wales co-operative centre - cymunedau'n creu …...taf fechan mae cydweithrediaeth dai taf...
TRANSCRIPT
Beth yw tai cydweithredoldan arweiniad y gymuned? Pwrpas tai cydweithredol dan arweiniad y
gymuned yw dod â phobl ynghyd i benderfynu
pa fath o gartrefi a chymunedau eu bod am fyw
ynddynt. Gall pobl sy'n rhannu gweledigaeth
ddod ynghyd a chodi llais dylanwadol. Maent
yn chwarae rôl hanfodol ar y cyd â chynghorau,
datblygwyr a buddsoddwyr mewn creu cartrefi
�orddiadwy sy'n diwallu anghenion
cymunedau lleol.
Daw tai cydweithredol dan arweiniad y
gymuned mewn bob lliw a llun. Grwpiau bach o
�rindiau'n prynu tŷ i'w rannu, lesddeiliaid yn
sefydlu pwyllgor rheoli tenantiaid, aelodau o
gymuned yn prynu tir lleol er mwyn datblygu
tai newydd arno, a phobl sydd am ddatblygu
tai cynaliadwy – mae'r rhain i gyd yn
enghrei�tiau.
Mae gan bobl fwy o reolaeth dros ble maent
yn byw, a gallant gydweithio ag eraill er
mwyn cyflawni nod a rennir rhyngddynt.
Cymunedau sy'n creu cartrefi.
2.
Perchenogaeth a rheolaeth Mae tai cydweithredol dan arweiniad y gymuned
yn cynnwys pobl leol mewn penderfyniadau
ynghylch tai – ac felly mae'r canlyniadau'n fwy
llwyddiannus yn aml.
Cai� tai eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae angen
amdanynt – yn aml mewn lleoedd na fyddai datblygwyr
masnachol yn eu hystyried ar gyfer adeiladu tai.
Mae cael dweud eu dweud ynghylch datblygu
a rheoli tai yn meithrin ymdeimlad o rym,
balchder a pherchnogaeth i'r trigolion
Daw cymunedau'n fwy cydnerth gan ddatblygu'r
galluedd i fynd i'r afael ag amrywiaeth o
faterion sy'n e�eithio arnynt
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau
Mae preswylwyr yn teimlo'n hapusach am eu
bod yn rhan o gymuned gefnogol
3.
Bydd hyn yn gwella'r cyflenwad o dai a
darpariaeth tai �orddiadwy
Gall ardaloedd sydd wedi dirywio gael eu hadnewyddu
a chai� tai gwag eu defnyddio unwaith eto
Gall safleoedd bach lletchwith gael eu defnyddio'n dda
Bydd pwysau ar fannau gwyrdd yn lleihau drwy greu
mannau cymunedol a rennir
Gall mwy o bobl gael buddiannau o fod yn berchen ar
dŷ, gyda rhwyd ddiogelwch gefnogol
Ein cymorthMae Cymunedau'n Creu Cartrefi yma i helpu pobl i ddatblygu eu
cynlluniau tai cydweithredol dan arweiniad y gymuned eu
hunain. Yn ogystal â gwella darpariaeth tai, ho�em greu Cymru
gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal a Chymru o
gymunedau cydlynus. Cai� y cynllun ei ariannu gan Sefydliad
Nationwide a Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Ganolfan
Cydweithredol Cymru.
Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wahanol – felly rydym yn
teilwra ein cymorth at anghenion pob cymuned. P'un a ydych yn
newydd i dai cydweithredol dan arweiniad y gymuned, neu
eisoes wedi �urfio grŵp neu am ymuno â grwp sy'n bodoli'n
barod, rydym am eich helpu.
4.
Mae pum cami'n cymorth...
Dave, Jocelle, Casey, Allan, Claire a Paul yw ein
harbenigwyr ar dai cydweithredol dan arweiniad
y gymuned, gyda nifer o flynyddoedd o brofiad yn
y sector. Maent yn frwdfrydig am dai a arweinir
gan y gymuned ac yn mwynhau gweithio gyda
phobl ledled Cymru i ddarganfod atebion er
mwyn diwallu anghenion tai lleol.
Ein tîm
“Yn draddodiadol yng Nghymru, rydym wedi bod
yn genedl sy'n berchen ar ein Tai, ond erbyn hyn
mae perchen eich cartrefeich hun bellach yn
Foethusrwydd sydd allan o gyrraedd llawer o
bobl, yn arbennig y rhai ohonom o'r ‘genhedlaeth
rent'. Ond, gan fod cymaint o straen ar y sector
rhentu cymdeithasol a phreifat, rwyf yn teimlo
mai nawr yw'r cyfle delfrydol i archwilio
dulliau gwahanol, gan gynnwys modelau tai
cydweithredol a rhai a arweinir gan y gymuned.”
- Casey Edwards, Swyddog Prosiect
Cymunedau’n Creu Cartefi
5.
A ydych chi erioed
wedi clywed am dai
cydweithredol dan
arweiniad y gymuned
o'r blaen? Rydym yma
i gyflwyno'r syniad a
gweld a allai hyn
ddatrys eich
problemau tai.
Unwaith y byddwch yn
gwybod rhywbeth am dai
cydweithredol dan
arweiniad y gymuned,
cewch ddarganfod mwy
drwy ein digwyddiadau,
gweithdai a
chyhoeddiadau.
Byddwn yn ateb eich holl
gwestiynau ac yn eich
cysylltu â phobl sydd â'r
un meddylfryd
i archwilio potensial
datblygu cynllun.
Mae'n bosibl y galllwch
wneud cais am grant bach
hyd at £2500. Wedi'i
gydlynu gan DTA Cymru.
Os ydych yn barod i
ddechrau prosiect tai,
byddwn yn cefnogi'ch
grŵp i ddatblygu'r
cydlyniant, y gallu a'r
galluedd sydd eu
hangen er mwyn ei
wireddu. Gyda'n
hy�orddiant mentro
hanfodol, cymorth
technegol a chyngor,
byddwch yn barod i
gymryd y camau nesaf.
Gallwch hefyd
ddefnyddio ein pecyn
cymorth ar-lein sy'n
llawn adnoddau
defnyddiol.
Wrth i'ch cynlluniau
symud ymlaen, rydym
yn cynnig cymorth
ychwanegol,
rhwydweithiau cymorth
gan gymheiriaid a
strategaethau
cynaliadwy er mwyn
sicrhau llwyddiant i'r
eithaf yn y hirdymor.
Rydych wedi cyflawni'ch
gweledigaeth, ond
rydym am ddweud wrth
y byd am eich
llwyddiant! Rydym yn
comisiynu ymchwil ac
yn hyrwyddo'ch stori fel
y gall pobl eraill ddysgu
o'ch profiad.
Ymgysylltu Archwilio Galluogi Ymestyn Addysgu a dylanwadu
Ysbrydolwch
Taf Fechan
Mae Cydweithrediaeth Dai Taf Fechan yn
gydweithrediaeth dai gwbl gydfeddiannol yn
Gelli-deg, a ddatblygwyd mewn partneriaeth
â Cartrefi Cymoedd Merthyr. Mae'n cynnwys
12 �lat dwy ystafell wely. Mae'r holl
denantiaid yn aelodau o'r gydweithrediaeth.
Mae hyn yn golygu bod y tenantiaid yn
rheoli'r gwaith o redeg y gydweithediaeth ac
yn gyfrifol am bopeth o gasglu rhent a dewis
tenantiaid, i ga�ael gwasanaethau glanhau
a chynnal a chadw.
Brithdir Mawr
Mae Cydweithrediaeth Dai Brithdir Mawr
Cyfyngedig wedi bod yn gweithredu fel stiward
ar gyfer �erm 80 erw yn Sir Benfro ers 1994, yn
seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd,
cyd-fyw ac addysg. Ceisia'r rhan fwyaf o'r
preswylwyr ddiwallu cymaint o'u hanghenion â
phosibl o'r tir, gan gynnwys tyfu eu bwyd eu
hunain, prysgoedio eu coed tân eu hunain a
chynhyrchu’r holl drydan y maent yn ei
ddefnyddio o'r afon, yr haul a gwynt. Mae'r
gymuned yn rhannu adnoddau a phrydau bwyd
yn rheolaidd, yn cynnal ymweliadau a
diwrnodau gweithgarwch, ac maent yn gallu
cynnal gweithdai bach allanol.
6.
photo
photo
7.
Cymdeithas Pentref Loftus
Mae Cymdeithas Pentref Loftus, sy'n rhan o
adfywio safle hen Ffatri Pirelli yn Nwyrain
Casnewydd, yn gydweithrediaeth dai
perchenogaeth a rennir a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r Grŵp Pobl, yn seiliedig ar
egwyddorion byw 'yn wyrddach, yn lanach, yn
ddiwastra�'. Mae'r tenantiaid yn rheoli'r
cynllun yn ddemocrataidd, ac mae ganddynt
gytundeb rheoli â Phobl i ddarparu
gwasanaethau tai, gan gynnwys cynnal a
chadw'r ardaloedd awyr agored cymunedol ar
draws gardd y pentref yn ogystal â gardd
gymunedol. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd
yn y gymuned, ac yn gyd-weithio er mwyn
rhannu adnoddau a cha�ael gwasanaethau.
OWCH
Prosiect Older Women's Cohousing (OWCH!)
yn High Barnet, Llundain, yw'r prosiect
cyd-drigo cyntaf ar gyfer pobl hŷn ym
Mhrydain. Mae'r 26 o aelodau (rhwng eu
pumdegau cynnar a'u hwythdegau) yn byw
mewn cartrefi cymdeithas tai sy'n
gymysgedd o dai eiddo preifat a rhai
wedi'u rhentu. Maent wedi creu'r prosiect
eu hunain ac maen nhw bellach ynei
gynnal eu hunain hefyd, gyda phob aelod
yn cymryd rhan yn y broses o wneud
penderfyniadau yn gymunedol.
CysylltuOs ydych yn awyddus i ddarganfod mwy am dai
cydweithredol dan arweiniad y gymuned, rydym am
glywed gennych. Rydym hefyd yn awyddus i siarad â
sefydliadau, busnesau, grwpiau cymunedol neu
gyr� cyhoeddus a ho�ai gefnogi prosiectau tai
cydweithredol dan arweiniad y gymuned.
Mae Canolfan Datblygu a Hy�orddi Cydweithredol Cymru Cyfyngedig (yn masnachu fel Canolfan Cydweithredol Cymru) yn gymdeithas gofrestredig dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, rhif 24287 R. Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael yn Saesneg. Mae �urfiau eraill, megis mewn print bras neu braille, ar gael ar gais. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Saesneg neu Gymraeg a'n nod yw darparu safon gyfartal o wasanaeth yn y ddwy iaith.
0300 111 5050
cymru.coop/tai-cydweithredol