Download - Llyfryn D - Hyfedredd
MynediadSylfaenCanolraddUwch
Hyfedredd
Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr
Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
CroesoShwmae, a chroeso i’ch Llyfryn D!! Nod y llyfryn hwn yw eich helpu ymgyfarwyddo â’ch cwrs, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi ynghylch beth i’w ddisgwyl yn ystod y misoedd nesaf. Bydd hi’n rhoi gwybod i chi am gynnwys eich cwrs hefyd. Felly, ar ôl darllen y llyfryn hwn, byddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi gwneud y gwaith yma o’r blaen neu beidio! Cofiwch – does dim asesu ffurfiol ar ein cyrsiau Hyfedredd.
Dych chi’n gwybod eich bod chi’n gallu dylanwadu ar yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu? Trwy’r Daith Iaith, bydd cyfle gyda chi feddwl am 2 darged y tymor, a bydd eich tiwtor yn eich helpu chi gyrraedd y targedau hyn yn y gwersi.
Os oes problem gyda chi’n setlo i mewn i’ch cwrs, siaradwch â’ch tiwtor yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni o hyd, edrychwch ar y Siart Llif Data yn y llyfryn hwn fydd yn rhoi gwybod i chi ble i fynd i gael help. Ar dudalen Y 5 uchaf, byddwch chi’n gweld ychydig o gyngor ynghylch dysgu Cymraeg.
Hefyd mae tudalen gyda ni ar Ddysgu Anffurfiol. Mae dysgu anffurfiol yn rhoi’r cyfle i chi i siarad Cymraeg y tu allan i’ch dosbarth. Dyma le byddwch chi’n wir dysgu sut i siarad Cymraeg! Os dych chi’n mynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd, byddan nhw’n dod yn rhan annatod o’ch proses ddysgu. Mae dywediad gyda ni yn y Gymraeg - “Dyfal donc a dyrr y garreg.” Mae hyn yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith. Cofiwch – Ymarfer Ymarfer Ymarfer!!!!!
Hefyd ceir ychydig o wybodaeth am Iechyd a Diogelwch.
Gwelwch hefyd fanylion am y sefydliadau Cymraeg sydd ar gael yn ardal Gwent a fydd yn gallu eich helpu ddod o hyd i ragor o gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg neu yn darparu cyfle i chi i wneud cyfnod o brofiad gwaith yn Gymraeg!!
Dyn ni wedi cynnwys nifer o wefannau allanol a fydd o gymorth i chi wneud astudio priefat/ychwanegol hefyd. Gofynnwn ni i’ch dosbarth benodi cynrychiolydd dosbarth i helpu i’ch grŵp roi adborth i ni yn y Ganolfan. Dyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau a’ch awgrymiadau, a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i newid pethau os oes angen i wella’ch profiad dysgu.
Cyn diwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn dweud wrthoch chi beth fyddwch chi’n ddysgu ar y cwrs Hyfedredd y flwyddyn nesaf. Bydd eich tiwtor yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y cwrs nesaf hefyd!
Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg cymaint â phosibl. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi ar ddechrau’r cwrs, neu os oes unrhywbeth sydd yn eich poeni ynghylch eich iechyd a diogelwch, siaradwch â staff y ganolfan lle mae’ch cwrs yn cael ei gynnal. Os ydych chi’n dysgu mewn neuadd pentref, neu rywle lle nad oes aelodau o staff o gwmpas, dych chi’n gallu cysylltu â fi, Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod.
Mwynhewch eich cwrs!!!!
Sean
[email protected] 01495 333701
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Manylion y CwrsAr y lefel hon bydd pob dosbarth Hyfedredd ag anghenion gwahanol. Ond y nod cyffredinol yw datblygu sgiliau presennol y dysgwyr ymhellach er mwyn eu symud o fyd y dysgwyr i fyd y Cymry Cymraeg. Er mwyn gwneud gweithgareddau fydd yn diwallu anghenion penodol y grŵp dan sylw rhoddir pwyslais mawr ar hyblygrwydd y cwrs ac oherwydd hyn addesir cynnwys y gwersi’n benodol ac yn arbenigol ar gyfer y grŵp. Defnyddir ystod eang o adnoddau er mwyn diwallu gofynion y dosbarth. Defnyddir Ffeil Hyfedredd CBAC sy’n cynnwys pum uned: Cyflwyno, Cyfieithu a Thrawsieithu, Crynhoi a Gwerthuso, Project Ymchwil ac Ysgrifennu Graenus yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau a deunyddiau eraill i wella rhugledd aelodau’r cwrs ymhob un o’r medrau.
Bwriedir defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau er mwyn sicrhau y codir sgiliau y dysgwyr. Bydd y cwrs yn adolygu’r holl gystrawennau a gyflwynwyd hyd yn hyn. Defnyddir nifer o lyfrau/adnoddau gramadegol (yn eu plith):
• Llenwi Bylchau – Politechnig Cymru • Defnyddiau Gloywi – CBAC • Deunyddiau Gloywi Hyfedredd CBAC 1 & 2 gan gynnwys hen bapurau Uwch a Hyfedredd • Taclo’r Treigladau - David Thorne• Cymraeg Graenus - Phylip Brake• Cwrs Meistroli Canolfan Caerdydd • Adnoddau Y Banc - Acen• Adnoddau Y Tiwtor• Yn ogystal defnyddir erthyglau o Golwg, Golwg 360, Barn, Sgrîn, Y Cymro a gwefannau
perthnasol• Ar gyfer gweithgareddau deunyddiau clyweled defnyddir (yn eu plith):• Gwrando’n Astud – CBAC • Gwylio’n Graff• Eclips – Cymru a Chymreictod• Deg o’r Adeiladau Pwysicaf yng Nghymru – Dr John Davies
Edrychwch ar y gwefannau yma:
• www.learnwelsh.org.uk• http://gwent.ybont.org• www.s4c.co.uk• www.bbc.co.uk• www.canolfanpeniarth.org/CBAC/• www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/cymarfer_CC/index.php.cy• www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/geiriadur• http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/fideoscymorthcyflym/• www.golwg360.com• www.geiriaduracademi.org• www.cysgliad.com• www.cronfacio.co.uk
Gwefannau defnyddiol
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Cym
orth
i dd
ysgu
Colli
dos
bart
h?
Prob
lem
au
ynga
nu
Prob
lem
au
gyda
’r cw
rs
Siar
adw
ch â
’ch ti
wto
r / c
ynry
chio
lydd
do
sbar
th. O
s by
dd y
pr
oble
m h
eb e
i dat
rys
ffon
iwch
Sea
n D
risc
oll
0149
5 33
3701
Siar
adw
ch â
’ch ti
wto
r. Ew
ch i
Y Bo
nt a
de
fnyd
dio’
r adn
odda
u ar
-lein
. Myn
ychu
Cy
rsia
u Ys
gol U
ndyd
d a
Phen
wyt
hnos
sy’
n ca
el e
u ha
nelu
tuag
at
ado
lygu
. Ast
udio
pr
eifa
t.G
ofyn
nwch
i’ch
ti
wto
r am
hel
p yc
hwan
egol
. G
wyl
iwch
S4C
a
gwra
ndew
ch a
r Ra
dio
Cym
ru a
Cds
y
Cwrs
Pa fa
th o
gym
orth
syd
d ar
gae
l?
Os
oes
genn
ych
unrh
yw b
ryde
ron
o ra
n Ie
chyd
a
Dio
gelw
ch, c
ysyl
ltw
ch â
Ste
ffan
Web
b st
effan
.web
b@co
legg
wen
t.ac.
uk n
eu 0
1495
333
735
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Para
toi t
uag
at
Arh
olia
d
Ana
bled
dau
Ana
wst
erau
e.
e. D
ysle
xia
/ D
ysle
csia
Cym
orth
i dd
ysgu
Mae
’r cy
mor
th a
r gae
l i
ddys
gwyr
y n
odw
yd b
od
gand
dynt
ana
wst
erau
dy
sgu
ac s
ydd
ange
n cy
mor
th y
chw
aneg
ol w
rth
ddys
gu C
ymra
eg. E
falla
i y
bydd
wch
hef
yd y
n ga
llu c
ael
amse
r ych
wan
egol
mew
n ar
holia
dau.
Byd
d an
gen
i chi
ga
el e
ich
ases
u ne
u dd
arpa
ru
tyst
iola
eth
fedd
ygol
. Mae
an
gen
i ddy
sgw
yr g
wbl
hau
Ffur
flen
B.
Traf
odw
ch g
yda’
ch
tiw
tor.
Myn
ychu
cy
rsia
u ad
olyg
u i’c
h pa
rato
i ar g
yfer
yr
arho
liad.
Ast
udio
pr
eifa
t. Cy
syllt
wch
â’
r Cyd
-lyny
dd
arho
liada
u Ca
trin
Ca
mer
on 0
1495
33
3782
Traf
odw
ch g
yda’
ch
tiw
tor n
eu g
yda
staff
yn
g N
ghan
olfa
n y
cwrs
. Os
bydd
pro
blem
yn
par
hau,
cys
yllt
wch
â
Sean
Dri
scol
l 014
95
3337
01
5Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Sut i gael y gorau o’ch cwrs: y 5 uchaf!
Cofiwch fwynhau!
1. Dewch i bob gwers bosib yn brydlon Os ydych yn absennol oherwydd salwch neu wyliau, gadewch i’ch tiwtor wybod cyn gynted ag y bo modd. Yn achos absenoldeb annisgwyl, bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi. Mae colli 4 gwers heb ymddiheuriad yn golygu colli’ch lle ar y cwrs.
2. Ansicr o rywbeth? Wedi colli gwers neu wersi? Ansicr o rywbeth? Peidiwch â phoeni mae help wedi cyrraedd! Gofynnwch i’ch tiwtor helpu gydag unrhyw waith dal i fyny. Cofiwch ymweld â Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychwch Ysgolion Undydd a Chyrsiau Penwythnos a pheidiwch ag anghofio edrych ar yr holl wefannau Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.
3. Cadwch eich gwaith a’ch Taith Iaith mewn ffeil
4. Cofiwch eich gwaith cartref!
5. Manteisiwch ar gyrsiau atodol a dysgu anffurfiol Mae’r Ganolfan yn trefnu cyrsiau undydd a phenwythnosau rheolaidd. Dyma ffordd wych i helpu’ch dysgu. Bydd eich tiwtor yn rhoi taflen i chi ar ddechrau’r cwrs ac yn eich atgoffa am y cyrsiau hyn; maent yn boblogaidd iawn! Mae hefyd gyrsiau wythnos - sef yr Ysgolion Haf. Cyfle gwych i wella’ch Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel!
Tu fas i’r dosbarthOeddech chi’n gwybod bod Dysgu Anffurfiol yn gyfrifol am 80% o’n dysgu - dim ond 20% sy’n dod o’r ystafell ddosbarth?Dyma pam mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. O foreau coffi i glybiau darllen, teithiau i lefydd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru i bartÏon Haf a Nadolig - Mae’r cyfleoedd yma i chi. Felly cadwch lygad allan am ddigwyddiadau yn eich ardal chi!
Rydym yn cynnal Cyrsiau Penwythnos drwy gydol y flwyddyn ar Gampws Pont-y pŵl Coleg Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys 14 awr o wersi gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol, gan roi amser i chi adolygu patrymau blaenorol a ddysgwyd yn y dosbarth.
Mae Ysgolion Haf yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’n nhw’n ffordd berffaith i orffen y flwyddyn, a bydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i’r cam nesaf. Os ydych yn dilyn cwrs newydd, yna mae’n ffordd dda o ddechrau eich taith ddysgu Cymraeg. Dewch i gwrdd â dysgwyr eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr â chi. Gofynnwch iddynt am awgrymiadau o ran dysgu Cymraeg a sut y mae’r profiad wedi bod ar eu cyfer. Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys 30 awr o ddysgu dros gyfnod o bum diwrnod
Mae Ysgolion Undydd yn cael eu trefnu gan ein Partneriaid ac yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwent. Maent yn cynnwys 5 awr o ddysgu ar ddydd Sadwrn.
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn credu mewn gwrando ar farn dysgwyr ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr i gael ymwneud yn uniongyrchol wrth asesu a llunio eu profiadau dysgu eu hunain wrth ddysgu Cymraeg. Rydym am i chi wybod y byddwn yn gwrando ar eich barn ac y byddant yn gwneud gwahaniaeth.
Sut y gallwch chi gymryd rhan? • Cwblhau’r “Taith Iaith” • Cael eich ethol fel Cynrychiolydd Dosbarth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y Fforwm
Taith Iaith:
Trwy broses y “Taith Iaith”, byddwch yn cael y cyfle i osod 2 darged y tymor, a bydd y tiwtor yn eich helpu i gyrraedd y targedau hynny yn ystod y gwersi.
Cynrychiolwyr Dosbarth:
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob dosbarth yn ethol o leiaf un Cynrychiolydd Dosbarth. Yna, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwahanol sesiynau sydd wedi eu cynllunio i’w cefnogi yn eu rôl, ee gan sicrhau bod cynrychiolwyr yn cynrychioli barn y dosbarthiadau. Bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu gwahodd i gyfarfod panel y dysgwyr / grŵp ffocws neu ateb holiadur byr syml gyda chymorth eu cyd-aelodau dosbarth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, cysylltwch â’ch tiwtor neu Antoni Morgan, Swyddog Llais y Dysgwr ar 01495 333710.
Llais y Dysgwr
Yn ystod y cwrs Hyfedredd cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Arholiadau
Peidiwch â phoeni mae cymorth ar gael!! Bydd eich tiwtoriaid yn eich paratoi chi yn dda ar gyfer yr arholiadau yn y dosbarthiadau wythnosol. Ond cofiwch hefyd am ein cyrsiau adolygu. Bydd y cyrsiau yma yn canolbwyntio ar basio arholiadau – sut i godi marciau, yn hytrach na’u colli. Bydd cyfleoedd i ymarfer y cyfweliadau llafar – sef y rhan bwysicaf o’r arholiad. Cewch chi adborth unigol oddi wrth y cyfwelwyr hefyd!
Bydd cyfle i chi i wneud profiad gwaith am ddiwrnod neu ddau fel rhan o’r prosiect arholiad mewn nifer o lefydd yng Ngwent. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
Gofynnwch i’ch tiwtor am wybodaeth am yr arholiadau yma. Maen nhw’n werthfawr iawn, yn enwedig i’r rhai ohonoch chi sy eisiau ennill cymhwyster. Rhowch darged i’ch hunain i sefyll a phasio un o’r arholiadau yma. Os dych chi’n dysgu yn y gweithle, cofiwch, dwy iaith, dau ddewis.
Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r arholiadau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr i ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.
Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 os oes angen cyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym bob amser
yma i’ch helpu chi ar eich taith ddysgu.
Yn ystod y cwrs Hyfedredd cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Ydych chi ar y lefel iawn? Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau darganfyddwr lefel ar-lein y BBC - www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/level_test/
Sefydliadau CymraegHoffech chi brofiad gwaith mewn sefydliad Cymraeg?
Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol:
1) Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent Gwefan: www.learnwelsh.org.uk Ffôn: 01495 333710
2) Menter Iaith Caerffili Gwefan: www.menteriaithcaerffili.org Ffôn: 01443 820913
3) Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy Gwefan: www.menterbgtm.org Ffôn: 01495 755861
4) Siop y Ganolfan Gwefan: www.siopyganolfan.co.uk Ebost: [email protected] Ffôn: 01685 373770
4) Y Dalen Newydd Gwefan: www.dalennewydd.com Ebost: [email protected] Ffôn: 07712705985