defnyddio amser yn ddoeth...bwysig defnyddio’r amser yma i ystyried ein ffyrdd o gyfathrebu yn...

8
Yn y cyfnod sydd ohoni mae llawer yn gorfod aros adref gan geisio dod o hyd i weithgarwch gwahanol i’r arferol. Daeth geiriau’r Salmydd i gof. “Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.”(Salm 90 12). O safbwynt ein Cyfundeb caraf eich sicrhau ein bod fel swyddogion canolog y corff yn ceisio gweithredu’n ddoeth mewn cyfnod annisgwyl a hollol eithriadol. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i’r eglwysi i’w weld ar ein gwefan ac yn y broses o gael ei ddosbarthu. Gyda diolch i’r Ysgrifennydd Cyffredinol a holl swyddogion y Gymanfa Gyffredinol mae yn tynnu eich sylw at faterion ymarferol ac yn rhoi gwybod ein bod yn ceisio cefnogi’r cyfeillion sydd yn gwneud eu gorau i fod yn ofalus o’n pobl mewn ysbytai a chartrefi henoed. Fe fydd ein heglwysi yn gwerthfawrogi ystyriaeth y Swyddogion o’r sefyllfa ariannol yn lleol mewn cyfnod pan mae pob adeilad ar gau. Y penderfyniad ar hyn o bryd ydi ad-dalu i’r eglwysi cyfwerth a 25% o’r Cyfraniad Gweinidogaeth a Chenhadaeth Cyfundebol am y chwarter Ebrill i Gorffennaf. Bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu yn rheolaidd ac fe fyddwn yn ceisio ymateb fel daw newidiadau i’n rhan. Mae’r cyngor yn ceisio atgoffa ein heglwysi o’r pwysigrwydd o gadw dfir yn iach yn ein hadeiladau drwy sicrhau fod unrhyw ddfir sy’n sefyll yn y pibellau/systemau ar hyn o bryd yn cael eu fflysio drwodd nes dod o hyd i gyflenwad ffres. Mae apêl hefyd i gofio am sefyllfa tenantiaid yn ein heiddo gan ystyried eu hanghenion mewn cyfnod heriol. O safbwynt ein capeli gwag. Er nad ydi cwmni yswiriant (Congregational & General) yn mynnu y dylai rhywun ymweld â’r adeilad yn wythnosol efallai mai doeth byddai cadw golwg er mwyn diogelwch a rhag unrhyw ddifrod. Gobeithiaf i chwi gytuno fod y rhain oll yn gamau doeth. Yn bersonol rwyf yn falch o’r cyfle i edrych ar hen ffeiliau llawn o bapurach sydd wedi bod yn eistedd ar silffoedd fy swyddfa gartref am rhy hir! Pleser o’r mwyaf ydi eu chwynnu gan ailgylchu unrhyw bapur nad yw’n ddefnyddiol bellach. Caraf awgrymu fod hyn yn syniad da nid yn unig yn fy swyddfa ond yn ein holl ffyrdd o weithredu fel cymunedau o ffydd mewn dyddiau newydd. Doeth yn wir byddai ystyried a ydi’r ffordd rydym wedi arfer gwneud pethau yn berthnasol i’r dyfodol. Wedi clywed cymaint yn siarad am fwynhau cadw cysylltiad rheolaidd gyda theulu a chyfeillion tros ff n traddodiadol a’r holl gyfryngau gweledol digidol. Teimlaf fod hyn yn agor y drws fwyfwy i ystyried sut i ddefnyddio’r cyfryngau hyn yn ein cenhadaeth naturiol i’r dyfodol. Mae’n amlwg fod nifer o blant sydd yn gaeth gartref wedi bod yn defnyddio rhai o’r pecynnau addysgiadol sydd wedi eu paratoi gan rhai o’n gweithwyr (a diolch iddynt). Mewn oes pan mae plant yn arfer derbyn addysg trwy’r cyfrifiadur mae’n bwysig defnyddio’r amser yma i ystyried ein ffyrdd o gyfathrebu yn effeithiol i’r dyfodol. Ie, Arglwydd “dysg ni i gyfrif ein dyddiau” ac er dy fwyn deall sut i weithredu’n ddoeth yn ein cyfnod. Pob bendith. Parch Marcus Wyn Robinson, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol. Y bocs sebon … t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 18 DYDD GWENER, MAI 1, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Defnyddio Amser yn Ddoeth Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd y lloer a’r ser a roddaist yn eu lle… Beth yw meidrolyn, i ti ei gofio? (Salm 8) Dirfodaeth ddoe? Dirfodaeth heddiw? Weithiau dwi’n gorwedd yn effro yn y nos yn gofyn, Pam dwi yma? “Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.” (Salm 90 12)

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Yn y cyfnod sydd ohoni mae llawer yngorfod aros adref gan geisio dod o hyd iweithgarwch gwahanol i’r arferol. Daethgeiriau’r Salmydd i gof. “Felly dysg ni igyfrif ein dyddiau, inni gael calonddoeth.”(Salm 90 12).

    O safbwynt ein Cyfundeb caraf eichsicrhau ein bod fel swyddogioncanolog y corff yn ceisio gweithredu’nddoeth mewn cyfnod annisgwyl ahollol eithriadol. Mae’r wybodaethddiweddaraf i’r eglwysi i’w weld ar eingwefan ac yn y broses o gael eiddosbarthu. Gyda diolch i’rYsgrifennydd Cyffredinol a hollswyddogion y Gymanfa Gyffredinolmae yn tynnu eich sylw at faterionymarferol ac yn rhoi gwybod ein bodyn ceisio cefnogi’r cyfeillion sydd yngwneud eu gorau i fod yn ofalus o’npobl mewn ysbytai a chartrefi henoed.

    Fe fydd ein heglwysi yn gwerthfawrogiystyriaeth y Swyddogion o’r sefyllfaariannol yn lleol mewn cyfnod pan maepob adeilad ar gau. Y penderfyniad arhyn o bryd ydi ad-dalu i’r eglwysicyfwerth a 25% o’r CyfraniadGweinidogaeth a ChenhadaethCyfundebol am y chwarter Ebrill iGorffennaf. Bydd y sefyllfa yn cael eiadolygu yn rheolaidd ac fe fyddwn ynceisio ymateb fel daw newidiadau i’nrhan.

    Mae’r cyngor yn ceisio atgoffa einheglwysi o’r pwysigrwydd o gadw dfir

    yn iach yn ein hadeiladau drwy sicrhaufod unrhyw ddfir sy’n sefyll yn ypibellau/systemau ar hyn o bryd yn caeleu fflysio drwodd nes dod o hyd igyflenwad ffres.

    Mae apêl hefyd i gofio am sefyllfatenantiaid yn ein heiddo gan ystyried euhanghenion mewn cyfnod heriol. Osafbwynt ein capeli gwag. Er nad ydicwmni yswiriant (Congregational &General) yn mynnu y dylai rhywunymweld â’r adeilad yn wythnosol efallaimai doeth byddai cadw golwg er mwyndiogelwch a rhag unrhyw ddifrod.

    Gobeithiaf i chwi gytuno fod y rhain ollyn gamau doeth. Yn bersonol rwyf ynfalch o’r cyfle i edrych ar hen ffeiliaullawn o bapurach sydd wedi bod yneistedd ar silffoedd fy swyddfa gartref

    am rhy hir! Pleser o’r mwyaf ydi euchwynnu gan ailgylchu unrhyw bapurnad yw’n ddefnyddiol bellach. Carafawgrymu fod hyn yn syniad da nid ynunig yn fy swyddfa ond yn ein holl ffyrdd

    o weithredu fel cymunedau o ffyddmewn dyddiau newydd. Doeth yn wirbyddai ystyried a ydi’r ffordd rydymwedi arfer gwneud pethau ynberthnasol i’r dyfodol.

    Wedi clywed cymaint yn siarad amfwynhau cadw cysylltiad rheolaiddgyda theulu a chyfeillion tros ff�ntraddodiadol a’r holl gyfryngaugweledol digidol. Teimlaf fod hyn ynagor y drws fwyfwy i ystyried sut iddefnyddio’r cyfryngau hyn yn eincenhadaeth naturiol i’r dyfodol.Mae’n amlwg fod nifer o blant syddyn gaeth gartref wedi bod yndefnyddio rhai o’r pecynnau

    addysgiadol sydd wedi eu paratoi ganrhai o’n gweithwyr (a diolch iddynt).

    Mewn oes pan mae plant yn arferderbyn addysg trwy’r cyfrifiadur mae’nbwysig defnyddio’r amser yma i ystyriedein ffyrdd o gyfathrebu yn effeithiol i’rdyfodol.

    Ie, Arglwydd “dysg ni i gyfrif eindyddiau” ac er dy fwyn deall sut iweithredu’n ddoeth yn ein cyfnod. Pobbendith.

    Parch Marcus Wyn Robinson,Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

    Y bocs sebon … t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    CYFROL CXLVIII RHIF 18 DYDD GWENER, MAI 1, 2020 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Defnyddio Amser yn Ddoeth

    Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd y lloer a’r ser aroddaist yn eu lle… Beth yw meidrolyn, i ti ei gofio? (Salm 8)

    Dirfodaeth ddoe? Dirfodaeth heddiw?Weithiau dwi’n gorwedd yn effroyn y nos yn gofyn, Pam dwi yma?

    “Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,inni gael calon ddoeth.” (Salm 90 12)

  • Rhyddid a ChyfrifoldebFe hoffwn ddiolch yn fawr i’r Parch.Ddr.John Tudno Williams am ei adolygiad(Goleuad 14.02.2020) ar lyfr LlionWigley, Yr Anymwybod Cymreig. Pangyhoeddwyd y llyfr y llynedd prynaisgopi – a chael rhannau ohono yn anodd.“Seicdreiddiad|”? Fy niffyg i, nid yrawdur.

    Cefais adolygiad Dr. Williams yn gymorthi weld undod y llyfr a’i amrywiaethcyfoethog. Ac yn deffro atgofion.

    Clywais sôn am ddirfodaeth (neu“existentialism”) gyntaf ymhell yn ôl yn1950. Bûm mewn ysgol haf y FabianSociety yn Ffrainc, nid nepell o’rbrifddinas. ‘Roedd yno siaradwyrarbennig a M. Ramadier, y cynbrifweinidog yn eu plith, yn trafod sefyllfaEwrop wedi’r rhyfel – a’r gobeithion i’rdyfodol. A bu sawl cyfeiriad at feddylwyradain chwith, megis Jean-Paul Sartre acAlbert Camus. Pell, pell yn ôl.

    Ond, a neidio deng mlynedd, a minnauyn fy ngofalaeth gyntaf, tynnodd cyfaill fysylw at Gynhadledd Athrofa’r Bala ymmis Mai 1960, a’r testun, un gair,Dirfodaeth. A dyma ddechrau deall nadmaterion o bwys i dramorwyr Marcsaidd

    di-gred oedd hyn, ond perthnasol, acefallai yn her hefyd i’r Cristion.

    Mae rhaglen y Gynhadledd o fy mlaen,ynghyd â phentwr o nodiadau (na allaf,bellach, mo’u darllen na’u deall) wedi eucadw’n ddiogel yng nghefn un o’r llyfraugosod, sef Existential Thought 1955, ganRonald Grimsley, Aberystwyth.Athronydd, gyda llaw, y mae LlionWigley yn ei ganmol yn ei lyfr yn 2019.

    Y darlithydd gwadd oedd Mr. JohnGwilym Jones, Bangor, yn cael ei ddilyngan chwech o weinidogion y Corff arfaterion megis dirfodaeth adiwinyddiaeth, y dyn syrthiedig, yreglwys a’r Cristion, ac i gloi, pregethudirfodol. A thrafodaeth i ddilyn pob darlith– a bu trafod brwd.

    Cedwais hefyd ddau doriad o’r Goleuad.Llythyr hir gan y Parch. Harri Williams,Bangor yn sôn am y ddadl rhyngddo efa’r Parch. S.O.Tudor am y gair Cymraegcywir am “existentialism”, ynghyd âthudalen o adroddiad am y Gynhadleddgan y Parch. J.R.Roberts, Penycae.Gwerthfawr yn wir, a hanes amarweinwyr y Corff yn cymryd dirfodaetho ddifrif.

    Wrth drafod meddylwyr o Gymru, megisMyrddin Lloyd, J. R. Jones a HarriWilliams, dywed Llion Wigley (tud. 120)“…bu syniadau Sartre a dirfodwyrmodern eraill yn ganllaw ac arweiniadsy’n parhau yr un mor werthfawrheddiw”.

    Ond beth am heddiw gyda’i wacter ystyra’i bryderon? Yn ddiddorol, ac efallai ynarwyddocaol, y mae’r gair “existential” ynair poblogaidd, yn gam neu’n gymwys,ar y cyfryngau. Un dydd, wrth baratoihyn o lith, gwelais y gair mewn ysgrif

    flaen yn y Guardian, a’i glywed wedynyn newyddion hwyr y B.B.C. A chyd-destun y ddau oedd Feirws Corona.

    Cyfoes? Delio y mae o hyd a dirgelion, aphwysigrwydd bodolaeth. Ac fel y dywedWigley – y mae’n ddyrys.

    Fel eraill ‘rwyf i’n cael dirfodaeth yn fwyfel agwedd (attitude) neu ymdeimlad, ynhytrach na chyfundrefn athronyddol.

    Mewn oes dorfol, arch-fasnachol ceisiopwysleisio gwerth a phwysigrwydd pobunigolyn y mae dirfodwyr. A phob un ynei ryddid, ei ddewis, a’i gyfrifoldeb.

    Dewis anodd yw yn aml; nid mater o ddua gwyn yw. ‘’The Moral Maze’” yw enwun rhaglen drafod boblogaidd ar y radio.Ond bodau cyfrifol ydym oll.

    Yn ei lyfr God’s Theatre, cawn T. J.Goringe yn defnyddio delweddau sy’ngymorth i mi. Nid eistedd megiscynulleidfa yn gwylio a gwrando ydym nii fod, ond ar y llwyfan, lle mae’r ddramayn digwydd. A’r dramodydd, ycynhyrchydd a’r actorion mewnperthynas greadigol a’u gilydd.Digwyddiad byw, a phawb a’i ran –a’i gyfrifoldeb.

    A heddiw, yn nyddiau Brexit, Corona, aphryder am barhad y greadigaeth, ymae pwyslais dirfodaeth – Bod – yn einherio i fod yn weithredol a chyfrifol. Ac, i’rCristion, y cyfan gerbron Duw.

    Diolch i Llion Wigley am ei gyfrolgyfoethog. Braidd gyffwrdd un rhan ynunig ydw’i yma. Haedda ei ymchwil sylwgofalus pawb ohonom.

    Arthur Meirion Roberts

    2 Y Goleuad Mai 1, 2020

    Y BOCS

    SEBON

    Prosiect Omwabini a Bangor

    Cafodd y clybiau CIC gyflwyniad gan Mr Alun Prichard ynglªn â’i waith arbenniggyda phrosiect yng Nghenia o’r enw Omwabini, gair Swahili sy’n golygu “camauachub”.

    Prif amcanion y project yw helpu pobl dlawd drwy:

    • rhoi to uwch eu pennau• sicrhau eu bod yn gallu tyfu bwyd i gynnal eu hunain• sicrhau fod ganddynt ddfir glân i’w yfed.

    Bydd y plant a’r Ieuenctid yn codi arian dros y misoedd nesaf i gefnogi’r project.

    Owain Davies

    Mea CulpaYmddiheuriad. Mae hyd yn oed yGolygyddion mwyaf trylwyr yn llithro arbrydiau! A llithrodd golygydd y Goleuadyr wythnos diwethaf drwy briodolierthygl gan y Parch Emlyn Richards i’rParch Arthur Meirion Roberts.Ymddiheurwn yn fawr am y llithriad.

    CydymdeimloDerbyniwyd y newyddion ar 15 Ebrillam farwolaeth Syr John Houghton.Yn wreiddiol o Ddyserth, dringodd iuchelfannau ei faes gan fod ynbennaeth Physeg Atmosfferig ymMhrifysgol Rhydychen. Ef oeddllywydd y Panel ar Newid Hinsawdd aenillodd y wobr Nobel. Ond heblawam fod yn wyddonydd uchel ei barchac ymhlith y cyntaf i adnabodperyglon cynhesu byd-eang roeddyn flaenor gostyngedig a gweithgaryn ei gynulleidfa yn Aberdyfi.Cawn gyfle yn y man i dderbyngwerthfawrogiad o’i gyfraniad.Estynnwn ein cydymdeimlad a’ideulu a’i gynulleidfa.

  • Gwers 33 – Sul, 10 Mai

    Ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi

    (Caneuon Ffydd, 522)

    Obadeia

    “Ond ym Mynydd Seion bydd rhaidihangol a fydd yn sanctaidd;meddianna tª Jacob ei eiddo’i hun.”(Obadeia 1:17, tud. 267 yn y Gwerslyfr)

    Darllen: Obadeia 1–21; Effesiaid2:1–10

    Gweddi: O fryniau Caersalem ceir gweled holl daith yr anialwch i gyd, pryd hyn y daw troeon yr yrfa yn felys i lanw ein bryd;cawn edrych ar stormydd ac ofnau ac angau dychrynllyd a’r bedd, a ninnau’n ddihangol o’u cyrraedd yn nofio mewn cariad a hedd. Amen

    (Caneuon Ffydd, 747)

    ‘Daw eto haul ar fryn.’ Ydych chi wedisylwi ar yr ymadrodd yma’nddiweddar? Neges syml, nad yw’rcyfyngder presennol am barhau ambyth. Mae teimlad tebyg i’n hadnod ytro hwn: na fydd y trychineb presennolyn parhau, ond yn hytrach, ‘ymMynydd Seion bydd rhai dihangol’.Ymddengys fod Obadeia (enw sy’n

    golygu ‘gwas’ neu ‘addolwr IAFE’) ynysgrifennu yn y cyfnod wedi i’rgaethglud ddechrau, oherwydd ceirbeirniadaeth o Edom, gwlad gyfagos,sy’n manteisio ar Jwda yn ei gwendid.Mae’r feirniadaeth am iddi sefyll o’rneilltu tra anrheithiwyd Jwda: ‘Ni ddylitsefyll ar y groesffordd i ddifa euffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo’rrhai a ddihangodd ar ddydd gofid.’(adn. 14)Yn wyneb y trychineb ddaeth i ran

    Jwda, mae Obadeia yn cyhoeddi’nhyderus nad Duw Jwda yn unig ywIAFE, ond Duw’r holl genhedloedd, acmai ef fydd yn eu barnu yn ôl eugweithredoedd. Mae adlais o eiriau Iesuyma, mai â’r mesur y rhoesant ybyddant yn derbyn: ‘Fel y gwnaethost tiy gwneir i ti’ (adn. 15). Ond, wrth gwrs,dychwelyd barn arnynt yw’r byrdwnyma, sy’n rhybudd i ni wrth feddwl amMathew 7:1–6.Yna, daw newid sydyn yn y

    cyweirnod gydag un o eiriau pwysicaf yBeibl: ‘Ond …’ Yng nghanol y gwae ymae gwaredigaeth a llwybr i’rdychweledigion, y rhai dihangol. Er nawelodd Obadeia gyflawni eibroffwydoliaeth, mae yma gysgod o’rGroes, mai ar fynydd Seion yr enilloddIesu’r frwydr, rhwygo’r llen, ac arwainy ffordd yn ôl i ni i bresenoldeb Duw:‘Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny iFynydd Seion … a bydd y frenhiniaethyn eiddo i’r ARGLWYDD’ (adn. 21).

    Mae yna ‘OND’ mawr arall yn yr ailbennod o Lythyr Paul at yr Effesiaid.Fel Obadeia, mae’n dechrau â’r farnsydd arnom i gyd: ‘Bu adeg panoeddech chwithau yn feirw yn eichcamweddau a’ch pechodau’ (2:1).Mae’n dangos mai ein rhan yn y bydyma yw bod o dan deyrnasiad ‘tywysoggalluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd ynawr ar waith yn y rhai sy’n anufudd iDduw’ (2:2). Yn yr awr dywyllaf daw’r‘Ond’: ‘Ond gan mor gyfoethog ywDuw yn ei drugaredd, a chan fod eigariad tuag atom mor fawr.’Gweithreda Duw o’i gariad a’i fawr

    drugaredd ac nid yn ôl ein haeddiant;trwy ffydd a gras Duw mae’r breintiausy’n eiddo i Grist drwy ei ufudd-dod yndod i’n rhan ni. Cawn ein hunain, drwyffydd yn Iesu, yn cael ein codi o feirwyn fyw gydag ef, i gydeistedd ag ef yn ySeion nefol. A’r fraint ryfeddol o gaelmwynhau’r bywyd nefol hwn yn awr,wrth fyw ein bywyd o weithredoedd da,ein hymateb i’w waith ef ynom, traydym yn cerdded y bywyd hwn.

    Trafod ac ymateb:

    1. Yn wyneb yr ofnau sy’n cydio einbyd heddiw, a oes gennych olwg arFynydd Seion, a gwaith gorffenedigIesu?

    2. Ydych chi wedi profi ‘Ond’ mawrDuw yn eich bywyd? Os nad ydych,yna dyma gyfle i’w geisio ynwirioneddol. Os ‘do’ yw eichtystiolaeth, yna rhannwch eichprofiad â’r rhai sydd yn ofnusheddiw.

    3. Myfyriwch ar emyn David Charles,‘Mae ffrydiau ’ngorfoledd yntarddu’ (Caneuon Ffydd, 747).Gweddïwch ar i hyn fod yn wir yneich profiad chwi.

    Mai 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

    gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

    sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

    Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

    Gair o WeddiGweddi pan mae’r dyfodol ynteimlo’n ddigalon ac ansicr

    Pryd fydd y cyfan yn gorffen, Arglwydd?Pryd fydd yr hunllef yma’n dod i ben?Rydym yn clywed y bydd y sefyllfa’n gwaethygu cyn gwellagyda mwy o farwolaethaua nifer y rhai sy’n dioddef o’r haint yn dal i gynyddu,ar waetha pob ymdrech i rwystro hyn.

    Ond rydym yn cael addewid hefydy bydd yr afiechyd yma’n cyrraedd penllanw yn y diwedd,ac y gallwn wedyn ddechrau ailafael yn ein bywydau,ailadeiladu’r economi,gan obeithio y byddwn yn gallu dychwelyd i ryw fath onormalrwydd yn raddol.

    Ond, fydd hynny’n digwydd,neu fydd y feirws yma’n gyndyn o gilio,yn anoddach i gael gwared ohono nag roeddem wedi eiddychmygu?Dydyn ni ddim yn gwybod.Rho’r amynedd i ni wneud pa aberth bynnag sydd ei hangen,waeth pa mor hir fydd y cyfnod yma.Rho inni’r nerth a’r penderfyniad,cryfder a doethinebi ymateb yn synhwyrol i ba her bynnag fyddwn yn eihwynebu.A helpa ni i gadw’r ffydd,waeth pa mor ddiderfyn mae’r twnnel yn ymddangos,y byddwn, yn y diwedd, yn gweld golau yn y pen draw.Amen.

    Nick Fawcett

    Addasiad Cymraeg Ioan ac Owenna Hughes (oddi ar y dudalenFacebook: Gair o Weddi)

  • Saith deg pum mlynedd yn ôl, ar 9 Ebrill1945, crogwyd Dietrich Bonhoeffer, ydiwinydd Lutheraidd o’r Almaen, gydachwe aelod arall o’r cynllwyn iddymchwel Adolf Hitler, yng ngwersylldienyddio Flossenbürg yn yr Almaen.Roedd yn 39 oed.

    O’i flynyddoedd olaf fel myfyriwr ynBerlin hyd at ei farwolaeth ar grocbren yNatsïaid yn Flossenbürg, roedd y mudiadeciwmenaidd yn ganolog i Bonhoeffer.Yn ystod y blynyddoedd hyn,cyflawnodd sawl rôl wahanol: diwinyddac athro academaidd, hyrwyddwr mwyafblaenllaw’r Eglwys Gyffesol, gweinidog,cyfarwyddwr seminarau ac – yn fwyafdramatig a dadleuol – cyfranogwr parodym mudiad gwrthsafiad yr Almaen a’rcynllwyn i ddymchwel Hitler. Ond eiymrwymiad i’r mudiad eciwmenaidd a’iran weithredol ynddo sy’n ffurfio’r llinynmwyaf cyson yn ei fywyd a’iweithgaredd ac sy’n cysylltu eiymrwymiadau amrywiol. RoeddBonhoeffer yn ffrind i Willem Visser ’tHooft, a fyddai’n dod yn ysgrifennyddcyffredinol cyntaf Cyngor Eglwysi’rByd, a byddai’n ymweld ag ef yngNgenefa yn ystod blynyddoedd y rhyfelgan ddod â newyddion iddo am ygwrthwynebiad i Hitler, ond hefyd yntrafod materion fel y goblygiadaueciwmenaidd sydd i fedydd.

    Bonhoeffer a’r hyn y mae’n ei olygu ifod yn eglwys

    Daeth Bonhoeffer â’i ddiwinyddiaeth eihun i’r mudiad, diwinyddiaeth a luniwydganddo yn ei draethawd doethuriaethSanctorum Communio gyda’i gysyniadsylfaenol o’r eglwys: “Crist yn bodoli felcymuned”. Credai Bonhoeffer fod yreglwys yn gorff o bobl mewn perthynasâ’i gilydd wedi’u casglu ynghyd o dan airCrist – Crist fel y’i canfyddir yn ei waitho “weithredu cynrychioliadol dirprwyol”– ac y mae ei haelodau, yn sgil hynny,wedi ymrwymo i’w gilydd yn yr unberthynas honno. Nid oeddgan Bonhoeffer “ddiwinyddiaetheciwmenaidd” heblaw am yddealltwriaeth hon o’r hyn mae’n eiolygu i fod yn eglwys, ar y raddfaehangaf, yn wir yn fyd-eang.

    I Bonhoeffer, eciwmeniaeth oeddyr alwad hefyd yn y bôn i gyhoeddiac ymgorffori heddwch yn y byd.Felly, gwelwn ef yng nghyn -hadledd eciwmenaidd Fanø ym 1934yn Nenmarc yn cyhoeddi eiapêl drawiadol ar i eglwysi’r byd,fel y “cyngor eciwmenaidd” mawra oedd yn dal i eistedd, gyhoeddi

    galwad i’r cenhedloedd i roi eu harfaui lawr.

    Yr Eglwys Gyffesol a’r mudiadeciwmenaidd

    Serch hynny, er ei holl ymrwymiad iddo,yr oedd Bonhoeffer ar rai adegau ynanghyffyrddus â symudiad eciwmenaiddei ddydd. Ysgrifennwyd ei bapur ‘TheConfessing Church and the EcumenicalMovement’ yn 1935, ar adeg dynged -fennol yn Ymryson Eglwys yr Almaen.Fe’i hysgogwyd yn benodol gan safiadadain Ffydd a Threfn y mudiadeciwmenaidd, nad oedd yn derbyn nac yndeall haeriad yr Eglwys Gyffesol mai hioedd gwir Eglwys Efengylaiddyr Almaen. Ni ellid osgoi cwestiwny gwirionedd gan y mudiadeciwmenaidd, dadleuai Bonhoeffer,gan mai ar y cwestiwn hwnnw yroedd yr Eglwys Gyffesol yn mentro’ibywyd.

    Roedd angen ei gilydd ar y mudiadeciwmenaidd a’r Eglwys Gyffesol,meddai. Yn y papur hwn, cyflwynoddddealltwriaeth o eciwmeniaeth feleglwysi a Christnogion yn yr oikoumeneyn cymryd rhan mewn tystiolaethgyffredin i wirionedd Crist, yn yr hwn ymae eu cyd-ddibyniaeth yn hollbwysig,wedi’i grynhoi mewn un frawddegogoneddus: “nid delfryd [y mudiadeciwmenaidd] sydd wedi’i osodgerbron ond gorchymyn ac addewid –nid gweithredu eich amcanion mawr -eddog eich hun sy’n ofynnol ondufudd-dod.”

    Eglwys i eraill

    Gwelir Bonhoeffer yn aml yn ystodblynyddoedd y rhyfel, o 1940 hyd nes

    iddo gael ei arestio ar 5 Ebrill 1943, felffigwr unig yng nghysgodion tywyll yrasiant dwbl, yn symud i’r arenawleidyddol ac oddi wrth “faterioneglwysig”, â’i unig fynegiant diwinyddoli’w weld wrth iddo ysgrifennu ei Foesegar ei ben ei hun. Ac eto, camddeall natury cynllwyn a gweithgaredd Bonhoefferynddo fyddai hyn. Roedd gwerthoeddCristnogol ei brif hyrwyddwyr wedidylanwadu’n aruthrol ar y gwrth -wynebiad gwleid yddol. Yn wir, bron ygellid ei ddisgrifio fel mudiadeciwmenaidd lleyg ar ei ben ei hun – acar yr ochr Babyddol roedd yn cynnwysnifer dda o glerigion hefyd. Yn ystod ycyfnod hwn dechreuodd Bonhoeffergymryd mwy a mwy o ddiddordeb mewncwestiynau eciwmenaidd a rhyng-eglwysig, rhai rhyng-Brotestannaidd aChatholig–Brotestannaidd.

    Nid yw’r diddordeb hwn yn cael eidewi yn ei ysgrifau carchar ychwaith.Mae ei lythyrau “radicalaidd” yn canoliar y cwestiwn: beth yw ystyr bod yneglwys yn y “byd a ddaeth i’w oed”. Nidoes gan Bonhoeffer gonsýrn am weldCristnogaeth “ddi-eglwys”, yn gymaint âChristnogaeth a ymgorfforir mewneglwys sy’n uniaethu â’r byd,Cristnogaeth heb freintiau crefyddol, gangymryd ffurf Crist yn ei fodolaeth droseraill.

    Mae hyn yn golygu “perthyn yn gyfangwbl” i’r byd, gan gyrraedd y pwynthwnnw o uniaethu dwys â’r byd yn eigryfderau yn ogystal â’i wendidau, eiobeithion yn ogystal â’i ofnau. YngNghrist, mae Duw a’r byd yn unedig, acni ellir cwrdd â Duw na’r byd heb y llall.Yn yr ymgysylltiad hwnnw rhwng ffydda’r byd y mae delw Duw yng Nghrist yncael ei chreu ynom. Wrth rannudioddefiadau Duw yn y byd y dawrhywun yn “fod dynol, yn Gristion”. Maehwn yn wahoddiad i gael eichtrawsnewid, yn gymaint ag i drawsnewid.

    Uwchlaw buddiannau a gwrthdarocenedlaethol

    Ar Sul y Pasg Bach 1945, noswyl eiddienyddiad, mewn ysgoldy ymmhentref Schönberg yn Bavaria,cynhaliodd Bonhoeffer wasanaeth ar gaisei gyd-garcharorion a oedd yn cael eucludo i’r de o wersyll crynhoiBuchenwald. Roedd ei gynulleidfa fachyn cynnwys pobl o wahanolgenhedloedd, o draddodiadau eglwysigamrywiol a heb draddodiad – achlysureciwmenaidd yn wir.

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 1, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dietrich Bonhoeffer:Proffwyd beirniadol y Mudiad Eciwmenaidd

    Llun: Bonhoeffer Bildarchive

    (parhad ar y dudalen nesasf)

  • Prin y mae wedi gorffen pan ddaw dauswyddog o’r Gestapo i mewn:“Carcharor Bonhoeffer, paratowch iddod gyda ni.” Roedd pawb yn gwybodbeth oedd hynny’n ei olygu. Fesibrydodd Bonhoeffer wrth Payne Best,swyddog o Brydain, “Dyma’r diwedd, imi mae’n ddechrau bywyd.” A rhoddoddneges iddo ar gyfer ei ffrind agosaf ynLloegr, George Bell, esgob Chichester:“Dywedwch wrtho fy mod gydag ef yndal o hyd i gredu yn realiti einbrawdoliaeth Gristnogol sy’n codiuwchlaw pob diddordeb a gwrthdarocenedlaethol, a bod ein buddugoliaeth ynsicr.” Roedd geiriau hysbys olafBonhoeffer yn ailddatgan gweledigaethac ymrwymiad eciwmenaidd, y sêl aryrfa gyfan o ymroddiad i’r achos hwnnw.Adeg ei farwolaeth ym 1945, roedd

    Bonhoeffer yn amlwg o flaen ei oes. Abydd yn aros o’n blaenau am amser hir iddod.

    Gellir lawrlwytho llyfr KeithClements oddi ar wefan Oikoumene,Cyngor Eglwysi’r Byd (WCC), dan yradran ‘Resources’ am gyfnod byr eto.Neu gellir dilyn y ddolen a roddir isod osydych yn darllen yr erthygl hon ar ffurfPDF gyda mynediad i’r we: https://www.oikoumene.org/en/resources/publications/dietrich-bonhoeffers-ecumenical-quest-by-keith-clements

    Gan Keith Clements (Cyf. Gol.)

    Mae’r Parch. Ddr Keith Clements yngyn-ysgrifennydd cyffredinol Cynhad leddyr Eglwysi Ewropeaidd, ac yn awdur nifero lyfrau ac erthyglau ar DietrichBonhoeffer, gan gynnwys DietrichBonhoeffer’s Equmenical Quest, agyhoeddwyd gan WCC Publications yn2015. Mae’r erthygl hon wedi’i seilio aranerchiad a roddwyd yn lansiad y llyfryn y Ganolfan Eciwmenaidd ar 4 Mawrth2015, ac a gyhoeddwyd wedi hynnyyn The Ecumenical Review, Gorffennaf2015.

    Mai 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dietrich Bonhoeffer(parhad)

    Oedfa deledu – gwerthfawrogiadOs ydych wedi gwerthfawrogi caelgwasanaeth Cymraeg ar y teledu ar foreSul (a Gwener y Groglith), yna beth amanfon gair o werthfawrogiad at S4C iddweud hynny ac i ofyn iddynt ystyriedparhau â’r ddarpariaeth yma ar ôl i’rcyfwng presennol fynd heibio? Gellirysgrifennu at y cwmni, anfon negesebost at: [email protected] neuadael neges ar eu gwefan o dan ypennawd ‘cysylltwch â ni’. (Gol.)

    Wythnos Cymorth Cristnogol ar lein!Mewn ychydig wythnosau, maepandemig y Coronafirws wedi creunewid rhyfeddol yn ein cymdeithas.Mae’r haint wedi effeithio ar bob

    rhan o fywyd. Daeth â dioddefaint acansicrwydd i gynifer, yma a thramor,gan wthio’i hun i flaen ein meddwl, einsgyrsiau a’n gweddïau. Ac rydyn ni igyd yn gorfod addasu o’i oherwydd.Mae eglwysi Cymru hefyd wedi

    addasu, wrth iddynt gael eu cau allano’u hadeiladu. Ond mae nifer wediymateb i’r her, a bellach ceir gwledd ooedfaon a myfyrdodau ar lein i’n helpui barhau i addoli.Yn yr un ffordd, mae Cymorth

    Cristnogol hefyd yn gorfod addasu. Amy tro cyntaf ers degawdau lawer, niallwn gynnal yr Wythnos CymorthCristnogol arferol ym mis Mai eleni.Ond tydi hynny ddim yn golygu ein bodam wneud dim. Bydd cyfle i gynnal y

    gweithgareddau arferol yn yr hydref,ond mae cyfle i ymuno mewngweithgareddau ar lein ym mis Mai.Mae Trefn Gwasanaeth, Gweddïau aNodiadau Pregeth i gyd yn barod ar eingwefan. Gallwch eu defnyddio ar eichcyfrifiadur neu eich dyfais, neu euhargraffu ar bapur gartref.I’r eglwysi hynny sy’n paratoi

    oedfaon ar lein bob Sul i’w haelodau,beth am ddefnyddio’r ‘TrefnGwasanaeth’ arbennig sy wedi eibaratoi ar gyfer Sul, 10 Mai? Mae’n troi

    o amgylch yr arfer pwysig o olchidwylo.Yn ychwanegol, bydd gennym

    ddefosiwn dyddiol ar fideo ar eincyfryngau cymdeithasol a chwis arFacebook y gall Cymru gyfan ymunoynddo! A does dim yn eich atal rhagcreu eich syniadau codi arian ar leineich hun. Byddem wrth ein bodd yncael dathlu’ch syniadau creadigol.Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth

    Cymorth Cristnogol Cymru dros dro,‘Mae wedi bod yn wych derbynnegeseuon cefnogol gan ein cefnogwyrtuag at ein chwiorydd a’n brodyrdramor, a phobl yn gofyn sut allen nhwbarhau i gefnogi Wythnos CymorthCristnogol mewn cyfnod mor anodd.

    ‘Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwchyn gallu ymuno yng ngweithgarwch yrWythnos ar lein ym mis Mai, wrth innigynnig adnoddau arbennig i’ch helpu iweddïo a chodi arian dros y rhai aeffeithir gan dlodi.‘Nid yw cariad byth yn darfod. Mae’r

    Coronafirws yn ein heffeithio i gyd.Ond mae cariad yn ein huno i gyd.Gadewch inni i gyd uno drosWythnos Cymorth Cristnogol a sefyllmewn undod dros y mwyaf bregus ynein byd.’

    Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddarafa’r adnoddau ar ein gwefan:https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/coronafirws

    Dechrau CanuDechrau Canmol

    Sul, 3 Mai

    Yr wythnos yma cawn fwynhauemynau o bob rhan o Gymru yngnghwmni Nia Roberts.

    Cofiwch hefyd am oedfa DechrauCanu Dechrau Canmol am 11 fore Sular S4C.

    Llun: Tim Cymorth Cristnogol yng Nghymru

    Dymunwn bob bendith i Mari Mcneill (chwith yn y blaen) wrth iddi ddechrau ar gyfnodmamolaeth, ac i Cynan Llwyd (dde yn y cefn) wrth iddo gymryd at gyfrifoldebau

    Pennaeth gweithredol yng Nghymru dros dro. Cadwn y tîm yn gyfan yn ein gweddïauyn ystod y cyfnod hwn.

  • Mae yna un pwynt arall i’w wneud amyr Ysbryd: sef mai ef yw ysbrydcymdeithas. Ef sy’n cyffroi’r cariadsydd gan y Tad a’r Mab tuag at eigilydd, ac mae’n dwyn teulu ynghyd argyfer y Tad. Fel y ceir cymdeithas yny nefoedd, felly y’i ceir ar y ddaearhefyd.

    Ar bob pwynt fe welsom fod gweddiyn syml yn cymryd gafael ar wirioneddCristnogol: ein bod yn anghenus, einbod yn blant i Dduw ac ymlaen. Ond,oherwydd natur ein Duw, dydy’r Ysbrydddim yn ein dwyn ar ein pennau einhunain yng Nghrist at y Tad – mae’n eindwyn ynghyd ato ef fel teulu’r Tad.Felly, fe fyddwn hefyd yn gweddïogyda Christ fel brodyr a chwioryddgerbron ein Tad.

    Yn gryno felly, y bywyd Cristnogolyw’r bywyd o weddi ynghyd: teulu’rTad yn dod at ei gilydd ato ef i rannu ynei ewyllys a’i gonsýrn. Dyma pam,mewn rhai ffyrdd, fod y cyfarfodgweddi yn gymaint o frwydr rhwng ycnawd a’r ysbryd: fyddi di’n colbio dy

    frodyr a’th chwiorydd â’th weddïaumawreddog gan anwybyddu Duwmewn gwirionedd, neu a fyddi di’n

    wirioneddol yn ceisio’r Tad ac ynceisio’i fendith iddyn nhw? Gall fod ynffurfioldeb, yn gyfle i gystadlu â’r nailla’r llall – neu fe all feithrin undod mewnmodd rhyfeddol. Mae hyn yn wir panfyddwn ni’n gweddïo dros rywun aphan fyddwn ni’n gweddïo gydarhywun. Os byddi di’n gweddïo drosrywun sy’n dy wylltio ac yn dygythruddo, fe fyddi di’n ei chael hi’nanoddach o lawer i ddal gafael mewndicter, chwerwder, amheuaeth neugasineb pan fyddi di’n gweddïo drostynnhw. Gall weddïo gyda rhywun hefydfod yn brofiad nerthol. Pan fyddffrindiau yn penderfynu’n ddiffuant iweddïo gyda’i gilydd, efallai’nddigymell, fe fydd modd yn aml iddynnhw synhwyro agosrwyddanghyffredin, teuluaidd, gyda’i gilydd.Yr ydych yn bod yn deulu gyda’chgilydd. Rhannu trugaredd ein Tad ywgweddi dros ein gilydd. Bod yn deuluyw gweddi gyda’n gilydd, ac fefeithrin yr undod hwnnw y mae Duw’nei garu.

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 1, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Yn y gyfres hon byddwn yn cyflwyno rhai penodau o lyfr Michael Reeves, Enjoying your prayerlife (10ofthose publishing) er mwyn ein hybu a’n helpu yn ein bywyd o weddi

    Mwynhau ein Bywyd Gweddi – 10YR YSBRYD YN EIN DWYN YNGHYD MEWN CYMDEITHAS Â DUW

    Llun gan Nathan Dumlao ar Unsplash

    (llun: Barnabas Fund)

    Mae’r ail don o locustiaid ifanc sydd bellach yn ymledu drwyddwyrain Affrica yn fwy o lawer na’r don gyntaf a gafwydddechrau 2020.

    Ofnir y bydd yr ail don o locustiaid ifanc ugain gwaith ynfwy difrifol na’r pla cyntaf a ddinistriodd gnydau dwyrainAffrica ddechrau’r flwyddyn.

    Dywedodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth y CenhedloeddUnedig fod pla’r locustiaid yn Affrica yn parhau i fod yn‘hynod frawychus’ wrth i fwy o heidiau o’r locustiaid difaol

    hyn ffurfio a thyfu yn Kenya, Ethiopia a Somalia. Maedyfodiad yr ail don hon yn digwydd yr un pryd â’r tymorplannu ac yn ‘fygythiad digynsail’ i ddiogelwch bwyd, yn ôl yCenhedloedd Unedig.

    Mae’r tymor glawog yn cynnig amodau bridio delfrydol arhagwelir y bydd heidiau’n deor ac yn aros yn yr unfan. Byddymfudo pellach i Uganda a de Swdan hefyd yn debygol erbyndiwedd mis Mehefin a mis Gorffennaf, pan fydd y cynhaeafnesaf yn barod. Mae’r ail don yn cynnwys mwy o oedolionifanc, a fydd wedi etifeddu tueddiadau’r genhedlaeth flaenoroli heidio ac sy’n fwytawyr arbennig o farus.

    Ffynhonnell: Barnabas Fund, cronfa sy’n cynorthwyoCristnogion dan erledigaeth ar draws y byd

    Ofnau y bydd yr ail don o locustiaid yn Nwyrain Affricaugain gwaith yn waeth na’r don gyntaf

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALENHuw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion a.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yn cael eu cynnwys yn rhano bapurau wythnosol tri enwad, sef Y Goleuad (EglwysBresbyteraidd Cymru), Seren Cymru (Undeb Bedyddwyr

    Cymru) a’r Tyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • Y CAPEL A’R DAFARN

    Mae pawb sy’n gyfarwydd â dinasBangor yn gwybod am Westy’r Belle Vueym Mangor Uchaf. Yn fy nghyfnod iroedd teulu’r Belle Vue yn aelodau yngnghapel y Tfir Gwyn – rhai ohonynt ynarbennig o ffyddlon. Yr oedd ganddyntun arferiad anghyffredin. Yn ystod yremyn cyn y Cymun byddant yn gadael ygwasanaeth yn dawel. Eu rheswm amwneud hynny oedd eu bod fel petaent ynteimlo na ddylent fod yn derbynelfennau’r Cymun ar ôl bod yn darparudiodydd cadarn i’w cwsmeriaid yn ydafarn! Er i mi geisio’u darbwyllo bodIesu yn derbyn pawb wrth ei fwrdd a bodhanesion amdano’n derbyn publicanod aphechaduriaid, doedd dim yn tycio. Dilynesiampl eu mam oedd y teulu cyfan.

    Yn yr un cyfnod, mewn seiat undebol,aeth y drafodaeth i gyfeiriad cau’rtafarndai ar y Sul, gan mai hwnnw oeddy pwnc llosg ar y pryd a’r bobl o blaidagor wedi ennill y dydd. Mentrodd MrT. M. Bassett, darlithydd hanes yn yColeg Normal a hanesydd y Bedyddwyr,

    ddweud mai camgymeriad mawrYmneilltuaeth Cymru oedd gwneudgelyn o’r dafarn. Bu’r hen dafarnGymraeg yn gyrchfan beirdd, llenorionac athronwyr y cylch ac yn ffocws i’rgymdogaeth.

    Trwy Gymru aeth y dadlau yn ffyrnig arhannwyd ardaloedd. Dyfynnwydffeithiau a ffigurau oedd yngamarweiniol. Dadl llawer oedd y byddaiagor y tafarnau yn golygu byw gyda SulCyfandirol; er nad oedd gan nifer fawrohonynt unrhyw brofiad o Sul Cyfandirol.Y gwir yw bod y Sul ar y Cyfandirheddiw yn llawer mwy parchus adefosiynol na’r Sul yng Nghymru, gydagamser yn cael ei neilltuo ar gyferaddoliad, ar gyfer chwaraeon a’r teulu.

    Yn ôl adroddiad panel o esgobion yn yChurch Times dylai’r enwadau, ypleidiau gwleidyddol a’r llywodraeth fodwedi sefydlu rhyw fath o ymgynghoriad iroi llais i’r farn Gristnogol ac i chwilio amffordd ymlaen.

    A yw’n rhy hwyr i geisio ffurfioymgynghoriad o’r fath? Fe fiyr yrawdurdodau secwlar fod yr eglwysierbyn hyn wedi colli tir ac wedi peidio âbod yn rym yn y wlad.

    Er hynny, ein gwaith yw ceisio codipontydd, yn enwedig rhwng y gwahanolffactorau a’r pleidiau fu yng ngyddfau eigilydd cyn y bleidlais. A bu llawer iawn odrais, a bygwth trais dros y blynyddoedders hynny; cafwyd pobl yn ymosod ar eigilydd, a bu cynnydd mewnllofruddiaethau ar strydoedd eindinasoedd. Ffactor newydd a pheryglusyw’r “diwylliant cyllell” sy’n denu plantmor ifanc â deuddeg neu dair-ar-ddegoed i gario cyllell i’w hamddiffyn euhunain.

    ‘Does bosibl nad oes gan yr eglwysirywbeth i’w ddweud yn wyneb y mathyma o feddwl. Wedi’r cyfan, y maentwedi gweithio ymysg plant a phobl ifancers cenedlaethau. Yr oedd grfip o boblifanc yn ymateb i adroddiad yr esgobion

    ac yn cyfeirio’n benodol at bethau syddheddiw’n codi pontydd ac yn hybutrafodaeth. Diolch am gael clywed ambrosiectau, bach a mawr, sy’n estynallan ac yn cyffwrdd bywydau ifanc,ofnus.

    Ond rhaid dechrau ble mae nhw. Nidmynd i dafarn y mae pobl ifanc heddiwond i far. Yn y bar mae’r dodrefn yn fwymoethus, yn fwy modern, ac i lawer unyn fwy soffistigedig. Yno y maent ynteimlo’u hunain yn fwy diogel ac yn fwypwysig. Ond ble bynnag y cyfarfyddwn ânhw, y cyfarfod, nid y man cyfarfod syddyn bwysig.

    Ond yn ôl i Westy’r Belle Vue. Bob nosSadwrn byddai fy rhagflaenydd, y ParchGwilym Wiliams, yn mynd i’r Belle Vue ibrynu ei hoff botel o win coch i gaelgyda’i swper. Yno, wedi ychydig funudauo sgwrs, byddai wedi dod i nabodrhywun o’r newydd a byddai rhan fechano’r wal rhwng tafarn a chapel wedi eithynnu i lawr.

    Elfed ap Nefydd Roberts

    Mai 1, 2020 Y Goleuad 7

    O hwnt ac yma

    Y da a’r diawledig!Nid oes dim byd gwell na chlywed amrhywun, yn rhywle, yn gwneudcymwynas ardderchog â rhywun arallmewn helbul. Clywed am y dyn trwsioceir yn cael galwad i achub dynes mewncar styfnig. Wrth weld ei bathodyn NHS,cytunodd drwsio’r car am ddim! Y nyrsdruan newydd fod yn brwydro cyfnod o12 awr yn erbyn Covid-19; ei char weditorri cyn cyrraedd adref. Go dda fo ynwir – dyn da.

    Dyn oedrannus arall ar ei wely angau yngwrthod mynd i’r ysbyty rhag iddo foamddifadu neb iau na fo o ddefnyddawyrydd ocsigen – aberthu ei hunan.Dyn da a dewr arall yn wir.

    Clywed wedyn am rhywun yn dwyntuniau bwyd o’r banc bwyd yn yrarchfarchnad. Roedd prindercyfraniadau i’r banc bwyd beth bynnag –pawb dros ei hunan bid siwr. Dyn drwgeto!

    Hanes arall am wraig oedrannus abregus yn ateb y drws a chael eipherswadio gan ddynes ifanc oedd amgynnig siopa iddi. Rhoddodd £20 arhestr siopa byr iddi. Ni welodd dim o’isiopa na’i £20 ychwaith ! Yr hen gythrauldrwg!

    Yn bendant mae prinder – rhai yn poeniam y bar sebon nesaf, y botel nesaf oddiheintydd godidog. Eraill yn poeni ameu pryd bwyd nesaf, lle diogel i gaellloches. Cofiwch am Cymorth Cristnogol– rhowch yn hael trwy’r post neu trwy’rWê wrth gwrs – os gwelwch yn dda!

    A ninnau yn parhau I fod yng nghysgody Pasg, rydym yn cofio am un gfir ifanca aberthodd y cwbl, er mwyn i ni gaelbywyd, ni y rhai da a’r rhai drwg. Rhoi’rcwbl dros BAWB.

    Diolch iddo – Amen.

    Llun gan © Philip Halling (cc-by-sa/2.0)

  • • Wythnos nesaf – Neges gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol •

    8 Y Goleuad Mai 1, 2020

    Yn ystod y cyfnod hwn gwerthfawr yw oedi a threulio amser yn myfyrio ar air Duw yng nghwmni’n gilydd.Yr ydym yn dilyn awgrymiadau gan y Llithiadur Diwygiedig Cyffredin am thema a darlleniadau ar gyfer y

    pedwerydd Sul wedi’r Pasg, Mai 3, 2020.

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

    Y Bugail DaGWEDDI

    Arglwydd, wrth dy draed o dysg i mi,beth wyf fi, a phwy wyt ti. Gad i miganfod o’r newydd mawredd dyogoniant, ysblander dysancteiddrwydd, grym dy allu, haelionidy drugaredd yn Iesu Grist. Tyrd atomdrwy’r Ysbryd Glân. Amen.

    EMYN – Caneuon Ffydd 62Yr Arglwydd yw fy Mugail da

    Mae nifer o ddarlleniadau gennymheddiw. Byddai cael Beibl o’ch blaenyn cyfoethogi’r munudau nesaf. –Salm 23 – Ioan 10:1-10;Actau 2:42-47; 1 Pedr 2:19-25 -

    MYFYRDOD

    Wrth i dymor wyna ddirwyn i benbyddwn sy’n ddigon ffodus i fyw yngnghefn gwlad yn sylwi ar y miloedd ofiyn bach yn prancio yn heulwen ygwanwyn. Cawn ein cymell unwaith ynrhagor i godi’n het i anrhydeddu’rbugeiliaid hynny a dreuliodd oriau yngwylied eu praidd liw nos. Mae’r fiyn,bob un ohonynt, yn dystiolaeth i’wdawn, eu hadnabyddiaeth o’u praiddeu doniau a’i hymroddiad.

    Yn y Beibl mae gofal yr ArglwyddDduw o’i bobl yn cael ei gymharu âgofal bugail.

    Darllen – Salm 23

    Yn Salm 23 cawn ein cyflwyno i’rArglwydd sy’n Fugail. Ef yw’r un sy’nein tywys i borfeydd gwelltog, a’nharwain ar hyd llwybrau cyfiawnder. Efyw’r un nad yw’n ffoi pan gerddwn“glyn cysgod angau” ond sy’n darparugwledd gerbron ein gelynion. Ef sy’nsicrhau bod daioni a thrugaredd ynein canlyn fel bod diwedd ein taithdaearol byrhoedlog yn baratoad –mae’n preswylfa yn nhª yr Arglwyddyn dragwydd. A rhyfeddod ein ffyddyw y gallwn ddweud mai yr Arglwyddyw “fy Mugail.” Nid mewn egwyddor,nid trwy ddefod, ond trwy berthynas athrwy adnabyddiaeth.

    Pan drown i’n darlleniad nesaf gwelwnfod gan yr Arglwydd hwnnw enw!

    Darllen – Ioan 10:1-11

    Os yw addewidion Duw i fod yn fugailgofalus o’i bobl yn rhyfeddol maegeiriau Iesu yn y darlleniad yr un morrhyfeddol. Yma mae’n uniaethu ei hun,yn mynnu mai ef ei hun yw’r bugailhwnnw. Lladron ac ysbeilwyr yw pawbarall, meddai, nad ydynt yn fodlonnesáu at Dduw drwyddo ef. Ef wedi’rcwbl yw’r “drws” hefyd. Mae’n fugailsy’n adnabod ei braidd, ac y mae eibobl yn adnabod ei lais ac yn eiganlyn wrth iddo eu “harwain hwyallan” i ddod o hyd i borfa. Daeth,meddai, er mwyn i’w bobl fwynhauBywyd – bywyd yn ei holl gyflawnder.Ef yw’r Bugail da cyflawnder yraddewidion a chyflawniad yraddewidion.

    Ond pa fath o fywyd yw’r bywyd hwn?Pa wahaniaeth mae o’n ei wneud i ni?Sylwch wrth i ni ddarllen am hanes yrEglwys Fore sut y mae cred acarferiad yn cael eu trawsffurfio ymmhresenoldeb Iesu Grist.

    Darllen – Actau 2:42-47

    Yn ddiweddarach yn ei yrfaysgrifennodd Pedr at y Cristnogionoedd ar wasgar, rhai oedd yn wynebuerledigaeth a gwrthwynebiad i’w ffydda’u gwerthoedd. Yn ei lythyr mae amiddynt ymgorffori “gostyngeiddrwydd”.Mae canlyniadau pendant meddai odroi at y bugail “a ddygodd einpechodau yn ei gorff ar y croesbren ermwyn i ni ddarfod â’n pechodau abyw i gyfiawnder.”

    Ac nid yw ei eiriau’n gorwedd ynesmwyth ar ein clyw na’n calonheddiw.

    Darllen – 1 Pedr 2:18-25

    Cafodd disgyblion Iesu ein “hiachau”drwy ei archoll ef. Cawsom ni, oedd arddisberod ein gwahodd “at Fugail agwarchodwr eich eneidiau.” Ond ymae ei wahoddiad hefyd yn heriol.Roedd ei ddioddefaint yn “esiampl” osut i ymddwyn mewn cynni acerledigaeth. Nid oedd yn difenwi, nacyn bygwth ond yn cyflwyno’i hun i’rbarnwr cyfiawn.

    Beth tybed yw oblygiadau hyn yn einbywydau ni?

    GWEDDI

    Arglwydd, diolch mai Ti yw’r bugail da,mewn bywyd a llawnder, mewndyffrynnoedd tywyll a galar. Diolch dyfod wedi addo bod gyda ni. Ti yw’rbugail da sy’n rhoi dy fywyd trosom.TI yw’r Arglwydd da a ddaeth er mwyni ni gael bywyd cyflawn, bywydtragwyddol ei sylwedd a’i barhad.Caniatâ i ni fedru dweud amdanat“Yr Arglwydd yw fy mugail.”

    Arglwydd gwyddom beth yw’rymdeimlad o fod ar goll, ar ddisberod,heb glywed nac adnabod dy lais.Gweddïwn dros ein calonnau einhunain, dros ein cynulleidfaoedd, einbröydd a’n cenedl y cawn ddysgu o’rnewydd adnabod dy lais ac i droi atat.

    Ond gweddïwn hefyd am y gallu ifyw i’r “hyn y’n galwyd” i fywyd sy’ngymeradwy gan Dduw. Maddau i niein dyledion. Yr ydym ninnau hefydam faddau i’r bobl rheiny wnaeth gamâ ni. Maddau i ni ein bod yn cadwcyfrif o gam, yn coleddu dicter moraml. Os y gadewaist “esiampl” i nicaniatâ i ni dy efelychu a’th ddilynheddiw.

    A gweddïwn drachefn dros einteuluoedd, drosom ein hunain ybyddet ti’n ein cadw’n ddiogel yn dylaw – beth bynnag a ddaw. Er nad wytti wedi addo i ni y byddwn yn osgoibob helbul rwyt ti wedi addo bod gydani. Helpa fi i gredu hynny, i bwyso arhynny, ac i obeithio yn hynny.

    Gweddïwn dros ysbytai, drosfeddygon a nyrsys, dros bob un sy’ncyflawni gwaith holl bwysig- er nadoeddem wedi ei gwerthfawrogi cynhyn.

    Gweddïwn dros ein byd a thros eidyfodol. Nid yn unig y Cofid 19 ond ycynhesu byd-eang a’r heriau sy’n einhwynebu. Cyflwynwn i ti arweinwyr ygwledydd. A chyflwynwn i ti ein byd.Dduw da, trugarha wrthym. Trugarhawrthym. Trugarha wrthym.Er mwyn Iesu Grist.

    GWEDDI’R ARGLWYDD.

    EMYN – Caneuon Ffydd 118Canaf yn y bore

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.