Download - Yn y rhifyn hwn - swbc.org.uk
Newydd
Yn y
rhifyn hwn:Beth rwyt yn ei weld - 1
Un noson yn Bangkok - 3
Materion cenhadol - 3
+much more...
Mission Matters
...Parhad ar dudalen 2
Haf
2013
Beth rwyt yn ei weld?Ar adeg o argyfwng cenedlaethol
a chrefyddol, mae Duw yn gofyn i’r
proffwyd Amos y cwestiwn ‘beth rwyt
yn ei weld?’ Wrth i’r proffwyd edrych
o’r newydd ar ei amgylchiadau,
gwelodd rai pethau nad oedd nifer
o’i gyfoeswyr wedi sylwi arnynt.
Yn araf, daeth i weld pethau mewn
ffordd wahanol, wrth iddo edrych ar
ofidiau ei bobl o safbwynt dwyfol.
Wrth edrych ar yr heriau sy’n wynebu
ein heglwysi heddiw, mae’n hawdd gweld
y problemau yn unig, Ni allwn fforddio
cau ein llygaid i’r dystiolaeth a ddaw
wrth weld nifer yr aelodau’n gostwng,
eglwysi’n cau, a nifer llai o bobl ifanc hyn
ymwneud a bywyd eglwysi.
Gan gofio hyn i gyd nid yw’n rhyfedd
fod llawer yn darogan dyfodol tywyll
i’r Eglwys Gristnogol. Sut bynnag,
wrth edrych i’r dyfodol a’i heriau,
byddwn yn clywed Duw yn gofyn
‘Beth rwyt yn ei weld?’
Wrth i ni wrando ar lais Duw mae’n
bosibl gweld y dyfodol drwy lygaid
gwahanol. Bydd golwg newydd ar
y dyfodol yn peri i ni sylwi bod yr
amseroedd cyfnewidiol a heriol...
Un o’r caneuon amlycaf yn y
ddrama gerdd ‘Chess’ sy’n dyddio
nôl i’r 80au, yw’r gân ‘One night in
Bangkok makes a hard man humble...
the tough guys stumble’. Os yw’n
bosibl i ddynion a gwragedd fod yn
wydn a gwylaidd ar yr un pryd, yna
Thailand yw’r union le i fod felly.
Bydd tri o fyfyrwyr y coleg ynghyd
â’r tiwtor Dr Karen Smith yn teithio i
Chiang Mai gyda BMS World Mission
i weithio ochr yn ochr gyda Pete
a Lizz Maycock a Chymdeithas
Genhadol Bedyddwyr Thailand. Bu
Jon Dickerson, Helene Grant a Sam
Hackett yn brysur dros y misoedd
olaf yn codi arian ar gyfer y daith
a gobeithio bydd nifer ohonoch
wedi bod yn rhan o’u digwyddiad
‘Black Thai’, ym Mehefin, ond gyda’r
trefniadau yn eu lle, beth sy’n ei
meddyliau cyn teithio hanner ffordd
o gwmpas y byd?
Sam: ‘Rwy’n gobeithio gweld yr eglwys ar waith mewn cymuned mor wahanol i’r un rwyf yn gyfarwydd â hi. Os wyf yn bryderus am unrhyw wedd o’r daith, yna tybiaf mai ofni’r dieithr fyddai hynny - rwy’n ansicr o’r heriau sy’n debygol o ddod i’m rhan’.
Helene: ‘IRwy’n bryderus o’r dieithr hefyd, ac rwy’n arbennig o bryderus am y ffordd y byddaf yn ymateb i’r tlodi, mae’n siwr y byddwn yn ei weld.’
Jon: ‘Mae llawer nad wyf yn ei wybod, ond rwy’n sicr fod Duw yn gweithio drwy’r BMS ac rwy’n cyffroi wrth feddwl beth sy’n digwydd yn Thailand.’
Y bwriad yw bod y grwp yn ymweld
â nifer o sefyllfaoedd cenhadol
gwahanol ymysg pobl y Karen yng
Ngogledd Thailand. Byddant yn
treulio amser yn Ysgol Feiblaidd
Siloam a rhannu ym mywyd yr
eglwys yng nghefn gwlad. Gan fod
y BMS yn gweithio gyda phrosiect
‘Nightlight’, yn dwyn yr efengyl i
ferched sy’n ymwneud â’r fasnach
ryw yn Bangkok, gobeithia’r grwp
aros yn y brifddinas i weld agweddau
o’r gwaith hwn hefyd cyn dychwelyd
adref.
Gyda’r cyfan hyn i ddod, gofynnwyd
i’r myfyrwyr beth fyddai yn eu poeni
fwyaf o’i golli ar y daith. O ystyried
yr hinsawdd, poenai Sam am golli ei
becyn gwrth-chwys, tra byddai Jon
yn poeni am golli ei awyren a Helen
yn poeni colli golwg ar Karen,
Jon a Sam! Gweddïwn na
fyddant yn colli eu synnwyr
digrifwch beth bynnag.
Un noson yn Bangkok Mae cenhadaeth yn bwysig
i ni yn y coleg. Eleni, rydym
wedi llwyfannu tri digwyddiad
yn ymwneud a chenhadaeth.
Cyflwynodd Dr Kathy Ross,
diwinydd a berchir yn fawr,
ddarlithoedd Edwin Stephen
Griffiths ar bwysigrwydd
lletygarwch mewn cenhadaeth.
Daeth cyn-lywydd BUGB Chris
Duffet fel rhan o daith Big Heart
God a’n cymhellodd i feddwl
am ffyrdd o rannu ffydd heb
gymdogion. Ysbrydolodd
Benjamin Francis ni gyda’i
hanes am blannu cannoedd o
eglwysi newydd yn India dros
y ddegawd ddiwethaf. Credwn
fod cenhadaeth yn bwysig a
gwyddom eich bod chwithau o’r
un farn hefyd. Dros y flwyddyn
sy’n dod, gobeithiwn barhau i
gynnig cyfleoedd i ddarganfod
mwy am ffyrdd y gallwn gymryd
rhan mewn cenhadaeth a
gobeithiwn y byddwch yn dod i
ymuno gyda ni.
Materion cenhadol
Da iawn Ben!Llongyfarchiadau i Ben Dare,
cyn-fyfyriwr yn y coleg (nawr
yn weinidog yn Aber Llydan)
ar ei lwyddiant yn gorffen ei
draethawd ymchwil PhD. Os
oedd gennych unrhyw gwestiwn
am J. Moltmann a diwinyddiaeth
werdd, Ben yw’r arbenigwr lleol
bellach.
Master of Theology
Over the last 12 months
SWBC tutors have been fully
involved in delivering the
new style Cardiff University
Master of Theology course, in
partnership with colleagues
from St Michael’s College.
People studying on a part-time
basis normally attend 8 study
days spread over the year. In
addition to the MTh in Practical
Theology, a number of other
pathways are also available
including: Biblical Studies,
Christian Doctrine and Church
History.
For more information please contact Dr Peter Stevenson: [email protected]
2 3
...yn estyn cyfleoedd i rannu
yng nghenhadaeth Duw. Yng
ngoleuni’r Pasg a’r Sulgwyn,
credwn ein bod yn wynebu’r
dyfodol mewn ffydd a gobaith, gan
ymddiried yn Nuw sydd ym mhob
peth, ac yn medru gweithio er
daioni a budd y sawl sy’n ei garu.
Wrth i ni glywed gwahoddiad
Duw i weld y dyfodol drwy
lygaid gwahanol, mae’r Coleg
yn parhau’n ymroddedig i’r
gwaith o baratoi gwragedd a
dynion i weithio ynghyd yng
nghenhadaeth Duw. Wrth
gyflawni’r gwaith strategol hwnnw
parhawn i ddibynnu ar Dduw,
ac ar gefnogaeth ymarferol a
gweddigar pobl Dduw.
Wrth i ni ddathlu blwyddyn arall
ym mywyd y coleg, gan ofyn
beth sydd yn nwylo’r dyfodol,
gweddïwn y bydd ein llygaid yn
agored i weld y cyfan o’r hyn sydd
gan Dduw ar ein cyfer.
Gyda phob dymuniad da,
Dr Peter Stevenson, Prifathro
Oddiwrth Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr...Wrth i mi ysgrifennu hyn ar gyfer y ‘Cylchlythyr’, mae’r haul yn disgleirio
drwy’r ffenestr a’r alaw ‘Sitting on the dock of the bay’, yn cael ei chanu
gan Otis Reading yn chwarae ar y radio yn y cefndir. Mae’r geiriau yn
sôn am ddyddiau diog yn yr haul, yn gwylio’r byd yn mynd heibio. Yn wir,
disgleiriodd yr haul yn ystod yr wythnosau diweddar, ac mae croeso mawr
iddo, gan i ni gael un o’r Gwanwynau gwlypaf a fu. Tra rwy’n mwynhau’r
alaw, rwy’n ymwybodol fod rhai o negeseuon y gân yn anghywir.
“Look like nothing’s gonna changeEverything still remains the sameI can’t do what ten people tell me to doSo I guess I’ll remain the same”
Does na ddim mewn bywyd sydd mor llonydd a hynny. Mae’r un peth yn wir
am y coleg hefyd.
Gyda’r staff i gyd wedi ymgartrefu, gwelwn arwyddion calonogol ynglyn
a’n gwaith wrth wynebu heriau’r dyfodol, wrth i ni baratoi, hyfforddi a
chynorthwyo cenhedlaeth newydd o arweinwyr a meddylwyr Cristnogol. Nid
oes gennyf amheuaeth bod gennym dîm gwych yng Ngholeg y Bedyddwyr
Caerdydd, a gofynnaf am eich gweddïau i gefnogi Peter, Karen, Craig, ac Ed,
ynghyd â Martyn ac Anita.
Wrth gwrs mae’r adeg yma o’r flwyddyn yn dwyn her a’r newidiadau i gorff y
myfyrwyr. Mae’r arholiadau wrth law, a myfyrwyr y flwyddyn olaf yn ceisio
arweiniad Duw mewn perthynas â’i weinidogaeth a’u gwasanaeth. Gwneir
newidiadau yn y coleg hefyd, a gweddïwn y bydd Duw yn cyfeirio ac yn
arwain pawb.
Rydym wedi mwynhau nifer o ymweliadau gyda’r coleg yn ystod y flwyddyn.
Dau uchafbwynt i mi’n bersonol - y cyntaf oedd ymweliad y Parchg Chris
Duffett, llywydd BUGB. Heriodd ni i fod yn fwy creadigol, a dychmygus yn
ein hymdrechion cenhadol ac elwodd llawer ohonom o’i neges yn ystod ei
sesiynau yn y coleg. Yr ail uchafbwynt oedd darlithoedd Edwin Stephen
Griffiths, pan gawsom y cyfle i groesawu Dr Cathy Ross a’n harweiniodd i
ddarganfod syniadau newydd wrth weld lletygarwch fel cyfrwng cenhadol.
Gobeithiaf a gweddïaf y byddwch yn mwynhau gweddill y cylchlythyr ac y
bydd y coleg, ei staff a’i myfyrwyr yn cael lle amlwg yn eich gweddïau.
Gyda’m dymuniadau gorau yng Nghrist,, Rev Marc Owen,
Minister at Moriah Baptist Church, Risca
Mae’r coleg yn falch o gadarnhau
a rhyddhau tri myfyriwr ar gyfer y
weinidogaeth eleni, sef Phil Vickery,
Eryl Williams ac Emma Mohr.
Edrychwn ymlaen at groesawu
myfyrwyr newydd i’n cwmni ym
mis Medi, ac yn y cyfamser carem
gyflwyno dau o’n myfyrwyr i chwi,
sef David Jones a Kath Miller.
Bydd David yn symud ymlaen i’w ail
flwyddyn yn y coleg ac yn rhyfedd
i Goleg y Bedyddwyr, mae David yn
Bresbyteriad. Mewn modd tyner,
gofynnwyd iddo, beth roedd yn ei
wneud mewn coleg yn perthyn
i’r Bedyddwyr?
‘Rwy’n byw yng
Nghasnewydd’ meddai, ‘ ac
fel ymgeisydd am y weinidogaeth,
roedd modd i mi dderbyn
hyfforddiant diwinyddol ym
Mangor, ond sylweddolodd yr
henaduriaeth bod SWBC yn gyfleus
ac yn cynnig cyfleoedd gwych
ynghyd a chyfle o gael fy ngosod i
gael profiad o waith eglwys.’
Mae’n glir fod gan David fywyd
prysur, ac yn llwytho llawer
i’w amserlen gan gynnwys
disgwyliadau’r coleg, gofynion yr
henaduriaeth a phrofiad gwaith yn
eglwys Park End, Caerdydd. Bu cadw
cydbwysedd rhwng y cyfan ynghyd
a rhoi amser i’w fywyd teuluol
yn her iddo, ac
mae David yn ddiolchgar am y gofal
a gaiff gan ddarlithwyr a myfyrwyr y
coleg, ac yn arbennig grwp bugeiliol
y coleg. - ‘Cefais gymorth
gwerthfawr i ymgartrefu
ym mywyd y coleg a
chefais gyngor da a
chefnogaeth ymarferol
ar hyd y flwyddyn
- ac maent yn dod a
chacennau i’w rhannu hefyd!’.
Myfyrwraig sydd â gofal arwain
eglwys yn Hengoed yw Kath Miller
ond mae’r gynulleidfa fach yno yn
wahanol i’r gymuned Fedyddiedig
arferol. Eglura Kath drwy ddweud
‘caewyd ein capel am flynyddoedd
cyn i mi gael y fraint o’i ail agor tair
blynedd yn ôl gyda chefnogaeth
Eglwys Fedyddiedig Hengoed,
sy’n addoli ym Mryn Seion. Mae
ein cymuned ffydd wedi datblygu
o’n cysylltiadau gyda phobl
ifanc yr ardal, llawer ohonynt yn
ddifreintiedig ac wedi methu a
manteisio ar gyfleusterau addysg
a chlybiau lleol i’r ifanc. Roeddem
am ddangos iddynt fod yr efengyl i
bawb ac nid oes unrhyw un yn cael
eu gwahardd o’n gwasanaethau.
Mae’r oedfaon yn wahanol i’r
rhelyw, ac mae ychydig o ganu a
fawr ddim pregethu, ond ceir llawer
o fyfyrdodau ar bynciau perthnasol
drwy ddefnyddio ffilm a chelf,
sgwrs a gweddi.
Mae Kath yn gweithio ar gyfer ei
BTh, yn y coleg, ac ynghyd a’i phriod
Carl, mae’n riant i dri phlentyn sy’n
cynnwys Tia, merch chwech oed
gydag anableddau difrifol.
Er bod y coleg yn ychwanegu at
brysurdeb Kath, dywed fod y coleg
yn ynys werdd o gyfeillgarwch
yng nghanol yr wythnos sy’n rhoi
cyfle iddi ganolbwyntio ar Dduw a’i
hanghenion hi yn y weinidogaeth.
Fel y gwelwch, mae gan y Coleg
logo gwefan newydd hefyd.
Crëwyd y ddau gan Mike Leach
Design yn Abertawe, sydd wedi
gweithio’n amyneddgar gyda ni
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
i ddwyn newidiadau i’r modd y
byddwn yn cyflwyno’n hunain yn
gyhoeddus.
Gobeithiwn bydd y logo yn
adlewyrchu mor ganolog
yw’r groes ym mhopeth
a wnawn yn Ffordd
Richmond, Caerdydd, a
gyda’r partneriaid niferus sy’n
cynorthwyo ein myfyrwyr wrth
baratoi ar gyfer y weinidogaeth.
Bwriadwyd y lliwiau coch a
gwyrdd i ddangos ein gwreiddiau
Cymreig, er ein bod yn dathlu’r
ffaith fod ein myfyrwyr yn dod
o bell ac agos, a bod y myfyrwyr
eraill yn cael blas ar fywyd
eglwysig mewn gwledydd tramor.
Gobeithiwn fod y logo yn cyfleu’r
syniad fod ffyrdd amrywiol i
mewn i’r weinidogaeth Gristnogol
a bod cenhadaeth yn bosibl oddi
fewn i’r coleg. Mae’r llwybrau hyn
yn cynnig y dewis o hyfforddiant
ar gyfer y weinidogaeth ynghyd
a pharatoi ar gyfer gradd uwch.
Ceir gwybodaeth hefyd am
syniadau newydd i’r sawl sy’n
ystyried bod yn bregethwyr
lleyg, gweinidogion lleyg, a
chenhadon sydd am arloesi.
Ceir manylion am hyn ar wefan
newydd ar www.swbc.
org.uk - efallai fod un o’r
darpariaethau hyn yn llwybr y
mae Duw am i chi ei ystyried
yn ystod y flwyddyn sy’n dod.
Newyddion o blith y myfyrwyr.
Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd
54-58 Heol Richmond, Caerdydd CF24 3UR
Ffôn: 029 2025 6066 | Ebost: [email protected]
4