ennill y dwbl!...ennill y dwbl! ! !!! ! yn ystod eisteddfod genedlaethol maldwyn a’r gororau 2015...

12
Ennill y Dwbl! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r gerdd orau i blant Bl.5/6. Enw’r gerdd fuddugol oedd ‘Mordaith’. Darllenodd ei cherdd yn y Babell Lên o flaen aelodau enwog Ymryson y Beirdd. Cyflwynwyd copi o’i cherdd mewn ffrâm hyfryd . Daeth Megan Jones a Nia Jones yn gydradd 2ail yn y gystadleuaeth . Enillodd yr ysgol yr adran am yr ysgol orau. Dyma oedd achlysur i’w gofio. Mae barddoniaeth Carrie i’w weld ar dudalen 7. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili, enillodd Nia Jones (Bl.6 ) - cefnither i Carrie, y wobr 1af am ysgrifennu barddoniaeth Bl5/6. ‘Mordaith’ oedd enw ei cherdd hithau hefyd. Am glod! Mae’n amlwg fod yna rhywbeth yng ngwaed y teulu! Ysgol Dafydd Llwyd Ffôn 01686 622162 Lôn Y Parc Y Drenewydd Gwefan yr Ysgol: www.dafyddllwyd.powys.sch.uk YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 HYDREF 2015 RHIFYN 14

Upload: others

Post on 24-Mar-2020

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

     

-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐        

Ennill y Dwbl!

   

 

   

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r gerdd orau i blant Bl.5/6. Enw’r gerdd fuddugol oedd ‘Mordaith’. Darllenodd ei cherdd yn y Babell Lên o flaen aelodau enwog Ymryson y Beirdd. Cyflwynwyd copi o’i cherdd mewn ffrâm hyfryd . Daeth Megan Jones a Nia Jones yn gydradd 2ail yn y gystadleuaeth . Enillodd yr ysgol yr adran am yr ysgol orau. Dyma oedd achlysur i’w gofio. Mae barddoniaeth Carrie i’w weld ar dudalen 7. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili, enillodd Nia Jones (Bl.6 ) - cefnither i Carrie, y wobr 1af am ysgrifennu barddoniaeth Bl5/6. ‘Mordaith’ oedd enw ei cherdd hithau hefyd. Am glod! Mae’n amlwg fod yna rhywbeth yng ngwaed y teulu! -­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐-­‐  

Ysgol  Dafydd  Llwyd               Ffôn  01686  622162  

Lôn  Y  Parc  

Y  Drenewydd         Gwefan  yr  Ysgol:  www.dafyddllwyd.powys.sch.uk  

 

 

YSGOL DAFYDD  LLWYD

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

HYDREF 2015 RHIFYN 14

Page 2: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Llywodraethwyr yr Ysgol Categori Enw Diwedd Cymuned Hywel Lovgreen 01/03/2019 Cymuned Llyr Ap Dafydd 01/03/2019 Cymuned Hywel Glyn Jones 31/08/2017 Pennaeth Siân Elizabeth Davies Awdurdod Addysg Lleol Marian Wyn Wilson 31/08/2019 Awdurdod Addysg Lleol Menna Jones 31/12/2017 Awdurdod Addysg Lleol John Benjamin Evans 31/12/2016 Cyngor Y Dre Rina Judith Clarke 31/01/2017 Rhiant Rhydian Williams 31/08/2017 Rhiant Jonathan Rees 31/08/2019 Rhiant Christopher Davies 31/08/2019 Rhiant Sharon Davies 31/08/2017 Staff Llinos Anne Green 30/09/2017 Athro Darryn Green 31/08/2019

Athrawon Ysgol Dafydd Llwyd Pennaeth: Mrs Siân Davies Dirprwy dros dro: Mrs Elin Yewdall a Mrs Eryl Edwards Meithrin: Miss Callyn Toms Derbyn: Ms Debbie Gilbert Bl 1: Mrs Eryl Edwards Bl 2: Mrs Lisa Prince Bl 3: Mrs Elin Yewdall Bl 4/5: Miss Betsan Llwyd / Mrs Anwen Jarman / Mrs Mererid Lewis Bl 5/6: Miss Angharad Davies Cydlynydd Anghenion Arbennig: Mrs Eryl Edwards Cynorthwywyr: Mrs Darlene Clifton, Miss Janet Davies, Mrs Anne Green, Mrs Eleri Green, Mrs Bethan Jones, Mrs Pauline Morgan, Mrs Sharon Williams, Miss Toni Green, Miss Josie Herdman, Mrs Sam Davies, Mrs Menna Wilson, Miss Bethan Thomas, Mrs Ruth Faber a Miss Ffion Evans, Ysgrifenyddes: Mrs Sheila Bebb Gweledigaeth Ysgol Dafydd Llwyd Y mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo’r weledigaeth y dylai plant a staff ‘Anelu’n Uchel ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel Ysgol am adeiladu ar sylfaen cadarn y gorffennol, i ddatblygu’r presennol ac anelu at ddyfodol llwyddiannus.

Gwerthoedd yr ysgol Gwerthoedd Ysgol Dafydd Llwyd yw Parch, Tegwch, Cyfeillgarwch ac Ymdrech gyda Chymreictod yn ganolig iddynt i gyd. Polisïau’r Ysgol Adolygir polisïau’r Ysgol bob blwyddyn. Hysbysir y rhieni o bob newid trwy lythyr.

Gwyliau Ysgol 2015/16 Tymor yr Hydref 2015 2 Medi - 18 Rhagfyr Hanner tymor - 26 Hydref – 30 Hydref Diwrnodau di-ddisgybl – 1 Medi, 2 Tachwedd Tymor y Gwanwyn 2016 11 Ionawr – 18 Mawrth Hanner tymor - 15 – 19 Chwefror Tymor yr Haf 2016 5 Ebrill - 19 Gorffennaf Hanner tymor - 30 Mai - 3 Mehefin Diwrnodau di-ddisgybl - 4 Ebrill, 18 & 19 Gorffennaf Oriau’r Ysgol Bore: 8.55 - 12.00 (Egwyl: 10.35 - 10.50) Amser cinio: Babanod 11.50 - 1.05 Plant Iau 12 - 1.05 Prynhawn: 1.05 - 3.30 (Meithrin: 1.05 - 3.20)

Nodyn gan y Corff Llywodraethol Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn ysgol unigryw gan mai hi yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig gyntaf yng Ngogledd Powys. Mae’r ysgol yn hybu pob agwedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn. Mae’r ethos Gymraeg yn amlwg drwy adeiladau’r ysgol ac ar yr iard. Gofynnir i rieni gefnogi pob gweithgaredd ac i gadw at yr holl bolisïau. Absenoldeb heb ei Awdurdodi 2014/15 % Absenoldeb heb ei awdurdodi = 1.0% Absenoldeb a ganiatawyd = 2.8%. Presenoldeb 96.2%

Mynediad i’r Anabl Mae pob man yn yr ysgol yn gyraeddadwy i i bobl ag anableddau.

   

Page 3: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Annwyl  Rieni,    Mae  blwyddyn  academaidd  2014/15  wedi  bod  yn  un  brysur  tu  hwnt  i’r  ysgol  unwaith  eto.  Fel  Cadeirydd   rwy’n   ymweld  â’r   ysgol   yn   rheolaidd.  Ar  bob  ymweliad   rwy’n   synnu  ar   ymroddiad  a  phroffesiynoldeb  y  staff,  ymddygiad  a  pherfformiadau  arbennig  y  plant,  y  cyffro  a’r  hwyl  maent  yn  eu  cael,  ond  yn  bwysicach,  fel  ysgol  Gymraeg,  eu  sgiliau  Iaith.  Fe  ddwedais   i   hyn   llynedd,  ond   rwyf  am  ei  hailadrodd.  Mae  gennyf  barch  o’r  mwyaf   i   chi   rieni  di-­‐gymraeg  sydd  am  i’ch  plant  cael  y  cyfle  i  dyfu  fyny  gyda  dwy  iaith.  Mae  hi’n  glod  i’r  ysgol,  ac  yn  rhoi  boddhad  mawr  i  mi  yn  bersonol,  i  weld  cyn  disgyblion  yr  ysgol  yn  llwyddo  mewn  gwahanol  yrfaoedd,  ac  yn  defnyddio’r  Iaith  yn  naturiol.  Gobeithiaf  o  ddifri  y  bydd  holl  blant  Ysgol  Dafydd  Llwyd  yn  parhau  gyda’u   haddysg   uwchradd   trwy   gyfrwng   y   Gymraeg   i   sicrhau   datblygiad   ieithyddol   a   fydd   yn   eu  galluogi  i  ddefnyddio’r  Iaith  yn  hyderus,  fel  pobol  ifanc,  ac  oedolion.      Heboch   chi   rieni,   ni   fase’r   ysgol   yn   ffynnu,   ac   yn   sicr,   ni   faswn   ar   drothwy   symud   i  mewn   i   ysgol  newydd  sbon  -­‐  ysgol  a  fydd  yn  rhoi’r  cyfleoedd  gorau  i’r  plant.  Mae’n  amser  mor  gyffrous  i  ni  gyd!  Mi  fydd  cyfle  i  chi  gyd  ymweld  â’r  ysgol  yn  y  flwyddyn  newydd.    Ar   lefel   academaidd,   mae’n   rhaid   llongyfarch   y   plant   ar   eu   canlyniadau   yn   ystod   y   flwyddyn.   Er  enghraifft   cafwyd   cynnydd   ym   Mathemateg   ar   ddiwedd   y   Cyfnod   Sylfaen   a   CA2,   gyda   100%   o  flwyddyn  2  yn  cyrraedd  deilliant  5+  (46%  yn  ddeilliant  6)  a  94%  o  flwyddyn  6  yn  cyrraedd  deilliant  4+  (47%  yn  ddeilliant  5+).  Ardderchog.    Rwyf   yn   ymwybodol   iawn  o’r   pwysau   cynyddol  mae   Llywodraeth  Cymru,   a   swyddogion  Cyngor   Sir  Powys,  yn  rhoi  ar  ysgolion  i  godi  safonau  a  chanlyniadau,  ac  mae’r  holl  staff  wedi  ymateb  i’r  her  yn  arbennig  unwaith  eto  eleni.  Hoffwn  ddiolch  o  waelod  nghalon  i’r  staff,  dan  arweiniad  arbennig  Mrs  Davies,  am  eu  hymrwymiad  diflino  i’r  plant  ac  i’r  ysgol.    Unwaith   eto,   yn   y   flwyddyn  a   aeth  heibio,  mae  plant   yr   ysgol  wedi   cael   profiadau  heb  eu  hail,   ac  wedi  llwyddo  mewn  cymaint  o  wahanol  feysydd.  Ni  wnaf  enwi  na  rhestru  -­‐  mae’r  adroddiad  hon  yn  cynnwys  digon  o  enghreifftiau  o  lwyddiannau  a  phrofiadau’r  plant.      Hoffwn  ddymuno  yn  dda  i  Miss  Betsan  Llwyd  a  symudodd  i  fod  yn  bennaeth  parhaol  yn  Ysgol  Dyffryn  Banw,   i  Mrs  Menna   Jones   ar   ei   hymddeoliad   fel   athrawes  CPA  ac   i  Mrs  Pauline  Morgan  wrth   iddi  orffen   fel   cynorthwyydd   CA2.   Diolch   o   galon   hefyd   i   Mrs  Meinir  Ward   a  Mr   Dan   Owen   wrth   i’w  cyfnod  fel  llywodraethwyr  dod  i  ben.    Hoffwn  ddiolch   yn   fawr   iawn   i   Ffrindiau’r   Ysgol   am  eu  gwaith   caled   yn   trefnu  digwyddiadau   llawn  hwyl   i   godi   arian   i’r   ysgol   dros   y   flwyddyn   ddiwethaf.   Er   y   byddwn   mewn   adeilad   newydd   yn   y  flwyddyn  newydd,  gyda’r  holl  adnoddau  newydd,  mae  toriadau  i  gyllidebau  yn  her  fawr  i  bob  ysgol,  ac  mi  fyddwn  yn  parhau  i  fod  yn  werthfawrogol  iawn  o  holl  ymdrechion  y  Ffrindiau.      Yn   olaf,   hoffwn   ddiolch   i   chi   rieni   am   eich   holl   gefnogaeth   i’r   ysgol.   Mi   rydym   yn   ysgol   hapus   a  llwyddiannus,   ac   edrychaf   ymlaen   at   flwyddyn   arall   o   brofiadau   a   llwyddiannau   arbennig,   ac   yn  enwedig  i  symud  i’n  cartre’  newydd.    Hywel  Lovgreen,  Cadeirydd  Pwyllgor  Llywodraethwyr  

Blaenoriaethau Cynllun Gwella Ysgol 2014/5.

• Adolygu a mireinio’r ddarpariaeth ym Mathemateg. • Herio'r disgyblion mwy abl a thalentog ar draws yr ysgol. • Codi safonau ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm yn y ddwy iaith ond yn arbennig yn

y Gymraeg erbyn diwedd CA2. • Parhau i sefydlu’r systemau monitro a hunan arfarnu drwy’r ysgol gan ddatblygu rôl yr Uwch

Dim Reoli a’r Llywodraethwyr. • Paratoi ar gyfer y symudiad i’r safle newydd

Page 4: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

 Adroddiad y Pennaeth .

Bu’n flwyddyn adeiladol ym mhob ystyr - yr adeilad newydd yn datblygu ‘n gyflym, newidiadau allweddol o ran staff a chynnydd da i’w weld yng nghanlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol. Mae ymrwymiad a gwaith caled y disgyblion, staff a Llywodraethwyr yn cyfrannu ‘n helaeth at lwyddiant parhaol yr ysgol. Rwyf yn hynod falch o’r ffaith fod plant Ysgol Dafydd Llwyd yn sicr yn gwrtais ac maent yn arddangos ymddygiad arbennig o dda. Mae hyn yn bwysig iawn i mi. Pleser o’r mwyaf oedd gweld disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau. Roeddwn yn hynod falch i weld a chlywed popeth cysylltiol ag Ysgol Dafydd Llwyd ym Mhrifwyl ein cenedl. Yn ystod y flwyddyn, roedd yn rhaid ffarwelio a 2 aelod o staff gwerthfawr sef Miss Betsan Llwyd a Mrs Pauline Morgan. Diolch yn fawr iawn i’r ddwy am eu cyfraniad a’u harbenigedd i’r ysgol. Bu’n flwyddyn brysur wrth baratoi ar gyfer ein symudiad i’r ysgol newydd. Roedd ein hymweliad cyntaf i’r adeilad a cherdded drwy’r ystafelloedd yn brofiad eithriadol ac yn un yr ydym wedi aros am flynyddoedd lawer. Mae Ionawr 11 yn agosáu a chyfnod newydd cyffrous ar y gorwel........... Siân Davies

Cyfarfod  y  Llywodraethwyr  gyda  Rhieni.  

Ni fu galw dros gynnal cyfarfod o’r Llywodraethwyr gyda’r Rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion ( Cymru 2013) yn ystod y flwyddyn addysgol 2014/15.

Pe byddai rhieni am ofyn am gyfarfod gyda chorff Llywodraethol bydd angen i’r rhieni fodloni 4 gofyniad statudol wrth alw cyfarfod sef;

• Rhaid i rieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu rieni 30 o’r disgyblion cofrestredig ( pa un bynnag sydd isaf) arwyddo deiseb yn gofyn am gyfarfod;

• Rhaid mai diben y cyfarfod yw trafod materion sy’n ymwneud â’r ysgol; • Y nifer fwyaf o gyfarfodydd y gall rieni ofyn amdanynt o fewn unrhyw flwyddyn

ysgol yw 3; • Rhaid bod yna ddigon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu

cyfarfod. At hynny;

• Rhaid cynnal y cyfarfodydd cyn diwedd cyfnod o 25 diwrnod. • Mae’r cyfnod o 25 diwrnod yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y ddeiseb, ond nid

yw’n cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod ysgol. • Os oes angen cynnal cyfarfod arall o ganlyniad i ddeiseb wahanol, ni fydd y cyfnod o

25 ddiwrnod yn dechrau tan y diwrnod ar ôl cynnal y cyfarfod arall. • Rhaid bod digon o ddyddiau ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gynnal cyfarfod cyn diwedd

y cyfnod o 25 diwrnod. • Bydd cyfarfodydd yn agored i holl rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y

Pennaeth ac unrhyw un arall a wahoddir gan y corff llywodraethol. • Mae’n rhaid i hysbysiad y cyfarfodydd i’r rhieni gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y

cyfarfod ynghyd â’r mater neu faterion i’w trafod.

Page 5: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Darpariaeth Chwaraeon Yr Ysgol am 2014-15

Nofio Bu i flynyddoedd 3, 4,5, a 6 gael hyfforddiant nofio am 10 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn. Bu tîm o’r ysgol yn nofio yng nghystadleuaeth gala’r Urdd yn nhymor yr Hydref ac yna yng ngala Ysgolion Maldwyn. Athletau Cafodd disgyblion Bl.5 a 6 gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth athletau dan do yn Maldwyn. Daeth myfyrwyr Coleg Powys am 10 wythnos i hyfforddi Bl.3-6. Mae ein disgyblion yn mwynhau pnawn dydd Gwener. Pêl-rwyd Cynhaliwyd clwb ar ôl ysgol i Fl.5/6 ac fe lwyddodd tîm yr ysgol i fynd drwodd i’r rhanbarth. Trawsgwlad Unwaith eto aeth CA2 draw i Barc Dolerw i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ysgolion Y Drenewydd.

Tenis Cafwyd hyfforddiant tenis yn ystod y flwyddyn. Bu timoedd yr ysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau gan obeithio gwelwn ni rhai yn Wimbledon yn y dyfodol.

Mabolgampau Cafwyd diwrnod llwyddiannus i’r diwrnod mabolgampau. Llongyfarchiadau i’r anlynol ar ennill y marciau mwyaf eleni yn ein mabolgampau ysgol;    

 Cyfnod  Sylfaen  

Bl.  M  =  Elin  a  Lewis.  Bl.  D  =  Cerys  a  Ffion,  Evan  a  William.  Bl.  1  =  Loyce  a  Morgan.      Bl.  2  =  Ffion  ac  Archie.  Bl.  3  =  Tirion  a  Mark.  Bl.  4  =  Holly  a  Zac.      Bl.  5  =  Tilly  a  Toby.      Bl.  6  =  Carrie  a  Tomas.        

  Pêl Droed Cynhaliwyd Clwb Pêl Droed amser cinio a bu’r timau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn ystod y flwyddyn . Diolch    Unwaith eto rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn helpu hyfforddi, cludo a chefnogi ein disgyblion trwy’r flwyddyn. Hefyd diolch i bawb sydd yn trefnu holl weithgareddau chwaraeon ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae ein disgyblion yn hynod o lwcus o’r cyfleodd.

Page 6: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Llangrannog

Aeth criw o ddisgyblion o Flwyddyn 5 a 6 i Langrannog gyda Miss Davies, Mrs Yewdall a Mr Lovgreen ar gwrs gloywi iaith. Mae’n gyfle ardderchog i’r disgyblion gael gyfathrebu a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Gymraeg. Gyda llawer o ysgolion eraill o Bowys yn y gwersyll yr un pryd mae pawb yn gwneud ffrindiau newydd gydag amryw yn dod i adnabod rhywun newydd fydd yn mynd i’r ysgol uwchradd yr un pryd a nhw.  

 

Ar  y  Cwrs  Antur  

Yn paratoi am y disgo

Page 7: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.    

• Barddas; Carrie yn derbyn ei chadair ac yn darllen ei cherdd yn y Babell Len. Megan Jones a Nia Jones yn dod yn gydradd 2ail. Yr Ysgol yn ennill y wobr am yr ysgol orau.

• Caitlyn yn aelod o’r Dawns Flodau. • Côr yr ysgol yn canu ym Mhabell CYTÛN a Menter Maldwyn. • Rhys yn canu ei orau yn rhagbrawf Unawd dan 12. • Disgyblion yn rhan o Gôr Plant yr Eisteddfod. • Arddangosfa o wybodaeth, ffeithiau ac arfer dda yr ysgol. • Gwaith celf Bl 5 ym Mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eisteddfod i’w chofio!!

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili.    Lawr i’r de y tro hwn ac i Gaerffili. Clod aruthrol oedd gweld Nia Jones yn ennill 1af- y fedal aur, yn yr adran Barddoniaeth i Fl.5/6. FFANTASTIG! Y Band Roc unwaith eto yn parhau gyda’u llwyddiant o ennill medal ers 10 mlynedd bellach - ennill y 3ydd wobr - Gwych! Gwefr oedd gweld y grŵp dawnsio disgo yn perfformio mor egnïol yn y rhagbrawf - arbennig iawn. Y côr hefyd yn hyderus ac yn sicr ac yn canu o’u gorau. Pleser llwyr oedd cefnogi Tomas, Owen a Rhys yn y grŵp lleisiol a hefyd Rhys yn yr Unawd i Fl3/4. Diolch i’r plant am eu gwaith caled, i’r staff am eu hyfforddi ac i’r rhieni am eich cefnogaeth.

Dyma’r ddwy gerdd a enillodd wobrau

                   

 

 

Page 8: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

 

 

Ysgol Goedwig.

Mae’r Ysgol Goedwig wedi cael ei gweithredu dros nifer o flynyddoedd. Ystyr yr Ysgol Goedwig yw gweithio yn yr awyr agored, astudio bywyd gwyllt, a deall beth yw cynefinoedd gwahanol. Rydym yn defnyddio offer i gynllunio pethau allan o bren. Rydym wedi cynllunio a gwneud cyllyll pren, bwydwyr adar, tai adar, tai i drychfilod a rhawiau bach i’r ardd. Hefyd ceir gyfle i dyfu planhigion a garddio. Datblygir sgiliau meddwl a llafar. Defnyddiwn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wrth gynllunio’r gwersi.

Neges wrth Mrs Pauline Morgan Hoffwn ddiolch i’r Llywodraethwyr, Staff, rhieni a disgyblion am eu cefnogaeth a’i haelioni yn ystod fy amser fel Cynorthwywraig Dysgu yn Ysgol Dafydd Llwyd. Pan ddechreuais weithio yn yr Uned Gymraeg ryw 17 ,mlynedd yn ôl. Feddyliais i byth faint y byddem yn glynu wrth fath Ysgol wych, Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda thîm ymroddedig. Roedd yn benderfyniad anodd iawn i adael Dafydd Llwyd a chymerid Swydd llawn amser yn Ysgol Hafren. Dros y blynyddoedd gwelais lawer iawn o ddisgyblion yn mynd a dod, pob un yn arbennig. I mi, y gwaith mwy pleserus oedd gweld disgyblion oedd yn cael trafferthion yn dysgu goresgyn eu problemau. Rwyf wedi cael profiadau gwerthfawr iawn ac fe fyddaf yn mynd a llawer o atgofion melys gyda mi. Dymunaf bob llwyddiant a hapusrwydd yn y dyfodol anturus sydd o’ch blaen.        Mrs Pauline Morgan.

Ffeil o ffeithiau Miss Barnett

Enw  llawn:  Sioned  Mair  Lloyd  Barnett  Man  geni:  Amwythig  Addysg:  Ysgol  Hafren/Ysgol  Dafydd  Llwyd     Ysgol  Uwchradd  Caereinion     Prifysgol  Bangor  Diddordebau:  Mynd  allan  am  fwyd,  siopa,  pêl  droed,  nofio  a  mynd  ar  wyliau.  Lliw  llygaid:  Glas  Taldra:  5  troedfedd  6  modfedd  Hoff  liw:  Pinc  Hoff  le:  Barcelona  a  thŷ  mam  a  dad.  Hoff  bwnc:  Daearyddiaeth/Hanes  Hoff  fwyd:  Cinio  rhost  Hoff  raglen  deledu:  Coronation  Street  neu  The  Only  Way  Is  Essex  Fy  swydd  gyntaf:  Gweithio  yn  Club  Sport,  Y  Drenewydd  

Os  oedd  rhaid  i  mi  fynd  â  thri  pheth  ar  ynys  ddirgel,  buaswn  yn  mynd â:  Ffôn  symudol,  gwely,  siocled.  

 

 

 

Page 9: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

Ffeil o ffeithiau - Darryn Green

Enw  llawn  -­‐  Darryn  Ifor  Green  Man  geni  -­‐  Aberystwyth  Addysg  -­‐  Ysgol  Gynradd  Pencae,  Caerdydd     Uned  Gymraeg  Ysgol  Hafren     Ysgol  Uwchradd  Caereinion     Prifysgol  Y  Drindod  Dewi  Sant  Diddordebau  –  Chwaraeon  a  chymdeithasu  Lliw  llygaid  -­‐  Glas  Taldra  -­‐  5'10  Anifeiliaid  anwes  -­‐  Dim  diolch!  Hoff  le  -­‐  Stadiwm  y  Mileniwm  Hoff  fwyd  -­‐  Cinio  dydd  Sul  Cas  fwyd  -­‐  olives  Hoff  raglen  teledu  -­‐  Scrum  V  Swydd  gyntaf  -­‐  stondin  pysgod  a  sglodion  yn  Eisteddfod  Genedlaethol  Meifod  2003  Os  oedd  rhaid  mynd  a  3  peth  ar  ynys  ddirgel  ;  pêl  rygbi,  sach  gysgu  a..........cwch!      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Adroddiad-SENCo

Yma yn Ysgol Dafydd Llwyd, mae gan bob plentyn yr hawl i brofiadau bythgofiadwy a’r cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Fel staff, rydym yn sicrhau bod plant ag Anghenion Arbennig yn cael pob chwarae teg trwy gynllunio’n fanwl, creu a defnyddio adnoddau effeithiol a gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol. Mrs Anwen Jarman a Miss Callyn Toms yw’r athrawon SENCo yr ysgol y flwyddyn yma. Maent wedi mynychu’r ‘Fforwm Senco’ a chael cyfle i drafod unigolion mewn cyfarfodydd consultation. Cafodd yr Ysgol hyfforddiant mewn tueddiadau dyslecsia yn ddiweddar. Yn deillio o hwn mae staff yr ysgol yn fwy ymwybodol o strategaethau i helpu disgyblion. Rydym hefyd yn defnyddio cynllun newydd ‘Nessy’ ar gyfer disgyblion sydd â thueddiadau dyslecsia. Darperir Cynllun Addysg Unigol i bob plentyn sydd ar y rhestr Anghenion Arbennig ac mae targedau a chanlyniadau plant grwpiau ymyrraeth yn cael eu cofnodi ar Fapiau Darparol.  

Page 10: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

 

 

 

 

 

 

Page 11: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r

 

 

 

 

 

Page 12: Ennill y Dwbl!...Ennill y Dwbl! ! !!! ! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r