s16-4471-52ysgoleifionydd.org/.../haf-2016/bioleg-2-uwch-haf-2016.pdftitle s16-4471-52.indd created...

19
4471 520001 GB*(S16-4471-52) Cyfenw Enwau Eraill Rhif yr Ymgeisydd 0 Rhif y Ganolfan WJEC CBAC Cyf. TGAU 4471/52 GWYDDONIAETH YCHWANEGOL/BIOLEG BIOLEG 2 HAEN UWCH P.M. DYDD MAWRTH, 17 Mai 2016 1 awr S16-4471-52 DEUNYDDIAU YCHWANEGOL Yn ogystal â’r papur hwn, mae’n bosibl y bydd angen cyfrifiannell a phren mesur. CYFARWYDDIADAU I YMGEISWYR Defnyddiwch inc neu feiro du. Ysgrifennwch eich enw, rhif y ganolfan a’ch rhif ymgeisydd yn y blychau ar ben y dudalen hon. Atebwch bob cwestiwn. Ysgrifennwch eich atebion yn y lleoedd gwag priodol yn y llyfryn hwn. GWYBODAETH I YMGEISWYR Mae nifer y marciau wedi’i nodi mewn cromfachau ar ddiwedd pob cwestiwn neu ran o gwestiwn. Cofiwch y bydd ansawdd eich cyfathrebu ysgrifenedig (ACY) yn cael ei ystyried wrth asesu eich ateb i gwestiwn 5 a chwestiwn 11. I’r Arholwr yn Unig Cwestiwn Marc Uchaf Marc yr Arholwr 1. 5 2. 5 3. 4 4. 4 5. 6 6. 6 7. 7 8. 3 9. 8 10. 6 11. 6 Cyfanswm 60

Upload: others

Post on 28-Jan-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 447

    15

    20

    00

    1

    GB*(S16-4471-52)

    Cyfenw

    Enwau Eraill

    Rhif yrYmgeisydd

    0

    Rhif yGanolfan

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    TGAU

    4471/52

    GWYDDONIAETH YCHWANEGOL/BIOLEG

    BIOLEG 2HAEN UWCH

    P.M. DYDD MAWRTH, 17 Mai 2016

    1 awr

    S16-4471-52

    DEUNYDDIAU YCHWANEGOL

    Yn ogystal â’r papur hwn, mae’n bosibl y bydd angencyfrifiannell a phren mesur.

    CYFARWYDDIADAU I YMGEISWYR

    Defnyddiwch inc neu feiro du.Ysgrifennwch eich enw, rhif y ganolfan a’ch rhif ymgeisydd yn y blychau ar ben y dudalen hon.Atebwch bob cwestiwn.Ysgrifennwch eich atebion yn y lleoedd gwag priodol yn y llyfryn hwn.

    GWYBODAETH I YMGEISWYR

    Mae nifer y marciau wedi’i nodi mewn cromfachau ar ddiwedd pob cwestiwn neu ran o gwestiwn.Cofiwch y bydd ansawdd eich cyfathrebu ysgrifenedig (ACY) yn cael ei ystyried wrth asesu eich ateb i gwestiwn 5 a chwestiwn 11.

    I’r Arholwr yn Unig

    Cwestiwn Marc UchafMarc yrArholwr

    1. 5

    2. 5

    3. 4

    4. 4

    5. 6

    6. 6

    7. 7

    8. 3

    9. 8

    10. 6

    11. 6

    Cyfanswm 60

  • (4471-52)

    2

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    Atebwch bob cwestiwn.

    1. Mae rhai myfyrwyr yn ymchwilio i nifer y planhigion dant y llew ar lawnt. Mae’r diagram yn dangos y lawnt a lleoliad 6 cwadrat (A i F) mae’r myfyrwyr yn eu gosod ar hap ar y lawnt.

    Mae’r myfyrwyr yn cyfrif nifer y dant y llew ym mhob cwadrat ac yn cofnodi eu canlyniadau yn y tabl isod.

    cwadrat nifer y dant y llew

    A 7B 2C 1D 6E 2F 0

    18 m

    30 m

    ardal gysgodol (shaded) o’r lawnt

    wal

    llwybr

    Allwedd: cwadrat

    A

    D

    F

    C

    E

    B

  • (4471-52) Trosodd.

    447

    15

    20

    00

    3

    3Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    cyfeiliornad canrannol =. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . %

    (d) Sut byddai’n bosibl gwella cryfder y dystiolaeth yn yr ymchwiliad? [1]

    (a) Mae pob cwadrat yn mesur 1 m2. Cyfrifwch nifer cymedrig y dant y llew am bob metr sgwâr ar gyfer y 6 cwadrat. [1]

    Nifer cymedrig y dant y llew = . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (b) Cyfrifwch arwynebedd y lawnt. [1]

    Arwynebedd y lawnt = . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (c) Defnyddiwch eich atebion o rannau (a) a (b) i amcangyfrif cyfanswm nifer y dant y llew ar y lawnt. [1]

    Amcangyfrif o gyfanswm nifer y dant y llew = . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (ch) A dweud y gwir, nifer gwirioneddol (actual) y dant y llew ar y lawnt yw 1250. Defnyddiwch y fformiwla isod i gyfrifo cyfeiliornad canrannol (percentage error) yr

    amcangyfrif yn rhan (c) uchod. [1]

    5

    cyfeiliornad canrannol = × 100amcangyfrif o nifer y dant y llew – nifer gwirioneddol y dant y llew

    nifer gwirioneddol y dant y llew

  • 4

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    2. Mae Dan a Beth yn ymchwilio i’r gwres mae pys sy’n egino yn ei ryddhau.

    Mae’r diagram isod yn dangos yr arbrawf.

    (a) Mae tymheredd y pys ym mhob fflasg yn cael ei gofnodi ar ddechrau’r arbrawf ac ar ôl dau ddiwrnod. Mae’r canlyniadau yn cael eu dangos yn y tabl isod.

    Disgrifiwch ac eglurwch y canlyniadau ar gyfer y ddwy fflasg. [3]

    (b) Dydy’r myfyrwyr ddim yn diheintio’r pys cyn gosod yr arbrawf. Eglurwch bwysigrwydd diheintio’r pys er mwyn gwneud casgliad dilys. [2]

    fflasgtymheredd (°C)

    dechrau ar ôl dau ddiwrnodA 21 28B 21 21

    5

    010

    2030

    4050

    6070

    8090

    100

    110

    0

    10

    20

    30

    40

    50

    60

    70

    80

    90

    100

    110

    fflasg Bfflasg A

    gwlân cotwm

    thermomedr

    pys marw

    pys sy’n egino

  • (4471-52) Trosodd.

    447

    15

    20

    00

    5

    5Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    3. (a) Mae’r lluniad isod yn dangos celloedd bonyn embryonig dynol.

    Pa nodweddion celloedd bonyn allai eu gwneud nhw’n ddefnyddiol ar gyfer trin llawer o wahanol gyflyrau (conditions) meddygol? [2]

    (b) Yn ddiweddar, mae labordy yn Japan wedi datblygu celloedd bonyn o gelloedd croen oedolyn dynol. Awgrymwch pam gallai defnyddio celloedd bonyn oedolyn dynol fod yn well na defnyddio celloedd bonyn embryonig dynol. [1]

    (c) Mae gan blanhigion gelloedd bonyn hefyd.

    O rannau’r planhigyn sydd wedi’u rhifo (1 i 5) uchod, pa ddwy ran sy’n cynnwys celloedd bonyn? [1]

    . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . a . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    1

    2

    3

    5

    4

    4

  • 6

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    4. (a) Pam mae angen i ni dreulio moleciwlau bwyd mawr? [1]

    (b) Mae’r graff isod yn dangos cyfradd treulio lipidau gan lipas o dan amodau gwahanol.

    (i) Disgrifiwch effaith pH ar gyfradd treulio’r lipidau. [1]

    (ii) Eglurwch effaith bustl ar gyfradd treulio’r lipidau. [2]

    0

    10

    20

    30

    40

    5

    15

    25

    35

    Cyfradd treulio lipid (u.m.)

    lipas mewn hydoddiant

    asidig

    lipas mewn hydoddiant

    niwtral

    lipas mewn hydoddiant alcalïaidd

    lipas mewn hydoddiant alcalïaidd gyda bustl

    4

  • (4471-52) Trosodd.

    447

    15

    20

    00

    7

    7Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    Gan ddefnyddio’r ddau ddiagram, eglurwch sut mae symudiadau’r llengig a’r cawell asennau yn achosi mewnanadliad (anadlu i mewn). [6 ACY]

    5. Mae’r diagramau isod yn dangos ochrolwg o geudod y frest cyn ac ar ôl mewnanadliad (anadlu i mewn).

    Cyn mewnanadliad

    Ar ôl mewnanadliad

    cawell asennau

    ysgyfant

    llengig

    6

  • 8

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    6. (a) Cwblhewch yr hafaliad geiriau ar gyfer ffotosynthesis. [2]

    . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . + . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . glwcos + . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (b) Mae deilen o bob un o ddau blanhigyn (X ac Y) yn cael eu profi am bresenoldeb startsh gan ddefnyddio hydoddiant ïodin.

    Mae’r canlyniadau’n cael eu dangos yn y diagramau isod.

    lliw glas/du lliw brown golau

    Deilen o blanhigyn X Deilen o blanhigyn Y

    Roedd planhigyn X wedi bod yn tyfu yn y golau cyn cael ei brofi. Cafodd planhigyn Y ei gymryd o’r golau a’i roi yn y tywyllwch am 48 awr cyn y prawf.

    Eglurwch y canlyniadau ar gyfer pob un o’r ddwy ddeilen. [4]

    6

  • TUDALEN WAG

    (4471-52) Trosodd.

    9

    447

    15

    20

    00

    9

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

  • 10

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    7. Mae masau cymharol basau mewn DNA, mewn tri anifail gwahanol, yn cael eu dangos yn y tabl.

    màs y bas / u.m.

    ffynhonnell y DNA adenin gwanin thymin cytosin

    bod dynol 30.9 19.9 29.4 19.8

    eog 29.7 20.8 29.1 20.4

    dafad 29.3 21.4 28.3 21.0

    (a) Sut mae’r data uchod yn rhoi tystiolaeth ar gyfer paru basau (base pairing)? [2]

    (b) Mae’r diagram isod yn dangos rhan o foleciwl DNA. Ychwanegwch labeli at y diagram hwn i ddangos safle: [2]

    (i) y moleciwlau siwgr a ffosffad;

    (ii) moleciwl bas.

  • (4471-52) Trosodd.

    11Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    (c) Mae gwyddonwyr wedi darganfod genyn. Pan fydd y genyn hwn yn ddiffygiol, mae’n achosi clefyd wedi’i etifeddu’n enetig. Mae’r genyn normal yn rheoli’r broses o gynhyrchu protein hanfodol.

    Y dilyniant bas perthnasol yn y genyn normal yw:

    TAGTAGAAACCACAA

    Y dilyniant bas perthnasol yng ngenyn pobl sydd â’r clefyd wedi’i etifeddu’n enetig yw:

    TAGTAGCCACAA

    Eglurwch pam na fydd y DNA mewn pobl sydd â’r clefyd wedi’i etifeddu’n enetig yn gallu cynhyrchu’r protein hanfodol. [3]

    7

  • 12

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    8. Mae’r tabl isod yn dangos crynodiad asid lactig yng ngwaed dau athletwr, Anjum a Tudor, cyn ac ar ôl ymarfer corff egnïol sy’n para 10 munud.

    Mae crynodiad yr asid lactig yn cael ei fesur bob 10 munud ar ôl yr ymarfer corff am y 50 munud

    nesaf.

    crynodiad asid lactig (mg / 100cm3)

    amser (mun) Anjum Tudor

    0 20 20

    10 80 90

    20 78 90

    30 60 80

    40 50 75

    50 38 60

    60 25 50

    (a) Defnyddiwch y data i roi rhesymau pam mae Anjum yn ymddangos yn fwy ffit na Tudor. [2]

    (b) Rhowch reswm pam mae rhedwr marathon yn dibynnu’n gyfan gwbl bron ar resbiradaeth aerobig a ddim yn cynhyrchu llawer o asid lactig. [1]

    3

  • TUDALEN WAG

    (4471-52) Trosodd.

    13

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

  • 14

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    9. Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i rôl cellbilenni mewn trylediad gan ddefnyddio dwy rywogaeth debyg o organebau ungellog, Paramecium caudatum a Holosticha kessleri. Mae

    cyfaint y ddwy rywogaeth yr un peth (3 u.m.) ar ddechrau’r ymchwiliad. Yna mae’r ddwy rywogaeth yn cael eu rhoi mewn dŵr sy’n cynnwys crynodiadau gwahanol o halen am 30 munud. Yna mae cyfeintiau’r organebau ungellog yn cael eu mesur eto gan ddefnyddio

    microsgop sydd â microraddfa. Mae’r canlyniadau’n cael eu dangos yn y graff isod.

    00

    1

    2

    3

    4

    1 2 3 4

    cyfaint yr organeb ungellog (u.m.)

    crynodiad yr halen (%)

    Holosticha kessleri

    Paramecium caudatum

    (a) Sut mae’r graffiau yn rhoi tystiolaeth bod

    (i) Paramecium caudatum yn methu byw yn nŵr y môr? [1]

    (ii) Holosticha kessleri fel arfer yn byw mewn hydoddiannau halen â chrynodiad rhwng 1% ac 1.5%? [1]

    (b) Nodwch ddau ffactor a ddylai fod wedi’u cadw’n gyson yn ystod yr ymchwiliad hwn er mwyn iddi fod yn gymhariaeth deg. [2]

    (i) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (ii) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

  • (4471-52) Trosodd.

    15Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    (c) Nodwch enw’r math o drylediad sy’n digwydd ac eglurwch yn llawn sut mae’n effeithio ar Paramecium caudatum yn nŵr y môr. [4]

    8

  • (4471-52)

    16

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    10. Mae eogiaid wedi’u ffermio (farmed salmon) yn cael eu cadw mewn niferoedd mawr mewn cewyll môr (sea cages). Maen nhw’n aml yn cael eu heigio (infested) â phlâu infertebrat bach o’r enw llau pysgod (fish lice).

    Mae llau pysgod yn gwneud niwed i groen yr eogiaid ac weithiau yn eu lladd drwy effeithio ar y tagellau a’r ymennydd.

    Mae ffermwyr pysgod yn rhoi plaleiddiaid yn y cewyll môr i ladd y llau pysgod. Mae’r graff yn dangos crynodiad y plaleiddiad yn y cewyll a nifer cyfartalog y llau pysgod am bob

    eog dros gyfnod o bedair wythnos.

    00

    0.5

    1.5

    1

    2.5

    2

    3.5

    3

    4.5

    4

    5

    0

    20

    40

    60

    80

    100

    120

    140

    1 2 3 4

    Crynodiad y plaleiddiad yn y cewyll (u.m.)

    Nifer cyfartalog y llau pysgod am bob eog

    Amser (wythnosau)

    crynodiad y plaleiddiad yn y cewyll

    nifer cyfartalog y llau pysgod am bob eog

    llau pysgod

  • (4471-52) Trosodd.

    17Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    (a) Pa gasgliadau sy’n gallu cael eu tynnu o’r graff hwn? [2]

    (b) Mae’r wrachen Fair, Centrolabrus rupestris, yn bwyta llau pysgod.

    Yn yr 1980au, cafodd treialon o’r enw’r Ecofish Project eu cynnal ar rai ffermydd pysgod yn Norwy a’r Alban. Cafodd 600 gwrachen Fair eu hychwanegu at gewyll môr yn cynnwys 26 000 o eogiaid. Dros gyfnod o bedair wythnos, doedd dim angen i’r eogiaid hyn gael unrhyw driniaeth â phlaleiddiaid ond roedd yn rhaid i grŵp rheolydd gael ei drin sawl gwaith.

    (i) Beth yw’r enw sy’n cael ei roi ar y math hwn o reolaeth sy’n defnyddio organebau byw i ladd pla? [1]

    . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    (ii) Cyn i’r wrachen Fair gael ei defnyddio’n fwy eang, awgrymwch dri arsylwad byddai’n rhaid eu gwneud yn ystod treialon estynedig. [3]

    I. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    II. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    III. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

    6

  • 18

    (4471-52)

    Arholwryn unig

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.

    11. Ysgrifennwch ddisgrifiad o rai o’r dulliau gwahanol o warchod rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sydd mewn perygl o amgylch y byd. Dylech gynnwys y defnydd o ddeddfwriaeth yn eich ateb. [6 ACY]

    DIWEDD Y PAPUR 6

  • TUDALEN WAG

    (4471-52) .

    19

    ⓗ WJEC CBAC Cyf.