ystadlaethau’r rali 20 19 - cffi ceredigion

19
CYSTADLAETHAU’R RALI 2019 Thema – Hwiangerddi / Nursery Rhymes Oedran Cystadlu: Mi ddylai pob aelod fod yn 26, 21, 18 neu 16 oed neu iau ar y 1af o Fedi 2018. All members should be 26, 21, 18 or 16 years of age or under on the 1st September 2018. ARDDANGOSFA FFEDERASIWN THEMA: HWIANGERDDI Tîm: Hyd at chwe aelod (26 oed neu’n iau). Dim mwy na phedwar aelod i lwyfannu a pharatoi’r arddangosfeydd. Caniateir i’r ddau aelod arall osod y ffrâm yn unig. Mesuriadau: Caniateir uchder 6' (1m 82.9 cm); lled 6' (1m 82.9 cm); dyfnder 4'6" (1m 37.1 cm) – mesuriadau allanol mwyaf (gweler y rheolau cyffredinol ynghylch arddangosfeydd nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau maint). Amser: Rhaid dod â’r Arddangosfa noson cyn y Rali rhwng 6.30yh a 9.00yh. Bydd y sied yn agor am 8.00yb ar fore’r Rali a rhaid i bob arddangosfa fod yn barod i’w feirniadu erbyn 10.00yb. Trydan: Bydd un soced drydan ar gael i bob arddangosfa, a chaniateir un wifren drydan i ddod o bob arddangosfa. Nodiadau: Dylai’r holl aelodau wisgo cotiau gwyn. Bydd clybiau sy’n cymryd rhan yn gyfrifol am labelu, a gall fod yn y Gymraeg yn unig, yn y Saesneg yn unig, neu’n ddwyieithog. Yr holl waith saernïo i’w wneud gan yr aelodau. Y cystadleuwyr sydd yn gyfrifol am holl eitemau’r arddangosfa. Pwysig: Ni chaniateir defnyddio bwyd a all bydru o gwbl. Sgorio: Dehongli’r thema - 30; Saernïaeth y Cefndir a’r Llwyfannu - 15; Saernïaeth y cynnwys - 20; Argraff Gyffredinol a Chyflwyniad - 25; Defnydd o’r lle a ganiateir - 10. Cyfanswm marciau = 100. Dylai’r timoedd gofio bydd yr arddangosfa yn cael ei gweld gan bobol o bob oedran. FEDERATION DISPLAY THEME: NURSERY RHYMES Team: Up to six members (26 years of age or under) No more than four members to stage and prepare displays. The two additional members are only permitted to erect the frame. Measurements: Space allowed 6' (1m 82.9 cm) high; 6' (1m 82.9 cm) wide; 4'6" (1m 37.1 cm) deep - maximum outside measurements (please see general rules regarding penalties for displays which do not meet the necessary size specification) Time: Displays must be brought to the site the night before between 6.30pm and 9.00pm. The shed will be open at 8.00am on the day of the Rally and all displays to be ready for judging by 10.00am. Electric: One electric socket will be available per display, and only one trailing lead allowed from the display. Notes: All members must wear white coats. Participating clubs to be responsible for all labelling, which may be in English only, Welsh only, or bilingual. All construction to be made by members. Competitors are responsible for all items on display. Important: No perishable foods allowed. Scoring: Interpretation of Theme – 30; Workmanship of Backing and Staging – 15; Workmanship of Content – 20; Overall Impression and Presentation – 25;

Upload: others

Post on 02-Feb-2022

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

CYSTADLAETHAU’R RALI 2019

Thema – Hwiangerddi / Nursery Rhymes

Oedran Cystadlu: Mi ddylai pob aelod fod yn 26, 21, 18 neu 16 oed neu iau ar y 1af o Fedi 2018. All members should be 26, 21, 18 or 16 years of age or under on the 1st September 2018.

ARDDANGOSFA FFEDERASIWN THEMA: HWIANGERDDI Tîm: Hyd at chwe aelod (26 oed neu’n iau). Dim mwy na phedwar aelod i

lwyfannu a pharatoi’r arddangosfeydd. Caniateir i’r ddau aelod arall osod y ffrâm yn unig.

Mesuriadau: Caniateir uchder 6' (1m 82.9 cm); lled 6' (1m 82.9 cm); dyfnder 4'6" (1m 37.1 cm) – mesuriadau allanol mwyaf (gweler y rheolau cyffredinol ynghylch arddangosfeydd nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau maint).

Amser: Rhaid dod â’r Arddangosfa noson cyn y Rali rhwng 6.30yh a 9.00yh. Bydd y sied yn agor am 8.00yb ar fore’r Rali a rhaid i bob arddangosfa fod yn barod i’w feirniadu erbyn 10.00yb.

Trydan: Bydd un soced drydan ar gael i bob arddangosfa, a chaniateir un wifren drydan i ddod o bob arddangosfa.

Nodiadau: Dylai’r holl aelodau wisgo cotiau gwyn. Bydd clybiau sy’n cymryd rhan yn gyfrifol am labelu, a gall fod yn y Gymraeg yn unig, yn y Saesneg yn unig, neu’n ddwyieithog. Yr holl waith saernïo i’w wneud gan yr aelodau. Y cystadleuwyr sydd yn gyfrifol am holl eitemau’r arddangosfa.

Pwysig: Ni chaniateir defnyddio bwyd a all bydru o gwbl. Sgorio: Dehongli’r thema - 30; Saernïaeth y Cefndir a’r Llwyfannu - 15; Saernïaeth y

cynnwys - 20; Argraff Gyffredinol a Chyflwyniad - 25; Defnydd o’r lle a ganiateir - 10. Cyfanswm marciau = 100.

Dylai’r timoedd gofio bydd yr arddangosfa yn cael ei gweld gan bobol o bob oedran. FEDERATION DISPLAY THEME: NURSERY RHYMES Team: Up to six members (26 years of age or under) No more than four members

to stage and prepare displays. The two additional members are only permitted to erect the frame.

Measurements: Space allowed 6' (1m 82.9 cm) high; 6' (1m 82.9 cm) wide; 4'6" (1m 37.1 cm) deep - maximum outside measurements (please see general rules regarding penalties for displays which do not meet the necessary size specification)

Time: Displays must be brought to the site the night before between 6.30pm and 9.00pm. The shed will be open at 8.00am on the day of the Rally and all displays to be ready for judging by 10.00am.

Electric: One electric socket will be available per display, and only one trailing lead allowed from the display.

Notes: All members must wear white coats. Participating clubs to be responsible for all labelling, which may be in English only, Welsh only, or bilingual. All construction to be made by members. Competitors are responsible for all items on display.

Important: No perishable foods allowed. Scoring: Interpretation of Theme – 30; Workmanship of Backing and Staging – 15;

Workmanship of Content – 20; Overall Impression and Presentation – 25;

Use of Space Allowed – 10. Total marks = 100. Teams must remember that the display should be suitable for viewing by all ages.

EITEM I GYFLEU HWIANGERDD Tîm: Dau aelod, 1 aelod 26 mlwydd oed neu iau ac 1 aelod 21 mlwydd oed neu

iau. Tasg: Bydd hi’n ofynnol i’r aelodau ddarlunio ei heitem o hwiangerdd o’i dewis a

hynny drwy unrhyw gyfrwng. Rhaid i’r aelodau gwblhau prawf ymarferol yn unol â chyfarwyddiadau y Beirniaid, i amlygu’r sgiliau a ddefnyddiwyd i greu’r eitem. Dylai aelodau ddod â deunyddiau gyda hwy yn barod ar gyfer y prawf ymarferol.

Mesuriadau: Hanner bwrdd trestl – lle gweithio i gwblhau y prawf ymarferol. Arddangos yr eitem: 60cm (hyd) x 60cm (dyfnder) x uchder anghyfynedig. Mesuriadau i gynnwys

yr eitem gyfan. Amser: Caniateir 30 munud i wneud y prawf ymarferol a 30 munud i arddangos y

gwaith gorffenedig. Dyddiad pwysig: Yr eitem yn unig i’w gyflwyno i Ganolfan Addysg Felinfach erbyn 10.00yb ar

ddydd Mercher y 29ain o Fai 2019 yn barod i’w feirniadu ar gyfer y Rali. Lle Gweithio: Hanner bwrdd trestl System farcio: Safon y darluniad – 70; Prawf ymarferol – 30; Cyfanswm marciau = 100. ITEM TO DEPICT A NURSERY RHYME Team: Two members, 1 member 26 years of age or under and 1 member 21 years

of age and under. Task: Members of the team will be required to depict a nursery rhyme of their

choice through any medium. Members must complete a practical test, as directed by the judge to showcase the skills used to create the item. All items for the practical test to be brought on the day of the competition.

Measurements: Half a trestle table – working space for practical test. Display Space: 60cm (deep) x 60cm (width) x unlimited height. Measurements are to

include whole exhibit. Important Date: Item only to be submitted by 10.00am on Wednesday 29th of May 2019 at

Felinfach Educational Centre. Work Space: Half a trestle table Time: 30 minutes allowed for the practical test and 30 minutes to display the

exhibit. Marking system: Standard of depiction – 70; Practical Test - 30; Total marks = 100.

CYSTADLEUAETH GOSOD BLODAU CYSTADLEUAETH YR AELODAU Thema: Chwedlau Tîm: Un aelod (16 oed neu iau) Tasg: Paratoi trefniant o flodau i ddarlunio chwedl o’ch dewis. Aelodau i wisgo

cotiau gwyn. Costau: Dim mwy na £30 (heb gynnwys y dail). Rhaid arddangos y costau. Arddangosfa: Gall cystadleuwyr ddefnyddio cefnfwrdd os y dymunant, ond rhaid iddynt eu

darparu eu hunain. Lle Gweithio: Hanner bwrdd trestl. Mesuriadau: Caniateir lled (76cm) x dyfnder (60cm). Dim Cyfyngder Uchder

Amser: 1 awr a 5 munud ychwanegol i sicrhau nad yw’r trefniant wedi cael eu haflonyddu wrth glirio.

System Farcio: Cyfanswm 100 o farciau - i’w beirniadu’n unol â rheolau (gweler isod) Sefydliad Cenedlaethol y Cymdeithasau Gosod Blodau (NAFAS). Gellir cael copïau o lawlyfr cystadlaethau NAFAS (trydydd rhifyn) o NAFAS Enterprises Cyf, Tŷ Osborne, 12 Sgwâr Devonshire, Llundain, EC2M 4TE. Ffôn: 02072 475567.

1. Cadw at eiriad y gystadleuaeth. 2. Y deunydd planhigion yn amlycach na’r holl elfennau eraill. 3. Deunydd planhigion sy’n ddi-nam, mewn cyflwr da ac yn briodol. 4. Dehongliad clir o’r teitl a’r thema a ddewiswyd. Dylai’r deunydd planhigion

helpu i ddehongli’r thema a ddewiswyd heb ddibynnu’n llwyr ar yr ategolion. 5. Defnydd da o egwyddorion dylunio a’r lle a ganiateir. Y defnydd o

gydbwysedd, graddfa, llinellau, lle, gwead a lliw yn cyfrannu at harmoni’r cyfanrwydd.

6. Dylai unrhyw lieiniau bwrdd a sylfeini a ddefnyddir, yn ogystal a’r cynhwysydd ac unrhyw deitl, fod mewn cyflwr perffaith, yn addas i’r thema, a ddim yn amlycach na phopeth arall o ran maint neu liw.

7. Os defnyddir ategolion dylent gytgordio’n berffaith a gweddill yr arddangosfa, a dylai maint unrhyw ategolyn fod yn briodol o ran maint o’i gymharu a’r ategolion eraill ac a’r arddangosfa.

FLORAL COMPETITION MEMBERS' COMPETITION Theme: Myths & Legends Team: One member (16 years of age or under) Task: Prepare an arrangement to depict a myth or legend of your choice.

Members to wear white coats. Costings: Not to exceed £30 (excluding Foliage). Costings to be displayed. Display: A background can be used if the competitor wishes but are to supply these

themselves. Work Space: Half a trestle table. Measurements: Size allowed (76cm) wide x (60cm) deep x unlimited height Time: 1 hour plus a further 5 minutes to check that arrangements have not been

disturbed during cleaning up operations. Marking System: Total marks 100 - to be judged according to the guidelines (outlined below)

laid down by the National Association of Flower Arrangement Societies (N.A.F.A.S.). Copies of the NAFAS Competitions Manual (third edition) may be obtained from NAFAS Enterprises Ltd, Osborne House, 12 Devonshire Square, London, EC2M 4TE. Tel: 02072475567.

1. Adherence to the competition wording. 2. Predominance of plant material over all other components. 3. Plant material that is unblemished, well conditioned and appropriate. 4. Clear interpretation of the title and chosen theme. Plant material should

help to interpret the chosen theme without the sole reliance on accessories. 5. Good use of design principles and of the space allowed. The use of balance,

scale, line, space, texture, and colour contribute to the total harmony. 6. Tablecloth and bases if used, as well as container and any title, in

immaculate condition, suitable to the theme and not dominant in size or colour.

7. Accessories if used that are in harmony with the rest of the exhibit and that are in scale with it and with each other.

CYSTADLEUAETH COGINIO CYSTADLEUAETH YR AELODAU Thema: Triawd o Fwyd Stryd. Tîm: Dau aelod (26 oed neu’n iau) Tasg: Tîm o ddau aelod i baratoi triawd o fwyd stryd i un person gan ddefnyddio

cynnyrch lleol os yn bosib. Bydd disgwyl i’r cystadleuwyr gynnwys o leiaf un pryd sawrus ac un pryd melys. Bydd yn ofynnol hefyd i aelodau lenwi holiadur hylendid bwyd yn ystod yr amser penodedig. Ni ddylai cyfanswm y costau fod yn fwy na £20.

Offer: Rhaid i bob clwb ddarparu popty trydan bychan eu hunain sydd â’r cynllun canlynol: Gril a ring drydan bychan neu bopty â ring drydan bychan neu ddwy ring yn unig. Darperir soced drydan 13amp ar gael ar gyfer unrhyw offer y bydd cystadleuwyr yn dymuno eu defnyddio, megis cymysgydd, hylifydd ac ati. Caniateir un soced ychwanegol yn unig.

Amser: Un awr ar gyfer coginio, i gynnwys gosod y pryd mewn alcof gwyn (68.5cm x 68.5cm x 61cm o uchder) (gellid gosod deunydd cefndir ac ategolion cyn i’r awr gychwyn a ni chaiff hynny ei gynnwys yn yr amser a ganiateir). Ni chaniateir coginio o flaen llaw ond gellir pwyso cynhwysion a golchi llysiau a ffrwythau o flaen llaw.

Dyddiad Pwysig: Rhaid darparu ac arddangos ryseitiau, gwaith ymchwil a thalebau erbyn y 28ain o Fai i’r Swyddfa.

Lle Gweithio: Un bwrdd trestl yn cynnwys lle ar gyfer y popty. Arddangosfa: Dylid arddangos y pryd yn yr alcof gwyn (68.5cm x 68.5cm x 61cm o uchder)

(gellir gosod unrhyw ategolion a deunydd cefndir gan y cystadleuwyr cyn i’r awr a ganiateir i’r gystadleuaeth ac ni chaiff hynny ei gynnwys yn yr amser a ganiateir). Rhaid i bob arddangosfa fod o fewn maint/lle'r alcof, yn cynnwys unrhyw orchuddion neu leinin, mewn/ar unrhyw ddysglau/cynhwysyddion (rhaid i gystadleuwyr eu darparu). Caniateir ategolion sy’n cytgordi a gweddill yr arddangosfa, a dylai maint unrhyw ategolyn fod yn addas o’i gymharu a maint yr arddangosfa a gweddill yr ategolion, ac ni ddylai ategolion fod yn amlycach na phopeth arall. Ni chaniateir unrhyw ddiodydd yn yr alcof, ac eithrio gwydrau a photeli diodydd gwag.

Sgorio: Paratoadau ymlaen llaw a chyflwyniad y bwrdd – 5; Dull o weithio – 15; Gwreiddioldeb / Addasrwydd / Ymchwilio y fwydlen – 20; Cyflwyniad/Arddangosfa - 15; Canlyniadau terfynol yr eitem a baratowyd (lliw/blas/gwead ac ati) – 35; Holiadur - 10. Cyfanswm marciau = 100.

COOKERY COMPETITION MEMBERS' COMPETITION Theme: A trio of streetfood. Team: Two members (26 years of age or under) Task: Team of two members to prepare a trio of streetfood for one person, local

produce to be used where possible. Competitors will need to include a minimum of one savoury and one sweet dish. Members will also be required to complete a food hygiene questionnaire during the specified time. Costs must not exceed £20 in total.

Equipment: All clubs to provide a small electric cooker which is operated as follows: Grill plus small ring or oven plus small ring or two rings only. A 13 amp socket will be available for any appliances that competitors may wish to use, such as a mixer, liquidiser, etc. Only one extra socket will be allowed.

Time: One hour for cooking, to include displaying of meal in the white alcove (68.5cm x 68.5cm x 61cm high) (backing material and accessories may be arranged prior to the commencement of the one hour and will be outside of this time). No cooking to be done beforehand, but ingredients may be weighed and vegetables/fruit washed beforehand. Recipes and research work must be presented and displayed.

Important Dates: All recipies, research work and receipts must be presented and displayed to the County Office by the 28th of May.

Work Space: One trestle table including cooker space. Display: Meal to be displayed in the white alcove provided (68.5cm x 68.5cm x 61cm

high) (backing material and accessories may be arranged by the competitors prior to the commencement of the one hour and will be outside of this time). All exhibits to be within the alcove size/space including any drapes or lining, in/on serving dishes/containers (competitors to supply). Accessories that are in harmony with the rest of the exhibit and that are in scale with it and each other, but not dominant, are allowed. No Drinks to be displayed in the alcove, with the exception of glasses and empty drinks bottles.

Scoring: Previous preparation & presentation of table – 5; Method of working - 15; Originality/ Suitability /Research of Menu – 20; Presentation/Display – 15; Finished results of prepared item colour/flavour/texture/etc) – 35; Questionnaire - 10. Total marks = 100.

CYSTADLEUAETH GREFFT CYSTADLEUAETH YR AELODAU Tîm: Un aelod (21 oed neu’n iau) Tasg: Creu UN Pyped unrhyw gyfrwng yn addas i blant.

Rhaid i aelodau gwblhau prawf ymarferol, yn unol â chyfarwyddiadau’r beirniad, i amlygu’r sgiliau a ddefnyddiwyd i greu’r eitem. Dylai’r aelodau ddod â deunyddiau gyda hwy yn barod ar gyfer y prawf ymarferol.

Mesuriadau: Hanner bwrdd trestl – lle gweithio i gwblhau y prawf ymarferol. Arddangos yr eitem - 45cm (hyd) x 45cm (dyfnder) x uchder anghyfyngedig. Mesuriadau i gynnwys yr eitem orffenedig.

Costau: Dim mwy nag £20 o ran cyfanswm. Dylid arddangos y costau. Sylwer: dylai’r holl eitemau a ddefnyddir fod a gwerth.

Amser: 30 munud ar gyfer y prawf ymarferol a 30 munud i arddangos yr eitem. Lle Gweithio: Hanner bwrdd trestl Dyddiad pwysig: 24ain o Fai 2019 – rhoi gwybod i’r swyddfa os am ddefnyddio soced drydan

13 amp ar gyfer teclyn trydan. Yr eitem yn unig i’w gyflwyno i Ganolfan Addysg Felinfach erbyn 10.00yb ar ddydd Mercher y 29ain o Fai 2019 yn barod i’w feirniadu ar gyfer y Rali.

Marcio: Gwreiddioldeb a dewis - 15; Cynllun – 15; Saernïaeth – 30; Cyflwyniad a golwg yr eitem orffenedig – 15; Prawf ymarferol 25. Cyfanswm marciau = 100.

CRAFT COMPETITION MEMBERS' COMPETITION Team: One member (21 years of age or under) Task: Create ONE puppet from any medium suitable for children.

Members must complete a practical test, as directed by the judge to showcase the skills used to create the item. Members should bring materials with them in readiness for the practical test.

Measurements: Half a trestle table – working space for practical test. Display Space –

45cm (deep) x 45cm (width) x unlimited height. Measurements are to include whole exhibit.

Costings: Not to exceed £20 in total. Costings to be displayed. Note: All items used should have a value.

Time: 30 minutes allowed for practical test and 30 minutes following practical test to display the exhibit.

Work Space: Half a trestle table Important Date: 24th of May 2019 – to inform the office if an electrical socket 13amp is

required. Item only to be submitted by 10.00am on Wednesday 29th of May 2019 at Felinfach Educational Centre.

Marking system: Originality and choice - 15; Design – 15; Workmanship – 30; Presentation and appearance of finished item – 15; Practical test – 25. Total marks = 100.

CNEIFIO DEFAID Tîm: Dau aelod (un 26 oed ac un 21 oed neu’n iau) Tasg: Aelodau i gneifio dau oen yr un. Sylwer: Mae’n rhaid i gystadleuwyr ddarparu eu pen cneifio eu hunain.

Rhaid i bob cystadleuydd sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth cneifio CFfI fod wedi pasio Prawf Medrusrwydd NPTC neu Wobr Glas y Bwrdd Gwlân, a gofynnir am dystiolaeth o hynny ar ddiwrnod y gystadleuaeth.

Marcio: Bydd rheolau a threfn marcio 2019 BISCA yn weithredol.

SHEEP SHEARING COMPETITION Team: Two members (one 26 and one 21 years of age or under) Task: Members to shear two lambs each. Notes: Competitors must provide their own shearing heads.

All members must have passed either a NPTC Proficiency Test or a BWMB Blue Seal in Sheep Shearing to compete in the YFC Sheep Shearing Competition, which will be checked on the day of the competition.

Marking: The BISCA Rules and marking system for 2019 will apply.

TRIN GWLAN Tîm: Un aelod (26 mlwydd oed neu iau) Tasg: Un aelod i drin dau gnu o wlân. Nodiadau: Mae cystadleuwyr yn gyfrifol am ddarparu Hysgub (brwsh) eu hunain. Marcio: Bydd rheolau a threfn marcio 2019 BISCA yn weithredol. WOOL HANDLING Team: One member (26 years of age or under) Task: One member to handle two fleeces. Notes: Competitors are responsible for supplying their own broom. Marking: The BISCA Rules and marking system for 2019 will apply.

CANU Tîm: Unigol – Un aelod (26 oed neu iau), Grŵp – hyd at 6 aelod a dim llai na 2

aelod (26 oed neu iau). Tasg: Unigol – Efelychu un o ganeuon Rhif Un yn y Siart Prydeinig neu un o

ganeuon 40 Mawr Radio Cymru. Grŵp – Perfformio cân / cymysgedd o ganeuon ‘Eurovision’ neu Cân i Gymru.

Cyfeiliant: Gall aelodau ddarparu eu hofferynnau neu gyfeiliant eu hunain (caniateir aelodau ychwanegol 26 oed neu’n iau ac un unigolyn dros 26 oed i gyfeilio). Nid oes cyfyngiad ar nifer y darnau cerddoriaeth a ddefnyddir. NI FYDD CFfI Ceredigion yn darparu piano.

Amser: Caniateir uchafswm o 5 munud ar gyfer pob adran. Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros amser - 2 farc cosb; Hyd at 30 eiliad dros amser - 5

marc cosb; Ynghyd â 5 marc ychwanegol am bob 15 eiliad ar ôl hynny. Offer: Dylai aelodau ddarparu CD/ffeil mp3 (ni chaniateir tapiau) a ddylai gynnwys

cyfeiliant yn unig (bydd technegydd sain CFfI yn gyfrifol am chwarae’r gerddoriaeth).

Dyddiad Pwysig: Dylai’r gerddoriaeth gyrraedd Swyddfa CFfI Ceredigion erbyn y 28ain o Fai, 2018, (dylid e-bostio ffeiliau mp3 at [email protected]).

System farcio: Perfformiad – 35; Llais - 35; Gwreiddioldeb - 10; Effaith Gyffredinol - 20. Cyfanswm marciau = 100.

SINGING Team: Solo - One member (26 years of age or under), Group – up to 6 singers but

no less than 2 singers (26 years of age or under). Task: Solo section – Emulate a British No. 1 / 40 Mawr Radio Cymru. Group –

Perform a song / medley from Eurovision or ‘Cân i Gymru’. Accompaniment: Members may provide their own instruments or an accompaniment

(additional members allowed (26 and under) and one individual over 26 years of age for accompaniment). There is no restriction on the number of music pieces used. Ceredigion YFC will NOT supply a piano.

Time: Maximum time allowed for each section is 5 minutes. Penalties: Up to 15 seconds overtime - 2 penalty marks; Up to 30 seconds overtime - 5

penalty marks; And a further 5 penalty marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Equipment: Members to supply the appropriate CD/mp3 files (no tapes are allowed) which should include backing vocals only (CD/mp3’s will be operated by the YFC PA technician).

Important Date: Submission of music file to Ceredigion YFC Office by 28th of May, 2019 (mp3 files to be e-mailed to [email protected])

Marking System: Performance – 35; Vocal - 35; Originality - 10; Overall Effect - 20. Total marks = 100.

DAWNSIO Tîm: Tîm o rhwng 4 ac 8 aelod (26 oed neu iau). Bydd rhaid i’r un pedwar aelod

berfformio’r ddwy ddawns. Caniateir aelodau ychwanegol (hyd at 4) i berfformio yn yr ail ddawns neu’r llall.

Tasg: 1. Perfformio dawns o Sioe Gerdd sydd wedi bod ar lwyfan neu sgrin. 2. Yna, dylai timau berfformio dawns gyferbyniol.

Lle: Darperir llwyfan 20’ x 20’. Amser: Caniateir uchafswm o 8 munud ar gyfer pob tim. Mae angen i bob tim

berfformio am isafswm o 4 munud. Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros amser – 2 farc cosb; Hyd at 30 eiliad dros amser – 5

marc cosb ynghyd â 5 marc ychwanegol am bob 15 eiliad ar ôl hynny. Offer: Bydd y technegydd sain yn gyfrifol am chwarae’r CDs/mp3. Dylai

cystadleuwyr ddarparu eu CD/mp3 eu hunain ond darperir offer sain.

Dyddiad Pwysig: Dylai’r gerddoriaeth gyrraedd Swyddfa CFfI Ceredigion erbyn yr 28ain o Fai, 2019, (dylid e-bostio ffeiliau mp3 at [email protected]).

Cyfeiliant: Gall aelodau ddarparu eu hofferynnau neu gyfeiliant eu hunain (caniateir aelodau ychwanegol 26 oed neu’n iau ac un unigolyn dros 26 oed i gyfeilio). Nid oes cyfyngiad ar nifer y darnau cerddoriaeth a ddefnyddir. NI FYDD CFfI Ceredigion yn darparu piano.

Sgorio: Dawns 1 – 50; Dawns 2 – 50; Cyfanswm marciau = 100. DANCING Team: A team of between 4 and 8 members (26 years of age or under). The same

four members must dance both dances. Additional members (up to 4) are allowed to perform in either dance.

Task: 1. Perform a dance from a Musical; be it stage or screen. 2. Teams are then to perform a contrasting style of dance.

Space: A 20’ x 20’ stage will be provided. Time: Maximum time allowed for each team is eight minutes. Minimum time

allowed for each team is four minutes. Penalties: Up to 15 seconds overtime – 2 penalty marks; Up to 30 seconds overtime – 5

penalty marks; and a further 5 marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Equipment: The PA technician will be responsible for playing all CD’s/mp3’s (no tapes are allowed). Competitors to provide their own CD’s/mp3 but PA equipment will be provided.

Important Date: Submission of music file to Ceredigion YFC Office must be made by the 28th of May 2019, (mp3 files to be e-mailed to [email protected]).

Accompaniment: Members may provide their own instruments or an accompaniment (additional members allowed (26 and under) and one individual over 26 years of age for accompaniment). There is no restriction on the number of music pieces used. Ceredigion YFC will NOT supply a piano.

Scoring: Dance 1 – 50; Dance 2 – 50; Total marks = 100. BARNU GWARTHEG DUON CYMREIG Tîm: Tri aelod (un 26, un 21 ac un 16 oed neu’n iau). Tasg: Y cystadleuwyr 26 mlwydd oed neu’n iau i osod a rhoi rhesymau ar ddau

gylch o bedwar o wartheg. Y cystadleuydd 21 mlwydd oed neu’n iau i osod dau gylch o bedwar o wartheg a rhoi rhesymau ar un cylch (penderfynir pa gylch cyn y gystadleuaeth). Y cystadleuydd 16 mlwydd oed neu’n iau i osod a rhoi rhesymau ar un cylch o bedwar o wartheg.

Sylwer: Dylid barnu pob adran yn unol a nodweddion y brîd. Amser: 15 munud i archwilio a thrin a thrafod y gwartheg. Rhesymau: Caniateir dau funud i bob cystadleuydd gyflwyno ei resymau. Cosbir

cystadleuwyr sy’n mynd dros yr amser penodedig trwy dynnu dau farc am bob pymtheg eiliad neu o ran hynny. Tynnir y marciau hyn o gyfanswm y cystadleuydd.

Dim ond cardiau sydd wedi dosbarthu gan CFfI Ceredigion y caiff aelodau eu defnyddio i ysgrifennu nodiadau.

WELSH BLACK CATTLE STOCK JUDGING Team: Three members (one 26, one 21 and one 16 years of age or under). Task: 26 years of age and under competitors to place and give reasons on two

rings of four cattle. 21 years of age and under competitors to place two rings of four cattle and give reasons on one ring (the ring to be specified prior to the competition). 16 years of age and under competitor to place and give reasons on one ring of four cattle.

Notes: All sections to be judged on breed points. Timing: 15 minutes allowed for inspection and handling. Reasons: Each competitor will be allowed two minutes to state his/her reasons.

Competitors who exceed this time limit will incur penalties at a rate of two marks for each 15 second or part thereof. The marks will be deducted from the competitor’s total.

Members may only use cards supplied by Ceredigion YFC to make notes.

CYSTADLEUAETH GWISGO ARWEINYDD/AELOD HŶN Tîm: Dau aelod (un 18 oed ac un 16 oed neu iau) Tasg: Dau aelod i wisgo Arweinydd Clwb/Aelod Hŷn fel cymeriad hwiangerdd o’u

dewis. Nodiadau: Yr holl wisgoedd i’w gwneud ar y diwrnod, felly ni chaniateir gwaith o flaen

llaw (Cosbir timau os bydd gwaith wedi’i wneud o flaen llaw ar y gwisgoedd neu os ydynt wedi’u llogi). Atgoffir aelodau ni chaniateir unrhyw ategolion megis wigiau sydd wedi’u gwneud / prynu ymlaen llaw.

Amser: Caniateir 1 awr. Sgorio: Gwreiddioldeb - 25; Gwaith Tîm - 25; Effaith Gyffredinol - 50; Cyfanswm

marciau = 100 DRESSING UP COMPETITION Team: Two members (One 18 years and one 16 years of age or under) Task: Two members to dress up a Club Leader/Senior Member as a character from

a nursery rhyme of their choice. Notes: All costumes to be made on the day and therefore no work to be

undertaken beforehand (Teams will be penalised if costumes have been made beforehand or if they have been hired). Teams are reminded that accessories such as wigs that have been made/purchased beforehand are therefore not permitted.

Time: Time allowed – 1 hour. Scoring: Originality - 25; Team Work - 25; Overall Effect - 50; Total Marks = 100 BARNU DEFAID MULE CYMREIG Tîm: Tri aelod (un 26, un 21 ac un 16 oed neu’n iau) Tasg: Y cystadleuwyr 26 oed neu’n iau i osod a rhoi rhesymau ar ddau gylch o

bedair dafad. Y cystadleuwyr 21 oed neu’n iau i osod dau gylch o bedair dafad a rhoi rhesymau ar un cylch (penderfynir pa gylch cyn y gystadleuaeth). Y cystadleuwyr 16 oed neu’n iau i osod a rhoi rhesymau ar un cylch o bedair dafad.

Sylwer: Dylid beirniadu’r defaid ar sail nodweddion y brîd. Amser: 15 munud i archwilio a thrin y defaid.

Rhesymau: Caniateir dwy funud i bob cystadleuydd gyflwyno ei resymau. Cosbir cystadleuwyr sy’n mynd dros yr amser penodedig ar sail dau farc am bob 15 eiliad neu ran o hynny. Tynnir y marciau hyn o gyfanswm y cystadleuydd.

Dim ond cardiau sydd wedi dosbarthu gan CFfI Ceredigion y caiff aelodau eu defnyddio I ysgrifennu nodiadau.

WELSH MULE SHEEP JUDGING Team: Three members (one 26, one 21 and one 16 years of age or under). Task: 26 years old and under competitors to place and give reasons on two rings

of four sheep. 21 years old and under competitor to place two rings of four sheep and give reasons on one ring (the ring to be specified prior to the competition). 16 years old and under competitor to place and give reasons on one ring of four sheep.

Notes: Sheep to be judged on breed points. Timing: 15 minutes allowed for inspection and handling of the sheep. Reasons: Each competitor will be allowed two minutes to state his/her reasons.

Competitors who exceed this time limit will incur penalties at a rate of two marks for each 15 seconds or part thereof. The marks will be deducted from the competitor’s total. Members may only use cards supplied by Ceredigion YFC to make notes.

TRO AR HWIANGERDD Tîm: Tîm o rhwng dau i chwe aelod. (26 mlwydd oed neu’n iau). Tasg: Hyd at chwech aelod i berfformio/portreadu hwiangerdd gan wneud

diweddglo gwahanol i’r un wreiddiol. Cyfeiliant: Gall aelodau ddarparu eu hofferynnau neu gyfeiliant eu hunain (caniateir

aelodau ychwanegol 26 oed neu’n iau ac un unigolyn dros 26 oed i gyfeilio). Nid oes cyfyngiad ar nifer y darnau cerddoriaeth a ddefnyddir. NI FYDD CFfI Ceredigion yn darparu piano.

Amser: Dylai’r perfformiad fod yn isafswm o 4 munud ac uchafswm o 8 munud gan gynnwys gosod a chlirio’r llwyfan.

Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros amser – 2 farc cosb Hyd at 30 eiliad dros amser – 5 marc cosb Ynghyd a 5 marc ychwanegol am bob 15 eiliad ar ôl hynny.

Offer: Caniateir traciau cefndirol. Dylai aelodau ddarparu CD/ffeil mp3 (ni chaniateir tapiau) a ddylai gynnwys cyfeiliant yn unig (bydd technegydd sain CFfI yn gyfrifol am chwarae’r gerddoriaeth). Meicroffonau – Bydd hawl gan y cystadleuwyr ddewis hyd at chwech meic llaw neu feicroffon radio.

Dyddiad Pwysig: Dylai’r gerddoriaeth gyrraedd Swyddfa CFfI Ceredigion erbyn yr 28ain o Fai, 2019, (dylid e-bostio ffeiliau mp3 at [email protected]).

Sgorio: Perfformiad – 50; Gwisgoedd a Set – 30; Effaith Gyffredinol – 20; Cyfanswm marciau = 100.

A TWIST ON A NURSERY RHYME Team: Team of between two and six members. (26 years of age and under). Task: Team of up to six members to perform/portray a nursery rhyme with a

different ending to the original. Accompaniment: Members may provide their own instruments or an accompaniment

(additional members allowed (26 and under) and one individual over 26

years of age for accompaniment). There is no restriction on the number of music pieces used. Ceredigion YFC will NOT supply a piano.

Time: The performance should be a minimum of 4 minutes and a maximum of 8 minutes including the setting and clearing of the stage.

Time Penalties: Up to 15 seconds overtime - 2 penalty marks; Up to 30 seconds overtime - 5 penalty marks; And a further 5 penalty marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Equipment: Backing tracks / sounds are allowed. Members to supply the appropriate CD/mp3 files (no tapes are allowed) which should include backing vocals only (CD/mp3’s will be operated by the YFC PA technician). Microphones – competitors will have the choice of upto six hand held radio mics or headset radio mics.

Important Date: Submission of music file to Ceredigion YFC Office by 28th of May, 2019 (mp3 files to be e-mailed to [email protected])

Scoring: Performance – 50; Set and Costumes – 30; Overall Effect – 20; Total Marks = 100.

SIOE FFASIWN Tîm: Tri aelod (un 26 a dau aelod 21 oed neu iau). Tasg: Addasu dau wisg ar gyfer dawns tylwyth teg, un wisg i ferch/dynes a’r wisg

arall i fachgen/dyn. Caniateir i’r aelodau i brynu’r dillad /eitemau o siop elusen; a’u haddasu mewn unrhyw gyfrwng. Bydd yn ofynnol i un aelod o’r tîm i wneud sylwebaeth fyw drwy’r Sioe Ffasiwn. Bydd darpariaeth o un meicroffôn ar gael a chaniateir cerddoriaeth fod yn rhan o’r Sioe Ffasiwn. Ni chaniateir defnydd o Mood-board.

Costau: Ni ddylid gwario mwy na £25 ar y dillad o siop elusen (dylid cyflwyno talebau). Ni ddylid gwario mwy na £15 ar yr addasiadau (dylid cyflwyno talebau). Uchaswm y gyllideb yw £40.

Offer: Caniateir cerddoriaeth a bydd technegydd y CFfI yn gyfrifol am chwarae pob CD/ffeilMP3. Dylai cystadleuwyr ddarparu eu CDs a’u ffeiliau MP3 eu hunain.

Amser: Uchafswm o 5 munud i bob tîm. Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros yr amser a ganiateir – 2 farc cosb; hyd at 30 eiliad dros

yr amser a ganiateir – 5 marc cosb; ynghyd â 5 marc ychwanegol am bob 15 eiliad ar ben hynny.

Sgorio: Addasrwydd i wisg y bachgen – 25; Addasrwydd i wisg y ferch – 25; Sylwebaeth – 15; Modelu – 15; Cyflwyniad Cyffredinol – 20; Cyfanswm marciau = 100.

FASHION PARADE Team: Three members (one 26 and two 21 years and under). Task: Customise two costumes for a Fairytale Ball, one female costume and one

male costume. Items purchased from a charity shop are allowed; customisation allowed using any medium. One member of the team to do a live commentary during the fashion show. One microphone will be available. Music will be allowed to accompany the fashion show. Mood-boards are not permitted.

Costings: No more than £25 to be spent on charity shop clothing (receipts to be presented). The budget for the customisation should not exceed £15 (receipts to be presented). Maximum total budget - £40.

Time: Maximum of 5 minutes

Penalties: Up to 15 seconds overtime/undertime – 2 penalty marks; up to 30 seconds overtime – 5 penalty marks; a further 5 penalty marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Scoring: Customised Male outfit – 25; Customised female outfit – 25; Commentary – 15; Modelling – 15; Overall presentation – 20. Total marks = 100.

GWAITH COED Tîm: Dau aelod (26 oed neu’n iau) Tasg: Creu Ffynnon Gofuned

Amser: Caniateir 2 awr i gwblhau’r dasg. Offer: Mae’n rhaid i’r cystadleuwyr ddarparu eu hoffer eu hunain. Ni chaniateir

defnyddio llif gadwyn. Caniateir driliau batri a “impact screw drivers” ond ni chaniateir unrhyw offer batri arall. Ni chaniateir unrhyw atodyn i’r dril. Ni chaniatier defnyddio gynnau hoelion na gynnau styffylu. Gall cystadleuwyr ddefnyddio un darn o ddeunydd pren (ac ni ellir ei dorri ymlaen llaw), gwaith haearn, rhaff a phaent ond rhaid i’r cystadleuwyr ddarparu’r rhain. Ni chaniateir defnyddio unrhyw ategolion eraill.

Deunydd: Bydd y Sir yn darparu y deunyddiau canlynol: 4 darn 6x1 (150x22mm) Pren wedi’u drin 4.8m 2 darn 2x2 (50x47mm) Pren wedi’u drin 4.8m 2 darn 3x3 (75x75mm) Pren wedi’u drin 1.8m Dylai cystadleuwyr ddod â’u hoelion a’u sgriwiau eu hunain.

Sgorio: Ansawdd y gwaith, cadernid y fframwaith a’r cynllun – 60; Gwaith tîm -10; Gweithio’n ddiogel – 10; Gwreiddioldeb – 10; Addasrwydd yr eitem -10; Cyfanswm marciau: 100

WOODWORK Team: Two members (26 years of age or under) Task: To make a Wishing Well. Time: 2 hours is allowed to complete the task. Equipment: Competitors must supply their own tools. Chainsaws will not be allowed.

Only battery powered drills and impact screw drivers will be allowed no other battery operated tools are allowed. No extra attachments on the drill are allowed. No nail guns allowed. No staple guns. Competitiors may use a single piece of board material (that cannot be pre cut), iron-mongery, rope and paint may be used but these must be supplied by the competitor. No other accessories permitted.

Materials: The County will supply the following materials: 4 lengths 6x1 (150x22mm) Treated Timber 4.8m 2 lengths 2x2 (50x47mm) Treated Timber 4.8m 2 lengths 3x3 (75x75mm) Treated Timber 1.8m Competitors will be required to bring their own nails, screws and fixings.

Scoring: Quality of workmanship, structural soundness and design - 60, Team work - 10, Safeworking - 10, Orginality - 10, Fit for purpose - 10. Total marks: 100.

PALET WEDI EI AILGYLCHU Tim: Dau aelod (un 21 oed ac un 18 oed neu’n iau). Tasg: Bydd dwy balet Ewropeaidd yn cael eu darparu i bob tîm a byddant yn

datgymalu ac yn gwneud eitem o'u dewis yn yr amser penodol. Defnyddiwch y mwyafrif o'r pren i greu eich adeiladwaith.

Amser: Caniater 2 awr i gwblhau’r dasg, i gynnwys datgymalu’r balet. Offer: Rhaid i’r cystadleuwyr ddarparu eu hoffer eu hunain. Ni chaniateir llifiau

cadwyn, gynnau hoelio na gynnau styffylu. Caniateir driliau sy’n rhedeg ar fatri a ‘screwdriver’ trydanol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ategolion ychwanegol ar y dril. Gellir defnyddio sgriwiau a/neu folltau ond rhaid i’r cystadleuwyr ddarparu’r rhain.

Nodiadau: Rhaid i’r ddau aelod gwisgo dillad diogelwch addas. Caniateir defnyddio templed.

System Marcio: Cynllun – 30; Adeiladwaith – 30; Estheteg a golwg yr eitem orffenedig – 30; Rheolaeth amser – 10; Cyfanswm marciau: 100

PALLET RECYCLING Team: Two members (one 21 and one 18 years of age or under). Task: Each team will be supplied with two European Pallets which they are to

dismantle and make into an item of their choice in the specific time. The majority of the wood to be used in the construction.

Time: 2 hours is allowed to complete the task, to include dismanting the pallet. Equipment: Competitors must supply their own tools. Chainsaws, nail guns or staple

guns will not be allowed. Only battery powered drills and impact drivers will be allowed. No extra attachments on the drill are allowed. Screws and\or bolts may be used but these must be supplied by the competitors.

Notes: Both team members must wear suitable protective clothing. Templates are allowed.

Marking system: Design – 30; Construction – 30; Finish and Aesthetics of finished item – 30; Time Management – 10; Total marks: 100

GÊM YR OESOEDD Tîm: Dau aelod (18 oed neu’n iau) Thema: Hwiangerddi a Chwedlau. Tasg: Gofynnir i’r cystadleuwyr, yn unigol neu fel tîm, i wneud/perfformio tasg o

fewn amser penodol, ar lwyfan y C.Ff.I., fel a ddangosir gan y beirniad ar y diwrnod.

Nodiadau: Bydd C.Ff.I. Ceredigion yn darparu’r holl offer. Sgorio: Cyfanswm marciau = 100. GENERATION GAME Team: Two members (18 years of age or under) Theme: Myths, Legends & Nursery Rhymes Task: Competitors will be required, individually or as a team, to

complete/perform a task on the Y.F.C. stage in a given amount of time as demonstrated by the judge on the day.

Notes: Ceredigion Y.F.C. will supply all equipment. Scoring: Total marks = 100. BARNU MERLOD MYNYDD CYMREIG ADRAN A Tîm: Tri aelod (un 26, un 21 ac un 16 oed neu iau) Tasg: Y cystadleuwyr 26 oed neu iau i osod a rhoi rhesymau ar ddau gylch o bedair

merlen. Y cystadleuwyr 21 oed neu iau i osod dau gylch o bedair merlen a rhoi rhesymau ar un cylch (penderfynir pa gylch cyn y gystadleuaeth). Y

cystadleuwyr 16 oed neu iau i osod a rhoi rhesymau ar un cylch o bedair merlen.

Sylwer: Dylid beirniadu’r merlod ar sail nodweddion y brîd. Amser: 15 munud i archwilio a thrin y merlod. Rhesymau: Caniateir dau funud i bob cystadleuydd gyflwyno ei resymau. Cosbir

cystadleuwyr sy’n mynd dros yr amser penodedig ar sail dau farc am bob pymtheg eiliad neu ran o hynny. Tynnir y marciau hyn o gyfanswm y cystadleuydd. Dim ond cardiau a ddarperir gan C.Ff.I. Ceredigion caiff aelodau eu defnyddio i ysgrifennu nodiadau.

SECTION A WELSH MOUNTAIN PONIES STOCK JUDGING Team: Three members (one 26, one 21 and one 16 years of age or under). Task: 26 years of age and under competitor to place and give reasons on two rings

of four ponies. 21 years of age and under competitor to place two rings of four ponies and give reasons on one ring (the ring to be specified prior to the competition). 16 years of age and under competitor to place and give reasons on one ring of four ponies.

Notes: Ponies to be judged on Breed Points. Timing: 15 minutes allowed for inspection and handling of the ponies. Reasons: Each competitor will be allowed two minutes to state his/her reasons.

Competitors who exceed this time limit will incur penalties at a rate of two marks for each 15 seconds or part there of. The marks will be deducted from the competitor’s total.

Members may only use cards supplied by Ceredigion YFC to make notes.

RAS RHWYSTR DALL Tîm: Dau aelod (un 26 ac un 18 oed neu’n iau). Tasg: Y ddau aelod i wisgo fyny fel deuawd tylwyth teg. Bydd un aelod a mwgwd

dros ei lygaid, yna’n cael ei gyfeirio drwy’r cwrs rhwystr drwy gyfarwyddiadau yr ail aelod yn unig.

Amseru: Caiff y cystadleuwyr 5 munud i gwblhau’r cwrs. Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros yr amser a ganiateir – 2 farc cosb; hyd at 30 eiliad dros

yr amser a ganiateir – 5 marc cosb; a thynnir 5 marc cosb am bob 15 eiliad ar ben hynny.

System marcio: Mordwyo’r cwrs – 70; Gwisgoedd - 30; Cyfanswm marciau: 100 BLINDFOLDED OBSTACLE RACE Team: Two members (one 26 and one 18 years of age or under). Task: Both members to be dressed as a fairytale duo. One member of the team to

be blindfolded and directed through an obstacle course by the second team member.

Timing: 5 minutes will be allowed to complete the course. Time Penalties: Up to 15 seconds overtime – 2 penalty marks; up o 30 seconds overtime – 5

penalty marks; a further 5 penalty marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Marking system: Navigation of the course – 70; Costumes - 30; Total marks: 100.

ARDDANGOSFA PRIF GYLCH ARDDANGOSFA ADLONIANT I BLANT Tîm: Tîm o hyd at 10 aelod (26 oed neu iau). Tasg: Bydd yn ofynnol i’r aelodau oll i bortreadu arddangosfa adloniant i blant. Un

aelod 26 oed neu iau i wneud sylwebaeth fyw yn cyflwyno eu harddangosfa. Amser: Caniateir hyd at 5 munud i’r arddangosfa. Cosbau: Hyd at 15 eiliad dros yr amser a ganiateir – 2 farc cosb; hyd at 30 eiliad dros

yr amser a ganiateir – 5 marc cosb; ynghyd â 5 marc ychwanegol am bob 15 eiliad ar ben hynny.

Nodiadau: Caniateir 1 meic yn unig. Dyddiad Pwysig: Dylai unrhyw gerddoriaeth a’r sylwebaeth gyrraedd Swyddfa CFfI Ceredigion

erbyn yr 28ain o Fai, 2019, (dylid e-bostio ffeiliau mp3 at [email protected] a mi fydd technegydd sain C.Ff.I. yn gyfrifol am chwarae’r gerddoriaeth).

System marcio: Perfformiad – 20; Gwreiddioldeb – 30; Gwisgoedd – 10; Sylwebaeth – 20; Effaith gyffredinol - 20; Cyfanswm marciau: 100.

MAIN RING DISPLAY CHILDREN’S ENTERTAINMENT DISPLAY. Team: Team of up to 10 members (26 years of age or under). Task: All members of the team to portray a children’s entertainment display. One

member 26 years of age or under to do a live commentary introducing their display.

Timing: Maximum time allowed for the display is 5 minutes. Penalties: Up to 15 seconds overtime – 2 penalty marks

Up to 30 seconds overtime – 5 penalty marks A further 5 penalty marks will be deducted for every 15 seconds thereafter.

Notes: One handheld mic will be supplied. Important Date: Submission of commentary and any music files to Ceredigion YFC Office

must be made by the 28th of May 2019, (mp3 files to be e-mailed to [email protected] and the Y.F.C. sound technician will be responsible for playing the music).

Scoring: Performance – 20; Originality – 30; Costume – 10; Commentary – 20; Overall Effect – 20. Total marks = 100.

TABLO THEMA: HWIANGERDDI Tîm: Hyd at 10 aelod (deg aelod 26 oed neu iau) Caniateir 2 berson dros oedran

cystadlu i gynorthwyo i’w adeiladu. Y Dasg: Arddangosfa ar y thema uchod ar ffurf ‘Tablo’ i gyfleu ‘Hwiangerddi’, o

ddeunyddiau a dull o’u dewis eu hunain. Perfformiad ‘statig’ ar lawr – caniateir cerddoriaeth ond dim sylwebaeth o gwbl boed yn fyw neu ar dâp.

Mesuriadau: Uchafswm yr arddangosfa bydd 8m x 8m a 12 troedfedd o uchder. System Farcio: Dehongli’r thema – 40; Crefftwaith – 40; Effaith gyffredinol – 20; Cyfanswm

marciau = 100.

TABLEAU THEME: NURSERY RHYMES Team: Up to 10 Members (ten members 26 year old and under) An additional 2

persons over-age are allowed to assist in building the tableau. Task: Display depicting the above theme in ‘Tableau’ theme to depict ‘Nursery

Rhymes’ using their own method and materials. Static performance on floor – music is allowed but no commentary on tape or live will be allowed.

Measurements: Maximum size is 8m x 8m and 12ft high. Marking System: Depicting the theme – 40; Craft work - 40; Overall Effect – 20: Total marks = 100. TYNNU’R GELYN BECHGYN A MERCHED Tîm: 1 Tîm o wyth aelod. Ni chaniateir mwy na dau (2) aelod o’r tîm i fod rhwng 15 a 17 mlwydd oed ar y 1af o Fedi 2018. RHAID i weddill y tîm fod rhwng 17 oed a hŷn ac yn 26 oed neu iau ar y 1af o Fedi 2018. Dylai’r holl gystadleuwyr fod yn aelodau llawn o glwb sy’n gysylltiedig gyda Ff.C.C.Ff.I. /C.Ff.I. Cymru. Ni allwch gystadlu i fwy nag un clwb a sir o fewn un flwyddyn aelodaeth. Un tîm o fechgyn ac un tîm o ferched. Caniateir eilyddion gweler rheolau Ff.C.C.Ff.I. Nodiadau: Bydd rheolau Ff.C.C.Ff.I. 2019 yn weithredol, yn unol â chanllawiau Cymdeithas Tynnu’r Gelyn. Pwysau - 680kg dynion, 560kg merched. Aelodau i wisgo crysau o’r un lliw. Ni ddylid ‘ffugio’ esgidiau’r cystadleuwyr mewn unrhyw ffordd h.y dylai’r wadn, y sawdl, ac ochr y sawdl fod yn wastad â’i gilydd. Ni chaniateir blaenau esgidiau metel neu blatiau metel ar flaen yr esgidiau. Caniateir platiau metel sy’n wastad ag ochr a gwaelod y sawdl yn unig. Mae gan y beirniad yr hawl a’r cyfrifoldeb i ddiarddel tîm / timau heb rybudd os byddant yn torri rheolau. Os bydd amser yn caniatáu, trefnir cystadlaethau’r bechgyn a merched fel cynghrair, fel arall cynhelir cystadleuaeth ddileu. MALE AND FEMALE TUG-OF-WAR Team: A team shall consist of eight pulling members. No more than two (2) members of a team shall be between the ages of 15 and 17 years on 1 September 2018 and the remainder of the team MUST be between 17 years of age and 26 years of age & under on 1 September 2018. And all competitors must be full members of a Club affiliated to N.F.Y.F.C. / Wales Y.F.C. You cannot compete for more than one club and county in one membership year. One male and one female team. Substitutions are allowed please refer to the N.F.Y.F.C. Rules. Notes: The 2019 N.F.Y.F.C. Tug-of-War Rules shall apply as set by the ToWA. Weights - 680 kg Men; 560 kg Ladies. Members to wear the same colour shirt/jerseys. Competitors' boots or shoes must not be `faked' in any way, i.e. the sole, heel and side of the heel shall be perfectly flush. No metal toecaps or metal toe plates are permitted. Metal heel tips that are flush on the side and the bottom of the heel are permitted. The judge(s) has/have the power and responsibility to disqualify a team or teams after a caution or disqualify without caution for any offence against the rules. Both sections will be run on a league basis if time allows otherwise they will be run on a knockout basis. TYNNU’R GELYN – IAU Tîm: Bydd tîm yn cynnwys 7-10 aelod a all dynnu, naill ai dynion neu ferched, a dylent fod yn 12 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y gystadleuaeth ac 17 oed neu iau ar y 1af o Fedi 2018. Mae hyn yn golygu fod RHAID i aelodau wedi cael eu pen-blwydd yn 12 ar ddiwrnod y gystadleuaeth a gallant fod yn 18 ar ddiwrnod y gystadleuaeth. (Ni allwch gystadlu i fwy nag un clwb a sir o fewn un flwyddyn aelodaeth). Caniateir eilyddion gweler rheolau Ff.C.C.Ff.I. Dylai’r holl gystadleuwyr fod yn aelodau llawn o glwb sy’n gysylltiedig gyda Ff.C.C.Ff.I. /C.Ff.I. Cymru. Nodiadau: Bydd rheolau Ff.C.C.Ff.I. 2019 yn weithredol, yn unol â chanllawiau Cymdeithas Tynnu’r Gelyn. Pwysir aelodau’r tîm gyda’i gilydd ac ni fyddant yn pwyso mwy na:-

560 kg Rheolau GENSB. Bydd cynnwys merched mewn tîm yn rhoi bonws o 10kg am bob merch, hyd at uchafswm o 600kg. Aelodau i wisgo crysiau o’r un lliw. Ni ddylid ‘ffugio’ esgidiau’r cystadleuwyr mewn unrhyw ffordd h.y dylai’r wadn, y sawdl, ac ochr y sawdl fod yn wastad a’i gilydd. Ni chaniateir blaenau esgidiau metel neu blatiau metel ar flaen yr esgidiau. Caniateir platiau metel sy’n wastad ag ochr a gwaelod y sawdl yn unig. Mae gan y beirniad yr hawl a’r cyfrifoldeb i ddiarddel tîm / timau heb rybudd os ydynt yn torri rheolau. DYSGWYR A HYFFORDDWYR – Ond un hyfforddwr sydd â hawl i fod gyda tîm yn ystod y tynnu. Caniateir un “Dyn Dŵr” yn unig ar gyfer pob tîm. Yn ystod y tynnu rhaid i’r “Dyn Dwr” gadw draw oddi wrth y ddau dîm a nid oes ganddo/ganddi hawl i ddweud dim wrthynt yn ystod y tynnu. JUNIOR TUG-OF-WAR Team: A team shall consist of between 7 and 10 pulling members male or female who must be 12 years of age and over on the day of the competition and 17 years and under on 1st September 2018. (This means competitors MUST have attained their 12th birthday on the 1st of September 2018 and may be 18 on the day of the competition. (You cannot compete for more than one club and county in one membership year.) Substitues are allowed please see NFYFC rules. And all competitors must be full members of a Club affiliated to N.F.Y.F.C. / Wales YFC. Notes: The 2019 N.F.Y.F.C. Tug-of-War rules shall apply as set by the ToWA. The members of the team will be weighed as one and will not exceed:- 560 kg GENSB rules. ‘Lining up women in the team will give a bonus of 10 kg for each on the weight allowance, limited to a maximum team weight of 600 kg'. Members to wear the same colour shirt/jerseys. Competitors' boots or shoes must not be `faked' in any way, i.e. the sole, heel and side of the heel shall be perfectly flush. No metal toecaps or metal toe plates are permitted. Metal heel tips that are flush on the side and the bottom of the heel are permitted. The judge(s) has/have the power and responsibility to disqualify a team or teams after a caution or disqualify without caution for any offence against the rules. COACHES AND TRAINERS Only one Coach is permitted with each team during pulling. Only one Trainer or “Water Carrier” is permitted with each team. During pulling the Trainer shall take up position well clear of both teams and is not permitted to address any remark to them during actual pulling.

RHEOLAU’R RALI / RALLY RULES

1. Dylai’r cystadleuwyr wisgo rhif eu Clwb ym mhob cystadleuaeth, a chotiau gwynion yn y

cystadlaethau canlynol:- Barnu Gwartheg Duon Cymreig, Barnu Defaid Mule Cymreig,

Barnu Merlod Mynydd Cymreig Adran A, Arddangosfa Ffederasiwn, Eitem i Gyfleu

Hwiangerdd, Coginio, Crefft, Gosod Blodau, Gwisgo i Fyny a Gêm yr Oesoedd.

Competitors should wear their Club numbers in all competitions, and white coats in the

following:- Welsh Black Cattle Judging, Welsh Mule Sheep Judging, Section A Welsh

Mountain Pony Judging, Federation Display, An Item To Depict a Nursery Rhyme,

Cookery, Craft, Floral, Dressing up and Generation Game.

2. Cystadlaethau Gorfodol

1. Cystadleuaeth yr Aelodau

2. Arddangosfa Ffederasiwn NEU Eitem i Gyfleu Hwiangerdd

3. Barnu Gwartheg Duon Cymreig, Barnu Defaid Mule Cymreig neu Barnu Merlod

Mynydd Cymreig Adran A

4. Arddangosfa’r Prif Gylch neu Tablo

Compulsory Competitions

1. Members Competition

2. Federation Display OR An Item To Depict a Nursery Rhyme

3. Welsh Black Cattle Judging, Welsh Mule Sheep Judging or Section A Welsh Mountain

Pony Judging

4. Main Ring Display or the Tableau

3. Gall aelod gymryd rhan mewn unrhyw ddwy gystadleuaeth ac Arddangosfa Prif Gylch

neu’r Tablo.

A member may take part in any two competitions and Main Ring Display or the Tableau.

4. Ni chaniateir i glwb gystadlu mewn mwy nag wyth cystadleuaeth, ond caniateir i glybiau

gystadlu mewn llai.

No Club will be allowed to compete in more than eight competitions, but clubs may compete

in less.

5. Arddangosir marciau pob cystadleuaeth mewn man cyhoeddus ar wahan i’r dair

cystadleuaeth olaf. Yn dilyn cyhoeddi marciau terfynol y Rali arddangosir marciau’r

cystadlaethau yma ynghyd â’r marciau terfynol.

Marks for all competitions will be publicly displayed, with the exception of the last three

competitions. Following the announcement of the final Rally Marks, these marks will be

displayed along with the final marks.

6. Os digwydd i ddau glwb fod yn gydradd gyntaf ar ddiwedd y dydd, dylid rhoi enw’r ddau

glwb ar Gwpan y Rali, ond dylid cynnal y Rali y flwyddyn canlynol gyda’r clwb a gafodd y

nifer fwyaf o wobrau cyntaf yn ystod y dydd.

If two Clubs should be joint first at the end of the day, the names of both Clubs should be

engraved on the Rally Cup, but the Rally the following year should be held by the Club

which gained the highest number of first places during the day

7. Argymhellir bod pob clwb yn dilyn rheolau Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod popeth a

ddefnyddir ganddynt yn y Rali yn ddiogel ac yn saff.

It is advisable that every Club adheres to Health and Safety regulations and ensure that

everything used by them in the Rally is safe.

RHEOLAU CYFFREDINOL CEREDIGION GENERAL RULES

1. Rhaid i bob cystadleuydd fod yn aelod llawn o’r Mudiad erbyn y dyddiad

cau, ac o dan yr oedran priodol ar y 1af o Fedi 2018.

All competitors should be a full member of the Movement by the closing date, and under

the appropriate age on the 1st of September 2018.

2. Rhaid i’r cystadleuwyr ddangos eu Cardiau Aelodaeth neu codir dirwy o £5.

Competitors must show their Membership Cards or pay a fine of £5.

3. Ni chaniateir i aelodau gystadlu o dan ddylanwad y diod feddwol neu chyffuriau.

Members are not allowed to compete under the influence of alcohol or drugs.

4. Rhaid i’r aelodau ddilyn y rheolau a osodir ar gyfer pob cystadleuaeth.

Members must follow the rules laid down for each competition.

5. Os torrir unrhyw reol, hanerir marciau terfynol y gystadleuaeth. Hysbysir y

cystadleuwyr o hyn yn syth.

If any rule is broken, the final marks for the competition will be halved. The

Competitor will be informed of this immediately.

6. Amser (rheol cyffredinol) – Cosbir clybiau sy’n mynd dros yr amser penodedig ar raddfa

o ddau farc am bob 15 eiliad neu o ran hynny os na nodir yn wahanol yn rheol y

gystadleuaeth.

Time (general rule) – Clubs who exceed the time limit will incur penalties at a rate of

two marks for each 15 second or part thereof unless noted diffrenetly in the competition

rules.

7. Mae dyfarniad y beirniad yn derfynol.

The judge’s decision is final.

8. Dylid rhoi unrhyw gwyn swyddogol drwy Gadeirydd y Clwb, yn ysgrifenedig i’r

Trefnydd Sir o fewn hanner awr i’r gystadleuaeth orffen gyda blaendâl o £20 (ad-delir y

swm yma os profir fod sylfaen i’r gwyn). Bydd y Trefnydd Sir yn galw ar Gadeirydd a

Llywydd y Sir a Chadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chyllid y Sir i drafod y gwyn. Os na

fydd y Swyddogion yma’n bresennol gelwir ar yr is Swyddogion. Hysbysir Cadeirydd y

Clwb o’r canlyniad yn syth.

An official complaint should be handed by the Club Chairman, in writing, to the County

Officer within half an hour of the end of competition, along with a deposit of £20 (this

will be repaid if the objection is upheld). The County Officer will call on the County

Chairman and President and the Chairman of the Management and Finance Committee

to discuss the complaint. If these Officials are not available the Vice Officials will be

called. The Club Chairman will be informed of the decision immediately.