eu gorffennol eich dyfodol...4 - profiadau plant b) colled cerdyn nadolig oddi wrt h jo h n h. evans...
TRANSCRIPT
-
Eu Gorffennol Eich Dyfodol
-
Lluniwyd y pecyn hwn ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd â diddordeb ynhanes Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n cynnwys gwybodaeth ac ymarferion ar ythema Bywyd Gartref Yn Ystod Ail Ryfel Byd y gall disgyblion astudio fel prosiect unigol neufel dosbarth cyfan.
Er nad yw wedi’i anelu’n uniongyrchol at y cwricwlwm ysgol mae’n clymu’n naturiol gydanifer o feysydd gwahanol o fewn y cwricwlwm, gan gynnwys CA2 Hanes: Bywyd yngNghymru a Phrydain Fodern, a CA2 Hanes: Topig Hanesyddol mewn Cyd-destun Lleol. Gellirhefyd edrych ar yr ymarferion a’r themâu fel rhan o gwricwlwm iaith, Sgiliau Allweddol acAddysg Bersonol a Chymdeithasol.
Does dim disgwyl i bob disgybl gyflawni pob un o’r ymarferion yn y pecyn, a’r nod wrth eilunio oedd cynnwys rhywbeth y gallai pob disgybl ymateb iddo, boed hynny ar lefelsoffistigedig neu syml.
Lluniwyd y pecyn ar y cyd gan Culturenet Cymru a Gwasanaeth Addysg LlyfrgellGenedlaethol Cymru.
Mae Culturenet Cymru yn gweithio ar y cyd â'i aelodau a grwpiau cymunedol i ddatblyguystod o brosiectau cyffrous ac arloesol. Ei nod yw defnyddio adnoddau ar-lein i godiymwybyddiaeth a gwella mynediad i bawb i ddiwylliant a hanes Cymru.
Mae Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymestyniad o un o ddibenioncraidd y Llyfrgell, sef cynnig mynediad at wybodaeth a deunydd. Mae’n bodoli er mwyncynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o bob oed o’r Llyfrgell a’i chasgliadau. Ei nod hefyd yweu hysbrydoli i ymddiddori ymhellach yng ngwaith a rôl y sefydliad, yn ogystal â dod iwybod mwy am dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Cynnwys3-6 Profiadau plant
7-10 Yr Ymdrech Gartre a Dogni
11-14 Stori milwr
15 Ffeithiau am Yr Ail Ryfel Byd
16 Casgliad Geoff Charles ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru
www.culturenetcymru.com
dysgle.llgc.org.uk
� [email protected]� 01970 632415
� [email protected]� 01970 632528 / 632913
-
Profiadau plant - 3
a) Faciwîs
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
• Gwna restr o’r hyn a weli di yn y lluniau.• Llunia sgwrs rhwng y bachgen a’r ferch yn y llun cyntaf.• Gwna restr o 5 peth byddet ti’n dymuno mynd gyda ti petaet ti’n gorfod
symud i ffwrdd oddi wrth dy deulu am gyfnod.
Faciwîs o Benbedw yn cyrraedd Croesoswallt, 1939(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Faciwîs o Benb
edw
yn cyrraedd
Croesoswallt, 19
39
(Llun: Casgliad
Geoff
Charles, Llyfrg
ell
Genedlaethol Cy
mru)
Profiadau plant
-
4 - Profiadau plant
b) Colled
Cerdyn Nadolig oddi
wrth John H. Evans
at ei ferch
Myra, tua 1940 (Cu
lturenet Cymru a My
ra Williams)
Llythyr oddi wrth John H Evans at ei blant, Myra a James, tua 1940
(Culturenet Cymru a Myra Williams)
Profiadau plant
-
Profiadau plant - 5
John H. Evans yn ei wisg llynges, tua 1939(Culturenet Cymru a Myra Williams)
John H. EvansPan ddechreuodd y Rhyfel yn1939 ymunodd John H. Evans â’rLlynges. Tra oedd i ffwrdd ynymladd yn y Rhyfel ysgrifennai atei deulu’n aml, a chadwai geiniogaui anfon atyn nhw. Ar Ebrill 211941 lladdwyd John pan suddoddei long, yr HMS Topaze. Cyn iddofarw anfonodd John y Beibl ymae’n cyfeirio ato yn y llythyr atei ferch, Myra, a hyd heddiw maeMyra’n cario’r Beibl hwnnw blebynnag mae’n mynd.
Dear Myra and James
Just a few lines in ans[wer] to your
welcome letter which I
got quite safe to day thank you ver
y much for writing and tell
James I’m thanking him for washing
and ironing my
han[d]kerchief I will want a clean o
ne when I come home. Well
Myra I’ve got you a nice little Bible
which every sailor gets
from the King. I will send it along fo
r you some day when I
get a chance to go down the village.
Well Myra this will be all
for now so will come to a close now
with all my love to Both of
you from yours truly Dad. Kiss Jam
es for me. I’m saving you
some threepenny Bits xxxxxxxx
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
Dychmyga mai ti yw Myra. Ysgrifenna lythyr at dy dad i ateb y llythyr rwyt ti newydd ei ddarllen.
Profiadau plant
-
6 - Profiadau plant
c) Diogelu bywyda
u
Mwgwd nwy babi, 1930au(Culturenet Cymru a Michael Donovan)
Plant yn ymarfer gwisgo mygydau nwy, 1939(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mwgwd nwy ‘Mickey Mouse’, 1939-45
(Culturenet Cymru ac Amgueddfa Heddlu De
Cymru)
Syniadau am weithgareddauneu drafodaeth
• Beth yw pwrpas mygydau nwy?• Pam roedd plant yn eu cario
bob amser ac yn gorfodymarfer eu gwisgo?
• Pam roedd mygydau nwy owahanol faint yn cael eucynhyrchu?
Profiadau plant
-
Yr Ymdrech Gartre a Dogni - 7
Yr Ymdrech Gartre a Dogni
a) Paratoi at ryfel
Lloches cyrch awyr y
n Abertawe, 1941
(Culturenet Cymru a
Gwasanaeth Archif
au Gorllewin
Morgannwg)
Taflen “Y WeinyddiaethHyspysrwydd”, 1940au(Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
• Beth roedd pobl fod i wneud petai’r Almaenwyr yn dod i Brydain?• Llunia restr o eiriau i ddisgrifio’r profiad o fod mewn lloches awyr.
Galli di ddefnyddio gwybodaeth o’r llun cyntaf a dy ddychymyg.
Detholiad o’r daflen OS DAW’R
GERMANSBETH I’W WNEUD – A SUT
I’W WNEUD
Os daw’r Germans, mewn “parachute” neu erop
len neu
long, gofalwch aros lle’r ydych. Dyna’r gorchym
yn –
“Arhosed pawb lle mae.”…
Peidiwch a rhoi coel ar chwedlau disail a pheid
iwch a’u
hailadrodd. Pan y derbyniwch orchymyn, gwne
wch yn
siwr nag gorchymyn gau ydyw… Arferwch eich
syn[n]wyr
cyffredin.
-
8 - Yr Ymdrech Gartre a Dogni
‘How to patch elbows and trousers’,
taflen Bwrdd Masnach gyhoeddwyd
yn ystod yr Ail Ryfel Byd,
1940au(Culturenet Cymru ac
Elizabeth
Richards)
‘How to reinforce for extra
wear’, taflen Bwrdd Masnach
gyhoeddwyd yn ystod yr Ail
Ryfel Byd, 1940au
(Culturenet Cymru ac Elizabeth
Richards)
‘How to patch a shirt’, taflen Bwrdd
Masnach gyhoeddwyd yn ystod yr
Ail Ryfel Byd, 1940au
(Culturenet Cymru ac Elizabeth Richards)
b) Dogni
Merched ysgol o Groesoswallt yndysgu sgiliau gwnïo, 1939(Llun: Casgliad Geoff Charles, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)
Llyfr Dogni Dillad a L
lyfr Dogni Bwyd
(Culturenet Cymru a
c Elizabeth Richard
s)
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhaipethau’n brin iawn oherwydd ymosodiadauar longau oedd yn mewnforio nwyddau iBrydain, a’r ffaith bod ffatrïoedd yncanolbwyntio ar gynhyrchu arfau rhyfel.Bu’n rhaid dogni pethau elfennol i sicrhaubod nwyddau’n cael eu dosbarthu’n deg ibawb. Roedd tecstiliau a dillad yn briniawn, a chyhoeddodd y Bwrdd Masnachdaflenni yn annog pobl i ‘Drwsio a gwneud ytro’, ac ailgylchu hen ddillad yn lle eu taflu.
Yr Ymdrech Gartre a Dogni
-
Yr Ymdrech Gartre a Dogni - 9
Yr Ymdrech Gartre a Dogni
Taflen wybodaeth ‘Dig For Victory’,
1939-1945
(Culturenet Cymru ac Archifdy Cer
edigion)
Bechgyn ysgol yn dysgu sgiliau garddio, 1939(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Merched Byddin y Tir, 1939-1945(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth• Pa fwydydd oedd yn cael eu dogni yn ystod yRhyfel?• Pa bethau eraill oedd yn cael eu dogni, a phamroedd rhain yn brin?• Pam roedd menywod a phlant yn gweithio ar y tir?• Pam roedd y llywodraeth yn annog pobl i dyfumwy o fwyd eu hunain?
Detholiad o’r daflen “DIG FOR VICTORY”“Y WYNWYN (Winwns) mwyaf eu gwerth yw’rrhai y gellir eu cadw ar gyfer y gaeaf. Pan fôntwedi tyfu’n dda, wedi eu cynaeafu’n ofalus, a’uhystorio’n gymwys, fe ellir eu cadw’nllwyddiannus am chwe mis. Ond mae’n bwysigcael y mathau mwyaf cyfaddas ar gyfer storio.”
-
10 - Yr Ymdrech Gartre a Dogni
c) Ailgylchu
Clwb Bechgyn y Trallwng wedi trefnu Sgwad Arbed, 1940(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Cyfraniad menywod Y Trallwng at ym
gyrch yr Arglwydd Beaverbrook i
gasglu hen alwminiwm sgrap ar gyfe
r Spitfire, 1940
(Llun: Casgliad Geoff Charles, Llyfr
gell Genedlaethol Cymru)
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
• Beth oedd Spitfire?• Pa fathau o bethau oedd yn cael eu defnyddio
yn yr ymgyrch i gasglu sgrap i adeiladu Spitfire?
Yr Ymdrech Gartre a Dogni
-
Stori milwr - 11
Stori milwr
Roedd Humphrey Watkin Hughes yn un o chwech o blant ac roedd ei dad yn ficer ym mh
lwyf
Glanogwen, Bethesda. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n byw gyda’i wraig Catherine ym Me
thesda ger
Bangor a bu’n gwasanaethu fel dyn radio gyda’r Llu Awyr a chael ei ddyrchafu’n Sarsiant
.
Ar 19-20 Chwefror 1944 roedd yn rhan o ymgyrch fomio’r Llu Awyr yn Leipzig, dinas faw
r yn yr
Almaen. Er iddyn nhw fomio’r targed yn llwyddiannus trawyd ei awyren ar ei thaith yn ô
l a daeth i
lawr gan lanio 1 cilomedr i’r gogledd o bentref Baarn yn yr Iseldiroedd am 5.30 y bore a
r 20
Chwefror. Yn fuan wedi’r ddamwain cyrhaeddodd milwyr Almaenig ac fe ddaethant o hy
d i bum
corff. Ni chafwyd hyd i gorff Humphrey ond mae ei enw yn ymddangos ar nifer o gofeb
au, gan
gynnwys Cofeb Runnymede sy’n rhestru pawb gollodd eu bywydau tra’n gwasanaethu gyd
a’r Llu
Awyr yn ystod y rhyfel.
Pan fu Humphrey farw dim ond chwe wythnos oed oedd ei fab, Richard Merfyn Hughes.
Hon oedd
yr ail farwolaeth drasig yn y teulu Hughes yn ystod y rhyfel. Bu farw ei frawd, Richard
Lloyd
Hughes ar 24 Rhagfyr 1943 pan gafodd ei awyren ei saethu i lawr ger Frankfurt, yr Alm
aen.
Bywyd Humphrey Watkin Hughes
• Ganwyd Humphrey Watkin Hughes ynLlanllyfni ger Penygroes ar y 23ain o Ionawr,1916, yr ieuengaf o chwech o blant.• Treuliodd gyfnod yn y Llynges Fasnach cyn yrhyfel a theithiodd yn helaeth.
• Ym Medi 1940 ymunodd Humphrey â’r LluAwyr ac am y ddwy flynedd nesafysgrifennodd yn ddyddiol at ei gariad,Catherine Hughes.
• Ar yr 2il o Dachwedd, 1942 priododdHumphrey â Catherine yn EglwysGlanogwen, Bethesda.
• Ganwyd mab iddynt, Richard Merfyn ar y5ed o Ionawr, 1944. Cafodd Humphreyganiatâd arbennig i fynd adref i’r bedydd.O fewn chwe wythnos i enedigaeth RichardMerfyn roedd Humphrey wedi’ i ladd.
a) Humphrey Watkin Hughes
Humphrey Watkin Hughes yn ei lifrau Llu
Awyr, tua 1940
(Culturenet Cymru ac Ann Elisabeth Grenet)
-
12 - Stori milwr
Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Awyr, Llundain am farwolaeth
Humphrey Watkin Hughes, 1945
(Culturenet Cymru ac Ann Elisabeth Grenet)
Stori milwr
-
Stori milwr - 13
Stori milwr
Llythyr wrth y Brenin Siôr VI
i gydymdeimlo â theulu
Humphrey Watkin Hughes
(Culturenet Cymru ac Ann
Elisabeth Grenet)
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
• Pam roedd y teulu wedi derbyn llythyr oddi wrth y Brenin?• Lluniwch ffeil ffeithiau sy’n cynnwys gwybodaeth am Humphrey Watkin
Hughes.
-
14 - Stori milwr
Rai blynyddoedd wedi diwedd yr AilRyfel Byd aeth pobl Yr Iseldiroedd ati i godi
arian ar gyfer cofeb ryfel yn dwyn yr enw CofebRhyddid. Ymhlith enwau’r rhai sy’n cael eu cofnodi mae
enw Humphrey Watkin Hughes, ac mae ei deuluwedi ymweld â’r gofeb yn Eemnes, Yr
Iseldiroedd.
b) Cofio
Syniadau am weithgareddau neu drafodaeth
• Beth yw pwrpas cofebau rhyfel a pham eu bod yn cael euhadeiladu?
• Ble mae’r gofeb agosaf at eich ysgol chi, pa ryfeloedd sy’ncael eu cofnodi arni, ac enwau pwy sydd arni?
Llun o’r Gofeb Rhyddid yn
Eemnes, Yr Iseldiroedd,
tua 1990
(Culturenet Cymru ac Ann
Elisabeth Grenet)
Plac ar y Gofeb Rhyddid yn Eemnes gydag enwau’r rhaigafodd eu lladd(Culturenet Cymru ac Ann Elisabeth Grenet)
Stori milwr
-
Ffeithiau am Yr Ail Ryfel Byd
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd 827,00
0
o blant ysgol, 524,000 o famau gyda phlant o
dan oedran ysgol, a 13,000 o famau beichiog
o
ddinasoedd Prydain.
Erbyn 1944 roedd dros 80,000 o fenywod yn
aelodau o Fyddin y Tir. Gwisgai aelodau
Byddin y Tir siwmperi gwyrdd, trowsusau
brown a hetiau ffelt brown. Roedden nhw’n
gwneud gwaith amrywiol gan gynnwys godro
a
gwaith fferm, torri coed, a gweithio mewn
melinau llifo. Roedd dros fil o fenywod Bydd
in
y Tir yn gweithio yn dal llygod mawr.
Yn gynnar yn 1940 dechreuodd y llywodraeth
annog pobl i dyfu eu bwydydd eu hunain.
Cyflwynwyd dogni bwyd ym mis Ionawr 1941
,
a dogni dillad ym mis Mehefin 1941.
Cafwyd 44 cyrch awyr dros Abertawe rhwng
1940 ac 1943, a rhwng Chwefror 19 a 21 194
1
gollyngwyd dros 55 tunnell o fomiau ar y
ddinas.
Amcangyfrifir bod o leiaf 60 miliwn o bobl
wedi colli eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel
Byd — tua 25 miliwn o filwyr a 35 miliwn o
bobl gyffredin.
Ffeithiau am Yr Ail Ryfel Byd - 15
-
16 - Adnoddau i Athrawon a Disgyblion
Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru Atgofion Cymreig o’r Ail Ryfel BydMae Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru yn wefan sy’ncoffáu'r Ail Ryfel Byd trwy gyfrwng storïau, delweddau, acatgofion y rhai wnaeth fyw trwy’r Rhyfel. Daw’r atgofion hyngan bobl gyda phrofiadau gwahanol iawn:
6 y rhai fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog6 y rhai oedd yn blant yn ystod blynyddoedd y rhyfel6 pobl oedd ar bigau’r drain i glywed hanes eu hanwyliaid6 rhai a weithiai’n ddiflino gartref yn cefnogi ymdrech y rhyfel.
Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru, sy’n derbyncefnogaeth Cronfa’r Loteri Fawr, yn ffurfio teyrnged barhaoli’r rhai wnaeth fyw trwy’r rhyfel, ac yn adnodd addysgol argyfer cenedlaethau sydd i ddod. Mae’r wefan yn cynnwysdros 1500 o ddelweddau a llawer o storïau sy’n dogfennuprofiadau pobl yn ystod y cyfnod nodedig hwn yn ein hanes.
Geoff CharlesFfotograffau o Gymru a'r Gororau adeg yr Ail Ryfel Byd
Mae ffotograffau Geoff Charles o'r cyfnod 1939-1945 yn dalysbryd pobl Cymru a'r Gororau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Maent yn goffâd o'r ymdrech ar y ffrynt cartref ac yn gofnodcyfoethog o ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu.
Erbyn heddiw mae archif Geoff Charles yn un o drysorauLlyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’r wefan newydd yma,a noddir gan Gronfa'r Loteri Fawr fel rhan o'r rhaglenaddysgol Eu Gorffennol Eich Dyfodol, yn rhoi cyfle i bawbchwilio a mwynhau’r ffotograffau unigryw hyn. Mae’ncynnwys:
6 dros 6,500 o ffotograffau Geoff Charles 6 gweithgareddau addysg rhyngweithiol a diddorol i blant aphobl ifanc 6 dolenni cwricwlaidd a gwybodaeth bellach amgasgliadau’r Llyfrgell6 cyfle i chwilio cronfa ddata enfawr o luniau Geoff Charlesyn ôl thema, pwnc, ardal neu allweddeiriau.
Yn ogystal â hyn ceir canllawiau i athrawon a disgyblion arsut i ddefnyddio ffotograffau fel tystiolaeth, hanesffotograffiaeth fel cyfrwng a gwybodaeth am Geoff Charlesei hun.
ADNODDAU I ATHRAWON A DISGYBLION SY’ NASTUDIO’ R AIL RYFEL BYD
www.eged-cymru.com
geoffcharles.llgc.org.uk