pghlwkdvro &klog &duh 6rfldo :runhu [ *rido 3odqw · 2021. 1. 13. · 9huvlrq )& 'xsolfdwh &rs\...

12
Version 2.0 FC Duplicate Copy Gweithiwr Cymdeithasol Gofal Plant x 5 Cyfeirnod y swydd: ESEI00049W3VRE Lleoliad: Tŷ Russell, Y Rhyl a chefnogir gweithio o bell Cyflog: Graddfa 7-9, £27,041 - £35,745 y flwyddyn Oriau: 37 y wythnos 4 x Parhaol, 1 x Tymor Penodol 12 Mis Child Care Social Worker x 5 Job reference ESEI00049W3VRE Location: Russell House, Rhyl & Remote working supported Salary: Grade 7-9, £27,041 - £35,745 per annum Hours: 37 hours per week 4 x Permanent, 1 x 12 Month Fixed Term Mae gan Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi’i leoli yn harddwch gogledd Cymru, weledigaeth glir o fod yn Gyngor rhagorol sy’n agosach at ei gymunedau. Mae’r Cyngor yn un o’r perfformwyr gorau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn cael eu cefnogi’n effeithiol i gyflawni eu llawn botensial, drwy ein gwasanaethau cymorth ac ymyrraeth gynnar effeithiol a chysylltiadau cryf, sy’n sicrhau bod diogelu yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Didnbych. Er mwyn helpu i gyflawni ein gweledigaeth, rydym angen gweithwyr cymdeithasol proffesiynol, profiadol, sydd â hunan- gymhelliant. Mae cyfleoedd ar gael yn y Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth yn ogystal â’r Gwasanaeth Plant Dan Ofal yn benodol o fewn timau’r llys a 14+. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill wrth ddod o hyd i ddatrysiadau a chreu newid. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau i gynnal asesiadau a gwneud argymhellion a phenderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i gefnogi plant agored i niwed i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac i’r bobl ifanc hynny sy’n gadael gofal i gyflawni eu canlyniadau dewisol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cydnabyddedig h.y. CQSW, CSS neu Radd/DipSW, ac wedi cofrestru â’r Cyngor Gofal; a bydd ganddynt brofiad o weithio â phlant a theuluoedd agored i niwed. Denbighshire County Council, located in beautiful North Wales, has a clear vision of being an excellent Council closer to the communities. The Council is one of the best performers in Wales. We are committed to ensuring that vulnerable children and young people are effectively supported to reach their full potential, delivered through our effective early help and prevention services, and strong partnerships that ensure safeguarding remains the highest priority for children and young people in Denbighshire. To help deliver our vision, we need experienced, self-motivated, and innovative social work professionals. Opportunities have arisen within the Intake and Intervention Service as well as the Looked After Children Service specifically within the Court and the 14+ Teams. You will work closely with children, young people and their families, foster carers, legal practitioners and other professionals in finding solutions and creating change. You will use your skills to carry out assessments, make evidence- based recommendations and decisions for interventions to support vulnerable children achieve positive outcomes and for those young people who are leaving care to achieve their preferred outcomes. The successful applicant will have a recognised Social Work qualification i.e. CQSW, CSS or Degree/DipSW and be registered with the Care Council; and have previous experience of working with vulnerable children and families.

Upload: others

Post on 05-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Gweithiwr Cymdeithasol Gofal Plant x 5

    Cyfeirnod y swydd: ESEI00049W3VRE Lleoliad: Tŷ Russell, Y Rhyl a chefnogir gweithio o bell Cyflog: Graddfa 7-9, £27,041 - £35,745 y flwyddyn Oriau: 37 y wythnos 4 x Parhaol, 1 x Tymor Penodol 12 Mis

    Child Care Social Worker x 5

    Job reference ESEI00049W3VRE Location: Russell House, Rhyl & Remote working supported Salary: Grade 7-9, £27,041 - £35,745 per annum Hours: 37 hours per week 4 x Permanent, 1 x 12 Month Fixed Term

    Mae gan Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi’i leoli yn harddwch gogledd Cymru, weledigaeth glir o fod yn Gyngor rhagorol sy’n agosach at ei gymunedau. Mae’r Cyngor yn un o’r perfformwyr gorau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn cael eu cefnogi’n effeithiol i gyflawni eu llawn botensial, drwy ein gwasanaethau cymorth ac ymyrraeth gynnar effeithiol a chysylltiadau cryf, sy’n sicrhau bod diogelu yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Didnbych. Er mwyn helpu i gyflawni ein gweledigaeth, rydym angen gweithwyr cymdeithasol proffesiynol, profiadol, sydd â hunan-gymhelliant. Mae cyfleoedd ar gael yn y Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth yn ogystal â’r Gwasanaeth Plant Dan Ofal yn benodol o fewn timau’r llys a 14+. Byddwch yn gweithio'n agos gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill wrth ddod o hyd i ddatrysiadau a chreu newid. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau i gynnal asesiadau a gwneud argymhellion a phenderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i gefnogi plant agored i niwed i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac i’r bobl ifanc hynny sy’n gadael gofal i gyflawni eu canlyniadau dewisol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cydnabyddedig h.y. CQSW, CSS neu Radd/DipSW, ac wedi cofrestru â’r Cyngor Gofal; a bydd ganddynt brofiad o weithio â phlant a theuluoedd agored i niwed.

    Denbighshire County Council, located in beautiful North Wales, has a clear vision of being an excellent Council closer to the communities. The Council is one of the best performers in Wales. We are committed to ensuring that vulnerable children and young people are effectively supported to reach their full potential, delivered through our effective early help and prevention services, and strong partnerships that ensure safeguarding remains the highest priority for children and young people in Denbighshire. To help deliver our vision, we need experienced, self-motivated, and innovative social work professionals. Opportunities have arisen within the Intake and Intervention Service as well as the Looked After Children Service specifically within the Court and the 14+ Teams. You will work closely with children, young people and their families, foster carers, legal practitioners and other professionals in finding solutions and creating change. You will use your skills to carry out assessments, make evidence-based recommendations and decisions for interventions to support vulnerable children achieve positive outcomes and for those young people who are leaving care to achieve their preferred outcomes. The successful applicant will have a recognised Social Work qualification i.e. CQSW, CSS or Degree/DipSW and be registered with the Care Council; and have previous experience of working with vulnerable children and families.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Bydd y radd y’ch penodir arni yn ddibynnol ar brofiad blaenorol. Rydym yn gwybod y dylid gwobrwyo gwaith caled a dyna pan ein bod yn darparu pecynnau gwych i'n staff. Bydd gennych hawl i nifer o fuddion fel hyfforddiant a datblygiad parhaus, gweithio’n hyblyg, Cynllun Talebau Gofal Plant, Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Ceir a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Anogir gweithio o bell ac o gartref ac mae cefnogaeth TGCh ardderchog ar gael. Mae ein siwrnai heriol yn llunio dyfodol Gwasanaethau Plant, gan anelu i fod y gorau. Dewch i ymuno â ni i gymryd yr her ac i chwarae rôl allweddol o fewn amgylchedd hynod gefnogol, i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Mae’r penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol ac ar wiriad pellach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch: Lisa Atherton - Rheolwr Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth ar 01824 712834 Gail Gerrard – Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro Gwasanaeth Plant dan Ofal ar 01824 712860 Rosanna Hughes ar 01824 712256 (Tîm Llys) neu Julie Lavin ar 01824 712278 (Tîm 14+) Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.

    Dyddiad Cau: 28 Ionawr 2021

    The Grade you will be appointed on will be dependant on previous experience. We know that hard work should be rewarded and that is why we provide our staff with great packages. You’ll be entitled to a number of benefits such as continued training and development, flexible working, Childcare Voucher Scheme, Car Salary Sacrifice Scheme and a Local Government Pension Scheme. Remote & Home working is encouraged with excellent ICT support in place. Our challenging journey is shaping the future of Children’s services, aspiring to be the best. Come and join us to take up the challenge and play a key role within a highly supportive environment, to improve services to children and young people in Denbighshire. The appointment is subject to an enhanced Disclosure and Barring Service Check and satisfactory references. If you would like to discuss any aspect of the post, please call: Lisa Atherton- Service Manager Intake & Intervention Service on 01824 712834 Gail Gerrard- Interim Service Manager Looked After Service on 01824 712860 Rosanna Hughes on 01824 712256 (Court Team) or Julie Lavin on 01824 712278 (14+ Team) If you are interested in this vacancy, please apply on-line via the website www.denbighshire.gov.uk For alternative methods of applying please contact Customer Services on 01824 706101. Candidates must complete our application form to be considered. We regret that we are unable to reply to all applications. If you have not received a reply within three weeks of the closing date, you must assume that you have not been short listed for interview.

    Closing Date: 28January 2021

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal a’i Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Sylwch na fydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni cais a gyflwynwyd yn Saesneg.

    Denbighshire County Council is committed to Equal Opportunities and its Welsh Language Standards. We welcome applications in the Welsh Language and application forms received in the Welsh Language will not be treated less favourably than an application form submitted in English.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    CYNGOR SIR DDINBYCH SWYDD-DDISGRIFIAD Teitl y Swydd: Gweithiwr Cymdeithasol

    Graddfa: 7-9

    Gwasanaeth: Gwasanaeth Addysg a Phlant

    Maes Gwasanaeth: Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth / Plant dan Ofal

    Yn atebol i: Rheolwr Gwasanaeth

    Cyfeirnod y Swydd / Dyddiad cyhoeddi: 02746

    Pwrpas y Swydd

    Darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a sicrhau canlyniadau cadarnhaol o fewn gweledigaeth a blaenoriaethau’r Gwasanaeth: “Mae plant agored i niwed yn cael eu diogelu, yn byw o fewn teuluoedd parhaol, sefydlog, diogel a chariadus sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer llwyddiant ac yn eu galluogi i dyfu a datblygu i fod yn oedolion cyflawn iach".

    Prif Gyfrifoldebau

    Ffurfio a datblygu perthnasoedd gwaith gyda defnyddwyr y gwasanaeth, teuluoedd a’u gofalwyr: Sicrhau mai’r canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant fel y'u diffinnir ym mlaenoriaethau'r

    Gwasanaeth yw'r canolbwynt ar gyfer pob ymyriad. Hyrwyddo a datblygu cysylltiadau gwaith positif ar draws ac o fewn asiantaethau a

    grwpiau gwirfoddol/defnyddwyr lleol. Cyfrannu at ddarpariaeth gofal uniongyrchol, cefnogi, ymyrraeth a diogelu plant a

    theuluoedd agored i niwed. Cyfrannu at gynllunio a datblygu’r gwasanaethau. Cynnal cofnodion cywir a pherthnasol sy’n unol â pholisïau Adrannol. Gweithredu deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a dulliau gweithredu mewnol. Bod yn gyfrifol am eich datblygiad proffesiynol drwy ddefnyddio cyfleoedd

    goruchwylio a dysgu.

    Adnoddau / Offer / Deunyddiau

    Amherthnasol.

    Goruchwylio / Rheoli Pobl

    Amherthnasol.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Gwybodaeth, Sgiliau, Hyfforddiant a Phrofiad Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol Cydnabyddedig h.y. CQSW, CSS neu Ddiploma

    mewn Gwaith Cymdeithasol ac wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Gwaith Cymdeithasol.

    Profiad o weithio gyda phobl a phlant agored i niwed. Profiad blaenorol o asesiadau / adroddiadau ar gyfer y Llys. Gallu i weithio o fewn y terfynau y cytunwyd arnynt wrth gydnabod meysydd o

    ddisgresiwn. Gallu i weithio mewn amgylchedd â phwysau. Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol.

    Mae cymorth, datblygiad proffesiynol a goruchwyliaeth rhagorol ar gael.

    Amodau Gwaith Arbennig

    Amherthnasol.

    Archwiliadau Cyflogaeth / Gofynion Penodol Mae'n ofynnol i bob aelod newydd o staff fynd drwy ein gwiriadau recriwtio mwy diogel; clirio DBS, 2 eirda boddhaol yn cwmpasu 3 blynedd o gyflogaeth, tystiolaeth o gymwysterau hanfodol, tystiolaeth o'r Hawl i Weithio yn y DU. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ei rwymedigaethau i ddiogelu plant ac atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl, gan wneud popeth o fewn ei allu i atal caethwasiaeth a masnachu mewn pobl o fewn ei fusnesau. Mae sawl math o gaethwasiaeth modern, gan gynnwys masnachu mewn pobl, llafur gorfodol, caethiwed a chaethwasiaeth. Mae diogelwch yn bwysig i bawb, ac mae gofyn i holl gyflogeion Sir Ddinbych weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Diogelu Oedolion / Plant y Cyngor, mae dyletswydd arnynt i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi yn ystod eu dyletswyddau a bod yn ymwybodol o arwyddion camfanteisio. Dylid codi unrhyw bryderon â’r Rheolwr Diogelu Penodedig er mwyn i’r Cyngor allu gweithredu pan gaiff camfanteisio ei adnabod.

    Gweledigaeth / Cyd-destun Mae’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn ymrwymo i wella cyfleoedd bywyd plant, pobl ifanc a theuluoedd agored i niwed yn Sir Ddinbych a, ble bynnag y bo modd, galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i fyw’n ddiogel yn eu cymunedau. Bydd ef / hi yn ymateb yn briodol i atgyfeiriadau ac achosion a ddyrannwyd gan yr

    Arweinydd Ymarfer o ran asesu, tasgau gwaith achos parhaus, cael mynediad at adnoddau’r Gyfarwyddiaeth ac adnoddau rhyngasiantaethol, adolygu camau a gymerwyd ac addasu mewnbynnau gwasanaeth yn briodol. Bydd angen i’r gwaith hwn gael ei wneud o fewn cyd-destun deddfwriaeth berthnasol, gweithdrefnau lleol a chanllawiau cenedlaethol.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Bydd deiliad y swydd yn aelod annatod o grŵp ymarfer a ragnodir yn gweithredu mewn modd sy'n cefnogi aelodau eraill y grŵp ymarfer. Yn ogystal, byddant yn cynnal perthynas waith agos sydd o fudd i'r ddwy ochr yn y Gwasanaethau Plant.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    CYNGOR SIR DDINBYCH MANYLION AM YR UNIGOLYN Mae'r Manylion yn nodi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad a ystyrir yn hanfodol er mwyn ymgymryd â dyletswyddau'r swydd yn effeithiol. Caiff ei defnyddio wrth lunio rhestr fer ac ar gyfer y broses o gyfweld am y swydd hon. Dylech ddangos ar eich ffurflen gais sut rydych yn bodloni'r meini prawf hyn. Byddwch ddim ond yn cael eich cynnwys ar y rhestr fer os ydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol (â’r meini prawf dymunol lle bo’n berthnasol).

    Teitl y Swydd: Gweithiwr Cymdeithasol

    Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant

    Graddfa: 7-9

    MEINI PRAWF HANFODOL DYMUNOL DULL ASESU

    Ffurflen Gais / Cyfweliad / Cyflwyniad / Geirda ac

    ati

    1. ADDYSG A CHYMWYSTERAU

    Cymhwyster Proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol h.y. CQSW, CSS, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol

    Ffurflen Gais

    2. PROFIAD PERTHNASOL

    Profiad o weithio gyda phobl/ teuluoedd/ plant agored i niwed Profiad blaenorol o weithio gyda grŵp cleientiaid Profiad o weithio ar gyfer asiantaeth statudol

    Ffurflen Gais / Cyfweliad

    3. GWYBODAETH A SGILIAU CYSYLLTIEDIG Â’R SWYDD

    Gwybodaeth fanwl am y ddeddfwriaeth berthnasol Gwybodaeth a dealltwriaeth o werthoedd gwaith cymdeithasol Gwybodaeth am weithdrefnau amddiffyn plant Gallu gosod amcanion clir, ac yn gallu gweithio mewn dull trefnus Gallu gweithio o fewn y terfynau y cytunwyd

    Gwybodaeth am fentrau diweddar y Llywodraeth Profiad o gwblhau asesiadau llys ar sail tystiolaeth

    Ffurflen Gais / Cyfweliad

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    arnynt wrth gydnabod meysydd disgresiwn Gallu asesu ac ysgogi newid

    4. NODWEDDION PERSONOL

    Aelod da o dîm Sgiliau cyfathrebu da ar lafar a heb fod ar lafar Gallu gweithio mewn amgylchedd â phwysau Yn gallu cymell eich hun Sgiliau rheoli amser da

    Siarad Cymraeg Ffurflen Gais / Cyfweliad

    5. GOFYNION ERAILL Empathi gyda’r Gymraeg a diwylliant Cymru

    Yn rhugl yn yr Iaith Gymraeg

    Cyfweliad

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL JOB DESCRIPTION Job Title: Social Worker

    Grade: 7-9

    Service: Education & Children’s Services

    Service Area: Intake and Intervention / Looked After Children

    Responsible to: Team Manager & Service Manager

    Job ID Number / Date Issued: 02746

    Job Purpose To provide social work services to children, young people and their families and achieve positive outcomes within the Service’s vision and priorities: “Vulnerable children are safeguarded, live within permanent, stable, secure and loving families which provide opportunities for success and enable them to grow and develop into healthy, well rounded adults”. Principal Accountabilities and Responsibilities Form and develop working relationships with service users, families and their carers: To ensure that the positive outcomes for children as defined in the Service’s priorities are

    the focus for all interventions. Promote and develop positive working links across and within agencies and local

    voluntary/user groups. Contribute to the direct provision of care, support, intervention and protection of

    vulnerable children and families. Contribute to the planning and development of services. Maintain accurate and relevant records which are consistent with. Departmental policies. Implement relevant legislation and internal policies and procedures. Be responsible for own professional development through the use of supervision and

    learning opportunities.

    Resources/Equipment/Material

    Not Applicable.

    Supervision/Management of People

    Not Applicable.

    Knowledge, Skills, Training and Experience The successful applicant will have: A recognised Social Work qualification i.e. CQSW, CSS or Degree/Diploma in Social Work

    and be registered with a Social Work Care Council. Previous experience of working with vulnerable people and children. Previous experience of assessments/reports for Court.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    Ability to work within agreed boundaries whilst recognising areas of discretion. Ability to work in a pressurised environment. Commitment to professional development.

    Excellent support, professional development and supervision are available.

    Special Working Conditions

    Not Applicable.

    Employment Checks/ Specific Requirements All new starters are required to undergo our standard safer recruitment checks; DBS clearance, 2 satisfactory references covering 3 years employment, evidence of essential qualifications & evidence of Right to Work in the UK. Denbighshire County Council recognises its obligations to safeguard children and adults together with preventing slavery and human trafficking and will do all in its power to prevent slavery and human trafficking within its business. Modern slavery can take many forms including the trafficking of people, forced labour, servitude and slavery. Safeguarding is everyone’s business and all Denbighshire employees are required to work in accordance with the Council’s Child / Adult Safeguarding policies and procedures and have a duty to report any concerns which may be noted during the course of their duties and are asked to be alert to the signs of exploitation. Concerns should be raised via their Designated Safeguarding Manager in order that the Council can take prompt action when exploitation is identified.

    Vision/Context The Children and Family Service is committed to improving the life chances of the most vulnerable children, young people and their families in Denbighshire and wherever possible enabling children, young people and their families to live safely in their communities. He/she will respond appropriately to referrals and cases allocated by the Practice

    Leader/Team Manager in terms of assessment, ongoing casework tasks, accessing Directorate and inter agency resources, reviewing action taken and Modifying service inputs appropriately. This work will need to be undertaken within the context of relevant legislation, local procedures and national guidance.

    The post holder will be an integral member of a prescribed practice group operating in a manner that supports other practice group members. In addition they will maintain close working relationships that are mutually beneficial within Children’s Services.

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    DENBIGHSHIRE COUNTY COUNCIL PERSON SPECIFICATION The Person Specification sets out the skills, knowledge and experience that are considered to be necessary to carry out the duties of the post effectively. It will be used in the short-listing and interview process for this post. You should demonstrate on your application form how you meet these criteria as you will only be shortlisted if you meet all of the essential criteria (and desirable criteria where applicable).

    Post Title: Social Worker

    Service: Education & Children’s Services

    Grade: 7 - 9

    CRITERIA

    ESSENTIAL

    DESIRABLE

    METHOD OF ASSESSMENT

    Application Form / Interview / Presentation /

    References etc.

    1. EDUCATION & QUALIFICATIONS

    Professional qualification in social work i.e. CQSW, CSS, Degree or Diploma in Social Work

    Application Form

    2. RELEVANT EXPERIENCE

    Previous experience of working with vulnerable people/families/children Previous experience of working with client group Experience of working for a statutory agency

    Application Form / Interview

    3. JOB RELATED KNOWLEDGE & SKILLS

    Detailed knowledge of relevant legislation Knowledge and understanding of the values of social work Knowledge of child protection procedures Ability to set clear objectives and work in a systematic way Ability to work within agreed boundaries whilst recognizing areas of discretion Ability to assess and motivate change

    Knowledge of recent government initiatives Experience of completing evidence based court assessments

    Application Form / Interview

  • Version 2.0 FC Duplicate Copy

    4. PERSONAL QUALITIES

    Good team member Good verbal and non-verbal communication skills Ability to work in a pressurized environment Self-motivation Good time management skills

    Welsh speaking Application Form / Interview

    5. OTHER REQUIREMENTS Empathy with the Welsh Language and Culture

    Fluent in Welsh language

    Interview