ffôn: y tyst e-bost: galw am ymgyrch cydenwadol i … · syin peri fod pobl yn dangos parodrwydd...
TRANSCRIPT
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 7, 2016Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
GALW AM YMGYRCH CYDENWADOL IWYNEBU DYFODOL ANSICR
Gyda chysgod y refferendwm yn dal i fod yn drwm drosom, mae Undeb yr Annibynwyr
yn mynd i wahodd eglwysi ar draws Cymru i gynnal ymgyrch ar fyrder i warchod
hawliau dynol, heddwch cymdeithasol a gwerthoedd Cristnogol yn sgil gadael yr Undeb
Ewropeaidd. Clywodd y Cyfarfodydd Blynyddol yn Llanuwchllyn ger y Bala bod
Cymru’n wynebu’r cyfnod mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd. Cytunodd y
cynrychiolwyr y dylid bwrw ati ar unwaith i sefydlu Comisiwn cydenwadol a fyddai’n
ymgeisio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ar lefel Gymreig a Phrydeinig.
Cynigwyd y Penderfyniad gan y Parchg Ddr Noel Davies a’i eilio gan y Parchg Hywel
Wyn Richards ar ran Adran Dinasyddiaeth Cristnogol yr Undeb.
Gadael yr Undeb Ewropeaidd: her a chyfle i’r eglwysi
“Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi rôl
unigryw yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth gyfraniad sylweddol
tuag at gadw’r heddwch rhwng gwledydd mawr Ewrop, o bosib
am y cyfnod hiraf mewn hanes. Bu’n gyfrwng i fagu
cenhedlaeth o bobl iau sy’n medru symud yn hawdd rhwng y
gwledydd i fyw, i weithio ac i gael addysg. Yn ogystal â bod yn
rym er daioni yn economaidd ac yn gymdeithasol, esgorodd ar
gyfreithiau rhyngwladol i ddiogelu pobl mewn ystod eang o
feysydd – o amodau gwaith i hawliau lleiafrifoedd.
“O ganlyniad i ddymuniad mwyafrif pobl y Deyrnas Unedig i
adael yr UE, rydym yn wynebu’r cyfnod o ansicrwydd mwyaf
ers yr Ail Ryfel Byd. Bydd
gadael yr Undeb yn agor
bwlch mawr yn strwythur
cyfansoddiadol a chyfreithiol y Deyrnas Unedig.
Credwn bod hi’n allweddol bwysig bod beth bynnag
fydd yn llanw’r bwlch hwnnw’n gwarchod y
traddodiadau, yr hawliau a’r dyheadau gwâr yr ydym yn
eu mwynhau nawr.
Dyletswydd yr eglwysi
“Ystyriwn ei bod hi’n ddyletswydd ar yr eglwysi i
wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu’r pethau
hynny sy’n gydnaws â’n ffydd a’n gwerthoedd ni fel
Cristnogion wrth i’r sefyllfa newid. Er enghraifft, dylid:
• gwarchod statws a hawliau pobl fregus ac
anabl, ein henoed a’n plant
• diogelu fod gan ieuenctid gyfleoedd
addysg a chyflogaeth priodol yn y cyfnod
economaidd mwy ansicr sydd o’n blaen
• tawelu meddwl lleiafrifoedd ethnig sy’n
teimlo’n ansicr neu’n ofnus am y dyfodol
• estyn croeso i’r dieithryn a’r anghenus
• gwarchod hawliau’r unigolyn a’r
gweithlu
• gwarchod hawliau ieithoedd lleiafrifol fel
y Gymraeg
• parhau â’r gwaith o warchod yr
amgylchedd ac ymdrin â newid
hinsawdd, yn ogystal â gwarchod
cynhyrchwyr bwyd lleol
• bod yn gymdogion da i wledydd eraill
Y Pum Cam Ymlaen
“Mewn ymdrech i sicrhau hyn, mae Undeb
yr Annibynwyr Cymraeg yn cytuno:
i. i ffurfio Comisiwn yr Eglwysi ar
Batrymau Gwleidyddol mewn
partneriaeth â Cytun i ystyried y
materion hyn ac i gyfranogi yn y
broses o ddatblygu polisïau a
strwythurau priodol yn dilyn
gweithredu Erthygl 50 gan
Llywodraeth y DU;
ii. yn benodol, y dylai’r Comisiwn hwn
ystyried, yng ngoleuni’r gwerthoedd
uchod, y polisïau ddylai gael
blaenoriaeth yn y trefniadau
newydd, rôl Senedd Llywodraeth
Cymru yn y trefniadau gwleidyddol
newydd a blaenoriaethau
Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth
i’r trasglwyddo o Ewrop i’r DU
ddigwydd.
iii. i baratoi rhestr gydenwadol o bobl
briodol fyddai’n gynrychioliadol o’r
eglwysi ac yn medru cyfranogi o’u
profiad o’r bywyd cyhoeddus yng
Nghymru i’r meddwl Cristnogol ar
y materion hyn;
iiii. i fod yn barod i gynnull y Comisiwn
gan ddefnyddio adnoddau’r Undeb
mewn partneriaeth â Cytûn;
v. i ymgynghori’n eang â’r eglwysi a’r
enwadau yng Nghymru, drwy
Cytûn, er mwyn sicrhau sail gadarn
i’r Comisiwn cydenwadol weithredu
ar unwaith ar y materion hollbwysig
hyn.”
Fe basiwyd y Penderfyniad yn
ddiwrthwynebiad.
sefydlwyd 1867 Cyfrol 149 Rhif 28 Gorffennaf 7, 2016 50c.
Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
LLYWYDD NEWYDD YR UNDEBYn enedigol o Nantglyn, Sir
Ddinbych, cafodd Glyn Williams
ei fagu ar fferm a threuliodd ei
yrfa ym myd amaeth. Bu’n
gweithio gyda’r Bwrdd
Marchnata Llaeth a chwmni
Genus. Treuliodd ddau gyfnod
yn Lloegr cyn dychwelyd i
Gymru ac ymgartrefi yn ardal Y
Trallwng yn y 1980au.
Ymddeolodd fel Cyfarwyddwr
Busnes Rhanbarthol Genus ar
ddiwedd y 1990au. Bu hefyd yn
enwad heddwch ar fainc y
Trallwng. Ers tua dwy flynedd
bu Glyn a’i wraig Dilys yn byw
yn Llandudno ac yn aelod yn y
Capel Coffa, cyffordd Llandudno
lle mae’n ddiacon.
Cwblhaodd Glyn Williams
gwrs ar gyfer y
weinidogaeth gyda’r
Annibynwyr ac mae’n
cynnal gwasanaethau
mewn amrywiol eglwysi
yn ôl y galw. Mae’n aelod
o Gyngor yr Eisteddfod
Genedlaethol a bu’n Is-
gadeirydd Pwyllgor
Gwaith Eisteddfod
Maldwyn 2003.
Braint Aruthrol
“Mae bod yn Llywydd yr
Annibynwyr yn fraint
aruchel,” meddai Glyn.
“Gobeithio y gallaf, drwy nerth
Duw, gyflawni’r amryw
ddyletswyddau. Rwy’n edrych
ymlaen yn fawr at ymweld ag
Annibynwyr ymhob rhan o
Gymru a thu hwnt, yn ogystal â
chydweithio gydag enwadau
eraill, yn ystod y ddwy
flynedd.” Cadw’r tân i losgi
oedd testun ei anerchiad yn
Oedfa’r Llywydd yn yr Hen
Gapel, Llanuwchllyn ar
ddiwrnod ola’r Cyfarfodydd
Blynyddol. Cafodd ei
ysbrydoliaeth o adnod yn
Lefiticus (6:13) “Rhaid cadw’r
tân i losgi’n barhaol ar yr
allor; nid yw i ddiffodd”.
Y Sialens
“Onid dyna’r sialens i ni fel Cristnogion ac
addolwyr yn yr unfed ganrif ar hugain?”
gofynodd Glyn Williams. “ Mae’r
mwyafrif ohonom sydd yma heddiw wedi
gweld dirywiad enfawr dros y blynyddoedd
yn y niferoedd sy’n mynychu llefydd o
addoliad,” meddai “Ni fuaswn yn sefyll yn
y fan hon heddiw onibai am y fagwraeth a
gefais. Roedd y bywyd Cristnogol ac
addoliad yn ganolog iawn ym mywyd fy
hynafiaid, y fflam yn llosgi’n gryf a
hwythau’n ceisio sicrhau nad oedd yn
diffodd. Beth, felly, am y fflam heddiw? A
ydym fel Cristnogion yr unfed ganrif ar
hugain yn mynd i eistedd yn ôl a gadael
iddi ddiffodd?
Ffyddlondeb yn beth prin
“Nid yw’n gyfrinach fod ffyddlondeb i
bethau Duw wedi cilio mewn llawer man yn
ein cyfnod ni, meddai Glyn. “Mae’n beth
prin, hynod brin, erbyn hyn. ‘Ffyddlondeb’
sy’n peri fod pobl yn dangos parodrwydd
aberthu, i gysegru eu doniau a’u hamser i’r
Duw sydd wedi eu caru, ac sy’n dal i’w caru
o hyd. Ni all neb ohonom fod yn hanner
ffyddlon. Mae’r gair yn golygu ymroi’n
llwyr, a rhoi’r cyfan.Boed i ni fod yn bobl
felly, yn gynulleidfaoedd felly, yn eglwysi
felly, a Duw a roddo i ni nerth ac arweiniad
i wynebu’r dyfodol gyda hyder a gobaith er
mwyn i ni fedru sicrhau y bydd tân yr allor
yn parhau i losgi.”
Mae copi llawn o anerchiad y Llywydd
newydd ar gael o Dŷ John Penri, pris £2.
Y cyn-Lywydd, y Parchg Ddr R.Alun Evans yn dymuno’n
dda i’w olynydd.
Arwyddo Beibl y Llywydd
Rhan o’r gynulleidfa sylweddol
Glyn Williams yn traddodi ei anerchiad fel
Llywydd
DatganiadGan fod canlyniad y Refferendwmam aelodaeth o’r Undeb Ewropeaiddyn un o’r penderfyniadau pwysicaf awnaed gan genhedloedd Prydain ynystod y degawdau diwethaf credwnmai addas fyddai cynnwys yn y Tystymatebion ganYsgrifennyddCyffredinol Undeb y Bedyddwyr a’rEglwys Bresbyteriadd.
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 7, 2016Y TYsT
THEMÂU CYFOES YN HEN GAPEL BWLCHNEWYDDMae’r ffaith bod TRI Penderfyniad wedicael ei anfon i Gyfarfodydd Blynyddol yrUndeb yn Llanuwchllyn yn arwydd ofrwdfrydedd Annibynwyr GorllewinCaerfyrddin dros hybu’r efengyl mewncapel a chymuned. Cytunwyd ar yPenderfyniadau, a sawl peth arall, yngNghwrdd Chwarter y Cyfundeb yngnghapel Bwlchnewydd – un o’r achosionhynaf yn Sir Gâr.
Estynnwyd croeso ac offrymwyd gweddi arddechrau cyfarfod y prynhawn gan ycadeirydd, Mel Jenkins. Darllenwyd ganIdris Davies a gweddïwyd gan SylviaThomas, aelodau ym Mwlchnewydd.
Materion yn codi
• yn y Cwrdd Chwarter blaenorol ynPhiladelphia am gynllun Cyngor SirCaerfyrddin i ad-drefnu ysgolion ynardal Talacharn a Phentywyn, gansefydlu ysgol Eglwys. Datgelwyd bodyr ymgynghoriad wedi’i ohirio am y tro.
• Siomedig oedd methiant Bwrdd IechydHywel Dda i ddarparu mwy o lefyddparcio yn Ysbyty Glanwgili.Penderfynwyd gofyn am gyfarfod brysgyda’r Prif Weithredwr Steve Moore idrafod y sefyllfa.
• Cafodd enw Meryl James ei gyflwynoi’r Undeb yn Llanuwchllyn fel trysoryddyr Undeb.
• Carden o ddiolch wedi mynd i CarolEvans am ei gwaith fel YsgrifennyddCenhadol y Cyfundeb.
• Y sesiynau hyfforddiant ar y cymunwedi bod yn llwyddiant mawr.
• Wedi cael mewnbwn i ymateb Cytûn i’rnewidiadau posibl yn addysg grefyddol.
Gohebiaeth
Derbyniwyd llythyr wrth D.Ben Rees yngwahodd enwau i fod ar bwyllgor gwaithCymdeithas Dydd yr Arglwydd yngNghymru, a chais gan yr Undeb amgyfraniad tuag at ariannu Swyddog Cynnalac Adnoddau de Cymru, yn unol â’nhaddewid. Penderfynwyd anfon £200.
Hanes Bwlchnewydd yn ei bro Dywedodd Dr Tudor Rees i’r achosgychwyn cyn 1715. Symudodd i’r capelpresennol yn 1746. Evan Davies oedd ygweinidog cyntaf ac ymhlith ei olynwyrroedd yr enwog Michael D. Jones asefydlodd y wladfa ym Mhatagonia.Soniwyd am y cyd-weithio hapus gydaChapel Cendy ar hyd y degawdau.Anogwyd pawb sydd am ddysgu mwy amhanes y capel i ddarllen llyfr Glyn Daviesyn Llyfrgell Caerfyrddin.
Adroddiadau
M.I.C. Mae saith o glybiau M.I.C. ar drawsSir Gâr. Y digwyddiad mawr nesaf fydd ymabolgampau yn yr haf. Masnach DegPenderfynwyd gofyn i ddau swyddogmasnach deg y Cyfundeb i gynnal ymgyrchi bwyso ar y siopau mawr i sicrhau ei bodyn darparu nwyddau Masnach Deg.Cymorth Cristnogol Esboniodd y Parchg
Tom Defis pa adnoddau oedd ar gael i’wdefnyddio yn ystod Wythnos CymorthCristnogol. Cydlynydd Cenhadol Tynnwydsylw at y rhifyn diweddaraf o “Gyda’nGilydd” oedd ar gael ac yn arbennig at ycyfarfod rhwng yr heddlu a gweinidogion agynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ynddiweddar. Blwyddyn y Beibl Byw a’r SulSbesial Cafwyd crynodeb gan Alun Lennygyda chymorth PwyntPwer o hanes y Beiblar hyd y canrifoedd - o’r dyddiau cynnarhyd at heddiw a Beibl.net a’r Ap Beibl. Yneges oedd - darllenwch y Beibl bethbynnag yw’r ffurf. Blwyddyn y Beibl Bywfydd thema’r Sul Sbesial yn Ysgol BroMyrddin ar 10 Orffennaf am10.30.Adroddiad y TrysoryddDosbarthwyd copi o’r adroddiad ariannolgan y trysorydd a wnaeth egluro’r adroddiadi bawb a derbyn cwestiynau.
Adroddiad o Gyngor yr Undeb
Cafwyd adroddiadau cynhwysfawr gan JoanThomas ac Annalyn Davies o gyfarfodyddCyngor y Gwanwyn. Dywedwyd bodymateb da iawn wedi bod i Holiadur yCyfundebau, a bydd adroddiad llawn yn yrUndeb. Mae nifer o bobl eisiau bod ynarweinwyr a bydd rhestr o’r cyrsiau sydd argael ar wefan yr Annibwynwyr cyn bo hiri’r sawl sy’n teimlo galwad i fod ynweinidog neu arweinydd. Gwahoddwydmwy o geisiadau i’r Rhaglen Datblygu.Cafodd Jeffrey Williams ei enwebi felLlywydd C.W.M. a John Ellis fel trysorydd.Bydd pecyn Newid Hinsawdd ar y ffordd ynfuan.
Penderfyniadau i Undeb Llanuwchllyn
Bydd yna dri chynnig o’r Cyfundeb ynmynd i’r Undeb yn Llanuwchllyn :• Beirniadu’r torri budd-daliadau pobl
anabl. Anogir pawb i fod yn effro igynnig cymorth ymarferol lle mae’nbosibl. Cynigydd: Tom Defis Eilydd:Guto Llywelyn
• Galw ar Undeb yr Annibynwyr i gyflogiperson(au) yn rhan amser i ail-sefydluperthynas gyda’r eglwysi nad ydynt ynperthyn i’r Undeb ar hyn o bryd.Cynigydd: Gwynn Bowyer Eilydd:Rhiannon Mathias
• Gofyn i gyrff cyhoeddus i ymdrechu ibrynu mwy o nwyddau a gwasanaethauyn lleol.Cynigydd: Alun Lenny Eilydd: Beti-WynJames
Cwrdd Chwarter Heol Awst, 8 Medi 4.00a 7.00 Croesawodd Joan Thomas bawb iHeol Awst gan ein sicrhau y bydd ynagroeso mawr yn ein disgwyl. UnrhywFater Arall Dywedodd y Parchg Beti-WynJames y bydd ei llyfr ar y cymun yn cael eigyhoeddi yn yr Undeb a lansiad lleol hefyd.Croeso Bwlchnewydd Croesawyd ni yngynnes i’r byrddau gan y Parchg Ddr FelixAubel. Cyhoeddwyd y fendith gan MelJenkins
Guto Llywelyn, Cofnodydd y Cyfundeb
Ymateb EglwysBresbyteraidd
Cymru
Bu’r ymgyrch yn
y refferendwm
ar aelodaeth y
Deyrnas Unedig
o’r Undeb
Ewropeaidd yn
un hir ac, ar
adegau, yn
ymosodol, ac
mae’r canlyniad
yn debygol o
effeithio ar ein
bywyd
cymdeithasol ac
economaidd am flynyddoedd i ddod. A
ninnau bellach mewn cyfnod o newid ac
ansicrwydd, yr ydym yn galw ar bawb o
bob plaid a thuedd wleidyddol, sydd yn
arddel enw’r Arglwydd Iesu Grist, i
gerdded yn ei oleuni a chyd-weithio’n
ostyngedig mewn ysbryd o ras i gyfannu
rhwygiadau. Boed i bawb ohonom ‘oddef
ein gilydd mewn cariad’ (Eff.4:2) ac ymroi
i brysuro dyfodiad Teyrnas Nef fwy fwy yn
ein plith.
Cydweithio
Yr ydym yn ymfalchïo fel Eglwys yn ein
perthynas a’n cyd weithio gyda
Christnogion, eglwysi, mudiadau
Cristnogol a chenhadol ym Mhrydain,
Ewrop a led led daear. Cofiwn am ein
cysylltiad ag Eglwys yr Alban, Yr Eglwys
Bresbyteraidd yn Iwerddon, Eglwys
Bresbyteraidd India, y Cyngor Cenhadaeth
Fyd-eang (CWM), Cyngor Eglwysi’r Byd,
Cyngor Eglwysi Ewrop ac yn arbennig ein
cyd-Gristnogion o bob enwad yma yng
Nghymru. Diolchwn mai ein ffydd sydd yn
rhoi’r undeb hwn inni, ac ymrown ‘i gadw
â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r
Ysbryd yn ei roi’ (Eff.4:3).
Amrywiaeth
Geilw amgylchiadau arnom heddiw i ddau
ddyblu’n hymdrechion gyda’n gilydd dros
y difreintiedig, yr amddifad a’r dieithryn.
Ymatebwn, felly, i unrhyw ymgais i
begynnu a chreu gwahaniaethau trwy
barhau i ddangos trugaredd, goddefgarwch,
cariad a gofal tuag at ein cymdogion lle
bynnag y bont. Yr ydym eto yn parhau fel
aelodau’r genedl Gymreig a’r Eglwys
Gristnogol i fod yn rhan o amrywiaeth
lliwgar cenhedloedd, diwylliannau a
thraddodiad Cristnogol Ewrop, a
gweithiwn gydag ymroddiad newydd gan
wasanaethu yn enw Crist, a byw er mwyn
ein hoes.
Y Parchg Ddr. Elwyn RichardsLlywydd, ar Ran y Gymanfa Gyffredinol
Gorffennaf 7, 2016 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn AnnibynnolGADAEL!
Ysgrifennaf y geiriau hyn ar fore cyhoeddicanlyniadau’r Refferendwm ar einhaelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Erbyni chi ddarllen y geiriau hyn fe fydd pawbohonom wedi cael amser i ymgyfarwyddoâ’r penderfyniad. Ondy foment hon, rwy’nteimlo tristwch mawra braw am yr hyn ygallai hyn olygu iddyfodol y gwledyddhyn ac i’r amrywiaethcyfoethog o bobol oEwrop a rhannaueraill o’r byd sy’n bywyn ein plith ac ync y f o e t h o g i ’ ncymunedau mewncynifer o ffyrdd. Y peth mwyaf brawychusoedd fod trwch poblogaeth Cymru hefydwedi pleidleisio dros adael, heblaw, ynddiddorol, ardaloedd cryfder Plaid Cymru,dau o’r rhanbarthau lle mae’r BlaidGeidwadol yn y mwyafrif a dinasCaerdydd, lle mae Senedd LlywodraethCymru a phencadlysoedd rhai o brifsefydliadau cenedlaethol Cymru a’u staff.Fe ddywedodd ffrind i ni, sy’n hanu oEfrog Newydd ond sy’n byw yn Abertaweers 35 mlynedd, ei fod wedi bod ynembaras am fod yn Americanwr ersblynyddoedd. Yn awr, y mae’n embaras
am fod yn Brydeinwyr hefyd. Rwyf fi amychwanegu fy mod yn embaras am fy modyn byw yng Nghymru (ac yn rhanbarth DeCymru’n fwyaf arbennig). Y mae hwn ynddiwrnod du yn hanes ein cenedl.
Arglwyddiaeth Duw
Pam y dylai Cristion boeni am hyn? Ynbennaf oll, am fod Arglwyddiaeth Crist ynymwneud â phob agwedd ar fywyd.Canlyniad hyn yw y dylem fod yn gwneudpob penderfyniad pwysig yng ngoleunigwerthoedd teyrnas Dduw fel y cafodd eichyhoeddi a’i byw gan Iesu Grist. Y mae awnelo’r gwerthoedd hyn yn uniongyrchol ânatur a blaenoriaethau’r gymuned neu’rgenedl yr ydym yn rhan ohoni. Dyma pamy mae lletygarwch i rai sydd wedi dioddefo ganlyniad i ryfel, erledigaeth, gorthrwma thlodi mewn rhannau gwahanol o’r bydyn un o ffrwythau’r Ysbryd. Dyma pam ymae ymgyrchu dros gyfiawnder a dyfodoli bobl sydd wedi’u hymylu yn eincymdeithas ni’n hunain ac mewn mannaueraill yn gorfod bod yn flaenoriaethganolog. Dyma pam mae meithrincyfeillgarwch, cymod a chynghaneddrhwng cenhedloedd yn elfen mor ganologo fyw’r deyrnas. Dyma mae pam tynnuallan o gymuned a luniwyd yn benodol ermwyn atal rhyfel yn Ewrop, fel dau ryfelmawr yr ugeinfed ganrif pan gafodd dros30 miliwn o bobl eu lladd, yn drasiedi sy’ndod â dagrau i’r llygaid.
Prydain Fawr?
Soniwyd llawer yn ystod yr ymgyrch am‘Wneud Prydain yn Fawr eto’. Mae
dyddiau Prydain FAWR heibio, diolch amhynny. Nid grym na dylanwad rhyngwladolna sofraniaeth dros ein tynged ein hunainsy’n gwneud cenedl yn fawr. Nid‘myfïaeth’ erchyll yw calon cenedl ond eipharodrwydd i adael i werthoedd Iesu a’ideyrnas lywio’i blaenoriaethau a’ipholisïau, sef, lletygarwch, cyfiawnder,cyfeillgarwch, cymod a chynghanedd ac,yn bennaf oll, yn y cyd-destun hwn,gweithio dros bartneriaeth rhwng ycenhedloedd.
Dylanwadu
Bydd y misoedd nesaf yn rai tyngedfennoli’r eglwysi. Dyma gyfle i ni geisiodylanwadu ar y modd y bydd ytrafodaethau ynglŷn ag ymddihatru oEwrop yn datblygu. Credaf fod lle canologyma i Cytûn ystyried sut orau i wneudhynny. A fedrwn ni, fel eglwysi acenwadau Cymru, trwy Cytûn, geisiosicrhau y bydd gweledigaeth agwerthoedd y deyrnas yn llywio polisïau’rgwahanu oddi wrth Ewrop? Beth fydd rôlSenedd Llywodraeth Cymru mewndyfodol gwahanol i Gymru? Paflaenoriaethau y bydd llywodraeth yDeyrnas Unedig yn eu gosod mewn llewrth greu gwladwriaeth fydd yn bodoli y tuallan i fframwaith yr Undeb Ewropeaidd?Trwy fynd i’r afael â’r cwestiynauhollbwysig hyn, efallai y gellir achubrhywbeth da o’r drasiedi enfawr hon.
Noel Davies(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o
reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr
Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)
Noel A. Davies
Wedi’r RefferendwmSyndod mawr i nifer
helaeth yng Nghymru
oedd dihuno ar fore
Gwener, 24 Mehefin, a
deall bod mwyafrif
bychain o drigolion
gwledydd Prydain wedi
pleidleisio dros adael yr
Undeb Ewropeaidd. O
ganlyniad bu’r dyddiau
wedi cyhoeddi’r penderfyniad yn rhai
digon stormus ar draws y sbectrwm
gwleidyddol, ariannol a chymdeithasol.
Mynegwyd pob math o deimladau gan y
rhai oedd wedi cael eu siomi gan y
canlyniad: dicter, tristwch, digalondid ac
anobaith a dechreuwyd deiseb ar lein i
geisio sicrhau ail refferendwm. Ar yr un
pryd gwnaed pob math o ensyniadau
anffodus am y modd y cafodd yr ymgyrch
ei llywio, gyda’r ddwy ochr yn hawlio i’r
naill ochr a’r llall greu ofn ac ansicrwydd
ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.
At hyn oll, bu’r datblygiadau o fewn y byd
gwleidyddol yn syfrdanol a dweud y lleiaf.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i
ymddiswyddo, mynegodd Aelodau
Seneddol y Blaid Lafur ddiffyg hyder yn
eu harweinydd, tra teithiodd Prif Weinidog
yr Alban i Frwsel i gynnal trafodaethau er
mwyn ceisio diogelu lle’r Alban o fewn yr
Undeb Ewropeaidd. Ni wyddom beth yn
union fydd rhawd Cymru yn ystod y
misoedd nesaf ond hyderwn y bydd Prif
Weinidog Cymru, ynghyd â holl Aelodau’r
Cynulliad yn gwneud pob dim a fedrant
dros fuddiannau ein gwlad.
Ond beth sydd gan yr Eglwys i’w
ddweud yng nghanol hyn oll?
Mae’n sefyllfa ddyrys ac un sy’n peri gofid
gwirioneddol ynglŷn â’r dyfodol. Ond
wedi dweud hynny, rhaid derbyn mai dyna
oedd barn y mwyafrif o’r etholwyr ac felly
rhaid parchu a chydnabod y canlyniad gan
gofio hefyd y bu i ganran uchel o’r
boblogaeth yng Nghymru, sef 71.7% fwrw
pleidlais. Roedd y ffigwr hwn yn uwch o
lawer nac mewn unrhyw etholiad neu
refferendwm yn ystod y blynyddoedd
diwethaf ond eto, gresyn na welodd
gweddill y boblogaeth yn dda i ddatgan eu
barn.
Hiliaeth
Rydym yn naturiol yn trysori’r hawl a’r
rhyddid sydd gennym i fwrw pleidlais yn
unol â’n barn bersonol ond mawr obeithiaf
ein bod yn gytûn ar un peth. Mae angenymwrthod ag unrhyw gynnydd mewnymddygiad gwrthgymdeithasol yn erbynein brodyr a’n chwiorydd ar sail hil,iaith neu grefydd. Testun tristwch, siom a
chywilydd oedd darllen yr adroddiadau am
nifer o ymosodiadau hiliol yn sgil
canlyniad y refferendwm, prin wythnos
wedi llofruddio’r Aelod Seneddol disglair
ac ymroddedig, Jo Cox. Mawr obeithiwn y
byddwn fel dinasyddion yn ddigon dewr i
wrthsefyll unrhyw dwf yn y fath gasineb
sy’n gwbl groes i’n gwerthoedd a’n
hegwyddorion fel Cristnogion.
Diau y bydd y storm wleidyddol hon yn
parhau am beth amser eto, am flynyddoedd
efallai, ond yn y cyfamser diolchwn ein
bod yn medru troi at yr Un sy’n medru ein
gwreiddio yn y pethau da, y pethau gonest
a’r pethau glân, a’r Un hefyd sydd â’r
awdurdod a’r nerth ganddo i ostegu holl
dymhestloedd bywyd, gan dawelu’n
hofnau a’n llywio’n ddiogel ar hyd
llwybrau dyrys ein byd.
Judith Morris (Golygyddol o’r Seren)