peyn addysg - theatr genedlaethol cymrutheatr.cymru/.../uploads/2018/02/pecyn-addysg-cymraeg.pdf ·...
TRANSCRIPT
Datblygwyd y pecyn hwn gan ymarferwr profiadol ym maes addysg, sydd hefyd yn arholwr i CBAC.
Mae’r pecyn wedi ei deilwra ar gyfer y cwrs Drama TGAU / Lefel A ac yn addas hefyd ar gyfer adolygu drama cwrs Cymraeg TGAU.
Fe ellid ei ddefnyddio fel un enghraifft o Theatr Fyw ar gyfer y cwestiwn adolygu yn Adran B o bapur Drama TGAU.
Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda’r tîm yn ogystal â gweithgareddau i gyfoethogi taith i’r theatr, a thasgau i’w cwblhau yn dilyn yr ymweliad.
Mae’r gweithgareddau yn dilyn patrwm rhai o’r cwestiynau allai ymddangos ar bapurau arholiad ysgrifenedig Drama TGAU neu Lefel A.
Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd
Crynodeb o’r ddrama:
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae
ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes
sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol.
Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?
YR AWDUR: CATRIN DAFYDD
Mae Catrin Dafydd yn awdures lawrydd. Magwyd hi
yng Ngwaelod-y-Garth, ger Caerdydd. Graddiodd ym
Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n Llywydd yr Undeb
Gymraeg UMCA o 2003-04
Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac mae’n un o’r
tîm sy’n ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm. Mae wedi
ysgrifennu pump o nofelau gyda’r nofel Gwales yn
ennill gwobr ffuglen Nofel y Flwyddyn 2018. Mae’r
nofelau eraill yn cynnwys Pili Pala, Y Tiwniwr
Piano, Random Deaths and Custard a Random Births
and Love Hearts.
Bu’n olygydd Tu Chwith a Dim Lol ac yn 2011 roedd
hi’n un o’r grŵp a sefydlodd Bragdy’r Beirdd -
nosweithiau o farddoniaeth yng Nghaerdydd.
Mae’n aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith.
Yn 2018 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol
Caerdydd.
HOLI’R AWDUR- Catrin Dafydd
O ble ddaeth y syniad am y ddrama hon?
Yn wreiddiol, comisiynwyd Merched Caerdydd fel rhan o arlwy Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn ystod y
broses, daeth Theatr Genedlaethol Cymru yn bartner hefyd. O ganlyniad, fe fûm i'n ffodus o gael gweithio gyda'r
cyfarwyddwyr Sarah Bickerton a Mared Swain. Perfformiwyd y monologau yn y cwt drama ac yng Nghaffi Sïo.
Am fod 2018 yn flwyddyn o gofio canrif ers i rai menywod gael yr hawl i bleidleisio, roeddwn i'n awyddus i gyflwyno
monologau am fenywod oedd yn byw yng Nghaerdydd heddiw ac yn medru'r Gymraeg. Ar ben hynny, roeddwn i'n
awyddus i roi llwyfan i fenywod nad ydyn ni'n eu gweld nhw ar lwyfan yn aml. Roedd cynrychioli heriau menywod
(a'r dewisiadau anodd sydd ganddynt i'w gwneud o safbwynt eu rôl) yn greiddiol i'r hyn oedd yn fy ngyrru ymlaen
wrth ysgrifennu.
Allwch chi roi disgrifiad byr o’r 3 chymeriad.
Dynes ifanc llawn bywyd o ardal ddifreintiedig Caerau yw Cariad, â'i bryd ar serennu rywsut. Dynes danllyd yw
Liberty sydd â pherthynas gymhleth nid yn unig gyda'i mam ond gyda'i chorff ei hun hefyd. Magwyd Awen mewn
cartref moethus yng Nghyncoed ond bydd yn rhaid iddi ddod i delerau gyda phenderfyniadau ei gorffennol cyn
medru symud ymlaen.
Ydy’r sgript wedi newid llawer ers y darlleniad cyntaf yn yr Eisteddfod? Os ydyw sut a pham?
Tair monolog oedd Merched Caerdydd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae'r monologau wedi eu plethu ynghyd i greu
drama. Roedd yn waith mewn datblygiad ac o ganlyniad fe esblygodd ar hyd y daith. Gyda phob un darlleniad a
phob un ymarfer cafwyd newidiadau a thoriadau er mwyn ceisio cryfhau'r darn.
Yn ogystal, wrth glywed y gwaith yn cael ei berfformio o flaen cynulleidfa yn yr Eisteddfod fe ges i gyfle i sylwi ar
bethau eraill oedd angen eu torri a'u haddasu. Mewn perfformiad byw, mae'r gynulleidfa yn rhoi cannoedd o
gliwiau i chi heb ddweud gair. Rydych chi'n gallu teimlo'r angen i addasu a newid y darn ac yn ysu am gael gwneud
ar ôl perfformiad!
Fyddwch chi’n cydweithio gyda’r cyfarwyddwr o gwbl?
I mi, mae cydweithio gyda Mared Swain fel cyfarwyddwr wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad Merched
Caerdydd. Mewn cymaint o ffyrdd, mae ysgrifennu'n broses dorfol ac rydw i a Mared wedi gweithio'n agos ar
hyd y daith. Mae ei chyngor dramatwrgaidd wedi fy herio ar bob adeg sy'n beth mor arbennig.
Ydych chi’n credu y bydd y cymeriadau yn newid wrth i’r actorion gymryd meddiant ohonynt?
Mae actorion bob tro'n dod â bywyd newydd i gymeriadau. Yn yr ystafell ymarfer, mae'r gwaith yn esblygu wrth i'r
actorion gyfrannu eu meddyliau. Yn fy marn i, mae gan bawb sy'n ymwneud yn ddwys gyda 'drama mewn
datblygiad' yr hawl i awgrymu beth allasai gryfhau'r darn. Mater o bwyso a mesur yw hi wedyn.
Pa un sydd orau gennych? Ysgrifennu i’r teledu neu i’r llwyfan?
Mae ysgrifennu ar gyfer y teledu a'r llwyfan yn brofiadau gwahanol ar un wedd ac eto mae 'na sawl peth yn
gyffredin rhyngddynt. Ym mhob achos, rydych chi'n cyd-weithio'n agos gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a
golygyddion sydd oll am roi'r profiad gorau i'r gynulleidfa. Dwi ddim yn teimlo'r angen i ddewis rhwng y naill
ddisgyblaeth a'r llall mewn gwirionedd achos mae cael y fraint o ysgrifennu mewn sawl cyfrwng yn cyfoethogi dy
brofiad fel sgwennwr.
SAMPL O’R SGRIPT Merched Caerdydd
Liberty - Wy'n un ar hugen, newydd rhoi'r gore i'n gwrs i yn y brifysgol - heb fod i lecture ers dros dwy flynedd. Ers
blwyddyn wy'n gweitho mewn laundrette (sy'n shit ond yn well na bod ar gwrs shit) a gyda'r nos (pan wy ddim yn
rhy nacyrd) wy actually'n darllen llyfre achos bod diddordeb 'da fi. A wy 'di penderfynu, penwthnos 'ma, bod e'n
amser gweud tho Mam - bo fi ddim yn byw y bywyd ma' hi'n meddwl wy'n byw. Ma'r amseru'n dda achos ma Cerys
newydd gyhoeddi bod hi'n dyweddio yn beder ar hugen a ma' vibes da yn ty ni yn Vic Park. Ni 'di 'mestyn prosecco
a plonco fe yn y fridge ac er bod hi'n ffeminist, ma Mam yn pranso rownd wrth ddodi'r dillad ar y lein achos bod
rywun finally ishe priodi un o'i merched hi. 'Sai'n stiwdant rhagor...' wy'n gweud wrthi, tu ol i'r sheet gwyn sy'n
cyhwfan ar y lein,'ddim ers ryw dwy flynedd'. Sa i'n gweld 'i hymateb hi i gychwyn. Ond ar ol muned neu ddwy,
mae'n pipo drwy'r dillad ac yn edrych arnai. 'Sa i'n gwbod be sy fwya tragic, Rhuanedd. Rywun bright fel ti sy'n
neud dim da'i bywyd neu rywun twp fel Cerys sy'n neud gystal gall hi gyda'r ychydig sy 'da hi.'
Awen - Ma Mam yn gweud bo dim hawl 'da fi weld Mathew yn ystod yr wthnos achos 'y ngwaith lefel-a i. Wy'n gofyn i Dad a ma fe'n gweud ok. Achos hyn ma nhw'n ca'l dadl masif cyn i Dad mynd i guddio yn y shed. Y shed yw lle Dad. Ma fe'n gweud bod e'n achub fe rhag ca'l heart attacks.
Cariad-Different story y bore fi’n dechrau'r job cofio. Palms fi'n sweto - calon fi'n mynd - ddim wedi twtcho we-
etabix fi - siarad Cymraeg drwy'r dydd? Like, sut mae hwnna'n mynd i gweithio? Ond fi’n gwneud e. A fi’n actually
rili hoffi fe. Brain fi'n teimlo'n buzzy a popeth. Fi'n hoffi'r Mams a'r Dads. Y plant, (wel - rhan fwyaf o nhw) ac mae
Pegi sydd bia Hipo Aur i gweld yn like HOLLOL lysh - like, really decent type, ti'n gwbod. Ac am y tro cyntaf ers fi’n
gallu cofio, fi’n rili excited. Fi'n dda gyda'r kids a ma'r tedis a'r cwningod, y beics bach plastic - ma' fe gyd yn
teimlo'n iawn.
Awen - Un bore ma' Mam a Dad yn dod mewn ac yn agor y cyrtens. Trial tynnu fi mas o'r gwely. Ond fi'n pallu. A fi'n cico Dad yn y gwlis ar gamgymeriad nes bod e'n gwingo. Ma Mam yn colli'r plot ar y pwynt 'ma. Gwallt yn bobman. Llefen. A mae jyst yn sgrechen, 'da poer dros 'i cheg hi - Tynna d'unan at 'i gilydd, Awen! Er mwyn Duw!
GWEITHGAREDDAU
1. Dadansoddwch berfformiadau 2 o’r actorion yn Merched Caerdydd a gwerthuswch yr effaith gafodd eu
perfformiadau arnoch chi fel aelod o’r gynulleidfa.
Fe ddylech chi hefyd gymharu y rhain â pherfformiadau 2 actor arall o gynyrchiadau byw arall a welsoch. Yn eich
ateb fe ddylech chi gynnwys;
enw’r cynyrchiadau
dehongliad yr actorion o’u rolau
arddulliau actio
sgiliau lleisiol
sgiliau symud
ymateb cynulleidfa
barn feirniadol
cymhariaeth â pherfformiadau eraill
2. Fel actor esboniwch sut y byddech chi’n perfformio rôl Liberty yn y ddrama hon. Yn eich ateb fe ddylech chi
gyfeirio at:
cymhelliant a pherthynas y cymeriad ag eraill
sgiliau lleisiol
symudiadau
Dadansoddwch a gwerthuswch sut mae unrhyw gynyrchiadau byw rydych wedi’u gweld wedi dylanwadu ar eich
syniadau ar gyfer perfformio’r cymeriad.
3. Dewiswch 2 o’r cymeriadau a lluniwch ddeialog rhyngddyn nhw.
4. Mae Awen yn cyfeirio at Mathew. Lluniwch fonolog ddychmygol i’r cymeriad hwn gan ddangos sut y mae ef yn
ymateb i gymeriad Awen a’r hyn sy’n digwydd iddi.
5. Lluniwch fonologau am dri chymeriad sydd yr un oedran â chi a'r problemau sydd ganddynt yn eu bywydau
hwy. Rhaid i'r cymeriadau fod yn hollol wahanol o ran cefndir, natur y digwyddiadau, y defnydd o iaith ac ati.
Y CYFARWYDDWR: MARED SWAIN
Mae Mared Swain yn actores a chynhyrchydd, a
bu’n gysylltiedig â chyfresi megis Cowbois ac Injans
(2006) , Hinterland (2013) a Pen Talar (2010).
Magwyd hi yn Llantrisant a mynychodd Ysgol Gyfun
Llanhari. Yn 16 oed ymunodd â’r Theatr Ieuenctid
Genedlaethol ac ennill lle yn y Coleg Cerdd a Drama
yng Nghaerdydd. Ers graddio yn 2003 mae wedi
actio i’r theatr, y teledu a’r radio, wedi ysgrifennu
ffilmiau byrion, sgriptio i Theatr Genedlaethol
Cymru, a bu’n un o’r storiwyr ar y gyfres Caerdydd.
Bu’n gynhyrchydd cynorthwyol ar y gyfres Gwaith
Cartref ac mae hefyd wedi cyfarwyddo nifer o
ddramâu llwyfan. Penodwyd hi yn Gyfarwyddwr
Cysylltiol i’r Gymraeg gyda Sherman Cymru.
HOLI UN O’R ACTORION - Hanna Jarman
Beth ddenodd chi at y ddrama hon a chytuno i fod yn rhan
ohoni?
Dwi wedi edmygu gwaith Catrin Dafydd ers sbel a dwi wir yn
edrych mlan ac yn falch o’r cyfle i gael gweithio gyda hi. Ers
graddio o’r coleg Cerdd a Drama mae gweithio gyda’r Theatr
Genedlaethol wedi bod ar y “bucket list”, felly rheswm arall
pam mae’n fraint i fod yn rhan o’r cynhyrchiad. Ac fel merch
o Gaerdydd mae’n gyfle perffaith!
Sut gymeriad ydyw cymeriad Liberty?
Mae Liberty yn ymddangos yn hyderus ond yn y bôn mae
hi’n eitha bregus ag eisiau cael ei derbyn a’i charu. Er bod
hi’n wahanol iawn i fi dwi’n meddwl bod ein anghenion yn
debyg iawn.
Beth am y cydweithio rhwng yr actor a'r cyfarwyddwr?
Dwi wedi gweithio gyda Mared Swain ar y ddrama Trwy’r
ddinas hon i Sherman Cymru pan roeddwn i’n iau ac yn
edrych mlaen at weithio gyda hi eto. Dwi’n meddwl mai hi yw’r cyfarwyddwr perffaith i archwilio 3 merch o Gaerdydd.
Beth am y broses ymarfer? Sut fyddwch chi'n mynd ati i baratoi ar gyfer y rhan?
Y gwaith cartref fydda i yn ei wneud yw archwilio sut rydw i yn debyg ac annhebyg i Liberty. Darganfod yr hyn sy’n gyffelyb a
thrïo deall pam mae hi’n dewis neud y pethau mae hi’n neud yn y ddrama. Fel actor dwi’n gorfod caru fy nghymeriad, sdim ots
pa mor wahanol yw hi i fi. Dwi’n edrych ymlaen at y sialens.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun ifanc sy am fynd i mewn i'r byd actio?
Byddwch yn barod i weithio’n galed a dysgu sut i greu gwaith eich hun. Mae hi’n siwrne hir, felly dysgwch sut i’w mwynhau hi!
Pa un sydd orau gennych- actio ar y teledu neu actio ar lwyfan?
Dwi’n mwynhau y ddau yn arw ond dwi’n mwynhau proses ymarfer theatr. Does dim byd gwell na darganfod ac arbrofi gyda
chyd-actorion a chyfarwyddwr.
Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams
Crynodeb o’r ddrama:
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau
cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti
oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.
YR AWDUR: ROGER WILLIAMS
Ganwyd y dramodydd Roger Williams yng
Nghasnewydd er iddo gael ei fagu yng
Nghaerfyrddin. Graddiodd yn 1995 o
Brifysgol Warwick gyda gradd mewn
Saesneg a Llenyddiaeth America.
Mae’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r
Saesneg.
Mae ei waith yn aml yn archwilio
agweddau o fywyd modern Cymru megis
lle ieithoedd lleiafrifol, cyflwr distryw
cymunedau diwydiannol a bywyd hoyw yng
Nghaerdydd.
Mae ei waith theatr yn niferus- yn eu plith
mae Surfing, Carmarthen Bay (1995); Calon
lan (1997); Tir Sir Gar (2013).
Mae wedi ysgrifennu droeon i’r gyfres
Pobol y Cwm ac yn 2006 ef oedd prif
awdur y ddrama gyfres boblogaidd ar S4C-
Caerdydd. Roger ysgrifennodd y ddrama
ddwyieithog Bang ar gyfer S4C, 2017.
Yn 1998 ymddangosodd Saturday Night
Forever ac mae Nos Sadwrn o Hyd yn
gyfieithiad o’r ddrama honno.
GAIR GAN YR AWDUR - Roger Williams
Ysgrifennais i’r ddrama hon yn 1998. Roeddwn wedi gwylio rhaglen ddogfen am ymosodiadau ar y gymuned
hoyw. Roedd y straeon yn frawychus ac roeddwn yn benderfynol o ysgrifennu rhywbeth er mwyn cyfathrebu
cost dynol yr ymosodiadau hyn. Roedd angen amlygu casineb homoffobig ar y pryd a thynnu sylw at yr hyn oedd
yn mynd ymlaen yn ein cymdeithas ni.
Ysgrifennais i’r ddrama yn y Saesneg yn wreiddiol dan y teitl Saturday Night Forever. Dymuniad y prif gymeriad
yw bod nos Sadwrn yn para am byth, mae’r teitl hefyd yn enw cân gan Pet Shop Boys. Perfformiwyd y ddrama
yng Nghymru a Chaeredin yn 1998 ac mae hi wedi cael ei pherfformio sawl gwaith dros y blynyddoedd
diwethaf. Roedd rhaid mynd yn ôl ati er mwyn ail wampio’r testun ar gyfer cynhyrchiad gan Ganolfan y
Celfyddydau Aberystwyth yn 2016. Roedd cymaint wedi newid yn ein cymdeithas o ran agweddau a thechnoleg
ac ati roedd angen cynnwys y newidiadau hyn yn y ddrama er mwyn ei chadw’n gyfredol. Addaswyd y sgript i’r
Gymraeg y llynedd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Lee yn ddyn yn ei 20au sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n chwilio am gariad; mae’n gymeriad hoffus a
doniol. Mae’n bwysig bod y gynulleidfa yn cymryd at y cymeriad er mwyn i’r diweddglo gael impact.
Mae pob actor yn taclo chwarae Lee yn ei steil ei hun. Rwy’n croesawu pob dehongliad - dyma beth sy’n gwneud
y theatr yn ddiddorol yn fy marn i. Yn wahanol i deledu a ffilm mae gennym y cyfle i ail ddychmygu pob
cynhyrchiad ac hyd yn oed pob perfformiad. Bydd Sion ac Aled yn dehongli fy ngeiriau yn eu ffordd arbennig nhw
ac yn ôl eu profiadau personol nhw.
Ni fyddaf yn treulio amser yn yr ystafell ymarfer y tro hwn gan fod y ddrama wedi cael ei pherfformio nifer o
weithiau dros y blynyddoedd. Rwy’n mwynhau mynd i wylio’r sioeau erbyn hyn a darganfod beth mae’r tîm
creadigol wedi ei greu.
Mae angen gweithio mewn ffordd wahanol yn ôl cyfrwng y gwaith. Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn ysgrifennu ar
gyfer y teledu ar hyn o bryd. Mae’r diwydiant yn esblygu ac yn mentro mewn sawl ffordd. Teledu yw’n hoff
gyfrwng ar hyn o bryd ond dwi hefyd yn paratoi ffilm am y tro cyntaf eleni ac yn mynd ati i ysgrifennu drama
lwyfan lawn am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn.
Fy nghyngor i ddramodydd ifanc fyddai gwylio llwyth o ddramâu a rhaglenni teledu. Mae eisiau astudio’r hyn
mae eraill yn ei wneud er mwyn cyfoethogi gwaith ein hunain.
SAMPL O’R SGRIPT Nos Sadwrn o Hyd
Gan ddeall bod creu argraff gynta’n hanfodol, ddewishes i’n profile picture yn ofalus. Hales i orie’n treial cymryd llun teidi o’n hunan yn nrych y bathrwm. Stumog mewn, chest mas, gwena, clic…. Wedi penderfynu bo fi’n edrych yn fwy tebyg i Wil Cwac Cwac na’r math o foi fyddech chi’n gwahodd adre i gwrdd â’ch rhieni, nes i roi’r gore i’r photoshoot a dewis llun o’n hunan ar wylie yn yr haul haf diwetha. Six pack – bron. Lliw haul. Eight out of ten.
Nes i addasu’r lliwie – Nashville Filter – a golygu’r llun nes y cwbwl o’ chi’n gallu gweld o’n nghorff i odd y rhan rhwng fy ngwddf a’n mhenglinie – a’i bostio ar lein.
Grindwch, wi’n gwbod o’n i ‘di addo’n hunan fydde hyn ddim yn ddigwydd eto. O’n i ‘di gweud troeon nag o’n i’n mynd i ddychwelyd i’r lle ‘na, i’r hunllef o’n i newydd ddianc, ond wrth i ni siarad, ac wrth i ni chwerthin, am y tro cyntaf ers cwpla gyda Matthew nes i ddechre ffansio rhywun.
Roedd Carl yn athro. Roedd Carl yn dod o Benarth. Roedd Carl ‘di astudio Seicoleg yn y brifysgol. Roedd Carl ‘di treulio’i wylie diwethaf yn Copenhagen. Roedd Carl yn berffeth a bydden i ‘di ymuno ‘da’i fan club e yn y man a’r lle ‘se rhywun ‘di cal y sens i ddechre clwb o’r math. Roedd Carl yn dal, ‘da gwallt du a wyneb alle ‘di gwerthu siwts dros Armani. Felly beth odd y broblem? Y broblem odd, fel ffindes i mas am dri deg tri muned wedi pedwar yn y bore ac ar ôl llawer gormod o alcohol, bod Carl newydd gwpla ‘da Debbie.
Olreit. Ma’n rhaid bo fi ‘di gwbod ar ryw lefel bod dim chance ‘da fi weld y boi ‘ma yn ‘i bants, ond chi’n goffod byw mewn gobeth. Odd Carl ‘di hala orie’n siarad ‘da fi, ac odd pob sylw, stori a joc ‘di’n swyno i. Laddodd yr enw “Debbie” ‘yn ngobeithion i. Odd e ‘di cal perthynas ‘da menyw. Odd e’n stret. Come on, odd e ffili help.
Y CYFARWYDDWR- ALED PEDRICK
Mae Aled Pedrick yn actor, awdur a chyfarwyddwr. Daw’n
wreiddiol o Waun Cae Gurwen. Hyfforddwyd ef yng Ngholeg
Cerdd a Drama Y Guildhall yn Llundain. Mae wedi ymddangos
mewn nifer o gyfresi ar y teledu, yn eu plith – 35 Awr, Parch a
35 Diwrnod. Yn 2005 ymddangosodd yn y gyfres Doctor Who.
Roedd yn aelod o’r cast yn ystod taith lwyddiannus ‘Deffro’r
Gwanwyn (Theatr Genedlaethol). Mae wedi cyfarwyddo nifer
o ddramâu i’r llwyfan.
HOLI’R CYFARWYDDWR- Aled Pedrick
Beth ddenodd chi at y ddrama hon a chytuno i’w chyfarwyddo?
Mi oeddwn yn gyfarwydd â’r fersiwn Saesneg, felly mi oedd yn fraint llwyfannu fersiwn Cymraeg cynta’r ddrama
yn ystod dathliad Mas Ar Y Maes yn Eisteddfod Caerdydd 2018. Bach iawn o ddramâu sy’n delio â hunaniaeth
hoyw sydd ar gael yn yr iaith, a mi rydw i’n edrych ymlaen yn arw i fynd â’r stori yma ar daith Genedlaethol.
Beth fydd yr heriau wrth gyfarwyddo’r ddrama?
Yn sicr, mae yna her bob tro wrth baratoi cynhyrchiad sydd yn teithio. Mae gweledigaeth y cynhyrchiad yn gorfod
bod yn gysyniad trawiadol, gan gadw mewn golwg bod angen i hyn weithio mewn sawl theatr amrywiol iawn
mewn maint a steil.
Allwch chi ddweud gair yn fyr am y broses ymarfer fydd gennych?
Gan mai monolog o awr yw’r darn, mae’n bwysig i gadw’r teimlad yma o sgwrs rhwng yr actor a’r gynulleidfa, ond
eto, cynnwys digon o amrywiaeth i liwio’r darn. Mae’n gallu bod yn anodd i gynulleidfa wrando ar un llais am
gyfnod, felly mae angen lot o waith ar y testun- gan sicrhau bod y llais yn cynrychioli taith y cymeriad ac yn creu
llwybr i’r stori.
Faint o drafod fydd rhyngoch chi a’r awdur? Fyddwch chi’n trafod y set gyda’r Cynllunydd set o gwbl?
Yn sicr, mae yna sgyrsiau cyson rhwng y tîm cyfan- yr awdur a finnau ar y cyd bob cam o’r ffordd wrth i’r broses
symud yn ei blaen.
Mae yna her ychwanegol gyda’r cynllunydd, wrth greu un set sy’n gweithio ar gyfer dwy ddrama, gan awduron
gwahanol. Mae yna lot o baratoi, trafod, gwneud, ail-wneud a datblygu o’r dechrau hyd at agor y sioe.
HOLI’R ACTOR – Sion Ifan
Beth ddenodd ti at y ddrama hon a chytuno i fod yn
rhan ohoni?
Fe welais i'r ddrama yn wreiddiol yn y Saesneg rhai
blynyddoedd yn ôl a dwli arni. Ac ar ôl darllen
cyfieithiad Roger roedd rhaid i mi ei gwneud hi!
Dwi'n meddwl ei bod hi'n cyfuno'r diwylliant
Cymraeg, y dinesig, a'r byd hoyw yn berffaith.
Sut gymeriad ydyw dy gymeriad yn y ddrama?
Mae Lee yn gymeriad hoffus, llawn egni ac yn
mwynhau bywyd. Ond mae e hefyd yn sensitif, yn
wyliadwrus, ac yn bryderus am ei ddyfodol. Mae'r
ddeuoliaeth yma o fewn ei gymeriad yn ddiddorol.
Beth am y cydweithio rhwng yr actor a'r
cyfarwyddwr?
Fe wnes i'r ddrama yn yr Eisteddfod llynedd fel rhan
o Mas Ar y Maes, felly fyddwn ni'n ail-ymarfer hi
am bythefnos cyn agor y ddrama unwaith eto yn
Theatr Clwyd.
Beth am y broses ymarfer? Sut fyddi di'n mynd ati i baratoi ar gyfer y rhan?
Mae'r broses ymarfer ar gyfer drama theatr yn gallu bod yn wahanol bob tro, yn dibynnu ar bwy sy'n
cyfarwyddo/beth yw'r darn ayyb. Mae'r broses ymarfer drama un dyn yn wahanol gan nad oes neb arall yn y
ddrama i gyd-weithio gyda. Mae hi'n broses o gyd weithio'n agos rhwng yr actor a'r cyfarwyddwr. Mi fydda i
wedi dysgu'r sgript i gyd cyn mynd i fewn i'r ystafell ymarfer a wedyn fe fyddwn ni'n tynnu'r sgript yn ddarnau yn
yr wythnos gyntaf ac yn ei hail-adeiladu. Wedyn unwaith mae popeth yn ei le, a'r gwaith manwl wedi'i wneud, mi
fydda i'n hoffi rhedeg y ddrama cymaint a phosib a chwarae gyda'r gwahanol elfennau ohoni.
Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i rywun ifanc sy am fynd i mewn i'r byd actio?
Ewch i weld cymaint o theatr â phosib. Darllenwch cymaint o ddramâu â phosib.
Pa un sydd orau gennyt - actio ar y teledu neu actio ar lwyfan?
Er bod y ddau yn gyfrwng hollol wahanol - ar ddiwedd y dydd does gen i ddim hoff un, gan taw trïo ffeindio
gonestrwydd mae'r actor bob tro. Dyna yw'n job ni ar ddiwedd y dydd. A ni'n lwcus iawn o gael y cyfle i wneud y
job hwnnw.
GAIR GAN Y DYLUNYDD SET A GWISGOEDD- Heledd Rees
Sut fyddwch chi'n mynd ati i ddylunio set ar gyfer cynhyrchiad? Beth ydyw'r camau yn y broses?
Y cam cyntaf yw darllen y sgript a chael sgwrs gyda’r cyfarwyddwr am unrhyw syniadau sydd wedi dod i’r golwg. Fe
fydda i wedyn yn mynd ati i ymchwilio er mwyn cael ysbrydoliaeth, cyn braslunio syniadau cyntaf. O hyn, fe fydda
i’n trafod y syniadau nôl ac ymlaen gyda’r cyfarwyddwr er mwyn eu datblygu. Y cam nesaf fydd creu model cerdyn
gwyn, cyn ei addasu gydag unrhyw newidiadau i wneud model terfynol o’r set.
Beth ydyw'r her gyda'r cynhyrchiad hwn? Ai'r ffaith bod 2 ddrama wahanol? Sut mae goresgyn hynny?
Y her fwyaf gyda’r cynhyrchiad yma yw ei fod yn gorfod teithio mewn fan dros nifer o wahanol leoliadau. Bydd y
set yn gorfod cael ei chodi a’i thynnu i lawr o fewn amser byr, gyda thîm bach i’w rhoi at ei gilydd hefyd. Felly,
rhaid oedd meddwl yn ofalus nid yn unig am olwg y set, ond faint mor ymarferol fyddai hefyd.
Beth am y gwisgoedd? Sut benderfynoch chi ar y gwisgoedd?
Mae cynllunio gwisgoedd ar gyfer y ddrama yma wedi bod yn broses wrth i’r sgript ddatblygu. Fel cynllunydd, rhaid
deall a dod i nabod y cymeriadau mor dda â phosib, felly bydd gweld datblygiad yn yr ystafell ymarfer gyda’r cast
hefyd yn dylanwadu ar fy newisiadau am y gwisgoedd.
Ydych chi'n trafod gyda'r Cyfarwyddwr?
O’r munud cyntaf y bydda i’n dechrau ar gynhyrchiad newydd fe fydda i’n trafod pob elfen am y set a’r gwisgoedd
gyda’r cyfarwyddwr. Bydd hyn yn parhau i fod yn gydweithrediad rhwng y ddau ohonom trwy gydol y broses.
Beth fyddai'ch cyngor i unrhyw ddisgybl sydd â diddordeb mewn dylunio set/gwisgoedd?
Mae profiad o fod yn yr amgylchedd theatr yn hanfodol – gwirfoddolwch i helpu gyda dylunydd er mwyn cael
profiad o’r broses!
GAIR GAN Y DYLUNYDD GOLEUO – Elanor Higgins
Pan ofynnir i fi i greu cynllun goleuo ar gyfer cynhyrchiad y peth cyntaf fydda i’n ei wneud ydyw cael copi o’r sgript,
yn yr achos hwn sgriptiau, a threfnu i gwrdd â’r cyfarwyddwyr am sgwrs gychwynnol ynglŷn â beth yn union yw’r
sioeau.
Fe fydda i hefyd yn cael sgwrs gyda’r dylunydd set ac yn ddelfrydol bod yn rhan o’r trafod cyn bod y set wedi’i
chwblhau.
Trwy ddarllen y sgript sawl gwaith fe fydda i’n gallu cael teimlad am y sioe, pa fath o naws ac awyrgylch a
ddisgrifir, pa fath o egni a chyflymdra sy’n cael eu harchwilio. Pryd a ble y caiff ei lleoli, beth yw cyfnod y sioe, ydy
hi’n fodern, fel y sioeau hyn, er enghraifft, neu ydy hi’n hanesyddol. Trwy sgwrsio gyda’r cyfarwyddwyr fe fydda i’n
gallu dod i ddealltwriaeth o’r byd y mae’r dramâu yn bodoli ynddo yn eu barn hwy. Mae o hyd yn fenter ar y cyd
rhwng cyfarwyddwyr, cynllunwyr, dylunwyr goleuo a sain, dylunwyr av os mai dyna’r arddull y gofynnir amdani.
Mae’r rhain yn fonologau gwahanol gyda dau gyfarwyddwr gwahanol ond mae themâu tebyg ynddyn nhw ac yn yr
achos hwn yr un lleoliad, Caerdydd. Bydd y ffordd y byddwn ni’n defnyddio'r set a’r goleuo yn helpu i greu
awyrgylch y gwahanol storiâu.
Fe fydd gen i berthynas waith agos gyda’r cyfarwyddwyr a’r dylunydd set trwy gydol y broses rihyrsio er mwyn
gweld sut y daw’r storiâu yn fyw yn ogystal â gweld ble fydd y chwarae yn digwydd ar y llwyfan, er mwyn i fi
weithio allan ble yn union y bydd y ‘cues’ golau yn digwydd, bydd yn fy helpu i weld sut y mae’r cyfarwyddwyr a’r
actorion yn creu’r bydoedd hynny a sut y galla i gefnogi adrodd y stori trwy’r goleuo.
Mae’n rhaid ystyried sawl elfen ymarferol wrth fynd â sioe ar daith, o faint o gyllid sydd ar gael i gefnogi’r Cynllun
Goleuo i faint o amser fydd ar gael ymhob lleoliad i osod y goleuadau a faint o bobol fydd yn gweithio ar y
cynhyrchiad. Bydd y ffactorau uchod i gyd yn fy helpu i greu Cynllun Goleuo i’r sioeau.
Fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn llwybr at Gynllunio Goleuo i fynd amdani!
Mae’n gymaint o hwyl ac yn rhoi cymaint o foddhad. Mae sawl llwybr gwahanol i’w ddilyn ym myd goleuo a phob
un yr un mor bwysig â’i gilydd, megis bod yn rhaglennwr (‘programmer’), lle byddwch chi’n gweithio gyda’r
dylunydd goleuo i adeiladu ‘cues’ goleuo ar ddesg goleuo, i fod yn drydanwr Cynhyrchiad neu dechnegydd goleuo i
reoli sbot dilyn a sawl maes arall. Os oes gennych ddiddordeb, ceisiwch fod yn rhan o gynhyrchiad yr ysgol neu’n
rhan o gwmni drama amatur lleol, er mwyn gweld os allwch chi weithio yn achlysurol yn eich theatr leol. Mae yna
sawl llwybr i mewn i’r diwydiant proffesiynol o brentisiaethau modern i Ysgolion Drama sy’n cynnig hyfforddiant
galwedigaethol.
Rydw i wedi bod yn y diwydiant ers peth amser bellach ac rydw i’n dal yn angerddol ynglŷn â’r gwaith, mae’n
gymaint o fraint i weithio gyda chymaint o bobol ardderchog a chreu cynyrchiadau i’r cynulleidfaoedd sydd allan
yno.
GWEITHGAREDDAU
1. Mae’r Cyfarwyddwr Aled Pedrick yn nodi y dylid “sicrhau bod y llais yn cynrychioli taith y cymeriad ac yn creu
llwybr i’r stori.”
Dadansoddwch sgiliau lleisiol yr actor yn Nos Sadwrn o Hyd gan werthuso sut y defnyddiodd y rhain i gyfathrebu â’r gynulleidfa.
2. Er mwyn dangos pa mor bwysig mae sgiliau lleisiol i gyfathrebu â chynulleidfa, o ran tôn, traw, pwyslais,
uchder, cyflymder etc. arbrofwch gyda’r ymarfer syml hwn.
Mewn parau lluniwch ddeialog gan ddefnyddio’r geiriau “Ie” a “Na” yn unig.
3. Defnyddiwch yr ymarfer hwn i alluogi’ch disgyblion i ymateb i’r hyn welon nhw ar y llwyfan.
Dylid dewis un o’r dramâu i ymateb iddi.
Rhannwch y dosbarth yn grwpiau a rhowch ddarn o bapur i bob grŵp gan glustnodi agwedd o’r cynhyrchiad i bob
grŵp- yn cynnwys:
y set
y cyfarwyddo
yr actio
y goleuo
themâu
(gall yr athro ddewis agweddau eraill os dymunir)
Dylai pob grŵp ysgrifennu eu hagwedd hwy ar y darn papur. Yna rhowch bum munud neu fwy i’r grŵp i feddwl
am sylwadau ac ymatebion i’r agwedd sydd ganddyn nhw. A hynny ar ffurf gwe pry cop. Ar ôl y 5 munud neu fwy
dylai’r grŵp basio eu papur i’r grŵp nesaf ac ail adrodd y broses nes bod pob grŵp wedi gwneud sylwadau ar bob
agwedd o’r cynhyrchiad.
Gellir llungopïo'r tudalennau wedyn a’u rhoi i bob disgybl fel sail i drafodaeth bellach am y cynhyrchiad a
ddewiswyd.
Gall hyn fod yn gymorth i’r disgyblion pan ddaw’n fater o ysgrifennu adolygiad eu hunain o gynhyrchiad byw ar
lwyfan.
4. Fel dylunydd set a gwisgoedd sut fyddech chi wedi mynd ati i ddylunio’r set ar gyfer y cynhyrchiad hwn o’r 2
ddrama. Fe ddylech chi roi sylw i’r canlynol:
creu awyrgylch
gwisgoedd
colur a gwallt
set, llwyfan ac arddull
sain