gŴyl dewi! ddathlu dydd gadewch i ni · 2020. 1. 22. · eu cadw, “câr yr arglwydd dy dduw...

4
LET’S CELEBRATE ST DAVID’S DAY WHOSE FOOTBALL BOOTS ARE THESE? Meet Garin Jenkins Calon Lân milestone Flying flags of hope Bara Brith recipe Published by Hope for Every Home 8A Market Place, Rugby, Warwickshire CV21 3DU Registered Charity 1181965 GADEWCH I NI DDATHLU DYDD GŴYL DEWI! PWY SY’N BERCHEN YR ESGIDIAU PÊL-DROED HYN? Dewch i gyfarfod Garin Jenkins Carreg Filltir Calon Lân Chwifio Baneri Gobaith Rysáit Bara Brith Published by Hope for Every Home 8A Market Place, Rugby, Warwickshire CV21 3DU Registered Charity 1181965

Upload: others

Post on 24-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: GŴYL DEWI! DDATHLU DYDD GADEWCH I NI · 2020. 1. 22. · eu cadw, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon a châr dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’, dyna beth ddywedodd

LET’S CELEBRATE ST DAVID’S DAY

WHOSE FOOTBALL BOOTS ARE THESE?

Meet Garin JenkinsCalon Lân milestoneFlying flags of hopeBara Brith recipe

Published by Hope for Every Home 8A Market Place, Rugby, Warwickshire CV21 3DU Registered Charity 1181965

GADEWCH I NI DDATHLU DYDD

GŴYL DEWI!

PWY SY’N BERCHEN YR ESGIDIAU PÊL-DROED HYN?

Dewch i gyfarfod Garin Jenkins Carreg Filltir Calon LânChwifio Baneri GobaithRysáit Bara Brith

Published by Hope for Every Home 8A Market Place, Rugby, Warwickshire CV21 3DU Registered Charity 1181965

Page 2: GŴYL DEWI! DDATHLU DYDD GADEWCH I NI · 2020. 1. 22. · eu cadw, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon a châr dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’, dyna beth ddywedodd

Often referred to as Wales’ second anthem, Calon Lân is undoubtedly one of our best known songs. The timeless combination of words and music unite Welsh people across the world, and never fail to rouse the crowd at a rugby match, home or away.

This song is a Christian hymn written by the Swansea poet Daniel James better known by his bardic name ‘Gwyrosydd’.

This year Calon Lân will be sung with fresh gusto as the nation marks the 100th anniversary of Gwyrosydd’s death. His famous hymn is a prayer for a simple life and pure heart. In these words, he reminds us that there is more to life than material possessions or money.

As a Christian, Gwyrosydd knew that through faith in Jesus Christ we can be given a new heart and a fresh start, forgiven for all our shortcomings.

A century after his death, Gwyrosydd’s words are as popular as ever and his prayer for a simple life and pure heart is as relevant as the day it was written.

Did you recognise the boots on the cover of this leaflet?

These boots belong to the Welsh international football player Rabbi Matondo. You should definitely recognise one of the flags! The other flag reminds Rabbi of his connections with the Democratic Republic of the Congo. It’s good to see Rabbi remembering his Christian faith with the words ‘God is great’ on the side of his boots. With these special boots, we hope he will score plenty of goals for Wales!

CALON LÂN MILESTONE

RABBI MATONDO - SHOOTING FOR GLORY

Yn ddi-os, Calon Lân yw un o ganeuon mwyaf adnabyddus y genedl. Mae’r cyfuniad teimladwy o eiriau a cherddoriaeth yn uno Cymry ar draws y byd ac yn llwyddo bob amser i godi’r hwyl mewn gêm rygbi, yma yng Nghymru neu oddi cartref.

Emyn Cristnogol yw’r gân hon a ysgrifennwyd gan fardd enwog o ardal Abertawe, Daniel James, sydd yn cael ei adnabod yn well wrth ei enw barddol ‘Gwyrosydd’.

Eleni, wrth i ni nodi canmlwyddiant marwolaeth Gwyrosydd bydd hyd yn oed mwy o ganu hwyliog ar y dôn ‘Calon Lân’.

Mae ei emyn enwog yn weddi am fywyd syml a chalon bur. Yn y geiriau hyn, mae’n ein hatgoffa fod yna fwy i fywyd nag eiddo a chyfoeth.

Fel Cristion, roedd Gwyrosydd yn gwybod bod Iesu Grist yn cynnig calon lân a dechrau newydd i bob un oedd yn credu ynddo ac yn derbyn o’i faddeuant.

Ganrif ers ei farwolaeth, mae geiriau syml Gwyrosydd yr un mor boblogaidd ag erioed a’i weddi am fywyd syml a chalon lân yr un mor berthnasol.

Wnaethoch chi adnabod yr esgidiau ar glawr y daflen hon?

Esgidiau y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Rabbi Matondo ydyn nhw. Dylai un o’r baneri fod yn ddigon cyfarwydd! Mae’r faner arall yn atgoffa Rabbi o’i gysylltiadau â Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Mae’n braf gweld Rabbi yn cofio pwysigrwydd ei ffydd Gristnogol hefyd gyda’r geiriau ‘God is Great’ ar ochr yr esgidiau. Gyda’r esgidiau arbennig hyn, mawr obeithiwn y bydd Rabbi yn sgorio llawer o goliau dros Gymru!

CARREG FILLTIR CALON LÂN

RABBI MATONDO - CICIO DROS GYMRU

Page 3: GŴYL DEWI! DDATHLU DYDD GADEWCH I NI · 2020. 1. 22. · eu cadw, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon a châr dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’, dyna beth ddywedodd

With more than fifty caps, Garin Jenkins, has played in three Rugby World Cups and the Five Nations Championship, and has won both league and cup honours captaining Swansea. But he was also the first man in British rugby to be ‘sin binned’ three times and is one of eight Welsh players to be sent off when playing for his country.

Brought up by loving parents in Ynysybwl, he says, ‘I am thankful someone must have been praying for me. I was brought up to go to Sunday school and I’m so grateful for that. I always prayed from a young age, praying the Lord’s Prayer and for my family, and generally for God to get me out of the bother I’d got myself into.’

Garin loved being involved in sport: rugby, soccer, cricket, tennis, boxing…any sport! But during his teens, he says: ‘I was a right rebel and ended up running away to France and got involved in solvent abuse ending up in a ‘naughty boys school’ because of all the bad decisions and bad choices I made. I had a good few hidings there, some I probably asked for. It was there, after I had been beaten up by an older lad, I remember praying in desperation and loneliness crying myself to sleep.’

Later in his early forties, he had just had a secondary melanoma removed from his neck, and remembers thinking ‘how great God has been to me, bringing me from the low dark places I have been. If he didn’t do another thing in my life, he has been amazing to me, showing and giving me things I could never have imagined.’

Garin hopes that he will be better in the second half of his life having learned from the mistakes he made in the first half! ‘I am not religious,’ he says. ‘Jesus Christ did not come to set up a religion. He was God in the flesh, on earth to give mankind a second chance because he loves us all … the nice and the not so nice. I am so glad of that! He did not give us heavy burdens and a set of rules and regulations. He said “love Almighty God with all your heart and love your neighbour as yourself”. I am a sinner saved by what Christ achieved on the cross. He remains the only one in history to go into a cemetery and come out with eternal life! That is the hope and faith I have. However long I have on my journey, I am trusting to finish strong. Garin Jenkins a work in progress, thanks to Christ!’

MEET GARIN JENKINS

Wedi ennill dros hanner cant o gapiau, mae Garin Jenkins wedi chware mewn tair cystadleuaeth Cwpan Byd a Phencampwriaeth y Pum Gwlad ac wedi ennill sawl anrhydedd yng nghystadlaethau’r gynghrair a’r cwpan tra’n gapten Abertawe. Ond, ef hefyd oedd y dyn cyntaf yn hanes rygbi Prydain i gael ei roi yn y Gell Gosb dair gwaith ac yn un o wyth chwaraewr Cymru i gael ei anfon o’r cae tra’n chware dros ei wlad.

Cafodd Garin ei fagu gan rieni cariadus yn Ynysybwl, Pontypridd. Dywed Garin, ‘Dw i’n ddiolchgar, mae’n rhaid bod rhywun yn gweddïo drosof fi. Cefais fy magu i fynd i’r Ysgol Sul ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Ro’n i’n gweddïo pan oeddwn i’n ifanc, byddwn yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd, gweddïo dros fy nheulu a gofyn i Dduw i fy helpu mas o drafferthion.’

Roedd Garin yn dwli ar chwaraeon: rygbi, pêl-droed, criced, tennis, bocsio … unrhyw fath o chwaraeon. Ond yn ei arddegau, dywed Garin, ‘Ro’n i’n rebel, yn y diwedd rhedais bant i Ffrainc lle dechreuais gamddefnyddio toddyddion ac yn y diwedd cefais fy anfon i ysgol ar gyfer ‘bechgyn drwg’ o achos yr holl benderfyniadau a dewisiadau gwael a wnes i. Cefais ambell glatshen yno, rhai ohonyn nhw mae’n debyg ro’n i’n eu haeddu! Yna, ar ôl cael fy nghuro gan fachgen hŷn, dw i’n cofio gweddïo i Dduw mewn anobaith ac unigrwydd a chrïo wrth fynd i gysgu’.

Yn ddiweddarach, tra’n ei bedwardegau cynnar, cafodd Garin driniaeth ar felanoma ar ei wddf ac mae’n cofio meddwl, ‘mae Duw wedi bod mor dda i mi, wedi fy nghodi o’r tyllau tywyll dw i wedi bod ynddyn nhw. Pe na bai’n gwneud unrhyw beth arall yn fy mywyd, mae e wedi bod yn rhyfeddol yn dangos a rhoi pethau imi na fyddwn i byth wedi eu dychmygu’.

Mae Garin yn gobeithio y bydd e’n well yn ail hanner ei fywyd wedi iddo ddysgu o’r camgymeriadau a wnaeth yn yr hanner cyntaf! ‘Dw i ddim yn grefyddol’ dywed Garin. ‘Nid er mwyn sefydlu crefydd y daeth Iesu Grist. Duw yn y cnawd oedd e, daeth e i’r byd i roi cyfle arall i ddynoliaeth achos ei fod yn ein caru ni …y da a’r rhai sydd ddim mor dda. Dw i mor falch o hynny. Dyw e ddim yn rhoi beichiau trymion i ni eu cario neu reolau llym i ni eu cadw, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon a châr dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’, dyna beth ddywedodd e. Pechadur ydw i wedi fy achub drwy aberth Iesu ar y groes. Crist yw’r unig un mewn hanes sydd wedi mynd i’r bedd ond wedi dod ‘nôl yn fyw! Dyna’r gobaith sydd gyda fi. Waeth pa mor hir sydd ‘da fi ar y siwrne ‘ma dwi’n ymddiried ynddo hyd y diwedd. Mae taith Gristnogol Garin Jenkins yn parhau, diolch i Grist.

DEWCH I GYFARFOD GARIN JENKINS

Page 4: GŴYL DEWI! DDATHLU DYDD GADEWCH I NI · 2020. 1. 22. · eu cadw, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon a châr dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’, dyna beth ddywedodd

Ingredientsn 450g (1lb) dried mixed fruit

n 250g (9oz) brown sugar

n 300ml (½ pint) warm tea

n 2 tsp mixed spice

n 450g (1lb) self-rising flour

n 1 egg

Methodn Soak the fruit and sugar in strong

black tea overnight (or as long as possible).

n Preheat the oven to 170C/325F/Gas 3.

n Line a 900g/2lb loaf tin with baking parchment.

n Mix the remaining ingredients into the fruit mixture and beat well.

n Pour the mixture into the loaf tin and bake in the oven for about 1½ hours

n Allow to cool and serve with a generous spread of Welsh butter!

BARA BRITH RECIPEFLYING FLAGS OF HOPEOf all the flags in the world, Wales’ bright red dragon is without doubt one of the most exciting! But the Red Dragon isn’t the only flag to be flown on St David’s Day.

Flying high above the cathedral of St David is the flag of St David. It features a large yellow cross on a black background and reminds us of the cross of Jesus Christ, a symbol of love, forgiveness and hope.

The cross was the central message of St David’s teaching as he helped spread the Good News of Jesus Christ throughout Wales. The yellow cross shines bright against the dark black background, reminding us that Jesus brings light in the darkness of our world and hope when we feel anxious, lonely or afraid.

Find out more at christianity.org.uk

No St David’s Day celebration would be complete without a slice of Bara Brith!Cynhwysion n 450g (1 pwys) ffrwythau

cymysg sych

n 250g (9 owns) siwgr brown

n 300ml (½ peint) te poeth

n 2 lwy de sbeis cymysg

n 450g (1 pwys) blawd codi

n 1 ŵy

Dulln Mwydwch y ffrwythau sych a’r

siwgr yn y te poeth a’i adael dros nos (neu gyhyd â phosibl).

n Cynheswch y ffwrn hyd at 170C/325F/Nwy 3.

n Paratowch dun pobi torth 900g/2 bwys gyda phapur memrwn.

n Ychwanegwch weddill y cynhwysion at y ffrwythau a chymysgwch yn dda.

n Arllwyswch y cymysgedd i’r tun pobi a phobwch am tua 1½ awr.

n Wedi pobi, gadewch i’r dorth oeri ychydig cyn ei weini gyda digon o fenyn Cymreig!

RYSÁIT BARA BRITH CHWIFIO BANERI GOBAITHO holl faneri’r byd, y Ddraig Goch yn sicr yw un o’r rhai mwyaf cyffrous! Ond nid y Ddraig Goch yw’r unig faner fydd yn cael ei chwifio ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn hofran yn uchel uwchben Eglwys Gadeiriol Tyddewi y mae baner Dewi Sant. Mae’r faner yn cynnwys croes fawr felen ar gefndir du sydd yn ein hatgoffa o groes Iesu Grist - symbol o gariad, maddeuant a gobaith.

Roedd y groes yn ganolog i neges Dewi Sant wrth iddo weithio i ledaenu’r Newyddion Da am Iesu Grist dros Gymru gyfan. Mae’r groes felen yn disgleirio’n llachar ar gefndir tywyll du ac yn ein hatgoffa fod Iesu Grist yn goleuo tywyllwch ein byd ac yn cynnig gobaith pan fyddwn yn teimlo’n ofidus, ofnus neu’n unig.

I ddarganfod mwy am Iesu Grist a’r ffydd Gristnogol ewch i christianity.org.uk

Ni fyddai unrhyw ddathliad Gŵyl Ddewi yn gyflawn heb dorth o Fara Brith!