mae gan y llyfryn hwn gryfderau a diffygion . mae cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

59
Mae gan y llyfryn hwn gryfderau a diffygion. Mae cryfderau’r canllaw yn cynnwys: • trosolwg hynod weledol ac anodedig o enghreifftiau posibl o unedau ymgeiswyr; • enghreifftiau sy’n dangos ymateb i’r pedwar amcan asesu. Mae diffygion y canllaw yn cynnwys: • llai o samplau cynrychioladol o waith mewn rhai achosion; • dim awgrym o raddfa; • mae rhywfaint o waith ar ei ennill a rhywfaint ar ei golled oherwydd priodweddau ffotograffau digidol. At ei gilydd, rydym yn teimlo bod yr elfennau cadarnhaol a negyddol yn dal i olygu bod y llyfryn yn ganllaw defnyddiol a chefnogol ar gyfer athrawon. TAG UG/A2 CELF A DYLUNIO - MEINCNOD/ SAMPLAU DPP 2012

Upload: olathe

Post on 24-Feb-2016

89 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

TAG UG/A2 CELF A DYLUNIO - MEINCNOD/ SAMPLAU DPP 2012. Mae gan y llyfryn hwn gryfderau a diffygion . Mae cryfderau’r canllaw yn cynnwys : • trosolwg hynod weledol ac anodedig o enghreifftiau posibl o unedau ymgeiswyr ; • enghreifftiau sy’n dangos ymateb i’r pedwar amcan asesu . - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

Mae gan y llyfryn hwn gryfderau a diffygion.

Mae cryfderau’r canllaw yn cynnwys:

• trosolwg hynod weledol ac anodedig o enghreifftiau posibl o unedau ymgeiswyr;

• enghreifftiau sy’n dangos ymateb i’r pedwar amcan asesu.

Mae diffygion y canllaw yn cynnwys:

• llai o samplau cynrychioladol o waith mewn rhai achosion;

• dim awgrym o raddfa;

• mae rhywfaint o waith ar ei ennill a rhywfaint ar ei golled oherwydd priodweddau ffotograffau digidol.

At ei gilydd, rydym yn teimlo bod yr elfennau cadarnhaol a negyddol yn dal i olygu bod y llyfryn yn ganllaw defnyddiol a chefnogol ar gyfer athrawon.

TAG UG/A2 CELF A DYLUNIO - MEINCNOD/ SAMPLAU DPP 2012

Page 2: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 1ART1 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 3: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 4: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Mae’r uned hon wedi’i hysbrydoli gan yr amgylchedd naturiol ac yn cynnwys astudiaeth uniongyrchol o ffynonellau gwreiddiol fel coed a ffurfiant gwreiddiau yn ogystal â chyfeiriadau cyd-destunol priodol a nodwyd yn ystod ymweliadau â dwy oriel leol. Defnyddir lluniadu a pheintio, ffotograffau ac anodi yn llyfr braslunio’r ymgeisydd at ddibenion cofnodi. Mae’r rhain, ynghyd â dadansoddiad beirniadol o’r gwaith a astudiwyd yn uniongyrchol, yn rhan ganolog o’r gwaith a gyflwynwyd. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio cyfryngau acrylig a dyfrlliw ac yn gwella ei reolaeth ohonynt er mwyn cyflawni bwriadau penodol. Yn yr un modd, mae’n archwilio nodweddion gweithio dau fath o gyfryngau tri dimensiwn – rhwymyn plastr a chlai ar ffurf gwifren a slab – er mwyn ystyried eu posibiliadau ar gyfer gwaith creadigol a datblygu lefel briodol o reolaeth. Cynhyrchir dau ymateb gwahanol. Cyfansoddiad dyfrlliw o olau haul drwy’r coed yw’r cyntaf. Gwaith ceramig gwydrog, llosg yw’r ail ddarn, ac mae’n deillio o lwybr dylunio sy’n seiliedig ar ffurfiannau coed ac yn ymgorffori ffigurau. .

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol

Mae’r ymgeisydd yn dadansoddi ac yn gwerthuso ei waith ei hun a gwaith eraill yn gadarn, ac yn cynnwys enghreifftiau o waith a astudiodd mewn orielau lleol. Ceir tystiolaeth o ddehongli aeddfed, dealltwriaeth gadarn a gallu i gymhwyso ymchwil gyd-destunol yn effeithiol.

AA2 Gwneud Creadigol

Mae syniadau dau a thri dimensiwn cydlynol wedi’u datblygu mewn ffordd greadigol a medrus. Sefydlir cysylltiad clir rhwng dulliau gweithio a chanlyniadau, ac mae elfennau ffurfiol yn cael eu hystyried a’u cymhwyso yn dda. Mae yna dystiolaeth o sgiliau proses o safon uchel, ac yn gyffredinol mae cyflawniad yn gryfach na’r hyn a welir yn y ddau ddarn o waith terfynol.

AA3 Cofnodi Myfyriol

Mae galluoedd cofnodi hyderus a hynod gymwys yn amlwg yn y gwaith lluniadu a pheintio, ynghyd â ffotograffiaeth ac anodi. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol hygyrch, o ansawdd da gan amlaf i wneud gwaith ymchwil ac ymholi cadarn.

AA4 Cyflwyno Personol

Gwireddir bwriadau realistig yn effeithiol, yn enwedig o ran tystiolaeth o brosesau. Mae’r cyflwyniad yn berthnasol drwyddo draw, gyda chysylltiadau clir rhwng elfennau cyfansoddol yr uned. Mae’r cyflwyniad awdurdodol a chyflawn wedi’i ategu gan werthusiad gofalus a chlir.

AA1 = 28 / 30 AA2 = 27 / 30 AA3 = 28 / 30 AA4 = 27 / 30 MARC = 110 / 120

Page 5: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 2ART1 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 6: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 7: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwy’n bwriadu dilyn thema frodorol ar gyfer teitl fy ngwaith cwrs, ‘amgylchedd’. Rwy’n bwriadu ymchwilio i artistiaid sy’n defnyddio dull Hada Brodorion America o gynrychioli anifeiliaid mewn ffordd haniaethol ond adnabyddadwy. Ar gyfer fy ngwaith terfynol cyntaf, byddaf yn portreadu anifail syml (heb unrhyw gefndir/blaendir) yn y dull Hada. Byddaf yn defnyddio lliwiau traddodiadol Hada, sef coch a du. Ar gyfer fy ail ddarn o waith, rwy’n bwriadu creu anifail Hada yn erbyn cefndir mwy realistig.

SYLWADAU

Prif thema’r cyflwyniad yw’r amgylchedd naturiol, ac mae’r ymgeisydd yn dechrau trwy ymchwilio i’w amgylchedd uniongyrchol, gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol i’w gofnodi. Mae’n dewis agweddau sy’n weledol ddiddorol a’u dadansoddi’n gymharol fanwl. Mae’r uned yn canolbwyntio’n fanylach ar gelf Hada Gogledd America drwy ymchwil gyd-destunol gysylltiedig, sy’n cael ei ysbrydoli gan ymweliad â Chanada yn ôl pob sôn. Mae’r ymchwil weledol yn canolbwyntio ar gofnodi bywyd gwyllt yn ofalus, gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd yn bennaf, a’u haddasu wedyn yn ddelweddau patrymog sy’n nodweddiadol o’r arddull Hada. Cynhyrchir dau ganlyniad terfynol, y naill yn gyfansoddiad wedi’i beintio lled-haniaethol yn dangos dolffiniaid yn llamu, a’r llall yn gyfres o ddyluniadau arddulliadol mewn lliwiau cyfyngedig sy’n seiliedig ar forfil, ceffyl ac aderyn.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dangos sgiliau beirniadol a dadansoddol da wrth ymchwilio i gyfeiriadau cyd-destunol heriol. Mae ôl meddwl gofalus i’w weld yn yr astudiaeth, gan arwain at ymatebion sydd wedi’u datblygu’n drylwyr ac yn amlygu dealltwriaeth gadarn o ddibenion, ystyr a chyd-destunau delweddau symbolaidd sylfaenol.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn deall ac yn cymhwyso prosesau mewn ffordd gadarn, gan ddefnyddio llinell, siâp a lliwiau cyfyngedig i greu ffurfiau anifeiliaid sy’n gynyddol arddulliadol. Cyfunir elfennau ffurfiol â sensitifrwydd, gan amlygu rheolaeth dechnegol gymharol dda. Nid yw’r dystiolaeth ar gyfer Gwneud Creadigol mor gryf â’r dystiolaeth ar gyfer yr Amcanion Asesu eraill.

AA3 Cofnodi MyfyriolCofnodir profiadau a syniadau yn hyderus yng nghyd-destun gwaith ymchwil ac ymholi perthnasol, a rhoddir sylw dyledus i’r bwriadau a nodwyd.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymatebion yn amlygu diddordebau personol sy’n ystyrlon i’r ymgeisydd ac i gynulleidfa graff. Mae’r ymgeisydd yn dangos parch sensitif at y pwnc dan sylw ac yn creu cysylltiadau pwrpasol rhwng rhannau gwahanol o’r cyflwyniad.

AA1 = 25 / 30 AA2 = 22 / 30 AA3 = 25 / 30 AA4 = 23 / 30 MARC = 95 / 120

Page 8: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 3ART1 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 9: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 10: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwy’n bwriadu ‘archwilio’r amgylchedd’. Hoffwn ganolbwyntio ar anifeiliaid a blodau yn benodol yn hytrach nag adeiladau a thirweddau. Hoffwn gynnwys fy nghath, Blackie, yn y gwaith hefyd. Ar gyfer y gwaith yn ymwneud â blodau, hoffwn ymchwilio i waith Georgia O’Keefe gan fy mod yn hoffi ei gwaith a bydd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i mi.

SYLWADAU

Yn yr uned hon, bwriad yr ymgeisydd oedd astudio blodau ac anifeiliaid, gan ganolbwyntio’n benodol ar gath anwes. I ddechrau’r ymchwiliad, mae’r ymgeisydd yn defnyddio cyfryngau a thechnegau amrywiol i archwilio a chofnodi gwrthrychau bob dydd ar dudalennau llyfr braslunio. Weithiau mae’n canolbwyntio ar elfennau gweledol hefyd fel patrwm, lliw a gwead. Mae’n cynnwys dadansoddiad parhaus o lwyddiant neu fethiant y prosesau hyn, ac mae astudiaeth gyd-destunol i’w gweld ochr yn ochr ag ymchwiliadau gweledol. Mae hyn yn arwain at ymchwil benodol i waith artist sy’n ymddiddori’n arbennig mewn portreadu anifeiliaid. Defnyddir y cyfeiriadau hyn fel sail i ddatblygu agwedd bersonol at y pwnc. Mae’r cyntaf o’r ddau ganlyniad yn ddatblygiad sydd wedi’i gynllunio’n systematig. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio lluniadau a ffotograffau i gofnodi ei syniadau cychwynnol. Wedyn mae’n astudio patrymau a lliwiau ac yn ymchwilio i gyfryngau er mwyn creu darnau o waith mawr â phatrymau lliwgar. Mae’r ail ganlyniad yn defnyddio astudiaethau agos o flodau i greu paentiadau acrylig.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dewis cyfeiriadau cyd-destunol priodol o ffynonellau eilaidd ac yn ymgymryd â gwaith dadansoddi perthnasol er mwyn llywio ei ddehongliadau ei hun mewn ffordd ddefnyddiol. Mae’r ymgeisydd yn dangos dealltwriaeth dda o ddibenion a chyd-destun, ac yn amlygu sgiliau beirniadol cadarn wrth werthuso ei waith personol.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn archwilio syniadau yn hyderus ac yn defnyddio detholiad addas o gyfryngau yn ofalus. Mae’n trin patrwm a lliw yn gelfydd ac yn deall y berthynas rhwng prosesau a chanlyniadau. Mae’n dangos gallu clodwiw i ddatblygu delweddau er mwyn pwysleisio elfennau gweledol.

AA3 Cofnodi MyfyriolMae’r ymgeisydd yn trin y pwnc dan sylw mewn ffordd gymharol syml, ond mae’r gwaith ymchwil ac ymholi bywiog, clir yn cael ei drefnu a’i gyfleu yn dda. Mae’n dethol ac yn defnyddio deunydd o ffynonellau gwreiddiol hygyrch yn dda iawn.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymgeisydd yn gwireddu bwriadau personol yn glir, gan ddangos sgiliau cyflwyno cadarn. Mae’r cyflwyniad yn dangos ymatebion gwybodus, ystyrlon i’r pwnc dan sylw, sydd o ddiddordeb personol mawr i’r ymgeisydd.

AA1 = 22 / 30 AA2 = 22 / 30 AA3 = 23 / 30 AA4 = 21 / 30 MARC = 88 / 120

Page 11: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 4ART1 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 12: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 13: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

‘Amgylchedd’ oedd y pwnc a osodwyd. Byddaf yn ymchwilio i Banksy fel fy mhrif artist oherwydd rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ei waith ar luniau enwog. Mae gen i rywfaint o ddiddordeb mewn cynyrchiadau llwyfan hefyd, ac rwyf am gynnwys yr elfen hon yn fy nghynllun. Rwyf yn hoffi awyrluniau hefyd, felly efallai y gwnaf gynnwys hynny.

SYLWADAU

Mae’r ymgeisydd yn nodi dwy agwedd i’w datblygu o fewn y thema gyffredinol, ‘Amgylchedd’. Mae’r elfen gyntaf yn cael ei llywio gan waith Banksy a’r ail gan ddiddordeb mewn cynyrchiadau llwyfan. Mae’r ymgeisydd hefyd yn mynegi diddordeb mewn awyrluniau. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys dylunio ar gyfer print stensil, sy’n tarddu o batrwm adeiladau lleol. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio tirnodau rhyngwladol enwog i ddatblygu rhagor o waith dylunio. Yn ogystal ag ystyried gwaith Banksy, mae’r ymgeisydd hefyd yn cyfeirio at ddelweddau awyrlun gan ffotograffydd o Efrog Newydd. Mae’n dilyn ail drywydd datblygiad, sef prosiect cyfrifiadurol sy’n cael ei ysbrydoli gan yr amgylchedd naturiol, gwaith Banksy a chyfraniad yr ymgeisydd at gynhyrchiad llwyfan. Mae’n defnyddio gwaith anodedig sy’n seiliedig ar luniau fframgipiwr i olrhain y broses ddylunio ac yn defnyddio argraffydd lliw ar gyfer y gwaith gorffenedig.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dadansoddi ac yn gwerthuso ffynonellau cyd-destunol gwahanol i ryw raddau, ac yn dangos dealltwriaeth weddol o ddibenion a chyd-destun. Mae hefyd yn amlygu rhywfaint o allu i ddehongli’r rhain yng nghyd-destun ei ddatblygiadau ymarferol ei hun.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn archwilio ac yn datblygu syniadau yn ymwneud ag argraffu patrymau a thrin a thrafod digidol, gan ddefnyddio detholiad priodol o gyfryngau newydd a thraddodiadol – rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd. Cofnodir prosesau dylunio yn glir.

AA3 Cofnodi MyfyriolMae’r ymgeisydd yn cofnodi ei syniadau a’r broses o’u datblygu mewn ffordd briodol ac yn cwblhau ei ymholiad yn unol â’r bwriadau. Mae’r dystiolaeth ymchwil gryfaf pan yn seiliedig ar ffynonellau gwreiddiol fel yr amgylchedd trefol.

AA4 Cyflwyno PersonolNodwedd gryfaf y gwaith gorffenedig yw’r cyflwyniad. Mae’r ymatebion yn bersonol ac yn ddiddorol, gan ddangos cysylltiadau pwrpasol rhwng elfennau gweledol a chyd-destunol. Mae’r gwaith yn dangos gwybodaeth gymharol dda, ond nid yw’n gyflawn bob amser.

AA1 = 16 / 30 AA2 = 17 / 30 AA3 = 17 / 30 AA4 = 18 / 30 MARC = 68 / 120

Page 14: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 5ART1 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 15: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 16: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwy’n bwriadu defnyddio pasteli olew i greu gwaith ar thema’r môr. Hoffwn wneud cragen. Hoffwn ddefnyddio cregyn i wneud gwaith argraffu hefyd. Rwyf am ymchwilio i artistiaid sydd wedi creu gwaith yn seiliedig ar lan môr. Byddaf yn archwilio glan môr a’r traeth a thynnu lluniau camera o Fae Abertawe.

SYLWADAU

Mae’r uned yn dilyn y thema Glan môr, ac yn cynnwys sawl astudiaeth llyfr braslunio o wrthrychau yn yr amgylchedd cyfagos. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio cyfryngau a phrosesau amrywiol i gofnodi’r rhain, gan gynnwys rhwbiadau arwyneb, lluniadau llinell, astudiaethau lliw a thôn a phrintiau stensil sy’n seiliedig ar bensaernïaeth drefol. Mae’r ymgeisydd yn canolbwyntio ar wrthrychau naturiol, gan gynnwys cregyn môr, pysgod a blodau. Mae’n cyfeirio rhywfaint at ddelweddau tatŵ ac yn trafod rhyw ychydig ar forluniau Ciaran O’Brian. Mae’n datblygu amrywiaeth o ddehongliadau ar ffurf astudiaethau pasteli olew a chollage papur lliw ac yn sganio gwaith celf gwreiddiol a’i drin gyda CAD er mwyn creu printiau ailadroddol.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r cyflwyniad yn cynnwys tystiolaeth gymharol sylfaenol o ddealltwriaeth gyd-destunol, ac yn cynnwys ychydig o gyfeiriadau at waith pobl eraill. Nid yw’r ymchwiliadau yn drylwyr, ond maent yn berthnasol i ddatblygiadau ymarferol i ryw raddau.

AA2 Gwneud CreadigolCeir tystiolaeth o allu i ddatblygu syniadau a gallu i drin a thrafod sawl cyfrwng gwahanol. Mae’r uned yn dangos ymwybyddiaeth o elfennau gweledol gwead, patrymau ac yn enwedig lliw.

AA3 Cofnodi MyfyriolMae’r gwaith ymchwil ac ymholi yn gymharol elfennol, gan gyfyngu ar allu i ddatblygu’r gwaith. Mae’r broses o gasglu a threfnu gwybodaeth yn gymharol gyfyngedig. Mae sgiliau cofnodi yn gryfach na’r agweddau eraill.

AA4 Cyflwyno PersonolCeir cysylltiadau clir rhwng gwahanol rannau o’r cyflwyniad, ac mae rhai canlyniadau’n cael eu cwblhau yn foddhaol, er eu bod yn gyfyngedig o ran cwmpas.

AA1 = 12 / 30 AA2 = 14 / 30 AA3 = 12 / 30 AA4 = 14 / 30 MARC = 52 / 120

Page 17: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 6ART2 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 18: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 19: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Mae’r Aseiniad Dan Oruchwyliaeth hwn yn ymateb i’r cwestiwn ysgogiadau gweledol, Swyddogaethol ac Addurnol. Gan ei fod yn cael ei gyflwyno fel prosiect dylunio a bod angen crefftwriaeth i greu’r gwaith terfynol, rhoddir cydnabyddiaeth ddyledus i ddiffiniadau Crefft a Dylunio yn Adran 4.6 o’r Fanyleb wrth asesu’r uned. Roedd ffynonellau cyfeirio gwreiddiol hygyrch ar gael mewn amgueddfa leol, gan gynnwys arddangosfeydd o bryfed yn ogystal ag enghreifftiau perthnasol o emwaith a gwaith ceramig. Mae’r ymgeisydd wedi ymchwilio i rai deunyddiau a phrosesau celf, ac ar sail yr astudiaethau hyn, mae’n ystyried priodweddau gweithio nodweddiadol wrth ddatblygu’r dyluniad. Y darnau o waith terfynol yw tlws piwter bwrw enamel oer mawr a phâr o glustdlysau tebyg mewn dull sy’n dangos dylanwad Art Nouveau.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae ymchwil gyd-destunol bwrpasol yn dangos dehongliad craff o ffynonellau perthnasol, yn enwedig y mudiad Art Nouveau, a’r gallu i ddethol a dehongli at ddibenion dylunio personol. Mae’r ymgeisydd yn dangos dealltwriaeth aeddfed, sgiliau beirniadol datblygedig ac ymatebion clir wrth werthuso ei waith ei hun a gwaith pobl eraill.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r gwaith o archwilio deunyddiau a thechnegau yn bwrpasol iawn wrth ymchwilio i brosesau sy’n llawn her. Mae’r datblygiad creadigol yn dangos ffocws, cysondeb ac ymwybyddiaeth sensitif o’r berthynas rhwng dulliau a chanlyniadau. Mae’r cyflwyniad yn dangos tystiolaeth ganmoladwy o adolygu a mireinio syniadau wrth i’r ymgeisydd eu datblygu yn ystod proses ddylunio sydd wedi’i deall yn glir.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn cofnodi gwaith ymchwil ac ymholi yn fedrus, gan amlygu dealltwriaeth fanwl a dychymyg cryf. Mae’n dethol ffynonellau gwreiddiol yn ofalus a’u defnyddio’n effeithiol, ac mae’r gwaith ymchwil yn berthnasol ac yn cael ei gyfleu’n glir. Mae’n trosglwyddo sgiliau a syniadau i sefyllfaoedd newydd yn llwyddiannus.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymgeisydd yn ystyried ac yn gwireddu ei fwriadau mewn ffordd bersonol, resymegol a hynod fedrus. Mae’r prosesau a’r cynhyrchion yn seiliedig ar wybodaeth addas, wedi’u cofnodi’n briodol a’u cyflwyno mewn trefn resymegol gyda chysylltiadau clir rhwng y darnau cyfansoddol. Mae tystiolaeth o’r broses o safon uchel iawn, ond nid yw’r darnau terfynol o’r un safon yn union.

AA1 = 18 / 20 AA2 = 19 / 20 AA3 = 19 / 20 AA4 = 18 / 20 MARC = 74 / 80

Page 20: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 7ART2 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 21: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 22: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwyf wedi dewis y cwestiwn hwn oherwydd fy mod i’n hoffi’r syniad o greu darn o waith celf at ddiben ymarferol. Rwy’n bwriadu gwneud rhywbeth sy’n swyddogaethol ac yn addurnol. Hoffwn ddefnyddio tecstilau i wneud rhywbeth fel blanced neu fat chwarae ar gyfer y darn terfynol. Rwyf eisiau i’m cynulleidfa darged fod yn gymharol ifanc, sef plant rhwng 3 a 7 oed. Rwyf am wneud rhywbeth pleserus ac addysgiadol i blant sydd hefyd yn addurnol ac yn apelio at rieni.

SYLWADAU

Wrth ymateb i’r Aseiniad Dan Oruchwyliaeth, Swyddogaethol ac Addurnol, mae’r uned yn dechrau drwy roi ystyriaeth gryno i sawl elfen ymchwil bosibl, cyn mynd ati’n gyflym i ddewis canlyniad tecstilau fel y dewis mwyaf diddorol. Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio i ddylunwyr tecstilau a darlunwyr llyfrau plant perthnasol er mwyn cael cefndir cyd-destunol. Mae’n ymchwilio i gemau bwrdd presennol ac yn drafftio nifer o gynlluniau dylunio posibl. Mae’n llunio holiadur i bwyso a mesur ymatebion i’r dyluniadau, cyn dewis gêm yn ymwneud â theithio yn y gofod. Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio i fotiffau a chyfryngau a thechnegau tecstilau amrywiol i gynrychioli planedau, a hefyd yn defnyddio ci anwes fel ffynhonnell gyfeirio wreiddiol i ddatblygu darluniau llinell o gi gofod. Mae’r uned yn mynd ymlaen i fireinio’r syniadau er mwyn datblygu’r dyluniad, gan ddethol y gorau er mwyn gwneud gêm i blant. Y canlyniad terfynol yw mat chwarae wedi’i gwiltio gydag applique ffabrig ac addurn pwythwaith peiriant, ynghyd â ffigurau pompom gwlân a dei tecstilau mawr.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn gwneud gwaith ymchwil cyd-destunol trylwyr ar ffynonellau dylunio perthnasol, gan gynnwys gemau bwrdd a darlunio llyfrau plant. Mae’n dehongli’r rhain mewn ffordd briodol i lywio’r broses ddylunio. Mae’n cyfuno cyfeiriadau mewn ffordd ofalus er mwyn datblygu posibiliadau newydd.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn arbrofi gyda deunyddiau a thechnegau yn effeithiol er mwyn dewis y rhai sy’n gweddu orau i fwriadau’r dyluniad. Mae’n archwilio ffynonellau addas (er bod llawer ohonynt yn ffynonellau eilaidd) er mwyn creu dewisiadau dylunio arloesol. Mae’n dethol deunyddiau a thechnegau tecstilau yn dda, a’u trin a’u trafod yn fedrus, er mwyn creu canlyniad o ansawdd da sy’n addas i’w ddefnyddio gan blant ifanc.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd wedi mynd ati mewn ffordd gydwybodol a systematig i wneud gwaith ymchwil perthnasol, gan gynnwys arolwg o’r farchnad, ac wedi dethol, trefnu a chyfleu ei hymholiadau yn fedrus. Mae’n defnyddio sylwadau ysgrifenedig a dulliau lluniadu priodol i gofnodi ei hymchwiliadau a’i chanfyddiadau yn hyderus.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r uned wedi’i chyflwyno’n dda ac yn amlygu ymateb dylunio hyderus sy’n dangos cryn dipyn o ddychymyg, yn unol â’r bwriadau a fynegwyd yn glir. Mae’r prosesau a’r canlyniadau wedi’u cyflwyno mewn trefn glir a rhesymegol, gyda chysylltiadau craff, wedi’u hegluro’n dda, rhwng y rhannau amrywiol.

AA1 = 16 / 20 AA2 = 17 / 20 AA3 = 15 / 20 AA4 = 17 / 20 MARC = 65 / 80

Page 23: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 8ART2 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 24: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 25: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwy’n bwriadu dylunio mosaig sy’n seiliedig ar gregyn ac adeiladau. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ffurfiau cyferbyniol, rhai naturiol a gwneud. Byddaf yn defnyddio pasteli olew i geisio creu darn o waith trawiadol sy’n denu sylw. Ar ôl defnyddio fy llyfr brasluniau i astudio a pharatoi ar gyfer y gwaith, rwyf wedi penderfynu arbrofi gyda phatrwm. Rwy’n bwriadu ymgorffori elfennau gwneud a naturiol yn y darn ar y lefel fwyaf sylfaenol. Byddaf yn canolbwyntio ar gyferbyniad, gan wella’r elfen hon drwy ddefnyddio patrwm a chyfryngau amrywiol (ysgrifbin, pensiliau ac ysgrifbinnau lliw). Byddaf yn defnyddio ysgrifbin yn bennaf ar gyfer ffurfiau gwneud a lliwiau llachar (mwy meddal) ar gyfer ffurfiau naturiol. Rwyf am astudio agosluniau o gregyn, blodau, adeiladau a gwrthrychau mecanyddol.

SYLWADAU

Dewiswyd cyfuniadau o ffurfiau naturiol a gwneud ar gyfer yr Aseiniad Dan Oruchwyliaeth, ac mae’r uned yn dechrau trwy ymchwilio i wrthrychau fel cregyn môr, dail, coed ac adeiladau. Mae’r ymgeisydd yn astudio gwaith Bridget Riley er mwyn ymchwilio i batrymau cregyn, ac mae hyn yn arwain at ddehongli astudiaethau arsylwadol o gregyn ar ffurf llinell, patrwm a ffurfiau haniaethol. Mae’r ymgeisydd yn gwneud astudiaeth gyd-destunol o waith O’Keefe, Klimt a Gaudi, gan gysylltu’r gwaith hwn â ffotograffiaeth agos o ddodrefn gardd, gemwaith secwin ac eitemau tŷ. Defnyddir rhai o’r rhain wedyn fel sylfaen ar gyfer dyluniadau â phatrwm haniaethol. Archwilir adeiladau lleol ymhellach yn weledol, ac eto cânt eu cyflwyno’n arddulliadol fel cyfansoddiadau patrymog. Mae’n defnyddio’r gwaith ymchwil gweledol a chyd-destunol hwn i ddatblygu dyluniad terfynol sy’n cyfuno sawl agwedd ar batrwm arddulliadol i greu delweddau pensaernïol a naturiol.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dadansoddi ffynonellau cyd-destunol yn fedrus, gan ddangos sgiliau beirniadol a gwerthuso cadarn. Mae’n dethol nodweddion hanfodol o’r rhain ac mae’r dehongliadau yn dangos dealltwriaeth gadarn o’r elfennau allweddol, yn ogystal â chyd-destun penodol gwaith o’r fath.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn defnyddio deunyddiau a phrosesau addas er mwyn archwilio syniadau’n dda a’u datblygu’n fedrus. Mae’n ymchwilio i gysylltiadau rhwng ffynonellau gweledol a chyd-destunol yn effeithiol, gan ddatblygu’r cysylltiadau yn ofalus a’u mireinio mewn ffordd sensitif. Mae’n ymgorffori’r elfennau ffurfiol, yn enwedig llinell, patrwm a ffurf, yn y prosesau a’r canlyniadau mewn ffordd ddeallus.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn trefnu’r gwaith ymchwil yn dda ac yn cyfleu canfyddiadau yn glir. Mae’r gwaith o ddethol ac addasu deunyddiau gwreiddiol ac eilaidd yn dangos crebwyll da, sgiliau cofnodi cadarn a defnydd gofalus yn unol â bwriadau’r cyflwyniad.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymatebion yn seiliedig ar wybodaeth, yn dangos eu bod yn golygu rhywbeth i’r ymgeisydd, ac yn gwireddu’r bwriadau a fynegwyd yn glir. Cyflwynir yr uned mewn ffordd resymegol a threfnus, gyda chysylltiadau perthnasol rhwng y gwahanol rannau. Mae’r dystiolaeth o’r broses yn gryfach na’r gwaith gorffenedig, a allai fod wedi elwa o’i gyflwyno mewn fformat mwy trawiadol. Nid yw rhai rhannau o’r gwaith gorffenedig cystal â’i gilydd.

AA1 = 15 / 20 AA2 = 13 / 20 AA3 = 15 / 20 AA4 = 14 / 20 MARC = 57 / 80

Page 26: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 9ART2 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 27: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 28: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Dewisais y cwestiwn Swyddogaethol ac Addurnol. Fy mwriad gydol yr Uned hon oedd ymgymryd â gwaith ymarferol oherwydd fy mod i’n mwynhau bod yn greadigol, dysgu am dechnegau newydd a rhoi cynnig arnynt. Roeddwn i eisiau ymchwilio i wrthrychau addurnol amrywiol a cheisio creu rhywbeth tebyg yn fy arddull fy hun. Edrychais ar gynllun cysgodion lampau, sydd ag arddull a phatrwm unigryw, a sut mae modd defnyddio llawer o ddeunyddiau gwahanol i’w gwneud nhw. Roeddwn hefyd yn bwriadu gweithio ar blatiau gwydr a defnyddio paent acrylig i greu effaith debyg i wydr lliw. Roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar y dull hwn oherwydd ei fod yn edrych yn ddiddorol, a byddai wedi bod yn braf iawn gweld yr holl liwiau cynnes yn cydweddu’n dda, yn ogystal â lliwiau oerach sy’n cynrychioli tristwch. Fodd bynnag, penderfynais yn erbyn arbrofi gyda gwydr oherwydd yr holl amser sydd ei angen i wneud y gwaith a wnes i ddim ymchwilio i unrhyw waith gwydr lliw ar ffenestri eglwysi. Ar gyfer fy ngwaith terfynol, penderfynais ganolbwyntio yn hytrach ar argraffu patrymau ailadraddol yn seiliedig ar batrymau teils canoloesol.

SYLWADAU

Mae’r ymgeisydd wedi dewis Swyddogaethol ac Addurnol ar gyfer yr Aseiniad Dan Oruchwyliaeth, ac mae’n dechrau drwy lunio rhestr o wrthrychau swyddogaethol. Mae’n canolbwyntio wedyn ar silffoedd a chysgodion lampau ac yn cynnwys rhai nodiadau cyd-destunol ar yr artist/dylunydd o America, L.C.Tiffany. Mae’n archwilio cyfryngau amrywiol ar nifer o dudalennau’r llyfr braslunio. Mae nodiadau ar y broses gwiltio, yr artist Cynfrodorol, David Dunn ac mae crefft mosaig yn ymddangos ar y tudalennau dilynol. Mae hyn yn arwain at astudiaeth o batrymau teils canoloesol, datblygiadau arloesol sy’n deillio o hynny ac amrywiaeth o ganlyniadau printiedig. Yn rhan olaf y llyfr braslunio ceir gwerthusiad estynedig o’r cyflwyniad.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn nodi ffynonellau cyd-destunol amrywiol ac yn dadansoddi rhywfaint arnynt er mwyn ennill dealltwriaeth ddigonol o’u dibenion a’u hystyr. Fodd bynnag, mae’r cysylltiadau ag ymholiadau ymarferol yr ymgeisydd yn wan ar adegau.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn defnyddio cyfryngau argraffu newydd a thraddodiadol i archwilio syniadau a datblygu rhai ohonynt yn gymharol lwyddiannus. Mae’n arbrofi’n effeithiol gyda chyfryngau cymysg, gan gynnwys collage, er mwyn creu gwaith diddorol, er nad yw’n gwbl gyflawn. Mae’n dangos ymwybyddiaeth dda o siâp a phatrwm.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn ymgymryd â gwaith ymchwil ac ymholi priodol sydd, yn gyffredinol, yn addas i’r bwriadau. Fodd bynnag, nid yw’n ddigon trylwyr na dwfn i lywio datblygiadau ymarferol yn llwyddiannus. Mae sgiliau cofnodi drwy luniadu ac ysgrifennu yn gymharol dda.

AA4 Cyflwyno PersonolYr elfen hon ac elfen AA2 yw elfennau cryfach y cyflwyniad. Cyflwynir yr uned mewn trefn resymegol, ac mae’r ymgeisydd yn gwneud cysylltiadau clir rhwng y gwahanol adrannau, gan egluro ei fwriadau yn glir a’u gwireddu’n foddhaol.

AA1 = 10 / 20 AA2 = 13 / 20 AA3 = 10 / 20 AA4 = 13 / 20 MARC = 46 / 80

Page 29: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 10ART2 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 30: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 31: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwy’n bwriadu creu darn o waith swyddogaethol ac addurnol a darn o waith mosaig. Hoffwn i wneud darn o waith tri dimensiwn sy’n cael effaith. Hoffwn i wneud gwaith mosaig er mwyn gosod her i mi fy hun a’m helpu i ddatblygu fy ngwaith yn y gobaith o gyrraedd lefel newydd. Rwy’n bwriadu defnyddio pasteli olew ar gyfer darn o waith arall oherwydd fy mod yn gyfforddus yn eu defnyddio ac yn teimlo’n hyderus y gallaf greu darn o waith da. Rwyf am ganolbwyntio ar thema natur ac archwilio blodau a bywyd gwyllt. Rwyf am ddefnyddio camera i dynnu lluniau o’m thema er mwyn cefnogi’r gwaith.

SYLWADAU

Mae’r uned yn canolbwyntio’n ddiymdroi ar greu panel mosaig er mwyn ymateb i’r Aseiniad Dan Oruchwyliaeth, Swyddogaethol ac Addurnol. Mae’r ymgeisydd yn dewis datblygu’r thema natur ac yn creu fersiynau addurnol o flodau ar ambell i dudalen o’r llyfr braslunio, gan ddefnyddio technegau gwahanol fel paent, dyluniadau llinol lliw a chollage papur wedi’i rwygo. Y gwaith terfynol yw panel mosaig lliw.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolYchydig iawn o dystiolaeth sydd o ddealltwriaeth gyd-destunol, ar wahân i rai cyfeiriadau at gyd-destunau sy’n cynnwys gwaith mosaig.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn datblygu rhai syniadau ac yn ymchwilio i ddetholiad sylfaenol o gyfryngau, gan ystyried y berthynas rhwng bwriadau a chanlyniadau. Mae’r ymgeisydd yn dangos sgiliau elfennol wrth ddethol a thrin a thrafod mosaig, ond mae mwy o allu i’w weld yn yr ychydig enghreifftiau o waith peintio, lluniadu a chollage.

AA3 Cofnodi Myfyriol Ychydig iawn o dystiolaeth sydd o waith ymchwil ac ymholi, ac mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar safon gyffredinol y cyflwyniad fwy na thebyg. Ychydig iawn o ddeunydd ymchwil sydd wedi’i gasglu, ond mae sgiliau cofnodi drwy luniadu ac ysgrifennu o safon gymharol dda.

AA4 Cyflwyno PersonolDyma elfen gryfaf yr uned gan fod iddi ffocws, cydlyniad a rhesymeg yn ogystal ag ymateb sy’n amlwg yn bersonol, er yn gyfyngedig.

AA1 = 5 / 20 AA2 = 7 / 20 AA3 = 6 / 20 AA4 = 8 / 20 MARC = 26 / 80

Page 32: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 11ART3 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 33: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 34: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Mae’r Ymchwiliad Personol hwn yn seiliedig ar gelfyddyd a diwylliant dinas hanesyddol ger Shanghai sy’n gartref i’r ymgeisydd. Arddull celf o’r enw Yan Jing Ba Jue yw sail yr ymchwil gychwynnol. Mae’n ymchwilio i amrywiaeth o grefftau hanesyddol ac arferion cyfoes, gan ganolbwyntio’n benodol ar Jingtailan (Cloisonné). Datblygir proses grefft addas, hylaw sy’n ymgorffori’r defnydd o enamel oer. Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio’n weledol i’r pwnc dan sylw yn unol â’i fwriadau, gan gasglu deunyddiau o ffynonellau gwreiddiol (Sw Bryste) a ffynonellau eilaidd. Mae sgiliau cofnodi amrywiol yn amlwg, ac mae’r broses ddylunio yn dangos cyfuniad o syniadau personol arloesol sy’n cael eu llywio mewn ffordd sensitif gan ymchwiliad cyd-destunol.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dewis ffynonellau cyd-destunol ar sail bersonol iawn, ac mae gan y ffynonellau hyn gysylltiad agos â chefndir diwylliannol yr ymgeisydd. Mae’n defnyddio dull cyson a manwl i gynnal ei ymchwiliadau a llywio ei ymholiadau ymarferol. Mae gwaith dadansoddi a gwerthuso trylwyr a chraff o ffynonellau a ddewisiwyd mewn ffordd sensitif yn amlwg. Mae’n defnyddio’r hyn y gellid eu hystyried yn ddelweddau ystrydebol i ddatblygu syniadau arloesol a dull gwreiddiol.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn datblygu syniadau gwreiddiol mewn ffordd greadigol o fewn cyd-destun treftadaeth ddiwylliannol, gan wneud defnydd effeithiol o ffynonellau gweledol o ansawdd uchel a astudiwyd yn uniongyrchol, fel yn Sw Bryste. Mae’n mynd ati i ymdrin â deunydd priodol mewn ffordd arddulliadol bwrpasol, gan ddangos sgiliau dylunio o ansawdd uchel. Ochr yn ochr â datblygu dyluniad, mae’n addasu technegau crefft traddodiadol mewn ffordd ddyfeisgar a llwyddiannus.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn ymroi mewn ffordd drylwyr a chyson i’w waith ymchwil ac ymholi, gan ddefnyddio diddordeb personol cryf ac ystyriaeth ofalus i ddewis detholiad priodol o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd. Mae’n defnyddio sgiliau cofnodi hynod fedrus i gasglu, trefnu, cofnodi a chyfleu gwybodaeth berthnasol mewn ffordd effeithlon.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymgeisydd yn cyflwyno’r gwaith mewn ffordd hyderus a llawn dychymyg drwyddo draw, wedi’i sbarduno gan ddiddordeb personol cryf a llwybr creadigol wedi’i gynllunio’n drylwyr a’i gyfeirio’n dda er mwyn cyflawni bwriadau a ddiffiniwyd yn glir. Mae pob agwedd ar y cyflwyniad yn dangos ymrwymiad aeddfed a chysylltiadau craff rhwng yr holl elfennau. Cyflwynir y gwaith gydag awdurdod, ymroddiad a mwynhad amlwg.

AA1 = 26 / 30 AA2 = 28 / 30 AA3 = 27 / 30 AA4 = 27 / 30 MARC = 108 / 120

Page 35: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 12ART3 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 36: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 37: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Thema’r Ymchwiliad Personol hwn yw Archwilio Diwylliannau, sydd wedi’i dewis yn rhannol oherwydd brwdfrydedd yr ymgeisydd dros weithio gyda lliwiau a phatrymau llachar sy’n nodweddiadol o gelf sawl diwylliant. Man cychwyn yr ymchwil gyd-destunol oedd ymweliad â’r V&A, lle bu’r ymgeisydd yn canolbwyntio ar arteffactau Japaneaidd, Affricanaidd a Chynfrodorol. Mae’r gwaith yn cynnwys nodiadau cyd-destunol ac ymchwiliadau gweledol cysylltiedig, rhai ohonynt ar raddfa fach yn defnyddio collage papur wedi’i dorri a’i rwygo. Mae’r ymgeisydd wedi tynnu lluniau camera o rai o’r gwrthrychau yn y V&A, ac mae’r uned yn dangos sut y mae wedi datblygu’r rhain drwy ddefnyddio printiau polystyren er enghraifft. Mae astudiaethau o arteffactau diwylliannol yn sylfaen datblygiadau personol, e.e. gweithio gyda phasteli olew, collage, montage ffotograffig a gwehyddu. Mae’r llyfr braslunio yn parhau gyda chymysgedd o ymchwil gyd-destunol a gweledol sy’n datblygu nodweddion arddulliadol arteffactau diwylliannol mewn ffordd arloesol. Wrth ymweld â Ffrainc, cafodd yr ymgeisydd ei ysbrydoli i edrych yn fanwl ar rai agweddau ar y bensaernïaeth leol, a defnyddiodd rai ohonynt fel sail i gynlluniau printiau. Canlyniad terfynol arall oedd panel tapestri wedi’i fframio â darnau o froc.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dethol cyfeiriadau cyd-destunol a chyfeiriadau eraill yn dda er mwyn archwilio amrywiaeth eang a diddorol o arteffactau diwylliannol. Mae’r ymchwiliadau yn drylwyr ac yn fanwl ac yn cynnwys tystiolaeth o waith dadansoddi cadarn a sensitif a sgiliau beirniadol aeddfed a chraff. Ceir dealltwriaeth glir o ddibenion, ystyr a chyd-destunau.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn ymchwilio i gyfuniad hynod ddiddorol o ddeunyddiau a phrosesau, gan archwilio cyfryngau, syniadau a’r cysylltiadau rhyngddynt mewn ffordd bwrpasol. Mae’r gallu i ddefnyddio ffynonellau ysgogol i greu posibiliadau arloesol yn amlwg, ynghyd â’r gallu i drin a thrafod technolegau newydd a thraddodiadol yn fedrus.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn defnyddio dulliau ymchwil ac ymholi mewn ffordd drylwyr ac aeddfed. Mae’n datblygu arsylwadau a dealltwriaeth ac yn cofnodi canfyddiadau yn dda iawn drwy gyfrwng gwaith gweledol a thestun. Mae’r sgiliau cofnodi o safon uchel ac mae’r esboniadau ysgrifenedig estynedig yn glir, ac mewn ffurf ac arddull briodol. Mae’r ymgeisydd yn adolygu’r gwaith a’r cynnydd yn ofalus ac effeithiol, gan sicrhau dealltwriaeth ddofn. Mae’r gallu i drosglwyddo syniadau a sgiliau i sefyllfaoedd anghyfarwydd yn nodwedd gref.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r cyflwyniad yn seiliedig ar wybodaeth eang, ac mae’r ymgeisydd yn cyflwyno syniadau a chanlyniadau sy’n bersonol a diddorol. Mae’n egluro’r cysylltiadau rhwng yr elfennau amrywiol yn glir, ac mae dealltwriaeth feirniadol dda yn amlwg yn y canlyniadau gwahanol. Mae ffurf y cyflwyniad yn gweddu i destun yr ymchwiliad ac yn ennyn diddordeb y gwyliwr.

AA1 = 26 / 30 AA2 = 25 / 30 AA3 = 26 / 30 AA4 = 25 / 30 MARC = 102 / 120

Page 38: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 13ART3 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 39: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 40: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

BETH YW’CH BWRIADAU?

Rwyf wedi dewis y pwnc Cyferbyniadau ar gyfer fy ymchwiliad personol. Mae’r pwnc yn un cymharol eang a gallaf ei ddefnyddio i archwilio is-themâu ac arbrofi gyda chyfryngau gwahanol. Rwy’n bwriadu defnyddio mapiau meddwl a ffotograffau gwreiddiol ac eilaidd i ymchwilio i’r pwnc. Gan fod yna wahanol fathau o gyferbyniadau, fel cyferbyniad mewn lliw, llinell, gwead ac ati hoffwn ganolbwyntio ar gyferbyniadau lliw yn bennaf. Drwy hyn gallaf archwilio theori lliw er mwyn deall yr is-bwnc hwn yn well. Bydd astudio arlunwyr mynegiadol a’u defnydd beiddgar o liw yn ysgogiad i’m gwaith ymchwil.

SYLWADAU

‘Cyferbyniadau’ yw’r thema sy’n cael ei dewis ar gyfer yr Ymchwiliad Personol hwn. Mae’r ymgeisydd yn ystyried ac yn archwilio dehongliadau gwahanol o’r thema, fel cyferbyniadau rhwng golau a chysgod mewn tirwedd. Mae’n ymchwilio i’r cyferbyniad rhwng naws a lliw, gan ganolbwyntio’n benodol ar theori lliw. Mae’n astudio coch a gwyrdd, porffor a melyn a glas ac oren, law yn llaw ag ymchwil i waith artistiaid fel Frank Marc. Dehonglir y lluniau o duniau cawl gan Andy Warhol mewn lliwiau cyferbyniol. Mae’r ymchwiliad yn symud ymlaen wedyn i astudio gwaith yr arlunydd mynegiadol haniaethol, Roy Lichtenstein, gan ganolbwyntio’n benodol ar ei bortreadau. Mae’r astudiaeth hon yn ysbrydoli cyfres o bortreadau ffotograffig, gan ddefnyddio Photoshop a thechneg o’r enw Celfyddyd Linell. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio’r cefndir addurnol a gynhyrchir gan ddefnyddio techneg marmori ac yn ychwanegu testun er mwyn creu portread graffig medrus fel y prif ganlyniad.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio’n fanwl i nifer cyfyngedig o gyfeiriadau cyd-destunol sy’n canolbwyntio’n gryf ar brif thema’r ymchwiliad. Mae’n archwilio theori lliw a sut mae rhai artistiaid wedi defnyddio lliw mewn cyd-destunau penodol er mwyn llywio ei ymholiad mewn ffordd ymarferol. Mae sgiliau dadansoddi a gwerthuso yn amlwg yn yr esboniadau ysgrifenedig clir a’r gwaith gweledol arbrofol.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau a phrosesau gwahanol i ddatblygu thema’r uned mewn sawl ffordd wahanol. Maent yn cynnwys astudiaethau arsylwadol trwy gyfrwng lluniadu a pheintio, ffotograffiaeth, marmori a thrin a thrafod delweddau’n gyfrifiadurol. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio adnoddau, deunyddiau a thechnegau yn fedrus gan ddangos dealltwriaeth dda o’r cysylltiad rhwng dulliau gweithio a chanlyniadau.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae gan yr ymgeisydd sgiliau cofnodi da ac mae’n eu defnyddio’n fedrus i hwyluso gwaith ymchwil ac ymholi. Mae’r ymchwiliadau trylwyr yn arwain at arsylwadau craff ac yn datblygu dealltwriaeth. Un o gryfderau penodol yr ymchwiliad yw’r ffaith ei fod yn chwilio am ystyr a diben ac yn llwyddo i drosglwyddo sgiliau a syniadau i sefyllfaoedd newydd.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r gwaith yn cael ei gyflwyno’n dda, ar ffurf llyfr gwaith yn bennaf, gyda thestun bras sy’n dechnegol fedrus a chydbwysedd da rhwng elfennau gweledol ac esboniadau ysgrifenedig clir. Mae canlyniadau’r ymchwiliad yn tystio i ddealltwriaeth feirniadol dda. Cyflwynir yr uned mewn trefn resymegol gyda chysylltiadau clir ac effeithiol rhwng y gwahanol rannau.

AA1 = 22 / 30 AA2 = 22 / 30 AA3 = 21 / 30 AA4 = 22 / 30 MARC = 87 / 120

Page 41: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 14ART3 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 42: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 43: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Man cychwyn yr Ymchwiliad Personol yw casgliad o ddelweddau sy’n gysylltiedig â diwylliant yr Astecaidd/Mecsicanaidd, gan gynnwys delweddau sy’n dathlu Diwrnod y Meirw. Mae’r ymgeisydd yn creu dyluniadau personol drwy addasu ffurf penglog a motiffau bach eraill. Mae’n datblygu rhai o’r rhain wedyn drwy ddefnyddio printiau polystyren ailadroddol. Mae’r ymgeisydd yn arbrofi gyda’r broses farmori i greu stripiau papur wedi’u gwehyddu, gan ymestyn y gwaith drwy ddefnyddio cyfryngau lliw ac addurno llinell. Mae’n defnyddio un o’r dyluniadau i greu panel bach wedi’i wehyddu. Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio i dduwiau a duwiesau Astecaidd er mwyn ysbrydoli dehongliadau ar ffurf sialciau lliw, lluniadau ysgrifbin a chrafiadau cwyr. Mae’n cysylltu â darlunydd ffasiwn fel rhan o’r ymchwil gyd-destunol, sy’n cael dylanwad ffurfiannol ar weddill yr uned. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys cyfres helaeth o brintiau patrwm ailadroddol.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol Mae’r ymgeisydd yn nodi ffynonellau cyd-destunol addas, gyda rhywfaint o waith dadansoddi a gwerthuso yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o ddibenion, ystyr a chyd-destun diwylliannol yr enghreifftiau a ddewiswyd. Defnyddir astudiaeth gyd-destunol mewn ffordd briodol i ddatblygu dyluniadau newydd, ond nid yw’r astudiaeth o waith darlunydd ffasiwn o gymorth.

AA2 Gwneud CreadigolMae technegau creu printiau’r ymgeisydd yn dangos lefel fedrusrwydd gymharol dda, ond mae datblygiad y dyluniad yn gyfyngedig o ran cwmpas. Mae’n dangos dealltwriaeth gymharol dda o’r cysylltiad rhwng prosesau, cynhyrchion, bwriadau a chanlyniadau. Mae’n datblygu ymwybyddiaeth fwy cyflawn o siâp a phatrwm nag elfennau gweledol eraill, fel lliw.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae sgiliau ymchwil ac ymholi’r ymgeisydd yn gymharol sylfaenol, ond mae yna dystiolaeth o allu i gasglu, trefnu a chyfleu syniadau ac arsylwadau sy’n berthnasol i’r bwriadau ar y cyfan. Mae sgiliau cofnodi’r ymgeisydd wedi’u datblygu’n ddigonol ac mae ansawdd yr esboniadau gwerthuso ysgrifenedig yn weddol.

AA4 Cyflwyno PersonolDyma nodwedd gryfaf y cyflwyniad lle mae’r ymgeisydd yn dangos y gallu i gyflwyno syniadau a chanlyniadau gwreiddiol ac ystyrlon. Cyflwynir y gwaith mewn trefn resymegol gan amlaf gyda chysylltiadau clir rhwng y rhan fwyaf o’r adrannau.

AA1 = 15 / 30 AA2 = 17 / 30 AA3 = 15 / 30 AA4 = 18 / 30 MARC = 65 / 120

Page 44: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 15ART4 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 45: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 46: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMESTYN a HERIO

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol  Hoffwn ymchwilio’n drylwyr i sawl agwedd wahanol ar fy thema a chreu profion gwahanol mewn cyfryngau amrywiol ar sail fy nghanfyddiadau. Byddaf hefyd yn ystyried sut mae artistiaid eraill wedi trin a thrafod y themâu hyn er mwyn cael fy ysbrydoli. Rwy’n bwriadu astudio ffynonellau cyd-destunol a dangos effaith y rhain ar fy ngwaith gorffenedig.   AA2 Gwneud Creadigol  Yn yr adran hon rwy’n bwriadu defnyddio fy nychymyg i greu canlyniadau gwreiddiol sy’n berthnasol i’r bwriadau y byddaf yn eu nodi ar ddechrau’r prosiect. Byddaf yn arbrofi gydag amrywiaeth eang o gyfryngau ac yn ceisio defnyddio technegau newydd yn hytrach na chanolbwyntio ar gyfryngau yr wyf yn teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio, fel pensiliau a phaentiau. Rwy’n bwriadu adolygu/gwerthuso fy ngwaith yn rheolaidd a chreu canlyniadau o ansawdd.   AA3 Cofnodi Myfyriol   Rwy’n bwriadu cofnodi’r syniadau, yr arsylwadau a’r ddealltwriaeth sy’n berthnasol i’m mwriadau mewn ffurf weledol ac mewn ffurfiau eraill. Byddaf yn myfyrio ar fy ngwaith a’m cynnydd, gan neilltuo amser i adolygu’r hyn rwyf wedi’i ddysgu er mwyn gwella fy nealltwriaeth. Byddaf yn lluniadu, yn tynnu lluniau camera, yn trin a thrafod delweddau ac yn trefnu fy ngwaith er mwyn iddo wneud synnwyr a dangos cynnydd.   AA4 Cyflwyno Personol  Byddaf yn cyflwyno fy ymatebion mewn ffordd ystyrlon, gan wneud cysylltiadau rhwng elfennau gweledol ac ysgrifenedig. Byddaf yn cyflwyno fy ngwaith mewn trefn resymegol er mwyn sicrhau bod modd ei ddilyn yn hawdd. Bydd pob tudalen yn cael ei chyflwyno hefyd mewn ffordd sy’n gweddu i amcanion fy ngwaith ac yn apelio at y gynulleidfa. Bydd fy nghanlyniadau terfynol yn dangos dylanwad yr artistiaid gwahanol y bûm yn ymchwilio iddynt, ond byddant hefyd yn bersonol i mi.

Page 47: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Mae’r ymgeisydd yn dewis Haenau ar gyfer ei Aseiniad dan Oruchwyliaeth ac mae’r tudalennau braslunio ar ddechrau’r gwaith yn cynnwys ffotograffau, toriadau a lluniadau sy’n adlewyrchu’r thema. Mae’n archwilio sawl proses, gan gynnwys printio leino. Mae’n ymchwilio i ffynonellau gwreiddiol sydd ar gael yn eang. Mae’n arbrofi wedyn gan defnyddio amrywiaeth o gyfryngau traddodiadol a newydd, gan gynnwys Photoshop, ynghyd â chyfeiriadau cyd-destunol anarferol ond perthnasol, sy’n sylfaen i ddatblygiadau personol. Mae ymweliad ag oriel leol i astudio gwaith gwehydd cyfoes yn lled fanwl yn cael dylanwad pendant ar y datblygiadau ymarferol sy’n dilyn. Mae’r ymgeisydd yn arbrofi gyda deunyddiau a phrosesau anarferol amrywiol i greu cryn amrywiaeth o ganlyniadau bach sy’n cael eu cyfuno’n llwyddiannus mewn casgliad tri dimensiwn. Cyflwynir darn tecstil wedi’i wehyddu a’i addurno mewn ffordd gain fel canlyniad terfynol hefyd.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r uned yn dangos astudiaeth fanwl a dadansoddiad gofalus o ffynonellau cyd-destunol, yn enwedig y rhai y bu’r ymgeisydd yn ymchwilio iddynt yn bersonol. Mae’r ymchwiliadau yn canolbwyntio ar y thema Haenau, ac mae astudiaeth fanwl yn arwain at ddealltwriaeth eang a dwfn. Mae’r gwaith dadansoddi a gwerthuso beirniadol o safon uchel ac yn amlygu ymwybyddiaeth gref o ddibenion, ystyr a chyd-destunau’r enghreifftiau cyd-destunol a ddewiswyd. Mae gan y ddealltwriaeth gyd-destunol hon ddylanwad ffurfiannol ar ymatebion personol ac aeddfed yr ymgeisydd.

AA2 Gwneud CreadigolMae’r ymgeisydd yn archwilio adnoddau a phrosesau gyda bwriad pendant, gan ddangos gwerthfawrogiad sensitif o’r berthynas rhwng deunyddiau, dulliau gweithio a chanlyniadau creadigol. Mae’n ymchwilio i amrywiaeth eang o dechnegau newydd a thraddodiadol er mwyn pwyso a mesur eu potensial creadigol, ac mae’r rhain, ynghyd â’r defnydd uniongyrchol o ddeunyddiau gwreiddiol, yn cael eu cyfosod i greu canlyniadau hynod wreiddiol.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r deunyddiau gweledol a chyffyrddol a gasglodd yr ymgeisydd ynghyd â’r broses o ymchwilio iddynt a’u datblygu mewn ffordd sensitif yn adlewyrchu ei ddiddordebau penodol yn glir. Mae’r gwaith ymholi yn berthnasol ac yn fanwl, ac mae’r ymgeisydd yn gwneud penderfyniadau rhesymol a sythweledol. Mae sgiliau cofnodi o safon uchel yn amlwg yn y gwaith, ac mae’r dulliau cofnodi yn adlewyrchu pob dull ymholi penodol.

AA4 Cyflwyno PersonolMae syniadau a chanlyniadau yn cael eu llywio’n dda gan ymchwil gyd-destunol, weledol a chyffyrddol. Maent yn ymddangos yn bersonol iawn i’r ymgeisydd ac yn amlygu ymatebion clir iawn a llawn dychymyg mewn sawl disgyblaeth. Mae’r ymgeisydd yn gwneud cysylltiadau sensitif a chraff rhwng gwahanol elfennau’r cyflwyniad, a’u cyflwyno mewn fformatau diddorol gydag aeddfedrwydd ac awdurdod.

AA1 = 18 / 20 AA2 = 17 / 20 AA3 = 18 / 20 AA4 = 17 / 20 MARC= 70 / 80

Page 48: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 16ART4 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 49: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 50: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMESTYN a HERIO

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol  Drwy astudio fy nheulu fy hun rwy’n bwriadu defnyddio cysylltiadau cyffredin i greu llwybr o waith a dehongli gwaith artistiaid eraill gydol y modiwl. Bydd arbrofi gyda chwestiynau a llwybrau yn elfen bwysig o’r gwaith.   AA2 Gwneud Creadigol  Rwy’n bwriadu defnyddio cyfryngau gwahanol fel ffotograffiaeth, haenu, pasteli olew, paent acrylig ac ati i arbrofi ymhellach gyda phob syniad. Bydd Photoshop yn elfen bwysig o’r gwaith arbrofol.  AA3 Cofnodi Myfyriol   Byddaf yn gwerthuso ac yn diwygio pob darn o waith a’m holl waith ymchwil ynghŷd ag unedau sy’n cyfuno gwahanol elfennau. Mae ysgrifennu’n bwysig i mi oherwydd dyna’r unig ffordd y gallaf roi trefn ar fy holl syniadau a llwybrau.  AA4 Cyflwyno Personol Rwy’n bwriadu sicrhau bod fy holl waith yn llifo i un cyfeiriad, gydag unedau a dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n cael ei wneud/wedi cael ei wneud (er fy lles fy hun yn ogystal â lles yr arholwyr). Fel unigolyn sy’n cael ei ysgogi gan bethau gweledol, mae cyflwyniad yn bwysig iawn hefyd. Astudiais fy nheulu a hanes fy nheulu fel sylfaen i’w datblygu ar gyfer y gwaith hwn. Roedd personoli’r prosiect yn bwysig iawn i mi oherwydd y ffaith mai fy nheulu fy hun oedd yn ysbrydoli’r gwaith. Roedd y prosiect yn rhoi mwy o foddhad i mi oherwydd hynny. Codais fy sgiliau i lefel uwch drwy wthio ffiniau ffotograffiaeth i gynnwys golygfa danddwr, a thrwy drin a thrafod fy ngwaith i’w wella. Nid oeddwn am fynegi’r amlwg yn nheitl fy Aseiniad, felly roedd syniadau newydd a dulliau gwahanol yn hanfodol i ymestyn fy ngalluoedd ymhellach.

Page 51: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Yr ysgogiad Aseiniad Dan Oruchwyliaeth sy’n cael ei ddewis ar gyfer yr uned hon yw ‘Proffilio diddordebau teulu’. Man cychwyn y gwaith yw cofnod graffig o gart achau’r ymgeisydd a chasgliad o ffotograffau sy’n dangos gweithgareddau amrywiol aelodau’r teulu. Wedyn mae’r uned yn canolbwyntio ar broffiliau unigolion penodol gyda ffotograffau ohonynt yn mwynhau eu diddordebau personol. Ceir cyfeiriadau cyd-destunol at ffotograffiaeth haenog Ella Manor a ffotograffau tanddwr Brian Stevenson. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn ysbrydoli’r ymgeisydd i ymchwilio i symudiad mewn ffotograffiaeth. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar nofio tanddwr ac yn arbrofi gyda safbwyntiau gwahanol a thechnegau golygu amrywiol. Mae gwerthusiad yr ymgeisydd o’r gwaith hwn yn dangos yr heriau a wynebodd. Yn ogystal â chynnwys detholiad o brintiau ffotograffig lliw mewn llyfr braslunio, mae’r ymgeisydd yn cyflwyno darnau eraill o waith, gan gynnwys un sy’n ymgorffori tros-beintio yn seiliedig ar ffotograffau David Hockney.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn nodi detholiad bychan, ond perthnasol o enghreifftiau cyd-destunol yn unol â’i fwriadau, ac mae’r rhain yn llywio ac yn ysgogi rhagor o ymholiadau ymarferol. Mae’r ymgeisydd yn amlygu sgiliau dadansoddol a beirniadol cadarn, yn cynnwys wrth werthuso’i waith ei hun drwy gymharu a chyferbynnu. Mae’r dehongliadau diddorol yn dangos dealltwriaeth aeddfed o ddibenion a chyd-destunau.

AA2 Gwneud CreadigolWrth arbrofi gydag adnoddau a phrosesau, mae’r ymgeisydd yn cyfleu bwriad clir, yn enwedig yng nghamau diweddarach y gwaith ymarferol. Mae’n archwilio syniadau yn lled fanwl ac yn cyfuno deunyddiau a thechnegau, gan gynnwys cyfryngau cymysg, yn llwyddiannus. Mae hyn yn dangos cysylltiadau sylweddol rhwng dulliau gweithio a chanlyniadau creadigol. Mae’r ffotograffiaeth danddwr yn amlygu dealltwriaeth soffistigedig o ddynameg ffigur symudol.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio’n drylwyr i thema gweithgareddau teuluol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o brosesau ffotograffig ac esboniadau ysgrifenedig clir i gofnodi canfyddiadau mewn ffordd gynhwysfawr a medrus. Mae’n casglu ac yn trefnu arsylwadau a phrofiadau yn effeithlon, ond nid yw’r detholiad mor gryf bob amser â’r hyn a gafwyd yng nghamau cynharach yr ymholiad.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r cyflwyniad yn dangos mwy o ddychymyg a hyder wrth i’r uned fynd rhagddi, ond mae yna enghreifftiau da drwyddi draw, fel y cyflwyniad graffig o gart achau ar ddechrau’r llyfr gwaith. Mae’r ymgeisydd yn gwneud cysylltiadau clir a chraff rhwng elfennau gwahanol o’r uned ac mae ffurf y cyflwyniad yn gweddu i ddiben yr astudiaeth, mae’n ddiddorol yn weledol ac yn gwireddu bwriadau’r ymgeisydd yn llwyddiannus.

AA1 / NA1 = 16 / 20 AA2 / NA2 = 15 / 20 AA3 / NA3 = 16 / 20 AA4 / NA4 = 16 / 20 MARC = 63 / 80

Page 52: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 17ART4 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 53: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 54: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMESTYN a HERIO

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolRwy’n bwriadu defnyddio llawer o adnoddau i ddatblygu syniadau newydd. Hoffwn ymchwilio i artistiaid a dylunwyr sy’n gysylltiedig â ffasiwn a thema’r Hydref. Rwy’n teimlo y bydd gwaith ymchwil manwl yn fy ysbrydoli a’m helpu i ddeall y posibiliadau amrywiol wrth ymgymryd â’r gwaith.    AA2 Gwneud CreadigolRwy’n bwriadu arbrofi gyda llawer o adnoddau ac amrywiaeth o ddeunyddiau. Byddaf yn adolygu fy ngwaith yn rheolaidd, gan obeithio datblygu fy nhechnegau gwaith fy hun ymhellach.   AA3 Cofnodi Myfyriol   Rwy’n bwriadu ymroi’n gyfan gwbl i ymchwilio i’r thema o’m dewis yn fanwl. Byddaf yn astudio amrywiaeth o ffynonellau gwahanol ac yn casglu ac yn trefnu fy nghanfyddiadau mewn ffordd resymegol. Rwy’n bwriadu myfyrio ar fy ngwaith a’m cynnydd er mwyn gwella fy nealltwriaeth ac addasu a gwella fy ngwaith ar hyd y ffordd. Rwy’n bwriadu dysgu sgiliau newydd a gwella fy ngwaith ar hyd y ffordd. Rwy’n bwriadu dysgu sgiliau newydd a chanfod dulliau newydd o weithio.   AA4 Cyflwyno Personol  Byddaf yn gofalu i gyflwyno fy syniadau a’m canlyniadau yn llwyddiannus. Rwy’n bwriadu cyflwyno fy ngwaith mewn trefn resymegol, gan wneud cysylltiadau clir rhwng yr adrannau gwahanol. Rwyf hefyd yn gobeithio dangos sut mae fy ymchwil i artistiaid wedi dylanwadu ar fy natblygiad fy hun. Er mwyn ymestyn fy ngalluoedd ymhellach, rwy’n bwriadu gwneud dilledyn drwy ddefnyddio amrywiaeth ehangach o dechnegau tecstilau yn hytrach na defnyddio’r dechneg glud a gludo fel yn y gorffennol. Rwyf am wneud siâp mwy cymhleth, gyda darnau llawnach wedi’u crychdynnu o bosibl. Rwyf wedi gwneud ffrogiau modern iawn yn y gorffennol, ac rwyf am wneud rhywbeth sydd efallai’n fwy ysgafn a rhamantaidd. Byddai hyn yn ddatblygiad newydd yn fy ngwaith.

Page 55: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

Mae’r ymgeisydd hwn yn dewis y thema Haenau ar gyfer yr Aseiniad Dan Oruchwyliaeth. Man cychwyn yr uned yw casgliad o ddelweddau sy’n gysylltiedig â’r pwnc. Mae cyfres o dudalennau braslunio yn dilyn sy’n arsylwi’n agos a gofalus ar wrthrychau naturiol, fel plu paun a thrawstoriad o oren. Defnyddir y rhain fel sail ar gyfer dyluniadau collage papur, gwaith gwehyddu wedi’i beintio a phrintiau polystyren ailadroddol lliw. Mae’r ymgeisydd yn dewis cynllunwyr gwisgoedd ar gyfer astudiaeth gyd-destunol, ac mae’n creu ychydig o ddyluniadau ffasiwn sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil hwn. Mae’r astudiaeth yn symud ymlaen yn gyflym i ystyried gwaith artistiaid sydd wedi ymddiddori’n benodol mewn patrwm a lliw. Mae hyn yn ysgogiad wedyn ar gyfer astudiaethau pasteli olew lliwgar yr ymgeisydd ei hun. Mae’r ymgeisydd yn defnyddio ffotograffiaeth i wneud rhagor o archwilio gweledol, ac mae hefyd yn dehongli rhai gwrthrychau mewn pasteli olew ac ar ffurf cyfansoddiadau wedi’u peintio. Ar gyfer y canlyniad terfynol, mae’r ymgeisydd yn dwyn ynghyd y ddwy elfen wahanol, sef cynllunio gwisg ac arbrofi gyda lliw, ac yn defnyddio ffabrig gorchuddio a dail tecstilau wedi’u prynu i greu model wedi’i wisgo.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ymgeisydd yn dewis ffynonellau cyd-destunol addas sydd â chysylltiad agos â chyfnodau ymholiad ymarferol penodol. Ceir tystiolaeth o ddadansoddiad a gwerthusiad gweddol o’r ffynonellau hyn, yn enwedig dulliau cynrychioli, sy’n dangos rhywfaint o ddealltwriaeth o’r ystyr a’r cyd-destunau.

AA2 Gwneud Creadigol Mae’r ymgeisydd yn archwilio ac yn datblygu syniadau yn effeithiol, gan ymchwilio i’r thema a ddewiswyd mewn ffordd drylwyr ac addas. Mae’n arbrofi gydag adnoddau, deunyddiau a phrosesau mewn ffordd bwrpasol a chymharol effeithiol. Mae’n dangos ymwybyddiaeth dda o elfennau gweledol, fel lliw, ac o’r berthynas rhwng y prosesau gwahanol a ddefnyddiwyd a’r canlyniadau creadigol.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae ymchwil ac ymholiad yr ymgeisydd yn gymharol drylwyr ac yn gynhyrchiol yn gyffredinol yn unol â’r bwriadau. Mae’n defnyddio amrywiaeth o sgiliau cofnodi cymwys i gasglu, trefnu a chyfleu gwybodaeth addas. Mae rhai elfennau yn dangos y gallu i drosglwyddo sgiliau yn effeithiol o un cymhwysiad i’r llall.

AA4 Cyflwyno PersonolMae’r ymgeisydd yn mynegi ei fwriadau personol yn glir, a’u gwireddu gan amlaf ar draws amrywiaeth o ganlyniadau creadigol gwahanol. Mae prosesau a chanlyniadau, gan gynnwys sawl tudalen lwyddiannus yn y llyfr gwaith, yn amlygu sgiliau cyflwyno da, ac mae cysylltiadau perthnasol rhwng gwahanol elfennau wedi’u trefnu’n rhesymegol a’u cyflwyno mewn ffordd ddiddorol. Efallai y gallai’r ymgeisydd fod wedi creu model wedi’i wisgo’n fwy cyflawn ar gyfer y canlyniad terfynol.

AA1 = 12 / 20 AA2 = 13 / 20 AA3 = 12 / 20 AA4 = 13 / 20 MARC = 50 / 80

Page 56: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMGEISYDD 18ART4 CELF, CREFFT & DYLUNIO

Page 57: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :
Page 58: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

YMESTYN a HERIO

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunol

Penderfynais ddewis y cwestiwn ‘dylunio’. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ddylunio ffasiwn. Byddaf yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau i gasglu syniadau newydd. Byddaf yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, ond rwyf am ddefnyddio tecstilau yn bennaf. Byddaf yn dadansoddi fy adnoddau a’u gwerthuso’n effeithiol. Byddaf yn dangos cysylltiadau hefyd.   AA2 Gwneud Creadigol Ar gyfer y dasg hon, rwyf am arbrofi gyda thechnegau amrywiol. Byddaf yn defnyddio cyfryngau mewn ffordd briodol yn unol â’m bwriadau. Byddaf yn adolygu fy ngwaith yn rheolaidd i ddangos pa dechnegau sy’n cyd-fynd â’m bwriadau.   AA3 Cofnodi Myfyriol   Byddaf yn cofnodi esboniadau manwl o’r hyn rwy’n bwriadu ei wneud. Byddaf yn arddangos fy ngwaith ymchwil yn effeithiol ac yn defnyddio dulliau amrywiol o werthuso. Byddaf yn dadansoddi fy nghynnydd a’m dealltwriaeth hefyd.   AA4 Cyflwyno Personol    Byddaf yn cyflwyno canlyniadau sy’n eiddo i mi. Byddaf hefyd yn ymateb i’r canlyniadau hyn. Byddaf yn cyflwyno fy ngwaith mewn trefn gronolegol a gwneud cysylltiadau clir rhwng y gwahanol rannau. Byddaf yn cyflwyno fy ngwaith mewn ffordd ddiddorol. Ar gyfer yr adran hon o’r gwaith rwyf wedi ymestyn fy ngalluoedd drwy wneud dilledyn cyfan ar sail darn patrwm. Unwaith yn unig rwyf wedi gwneud hyn o’r blaen. Am y tro cyntaf erioed rwyf wedi gwneud y botymau hefyd. Gydol y gwaith hwn rwyf wedi defnyddio technegau sy’n anghyfarwydd i mi, gan lwyddo i ymestyn fy ngalluoedd.

Page 59: Mae  gan  y  llyfryn hwn gryfderau  a  diffygion . Mae  cryfderau’r canllaw yn cynnwys :

SYLWADAU

O’r cychwyn cyntaf mae’r ymgeisydd yn deall yn glir yr hyn sydd angen ei wneud i ymateb i’r Aseiniad Dan Oruchwyliaeth, Dylunio. Mae tudalen gyntaf y llyfr braslunio yn cyflwyno pedwar dyluniad ffasiwn gwahanol. Mae sawl tudalen o ddeunyddiau a gasglwyd yn dilyn wedyn ynghyd â dehongliadau darluniadol o rai ohonynt. Mae’r uned yn archwilio cyfryngau amrywiol er mwyn cyflwyno syniadau ffasiwn, ac wedyn yn astudio nodweddion pensaernïol er mwyn creu dyluniadau printio ffabrig. Mae’r ymgeisydd yn ymchwilio i ffynonellau gweledol amrywiol fel sail ar gyfer printiau stensil a monobrintiau. Mae’r ymgeisydd yn datblygu dyluniadau ffasiwn ymhellach ac yn cynnwys cyfeiriadau cyd-destunol at waith dylunwyr a darlunwyr ffasiwn. Y canlyniad terfynol yw print ffabrig a ddefnyddir i greu top a sgert.

AA1 Dealltwriaeth Gyd-destunolMae’r ffynonellau cyd-destunol yn cyfeirio at ddatblygu patrymau a dylunio ffasiwn. Ceir tystiolaeth gymharol dda o ddefnyddio sgiliau dadansoddi a gwerthuso ar gyfer enghreifftiau penodol er mwyn ennill rhywfaint o ddealltwriaeth o ddibenion a chyd-destunau. Fodd bynnag, nid yw’r dadansoddiad beirniadol yn ddigon dwfn i lywio dyluniadau’r ymgeisydd yn llawn.

AA2 Gwneud Creadigol Mae’r ymgeisydd yn defnyddio detholiad priodol o ddeunyddiau a phrosesau i archwilio syniadau ar gyfer datblygu patrymau a dylunio ffasiwn. Fodd bynnag, nid ydynt yn cael eu dwyn ynghyd yn effeithiol, ac nid yw’r sgiliau drafftio yn ddigon manwl i gefnogi’r broses ddylunio yn llawn. Serch hynny, mae llyfr gwaith yr ymgeisydd yn cynnwys sawl enghraifft lwyddiannus o batrymau ailadroddol sy’n dangos dealltwriaeth a rheolaeth foddhaol o’r elfennau ffurfiol.

AA3 Cofnodi Myfyriol Mae sgiliau cofnodi gwaith ymchwil ac ymholi’r ymgeisydd yn ddigonol, ac mae ffurf ac arddull yr esboniadau ysgrifenedig yn briodol ac o safon gymharol dda ar y cyfan. Mae’r ymgeisydd yn ymroi i’r gwaith mewn ffordd gydwybodol a chynhyrchiol. Mae’n casglu, yn trefnu ac yn cyfleu gwybodaeth mewn ffordd effeithlon, gan ddangos tystiolaeth o’r gallu i fyfyrio ar ei waith ei hun a datblygu dealltwriaeth gadarn.

AA4 Cyflwyno PersonolMae tystiolaeth o brosesau a chanlyniadau yn dangos dull personol, ac mae cysylltiadau clir, er yn anghyflawn, rhwng gwahanol elfennau’r cyflwyniad. Mae rhai agweddau ar yr uned, yn enwedig gwneud patrymau, yn dangos cryn dipyn o botensial, ond nid yw’r ffurf a ddewiswyd ar gyfer y canlyniad terfynol yn gwneud cyfiawnder â’r nodweddion cryfach hyn.

AA1 = 11 / 20 AA2 = 11 / 20 AA3 = 11 / 20 AA4 = 11 / 20 MARC = 44 / 80