ymarferwyr -...

23
YMARFERWYR

Upload: dangtu

Post on 18-Feb-2019

221 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

YMARFERWYR

OS NAD YDYCH YN GWYBOD YR ATEB –

GALWCH FFRIND!

BRECHT

BERTOLT BRECHT

Dramodydd, cyfarwyddwr a bardd.

BRECHT

1898 - 1956

Dyddiad geni a marw Brecht.

BRECHT

THEATR EPIG

Cyfres o olygfeydd mewn episodau. Cadwyn o

ddigwyddiadau.

BRECHT

THEATR I ADDYSGU

Bwriad Brecht oedd agor llygaid ei gynulleidfa i gyflwr dyn a

phobl o dan argyfwng ac amgylchiadau anodd y byd.

BRECHT

VERFREMDUNGSEFFEKT

Y gynulleidfa yn ymwybodol eu bod yn gwylio actorion, edrych yn wrthrychol, peidio ag ymgolli yn yr

emosiwn; h.y. dieithro.

BRECHT

KARL MARX

Dylanwad mawr ar Brecht a’i ffordd o feddwl. Marx

yn gomiwnydd.

BRECHT

COMIWNYDDIAETH

Mudiad sy’n credu mewn cymdeithas ddiddosbarth a

chydberchnogaeth.

BRECHT

TRAETHYDD

Actor sy’n egluro sefyllfaoedd ac yn gyrru’r stori yn ei blaen. Rhoi barn ar ddigwyddiad a chynnig

dewis i’r gynulleidfa.

BRECHT

ACTIO’N WRTHRYCHOL

Yr actor yn osgoi ymgolli yn y cymeriad. Defnyddio actio i fynegi safbwynt neu farn.

BRECHT

PLACARDIAU

Gwybodaeth ar bapur neu arwydd sy’n gyrru’r stori yn ei blaen, neu yn

dweud wrth y gynulleidfa sut i ymddwyn.

BRECHT

GESTUS Ymddygiad y cymeriad sy’n

adlewyrchu agwedd gymdeithasol. Yr actor yn ‘dangos’ agwedd ar y cymeriad trwy symudiad neu air.

BRECHT

HERIO’R GYNULLEIDFA

Rhoi sefyllfaoedd o flaen y gynulleidfa fydd yn eu gorfodi nhw

i holi a chwestiynu eu hunain ynglyn â digwyddiad politicaidd.

BRECHT

FFILM, SOLGANAU A CHANEUON

Defnyddio pob dyfais posib er mwyn cyfleu neges y ddrama.

BRECHT

CAMU ALLAN O GYMERIAD

Yr actor yn siarad yn uniongyrchol â’r

gynulleidfa. BRECHT

SET SYML A GWAG

Dim llwyfannu naturiolaidd, na setiau

ysblennydd.

BRECHT

YR OCHR DECHNEGOL YN WELADWY.

Torri’r pedwerydd wal. Y gynulleidfa yn gweld y goleuadau,

a’r actorion yn creu’r sain yn fyw ac yn eistedd ac yn newid ar y

llwyfan.

BRECHT

DEFNYDDIO COMEDI A CHANEUON

Cyfleu materion politicaidd i’r gynulleidfa drwy gân neu hwyl cyn eu taro gyda ffeithiau caled.

BRECHT

MONTAGE

Cyfres o ddarluniau llonydd sy’n mynegi bwriadau’r cymeriadau. Cyfres o fframiau mewn ffilm.

BRECHT

TRIBIWNLYS Prif amcan ei theatr oedd gosod

argyfwng cymdeithasol gerbron ei gynulleidfa. Gosod tystiolaeth ar

ffurf ddramatig gerbron y gwylwyr mewn tribiwnlys.

BRECHT

DA IAWN CHI!