rhagenw perthynol
DESCRIPTION
Rhagenw perthynol. Beth yw rhagenw perthynol?. Mae’r rhagenw perthynol yn cyfateb i ‘which’ neu ‘that’ yn Saesneg. Ystyriwch y brawddegau canlynol: Roedd y ferch a g anodd yn y cyngerdd yn wych. Dyma’r lleidr a w elwyd ar y teledu neithiwr. Mae’r nofel a dd arllenais yn dda. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Rhagenw perthynol
Beth yw rhagenw perthynol?
Mae’r rhagenw perthynol yn cyfateb i ‘which’ neu ‘that’ yn Saesneg. Ystyriwch y brawddegau canlynol:Roedd y ferch a ganodd yn y cyngerdd yn wych.Dyma’r lleidr a welwyd ar y teledu neithiwr.Mae’r nofel a ddarllenais yn dda.Roedd y wers a gefais heddiw’n ddiddorol.
* Sylwch ar y TREIGLAD MEDDAL sy’n dilyn y rhagenw perthynol *
Pryd fyddwn i’n defnyddio rhagenw perthynol?
Rydym yn defnyddio rhagenw perthynol ar ddechrau cymal perthynol/ansoddeiriol. Gwaith y cymal hwnnw yw rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni am y goddrych yn y prif gymal e.e.
Roedd y bachgen a welais ar y teledu neithiwr, yn canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Rydyn ni’n cael mwy o wybodaeth am y ‘bachgen’ yn y prif gymal
Sut i ddefnyddio’r rhagenw perthynol ‘a’?
Mae’n bwysig cofio mai dechrau cymal fyddwn ni gyda’r rhagenw perthynol ‘a’.
Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna ychwanegu ein gwybodaeth am y goddrych yn y prif gymal drwy greu cymal perthynol/ansoddeiriol.
Mae’r rhagenw perthynol ‘a’ yn cymryd lle enw ac ymuno dwy frawddeg
e.e. Dyma Sion. Achubodd Sion yr eneth.
Yn hytrach nag ail-adrodd Sion, gallwn ddefnyddio’r rhagenw perthynol i ymuno’r ddwy frawddeg ac ychwanegu ein gwybodaeth am Sion.
e.e. Dyma Sion a achubodd yr eneth
Gwelwn fod yr ‘a’ yn gwneud yn lle yr enw Sion, mae’n cyfeirio’n ôl at Sion.
Mae Sion felly’n RHAGFLAENYDD i’r rhagenw perthynol ‘a’:
Dyma Sion a achubodd yr eneth o’r afon
Hwn yw’r dyn a saethodd y ci defaid
Cai a losgodd ei wallt yn fflam y gannwyll
SYLWER…
Mae’n beth doeth cadw’r rhagenw perthynol yn agos at ei ragflaenydd
e.e. Dyma’r ferch a welais neithiwr.
Cafodd y plant a dorrodd y ffenestr ffrae gan yr athro.
Creu cymal perthynol…
Beth am greu cymal perthynol yn dilyn y canlynol:Roedd y ferch…Mae’r plant…Bydd yr athro…Mae’r gân…Clywodd y plismon…
Cofiwch gychwyn pob cymal gydag ‘a’
Beth am greu?
Isod, mae cychwyn y cymal wedi ei roi i chi. Cofiwch greu prif gymal syml o’i flaen a chreu brawddeg ystyrlon e.e.
a weloddRoedd y ferch a welodd y ddamwain ddoe wedi dychryn yn arw.
Creu brawddegau…a gafodda welais
a ddarllenaisa ganodda enillodd
Byddwch yn gwirio gwaith eich gilydd ar ôl creu’r brawddegau
Rhagenw perthynol negyddol
Y ffurf negyddol yw ‘na’/‘nad’ e.e.
Dywedodd y ferch na chafodd ei dewis ei bod yn siomedig iawn.
Mae’r cymal perthynol yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am y ‘ferch’ yn y prif gymal.
Beth am greu cymalau gyda’r rhagenw perthynol negyddol…
Roedd y ferch…Mae’r plant…Bydd yr athro…Mae’r gân…Clywodd y plismon…
Cofiwch gychwyn pob cymal gyda’r rhagenw perthynol ‘na’
Creu brawddegau…
na freuddwydioddnad oedd
na chafoddna welais
na ddewiswyd
Byddwch yn gwirio gwaith eich gilydd ar ôl creu’r brawddegau
Rhagenw perthynol ‘y’/’yr’
Defnyddir y rhagenw perthynol Y, YR neu ‘R pan ddylynir y rhagenw perthynol gan ragenw personol neu arddodiad personol
Rhagenw personol = fy, dy, ei, ein, eich, eu
Arddodiad personol = arddodiad rhedadwye.e. arno fo, amdanyn nhw, iddi hi, wrthon ni, ganddyn nhw, ata i a.y.y.b.
Enghraifft
Dyma’r car yr eisteddodd yr eliffant arno.
Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon.
Yma, mae arddodiad rhedadwy yn dilyn y rhagenw perthynol.
Yma, mae rhagenw personol yn dilyn y rhagenw perthynol
Creu brawddegau…
Wrth greu brawddegau yn defnyddio’r rhagenw perthynol ‘y’, ‘yr’ neu ‘’r’, mae’n hanfodol bwysig fod arddodiad rhedadwy neu ragenw personol yn y frawddeg. Mae’n bwysig creu prif gymal syml.
Beth am greu?
y clywaisyr anfonoddy darllenais
y cofioddy breuddwydiais
Gwirio
Oes gennych chi arddodiad rhedadwy neu ragenw personol dilyn y rhagenw perthynol yn eich brawddeg?
Ble mae’r gwallau?
Dyma’r man a welais ei ysbryd neithiwr.
Gwall Cywiriad Esboniad
a welais y gwelais Angen y rhagenw perthynol ‘y’ gan fod rhagenw personol ‘ei’ yn dilyn y rhagenw perthynol.
Sylwch
DOES DIM TREIGLAD AR ÔL Y RHAGENW PERTHYNOL ‘Y’
Mae’r merch a ddarllenais amdani yn diddorol iawn.
Gwall Cywiriad EsboniadMae’r merch Mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn
treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
a ddarllenais y darllenais Angen y rhagenw perthynol ‘y’ gan fod arddodiad rhedadwy ‘amdani’ yn dilyn y rhagenw perthynol.
yn diddorol yn ddiddorol Ansoddair yn treiglo’n feddal yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol.
Mae’r disgybl a anfonodd y prifathro llythyr ato, wedi ei wahardd am camymddwyn.
Gwall Cywiriad Esboniad
a anfonodd yr anfonodd Angen y rhagenw perthynol fy gan fod arddodiad rhedadwy ‘ato’ yn y frawddeg.
llythyr lythyr Gwrthrych berf bersonol yn treiglo’n feddal.
am camymddwyn
am gamymddwyn
Treiglad meddal yn dilyn yr arddodiad ‘am’.
Mae’r coeden derwen a welais ei lun yn y papur wedi tyfu’n anferth.
Mae’r coeden Mae’r goeden Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
coeden derwen coeden dderwen Ansoddiar yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal.
a welais y gwelais Angen y rhagenw perthynol ‘y’ gan fod rhagenw personol ‘ei’ yn dilyn y rhagenw perthynol.
ei lun ei llun Cyfeirio at y goeden mae’r rhagenw dibynnol ‘ei’ ac felly, gan ei fod yn enw benywaidd, does dim treiglad.
Crynhoi…
Rydym yn defnyddio rhagenw perthynol ar ddechrau cymal perthynol/ansoddeiriol
Mae treiglad meddal ar ôl y rhagenw perthynol ‘a’
Rhaid defnyddio’r rhagenw perthynol y, yr neu ‘r pan fydd rhagenw personol neu arddodiad rhedadwy yng ngweddill y frawddeg