dangosydd Cyswllt Diogel

Cafcass Cymru: Gweithdrefnau /

Canllawiau / Templedi Gweithredol

Gweithdrefn Ddiogelu (Saesneg yn unig)

Protocol Perthynas Waith rhwng Cafcass Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (Saesneg yn unig) Dull Cafcass Cymru o ymgysylltu â Chynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg a Datgeliadau o Achosion y Llys Teulu. (Saesneg yn unig)

16A Templed Adroddiad Asesu Risg

Pecyn Cymorth Asesu

CC-CAWAC

Adnoddau Allanol

Byw Heb Ofn

Dŷn Cymru

Bywydau Diogel - Rhestr Wirio Dangosyddion Risg DASH (Saesneg yn unig)

Dolenni Defnyddiol

Page 31: Cafcass Cymru - 2019.07.16 - Domestic Abuse Practice ... · u ihgg\oiu\g \u \pfkzlo \ gghggizuldhwk d u f\g ghvwxq f\iuhlwklro glzhggdudi l \pduihuz\u &difdvv &\pux hu pz\q vlfukdx

Tud 30 o 30 Cafcass Cymru Canllawiau Ymarfer Cam-drin Domestig Mehefin 2019

Cydnabyddir bod y canllawiau ymarfer hyn wedi cael eu datblygu yn sgil mewnbwn ac ymgynghori allweddol â'r canlynol:

Yr Athro Rosemary Hunter - Ysgol y Gyfraith Caint Cymorth i Ferched Cymru Prosiect Dyn Families Need Fathers: Both Parents Matter Cymru Tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth

Cymru Cynrychiolydd prosiect SEED Cymorth i Ferched Cymru Mae Cafcass Cymru yn dymuno diolch i bawb a roddodd o'u hamser ac a gyfrannodd at lunio'r canllawiau ymarfer hyn.

© Crown copyright 2019 - WG37461- Digital ISBN 978-1-83876-983-3 Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English.

Diolchiadau