yn sicr nid ‘ sentars sychion ! - parhad - annibynwyr.org yn hanes y ddwy eglwys, mae cylchlythyr...
TRANSCRIPT
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 20, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Yn sicr nid ‘Sentars Sychion! - parhad Buddsoddi Cyfoes
A’r neges gawsom, a’i ddeall gobeithio, ywbod buddsoddi mewn offer a defnyddiocyfryngau cymdeithasol yn fodd i hwylusoa hybu cenhadaeth yr eglwysi. Pa fforddwell i hysbysu ein gweithgarwch narhwydweithio trwy Drydar, ‘Facebook’ adosbarthu e-fwletinau? Ond, yn hanes yddwy eglwys, mae cylchlythyr neugylchgrawn ar bapur hefyd i adrodd storïaua rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau.I’r sawl sy’n derbyn y fisol fersiwnelectronig o Bapur y Priordy, o wybod amei gynnwys, nid syndod oedd clywed bodyna dîm a bwrdd golygyddol yn gyfrifolam ei gynhyrchu a’i ddosbarthu. Cyfrinacharlwy’r digwyddiadau ydi cynnigamrywiaeth, yn farbeciw neu bererindodyn yr haf i gynnal dosbarth Beiblaidd neugrŵp trafod ‘Y Ffordd’, gan fentro, ynhanes eglwysi’r dref i’w cynnal yngnghanolfan gyfoes Gymraeg Yr Atom gangael gweinidogion ac eglwysi ynghyd ac igydweithio.
Ymestyn Allan
A gorau oll os gall eglwysi rwydweithioym mywyd sefydliadau a digwyddiadaucyhoeddus tref a phentref. Dyna mae PIPS,sef Pobl Ifanc Priordy, yn ei wneud.Ymestyn allan trwy ymweld â gwahanolsefydliadau yn y dref a’r cylch, cynnaloedfa a rhannu adloniant ar RadioGlangwili ac mewn ambell gartref henoed,ymweld â siambr y Cyngor Sir aPhencadlys yr Heddlu. Clywsom sut ydefnyddiwyd pabell fawr y ‘Big Top’ igynnal addoliad pan ymwelodd y syrcas âpharc y dref yng Nghaerfyrddin, gyda’rperchennog a’i staff yn fwy na pharod i’wrannu’n llawen i’r pwrpas, a’u bod wediymuno yn yr addoliad; heb sôn am y fuwch
blastig ymwelodd â’r oedfa un bore Sul!Ac wrth feddwl am les eraill, casglu ynfisol, nid arian yn unig, ond nwyddau, ynfwyd, dillad, a sbectol ac ati i leddfuanghenion drwy helpu elusennaugwahanol. A sicrhau bod gan bob aelod
yn yr eglwys gyfrifoldeb, boed ynddarllen ar y Sul, darparu blodau, paratoibwrdd y Cymun, rhannu yng ngwaith yplant a’r bobl ifanc neu beth bynnag. Dynameddai Beti-Wyn ydy’r nod, a chaelrhaglen gydag elfen o newydd-debgwastadol yn perthyn iddi. Ac wrth feddwlam y gwaith nid syndod oedd gweld ycartŵn o’r diacon yn crafu ei ben a’rchwys yn tasgu ohono!
Crist yn y canol
Os ydym am gael eglwysi sy’n tystiomae’n rhaid cael eglwysi sy’n gweithio achymdeithasu, gan wledda a mwynhau felsy’n cael ei gyfleu ym mywyd adysgeidiaeth Iesu. Ac yn greiddiol i’r cyfanbob amser, fel y’n hatgoffwyd, rhaidsicrhau mai Crist sydd yn y canol, yn caely clod ym mhob dim, enw’r Iesu’n cael eiddyrchafu, ei gymorth yn cael ei ddeisyfmewn gweddi a Newyddion Da ei Efengylyn cael ei daenu ar led.
Roedd y gwrando a’r gwylio ynhyfrydwch a chawsom gryn ysbrydoliaethtrwy’r storïau. Nid rhyfedd bod yr ysbrydwedyn wedi bod mor orfoleddus yngnghwmni chwiorydd a chyfeillion Libanuswrth i ni wledda a chloncian yn llawen ar ydiwrnod. Cawsom ymweliad ac arweiniadna ellid ei well i raglen Cwrdd Chwarter, amawr oedd ein diolch i Beti-Wyn ac Alun.
Emyr Gwyn Evans
Ysgrifennydd y Cyfundeb
Wedi 195 mlynedd odystiolaeth Gristnogolyn ucheldir amaeth-yddol Pencaenewyddyn Eifionydd,daethpwyd a’r Achos iben yn Sardis.
Sefydlwyd yr Achos yn 1822 gan yParchg Edward Davies, gweinidogPenlan, Pwllheli a brodor o Lanrhaeadrym Mochnant. Y gweinidog hwyaf eidymor yno oedd y Parchg ThomasWilliams, brodor o Lanelli, a’r trigweinidog diweddaraf i weinidogaethuyno oedd y Parchedigion R. GwilymWilliams, Alan H. John ac L. G. Roberts,ac wedi ei weinidogaeth ef ddod i benyno yn 1981 y daeth y cyswllt rhwngSardis â Chapel Helyg, Llangybi i ben.Codwyd un i’r weinidogaeth o’r eglwysyn Sardis, sef y Parchg Harri Williams afu am flynyddoedd maith yn weinidoguchel ei barch yn Hirwaun a Rhigos. Cofda amdano.
Ac yn ddigon addas, oherwydd cyflwryr adeilad yn Sardis, cynhaliwyd yGwasanaeth Datgorffori yng NghapelHelyg, Llangybi, nos Fawrth, Chwefror28, 2017. Arweiniwyd y gwasanaeth aphregethwyd gan y Parchg IwanLlewelyn Jones, Porthmadog, ac ef hefyd,a’r gynulleidfa deilwng ar ei thraed,arweiniodd y ddefod datgorffori. TaloddIwan Llewelyn Jones hefyd ddiolchcynnes am y gwahoddiad i arwain ygwasanaeth, ac i aelodau, swyddogion,ymddiriedolwyr, ac yn arbennig Mrs AnnShilvock, yr ysgrifennydd a Mr WilliamEifion Jones, y trysorydd am eu gwaithdiflino dros yr achos ac am eu dymuniadi ddirwyn yr Achos i ben yn urddasol, ermor anodd hynny.
Ar ddiwedd y gwasanaeth diolchwyd ibawb ar ran Sardis gan Mrs AnnShilvock, a siaradwyd ar ran CyfundebLlŷn ac Eifionydd gan y Parchg IoanWyn Gruffydd, yr ysgrifennydd, adymunodd yn dda iddynt yn eu cartrefiysbrydol newydd. Mrs Ann Lewiswasanaethodd wrth yr organ.
Diolch i Dduw am y dystiolaeth drosIesu Grist yn Sardis am gyfnod mor faith,a boed i’r cyfeillion yno brofi o ras einHarglwydd Iesu Grist, cariad Duw achymdeithas yr Ysbryd Glan eto i’rdyfodol.
Iwan Llewelyn(llun gan Eric Jones)
DATGORFFORI SARDISEIFIONYDD
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 16 Ebrill 20, 2017 50c.
Y TYsT
parhad ar y dudalen gefn
PaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
Yn sicr nid ‘Sentars Sychion!Stori eglwys fach wledig a phrofiadeglwys fawr drefol gafwyd yng NghwrddChwarter Annibynwyr DwyrainCaerfyrddin aBrycheiniog ynLibanus, Pwll ymmis Chwefror. Dwystori wahanol ondllawn gobaith amgyflwr y ddauachos. A thrwy’rstraeon gan AlunLenny, ArweinyddBwlch-y-corn a’rParchg Beti-WynJames, gweinidog YPriordy Caerfyrddin, cafwyd syniadauam sut i fywiogi ein gweithgarwch a’ntystiolaeth fel eglwysi yn y Gymru gyfoes- beth bynnag ein maint a’n cyflwr.Dyma adroddiad y Parchg Emyr GwynEvans.
Eglwys o lai na 40 o aelodau yw Bwlch-y-corn, ond o ystyried yr holl newidcymdeithasol ac ieithyddol a fu yng nghefngwlad, mae’n rhyfeddod nad yw’raelodaeth fawr lai na’r hyn ydoedd ugain
mlynedd yn ôl. Yn Y Priordy, lle’r oedd203 o aelodau ar gychwyn gweinidogaethBeti Wyn pymtheg mlynedd yn ôl, mae’r
aelodaeth bellach yn210, a hyn er ycolledion a gafwydtrwy farwolaethau acaelodau iau ynsymud i ffwrdd iwaith neu goleg. Eto,gwelsom nad rhifaelodaeth yw mesurcryfder eglwys ondansawdd bywyd agweithgarwch eichymdeithas a’i
thystiolaeth, a’r argraff a gawsom drwy’rstorïau a rannwyd, yw mai eglwysigweithgar ar y naw ydi’r ddwy eglwys yma- eglwysi cyfoes o ran eu mentergarwcha’u gweledigaeth sy’n symud gyda’r oes.Daeth hyn adref i ni yn slogan CymorthCristnogol a ddywedodd Alun fyddai’naddas i ddisgrifio bywyd Bwlch-y-corn sef‘Credwn mewn byw cyn marw’ ac yn logoeglwys Y Priordy â’i symbolaeth graffig.Cyflea a thystia i ffydd a chred yn yDrindod, y Tad, y Mab a’r a’r Ysbryd
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Cyfarfodydd Blynyddol
Rhydaman, 2017
Tybed a fyddai’r sawl sy’n bwriadudod i’r Cyfarfodydd Blynyddol ynRhydaman ac yn gobeithio caelbwyd yno, yn dychwelyd euFfurflenni Bwyd ar unwaith at:
Mrs Bethan E. Thomas,Lleifior,
15 Heol yr Hendre,Tycroes,
Rhydaman.Sir Gaerfyrddin
SA18 3LA
Diolch yn fawr iawn
Dyma luniau o blant Ysgol Sul Soar, Penygroes, yn mwynhau dathlu Sul y Mamau drwygyflwyno blodau i ferched y Capel oedd yn bresennol. Bu’r plant hefyd wrthi’n ddiwydyn yr Ysgol Sul, yn creu cardiau diolch i’w Mamau.
Liz Jones
Soar Penygroes
Glân, gyda’r ffenestri yn edrych allan arfywyd ac yn cwmpasu’r gorffennol, ypresennol a’r dyfodol a phontiocenedlaethau’r ifanc y canol oed a’r rhaihŷn.
Datblygu’n Barhaus
Soniodd Alun am ŵr symudodd i’r ardal ynddiweddar yn ymaelodi ym Mwlch-y-Cornam mai capel bychan ydyw, gyda’ichymdeithas yn gynnes a chlòs. Trwygyfrwng lluniau ar y sgrin cyflwynodd flaso flwyddyn ym mywyd yr eglwys. Wrthgwrs, gyda thref Caerfyrddin yn datblygu’nbarhaus ac yn denu mewnlifiad odeuluoedd ifanc yn ogystal â phobl sy’nymddeol i’r dref, mae’n naturiol bod yrarlwy sydd gan Y Priordy i’w chynnig ynehangach. Mae’r sgriniau electronig wediprofi eu gwerth ar eu canfed ym mywyd yreglwys honno gan gynnig posibiliadauamrywiol o ran gwylio fideos a gwrando ararlwy amrywiol o gerddoriaeth. A gydaband yn chwarae’n rheolaidd yn yroedfaon, nid rhyfedd bod yr hen sedd fawrgyfyng wedi cael ei disodli gan lawr sy’nmedru bod yn llwyfan ar gyfer amrywgyflwyniadau. Ond gydag arweiniad acarbenigedd person sydd â meistrolaeth arddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a’roffer electronig diweddaraf, fel y gwelsomgan Alun, nid oes angen i eglwys fechanwledig chwaith fod ar ei hôl hi. Ac os yw’rPriordy yn ethol diaconiaid newydd iwasanaethu am dymor pob saith mlynedd,a’r etholiadau, er mwyn cael cydbwysedd obrofiad a newydd-deb, pob rhyw dairblynedd, da oedd clywed bod y pedwardiacon diwethaf etholwyd ym Mwlch-y-Corn yn gynrychioliadol o bedair degawdwahanol. A bod yr hynaf o’r pedwar,Menna Lenny, mam Alun, yn 80 oed wedimeistroli tabled i-pad yn ddiweddar ahynny er mwyn cadw i fyny gyda’r fforddgyfoes o rwydweithio a chymdeithasu - adilyn hanes y plant!
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 20, 2017Y TYsT
Cynhadledd CymdeithasAnnibynwyr y Byd
Cynhelir cynhadledd CymdeithasAnnibynwyr y Byd ym MhrifysgolStellenbosch ger Cape Town , DeAffrica, 6-11 Gorffennaf eleni.
Gan fod y trefnwyr yn gwahodd pobli gofrestru, gofynnir i’r sawl sydd âdiddordeb i fynd yno i gysylltu â ThŷJohn Penri cyn gynted â phosibl ermwyn i ni fedru anfon taflennigwybodaeth a ffurflen gofrestru atoch.
Gellir cael mwy o wybodaeth am yGymdeithas ac am y gynhadledd trwyymweld â’r wefan theicf.org
MUDIAD CHWIORYDD YR ANNIBYNWYR
Adran Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog
CYFARFOD BLYNYDDOL
yng Nghapel Bethania, Tymbl UchafNos Fawrth, 25 Ebrill 2017
am 7.00 yh
Siaradwr: Y Parchedig Jill-Hayley Harries
Casgliad tuag at: Bugeiliaid y Stryd a Trais Domestig
Llywydd:Mrs Esme Lloyd
Ysgrifennydd:Miss Ann Davies
Trysorydd:Mrs Eirlys Morgan
Pris y Rhaglen: 50c
Sapiens a Homo Deus
Nid wyf erioed wedi gyrru erthygl at YTyst yn cymeradwyo llyfrau ganddieithryn, ond dyma fi’n gwneud yma.Soniais am un eisoes mewn erthygl ynAgora, papur misol digidol Cristnogaeth 21am Ionawr. Ystyriaf y ddau’n llyfraupwysig iawn o safbwynt deall y byd sy’ngartref daearol i ni. Awdur y llyfrau ywdyn o Libanus o’r enw Yuval Harari.Enillodd ddoethuriaeth mewn hanes ynRhydychen, a nawr mae’n Athro HanesModern yng Nghaersalem.
Hanes Dynoliaeth
Enw’r llyfr cyntaf o’r ddau yw ‘Sapiens’.Cafodd sylwdros y byd.Bu am amserhir ar restr yNew YorkTimes o’rllyfrau sy’ngwerthu orau,a meddyg oAwstralia ayrrodd gopi
ataf fi. Trafod holl hanes dynoliaeth yn frasa wna’r llyfr. Sonia am y camau mawr anewidiodd bywyd dyn. Sonia am yChwyldro Amaethyddol, gan asesu effaithrhoi’r gorau i gasglu ffrwythau gwyllt adilyn anifeiliaid crwydrol, gan dyfuffrwythau a grawn a chadw anifeiliaid ynyr un lle.
Trafoda, ai ennill oedd hyn neu golled?Ennill fyddai f’ateb i, gydag ymborth mwydibynadwy, dim angen hel pac byth ahefyd, a sawl mantais arall. Ond soniaHarari am y golled o aros yn eu hunfan ynlle gweld eu byd, eithr yn bennaf sylwa fody Chwyldro Amaethyddol wedi arwain ateiddo, fel perchen tir ac anifeiliaid, felly ateiddigedd a lladrata a lladd a rhyfeloeddlleol. Sonia hefyd am gamau eraill ynhanes dynoliaeth, megis y gallu i greuymerodraethau, a threfnu gwybodaeth,datblygiad cyfalafiaeth - a chreu’r awch amsiwgr!
Hanes y Dyfodol
Ond erbyn hyndaeth yr ail lyfr ymynnwn sônamdano i glawr.Enw hwnnw ywHomo Deus, a’iis-deitl yw ‘Hanesy Dyfodol’, ac fe’icefais yn anrhegNadolig gan fyŵyr ieuengaf.Dechreua Harari’r
llyfr hwn drwy nodi mai prif fygythiadaubywyd i’r creadur dynol ar hyd ei daithhyd yma yw rhyfel, haint a newyn. Âymlaen i ddweud fod dynoliaeth bellachwedi curo’r bygythiadau hynny, mewnegwyddor o leiaf. Mae rhyfel yn parhau,ond gwyddom sut i ddod ag ef i ben. Pangafwyd ebola yng Ngorllewin Affrica,ofnid yr ai’r haint dros Affrica i gyd, ondpan lwyddodd meddygaeth i roi ei fryd arei drechu daeth y clefyd i ben yn gymharolgyflym. Ac yn ystadegol, er bod newyn argael yn ein byd, mae pobl yn debycach ofarw o orfwyta heddiw nag o newyn.
Estyn Einioes
Ond nid ydym ni foblach daearol yn fodlonaros yn yr unman. Pan fyddwn weditrechu’n prif broblemau, chwilio ambroblemau newydd y bydd eu trechuhwythau’n ein symud ymlaen ymhellach ybyddwn ni, ac eisoes y mae arwyddion o’rhyn sy’n mynd i ddenu sylw a galluoedddynoliaeth am amser eto i ddod nawr.Dyna yw barn Harari ta beth. A’r broblemnewydd y mae dynion eisoes wrthi’n ceisioei datrys yw hyd bywyd. Yn yblynyddoedd diwethaf, oherwyddmeddyginiaeth y mae llawer iawn mwy obobl yn byw’n hen, ond nid ywmeddyginiaeth eto wedi ymestyn terfynbywyd. Ond eisoes, yn ôl Harari, mewnmannau fel Silicon Valley yn Califforniameddai, mae arian mawr yn cael eifuddsoddi yn yr ymgyrch hon. Mae rhaieisoes yn anelu’n benodol at alluogi pobl ifyw tan eu bod yn gant a hanner. Wrthymgodymu â chwestiwn felly deuant ardraws broblemau pellach wrth gwrs, dau’nbenodol, sef yn gyntaf, pwy fydd eisiaubyw tan cant a hanner a chofio problemauhenaint - crychau ar y croen, gwendid yn ycymalau, diffyg yn yr organau; ac yn ail,beth yw effaith henaint ar hapusrwydd.Mae byw llawer yn hŷn y tu mewn i’ncyrraedd eisoes mewn egwyddor meddHarari; mae cemegau ar gael sy’n gwella’rcroen ac mae cleifion yn cael organau rhaisy’n iau; yr ail broblem yw, a allwn nifyw’n hapus am gyhyd o amser, neu a fyddbywyd efallai’n mynd yn undonog a diflas,sy’n codi’r cwestiwn, a allwn ni luniohapusrwydd i ni ein hunain. Mae Harari’ntrafod nid yn unig y mathau hyn ogwestiynau ond rhai eraill hefyd, ondgadawaf y cyfan yn y fan yna nawr, ganobeithio fy mod wedi codi ysfa yn ambellun nid yn unig i yrru am y ddau lyfr ac i’wdarllen, ond efallai i godi ambell gwestiwndiwinyddol a’u rhannu yn Y Tyst yn sgilcwestiynau Harari.
Vivian Jones, Yr Hendy.
GolygyddolEbrill 20, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Gwenwyn Casineb
Mae gennyf gof plentyn
bach o chwarae gyda
masc rwber ‘Mickey
Mouse’. Nid tegan gan
Disney ydoedd, ond masc
nwy a ddosbarthwyd i bob
person ym Mhrydain ar
ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
Ofnwyd bryd hynny y
gallai chwarter miliwn o
bobl farw mewn wythnos
petai llu awyr yr Almaen yn
defnyddio arfau cemegol i fomio Llundain
a’r dinasoedd mwyaf. Er mor drwm oedd y
bomio, ni wnaeth y Natsïaid, hyd yn oed,
ddefnyddio arfau cemegol.
Cyn hynny, fe ddefnyddiwyd nwy
gwenwynig yn helaeth yn y ffosydd yn
ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond ym 1925
fe wnaeth nifer o wledydd arwyddo
Protocol Genefa, oedd yn datgan bod y
defnydd o nwyon gwenwynig i’w
gondemnio gan bob gwlad wareiddiedig.
Eto, ni rwystrodd hynny yr Eidal rhag ei
ddefnyddio yn erbyn milwyr Ethiopia ym
1935, y ddwy ochr yn y rhyfel rhwng Irac
ac Iran yn y 1980au ac Irac yn erbyn y
Cwrdiaid ac eraill yn y 1990au.
Does dim dwywaith bod sawl gwlad ag
arfau cemegol wrth gefn. Un nos Sul yn
Hydref 1992, fe ddisgynnodd awyren
jumbo o’r eiddo llu awyr milwr Israel ar
ben bloc o fflatiau yn Amsterdam. Fe
deithiais gyda dyn camera i fyny i
Heathrow dros nos a chyrraedd safle’r
drychineb ganol bore drannoeth. Ar ôl fy
nghlywed i a’m cydweithiwr yn sgwrsio yn
Gymraeg, fe wnaeth un o’r plismyn oedd
yn gwarchod y safle – oedd wedi chwarae
rygbi yn erbyn Heddlu De Cymru –
ganiatáu i ni fynd yn agos iawn at
weddillion yr awyren. Gerllaw, roedd
gweithwyr achub wrthi’n ddyfal yn clirio’r
rwbel o’r bloc fflatiau lle bu farw tua
deugain o bobl yn y danchwa. Lladdwyd y
criw o chwech ar yr awyren, oedd yn cario
cargo diniwed, yn ôl llywodraeth Israel.
Wrth sefyll o fewn troedfeddi i’r peil o
sgrap fu gynt yn awyren cofiaf arogli
rhywbeth melys yn yr awyr. Ni feddyliais
mwy am y peth.
Ond yn ystod y misoedd yn dilyn y
trychineb, fe aeth nifer fawr o’r gweithwyr
achub yn sâl. Roeddent yn dioddef yn
bennaf o broblemau anadlu. Tua’r adeg
yna fe ddechreuais innau, hefyd, ddioddef
o symptomau tebyg i asthma. Fe barodd y
symptomau brawychus am rai
blynyddoedd. Ni wn os taw cyd-
ddigwyddiad ydoedd, ond ym 1997 fe
wnaeth llywodraeth Israel gyfaddef bod yr
awyren yn cludo cynhwyson y gellid eu
defnyddio ar gyfer yr arf cemegol Sarin.
Dyma gemegyn gwenwynig dros ben nad
yw’n bodoli mewn natur. Mae’n perthyn i
deulu organophosphate, a ddatblygwyd
fel arf cemegol, ond a ddefnyddiwyd yn
helaeth hefyd fel chwynladdwr. Rhoddwyd
y gorau i ddefnyddio organophosphate
mewn dipio defaid gorfodol yn y 1990au ar
ôl i gannoedd o ffermwyr defaid golli eu
hiechyd.
Mae’n ddigon gwael bod dyn yn
gwenwyno’r ddaear trwy ei drachwant a’i
ddiffyg consyrn am yr amgylchedd a lles
ein plant a phlant ein plant. Ond mae
defnyddio arfau gwenwynig ffiaidd yn
fwriadol i lladd plant bach, menywod a
dynion yn Syria yn y modd mwyaf creulon
yn sarhad yn erbyn Duw a dyn.
Mae gwenwyno’r amgylchedd yn
ganlyniad hunanoldeb a diffyg deall, a
gwenwyno pobl yn ganlyniad casineb.
Trwy ddod i ddeall natur a bwriad Duw yn
Iesu Grist yn well fe ddown i weld pa mor
beryglus yw’r hunanoldeb a’r casineb yma
i’r byd a’i bobl. Mae hynny, yn ei dro, yn
magu’r awydd i hyrwyddo haelioni yn lle
hunanoldeb a chymod yn lle casineb.
Alun Lenny
Alun Lenny
‘Amen’ ddoe.
Rwy’n cofio ffrind yn dweud wrthyf yngellweirus mai ei hoff air mewn oedfaoedd Amen! Gallaf ddeall hynny yn iawnpan fydd ambell un ohonom bregethwyr ynmynd ymlaen ac ymlaen. Y mae pawbohonom ar dro wedi siarad gormod adweud dim, ac ar adegau felly, y mae‘Amen’ yn air i’w groesawu ac yn arwyddy cawn ddianc i’n cartrefi! Ond nid caupen y mwdwl yw gwir ystyr a phwrpas ygair ‘Amen’ gan fod iddo ystyr dyfnach amwy cadarnhaol o lawer na hynny. Ystyr ygair ‘Amen’ o’i gyfieithu yw ‘Boed felly’.
Hynny yw, ‘Boed i Dduw roi sêl ei fendith
ar yr hyn a ganwyd, a weddïwyd, a
ddarllenwyd ac a bregethwyd.’ Ynddieithriad, byddai’r Parchedig J. HainesDavies, Bae Colwyn yn dweud ar ddiweddoedfa, ‘Amen ac Amen.’. Yn aml iawn, yndilyn hynny, clywyd y gair ‘Amen’ yn caelei sibrwd gan rai o’r gynulleidfa. Y mae’r
arferiad yma yn mynd yn ôl mor bell âllyfr y Cronicl yn yr Hen Destament prydroedd y gynulleidfa yn ymateb drwyborthi, fel y gwelwn yn yr adnod,‘Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A
dywedodd yr holl bobl Amen, gan
foliannu’r Arglwydd.’
‘Amen’ heddiw.
Daw’r hen eiriau i’r cof,‘Ble’r aeth yr Amen?’
Prysuraf i ddweud nad ywwedi diflannu’n llwyr.Rydym wrth ein bodd yngwrando ar gorau meibionyn canu’r ‘Amen’ gydagarddeliad mawr, ond ar ySul, canu’r ‘Amen’ yw’rpeth salaf a wnawn mewn oedfa. Yn aml, ymae rhai ohonom wedi eistedd cyn gorffencanu’r ‘Amen’! Prin fod angen dweud fodpwrpas llawer mwy cadarnhaol i’r gair nahynny! Fe ddefnyddir y gair ‘Amen’ yn yTestament Newydd i gadarnhau ac igymeradwyo’r hyn a glywir. Ond erbynheddiw onid yw’n haws gennym sôn am ypethau yr ydym yn eu herbyn na’r pethau
yr ydym o’u plaid? Canlyniad anochelhyn yw mai pobl yn dweud ‘Na’ydym yng ngolwg llawer yn eincymdeithas, a’n bod byth a hefyd yngwahardd hyn a’r llall. Cri llawerheddiw yw ein bod yn byw mewn
cyfnod tywyll ac ansicr iawn. Cytunaf, ondfel y clywsom lawer gwaith, y mae’nbwysicach cynnau cannwyll na lladd ar ytywyllwch.
‘Amen’ yfory
Oni alwyd ninnau i hynny hefyd? Y maedweud ‘Amen’ i neges fawrEfengyl Iesu Grist yn bwysicacho lawer na dwrdio’r byd a’iddrygioni. Meddai’r ApostolPaul, ‘Os bydd dy elyn yn
newynu, rho fwyd iddo; os bydd
yn sychedu, rho iddo beth i’w
yfed. Paid â goddef dy drechu
gan ddrygioni. Trecha di
ddrygioni â daioni.’ Os felly,onid ysbardun yw’r ‘Amen’ i
barhau gwaith Duw yng Nghrist yn hytrachnag eistedd yn ôl a gwneud dim? Nidatodiad hwylus i nodi fod yr oedfa wedigorffen yw ‘Amen’ ond cyhoeddiadbrwdfrydig fod cariad achubol Duw ynIesu Grist tuag atom yn wir, a’i fod yndeilwng o’n diolch a’n clod am byth. Efyw’r ‘Amen’ mwyaf bendigedig, ac ef yw‘Amen’ ein gwaredigaeth ac unig obaithein byd.
Amen i Dduw’r Tad, Creawdwr byd,
Amen i’r Mab a’i aberth drud;
Amen i’r Ysbryd Glân a roddwn,
Amen ac Amen fydd tra byddwn.
John Lewis Jones
Amen acAmen