gwrando ac ymateb i air duws404812214.websitehome.co.uk/buw_wordpress/wp... · addewid (josua 3:5)...

24

Upload: others

Post on 03-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    Gwrando ac Ymateb i Air Duw

    Gweld Yfory Trwy Lygaid Gwahanol Y mae'r gyfres hon o Astudiaethau'r Grawys wedi eu paratoi yn arbennig ar gyfer y Bedyddwyr yng Nghymru wrth iddynt fyfyrio ar Air Duw ac yn weddigar ddirnad eu dyfodol ynghyd. Y mae'r astudiaethau yn ein gwahodd i wrando ar lais Duw ac i ymateb i'w Air. Paratowyd yr astudiaethau gan y Parchg Cyn-Brifathro John Weaver ac yr ydym yn ddyledus iddo am ei arweiniad. Cyfieithwyd hwy i’r Gymraeg gan y Parchg Peter Thomas. Gellir eu defnyddio mewn grwpiau bychain, astudiaethau Beiblaidd ganol wythnos neu fel thema ar gyfer oedfaon y Sul. Defnyddiwch nhw yn unol â'ch sefyllfa benodol Astudiaeth 1: Ymgysegriad ac Ymgysegriad (Josua 1:1-9; 3:1-7) Astudiaeth 2: Ildio i Genhadaeth Crist (Luc 5:1-11, Ioan 21:1-19) Astudiaeth 3. Gweinidogaeth y Gwas ac Eglwysi Gwasanaethgar

    (Marc 10:35-45; Marc 8:34-38, Ioan 13:1-17) Astudiaeth 4: Pobl y Deyrnas

    (Nehemeia 1:1-3; 32; 1 Corinthiaid 12:12 -13:13) Astudiaeth 5: Byw'r Deyrnas

    (Mathew 5:1-12; Actau 2: 24-47; ; 22-12:,1-2 9-21) Astudiaeth 6: Croeshoeliad ac Atgyfodiad

    (Ioan 19: 16-20:10; Ioan12:20-26)

    **************** Gyda diolch i Dr John Weaver am ysgrifennu'r astudiaethau ac i

    Rev Peter M. Thomas am gyfieithu'r astudiaethau. John oedd Prifathro Coleg Bedyddwyr De Cymru ac mae ef bellach wedi ymddeol.

  • 2

    Astudiaeth 1: Ymgysegriad ac Ymroddiad Wythnos yn cychwyn Sul 9fed Fawrth

    Darlleniadau: Josua 1:1-9; 3: 1-17 Ymchwiliad: Y mae’r Grawys yn arwyddo cychwyn newydd; mae Dydd Mawrth Ynyd (Dydd Mawrth Crempog i lawer) sy’n blaenori Dydd Mercher Lludw yn nodi cychwyn y tymor ac yn ddydd o ddathlu cyn dyfodiad y cyfnodau ympryd a’r defodau crefyddol a gysylltir â chyfnod y Grawys. Y mae’r ymadrodd Ffrenig “Mardi gras” yn cyfeirio at yr arfer o fwyta gloddest ar ddydd “Mawrth Gloddrwth” tra bod y gair Saesneg “Shrove” yn deillio o’r gwreiddyn – “cyffes.” Yn y cyd-destun Beiblaidd geilw Josua ar y genedl i ymgysegri cyn croesi’r Iorddonen i Dir yr Addewid (Josua 3:5) Y mae’r ddogfen “Yfory trwy lygaid gwahanol” hefyd yn arwyddo cychwyn newydd yn ein dealltwriaeth o fod yn un teulu fel Bedyddwyr yng Nghymru. Er nad yw cenhadu dros Grist yn waith hawdd, y mae’n gwbl angenrheidiol ac yn rhan annatod o alwad Duw ar ein bywyd ni. Ei genhadaeth Ef ydyw - cenhadaeth o fewn y byd a greodd a’r byd y bu Crist farw drosto ac y mae inni Ysbryd Duw a’i adnoddau i’n cynorthwyo a’n cyfeirio yn y genhadaeth honno. Wedi cyfnod hir mewn anialwch y mae cenedl Israel yn cyrraedd afon yr Iorddonen. Buont yno o’r blaen, deugain mlynedd ynghynt, ond bryd hynny yr oeddynt wedi bod yn rhu ofnus i fentro. Roedd adroddiadau’r ysbiwyr a ddanfonwyd i archwilio gwlad Canan wedi son am wlad ffrwythlon “yn llifeirio o laeth a mêl,” ond yr oeddynt hefyd wedi son am y cewri a drigai yno - disgynyddion Anac y cawr a’u tebyg (Numeri 13:27-29). Caleb a Josua oedd yr unig ddau o blith y deuddeg ysbïwr a welodd bethau gyda llygaid gwahanol, llygaid ffydd a sylweddoli’r posibiliadau yn hytrach na’r anawsterau. (Numeri 13:30; 14:6-9). Serch hynny ar waetha’r oedi fe gadwodd Duw ei air a’i addewid y caent fynediad i’r wlad a dyna a ddigwyddodd. Y mae’r cyfnod hwn yn gychwyn newydd yn ein hanes ni hefyd fel teulu o Fedyddwyr, yn gyfle newydd i ddilyn mewn ufudd-dod ac nid i amau ac anufuddhau. Beth yw’r cyfleoedd a’r posibiliadau? Rhoddodd Duw addewid i Josua a chenedl Israel y byddai byth yn eu gadael na chefnu arnynt (Josua 1:5). Yr oeddent i ymddiried yn y Duw a rhoddodd iddynt yr addewid o’r tir; nid oedd yn rhaid iddynt eu hawlio gan ei fod wedi ei rhoi. Yr

  • 3

    unig ofyniad arnynt oedd i’w dderbyn a byw yng ngoleuni’r addewid. Fe rydd Duw iddynt y tir y byddai eu traed yn sangu arno; dyma oedd sicrwydd neges Duw i Josua. (1:6-9). Y mae Moses wedi marw - y gorffennol y tu cefn iddynt a dyfodol Duw o’i blaen. Daw’r alwad i Josua a’r genedl baratoi i symud ymlaen - i groesi’r Iorddonen i’r yfory hwnnw a rydd Duw iddynt - mi fydd ef gyda hwy fel y bu gyda Moses. “Mi fyddaf i gyda chwi, ni’m gadawaf chwi yn amddifad, byddwch gryf a gwrol eich calon ac ymddiriedwch yn fy nghyfarwyddiadau ac fe gewch brofi o ddigonedd a llwyddiant. Peidiwch ofni na digalonni, byddaf fi gyda chwi.” Dyna yw neges Duw. Yn wyneb y dirywiad enbyd yn hanes ein heglwysi - rhaid holi beth am ein dyfodol ni? Ac ydyw hwnnw’n ymddangos yn ddiobaith a’n byd yn llawn o broblemau anorchfygol? A deimlwn fod pethau yn ein bywyd neu yn ein gorffennol na fedrir eu dileu na’u maddau? A deimlwn fod ein hanallu a’n diffyg grym (yn nhermau’r byd) yn dal cenhadaeth Duw yn ôl? Y mae angen i ni fentro allan mewn ffydd gan mai hyn yw addewid Duw a’n hetifeddiaeth. Camu ymlaen ac anwesu’r addewid y mae Duw wedi ei rhoi. Y mae i ni ffydd ym mwriadau Duw ar gyfer ein bywyd a’r hyder fod iddo’r gallu i faddau, adfer ac adnewyddu ein bywydau. Y mae’n medru “ad-dalu yn ôl y blynyddoedd a ddifaodd y locustiaid ar ei dyfiant..” (Joel 2: 25) yn hanes ein bywydau personol ac ym mhrofiadau ein cynulleidfaoedd. Y mae i ni’r addewid o faddeuant a bywyd newydd yng Nghrist ac mewn ffydd ymddiriedwn ynddo. A oes yna adegau pan deimlwn yn unig a bod tuedd i bobl ddiystyri cyfraniad yr eglwys mewn oes seciwlar? Nid oes angen i ni ofni na phryderi am fod inni’r addewid y bydd Duw gyda’i bobl lle bynnag yr elont. Y mae’r tir wedi ei rhoi, ond rhaid mentro i’w feddiannu. Y mae brwydrau eto i’w hennill a geilw hynny am nerth, gwroldeb a ffydd. Gelwir ar Josua i ymddiried yn Nuw ac i ymarfer ei rym i gyflawni ei holl fwriadau a’i amcanion. Ef yw’r Duw “sydd yn mynd o’n blaen ni ac yn darparu ar ein cyfer.” O ganlyniad fe rydd Josua'r flaenoriaeth i drefniadau Duw - geilw ar yr offeiriad i gario Arch y Cyfamod o flaen y bobl i’w harwain ar draws yr afon ac wrth wneud yn sydyn y mae’r dyfroedd yn peidio llifo a’r genedl yn croesi ar dir sych. Roedd dyfroedd yr afon o ganlyniad i ddaeargryn neu dirlithriad rhyw 28 kilometr i’r gogledd o Jericho wedi peri i’r dyfroedd ildio am gyfnod er mwyn

  • 4

    i’r genedl groesi’n ddiogel a hynny yn arwydd fod Duw wedi gweithredu cyn hyd yn oed i’r offeiriaid rhoi eu traed yn yr afon. Y mae hwn yn gychwyn cyfnod newydd ac fel yn hanes Israel y mae datblygiad newydd ar droed yn hanes gweinidogaeth a chenhadaeth teulu’r Bedyddwyr:

    • Pob man y gosodwch eich troed • Ni wna neb eich gwrthwynebu • Y mae Duw wedi addo • Y mae Duw gyda ni • Byddwch gryf a gwrol eich calon

    Cawn acenion yn hyn o eiriau Iesu: “Mi a ddeuthum fel y caent fywyd a’i gael yn helaethach.” (Ioan 10:10) Gelwir arnom i ddilyn Crist ac i ymdebygu iddo a bod yn ddisgyblion iddo yn y byd. Mi fydd Crist gyda ni a thrwy'r Ysbryd Glan cawn brofi o’i gwmni a’i gymdeithas a grym ei atgyfodiad. (Effesiaid 1:18-20). Beth a olyga ffydd yn addewidion Duw ac ymroddiad i’w fwriadau i ni fel unigolion ac eglwysi? Ydy’r ffaith fod Duw yn un sy’n mynd o’n blaen ni yn fodd i’n calonogi? Ydy’r ffaith fod inni’r addewid o rym yr atgyfodiad yn fodd i ddyfnhau ein hymroddiad?

  • 5

    Astudiaeth 2: Ufudd-dod i Genhadaeth Crist Wythnos yn cychwyn Sul 16eg Fawrth.

    Darlleniadau: Luc 5:1-11; Ioan 21:1-19 Ymchwiliad: Dywedodd Iesu: “Pwy bynnag sydd am fod yn ddisgybl i mi, rhaid iddo roi'r hunan heibio a chodi ei groes a’m dilyn.” (Marc 8:34) Sut mae dehongli’r adnod hon yn ein bywydau personol? Sut mae galwad Iesu yn cael ei adlewyrchu ym mywyd ein heglwysi a’n Cymanfaoedd? “Yna daethant a’r cychod yn ôl i’r lan, a gadael popeth, a’i ganlyn ef.” (Luc 5:11) Tra bod cwch Simon Pedr yn cael ei ddefnyddio’n bulpud gan Iesu nid oedd gan y perchennog wrthwynebiad iddo fod mewn rheolaeth, ond unwaith ei fod yn dychwelyd i fod yn gwch pysgota (neu’n weithdy, neu’n ystafell ddosbarth, cegin, ffactri, ysbyty, cartref neu hyd yn oed yn gwrdd eglwys) yna'r pysgotwr (y peiriannydd, yr athro, y cogydd, rheolwr y gweithlu, y nyrs, y fam, y deacon/y gweinidog) ddylai fod mewn rheolaeth - oherwydd dyna yw ei swyddogaeth. Pan fyddwn yn gwrando ar eiriau Iesu, gofynnwn iddo am ei gymorth, ei iachâd, ei allu a’i rym - ond i ganiatáu i Iesu ymyrryd yn ein gwaith, ein trefniadau, ein cartref, ein hamdden, ein bywyd, ein heglwys - wel, y mae hynny’n rhywbeth gwahanol – ond mae bod yn ddisgybl yn golygu ufudd-dod llawn a chyfan i arglwyddiaeth Crist. Y mae Iesu yn y cyswllt hwn yn dangos ei fod mewn gwirionedd yn gwybod mwy am waith Simon Pedr nag oedd ef yn gwybod ei hunan. Yr oedd yna helfa bysgod ar fin digwydd, mwy nag yr oedd Seimon Pedr erioed wedi ei brofi o’r blaen, yn gymaint nes y byddai’r rhwydau bron a thorri a byddai angen iddo alw ar eraill i’w gynorthwyo gyda’r helfa. Ymateb Seimon Pedr i wyrth y rhwydau llawn yw cydnabod ei anallu a’i bechod: “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.” Ond yr hyn a wna Iesu yw cynnig iddo dosturi, trugaredd, cariad, tangnefedd, gwerth a phwrpas i’w fywyd. Canlyniad hyn i gyd yw ei fod ef a’r rhai oedd gydag ef yn y cwch yn gadael popeth a dilyn (5:10).

  • 6

    Ac yn y cyd-destun hwnnw fe ddaw geiriau Iesu yn fyw i’n sefyllfaoedd ni - i’n herio ni a threiddio i breifatrwydd ein bywydau personol bob dydd yn hytrach na’u cadw lled-braich mewn oedfa ddydd Sul lle y maent “yn perthyn” yn arferol. Y mae angen i ni gofio fod Iesu yn gwybod mwy am weinidogaeth a chenhadaeth yr eglwys nag ydym ni - yr oedd yn rhan o’i fwriad erioed.

    “Tydi yw’r Gair oedd yno o’r dechreuad Yn llunio’r byd yn gelfydd “gyda Duw,” Dy ddwylo di fu’n gosod y planedau, Ysgeintio’r sêr yn oleuadau byw. Tydi yw’r Duw a wisgaist wyneb dynol Gan roi dy hun yn aberth trosom ni. A gwelsom ynot Dad yn bradu’i gariad Wrth dalu’r pris ar groesbren Calfari. Tydi yr Un sy’n llywio ein presennol, Gan roi i foment frau ei chyfle chwim, Ac iddi hi chwistrellaist ras digonol I’w byw yn llawn, a’i throi yn brofiad im.”

    PMT

    Mewn ffydd y mae angen i ni ymddiried ein strwythurau, ein gwaith ein harian a’n hadnoddau a’u gosod yn gyfan o dan ei arglwyddiaeth ef. Yn yr un modd y mae angen i ni ildio holl agweddau o fywyd ein heglwysi, ein cynulleidfaoedd a’n Cymanfaoedd i arglwyddiaeth Crist. Ond yn bennaf oll yr angen i ni gyflwyno’n bywydau personol i Grist a gofyn iddo ddod yn Arglwydd ein bywyd ni. - Dyma beth yw menter ffydd ac ymddiriedaeth A oes tuedd ynom i siarad am “ein heglwys” neu “fy eglwys” yn Hytrach nag am “eglwys Crist?” – Pa wahaniaeth y mae hyn yn gwneud? Yn Ioan 21 gwelwn fod yr alwad ar fywyd y disgyblion yn cael ei gadarnhau yn dilyn yr atgyfodiad. Y mae’r cyd-destun eto ynghanol sefyllfa gyffredin bywyd a gwaith. Yn dilyn cyffro tröedigaeth, gweledigaeth a derbyniad yr Ysbryd Glan mewn cyd-destun addoliad y mae angen i ni hefyd sydd wedi canfod Iesu mewn addoliad a dathliad ffydd yn ei adnabod a’i gyfarfod yng nghanol sefyllfaoedd cyffredin ein byw gan gydnabod ei fod ef yn gwybod mwy am ein hamgylchiadau na wyddom ein hunain. Ildiwn ein yfory iddo gan ofyn iddo gyfeirio a rheoli ein bywydau fel unigolion a chynulleidfa a chan ymddiried iddo’r cyfan.

  • 7

    Tydi yw Gwawr goleuni ein hyfory, Yr oesol Dduw sydd ddoe a heddiw’r Un; Ein hyder wyt i’r daith sydd eto’i cherdded Yn gwmni ac ymgeledd teulu dyn

    PMT Trwy farw i’r hunan y derbyniwn fywyd yn ei helaethrwydd a dod yn gyfrannog o rym yr atgyfodiad a maeth teyrnas Crist. Rhaid i’r “eglwys gynnull” a ddaw ynghyd ar y Sul fod yn barod i fod yn “eglwys wasgar” gweddill yr wythnos wrth iddi ymestyn allan yn ei thystiolaeth a’i chenhadaeth i fyd toredig. A oes angen i ni fel Seimon Pedr glywed cynnig Crist o faddeuant a’i alwad ef i’w ddilyn? Mi ddylai’n cred effeithio ar ein gwneud. Y mae Luc yn ei gofnod yn nodi fod y disgyblion cynnar wedi clywed pregeth, wedi derbyn gwers mewn pysgota ac yna eu bod wedi gadael popeth a dilyn Iesu (Luc 5:1-11). Maent yn ildio eu hunain iddo. Cyflwyno eu bywydau “yn ebyrth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw.” Yr ydym ni a rhannodd o’r bara a’r gwin yn y cymun yn dod yn gorff Crist ar wasgar yn, ac er mwyn y byd. Medr yr alwad i ddilyn olygu ar dro aberthu ein bywydau (Ioan 21: 18-19) ac fe olyga ymgadw rhag eiddigedd a chenfigen a heb boeni am sefyllfa neu statws yr arall (20-23). Mae’n alwad arnom i barhau’n ffyddlon i ddilyn Crist fel disgyblion iddo ac i ymddiried ynddo ac i weld y cyfleoedd a gyflwynir i ni i weithio’n agosach a’n gilydd fel rhan o’n partneriaeth yn yr Efengyl yma yng Nghymru. Dywed Esgob Stephen Neil fod yn rhaid i’r Cristion ymateb i dair galwad sy’n arwain i dair tröedigaeth sef :

    1. Tröedigaeth i Grist 2. Tröedigaeth i Eglwys Crist 3. Tröedigaeth i’r Byd y bu Crist farw drosto

    Y mae angen i ni glywed y galwadau hyn yn ein bywyd Cristnogol ac ymateb iddynt gan droi yn gyson at Iesu am iachâd, maddeuant a’r rhodd o’i Ysbryd. Beth mae Duw am i ni adael ar ôl? Y mae angen i ni gyflwyno’n gweinidogaeth a’n perthynas fel disgyblion Crist i arweiniad ei Ysbryd. Fe olyga hynny'r parodrwydd i rai ohonom gydnabod yng ngŵydd eraill ein bod yn ddilynwyr Crist. Yr angen i edifarhau am ein

  • 8

    hunanoldeb a’n materoliaeth. I eraill fe olyga ymgyflwyno eu hunain yn gyfan i Grist a gadael iddo ef iachau eu clwyfau ac i’w harwain ymlaen mewn ffydd. Yn hanes ein heglwysi fe olyga’r parodrwydd i gyflwyno ein cynlluniau, ein gweledigaeth a’n breuddwydion i Dduw. Nid i weddïo am fendith Duw ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei gynllunio, ond yn hytrach i ddirnad trwy weddi'r hyn yw ei fwriad a’i ewyllys ac i’n bendithio yn hynny. I ba gyfeiriad y credwch y mae Duw yn ein cymell ni yn ei genhadaeth? Pwy y mae Duw yn ein cymell ni i bartneri a hwy yn ei genhadaeth?

  • 9

    Astudiaeth 3: Gweinidogaeth wasanaethgar ac Eglwysi gwasanaethol

    Wythnos yn cychwyn Sul, 23ain Mawrth Darlleniadau: Marc 10:35-45; Marc 8:34-38; Ioan 13:1-17 Awgrymiadau rhagarweiniol: Darllenwch Marc 8:34 a Marc 10:45 (cymharwch gyda Philipiaid 2:5-11) Sut mae dehongli’r adnodau hyn? Y mae galwad Iesu yn gydnabyddiaeth o’n breuder ond hefyd ein parodrwydd bob amser i wasanaethu anghenion yr arall. Ym mha ffurf yr wyf yn fodlon ymwadu a mi fy hunan a dilyn Iesu ac ymwacau o bob grym ac awdurdod? Sut fath eglwys fyddai hi pe byddem yn barod i adlewyrch gweinidogaeth wasanaethol a hunan aberthol Crist yn ein hymwneud a’n gilydd yn hytrach nag ond darparu'r arferol? Esboniad ar Ioan 13:17 Gelwir arnom i fod yn eglwys wasanaethgar ac i ymarfer gweinidogaeth fydd yn adlewyrchu hynny. Dywedodd Iesu: “Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud yn union fel yr wyf fi wedi gwneud i chwi.” Nid adran sy’n cyfeirio at draed drewllyd sydd angen eu golchi yw hwn. Y mae’r cyd-destun y digwydd fel rhan o’r Swper Olaf - “y cyfamod newydd yn fy ngwaed i.” Y mae’r golchi a’r glanhad hwn yn digwydd trwy waed aberthol Crist - yn symbol o’r hyn a weithredwyd yn y croeshoeliad ac o’r hyn y mae’r Ysbryd Glan yn ei gyflawni ym mywyd y disgybl sy’n ymgyflwyno’i hunan i fwriadau Duw. (Y mae’r gair “cyflawn” yn gynwysedig yn y gair “ymgyflwyno” - rhoi’r cyfan). Y mae’r ieithwedd “o roi i lawr” ac “o gymryd i fyny” hefyd yn rhoi mynegiant i'r croeshoeliad a’r atgyfodiad ac yn hynny y mae’r weithred o olchi’r traed yn ddarlun o’r hyn a oedd ar fin digwydd i Iesu trwy ei farw a’i atgyfodiad a’i ddychweliad at ei dad ac mewn darostyngiad i ewyllys Duw. Y mae Pedr yn gwrthod y gwaradwydd o adael i Iesu olchi ei draed, ond y mae Iesu yn dweud wrtho er mwyn iddo fod yn ddisgybl iddo ef, rhaid iddo gael ei olchi. Rhaid rhoi balchder o’r neilltu; rhaid derbyn fod Iesu wedi darostwng ei hun - wedi ymestyn i lawr o’r nef a derbyn ei groeshoelio ar groes er mwyn cynnig i ni faddeuant a’n rhyddhau i fywyd newydd.

  • 10

    Y mae’r esiampl a rydd Iesu ein Harglwydd a’n Meistr i ni yn un o gariad aberthol – yn gariad sydd yn ein calonogi a’n cadarnhau, ond hefyd yn ein herio ni – “fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd, yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi...” Y mae hyn yn weithrediad o’r geiriau a nodir yn Marc 8:31-34. Y mae’r alwad hon i ddilyn a bod yn was yn arddangos cariad aberthol nid fel rhan o ddyletswydd Pab neu Archesgob neu weinidog, ond pob un aelod o’r eglwys - pob un a fyn ddilyn Iesu a bod yn ddisgybl iddo. Beth a olyga hyn i ni? I wasanaethu eraill?.... Ie, ond sut, ac ym mha ffurf? Ni ddylem dderbyn hyn yn llythrennol fel anogaeth syml i nôl y basin a’r tywel allan ac i olchi traed - Y mae hyn yn arwyddlun o wasanaeth darostyngol ac aberthol sy’n ymgais i gwrdd ag anghenion byd dolurus a phechadurus. Y parodrwydd i droi’r byrddau - i’r Meistr troi’n was ac i adlewyrchu bywyd Iesu a’i esiampl - dyna yw gwir hapusrwydd. A fedrwn adlewyrchu hyn yn nhermau ein bywyd eglwysig? Y mae’r parodrwydd i weini a gwasanaethu yn aberthol. Tybed a ydym yn barod i roi o’n hamser i ofalu a chynorthwyo eraill o fewn ein cyfeillach? Tybed a fedrwn ail-ddarganfod rhai o’r nodweddion hynny a oedd yn rhan o natur a buchedd y Bedyddwyr cynnar: yr arfer o gerdded ynghyd mewn cariad ac o warchod ei gilydd mewn cariad? Mae golchi traed yn llythrennol yn weithred tipyn hawsach na’r hyn sydd wrth wraidd y gofyn - geilw hynny am ein hamser, ein hadnoddau a’n haberth wrth i ni roi heibio’r hunan a chodi’r groes a dilyn Iesu. Yn ymarferol fe olyga rhoi heibio ein rhagdybiaethau a’n dyheadau personol mewn perthynas â’n heglwysi a’n Cymanfaoedd - i ymgadw rhag y meddylfryd fod yn rhaid i bethau gael ei gwneud fel y maent wedi ei gwneud ers cyn co’ a threfn a thraddodiad sy’n medru llesteirio a chyfyngu. Yn hytrach gyda’n gilydd i gyflwyno Crist cyfoes i’n cymunedau a chylchoedd ein hymwneud. Nodyn am rôl y Gymanfa: Y mae’r Bedyddwyr wedi rhoi gwerth ar gynnal ei gilydd mewn brawdgarwch ac ymroddiad gan ddirnad meddwl Crist ac y mae’r egwyddor honno wedi ei hadlewyrchu yn lleol ar lawr cwrdd eglwys, Cwrdd Chwarter a Chymanfa ac ar lefel genedlaethol mewn Cynadleddau Blynyddol. Mi fyddai rhai o’r Bedyddwyr

  • 11

    cynnar yn cerdded neu yn marchogaeth milltiroedd lawer i gyfarfodydd yn eu hawydd i gefnogi eu cydgynulliad ac i glywed am ymwneud Duw yn eu hanes. Penodwyd “Negeswyr” i gyfathrebu'r hyn a ddigwyddodd ac a benderfynwyd ac i galonogi'r eglwysi yn lleol. Mewn cyfarfod o’r Gymanfa a gynhaliwyd yn Abingdon yn yr 17eg ganrif y mabwysiadwyd yr egwyddor o “gerdded ynghyd mewn cariad ac o warchod ei gilydd mewn cariad.” Tybed pa mor bell yr ydym ni yn barod i deithio yn llythrennol ac yn ysbrydol yn ein hawydd i ddirnad meddwl Crist a thrwy gefnogi’n gilydd yng nghenhadaeth Crist? A ydyw Duw yn galw arnom i roi heibio rhai pethau yn ein hymgais i hybu cenhadaeth Crist? Nid galwad benodol ar gyfer ein cynulliadau dewisol mohoni - y mae’r alwad hunan aberthol hon yn lawer ehangach - y mae ar gyfer pwy bynnag sydd mewn angen am gariad - pwy bynnag y bo fel y mae dameg y Samariad Trugarog yn ei danlinellu (Luc 10:25-37) Y mae Duw am i’w bobl wasanaethu'r byd mewn cariad (Deut. 10:12-13, 18-20) gan gynnwys y rhai nad ŷnt o’r gorlan hon - y dieithryn a’r estron - gelwir arnom olchi traed y byd yn gyfan. Beth yw pryderon a chonsyrn y bobl sy’n byw yn ein cymunedau a beth yw’r pethau y mae Iesu am i ni eu gwrthwynebu, eu hateb, eu herio gyda’i gariad ef? Sut y mae’r alwad i wasanaethu yn effeithio’r modd yr edrychwn ar ddyfodol ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth o fewn ein heglwys leol, y Gymanfa a’r Undeb y perthynwn iddynt ynghyd a theulu’r Bedyddwyr yng Nghymru? Nid yw’n hawdd bod yn was – pe byddai ond mor rhwydd a golchi traed!

  • 12

    Astudiaeth 4: Pobl y Deyrnas Wythnos yn cychwyn 30ain Mawrth

    Darlleniadau: Nehemeia1:1-3: 32; 1 Corinthiaid 12:12-13:13 Ymchwiliad: Y mae cynnwys Llyfr Nehemia yn werth ei ystyried yn y cyswllt hwn. Ym mhennod agoriadol y llyfr y mae Nehemeia yn rhannu ei bryderon a’i weddi. Yn yr ail bennod mae’n asesi’r sefyllfa ac yn amlinellu’r her. Y mae iddo gonsyrn gwirioneddol ond y mae iddo flaenoriaethau clir. Y mae’n amlwg yn ofidus am Jerwsalem yn ei adfeilion ond yn fwy consyrniol am wewyr y bobl ar eu dychweliad o’r gaethglud. Y mae hyn yn ennyn ynddo dosturi a’r tosturi hwnnw yn arwain at weithgaredd. A oes gennym ninnau gonsyrn am sefyllfa eglwys Iesu Grist yn ei gwewyr, yn wyneb y tensiynau a gyfyd mor aml â’r elfennau hynny sy’n tynnu oddi ar dystiolaeth Efengyl Cariad? Y mae’n sefyllfa enbydus yn galw am arweiniad Duw. Ymateb Nehemeia i sefyllfa ei bobl yw gweddi (cymharer gyda galwad Josua i’r bobl ymgysegru eu hunain). Y mae’n atgoffa ei hun o natur Duw ond yna’n sylweddoli ei anallu personol ac yn edifarhau. Y mae’n dwyn i gof allu Duw ac yn ymddiried yn y gallu hwnnw i gwrdd â’r angen. Canlyniad hyn yw bod Duw yn ateb ei weddi ac yn cynnig iddo’r cyfleoedd a holodd amdanynt (2:1-10). Y mae ei weddi yn un uniongyrchol a dwys – y mae’n uniaethu a’i bobl, yn wylo ac yn galaru trostynt, yn ymprydio ddydd a nos. Y mae’n cydnabod Duw fel creawdwr ond hefyd fel y Duw sydd yn cadw cyfamod cariad a’i bobl. Y mae’n ffyddiog y bydd i Dduw hwyluso’r ffordd iddo ymddangos gerbron y brenin Artaxerxes a dyna a ddigwyddodd. Grym gweddi yn dileu’r anawsterau a’r bygythion. Wedi cyrraedd Jerwsalem fe wêl Nehemeia ddinistr y ddinas o’i flaen ac yna y mae’n gorffwys am dridiau. Y mae blinder ar adegau yn medru’n hamddifadu o eglurder gwelediad a pheri i ni weld pethau allan o’u gwir bersbectif. Gelwir arnom i orffwys a phrofi’r tawelwch mewnol hwnnw sydd yn ein hatgyfnerthu’n ysbrydol. Fe ddigwydd hynny trwy inni dreulio amser gyda Duw, a chreu gofod iddo yn ein bywydau er mwyn inni brofi o’i gariad a’i dangnefedd.

  • 13

    Ond wedi gorffwys, y mae Nehemeia yn cychwyn ar y gwaith – fe â allan dan gysgod nos er mwyn osgoi sylw i asesi’r difrod. Y mae pob rhan o’r mur yn cael ei archwilio a sylwch nad yw dim yn cael ei adael i siawns na thybiaeth. Tybed ydym ni wedi rhoi sylw digonol i ystadegau’r colli a’r merwino yn hanes ein heglwysi yma yng Nghymru? A ydym wedi rhoi ystyriaeth i rychwant oed ein haelodaeth a’r niferoedd a fydd yn eu mynychu ymhen 10 mlynedd neu fwy? Nid oes pwynt mewn tybio lle’r ydym ar ein taith ysbrydol na chwaith i dybio bod gennym yr atebion i gyd yn ein meddiant. Ac onid ein tuedd yw gweddïo am fendith Duw ar ein gwaith ond yn hytrach i wneud y gwaith y mae Duw am ei fendithio? Y mae angen i ni wneud yn fawr o’r cyfleoedd a gynigir i ni gydweithio a’n gilydd a rhoi heibio ein hannibyniaeth a’n hunanddibyniaeth. Y mae meddylfryd y weinidogaeth “Lone Ranger” ac eglwysi'r “Lone Ranger” yn medru cyfyngu a llesteirio’n tystiolaeth yn aml. Y mae Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid yn ein hatgoffa fod yr eglwys yn cynnwys nifer o aelodau o fewn y corff ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, ond serch hynny ein bod yn un corff yng Nghrist. – Meini bywiol y mae Duw yn eu defnyddio i adeiladu ei eglwys. Gwêl Nehemeia ei rôl nid fel un ar wahân, nid fel rhyw farchog ar ei farch gwyn sy’n camu i’r adwy ac yn gwaredu’r sefyllfa ond yn un sy’n uniaethu â’r sefyllfa ac yn torchi ei lewesau i’w newid. Y mae’r muriau toredig ac adfeilion y ddinas yn cynrychioli dinistr ysbrydol a’r sefyllfa yn dwyn gwaradwydd ar ddinas Dduw. Y mae anrhydedd Duw yn y fantol a gwêl Nehemeia ei swyddogaeth nid yn unig fel un i adfer y meini ond hefyd i adfer perthynas ei bobl a’i Duw. Nodir hefyd fod y gweithwyr a oedd wrthi’n adfer y muriau yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau, doniau a swyddogaethau. Beth mae Duw yn ein galw ni i wneud yn y sefyllfa y mae wedi ein gosod ni ynddi – trwsio, adfer, adeiladu o fewn ein cymunedau? Geilw Duw ar ei eglwys i adlewyrch ei gariad yn y byd, rhaid diogelu nad yw'r rhai sy’n cerdded heibio yn dilorni eglwys Dduw. Y mae angen i ni sylweddoli ein bod wedi’n galw i fod yn Bobl y Deyrnas a bod i ni gyfrifoldeb i adeiladu’r deyrnas honno. Nid yr eglwys yw’r deyrnas, y mae’r Deyrnas yn bodoli pan gawn ein huno yng Nghrist a Christ ynom ni. Y mae’r eglwys a ffurfiwyd yn dilyn yr Atgyfodiad yn eglwys sy’n bodoli yng ngrym yr Ysbryd Glân (Effesiaid 1:20; 3:14-21) ac wedi ei galw i fod yn rhan o waith achubol Duw (Rhufeiniaid 8:18-25). Y mae’r Cristion yn gyfrannog o’r bywyd a ddaeth yn sgil yr Atgyfodiad

  • 14

    nawr (Ioan: 11:25-26) sef bywyd tragwyddol (Ioan 6:34 a 10:10) neu fywyd yng Nghrist (Rhufeiniaid6:3,11; 8:1). Felly medrwn brofi nodweddion y Deyrnas (Luc10:9, 11; 11:20; 17:21) a byw fel Pobl y Deyrnas wrth i ni ddeisyf mewn gweddi: “Deled dy Deyrnas, gwneler dy ewyllys yn y nef ac ar y ddaear hefyd.” Sut mae modd i ni ddehongli'r “Weddi Deuluol” sy’n cynnwys ieithwedd y Deyrnas mewn perthynas â’n bywydau personol ac eglwysig ac yn ein perthynas a’n gilydd fel Cymanfa ac Undeb? Y mae’r cofnod yn nodi fod Nehemeia wedi galaru, ymprydio a gweddïo. Daw'r weledigaeth trwy Nehemeia ac y mae ef yn ysbrydoli’r bobl i fynd ati i adfer y muriau. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf y mae aelodau o Gydbwyllgor y Bedyddwyr yng Nghymru (JCCBW) wedi bod yn gwneud hyn ac wedi cyflwyno gweledigaeth: “Yfory trwy lygaid gwahanol.” Os darllenwn ymhellach ymlaen yn stori Llyfr Nehemeia (penodau 4-6) gwelir bod gwrthwynebiad wedi codi ei ben oddi fewn i’r gymuned Iddewig yn ogystal ag oddi allan iddi ymhlith y cenhedloedd bychain a drigai o gylch i’r ddinas. Rhaid amddiffyn ein hunain rhag y rhai sy’n elyniaethus i’r ffydd ac yn rhwystro’r eglwys Gristnogol rhag ffynnu o fewn ein tir, ond rhaid bod yn ochelgar hefyd o’r rhai hynny o fewn i deulu Bedyddwyr yng Nghymru ar sail amrywiol gymhellion sy’n gwrthwynebu newid yn ein hymwneud a’n gilydd i hybu cenhadaeth Crist ac i annog eraill i fod yn rhan o’r genhadaeth honno. Y mae Nehemeia yn cyflwyno her i ni mewn perthynas â’n bywyd defosiynol a’n perthynas a’n gilydd Ydyw’n werthfawr felly i ni siarad am deithio ynghyd a chyfranogi a’n gilydd yng Nghrist? neu a defnyddio ymadrodd y Bedyddwyr cynnar: “I gerdded ynghyd a gwarchod ein gilydd yng Nghrist.”

  • 15

    Astudiaeth 5: Byw'r Deyrnas Wythnos yn cychwyn Sul, 6ed Ebrill.

    Darlleniadau: Mathew 5: 1-12; Actau 2: 42-47; 12:1-2, 9-21 Agenda pwy ydym yn ei ddilyn? Sut ydym yn ymateb i weddi Iesu yng Ngardd Gethsemane: “O Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf; ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.” (Luc22:42) ? Ymchwilio: Rhai meddyliau cychwynnol:

    Er mwyn i’r eglwys oroesi ac nid i farw mi fydd yn rhaid iddi gymryd risg a mentro.

    Nid yw’r eglwys bellach yn weithredol yng nghanol cymdeithas ond yn hytrach ar ei chyrion.

    Ar adegau penodol yn hanes pobl Dduw profwyd newidiadau - bu’r Gaethglud i Fabilon yn gyfnod i greu meddylfryd newydd am Dduw a’i weld fel Creawdwr byd cyfan a Duw pob cenedl ac nid yn Dduw penodol a chyfyngedig i diriogaeth Israel a’r deml yn Jerwsalem. Yr oedd gweledigaeth Actau 10 a 15 am ymestyn y genhadaeth o dan arweiniad yr Ysbryd i blith Cenedl-ddynion hefyd yn arwyddo newid yn hanes yr eglwys Gristnogol. Amlygwyd y newid hwn yn y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad y Mudiad Pentecostal ac yna yn ddiweddarach y Mudiad Carismataidd.

    A ydym yn barod i gymryd risg? Pa gamau y mae Duw yn ein galw arnom i’w cymryd wrth i ni ymgymryd â chenhadaeth ar y cyrion? Y mae “Byw’r Deyrnas” yn golygu ein bod fel eglwysi’r Bedyddwyr yn 2014 yn berthnasol a byw – fe olyga’r parodrwydd i gymryd risg ac i gael ein hanesmwytho ac o ganlyniad ein herio fel eglwysi a Chymanfa. Y mae Cenhadaeth o’r cyrion yn hytrach nag o’r canol yn galw am ddulliau newydd o fod yn eglwys.I lawer ohonom y mae diwylliant yr eglwys yn wahanol i ddiwylliant y byd y trigwn ynddo. Y mae angen i ni “wrando’n ddeuol” - ar y Gair ac ar y Byd er mwyn sicrhau fod digwyddiadau’r byd a’r eglwys yn derbyn ein sylw a’n hymateb. Y mae bod yn ddisgybl yn golygu byw ar y llinell flaen mewn bywyd a gweithredu bwriadau a dibenion Duw yno. Fe olyga bod galwad Duw ar ein

  • 16

    bywyd yr un mor berthnasol yn hanes gweinidog mewn eglwys ag yw i weithiwr yn archfarchnad Asda. Y byd yw maes ein cenhadaeth ac nid iard gefn yr eglwys. Y mae inni Efengyl ar gyfer bywyd yn ei gyflawnder, ar gyfer eglwys yn ei chyflawnder a disgyblion sy’n medru rhoi mynegiant o hynny yn eu gwaith, ar ei haelwydydd, yn eu hamdden ac ar y stryd lle maent yn byw. Fe’n danfonir gan Grist i genhadaeth gyflawn bywyd - nid rhywbeth ymylol ydyw ond canolog ac yn effeithio ar bob agwedd o fywyd – Y mae’n haddoliad i’w uniaethu a bywyd a’n cenhadaeth yn rhan o’n hanfod. Sut ydym yn galluogi’n cynulleidfaoedd ar gyfer yfory bywyd? Sut y mae bywyd y tu allan i’r eglwys yn herio bywyd yr eglwys oddi fewn i’w muriau? Mewn adroddiad diweddar nodwyd bod nifer o Gristnogion ifanc am glywed yr eglwys yn trafod amrywiol bynciau sy’n berthnasol i fywyd heddiw - gwrywgydiaeth, cyfiawnder cymdeithasol, rôl y wraig mewn gweinidogaeth, tlodi, materion amgylcheddol, hawliau dynol, gofal iechyd a materion cyfredol sy’n ymwneud â dioddefaint ac anghyfiawnder. Maent yn awyddus i gael trafodaeth agored, onest a gwrthrychol a hynny ar yr un gwastad a materion sy’n ymwneud a’u cred a’u ffydd. Yn hytrach na thrafod materion eglwysig dyrys y maent am fynd i’r afael â materion syml a chyfoes sy’n galw am ein hymateb a’n consyrn iddynt. Pwy sy’n gosod yr agenda yn yr eglwys lle’r ydym ni yn addoli? A ydyw’r agenda hwnnw yn ymwneud â’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu? Awgrymodd un gweinidog gyda’r Bedyddwyr wrth fyfyrio ar y math o eglwys y byddai ei wyres fechan yn dymuno ei mynychu wedi iddi gwblhau ei chyfnod mewn prifysgol:

    Eglwys wedi eu hadnewyddi’n ysbrydol; yn fan canfod Duw ac yn cynnig arweiniad ysbrydol trwy ei gweinidogaeth.

    Eglwys sy’n adlewyrchu undod a pharodrwydd i gydweithio ag eraill gan greu cymunedau ffydd sy’n agored o ran eu barn a’u safbwynt ac yn meithrin gofal a chonsyrn - aethom yn rhy fychan i sefyll ar ein pennau ein hunain.

  • 17

    Eglwys a’i chonsyrn nid gyda’i chyllid a’i niferoedd ond sy’n meithrin disgyblion a dilynwyr i Grist a thrwy eu hymroddiad hwy a’u gweddi yn adeiladu’r saint.

    Eglwys sy’n bodoli ymysg y bobl – yn ymwneud â bywyd y gymuned, trwy agor yr adeilad i gynnig cymorth a chyfle a defnydd i’r bobl o gwmpas er mwyn iddynt ei fynychu.

    Eglwys sy’n rhannu’r Efengyl yn frwd ac effeithiol, yn berthnasol i anghenion pobl beth bynnag yw eu sefyllfa a’u stad. “Dweud o hyd, pa mor ddrud, iddo Ef oedd prynu’r byd.”

    Eglwys sy’n estyn gofal a chymorth i’r tlawd a’r anghenus gan ddwyn eu sefyllfa i’r amlwg.

    Eglwys nad yw’n ofni cymryd risg na methu – ni ddylem ofni anwesu syniadau newydd yn enwedig o blith ein pobl ifanc.

    Eglwys sy’n greadigol ac sy’n barod i rannu o’i doniau creadigol. Rydym yn byw mewn cyfnod sy’n rhoi pwyslais ar y gweladwy ac y mae inni Dduw creadigol.

    At y rhain dymunwn ychwanegi:

    Eglwys sy’n darparu lle i bobl ddarganfod, cwestiynu, mynegi amheuaeth. Safle diogel i gydnabod nad yw “gweddi o hyd yn gweithio” - “y mae Duw wedi fy ngadael” - “nid wyf yn siŵr beth rwy’n credu!”

    Eglwys sy’n darparu diwinyddiaeth ar gyfer y daith - anghenion yn cael eu pregethu - darpariaeth i’r pererin - lle medrwn siarad am fannau tywyll lle nad yw Duw a phan mae Duw yn cuddio’i wyneb rhagom.

    Eglwys sy’n darparu adnodd ar gyfer patsis tywyll ac arweiniad ysbrydol.

    Eglwys sy’n darparu modelau o ddealltwriaeth ysbrydol a phersbectif eang.

    Sut mae’n cynulleidfa eglwysig ni yn mesur i fyny i’r gofynion hyn? A ydyw’n ddarlun atyniadol o eglwys? A fyddai’n cyfeillion sydd ddim yn Gristnogion yn gweld y math yma o eglwys yn atyniadol? Ein nod yw gwneud disgyblion, nid adeiladu'r eglwys - gwaith Crist yw hynny (Mathew 16:18). Tuedd yr eglwys yw mabwysiadu strwythur - o “argyhoeddi a chadw” - arwain pobl i ffydd ac yna eu cadw. Ond strategaeth Crist yw “gwneud disgyblion a’u danfon” A ydyw’r eglwys a berthynwn iddi yn allblyg - yn tyfu allan ac yn danfon disgyblion i’r byd, neu yn fewnblyg gan gadw eu haelodaeth? - (“Eglwys yr

  • 18

    Eryr” yn yr Unol Daleithiau – eglwys sy’n magu a meithrin ac yna gwthio’r cywion dros ochr y nith er mwyn iddynt ymestyn eu hadenydd a hedfan) A ydyw’n hoedfaon ni yn gwneud disgyblion neu jyst eu cadw yn y ffydd? A oes gennym arweinyddion sy’n fodlon dilyn agenda hyfforddiant? A ydyw’n arweinyddion yn rhannu’r argyhoeddiad bod rhannu’r Newyddion Da yn ganolog i feithrin disgyblion? **Gweler Verna Dozier & James Adams: “ Sisters & Brothers: Reclaiming a Biblical Idea of Community (Boston, Mass, Cowley Publ 1993 tud 11). “Pan benderfynodd yr Eglwys Gristnogol addoli Iesu yn hytrach na’i ddilyn, lliniarwyd ar y wedd radical a heriol a oedd yn perthyn i’w bersonoliaeth.” Ein galwad yw ysgogi eglwys filwriaethus Crist yn y byd a thrwy rym yr Ysbryd Glân i adlewyrchu ei oleuni a’i ffydd yn ein cylchoedd a’n holl ymwneud.

  • 19

    Astudiaeth 6: Croeshoeliad ac Atgyfodiad. Wythnos yn cychwyn Sul 13eg Ebrill

    Darlleniadau: Ioan 19: 16-20: 10; Ioan 12:20-26 Ymchwilio: Bu’r profiad dirdynnol o weld cyrff gwaedlyd a thoredig milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf i lygaid Studdert Kennedy, y caplan a’r offeiriad Anglicanaidd, (“Woodbine Willie” 1883-1929) yn adlewyrchiad o aberth a dioddefaint Crist ar y groes ac y dylid coffau eu marwolaeth hwy yn ein gwasanaethau cymundeb. Nododd hefyd fod gweddi ym mhatrwm gweddi Iesu yng Ngardd Gethsemane yn weddi nid am ofal Duw ond am wroldeb i wneuthur ei ewyllys. Y mae’r meddylfryd hwn wedi ei grynhoi yn yr anerchiad a gyflwynodd Studdert Kennedy wrth ddadorchuddio croes y dioddefaint (crucifix) y tu allan i eglwys Sant Paul yn Worcester yn 1921 sy’n cynnwys y geiriau hyn. “Y mae’r arwyddlun hwn o’r Crist ar ei groes yn un lle y deil ei ben yn syth - nid corff sydd wedi ei gernodio a’i arteithio sydd yma. Er i gorff toredig y Crist gael ei osod i hongian rhwng daear a nef, ni lwyddwyd i ddiffodd ei Ysbryd. Yn yr un modd ni lwyddwyd chwaith i ddiffodd ysbryd eich brodyr a’ch tadau y darniwyd eu cyrff mewn dioddefaint. Rhennwch ar led ymysg eich plant fod croes y dioddefaint yn arwyddo goruchafiaeth daioni ar ddrygioni. Ni fynnwn Galfaria sy’n portreadu Crist marw a thoredig”. (Woodbine Willie, Bob Holman, Lion Hudson, 2013 tud. 86-87). Dyma’r darlun o’r Crist y mae Ioan yn ei bortreadu yn ei Efengyl - y Crist sy’n dyrchafu Duw trwy ei farwolaeth. (Ioan 12:23-24) a bod ei ddatganiad eithaf o’r groes- y gair “Gorffennwyd” yn glo buddugoliaethus ar ei weinidogaeth ddaearol (Ioan 19:30) Noda Ioan fod bywyd wedi ei sicrhau trwy farwolaeth a bod marwolaeth Iesu ar y groes er gogoniant Duw. Felly i Studdert Kennedy nid arwyddlun toredig ddylai adlewyrchu croes y dioddefaint, yn hytrach un sy’n adlewyrchu ysbryd disgwylgar - goruchafiaeth ac atgyfodiad. Dyma yn ei dyb ef yw craidd Efengyl gobaith a chyfiawnder. Ydy’r groes a’i dehongliad ohoni yng nghanol ein proclamasiwn o’r Efengyl? Y mae bod yn gyfrannog o Fywyd y Deyrnas yn golygu byw yng nghanol bwriadau Duw a’i addewidion. Selir ein gobaith yn Nuw ac ar ei bresenoldeb yn yr Ymgnawdoliad.

  • 20

    Yng ngenedigaeth, bywyd, gweinidogaeth, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, gwelwn fod Duw wedi torri i mewn i hanes y ddynoliaeth. Y goruwchnaturiol yn treiddio i fyd y naturiol a dod mewn gwedd ddynol yn ôl tystiolaeth Luc. Mae’r stori yn cychwyn gydag angylion a negeseuon proffwydol, plentyn yn cael ei esgor drwy’r Ysbryd Glan i gwpwl oedrannus, diffrwyth, Yr enedigaeth wyrthiol ac iachawdwriaeth i ddynoliaeth gyfan. Y mae Luc yn awyddus i gynnwys yr elfennau hyn i gadarnhau fod hyn yn rhan annatod o dystiolaeth yr Efengyl - hebddynt y mae’n ffydd Gristnogol yn amddifad o’i ruddin a’i werth. Y mae Mathew yn cyflwyno elfennau cosmig i’r stori, daw sêr-ddewiniaid i’r adwy wrth iddynt geisio dirnad ystyr y greadigaeth a’n bodolaeth oddi fewn iddo. Nid rhai yn anwesu ofergoeliaeth mohonynt ond gwybodusion, gwyr doeth, astrolegwyr a oedd yn medru amgyffred cylchdro’r sêr a’r planedau yn unol â’r dulliau o astudiaeth a oedd yn bodoli yn yr Aifft, Babilon a gwlad Groeg yn y cyfnod hwnnw. Y mae Ioan yn cadarnhau'r arwyddocâd cosmig yn rhagarweiniad ei Efengyl (1:1-18) ac yn acennu adnodau agoriadol Genesis a stori’r creu; doethineb (Diarhebion 1:20; 3:19-20) ac athroniaeth Roegaidd y “logos.” Y mae’r rhain i gyd yn adlewyrchu pwysigrwydd dyfodiad person Crist. Y mae’r Meseia yn gyd-greawdwr gyda Duw ac y mae’r disgyblion wedi “canfod ei ogoniant.” Y mae’r pedair Efengyl yn tystio i’r atgyfodiad a’n gobaith o fod yn gyfrannog o fywyd tragwyddol. Dywed Genesis 1-11 wrthym fod Duw yn bodoli cyn llunio’r greadigaeth a’i fod wedi dwyn y cyfan i fodolaeth trwy ei gariad creadigol. Yn Llyfr Datguddiad 20-22 ceir son am gyfannu’r greadigaeth a gwaredigaeth y ddynoliaeth gyfan. Y mae’r Duw oedd yno cyn y greadigaeth yno hefyd y tu hwnt i’w bodolaeth a’i therfyn Y mae bwriadau gwaredol Duw wedi eu cwblhau ac addewidion Duw wedi eu cyflawni - yr ydym wedi ein gwaredu - dyna yw’n gobaith.

    “Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, Cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn un I achub gwael golledig euog ddyn.” Pedr Fardd

    A ydym yn barod i siarad gyda’n cyfeillion a’n cymdogion am y dwyfol a’r Crist goruwchnaturiol sy’n llywodraethu’r greadigaeth mewn cariad? Y mae Duw wedi dangos ei gariad tuag atom, y gwerth a rydd ar ein bywyd a’i fwriadau ar ein cyfer wrth ddod yn un ohonom.

  • 21

    Y mae wedi gwacau ei hunan o’i ddwyfoldeb (Phil 2:6-11) a chymryd arno “agwedd gwas a dod ar wedd ddynol - darostyngodd ei hun a bod yn ufudd hyd angau, angau ar groes.” Ond fe’i gorchfygodd a’i ddyrchafu yn wrthrych ein haddoliad. Y mae awdur yr Hebreaid (Heb1:1-4; 4:14-16) yn cadarnhau'r un gwirionedd fod Duw wedi siarad trwy ei fab sy’n etifedd pob peth, yr un y gwnaed y cyfanfyd drwyddo ac yn adlewyrchu gogoniant Duw. “Y mae stamp ei sylwedd arno ac mae’n cynnal popeth a’i air, yn cyflawni puredigaeth pechodau ac yn eistedd ar ddeheulaw Duw.” Iesu yw’r datguddiad perffaith o Dduw. Ond fe â’r awdur yn ei flaen i ddweud - er iddo gael ei demtio, ni phlygodd i demtasiwn. Fe wyddai'r hyn ydoedd i fod yn un ohonom. Dyma’r newyddion da a ddylid ei gyhoeddi, fod Iesu yn ein hadnabod, yn gwybod sut rhai ydym ac yn ein derbyn fel yr ydym. A ydyw’n gymorth i ni wybod fod Duw yn ein hadnabod ni yn y modd hwn? Y mae ein gobaith wedi ei ganoli ar ddyfodiad Teyrnas Dduw. Y mae perthynas annatod rhwng bwriadau Duw yn ei greadigaeth a’n hachubiaeth ni gan fod achubiaeth yn anwesu adnewyddiad y greadigaeth gyfan ac nid yn achubiaeth yr unigolyn yn unig. Felly y mae hyrwyddo’r adnewyddiad hwnnw yn arwydd o ddyfodiad y Deyrnas yn yr un modd y mae gweithio dros gyfiawnder yn arwydd tebyg. Er mwyn byw fel pobl y Deyrnas rhaid sylweddoli taw Iesu yw’r allwedd i’n dealltwriaeth mae hyn yn cael ei gadarnhau yn Hebreaid 11:3; Ioan 1:1-14; Colosiaid1:15-20. Felly, wrth gydnabod taw Duw yw’r Creawdwr yr ydym yn darostwng i’w ewyllys gan gydnabod yr hyn y mae wedi ei gyflawni ac yn ei gyflawni. Y mae Eugene Paterson yn cadarnhau hyn trwy nodi nad gwylwyr ydym o’r greadigaeth ond cyfranogwyr ynddi. Yr ymarfer o fyw yn yr hyn y mae Duw wedi ei wneud ac yn ei wneud yw craidd y bywyd Cristnogol. “Nid dod i sefydlu crefydd newydd, ond teyrnas newydd a wnaeth Iesu” – ydyw’r gosodiad hwnnw yn ein herio? I rai sy’n profi cyfnodau tywyll yn ei bywyd y mae ffydd yn Nuw yn medru dwyn gobaith iddynt yn eu hadfyd. (gweler Paul Ricoeur- “knot of reality”) Er bod ansicrwydd yn elfen amlwg wrth inni fentro mewn ffydd (Rhufeiniaid 8:24-25) nid ydym heb obaith (Rhufeiniaid 5) Yng nghyfnod y Colosiaid yr oedd y fytholeg “Pax Romana” yn gred amlwg - bod modd i’r duwiau fendithio ymerodraethau trwy sicrhau iddynt heddwch,

  • 22

    ffyniant a ffrwythlondeb. Bellach y mae mytholegau gwahanol yn adlewyrch ein byd modern a’i ddatblygiadau chwim. Y mae'r “Pax Americana” ei rym a’i reolaeth o ffactorau economaidd ac ariannol trwy Fanc y Byd a’r IMF yn golygu’r hawl i gadw gwledydd yn dlawd a throi hynny i’w mantais. Y mae cwmnïau fel Disney , Coca-cola a McDonalds yn llwyddo i hybu delweddau a dulliau byw sy’n adlewyrchu llwyddiant, cyfoeth ac eiddo mewn byd o dlodi enbyd. Pa fath o ymerodraeth sy’n nodweddi ein byw ninnau a hynny o’n cynulleidfaoedd ein Cymanfa a’n Hundeb? A oes gennym ddiwinyddiaeth gobaith? A fedr ein gweithredu pechadurus rhwystro bwriadau Duw? Y mae Duw wedi addo ei gymorth inni yng nghanol amgylchiadau dyrys bywyd (Salm 23; Eseia 43:1-5; Mathew 28:20) ac yn galw arnom i ymddiried ac i obeithio yn wyneb pob ansicrwydd. Y mae Amos a Jeremeia, dau o broffwydi’r Hen Destament yn cyfeirio at y gau proffwydi fel rhai a oedd yn addo gobaith heb argyfwng, tra bod proffwydi Duw yn cynnig gobaith y tu hwnt i argyfwng. Y mae’r gobaith eithaf yn obaith tragwyddol ac i’w ganfod yn Nuw ei hunan tra bod gobaith dynol yn obaith dros dro ac iddo ei ansicrwydd. Fe’n gelwir fel Cristnogion i fod yn ddisgyblion gobeithiol yng ngoleuni’r gobaith eithaf hwnnw sydd yn rhan o ddarpariaeth a bwriadau Duw. Wedi ein creu ar lun a delw Duw yr ydym yn gyfranogion o rym trawsffurfiol Duw yn y byd ac er mwyn y byd. Fe’n gelwir fel Cristnogion i gyflwyno tystiolaeth ffyddlon yng nghanol sefyllfaoedd dyrys ac ansicr y byd ac i adlewyrchu dyfodiad Teyrnas Dduw ym mywyd a gwaith yr eglwys gan gyflwyno'r neges obeithiol am atgyfodiad, a phrynedigaeth - Hyn yw sail ein cenhadaeth fel Pobl y Deyrnas yn y byd. Ym mha ffyrdd yr ydym, neu y medrem fyw fel pobl Teyrnas Dduw? “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a’m canlyn i.” (Marc 8:34) Dyna yw galwad Crist ar ein bywyd ac mae’n arwyddo symud o fywyd dan reolaeth yr hunan i fywyd yng Nghrist - bywyd sy’n Grist -debyg, bywyd sy’n adlewyrchu cariad aberthol, bywyd sy’n rhannu darpariaeth Duw yn ei greadigaeth i bawb a bywyd o ganlyn Iesu a rhannu ei dosturi a’i genhadaeth achubol i’r byd.

  • 23

    Y mae ein gobaith eithaf yn Nuw -Y gobaith sy’n ymestyn y tu hwnt i bob trychineb ac anrhefn. Y mae’n obaith sy’n cynnwys atebolrwydd a barn. Dyma obaith Duw sy’n greawdwr a phrynwr a lluniwr pob dim newydd. Pa beth a obeithiwn amdano? Gweddi: Arglwydd, clywaf dy alwad ac ymgyflwynaf fy hunan i ti o’r newydd - yn gyflawn ac yn gyfan gan ymddiried yn dy addewidion a chyda ffydd yn dy fwriadau ar gyfer fy mywyd a’n bywyd ynghyd. Rwy’n cydnabod yr hyn ydwyf – yn doredig, yn ddiffygiol a gwan .... ond ynot ti a thrwy dy groes fe’m prynwyd, fe’m hadferwyd, fe’m hadnewyddwyd .... a thrwy waith a phresenoldeb dy Ysbryd fe’n dygaist i berthynas a thi, fe’m trawsffurfiwyd a dof yn Grist-debyg - yn un ag ef ei hun. Derbyn o ddiolch fy nghalon Dduw fy Nghreawdwr, Crist fy Ngwaredwr, Ysbryd Glân fy nghydymaith a’m cwmnïwr Oherwydd ti yw’r Duw Tragwyddol sy’n gwylio, sy’n disgwyl oddi fewn ac oddi allan yn nawr a hyd byth. Amen.