rnib cymru branded word template · web viewtitle rnib cymru branded word template author chas...

25
Dyma ddysgu a gweithio yng Nghymru Sut mae pobl sydd wedi colli eu golwg yn llwyddo ym myd dysgu a gwaith Eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis Cynnwys Rhagair Kathy Williams, seicolegydd cynorthwyol Sian Phillips, glanhäwr, peintiwr a phapurwr Stephen Edwards, hyfforddwr ffitrwydd a therapydd tylino Stephanie Abell, cynorthwyydd adnoddau dynol Sara Johnson, hyfforddwr symudedd plant dan hyfforddiant Ruth Nortey, swyddog cymorth gwasanaethau a gwirfoddolwyr dan hyfforddiant Helen Russell, gweinyddwr ansawdd cenedlaethol Y cynllun Mynediad i Waith Datgelu colli golwg mewn cyfweliad Cymorth cyflogaeth RNIB Cymru Gwybodaeth i gyflogwyr Cysylltiadau defnyddiol Rhagair 66 = Canran y bobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall a rhannol ddall sydd o oed gweithio ac sydd yn ddi-waith yn y Deyrnas Unedig. 92 = Canran y cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n credu ei bod naill ai’n “anodd” neu’n “amhosibl” cyflogi rhywun sydd wedi colli ei olwg. RNIB Cymru – yn cefnogi pobl ddall ac â golwyg rhannol RNIB Cymru – supporting blind and partially sighted people Rhif elusen gofrestredig 226227 Registered charity number 226227

Upload: others

Post on 21-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Dyma ddysgu a gweithio yng Nghymru

Sut mae pobl sydd wedi colli eu golwg yn llwyddo ym myd dysgu a gwaith

Eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis

Cynnwys Rhagair Kathy Williams, seicolegydd cynorthwyol Sian Phillips, glanhäwr, peintiwr a phapurwr Stephen Edwards, hyfforddwr ffitrwydd a therapydd tylino Stephanie Abell, cynorthwyydd adnoddau dynol Sara Johnson, hyfforddwr symudedd plant dan hyfforddiant Ruth Nortey, swyddog cymorth gwasanaethau a gwirfoddolwyr

dan hyfforddiant Helen Russell, gweinyddwr ansawdd cenedlaethol Y cynllun Mynediad i Waith Datgelu colli golwg mewn cyfweliad Cymorth cyflogaeth RNIB Cymru Gwybodaeth i gyflogwyr Cysylltiadau defnyddiol

Rhagair66 = Canran y bobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall a rhannol ddall sydd o oed gweithio ac sydd yn ddi-waith yn y Deyrnas Unedig.92 = Canran y cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n credu ei bod naill ai’n “anodd” neu’n “amhosibl” cyflogi rhywun sydd wedi colli ei olwg.92 = Canran y cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sydd yn anghywir ym marn RNIB Cymru!

Mae Dyma ddysgu a gweithio yng Nghymru yn adrodd hanes chwech o bobl ddall a rhannol ddall sydd wedi eu cyflogi’n llwyddiannus mewn ystod eang o swyddi. Mae’r bobl hyn yn cynrychioli’r cyfleoedd y gellir cael atynt a’r llwyddiannau hynny sydd yn bosibl o ran dysgu a chyflogaeth. Maent yn dystion i’r ffaith nad yw colli golwg wedi eu rhwystro rhag dod o hyd i waith neu fwynhau gyrfaoedd werth chweil. Yng ngeiriau Sara Johnson,

RNIB Cymru – yn cefnogi pobl ddall ac â golwyg rhannolRNIB Cymru – supporting blind and partially sighted peopleRhif elusen gofrestredig 226227Registered charity number 226227

Page 2: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

hyfforddwr symudedd plant dan hyfforddiant, sydd ei hun yn rhannol ddall:

“Gyda digon o ddyfalwch, uchelgais a phenderfyniad, ’does dim terfyn ar y posibiliadau!”

Mae Dyma ddysgu a gweithio yng Nghymru yn dangos sut y gellir goresgyn heriau colli golwg yn y gweithle. Mae’n amlinellu’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael gan RNIB Cymru a chynllun Mynediad i Waith, ynghyd â nodi rhai o’r pethau hynny y dylech feddwl amdanynt fel unigolyn wedi colli ei olwg sydd yn chwilio am waith.

Mae’r llyfryn hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth i gyflogwyr sydd am gefnogi staff sydd yn ddall ac yn rhannol ddall o fewn eu sefydliadau ac mae’n amlygu peth o’r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer.

Diolch o galon i’r rhai hynny sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu profiadau a chyfrannu at y llyfryn hwn. Gobaith RNIB Cymru yw y bydd eu hanesion yn gymhelliant ac yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd yn eu darllen ac sy’n wynebu heriau tebyg.

Kathy Williams, seicolegydd cynorthwyolFy enw i yw Kathy ac rwy’n gweithio i fwrdd iechyd ABMU yn Abertawe. Rwy’n seicolegydd cynorthwyol ac rwyf wrth fy modd fy mod o’r diwedd yn fy swydd berffaith – wedi’r cyfan, mae wedi cymryd hydoedd i mi gyrraedd yma. Mae’r gystadleuaeth am swyddi’n un ffyrnig ond llwyddais yn erbyn tua 80 o ymgeiswyr eraill i gael y swydd hon.

Rwy’n rhannol ddall, ac mae gennyf glefyd Stargardt sy’n golygu colli golwg canolog. Cefais fy niagnosis pan roeddwn yn 17 oed ac roedd hynny’n anodd ar y pryd, ond, wrth dderbyn a deall y diagnosis, gwrthodais adael iddo fy rhwystro. Fy llygaid i sy’n gwrthod gweithio, mae fy ymennydd yn gweithio’n iawn.

Penderfynais edrych ar yr opsiynau prifysgol, ac roeddwn yn awyddus i ddilyn gradd mewn seicoleg. Soniais am fy mwriad wrth feddyg roeddwn yn ei weld yn Llundain. “Seicoleg?” dywedodd,

rnib.org.uk2

Page 3: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

“Ddewch chi byth i ben â’r gwaith.” Roedd ef o’r farn y byddai seicoleg yn ormod o her i fy retinâu bach bregus – ond roedd ymhell o’i le! Ers hynny rwyf wedi cwblhau gradd mewn seicoleg ac wedyn gradd meistr mewn seicoleg iechyd, wedi cyflwyno fy ngwaith mewn cynadleddau cenedlaethol ac rwyf yn y broses o fod yn seicolegydd iechyd. Methu ymdopi? Penderfynwch chi.

Roedd fy nghyfnod yn y brifysgol yn rhyfeddod a gallaf ddweud heb air o gelwydd mai dyma oedd blynyddoedd gorau fy mywyd. Roedd y staff academaidd a’r tîm gwasanaethau myfyrwyr yn wych yn darparu popeth roedd ei angen arnaf, gan roi mwy o amser i mi wneud fy ngwaith, a mwynhau fy hun.

Gydol fy nghyfnod yn y brifysgol gwirfoddolais gyda nifer o elusennau er mwyn cael profiad a gwneud ffrindiau newydd. Rwy’n gwybod petawn heb wirfoddoli i weithio yn yr adran rwyf yn gweithio ynddi nawr, ni fyddwn wedi cael cyfweliad. Mae angen i bobl fel fi wneud i gyflogwyr edrych heibio i’r anabledd ac felly roedd gwirfoddoli yn cynnig cyfle da i ddatblygu sgiliau, gwneud ffrindiau newydd ac arddangos yr hyn y gallwn ei wneud i gyflogwyr a fyddai, oni bai am hynny, yn pryderu ynglŷn â fy nghyflogi i. Byddem yn argymell gwaith gwirfoddol i unrhyw un.

Wrth edrych yn ôl, roedd y cyfweliad cyntaf a gefais yn un eithaf difyrrus:“Felly, dydych chi ddim yn gyrru?”“Na – rwy’n rhannol ddall.”“Sut ydych chi’n bwriadu mynd o le i le ‘te? Beic?”

Gwenais a chwerthin gan geisio gwneud yn fach ohono ond ar yr un pryd roeddwn yn synnu sut y gallai unrhyw un mor ddysgedig fod mor anwybodus. Chefais i mo’r swydd, cafodd rhywun â mwy o brofiad na fi’r swydd, ond rwy’n siwr mai hynny oedd orau. Ni wnaeth y profiad negyddol fy rhwystro – beth bynnag, nid wyf wedi gweithio mor galed â hyn er mwyn gweithio i rywun fel yna.

Fe wnes i ddal ati a cheisio am lawer o swyddi nes i mi lwyddo i gael y swydd berffaith i mi fel seicolegydd cynorthwyol. Bellach, rwy’n defnyddio cynllun Mynediad i Waith sy’n darparu offer

rnib.org.uk3

Page 4: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

chwyddwydrau sy’n hanfodol o ran fy ngalluogi i wneud fy ngwaith o ddydd i ddydd.

Y cyngor y byddwn yn ei gynnig i unrhyw un sydd yn dechrau ar swydd newydd fyddai:

Byddwch yn effro. Mae Mynediad i Waith yn gynllun rhagorol ond gwnewch yn siwr eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted ag y gallwch gan ei fod yn gallu cymryd ychydig o wythnosau rhwng cyflwyno cais a chael yr offer neu’r cymorth yn ei le.

Cofiwch mai chi yw’r arbenigwr. Dim ond fi sy’n gallu gweld drwy fy llygaid i ac rwy’n gwybod beth allaf a beth na allaf ei wneud a beth fydd yn fy helpu i symud ymlaen. Daliwch at hyn – efallai bod y bobl fendigedig yn Mynediad i Waith yn tybio eu bod yn gwybod beth sydd orau i chi, ond nid yw hynny’n wir bob amser.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd, peidiwch ag ofni dweud hynny. Yn aml iawn nid yw cyflogwyr yn gyfarwydd â materion sy’n ymwneud â cholli golwg, felly gwnewch yn siwr eich bod yn esbonio pethau.

Yn bennaf oll – mwynhewch!

Sian Phillips, glanhäwr, peintiwr a phapurwrFy enw i yw Sian Phillips ac rwy’n gweithio yn Theatr y Grand yn Abertawe. I ddechrau roeddwn yno dan hyfforddiant fel peintiwr a phapurwr, ac roedd hynny’n waith pleserus iawn. Roedd fy hyfforddiant yn dod i ben ond roedd y Grand yn gallu gweld fy ymrwymiad a fy mrwdfrydedd tra roeddwn dan hyfforddiant, ac felly cefais gynnig swydd fel glanhäwr. Collais rywfaint o’m golwg pan ddechreuais yn y swydd yn gyntaf, ond roedd pawb yn y Grand yn barod iawn i helpu ac maent felly o hyd.

Rwy’n mwynhau fy swydd ac nid yw colli fy ngolwg wedi bod yn broblem o gwbl.

O ran y dyfodol, hoffwn gael swydd mewn gwaith cymdeithasol ac rwy’n bwriadu siarad â Gyrfa Cymru i drafod pa gymwysterau sydd angen i mi eu cael i gyrraedd fy nod.

rnib.org.uk4

Page 5: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Nid yw colli golwg yn golygu na allwch gael swydd a llwyddo. Os oes gennych agwedd gadarnhaol ac os ydych yn addysgu pobl ynglŷn â’r cymorth y mae ei angen arnoch, byddwch yn siwr o fynd ymhell.

Stephen Edwards, hyfforddwr ffitrwydd a therapydd tylinoHelo. Fy enw i yw Stephen Edwards ac mae retinitis pigmentosa arnaf. Rwy’n hyfforddwr ffitrwydd/therapydd tylino lefel tri. Cymerodd ddwy flynedd i mi hyfforddi ac nid oedd yn hawdd am fy mod wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu am un flynedd ar bymtheg cyn hynny. Hyfforddais yng Ngholeg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion yn Swydd Henffordd ond dechreuodd y gwaith anodd o ddifrif ar ôl i mi gymhwyso, pan ddaeth yr adeg i mi chwilio am waith go iawn.

Cefais gymorth gan ymgynghorydd cyflogaeth RNIB Cymru i lunio fy CV a chwilio am swydd a thrwy hynny roedd y gwaith o chwilio am swydd yn haws.

Cefais swydd gyda Crown Fitness a chefais fy nghyflogi am chwe mis ar gynllun gan y llywodraeth o’r enw Cronfa Swyddi'r Dyfodol. Roeddwn wrth fy modd pan benderfynodd y gampfa gynnig swydd barhaol i mi pan ddaeth y cynllun i ben, ac rwyf wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae cynllun Mynediad i Waith wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i mi gan ei fod yn cynnig help tuag at deithio i’r gwaith ac yn sicrhau bod gennyf yr offer sydd ei angen arnaf i wneud fy ngwaith o ddydd i ddydd.

Heb gymorth yr RNIB a Mynediad i Waith rwy’n credu y buaswn yn chwilio am waith o hyd, felly, mil o ddiolch.

Fel ffordd o ddiolch, mae’r gampfa wedi gweithio gyda fi dros y flwyddyn ddiwethaf i godi arian ar gyfer yr RNIB ac mae gennym fwy o ddigwyddiadau i godi arian ar y gweill ar gyfer y dyfodol.

Dim ond un peth sydd gennyf i’w ddweud wrth unrhyw un ag anabledd, peidiwch â rhoi i fyny a daliwch i gredu fod gennych gymaint o hawl i weithio a mwynhau bywyd ag sydd gan unrhyw un

rnib.org.uk5

Page 6: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

arall. Diolch am ddarllen fy stori a gobeithio y byddaf yn darllen amdanoch chi cyn bo hir.

Stephanie Abell, cynorthwyydd adnoddau dynolFy enw i yw Stephanie ac rwyf wedi bod yn rhannol ddall gydol fy oes.

Es i i ysgol brif ffrwd a chefais 11 TGAU cyn mynd ymlaen i’r chweched dosbarth i wneud lefel A. Fe wnes i gwblhau lefelau A mewn busnes cymhwysol a TGCh a dilynais gwrs cyfrifyddiaeth yn y coleg erbyn nos.

Ar ôl gorffen fy astudiaethau cefais waith yn y diwydiant lletygarwch. Llwyddais i ddod i ben heb unrhyw gymorth o gwbl yno – a dweud y gwir, ar yr adeg honno nid oeddwn yn ymwybodol fy mod yn gymwys i dderbyn cymorth yn y gweithle.

Ar yr un pryd, gwirfoddolais i weithio yng Ngŵyl Gerdd Raglen a chefais fy hun yn gyfarwyddwr y digwyddiad. Drwy’r gwaith gwirfoddol gwneuthum yno, roeddwn yn gallu arddangos fy ngallu a fy mhotensial a chwrddais â rhywun a roddodd y cyfle i mi gael gyrfa yn y maes roedd gennyf gymwysterau ynddo.

Rwyf bellach yn gweithio fel cynorthwyydd adnoddau dynol lle rwyf yn cynllunio ac yn rheoli hysbysebu swyddi gweigion ac yn rhedeg ochr weinyddol y cwmni. Pan ddechreuais weithio yno, soniodd fy swyddog adfer am gynllun Mynediad i Waith sydd yn rhoi hawl i mi dderbyn cymorth. Llwyddais i gael meddalwedd darllen sgrin sydd yn fy helpu i wneud fy ngwaith yn llawer mwy effeithlon. Y peth gorau oedd canfod bod gennyf hawl i gael help i deithio i’r gwaith ac yn ôl ac y gallwn dderbyn arian gan y cynllun i dalu am dacsi neu i dalu ffrind i fy ngyrru. Nid oeddwn yn ymwybodol o hyn o’r blaen ac roedd wedi amharu llawer ar fy ymdrechion i chwilio am waith oherwydd roeddwn yn tybio fy mod wedi fy nghyfyngu i radiws o ddeng milltir. Mae cael y cymorth hwn yn rhad ac am ddim wedi cael effaith fawr ar yr annibyniaeth y gallaf ei chael o ran gwaith.

Rwy’n wirioneddol hapus yn fy ngwaith, a bellach rwyf ar lwybr sy’n fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa a chael boddhad o’m swydd ac,

rnib.org.uk6

Page 7: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

fel petai hynny ddim yn ddigon, prynodd fy nghariad a minnau dŷ'r llynedd. Mae’n wych.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n darllen hwn i fod yn agored ac yn onest bob amser am golli eu golwg a chanfod pa gymorth gallwch ei gael yn y gwaith, p’un ai tacsi i’r gwaith ac adref neu gymorth ar gyfer prynu meddalwedd darllen sgrin, mae’n eich galluogi i fod yn fwy annibynnol ac arddangos y gwaith y gallwch ei wneud yn iawn. Mae’n llawer gwell i fod yn agored ac yn onest yn hytrach nag eistedd yno yn brwydro arni, ac mae’r agwedd hon wedi gweithio i mi bob tro. Mae popeth yn bosibl ac mae cymorth yno i chi bob amser i oresgyn anawsterau cysylltiedig â golwg - dim ond i chi ei ddefnyddio.

Sara Johnson, hyfforddwr symudedd plant dan hyfforddiantFy enw i yw Sara Johnson a hoffwn rannu fy mhrofiadau gyda chi.

Ganwyd fy ngefeilles a minnau dri mis yn gynnar ac mae gennyf retinopathi cynamserol sy’n golygu nad oes gennyf unrhyw olwg yn fy llygad chwith a golwg cyfyngedig yn fy llygad dde. Rwyf felly wedi derbyn cymorth gydol y system addysg ac rwyf nawr yn derbyn cymorth gan Mynediad i Waith.

Astudiais Gymraeg, Ffrangeg a Chymdeithaseg ar gyfer lefel A a graddiais o Brifysgol Abertawe (lle bûm yn gweithio’n galed a chwarae hyd yn oed yn galetach) yn 2010 gyda 2:1 mewn Cymraeg a Ffrangeg. Tra roeddwn yn y brifysgol, cefais gymorth ychwanegol drwy’r Lwfans Anabledd Myfyrwyr a ariannodd rhywun i gymryd nodiadau, gweithiwr cynorthwyol yn y llyfrgell ac offer arbenigol. Yn dilyn hyn, gwirfoddolais ar gyfer nifer o sefydliadau. Drwy hyn fe fagais yr hyder, y sgiliau a’r gallu i wneud ceisiadau am swyddi.

Ar ôl nifer o gyfweliadau am swyddi cefais fy nghyflogi ar Gynllun Gradd Hyfforddai fel swyddog cefnogi gwasanaeth o dan hyfforddiant ar gyfer Cardiff Vales and Valleys. Cefais gymorth heb ei ail i ddatblygu fy sgiliau a’m profiad cyn symud ymlaen i weithio gyda Guide Dogs Cymru. Yn fy rôl newydd rwyf wedi cael cyfle gwych i hyfforddi fel hyfforddwr symudedd plant ac i astudio ar

rnib.org.uk7

Page 8: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

gyfer Diploma i Raddedigion mewn Cymhwysedd ac Anableddau Golwg (Plant a Phobl Ifanc) yn yr Athrofa Addysg yn Llundain.

Rwyf wedi derbyn llawer o gymorth a gwybodaeth gan swyddog pontio RNIB Cymru a mynychais eu Rhaglen Cymorth i Gyflogaeth yn yr haf. Roedd hynny’n amhrisiadwy. Rwyf hefyd wedi derbyn cymorth gan Mynediad i Waith ac wedi defnyddio offer arbenigol a gyrrwr cynnal yn fy swydd flaenorol. Yn fy swydd bresennol rwy’n defnyddio tacsis ac offer fel teledu cylch cyfyng, chwyddwydr fideo, monitor sgrin fawr a Zoomtext. Ariennir y cyfan gan gynllun Mynediad i Waith ac mae’n fy ngalluogi i i gyflawni fy nyletswyddau bob dydd yn y gweithle.

Credaf yn gryf y gall pobl ifanc fel fi, sydd â nam ar eu golwg, fod yn eiriolwyr drostynt eu hunain a chyflawni eu huchelgeisiau. Gyda digon o ddyfalbarhad, uchelgais a phenderfyniad, mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw!

Ruth Nortey, swyddog cymorth gwasanaethau a gwirfoddolwyr dan hyfforddiantHelo. Fy enw i yw Ruth, rwy’n 25 oed ac yn byw yng Nghaerdydd. Fe’m cofrestrwyd yn ddall yn 2008 ar ôl i mi ddioddef dau achos unigol o niwreitis optig yn y ddau lygad. Cychwynnodd y problemau gyda fy ngolwg ar ddechrau’r ail flwyddyn yn y brifysgol ac o ganlyniad cefais egwyl o fy astudiaethau. Dychwelais ddwy flynedd yn ddiweddarach a graddiais o Brifysgol Caerdydd yn 2011 gyda BA Anrhydedd mewn Ffrangeg a Japaneeg.

Rwy’n hoff iawn o deithio ac fel rhan o fy ngradd treuliais flwyddyn dramor. Gweithiais yn Ffrainc am chwe mis fel cynorthwyydd iaith Saesneg ac wedyn astudiais mewn prifysgol yn Japan am bum mis. Roeddwn yn gofidio y byddai colli fy ngolwg yn golygu y byddwn yn methu gorffen fy ngradd neu wneud fy mlwyddyn dramor ond, er gwaethaf fy mhryderon gwreiddiol, dyma oedd rhan orau fy ngradd.

Yn ystod fy mlwyddyn olaf yng Nghaerdydd, cefais wybod am wasanaeth pontio’r RNIB a gyflwynodd lawer o gyfleoedd cyffrous i mi nad oeddwn yn gwybod amdanynt o’r blaen.

rnib.org.uk8

Page 9: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Yn ystod yr haf mynychais Raglen Cymorth i Gyflogaeth gyntaf yr RNIB a gynhaliwyd dros bum niwrnod yng Nghaerdydd. Roedd yn wythnos arbennig a dysgais am Mynediad i Waith, sut i sôn am golli fy ngolwg mewn cyfweliad ynghyd â llawer o bethau diddorol eraill. Cwrddais â llawer o bobl ar y cwrs a oedd oddeutu fy oedran i ac roeddent yn deall y problemau’n iawn. Gwnes ffrindiau bendigedig a byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd allan yno yn chwilio am waith.

Yn union cyn i mi raddio fe wnes gais am swydd gyda RNIB Cymru fel swyddog cymorth gwasanaethau a gwirfoddolwyr dan hyfforddiant ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig y swydd. Gwnes gais i Mynediad i Waith am asesiad o’r gweithle gan fod angen meddalwedd ac offer arbenigol arnaf. Cefais feddalwedd chwyddwydr ar gyfer fy nghyfrifiadur a chwyddwydr bwrdd gwaith i’w ddefnyddio pan roeddwn allan o’r swyddfa. Gan nad wyf yn gallu gyrru cefais lwfans ar gyfer tacsis i’w defnyddio ar gyfer y gwaith hefyd.

Mae’r Cynllun Gradd Hyfforddai rwyf yn ei wneud yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr dros ben i mi, ond yn y dyfodol rwy’n bwriadu dilyn gyrfa mewn datblygu rhyngwladol a defnyddio fy ngwybodaeth fel ieithydd. Rwyf hefyd yn gobeithio ffitio ychydig yn fwy o deithio i mewn yn y dyfodol agos.

Helen Russell, gweinyddwr ansawdd cenedlaetholHelo. Fy enw i yw Helen Russell ac rwy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Shaw fel gweinyddwr ansawdd cenedlaethol. Rôl genedlaethol yw hon sy’n cefnogi ymgynghorwyr ansawdd yr Ymddiriedolaeth i gydlynu eu gwaith yn gweithredu safonau ansawdd ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r rôl hefyd yn golygu teithio o amgylch y Deyrnas Unedig i fynychu cyfarfodydd sawl gwaith y mis ac weithiau mae angen aros dros nos. Rwy’n derbyn cefnogaeth gan Mynediad i Waith sydd wedi darparu teledu cylch cyfyng, monitor mawr, Zoomtext ar gyfer PC a gliniadur ac arian i mi deithio i’r gwaith ac yn ôl, sy’n hanfodol o ran fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

rnib.org.uk9

Page 10: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Cyn cael fy nghyflogi gan Ymddiriedolaeth Shaw, roeddwn yn gweithio fel cynorthwyydd meithrin ac roeddwn wrth fy modd yno. Drwy fy ngwaith yno sylweddolais y byddwn yn hoffi gweithio mewn amgylchedd nyrsio. Nid oeddwn yn siwr a fyddwn i’n gallu gweithio mewn ysbyty, felly cymerais swydd yn gweithio ar switsfwrdd yr ysbyty fel y gallwn ddod i adnabod cynllun yr ysbyty a dysgu am y gwahanol gyfleoedd nyrsio. Yn y pen draw, gwnes gais am swydd yn yr Uned Gofal Dwys a hyfforddi fel technegydd cynorthwyol mewn cymorth nyrsio.

Roedd yn rhaid i mi adael nyrsio oherwydd salwch a phryd hynny ymunais ag Ymddiriedolaeth Shaw, ac rwyf wedi bod yma am dros wyth mlynedd. Rwyf wedi cael sawl swydd gyda’r Ymddiriedolaeth ac mae rhai ohonynt wedi bod yn fwy llwyddiannus nag eraill. Roedd un rôl yn benodol yn anodd oherwydd fy ngolwg ac felly roedd yn rhaid i mi wneud cais am swyddi mwy addas wrth iddynt ymddangos. Nid wyf yn edrych arnynt fel methiannau – maent yn hytrach yn brofiadau gwerthfawr ac mae’r sgiliau a gefais drwy’r profiadau hynny yn fy helpu i nawr.

Y gyfrinach i lwyddiant yw bod yn realistig ynglŷn â’ch nodau ond ar yr un pryd peidio â phryderu am fethu. Mynnwch y cymorth sydd ar gael i chi drwy’r RNIB ac asiantaethau eraill a pheidiwch â rhoi i fyny. Mae’r byd yn llawn cyffro a chyfleoedd.

Y cynllun Mynediad i Waith Pan fyddwch yn chwilio am waith mae’n bwysig dros ben eich bod yn gwybod am y cynllun Mynediad i Waith.

Nod y cynllun yw:• annog cyflogwyr i recriwtio a chadw unigolion anabl drwy gynnig cymorth ymarferol• darparu cyngor i bobl anabl a’u cyflogwyr er mwyn eu helpu i oresgyn rhwystrau cysylltiedig â’r gwaith o ganlyniad i anabledd• galluogi pobl anabl i weithio ar sail fwy cyfartal ochr yn ochr â’u cydweithwyr nad ydynt yn anabl • cynnig grantiau tuag at gostau ychwanegol yn y gweithle o ganlyniad uniongyrchol i anabledd gweithiwr

rnib.org.uk10

Page 11: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Un o raglenni’r Ganolfan Byd Gwaith ydyw a gall dalu am bethau fel:• addasiadau i adeiladau ac offer• cymhorthion ac offer arbennig, er enghraifft meddalwedd chwyddo sgrin• gweithwyr cymorth• teithio i’r gwaith lle nad oes dewis trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol ar gael, a theithio ar gyfer y gwaith• hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer eich cydweithwyr.

Bydd y cymorth a gewch yn ddibynnol ar y gwaith rydych yn ei wneud a’ch anghenion chi. Cewch eich asesu gan asesydd Mynediad i Waith a fydd yn trafod y cymorth rydych yn debygol o’i angen ac yn edrych ar ofynion eich swydd.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun Mynediad i Waith a’r cymorth y mae’n ei gynnig ewch i www.direct.gov.uk neu cysylltwch ag ymgynghorwyr cyflogaeth RNIB Cymru (gweler Cysylltiadau defnyddiol yng nghefn y llyfryn).

Datgelu colli golwg mewn cyfweliadMae’n bwysig ystyried os a phryd y byddwch yn sôn am golli eich golwg wrth unrhyw ddarpar gyflogwyr. Nid yw’n orfodol i chi ddweud wrth unrhyw gyflogwr am hyn, ond os ydych angen cymorth drwy Mynediad i Waith ac am sicrhau bod y cyflogwr yn deall eich cyflwr a sut mae’n effeithio arnoch chi, mae’n syniad da i amlinellu eich anghenion a’u helpu i ddeall.

Byddai llunio strategaeth ddatgelu sydd, yn sylfaenol, yn gynllun sy’n nodi pryd a sut y byddwch yn datgelu colli eich golwg, yn arfer da.

Enghraifft Dylai’r cyfweliad ei hun ganolbwyntio ar eich galluoedd, eich sgiliau a’r cymwysterau sy’n eich galluogi i wneud y swydd. Felly, mae llawer o bobl yn dewis datgelu ar ddiwedd y cyfweliad pan fydd y cyflogwr yn gofyn a oes gennych chi unrhyw gwestiynau i’w gofyn. Dyma’r cyfle i drafod y nam ar eich golwg, felly fe allech ddweud:“Dydyn ni ddim wedi trafod y ffaith fy mod â nam ar fy ngolwg…”

rnib.org.uk11

Page 12: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Gallech fynd ymlaen i esbonio. Dyma fy nghyflwr i (er enghraifft nystagmus) a dyma sut mae’n

effeithio arnaf. Dyma’r cymorth sydd ei angen arnaf yn y gweithle (er enghraifft

meddalwedd darllen sgrin/teledu cylch cyfyng). Dyma’r cynllun a all gyfrannu’n llawn neu’n rhannol at ei ariannu

(Mynediad i Waith). Oes gennych chi unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn i mi

ynglŷn â hyn?

Dim ond un ffordd o fynd i’r afael â’r mater yw hwn a gallwch lunio eich cynllun eich hun a fydd yn gweithio orau i chi. Beth bynnag rydych yn bwriadu ei wneud, gwnewch yn siwr eich bod wedi meddwl amdano cyn y cyfweliad a cheisiwch ymarfer yr hyn rydych am ei ddweud fel ei fod yn glir yn eich meddwl.

Pam datgelu? Efallai bydd cyflogwr yn cwestiynu sut y gallwch ymgymryd â’r

swydd dan sylw. Dyma eich cyfle chi i esbonio pa offer/cymorth y gallwch eu defnyddio er mwyn cyflawni eich dyletswyddau yr un mor effeithlon ag unrhyw un o’ch cydweithwyr sy’n gallu gweld yn iawn.

Efallai bod cyflogwyr yn gofidio bod yr offer sydd ei angen arnoch yn ddrud. Dywedwch wrthynt am gynlluniau fel Mynediad i Waith a dangoswch fod arian a chymorth ar gael.

Helpwch y cyflogwr i ddeall. Yn aml iawn mae gan gyflogwyr gamargraff am nad ydynt wedi cyfarfod o’r blaen â rhywun sydd wedi colli golwg. Dyma eich cyfle chi i addysgu cyflogwyr a thawelu eu pryderon.

Cymerwch yr awenau. Dyma eich cyfle chi i gymryd yr awenau a rheoli unrhyw drafodaeth ynglŷn â cholli’ch golwg, felly llywiwch y sgwrs a dangoswch i’r cyflogwr eich bod yn barod i’w drafod yn agored. Bydd hyn yn ei annog i ofyn cwestiynau a bydd yn gymorth i ddisodli unrhyw gamargraff ddi-sail sydd ganddo.

Mae datgelu’n bwysig o ran ymrwymiadau’r cyflogwr unwaith y mae wedi cynnig y swydd i chi. Os nad yw cyflogwr yn gwybod am eich problem neu os na fyddai wedi gallu gwybod yn rhesymol am eich problem yna ni fyddwch yn cael eich diogelu gan y Ddeddf Cydraddoldeb.

rnib.org.uk12

Page 13: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Rhagor o helpGall staff pontio a chyflogaeth RNIB Cymru gynnig mwy o gyngor mewn perthynas â datgelu. Cysylltwch â ni’n uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

Cymorth cyflogaeth RNIB CymruMae RNIB Cymru’n cynnig gwasanaethau cyflogaeth i bobl ledled Cymru. Mae ein hymgynghorwyr cyflogaeth ar gael i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg sydd naill ai’n symud i mewn i waith neu sydd angen help i gadw eu swyddi ar ôl colli eu golwg.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig: gwybodaeth a chymorth dros y ffôn, gan gynnwys cyfeirio at

ffynonellau lleol o gymorth ledled Cymru cyrsiau meithrin sgiliau sy’n cynnwys chwilio am waith, y broses

o gyflwyno cais a sgiliau cyfweld, yn ogystal â sut i ddatgelu eich bod wedi colli eich golwg i ddarpar gyflogwr

clybiau gwaith mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg

cymorth un i un gyda CV, ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau

rhaglenni preswyl cyn cyflogaeth.

Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth ac arbenigedd ein hymgynghorwyr cyflogaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gwybodaeth i gyflogwyrMae gan RNIB Cymru ei wasanaeth cyflogaeth pwrpasol ei hun at ddiben cefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg i gael gwaith a dal ato. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr fel bod ganddynt well dealltwriaeth o faterion sy’n wynebu pobl â nam ar y golwg er mwyn eu helpu i gadw staff gwerthfawr a chyflogi’r bobl orau oll.

Isod cewch wybodaeth a allai fod o fudd i gyflogwr wrth gyflogi unigolyn sydd wedi colli ei olwg.

rnib.org.uk13

Page 14: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

Mynediad i WaithCynllun gan y llywodraeth yw Mynediad i Waith, sydd yn gallu helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol a allai fod yn gysylltiedig â chyflogi unigolyn ag anabledd. Yn achos pobl â nam ar eu golwg gallai hyn gynnwys eitemau a gwasanaethau fel tacsis i’r gwaith ac yn ôl adref, os nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus, cludiant at ddiben gwaith, meddalwedd technoleg mynediad, sy’n gallu chwyddo delweddau ar sgrin cyfrifiadur, meddalwedd darllen sgrin, taflenni braille, teledu cylch cyfyng a gweithwyr cymorth.

Os ydych ar fin cyflogi rhywun â nam ar y golwg, neu os yw gweithiwr yn datblygu nam ar y golwg, gall hawlio Mynediad i Waith ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i hyn. Gall y gweithiwr wneud hyn drwy ffonio Mynediad i Waith a fydd yn gofyn ychydig o gwestiynau ynghylch natur y cyflwr ar ei olwg ac am y gwaith; os yw’n gymwys bydd yn derbyn ffurflen gais. Pan fydd Mynediad i Waith wedi derbyn y ffurflen hon bydd ymgynghorydd Mynediad i Waith yn cysylltu â’ch gweithiwr.

Fel rheol bydd yr ymgynghorydd yn siarad â chi a’ch gweithiwr er mwyn dod i benderfyniad ynglŷn â beth fyddai’r cymorth gorau ar ei gyfer. Mewn rhai achosion gellir gwneud hyn dros y ffôn ond gellir trefnu ymweliad os oes angen.

Os oes angen cyngor arbenigol, bydd yr ymgynghorydd Mynediad i Waith yn helpu trefnu i rywun ymweld â safle’r gwaith. Er enghraifft, mae’n bosibl i’r ymgynghorydd drefnu i sefydliad arbenigol gynnal asesiad ac argymell cymorth priodol. Yn yr achos hwn bydd adroddiad ysgrifenedig cyfrinachol yn cael ei anfon at yr ymgynghorydd Mynediad i Waith a fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon i’w helpu i benderfynu ar y lefel iawn o gymorth – darparu technolegau mynediad, er enghraifft.

Byddai’r RNIB yn argymell cynnal asesiad yn y gweithle os yw’r swydd yn un newydd i’r gweithiwr neu os yw wedi datblygu’r nam ar ei olwg yn ddiweddar.

Cyfrifoldebau’r cyflogwrPan fydd yr ymgynghorydd wedi penderfynu ar y pecyn cymorth sy’n briodol yn ei dyb ef, bydd yn gofyn i’r Ganolfan Byd Gwaith

rnib.org.uk14

Page 15: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

gymeradwyo’i argymhellion yn ffurfiol. Byddwch chi a’r gweithiwr yn derbyn llythyr sy’n rhoi gwybod i chi am y lefel o gymorth a gymeradwywyd a’r grant sydd ar gael.

Cyfrifoldeb y cyflogwr yw trefnu’r cymorth y cytunwyd arno a phrynu’r offer angenrheidiol. Wedyn, gallwch hawlio ad-daliad o’r costau a gymeradwywyd gan Mynediad i Waith.

Y Grant Mynediad i Waith Bydd y swm a fydd ar gael i’ch helpu gan Mynediad i Waith yn amrywio yn ôl hyd y cyfnod mae eich gweithiwr wedi bod yn gweithio i chi a’r math o gymorth y mae ei angen arno.

Gall Mynediad i Waith dalu hyd at gant y cant o’r costau a gymeradwywyd os yw’r gweithiwr: yn ddi-waith ac yn dechrau ar swydd newydd yn gweithio i gyflogwr ac wedi bod yn y swydd am lai na chwe

wythnos.

Beth bynnag yw’r statws cyflogaeth, bydd Mynediad i Waith hefyd yn talu hyd at gant y cant o’r costau a gymeradwywyd i helpu gyda: gweithwyr cymorth costau teithio i’r gwaith ac yn ôl adref cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad.

Mae Mynediad i Waith yn talu canran o gostau cymorth os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol: eisoes yn gweithio i gyflogwr wedi bod yn y swydd am chwe wythnos neu fwy angen offer arbennig.

Os oes angen rhannu’r costau rhwng y cyflogwr a Mynediad i Waith, penderfynir ar hyn yn ôl maint y cwmni. Po fwyaf yw’r cwmni, y mwyaf yw’r gost iddo. Serch hynny, cofiwch, os yw gweithiwr newydd yn gwneud cais o fewn y chwe wythnos gyntaf yn y swydd, telir y costau’n llawn gan Mynediad i Waith.

Deddf Cydraddoldeb 2010Mae gweithwyr â nam ar y golwg yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hon yn trin cyflogaeth o’r pwynt

rnib.org.uk15

Page 16: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

lle mae’r swydd wag yn cael ei hysbysebu, gwneud cais, y cyfweliad ac wedyn cyflogaeth.

Mae adran yn y Ddeddf hon sy’n berthnasol dim ond i bobl ag anableddau, sef addasiadau rhesymol.

Nod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yw sicrhau bod gweithiwr anabl, cyn belled ag y bo’n rhesymol, yn cael yr un mynediad at bopeth sy’n gysylltiedig â gwneud a chadw swydd â gweithiwr nad yw’n anabl.

Pan fydd y ddyletswydd yn codi, mae’n ddyletswydd bendant a rhagweithiol ar y cyflogwr i gymryd camau i ddileu neu leihau neu atal y rhwystrau y mae gweithiwr anabl neu ymgeisydd anabl am swydd yn eu hwynebu.

Mae angen i chi wneud addasiadau dim ond os byddwch yn ymwybodol – neu os dylech fod yn ymwybodol yn rhesymol – bod gan weithiwr anabledd.

Ni fydd llawer o addasiadau y gallwch eu gwneud yn addasiadau arbennig o ddrud, ac nid oes galw arnoch i wneud mwy na’r hyn sydd yn rhesymol. Bydd yr hyn sy’n rhesymol i chi ei wneud yn ddibynnol ar faint a natur eich sefydliad, ymhlith ffactorau eraill.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud dim byd, a bod gweithiwr anabl yn gallu profi bodolaeth rhwystrau y dylech fod wedi eu nodi ac addasiadau rhesymol y gallech fod wedi eu gwneud, gall ddod â chwyn yn eich erbyn mewn Tribiwnlys Cyflogaeth a gallech gael eich gorfodi i dalu iawndal iddo ynghyd â gwneud addasiadau rhesymol.

Gwasanaeth cyflogaeth RNIB Nid yw gwasanaeth cyflogaeth RNIB yma ar gyfer pobl sy’n chwilio am swyddi’n unig. Gallwn gefnogi pobl i gadw eu gwaith os ydynt wedi datblygu cyflwr llygad yn ddiweddar a’r rhai hynny sydd â chyflwr llygad sy’n dirywio ac sy’n wynebu heriau newydd yn y gwaith. Drwy’r gwaith hwn rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr i gadw staff gwerthfawr sydd wedi eu hyfforddi’n dda. Y cynharaf rydych yn galw am gymorth RNIB i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr

rnib.org.uk16

Page 17: RNIB Cymru branded word template · Web viewTitle RNIB Cymru branded word template Author Chas Gainsford Keywords RNIB Cymru branded word template Last modified by AlSwann Created

sy’n wynebu anawsterau yn gysylltiedig â cholli golwg, y mwyaf effeithiol fydd y cymorth hwnnw, gan arbed bywoliaeth y gweithiwr a chostau sydd ynghlwm wrth recriwtio a hyfforddi staff newydd o ran y cyflogwr. Os ydych yn credu y gallwn eich cefnogi chi i gadw gweithiwr neu eich cefnogi chi i gyflogi rhywun â nam ar ei olwg, cysylltwch â ni. Edrychwch ar y wybodaeth gyswllt yn yr adran cysylltiadau defnyddiol yng nghefn y llyfryn hwn.

Cysylltiadau defnyddiol

RNIB CymruOs hoffech ganfod mwy am unrhyw beth rydych wedi ei ddarllen neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu waith neu os ydych angen cyngor ar faterion sy’n ymwneud â chyflogaeth, ffoniwch 029 2045 0440 i siarad â’n hymgynghorwyr cyflogaeth neu swyddog pontio.

Llinell gymorth yr RNIB Llinell gymorth yr RNIB yw eich llinell uniongyrchol at y cymorth, y cyngor a’r cynnyrch sydd eu hangen arnoch. Byddwn yn eich cynorthwyo i ganfod yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi a thu hwnt, gan yr RNIB a sefydliadau eraill.

P’un ai ydych am wybod mwy am eich cyflwr llygad, prynu cynnyrch o’n siop, ymuno â’n llyfrgell, canfod y budd-daliadau rydych o bosibl yn gymwys i’w derbyn, cael eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd hyfforddedig, neu am wneud ymholiad cyffredinol, rydym ond galwad i ffwrdd.

Ffôn: 0303 123 9999E-bost: [email protected]

© RNIB Rhagfyr 2012 Rhif elusen gofrestredig 226227

rnib.org.uk17