beth yw addysg ddwyieithog ?

15
Beth yw addysg ddwyieithog?

Upload: kalkin

Post on 11-Jan-2016

66 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Beth yw addysg ddwyieithog ?. Gwahanol fathau o ‘ addysg ddwyieithog ’. Beth yw ystyr ‘ addysg cyfrwng Cymraeg ’ neu ‘ addysg ddwyieithog ’ ledled Cymru heddiw ?. Nodiadau ar gyfer y sleid ” Gwahanol fathau o ’addysg ddwyieithog’ ”. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Beth yw addysg

ddwyieithog?

Page 2: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Gwahanol fathau o ‘addysg ddwyieithog’

Beth yw ystyr ‘addysg cyfrwng Cymraeg’

neu ‘addysg ddwyieithog’ ledled Cymru heddiw ?

Page 3: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Nodiadau ar gyfer y sleid ”Gwahanol fathau o ’addysg ddwyieithog’ ”

• Un agwedd o’r maes cyfrwng Cymraeg sydd wedi peri cryn ansicrwydd ac amwysedd dros y blynyddoedd yw’r diffyg eglurder o ran yr hyn a olygir gan dermau megis “cyfrwng Cymraeg”, “dwyieithog” . . .’

• Beth sy’n ‘gyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog’ am y gyfundrefn? Ai cefndir ieithyddol y plant ? Ai natur y ddarpariaeth gwricwlaidd a’r modd y mae’r ddwy iaith yn cael eu dyrannu ar draws yr oedrannau ac ar draws y cwricwlwm ? Ai’r deilliannau ieithyddol i’r disgybl unigol?

Page 4: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Cazden, C.B., & Snow, C.E. (eds.). (1990).English Plus: Issues in Bilingual Education.

‘Bilingual education . . .

is a simple label for a complex phenomenon.’

Page 5: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

‘There exists a wide variety of bilingual

education provision in Wales.

In between basically monolingual Welsh and monolingual English schools in Wales, there is the widest variety of practice of bilingual education. The kaleidoscopic variety of bilingual educational practice in Wales makes the production of a simple typology inherently dangerous.’

Colin Baker, ‘Bilingual Education in Wales’ yn Hugo Baetens Beardsmore (gol.), European Models of Bilingual Education, 1993,15.

Page 6: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Nodiadau ar gyfer y sleid flaenorol:

• Cyfeiriodd Baker(1993:15) at yr ‘amrywiaeth caleidosgopig’ o ymarfer addysgol dwyieithog’ yn bodoli ar draws Cymru.

• Nid yw’n bosibl llunio teipoleg syml o addysg ddwyieithog yng Nghymru.

• Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mae addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnwys disgyblion o sbectrwm ieithyddol eang ac amrywiol (Lewis 2008:75).

Page 7: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

•Amlygir “amrywiaeth” (o ran methodoleg addysgu a modelau cynllunio) ac “amrywiaith” (o ran proffil ieithyddol y disgyblion) yn yr ysgolion a arsyllwyd.

Mae mwyafrif o’r dosbarthiadau dan sylw yn cynnwys disgyblion o gefndir ieithyddol amrywiol, er enghraifft, siaradwyr Cymraeg Iaith 1 ac Iaith 2, a siaradwyr nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

• Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau dysgu gan athrawon.

• Yr ymchwil yma wedi canolbwyntio ar ddim ond 38 ysgol – o ymestyn yr ymchwil, fe fydden ni wedi dod ar draws amrywiaethau pellach.

Page 8: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2009).Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, dogfen ymgynghorol, 5.1

‘Mae patrymau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru yn gymhleth.

Ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng awdurdodau o ran polisïau a roddir ar waith i hyrwyddo a datblygu sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg.’

Mae ein hymchwil yn cytuno â hyn.

Page 9: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

‘Bydd deilliannau ieithyddol y mathau gwahanol hyn o ddarpariaeth yn amrywio’n sylweddol . . .

Felly, nid yw darpariaeth ddwyieithog bob amser yn sicrhau bod unigolyn yn datblygu i fod yn siaradwr dwyieithog.’

Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2010).Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, para. 2.14

Page 10: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Nodiadau ar gyfer y sleid flaenorol

• Cydnabyddir nad yw pob math o ddarpariaeth ddwyieithog yn arwain at ddwyieithrwydd llawn yn y Strategaeth: ‘Bydd deilliannau ieithyddol...

• Onid dyma’r maen prawf pwysicaf ynghylch beth a olygir wrth ‘addysg ddwyieithog’ yng Nghymru heddiw – bod plentyn ar ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol yn gwbl hyderus yn ei ddefnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg?

Page 11: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

‘cyd-ieithu’(Ofelia Garcìa)

‘addysgu a dysgu yn y sefyllfa ddwyieithog’(Cen Williams)

‘co-languaging’

(Ofelia Garcìa)

‘teaching and learning in a bilingual setting’

(Cen Williams)

Page 12: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Nodiadau ar gyfer y sleid ”Cyd-ieithu’ a ‘Co-languaging’ ”

• Mae Ofelia Garcia yn galw yr hyn a ddiffiniwyd gan Cen Williams fel ‘addysgu a dysgu yn y sefyllfa ddwyieithog’ yn ‘co-languaging’

• cyd-ieithu yn y Gymraeg?

Page 13: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Addysg Ddwyieithog yng Nghymru

Addysgu a dysgu dwyieithog

Iaith y dosbarth:

Athro: unieithogDysgwr : unieithog

Deilliant: dwyieithrw

yddpob

dysgwr

Iaith y dosbarth:

Athro: dwyieithogDysgwr:dw

yieithog

Deilliant: dwyieithrw

yddpob

dysgwr

Addysgu a dysgu mewn sefyllfa ddwyieithog

Dosbarthiadau C & S yn yr

ysgol

Iaith y dosbarth:

Athro: unieithogDysgwr:

unieithog

Deilliant: amrywio

yn ôl cefndir

ieithyddol y dysgwr

Grwpiau C & S arwahân

yn y dosbarth

Page 14: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Nodiadau ar gyfer y sleid ‘Addysg Ddwyieithog yng Nghymru’”

• Dyma ymgais gweledol i geisio dosbarthu a chategoreiddio gwahanol drefniadaethau sy’n dod o dan ambarel ‘Addysg ddwyieithog’

• Mae’r diffiniad o addysg ddwyieithog yn gymhleth ac yn cwmpasu amrywiaeth o sefyllfaoedd.

• Mae’n bosibl gwahaniaethu rhwng ‘addysgu a dysgu dwyieithog’ ac ‘addysgu a dysgu mewn sefyllfa ddwyieithog’.

•Mae ymgais i ddatblygu ddwyieithrwydd pob disgybl mewn dosbarth dwyieithog.

•Canolbwyntio ar un iaith a wna’r disgybl mewn sefyllfa ddwyieithog.

Page 15: Beth  yw addysg ddwyieithog ?

Adnabod gwahanol fathau o addysg ddwyieithog yng Nghymru

Gwaith trafod:1. O’ch profiad chi, a yw’r dosbarthiad hwn yn

cwmpasu gwahanol fathau o ‘addysg ddwyieithog’ yng Nghymru heddiw ?

2. Ydych chi’n cytuno/anghytuno gyda’r diffiniadau hyn?

3. Ydych chi’n gallu adnabod categorïau ychwanegol ?