rhifyn y glas 2014

32
Rhifyn y Glas 2014 @y_llef Llef Bangor Am Ddim - cymerwch gopi! Papur-newydd C y m r a e g M y f y r w y r Bangor CYFLE I ENNILL: • COPI O TU CHWITH EWCH I DUDALEN 13 Llio Mai Ar y 3ydd o Fedi, cyhoeddwyd na fydd eatr Bryn Terfel, yng Nghanolfan Pontio, yn barod i gael ei hagor mewn pryd i lwyfannu eu sioe gyntaf, sef cynhyrchiad o Chwalfa – addasiad llwyfan Gareth Miles o nofel T. Rowland Hughes. Roedd y sioe wedi’i threfnu i agor ar y ar y 17eg o Fedi, a nifer wedi archebu eu tocynnau’n barod. Mewn neges i’r cyhoedd dywedodd yr Athro Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: ‘Rydym yn ymddiheuro yn daer i'n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig eatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu'r siom. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad manwl gyda'r contractwr, Miller, er mwyn llunio amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr agoriad. Bydd y trafodaethau manwl gyda'r contractwr yn cymryd peth amser. Dim ond ar ôl i'r trafodaethau hyn gael eu cwblhau y byddwn yn cadarnhau y dyddiad agor newydd. Bydd gwersi i'w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda'r contractwr i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel.’ Am weddill y stori , ewch i dudalen 7... PONTIO AR EI HÔL HI PRIFYSGOL BANGOR YN DOD I’R BRIG YNG NGHYMRU O RAN BODDHAD MYFYRWYR Manon Elwyn Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, ac mae’r brifysgol yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU. Llanwyd yr arolwg gan tua hanner miliwn o fyfyrwyr, ac mae’n rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr yn eu sefydliad. Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor mewn ymateb i'r canlyniadau: "Rydym yn arbennig o falch bod yr arolwg yn ein gosod mor amlwg ar y brig yng Nghymru. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi’i adlewyrchu yn y canlyniadau hyn.” Y FFASIWN DIWEDDARAF IS-GANGHELLOR YN CAEL CYMHWYSTER CYMRAEG DYN YN GWTHIO SBROWTS I FYNY’R WYDDFA GYDA’I DRWYN

Upload: y-llef

Post on 04-Apr-2016

290 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Rhifyn cyntaf Y Llef am y flwyddyn academaidd 2014-2015.

TRANSCRIPT

Page 1: Rhifyn y Glas 2014

Rhifyn y Glas 2014 @y_llef Llef BangorAm Ddim - cymerwch gopi!

P a p u r - n e w y d d C y m r a e g M y f y r w y r

Bangor

CYFLE I ENNILL:

• COPI O TU CHWITH

EWCH I DUDALEN 13

Llio Mai

Ar y 3ydd o Fedi, cyhoeddwyd na fydd � eatr Bryn Terfel, yng Nghanolfan Pontio, yn barod i gael ei hagor mewn pryd i lwyfannu eu sioe gyntaf, sef cynhyrchiad o Chwalfa – addasiad llwyfan Gareth Miles o nofel T. Rowland Hughes. Roedd y sioe wedi’i threfnu i agor ar y ar y 17eg o Fedi, a nifer wedi archebu eu tocynnau’n barod. Mewn neges i’r cyhoedd dywedodd yr Athro

Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor:‘Rydym yn ymddiheuro yn daer i'n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig � eatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu'r siom.Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad manwl gyda'r contractwr, Miller, er mwyn llunio amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr agoriad.

Bydd y trafodaethau manwl gyda'r contractwr yn cymryd peth amser. Dim ond ar ôl i'r trafodaethau hyn gael eu cwblhau y byddwn yn cadarnhau y dyddiad agor newydd.Bydd gwersi i'w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda'r contractwr i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel.’ Am weddill y stori , ewch i dudalen 7...

PONTIO AR EI HÔL HI

PRIFYSGOL BANGOR YN DOD I’R BRIG YNG NGHYMRU O RAN BODDHAD MYFYRWYR

Manon Elwyn

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, ac mae’r brifysgol yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU.Llanwyd yr arolwg gan tua hanner miliwn o fyfyrwyr, ac mae’n rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr am bro� ad myfyrwyr yn eu sefydliad.Meddai'r Athro Oliver Turnbull,

Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor mewn ymateb i'r canlyniadau:"Rydym yn arbennig o falch bod yr arolwg yn ein gosod mor amlwg ar y brig yng Nghymru. Yn ddiweddar rydym wedi cy� wyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi’i adlewyrchu yn y canlyniadau hyn.”

Y FFASIWN DIWEDDARAF

IS-GANGHELLOR YN CAEL CYMHWYSTER

CYMRAEG

DYN YN GWTHIO SBROWTS I FYNY’R

WYDDFA GYDA’I DRWYN

Page 2: Rhifyn y Glas 2014

GolygyddolMae’n bleser gen i gy� wyno rhifyn cyntaf Y Llef am y � wyddyn academaidd 2014-2015. Dros y ddwy � ynedd ddiwethaf, ers adfer y papur-newydd, mae Y Llef wedi bod yn mynd o nerth i nerth, ac mae wedi bod yn bleser cael y cy� e i fod yn rhan o hynny, wrth fy mod wedi bod yn is-olygydd yr adran Adolygiadau ers fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae rhywbeth at ddant pawb yn y papur - mae’r rhifyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Fangor a’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y byd, y � asiwn diweddaraf, adolygiadau amrywiol, adran i ddysgwyr, cyfres o ryddiaith a barddoniaeth yn y Gornel Greadigol, a’r diweddaraf yn y byd chwaraeon. Rydw i’n � odus iawn fy mod wedi cael help gan y cyn-Olygydd, fy mrawd, Siôn Elwyn wrth iddo drosglwyddo’r awenau imi. Rydw i’n ddiolchgar iawn ei fod yn gefn imi pe bawn i eisiau unrhyw fath o help neu gyngor. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i’r is-olygyddion. Mae’r tîm yn un newydd sbon eleni, ac mae pob un ohonynt wedi rhoi o’u hamser i ysgrifennu deunydd, trefnu’r tudalennau a’u dylunio, ac mae nifer ohonynt wedi bod yn gwmni da iawn i mi yn yr Undeb tra’n rhoi’r papur at ei gilydd. Co� wch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r papur, boed yn gyfrannu, dosbarthu, hysbysebu, dylunio, tynnu lluniau, neu unrhyw beth arall, cysylltwch ar bob cyfrif! Gan obeithio y mwynhewch rhifyn cyntaf y � wyddyn.

Manon Elwyn

[email protected]

Is-olygyddion:Anna Prysor Jones Is-olygydd NewyddionLora Lewis Is-olygydd AdolygiadauSiân Davenport Is-olygydd FfasiwnNonni Williams Is-olygydd FfasiwnGru� udd Antur Is-olygydd y Gornel GreadigolBenjiman Angwin Is-olygydd Yr HadauIolo Roberts Is-olygydd Chwaraeon

Diolchiadau...Diolch o galon, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu, trefnu a dylunio cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Mae’n bleser gen i weld y nifer mwyaf o gyfranwyr y tro hwn hefyd (19 i gyd!). Fel arfer, diolch i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media am ei gymorth parod.

Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor.Argre� r Y Llef gan NWN Media, Dinbych.

Cynnwys:Tudalennau:

Newyddion 3-7Cymdeithasau 7-8Y diweddaraf ar Pontio 9-11Y Gornel Greadigol 13-15Cystadleuaeth 15Yr Hadau 17-19Adolygiadau 21-23Ffasiwn 26-29Chwaraeon 31-32

Cyfranwyr: Llio Mai Elin Haf OwenMared BerthAurCeri Elsbeth LewisCara EdwardsLlyr TitusElis DafyddAlex StriblingEmma Tiernan

Caryl Bryn HughesGwenan JonesGuto GwilymSiân Esmor ReesAl HulleyOwen BurtonGethin Gri� thsRhys Dilwyn JenkinsIlan Wyn Davies

27

3

21

32

18

2 ...Cynnwys Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Page 3: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 ...Newyddion 3

...Newyddion

Caryl Bryn Hughes

“You’re only given a little spark of madness. You mustn’t lose it.” Geiriau cadarnhaol gan y comedïwr, Robin Williams. Yn wir, gwnaeth y comedïwr o fri y mwyaf o’r sbarc oedd ganddo ef, a’i ddefnyddio i wneud i’r byd chwerthin. Trwy ei � lmiau mwyaf adnabyddus byddai Robin Williams yn dod â’r hapusrwydd mwyaf i’w ddilynwyr megis Mrs Doubt� re ac i blant, Aladdin. Hefyd, roedd yn adnabyddus am gomedi ar lwyfan, � lmiau a gyfarwyddwyd ganddo ef a’i ddyfyniadau doeth megis yr un ar ddechrau’r stori hon.Chwerthin oedd awen Robin Williams, neu dyna sut roedd hi’n ymddangos. Ar Awst 11, 2014, darganfyddwyd cor� y comedïwr yn ei gartref yn

America. Hunanladdiad oedd achos ei farwolaeth, a dyna yrrodd ias i lawr cefnau’r genedl. Ond co� odd y genedl bod Robin Williams yn actor yn ogystal â chomedïwr, ac mae’n rhaid bod ganddo’r ddawn i guddio’i hun y tu ôl i fwgwd hapusrwydd fel mae llawer iawn o bobl yn ei wneud. Roedd yn dioddef o iselder ysbryd a serch hynny, yn diddannu’r genedl gyda’i ddawn. Efallai y bydd hyn yn sbardun i godi ymwybyddiaeth ynglyn â iechyd meddwl ac yn sicr bydd colled enfawr ar ôl un o gomedïwyr y ganrif, ond bydd ei waith a’i ddawn yn fyw a sŵn chwerthin ei ddilynwyr yn hwb i’r rhai sy’n dioddef fel y gwnaeth ef.

Firws Ebola

Pigion...

Anna Prysor Jones

Un o’r atyniadau i gerddwyr sy’n mentro i fyny i gopa’r Wyddfa yn ddyddiol yw’r golygfeydd godidog o ardal Eryri, ond golygfa tra wahanol oedd yn wynebu’r rhai oedd yn cwblhau’r her o gyrraedd copa’r mynydd uchaf yng Nghymru ar 31 Gor� ennaf 2014 hyd at 2 Awst 2014. Gwelwyd Stuart Kettle o Coventry yn mentro i gopa’r Wyddfa yn un o’r � yrdd mwyaf unigryw a gwallgof a hynny ar ei bengliniau yn gwthio sbrowt fyny’r mynydd gyda’i drwyn yn unig. Er i’r orchest adael croen ei bengliniau yn ddarnau, roedd gan y gŵr 49 oed reswm teilwng dros gyrraedd copa’r mynydd yn y � ordd hon. Ei obaith oedd codi £5,000 tuag at Gofal Cancr Macmillan. Roedd eisoes wedi casglu dros £40,000 at yr elusen drwy weithgareddau megis treulio cyfnod mewn bocs a cherdded holl strydoedd Coventry ar stiltiau ond dywed ef mai hon oedd y sialens fwyaf gwallgof ohonynt i gyd. Llwyddodd i gy� awni’r sialens mewn pedwar niwrnod gyda 22 sbrowt ac mae’r holl bro� ad wedi’i recordio i bro� nad oedd twyllo. Mae modd gweld y clipiau � deo ohono ar www.willthefoolmakeit.co.uk. Mae eisoes wedi pasio ei darged o £5,000 ac wedi dechrau meddwl am ei sialens nesaf yn barod.

Dyn yn gwthio sbrowts i fyny’r Wyddfa gyda’i

drwyn

Anna Prysor Jones

Yn ystod y gwyliau’r haf, nid oedd modd dianc rhag y newyddion fod achos newydd o’r � rws Ebola wedi torri allan draw yng ngorllewin A� rica ym mis Mawrth 2014. Gwelwyd y ddau achos cyntaf o Ebola yn A� rica nôl yn 1976 ac mae cychwyn y salwch yn digwydd gan amlaf wrth ymyl coedwigoedd glaw trofannol. Cai� ei gy� wyno i bobl drwy gysylltiad â gwaed, organau neu hylifau cor� anifeiliaid gwyllt

heintiedig ac yna ei ledu o berson i berson drwy gysylltiad agos â’i gilydd. Gan fod y symptomau dechreuol yn debyg iawn i dwymyn cy� redin mae’n anodd iawn gwneud diagnosis cyn iddo droi yn fater difrifol. Nid oes unrhyw driniaeth na brechlyn trwyddedig ar gyfer gwella Ebola.Ers Mawrth 2014, allan o oddeutu 3,500 mae 1,900 o’r dioddefwyr yng ngwledydd gorllewin A� rica wedi marw o’r � rws ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio y gall y nifer o ddioddefwyr

godi i 20,000. Maent yn pryderu y gall y nifer o ddioddefwyr fod o amgylch pedair gwaith y nifer sydd wedi’u cofnodi’n swyddogol ac mae’r gweithwyr sy’n trin y dioddefwyr draw yn A� rica yn bryderus nad oes digon o gyfarpar arbenigol ar gael i’w gwella nac ychwaith i atal lledaeniad pellach o’r � rws.Ar 3 Medi, cyhoeddwyd fod y Prydeiniwr cyntaf a heintiwyd â Ebola wedi gadael Ysbyty’r Royal Free, Llundain ar ôl derbyn gofal yno. Roedd

William Pooley o Sul� olk yn nyrs wirfoddol draw yn Sierra Leone pan yr heintiwyd ef, ond ar ôl dychwelyd i Brydain ar 24 Awst mae bellach wedi gwella ar ôl iddo dderbyn gofal “o’r radd � aenaf ” yn yr ysbyty yn Llundain. Dywed ef bod byd o wahaniaeth rhwng y gofal sydd ar gael i drin Ebola ym Mhrydain i gymharu ag A� rica. Er i William Pooley dderbyn triniaeth ym Mhrydain, mae arbenigwyr yn parhau i bwysleisio bod y perygl o ledaeniad Ebola yn isel iawn yma.

Marwolaeth Robin Williams

Page 4: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 20144 ...Newyddion

...Newyddion

Isis? Is? Islamic State? Llyr Titus

Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon mae’r mudiad hwn yn cael ei grybwyll yn y newyddion yn ddyddiol, ond pwy yw’r mudiad hwn sydd yn creu’r fath helynt yn y dwyrain canol? Dyma fudiad grymus sydd bellach yn honni bod ganddynt oddeutu 10,000 o bobl yn barod i frwydro dros eu hachos a rheiny yn ôl un o’i � deos gwybodaeth wedi dod atynt o ar draws y byd yn grwn. Credir hefyd bod ganddynt afael ar $2,000,000,000 o gyllid.

Yn y dechreuad.Yn gynnar wedi troad y mileniwm hwn dechreuodd Abu Musad al-Zarqawi a oedd o Jordan fudiad eithafol o’r enw Tawid wa al-Jihad (Undod a Jihad). Roedd y mudiad hwn yn un a oedd yn

gwrthwynebu dylanwad y Gorllewin ac o blaid Cyfraith Shaira. Cynigodd ymosodiad America a Phrydain gy� e i al-Zarqawi a � ur� odd y mudiad Al-Qaeda in Iraq (AQI) wedi i Saddam Hussein gael ei ddal. Bwriad y mudiad hwn oedd sefyll yn erbyn y Gorllewin unwaith eto ond roedd cieidd-dra’r mudiad yn ddigon i’w gelyniaethu rhag nifer o Iraqiaid a phenaethiaid Al-Quaeda.

Tro ar fyd.Yn 2006 lladdwyd al-Zarqawi gan da� egrau o’r awyr gan America ac ymunodd AQI gyda mudiadau eithafol eraill gan � ur� o Islamic State of Iraq (ISI). Bu i’r mudiad gael ei wanhau pan aeth milwyr Americanaidd a llwythau Sunni cy� ogedig at i waredu’r ardal o AQI ond fe barhaodd y gwraidd yn y pridd. Yna, daeth cy� afan Syria a’r

holl frwydro yn enw rhyddid. Bu i ISI, gyda dyn o’r enw Abu Bakr al-Baghdadi wrth y llyw- i’r adwy i gynorthwyo’r gwrthryfelwyr gan yrru arian a milwyr ynghyd a � ur� o’r Ffrynt al-Nursa. Dyma gangen o Al-Qaedea pan ddechreuodd ac y mae hi’n gweithredu yn Syria ac Lebanon. Cafodd y gangen hon ei disgri� o fel un o’r rhai mwyaf ymosodol a’r mwyaf llwyddiannus o’r herwydd. Bu i’r gwrthryfelwyr gondemnio gweithredoedd y mudiad hwn a bu i Al-Qaeda wrthod gwneud dim â nhw hefyd. Aeth y mudiad ati i newid eu henw i ISIS (Islamic State in Iraq and the Levant).

Yn ddiweddar.Pan ddechreuodd America adael Iraq dechreuodd yr ymosodiadau gan ISIS godi a dechreuodd y mudiad gael mwy o afael. Erbyn 2014 roedd y mudiad wedi ennill tir sylweddol

yng ngorllewin Iraq ac wedi hynny dechreuasant symud tua’r gogledd a’r dwyrain. Bu iddynt oresgyn Mosul ym Mehe� n a dyna pryd y bu i’r byd ddechrau sylwi arnynt a phoeni am danynt mewn difrif, yna bu iddynt ddatgan cali� aeth (neu wladwriaeth Islamaidd) ar draws Iraq a Syria a newid enw’r mudiad unwaith eto i ‘Islamic State’ y tro hwn. Bu i symud y jihadwyr orfodi miloedd o’u cymunedau i ddianc rhagddynt a’r trais a ddaeth yn eu sgil ac ym mis Awst dechreuodd America ymosod o’r awyr arnynt. Bellach mae sgwrsio am wneud mwy, gobeithio y bydd yr hanes cefndirol yma yn fudd i’n darllenwyr wrth iddynt glywed mwy am y mudiad eithafol hwn.

Gyda diolch yn bennaf i wybodaeth Lucy Rodgers, Emily Maguire, Richard Bangay, Nick Davey a David Gritten.

Hacio cyfrif iCloud 101 o enwogionLlio Mai

Ar y cyntaf o Fedi, daeth i’r amlwg fod haciwr anhysbys wedi llwyddo i gael mynadiad at luniau personol a phreifat ar � onau symudol dros gant o bobl enwog, trwy iCloud – system storio ar-lein a grëwyd gan gwmni Apple. Dywedir fod y lluniau wedi ymddangos gyntaf ar � orwm AnonIB cyn eu cynnwys ar wefan o’r enw 4chan a’u hailbostio ar wefannau dirifedi yn dilyn hynny. Trosglwyddwyd yr achos i ddwylo’r heddlu, sy’n cynnal archwiliad er mwyn canfod y troseddwr, ac mae cwmni Apple wedi cadarnhau eu bod yn cyd-

weithio â nhw.Ymysg y sêr sydd ar y rhestr o’r rhai a’u targedwyd mae Jennifer Lawrence, sydd wedi cadarnháu fod y lluniau noeth ohoni yn rhai go iawn, Cara Delavigne, Kim Kardashian, Michelle Keegan, Lizzy Caplan a Rihanna. Y mae sawl un arall ar y rhestr, fel Adrianna Grande a Victoria Justice, yn honni fod y lluniau ohonynt yn rhai � ug, ac nad y nhw sydd yn y lluniau mewn gwirionedd. Y mae McKayla Maroney, y fabolgampwraig ifanc o America, yn un arall sydd wedi’i thargedu. Er ei bod yn ddeunaw oed ers mis Rhagfyr, mae Maroney yn

honni fod y lluniau ohoni sydd wedi’u dwyn gan yr haciwr wedi’u tynnu pan oedd hi o dan oed. Dywedir ei bod yn bwriadu dwyn achos cyfreithiol yn erbyn sawl gwefan bornogra� sydd, yn ôl y sôn, wedi ailbostio’r lluniau. Yn dilyn y mater, aeth gwerth cyfranddaliadau Apple yn is na’r hyn yr oeddent � s Ionawr. Mae’r achos yn amlwg yn boen meddwl i sawl un o’u cwsmeriaid, sydd bellach yn pryderu ynghylch diogelwch yr hyn sydd ganddynt wedi’i storio yn eu cyfrif iCloud. Ond mae Apple yn parhau i ddweud fod yr hacwyr wedi targedu cyfrif iCloud

y bobl enwog yn benodol, ac nad oeddent wedi torri trwy systemau diogelwch Apple i wneud hynny. Darganfuwyd darn o god cyfri� adur ar-lein yn dilyn yr helynt, ac mae’n debyg fod y sgript yn defnyddio’r 500 o gyfrineiriau mwyaf cy� redin sy’n cael eu cymeradwyo gan Apple i geisio cael mynediad at gyfrif y defnyddwyr. Pe bai’n llwyddiannus, byddai’r haciwr yn cael mynediad llawn i’r cyfrif iCloud, gan gynnwys mynediad at luniau. Yn y byd technolegol sydd ohonni, pa mor ddiogel yw ein gwybodaeth bersonol, ac oes yna’r fath beth â phreifatrwydd bellach?

Page 5: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 ...Newyddion 5

...NewyddionAnnibyniaeth i’r

Alban

Anna Prysor Jones

Gyda diwrnod Re� erendwm yr Alban, 18 Medi, yn prysur agosáu mae’n anodd iawn i unrhyw un osgoi’r dadlau brwd sydd wedi bod ar draws Prydain ynglŷn â dyfodol y wlad. A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol, yw’r cwestiwn allweddol cai� y wlad y cy� e ei ateb ar y diwrnod hanesyddol hwn. Mi fydd gan y pleidleiswyr ddau opsiwn i ddewis rhyngddynt sef i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig neu i dorri i � wrdd o’r undeb a dod yn wlad annibynnol. Ers misoedd bellach mae’r ymgyrch ‘ie’ a’r ymgyrch ‘na’ dros annibyniaeth i’r Alban wedi dod yn fwyfwy amlwg, a’r ddwy ochr mor grediniol â’i gilydd mai hwy sydd yn gwybod beth sydd orau i’r Alban a’i phobl. Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban yw’r un sydd wedi gyrru’r

ymgyrch ‘ie’ dros annibyniaeth i’r Alban yn ei � aen o’r dechrau cyntaf a hynny am ei fod yn credu nad yw pleidiau San Ste� an wedi gwneud dim ar hyd y blynyddoedd er lles yr Alban. Ond, beth fyddai annibyniaeth i’r Alban yn ei olygu? Mae gan yr ymgyrch ‘ie’ sawl dadl o blaid annibyniaeth ac yn gaddo am well dyfodol i’r Albanwyr petaent yn rhoi croes yn y blwch ‘ie’. Y neges barhaus gan yr ymgyrchwyr yw na all neb redeg yr Alban yn well na’r bobl sy’n byw yn yr Alban. Un o’u dadleuon yw y byddai gadael y Deyrnas Unedig yn golygu y byddai’r Alban yn cael rhyddid i ddatblygu ei diwydiant ymhellach a fyddai’n arwain at fwy o gy� eoedd gwaith. Honnir Salmond na fyddai pobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael y wlad i ddarganfod gwaith gan y byddai digon o lwybrau gyrfaol ar gael

iddynt yno. Maent hefyd yn credu bod annibyniaeth yn hanfodol o ran amddi� yn a hyrwyddo’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol cyhoeddus. Byddai mwyafrif o ‘ie’ yn y re� erendwm yn amddi� yn gwasanaeth iechyd gwladol yr Alban rhag preifateiddio’r bwrdd iechyd a rhag mwy o doriadau o dan Lywodraeth San Ste� an. Ar ochr arall y ddadl, cai� yr ymgyrch ‘na’, ymgyrch ‘gwell gyda’n gilydd’ (Better Together) ei harwain gan gyn Canghellor y Trysorlys, Alistar Darling. Mae’r ymgyrch ‘na’ eisiau gweld yr Alban yn aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Petai’r bleidlais ‘na’ yn dod i’r brig, mae’r ymgyrchwyr megis George Osborne yn awyddus i roi fwy o bwerau i Senedd yr Alban o ran trethu, pwerau gwario a’r wladwriaeth les. Yn ôl Pôl Piniwn You Gov ar gyfer � e Sunday Times diweddar mae’n ymddangos fod y bleidlais ‘ie’ ar y blaen o 2%. Ym mis Awst, roedd 61% o’r rhai a holwyd yn erbyn annibyniaeth i’r Alban,

ond nawr mae pethau’n edrych yn fwy gobeithiol i Alex Salmond a’i ymgyrch ‘ie’ ar gyfer 18 Medi gyda 51% am bleidleisio ‘ie’. Mae’r mwyafrif hefyd yn credu mai Mr Salmond a ber� ormiodd orau yn y ddadl deledu allweddol ar 25 Awst, rhyngddo ef ac Alistar Darling. Roedd nifer sylweddol yn credu bod neges Mr Salmond yn glir ac yn angerddol tra bod neges Mr Darling yn fwy aneglur. Nid oes amheuaeth bod canlyniad yr arolwg wedi bod yn ergyd i’r ymgyrch ‘na’, ond gydag ychydig o ddiwrnodau yn unig ar ôl o’r ymgyrchu mae’n ymddangos bod y ras dros annibyniaeth i’r Alban mor agos ag erioed. Gyda mwy o bobl nag erioed wedi cofrestru i bleidleisio yn y re� erendwm mae’n debyg bod pobl yr Alban yn ystyried y cwestiwn o ddifrif a bydd pob pleidlais yn cyfrif ar 18 Medi. Ac wrth gwrs yma yng Nghymru mae’r cwestiynau’n dechrau codi, os yw’r Alban yn llwyddiannus ar 18 Medi beth fydd hyn yn ei olygu i Gymru?

Cynhadledd NATOLora Lewis

Mae’n cymryd rhywbeth go fawr i gael Casnewydd yn trendio ar Twitter, a dyna ddigwyddodd yn ystod Uwch Gynhadledd NATO, y digwyddiad rhyngwladol mwyaf yn hanes Cymru. Croesawodd Carwyn Jones arweinwyr dros 60 o wledydd i’r wlad gan gynnwys David Cameron, y llywyddion Obama a Hollande a’r canghellor Merkel. Dyma’r cyfarfod diweddaraf ers y cyfarfod diwethaf yn 2012 yn Chicago, a’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig ers 1990 dan arweiniad Margaret � atcher yn Llundain.

Roedd dros 5000 wedi ymgasglu yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyfer y cyfarfod a aeth i’r afael â materion sy’n bygwth diogelwch cenedlaethol gwledydd NATO, o fôr-ladrad i’r wladwriaethau fregus, o derfysgaeth i ymosodiadau seiber. Roedd cynnal yr Uwch Gynhadledd yng Nghymru yn ein rhoi ni mewn goleuni byd-eang, gan dynnu sylw at ein sector fasnachol gref, o weithgynhyrchu i arloesedd. Dengys hefyd y potensial aruthrol yng Nghymru ar gyfer buddsoddi, busnes, astudio a thwristiaeth. Roedd yn gy� e gwych i Gymru hysbysebu ei hwyneb fodern ac economaidd i’r

byd. Wedi cael y G8 yng Ngogledd Iwerddon, y Gemau Olympaidd yn Llundain a Gemau’r Gymanwlad yn yr Alban, daeth y llwyfan i Gymru eleni gyda’r digwyddiad mawr hwn. Ond, nid pawb oedd yn gweld hynny. Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar strydoedd Casnewydd ar drothwy’r uwch gynhadledd yn barod i orymdeithio. Yn gyfuniad o bleidiau gwahanol, roedd ganddynt oll un peth yn gy� redin, sef eu hawydd i wrthwynebu. Fe gafodd 31 eu dwyn i’r ddalfa, ac roedd y rheiny’n cynnwys pump am dresbasu, dau am ymosod ar heddwas, a dau am wneud galwadau � ug yn rhybuddio

rhag bomiau. Yn y cyfamser, roedd NATO yn rhoi sioe � lwrol gydag awyrennau rhyfel o naw o wledydd yn hedfan uwchben Caerdydd a Chasnewydd, tanciau ar dir y Celtic Manor a llongau rhyfel wedi angora yng Nghaerdydd. Er y protestiadau, dywedodd David Cameron eu bod yn ymadael â’r gwesty wedi eu huno mewn pwrpas gyda NATO cryfach i amddi� yn y bobl. Roedd Obama yn hapus ar ei ymadawiad hefyd, a hynny am ei fod wedi cael ymweld â Chor y Cewri sef un nôd oedd ganddo, ac yn dychwelyd yn ôl i America gyda photel o Penderyn yn y goodie bag.

Page 6: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 20146 ...Newyddion

Dileu Cronfa Caledi Myfyrwyr Anna Prysor Jones

Ar 20fed Awst 2104 a hithau yng nghanol gwyliau haf cafwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu bwriad i ddileu cronfa argyfwng gwerth £2.1 miliwn y � wyddyn ar gyfer prifysgolion. Financial Contingency Fund (FCF) yw’r enw a roddir ar y gronfa a’i bwriad yw helpu myfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig megis rhai sydd mewn peryg o orfod rhoi’r gorau i’w cyrsiau addysg bellach oherwydd arian neu broblemau cyllido. Mae’r arian hyn gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu

o amgylch 6,000 (9%) o fyfyrwyr Cymru i aros mewn addysg a hynny er gwaethaf anawsterau cyllid lle nad oedd unrhyw gymorth arall ar gael. Mae Llywodraeth Cymru yn cy� awnhau’u penderfyniad dros ddileu’r gronfa wrth honni y gall prifysgolion greu cronfeydd argyfwng eu hunain i helpu eu myfyrwyr â phroblemau ariannol o ganlyniad i gynnydd yng nghyllid sefydliadau addysg uwch. Yn ôl y Llywodraeth mae’n bosib y gall incwm Addysg Uwch godi £200m erbyn 2016 oherwydd � oedd dysgu uwch i fyfyrwyr cartref a’r cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol. Yn

eu datganiad dywed nad oedd dileu’r gronfa argyfwng yn benderfyniad hawdd ond oherwydd y wasgfa barhaus ar gyllidebau’r Llywodraeth roedd rhaid gwneud toriadau ar gyllidebau Addysg Bellach blwyddyn academaidd 2014-2015.Syfrdanwyd undebau myfyrwyr prifysgolion Cymru ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru o glywed datganiad y Llywodraeth oherwydd nôl yn 2011 fe addawyd na fyddai’r FCF yn cael ei ddileu. Drwy ddileu’r gronfa credant y gallai gael e� aith syfrdanol ar sefyllfaoedd myfyrwyr mwyaf difreintiedig prifysgolion gan achosi caledi mawr

iddynt. Credant fod y gronfa yn ‘hanfodol’ i sicrhau bod myfyrwyr yn aros mewn addysg bellach ac wrth ei ddileu maent yn pryderu y gall myfyrwyr newid eu meddyliau a rhoi’r gorau i’w cyrsiau. Y mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gefnogi eu myfyrwyr ac yn cefnogi ymgyrch UCM Cymru i wrthwynebu’r penderfyniad. Nid oes amheuaeth fod y penderfyniad yn ergyd i sefydliadau Addysg Bellach, ond mae awgrym y gall cefnogaeth i fyfyrwyr wynebu fwy o doriadau yn y � wyddyn ariannol nesaf.

Coron i Guto a � lws i Sioned

Llio Mai Llongyfarchiadau mawr i Guto Dafydd, un o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, ar ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni, a llongyfarchiadau hefyd i Sioned Eleri Roberts, yn o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Gerddoriaeth, ar ennill Tlws y Cerddor. Daw Guto o Drefor yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli gyda’i wraig – Lisa. Ar ôl mynd i Ysgol yr Ei� , Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd. Erbyn hyn, mae’n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd. Guto enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro yn 2013, ar ôl cael sawl siom, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon yn Ninbych y llynedd. Yn 24 oed, Guto yw un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl. Bu 32 ymgais am y Goron eleni, a’r dasg oedd ysgrifennu dilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun ‘Tyfu’. Y beirniaid oedd Dylan Iorwerth, Marged Haycock a Dafydd Pritchard. Wrth draddodi’r feirniadaeth ar waith Guto (Golygfa 10), dywedodd Dylan Iorwerth:‘Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe. Ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi. Mae yna sawl math o dyfu – geni babi i’r

byd, twf neu ddi� yg twf cenedl, is-stori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i’n hargyfwng presennol.‘Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â’r hen gerdd am grogi’r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr. Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â’r gwynt a’r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, � ordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a’i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd – ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu’r atom.‘Wrth i’r pethau yna ddod ynghyd – ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a’i hyder o wrth drin iaith a goslef -– mae yna rywbeth llawer mwy’n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a’r cryniadau’n parhau ymhell bell ar ôl gor� en darllen. Mi gawson ni ein codi o’n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar.‘Yn y diwedd, doedd y penderfyniad mawr ddim yn anodd o gwbl. Coron eleni ydi hi ac mae hi’n bendant iawn yn mynd i Golygfa Deg.’ Cy� wynwyd Tlws y Cerddor am waith i ensemble llinynnol (3 � dil, 3 ail � dil, 2 � ola, 2 cello ac 1 bas dwbl), mewn un symudiad neu fwy ond heb fod yn hwy na 7 munud o hyd. Cafodd y Tlws ei gynnig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru a derbyniodd Sioned £500, sy’n rhoddedig gan Tyd� l Rees Enston, er cof am ei merch, Angela Rees Enston yn ogystal ag ysgoloriaeth gwerth £2,000 i

hyrwyddo’i gyrfa, gan yr Eisteddfod.Y beirniaid oedd Lyn Davies ac Euron J Walters, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar yr 8 ymgeisydd yn y gystadleuaeth, dywedodd Lyn Davies:‘Yn ‘Chwalfa’ gan 2.4.7. ceir yr ymgais fwyaf llwyddiannus o dipyn. Mae wedi darganfod � ordd i ddianc o rigol y dull minimal a chy� wyno rhywbeth dramatig a hudol. Mae’r teitl yn gwbl addas. O’r dechrau cawn � gwr hyfryd cyson yn y rhannau isel, ac o gam i gam

cai� ei ddatblygu mewn modd cynil iawn, nes, rhyw hanner � ordd trwy’r darn, mae’n chwalu’n deilchion o dan ymosodiad ysgytwol. Yna ceir cadenza dirdynnol gan y feiolin, cyn ceisio tynnu popeth ynghyd, gydag adlais o’r hyn a fu. Mae’r diweddglo mewn unsain herfeiddiol a chadarnhaol.‘Mae gwaith 2.4.7. wedi apelio fwy-fwy wrth ystyried ymhellach a hynny ar sail y dechneg gadarn, y sicrwydd strwythurol a’r � resni cynnwys sy’n dal i’r dim deitl y darn, ‘Chwalfa’. Felly 2.4.7.

biau’r Tlws eleni a phob clod.’Clarinetydd yw Sioned Eleri Roberts, ac mae hi’n byw ym Mangor. Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor gyda BMus yn 2003, ac yn 2005 cafodd ysgoloriaeth i astudio cwrs per� ormio ôl-radd yng Ngholeg Cerdd y Drindod, Llundain. Yn 2011 derbyniodd ysgoloriaeth KESS i astudio gradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor ac yn ystod ei chyfnod astudio derbyniodd hy� orddiant cyfansoddi gan Pwyll ap Sion a Stephen Montague. Mae Sioned hefyd yn diwtor clarinet ym Mhrifysgol Bangor a hefyd i Wasanaeth Cerdd William Mathias.Mae hi wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas O� -erynnol (2005), ac wedi bod yn llwyd-diannus yng nghystadleuaeth yr Unawd Chwythbrennau droeon yn y gor� en-nol. Dyma’r tro cyntaf iddi ymgeisio mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: ‘Mae hyn yn glod arbennig i Sioned ac yn gydnabyddiaeth deilwng o’i dawn a’i gallu cynhenid. Fel un sy’n arbenigo ar gerddoriaeth gyfoes, ac fel un o’n tiw-toriaid clarinet yma yn yr Adran, mae’n hyfrydwch i ni gael ei llongyfarch ar ei llwyddiant ysgubol.’Bydd Sioned yn ymuno ag oriel o gerd-dorion amlwg Prifysgol Bangor sydd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor, gan gynnwys Pwyll ap Sion, Peter Flinn, Guto Puw ac Owain Llwyd.

Page 7: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 ...Newyddion 7

Ap Newydd i Ddysgwyr

Llio Mai

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli treialwyd ap dysgu Cymraeg, sydd wedi’i ddatblygu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ynghyd â chwmnïau Moilin ac Optimwm. Derbyniodd ymateb gwresog iawn yn yr Eisteddfod, gan bro� i fod yn llwyddiant mawr ymysg y dysgwyr a fu’n mwynhau chwarae gyda’r templedi llenwi bylchau, paru llun a gair, strwythuro deialog, ymarfer ynganu a recordio llais. Cai� yr ap ei lansio � s Medi, yn barod ar gyfer y criw newydd o ddysgwyr a fydd yn mynychu’r dosbarth, yn ogystâl â’r rhai sy’n parhau i ddysgu’r iaith. Bydd yn cynnwys 19 templed rhyngweithiol wedi’u rhannu’n 44 uned, a bydd ar gael ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android. Prif amcan yr ap fydd bod o gymorth i ddysgwyr wrth iddynt fynd i’r afael â’r iaith, ac i ennyn eu diddordeb mewn

gwahanol � yrdd y tu allan i’r gwersi � ur� ol. Yr ap ar gyfer lefel mynediad fydd ar gael ddiwedd Medi, a disgwylir i’r lefel sylfaen fod ar gael erbyn mis Rhagfyr. Mae modd i chi gael gwybod am ddatblygiadau’r ap trwy ddilyn cyfrif Twitter @Learn_Cymraeg. Bydd yr ap hefyd yn rhan o ymchwil PhD Lowri Mair Jones, sy’n gweithio fel Swyddog Technolegau Newydd i’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, dan arweiniad Dr Enlli � omas o’r Ysgol Addysg. Bydd ei hymchwil yn edrych ar ba mor ddylanwadol yw’r gwahanol ddulliau o ddysgu electronig wrth ail-greu rhyngweithio dosbarth mewn cyd-destun Cymraeg i Oedolion. Wedi i’r ap gael ei lansio ddiwedd y mis, bydd y Ganolfan yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr ymchwil trwy dreialu’r ap a thechnolegau eraill. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r ymchwil anfonwch e-bost at [email protected]

Is-Ganghellor yn cael cymhwyster Cymraeg

uwch ar ôl pedair blyneddRhys Jenkins

Y mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, sef yr Athro John G Hughes, wedi derbyn cymhwyster Cymraeg wrth iddo ddysgu’r iaith.Ennillwyd gradd A yn yr arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch ganddo, sydd yn gywerth â Lefel A. Fe wnaeth hyn ar ôl pedair blynedd o astudio’r Gymraeg.Fe ddaeth yr Athro John G Hughes o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ac ar ôl iddo gael ei benodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn 2010, mi addawodd y byddai’n dysgu’r iaith Gymraeg - ac mi addawodd ef hyn yn ei gyfweliad i fod yn Is-Ganghellor. O ennill y cymhwyster, y mae’n dangos ei waith caled ac

ei angerdd hefyd, wrth iddo gyrraedd safon uchel iawn.“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o ethos Prifysgol Bangor. Rwyf wedi mwynhau dysgu’r iaith

yn fawr ac yn gobeithio y bydd fy mhro� ad yn anogaeth i ddysgwyr eraill”, meddai’r Athro John G Hughes. Cafodd ei ddysgu gan diwtoriaid Canolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Bangor.Y mae’n her fawr i ddysgu iaith newydd,

mae’n amlwg, ond y mae’n glir iawn ei fod ef wedi derbyn cymorth arbennig dros ben wrth iddo ddilyn y cwrs, sydd wedi cael eu clodi gan nifer o bobl. Meddai Elwyn Hughes, sef

Uwch Diwtor-D r e f n y d d a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cymraeg i Oedolion:“Gall yn awr drafod am r y w i a e t h

eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ganddo eirfa helaeth ac mae wedi darllen llawer o lyfrau heriol... felly dylai siaradwyr Cymraeg go� o cyfathrebu gyda’r Is-Ganghellor trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlysur o hyn ymlaen.”

CYMDEITHASAU PRIFYSGOL BANGORDyma flas ar rhai o’r cymdeithasau sydd gan Brifysgol Bangor i’w cynnig...

Ethos HogSoc yw bywoliaeth gynaliadwy sy’n hybu ty� ant cynnyrch organig cartref. Mae’r gymdeithas wedi tyfu bob blwyddyn ers iddi gael ei sefydlu ac enillom ni wobr Cymdeithas Amgylcheddol y Flwyddyn y llynedd yn ogystal â‘r gymdeithas a gyllidwyd orau yn yr Undeb. Rydym hefyd wedi cyfrannu’n hael at brosiectau’r Undeb megis Blacowt Cymru 2014 a Gwobr Her Gysylltiadau yr Ecolegwr. Mae’n partïon gwaith wythnosol yn cynnwys tyllu a phlannu cynnyrch, gweithio gyda glasgoed a chynnal a chadw gerddi. Gwahoddir aelodau i fynd â phlanhigion gartref gyda nhw, eu tyfu a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth lle mae cy� e i ennill gwobr. Y tu allan i’n partïon gwaith rydym hefyd yn mwynhau bod yn yr ardd trwy gynnal barbeciwiau (gan ddefnyddio’n llysiau ein hunain) a gemau. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys nosweithiau cymdeithasol � lmiau a thafarndai, yn ogystal â phrydau tymhorol y Nadolig a’r haf. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chymdeithas sy’n gweithio’n galed ond sydd hefyd ag awyrchylch cymdeithasol hyfyw, cysylltwch â ni trwy e-bostio [email protected].

Cymdeithas Gardd Organig GarddwriaetholCymdeithas newydd yww Cymdeithas Gwnïo Cre� us Bangor. Rydym yn cynnal cyfarfodydd a gweithdai cyson bob dydd Mawrth. Rydym yn ho� o bob math o gre� au gan gynnwys brodwaith, gweu, crosio, gwneud cardiau, gwneud dillad a llawer mwy. Dim bwys os mai dechreuwr ydych chi eisiau trio rhywbeth newydd, neu cre� wr pro� adol sydd eisiau ehangu’ch sgiliau. Eleni mae’r gymdeithas yn bwriadu cymryd rhan gydag elusennau a’r gymuned leol. Hyd yn hyn eleni byddwn yn cynnal ‘Knit-a-� on’ 24 awr i Plant mewn Angen ac rydym yn cymryd rhan yn y ‘Big Knit Collection’ ar gyfer Age Cymru. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau Ffeirio Dillad ddwywaith y semester ac yn cymryd rhan yn y Farchnad Nadolig � ynyddol.Dewch o hyd i ni yn Serendipedd ac ar BangorStudents.com

Cymdeithas Gwnïo Crefftus Bangor

Page 8: Rhifyn y Glas 2014

8 ...Cymdeithasau Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014

CYMDEITHASAU PRIFYSGOL BANGORDyma flas ar rhai o’r cymdeithasau sydd gan Brifysgol Bangor i’w cynnig...

Dewch i chwarae offeryn neu i ganu gyda Chymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor! P'un ai eich bod yn dechrau dysgu offeryn, neu'n offerynnwr gradd 8, mae'r gymdeithas yn agored i bawb ac nid oes clyweliadau. Mae gan y gymdeithas gôr a cherddorfa sy'n ymarfer pob wythnos; mae ymarferion y côr bob nos Fawrth dros y flwyddyn academaidd, ac ymarferion y gerddorfa ar nos Fercher, y ddau yn Neuadd Pritchard Jones (PJ) ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Cynhelir yr ymarferion cyntaf yn ystod Wythnos y Glas. Bydd Noson o Ragflas y Côr yn Neuadd Gerddoriaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ar nos Fawrth 23 Medi a Noson o Ragflas y Gerddorfa yn Neuadd Pritchard Jones ar nos Wener 26 Medi. Dyma'r cyfle i chi glywed y math o gerddoriaeth y byddwn yn ei chwarae a'i chanu. Mae croeso i

bawb! Mae’r Gymdeithas Gerdd yn chwarae a chanu repertoire hynod o amrywiol sy'n cynnwys darnau clasurol, caneuon poblogaidd a cherddoriaeth ffilm, a byddwn yn perfformio tair cyngerdd y flwyddyn yn ogystal â chyngherddau llai i godi arian at wahanol elusennau. Byddwn hefyd yn cynnal ein digwyddiadau ein hunain fel cymdeithas i godi arian i elusen drwy gydol y flwyddyn!Cymerwch olwg ar bumusoc.co.uk, m y f y r w y r b a n g o r .com, neu chwiliwch amdanom ar Facebook i gael mwy o fanylion a gwybodaeth! Cofiwch hefyd y byddwn yn Serendipedd - dewch i chwilio am ein stondin yn ystod yr Wythnos Groeso!Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan!

Cymdeithas Cerdd (MuSoc)

Mae Gardd Fotaneg Treborth wedi’i lleoli y tu allan i Fangor, heb fod ymhell o Bont Borth ac ychydig cyn i chi gyrraedd y trac athletau a’r caeau chwarae. Oherwydd hynny, mae’r safle’n berffaithar gyfer gweithgareddau awyr agored fel rhedeg traws-gw-lad. Fodd bynnag, cadw, gwarchod a rheoli rhywogaethau prin yw prif nod y safle. Amrywia’r cyne-finoedd o Awstralia i’r Gogarth. Rhoddir blaenoriaeth i addysg gydag adnoddau ar gyfer bod o gymorth i raglenni ysgolion coed-wig a phrosiectau PhD. Ymysg yr

uchwfbwyntiau mae’r Binwydden Wollemi ac mae coedardd ar y gweill i ddangos hanes Cymru tr-wy’r oesoedd. Ar gyfer y gymuned

ehangach, cynhelir gweithdai rheolaidd sy’n cynnwys cyrchoedd

ffyngaidd ar y safle yn ogystal â’r gwerthiannau planhigion enwog. Gall y cyhoedd gymryd rhan yng nghynnal a chadw safle Treborth trwy gynorthwyo Cyfeillion Treborth (FTBG) a STAG trwy wirfoddoli ar ddyddiau Merch-er a/neu ddyddiau Gwener. Mae Cyfeillion Treborth, sy’n cynnal a chadw’r gerddi, yn grŵp o bobl leol sydd â degawdau o brofiad mewn botaneg a garddio. Mae cymdeithas STAG o Brifysgol Bangor yn cynorthwyo gyda’r gweithdrefnau hyn. Y syniad yw y bydd y sgiliau ymarferol y mae

cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn cael eu magu a’u meithrin trwy wirfoddoli gyda STAG, ac yn cy-dfynd â rhaglenni gradd o’r natur hwnnw. Y tu allan i Dreborth, mae STAG yn trefnu nifer o deithiau i wahanol ffermydd cymunedol a Gerddi Botaneg eraill er mwyn cymharu technegau allanol, gan cynnig cyfleoedd i gymdeithasu ar yr un pryd. Ers ei sefydlu, mae cy-muned Treborth a’i chysylltiadau wedi cryfhau’n arw ac mae’n lle gwych i gadw’n heini, gwella’ch lles amgylcheddol a chyfarfod pobl o’r un anian â chi.

Grwp Gweithredu Myfyrwyr Treborth (STAG)

Helô! Hola! Hallo! Salut! Cymdeithas Ieithoedd Prifysgol Bangor ydym ni! Rydym ni eisiau i fyfyrwyr fwynhau ieithoedd felly rydym ni’n cynnig cyfleodd i ddysgu am ieithoedd a diwylliannau gwahanol mewn ffordd anffurfiol a hwyliog. Rydym yn denu myfyrwyr tramor bob blwyddyn ynghyd â myfyrwyr cartref newydd ac rydym yn eu rhoi at ei gilydd i greu nosweithiau cymdeithasol diddorol a llawn hwyl, ble gallwn ymarfer a chymryd mantais o’r cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr sy’n siarad eu mamiaith, sef y ieithoedd yr ydym yn eu hastudio! Rydym yn cynnal nosweithiau cymdeithasol i ddathlu amryw o wyliau Ewropeaidd megis Carnival, Eurovision Song Contest, Mardi Gras a mwy fel y gallwn dyfu’n ddiwylliannol! Felly ymunwch â ni – dydych chi byth yn gwybod, efallai

y dysgwch rywbeth tra rydych yno!

Cymdeithas Ieithoedd Modern (LangSoc)

Ydych chi erioed wedi meddwl be sy’n mynd ymlaen mewn gorsaf radio myfyrwyr, sut mae’n gweithio a sut y gallech chi gymryd rhan? Wel dyma’ch cyfle gyda Storm FM – eich gorsaf radio myfyrwyr ble’r ydym yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf, ateb eich cwestiynau di-ri, rhoi cymorth a chyngor yn ogystal â chynnal amryw o sioeau siarad a chymaint mwy. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â ni ar [email protected] i ddarganfod sut y gellwch gymryd rhan neu tiwniwch i mewn i 87.7FM! Rydym yn chwilio am dalent a syniadau newydd yn gyson ac ar hyn o bryd mae gennym agoriad ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg felly peidiwch ag oedi i gysylltu â ni. Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan (stormfm.com) a Twitter (@Storm_FM) am yr holl newyddion diweddaraf, digwyddiadau, cystadlaethau a sioeau.

Storm FM - Gorsaf Radio Myfyrwyr

...parhad

Page 9: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 ...PONTIO 9

y diweddaraf:Datblygiad y Safl e: Awst

Datblygiad y Safl e: Medi

(parhad o’r dudalen � aen)

...Cyhoeddodd Pontio y bydd Chwalfa yn cael ei gynnal yn y � wyddyn newydd rŵan, ac y bydd y dyddiadau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y mis. Bydd y rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau’n gallu dewis cael eu trosglwyddo i’r per� ormiad cyfatebol yn y � wyddyn newydd neu dderbyn ad-daliad llawn. Yn ogystal, fel arwydd o ewyllys da ac i geisio gwneud iawn am yr anhwylustod, mae Pontio’n cynnig taleb anrheg gwerth £5 i’r cwsmeriaid, i’w ddefnyddio ar gyfer per� ormiadau eraill yn y theatr... Mewn datganiad ar dudalen Facebook � eatr Genedlaethol Cymru, dywedodd Arwel Gru� ydd, Cyfarwyddwr Artistig � eatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Chwalfa: ‘Rhan ganolog o weledigaeth � eatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol. Mae yna � soedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr pro� esiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol. Ho� wn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter am eu brwdfrydedd, a’r croeso rydym wedi ei dderbyn. Mae’r

bwrlwm a’r disgwyliad yn yr ardal wedi bod yn amlwg iawn, ac mae’n siom fawr i ni na fyddwn yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn hwyrach y mis hwn; ond rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dod yn ôl i roi’r cynhyrchiad ar lwyfan � eatr Bryn Terfel yn y Flwyddyn Newydd. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw bod y stori arbennig hon, a’r gwaith caled hwn yn cael gweld golau dydd.’Y bwriad yw agor Pontio mewn rhannau, gyda'r theatr yn agor gyntaf. Mewn neges a ryddhawyd ar Fedi’r 9fed, bu siomiant pellach wrth iddynt ddatgan na fydd modd agor � eatr Bryn Terfel tan Hydref y 15fed ar y cynharaf, ac felly, bydd pawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer per� ormiadau hyd at Hydref y 14eg yn derbyn ad-daliad llawn. Roedd ‘Garw’, cynhyrchiad diweddaraf � eatr Bara Caws, i fod i’w lwyfannu yn y theatr ar y 7fed a’r 8fed o Hydref, a gobaith Pontio yw gallu ail-drefnu. Nid oes unrhyw newyddion am y Gala Agoriadol hyd yma – aeth y tocynnau ar werth ar Awst yr 20fed, gan werthu allan o fewn y chwarter awr gyntaf. Mae’r Gala i’w chynnal ar yr 17eg o Hydref ynghyd â gweithgareddau agoriadol eraill, ond yn y neges mae Pontio’n pryderu na fydd yr adeilad yn barod erbyn hynny chwaith ac y bydd rhaid i’r Brifysgol barhau i adolygu’r sefyllfa gyda’r contractwr adeiladu cyn gwneud cyhoeddiad arall cyn bo hir.

Bydd Pontio'n lle prysur, gyda channoedd o berfformiadau byw a ffi lmiau bob blwyddyn. Bydd pob sioe angen tîm o wirfoddolwyr ymroddedig i groesawu cwsmeriaid, gwirio eu tocynnau a'u tywys i'w seddau. Mae'r gwirfoddolwyr wrth gwrs yn cael gweld y sioe honno am ddim!

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau pob math o ddigwyddiadau, o ddigrifwyr adnabyddus fel Seann Walsh, i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, theatr fyw gan gwmni'r Globe Shakespeare, a llawer o'r ffi lmiau diweddaraf.

Mae'n ffordd wych o weld cymaint o berfformiadau a ffi lmiau ag y gellwch heb wario dim a chewch gyfl e hefyd wrth gwrs i ddod yn rhan o dîm cyfeillgar sy'n wirioneddol hoff o'r celfyddydau. Felly, os ydych yn hoff o theatr, sinema neu gerddoriaeth fyw ac awydd ymuno â thîm gwirfoddolwyr Pontio, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sharon Roberts: [email protected] neu 01248 343058.

YDYCH CHI EISIAU GWIRFODDOLI GYDA PONTIO?

Page 10: Rhifyn y Glas 2014

3

Y LLEF | Rhifyn y Glas 201410 ...PONTIO

10 Cwestiwn i :

Fydd y sinema’n dangos y � lmiau diweddaraf?

Fe fydd y rhaglen � lmiau’n cynnwys rhai � lmiau

sydd newydd eu rhyddau, ynghyd â chymysgedd

o � lmiau celfydd, � lmiau poblogaidd byd-

enwog, sioeau 3D, sesiynau holi ac ateb a mwy.

A fydd Pontio ar agor y tu allan

i dymor y Brifysgol?

Bydd - fe fydd Pontio ar agor

drwy gydol y � wyddyn i bawb.

Sut fyddech chi’n mynd ati i hysbysebu gan anelu at fyfyrwyr?

Fe fyddem yn ymgysylltu â myfyrwyr drwy hysbysebu yn y Llef,

Seren, bydd Storm FM wedi’i leoli o fewn Pontio felly fe fyddem

yn cydweithio’n agos i rannu gwybodaeth o amgylch y Brifysgol.

Edrychwch am bosteri o amgylch y campws a Bangor hefyd. Am

y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, ymunwch â’n rhestr

bostio drwy ymweld â’n gwefan pontio.co.uk. Rydym hefyd ar

Twitter, Facebook, YouTube, Tumblr, Instagram a Flickr!

Beth fydd y cy� eusterau ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol?

Bydd Pontio’n adnodd gwych i fyfyrwyr y Brifysgol,

gyda darlithfeydd modern â’r technoloeg ddiweddaraf,

ardaloedd astudio / addysgu cymdeithasol, pencadlys

Undeb y Myfyrwyr, ca� a bwyty yn ogystal â dwy theatr

a sinema – bydd Pontio yng nghanol y campws ac wrth

galon dinas Bangor.

A fydd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gallu gwneud

defnydd o’r adeilad o ddydd i ddydd?

Wrth gwrs. Dowch am baned, i weld sioe neu � lm – ag bydd

nifer o ddarlithoedd yn digwydd tu fewn Pontio o � s Ionawr

ymlaen. Ar y cyd a’r Undeb y Myfyrwyr, mae hefyd trefniant

mewn lle i gymdeithasau per� ormio’r brifysgol gwneud

defnydd achlysurol o’r stiwdio a theatr Pontio.

Fydd Pontio’n parhau i gynnal gigs Cymraeg yn gyson, fel y rhai a oedd yn cael eu cynnal yng Nghlwb Y Rheil� ordd dros y � wyddyn ddiwethaf? Bydd gig 1af Pontio yn gig Cymraeg “sefyll i fyny” ym mis Tachwedd

gyda Swnami, Candelas ag eraill. Wrth fod ni’n dod i adnabod yr adeilad hefyd, bydd yn dod yn gliriach pa beth sydd yn gweithio mewn pa gofod – a fydd modd datblygu strands newydd o raglennu.

A fydd unrhyw ostyngiadau i fyfyrwyr?

Bydd. Mae’r mwyafrif o’r arlwy yn ein rhaglen yn cynnig gostyngiadau hael i fyfyrwyr. Ceir mwy o wybodaeth ar ein tudalen Myfyrwyr ar wefan Pontio (pontio.co.uk)

A fydd cy� e i fyfyrwyr wirfoddoli neu weithio i Pontio? Bydd! Fe fydd Pontio yn cynnig cy� eon i fyfyrwyr wirfoddoli, i gofrestru

ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Beth oedd y rheswm i Pontio gael ei sefydlu?

Nifer o resymau. Bydd y Ganolfan gwerth £49 miliwn yn cynnwys theatr hyblyg â 450 sedd (� eatr Bryn Terfel), sinema, stiwdio â 120 sedd a llwyfan ber� ormio awyr agored. Cynnal ystod o ddigwyddiadau artistig rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan gy� wyno’r celfyddydau mewn � ordd newydd. Bydd Pontio hefyd yn cynnwys cy� eusterau dylunio rhyngddisgyblaethol i greu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newyddion. Cyfuna’r adeilad trawiadol ddysgu’r celfyddydau a’r gwyddorau yn ei gy� eusterau addysgiadol gwych er budd y gymuned, busnesau lleol a myfyrwyr y Brifysgol. Cenhadaeth Pontio yw creu rhaglen artistig o’r ansawdd uchaf sy’n arloesol, uchelgeisiol ac yn berthnasol i’n cymunedau. Yn Pontio rydym yn credu yng ngrym y celfyddydau i gael e� aith gadarnhaol ar ein bywydau a bod gan bob un ohonom yr hawl i bro� ’r celfyddydau.

Sut fath o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal i fyfyrwyr yn Pontio? Bydd ystod eang o ddigwyddiadau ar

gyfer myfyrwyr yn Pontio – dramâu, sioeau comedi, � lm, dawns, gigs, cerddoriaeth byd a lot mwy.

1 2

54

6

78

9 10

Page 11: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 ...PONTIO 11

Dod i ‘Nabod: Tomos Moore

1. Er mwyn i ddarllenwyr Y Llef ddod i’ch adnabod yn well, ellwch chi ddweud gair neu ddau am eich cefndir?

Fy enw i ydy Tomos Moore, dw i’n 21 ac yn gweithio i Pontio fel Technegydd � eatr llawn amser. Hogyn o Bwllheli dw i, ac roeddwn yn mynychu Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli. Rydw i’n byw gyda fy nhad, fy mam a’m chwaer. Yn f ’amser rhydd dwi’n dysgu pobol i Wakeboardio a Sur� o drwy gwmni O� axis yn Abersoch.

2. Beth yw’ch swyddogaeth o ddydd i ddydd o fewn tîm technegol Pontio?

Rydw i’n arbenigo mewn goleuo mewn per� ormiadau. Tîm o 5 o dechnegwyr ydym ni yn Pontio, sef Gwion Llwyd - Cyfarwyddwr Technegol, Jason Jones - Uwch Dechnegydd � eatr (Sain), Richard Roberts (Dic Ben) - Technegydd � eatr (Sain), Delyth Williams - Technegydd � eatr (Goleuo) a � Technegydd � eatr (Goleuo). Yn rhan o fy swydd o ddydd i ddydd rydw i’n sicrhau bod gofynion technegol y cwmnïau teithio sydd yn ymweld â � eatr Bryn Terfel/Stiwdio yn cael eu hateb. Hefyd bydd gofyn i'r technegwyr gynorthwyo gyda “Get In a Get Out” pob cynhyrchiad, gwneud Pre Rig dyddiau cynt i sicrhau fod pob peth yn barod ar gyfer y “Get In” a gwneud pro� ad y cwmnïau teithiol mor hwylus ag y gallwn fel eu bod nhw’n mwynhau'r pro� ad o ber� ormio yn � eatr Bryn Terfel. Yn ogystal â hyn i gyd, mae � eatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg ble gellwch dynnu'r cadeiriau i gyd allan, codi, gostwng ac ehangu’r llwyfan, creu theatr “yn y round” a hefyd man lle bydd “gigs” yn cael eu per� ormio - mae'r posibiliadau gyda'r theatr yn ddiddiwedd.

3. Ers faint ydych chi wedi bod wrthi’n y maes technegol?

Roeddwn i’n helpu gyda goleuo dramâu a pher� ormiadau yn yr ysgol,

a thros y blynyddoedd cefais gy� eoedd yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli i weld sut oedd gwahanol gwmnïau yn gweithredu. A’r ôl gor� en yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli, cefais gy� e i ymuno fel Prentis am � wyddyn gyda'r cwmni teithiol cymunedol pro� esiynol - � eatr Bara Caws. Mwynheais y � wyddyn fel prentis yno yn fawr iawn ac yn � odus, cefais gynnig i aros ymlaen yno fel Technegwr llawn amser. Ar ôl tair blynedd yn � eatr Bara Caws yn gweithio a chael pro� adau technegol ar sioeau megis Llanast, Hwyliau’n Codi, a Cyfaill & Te Yn Y Grug, teimlais fy mod yn barod i symud ymlaen a chael rhagor o bro� adau yn y maes.

4. Pa heriau sy’n eich wynebu yn eich swydd?

Nifer! Mae yna heriau newydd bob dydd mewn � eatr fel � eatr Bryn Terfel gan ein bod yn delio gyda chwmnïau a pher� ormiadau hollol newydd bob dydd. Mae'r swydd yn heriol gyda chwmnïau’n gofyn am bethau gwahanol ond dwi’n mwynhau'r her - does dim sicrwydd o’r hyn sydd i ddŵad rownd y gongl neu beth sydd yn dŵad gyda'r per� ormid nesaf!

5. Faint o waith ac amser mae’n ei gymryd i baratoi ar gyfer un c y n h y r c h i a d / s i o e /digwyddiad?

Mae’r amser paratoi yn gwbwl wahanol i bob cwmni sydd yn dod ac yn ymweld â’r � eatr. Rhan amlaf, mae'r � eatr yn derbyn “pre rig” (gwybodaeth dechnegol) yn gyntaf, sef cynllun goleuo lle rydym ni fel Technegwyr � eatr yn gorfod ei ddilyn a rhoi y lampau i fyny yn y mannau priodol ac unrhyw beth arall gan gynnwys manylion sain. Mae hyn fel arfer yn cael ei wneud dyddiau o � aen llaw. Yna mae'r cwmni

yn cyrraedd y theatr a gosod y set. Wedyn mae ymarferion technegol yn digwydd ac yna'r per� ormiadau a’r gyfer y cyhoedd. A’r ôl i bawb adael y theatr, mae'r tîm technegol a’r cwmni yn pacio’r set ac wedyn mae'r � eatr yn barod am y per� ormiad / cwmni nesaf.

6. Be fydd yn denu pobl i ddod i Pontio?

Dwi’n hynod obeithiol y bydd Pontio’n denu pobol a phlant o bob oedran. Gan fod � eatr a Stiwdio yn mynd i fod yno, bydd gennym drawstoriad oedran da yn dod drwy'r drysau i weld sioeau. Yn ogystal â � eatr a Stiwdio mi fydd Sinema, a fydd yn atynnu math arall o gwsmer trwy’n drysau. Ar y llawr cyntaf bydd bwyty ar agor i

bawb, a bar wrth y fynedfa. Bydd dwy ddarlithfa yno a swyddfeydd yr Undeb Myfyrwyr. Felly gobeithio bydd yr adeilad llawn bwrlwm drwy’r adeg gyda thrawstoriad da o bobl fydd yn mwynhau ymweld â Pontio

7. Be ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf unwaith y bydd yr adeilad wedi agor?

Dw i’n edrych ymlaen cael fy nwylo ar yr holl dechnoleg newydd yno, dod i arfer gyda'r ddesg oleuo newydd a hefyd gweithio mewn � eatr newydd, yng nghanol Bangor. Hefyd, gweld ymateb pobol fel maent yn cerdded drwy’r drws am tro cyntaf, yn gweld yr adeilad newydd ac yn rhannu'r un cynnwrf â sydd gennym ni fel sta� .

PalasP R I N T

AR Y STRYD FAWRAC AR LEINON THE HIGH STREETAND ON LINE

palasprint.com

Edrych am Lyfrau?Tria Ni GyntafCefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

Looking for Books?Try Us First!Support your Local Bookshop

170

Stry

dFa

wr/

Hig

hSt

reet

, Ban

gor,

0124

836

2676

10St

ryd

yPl

as, C

aern

arfo

n,01

286

6746

31ei

rian@

pala

sprin

t.co

m

Page 12: Rhifyn y Glas 2014

12 ...Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

COLOFN CACENNAU CARA

Cacennau Bach

Siocledgan Cara Edwards

DIGWYDDIADAU WYTHNOS Y GLAS UMCB

Sadwrn/Sul - Noson yn Glôb

Llun - Ffair Fodiwlau - Neuadd Powis

Crôl Glas* (Glas fyfyrwyr i wisgo glas a phawb arall i wisgo hen grys rhyngol [Rhai sbâr ar gael]) - Dechrau yn Tap & Spile am 7

Mawrth - Crôl Teulu - Cwrdd yn neuadd JMJ am 6.30

Mercher - Noson Canu yn Glôb

Iau - Steddfod Dafarn* - Bysiau yn gadael yr Undeb rhwng 6.30 a 6.45

Gwener - Crôl Teircoes* - Cwrdd yn y Fenai am 7

Sadwrn - Crôl Hasbins/Diwrnod Ffilmiau a Phyjamas

* Pawb i gwrdd yn Neuadd JMJ am 6.30 os nad ydych yn gwybod ble i fynd.

Guto Gwilym

Mae UMCB yn mynd o nerth i nerth o flwyddyn i flwyddyn ac eleni, mae’n argoeli i fod yn flwyddyn lewyrchus arall. Y llynedd gwelwyd digwyddiadau gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yn dangos y dramâu enwog Bobi a Sami a Siwan, nosweithiau Meic Agored yn Nhafarn y Glôb a chôr Aelwyd JMJ yn canu mewn cyngherddau. Y flwyddyn nesaf rydym am weld nifer fwy o ddigwyddiadau gyda’r gymuned, yn rhan o galendr UMCB. Gyda chynlluniau am gyfleoedd gwirfoddoli, nosweithiau Clwb Cymru yn agored i’r gymuned ac Wythnos Gymraeg ac Ieithoedd Lleiafrifol ar ddiwedd mis Chwefror. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae UMCB wedi cael ambell lwyddiant hefyd drwy ennill yr Eisteddfod Ryngolegol unwaith eto ac yn barod i gadw’r darian pan fyddwn yn teithio i lawr i Aberystwyth y flwyddyn nesaf. Roedd tîm pêl-droed UMCB hefyd yn dathlu eleni ar ôl ennill eu lle ar dop

eu cynghrair ac mi fyddent yn ôl y flwyddyn nesaf i frwydro unwaith eto am y brig. Mae yna groeso i chi ddod i gefnogi’r bechgyn ar eu hymgyrch y flwyddyn nesaf eto. Bydd yna gyfle hefyd i fyfyrwyr UMCB fynd i Gaeredin ar gyfer y daith flynyddol i weld un o gemau rygbi'r Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban. Mae hyn yn gyfle gwych i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd a gyda nifer o fyfyrwyr o brifysgolion eraill. Ac fel dwi’n ei wybod o flynyddoedd

blaenorol, mae’n siŵr y gwelwn ni ambell i un ohonoch chi yno i gefnogi. Felly cadwch lygad ar beth sydd ymlaen gyda ni a sut y gallwch chi fod yn rhan o weithgareddau UMCB drwy edrych ar ein tudalen Facebook.

UnDEB Myfyrwyr Cymraeg Bangor

Cynhwysion:

40g Powdwr Siocled PlaenTua 4 llwy fwrdd o ddŵr poeth3 Wy (Maint Canolig)175g Menyn (Heb Halen)165g Siwgr Castor125g Blawd Codi1 llwy de o Bowdwr Codi

Yn Ychwanegol:100g Siocled Gwyn (wedi’i feddalu)75g Siocled Plaen (wedi’i gratio)Siocled i addurno megis Maltesers, Buttons, Flake a.y.y.b

Sut i wneud:

Rhowch y popty ar 185 gradd i gynhesu, cyn rhoi 12 o gasys papur mewn hambwrdd.Cymysgwch y powdwr siocled gyda’r dŵr poeth mewn powlen tan mae’n troi yn bâst.Mewn ail bowlen, cymysgwch y siwgr a’r menyn tan mae’n troi’n ysgafn ac wedi’i gymysgu’n gyfan. Ychwanegwch y cymysgedd menyn a siwgr at y bowlen siocled a’i gymysgu, cyn ychwanegu’r wyau, un ar y tro.Yn ofalus, ychwanegwch y blawd a chymysgwch tan mae wedi’i gymysgu’n gyfan.Llenwch bob cas papur tan maent tua dau draean yn llawn a rhowch yr hambwrdd yn y popty am tua 12 – 15 munud.I brofi os yw’r cacennau’n barod, rhowch gyllell finiog yng nghanol un o’r cacennau ac edrychwch os yw’n dod allan yn lân.Gadewch y cacennau i oeri ar fwrdd am o leiaf 20 munud.Yn y cyfamser, mae’n bosib gwneud y buttercream drwy gyfuno’r menyn, powdwr siocled a’r siwgr eisin gyda chymysgwr trydanol neu â llaw drwy eu cymysgu gyda llwy (er mae hyn yn gallu cymryd ychydig mwy o amser).Pan mae’r cacennau wedi oeri, rhowch y buttercream mewn piping bag a dewisiwch big (nozzle) o faint addas (neu os nad oes gennych chi big, torrwch ddarn bach oddi ar waelod y bag i gael agoriad siâp cylch).Yn ofalus, peipiwch yr eisin ar bob cacen, gan ddechrau o’r canol ac yna’n mynd o gwmpas. Addurnwch gyda siocled o’ch dewis, y siocled plaen wedi’i gratio a siocled gwyn wedi’i feddalu.

I’r Buttercream:130g Menyn300g Siwgr Eisin20g Powdr Siocled Plaen

Page 13: Rhifyn y Glas 2014

...Cornel Creadigol 13

...Y Gornel GreadiGol

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Gruffudd Antur

Croeso cynnes iawn i’r Gornel Greadigol! Y fi sydd yng ngofal y gornel eleni a dwi’n gobeithio y bydd y gornel yn llwyfan i rai o ddoniau creadigol disgleiriaf Prifysgol Bangor, gan gynnig amrywiaeth o arddulliau, o gerddi i benodau o nofelau i lên meicro – unrhyw beth, a dweud y gwir! Dyma gyfle gwych i weld eich gwaith mewn print a’i a’i gyhoeddi

gerbron cyd-fyfyrwyr a darlithwyr, a gobeithio y gallwn ddod o hyd i dalentau newydd yn ogystal â chyhoeddi gwaith rhai sydd wedi hen arfer â ’sgwennu. Felly swatiwch yn nes at y tân a chysylltwch â mi ar [email protected] neu dros Facebook er mwyn gweld eich gwaith ar waliau’r gornel ddiddos hon!

GofalGwenan Jones

Mil Harddach Wyt na’r Rhosyn GwynPanig llwyr. Doedd hi ddim yn barod am hyn – o bell ffordd! Roedd hi’n ifanc – roedd cymaint roedd hi heb ei wneud – teithio, ysgrifennu nofel – pob math o bethau clichéd! Pam fod hyn yn brifo cymaint?! Pam na fyddai’r holl beth drosodd yn gynt?! Arswydai wrth feddwl sut olwg oedd arni – cymysgedd o chwys a dagrau a gwaed ymhobman wrth i’r boen bron ei lleddfu. Yna’n sydyn – dyna fe. Yn belen fregus, swnllyd. Perffaith.“’Ma gyda ti fab Mari – llongyfarchiadau!”

CamuTraffic. Traffig diamynedd, yn llifo’n flin, heb stopio i edrych o’u cwmpas. Mam a finnau wedi’n sadio ar ddiogelwch y palmant. A wnawn ni fentro ei adael? Mae arna i angen mynd i Superdrug! Dechrau camu ymlaen yn ofalus … cyn teimlo gafael ffyrnig, angerddol am fy llaw. “Mam! Gad fynd o’n llaw i! God, ti mor embarrassing!”

AiladroddFeddyliai Helen erioed y câi hi drydydd plentyn. Yn arbennig wedi iddi gael bachgen a merch. Un o bob un. Y gorau o’r ddau fyd, yn dwt a thaclus. Doedd dim angen mwy – er gwaethaf protestio’r plant, a’i gŵr. Serch hynny, gafaelodd ei greddf famol ynddi eto. Dychwelodd y cyfrifoldeb. Bu’n benderfynol fod y cyfnod gofalu drosodd. Ond dyma hi – yn bwydo’r un a ddibynnai arni. Yn ei gwisgo’n ofalus. A chyn ei gosod yn y gwely bob nos, sibrwd yn dyner: “Nos da, Mam. Caru chi.”

Nos SadwrnMae Sara a fi’n cael y nosweithiau gorau gyda’n gilydd. Oedd heno’r cymysgedd perffaith o ddawnsio dwl, Jack Daniels, a bechgyn di-ri! Efallai fod y jagerbombs diwethaf wedi bod yn gamgymeriad ... o na ... o ...o, lle ’ma’r toilet?! Clawdd amdani! Ych! Wow ... pwy sy’n dal ’y ’ngwallt i nôl? O ych!! O ych a fi!! Byth ... byth yn yfed ’to! Sgidie Sara yw’r rheina? Ych!! “Na fe Lows, lan a fe! Ma un o’r staff yn dod â dŵr i ti, wedyn ewn ni adre, ie? Paid â becso, ’wy ’ma blodyn!”

PanedMethai gofio’r tro diwethaf iddi deimlo mor sâl. Ei phen yn pwmpio’n ddidrugaredd, ei thrwyn fel rhaeadr, a’i thymheredd yn newid fel y gwynt. Dim ond gorwedd oedd ar ei meddwl, ond roedd cymaint i’w wneud! Reit, codi amdani!“A ble’n union wyt ti’n mynd? Cer nôl i’r gwely ’na! Ma’r plant yn barod i’r ysgol, fi ’di ffonio’r gwaith a gweud na fyddi di mewn heddi. Nawr ’te, ’ma ti Beechams a mwg o Lemsip – yfa nhw, dim cwyno! ’Ma ti baned i ti.”Mae’r baned yn oer erbyn hyn. Ond mae’n ei yfed, bob diferyn.

Prifardd PerffaithCaryl Bryn

Ei anadl fel awel deg yr haf,yn barddoni, bron.Yn ias braf lawr gwddf rhywun – A wyddai y byddai efyn brifardd yn llygaid y ferch dlysaf un?

Y dlysaf un, aur ar ei orau unyn berffaith, bron.Ystwyll i’r enaid, naid i gam dannaws ei phresenoldeb hi.Yn ferch sy’n ateb i bendro bob un,sy’n bodoli.

Ond bron yw ei farddoni ef,a’i pherffeithrwydd hi, ond bron.Bron ein bod yn ddall – rhag gweled y gwir.Y gwir yn y gwaed, nid y croen.Y gwir gariad, boed brifardd neu berffaith.

Page 14: Rhifyn y Glas 2014

14 ... Y Gornel Greadigol Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Porthos Llŷr Titus

Lle i blant drwg oedd y chwareli, dyna fy-ddai’r rhieni o’r stesions ar y ffin hyd at y Ddaear yn ei ddeud. Rhybudd oedd o, bwci bo o le a fyd-dai’n ddigon i ddychryn plant i ufuddhau mewn oes pan nad oedd Siôn Corn yn gallu bodoli.

Roedd dwy neu dair cenhedlaeth o blant wedi eu magu yng nghysgod y pylla toddi a mwg yr injys tyllu a nhwytha bellter sêr i ffwrdd. Heb ddod yn nes at y chwys a’r gwaed a’r rhegi na chyffwrdd y metal wedi’i brosesu, hwnnw a rwygwyd o gnawd rhyw blaned nad oedd dim ond rhif arni hi fel enw. Eto roedd yr ofn hwn-nw wedi glynu nes yr oeddan nhw’n rhieni ac wedi glynu wrth eu plant nhw ac ymlaen nes i’r chwareli droi’n stori ac yn haniaeth yn eu med-dyliau nhw.

Ond fe oeddan nhw’n bodoli, yn gre-ithiau neu’n gansar yn ymledu ar draws cyrion y gofod a oedd wedi’i gofnodi. Bellach roedd rhan o’r job o gofnodi wedi’i rhoi i’r chwarelwyr, y rheiny a oedd yn gallu teipio beth bynnag. Wedi i un blaned gael ei sbydu, byddai’r llongau cargo yn gadael, byddai’r chwarelwyr yn pacio’u caban ac yn symud at y blaned nesaf. Roedd yr hen syn-iad mai dim ond un lle oedd y chwareli yn hen ffasiwn bellach.

Aeth rhybuddion y rhieni i wireddu’u hunain. Bellach roedd gwehilion yn diferu’n ara’ deg o’u gwirfodd i’r chwareli pan nad oedd hyd yn oed lefydd fel Arcadia yn gwrthod eu cadw nhw. Doedd dihirod ddim yn bethau prin cyn i’r plant drwg benderfynu gwireddu bygythiadau eu rhieni. Bob hyn a hyn fe fyddai criwiau o garcha-rorion yn gwirfoddoli yn yr un modd ag y mae rhywun hefo gwn wrth ei ben yn tueddu i gytuno hefo pob dim. Roedd eraill wedi dechrau crwy-dro a chael eu chwythu gan wyntoedd y sêr fel hen fagiau plastig nes iddyn nhw gyrraedd dibyn dynoliaeth ac aros yno.

Dechrau ar y ceibiau letrig wnaeth Jo a gan ei fod o’n gallu ’sgwennu, ac wedi goroesi yn agos i ddeg cloddiad roedd o bellach yn un o’r criw a fyddai’n cael eu gyrru i wneud y sganiau cyntaf ar blaned newydd.

Trodd ei gefn ar weddillion y ddwythaf, y cylch o greigiau yn dal mymryn o lewyrch haul y system yn hyll fel dannadd cam, a throi’n ôl at ei waith. Roedd hi’n rhyfadd braidd gweld shwrwd yn yr awyr lle’r oedd lleuad wedi bodo-

li ychydig ddyddiau ynghynt. Mi ddylia fod yn arfar, meddyliodd, ond doedd diflaniad rwbath mor anfarth ddim yn naturiol rhywsut. Mwy nag oedd y blaned hon. Doedd yr un blaned y buodd o arni o’r gyntaf hefo’i phylla sylffwr a’r gwyrddni yn yr awyr bob nos a fyddai’n dod bob pythefnos at hon hefo’i anialwch a’r creigiau a golwg fel eu bod nhw wedi’u toddi arnyn nhw yn naturiol. Hynny ydi, doeddan nhw’m yn debyg i’r Ddaear. Roedd o’n un o’r rhei prin yn y chwareli a gafodd eu magu yno ond roedd pawb bron o Fawrth hyd at bellafoedd y ffin wedi bod yno unwaith. Roedd ’na barc a oedd yn amgueddfa hefyd i ymwelwyr hefo gwyrddni ac anifeiliaid a phobl yn gwenu a dyna oedd darlun y rhan fwyaf o ddynoliaeth o’u dechreuad. Wydden nhw ddim am y slymiau a’r diffeithdiroedd. Bob shifft gwsg yn y cori-dorau cysgu byddai rhyw gyw ifanc yn trafod ei gynllun i hel digon o bres yn y chwareli a symud i’r Ddaear lle’r oedd petha’n tyfu heblaw mewn pyllau hydroponig. Fe fyddai Jo yn gwenu ar y tywyllwch.

Roedd y sgan yn dangos fod yna fwy o nicel na’r arfar yn hon a gwelodd Jo, heb fawr o syndod, nad oedd arwydd o unrhyw beth byw yn y cyffiniau. Doedd yna’m hyd yn oed facteria yn y sampl llwch roedd hi wedi’i godi. Yr un peth a oedd wedi dychryn dynoliaeth wrth iddyn nhw faglu’u ffordd tuag at y sêr oedd bod ’na neb yn aros amdanyn nhw. Ar ôl yr holl lyfra a ffilmia yn darogan gwae roedd y bydysawd yn wag ac roedd hynny’n waeth na’r syniad o fygythiad rhywsut. Roedd y gwactod fymryn gwacach a’r tawelwch oesol hwnnw rhwng y sêr yn pwyso’n drymach. Doedd yna ddim olion dim chwaith ac fe fyddai’r gwyddonwyr yn gwenu’n gloff ac yn dweud bod y cosmos yn lle mawr ac yn hen iawn a’i bod yn debygol o hyd nad oedd dynoliaeth yn unigryw. Phoenodd hynny ’rioed lawar ar Jo – roedd peidio â phoeni am ddwyn mwynau dynion bach gwyrdd yn g’neud y job yn haws.

Amneidiodd i’r gweddill ei dilyn, er bod modd cysylltu wrth siarad ar y rhan fwyaf o’r arf-

wisgoedd doedd fawr o neb yn sgwrsio ’di mynd a doedd dim sicrwydd y byddai sbicars pawb yn gweithio. Tynnodd Jo fymryn ar ei harfwisg lle’r oedd y tâp dros dro oesol wedi tynhau’r defnydd. Roedd y tamad hwnnw bob amsar yn fwy chwys-lyd na’r gweddill.

O’u blaen roedd y twll, hwnnw oedd wedi gwarantu mwy na sgan sydyn cyn gyrru’r peiriannau i ddechrau tyllu. Roedd o’n debycach i grater na thwll mewn difri er bod y graig wedi codi’n bigau ar yr ochrau. Cyrhaeddodd y dibyn – mae’n rhaid bod y crater ryw hannar milltir o un pen i’r llall a gan nad oedd yna haul call yn y cysawd hwn doedd yna’m posib gweld ei waelod o. Cyrhaeddodd y pedwar arall a throdd Jo fym-ryn ar ei llygaid i weld sut olwg oedd arnyn nhw. Hyd yn oed trwy’r gwydr pŵl roedd posib gweld gên farfog Carl a’r llygaid rheiny a oedd yn well na dril am fynd drw’ rywun. Gwyddai Jo ei fod o’n ei pharchu hi wedi iddi hi hannar ei sbaddu fo am drio cyflawni un o’r seremonïau croeso traddodiadol pan gyrhaeddodd hi’r Porthos. Roedd hi ymysg y lleiafrif ond roedd hanner oes o fod yn ful bach cyffuria wedi c’ledu dipyn arni hi.

Wrth ei ochr o roedd Xiao, hogan glyfar, rhy blydi clyfar i fod yn chwarelydda, hi oedd yr un a fyddai’n g’neud y syms a’r hafaliadau pan fyddai’r cyfrifiaduron yn gorboethi. Roedd si ei bod hi wedi bod yn gweithio i ryw fanc ac wedi gwlychu mymryn ar ei phig yn y cafn ac wedi rhedag. Cymrodd pawb ei bod hi’n neis neis nes i rywun drio mynd i’r cwpwrdd offer a oedd yn gartra iddi hi a ffendio fod hyd yn oed genod neis neis yn gallu gosod tamad o fetal wedi’i hogi ar lastig ar uchdar botwm bol rhywun.

Adrian ac Isaac oedd y ddau arall; doedd Jo ddim yn gallu meddwl am y ddau ar wahân ’di mynd. Cwpwl oedan nhw’n ôl rhai, brodyr medda eraill, y ddau wedyn oedd damcaniaeth amball un. Doedd Jo yn poeni dim am hynny, roedd y ddau yn cadw cow ar ei gilydd ac yn cyd-weithio heb ffraeo ac roedd isio mwy o hynny.

Camodd Jo dros ochr y dibyn a llithro ar lwch ochrau’r twll tua’r gwaelod. Roedd yr ochrau’n serthach na’r disgwl ac fe aeth hi ar ei hyd a rowlio nes iddi hi ddod at dir gwastad. Shit. Mi fydda’r gweddill wedi’i gweld hi. Ar-hosodd ar ei chefn ac aros i bob dim beidio â throi. Gallai weld mymryn ar yr awyr a shwrwd y lleuad rhwng crafangau’r graig ar ben y crater. Er mai tri gwahanol fath o ddu oeddan nhw bellach mewn difri ond roedd du’r graig yn finiocach rhywsut. Doedd dim golwg o’r llong.

...Y Gornel GreadiGol

Page 15: Rhifyn y Glas 2014

...Y Gornel Greadigol 15

...y Gornel GreadiGol

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Gerallt Lloyd Owen1944 – 2014

Gruffudd Antur

Mae dau fis wedi mynd heibio er pan fu farw Gerallt Lloyd Owen. Eto i gyd, mae’n dal yn anodd amgyffred a derbyn y ffaith ei fod o wedi mynd; bod y llais ingol hwnnw wedi tewi am byth a bod lladmerydd pryderon ei genhedlaeth yn fud.

Ar ôl ei farwolaeth bu pobl o bob oed ac o bob cwr o Gymru’n baglu ar draws ei gilydd i dalu teyrnged i’r bardd mawr hwn, a bu pobl yn prysuro i nodi ei fod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â rhai o feirdd mwya’r oesau, yn yr un cae â Dafydd ap Gwilym ac R. Williams Parry. Ond efallai fod hynny’n gwneud anghyfiawnder â Gerallt. Lwyddodd yr un bardd arall – erioed, efallai – i ysbrydoli cynifer o bobl drwy gyfrwng ei waith fel bardd a meuryn a chanu i ofidion pennaf ei oes mewn ffordd mor uniongyrchol a chignoeth, a dyna pam y mae cymaint o linellau o’i waith ar gof ei genedl. Roedd yn genhadwr o fardd, yn annog ei genedl i’r gad, ac yn hynny o beth roedd yn olynydd teilwng i’r beirdd hynny a fu’n darogan ac yn cynghori’r Cymry a’i harweinwyr ar hyd y canrifoedd.

Ein her ni, bellach, yw rhoi geiriau a neges Gerallt ar waith. Rhoddodd inni ei faniffesto, ac mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd geiriau’r maniffesto hwnnw’n cael eu hanghofio. Er bod y llais yn fud, mae’r geiriau hynny yr un mor berthnasol ag oeddent ’nôl ym 1969, yn gwbl ddiamser o amserol, a rhaid inni ddefnyddio’r geiriau hynny fel seiliau i adeiladu’r Gymru y dymunwn ei gweld. Dyna fyddai’r deyrnged orau i Gerallt, sef cymhwyso ei rybuddion, ei ddelfrydau a’i bryderon i bob sefyllfa sy’n bygwth ac yn tanseilio ein bodolaeth ni fel cenedl.

Wrth wisgo fy hoff grys(ar ôl Rh.)Elis Dafydd

Rwygith hi mo’r crys ’maOddi amdana’ i etoA gorffwys ei phen ar fy mynwes,

Cusanu ’ngwddw,Rhedeg ei hewinedd mainAr hyd fy nghefn,

Na sbio arna’ i, a moesau’nMagwraethau ymneilltuolYn coelcerthu yn ei llygaid.

Rwygith hi mo’r crys ’maOddi amdana’i eto.Fe’i gwisgaf heno

A mentro allan i gywainHen drawiadau’n gerddi newyddAc fe’i tynnaf oddi amdanaf pan ddaw’r nos i ben,

Gyda llwch strae sigaréts wedi’u rhwbio i’r llewys,Mat cwrw’n ei boced,A staeniau seidr yn cosi’i benelinoedd

Ond heb yr un stori garu i’w golchi o’i gotwm.

Bangor Uchaf, Chwefror 2014.

CYSTADLEUAETH! (ar y cyd â'r Cymric)

Gorffennwch y limrig am gyfle i ennill copi o Tu Chwith (gwerth £5)!

Wrth fynd draw o'r Glob i'r Belle Vue ...Bydd cyfle i ‘sgwennu'r limrigau yn y ‘Steddfod Dafarn yn ystod Wythnos y Glas, felly

gyrrwch eich cynigion i mewn i: [email protected]

Page 16: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn yr Glas 201416 ...Hysbyseb

Page 17: Rhifyn y Glas 2014

Beth yw dy gefndir? Yr ydwyf yn dod o Drehuws (Houston) yn Nhecsas. Cefais i fy magu mewn carafán ger mornant o ryw fath. Roeddwn yn ho� o bethau Celtaidd ers i mi fod yn fachgen ifanc iawn. Ac wedyn ho� ais farddoniaeth! Astudiaf y Gymraeg ym Mangor, yr ydwyf wedi byw yn y JMJ ac wedi cael y cy� e i gymdeithasu gyda myfyrwyr eraill y llynedd er ’mod i’n hen ddigon i go� o Wal Berlin yn cael ei chwalu (jyst!).

Pam y dewisaist ti ddysgu Cymraeg?

Dysgais Gymraeg gan ’mod i wedi cael f ’ysbrydoli y gallai gwlad mor fach gadw’i diwylliant a’i hiaith er gwaetha ei bod y drws nesaf i’r ymherodraethwyr mwyaf yn hanes y byd.

Pam y gwnes di ddewis dod i astudio ym Mangor?

Yn gyntaf oll, mae’r adran Gymraeg yma wedi fy nerbyn heb amodau. Cynigiodd Aber hefyd ond

roedden nhw eisiau gweld cymhwysterau o ryw fath. Mae Bangor wedi fy mharchu i felly dwi wedi eu parchu nhw. Roedden nhw’n gyfeillgar pan ddes i fyny i’w gweld nhw. Ac mae gan Wynedd gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae gan yr Adran Gymraeg athro o America. Petaet ti eisiau astudio’r Almaeneg ac est ti i’r Almaen a gweld athro sy’n dod o Geredigion, beth fyddet ti’n ’neud? Dwi’n ho� cerdded yn y mynyddoedd. Mae Gwynedd yn fynyddog!

Sut le ydi Bangor i fyw ynddo? Wel, mae Bangor Uchaf a Chanol Bangor yn wahanol iawn. Problemau cymdeithasol sy’n creu hynny. Ni ddylen nhw fod mor wahanol o gwbl. Dw i wedi clywed myfyrwyr yn gwneud ambell jôc am bobl lleol a mae’n islif bron yn isymwybodol sydd yn agwedd gan rai nad ydy’r bobl lleol yn perthyn i’w byd nhw. Dw i’n byw yma drwy’r � wyddyn, felly dwi’n lleol a dwi ddim yn ho� ’r gwahaniaethu rhwng myfyrwyr a phobl leol. Er hynny, mae pobl

yn gyfeillgar iawn. Mae Bangor yn trechu Llundain unryw ddydd!

Faint o gy� e wyt ti’n ei gael i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd ym Mangor?

Yn ystod yr haf, pan oeddwn yn byw gyda chwpl o Wlad Tsiec, roedd fy mywyd ieithyddol yn od. Rhai dyddiau, fyddwn i ddim yn clywed gair o Gymraeg o gwbl, ond roedd rhai dyddiau pan mai Tsieceg a’r Gymraeg a glywais yn unig. Ond ar ddechrau mis Medi symudais i mewn i dŷ sy’n gymysgedd o wahanol fathau o Gymry, mae un yn dod o’r Cymoedd – mae hi’n deall tameidiau ond ddim wir yn siarad Cymraeg, ac mae un arall o Fethesda sydd ddim wedi siarad Saesneg.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato yn dy ail � wyddyn? Dw i’n ho� fy ngradd ac edrychaf ymlaen at fy modiwlau a phethau academaidd, dwi’n eu ho� . Ac mi fydd yn wych gweld llawer o wynebau eto!

...Yr Hadau 17Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...YR HADAUAtodiad Dwyieithog Y LlefY Llef’s Bilingual Insert

What’s your background?

I come from Houston. I was raised in a trailer (caravan) near the coastal swamps. I’ve been a Celtophile since I was a very young boy. And later I liked poetry! I study Cymraeg (Welsh) in Bangor, I’ve in the JMJ and have had a chance to socialise with over students this last year although I’ve old enough to remember the Berlin Wall being destroyed (just!)

Why did you choose to learn Welsh?I learned Welsh because I was inspired that a country so small could keep its culture and language despite being next door to the biggest imperialists in the history of the world.

Why did you decide to come to Bangor to study? Firstly, the Welsh Department accepted me without conditions. Aber o� ered as well but they wanted to see quali� cations of some kind. Bangor respected me so I respect them. � ey were friendly when I came up to see them. And Gwynedd has lots of communities where Welsh is the primary language. � e Welsh Department has a teacher from

America. If you were to study German and you went to Germany and saw a teacher who comes from Ceredigion, what would you do? I like walking in the mountains. Gwynedd is mountainous!

What kind of place is Bangor to live in?

Well, Upper Bangor and Bangor Centre are very di� erent to each other. It’s social problems which creates this. � ey shouldn’t be di� erent at all. I’ve heard students making jokes about local people not belonging to their world. I live here throughout the year, therefore I’m local and I don’t like the separation between students and local people. Despite that, people are very friendly. Bangor beats London any day!

How many opportunities do you get to speak Welsh from day to day in Bangor?

During the summer, when I lived with a couple from Czech Republic, my linguistic life was odd. Some days, I wouldn’t hear a word of Welsh at all, but there were some days where I only heard Czech

and Welsh. But at the beginning of September I moved into a house which is a mix of di� erent kinds of Welsh people. One comes from the Valleys – she u n d e r s t a n d s titbits but she doesn’t really speak Welsh – and there is another from Bethesda who is not used to speaking English.

What are you looking forward to in your second year?

I like my degree and look forward to my modules and academic stu� , I like them. And it will be great to see so many faces again!

Dod i ‘Nabod: BENJIMAN ANGWIN

Getting to Know: BENJIMAN ANGWIN

Page 18: Rhifyn y Glas 2014

18 ...Yr Hadau Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Euthum i lawr i Lanelli ym mis Awst gydag Y Bandana (band roc) a Lids (cyn-Lywydd UMCB) mewn fan ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y daith i lawr, ac yn ôl, yn un annisgwyl i mi. Mi welais lawer o Gymru na welais erioed o’r blaen, rhai ardaloedd hyfryd a rhai o’r ardaloedd mwyaf Cymreig. I fi , bu’r daith yn fath o bererindod ar draws fy ngwlad fabwysiedig oherwydd ni welais gymaint ohoni tan hyn. Aethom ar goll yn dod yn ôl a gwelais fwy ohoni oherwydd hynny. Y mae’r Eisteddfod yn ŵyl wythnos ei hyd sydd yn dathlu popeth am yr iaith Gymraeg. Cynhelir hi mewn mannau gwahanol bob blwyddyn, sydd yn rhoi’r cyfl e

i bobl weld Cymru gyfan. Y mae gwahanol feysydd yn yr Eisteddfod, megis Maes B ar gyfer bandiau, partïo a phobl ifanc, a Maes D i bobl sydd yn dysgu Cymraeg. Y mae Maes yn golygu ‘fi eld’, neu ‘fi eld where things happen’. Yn y babell fwyaf a mwyaf anniwylliedig ei golwg, sef y pafi liwn pinc, sydd yn edrych fel buwch odro’n gorwedd â’i dethi’n pwyntio tuag at yr haul, y cynhelir y cystadlaethau mwyaf diwylliedig, fel y Cadeirio a’r Coroni ar gyfer beirdd a Thlws y Cerddor ar gyfer cerddorion. Penderfynais yr hoff wn weld rhywun yn ennill un o’r gwobrau hyn. Eisteddais yn y pafi liwn ger fy ff rind Elis Dafydd, ac ennillodd Guto Dafydd,

brawd Elis, y Goron. Daeth pobl i’w hebrwng i lawr i’r llwyfan a symudodd Guto heibio i mi. Ces i neges destun oddi wrth ff rind ei fod wedi fy ngweld ar y teledu’n edrych yn lletchwith! Nid oes angen dweud ei fod wedi bod yn brofi ad bythgofi adwy fel fy nhro cyntaf yn gwylio’r Coroni. Hoff wn longyfarch Lids (Elidyr Glyn), cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor y llynedd, am ennill y gystadleuaeth ‘Canu cân werin hunan gyfeiliant’. Hefyd, hoff wn ddiolch i Gwilym Bowen an y jam llus yng ngharafan ei rieni!

Benjiman L. Angwin

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

I went down in a van to Llanelli in August with Y Bandana (a rock band) and Lids (UMCB’s previous president) for the Eisteddfod Genedlaethol. The journey down, and back, was an unexpected one for me. I saw much of Wales that I have never seen before – some beautiful areas and some of the most Welsh areas. For me, the journey was a kind of a pilgrimage across my adopted country, as I hadn’t seen much of it until now. We got lost on the way back and so I saw more of the country. The Eisteddfod is a week long festival that celebrates everything about the Welsh language. It’s situated in various parts of Wales every year, which gives people

the opportunity to see diff erent parts of the country. There are diff erent fi elds in the Eisteddfod, such as Maes B for bands, partying and young people, and Maes D for people learning the language. ‘Maes’ means ‘fi eld’, or ‘fi eld where things happen’. In the biggest tent, and the most uncultured in its appearance, the pink pavillion, which looks like a cow lying on its back and its teats pointing towards the sun, is where there most cultured competitions are held, such as the ‘Crown’ and the ‘Chair’ for the bards and the Musicians’ Medal for musicians. I decided that I’d like to see someone win one of these prizes. I sat in the pavillion next to my friend, Elis Dafydd,

and Guto Dafydd, Elis’ brother, who won the ‘Crown’. People came to usher him down to the stage and Guto passed me. I received a text message from my friend saying that he saw me on the television and that I looked awkward! Needless to say that it was an unforgettable experience as my fi rst time watching the Coroni (Crowning). I’d like to congratulate Lids (Elidyr Glyn), last year’s Welsh Students Union president, for winning the ‘Canu cân werin hunan gyfeiliant’ competition. Also, I’d like to thank Gwilym Bowen for the blueberry jam in his parents caravan!

Benjiman L. Angwin

Page 19: Rhifyn y Glas 2014

...Yr Hadau 19Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Neges i BawbBenjiman Angwin

Ho� wn i ysgrifennu hyn i bawb, y dysgwyr a’r Cymry Cymraeg. I’r dysgwyr, ysgrifennaf yr erthygl hon yn � ur� ol, oherwydd yr ydwyf yn meddwl y dylai ddysgwyr weld yr iaith safonol cyn gynted â phosib er mwyn deall strwythur yr iaith. Y llynedd, pan oeddwn yn atgyfodi Cymdeithas Llywelyn, sylweddolais nad oedd llawer o fyfyrwyr y tu allan i Neuadd John Morris-Jones (a’r rheiny sydd wedi byw yno) yn gwybod am Y Llef ac yr oedd llai yn gwybod am yr adran hon, ‘Yr Hadau’. Y mae hynny’n broblem o ystyried myfyrwyr sydd yn dysgu’r Gymraeg. Mi allai hyn fod yn adnodd amhrisiadwy iddynt. Byddwn, yn sicr, wedi gwerthfawrogi papur fel hwn pan oeddwn yn dysgu yn Lloegr ac yn yr Unol Daleithiau. Felly, gofynnaf i chi Gymry Cymraeg yn y brifysgol i ddangos nid yn unig ‘Yr Hadau’ i bobl ddi-Gymraeg, ond y papur cyfan; y mae gan fyfyrwyr di-Gymraeg yr hawl

diwylliannol i wybod am ddiwylliant ac iaith mor unigryw oherwydd byddai’n cyfoethogi eu pro� ad fel myfyrwyr Prifysgol Bangor. A hefyd, y mae angen torri muriau i lawer er mwyn dod â’r gymuned leol a myfyrwyr yn nes at ei gilydd. Gallai hyn helpu UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn y tymor hir hefyd, gan gynyddu eu haelodaeth drwy apelio at fyfyrwyr o aelwydydd di-Gymraeg sydd eisiau dysgu’r Gymraeg. Yn olaf, ho� wn roi cyswllt Facebook ar gyfer Cymdeithas Llywelyn: Welsh Learners Society i chi i gyd, oherwydd bydd angen Cymry Cymraeg yn ogystal â phobl ddi-Gymraeg er mwyn llywio Cymdeithas cyn bwysiced â hon i’w sa� e cywir, sef â sylfeini cadarn yn y brifysgol, sylfeini cyfartal eu nerth cymdeithasol â’r Gymdeithas Tseiniaidd neu’r Clwb Gwyddbwyll er enghrai� . Dyma’r ddolen Facebook:

h t t p s : / / w w w. f a c e b o o k . c o m /groups/734465626577071/?fref=ts

A Message For EveryoneBenjiman Angwin

I would like to write this for everyone, Welsh learners and Welsh speakers alike. For the learners, I’ll write this article formally, because I think that learners should see the standard language as soon as possible to understand the structure of the language. Last year, when I resurrected Cymdeithas Llywelyn, I realised that there weren’t many students outisde of John Morris-Jones Hall (and those who have lived there) that knew about Y Llef and there were less that knew about this section, ‘Yr Hadau’. Considering students that are learning Welsh, this is a problem. � is section could be invaluable for them. I’d of certainly appreciated a paper like this when I was learning Welsh in England and in the United States. � erefore, I’m asking all you Welsh speakers in the university to not only show ‘Yr Hadau’ to non-Welsh speakers, but the whole paper; non-Welsh speakers have the cultural

right to know about such a unique language and culture because it would enrich their experience as Bangor University students. Also, we need to break down walls in order to bring the local community and students closer together. � is could help UMCB (the Welsh Students’ Union) in the long term as well, by increasing their membership through appealing to students from non-Welsh households that want to learn Welsh. Lastly, I would like to give Cymdeithas Llywelyn Facebook contact: Welsh Learners Society to all of you, because we’ll need Welsh speakers as well as non-Welsh speakers to steer a society as important as this one to its right place, that is with � rm foundations in the university, foundations equal in their strength to societies such as the Chinese Society and the Chess Club for example. Here is the Facebook link:

h t t p s : / / w w w. f a c e b o o k . c o m /groups/734465626577071/?fref=ts

Wyt ti’n astudio ...Llenyddiaeth a Chymdeithas?

Twm o’r Nant yw’r dyn i ti ! Canu Twm o’r Nant, gol. Dafydd Glyn Jones, £15. Twm o’r Nant: Dwy Anterliwt, gol. Adrian C. Roberts, £15.

Llenyddiaeth y Ddeunawfed Ganrif?Llythyrau Goronwy Owen, gol. Dafydd Wyn Wiliam, £15.

Y Nofel Gymraeg?Daniel Owen : Y Drefl an, gol. Robert Rhys, £15.

Y Ddrama Gymraeg?Dramâu W. J. Gruff ydd : Beddau’r Proff wydi a Dyrchafi ad Arall i Gymro, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Barddoniaeth a Beirniadaeth yr Ugeinfed Ganrif? Beirniadaeth John Morris-Jones, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Hyn oll, a rhagor, yng nghyfres CYFROLAU CENEDLDalen Newydd Cyf., Bangor

Gan eich llyfrwerthwr, neu gellir archebu o: [email protected]

...Hysbyseb

Page 20: Rhifyn y Glas 2014

20 ...Llety Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Gwybodaeth anghywir am daiBob blwyddyn mae rhai myfyrwyr yn credu gwahanol wybodaeth anghywir ynghylch tai, megis:

• Mae prinder tai – Nid yw hyn yn wir. Ym Mangor mae digonedd o lety o ansawdd da. Gall hyd yn oed fyfyrwyr sy'n gadael y gwaith o chwilio am dŷ tan yr haf cyn iddynt ddychwelyd i'r Brifysgol ddod o hyd i dai da.

• Mae'r llefydd gorau yn mynd gyntaf - dyna mae'r landlordiaid sydd eisiau i chi ddewis tŷ yn rhy fuan eisiau i chi feddwl! Arhoswch tan ddyddiad dechrau chwilio am lety swyddogol y brifysgol ac yna gwnewch eich penderfyniad. Y dyddiad dechrau eleni yw'r 1af o Ragfyr!

• Mae pawb yn talu ffioedd llofnodi cytundeb – Nid yw'r rhan fwyaf o berchenogion sydd wedi'u cofrestru â Swyddfa Tai Myfyrwyr y brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr dalu ffioedd gweinyddu na llofnodi cytundeb. Os ydych chi eisiau talu, dewiswch landlord nad yw'n codi'r ffioedd hyn. Gellwch hidlo’ch dewisiadau chwilio i ddangos eiddo lle codir 'Dim ffioedd na ellir eu had-dalu'.

Cyn i chi ddechrauDylech weithio allan gyda phwy yr ydych yn dymuno byw, ac edrych ar ardaloedd o Fangor i benderfynu lle yr ydych yn dymuno byw. Cofiwch weithio allan faint y gellwch ei fforddio (peidiwch ag anghofio am y trydan, nwy, rhyngrwyd ayyb) a thrafodwch y cyfleusterau yr ydych am eu cael yn yr eiddo. Mae’n syniad da cael cyngor ynghylch rhentu, megis beth yw cyfrifoldebau’ch landlord a chithau wrth rentu eiddo. Cysylltwch â’r Swyddfa Tai Myfyrwyr a gallent drafod hyn gyda chi a mynd drwy eich contract cyn i chi ei lofnodi. Cofiwch bod llofnodi contract yn eich ymrwymo'n gyfreithiol.

Rhai awgrymiadau wrth chwilio am dŷ:

• Peidiwch â gadael i'r dyddiad dechrau eich cynhyrfu i rentu rhywbeth nad ydych eisiau. Mae digonedd o dai ym Mangor ar hyn o bryd. Mae llety o ansawdd da ar gael drwy gydol y flwyddyn.

• Peidiwch â rhentu cyn dyddiad rhyddhau'r Brifysgol oni bai eich bod yn aros gyda'ch landlord presennol. Mae’r rhai sy'n gwneud hyn yn aml yn canfod iddynt dalu mwy na'u ffrindiau a arhosodd.

• Mae dyddiad rhyddhau Swyddfa Tai'r Brifysgol yn eich galluogi i gynllunio'ch gwaith o chwilio am dŷ.

• Bydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth i chi cyn y dyddiad dechrau i'ch helpu i wneud dewisiadau cytbwys.

CANLLAW I DDEWIS LLETY YN Y SECTOR BREIFAT

Page 21: Rhifyn y Glas 2014

...Adolygiadau 21

...Adolygiadau

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

THE FAULT IN OUR STARS:o lyfr i’r sgrin fawr

Lora Lewis

Dw i’n siŵr bod mwy nag un cariad wedi pryderu wrth glywed genod yn trafod Ryan Gosling neu Channing Tatum ar ôl eu hymddangosiad yn The Notebook a Dear John, ond wedi ei lwyddiant yn y ffilm diweddar The Fault in Our Stars, gellir rhoi Ansel Gort ar yr un rhestr. Ansel oedd yn chwarae rhan Augustus Waters yn y ffilm, a fel un sy’n mwynhau gwaith John Green, roedd y cymeriad yma wedi dwyn fy nghalon i ymhell cyn i’r nofel ffrwydro ar draws y wlad. Ro’n i’n hapus iawn o glywed bod y nofel bellach am ei throi’n ffilm ond, yn naturiol, ro’n i’n poeni sut bydda’ posib trosi geiriau cofiadwy’r awdur i’r sgrin fawr. Yn syml, dyma’r stori: merch yn ei harddegau sy’n marw o gancr yn cyfarfod bachgen sydd wedi colli ei goes yn sgîl y salwch. Cyfarfod mewn grŵp i oroeswyr cancr mae’r ddau, ac yn amlwg yn syrthio mewn cariad, ond

nid stori garu arferol ydy hon. Mae’r stori fel y Titanic, a chancr yw’r mynydd iâ rydym yn mynd i’w daro yn y pen draw. Rydan ni’n ca’l cadarnhad

o hyn wrth i gyflwr y prif gymeriad, Hazel, waethygu erbyn diwedd y nofel, a hithau’n amlwg yn wynebu ei hwythnosau olaf. Ond, dan yr wyneb, mae yntau ei hun yn dioddef yn dawel hefyd. Dyma’r tro yn y gynffon - fel darllenwyr a gwylwyr rydym yn ein paratoi’n hunain ar gyfer marwolaeth Hazel Grace, ond daw rhyw oleuni newydd drosti, ac mae’n cryfhau gyda chyngor ei chariad. Daw marwolaeth Gus fel syndod felly, a hynny gan nad ydym wedi paratoi ar ei gyfer. A dyna fu, ro’n i’n gorwedd yn fy ngwely wedi gorffen y nofel gyda ’nhrwyn yn diferu, fy llygaid wedi chwyddo, ynghyd â chur yn fy mhen a phoen yn fy nghalon. Ai dyma oedd fy stâd wrth wylio’r ffilm hefyd, a hynny o flaen degau o bobl eraill? Ia. Mae cefnogwyr y llyfr yn mynd i wylio’r ffilm yn gwbl ymwybodol o beth sydd i ddod… dagrau, dagrau a mwy o ddagrau. Ac nid rhai pitw y bydda’ chi’n ei gael ar ôl pennod go drist o Emmerdale, ond dagrau mawr swnllyd. Er nad ydy’r actorion yn rhai adnabyddus iawn, mae Shailene Woodley ac Ansel Gort yn llwyddo i’n swyno ni o’r dechrau i’r diwedd gyda’u perfformiadau tyner, credadwy. I’r rhai ohonoch chi sy’n mwynhau tear-jerker, ewch yn syth i brynu’r nofel. Ac os nad ydych chi’n ddarllenwyr ond yn mwynhau ffilm yn hytrach, ewch yn syth i’w phrynu (... a chofiwch ddigon o hancesi!).

Let’s Be Cops

WHAT IF Manon Elwyn

Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer gan y ffilm yma, doedd y trailer ddim yn apelio rhyw lawer, roedd y stori o’r dechrau i’r diwedd yn rhagweladwy, ac roedd hynny’n tynnu oddi ar ramant y ffilm fel cyfanrwydd.

Problem arall sydd gen i yw un o’r prif actorion, Daniel Radcliffe. Roeddwn i wrth fy modd efo fo yng nghyfres y ffilmiau Harry Potter, ond dw i’n teimlo ei fod yn dod ag egni fflat a di-lewyrch i What If. Buasai’r ffilm wedi gallu bod yn un hudolus iawn, ond roedd o’n gwneud i’r ffilm deimlo fel ei bod yn llusgo braidd, ar ben y troeon disgwyledig dros ben yn y plot!

Wedi dweud hynny, gorffennodd y ffilm ar nodyn annisgwyl iawn, gan gloi yn hollol ddirybudd. Doedd dim diweddglo taclus iddi, fel y buasech yn ei ddisgwyl gan y math yma o genre. Wrth i bobl ddechrau codi i adael y sinema, daeth darluniau cartwnaidd ymlaen o’r ddau brif gymeriad, yn parhau â’r stori, gan egluro be ddigwyddodd i’r ddau wedi i’r ffilm ei hun orffen. Dw i’n teimlo bod hynny wedi bod yn ffordd rhy ddryslyd i orffen y ffilm a doeddwn i ddim yn teimlo’n fodlon wrth gerdded allan o’r sinema, gwaetha’r modd.

Manon Elwyn

Mae’r ffilm yma’n un wych i fyfyrwyr! Tydi’r plot ddim yn anhygoel, ond mae’n hawdd anghofio am hynny wrth ddilyn hynt a helynt y ddau gymeriad hoffus ond anaeddfed, wrth iddynt ddynwared dau heddwas! Maen nhw’n mynd i bob math o drafferthion, er eu bod yn gwybod eu bod yn torri’r gyfraith yn rhacs. Comedi ysgafn yw’r ffilm, ond mae agweddau arswydus ynddi erbyn y diwedd, sy’n ychwanegu agwedd realistig iawn.Ewch i’w gweld ar unwaith!

Manon Elwyn

Roeddwn i wedi clywed pethau gwych am ail ffilm yr Inbetweeners, ac fel ffan mawr o’r gyfres deledu a’u ffilm cyntaf, roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr i fynd i weld Inbetweeners 2. Roeddwn i’n disgwyl yr un safon â’r ffilm gyntaf! Mae’r stori’n dechrau gyda Jay, un o’r prif gymeriadau, yn Awstralia bell. Mae’r tri arall, Simon, Will a Neil, yn cymryd y cyfle i fynd i ymweld â Jay, gan ei fod yn brolio gymaint am ei lwyddiannau yno. Wedi iddynt gyrraedd Awstralia, mae pethau’n mynd lawr allt, gyda Jay wedi ymestyn y gwir am ei waith a’i lety. Mae’r plot yn ddigri’ iawn mewn mannau, ond yn wan mewn mannau eraill, roedd ambell beth a ddigwyddodd yn y plot yn anodd ei gredu, ac yn hollol chwerthinllyd weithiau. Yn fy marn i, dylen nhw wedi aros lle roedden nhw a chario ‘mlaen gyda’u comedi arferol, ond chwarae teg iddynt am drio gwneud rhywbeth mymryn yn wahanol i’r arfer!

Inbetweeners 2

Page 22: Rhifyn y Glas 2014

22 ...Adolygiadau Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Anweledig gan Aled Jones Williams

Lora Lewis

Am y tro cyntaf erioed, nid y gwaith celf yn unig a ddenodd cynulleidfa i’r Lle Celf ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych y llynedd. Cafwyd perfformiad cignoeth gan Ffion Dafis o’r fonolog Anweledig gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Aled Jones Williams. Iselder a salwch meddwl oedd cefndir y darn, ac felly roedd y dewis o leoliad yn gwneud y perfformiad yn fwy dirdynol yn sgîl hanes ysbyty meddwl Dinbych ar y stepen drws. Yn dilyn y llwyddiant, daeth i sylw Cwmni’r Frân Wen bod y ddrama yn deilwng o gynulleidfa ehangach, ac felly penderfynwyd mynd ar daith o amgylch Cymru yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn sgîl nawdd ychwanegol. Afraid dweud, roedd yn rhaid i mi ei phrofi eto eleni ac felly dyna wnes i a llond maes parcio o rai eraill ym Mhlas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Un rhan o dair o’r prosiect a gafodd ei berfformio gan yr actores Ffion Dafis y llynedd. Ni symudodd o’i chadair ryw lawer, dim ond parhau i gydio mewn

albwm o luniau. Cafodd y gynulleidfa ei swyno yn syth, gyda llygaid pob un ohonom wedi’u hoelio arni rhag methu unrhyw fanylyn. Profiad dynes ganol oed yn wynebu iselder dwys a gawn, sy’n cydnabod anallu pobl i ddeall salwch meddwl. Gwelwn ymdriniaeth o’r stigma a ddaw law yn llaw ag iselder a dengys bod hyn yn ategu at wewyr

yr unigolyn. Ar y daith eleni, roedd Ffion yn fwy rhydd yn mynd â ni i’w gwely priodasol, ysbyty meddwl Dinbych yn ogystal â theithio’n ôl i’w dyddiau cynnar yn blentyn llon. Yn ychwanegol ar y daith eleni cawn gerddoriaeth gefndirol ar y piano gan Lisa Jên hefyd, a gwaith celf Mirian Fflur o Nefyn yn ymhelaethu ar y set yn seiliedig ar yr un pwnc. Monolog sy’n cydio mewn ing iselder ac sy’n deall gwewyr dioddefwr fel y cymeriad Glenda i’r dim sydd o dan sylw, ac mae’n anhygoel sut y gallwn gydymdeimlo’n syth â’i hawch i wneud amdani hi ei hun. Roedd perfformiad Ffion Dafis yn werth ei weld, ac ynghyd â hynny cawn gadarnhad sicr mai bardd o fri â dawn lenyddol aruthrol yw Aled Jones Williams. Mae ei sensitifrwydd a’i brofiad ei hun yn amlwg yn y sgript anfarwol, sy’n disgrifio’r ton o deimladau a ddaw gyda’r salwch mewn modd cynnil, credadwy a chyfunai hynny gyda’i hiwmor ffraeth.Mae gen i biti mawr dros y sawl na chafodd gyfle i brofi’r fonolog hon, boed ar faes yr Eisteddfod neu dros yr haf eleni.

APOLYGIADAU

UNiDAYS

Llio Mai

Dyma ap a ddylai fod ar ffôn symudol pob myfyriwr. Pam? Wel, mae’r ap hwn yn caniatáu i fyfyrwyr prifysgol gael gostyngiad mewn amryw o siopau – heb orfod prynu cerdyn NUS. Does ’na ddim proses gofrestru gymhleth a does dim angen i chi dalu ceiniog – dim ond creu cyfrif ac yna byddant yn gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif e-bost prifysgol, er mwyn cadarnhau eich bod yn fyfyriwr. A dyna ni. Mae’r gwahanol ostyngiadau sydd ar gael yn wahanol ar gyfer pob siop. Er enghraifft, mae modd cael 10% i ffwrdd yn Topshop/Topman a New Look, hyd at 15% i ffwrdd yn Apple, hyd at 20% i ffwrdd yn Currys PC World a 50% i ffwrdd wrth brynu Spotify Premium. Mae’r rhestr o siopau/cwmnïau yn tyfu bob mis, gyda Hollister a Lazy Oaf ymysg y rhai diweddaraf i ymuno ag UNiDAYS. Ceir hefyd adegau (fel dechrau’r flwyddyn academaidd!) pan mae ambell gwmni’n codi maint y gostyngiad am gyfnod. Os nad ydy eich cerdyn myfyriwr gennych, bydd yr ap yma yn gwneud y tro. Os ydych eisiau defnyddio’r gostyngiad i gael arian i ffwrdd ar-lein, bydd yr ap yn darparu côd arbennig, sy’n unigryw i chi, a gellwch ei roi yn y blwch perthnasol wrth gwblhau’ch archeb. Mae’r ap yn grêt ac yn hanfodol i unrhyw fyfyriwr (a shopaholic)! Mae o am ddim, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn ffordd o arbed llwyth o arian. Be gewch chi well?

FLINGElin Haf Owen

Ap tebyg i ‘Snapchat’ ydi ‘Fling’, ond yn hytrach nag ychwanegu’ch ffrindiau a gyrru lluniau a fideos atynt, mae’r lluniau a’r fideos yn cael eu gyrru at tua 50 o bobl ar hap o amgylch y byd, yna mae ganddynt

ddewis eich ateb ai peidio. Dim ond tair seren ydw i wedi’i roi i’r ap, oherwydd er ei fod yn syniad da, does dim dewis at bwy ydych chi’n gyrru’r lluniau, ac mae’r syniad yn rhy debyg i’r ap poblogaidd ‘Snapchat’, ond heb allu cael sgwrs gall efo neb mewn gwirionedd!

Nike RunningMared BerthAur

Ap i unigolion sy’n rhedeg yn amlwg yw’r ap, wedi’i greu gan y cwmni chwaraeon byd enwog, Nike. Pam dewis yr ap hwn? Yn gyntaf, mae’n rhad ac am ddim sydd wastad yn fonws i fyfyriwr tlawd fel finnau. Yn ail, mae’n gymhelliant gwych i gychwyn rhedeg neu i fonitro’ch perfformiad a’ch datblygiad. Sut y mae’n gwneud hynny? Yn syml oll mae’n cyfri’r nifer o galorïau yr ydych yn ei losgi, nodi’r pellter, cyfartaledd eich cyflymder a chyflwyno map o’r daith a redwyd gennych. Ac y trydydd rheswm? Y nodwedd ‘coach’ sydd ar gael. Golyga hyn fod yr ap yn cynnig hyfforddiant dyddiol ar eich cyfer i’ch paratoi at ras er enghraifft. Yr unig air i ddisgrifio’r ap: GWYCH!

Page 23: Rhifyn y Glas 2014

...Adolygiadau 23Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Cerddoriaeth:o Green Man i Gaernarfon...

Siân Davenport a Nonni Williams

Wedi haf diwyd o grwydro a mwynhau, Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd yr hafan oedd ei angen! Mae’r ŵyl hon yn cynnig cyfle i ymlacio yng nghwmni teulu a ffrindiau o bob oedran, ac yn ôl y band ifanc poblogaidd, Sen Segur, dyma’r ‘wŷl ore sy’ ne’. Os mai gŵyl wyllt, a dawnsio fel cangarŵ cynddeiriog sydd gennych mewn golwg, cadwch draw. Gŵyl y Dyn Gwyrdd yw’r lle i fod yn hollol rydd i wisgo a gneud be liciwch heb i neb ddeud dim! Mae digonedd o stondinau dillad, crefft a blancedi, sydd yn gwneud yr ŵyl yn un

hamddenol â iddi naws indie a phaganaidd, sy’n gweddu i’r dim i’w lleoliad a’r gerddoriaeth. Gyda llu o lwyfannau, roedd digon o ddewis ac amrywiaeth yma. Braf oedd cael clywed artistiaid tu hwnt i’r brif ffrwd, fel Nick Mulvey, Georgia Ruth, Daughter, Bill Callahan a First Aid Kit. Rhoddwyd anogaeth i fandiau Cymreig ifanc fel Sen Segur a 9bach; serch hynny, ac eithrio ambell arwydd, neu weld y Bannau uwchlaw’r prif lwyfan, digon hawdd fyddai anghofio mai yng Nghymru oeddech ar adegau. Diolch byth, fe gadwodd y glaw i ffwrdd, a pha ffordd well i wynebu’r oerni canol nos, na sipian ar goffi neu de gyda mymryn o ‘gic’ iddo, yng ngwres y cwmni a’r goelcerth? Yn bendant, rhinwedd orau’r ŵyl oedd agwedd frawdol ac ystyriol y gynulleidfa. Edrychwn ymlaen at fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Lora Lewis

Heb amheuaeth, mae gigau 4a6 yn boblogaidd iawn, boed ymysg pobl ifanc neu oedolion. Mae Caernarfon wedi croesawu cerddoriaeth o bob math - o’r Bandana i Yws Gwynedd, o Arfon Wyn i Sŵnami. Ond noson tra gwahanol oedd Mehefin y 6ed, gyda thri band ifanc yn serennu. I ddechrau, cawsom wledd a hanner gan Y Cledrau o’r Bala. Er eu bod yn adnabyddus i rai yn barod, eu hymddangosiad cyntaf yn gyhoeddus oedd ar Cân i Gymru eleni, ond erbyn hyn maent wedi teithio dros Gymru a thu hwnt yn rhannu eu cerddoriaeth, yn mynd o ‘steddfoddau i drefi gwahanol yn gigio. Band sy’n cael eu gosod o fewn genre indie-roc yw’r Cledrau, sy’n cyfansoddi caneuon gwreiddiol eu hunain a hynny ym Mala yng nghartref Marged, Joseff neu Ifan, neu yn Sir Fôn, lle mae Alun, aelod

arall o’r band, yn byw. Daeth alaw adnabyddus Agor y Drws i’n swyno, ac o fewn dim roedd y gynulleidfa yn fud, yn chwifio eu breichiau ac yn canu’r geiriau teimladwy. Dywedodd Ifan eu bod “dal yn llawn cynnwrf ar ddiwedd y noson”, a’i fod bron yn ystyried y gig fel un “hanesyddol”

ym mhrofiadau’r Cledrau. “Roedden ni’n chwarae i wynebau newydd yn y gynulleidfa, ond roedd yr un hen awyrgylch gartrefol yn bodoli” meddai eto. Dim ond dau aelod oedd gan Castro o Landeilo oherwydd argaeledd y band, ond roedd safon y gerddoriaeth

yn arbennig. Ers cychwyn y band, maent wedi cystadlu ym Mrwydr y Bandiau, wedi cyhoeddi EP ac wedi ennill lle i berfformio yng Ngwyl EHZ yng ngwlad y Basg. Mae dylanwad pync y 70au hwyr yn gryf arnynt, ac mae eu caneuon megis Anifeiliaid a Ddim yn Poeni am y Bobl yn profi hynny. Yn olaf i’r llwyfan oedd Y Ffug o Sir Benfro, ac heb os nac oni bai dyma gadarnhad mai hon oedd y gig orau i mi fod ynddi. Daeth Clwb Canol Dre yn fyw, gyda phob un o’r gynulleidfa ar eu traed. Mae’r Ffug yn mynd o nerth i nerth ers ennill Brwydr y Bandiau, ac mae’r aelodau ifanc yn mwynhau pob eiliad. Yn ôl Iolo, prif leisydd y band, dyma un o’r gigiau orau iddo’i wneud. “Ges i’r buzz mwyaf wrth weld pawb yn canu ein geiriau ni, ‘odd e’n anhygoel”, dywedodd Iolo. Mae’r bechgyn yn cael eu dylanwadau’n bennaf gan fandiau megis The Cure a’r Smiths, ac

yn cael eu hadnabod fel y Datblygu newydd. “Fy mhrif ddylanwadau yw Led Zepplin a Jimmy Hendrix, felly mae cyfuno dylanwadau pob un ohono’ ni i greu cerddoriaeth hollol newydd yn brofiad anhygoel”. Maent yn tynnu sylw a chreu argraff wrth ysgrifennu geiriau gwrthryfelgar, gyda theitlau caneuon megis ‘Anghofiwch Dryweryn’. Daeth y noson i ben, a phob un wan jac o’r dorf yn awchu eisiau mwy - cadarnhad pendant bod y sîn roc Gymraeg mor fyw ag erioed. Gnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd i un o’r nosweithiau 4a6 y tymor yma - chewch chi mo’ch siomi!

Gig: Y Ffug, Castro ac Y Cledrau

Page 24: Rhifyn y Glas 2014

Y LLEF | Rhifyn yr Glas 2014

Plu

24 ...Cerddoriaeth

Er yr ansicrwydd am y tywydd, problemau gyda’r bysus a lladrad yn y brif fynedfa, llwyddodd yr Eisteddfod i oresgyn y rhwystrau hyn gydag arlwy lwyddiannus ar gyfer yr ifanc eleni. Fel pob Eisteddfod arall, roedd yr wythnos yn argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ar gyfer y s’n roc Gymraeg, ac yn sicr cyflawnwyd y disgwyliadau hynny. Digon hawdd oedd deall pryderon rhai yngl’n ’ thebygrwydd arlwy Maes B i’r hyn a gafwyd yn Ninbych yn 2013, ond cafwyd ambell syrpreis annisgwyl ar y maes Ieuenctid i brofi’r beirniaid hynny yn anghywir. Nid oedd angen arbenigwr i broffwydo y buasai perfformiadau’r bandiau mwyaf, fel Candelas, S’nami a’r Ods yn llwyddo i blesio’r gynulleidfa ifanc, ac er ein bod yn gwybod yn union beth i ddisgwyl, cafwyd ambell dueddiad anghyfarwydd ganddynt. Gan nad oedd y grwpiau hyn wedi rhyddhau rhyw lawer ers yr Eisteddfod ddiwethaf, roedd yn rhaid iddynt gynnig rhywbeth newydd wrth berfformio’r caneuon yr ydym wedi bod yn eu canu am y flwyddyn. Llwyddodd yr Ods, band olaf y noson gyntaf, i wneud hynny drwy berfformiad ’trymach’ ei s’n a’i arddull, a rhoddwyd blas newydd i’r hen ganeuon. Llwyddodd Candelas, y band o Feirionnydd, i blesio eu cefnogwyr brwd drwy

roi sioe glywedol arbennig ymlaen ’ un uchafbwynt yn benodol oedd eu fersiwn llinynnol o Anifail i agor set olaf y nos Wener a achosodd i’r gynulleidfa gyffroi’n l’n. Nid oedd S’nami, a gafodd y fraint o gloi digwyddiadau Maes B, yn fodlon dod yn ail iddynt wrth gwrs, a chafwyd perfformiad gweledol syfrdanol trwy eu sioe oleuo a’u fideos pwrpasol a dorrodd dir newydd i’r ’yl. Hefyd, llwyddodd y gr’p i ehangu eu set drwy gydweithio ’ cherddorion eraill, ac roedd eu perfformiad annisgwyl o Adar y Nefoedd gan Swci Boscawen gyda Casi Wyn yn un o uchafbwyntiau

mwyaf yr wythnos i lawer.Er hyn, i lawer o drigolion dros dro’r maes pebyll, y grwpiau llai adnabyddus, megis Y Ffug, Yr Eira ac Yr Ayes, a roddodd y syrpreis mwyaf iddynt. Cafwyd perfformiad

hynod egn’ol a chaneuon pync crafog gan Y Ffug, sydd yn prysur ddod yn enw adnabyddus yn y s’n gyda’u safbwyntiau gwleidyddol cryf a’u datganiadau heriol fel ’Anghofiwch Dryweryn’. Cr’odd yr Eira a’r Ayes, dau gr’p o ardal Bangor sydd yn rhannu rhai o’r aelodau ’’u gilydd, argraff ar y gwrandawyr hefyd, gyda pherfformiad cymharol brin gan yr Ayes o set o ganeuon pop bachog a chofiadwy yn plesio’u ffrindiau a ddaeth i’w cefnogi. Nid oedd yn syndod i selogion y s’n bod set yr Eira yn un o’u goreuon eto, gyda pharhad yn eu tueddiad o wella’n sylweddol gyda phob

perfformiad. I’r rhai sydd yn gwrando ar Peace, roedd yn hawdd clywed eu dylanwad ar eu cerddoriaeth, ac i unrhyw gefnogwr yr Eira, mi’r ydw i’n argymell yn fawr iddynt fynd i wrando arnyn nhw!Nid oes modd crynhoi holl orchestion Maes B mewn erthygl gryno, ac mae llawer

mwy i’w glodfori am lwyddiant yr Eisteddfod unwaith eto. Mae hynny’n profi gorchest ein g’yl ddiwylliannol fwyaf felly! Ymlaen a ni i Faldwyn!

Maes BGethin Griffiths aeth i ganolfan yr ifainc yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ran Y Llef

Page 25: Rhifyn y Glas 2014

25 ...Coleg Cymraeg Cenedlaethol Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Mae Siân Esmor o Ganolfan Bedwyr wedi ei phenodi’n Diwtor Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor.Efallai bod rhai ohonoch yn ei hadnabod - mae Siân wedi bod yn gweithio fel Tiwtor Iaith yng Nghanolfan Bedwyr ers pedair blynedd, gan ddysgu ar fodiwlau i israddedigion ac ôl-raddedigion o’r cychwyn. Bu hefyd yn dysgu ac yn asesu myfyrwyr a fu’n sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhan fawr o’i gwaith o hyn ymlaen fydd paratoi myfyrwyr at sefyll arholiad y Dystysgrif. Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn gymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod gan dros 200 o wahanol gyflogwyr, ac yn profi gallu myfyrwyr i weithio’n gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.“Mae unrhyw un sydd wedi ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg yn mynd i orfod ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol,” dywedodd Siân, “ond does dim rhaid i chi fod wedi cael ysgoloriaeth i fynd amdani – mae’n agored i unrhyw fyfyriwr sy’n cofrestru i fod yn aelod o’r Coleg. Mae’r cyfan am ddim, felly os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl, does gennych chi ddim byd i’w golli – ac rydw innau, a gweddill tîm yr Uned Gloywi Iaith, yma i helpu.”

“Mae byd gwaith wedi newid yn sylweddol ers i mi ddod i Fangor i astudio, flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n gystadleuol tu hwnt, ac mae pob un cymhwyster y medr rhywun ei ennill yn help tuag at sicrhau swydd.”Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig modiwlau datblygu sgiliau iaith ar gyfer

myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd ac yn cynnig modiwl ôl-radd hefyd. Yn ogystal â chynnig elfennau o loywi iaith, mae’r modiwlau’n dysgu sgiliau mwy ymarferol fel crynhoi, trawsieithu a gwneud cyflwyniadau llafar.“Weithiau mae myfyrwyr yn dod atom ni’n siarad Cymraeg yn hollol rugl a hyderus, ond yn fwy ansicr ynglŷn â’u Cymraeg ysgrifenedig, yn enwedig o safbwynt termau Cymraeg eu maes,” meddai Siân. “Rydyn ni yma i’w helpu nhw i drafod eu pynciau’n fwy hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Ydych chi’n cychwyn ar eich blwyddyn gyntaf yma ym Mangor ele-ni? Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio rhai modiwlau o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg? Neu ydych yn dymuno astudio’ch cwrs cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg? Neu efallai y byddai’n well gennych beidio astudio unrhyw agwedd o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn cyrsiau gwahanol. Mae nifer o resymau pam fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, a dyma rhai ohonynt:

· Mae astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd mewn prifysgol yn agor pob math o ddrysau i chi

· Mae'n bwnc deinamig ac amrywiol sy'n rhoi'r cyfle i chi ddatblygu nifer o sgiliau angenrheidiol mewn byd gwaith, ac yn eich paratoi at ystod eang o yrfaoedd.

· Er bod y Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, mae'r Gymraeg yn gyffrous o gyfoes gan fod dwyieithrwydd yn han-fodol ar gyfer y Gymru ohoni

· Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn eich annog i gael mwyn-had o uchafbwyntiau'r diwylliant Cymraeg cyfoethog sydd mor allweddol i hunaniaeth y genedl.

· Gallwch fanteisio ar y cyfle o gael ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod eich blynyddoedd yn y brifysgol, a fydd o gymorth mawr i unrhyw un.

Gall ddilyn modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg agor llu o ddry-sau i chi, a gall fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod eich gyrfa yn y dyfodol.

Felly os ydych chi’n frwdfrydig i astudio trwy gyfrwng y Gym-raeg, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma i chi fel cefnogaeth. Pwy a ŵyr pa fanteision ddaw ohoni?

COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Page 26: Rhifyn y Glas 2014

£12.50, TOPSHOP

26 ...Ffasiwn Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Y DYN GWYRDDEleni, roedd gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog yn dathlu ei ddeng mlwyddiant. Aeth Siân Davenport a Nonni Williams i’r wŷl ar ran Y Llef, a chymryd y cyfle i fusnesu ychydig be oedd pobl yn eu gwisgo. Dyma rai o’r tueddiadau amlycaf a ddaeth i’w sylw:

Ffas

iwn.

..

Y PONSIO:Ymarferol, yn ogystal â ffasiynol! Efallai bod rhaid addasu ychydig rhwng ponsio y gwyliau a’r ponsio sy’n dderbyniol eu gwisgo ar y stryd fawr; ond wrth i’r Gaeaf agosau, disgwylir gweld llawer mwy o’r ponsio a’r clogyn hefyd.

£18, ASOS

Y SBECTOL:Gyda naws ‘hipïaidd’ yr ŵyl, nid oedd syndod gweld y sbectol haul gron, wedi’i seilio ar sbectol yr eicon o’r 60au, yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.

£20, ASOS

PAENTIO WYNEBAU:Dros yr haf mae paent y wyneb a gemau hindŵaidd ar y talcen wedi bod yn ffasiynol yn y gwyliau. Tydi colur trwm ddim yn ymarferol tra’n aros mewn tent! Yn hytrach, colur ysgafn ac ychwanegu paent neu gem i greu sydd orau. Dilynai pobl fel Pixie Lott, Drew Barrymore a Joey Essex y duedd yma! Mae patrymau blodeuog, llwybr dotiau a sêr wedi bod ymysg y mwyaf poblogaidd.

‘CHOKERS’:Wrth i’r ffasiwn gothig ffynnu, gwelir cadwyni ‘chokers’ y 90au yn dychwelyd. Wedi ei wisgo orau mewn cyfres gyda chadwyni eraill.

Er fod y gogwyddiadau hyn i’w gweld yn yr ŵyl, fel sawl gŵyl arall eleni, nid oedd gwisg unffurf. Un o rinweddau amlycaf yr ŵyl oedd y rhyddid i wneud, a gwisgo fel a fynnoch, a hynny’n ddi-ragfarn. Mae’n debyg ein bod ni’n rhan o’r lleiafrif yno oedd yn mynd o’n ffordd i sylwi be oedd gan eraill amdanynt... a hynny’n deimlad braf a hamddenol iawn.

Page 27: Rhifyn y Glas 2014

...Ffasiwn 27Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

A ydych yn teimlo pwysau i ddilyn ffasiwn?- Na, dim felly... jest ‘joio, a gwisgo be ‘dan ni isio.Ydych chi’n meddwl y telir digon o sylw i ffasiwn bechgyn?- Mae mwy o bwysau ar ferched – ffasiwn merched ydi pob dim dyddia ‘ma... dillad merched ‘di rhai o’r petha sy’ gennyn ni ‘mlaen ‘wan! Be ydych chi’n feddwl o’r ŵyl?- “ffantastic! Yr ŵyl ora sy’na!”O ble y cawsoch eich dyngarîs?- ASOS, o’r adran merched!

CRYSAU PATRYMOG:Mae’r crysau patrymog yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, i ferched a’r bechgyn. Fel cenhedlaeth hiraethus, ein tuedd yw dwyn ac addasau o’r gorffennol. Ar y stryd fawr, mae’r duedd hon yn amlwg, gyda gogwyddion ffasiwn gydol y ganrif ddiwethaf yn cael eu hailgylchu’n eang. O flodau’r ‘60au, i batrymau amrywiog y ‘90au; mae’r crysau patrymog yn tystio hyn. Peidiwch â bod ofn mentro.

20% i ffwrdd yn River Island gyda chylchgrawn ELLE mis Hydref!

Dyngarîs: ASOS, £45

Mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i fandiau newydd yn ogystal. Ymysg yr artistiaid a fu’n perfformio ar lwyfan ‘Greenman Rising’ eleni, oedd y pedwarawd o Gonwy - Sen Segur.Cawsant eu cyflwyno i’r gynulleidfa brynhawn Sadwrn fel “one, if not the biggest band in Wales right now”. Roeddem yn awyddus felly i gael gwybod os oedd eu gwisgoedd mor ddylanwadol â’u caneuon...

Am grysau mwy unigryw, pediwch a chyfyng eich hyn i’r stryd fawr yn unig. Mae’r wefan thestellarboutique.com yn rhoi sylw i ffasiwn bechgyn a merched, gan gynnig dillad vintage o ystod eang o ddegawdau. Tydi’r prisiau ddim yn afresymol ‘chwaith, gyda crysau dynion ar gael am £17 - a rheiny’n hollol unigryw, gan mai ond un sydd ar werth yn aml iawn.

1) TOPMAN, £322) ASOS, £393) ASOS, £25

RIVER ISLAND, £25

1

2

3

‘90au

Os ychydig yn swil, gellir tawelu’r patrwm, wrth ei wisgo hefo jeans tywyll a siaced denim.

Siaced denim ‘levi’ vintage, £45. The Stellar Boutique.

Holi Sen Segur...

Page 28: Rhifyn y Glas 2014

28 ...Ffasiwn Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

‘Ieithoedd i bawb’:Eleni mae’r Brifysgol yn cynnig

dosbarthiadau iaith yn rhad ac

am ddim! Sgil na eir allan o ffasiwn,

gan agor drysau diwylliannol,

ehangu gorwelion, a chyfle hefyd

i ennill pwyntiau ar gyfer y Wobr

Cyflogadwyedd (GCB). Mae’r

dosbarthiadau nos yw cael mewn

chwe iaith: Ffrangeg, Almaeneg,

Eidaleg, Sbaeneg, Tsieinëeg

(Mandarin) a Japanëeg. Manteisiwch

ar y cyfle! Bonne chance!

Ffasiwn...

Un o ddillad mwyaf nodweddiadol yr 1960au, oedd y sgert fer, neu’r Mini skirt. Wedi ei henwi ar ôl hoff gar ei dylunwraig, daeth y sgert yn symbol o ryddid ieuenctid drwy werthu rhywioldeb, a herio’r awdurdod foesol. Cyn hynny, er i’r sgert ‘fini’ fodoli, roedd wedi ei chyfyngu i’r byd dawns neu chwaraeon; ond daeth Mary Quant a hi i’r stryd fawr. Y tymor hwn, mae’r sgert mini, a’r micio-mini, yn parhau yn lond y siopau. O batrymau amrywiol, sgertiau lleder i’r siec pletiog; mae digonedd o ddewis! Gellir chwilio am ychwanegiadau fel y toriadau anghymesurol, lês, neu hem sgolop ar waelod y sgertiau, er mwyn dennu sylw ychwanegol at goesau main!

Er iddi gael ei geni a’i magu yn Llundain, Cymry oedd ei rhieni, ac wedi symud i Lundain fel athrawon. Cafodd Mary yrfa hynod lwyddianus fel dylunwraig, gan gymryd clod hefyd am yr ‘hotpants’ a’r teits lliw, cyn symyd ymlaen at y byd cosmetig yn ddiweddarach. Cafodd ei hurddo gan Elisabeth II am ei chyfraniad i ffasiwn, a rhoddodd un o ohebwyr ffasiwn amlycaf y ‘50au a’r ‘60au- Ernestine Carter, yn yr un dosbarth a Channel a Dior!

Mary Quant

Y Sgert Fer...

‘Twiggy’ - coesau main y ‘60au

Cwestiwn pwysig ym myd ffasiwn yr Haf hwn oedd pwy oedd yn gyfrifol am ddylunio ffrog briodas Angelina Jolie, pan briododd ei phartner, Brad Pitt, 23 Awst yn Ffrainc. Y dylunydd Eidaleg, Donatella Versace gafodd y fraint o’i chyd-ddylunio hefo Angelina. Mae Donatella yn berchen ar 20% o werth Atelier Versace ac yn brif ddylunydd i’r cwmni. Ffrog seml, osgeiddig, ifori, gyda rhan y corff yn eistedd yn daclus, strapiau tenau, ac yna’n disgyn yn draddodiadol ar ei allan. I gyd-fynd, pymps sidan gwyn. Modrwyau syml a thraddodiadol sydd gan y ddau.Roedd y llen (vail) fodd bynnag yn dra gwahanol, ac arno luniau amrywiol gan eu plant.Pob hwyl iddynt yn eu bywyd priodasol.

Page 29: Rhifyn y Glas 2014

...Ffasiwn 29Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

y‘TRENCHCOAT’. Alexa Chung yn gwisgo’r gôt Burberry,

£1,195. NET-A-PORTER

£39.99, H&M

Ym mis Awst eleni, bu farw un o fawrion ôl-ryfel Hollywood, Lauren Bacall, yn 89 mlwydd oed. Daeth yn un o brif iconau ffasiwn yr Ugeinfed Ganrif, ac iddi hi mae’r diolch am boblogeiddio’r gôt ffos, neu’r ‘Trench Coat’ fel eitem ffasiwn fenywaidd. Ganrif wedi dechrau’r Rhyfel Mawr, er iddi newid ysgwyddau o swyddogion uchaf y fyddin, i ysgwyddau main y catwalk, mae’r gôt dal o gwmpas. Yn glasur ffasiwn a welir yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gellir ei phrynu’n ddi-edifar, gan wybod y bydd yr un mor ffasiynol am Aeafau i ddod.

Mewn tywydd mor annarogan, cawodydd trymion, a’r gwres yn parhau’n uchel; da yw gweld y cotiau glaw ysgafn yn dod yn ôl yn ffasiwn. Perffaith ar gyfer tymor yr Hydref.

1) ASOS, £352) ASOS, 353) TOPSHOP, £524) NEW LOOK, £19.99

1

2 3

4

... Y sSgert Fer

£40, TOPSHOP

£17.99, New Look

£35, Miss Selfridge£38, Urban

OutfittersPan ddaw’r tywydd yn rhy oer i fentro’n goes-noeth allan mewn sgert; gyda chôt gynnes a siwmper, nid oes angen cadw’r sgert fer eto...

£20,ASOS

3

Page 30: Rhifyn y Glas 2014

30 ...Arbennig Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014

TAITH WIRFODDOL

CERICeri Lewis

Yn ystod gwyliau’r haf eleni bues i ddigon lwcus i deithio draw i Ghana i dreulio mis yn dysgu mewn ysgolion cynradd. Gan fy mod yn hyfforddi i fod yn athrawes ac ar fin cychwyn ar fy mlwyddyn olaf, roedd yn gyfle da i mi gael gwneud yr hyn yr ydw in ei fwynhau tra hefyd yn cael gweld ychydig mwy ar y byd. Gwlad wedi ei lleoli yng ngorllewin Affrica ydi Ghana ac mae iddi boblogaeth o tua 27 miliwn. Pob blwyddyn mae oddeutu 70,000 o brydeinwyr yn ymweld â’r wlad, ac ym mis Mehefin, roeddwn i a fy ffrind Rachel yn ddwy Gymraes fach yng nghanol y ffigwr mawr hwnnw. Penderfynais fynd i Ghana yn dilyn profiad arbennig yn Uganda yn 2012, tra’n ffilmio rhaglen ddogfen ‘newid byd’ gydag s4c. Treuliom dair wythnos brysur yn gwirfoddoli law yn llaw a nifer o elusennau gwerth chweil megis Child of Hope, Size of Wales a Pont, yn un o ardaloedd tlotaf y wlad sef Slum Namatala yn Mbale. O brofi’r tlodi enbyd a’r dioddefaint diangen, a sylweddoli breuder bywyd y bobl leol y tro hwnnw, roeddwn i, a Rachel, yn benderfynol na fyddwn yn anghofio’r tristwch a welsom ac a deimlom, ac yn sicr ein bod am ddychwelyd i Affrica yn y dyfodol agos er mwyn cael cynnig help llaw unwaith eto. Yr un golygfeudd yn union a oedd yn fy nisgwyl wrth gyrraedd Ghana ac yr oedd pan cyrhaeddais Uganda – plant bach heb esgidiau ar eu traed yn chwilota mewn tomen sbwriel gyfagos am damaid i fwyta, merched

yn cerdded o gwmpas gyda basgedi ffrwythau ar eu pennau yn ceisio ennill ceiniog neu ddwy, aelwydydd wedi eu creu o fwd a phren , a llwch oren ymhobman. Ond er nad dyma fy mhrofiad cyntaf o weld y fath dlodi, fe darodd mi i’r byw unwaith eto, a theimlais yr un hen gnoi yn fy mol wrth ei chael hi’n anodd i dderbyn bod y ffasiwn le yn bodoli yn y byd , yn wir, roedd rhaid i mi ysgwyd fy hun er mwyn dygymod â’r ffaith nad set deledu i ffilm drist oedd f ’amgylch, ond yn hytrach, gwlad a chartref i filoedd o blant a phobl. Dysgu oedd fy her i am y bedair wythnos tra bod Rachel yn nyrsio mewn ysbyty cyfagos. Roeddem yn byw yn ardal Mpraeso yn ystod ein cyfnod, mewn tŷ sylfaenol heb ddŵr rhededog , na chawod na thoiled. Yn wir, roedd ymolchi yn Ghana fel cyflawni’r ‘ice bucket challenge’ yn ddyddiol, ond ar ôl ambell ddiwrnod, daeth y bwced o ddŵr oer a oeddem yn ei ofni yn un o’n moethau mwyaf. Roedd yr haul yn danbaid, yr aer yn boeth ac awel yn beth prin iawn.

Roedd dysgu yn yr ysgolion lleol yn brofiad cyffrous iawn, ond ar yr un pryd, yn heriol. Rydym ni yma yng Nghymru yn ddigon ffodus i gael stôr o adnoddau a cymorthyddion dysgu gwerth chweil sydd yn ysgogi ac yn cyfoethogi gwersi, mae gennym fynediad i’r we ac mae technoleg yn datblygu yn gyflym iawn; doedd dim o hyn yn Ghana. Prin iawn oedd gweld papur neu bensil, ambell lyfr oedd o gwmpas y dosbarth, a meinciau pren wedi’u gwneud â llaw a bwrdd du oedd yr unig ddodrefn yn bresennol. Roedd y dysgu’n

draddodiadol tu hwnt, gyda’r ffocws i gyd ar yr athro â’r disgyblion yn gwrando. Roedd disgyblaeth yn cael ei reoli â chansen, rhywbeth sydd erbyn hyn yn llwyr annerbyniol yma i ni. Gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau roeddwn wedi casglu toman o adnoddau i gyfrannu i’r ysgolion, ac roedd gweld y plant yn cael modd i fyw wrth arbrofi a chwarae gyda’r ddarpariaeth yn fendigedig.

Roedd cael mynd i’r ysgol yn fraint ac nid yn boen i’r plant yn Ghana, a bob un am y gorau i gael arddangos eu cyffro ynglŷn â’u gwaith, a hynny er eu bod wedi cerdded milltiroedd i gyrraedd y dosbarth, wedi codi ers oriau mân y bore er mwyn helpu adref, neu’n teimlo’n sâl ac yn brwydro â malaria. Roedd stori pob un yn wahanol , a’r stori honno yn amlach na pheidio yn fy syfrdanu ac yn gwneud i mi sylweddoli, dro ar ôl tro, ein bod ni’n ei chael hi’n braf iawn, ac yn hynod o ffodus o fod mor freintiedig. Er fy mod wedi derbyn llawer o gefnogaeth a dymuniadau da cyn cychwyn ar fy nhaith, nid pawb oedd mor gadarnhaol gan gwestiynu i be oedd angen mynd i Ghana i wirfoddoli pan mae plant a phobl ifanc yn dioddef yn llawer iawn nes at adref. Fel un sy’n gwirfoddoli gyda GMB, Cruse a Childline, rydw i o blaid cefnogi o fewn ein milltir sgwâr ein hunain , ond o fyw yng nghanol y tlodi yn Uganda yn 2012 a Ghana eleni, anodd iawn ydi hi i mi weld lygaid yn llygaid ag unrhyw un a fyddai’n gwadu ceisio ysgafnu ychydig ar angen y trydydd byd, gan fod yr angen hwnnw tu hwnt i unrhyw fath o angen yr ydym ni’n gyfarwydd ag o.

Page 31: Rhifyn y Glas 2014

...Chwaraeon 31

Iolo Roberts

Fel mae myfyrwyr yr 2il a’r 3ydd flwyddyn yn gwybod yn barod ers llynedd, roedd Ilan Wyn Davies yn paratoi at daith feic er cof am ei Dad Bryan Yogi Davies er mwyn codi arian tuag at Glwb Rygbi’r Bala. Fe gwblhawyd y daith honno ddiwedd Gorffennaf gyda’r criw yn cyrraedd Llanelli ar yr 2il o Awst sef diwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Ychydig wythnosau yn ôl cefais sgwrs gyda Ilan er mwyn cael clywed ei sylwadau ynglŷn â’r daith honno. Dyma ddywedodd ef “Fe wnaethom ni gychwyn y daith ar Ddydd Mercher y 30ain o Orffennaf gan seiclo o Gaergybi i Borthmadog. Fe gafwyd stop ym Methel ar y ffordd lawr er mwyn i rai cael ychydig o orffwys ac er mwyn cael rhywbeth i fwyta. Roeddem ym Mhorthmadog yn fuan gyda’r nos ac ar ôl gwledd Asiaidd i fwyta fe aeth pobl ati i fwynhau’r noson. Y bore wedyn a gyda rhai pennau’n brifo cychwynnwyd lawr o Borthmadog gyda’r bwriad o gyrraedd Aberystwyth. Cafwyd cinio yng Nghlwb Rygbi Dolgellau er mwyn cael egni am weddill y beicio’r diwrnod hwnnw.

Cyrhaeddwyd Clwb Rygbi Aberystwyth tuag amser swper gyda barbeciw wedi ei drefnu i gefnogi’r digwyddiad. Roedd Dydd Gwener yn mynd a ni o Glwb Rygbi Aberystwyth i Glwb Rygbi Crymych gyda stop yng Nghlwb Rygbi Aberaeron. Fe wnaeth Rhys Williams sef cyn cefnwr Cymru ymuno gyda ni am y rhan yma o’r daith. Cafwyd adloniant gan Glwb Rygbi Crymych i gwblhau’r noson ynghyd a gwledd arall. Dydd Sadwrn oedd rhan olaf y daith o Grymych i Lanelli gyda rhai o chwaraewyr y Scarlets sef Phil John, Kirby Myhill, Adam Warren ac Aaron Warren yn ymuno gyda ni am filltiroedd olaf y daith i gaeau’r Eisteddfod. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad ond yn falch o gael gorffen a chael rhywbeth cryf i yfed”. Syniad Tad Ilan oedd hyn ac roedd wedi bwriadu gwneud y daith yn ei gadair olwyn cyn iddo farw’r llynedd. Penderfynodd Clwb Rygbi’r Bala barhau gyda’r syniad gyda’r arian a gasglwyd yn mynd tuag at yr Yogi Foundation ac i gael estyniad i Glwb Rygbi’r Bala sef rhywbeth oedd yn agos at galon Yogi. Hoffai Ilan ddweud pa mor ddiolchgar ydy o i bawb wnaeth gyfrannu ddiwedd blwyddyn ddiwethaf tuag at y daith noddedig yma.

Taith Feicio Lwyddianus Ilan

Iolo Roberts

Fe gafodd Undeb Athletau Prifysgol Bangor flwyddyn lwyddiannus y llynedd. Yn ystod wythnos y Glas bydd cyfle i chi ymuno gyda Chlybiau gwahanol yn ystod Serendipedd ynghyd a meddwl am ymuno gyda’r timau o fewn yr Undeb Athletau fel tim Pêl Droed, Pêl Rwyd neu Hoci'r Brifysgol. Drwy ymuno gyda’r timau gwahanol yma fe fydd cyfle i chi gynrychioli’r Brifysgol mewn nifer o gampau gwahanol yn erbyn Prifysgolion eraill gyda’r rhain yn cymryd lle ar brynhawn Mercher fel arfer. Hefyd fe fydd yn gyfle i chi ddod i adnabod pobl sydd ddim yn rhan o’r Gymdeithas Gymraeg ym Mangor. Fe fu nifer o unigolion o’r 2il ar 3ydd flwyddyn gynrychioli’r Brifysgol y llynedd drwy fod yn rhan o dimau o fewn yr Undeb Athletau. Os oes diddordeb gyda chi i ymuno gyda thîm penodol, yna cerwch amdani ac efallai y cewch chi lwyddiant fel cafodd rhai unigolion y flwyddyn ddiwethaf.

Yr Undeb AthletauIolo Roberts

Ar ôl bron i ddwy flynedd mae’r dadlau rhwng rhanbarthau Cymru ac Undeb Rygbi Cymru wedi dod i ben gyda chytundeb newydd gwerth £60 miliwn wedi ei arwyddo ddiwedd mis Awst. Roedd y rhanbarthau yn anhapus gyda’r cyllid oedd yn cael ei ddarparu ar eu cyfer gan yr Undeb gan arwain at gyfnod o wrthdaro ymhlith rygbi Cymru. Mae’r cytundeb newydd yn golygu bod o leiaf 6 chwaraewr rhyngwladol ar gytundeb deuol gyda’u rhanbarth ac Undeb Rygbi Cymru. Yn ogystal mae’n golygu bod

chwaraewyr yng Nghymru yn cael eu ffafrio pan yw’n dod i ddewis y tim rhyngwladol. Fe fydd y rhanbarthau yn derbyn mwy o arian a bydd tim A Chymru yn dychwelyd yn 2015 ar ôl absenoldeb o 13 mlynedd. Y gobaith rŵan ydi y gellir rhoi’r dadlau yma y tu cefn iddynt gan adael i’r chwaraewyr ganolbwyntio ar eu rhanbarthau ar ddechrau’r tymor cyn iddynt hwy ymuno gyda’r tim rhyngwladol ar gyfer Cyfres yr Hydref. Gyda Chwpan Rygbi’r Byd ar y gorwel y flwyddyn nesaf mae’n bwysig bod y chwaraewyr yn gallu canolbwyntio ar faterion ar y cae fel bod gennym ni’r cyfle gorau i fod yn llwyddiannus yn 2015.

Dadlau yn dod i ben

Rygbi yng Ngogledd Cymru ar i fyny

Iolo Roberts

Mae rygbi yng Ngogledd Cymru ar i fyny gyda Rygbi Gogledd Cymru yn gobeithio adeiladu ar orffen yn drydydd yn eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth drwy gael tymor da eto eleni. Mae’r ffaith bod gemau dan 20ain Cymru wedi eu cynnal ym Mharc Eirias dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod Undeb Rygbi Cymru yn gweld gwerth i rygbi yn y Gogledd a gobeithio bydd hyn yn parhau yn y dyfodol. Gyda rhai o chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o garfan Cymru dan 20ain yn ystod y Chwe Gwlad a Chwpan Ieuenctid y Byd mae rhai ohonynt wedi arwyddo i’r Gweilch. Y gobaith yw y bydd rhai o’r chwaraewyr yn cael cyfle ar lefel rhanbarthol ac efallai’n genedlaethol er mwyn sicrhau bod dyfodol disglair i rygbi yng Ngogledd Cymru.

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Page 32: Rhifyn y Glas 2014

32 ...Chwaraeon Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Chwaraeon

Iolo Roberts

Yn dilyn tymor llwyddiannus y llynedd a welodd Dîm Pêl Droed UMCB yn gorffen yn ail yn y gynghrair ac yn cipio Cwpan yr Adran Gyntaf mae’r hogiau yn barod i roi tro arall ar bethau eleni. Gyda nifer o chwaraewyr y llynedd wedi graddio mae’r hogiau sy'n weddill yn bwriadu parhau gyda phobl o’r ail a’r drydedd flwyddyn yn chwarae er mwyn sicrhau bod nifer safonol o chwaraewyr ar gael i’r tîm. Mae croeso i unrhyw un o’r flwyddyn gyntaf sydd gan ddiddordeb mewn chwarae i ymuno a bydd cyfarfod ynglŷn â hyn yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos y Glas. Einion Edwards o’r drydedd flwyddyn fydd capten y tîm eleni gyda Steffan Jackson o’r 2il flwyddyn yn is-gapten.

Tîm Pêl Droed UMCB

1. Enw llawn Einion ap Llŷr Edwards

2. O ble wyt ti’n dod? Llanuwchllyn 3. Pa gwrs wyt ti’n ei astudio ym Mangor? Hanes a Newyddiaduraeth

4. Beth ydi dy gamp?Pêl Droed

5. Pa safle? Amddiffynnwr Canol neu Ganol Cae

6. I ba dîm wyt ti’n perthyn? Clwb Pêl Droed Llanuwchllyn

7. Beth ydi dy brofiad gorau yn y gamp? Ennill Cwpan Amsterdam gyda thîm Academi’r Bala

8. Beth yw dy lwyddiant mwyaf yn y gamp? Ennill y Gwpan fel yng nghwestiwn 7

9. Pwy ydi dy arwr? Amryw ohonynt sef Ryan Giggs, Gary Speed, Mark Hughes, Gareth Bale, Aaron Ramsey a Lewin

Nyatanga wrth gwrs!10. Oes rhywbeth neu rywun wedi dy ysbrydoli? Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2004 yn colli yn erbyn Rwsia yn y gemau ail gyfle.

11. Oes gen ti ofergoelion cyn chwarae? Nagoes.

12. Gobeithion am y tymor gyda UMCB?Gwneud yn dda yn y gynghrair fel llynedd a byddai gorffen y tymor mewn ffeinal yn wych hefyd.

HOLI

einion

Iolo RobertsMae’r Cymro Jamie Donaldson wedi llwyddo i gyrraedd tim Ewrop yng Nghwpan Ryder a fydd yn cael ei gynnal ar gwrs Gleneagles yn yr Alban rhwng yr 22ain ar 24ain o Fedi. Ef yw’r Cymro cyntaf i sicrhau ei le yng Nghwpan Ryder ers i Phillip Price chwarae yn nhim llwyddiannus Ewrop o 2002. Pob lwc iddo ef a gweddill tîm Ewrop wrth iddynt geisio parhau a’i record ardderchog yn erbyn Unol Dalieithau America’r ganrif yma sef curo 5 a cholli 1. Gobeithio y caiff ef lwyddiant fel mae Cymry eraill wedi ei gael mewn campau gwahanol eleni.

Cymro yng Nghwpan Ryder

Llwyddiant i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Iolo Roberts

Llwyddod Cymru i gael llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad a gynhaliwyd yng Nglasgow rhwng Gorffennaf 23ain ar 3ydd o Awst. Er hyn, doedd y paratoadau cyn y Gemau ddim heb ei phroblemau a’i dadleuon. Ar ôl i’r Pencampwyr Becky James, Non Stanford a Helen Jenkins dynnu allan oherwydd anafiadau fe aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Cymry. Cafodd y rhedwr Gareth Warburton ei gyhuddo o dorri rheolau “anti-doping” tra methodd yr is-gapten Rhys Williams brawf cyffuriau. Yr ergyd olaf oedd bod y bocsiwr Frêd Evans yn methu a chymryd rhan oherwydd ei euogfarn am ymosod ar rywun yn gynharach yn 2014. Cyn y problemau yma’r targed oedd 27 medal gan geisio curo’r 20fed a enillwyd yn Delhi yn 2010. Y gymnastwraig Francesca Jones oedd yn gyfrifol am gludo’r

Ddraig Goch yn y Seremoni Agoriadol a’r seiclwr Geraint Thomas yn y Seremoni Gloi. Er gwaetha’r p r o b l e m a u yn ystod y p a r a t o a d a u fe lwyddodd Cymru i ennill 36 medal, cyfanswm

oedd yn record i ni fel gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad. Y rhai serennodd i Gymru yn y Gemau oedd Francesca Jones a enillodd 6 medal mewn Gymnasteg ynghyd a Gwobr David Dixon am y cyfraniad gorau gan unrhyw athletwr. Hefyd Jazz Carlin a enillodd 3 medal yn y pwll nofio a Geraint Thomas a enillodd 2 fedal yn y Seiclo a hynny ychydig ddiwrnodiau ar ôl cystadlu yn y Tour de France am dair wythnos. Y gobaith rŵan yw bod y rhain yn parhau gyda’r safon yma er mwyn bod yn llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016 gan gymryd y byddent yn cael eu dewis.