llinellfusnes - crynhoad o’n gwasanaeth
DESCRIPTION
Bwriad y pecyn gwybodaeth yma yw crynhoi ein prif wasanaethau ac adnoddau.TRANSCRIPT
Crynhoad o’n Gwasanaeth
Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU (01978) 292092 [email protected] www.wrexham.gov.uk/businessline
Gadewch i’n
Gwybodaeth Weithio i chi!
www.facebook.com/businesslinewrexham
www.twitter.com/businesslinewxm
www.youtube.com/businesslinewrexham
CYNNWYS
Cyflwyno’r Llinellfusnes,,,,,,,,,,,,,... 1
Dechrau busnes,,,,,,,,,,,,,,,,,.. 2-3
- Pecyn Dechrau Busnes y Llinellfusnes,,,,,,... 2
- Proffil Cyfleoedd Busnes ,,,,,,,,,..,,,. 3
Cymorthdaliadau, benthyciadau a gwobrau,,,, 4
Ymchwilio i’r farchnad,,,,,,,,,,........... 5-7
- Adroddiadau Keynote,,,,,,,,,,,,,,. 5
- CCH Business Focus,,,,,,,,,,,,,,.. 6
- Crynodeb o’ch marchnad yn y Deyrnas Gyfunol,,,. 7
- Ystadegau demograffig,,,,,,,,,,,,,, 7
Rhedeg eich busnes,,,,,,,,,,,.......... 8
- Taflenni ffeithiau gwybodaeth busnesau,,,,,,. 8
Cronfeydd data arbenigol,,,,,,,..,........... 9-12
- Kompass Extranet,,,,,,,,,,,,,,,... 10
- Thomson Business Search Pro,,,,,,,,,,. 11
- E-mail marketing,,,,,,,,,,,,,,,,.. 12
Marchnata eich busnes,,,,,,,,,,,, 13-16
- Hysbysebu yng nghylchlythyr y Llinellfusnes.,.......... 14-15
- Tynnwch sylw at eich busnes,............,,,..,,,..16
Statws credyd ,,,,,,,,,,,,,,,... 17-18
- Adroddiadau statws credyd,,,,.,,,,,,,... 17-18
- Adroddiadau am gyfarwyddwyr a strwythur y cwmni,.. 18
Adnoddau dynol,,,,,.,,,.,,,,........... 19
Gostyngiadau i fusnesau lleol,,,,,,,,,.. 20
Rhestr bostio’r Llinellfusnes,,,,,,,,,,. 21
Llyfrau a chyfeirlyfrau,,,,,,,,,,,,,. 22-25
CYFLWYNO’R LLINELLFUSNES
Mae’r Llinellfusnes yn wasanaeth gwybodaeth busnesau
proffesiynol sydd wedi ei leoli yn llyfrgell gyhoeddus fwyaf y
gogledd, Llyfrgell Wrecsam. Mae ein tîm o arbenigwyr
gwybodaeth profiadol yn darparu gwasanaeth bespoke ar gyfer
busnesau lleol. Rydyn ni hefyd yn medru darparu amrywiaeth o
wasanaethau i helpu busnesau hen a newydd, a myfyrwyr
busnes hefyd.
Dyma grynhoad o’n darpariaeth i chi:
- dechrau busnes newydd / lleihau’r amser cyn y bydd eich cwmni
newydd ar waith
- ymchwilio i’r farchnad
- amlygu eich gwrthwynebwyr
- dod o hyd i gyflenwyr newydd
- dod o hyd i gwsmeriaid newydd / canfod cyfleoedd marchnata
- sicrhau ‘iechyd’ eich cwsmeriaid – hynny yw, a ydyn nhw’n
medru talu eu biliau
- rheoli eich gweithwyr yn effeithlon
- rhwydweithio gyda busnesau lleol eraill
- cydymffurfio â chyfreithiau
- diogelu eich syniadau.
Mae yna groeso mawr i chi alw draw, i ffonio neu e-bostio er
mwyn trafod eich anghenion.
Sefydlwyd y Llinellfusnes ugain mlynedd yn ôl. Erbyn heddiw
rydyn ni’n rhan o rwydwaith sylweddol o bobl fusnes a
chwmnïau. Bwriad y pecyn gwybodaeth yma yw crynhoi ein
prif wasanaethau ac adnoddau. 1
DECHRAU BUSNES
2
Rydyn ni’n gwybod bod dechrau busnes yn gyffrous - ac yn
frawychus. Mae gan y Llinellfusnes nifer o adnoddau ar gyfer
cwmnïau newydd. Mae gennyn ni’r ateb i gwestiynau fel:
- pa gyfreithiau cyffredinol sy’n berthnasol i ddechrau unrhyw
fusnes?
- pa gyfreithiau penodol sy’n berthnasol i fy nghwmni i?
- gyda pha gyrff ddylwn i gysylltu i gychwyn?
- beth yw manteision ac anfanteision rhedeg busnes o gartref?
- beth yw costau sefydlu busnes?
- pwy yw fy ngwrthwynebwyr lleol?
Pecyn Dechrau Busnes y Llinellfusnes
Mae yna groeso i chi alw draw, neu ffonio neu e-bostio i ofyn
am y pecyn, sy’n cynnwys y canllawiau yma:
- Sut i ysgrifennu cynllun busnes
- Sut i redeg busnes o gartref
- Dewis y statws cyfreithiol cywir ar gyfer eich busnes
- Cyfreithiau a rheoliadau perthnasol i ddechrau busnes
- Cyrff sydd angen i chi gysylltu gyda nhw wrth ddechrau busnes
- Ymchwilio i’r farchnad wrth ddechrau busnes
- Llunio amodau a thelerau gwerthiant
- Cyflwyniad i yswiriant busnes
- a llawer iawn mwy!
DECHRAU BUSNES
Proffil Cyfleoedd Busnes
Mi fedrwn ni gael gafael ar dros bum can proffil cyfleoedd busnes,
pob un yn berthnasol i fath arbennig o fusnes, gan ddarparu
gwybodaeth ynglŷn â phethau fel:
- unrhyw hyfforddiant angenrheidiol
- cwsmeriaid a chystadleuwyr
- pynciau allweddol y farchnad ar hyn o bryd
- cyfleoedd i hyrwyddo eich hun
- costau posib dechrau eich busnes
- pynciau cyfreithiol sydd angen eu hystyried
- ffynonellau gwybodaeth defnyddiol.
Beth am ofyn am becyn dechreuol a Phroffil Cyfleoedd Busnes, yr
adnodd neilltuol perffaith ar gyfer eich busnes newydd?
Llyfrau i’w benthyg
Mae gan y Llinellfusnes llawer o lyfrau busnes amrywiol, difyr a
defnyddiol ar gyfer mentergarwyr sy’n cymryd y camau cyntaf.
Maen nhw’n medru cynnig llawer iawn o wybodaeth sylfaenol, ac
awgrymiadau ynglŷn â beth i’w wneud yn ogystal â beth i’w
osgoi - ysgol brofiad yw’r ysgol orau, wedi’r cyfan! Mae llawer o’r
llyfrau yn benodol ar gyfer meysydd penodol, felly mae’r rhain yn
medru cynnig cymorth ymarferol manwl iawn. Mae yna ragor o
wybodaeth ar dudalen 22. 3
CYMORTHDALIADAU, BENTHYCIADAU A GWOBRAU
Mae gan y Llinellfusnes declyn chwilota cynhwysfawr sy’n
medru dod o hyd i ffynonellau ariannol ar gyfer busnesau.
Mi fedrwn ni ddarparu gwybodaeth gyfredol a chywir ynglŷn
â ffynonellau lleol, rhanbarthol, Cymreig, Prydeinig ac
Ewropeaidd. Mae’r wybodaeth ar gael ar gyfer:
- dechrau busnes - datblygu busnes - effeithlonrwydd egni - pynciau amgylcheddol - masnachu rhyngwladol, ac allforio - ffermio a physgota - technoleg gwybodaeth a chyfathrebu - e-fasnach a’r rhyngrwyd - logisteg - marchnata a hyrwyddo - y cyfryngau a’r celfyddydau - offer - swyddfeydd a lleoliadau gwaith eraill - ymchwil a datblygu (cynnyrch a phrosesau) - penodi - twristiaeth a threftadaeth - hyfforddiant.
Mi fedrwn ni ddarparu crynodeb byr o’r canlyniadau ar gyfer
unrhyw un (neu fwy) o’r categorïau uchod, cyn darparu holl
fanylion y rhai sydd o ddiddordeb i chi - meini prawf, gwerth,
pa dystiolaeth sydd ei hangen, manylion cyswllt ac yn y
blaen.
4
5
YMCHWILIO I’R FARCHNAD
A oes gennych chi ddiddordeb mewn marchnad benodol ,ac
yn awyddus i ddysgu mwy amdani? Mae’r Llinellfusnes yn
medru darparu amrywiaeth eang o adroddiadau ymchwil
marchnad arbenigol safonol sy’n canfod tueddiadau
presennol a thueddiadau’r dyfodol ar gyfer pob prif sector.
Mi fedrwn ni ddod o hyd i’r adroddiadau gorau ar eich cyfer,
er mwyn eich rhyddhau i redeg eich busnes.
Adroddiadau Keynote
Adroddiadau KeyNote yw’r adroddiadau ymchwil
marchnad mwyaf cynhwysfawr yr ydym ni’n medru eu
darparu yn eu llawnder. Maen nhw hyd at gan dudalen
o hyd, ac yn cynnwys dadansoddiad ystadegol o’r
tueddiadau a’r rhagolygon presennol, a’r rhai sy’n cael
eu disgwyl, a hefyd manylion ynglŷn â’ch cwsmeriaid,
a’u patrymau prynu. Mae hyd at 10% o bob adroddiad
KeyNote (sef tua ugain tudalen) ar gael i’w llungopïo neu eu
e-bostio atoch chi. Mi fedrwn ni gynnig y cyfle i ddarllen
adroddiadau am ddim, a fyddai fel arall yn costio £500.
Mae llawer yn cael eu diweddaru’n flynyddol, gan sicrhau
bod y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad ar flaenau
eich bysedd.
6
YMCHWILIO I’R FARCHNAD
CCH Business Focus
Mae CCH Business Focus yn darparu gwybodaeth benodol i
dros naw deg o fasnachau a phroffesiynau. Trwy ddefnyddio’r
adnodd yma mi fedrwn ni ddarparu adroddiadau sy’n
dadansoddi – am ddim – yn y meysydd yma:
- Trosolwg o’r sector:
- datblygiadau masnachol - tueddiadau trosiannol - safle’r farchnad - rhagolygon
- Natur y fasnach
- trefniadau gweithredu - cymysgedd gwerthiant - natur dymhorol - ffactorau sy’n effeithio ar werthiant - cwsmeriaid – telerau sy’n cael eu cynnig - cyflenwyr – telerau sydd wedi cael eu derbyn
- Gwybodaeth i ddechrau busnes; costau posib sefydlu busnes
- Deddfwriaeth
- Ystadegau’r farchnad
- A llawer iawn mwy!
Mi fydd yr holl wybodaeth yma yn eich galluogi i gynnal
astudiaeth fanwl a chynhwysfawr o’ch maes (os yw ar gael ar y
gronfa ddata). Cofiwch hefyd bod CCH Business Forum yn cael
ei ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y diweddaraf ar
gael, pob tro.
YMCHWILIO I’R FARCHNAD
7
Crynodeb o’ch marchnad yn y Deyrnas Gyfunol
(UK Market Synopses)
Mae’r rhain fel arfer rhwng deg a phymtheg tudalen o hyd, ac
ar gael am ddim ar e-bost neu ar bapur. Ymhlith y pynciau
dan sylw mae datblygiadau a chyfleoedd yn y farchnad,
tueddiadau presennol, pynciau fydd yn dod i’r amlwg ac yn y
blaen.
Ystadegau demograffig
Mae’r Llinellfusnes yn medru cael gafael ar lawer o
ystadegau ynglŷn â demograffeg a phethau cyffelyb. Maen
nhw’n eich galluogi i ddeall cymeriad cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol eich ardal, ynghyd â threfi a
dinasoedd cenedlaethol. Dyma enghreifftiau o’r hyn sydd
gennym ar eich cyfer:
- manylion y boblogaeth, yn ôl oedran ac ardal
- incwm aelwydydd, yn ôl ardal
- cyflogaeth yn ôl ardal
- a llawer iawn mwy.
Mi fydd oedran y boblogaeth, er enghraifft, o ddiddordeb i
rywun sy’n ystyried agor meithrinfa.
RHEDEG EICH BUSNES
Mae angen i fusnes llwyddiannus benderfynu ar sail
ffeithiau. Mae’r Llinellfusnes yn medru darparu’r wybodaeth
sydd ei hangen i ddod i benderfyniadau doeth.
Taflenni Ffeithiau Gwybodaeth Busnesau
Gofynnwch am restr o’r taflenni gwybodaeth amrywiol
sydd gennym ar lu o bynciau perthnasol i fusnesau.
Mae pob un tua phedair tudalen o hyd. Ymhlith y
pynciau dan sylw mae dewis ar ba gyfrwng i hysbysebu,
creu gwefan, deall y fantolen, a llawer iawn mwy.
Maen nhw’n cael eu diweddaru’n gyson, i adlewyrchu
syniadau newydd a gofynion cyfreithiol newydd. Maen nhw
ar gael ar bapur neu ar e-bost, am ddim.
Llyfrau ar gael i’w benthyg
Mae gennym ni hefyd lawer o lyfrau a CD-ROMs cyfredol
sy’n esbonio pob maes busnes. Mae 90% o’r rhain ar gael
i’w benthyg. Mae hefyd gennym ni nifer o gyfeirlyfrau
arbenigol sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer rhai pethau penodol
fel cynllunio ymgyrch newydd ac yn y blaen.
Mae yna ragor o wybodaeth ar dudalen 22. 8
CRONFEYDD DATA ARBENIGOL
Mae’r Llinellfusnes yn tanysgrifio i dair o brif gronfeydd busnes y
Deyrnas Gyfunol, sy’n adnoddau gwych ar gyfer eich galluogi i:
- ddod o hyd i farchnadoedd newydd yn hawdd - dod o hyd i gyflenwyr newydd - dod o hyd i’ch gwrthwynebwyr - cynnal ymchwil i gwmnïau penodol.
Y tair cronfa yw:-
- Kompass Extranet Gweithgynhyrchu a chyfanwerthu’n bennaf
- Thomson Local Business Search Cwmnïau gwasanaethu yn bennaf, er enghraifft man` werthwyr
- Email Marketing Y sectorau diwydiannol a gwasanaethu.
Trwy gydweithio mi fedrwn eich galluogi i addasu’r ddarpariaeth
at eich anghenion eich hun, er mwyn eich galluogi i arbed amser
trwy osgoi pethau amherthnasol. Rydym ni’n medru darparu’r
cyfan yn gyflym ar Excel, sy’n golygu bod rhestrau gwerthiant,
marchnata ac yn y blaen yn medru cael eu creu’n sydyn a’u
defnyddio ar unwaith. Mae’r cronfeydd yma’n ein galluogi i gael
gafael ar wybodaeth fanwl a chyfredol a fyddai fel arall yn
annod, yn ddrud ac yn araf i’ch cyrraedd.
Mae yna groeso mawr i chi gysylltu i drafod eich anghenion.
Neu hwyliwch draw am fwy o wybodaeth a ffurflen ymholi i:
http://bit.ly/cronfedd_data_arbeingol (cofiwch ddefnyddio
llythrennau bach wrth deipio). 9
CRONFEYDD DATA ARBENIGOL
Kompass Extranet
Adnodd gwerthfawr ar gyfer dod o hyd i gyflenwyr, ac i lunio
rhestrau gwerthiant ar gyfer cwmnïau diwydiannol (yn
gynhyrchwyr a dosbarthwyr). Gyda dros 57,000 o benawdau
cynnyrch a gwasanaethau, a thros 23 miliwn o gyfeiriadau at
gynnyrch, mae’n hawdd dod o hyd i’r cwmnïau gorau ar eich
cyfer.
Un o nodweddion gorau’r gronfa hon yw’r gallu i’w haddasu
er mwyn creu rhestrau unigol ar gyfer gwerthu, marchnata,
prynu ac ymchwilio.
Dyma rai pethau y medrwn eu cynnig o’r gronfa hon:
- Enw’r cwmni - Cyfeiriad - Rhif ffôn - Rhif ffacs - Nifer y gweithwyr - Ffigyrau gwerthiant - Disgrifiad byr o’r busnes / Disgrifiad manwl o’r bus-
nes - E-bost - Gwefan - Enwau cyswllt.
Mae rhestrau o hyd at 150 cwmni ar gael, am ddim, pob tri
mis. Rydym ni’n codi £0.15+TAW ar bob cwmni
ychwanegol ar ben hynny. 10
CRONFEYDD DATA ARBENIGOL
Thomson Local Business Search
Mae’r gronfa hon wedi ennill gwobrau, ac mae’n hawdd gweld
pam. Ei bwriad yw creu rhestrau ystadegau busnes cywir a
defnyddiol ar gyfer marchnata post neu telefarchnata. Mae’n
cael ei diweddaru pob wythnos, sy’n ei gosod ar unwaith ymhlith
y rheng flaen o ffynonellau gwybodaeth cywir a chyfredol. Mae’r
chwilio’n medru cael ei addasu ar gyfer eich anghenion penodol
chi’n hawdd.
O’r gronfa hon mi fedrwn gael gafael ar:
- Enw’r cwmni - Cyfeiriad - Rhif ffôn - Rhif ffacs - Gwefan - Nifer y gweithwyr - Blynyddoedd ers ei
sefydlu
Mae 50 canlyniad ar gael am ddim ar daenlen pob tri mis.
Mi fydd angen i chi dalu am fwy. Am ragor o wybodaeth, ac
i esbonio eich anghenion, ewch i:
http://bit.ly/cronfedd_data_arbeingol (cofiwch ddefnyddio
llythrennau bach wrth deipio).
11
- Math y lleoliad gwaith - swyddfa, ffatri ac yn y blaen
- Math y busnes - Disgrifiad SIC - Trosiant - Amcangyfrif trosiant - Elw cyn treth - Enw cyswllt, a’i swydd.
CRONFEYDD DATA ARBENIGOL
Email Marketing
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhedeg ymgyrch
e-farchnata o fusnes i fusnes, yna mi fedrwn ni ddarparu
cronfeydd data addas ar eich cyfer - er enghraifft, wedi eu
haddasu yn ôl maint y busnesau, eu harbenigedd, eu
lleoliad ac yn y blaen. Mae pob un ohonyn nhw wedi dewis
bod ar y gronfa - mi fydd yna groeso i’ch neges, felly
fyddwch chi ddim yn peryglu eich enw da.
Mae’r wybodaeth yn dod ar daenlen sy’n cynnwys enw’r
cwmni, ei gyfeiriad, e-bost ac enw un o’i weithwyr
allweddol. Mae mwy o gategorïau ar gael, ond mi fydd
angen talu amdanynt.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
http://bit.ly/cronfedd_data_arbeingol (cofiwch ddefnyddio
llythrennau bach wrth deipio).
Ni fyddwn yn codi tâl arnoch chi cyn cytuno ar beth yr ydych
chi am ei brynu.
12
MARCHNATA EICH BUSNES
Os ydych chi’n awyddus i ddod o hyd i ddulliau lleol i hyrwyddo
eich busnes, mae’r Llinellfusnes yn medru helpu. Dyma
grynodeb byr o’r hyn sydd gennym i’w gynnig:
- cylchgronau a phapurau newydd lleol ar gyfer eich
hysbysebion
- adeiladau cymunedol ar gyfer eich taflenni gwybodaeth
- cyrff a fyddai’n medru helpu gyda dosbarthu taflenni
- gwefannau lleol a chenedlaethol
- digwyddiadau lleol
- busnesau sy’n medru creu gwefannau ar eich cyfer
- cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau lleol
- grantiau sydd ar gael i farchnata eich busnes
- a llawer iawn mwy.
Mae’r Llinellfusnes hefyd yn medru eich helpu i dynnu sylw at
eich busnes mewn nifer o ffyrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar y
tudalennau nesaf, sy’n cynnig y cyfle i hysbysebu yn ein
cylchlythyr ac yn esbonio manteision ymuno â’r cynllun
gostyngiad busnes i fusnes.
13
MARCHNATA EICH BUSNES
Cyfleoedd Hysbysebu yng Nghylchlythyr y Llinellfusnes
Mae tua 300 o fusnesau lleol yn erbyn ein cylchlythyr misol.
Mae cysylltiadau i’r cylchlythyrau’n cael eu gosod ar ein sianeli
cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â’r grwpiau busnes lleol mwyaf.
Pob mis rydyn ni’n cynnig gofodau hysbysebu effeithiol a rhad,
o chwarter tudalen i dudalen lawn. Am fwy o fanylion, ac i weld
ein prisiau, ewch i:
http://bit.ly/cyfleoedd_hysbysebu (cofiwch ddefnyddio
llythrennau bach wrth deipio)
Mae’r cylchlythyrau’n aros am flwyddyn ar ein gwefan, sy’n
denu tua phedair mil sesiwn o ddefnydd y flwyddyn. Cofiwch
gysylltu os ydych chi’n awyddus i osod hysbyseb.
Dyma enghraifft o gylchlythyr:
http://bit.ly/archif_cylchlythyr (cofiwch ddefnyddio llythrennau
bach wrth deipio)
Cylchlythyr y Llinellfusnes – lle am ddim i’ch erthygl
Mae’r Llinellfusnes yn darparu’r cyfle i fusnesau lleol rannu
eu harbenigedd gyda busnesau eraill, am ddim, trwy
gyfrannu erthygl o hyd at 250 gair ar gyfer ein cylchlythyr.
14
MARCHNATA EICH BUSNES
Ni ddylai’r erthygl fod yn ‘hysbyseb’ - yn hytrach, y bwriad yw
darparu awgrymiadau ac argymhellion defnyddiol i gwmnïau
eraill lleol. Er enghraifft, byddai cwmni dylunio gwefannau yn
medru awgrymu sut i sicrhau mai eich cwmni chi sy’n dod i ben
y rhestr wrth bori’r rhyngrwyd.
Ar ddiwedd yr erthygl, rydym ni’n cynnwys enw’r cwmni sydd
wedi ei darparu a’r manylion cyswllt.
Dyma gyfle i arddangos eich arbenigedd ym maes eich busnes,
gan arwain at fwy o ymholiadau a mwy o waith i chi.
Mae’r ddarpariaeth yma’n boblogaidd, ac ar sail ‘y gyntaf i’r felin
gaiff falu’. Ond rydyn ni’n cynnwys pob erthygl yr ydym yn eu
derbyn ar gyfer y rhifynnau nesaf.
Os ydi hyn o ddiddordeb i chi, cysylltwch am fanylion neu
anfonwch yr erthygl at: [email protected]
15
MARCHNATA EICH BUSES
Tynnwch sylw at eich busnes gyda’r gostyngiad ‘busnes
i fusnes’
Os ydych yn gweithredu yn ardal Wrecsam, mae’r Llinellfusnes
yn medru eich cynorthwyo i hyrwyddo eich hun ymhlith
busnesau bach a chanolig newydd a phresennol, os ydych chi’n
awyddus i gynnig gostyngiad am eich cynnyrch iddyn nhw. Mi
fydd eich cynnig yn ymddangos ar wefan neilltuol am flwyddyn
gron am gost resymol iawn. Mi ddylai cysylltiad â gwefan
Cyngor Wrecsam gynyddu eich gwerth ar borwr Google, ac
mae yna fwy o fanteision:
- mae gwefan y Llinellfusnes yn denu 4000 ymwelydd y
flwyddyn ar hyn o bryd, 3000 ohonyn nhw’n ymwelwyr
unigryw
- mi fydd eich cynnig hefyd yn ymddangos ar restr bostio’r
Llinellfusnes o bobl fusnes lleol; ar hyn o bryd mae
gennym ni tua thri chant o danysgrifwyr
- mi fydd cysylltiadau o’n tudalennau cyfryngau
cymdeithasol i’r wefan gostyngiadau
- mi fydd y cyswllt i’r wefan gostyngiadau ar waelod pob
e-lofnod; ar hyn o bryd rydym ni’n anfon tua thair mil
e-bost y flwyddyn.
Am fwy o fanylion, ewch i: http://bit.ly/gostyngiadau (cofiwch
ddefnyddio llythrennau bach wrth deipio).
16
SICRHAU STATWS CREDYD
Adroddiadau statws credyd
Mae’r rhain yn ffordd boblogaidd o sicrhau statws credyd
unrhyw gwmni cyfyngedig yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna
lawer o fanteision i’r gwasanaeth yma, yn eu plith:
- dangos a yw cwmnïau yr ydych yn gweithio gyda
nhw’n medru talu am eich nwyddau neu’ch
gwasanaethau
- sicrhau hyfywedd ariannol unrhyw gwmni – hynny yw,
ei ‘iechyd ariannol’ - er mwyn penderfynu os yw’n
ddoeth i ddelio hefo nhw
- os ydych chi’n ystyried creu partneriaeth gyda chwmni
cyfyngedig arall, mae’n syniad da asesu eu statws
credyd cyn llofnodi unrhyw beth, ac mae’r adroddiadau
yma’n declyn defnyddiol ar gyfer gwneud hynny.
Mae’r adroddiadau’n amrywio o ran hyd, gan adlewyrchu
amgylchiadau a gweithgareddau'r cwmnïau.
17
SICRHAU STATWS CREDYD
Dyma grynodeb byr o’r wybodaeth yn yr adroddiadau statws
credyd:
- darlun cyffredinol o’r cwmni - gwybodaeth ynglŷn â’r cwmni - manylion ei forgeisi, a’r cyfranddalwyr - cyfeiriad(au) masnachu - manylion llawn y cyfrifon ariannol o flwyddyn i
flwyddyn - sgôr credyd, a statws credyd - CCJs - statws credyd dros y blynyddoedd - hanes digwyddiadau - manylion y cyfarwyddwyr.
Mae’r drefn yn syml – y cyfan sydd ei angen arnon ni ydi enw’r
cwmni. Mi fedrwn ni anfon esiampl o adroddiad atoch, â
phleser.
Rydyn ni’n medru cynnig pedwar adroddiad am ddim mewn
cyfnod o dri mis, ac mae pob adroddiad ychwanegol yn ystod y
cyfnod tri mis ar gael am gost hynod gystadleuol o £5 yr un.
Adroddiadau am gyfarwyddwr a strwythur y cwmni
Mae adroddiadau sy’n rhestru’r holl gwmnïau y mae unigolyn yn
gyfarwyddwr arnynt ar gal am ddim.
Mae adroddiadau sy’n esbonio strwythur cwmni hefyd ar gael,
hefyd am ddim.
18
ADNODDAU DYNOL
Adnoddau dynol yw’r adnoddau pwysicaf sydd gan unrhyw
gwmni. Y bobl sy’n rhedeg y cwmni sy’n sicrhau ei lwyddiant neu
ei fethiant. Mae ein hadnoddau’n cyfeirio at bob agwedd o reoli
adnoddau dynol - cyflogi pobl am y tro cyntaf, creu cytundebau
cyflogaeth, y pynciau cyfreithiol sydd angen eu hystyried a llawer
iawn mwy. Mae cymorth ar gael ar bob cam!
Croner-I
Templedi ar gyfer cytundebau cyflogaeth ac ar gyfer polisïau’r
cwmni. Mae’n hawdd eu haddasu ar gyfer eich gofynion chi.
Mae yna hefyd daflenni gwybodaeth a nodiadau cyffredinol
ynglŷn â phob agwedd o reoli adnoddau dynol.
Cysylltwch am fanylion, ac i esbonio eich gofynion penodol.
Gwybodaeth meincnodi cyflogau
Faint i dalu eich gweithwyr? Cwestiwn mawr, a chwestiwn
hanfodol. Peidio â thalu digon - colli staff; talu gormod - colli elw.
Mi fedrwn ni gymharu cwmnïau tebyg lleol a chenedlaethol, er
mwyn i chi benderfynu faint i’w dalu.
Adnoddau eraill Mae hefyd gennym ni nifer o lyfrau adnoddau dynol cyfredol, gyda 90% ohonynt ar gael i chi eu benthyg. Mae yna ragor o fanylion ar dudalen 22.
19
GOSTYNGIADAU I FUSNESAU LLEOL
Gostyngiadau busnes-i-fusnes
Ymrwymiad y Llinellfusnes yw gwneud popeth yn ein gallu i
gynorthwyo gyda sefydlu busnesau newydd a sicrhau ffyniant
busnesau presennol, a thrwy hynny gyfrannu at gymuned fywiog
a llwyddiannus. Ein pleser felly yw gweinyddu cynllun sy’n
galluogi busnesau lleol i ostwng eu prisiau i’w gilydd er mwyn
medru denu mwy o fasnach a buddsoddiad i’n hardal. Mae
hynny o fantais i fusnesau newydd, a rhai sydd eisoes wedi eu
sefydlu.
Os ydych chi wrthi’n sefydlu cwmni, neu eisoes yn rhedeg
busnes, mae yna groeso i chi fanteisio ar y gostyngiadau sy’n
cael eu cynnig. Mi fyddwch chi’n cefnogi ein heconomi lleol, yn
creu swyddi newydd, ac yn cyfrannu at yr amgylchedd wrth
fasnachu’n lleol:
http://bit.ly/gostyngiadau_llinellfusnes
20
RHESTR BOSTIO’R LLINELLFUSNES
Er mwyn clywed y diweddaraf ynglŷn â:
- grantiau newydd
- newidiadau i gyfreithiau a rheoliadau
- awgrymiadau defnyddiol o bob math
- digwyddiadau, gweithgareddau ac achlysuron
lleol
- cyfleoedd lleol i gymdeithasu a rhwydweithio.
mae yna groeso i chi ymuno â rhestr bostio’r Llinellfusnes drwy
fynd i:
http://bit.ly/ymunwch (cofiwch ddefnyddio llythrennau bach wrth
deipio).
Cofiwch hefyd am y cyfle i hysbysebu yn ein e-lythyr misol.
Ac os ydych chi wrthi’n trefnu rhywbeth a fydd o ddiddordeb i
fusnesau lleol, rhowch wybod i ni.
21
LLYFRAU A CHYFEIRLYFRAU
Mae gan y Llinellfusnes lwyth o lyfrau, CD-ROMs
a chyfeirlyfrau amrywiol a defnyddiol iawn ar bob agwedd o
redeg busnes. Dyma grynodeb o’r dosbarthiadau:
Lliw'r silff
Dechrau busnes GWYRDD Cyfathrebu OREN Marchnata COCH Adnoddau dynol SAETS (sage) Rheoli BROWNGOCH Gweithgynhyrchu LLWYD Y gyfraith PINC Cyllid GLAS Technoleg gwybodaeth MELYN Ystadegau GWYN Cyfeirlyfrau DU Sectorau penodol GWYN
Mae pob pwnc yn rhannu’n isbynciau penodol a manwl er mwyn
i chi ddod o hyd i’r union beth.
Mae 90% o’n hadnoddau ar gael i’w benthyg. Mae yna groeso i
chi bori drwy’n catalog, gan chwilio am lyfr penodol, awdur
penodol neu bwnc penodol:
http://bit.ly/llyfrgell
22
23
24
LLYFRAU A CHYFEIRLYFRAU
e-lyfrau busnes am ddim Mae’n bleser gennym ddweud ein bod yn medru cynnig y cyfle i aelodau Llyfrgelloedd Wrecsam lawrlwytho e-lyfrau AM DDIM: - pedwar llyfr ar gael am ddim ar unrhyw gyfnod
- cyfnod benthyg o dair wythnos (ar y mwyaf); ar ôl hynny, mi fydd y llyfr yn diflannu
- gwasanaeth ar gael 24/7
- Y cyfan yn dod i’ch cyfrifiadur, gliniadur neu Mac drwy Adobe Digital Editions. Yna mi fedrwch ei drosglwyddo i’ch darllenydd chi. Dewis arall yw ei lwytho’n syth i’ch darllenydd, ond mae angen ap ar-bennig i wneud hynny.
Nid yw’r gwasanaeth ar gael ar Kindle ar hyn o bryd. Yr anghenion - Cerdyn aelodaeth Llyfrgelloedd Wrecsam: http://bit.ly/ymuno-a-llyfrgelloedd-wrecsam
- Rhif PIN
- Teclyn sy’n medru derbyn yr e-lyfr. Dyma gyfeiriad y gwasanaeth e-lyfrau: wales.libraryebooks.co.uk Mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan CyMAL ac 17 awdurdod lleol.
25
26
WREXHAM LIBRARY
Llyfrgel l Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AULlyfrgel l Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU
(01978) 292092 (01978) 292092
business l [email protected] l [email protected]
www.wrexham.gov.uk/business l inewww.wrexham.gov.uk/business l ine
EIN GWASANAETH
- Ein hamcan yw ateb ymholiad syml ar unwaith, a
phob ymholiad o fewn diwrnod. Mi fyddwn yn trafod yr amser i ymateb i bethau cymhleth gyda chi.
- Mae mwyafrif llethol ein gwasanaethau am ddim - dim costau cudd.
- Rydyn ni’n hyblyg - mi wnawn ni ein gorau glas i ddarparu ein gwasanaeth mewn dull sy’n cyd-fynd â’ch gofynion chi.