healthy preschool booklet - welsh version

10

Click here to load reader

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 13-Feb-2016

217 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

healthy preschool introduction booklet, welsh version

TRANSCRIPT

Page 1: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy Abertawe

Yn Hyrwyddo Iechyd a Lles mewn Lleoliadau

Cyn-Ysgol

Page 2: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

2

Beth yw’r Cynllun Cyn-Ysgol Iach? Strwythur Cynllun Cyn-Ysgol Iach Abertawe Sut i ddod yn lleoliad cyn-ysgol iach Beth yw’r cyfnodau?

Tystysgrif Ymrwymiad Cynllun Gweithredu

3

4

5

8

9

10

Manylion Cyswllt Catrin Jones Ymarferydd Cyn-Ysgol Iach 01792 607375 [email protected]

Page 3: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

3

Estyniad o’r cynllun Ysgolion Iach yw cynllun Cyn-Ysgol Iach Abertawe a

chaiff ei gyflwyno mewn lleoliadau cyn-ysgol ar hyd a lled Abertawe.

Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn fenter gyffrous hirdymor gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at hyrwyddo a diogelu iechyd. Mae hyn yn cynnwys

pob agwedd ar iechyd: corfforol, emosiynol, meddyliol a chymdeithasol, a lles y gymuned ysgol gyfan. Yn Abertawe mae 85 o ysgolion uwchradd ac

13 o ysgolion cynradd yn aelodau gweithgar o’r Cynllun Ysgolion Iach.

Nod y cynllun yw adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gyda’r ddarpariaeth cyn-ysgol yn Abertawe.

Mae’r cynllun yn cynnwys 3 chyfnod (ceir eglurhad o’r rhain ar dudalen 8) a fydd yn cymryd o leiaf flwyddyn i’w cwblhau.

Gall unrhyw un sy’n gweithio mewn darpariaeth cyn-ysgol fynegi

diddordeb yn y cynllun yn cynnwys: Meithrinfeydd Gofal Dydd

Gofal Plant Sesiynol Gwarchodwyr Plant

Cylchoedd Chwarae Lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy wrthi’n cael ei gyflwyno

ledled Abertawe a bydd yn parhau i ddatblygu am o leiaf 3 blynedd.

Page 4: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

4

Cyfarfod Cychwynnol

Cyflwyniad i gynllun Cyn-Ysgol Iach Abertawe Llofnodi’r dystysgrif ymrwymiad

Cyfnod 3

Adolygu’r

ddarpariaeth bresennol

Datblygu cynllun

gweithredu i

gyflawni cyfnod 3:

Yr Amgylchedd

Iechyd a Lles yn y

Gweithle

Rheoli a Chynnal a Chadw

Cyfnod 1

Adolygu’r ddarpariaeth

bresennol

Datblygu cynllun gweithredu i gyflawni

cyfnod 1:

Maeth/Iechyd y geg

Gweithgaredd

Corfforol/Chwarae Gweithredol

Hylendid—Rheoli Safonau Gofynnol

Ymweliadau Cymorth a Hyfforddiant

Ymweliad Cyn-Achredu

Ymweliad Achredu

Tystysgrifau

Y Cyfnod Rhagarweiniol

Cyfnod 2

Adolygu’r ddarpariaeth

bresennol

Datblygu cynllun gweithredu i gyflawni

cyfnod 2:

Diogelwch a Hylendid

Iechyd meddyliol ac emosiynol, Lles a

Chydberthynas

Rheoli a Chynnal a

Chadw

Page 5: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

5

Cam 1: Cyfarfod Cychwynnol

Cam 2: Y Cyfnod Rhagarweiniol

Cam 3: Gweithredu Cynlluniau

Gweithredu Cyfnodau 1, 2 a 3

Cam 4: Cyn-Achredu Achredu

Trefnir cyfarfod cychwynnol a ddylai

gynnwys yr Ymarferydd Cyn-Ysgol Iach a rheolwr y lleoliad. Dyma’r cam ffurfiol

cyntaf sy’n galluogi’r lleoliad i ddechrau’r broses o weithio tuag at gael

ei achredu. Gallai’r canlynol fod yn eitemau i’w

cynnwys ar yr agenda:

Cefndir y cynllun Y manteision i’r lleoliad

Y meini prawf Y broses

Y strwythur cymorth Achredu

Llofnodi’r dystysgrif ymrwymiad

Mae’r cyfnod rhagarweiniol yn caniatáu i’r lleoliadau ddechrau

ar yr un sylfaen ac yn sicrhau bod y safonau hybu iechyd

gofynnol yn cael eu cyrraedd. Mae’r cam rhagarweiniol yn

cynnwys : Cael ymrwymiad y rheolwr

Pennu cydgysylltydd ar gyfer

y cynllun Darparu pecynnau croeso

Mae cyfanswm o 9 o ofynion yn y cyfnod rhagarweiniol.

Page 6: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

6

Bydd Cam 3 yn dechrau drwy gydnabod y gwaith da y mae’r lleoliad

eisoes yn ei wneud a nodi’r prif feysydd i’w datblygu. Mae 3 chyfnod i’r cynllun ac ym mhob cyfnod bydd agwedd reoli a nifer o

feysydd i weithredu arnynt. Mae angen cynllunio’r holl gamau gweithredu gan nodi’n glir y meini prawf ar gyfer eu cyflawni. Bydd Ymarferydd y

Cynllun Cyn-Ysgol Iach yn cynorthwyo’r lleoliadau i greu eu cynlluniau gweithredu. Darn o waith wedi’i gynllunio a fydd yn symud y lleoliad

ymlaen fel lleoliad sy’n hybu iechyd yw cam gweithredu.

Gweithredu a gwerthuso

Dylai gweithgareddau gael eu rhoi ar waith dros gyfnod realistig o amser

a dylai’r lleoliad a’r ymarferydd gytuno ar y cyfnod hwnnw. Bydd angen monitro pob un o’r camau gweithredu a’u gwerthuso i ddangos effaith y

camau a roddwyd ar waith a dangos sut y bodlonwyd pob un o’r meini prawf.

Monitro Bydd Ymarferydd y Cynllun Cyn-Ysgol Iach yn monitro pob lleoliad yn

barhaus drwy ymweliadau a drefnwyd ymlaen llaw, cyfarfod rhwydwaith neu gyfarfod adolygu. Nod y rhain yw cynorthwyo lleoliadau i sicrhau

statws cyn-ysgol iach.

Tystiolaeth Ar ddiwedd pob cyfnod o’r cynllun, gofynnir i bob lleoliad gyflwyno portffolio o dystiolaeth yn dangos sut y cwblhawyd pob cam gweithredu’n

llwyddiannus. Bydd yr Ymarferydd yn rhoi cymorth i leoliadau wneud hyn ac yn cynghori lleoliadau i gasglu tystiolaeth o bob math o weithgaredd

dyn barhaus drwy gydol y cyfnod. Dyma syniadau ar gyfer tystiolaeth: Polisïau

Cylchlythyron

Adroddiadau Cofnodion cyfarfodydd

Digwyddiadau ymgynghori Llythyrau

Hysbyslenni Ffotograffau

Pigion o’r wasg Cynlluniau gwersi

Page 7: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

7

Cyn-Achredu Ar ddiwedd pob cyfnod bydd ymarferydd y cynllun cyn-ysgol

iach yn argymell achredu lleolaidau

ar yr amod bod digon o dystiolaeth i ddangos bod pob un o’r camau

gweithredu wedi cael eu cyflawni.

Achredu Bydd ymarferydd y cynllun yn trefnu i ymweld â’r lleoliad ar y cyd ag asesydd

arall. Yn y cyfarfod hwn bydd angen i’r

portffolio o dystiolaeth fod ar gael a bydd cyfle i drafod y camau

gweithredu.

Ar ôl yr ymweliad achredu, bydd yr ymarferydd yn ysgrifennu adroddiad i

amlygu arferion da ac yn ystyried nodau ac amcanion newydd ar gyfer y

cyfnod dilynol.

Page 8: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

8

Maeth ac Iechyd y Geg

Bydd l leol iadau’n gal lu darparu tystiolaeth o ddull lleoliad cyfan o hybu

bwyta’n iach ac iechyd y geg da.

Gweithgaredd Corfforol a Chwarae Gweithredol

Bydd lleoliadau’n cefnogi ac yn hyrwyddo datblygu cyfleoedd a

phrofiadau chwarae i blant.

Hylendid—Safonau Gofynnol Rhaid cyflawni’r safonau hylendid

gofynnol yng nghyfnod un. Mae’r rhain yn cynnwys: mynediad i doiledau glân,

sebon, papur toiled ac ati.

Rheoli

Sicrhau bod y newidiadau’n dylanwadu ar y staff, a pholisïau a gweithdrefnau, a

bod pob gweithgaredd newydd yn parhau.

Diogelwch

Bydd y lleoliadau’n cynorthwyo ac yn hybu datblygu diogelwch

Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Lles

a Chydberthynas Bydd lleoliadau’n cefnogi ac yn hybu

Iechyd Meddyliol ac Emosiynol y lleoliad cyfan, yn ogystal â datblygu Lles a

Chydberthynas yn y lleoliad.

Hylendid Bydd lleoliadau’n cefnogi ac yn hybu’r

gwaith o ddatblygu hylendid

Rheoli a Chynnal a Chadw Sicrhau bod y newidiadau’n dylanwadu

ar y s ta f f , ac ar bo l i s ï au a gweithdrefnau, a sicrhau bod pob

gweithgaredd newydd yn parhau.

Iechyd a Lles yn y Gweithle

Dylai’r lleoliad fod yn weithle sy’n hybu iechyd gydag ymrwymiad i iechyd a lles

y staff

Yr amgylchedd Bydd lleoliadau’n annog y sefydliad

cyfan i ymgysyll tu â materion amgylcheddol a chynaliadwy

Rheoli a Chynnal a Chadw

Sicrhau bod y newidiadau a wneir yn dylanwadu ar y staff, ac ar bolisïau a

gweithdrefnau, a sicrhau bod pob gweithgaredd newydd yn parhau.

Page 9: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

9

Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy Abertawe

Enw’r Lleoliad:

Enw’r Rheolwr:

Cyfeiriad:

Rhif Ffôn:

Nifer y plant sydd

wedi cofrestru:

Nifer y staff a gyflogir:

Cydgysylltydd Mewnol y Cynllun:

Mae’n ofynnol i leoliadau sydd am gymryd rhan yn y Cynllun Cyn-Ysgol

Iach a Chynaliadwy: Gael cefnogaeth lawn rheolwr y lleoliad

Enwebu cydgysylltydd mewnol Bod yn ymrwymedig i hyfforddi a datblygu’r staff

Bod yn ymrwymedig i fonitro a gwerthuso Bod yn ymrwymedig i fynychu cyfarfod adolygu gyda’r Ymarferydd

Sicrhau bod dull ysgol gyfan yn cael ei fabwysiadu bob amser

Llofnodwyd:

Rheolwr

Dyddiad: Dyddiad:

Llofnodwyd:

Cydgysylltydd Mewnol y Cynllun

Page 10: Healthy Preschool booklet - Welsh Version

10

En

w’r

lleo

liad

:

C

yd

gysyllty

dd

y

Cyn

llu

n:

R

heo

lwr:

C

yfn

od

:

Dyd

dia

d

cyfl

wyn

o:

Pw

yn

tiau

Gw

eit

hred

u

Rh

estr

wch

beth

yr y

dych

yn

bw

ria

du

ei w

neu

d

Terfy

n A

mser

Y

sta

ff s

y’n

g

ysyllti

ed

ig

Am

can

gyfr

if o

’r

go

st

Can

lyn

iad

Dis

gw

ylied

ig

Rh

estr

wch

y m

an

teis

ion

iech

yd

yr

yd

ych

yn

dis

gw

yl eu

cyfl

aw

ni