y ganolfan geltaidd - university of wales€¦ · mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy...

4
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies Cylchlythyr Rhif 20 Haf 2018 Newsletter No. 20 Summer 2018 Y Ganolfan Geltaidd Dr Sarah Morse (Learned Society of Wales) presenting the award to Dr Liz Edwards. Photo © Dr Aidan Byrne. In this year’s Poets of the Nobility Forum, ‘Text and Context’, speakers were invited to discuss one poem of their own choice. We are extremely grateful to the Coleg Cymraeg Cenedlaethol for their generous support. For a PDF booklet of the texts discussed during the day, visit https://bit.ly/2J2fQsu. Roedd hi’n ddiwrnod braf o ‘haf hirfelyn tesog’ unwaith eto ar 19 Mai ar gyfer fforwm blynyddol Beirdd yr Uchelwyr. Eleni penderfynwyd dilyn trywydd ychydig yn wahanol i’r arfer, ac yn hytrach na chael cyfres o bapurau ar thema benodol, gwahoddwyd siaradwyr i ddewis un gerdd yr un. ‘Arwyrain Owain Gwynedd’, a ganwyd gan Gynddelw Brydydd Mawr rhwng tua 1165 a 1170, oedd dan sylw gan Ann Parry Owen. Math arbennig o gerdd fawl oedd yr ‘arwyrain’, yn cyfiawnhau hawl tywysog i fod yn arweinydd. Drwy ddadansoddiad gofalus Dylan Foster Evans o gywydd ‘Y Cwt Gwyddau’ gan Ddafydd ap Gwilym, cawsom ddysgu nid yn unig am helyntion caru’r bardd a ddioddefodd ymosodiad gan glamp o famwydd fawr wrth iddo geisio dianc rhag y Gŵr Eiddig, ond hefyd am bwysigrwydd gwyddau yn yr Oesoedd Canol. Cywydd Tudur Aled i Wenfrewy oedd testun David Callander. Dangosodd i ni sut y mae anwybodaeth o’r bucheddau rhyddiaith yn aml wedi arwain at gamddehongli’r testun yn y gorffennol, a hyd yn oed at feirniadaeth ar grefft Tudur Aled ei hun. Ar ôl cinio, dewis destun Gruffudd Antur oedd un o gywyddau mawl Dafydd Nanmor i Rys ap Maredudd ab Owain o’r Tywyn ger Aberteifi, lle roedd Dafydd yn fardd teulu. Cyflwynodd Gruffudd ddadl gref dros gredu na chafodd y bardd erioed ei alltudio, mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma. I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros y ffin, ac at gywydd enwog Guto’r Glyn i dref Croesoswallt lle y bu’n byw fel bwrdais yn hwyr yn ei oes. Yn wahanol i nifer o gerddi o’r cyfnod lle y disgrifir trefi fel llefydd drwg, dangosodd Eurig sut y pwysleisiai Guto agweddau llesol y bywyd trefol yn y gerdd. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu nawdd hael i’r fforwm eleni, ac am gydweithio gyda ni i sicrhau bod y diwrnod yn un llwyddiannus dros ben. I lawrlwytho llyfryn PDF o’r testunau a drafodwyd yn ystod y dydd, ewch i https://bit.ly/2J2fQsu. Dr Dylan Foster Evans, yr Athro Ann Parry Owen, Gruffudd Antur, Dr David Callander, yr Athro Dafydd Johnston ac Eurig Salisbury Testun a Chyd-Destun Winner of the M. Wynn Thomas Prize 2018 We congratulate Liz Edwards, Research Fellow on the ‘Curious Travellers’ project, who has been awarded the 2018 M. Wynn Thomas Prize for outstanding scholarship in the study of Welsh writing in English. The prizewinning essay was entitled ‘ “A kind of geological novel”: Wales and travel writing, 1783–1819’ and is due to appear in the journal Romanticism over the summer.

Upload: others

Post on 25-Jun-2020

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Y Ganolfan Geltaidd - University of Wales€¦ · mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma. I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol CymruUniversity of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies

Cylchlythyr Rhif 20Haf 2018

Newsletter No. 20Summer 2018

Y Ganolfan Geltaidd

Dr Sarah Morse (Learned Society of Wales) presenting the award to Dr Liz Edwards. Photo © Dr Aidan Byrne.

In this year’s Poets of the Nobility Forum, ‘Text and Context’, speakers were invited to discuss one poem of their own choice. We are extremely grateful to the Coleg Cymraeg Cenedlaethol for their generous support. For a PDF booklet of the texts discussed during the day, visit https://bit.ly/2J2fQsu.

Roedd hi’n ddiwrnod braf o ‘haf hirfelyn tesog’ unwaith eto ar 19 Mai ar gyfer fforwm blynyddol Beirdd yr Uchelwyr.

Eleni penderfynwyd dilyn trywydd ychydig yn wahanol i’r arfer, ac yn hytrach na chael cyfres o bapurau ar thema benodol, gwahoddwyd siaradwyr i ddewis un gerdd yr un.

‘Arwyrain Owain Gwynedd’, a ganwyd gan Gynddelw Brydydd Mawr rhwng tua 1165 a 1170, oedd dan sylw gan Ann Parry Owen. Math arbennig o gerdd fawl oedd yr ‘arwyrain’, yn cyfiawnhau hawl tywysog i fod yn arweinydd.

Drwy ddadansoddiad gofalus Dylan Foster Evans o gywydd ‘Y Cwt Gwyddau’ gan Ddafydd ap Gwilym, cawsom ddysgu nid yn unig am helyntion caru’r bardd a ddioddefodd ymosodiad gan glamp o famwydd fawr wrth iddo geisio dianc rhag y Gŵr Eiddig, ond hefyd am bwysigrwydd gwyddau yn yr Oesoedd Canol.

Cywydd Tudur Aled i Wenfrewy oedd testun David Callander. Dangosodd i ni sut y mae anwybodaeth o’r bucheddau rhyddiaith yn aml wedi arwain at gamddehongli’r testun yn y gorffennol, a hyd yn oed at feirniadaeth ar grefft Tudur Aled ei hun.

Ar ôl cinio, dewis destun Gruffudd Antur oedd un o gywyddau mawl Dafydd Nanmor i Rys ap Maredudd ab Owain o’r Tywyn ger Aberteifi, lle roedd Dafydd yn fardd teulu. Cyflwynodd Gruffudd ddadl gref dros gredu na chafodd y bardd erioed ei alltudio, mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma.

I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros y ffin, ac at gywydd enwog Guto’r Glyn i dref Croesoswallt lle y bu’n byw fel bwrdais yn hwyr yn ei oes. Yn wahanol i nifer o gerddi o’r cyfnod lle y disgrifir trefi fel llefydd drwg, dangosodd Eurig sut y pwysleisiai Guto agweddau llesol y bywyd trefol yn y gerdd.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu nawdd hael i’r fforwm eleni, ac am gydweithio gyda ni i sicrhau bod y diwrnod yn un llwyddiannus dros ben.

I lawrlwytho llyfryn PDF o’r testunau a drafodwyd yn ystod y dydd, ewch i https://bit.ly/2J2fQsu.

Dr Dylan Foster Evans, yr Athro Ann Parry Owen, Gruffudd Antur, Dr David Callander, yr Athro Dafydd Johnston ac Eurig Salisbury

Testun a Chyd-Destun

Winner of the M. Wynn Thomas

Prize 2018We congratulate Liz Edwards, Research Fellow on the ‘Curious Travellers’ project, who has been awarded the 2018 M. Wynn Thomas Prize for outstanding scholarship in the study of Welsh writing in English. The prizewinning essay was entitled ‘ “A kind of geological novel”: Wales and travel writing, 1783–1819’ and is due to appear in the journal Romanticism over the summer.

Page 2: Y Ganolfan Geltaidd - University of Wales€¦ · mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma. I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros

FLOOD AND FLOWThe Leverhulme-funded ‘Flood and Flow’ project is in its last months, and recently held a weekend conference at the Cotswold Water Park Hotel. Scholars from more than ten universities attended, presenting research on topics as diverse as the social and economic history of medieval flooding, and the optical dating of fluvial deposits. The opening session focused on place-names, including a trio of papers from the CAWCS team. David Parsons introduced Welsh sources, before Kelly Kilpatrick discussed the two most frequently attested water-related place-name elements in Wales, aber and nant. Preliminary results of her research suggest that coastal aber names are probably earlier than those denoting a confluence, and that the stream-valleys denoted by nant can be consistently characterized. Jenny Day then presented a discussion of river-name elements potentially relating to medieval flooding, in the context of other elements related to flow rate or to perceived dangers in the landscape.

The ‘Flood and Flow’ conference held in May

CURIOUS TRAVELLERSIn February Mary-Ann Constantine gave a lunchtime lecture at the National Library of Wales, where she explored the highlights of the four-year project on the Tours of Thomas Pennant (1726–98) and those who followed in his footsteps. With the help of library staff, an exhibition was set up in the Summers Room of beautifully illustrated books and manuscripts from the Pennant archive.

A further three-month exhibition will be held in the historic setting of the Dr Johnson House Museum in London between October and December 2018. It will explore the Highland tour made by Dr Johnson and Boswell in 1773 – the year after Pennant’s second Scottish tour – and ask why the famously difficult Johnson considered Pennant ‘the Best Traveller I ever read’.

On 15 November the project will hold a one-day conference and launch the first batch of online edited texts at the Linnean Society in London. For further news and events please visit: http://curioustravellers.ac.uk/en/.

A case in the Summers Room (NLW) displaying some of Thomas Pennant’s work on natural history

Gair am airAmcan y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 18 Mai, oedd annog ymchwilwyr ym myd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd i gyflwyno’u gwaith drwy arbrofi â’r amrywiol ddulliau cyflwyno sydd ar gael i’r ymchwilydd modern. Trefnwyd y gynhadledd gan ddau o fyfyrwyr PhD y Ganolfan, Paulus van Sluis a Dewi Huw Owen, a myfyrwraig PhD o Brifysgol Glasgow, Myra Booth-Cockcroft, ac fe’i cyllidwyd gan Ganolfan Hyfforddiant Ddoethurol yr AHRC.

Mabwysiadodd Christopher Lewin (Prifysgol Caeredin) dechneg draddodiadol o ddarllen o destun er mwyn esbonio ‘Newid Cystrawen mewn Manaweg a Chymraeg’; defnyddiodd Catrin Bethan Williams (Coleg y Brenin, Llundain) ddull gweithdy i fathu termau newydd ar gyfer maes cyfoes ‘Cymru 2050: Miliwn o Siaradwyr’; a siaradodd Paulus van Sluis o’r frest am ei waith ar ‘Celtosgeptigrwydd, Ieithyddiaeth Gelteg, a Chynhanes’.

Swynodd Bethany Celyn (Prifysgol Bangor) y gynhadledd i ‘Ail Ystyried Prydeindod: Gwenno Saunders a’r Gân Gernyweg’ drwy gyfrwng cyflwyniad llafar a chân; cyfunodd Elan Grug Muse (Prifysgol Abertawe) yr academaidd a’r celfyddydol wrth gyflwyno’i gwaith ar ‘Barddoniaeth, Ysgolheictod a Chadeiriau’ ar ffurf ysgrif greadigol; ac aeth y cerddor-ymchwilydd Ceri Owen-Jones (Deuair, Twmpath Aberystwyth) â ni ar daith drwy hanes ‘Cerddoriaeth Foddol Gymreig’, gan ganu pob un o ddyfyniadau’r cyflwyniad yn bersain ar ei delyn.

Mewn sesiwn hyfforddi soniodd Martin Crampin (Y Ganolfan Geltaidd ac artist annibynnol) am dechnegau cyflwyno gweledol, gan bwyso ar ei brofiad o weithio ar amrywiol brosiectau ymchwil digidol. Anogodd Roger Owen (Prifysgol Aberystwyth) y gynhadledd i ystyried ‘Dramatwrgiaeth Darlithio’, gan gofio mai perfformiad yw pob cyflwyniad, un unigryw i’r ennyd, ac un a chanddo amrywiaeth eang o fynegiannau posibl. I gloi’r gynhadledd arweiniodd Dewi Huw Owen (Y Ganolfan Geltaidd, Canolfan Cymraeg i Oedolion Ceredigion, Powys a Sir Gâr) sesiwn hyfforddi ar dechnegau dysgu, gan alw ar y gynulleidfa i ystyried yr amrywiaeth o ddulliau cyflwyno y gellir eu mabwysiadu er mwyn ymateb i’r gwahanol ffyrdd bydd pobl yn dysgu gwybodaeth newydd.

Ar ddiwedd cynhadledd lawen a llawn roedd pawb yn gytûn eu bod wedi mwynhau gwledd o gyflwyniadau difyr a’u bod wedi dysgu llawer o dechnegau cyflwyno cyffrous. Yr oeddent oll wedi’u harfogi o’r newydd i barhau i yngan ‘Gair am Air’!

CYHOEDDIAD NEWYDD

Yn y ddarlith hon, mae Nerys Ann Jones yn edrych o’r newydd ar dystiolaeth beirdd yr Oesoedd Canol yng Nghymru am Arthur a’r cymeriadau, y lleoedd a’r digwyddiadau a gysylltir ag ef, gan ystyried hefyd yr hyn y mae’r darlun a gyflwynir ganddynt yn ei ddweud am y beirdd hwythau.

Bydd y ddarlith ar werth yn fuan am £5.

Page 3: Y Ganolfan Geltaidd - University of Wales€¦ · mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma. I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros

TEITHWYR EWROPEAIDD I GYMRUAr 24 Mai lansiwyd gwefan newydd arloesol ym Mhrifysgol Bangor yng nghwmni’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas. Ffrwyth prosiect a arweinir gan Brifysgol Bangor, ac sy’n cynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn gweithio ochr yn ochr â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chroeso Cymru yw http://footsteps.bangor.ac.uk/cy/index. Derbyniwyd y cyllid hwn ar gyfer gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Nod y wefan yw caniatáu i bobl deithio yng Nghymru yn ôl troed teithwyr hanesyddol o Ffrainc a’r Almaen, boed nhw’n ymwelwyr o’r gwledydd hynny neu’n dwristiaid cartref sydd am weld Cymru trwy lygaid Ffrengig / Almaenig. Mae ar gael mewn pedair iaith – Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg – i dwristiaid digidol ym mhobman. Mae’r tîm wedi dethol disgrifiadau trawiadol o Gymru o’r teithlyfrau Ffrangeg ac Almaeneg, wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg a’r Saesneg, a’u trefnu yn naw taith thematig trwy Gymru. Themâu fel: Llechi, Tirwedd, Cestyll, yr Arfordir. Wrth glicio ar leoliad neu atyniad arbennig yn y teithiau, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am y lle yn y pedair iaith, oriel o luniau a deunydd digidol (fel teithiau 360°Gigapixel, animeiddiadau, ffilmiau, profiad rhithwir), yn ogystal â disgrifiadau dethol o’r teithlyfrau gwreiddiol.

A new website was launched at Bangor University in the company of the Minister for Culture, Tourism and Sport, Lord Elis-Thomas: http://footsteps.bangor.ac.uk/en/index. This quadralingual website is the fruit of a project led by Bangor University that includes the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies working alongside the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales and Visit Wales. Combining the latest technology with academic expertise, the site aims to allow people to travel in Wales in the footsteps of historical travellers from France and Germany, be they visitors from those countries or home tourists who wish to see Wales through French or German eyes.

THE SAINTs OF LLANDAFFThe ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ team visited Llandaff cathedral on 11 November 2017, resuming our visits to places around Wales to share new research underway on the project. The speakers were David Parsons, Ben Guy, Paul Russell and Martin Crampin. The talks ranged across church dedications to Dyfrig, Teilo and Euddogwy (the three Welsh saints associated with the cathedral); the early associations of Teilo with Llandaff; and the Latin and Welsh versions of the rights of Teilo (and the cathedral of Llandaff) which are recorded in the twelfth-century Book of Llandaff. The final talk was held in the Dyfrig chapel, where stained glass windows depict saints that are more associated with the vision of early Christianity in Wales held by Iolo Morganwg than by Bishop Urban in the twelfth century. This was originally intended as the first stop on a tour of the cathedral to look at relief sculpture depicting the saints Teilo and Dyfrig by Frank Roper and Alan Durst, but there were so many of us that a ‘guided tour’ to each of these artworks was not really practicable!

The project exhibition remained on display in the processional way until mid-December.

Our next event will be held in St Asaph on 4 September and then in Gloucester on 3 November.

DEWIS DELWEDDAUDros y misoedd diwethaf mae Ann Parry Owen, Gruffudd Antur a Maredudd ap Huw wedi bod yn cynorthwyo Daniel Huws yn y Llyfrgell Genedlaethol i ddewis delweddau ar gyfer trydedd gyfrol ei Repertory of Welsh Manuscripts, gwaith a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn tair cyfrol swmpus yn 2020. Bydd y drydedd gyfrol yn cynnwys o ddeutu 800 o ddelweddau a fydd yn rhoi enghreifftiau o lawysgrifen ysgrifwyr pwysicaf y Gymraeg ar hyd y canrifoedd.

NEW PUBLICATIONExploring Celtic Origins is the fruit of collaborative work by researchers in archaeology, historical linguistics, and archaeogenetics over the past ten years. This team works towards the goal of a better understanding of the background in the Bronze Age and Beaker Period of the people who emerge as Celts and speakers of Celtic languages documented in the Iron Age and later times. Led by Sir Barry Cunliffe and John Koch, the contributors present multidisciplinary chapters in a lively user-friendly style, aimed at accessibility for workers in the other fields, as well as general readers. The collection stands as a pause to reflect on ways forward at the moment of intellectual history when the genome-wide sequencing of ancient DNA (aka ‘the archaeogenetic revolution’) has suddenly changed everything in the study of later European prehistory. How do we deal with what appears to be an irreversible breach in the barrier between science and the humanities? Exploring Celtic Origins includes colour maps and illustrations and annotated Further Reading for all chapters.

This hardback volume will be published in autumn 2018 by Oxbow Books and can be ordered at a prepublication price of £33.75: https://www.oxbowbooks.com/oxbow/exploring-celtic-origins.html.

Dewis delweddau ar gyfer y Repertory of Welsh Manuscripts, Daniel Huws

Charles Powell, St Teilo founding the college at Llandaff, 1910, detail of a stained glass window at Llandaff cathedral. Photo © Dr Martin Crampin.

Y tîm yn lansio gwefan newydd ‘Taith i’r Gorffennol’ yng nghwmni’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes / The team launching the new ‘Journey to the Past’ website in the company of Lord Dafydd Elis-Thomas, Minister for Culture, Tourism and Sport, and the Vice-Chancellor of Bangor University, Professor John Hughes

Page 4: Y Ganolfan Geltaidd - University of Wales€¦ · mewn gwirionedd, ac mai dull o foli merch drwy ddychymyg llenyddol sydd yma. I gloi’r dydd, trodd Eurig Salisbury ei olygon dros

sy’n edrych yn rhy anodd neu’n anniddorol.

Mae adran ‘Cyfarwyddiadau’ ar gael i bobl sy’n awyddus i ddarllen mwy cyn dechrau a bydd y staff yn trefnu ambell i sesiwn gyhoeddus i bobl gael blas ymarferol ar y prosiect gyda help wrth law.

Lledaenwch y gair am y prosiect: anogwch eich cyfeillion a’ch perthnasau i roi cynnig arno hefyd.

Diolch yn fawr am eich help!

Last year the Dictionary staff made a successful bid for a Welsh Government Cymraeg 2050 grant to establish a pilot project that could eventually lead to all 2.5 million of the Dictionary’s citation slips being transcribed by volunteers into a searchable database, to be called GPC+. This will form a valuable addition to the Dictionary and will also assist the Dictionary editors as they continue to enhance GPC Online and the mobile apps by adding new vocabulary and revising the existing entries. Volunteers will need a reading knowledge of Welsh in order to transcribe the slips, therefore the website is available in a Welsh version only at http://www.geiriadur.ac.uk/slipiau/.

The Dictionary staff encourage all volunteers to have a go themselves and to spread the word to their friends and colleagues.

Cyhoeddir y cylchlythyr hwn yn flynyddol. Gellir cael gwybodaeth bellach am weithgarwch y Ganolfan trwy gysylltu â:Swyddog Gweinyddol, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH.

Ffôn: 01970 636543 • Ffacs: 01970 639090 • E-bost: [email protected] • Gwefan: www.cymru.ac.uk/canolfan

This newsletter is published annually. For further information regarding the activities of the Centre, please contact:The Administrative Officer, University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH.

Tel: 01970 636543 • Fax: 01970 639090 • E-mail: [email protected] • Website: www.wales.ac.uk/cawcs

GPC+HELPWCH I GREU ADNODD NEWYDD

Bwriad GPC+ yw cynnig mynediad i rai o adnoddau Geiriadur Prifysgol Cymru nad ydynt ar gael fel rhan o’r Geiriadur ei hun, sef y slipiau papur yn cynnwys enghreifftiau o eiriau yn eu cyd-destun a gasglwyd dros ganrif bron er mwyn paratoi’r Geiriadur. Ond cyn y gellir defnyddio’r adnodd, bydd angen ei greu!

Enillodd y Geiriadur un o grantiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017 i sefydlu prosiect peilot i greu’r anodd ac i annog gwirfoddolwyr i’n helpu.

Bydd modd i chi gyfrannu at hyn drwy drawsgrifio slipiau. Os bydd digon o bobl yn fodlon helpu fel hyn, dros amser bydd adnodd defnyddiol iawn ar gael. Mae gan y Geiriadur ryw 2.5 miliwn o slipiau papur a baratowyd o 1921 ymlaen, casgliad sy’n dal i dyfu (er bod llawer iawn o ddeunydd cyfoes yn cael ei gasglu’n ddigidol erbyn hyn). Llai nag 20% o’r slipiau sy’n ymddangos yn y Geiriadur fel dyfyniadau – ac mae llawer o’r rheini’n gyfeiriadau moel yn unig heb destun enghreifftiol.

Mae hanes hir gan y Geiriadur o elwa ar waith gwirfoddolwyr. O’r dyddiau cynharaf yn y 1920au, darllenodd cannoedd o bobl wahanol destunau gan nodi enghreifftiau ar slipiau o bapur a’u hanfon at swyddfa’r Geiriadur yn Aberystwyth. Parhaodd y gwaith hwn drwy flynyddoedd cythryblus yr Ail Ryfel Byd, ac mae’r staff yn dal i dderbyn cyfraniadau heddiw – ond fel arfer ar ffurf ddigidol.

Cyhoeddwyd y Geiriadur mewn 61 o rannau rhwng 1950 a 2002, ac yna cyhoeddwyd dechrau’r ail argraffiad (A a rhan o B) rhwng 2003 a 2013. Yn 2014 lansiwyd GPC Ar Lein a’i ddilyn yn 2016 gydag apiau Android ac iPhone. O 1950 ymlaen mae slipiau ychwanegol wedi bod yn cyrraedd – rhai yn cywiro’r Geiriadur, rhai’n ychwanegu ato, a rhai yn dyblygu enghreifftiau sydd yn y Geiriadur. Casglwyd rhyw 390,000 ohonynt i gyd, a’r bwriad yw dechrau drwy roi’r rhain ar lein.

Mae rhai miloedd o slipiau newydd eu digido. Os oes diddordeb gennych, y cwbl sydd ei angen yw cofrestru ar lein fel gwirfoddolwr, ac yna ddewis delwedd o slip a dechrau copïo’r manylion i ffurflen ar lein. Peidiwch â phoeni os na fyddwch yn gallu darllen popeth ar y slip – bydd modd nodi problemau fel y gallwn ni edrych arnynt eto.

Drwy wneud hyn byddwch yn dod ar draws geiriau newydd a dyfyniadau diddorol (a digri, weithiau!) gan gyfrannu at brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n ceisio cofnodi hanes geirfa’r Gymraeg o’i chychwyn cyntaf hyd heddiw.

Mae pob slip yn wahanol – a phob un yn ddiddorol. Cewch drawsgrifio faint fynnoch o slipiau. Does dim rhaid gwneud pob slip un ar ôl y llall – gallwch neidio dros slipiau

Bocsaid o slipiau

Slipiau papur

Ystafell slipiau’r Geiriadur