strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol a … · c.1: awdurdodau parciau...

26
Parciau Cenedlaethol Cymru Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-14

Upload: buithien

Post on 16-Feb-2019

215 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Parciau Cenedlaethol Cymru Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-14

Parciau Cenedlaethol Cymru Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-14 RHAN A: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cefndir Mae cynhwysiant cymdeithasol yn thema drawsbynciol allweddol sy'n dylanwadu ar lawer o bolisi Llywodraeth Cymru ac mae'n rhan ganolog o'r agenda datblygiad cynaliadwy. Adlewyrchwyd hyn yn Yr Adolygiad o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru 2004, ac unwaith eto yn y Datganiad Polisi ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru (2007). Mae'r Datganiad Polisi newydd hwn yn datgan: "Er bod y Parciau'n wledig eu natur yn bennaf, maent yn cynnwys poblogaeth breswyl o dros 80,000, wedi'u lleoli'n agos at gymunedau trefol pwysig, ac mae potensial arwyddocaol ganddynt i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr i Gymru, a chyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles y cyhoedd ac economi Cymru." Pwysleisia'r Datganiad: "Er bod pob un o'r APCau eisoes yn cymryd rhai camau defnyddiol, mae rhagor i'w wneud er mwyn gwireddu nod y weledigaeth sef bod y Parciau'n cael eu mwynhau a'u coleddu gan drawstoriad llawn o'r gymdeithas." Yn olaf, dywedir bod "y Parciau yno i bawb eu mwynhau. Er bod Llywodraeth y Cynulliad am i'r APCau estyn allan i drawstoriad ehangach o'r gymdeithas, dylid gwneud hyn ar y sail y dylai pobl o bob cefndir gael eu hannog a bod croeso iddynt yn yr ardaloedd arbennig hyn." Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb sy’n amlygu camau gweithredu er mwyn:

1. dileu neu leihau i’r eithaf yr anfanteision a brofir gan bobl o ganlyniad i’w nodweddion gwarchodedig

2. cymryd camau i gwrdd ag anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig. Mae cyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Cymdeithasol hon a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig yn chwarae rhan allweddol o safbwynt cyflawni’r ddyletswydd hon. Ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 mae Gweinidogion Cymru wedi adnabod tri amcan strategol ar gyfer Strategaeth Tlodi Plant gyntaf Cymru sy’n ategu pob un o’r nodau eang ynddi:

1. Gostwng nifer y teuluoedd sy’n byw mewn aelwydydd heb waith. 2. Gwella lefel sgiliau rhieni a phobl ifanc mewn teuluoedd ar incwm isel. 3. Lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn y deilliannau iechyd, addysg ac economaidd i blant sy’n byw mewn tlodi, trwy wella deilliannau’r rhai tlotaf.

Diffiniad o dlodi yw: “Tlodi yw pan fo adnoddau pobl mor bell islaw’r norm ar gyfer y gymdeithas y maent yn byw ynddi fel eu bod i bob pwrpas ‘wedi’u heithrio o batrymau, arferion a gweithgareddau byw arferol’”(Monitro Tlodi ac Eithrio Cymdeithasol yng Nghymru 2011 Sefydliad Joseph Rowntree). Yn fwy diweddar mae Mynd i'r afael â Thlodi Plant: Canllawiau a Rheoliadau ar gyfer Awdurdodau Cymreig (2011) yn amlinellu'r dyletswyddau y mae'r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yn eu rhoi ar Awdurdodau Cymru. Mae'n datgan yr hyn y mae'n rhaid i Awdurdodau Cymru ei wneud i fodloni'r ddyletswydd a roddir arnynt i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Disgwylir i gyrff cyhoeddus

ddangos eu hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn unol â 13 nod cyffredinol. Gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddewis amcanion sy'n ymwneud ag un neu ragor o'r nodau cyffredinol sy'n fwyaf perthnasol i'w maes busnes, a nodi blaenoriaethau yn erbyn y nod/au a ddewisir. Mae gwaith Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu'n bennaf at ddau o'r nodau hyn:

a. sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus; b. lleihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant).

Mae amcanion, camau gweithredu a swyddogaethau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i'w hymarfer er mwyn cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol.

Cyflwyniad Roedd Yr Adolygiad o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru 2004 wedi tynnu sylw at yr angen i "ystyried rôl cynhwysiant cymdeithasol y Parciau ar gyfer Cymru gyfan - cymunedau y tu mewn i'r Parciau, ar eu ffiniau a chymunedau trefol pellach i ffwrdd." Mewn ymateb i hyn roedd yr APCau wedi cyd-gomisiynu Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd i gynnal archwiliad o'u gwasanaethau. Mae argymhellion Archwiliad Cynhwysiant Cymdeithasol Tri Pharc Cenedlaethol Cymru 2005 wedi ffurfio'r sail ar gyfer datblygu a darparu strategaeth a chamau gweithredu ar gyfer y tri Pharc ers hynny yna, ar gylchred dwy flynedd sef, 2005-7, 2007-9 a 2009-11. Mae Mynd i'r afael â Thlodi Plant: Canllawiau a Rheoliadau i'r Awdurdodau Cymreig (2011) yn gosod amserlen sy'n gofyn i'r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (ymysg eraill) gynhyrchu Strategaeth Tlodi Plant cyn diwedd 2012, a'i hadolygu erbyn 31 Mawrth 2014. Am y rheswm hwn mae amserlen Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol APC wedi'i hailalinio i gynnwys Strategaeth a Chynllun dros dro ar gyfer 2011-12, a chynllun dwy flynedd ar gyfer 2012-14. Mae'r strategaeth isod wedi cael ei chytuno gan y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol fel modd o hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ym mhob agwedd ar eu gwaith. Fe'i dilynir gan gynllun gweithredu manwl ar gyfer pob Awdurdod sy'n amlinellu sut y bydd yr Awdurdod hwnnw'n cyflawni'r amcanion cytûn o fewn cyd-destun ei Barc ei hun tan Fawrth 2014. Mewn rhai achosion bydd y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd gan bob APC yn debyg; ond mewn achosion eraill bydd angen mabwysiadu ymagweddau gwahanol er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun gwahanol y mae pob Awdurdod yn gweithredu ynddo. Os yw'r APCau yn dilyn camau gweithredu tebyg, bydd ymrwymiad i gydweithio, fel y bo'n briodol, a rhannu arferion da rhwng y tri Pharc. Gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol o fewn cyd-destun eu dibenion a'u dyletswydd statudol yn unig. Mae'n rhaid cael cylch gorchwyl clir sy'n cydnabod rôl unigryw'r Parciau Cenedlaethol fel adnodd i bobl Cymru, y DU a thu hwnt, ac fel darparwyr ar gyfer y gymuned leol nawr ac yn y dyfodol. Mae'r APCau wedi derbyn y cylch gorchwyl ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a argymhellir yn yr Archwiliad fel y nodwyd isod. Er mwyn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol wrth ymarfer eu dibenion, eu dyletswydd a darparu gwasanaethau, bydd Parciau Cenedlaethol Cymru yn:

• mabwysiadu thema drawsbynciol ar draws holl weithgareddau'r APC sy'n cydnabod natur gymhleth ac aml-ddimensiynol allgáu cymdeithasol, ac yn ceisio hybu cynhwysiant cymdeithasol yn holl waith yr APC;

• meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol a cheisio lleihau allgáu

cymdeithasol oherwydd tlodi, diffyg cyflogaeth, diffyg gwasanaethau, iechyd gwael, anabledd, diffyg addysg, rhwystrau seicolegol a diwylliannol, neu anfantais arall a gweithio yn benodol â grwpiau eithriedig ac â sefydliadau sy'n bartneriaid i'r perwyl hwnnw;

• lledu mynediad ar gyfer cymuned ehangach pobl Cymru, y DU a thu hwnt, sy'n gallu cael eu heithrio o ddeall neu fwynhau rhinweddau arbennig y Parciau o ganlyniad i'r rhwystrau a restrwyd uchod.

Nodau Mae pedwar nod y strategaeth cynhwysiant cymdeithasol wedi'u seilio ar y cylch gorchwyl ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a dderbyniwyd gan y tri Pharc Cenedlaethol fel y nodwyd uchod: Mae cynhwysiant cymdeithasol wedi'i ymgorffori yng ngwaith y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol. Mae cynhwysiant cymdeithasol yn thema sylfaenol yn llawer o syniadau strategol yr APCau. Mae'r APCau yn cydnabod yr angen i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ymhellach fel elfen annatod o waith yr Awdurdodau. Mae llunio strategaeth a chynllun gweithredu ar y cyd yn hanfodol i gyflawni hyn. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi agenda lleol cynhwysol sy'n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac iechyd a lles, ac yn cysylltu â dibenion Parciau Cenedlaethol. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau mewn ffordd gynaliadwy i bobl Cymru a thu hwnt. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ddileu Tlodi Plant yng Nghymru. Gall yr APCau gyfrannu'n bennaf at ddau faes gweithredu Tlodi Plant:

a. sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus; b. lleihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant (i'r graddau y mae'n angenrheidiol i lesiant plant).

Ceir cynlluniau gweithredu mwy manwl yn cynnwys ymatebion penodol y Parc Cenedlaethol tua canol y cyhoeddiad hwn. A: Mae cynhwysiant cymdeithasol wedi'i ymgorffori yng ngwaith pob un o'r tri APC

Canlyniadau A.1: Parhau i atgyfnerthu rôl aelodau Bydd y tri Pharc yn cydweithio er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i Aelodau newydd a phresennol gael hyfforddiant a rhannu profiadau. A.2: Parhau i atgyfnerthu cyfranogiad swyddogion Bydd yr APCau yn atgyfnerthu cynnwys swyddogion newydd a phresennol drwy gydweithio i ddarparu cyfleoedd i swyddogion gael hyfforddiant a dysgu o brofiadau pobl eraill. A.3: Dulliau ar waith i sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol yn ganolog i'r holl feysydd gwaith Bydd yr APCau yn ymgorffori cynhwysiant cymdeithasol yn eu gwaith prif ffrwd drwy gael dulliau i sicrhau ei fod yn ganolog i'r holl feysydd gwaith allweddol. A.4: Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol Bydd system gadarn o fonitro ac adolygu yn cael ei rhoi ar waith ym mhob Awdurdod i sicrhau bod targedau cynhwysiant cymdeithasol yn cael eu bodloni a bod sylfaen tystiolaeth ar gael i lywio datblygiadau yn y dyfodol.

B: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi agenda lleol cynhwysol sy'n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac iechyd a lles ac yn cysylltu â dibenion Parciau Cenedlaethol.

Canlyniadau B.1: Yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio'n gynhwysol mewn partneriaethau lleol Bydd yr APCau yn datblygu partneriaethau a fydd yn eu helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau sydd â'r sgiliau a'r profiad o weithio gyda grwpiau sydd wedi'u hallgau yn ogystal â'r rhai sydd â rôl gymunedol neu'n ymwneud â datblygu economaidd. B.2: Iechyd pobl yn gwella trwy ddefnyddio'r Parciau Cenedlaethol Bydd yr APCau yn rhagweithiol wrth gyfrannu at fyw'n iach, gan weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, ychwanegu gwerth a chodi ymwybyddiaeth o'r Parciau Cenedlaethol fel adnodd ar gyfer adloniant iach. B.3: Cymunedau a grwpiau'n cael eu cefnogi gan yr Awdurdod i ddefnyddio'r Parc Cenedlaethol Bydd yr APCau yn gweithio'n rhagweithiol ac mewn partneriaeth ag eraill i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau difreintiedig yn y Parciau a'r ardaloedd cyfagos. B.4: Pawb yn deall y system o gynllunio'r defnydd o dir Bydd yr APCau yn datblygu arferion da ymhellach o ran cynnwys y gymuned, gan gynnwys camau penodol i fynd i'r afael â grwpiau anodd eu cyrraedd drwy'r broses Cynllun Datblygu Lleol. Bydd yr APCau yn gweithio i gryfhau elfen Cynhwysiant Cymdeithasol meysydd polisi priodol megis cyfleusterau cymunedol, treftadaeth ddiwylliannol a chyflogaeth. B.5: Galluogi pobl i fyw o fewn y Parciau Cenedlaethol Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, er enghraifft trwy'r CDU, Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai a phrosesau Argaeledd Tir ar gyfer Tai arfaethedig. B.6: Cymunedau lleol yn gwerthfawrogi'r Parc Cenedlaethol ac yn gweithredu i'w warchod Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd a'r broses strategaeth gymunedol.

C: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau mewn ffordd gynaliadwy i bobl Cymru a'r DU.

Canlyniadau

C.1: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn chwarae rôl lawn yng ngweledigaeth LlC Bydd yr APCau yn ceisio sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl unigryw'r Parciau o ran hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y gymuned o ymwelwyr ehangach, a'u rôl unigryw o ran hyrwyddo'r themâu cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant, byw'n iach a datblygu cynaliadwy, gan roi canllawiau priodol iddynt. C.2: Ymwelwyr o bob gallu yn cael mynediad i rannau o'r Parciau Cenedlaethol Bydd yr APCau yn estyn mynediad i ymwelwyr trwy symud rhwystrau a gwneud cyfleusterau a gwasanaethau'r PC ar gael i gynulleidfa eang gan gynnwys y rhai sydd ag anabledd a/neu iechyd gwael, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau difreintiedig, y rhai ar incwm isel a phobl ifanc. Yn ganolog i'r broses hon fydd cynnwys grwpiau cynrychioliadol sy'n gallu rhoi persbectif "profiad bywyd", a thargedu gwybodaeth ac adnoddau.

C.3: Pobl o bob gallu a chefndir yn gallu darganfod y Parciau Cenedlaethol Mae'n amlwg bod addysg yn ddull effeithiol o gyrraedd nifer fawr o bobl. Bydd yr APCau yn gweithio i gyrraedd cynulleidfa ehangach trwy ddysgu gydol oes ac allgymorth. Os oes modd gwnânt hynny mewn partneriaeth â sefydliadau ac arweinwyr cymunedol eraill yng Nghymru a'r DU sy'n debygol o gyrraedd cynulleidfa ehangach. C.4: Cyfle i bobl o bob gallu a chefndir gael gwybodaeth am y Parciau Cenedlaethol Bydd yr APC yn gweithio i ehangu ei bolisi cyfathrebu er mwyn i bobl Cymru a'r DU allu cael gwybodaeth am y Parciau, gan ystyried grwpiau difreintiedig, er enghraifft pobl ifanc, y rhai ar incwm isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau a grwpiau amddifadedd eraill. C.5: Treftadaeth a diwylliant sy'n ffynnu a gwahaniaethau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol Mae'r APCau yn warcheidwaid treftadaeth a diwylliant Cymru, yn arbennig datblygiad hanesyddol cymunedau gwledig, a pherthynas iaith a diwylliant Cymru â'r tirlun. Bydd yr APCau yn gweithio i wella dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. C.6: Ffocws allweddol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol o fewn pob Parc sy'n adlewyrchu ei nodweddion unigryw ei hun Mae'r APCau yn cydnabod nad oes yr adnoddau ganddynt i symud ymlaen i'r un graddau ym mhob maes cynhwysiant cymdeithasol ar lefel genedlaethol. Gall pob Parc wneud cyfraniad â ffocws at yr agenda cenedlaethol trwy arwain ym maes penodol a datblygu patrwm ar gyfer lledaenu cysylltiadau ac arferion gorau i'r Parciau eraill ac yn ehangach. Ch. Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ddileu Tlodi Plant yng Nghymru

Canlyniadau Ch.1: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus Mae rôl yr APCau fel awdurdodau cynllunio ac o ran cefnogi mentrau lleol (yn enwedig trwy CDC) yn golygu bod modd cyfrannu at weithio mewn partneriaeth ar dai fforddiadwy a thlodi tanwydd, cefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd incwm isel i gael canlyniadau gwell yn y tymor hir a thorri cylchred rhyng-genedlaethol o atgynhyrchu tlodi. Ch.2: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant Mae cyflawni ail ddiben a dyletswydd yr APCau trwy nodau, amcanion a chamau gweithredu'r Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau i drigolion Parciau Cenedlaethol a phlant a theuluoedd sy'n ymweld â'r Parc ac sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a gefnogir gan y Parc neu sydd o dan ei arweiniad neu adloniant anffurfiol. Mae rhaglenni'r APC yn cael eu haddasu i sicrhau’r cyfleoedd mwyaf i blant a phobl ifanc o gartrefi tlawd allu cymryd rhan a chael llwyddiant addysgol, manteision iechyd ac economaidd fel y bo'n briodol i bob rhaglen.

Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-2014 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Maes Gweithredu: Camau gweithredu i'r tri. Awdurdod Parciau Cenedlaethol mewn teip Trwm.

A: Newid sefydliadol er mwyn prif ffrydio cynhwysiant cymdeithasol o fewn y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

A.1: Parhau i atgyfnerthu rôl aelodau

Bydd y tri Pharc yn cydweithio er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i Aelodau newydd a phresennol gael hyfforddiant a rhannu profiadau. Hyfforddiant CC aelodau.

Mae Rhaglen Ddatblygu i Aelodau yn cynnwys hyfforddiant Cynhwysiant Cymdeithasol a Chymunedau Cynaliadwy ac ymweliadau safle ar gyfer Aelodau'r Awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n gwneud penderfyniadau. Ffigwr 1.

A.2: Parhau i atgyfnerthu cynnwys swyddogion

Bydd yr APCau yn atgyfnerthu cynnwys swyddogion newydd a phresennol drwy gydweithio i ddarparu cyfleoedd i swyddogion gael hyfforddiant a dysgu o brofiadau pobl eraill. Hyfforddiant i staff newydd.

A.3: Dulliau ar waith i sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol yn ganolog i'r holl feysydd gwaith

Bydd yr APCau yn ymgorffori cynhwysiant cymdeithasol yn eu gwaith prif ffrwd drwy gael dulliau i sicrhau ei fod yn ganolog i'r holl feysydd gwaith allweddol. Arfarniadau cynaliadwyedd o benderfyniadau a rhaglenni allweddol yn cynnwys cynhwysiant cymdeithasol.

A.4: Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol

Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol. Monitro blynyddol ac adolygiad bob dwy flynedd.

B: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi agenda lleol cynhwysol sy'n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac iechyd a lles ac yn cysylltu â dibenion Parciau Cenedlaethol.

CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

B.1: Yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio'n gynhwysol mewn partneriaethau lleol

Bydd yr APCau yn datblygu partneriaethau a fydd yn eu helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau sydd â'r sgiliau a'r profiad o weithio gyda grwpiau sydd wedi'u hallgau yn ogystal â'r rhai sydd â rôl gymunedol neu'n ymwneud â datblygu economaidd. Prosiect sgiliau OCN, rhaglenni addysg, gr!p cyswllt Mynediad i'r Anabl, prosiect Geocaching, Cymunedau yn Gyntaf.

Celf yn y Parc. I fyfyrwyr celf o'r tu allan i'r Parc. Taith gerdded i Lwybr Celf Ffordd y Bannau i ymweld â cherrig darluniadol artistiaid a gweithio gydag artist Llwybr Celf Ffordd y Bannau - ysgolion Abercraf a Choelbren, MEND (Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth...Ewch Amdani!) a gr!p Ffitrwydd Iau Ystradgynlais wedi cymryd rhan. Ffigwr 2. Croesi Ffiniau'r Parc. Mae Croesi Ffiniau'r Parc yn brosiect pedair blynedd wedi'i ariannu ar y cyd gan APCBB a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae'r prosiect yn cefnogi grwpiau sydd wedi'u hallgáu o fewn a'r tu allan i ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy gynnal ymweliadau cychwynnol â'r Parc a datblygu dulliau arloesol o chwalu rhwystrau gwirioneddol a chanfyddiadol at fwynhau a manteisio ar y Parc Cenedlaethol a chefn gwlad. Ffigwr 3. Geocaching. Mae geocaching yn fath o "gyfeiriadu uwch-dechnoleg" sy'n cynnig cyfle i fwynhau a meithrin ymwybyddiaeth o amgylcheddau awyr agored. Mae defnyddio technoleg llaw GPS a "helfa drysor" Geocache yng

B.2: Lechyd pobl yn gwella trwy ddefnyddio'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn rhagweithiol wrth gyfrannu at fyw'n iach, gan weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, ychwanegu gwerth a chodi ymwybyddiaeth o'r Parciau Cenedlaethol fel adnodd ar gyfer adloniant iach. Cefnogi ysgolion trwy ddefnyddio'r ystafell ddosbarth yn yr awyr agored ac ymweld â'r Parc Cenedlaethol. Gwella mynediad trwy'r Parc cyfan. Prosiect Geocaching, rhaglenni addysg, e.e. Celf yn y Parc. Darparu teithiau tywys.

B.3: Cymunedau a grwpiau'n cael eu cefnogi gan yr APC i ddefnyddio'r Parc Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio'n rhagweithiol ac mewn partneriaeth ag eraill i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau difreintiedig yn y Parciau a'r ardaloedd cyfagos. Prosiect Geocaching, Cymunedau'n Gyntaf (gan gynnwys MEND); darparu profiadau dan arweiniad (rhaglenni addysgu a theithiau tywys).

B.4: Pawb yn deall y system o gynllunio'r defnydd o dir

Bydd yr APCau yn datblygu arferion da ymhellach o ran cynnwys y gymuned, gan gynnwys camau penodol i fynd i'r afael â grwpiau anodd eu cyrraedd drwy'r broses Cynllun Datblygu Lleol. Bydd yr APCau yn gweithio i gryfhau elfen Cynhwysiant Cymdeithasol meysydd polisi priodol megis cyfleusterau cymunedol, treftadaeth ddiwylliannol a chyflogaeth.

B.5. Galluogi pobl i fyw o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

B.6: Cymunedau lleol yn gwerthfawrogi'r Parc Cenedlaethol ac yn gweithredu i'w warchod

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd.

nghefn gwlad agored wedi bod yn boblogaidd gyda nifer o'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Geocaching APCBB. Ffigwr 4.

C: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau mewn ffordd gynaliadwy i bobl Cymru a'r DU. CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

C.1: APCau yn chwarae rôl lawn yng ngweledigaeth LlC

Bydd yr APCau yn ceisio sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl unigryw'r Parciau o ran hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y gymuned o ymwelwyr ehangach, a'u rôl unigryw o ran hyrwyddo'r themâu cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant, byw'n iach a datblygu cynaliadwy, gan roi canllawiau priodol iddynt. Datganiad sefyllfa'r tri Pharc, cyfraniad at Raglen Dewch Allan CCC, rhaglenni addysg.

Dehongliad Cynhwysol. Prosiectau deongliadol yn cynnwys paneli, gwaith celf cymunedol, cerflunwaith, murluniau, drama. Y cyfan yn ceisio bod yn hygyrch yn ddeallusol ac yn gorfforol yn unol â'r canllawiau arferion gorau gan gynnwys canllawiau'r Sensory Trust a'r Fieldfare Trust, e.e. gwaith gyda "Chance Encounters" a Brownies Aberhonddu i greu delweddau wedi'u cerfio'n ddiweddarach ar feinciau derw. Ffigwr 5.

C.2: Ymwelwyr o bob gallu yn cael mynediad i rannau o'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn estyn mynediad i ymwelwyr trwy symud rhwystrau a gwneud cyfleusterau a gwasanaethau'r PC ar gael i gynulleidfa eang gan gynnwys y rhai sydd ag anabledd a/neu iechyd gwael, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau difreintiedig, y rhai ar incwm isel a phobl ifanc. Yn ganolog i'r broses hon fydd cynnwys grwpiau cynrychioliadol sy'n gallu rhoi persbectif "profiad bywyd". Gr!p cyswllt mynediad i'r anabl, Mosaic, dehongliad cynhwysol trwy ganllawiau cenedlaethol, Caffael Dehongliad mewn partneriaethau cymunedol.

C.3: Pobl o bob gallu a chefndir yn gallu darganfod y Parciau Cenedlaethol

Mae'n amlwg bod addysg yn ddull effeithiol o gyrraedd nifer fawr o bobl. Bydd yr APCau yn gweithio i gyrraedd cynulleidfa ehangach trwy ddysgu gydol oes ac allgymorth. Os oes modd gwnânt hynny mewn partneriaeth â sefydliadau ac arweinwyr cymunedol eraill yng Nghymru a'r DU sy'n debygol o gyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhaglen addysg a rhaglenni partneriaethau addysg. Gwaith partneriaeth Powys Sense, rhaglenni enghreifftiol, cynulleidfa ehangach ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau mor hygyrch â phosibl a monitro cyfranogwyr newydd, partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru.

C.4: Cyfle i bobl o bob gallu a chefndir gael gwybodaeth am y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio i ehangu polisi cyfathrebu er mwyn i bobl allu cael gwybodaeth am y Parciau, gan ystyried grwpiau difreintiedig, e.e. pobl ifanc, y rhai ar incwm isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau ac eraill.

Mosaic. Mae Mosaic yn brosiect cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan Ymgyrch dros y Parciau Cenedlaethol sy'n gweithio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i feithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a'r Parciau Cenedlaethol. Ffigwr 6. www.mosaicnationalparks.org

C.5: Treftadaeth a diwylliant sy'n ffynnu a gwahaniaethau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. Mae'r APCau yn warcheidwaid treftadaeth a diwylliant Cymru, yn arbennig datblygiad hanesyddol cymunedau gwledig, a pherthynas iaith a diwylliant Cymru â'r tirlun. Bydd yr APCau yn gweithio i wella dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol leol ar y we a chymorth prosiectau diwylliannol lleol.

C.6: Ffocws allweddol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol o fewn pob Parc sy'n adlewyrchu ei nodweddion unigryw ei hun

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd. Mae'r APCau yn cydnabod nad oes yr adnoddau ganddynt i symud ymlaen i'r un graddau ym mhob maes cynhwysiant cymdeithasol ar lefel genedlaethol. Gall pob Parc wneud cyfraniad â ffocws at yr agenda cenedlaethol trwy arwain ym maes penodol a datblygu patrwm ar gyfer lledaenu cysylltiadau ac arferion gorau i'r Parciau eraill ac yn ehangach. Gwaith APCBB yn cynnwys ffocws ar gymoedd cyfagos De Cymru a grwpiau BBaCh/cymunedau trefol drwy gymryd rhan yn Mosaic Cymru a chynlluniau eraill wrth i gyfleoedd godi. Yn ogystal, bydd y rhaglen addysg graidd yn parhau i ddarparu gwasanaeth i'r cymunedau hyn yn ôl yr adnoddau sydd ar gael.

Ffigwr 1 Ffigwr 2

Ffigwr 3

Ffigwr 4

Ffigwr 5

Ffigwr 6

Ch: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ddileu Tlodi Plant yng Nghymru CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

Ch.1: APCau yn cyfrannu at sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus

Mae rôl yr APCau fel awdurdodau cynllunio ac o ran cefnogi mentrau lleol (yn enwedig trwy CDC) yn golygu bod modd cyfrannu at weithio mewn partneriaeth ar dai fforddiadwy a thlodi tanwydd.

Teithiau Tywys a digwyddiadau. Digwyddiadau hygyrch, cyflwyniadol ac ystyriol o deuluoedd fel rhan o'r rhaglen flynyddol, e.e. Ystlumod ar Brom Aberhonddu, nos Fercher 3 Awst 20:30 - 22:00 "Mewn cydweithrediad â Gr!p Ystlumod Brycheiniog ac Ymddiriedolaeth Natur Brycheiniog. Dewch i ddysgu am ecoleg ystlumod, gwylio ymddygiad ystlumod a chlywed eu galwadau ecosain gan ddefnyddio offer canfod ystlumod yn ystod y noson ddiddorol hon." Symbolau: Esgid 1 (addas i'r rhai mewn cadeiriau olwyn), ystyriol o deuluoedd, dim c!n, digwyddiad Geoparc.

Ch.2: Cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant. Mae'r camau gweithredu (uchod) yn cyfrannu'n arbennig at leihau anghydraddoldebau yn y meysydd hyn: A2, A3, A4, B1, B2, B3, B4, C2, C3, C4, C6.

Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-2014 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Maes Gweithredu: Camau gweithredu i'r tri. Awdurdod Parciau Cenedlaethol mewn teip Trwm.

A: Newid sefydliadol er mwyn prif ffrydio cynhwysiant cymdeithasol o fewn y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

A.1: Parhau i atgyfnerthu rôl aelodau

Bydd y tri Pharc yn cydweithio er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i Aelodau newydd a phresennol gael hyfforddiant a rhannu profiadau. Hyfforddiant CC aelodau.

Rhaglen Hyfforddiant Aelodau APCAP yn cynnwys hyfforddiant Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant, a chyfleoedd ar gyfer Aelodau a'r Tîm Rheoli Craidd i gymryd rhan mewn darparu gwaith ymgysylltu i gael profiad o lygad y ffynnon ynghylch y materion sy'n wynebu cymunedau difreintiedig.

A.2: Parhau i atgyfnerthu cynnwys swyddogion

Bydd yr APCau yn atgyfnerthu cynnwys swyddogion newydd a phresennol drwy gydweithio i ddarparu cyfleoedd i swyddogion gael hyfforddiant a dysgu o brofiadau pobl eraill. Datblygu cynllun cydraddoldeb sengl Hyfforddiant diogelu plant ar gyfer staff priodol.

A.3: Dulliau ar waith i sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol yn ganolog i'r holl feysydd gwaith

Bydd yr APCau yn ymgorffori cynhwysiant cymdeithasol yn eu gwaith prif ffrwd drwy gael dulliau i sicrhau ei fod yn ganolog i'r holl feysydd gwaith allweddol. Pob rheolwr ac arweinwyr tîm i gymryd cyfrifoldeb am ac adrodd ar CC drwy'r Templed Camau Gweithredu Canlyniadau Corfforaethol.

A.4: Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol

Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol. Monitro blynyddol trwy’r broses Ffynnon. Adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor Adolygu Perfformiad.

B: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi agenda lleol cynhwysol sy'n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac iechyd a lles ac yn cysylltu â dibenion Parciau Cenedlaethol.

CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

B.1: Yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio'n gynhwysol mewn partneriaethau lleol

Bydd yr APCau yn datblygu partneriaethau a fydd yn eu helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau sydd â'r sgiliau a'r profiad o weithio gyda grwpiau sydd wedi'u hallgau yn ogystal â'r rhai sydd â rôl gymunedol neu'n ymwneud â datblygu economaidd. Gweithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol fel Cymunedau yn Gyntaf, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, Tîm Anableddau CSP, Prosiect Bikeability, Bwrdd Iechyd Lleol, Coleg Sir Benfro, Ieuenctid Sir Benfro, Her Teulu Sir Benfro, Plant Dewi, sefydliadau yn y sector ieuenctid gwirfoddol.

Cymunedau yn Gyntaf Mae APCAP wedi bod yn gweithio gyda'r Partneriaethau C1af yn Sir Benfro ers 2006. Mae ein ffocws wedi datblygu o ddarparu teithiau cerdded at waith a dargedir i gefnogi themâu allweddol y rhaglen. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r Awdurdod wedi dechrau gweithio'n agosach gyda'r bartneriaeth i gynllunio a darparu ystod o weithgareddau dros gyfnod estynedig, i gynyddu cymhelliant y cymunedau a'r gallu i gael mynediad annibynnol i'r Parc Cenedlaethol. Ffigwr 1. Cafodd y digwyddiad traeth hwn, a fynychwyd gan grwpiau o Gil-maen, Llanion a Blaenau Gwent, ei gyflenwi mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Cadwraeth Forol ac roedd yn cynnwys archwilio’r arfordir, gweithgareddau glanhau traethau, ac ymwybyddiaeth sbwriel morol yn ogystal â gemau gweithredol ar gyfer pob oedran. Prosiect Ffotograffiaeth Dysgu Cymunedol Springboard; prosiect cymunedol sy'n gweithio yn y wardiau mwyaf difreintiedig yn Sir Benfro, yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi a chymorth am ddim i oedolion sydd eisiau mynd yn ôl i ddysgu neu

B.2: Lechyd pobl yn gwella trwy ddefnyddio'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn rhagweithiol wrth gyfrannu at fyw'n iach, gan weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, ychwanegu gwerth a chodi ymwybyddiaeth o'r Parciau Cenedlaethol fel adnodd ar gyfer adloniant iach. • Penodi aelod o staff â chyfrifoldeb

penodol am ddatblygu polisi APCAP ar iechyd a lles

• Gwella a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer mynediad corfforol drwy’r Parc e.e. diweddaru'r cyhoeddiad mynediad hawdd, parhau i leihau nifer rhwystrau a grëwyd gan bobl i gael mynediad i’r llwybrau allweddol, archwilio a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau mynediad hawdd drwy brosiect Walkability

• Rhaglen Ysgolion e.e. ysgolion cynaliadwy, ysgolion awyr agored, Ein Coed, Ein Dyfodol.

B.3: Cymunedau a grwpiau'n cael eu cefnogi gan yr APC i ddefnyddio'r Parc Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio'n rhagweithiol ac mewn partneriaeth ag eraill i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau difreintiedig yn y Parciau a'r ardaloedd cyfagos. Bydd yr APC yn canolbwyntio ei Raglen Allgymorth ar y meysydd hynny o amddifadedd a nodwyd gan ddadansoddiad o anghenion e.e. Prosiect Springboard yn gweithio â Cymunedau yn Gyntaf, pobl oedrannus sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

B.4: Pawb yn deall y system o gynllunio'r defnydd o dir

Bydd yr APCau yn datblygu arferion da ymhellach o ran cynnwys y gymuned, gan gynnwys camau penodol i fynd i'r afael â grwpiau anodd eu cyrraedd drwy'r broses

Cynllun Datblygu Lleol. Bydd yr APCau yn gweithio i gryfhau elfen Cynhwysiant Cymdeithasol meysydd polisi priodol megis cyfleusterau cymunedol, treftadaeth ddiwylliannol a chyflogaeth. Cryfhau cyd-destun polisi CC gan gynnwys diogelu cyfleusterau cymunedol, ystod o gynnyrch twristiaeth priodol, diogelu a meithrin treftadaeth ddiwylliannol gan gynnwys yr iaith Gymraeg, datblygu fesul cam safleoedd mwy, safleoedd cyflogaeth lleol, safleoedd Sipsiwn, polisïau rheoli traffig.

gyflogaeth. Mae staff Allgymorth APCAP yn darparu arbenigedd awyr agored i gyfranogwyr a thiwtoriaid ffotograffiaeth dros gyfres o sesiynau. Bydd y gwaith hwn yn arwain at arddangosfa yn Oriel y Parc yn ystod Haf 2012. Yn ogystal ag adrodd ynghylch mwy o gymhelliant a sgiliau mewn ffotograffiaeth, dangosodd y cyfranogwyr fwy o hyder ac ymgysylltiad â'r awyr agored naturiol a phwysigrwydd ansawdd yr amser yr oedd y sesiynau’n ei roi i rieni a'r plant dan sylw. Ffigwr 2.

B.5: Galluogi pobl i fyw o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. • Cyfarfodydd cyswllt rheolaidd gyda'r cyrff

perthnasol • Cefnogi’r Swyddog Galluogi Tai Gwledig • Cynnal astudiaethau argaeledd tir yn

flynyddol • Anfon llythyrau blynyddol at

dirfeddianwyr i godi ymwybyddiaeth. B.6: Cymunedau lleol yn gwerthfawrogi'r Parc Cenedlaethol ac yn gweithredu i'w warchod

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd. Trwy ymgynghori, cyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiadau hyn.

C: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau mewn ffordd gynaliadwy i bobl Cymru a'r DU. CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

C.1: APCau yn chwarae rôl lawn yng ngweledigaeth LlC

Bydd yr APCau yn ceisio sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl unigryw'r Parciau o ran hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y gymuned o ymwelwyr ehangach, a'u rôl unigryw o ran hyrwyddo'r themâu cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant, byw'n iach a datblygu cynaliadwy, gan roi canllawiau priodol iddynt. Diweddariad 3 e.e. Datganiad Safle’r 3 Parc, yn dylanwadu ar

CSP Her Teulu Sir Benfro yn agored i bob teulu Sir Benfro sydd â phlentyn o dan 12. Mae Hyfforddwyr Ffordd o Fyw yn gweithio'n rheolaidd gyda theuluoedd i newid ymddygiad i ffordd iachach o fyw dros gyfnod o ddeuddeg wythnos. Mae APCAP wedi bod yn gweithio gyda Her Teulu Sir

Ddatganiad Polisi’r Parciau Cenedlaethol, Strategaeth Gorfforaethol.

Benfro trwy gydol y prosiect i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at y cyfleoedd iechyd a lles a gynigir gan y Parc Cenedlaethol. Mae staff PC wedi arwain sesiynau ar gyfer grwpiau ar draws y sir, yn ogystal â rhoi hyfforddiant i Hyfforddwyr Ffordd o Fyw ar sut i helpu teuluoedd i gael mynediad at y manteision mae’r Parc yn eu cynnig iddynt. Ffigwr 3.

C.2: Ymwelwyr o bob gallu yn cael mynediad i rannau o'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn estyn mynediad i ymwelwyr trwy symud rhwystrau a gwneud cyfleusterau a gwasanaethau'r PC ar gael i gynulleidfa eang gan gynnwys y rhai sydd ag anabledd a/neu iechyd gwael, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau difreintiedig, y rhai ar incwm isel a phobl ifanc. Yn ganolog i'r broses hon fydd cynnwys grwpiau cynrychioliadol sy'n gallu rhoi persbectif "profiad bywyd". • Nodi a goresgyn y prif rwystrau i

gynhwysiant a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n cynrychioli grwpiau sydd wedi'u heithrio, drwy raglen Allgymorth e.e. Her Iechyd Sir Benfro, Cymunedau yn Gyntaf, Canolfannau Teulu CSP, Ieuenctid Sir Benfro, prosiect Mosaic

• Cyflwyno cais Loteri Fawr i ddilyn ymlaen o Go4It

• Parhau i wella a hyrwyddo mynediad corfforol i bobl o bob gallu ymweld â'r PC e.e. drwy'r prosiect Walkability, cael gwared ar rwystrau ffisegol ar Lwybr yr Arfordir.

C.3: Pobl o bob gallu a chefndir yn gallu darganfod y Parciau Cenedlaethol

Mae'n amlwg bod addysg yn ddull effeithiol o gyrraedd nifer fawr o bobl. Bydd yr APCau yn gweithio i gyrraedd cynulleidfa ehangach trwy ddysgu gydol oes ac allgymorth. Os oes modd gwnânt hynny mewn partneriaeth â sefydliadau ac arweinwyr cymunedol eraill yng Nghymru a'r DU sy'n debygol o gyrraedd cynulleidfa ehangach. • Gweithio gydag athrawon a phlant

mewn ysgolion wedi'u lleoli mewn cymunedau difreintiedig yn yr ardal leol

• Parhau i weithredu dehongliad 'cynhwysol' ar draws y PC e.e. teithiau clywedol, gweithgareddau a digwyddiadau, llwybrau teulu.

C.4: Cyfle i bobl o bob gallu a chefndir gael gwybodaeth am y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio i ehangu polisi cyfathrebu er mwyn i bobl allu cael gwybodaeth am y Parciau, gan ystyried grwpiau difreintiedig, e.e. pobl ifanc, y rhai ar incwm isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau ac eraill. Parhau i sicrhau bod ein holl gynnyrch cyfathrebu yn darparu ar gyfer sylfaen gynulleidfa mor eang ag y bo modd, gan gynnwys grwpiau / unigolion difreintiedig (e.e. cyhoeddiad Teithiau Cerdded i Bawb, erthyglau a datganiadau i'r wasg yn hyrwyddo ein holl waith cynhwysiant, gwefan gwbl hygyrch).

C.5: Treftadaeth a diwylliant sy'n ffynnu a gwahaniaethau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. • Datblygu Cynllun Gweithredu diwylliant • Datblygu ein gwaith diwylliant a

threftadaeth trwy benodi rheolwr Diwylliant a Threftadaeth

• Defnyddiwch y PC i hyrwyddo a dangos treftadaeth ddiwylliannol e.e. OyP - gweithdai teulu yn canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol, cymryd rhan mewn dathliadau diwylliannol lleol fel g!yl gerddoriaeth, arddangosfeydd sy’n newid yn yr Oriel gyda chyfleoedd dehongli hygyrch, cymorth ar gyfer artistiaid lleol trwy raglen artist preswyl, Prosiect Gwreiddiau Castell Henllys.

C.6: Ffocws allweddol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol o fewn pob Parc sy'n adlewyrchu ei nodweddion unigryw ei hun

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd • Penodi swyddog â chyfrifoldeb penodol

dros Iechyd a Lles yn nhîm Polisi'r Parc • APCAP yn bartner mewn 'Cynllun Creu Sir

Benfro Egnïol' • Parhau i ddatblygu a hyrwyddo Teithiau

Cerdded i Bawb • Rhaglen Addysg ac Allgymorth i gynnwys

hybu iechyd a lles a mentrau byw yn iach e.e. Prosiect Walkability, prosiect Ysgolion Awyr Agored, cymorth i bobl ifanc a'u teuluoedd e.e. trwy Plant Dewi, sefydliadau ieuenctid statudol a gwirfoddol, Her Teulu Sir Benfro; cefnogaeth ar gyfer y rhai mewn iechyd gwael e.e. Grwpiau Adsefydlu Cardiaidd, gweithio gyda grwpiau sydd ag anableddau corfforol a meddyliol.

Ffigwr 1:

Ffigwr 2:

Ffigwr 3:

Ffigwr 4:

Ffigwr 5:

Ch: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ddileu Tlodi Plant yng Nghymru CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

Ch.1: APCau yn cyfrannu at sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus

Mae rôl yr APCau fel awdurdodau cynllunio ac o ran cefnogi mentrau lleol (yn enwedig trwy CDC) yn golygu bod modd cyfrannu at weithio mewn partneriaeth ar dai fforddiadwy a thlodi tanwydd. • Darparu cyngor / caniatâd cynllunio i

ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar safleoedd a ddynodwyd yn y Cynllun

• Nodi safleoedd na fyddai fel arfer yn cael eu dyrannu ar gyfer tai fforddiadwy (safleoedd eithriadau)

• Gweler B2 uchod.

Prosiect Plant Dewi Dadventure John Muir Mae APCAP wedi gweithio gyda'r prosiect rhianta Dadventure i wella sgiliau tadau wrth ddefnyddio'r awyr agored fel y gallent yn ei dro redeg sesiynau ar gyfer eu plant yn y gwyliau. Dros 4 sesiwn roedd y tadau’n profi ystod o leoliadau a gweithgareddau ac wedi ennill gwobr John Muir. Aethant ymlaen i gynnal diwrnod allan ar gyfer eu plant ac maent wedi helpu i ddylunio taflen newydd i annog rhieni eraill i wneud yr un peth. Ffigwr 4. Gwirfoddoli cadwraeth ymarferol Pontio/Sgiliau Gwaith Coleg Sir Benfro (anghenion dysgu ychwanegol/NEETS). Mae'r cyrsiau hyn yn rhoi'r cyfle i'r rhai sydd angen cefnogaeth amgylchedd hyfforddi, ac nad oes ganddynt yr hyder neu gymhelliant i fynychu sesiynau misol a ddarparwn ar gyfer gwirfoddolwyr Gwobr Dug Caeredin, sef bloc o sesiynau cadwraeth ymarferol o wirfoddoli. Er mai dim ond dau ddiwrnod o wirfoddoli oedd ei angen ar eu cwrs, dewisodd y rhan fwyaf wneud y 7 diwrnod llawn, gan ymweld ag amrywiaeth o gynefinoedd a chymryd rhan mewn tasgau ymgysylltu ac awyr agored ymarferol amrywiol, ac enillasant Wobr Darganfod John Muir. Yn ystod eu cyflwyniad 'rhannu' roedd y

Ch.2: Cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant. • Ymgynghori gyda Phartneriaeth Plant a

Phobl Ifanc Sir Benfro i asesu anghenion plant lleol

• Ffocysu Allgymorth a sesiynau gweithgareddau Ysgol ar ardaloedd lleol a nodwyd yn rhai difreintiedig gan ddadansoddiad anghenion PPPI e.e. datblygu prosiect i gefnogi ysgolion yn y chwartel 2 LSOAs

• Cefnogi sefydliadau mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog i adeiladu gallu i ddefnyddio'r PC ar gyfer gweithgareddau diwylliannol a hamdden

• Trwy ein rhaglen Allgymorth cefnogi rhieni a theuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder mewn defnyddio'r awyr agored yn annibynnol e.e. gweithio gyda Plant Dewi, Her Iechyd Sir Benfro

• Cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan weithredol mewn gwarchod nodweddion arbennig yr amgylchedd drwy wirfoddoli e.e. drwy gynlluniau Dug Caeredin a John Muir

• Gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i leihau anghydraddoldebau iechyd ac annog plant a phobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain a chwarae rhan weithredol mewn cynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain - cefnogaeth ar gyfer Adsefydlu Cardiaidd, Chwarae yn y Parc, Her Teulu Sir Benfro,

prosiectau GECIEI • Darparu cyfleoedd i bobl ifanc ac

oedolion wella eu cyfleoedd economaidd drwy ddysgu seiliedig ar waith, yn enwedig y rhai o gymunedau difreintiedig

• Gwella cyfleoedd i’r rhai ag anabledd gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl i gael mynediad i'r Parc e.e. drwy brosiect Walkability

• Mynd i'r afael â thlodi gwasanaeth trwy helpu i ddarparu gwasanaethau hygyrch, teg o fewn cymunedau, sydd yn aml yn wledig o ran natur ac yn cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau cludiant cyhoeddus cyfyngedig - Cynllun Bws Lonydd Glas a pholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar hygyrchedd

• Darparu cyfleoedd hygyrch i ymweld â theuluoedd i fwynhau a deall y PC e.e. partner gyda Chyngor Sir Penfro i ddarparu uned symudol ar gyfer traethau sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd hamdden awyr agored i deuluoedd ar draethau yn y PC, cynyddu cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau mewn cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid a safleoedd carafanau, datblygu cyfleoedd dysgu i deuluoedd yn yr holl ganolfannau APC a safleoedd sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o arddulliau dysgu a dewisiadau.

cyfranogwyr yn hynod gadarnhaol yngl"n â’u profiadau ac maent yn awyddus i wirfoddoli yn y dyfodol. Ffigwr 5.

Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Tlodi Plant 2012-14 Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Maes Gweithredu: Camau gweithredu i'r tri. Awdurdod Parciau Cenedlaethol mewn teip Trwm.

A: Newid sefydliadol er mwyn prif ffrydio cynhwysiant cymdeithasol o fewn y tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

A.1: Parhau i atgyfnerthu rôl aelodau

Bydd y tri Pharc yn cydweithio er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i Aelodau newydd a phresennol gael hyfforddiant a rhannu profiadau. Hyfforddiant Cynhwysiant Cymdeithasol & Tlodi Plant i Aelodau.

A.1: Rhaglen Hyfforddi Aelodau APCE yn cynnwys hyfforddiant Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant, a chyfleoedd i Aelodau a'r Tîm Rheoli Craidd i gymryd rhan mewn darparu gwaith ymgysylltu i gael profiad uniongyrchol o’r materion sy'n wynebu cymunedau difreintiedig. A.3: Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Eryri, yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ac yn cynnwys cynrychiolaeth o unigolion anabl a grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau unigolion anabl, mae ganddo hefyd gynrychiolaeth eang o staff ac Aelodau'r Awdurdod. Ffigur 1.

A.2: Parhau i atgyfnerthu cynnwys swyddogion

Bydd yr APCau yn atgyfnerthu cynnwys swyddogion newydd a phresennol drwy gydweithio i ddarparu cyfleoedd i swyddogion gael hyfforddiant a dysgu o brofiadau pobl eraill. Hyfforddiant Cynhwysiant Cymdeithasol & Thlodi Plant i staff newydd. Hyfforddi staff ar gyfer gwaith gyda grwpiau ac unigolion bregus.

A.3: Dulliau ar waith i sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol yn ganolog i'r holl feysydd gwaith

Bydd yr APCau yn ymgorffori cynhwysiant cymdeithasol yn eu gwaith prif ffrwd drwy gael dulliau i sicrhau ei fod yn ganolog i'r holl feysydd gwaith allweddol. Gwerthusiadau cynaliadwyedd o brif benderfyniadau a rhaglenni yn cynnwys cynhwysiant cymdeithasol. Fforwm Adborth Mosaic (Eiriolwyr BME) a phrosiect Newid Sefydliadol. Hefyd cyfarfodydd Fforwm Cydraddoldeb Anabledd ac adborth o hynny.

A.4: Monitor and review the social inclusion strategy and action plan

Monitro ac adolygu strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysiant cymdeithasol. Monitro blynyddol ac adolygiad bob 2 flynedd.

B: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi agenda lleol cynhwysol sy'n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac iechyd a lles ac yn cysylltu â dibenion Parciau Cenedlaethol.

CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

B.1: Yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio'n gynhwysol mewn partneriaethau lleol

Bydd yr APCau yn datblygu partneriaethau a fydd yn eu helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau sydd â'r sgiliau a'r profiad o weithio gyda grwpiau sydd wedi'u hallgau yn ogystal â'r rhai sydd â rôl gymunedol neu'n ymwneud â datblygu economaidd. Rhaglenni addysg a Fforwm Cydraddoldeb Anabledd. Allgymorth i gyrff Cymunedau’n Gyntaf. Cymorth CAE i brosiectau lleol cynwysedig. Hefyd yn parhau i weithio gyda’r Bartneriaeth Pobl Ifanc a'r Rhwydwaith Iechyd a Lles.

B.2: Mae gan APCE berthynas agos â T! Meirion – Uned yn Ysgol y Gader, Dolgellau, ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol ychwanegol. Mae'r Awdurdod yn trefnu ac yn ariannu ymweliad dau ddiwrnod bob blwyddyn â Phlas Tan y Bwlch (canolfan addysg amgylcheddol yr Awdurdod). Mae'r Swyddog Treftadaeth Ddiwylliannol hefyd yn trefnu gweithdai celf yn yr ysgol. Ffigwr 2. B.3: Gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byw’n Annibynnol leol - teithiau cerdded hygyrch, dosbarthiadau celf therapiwtig a gweithdai garddio yn cael eu trefnu i’w haelodau. Yn ddiweddar bu i’r Awdurdod hefyd gyfrannu 7 Cyfrifiadur wedi’u hadnewyddu i'r Ganolfan - i'w ddosbarthu i'w defnyddio gartref gan aelodau anabl. Ffigwr 3.

B.2: Iechyd pobl yn gwella trwy ddefnyddio'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn rhagweithiol wrth gyfrannu at fyw'n iach, gan weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, ychwanegu gwerth a chodi ymwybyddiaeth o'r Parciau Cenedlaethol fel adnodd ar gyfer adloniant iach. Cefnogi ysgolion wrth ddefnyddio'r ystafell ddosbarth awyr agored ac wrth gynnal ymweliadau â'r Parc Cenedlaethol. Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu ymweliadau addysg â chymhorthdal i blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi e.e. T! Meirion. Darparu mynediad di-rwystr. Gwella mynediad trwy’r rhaglen i adleoli camfeydd â gatiau. Darparu teithiau tywys & rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer unigolion â nam ar eu golwg, unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn, a defnyddwyr gwasanaeth Hafal.

B.3: Cymunedau a grwpiau'n cael eu cefnogi gan yr APC i ddefnyddio'r Parc Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio'n rhagweithiol ac mewn partneriaeth ag eraill i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau difreintiedig yn y Parciau a'r ardaloedd cyfagos. Darparu profiadau dan arweiniad (rhaglen Addysg a Theithiau Cerdded Tywys). Cyflenwi Cronfa Ddatblygu Gynaliadwy i gefnogi mentrau lleol cynhwysol. Hefyd, trwy barhau i weithio gyda'r prosiect Mosaic, unigolion â nam ar eu golwg, defnyddwyr cadair olwyn, defnyddwyr gwasanaeth Hafal a Cil De Gwynedd.

B.4: Pawb yn deall y system o gynllunio'r defnydd o dir

Bydd yr APCau yn datblygu arferion da ymhellach o ran cynnwys y gymuned, gan gynnwys camau penodol i fynd i'r afael â grwpiau anodd eu cyrraedd drwy'r broses Cynllun Datblygu Lleol. Bydd yr APCau yn gweithio i gryfhau elfen Cynhwysiant

Cymdeithasol meysydd polisi priodol megis cyfleusterau cymunedol, treftadaeth ddiwylliannol a chyflogaeth.

B.5: Galluogi pobl i fyw o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. Dros gyfnod y cynllun CDLl 2007-2022 amcangyfrifir y bydd 415 o anheddau fforddiadwy yn cael eu cyflenwi. Parhau i gyfrannu at ariannu Swyddogion Hwyluso Tai Gwledig yng Ngwynedd a Chonwy.

B.6: Cymunedau lleol yn gwerthfawrogi'r Parc Cenedlaethol ac yn gweithredu i'w warchod

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd.

C: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau mewn ffordd gynaliadwy i bobl Cymru a'r DU. CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

C:1. APCau yn chwarae rôl lawn yng ngweledigaeth LlC

Bydd yr APCau yn ceisio sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl unigryw'r Parciau o ran hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y gymuned o ymwelwyr ehangach, a'u rôl unigryw o ran hyrwyddo'r themâu cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant, byw'n iach a datblygu cynaliadwy, gan roi canllawiau priodol iddynt. Diweddariad datganiad sefyllfa y 3 Parc. Ceisio sicrhau bod CC yn parhau’n rhan o ddatganiad polisi y Parciau Cenedlaethol.

C.2: Mae'r Awdurdod yn trefnu teithiau cerdded misol ar gyfer pobl â Nam ar eu Golwg ac i aelodau o Canolfan Galw Heibio Hafal. (Hafal yn Sefydliad sy'n gweithio ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl dwys). Ffigwr 4.

C:2. Ymwelwyr o bob gallu yn cael mynediad i rannau o'r Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn estyn mynediad i ymwelwyr trwy symud rhwystrau a gwneud cyfleusterau a gwasanaethau'r PC ar gael i gynulleidfa eang gan gynnwys y rhai sydd ag anabledd a/neu iechyd gwael, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau difreintiedig, y rhai ar incwm isel a phobl ifanc. Yn ganolog i'r broses hon fydd cynnwys grwpiau cynrychioliadol sy'n gallu rhoi persbectif "profiad bywyd". Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Eryri, Mosaic (Eiriolwyr BME) Ymweliadau

Arweinyddion Gr"p. Dehongliad cynhwysol drwy ganllawiau cenedlaethol, Caffael Dehongli mewn partneriaethau cymunedol.

C.4: Mosaic Mosaic yn brosiect cenedlaethol a arweinir gan Campaign For Nation Parks yn gweithio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i adeiladu cysylltiadau cynaliadwy rhwng cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a Pharciau Cenedlaethol. www.mosaicnationalparks.org

C:3. Pobl o bob gallu a chefndir yn gallu darganfod y Parciau Cenedlaethol

Mae'n amlwg bod addysg yn ddull effeithiol o gyrraedd nifer fawr o bobl. Bydd yr APCau yn gweithio i gyrraedd cynulleidfa ehangach trwy ddysgu gydol oes ac allgymorth. Os oes modd gwnânt hynny mewn partneriaeth â sefydliadau ac arweinwyr cymunedol eraill yng Nghymru a'r DU sy'n debygol o gyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhaglen addysg a rhaglenni partneriaeth addysg. Cynulleidfa ehangach i’r rhaglen ddigwyddiadau. Partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru. Monitro darpariaeth addysg gan gynnwys niferoedd o grwpiau wedi’u heithrio/ plant mewn tlodi.

C:4. Cyfle i bobl o bob gallu a chefndir gael gwybodaeth am y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn gweithio i ehangu polisi cyfathrebu er mwyn i bobl allu cael gwybodaeth am y Parciau, gan ystyried grwpiau difreintiedig, e.e. pobl ifanc, y rhai ar incwm isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau ac eraill. Mosaic (Eiriolwyr BME), cyswllt â grwpiau mynediad.

C:5. Treftadaeth a diwylliant sy'n ffynnu a gwahaniaethau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol

Bydd yr APCau yn parhau i gydweithio â'r cynghorau sir cyfansoddol a darparwyr tai cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn gallu darparu tai fforddiadwy priodol, e.e. trwy'r CDU a'r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. Gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol leol ar y we a chefnogi prosiectau diwylliannol lleol. Asesu effaith datblygiadau arfaethedig ar yr Iaith Gymraeg drwy weithdrefnau cynllunio. Parhad o Bwrlwm Eryri a chefnogi digwyddiadau diwylliannol lleol drwy’r Gronfa Grantiau Bychain a chronfa CAE.

C:6. Ffocws allweddol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol o fewn pob Parc sy'n adlewyrchu ei nodweddion unigryw ei hun

Bydd yr APCau yn rhagweithiol ac yn rhyngweithiol wrth gyfathrebu â chymunedau lleol gan gynnwys defnyddio trefniadau wedi'u sefydlu trwy Gynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol presennol a newydd. Gwaith APCE yn canolbwyntio ar y prosiect treftadaeth ddiwylliannol Bwrlwm Eryri yn ogystal â Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Eryri.

Ffigwr 1

Ffigwr 2

Ffigwr 3

Ffigwr 4

Ffigwr 5

Ffigwr 6

Ch: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ddileu Tlodi Plant yng Nghymru CANLYNIADAU

MAES GWEITHREDU

ENHREIFFTIAU O BROSIECTAU

Ch.1: APCau yn cyfrannu at sicrhau bod pob plentyn yn tyfu mewn tai gweddus

Mae rôl yr APCau fel awdurdodau cynllunio ac o ran cefnogi mentrau lleol (yn enwedig trwy CDC) yn golygu bod modd cyfrannu at weithio mewn partneriaeth ar dai fforddiadwy a thlodi tanwydd. Dros gyfnod y cynllun CDLl 2007-2022 amcangyfrifir y bydd 415 o anheddau fforddiadwy yn cael eu cyflenwi.

P2. Hwylusodd Swyddog Treftadaeth Ddiwylliannol yr Awdurdod brosiect Pontio'r Cenedlaethau yn y Celfyddydau yng Nghanolfan Ddydd pobl h!n Blaenau Ffestiniog. Drwy weithio gydag arlunydd sefydledig cafodd plant o ysgolion cyfagos weithio mewn partneriaeth â'r bobl h!n i greu gludwaith yn seiliedig ar eu hatgofion a'u profiadau o'r ardal. Ffigwr 6.

Ch.2: Cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden rhwng plant a rhwng rhieni plant. Mae'r camau hyn (uchod) yn cyfrannu’n arbennig at leihau anghydraddoldebau yn y meysydd hyn: A2, A3,A4, B1, B2, B3, B4, C2, C3, C4, C6.