adroddiad blynyddol y gwasanaethau cymdeithasol...

40
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2011/12 Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 1

Upload: others

Post on 18-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • ADRODDIAD BLYNYDDOL Y

    GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

    2011/12

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 1

  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2011/12

    Pleser o’r mwyaf i mi yw cael cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr ar Wasanaethau Cymdeithasol Wrecsam ar gyfer 2011/12.

    Mae’r adroddiad hwn wedi ei ysgrifennu mewn cyfnod o newid sylweddol yn y ffordd y trefnir ac y cyflwynir y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol newydd. Bydd hwn yn parhau gyda fframwaith polisi’r Llywodraeth ar “Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy” sydd eisoes mewn lle. Mae’r Mesur a’r Fframwaith, fodd bynnag, yn adlewyrchu nifer o’r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud eisoes yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam. Mae’r newidiadau hyn yn bwysig oherwydd bod angen i ni wella ein gwasanaethau’n barhaus mewn cyfnod pan rydym yn wynebu pwysau gwirioneddol, yn enwedig o ran newidiadau demograffig; cynnydd mewn angen a galw; yn ogystal â rhwystrau ariannol cyson.

    Rwy’n falch o gael dweud ein bod wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn 2011/12, a’n bod yn parhau i weithio ar welliannau yn y ffordd y gallwn drawsnewid gwasanaethau i fodloni’r sialensiau rheiny mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau i fywydau’r rhai yr ydym yn eu cefnogi.

    Mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, rydym wedi parhau gyda’r agenda newid a gwneud gwelliannau arwyddocaol i’r gwasanaeth. Y flaenoriaeth oedd cefnogi annibyniaeth pobl yn eu cartrefi eu hunain lle bo modd. Mae ein llwyddiannau allweddol o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cynnwys:

    Parhau i weithredu model ‘Ail-alluogi’ gofal a datblygu Gofal Canolradd. Mae’r ddau wasanaeth wedi eu cynllunio er mwyn atal derbyn cleifion i’r ysbyty/gofal yn amhriodol ac i gefnogi pobl i ddychwelyd i’w cartref eu hunain a derbyn cymorth yno.

    Cryfhau’r ffordd yr ydym yn monitro’r gwasanaethau a gomisiynwyd gan y sector Annibynnol er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwasanaethau o ansawdd dda pwy bynnag yw’r darparwr.

    Gweithio gyda dau Awdurdod cyfagos yng Ngogledd Cymru er mwyn cytuno ar fethodoleg ffi Cartref Gofal tryloyw er mwyn cyflwyno gofal o ansawdd.

    Gwella’r ffordd yr ydym yn asesu gofalwyr a sicrhau eu bod mewn cysylltiad â’r gwasanaethau priodol er mwyn rhoi cymorth iddynt yn eu rôl o ofalu.

    Buddsoddi mewn cymorth ataliol a chymunedol i bobl er mwyn hyrwyddo byw’n annibynnol a lleihau’r angen am ymwneud y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 2

  • Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi cyflawni’r rhan fwyaf o’n mesurau/dangosyddion perfformiad ochr yn ochr â chyllideb gytbwys. Mewn Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, yr her oedd ymateb yn effeithiol i’r galw parhaus am blant sydd angen ein cymorth. Mae Wrecsam wedi profi cynnydd yn nifer y plant mewn angen gaiff eu cyfeirio; y rhai sydd angen eu hamddiffyn a theuluoedd agored i niwed sydd angen cymorth dros y 3 blynedd diwethaf. Mae ein cyflawniadau allweddol mewn gwasanaethau Plant yn cynnwys:-

    Mwy o fuddsoddi yn nifer y staff rheng flaen gan wneud toriadau yn y swyddfa gefn; Parhau i ddatblygu’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Integredig ar gyfer teuluoedd sydd â

    phryderon camddefnyddio sylweddau a rhianta, ac ehangu’r Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg;

    Mae’r dull gweithio Cyflawni Newid gyda’n Gilydd (a elwid gynt yn Dîm o Amgylch y Plentyn) hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar sawl teulu drwy gydlynu gwasanaethau ataliol effeithiol pan ddaw problemau i’r amlwg am y tro cyntaf ac osgoi’r angen am ymyrraeth gofal cymdeithasol.

    Yn y gwasanaethau Atal a Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant), er bod y perfformiad yn gadarnhaol mewn sawl maes, mae angen gwelliannau o hyd, yn enwedig yn ansawdd ac amserlen asesiadau. Mae Archwiliad diweddar wedi nodi sawl maes gwelliant y cytunir arnynt ac mae’r rheiny’n dal i fod yn cael sylw’r Gwasanaeth.

    Ar lefel fwy cyffredinol a thrwodd a thro, rwy’n falch o gael adrodd ein bod wedi parhau ein buddsoddiad yn ein hadnodd allweddol: ein staff, gan roi blaenoriaeth o hyd i hyfforddiant a chymwysterau, nid dim ond i staff y Cyngor, ond i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan hefyd sy’n gweithio yn y sector annibynnol. Mae’r lefelau cymwysterau gyda’r rhai uchaf yng Nghymru o hyd. Mae recriwtio a chadw staff hefyd ar lefel dda sydd wedi gwella.

    Rydym wedi parhau i gefnogi’r agenda o gydweithio Rhanbarthol/Isranbarthol drwy gydweithio ar fethodoleg Ffioedd Cartref Gofal, arwain Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru; rheoli Gwasanaeth Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru; Bwrdd Diogelu Plant Lleol Wrecsam/Sir y Fflint, a datblygu Canolfan Caffael/Comisiynu Gogledd Cymru ar gyfer lleoliadau gofal cymhleth cost uchel. Er ei bod yn parhau i fod yn her, mae cydweithio gyda Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnwys gwaith ar ddatblygu gweithio’n lleol, a thrwy beilota’r Gwasanaeth Gofal Gwella Cartrefi, a’r ddau wedi eu bwriadu er mwyn cefnogi cydweithio ar lefel leol. Mae’r canlyniadau ar gyfer Gwaith Lleol a Gwasanaeth Gofal Gwella Cartrefi yn parhau i fod angen mwy o waith er bod tystiolaeth o waith cydlynol ar draws y gweithwyr proffesiynol. Mae cydweithio gyda’r Trydydd Sector ar lefel leol yn parhau i fod yn bositif.

    Mae ein Blaenoriaethau Gwella wedi eu seilio ar amrediad o ffynonellau gwybodaeth, adborth gan gwsmeriaid, dadansoddi perfformiad ac adroddiadau rheoleiddio allanol. Mae hyn yn cynnwys Asesiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC); Archwiliad diweddar gan AGGCC o Wasanaethau Plant ac Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n nodi nifer o argymhellion ar gyfer y Cyngor. Mae Cynllun y Cyngor yn nodi cyfeiriad cyffredinol ar gyfer y Cyngor a blaenoriaethau allweddol i Wasanaethau.

    Er gwaethaf sawl her yr ydym yn ei hwynebu, rwy’n falch o gael dweud bod gwelliant a chynnydd wedi parhau wrth wella Gwasanaethau fel ein bod yn ateb heriau heddiw, ac yn barod am yr heriau sydd i ddod. Mae gwaith trawsnewid sylweddol wedi digwydd ac ni fu hynny’n hawdd, ac rwy’n falch o’r ymrwymiad, y gwaith caled a’r awydd gan reolwyr a staff i ddarparu gwell gwasanaethau. Ar yr

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 3

  • un pryd bu cymorth Gwleidyddol a Chorfforaethol cryf i gefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam sydd wedi bod yn hanfodol i’r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud. Y brif her drwy’r cyfan yw ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y sawl sydd eisiau ein cymorth a’r canlyniadau yr ydym yn ceisio eu cyflawni.

    Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, Anrew Figiel. Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol ynglŷn â chyflwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam yn ystod 2011/12. Mae’n manylu ar feysydd llwyddiant a gwelliannau ynghyd a’r rhai sydd angen eu gwella ymhellach ar draws dau faes gwasanaeth y Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Atal a Gofal Cymdeithasol. Mae nifer o feysydd allweddol ar draws y Cyngor sy’n ymwneud a Gwasanaethau Plant ac oedolion. Ceir adolygiad o’r meysydd trawsbynciol rhain a blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2012/13 isod. Meysydd gwaith trawsbynciol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Atal a Gofal Cymdeithasol i Blant. 1. Corfforaethol, Arweinyddiaeth Wleidyddol a Chymorth 1.1 Yn ystod 2011/12, bu cefnogaeth gref a pherthynas waith effeithiol rhwng aelodau etholedig,

    Cyfarwyddwyr Strategol, y Prif Weithredwr a’r ddau Wasanaeth sy’n ffurfio Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam. Yn dilyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2012, mae’r sylw bellach wedi troi at gadarnhau’r berthynas gref gyda’r Aelodau sydd newydd eu hethol a hefyd gyda’r Aelodau rheiny sydd wedi cychwyn ar rolau newydd a phrif gyfrifoldebau o dan y weinyddiaeth newydd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys, fel y gwnaeth yn 2011/12, y Prif Aelodau yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Penaethiaid Adran a chyda’r Cyfarwyddwyr Strategol. Bydd Pwyllgor Archwilio Addysg, Diogelu a Lles ‘Pobl’ yn derbyn adroddiadau perfformiad rheolaidd fel y gwnaeth y Pwyllgorau Archwilio blaenorol yn ystod 2011/12 ac arweiniodd hynny at benderfyniad y Cyngor i warchod cyllideb y Gwasanaethau Plant ar gyfer 2012/13. O safbwynt Gofal Cymdeithasol i Oedolion, bydd y Pwyllgor Archwilio’r Bobl newydd yn derbyn adroddiadau monitro perfformiad a chytundeb bob chwe mis. Mae’n bwysig nodi, yn ystod 2011/12 bod yr Aelodau wedi parhau i chwarae rhan lawn yn yr agenda foderneiddio a chynnig cefnogaeth ariannol i’r Gwasanaeth hefyd.

    1.2 Mae gennym fframwaith atebolrwydd a chyfathrebu i gefnogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng

    Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol Plant a Phobl Ifanc. Mae’r Cyfarwyddwr Addysg Statudol, Pennaeth Adran Atal a Gofal Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Strategol Plant a Phobl Ifanc yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd. Mae uwch reolwyr o’r holl adrannau perthnasol yn cyfarfod yn rheolaidd i gynllunio, monitro perfformiad a pharhau i weithio i wella gwasanaethau.

    2. Comisiynu a Phartneriaethau 2.1 Ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae sylw i sicrhau ein bod yn comisiynu’r

    gwasanaethau cywir i fodloni anghenion ein dinasyddion drwy ddilyn y ‘Canllawiau a

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 4

  • Fframwaith Comisiynu Bywydau Llawn Cymunedau Cynhaliol’. Mae hyn yn cynnwys ymwneud a darparwyr o ran ein bwriadau comisiynu yn y dyfodol.

    2.2 Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi bod yn llwyddiannus wrth roi blwyddyn gyntaf ei

    gynllun moderneiddio tair blynedd, ar waith. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gofal sy’n seiliedig ar ganlyniadau, cyfeirio a helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau ataliol lefel isel a gwasanaeth gofal canolradd megis Ailalluogi, Teleofal a Theleiechyd. Y syniad yw helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain neu ddod mor annibynnol â phosibl. Bydd y Gwasanaeth yn parhau gydag ail flwyddyn y cynllun 3 blynedd eleni a gellir gweld mwy o fanylion yn y Cynllun Busnes Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Atal a Gofal Cymdeithasol.

    2.3 Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion hefyd yn parhau i arwain ar reoli’r ‘Prosiect Trydydd

    Sector’ ar draws y Cyngor, a’r nod yw gwella llywodraethu yn ychwanegol at ddatblygu monitro cytundeb yn seiliedig ar ganlyniadau, a thrwy hynny sicrhau bod y canlyniadau a’r adborth a geir gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn sail i fonitro cytundebau a chomisiynu gwasanaethau’r dyfodol.

    2.4 Yn yr adran Gwasanaethau Plant, yr ydym wedi llwyddo i arwain peilot Gogledd Ddwyrain

    Cymru o raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael a thlodi plant. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd gennym o hyn i ddatblygu cynllun comisiynu pum mlynedd yn rhan o gyflwyno’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Nod y gwasanaethau a gomisiynwyd o dan y cynllun hwn yw sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth gynnar effeithiol ar gyfer unrhyw broblemau, gan atal yr angen i gyfeirio at Wasanaethau mwy arbenigol megis Gwasanaethau Plant. Rydym wedi cymryd y cyfle i roi mwy o sylw i ganlyniadau ac rydym wedi cyflwyno dull a elwir yn ‘Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau’ yn ein gwaith o fewn y Gwasanaethau a Gomisiynir.

    3. Cynllunio Perfformiad a Busnes 3.1 Blaenoriaeth allweddol ar gyfer 11/12 ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd gwella’r

    ffyrdd yr ydym yn ymgynghori ac yn cysylltu â dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a pherthnasau.

    3.2 Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion bellach wedi ymgynghori ar eu strategaeth gyswllt

    ‘Cymryd Rhan’ gyda’r bwriad o gyhoeddi a gweithredu’r dull gwell yn ystod 12/13. Mae Atal a Gofal Cymdeithasol yn rhan o ddatblygu Strategaeth Cyfranogi ar draws y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc cyfan. Mae hyn yn gysylltiedig ag adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â’r angen i wella cyswllt ar draws holl Wasanaethau’r Cyngor. Rydym yn falch o gael adrodd bod yr adborth a gafwyd gan y rhai a holwyd mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn dangos bod dros 90% ohonynt yn dweud iddynt gael eu trin a pharch, eu bod yn teimlo’n ddiogel a bod gofal cymdeithasol wedi gwella eu hannibyniaeth.

    3.3 Mae ein proses i adolygu achosion plant wedi cynnwys ceisio barn plant, pobl ifanc a’u

    teuluoedd er mwyn i gynlluniau fod yn ystyrlon, ond rydym eisiau gwella’r ffordd y gwnawn ni hyn. Mae hyn er mwyn i fwy o’n defnyddwyr gwasanaeth allu dweud wrthym am yr hyn maen nhw ei angen ac a ydym yn eu helpu neu beidio. Felly rydym yn datblygu proses newydd i sicrhau barn plant, pobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn gwella ar ein ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth a chofnodi’r farn honno yn enwedig wrth gynnal adolygiadau.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 5

  • 3.4 Mae datblygiadau’n ymwneud a’r ffordd yr ydym yn defnyddio ein systemau TG rheoli gofal, RAISe, a’r wybodaeth a gawn ohono er mwyn gwella gwasanaethau’n parhau i ddatblygu ar raddfa dda a bwriedir gwneud mwy o welliannau yn 2012/13. Mae dibyniaeth ar systemau TG etifeddiaeth, yn benodol, wedi ei leihau’n sylweddol. Mae adrodd ar berfformiad a rheoli o’r system ‘RAISE’ wedi ei wella hefyd gan roi mwy o sicrwydd o ran rheoli risg.

    3.5 Mae cynllunio busnes gan ddefnyddio Adroddiad Blynyddol ‘Fframwaith Adrodd Blynyddol y

    Cyngor’ yn parhau i wneud y cysylltiadau rhwng cynlluniau effeithiolrwydd gwasanaeth, cofrestrau risg, Cynllun y Cyngor a chynlluniau partneriaeth fel ein Cynllun ar y Cyd a’r Gofal Cymdeithasol Iechyd a Lles ar y cyd a’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau perchnogaeth a chwarae rhan yn y broses hon ar bob lefel o’r sefydliad ac ar lefel tîm yn arbennig.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 6

  • 4. Rheoli Adnoddau 4.1 Caiff y Strategaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ei chyhoeddi yn ystod y flwyddyn.

    Bydd y rhaglen datblygu’r gweithlu yn sicrhau ein bod yn parhau i gael grwpiau staff cymwys a hyfforddedig ar draws y darparwyr allanol a mewnol hefyd. Mae hyn yn hynod bwysig o ran cyflwyno gwasanaethau o ansawdd dda a thrin plant ac oedolion agored i niwed gyda pharch nawr, ac i’r dyfodol.

    4.2 Mae amrywiol brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd hefyd i’n helpu ni i sicrhau y gallwn gyflwyno

    Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Dyma rai enghreifftiau o hyn; gwaith yn ymwneud a ffioedd gofal oedolion; lleoliadau gofal i blant a; dod a phlant yn ôl i Wrecsam o leoliadau allan o Wrecsam gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Maethu Therapiwtig sydd newydd ei ddatblygu.

    4.3 Mae cyllidebau’n parhau i gael eu rheoli’n dda gyda chyllidebau cytbwys ar y gweill i’r ddau Wasanaeth eleni. Mae hyn wedi galluogi’r ddau wasanaeth i fuddsoddi mewn nifer o fentrau cymunedol, er enghraifft Clybiau Cinio a chefnogi gwasanaethau ataliol.

    Rydym yn parhau i gadw ein busnesau o dan adolygiad er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mor effeithlon â phosibl o fewn terfynau’r ddeddf a’r prosesau y mae’n ofynnol i ni eu dilyn.

    5. Blaenoriaethau allweddol Ar Draws Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2012/13 5.1 Corfforaethol, Arweinyddiaeth Wleidyddol a Chymorth

    Byddwn yn cynnal cefnogaeth aelodau ac ymwneud a’r gwasanaethau cymdeithasol drwy sesiynau hyfforddi, hwyluso eu presenoldeb yn y Panel Rhianta Corfforaethol a rhoi rhaglen mewn lle ar gyfer ymweliadau aelodau a’r timau cefnogi gweithredu a busnes.

    Byddwn yn gwella cyfathrebu gyda staff drwy ailsefydlu cyfarfodydd misol mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion a datblygu arolygon staff ynglŷn â’u barn ar berfformiad cyfredol a’r hyn y gellid ei wneud i wella gwasanaethau.

    5.2 Comisiynu a Phartneriaethau

    Byddwn yn parhau i sicrhau bod gofynion ‘Canllawiau Arfer Dda a Fframwaith Comisiynu

    Cymunedau sy’n cefnogi Bywydau Llawn’ yn cael eu hateb, yn enwedig gweithio gydag awdurdodau lleol rhanbarthol ar fethodoleg gosod ffioedd gofal;

    Byddwn hefyd yn gwella’r ymwneud a darparwyr o ran ein bwriadau comisiynu yn y dyfodol a datblygu cynllun comisiynu cyffredinol tymor canolig mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan ddod a mentrau cyfredol ynghyd; partneriaethau a chydweithio;

    Mewn Gwasanaethau Plant, byddwn yn parhau i gydweithio er mwyn comisiynu gwasanaethau, er enghraifft y Gofalwyr Ifanc a Gwasanaethau Eiriol yr Ifanc, lle bydd yn cynhyrchu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i wella’r canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n eu defnyddio.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 7

  • 5.3 Cynllunio Perfformiad a Busnes

    Byddwn yn mynd ati i ddatblygu mwy ar gyswllt a chwsmeriaid ar draws y Gwasanaethau

    Cymdeithasol drwy weithredu Strategaeth well ‘Cymryd Rhan’, Strategaeth Cyfranogiad Plant a phobl Ifanc a mentrau eraill (Gweler blaenoriaeth y maes Gwasanaeth);

    Byddwn yn gwella cyfranogiad staff ar bob lefel o’r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn rheoli perfformiad a chynllunio busnes.

    5.4 Rheoli Adnoddau

    Byddwn yn parhau i ddatblygu’r Strategaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Byddwn yn adolygu gofynion staffio’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod

    yn ateb y galw a’u bod yn unol â’r Cynllun Moderneiddio. Byddwn hefyd yn gweithredu’r System Rheoli Dogfennau Electronig (CIVICA) er mwyn

    lleihau’r angen am systemau ar bapur a’i gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth.

    5.5 Cefnogi Gofalwyr

    Er mwyn sicrhau bod pob Gofalwr Ifanc ac Oedolyn yn cael cefnogaeth mewn ffyrdd sy’n cydbwyso eu hanghenion eu hunain ac anghenion y sawl y maen nhw’n gofalu amdano, byddwn yn 2012/13 yn:- Adolygu ein Strategaeth Gofalwyr Ifanc drwy sefydlu Grŵp Strategaeth Gofalwyr Ifanc,

    cytuno ar brotocol Asesu Gofalwyr Ifanc a datblygu gwefan Gofalwyr Ifanc. Gwella ein cynllunio brys a chefnogaeth i ofalwyr drwy ddatblygu strategaeth gomisiynu ac

    adolygu’r broses gynllunio frys ar gyfer gofalwyr. Ymdrech u i gefnogi gofalwyr gaiff eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy

    gysylltu gyda Gwasanaethau Corfforaethol i ddatblygu strategaeth i gefnogi gofalwyr sy’n gweithio i Wrecsam; datblygu ‘Modiwlau Ymwybyddiaeth o Ofalwyr’ ar gyfer staff yn adnoddau e-ddysgu corfforaethol CBSW, e.e. hyfforddiant ‘cyflogwr cefnogol’ ac archwilio datblygu adnodd e-ddysgu corfforaethol CBSW ar gyfer gofalwyr (e.e. ymwybyddiaeth dementia)

    Datblygu ‘marchnad’ ar-lein ar gyfer Gofalwyr lle bydd modd cael mynediad at wybodaeth o nifer o ffynonellau gan Ofalwyr drwy gyfrwng dull siop un alwad ar-lein.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Cynyddu nifer y gofalwyr sydd â chynlluniau argyfwng. Cynyddu nifer y gofalwyr sy’n dweud eu bod yn teimlo iddynt gael cefnogaeth mewn

    cyfnodau o argyfwng. Cofnodi nifer y gofalwyr ifanc gaiff eu hadnabod a’r nifer sy’n cael eu hasesu o ganlyniad. Cynyddu nifer y gofalwyr ifanc sy’n dweud iddynt deimlo eu bod wedi cael cefnogaeth

    drwy’r broses. Cynyddu nifer y gofalwyr sy’n nodi eu bod yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 8

  • 6. Gwasanaeth Atal a Gofal Cymdeithasol i Blant 6.1 Adolygiad 2011/12 a’r sefyllfa ar hyn o bryd

    Daeth yr hen Wasanaeth Cefnogi a Diogelu yn Atal a Gofal Cymdeithasol ar 1 Ebrill 2011. Mae’r Adran newydd yn cyfuno gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant gyda gwasanaethau megis cydlynwyr Gyda’n Gilydd i Gyflawni Newid, (a elwid gynt yn Tim o amgylch y Plentyn), Canolfannau Teulu, Dechrau’n Deg, Gwasanaethau Cymorth Rhianta a Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc. Pwrpas yr aildrefnu yw darparu Gwasanaethau Plant ataliol effeithiol, fydd yn ateb gofynion plant a theuluoedd cyn i bryderon gynyddu i’r pwynt pan mae argyfwng yn digwydd a bod angen cymorth mwy dwys. Gelwir y ffordd hon o weithredu yn fodel gwaith integredig a bydd yn flaenoriaeth allweddol i ni er mwyn sicrhau canlyniadau da i’r teuluoedd rheiny sy’n cael mynediad at ein gwasanaethau yn 2012/13. Elfennau allweddol gwaith integredig yw:

    Ymyrraeth gynnar – ymyrryd yn gynnar ym mywyd plentyn neu berson ifanc neu adnabod angen bychan cyn iddo dyfu’n argyfwng.

    Asesu - fel arfer y Fframwaith Asesu Cyffredin, sy’n broses safonol i alluogi ymarferwyr i gyflawni asesiad cynnar a chychwynnol o anghenion plentyn ar gyfer gwasanaethau ychwanegol a gweithredu ar hynny.

    Cofnodi - gwybodaeth mewn un lle gyda chaniatâd y plentyn neu’r rhiant. Rhannu gwybodaeth - gydag ymarferwyr rhyngasiantaeth perthnasol yn y Model Gyda’n

    Gilydd i Gyflawni Newid Y Model Gyda’n Gilydd i Gyflawni Newid - gweithio ar y cyd gyda theuluoedd, gan wneud

    penderfyniadau ar y cyd ynglŷn ag asesiadau ac argymhellion ar gyfer cymorth pellach. Yr arweinydd proffesiynol – rhan allweddol o’r broses o weithio ar y cyd yw’r ymarferydd

    sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt gyda’r plentyn / teulu ac yn cydlynu a monitro’r cynllun gweithredu.

    (Diffiniad o wefan yr Adran Addysg Chwefror 2012)

    6.1.1 Yn ystod 2011/12 rydym wedi bod yn llwyddiannus yn mynd i’r afael a phroblemau recriwtio a chadw staff a brofwyd gan Ofal Cymdeithasol i Blant yn 2010/11.Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi lleihau nifer y swyddi gweigion a gweithredu strwythur talu a gyrfaoedd gwell ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Gwelodd y Gwasanaeth ostyngiad yn nifer y swyddi gweigion dros y flwyddyn gyda staff parhaol yn cael eu penodi i swyddi a lenwid gan weithwyr cymdeithasol o asiantaeth. Mae’r Cyngor, unwaith yn rhagor, wedi gwarchod cyllided Gofal Cymdeithasol i Blant, sydd wedi galluogi’r Gwasanaeth i gynnal cyllideb gytbwys heb ragweld unrhyw orwario eleni.

    6.1.2 Yn ystod 2011/12, profwyd cynnydd o 30% mewn cyswllt gan asiantaethau eraill ac aeloda’r

    cyhoedd, naill ai’n gwneud cais am wasanaeth neu’n darparu gwybodaeth ynglŷn â phlant allai fod yn agored i niwed. Er bod y cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau a brofwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar wedi sefydlogi eleni, mae’n bwysig nodi, yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf bod cynnydd o 61% wedi bod yn nifer y rhai gaiff eu cyfeirio sydd angen gwaith pellach gan y Gwasanaeth. Er gwaetha’r cynnydd yn y galw, rydym wedi llwyddo i wneud gwelliannau mewn perfformiad neu gynnal perfformiad da blaenorol mewn sawl maes

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 9

  • allweddol. Mae mwyafrif y plant sy’n ymwneud a’n gwasanaeth yn parhau i gael gweithiwr cymdeithasol cymwys wedi ei neilltuo ar eu cyfer, ac rydym wedi cadw perfformiad da wrth wneud penderfyniad ar wybodaeth a dderbyniwyd gan y gwasanaeth o fewn 24 awr o’i dderbyn. Mae sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc yn ddibynnol ar ansawdd ac amserlenni’r penderfyniadau a wneir, yr asesu a’r trefniadau cynllunio gofal, gan roi ystyriaeth i anghenion y ‘teulu cyfan’. Rydym hefyd wedi nodi meysydd lle mae angen gwella’r perfformiad ac fe gadarnhaodd arolygiad diweddar AGGCC hynny. Un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer 2012/13 yw gwella ansawdd ac amserlen yr Asesiadau Cychwynnol a Chraidd. Byddwn hefyd yn gwella’r prosesau ar gyfer cael gwybodaeth gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd am ein gwasanaethau, fel y bydd yn sail i gyflwyno a datblygu gwasanaeth.

    6.1.3 O fis Mawrth 31 2012, roedd gennym 170 o blant sy’n derbyn gofal, gyda chyfran cymharol

    fychan o’r rhain yn cael eu lleoli gyda darparwyr arbenigol allanol wedi eu lleoli’n aml gryn bellter o Wrecsam. Mewn ymdrech i gadw pobl ifanc yn eu hardal gynhenid, llwyddo i gael gwell canlyniadau a lleihau costau uchel caffael sy’n ymwneud a lleoliadau sector annibynnol y tu allan i ardal, mae’r gwasanaeth Maethu wedi dod yn gydran allweddol ym mhrosiect WRAP (Atal ac Aduno Wrecsam) o dan nawdd y Bwrdd Gwasanaeth Lleol sydd newydd ei ddatblygu. Mae hwn yn brosiect a ariennir ar y cyd gyda BIPBC ac mae’n cynnwys Gweithredu dros Blant, gyda’r nod penodol o ddychwelyd pobl ifanc sydd wedi eu lleoli y tu allan i’r ardal ar hyn o bryd, i ddarpariaeth maethu ‘therapiwtig’ lleol.

    6.1.4 Rydym yn adrodd gwybodaeth ar hyn o bryd yn erbyn 46 o ddangosyddion perfformiad i

    Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ac mae adroddiadau diweddar yn dangos tystiolaeth ein bod ni wedi gwella perfformiad ym mwyafrif y meysydd allweddol rhain. Mae detholiad o’r dangosyddion rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn. Ond, mae rhai o’r dangosyddion yn dangos cynnyrch yn hytrach na chanlyniadau ac rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yng Ngogledd Cymru ar well amrediad o ddangosyddion fydd yn rhoi gwell adlewyrchiad o berfformiad ac effeithiolrwydd Gofal Cymdeithasol i Blant ar gyfer y teuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw. Unwaith y byddwn wedi cytuno ar y rhain yn rhanbarthol, byddwn yn ceisio cytundeb gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio a chan ein Harolygwyr a AGGCC.

    6.1.5 Ar Ebrill 1af 2011, unodd Bwrdd Diogelu Plant Lleol Wrecsam gyda Bwrdd Sir y Fflint a daeth yn Fwrdd Diogelu Lleol Sir y Fflint a Wrecsam. Nod y Bwrdd, drwy ddull partneriaeth wedi ei chydlynu, yw diogelu, amddiffyn a hybu lles plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint a Wrecsam. Rydym yn parhau i fod yn rhan lawn o waith y Bwrdd, gyda nifer o staff Wrecsam yn cadeirio rhai o is grwpiau’r Bwrdd ac yn chwarae rhan weithgar mewn agweddau eraill o waith y Bwrdd ar y Cyd.

    7. Prif Flaenoriaethau 2012/13

    Nod Atal a Gofal Cymdeithasol yw bod yn fwy ymatebol i blant sy’n agored i niwed a darparu gwasanaeth o ansawdd dda iddyn nhw a’u teuluoedd. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddiogelu plant a phobl ifanc; mae hyn hefyd yn ganlyniad blaenoriaeth allweddol yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2012-2016. Dyma’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

    7.1 Datblygu mwy ar ffyrdd integredig o weithio sy’n sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth ar y cyfle cynharaf i rwystro’r angen am fwy o ymyrraeth arbenigol ddwys.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 10

  • Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Ddatblygu cynllun prosiect sy’n nodi amrediad o ddewisiadau i ddatblygu gweithio

    integredig ymhellach. Byddwn yn treialu’r dewis gorau o weithio’n integredig ac yn ei fonitro dros gyfnod o 3 – 6

    mis i benderfynu ar ei effeithiolrwydd.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Erbyn 2013 byddwn wedi cadarnhau model integredig o weithio i’w ddefnyddio o 2013

    ymlaen (D.S. bydd hwn yn destun cytundeb gan Lywodraeth Cymru a’r AGGCC).

    7.2 Gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan Atal a Gofal Cymdeithasol

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Penodi Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol sydd a’r gwaith o sicrhau ansawdd

    asesiadau, cynlluniau ac adolygiadau. Cyflwyno dull symlach o gofnodi gwybodaeth ynglyn a chofnodion plant er mwyn cefnogi

    gwell arfer yn unol ag adolygiad Munro o amddiffyn plant yn Lloegr. (D.S.. Bydd hyn yn amodol ar gytundeb gan Lywodraeth Cymru a’r AGGCC)

    Ymgorffori a gweithredu ar argymhellion gan arolygiaeth AGGCC ac asesu a rheoli gofal plant mewn angen ac o’r arolygiad maethu i gynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer 2012/13.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Cynyddu canran yr asesiadau a gwblheir o fewn yr amserlen. Cynyddu canran yr asesiadau cychwynnol sy’n dangos tystiolaeth bod y plentyn wedi cael

    ei weld. Cynyddu’r canran o adolygiadau achosion plant a gwblheir o fewn yr amserlen. Gwella amlder ymweliadau a phlant ac ansawdd cofnodi’r ymweliadau rheiny.

    7.3 Gwella cynnwys plant a phobl ifanc sy’n defnyddio’n gwasanaethau er mwyn seilio’r

    gwasanaethau a gyflwynir ac a ddatblygir ar hyn, gyda’r nod o wella eu canlyniadau. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu Asesiad diweddar WAO o’r Cyngor, oedd yn nodi bod cyswllt a’r cyhoedd yn faes gwelliant ddylai gael blaenoriaeth.

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Gweithredu proses newydd i gael barn a sylwadau plant sy’n ymwneud a’n gwasanaethau

    pan gaiff eu hachosion eu hadolygu. Bydd barn plant a phobl ifanc yn cael eu casglu wedyn a’u dadansoddi bob chwarter o 2013 ymlaen a seilir arferion a datblygiad y gwasanaeth ar hynny.

    Sicrhau bod diddordebau plant a phob ifanc sy’n ymwneud a gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi eu cynnwys yn Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y Cyngor cyfan.

    Byddwn yn datblygu proses ymgynghori flynyddol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd nad ydynt yn ymwneud a’r gwasanaeth mwyach. Defnyddir yr wybodaeth hon yn sail i ddatblygu a chyflwyno’r gwasanaeth.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n cyfranogi mewn adolygiadau o’u cynlluniau. Cynyddu nifer yr asesiadau cychwynnol sy’n rhoi tystiolaeth o ymwneud y plentyn yn yr

    asesiad hwnnw.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 11

  • Sefydlu gwaelodlin o wybodaeth ynglyn a pha mor ddiogel mae plant a phobl ifanc sy’n ymwneud a’r Adran yn teimlo’n gartrefol.

    Tystiolaethu bod profiadau plant a phobl ifanc o’r gwasanaethau yn cael eu hadrodd wrth dîm Rheoli’r Adran a bod yr wybodaeth hon yn sail i wella gwasanaethau.

    7.4 Mewn cydweithrediad ag adrannau ac asiantaethau eraill o’r awdurdod lleol, datblygu

    gwasanaeth 16+ ar gyfer pobl ifanc sydd mewn angen.

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Adleoli’r tîm gofal wrth adael gyda’r siop wybodaeth er mwyn cynnig ‘siop un alwad’ ar

    gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal a rhai 16 ac 17 oed sy’n ddigartref. Mewn partneriaeth a’r adran Dai a darparwyr eraill, datblygu mwy o ddarpariaeth dai ar

    gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc. Datblygu gwasanaethau i gefnogi’r grŵp hwn o bobl ifanc er mwyn iddynt allu cadw eu

    tenantiaeth ac atal rhagor o ddigartrefedd

    Mae gennym gynllun uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac mae sawl datblygiad yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Munro o Amddiffyn Plant yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn argymhellion yr adolygiad; ond, rydym yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru a’r AGGCC i’r Adolygiad. Bydd ein gallu i gyflawni ein blaenoriaethau yn dibynnu i ryw raddau ar ymateb Llywodraeth Cymru a AGGCC i argymhellion Munro.

    8. Gofal Cymdeithasol i Oedolion 8.1 Adolygiad 2011/12 a’r sefyllfa ar hyn o bryd 8.1.1 Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol yn cynorthwyo pobl hŷn ac oedolion gydag anableddau,

    ynghyd â’u gofalwyr, i ddod o hyd i atebion i’w anghenion gofal cymdeithasol, lle bynnag bo modd, er mwyn cadw neu adennill eu hannibyniaeth. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid megis y gwasanaethau iechyd a thai, yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol, er mwyn sicrhau fod pobl agored i niwed yn gallu cael eu cefnogi’n ddiogel yn eu cymunedau lleol. Mae’r Gwasanaeth yn gweithredu’r egwyddorion canlynol:-

    Elfen bersonol: Sicrhau fod unigolion yn parhau i gael dewis a rheolaeth dros eu

    bywydau. Aros yn lleol Sicrhau y gellir bodloni anghenion unigolion o fewn eu cymunedau lleol. Integreiddio: Sicrhau fod gwasanaethau’n gweithio gyda'i gilydd i fodloni anghenion

    unigolion, gan ddefnyddio adnoddau hyblyg i gadw/cynyddu annibyniaeth. Diogelu: Sicrhau fod oedolion agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

    8.1.2 Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud o ran Gofalwyr yn ystod y flwyddyn. Mae strategaeth

    wybodaeth i Ofalwyr wedi ei drafftio ac mae ymgynghoriad i ddigwydd ar hyn. Bydd hyn yn golygu dull cryn dipyn yn wahanol o ddarparu gwybodaeth fel gwasanaeth i ofalwyr yn rhan greiddiol o’r Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Y bwriad yw darparu gwybodaeth am wasanaethau’r cyngor, ond gwybodaeth hefyd allai fod o ddefnydd i ofalwyr wrth ymdopi ag effaith anabledd a’r rol o ofalu. Mae gwefan y gofalwyr wedi ei hadolygu a’i hailddatblygu i gynnig gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i ofalwyr. Cafodd y wefan ei hail lansio yn ystod wythnos y gofalwyr a hyd yma, mae 1,794 o bobl wedi edrych ar 6,795 o dudalennau.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 12

  • 8.1.3 Mae grantiau i ofalwyr o hyd at £200 i bob gofalwr, hefyd wedi eu cyflwyno, a’u gweinyddu gan Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam; hyd yma mae 300 o grantiau wedi eu rhoi sydd wedi helpu Gofalwyr i gyflawni eu rol o ofalu.

    Gallwn adrodd hefyd bod 89% o Ofalwyr gafodd gynnig asesiad ar eu liwt eu hunain wedi mynd ymlaen i gwblhau Asesiad Gofalwr a bydd gwaith yn parhau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod i gynyddu’r rhai sy’n derbyn asesiad ymhellach. Dywedodd 86% o Ofalwyr bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

    8.1.4 Er mwyn gwella Diogelu Oedolion, yn ystod y flwyddyn mae rhaglen archwilio flynyddol wedi ei

    gweithredu ac mae’r arf yn adlewyrchu’r newidiadau i weithdrefnau Cymru Gyfan. Caiff y darganfyddiadau eu hadrodd bob chwarter i Reolwyr Tim a Phenaethiaid y Gwasanaeth. Mae tystiolaeth yn dangos bod hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr adrodd am achosion a chydymffurfio ag amserlenni ymateb. Mae’r rhaglen hyfforddi a gychwynnwyd ym mis Ebrill 2011 wedi ei chwblhau ar gyfer y staff i gyd sy’n ymwneud a rheoli achosion amddiffyn oedolion.

    8.1.5 Cychwynnodd y broses o weithredu model cytûn ar gyfer ail-alluogi pob defnyddiwr

    gwasanaeth newydd a’r rhai cyfredol yn 2011. Mae pecynnau gofal cartref tymor hir yn cael eu trosglwyddo i’r sector annibynnol gydag amserlen drosglwyddo i ddigwydd fesul cam. Mae hyn wedi galluogi’r gweithlu cartref i ddatblygu yn wasanaeth arbenigol sydd a’i sylw ar ddarparu ymyrraeth arbenigol yn y tymor byr gyda’r nod o atal rhai rhag cael eu derbyn i’r ysbyty a chadw annibyniaeth pobl. Wrth fod rhychwant y gwasanaeth Ailalluogi wedi ei ymestyn, mae nifer y defnyddwyr gwasanaeth newydd sydd wedi derbyn ail-alluogi wedi cynyddu o 60.23% (Q1) i 88% (Q4), yn ogystal â hyn cynyddodd canran uwch o ddefnyddwyr gwasanaeth nad ydynt angen gwasanaeth wedi ei brynu yn dilyn ail-alluogi o 18.87% (Q1) i 28% (Q4). Mae lefel y bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal hefyd wedi gostwng i 479 yn Q4.

    8.1.6 Mae defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr wedi adrodd am lefel uchel o foddhad gyda lefel y

    gwasanaeth y maen nhw wedi ei dderbyn (roedd 93% o’r bobl a lenwodd yr holiadur yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod y gwasanaethau a gawsant o ansawdd dda).

    8.1.7 Mae nifer y Clybiau Cinio sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cynyddu ac mae

    lefel y cymorth a gynigir i gydlynwyr a gwirfoddolwyr wedi ei ymestyn. Mae 39 clwb cinio bellach wedi eu hagor ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Clybiau Cinio’n cynorthwyo pobl hyn i gael budd o bryd o fwyd maethlon, gweithgarwch a chwmnïaeth.

    Yn 2011/12 mae nifer y llefydd sydd ar gael mewn Clybiau Cinio yn wythnosol yn Wrecsam wedi cynyddu i 972. Mae’r adran yn darparu cymorth i’r clybiau hyn ar ffurf grantiau sefydlu a datblygu a thrwy gyngor gan gydlynydd Datblygu Clybiau Cinio drwy gyfrwng Age Concern.

    8.1.8 Amcan allweddol arall i Ofal Cymdeithasol i Oedolion y llynedd oedd gweithredu trefniadau

    cadarn ar gyfer Gwasanaeth Gofal Canolradd. Mae’r Gwasanaeth yn cael ei ariannu ar hyn o bryd drwy gyfrwng grant Parhau Gofal Iechyd. Mae rhagor o sicrwydd ynglyn a pharhad yr arian wedi galluogi’r Gwasanaeth i ddatblygu a bodloni lefel uwch o alw. Mae’r Gwasanaeth yn cael effaith fawr ar y sector ysbyty dwys, o ran y cleifion nad oes raid eu derbyn (osgoi gorfod derbyn 267 yn 2011/12) ond hefyd, drwy gyflymu’r broses o ryddhau o’r ysbyty (cyfanswm o 20 o oedi trosglwyddo gofal yn 2011/12). Wrth osgoi gorfod derbyn pobl i’r ysbyty, mae’r Gwasanaeth Gofal Canolradd hefyd wedi datblygu gwasanaeth ymateb symudol brys sydd wedi atal sawl un rhag cael ei dderbyn i’r ysbyty’n ddiangen.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 13

  • 8.1.9 Mae Wrecsam yn parhau i arwain y ffordd gyda staff cymwys yn fewnol a thrwy ein darparwyr gwirfoddol a phartneriaid preifat allanol. Rydym ar darged i gyflawni’r amrediad a’r nifer o gymwysterau ar draws y sector yn ogystal â darparu dyddiau hyfforddi.

    9. Blaenoriaethau Pennaf 2012/13 9.1 Mewn termau bras, rydym yn bwriadu cynnig cefnogaeth gynharach mewn da bryd i atal

    argyfwng rhag codi. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl hŷn arbennig sydd mewn cysylltiad â Gofal Cymdeithasol Oedolion a’r Gwasanaethau Tai yn gweld gwelliant yn ansawdd eu bywydau a’n bod yn cwrdd ag anghenion gofalwyr di-dâl. Yn un o’i ganlyniadau allweddol sydd i dderbyn blaenoriaeth, mae Cynllun y Cyngor wedi nodi hyn: “Yr holl Bobl Hŷn sy’n Agored i Niwed i fod yn ddiogel, ac i fwynhau’r iechyd, annibyniaeth a lles gorau posibl”.

    Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sy’n dod:

    9.2 Darparu Ail-alluogi

    I gefnogi a hwyluso sefyllfa lle gall mwy o bobl aros yn eu cartrefi, yn byw’n annibynnol ac o fewn eu cymunedau. Byddwn yn parhau i weithredu’r model y cytunwyd arno ar gyfer ail-alluogi ac i’r holl bobl newydd a chyfredol sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Byddwn yn gwneud hyn drwy: Werthuso’r Peilot wedi’i arwain gan y Therapydd Galwedigaethol ac adolygu’r canfyddiadau i gyfateb â’r gwerthuso. Gwneud y trefniadau terfynol i brynu pecynnau gofal i mewn. Gweithredu’r model ail-alluogi’n llawn ar draws y Gwasanaeth.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Gynnal boddhad y cwsmer - y nifer o bobl sy’n dweud bod eu hannibyniaeth wedi gwella o

    ganlyniad i ymyriad. Cynyddu boddhad y cwsmer – y nifer o bobl sy’n dweud bod ansawdd eu bywydau wedi

    gwella o ganlyniad i gefnogaeth gan yr adran gofal cymdeithasol. Y targed yw 91% yn 2012/13.

    Cynyddu’r nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth newydd sy’n cael eu hail-alluogi Cynyddu’r % o ddefnyddwyr gwasanaeth nad ydynt angen gwasanaethau parhaus a brynir

    yn dilyn cyfnod o ymyriad ail-alluogi. Gostwng y nifer o bobl yn byw mewn cartrefi gofal fel cyfran o’r bobl sy’n derbyn

    cefnogaeth. 9.3 Darparu Gwasanaeth Gofal Canolradd

    Mae Gofal Canolradd yn wasanaeth sy’n ceisio cefnogi pobl i aros gartref pan fo’u hiechyd yn dirywio, neu, lle mae wedi bod yn angenrheidiol iddynt fynd i’r ysbyty i’w cefnogi i ddychwelyd adref gynted ag sy’n bosibl. Bydd person yn derbyn cefnogaeth gan staff sy’n gweithio yn yr adran Gofal Cymdeithasol a Gwasanaeth Iechyd, yn cynnwys meddygon teulu, nyrsys bro, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr i sicrhau bod eu hanghenion wedi’u cyflawni. Gallent hefyd dderbyn cefnogaeth gan wirfoddolwyr. Darperir Gwasanaeth fel arfer am gyfnod byr o hyd at 4 wythnos ac wedi hynny penderfynir a yw’r person angen unrhyw gefnogaeth barhaus. Byddwn yn parhau i weithredu trefniadau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Canolradd a Datblygiadau Bro gydag Iechyd a’r partneriaid Gwirfoddol (3ydd sector).

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 14

  • Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Ymgysylltu â chydweithwyr iechyd i sicrhau bod y model ‘Gofal Gwell’ sydd wedi’i gynnig

    gan BCUHB wedi’i adlewyrchu yn ein hagwedd gofal canolradd. Ymgysylltu â’r timau Arweiniad Lleoliad a chynlluniau gweithredu a gyda datblygiad y

    Byrddau Gweithredu Ardal arfaethedig yn y dyfodol. Adolygu a diwygio Strategaeth Comisiynu Pobl Hŷn gan ystyried yn arbennig ein trefniadau

    comisiynu sector gwirfoddol. Cynhyrchu achos busnes i waith lleoliad gyda chydweithwyr iechyd ar gyfer gweithredu

    model ‘Gofal Gwell’ ar draws bob ardal.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Ostwng y gyfradd o drosglwyddiad gofal wedi’i ohirio. Y targed i 2012/13 yw gostwng i 19. Cynyddu’r nifer o dderbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi. Gostwng yr amser aros cyfartalog am asesiadau gan therapydd galwedigaethol. Gostwng amseroedd aros am wasanaeth gofal domestig. Cynyddu’r nifer o bobl sy’n derbyn gwasanaethau wedi’u seilio yn y gymuned sy’n derbyn

    teleofal. Cynyddu’r nifer o bobl sy’n dweud wrthym fod ansawdd eu bywyd wedi gwella. Yn 2012/13

    rydym yn anelu at sefyllfa lle bydd 91% o bobl yn dweud wrthym fod ansawdd eu bywyd wedi gwella.

    9.4 Diogelu Oedolion Agored i Niwed a Phobl Hŷn

    Ein bwriad yw gwella ein prosesau Diogelu a chofnodi achosion ymhellach er mwyn sicrhau bod yr adroddiad ‘mewn dwylo diogel’ ac argymhellion dilynol yn cael eu gweithredu’n esmwyth yn Wrecsam.

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy: Sicrhau bod y Polisïau a’r Protocolau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd Adolygu ac ehangu’r adnoddau sydd eu hangen i ddiogelu oedolion agored i niwed a phobl

    hŷn. Gweithredu system gofnodi TG newydd i gael ei chyflwyno fel system beilot cyn ei

    chyflwyno ar draws y Gwasanaeth. Parhau i ymgymryd â rhaglen archwilio dreigl a fydd yn monitro ansawdd achosion

    amddiffyn oedolion i sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau a gwelliant parhaus. Parhau i weithredu’r rhaglen hyfforddi i’r staff i gyd, gan ganolbwyntio ar wella’r

    gwerthusiad a’r effaith y mae’r hyfforddiant wedi’i gael ar arferion achos go iawn.

    Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy: Weithredu argymhellion y gweithgor Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) Cwblhau peilot wrth ddefnyddio modiwl Amddiffyn Oedolion yn y Tîm Pobl Hŷn Iechyd

    Meddwl Cymunedol (CMHTE) yn fuan yn 2012. Rheoli’r Prosiect TG drwy Swyddog Diogelu a fydd yn adrodd ar gynnydd i ATOM/Prif

    Swyddog ar ddiwedd bob Chwarter gan gychwyn ym mis Mehefin 2012. Archwilio bob chwe mis a fydd yn edrych yn fanwl ar 10% o achosion a ymgymerir mewn

    timau sy’n cynhyrchu’r nifer fwyaf o gyfeiriadau. Archwiliad blynyddol yn digwydd mewn timau sydd â nifer lai o achosion wedi’u cyfeirio

    (sampl o oddeutu 20-30% o achosion). Amserlenni cyfarfod trafodaethau a gofnodwyd,

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 15

  • Bydd yr holl archwiliadau wedi’u hadrodd i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol ac adroddiad wedi’i anfon at y Prif Swyddog.

    9.5 Gweithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) Mae’r Mesur yn rhoi cyfrifoldebau ar BCUHB a’r Awdurdod Lleol i gydweithio ar weithredu’r

    Mesur drwy gydol 2012. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cefnogi Iechyd Meddwl sylfaenol o Hydref 2012, Cynlluniau Triniaeth a Gofal, Hunan-gyfeiriad i’r ysbyty, Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol.

    Byddwn yn cyflawni hyn drwy;

    Gymryd rhan yng Ngrŵp Llywio Gogledd Cymru a gweithredu Cynllun Gweithredu’r Mesur Iechyd Meddwl. Byddwn yn mesur ein llwyddiant drwy

    Grŵp Monitro Gogledd Cymru o Hydref 2012. 10. Perfformiad Gofal Cymdeithasol Oedolion ar gyfer 2011/12

    Isod mae rhai o’r dangosyddion allweddol a’r mesurau sy’n helpu i ddangos sut y perfformiodd Gofal Cymdeithasol Oedolion yn ystod 2011/12;

    10.1 Gweithgaredd

    Oedi mewn Trosglwyddiadau Gofal: Cafwyd 20 yn ystod 2011/12 yn erbyn targed diwedd blwyddyn o 22. Roedd perfformiad 10/11 yn chwartel 1 yng Nghymru;

    Mae’r nifer o bobl y’n byw mewn cartrefi gofal wedi gostwng ychydig bach dros y flwyddyn o 489 Ch4 2010/11 i 479 ar Ch4 2011/12. Mae’r lleoliadau gofal preswyl wedi aros yn sefydlog. Mae’r lleoliadau ar gyfer Nyrsio a Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl wedi gostwng ychydig bach, tra bo lleoliadau Preswyl Henoed Bregus eu Meddwl wedi gweld y cynnydd mwyaf.

    Rhwng Ebrill 2010 ac Ionawr 2012, cynyddodd y nifer o oriau gofal cartref o 17% a’r nifer o dderbynwyr o 15%.

    Ar Ionawr 24ain 2012, darparwyd 9030 o oriau o ofal cartref, yr oedd 88% ohonynt drwy ddarparwyr allanol.

    Hyd at Ch4, symudodd 90% o’r defnyddwyr gwasanaeth newydd drwy’r gwasanaeth ail-alluogi. Doedd 29% o’r rheiny ddim angen unrhyw wasanaeth parhaus a brynwyd.. Mae hyn yn is na’r targed diwedd blwyddyn o 55%, sy’n adlewyrchu natur fwy dibynnol pobl hŷn sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Ar gyfer 12/13, bydd rhoi gwybod am berfformiad ail-alluogi wedi’i wella i roi darlun mwy cyflawn o’r ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithredu.

    Llwyddodd y gwaith o ostwng derbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi i sicrhau cyfanswm o 264 o dderbyniadau wedi’u hosgoi yn ystod 2011/12.

    Mae’r canran o bobl yn derbyn gwasanaethau yn y gymuned sy’n derbyn gwasanaeth Teleofal yn parhau i wella (Ch4 = 21.17% yn erbyn targed diwedd blwyddyn o 17%);

    Mae mwy o ofalwyr yn defnyddio cefnogaeth hawliau lles ac mae hyn ar y trywydd cywir gyda 397 ar ddiwedd y flwyddyn, yn erbyn targed o 330);

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 16

  • Mae mwy o ofalwyr yn cofrestru gyda Gwasanaethau Gofalwyr Wrecsam (1148 ar Ch4 yn erbyn targed diwedd blwyddyn o 900).

    10.2 Prydlondeb

    Mae’r amseroedd aros am Therapyddion Galwedigaethol wedi gostwng ymhellach i 6 wythnos, yn erbyn targed o 10 wythnos i Ch4;

    Roedd yr amseroedd aros am ofal cartref yn ystod 2011/12 yn 7.5 diwrnod ar gyfartaledd yn erbyn y targed o 10 diwrnod.

    10.3 Adborth (Ar sail yr adborth gan 400 o ddefnyddwyr gwasanaeth rhwng Ebrill 2011 a Rhagfyr 2011):

    Dywedodd 93% o ddefnyddwyr gwasanaeth bod Gofal Cymdeithasol Oedolion wedi gwella

    eu hannibyniaeth yn erbyn targed diwedd blwyddyn o 94%; Dywedodd 89% o bobl bod ansawdd eu bywydau wedi gwella o ganlyniad i gefnogaeth gan

    Ofal Cymdeithasol Oedolion (Targed = 90%); Dywedodd 98% o bobl eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch; Dywedodd 93% o bobl eu bod wedi derbyn cyfathrebiad mewn ffordd sy’n addas iddyn

    nhw; Dywedodd 92% o bobl eu bod yn teimlo’n fwy diogel a sicr o ganlyniad i ymyriad gan Ofal

    Cymdeithasol Oedolion. 10.4 Adborth gan Ofalwyr

    Dangosodd 86% o Ofalwyr bod Gofal Cymdeithasol Oedolion yn cwrdd â’u hanghenion yn erbyn targed diwedd blwyddyn o 85%.

    10.5 Ariannol

    Rhagwelir y bydd y gyllideb Gofal Cymdeithasol Oedolion yn cwrdd â thargedau diwedd blwyddyn. Yn ogystal, mae rhywfaint o gyllideb y flwyddyn gyfredol wedi’i bennu i gwrdd â phwysau sylweddol ffioedd cartrefi gofal yn 2012/13.

    11. Perfformiad Atal a Gofal Cymdeithasol Plant 2011/12

    11.1 Atgyfeirio ac asesu

    Mae’r perfformiad mewn perthynas â phrydlondeb gwneud penderfyniadau wedi parhau’n gyson o 2010/11, a pherfformiad 11/12 yw 93.6%

    Y canran cyffredinol o blant a welwyd gan weithiwr cymdeithasol yn rhan o asesiad

    cychwynnol cyflawn yw 70%, sy’n dal i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru o 64%. Mae hyn yn ostyngiad bychan ar berfformiad Wrecsam y llynedd, sef 72% ond; mae perfformiad chwarterol wedi dangos gwelliant graddol dros y flwyddyn i berfformiad chwarter pedwar o 75%. Mae Gwella ymgysylltiad plant a phobl ifanc yn faes blaenoriaeth allweddol yng nghynllun gwasanaeth 2012/13.

    Dros y flwyddyn cwblhawyd 50% o’r asesiadau cychwynnol o fewn yr amseriad mewn

    ymateb i gyfeiriadau a dderbyniwyd yn 2011/12. Mae hyn yn welliant ar berfformiad y llynedd; disgwylir mwy o welliant yn y maes yma yn 2012.13, Cwblhawyd 58% o asesiadau

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 17

  • Roedd 21.6% o’r cyfeiriadau a dderbyniwyd dros y flwyddyn yn ailgyfeiriadau plant oedd

    wedi cael asesiad cychwynnol o fewn y 12 mis blaenorol. Gwneir archwiliad o bob achos perthnasol i ganfod y rhesymau am hyn ac i weld a oes unrhyw feysydd i’w gwella gan alw am weithredu pellach.

    11.2 Plant mewn angen

    Dros y flwyddyn, dyrannwyd 94% o blant mewn angen i weithiwr cymdeithasol

    cymwysedig. O fis Mawrth 31ain 2012, dyrannwyd 94.9% i weithiwr cymdeithasol cymwysedig, mae hyn yn welliant ar berfformiad y llynedd o 92.8%.

    Mae’r canran o adolygiadau plant mewn angen a gwblhawyd o fewn yr amser perthnasol

    wedi cynyddu i 52% sy’n welliant ar berfformiad 10/11 o 45%. Disgwylir mwy o welliant a bydd hyn wedi’i gynnwys fel maes gwelliant penodol yn y cynllun gwasanaeth o dan Gwella ansawdd gwasanaethau.

    11.3 Diogelu Plant

    Dros y flwyddyn cynhaliwyd 94.9% o gynadleddau achos cychwynnol o fewn yr amseriad gofynnol, sy’n welliant ar berfformiad y llynedd o 82.5%.

    Cynhaliwyd 99% o adolygiadau amddiffyn plant o fewn yr amser gofynnol dros y flwyddyn, mae hyn yn cynrychioli perfformiad gwell ers y llynedd a oedd yn 97.9%.

    Dros y flwyddyn, dyrannwyd 99.4% o’r plant ar y gofrestr amddiffyn plant i weithiwr cymdeithasol cymwysedig, fel ydoedd ar Fawrth 31ain 2012 dyrannwyd 100% o blant yn y categori yma i weithiwr cymdeithasol cymwysedig. Roedd 3 o blant ar ddiwedd chwarter 3 heb eu dyrannu i weithiwr penodol am fod y gweithiwr a fyddai’n cymryd eu hachos ar wyliau ar y pryd. Gwnaeth y rheolwr tîm y penderfyniad i’w dyrannu i’r tîm fel bod modd monitro eu hachosion nes bo’r gweithiwr yn dychwelyd o’r gwyliau. Argymhellwyd bod y Rheolwr Tîm yn y dyfodol, o dan yr amgylchiadau yma, yn dyrannu achosion iddynt eu hunain i sicrhau bod gan y plant perthnasol weithiwr wedi’i enwi.

    11.4 Plant sy’n derbyn gofal

    Dros y flwyddyn, dyrannwyd 99.8% o blant sy’n derbyn gofal i weithiwr cymdeithasol

    cymwysedig. O Fawrth 31ain 2012, dyrannwyd 100% o blant sy’n derbyn gofal i weithiwr cymdeithasol cymwysedig.

    Cwblhawyd 89.3% o adolygiadau plant sy’n derbyn gofal o fewn yr amser gofynnol, mae

    hyn yn ostyngiad mewn perfformiad ers y llynedd pan oedd y perfformiad yn 91%; mae’r rhesymau am y gostyngiad yma mewn perfformiad yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

    Mae’r canran o ymweliadau statudol i blant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu i 75% o’i

    gymharu â pherfformiad 10/11 o 70%. Ond mae angen rhagor o welliant yn y maes yma a bydd wedi’i gynnwys yng nghynllun gwasanaeth 2012/13 fel maes penodol i’w wella o dan Gwella ansawdd gwasanaethau.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 18

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 19

    12. Heriau’r Dyfodol

    Bydd nifer o faterion Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol yn effeithio ar rôl a darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam yn y dyfodol. Ar yr un pryd, bydd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol rôl allweddol mewn dylanwadu ar Gynllunio a Pholisi Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol. Dyma rai o’r prif sialensiau:-

    12.1 Ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru “Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy” a’r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol arfaethedig. Bydd y Canlyniadau Allweddol yn cynnwys: - Defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr sydd â llais cryfach a mwy o reolaeth dros eu

    bywydau a’r gwasanaethau a ddarperir. Darpariaeth symlach gydag arbenigedd a ddefnyddir yn fwy effeithiol ac effeithlon. Gweithlu cryfach, sy’n hyderus yn eu barn broffesiynol eu hunain. Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau integredig.

    12.2 Effaith y newidiadau arfaethedig gan y Llywodraeth Genedlaethol i’r System Lles.

    I lawer o deuluoedd sy’n agored i niwed yn arbennig rhieni sengl gyda Phlant ac Oedolion

    Agored i Niwed sydd ag incymau cyfyngedig yn barod, gallai’r newidiadau yma gael effaith sylweddol ar lefelau tlodi, digartrefedd a chaledi. Mae’n anochel y bydd mwy o bwysau ar Awdurdodau Lleol ac yn bennaf y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb er mwyn diogelu ac amddiffyn y rheiny sydd â’r angen mwyaf, yn arbennig y rheiny mewn grwpiau agored i niwed. Gallai effaith y newidiadau diwygio lles ar incwm a lles pobl fod yn eang iawn gan roi mwy o deuluoedd a phlant mewn tlodi gan effeithio ar yr economi lleol, wrth i bobl sy’n derbyn budd-daliadau wario’r mwyafrif o’u hincwm yn lleol.

    12.3 Cydweithio Rhanbarthol ac Isranbarthol ac Intregreiddio Gwasanaethau.

    Mae cydnabyddiaeth bod potensial parhaus i gael dull rhanbarthol o gomisiynu a phrynu

    rhai gwasanaethau gyda chynllunio wedi’i symleiddio ar draws ffiniau. Ar yr un pryd mae awydd cryf i sicrhau bod atebolrwydd lleol wedi’i atgyfnerthu a bod anghenion lleol yn cael eu pennu a’u hateb gydag ymatebion lleol. Mae gan integreiddio gwasanaethau gydag Iechyd ganlyniadau a allai fod yn bositif ond mae’n parhau’n sialens sylweddol.

    12.4 Ac yn olaf, ond yr un mor bwysig, cydbwyso cynnydd mewn galw gyda demograffeg sy’n newid.

    Am fod nifer gynyddol o bobl yn byw i fod yn hŷn o fewn cyllidebau tynn iawn, mae hyn yn

    achosi sialensiau sylweddol yn awr ac yn y dyfodol. Er ein bod angen dod yn fwy effeithiol, neu’n llai biwrocratig, drwy’r amser, rydym hefyd angen canfod ffyrdd newydd o sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu hateb yn y ffordd fwyaf priodol. Nid yn unig y bydd hyn yn cynnwys modelau cefnogaeth newydd, naill ai wedi’i ddarparu’n uniongyrchol gan y Cyngor; neu eraill; neu’n gweithio gyda phartneriaid, efallai y bydd angen ailasesiad o gyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol a rhai’r cymunedau a’r unigolion. Bydd angen mwy o ffocws ar atal a buddsoddiad mewn cefnogaeth gymunedol.

  • 13. Cynllun Busnes Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam ar gyfer 2012-13. Atal a Gofal Cymdeithasol (gwasanaethau plant)

    Diogelu Plant a Phobl Ifanc

    Mae hwn yn cysylltu â’r canlyniad sy’n cael blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor: Diogelu Plant a Phobl Ifanc, a Chanlyniad 2 yng Nghydgynllun Wrecsam. Mae’r cynllun gwasanaeth yma’n cyfeirio hefyd at y camau gweithredu hynny sy’n ymateb i archwiliad diweddar AGGCC o’r gwasanaeth, Bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cynnwys y rheiny sy’n gyfrifol ac mae’r amseriadau wedi’u cynnwys yng nghynlluniau gwasanaeth y tîm ar gyfer 2012/13.

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif

    Cyfeirio’r Risg

    Datblygu ymhellach ffyrdd integredig o weithio sy’n sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth ar y cyfle cynharaf i atal yr angen am ymyriad arbenigol mwy trylwyr. (Argymhelliad AGGCC 8.3)

    Datblygu cynllun prosiect sy’n pennu ystod o opsiynau i ddatblygu gweithio integredig ymhellach. (AGGCC Tud 14 Arg 8.3)

    Byddwn yn rhoi cynnig ar yr opsiwn dewisedig o weithio integredig a’i fonitro dros gyfnod o 3-6 mis i ganfod pa mor effeithiol ydyw (AGGCC Tud 14 Arg 8.3)

    Erbyn 2013 byddwn wedi cadarnhau model integredig o weithio i’w ddefnyddio o 2013 ymlaen (D.S. bydd hyn yn amodol ar gytundeb gan Lywodraeth Cymru ac AGGCC.)

    Gwella safon y gwasanaethau a ddarperir gan Atal a Gofal Cymdeithasol. (Argymhelliad AGGCC8.1,8.2 a 8.4)

    Penodi Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol sydd â’r rôl o sicrhau ansawdd adolygiadau, cynlluniau ac asesiadau (AGGCC Tud 9, 18, 22 ac Arg 8.2)

    Cyflwyno dull symlach o gofnodi gwybodaeth ar

    Cynyddu’r % o asesiadau a gwblhawyd o fewn yr amser gofynnol

    Cynyddu’r % o asesiadau cychwynnol sy’n tystio bod y plentyn wedi’i weld

    Cynyddu’r % o adolygiadau o achosion plant sy’n cael eu cwblhau o fewn yr amser gofynnol

    Gwella pa mor aml yr ymwelir â phlant ac ansawdd cofnodion yr ymweliadau hynny.

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 20

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 21

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    gofnodion plant i gefnogi gwell arferion yn unol ag adolygiad Munro o ddiogelu plant yn Lloegr. (AGGCC Tud 18 a 22. D.S. Bydd hyn yn amodol ar gytundeb gan Lywodraeth Cymru ac AGGCC).

    Gweithredu’r system newydd o archwiliadau ffeiliau achos Reolwr Tam a Phennaeth Gwasanaeth drwy’r gweithdai adolygu perfformiad chwarterol. (AGGCC Tud 22 ac Arg 8.2)

    Cynnal sefydlogrwydd staff a phersonél rheoli (AGGCC Tud 22)

    Gwneud archwiliad o ailgyfeiriadau i ddatblygu dealltwriaeth y gwasanaeth o’r mater yma ymhellach.

    Gwella ymgysylltiad plant a phobl ifanc gan ddefnyddio ein gwasanaethau i hysbysu darpariaeth a datblygiad gwasanaethau gyda’r bwriad o wella eu canlyniadau.

    Gweithredu proses newydd i gael barn a sylwadau plant sy’n ymwneud â’n gwasanaethau pan fydd eu hachosion yn cael eu hadolygu. (AGGCC Tud 14)

    Casglu a dadansoddi barn plant a phobl ifanc yn chwarterol i hysbysu

    Cynyddu’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn adolygiadau o’u cynlluniau.

    Cynyddu’r nifer o asesiadau cychwynnol sy’n dystiolaeth o gyfranogaeth y plentyn yn yr asesiad hwnnw.

    Y nifer o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan gyda’r Adran sy’n dweud eu bod yn teimlo’n fwy diogel gartref.

    Darparu tystiolaeth bod y tîm Rheoli Adrannol wedi cael gwybod am brofiadau plant a phobl

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 22

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    arferion a datblygiad gwasanaethau (AGGCC Tud 22)

    Sicrhau bod diddordebau plant a phobl ifanc sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc drwy’r Cyngor cyfan.

    Datblygu proses ymgynghori blynyddol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd nad ydynt bellach yn ymwneud â’r gwasanaeth.

    Yr holl reolwyr tîm a Phenaethiaid Gwasanaeth i bennu hyfforddiant cyfranogaeth ac ymgysylltiad fel gofyniad gorfodol yn gam gweithredu allweddol o fewn yr holl werthusiadau. (CSSIW Amg 8.2).

    ifanc o wasanaethau a bod yr wybodaeth hon yn hysbysu gwelliant y gwasanaeth.

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 23

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Mewn cydweithrediad ag Asiantaethau ac Adrannau Awdurdod Lleol eraill, datblygu gwasanaeth 16+ i bobl ifanc mewn angen.

    Ail-leoli’r tîm gadael gofal gyda’r siop gwybodaeth i ddarparu dull “siop un alwad” i bobl ifanc sy’n gadael gofal a phobl ifanc 16 ac 17 oed sy’n ddigartref.

    Mewn partneriaeth â’r adran Tai a darparwyr eraill, datblygu rhagor o ddarpariaeth tai i’r grŵp yma o bobl ifanc.

    Datblygu gwasanaethau i gefnogi’r grŵp yma o bobl ifanc i gynnal eu tenantiaeth ac atal digartrefedd pellach.

    I’w gadarnhau

    Gofal Cymdeithasol Oedolion

    Mae hwn yn cysylltu â’r canlyniad sy’n cael blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor: ‘Mae’r holl Bobl Hŷn sy’n Agored i Niwed yn ddiogel, a chanddynt yr iechyd, lles ac annibyniaeth optimaidd’. Mae’r cynllun gwasanaeth yma hefyd yn cyfeirio at y camau gweithredu hynny sydd mewn ymateb i Lythyr Blynyddol AGGCC ac Asesiad Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cynnwys y rheiny sy’n gyfrifol a’r amseriadau wedi’u cynnwys yng nghynlluniau gwasanaeth y tîm ar gyfer 2012/13.

    Darparu Gwasanaeth Gofal Canolradd – (Pennaeth Gwasanaeth, OP)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r

    Risg Gweithio mewn cydweithrediad â Trefnu a chefnogi grŵp Gostwng oedi mewn trosglwyddo gofal (DToC) ASC01

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 24

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    phartneriaid i ymestyn y ddarpariaeth Gofal Canolradd. Er mwyn darparu mwy o gyfleoedd i unigolion aros adref os ydynt yn sâl neu’n dychwelyd adref yn gyflymach.

    ffocws ymarferwyr i gwmpasu gofal canolradd cyfredol yn Ne Wrecsam

    Cytuno ar bresenoldeb ac aelodaeth grŵp tasg a gorffen i gyflwyno Gofal Gwell yn Wrecsam

    Gweithio gyda chydweithwyr iechyd i sicrhau bod y peilot ‘Gofal Gwell’ yn Ne Wrecsam wedi’i weithredu erbyn Hydref 2012

    Cyfrannu at Achos Busnes am adnoddau ar gyfer model gofal gwell yn Ne Wrecsam gan sicrhau bod adnoddau gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried.

    Cyfrannu at asesiad diwedd blwyddyn o well cynnydd mewn gofal a chefnogi datblygiad y cynllun ar gyfer lledaeniad ehangach.

    Datblygu Manylebau ar gyfer Gwasanaethau 3ydd Sector i ymateb i wasanaethau sy’n newid

    SCA/001 – Targed 19 Cynyddu’r nifer o dderbyniadau ysbyty y gellid

    eu hosgoi – 264 y llynedd * Gostwng yr amser aros cyfartalog am asesiad

    Therapydd Galwedigaethol – Targed 4 wythnos Gostwng amseroedd aros am wasanaeth gofal

    cartref. 7.5 diwrnod y llynedd. Cynyddu’r nifer o bobl sy’n derbyn gwell

    Pecynnau Teleofal. Targed 528 Cynyddu’r nifer o bobl sy’n dweud wrthym fod

    safon eu bywydau wedi gwella. Targed 91% Y nifer o bobl a ymatebodd ac a ddywedodd

    wrthym am eu boddhad gyda’r broses a chanlyniad y gwasanaeth gofal canolradd – gwaelodlin

    SCA/002A Y gyfradd o bobl 65 oed neu’n hŷn sy’n derbyn cefnogaeth yn y gymuned i bob 1,000 o’r boblogaeth.

    *Mae’r Targed yn cynnwys Ymatebion Teleofal Symudol

    ASC07 ASC08 ASC10

    Datblygu mwy o wasanaethau wedi’u seilio yn y gymdogaeth i gefnogi darpariaeth leol o fewn cymunedau’r defnyddwyr

    Cyfranogaeth barhaus gyda Thimau Arweinyddiaeth Bro

    Targedau Gofal Cymdeithasol i gael eu

    Erbyn Chwarter 3 bydd Cynlluniau Gweithredu Tîm Arweiniad Bro yn cynnwys Blaenoriaethau Gofal Cymdeithasol

    ASC01 ASC07 ASC08 ASC10

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 25

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    gwasanaeth.

    hadlewyrchu mewn Cynlluniau Gweithredu Bro

    Ystyried ac adolygu strwythur timau yn y Gwasanaethau Pobl Hŷn i gefnogi modelau gofal canolradd a bro

    Datblygu opsiynau ar gyfer strwythur gwasanaeth y dyfodol a thimau ymgynghori a phartneriaid ar y model a gynigir ar gyfer y dyfodol

    Gweithredu’r strwythur Gweithredu’r grantiau

    sefydlu ar gyfer prosiectau bro (cefnogaeth gyfartal lefel isel)

    Model Clwb Cinio Mwy i gael ei sefydlu.

    Bydd ymgynghoriad ar y Strwythur Tîm Pobl Hŷn erbyn Ch4 2912/13 gyda’r bwriad o’u gweithredu yn 2013/14

    Y cyllid ar gyfer y 6 grant sefydlu cyntaf i gael ei

    gytuno

    Model Clwb cinio mwy i fod yn ei le mewn 4 ardal yn fisol erbyn Ch3

    Adolygu a diwygio’r Strategaeth Comisiynu Pobl Hŷn yn cynnwys datblygu gwasanaethau atal lefel isel yn y gymuned ac ystyried yn benodol ein trefniadau comisiynu sector gwirfoddol.

    Gweithredu Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad Cwsmer Pobl Hŷn

    Hyfforddi aelodau o Fforwm Dros 50au Wrecsam i gefnogi cyfweliadau wedi’u targedu gyda 3 person y mis yn derbyn cefnogaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol Wrecsam

    Datblygu grŵp cyfeirio chwarterol i gefnogi cynllunio busnes a datblygu

    Cynllun Ymgysylltu yn ei le a chynlluniau i’w weithredu yn ei le. Ch2

    Hyfforddiant aelodau fforwm Dros 50 wedi’i gwblhau

    Digwyddiad Diwrnod Ymgysylltiad Blynyddol wedi digwydd gyda thrawstoriad eang o bresenoldeb - Ch3

    Lansio Calendr Pobl Hŷn – Tachwedd 2012

    ASC01 ASC05

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 26

    Canlyniad Allweddol Camau Gwei hrt edu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    gwasanaeth Cynnal y “diwrnod

    Ymgysylltu blynyddol” cyntaf i gefnogi adolygiad o’r ddarpariaeth gwasanaeth cyfredol ac annog ymgysylltiad

    Datblygu Calendr Pobl Hŷn sy’n rhoi gwybodaeth am gefnogaeth, gwasanaethau a gweithgareddau lleol sydd ar gael i bobl hŷn yn y fwrdeistref sirol.

    Darparu Ail-alluogi (Pennaeth Gwasanaeth - PAWB) Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r

    Risg Ymestyn y ddarpariaeth ail-alluogi ar draws nifer ehangach o bobl yn cynnwys grwpiau cleient newydd. Sicrhau y cynigir ail-alluogi i’r holl bobl hŷn newydd sy’n defnyddio’r gwasanaethau

    Datblygu Cynlluniau Darparu Gwasanaeth wedi’i Ganolbwyntio ar Ganlyniadau, a rhoi cynnig ar eu gweithredu (Ar sail Seren Canlyniadau)

    Datblygu model o ail-alluogi sy’n briodol i bobl gydag Anawsterau Dysgu ac oedolion sy’n agored i niwed, gan archwilio cyfleoedd i gynyddu adnoddau i gefnogi ail-alluogi Anawsterau Dysgu.

    Datblygu model gwaith

    Datblygu mesurau canlyniad gwaelodlin i adlewyrchu’r nifer ehangach o grwpiau cleient y cynigir ail-alluogi iddynt.

    Cynyddu’r nifer o bobl sy’n dweud bod eu hannibyniaeth wedi gwella o ganlyniad i ymyriad. 93% y llynedd

    Cynyddu’r nifer o bobl sy’n dweud bod ansawdd eu bywyd wedi gwella o ganlyniad i gefnogaeth gan ofal cymdeithasol – Targed 91%

    Cynyddu’r nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth newydd sy’n derbyn ail-alluogi - 90% y llynedd

    Cynyddu’r % o ddefnyddwyr gwasanaeth nad ydynt angen gwasanaethau parhaus a brynir yn dilyn cyfnod o ymyriad ail-alluogi - 28%

    Gostwng y nifer o bobl sy’n byw mewn cartrefi

    ASC04 ASC08

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 27

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    cymdeithasol ar gyfer dull haenog o ymyriad proffesiynol i hybu ymyriad cynnar a galluogi wedi’i arwain gan waith cymdeithasol.

    Cytuno ar ddangosyddion perfformiad i gael eu defnyddio’n lleol ac yn genedlaethol ar ffurf cerdyn sgorio cytbwys ar sail Seren Canlyniadau.

    Penodi Swyddog Datblygu’r Gweithlu (ail-alluogi)

    Gweithredu Hyfforddiant i’r holl Weithwyr Cefnogi a Gweithwyr Cymdeithasol Pobl Hŷn

    gofal SCA/002B – 479 y llynedd

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 28

    Diogelu Oedolion a Phobl Hŷn sy’n Agored i Niwed (Pennaeth Gwasanaeth - Diogelu)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Bydd pobl yn gallu canfod ymhle a sut i gael gafael ar y cymorth y maent ei angen pan allai rhywun fod mewn perygl.

    Gwella ein prosesau Diogelu ymhellach a chofnodi achosion er mwyn sicrhau bod yr adroddiad ‘mewn dwylo diogel’ ac argymhellion dilynol yn cael eu gweithredu’n esmwyth yn Wrecsam

    Sicrhau bod Polisïau a Phrotocolau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd

    Byddai Llywodraeth Cymru’n hysbysu’r holl Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd am unrhyw ddiweddariadau i’r Polisi a Threfnau Amddiffyn Oedolion yng Nghymru.

    ASC03

    Bydd adnoddau’n gallu cwrdd â’r galwadau cynyddol a pherthnasau cydweithio o fewn diogelu

    Adolygu ac ehangu’r adnoddau sydd eu hangen i ddiogelu pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed.

    Glynu at un Cynllun Prosiect a rhoi gwybod i’r Prif Swyddog Ebrill 2012.

    ASC04

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 29

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Caiff oedolion eu cefnogi gan staff o bob asiantaeth sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n deall eu cyfrifoldebau ac yn gwneud eu dyletswyddau diogelu’n effeithiol

    Gweithredu system gofnodi TG newydd sydd i gael ei chyflwyno fel peilot cyn ei lledaenu ar draws yr adran.

    Parhau i ymgymryd â rhaglen archwilio dreigl a fydd yn monitro ansawdd achosion diogelu oedolion i sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau a gwelliant parhaus

    Parhau i ddarparu hyfforddiant i’r staff i gyd, gan sicrhau bod y newidiadau newydd wedi’u hadlewyrchu ac yn canolbwyntio ar wella’r gwerthusiad a’r effaith y mae’r hyfforddiant wedi’i gael ar arferion achos go iawn.

    I fod yn fyw erbyn dechrau Ch2. Adrodd yn chwarterol drwy’r cynllun Busnes

    Gweithredol. Nifer y staff sy’n cael gafael ar hyfforddiant o’r

    Sector Annibynnol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r lefel o hyfforddiant a gynigir.

    SCA/019 Y canran o gyfeiriadau amddiffyn oedolion a gyflawnwyd lle mae’r risg wedi’i reoli.

    ASC03 ASC24

    Blaenoriaethau Trawstoriadol

    Cefnogi Gofalwyr - (Pennaeth Gwasanaeth PSNI a Gofalwyr)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif

    Cyfeirio’r Risg

    Gall gofalwyr gael gafael ar wybodaeth a fydd yn eu cefnogi fel Gofalwyr

    Gweithredu Strategaeth Gwybodaeth y Gofalwr

    Ymgysylltu â Bröydd Byrddau Iechyd

    Nifer y bobl sy’n defnyddio gwefan y Gofalwyr – Gwaelodlin 2,405

    Nifer y tudalennau a welwyd ar gyfer gwefan y Gofalwyr – Gwaelodlin 8629

    ASC05 ASC15

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 30

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymwneud â datblygiad dull ar y cyd

    Datblygu’r ‘Gornel Gofalwyr’ mewn Llyfrgelloedd

    Addasu Strategaeth Gwybodaeth y Gofalwyr i gynnwys Gofalwyr Ifanc

    Datblygu gwefan Gofalwyr Ifanc

    Datblygu logo Gofalwyr Ifanc a Botwm

    Datblygu poster cyhoeddusrwydd Gofalwyr Ifanc

    Nifer y defnyddwyr sy’n dychwelyd i wefan y Gofalwyr – Gwaelodlin i’w gadarnhau

    Nifer y dilynwyr ar Twitter – Gwaelodlin 214 Nifer y dolenni at dudalennau allanol yng

    ngwefan y Gofalwyr - Gwaelodlin 22 Nifer y gwefannau allanol yn defnyddio botwm

    Gofalwyr Wrecsam – Targed 10

    Gall gofalwyr gael gafael ar wasanaethau a chefnogaeth

    Datblygu Fframwaith Canlyniadau Gofalwyr

    Datblygu ‘marchnadle’ ar-lein i Ofalwyr lle bydd Gofalwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau o nifer o ffynonellau drwy ddull siop un alwad ar-lein

    Datblygu hunanasesiad ar-lein y Gofalwyr

    Adolygu’r strategaeth Gofalwyr Ifanc gyda PSC drwy sefydlu’r grŵp strategaeth

    Nifer yr hunanasesiadau a gwblhawyd ar-lein - y gwaelodlin ar gael

    SCA/018a Y canran o ofalwyr oedolion y cynigiwyd asesiad neu adolygiad iddynt o’u hanghenion yn eu rhinwedd eu hunain yn ystod y flwyddyn

    SCA/018b Y canran o Ofalwyr defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion a gafodd asesiad yn eu rhinwedd eu hunain

    SCA/018c Y canran o ofalwyr oedolion a aseswyd neu a ail aseswyd yn eu rhinwedd eu hunain yn ystod y flwyddyn y rhoddwyd gwasanaeth iddynt

    Y nifer o ofalwyr ifanc a bennwyd a’r nifer sy’n cael eu hasesu wedi hynny.

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 31

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Gofalwyr Ifanc. Datblygu protocol asesu

    Gofalwyr Ifanc Ymgysylltu ag Addysg

    mewn perthynas â’r strategaeth Gofalwyr Ifanc

    Datblygu Cynllun Gofalwyr Hŷn ar gyfer Anabledd Dysgu (cysylltu â’r Strategaeth Gofalwyr a Strategaeth Comisiynu Anabledd Dysgu)

    Datblygu Fforwm Anableddau Dysgu Gofalwyr Hŷn

    Datblygu Cynllun Anableddau Dysgu Gofalwyr Hŷn

    Gall gofalwyr gael gafael ar gefnogaeth a chynllunio brys

    Adolygu’r broses gynllunio brys i Ofalwyr

    Cynyddu’r nifer o ofalwyr sydd â chynlluniau bryd – Dim gwaelodlin ar gael

    ASC15

    Mae gofalwyr sydd wedi’u cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’u cefnogi yn eu rôl Gofalu yn y gwaith

    Ymgysylltu â’r Gwasanaethau Corfforaethol i ddatblygu strategaeth i gefnogi Gofalwyr sy’n gweithio i Wrecsam

    Datblygu ‘Modiwlau Ymwybyddiaeth Gofalwyr’ i staff yng nghyfleuster e-ddysgu corfforaethol CBSW

    Datblygu Cofrestr Gofalwyr i gyflogeion CBS Wrecsam

    Nifer y gweithwyr sydd wedi’u cofrestru fel Gofalwyr – Gwaelodlin 6

    Roedd hi’n hawdd i mi gael gafael ar gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth gan fy nghyflogwr - Dim gwaelodlin ar gael

    Mae’r gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth rwyf wedi’u derbyn gan fy nghyflogwr wedi bod yn ddefnyddiol – Dim gwaelodlin ar gael

    Mae fy nghyflogwr wedi gwrando ar fy sylwadau - Dim gwaelodlin ar gael

    Rwy’n teimlo bod ystod ddigonol o gefnogaeth / opsiynau ar gael gan fy nghyflogwr - Dim gwaelodlin ar gael

    Gan gymryd popeth i ystyriaeth, mae fy nghyflogwr wedi helpu i wella ansawdd fy mywyd - Dim gwaelodlin ar gael

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 32

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Dangoswyr Allweddol Trosfwaol: Roedd hi’n hawdd i mi gael gafael ar

    gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth gan Ofal Cymdeithasol Oedolion - Dim gwaelodlin ar gael

    Mae’r gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth rwyf wedi’i dderbyn gan Ofal Cymdeithasol Oedolion wedi bod yn ddefnyddiol - Dim gwaelodlin ar gael

    Mae Gofal Cymdeithasol Oedolion wedi gwrando ar fy sylwadau - Dim gwaelodlin ar gael

    Rwy’n teimlo bod ystod ddigonol o wasanaethau / opsiynau ar gael i mi gan Ofal Cymdeithasol Oedolion - Dim gwaelodlin ar gael

    Gan gymryd popeth i ystyriaeth, mae Gofal Cymdeithasol Oedolion wedi fy helpu i wella ansawdd fy mywyd - Dim gwaelodlin ar gael

    Corfforaethol, Arweiniad Gwleidyddol a Chefnogaeth (CSCO)

    Canlyniad Allweddol Camau

    Gweithredu/Cerrig Milltir Mesurau Allweddol Rhif

    Cyfeirio’r Risg

    Bydd aelodau’n deall yr agenda Gwasanaethau Cymdeithasol a heriau’r dyfodol y bydd yr Adran yn eu wynebu.

    Bydd rhaglen waith i Aelodau ar waith erbyn Awst 2012, yn cynnwys:

    Sesiynau hyfforddi Hwyluso presenoldeb

    yn y Panel Rhianta

    Aelodau’n cadarnhau eu dealltwriaeth o’r agenda Gwasanaethau Cymdeithasol (arolwg Ch4)

    ASC01

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 33

    Canlyniad Allweddol Camau Gw /Cerrig Milltir eithredu

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Corfforaethol Rhaglen ymweliadau

    aelodau i dimau cefnogi busnes a gweithredu.

    Wedi’i weithredu erbyn Mawrth 2013

    Bydd aelodau staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfranogi mwy yn agenda’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn nhermau’r adolygiad o wasanaethau ac i ganfod meysydd i’w gwella ymhellach.

    Ailsefydlu sesiynau briffio misol erbyn mis Medi 2012 yn ASC

    Datblygu arolwg staff manylach a rhoi cynnig arno erbyn Ch2.

    Cynhyrchu briff chwarterol ar sylwadau staff ASC o Ch3

    Cynnwys perfformiad fel eitem sefydlog ar agenda OMG PSC

    Rheolwyr ac Ymarferwyr Uwch i wneud gweithdai perfformiad archwilio chwarterol gyda’i gilydd.

    Bydd canfyddiadau pob gweithdy archwilio wedi eu lledaenu i’r staff i gyd.

    Cadarnhau boddhad y staff o ran teimlo’n fwy o ran ohono (Ch4) Gwneud cyfrifiad staff yn ystod Ch4 i gadarnhau effeithiolrwydd briffiau misol.

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 34

    Comisiynu a Phartneriaethau – (CSCO)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif

    Cyfeirio’r Risg

    Bydd gweithrediad y safonau o fewn y ‘Fframwaith ac Arweiniad Comisiynu Cymunedau Cefnogol Bywydau Bodlon’ wedi’u dangos ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol (Ac yn arbennig ar gyfer methodoleg gosod ffioedd gofal)

    Cynhyrchu adroddiad diweddaru ar statws safonau comisiynu FLSC erbyn Medi 2012.

    Cytuno ar fethodoleg ffioedd gofal rhanbarthol i hysbysu gosod ffioedd 13/14 (yn ddibynnol ar gydweithrediad) erbyn Ion 2013.

    Adroddiad statws i uwch reolwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ch3

    ASC05

    Mae darparwyr gwasanaethau allanol yn dweud bod y berthynas gyda Gofal Cymdeithasol Oedolion o fudd cydradd yn nhermau gwella ansawdd y gofal a chynlluniau cynaliadwyedd

    Cydweithredu mewn datblygiadau ‘Datganiad o Safle yn y Farchnad’ o Fedi 2012.

    Cyhoeddi’r cynllun comisiynu trosfwaol / Datganiad Safle yn y Farchnad erbyn Mawrth 2013.

    Cynnal cyfarfodydd gyda darparwyr allanol o leiaf bob chwarter.

    Mae darparwyr yn cadarnhau bod y berthynas gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i gwella ymhellach (Ch4)

    Yng Ngwasanaethau’r Plant byddwn yn parhau i gydweithio i gomisiynu gwasanaethau lle byddwn yn cynhyrchu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i wella’r canlyniadau i’r plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n eu defnyddio.

    Cwblhau’r gwaith o dendro Gwasanaethau o dan y Cynllun Teuluoedd yn Gyntaf

    Cwblhau Gwerthusiad Opsiynau i benderfynu ar Gomisiynu

    Nifer y contractau sydd yn eu lle sy’n symleiddio monitro ar draws y ffrydiau cyllido

    Nifer y contractau sydd yn eu lle sy’n comisiynu gwasanaethau ar y cyd gydag un neu fwy o asiantaethau partner.

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 35

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Rhanbarthol y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc

    Cynyddu’r Canolbwynt Cyd-gomisiynu i Leoliadau Allanol.

    Perfformiad a Chynllunio Busnes - (Hop)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig

    Milltir Mesurau Allweddol Rhif

    Cyfeirio’r Risg

    Bydd systemau ymgysylltu’n gallu dangos cyfranogaeth gyda’r sbectrwm cyfan o ddinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i hysbysu adolygiad gwasanaeth ac ail gynllunio prosesau. (Gwelwch adran PSC y cynllun gwasanaeth yma o dan y flaenoriaeth gwella ymgysylltiad plant a phobl ifanc)

    Cyhoeddi Strategaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion ‘Ymgysylltu’ erbyn Gorffennaf 2012.

    Sicrhau bod ymgynghoriad ac ymgysylltiad wedi’i gynnwys yng ngweithdai adolygu perfformiad chwarterol Gofal Cymdeithasol Oedolion i hysbysu cynllun ac adolygiad gwasanaeth.

    Strategaeth Cyfranogaeth PSC a mentrau eraill yn parhau’n gadarn.

    Tystiolaeth o ymgysylltiad gyda grwpiau, defnyddwyr a grwpiau gofalwyr nas clywir yn aml wedi’u harddangos yng nghofnodion yr adolygiad chwarterol o Ch3.

    ASC05

    Bydd aelodau staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfranogi fwy ar bob

    Penaethiaid gwasanaethau’n sicrhau

    % y staff sy’n dangos eu bod yn teimlo’n rhan o’r broses adolygu perfformiad chwarterol

    ASC13

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 36

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    lefel o’r gwasanaeth mewn rheoli perfformiad a chynllunio busnes.

    bod eu staff i gyd yn derbyn y cyfle i gyfrannu at y broses adolygu perfformiad chwarterol a bod cofnodion yn cael eu cadw am ymgysylltiad o’r fath a derbyn adborth.

    (Arolwg, C4 2013)

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 37

    Rheoli Adnoddau – (HoBS a HoWFP)

    Canlyniad Allweddol

    Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Cadarnheir bod ‘Strategaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol’ yn cwrdd ag anghenion rheolwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol.

    Cyflwyno’r Drafft Terfynol a’i lofnodi erbyn Ch2.

    Gweithredu’r rhaglen ar gyfer 2012/13 i’r staff drwy’r cyngor cyfan, ac i sefydliadau gwirfoddol ac annibynnol.

    Rheolwyr yn cadarnhau gwerth ychwanegol y strategaeth (Ch3)

    ASC13

    Dangosir bod gofynion staffio’r gwasanaethau cymdeithasol yn cyfateb â’r cynllun moderneiddio.

    Cyflwyno adroddiad i uwch reolwyr erbyn Hydref 2012 i hysbysu cynllun gweithredu i’w weithredu erbyn Mawrth 2014.

    Nid yw’n Berthnasol ASC17

    Bydd gweithredu System Rheoli Dogfen Electronig (CIVICA) yn gostwng yr angen am system sail papur yn sylweddol ac yn ei gwneud hi’n fwy effeithiol i adfer gwybodaeth.

    Cwblhau categoreiddio'r ddogfen erbyn Awst 2012.

    Enwebu hyrwyddwyr CIVICA o bob tîm gofal cymdeithasol a chwblhau’r hyfforddiant erbyn Awst 2012.

    CIVICA yn weithredol erbyn Rhagfyr 2012.

    Y canran o staff sy’n cadarnhau’r system CIVICA yn gweithio’n effeithiol (arolwg Ch4)

    Bydd gan bob maes gwaith/tîm hyrwyddwr

    CIVICA hyfforddedig i gefnogi gweithrediad EDRM.

    Bydd rhyngwyneb esmwyth gyda RAISE ar

    waith.

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 38

    Cydraddoldeb – (CSCO)

    Canlyniad Allweddol Camau Gweithredu/Cerrig Milltir

    Mesurau Allweddol Rhif Cyfeirio’r Risg

    Sicrhau ein bod yn cyfrannu at ac yn cyflawni’r amcanion fel y maent wedi’u hamlinellu yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys cyflawni’r Cynllun Dyfarniad Cydraddoldeb.

    Byddwn yn cefnogi gweithrediad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol corfforaethol ac yn parhau i ddatblygu Strategaeth Datblygiad y Gweithlu Gofal Cymdeithasol drwy:

    Gynhyrchu Cynllun Gweithredu GC yn erbyn y Cynllun Dyfarniadau a Chynllun Cydraddoldeb Strategol.

    Casglu ac adrodd am ddata BME

    Sicrhau bod grwpiau sydd wedi’u hamddiffyn yn cael eu hymgysylltu ac yn ymgysylltu’n egnïol â phenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

    Cwblhau lefelau 1-3 o’r cynllun dyfarnu erbyn Mawrth 2013.

    Byddwn yn parhau i gefnogi staff ASC a PSC i wneud hyfforddiant cydraddoldeb gan gynnwys cwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol.

    Gwelwch y Cam gweithredu uchod ar Ymgysylltu.

    ASC14

  • 14. Rhestr o Ddogfennau Cefnogol

    Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu (Rhif WAG10-11086). Chwefror 2011. Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Canllawiau’r Fframwaith Comisiynu ac Arfer Da’ (LlCC, Awst 2010). Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf (LlCC, Chwefror 2007) Canllawiau Statudol ar Rôl ac Atebolrwydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyhoeddwyd o dan Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970): LlCC, Mehefin 2009. http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/090617guidancedirectorsocialservicesen.pdf Cydgynllun Plant a Phobl Ifanc -Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i hysbysu cyfeiriad strategol y gwasanaeth yn y cyfnod 2011 hyd 2016. Archwiliad o’r Trefniadau ar gyfer Asesu a Rheoli Gofal plant mewn angen yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam -10fed Mai 2012- www.cssiw.org.uk Arolygiad o Amddiffyn Oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Rhagfyr 2009) http://wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/publications/ourfindings/wrexham/wrex/ Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor (‘Adroddiad Blynyddol’) http://www.ssiacymru.org.uk/annualreporting. Sicrhau Partneriaethau Cryf mewn Troseddu – CLlLC, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Fforwm Gofal Cymru, memorandwm Dealltwriaeth y Gymdeithas Cartrefi Nyrsio Cofrestredig a Chymdeithas Gofal Cartref y DU (Chwefror 2009).

    15. Rhestr o Acronymau sydd yn yr adroddiad yma

    ACRF - Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor AMHP - Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ASC - Gofal Cymdeithasol Oedolion BCUHB - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr CAF - Fframwaith Asesu Cyffredin CAMHS - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed CHC - Gofal Iechyd Parhaus CME - Plant sy’n Colli Addysg

    Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 39

    http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/090617guidancedirectorsocialservicesen.pdfhttp://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/090617guidancedirectorsocialservicesen.pdfhttp://wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/publications/ourfindings/wrexham/wrex/http://wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/publications/ourfindings/wrexham/wrex/http://www.ssiacymru.org.uk/annualreporting

  • Fersiwn 1- Fel a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 40

    CPA - Asesiad Rhaglen Gofal CSSIW - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru CYPFP - Plant a Phobl Ifanc: Fframwaith ar gyfer Partneriaeth DOLS - Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid DSO - Swyddog Cefnogi Anabledd EDT - Tîm Dyletswydd Argyfwng GP - MeddygTeulu HSc&WbS - Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ICS - System Integredig ar gyfer Plant IFSS - Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd LSCB - Bwrdd Lleol Diogelu Plant MAPPA - Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd MARAC - Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth MCA - Deddf Galluedd Meddyliol MHA - Y Ddeddf Iechyd Meddwl NHS - Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol NVQ - Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol NYAS - Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol OT - Therapi Galwedigaethol POVA - Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed RES - Cynllun Cydraddoldeb Hiliol TAC - Llwyddo Newid Gyda’n Gilydd (Tîm o Amgylch y Plentyn gynt) UAP - Proses Asesu Unedig WG - Llywodraeth Cymru WCBC - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam