Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 1
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Mae’n bleser gennym gyflwyno hwn, yr un-ar-ddegfed bwletin blynyddol ar
berfformiad awdurdodau lleol. Mae’r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am
amrediad o wasanaethau awdurdodau lleol. Rydym wedi defnyddio’r data i
amlygu lefel gyffredinol ac amrediad perfformiad ar hyd a lled Cymru. Mae’r
set ddata lawn ar gael ar ein gwefan.
Rydym hefyd wedi diweddaru pecyn rhyngweithiol newydd sy’n gadael i’r
cyhoedd, cynghorwyr, swyddogion a phartneriaid gymharu perfformiad
cynghorau ledled Cymru a thros amser yn rhwydd. Cafodd “FyNghyngorLleol”
(www.fynghyngorlleol.info) ei ddylunio i fod yn sythweledol ac yn hawdd ei
ddefnyddio er mwyn i’r wybodaeth berfformiad allweddol ddiweddaraf i 22
cyngor Cymru fod yn fwy hygyrch.
Perfformiad cyffredinol
Ar lefel Cymru, mae 65% (26) o’r 40 o ddangosyddion sy’n gymaradwy
rhwng 2014-15 a 2015-16 yn dangos gwelliant.
Cafodd y bwlch mewn perfformiad (rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio
orau a’r rhai gwaethaf) ei gulhau mewn 59% (23) o’r dangosyddion.
Yn achos 41% (16) o’r dangosyddion, gwellodd perfformiad a chulhaodd y
bwlch rhwng yr awdurdodau sy’n perfformio orau a’r rhai gwaethaf.
Gwelliant gwasanaethau
Yn aml, awdurdodau lleol yw un o gyflogwyr mwyaf ardal gan ddarparu
amrediad o wasanaethau i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae’r
tabl isod yn dangos perfformiad y gwasanaethau hyn yn 2015-16 o’u
cymharu â 2014-15.
Maes Gwasanaeth
Nifer y dangosyddion
cymaradwy
% o ddangosyddi
on lle gwellodd
perfformiad
% o ddangosyddion lle culhawyd y
bwlch
% o ddangosyddion
lle gwellodd perfformiad a chulhawyd y
bwlch
Addysg 11 91% 64% 55%
Gofal
Cymdeithasol
16 (15) 69% 73%* 50%*
Tai 2 0% 50% 0%
Amgylchedd a
Thrafnidiaeth
6 67% 67% 33%
Cynllunio a
Gwasanaethau
Rheoleiddio
2 50% 0% 0%
Hamdden a
Diwylliant
2 0% 0% 0%
Iechyd
Corfforaethol
1 0% 0% 0%
Cyffredinol 40 (39)* 65% 59%* 41%*
* Nid oedd un dangosydd (SCA/002a) yn gymharol rhwng awdurdodau
lleol, ac felly newidwyd nifer y dangosyddion cymharol lle bo angen.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 2
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Perfformiad dros amser
Mae perfformiad awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwella’n gyson dros y
blynyddoedd diwethaf.
Y llynedd fe wnaethom adrodd bod 63% o’r dangosyddion perfformiad
cymaradwy wedi dangos gwelliant dros y cyfnod hynnu, a bod pob awdurdod
wedi gwella neu cynnal ei perfformiad mewn mwy na hanner y dangosyddion.
Yn 2015-16, mae 65% o’r dangosyddion cymaradwy yn dangos gwelliant ar
lefel Cymru.
Ar lefel lleol, o’r 40 dangosydd sydd yn gymaradwy rhwng 2014-15 a 2015-
16, gwellodd Rhondda Cynon Taf mewn 29 (73%), tra wnaeth Sir Fynwy
wella mewn 16 (40%).
Perfformiad cymharol ar draws Cymru
Tra bod gwelliant eithafol yn bwysig, bydd gan dinasyddion ddiddordeb mewn
sut mae eu hawdurdod yn cymharu ag eraill. Yn gyffredinol yn 2015-16,
roedd gan Bro Morgannwg fwy o ddangosyddion yn y chwarter uchaf o
awdurdodau lleol Cymru, tra roedd gan Casnewydd y lleiaf.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 3
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Ar y tudalennau sy’n dilyn fe welwch wybodaeth manwl am berfformiad
awdurdodau lleol wrth iddynt ddarparu canlyniadau pwysig i’n cymunedau.
Nodyn
Mae teitlau dangosyddion perfformiad wedi cael eu symleiddio i
gynorthwyo dealltwriaeth.
Rydym wedi talgrynnu’r data lle mae hyn yn gwneud cymharu yn haws.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 4
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Darparu amgylchedd glân a diogel…
Awdurdodau lleol sy’n sicrhau bod y mannau lle rydym yn byw ac yn gweithio
yn lân ac yn ddiogel.
Ledled Cymru, roedd 96.5% o briffyrdd a thir perthnasol a archwiliwyd o
safon uchel neu dderbyniol yn 2015-16 (o’u cymharu â 96.9% in 2014-15).
Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yn Sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf i
89.6% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cododd level glendid ym Merthyr Tudful 5.1 pwynt canran, tra roedd y level
glendid yng Ngeredigion yn 5.7 pwynt canran yn llai na llynedd.
Yn 2015-16, roedd 11.2% o holl ffyrdd mewn cyflwr “gwael” cyffredinol o’u
cymharu ag 11.9% yn 2014-15.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 5
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Roedd canran yr holl ffyrdd mewn cyflwr “gwael” cyffredinol yn amrywio o
4% yn Sir y Fflint i 19% ym Mhowys.
Mae cyflwr ffyrdd wedi gwell’n flynyddol ers 2011-12.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 6
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Roedd 3.7% o ffyrdd dosbarth A mewn cyflwr “gwael” yn 2015-16 o’u
cymharu â 4.1% yn 2014-15, ac yn amrywio o 1.4% yn Nhorfaen i 7.2% yn
Rhondda Cynon Taf.
Am ffyrdd dosbarth B, roedd 4.3% mewn cyflwr “gwael” yn 2015-16 o’u
cymharu â 5.0% in 2014-15, yn amrywio o 1.5% yn Sir y Fflint i 8.8% ym
Merthyr Tudful, ac am ffyrdd dosbarth C roedd 15.9% mewn cyflwr “gwael”
o’u cymharu â 17.2% in 2014-15, yn amrywio o 5.2% ym Merthyr Tudful i
25.1% ym Mhowys.
Roedd gan 85.6% o oedolion 60 mlwydd oed neu’n hŷn cherdyn bws rhatach
(o’u cymharu â 85.8% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 96.5% yng
Ngaerdydd i 68.6% ym Mhowys.
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol difrifol sy’n gallu achosi
halogi hirdymor, llygredd a pheri risg i iechyd dynol. Mae’n ofynnol i
awdurdodau lleol lanhau digwyddiadau tipio anghyfreithlon graddfa fach ar
dir cyhoeddus o fewn pum niwrnod ar ôl iddynt gael eu hadrodd. Yn 2015-16,
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 7
Llywodraeth Leol ~ Cymru
cafodd 95.3% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon a adroddwyd i
awdurdodau lleol eu clirio o fewn pum niwrnod gwaith (o’u cymharu â 93.1%
yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 99.8% yng Ngheredigion i 67.7% yng
Nhastell Nedd Port Talbot.
Gwnaeth awdurdodau gynnal eu perfformiad wrth ddiogelu’r bwyd rydym yn
ei fwyta, gyda 94.2% o sefydliadau bwyd yn dal i “gydymffurfio’n fras” â
safonau hylendid bwyd yn 2015-16. Roedd hyn yn amrywio o 90.2% yn
Nhorfaen i 98.7% ar Ynys Môn.
O hybu effeithlonrwydd ynni, i sicrhau bod adnoddau’n cael eu hailddefnyddio
a’u hailgylchu, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan fawr mewn helpu i
sicrhau’r dyfodol am y genhedlaeth nesaf.
Awdurdodau lleol sy’n casglu ac yn prosesu ein gwastraff. Mae’r lle sydd ar
gael ar gyfer tirlenwi yng Nghymru yn prysur ddirwyn i ben ac mae trethi
tirlenwi yn golygu na allwn fforddio parhau i anfon gwastraff i dirlenwi. Gall
tirlenwi achosi llygredd i aer, pridd a dŵr. Bydd datblygu dulliau o atal
gwastraff, lleihau’r gwastraff sy’n mynd i dirlenwi a chynyddu ailgylchu,
compostio a threulio anaerobig yn cael effaith arwyddocaol ar ein gallu i
oresgyn newid yn yr hinsawdd.
Yn 2015-16, anfonwyd 18.1% o’r gwastraff trefol a gafodd ei gasglu gan
awdurdodau lleol i dirlenwi, o’i gymharu â 29.4% yn 2014-15. Roedd hyn yn
amrywio o 5.3% yn Sir Gaerfyrddin i 37.8% yn Abertawe.
Nodyn: Mae sefydliad sy’n “cydymffurfio’n fras” yn un lle nad oes unrhyw
broblemau arwyddocaol o ran hylendid bwyd. Diffinnir y term “cydymffurfio’n fras” yn llawn yn yr arweiniad i ddangosyddion perfformiad ar ein gwefan.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 8
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Mae canran y gwastraff a anfonwyd i dirlenwi wedi parhau i ostwng yn
raddol ers 2012.
Cafodd 60.2% o’r gwastraff trefol a gasglwyd ei ailddefnyddio neu ei
ailgylchu yn 2015-16 o’i gymharu â 56.2% yn 2014-15. Roedd hyn yn
amrywio o 68.1% yng Ngheredigion i 48.7% ym Mlaenau Gwent.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 9
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Mae canran y gwastraff sydd wedi ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu wedi
parhau i wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 10
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Darparu tai fforddiadwy a phriodol…
Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i’w chwarae mewn sicrhau bod
cyflenwad digonol o dai fforddiadwy i ddiwallu’r angen sydd wedi ei nodi. Tai
fforddiadwy oedd 36% o’r holl unedau tai ychwanegol a ddarparwyd yn
ystod 2015-16 (o’u cymharu â 41% yn 2014-15).
I bobl anabl o bob oedran, mae tai yn ddull allweddol o alluogi byw yn
annibynnol. Mae tai wedi eu haddasu yn galluogi pobl i gadw eu
hannibyniaeth, aros yn eu cymunedau ac arfer dewis o ran sut maent yn
byw eu bywydau. Gall Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl helpu tuag at gost
addasu cartref rhywun sy’n anabl.
Cymerodd awdurdodau lleol gyfartaledd o 241 diwrnod i ddarparu Grant
Cyfleusterau i’r Anabl yn 2015-16 (o’u cymharu â 231 o ddyddiau yn 2014-
15); y codiad cyntaf yn y dangosydd hwn ers 2010-11.
Yn 2015-16, roedd nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd i ddarparu Grant
Cyfleusterau i’r Anabl yn amrywio o 133 o ddyddiau yn Sir Ddinbych i 340 o
ddyddiau yn Abertawe.
Nodyn: Y diffiniad cyffredinol o fforddiadwyedd yw gallu aelwydydd i brynu eiddo sy’n diwallu anghenion yr aelwyd heb unrhyw gymhorthdal
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 11
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Yn ystod y cyfnod, lleihaodd 14 o’r 22 awdurdod lleol nifer y dyddiau maent
yn eu cymryd i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Mae tai gwag yn ddarpar adnodd tai sydd, o bosibl, yn cael ei
danddefnyddio ar hyn o bryd. Gall tai gwag fod yn ffocws lefelau uwch o
drosedd, fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd
cyffuriau. Cafodd 11.1% o anheddau sector preifat gwag hirdymor eu
dychwelyd i ddeiliadaeth drwy weithredu uniongyrchol gan awdurdodau lleol
yn 2015-16 (o’u cymharu â 11.8% yn 2014-15); y gostyngiad cyntaf yn y
dangosydd hwn ers 2005-06.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 12
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Roedd hyn yn amrywio o 42.5% yn Nhorfaen i 1.6% ym Mhowys.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 13
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Cefnogi bywydau diogel ac annibynnol…
Mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth i
rai o’r bobl hawsaf eu niweidio yn ein cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn
cefnogi tua 100 mil o bobl yn y gymuned neu mewn cartrefi preswyl pob
blwyddyn.
Mae ‘cynllun gofal’ yn disgrifio’r amrediad o wasanaethau sy’n cael eu
sefydlu i ddiwallu anghenion gofal unigolion. Dylai’r rhain gael eu
hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu
darparu yn parhau i fod yn briodol. Adolygwyd 83% o gynlluniau gofal a
ddylai fod wedi eu hadolygu yn ystod y flwyddyn o’u cymharu ag 80% yn
2014-15.
Amrywiodd canran y cynlluniau gofal a adolygwyd o 97.2% yn Sir y Fflint i
68.3% ym Mlaenau Gwent.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 14
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl
hawsaf eu niweidio yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.
Rheolwyd y risg i’r unigolyn mewn 97% o gyfeiriadau amddiffyn oedolion a
dderbyniwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2015-16 (o’u cymharu ag 96%
yn 2014-15) – y pumed gwelliant blynyddol olynol am y dangosydd hwn.
Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint,
Ceredigion, Sir Benfro, Castell Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Rhondda
Cynon Taf a Thorfaen i 91.1% ym Mlaenau Gwent.
Mae oedi wrth drosglwyddo gofal – a elwir hefyd yn “blocio gwelyau” – yn
digwydd pan fydd rywun nad oes angen triniaeth ysbyty arno mwyach yn
methu â gadael yr ysbyty i ddychwelyd i’w gartref ei hun neu leoliad gofal
cymdeithasol, fel cartref preswyl. Yn 2015-16 adroddwyd y gyfradd oedi
trosglwyddiadau oherwydd rhesymau gofal cymdeithasol fel 4.87 am bob
1,000 o’r boblogaeth 75 mlwydd oed neu’n hŷn – codiad arall ar y ffigur a
adroddwyd yn 2014-15.
Gwellhaodd y gyfradd oedi trosglwyddiadau gofal mewn 9 o’r 22 awdurdod
lleol ar draws Cymru.
Amrywiodd y gyfradd oedi trosglwyddiadau gofal rhwng 0.82 am bob 1,000
o’r boblogaeth 75 mlwydd oed neu’n hŷn yng Nghonwy i 11.18 am bob
1,000 yng Nghaerdydd.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 15
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Cafodd 91.4% o ofalwyr oedolion sy’n hysbys i’r gwasanaethau
cymdeithasol gynnig asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn 2015-16 (o’u
cymharu â 88.3% yn 2014-15).
Amrywiodd y ganran o ofalwyr a gynigwyd asesiad neu adolygiad o’u
hanghenion o 100.0% yng Wrecsam, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell
Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf i 66.2% ym Merthyr
Tudful.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 16
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Arhosodd awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn cysylltiad a 93.2% o’r
bobl ifanc 19 oed a fu’n derbyn gofal ganddynt. Yn 2015-16, roedd yn
hysbys bod 93.5% o’r bobl ifanc 19 oed a fu’n derbyn gofal o’r blaen roedd
yr awdurdod mewn cysylltiad â nhw mewn llety addas, heb fod yn llety
argyfyng, o’u cymharu â 93.1% yn 2014-15.
Roedd hyn yn amrywio o 100.0% ar Ynys Môn, yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint,
Powys, Ceredigion, Bro Morgannwg, Caerffili, a Blaenau Gwent i 80.0% yn
Sir Fynwy.
Yn 2015-16, roedd 60.7% o’r bobl ifanc hyn mewn addysg, hyfforddiant neu
waith i’w gymharu â 59.5% yn 2014-15. Roedd hyn yn amrywio o 87.5% yn
Sir y Fflint i 30.8% yn Nhorfaen.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 17
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Diogelu plant…
Mae awdurdodau lleol yn derbyn tua 35 mil o gyfeiriadau mewn perthynas â
phlant bob blwyddyn. Maent yn darparu amrediad o gefnogaeth i sicrhau
bod plant yn aros yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i gyflawni’r gorau y
gallant mewn bywyd.
Mae’n bwysig bod barn plant yn cael ei chymryd i ystyriaeth wrth gynllunio
am eu gofal. Mae tystiolaeth i’r plentyn gael ei weld ar ei ben ei hun mewn
49.5% o asesiadau cychwynnol o'i gymharu â 44.8% yn 2014-15. Roedd
hyn yn amrywio o 88.8% yn Sir Benfro i 19.8% ym Mro Morgannwg.
Fel rhieni corfforaethol mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol yn sicrhau
diogelwch a lles plant sy’n derbyn gofal, a sicrhau eu bod yn cael yr un
cyfleoedd â’u cymheiriaid.
Yn 2015-16, digwyddodd 88.1% o ymweliadau statudol â phlant sy’n derbyn
gofal yn unol â’r rheoliadau (o’u cymharu ag 87.7% yn 2014-15).
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 18
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Amrywiodd canran ymweliadau statudol â phlant sy’n derbyn gofal yn unol
â’r rheoliadau o 98.4% yn Sir Benfro i 77.6% yn Nhorfaen.
Cydnabyddir bod sefydlogrwydd yn bwysig i les plant mewn gofal. Cafodd
9.8% o blant sy’n derbyn gofal dri neu fwy o leoliadau yn ystod 2015-16
(o’u cymharu â 9.0% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 5.9% yn
Rhondda Cynon Taf i 14.9% yn Sir Gaerfyrddin.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 19
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Yn 2015-16, cafodd 90.3% adolygiadau plant eu cynnal o fewn amserlenni
statudol (o’u cymharu ag 88.9% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o
99.2% yng Nghasnewydd i 81.0% yn Abertawe.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 20
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Addysgu plant…
Mae ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn addysgu tua 460 mil o
blant bob blwyddyn.
Mae presenoldeb da yn bwysig er mwyn i blant ddysgu. Yn 2015-16, cododd
presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru o 94.8% i
95.0%.
Dros yr un cyfnod, cododd presenoldeb ysgolion uwchradd o 93.6% i
93.9%.
Parhaodd y sgôr pwyntiau cyfartalog i ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a
gynhelir gan awdurdodau lleol i godi (am y nawfed blwyddyn yn olynol) i
539 o bwyntiau.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 21
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Amrywiodd y sgôr pwyntiau cyfartalog o 617 o bwyntiau yng Ngwynedd i
449 ym Mlaenau Gwent.
Cafodd 11.9% o blant sy’n derbyn gofal brofiad o un neu fwy o newidiadau
ysgol yn y 12 mis diwethaf (o’u cymharu â 13.5% yn 2014-15). Roedd hyn
yn amrywio o 3.8% yng Nghonwy i 20.6% yn Sir Fynwy.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 22
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Gwelwyd gostyngiad yn sgôr pwyntiau cyfartalog plant mewn gofal o 276 o
bwyntiau yn 2014-15 i 269 o bwyntiau yn 2015-16; y gostyngiad cyntaf yn
y dangosydd hwn ers 2007-08.
Yn 2015-16, roedd yn amrywio o 504 o bwyntiau yn Sir Benfro i 161 o
bwyntiau yng Ngheredigion.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 23
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Cododd canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2,
mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a gyflawnodd y Dangosydd
Pynciau Craidd unwaith eto o 86.4% yn 2014-15 i 88.1% yn 2015-16.
Roedd hyn yn amrywio o 92.5% yn Sir Fynwy i 83.3% yng Nghastell Nedd
Port Talbot.
Dros yr un cyfnod, cododd canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd
Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a
gyflawnodd y Dangosydd Pynciau Craidd hefyd o 81.2% i 84.1%. Roedd hyn
yn amrywio o 91.3% yng Ngwynedd i 77.8% yng Nhastell Nedd Port Talbot.
Yn 2015-16, cyflawnodd 58.3% o ddisgyblion y trothwy lefel 2, gan
gynnwys gradd TGAU A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a
Mathemateg. (o’u cymharu â 55.5% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o
66.9% yn Sir Fynwy i 47.7% ym Mlaenau Gwent.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 24
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Ledled Cymru, derbyniodd 17.8% o’r disgyblion a aseswyd Asesiad Athro yn
y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (o’u cymharu â
17.2% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 83.2% yng Ngwynedd i 0.0%
ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Yn 2015-16, gwnaeth 0.2% o’r holl blant a adawodd addysg orfodol yn 15
neu’n 16 oed (heb fynd ymlaen i addysg amser llawn, hyfforddiant neu
ddysgu seiliedig ar waith) adael heb gymhwyster cydnabyddedig (o’u
cymharu â 0.3% yn 2014-15).
I blant mewn gofal, gadawodd 0.5% o blant heb gymhwyster
cydnabyddedig (o’u cymharu â 1.2% yn 2014-15) – y perfformiad gorau ar
gyfer y dangosydd hwn.
Nodyn: Does dim Ysgolion Uwchradd Cymraeg ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy na Chasnewydd..
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 25
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Mae gan awdurdodau lleol rwymedigaethau statudol o ran asesu a rhoi
datganiad, i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol
Arbennig (AAA) yn derbyn cefnogaeth briodol i’w galluogi i gyrraedd eu
potensial. Fel arfer dylai datganiadau AAA fod wedi eu sefydlu o fewn 26
wythnos ar ôl cais am asesiad (mewn rhai achosion eithriadol, gall hyn
gymryd mwy o amser).
Cafodd 68.1% o’r holl ddatganiadau eu rhoi o fewn 26 wythnos yn 2015-16
(o’u cymharu â 64.5% yn 2014-15). Roedd hyn yn amrywio o 100.0% yng
Ngheredigion, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent i
10.5% yng Nghastell Nedd Port Talbot.
Dros yr un cyfnod, rhoddwyd 94.5% o ddatganiadau (heb gynnwys
eithriadau) o fewn 26 wythnos (o’u cymharu â 95.6% yn 2014-15).
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 26
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Cefnogi Hamdden a Diwylliant…
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn darparu amrediad o wasanaethau
sy’n cynnig cyfleoedd hamdden a diwylliannol i’r bobl yn eu cymunedau.
Yn 2015-16, roedd 8,409 o ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a
hamdden awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn am bob 1,000 o’r
boblogaeth lle bydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch
corfforol. Mae hyn yn cymharu ag 8,657 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn
2014-15.
Amrywiodd ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a hamdden o 16,306 am
bob 1,000 o’r boblogaeth ym Mlaenau Gwent i 5,331 am bob 1,000 o’r
boblogaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot.
Roedd 5,374 o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y flwyddyn
am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2015-16 o’u cymharu â 5,526 am bob
1,000 o’r boblogaeth yn 2014-15. Roedd hyn yn amrywio o 8,660 y 1,000
yng Nghaerdydd i 3,249 y 1,000 yng Nghasnewydd.
Note: Nid yw “llyfrgelleodd cyhoeddus” yn cynnwys llyfrgelloedd sy'n cael eu cynnal gan ymddiriedolaeth allanol neu gyngor cymuned
Nodyn: Mae “Canolfannau chwaraeon Awdurdod Leol” yn cynnwys canolfannau ar gontract i ymddiriedolaeth allanol neu gyngor cymunedol
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 27
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Iechyd Corfforaethol Mae cynghorau lleol ar draws Cymru yn cyflogi tua 130 mil o bobl.
Yn 2015-16, gollwyd cyfartaledd o 10.2 diwrnod/shifft gwaith fesul
gweithiwr llawn amser oherwydd salwch. Roedd hyn yn amrywio o 6.6
diwrnod ym Merthyr Tudful i 12.0 diwrnod ar Ynys Môn.
Perfformiad Llywodraeth Leol 2015-16
Bwletin a gynhyrchwyd gan Uned Ddata Tudalen 28
Llywodraeth Leol ~ Cymru
Manylion cyswllt Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r bwletin
hwn cysylltwch â:
Richard Palmer
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru
029 2090 9500
Cyhoeddir y set ddata gyflawn o ddangosyddion perfformiad ar ein gwefan
(www.unedddatacymru.gov.uk).
Nodiadau
Un o swyddogaethau pennaf Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru yw
casglu, prosesu, dehongli a lledaenu data ystadegol am wasanaethau a
gweithgareddau llywodraeth leol i gefnogi gwella llywodraeth leol.
Mae’r dangosyddion a enwir yma yn rhan o’r Fframwaith Gwella Perfformiad
ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r dangosyddion yn adlewyrchu
blaenoriaethau allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol
yng Nghymru.
Cafodd data’r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol, sy’n is-set o’r data a
ddefnyddir yma, ei gasglu a’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Seilir gwerthoedd Cymru ar y data sylfaen a gyflwynwyd gan yr awdurdodau.
Lle na fydd awdurdodau wedi cyflenwi eu data sylfaen, nid yw eu ffigurau yn
cyfrannu at werthoedd Cymru.
Lle bo’n briodol, talgrynnwyd data at ddibenion y bwletin hwn. Mae’r set
ddata gyflawn ar gael ar ein gwefan www.unedddatacymru.gov.uk.
Cewch hyd i FyNghyngorLleol ar www.MyLocalCouncil.info lle cewch dewis
iaith.
Mae dogfennau canllaw mewn perthynas â setiau dangosyddion 2015-16 ar
gael ar ein gwefan hefyd (Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus) ac ar wefan
Llywodraeth Cymru (Dangosyddion Strategol Cenedlaethol). Mae’r rhain yn
rhoi diffiniad manwl am bob un o’r dangosyddion ynghyd â’i ddosbarthiad
h.y. Dangosydd Strategol Cenedlaethol neu Fesur Atebolrwydd Cyhoeddus.
Mae’r lliwiau a ddefnyddir yn y siartiau graddio perfformiad wedi eu seilio ar
yr amrediad o werthoedd DP. Mae’r lliwiau’n dangos sut mae perfformiad yr
awdurdod yn cymharu ag eraill: █ - Perfformiad yn y chwarter uchaf o awdurdodau
█ - Perfformiad yn y chwarter canolog uchaf o awdurdodau
█ - Perfformiad yn y chwarter canolog isaf o awdurdodau
█ - Perfformiad yn y chwarter isaf o awdurdodau
Mewn siartiau ystod perfformiad, mae glas yn cynrychioli gwerth DP Cymru,
mae gwyrdd yn dangos y gwerth DP am berfformiad gorau awdurdod lleol, ac
mae coch yn dangos y gwerth DP am berfformiad gwaethaf awdurdod lleol.