quality wales guide - welsh - 2012

42
Yn y rhifyn hwn: 5 munud gyda Simon Calder Awydd peintio? Cwrdd â’r rheolwyr Pobl ifanc brwdfrydig Cynhesrwydd mwy ffasiynol cymru.gov.uk/twristiaeth Ansawdd Cymru Rhifyn 5, 2012

Upload: visit-wales

Post on 10-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


14 download

DESCRIPTION

Quality Wales Guide - Welsh

TRANSCRIPT

Page 1: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

Yn y rhifyn hwn:

5 munud gyda Simon Calder

Awydd peintio?

Cwrdd â’r rheolwyr

Pobl ifanc brwdfrydig

Cynhesrwydd mwy ffasiynol cymru.gov.uk/twristiaeth

Ansawdd Cymru

Rhifyn 5, 2012

Page 2: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

[ 13 ]

[ 11 ] [ 03 ][ 17 ]

[ 21]

[ 05 ]

[ 07 ]

[ 31 ]

[ 25 ]

[ 35 ]

Yn y rhifyn hwn o Ansawdd Cymru, [13] Gwesty’r

Castell, Aberaeron, [25] Kristian Fuchs, cogydd

ifanc, [35] Ynni gwyrddach, [05] Eicon Cymreig,

Taith Bedol Eryri, [07] Llongau Mordeithio

yn dod i borthladdoedd Cymru, [21] Gwesty

Ty Newydd, Aberdaron, [31] Dull newydd

Conwy o reoli twristiaeth, [17] Caws Caerffili

o Trethowan’s Dairy ger Tregaron, [11] Fflam

Olympaidd 2012, [04] Enillwyr y wobr Aur, [39] a’r gorau o fwyd y tymhorau.

Ansawdd Cymru

Rhifyn 5, 2012

Page 3: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

2Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Neges groeso gan y Gweinidog [tud03] / Arwydd o ansawdd gwobr Aur

2012 [tud04] / 5 munud gyda Simon Calder [tud05] / Dewch i Forio, y fordaith

berffaith? [tud07] / Mabolgampau’r Byd digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y

byd [tud11] / Awydd peintio? gafaelwch mewn brwsh paent [tud13] / Caws cyfraniad

mwyaf Cymru i’r byd coginio? [tud17] / Cynllun Cymorth i fusnesau [tud21] / Pobl

ifanc yn dechrau dringo’r ysgol [tud25] / Ydy trydar o unrhyw werth ichi?

mae trydar yn apelio at rai pobl, ond nid at eraill [tud29] / Cwrdd â’r ‘rheolwyr’ dewch

i glywed beth mae ymwelwyr ei eisiau o gyrchfan [tud31] / Cynhesrwydd mwy

ffasiynol mae dewis gwyrddach yn fwy ffasiynol [tud35] / Bwyd yn ei dymor?

bwyd ar gyfer bob tymor [tud39]

Oni fyddai’n wych gweld Cymru trwy lygaid ymwelydd yma

am y tro cyntaf? Dyma ein cartref, rydyn ni’n falch ohono, ond

mae'n gyfarwydd inni. Mae’n dda clywed felly bod nifer cynyddol

o deithwyr llongau mordeithio (tud07) yn dod i Gymru – ac wrth

eu boddau â’r wlad. Wrth gwrs eu bod, mae beth sydd gennym

i’w gynnig ymhlith y gorau yn y byd, ac – fel y gwelwch yn y

rhifyn hwn o Ansawdd Cymru – mae gwir ymroddiad i weld bod

ymwelwyr yn mwynhau profiad o safon.

Cynnwys

Cyhoeddir Cylchgrawn Ansawdd Cymru gan Croeso Cymru,

Is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru

© 2011.

Croeso Cymru, Canolfan QED, Ystad Ddiwydiannol

Trefforest, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf,

CF37 5YR.

Rhif ffôn: 0845 010 3300 / Minicom: +44 (0)8701 211555

Ebost: [email protected]

Rydyn ni wedi ceisio’n galed iawn i wneud yn siwr fod

bob dim yn gywir, ond ni allwn fod yn atebol am unrhyw

gamgymeriadau, neu am adael pethau allan. Rydyn ni wedi

gwirio pob un o’r gwefannau cyn cyhoeddi. Fodd bynnag,

gan nad ni sy berchen arnyn nhw, ni allwn warantu na

fyddan nhw’n newid. Cedwir pob hawl – peidiwch â chopïo

pethau heb ofyn inni yn gyntaf. Nid barn Croeso Cymru

o angenrheidrwydd yw’r rhai sy’n cael eu mynegi yng

Nghylchgrawn Ansawdd Cymru.

Cafodd y cynnwys ei ymchwilio a’i lunio gan Julian Rollins,

Rebecca Lees ac Elizabeth Udall – www.grassroots-media.

co.uk. Argraffwyd gan MWL Print. Darparwyd y lluniau gan

Ganolfan Ddelweddau Croeso Cymru a ffynonellau allanol

eraill. © Hawlfraint y Goron 2011. Mae’r cyhoeddiad hwn

hefyd ar gael mewn Braille, print fformat mawr, ac/neu

ar dâp gan Croeso Cymru. Cafodd y cylchgrawn hwn ei

argraffu ar bapur wedi’i ailgylchu.

ISBN 978 0 7504 6757 5 WG12972

Dyluniwyd gan

[39]

Page 4: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

Ansawdd Cymru3 cymru.gov.uk/twristiaeth

BARN

Mae ymwelwyr wedi dod i Gymru erioed i rannu ein diwylliant a’n hanes, i fwynhau ein tirlun prydferth a’n croeso Cymreig hynod. Flynyddoedd lawer wedi i ddiwydiannau uwch-dechnegol Cymru ymddangos yn amgueddfeydd y dyfodol yng Nghymru, bydd ymwelwyr yn dal i ddod i dreulio eu gwyliau yng Nghymru – a chefnogi’r economi yng Nghymru.

Dyna pam mai un o’m penderfyniadau cyntaf fel Gweinidog Busnes oedd dynodi Twristiaeth fel un o dri sector sy’n cael blaenoriaeth o fewn economi Cymru. Trwy ei wneud yn sector blaenoriaeth newydd, yn ogystal â Bwyd a Ffermio ac Adeiladu, gallwn gryfhau hunaniaeth genedlaethol arbennig Cymru, o fewn Prydain ac yn rhyngwladol, fel gwlad i ymweld â hi, i fuddsoddi ynddi ac fel lle i wneud busnes. Bydd y tri sector hwn yn adeiladu ar y chwe sector sy’n flaenoriaeth ar hyn o bryd sy’n derbyn ein cefnogaeth i helpu busnesau Cymru i ffynnu, ac i greu’r swyddi sydd eu hangen i ddatblygu ein heconomi yn y dyfodol – Ynni a’r Amgylchedd; y Diwydiannau Creadigol; Gwyddorau Bywyd; TGCh; a’r Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.

Dwi’n falch iawn bod Dan Clayton Jones, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi derbyn fy ngwahoddiad i gadeirio’r panel twristiaeth newydd. Bydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar fwrdd Visit Britain. O gofio profiad eang Dan o’r busnes twristiaeth yn y sector preifat a chyhoeddus ym Mhrydain a thramor, dwi’n siwr y bydd yn rhoi arweiniad cadarn i banel y sector cynghori Twristiaeth i sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau’r diwydiant yn llywio datblygiad polisïau Llywodraeth Cymru ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor arbennigol imi. Mae’r prif ymrwymiadau o fewn ein Rhaglen Lywodraethu, a lansiwyd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog, hefyd yn adlewyrchu swyddogaeth hanfodol twristiaeth wrth ddatblygu’r economi a chreu swyddi cynaliadwy. Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys: datblygu gweithgareddau twristiaeth a marchnadoedd arbenigol a manteisio i’r eithaf o ddigwyddiadau mawr yn ein lleoliadau proffil uchel; hybu Cymru fel cyrchfan sydd â thwristiaeth o safon uchel; gweithio i ymestyn y tymor twristiaeth a manteision cysylltiedig; nodi cyfleoedd i wella’r rhwydwaith ymwelwyr a’r cynnyrch yng Nghymru a chefnogi’r buddsoddiad i hyfforddi a rheoli staff i gynnal diwydiant twristiaeth o safon uchel.

Er bod llawer o botensial i’r diwydiant twristiaeth ffynnu, mae cystadleuaeth ddwys o fewn y farchnad ryngwladol, ac mae’n rhaid i Gymru weithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch arbennig sydd ganddi i’w gynnig i ddenu mwy o ymwelwyr gydol y flwyddyn. Cododd lansiad diweddar ein hymgyrch arloesol ‘Rydym eisiau Piers Bramhall’, gyda chymorth enwogion fel Joanna Page a Gareth Thomas, ddiddordeb sylweddol o fewn y diwydiant a’r cyfryngau. Gobeithio y daw hyn a mwy o ymholiadau am Gymru, ac y bydd rhagor o ymwelwyr yn cael eu denu yma gan nifer yr atyniadau a’r gweithgareddau gwahanol sy’n cael eu cynnig. Wrth gwrs, mae safon hefyd yn allweddol i lwyddiant y dyfodol, ac yn y rhifyn diweddaraf hwn o Ansawdd Cymru, cewch glywed am amrywiaeth eang o fusnesau twristiaeth sy’n gosod meincnod ansawdd arbennig o uchel. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyhoeddi enwau enillwyr Gwobr Aur Croeso Cymru 2012. Mae’r busnesau llety hyn yn gosod meinc nod ansawdd eithriadol o uchel. Gyda’n gilydd, gallwn weithio i adeiladu diwydiant twristiaeth cryfach, mwy proffidiol a chynaliadwy i Gymru.

Rhagair gan

Edwina Hart MBE OStJ y Gweinidog Busnes

Mae’r penderfyniad i drosglwyddo’r cyfrifoldeb am dwristiaeth o’r adran

Dreftadaeth flaenorol i’m portffolio gweinidogol newydd, sef Busnes, Menter,

Technoleg a Gwyddoniaeth, yn gydnabyddiaeth glir o’r cyfraniad pwysig y mae

twristiaeth yn ei wneud i ffyniant economaidd posib pob rhan o Gymru.

Page 5: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

Arwydd o ansawdd

Gwobrau Aur 2012

Sut mae busnes o ansawdd yn ennill gwobr Aur? Sefydlodd

Croeso Cymru'r gwobrau hyn er mwyn cydnabod a

gwobrwyo ansawdd rhagorol, llety cysurus ac arlwyaeth

eithriadol o dda yn y sector llety wedi’u gwasanaethu.

GWOBRAU

Darllen mwy…

http://www.visitwales.co.uk/holiday-accommodation-in-wales/collections-award-winning-luxury-accommdation-in-wales/

Gwely a Brecwast Boutique Penbontbren, Llandysul Pilleth Oaks, Trefyclo Plas Bodegroes, Pwllheli Gwesty Gwledig Plas Dinas, Caernarfon Plas Maenan, Llanrwst Ramsey House, Tyddewi Slebech Park, Hwlffordd Gwesty Gwledig Tan Y Foel, Betws-Y-Coed Tan Yr Onnen Guest House, Llanelwy The Acorns, Betws-Y-Coed The Checkers, Trefaldwyn The Coach House, Aberhonddu The Granary, Aberhonddu The Grove, Arberth The Hardwick, Y Fenni The Old Rectory, Conwy The Old Rectory, Casnewydd The Old Rectory On The Lake, Tywyn The Old Vicarage, Y Drenewydd The Paddock, Hwlffordd Gwesty Gwledig Tir Y Coed, Conwy Ty Derw, Machynlleth Plasdy Ty Mawr, Llanbedr Pont Steffan Gwyliau Fferm Tyddyn Du, Blaenau Ffestiniog Bwyty ag Ystafelloedd Tyddyn Llan, Corwen Tyddyn Perthi, Caernarfon Venetia, Abersoch Fferm y Wern, Porthaethwy Bwyty ag Ystafelloedd Wilton Court, Ross-On-Wye Y Garth, Trefdraeth

4Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

GwestaiNeuadd Bodysgallen, Llandudno Gwesty'r Marriott Caerdydd, Caerdydd Castell Deudraeth, Porthmadog Craig-y-Dderwen, Betws-y-Coed Gwesty'r Empire, Llandudno Gwesty a Bwyty'r Falcondale, Llanbedr Pont Steffan Gwesty Gwledig Gliffaes, Crucywel Heywood Mount, Dinbych-y-pysgod Gwesty Maes y Neuadd, Harlech Gwesty'r Imperial, Llandudno Gwesty Marriott St Pierre Hotel, Cas-gwent Gwesty Morgans, Abertawe Osborne House, Llandudno Gwesty Pale Hall, Y Bala Gwesty'r Park Plaza, Caerdydd Penmaenuchaf Hall, Dolgellau Quay Hotel & Spa, Conwy Gwesty Seiont Manor, Caernarfon Gwesty St Brides Spa, Saundersfoot Gwesty St George's, Llandudno Gwesty St Tudno, Llandudno Y Cawdor, Llandeilo Gwesty Portmeirion, Penrhyndeudraeth The Lake Country House, Llangamarch Gwesty Tre Ysgawen Hall, Llangefni Vale Hotel, Golf & Spa Resort, Pont-y-clun Gwesty Neuadd Ynyshir, Machynlleth

Llety Gwesteion3 Pen Cei, Aberaeron Abercelyn, Y Bala Gwesty Gwledig Acorn Court, Llandrindod Ael Y Bryn, Eglwyswrw Afon Gwyn, Betws-Y-Coed Fferm Blaencar, Aberhonddu Blas Gwyr, Abertawe Brackenhurst House, Fairbourne Brig Y Don, Aberdyfi

Gwesty Gwledig Bryn Tegid, Y Bala Bryniau Golau, Y Bala Gwesty Gwledig Cae'r Blaidd, Blaenau Ffestiniog Canal Bank, Aberhonddu Canaston Oaks, Arberth Bwyty gydag Ystafelloedd Castle Cottage, Harlech Castle House, Dinbych Gwesty Gwledig Coedllys, San Clêr Cross Foxes, Dolgellau Crown At Whitebrook, Mynwy Crug-Glas, Hwlffordd Cwm Ban Fawr, Caerfyrddin Fferm Cyfie, Llanfyllin Dolffanog Fawr, Tywyn Eifionydd, Y Bala Ellingham House, Bae Colwyn Escape – Gwely a Brecwast Boutique, Llandudno Fairfield Bungalow, Mynwy Fairyhill, Gwyr Felin Glais, Aberhonddu Ffynnon, Dolgellau Four Views, 6 Marine Crescent, Conwy Melin Galedffrwd, Bethesda Glandwr Mill, Abermo Glangrwyney Court, Crucywel Plasdy Glangwili, Caerfyrddin Guidfa House, Llandrindod Gwesty Cymru, Aberystwyth Gwesty'r Harbwr, Aberaeron Hafod Elwy Hall, Dinbych Holm House, Penarth Gwesty Gwledig Llansabbath, Y Fenni Llwydiarth Fawr, Llanerch-y-medd Fferm Lochmeyler, Hwlffordd Maes-Y-Derw, Castellnewydd Emlyn Manorhaus, Rhuthun Morgans Town House, Abertawe Neuadd-Lwyd, Llanfairpwllgwyngyll Parc-yr-Odyn, Pentraeth

Page 6: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

5 cymru.gov.uk/twristiaethAnsawdd Cymru

‘Gwyliau Gartref ’ “Yn eironig rydw i’n defnyddio’r term hwn bob tro,” meddai. Yn wir, mae nodweddion sylfaenol sut mae’r farchnad ddomestig yn gweithio yn parhau yr un fath, dadleua.

“Mae rhywle rhwng 20 a 25 miliwn o bobl Prydain wedi penderfynu eu bod eisiau gwyliau tramor mewn gwlad heulog yn ystod yr haf. Felly mae’r honiadau amrywiol am aros gartref yn rwtsh a deud y gwir,” meddai. Ond, ar y cyrion, mae nifer sylweddol o bobl yn newid eu harferion, awgryma. Cafodd eu penderfyniad ei ysgogi gan faterion fel eu profiad mewn meysydd awyr, llai o arian o fewn y teulu, ofn ymosodiadau terfysgol a mympwyon llosgfynyddoedd Gwlad yr Iâ. I nifer o bobl, y sefyllfa yn ystod llwch folcanig 2010 oedd y tro cyntaf iddyn nhw gael eu hunain rhywle nad oeddyn nhw’n gwybod sut i fynd adref ohono”, meddai. Mae wedi amharu ar yr hyder mewn teithio mewn awyren, teimlad a gafodd ei gadarnhau gan y ffrwydriad eleni. Mae hyn i gyd yn arwain at gyfleoedd i Gymru. Meddai Simon Calder: “Wrth gwrs y bydd pawb am ymweld â Chymru. Mae’n wlad dlws, yn hawdd cyrraedd yno. Mae pobl hyfryd yno, ac wrth gwrs, mae ganddi hanes diwyllianol gwych.”

Cael eich clywed Efallai mai’r cyfryngau cymdeithasol sy’n cael y rhan fwyaf o’n sylw, ond, yn ôl Simon Calder, mae gan y cyfryngau mwy traddodiadol – radio a theledu, teithlyfrau, a phapurau newydd wrth gwrs – rôl bwysig i’w chwarae hefyd. Ac, mae gan y bobl sy’n rhan o “reng flaen” y diwydiant rhywbeth y mae ef a’i gydweithwyr ei angen. Beth mae newyddiadurwyr ei angen? Fel pawb arall, mae nhw am gadw’r bos yn hapus, meddai, ac mae’n nhw’n gwneud hynny trwy gynnig storïau cryfion sy’n “ysbrydoli, yn llywio ac yn diddanu”. Felly sut ydyn ni’n cael ein stori i ddwylo’r bobl sy’n gallu ysgrifennu amdanyn nhw? Anfon datganiad i’r wasg? “Mae e-byst yn wych i ddesgiau teithio papurau newydd. Yn y gorffennol, roedd yn rhaid inni dynnu’r datganiadau i’r wasg allan o’u hamlenni ac yna eu taflu,” meddai. “Bellach gallwn bwyso delete.” Mae rhwng 30 a 40 datganiad i’r wasg yn cyrraedd ei flwch mewnol pob dydd, meddai, mae pob un ohonyn nhw’n cael eu dileu heb eu hagor gan eu bod hefyd wedi’u hanfon i gannoedd o olygyddion eraill. “Dyw hynny o ddim diddordeb imi. Dwi am glywed rhywbeth sydd wedi’i dargedu i mi yn unig – sydd dim ond i fi.”

Iconograffiaeth Pa mor glir yw yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd? Yn ôl Simon Calder mae angen i gyrchfannau gadw pethau’n syml: “Mae pobl am gael ateb i’r cwestiwn ‘ydw i’n mynd i ddod o hyd i rywbeth yno sydd ddim ar gael unrhyw le arall?’” Ar gyfer Awstralia, yr ateb fu cyfyngu yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig i lawr i dri eicon: Uluru (Ayer’s Rock), y Great Barrier Reef a Thy Opera Sydney. Beth am Gymru? “I farchnadoedd y tu hwnt i Brydain, mae angen tri pheth ar Gymru sy’n codi diddordeb, eiconau sy’n gwneud iddyn nhw ddweud wrthyn nhw eu hunain: ‘Mae’n rhaid bod gwlad sy’n cynnwys Portmeirion, Eryri neu beth bynnag yn ddiddorol.’ Mae’n symleiddio’r hyn sy’n cael ei gynnig, ac yna fe welan nhw, wedi iddyn nhw gyrraedd, bod llawer mwy yno.” Felly, fe fyddai trindod Gymreig Simon Calder yn cynnwys Portmeirion ac Eryri – beth am y trydydd? “Alla i ddim ond awgrymu’n barchus y byddai’n helpu teithwyr yn fawr pe bydden nhw’n teimlo bod bywyd yn cael ei wneud yn haws iddyn nhw”, meddai. Ond wedi dweud nad yw’n fodlon enwi unlle, mae’n ychwanegu Bae Caerdydd i’r gymysgedd. Yno, ddiwrnod neu ddau cyn ein sgwrs, syrthiodd mewn cariad â’r Eglwys Norwyaidd.

Roedd Golygydd Teithio The Independent – ac un o awduron

teithio amlycaf Prydain – yng Nghymru yn ddiweddar am

wythnos. Yn ystod ei deithiau, treuliodd ychydig amser yn rhoi

ei farn bersonol ef am dwristiaeth i gwmnïau y diwydiant ledled

Cymru – ac i Julian Rollins o Ansawdd Cymru.

PROFFIL

5 munud gyda

Simon Calder

Page 7: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

6

Mae dewis Simon o eiconau Cymru yn cynnwys [01] Eryri, [02] Portmeirion a [03] Bae Caerdydd a’r [04] Eglwys Norwyaidd.

[ 04 ]

[ 03 ]

[02 ]

[ 01]

Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

“Dwi’n teimlo ei fod (Bae Caerdydd) yn drawiadol iawn, iawn,” meddai’n frwdfrydig. “Tydw i ddim wedi bod yno ers amser, a dwi’n teimlo ei fod bellach yn lle gwahanol ac anarferol.”

Ac yn olaf Pa un peth ddylai Cymru ei wneud yn well? Yn syml, gwella mynediad. “Fel un sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dwi’n ei weld yn ddiddorol bod cerbydau trên yn mynd yn hyn – ac yn arafach – wrth ddod yn nes at Gymru,” meddai. “Yn ystod fy wythnos yng Nghymru, fe deithiais ar saith o drenau, a dim ond un ohonyn nhw oedd ar amser. Mae’n bosib anwybyddu ambell beth sy’n tarfu, ond mae oedi fel hyn yn gwneud bywyd yn anodd iawn – a dyw pobl ddim yn fodlon ei dderbyn.”

Darllen mwy…

Simon Calder yw awdur ‘No Frills: The Truth Behind the Low-Cost Revolution in The Skies’, a gyhoeddwyd gan Virgin Books.

www.simoncalder.co.uk

Page 8: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

cymru.gov.uk/twristiaethAnsawdd Cymru7

Dewch i forio

Y fordaith berffaith?

Cinio yng Nghastell Caerdydd, golff yn y Celtic Manor a thaith o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru. I deithwyr ‘The World’ roedd arhosiad y llong yn dri diwrnod prysur iawn.

Roedd yr arhosiad yng Nghaerdydd yn ystod yr haf eleni yn ddim ond un o nifer i’r llong foethus, sydd allan ar y mor bob mis o’r flwyddyn. Hwyliodd i Wlad yr Iâ, Greenland ac yna i Ganada, ond roedd yr ymweliad gan ‘The World’ yn gam mawr ymlaen i ymgyrch Caerdydd i sefydlu ei hun o fewn teithlenni mordeithiau. Mae’r busnes mordeithio yn newydd i Gaerdydd, ond yn datblygu’n gyflym. Mae maint y llifddorau ar forglawdd Bae Caerdydd yn golygu mai dim ond llongau mordeithio bychain a chanolig all ddocio, ond gall llongau mwy – fel ‘The World’ angori y tu allan i’r morglawdd. Mae’r llong ychydig yn wahanol i’r llong fordeithio arferol, meddai Sally Edwards

Rhywle trofannol, ecsotig ac yn y Caribî mae’n debyg? Nid heddiw. Mae busnes yn ffynnu,

ac mae’r cwmni mordeithiau yn yr 21ain ganrif yn chwilio ymhellach am rhywbeth

gwahanol – a Chymru yn amlach yw’r ‘rhywbeth gwahanol’ y dyddiau hyn.

TWRISTIAETH

Hart, Rheolwr Gweithredol Twristiaeth yng Nghyngor Sir Caerdydd. Mae’n gartref i oddeutu 300 o deithwyr sy’n filiwnyddion, a phob un ohonyn nhw’n berchen ar eu rhan eu hunain o’r llong. Felly roedd yr ymweliad yn hwb mawr iawn i economi’r ddinas. “Mi welson ni nifer o fagiau siopa yn mynd ar y llong dros y tri diwrnod hwnnw,” meddai Sally. “Mae teithwyr ar fordeithiau yn gwario arian, a’r criw hefyd. Maen nhw’n dod i’r lan hefyd, yn prynu cyflenwadau, yn defnyddio caffis rhyngrwyd ac yn mwynhau eu hunain.” Eleni, mae’r ddinas wedi cael ymweliadau gan bedair llong mordeithio. Efallai nad yw hynny’n swnio’n llawer iawn, ond mae’n flwyddyn lwyddiannus arall i leoliad newydd ar raglenni mordeithiau. Mae hefyd yn llwyddo i ddenu diddordeb mawr y cwmnïau mordeithio. Mae hynny’n bennaf oherwydd safon y profiad y mae’r ddinas yn ei gynnig, meddai Sally: “Rydyn ni’n cael adborth gwych am atyniadau’r ddinas ac

am gyfeillgarwch y bobl, a phobl yn tynnu sylw at hynny bob tro.” Mae cyngor Caerdydd yn gweld manteision mawr i adeiladu ar y fasnach fordeithio. Ei amcangyfrif yw y gallai un ymweliad gan long fawr sy’n cludo 2,500 o deithwyr fod yn werth oddeutu £200,000 i’r economi leol. Mae llongau mordeithio yn cynnig manteision mewn mwy nag un ffordd. Y ffordd amlwg yw’r effaith uniongyrchol ar yr economi a ddaw o ganlyniad i’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu prynu gan deithwyr a chwmnïau mordeithio. Mae hynny’n golygu popeth, o’r cofroddion a’r teithiau mewn tacsi y mae teithwyr yn eu prynu yn ystod eu hamser ar y lan, i’r bwyd a’r tanwydd sy’n cael eu prynu ar gyfer y llong. Ond hefyd, ceir y fantais anuniongyrchol a ddaw pan fydd busnesau sy’n cyflenwi cwmnïau mordeithio’n uniongyrchol yn gwario eu harian. Ac, wrth gwrs, y ffaith fod gan bobl sy’n cael eu cyflogi – yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol

Page 9: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

[01]

Rhifyn 5, 2012 Ansawdd Cymru 8

Page 10: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

9 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

[ 03 ]

[ 02 ]

[01] [04] Y llong fordeithio

y Crown Princess

yn angori yng

Nghaergybi, Ynys Môn, [02] [03] y Saga Ruby

yn Aberdaugleddau,

Sir Benfro, a’r [05] bws

sy’n codi teithwyr

mordeithiau yng

Nghaergybi.

Nawr bod y cwmnïau yma’n dod yn ymwybodol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, mae cyfle i weld twf gwirioneddol, meddai Sue. “Mae cwmnïau mordeithio yn hoff o newid eu teithlenni bob ychydig o flynyddoedd i gadw pethau’n ffres, felly yr hyn y bydd un porthladd yng Nghymru’n ei gael un flwyddyn, dwi’n rhagweld y bydd porthladdoedd eraill yng Nghymru’n eu gweld yn fuan wedyn.” Yr hyn allai drawsnewid apêl Aberdaugleddau i gwmnïau mordeithiau fyddai’r hyn y mae’r busnes yn ei alw’n “ddocfa ochr yn ochr”, docfa y gall llongau mordeithio maint llawn ddocio yno gan ganiatàu i deithwyr gamu ar dir sych. Gyda docfa ochr yn ochr gallai Aberdaugleddau anelu at fod cystal â Chaergybi, sy’n boblogaidd iawn gyda mordeithiau sy’n ymweld â Chymru. Yn ystod 2011 bydd Caergybi yn croesawu 17 o longau mordeithio gyda chyfartaledd o ychydig o dan 1,000 o deithwyr y llong. Mae hynny’n fusnes da i dywyswyr teithiau yr ardal, fel Mandy Whitehead, o Ddeiniolen, ger Bangor. Mae tywyswyr sy’n gweithio ar eu liwt ei hunain fel Mandy yn arwain teithiau diwrnod a hanner diwrnod i deithwyr llongau mordaith, sy’n cael eu trefnu gan gwmnïau ar y tir. Fel arfer bydd y cwmni yn trefnu bob un o’r teithiau, gan gynnwys bysiau a thywyswyr, i bob un o ymweliadau’r llong â Phrydain. Meddai Mandy: “Dydy ni ddim yn hoffi cadw’r teithwyr ar fws am fwy na awr neu awr a hanner. Yn yr amser hwn gallwch gyrraedd Portmeirion, cestyll Caernarfon neu Gonwy, neu wneud cylchdaith o amgylch Eryri.” Mae anawsterau ymarferol, meddai Mandy, a allai gyfyngu ar dwf y busnes mordeithiau yn y dyfodol. Meddai: “Mae pobl yn tanbrisio pwysigrwydd pethau fel arlwyo a thoiledau i’r profiad cyffredinol. Tydi pobl ddim yn gallu mwynhau hanes a diwylliant os ydyn nhw eisiau bwyd, yn oer neu eisiau mynd i’r ty bach. Mae hynny’n mynd i fod yn bwysicach na dim arall.” Ond os ydy’r pethau ymarferol wedi’u trefnu, mae’r teithwyr fel arfer wrth eu boddau â’r hyn sydd i’w gael yng Nghymru, meddai. “Maent wrth eu boddau â’n hanes, ein diwylliant a’n hiaith.”

Ond os ydy’r pethau ymarferol

wedi’u trefnu, mae’r teithwyr

fel arfer wrth eu boddau

â’r hyn sydd i’w gael yng

Nghymru, meddai. “Maent

wrth eu boddau â’n hanes,

ein diwylliant a’n hiaith.”

– oherwydd y busnes mordeithio, fwy o arian i’w wario hefyd. Ystyriwch hynny ar raddfa fwy, ac mae’r ffigurau ar gyfer Cymru gyfan yn dwyn mwy o berswâd hyd yn oed. Dywedir fod pob ymweliad gan deithiwr mordaith yn cyfrannu £85 i’r economi leol, felly gall llongau mwy fod yn fusnes mawr i’r economi leol. Mae cyfanswm y gwariant gan deithwyr llong sy’n cludo 2,650 o deithwyr yn oddeutu €257,000 – neu tua £224,000. Ac mae’r arian hwnnw’n cael ei wario’n gyflym – fel arfer dim ond un diwrnod fyddai llong yn ei dreulio mewn porthladd. Y newyddion gwych i Gymru yw bod y farchnad fordeithio’n tyfu. Ar yr un pryd mae gan gwmnïau awydd i ddod o hyd i gyrchfannau newydd i demtio cwsmeriaid. Mae’r ffigurau gan CruiseBritain yn dangos bod 2010 yn flwyddyn lwyddiannus i deithwyr mordeithiau oedd yn aros ym Mhrydain. Roedd cyfanswm o 541,000 o ymweliadau – i fyny 21 y cant ers 2009 – a thros y saith mlynedd diwethaf mae cyfanswm yr ymweliadau wedi cynyddu mwy na 130 y cant. Mae cyfran Cymru’n parhau i fod yn fychan, ond mae posibiliadau anhygoel i ffynnu. Yn 2004, dim ond 3,000 o ymwelwyr aeth i borthladdoedd Cymru, tra bod y cyfanswm eleni yn agos at 22,000. Adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yw bwriad Cruise Wales, sy’n hyrwyddo Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, Aberdaugleddau, Abergwaun a Chaergybi i’r byd. Dechreuodd y cwmni yn 2004, ac mae’r bartneriaeth yn cynyrchioli porthladdoedd, rheolwyr cyrchfannau a Llywodraeth Cymru, ac yn gweithio’n glos â phartneriaid Môr Iwerddon a Phrydain i ddatblygu teithlenni. Sue Blanchard-Williams yw ysgrifennydd pwyllgor y grwp, sy’n Drefnydd Mordeithio Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Gwelodd bod y nifer oedd yn ymweld â’r porthladd yn Sir Benfro wedi codi o ddim ond dau neu dri y flwyddyn yng nghanol y ddegawd i saith eleni. Mae wedi bod yn ymdrech i werthu Cymru i’r diwydiant mordeithio, meddai Sue. “Mae’n rhaid imi chwilio am longau mordaith,” meddai. “Nid yw’n hawdd iawn, rydych yn delio gydag oddeutu 300 o gwmnïau ledled y byd.”

Dewch i forio

Y fordaith berffaith?

Page 11: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

[ 04 ]

[ 05 ]

10Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Darllen mwy…

Rhowch eich enw ar y rhestr i dderbyn e-gylchlythyr CruiseCymru, a dod i wybod mwy am gwmnïau mordeithio, porthladdoedd, teithlenni a chalendr mordeithio Cymru ar

www.cruisewales.visitwales.com

Y llong fordeithio fwyaf i alw ym mhorthladdoedd Cymru eleni oedd y ‘Crown Princess’, a angorodd yng Nghaergybi ym mis Mai, Mehefin ag Awst. Yn rhan o’r cwmni Princess Cruises, y ‘Crown Princess’ yw un o fflyd y cwmni o 17 llong a gall gludo 3,080 o deithwyr.

Caergybi yw yr unig borthladd yng Nghymru ar restr Princess Cruises o 102 o borthladdoedd Ewropaidd. Wrth werthu Caergybi i deithwyr posib, dyma ddywed Princess Cruises: “O’i gwreiddiau Celtaidd balch i’w chysylltiad parhaus â Brenhiniaeth Prydain, mae Cymru yn wlad sydd â chyfoeth o gelf, llen gwerin a phasiantri brenhinol.”

Mae’r teithiau sy’n cael eu cynnig i deithwyr yn ystod eu hymweliad ag Ynys Môn yn cynnwys taith o amgylch cestyll Biwmares a Chonwy a thaith i Bortmeirion.

I’r pegwn arall, dim ond 49 o deithwyr oedd ar yr ‘Hebridean Princess’ gan alw yng Nghaerdydd, Abergwaun ac Aberdaugleddau. Cafodd yr ‘Hebridean Princess’ ei llogi gan y Frenhines y llynedd ar gyfer gwyliau teuluol, a dywed y cwmni bod eu llong yn cynnig profiad sy’n “debycach i westy boutique ar y môr o ran maint ac awyrgylch”.

Mae’r llong yn teithio o amgylch Prydain a Ffrainc. Aeth i borthladdoedd Cymru fel rhan o fordaith 10 noson oedd hefyd yn cynnwys rhannau o Iwerddon ac arfordir gorllewinol yr Alban.

Dewch i forio

Y fordaith berffaith?

Page 12: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

11 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

LLUNDAIN 2012

Pryd fydd Llundain 2012 yn dechrau? Yr ateb amlwg i’r cwestiwn hwn yw’r seremoni agoriadol ar Orffennaf 27, ond y digwyddiad cyntaf un o’r chwaraeon “go iawn” fydd cicio pêl yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Bydd y gic gyntaf honno am 4pm ddydd Iau, 25 Gorffennaf, i ddechrau cystadleuaeth bêl-droed y merched. Bydd hefyd yn ddiwedd y cyfnod paratoadol hir iawn ar gyfer cyfnod tair wythnos y Gemau Olympaidd, gyda 12 diwrnod o Gemau Paralympaidd yn dilyn ddiwedd mis Awst. Bydd disgwyl i oddeutu 15,000 o athletwyr ddod i Lundain 2012 i gymryd rhan mewn 806 o gystadlaethau. Mae 28 o dimau’n ymwneud â’r cystadlaethau pêl-droed yn unig sy’n golygu y cynhelir 58 o gemau dros 18 diwrnod. Bydd Caerdydd yn cynnal oddeutu 11 o’r gemau hynny. Bydd chwaraewyr – rhai ohonyn nhw’n fyd-enwog – yn treulio amser yn hyfforddi yng nghaeau chwarae Prifysgol Caerdydd, Llanrhymni. Ond bydd cynnwrf 2012 yn cychwyn ymhell cyn y gic gyntaf. Bydd taith gyfnewid y fflam yn y newyddion yn ystod yr wythnosau cyn y seremoni agoriadol. Bydd yn dechrau yn Land's End ar 19 Mai ar daith 70 niwrnod trwy Brydain. Bydd y fflam

yn treulio ei noson gyntaf yng Nghymru yng Nghaerdydd ar 25 Mai cyn parhau i Abertawe, Aberystwyth a Bangor i aros dros nos yng Nghaer ar 29 Mai. Yn ystod ei thaith trwy Gymru, cynhelir digwyddiadau yn y gymuned i nodi’r daith. Cewch wybod mwy am lwybr y fflam a’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu ar www.london2012.com wrth i’r manylion gael eu cwblhau. Bydd y Fflam Baralympaidd yn dod i Gymru hefyd. Caiff Gwyl y Fflam Baralympaidd ei chynnal ddydd Llun, 27 Awst 2012. I gael rhagor o wybodaeth am Wyliau’r Fflam Baralympaidd ewch i www.london2012.com/paralympic-torch-relay. Bydd nifer o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol yng Nghymru yn 2012. Cofrestrwch yn www.london2012.com/localleaders. Bydd Gemau Olympaidd 2012 yn cael effaith yng Nghymru ymhell cyn i’r gemau ddechrau wrth i dimau gyrraedd ar gyfer hyfforddiant cyn y gemau. Hyd yn hyn, mae 16 o dimau chwaraeon ac aml-chwaraeon wedi ymrwymo i hyfforddi yng Nghymru cyn y Gemau gan gynnwys yr holl dimau Paralympaidd o Ranbarth Oceania. Mae’r rhestr yn cynnwys timau paralympaidd aml-chwaraeon o Awstralia a De Affrica a fydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd

a bydd athletwyr Seland Newydd yn aros yn Abertawe. Mae Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago hefyd wedi trefnu i’w tîm aros yng Nghaerdydd. Tra eu bod yn hyfforddi cyn y gemau, bydd yr ymwelwyr yn cael tipyn o effaith ar yr ardaloedd y byddant yn ymweld â hwy. Er enghraifft, gydag ymweliad Tîm Olympaidd Trinidad a Tobago, bydd cyfle i weld sêr; mae disgwyl i’r tîm gynnwys Richard Thompson, y rhedwr cyflym o Beijing enillodd fedal arian, ac sy’n debygol o fod yn un o’r heriau mwyaf i Usain Bolt yn 2012. Bydd yr athletwyr o Seland Newydd yn cynnwys Valerie Adams, pencampwraig bresennol y Gemau Olympaidd, Gemau’r Byd a Gemau’r Gymanwlad am daflu maen (shot put). Mae Lynn Davies, enillydd y fedal aur am y naid hir yn credu y bydd 2012 yn gyfle mawr i Gymru. Dywed seren gemau 1964: “Mae’n rhaid inni weld llwyfan Llundain 2012 fel cyfle anhygoel i’n cenedl fechan arddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig.” Chwiliwch am yr arddangosfa ‘Dilyn y Fflam’. Mae’n tynnu sylw at lwyddiannau athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd o Gymru dros y ganrif ddiwethaf ar ffurf darluniau, paentiadau, ffilmiau, theatr, cerddoriaeth a llawer mwy. Mae’n teithio o amgylch Cymru yn y cyfnod cyn y gemau. Am ragor o wybodaeth ewch i www.artswales.org.uk

Mabolgampau’r Byd

Mae digwyddiad chwaraeon

mwya’r byd yn cyrraedd

cynulleidfaoedd ledled y byd, a bydd

Cymru’n bendant yn rhan o’r wledd.

Page 13: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

12Ansawdd Cymru

[01] Carwyn Jones y Prif Weinidog yn llofnodi

memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Brian Lewis,

Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Olympaidd Trinidad

& Tobago yn ystod cystadleuaeth Cwpan Ryder yng

Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd.

[ 01 ]

Dywed Jon Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, mai gwir etifeddiaeth Llundain 2012 fydd sut y mae’n annog y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae Jon yn credu bod y ffaith bod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu cynnal “i lawr y ffordd” yn tanio dychymyg pobl ifanc. Mae’n rhywbeth mae wedi’i weld yn digwydd yn ystod gemau eraill ac mae ganddo’r pwer i newid bywydau.

Mae Cymru yn cyflawni’n well na’r disgwyl yn y Gemau Paralympaidd. Mae ein poblogaeth oddeutu un rhan o ugain o’r gwledydd sy’n aelodau, ond yn Beijing 2008 enillodd paralympwyr Cymru chwarter y medalau aur.

Dywedodd Jon “Mae’r llwyddiant hwnnw’n adlewyrchu’r sefyllfa ar lawr gwlad sy’n golygu y gall pobl ifanc sydd â diddordeb dderbyn cymorth ledled Cymru”. Mae hefyd yn credu bod y trefniant hwn yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o Gemau Olympaidd 2012.

“Mae’r cyfleoedd hyn i blant ag anableddau eisoes yn ein cymunedau,” meddai. “Felly gall plentyn sy’n gwylio’r gemau Olympaidd, sy’n digwydd bod yn defnyddio cadair olwyn ac sy’n dweud ‘Dwi am wneud hyn’ godi’r ffôn a gwneud i hynny ddigwydd.”

Rhifyn 5, 2012

Page 14: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

13

[01]

Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Page 15: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

14Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

ADDURNO MEWNOL

Awydd peintio?

Beth fyddwch chi’n ei wneud pan fydd ystafelloedd

eich adeilad yn dechrau edrych braidd yn ddi-raen?

Gafael mewn brwsh paent a dechrau peintio, neu gyflogi rhywun

i wneud y gwaith? I nifer cynyddol o fusnesau twristiaeth, yr ateb

yw cysylltu â chynllunydd cartref sy’n arbenigo yn y diwydiant.

Roedd yn amserlen anodd, fer a chaled, ac mae David James a Meinir Bowen yn cyfaddau bod tensiwm yn ystod y cyfnod. Ond i berchnogion Gwesty’r Castell, Aberaeron, pan ddaeth i adlewyrchu eu gwreiddiau yn ogystal â gyrfa David o amgylch y byd, dim ond un person oedd yn addas ar gyfer y gwaith.

Daeth Ann Hughes atynt â’i harbenigedd fel cynllunydd cartref ac fel cyd-berchennog Llety Bodfor yn Aberdyfi, ond roedd hefyd, yn ôl David yn “ferch leol. Aeth i’r ysgol gyda Meinir, rydyn ni’n ffrindiau, roedd yn gwybod pa mor bwysig oedd ein cefndir a’r ardal inni, ond hefyd fy nhri-deg o flynyddoedd yn teithio gyda’r llynges fasnachol.” Wedi bron i bum mlynedd yn y gwesty, penderfynodd y cwpl ei bod yn amser newid, gan roi dim ond wyth wythnos iddyn nhw eu hunain drawsnewid y caffi/bar a’r ystafelloedd gwely yn eu Hadeilad Rhestredig Gradd II yn y dref Sioraidd. “Ond roedd Ann wedi arfer gweithio o fewn amserlenni adeiladwyr, ac roedd ganddi’r cysylltiadau i ddod o hyd i

bopeth yr oeddym ei angen yn gyflym, ac agorodd y gwesty eto ar y dyddiad cywir ym mis Mawrth 2009,” meddai Meinir. Roedd David yn awyddus i ddod â thema Affrica i’r gwesty. “Roeddwn am gael awyrgylch Casablanca yn y caffi/bar, ond ar yr un pryd ei gadw’n Gymreig.” Daeth Ann o hyd i gaeadau pren ar y ffenestri, daeth o hyd i rhywle i osod piano ‘play it again Sam’, a phlanhigion. Ond fe brynodd ddodrefn Cymreig hynafol ar ebay, ac adnewyddu seddi capel y cwpl a’r llawr pren gwreiddiol. Roedd canolbwynt y caffi/bar yn fwy o broblem. “Roedd David eisiaiu bar crwm i adlewyrchu ei flynyddoedd ar y môr a hefyd oherwydd lleoliad y gwesty, ond teimlai Ann y dylid gwneud lle a chael rhywbeth yn erbyn y wal. Ond roedden ni’n benderfynol. Roedden ni’n teimlo bod y siâp yn ddeniadol ac y byddai’n annog pobl i gymdeithasu.” Mae’r bar bellach yn llwyddiant mawr gyda’r cwsmeriaid, fel yr ystafelloedd gwely newydd gyda’u dylanwadau Cymreig. “Roedd fy mam yn arfer bod yn berchen Melin Wlân Alltcafan ym MhentreCwrt”,

eglurodd David. “Felly mae gennym gysylltiad â hynny yn y pen gwely tapestri, a’r siolau nyrsio traddodiadol Gymreig ar y gwlâu, nifer o’r patrymau’n rhai gwreiddiol.” Roedd Meinir yn synnu at y ffordd y gallai Ann ddewis lliw a gwead, gan wneud awgrymiadau ymarferol ac ychwanegu manylion. “Gallai fod yn bapur wal i wneud yr ystafell yn fwy cysurus, wardrob o’r maint iawn, newid lleoliad y gwely neu ddolenni’r drysau neu ychwanegu llestri i ddal canhwyllau. Gwnaeth yr holl bethau na fydden ni wedi meddwl amdanyn nhw, wnaeth gymaint o wahaniaeth, ond ar yr un pryd gwrandawodd ar yr hyn yr oedden ni wedi meddwl amdanyn nhw. Roedd gennym farn gadarn, ac roedd yn ei pharchu. Roedd yn bartneriaeth go iawn.” Mae David yn cytuno, ac yn dweud bod cyflogi Ann yn bendant yn “werth yr arian. Bu cynnydd o 30-40% mewn busnes yn yr ystafelloedd ac mae’r gwesty wedi mynd o dair seren i bedair seren. Mae pobl yn dweud wrthon ni gymaint y maen nhw’n ei hoffi.”

Page 16: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

15 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Pan gyflogodd Noella Nicholas gynllunydd mewnol, roedd yn teimlo, meddai hi, fel ei bod wedi methu. “Oeddwn i mor anobeithiol nad oeddwn i’n gallu dewis lliw paent, clustog neu benderfynu ble i roi llun neu darn o ddodrefn?” Roedd perchennog Scolton Country Cottages, ger Hwlffordd yn Sir Benfro, hefyd yn poeni y byddai ei dymuniadau – heb sôn am ei chyllideb – yn cael eu hanwybyddu ac y byddai’r deg adeilad fferm o garreg oedd yn ganrifoedd oed yn cael eu trawsnewid ac yn colli eu cymeriad. “Doeddwn i ddim am wario llawer o arian ar gael gwared ar bopeth, a’u hadnewyddu, a chael rhywbeth a edrychai fel tai newydd.” Ond wedi cyfarfod Linda Hunt y cynllunydd mewnol, tawelodd meddwl Noella – a chafodd ei hysbrydoli. “Dyma’r ddwy awr orau imi eu treulio ers amser maith.” Arolygwr graddio a awgrymodd i Noella ddechrau’r flwyddyn y byddai o fudd iddi ddiweddaru’r adeiladau. “Fel perchennog mae’n hawdd mynd i’r arferiad o gynnal a chadw, boed hynny’n golygu gwneud yn siwr fod pethau’n gweithio neu beintio rhywle, ac i beidio â sylwi ar yr addurno llai sy’n ei wneud yn amlwg i gwsmeriaid, sy’n disgwyl mwy a mwy, faint o amser sydd ers ichi eu hadnewyddu.” Rhoddodd Linda sicrwydd i Noella y gellid gwneud llawer o’r hyn oedd eisoes yno, gan gadw’r carpedi er enghraifft, ac ychwanegu rhai newidiadau bychain am bris rheysmol. “Llwyddodd i’m hargymell i hefyd i ddechrau gydag un bwthyn cyfan, yn hytrach na’r

Bu cynnydd o 30-40% mewn

busnes yn yr ystafelloedd ac

mae’r gwesty wedi mynd o dair

seren i bedair seren. Mae pobl

yn dweud wrthon ni gymaint

y maen nhw’n ei hoffi.”

Awydd peintio?

Codwch frwsh paent ac ymlaen â chi.

[01] Meinir Bowen y perchennog y tu ôl i’r bar

yng Ngwesty’r Castell, Aberaeron [02] [03] [04], a

Noella Nicholas [07] yn ei busnes, Scolton Country

Cottages, ger Hwlffordd, Sir Benfro [05] [06] [08].

[ 02 ] [ 03 ] [ 06 ]

[ 05 ]

[04 ]

Page 17: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

16Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[ 06 ]

[ 08]

Darllen mwy…

Mae’r cwmni Ann Hughes Design yn cael ei redeg gan Ann Hughes a’i phartner Gareth. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Aberdyfi, Gwynedd.

www.annhughesdesign.co.uk

Mae busnes Linda Hunt, Meigan Design, ym Moncath, Gogledd Sir Benfro.

www.meigandesign.co.uk

Sut ydych chi’n cael y gorau o’r lliwiau rydych chi’n eu dewis? Dyma gynghorion gorau’r cynllunydd Linda Hunt:

Mae dwy rhan o bump o’r paent sy’n cael ei brynu yn ganlyniad y dewis anghywir y tro cyntaf. Defnyddiwch samplau, rhowch nhw’n sownd i’r wal, neu defnyddiwch nhw ar y wal neu’r nenfwd perthnasol gan wneud yn siwr eich bod yn eu gadael yno am o leiaf 24 awr, fel y gallwch chi weld yr effaith yn ystod y dydd a phan fyddwch yn troi’r golau ymlaen gyda’r nos.

Gwnewch i liwiau sylfaenol – coch, glas a melyn – weithio i chi. Peidiwch â gwastraffu golygfa wych gyda llenni coch llachar sy’n gwneud i’r llygad aros o fewn yr ystafell. Ond byddai un wal yn ddigon pell o’r ffenestr sydd wedi’i phapuro gan ddefnyddio’r lliwiau hynny yn, er enghraifft, tynnu sylw i ffwrdd o ffenestr sy’n edrych dros le parcio.

Dewiswch liwiau niwtral yn ofalus. Gallant fod yn oer neu’n gynnes ac mae mwy na 50 o liwiau gwyn gwahanol. Os y defnyddiwch liwiau oeraidd, fel llwyd, mewn ystafell sy’n wynebu’r gogledd, does dim gobaith iddi deimlo’n gynnes. Mewn ystafell heulog sy’n wynebu’r de, mae lliwiau niwtral oeraidd yn cyfrebynnu’r golau hwnnw, ond ni fyddai lliw niwtral cynnes, fel llaeth enwyn, yn edrych cystal.

Ceisiwch wneud yn siwr fod eich prif liwiau yn edrych yn goeth yn hytrach na’n ffasiynol. Os ydych am adlewyrchu tueddiadau tymhorol, prynwch ategolion rhad yn y lliwiau hynny.

ystafelloedd gwely i gyd ym mhob un o’r bythynnod fel yr awgrymais i i ddechrau.” Nid oes gan Noella lawer o amser i siopa ar gyfer cynllunio mewnol y bythynnod, gan ei bod yn gofalu am y 10 bwthyn a “does gen i ddim llawer o hyder pan welaf y dewis sy’n ddigon i’ch drysu. Gallai hynny olygu llawer o wastraffu amser ac arian. Mae Linda yn arbed yr holl waith a’r pryder hwnnw. Nid oes unrhyw gamgymeriadau, ac mae’n dod o hyd i’r pethau iawn yn gyflym, felly mae’n gost effeithiol iawn.” Cafodd y gwelyau eu gwella trwy gael gwared ar y dillad gwely blodeuog a phrynnu rhai plaenach, ac ychwanegodd Linda i’w hapêl trwy ychwanegu clustogau a blancedi mewn defnydd siec cyferbyniol sy’n edrych yn lanach. Mae waliau’r bythynnod, oedd wedi’u peintio mewn lliw magnolia drwyddynt i’w cadw’n syml, wedi’u papuro ar ambell wal i greu effaith, ac mae bleindiau a drychau wedi gwella’r ystafelloedd molchi, ac mae ystafell fechan yn ymddangos yn oleuach gan bod paent gwyn sy’n cyferbynnu ychydig â’u gilydd wedi’u defnyddio ar y nenfwd a’r trawstiau. Ac yn hytrach na newid y golau pres, defnyddiwyd tun o baent chwistrellu du mat i’w newid heb wario llawer. Defnyddiodd liwiau a defnyddiau i adlewyrchu’r coetir gerllaw hefyd, ac i roi naws y lle. Mae Linda’n gweithio gyda’r graddwyr felly mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen i gael y gorau o’ch eiddo. Mae ambell gwsmer rheolaidd sydd wedi gweld y bwthyn bron â’i gwblhau yn methu credu bod y fath drawsnewidiad. Ond fyddai ddim wedi bod yn bosib imi wneud hyn ar ben fy hun. Mae Linda wedi fy rhoi ar y trywydd iawn ac rydw i wedi mwynhau pob munud.”

[ 07 ]

Page 18: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

17 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Caws

Cyfraniad

mwyaf Cymru

i’r byd coginio?

[01] Caws Gorwydd

Caerffili o Hufenfa

Trethowan, ger

Tregaron, Ceredigion, a [02] [03] chaws Cenarth

Aur, gan Caws

Cenarth, Llancych, ger

Castellnewydd Emlyn,

Sir Gaerfyrddin.

[ 01 ]

Mae’r math o gwestiwn a allai ddechrau ffrae. Neu o leiaf sgwrs ar ôl cinio. Mae’n gystadleuaeth gyfartal mae’n debyg rhwng y bwydydd arferol. Mae cig eidion a chig oen bron yn bendant yn ffefrynau, tra byddai’r cyfuniad o gocos, bacwn a bara lawr yn bosibilrwydd arall. Ond pan ddaw i ennill gwobrau, mae cawsiau Cymru yn dod i’r amlwg. Gyda digon o ddewis o gawsiau gwych rydyn ni wedi dewis ein saith gorau o gawsiau a ennillodd wobrau yn ddiweddar, detholiad sy’n profi bod gwneuthurwyr caws Cymru ymhlith y goreuon.

Page 19: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

18Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[ 02 ]

[03 ]

Gorwydd Caerffili

Llaethdy Trethowan, ger Tregaron, Ceredigion Yr unig gaws Caerffili yn y pentref! (sydd wedi’i wneud yn Llanddewi Brefi), mae Gorwydd yn bopeth y byddech yn ddisgwyl ei gael o gaws Caerffili traddodiadol, er efallai ychydig yn felysach a mwy hufenog. Mae’n ffefryn yr arbenigwyr bwyd, gan gynnwys Nigel Slater a Phil Vickery (“y caws Caerffili gorau imi ei fwyta er amser maith”). Roedd yn ffefryn hefyd gan y beirniaid yng Ngwobrau Caws y Byd 2010, ble yr enillodd dlws Llywodraeth Cymru am y Caws Cymreig gorau. www.trethowansdairy.co.uk

Cenarth Aur

Caws Cenarth, Glyneithinog, Llancych, ger Castell Newydd Emlyn, Sir GaerfyrddinCaws meddal, ag arogl cryf a blas hynod, y Cenarth Aur yw prosiect personol Carwyn Adams, yn o arwyr bwyd Rick Stein. Y caws yw’r ychwanegiad diweddaraf i gyfres Caws Cenarth, ac nid yw’n gaws ar gyfer y gwan galon. Roedd y beirniaid yng Ngwobrau Cawsiau Prydeinig 2010 yn hoff iawn ohono fodd bynnag, ble y cafodd ei ddewis, o 170 o gawsiau, i fod yn Brif Bencampwr y flwyddyn. www.cawscenarth.co.uk

Page 20: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

19 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

[ 07 ]

[04 ]

[ 06 ]

[ 05]

Caws

Cyfraniad mwyaf Cymru i’r byd coginio?

Caerffili

Hufenfa De Caernarfon, Chwilog, Pwllheli, GwyneddSefydlwyd y busnes hufenfeydd yn 1938, ac mae’n fenter gydweithredol gan ffermwyr. Mae llaeth o ffermydd aelodau o amgylch Eryri, Ynys Môn a Llyn yn mynd i wneud amrywiol gawsiau, gan gynnwys Caerffili, a ddewiswyd gan y beirniaid fel y gorau yn ei adran yng Ngwobrau Caws Prydain 2010. www.sccwales.co.uk

Caws Cheddar Organig Hafod

Bwlchwernen Fawr, Llangybi, Ceredigion Fel awdur ‘Cheese Course’, mae Fiona Beckett ysgrifennydd bwyd y Guardian yn llawn gwybodaeth. Mae’n byw ar yr ochr anghywir o’r Hafren, dafliad carreg o’r Cheddar Gorge, ond yn ddiweddar dywedodd mai Hafod oedd ei hoff gaws cheddar. Yn enillydd gwobr aur Gwir Flas, mae’n cael ei gynhyrchu ymhell o ardal Cheddar yn Bwlchwernen Fawr, ger Llanbed, gan bâr priod, Sam a Rachel Holden. www.hafodcheese.co.uk

Caws Teifi

Fferm Glynhynod, ger Llandysul, CeredigionCaws Teifi yw Cynnyrch y Flwyddyn Gwir Flas 2010/11, ac mae’n gaws Cymreig sydd â dylanwad yr Iseldiroedd – symudodd John Savage-Onstwedder, a grëodd y caws, o’r Iseldiroedd ble y’i ganwyd i wneud caws yn Fferm Glynhynod, Ffostrasol, ar ddechrau’r 80au. Aelod amlwg o’r crefftwyr cawsiau Cymreig newydd, mae John yn defnyddio llaeth o safon uchel, heb ei bastureiddio, o dir pori ffrwythlon y Teifi, i gynhyrchu caws y disgrifiodd beirniaid Gwir Flas ef fel caws oedd â “blas da cyfoethog”. www.teifivalleycheeseproducers.com

Page 21: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

Cheddar Blaenafon

Blaenafon, TorfaenMae aeddfedu caws i lawr siafft pwll glo 300tr yn ffordd wych o aeddfedu cheddar – ac i gyrraedd gwythïen gyfoethog treftadaeth ddiwydiannol y Cymoedd. Mae cysylltiad Cwmni Cheddar Blaenafon ag Amgueddfa Lo Genedlaethol y Pwll Mawr wedi gweithio gan i bobl ddod i glywed am y brand newydd. Ond ansawdd y cawsiau sydd wedi sefydlu ei enw da – yn fwyaf diweddar gyda’r beirniaid yn Sioe Frenhinol Cymru, ble enillodd Blaenafon Cheddar Co dair gwobr aur am eu cynnyrch â blas. www.chunkofcheese.co.uk

20Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[04] [07] Caws Teifi, sydd wedi ennill gwobrau,

o Fferm Glynhynod, ger Llandysul,

Ceredigion, [05] Caws Mwg Llangloffan, o

Gwmni Caws Sir Gaerfyrddin, Llanllwch, Sir

Gaerfyrddin, a [06] chaws Blaenafon Cheddar

o Gwmni Cheddar Blaenafon, Torfaen.

Llangloffan Mwg

Neuadd Boksburg, Llanllwch, Sir GaerfyrddinCafodd Llangloffan ei greu gan Leon Downey, y cerddor a drôdd yn wneuthurwr caws yn ei fferm yng Ngogledd Sir Benfro ar ddiwedd y 70au. Wedi blynyddoedd o ennill gwobrau, penderfynodd Leon ymddeol o’r busnes o wneud caws yn 2006, ond maen nhw’n parhau i ennill gwobrau. Bellach, Cwmni Caws Sir Gaerfyrddin sy’n gwneud y caws, ac enillodd gaws Llangloffan Mwg y cwmni wobr aur yng ngwobrau Gwir Flas 2010/11.

Darllen mwy…

Cynhelir Gwyl Gaws Fawr Prydain yng Nghastell Caerdydd bob hydref. Am fanylion digwyddiad 2012, ewch i

www.greatbritishcheesefestival.co.uk

Page 22: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

21 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Dechreuodd Iain a Wilma Roberts ofalu am Westy Ty Newydd yn Aberdaron ym Mhen Llyn yn 2006. Mae’r cymorth gawson nhw wedi chwarae rhan bwysig yn adfywiad y pentref glan y môr.

Faint o grant gafwyd a beth dalodd y grant amdano?Roedd y grant am bron i £300,000. Roedd ar gyfer adnewyddu y llawr cyntaf a’r ail lawr yn gyfan gwbl. Roedd y gwesty ym mlaen yr adeilad ac yn y cefn, wedi’i gysylltu gan ran unllawr â tho fflat. Codwyd hwnnw gennym a’i wneud yn lletach, gan ychwanegu’r llawr cyntaf a’r ail, a’r coridor cyswllt, gan fynd â’r esgynnydd i fyny i’r ail lawr. Adnewyddwyd yr 11 ystafell wely a’r ystafelloedd molchi hefyd.

Sut mae hyn yn gwella beth sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr?Golygodd y cymorth hwn bod modd inni orffen y gwaith yn iawn. Roedd 12 ystafell yn y gorffennol, ond dim ond pump oedd ag ystafelloedd molchi, ac roedd rhai ohonyn nhw’n fach iawn. Roedd gan y perchennog blaenorol fflat o fewn y gwesty hefyd, felly cafodd hwnnw ei wneud hefyd. Bellach mae

Wrth i gynllun newydd i roi cymorth buddsoddi i fusnesau

twristiaeth ddatblygu cefnogaeth Croeso Cymru i’r sector, mae

Ansawdd Cymru yn clywed gan ddau fusnes sydd wedi derbyn

cymorth yn y gorffennol.

Cynllun Cymorth

Help i fusnesau

BUDDSODDI

[01 ]

[02 ]

[01] Ers prynu

Gwesty Ty Newydd,

Aberdaron, mae Iain

a Wilma Roberts wedi

treulio amser ac arian

yn gwella’r adeilad

sydd ar lan y môr [02] [03] [04] [05].

Page 23: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

22Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[ 03 ]

[ 05 ]

[ 04 ]

Darllen mwy…

Mae Gwesty Ty Newydd yn edrych dros y traeth yn Aberdaron, Gwynedd.

www.gwesty-tynewydd.co.uk

digon o le ym mhob un o’r ystafelloedd, a llwyddodd y pensaer i drefnu pethau fel bod gan bob ystafell olygfa o’r môr.

Fu hwn yn fuddsoddiad da?Roedd yn fuddsoddiad da i’r ardal gan nad oedd y gwesty wedi gwneud unrhyw beth ers blynyddoedd maith. Roedd ar gau dridiau yr wythnos, boed rheiny’n wyliau banc neu beidio, felly gallwch ddychmygu yr effaith a gafodd ar yr ardal. Roedd y pentref wedi dirywio, ac yn gwaethygu, ond bellach mae adfywiad. Mae Aberdaron yn deffro. Ffilmiwyd drama gan S4C yma y gaeaf diwethaf, ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol newydd brynu maes parcio a oedd yn arfer bod mewn dwylo preifat. Mae bellach ar agor 24/7 yn hytrach nac ar gau am 7 y nos, oedd ddim yn llawer o help inni.

Pa mor bwysig yw cymorth y talwr trethi i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru? Dwi’n credu ei fod yn bwysig iawn. Mae gennym dipyn golew o adeiladwyr, ac mae’n anodd gweld ble arall y bydden nhw’n cael eu gwaith heb dwristiaeth. Mae’r arian yna’n lledaenu i’r gymuned.

Beth sy’n wych am dwristiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd?Yr amrywiaeth sydd gan Gymru i’w gynnig. Yn Aberdaron, mae gennym yr arfordir, yna o fewn 40 milltir mae Eryri. Nid oes yn rhaid ichi deithio mor bell â hynny o’r traeth i fynd i ddringo bryniau neu fynd i rafftio dwr gwyn. Mai’n wlad gymharol ddiogel, sydd dwi’n credu yn ffactor i dwristiaid wrth archebu gwyliau.

Page 24: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

23 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Roedd grant a roddwyd i Westy’r Lake Vyrnwy yn Llanwddyn, Powys, wedi ariannu yn rhannol ailwampiad mawr – a ddisgrifiwyd gan y perchennog Anthony Rosser fel “llwyddiant ysgubol”.

Faint o grant gafwyd a beth dalodd y grant amdano?Roedd y grant yn £750 o filoedd, gan fod yn rhan o brosiect £2.3 mil i adeiladu estyniad o 14 o ystafelloedd o safon gyda balconi, ehangu'r rhan cynadledda a gweldda – gan gynnwys lle arbennig a hunan-gynhwysol ar gyfer priodasau – ac adeiladu sba gyda sauna, pwll sba, ystafell stêm, cawodydd profiad a dwy ystafell driniaethau.

Sut mae hyn wedi gwella beth sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr? Y bwriad oedd gwneud y gwesty presennol 30 y cant yn fwy, ychwanegu cynnyrch newydd a rhoi y busnes ar lefel a allai fod yn ddiogel yn fasnachol ar gyfer y dyfodol. Bydd y busnes yn gwerthu ymhell dros 22,000 gwely y flwyddyn hon, sydd fel cael oddeutu 11,000 o bobl yn dod i aros dros nos yn y dyffryn.

Fu hwn yn fuddsoddiad da?Bu’r prosiect yn llwyddiant mawr. Mae trosiant wedi codi 34 y cant ac mae’r busnes yn parhau i dyfu, er gwaetha pwysau y dirwasgiad. Yn bwysicaf oll, pan ddaw’r dirwasgiad i ben, bydd y gwesty mewn sefyllfa wych i gymryd mantais o’r gwelliant hwn. Pe na fuasai’r arian yma wedi’i fuddsoddi, ni fyddai’r prosiect ehangu wedi digwydd, ac rydyn ni’n credu y byddai’r busnes yn ei chael yn anodd i dyfu bellach.

Pa mor bwysig yw cymorth y talwr trethi i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru?Gyda’r newidiadau demograffig a’r newidiadau i arferion gweithio yng nghefn gwlad Cymru, mae Gwesty’r Lake Vyrnwy bellach yn sbardun economaidd i ran sylweddol o gefn gwlad Cymru. Caiff dros 90 o bobl eu cyflogi yma, a bydd mwy na £1 miliwn yn cael ei dalu mewn cyflogau eleni a channoedd o filoedd o bunnoedd o wariant sylfaenol ac eilaidd yn cael ei ledaenu i’r economi leol. Rydyn ni wedi llwyddo i gynnig gwaith go iawn gyda lle aros safonol, rhagolygon gyrfa a hyfforddiant i bobl leol. Mae gennym sawl enghraifft o feibion a merched teuluoedd ffermio lleol yn gweithio yn y gymuned y cawson nhw’u magu ynddi.

Beth sy’n wych am dwristiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd?Mae’n hawdd ei gyrraedd ac yn ffasiynol, gan gynnig rhai o’r bwydydd a’r adnoddau naturiol gorau. Ac, os ydych yn byw ym Mhrydain, nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio maes awyr fel arfer i gyrraedd yma.

Mae’n hawdd ei gyrraedd ac yn

ffasiynol, gan gynnig rhai o’r

bwydydd a’r adnoddau naturiol

gorau. Ac, os ydych yn byw ym

Mhrydain, nid oes yn rhaid ichi

ddefnyddio maes awyr fel arfer

i gyrraedd yma.

Cynllun Cymorth

Help i fusnesau

Mae cymorth grant

Croeso Cymru wedi

galluogi Gwesty’r Lake

Vyrnwy [01] Llanwddyn,

Powys, i wella’r

ystafelloedd gwely [02]

a’r cyfleusterau [03] [05] [06]. Bu’n ‘llwyddiant

ysgubol’, meddai’r

rheolwr cyffredinol

Anthony Rosser [04]..

[02]

[ 03 ]

Darllen mwy…

Mae gwesty pedair seren y Lake Vyrnwy Country House Hotel ar lannau Llyn Fyrnwy, Powys.

www.lakevyrnwy.com

[01 ]

Page 25: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

24Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[05]

[ 04]

C. Beth yw’r cymorth newydd sydd wedi’i sefydlu?

A. Ei enw yw Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS).

C. Faswn i’n gymwys i dderbyn cymorth?

A. Os oes gennych fusnes twristiaeth ar hyn o bryd, neu eich bod yn ystyried sefydlu menter newydd, cewch holi y tîm TISS yn uniongyrchol.

C. Faint ddyliwn i wneud cais amdano?

A. Isafswm y grant yw £5,000 a’r uchafswm yn £300,000. Gallai uchafswm y cymorth sy’n cael ei ganiatàu amrywio gyda lleoliad a maint busnes yr ymgeisydd.

C. Pa gyfran o gostau prosiect sy’n cael ei dalu gan TISS?

A Os ydych yn llwyddiannus ni fyddai’r cymorth sy’n cael ei gynnig fel arfer yn fwy na 25 y cant o gyfanswm costau’r prosiect.

C. Beth mae TISS yn debygol o’i gynorthwyo?

A Y brif nod yw darapru cyfleusterau o safon, i ychwanegu gwerth a gwella perfformiad busnesau, a phrofiad yr ymwelydd. Dim ond os mai nod y canlyniad yw datblygu economi twristiaeth Cymru fydd prosiect i greu mwy o gapasiti yn cael ei ystyried.

C. Oes yna unrhyw amodau?A. Os bydd cymorth yn cael ei gynnig,

bydd nifer o feini prawf/amodau safonol. Ble y bo’n briodol, gofynnir i’ch busnes gyrraedd a chynnal

gradd ansawdd neu achrediad Croeso Cymru, ac i gymryd rhan yn rhaglen Croeso Cynnes (cynllun hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid a naws am le).

C. Pryd fydd grant yn cael ei dalu?A. Os fydd eich cais yn llwyddiannus,

byddwn yn anfon ‘llythyr o gynnig’ atoch sy’n rhoi amlinelliad o delerau ac amodau’r cymorth sy’n cael ei gynnig. Wedi ichi dderbyn y cynnig yn ffurfiol, bydd swyddog monitro yn cael ei neilltuo ichi, fydd yn prosesu eich cais yn ffurfiol. Mae’r grantiau’n cael eu talu fel arfer mewn rhandaliadau sy’n cael eu nodi’n glir yn y cynnig.

Wrth i Ansawdd Cymru fynd i’r wasg, cyhoeddodd y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth gyfle buddsoddi ‘un tro’ i fusnesau twristiaeth bach a chanolig ar draws Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf y gellir eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2012. Mae’r fenter ‘Adeiladu ar gyfer 2012’ yn cynnig hyd at 40 y cant o gostau cymwys i roi prosiectau ar waith erbyn y dyddiad cau.Mae’r broses ymgeisio yn syml a chyflym ac mae modd cael manylion ar dudalennau’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth trwy glicio ar y ddolen isod.

[ 06]

Darllen mwy…

I ddod i wybod mwy ffoniwch 0845 010 8020 neu anfonwch e-bost at [email protected]

wales.gov.uk/tourism

Page 26: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

25 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

HYFFORDDIANT

Pobl ifanc brwdfrydig

O’r rhaglen deledu ‘The Apprentice’

i ‘Michel Roux’s Service’ y nod yw cael

y droed gyntaf honno ar yr ysgol.

Ond ymhell o’r sgrîn fach, mae pobl ifanc mwyaf dawnus a thalentog Cymru yn

dangos yr un math o angerdd ac ymrwymiad. Bu Ansawdd Cymru yn cyfarfod tri

o sêr ieuengaf Cymru, i glywed sut y bu iddyn nhw ddewis eu gyrfa, sut brofiad

yw dysgu crefft, a’r hyn y maen nhw’n obeithio ar gyfer y dyfodol.

Cafodd Adam Middleton, 22, ei goroni’n Gogydd Ifanc Cymru yn gynharach eleni. Mae Adam yn gweithio yng Ngwesty Maes-y-Neuadd, Talsarnau, Harlech, a bydd yn cynrychioli Cymru yn Ne Korea y flwyddyn nesaf.

Pam wnes di benderfynu bod yn gogydd?Doedd o ddim yn rhywbeth oeddwn i eisiau ei wneud erioed; digwydd mynd iddo wnes i. Oni’n gweithio’n rhan amser mewn

bwyty yng Nghaerlyr, ac aeth hynny â fi i goleg arlwyo. Wnes i sylweddoli ei fod yn un o’r swyddi hynny ble rydych yn dysgu rhywbeth newydd drwy’r amser, oedd yn syndod imi. Mae mwy nag un maes i fynd iddo, ac roedd hynny’n ddiddorol.

Sut ges di’r droed gynta’ ar yr ysgol?Gofynnwyd imi wneud profiad gwaith yng Ngwesty Maes-y-Neuadd, yna cynigiodd Peter (Jackson, pennaeth a chogydd Maes-y-Neuadd a chadeirydd Cymdeithas Coginio Cymru) swydd imi. Yna ês yn ôl i’r coleg i ennill cymhwyster arall, NVQ Lefel 3.

Pa brofiadau wyt ti wedi dysgu ohonyn nhw, a sut brofiad oedd cael dy hyfforddi? Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, a dwi wedi gwneud digon o’r rheiny! Mi oedd yr hyfforddiant yn wych. Mae pawb yn gweld pethau ychydig yn wahanol, a dwi di dysgu gan bawb rydw i di gweithio â nhw. Mae’n gallu bod ‘chydig yn anodd

pan nad yda chi’n dod ymlaen efo rhywun, ond mae’n rhaid ichi fod yn bendant eich barn. Roedd ennill Cogydd Ifanc Cymru yn hwb go iawn. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, gan mod i’n feirniadol iawn ohono fy hun, ond mi roddodd hynny yr hyder roeddwn i ei angen. Dwi hefyd wedi dysgu llawer trwy fynd o’r coleg i fyd gwaith.

Ble wyt ti eisiau bod mewn 10 mlynedd?Dwi isho bod yn athro yn y pen draw. Yn y cyfamser, mi faswn i’n hoffi mynd allan a gwneud cymaint ag y gallai, gan weithio mewn cymaint o lefydd â phosib.

Be wyt ti’n ei wneud i ffwrdd o’r gwaith?Mi oni’n arfer gwneud llawer o chwaraeon fel criced, pêl-droed a golff, ond yna roedd y coleg yn cymeryd fy amser i gyd, a bellach does gen i ddim amser i unrhyw beth ar wahân i waith. Coginio ydy mywyd i.

Page 27: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

26Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[01]

Page 28: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

27 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Mae Kristian Fuchs, 20, yn rhedeg y Silverdale Inn yn Johnston, Sir Benfro, gyda’i dad Werner. Mae’r gwesty 21 ystafell yn cynnwys tafarn boblogaidd sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac mae’r tad a’r mab ar fin lasnio bwyty newydd ar y safle.

Pam wnes di benderfynu bod yn gogydd?Dwi wedi bod yn gysyllteidig â’r busnes erioed, gan ein bod ni’n byw ar y safle. Roeddwn i’n coginio llawer yn y gegin efo dad, a fy mam Connie. Mi gafodd ganser ar y fron, a llwyddodd i ddod drwyddi, ond yna cafodd ganser yr ysgyfaint pan oeddwn i tua 14. Roedd yn rhaid imi dyfu i fyny’n sydyn iawn, a gwneud llawer drosof fy hun; yn lle hi yn golchi fy nillad i, roedd pethau’r ffordd arall rownd.

Sut ges di’r droed gynta’ ar yr ysgol?Gwnes NVQ Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Benfro. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn roedd gen i swydd rhan-amser yn Solfach, yn ogystal â gweithio o gartref. Tra roeddwn i’n y coleg, enillais fwrseriaeth i fynd i Coworth Park yn Ascot am chwe mis, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny.

Pa brofiadau wyt ti wedi dysgu ohonyn nhw, a sut brofiad oedd cael dy hyfforddi?Roedd Ascot yn wyllt. Allwn i ddim credu faint oni wedi’i ddysgu wrth weithio efo cogyddion o’r safon uchaf. Mi wnes i ddysgu llawer yn y

coleg, ond roedd hyn ar lefel hollol wahanol. Roedd yn waith caled iawn, yn gweithio 16-18 awr y dydd, ond dysgodd imi sut i weithio mewn tîm, sut i weithio o dan bwysau, a sut i ymddwyn yn broffesiynol. Mi wnes i hefyd ddysgu ymrwymiad ac ymroddiad, gan mod i’n codi mor gynnar yn y bore. Dwi hefyd wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, fel Rownd Derfynol Cymru ar gyfer Sgiliau Prydain a Phencampwriaeth Coginio Cymru, a does dim amheuaeth eu bod yn agor nifer o ddrysau.

Ble wyt ti eisiau bod mewn 10 mlynedd?Dwi wir eisiau dod â bob dim dwi wedi’i ddysgu yn ôl i Sir Benfro, a rhoi popeth i mewn i’r bwyty. Dwi’n hapus ble’r ydw i ar hyn o bryd, ond dwi yn teimlo mai gwaith i ddyn ifanc ydy hyn. Yn Ascot, roedd mwyafrif helaeth staff y gegin yn eu hugeiniau. Yr unig bobl oedd tua 40 oed oedd y prif gogyddion.

Beth wyt ti’n ei wneud i ffwrdd o’r gwaith?Dwi’n gweithio o 6 y bore tan 1 y bore saith niwrnod yr wythnos, felly mai’n anodd cael bywyd y tu allan i’r gwaith. Fedra i ddim cynllunio petha. Pan na fydda i’n gweithio dwi’n trio meddwl am syniadau newydd, yn cwcio bob diwrnod i nhad ac yn aml i nain. Dwi wedi rhoi fy hun, galon ac enaid i hyn, ond allwch chi ddim ei ystyried fel swydd mewn gwirionedd; mae’n ffordd o fyw.

Roedd Ascot yn wyllt. Allwn

i ddim credu faint oni wedi’i

ddysgu wrth weithio efo

cogyddion o’r safon uchaf.

Pobl ifanc brwdfrydig

Cael y droed gyntaf honno ar yr ysgol

[01] Adam Middleton

yw Cogydd Ifanc

Cymru. [02] Mae

Kristian Fuchs bellach

yn gweithio fel Prif

Gogydd gyda’i dad

Werner yn Nhafarn

y Silverdale [04]. [03] Mae Ffion Lewis

yn gobeithio rhedeg

ei busnes ei hun cyn

troi’n 30.

[ 02 ] [ 03 ]

[ 04 ]

Page 29: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

28Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Pobl ifanc brwdfrydig

Cael y droed gyntaf honno ar yr ysgol

[ 03 ]

Darllen mwy…

Os ydych yn awyddus i gael gwybodaeth am yrfaoedd a hyfforddiant, man cychwyn da yw gwefan Gyrfa Cymru.

www.careerswales.com

Mae Ffion Lewis, 19, yn astudio Coginio Proffesiynol yng Ngholeg Powys yn y Drenewydd. Eleni hi oedd yr unig ymgeisydd benywaidd yn y rownd derfynol Coginio a Gweini, ble y daeth hi a’i phartner, Dave Johnson, yn ail.

Pam wnes di benderfynu bod yn gogydd?Dwi wedi ymddiddori mewn coginio a bwyd ers imi fod yn blentyn. Dwi wedi mwynhau pobi a choginio erioed gartref gyda fy mam a’m nain, yn ogystal ag arbrofi ar fy mhen fy hun. Dwi’n hoffi gwneud pwdinau a chacennau yn arbennig. Ês i ddiwrnod agored y coleg, a gweld bod y staff yn gyfeillgar iawn, a dwi wedi ei fwynhau’n arw ers hynny.

Sut ges di’r droed gyntaf ar yr ysgol?Mae gen i swydd yn yr Aleppo Merchant Inn yng Ngharno fel cogydd, yn gweithio 30 awr yr wythnos yn ogystal â mynd i’r coleg. Dwi’n gweithio bob nos, ac ar y penwythnosau dwi’n gweithio shifftiau, felly tydy hynny ddim yn dda i’m bywyd cymdeithasol! Yna pan fydda i’n mynd adre dwi’n gwneud bisgedi a chacenni. Mae nheulu a’m ffrindia i wrth eu bodda!

Pa brofiadau wyt ti wedi dysgu ohonyn nhw, a sut brofiad oedd cael dy hyfforddi? Dwi wedi cael hyfforddiant dda iawn. Mae pob un o’m darlithoedd yn y coleg wedi bod yn hollol berthnasol, hyd yn oed y darlithoedd theori. Mae gan ein darlithwyr lawer o brofiad, ac mae cogyddion wedi dod i mewn i gynnal dosbarthiadau meistri ac arddangosfeydd. Ac roedd y gystadleuaeth Coginio a Gweini yn brofiad da iawn. Roedd yn rhaid i fi a Dave lunio bwydlen tri chwrs. Mae’n ddiwydiant gwrywaidd, a fi oedd yr unig ferch yn y gystadleuaeth, ond mae hynny’n gwneud fi’n fwy awyddus i’w wneud.

Ble wyt ti eisiau bod mewn 10 mlynedd?Hoffwn i fod yn ôl yng Nghymru. Dwi’n bwriadu aros yn Aleppo am flwyddyn neu ddwy, yna mynd i deithio, gan weithio mewn ceginau a gwestai gwahanol i gael cymaint o brofiad â phosib. Hoffwn i feddwl y bydda i mewn deg mlynedd yn coginio ar lefel uchel ac yn rhedeg fy mwyty fy hun.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser dy hun?Dwi’n gneud karate.

Page 30: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

29 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Sut ydych chi’n cyfweld y rhai sydd â diddordeb mewn rhwydweithiau cymdeithasu? Rydy chi’n Trydar, wrth gwrs. Neu o leiaf rydy chi’n defnyddio’r ddisgybliaeth wrth drydar o osod uchafswm o 140 cymeriad ar gyfer cwestiynau ac atebion, all fod braidd yn anodd.

Sefydlodd Cleopatra Brown fusnes arforgampau yn Sir Benfro o’r enw Celtic Quest yn 2008. Roedd y busnes yn rownd derfynol categori Marchnata Digidol y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn 2010.

C. Sut ddechreuais di? A. Defnyddio Facebook i gadw mewn

cysylltiad â ffrindiau, teulu ac ati. Yn fuan iawn, dechreuodd cleientiaid ddod o hyd imi, a rhyngweithio, a thyfodd pethau o hynny.

C. Ydy’r amser wyt ti’n dreulio arno’n creu busnes?

A. Yn bendant, mae cefnogwyr yn hysbysu pobl am ein gweithgareddau, mae cleientiaid yn rhannu eu profiadau, lluniau, fideos ac ati. Does dim byd yn well nag argymhelliad personol!

C. Ydy cadw pethau’n gyfredol yn boen neu’n bleser?

A. Roedd o’n boen ar y dechrau, nawr, dwi wrth ym modd yn rhannu ein hanturiaethau. Mae gweld ymateb pobl i’n lluniau, ein fideos, ac ati yn wych.

C. Sut wyt ti’n stopio Twitter, Facebook a’r gweddill rhag bwyta i mewn i weddill y diwrnod?

A. Yr ateb hawdd fyddai mod i yn y môr y rhan fwyaf o’r diwrnod. Dwi’n trio rhoi sylwadau bob dydd, yn y bore cyn mynd i’r traeth neu wedyn ar ôl anturiaethau’r dydd.

C. Mae ystadegau’n dangos bod niferoedd Facebook wedi cyrraedd uchafbwynt o bosib. Allai’r cyfryngau cymdeithasu droi allan i fod yn ddim ond chwiw dros dro?

A. Na, gyda mwy a mwy o ffyrdd i bobl ryngweithio (yn enwedig ffonau symudol), mae’n bosib y byddan nhw’n defnyddio dulliau eraill, mae’n rhaid inni felly ddilyn y dorf!

Ewch i www.celticquestcoasteering.com am ddolenni i’w holl weithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasu.

Ydy trydar o unrhyw werth ichi?

Mae trydar yn apelio at rai pobl,

ac nid at eraill.

Tydy Facebook ddim yn apelio at bawb. Ac efallai nad ydy chi’n

meddwl bod Youtube ar eich cyfer chi, ond ydych chi’n colli allan?

TWRISTIAETH DDIGIDOL

[ 01 ]

Page 31: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

30Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Darllen mwy…

Mae gwasanaeth di-dâl ar gyfer busnesau twristiaeth i wirio TGCh bellach yn cael ei gynnig gan y Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Digidol. I ddod i wybod mwy ewch i adran dwristiaeth gwefan Llywodraeth Cymru.

www.cymru.gov.uk

Mae marchnata ar y we, Twitter a thrwy flogio [02] [03] [04] yn cadw busnesau fel cwmni arforgampau

Celtic Quest [01] yn llygad y cyhoedd.

[ 04 ]

[ 03 ]

[ 02 ]

Gadawodd Elizabeth Musgrave fyd cyfrifeg yn 2005 i redeg busnes bythynnod gwyliau ym Mryniau Clwyd. Mae bellach yn mentora busnesau twristiaeth Sir y Fflint ar sut i ehangu eu hymgyrch farchnata.

C. Pa gyfrwng cymdeithasu wyt ti’n ei ddefnyddio?

A. Blogio, Trydar, Facebook a Linkedin weithiau.

C. P’un ddaeth gyntaf a sut ddechreuaist di?

A. Blogio wnes i gyntaf, a dechreuais gofnodi’r tymhorau a’m bywyd yma ar gyfer mi fy hunan.

C. Faint o amser wyt ti’n ei dreulio yn ‘bwydo’ dy gyfryngau cymdeithasu bob wythnos?

A. Anodd gwybod. Dwi’n blogio’n wythnosol, ac mae’n cymryd tua awr i’w sgwennu ac awr arall i ddarllen rhai pobl eraill. Dwi’n trydar y rhan fwyaf o ddyddiau, eiliadau mae’n gymryd. Dwi’n mynd ar Facebook gwpl o ddyddiau’r wythnos, mae’n cymryd tua hanner awr.

C. Be wyt ti’n gael yn ôl o hyn i gyd? A. Cyfeillgarwch a rhwydweithiau newydd,

sgyrsiau â chwsmeriaid, cyflymder yr ymateb.

C. Sut mae hynny’n helpu dy fusnes?A. Mae pobl yn fwy awyddus nag erioed

i ddeall mwy amdanoch a’r hyn sydd gennych i’w gynnig. Mae’r cyfryngau cymdeithasu yn gadael ichi rannu mwy o bethau, trwy luniau a sgyrsiau.

C. Pe byddai’n rhaid ichi roi’r gorau i bob math o gyfrwng cymdeithasu ar wahân i un, p’un fyddech chi’n ei gadw?

A. Y blog. Dwi’n mwynhau ei sgwennu, yn hoffi cael cofnod o’m mywyd, ac wedi cael ffrindiau da ohono, rhai iawn a rhithiol. Mae hefyd yn dod â busnes i’r bwthyn, fel sgil-gynnyrch defnyddiol!

Mae blog Elizabeth – a dolenni cyfryngau cymdeithasu – ar gael ar www.welshhillsagain.blogspot.com

Lansiodd Croeso Cymru ei Phrosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Digidol ym mis Mawrth, gyda gweledigaeth i fynd â’r sector ymlaen i’r oes ddigidol. Caiff y prosiect ei arwain gan grwp llywio o arbenigwyr ar dechnolegau twristiaeth a thechnolegau digidol. Mae’n anelu at helpu busnesau a sefydliadau sy’n helpu’r busnesau hynny i ddefnyddio technoleg newydd.

Yr help sy’n cael ei gynnig yw asesu’r defnydd o TGCh, cynnig hyfforddiant a rhannu gwybodaeth a chynnwys, yn ogystal â rhaglenni peilot arloesol a datblygu ‘cymunedau digidol’.

I ddod i wybod mwy am y rhaglen a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig, cysylltwch â’r tîm Prosiect Twristiaeth Digidol ar e-bost ar: [email protected]

Page 32: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

31 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

[01]

Page 33: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

32Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

DATBLYGU

Rheoli Cyrchfannau

Beth mae ymwelwyr ei eisiau o gyrchfan?

Mwy nag unrhyw beth arall, mae nhw am gael rhywbeth sy’n

‘gweithio’ – ble y mae popeth yn dod at ei gilydd i wneud y

profiad o wyliau yn rhywbeth sydd cystal ag y gallai fod. A

dyma’n union beth yw Rheoli Cyrchfannau, yn ôl dau arloeswr.

Gweld â’i lygaid ei hun. Roedd Jim Jones yn gwybod bod gan Gonwy broblem â gwylanod, ond daeth difrifoldeb y broblem yn amlwg wedi iddo weld ffilm o wylan yn ‘ymosod’. Cafodd y digwyddiad ei ffilmio gan ddyn camera oedd yn ffilmio ar gyfer fideo hyrwyddo, ac mae’n dangos ymwelydd yn mwynhau byrbryd bach yn yr haul.

Yna daw’r wylan, gan “ymosod arni o’r awyr,” meddai Jim, sef Pennaeth Twristiaeth a Datblygu Cymuned yr Arfordir. “Mae gweld hyn yn digwydd yn dychryn rhywun.” meddai. "Yng nghynllun mawr bywyd, efallai nad ydy dwyn rholiau selsig yn ymddangos mor bwysig â hynny, ond fe fyddai ei phrofiad â’r wylan wedi gwneud argraff fawr ar y fenyw yn y ffilm. Mae’r math o brofiad a allai droi pethau’n sur, er i bopeth arall fod yn bositif", meddai Jim.

Ac mae ansawdd y profiad yn bwysig i’r rhai sy’n rheoli Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy. Mae eu hardal yn cynnwys canolfan wyliau Llandudno, Conwy gaerog a rhannau o Barc Cenedlaethol Eryri, a daw twristiaeth – cyflogwr sylweddol – â £559 miliwn y flwyddyn i’r economi leol. Mae Jim yn cynnig ei stori am yr wylan fel darlun o’r hyn y mae’r syniad o Reoli Cyrchfan yn ei wneud i Gonwy. Cam gyntaf y cyngor ar ei broses o ‘Reoli Cyrchfan’ oedd gwahodd masnachwyr i fforwm i ddweud pa newidiadau yr hoffent eu gweld. I Jim â’i gydweithwyr, roedd yr hyn gawson nhw yn ychydig o syndod. Roedden nhw wedi disgwyl trafod pynciau mwy strategol fel cyfraddau busnes a buddsoddi mewnol; beth gawson nhw oedd tai bach, biniau – a gwylanod. Wedi’r cyfarfod hwnnw aeth tîm Conwy yn ôl i’r cyngor, gan fynd â’r materion oedd wedi’u codi i’r adrannau perthnasol. Mae cyfarfodydd y fforwm bellach wedi

datblygu yn Grwp Llywio Cyrchfan Conwy, sy’n dod â chynrychiolwyr masnach ledled y sir at ei gilydd. Swydd gyntaf y grwp oedd gweithio gyda’r cyngor i baratoi Cynllun Gweithredu Rheoli Cyrchfan, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Mae’n delio ag amrywiaeth eang o faterion ac, wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys problem y gwylanod. Mae’r cyngor yn ceisio datrys y broblem cymaint ag y gall. Mae’r biniau sydd weithiau’n gorlenwi ar adegau prysur bellach yn cael eu gwagio’n amlach, ac mae caeadau arnyn nhw. Problem arall yw fod pobl yn hoffi bwydo’r gwlanod, felly mae’r cyngor wedi dechrau ymgyrch i berswadio pobl i beidio â gwneud hyn. Yn olaf, ond nid y lleiaf pwysig, mae Conwy wedi trefnu eu hadar eu hunain – hebogiaid o fusnes lleol. Mae ar wylanod ofn hebogiaid, felly pan fydd hebogwyr yn dod â’u hadar i ardal sydd â phroblem gwylanod, mae gwylanod yn cadw draw.

Page 34: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

33 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Cafodd y tîm twristiaeth y syniad gwych o ofyn i’r bobl sy’n trin yr hebogiaid i wisgo mewn gwisgoedd canoloesol pan fyddan nhw yng Nghonwy, a gwisg Fictoraidd pan yn Llandudno. Felly, yn y ddwy dref, mae dau bwrpas i’r patrôl hebogiaid, meddai Jim. “Maen nhw’n atyniad ohonyn nhw’u hunain – mae pobl yn tynnu lluniau ohonyn nhw. A thra eu bod o gwmpas, mae’r gwylanod yn bendant yn cadw draw.” Ym mhen arall Cymru, mae’r daith tuag at Reoli Cyrchfan wedi bod yn un anoddach. Mewn ffordd, dechreuodd gyda chreu’r Parciau Cenedlaethol ar ddiwedd y 40au – ymhell cyn i Reoli Cyrchfan ddod i feddyliau’r academyddion. “Dwi’n gweld Rheoli Cyrchfan fel gwasanaeth addas iawn i Barciau Cenedlaethol, gan mai dyna beth yw ein swyddi mewn gwirionedd,” meddai Richard Tyler, Rheolwr Twristiaeth Cynaliadwy Awdurdod Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. “Sefydlwyd y parciau gan wleidyddion oedd am i bobl gael mwy o fwynhad o gefn gwlad, ond oedd yn ymwybodol y gallai bobl achosi difrod i dirluniau gwerthfawr. Roedden nhw’n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fuddsoddi mewn dull o amddiffyn yr hyn yr oedd pobl yn dod i’w weld.” Yn fwy diweddar, effaith argyfwng clwy’r Traed a’r Genau dynodd sylw at bwysigrwydd twristiaeth i economi’r Bannau. Wedi i’r rhybudd ddod i ben, aeth yr Awdurdod Parciau Cenedlaethol ati i ddod â phobl ledled y parc oedd â diddordeb mewn twristiaeth at ei gilydd. Meddai Richard: “Mewn ffordd roedd gennym eicon twristiaeth cenedlaethol, ond heb un corff yn y sector cyhoeddus oedd â chylch gwaith i edrych ar ei ôl.” Cymerwyd y cam cyntaf tuag at gyflawni hynny yn 2002 gyda chreu Partneriaeth Twristiaeth Strategol Bannau Brycheiniog. Daeth â chyrff cyhoeddus oedd â diddordeb at ei gilydd, ond roedd diffyg mewnbwn o fyd masnach. Yn ddiweddarach, pledleisiwyd i gael cynrychiolwyr masnachol yn rhan o’r bartneriaeth, aeth ymlaen i ddatblygu strategaeth twristiaeth, a gwblhawyd yn 2007. Ei phrif egwyddor oedd yr angen i lunio corff masnachol cynrychioladol, a arweiniodd at greu Twristiaeth Bannau Brycheiniog.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’u trefnu’n well, mewn ffordd sy’n fwy addas i anghenion ymwelwyr, meddai Richard. Ond ei uchelgais bellach yw mynd â phethau ymhellach, a gweld bod safbwyntiau’r gymuned yn ehangach yn cael sylw hefyd. Datblygiad diweddar ar gyfer y Bannau oedd creu 14 o glystyrau sy’n gweithio i annog busnesau twristiaeth i gydweithio o dan brosiect COLLABOR8 yr UE. Yr hyn sydd wedi synnu – a phlesio – Richard yw bod y clystyrau hyn wedi dennu diddordeb y tu hwnt i fyd masnach. Meddai “Mae clystyrau wedi cael pobl yn curo ar y drws yn dweud nad ydyn nhw’n fusnes, ond bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd y mae twristiaeth yn gweithio o fewn y gymuned.” Mae cael y gymuned yn rhan o hyn wedi golygu bod modd i glystyrau ddod i wybod am y materion y mae pobl leol yn poeni amdanyn nhw, meddai. Er enghraifft, mewn un pentref roedd pobl yn pryderu llawer am barcio ar adegau prysur. Mae gwneud yn siwr bod pobl leol yn teimlo bod eu buddiannau’n rhan o’r broses o wneud penderfyniad yn bwysig iawn, meddai. “Os nad yw cymuned yn croesawu ymwelwyr, yna mae busnesau dan anfantais fawr. Os ydy pobl yn gweld wynebau diflas mewn tafarndai neu siopau neu ble bynnag, beth sy’n debygol o ddigwydd yw nad ydyn nhw’n debygol o ddod yn ôl,” meddai. “Mae’n hanfodol nad ydy ni’n anwybyddu hynny.” Mae Bannau Brycheiniog bellach yn gobeithio cael mwy o’r mewnbwn hwn o’r gymuned trwy greu grwpiau ffurfiol sy’n dod â chynrychiolwyr cymunedol a busnes at ei gilydd. Os bydd yn llwyddo, gallai ddod â’r parc yn agosach fyth at gael y cydbwysedd cynaliadwy ar gyfer twristiaeth, a ragwelwyd pan grewyd y Parciau Cenedlaethol. “Mae Rheoli Cyrchfan yn ymwneud â phopeth o fewn y lle y mae pobl yn ymweld ag ef,” meddai Richard. “Y darlun llawn i mi ynghylch hynny yw ei fod yn ein symud ymlaen o’r nod o gael mwy o ymwelwyr a mwy o arian i’r economi leol. Mae hynny’n uchelgais da, ond mae angen iddo fynd law yn llaw â gweithio gyda chymunedau lleol, a gwneud yn siwr bod y cynnyrch yn dda ar lawr gwlad.”

“Mae Rheoli Cyrchfan yn

ymwneud â phopeth o fewn y

lle y mae pobl yn ymweld ag ef,”

Rheoli Cyrchfannau

Beth mae ymwelwyr ei eisiau o gyrchfan?

Mae twristiaeth

yn hynod bwysig i

economi Sir Conwy,

gydag ymwelwyr yn

teithio yno i fwynhau’r

hanes cyfoethog a

chefn gwlad prydferth [02] [03] [05]. Mae’r broses

o reoli cyrchfan

wedi helpu i nodi

problemau i ymwelwyr

fel trafferthion gyda

gwylanod [01] [04].

[02 ]

[03 ]

Page 35: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

34Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Rheoli Cyrchfannau

Beth mae ymwelwyr ei eisiau o gyrchfan?

[ 04 ]

[ 05 ]

Darllen mwy…

Cewch ddarllen sut mae’r broses rheoli cyrchfan yn gweithio mewn mannau eraill ar www.dmwales.com, sy’n dangos enghreifftiau sy’n amrywio o Blackpool, Lancs., i Moreton Bay, Awstralia.

Manteision: Beth yw Rheoli Cyrchfan?

Mae Croeso Cymru yn ei ddiffinio fel: “Trefnu’r holl weithgareddau a’r gwasanaethau sy’n effeithio ar yr ymwelydd a’u mwynhâd o gyrchfan.” Pethau fel trafnidiaeth integredig, arwyddion, llwybrau troed a pharcio.

Mae’n gysylltiedig â rhoi manteision i bob “rhanddeiliad” yn awr ac yn y dyfodol. Nod y broses Rheoli Cyrchfan yw:

w Amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig

w Datblygu’r economi fel cyrchfan twristiaeth

w Cefnogi cymunedau lleol a’u diwylliant.

Page 36: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

35 Ansawdd Cymru

CYNALIADWYEDD

cymru.gov.uk/twristiaeth

Yn weddol ddiweddar, dim ond y bobl oedd yn frwd ynghylch mateiron gwyrdd oedd yn ymddiddori mewn effeithiolrwydd ynni, ond mae’r cynnydd ym mhrisiau gwresogi olew, trydan a nwy wedi newid hynny i gyd. Bellach mae’r dewis gwyrdd yn fwy ffasiynol – ac mae’n nhw’n gwneud synnwyr yn ariannol hefyd.

Arian i’w losgi? Does gan neb hynny bellach, ond tydy hynny ddim yn rhwystro’r rhan fwyaf ohonon ni rhag gwastraffu ynni bob diwrnod o’r wythnos. Mae busnesau da yn cadw golwg ar gostau yn gyffredinol, ond mae nifer sylweddol hefyd yn anghofio cadw golwg ar olau a gwres. Ond nid oes rhaid i bethau fod felly, meddai Dave Humphreys, yr arbenigwr effeithiolrwydd ynni o Flaenau Ffestiniog. “Mae naw-deg y cant o’r hyn y gallwch ei wneud i arbed arian yn syml iawn,” meddai. “Y pethau cyntaf sy’n dod i feddwl pobl yw pethau fel paneli solar a bwyleri newydd drud, ond nid oes yn rhaid ichi wario llawer o arian i wneud arbedion mawr.” Yn gynharach eleni, roedd Dave, ar gais Croeso Cymru, yn cynnal archwiliadau ynni mewn saith o fusnesau twristiaeth. Y cynllun oedd gweld pa mor gall oeddyn nhw wrth ddefnyddio ynni a ble y gellid gwella hynny. Y nod oedd torri biliau ynni a dangos pa mor hawdd yw i fusnesau yn ein sector

Cynhesrwydd mwy ffasiynol

Mae dewis gwyrddach yn fwy cwl

wneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy. Mae’r ffaith bod ymweliadau Dave wedi’u gwneud yn ystod mis Chwefror yn gwneud yr ymarfer yn bwysicach, gan ei fod yn union ar ôl cyfnod oerach nag erioed, ac ar amser pan oedd prisiau ynni yn codi’n llawer cynt na chwyddiant. Roedd y saith busnes y bu Dave Humphreys yn ymweld â hwy yn wahanol iawn, yn amrywio o westy mawr a pharc carafanau i ganolfan beicio mynydd a safle Gwely a Brecwast. Ei brif ffocws oedd edrych am y pethau hawdd, atebion rhad neu heb gostio dim a oedd yn arwain at arbedion heb olygu gormod o amser, trafferth neu gost, yn hytrach nag awgrymu newidiadau mawr fel paneli solar, tyrbinau gwynt, gwres o’r ddaear ac ati. Un peth oedd gan y saith yn gyffredin oedd eu bod yn anwybodus iawn ynghylch sut oedden nhw’n defnyddio cyfleustodau. Mae’r cam syml o osod offer monitro trydan yn golygu arbed un rhan o ddeg fel arfer o’r

Page 37: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

36Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

[ 01]

Page 38: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

37 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

ynni oedd yn cael ei ddefnyddio cyn hynny, meddai Dave. Mae offer monitro bellach yn rhad ac yn hawdd eu defnyddio, meddai, ond mae’n bosib y byddan nhw’n nhw arwain at arbedion mawr. Yn achos un o’r busnesau a gafodd eu harchwilio ar gyfer ymarfer Croeso Cymru, roedd y cam syml o osod offer monitro wedi golygu eu bod yn arbed mwy na £3,000 y flwyddyn, meddai. Yr hyn y mae monitor yn ei wneud yw annog defnyddwyr i feddwl eto ynghylch sut y maen nhw’n defnyddio’r pwer y maen nhw’n ei brynu, meddai. Yn aml, mae’n nhw’n gwneud camgymeriadau amlwg y mae e’n eu gweld ar unwaith. Er enghraifft, roedd un ymweliad diweddar yn sefyllfa ble oedd un busnes yn rhedeg rhewgelloedd mawr yn hanner llawn yn hytrach na dim ond un neu ddau oedd yn llawn dop. Mewn busnes arall, roedd yr offer ffrio sglodion yn cael ei gynnau ddwy awr cyn amser agor i’w cynhesu, pan mai dim ond 15 munud mae’n nhw’n ei gymryd i gynhesu. Yn y ddau achos, byddai ychydig o synnwyr cyfferdin yn arbed arian. Byddai prynu switsus amser yn ffordd arall sy’n costio ceiniogau, ond a allai olygu punnoedd mewn biliau ynni is. Gwelodd Dave fod nifer o’r busnesau y bu’n ymweld â hwy yn gadael offer trydanol ymlaen pan nad oeddyn nhw’n cael eu defnyddio, oergelloedd a chypyrddau oeri poteli fel arfer. Mae treulio ychydig o amser ac arian yn prynu ac yn gosod switsus amser rhad werth yr arian, meddai. “Mae amseryddion da, digidol saith diwrnod yn costio cyn lleied â £10 bellach, a byddech yn cael yr arian yn ôl yn gyflym iawn,” meddai. Pe byddai pob un

o’r saith busnes yn defnyddio amseryddion, bydden nhw’n torri eu biliau o oddeutu £4,000 y flwyddyn. Meysydd allweddol eraill ble’r oedd arian yn cael ei wastraffu – a CO

2 yn cael ei greu

yn ddi-angen – oedd goleuo a gwresogi dwr. Byddai newid offer goleuo am ddewis arall sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn arbed cyfanswm o £9,000 i’r busnes, meddai Dave. Byddech yn cael yr arian gafodd ei wario ar yr offer newydd yn ôl mewn llai na blwyddyn, meddai. Byddai costau gwella effeithiolrwydd systemau gwresogi dwr yn cael ei dalu yn ôl mewn arbedion hyd yn oed yn gynt, meddai Dave. Mae gwella insiwleiddio a gwneud yn siwr bod clociau amser wedi’u gosod yn iawn yn arbed £5,000 i’r busnesau, ac mewn rhai achosion bydden nhw’n talu amdanyn nhw’u hunain mewn llai na deufis. Mae rhai o’r argymhellion eraill wnaeth Dave i’r saith busnes yn costio mwy, ond byddai’r busnes yn cael yr arian yn ôl dros amser. Byddai gosod system wresgoi thermol solar ac offer adfer gwres mewn tri o’r busnesau o bosib yn arbed hyd at £20,000 y flwyddyn, mae’n amcangyfrif. Ond y prif neges a ddaw o’r archwiliadau, meddai, yw y gall newidiadau bychain arbed arian, ac mae hynny yn digwydd. “Os gallwch chi wneud rhywbeth sy’n torri £1,000 oddi ar eich bil ynni, yna dylai hynny fod yn flaenoriaeth,” meddai Dave. “Faint o waith fyddai’n rhaid ichi ei wneud i gael elw pur o £1,000? Mae pobl yn poeni cymaint am wneud arian, mae’n nhw’n anghofio treulio amser yn arbed arian.”

[ 04 ]

Cyfuno dulliau o

gynhyrchu ynni

adnewyddadwy [01] [04] gyda mesurau i

ddefnyddio ynni’n

effeithlon [02] [03] i

wneud Cymru yn

wyrddach – ac

i leihau costau

rhedeg busnesau

twristiaeth fel Parc

Gwyliau Swallow

Tree Gardens [06].

[ 03 ][ 02 ]

Cynhesrwydd mwy ffasiynol

Mae dewis gwyrddach yn fwy cwl

Page 39: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

38Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Parc Gwyliau Swallow Tree Gardens, Saundersfoot, Sir Benfro Un o’r busnesau gafodd eu harchwilio ar gyfer prosiect Croeso Cymru oedd Swallow Tree Gardens, parc arfordirol gyda 55 o garafanau statig a chabannau pren. Caiff y busnes ei redeg gan John ac Anne Hancock a’u merch Debra Webber. Dywed Debra bod y teulu wedi rhoi amser ac ymdrech i gadw biliau’r cyfleustodau i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hynny wedi’i sbarduno’n rhannol gan brisiau’n codi ac yn rhannol gan awydd i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy, meddai. Ond llwyddodd Dave Humphreys i wneud newidiadau fydd o bosib yn arbed cannoedd, hyd yn oed miloedd o bunnoedd ar y biliau ynni blynyddol. “Roedd yn cwestiynu popeth,” meddai Debra. “Roedd yn teimlo ein bod yn gwneud yn weddol dda, ond edrychodd ar bethau gyda pâr o lygaid ffres.” Yn achos y bwyty, mae Debra’n cyfaddef ei bod wedi bod yn esgeulus. Yn ystod yr archwiliad, roedd y bwyty ar gau am ddeufis, ond roedd y cypyrddau yn oeri cwrw na fyddai neb yn eu prynu am wythnosau. Roedd yn rhoi y cypyrddau oeri ar switsus amser yn ffordd gyflym, hawdd o arbed arian. Bydd llawer mwy o arian yn cael ei arbed wedi gosod offer goleuo mwy effeithlon yn y bwyty, y dderbynfa a’r pwll nofio; mae Dave yn amcangyfrif y gallai’r offer newydd arbed oddeutu £1,400 y flwyddyn, gan adennill cost y newid mewn chwe mis neu lai. Un arall o awgrymiadau Dave oedd gorchuddio pwll nofio’r parc i gadw’r gwres i mewn, gan wneud y gost o gynhesu’r pwll un rhan o dair yn is. “Dyma’r eitem nesaf ar fy rhestr o bethau i’w gwneud,” meddai Debra.

[ 05 ]

Bod yn gynaliadwyArbed ynni: Peidiwch â defnyddio’r botwm modd segur, defnyddiwch fwlbiau trydan ynni isel ac ystyriwch newid i ddarparwr ynni adnewyddadwy.

Prynnwch gynnyrch lleol: Mae’n helpu busnesau lleol ac yn rhoi blas real a nodweddiadol o’r ardal i ymwelwyr.

Lleihau gwastraff: Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ble bynnag y bo’n bosib ac annog staff a gwesteion i wneud yr un modd.

Bod yn falch: Byddwch yn rhan o’ch amgylchedd, cymuned a threftadaeth leol. Byddwch yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol ac annog eich gwesteion i ymuno yn y digwyddiadau hefyd. Arbed dwr: Byddwch yn ymwybodol o faint o ddwr rydych yn ei ddefnyddio, gan wastraffu cyn lleied â phosib.

Am ragor o syniadau, ewch i adran ddatblygu gwefan twristiaeth Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk/tourism

Darllen mwy…

Lle da i ddechrau gyda chynghorion effeithlonrwydd ynni a cyngor di-duedd am ynni yw’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

www.energysavingtrust.org.uk/wales

Page 40: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

39 Ansawdd Cymru cymru.gov.uk/twristiaeth

Hydref w Mae cerrig gleision ar eu gorau rhwng

mis Medi a mis Ebrill.w Chwiliwch am ffrwythau gwyllt gan

gynnwys mwyar duon ac eirin ysgaw. w Mae tymor y grugiar yn dechrau ar

Awst 12, ond mae’r adar ar eu gorau yn hwyrach yn y tymor.

w Mae tymheredd isel y môr ar ôl mis Hydref yn golygu wystrys o safon, tra bod y mecryll yn dew ac yn flasus.

w Daw llawer o ffyngau gwyllt ar y farchnad, gan gynnwys bwyd llyffaint, siantrelau a choesau gleision.

Gaeaf w Cig dafad wedi’i goginio’n araf am bryd

gaeafol perffaith.w Mae barrug yn melysu blas panasen,

gan droi’r starts yn siwgr. w Mae llysiau eraill y gaeaf, fel cennin,

sbrowts a bresych coch ar eu gorau. w Mae dwr oerach yn well i gael cregyn

bylchog o well ansawdd.w Mae mis Tachwedd yn fis da ar gyfer

draenog y môr gwyllt (wild sea bass) wedi’i ddal o amgylch Llyn, Sir Benfro a’r Gwyr.

Gwanwyn w Mae riwbob ar gael ym mis Mawrth. w Daw cig oen i’w dymor ym mis Ebrill, fel

tatws newydd Sir Benfro.w Byr ond melys, mae tymor yr asbaragws

yn dechrau yn gynnar ym mis Mai ac yn gorffen erbyn canol mis Mehefin.

w Mae gleisiaid (sewin) hefyd ar gael ym mis Mai wrth i’r pysgodyn ddychwelyd i afonydd Cymru.

w Mae garlleg gwyllt ar ei orau cyn i’r blodau gwyn ddechrau blodeuo. Mae’n wych mewn salad neu fel cynhywsyn cawl.

Haf w Chwiliwch am gig oen morfeydd heli, sydd

ar gael ym mis Gorffennaf. w Mae ffa ar eu gorau, yn ogystal â phys

gardd ffres a ffenigl Fflorens. w Mae digon o ffrwythau ffres, gan gynnwys

eirin, ceirios, bricyll, mefus a mafon.w Mae’r hyrddyn llwyd (grey mullet) yn dda

trwy gydol y flwyddyn, ond ar ei orau ar ddiwedd yr haf.

w Chwiliwch am flaenau danadl poethion tyner ac am flodau’r eithin, sydd ag arogl cnau coco egsotig, ac yn dda i wneud gwin a the.

Bwyd yn ei dymor

Y calendr coginio

Ffrwythau a llysiau neu bysgod ac adar hela, mae gan y rhan

fwyaf o gynnyrch ei dymor. Mae bwyta bwyd yn ei dymor yn

aml yn rhatach, yn wyrddach (llai o CO2 o wresogi tai gwydr a

rhedeg lorïau) ac mae’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r Fam Ddaear.

Mae’n blasu’n well fel arfer hefyd.

BWYD

[ 01 ]

Page 41: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

40Ansawdd CymruRhifyn 5, 2012

Darllen mwy…

I gael syniadau am rysetiau, manylion cyflenwyr lleol a’r newyddion diweddaraf am fwyd, ewch i wefan Gwir Flas.

www.cymruygwirflas.co.uk

Mae’r Hydref yn dod â ffwng [01] a wystrys da [02],

cawn gig dafad [05] a chennin [03], yn y gaeaf, garlleg

gwyllt yn y gwanwyn [04] a ffrwythau yn yr haf [06].

[ 02 ]

[ 03 ]

[ 05 ]

[ 04 ] [ 06 ]

Page 42: Quality Wales Guide - Welsh - 2012

cymru.gov.uk/twristiaeth