4site haf 2013

32
1 Tymor yr Haf 2013 Gweler y tu mewn am newyddion, sesiynau addysgol, manylion cadw lle, arddangosfeydd a digwyddiadau.

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 23-Feb-2016

240 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

4site Tymor y Haf 2013

TRANSCRIPT

Page 1: 4site Haf 2013

1

Tymor yr Haf 2013

Gweler y tu mewn am newyddion, sesiynau addysgol, manylion cadw lle, arddangosfeydd a digwyddiadau.

Page 2: 4site Haf 2013

2

Amgueddfa Abertawe ……………………………………………………………… Tudalen 3 Plantasia………………………………………………………………………………. Tudalen 14 Oriel Gelf Glynn Vivian ……………………………………………………………… Tudalen 16 Canolfan Dylan Thomas……………………………………………………………… Tudalen 19 Archifau Gorllewin Morgannwg……………………………………………………… Tudalen 20 Llyfrgell Ganolog………………………………………………………………………… Tudalen 23 Castell Ystumllwynarth ………………………………………………………………… Tudalen 24 Cwch Cymunedol Abertawe ……………………………………………………. Tudalen 25 Cyhoeddiadau 4-Site……………………………………………………………… Tudalen 26 Ffeithlenni……………………………………………………………………………. Tudalen 29 Adnoddau…………………………………………………………………………….. Tudalen 30 Cysylltu â ni…………………………………………………………………………….. Tudalen 31 Ffurflen Gofrestru i Ysgolion………………………………………………………… Tudalen 32

CynnwysCynnwysCynnwysCynnwys

Page 3: 4site Haf 2013

3

Amgueddfa Amgueddfa Amgueddfa Amgueddfa Abertawe Abertawe Abertawe Abertawe ---- CyfnodCyfnodCyfnodCyfnod SylfaenSylfaenSylfaenSylfaen //// CyfnodCyfnodCyfnodCyfnod Allweddol 1Allweddol 1Allweddol 1Allweddol 1

Pwnc: Trydan a chyn hynny Sesiwn sy'n ystyried cartrefi a bywyd bob dydd, a'r newidiadau yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf. Sesiwn weithgar a ddysgir, gan ddefnyddio llawer o wrthrychau o'r gorffennol a'r presennol gan astudio'r gwahaniaeth rhyngddynt. Bydd gan ddisgyblion gyfle i astudio gwrthrychau megis ffyrc tostio, haearnau smwddio bocs a byrddau sgwrio. I ddilyn hyn, gall y plant ymweld â'r 'Gegin Gymreig' ar lawr cyntaf yr amgueddfa. Mae blwch llawn gwrthrychau i'w trin a'u trafod ar gael ar gais i'w ddefnyddio wrth ymweld â'r gegin a llyfryn adnoddau i ysgolion sy'n ymweld. Grŵp oedran a argymhellir: Derbyn - Blwyddyn 2

Hyd: 1 awr

Pwnc: Mrs. Mahoney Mrs Mahoney oedd gwraig gofalwr yr amgueddfa yn y 1850au. Cafodd yntau ei ddiswyddo am ddwyn arian, a bydd Mrs. Mahoney yn adrodd ei stori drist yn y wisg a'r cymeriad, gan ddangos cist o bethau y mae'n mynd gyda hi i'r plant sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng ei ffordd hi o fyw a'u ffordd hwy. Grŵp oedran a argymhellir: Blwyddyn 2 yn unig, oni bai ei fod yn ddosbarth cymysg Hyd: 1 awr

Page 4: 4site Haf 2013

4

Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe ---- Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1

Pwnc: Teithiau Cludiant Cyfle i ysgolion gael ymweliad ‘y tu ôl i’r llenni’ â storfa Gwasanaeth Amgueddfa Abertawe, sy'n warws mawr ger maes parcio Parcio a Theithio Glandŵr. Caiff y plant eu tywys o gwmpas y cerbydau gan edrych ar y newidiadau a’r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae gennym dractor Allis Chalmers, beiciau modur, cert fferm y gambo, lorïau'r Vulcan ac AEC, y Sinclair C5, injan dân a dynnwyd gan geffyl, peiriannau tynnu, bws Llynfi, bws archwilio harbwr Abertawe etc. Bydd hwn yn cymryd tua awr, ac os dymunir, gellir treulio hanner awr ychwanegol yn tynnu lluniau Sylwer: storfa yw'r adeilad, nid amgueddfa, felly bydd y plant yn aros yn yr ardal gerbydau, ac ni fydd lle i fwyta cinio. Grŵp oedran a argymhellir: Derbyn – Blwyddyn 2 Hyd: 1 awr

Pwnc: Teganau Sesiwn addysgu awr yw hon gyda doliau, teganau clocwaith, teganau tunplat lliwgar, cadw-mi-gei, teganau pren, chwyrligwganod a gemau awyr agored. Archwilir themâu megis deunyddiau, pŵer ac addurn. Dewch i gwrdd â'r Hulk ac eirth pren prysur! Os hoffech gyfle i dynnu lluniau ar ôl hynny, rhowch wybod i ni. Grŵp oedran a argymhellir: Derbyn – Blwyddyn 2 Hyd: 1 awr

Page 5: 4site Haf 2013

5

Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe ---- Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 1

Pwnc: ‘Mynd am dro i lan y môr!’ Dyma un o’n sesiynau mwyaf poblogaidd dros y blynyddoedd – eleni rydym yn ychwanegu rhywbeth arbennig… Bydd y plant yn eistedd mewn tram ac yn cwrdd â menyw o tua 1900, a fydd yn adrodd straeon wrthynt am fynd i lan y môr, a sut roedd pobl yn cyrraedd yno 'slawer dydd, yn enwedig ar drên y Mwmbwls. Dewch o hyd i wybodaeth am deithio yn y gorffennol. Ar gyfer haf 2013 YN UNIG - hyn a hyn o sesiynau a gynhelir ar gyfer pypedau Pwnsh a Siwan! Cofrestrwch c.g.â.ph. i osgoi cael eich siomi. Os bydd digon o amser, bydd gan y plant gyfle hefyd i ysgrifennu stori eu hunain ac edrych yn y "sachau gwrthrychau" o ddeunyddiau'r traeth, neidio ar dram yn Sied Dramiau'r Amgueddfa, edrych ar y lluniau a thynnu lluniau. Grŵp oedran a argymhellir: Derbyn – Blwyddyn 2 Hyd: 1 awr

Page 6: 4site Haf 2013

6

AmAmAmAmgueddfa Abertawe gueddfa Abertawe gueddfa Abertawe gueddfa Abertawe ----Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2

Pwnc: Pobl Oes Fictoria Mae arddangosfeydd Fictoraidd yr amgueddfa ar gael yn llawn. Felly, mewn sesiwn Fictoraidd gyffredinol, bydd bob amser: - Amrywiaeth o wrthrychau i'w trin a'u trafod - Sgwrs sioe sleidiau sy'n cyfuno agweddau gwahanol ar oes Fictoria a newidiadau lleol yn ystod y 19eg ganrif. - Gwaith Cwpwrdd yr Hynodion Grŵp oedran a argymhellir: Bl 4 - 6 Hyd: Diwrnod llawn Pethau ychwanegol dewisol: - Sesiwn canu caneuon môr gyda Dave Robinson ** - Taith dywys o'r oriel grochenwaith (pecyn ar gael) - Taith dywys o gwmpas adeiladau Fictoraidd cyfagos NODIADAU: **Ni allwn wneud teithiau tywys a chaneuon môr ar yr un diwrnod oherwydd pwysau amser, ac mae'n rhaid cadw lle'n bendant ar gyfer y sesiynau hyn gan fod yn rhaid trefnu tiwtor ar eu cyfer.

Pwnc: Cwm Tawe Isaf Mae disgyblion yn aml yn gyfarwydd â'r Parc Menter, B&Q, Morrisons, Stadiwm Liberty a'r Marina. Yn yr ardal hon roedd y diwydiannau a dyfodd o'r 1700au gan drawsnewid cymdeithas yn ystod y 19eg ganrif. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru yr un mor bwysig â dyfeisiadau tecstilau gogledd Lloegr. Roedd copr a thunplat yn yr ardal hon yr un mor bwysig â haearn ym Merthyr a glo yn y Rhondda. Mae'n bosib ymweld â safleoedd o hyd lle ceir tystiolaeth o'r diwydiant hwn yn y gorffennol ac mae adnoddau i ategu gwaith maes o'r fath. Wrth i'r stori fynd yn ei blaen, mae newid yn dilyn newid, a gellir gweld yr hyn a'u hysgogodd a'u heffeithiau ar lefel syml. Bydd ymweliad yn cynnwys sgwrs a sleidiau yn yr amgueddfa. Bydd rhai gwrthrychau yn cael eu harchwilio hefyd, a'r cyfan fel cyflwyniad i'r ymweliad â safle gwaith y Graig Wen (White Rock). Grŵp oedran a argymhellir: Blwyddyn 5 ac yn hŷn Hyd: oddeutu 2 awr (gan gynnwys ymweliad safle)

Page 7: 4site Haf 2013

7

Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe ----Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2Cyfnod Allweddol 2

Pwnc: Y Rhufeiniaid… a rhai Celtiaid Diwrnod llawn gyda llawer o weithgareddau gan gynnwys cyfle i wisgo gwisgoedd, tariannau Rhufeinig a Cheltaidd yn ogystal ag arfwisgoedd. Gall grwpiau sy'n ymweld gwrdd â chymeriad Rhufeinig a darganfod sut oedd bywyd ym Mhrydain Geltaidd-Rufeinig. Bydd gan y plant gyfle i ddatrys ym mhle cafodd rhai gwrthrychau Rhufeinig eu darganfod a chael golwg agosach arnynt yn yr Oriel Archaeoleg. Ar ddiwedd y dydd, bydd sgwrs sleidiau a fydd yn dod ag elfennau a themâu'r dydd ynghyd. Grŵp oedran a argymhellir: Bl 3 / 4 / 5 Hyd: Diwrnod llawn (10am — 2.30pm)

Pwnc: Yr Hen Aifft Mae gan Amgueddfa Abertawe fymi 2,200 o flynyddoed oed. Mae gennym hefyd lawer o ddarnau o grochenwaith a gwydr o'r Aifft, drych coluro hynafol a hwyaden fymiedig! Gallwch gyfuno eich ymweliad â thaith i'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn cael diwrnod allan gwych a chyflawn. Mae gwaith i'w wneud yn yr Oriel a sioe sleidiau. Os ydych yn cynllunio ymweliad â'r Ganolfan Eifftaidd, mae'n bosib bydd gennym le i'ch grŵp i gael cinio. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cadw lle os rydych am wneud hyn. Grŵp oed a argymhellir: Bl 3 / 4 Hyd: Hanner diwrnod

Page 8: 4site Haf 2013

8

Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe ---- Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 a 3a 3a 3a 3

I neilltuo lle ar unrhyw sesiwn uchod yn Amgueddfa Abertawe, defnyddiwch y ffurflen neilltuo lle ar dudalen 11. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Barry Hughes ar 01792 477180. Neu gallwch ffacsio 01792 652585 neu e-bostio [email protected]

Pwnc: Alice Francis Roedd Alice Francis yn berson go iawn, yn byw yn Abertawe yn ystod Oes Victoria, ac wedi'i chofnodi ar gyfrifiad 1851. Byddai wedi byw yn ystod llawer o'r newidiadau yn y 19eg ganrif yn Abertawe. Roedd yn byw yn Lôn Morris, a elwir yn Lôn y Brenin erbyn hyn, sy'n mynd gyferbyn â thafarn o'r enw Kings Arms yn y Stryd Fawr, Abertawe i Barc Tawe. Rydym wedi esgus mai hi yw'r fenyw a welir yn y paentiadau sydd gennym yn yr amgueddfa gan William Butler, dyddiedig 1850-1, sy'n dangos Lôn Morris a Lôn y Castell gerllaw. Mae adnoddau ar gael gan gynnwys DVD byr i'w ddefnyddio cyn ac ar ôl yr ymweliad.

Y diwrnod yn yr amgueddfa Mae'n cynnwys dau fewnbwn gan Val (Theatr Chance Encounters), un fel Alice mewn gwisg a chymeriad ac un yn trafod gyda'r plant sut aeth ati i ymchwilio i'r rôl. Bydd y disgyblion yn archwilio ffynonellau - gwrthrychau, paentiadau, ffotograffau, yn yr orielau, allan o gasys a thrwy sgwrs a sleidiau. Grŵp oedran a argymhellir: Bl 5 - 6 Hyd: Diwrnod llawn (10am — 2.15pm)

Page 9: 4site Haf 2013

9

Amgueddfa AberAmgueddfa AberAmgueddfa AberAmgueddfa Abertawe tawe tawe tawe ---- Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 a 3a 3a 3a 3

Pwnc: Copropolis Dewch i dreulio diwrnod yn yr amgueddfa i ddod o hyd i wybodaeth am y newidiadau mewn bywyd yn y 19eg ganrif yn Abertawe. Bydd cyfle i gwrdd â... John Jones ‘Y Dyn Copr’ Byddwch yn dysgu am ei fywyd a sut roedd wedi newid yn ystod oes Fictoria.

Bydd cyfle hefyd i archwilio ein harddangosfa ddiddorol 'Copropolis', sy'n adrodd stori Abertawea sut y daeth yn brif ganolfan cynhyrchu copr yn y byd. Bydd cyfle hefyd i archwilio nifer o ffynonellau o baentiadau tirlun i drin a thrafod gwrthrychau. Grŵp oedran a argymhellir: Bl 5 - 6 Hyd: Diwrnod llawn (10am — 2.15pm)

Cyfle Newydd … Os ydych yn bwriadu mynd â dau ddosbarth ar Gwch Cymunedol Abertawe, pam na dewch i Amgueddfa Abertawe fel rhan o'ch diwrnod? Gall un dosbarth hwylio ar y cwch yn y bore tra bod y dosbarth arall yn archwilio ein blychau trin a thrafod yn oriel yr arddangosfa Copr. Bydd y dosbarthiadau'n cyfnewid gweithgaredd yn y prynhawn. Dyma sesiwn hunanarweiniol sydd eisoes wedi bod yn llwyddiannus gyda thair ysgol leol. Mae pecyn adnoddau a deunyddiau clywedol ar gael i gefnogi ymweliadau. Mwy o wybodaeth yn: www.medwynsmuseums.co.uk/swansea/educational-resources.php

Page 10: 4site Haf 2013

10

Rheilffordd y Mwmbwls Yn y sied dramiau mae tram stryd a chaban trên y Mwmbwls (y ddau yn rhai trydan) a replica o dram a dynnwyd gan geffyl, ynghyd ag arddangosfeydd am drên y Mwmbwls (gyda fideo), tramiau Abertawe a thramffordd Constitution Hill o 1898. Ar gyfer thema trafnidiaeth, mae hyn yn dangos, er enghraifft y newid o geffylau i ager ac yna trydan, ac yn olaf o reilffyrdd i ffyrdd. Mae'n bosib cael sioe sleidiau a thaflenni gw aith - cysylltwch â'r amgueddfa i gael manylion. Grŵp oedran a argymhellir: Blwyddyn 3 ac yn hŷn Hyd: Hanner diwrnod

Pwnc: Abertawe yn Ystod y Rhyfel Gweithio gyda llawer o arteffactau o'r Ail Ryfel Byd, paentiadau adeg y rhyfel o ganol y dref gan Will Evans, casys dillad faciwîs i'w harchwilio, posteri a ffotograffau, taith gerdded o amgylch y dref (os dymunir). Mae sgwrs a sleidiau sy'n cynnwys sawl thema'n ymwneud â'r rhyfel, cyfle i ymchwilio i'r rhesymau dros fomio Abertawe ac effeithiau ymosodiadau o'r fath ar hen ganol y dref a'i phobl. Gallaf hefyd drefnu i'ch grŵp gwrdd â rhywun a oedd wedi byw yn Abertawe yn ystod y rhyfel. Os hoffech gael yr opsiwn hwn, rhowch wybod i mi pan fyddwch yn cadw lle.

Grŵp oed a argymhellir: Bl 5 - 6

Hyd: Diwrnod llawn (10am — 2.00pm)

Pwnc: Yr Ardal Forol Newidiodd yr Ardal Forol o lain o dwyni tywod gwyntog i ardal 'ddethol' Abertaweyn y 1780au, i ardal ddociau brysur o 1859, ac i dir diffaith ar ôl 1970. Heddiw mae'n ardal breswyl a hamdden. Mae ysgolion yn astudio hwn fel enghraifft o newid ym maes hanes ond hefyd fel ffordd hynod ddiddorol o archwilio defnydd tir mewn daearyddiaeth. Mae sgwrs sleidiau ac amrywiaeth o daflenni gwaith (adeiladau, cerfluniau a cherfiadau, defnydd tir, agweddau morol) ar gael. Mae cyfres o baentiadau tirlun o Abertawehefyd i'w gweld. Ymweliad maes buddiol sy'n astudio newidiadau hanesyddol a daearyddol lleol yn ystod y 19eg ganrif. Grŵp oedran a argymhellir: Blwyddyn 3 ac yn hŷn Hyd: Diwrnod llawn (10am — 2.00pm)

Page 11: 4site Haf 2013

11

Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe Amgueddfa Abertawe ---- Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 Cyfnod Allweddol 2 a a a a 3333

DIGWYDDIADAU ARBENNIG yn Amgueddfa Abertawe Tymor yr hydref - Halt! Who Goes There?...Bydd ein prosiect gyda Theatr na N’Og eleni yn adrodd stori dihangfa fwyaf carcharorion rhyfel yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. A digwyddodd hyn i gyd yn Fferm Ynys y Gwersyll ym Mhen-y-bont ar Ogwr! Mae'r diwrnod yn cynnwys gwylio perfformiad bore neu brynhawn gyda gweithgareddau am ddim yn Amgueddfa Abertaweac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd y profiad hwn o theatr fyw yn hudo ac ysgogi cynulleidfa ifanc.

Yn ogystal â'r perfformiad, bydd pob dosbarth yn derbyn casgliad o ddeunyddiau digidol ar-lein gydag archif ddelweddau a seiniau a oedd yn galluogi'r theatr i greu'r sioe...Bydd yn sicr yn ddiwrnod ysbrydolus o ddysgu i bawb.

Ffoniwch y theatr yn uniongyrchol i gadw lle ar 01639 641771. Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn ac awgrymir i chi gadw lle yn syth Tymor yr hydref ‘GOFYNNWCH I WALLACE’ Pan nad oedd Darwin yn gwybod yr ateb i gwestiwn pam roedd rhywogaethau penodol yn ymddwyn mewn ffordd benodol, y cyngor a roddwyd iddo oedd "gofynnwch i Wallace."

Am bythefnos ym mis Hydref, byddwn yn cynnal perfformiad un dyn unigryw am 45 munud sy'n canolbwyntio ar agweddau ar gymeriad ysbrydolus Alfred Russel Wallace a'i harweiniodd at Theori Esblygiad drwy ddetholiad naturiol. Caiff ei berfformio yn ein harddangosfa sy'n dathlu ei fywyd a'i gyflawniadau.

Roedd Alfred Russell Wallace yn fforiwr, yn anthropolegwr ac yn fiolegydd yn y 19eg ganrif. Fe'i ganed yn ym Mrynbuga a threuliodd cyfran fawr o'i fywyd yng Nghastell-nedd cyn teithio'r byd yn casglu samplau biolegol.

Yn y pen draw, ysgrifennodd bapur ar Theori Esblygiad drwy Ddetholiad Naturiol gyda Charles Darwin. 2013 yw canmlwyddiant ei farwolaeth.

Page 12: 4site Haf 2013

12

Arddangosfeydd yn y dyfodol…

Y Rhyfel Byd Cyntaf 28 Gorffennaf 2014 yw canmlwyddiant dechrau un o'r rhyfeloedd mwyaf trychinebus yn hanes Ewrop. Galwyd ar dros 60 miliwn o bobl i'r lluoedd arfog. Daeth dynion ifanc i gofrestru yn eu miloedd ledled Prydain gan gynnwys, wrth gwrs, Abertawe a de Cymru. Ni ddychwelodd llawer o'r rhai a gofrestrodd gartref ac roedd y rhai a ddaeth gartref wedi'u heffeithio'n ofnadwy gan yr hyn roeddent wedi ei weld. Rydym yn gobeithio cynnal arddangosfa i gofio canmlwyddiant y frwydr hon. Bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar straeon sawl unigolyn o Abertawe a oedd yn rhan o'r Rhyfel Mawr. Yn ogystal â straeon y dynion ifanc a adawodd eu cartrefi i ymladd, bydd yr arddangosfa hefyd yn datgelu ymdrechion a wynebai'r menywod a oedd yn gweithio mewn ysbytai milwrol a'r rhai a oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol. A fyddai diddordeb gennych i ddod i arddangosfa o'r fath gyda'ch ysgol? Os felly, pa weithgareddau addysgol a fyddai o fudd i chi? Oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau y gallech eu cyfrannu at arddangosfa o'r fath? Cysylltwch - “mae'ch amgueddfa eich angen chi”!

Page 13: 4site Haf 2013

13

Ffurflen Neilltuo Lle Amgueddfa Abertawe Ffurflen Neilltuo Lle Amgueddfa Abertawe Ffurflen Neilltuo Lle Amgueddfa Abertawe Ffurflen Neilltuo Lle Amgueddfa Abertawe

Llungopïwch y ffurflen neilltuo lle hon ar gyfer Amgueddfa Abertawe yn unig. Defnyddiwch un ffurflen fesul ymweliad. Sylwer: I drefnu ymweliad ag Oriel Gelf Glynn Vivian, ffoniwch 01792 516900

I drefnu ymweliad â Plantasia, ffoniwch 01792 474555 Pwnc/sesiwn y mae ei angen arnoch:

Ysgol:

Enw cyswllt:

E-bost:

Oedran/Grŵp Blwyddyn:

Nifer o blant/myfyrwyr:

Unrhyw arweiniad ynghylch dyddiadau:

Unrhyw ofynion arbennig:

Anfonwch y ffurflen neilltuo lle wedi'i chwblhau at: Barry Hughes Amgueddfa Abertawe Heol Victoria Ardal Forol Abertawe SA1 1SN I gael mwy o wybodaeth: Ffoniwch: 01792 653763 neu 01792 447180 E-bostiwch: [email protected] Ffacsiwch: 01792 652585

Page 14: 4site Haf 2013

14

PlantasiaPlantasiaPlantasiaPlantasia

Mae pob gweithdy AM DDIM i aelodau 4-site. Codir tâl o £35 y gweithdy i rai nad ydynt yn aelodau, yn ogystal â phris mynediad i ddosbarth Cyfyngir teithiau/gweithdai i un dosbarth hyd at uchafswm o 35 disgybl ar y tro. Gellir trefnu ymlaen llaw i gael cinio yn ein hystafell ysgolion. Mae pob croeso i ysgolion ddod a gwneud yr hyn a

fynnant: crwydro o gwmpas y lle neu fraslunio neu gwblhau taflenni gwaith. Neu, gall ysgolion ddewis y canlynol sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg:

Teithiau Tywys 10.30am - 11.15am Cynhelir teithiau gan y staff sy'n hollol gyfarwydd â'r tŷ poeth a'i blanhigion. Gall teithiau gyfeirio at themâu penodol a gellir eu haddasu ar gyfer pob grŵp oedran.

Teithiau Tywys Anifeiliaid 10.30am - 11.15am Cynhelir y sesiynau hyn gan ein technegwyr anifeiliaid preswyl ar yr anifeiliaid/pryfed sy'n byw yma a bydd y sesiynau yn edrych ar yr hyn maent yn ei fwyta, sut i ofalu amdanynt a ffeithiau diddorol eraill.

Celf a Phlanhigion 10am - 12 ganol dydd a 12.30pm - 2.30pm (awr a hanner ar gyfer derbyniad) Mae'r sesiynau celf ymarferol hyn, gan ddefnyddio'r planhigion rhyfeddol fel ysbrydoliaeth, yn cynnwys lluniadu arsylwadol sy'n canolbwyntio ar siâp, patrwm a gwead. Maent yn sesiynau hanner diwrnod a gellir eu cysylltu ag ymweliad ag oriel neu amgueddfa.

Gwneud Ffelt 10.30am - 12 ganol dydd a 12.30pm - 2pm Mae gwneud ffelt yn broses eithaf syml gan ddefnyddio gwlân heb wehyddu na gwau. Mae'n hynod o addas ar gyfer arddangosiadau wal lliw a gall paneli ffelt fod yn haniaethol neu'n ddarluniadol.

Gwneud Papur 10.30am - 11.15am Bydd bloc un wythnos o sesiynau ymarferol gwneud papur lle bydd pob plentyn yn gwneud ei bapur ei hunan y gall fynd ag ef yn ôl i'r ysgol gydag ef/hi.

Page 15: 4site Haf 2013

15

PlantasiaPlantasiaPlantasiaPlantasia

Celf ac Anifeiliaid 10am - 12 ganol dydd a 12.30pm - 2.30pm Dewch i arlunio a gwneud eich anifeiliaid symudol eich hun gyda cherdyn, wedi'u hysbrydoli gan yr anifeiliaid go iawn yn Plantasia. Yn addas ar gyfer Bl 1 a hŷn.

Gweithdai Coedwigoedd Glaw 10.30am - 11.15am (Saesneg yn unig) Yn seiliedig ar daith ein Swyddog Addysg i goedwig law yr Amason, ac yn defnyddio'i phrofiad, sleidiau ac

arteffactau o Ecwador. Bydd y cynnwys yn amrywio o'r planhigion, yr anifeiliaid a phobl y rhanbarth syfrdanol hwn i faterion amgylcheddol enfawr sy'n codi o'i ecsbloetio. Yn addas ar gyfer Bl 2 a hŷn.

Egino Hadau'n Hawdd 10.30am - 12 ganol dydd neu 12.30pm - 2pm Beth sydd ei angen ar hedyn i dyfu? Bydd y plant yn cynnal ymchwiliad gwyddonol i ateb y cwestiwn hwn trwy blannu hadau pys mewn dysglau Petri dan amodau amrywiol. Bydd y plant yn mesur y canlyniadau, yn dadansoddi'r data ac yn dod i gasgliadau o'r arbrawf. Mae'r sesiwn hefyd yn edrych ar anghenion planhigion gwyrdd a gall athrawon atgyfnerthu hyn drwy fynd â'r plant i mewn i'r tŷ poeth. Yn addas ar gyfer Bl 2 a hŷn.

Gwreiddiau, Egin, Blodau a Dail 10.30am - 12 ganol dydd neu 12.30pm - 2pm Ni fydd plant byth yn anghofio rhannau planhigion ar ôl eu darganfod y tu mewn i'r tŷ poeth trofannol. Yn ogystal â chanolbwyntio ar swyddogaeth rhannau planhigion, bydd y tiwtor yn gofyn i'r plant nodi sut mae rhywogaethau gwahanol wedi addasu ac yn ystyried rôl planhigion yn eu hecosystem. Mae'r gweithdy'n dod i ben gyda gweithgaredd hwyl lle mae'r plant yn esgus bod yn egin eu hunain ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i fwyd a dŵr ar gyfer y planhigyn. Yn addas i CA1 a 2

Barddoniaeth yn Plantasia 10.30am - 11.45am neu 1pm - 2.15pm (Saesneg yn unig) I ddechrau, bydd y plant a'r tiwtor yn darllen ac yn trafod barddoniaeth draddodiadol sydd wedi'i hysgrifennu am blanhigion ac anifeiliaid. Yna bydd y plant yn mynd i mewn i'r tŷ poeth i gael eu hysbrydoli a'u hysgogi i ysgrifennu cwpled ffurfiol sy'n odli. Bydd trafodaeth fer ynghylch eu cwpledi pan fydd y plant yn dysgu pwysigrwydd adborth adeiladol a drafftio yn y broses ysgrifennu. Bydd gweddill y gweithdy'n canolbwyntio ar farddoniaeth gyfoes, yn benodol, cerddi arddull "torri i fyny". Bydd y plant yn ceisio dod o hyd i amrywiaeth eang o eiriau (a diffiniadau) sydd wedi'u cuddio yn y tŷ poeth ac yn eu defnyddio i lunio cerddi haniaethol. Addas i CA2

I neilltuo lle neu i wneud mwy o ymholiadau, ffoniwch 01792 474555 a gofynnwch am Maria Bowen neu ewch i www.plantasia.org i gael mwy o wybodaeth.

Page 16: 4site Haf 2013

16

Oriel Gelf Glynn Vivian Oriel Gelf Glynn Vivian Oriel Gelf Glynn Vivian Oriel Gelf Glynn Vivian Mae Oriel Gelf Glynn Vivian bellach ar gau yn ystod gwaith ailddatblygu i helpu i gynnal a chadw isadeiledd yr adeilad gwreiddiol o 1911 ac i wella mynediad cyhoeddus i bawb. Mae'r prosiect cyffrous hwn yn helaeth iawn a bydd yr oriel ar gau yn llwyr i'r cyhoedd tan 2014. Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/glynnvivian Yn ystod y cyfnod hwn, bydd tîm dysgu'r Glynn Vivian yn parhau i ddarparu rhaglen oddi ar y safle o weithdai diwrnodau llawn mewn ysgolion.

Diwrnodau Oddi Cartref Glynnn Vivian Mae Diwrnodau Oddi Cartref Glynn Vivian yn rhoi cyfle i ddosbarth weithio yn yr ysgol gydag un o'n tîm o addysgwyr celf i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn archwilio'r oriel a'i chasgliadau. Bydd un o'n timau addysgu yn ymweld â'r ysgol gydag adnoddau a deunyddiau a ddewiswyd yn arbennig am ddiwrnod o weithgareddau. Mae'r artistiaid sy'n gweithio a'r addysgwyr celf profiadol, Arwen Roberts, Carolyn Davies a Mary Hayman yn ymwybodol iawn o ofynion Celf a Dylunio yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac maent yn gallu cynnig rhaglenni addysg llawn yn Gymraeg a Saesneg. Mae pob gweithdy wedi ei lunio i ddarparu cydbwysedd o ran Datblygiad Creadigol yn y Cyfnod Sylfaenol a Deall, Ymchwilio a Chreu yng Nghyfnod Allweddol 2. Rydym hefyd yn gallu bodloni rhai o ofynion y Cwricwlwm Cymreig yn sgîl gwell dealltwriaeth o waith artistiaid o Gymru. Cyflwyniad i'r Gweithdy Bydd ein haddysgwr celf yn dechrau'r dydd gyda chyflwyniad ar hanes Oriel Gelf Glynn Vivian , Richard Glynn Vivian a'i gymynrodd wreiddiol i bobl Abertawe, a oedd wedi'i chasglu ar ei deithiau o amgylch y byd yn y 19eg ganrif. Yna bydd y disgyblion yn dysgu am yr oriel a phensaernïaeth yr adeilad ac yn trafod sut mae wedi newid ers iddi agor gan mlynedd yn ôl ym 1911. Bydd yr addysgwyr celf hefyd yn siarad am yr angen i adnewyddu a datblygu'r adeilad a sut y bydd hyn yn gwella'r oriel ar gyfer cyfleusterau ymchwil a storio a phrofiadau i ymwelwyr yn y dyfodol. Bydd lluniau ar gael i ddangos y broses bacio a'r newidiadau, ac i ysgogi sgwrs ac ymateb, gan gynnwys sleidiau o albymau teithio Richard Glynn Vivian. Archwilio'r Casgliad Bydd yr addysgwyr celf yn dangos detholiad o luniau o gasgliad yr oriel a fydd yn cynnwys atgynhyrchiadau o waith cyfoes a hanesyddol. Bydd y rhain yn seiliedig ar y themâu canlynol a byddant ar gael fel tafluniadau ac fel printiau wedi'u hatgynhyrchu.

Page 17: 4site Haf 2013

17

Themâu sy'n berthnasol i'r cwricwlwm.

• Lliw

• Siâp a Ffurf

• Llinell a Thôn

• Gwead a Phatrwm Ymateb Ymarferol Yn dilyn trafodaeth eang am bob un o'r atgynhyrchiadau a ddetholwyd o gasgliad yr oriel, bydd yr addysgwyr celf yn defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad helaeth i deilwra sesiwn ymarferol, yn seiliedig ar ymateb y dosbarth, a fydd yn para diwrnod. Gall disgyblion greu darn o waith celf naill ai'n unigol neu ar y cyd.

Neilltuo Lle Mae'r oriel bellach yn neilltuo lleoedd ar gyfer y Gwasanaeth Addysg 4-Site sydd ar gael yn ystod tymor yr haf 2013. Bydd gweithdai diwrnod llawn ar gael tan ddydd Iau 19 Gorffennaf 2013 a gall ysgolion drefnu hyd at 3 gweithdy y tymor hwn. Gellir cynnal gweithdai o ddydd Llun i ddydd Gwener a bydd yr artistiaid yn yr ysgol o 9.30am i 2.45pm, gan addysgu rhwng 10am a 2.15pm. Gellir newid hyn i gyd-fynd ag amser egwyl a allai amrywio o ysgol i ysgol. Bydd addysgwyr celf yn paratoi ar gyfer yr holl amser maent yn yr ysgol, felly gofynnir i athrawon, wrth neilltuo lle, i sicrhau nad oes gan y dosbarth unrhyw ymrwymiadau eraill ar ddiwrnod gweithdy'r artist, megis chwaraeon neu weithgaredd arall i'r dosbarth a bod yr athro/athrawes yn aros yn y dosbarth am yr ymweliad cyfan. Os hoffech neilltuo lle, ffoniwch 01792 635368 neu'n well fyth cwblhewch ‘Ffurflen Neilltuo Lle Oriel Gelf Glynn Vivian’ ac anfonwch e-bost at [email protected] Ar ôl i ni dderbyn eich cais, bydd aelod o staff yr oriel yn cysylltu â chi i drafod a chadarnhau eich cais. Unwaith y bydd addysgwr celf wedi'i neilltuo, gall gysylltu â chi i drafod eich gweithdy yn fwy manwl a nodi unrhyw feysydd yr hoffech ganolbwyntio arnynt. Cofiwch nodi rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fel y gallwn gysylltu â chi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Laura Sims Marketing Officer - Audience Development Swyddog Marchnata - Datblygu Cynulleidfaoedd Glynn Vivian Art Gallery I Oriel Gelf Glynn Vivian Room 261t, Guildhall I Ystafell 261t, Neuadd y Ddinas Swansea I Abertawe SA1 4PE 01792 635368 Stay in touch I Cysylltwch â ni 01792 516900 Gwefan: www.glynnviviangallery.org Twitter: www.twitter.com/GlynnVivian Facebook: www.facebook.com/glynnvivian Blog: www.glynnvivian.com

Page 18: 4site Haf 2013

18

Ffurflen Neilltuo Lle Oriel Gelf Glynn Vivian Ffurflen Neilltuo Lle Oriel Gelf Glynn Vivian Ffurflen Neilltuo Lle Oriel Gelf Glynn Vivian Ffurflen Neilltuo Lle Oriel Gelf Glynn Vivian Tymor yr Haf 2013 Gweithdai diwrnod llawn: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am-2.15pm, tan ddydd Gwener 19 Gorffennaf, 2013 Bydd pob gweithdy yn cynnwys archwilio, ymchwilio, creu, trafod a gwerthuso gwaith celf o gasgliad Glynn Vivian. Dewiswch thema o'r rhestr isod.

• Lliw

• Siâp a Ffurf

• Llinell a Thôn

• Gwead a Phatrwm

Cwblhewch yr wybodaeth ganlynol a'i hanfon at Laura Sims, Swyddog Marchnata – Datblygu Cynulleidfaoedd, Oriel Gelf Glynn Vivian yn [email protected]

Enw'r Ysgol:

Enw'r athro/athrawes:

Rhif ffôn yr athro/athrawes gwaith:

ffôn symudol:

Cyfeiriad e-bost yr athro/athrawes:

Grŵp blwyddyn/oedran:

Nifer y Disgyblion:

Thema(âu) dewisol:

Dyddiad(au) dewisol:

Bydd rhywun yn cysylltu â chi'n fuan i drafod eich cais. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Diolch yn fawr. Oriel Gelf Glynn Vivian, Ystafell 261t, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE Ffôn: 01792 516900 Ffacs: 01792 635814 www.glynnviviangallery.org

Page 19: 4site Haf 2013

19

Canolfan Dylan ThomasCanolfan Dylan ThomasCanolfan Dylan ThomasCanolfan Dylan Thomas

Gall Canolfan Dylan Thomas gynnig gweithdai i ddau grŵp oedran. 8 – 11 oed Cyflwyniad sylfaenol i fywyd a gwaith Dylan Thomas, gan edrych yn benodol ar gerddi a straeon a ysgrifennwyd ganddo am ei blentyndod. Mae'r sesiwn yn cynnwys taith dywys o arddangosfa Dyn a Myth Canolfan Dylan Thomas, gyda thaflen gwis arbennig i helpu plant ifanc i archwilio'r arddangosfa.

11 - 18 oed Mae Canolfan Dylan Thomas yn cynnig sesiynau manwl am fywyd a gwaith un o feibion enwocaf Abertawe, y gellir eu teilwra at anghenion pob grŵp. Gellir cynnal gweithdai ar gerddi, straeon neu ddarllediadau penodol, drwy drefniant. I neilltuo lle ar weithdy, ffoniwch Jo Furber ar 01792 463980 neu e-bostiwch [email protected]

Page 20: 4site Haf 2013

20

Archifau Gorllewin Morgannwg Archifau Gorllewin Morgannwg Archifau Gorllewin Morgannwg Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae archifau'n adnodd addysgol gwych sy'n cynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr ac athrawon gyda ffynonellau cynradd unigryw. Gallant ennyn dychymyg y disgyblion oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth leol sy'n berthnasol i'r plant. Mae ein gwasanaeth yn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion ddefnyddio dogfennau gwreiddiol. Gallant archwilio gwybodaeth mewn mapiau, lluniau, hanes llafar a ffynonellau ysgrifenedig i ymchwilio i amrywiaeth o bynciau. Ein gwasanaethau Rydym yn cynnig dau fath o wasanaeth. Gall archifydd naill ai ddod i'ch ysgol i gyflwyno sesiwn gan ddefnyddio deunyddiau a gopïwyd o'r archifau neu gall grwpiau ymweld â ni yn yr Ystafell Chwilio i

ddefnyddio'r dogfennau gwreiddiol, megis y cyfrifiad, ffotograffau, mapiau, llyfrau log ysgolion, cyfeirlyfrau masnach, hanes llafar a llawer, llawer mwy. Dim ond ar ddydd Llun, pan rydym ar gau i'r cyhoedd, y darperir sesiynau yn yr Ystafell Chwilio. Mae sesiynau'r bore yn dechrau am 10.00am ac mae sesiynau'r prynhawn yn dechrau am 1.00pm (mae'r amserau dechrau yn hyblyg). Mae pob sesiwn yn para rhwng 1½ - 2 awr ac yn dechrau gyda chyflwyniad cyffredinol i'r Gwasanaeth Archifau h.y., Beth yw archif? Beth yw gwaith archifydd? Pam mae'n bwysig gofalu am ddogfennau? Beth yw gelynion cofnodion? Isod rhestrir ein pynciau sefydlog. Os bydd eich ysgol yn astudio unrhyw bwnc arall, cysylltwch â ni oherwydd efallai bydd modd i ni eich helpu. Cyfnod Allweddol 2 NEWYDD AR GYFER 2013! Pwnc: Y Tuduriaid - Gartref ac yn y gwaith Bydd grwpiau'n cael y cyfle i astudio dogfennau Tuduraidd gwreiddiol gan gynnwys ewyllysiau ac indeinturau prentisiaethau i roi cipolwg ar fywydau pobl oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertawe yn ystod y cyfnod Tuduraidd. Bydd gan ddisgyblion gyfle i ddarganfod pa eiddo oedd gan bobl, yn ogystal ag ystyried y da a'r drwg am fod yn brentis yn ystod teyrnasiad Harri'r Wythfed (Arglwydd Sugar, gwylia di!) Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda'r disgyblion yn creu eu hindenturau prentisiaeth a'u seliau eu hunain. NEWYDD AR GYFER 2013! Pwnc: Edgar Evans Cyfle i astudio cofnodion bywyd Edgar Evans gan gynnwys ei gofnodion bedydd a phriodas o Eglwys Rhosili; cofnodion llyngesol, canlyniadau cyfrifiad, ffotograffau, cofnodion dyddiaduron, cofnodion log ysgol, llythyrau ac erthyglau papur newydd. Bydd disgyblion yn astudio'r dogfennau hyn mewn grwpiau, gan eu nodi a'u cofnodi cyn creu llinell amser bywyd Edgar Evans.

Page 21: 4site Haf 2013

21

NEWYDD AR GYFER 2013! Pwnc: Marchnadoedd Abertawe 1652-1961 Cipolwg ar farchnadoedd amrywiol Abertawe, o'r farchnad awyr agored gyntaf 1652 i farchnad 1774 a oedd yn rhan o'r castell, a'r tair marchnad ar y safle ar Stryd Rhydychen rhwng 1830 a heddiw. Bydd gan ddisgyblion gyfle i ddefnyddio mapiau, cyfeirlyfrau masnachu, ffotograffau, rhestr o'r stondinwyr, yn ogystal â rhai o'r dogfennau hynaf sy'n cofnodi adeiladu'r marchnadoedd cynharaf. Pwnc: Y Blitz Tair Noson a'r Ffrynt Cartref Caiff grwpiau eu cyflwyno i nifer o ddogfennau gwreiddiol a grëwyd yn ystod y Blitz Tair Noson gan gynnwys ffotograffau, cofnodion ysgol, papurau newydd, dyddiaduron, hanesion llafar, rhestr y meirw a map targedau'r Luftwaffe. Gallwn hefyd estyn y pwnc i gynnwys y Ffrynt Cartref. Pwnc: Pobl Oes Fictoria – Cyfoethog a Thlawd Cymharu Pobl Oes Fictoria cyfoethog a thlawd gan ganolbwyntio ar un o slymiau Abertawe neu Gastell-nedd a Pharc Margam (cartref i'r teulu Talbot). Mae plant yn defnyddio'r ffynonellau canlynol i wneud cymariaethau rhwng bywydau Fictoriaid cyfoethog a thlawd: mapiau, cynlluniau, cyfrifiadau, ffotograffau pobl a chartrefi, a phapurau newydd. Pwnc: Astudiaeth Ardal Caiff astudiaethau ardal eu teilwra ar gyfer anghenion eich ysgol. Bydd pob sesiwn yn cynnwys yr holl ddogfennau canlynol neu rai ohonynt: mapiau, cyfrifiadau, ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, cofnodion plwyfi, papurau newydd, hanesion llafar, cofnodion ysgol a llawer mwy eraill. Pwnc: Llwybr Cerdded SA1 Bydd yr holl ysgolion cynradd yn Abertawe, Castell-nedd a Port Talbot wedi derbyn CD "Cerdded Hyd Glannau Abertawe". Os ydych am ychwanegu at yr adnoddau ar y CD neu os hoffech chi gael cyfle i weld y dogfennau gwreiddiol a ddefnyddiwyd ar y CD cyn mynd â'ch grŵp ar y llwybr cerdded, cysylltwch â ni. Pwnc: Archifau: Y tu ôl i'r llenni Cyfle i ymweld â'r archifau a gweld y tu ôl i'r llenni! Bydd grwpiau'n cael eu harwain ar daith o ystafelloedd diogel yr archifau i weld y dogfennau mwyaf, lleiaf, hynaf a diweddaraf yn ogystal â dysgu mwy am ddiwrnod ym mywyd archifydd. Bydd grwpiau hefyd yn cael profiad ymarferol o helpu i gadw dogfennau. Pynciau eraill yr ymdrinnir â hwy: Rheilffordd y Mwmbwls, Mynd i'r Afael â Chyfrifiad 1851; Treialon Mwg Copr 1833 Neilltuo lle a chysylltu: I gael sgwrs anffurfiol am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ac i neilltuo lle ar sesiwn, ffoniwch Katie Millien ar 01792 637123 neu e-bostiwch [email protected] Sut i ddod o hyd i ni: Rydym yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Ewch i'n gwefan i gael mwy o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/archiveseducation

Page 22: 4site Haf 2013

22

FfurFfurFfurFfurflen Neilltuo Lle Archifau Gorllewin flen Neilltuo Lle Archifau Gorllewin flen Neilltuo Lle Archifau Gorllewin flen Neilltuo Lle Archifau Gorllewin MorgannwgMorgannwgMorgannwgMorgannwg

Enw’r Ysgol:……………………………………………………….................................................... Enw Cyswllt:……………………………………………………………………………………………. Rhif ffôn: ………………………………………………………………………………………............. E-bost:…………………………………………………………………………………………………... Pwnc neu thema:………………………………………………………………………...................... ……………………………………………………………………………………………………………. ……………………………………………………………………………………………………………. Cyfnod Allweddol/ Lefel:…………………………………………………………………................ Nifer yn y grŵp………………………………………………….....................................................

Math o wasanaeth Ymweliad ag Ystafell Chwilio'r Archifau � Ymweliad â'r ysgol � Dyddiad ac amser dewisol:…………………………………………………………………..........

• Gwneir pob ymdrech i neilltuo sesiwn i chi ar eich dyddiad a'ch amser dewisol.

• Ar hyn o bryd, dydd Llun yn unig y gallwn gael ymweliad gan grwpiau yn Ystafell Chwilio'r Archifau.

• Fel arfer mae sesiynau'n dechrau am 10.00am a 1.15pm ac maent yn para oddeutu 1 ½ awr.

• Gallwn gynnal ymweliadau ag ysgolion o ddydd Llun i ddydd Gwener ar amser sy'n addas i chi.

• Mae pecynnau adnoddau'n cynnwys oddeutu 20 o ddelweddau/copïau o ddogfennau ac yn costio £5.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Katie Millien 01792 637123. Dychwelwch eich ffurflen wedi'i chwblhau at: [email protected] neu Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN

Page 23: 4site Haf 2013

23

Mae'r Llyfrgell Ganolog yn darparu cyfle gwych i ysgolion cynradd gyflwyno disgyblion i elfennau sylfaenol defnyddio gwasanaethau llyfrgelloedd ar gyfer ymchwilio i brosiectau ysgol. Bydd staff cyfeillgar wrth law i arwain ac annog y plant i ddefnyddio cyfleusterau newydd y Llyfrgell Ganolog yn y Ganolfan Ddinesig.

Bydd y plant yn dysgu:

• sut i ymaelodi,

• sut i chwilio catalog y llyfrgell i ddod o hyd i eitemau perthnasol,

• sut i ddefnyddio adnoddau arbenigol megis papurau newydd a mapiau hanesyddol a sut i chwilio'r rhyngrwyd er mwyn defnyddio'r amrywiaeth eang o adnoddau sydd ar gael.

Bydd plant hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio tanysgrifiadau electronig i ddeunyddiau llyfrgell penodol megis Encyclopaedia Britannica Ar-lein. Yna gellir defnyddio llawer o'r adnoddau hyn gartref unwaith bydd y plentyn wedi cofrestru fel cwsmer y llyfrgell. *Bydd pob sesiwn yn para dwy awr a gellir ei theilwra i brosiect ysgol unigol ar gais. Sylwer mai dim ond hyn a hyn o le sydd ar y sesiynau a rhaid gwneud apwyntiad yn gyntaf. * Rhaid i athrawon sydd am gael sesiwn wedi'i theilwra ddweud wrth y llyfrgell o leiaf 3 wythnos cyn cynllunio ymweliad gan nodi manylion prosiect yr ysgol e.e. Y Celtiaid/y Rhufeiniaid, yr Ail Ryfel Byd, y 1960au/70au etc. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drefnu gweithdy yn y Llyfrgell Ganolog, ffoniwch y Llinell Llyfrgelloedd ar 01792 636464 neu e-bostiwch [email protected]

Llyfrgell GanologLlyfrgell GanologLlyfrgell GanologLlyfrgell Ganolog

Page 24: 4site Haf 2013

24

Castell Ystumllwynarth Castell Ystumllwynarth Castell Ystumllwynarth Castell Ystumllwynarth

Mae'r Castell Normanaidd mawreddog hwn bellach yn cynnig profiad gwell gan gynnwys ardal ymwelwyr newydd, cyfleusterau toiledau wedi'u hadnewyddu, lle arddangos a man cysgodol newydd ar gyfer grwpiau ysgol a chymunedol. Rydym yn darparu pecyn o gyfleoedd cwricwlaidd i gynnwys elfennau o'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3.

Bydd y pynciau'n cynnwys:

• Goresgyniad y Normaniaid,

• Cestyll Normanaidd: eu ffurf a'u swyddogaeth,

• Bywyd yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru

• Arglwyddi Gŵyr a Thywysogion Cymru

• Yr Amgylchedd Naturiol – defnyddio'r parcdir a'r coetiroedd o'i gwmpas ar gyfer sesiynau cyfeiriannu ac ymchwilio ac ymholi'r amgylchedd naturiol.

Fel aelod 4site, bydd ymweliad â Chastell Ystumllwynarth yn cynnwys y canlynol:

• Ymweliad ymlaen llaw am ddim i athrawon i weld y cyfleusterau a thrafod a chynllunio eich ymweliad a fydd yn cael ei deilwra i'ch anghenion.

• mynediad i adnoddau/taflenni gwaith/pecyn addysgol argraffedig ac sydd wedi'u teilwra i anghenion penodol eich cyfnod allweddol am waith ar y safle ac ar ôl ymweliad

• taith dywys am ddim i chi a dewis o weithdy Croesewir teithiau ysgol i'r castell yn ystod y tymor ac fel arfer byddant yn cynnwys sesiwn hanner diwrnod gan ddibynnu ar eich anghenion. Ar hyn o bryd, mae gennym le ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion y sesiwn yn ogystal ag athrawon a rhieni sy'n helpu. Dylid cadw lle o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn eich ymweliad er mwyn cynnwys blaenymweliad. Mae cyfleoedd hefyd i wneud hwn yn brofiad diwrnod cyfan drwy gyfuno'r ymweliad â thaith i Amgueddfa Abertawe yn y bore ac yna prynhawn yn y castell. Mae llawer o ffotograffau, gwrthrychau ac arteffactau i ymgyfarwyddo â hwy yn yr arddangosfeydd a'r storfeydd yn yr amgueddfa cyn rhoi'r rhain yn eu cyd-destun yn ystod eich prynhawn yn y castell. I gael mwy o fanylion a chadw lle ar gyfer eich ysgol, cysylltwch ag: Erika Kluge, Swyddog Cymunedol Castell Ystumllwynarth Ffôn: 01792 635409 neu e-bostiwch Erika yn [email protected]

Page 25: 4site Haf 2013

25

Cwch CymunedCwch CymunedCwch CymunedCwch Cymunedol Abertaweol Abertaweol Abertaweol Abertawe

Hanes afon Tawe yw stori Abertawe ei hun. O'r cyfnod cynnar, roedd llongau'n angori ar hyd glannau'r afon. Adeiladwyd Castell Abertawe yn y 14eg ganrif i ddiogelu'r dref a'r porthladd a oedd yn datblygu. Roedd llongau'r môr eisoes yn dilyn yr afon i'r mewndir i lwytho glo.

Byddwch hefyd yn darganfod sut roedd Mordwyo Afon Tawe wedi helpu i greu “Copropolis”, un o'r pwerdai diwydiannol mwyaf yn y byd erioed.

Wrth i'r bad hwylio, gallwch wrando ar sylwebaeth llawn gwybodaeth a gweld delweddau o'r tirlun hanesyddol. Dyma'r ffordd berffaith i astudio treftadaeth Dociau Abertawe, Mordwyo Afon Tawe ac adeiladau hanesyddol y Gweithfeydd Copr wrth iddynt aros am waith adnewyddu.

Mae'r Cwch Cymunedol wedi'i angori ar Lanfa Amgueddfa Abertawe ym Marina Abertawe. Mae gan y llong lifft mynediad i bobl â phroblemau symudedd ac mae digon o le i ddosbarth ysgol ynghyd â'r staff. Mae'r daith ar yr afon yn para oddeutu 1½ awr.

I gael mwy o fanylion a thelerau, gweler y ffurflen neilltuo lle.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.scbt.org.uk

Neu anfonwch amlen hunangyfeiriadig i: SCBT, 8 Plas Cadwgan, Penllergaer, Abertawe SA4 9AZ.

I HOLI AM NEILLTUO LLE, FFONIWCH 0797 1744 1846

Page 26: 4site Haf 2013

26

Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4----SiteSiteSiteSite

Prisiau mewn cromfachau ar gyfer aelodau 4-Site

Adnodd Newydd

Mae Abertawe a'r Blitz Tair Noson (DVD) yn adrodd stori'r dref yn dilyn cyrchoedd bomio difrodus 1941. 55 munud Pris: £8.95

Pecyn Celfyddydau a Phlanhigion Plantasia

Canllaw i Athrawon. 24 tudalen o syniadau ar gyfer celf wedi'u hysbrydoli gan y casgliadau yn Plantasia. Pris: £9.95 (ac eithrio cost y post)

Dyddiadur Mr Dillwyn

Dyddiadur Lewis Weston Dillwyn o 1817 i 1852, yn llawn sylwadau am feddygaeth, trafnidiaeth, troseddu, diwydiant, etc. Fersiwn wedi'i golygu ynghyd â nodiadau a chyflwyniad i ddisgyblion. 136 o dudalennau, 115 o luniau Pris: £7.95 (£7.15)

Stori Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Pecyn o atgofion ar ffurf lluniau, paentiadau gan Will Evans (4 mewn lliw) atgofion, mapiau a ffotograffau. Pris: £15 (£13.50)

Abertawe a'r Rhyfel.....60 mlynedd wedi hynny

Casgliad o lyfrynnau gydag atgofion lleol, gan gynnwys "Diary of Laurie Latchford, 1940-41” Roedd yntau'n warden cyrch awyr, ac mae'n disgrifio blitz Abertawe ond mae hefyd yn disgrifio natur bywyd yn y cyfnod yn dda iawn. Atgofion Elaine Kidwell, yn dwyn y teitl…“From Air Raid Warden to Land Girl". Yn 17 oed, mae'n honni mai hi oedd y warden cyrch awyr ieuengaf ym Mhrydain. Mae'n disgrifio'r cyrchoedd awyr gyda chryn deimlad ond yna mae'n sôn am ei chyfnod ym Myddin y Tir ger Hwlffordd.

Y llyfryn olaf gydag 16 o dudalennau yw "The Memories of Mike Lewis - A Port Tennant Boy at war". Cafodd Mike ei symud i Ystradgynlais yn ystod y rhyfel, ac mae'n disgrifio ei amser yno, a'i fywyd gartref, gydag asbri mawr. Hefyd, cynhwysir taflen wybodaeth am fagnelfeydd adeg y rhyfel yn y Mwmbwls a chopi o baentiad cyfoes o Abertawe yn llosgi ar 21 Chwefror, 1941, gydag atgofion yr artist pan oedd yn y Gwarchodlu Cartref. Pris: £8

Page 27: 4site Haf 2013

27

Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4----SiteSiteSiteSite

Wyth Llun o Gloddio am Lo Copïau wedi'u lamineiddio o ddarluniau cloddio am lo o'r casgliadau yn Oriel Gelf Glynn Vivian gyda digonedd o wybodaeth a nodiadau i athrawon. Pris: £7.50 (£6.75)

John Dillwyn Llewellyn, ffotograffyd arloesol Detholiad o'r ffotograffau gwych o albymau JDLl o'r 1850au, ffotograffau cynnar o deulu Oes Fictoria a mwy. Pris: £7.95 (£7.15)

Llongau a Diwydiant Pecyn o gopïau wedi'u lamineiddio o baentiadau, lluniadau, printiau a ffotograffau o'r cyfnod, yn dangos twf morwrol a diwydiannol o 1740 ymlaen....nodiadau llawn ar bob llun. Pris: Wedi'i ostwng i £6

Teganau Pecyn sy'n cynnwys 3 phoster mawr lliwgar o'n casgliad o deganau, canllaw amlinellol i'r teganau a nodiadau am hanes teganau. Pris: £9.95

Abertawe Cyn Diwydiant I.... ...y Dref a'r Cyffiniau Y castell, y strydoedd, y bryniau, y coetiroedd, y nentydd, etc. 68 o dudalennau, 62 o luniau. Pris: £6.95 (£6.25)

Abertawe Cyn Diwydiant II... Ffermio, Masnachu a Chrefftau Grawn, pobi, gwlân, lledr, marchnadoedd a ffeiriau, siopau, adeiladu, etc. 103 o dudalennau, 78 o luniau Pris: £7.95 (£7.15)

Castell Abertawe gan Bernard Morris Y disgrifiad safonol, yn llawn deunydd canoloesol defnyddiol. 108 o dudalennau 74 o luniau. Pris: £7.95 (£7.15)

Page 28: 4site Haf 2013

28

Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4Cyhoeddiadau 4----SiteSiteSiteSite

Gwaith Crochendai Cambrian a Morgannwg 1764 – 1870 Pecyn sy'n archwilio hanes crochendai Abertawe a'r bobl oedd yn gweithio ynddynt Pris: £2.50 (am ddim i ysgolion sy'n cadw lle ar gyfer 'Hanes y Crochendai’)

Fideos Wedi'u ffilmio gan Robin Hall.

Llongau a Chaneuon Môr Caneuon Môr a Baggyrinkle yn eu canu, gydag arddangosion morol ac ardal y marina'n gefndir iddynt. 20 munud. Pris: £6.00

Gwaith Copr y Graig Wen (White Rock) Datrys dirgelion y safle diwydiannol gwych hwn ger glannau'r Tawe. 25 munud. Pris: £7.00

Ymchwilio i adfeilion Castell Ystumllwynarth Yn rhoi'r castell mewn cyd-destun, yna'n ystyried ei nodweddion ar y safle. 53 munud. Pris: £8.00

Archebu I brynu unrhyw un o'r uchod, ticiwch y cyhoeddiad(au) perthnasol ac anfonwch siec gyda'ch archeb. Neu gallwn anfon archeb i'ch ysgol yn uniongyrchol - ticiwch y cyhoeddiadau perthnasol a nodwch eich enw ac enw'r ysgol/coleg ar y daflen. Sylwer os ydych yn talu â siec, gwnewch y rheiny'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe', ac anfonwch yr archeb at: Barry Hughes, Amgueddfa Abertawe, Heol Victoria, Abertawe SA1 1SN Ysgol ______________________________________________________ Amgaeaf siec Gwerth ________________ Anfoneb Cyfanswm _________________

Page 29: 4site Haf 2013

29

FfeithlenniFfeithlenniFfeithlenniFfeithlenni

Mae'r rhain yn amrywio o daflen unigol i dros 100 o dudalennau. Maent wedi'u hargraffu'n syml yn fawr gyda lluniau ar y tudalennau. Maent i gyd ar gael ar gais. Ticiwch hwy ar y dudalen hon, nodwch eich enw a'r ysgol/coleg a'i hanfon at: Barry Hughes, Amgueddfa Abertawe, Heol Victoria , SA1 1SN. Gwnewch eich sieciau'n daladwy i: Dinas a Sir Abertawe, neu gadewch i ni anfon anfoneb atoch os yw'r archeb dros £10.

Ysgol ______________________________________________________ Amgaeaf siec Gwerth ________________

Anfoneb Cyfanswm _________________

Teitl Cost Cais

Y Mymi 75c

Y Rhufeiniaid yn Abertawe a Gŵyr £1

Y Rhufeiniaid yng Ngorllewin Morgannwg £1

Y Llychlynwyr (yn ne Cymru) £1

Cymeriadau Canoloesol Abertawe: 65c

Y Normaniaid ym Mhenrhyn Gŵyr £1.95

Y Rhyfel Sifil yn ardal Abertawe £1

Melinau yn ardal Abertawe £1

Cwm Tawe Isaf

Fferi Graig Wen 20c

Perchnogion glo a glofeydd Llansamlet 50c

Sinc 75c

Gweithfeydd Copr Cynnar 75c

Gweithfeydd Copr Diweddarach 75c

Datblygiad a Dirywiad y Diwydiant Copr 75c

Tunplad £1

Y Grenfells o St.Thomas £1

Teulu Morris o Dreforys £1.20

Y Dynion Copr 75c

Mwyngloddio yn ardal Abertawe cyn 1700 £1.20

Cloddio am Lo: Y Dwyrain £1.20

Tramffyrdd a Rheilffyrdd Diwydiannol £1.20

Rheilffyrdd o amgylch Abertawe 30c

Rheilffordd Cwm Tawe 30c

Rheilffordd De Cymru 30c

Rheilffordd y Mwmbwls 30c

Badau achub (amrywiol) 10c ac 20c

Tynfadau (amrywiol) 10c ac 20c

Slymiau: iechyd cyhoeddus yn Abertawe yn y 19eg ganrif , Cyfrolau 1,2 a 3

£1.20 yr un

Crochendy Ynysmeudwy [Pontardawe] 10c

Trawst Injan Weindio Gernywaidd 10c

Lizzie yr Eliffant 30c

Dylan Thomas 30c

Page 30: 4site Haf 2013

30

AdnoddauAdnoddauAdnoddauAdnoddau

‘Abertawe a'r Ail Ryfel Byd - Stori'r Bobl’

Mae rhaglen ddogfen NEWYDD sy'n dangos atgofion personol un o gyfnodau tywyllaf yn Abertawe ar gael nawr. Dyma'r diweddaraf o raglenni dogfen poblogaidd Ail Ryfel Byd Amgueddfa Abertawe ac mae'n defnyddio gwybodaeth uniongyrchol gan dystion i nodi ymdrech y ddinas drwy'r rhyfel ac yn ystod tair noson blitz y Luftwaffe ym mis Chwefror 1941. Pris £8.95

Page 31: 4site Haf 2013

31

Cysylltwch â niCysylltwch â niCysylltwch â niCysylltwch â ni

Amgueddfa Abertawe Heol Victoria Abertawe SA1 1SN 01792 653763

Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ 01792 516900

Plantasia Parc Tawe Abertawe SA1 2AL 01792 474555

Canolfan Dylan Thomas Somerset Place Abertawe SA1 1RR 01792 463980

Llyfrgell Ganolog Abertawe Canolfan Ddinesig Heol Ystumllwynarth Abertawe SA1 3SN 01792 636464

Archifau Gorllewin Morgannwg Canolfan Ddinesig Heol Ystumllwynarth Abertawe SA1 3SN 01792 636589

Page 32: 4site Haf 2013

32

Cofrestru Ysgolion 2013/14Cofrestru Ysgolion 2013/14Cofrestru Ysgolion 2013/14Cofrestru Ysgolion 2013/14

Mae'r aelodaeth yn para o 1 Ebrill 2013 tan 31 Mawrth 2014 Rhoddir cardiau aelodaeth unwaith y derbynnir y taliad. I gymryd rhan yn yr holl weithgareddau addysgol cyffrous yn 4-Site, gofynnir i ysgolion dalu ffi cofrestru ar gyfer 2013-14 (rhestr brisiau isod). Bydd hyn yn golygu y bydd yr ysgol yn gymwys am hyfforddiant HMS am ddim yn ogystal â mynediad i holl weithgareddau 4-Site. Amgaeaf siec sy'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' - £130 Mae uchafswm o 50 o ddisgyblion yn ein hysgol - £65 Rwyf wedi penderfynu talu am bob dosbarth/ymweliad ar wahân am £35 y tro Lleoliad ein hysgol: Dinas a Sir Abertawe Castell-nedd Port Talbot Ardal Awdurdod Lleol arall

Ysgol _______________________________________________________________________

Cyfeiriad ___________________________________________________________________

___________________________________________________________________ Côd Post ___________________________________________________________________ Ffôn ________________________________________________________________________

Cyswllt __________________________________ Dyddiad _________________________ Os hoffech drafod hyn, ffoniwch 01792 653763 a gofynnwch am Barry Hughes. Dychwelwch y ffurflen at: Amgueddfa Abertawe Heol Victoria Abertawe SA1 1SN