popeth yn dda yn ysgol ro pedr! / all good at ysgol...

52
1 Mis Ionawr 2017 | January 2017 Rhifyn: 21 | Issue: 21 Popeth yn Dda yn Ysgol Bro Pedr! / All Good at Ysgol Bro Pedr! Mae Ysgol Bro Pedr wedi derbyn yr adroddiad ESTYN gorau o ran yr ysgolion 3-19 sydd wedi eu harolygu yng Nghymru hyd yma. Yn dilyn yr arolwg diweddar gan ESTYN, y corff arolygu ysgolion a cholegau yng Nghymru, derbyniodd yr Ysgol 3-19 yn Llanbed arfarniad ‘Da / Da’ am berfformiad cyfredol a rhagolygon yr Ysgol ar gyfer y dyfodol. Ers sefydlu’r Ysgol Gydol Oes, sy’n darparu ar gyfer disgyblion o oed meithrin/derbyn i’r chweched dosbarth ym Medi 2012, mae ESTYN wedi adrodd ar ‘berfformiad cryf’ a ‘lefelau disgwyliadau uchel’ yr Ysgol. Dywed y Pennaeth Jane Wyn: “Mae’r adroddiad ESTYN llwyddiannus yma yn adlewyrchu gwaith caled y disgyblion, y staff a chefnogaeth y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned leol. “Rydym yn hapus iawn ein bod wedi derbyn arfarniad ‘Da’ ar draws y meysydd allweddol y mae ESTYN yn eu mesur, gan gynnwys safonau, lles, addysgu ac arweinyddiaeth yr Ysgol. “Mae gweithio fel Ysgol Gydol Oes wedi ein galluogi ni i sicrhau bod pob disgybl yn cael trosglwyddiad esmwyth o’r cynradd i’r uwchradd, ac rydym wedi gweld cynnydd cyson yn y canlyniadau. “Pan unwyd Ysgol Gynradd Ffynnonbedr and Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ym Medi 2012, ni oedd yr ysgol 3-19 gyntaf yn y sir ac, yn wir, gyda’r cyntaf yng Nghymru. “Pedair blynedd yn ddiweddarach mae’n grêt ein bod wedi derbyn adroddiad mor bosif wrth ESTYN, ac rydym yn ffocysu yn nawr ar adeiladu ar y seiliau cadarn yma er mwyn sicrhau bod yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth.” YSGOL Bro Pedr has received the best ESTYN report for a 3 to 19 school in Wales to date. Following its recent inspecon by ESTYN, the inspectorate body for schools and colleges in Wales, the Lampeter school was awarded a ‘Good-Good’ rang for current performance and future prospects. Since it became an ‘all through’ school, catering for pupils from nursery/recepon age to sixth-form in September 2012, ESTYN has reported ‘strong performance’ and ‘high expectaon levels.’ Headteacher Jane Wyn said: “The successful ESTYN report is tesmony to the hard work of the pupils, staff and the support of the parents, governors and the local community. “We are really pleased that we have been rated ‘Good’ across all the key areas measured by ESTYN, including standards, well-being, teaching and leadership at the school. “Working as an all through school has enabled us to ensure that every pupil has a smoother transion from primary to secondary, and we have seen constant improvements in the results. “When Ysgol Gynradd Ffynnonbedr and Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan merged in September 2012, we were the first 3 to 19 school in the county, and amongst the first all-through schools in Wales. “Four years on, it is great to receive such a posive report from ESTYN, and we are focused now on building on these strong foundaons, to ensure that the school goes from strength to strength.”

Upload: others

Post on 11-Mar-2020

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

1

Mis Ionawr 2017 | January 2017 Rhifyn: 21 | Issue: 21

Popeth yn Dda yn Ysgol Bro Pedr! / All Good at Ysgol Bro Pedr!

Mae Ysgol Bro Pedr wedi derbyn yr adroddiad ESTYN gorau o ran yr ysgolion 3-19 sydd wedi eu harolygu yng Nghymru hyd

yma. Yn dilyn yr arolwg diweddar gan ESTYN, y corff arolygu ysgolion a cholegau yng Nghymru, derbyniodd yr Ysgol 3-19 yn

Llanbed arfarniad ‘Da / Da’ am berfformiad cyfredol a rhagolygon yr Ysgol ar gyfer y dyfodol. Ers sefydlu’r Ysgol Gydol Oes, sy’n

darparu ar gyfer disgyblion o oed meithrin/derbyn i’r chweched dosbarth ym Medi 2012, mae ESTYN wedi adrodd ar

‘berfformiad cryf’ a ‘lefelau disgwyliadau uchel’ yr Ysgol. Dywed y Pennaeth Jane Wyn: “Mae’r adroddiad ESTYN llwyddiannus

yma yn adlewyrchu gwaith caled y disgyblion, y staff a chefnogaeth y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned leol. “Rydym yn

hapus iawn ein bod wedi derbyn arfarniad ‘Da’ ar draws y meysydd allweddol y mae ESTYN yn eu mesur, gan gynnwys safonau,

lles, addysgu ac arweinyddiaeth yr Ysgol. “Mae gweithio fel Ysgol Gydol Oes wedi ein galluogi ni i sicrhau bod pob disgybl yn

cael trosglwyddiad esmwyth o’r cynradd i’r uwchradd, ac rydym wedi gweld cynnydd cyson yn y canlyniadau. “Pan unwyd Ysgol

Gynradd Ffynnonbedr and Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ym Medi 2012, ni oedd yr ysgol 3-19 gyntaf yn y sir ac, yn wir,

gyda’r cyntaf yng

Nghymru.

“Pedair blynedd

yn ddiweddarach

mae’n grêt ein

bod wedi derbyn

adroddiad mor

bositif wrth

ESTYN, ac rydym

yn ffocysu yn

nawr ar adeiladu

ar y seiliau

cadarn yma er

mwyn sicrhau

bod yr Ysgol yn

mynd o nerth i

nerth.”

YSGOL Bro Pedr has received the best ESTYN report for a 3 to 19 school in Wales to date. Following its recent inspection by

ESTYN, the inspectorate body for schools and colleges in Wales, the Lampeter school was awarded a ‘Good-Good’ rating for

current performance and future prospects. Since it became an ‘all through’ school, catering for pupils from nursery/reception

age to sixth-form in September 2012, ESTYN has reported ‘strong performance’ and ‘high expectation levels.’ Headteacher

Jane Wyn said: “The successful ESTYN report is testimony to the hard work of the pupils, staff and the support of the parents,

governors and the local community. “We are really pleased that we have been rated ‘Good’ across all the key areas measured

by ESTYN, including standards, well-being, teaching and leadership at the school. “Working as an all through school has

enabled us to ensure that every pupil has a smoother transition from primary to secondary, and we have seen constant

improvements in the results. “When Ysgol Gynradd Ffynnonbedr and Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan merged in September

2012, we were the first 3 to 19 school in the county, and amongst the first all-through schools in Wales. “Four years on, it is

great to receive such a positive report from ESTYN, and we are focused now on building on these strong foundations, to ensure

that the school goes from strength to strength.”

2

Ffair Nadolig / Christmas Fayre

Hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm a dathliadau Ffair

Nadolig yr ysgol ar nos Fawrth, Tachwedd

29ain.

Roedd yn noson lwyddiannus iawn.

3

Ffair Nadolig / Christmas Fayre

We would like to thank everyone involved in the school’s Christmas Fayre on Tuesday, November

29th.

It was an extremely successful night.

4

Ffair Nadolig / Christmas Fayre

5

Codi Arian / Raising Money

Plant Mewn Angen / Children In Need

6

Codi Arian / Raising Money

Plant Mewn

Angen /

Children In Need

7

Codi Arian / Raising Money

Plant Mewn

Angen /

Children In Need

Rhai o ddisgyblion blwyddyn 1 yn mwynhau gwneud gweithgareddau amrywiol yn eu pyjamas ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.

Some pupils from year 1 enjoying doing various activities in their pyjamas on Children in Need day.

8

ABCh / PSE - 4/10/2016

Diolch i bawb oedd ynghlwm a sesiynnau

mor llwyddiannus a buddiol ac yn enwedig

Miss Douch am ei gwaith caled wrth iddi

drefnu bob amser.

A big thank you to everyone involved in

the very successful sessions and especially

to Miss Nerys Douch for her continued

hard work in organizing each and every

session.

9

ABCh / PSE - 4/10/2016

10

ABCh / PSE - 4/10/2016

11

ABCh / PSE - 4/10/2016

12

ABCh / PSE - 7/12/2016

13

ABCh / PSE - 7/12/2016

14

Cynradd / Primary

Sumdog

A big thank you to the pupils singing Christmas carols in the Lampeter Late Night Shopping even-ing on Thursday, December 8th - a pleasure to hear.

Diolch i'r disgyblion a fu'n canu carolau yn noswaith siopa hwyr Llanbed nos Iau, Rhagfyr 8fed - hyfryd oedd eu clywed!

Dyma ddisgyblion yr ysgol a fu’n brysur yn darllen llyfrau o lyfrgell y dref dros wyliau’r haf yn derbyn medalau a thystysgrifau gan Mrs Hughes o’r llyfrgell.

Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 6 sydd wedi gwneud yn dda yng nghystadleuaeth Sumdog y sir yn ddiweddar.

Congratulations to year 6 pupils on their achievements in the county Sumdog competition recently.

Llyfrgell y Sir / The County Library

Here are the school pupils that have been busy reading books from the town library over the summer holidays receiving medals and certificates from Mrs Hughes from the library.

Noson Siopa Hwyr Llanbed / Lampeter Late Night Shopping

15

Codi Arian / Raising Money

Dyma ddisgyblion blwyddyn 6 sydd wedi cwblhau cwrs beicio ar ddiwedd y tymor yn derbyn eu tystysgrifau oddi wrth Graham a Kayleigh o Gyngor Sir Ceredigion. Da iawn chi!

Cwrs Beicio / Bike Course

Here are the year 6 pupils receiving certificates from Graham and Kayleigh from Ceredigion County Council for completing their bike course at the end of term. Well done!

Cerddorfa / Orchestra

Primary school orchestra performing in assembly under the guidance of Helen Williams with Mrs Pauline Jones accompanying.

Cerddorfa’r ysgol iau yn perfformio yn y gwasanaeth dan arweiniad Mrs Helen Williams gyda Mrs Pauline Jones yn cyfeilio.

16

Cynradd / Primary

Some year 1&2 pupils enjoying in the party as a part of this term's theme 'happiness'.

Rhai o ddisgyblion blynyddoedd 1 a 2 yn mwynhau yn y parti fel rhan o thema’r tymor ‘Hapusrwydd’.

Thema’r tymor = Hapusrwydd / This term’s theme = happiness

Parti Nadolig / Christmas Party

Daeth ymwelydd pwysig iawn i’r ysgol ar ddiwedd

tymor i roi anrhegion i ddisgyblion o’r cyfnod

sylfaen.

A very important visitor came to the school at the

end of term to give presents to pupils from the foundation phase.

17

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Gweithdy Clocsfit / Clocsfit Workshop

Gweithdy Barddoni / Poetry Workshop

Daeth Tudur Phillips i’r ysgol yn ystod Tymor y Gaeaf er mwyn gwneud

gweithdau clocsfit gyda’r disgyblion. Gweithdy

llawn hwyl lle bu’r disgyblion yn dysgu sut i

glocsio a cadw’n heini wrth wneud hynny.

Tudur Phillips came to the school during the

winter term to deliver a clocsfit workshop. A fun-

filled workshop where pupils learnt how to

dance with traditional clogs and keep fit at the

same time.

Anni Llyn also came to the school to hold a poetry workshop with some of the pupils. They had a lot of fun

creating poems and playing with words as they thought up some ideas for their poetry.

Diolch yn fawr i Fudiad yr Urdd am eu cymorth wrth i ni drefnu gweithdau mor diddorol.

We wish to thank the Urdd for helping us organize such interesting workshops.

Daeth Anni Llyn i’r ysgol hefyd i gynnal gweithdu barddoni gan rhai ddisgyblion. Cafodd y disgyblion dipyn o hwyl yn llunio cerddi a chwarae gyda geiriau wrth feddwl am syniadau ar gyfer barddoni.

18

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

Ym Mis Tachwedd, bu criw o ddisgyblion blwyddyn 8 a llond llaw o ‘swogs’ blwyddyn 12 ar daith i wersyll yr Urdd, Glan-llyn, ac yn cadw cwmni iddynt oedd Mrs Delor James a Miss

Hedydd Jones. Cafwyd amser anhygoel lle manteisiwyd ar bob cyfle

i ymwneud â phob gweithgaredd gydag egni, brwdfrydedd, hwyl a

pharch at eraill. Cafodd pawb llawer o hwyl a gwlychfa allan ar y llyn. Lwcus

bod pawb wedi dod â thywel. Yn ogystal, cafwyd mwynhad wrth gymryd rhan mewn gweithdy

gramadeg, sesiwn creu rhaglen radio, adeiladu raft, y cwrs rhaffau, heb anghofio am y disgo gwisg ffansi. Roedd y ‘swogs’ hefyd yn gwneud cwrs OCN mewn Arweinyddiaeth

Grwpiau Iau a hynny’n llwyddiannus dros ben. Bu’n daith ragorol lle

gwelwyd pob un ar ei orau a bydd atgofion am daith lwyddiannus arall

yn fythgofiadwy. Diolch i’r Urdd.

19

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

In November, pupils from year 8 and a handful of ‘swogs’ from year 12 went on a trip to the Glan-llyn Urdd Camp, accompanied by Mrs Delor James and Miss Hedydd Jones. They had a fantastic time, making the most of every activity, even as some ended up falling into the lake. It was very lucky that they all had

towels. They were lucky to attend a very useful grammar course, a session on radio presenting, raft building, the high ropes course, without forgetting the fancy dress disco. The ‘swogs’ were also busy completing their OCN course in Group Leading for Junior Pupils, they all passed with flying colours. A

fantastic trip overall, with everyone on their best behaviour. They will have fond memories for years to come. Thank you Yr Urdd.

20

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

21

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

22

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

23

Yr Adran Gymraeg / The Welsh Department

Glan Llyn

24

Chwaraeon / Sports

Congratulations to the year 3&4 boys' relay team: Kondrad, Tomos, Cai & Sion Ifan - they won second

place in the Urdd county swimming gala.

Llongyfarchiadau i'r Tîm cyfnewid rhydd, bechgyn bl3 a 4, sef Kondrad, Tomos, Cai a Sion Ifan a

ddaeth yn ail yng ngala nofio Sirol yr Urdd.

Nofio / Swimming

Congratulations Cai for winning 3rd place in the year 3 and 4 boys' individual race

(backstroke) at the Urdd county swimming gala.

Llongyfarchiadau Cai am ddod yn drydydd yn y ras gefn unigol i fechgyn blynyddoedd

3 a 4 yng ngala nofio Sirol yr Urdd.

25

Chwaraeon / Sports

Llongyfarchiadau mawr i'r canlynol yng Nghystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd:

Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol a fu’n llwyddiannus yng ngala nofio Sirol yr Urdd yn ddiweddar:-

Ras Cyfnewid bl.3 a 4 y bechgyn yn ail, Cai yn 3ydd yn y ras cefn unigol, ras cyfnewid merched bl.5 a 6 yn 7fed ac Evie yn 6ed ac yn 8fed yn y ras gymysg a rhydd unigol.

Da iawn chi!

Nofio / Swimming

Congratulations to the following pupils who were successful in the Urdd’s County Swimming Gala recently:-

Year 3 and 4 boys’ relay race were 2nd, Cai was 3rd in the individual backstroke race, the girls’ year 5 and 6 relay race were 7th and Evie was 6th and 8th in the individual mixed race and the freestyle race.

Well done!

Gymnasteg / Gymnastics

Congratulations to the following in the Urdd’s Gymnastics Competition:

Bechgyn unigol bl.7-9/Year 7-9 boys’ individual competition: 1af/st Filip Poczatek

Merched unigol bl.10 ac 11/Year 10 and 11 girls’ individual competition: 1af/st Heledd Jenkins

Parau bl.10 ac 11/Year 10 and 11 pairs competition: 1af/st Heledd Jenkins & Mari Lewis

26

Llongyfarchiadau mawr i Ellie Maie o flwyddyn 3 sydd wedi ennill

cystadleuaeth “tymblo” dros Gymru mewn gymnasteg yn ddiweddar.

Congratulations to Ellie Maie from year 3 who has won the Welsh

gymnastic tumbling competition recently.

Chwaraeon / Sports

Well done to the year 11 girls who played hockey in the rain all day recently and winning 2nd place in Ceredigion.

Losing by 1 point to Ysgol Bro Teifi!

Llongyfarchiadau mawr i ferched blwyddyn 11 a fu’n chwarae yn y glaw mawr trwy'r dydd yn ddiweddar ac yn dod yn ail dros Geredigion. Colli gan 1pwynt i Ysgol Bro Teifi!

Gymnasteg / Gymnastics

Hoci / Hockey

27

Llongyfarchiadau i ferched blwyddyn 11 a 12 a fu’n cystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-rwyd y Sir. Llwyddodd y tîm dan 18 cyrraedd y 4ydd safle ond sêr y dydd oedd y tîm dan 16. Llongyfarchiadau mawr i ferched blwyddyn 11 am ennill y gystadleuaeth. Pencampwyr y Sir a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Abertawe blwyddyn nesaf.

Chwaraeon / Sports

Canŵio / Canoeing

Pêl-rwyd / Netball

Congratulations to the year 11 & 12 girls who were competing in the County’s Netball tournament. The under 18’s team reached 4th place, but the stars of the show were the under 16’s team. A big congratulations to the year 11 girls on winning the competition. County champions that will be going on to compete in Swansea next year.

Llongyfarchiadau mawr I Catrin Schroder

ar eu llwyddiannau ym myd canŵio dros y

flwyddyn ddiwethaf. Enillodd y

gystadleuaeth benywod dan 13 a

chystadleuaeth y Canadian Doubles cyhyd

a Lili Bryant o Ysgol Bro Teifi yn y

Pencampwriaethau Slalom Cymreig 2016.

Mae Catrin yn aelod diwyd o Llandysul

Paddlers-diolch iddynt hefyd am eu gwaith

caled.

Congratulations to Catrin Schroder on her

achievements in the world of canoeing

over the past year. She won the under

13’s ladies competition and won the

Canadian Doubles along with Lili Bryant

from Ysgol Bro Teifi in the 2016 Welsh

Slalom Championships. Catrin is a hard

working member of Llandysul Paddlers—a

we also wish to thank them for all their

hard work.

28

Llongyfarchiadau mawr i Charlotte Smith, Nathan Jones a Sophie Jones am eu llwyddiannau ym

myd Karate dros y flwyddyn diwethaf. Cafodd y tri eu canmol am eu gwaith caled yn ystod

Seremoni Gwobrwyo flynyddol clwb Ikkyo yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2016.

Enillodd Charlotte wobr am y ferch gorau, y cystadleuydd gorau a’r fyfyrwraig gorau yng nghlwb Karate Ikkyo. Charlotte yw’r aelod

ieuengaf i ennill y gwobrau yma, sy’n dipyn o gamp!

Enillodd Sophie a daeth Nathan yn ail am y disgyblion a’r presenoldeb gorau yn ystod y

flwyddyn hefyd. Da iawn chi.

Congratulations to Charlotte Smith, Nathan Jones and Sophie Jones for their achievements in the

world of Karate over the past year. All three have been commended for their hard work during Aberystwyth Ikkyo club’s annual Prize giving

ceremony in December of 2016.

Chwaraeon / Sports

Karate

Charlotte won best female, best competitor and best student in Ikkyo

Karate club.

Charlotte is the youngest person to win these awards— quite an achievement.

Sophie won and Nathan came second for the pupils with best and second best attendance during the year as

well. Well done!

Sophie & Nathan Jones

Charlotte gyda’i Sensei, Paul James / Charlotte with her Sensei Paul James.

29

Chwaraeon / Sports

Llongyfarchiadau i Sophie Jones o flwyddyn 9 a ddaeth yn 3ydd yn Ras milltir Prom

Aberystwyth 13-15 mlwydd oed ar Ragfyr 11 2016.

Congratulations to Sophie Jones from year 9 who won 3rd place in the Aberystwyth Mile Prom Race for 13-15 years old on

December 11th 2016.

Rhedeg / Running

Criced / Cricket

Llongyfarchiadau mawr i Tomos Jones sydd wedi cael ei ddewis ar gyfer y Rhaglen Datblygiad Morgannwg,

sy’n arbennigo mewn ‘Seam Bowling’. Gorchest anhygoel i Tomos gan fod cael eich dewis fel rhan o

Academi Morgannwg yn anodd iawn.

Congratulations to Tomos Jones who has been selected to join the Glamorgan Development

Programme, specialising in Seam Bowling. This is a huge achievement for Tomos as it’s extremely difficult to get into the Glamorgan Academy.

30

Chwaraeon / Sports

Rygbi / Rugby

31

Chwaraeon / Sports

Rygbi / Rugby

Rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer bechgyn y tîm 1af - Sesiwn Jujitsu

Something a little different for our 1st team - a Jujitsu Session

32

Chwaraeon / Sports

Rygbi / Rugby

Great work from our rugby leaders out in the feeder schools

Gwaith gwych gan ein

harweinwyr rygbi allan yn yr

ysgolion cynradd

33

Chwaraeon / Sports

Rygbi / Rugby

Edrych fel bod y merched yn teimlo'n gyffrous o fod yn ôl yn ymarfer

Looks like the girls are excited to be back in training

34

Canolfan y Bont

Nadolig yn y Ganolfan / Christmas at the Bont

Gwasanaeth Nadolig / Christingle Service

Cynhaliodd y disgyblion Gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Sant Pedr yn Llanbed ar ddydd Gwener, Rhagfyr 9fed. Y Canon Andy Herrick arweiniodd y gwasanaeth, gyda chynulleidfa’n llawn rhieni a ffrindiau disgyblion yr Adran Sgiliau Bywyd a chôr yr Ysgol.

The pupils held a Christingle Service at St. Peter’s Church, in Lampeter, on Friday 9th December. Canon Andy Herrick led the service, which was attended by the pupils’ parents, their friends from the Life Skills Department and the School Choir.

Parti Nadolig / Christmas Party

Cafwyd cyfnod llawn hwyl yr ŵyl ar ddiwedd y tymor ym mharti Nadolig y ganolfan, gyda Sion Corn yn ymweld â’r Bont. Daeth ag anrhegion i bawb.

Father Christmas visited the Bont, during the pupils’ annual Christmas party. He arrived with gifts, for the children and a festive time was had by all!

Gwobrau ASDAN / ASDAN Awards

Llongyfarchiadau i Star Marsh a Bethanie Fox am gwblhau’r rhaglen ABCh New Horizon.

Congratulations to Star Marsh and Bethanie Fox for successfully completing the New Horizon PSE programme.

35

Celf / Art

Cerdd / Music

Llongyfarchiadau i Manon Williams a Martha Stevens, Blwyddyn 12, am ennill lle ar brosiect ‘Criw Celf: Codi’r Bar’ yng Ngheredigion. Wedi ennill lle allan o sawl gais gan fyfyrwyr Celf Lefel A Sir Ceredigion.

Byddant yn mynychu amryw o weithdai celf a dylunio gyda llu o artistiaid cyfoes o nawr tan fis Ebrill.

After a very busy weekend in a residential course in the Urdd Camp in Llangrannog, the following pupils went on to play as members of the Ceredigion Schools orchestra in Ysgol Bro Teifi, on Monday October 7th. We wish to congratulate them on their fantastic performances and to praise them for their continued commitment.

Ar ôl penwythnos prysur iawn mewn cwrs preswyl yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, bu’r disgyblion canlynol yn chwarae fel aelodau o gerddorfa Ysgolion Ceredigion ar nos Lun, Hydref y 7fed yn Ysgol Bro Teifi. Llongyfarchiadau iddynt ar eu perfformiadau gwych a chlod mawr iddynt am eu hymrwymiad fel bob amser.

Congratualtions to Manon Williams and Martha Stevens, year 12, for winning places on the ‘Criw Celf: Raising the Bar’ project. They’ve won their places out of many entries by Art A-level students from Ceredigon.

They will attend a range of art and design work-shops run by contemporary artists from now until April.

36

Mathemateg / Maths

Cystadleuaeth Mathemateg UKMT Hŷn / Senior UKMT Maths Competition

Tystysgrifau efydd/Bronze Certificates:

Carys Williams - Blwyddyn/Year 13

Jack Hulme - Blwyddyn/Year 12 (hefyd tystysgrif gorau yn ei flwyddyn/also best

in the year)

Dyma ganlyniadau’r gystadleuaeth Mathemateg

UKMT hyn a’i cynhaliwyd yn yr ysgol yn

ddiweddar:

Here are the Senior UKMT Maths Competition results held in the school recently:

Tystysgrif Arian/Silver Certificate:

Ben Biddulph - Blwyddyn/Year 13 (hefyd tystysgrifau

gorau yn yr Ysgol a gorau yn ei flwyddyn/also certificates

for best in the school and best in the year)

37

Ysgrifennu Creadigol / Creative Writing

Gwyl H.G. Wells Folkestone

Llongyfarchiadau mawr i Alice Sargent a chafodd ei ddewis ar gyfer rhestr fer y 2016 Margaret and Reg Turnill Prize am ei stori fer ‘Not Enough Space in this World’. Er ni enillodd, cafodd cymeradwyaeth

arbennig am ei gwaith.

Y thema eleni oedd ‘Space’, dewisiodd ysgrifennu am bwnc cyfoes ffoaduriaid Syria a thipyn o gamp oedd iddi ysgrifennu eu hanes. Da iawn Alice!

H.G. Wells Festival Folkestone

Many congratulations to Alice Sargent who was shortlisted for the 2016 Margaret and Reg Turnill Prize for her short story ‘Not Enough Space in this World’. Although she didn't win, she was given a special

commendation for her work.

‘Space’ was this year’s theme and Alice chose to write about the lives of the Syrian Refugees.

Well done Alice!

38

Saesneg / English

Ar y 10fed o Dachwedd dechreuodd bws cyfan o ddisgyblion cynhyrfus ac egnïol eu taith o Ysgol Bro Pedr i weld ddeuntythion Llundain.

Cafodd disgyblion gyfle i ymweld ag arddangosfeydd rhyngweithiol yr Amgueddfa Wyddoniaeth cyn cael swper blasus yn Pizza Express. I orffen y noson cafwyd cyfle i weld y sioe gerdd anhygoel ’Matilda’ sydd wedi ennill sawl gwobr. Rwyf erioed wedi gweld cymaint o bizza’s, losin a diodydd swigod yn cael eu bwyta mewn diwrnod!

Roedd pawb wedi mwynhau’r sioe gerdd yn fawr iawn, er iddo annog plant yn agored i fod yn ddrwg neu ‘be a little bit naughty’; er nad oes angen annog blwyddyn 8 o gwbl! Serch hynny, roedd pob disgybl wedi ymddwyn yn arbennig o dda yn ystod y daith, a gyda lwc rhoddodd neb madfall yn niod y naill un o’r athrawon (ac yn yr un modd, nid oedd yr un athro neu athrawes wedi eu temtio i daflu plentyn wrth eu gwallt drwy’r ffenestr agosaf).

Bore cynnar oedd yn ein disgwyl ar ddydd Gwener wrth i ni dechrau am Stiwdio Warner Brothers i weld set ffilmio Harry Potter. Cyn gynted ag agorodd drysau’r Neuadd Fawr gwasgarodd disgyblion blwyddyn 8 i ganol y miloedd o ymwelwyr eraill, y props a’r setiau amrywiol, rhai hyd yn oed yn mwynhau’r cyfle i hedfan ar gefn ysgubell tra bod eraill yn cael gwersi ar Defence against the Dark Arts...felly byddwch yn ofalus athrawon, mae nifer o wrachod a dewiniaid medrus iawn yn ein plith.

Roedd y daith yn llwyddiant anhygoel ac rydym yn browd iawn o ddisgyblion blwyddyn 8.

Taith i Lundain / London Trip

39

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

On the 10th November a coach full of excited and energetic students set off from Ysgol Bro Pedr to the bright lights of

London.

Pupils were treated to a visit to the new interactive exhibits at the Science Museum, followed by an evening meal at Pizza

Express before heading off to see the award winning musical ‘Matilda’. I have never seen so many pizzas, sweets and fizzy

drinks consumed in one day!

We all thoroughly enjoyed the musical, despite the fact that it openly encouraged children to ‘be a little bit naughty’; year 8

need little encouragement in that department! No, it has to be said that the group behaved impeccably and thankfully no one

put a newt into the teacher’s drink (and

likewise, not one teacher was tempted

to swing a child by their hair through

the nearest window).

Friday morning saw an early start as we

all set off for the Warner Brothers

Studios to visit the set of Harry Potter.

As soon as the doors to the Great Hall

opened year 8 scattered amongst the

many thousands of props and sets,

some even enjoying broomstick flying

and lessons in how to fight against the

Dark Arts...so teachers beware, we

have some highly skilled witches and

wizards in our midst..

40

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

41

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

42

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

43

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

44

Saesneg / English

Taith i Lundain / London Trip

45

Galwedigaethol / Vocational

Real Business Challenge 2016/17

Llongyfarchiadau mawr i griw Busnes o flwyddyn 10 ar eu llwyddiant diweddar yn rownd gyntaf y ’Real

Business Challenge 2016/17.’ Bu pedwar grŵp o’r ysgol yn cymryd rhan yn wreiddiol, gyda grwpiau ‘Geog

Juice’ a ‘Jiwsee’ yna yn cael eu cyflwyno ar gyfer yr her.

i’r grŵp Jiwsee, gyda’i aelodau, Bryn Jones, Sasha Evans, Sioned Fflur Davies, Amber Davies a Carys Evans,

sydd wedi llwyddo i fynd drwodd i’r rownd derfynol yng Nghaerdydd. Bydd yn brofiad da iawn iddynt gael

gweithio gyda mentoriaid o gwmni Coca Cola!

Congratulations to a Business group from year 10 on their recent achievement in the first round of the

’Real Business Challenge 2016/17.’ Four groups from the School took part originally, with the groups

‘Geog Juice’ and ‘Jiwsee’ then being put forward for the challenge.

Congratulations to the Jiwsee group and it’s members; Bryn Jones, Sasha Evans, Sioned Fflur Davies, Am-

ber Davies and Carys Evans, who managed to go through to the final round in Cardiff. It will be a very

good experience for them to be able to work with mentors from the Coca Cola company!

46

Daearyddiaeth / Geography

Yn ddiweddar, gwnaeth

criw o 41 o ddisgyblion o’r

ysgol ymweld â Gwlad yr

Iâ. Roedd pawb yn edrych

ymlaen at y daith ers

misoedd ac roedd y cyffro

ar y bws yn amlwg. Fe

gyrhaeddom maes Awyr

Gatwik, ac ar ôl hedfan am

dair awr fe gyrhaeddom

maes awyr Keflavik yng

Ngwlad yr Iâ. Roedd y tyw-

ydd yn arw ac roedd pawb

wedi blino’n lan.

Wedi noson dda o gwsg

roedd hi’n bryd ymweld â’r

Blue Lagoon a dyma oedd

uchafbwynt y daith i nifer. Yma cawson gyfle i nofio ac ymlacio mewn dŵr cynnes egni geothermol. Yn

wir, roedd e fel bath!

Bwrw am y brif ddinas wnaethom wedyn lle cawsom amser i grwydro’r dre a gwelsom Eglwys

Hallgrimskirkja. Roedd yn adeilad prydferth a thal a cawsom y cyfle i grwydro tu fewn yn ogystal.

Y diwrnod canlynol, fe aethom i Barc Cenedlaethol Thingvellir lle gwelsom y ffin adeiladol rhwng plât

Ewrasia a Gogledd America. Roedd hi’n ddiddorol gweld hyn ar ôl i ni ei astudio yn yr ysgol. Cyfle wedyn i

gael hoe a chael hufen iâ wedi ei wneud ar fferm Efsti-Dalur. Wedyn, fe wnaethom ymweld â’r Geysir lle

roedd hi’n gyfle gwych i gael llun gyda un o ryfeddodau natur. Fe wnaethom hefyd ymweld â rhaeadr

Gullfoss â oedd yn agoriad llygad i bawb gan ei fod mor fawr. Rhaeadr arall gwnaethom ymweld â oedd

Skogafoss ond roedd hwn ychydig yn llai.

Y diwrnod canlynol, gwnaet..hom ymweld â Reynishverfi, sef traeth oedd wedi ffurfio o ganlyniad i erydi-

ad basalt. Caiff hefyd ei adnabod fel y ‘Black Sand Beach’. Nesaf, gwnaethom ymweld â rhewlif Sol-

heimajokull. Roedd hwn yn agoriad llygad i ni wrth i ni weld newid hinsawdd ar waith. Roedd y rhewlif

hwn wedi encilio 30 metr mewn 3 mlynedd. Nesaf, fe cawsom y cyfle i gerdded tu ôl rhaeadr. Yn wir

roedd hyn yn brofiad gwych! Fe wnaethom ymweld â Gorsaf Bŵer Hellisheioi, sef gorsaf bŵer geothermol

- 6ed mwyaf y byd. Roedd yn ddiddorol dysgu sut roedd dŵr yn cael ei newid i drydan.

Y diwrnod canlynol oedd ein diwrnod diwethaf yng Ngwlad yr Iâ. Yn y bore, gwnaethom ymweld â go-

leudy hynaf Gwlad yr Iâ, a adeiladwyd yn 1878. Yng nghanol y gwynt a’r glaw, ymwelon ni â’r “Bridge Be-

tween Two Continets” sef y ffin go iawn rhwng plât Ewrasia a Gogledd America. Amser nawr i fynd tuag

adref ac roedd y blinder wedi bwrw pawb. Roedd pawb yn falch i gyrraedd yn ôl yn Llambed wedi pum

diwrnod prysur a diddorol ar yr ynys tân a Iâ.

Gan Ffion, Briallt ac Alpha blwyddyn 12.

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

47

Daearyddiaeth / Geography

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

48

From October 21st to the 25th (2016), 41 students from Ysgol Bro

Pedr embarked on a journey to Iceland, Scandinavia. We left on

Friday, the anticipation from months of waiting finally ending as

we began our exciting journey.

We flew from Gatwick Airport in the evening, arriving late at night

in Keflavik, with a wet and windy weather front to greet us. Later, we reached our first hotel to get a

good night’s rest before exploring Iceland!

On the First day of our visit, we firstly travelled out to the famous ‘Blue Lagoon’. The lagoon is located

further south, and the source of its warm water comes from geothermal energy. I and my fellow students

thoroughly enjoyed the warm Silica and Sulphur rich waters, which are said to be good to the skin too!

Iceland has a volcanic nature due to its location upon a tectonic boundary (the mid-Atlantic Ridge), hence

it’s the most tectonically active country in the world.

Our holiday also included visiting many physical

attractions, such as waterfalls and a volcanic

creator. My personal favourite was the

Solheimajokull glacier, and we all experienced

first-hand the beauty of this frozen wonder! (It’s

safe to say the Geographers were extremely

happy!!). The Glacier is said to have retreated

significantly in the last 30 years, leaving behind a

gauge and creating a huge valley.

We also visited numerous waterfalls on our trip around rural Iceland, leaving behind the humble city

lights of Reykjavik. Here, we visited a waterfall of the name ‘Salajafoss’, a twin tiered drop with gushing

falls and strong currents. It was something to be seen!

There was also much Nordic history on our trip, with our tour guide, named ‘Siggy’ and brilliant bus driver,

giving us regular insights to the Icelandic legends. A significant number of the population believe in Elves,

Fairies and Trolls. It’s even said that such beings are consulted when building new infrastructures, such as

roads and bridges! We also learnt of the ‘Viking Runes’, typical of Nordic history.

Finally, I would like to say a huge thank you on behalf of all students to those who organised the trip, and

to those who accompanied us. It was a wonderful experience!

Nikita Petry 13S

Daearyddiaeth / Geography

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

49

Daearyddiaeth / Geography

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

50

Daearyddiaeth / Geography

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

51

Daearyddiaeth / Geography

Taith Gwlad yr Ia / Iceland Trip

52

Dyddiadau i’w Cofio

Sioe Arad Goch (Bl.5&6) Dydd Iau, Ionawr 26ain

Gweithdy Celf a Chrefft yr Urdd yn Llangrannog (Bl.3&4)

Dydd Sadwrn, Ionawr 28ain

Her Ganolradd UKMT Bl.10&11 Dydd Iau, Chwefror 2il

Diwrnod Rhyngrwyd Diogel Cenedlaethol

Dydd Iau, Chwefror 2il

Noson Rieni Bl.10 Nos Fawrth, Chwefror 7fed

Diwrnod Archarwyr (Campws Iau)

Dydd Mawrth, Chwefror 7fed

Gala Nofio’r Urdd Ysgolion Lleol Dydd Mawrth, Chwefror 14eg

Eisteddfod Sector Hyn

Prynhawn Dydd Mawrth, Chwefror 14eg & Dydd Mercher, Chwefror 15fed

Cogurdd y Sir

Dydd Mercher, Chwefror 15fed

Cyngerdd Pigion yr Ŵyl Nos Iau, Chwefror 16eg

Gwyliau Hanner Tymor

Dydd Llun, Chwefror 20fed— Dydd Gwener, Chwefror 24ain

Dathliadau Gŵyl Ddewi'r sector Iau (Croeso i rieni)

Dydd Mercher, Mawrth 1af

Gŵyl Offerynnol yr Urdd Ceredigion Dydd Gwener, Mawrth 3ydd

Gŵyl Ddawns yr Urdd

Dydd Gwener, Mawrth 10fed

Diwrnod HMS Dydd Llun, Mawrth 13eg

Eisteddfod Gylch yr Urdd Dydd Iau, Mawrth 16eg

Eisteddfod Sir yr Urdd (Uwchradd)

Dydd Gwener, Mawrth 24ain

Arholiadau Bl.10 Dydd Mawrth, Mawth 28ain- Dydd Gwener, Mawrth 31ain

Ffair UCAS

Dydd Mawrth, Ebrill 4ydd

Croesawu Rhieni Meithrin Dydd Mawrth, Ebrill 4ydd

Noson Wobrwyo Nos Iau, Ebrill 6ed

Gwyliau’r Pasg

Dydd Llun, Ebrill 10fed— Dydd Gwener, Ebrill 21ain

Dates to Remember

Arad Goch Show (Yr.5&6) Thursday, January 26th

Urdd Art & Craft Workshop in Llangrannog (Yr.3&4)

Dydd Sadwrn, Ionawr 28ain

UKMT Intermediatee Challenge Year 10&11 Thursday, February 2nd

International Safer Internet Day

Thursday, February 2nd

Yr.10 Parents’ Evening Tuesday, February 7th

Superheroes Day (Junior Campus)

Tuesday, February 7fth

The Urdd Local Swimming Gala Tuesday, February 14th

Senior School Eisteddfod

Tuesday Afternoon, February 14th & Wednesday, February 15th

County Cogurdd Competition

Wednesday,February 15th

Pigion yr Wyl Concert Thursday Evening, February 16th

Half Term Holidays

Monday, February 20th— Friday, February 24th

Junior Sector Saint David’s Day Celebrations (Parent’s

Welcome) Wednesday, March 1st

Ceredigion Urdd Instrumental Festival

Friday, March 3rd

Urdd Dance Festival Friday, March 10th

INSET Day

Monday, March 13th

Urdd Area Eisteddfod Thursday, March 16th

Urdd County Eisteddfod (Secondary)

Friday, March 24th

Year 10 Examinations Tuesday, March 28th-

Friday, March 31st

UCAS Fair Tuesday, April 4th

Welcoming Nursery Parents

Tuesday, April 4th

Prize Evening Thursday, April 6th

Easter Holidays

Monday, April 10th— Friday, April 21st0