undeb yr annibynwyr cymraeg - se fydlwyd 1 867 cyfrol 152 ......2019/06/06  · arall yn dod, mae...

4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 23 Mehefin 6, 2019 50c. CROESO I RYD-Y-MAIN 13-15 MEHEFIN APÊL MADAGASCAR Cyfanswm yr apêl hyd yma yw £60,000 Gwaith gwych! Daliwch a! Mae yna groeso cynnes yn eich aros yng nghylch Rhyd-y-main yn ystod tridiau Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni. Dowch yn llu oherwydd mae’r pwyllgor lleol wedi bod wrthi’n ddygn yn paratoi ar eich cyfer. O bosib y bydd rhai ohonoch yn gofyn oes yna lawlyfr o hanes yr eglwysi sy’n gwadd wedi ei baratoi? Yr ateb ydi, oes! Ac fe’i cewch o wedi cyrraedd y gynhadledd. Bu tîm ohonom o dan gyfarwyddyd Rhianwen Evans, Rhyd-y-main wrthi’n casglu’r hanes ac yn ei grynhoi yn llawlyfr hwylus, hawdd iawn ei ddarllen. Mae hwn, ac mi fydd eto’n ffynhonell gwybodaeth gyfleus iawn, ac rwy’n siwr y cewch flas ar ei ddarllen. Ar ran y pwyllgor, sy’n gwneud y trefniadau’n gwbl wirfoddol, ac yn bobl sydd a gorchwylion eraill ar agenda’i bywyd, rwy’n mawr obeithio eich bod wedi archebu’ch lluniaeth erbyn hyn, gan i’r wybodaeth fynd allan wythnosau’n ôl bellach. Y gwir yw bod ein dyled ni fel pwyllgor yn ddifesur i Nia Wyn Jones, yr ysgrifennydd, am ymgodymu â’r holl drefniadau ymarferol a hynny yn ychwanegol at ei gwaith dyddiol. Diolch Nia. Boed bendith Duw yn helaeth arnoch. Dowch draw naill ai am y tridiau neu am gyfnod, a chofiwch bod croeso i bawb i’r holl gyfarfodydd a chynadleddau. Iwan Llewelyn Jones Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Pentecost ‘Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle roedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.’ Actau 2: 1-4 Gŵyl o lawenydd ac o ddathlu yw’r Pentecost (neu’r Sulgwyn) i Gristnogion ar hyd a lled y byd. Dathlwn fod Duw yn ein caru’n aruthrol ac yn cadw’n ffyddlon i’w addewidion a’i fod yn arfogi ei bobl i ddod a’i deyrnas i’r byd. Pan oeddwn i’n ifanc roeddwn yn arfer gwylio rhaglen deledu The A Team. Byddai pob rhaglen ar batrwm tebyg i’w gilydd. Roedd pobl ddiniwed mewn tryblith oherwydd ‘pobl ddrwg’ Gelwid ar yr A Team i’w hachub. Cynlluniwyd ffordd i ddal y bobl ddrwg ac yn ddiffael dyna fyddai’n digwydd ar ddiwedd y rhaglen. Yna byddai cymeriad o’r enw Hannibal Smith yn dweud, ‘I love it when a plan comes together.’ Trefnwyd ffordd Yn yr Arglwydd Iesu fe drefnodd Duw ffordd i’n cymodi gydag Ef. Achoswyd rhwyg rhyngom â Duw oherwydd ein hanufudd-dod, ein trachwant a’n hawydd i addoli duwiau bychain y byd hwn. Ond yn ei gariad roedd Duw am drwsio’r rhwyg fel ei fod yn gallu byw mewn perthynas gyda ni. Yn Iesu gweithredwyd y cynllun rhyfeddol hwn. Wedi’r Pasg gallwn ninnau ddweud, ‘I love it when a plan comes together.’ Mae Pedr Fardd yn mynegi’r gwirionedd ychydig yn wahanol i Hannibal Smith: Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Wedi’r atgyfodiad roedd y cynllun dwyfol wedi ei lunio a phopeth yn ei le ond nawr roedd rhaid ei gymhwyso i ddynoliaeth a rhannu’r newyddion da. A dyma ran pwysig o waith yr Ysbryd Glân. Duw yw’r Ysbryd Glân yn gweithredu Ei fwriadau a’i gynllun grasol. Ar ddydd y Pentecost y peth cyntaf wnaeth y Cristnogion, a oedd wedi eu llenwi â’r Ysbryd, oedd mynd allan i strydoedd Jerusalem i rannu’r newyddion da am Iesu. Cymhwyso Pan ddaeth yr Ysbryd ar y disgyblion rhoddwyd iddynt eglurder meddwl. Roeddent wedyn yn deall yn iawn yr holl bethau yr oedd Iesu wedi eu dysgu iddynt. Deallant arwyddocad y Groes a’r farwolaeth dros ein pechodau, yr atgyfodiad a’r gwersi i fod yn ‘bysgotwyr pobl.’ (Ioan 14: 26) Fe’u llanwyd â hyder newydd i wynebu’r byd ac awydd i rannu’r newyddion da gydag eraill. (Actau 2: 37–41) Roedd yr Ysbryd yn rhoi doniau iddynt i wneud y gwaith yn effeithiol, ( Rhufeiniaid 12: 4–8; 1 Corinthiaid 12) ac yn llyfr yr Actau gwelwn sut yr aeth y newyddion da ar led. Cymhwysa ni i her ein hoes Yr hyn sy’n fendigedig yw fod yr Ysbryd Glân gyda ni heddiw fel Cristnogion. Nid digwyddiad un waith ac am byth oedd y Pentecost sydd wedi darfod, ond cychwyn ar gyfnod cyffrous yn hanes pobl Dduw. Mae gwaith yr Ysbryd yn parhau heddiw yn cymhwso yr hyn wnaeth ac a ddysgodd yr Iesu, yn adeiladu Teyrnas Dduw, yn ein llenwi gyda hyder ac awydd i rannu’r newyddion da gan roi’r doniau inni wneud hynny’n effeithiol. Edrychwn ymlaen at y blynyddodd sydd o’n blaenau fel eglwysi yng Nghymru i weld sut y bydd Duw yn gwneud ei waith ynom a thrwom yn ein gwlad.

Upload: others

Post on 08-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 23 Mehefin 6, 2019 50c.

    CROESO I RYD-Y-MAIN13-15 MEHEFIN

    APÊL MADAGASCARCyfanswm yr apêl

    hyd yma yw

    £60,000Gwaith gwych! Daliwch ati!

    Mae yna groeso cynnes yn eich aros yngnghylch Rhyd-y-main yn ystod tridiauCyfarfodydd Blynyddol Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg eleni. Dowch ynllu oherwydd mae’r pwyllgor lleol wedibod wrthi’n ddygn yn paratoi ar eichcyfer. O bosib y bydd rhai ohonoch yngofyn oes yna lawlyfr o hanes yreglwysi sy’n gwadd wedi ei baratoi? Yrateb ydi, oes! Ac fe’i cewch o wedicyrraedd y gynhadledd. Bu tîm ohonomo dan gyfarwyddyd Rhianwen Evans,Rhyd-y-main wrthi’n casglu’r hanes acyn ei grynhoi yn llawlyfr hwylus, hawddiawn ei ddarllen. Mae hwn, ac mi fyddeto’n ffynhonell gwybodaeth gyfleusiawn, ac rwy’n siwr y cewch flas ar eiddarllen.

    Ar ran y pwyllgor, sy’n gwneud ytrefniadau’n gwbl wirfoddol, ac yn boblsydd a gorchwylion eraill ar agenda’ibywyd, rwy’n mawr obeithio eich bodwedi archebu’ch lluniaeth erbyn hyn,gan i’r wybodaeth fynd allanwythnosau’n ôl bellach. Y gwir yw bodein dyled ni fel pwyllgor yn ddifesur iNia Wyn Jones, yr ysgrifennydd, amymgodymu â’r holl drefniadau ymarferola hynny yn ychwanegol at ei gwaithdyddiol. Diolch Nia.

    Boed bendith Duw yn helaeth arnoch.Dowch draw naill ai am y tridiau neu amgyfnod, a chofiwch bod croeso i bawbi’r holl gyfarfodydd a chynadleddau.

    Iwan Llewelyn JonesCadeirydd y Pwyllgor Gwaith

    Pentecost‘Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost

    roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyndyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel

    gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lleroedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roeddfel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yndod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un

    ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn caeleu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrausiarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd

    oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.’Actau 2: 1-4

    Gŵyl o lawenydd ac o ddathlu yw’rPentecost (neu’r Sulgwyn) i Gristnogion arhyd a lled y byd. Dathlwn fod Duw yn eincaru’n aruthrol ac yn cadw’n ffyddlon i’waddewidion a’i fod yn arfogi ei bobl i ddoda’i deyrnas i’r byd.

    Pan oeddwn i’n ifanc roeddwn yn arfergwylio rhaglen deledu The A Team. Byddaipob rhaglen ar batrwm tebyg i’w gilydd.Roedd pobl ddiniwed mewn tryblithoherwydd ‘pobl ddrwg’ Gelwid ar yr ATeam i’w hachub. Cynlluniwyd ffordd iddal y bobl ddrwg ac yn ddiffael dynafyddai’n digwydd ar ddiwedd y rhaglen.Yna byddai cymeriad o’r enw HannibalSmith yn dweud, ‘I love it when a plancomes together.’ Trefnwyd fforddYn yr Arglwydd Iesu fe drefnodd Duwffordd i’n cymodi gydag Ef. Achoswydrhwyg rhyngom â Duw oherwydd einhanufudd-dod, ein trachwant a’n hawydd iaddoli duwiau bychain y byd hwn. Ond ynei gariad roedd Duw am drwsio’r rhwyg felei fod yn gallu byw mewn perthynas gydani. Yn Iesu gweithredwyd y cynllunrhyfeddol hwn. Wedi’r Pasg gallwn ninnauddweud, ‘I love it when a plan comestogether.’ Mae Pedr Fardd yn mynegi’rgwirionedd ychydig yn wahanol i HannibalSmith:

    Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn.

    Wedi’r atgyfodiad roedd y cynllun dwyfolwedi ei lunio a phopeth yn ei le ond nawrroedd rhaid ei gymhwyso i ddynoliaeth arhannu’r newyddion da. A dyma ranpwysig o waith yr Ysbryd Glân. Duw yw’rYsbryd Glân yn gweithredu Ei fwriadau a’i

    gynllun grasol. Ar ddydd y Pentecost ypeth cyntaf wnaeth y Cristnogion, a oeddwedi eu llenwi â’r Ysbryd, oedd myndallan i strydoedd Jerusalem i rannu’rnewyddion da am Iesu. CymhwysoPan ddaeth yr Ysbryd ar y disgyblionrhoddwyd iddynt eglurder meddwl.Roeddent wedyn yn deall yn iawn yr hollbethau yr oedd Iesu wedi eu dysgu iddynt.Deallant arwyddocad y Groes a’rfarwolaeth dros ein pechodau, yratgyfodiad a’r gwersi i fod yn ‘bysgotwyrpobl.’ (Ioan 14: 26) Fe’u llanwyd â hydernewydd i wynebu’r byd ac awydd i rannu’rnewyddion da gydag eraill. (Actau 2:37–41) Roedd yr Ysbryd yn rhoi doniauiddynt i wneud y gwaith yn effeithiol, (Rhufeiniaid 12: 4–8; 1 Corinthiaid 12) acyn llyfr yr Actau gwelwn sut yr aeth ynewyddion da ar led.Cymhwysa ni i her ein hoesYr hyn sy’n fendigedig yw fod yr YsbrydGlân gyda ni heddiw fel Cristnogion. Niddigwyddiad un waith ac am byth oedd yPentecost sydd wedi darfod, ond cychwynar gyfnod cyffrous yn hanes pobl Dduw.Mae gwaith yr Ysbryd yn parhau heddiwyn cymhwso yr hyn wnaeth ac a ddysgoddyr Iesu, yn adeiladu Teyrnas Dduw, yn einllenwi gyda hyder ac awydd i rannu’rnewyddion da gan roi’r doniau inni wneudhynny’n effeithiol. Edrychwn ymlaen at yblynyddodd sydd o’n blaenau fel eglwysiyng Nghymru i weld sut y bydd Duw yngwneud ei waith ynom a thrwom yn eingwlad.

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 6, 2019Y TYST

    Cynhelir Ysgol Haf Gweinidogion yr Annibynwyr

    Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP Ffôn: 01570 424826

    Cadeirydd: Beti-Wyn James24, 25, 26, Mehefin 2019Gwahoddir eleni Arweinwyr

    Lleyg Cydnabyddedig yr UndebLlety yn rhad ac am ddim

    Cofrestru ar 24 Mehefin am 4:00 o’r glochDarlith Goffa W. T. Pennar Davies ac

    R. Tudur Jones Cofio Dic gan Idris Reynolds am 7:30pm

    ar nos Lun 24 Mehefinyn agored i’r cyhoedd

    Enwau i’r ysgrifennydd Chris Owen,erbyn 15 Mehefin os gwelwch yn [email protected] 01269

    826268 neu 07970 990671

    Capel y Baran, Rhyd-y-fro,Pontardawe.

    DARLITHFLYNYDDOL

    gan Gareth HopkinMA, M.Th., M.Phil., M.Ed., M.Min.

    Testun: Ffraeth y Maesnos Fawrth, 11 Mehefin, 2019

    Am 6.30 yr hwyrBydd lluniaeth ysgafn ar gaelCroeso cynnes iawn i bawb

    Manylion pellach Dilys Walters:Ffôn 01792 863823

    SEION, Y GLAIS 1834–2019Ganol Mawrth daeth dros 180 oflynyddoedd o dystiolaeth GristnogolAnghydffurfiol ac addoliad i ben yn un ogapeli enwocaf Cwm Tawe. Sefydlwyd yrAchos yn 1834, pan welodd rhai o aelodauHebron, Clydach yr angen i gwrdd ynagosach i’w cartrefi. Cychwynnodd yreglwys yn ffermdy Pentwyn, Cefn-y-garth.

    AdeiladuCludwyd cerrig gan Evan Jenkins, Craig yPerchyll er mwyn adeiladu addoldy yn1840 a’r saer fu’n gweithio ar y capel oeddy gweinidog, y Parchg William Thomas.Costiodd yr adeilad £200 i’w godi ac yroedd y grisiau i fyny i’r oriel ar y tu allan.Gosodwyd y lle tân gyferbyn â’r pulpud,gwyngalchwyd y muriau allanol a mewnola gosodwyd canhwyllau bob ochr i’rpulpud ac ar bob postyn. Yn 1863gosodwyd lamp olew i hongian uwchben ioleuo’r adeilad yn well.CasgliadRoedd dull diddorol i gasglu cyfraniadau’raelodau ddiwedd oedfa: byddai’r casglwyryn galw’r swm a gyfrennir wrth i bobaelod osod ei arian yn y blwch a dauddiacon yn y set fawr yn cofnodi’r swm.Yna, bob tri mis, byddai symiau pob aelodyn cael eu cyhoeddi ar lafar. Disgwyliwydi bob aelod rhoi 6 cheiniog y mis. Yn 1859prynwyd harmoniwm.Y gweinidog cyntaf oedd William

    Thomas, saer a ddechreuodd bregethu yn yMynyddbach. Byddai’n yfed peint o gwrwcyn pregethu ar y Sul. Bu’r Parchg EsauOwen yn gyd-weinidog ar Hebron a Seionac yn ystod ei gyfnod dechreuwyd y Bandof Hope ac ailadeiladu capel, ‘un o’rharddaf yn y Sir.’ Rhif yr aelodau brydhynny oedd 109 gyda 122 yn yr ysgol Sula 19 athro i’w haddysgu.Niclas y GlaisYn 1869 adeiladwyd Gosen, Trebanos asymudodd 24 o’r aelodau yno. Y Parchg T.E. Nicholas a’r Athro T. J. Morgan yw dauo enwau cyfarwydd Seion. Daeth ‘Niclas yGlais’ i Gwm Tawe o Wisconsin, UDA yn1904 a threulio naw mlynedd gynhyrfus

    yno. Datblygodd ei syniadau gwleidyddolwrth iddo drafod gyda gweithwyr anghenusy pentref, yn ogystal â hynny daeth o danddylanwad Keir Hardie a gweithiau R. J.Derfel, Robert Owen a’r chwyldro ynRwsia. Ef oedd y llefarydd Cymraegmwyaf dawnus dros y Blaid LafurAnnibynnol. Oherwydd iddo gael ei boenigan yr heddlu a’i gondemnio ganwrthwynebwyr gwleidyddol a chrefyddolam iddo siarad yn erbyn y Rhyfel dysgoddNicholas a’i wraig grefft deintyddiaeth gansefydlu deintyddfa ym Mhontardawe.Roedd yn fardd toreithiog a chyhoeddoddddeg o gyfrolau a’r frwydr rhwng Llafur achyfalafiaeth Ryngwladol a oedd yn bwnchollbwysig.Tad Rhodri MorganYsgolhaig ac ysgrifwr dawnus oedd yrAthro T. J. Morgan a aned yn 1907 ac afedyddiwyd gan Niclas. Treuliodd T. J.Morgan gyfnodau ym MhrifysgolCaerdydd ac Abertawe. Hoffai ddychwelydi Gwm Tawe am ddeunydd i ysgrifennuamdano ac roedd ganddo ddiddordeb ynnhafodiaith, hiwmor a llên gwerin yr ardal.Priododd â Huana, merch o Ynystawe a’umeibion oedd Prys a Rhodri Morgan.Hanesyn diddorol arall am Seion, o’r

    gorffennol, yw bod ‘brodyr’ wedi eu dewisyn 1905 i ofalu am ddrysau’r adeilad ‘rhagi bersonau aflonyddu’r gwasanaeth.’ Felmewn nifer o achosion AnghydffurfiolCymraeg gwanychu wnaeth yr aelodaeth acer i’r ymdrech a’r dystiolaeth barhau,penderfyniad anodd, serch hynny, oedd dodâ’r cyfan i ben.Cynhaliwyd yr oedfa ddatgorffori ar 3

    Mawrth gyda’r Parchg Clive Williams ynarwain. Diolch i John Williams amfanylion yr hanes. Bu John yn weithgar ynSeion gydol ei oes, yn ddiacon,ymddiriedolwr a thrysorydd cydwybodol.

    Gareth Richards

  • Mehefin 6, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolUndeb

    Rŷn ni fel Annibynwyr Cymraeg ynfreintiedig iawn mewn sawl ffordd, mae’nsiŵr, ond yr hyn sydd wedi fy nharo i’nddiweddar, a ninnau ar drothwyCyfarfodydd Blynyddol Undeb yrAnnibynwyr yn Rhyd-y-main, yw pa morfreintiedig yr ydyn ni o safbwynttrefniadaeth. Ar lefel leol, mae gan bobaelod hawl i ddweud ei ddweud ac ibleidleisio mewn cwrdd eglwys a chwrddchwarter ac mae gan gynrychiolwyreglwysi ac aelodau personol yr un hawl ynsesiynau busnes Cyfarfodydd Blynyddolyr Undeb. Patrwm mewn democratiaeth!

    Eglwysi AnnibynnolFel y nodir ar wefan yr Undeb am eglwysiAnnibynnol, ‘mae’r aelodau’n ystyried eu

    hunain yn uniongyrchol atebol i Dduw trwyIesu Grist, ac yn gwneud pobpenderfyniad ynglŷn â bywyd a gwaith yreglwys yn unol â’r arweiniad y maent yncredu y mae’r Ysbryd Glân yn ei roiiddynt.’ Dydi hynny ddim yn golygu nad ywpobl yn dehongli materion mewn ffyrddgwahanol ac weithiau’n anghytuno ond ygobaith, o ystyried yr uchod, bod y cyfanyn cael ei wneud mewn ysbryd o gymod.Nid eglwysi ynysigMae pob eglwys sy’n aelod o’r Undeb yncael pecyn gyda thocyn pleidleisio ar gyfery sesiynau busnes ar y dydd Iau a’r dyddGwener. Oes rhywun yn dod o’ch eglwyschi? Byddai’n drueni i’ch pleidlais gael eigwastraffu. Hyd yn oed os oes rhywunarall yn dod, mae modd i chi ddod ynaelod personol o’r Undeb a chael pleidlaisfel hynny. Mae’n debyg y caiff unrhyw unsy’n aelod mewn Eglwys Annibynnol ddodyn aelod personol o’r Undeb am dâlbychan. Dydi’r cynigion ar gyfer sesiynaubusnes y Cyfarfodydd Blynyddol ddimwedi’u cyhoeddi wrth i mi ysgrifennu hwnond fel rheol maent yn ymwneud â’rmeysydd y mae’r Undeb yn ymwneud ânhw – materion ‘ysbrydol, moesol,cymdeithasol, Cymreig a rhyngwladol.’ Aninnau yn aml yn gallu teimlo braidd ynynysig yn ein heglwysi lleol, maetrafodaethau ac adroddiadau Cyfarfodyddyr Undeb yn help i ni deimlo’n bod yn rhano fudiad mwy, o Annibynwyr ledled Cymrua Christnogion trwy’r byd i gyd.

    AmrywiaethWrth gwrs, mae’rOedfa o Fawl nos Iaua’r Cyflwyniad nosWener yn agored i’rbyd. Gobeithio y daw’na griw da i ymuno âni. Mae’r GweithdyGweddi dan ofal Jill-

    Hailey Harries yn swnio’n ddifyr hefyd.Efallai y cawn syniadau i fynd â nhw adregyda ni. Bydd Apêl Madagascar yn cael eichloi’n swyddogol ar y dydd Sadwrn ar ôlblwyddyn o weithgareddau. Un o fyatgofion gorau o’r Cyfarfodydd y llyneddoedd criw llawen o Fadagascar yndechrau canu emyn yn fyrfyfyr wrthddisgwyl am eu bwyd mewn siop jips ynAberaeron.Cymdeithasu a theithioUn o brif atyniadau Cyfarfodydd yr Undebyw’r cyfle i gwrdd â phobl o eglwysi bacha mawr ledled Cymru sy’n wynebu yr unheriau â ni ac yn ymateb iddynt mewngwahanol ffyrdd. Mae’n braf clywed ambobl sy’n gweld cyfle mewn sefyllfa sy’nymddangos yn anobeithiol neu sydd wediymateb i broblem mewn ffordd greadigol.Mae gwerth mewn calonogi’n gilydd a rhoihwb i’r naill a’r llall. Mae hefyd yn brafymlacio a chymdeithasu a chwerthin gydaphobl o’r un anian mewn sefyllfa anffurfiol,cwrdd â hen ffrindiau a gwneud ffrindiaunewydd. Mae’r Cyfarfodydd hefyd yn gyflei ymweld â gwahanol rannau o Gymru.Roedd yn hyfryd cael blas ar drefi bachRhydaman ac Aberaeron yn 2017 a 2018a gobeithio y bydd cyfle i grwydrorhywfaint ar strydoedd Dolgellau a rhoihwb i’r economi leol!

    Beth, felly, ydw i’n edrych ymlaen atoyng Nghyfarfodydd yr Undeb eleni?Trafodaethau adeiladol; defosiwnysbrydoledig; pregeth gofiadwy;cyflwyniad difyr; bwyd blasus; cymdeithasgynnes; chwerthin iach; 4G dibynadwy;toiledau hygyrch (gobeithio); a hwb i ddodadre a gweithredu. Dewch draw!

    Siân Roberts(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

    yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyrna’r tîm golygyddol.)

    Neuadd Rhyd-y-main

    Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog

    ADRAN Y CHWIORYDDAr nos Fawrth 7 Mai, daeth cynulleidfa luosog i gapel Bethesda,Llangennech i’r cyfarfod blynyddol o dan lywyddiaeth MissCathryn Clement. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan aelodau’reglwys, sef Mrs Margaret Lee a Mrs Margaret Harries gyda MrGeraint Williams wrth yr organ. Cafwyd eitem gan Gapel Hope-Siloh dan arweiniad Mrs Gwen Jones.

    Y siaradwr gwadd eleni oedd Mrs Hazel Charles Evans athema’r noson oedd ‘Yr Hen Lawenydd’. Cafwyd ganddi anerchiadgrymus gan adael digon i ni feddwl amdano. Wrth ddatgan bod yGymry Gymraeg yn brysur gefnu ar Dduw, gosododd her i bob unohonom i geisio adfer yr hen lawenydd a choncro difaterwch yr oessydd ohoni.

    Cawsom oedfa fendithiol yng nghwmni un sy’n cyfrannucymaint o Sul i Sul mewn oedfaon led led Cymru.

    Gwnaed casgliad sylweddol yn ystod y gwasanaeth tuag athybu’r achos yn yr Andes sy’n agos iawn at galon Hazel a hithauwedi treulio cymaint o amser yn gweithio yno.

    Caroline Jones (Ysg)

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 6, 2019Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Mae Pant-teg ger Felin-wen, capeldiarffordd yn nwfn yn y bryniau i’rgogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin, ynun o achosion hynaf yr Annibynwyr yn SirGâr. Fe’i sefydlwyd union 350 oflynyddoedd yn ôl i eleni, ac un o’imeibion enwocaf yw’r Parchg JohnThomas Jones o fferm Ffos-y-gaseg, a aethyn genhadwr i Fadagascar yn 1922.

    Ar nos Sul 12 Mai cynhaliwyd oedfaarbennig iawn i ddathlu bywyd y

    cenhadwr, a hynny yng nghwmni ei fab DrPhilip Jones a’i fab yntau Christopher.Adroddwyd yr hanes am fagwraeth JT a’igyfnod mewn carchar fel gwrthwynebyddcydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ganMary Howell, cyn i’r Parchg Emyr GwynEvans ac Angharad Jones roi braslun o’iyrfa fel cenhadwr – yn gefndir i’r cyfancafwyd nifer o sleidiau ar y sgrin fawr.Yna, fe wnaeth Dr Jones adrodd straeonam ei adnabyddiaeth bersonol yntau o’i

    dad, a fu farw yn Llundain yn 1952. Yn y llun lliw gwelir Dr Philip Jones yn

    y canol, gyda’i fab y tu ôl iddo, y ParchgEmyr Lyn Evans (chwith) a’r Parchg EmyrGwyn Evans (dde), gydag aelodau o hendeulu Ffos-y-gaseg oedd wedi dod o bellac agos i ymuno gyda’r gynulleidfasylweddol ar gyfer yr oedfa.

    Yn y llun du a gwyn mae J. T. Jonesgyda’i ail wraig, y genhades Ffrengig,Madeleine Hipeau, a’u plant Philip aLilian. Bu farw ei wraig gyntaf, EmilyBowen o Borth Tywyn yn Madagascar yn1926. (Bydd rhagor o luniau ac hanesion amfywyd J.T. Jones yn Y Tyst cyn bo hir.)

    COFIO CENHADWR ARALL YM MADAGASCAR

    HermonBrynamanMae plant usgol Sul Hermon,Brynaman wedi mwynhau gwrandoa darllen am stori’r Pasg yn yrwythnosau diwethaf. Mae rhaiohonynt hefyd wedi cael cyfle iwneud gwaith crefft yn y festri ahefyd hel wyau Pasg. Dyma nhw’ncreu ac yn casglu.